Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

30/04/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, unwaith eto, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.

Yr Amgylchedd Naturiol yng Nghymoedd y De

1. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i warchod yr amgylchedd naturiol yng Nghymoedd y De? OAQ53781

Diolch, Llywydd. Un o'r camau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd naturiol yw'r bwriad i greu parc rhanbarthol y Cymoedd. Bydd yn cefnogi ymatebion arloesol i'r newid yn yr hinsawdd, ansawdd a rheolaeth dŵr, a diogelu bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol unigryw.

Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynigion i gloddio am agregau mewn llecyn o harddwch lleol y mae pobl yn hoff iawn ohono, a adnabyddir fel 'y canyons', gyda'ch Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar hyn o bryd, yn disgwyl penderfyniad. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol i'n hymgyrch i atal y datblygiad, ac yn arbennig i'r ACau niferus, o bob plaid, sydd wedi llofnodi fy ngherdyn post anferth yn darlunio'r ardal, i gydnabod ei harddwch naturiol unigryw. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch chi wneud sylwadau ar gais cynllunio unigol, ond a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd yng Nghymoedd y de, nid ar gyfer trigolion lleol yn unig, ond hefyd er mwyn datgloi eu potensial enfawr o ran twristiaeth a hamdden?

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn yn wir o roi ar gofnod, eto, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'n hadnoddau naturiol unigryw, yr arwyddocâd sydd ganddynt i werth y dirwedd, i fioamrywiaeth ac, yn wir, i dreftadaeth leol. Ac rwy'n cymeradwyo, wrth gwrs, yr ymgyrch y mae wedi hi ei harwain a'r ffordd llawn dychymyg y mae hyn wedi tynnu sylw at fater y gwn sy'n golygu llawer iawn iddi hi ac i drigolion lleol. Nawr, fel y mae Lynne yn gwybod, mae penderfyniadau ynghylch pa un a ddylid adennill apêl yn dilyn cyfres o feini prawf sydd wedi ei sefydlu a'u cyhoeddi. Os bydd apêl yn bodloni un o'r meini prawf, yna mae'r adenilliad yn awtomatig, a dyna sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Caiff apeliadau a adenillir eu prosesu gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn y ffordd arferol, a chwblhawyd y gwaith hwnnw erbyn hyn. Mae'r penderfyniad yn nwylo Gweinidogion Cymru ar ôl hynny, ac fel y mae'r Aelod wedi ei ddweud, nid yw'n bosibl i mi, nac i unrhyw un arall yn Llywodraeth Cymru, wneud sylwadau ar rinweddau'r cynnig fel nad wyf yn amharu ar y penderfyniad terfynol. Ond bydd etholwyr yr Aelod wedi clywed yr hyn a ddywedodd heddiw a gwn y byddan nhw'n gwerthfawrogi'r ymdrechion y mae'n eu gwneud ar eu rhan.

Prynhawn da, Gweinidog. Canfu arolwg diweddar bod Cymru wedi cael ei heffeithio'n arbennig gan ledaeniad ffwng marwol o'r enw clefyd (Chalara) coed ynn. O ganlyniad, bydd yn rhaid torri miliynau o goed i lawr sydd wedi eu heintio ger adeiladau, ffyrdd a rheilffyrdd, gan gael effaith sylweddol iawn ar y dirwedd ac ar ein bywyd gwyllt. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, i gynyddu'r gyfradd plannu coed yn y Cymoedd, ac mewn mannau eraill, i ddiogelu a gwarchod y rhan hanfodol hon o'n hamgylchedd naturiol yng Nghymru?

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at yr adroddiadau diweddar am yr effaith y mae clefyd (Chalara) coed ynn eisoes yn ei chael yng Nghymru ac y gallai barhau i'w chael yn y dyfodol. Mae'n enghraifft o'r ffordd nad yw bygythiadau i rywogaethau yn cymryd sylw o unrhyw rwystrau daearyddol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar ran Llywodraeth Cymru yn ein hymateb i'r clefyd (Chalara) coed ynn. Mae rhan o'r ymateb hwnnw'n ymwneud â phlannu mwy o goed yn y dyfodol, i fwrw ymlaen â'n cynllun ar gyfer coedwig genedlaethol yma yng Nghymru, ac i wneud popeth o fewn ein gallu i ymdrin â manylion penodol clefyd (Chalara) coed ynn, ond i hyrwyddo manteision ailgoedwigo ledled Cymru wrth wneud hynny.

Er ein bod yn dathlu rhywogaethau newydd fel anghenfil Maerdy, a ganfuwyd yn ddiweddar ar domen lo yn y Rhondda, nid yw'r darlun yr un mor obeithiol i rywogaethau eraill. Bydd unrhyw un sy'n gwylio'r rhaglen BBC wych ddiweddar, Land of the Wild, yn poeni am y neges ar ddiwedd y gyfres gan Iolo Williams am raddau dirywiad rhywogaethau yn y wlad hon. Mae dirywiad rhywogaethau a diraddiad pridd yn bryderon allweddol i Extinction Rebellion, felly sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r pryderon hyn? A chithau bellach wedi cytuno ein bod ni'n wynebu argyfwng hinsawdd, pryd wnewch chi amlinellu sut yr ydych chi'n mynd i fodloni eu gofynion o ran lleihau allyriadau ar unwaith a sefydlu cynulliad dinasyddion? Ac a ydych chi'n derbyn bod angen i chi dynnu'r ewinedd o'r blew ynghylch hyn bellach? Ar hyn o bryd, rydych chi'n methu eich targedau allyriadau y cytunwyd arnynt yn y gorffennol, a bydd penderfyniad llwybr du newydd yr M4 yn gwneud pethau'n waeth o lawer, ac mae hynny i gyd yn dadlau'r achos dros sefydlu cynulliad dinasyddion fel y gallwn ni eich dwyn i gyfrif ar hyn.

13:35

Hoffwn gytuno â'r Aelod am ddifrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu o ran bioamrywiaeth a'r dirywiad i rywogaethau yma yng Nghymru. Ac mae'r rheswm pam, ddoe, y gwnaeth fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ddatgan argyfwng hinsawdd ar ran Cymru yn gydnabyddiaeth o ddifrifoldeb y bwriad sydd gennym ni fel Llywodraeth Cymru, ein hymrwymiad i weithredu'n frwd o fewn Llywodraeth Cymru ond ymhell y tu hwnt, ac i gefnogi'r mudiad cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg o ran y newid yn yr hinsawdd, oherwydd, er bod gan Lywodraeth gyfrifoldeb craidd—ac rydym ni'n nodi 100 o wahanol gamau yr oedd y Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd yn ein cynllun carbon isel—os ydym ni'n mynd i lwyddo i fynd i'r afael â'r hyn a allai fod yr un bygythiad mwyaf i ddynoliaeth ar unrhyw adeg yn ein hanes, yna bydd yn rhaid i'r camau gweithredu hynny fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gall Llywodraeth ei wneud ar ben ei hun , a dyna pam mae'r mudiad cymdeithasol mor bwysig.

Nawr, tynnodd Leanne Wood sylw at y gostyngiad i boblogaethau fertebratau ar draws y Deyrnas Unedig—gostyngiad o 60 y cant ers 1970. Tynnodd sylw at broblemau uwchbridd—mae 85 y cant o uwchbridd East Anglia wedi diflannu ers 1850, ers dechrau amaethu dwys. Mae'r rhain yn sicr yn arwyddion difrifol a sylfaenol o'r hyn sy'n digwydd yn ein hamgylchedd, ac rydym ni'n benderfynol fel Llywodraeth i chwarae ein rhan i symud o gyfnod o ddirywiad amgylcheddol i un o dwf amgylcheddol. Credaf y bydd angen cefnogaeth ar draws y Siambr hon i sicrhau bod hynny'n digwydd, a gwn fod Aelodau ym mhob plaid sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Gwasanaethau Hamdden

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau hamdden? OAQ53769

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Hyd yn oed ar ôl degawd o gyni cyllidol, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol trwy gyllid refeniw a chyllid cyfalaf at ddibenion hamdden. Cyhoeddwyd gwerth £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol gennym yn gynharach eleni, drwy Chwaraeon Cymru, i gefnogi datblygiad cyfleusterau hamdden ledled ein gwlad.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod gwasanaethau hamdden neu ganolfannau hamdden sydd wedi eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau elusennol annibynnol yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig, er nad yw hynny'n wir ar gyfer y rhai a gadwyd gan gynghorau. Mae hyn yn golygu bod ymddiriedolaethau hamdden, ledled Cymru, yn cael rhyddhad ardrethi o tua £5.4 miliwn, tra bod awdurdodau lleol yn talu tua £3.1 miliwn. Mae hyn yn amlwg yn annheg, a gwn fod y Gweinidog cyllid eisoes wedi cytuno i gyfarfod â chynrychiolwyr o'm hawdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, i drafod yr anghysondeb hwn ymhellach. Fodd bynnag, pan fo'r canolfannau a'r gwasanaethau hyn mor bwysig o ran gwella iechyd a llesiant, a all Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau tegwch yn hyn o beth?

Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau trwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Vikki Howells am bwysigrwydd chwaraeon a hamdden i wella iechyd a llesiant? Roedd yn bleser arbennig cael bod gyda hi ym mis Mawrth wrth agor Ysgol Gynradd Cwmaman, ac un o'r pethau gwirioneddol drawiadol a welsom y diwrnod hwnnw oedd y man gemau aml-ddefnydd a oedd ar gael i'r ysgol yn ystod oriau ysgol ond ar agor at ddefnydd y gymuned ehangach fin nos. Ac, yn wir, hoffwn gymeradwyo RhCT fel awdurdod lleol am y camau y mae'n eu cymryd i wneud defnydd o'r £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo i gynorthwyo ysgolion bro yn ardaloedd y Cymoedd.

O ran y cwestiwn atodol penodol am ryddhad ardrethi annomestig, credaf ei bod yn deg i mi ddweud, Llywydd, er bod awdurdodau lleol yn cyfrannu arian at y gronfa rhyddhad ardrethi annomestig, eu bod nhw'n cael pob ceiniog o hynny yn ôl. Felly, maen nhw'n talu arian i mewn, ond mae pob ceiniog y maen nhw'n ei thalu yn cael ei hailddosbarthu drwy'r gronfa, ac yn cael ei hailddosbarthu ar sail angen. Er hynny, mae'r Aelod wedi nodi mater pwysig. Rwy'n falch y bydd Rebecca Evans yn cyfarfod â'r awdurdod lleol ac eraill ar 15 Mai, rwy'n credu, fel y gallwn archwilio'n fwy manwl gydag awdurdodau lleol pa un a oes anghysondeb yn y fan yma a pha un a oes camau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â hynny.

13:40

Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r sefyllfa yng nghlwb nofio dinas Caerdydd lle, yn gynharach eleni, ar ôl trosglwyddo pwll nofio rhyngwladol Caerdydd i Legacy Leisure, a gostyngiad dilynol i gymhorthdal y Cyngor o £100,000, canfu'r clwb bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £53,000 y flwyddyn a cholli amser yn y pwll. Mae'r clwb hwn wedi bod yn weithredol am dros 40 mlynedd, ac mae dwsinau o'i nofwyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru a'r DU yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad, gan gynnwys Mark Foster, David Davies ac Ieuan Lloyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, pan welwn ni newid i'r trefniadau hyn, ein bod ni'n cofio'r angen i gynnwys ein holl glybiau a sefydliadau sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn, gan gynnwys y rhai elitaidd sy'n dod â chymaint o anrhydedd i'n cenedl ac sy'n wirioneddol bwysig yr holl ffordd i lawr y pyramid chwaraeon, oherwydd mae'r hyn a welwn yn cael ei gyflawni ar y lefel uchaf yn cael effaith fawr ar ein gallu i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon yn gyffredinol.

Diolchaf i David Melding am hynna. Rwyf yn ymwybodol o'r mater, yn wir, ac o hanes y clwb, o ran yr esiamplau y mae wedi eu cyflenwi a'r gwaith y mae'n ei wneud ym myd nofio ar lawr gwlad hefyd. Credaf fod yr awdurdod lleol yn dal i fod mewn trafodaethau gyda'r clwb, gan chwilio am ffordd i ddatrys rhai o'r problemau y mae'r clwb wedi eu nodi.

Prif Weinidog, mae gwasanaethau hamdden ledled Cymru wedi cael ergyd drom yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, yn amlwg, fel y dywedasoch, er mai cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi ysgogi llawer o hyn, mae diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwaethygu'r broblem. Nawr, mae'r pryderon hyn ynghylch cyllid wedi cael eu cyfleu'n eglur gan arweinwyr cynghorau o bob argyhoeddiad gwleidyddol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n amlwg bod gwasanaethau hamdden lleol yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol bwysig o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, ffitrwydd corfforol a chydlyniant cymdeithasol. A ydych chi'n cydnabod erbyn hyn y bydd angen i'ch Llywodraeth chi ymrwymo i ddarparu mwy o arian i lywodraeth leol yn y dyfodol fel y gellir diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn?

Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru o gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru yn gwrthsefyll unrhyw archwiliad o'i gymharu â'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad. Dyna pam mai ychydig iawn yn ychwanegol y gallwn ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon, tra bod rhagor o doriadau yn cael eu gwneud ar draws y ffin. Nid yw hynny'n golygu am eiliad nad oes, ar ôl bron i ddegawd o gyni cyllidol, mannau cyfyng a phwysau gwirioneddol y mae ein cydweithwyr mewn awdurdodau lleol yn eu teimlo, ac rydym ni wedi trafod y rheini gyda nhw yn dra reolaidd, ac, fel Cabinet, buom yn gweithio drwy gydol yr haf diwethaf i ddod o hyd i arian o bob man y gallem fynd iddo yn Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Nawr, ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid oes gennym unrhyw gyllideb o gwbl. Nid oes adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi'i gwblhau ac nid oes gennym unrhyw wybodaeth o ran beth fydd y refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol o anodd i awdurdodau lleol, ond hefyd i bob gwasanaeth cyhoeddus arall y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ei gefnogi ledled Cymru. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill, i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hynny, ond mae effaith cyni cyllidol ar y naill law a'r diffyg cyllideb llwyr i gynllunio ar ei sail ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gwneud hynny, yn anochel, yn eithriadol o anodd i ni ac i'r holl wasanaethau hynny sy'n dibynnu ar y penderfyniadau a wneir yn y fan yma yn y Siambr hon.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb am y ffaith fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi llithro i'r sefyllfa o fod yn destun mesurau arbennig, Prif Weinidog. Pwy sydd ar fai?

Wel, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, Llywydd, yn anodd iawn i'w ddarllen, ac aeth rhywbeth o'i le yn ddifrifol yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Yr hyn yr wyf i'n credu y mae'r adroddiad yn ei ddangos yw bod methiannau wedi digwydd ar sawl lefel. Methiannau proffesiynol oedden nhw. Mae'r adroddiad yn dangos yn ddiamau bod meddygon a staff clinigol eraill wedi ymddwyn, weithiau, ond nid bob amser, oherwydd y pwysau yr oedden nhw'n gweithio oddi tano, mewn ffyrdd nad ydynt yn gwrthsefyll prawf ymddygiad proffesiynol, bod methiant o ran arweinyddiaeth a bod hynny wedi creu diwylliant o feio y tu mewn i'r gwasanaeth hwnnw a oedd yn golygu pan oedd pobl yn teimlo bod ganddyn nhw rywbeth i'w ddweud, eu bod nhw'n gyndyn o'i ddweud. Mae'n dangos bod systemau wedi methu, felly nid yw'n ymwneud ag unigolion yn unig—mae'n ymwneud â'r ffordd yr ymatebodd y system ei hun i'r pryderon hynny. Ac yna roedd methiant y sefydliad ei hun i weld beth oedd yn digwydd ac yna ymateb iddo'n briodol. Felly, nid wyf i'n credu ei fod mor syml â gallu pwyntio bys at unigolion penodol, gan fod yr adroddiad yn dangos bod y methiannau hynny wedi digwydd ar sawl lefel, a bydd unioni'r pethau hynny yn gofyn am gamau gweithredu ar draws y bwrdd cyfan ac ymhlith y bobl hynny sy'n gweithio iddo.

13:45

Wel, rydych chi'n iawn, Prif Weinidog, i gwestiynu arweinyddiaeth ar y mater hwn, ac mae pobl yn cwestiynu arweinyddiaeth eich Llywodraeth chi o dan yr amgylchiadau hyn. A gadewch i mi eich atgoffa, Prif Weinidog, nid dyma'r tro cyntaf i ni godi'r sefyllfa ofnadwy hon yn y Siambr hon. A'r tro diwethaf i mi eich holi ym mis Mawrth, dywedasoch wrthyf nad yw mamau a babanod mewn perygl o dan Gwm Taf mwyach. Pe byddai hynny'n wir, rwyf i'n un o lawer sydd wedi cael fy ngadael yn pendroni pam mae'r Gweinidog iechyd heddiw wedi gorchymyn bod gwasanaethau mamolaeth yn ysbytai Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl yn cael eu gwneud yn destun mesurau arbennig.

Mae'n gwbl amlwg nad oedd gennych chi fel Llywodraeth afael ar ein gwasanaeth iechyd, oherwydd mae eich Gweinidog wedi cyfaddef heddiw yn ei ddatganiad nad oedd yn ymwybodol o ymchwiliad mewnol o fis Medi y llynedd. Oni ddylai eich Llywodraeth fod wedi gwybod faint o argyfwng yr oedd y gwasanaethau hyn ynddo, a pham mae wedi cymryd cyhyd i gyhoeddi'r adroddiad heddiw, o gofio i'r pryderon ffurfiol cyntaf yng Nghwm Taf gael eu hadrodd bron i saith mlynedd yn ôl? A nawr, bydd yn rhaid cynnal adolygiad o 43 o achosion o feichiogrwydd. Onid yw'n wir bod y Gweinidog iechyd a'ch Llywodraeth chi wedi methu am lawer gormod o amser? Mae'n rhaid i chi fod yn fwy tryloyw, Prif Weinidog, gyda phobl Cymru. Yn hytrach nag aildrefnu'r cynllun seddau o amgylch bwrdd y Bwrdd, pwy wnaiff gymryd cyfrifoldeb am hyn nawr mewn gwirionedd?

Wel, Llywydd, y rheswm pam yr ydym ni'n cael y sgwrs anodd iawn hon heddiw yw bod y Gweinidog wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol i'r hyn a ddigwyddodd yng Nghwm Taf fis Hydref y llynedd. Ac nid wyf i'n credu bod unrhyw ddiffyg tryloywder ar ran y Llywodraeth o gomisiynu'r adroddiad hwnnw a'i gyhoeddi er mwyn i'r Cynulliad Cenedlaethol allu ei drafod yn yr wythnos gyntaf yr ydym ni yn ôl ar ôl y Pasg. A'r rheswm y comisiynodd y Gweinidog yr adroddiad hwnnw oedd i gydnabod dewrder y menywod a'r teuluoedd hynny yng Nghwm Taf a fynnodd i sylw'r cyhoedd gael ei dynnu at y pethau yr oedden nhw'n gallu eu gweld. A bydd y rhai hynny ohonom sydd wedi cael cyfle i'w ddarllen yn gwybod yn union pa mor rymus a pha mor ofidus yw darllen geiriau'r menywod hynny a adroddwyd i ni wrth iddyn nhw fyfyrio ar y profiadau y maen nhw wedi eu cael. Ac mae camau gweithredu'r Llywodraeth hon wedi eu cynllunio i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad hwnnw yn cael eu gweithredu, eu bod nhw'n cael eu gweithredu ar frys ac yn llawn, bod y methiannau a welwyd yn cael eu hunioni, a'n bod yn ailennyn hyder cleifion a staff sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw bob un dydd. Bydd pobl yn defnyddio'r gwasanaeth hwnnw heddiw, bydd pobl wedi trefnu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw dros yr wythnosau nesaf, a bwriad y camau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd yw sicrhau y gall y bobl hynny, sydd weithiau o rai o'r rhannau o Gymru gyfan lle mae iechyd yn peri'r problemau mwyaf, sydd â'r anghenion mwyaf—y gall y bobl hynny fod yn ffyddiog bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn yn un sy'n diwallu'r anghenion hynny.

Ond, Prif Weinidog, mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn codi amheuon ynghylch eich arweinyddiaeth chi ac arweinyddiaeth y Llywodraeth hon i redeg ein GIG. Mae'n ffaith drist, onid yw, gyda phump o'r saith bwrdd iechyd ar draws y wlad yn destun mesurau arbennig neu ymyraethau wedi eu targedu, nad oes prin unrhyw beth arbennig neu anarferol yn ei gylch erbyn hyn? Mae'n ymddangos mai dyma'r norm newydd a'r gwirionedd trist i bobl Cymru o dan eich Llywodraeth chi. Mae angen cryn dipyn o adnoddau i fonitro cymaint o wasanaethau yn ddwys. Yn fwyaf nodedig, rydym ni'n nesáu at bedair blynedd erbyn hyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, sy'n golygu mai dyma'r bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers y cyfnod hwyaf ym Mhrydain. Felly, sut mae eich Llywodraeth chi yn ymdopi â'r gofynion ychwanegol hyn? Gyda hanes mor beryglus o fethiannau gofal iechyd sefydledig a phrofedig o dan Lywodraethau Llafur a Llywodraethau olynol dan arweiniad Llafur, a allwch chi roi sicrwydd heddiw i bobl Cymru sut yr ydych chi'n bwriadu gweddnewid tynged ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

13:50

Llywydd, nid wyf i'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei ddarllen yn yr adroddiad hwn yn nodweddiadol o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Rwyf i wedi cyfarfod â bydwragedd ym mhob rhan o Gymru. Maen nhw ymhlith rhai o'r gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i mi eu cyfarfod erioed ac maen nhw'n darparu gwasanaeth cwbl ymroddedig a phenderfynol i bobl. Gofynnwyd i mi gan arweinydd yr wrthblaid a oedd hyn yn nodweddiadol o'r gwasanaeth a ddarperir gan staff y GIG ledled Cymru ac rwy'n dweud wrtho'n syml nad ydyw, yn fy marn i, ac nid yw'n adlewyrchu fy mhrofiad i o gyfarfod staff rheng flaen ym mhob rhan o Gymru.

Serch hynny, rydym ni'n cydnabod bod pobl ledled Cymru angen sicrwydd nad yw'r hyn a ddarganfuwyd yng Nghwm Taf yn nodweddiadol o'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu. Dyna pam, yn ogystal â'r panel goruchwylio mamolaeth annibynnol y mae'r Gweinidog wedi ei sefydlu, ac yn ychwanegol at y camau sy'n cael eu cymryd i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethiant byrddau yn y bwrdd iechyd lleol hwnnw, y mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi heddiw yn ei ddatganiad y byddwn yn cynnal, ar draws y GIG yng Nghymru, ymarfer sicrwydd, dan arweiniad y prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol, a bydd adolygiad yn ddiweddarach eleni gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru. Oherwydd, er nad wyf i'n credu bod hyn yn nodweddiadol o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru, mae cleifion ledled Cymru yn haeddu cael y sicrwydd annibynnol hwnnw bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn un y byddem ni yn y Siambr hon yn falch o'i gael ein hunain.

Wrth fynd trwy'r lefelau gwahanol o gyfrifoldeb yn yr achos yma jest nawr, roedd un lefel wnaethoch chi ddim enwi, sef y lefel weinidogol, y lefel lywodraethol—y lefel rŷch chi'n gyfrifol amdani. Does neb wedi ymddiswyddo o ganlyniad i'r methiannau damniol yn y gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf, ac eto, does bosib, mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb, a Gweinidogion sy'n gorfod dal y cyfrifoldeb yn y pen draw. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, Brif Weinidog, achos mae un o'r adroddiadau'n tynnu sylw at bryderon yn dyddio nôl i 2015, a'ch cyfnod chi fel Gweinidog iechyd.

Mae adroddiad mewnol gan fydwraig uwch wedi codi'r llen ar achosion pellach o farw-enedigaethau yn mynd nôl wyth mlynedd na wnaeth y bwrdd iechyd roi gwybod amdanyn nhw, ac mae awduron yr adroddiad, mae'n bwysig i nodi, wedi argymell bod yr achosion hynny yn cael eu gwneud yn destun ymchwiliad hefyd. Nawr, y bore yma mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd mam a wnaeth roi genedigaeth i'w merch yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg y llynedd, ac a fu farw wedyn, y byddai ymddiswyddiad y Gweinidog iechyd yn rhoi peth sicrwydd iddi hi a rhai tebyg iddi hi na fyddai pobl eraill yn y dyfodol yn wynebu'r un dioddefaint, er na fyddai'n dod â'i merch yn ôl. O ystyried y cyfrifoldeb rŷch chi a'ch Gweinidog iechyd yn ei rannu dros y methiannau systemig yng Nghwm Taf, onid y peth cywir i chi fel Prif Weinidog ei wneud yw nid yn unig gofyn i'ch Gweinidog iechyd ymddiheuro wrth y teuluoedd yma ond gofyn iddo hefyd wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo?

Wel, dwi ddim yn cytuno â beth mae'r Aelod wedi dweud. Fel esboniais i yn yr ateb i Paul Davies, rŷn ni yn y sefyllfa rŷn ni ynddi heddiw, yn gallu trafod beth sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, achos bod y Gweinidog wedi gwneud yr hyn y mae e wedi ei wneud. 

Ac nid wyf i'n credu, yn bersonol, Llywydd, bod y dyddiau ofnadwy o anodd  y mae'r teuluoedd hynny wedi eu dioddef a'r diwrnod anodd iawn y byddan nhw'n ei ddioddef heddiw—eu bod nhw'n troi at un unigolyn fel y ffordd o ddatrys yr anawsterau hynny. Oherwydd y camau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd y mae'r materion hyn wedi dod i'r amlwg. Oherwydd y camau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd y mae gennym ni adroddiad annibynnol, ac oherwydd y camau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd y mae gennym ni gyfres o fesurau ar waith erbyn hyn i roi sicrwydd i'r teuluoedd hynny am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac, i'r teuluoedd hynny sy'n dal i fod angen defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, sicrwydd ynghylch safon y gofal y byddan nhw yn ei dderbyn. Rwy'n canmol y Gweinidog am y ffaith ei fod yn cyfarfod â'r teuluoedd hynny yn uniongyrchol, y bydd yn siarad â nhw, y bydd yn clywed ganddyn nhw am eu profiadau, ac y bydd yn gyfrifol am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd. Credaf fod honno'n ffordd well o lawer o ymateb o ddifrif, fel y dylem ni ei wneud, i hanes yr hyn sydd wedi digwydd ac i'r profiadau unigol sy'n sail i'r adroddiad yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma.

13:55

Prif Weinidog, ddoe, fe wnaeth eich Llywodraeth ddatgan argyfwng hinsawdd, yr ydym ni ar yr ochr hon yn amlwg yn ei groesawu ac yr ydym ni'n gobeithio y bydd y Senedd yn ei gymeradwyo drwy ein cynnig yfory. Bydd y rhan fwyaf o bobl o'r farn resymol y bydd cyhoeddiad ddoe yn anghydnaws ag unrhyw benderfyniad dilynol i fwrw ymlaen â llwybr y DU yr M4 a fydd mor ddinistriol i'r amgylchedd. A allwch chi gadarnhau bod y datganiad o argyfwng hinsawdd, gan dybio bod sylwedd iddo ac nad yw'n ddatganol yn unig, yn newid polisi a fydd yn ffactor newydd a pherthnasol yn eich penderfyniad ar yr M4, ac a ydych chi wedi gofyn i swyddogion am gyngor ychwanegol ar y sail honno?

Rydych chi wedi cadarnhau heddiw hefyd na fyddwch chi'n gwneud cyhoeddiad ar y M4 tan yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin. O gofio bod eich plaid yn rhanedig iawn ar y mater hwn, onid yw ddim ond ychydig bach yn gyfleus, Prif Weinidog, gohirio’r penderfyniad hwn, y penderfyniad gwerth £2 biliwn cyfan, tan ar ôl yr etholiadau Ewropeaidd? Dywedasoch ddydd Sul eich bod yn ceisio cyngor ynghylch pa un a fyddai'r penderfyniad hwn yn cael ei ddal gan y rheolau ar gyhoeddiadau cyn etholiad. A ydych chi wedi cael y cyngor hwnnw? Ai dyna'r cyfiawnhad dros yr oedi pellach hwn? Ac a wnaeth y cyngor gan swyddogion eich atgoffa chi o'r egwyddorion cyffredinol a nodwyd mewn canllawiau, er y gallai fod yn well gohirio cyhoeddiad mewn rhai achosion, bod angen cydbwyso hynny'n ofalus yn erbyn unrhyw awgrym y gallai'r gohirio ei hun ddylanwadu ar y canlyniad gwleidyddol?

Llywydd, nid wyf i'n credu bod y datganiad o argyfwng hinsawdd yn bolisi newydd i'r Llywodraeth hon nac, yn wir, i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, gan fy mod i'n credu bod yr egwyddorion amgylcheddol sydd wedi bod yn bwysig ar draws y Siambr hon ac ar draws y cyfnod datganoli yn cael eu crynhoi yn y penderfyniad hwnnw. Wrth gwrs, bwriedir i'r penderfyniad i ddatgan argyfwng ysgogi gweithredu; wrth gwrs y bwriedir iddo dynnu sylw at yr argyfwng; wrth gwrs y bwriedir iddo sicrhau bod Cymru wedi'i lleoli lle byddem yn dymuno gweld Cymru fod wedi ei lleoli, sef ar flaen y gad o ran y mudiad cymdeithasol sy'n datblygu ledled y byd ar y mater hwn, ond nid wyf i'n credu ei fod yn cynrychioli gwahaniaeth mawr o ran polisi. Mae'n crynhoi'r arwyddocâd a'r pwysigrwydd yr ydym ni wedi eu neilltuo i'r amgylchedd, ers cyflwyno'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn neddfwriaeth sefydlol y Cynulliad Cenedlaethol hwn. A dyna pam y penderfynasom ni wneud hynny ddoe: gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'n gyson â'r hanes yr ydym ni wedi ei ddatblygu yn y sefydliad hwn ac yna defnyddio hwnnw i fynd ymhellach fyth.

Felly, mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi bod yn ceisio cyngor pellach ar y targedau yr ydym ni wedi eu cyhoeddi hyd yma i weld a oes mwy y gallem ni ei wneud o hyd. Gwn y disgwylir i'r cyngor hwnnw gael ei dderbyn ddydd Iau yr wythnos hon ac y bydd y Gweinidog yn cyfarfod yn uniongyrchol â'r rhai sydd wedi darparu'r cyngor hwnnw, ac wedyn byddwn yn gweld a oes rhagor eto y gallwn ni ei wneud, gan adeiladu ar y 100 o gamau gweithredu yn y cynllun carbon isel a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth, i wneud mwy fyth i chwarae ein rhan wrth ymdrin ymdrin â'r hyn a allai fod y bygythiad mwyaf, fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood yn gynharach, i fodau dynol ag yr ydym ni wedi ei wynebu erioed.

Rwy'n gobeithio—ac fe'i dywedaf eto: rwy'n gobeithio, os ydym ni'n mynd i gael yr effaith yr ydym ni eisiau ei chael, y byddwn yn cydweithio ar draws y Siambr hon pan ein bod yn rhannu synnwyr o'r brys a phan rydym yn rhannu synnwyr o'r rheidrwydd i ysgogi gweithredu o fewn y Llywodraeth a'r tu hwnt, i greu'r synnwyr newydd hwnnw o frys sydd ei angen yn ein cymdeithas. Os byddwn yn ei wneud fel hynny, yna bydd gennym ni well siawns o allu mynd i'r afael â'r broblem na phe baem ni'n ei thrin fel rhyw fath o fater gwleidyddol pleidiol.

Cyn belled ag y mae ffordd liniaru'r M4 yn y cwestiwn, yna mae Adam Price yn iawn fy mod i wedi dweud heddiw—rwyf i wedi nodi, fel yr addewais y byddwn yn ei wneud, yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar yr M4. Yn y pen draw, daeth y mater 'purdah' yn amherthnasol. Cefais ragor o gyngor ddoe, a fydd yn arwain at gwestiynau y bydd angen i mi eu harchwilio gyda swyddogion. Felly, ceir rhagor o gyngor a rhagor o gyfarfodydd y bydd angen eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd angen llunio'r dogfennau cyfreithiol wedyn i gefnogi pa bynnag benderfyniad y byddaf yn ei wneud. Bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod, fel y dywedodd Adam Price, bod ffordd liniaru'r M4 yn bwnc dadleuol yn ei hanfod, ac mae pa bynnag benderfyniad a fydd yn cael ei wneud yn agored i her gyfreithiol bosibl, felly mae'n rhaid i'r dogfennau cyfreithiol i gefnogi'r penderfyniad hwnnw fod yn y drefn orau bosibl. Bydd hynny i gyd yn cymryd nifer fach arall o wythnosau, ond rwy'n ffyddiog erbyn hyn y byddaf mewn sefyllfa i wneud y penderfyniad hwnnw yn yr wythnos gyntaf ar ôl toriad y Sulgwyn ac y bydd yn cael ei gyhoeddi yma, ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol.

14:00

Nawr, fel y gwyddom, mae pwyllgor gweithredol cenedlaethol Plaid Lafur Prydain yn cyfarfod nawr i benderfynu ar eu polisi ar ail refferendwm. Nawr, gwn naill ai nad ydych chi'n gwybod neu'n gwrthod dweud sut y bydd eich enwebai ar y bwrdd gweithredol yn pleidleisio, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, a minnau newydd wylio Mick Antoniw yn cael ei gyfweld gan y BBC, nad wyf innau ddim callach ychwaith. Fy nghwestiwn i yn syml yw hwn: beth yw polisi presennol Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae'n ymddangos bod rhywfaint o ddryswch? Dywedasoch dros y penwythnos y dylai refferendwm cadarnhau fod yn rhan o'r drafodaeth, a ysgogodd Alun Davies AC i ddweud, gan gyfeirio atoch chi:

Wel nid dyna oedd y polisi y gofynnodd i mi bleidleisio drosto. Fe wnaethom gytuno fel Grŵp Llafur y byddem ni'n pleidleisio dros bolisi a oedd yn cynnwys ymrwymiad cadarn i refferendwm ac mae angen i @fmwales fod yn cyflawni ar y polisi hwnnw.

O ystyried yr anghytuno hwn yn eich rhengoedd eich hun, a hyd yn oed yn eich Cabinet eich hun, a allwch chi egluro'r sefyllfa? Ai polisi presennol eich Llywodraeth yw cefnogi refferendwm cadarnhau unrhyw gytundeb Brexit? Os ceir gwahanol neges gan yr NEC yn Llundain y prynhawn yma, a fydd hynny wedyn yn awtomatig yn dod yn bolisi newydd eich Llywodraeth chi?

Llywydd, dyma'r polisi: os na all Senedd y DU gytuno ar un cynnig amgen sy'n cynnwys bod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau, yna'r unig ddewis sydd ar ôl yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl. Dyna'r polisi—dyna'r polisi fel y'i nodwyd mewn cynnig a noddwyd ar y cyd gan ei blaid ef a'm plaid innau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gynharach eleni. Dyna'r polisi y pleidleisiais i drosto—dyna'r polisi y pleidleisiodd ef drosto—ac rwy'n falch iawn o allu cadarnhau y prynhawn yma mai dyna yw polisi'r Llywodraeth o hyd.

Newid Hinsawdd

3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gryfhau ac atgyfnerthu ei hymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd? OAQ53760

Llywydd, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Cryfhawyd ac atgyfnerthwyd yr ymrwymiadau ymhellach yn y ddogfen 'Cymru Carbon Isel' a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod nifer gynyddol o bobl—ein pobl ifanc ac, yn wir, y genhedlaeth hŷn sy'n poeni am eu hwyrion a'u hwyresau—nad ydyn nhw'n credu bod maint a chyflymder presennol y camau i frwydro'r newid yn yr hinsawdd yn ddigonol. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld, gydag Extinction Rebellion a nifer y bobl sy'n protestio, y nifer o arestiadau ac, yn wir, Greta Thunberg, fel hyrwyddwr 16 mlwydd oed anhygoel dros ein hamgylchedd, amlygiad o gryfder y teimlad hwnnw. Fel y dywedwch, ceir mudiad byd-eang erbyn hyn i wneud mwy ac, yn fy marn i, i weithredu'n gyflymach. Felly, rwy'n croesawu'n fawr datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd ond credaf fod angen ei ddilyn gydag egni newydd a chamau newydd. Un maes allweddol, yn fy marn i, yw trafnidiaeth, ac rwy'n credu ein bod ni angen system drafnidiaeth fwy integredig, llawer mwy integredig, yng Nghymru. Un cyfle gwych yw metro de Cymru, a tybed, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych nawr i weld a yw'n bosibl cryfhau a chyflymu'n sylweddol y rhaglen waith ar gyfer y metro de Cymru hwnnw.

14:05

Wel, diolchaf i John Griffiths am hynna. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni gymryd camau i gefnogi unrhyw ddatganiad ac mae'r maes trafnidiaeth yn sicr yn un lle mae'n rhaid i allyriadau carbon a'r newid i economi carbon isel ddigwydd, ac mae metro de Cymru yn allweddol i'n huchelgeisiau yn y rhan hon o'n gwlad. Bydd John Griffiths yn gwybod bod trafnidiaeth integredig yn ganolog i'r Papur Gwyn, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', gan annog pobl i gerdded mwy a beicio mwy, ond hefyd i edrych ar y ffordd y mae cludiant bysiau, sy'n cludo llawer mwy bobl bob dydd na threnau wedi'r cyfan—ein bod ni'n gwneud teithio ar fysiau yn gyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus unwaith eto. Oherwydd, pan fydd cynllunio gwasanaethau bysiau yn ôl mewn dwylo cyhoeddus yn wirioneddol, yna byddwn yn gallu cyflawni'r math o integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus y cyfeiriodd John Griffiths ato yn ei gwestiwn, a dyna'r union ddull y mae'r Gweinidog yn bwriadu ei gyflwyno yn strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, yr addawyd y bydd ar gael yn ddiweddarach eleni.

Gweinidog, ddoe—yn amlwg rydym ni wedi clywed eisoes bod y Llywodraeth wedi datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru. Roeddwn i wedi disgwyl gweld o leiaf datganiad heddiw oherwydd nid ydych chi'n defnyddio'r gair 'argyfwng' ar chwarae bach. Roeddwn i wedi gobeithio cael clywed am fwy o gamau cadarnhaol gennych chi fel Prif Weinidog i gyfres o gwestiynau a osodwyd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf i'n gallu gweld, ac eithrio'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ddoe, beth sydd wedi newid yn athroniaeth y Llywodraeth. Felly, a allwch chi ymhelaethu, efallai, oherwydd eich bod chi wedi datgan yr argyfwng hwn, beth ydych chi wedi ei wneud i newid y ddynameg? Siawns nad ydych chi ddim ond yn mynd ar drywydd y datganiad i'r wasg nesaf.

Wel, Llywydd, mae datganiad ysgrifenedig. Nid wyf i'n siŵr a yw'r Aelodau wedi ei gael eto ond, os nad ydyn nhw, bydd gyda'r Aelodau yn fuan iawn a bydd hwnnw'n nodi cyfres o'r camau sy'n sail i'r datganiad. Ond mae'r datganiad yn bwysig oherwydd ei ddiben datganiadol. Dyna'r hyn y mae'r ymgyrch wedi gofyn i ni ei wneud a gwn iddo gael ei groesawu gan nifer fawr o'r bobl hynny sy'n rhan o'r ymgyrch. Ac weithiau ym myd gwleidyddiaeth—yn gymharol anaml, yn fy marn bersonol i, ond weithiau ym myd gwleidyddiaeth—mae datganiadau yn bwysig gan eu bod yn anfon neges. Dyna pam mae'r ymgyrch wedi gofyn i ni wneud hynny. Dyna pam mae'r cynnig y mae Plaid Cymru wedi ei wneud yn cyfeirio ato, gan fod datganiadau gwleidyddol yn creu cyd-destun lle gellir cymryd y camau hynny wedyn. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddo fod yn fwy na datganiad, ac mae'n fwy na datganiad yma yng Nghymru. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn cyflwyno cyfres o'r camau hynny, gan dynnu, fel y dywedais, ar y cynllun carbon isel. Ond mae'r datganiad ei hun yn arwyddocaol ac mae'n rhoi hyder ac mae'n rhoi gobaith ac mae'n rhoi synnwyr o bwrpas i'r bobl ifanc hynny ac eraill sydd wedi mabwysiadu'r achos hwn fel eu hachos nhw ac a hoffai iddo gael ei fabwysiadu fel achos y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd. Felly, ni wnaf i ymddiheuro o gwbl am y datganiad, gan ei fod yno i bwrpas a bydd yn cael ei ategu, fel y bydd y datganiad ysgrifenedig yn ei ddangos, drwy'r camau y gallwn ni eu cymryd ac yna'r camau y mae angen i eraill y tu hwnt i'r Cynulliad hwn ac yng Nghymru eu cymryd.

Y Rhwydwaith Trafnidiaeth Ffyrdd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd? OAQ53747

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yng Nghymru. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn darparu cynllun wedi'i ddiweddaru ym mis Mai eleni.

14:10

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Cyllidebwyd y gost o ledaenu ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr yn £220 miliwn yn wreiddiol. Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017 bod costau wedi cynyddu £51 miliwn a bod y gwaith o gwblhau'r prosiect wedi ei ohirio tan ddiwedd eleni. Rydym ni'n clywed nawr bod y gost wedi cynyddu £54 miliwn arall ac y bydd y dyddiad cwblhau yn cael ei fethu eto. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r dyddiad cwblhau diwygiedig ar gyfer y prosiect hwn i'r Cynulliad hwn nawr? Pryd fydd eich Llywodraeth yn cael adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar sefyllfa fasnachol y prosiect, a ddechreuwyd y llynedd?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Hoffwn gydnabod difrifoldeb y mater y mae wedi cyfeirio ato a bydd yr Aelodau'n gwybod bod datganiad ysgrifenedig Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill yn rhoi'r manylion sy'n sail i'r mater y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Felly, cynllun adeiladu cymhleth oedd hwn lle'r oedd angen ateb i fynd i'r afael â nodwedd ddaearyddol benodol yr oedd y cwmni, y contractwr, yn dadlau y gellid dim ond ei chanfod ar ôl i waith adeiladu ddechrau. Mae'n destun gofid i Lywodraeth Cymru bod y contractwr wedyn wedi gorfod gorwario'n sylweddol ac oedi'r rhaglen a nodir manylion hynny yn natganiad y Gweinidog. Er na fydd y gwaith bellach wedi ei gwblhau'n llawn erbyn diwedd eleni, bydd y rhan fwyaf ohono wedi ei gwblhau—bydd mwyafrif llethol y gwaith wedi ei gwblhau—yn ystod 2019 a disgwyliwn i weddill y cynllun gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.

Un ffordd gost-effeithiol o wella rhwydweithiau ffyrdd ydy chwilio am gyd-fuddsoddiad. Mae o'n bosib weithiau. Mae yna sôn wedi bod ers tro am gael y National Grid i gyfrannu at gost pont newydd dros y Fenai er mwyn cludo gwifrau fel rhan o gynllun Wylfa Newydd—pont fyddai'n caniatáu seiclo diogel, er enghraifft, i'r gwaith i Barc Menai am y tro cyntaf. Rŵan bod y cynllun Wylfa Newydd ar stop, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi ei bod hi'n bwysig peidio â cholli momentwm efo cynllun y bont newydd, ac ydy o'n cytuno bod yna achos cryf iawn i barhau i chwilio am gyd-fuddsoddiad gan y grid drwy eu cael nhw i roi eu gwifrau presennol dros y Fenai ar y bont newydd honno fel rhan o broject gwerth biliynau o bunnau sy'n digwydd mewn rhannau eraill o Brydain i dynnu peilonau i lawr a chladdu gwifrau o dan ddaear mewn ardaloedd o harddwch naturiol? Mi fyddai hefyd yn ffordd o dynnu'r peilonau sydd ar hyn o bryd yn rhedeg drwy ganol pentref Llanfairpwllgwyngyll.

Wel, diolch i'r Aelod am y pwyntiau yna. Dwi'n cytuno—mae yn bwysig i ni beidio â cholli momentwm yn y cynllun sydd gyda ni am y trydydd bont dros y Menai. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol o hynny ac dyw'r oedi yn Wylfa ddim—. Rŷn ni'n awyddus fydd yr oedi yn Wylfa ddim yn cael effaith ar y cynllun am y bont newydd. Mae yn bwysig i dynnu pobl eraill i mewn, ac mae National Grid yn rhan o hynny, ond mae partneriaethau eraill rŷn ni'n gallu meddwl amdanynt. Dwi'n gwybod mae'r Gweinidog wedi clywed beth mae'r Aelod wedi'i ddweud prynhawn yma, a rŷn ni yn gweithio'n galed i gario ymlaen gyda'r cynllun a rhoi mwy o fanylion at ei gilydd, ac, i fod yn glir, dydyn ni ddim eisiau colli momentwm ar gynllun sydd mor bwysig i bobl leol. 

Tanwyddau Ffosil

5. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y DU rhag arwain yr Undeb Ewropeaidd o ran darparu cymorthdaliadau i danwyddau ffosil? OAQ53791

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein pwerau ein hunain i gyfyngu ar echdynnu tanwydd ffosil yng Nghymru. Darperir cymorthdaliadau'r DU gan ddefnyddio pwerau a gadwyd yn ôl. Rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn hytrach mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, lle mae gan Gymru gymaint o adnoddau naturiol.

Wrth gwrs, mae pris i'w dalu am y cymorthdaliadau hyn, gan fod atal y cynnydd i drethi tanwydd a oedd i fod i ddigwydd am resymau newid yn yr hinsawdd wedi golygu bod Llywodraethau wedi gorfod mynd heb swm o arian sy'n cyfateb i ddwywaith y swm o arian yr ydym yn ei dalu am feddygon a nyrsys yn y wlad hon. Felly, rydym ni'n sôn am symiau mawr iawn o arian. Ac mae'n ymddangos i mi bod codi treth o 5 y cant ar y defnydd o nwy a thrydan yng nghartrefi pobl a chodi tâl am inswleiddio cartrefi pobl, a fydd yn lleihau faint y bydd yn rhaid iddyn nhw ei ddefnyddio o ran trydan a nwy gan 20 y cant, yn gwbl groes i'w gilydd. Mae'r rhain, yn amlwg, yn faterion gwirioneddol bwysig wrth i ni symud ymlaen o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac er fy mod i'n clywed yr hyn a ddywedwch am geisio dylanwadu ar Lywodraeth neanderthalaidd y DU, beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i sicrhau bod gennym ni sefyllfa deg i annog pobl i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwyddau ffosil?

14:15

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn defnyddio ein pwerau ein hunain o ran trwyddedu tanwydd ffosil i beidio â chefnogi cloddio am fwynau ynni newydd. Mae adroddiad y Comisiwn Ewropeaidd a dynnodd sylw at gymorthdaliadau'r DU ar gyfer tanwyddau ffosil hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd lleihau'r galw, effeithlonrwydd ynni a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan uniongyrchol ym mhob un o'r pethau hynny, gan ddefnyddio pwerau ac adnoddau sydd gennym ni ein hunain.

Serch hynny, mae'n dal i fod yn wir, Llywydd, bod cymorthdaliadau, treth a chymhellion ariannol yn ymwneud â thanwydd yn gymhleth ac yn faterion a gadwyd yn ôl i raddau helaeth. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw'r defnydd o'r ysgogiadau ariannol a deddfwriaethol sylweddol sydd yn nwylo Llywodraeth y DU yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r defnydd o danwyddau ffosil ac i gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy—nid yn unig ynni'r gwynt a'r haul, ond ynni'r môr yn arbennig, lle mae'r methiant i ddarparu dull 'contract ar gyfer gwahaniaeth' yn llesteirio twf y posibilrwydd hanfodol hwn yng Nghymru.

Siawns mai trethu yn hytrach na rhoi cymorthdaliadau i'r defnydd o garbon y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Oni wnaiff y Prif Weinidog longyfarch George Osborne ar ei dreth carbon, sydd wedi lleihau'r defnydd o lo gan dri chwarter, neu longyfarch Llywodraeth y DU yn hytrach na'i galw'n neanderthalaidd, gan fod allyriadau carbon y DU wedi gostwng yn gyflymach na bron unrhyw le arall yn y byd, gan oddeutu 40 y cant ers 1990 o'i gymharu â dim ond 17 y cant yng Nghymru, neu yn wir yn llongyfarch yr arweinydd cyntaf yn y byd i ymgyrchu ar  newid yn yr hinsawdd, sef Margaret Thatcher?

Llywydd, roedd adroddiad y Comisiwn Ewropeaidd, y tynnodd Jenny Rathbone sylw ato, yn amlygu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn rhoi cymorthdaliadau ar gyfer tanwyddau ffosil yn y Deyrnas Unedig ar lefel lawer uwch nag unrhyw wlad Ewropeaidd arall. Ni welaf ddim o gwbl i'w llongyfarch arno ar sail yr hanes hwnnw.

Dwi’n siŵr bydd nifer o bobl wedi'u brawychu gan yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mewn ymateb i Adam Price—hynny yw, 24 awr ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, eich bod chi’n dweud bod hynny ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid newid polisïau. Nawr, un polisi, yn amlwg, y byddwn i’n awyddus i weld yw mwy o annog dadfuddsoddi, achos mae yna lawer o arian yn y sector cyhoeddus, yn enwedig mewn pensiynau, wrth gwrs, wedi buddsoddi mewn cwmnïau ynni ffosil. Mi ges i lythyr oddi wrth y Gweinidog cyllid yn ddiweddar a oedd yn dweud y byddai’r Llywodraeth yn annog awdurdodau pensiynau llywodraeth leol, er enghraifft, i sicrhau eu bod nhw’n ystyried y materion yma. Allwn ni gael datganiad llawer mwy diflewyn-ar-dafod oddi wrth y Llywodraeth yn ei gwneud hi’n gwbl glir, os edrychwch chi ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, na ddylai’r math yma o fuddsoddiadau fod yn digwydd?

Mae’r Gweinidog yn fodlon rhoi mwy o fanylion i’r Aelod, a'r Aelodau eraill sydd â diddordeb yn y maes yma.

Y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghanolbarth Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith ffyrdd strategol yng nghanolbarth Cymru? OAQ53763

Ar 14 Chwefror, agorwyd ffordd osgoi gwerth £95 miliwn y Drenewydd yn swyddogol gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud mwy o fuddsoddiadau yn y rhanbarth a fydd yn gwella cysylltedd a diogelwch ar y ffyrdd.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Mae Pont Cefn ar yr A458 ger Trewern yn un o'r prif lwybrau o ganolbarth Cymru i ganolbarth Lloegr. Ceir rhwystredigaeth gynyddol ynghylch yr oedi parhaus i waith atgyweirio ar y bont hon yn dilyn damwain a ddigwyddodd fis Rhagfyr diwethaf. Mae'r oedi wedi achosi ciwio helaeth, yn enwedig yn ystod cyfnod y gwyliau, ac nid oes unrhyw ddyddiad arfaethedig i'r gwaith ddechrau ar hyn o bryd. Dyna'r wybodaeth ddiweddaraf gan yr asiantaeth cefnffyrdd i'm hetholwyr. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw ddyddiad uniongyrchol ar y gweill i atgyweiriadau parhaol gael eu gwneud oherwydd cytundebau y mae'n rhaid eu cytuno gyda Network Rail, oherwydd pryderon diogelwch o weithredu ar gledrau byw. Rwy'n gobeithio y gallwch chi roi dyddiad i mi, Prif Weinidog, ond os na allwch, a allwch chi ddefnyddio eich dylanwad i bwyso ar yr asiantaeth cefnffyrdd a Network Rail i roi dyddiad i waith atgyweirio ddechrau ar y bont bwysig hon?

14:20

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Mae yn llygad ei le bod dau gerbyd nwyddau trwm wedi gwrthdaro ar bont Cefn ym mis Rhagfyr y llynedd a bod hynny wedi achosi difrod mawr i'r bont. Mae'r bont yn cario'r gefnffordd dros reilffordd ac mae Russell George yn llygad ei le i dynnu sylw at y cyfyngiadau diogelwch sydd yn anochel ar waith lle mae gennych chi gledrau rheilffordd byw a phont y mae angen ei thrwsio. Bu'n rhaid cael parapet dur newydd ar gyfer y bont hefyd a bu'n rhaid gweithgynhyrchu hwnnw'n benodol, ond mae'r gweithgynhyrchu hwnnw wedi digwydd erbyn hyn. Bu'n angenrheidiol hefyd caffael gwasanaethau gosodwr arbenigol, ond mae'r gosodwr hwnnw yn barod i wneud y gwaith erbyn hyn. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelod a'i etholwyr bod Network Rail wedi cadarnhau erbyn hyn y caniatawyd mynediad at y cledrau ar gyfer penwythnos dydd Gwener 7 Mehefin hyd at ddydd Sadwrn 9 Mehefin, a bydd hynny'n caniatáu i'r gwaith atgyweirio hwnnw gael ei wneud.

Y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithio (Cymru)

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithio (Cymru)? OAQ53789

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran cyflwyno'r Bil hwn yng Nghymru. Cafwyd ymateb hynod o gadarnhaol i'r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru, a bwriad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yw gosod y Bil gerbron y Cynulliad hwn cyn toriad yr haf fel y gall y gwaith craffu ddechrau.

Mae hynny'n newyddion da iawn, Prif Weinidog. Ar hyn o bryd, mae syrcas Mondao yn un o'r syrcasau teithio prin yng Nghymru sy'n arddangos anifeiliaid gwyllt, ac maen nhw yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Rydych chi'n gwybod eu bod nhw yno gan eu bod rhoi posteri anghyfreithlon ym mhob rhan o'r fwrdeistref ac yn rhoi eu trelars ar dir cyhoeddus yn anghyfreithlon i hysbysebu'r hyn y maen nhw'n ei wneud. Does gen i ddim ffydd eu bod nhw'n fodlon ufuddhau i'r gyfraith ar y sail honno, ond rwy'n siŵr y bydd deddfwriaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn eu gorfodi i ufuddhau i'r gyfraith drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt. Dyma eu hail ymweliad â'm hetholaeth i ers i mi fod yma ac rwy'n mawr obeithio y bydd y ddeddfwriaeth hon yn atal trydydd ymweliad.

Diolchaf i'r Aelod am ei gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth. Mae gan syrcas Mondao drwydded o dan reoliadau trwyddedu Lloegr, ond wrth gwrs, bydd y trefniant hwnnw'n cael ei oddiweddyd gan ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio yn y Cynulliad hwn, pe byddai'n llwyddo i ennill cefnogaeth ar draws y Siambr. Yna, bydd yn rhaid iddyn nhw ac unrhyw weithredwyr eraill ufuddhau i'r gofynion deddfwriaethol newydd yma yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu polisïau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ53749

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori'r pum ffordd o weithio sy'n sail i'r Ddeddf ym mhob datblygiad polisi. Rydym ni'n parhau i wneud cynnydd wrth i ni ystyried effaith hirdymor pob polisi, gweithio ar y cyd â'n partneriaid cyflawni, a cheisio cynnwys ein dinasyddion yn y broses o lunio polisi yma yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae gwaith sefydliad 70/30 yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn cam-drin plant. Mae eu targed o leihau cam-drin o'r fath gan 70 y cant erbyn 2030 yn mynd law yn llaw â derbyn nad yw sgiliau rhianta bob amser yn dod yn naturiol i rai. Byddai'n ymddangos felly bod angen rhoi sylw cadarn i'r mater hwn. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau y bydd y frwydr yn erbyn cam-drin plant yn ganolog i'w raglen cyfiawnder cymdeithasol?

Cytunaf yn llwyr â'r aelod bod cam-drin plant yn fater y mae'n rhaid i Lywodraethau roi sylw difrifol iawn iddo a bod yn rhaid i rieni gael eu cynorthwyo gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, weithiau i gyflawni'r busnes anodd iawn o fagu plant o dan amgylchiadau arbennig o andwyol. Rydym ni eisoes yn buddsoddi symiau sylweddol o arian, drwy'r gwasanaeth addysg a thrwy ein gwasanaethau cymdeithasol, i ddarparu'r math hwnnw o gymorth ac mae gennym bob bwriad o barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

14:25
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw: bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am drafodaethau BREXIT. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a oes modd inni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd am wasanaethau adsefydlu ar gyfer y rhai sy'n gaeth i gyffuriau yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i wenwyn cyffuriau yng Nghymru wedi cynyddu 40 y cant ers 2003. Fodd bynnag, nid yw'r unig ganolfan adsefydlu preswyl a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru, Rehab Brynawel, yn cael yr atgyfeiriadau y mae eu hangen gan y Cyngor i fod yn gost-effeithiol ac mae'n gweithredu ar 60 y cant o'i gapasiti yn unig. Llynedd, galwodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer cyffuriau ar gael. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn amlinellu'r rhesymau pam nad yw'r cyfleuster hanfodol hwn yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol, pan fo'r ffigurau'n dangos bod angen dybryd am y gwasanaethau? Diolch.

Diolch ichi am godi'r mater pwysig hwn. Wrth gwrs, mae canolfan breswyl a dadwenwyno cleifion mewnol yn chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau adferiad hirdymor. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau o'r fath ar gael ac y byddant yn parhau i fod yn elfen bwysig o strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru o ran ei blaenoriaethau parhaus. Eleni, rydym wedi ymrwymo mwy na £50 miliwn i sicrhau bod pobl yn cael yr help a'r gefnogaeth iawn sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag effaith camddefnyddio sylweddau ac y bydd £1 miliwn o hynny'n cefnogi dadwenwyno ac adsefydlu preswyl yn benodol. Mae tua hanner y cyllid, £25 miliwn felly—yn mynd yn uniongyrchol i'n byrddau cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am asesu, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac maent yn comisiynu'r gwasanaethau hynny yn unol â chanllawiau clinigol a chyda mewnbwn gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu hunain.

Gan gyfeirio'n benodol at fudiadau megis Brynawel, cyfrifoldeb Prif Weithredwyr y sefydliadau hynny yn sicr yw hysbysebu'r gwaith da a wnânt a gwneud y cysylltiadau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fusnesau hyfyw. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Brynawel mewn nifer o ffyrdd dros y blynyddoedd ac, wrth gwrs, mae Busnes Cymru yn awyddus iawn i ymgysylltu â nhw i weld pa gymorth, gwybodaeth a chyngor pellach y gallwn eu cynnig ar gyfer y dyfodol.

Trefnydd, byddwch yn cofio, ar 14 Chwefror y llynedd, fod y Cynulliad hwn wedi cefnogi'n unfrydol y cynnig a gyflwynais i, ac a gefnogwyd gan fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, ynghylch y mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Roedd y cynnig yn galw am sefydlu tasglu i edrych ar y materion sy'n wynebu trigolion ledled Cymru sy'n byw ar y ffyrdd hyn sydd heb eu mabwysiadu. Mae'r ffyrdd hyn yn aml wedi cael eu dad-fabwysiadu ers degawdau, maent mewn cyflwr gwael ac yn arwain at lawer iawn o lythyrau, negeseuon e-bost a galwadau ffôn rhwng trigolion a chynghorau sir ar draws Cymru, yn aml yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd heb ddim diwedd i'w weld. Nawr, yn dilyn y bleidlais honno ym mis Chwefror 2018, sefydlwyd y tasglu ac mae wedi bod yn ymgynghori ag ystod o gyrff, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cwmnïau cyfleustodau, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Un Llais Cymru, a phawb arall, yn ôl yr hyn a welaf i. Byddwch yn cofio bod y cynnig hefyd yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Nawr, wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig ar 26 Mawrth, dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth fod y tasglu'n llunio'i argymhellion terfynol a'i fod yn disgwyl cael ei adroddiad yn ddiweddarach y mis hwnnw, sef diwedd y mis diwethaf. Erbyn hyn mae'n ddiwedd mis Ebrill. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd ar y mater hwn a phryd y mae'n disgwyl gwneud datganiad yn y Siambr hon ar argymhelliad y tasglu?

Diolch ichi am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae mater ffyrdd heb eu mabwysiadu yn destun pryder i lawer iawn ohonom yn y Siambr hon. Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw'n ategu'r gwaith sy'n digwydd ar ein hagenda diwygio lesddaliad yn fwy eang er mwyn sicrhau rheolaeth dda o ystadau ar draws Cymru. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr economi a thrafnidiaeth i ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y mater, ac i roi syniad ichi o'r amserlen ar gyfer pryd y bydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth am waith y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw .

14:30

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth sydd wedi cael ei rhoi i staff a gollodd eu swyddi ar ôl i gwmni Dawnus ddod i ben, a fydd yn effeithio ar eich etholwyr chi gymaint ag y mae'n effeithio ar fy etholaeth i, a pha gymorth pellach fydd yn cael ei ddarparu. Daeth i ben mewn modd trychinebus, oherwydd digwyddodd dros nos bron.

Yn ail, rwyf yn gofyn am naill ai ddatganiad gan y Llywodraeth, neu ddadl, os oes modd, ar losgi. Dylai hyn gynnwys sut y caiff y gyfarwyddeb llosgi gwastraff ei gweithredu, a ellid gweithredu clustogfeydd o eiddo, fel y rhai sy'n bodoli ar gyfer cloddio glo brig, a'r rheswm pam nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno moratoriwm ar losgyddion, rhywbeth yr wyf fi a llawer o rai eraill yn y Siambr hon wedi gofyn amdano.

Diolch eto am godi'r materion hyn. Ac fel y bydd Mike Hedges yn gwybod, roedd Dawnus yn cyflogi 705 o bobl ledled Cymru a'r DU yn uniongyrchol, ac roedd 430 o'r gweithwyr hynny wedi'u lleoli yma yng Nghymru. Fel y bydd yn gwybod, sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu i gefnogi'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol pan aeth y busnes i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cael eu defnyddio, ac maent wrthi'n cefnogi'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol.

Mae'r gweinyddwr wedi penodi asiantaeth recriwtio arbenigol i reoli'r broses ddiswyddo, a chafodd yr holl gyn-weithwyr eu hysbysu, eu talu neu disgwylir iddynt gael eu taliadau diswyddo yn fuan. Mae nifer o fusnesau adeiladu rhanbarthol ledled Cymru wedi cyflogi nifer o'r cyn-weithwyr hynny yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol, ac mae busnes newydd, yn seiliedig ar un o is-fusnesau grŵp Dawnus, wedi cael ei sefydlu, gyda'r staff hynny'n trosglwyddo i'r endid newydd. Mae hynny'n diogelu tua 37 o swyddi uniongyrchol. Mae swyddogion yn ymwybodol bod deialog barhaus gyda darpar brynwyr ar gyfer caffael is-fusnes arall yng ngrŵp Dawnus, a gallai hynny ddiogelu mwy o swyddi o fewn y grŵp.

Gallaf ddweud hefyd wrth Mike Hedges fod 35 o brentisiaid wedi cael eu nodi o fewn y busnes, a bod swyddogion wedi ymgysylltu â bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu i sicrhau bod ganddynt gymorth parhaus, fel y gallant gwblhau eu hyfforddiant gyda sefydliadau eraill. Ac, wrth gwrs, bydd y tasglu yn parhau i weithio gyda'r sefydliadau cefnogi i helpu'r unigolion hynny yr effeithir arnyn nhw, a gall elusen Clwb y Goleudy ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl i'r gweithwyr adeiladu hynny yr effeithiwyd arnyn nhw.

O ran eich cais am ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff, byddaf yn siarad eto â'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb ac yn gofyn beth yn ei barn hi fyddai'r ffordd orau o ddarparu diweddariad.

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar amseroedd aros i gleifion yng Ngogledd Cymru, os gwelwch yn dda? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod £1 miliwn wedi ei gymryd yn ôl oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni—mae hyn ar ben y £3 miliwn a gymerwyd yn ôl y llynedd—oherwydd ei fethiant i fodloni disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru o ran cyflawni gwelliannau i berfformiad amseroedd aros. Ac wrth gwrs, dros doriad y Pasg, daeth yn amlwg fod ffrae rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysbyty Iarlles Caer o ran y taliadau sy'n ddyledus o ganlyniad i gleifion o Gymru sy'n cael eu trin yno. O gofio nad yw capasiti'r ysbytai yn y Gogledd yn barod i dderbyn atgyfeiriadau ychwanegol o ganlyniad i golli gweithgaredd Ysbyty Iarlles Caer, mae hyn yn mynd i ychwanegu at y pwysau yn y Gogledd. Bydd yn ymestyn yr amseroedd aros, ac yn anffodus, credaf y bydd yn peri i lawer o bobl fyw mewn cryn boen ar restri aros yn y dyfodol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi darparu cynllun, dros 18 mis yn ôl, i fynd i'r afael ag amseroedd aros orthopedig yn benodol, ac maent yn dal i aros i'r cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo. Heb y cynllun hwnnw, ni allant feithrin y capasiti yn y system i'w galluogi i gyrraedd y targedau amser aros. Felly, credaf fod angen inni gael datganiad ar hyn ar frys, ac mae angen inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gydag Ysbyty Iarlles Caer ac a oes modd cyfeirio cleifion atynt yn awr i gael eu triniaeth.

Diolch am godi hyn. Ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd yn ateb cwestiynau yn y Siambr yfory, a gwelaf eich bod wedi cyflwyno'r union gwestiwn hwn iddo, sef cwestiwn 4. Felly, gwn y bydd yn falch o ateb hynny yfory. Ond gallaf ddweud, o ran Ysbyty Iarlles Caer, fod y Gweinidog wedi bod yn glir iawn bod y camau a gymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn annerbyniol ac nad ydynt yn cyd-fynd â'r datganiad a'r gwerthoedd a'r egwyddorion yr ydym wedi cytuno arnynt rhwng y GIG yng Nghymru a GIG Lloegr, ac y byddwn bob amser yn gweithredu er budd y cleifion. Siaradais â'r Gweinidog am y mater hwn yn gynharach heddiw, a dywedodd y byddai'n disgwyl bod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad, yn sicr, gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos hon.

14:35

Trefnydd, hoffwn godi rhai materion a ddaeth i'm sylw yn ystod ymweliad diweddar â champws y Rhondda yng Ngholeg y Cymoedd. Fe'm hysbyswyd gan uwch reolwyr yn y coleg, a ColegauCymru, am y cyfyngiadau ariannol difrifol, nid yn unig ar golegau, ond ar fyfyrwyr hefyd. Nid yw taliadau lwfans cynhaliaeth addysg, a allai olygu hyd at £30 yr wythnos i rai myfyrwyr, wedi cynyddu gyda chostau byw ers 2004. Wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant, dylai taliadau sefyll yn awr ar £45.25 yr wythnos—50 y cant yn uwch na'r hyn y mae rhai myfyrwyr yn ei gael nawr. Cefais fy hysbysu mai prinder arian yn aml yw'r rheswm pam mae myfyrwyr o gefndiroedd tlotach yn rhoi'r gorau i'w cyrsiau. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch mynd i'r afael â'r cyfyngiadau ariannol ar fyfyrwyr coleg er mwyn sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb, waeth beth fo incwm y teulu?

Mae ColegauCymru a'r prifathro yng Ngholeg y Cymoedd hefyd yn pryderu am yr ardoll prentisiaethau, sydd yn eu barn nhw yn dreth ar gyflogwyr Cymru. Ac mae llawer yn teimlo bod cyflogwyr Cymru yn cael eu cosbi. Gan nad yw Cymru yn gweithredu'r cynllun talebau digidol, ceir teimlad ymhlith cyflogwyr nad ydynt yn cael eu cyfraniadau ardoll yn ôl. Yn Lloegr, mae'r cynllun hwn yn gweithio'n wahanol a gall cyflogwyr gael eu cyfraniadau'n ôl. Felly, yn sgil hynny, mae rhai cwmnïau yng Nghymru bellach yn hyfforddi eu prentisiaid yn Lloegr. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad faint o gwmnïau o Gymru sy'n hyfforddi eu prentisiaid yn Lloegr? Ac ymhellach, hoffwn wybod a all y Llywodraeth hon weithio gyda'r sector i oresgyn y problemau sy'n gysylltiedig â'r ardoll prentisiaethau er mwyn atal cyflogwyr Cymru rhag colli allan, ac i fynd i'r afael â'r problemau biwrocrataidd y mae cwmnïau yng Nghymru yn eu hwynebu. Byddwn yn croesawu datganiad neu ddadl ar y mater hwn yn fawr.

Diolch. O ran eich pryder cyntaf, credaf mai'r cyfle gorau ichi godi hynny gyda'r Gweinidog Addysg fyddai yn ystod y ddadl y prynhawn yma ar gefnogaeth i ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed. Ac, o ran yr ardoll prentisiaethau, roedd gennych nifer o gwestiynau manwl a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ymateb.

Trefnydd, byddwn yn ddiolchgar am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch diogelu bywyd gwyllt. Ond yn gyntaf, yr wythnos diwethaf, cafwyd digwyddiad arall lle'r oedd slyri wedi gollwng o fferm yng ngorllewin Cymru ger Cilgerran, gydag amcangyfrif o 120,000 o alwyni wedi diferu i afon Dyfan, un o lednentydd y Teifi. Gwyddom fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i hyn, ond dyn a ŵyr pa ddifrod a wnaed, a bydd yn parhau i gael ei wneud wrth i'r llygredd weithio'i ffordd drwy'r gadwyn fwyd. Daeth cerdd ragorol i'm llaw yr wythnos hon gan un o'm hetholwyr ynglŷn â'r Gammarus Pulex. Fyddwn i ddim yn dweud bod yr ynganiad yn gywir, ond pryf yw hwn sy'n byw mewn dŵr glân. Dywed y  gerdd, 'Dwi'n rhywogaeth bwysig ac yn ddangosydd ar gyfer iechyd amgylcheddol creaduriaid y dŵr'. A dwi'n meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig, achos mae'r gorlif diweddaraf yma yn dod ar ôl digwyddiad difrifol yn yr un system ddŵr ychydig cyn y Nadolig, ac amcangyfrifwyd fod y digwyddiad hwnnw ger Tregaron wedi lladd 1,000 o bysgod. Yn aml iawn, rydym yn mesur y difrod yn nifer y pysgod sydd wedi'u lladd, ond nid pysgod yn unig a laddwyd; lladdwyd popeth arall yn yr amgylchedd hwnnw hefyd. Ac os byddwn yn dal ati fel yr ydym ar hyn o bryd, ac yn gollwng mwy o slyri i'n hafonydd, ni fydd bywyd o gwbl ar ôl yn yr afonydd hynny, a bydd yn cymryd degawdau i'r bywyd hwnnw ddychwelyd. Felly, credaf fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â hyn, a chredaf fod angen inni ddwyn i gyfrif y bobl a ddylai fod yn edrych ar hyn, ac edrych hefyd ar y gyfundrefn arolygu sydd ar waith, gobeithio, i archwilio cyfleusterau slyri ar draws y tir. Hefyd mae angen edrych ymhellach i weld a yw rhai o'r slyrïau hyn yn y lle priodol, fel na allant drwytholchi wrth ollwng i mewn i'n hamgylchedd ac yn ei ddinistrio'n llwyr.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw ar wrychoedd a rhwydi coed. Rydym wedi gweld yr ymgyrchoedd diweddar a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygwyr yn defnyddio rhwydi i atal adar rhag nythu ac felly'n llesteirio ceisiadau cynllunio a gwaith adeiladu, a gwn fod Mick Antoniw wedi codi hyn yn gynharach eleni. Ond, fel cais o golofn a ysgrifennais mewn papur newydd yr wythnos hon, mae tystiolaeth anecdotaidd wedi dod i'm llaw lle mae hyn yn digwydd ar dir fferm. Gwn fod deiseb gerbron y Cynulliad sy'n galw arnom i wneud rhywbeth o ddifrif ynghylch lleihau'r defnydd o rwydi sy'n atal adar rhag nythu a'i gwneud yn drosedd. Credaf, o gofio bod diddordeb amlwg gan y cyhoedd yn y pwnc hwn, y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Llywodraeth yn gwneud datganiad ar hyn yn awr, gan ei bod yn hurt dweud eich bod yn rhoi rhwyd ar berth a fydd yn atal adar rhag nythu, gan y bydd yr adar yn mynd i mewn yno ac os oes gennych unrhyw rwydo llac, nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i'r adar fynd drwodd, ond bydd yn bendant yn eu hatal rhag dod allan o'r rhwyd.  

14:40

Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am godi dau fater eithriadol o bwysig y prynhawn yma. Roedd y mater cyntaf yn ymwneud â digwyddiadau llygredd amaethyddol ac mae'r digwyddiad a ddisgrifiodd Joyce yn destun ymchwiliad parhaus. Ond, fel y nodwyd yn ein strategaeth ddŵr, amaethyddiaeth yw un o brif achosion llygru dŵr, a dyna pam mae'r Gweinidog mor awyddus i weithio gydag undebau ffermio i ddatblygu atebion cynaliadwy, boed hynny drwy dargedu ein cymorth ariannol yn well neu drwy hyfforddiant gwell drwy Cyswllt Ffermio.

Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ar lygredd amaethyddol fis Rhagfyr diwethaf, ac yn hwnnw amlinellwyd y gofyniad i gyflwyno rheoliadau, a byddant yn dod i rym yn 2020. A dyna'r peth iawn i'w wneud, nid yn unig i'r amgylchedd, ond hefyd i sicrhau bod Cymru yn cynnal ei henw da rhyngwladol o ran ffermio. Mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu dros y flwyddyn a aeth heibio, felly mae hynny'n amlwg yn destun pryder mawr, a bydd y Gweinidog yn cydweithio'n agos â'r sector i ddatblygu'r diwygio rheoleiddiol a throsglwyddo gwybodaeth, sydd yn angenrheidiol, yn fy marn i, i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.

Gwn eich bod wedi mynegi eich pryderon ynghylch rhwydo mewn gohebiaeth at y Gweinidog a'i bod wedi paratoi ymateb ichi ynghylch hynny. Rydym wedi cael rhai adroddiadau am rwydo. Nid ydym yn ymwybodol eto pa mor gyffredin ydyw, ond yn amlwg mae unrhyw ddigwyddiad yn peri pryder gwirioneddol inni. Cyfeiriodd Joyce Watson at y ddeiseb, sydd newydd agor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae yna un hefyd yn y Senedd gyda 330,000 o lofnodion arni. Felly, credaf fod hyn yn bryder gwirioneddol i aelodau'r cyhoedd. Efallai fod adegau pan fyddai rhwydo coed yn gyfreithlon, ond dim ond pan fydd gwir angen hynny i ddiogelu adar a'u hatal rhag nythu yn ystod datblygiadau fel nad ydynt yn dod i niwed y byddai hynny'n digwydd, a byddai'r math hwnnw o amgylchiad yn eithriadol o brin yn wir. Felly, ar y cyfan, rwy'n credu bod ein polisi yn sicr yn symud i ffwrdd o liniaru niwed a difrod i integreiddio bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau tuag at y camau cynharaf un o reolaeth ddatblygu briodol.

Yn gyntaf, a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Joyce Watson a'r Gweinidog ynghylch rhwydo coed? Deuthum yn ymwybodol o hyn am y tro cyntaf dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'n ymddangos i fod yn ffordd sinigaidd o drechu'r rheolau. Nid dyna oedd bwriad y rheolau yn wreiddiol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arno, ac rwy'n hapus i gefnogi'r ymgyrch honno, Trefnydd.

  Ar nodyn ysgafnach, mwy dymunol, rwy'n siŵr y byddwch eisiau ymuno â mi i longyfarch Clwb Rygbi'r Fenni, a gurodd Oakdale— Wel, efallai na fydd yr Aelod am ymuno—i fod yn bencampwyr bowlio cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar. Tybed a allem gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon lleol fel pencampwriaeth y fowlen genedlaethol. Credaf ei fod yn gwneud llawer iawn i dyfu chwaraeon o'r gwaelod, ac mae angen inni wneud popeth a allwn i gefnogi hynny.

Yn ail, neu yn drydydd dylwn ddweud, dros y Pasg gwelsom y tân trasig yn Notre Dame yn Ffrainc. Rwy'n siŵr ein bod i gyd am anfon ein dymuniadau gorau at bobl Ffrainc wrth iddynt wynebu'r her enfawr o ailadeiladu'r Gadeirlan eiconig honno. Fel mae'n digwydd, yr wythnos honno roedd gennym grŵp o 200 neu fwy o drigolion Beaupréau yn Ffrainc yn aros yn y Fenni, gefeilldref Beaupréau, a gwnaeth hynny i fi feddwl am bwysigrwydd cymdeithasau gefeillio a rôl werthfawr cymdeithasau gefeillio, yn enwedig ar yr adeg hon o ansicrwydd ynghylch BREXIT. Tybed a gawn ni ddatganiad neu ddiweddariad gan y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol am y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i gymdeithasau gefeillio ac ymgyrchoedd ledled Cymru. Credaf eu bod nhw wedi bod yn digwydd am gyfnod hir iawn mewn gwahanol drefi a phentrefi ledled Cymru yn wir, ond yn aml dydyn nhw ddim yn cael y parch y maen nhw'n ei haeddu, a chredaf fod llawer o bobl yn gweithio y tu ôl i'r llenni i wneud yr ymgyrchoedd hynny'n llwyddiant. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael clywed gan Lywodraeth Cymru pa gymorth sydd wedi cael ei roi.

14:45

Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny'r prynhawn yma, ac, wrth gwrs, roedd y Gweinidog yma i glywed eich cais am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fudiadau a chlybiau chwaraeon lleol. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog, mewn ymateb i un o'r cwestiynau'r prynhawn yma, yn sôn am bwysigrwydd cyfleoedd chwaraeon lleol i iechyd y cyhoedd ac wrth gwrs, i les y cyhoedd.

Eto, o ran eich pryder am bwysigrwydd mudiadau gefeillio, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'ch cais am ddatganiad ar y mater penodol hwnnw.

Rwyf wedi gofyn ar sawl achlysur a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd am y fframwaith anhwylderau bwyta. Gwyddom fod hyn yn ei gyfnod ymgynghori, ac mae cleifion a gofalwyr wedi bod yn allweddol o ran cyflwyno eu syniadau, er fy mod yn gwybod bod peth ymateb negyddol gan ymgynghorwyr yn y maes, yn anffodus. Yr wythnos hon, rwyf wedi cael achosion newydd o bobl ag anhwylderau bwyta mor ifanc â naw mlwydd oed, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Felly, byddwn yn hoffi gweld penllanw'r cynnig hwn fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn awr ac ail-ganolbwyntio ein hegni ar fframwaith newydd, os byddai hynny'n bosib o gwbl.

Fy ail gais yw a oes modd cael datganiad—wel, roedd yma'n gynharach—gan Dafydd Elis-Thomas ar y trafodaethau cyfredol sy'n digwydd ym Mhort Talbot ynghylch symud arddangosfa gelf Banksy. Gwyddom mai'r unig ffordd y gall y Cyngor yn lleol fforddio i addasu'r adeilad ar ei gyfer yw os gallant gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan yno fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf genedlaethol i Gymru. Ac felly, yn yr ysbryd o geisio gwneud i hyn weithio, a cheisio denu mwy o bobl i Gymru, a fyddai modd i'r Dirprwy Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, ddarparu datganiad i ni? Maent wedi ysgrifennu ato i ofyn a fyddai'n fodlon ariannu hyn—a fyddai modd iddo eu hateb, yn un peth, ac a allai roi gwybod inni a yw'n bwriadu cefnogi hyn, o gofio'r brwdfrydedd yn lleol ac yn rhyngwladol dros y gwaith Banksy a fydd hefyd yn denu darnau eraill o gelf yn rhyngwladol, os gall camau 2 a 3 fynd yn eu blaenau. Bydd cam 1, yr ydym yn credu —a chroesi bysedd—yn mynd yn ei flaen, ond mae angen cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ychydig gamau nesaf, felly byddai datganiad ganddo ef yn dderbyniol iawn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. O ran y fframwaith anhwylderau bwyta, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau ei fod bellach wedi cael yr adroddiad ac mae'n aros am rywfaint o gyngor pellach ar hynny gan swyddogion. Ond yn sicr bydd yn gwneud datganiad cyn gynted ag y gall wneud hynny, ar ôl ystyried yr adroddiad hwnnw.

O ran mater Banksy, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb i'r cais a gafodd ac yn ymateb i'r ohebiaeth honno, ond, wrth gwrs, mae gennym y datganiad ar Gymru Greadigol y prynhawn yma, a allai fod yn gyfle arall i godi hyn.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad y prynhawn yma. Daw'r cyntaf gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch tanau gwair. Bedwar mis yn unig i mewn i'r flwyddyn, ac rydym eisoes wedi gweld 102 o danau gwair yng Nghwm Cynon, a hoffwn dalu teyrnged i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am y ffordd y maent wedi ymdrin â'r rheini. Ond yn frawychus, allan o'r 102 o danau gwair hynny, dechreuwyd 98 ohonynt yn fwriadol. Byddwn yn croesawu'r cyfle am ddatganiad gan y Gweinidog i amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid ei wneud i fynd i'r afael â'r duedd hon.

Ar fater gwahanol, hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad ar gynllun setliad yr UE. Cysylltwyd â mi gan etholwr y mae ei bartner Almaenig wedi byw a chyfrannu i'r wlad hon ers 30 mlynedd. I wneud cais am statws, mae'n rhaid iddo gyflwyno'i ddogfennau adnabod, a'r unig leoliad yng Nghymru lle gellir cyflwyno dogfennau yw Hengoed, yng Nghaerffili. Nawr mae honno'n daith o ddwy awr o Aberdâr ar fws neu ar drên, er ei bod mewn etholaeth gyfagos i mi. Felly dyn a ŵyr faint o amser y byddai'n ei gymryd i breswylwyr o rannau eraill o'r wlad deithio yno. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, am yr hyn y gall ei wneud i gefnogi pobl yn ystod y broses anodd hon?

14:50

Diolch i chi, Vikki Howells, am godi'r materion hyn. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog  Llywodraeth Leol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gweithredoedd ein partneriaid o ran atal tanau gwair. Deallaf fod nifer y tanau'r mis hwn wedi bod yn gymharol fach ac, yn gyffredinol, eu bod yn debygol o fod ymhell o fod yn uwch na'r lefel a gawsom ym mis Ebrill 2015. Ond pan fyddwch yn rhoi'r ffigurau imi a welsoch ar gyfer tanau gwair yn eich etholaeth, yna, yn sicr, credaf fod gennym fater difrifol i fynd i'r afael ag ef o hyd, ac rwyf wedi'i weld yn sicr yn fy etholaeth i ym Mhenrhyn Gŵyr yn ystod yr wythnosau diwethaf. Byddaf yn sicrhau bod y cyngor hwnnw ar gael ichi.  

Ac ar fater dinasyddion yr UE, rydym yn siomedig, a dweud y lleiaf, am y diffyg lleoliadau sganio dogfennau a ddarparwyd yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr anawsterau enfawr y bydd hyn yn eu hachosi i ddinasyddion yr UE sydd heb gael mynediad i ffonau Android , a byddai angen iddynt anfon y dogfennau hynny fel arall. Rwy'n deall bod y Swyddfa Gartref yn bwriadu darparu mwy o leoliadau sganio, a byddem yn sicr yn hoffi gweld mwy ohonynt yng Nghymru. Gwn fod y Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn, ac os hoffech rannu rhai enghreifftiau mwy penodol o'ch etholwyr eich hun a'r drafferth y mae hynny wedi'i hachosi, byddem yn sicr yn gallu defnyddio'r rheini fel astudiaeth achos.

Wrth gwrs, rydym yn rhoi cymorth ychwanegol i ddinasyddion yr UE drwy Gyngor ar Bopeth, er mwyn darparu gwybodaeth am y cynllun setliad, ac rydym hefyd wedi creu contract â chwmni cyfreithiol o Gymru i ddarparu gwasanaeth cyngor ar fewnfudo i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth hwnnw'n cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am statws Sefydlog yr UE a gwasanaeth cynghori unigol a fydd yn cwmpasu gwasanaeth cyfreithiol sy'n sensitif i amgylchiadau ymgeiswyr unigol, gan gynnwys unrhyw aelodau o'r teulu a allai fod ganddynt, i alluogi dealltwriaeth, cwblhau a chyflwyno ceisiadau cynllun statws sefydledig. Byddwn yn gwneud datganiad ysgrifenedig am y gwasanaethau hyn maes o law.  

Hoffwn gael datganiad ar y sefyllfa y mae rhieni sy'n ofalwyr rhan amser yn eu cael eu hunain ynddi. Cefais etholwr yn fy swyddfa yn gynharach heddiw sy'n cael ei orfodi i dalu treth ystafell wely, ac yn mynd i ddyled o ganlyniad i hynny. Mae'n gofalu am ei ferch ar y penwythnosau ac mae angen yr ystafell ychwanegol arno. Os edrychwch ar bob cyngor ledled Cymru, nid yw'r ystafelloedd hynny sydd eu hangen ar gyfer gofalu am blant pan fydd rhieni'n gweithio mewn partneriaeth yn cyfrif o ran y dreth ystafell wely. Felly, beth ellir ei wneud? Hoffwn gael datganiad ar yr hyn y gallech ei wneud, os gwelwch yn dda.

Diolch am godi hyn ac, wrth gwrs, fe fydd yr Aelod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, dros gyfnod hir, wedi cyflwyno sylwadau helaeth i Lywodraeth y DU am ei threth ystafell wely a'r ffaith ei bod yn annheg â rhieni a theuluoedd sy'n eu cael eu hunain mewn amrywiaeth o amgylchiadau, megis yr un a ddisgrifiwch chi. Ond hefyd mae'n annheg ar rieni a phobl sy'n anabl sydd angen ystafell i ofalwyr aros ynddi o bryd i'w gilydd er enghraifft, neu sydd angen ystafell ychwanegol ar gyfer rhywfaint o'r cyfarpar, ac ati, sydd ei angen arnynt. Felly, rydym wedi bod yn glir ers blynyddoedd bod y dreth ystafell wely'n dreth annheg ar bobl anabl, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar hyn.

Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yng nghynhadledd eich plaid ddechrau mis Ebrill y bydd adran 21 ar droi pobl allan o'u cartrefi yn cael ei dileu. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad tebyg y bydd y rhain yn dod i ben, a'u bod yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn un o brif achosion digartrefedd ymhlith teuluoedd. Gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd am yr hyn sydd bellach wedi'i gynllunio drwy ymgynghori. Credaf fod angen datganiad llafar arnom i graffu ar y ffordd y caiff y diwygiad hwn ei fwrw ymlaen. Mae'n bwysig iawn edrych ar y ffordd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal hefyd. Er fy mod yn credu bod hwn yn ddiwygiad dymunol, mae'n rhaid ei weithredu'n ofalus oherwydd bod llawer o ddiddordebau ar ddwy ochr y cwestiwn, ac mae sut y gall landlordiaid brynu eu heiddo i'w werthu neu ei drwsio'n sylweddol mewn rhai amgylchiadau yn rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo'n ofalus. Credaf fod llawer ohonom wedi sylweddoli nad yw adran 21 bellach yn addas i'r diben, o gofio bod 20 y cant o bobl bellach yn cael llety preifat ar rent. Mae hwn yn fater pwysig iawn a chredaf y dylem gael datganiad llafar cyn gynted ag y bo modd.

14:55

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig o ran sut y byddwn yn ymdrin â mater adran 21 yn y dyfodol, ac mae David Melding yn iawn ei fod yn fater sensitif y mae'n rhaid ei drin yn ofalus iawn, oherwydd mae teimladau cryf ar ddwy ochr y ddadl. Gwn fod y Prif Weinidog eisoes wedi cael cyfarfod cynnar â chynrychiolwyr Cymdeithas Landlordiaid Preswyl er mwyn deall eu pryderon, ac, wrth gwrs, byddant yn ymgyngoreion pwysig wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, bydd hyn yn gofyn am newid deddfwriaethol, yn fy nhyb i, felly bydd y cyfan yn destun craffu llawn gan y Cynulliad. Bydd y Gweinidog yn cyflwyno'r datganiad priodol pan fydd modd iddi wneud hynny.

Yn ystod y mis diwethaf, mae pobl yn y Gogledd wedi cael eu rhwystro rhag mynd i Ysbyty Iarlles Caer fel cleifion allanol a gafodd eu hatgyfeirio, ac mae hynny'n cynnwys, gyda llaw, atgyfeiriadau achosion brys lle ceir amheuaeth o ganser. Fe ddywedoch chi'n gynharach ei bod yn debygol y byddai'r Gweinidog yn gwneud datganiad ysgrifenedig, credaf, yn eithaf buan. Roeddwn yn mynd i ofyn a gawn ni ddatganiad llafar er mwyn inni fel Aelodau allu gofyn rhai cwestiynau, oherwydd caf ar ddeall y byddai goblygiadau ehangach nid yn unig i gleifion yn y Gogledd, ond i'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru. Deallaf fod y GIG yn Lloegr yn gofyn am gynnydd o 8 y cant mewn taliadau, ac mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei gwneud yn gwbl glir, os yw hynny'n wir, y byddai'n rhaid i unrhyw gytundeb gael ei efelychu ar draws yr holl ddarparwyr yn Lloegr. Ar hyn o bryd  mae cleifion o Gymru yn cael gwasanaethau mewn 50 o wahanol ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr. Gallwn ni i gyd wneud y symiau, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn pryderu am y mathau hynny o oblygiadau.

Ond, wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'r anghytuno hwn yn achosi llawer iawn o ofid i gleifion, sy'n teimlo fel petaent yn cael eu defnyddio yn rhan o'r broses fargeinio yn yr anghydfod hwn. Mae llawer yn gofyn sut y gallai pethau fod wedi dod i hyn, oherwydd roeddem ni'n gwybod bod problemau mor gynnar â'r llynedd. Ond hefyd, wrth gwrs, pan oedd problem debyg gan Ysbyty Gobowen rai blynyddoedd yn ôl, yna roedd cytundeb i fynd i'r broses gymrodeddu. Hoffwn glywed gan y Gweinidog a yw'n teimlo y byddem, o bosib yn cyrraedd y math hwnnw o sefyllfa yn y dyfodol agos. Mae angen inni glywed yn iawn gan y Gweinidog am faint y mae'n disgwyl i'r sefyllfa hon barhau, os mynnwch chi, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i ddatrys y sefyllfa, oherwydd, yn y cyfamser, onid ydych chi'n cytuno â mi, o leiaf y dylai Ysbyty Iarlles Caer gymryd cleifion o Gymru a pheidio â chosbi'r cleifion hynny am fethiannau pobl eraill?

Diolch. Byddech chi wedi fy nghlywed i yn fy ateb i Darren Millar yn gynharach yn dweud y bydd cyfleoedd i holi'r Gweinidog iechyd am hyn yfory, oherwydd mae cwestiynau wedi'u cyflwyno sy'n berthnasol i'r mater penodol hwn. Ein dealltwriaeth ni yw mai penderfyniad unochrog yw hwn sydd wedi'i wneud gan Iarlles Caer ac nad yw darparwyr eraill yn Lloegr yn cynllunio camau tebyg. Rwy'n deall bod cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos hon a bydd y Gweinidog, ar ôl yr amser hwnnw, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, credaf fod llawer ohonom wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, ond mae llawer ohonom hefyd yn dymuno gwybod beth fydd sylwedd camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny. Rhaid imi ddweud, mae'r datganiad ysgrifenedig yr ydym wedi'i gael y bore yma gan y Gweinidog yn ymateb cwbl annigonol i'r datganiad a wnaed ddoe. Os yw hyn yn argyfwng—[Torri ar draws.] Croeso i'r Prif Weinidog ymateb i hyn, os yw'n dymuno. Os yw hyn yn argyfwng—[Torri ar draws.] Os yw hyn yn argyfwng, byddwn i—. Rwy'n hapus i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwn os yw mor awyddus i wneud hynny. Os yw hwn yn argyfwng—

Os mai argyfwng yw hwn, hoffwn ofyn am ddatganiad gan bob un o'r Gweinidogion sydd ger ein bron heddiw ynghylch beth fydd eu gweithredoedd, beth y mae eu hadran yn mynd i'w wneud i ymateb i hyn, a beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod yr argyfwng y maent wedi'i ddatgan yn mynd i gael ymateb, yr hwn y mae'n ei haeddu ac sydd  ei angen. Byddwn hefyd yn gwahodd y Gweinidogion i wneud datganiadau i ni yn gyntaf, i'r fan hon. Dylai datganiad o'r math hwn fod wedi cael ei wneud yn y Siambr hon yma er mwyn caniatáu i waith craffu gael ei wneud ar Weinidogion a chamau gweithredu Gweinidogion. Cyhoeddwyd cynllun ar gyfer Cymru carbon isel, dair wythnos yn ôl, ar ddiwedd mis Mawrth, mi gredaf, ac eto ni chafodd datganiad ei gyflwyno gerbron y Siambr hon ar gynnwys y ddogfen honno ac nid oes cyfle wedi'i roi i'r Aelodau graffu ar Weinidogion ynghylch hynny. Darllenwn o'r datganiad busnes heddiw mai'r bwriad yw peidio â gwneud datganiad ar hynny ychwaith. Felly, rwy'n gobeithio, Trefnydd, y byddwch yn gallu rhoi sicrwydd i mi ac i'r Aelodau eraill ar bob ochr i'r Siambr y cawn gyfres o ddatganiadau gan Weinidogion sydd yn bodloni'r datganiadau a wnaed hyd yma, y datganiadau a wnaed, ac sy'n dangos i ni fod Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn o ddifrif ac nad datganiad i'r wasg yn unig yw hyn.

15:00

Wel, bydd yr Aelod wedi clywed y Prif Weinidog yn siarad yn angerddol y prynhawn yma am ein datganiad o argyfwng hinsawdd, a bydd wedi clywed yr ymrwymiad sydd gennym ni i fynd i'r afael â'r mater hwn ym mhob rhan o'r Llywodraeth. A byddai hefyd wedi fy nghlywed i, mewn datganiad busnes cyn y Pasg, yn gwneud y pwynt bod y cynllun cyflawni carbon isel wedi'i gyhoeddi a'n bod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ystyried y cynllun hwnnw, ac rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad y caiff ei gyflwyno fel y bydd cyfle i'r Aelodau ei drafod ar lawr y Cynulliad.

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Negodiadau Brexit

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y wybodaeth ddiweddaraf am negodiadau Brexit. A dwi'n galw ar y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, i wneud ei ddatganiad. 

Diolch, Llywydd. Ar yr wyneb, o leiaf, mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf inni gael cyfle i ystyried proses Brexit. Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Aelodau wedi croesawu penderfyniad cyfarfod eithriadol y Cyngor Ewropeaidd i gytuno i ymestyn dyddiad erthygl 50 hyd at 31 Hydref. Mae’r penderfyniad hwnnw’n golygu ein bod ni wedi llwyddo i osgoi, am nawr o leiaf, y peryg o Brexit chaotic, heb gytundeb—sefyllfa a oedd yn gwbl amhosibl i’r wlad baratoi yn iawn ar ei chyfer. Mae wedi rhoi cyfle inni anadlu a chyfle inni ystyried, ond dydy hynny ddim yn golygu’n bendant na fydd Brexit heb gytundeb yn digwydd. Dydy hyn yn ddim byd mwy, ar hyn o bryd, na symud y gorwel ymhellach ymlaen.

Wrth gwrs, fel yr ydw i ac eraill wedi dweud yn glir, rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r canlyniadau tebygol os na fydd cytundeb. Rwyf am fanteisio nawr ar y cyfle i gydnabod yr holl waith caled gan staff ar draws y Llywodraeth a’r sector gyhoeddus yn ehangach dros y misoedd diwethaf er mwyn gwneud yr holl gynlluniau a pharatoadau wrth gefn a oedd yn angenrheidiol. Rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gorau. Yn sgil yr estyniad, rydyn ni wedi addasu dwyster ein paratoadau. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu hyn yn gyson, ond yn yr un ffordd ag y mae’n rhaid inni baratoi, mae hefyd angen inni reoli’n hadnoddau mewn ffordd gyfrifol ac ymateb pan fo’r manylion yn newid.

Er hynny, ar adeg o gyni mor ddifrifol, pan fo pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’n warthus bod yn rhaid dargyfeirio adnoddau fel hyn. I beth? I amddiffyn pobl Cymru rhag bygythiad y gellid bod wedi ei osgoi pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod llawer yn gynt nad oedd modd achub y cytundeb a gafodd ei negodi a gofyn am estyniad hir.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoadau 'dim cytundeb', ar gyflogi staff newydd nad oes ganddyn nhw ddim neu fawr ddim i'w wneud, ar gynllunio systemau technoleg gwybodaeth na fydd o bosib eu hangen arnom ni fyth ac, yn fwyaf nodedig, ar sicrhau capasiti fferi gan gwmni heb longau ac yna talu mwy na £30,000,000 mewn iawndal i gystadleuwyr a dramgwyddwyd, i gyd mewn ymdrech ofer i ategu haeriad y Prif Weinidog fod canlyniad 'dim cytundeb' yn dderbyniol—rhan o'i strategaeth negodi fethedig sef bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd yn cryfhau ei sefyllfa pan mai'r unig fwriad, mewn gwirionedd, oedd cadw ei chydweithwyr ar y meinciau cefn led braich oddi wrthi. Ond er ei bod hi'n ymddangos ar un ystyr fod llawer wedi newid, ni ddylem ni fod ag unrhyw amheuaeth bod yr hanfodion yn aros yr un fath.

Hyd yn hyn, nid oes mwyafrif yn y Senedd ar gyfer unrhyw ffordd glir ymlaen. Mae'r trafodaethau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn dal yn hanfodol. Rhaid i'r ddwy ochr ymgysylltu'n llawn, yn gyfrifol ac yn greadigol. Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweld y trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau fel cyfle i geisio gwerthu ei chytundeb yn hytrach na cheisio cyfaddawd—cyfaddawd sydd, beth bynnag arall, angen cynnwys ymrwymiad i undeb tollau parhaol ac ymgorffori ymrwymiadau Chequers i alinio rheoleiddiol. Yn bwysicach fyth, nid oes gan fusnesau unrhyw sicrwydd o hyd ynghylch y dyfodol hirdymor—mae buddsoddiad yn cael ei ohirio neu ei ganslo ac mae swyddi'n cael eu colli. Dyma'r gwir ddifrod o ganlyniad i'r modd trychinebus y bu'r Prif Weinidog yn ymdrin â Brexit: bywoliaethau yn cael eu colli, rhagolygon economaidd cymunedau cyfan yn cael eu bygwth a niwed tymor hir i hygrededd y DU yn y dyfodol fel un o wladwriaethau mwyaf blaenllaw y byd. Ac mae hynny'n edrych yn debygol iawn o barhau. Oherwydd er y croesewir yr estyniad i Erthygl 50, mae hefyd yn golygu peryglon sylweddol. Mae'n demtasiwn i gytuno â Guy Verhofstadt, Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop, bod chwe mis yn

rhy agos i ailfeddwl yn sylweddol ynghylch Brexit ac ar yr un pryd yn rhy bell i annog unrhyw weithredu.

Mae'r hollt yn y blaid Dorïaidd yn troi'n agendor, gyda'r Prif Weinidog yn ei swydd ond heb fod mewn grym. Mae dadrithiad ac anfodlonrwydd â gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn cynyddu, gyda mwy na hanner y boblogaeth, yn ôl pob golwg, yn dymuno cael arweinydd cryf sy'n torri'r rheolau, a bron i dri chwarter yn credu bod angen diwygio ein system ddemocrataidd yn sylweddol.

Mae perygl gwirioneddol, yn hytrach na gwneud cynnydd pendant, y caiff y chwe mis ei dreulio ar ddadlau ymysg y Torïaid, rhagor o barlys Seneddol ac etholiad Ewropeaidd, a fydd, er bod gan Lafur Cymru bob rheswm i fod yn hyderus yn ei gylch, yn chwerw a chynhennus. Mae'n fwy na mis eisoes ers 29 Mawrth. Cyn inni sylweddoli hynny, bydd hi'n fis Medi ac ni fyddwn ni ymhellach ymlaen ac yn wynebu dibyn newydd—ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd.

Mae'r hyn sydd ei angen arnom ni yn glir: cynnydd gwirioneddol ar y negodiadau trawsbleidiol, neu gydnabyddiaeth gyflym nad yw'r Llywodraeth yn barod i symud yn ddigonol i ennill cefnogaeth y gwrthbleidiau, ac, yn gyfochrog, negodiadau difrifol, ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig i lunio cytundeb derbyniol; os nad oes cytundeb, un cyfle pellach i'r Senedd ganfod mwyafrif ar gyfer ffordd ymlaen; a pharatoadau ar gyfer refferendwm posibl, gan gynnwys deddfwriaeth ddrafft a'r camau eraill sy'n ofynnol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i bwyso ar Lywodraeth y DU a'r wrthblaid i gymryd y camau hollbwysig hyn.

15:05

Diolch i'r Gweinidog Brexit am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad, er bod yn rhaid imi ddweud, unwaith eto, nad oedd yn ddim ond ailbobiad o ddatganiadau blaenorol y mae wedi eu gwneud—nid oedd dim byd newydd o gwbl yn y datganiad hwnnw yn ychwanegol at y pethau a ddywedodd o'r blaen.

Rwy'n credu ei bod hi braidd yn rhyfedd fod y Gweinidog Brexit a Llywodraeth Cymru yn arddel safbwynt sy'n beirniadu Prif Weinidog y DU am geisio can pen y mwdwl ar faterion drwy geisio cytundeb ar gyfer ei chytundeb ymadael pan rydych chi mewn sefyllfa, a'ch plaid mewn sefyllfa yn San Steffan, i gefnogi'r cytundeb ymadael a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd fel y gallwn ni fynd ati i drafod y berthynas â'r UE yn y dyfodol.

Felly, a ydych chi'n derbyn fod y Blaid Lafur yn San Steffan yn rhwystr rhag rhoi terfyn ar yr ansicrwydd hwn, oherwydd y gallu sydd ganddi i gefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog? Rydych chi wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o afradu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Onid dyna'r peth cyfrifol i'w wneud—i baratoi ar gyfer pob posibilrwydd? Gallech feirniadu eich Llywodraeth eich hun yn hawdd am wneud paratoadau tebyg, ac eto, wrth gwrs, ni fyddech chi'n meiddio, oherwydd y gwir amdani yw bod yn rhaid ichi baratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn oherwydd nid yw hi yn ein dwylo ni—nid yw hi yn nwylo un ochr, wrth drafod a negodi, i benderfynu beth allai'r canlyniad fod mewn gwirionedd.

Nawr, fe wyddoch chi'n iawn fod yr UE wedi'i gwneud hi'n gwbl glir mai'r cytundeb ymadael yw'r unig gytundeb posib. Rydych chi'n dweud wrth Brif Weinidog a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fynd ymaith a chyfaddawdu ac eto nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gennych. Nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt, a nodwyd ganddi yn sgil canlyniad refferendwm yr UE. Wyddoch chi, dim cyfaddawdu o gwbl—rydych chi'n dal i ganu'r un hen dôn gron ag yr oeddech chi'n ei chanu bron i dair blynedd yn ôl pan gafwyd canlyniad y refferendwm mewn gwirionedd. Nawr, fe wyddoch chi nad oes mwyafrif i'ch cynigion yn Nhŷ'r Cyffredin chwaith, a dweud y gwir. Maen nhw hefyd wedi cael eu gwrthod, y cynigion y mae eich plaid wedi'u cyflwyno. Felly, rhowch ddiwedd ar feirniadu'r Prif Weinidog. Dechreuwch gydweithio a cheisio rhoi diwedd ar yr ansicrwydd hwn. A'r un ffordd y gallwn ni i gyd wneud hynny—yr un ffordd y gallwn ni roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn yw cefnogi'r cytundeb ymadael hwnnw. 

Nawr, rwyf eisiau gofyn ichi, o ran y feirniadaeth hefyd o'r anfodlonrwydd yn y Blaid Geidwadol—wrth gwrs, mae rhaniad ym mhob plaid, gan gynnwys eich un chi. Mae hyd yn oed rhaniad ychydig seddau o'ch blaen ar y rhes flaen honno. Mae gennych chi rywun sy'n arddel barn wahanol i farn cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth. Nid wyf yn eich clywed yn beirniadu eich ochr chi eich hun am y rhaniadau hynny. Rydym ni wedi gweld rhaniadau hyd yn oed yn eich llenyddiaeth ar gyfer etholiadau'r UE, pe bai'n rhaid i ni, yn anffodus, eu cael, yn ystod yr wythnosau diwethaf dros y toriad. Felly, rwy'n credu bod bwrw'r bai a cheisio tynnu sylw at rai o'r anawsterau o ran sicrhau cytundeb o fewn pleidiau—y dylech chi gael golwg yn y drych ar adegau, Gweinidog, a dweud y gwir, i weld yr anghysonderau hynny yn eich plaid eich hun. Rydych chi'n dweud bod gennych chi lawer o ffydd ynghylch yr etholiadau Ewropeaidd. Rwy'n credu bod llawer o hynny'n gwbl gyfeiliornus, gan ein bod, wrth gwrs, wedi gweld y problemau, fel yr wyf i newydd dynnu sylw atyn nhw, yn barod.

Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at nifer o wahanol ddewisiadau—pethau y credwch chi fod angen eu gwneud. Rydych chi o'r farn y byddai'n ddefnyddiol paratoi ar gyfer refferendwm posib er nad oedd hi'n glir yn eich araith yn y gynhadledd yn ddiweddar pa un a oeddech chi'n teimlo y dylem ni gael un ar ôl inni ymadael â'r UE, cyn inni ymadael â'r UE, neu beth fyddai eich safbwynt yn bennaf ar y cwestiynau y gellid eu gofyn yn y refferendwm hwnnw. A ydych chi'n derbyn y byddai cynnal refferendwm arall cyn gweithredu canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 yn sarhad ar ddemocratiaeth, y byddai'n sarhad ar y prosesau democrataidd y mae'r wlad hon wedi eu dilyn bob amser ac y byddai'n sarhad ar y cyfansoddiad? Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni bob amser, fel gwlad, wedi gweithredu canlyniadau refferenda ni waeth a yw'r sefydliad gwleidyddol bob amser wedi bod yn fodlon ar ganlyniad y refferenda hynny. Ac yn gwbl briodol hefyd. Felly, a ydych chi'n credu ei bod hi'n ddoeth peidio â gweithredu canlyniad y refferendwm hwnnw pan roedd hi'n amlwg iawn bod Cymru, ac yn enwedig eich etholaeth chi, wedi pleidleisio i adael yr UE?

15:10

Wel, dechreuaf drwy ddweud fy mod i yn gresynu at ddiffyg croeso'r aelod i'r cyfle i'r Siambr hon barhau i drafod sut y bydd y pwnc unigol mwyaf y mae unrhyw un ohonom yn ei wynebu, gan gynnwys ei etholwyr ei hun, yn effeithio ar Gymru. Credaf ei bod hi'n bwysig bod y fforwm hwn, y Siambr hon, yn gallu mynegi barn am y sefyllfa sy'n datblygu yn y Senedd, yn Ewrop ac yng Nghymru o ran y mater hollbwysig hwn, a byddwn yn croesawu pe byddai'n cymryd rhan yn y ddadl â'r ysbryd hwnnw.

Mae'n sôn bod fy mhlaid i'n faen tramgwydd yn San Steffan. Y gwir amdani yw y gallai'r Prif Weinidog fod wedi osgoi'r sefyllfa yr ydym ni ynddi a gallai fod wedi osgoi'r sarhad i ddemocratiaeth y cyfeiriodd ato'n anuniongyrchol yn ei sylwadau diwethaf pe bai hi wedi gwneud yr hyn y mynnodd arweinyddiaeth genedlaethol y dylai ei wneud a pheidio â cheisio tawelu'r carfanau sy'n cystadlu yn ei phlaid ei hun, ond ceisio ymestyn ar draws Tŷ'r Cyffredin ac ar draws y wlad, mewn gwirionedd, er mwyn ceisio canfod, er mor anodd y byddai, ffurf ar gonsensws yn deillio o ganlyniad refferendwm 2016. Dyna'r dasg a oedd o'i blaen. Cyfrifoldeb arweinyddiaeth genedlaethol oedd hynny, ac mae hi wedi methu â gwneud hynny, ac mae ei sylwadau yntau yn methu â chydnabod hynny. Fe wnaeth hi edrych tuag at i mewn yn hytrach nag edrych tuag allan ar adeg pan mai dyna oedd yr her o'i blaen. Mae'n sôn am gyfaddawdu: rydym ni wedi bod yn gwbl glir ar y meinciau hyn mai'r dasg i'r Llywodraeth a'r wrthblaid yw dechrau ar y trafodaethau hynny gan geisio canfod cytundeb ac y bydd hynny'n gofyn am gyfaddawd. Rydym ni wedi bod yn glir yma ers dros ddwy flynedd a hanner yn y papur y gwnaethom ni ei lunio ar y cyd â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru ', o'r math o drefniant y byddem yn ei weld fel un sy'n gwarchod buddiannau Cymru yn dilyn Brexit. Rydym ni wedi bod yn gwbl glir bod yn rhaid i'r pethau hynny fod yn rhan annatod o'r trafodaethau hynny ond mae'n rhaid caniatáu i'r trafodaethau barhau i geisio dod o hyd, fel y dywedais yn fy natganiad, i ganlyniad i'r drafodaeth hon, a hynny mewn modd cyflawn, cyfrifol a chreadigol. Ac rwyf yn gwrthod yn llwyr ei farn nad yw safbwynt Tŷ'r Cyffredin wedi newid yn hyn o beth. Y rheswm nad ydym ni ond yn darganfod yn awr beth yw barn Tŷ'r Cyffredin ar y materion hyn yw bod y Prif Weinidog wedi eu hatal yn gyson rhag cael dadl ar hyn mewn fforwm democrataidd drwy osod cyfyngiadau arnyn nhw a olygai mai dim ond ei chytundeb hi—nad oedd byth yn dderbyniol i Dŷ'r Cyffredin a phrin yn dderbyniol i'r rhan fwyaf o'i phlaid—oedd i'w drafod yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydym ni bellach ar yr unfed awr ar ddeg yn ymdrin â hyn pan ddylem ni fod wedi bod yn ymdrin ag ef ym mis Mehefin 2016, a'i methiant hi i fynd i'r afael â hynny yn yr ysbryd priodol ym mis Mehefin 2016 sy'n ein rhoi ni yn y sefyllfa hon

Gofynnodd am y gwastraffu arian, ac rwyf yn cydnabod bod arian wedi'i wario yn yr holl Lywodraethau ym mhob rhan o'r DU, ond pwy sy'n rheoli'r penderfyniad hwnnw? Y Prif Weinidog, ac, mewn gwirionedd, mae hi wedi negodi mewn ffordd a oedd yn caniatáu i 'ddim cytundeb' barhau i fod yn bosibilrwydd, gan beidio, yn anghyfrifol, â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw dros y tair blynedd diwethaf. Ei bai hi yw hynny, nid bai'r Llywodraeth hon. Ac er mor falch yr wyf i o glywed bod yr Aelod wedi gwrando ar fy araith a wnes yn y gynhadledd, efallai pe byddai wedi gwrando ychydig yn fwy—[Torri ar draws.] Efallai pe byddai wedi gwrando ychydig yn fwy astud y byddai wedi clywed yr ateb i rai o'r cwestiynau y mae wedi eu holi heddiw.

15:15

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Dechreuaf gyda materion yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw. Fe hoffwn i ategu eich geiriau o ddiolch i staff Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus sydd wedi bod yn gweithio mor ddiwyd i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd trychinebus o Brexit heb gytundeb. Gwerthfawrogir eu gwaith caled. Cytunaf â chi hefyd ei bod hi'n gywilyddus bod adnoddau'n cael eu gwastraffu ar baratoi ar gyfer digwyddiad a ddylai fod wedi cael ei ddiystyru o'r cychwyn. Mae'n arbennig o anodd meddwl sut y gellid bod wedi gwario'r arian hwn fel arall, o gofio bod ein gwasanaethau cyhoeddus o dan y fath bwysau ariannol o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth Prydain.

Mae gweithredoedd Prif Weinidog y DU yn hyn o beth yn gwbl warthus, gan afradu arian er mwyn tawelu'r eithafwyr yn ei phlaid ei hun—arian y gellid bod wedi ei wario fel arall ar y GIG, ar ysgolion, ar wella seilwaith, ar wella bywydau pobl. Mae'n dangos nad yw lles dinasyddion Cymru yn golygu dim i'r wladwriaeth Brydeinig esgeulus ac mai'r unig ffordd o sicrhau ein dyfodol ein hunain yw drwy ei roi yn ein dwylo ein hunain fel gwlad annibynnol. Nid yw San Steffan yn gwneud unrhyw gymwynas â'i hun ar hyn o bryd.

Ond, Gweinidog, fe hoffwn i droi at eich beirniadaeth o hyd estyniad Erthygl 50 fel un nad yw'n ddigon byr i orfodi canlyniad nac yn ddigon hir i ailfeddwl am yr ymgais ffaeledig. Gofynnais ichi ar 30 Mawrth pa mor hir y credech chi y dylai'r estyniad fod, ond fe wnaethoch chi ddewis peidio ag Fcyhydateb fy nghwestiwn. Bryd hynny, roeddech chi'n dibynnu ar amwysedd strategol yn hytrach na datgan barn, ac mae'n eironig eich bod bellach yn feirniadol o eraill am wneud yr un peth. Roedd Plaid Cymru yn glir y dylai'r estyniad fod yn un hir, hyd at ddiwedd 2020, i roi amser a modd i ymdrin â Brexit yn briodol. A ydych chi'n edifar, felly, am beidio â chefnogi ein galwad yn hyn o beth?

Hoffwn hefyd ofyn i chi am rywfaint o eglurder o ran eich honiad eich bod yn rhoi pwysau ar y gwrthbleidiau, hynny yw, eich plaid eich hun, i sicrhau cynnydd gwirioneddol mewn trafodaethau trawsbleidiol. A yw hyn yn golygu bod blaenoriaethau negodi Llywodraeth Cymru yn wahanol mewn rhyw ffordd i rai Jeremy Corbyn, ac, os felly, a allech chi roi manylion i'r Siambr hon o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano'n benodol?

Rydych chi hefyd yn dweud eich bod yn pwyso am drafodaeth gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Rwyf yn croesawu hyn, ac rwy'n gobeithio eich bod yn llwyddo i sicrhau'r cyd-drafodaethau ystyrlon cyfochrog yr ydych chi wedi'u crybwyll. Wrth gwrs, mewn realiti cyfochrog, byddai'r Blaid Lafur wedi gwneud safiad egwyddorol o ran Brexit a byddai ganddi bolisi clir ynglŷn â chynnal pleidlais gyhoeddus fel bod unrhyw gytundeb yn mynd yn ôl at y bobl i benderfynu a ddylid ei dderbyn neu aros yn yr UE. Yn hytrach, mae gennym ni bolisi annealladwy sy'n ddryslyd ar y naw. Pan ofynnwyd iddo gan newyddiadurwyr y BBC heddiw sut y byddai'n pleidleisio ar y mater ym Mhwyllgor Gweithredu Lleol Llafur, rhoddodd cynrychiolydd Llafur Cymru, Mick Antoniw, ateb a lwyddodd i wneud dim ond creu mwy fyth o ddryswch. Dywedodd ei fod o blaid dilysu unrhyw gytundeb Brexit drwy bleidlais, ond na ddylai hyn fod ar ffurf refferendwm, gan fod refferenda yn rhoi amrywiaeth o ddewisiadau, yn hytrach na bod pobl yn cael dewis syml o dderbyn neu wrthod cytundeb nad yw'n bodoli. Os mai'r diffiniad o refferendwm yw 'dewis rhwng ystod o ddewisiadau', yna nid wyf yn siŵr beth yn union ddigwyddodd ar 23 Mehefin 2016. Yr hyn yr oedd yn ei ddweud am wn i oedd bod y polisi wedi ymffurfio bellach i gefnogi refferendwm mewn gwirionedd—heb ei alw'n hynny—ar yr amod nad yw aros yn ddewis ar y papur pleidleisio. Efallai fy mod i wedi ei gamddeall, felly dyfynnaf ei ymateb. Dywedodd gall refferendwm roi nifer o ddewisiadau i chi. Mewn gwirionedd, fe allech chi ofyn y cwestiwn allweddol, sef a ydym ni eisiau aros yn yr UE ai peidio; gallai dilysu olygu dweud mewn gwirionedd, "Dyma'r cytundeb sydd gennym ni. A ydych chi'n barod i dderbyn y cytundeb hwn a'r trafodaethau hyn?" Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau felly a yw Mick Antoniw yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor hwnnw, neu a yw safiad Llafur Cymru rywsut yn wahanol i safbwynt y Llywodraeth? Nid wyf yn siŵr a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cael pleidlais gadarnhau ar unrhyw gytundeb neu dim ond ar gytundeb nad yw'n cytuno ag ef. Os felly, beth yw'r cyfiawnhad democrataidd dros y safiad hwn?

Yn olaf, croesawaf eich galwad ar i Lywodraeth y DU ddechrau paratoi ar gyfer refferendwm, er nad yw hi'n glir ar hyn o bryd a ydych chi'n dymuno i'r refferendwm hwn ddigwydd mewn gwirionedd ai peidio. Cytunodd y Cynulliad ar 13 Ionawr y dylai gwaith ddechrau ar unwaith i baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus. A allwch chi amlinellu beth mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn hyn o beth, naill ai o ran camau gweithredol neu wrth ddadlau'r achos i Lywodraeth y DU neu'r wrthblaid?

15:20

Diolch i'r Aelod am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf yn croesawu ei sylwadau agoriadol, a oedd yn diolch i weision sifil ac i bobl ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru am yr holl waith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Bydd hynny wedi cael derbyniad da iawn gan y rhai sydd wedi bod yn gweithio mor galed dros y cyfnod hwnnw. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r modd y mae hi'n dal sylw yn ei chwestiwn ar y berthynas rhwng Brexit a'r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb yn arbennig a phwysau cyni. Mae'r ddwy her hynny, rwy'n credu, yn rhoi pwysau arbennig o drwm ar bob rhan o'r Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, y trydydd sector a'r sector preifat hefyd, felly rwy'n croesawu'r sylw yna.

O ran y cwestiwn ynghylch hyd, roeddwn i mewn gwirionedd yn dyfynnu sylw Guy Verhofstadt ynglŷn â'r hyd. Bydd hi'n gwybod ein bod ni wedi nodi, yn ein barn ni, fod ailnegodi’r datganiad gwleidyddol i adlewyrchu'r math o egwyddorion a osododd ei phlaid hi a minnau ar y cyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn rhywbeth y gellid ei wneud mewn amser cymharol fyr pryd na fyddai angen estyniad mor hir â hynny—y math o estyniad a roddwyd bellach gan y Cyngor Ewropeaidd. Ond mae'n amlwg, yn yr un modd, bod bodolaeth yr estyniad hwnnw yn adlewyrchu, rwy'n credu, ar eu rhan nhw, ymdeimlad o flinder o ran parhau i drin a thrafod ac, fel y bydden nhw'n ei ddisgrifio efallai, y tynnu sylw oddi ar y materion a'r blaenoriaethau eraill a fydd yn anochel gan ein cydweithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, ar ôl darparu'r estyniad sylweddol hwnnw, y sylw a wneuthum i oedd dweud yn syml fod angen inni barhau i bwyso i sicrhau bod y trafodaethau sydd ar y gweill yn ystyrlon ac nad ydyn nhw'n gweld y cyfnod hwnnw yn gyfnod o ddychwelyd i'r status quo ac efallai i ymdeimlad nad oes angen i ni ymgysylltu. Byddai hynny'n ddehongliad anghywir o'r cyfnod hwnnw o amser, o'r estyniad hwnnw.

O ran y trafodaethau a gawsom ni gyda'r fainc flaen, yn amlwg, trafodaethau o fewn y blaid yw'r rheini, ond mae'n gwbl glir bod y rheini'n adlewyrchu'r egwyddorion a arddelwyd gennym ni yn gyhoeddus yma, ac, eto, fel y dywedaf, ar y cyd â'i phlaid yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', er mwyn cysoni hawliau mewn modd deinamig, cael perthynas agos â'r farchnad sengl ac aelodaeth o undeb tollau, ymysg pethau eraill. A bydd hi'n gyfarwydd, rwy'n gwybod, â'r blaenoriaethau yr ydym ni wedi'u gosod ar y cyd. Rwyf wedi bod yn glir ac rwyf wedi defnyddio ieithwedd statudol a fyddai'n ei gwneud hi'n bosib cynnal trafodaethau cyfochrog â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch datblygu'r trafodaethau ar y datganiad gwleidyddol. Rwy'n gwybod fod hynny'n uchelgais gan Lywodraeth yr Alban hefyd, na fydd yn syndod ganddi glywed. Ac, wedi ysgrifennu at David Lidington ar yr union bwynt hwnnw, fe wnes i hefyd holi eto ynghylch hynny mewn sgwrs gydag ef efallai bythefnos yn ôl i ddweud eto pa mor bwysig oedd hi i hynny barhau. Rwy'n croesawu'r sylw parhaus y mae'r Aelod yn ei roi ynghylch y mater hwn. Credaf, o ran paratoadau yn arbennig, ei sylw terfynol, i fod yn glir—rwy'n credu fy mod i wedi dweud hyn yn gyhoeddus o'r blaen—rydym ni wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth y DU, sy'n bennaf gyfrifol am hyn, a'r Comisiwn Etholiadol, yn gweithredu. Codais hynny eto gyda David Lidington yn yr un sgwrs dim ond dwy neu dair wythnos yn ôl. A gwn hefyd fod Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn iddi ystyried beth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer hynny. Ond bydd yn clywed o'm datganiad y sail statudol ar gyfer y rhan fwyaf o'r camau hynny, a San Steffan sy'n bennaf gyfrifol am y camau hynny.

15:25

Wel, nid oedd unrhyw beth newydd yn y datganiad heddiw, ond rwy'n dal i groesawu'r cyfle i gael dadl ar y mater hwn, gan ei fod yn tynnu sylw at ffolineb llwyr safbwynt y Blaid Lafur ar y cytundeb y mae arni ei eisiau gyda'r UE, wedi'i chrynhoi mewn un frawddeg yn y datganiad, sy'n dweud eu bod eisiau

cyfaddawd sydd angen cynnwys ymrwymiad o leiaf i Undeb Tollau parhaol yn ychwanegol at ac yn arddel ymrwymiadau Chequers o ran cyfliniad rheoleiddiol.

Wel, am sefyllfa hurt yw hynny. Byddwn yn parhau'n ddarostyngedig i benderfyniadau a wneir gan yr UE, ond lle nad ydym ni wedi cael unrhyw fodd i gymryd rhan ac nad ydym mi wedi cael pleidlais arnyn nhw. Mae'r Comisiwn—. Mae gennym ni ar hyn o bryd un Comisiynydd o 28. Cyngor y Gweinidogion—. Mae gennym ni 8.5 y cant o'r pleidleisiau ar benderfyniadau pleidleisio mwyafrifol amodol ac mae gennym ni oddeutu 10 y cant o'r seddi yn Senedd Ewrop. Petaem ni'n gadael yr UE ar y math o drefniadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u hamlinellu heddiw, ni fyddai gennym ni bleidleisiau o gwbl ar unrhyw un o'r penderfyniadau hynny, ac eto byddem yn ddarostyngedig i ba benderfyniadau bynnag y byddai'r UE yn eu gwneud. Nid yw hynny, beth bynnag ydyw, yn Brexit. Ac mae hyn, rwy'n credu, yn tynnu sylw at ragrith sylfaenol safbwynt y Blaid Lafur, gan eu bod yn honni eu bod eisiau parchu canlyniad y refferendwm pan fo nhw ar y llaw arall yn ymrwymo i bolisi sydd mewn gwirionedd yn creu'r gwrthwyneb llwyr i adael yr UE ac eithrio yn y sefyllfa hyd yn oed yn fwy niweidiol lle na allwn ni ddylanwadu o gwbl ar benderfyniadau y mae gennym ni ar hyn o bryd o leiaf rhan fach i'w chwarae ynddyn nhw.

A gadewch i ni fod yn gwbl sicr na fyddai gan yr UE unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn gwneud penderfyniadau a fyddai o fudd i ni ac yn wir, yn aml iawn, byddai ganddi bob diddordeb mewn gwneud y gwrthwyneb er mwyn ffafrio eu haelod-wladwriaethau eu hunain dros fuddiannau Prydain. Byddem ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa waeth na mae Twrci ynddi ar hyn o bryd, ond o leiaf mae Twrci'n barod i dderbyn y cywilydd hwnnw gan fod awydd arni, yn ddamcaniaethol o leiaf, bod yn aelod o'r UE, ond byddem ni i'r gwrthwyneb; byddem ar fin gadael, felly pam ar y ddaear y byddem ni eisiau gwneud yr ymrwymiadau hynny pan fyddem ni yn gyfreithiol y tu allan i'r UE? Mae'n mynd at wraidd yr hyn y dylai gadael yr UE i gyd fod yn ymwneud ag ef—adfer rheolaeth, gwneud penderfyniadau drosom ni ein hunain, gwneud ein deddfau ein hunain a chael pobl Prydain, yn y pen draw, fel y corff sofran sy'n pennu'r ffordd y mae Llywodraethau'n ymddwyn. Oherwydd bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir beth yw ystyr yr undeb tollau. Mae'n ymwneud â system o reolau cyffredin—rwy'n dyfynnu o un o'u dogfennau—sy'n mynd y tu hwnt i:  

yr Undeb tollau fel y cyfryw—gyda'i dariff cyffredin—ac sy'n ymestyn i bob agwedd ar bolisi masnach, megis masnach ffafriol, rheolaethau iechyd ac amgylcheddol, y polisïau amaethyddol a physgodfeydd cyffredin, diogelu ein buddiannau economaidd drwy gael offerynnau di-dariff a mesurau polisi cysylltiadau allanol.

Mae hynny'n bopeth sydd wrth wraidd masnach a byddem yn ildio hynny i gyd o dan gynigion y Blaid Lafur. Mewn gwirionedd, byddem yn wladwriaeth gaeth, fel y mae Boris Johnson wedi ei ddweud o'r blaen. Ac fel y dywedodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr, mae dadleuon o blaid aros yn yr UE ac mae dadleuon o blaid gadael yr UE, ond nid oes achos o gwbl dros roi'r gorau i'r buddion o aros heb gael y manteision o adael. A dyna'n union fyddai polisi Llafur yn ei olygu.

Ac onid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi bod y tariff tollau y mae eisiau inni ymrwymo ein hunain iddo am byth yn dreth ar y tlodion mewn gwirionedd, yn dreth ar bobl sy'n gweithio? Mae treth o 15 y cant ar ddillad ac esgidiau sy'n cael eu mewnforio, er enghraifft, treth o 11.5 y cant ar goffi, treth o 17 y cant ar orennau, na allwn ni eu tyfu yn y wlad hon yn unman, mwy nag y gallwn ni dyfu coffi. Ac mae llawer o dariffau di-synnwyr hefyd. Mae tariff o 1.7 y cant ar gleddyfau, cytlasau, bidogau, gwaywffyn a gweiniau; treth o 15 y cant ar feiciau un olwyn. Nawr, wn i ddim faint o fygythiad yw mewnforio beiciau un olwyn i'r diwydiant gwneud beiciau ym Mhrydain, ond ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros hynny o gwbl. Mae treth o 4.7 y cant hyd yn oed ar ymbarelau gyda choesau telesgopig. Mae 12,160 o'r beichiau hurt hyn ar bobl sy'n gweithio. Ond hefyd, wrth gwrs, mewn sawl ffordd arall, ceir trethi ar fwyd ac angenrheidiau eraill bywyd—Treth Ar Werth o 5 y cant ar danwydd gwres canolog, er enghraifft. Mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n mynd i daro'r tlotaf galetaf, a dyna mae'r Blaid Lafur yn ymrwymo ei hun iddo.

Felly, rwyf yn cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ar un ystyr: mai trychineb y sefyllfa yr ydym ni wedi'i chyrraedd yn awr—a dywedodd hyn wrth ateb llefarydd y Ceidwadwyr—yw nad yw Theresa May wedi gwneud unrhyw baratoadau o gwbl ar gyfer ymdopi â'r dryswch a fyddai yn anochel yn dod yn sgil trefniant o ymadael heb gytundeb. Dylem ni fod wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn llunio, yn fras, ein cytundebau masnach â gweddill y byd. Nid ydym ni hyd yn oed wedi dechrau'r broses honno. A hefyd fe ddylem ni fod wedi dechrau ar y broses o sefydlu'r seilwaith technegol ar gyfer sut i ymdopi â llif masnach ar draws ffiniau'r Deyrnas Unedig, gyda chyfundrefn dariff os byddai un yn cael ei gosod. Ond hefyd—a fy mhwynt olaf yw hyn—rhan annatod o'r hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei gynnig yw polisi mewnfudo agored parhaol, i bob pwrpas, gan fod hynny hefyd yn rhan hanfodol o'r pedwar rhyddid y mae'r farchnad sengl yn ei olygu.

15:30

Ac rydym ni'n gorffen lle, dybiwn i, y byddai wedi bod yn well gan yr aelod ddechrau. Rwy'n falch ei fod yn croesawu'r cyfle i drafod y mater yn y Siambr. Mae'n sôn am golli dylanwad democrataidd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n sicr yn wir. Ond os caf y dewis rhwng y math o Brexit caled y mae'n amlwg yn ei ffafrio a'r math o Brexit yr wyf i wedi bod yn ei ddisgrifio, sydd, er ei fod yn dod ar draul dylanwad gwleidyddol uniongyrchol, yn gwneud yr hyn a all, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, i ddiogelu swyddi a bywoliaeth pobl Cymru—byddwn ni ar y meinciau hyn bob amser yn dewis yr ail ddewis hwnnw.

Mae ei elyniaeth at undeb tollau wedi'i briodoli i'r dewis amgen cadarnhaol o bolisi masnachu llewyrchus yn y DU, llunio cytundebau masnach rydd gogoneddus gyda chenhedloedd diolchgar ledled y byd sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio gan ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Addawyd 40 o gytundebau masnach inni erbyn y dyddiad ymadael. Rydym ni bellach wedi cyrraedd 29 Ebrill, ac mae gennym ni wyth cytundeb o gydnabyddiaeth ddwyochrog, ac nid oes yr un ohonyn nhw—heblaw am un—yn gwneud unrhyw gyfraniad o bwys i allforion o Gymru, gan beryglu nid dim ond y 60 y cant o allforion Cymru a aiff i'r Undeb Ewropeaidd, ond y 10 y cant o allforion Cymru sy'n mynd i wledydd y lluniwyd y cytundebau masnach hynny gyda nhw. Mae'n mynd yn ôl i ryw orffennol dychmygol pan oedd gennym ni allu rhagorol i negodi cytundeb masnach annibynnol, nad yw'n adlewyrchiad o wirioneddau gwleidyddol y Deyrnas Unedig ers degawdau, efallai ers canrif a mwy hyd yn oed. Ac mae'n ffolineb peryglus i ddarbwyllo pobl, neu geisio darbwyllo pobl, bod hynny'n ddyfodol amgen cyfrifol i'w ddisgrifio iddynt.

Mae'n gorffen drwy sôn am yr effaith ar y tlodion. Wel, y cyfan yr wyf i yn ei ddweud wrtho yw y bydd y math o Brexit y mae'n ei ffafrio, ar unrhyw gyfrif, yn arwain at economi yng Nghymru sydd rhwng 8 y cant a 10 y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Ac nid rhif ar graff yn unig mo hynny, nid ystadegyn yn unig ydyw, nid cyfrifiad mathemategol yn unig ydyw—mae'n golygu swyddi, mae'n golygu bywoliaeth pobl, mae'n golygu safonau byw, mae'n golygu cymunedau, mae'n golygu sefydliadau, ledled Cymru. Byddwn bob amser yn sefyll dros y bobl hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog dros Brexit—am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i hefyd ategu Delyth Jewell a chefnogi'r sylwadau am waith caled ac ymroddiad y gweision cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn, ac sydd wedi bod yn gweithio arno ers misoedd lawer? Rydych chi wedi nodi'n glir yn eich datganiad y llanast yr ydym ni'n ei weld yn sgil methiant Prif Weinidog presennol y DU i arwain y ffordd. Y prynhawn yma, rydym ni wedi clywed y Ceidwadwyr yn ceisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn, ac rydym ni wedi clywed UKIP yn ceisio gwadu'r dystiolaeth economaidd sydd wedi ei chyflwyno o ran effaith Brexit ar Gymru, yn enwedig 'dim cytundeb' a rheolau Sefydliad Masnach y Byd, a fyddai'n niweidio economi Cymru yn ddifrifol.

Ond fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar rai pethau o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, ac rydym ni i gyd yn gwybod mai'r unig beth mewn difrif sydd wedi newid yn wirioneddol ers i ni gyfarfod ddiwethaf yw'r ffaith bod y dyddiad gadael bellach wedi ei ymestyn tan Calan Gaeaf, o bob noson. Ond rydym ni'n dal mewn cyfyngder, oherwydd mae'r Prif Weinidog wedi methu ag argyhoeddi ei phlaid fod ei chytundeb yn deilwng o gael ei gefnogi. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pam: gan nad yw mewn gwirionedd yn dda i'r wlad, ac mae angen iddi hi ddechrau newid ei safbwyntiau. Nid yw hi wedi cyfaddawdu o gwbl. Mae ei safbwyntiau yn dal yr un fath ag yr oedden nhw 12 mis yn ôl, ac rwy'n credu mai dyna'r rheswm pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Does dim dwywaith am hynny.

Mae ambell gwestiwn yr wyf i eisiau eu gofyn, efallai y tu hwnt i'r trafodaethau, ond sy'n ganlyniad i'r trafodaethau hynny ac sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys, efallai, eich trafodaethau gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynglŷn â rhai o'r pethau hyn. Beth yw'r sefyllfa o ran cael Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar fasnach ryngwladol fel y gall Llywodraeth Cymru gael llais yn y cytundebau masnachu yn y dyfodol? Oherwydd mae hi'n bwysig, wrth inni gamu i'r dyfodol, fod gennym ni bellach ychydig o amser ychwanegol i wneud rhywfaint o waith i gael fforwm sy'n gweithio dros Gymru, ac nid un sy'n gweithio dim ond i'r blaid Dorïaidd yn Llundain.  

A gaf i hefyd edrych ar rai o'r pethau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud ynglŷn â chymorth gwladwriaethol? Rwy'n deall fod rheoliad yn cael ei gyflwyno a fyddai'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol o ran cymorth gwladwriaethol. Mae honiad ei fod yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg bod gennym ni lais pwysig iawn o ran goblygiadau defnyddio cymorth gwladwriaethol. Bu sôn hefyd am ei newid i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Ond ble mae'r gynrychiolaeth Gymreig ar hynny? Ble mae cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru? Ar awdurdodau cyhoeddus eraill—. Fe gawsom ni ddadl ar y Bil Masnach ynghylch cynrychiolaeth o Gymru neu enwebiad o Gymru i'r awdurdod atebion masnachol. Beth am gyrff eraill, megis y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo? Ble mae'r trafodaethau'n mynd rhagddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn lle mae'n rhaid inni sicrhau bod llais Llywodraeth Cymru yn cael ei glywed mewn gwirionedd yn y cyrff hyn sy'n gwneud penderfyniadau pwysig?

Hefyd, mae'r cyd-bwyllgor craffu, sy'n rhan o'r cytundeb ymadael—a yw'r gwledydd datganoledig yn mynd i gael eu cynnwys o gwbl yn y broses hon lle bydd y cyd-bwyllgor yn craffu ar bethau? A ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto? A yw Llywodraeth y DU yn symud i'r cyfeiriad hwnnw? A ydyn nhw'n cydnabod bod datganoli'n bodoli, ac y dylem ni mewn gwirionedd gael llais yn rhai o'r cyrff hyn, yn enwedig y cyd-bwyllgor craffu hwn, a fydd yn goruchwylio'r cyfnod pontio, os oes un?  

Gweinidog, dim ond yr wythnos hon rydym ni wedi gweld ansicrwydd y traed moch ynghylch ffioedd myfyrwyr, lle mae'n amlwg ei bod hi'n bosib y bydd hi'n ofynnol yn awr i fyfyrwyr yr UE dalu ffioedd llawn—ffioedd tramor llawn, a gaf i ychwanegu—sy'n mynd i fod yn faen tramgwydd i bobl ddod yma ac mae'n mynd i effeithio ar sefydliadau addysg uwch Cymru—maes datganoledig. Mae'n mynd i effeithio ar gydweithrediad ymchwil Addysg Uwch Cymru—maes sydd wedi'i ddatganoli. Felly, a ydych chi'n cael trafodaethau ar y materion hynny?

Nid ydych chi wedi sôn llawer yn eich datganiad am y paratoadau ar gyfer ymadael heb gytundeb, heblaw ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ydych chi wedi dysgu gwersi o hynny? Rydym ni wedi pasio 12 Ebrill. Rydym ni wedi mynd y tu hwnt i hynny nawr. Rydym ni'n gwybod mai Calan Gaeaf yw ein dyddiad terfynol nesaf. Ydych chi wedi dysgu gwersi? Neu a ydych chi'n cynnal adolygiad i sicrhau y gall y gwersi a ddysgwyd o ran y paratoadau 'dim cytundeb' hyd at 12 Ebrill gael eu rhoi ar waith os bydd yn rhaid inni—oherwydd efallai y byddwn ni'n dal yn y sefyllfa honno ar 31 Hydref—edrych ar sefyllfa o 'ddim cytundeb'? Ydych chi'n dysgu gwersi? Faint o'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud hyd yma y mae modd ei drosglwyddo i fis Hydref?

Nawr, fe wyddom ni am y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi prynu neu brydlesu warws. A fydd hynny'n parhau tan 31 Hydref? Beth yw'r sefyllfa? Ble mae'r stoc y bydd angen inni ei hel o bosib ar gyfer y cynnyrch hwnnw a chynhyrchion eraill? Ble'r ydym ni arni o ran y sefyllfaoedd hynny? A faint mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei wario yn y chwe mis nesaf wrth barhau i gynnal y sefyllfaoedd hynny, wrth inni aros am bosibilrwydd o gytundeb neu ddim cytundeb? Nid ydym ni'n gwybod. Byddai ein busnesau, rwy'n siŵr, eisiau gwybod yn union pa gymorth y byddant yn ei gael gennych hefyd.  

15:35

Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am yr ystod honno o gwestiynau. Dechreuodd drwy siarad am yr ymateb seneddol i gytundeb y Prif Weinidog gan adlewyrchu'r egwyddor syml iawn nad oedd yn dda i'r wlad, a chredaf yn yr ymadrodd syml hwnnw ei fod wedi taro'r hoelen ar ei phen. Yn y bôn, dyna'r rheswm pam nad oes cynnydd yn cael ei wneud yn y Senedd.

Gofynnodd gwestiwn ynghylch cymorth gwladwriaethol. Rwy'n credu ei fod wedi gweld yr ohebiaeth a anfonais at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a oedd yn ymdrin yn benodol â'r cwestiwn o gymorth gwladwriaethol a'r ffordd y mae'r offerynnau statudol yn troi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig wedi gweithredu yng nghyd-destun cymorth gwladwriaethol, nad oedd Llywodraeth Cymru, fel y bydd yn gwybod, yn hapus â hi. O safbwynt polisi, o ran y canlyniad yn y pen draw, nod yr offeryn statudol y cyfeiriais ato, mewn gwirionedd, fe wnaethom ni gytuno mai dyna'r canlyniad priodol: parhau i fod yn gyson â'r trefniadau ar gyfer cymorth gwladwriaethol ledled yr UE a chael system ar gyfer y DU gyfan sy'n adlewyrchu hynny. Ond mae'r broses a'r egwyddorion democrataidd—yr egwyddorion datganoli sy'n sail i'r broses honno—rydym ni'n anghytuno â Llywodraeth y DU. Safbwynt Llywodraeth y DU, fel y bydd yn gwybod, yw nad yw cymorth gwladwriaethol yn fater datganoledig, a'n safbwynt ni yw ei fod. Felly, o safbwynt Llywodraeth y DU, roedden nhw wedi mynd rhagddynt yn y ffordd yr oedden nhw wedi'i disgrifio iddyn nhw eu hunain ac i ni fel y ffordd y teimlent y dylai weithio. Roeddem ni'n anghytuno â hynny, rydym ni wedi gwneud hynny'n glir iawn i'r Gweinidog perthnasol ac, yn wir, byddaf yn ysgrifennu yn fuan yn ehangach ar y cwestiwn o barchu'r setliad datganoli mewn trafodaethau fel hynny.

Gofynnodd am sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y trefniadau ar gyfer monitro'r pontio, a gallaf gadarnhau iddo fod y trafodaethau hynny ar y gweill. Maen nhw wedi bod ar y gweill ers tro. Nid ydyn nhw wedi cyrraedd y canlyniad yr hoffem ni ei weld eto, ond rydym ni'n parhau i bwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch hynny fel bod y trefniadau hynny'n amlwg yn adlewyrchu llais pobl Cymru, ond, yn bwysig, eu bod hefyd yn gredadwy ac y gallan nhw ennyn hyder, sydd mor bwysig yn y broses hon yn ei chyfanrwydd.

Yn olaf, gofynnodd am y paratoadau yr ydym ni wedi'u gwneud hyd yma a faint o hynny sy'n berthnasol i sefyllfa bosib o 'ddim cytundeb' sydd wedi'i ohirio tan ddiwedd mis Hydref. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o hynny'n mynd i fod yn berthnasol. Yn amlwg, er hynny, byddai symud, os gwnawn ni hynny, i sefyllfa—. Disgrifiais yn fy natganiad y perygl o symud y llinell derfyn, oni wnes i? Os dyna fydd yn digwydd—ac rydym ni'n gobeithio'n daer nad dyna fydd yn digwydd—yn amlwg, bydd ystyriaethau ynghylch gadael ar adeg wahanol o'r flwyddyn, er enghraifft, ac ar ôl profi oedi pellach o bump neu chwe mis. Felly, mae'r holl ffactorau hynny'n cael eu hasesu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod gennym ni'r darlun llawn.

15:40

Hoffwn groesawu'n gryf weithredoedd Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, y Prif Weinidog a'r Gweinidog Brexit. Ar adeg o anghydfod gwleidyddol cynhennus, mae arweinwyr Llafur Cymru wedi mynd ati mewn modd digyffro, pwyllog ac adeiladol i ddiogelu economi a phobl Cymru, gan gydnabod penderfyniad gwleidyddol pobl Cymru, a chan anrhydeddu hefyd y safbwynt democrataidd a gefnogwyd gan gynhadledd y Blaid Lafur ac Aelodau, sef, os na ellir parhau i elwa ar y farchnad sengl ac undeb tollau a'r agweddau hynny sy'n amddiffyn yr amgylchedd a gweithwyr, caiff y dewis o gael pleidlais gyhoeddus ei gyflwyno. Ac rydym ni'n gweld yn glir yn San Steffan nad oes, hyd yn hyn, fwyafrif yn y Senedd ar gyfer unrhyw ffordd glir ymlaen, ac, felly, bod posibilrwydd clir o gael pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy'n croesawu hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r agwedd gyfrifol a chreadigol y mae Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur wedi'i dangos yn y trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd rhwng y Llywodraeth a gwrthblaid ei Mawrhydi. Ond, unwaith eto, mae amser yn prinhau, felly pa beryglon mae'r Gweinidog Brexit yn eu rhagweld os mai Brexit caled heb gytundeb yw'r canlyniad, a beth yw'r canlyniadau tebygol i'm hetholwyr yn Islwyn? Pa wir hyder sydd yna o ran cael Llywodraeth y DU i gytuno i gynnwys Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau am unrhyw ddiwygio ar y datganiad gwleidyddol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Gofynnodd i mi am effaith Brexit heb gytundeb a'n hasesiad ni o effaith hynny ar Gymru. Wel, bydd hi'n gwybod ein bod o'r farn mai dyna yw'r canlyniad gwaethaf posib i bobl Cymru. Mae'r effaith ar yr economi yn eithriadol o anffafriol—rhwng 8 y cant a 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar bobl, busnesau a sefydliadau yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Hwn yw'r canlyniad gwaethaf. Clywn yn y Senedd nad oes unrhyw archwaeth am 'ddim cytundeb', ond mae angen inni fod yn gwbl glir, heb argoel o gytundeb arall, bod hynny'n dal i fod yn bosibilrwydd. Er bod yr amserlen yr ydym ni'n ei pharatoi ar gyfer hynny yn sylweddol wahanol, yn amlwg, rydym ni'n dal i adolygu'r paratoadau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.

Gofynnodd, o ran ei chwestiwn olaf, ynglŷn â pha mor ffyddiog oedd Llywodraeth Cymru y byddai hi'n rhan o ddiwygio'r datganiad gwleidyddol. Ysgrifennais at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington, ynghylch hyn, gan gynnig ieithwedd statudol a fyddai'n caniatáu sylfaen ddeddfwriaethol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfochrog, os mynnwch chi, ynghylch esblygiad y datganiad gwleidyddol, ac ailbwysleisais bwysigrwydd hynny mewn sgwrs ag ef yn ddiweddar iawn.

O ran y berthynas ehangach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd hi'n gwybod bod adolygiad rhynglywodraethol yn mynd rhagddo o'r cydberthnasau hynny, yr oeddem ni wedi gobeithio y byddai wedi arwain at rai canlyniadau tua'r adeg hon, ond oherwydd bod Llywodraethau wedi dargyfeirio egni i ymdrin ag agweddau eraill ar Brexit, gan gynnwys paratoadau ar gyfer sefyllfa o 'ddim cytundeb', ni fu hynny'n bosib. Ond mae Prif Weinidog Cymru, rwy'n gwybod, wedi bod yn pwyso'n galed iawn i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei gyflwyno i gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar y cyfle nesaf posib. Ac ynglŷn â bod yn rhan o negodiadau ar gyfer camau negodi Brexit yn y dyfodol, fe wnes i gyfarfod â'r Gweinidog perthnasol yn y Llywodraeth yr wythnos diwethaf, er mwyn pwysleisio iddo bwysigrwydd datrys ein ceisiadau o ran cyfranogiad llawnach yn y strwythurau trafod hynny, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n bwnc trafod yng nghyfarfod nesaf Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE).

15:45
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf

Eitem 4 yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am Wasanaethau Mamolaeth Cwm Taf, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Heddiw, cyhoeddais yr adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, yn dilyn eu hadolygiad nhw o wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt. Daw adroddiad arall gyda hwn, sy'n cynnwys adroddiadau gan y menywod a'r teuluoedd sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn. Bydd yr Aelodau wedi cael cyfle erbyn hyn i ystyried yr adroddiadau, a'r datganiad ysgrifenedig gennyf a gyhoeddwyd fore heddiw.

Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro unwaith eto i'r holl fenywod a'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y methiannau a'r gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd yn adroddiad y colegau brenhinol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y gwasanaeth a roddwyd i lawer o fenywod a'u teuluoedd lawer yn is na'r safon y byddwn i neu unrhyw un arall yn ei disgwyl gan ein gwasanaeth iechyd gwladol. Fe hoffwn i, er hynny, ddiolch i'r menywod a'u teuluoedd a rannodd eu profiadau i lywio'r adolygiad. Ni allaf ddechrau deall yn iawn yr effaith a fu ar y rhai sydd wedi cael profiad o ymarfer anniogel neu esgeulus. Fel y rhan fwyaf o rieni ledled Cymru, roedd profiad ein teulu ni o wasanaethau mamolaeth yn un cadarnhaol—yn un y mae gan bob rhiant hawl i'w ddisgwyl. Nid oes lle i'r methiannau a ddisgrifir yn yr adroddiad yn ein GIG ni. Rwy'n benderfynol o sicrhau y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i welliant parhaol ar unwaith.

Comisiynais yr adolygiad annibynnol gan y ddau goleg brenhinol ym mis Hydref y llynedd, ar ôl i bryderon yn ymwneud â than-gofnodi digwyddiadau difrifol gael eu dwyn i sylw'r Llywodraeth. Mae'r adolygwyr wedi siarad â theuluoedd ac aelodau staff, ac wedi ystyried yr wybodaeth a roddwyd iddyn nhw gan y bwrdd iechyd wrth ddod i'w casgliadau. Daeth yr adroddiadau terfynol gerbron fy swyddogion i ar 16 Ebrill.

Mae'r adroddiad yn disgrifio nifer o bryderon difrifol a cheir galwad eglur ynddo am weithredu. Mae'n tynnu sylw at fethiannau o ran llywodraethu, cywirdeb data, adrodd am ddigwyddiadau difrifol, arweinyddiaeth a diwylliant. Mae'r adolygiad yn nodi'n glir bod hyn wedi cael effaith ar ganlyniadau beichiogrwydd. Mae'r adroddiadau gan fenywod a'u teuluoedd yn bwrw golwg gofidus iawn ar y modd y mae'r methiannau hyn wedi effeithio ar eu profiadau nhw o feichiogrwydd a rhoi genedigaeth. Mae'r adroddiad yn cydnabod hefyd y pwysau eithafol sydd wedi bod ar rai aelodau o'n staff wrth iddyn nhw weithio. Ceir hefyd bryderon a chwestiynau pwysig o ran effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r bwrdd yn fwy eang.

Yn fy natganiad y bore yma, amlinellais y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn nawr i gadarnhau'r mesurau hynny i Aelodau'r Cynulliad. Yn rhan o'r ymateb hwn, rwyf wedi gosod gwasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt mewn mesurau arbennig.

Roedd yn dorcalonnus gennyf i ddarllen nad oedd menywod na theuluoedd yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd o ddifrif wrth fynegi eu pryderon a'u gofidiau. Er y cafwyd adborth yn yr adroddiad a oedd yn sôn am arfer da gan unigolion, roedd y mwyafrif llethol o'r cyfraniadau yn sôn am brofiadau trallodus a gofal gwael. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd fore heddiw â rhai o'r menywod a'u teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw i drafod yr adroddiad, a cheisio parhad eu hymgysylltiad nhw ar gyfer gwella'r gwasanaeth. Mae'n hanfodol y parheir i glywed eu lleisiau nhw, ac unwaith eto hoffwn i ddiolch iddyn nhw am y dewrder a'r cydnerthedd y maen nhw wedi ei ddangos wrth ddweud eu stori.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer mawr o argymhellion, wedi eu grwpio ar draws 10 o brif feysydd yn y cylch gorchwyl a osodais i. Rwy'n derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn ac rwy'n ddiolchgar i'r adolygwyr am eu gwaith. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio nawr ar weithredu eu hargymhellion nhw. I gyflawni'r cynnydd hwn, rwy'n cymryd camau ar draws tri phrif faes: gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt; llywodraethu yn fwy eang yng Nghwm Taf Morgannwg; ac yn olaf, ceisio sicrwydd ynghylch y ddarpariaeth ledled Cymru.

Yn gyntaf, rwy'n bwriadu sefydlu panel annibynnol i oruchwylio mamolaeth. Cyfrifoldeb y panel hwn fydd ceisio sicrwydd pendant gan y bwrdd iechyd fod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu yn ôl y cyfarwyddyd y cytunwyd arno. Bydd y Panel yn sefydlu adolygiad clinigol annibynnol, amlddisgyblaethol o'r 43 achos o feichiogrwydd a ystyriwyd yn yr adroddiad. Cafodd y rhain eu nodi mewn ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at fis Ionawr 2016. Bydd y Panel yn sicrhau hefyd y cynhelir ymarfer i fwrw golwg yn ôl hyd at 2010, yn unol ag argymhelliad adolygiad y colegau brenhinol. Rwy'n awyddus i roi sicrwydd y bydd menywod sy'n teimlo eu bod wedi cael canlyniad andwyol yn gallu cael adolygiad o'r gofal a gawsant.

Bydd gan y panel annibynnol swyddogaeth hefyd o ran cynghori'r bwrdd iechyd ar sut i ailgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol wrth wella gwasanaethau mamolaeth yn ardal Cwm Taf gynt mewn ffordd sydd, yn gyffredinol, yn adfer yr ymddiriedaeth a'r hyder yn y gwasanaeth. Mae Mick Giannasi, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sydd hefyd yn gyn Gomisiynydd Cyngor Ynys Môn a chyn-brif gwnstabl Heddlu Gwent, wedi cytuno i gadeirio'r panel. Bydd ef yn cael ei gefnogi gan Cath Broderick, awdur yr adroddiad ar fenywod a theuluoedd, a fydd yn parhau i ymgysylltu â menywod a'u teuluoedd. A bydd uwch swyddogion bydwreigiaeth ac obstetreg sydd, wrth gwrs, yn annibynnol ar Gwm Taf yn ymuno â nhw ar y panel.

Yn ail, rwy'n rhoi trefniadau ar waith i wella effeithiolrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu'r byrddau yn y sefydliad. Rwyf wedi gofyn i David Jenkins, cyn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i gefnogi cadeirydd Cwm Taf Morgannwg i roi sicrwydd ynghylch gweithrediad yr argymhellion. A bydd Mr Jenkins yn rhoi gwybod imi hefyd am unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol i wella trefniadau llywodraethu'r bwrdd. Bydd Uned Gyflawni GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer adrodd, rheoli ac adolygu digwyddiadau a phryderon sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal adolygiad o lywodraethu a fydd yn gyson ag unrhyw waith arolygu pellach y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgymryd ag ef.

Ac yn olaf, rwy'n ceisio sicrwydd ar unwaith ledled Cymru ynglŷn â'r ddarpariaeth o ofal mamolaeth. Rwyf wedi gofyn i bob bwrdd iechyd ystyried yr adroddiadau a sut y gallai'r canfyddiadau fod yn berthnasol i'w gwasanaethau nhw eu hunain. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd roi sicrwydd imi o fewn y pythefnos nesaf. Bydd y prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod yr hyn a gaiff ei ddysgu yn sgil yr adroddiadau hyn yn cyfrannu at gamau gweithredu i Gymru yn y weledigaeth bum mlynedd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.

Cafwyd datblygiadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru—rhai sylweddol a chadarnhaol. Er enghraifft, mae OBS Cymru yn brosiect i wella ansawdd ledled y wlad sy'n ceisio lleihau gwaedu niweidiol wedi genedigaeth, ac mae wedi ennill gwobrau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r rhan fwyaf o fenywod yng Nghymru yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn cael profiad cadarnhaol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Er hynny, mae'n ddealladwy y bydd llawer o famau beichiog a'u teuluoedd yn cael ysgytwad ac yn bryderus yn sgil yr adroddiadau a gyhoeddir heddiw.

Fel y dywedais i, roedd yr adroddiadau yn eithriadol o anodd eu darllen, ac fe fyddan nhw felly i bob un ohonom ni sy'n rhoi o'n hamser i edrych ar yr adroddiadau. Wrth wraidd hyn mae'r mamau a'r babanod, eu profiadau nhw yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth, a'r lefel o ddiogelwch y mae gan bob teulu yr hawl i'w disgwyl. Mae'r camau a gyhoeddais  heddiw yn gam nesaf hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth effeithiol o safon uchel ar gael i bob mam a theulu yng Nghymru.

Rwy'n dymuno gweld beichiogrwydd a genedigaeth a'r gofal mamolaeth a ddarperir yn brofiad cadarnhaol y gall menywod a'u teuluoedd edrych yn ôl arno a'i drysori.

15:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac yn wir am y briffiadau a roddwyd i Aelodau'r Cynulliad a'u staff heddiw? Mae'r adroddiadau hyn yn cyflwyno darlun difrifol iawn o'u darllen. Maen nhw'n amlygu diffygion difrifol iawn wrth wraidd y sefydliad sef bwrdd iechyd Cwm Taf ar y pryd, a wnaeth gam â'r rhai oedd dan ei ofal. Mae'r materion ynglŷn â'r staff, yr arweinyddiaeth a'r llywodraethu wedi dod â chanlyniadau trasig, a dweud y gwir, i famau, babanod a'u teuluoedd a'u hanwyliaid, ac mae'n rhaid i'r rhai a oedd yn gyfrifol am yr hyn a aeth o'i le gael eu dwyn i gyfrif am hynny.

Mae'r diwylliant yn y sefydliadau hyn yn cael ei bennu gan arweinyddion y sefydliadau. Mae hynny'n cynnwys aelodau'r bwrdd ac yn wir uwch reolwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw. Rwyf i o'r farn fod peth o'r wybodaeth sydd wedi dod i'r amlwg yn dilyn cyhoeddi'r adroddiadau hyn—ac rwy'n croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi cael eu cyhoeddi'n llawn yn y byd cyhoeddus—yn frawychus iawn. Mae'n arbennig o frawychus a chythruddol i sylweddoli na chafodd rhywfaint o dystiolaeth am broblemau ei thraddodi i Lywodraeth Cymru ynghynt, a'i rhannu â Llywodraeth Cymru, yn enwedig y fydwraig ymgynghorol a gynhaliodd adolygiad o rai o'r materion mewn cysylltiad ag adrodd am ddigwyddiadau difrifol a marw-enedigaethau, a oedd yn amlwg yn annigonol iawn. Credaf ei fod yn bwrw amheuaeth ar onestrwydd yr uwch reolwyr hynny a fyddai wedi gweld yr adroddiad hwnnw ac wedi methu â'i ddangos i Lywodraeth Cymru ac, yn wir, i'ch uwch swyddogion chi.

Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw hwn: pa gamau a gymerir i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif am fethu â datgelu'r materion difrifol iawn a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, a gwblhawyd ac a roddwyd i'r bwrdd iechyd yn ôl ym mis Medi? Rwy'n bryderus iawn hefyd fod yr adroddiad yn awgrymu na chafodd prosesau llywodraethu sylfaenol eu bodloni. Dywed na chafodd y gofrestr risg ei diweddaru ers 2014 hyd yn oed—2014. Mae'n 2019 bellach, er mwyn popeth. Mae'r rhain yn bethau y dylai'r bwrdd fod yn canolbwyntio arnyn nhw'n naturiol o ran adolygu'r cofrestrau risg hynny o bryd i'w gilydd. Felly, pa atebolrwydd fydd gan yr aelodau annibynnol hynny o'r bwrdd, y byddwch chi'n eu penodi, Gweinidog, i chi am eu diffyg canolbwyntio ar rai o'r prosesau sylfaenol hyn a ddylai fod ar waith ar unrhyw fwrdd o ran llywodraethu?

Rwy'n sylwi hefyd bod yr adroddiad yn mynd rhagddo i nodi llinell amser o adroddiadau blaenorol—dim llai na naw adroddiad yn codi pryderon yn ystod y cyfnod rhwng 2012 a mis Medi 2018, a phob un yn darparu cyfleoedd i ymyrryd a chyfle i dynnu'r gorchudd a dadlennu rhai o'r problemau a oedd yn glir yn dechrau dod i'r amlwg yn y gwasanaethau mamolaeth hynny. Ac eto i gyd, dro ar ôl tro, mae'n ymddangos na weithredwyd yr argymhellion, nad oedd canlyniadau'r adroddiadau hynny wedi eu rhannu'n llawn â'r bobl yr oedd angen eu rhannu â nhw, ac nad oedd y pethau a ddylai fod wedi cael eu gweithredu, a oedd yn codi ohonynt, wedi cael eu gweithredu.

Mae'n codi cwestiynau eto am waith uwch reolwyr y sefydliad hwnnw, swyddogion gweithredol y sefydliad hwnnw, am fethu â rhannu'r wybodaeth honno'n fwy eang. Fe hoffwn i atgoffa pawb yn y Siambr hon mai canlyniadau'r camau hynny yw bod babanod wedi marw. Dyna'r gwirionedd. Mae babanod wedi marw. Mae mamau, tadau, teuluoedd wedi colli eu cenhedlaeth nesaf o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf.

Tybed hefyd a allech chi ddweud wrthym beth sy'n mynd i gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu. Nid yn unig y mae'r rhain yn  amlwg yn y bwrdd iechyd hwn yn yr adroddiad hwn, ond hefyd yn fwy eang ledled Cymru, o ran gweithlu'r bydwragedd ac yn wir o ran y gweithwyr obstetreg a'r clinigwyr sy'n cefnogi'r gwasanaethau bydwreigiaeth hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod fy mhlaid i wedi crybwyll, ar sawl achlysur, bryderon ynghylch y ffaith y bydd tua thraean o'r gweithlu bydwreigiaeth yn gymwys i ymddeol erbyn 2023. Ond ar y gyfradd bresennol, ni fyddwn ni'n gallu llenwi'r bylchau sydd eisoes yn y gweithlu bydwreigiaeth, ac sydd bellach yn ehangu, o ran y swyddi yr ydych chi'n eu hariannu ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddiant. Felly, mae angen inni sicrhau, a dweud y gwir, bod cynnydd aruthrol yn y capasiti er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r gweithlu sydd dan ormod o bwysau nawr yn cael ei orymestyn eto yn y dyfodol.

Mae'n arswydus, a dweud y gwir, i ystyried y cafwyd adegau pan ddylai meddygon fod wedi bod ar gael, ond nad oedden nhw ar gael. Roedden nhw ar alwad, ond ni fydden nhw'n ymateb am dri chwarter awr. Nawr, mewn argyfwng, mae pob munud yn bwysig. Nid yw pedwar deg a phump o funudau yn dderbyniol mewn argyfwng, ac eto dyna'r oedden yn darllen amdano. Roeddem yn darllen am ddiffyg hyfforddiant gorfodol. Roedd cyn lleied â chwarter y staff wedi cymryd rhan mewn unrhyw gyrsiau hyfforddi. Nid yw hynny'n ddigon da, ac mae angen inni sicrhau bod digon o bobl yn y wardiau hyn sy'n gallu darparu'r gofal o safon uchel y gwn ein bod ni i gyd yn dymuno ei weld.

Rwy'n bryderus hefyd fod llais y cleifion, o ran y pryderon a godwyd ganddynt, wedi cael ei anwybyddu'n rhy aml o lawer. Ac roedd hi'n ddirdynnol—yn gwbl frawychus—i ddarllen yr adroddiadau gan y cleifion a datganiadau am y diffyg urddas, y diffyg parch, a'r ffordd ffwrdd-a-hi y cafodd unigolion eu hysbysu am farwolaethau eu babanod. Mae'n gwbl frawychus. A sut yn y byd y gall rhai gweithwyr honedig broffesiynol fod yn y fath sefyllfa fel y gallant drin pobl mewn modd mor anhrugarog ag y cafodd rhai o'r bobl hynny'n amlwg eu trin gan bobl yn ein gwasanaeth iechyd ni yng Nghymru.

Ceir awgrym yn yr adroddiad hefyd ynglŷn â swyddogaeth bwysig y cynghorau iechyd cymuned o ran gallu helpu i reoli'r broses gwyno ac efallai gynorthwyo byrddau iechyd i ddysgu gwersi o'r cwynion. Tybed a allwch ddweud wrthym ni heddiw a ydych chi'n gweld mwy o swyddogaeth i gynghorau iechyd cymuned wrth symud ymlaen i gefnogi byrddau iechyd, o ran gwrando ar lais cleifion a gweithredu newid pan mae gwersi sydd angen eu dysgu.

Ac yn olaf, a wnewch chi ddweud wrthym hefyd, Gweinidog: mae rhai o'r pethau a ddarllenais yn yr adroddiad yn awgrymu i mi fod angen llawer o atgyfeiradau i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynglŷn â diffyg cymhwysedd rhai gweithwyr proffesiynol. A fydd Llywodraeth Cymru neu a fydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny ac, yn wir, pe bai angen, a fydd yr heddlu'n cael ei hysbysu ac yn cael eu gofyn i ymgymryd ag adolygiad, yn enwedig o ystyried ei bod yn amlwg fod cofnodion meddygol wedi mynd ar goll a'u bod yn anghywir ar brydiau hefyd? Diolch.

16:00

Diolch am y gyfres o gwestiynau y byddaf i'n ceisio mynd drwyddyn nhw nawr. Byddaf yn ceisio ymdrin â'r materion hynny sy'n fwy eang ac yna rai o'r pwyntiau penodol yr ydych chi wedi eu gwneud.

Y mater o ran y rheoleiddwyr: fel arfer, byddech yn disgwyl i atgyfeiriadau gael eu gwneud gan y cyflogwr, ac rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd hynny'n dod yn ôl at beth o'r gwaith y bydd y panel goruchwylio annibynnol yn ei wneud i nodi'r hyn oedd wedi digwydd yn y 43 achos, a golwg ehangach yn ôl i weld a oes angen atgyfeiriadau. Ond rydym wedi sicrhau bod yr adroddiadau wedi cael eu rhannu'n uniongyrchol â'r ddau reoleiddiwr, sef y GMC a'r NMC, a dylid gwneud atgyfeiriadau fel y bydd yn briodol. Nid fy lle i yw penderfynu a ddylid gwneud atgyfeiriadau unigol, ond rwy'n ceisio sicrhau y bydd gennym lefel o ddealltwriaeth er mwyn gwybod a ddylai hynny ddigwydd.

O ran cynghorau iechyd cymuned, mae gennym gynigion mewn gwirionedd i wneud llais y dinesydd yn fwy hyglyw ledled y byd iechyd a gofal cymdeithasol ac i ddiwygio'r ffordd y mae'r rhain yn gweithio, a'r swyddogaeth ehangach honno ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy integredig byth. Credaf fod y cynigion newydd hynny y tu allan i gwmpas yr adroddiad hwn. Ond oherwydd cyfansoddiad y cynghorau iechyd cymuned ar hyn o bryd, wrth gwrs mae ganddyn nhw swyddogaeth i gefnogi pobl i wneud eu cwynion, ac yn yr wybodaeth a gyhoeddwyd gennym heddiw, rydym wedi egluro bod cynghorau iechyd cymuned ar gael i gefnogi teuluoedd i wneud hynny.

Gan ddod at eich pwynt ehangach am niferoedd staff, mae dau wahanol bwynt, i'w gwneud yma, yn fy marn i. Un ohonyn nhw yw ei bod yn amlwg, o ran niferoedd bydwragedd, nad oedd digon o fydwragedd o fewn y gwasanaeth, a cheir her ynglŷn â pha bryd wnaeth y bwrdd iechyd ei hun gydnabod nad oedd yn cydymffurfio â Birthrate Plus, a hwnnw, wrth gwrs, yw'r offeryn a ddefnyddir i wybod beth yw'r nifer cywir o fydwragedd ar gyfer darparu'r gwasanaeth.

Yn gyffredinol, yng Nghymru rydym wedi canfod bod ein byrddau iechyd wedi cydymffurfio â Birthrate Plus. Yr her ynglŷn â gweithlu'r dyfodol sydd wedi dod i'r amlwg yw'r angen i wneud rhywbeth i sicrhau ein bod ni'n recriwtio ac yn hyfforddi digon o fydwragedd i'r dyfodol. Rhan o'r siom a gefais i yw bod y bwrdd iechyd wedi datgan yn gymharol hwyr nad oedd yn cydymffurfio â Birthrate Plus. Wrth gwrs, daeth hynny i'r amlwg eto yn yr adroddiad oherwydd profiad y staff yn gweithio heb ddigon o weithwyr, ac roedd y cleifion a'r teuluoedd eu hunain yn cydnabod hynny.

Felly, mae gwaith i'w wneud ar unwaith sy'n ymwneud â recriwtio ond, yn ogystal â hynny, â'r ffordd y mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg ond o'u cwmpas nhw, er mwyn ceisio sicrhau bod digon o staff yn yr unedau wrth inni geisio recriwtio a hyfforddi ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf eisoes wedi cydnabod yr angen i hyfforddi mwy o fydwragedd ar gyfer y dyfodol. Ddwy flynedd yn ôl, penderfynais gynyddu nifer y lleoliadau i hyfforddi bydwragedd 43 y cant. Felly, rydym yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn hyfforddi llawer iawn mwy o fydwragedd i'r dyfodol.

Ar y pwynt ynglŷn â meddygon, nid y niferoedd sy'n ganolog mewn gwirionedd—yr ymarfer a'r ymddygiad sy'n ganolog. Mae'r adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod nifer digonol o feddygon yn y rhan hon o'r gwasanaeth—yr her yw'r ffordd y maen nhw wedi bod yn ymddwyn, ac mae hynny, mewn gwirionedd, mewn llawer ffordd yn fwy anodd i ymdrin ag ef. Os oes gennych y nifer cywir o staff yn ymddwyn yn y ffordd anghywir, yna mae hynny o hyd yn heriol, ac mae'r adroddiad hwn yn nodi bod hynny'n rhan o'r hyn a ddigwyddodd.

O ran eich pwynt ynglŷn ag ymddygiad ein staff, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ddisgwyl ohonynt ac nid ydym yn dymuno gweld staff o fewn y gwasanaeth iechyd yn ymddwyn yn ansensitif, yn amhroffesiynol ac yn dangos diffyg urddas tuag at y bobl sy'n aml yn fregus iawn pan fyddan nhw'n rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw ffordd. Ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys pobl sydd ar fin rhoi genedigaeth neu bobl sy'n gwybod y gallai eu canlyniadau fod yn wael yn sgil eu beichiogrwydd. Roedd hynny'n rhan o'r hyn a oedd yn arbennig o anodd i mi ei ddarllen yn yr adroddiad. Cymerodd sawl diwrnod imi ddarllen yr adroddiad gan fod hynny'n wirioneddol boenus i mi.

O ran eich pwynt arall am yr adroddiad mewnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd, a ddarparwyd ym mis Medi 2018, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol na chafodd sylw priodol ei roi i'r adroddiad hwnnw drwy fecanwaith adrodd y bwrdd, ac na chafodd ei roi i bwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd ac na chafodd ei roi i'r bwrdd, ac na chymerwyd camau bryd hynny. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd a'r prif weithredwr ill dau wedi cydnabod, wrth gyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw, fod y bwrdd iechyd wedi cyfeiliorni'n llwyr yn hynny o beth.

Mae'n bwysig cydnabod yr hyn a wnaeth y bwrdd iechyd yn anghywir er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol. Mae yna gwestiwn i'r bwrdd y mae'r cadeirydd yn ymdrin ag ef, gydag adolygiad dan arweiniad aelod annibynnol o'r bwrdd, i ddeall yr hyn a ddigwyddodd ar y pryd, pam na ddaeth gerbron y bwrdd, a'r hyn a all fod yn wers wrth edrych yn ôl ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu wrth fynd ymlaen. Ceir cwestiynau ehangach yn y fan honno ynglŷn ag arweinyddiaeth a llywodraethu, nid yn unig i gael sylw yn yr un enghraifft unigol honno—dyna pam y bydd y gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ei wneud yn bwysig, a chefnogaeth ehangach yr hyn y bydd David Jenkins yn ei wneud hefyd.

Mae'n amlwg fod methiannau wedi bod yn y system o fewn y bwrdd iechyd—mae hynny wedi cael ei gydnabod nid yn unig yn yr adroddiad ond yn y sesiynau briffio a'r datganiadau sydd wedi bod eisoes heddiw. Ond mater syml o ddidol nifer o bobl mewn rhes i gael eu diarddel o'r sefydliad yw'r ateb.

Fel y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn ei nodi, mae'r adroddiad yn nodi heriau a methiannau mewn nifer o wahanol feysydd o fewn y gwasanaeth, o'r cyswllt uniongyrchol ag unigolion hyd at bobl a oedd â chyfrifoldeb dros arwain a rheoli, hyd at gyfeiriad clinigol y gwasanaeth, yr holl ffordd drwodd i'r cyngor, yr wybodaeth a'r her a ddarparwyd gan aelodau annibynnol ar lefel weithredol a lefel y bwrdd. Dyna pam yr wyf i'n credu ei bod yn hynod bwysig bod goruchwyliaeth annibynnol ar y gwaith sydd ei angen i weithredu argymhellion yr adolygiad hwn, ac y daw'r annibyniaeth honno nid yn unig o ystyried y 43 digwyddiad difrifol wrth edrych yn ôl i 2010, ond y bydd hynny wedyn yn rhoi sail dystiolaeth briodol ar gyfer atebolrwydd a sut y byddwn yn symud ymlaen.

Mae rhywbeth anodd iawn yma, oherwydd mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod diwylliant o gosbi o fewn y gweithle, lle'r oedd pobl yn ofnus ac yn bryderus am godi pryderon. Mae hynny'n gwbl amhriodol ac nid yw'n dderbyniol. Er mwyn cyrraedd y pwynt lle mae pobl yn fwy hyderus o ran pryd y gallen nhw ac y dylen nhw godi pryderon, mae gwir angen inni fod yn agored ynghylch pobl yn cydnabod nawr beth aeth o'i le, yn hytrach na phobl yn ceisio anwybyddu hynny gan eu bod yn pryderu am eu swyddi. Yn wir, os na chawn y diwylliant mwy agored hwnnw, rydym yn fwy tebygol o beryglu'r ansawdd a'r diogelwch y mae gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny yr hawl i'w disgwyl. Felly, mae'n ofynnol cael newid sylfaenol yn y diwylliant, a dyna pam mae'r annibyniaeth honno o ran datblygu'r argymhellion hynny mor bwysig. Ond fe fyddaf i, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i'r Aelodau pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael am y gwaith hwnnw a'r ymarfer sicrwydd uniongyrchol yr wyf wedi gofyn amdano.  

16:10

Mae'n amlwg fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiadau, am gyhoeddi'r adroddiad ac am y cyfarfod briffio nad oeddwn i'n gallu bod yn bresennol ynddo'n bersonol ond rwyf i wedi gallu siarad â chydweithwyr a oedd yn bresennol ac rydym yn ddiolchgar i'r Gweinidog amdano.

Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn gywir wrth ddweud mai gwaith anodd iawn yw darllen yr adroddiad hwn. Ni chefais i ond diwrnod i'w ddarllen ac mae'n dorcalonnus iawn. Wrth ddarllen tudalennau 30 i 32, sy'n sôn am brofiad y cleifion—sut y cawsant eu diystyru, pa mor ofidus yr oeddent, sut y cafodd y menywod a'r teuluoedd hyn eu sarhau ar yr adeg pan oedden nhw fwyaf agored i niwed. Mae unrhyw un ohonom sydd wedi bod trwy'r profiad o feichiogrwydd a genedigaeth yn gwybod, pa mor hyderus bynnag a pha mor falch yr ydych chi o fod yn feichiog a pha mor ddiogel bynnag yw'r sefyllfa ar eich aelwyd, y byddwch yn teimlo'n fregus tu hwnt yn y cyfnod hwnnw yn eich bywyd. Ac fel y mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud, y peth lleiaf y gall menywod a'u teuluoedd ei ddisgwyl yw cael teimlo mor ddiogel â phosibl, cael eu trin gyda chydymdeimlad ac urddasol ac, yn arbennig pan fo newyddion trist ofnadwy i'w roi, y gwneir hynny'n sensitif â chydymdeimlad.

Mae hefyd yn glir, ac rwy'n credu y dylem ni bwysleisio hyn, fod yr adroddiad yn nodi'n eglur iawn y ceir gweithwyr ardderchog yn y gwasanaeth hwnnw—pobl ardderchog ar y rheng flaen sy'n gweithio'n anhygoel o ddyfal i ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallan nhw ei roi mewn amgylchiadau sy'n anodd tu hwnt. Rwy'n credu y dylem ni gydnabod a mynegi ein diolch i'r staff hynny sydd wedi bod yn llewod yn cael eu harwain gan asynnod—byddwn i'n awgrymu bod hwn yn ymadrodd a orddefnyddir ond rwy'n credu ei fod yn briodol yn yr achos hwn. Mae methiannau systematig wedi pylu eu hymdrechion nhw ac nid yw hynny'n ddigon da. Methiannau systematig ofnadwy—ac fe soniodd y Gweinidog am y materion diwylliannol dwfn lle'r oedd pobl yn cael eu trin yn amharchus, y staff eu hunain yn cael eu trin yn amharchus ac roedden nhw'n amharchus gydag eraill.

Mae'n iawn, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, fod y Gweinidog wedi ymddiheuro, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn falch ei fod wedi cyfarfod â rhai o'r teuluoedd ac y bydd yn parhau i gyfarfod â nhw ac ystyried eu barn a'u pryderon. Mae'n iawn hefyd, wrth gwrs, ei fod ef yn derbyn yr argymhellion. Er hynny, nid wyf wedi f'argyhoeddi y gall fod yn hyderus wrth gyflawni'r argymhellion hynny. Ni all gyflwyno'r syniad i'r Siambr hon heddiw nac i'r teuluoedd hynny fod yr argyfwng hwn yn syndod i Lywodraeth Cymru. Mae Darren Millar yn gywir i dynnu sylw at dudalen 7 yr adroddiad, sy'n nodi naw adroddiad ar wahân sy'n tynnu sylw at agweddau arbennig ar y mater hwn rhwng 2012 a 2018, a hynny ar ben y rhybuddion a godwyd yn y Siambr hon i'r Gweinidog gan, ymysg eraill, fy nghyd-Aelod Leanne Wood, wrth siarad ar ran ei hetholwyr hi a'r profiadau y maen nhw wedi eu dioddef.

Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ni ei fod ef am roi rhan o'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Wel, mae'r rhai ohonom ni sy'n cynrychioli rhan o ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwybod, bedair blynedd wedi i'r mesurau arbennig iawn hynny gael eu cyflwyno, nad yw'r problemau wedi eu datrys. Mae'r materion sy'n dod trwy'r post yn fy etholaeth i a rhai eraill,—fy nghyd-Aelodau Llŷr Gruffydd a Siân Gwenllian, er enghraifft —. Pedair blynedd o fesurau arbennig ac ni chafodd y problemau eu datrys. Felly, rwyf am ofyn i'r Gweinidog heddiw, Dirprwy Lywydd, a yw ef yn derbyn y ceir rhai problemau systematig gyda rheolaeth yn y GIG. Mae'n rhaid i staff proffesiynol—meddygon, nyrsys, bydwragedd—fod â chyfres benodol o gymwyseddau, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cofrestru, mae'n rhaid inni wybod eu bod nhw'n gymwys yn broffesiynol. Onid yw hi'n bryd cael y set graidd honno o gymwyseddau ar gyfer pobl sy'n rheoli yn ein GIG a system o gofrestru'r staff hynny, ac yn arbennig system o gofrestru'r staff uwch hynny fel na allan nhw fod yn fethiant mewn unrhyw fwrdd iechyd lleol ac yna ymddangos yn sydyn mewn bwrdd iechyd arall? Mae patrwm penodol o bethau felly'n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn awgrymu bod hynny'n berthnasol yn benodol yma, ond o ran y methiannau systematig a welsom, lle mae pobl sydd wedi gwneud cawlach o bethau wrth reoli iechyd yn Lloegr yn gwneud cawlach o bethau yn ein gwlad ni. Siawns nad oes angen y cymwyseddau craidd hynny arnom ni. Mae angen rheolwyr ac arweinwyr arnom y gellir dibynnu arnyn nhw. Mae angen inni wybod beth a ddisgwylir ganddyn nhw. Nawr, o ran atebolrwydd, rwyf wedi clywed, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud wrth Darren Millar, ond mae'r Gweinidog ei hun wedi sôn am yr angen i newid y diwylliant. Wel, sut allwch chi newid y diwylliant os mai'r un unigolion a greodd y diwylliant hwnnw sy'n dal i fod â gofal amdano? Nawr, rwy'n derbyn yn llwyr, Dirprwy Lywydd, yr hyn a ddywed y Gweinidog am beidio â dymuno creu amgylchedd o gosbi mwy llym, ond, os nad yw pobl yn cael eu dal i gyfrif, sut y gall y staff rheng flaen hynny, sut y gall y menywod hynny a'u teuluoedd, fod yn hyderus y bydd eu pryderon yn cael y sylw mwy sensitif os mai'r un rhai fydd yn mynd i'r afael â nhw ac sydd wedi caniatáu i'r sefyllfa hon godi yn y lle cyntaf? Nid wyf i'n galw am ddiswyddo cyffredinol o reidrwydd, ond sut y gall pobl fod yn hyderus y bydd pethau'n newid os na chaiff unigolion eu dal i gyfrif? Mewn unrhyw broffesiwn arall—mewn gwaith cymdeithasol, ym myd addysg—byddai methiannau systematig enfawr fel hynny yn arwain at bobl yn cael eu diswyddo ac nid wyf i'n deall pam nad yw'r Gweinidog yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol yma.

Nawr, ac rwy'n dweud hyn gan resynu, Dirprwy Lywydd, ond mae'n rhaid imi ofyn i'r Gweinidog a yw ef yn derbyn yn ein system iechyd ni—ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi ac mae hi'n wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr—fod yr atebolrwydd am redeg y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn aros gyda Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog. Mae'r ddeddfwriaeth yn glir ynglŷn â hynny. Y Gweinidog sy'n penodi'r byrddau iechyd, ef sy'n gosod eu cyllidebau, ef sy'n pennu eu polisïau, ac felly y dylai hi fod yn fy marn i. Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn wyneb y methiant diweddaraf, mwyaf difrifol hwn, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn bryd iddo ef ystyried ei sefyllfa a gweithredu yn atebol am yr hyn sydd wedi mynd o'i le ac ymddiswyddo?

16:15

Cafodd maint y pryderon, fel y nodir yn yr adroddiad ac yn y llinell amser, ei wneud yn gwbl hysbys pan wnaeth pennaeth gwasanaeth bydwreigiaeth newydd adolygu'r data o fewn y gwasanaeth. Arweiniodd y pryderon hynny at gysylltiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru â'r sefydliad ac, yn y pen draw, gan nad oeddwn i'n fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd, fe benderfynais i gomisiynu'r adolygiad annibynnol hwn a adroddwyd heddiw. Felly, o ystyried maint y pryder sydd wedi cael ei amlygu'n briodol, gan rywun sy'n gwneud ei waith fel y dylai, gan ddwysáu'r pryderon hynny, rydym nawr yn cyrraedd pwynt pan fydd Gweinidog yn gwneud penderfyniad—yr adroddiad hwn sydd gennym heddiw. A heb hwnnw, ni ellir gwadu'r ffaith na fyddai gennym y gwrthrychedd sydd gennym yn yr adroddiad hwn heddiw, ac mae'n ddigon posib y byddai'r pryderon hyn sy'n bodoli yn y gwasanaeth hwn o dan orchudd o hyd. [Torri ar draws.] O ran deall yr ystod o wahanol adroddiadau, ceir adroddiadau ar draws ystod o wasanaethau amrywiol ac yna fe gymerir camau fel arfer i ddatrys y rhain. Mewn gwirionedd, fe ddaethom ni i wybod am faint y pryder hwn—ac, fel y dywedais, rwyf wedi nodi ar eich cyfer chi sut a phryd y gweithredais i er mwyn sicrhau bod adolygiad y Coleg Brenhinol yn cael ei gynnal.

Nawr, o ran mesurau arbennig o fewn y maes gwasanaeth, mae gennym gyfres glir o argymhellion i weithio tuag atynt er mwyn i'r gwasanaeth wella yn unol â nhw. Mae gennym oruchwyliaeth annibynnol i weld a fydd yr argymhellion hynny'n cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Ac rydym yn y sefyllfa ffodus lle mae nifer o deuluoedd sydd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw ac wedi derbyn ymddiheuriad personol gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn fodlon cymryd rhan yn y gwaith hwnnw i wella gwasanaethau. Mae hynny'n eithriadol o bwysig er mwyn inni allu dysgu'r gwersi'n iawn a sicrhau na chaiff lleisiau menywod a'u teuluoedd eu hanghofio yn hyn o beth, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud eu llais nhw yn fwy hyglyw yn nyfodol y gwasanaeth. Felly, rwyf i o'r farn y dylid bod yn fwy cadarnhaol ynghylch am ba hyd y bydd y maes gwasanaeth yn parhau i fod mewn mesurau arbennig. Ond fe fyddwn i'n dweud y bydd y maes gwasanaeth yn parhau i fod mewn mesurau arbennig cyn belled â'i bod yn briodol iddi fod felly. Nid wyf am osod unrhyw fath o derfyn amser artiffisial i'r mesurau arbennig orffen yn y maes hwn o wasanaeth. Mae'n rhaid sicrhau gwelliant priodol a pharhaus sy'n cael ei amlygu'n wrthrychol a'i gymeradwyo. Ac mae'n werth nodi, yn Betsi Cadwaladr, mai'r gwasanaethau mamolaeth oedd un o'r prif bryderon a arweiniodd at fesurau arbennig ar gyfer y sefydliad cyfan, ac mae'r gwasanaeth wedi cyflawni gwelliant parhaus mewn gwasanaethau mamolaeth a dyna pam maen nhw wedi dod allan o fesurau arbennig dros flwyddyn yn ôl.

Nawr, o ran eich pwynt ynglŷn â rheoli, rwy'n sylweddoli nad oedd a wnelo rhywfaint o'r hyn a oedd gennych chi i'w ddweud ddim o gwbl â'r system yng Nghymru, ac roedd mewn gwirionedd yn sylwebaeth ar y system yn Lloegr. Ond, wrth gwrs, mae llawer o reolwyr yn glinigwyr eu hunain. Os edrychwch ar y rhan fwyaf o'r tîm gweithredol o amgylch byrddau iechyd yn y wlad, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig ydyn nhw sy'n parhau i gynnal eu cofrestriad proffesiynol, ond mae'r gwaith y maen nhw'n ymgymryd ag ef fel arweinwyr a rheolwyr yn gofyn am wahanol fath o brofiad i fod yn glinigwr. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar y cymwysterau a'r profiad perthnasol wrth benodi, ac mae'r byrddau iechyd sy'n eu penodi nhw'n gwneud hynny hefyd. Dyma'r pwynt ynghylch bod gan ein system ni y byrddau i ymgymryd yn briodol â'r llywodraethu, y cymorth a'r her sydd eu hangen i sicrhau bod y bobl iawn yn cael eu penodi a'u bod yn eu lle. Rhan o'r hyn sy'n anodd am y gwasanaeth arbennig hwn yw bod Cwm Taf, hyd yn hyn, wedi bod yn fwrdd iechyd sy'n perfformio'n dda, yn byw o fewn ei gyllidebau ac yn gwneud yn dda o ran mesurau perfformiad. Ond mae ansawdd a diogelwch yn rhan ddiysgog o'r system gofal iechyd yma yng Nghymru, ac felly mae'r atebolrwydd y mae'r Aelodau yn galw amdano yn ddealladwy—bydd tystiolaeth i ategu unrhyw fath o atebolrwydd ac nid prosesau annibynnol a roddais i ar waith wedi cael eu cynllunio i roi sicrwydd i'r cyhoedd yn unig, ond fe'u cynlluniwyd hefyd i sicrhau ein bod yn deall ymhle y dylai atebolrwydd orwedd. Oherwydd ein hamcan ni yw newid a gwella'r gwasanaeth, a rhaid i hynny olygu newid diwylliannol sylweddol er mwyn cyflawni hynny.

Felly, nid wyf am bennu dyddiad cau artiffisial ar gyfer ymadawiad unrhyw un o'i waith; byddai'n dda gennyf weld pobl yn y gwasanaeth iechyd sy'n gallu gwneud eu gwaith yn iawn a gwneud eu gwaith gyda'r cyhoedd y maen nhw'n ei wasanaethu. Ond rydym wedi gweld newid yn barod—bu newid sylweddol yn nifer yr aelodau annibynnol o'i gymharu â'r bwrdd iechyd yn 2010. Mae dau feddyg a oedd yn y gwasanaeth ar adeg ysgrifennu'r adroddiad wedi gadael y bwrdd iechyd erbyn hyn. Gyda llaw, mae gennym gyfarwyddwr nyrsio newydd erbyn hyn ar lefel weithredol o fewn y bwrdd iechyd, a fydd wrth y gwaith o fewn y mis hwn. Maen nhw allan yn recriwtio Cyfarwyddwr Meddygol newydd—unwaith eto, mater o gyd-ddigwyddiad yw hynny; roedd hwnnw'n ymddeoliad a gynlluniwyd beth bynnag. A hefyd, yn y pythefnos diwethaf, mae bydwraig ymgynghorol o fewn y gwasanaeth hefyd, ac felly mae yna newid, a newid sylweddol, o fewn haenau arweinyddiaeth y sefydliad.

Yr her nawr yw i bobl wneud y gwaith y maen nhw'n cael eu talu amdano, y gwaith yr aethant i mewn i'r gwasanaeth iechyd i'w wneud, er mwyn rhoi'r hyder a'r ansawdd y mae gan bob teulu'r hawl i'w disgwyl. Ac, wrth gwrs, ni fyddaf yn ymddiswyddo; byddaf yn parhau â'm cyfrifoldebau fel Gweinidog dros y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru ac yn gwireddu'r gwelliannau sy'n ofynnol yr wyf yn cydnabod bod yn rhaid iddynt ddigwydd.

16:20

Diolch i chi, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi fy siomi a'm tristáu gan yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn a'r darganfyddiadau, ac, fel eraill, mae fy meddyliau i, yn gyntaf oll, gyda'r teuluoedd, y mae llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi, wrth gwrs, sydd wedi cael eu heffeithio gan y diffygion yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.

Er fy mod yn gwybod bod llawer o fenywod wedi cael profiadau da a gofal da yng Nghwm Taf, mae gormod ohonyn nhw heb gael hynny, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ganolbwynt i'n pryderon. Ceir sawl agwedd ar yr adroddiad yr hoffwn eu trafod gyda chi, sy'n cynnwys cywirdeb data, urddas cleifion, cymorth annigonol i staff, diffyg hyfforddiant datblygiad proffesiynol, adolygiadau o ddigwyddiadau difrifol, arfer clinigol gwael, rheolaeth staff amhriodol, amharodrwydd staff i arfer eu dyletswydd o fod yn ddidwyll ac, wrth gwrs, pwy yn union sydd â'r cyfrifoldeb terfynol yn y bwrdd iechyd. Ond, oherwydd prinder amser heddiw, fe wnaf i hynny gyda chi y tu allan i'r sesiwn hon a chynnal trafodaethau uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd. Heddiw, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes penodol a cheisio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud.

Yn gyntaf, mae llywodraethu gwael yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn amlwg yn destun pryder mawr ac, er bod lefelau staffio yn rhywbeth y mae'n rhaid rhoi sylw iddo, mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn oed pe byddai gennym ni'r staffio gorau posib ond na fyddai'r gwasanaethau hynny'n cael eu rheoli'n briodol, yna fe fyddai'r un problemau gennym ni o hyd. Felly, rwy'n arbennig o ofidus am y datganiad yn yr adroddiad sy'n ymwneud â'r ffug sicrwydd a roddwyd i'r bwrdd gan yr uwch dîm gweithredol ynglŷn â'r gwasanaeth, ac fe hoffwn i wybod beth mae hynny'n ei olygu a beth gaiff ei wneud ynglŷn â hynny.

Yn ail, o ran y penderfyniad yn 2014 i symud y gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol i un safle, a ydych chi'n gwybod pa asesiad risg a gynhaliwyd ynghylch effaith staffio ar y penderfyniad hwnnw, o gofio y byddai'r rhan fwyaf o fydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn naturiol yn edrych tuag at Gaerdydd neu Ben-y-bont ar Ogwr ac nid Merthyr wrth ystyried newidiadau cyflogaeth? A pham, fel y mae'n ymddangos, y gadawyd pethau i'r funud olaf cyn rhoi sylw i'r materion staffio o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw tra bod y bwrdd wedi cael pum mlynedd i gynllunio ar gyfer hynny?

Yn olaf, bydd yn hanfodol sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei ansefydlogi yn ystod y cyfnod hwn o ymyrraeth. Felly pa sicrwydd y byddwch chi a'r bwrdd iechyd yn ei roi i ddarpar famau ynghylch diogelwch gwasanaethau mamolaeth Chwm Taf ar hyn o bryd, a sut y bydd hynny'n cael ei gyfleu.

Gweinidog, yn ardal Cwm Taf, bydd gan lawer ohonom ddiddordeb gwleidyddol a phersonol i sicrhau y  bydd y gwasanaethau mamolaeth yn addas at y diben, ac, yn wir, bydd fy ŵyr cyntaf yn cael ei eni yn ysbyty'r Tywysog Siarl ym mis Awst. Felly, er fy mod yn croesawu'r camau arfaethedig a nodir yn eich datganiad, beth yw'r amserlenni yr ydych yn disgwyl i'r bwrdd iechyd eu cyrraedd er mwyn cyflawni'r newidiadau sy'n angenrheidiol?

16:25

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer iawn o ofal da, wrth gwrs, yn digwydd bob dydd ym mhob cymuned ledled ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o staff a roddodd ofal da, yn enwedig yn y gwasanaeth bydwreigiaeth gymunedol. Ond mae'n gwbl briodol ac yn gymwys ein bod ni'n canolbwyntio ar y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad heddiw. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt chi ynglŷn â rheolaeth a diwylliant o fewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth, nid yn unig ar y lefel uchaf, gan adrodd i'r tîm gweithredol a'r bwrdd, ond ar lawr y gwaith yr holl ffordd drwodd i'r arweinwyr a'r rheolwyr mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiwylliant o gosbi; byddwn i'n disgwyl i'r undebwyr llafur siarad am ddiwylliant bwlio, a diwylliant o ofn o fewn y sefydliad, ac rwy'n cydnabod hynny wrth ddarllen yr adroddiad. Felly, nid un rhan yn unig o'r diwylliant yn y gwasanaeth mamolaeth yn y bwrdd y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch chi am roi ffug sicrwydd, gan fod yr adroddiad yn nodi'n gwbl glir fod amryw o bryderon wedi cael eu gorchuddio ac nad ymdriniwyd â nhw, ac wedyn ni chafodd adroddiadau eu cwblhau'n briodol. Felly, mewn gwirionedd, roedd pobl yn cael sicrwydd am bethau nad oeddent yn iawn, ac rwy'n credu bod aelodau annibynnol wedi cael sicrwydd lle na ddylai fod wedi ei roi iddyn nhw. Mae hwnnw'n fater nid yn unig a nodir yn yr adroddiad ac yr ymdrinnir ag ef yn yr adolygiad annibynnol o'r hyn a aeth o'i le, ond mae hwn yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd fynd i'r afael ag ef ar hyn o bryd, yn ogystal â gwneud argymhellion i'r dyfodol. Rwyf wedi siarad sawl gwaith â chadeirydd y bwrdd iechyd ac mae ef yn deall yn iawn ei fod yn fater i'r bwrdd roi sylw iddo'n ddigonol ac yn briodol o ran yr wybodaeth a oedd ganddyn nhw, yr hyn nad oedd ganddyn nhw, a'r hyn fydd ei angen arnyn nhw yn y dyfodol a lefel yr her y mae'n rhaid iddyn nhw ei hateb. Mae hynny'n rhan o'r gwaith y bydd David Jenkins yn ei wneud wrth gynorthwyo'r bwrdd i wneud hynny.

O ran eich pwynt am y symudiad, mae'r symudiad i ganolbwyntio gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ysbyty Tywysog Siarl—rydych chi'n llygad eich lle—wedi cymryd amser maith i ddigwydd, mwy nag y dylai, a bod yn onest. A rhan o hynny yw oherwydd nad oedd y bwrdd iechyd, na'r ddwy uned dan sylw ychwaith, yn eiddgar i wneud i'r symudiad ddigwydd mewn modd cydweithredol. Pan gynhaliwyd yr adroddiad, roedden nhw'n parhau i ganfod diwylliant rhwng y ddau safle nad oedd yn gallu derbyn y symudiad a oedd ar fin digwydd. A honno yw'r broblem wirioneddol sydd gan y timau arwain ymhlith y meddygon ar y ddau safle hyn. Ac nid yw hynny'n dderbyniol.

Felly, y symudiad, a chyn y symudiad, cynhaliwyd cyfarfod amlddisgyblaethol, ac roedd dau swyddog o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw. Cafwyd cadarnhad eu bod mewn sefyllfa i fynd ymlaen ac, mewn gwirionedd, roedd llai o berygl i'r staff a'r gwasanaeth wrth fynd ymlaen â'r symudiad ym mis Mawrth yn hytrach na gohirio a cheisio cynnal gwasanaethau ymgynghorydd ar y ddau safle, yn rhannol oherwydd natur fregus staff bydwreigiaeth, ond hefyd nifer y staff locwm o fewn y graddau meddygol. Felly, oedd, roedd diofalwch, ond mae mwy o waith i'w wneud eto i sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn fath o wasanaeth y byddech chi neu y byddwn i'n ei ddymuno i ni ein hunain ac yn amlwg i'ch ŵyr cyntaf.

O ran cefnogaeth i fenywod a'u teuluoedd, fe ddylen nhw gysylltu â'u bydwraig a chysylltu â'u byrddau iechyd i drafod y pryderon a'r ofnau sydd ganddyn nhw, er mwyn deall y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. Dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny cyn gynted â'u bod nhw'n gofidio neu'n pryderu, oherwydd mae hynny'n rhan o'r gwaith sydd gan fydwraig, sef cefnogi menywod i wneud eu dewisiadau nhw. Efallai y bydd rhai menywod yn dewis rhoi genedigaeth mewn gwahanol leoliadau, boed hynny gartref, boed yn enedigaethau dŵr, neu'n ofal dan arweiniad ymgynghorydd neu mewn gofal dan arweiniad bydwraig, ac efallai y bydd rhai pobl yn ailfeddwl am leoliad yr enedigaeth. Nawr, byddwn yn annog pobl i ddechrau trafod yr holl bryderon hynny, yn y lle cyntaf, gyda'u bydwraig gymunedol, ac, yn achos y bwrdd iechyd, mae'n ddisgwyliad clir iawn eu bod nhw'n cefnogi menywod i wneud y dewisiadau hynny ynglŷn â'r lle maen nhw'n fwyaf cartrefol, y lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael y gefnogaeth orau.

Ac, o ran yr amserlen ar gyfer gwelliannau, wel, mae'n rhaid i'r gwelliant ddigwydd ar unwaith. Mae angen y gwelliannau ar unwaith, ond ni ddylwn honni i chi nac i neb arall y caiff hyn ei ddatrys yn gyflym, oherwydd bydd y newid diwylliannol y tynnais eich sylw ato fwy nag unwaith yn cymryd misoedd lawer i fod yn weithredol a'i gynnal wedi hynny.

16:30

Mae gen i nifer o siaradwyr erbyn hyn, a byddaf yn ymestyn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'r prif bleidiau wedi cael eu siaradwr cyntaf, ac rwyf wedi bod yn eithaf hael o ran amseru, felly gofynnaf i'r holl siaradwyr eraill yn awr ymdrin â'r datganiad yn unig a gofyn cwestiwn byr. Fel yna, mae'n debyg y bydd cyfle i bawb heb i ni fynd gormod dros ein hamser. Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch ichi am y briff a hwyluswyd gennych y bore yma ar gyfer yr Aelodau ac, yn benodol, am yr ymddiheuriad yr ydych chi wedi'i gynnig yn eich datganiad y prynhawn yma. Credaf ei fod yn gwbl briodol, a chroesawaf y sylwadau a wnaethoch chi ynghylch pa mor anodd oedd darllen yr adroddiad. Mae'n adroddiad anodd iawn ei ddarllen, oherwydd, yn y pen draw, rydych chi'n sôn am rywbeth a ddylai fod yn achlysur llawen ac, yn anffodus, i rai teuluoedd, trodd i fod yn brofiad erchyll na ddylai neb fyth orfod ei ddioddef. Ac mae hyn yn digwydd yn ysbytai'r unfed ganrif ar hugain, yn anffodus, nid nepell o'r union sefydliad hwn.

Un peth yr hoffwn ei ofyn ichi, gan fod y rhan fwyaf o'r maes wedi cael sylw, yw mater llywodraethu a goruchwylio, oherwydd credaf fod hynny'n mynd at wraidd y mater yma. Ar frig yr argymhellion neu'r pryderon, mae'r ffaith nad oes meddyg ymgynghorol bob amser ar gael ac mae hi'n cymryd 45 munud iddyn nhw ddod i ysbyty pan fo angen. Dyna ichi'r anallu i sicrhau bod tystiolaeth ar gael nes i dîm yr ymchwiliad gyrraedd yr ysbyty ei hun, o'r bwrdd. Bu naw adroddiad gwahanol, rwy'n credu, rhwng 2012 a 2018. Yn wir, ar dudalen 11 yr adroddiad, mae awduron yr adroddiad yn sôn am eu siom:

bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn gwybodaeth yn amlygu meysydd o arferion anniogel

ac yna wedi dewis peidio â chymryd unrhyw gamau pan gyflwynwyd y dystiolaeth hon iddynt.

Credaf mai'r hyn sy'n peri pryder difrifol yma yw: pryd y mae'r diwylliant hwn yn mynd i newid? Clywaf yr hyn yr ydych wedi ei ddweud hyd yma—mae'n cymryd amser i newid y diwylliant hwnnw—ond nid adroddiad ar ei ben ei hun yw hwn. Mae hwn yn adroddiad sy'n deillio o naw adroddiad blaenorol, a bu methiant trychinebus yn y gwasanaeth iechyd penodol hwn, yn y ddisgyblaeth benodol hon. Ac rwy'n amau a yw wedi'i chyfyngu'n benodol i'r ddisgyblaeth hon, gwasanaethau mamolaeth, neu a yw'n fater ehangach. Ni all fod yn iawn os na ellir cael newid sylfaenol yn y Bwrdd Iechyd hwn, oherwydd os na chaiff y newid hwnnw ei gyflawni ar frig y Bwrdd Iechyd, yna, mewn gwirionedd, byddwn yn ôl yma ymhen dwy, tair, pedair blynedd, i adolygu'r un adroddiad trist yr ydym yn ei ystyried y prynhawn yma.

Fel dywedaf, rwyf yn eich canmol am yr ymddiheuriad yr ydych wedi'i roi ar goedd. Dwi'n credu y bydd rhai teuluoedd yn cael cysur o hynny. Ond ni allwn ac ni ddylem ni ganiatáu i hwn fod yn adroddiad arall pryd na cheir camau gweithredu yn ei sgil ac, fel y dywedais, y byddwn yn ôl yma ymhen dwy neu dair blynedd.

Nid oes gennyf unrhyw fwriad o gwbl i ddod yn ôl yma ymhen dwy neu dair blynedd a gorfod adrodd nad oes cynnydd pellach wedi'i wneud. Dyna pam yr wyf wedi cymryd y camau yr wyf wedi eu cadarnhau heddiw ac wedi rhoi sicrwydd o annibyniaeth wrth adolygu'r cynnydd y mae'r Bwrdd Iechyd wedi ei wneud neu heb ei wneud. Oherwydd byddaf yn onest ynghylch lefel y cynnydd a wnaed neu'r diffyg cynnydd gan y Bwrdd Iechyd bob tro yr adroddaf yn ôl i'r Siambr neu i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Unwaith eto, dychwelaf at y pwynt ynghylch ymddygiad a diwylliant, oherwydd pan soniwch am yr adroddiad yn amlygu'r ffaith nad oedd meddygon ar gael, mae hynny'n bwynt sy'n ymwneud â'r diwylliant meddygol, gan nad oedd yn ymwneud â nifer y bobl a gyflogir gan y gwasanaeth, roedd mewn gwirionedd ynglŷn â'u hymarfer gwaith. Mewn sawl ffordd, mae'n llawer anos mynd i'r afael â hynny, a dyna pam y dywedais wrth Dawn Bowden ein bod yn sôn am fisoedd lawer o waith i newid y diwylliant hyd at y pwynt lle mae'n fwy tebygol o gael ei gynnal a'i newid, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl nad oes angen newid sylweddol o fewn y sefydliad.

Nid yw'r gwaith yr wyf wedi ei amlygu wedi'i gyfyngu i wasanaethau mamolaeth yn unig. Mae arweinyddiaeth glinigol newydd o fewn y tîm meddygol yn y rhan hon o'r gwasanaeth, mae arweinydd clinigol newydd yno, ac mae hynny'n gam cadarnhaol ymlaen. Ond y gwaith y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei wneud yw edrych yn ehangach ar arwain a llywodraethu o fewn y sefydliad, ac rwy'n disgwyl y bydd eu hadroddiad ar gael cyn diwedd yr hydref. Rwyf wedi cael sgwrs â phrif arolygydd AGIC heddiw, a dyna'r hyn yr wyf yn ei ddisgwyl yn dilyn y sgwrs—ei bod hi'n disgwyl y bydd adroddiad ar gael yn yr hydref.

Unwaith eto, cyhoeddir adroddiadau AGIC ac nid oes cuddio rhagddynt, ac felly fe fyddwn ni'n glir ynglŷn â pha lefel o newid sydd wedi digwydd neu heb ddigwydd a pha newid pellach sydd ei angen o hyd. Byddwn i'n disgwyl y byddem ni'n dal i glywed bryd hynny pa newidiadau pellach sydd eu hangen o hyd i sicrhau bod y newid hwnnw'n un gwirioneddol ac yn cael ei gynnal. Felly, byddaf yn dychwelyd i'r Siambr hon a/neu bwyllgorau sydd eisiau neu ddim eisiau gofyn cwestiynau am hyn, ac fel y dywedais, byddaf yn onest ynghylch lle yr ydym ac ynghylch yr hyn y mae angen inni ei wneud o hyd.

16:35

Bûm yn y sesiwn briffio y bore yma ar hyn, ac nid oedd digon o amser imi ofyn cwestiynau ar ran fy etholwyr yn y Rhondda, felly rwy'n gobeithio y caf yr amser yn awr, Llywydd.

Mae'n dda cael ymddiheuriad gan y Gweinidog Iechyd, ac mae'n rhaid imi ddweud pan ddarllenais yr adroddiad hwn am y tro cyntaf, sy'n cyfeirio at ddiwylliant o bryderon pobl yn cael eu diystyru, meddyliais ar unwaith y gallai hyn fod yn wir am y Gweinidog Iechyd hefyd. Ni allaf gofio sawl gwaith yr wyf wedi codi fy mhryderon, ar lawr y Siambr hon, gyda'r Gweinidog Iechyd a'r Prif Weinidog, ynghylch prinder staff a chwynion yn fy ardal bwrdd iechyd lleol. Rhaid imi ddweud, y rhan fwyaf o'r amser, fod y pryderon hyn wedi'u diystyru, neu o leiaf nad ydynt wedi'u cymryd o ddifrif. Oes, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud yn well ar ystod eang o feysydd, ond Gweinidog, rhaid i chithau hefyd.

Nid yw'n dda darllen bod 67 o farw-enedigaethau, yn mynd yn ôl i 2010, heb gael eu cofnodi'n gywir, ac mae'n warthus darllen sut na wrandawyd ar rai cleifion. Tybed faint o broblem fyddai hyn wedi bod mewn ardal fwy cefnog. Yn aml, mae'n hawdd diystyru barn pobl dlotach ar draws ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus. Byddaf yn clywed yn aml am bobl yn cael eu trin yn wahanol i'r ffordd y byddai'r rheini o gefndiroedd dosbarth canol wedi cael eu trin—pobl sydd efallai wedi mynd i'r brifysgol ac sy'n gwybod yn iawn sut i fynnu eu hawliau. Gelwir yr egwyddor hon yn ddeddf gofal gwrthgyfartal, ac mae wedi cael ei chydnabod a'i derbyn gan y proffesiwn meddygol. Gweinidog, a wnewch chi gytuno i edrych i weld a yw hyn wedi bod yn broblem yn yr achos hwn? Rhowch adborth i ni.

Dyma fy nghwestiynau pellach. A wnewch chi gytuno i edrych o ddifrif ar bob cwyn a phob achos difrifol nad ymdriniwyd ag ef yn foddhaol? O gofio bod yr adroddiad hwn yn sôn am ddiwylliant problemus, diwylliant cosbol o ran cwynion, rwy'n amau'n gryf—ac mae fy ffeiliau achos yn ategu hyn—fod methu ag ymdrin â chwynion yn broblem ehangach o lawer. A ydych chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yn union yr ydych chi'n bwriadu ei wneud yn ei gylch? Oherwydd ni chlywais i ddim byd penodol yn eich datganiad yn mynd i'r afael â'r pwynt diwylliant hwnnw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i ymchwilio i adrannau eraill. Pa negeseuon y gallwch chi eu rhoi i rieni pryderus, fel un o'm hetholwyr sydd ar fin cael ei phumed baban ac sydd wedi gweld y gwasanaethau'n dirywio dros flynyddoedd lawer, a sydd erbyn hyn yn poeni'n fawr am y gofal y mae'n debygol o'i gael? A all hi ddewis mynd i rywle arall, er enghraifft? A wnewch chi gytuno i fonitro'r sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ofalus? Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o gyn gleifion Ysbyty Brenhinol Morgannwg nad ydynt yn hapus â'r hyn y maent wedi'i brofi yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ystod y chwe wythnos diwethaf.

Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn ymgyrchu o 2013 yn erbyn symud a chanoli'r gwasanaethau mamolaeth hyn, ac rydym wedi ymgyrchu yn erbyn symud y gwasanaethau plant, sydd i fod i symud yr haf hwn. Mae meddygon wedi sôn wrthyf am eu pryderon ynglŷn â hyn i gyd hefyd, un yn dweud wrthyf am ei gred, a dyfynnaf, y bydd mamau a babanod yn marw. Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod staff yn cytuno â ni ynglŷn â chanoli, a'u bod wedi'u hatal rhag siarad. A wnewch chi wrando ar y staff sy'n dweud bod y canoli hwn yn beryglus? A wnewch chi wrando'n awr ar yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud am hyn, ac a wnewch chi gytuno i fonitro a gweithio i adfer y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg os yw'r sefyllfa'n parhau i fod yn risg a bod pobl yn parhau i roi gwybod am broblemau?

Dechreuaf drwy ailadrodd nad ydw i'n mynd i amddiffyn y diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn. Yn sicr, nid dyna'r hyn yr wyf am ei wneud. Byddai'n gwbl amhriodol imi geisio gwneud hynny. Yr her yw sut i ymdrin â'r methiannau hynny, ac mae gennym ni nifer fawr o argymhellion ynghylch sut i wneud hynny. Fel y dywedais dro ar ôl tro, mae cael proses annibynnol briodol i wneud hynny yn wirioneddol bwysig, nid yn unig i'r Bwrdd Iechyd, ond i'r cyhoedd y mae'r bwrdd yno i'w gwasanaethu, gan na ddylid trin unrhyw deulu yn y modd hwn, beth bynnag fo'i incwm, ei statws addysgol, ble maen nhw'n byw. Ni ddylid trin unrhyw deulu yn y ffordd y mae'r adroddiad yn ei nodi.

Os ydych chi mewn gwirionedd yn edrych ar gymunedau tebyg—er enghraifft yng Nghymoedd Gwent—nid ydych yn clywed yr un stori. Nid oes yr un lefel o bryder. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn ymarferol—ac mae'n ymwneud â diwylliant a'r hyn yr wyf wedi'u codi a'u disgrifio yn llawer o'r ymatebion i gwestiynau heddiw—mae'r cyfraddau ymyrryd yn hen Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn sylweddol ac yn wahanol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at hynny. Nid yw'n cael ei egluro gan y grŵp economaidd-gymdeithasol o bobl y maen nhw'n ymdrin â nhw. Nid yw'n cael ei egluro gan gyd-forbidrwydd ym maes iechyd oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan gymunedau tebyg gyfraddau ymyrryd gwahanol o ran ymsefydlu, toriadau Cesaraidd ac esgor â chymorth. Ac mae'n ymwneud â diwylliant o fewn yr uned a'r arferion, ac mae hynny'n rhan o'r hyn sy'n gorfod newid. Fel arall, bydd gennym fenywod yn cymryd mwy o risgiau nag y dylen nhw wrth roi genedigaeth, cymhlethdodau posibl wedyn, a bydd yn newid cymysgedd y staff a'r gwelyau y mae eu hangen arnom i wasanaethu hynny'n iawn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn gwneud newidiadau i sicrhau gwasanaeth gwell a gwasanaeth mwy diogel o fewn yr ardal a gwell defnydd o'r holl adnoddau sydd gennym. Mae'n pwysleisio eto pam mae'r adolygiad annibynnol o'r 43 o ddigwyddiadau difrifol ac ail edrych ar 2010 yn bwysig.

Ond fe hoffwn i orffen ar y pwynt a wnaethoch chi ynghylch cefnogi menywod i wneud dewisiadau. Ydw, fel y dywedais, rwy'n disgwyl iddyn nhw gael cefnogaeth wrth wneud dewisiadau. Ac mae unedau eraill dan arweiniad ymgynghorwyr nad ydyn nhw yn Ysbyty'r Tywysog Siarl lle y byddai menywod efallai eisiau rhoi genedigaeth, ond dylen nhw ddechrau, fel y dywedais mewn ymateb i Dawn Bowden, drwy drafod hynny gyda'r fydwraig gymunedol i siarad am ofnau neu bryderon sydd ganddyn nhw a'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.

Dydw i ddim yn cytuno â chi mai mynd yn ôl a cheisio datod rhaglen y de yw'r peth iawn i'w wneud. Roedd y pryderon a oedd yn bodoli bryd hynny ynghylch breuder o fewn ein system wrth geisio cynnal nifer fwy o safleoedd nag oedd ein staff a'r cymysgedd o achosion yn gallu eu darparu—dydw i ddim yn credu mai dyna'r ffordd iawn ymlaen. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw deall yr wybodaeth a roddir inni gan y staff a gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, a deall yr hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth sydd gennym yn briodol o ran capasiti a niferoedd staff ac, yn hanfodol, arferion a diwylliant.

16:40

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Gan fy mod yn fam fy hun a roddodd enedigaeth yn ardal Cwm Taf, yn ogystal â bod yn Aelod Cynulliad dros etholaeth sydd yn dod o dan ardal Cwm Taf, gallaf ddweud yn onest mai'r adroddiad hwn yw'r peth mwyaf gofidus imi ei ddarllen ers imi gael fy ethol i'r lle hwn tair blynedd yn ôl, ac mae fy meddyliau yn sicr gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt.

Hoffwn gefnogi sylwadau a fynegwyd yn flaenorol gan Aelodau Cynulliad eraill am effaith y canlyniadau trasig hyn, y naw adroddiad blaenorol a'r cyfleoedd a gollwyd i unioni pethau a'r brys i unioni pethau nawr. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r staff rheng flaen hynny, sy'n gweithio mor galed ac ymroddedig a fydd yn teimlo eu bod mewn sefyllfa fregus iawn oherwydd cyhoeddi'r adroddiad hwn heddiw—cyfarfûm â llawer ohonyn nhw pan ymwelais â'r gwasanaeth newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn ddiweddar. Yn ôl y mamau a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwn, mae un thema yn amlwg iawn, sef y ffaith eu bod eisiau rhoi eu tystiolaeth er mwyn unioni pethau ar gyfer mamau yn y dyfodol a fydd yn mynd drwy'r gwasanaeth. Mae'r ddau faes holi yr hoffwn i ganolbwyntio arnyn nhw heddiw wedi'u cysylltu'n gryf iawn â hynny.

Yn gyntaf, i'r holl fenywod yr wyf wedi siarad â nhw yn fy etholaeth a hefyd y menywod o Gwm Cynon y mynegir eu barn yn yr adroddiad, mae un thema yn amlwg iawn, sef y mater sy'n ymwneud â nodiadau'n diflannu, neu gofnodion nad ydyn nhw'n fanwl gywir, a menywod ar esgor yn mynd drwy gyfnod anodd iawn yn cael eu holi dro ar ôl tro gan wahanol aelodau o staff i drosglwyddo gwybodaeth ar lafar yn hytrach na bod yr wybodaeth yno wrth law. Nawr, fe wyddoch ein bod ni, ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wedi bod yn cynnal ymchwiliad i wybodeg y GIG, tybed felly, yn rhan o'r cam nesaf ar ôl yr adroddiad hwn, a fyddai'n briodol ystyried a ellid defnyddio gwybodeg yn fwy effeithiol yng ngwasanaeth mamolaeth Cwm Taf, er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar fydwragedd a meddygon wrth law er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniadau iawn ar yr adeg iawn ar gyfer mamau a babanod.

Yn ail—ac mae hwn yn fater yr ydych chi wedi cyfeirio ato yn eich ateb i'r Aelod Cynulliad blaenorol—gwyddom fod gan ardal Cwm Taf broblemau penodol o ran ei sefyllfa economaidd-gymdeithasol a'r problemau iechyd sy'n deillio o hynny, ond mae rhannau eraill o Gymru sydd â'r un heriau. Pa waith a ellir ei wneud i gysylltu'r ddarpariaeth gwasanaeth yng Nghwm Taf ag ardaloedd tebyg iawn eraill yng Nghymru lle mae ganddyn nhw lai o ymyriadau adeg esgor, sydd fel y gwyddom ni, yn arwain yn aml at ganlyniadau mwy diogel i famau a babanod?

16:45

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Unwaith eto, croesawaf y pwynt yr ydych yn ei wneud am staff. Bydd llawer o staff yn poeni am fynd i'r gwaith heddiw a gweddill yr wythnos. Mae pwynt ynglŷn â sut yr ydym ni'n cefnogi staff, ynglŷn â'r ffaith bod gennym ddisgwyliadau uchel o hyd o ran sut y mae staff yn ymddwyn, a sut y cânt eu cefnogi i weithio mewn amgylchedd llawer mwy agored.

Rwy'n llwyr gydnabod eich pwynt ynglŷn â theuluoedd yn dymuno gweld gwelliant. Dywedodd llawer o bobl eu bod wedi penderfynu dweud eu stori nhw am y rheswm penodol nad oedden nhw'n dymuno iddo ddigwydd i neb arall ac roedden nhw eisiau i'r gwasanaeth gael ei wella. Mae hynny'n mynd â ni'n ôl at gadw cofnodion—un o'r pryderon a gydnabuwyd gennyf ar ôl darllen yr adroddiad hefyd. Credaf fod gwell defnydd o'r hyn nad yw bellach yn dechnoleg newydd ond yn dechnoleg sydd wedi hen sefydlu mewn rhannau helaeth o'n bywydau, yn rhan o wneud hynny, i roi mwy o gadernid a sicrwydd ynghylch y broses o drosglwyddo cofnodion ac i fynd ati mewn dull mwy rhagweithiol i gasglu safbwyntiau pobl wrth iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth hefyd. Felly, rwy'n credu'n llwyr fod hyn yn rhan safonol o'r dyfodol.

Yn hollbwysig, mae'n cyffwrdd â'ch ail bwynt ynghylch cefnogaeth gan fyrddau iechyd eraill sy'n gwasanaethu cymunedau tebyg. Gan fod eisoes arferion da yn bodoli yn y system yma yng Nghymru ar garreg drws hen ardal Cwm Taf, ac mae'n bwysig i mi ein bod yn cael mynediad priodol i hynny ac y caiff ei ystyried wrth wella'r gwasanaeth yn hen ardal Cwm Taf i sicrhau nad ydym yn aros misoedd a misoedd a misoedd heb wneud dim cynnydd, ond bod y gwelliannau uniongyrchol y gellid eu gwneud, rydym yn glir ynghylch beth yw'r rheini a'r cymorth a roddir i bobl sy'n rhedeg bydwreigiaeth yn y gwasanaethau, sy'n rhedeg gwasanaethau mamolaeth mewn cymunedau tebyg iawn gyda chyfraddau ymyrraeth gwahanol a chyfraddau canlyniadau gwahanol.

Gweinidog, rwyf wedi bod rhwng dau feddwl drwy'r dydd ynghylch pa un a ddylwn i siarad y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo y byddai'n anghywir i mi eistedd yma a minnau'n rhywun a gafodd gofal gwael iawn gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf pan gefais fy mhlentyn cyntaf, a dweud dim. Rwyf wedi ceisio anghofio'n llwyr am fy mhrofiadau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gyda fy maban cyntaf, ond digon yw dweud y gallaf uniaethu'n llwyr â'r storïau yr wyf wedi'u darllen yn yr adroddiadau hyn am famau'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, neb yn gwrando arnyn nhw, yn cael eu dad-ddyneiddio a'u gwneud i deimlo'n ddiwerth. Wedi darllen yr adroddiadau heddiw, rwyf hefyd yn teimlo hyd yn oed yn fwy ffodus nag yr oeddwn i 16 mlynedd yn ôl imi ddod allan o'r fan honno gyda'r bachgen hoffus sydd gen i hyd heddiw.

Rwy'n cytuno â Leanne fod deddf gofal gwrthgyfartal sylweddol iawn ar waith yma, gan nad wyf yn credu na fyddai'r achosion hyn wedi dod i'r amlwg yn gynharach mewn ardal fwy cefnog, a gobeithiaf y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch chi'n edrych arno mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Leanne Wood.

Roeddwn hefyd eisiau eich holi am yr achosion cyn 2010, sy'n cynnwys y cyfnod pryd yr oeddwn i yn derbyn gofal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ond a fydd hefyd yn cynnwys profiadau llawer o famau eraill. Os gallwn ddysgu unrhyw beth o'r adroddiad hwn, yna'r wers honno yw ei bod yn angenrheidiol ein bod ni'n clywed lleisiau'r rhai sydd wedi cael gofal gwael. Felly, hoffwn ofyn i chi, Gweinidog, a ydych chi'n ffyddiog y bydd yr amserlen yr ydych chi'n ei dilyn yn caniatáu ichi nodi'r holl achosion y mae angen i chi eu nodi, yn enwedig o gofio bod y bwrdd iechyd yn amlwg wedi ceisio cuddio rhywfaint o wybodaeth rhag Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol, os oes angen, ein bod ni yn mynd yn ôl ac yn edrych yn ôl ymhellach fyth er mwyn sicrhau bod yr holl leisiau hynny yn cael eu clywed ac y gallwn ni ddysgu gwersi'r cyfnodau hynny.

Wrth gwrs fy mod i'n cymryd o ddifrif yr hyn a ddigwyddodd a pham, ac yn darganfod beth ddigwyddodd a pham, a dyna pam yr wyf wedi nodi camau annibynnol i wneud hynny. Mae hynny'n cynnwys eich pwynt ynglŷn â'r amserlen i edrych yn ôl hefyd, oherwydd dyna'r cyfnod i edrych yn ôl arno a argymhellwyd yn yr adroddiad, ond mae'n glir iawn i mi, a bydd yn glir i'r panel annibynnol, os byddan nhw'n credu y dylid edrych yn ôl yn wahanol neu'n bellach fyth, fe fyddan nhw'n dod yn ôl ac yn dweud hynny wrthyf. Fe fyddai'n fethiant mawr ar fy rhan i pe bawn i'n penderfynu peidio â derbyn y cyngor hwnnw petai hwnnw'n cael ei gynnig, ond mae'n rhaid i hynny fod yn farn sy'n dod o'r grŵp annibynnol hwnnw. Ac rydym wedi cael argymhellion ac awgrymiadau gan y ddau goleg brenhinol ynglŷn â phobl annibynnol i ymgymryd â'r adolygiad hwnnw, am yr arbenigedd clinigol. Rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi hynny o fewn ychydig wythnosau, ynghylch pwy fydd y bobl hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny hefyd helpu i roi rhywfaint o hyder i deuluoedd, oherwydd, yn ôl adborth o gyfarfod teuluoedd y bore yma gyda swyddogion, rhan o'r adborth oedd bod rhai ohonyn nhw'n pryderu y byddai'n cael ei guddio ac na fyddai'r adroddiad mor onest ag a fu wrth adlewyrchu'n gywir yr hyn a ddywedon nhw. Ac maen nhw wedi dweud eu bod yn fwy ffyddiog y bydd rhywbeth yn digwydd oherwydd bod yr adroddiad yn adlewyrchu'n gywir y pryderon sydd ganddyn nhw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y teuluoedd hynny yn cael eu cynnwys yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac, yn hollbwysig, gwaith sy'n mynd rhagddo, a'r gwaith y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud i sicrhau ei fod yn gwrando ar brofiadau diweddar pobl o feichiogrwydd i geisio deall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac, yn yr un modd, yr hyn sydd heb weithio'n dda hefyd. Ond os yw'r adolygiad annibynnol, y panel annibynnol yn awgrymu bod angen i ni edrych mewn ffordd wahanol, yna byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Aelodau, gyda fy mhenderfyniad fy hun ynghylch hynny.  

16:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod Pen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bellach yn rhan o ardal Cwm Taf. Pan gynhaliwyd yr ymgynghoriad ynglŷn â chynnwys Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghwm Taf, rwy'n eithaf sicr nad oedd neb a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwnnw'n ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd yng Nghwm Taf o ran y gwasanaethau mamolaeth. Tybed a wnewch chi, felly, dawelu meddyliau fy etholwyr yn y de-orllewin na chaiff Ysbyty Tywysoges Cymru ei effeithio gan unrhyw beth a wneir drwy'r mesurau arbennig hyn, statws sydd wedi ei orfodi ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn awr, ac os yw pobl yn mynd i gael eu symud o Ben-y-bont ar Ogwr, o ran eu harbenigedd, i rannau eraill o ardal Cwm Taf, a fydd yr arian hwnnw'n dilyn neu, yn ddelfrydol, na chaiff neb ei symud o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Ysbyty Tywysoges Cymru er mwyn datrys problemau mewn rhannau eraill o Gwm Taf.

Rwy'n falch o gadarnhau, os bydd pobl yn symud o fewn y bwrdd iechyd, yna bydd angen i'r bwrdd iechyd sicrhau ei fod yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y gwasanaeth, os yw pobl yn symud i ymdrin â heriau mewn rhannau eraill o'r ardal. Ond mae'n gwbl bosib y bydd pobl yn symud o ardal bresennol Pen-y-bont ar Ogwr. Er enghraifft, swydd y cyfarwyddwr meddygol: mae'n bosib y gallai hwnnw fod yn rhywun o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, gallai fod yn rhywun o hen ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, gallai fod yn rhywun o'r tu allan i'r bwrdd iechyd presennol. Felly mae'n gwbl bosib y bydd staff yn symud ac y bydd angen llenwi eu swyddi os byddant yn gwneud hynny. Ond rwyf yn dymuno cadarnhau mewn modd syml iawn nad yw mesurau arbennig yn berthnasol i wasanaethau mamolaeth ardal Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg; nid yw'r penderfyniad yr wyf i wedi'i wneud heddiw ynglŷn â mesurau arbennig yn effeithio arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiynau ehangach am arweinyddiaeth a llywodraethiant yn effeithio ar ardal gyfan y bwrdd iechyd, ac mae hynny'n rhan o'r newid diwylliannol sydd nid yn unig yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth ond hefyd â sut mae'r bwrdd iechyd cyfan yn gweithredu.

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Ddileu TB Buchol

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am y rhaglen ddileu TB buchol, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pan lansiais y rhaglen newydd i ddileu TB 18 mis yn ôl, fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r datblygiadau pan fyddai cyfres ddata gyflawn 2018 o ystadegau TB ar gael. Yn 2018, cafwyd 746 achos newydd o TB yng Nghymru, sef gostyngiad o 5 y cant o'i gymharu â 2017. Fodd bynnag, lladdwyd 11,233 o wartheg o ganlyniad i TB, sy'n gynnydd o 12 y cant o gymharu â ffigurau 2017. Mae'r cynnydd hwn yn bennaf o ganlyniad i sensitifrwydd cynyddol profion a chael gwared ar adweithyddion mwy amhendant.

Rydym ni'n disgwyl i'r buddsoddiad hwn o ran cael gwared yn gynharach ar wartheg sydd wedi'u heintio greu buddion yn y tymor canolig, wrth i ni achub y blaen ar y clefyd. Bu i'n rhaglen newydd ranbartholi Cymru o ran TB, gan newid yn sylfaenol y ffordd y mae'r Llywodraeth a'r diwydiant yn ystyried ac yn mynd i'r afael â'r clefyd. Mae rhanbartholi wedi creu ardaloedd achosion TB isel, canolig ac uchel, lle gellid gweithredu ffyrdd gwahanol o ddileu'r clefyd, yn seiliedig ar y gwahanol risgiau ym mhob ardal. Ein nod yw diogelu'r ardal TB isel rhag haint a lleihau'r clefyd yn yr ardaloedd TB canolig ac uchel.

Rwy'n falch o ddweud ein bod yn parhau i ddiogelu'r ardal TB isel yn y gogledd-orllewin, lle rydym ni'n gweld nifer gymharol fach o achosion newydd o TB. Mae cyflwyno profion ar ôl symud yn rhan o'r dull newydd yn helpu i ddiogelu'r ardal. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith. Cafwyd 34 achos newydd o TB yn yr ardal TB isel yn 2018, sy'n fwy na'r 28 achos newydd o TB yn 2017. Rwy'n galw ar ffermwyr yn yr ardal TB isel i wneud popeth posib i gadw TB buchol allan.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:55

Mae'n siomedig nad yw rhai pobl yn yr ardaloedd TB isel yn dilyn y gofynion i gynnal profion ar ôl symud gwartheg. Mae'r risg leiafrifol hon yn amharu ar bethau i bawb ac mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn eu cyfrifoldebau o ran diogelu eu buchesi a'r ardal ehangach. Rydym ni'n gwybod o ddata ynglŷn â symud a phrofion pa anifeiliaid sydd angen eu profi ac erbyn pryd, ac rydym ni'n tynhau ein protocolau gorfodi er mwyn gweithredu pan fo angen.

Yn 2018-19, gan ystyried derbynebau achub, mae Llywodraeth Cymru wedi talu dros £14 miliwn mewn iawndal TB i ffermwyr. Nid yw hyn yn gynaliadwy i'r pwrs cyhoeddus, ac yn ogystal â cholli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, mae'n pwysleisio'r angen am gyfundrefn iawndal deg ar gyfer y ffermwr a'r trethdalwr. Rwyf o'r farn felly ei bod hi'n amser priodol adolygu'r trefniadau presennol. Bydd unrhyw drefn newydd yn cymell arferion ffermio da ac yn atal arferion gwael.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae rhai enghreifftiau gwych yn bod o weithio ar y cyd, a bydd y model hwn yn ein galluogi ni i lwyddo. Rydym ni wedi ymgysylltu â grŵp o ffermwyr a milfeddygon ar Benrhyn Gŵyr, sy'n bwriadu cyflwyno brechu moch daear law yn llaw â mesurau rheoli gwartheg er mwyn dileu TB o'r ardal.

Rydym ni'n gweithio ar y cyd yn yr ardaloedd TB canolig yn y gogledd mewn ymateb i sefyllfa lle mae'r clefyd yn datblygu. Mae cyfundrefn brofi gryfach ar gyfer buchesi cyffiniol bellach ar waith yma, ac er mwyn cefnogi buchesi sy'n rhydd o TB, mae ymweliadau 'cadw TB allan' gan filfeddygon ar gael drwy'r rhaglen Cymorth TB er mwyn cadw'r clefyd draw. Rwy'n annog yr holl ffermwyr yn yr ardal hon i fanteisio ar ymweliad am ddim gan eu milfeddyg eu hunain i drafod yr hyn y gallan nhw ei wneud i ddiogelu eu buches rhag TB.

Mae'n werth nodi y priodolir un o bob tri achos o TB sydd wedi ei gadarnhau mewn ardaloedd TB uchel ac wyth o bob 10 yn yr ardal TB isel yn bennaf i symudiadau gwartheg. Mae'r ystadegau hyn yn siarad drostyn nhw eu hunain: gellir atal rhai achosion o TB os yw ffermwyr yn prynu eu stoc yn fwy gofalus. Gan ystyried yn ofalus hanes profion TB gwartheg y mae'n ystyried eu prynu, gall ffermwr leihau'r perygl o ddod â'r clefyd i'w fuches.

Rydym ni'n parhau i gryfhau ein dull o ddileu TB, gan anelu at gydbwyso mesurau rheoli â chynaliadwyedd busnesau fferm—er enghraifft, ehangu ein hystod o brofion TB sydd ar gael, gan weithio gyda milfeddygon i wella'r ddiagnosteg TB sydd ar gael i ni.

Un o ymrwymiadau allweddol y rhaglen newydd oedd cyflwyno dull ffurfiol o fynd i'r afael ag achosion parhaus o TB mewn buchesi. Mae cynlluniau gweithredu pwrpasol, sy'n cynnwys mesurau llymach i ddileu'r clefyd, yn cael eu rhoi ar waith mewn buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau TB am 18 mis neu fwy. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 59 o gynlluniau gweithredu wedi'u rhoi ar waith mewn achosion cyson o TB, ac roedd cyfyngiadau wedi'u dileu ar 21 o fuchesi oedd â chynllun gweithredu.

Agwedd arall ar broses y cynllun gweithredu yw profi a chael gwared ar foch daear sy'n cael profion cadarnhaol. Mae hyn yn digwydd mewn buchesi dethol pan fo tystiolaeth yn awgrymu bod moch daear yn cyfrannu at barhad y clefyd. Mae adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan. Mae'r gwaith paratoadol ar drydedd flwyddyn y gweithrediadau yn mynd rhagddo'n dda. Mae deall y sefyllfa o ran TB mewn bywyd gwyllt yn bwysig, ac fe hoffwn i atgoffa pawb i roi gwybod am foch daear a ganfuwyd yn farw er mwyn cyfrannu at arolwg Cymru gyfan o foch daear a ganfuwyd yn farw.

Rwyf wedi gweld y dinistr y gall achos o TB ei greu i deulu a busnes ffermio. Gall lladd gwartheg â TB arnyn nhw ar y fferm, er nad oes modd osgoi hynny weithiau, fod yn arbennig o ofidus i'w weld. Rwyf wedi gwrando ar bryderon y mae'r diwydiant wedi eu crybwyll am y mater hwn, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried sut y gallwn ni leihau'r achosion pan fo angen saethu gwartheg sydd â TB arnyn nhw ar y fferm. Os oes ffyrdd y gallwn ni wneud y sefyllfa hon yn haws i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw, rwy'n awyddus i'w harchwilio. Byddaf yn rhoi diweddariad arall ar y datblygiadau yn ystod y misoedd nesaf.

Yn rhan o'n strategaeth tymor hir, rydym ni'n cefnogi creu'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer TB buchol yn Aberystwyth, dan arweiniad yr Athro mawr ei barch Glyn Hewinson. Mae cysylltiadau agos rhwng y ganolfan a'n rhaglen yn cael eu datblygu.

Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid blaengar ar gyfer y rhaglen dileu TB, a bydd defnyddio a dysgu o dechnoleg newydd yn bwysig wrth fwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni allaf orbwysleisio gwerth cydweithredu wrth ddileu TB, ac mae gan bob un ohonom ni ran yn hyn. Drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, gydag un pwrpas, fe wnawn ni roi terfyn ar y clefyd hwn. Diolch.

17:00

Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae un sicrwydd mewn bywyd yn y lle hwn ers i mi ymuno yn 2007: y bydd amryw o ddatganiadau TB wrth i ni fwrw ymlaen drwy'r tymor cyfan. Yn wir, y Llywydd a arweiniodd y gwaith hwn am bedair blynedd pan oedd hi'n Ysgrifennydd y Cabinet yn y trydydd Cynulliad, rwy'n credu. Nid wyf yn gwneud y sylwadau hynny yn ysgafn, oherwydd mae hwn yn gyflwr trychinebus yn y diwydiant da byw ac i'r economi wledig hefyd. Mae'n ffactor economaidd mawr yn y diwydiant da byw, fel y nodwyd gennych chi yn eich datganiad y prynhawn yma, ond caiff effaith emosiynol a seicolegol enfawr ar deuluoedd ffermio ac, yn wir, ar y sector da byw y mae'r clefyd ofnadwy hwn yn effeithio arnynt.

Un peth, yn anffodus, sydd wedi codi, dro ar ôl tro yn ystod y 12 mlynedd y bûm i yn Aelod Cynulliad, yw nad yw'n ymddangos ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hyn. Mae'r niferoedd rydych chi'n adrodd amdanynt heddiw yn dangos cynnydd o 12 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd, yn anffodus, oherwydd TB buchol. Cynnydd o 12 y cant—mae hynny'n nifer sylweddol yn sicr ar ôl sawl cynnig i geisio rheoli'r cyflwr ofnadwy hwn. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad gwell nag efallai nifer y daliadau a nodwyd gennych chi, yr oeddech chi'n ymddangos i gael rhywfaint o gysur ohonyn nhw—bod llai o ddaliadau yn cofnodi TB buchol—ond y gwir amdani yw bod y diwydiant da byw yn crebachu a llai o dda byw yn cael eu cadw. Mae'r data crai yn dangos bod nifer gynyddol o wartheg yn cael eu heffeithio arnyn nhw yn gyffredinol ac mae hynny'n dangos yn glir nad yw'r polisi, yn anffodus, yn gweithio yma yng Nghymru.

Mae angen mynd i'r afael â hyn o ddau gyfeiriad, fel yr ydych chi wedi clywed o'r meinciau hyn dro ar ôl tro, i sicrhau bod gennym ni gronfa bywyd gwyllt iach ac, yn wir, diwydiant da byw fferm iach. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi faint o foch daear sydd wedi'u dileu, ar ôl profi eu bod wedi eu heintio â TB, gan eich bod wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad—. Felly, rydym ni'n gwybod beth yw niferoedd y gwartheg, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o foch daear, ar ôl canfod eu bod wedi'u heintio, a gafwyd wared arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, y cyfnod adrodd yr ydych chi wedi'i roi i ni?

Hefyd, mewn llawer o'r datganiadau a ddaeth gerbron y Cyfarfod Llawn, ymddengys ein bod yn dychwelyd at yr agwedd iawndal sydd yn amlwg angen sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr ond hefyd iawndal teg i gynhyrchwyr da byw, sydd yn aml iawn yn gallu gweld oes gyfan, os nad sawl cenhedlaeth, yn cael eu hamddifadu o'r fferm honno oherwydd achos o TB buchol. Byddwn yn falch o ddeall beth yw eich barn chi ar yr agwedd arbennig hon ar eich datganiad. Aeth y Gweinidog cyllid, pan mai hi oedd y Gweinidog, ati i geisio cyflwyno cynigion i newid y cynigion iawndal a chafwyd newidiadau cymedrol bryd hynny. Ceisiodd y Prif Weinidog blaenorol, pan oedd yntau yn Weinidog yr Amgylchedd, gyflwyno uchafswm ar daliadau, rhyw 10 neu, rwy'n credu, 12 mlynedd yn ôl. Fy niweddar gyd-Aelod, y mae colled fawr ar ei ôl, Brynle Williams oedd y llefarydd amaethyddol ar y pryd ac rwy'n credu mai ei bleidlais ef a roddodd terfyn ar hynny. Felly, mae'n ofid gen i eich bod yn ceisio cysylltu hyn â Brexit. Rydym ni'n mynd yn ôl dros 10, 12, 15 mlynedd ac mae amrywiol Weinidogion wedi—[Torri ar draws.] Clywaf gan rywun ar ei eistedd na wnaeth y Gweinidog ddweud hynny. Mae'r datganiad yn dweud hynny, oherwydd colli cyllid Ewropeaidd oherwydd Brexit—mae'n dweud hynny mewn gwirionedd, ydy. Rwyf yn gresynu at geisio cysylltu hyn â'r ddadl Brexit. Cafwyd ymosodiadau olynol ar y model iawndal gan sawl Gweinidog dros gyfnod hwy. Os ydych chi'n bwriadu cyflwyno ymgynghoriad, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth fydd diben yr ymgynghoriad hwnnw, pryd y bydd yn dod a beth ydych chi'n bwriadu ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw?

Hefyd, byddwn yn ddiolchgar cael deall pa fesurau y byddech chi'n eu hystyried bod angen i'r diwydiant amaethyddol eu gweithredu yn ychwanegol at yr hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Dof i—a dweud y gwir, dylwn i fod wedi datgan hyn ar ddechrau'r trafodion, Llywydd, os caniatewch imi: rwy'n datgan buddiant, fel cynhyrchydd da byw sydd â gwartheg ar ei fferm. Pa fesurau sydd gennych chi mewn golwg yn ychwanegol at y mesurau bioddiogelwch sydd ar waith ar hyn o bryd—oherwydd fel diwydiant, mae profion cyn symud ac ar ôl symud wedi cael eu cyflwyno, mae profion blynyddol wedi cael eu cyflwyno, lle mae llawer o bobl a allai fod wedi bod mewn plwyfi pedair blynedd bellach mewn profion blynyddol? Ac eto, mae'r diwydiant amaethyddol wedi derbyn y mesurau hyn ond serch hynny nid ydynt yn gweld dull mwy cyfannol o ymdrin â'r bywyd gwyllt sydd wedi ei heintio ac sy'n rhan o'r mater sy'n rhan o'r broblem heintio sy'n effeithio ar y sector da byw. Felly, a wnewch chi ein goleuo ni ynghylch y pwyntiau yr wyf wedi'u cyflwyno ichi, Gweinidog? Rwyf i, ynghyd â'r rhan fwyaf o Aelodau, os nad pob aelod, yn dymuno gweld cynnydd yn y maes hwn, ond oni fyddwn ni'n gwneud cynnydd ym mhob maes, yna byddwn ni, mewn gwirionedd, yn siarad am hyn mewn 12 mlynedd ac ni fyddwn ni yn y sefyllfa honno o fod o fewn trwch blewyn o gyflawni uchelgais y Gweinidog ei hun o weld y clefyd dychrynllyd hwn yn cael ei ddileu yn y sector da byw.

17:05

Diolch, Andrew R.T. Davies, am y gyfres o gwestiynau. Nodais yn fy natganiad, er y bu gostyngiad o 5 y cant yn y 12 mis yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn y datganiad hwn o ran achosion mewn buchesi, y bu cynnydd yn nifer y gwartheg, a dywedais pam yr oedd hynny, yn sgil y sensitifrwydd uwch, a hefyd, rwy'n credu, gwella'r profion. Ond nid wyf yn bychanu'r effaith emosiynol neu seicolegol y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd a busnesau ffermio, ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr. A dim ond, o ran eich cwestiwn ynghylch iawndal—wrth gwrs, mae 10 y cant o'r cyllid ar gyfer y rhaglen dileu TB yn dod o Ewrop, ac wn i ddim a fydd y cyllid hwnnw ar gael. Felly, yn sicr doeddwn i ddim yn ei gysylltu yn y ffordd yr wyf i'n credu eich bod chi'n ei awgrymu. Fodd bynnag, mae'n un o ffeithiau bywyd. Mae ein cyllidebau i gyd wedi lleihau, ac rwy'n cael tua 10 y cant o'm—wel, rwy'n dweud y rhaglen dileu TB, mewn gwirionedd, mae ar gyfer pob clefyd. Felly, er enghraifft, pe byddem ni'n cael achosion o glwy Affricanaidd y moch, fel y gwelwyd yn Ewrop eleni—bydd y gwledydd hynny wedi cael yr arian ar gyfer y clefydau hynny o'r un gronfa. Felly, mae'n rhaid i mi edrych ar sut rwy'n mynd i ariannu hynny. Gofynnwyd cwestiynau imi, gan Llyr Huws Gruffydd rwy'n credu, yn y pwyllgor ynghylch lle byddwn ni'n dod o hyd i'r arian hwnnw. Wel, byddai'n rhaid imi ddod o hyd i'r arian hwnnw o'm cyllideb. Felly, dydw i ddim yn gwneud cyswllt uniongyrchol, dim ond datgan ffeithiau wyf i bod angen i ni edrych ar y ffordd mae iawndal yn cael ei ariannu.

Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddwn i'n cynnal ymgynghori. Yr hyn yr wyf wedi'i wneud—felly, gan fynd yn ôl at y datganiad hwn heddiw, daw hyn yn sgil y rhaglen newydd i ddileu TB a lansiais yn ôl ym mis Hydref 2017 pan ymrwymais i adrodd yn flynyddol a chredwyd mai'r ffordd fwyaf priodol o wneud hynny oedd adrodd ar flwyddyn galendr o ystadegau. Felly, yr hyn yr wyf i'n adrodd arno heddiw yw o Ionawr i Ragfyr 2018. Felly, yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrth swyddogion yw y byddwn yn hoffi adolygu'r agwedd iawndal ar hyn. Rwy'n credu bod rhannau eraill o'r rhaglen y mae angen inni eu gwylio'n ofalus iawn. Yn sicr, mae'n cael ei fonitro'n ofalus iawn, ac mae hyblygrwydd yn y rhaglen yr wyf wedi bod yn falch iawn o'i weld. Felly, er enghraifft—ac, unwaith eto, cyfeiriais ato yn fy natganiad—er ein bod ni wedi gweld cynnydd sydyn yn y clefyd yn yr ardal ganolradd, rydym ni wedi gallu bod yn hyblyg ynghylch sut yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn yr ardal honno, gan gyflwyno mesurau ychwanegol.

Fe wnaethoch chi ofyn i mi beth arall mae arnom ni eisiau i ffermwyr ei wneud. Mae bioddiogelwch yn amlwg yn bwysig iawn, ac rwy'n gwybod eich bod yn rhannu'r farn honno'n llwyr, a'r ffaith ein bod wedi cael achosion o TB yn digwydd ac y gallwn ni briodoli hynny'n glir, er enghraifft, i ble mae ffermwyr wedi prynu gwartheg—rwyf wedi bod yn ystyried a oes angen inni gyflwyno system brynu wybodus orfodol, er enghraifft. Fe welais i yn Seland Newydd bod ganddyn nhw hynny yn y fan honno ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried. Mae'n well gen i wneud hynny ar sail wirfoddol. Felly, fe wnaethom ni ariannu marchnadoedd da byw er mwyn gallu adfer yr wybodaeth honno, ond nid wyf i wedi gweld y wybodaeth gynyddol y byddwn i wedi dymuno'i gweld. Felly, rwy'n ystyried a oes angen inni gyflwyno cynllun gorfodol. Felly, rwy'n credu bod yna gyfres o bethau y gallwn ni eu gwneud, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ac rwyf eisiau parhau i wneud hynny.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, er fy mod i, unwaith eto, yn meddwl bod ymdeimlad o fod wedi profi hyn i gyd o'r blaen, mewn gwirionedd. Rydym ni wedi cael datganiadau tebyg yn rheolaidd dros y blynyddoedd ac, yn anffodus, gyda'r un duedd o ran llwyddo i reoli'r clefyd hwn. Mae'n teimlo ychydig bach fel petaech chi'n priodoli rhai o fethiannau'r Llywodraeth i ffermwyr hefyd, oherwydd rydych chi'n dweud y dylai ffermwyr brynu stoc yn fwy gofalus—wel, onid ydych chi'n credu eu bod yn ddigon cyfrifol yn hynny o beth? Rydych chi'n dweud eich bod yn galw ar ffermydd mewn ardaloedd TB isel i wneud popeth a allant i gadw TB buchol allan. Siawns nad ydych chi'n awgrymu nad ydyn nhw eisoes yn gwneud cymaint ag y gallan nhw, oherwydd dydw i ddim yn gwybod am unrhyw ffermwr sy'n dymuno canfod ei hun yn y sefyllfa hon, ac, mewn gwirionedd, os ydych chi'n disgwyl i ffermwyr wneud popeth o fewn eu gallu, yna rwy'n credu nad yw hi ond yn deg bod ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i fynd i'r afael â'r clefyd erchyll hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu defnyddio pob arf sydd ar gael i chi. Ers cyflwyno'r cynlluniau gweithredu unigol—neu'r cynlluniau gweithredu pwrpasol—rydym ni wedi gweld, rwy'n credu, trwyddedau yn cael eu cyflwyno ar dair fferm yn unig ledled Cymru gyfan a chael gwared ar ddim ond pum mochyn daear. Nawr, mae hynny mewn cyferbyniad, wrth gwrs, â dros 11,000 o wartheg sydd wedi cael eu lladd. Rydym ni eisoes wedi cael ein hatgoffa bod hynny'n gynnydd o 12 y cant yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd. Mewn rhai rhanbarthau unigol, mae'n uwch fyth, mewn gwirionedd, ac mae hynny, rwy'n credu, yn dweud llawer wrthym ni am yr hyn y mae angen inni ei wybod ynglŷn â pha mor llwyddiannus yw strategaeth y Llywodraeth hyd yma.

I'r gwrthwyneb, rydym ni wedi gweld yn Lloegr ac mewn mannau eraill ddulliau gwahanol yn arwain at wahanol effeithiau ar y sefyllfa o ran TB yn y fan honno. Roedd crynodeb DEFRA ym mis Rhagfyr yn cadarnhau eu bod wedi haneru nifer yr achosion newydd yn Lloegr. Felly, mae gennyf ddiddordeb, mewn gwirionedd, a'm cwestiwn cyntaf fyddai: i ba raddau ydych chi'n dysgu'r gwersi sy'n cael eu dysgu mewn mannau eraill? A ydych chi'n dysgu o'r gwersi hynny, nid yn unig o Loegr ond o Weriniaeth Iwerddon a mannau eraill hefyd, a sut mae eu profiadau nhw'n effeithio neu'n dylanwadu ar eich ffordd chi o fynd ati yma yng Nghymru? Oherwydd mae cynnydd o 12 y cant, wrth gwrs, yn nifer y gwartheg sy'n cael eu difa yn annerbyniol ac ni all hynny olygu busnes fel arfer, ac mae gen i ofn bod ymdeimlad o fusnes fel arfer i'r datganiad yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw.

Rydych chi'n dweud bod adroddiad ar waith maes y llynedd yn cael ei gwblhau'n derfynol yn eich datganiad ac y bydd ar gael yn fuan. Nid wyf eisiau eich beirniadu am gyflwyno'r datganiad hwn, ond byddai wedi bod yn fwy defnyddiol, rwy'n credu, inni fod wedi cael yr wybodaeth honno yn rhan o'r datganiad hwn er mwyn inni allu cwestiynu'r data hwnnw gyda chi yma yn y Siambr. Wn i ddim a wnewch chi gyflwyno datganiad llafar arall yn hytrach na datganiad ysgrifenedig oherwydd rwy'n siŵr y byddai gennym ni i gyd ddiddordeb gweld y dystiolaeth ddiweddaraf yn hynny o beth.

Rydych chi'n dweud yn y datganiad ei bod hi'n bryd adolygu'r drefn iawndal bresennol, ac mae'n wir bod £14 miliwn yn llawer o arian i'w dalu mewn iawndal, ond, wrth gwrs, mae 11,000 o wartheg yn llawer o wartheg a laddwyd, ac mae'n golled fawr i'r diwydiant ffermio. Felly, pan rydych chi'n disgrifio'r sefyllfa bresennol fel un anghynaladwy, byddai'n ddiddorol clywed gennych chi beth yn union ydych chi'n ei olygu wrth hynny, oherwydd a ydych chi'n dweud y dylid gostwng lefelau iawndal? Oherwydd mae'n swnio braidd fel hynny, i'm clustiau i, a byddwn i'n gwerthfawrogi cael eglurhad. Ac, wrth gwrs, y ffordd orau o leihau taliadau iawndal yw mynd i'r afael â'r clefyd a lleihau nifer y gwartheg sy'n cael eu difa. Nid oes llawer o amser wedi mynd heibio, wrth gwrs, ers i'r drefn iawndal gael ei hadolygu a'i newid, a bellach mae'n ymddangos eich bod eisiau ei newid eto. Byddai'n fuddiol hefyd clywed ychydig am y broses yr ydych chi'n bwriadu ymgymryd â hi yn rhan o hynny: pa fath o amserlenni ydym ni'n eu hystyried, ac a fydd yna grŵp cyfeirio, gweithgor, neu sut ydych chi'n mynd i ymdrin â'r darn hwnnw o waith?

Rwy'n credu eich bod yn berffaith gywir i gyfeirio at Brexit a'r goblygiadau fydd ganddo oherwydd bydd yna oblygiadau—y rhai ariannol y cyfeiriwch chi yn benodol atyn nhw, wrth gwrs, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cyllid yr UE wedi cyfrannu at ymdrechion y Llywodraeth o ran mynd i'r afael â'r clefyd hwn, ond rwyf hefyd yn pryderu'n arbennig am yr effaith ar y gweithlu milfeddygol a'r milfeddygon sydd ar gael, oherwydd rydym ni'n gwybod bod tua 44 y cant o'r holl filfeddygon newydd yng Nghymru yn y degawd hyd at 2017 wedi dod o dramor, ac os collwn ni'r bobl hynny, yna, yn amlwg, rydym ni'n mynd i fod yn fwy agored fyth nid yn unig i TB ond mathau eraill o glefydau hefyd.

Yn olaf, Gweinidog, ynglŷn â brechiadau: yn amlwg, rydych chi'n benderfynol o ddefnyddio'r dull hwnnw, ac mae'n debyg bod gan frechu ran yn hyn. Nid yw ond yn atal, wrth gwrs, nid yw'n gwella TB buchol, felly nid yw'n ateb ynddo'i hun, ond gall gyfrannu at strategaeth ehangach. Ond rydym ni'n gwybod, i'n niwed ein hunain, bod problemau yn ymwneud â chyflenwi, felly onid ydych chi'n cydnabod y bydd unrhyw strategaeth frechu wastad yn agored i unrhyw amharu ar y cyflenwad ac nad yw hynny bob amser yn sail ddibynadwy iawn ar gyfer datblygu eich strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â TB buchol?

17:10

Diolch, Llyr, am y cwestiynau hynny. Addewais y byddwn yn rhoi datganiad yn dilyn cyflwyno'r rhaglen ar ei newydd wedd o fewn yr amserlen hon, felly mae'r rheswm dros y datganiad hwnnw heddiw yn ganlyniad i'r addewid hwnnw. Ond nid wyf i'n anghytuno â chi, y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael yr adroddiad gwaith maes hwnnw, ac yn sicr, pan gaf yr adroddiad, byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd; a hynny drwy gyfrwng datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig a fydd yn amlwg yn ddibynnol ar amserlenni.

Mae'n bwysig iawn edrych ar ddulliau gweithredu gwahanol. Yn wir, mae'r prif swyddog milfeddygol, ar ôl y datganiad hwn heddiw, yn mynd i Ddulyn i siarad â chydweithwyr yno ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn Lloegr, sef yr adolygiad o'r strategaeth TB buchol. Ac, os edrychwch chi ar lawer o'r gwaith sydd yn yr adolygiad hwnnw, fe welwch chi ein bod ni wedi'i ymgorffori yn ein rhaglen ni i ddileu TB, felly roeddwn yn falch iawn o weld bod agweddau allweddol ar ein rhaglen eisoes yn cael sylw yma a'u crybwyll yn yr adroddiad. Deallaf fod DEFRA yn ymateb i'r adroddiad hwnnw yn yr hydref, ac yn sicr bydd o ddiddordeb mawr i mi i weld yr hyn a ddywedant.

O ran iawndal, rydych chi'n gywir, fe wnaethom ni ostwng yr iawndal pan lansiwyd y rhaglen ddileu gennym ni. Yr ateb a roddais i Andrew R.T. Davies—roeddwn yn ceisio egluro nad oeddwn yn gwneud cysylltiad llwyr â Brexit, ond, rydych chi'n gywir, rydym ni'n mynd i golli tua 10 y cant o'n cyllid, o bosib, er y dywedwyd wrthym ni, wrth gwrs, na fyddem ni'n colli ceiniog pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cefais y sgwrs honno ddoe gyda'm cymheiriaid yn y DU pan wnaethom ni gyfarfod yn rhan o'n cyfarfodydd pedairochrog; fe wnaethom ni gyfarfod yma yng Nghaerdydd ddoe. Felly, mae ynglŷn ag edrych i'r dyfodol i weld a fydd yn rhaid imi ddod o hyd i'r arian hwnnw o'm cyllideb fy hun neu a fyddwn ni, fel yr addawyd, yn cael pob ceiniog ac wedyn ni fydd y broblem honno yn bodoli.

Bu imi leihau'r uchafswm, efallai y cofiwch chi, i £5,000 pan wnaethom ni adnewyddu'r rhaglen dileu TB ac roeddem ni'n gwybod na fyddai'r newid yn effeithio ar fwyafrif y ffermwyr, yn ôl pob tebyg, ac mae'n rhaid imi ddweud nawr fy mod i'n deall ei fod wedi arbed tua £49,500 inni yn sgil gostwng y terfyn hwnnw. Felly, nid yw'n swm enfawr, ond, unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â hybu arferion da a pheidio â gwobrwyo arferion gwael hefyd.

Fe ofynnoch chi am filfeddygon ac rydych chi yn llygad eich lle. Os edrychwch chi ar rai'r Llywodraeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, rwy'n credu fod 100 y cant o'n milfeddygon yn wladolion yr UE, felly mae'n destun pryder mawr ac yn rhywbeth yr wyf i wedi rhoi sylw iddo ar bob cyfle a gefais, gyda Michael Gove. Ac, yn amlwg, maen nhw'n rhannu ein pryderon, gan eu bod yn yr un sefyllfa yn union a ni—efallai nid 100 y cant, ond yn sicr mae'r rhan fwyaf o'u milfeddygon yn wladolion yr UE.

O ran brechu, byddwch yn ymwybodol o'r rhaglen bum mlynedd a fu gennym ni ac y cyflawnwyd pedair blynedd ohoni, ond yna cawsom—mae'n amlwg nad oedd y cyflenwad byd-eang o'r brechlyn ar gael. Mae bellach ar gael eto ac rydym ni'n gobeithio gwneud hynny. Yn wir, mae ffenest wedi agor lle gall pobl wneud cais amdano, i wneud hynny'n breifat. Rwy'n credu bod y ffenest yn cau heddiw, ond yn sicr rydym ni wedi cael y cynnig hwnnw, ac eto, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn yn fy natganiad y buom ni'n gweithio gyda grŵp ym Mhenrhyn Gŵyr sydd—maen nhw'n ei wneud yn annibynnol, ond rydym ni yn eu cefnogi nhw hefyd.

17:15

Rwy'n cydnabod bwriadau gorau'r Gweinidog, ei meddwl agored a'i pharodrwydd i ystyried gwneud pethau sy'n wleidyddol anodd iddi yn ei phlaid a'i pharodrwydd cyffredinol i ymgysylltu â ffermwyr a'r gymuned ffermio yn gyffredinol ar y mater eithriadol o anodd hwn. Ond, er gwaethaf hynny i gyd a 18 mis ar ôl cyflwyno'r rhaglen ddileu ar ei newydd wedd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth, yn ddiamwys, yn ennill y rhyfel yn erbyn TB. Ac rwy'n cytuno â Llyr Gruffydd, o ran yr hyn a ddywedodd yn gynharach, fod y Gweinidog, yn y datganiad, yn ymddangos fel pe bai'n beio ffermwyr ar goedd i raddau, pan, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru sydd â'r ateb i'r broblem hon yn y pen draw, gan mai polisi'r Llywodraeth sy'n mynd i alluogi gweithredu mesurau sy'n cynnig gobaith o wir lwyddiant. Ac nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r ffigurau nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwneud unrhyw gynnydd sylweddol o gwbl. Mae'r Gweinidog yn priodoli'r cynnydd o 12 y cant mewn achosion o ladd gwartheg i sensitifrwydd cynyddol o ran profi a gwylio ar gyfer TB, ond dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad:

Rydym ni'n disgwyl i'r buddsoddiad hwn o ran cael gwared yn gynharach ar wartheg sydd wedi'u heintio greu buddion yn y tymor canolig.

Wel, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, does dim amser gan ffermwyr mewn gwirionedd; mae TB yn effeithio'n ddirfawr ar yr economi wledig ac yn dinistrio bywoliaeth y rhai sy'n cadw gwartheg, a llawer ohonyn nhw'n ffermydd teuluol. Rwy'n cydnabod ei bod hi yn llawn werthfawrogi'r effaith seicolegol ddofn yn ogystal â'r effaith economaidd y gall buches heintiedig ei achosi.

Yn 2017, roedd hi'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweithredu'n briodol ac roeddwn yn cymeradwyo ar y pryd, ac wedi gwneud ers hynny, ei pharodrwydd i frwydro yn erbyn y clefyd ymhlith bywyd gwyllt drwy ddal â chewyll, profi a difa moch daear heintiedig heb greulondeb. Ond, fel y nododd Llyr Gruffydd eto, mae'r ffigurau hyn yn gwbl druenus. Nid yw'r tair trwydded ar dair fferm yng Nghymru gyfan hyd yn oed y smotyn lleiaf. I roi hyn yn ei gyd-destun, caiff buwch ei lladd yng Nghymru o ganlyniad i TB bob 46 munud, tra bydd mochyn daear yn cael ei ddifa bob 3.6 mis. Felly, os yw hyn yn arwydd o flaenoriaethau'r Llywodraeth, yna maen nhw'n seiliedig ar gamddealltwriaeth llwyr, yn fy marn i. Mae NFU Cymru wedi dweud bod hyd at un o bob pum mochyn daear yng Nghymru wedi'i heintio â TB, felly mae'n rhaid inni, os ydym ni i fynd i'r afael â'r broblem hon, wneud rhywbeth ynghylch yr haint mewn bywyd gwyllt.

Nawr, dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad ei bod yn gweithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid a milfeddygon ym Mhenrhyn Gŵyr i gael brechlyn ar gyfer moch daear. Sut bydd llwyddiant yn y maes hwn yn cael ei fesur? Mae rhaglenni dileu blaenorol wedi profi nad yw'r hyn a elwir yn ddull gwyddonol wedi llwyddo i gyflawni dim ond methiant. I'r gwrthwyneb, er bod milfeddygon yn ymlid moch daear ar draws Penrhyn Gŵyr gyda'u brechiadau, yn Lloegr, cafwyd cryn lwyddiant drwy bolisi cwbl wahanol. Yn sgil difa moch daear mewn ardaloedd risg uchel yn Lloegr cafwyd y canlyniadau canlynol: ym mis Rhagfyr 2018, datgelodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ostyngiad yn y clefyd mewn gwartheg yn ystod y cyfnod difa pedair blynedd, gyda nifer yr achosion o TB buchol a oedd wedi'u cadarnhau tua 50 y cant yn llai. Yn ardal Caerloyw, mae'r gyfradd o achosion wedi gostwng o 25 y cant i 12 y cant yn y 12 mis yn dilyn y bedwaredd flwyddyn o ddifa moch daear. Yng Ngwlad yr Haf, mae achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng o 10.4 y cant i 5.6 y cant. Mae hynny'n welliant gwirioneddol.

Nawr, rwyf yn sylweddoli bod hyn yn fater anodd ac emosiynol, ond o gofio'r hyn a ddywedodd Simon Thomas lawer gwaith, pan oedd yn llefarydd Plaid Cymru ar amaeth, mae'r dewis yn un syml, un ai rydych chi'n difa moch daear neu'n difa gwartheg, ac, o'r ddau, rwy'n gwybod pa un sydd orau a'r mwyaf effeithiol yn y tymor hwy. Yr hyn sydd ei angen yw mynd ati o sawl cyfeiriad, ac rwy'n derbyn fod llawer o'r hyn a ddywed y Gweinidog yn synnwyr cyffredin o ran bioddiogelwch a'r rheolaethau ar symudiadau gwartheg, cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer ffermydd, yn enwedig mewn ardaloedd o risg uchel, a gwybodaeth hawdd ei gael i ffermwyr ynghylch sut i atal TB rhag cael ei drosglwyddo. Ond mae mynd i'r afael â'r broblem o TB yn lledaenu ymhlith bywyd gwyllt drwy ddifa yn ôl y drefn yn Lloegr yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yng Nghymru yn ymddangos i mi yn ffordd gwbl anhepgorol o symud ymlaen os yw hi eisiau i'r polisi lwyddo a dyna, fel rwy'n gwybod, yw ei nod.

17:20

Diolch, Neil Hamilton, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Ni welaf fod gostyngiad o 5 y cant yn nifer yr achosion newydd yn fethiant; rwyf yn gweld hynny'n llwyddiant. Cytunaf yn llwyr am nifer y gwartheg sydd wedi'u lladd. Rhoddais y rhesymau pam fy mod i'n credu mai dyna'r achos, ond rwyf, wrth gwrs, eisiau gweld gostyngiad yn hynny, ac rwyf wedi sôn am hyblygrwydd y rhaglen hon ac, ymhen 12 mis arall, pan fyddwn yn edrych arno, gobeithiaf weld llwyddiant yn y maes hwnnw hefyd, yn sicr.

Mae Neil Hamilton yn siarad am y cynlluniau gweithredu pwrpasol, ac rydym ni wedi cael 59 o gynlluniau gweithredu hyd yn hyn. Yn amlwg, mae'r cyfnod 18 mis yr ydym ni'n ei ystyried lle cafwyd yr achosion hirdymor hyn, sef pan rydym ni ymweld â ffermydd a llunio'r cynlluniau gweithredu pwrpasol—soniais fod 21 bellach yn glir o TB. Fe sonioch chi am y ffaith mai tair trwydded yn unig sydd yna. Wel, mae hynny oherwydd amrywiaeth o resymau, lle mae'r milfeddygon wedi penderfynu nad oes unrhyw ymyriad gan fywyd gwyllt, neu efallai bod y ffermwr wedi penderfynu nad yw'n dymuno i'r agwedd honno gael ei hystyried. Felly, nid wyf yn credu y gallwch chi feirniadu mai dim ond tair trwydded oedd yna. Mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn yn edrych ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys bioddiogelwch. Rwy'n credu bod yn rhaid ystyried y gwaith o ymyrryd â moch daear yn rhan gymharol fach, ond, wrth gwrs, yn elfen gymhleth o raglen fwy o lawer. Nid oes unrhyw gynllun gweithredu wedi dynodi buches lle mai moch daear yw'r unig reswm dros y clefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny, ac yn gyson rwyf wedi gwrthod difa moch daear yn y modd y gwneir hynny yn Lloegr. Nid yw'r wyddoniaeth yr wyf i wedi'i gweld, y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael â fy swyddogion, â'r prif swyddog milfeddygol, wedi fy narbwyllo y byddai hynny'n briodol i Gymru.

Buom ni'n siarad o'r blaen am y cynnydd sydyn dros dro yn yr ardal ganolradd, ac roedd Andrew R.T. Davies yn gofyn beth arall y gallai ffermwyr ei wneud, a soniais am yr ymweliadau 'cadw TB allan' gyda milfeddygon, a dim ond dau ymweliad y gofynwyd amdanynt yn yr ardal honno. Felly, mae hynny efallai'n rhywbeth y gall ffermwyr gysylltu ag APHA yn ei gylch yn fwy. Ond yn sicr, nid wyf yn beio ffermwyr; rwyf i wedi dweud o'r dechrau fy mod i'n dymuno cydweithio, ac rwy'n credu mai gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen os ydym ni eisiau dileu'r clefyd hwn.

17:25

Diolch am eich datganiad heddiw. Nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth, ond rwy'n amlwg yn mynd i ddweud, unwaith eto, na allaf gefnogi—ac rwy'n falch nad ydych chi yn cefnogi—trefn gynhwysfawr o ddifa moch daear. Os edrychwn ni ar gost hynny, mae'r holl wyddoniaeth yn ei gwneud hi'n berffaith glir, oni bai eich bod yn difa'r boblogaeth moch daear yn sylweddol, neu bron â bod yn llwyr, nad yw hynny'n mynd i gael yr effaith y mae pawb yn credu y bydd yn ei gael. Mae hynny eisoes yn digwydd mewn rhai mannau o Loegr, lle mae moch daear ar fin diflannu. Ac yn fy marn i, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn. Rydym ni'n difa rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod, ac mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny. Mae wedi costio £50 miliwn i'r trethdalwr yn barod, ac nid wyf i erioed wedi clywed neb yn sôn am y gost benodol honno. Felly, rwy'n falch, Gweinidog, eich bod yn edrych ar yr holl agweddau gwahanol, ac rydych chi wedi nodi cysylltiad â symudiadau gwartheg mewn rhai achosion. Roeddwn yn mynd i ofyn, ond mae'n ymddangos eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn yn barod, a oes rhaid inni orfodi hynny, a oes rhaid iddo fod yn orfodol. Does bosib fod pobl yn symud gwartheg heb fynd drwy broses sy'n ei gwneud—. Does dim ffermwr eisiau TB—rwy'n cydnabod hynny—ac rwy'n credu bod unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu'r ffermwyr hynny i beidio â chael yr haint yn beth cadarnhaol, ac efallai bod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud.

Rwy'n credu fy mod i hefyd wedi gofyn y cwestiwn hwn o'r blaen, ac rwy'n mynd i'w ofyn eto. A yw hi'n wir bod rhai ffermydd bron wedi bod mewn sefyllfa o gael eu heintio gan TB? A ddylem ni ystyried y posibilrwydd gwirioneddol mai felly y bydd hi bob amser a pham mai dyna yw'r achos? A oes ffactorau fel y ffaith bod y tir wedi'i heintio mor ddrwg gan TB, efallai gan y slyri sydd ar y ffermydd hynny? Ac a ddylem ni ystyried—ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd ein bod ni, mewn rhai achosion—yn dod i'r casgliad terfynol, bod cadw gwartheg, yn achos rhai ffermydd, yn gwahodd y gwartheg hynny i gael TB oherwydd bod y tir wedi'i heintio mor ddrwg? Nawr, efallai mai dyna'r achos—a gallaf glywed rhywfaint o ochneidio sydyn—fod hyn yn gasgliad anodd i rai, ond gallai fod yn gasgliad angenrheidiol, a'r cyfan yr ydym ni'n mynd i'w wneud ar y ffermydd hynny yw achosi trallod i'r ffermwr yn y pen draw, i'r anifeiliaid, ac, wrth gwrs, cost i'r pwrs cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni ystyried hynny hefyd.

Rwy'n cydnabod bod trallod a bod torcalon yn rhan o hyn, ac rwy'n falch iawn o glywed bod gennym ni ganolfan ragoriaeth TB buchol yr ydym ni bellach yn gweithio gyda hi. Roedd cynhadledd hefyd yn Derby yr wythnos diwethaf, ym Mhrifysgol Derby, a hon oedd y gynhadledd genedlaethol gyntaf erioed ar frechu moch daear. Roedd tua 80 o grwpiau a sefydliadau sydd eisoes yn brechu moch daear neu'n dymuno dechrau rhaglenni brechu yn bresennol. Felly, unwaith eto, hoffwn wybod a fydd eich adran yn adolygu casgliadau'r gynhadledd honno ac yn gweld a allwn ni ddysgu oddi wrthi a helpu i leihau'r clefyd hwn.

Diolch, Joyce Watson, am eich cwestiynau. Gan droi at y sylw olaf yna—ac, yn sicr, mae swyddogion yn monitro'r gwahanol raglenni a systemau a ddefnyddir o ran ceisio dileu TB buchol yn gyson—soniais o'r blaen fod y prif swyddog milfeddygol yn mynd i Ddulyn heddiw, i—. Anghofiaf pa brifysgol ydyw. Bydd yr Athro Hewinson, y soniais amdano, sy'n gweithio yn ein canolfan ragoriaeth, yno gyda hi hefyd, oherwydd mae pobl yn dymuno dysgu ganddo. Mae e'n fyd enwog, ac, i mi, mae e'n ffynhonnell wych o gyngor pan fyddaf angen hynny. Felly, rwy'n credu bod a wnelo hyn â dysgu gan wledydd eraill, ond hefyd mae'n dda gweld bod pobl yn gwahodd ein harbenigwyr ni hefyd er mwyn dysgu ganddyn nhw.  

Mae'r cwestiwn yr ydych chi'n ei holi—sy'n un anodd—ynghylch ffermydd penodol, wedi ei ofyn i mi sawl gwaith gan ffermwyr unigol. Ond, yn sicr, unwaith eto, nid yw swyddogion wedi rhoi'r cyngor hwnnw imi. Ond gallwch weld yn glir lle mae gennym ni'r achosion hirdymor hyn, a dyna oedd un o'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus—. Mae'n bosib y byddwch chi'n cofio o'r adeg y gwnes i ddatganiad am y rhaglen wedi'i hadnewyddu fod rhai o'r achosion hyn wedi bodoli ers blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd. Ac fel y dywedwch chi, mae'n llawn trallod, trafferth a thorcalon. Felly, er nad wyf i wedi cael cyngor ynglŷn â hynny, mae ffermwyr unigol wedi codi'r cwestiwn hwnnw â mi, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth a fydd yn cael ei drafod yn y dyfodol. 

O ran prynu ar sail gwybodaeth, soniais mewn ateb cynharach ei fod yn rhywbeth yr ydym ni yn ystyried ei wneud yn orfodol. Roeddwn i eisiau ei wneud yn wirfoddol, yn sicr, a gwnes yr arian hwnnw ar gael i farchnadoedd da byw. Credaf fod angen i ffermwyr fod yn fwy cyfrifol o ran prynu, ond mae angen yr wybodaeth honno arnyn nhw, a dyna pam fy mod i eisiau gweithio gyda marchnadoedd da byw, rhoi arian iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu uwchraddio eu cyfleusterau i'w galluogi i fod yn arddangos mewn modd amlwg unrhyw wybodaeth TB am y gwartheg sy'n cael eu gwerthu. Ond, yn anffodus, yn sicr wrth imi ystyried yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn diwethaf, mae'n ymddangos mai ychydig iawn o wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno gan werthwyr i alluogi ffermwyr i wneud y penderfyniadau hynny.

Felly, yn sicr, rwy'n gwybod fod DEFRA hefyd yn ystyried y posibilrwydd o system brynu ar sail gwybodaeth orfodol, felly rydym ni'n cydweithio â nhw. Mae'n gymhleth iawn. Byddai angen, wrth gwrs, ymgynghori. Byddai angen newid y ddeddfwriaeth. Nid yw'n rhywbeth y gallwch chi ei wneud yn gyflym iawn. Mae profion cyn ac ar ôl symud yn lleihau, ond, wrth gwrs, nid yw'n cael gwared ar y perygl, oherwydd mae'n amlwg y gall gwartheg gael eu heintio ar ôl cael prawf neu oherwydd y gallan nhw fod yng nghyfnod cynharach yr haint a'i fod yn rhy gynnar i'w ganfod. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen imi ei ystyried, oherwydd mae'n gwbl hanfodol fod ffermwyr yn cael yr wybodaeth honno fel y gallan nhw ystyried o le i brynu eu gwartheg.  

17:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth i Ddysgwyr sydd o dan Anfantais a Dysgwyr sy'n Agored i Niwed

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Addysg am gefnogi dysgwyr dan anfantais ac agored i niwed, a galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni ddylai gallu person ifanc i elwa ar addysg byth fod yn ddibynnol ar ei gefndir na'i amgylchiadau personol. Mae cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd. Sicrhawyd grant datblygu disgyblion yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru ar y pryd, ac mae wedi arwain at dros £475 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, sydd wedi rhoi cefnogaeth uniongyrchol i dros hanner miliwn o bobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i gyrraedd eu potensial.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i ehangu, o ran y grwpiau o ddysgwyr y mae'n eu cefnogi erbyn hyn a maint y buddsoddiad. Mae'r cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd lle y caiff yr effaith fwyaf, ac rydym yn gwybod mai yn y blynyddoedd cynnar y mae hynny, felly rydym wedi cynyddu'r elfen hon o'r cyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac mae'n cefnogi grwpiau y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys ein pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a dyna pam yr ydym wedi cryfhau trefniadau'r grant ar gyfer plant sy'n derbyn gofal o'r mis hwn ymlaen.

Mae ysgolion yn parhau i ddweud wrthym pa mor amhrisiadwy yw cyllid y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod na all cyllid wedi'i dargedu fod yr unig ateb. A bod yn blwmp ac yn blaen, Dirprwy Lywydd, nid yw ein system bresennol bob amser wedi gwobrwyo'r ymddygiadau iawn, ac nid yw'r ffordd yr ydym yn mesur y bwlch mewn cyrhaeddiad mor syml ag y mae rhai yn ei honni. Mae nifer y disgyblion sy'n cofrestru ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth yn enghraifft dda iawn. Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion PYDd yng Nghymru a gofrestrwyd ar gam ar gyfer gwyddoniaeth BTEC, yn hytrach na TGAU. Yn ogystal â chyfyngu ar ddyheadau, roedd hyn yn golygu bod eu perfformiad wedi'i guddio yn ein ffigurau o ran y bwlch cyrhaeddiad cenedlaethol. Rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, sydd wedi arwain at gynnydd o 30 y cant, ers 2016, yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim sydd wedi cyflawni o leiaf un cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi manylion ein trefniadau gwerthuso a gwella drafft. Roedd pwyslais blaenorol ar y ffin C/D yn cefnogi llawer, ond yn eithrio eraill. Yn hytrach, bydd ysgolion erbyn hyn yn cael eu gwerthuso yn ôl y gwahaniaeth y maen nhw yn ei wneud i gynnydd pob plentyn unigol. Bydd hyn yn golygu newid yn niwylliant y system gyfan a bydd yn hanfodol ar gyfer gwella cyrhaeddiad pawb.

Trwy adnoddau wedi'u targedu, mesurau atebolrwydd mwy deallus, a gosod disgwyliadau uchel i bawb, byddwn yn parhau i gefnogi pob dysgwr i gyrraedd y safonau uchaf. Fodd bynnag, rwy'n credu y gall y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon gytuno, ar adegau o gyni, mai teuluoedd a disgyblion o'n cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n ei chael hi'n anoddaf yn aml.

Gwn fod cost y diwrnod ysgol yn fater pwysig. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi cymryd nifer o gamau arwyddocaol i gefnogi teuluoedd a'u plant. Y llynedd, gofynnais i'r mudiad Plant yng Nghymru lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion yn trafod agweddau allweddol ar hyn. Bydd y canllawiau'n canolbwyntio ar gyfleoedd i newid diwylliant mewn ysgolion ynghylch anfantais a darparu strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â heriau penodol sy'n gysylltiedig â chost y diwrnod ysgol. Bydd y gyfres gyntaf o ganllawiau ar gael o fis Medi ymlaen a bydd rhagor yn cael eu datblygu ar ôl hynny.

Cyflwynwyd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, sy'n cynorthwyo teuluoedd â chostau gwisgoedd ysgol, cit chwaraeon a chyfarpar, yn benodol i helpu'r teuluoedd sydd fwyaf ei angen. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ni ddyblu'r cyllid sydd ar gael i £5 miliwn. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymestyn y cymhwysedd i ddechrau pob cyfnod allweddol. Bydd cyllid ar gael i blant sy'n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol, gan fanteisio i'r eithaf ar y cymorth y gallwn ei roi i rai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Rydym hefyd wedi cynyddu'r swm sydd ar gael i ddysgwyr cymwys ym mlwyddyn 7 o £125 i £200, gan gydnabod y costau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. Yn fwy cyffredinol, rwy'n dymuno sicrhau ein bod yn gwneud pob dim posibl i wneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft newydd yr wyf yn gobeithio y byddant yn dod i rym ym mis Medi eleni.

Fel y mae pob un ohonom yn gwybod, i rai o'n pobl ifanc a'n plant, gall gwyliau haf yr ysgol fod yn gyfnod anodd. Weithiau gall plant sy'n cael brecwast a chinio ysgol am ddim fynd heb y prydau hyn a mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol. Dyna pam yr ydym yn ariannu y rhaglen gyfoethogi yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hon yn cyflawni deilliannau addysgol, cymdeithasol ac iechyd, yn ogystal â manteision maeth, ac rydym wedi cynyddu'r buddsoddiad hwn eto er mwyn i fwy fyth o blant gael budd o'r cynllun yr haf hwn.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi £2.3 miliwn arall yn ddiweddar i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i ddysgwyr ym mhob ysgol. Rwy'n falch heddiw o gyhoeddi cyllid ychwanegol o £845,000 hefyd i gynnig yr un gwasanaeth am ddim i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Yn ogystal â chefnogi ein menywod ifanc sydd dan anfantais, bydd effaith y cyllid yn ehangach, gan ganolbwyntio ar urddas, cydraddoldeb a lles.

Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig hefyd fy mod i'n cyfeirio at y cymorth yr ydym yn ei gynnig i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy'n dymuno astudio yn y brifysgol. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai costau byw, nid ffioedd, yw'r rhwystr mwyaf i bobl rhag astudio mewn prifysgol. Mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, gan arwain at y pecyn cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.

Mae gan israddedigion llawn amser sydd ag incwm aelwyd o hyd at £18,370 yr hawl i gael y grant uchaf posibl, gwerth £8,100 y flwyddyn. Mae data dros dro gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer 2018-19 yn dangos bod oddeutu traean o israddedigion llawn amser wedi cael y lefel uchaf hon o grant. Mae ein diwygiadau yn unigryw yn Ewrop, gan gynnig cydraddoldeb cefnogaeth i fyfyrwyr rhan-amser. Yn ogystal â chynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy'n cael cymorth, mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos bod hanner y rhai a gefnogwyd hefyd wedi cymhwyso ar gyfer uchafswm y grant.

Rwyf hefyd wedi siarad o'r blaen ynghylch y ffaith mai symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yw ein her nesaf o ran ehangu cyfranogiad. Byddwn yn mynd i'r afael â'r her hon trwy gyflwyno cymorth costau byw cyfwerth i fyfyrwyr gradd Feistr. Rwyf i'n falch iawn bod y ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 58 y cant yn nifer yr ôl-raddedigion a gefnogir, ac mae hwn yn faes lle byddwn yn parhau i wneud cynnydd gwirioneddol.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi rhoi trosolwg byr heddiw o rai o'r camau a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth fod llawer mwy i'w wneud eto, ac rwy'n awyddus bob amser i glywed barn yr Aelodau, ond, fel Llywodraeth, rydym yn dal i fod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw, yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.

17:40

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y crynodeb yna o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rydym yn cytuno â chi na ddylai eich gallu i gymryd rhan mewn addysg fod yn ddibynnol ar eich cefndir, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y byddai'n eithaf defnyddiol clywed gan Lywodraeth Cymru rywbryd yn fuan am y gwaith y mae'n ei wneud i wyrdroi effeithiau andwyol profiadau yn ystod plentyndod. Roedd yn sicr yn rhywbeth yr oedd y diweddar Carl Sargeant yn awyddus iawn i'w wneud, ac rwy'n credu y byddai unrhyw wybodaeth sydd gennym am hynny yn cyd-fynd yn dda iawn â'r datganiad yr ydych wedi ei wneud heddiw.

O ran y manylion, roeddwn i'n falch o weld cyfeiriad at y fframwaith gwerthuso a gwella drafft a'r gydnabyddiaeth, neu o leiaf yr awgrym, nad yw ein plant mwyaf disglair yn academaidd wedi cael y sylw y dylent fod wedi ei gael, o bosibl, o ran eu cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr wedi codi pryderon ynghylch yr esgeulustod caniataol hwn ers peth amser, felly efallai y gallwch ddweud wrthym pryd yr ydych yn rhagweld y bydd y fframwaith drafft yn cael ei gwblhau a'i gyhoeddi ac a fydd pwyslais penodol ar blant mwy galluog a thalentog wedi'i nodi yn y fframwaith terfynol hwnnw—pa un a fydd yn cael ei ddewis fel rhywbeth i ganolbwyntio arno.

Diolch hefyd am ganiatáu i swyddogion ein briffio am y cwricwlwm newydd heddiw. Un o'r pethau y sylwais arno o hynny yw nad yw'r camau cynnydd—ac rwy'n cyfaddef, mai newydd weld y rhain ydym ni—yn rhagnodol, yn yr ystyr bod yn rhaid i athrawon neu ysgolion gyflawni deilliannau penodol ar adegau penodol. Ac nid yw'n glir i mi, felly, faint o gymhelliant y bydd ei angen ar ysgolion i sicrhau cynnydd, nac yn wir sut y cânt eu cymell i sicrhau cynnydd bob plentyn. Ac rwy'n credu y bydd y fframwaith gwerthuso a gwella yn cynnwys rhywbeth i'n helpu i ddeall hynny, o ran craffu.

Rwy'n falch o nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr arian ar gyfer gwisgoedd ysgol a chynhyrchion mislif, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, fel finnau, yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y dreth tampon ar ôl inni adael yr UE.

Serch hynny, tybed a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint ynghylch cyllido prydau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, oherwydd wrth reddf, wrth gwrs, rydym yn deall pam y byddai angen y cyfle hwnnw ar blant mewn angen gwirioneddol. Rydym yn gweld sut y mae'n gweithio yn ystod tymor yr ysgol, gan roi digon o faeth i blant i'w galluogi i ddysgu. Felly, ni fyddwch yn ein gweld ni yn herio bodolaeth y ddarpariaeth hon, ond os byddwch chi'n dechrau o'r safbwynt mai cyfrifoldeb y rhieni, yn amlwg, yw bwydo eu plant a bod y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dipyn o erfyn di-awch—rwy'n credu ein bod ni wedi sôn am hyn o'r blaen yn y Siambr hon—sut byddwch chi'n monitro ac yn gwerthuso pwy sy'n defnyddio'r ddarpariaeth hon mewn gwirionedd? A fydd rhai teuluoedd sy'n gallu bod yn gyfrifol am eu plant yn defnyddio hyn yn ddiangen? Ond, yn bwysicach, a fydd rhai plant na fyddant yn elwa ar hyn? Oherwydd, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn ystod tymor yr ysgol, nid oes swyddog presenoldeb ysgol a allai fod yn ymweld â theuluoedd. Os yw hyn yn fwy na chyfle i blant gael eu bwydo, ac efallai'n gyfle i rieni ddod o hyd i waith hefyd—efallai y bydd ganddyn nhw amser i wneud hynny os yw eu plant mewn clybiau gwyliau a phethau eraill o'r fath—sut y mae hynny'n cael ei fonitro fel bod y ddarpariaeth yn cael ei defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol?

Yn drydydd, rwy'n meddwl fy mod i wedi gofyn i chi o'r blaen ynglŷn ag a oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch pa un a oedd darpariaeth hael y grant yn cuddio penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol i ddarparu symiau llai o gyllid craidd i ysgolion. Ac, yn ystod y trafodaethau ynghylch hyn yn y pwyllgor yn lled ddiweddar, mynegwyd pryderon gennych ynghylch y cyfraddau dirprwyo ar grantiau a ddarperir yn ganolog, ynghylch faint o arian a pha mor gyflym yr oedd yr arian hwnnw'n cyrraedd yr ysgolion. Felly, a oes gennych chi unrhyw syniad hyd yn hyn o ba mor gyflym y mae'r arian ar gyfer gwisgoedd ysgol, cynhyrchion mislif a'r rhaglen gyfoethogi yn ystod y gwyliau yn cyrraedd y rhai a ddylai fod yn ei wario? Unwaith eto, a oes rhywrai nad ydyn nhw'n cael hyn y dylen nhw fod yn ei gael?

Ac yna, yn olaf, eich sylwadau ynghylch myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy'n dymuno astudio yn y brifysgol. Nawr, bydd gofalwyr ifanc sy'n cael yr addysg dan oruchwyliaeth fwyaf yn colli eu lwfans gofalwr, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn achub ar y cyfle hwn i gynnig rhywfaint o gefnogaeth i bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig i lenwi'r bwlch cyllido hwnnw ar gyfer y bobl ifanc hynny y byddai colli'r lwfans gofalwr yn effeithio arnynt.

Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion ynglŷn ag astudiaethau rhan-amser a'r rhai sy'n dewis astudio am gymhwyster gradd Feistr, a'r cymorth costau byw maen nhw'n ei gael. Ond a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw eich cynlluniau ar gyfer astudiaeth hydredol o'r myfyrwyr MA hynny? Oherwydd dau ganlyniad anfwriadol ymgyrch y Blaid Lafur i gael 50 y cant o bobl ifanc i fynd i'r Brifysgol oedd dibrisio'n anfwriadol bethau nad oeddent yn raddau prifysgol, cymwysterau gwahanol. Mae'n ymddangos i mi fod mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl â chymwysterau gradd Feistr erbyn hyn i'w helpu i'w gosod ar wahân i ymgeiswyr â gradd. Nawr, ni ddylid atal neb sy'n dymuno astudio cymhwyster gradd Feistr defnyddiol rhag gwneud hynny oherwydd rhesymau ariannol, rydym yn cytuno'n llwyr yn hynny o beth, ond sut ydych chi'n annog myfyrwyr i ailfeddwl pa un ai gradd Feistr yw'r cam nesaf gorau ar eu cyfer, neu a allai cymhwyster arall neu lwybr hyfforddi gwahanol fod yn fwy gwerthfawr neu a fyddai'n fwy addas ar eu cyfer? Y rheswm rwy'n gofyn hyn yw, mewn sylwadau cynharach ynghylch y BTEC, fe wnaethoch chi gadarnhau i bob pwrpas nad oedd unrhyw fodd y byddai'n gyfwerth â chymhwyster TGAU ond y byddai wedi bod â pharch cydradd pe byddai wedi profi rhagoriaeth alwedigaethol yn drwyadl—ac rwy'n defnyddio 'galwedigaethol' yn ei ystyr ehangaf yn y fan yma. Os ydych yn cefnogi'r myfyrwyr MA yn y modd hwn, pa gynlluniau sydd gennych i gynnig cymorth tebyg i bobl sy'n dilyn cyrsiau cyfwerth ag MA sy'n alwedigaethol neu'n anacademaidd, os caf ei roi felly, os yw'r cymwysterau hynny'n fwy addas ar eu cyfer? Rwy'n credu ein bod i gyd o ddifrif ynghylch gweld parch cydradd i wahanol fathau o fyfyrwyr a'r mathau o ffyrdd y maen nhw'n dysgu. Er fy mod i wrth gwrs yn cymeradwyo'r hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r MA, nid wyf eisiau i hynny arwain at eithrio cymwysterau cyfwerth eraill ar gyfer gwahanol fathau o astudio, fel nad yw hyn yn dod yn rheswm arall eto dros anfon pobl ar lwybr nad yw efallai y llwybr gorau iddyn nhw. Diolch yn fawr.

17:45

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau y mae hi wedi eu codi y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth ddull gweithredu trawslywodraethol a dull gweithredu ar draws portffolios ar gyfer materion sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n ymwybodol iawn o ganlyniadau profiadau o'r fath ar allu plentyn i ddysgu. Rwyf i a'm cydweithiwr, Julie Morgan, yn cefnogi nifer o fentrau, megis yr Hyb Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod, a gynlluniwyd i ddatblygu arferion gorau ac ymgysylltu ag addysgwyr er mwyn iddyn nhw eu hunain ddeall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud mewn ysgolion meithrin ac ystafelloedd dosbarth i oresgyn yr heriau sy'n wynebu plant sydd wedi dioddef profiad o'r fath.

Ddoe ddiwethaf, roeddwn i gyda Suzy yn Ysgol Gynradd Clase yn ei rhanbarth hi, yn dilyn gwahoddiad ganddi, i weld sut maen nhw'n defnyddio'r grant datblygu disgyblion i ddarparu amgylchedd sy'n meithrin ac yn rhoi cymorth penodol i'r plant hynny y mae ei angen arnyn nhw. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiad y gwasanaeth hwnnw. Ar y cychwyn, roedd ar gael i'r plant ieuengaf un, ond mae'r athrawon wedi ymateb i anghenion eu poblogaeth gyfan ac erbyn hyn caiff plant ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 ddod i mewn ar amser egwyl ac amser cinio, eistedd gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig a siarad am unrhyw beth a allai fod yn eu poeni gartref neu y tu allan i'r ysgol sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Byddwn yn parhau i fonitro'r gallu i ymateb yn gadarnhaol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, o gofio, fel y dywedais, yr hyn a wyddom am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar allu plentyn i ddysgu.

Holodd Suzy Davies ynghylch materion yn ymwneud ag atebolrwydd. Rydym yn symud at system atebolrwydd sy'n fwy seiliedig ar ddeallusrwydd, sydd wirioneddol yn ysgogi egwyddorion tryloywder. Mae hyn yn arbennig o bwysig i mi o ran cyflawniad plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant a allai fod â phrofiad o dderbyn gofal. Yr hyn a fu gennym yn y gorffennol yw system, mewn gwirionedd, sydd wedi cuddio gwir lefelau perfformiad y plant hynny ac nid yw hyn wedi ei gwneud yn hawdd i ni nodi, ac i ysgolion nodi, sut maen nhw'n perfformio o'u cymharu ag ysgolion tebyg. Mae'n peri rhwystredigaeth i mi, er enghraifft, bod ysgolion yn yr un ardal awdurdod lleol, yn yr un ddinas, â'r un lefel neu gyfran o blant sy'n cael prydau ysgol am ddim a bod rhai o'r ysgolion hynny'n gwneud yn eithriadol o dda ar gyfer y plant hynny a bod eraill ar ei hôl hi. Mae angen data llawer mwy deallus arnom ni i allu llunio'r cymariaethau hynny er mwyn inni allu meincnodi, ond hefyd i gydnabod, mewn gwirionedd, bod pob un plentyn yn y garfan yn bwysig. A dim ond oherwydd bod rhywun wedi llwyddo i gael gradd C, os oedd gan y person hwnnw y potensial i gael gradd A, nid yw hynny'n ddigon da. Weithiau, i rai o'n plant, yn enwedig plant o gefndir mwy difreintiedig, rydym wedi gosod terfyn ar eu huchelgeisiau. Yn gynharach, fe wnaethom ni sôn am ddeddf gofal gwrthdro a'r canlyniadau i bobl o gefndir economaidd-gymdeithasol tlotach a'u gallu i ddefnyddio gwasanaethau. Os ydym am fod yn onest, weithiau rydym ni wedi rhoi'r terfyn ar yr uchelgais sydd gennym ar gyfer ein plant o'n cefndiroedd tlotach, ac mae'n rhaid i ni ddatgelu hynny a herio ein hunain a'r system o ddifrif i wneud yn well dros y plant hynny.

O ran atebolrwydd, mae cam cyntaf atebolrwydd ar ysgwyddau'r gweithwyr proffesiynol eu hunain. Ni all y system addysg yng Nghymru ddim ond bod cystal â'r bobl sy'n sefyll o flaen ein plant ac yn gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc o ddydd i ddydd. Eu hatebolrwydd proffesiynol nhw a'u parodrwydd i weithio yn unol â'r safonau addysgu yr ydym wedi'u datblygu yw cam cyntaf ein cyfundrefn atebolrwydd. Wrth gwrs, ar ôl hynny, mae'r mater o lywodraethu a llywodraethwyr ysgol, ein gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol, ac, wrth gwrs, Estyn, a byddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydym yn disgwyl, mewn gwirionedd, i Estyn fod mewn ysgolion yn amlach o ganlyniad i'n taith diwygio addysgol.

O ran SHEP, y rhaglen haf, mae'n rhaid imi ddweud, Suzy, eich bod yn llygad eich lle, cyfrifoldeb rhieni yn bennaf yw bwydo eu plant, ond ni wn i ble yr ydych wedi bod os nad ydych chi wedi cwrdd â theuluoedd yn eich rhanbarth chi nad oes ganddyn nhw, er gwaethaf eu hymdrechion gorau a gweithio nifer o swyddi weithiau, yr arian sydd ei angen arnyn nhw i dalu eu biliau i gyd. Rwyf i'n cwrdd â mamau sy'n anwybyddu eu hangen eu hunain, yn mynd heb fwyd eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod eu plant yn bwyta. Teuluoedd—. Dim ond yn ystod gwyliau'r Pasg yr ydym wedi gweld ystadegau Ymddiriedolaeth Trussell: mae mwy o bobl yn fy etholaeth i yn dibynnu ar fanciau bwyd nag erioed o'r blaen ac nid yw hynny oherwydd eu bod yn ddiofal mewn unrhyw ffordd; y rheswm yw mai nhw yw dioddefwyr diniwed system fudd-daliadau nad yw'n gweithio a'u hanallu i ddod o hyd i waith cyflogedig sy'n caniatáu iddyn nhw dalu eu rhent, eu biliau, a'r holl bethau eraill maen nhw'n dymuno eu gwneud ar gyfer eu plant. Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, gallwn naill ai eistedd yn ôl a gwneud dim, neu fe allwn ni, fel Llywodraeth, gymryd camau i gynorthwyo'r teuluoedd hyn. Nawr, yn 2016, pan ddatblygwyd y rhaglen SHEP gyntaf, cymerodd pum awdurdod lleol ran. Yn 2017, roedd hynny wedi cynyddu i 12 awdurdod lleol. Yn ystod yr haf eleni, bydd 21 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen SHEP gan ein bod wedi gallu cynyddu'r arian yr ydym wedi gallu gweithio gydag ef ar y cyd â CLlLC i gyflawni'r rhaglen honno.

O ran gwerthuso, wrth gwrs, mae hynny'n bwysig iawn. Deilliodd y rhaglen o waith a wnaed yn ardal Caerdydd. Gwerthuswyd y rhaglen honno, a dyna'r hyn sydd wedi rhoi'r hyder i ni wybod ein bod yn gallu cyflwyno'r rhaglen hon mewn mwy o ardaloedd. Ond rhan o'r gwaith yw rhaglen werthuso, a byddwn yn parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o newyn yn ystod y gwyliau. Gwn, unwaith eto, fod Julie Morgan a minnau'n edrych i weld a allwn ymestyn y rhaglen hon y tu hwnt i ysgolion ac yn edrych ar leoliadau eraill lle y gallwn fynd i'r afael â'r ffaith, yn ystod y tymor ysgol, y bydd llawer o deuluoedd, llawer o blant, yn cael eu brecwast a'u cinio, ac yn ystod y cyfnod gwyliau o chwe wythnos mae straen ariannol sylweddol ar deuluoedd i allu talu costau ychwanegol y bwydydd hynny. Diawch, rydych chi'n gwybod hynny, mae gennych chi fechgyn gartref. Rwyf i newydd fod trwy wyliau'r Pasg ac mae fy nhair merch i wedi bwyta'r cyfan sydd yn y tŷ. Mae'n ymddangos fy mod i wedi treulio holl wyliau'r Pasg yn yr archfarchnad yn prynu mwy o fwyd oherwydd bob tro yr wyf yn mynd adref maen nhw wedi bwyta—. Rydych chi'n gwybod—mae pob un ohonom ni sydd â phlant yn gwybod—am gost ychwanegol bwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'n sylweddol ac ni allwn osgoi hynny, ac rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno SHEP mewn 21 o awdurdodau lleol eleni, diolch i'n gwaith partneriaeth â chydweithwyr mewn llywodraeth leol.

Grant Datblygu Disgyblion: clywsoch chi gan Mrs Hope ddoe yn Ysgol Gynradd Clase am bwysigrwydd y rhaglen grant a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i ysgolion. Caiff yr arian hwnnw ei drosglwyddo'n uniongyrchol i ysgolion ac nid oes unrhyw awgrym o gwbl bod unrhyw un arall yn dal gafael ar arian y grant. O ran y ffrydiau arian amrywiol eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, caiff pob un o'r cynlluniau hynny ei ariannu mewn ffordd ychydig yn wahanol ond nid wyf i, ar hyn o bryd, yn bryderus ac nid oes gen i unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw'r arian ar gyfer SHEP na'r arian ar gyfer tlodi mislif yn cyrraedd y lle y mae ei angen.

17:50

Diolch am ryddhau'r datganiad hwn heddiw ac am y rhybudd ymlaen llaw. O'r hyn yr wyf yn ei weld o'r datganiad hwn, mae'r prif bwynt newydd yn rhywbeth nad yw'n uchel iawn yn y datganiad, sef cymorth i dalu am gynhyrchion mislif rhad ac am ddim mewn colegau addysg bellach, sef rhywbeth yr ydym wedi'i drafod eisoes, ond rwy'n sicr na chyhoeddwyd hynny pan y'i cyhoeddwyd gennych ar gyfer ysgolion, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad newydd hwn yn llwyr. Os oes unrhyw beth newydd yno ar wahân i hyn, rwy'n ymddiheuro os wyf i wedi ei fethu, ond rwy'n credu mai dyna a welais i fel y pwyslais newydd yn y fan yma.

Ac mae'n bwysig o ran sicrhau nad yw statws ariannol yn rhwystr i gynhyrchion sylfaenol ac angenrheidiol, ac nad yw hyn yn rhywbeth sy'n ddewisol i fenywod. Byddwn i'n gobeithio y caiff ei gefnogi'n gyffredinol, er fy mod i'n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, nad yw rhai dynion yn ei gefnogi, a hoffwn i gael esboniad gan y dynion hynny ynglŷn â pha mor anodd yw'r adeg o'r mis o ran fforddiadwyedd pan nad oes ganddyn nhw unrhyw brofiad o hynny o gwbl. Felly, rwy'n diystyru rhywfaint ar hynny. Gall cost cynhyrchion o'r fath fod yn uchel iawn, ac nid ydyn nhw'n rhywbeth nad oes ei angen yn barhaus ar fenywod. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r ymgyrchwyr a ddechreuodd y ddadl hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn benodol y cynghorydd dros Plaid Cymru, Elyn Stephens o'r Rhondda, yr oedd ei hymgyrch yng nghyngor Rhondda Cynon Taf yn bwysig iawn o ran cyfrannu at y drafodaeth ehangach hon a dyna pam, yn fy marn i, yr ydym ni yma heddiw.

O ran gweddill y datganiad, mae yn darllen rhywfaint fel darllediad etholiad ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad. Efallai fod modd cyfiawnhau hynny—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn credu hynny. Un agwedd o ran cefnogi myfyrwyr coleg yw mynediad. Mae'r pellter yn aml yn bell ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb statudol i ddarparu cludiant y tu hwnt i'r ail flwyddyn academaidd ar ôl 16. Nid oes unrhyw ystyriaeth i oedolion sy'n dysgu ychwaith, ac wrth i golegau chweched dosbarth fod dan fygythiad cynyddol a chynghorau'n uno ysgolion, bydd y gost o ddarparu cludiant yn cynyddu. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael â'r Gweinidog yr economi i ddweud wrthym pa drefniadau yr ydych chi wedi bod yn eu rhoi ar waith o ran y Papur Gwyn fel y gallwn dargedu mwy o egni i gynorthwyo myfyrwyr i gael mynediad at gludiant.

Gan ddilyn ymlaen o gwestiynau gan fy nghyd-Aelod Leanne Wood yn gynharach ynghylch y lwfans cynhaliaeth addysg, mae'r rhain hefyd yn faterion a godwyd gyda mi trwy ColegauCymru, o ran y ffaith nad yw wedi cynyddu ers 2004. Roedd deg punt ar hugain yr wythnos yn mynd ymhellach o lawer bryd hynny nag y mae'n ei wneud heddiw, a chodwyd y pryder hwn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr hefyd, a ddylid ehangu ar hynny fel y gallwn sicrhau y gallan nhw ddefnyddio'r lwfans hwnnw i'r eithaf. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych chi yn y fan yma heddiw.

Ac o ran amddifadedd a dysgwyr sy'n agored i niwed, nid wyf i o'r farn bod digon o bwyslais ar addysg i oedolion. Rwyf i wedi clywed gan nifer sylweddol o ddarparwyr gwahanol ynghylch ailhyfforddi yn ddiweddarach mewn bywyd bod yna ddirywiad mewn llwybrau rhan-amser, sy'n golygu bod y dewisiadau i'r rhai hynny y mae angen iddyn nhw weithio wedi bod yn gyfyngedig. Mae'n gorfodi rhai pobl i benderfynu a fyddan nhw'n ailhyfforddi neu'n mynd i gyflogaeth. Ac os nad yw'r cyflogwyr yn eu cefnogi drwy'r broses honno, yna bydd yn rhaid iddyn nhw benderfynu peidio â manteisio ar yr hyfforddiant sgiliau ychwanegol hwnnw. Felly, tybed a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am hynny.

Hoffwn i gloi trwy ddweud y byddwn i'n cytuno â Suzy Davies ynglŷn â'r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr ifanc. Os ydym ni am siarad am bobl sydd dan anfantais, mae angen i ni siarad am ofalwyr ifanc. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog blaenorol yn hyn o beth y gwnes i gyfarfod ag ef yn dilyn dadl a arweiniais, a gwn fod gwaith wedi'i wneud, ond rwy'n dal i feddwl bod angen gwneud llawer mwy i nodi gofalwyr ifanc yn yr ystafell ddosbarth yn un peth, ond hefyd i'w cefnogi drwy'r broses honno fel nad ydyn nhw'n teimlo erbyn iddyn nhw ddod i ddiwedd eu gyrfa ysgol eu bod dan anfantais o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

17:55

A gaf i ddiolch i'r Aelod am groesawu'r adnoddau ychwanegol i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael gennym am ddim yn ein colegau addysg bellach? Mae'r Aelod wedyn yn mynd ymlaen i wneud y pwynt ynglŷn â natur anstatudol teithio ôl-16, ac mae'r Aelod yn llygad ei lle yn hynny o beth, wrth gwrs. Rwy'n cofio'n glir iawn bod yn aelod o'r pwyllgor ar y pryd yn ymdrin â'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, y gwrthwynebiad cryf gan y Gweinidog bryd hynny Ieuan Wyn Jones i natur statudol teithio ôl-16—ac fe'i gwrthododd yn llwyr, rwy'n credu, ar y pryd—ac rwy'n credu ein bod ar y pwyllgor gyda'n gilydd, a byddwch chithau'n cofio. Wrth gwrs, yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud yw ceisio cynyddu faint o bobl ifanc sy'n gallu manteisio ar docynnau rhatach ar fysiau, nid yn unig y rhai sy'n astudio, ond pobl ifanc y mae angen cludiant cyhoeddus arnyn nhw efallai i gyrraedd eu gwaith neu i gyrraedd eu prentisiaethau.

O ran y mater astudio rhan-amser, nid wyf i'n siŵr pa un a yw'r Aelod wedi methu'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr yr ydym yn eu cefnogi ar lefel gradd yn rhan-amser, ond, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Mae'n ymwneud â'r cwestiynau a gododd Suzy Davies ynglŷn â gwahanol ddulliau o astudio. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon hefyd yn ariannu prentisiaethau gradd, a all fod y llwybr priodol i fyfyriwr allu astudio ar lefel uwch wrth weithio, ac rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad yn fuan ynglŷn â chyfrifon dysgu unigol a fydd yn caniatáu i bobl sydd mewn cyflogaeth ar hyn o bryd, sy'n dymuno astudio'n rhan-amser i wella eu rhagolygon gwaith, neu efallai i symud i yrfa wahanol, ond bod angen cymwysterau newydd arnyn nhw i wneud hynny, a'r bwriad fydd treialu cynllun newydd ac arloesol o gyfrifon dysgu unigol, yn rhan o fy nghytundeb â'r Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru'n datblygu'n genedl ail gyfle a bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i ddysgu gydol oes.

18:00

Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged bersonol i Kirsty Williams am ei dyfalbarhad wrth ymgyrchu dros y grant datblygu disgyblion, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oedd yn ei wneud yn y Cynulliad diwethaf yn ogystal ag yn y Cynulliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn offeryn ar gyfer sicrhau ein bod yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach i'r un lefel â'u cyfoedion. Felly, yn hytrach na gwneud pwynt gwleidyddol rhad, rwy'n credu y dylem ni gydnabod y llwyddiannau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai yn y blynyddoedd cynnar y bydd yr effaith fwyaf, ac roeddwn i'n meddwl tybed faint o sylw yr ydych chi'n ei roi i ddeilliannau'r plant hynny sy'n elwa ar y rhaglen Dechrau'n Deg o ran eu parodrwydd i ddechrau yn yr ysgol feithrin—nifer y geiriau maen nhw'n eu siarad a'u sgiliau echddygol ac ati. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, os yw hynny'n gweithio'n dda, bod dadl dros sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bob plentyn nad yw'n cael y buddion hynny gan rieni sy'n gallu prynu unrhyw beth maen nhw'n ei ddymuno.

Roeddwn i'n arbennig o hapus ddoe i ddysgu am y clwb garddio yn Ysgol Gynradd Springwood yn fy etholaeth i, sydd yn Llanedeyrn, ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 1 a 2. Oherwydd, i'r rhai hynny nad oes ganddyn nhw ardd neu fynediad at ardd eu hunain, mae mantais enfawr i blant o'r ddarpariaeth ar ôl ysgol, sef y rhaglen gyfoethogi y mae'n wirioneddol bwysig i bob ysgol ei chynnig. Gan na fydd y lefelu hwnnw yn bodoli os nad oes gennym ni glybiau cerddoriaeth, neu glybiau garddio neu gyfleoedd chwaraeon i'r rhai ifanc iawn sy'n methu â mynd â'u hunain i'r pethau hynny.

Mae'r hawl i nofio am ddim y mae Llywodraeth Cymru yn talu amdano, mae'n ymddangos i mi, yn un o'r cyfrinachau gorau, mae arnaf ofn, y mae ein canolfannau hamdden yn eu cadw, yn sicr yng Nghaerdydd. Mae'n hynod anodd cael gwybod pryd y mae'r pethau hyn yn digwydd, ac nid yw'r bobl y mae angen y cyfle nofio am ddim arnyn nhw mewn gwirionedd yn cael yr wybodaeth briodol am hynny, felly rwy'n credu bod rhwystr gwirioneddol yn hynny o beth. Rwy'n sylweddoli efallai nad yw hyn yn eich portffolio chi, ond mae'n rhywbeth y mae angen i un o'r pwyllgorau gynnal rhyw fath o werthusiad arno.

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr yr ymgynghoriad yr ydych chi wedi ei gynnal ar wisgoedd ysgol, oherwydd nid ydym eisiau i wisgoedd ysgol fod yn eitemau drud; mae angen iddyn nhw beidio â threulio'n hawdd, rhoi gwerth am arian, ac wedyn mae angen i ni annog ysgolion i lunio rhaglen gyfnewid er mwyn gallu eu trosglwyddo, gan fod rhai plant yn tyfu trwy'u dillad mor gyflym fel eu bod yn rhy fychan er eu bod bron yn newydd. Felly, yn rhan o'n pethau argyfwng hinsawdd, mae hwn yn fater pwysig iawn—i sicrhau bod eitemau nad ydyn nhw wedi eu gwisgo rhyw lawer yn cael eu hailddefnyddio yn y man cywir.

O ran cynhyrchion mislif, faint o ganllawiau sy'n cael eu rhoi i sefydliadau i feddwl am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio? Oherwydd, nid yw'r mooncup yn addas ar gyfer plant pan fyddan nhw'n dechrau cael mislif, ond mewn colegau addysg bellach, byddai'n hynod bwysig eu bod yn gwybod eu bod ganddyn nhw am 15 mlynedd. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi yn llawer pwysicach na rhywbeth sy'n gweithio dros dro.

Rwy'n gobeithio y bydd y fframwaith gwerthuso a gwella diwygiedig, sy'n gosod pwys ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion ar gyfer pob disgybl, yn rhoi terfyn ar yr ysgolion hynny—ac maen nhw yn bodoli, yn fy etholaeth i—lle caiff disgyblion eu heithrio oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw neu oherwydd na fydd eu cyrhaeddiad yn agos i'r brig, neu na fyddan nhw'n gyflawnwyr uchel. Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pob ysgol yn gwerthfawrogi pob un plentyn ac yn sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd gorau yn unol â'u gallu.

Yn olaf, rwy'n credu bod y cynnydd o 35 y cant o ran myfyrwyr rhan-amser, y mae eu hanner yn gymwys ar gyfer yr uchafswm, yn gyflawniad aruthrol a hoffwn eich llongyfarch ar hynny.

18:05

Diolch, Jenny, am eich sylwadau. O ran nofio am ddim, nid yw hynny'n fater i mi; mater i'r Gweinidog ydyw. Mae yn ei sedd ac mae wedi clywed eich geiriau, ac rwy'n siŵr y bydd eisiau rhoi adborth i chi ynghylch beth arall y gallwn ni ei wneud i hysbysebu bod y cyfle gwych hwnnw ar gael. Nid oes llawer o fannau lle gallwch chi fynd gyda'ch plant a gwneud rhywbeth am ddim sy'n arbennig o fuddiol i'w hiechyd a'u lles, a bydd wedi clywed y sylwadau hynny.

O ran cynhyrchion mislif, un o amodau'r grant, mewn gwirionedd, yw bod canran o'r cynhyrchion hynny'n gynhyrchion cynaliadwy. Felly, bydd cynhyrchion fel Mooncups ar gael, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i'n colegau addysg bellach ac efallai i ferched hŷn, mae rhoi'r ddarpariaeth honno ar waith yn arbennig o bwysig, felly gallaf eich sicrhau bod hynny wedi'i gynnwys yn amodau'r grant.

O ran gwisg ysgol, rydych yn iawn. Rwyf wedi clywed rhai pobl yn y Siambr hon, ac, yn wir, rwyf wedi clywed pobl y tu allan i'r Siambr hon yn gwneud hwyl am ben y mater o fforddio gwisg ysgol, ac wedi ceisio diystyru hwn fel mater dibwys. Wel, gallaf eich sicrhau chi ei bod yn broblem. Mae'n broblem i'r bobl ifanc hynny ac mae'n broblem i'w teuluoedd. Rydym wedi cael ymateb ysgubol i'r ymgynghoriad—tua 900 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar wneud canllawiau ar fforddiadwyedd yn statudol. Rydym yn y broses o adolygu pob un o'r ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, a gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i gael y canllawiau hynny ar sail statudol erbyn mis Medi.

Rydych yn iawn—mae angen inni wneud y cysylltiadau rhwng addysg orfodol ond hefyd y cymorth sydd ar gael i deuluoedd o'r adeg y caiff eu plant eu geni, ac rydym yn parhau i weithio ar draws portffolios, fel y dywedais, i weld lle y gallwn manteisio ar lwyddiant Dechrau'n Deg yn wirioneddol a sicrhau bod hynny wedyn yn cael ei fwydo i addysg orfodol fwy ffurfiol.

O ran myfyrwyr rhan-amser, rydym wedi gweld dros nifer o flynyddoedd, am resymau amlwg iawn, ddirywiad enfawr yn nifer y bobl hynny sy'n gallu astudio ar gyfer gradd yn rhan-amser. Mae'r niferoedd hynny'n parhau i blymio dros y ffin yn Lloegr. Mae'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'n rhan amser ar gyfer gradd a'n bod yn gallu rhoi cymorth ariannol iddyn nhw i wneud hynny yn dangos y bu angen heb ei ddiwallu yng Nghymru. Rydym yn diwallu'r angen hwnnw, ac mae gn y bobl hynny y cyfle i ddatblygu eu potensial yn llawn. Fel chi, rwy'n hynod o falch ein bod yn gwneud hynny.

7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cymru Greadigol

Eitem 7 ar yr agenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Gymru Greadigol, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n dda gen i roi diweddariad i’r Cynulliad am ein cymorth i'r diwydiannau creadigol. Mae'r diwydiannau creadigol fel sector yn rhoi cyfle inni elwa o'r manteision a ddaw o ddau gyfeiriad, o'r ochr economaidd ac o'r ochr ddiwylliannol, a dŷn ni'n ceisio edrych ar y ddwy agwedd yma ar weithgaredd creadigol gyda'i gilydd. Mae hynny'n caniatáu inni hefyd gyfoethogi'r hyn y gall Cymru ei gynnig i'r byd. Dŷn ni'n gallu dangos ein celfyddyd, dŷn ni'n gallu dangos ein golygfeydd naturiol, ac yna dŷn ni'n gallu cyplysu hynny gyda'r diwydiannau sy'n ffynnu a'r rhai sydd yn gallu datblygu busnesau yn y diwydiannau creadigol, ac mae yna, wrth gwrs, gysylltiad agos iawn rhwng y diwydiannau creadigol a'r diwydiannau a'r busnesau yn y maes twristiaeth ac yn y maes cyfryngau yn gyffredinol.

Mae cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi, felly, yn ganolog i ddyhead yr hyn rydyn ni'n ei alw yn Gymru Greadigol, a does yna ddim gwrthdaro o gwbl yn fy meddwl i rhwng y ddau fath yna o greadigrwydd—y creugarwch mewn busnes a'r creadigrwydd mewn datblygu ac arloesi.

Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i unrhyw gyflawni llwyddiannus. Rydym ni yn gweithio'n agos gyda'r busnesion a'r diwydiant creadigol, gan weithio gyda rhanddeiliad, gan gydweithio fel Llywodraeth i ddatblygu'r sector drwy wrando ar beth sydd gan y busnesion i ddweud wrthym ni, ar sail y profiad hirdymor sydd gan lawer ohonom ni yn y diwydiannau creadigol

Dŷn ni hefyd am sicrhau bod datblygiad sgiliau ar draws y sector, yn hanfodol i ni, ac mae yna bartneriaeth, wrth gwrs, yn hynny gyda Gweinidogion eraill o fewn y Llywodraeth, ond mae'r agweddau yma i gyd yn cael eu hystyried ynghyd pan fyddwn ni'n datblygu ein cynlluniau.

Mae codi safonau, hefyd, drwy gydweithio â'r diwydiant hefyd yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid i hyn gynnwys datblygu ymrwymiadau ynglŷn â chyflogaeth dda gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio. Mae amrywiaeth a chyfrifoldeb yn rhan hanfodol i fod yn greadigol.

Dŷn ni hefyd yn y broses o symleiddio ein cymorth ariannol i'r diwydiannau creadigol, a cheisio ffordd o allu ymateb yn fwy cyflym i alwadau'r sector. Dyna pam yr ydym ni'n symud i ddarparu ein cyllid drwy gontract economaidd, sydd yn digwydd ar draws y Llywodraeth, gan sicrhau budd i'r cyhoedd yn dilyn y buddsoddiadau cyhoeddus. 

Dŷn ni'n ogystal, hefyd, yn ceisio tynnu ar ein profiad gyda Croeso Cymru a datblygu brand Cymru, gan arwain at farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, dan frand newydd Cymru Greadigol. Mae hwn yn cyplysu, wrth gwrs, gyda brand Cymru yn gyffredinol. Drwy'r brand newydd, mi fyddwn ni'n hyrwyddo cyfraniad y sector greadigol i'n diwylliant a hefyd gyfraniad diwylliant i'r canfyddiad o Gymru, ei henw da a'i llwyddiant yn fyd eang.

Mae'r holl waith yma wedi'i gyflawni gan swyddogion wrth drafod y blaenoriaethau gyda'r sector, ac mi fydd y trafodaethau yma'n parhau dros y misoedd nesaf, a dwi'n ystyried y datganiad yma heddiw yn rhan allweddol o'r broses yma gan ein bod ni am ganolbwyntio ar y materion y gallwn ni fel Llywodraeth wneud y mwyaf o wahaniaeth gyda nhw. Yn dilyn cyfnod bellach o gysylltu â rhanddeiliaid, mi fydd yna gasgliadau a blaenoriaethau yn cael eu rhannu efo chi fel Aelodau Cynulliad cyn gynted ag y bo hynny yn ymarferol.

Yn y cyfamser, dŷn ni'n parhau gyda'n cefnogaeth i'r sector ac yn canolbwyntio ar y llwyddiannau niferus yr ydym wedi'u cyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Er ein bod wedi canolbwyntio'n helaeth hyd yma ar ffilm a theledu, a dramâu teledu yn arbennig o safon uchel yn benodol—ac un gyfres, gydag ail gyfres ohonyn nhw'n ymddangos ar ein sgriniau ni bron wrth i mi siarad—mae hyn yn bendant wedi cael effaith ar economi Cymru ac wedi creu diddordeb newydd yn y diwydiannau creadigol ac yn y diwylliant yng Nghymru.

Yn dilyn cwrdd â chynrychiolwyr o'r cwmni yma yn ddiweddar, mae'n dda gen i hefyd rannu gyda'r Cynulliad yma fy mod i'n edrych ymlaen at gyhoeddi partneriaeth newydd gyda NBCUniversal, a dyma, fel y gwyddoch chi, un o'r prif gwmnïau cyfryngau ac adloniant y byd. Roedd nifer o'u prif gyfarwyddwyr nhw ddim wedi bod ym Mro Morgannwg tan yr wythnosau diwethaf, ond bellach maen nhw'n gwybod beth yw gwerth Dragon Studios a beth fydd y defnydd posib y gallen nhw ei wneud o'r stiwdios yna, o'r tair stiwdio ar hyn o bryd, ac o bosib rhagor o lwyfannau. Ac mae yna wariant o oddeutu £20 miliwn yn debygol o ddod i'r economi leol oherwydd y gweithgaredd yna. Hefyd, ochr yn ochr â hyn, mae'r cwmni am ddod â'i gynllun hyfforddi byd-enwog ar gyfer cynorthwywyr cynhyrchu yma i Gymru. Mae hynna'n golygu ein bod ni'n gallu codi safon ein sector yn ogystal, ac mae hwnna'n newyddion pwysig yn sicr. 

Wrth gwrs, mae'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llawer mwy na ffilm a theledu, ac mi fydd Cymru Greadigol, fel y bydd hi'n datblygu o fewn y Llywodraeth, yn golygu twf sylweddol o fewn y diwydiant technolegol yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 40,000 o bobl ac yn werth rhyw £8.5 biliwn mewn trosiant i economi Cymru. Ac yn arbennig yn hynny, mi garwn i gyfeirio at y diwydiant gemau sydd yn rhan mor allweddol o bwysigrwydd y sector digidol, yn cynnwys Tiny Rebel Games Casnewydd, Sugar Creative yng Nghaerdydd, Prifysgol De Cymru, a'u partner rhyngwladol Potato, sydd wedi llwyddo i gael cyllid o fewn y categori delweddau symudol yn y rhaglen Audience of the Future sy'n cael ei hariannu gan Innovate UK. Bydd y project yn gweithio gydag Aardman, gwasanaeth eiddo deallusol, i gyflawni project cyffrous iawn.

Rydyn ni hefyd yn datblygu strategaeth ar gyfer cerddoriaeth, ac mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n awyddus iawn i'w ddatblygu yn gryf o fewn Cymru Greadigol, ac wrth hynny, dwi'n golygu pob math o gerddoriaeth, ac yn arbennig i fynd ymlaen gyda'r gwaith dŷn ni'n ei wneud ar hyn o bryd i fapio lleoliadau ar lawr gwlad ledled Cymru, lle mae cerddoriaeth fyw, yn enwedig cerddoriaeth boblogaidd, roc a gwerin, yn cael ei llwyfannu. Rydym mewn partneriaeth bwysig yn y fan yma efo PYST, y gwasanaeth dosbarthu digidol a labelu ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf, ac mae'r gwaith yma'n datblygu. Hyd yma, mae'r artistiaid ar y platfform yma wedi cyrraedd dros 5.5 miliwn o ffrydiadau ar Spotify, Apple Music a YouTube, ac mae'r record ar gyfer gwrandawiadau ar gerddoriaeth Gymraeg wedi cael ei thorri gan y datblygiadau yma, efo Alffa, band roc o Gaernarfon rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw o'r blaen yn y lle yma, wedi sicrhau dros 2.5 miliwn o ffrydiadau, gan gynnwys nifer fawr yn Ne America. Dwi'n falch hefyd i gyhoeddi heddiw ein bod ni'n ymestyn gwaith PYST. Rydyn ni am gydweithio â nhw i ddefnyddio naw o artistiaid Cymraeg eu hiaith i chwarae ym mhrif ddinasoedd y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn golygu sylw a llwyfan i artistiaid Cymraeg ar draws ynysoedd Prydain.

Ac yn olaf, dwi eisiau pwysleisio y bydd hi'n haws i bobl gysylltu â Chymru Greadigol unwaith y bydd y corff wedi'i sefydlu'n glir o fewn y Llywodraeth yn ystod y ddeufis nesaf. Mi fydd hi'n bosib cysylltu â'r diwydiannau creadigol mor effeithiol, dwi'n gobeithio, ag unrhyw gysylltiad â gwasanaethau busnes y Llywodraeth yn gyffredinol. Diolch yn fawr.

18:15

Gobeithio y bydd y Cynulliad yn caniatáu imi fynd â ni i gyd yn ôl i 1984 a'r ymgyrch etholiad arlywyddol a defnydd Walter Mondale o slogan cwmni bwyd cyflym Wendy's, 'Where's the beef?' Rydym ni wedi symud mewn cylchoedd sawl gwaith erbyn hyn, mor bell yn ôl â mis Gorffennaf 2016. Ac o ran Cymru Greadigol, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn ymwneud â'r paratoi'r heb wneud penderfyniadau ac mae angen inni wneud cynnydd.

Rwy'n croesawu'r uchelgeisiau craidd i wreiddio diwylliant yn nhwf yr economi, symleiddio'r model ariannu a chael contract economaidd wrth wraidd y system ariannu a hefyd ymwreiddio'r egwyddor o asio. Rwy'n credu y bydd cytundeb ar draws y Siambr mai dyna'r cyfeiriad y mae angen i ni fynd iddo, ond mae angen y penderfyniadau arnom. Pryd bydd y panel diwydiannau creadigol yn trawsnewid i fwrdd Cymru Greadigol, neu tybed nad dyna'r nod erbyn hyn? Sut caiff hyn ei strwythuro a'i leoli o fewn Llywodraeth Cymru? Pryd bydd yr uwch benodiadau, gan gynnwys penodiad y prif weithredwr, yn cael eu gwneud? Pryd gallwn ni ddisgwyl gweld dogfen blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhan bwysig hon o'n heconomi, fel y gallwn ni fod cystal â'r Alban o'r diwedd?

Nid oes gen i ddiddordeb mewn ceisio bod cystal â'r Alban, oherwydd wrth iddyn nhw sefydlu Creative Scotland, fe wnaethon nhw rywbeth arall. Ond nid wyf i am wneud sylw ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud gyda Chyngor Celfyddydau'r Alban; mater iddyn nhw yw hynny. Mae Creative England yn sefydliad masnachol. Mae Cymru Greadigol yn mynd i fod yn sefydliad—ac rwyf eisoes wedi egluro hyn yn y Cynulliad hwn ac wrth bwyllgor—bydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu o fewn y Llywodraeth. Rydym ni wedi sefydlu model yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio gyda Cadw a byddwn yn dilyn strwythur tebyg. Byddwn yn recriwtio prif weithredwr y sefydliad yn ystod y mis nesaf. Byddwn wedyn yn symud ymlaen i benodi cadeirydd, a bydd y cadeirydd hwnnw, ynghyd â mi a fy nghyd-Aelodau, yn sicrhau ein bod yn hysbysebu am fwrdd, yn debyg i'r bwrdd yr ydym wedi hysbysebu amdano'n llwyddiannus yn achos Cadw. Felly, fy mwriad i yw y bydd y sefydliad yn gallu bod â pherchnogaeth ar y cyllidebau sylweddol sy'n cael eu gwario ar hyn o bryd ar gyfer y diwydiannau creadigol, a bydd cyllideb ddangosol glir o ryw £30 miliwn ar gael i'r sefydliad hwn, a bydd yn gweithredu o fewn y chwe mis nesaf.

18:20

I ddechrau, hoffwn i groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ynglŷn â'u partneriaeth newydd gydag NBCUniversal, a'u penderfyniad i ymestyn PYST. Mae'r ddau beth yma yn newyddion da, ond, yn anffodus, dyma'r unig gyhoeddiadau newydd yn y datganiad sydd yn cynnwys unrhyw fath o fanylder. Mae pob dim arall yn y cyhoeddiad un ai'n annelwig neu'n datgan beth sydd eisoes yn digwydd yn y diwydiannau creadigol. Er enghraifft, tra rwy'n cytuno â'r rhan o'r datganiad sy'n nodi bod cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi yn ganolog i natur a dyheadau Cymru Greadigol, nid oes unrhyw ymhelaethiad na manylder polisi yma. Yn yr un modd, rwy'n cytuno bod angen datblygu ymrwymiadau gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio, a bod amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i fod yn greadigol. Ond y broblem yw nad yw'r datganiad yn amlinellu sut bydd yr egwyddorion pwysig yma yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth ar ffurf polisi.

Mae'r Dirprwy Weinidog yn trafod y corff newydd a gafodd ei gyhoeddi'r flwyddyn ddiwethaf—Cymru Greadigol—ond yr unig wybodaeth a gawn ynglŷn â hyn yw'r canlynol:

'Drwy'r brand newydd byddwn yn hyrwyddo cyfraniad y sector creadigol i'n diwylliant, ein henw da a'n llwyddiant ledled y byd.'

Mae naw mis ers y cyhoeddiad a does gennym ni fel Aelodau Cynulliad dal ddim unrhyw wybodaeth y gallwn ei defnyddio er mwyn craffu ar y cynlluniau. Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith ar randdeiliaid o fewn y sector. Er enghraifft, mae pobl sy'n gweithio ym maes cynhyrchu ffilmiau yn dweud wrthym eu bod nhw ddim yn gwybod lle dylent fynd er mwyn cael mynediad at wybodaeth a chyllid. Byddem yn ddiolchgar petai'r Dirprwy Weinidog yn gallu dweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer sefydlu Cymru Greadigol, a beth fydd statws y corff mewn perthynas â'r Llywodraeth, fel mae David Melding eisoes wedi gofyn. A fydd y corff yn gyfrifol am reoli cyllideb ac, os felly, beth fydd maint y gyllideb a pha effaith fydd hyn yn ei gael ar swyddogaethau cyrff eraill sy'n gwneud y gwaith hwn ar hyn o bryd? Yn ogystal, beth fydd trefniadau’r corff newydd o ran llywodraethiant?

Dirprwy Weinidog, mae brawddeg gyntaf eich datganiad yn honni mai

'diweddariad i’r Cynulliad am ein cymorth',

sef cymorth gan y Llywodraeth,

'i sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru'

yw hyn. Ond y gwir amdani yw nad yw'n ddiweddariad o gwbl, oherwydd dyw e ddim yn drosolwg cynhwysfawr o'r diwydiannau creadigol. Nid oes unrhyw sôn am radio, am gelfyddydau perfformio, llenyddiaeth, celfyddyd gain. Hoffwn fod wedi cael diweddariad ynglŷn â'r meysydd hyn, gan gynnwys cynlluniau manwl ac amserlenni, ynghyd ag amserlen glir o ran eu gweithredu.

A oes gan y Dirprwy Weinidog gynlluniau i gyhoeddi strategaeth ddiwylliannol gynhwysfawr yn y dyfodol agos er mwyn rhoi cig ar yr asgwrn—dŷn ni wedi sôn am 'Where's the beef?', ac efallai fod hynna'n cyd-fynd yn hyn o beth—a rhoi cyfeiriad clir i'r sector a galluogi Aelodau o'r Siambr hon i graffu ar y cynlluniau?

Fel cenedlaetholwr, roedd gennych chi, Ddirprwy Weinidog, gyfle gwych yn y datganiad yma i alw am ddatganoli darlledu. Mae'n siomedig nad oes yna unrhyw sôn am hyn yn y datganiad. Un enghraifft o pam rydym ni angen y pwerau hyn ydy er mwyn sicrhau bod cwmnïau radio yn darparu canran benodol o'u cynnwys o Gymru a sicrhau bod cynyrchiadau sydd â chyllideb fawr yn gwneud defnydd o'n talent gynhenid a chynhyrchu deunydd sydd yn berthnasol i'r gynulleidfa. Rwyf felly yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ddarparu mwy o wybodaeth ynglŷn â'i gynlluniau, er mwyn i Aelodau y tu allan i'r Llywodraeth allu gwneud ein gwaith o graffu mewn modd priodol. Diolch.

18:25

Rwy'n hapus iawn i ymddangos o flaen y pwyllgor diwylliant neu ba bwyllgor bynnag i graffu yn fwy manwl ar sut ydym ni'n datblygu ein cynlluniau ynglŷn â Chymru Greadigol, ond efallai y dylwn i ateb dau bwynt yn niwedd y cwestiwn yna. So, yn gyntaf: does dim sôn yn y datganiad yma am gelfyddyd gain—un o fy hoff ddiddordebau i, fel y gwyddoch chi. Fy etholwr creadigol iawn, David Nash, sydd ag arddangosfa ardderchog ganddo fo, yn agor yn yr amgueddfa ardderchog sydd gennym ni lawr y ffordd yma yn ddiweddarach yr wythnos yma. Dwi ddim wedi sôn am gelfyddyd gain oherwydd cyfrifoldeb cyngor y celfyddydau yw ac a fydd celfyddyd gain. Mae'r un peth yn wir am lenyddiaeth. Wrth gwrs, mae yna gysylltiad rhwng llenyddiaeth fel naratif a stori sydd yn ymddangos wedyn yn rhan o stori y diwydiant creadigol, ond mae'n rhaid inni barhau gyda'r strwythurau, megis Llenyddiaeth Cymru, megis y ddarpariaeth ar gyfer celfyddyd gain, ochr yn ochr efo'r diwydiannau creadigol, sydd yn bennaf ynglŷn â'r ochr gymhwysol i greadigrwydd. A dyna ydy'r gwahaniaeth rhwng y diwydiannau creadigol a'r gweithgaredd artistig celfyddydol yr ydw i newydd gyfeirio ato fo.

Ynglŷn â darlledu, pa mor hir y mae'n rhaid imi ddweud fel Gweinidog yn y lle hwn: dyw hi ddim yn bolisi Llywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu. Y rheswm am hynny yw, yn y dyddiau hyn, lle mae'r diwylliant i gyd yn ddigidol, does yna ddim ystyr i ddatganoli darlledu traddodiadol, oherwydd y cyfan y mae hwnna'n mynd i'w wneud ydy aflonyddu, a dweud y gwir, ar y datblygiad creadigol a ddylai fod yn digwydd ar draws y sector digidol a'r gwahanol gyfryngau. Ond dwi ddim yn mynd i fynd ar ôl hwnna ymhellach.

Ond cyn belled ag y mae datblygiad Cymru Greadigol yn y cwestiwn, mae'r syniad yn bod mai'r ffordd i ddatblygu polisi ydy creu strategaeth a chreu rhyw fath o ddogfen meistr gynllun sydd yn gosod y peth ar ei draed. Dydw i ddim yn rhannu'r math yna o agwedd o gwbl. Dwi wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn trafod yn fanwl ac yn ymgynghori â'r diwydiannau creadigol ac yn gweld eu gwaith nhw yn fanwl, fel ein bod ni'n cynhyrchu rhywbeth a fydd yn dderbyniol i bobl o fewn y diwydiant. Dwi'n synnu eich clywed chi yn dweud bod pobl ddim yn gwybod lle i fynd am gyllid i ffilmio, oherwydd maen nhw'n mynd i'r union lefydd y maen nhw'n arfer mynd, sef at Ffilm Cymru a chynghrair sgrin Cymru—mae'r cyllid i'w gael yn y cyfeiriad yna—ac at y Llywodraeth. Rydyn ni wedi cyllido, fel roeddwn i'n dweud gynnau, Un Bore Mercher/Keeping Faith 2, sydd yn darlledu ar hyn o bryd. Rydyn ni'n parhau i gyllido, ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond pan ddaw Cymru Greadigol i fod, a dwi wedi ateb ynglŷn â maint y gyllideb—oddeutu £30 miliwn—mi fydd yna gadeirydd annibynnol, a bydd hi neu fo yn cael eu penodi drwy'r strwythur penodiadau cyhoeddus arferol. Mi fydd yna brif weithredwr wedi ei benodi cyn hynny, ac yna mi fydd yn gorff tua'r un maint â Chadw. Felly, y gymhariaeth gyfansoddiadol, os ydych chi'n chwilio am gwestiwn ynglŷn â llywodraethiant, ydy: bydd o'n debyg i Cadw. Ond mi fydd o, yn hytrach na Cadw, yn creu.

Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch dau o'r diwydiannau creadigol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddau gan fy mod yn credu mai un o'r pethau sy'n fy mhryderu i yw ein bod yn siarad am ddiwydiant creadigol fel petai'n un peth. Nid dyna ydyw—mae'n llawer iawn o bethau gwahanol. Yn gyntaf, hoffwn i siarad am animeiddio, a'r peth arall yr hoffwn i siarad amdano yw gemau cyfrifiadur, sef y diwydiant mwyaf sy'n ymwneud â chreadigrwydd, ac na chafodd ei grybwyll yn natganiad y Gweinidog, gwaetha'r modd, oni bai fy mod wedi ei fethu—

Yn gyntaf, animeiddio: ar ddechrau'r 1990au, roedd Cymru'n mwynhau oes aur cynhyrchu ym maes animeiddio. Roedd S4C yn rhan allweddol o helpu i gynhyrchu nifer o sioeau poblogaidd wedi'u hanimeiddio—Superted, Sam Tân, a gafodd ei chanu gan gyfaill i mi, Mal Pope, Gogs. Dyma rai o'r sioeau a gafodd eu cynhyrchu, sioeau proffil uchel wedi'u comisiynu a'u cynhyrchu gan S4C, a'u cynhyrchu yng Nghymru, ac yna eu cyfieithu i'r Saesneg. Roeddwn i'n eu gwylio a minnau'n rhiant. Rwy'n siŵr bod rhai o'r bobl yma wedi eu gwylio nhw a hwythau'n blant, felly peidiwch â dweud wrthyf i. [Chwerthin.] Ond heddiw y duedd yw inni wylio pethau fel Peppa Pig wedi eu trosi i'r Gymraeg.

Datblygodd S4C enw da yn gyflym, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, oherwydd datblygodd ei rhaglenni animeiddio a fu'n llwyddiannus yn fasnachol ac sydd wedi ennill gwobrau—wrth i S4C ehangu, lu o gymeriadau poblogaidd, megis Wil Cwac Cwac, Toucan Tecs, a Funnybones. Dros y blynyddoedd, gwnaeth S4C gartwnau ac animeiddiadau hirach yn seiliedig ar operâu enwog, 'Canterbury Tales' gan Chaucer a straeon o'r Beibl. Roeddem ni'n hynod o lwyddiannus. Beth mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud i adfywio diwydiant animeiddio Cymru?

Yr ail faes yr hoffwn i ofyn cwestiynau yn ei gylch yw gemau cyfrifiadur. Y gêm fideo sy'n gwerthu fwyaf yn y byd, os nad oeddech yn gwybod, yw Grand Theft Auto, a dechreuodd ei fywyd yn Dundee, hynny yw, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r ddinas hon yn yr Alban wedi datblygu clwstwr nodedig ar gyfer diwydiant gemau fideo'r byd. Nid oes gan Dundee fantais fawr yn ddaearyddol o'i chymharu â chytrefi o faint tebyg yng Nghymru, fel Abertawe a Chasnewydd. Nid oes dim byd amlwg fel, 'Dyma Dundee, nid oes amheuaeth y bydd yn llwyddiannus.' Y nhw ddatblygodd hynny. Mae angen i ni wneud yr un peth. Hwn yw'r mwyaf o'r holl ddiwydiannau creadigol. Er bod y diwydiant gemau fideo wedi cyfrannu £1.4 biliwn at economi'r DU, rydym ni yng Nghymru wedi methu â datblygu diwydiant gemau cyfrifiadur llwyddiannus. Os ydw i wedi camddeall, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn dweud wrthyf ba rai o'r gemau fideo sydd ymysg yr 20 uchaf yn y byd sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu hyrwyddo a datblygu diwydiant gemau fideo yng Nghymru mor llwyddiannus â'r rhai mewn llawer o leoedd eraill?

Nid oes dim gwahaniaeth ble yr ydych chi'n datblygu gemau fideo. Gallwch eu datblygu unrhyw le yn y byd cyhyd â bod gennych fynediad at y rhyngrwyd, gan nad yw pethau'n bodoli ar ddisgiau bellach, nac ydyn—mae rhai ohonom yn eu cofio—lawr lwythiadau ydyn nhw. Felly, mae cyfleoedd gwych i unrhyw le, yn wledig neu'n drefol. Felly, beth ydym ni am ei wneud i geisio datblygu diwydiant? Mae gennym ni'r prifysgolion yn addysgu pobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gemau cyfrifiadur. Mae yna gyrsiau gemau cyfrifiadur mewn rhai prifysgolion yng Nghymru. Felly, sut ydym ni am droi'r graddedigion gemau cyfrifiadur hynny yn llwyddiannau yng Nghymru, fel y gallwn ni fod ar y brig, heb fod yn cystadlu â rhai o ddinasoedd mawr America, ond yn cystadlu â Dundee?

18:30

Byddwn i'n awgrymu wrth yr Aelod ei fod yn mynd allan o'r adeilad hwn ac yn croesi darn byr o ddŵr ac yn troi i'r chwith, ac yno bydd yn dod o hyd i lu o animeiddwyr, amrywiaeth gyfan o weithgarwch ôl-gynhyrchu, a wneir gan y cwmnïau hyn sy'n bodoli mewn adeilad—yn wir a adeiladwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru, cyn fy nghyfnod i, yng nghyfnod fy nghyd-Aelod. Y castell melyn gwych hwnnw yw'r union beth sydd ei angen ar y diwydiant ar hyn o bryd. Nawr, pan fydd angen datblygiad pellach o'r math hwnnw ar y diwydiant, byddwn yn sicr yn gallu efelychu'r broses honno. Yn dilyn ei feirniadaeth y prynhawn yma, siaradaf eto, fel yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, gyda'r rhai hynny sy'n ymwneud â'r diwydiant animeiddio yng Nghymru i weld a oes maes datblygu penodol yr hoffen nhw ymgymryd ag ef.

Y peth allweddol y mae diwydiant y cyfryngau'n ei wneud, ar hyd yr Afon Hafren gyfan, ym Mryste ac yng Nghaerdydd—ac mae'n rhaid inni ystyried hyn yn un ardal gyfan, yn fy marn i, o ddatblygiad a chlystyrau sy'n gweithio gyda'i gilydd, a'r cydweithio sydd i'w weld, ac sy'n ymestyn, wrth gwrs, gyda gwaith a gaiff ei wneud ledled a thrwy ddyffryn Tafwys i Lundain. Dyna natur y busnes yr ydym ni'n gweithio gydag ef, ond nid oes prinder diddordeb ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw brosiect yr hoffai fy nghyd-Aelod ei gyflwyno i'w drafod. Os yw'n ymwybodol o unrhyw animeiddwyr sy'n teimlo nad yw unrhyw un o fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn briodol iddyn nhw, byddwn yn falch iawn o gael gwybod am hyn er mwyn inni allu gwella'r berthynas rhyngom.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y datganiad heddiw ac rwy'n arbennig o falch o groesawu'r brand newydd Cymru Greadigol. Mae diwydiannau creadigol yn allweddol ac yn hanfodol bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol i Gymru. Bydd y brand rhyngwladol newydd cyffrous hwn yn helpu i hyrwyddo ein sector creadigol sy'n tyfu'n barhaus. Fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad, Gweinidog, mae Cymru'n meithrin enw da fwyfwy yn rhyngwladol am ei chynyrchiadau ffilm a theledu, a hefyd fel lleoliad ffilmiau—mae ffilmio Brave New World yn enghraifft berffaith o hyn—ac mae'n dod â rhyw £20 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru, fel yr ydych chi wedi'i grybwyll, a bydd hyn yn amlwg yn rhoi hwb aruthrol i'n heconomi greadigol. Ac mae hyn yn bwrpasol ac mae hyn yn strategol. Felly, mae'n newydd ac yn gyffrous ac mae cyfleoedd arloesol yn cael eu creu, ac mae'r prosiect cyffrous y gwnaethoch chi sôn amdano o ran Aardman hefyd yn bwysig. Mae ein diwydiannau technolegol yn cael eu meithrin yn strategol, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi bod yn flaengar dros ben. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd bod cenedlaethau'r dyfodol yn meddu ar y sgiliau hyn i barhau i feithrin enw da Cymru yn ein holl feysydd eraill. Rydych chi wedi sôn, Gweinidog, am y defnydd o dechnoleg yn y diwydiant cerddoriaeth i hyrwyddo Cymru a thalent cerddoriaeth Cymru drwy system ddosbarthu a labelu digidol, ac mae hynny hefyd wedi esgor ar lwyddiant arwyddocaol, ac mae hynny hefyd i'w groesawu.

Felly, a gaf fi ofyn i chi, Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o gerddorion yng Nghymru y seilwaith ariannu ac addysgu ar gael iddyn nhw er mwyn cyrraedd y potensial llawn hwnnw, oherwydd mae'n ffaith bod cerddoriaeth gwasanaethau addysgu cymorth cerddoriaeth yn diflannu ledled Cymru? Byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy ngalwadau am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a pherfformiad cerddoriaeth i Gymru ynghyd â'n conservatoire cerddoriaeth pwysig a chyrff cerddorfeydd cenedlaethol. Felly, rwy'n awyddus i sicrhau bod y cyfleoedd gwych sy'n codi yn y sector creadigol ar gael i bobl o bob cefndir, oherwydd mae hi'n briodol, yng Nghymru, bod yn rhaid i'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol fod ar gael nid yn unig i ychydig breintiedig, nad yw'n seiliedig ar allu i dalu, ond ar allu i chwarae. Felly, yn strategol, gyda golwg ar gerddoriaeth, mae'n rhaid i hyn olygu seilwaith a rhwydwaith o ganolfannau addysgu cymorth cerddoriaeth sydd ar gael yn rhwydd ac sydd wedi'u hariannu fel bod modd meithrin a datblygu ein cerddorion a'n perfformwyr o Gymru yn y dyfodol, neu ni fyddwn yn cyfrannu at sector diwydiannau creadigol bywiog ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac rwy'n teimlo bod yn rhaid dathlu hefyd enw da rhyngwladol Cymru fel gwlad y gân a'i ddefnyddio i hyrwyddo'r brand Cymru Greadigol ledled Cymru. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ragor o gyhoeddiadau ar y mater hwn.

Ac, yn olaf, fe hoffwn i hefyd ofyn i'r Gweinidog beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi a diogelu lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i fapio a chwmpasu'r lleoliadau hyn. Rwy'n gobeithio y gall hyn helpu i hyrwyddo lleoliadau celfyddydol lleol, fel Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon a Neuadd Goffa Trecelyn yn fy etholaeth i.

Ac, i gloi, rwyf yn credu ei bod hi'n briodol ein bod yn cynhyrchu strategaeth ddiwylliannol gyffredinol i Gymru, ac rwyf yn galw ar y Gweinidog i ystyried gwneud hynny. Diolch yn fawr.

18:35

Diolch yn fawr iawn am hynny. O ran eich pwynt olaf, holl bwynt mapio lleoliadau yw ein bod yn gwybod yn union beth sy'n digwydd, a chafodd yr arian hwn ar gyfer yr ymarfer mapio ei gyflwyno oherwydd ein bod yn bryderus iawn bod lleoliadau'n cau, a doedden ni ddim hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio y gallwn ni ei wneud wedyn yw darganfod pa leoliadau ar hyn o bryd y gallem ni, o bosibl, eu hannog, a byddwn yn dod o hyd i strwythur lle y cânt eu cefnogi, yn amlwg, gan weithio gyda'r sector gwirfoddol, y sector cerddoriaeth ac yn amlwg, pan fo'n briodol, gyda'r sector addysg mewn gwahanol ardaloedd.

Rwy'n ymwybodol o'ch cefnogaeth gref ac ymrwymedig i addysg gerddorol, ac rydych yn llygad eich lle, mae datblygu llythrennedd cerddorol, ar bob lefel, yn fater mor allweddol. Cefais y fraint o wrando ar y band chwyth ddydd Sul yn Neuadd Hoddinott, ac mae'n wych gweld yr ansawdd yr ydym ni'n ei gynhyrchu mewn pob math o gerddoriaeth, ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn annog hynny. A dyna pam yr wyf yn ystyried sefydlu Cymru Greadigol o fewn amserlen fer—hynny yw, o fewn misoedd, fel ei fod yn gweithio'n llawn o fewn pedwar i chwe mis, oherwydd rwy'n bwriadu sicrhau bod y sefydliad hwnnw'n gwneud datblygu cerddoriaeth o bob math yn un o'i flaenoriaethau, i ateb yr heriau yr ydych chi wedi'u nodi yn union. Ac mae'n hanfodol bod cysylltiad uniongyrchol rhwng yr hyn y bydd Cymru Greadigol yn ei fynnu ar gyfer datblygu'r diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru a'r system addysg. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau â'r Gweinidog addysg am y materion hyn, a gallaf eich sicrhau y bydd ymagwedd strategol ar draws y Llywodraeth ar hyn.

8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar yr Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir, a galwaf ar y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7037 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau’r Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tri i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir i'r Cynulliad, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ystyried y Bil er mwyn paratoi ar gyfer y ddadl heddiw.  

Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn wedi cael ei ysgogi o ganlyniad i ddarganfod rhwystrau rhag codi treuliau byrddau draenio mewnol sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r bwrdd draenio mewnol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd, ni all fyrddau draenio mewnol amrywio eu cyfraddau. Bydd y Bil yn unioni'r sefyllfa drwy gyflwyno modd a fydd yn eu galluogi i wneud hyn ac i ddefnyddio'r ardollau a chyfraddau draenio cywir. Gosodwyd y memorandwm ar 15 Mawrth. Ers hynny, rydym wedi ailystyried y Bil ac wedi dod i'r casgliad bod dau gymal ychwanegol o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn o ganlyniad i newid yn y dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth benderfynu a oes angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer darpariaethau ym Miliau'r DU, a gosodwyd memorandwm diwygiedig ar 18 Ebrill.  

Bydd cydsynio i ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud o fewn y Bil o ran Cymru yn caniatáu i CNC gyfrifo gwerth tir yng Nghymru nad yw'n dir amaethyddol drwy fethodoleg amgen, gan y byddant yn gallu defnyddio data amgen ar gyfer y cyfrifiadau hyn. Byddant hefyd yn gallu defnyddio methodoleg amgen ar gyfer cyfrifo gwerth tir ac adeiladau amaethyddol i osgoi'r posibilrwydd o lurgunio'r cyfrifiad dosrannu.

Rwyf yn ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith craffu ac yn falch na welsant unrhyw reswm dros wrthwynebu bod y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Yn ei adroddiad, gofynnodd y pwyllgor am eglurhad ynghylch a fyddai'r rheoliadau y cyfeirir atynt yng nghymal 5(6) o'r Bil yn cynnwys y broses cynnig cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A. Mae hon yn ddarpariaeth nodweddiadol sy'n rhoi pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai angen i unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol o dan y ddarpariaeth hon gael eu hasesu ar yr adeg honno i weld a fyddent yn cynnwys y broses y memorandwm cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A. Pe bai rheoliadau o'r fath yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol—gan gynnwys Mesurau a Deddfau'r Cynulliad—a ddaw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, yna byddai angen memorandwm cydsyniad offeryn statudol. Rhoddwyd gwybod sut y gallai pŵer o'r fath wneud diwygiadau canlyniadol i Fesurau a Deddfau'r Cynulliad hefyd ym mharagraff 17 o'r memorandwm a wnaed ar 18 Ebrill.

Gofynnodd y pwyllgor i mi hefyd egluro pam nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i sicrhau'r newid hwn yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru bob tro yn dilyn yr egwyddor y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, bydd amgylchiadau pan y bydd yn synhwyrol ac yn fanteisiol os ydy darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cael ei cheisio i Gymru ym Miliau Seneddol y DU, gyda chydsyniad y Cynulliad. Nid oes Bil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, na bwriad i gyflwyno un yn ystod blwyddyn hon y Cynulliad, a fyddai'n gyfrwng addas i gynnwys darpariaethau Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir. Cynigiaf y cynnig.  

18:40

Diolch. A gaf i alw ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol drafod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir yn ein cyfarfod ar 1 Ebrill.

Ar 18 Ebrill, dros gyfnod y Pasg, ysgrifennodd y Gweinidog at y pwyllgor yn rhoi gwybod inni ei bod yn bwriadu gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig a fyddai'n ceisio cydsyniad ar gyfer cymalau 3 a 5, yn ogystal â chymalau 2 a 4. Mae'r memorandwm diwygiedig hwnnw hefyd yn cael ei drafod yma heddiw. Gosodwyd, fel y'i cyfeiriwyd eisoes, ein hadroddiad gerbron y Cynulliad yr wythnos diwethaf, ar 24 Ebrill.

Dŷn ni'n nodi rhesymau Llywodraeth Cymru dros benderfynu bod gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru ym Mil y Deyrnas Unedig yn briodol. Fodd bynnag, dŷn ni'n dal i gredu bod diffyg eglurder ynghylch pam nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun, a dŷn ni yn gofyn am eglurhad pellach ar y pwynt yma. Wedi'r cwbl, mae materion afonydd a draenio tir wedi cael eu datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Dylai Llywodraeth Cymru, felly, allu cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun heb ddibynnu ar ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd heb edrych ar ôl y meysydd hyn mewn 20 mlynedd. 

Dŷn ni'n nodi mai barn Llywodraeth Cymru, fel y'i mynegir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig, yw bod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymalau 2, 3, 4 a 5 o'r Bil. Dŷn ni hefyd yn nodi mai barn Llywodraeth y DU yw bod angen cydsyniad mewn perthynas â chymalau 2 i 8 o'r Bil—hynny yw, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8. Dŷn ni, fel pwyllgor, yn cytuno efo barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credwn fod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymalau 2 i 8 i'r graddau eu bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn yn unol ag adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Dwi'n gwrando ar beth ddywedoch chi ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad offeryn statudol—y SICM, y broses honno. Achos o ran cymal 5 o'r Bil yma, dŷn ni'n nodi bod is-adran 6 yn caniatáu'r broses o ddiwygio Mesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau yn unig, heb ddod i fan hyn o reidrwydd. Dŷn ni wedi gofyn am eglurhad pellach ynghylch a fyddai rheoliadau o'r fath yn ddarostyngedig i'r broses memorandwm cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A. Achos eto, wedi'r cwbl, mae yna rôl allweddol gan y Senedd yma, fel deddfwrfa i Gymru i gyd, i graffu ar y deddfu sydd yn mynd ymlaen. Nid mater yn unig rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ydy'r prosesau yma i fod. Diolch yn fawr. 

18:45

Diolch, a diolch i Dai Lloyd am godi'r pwyntiau hynny. Rwyf wedi amlinellu'r rhesymau pam yr oeddem ni'n credu bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn briodol. Rwy'n credu bod y cydsyniad yn dechnegol ac nid yw'n ddadleuol o gwbl. Felly, roeddem ni'n meddwl ei fod yn ymagwedd bragmatig i hynny. Byddaf yn sicrhau bod DEFRA yn cael gwybod am eich sylwadau hefyd ac, os oes unrhyw beth arall, byddwn yn falch o ysgrifennu at yr Aelod.

Diolch. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.