Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
26/03/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiwn brys rydw i wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.67. Dwi'n galw ar David Rees i ofyn y cwestiwn brys. David Rees.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn diwedd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd ar 21 a 22 Mawrth? (EAQ0006)
Mae'n rhywfaint o gysur bod 27 aelod yr UE wedi cynnig cyfnod byr i osgoi trychineb Brexit 'dim cytundeb'. Croesawaf yn frwd bleidlais y Senedd i gymryd yr awenau yn ôl yn y cyfnod argyfyngus hwn. Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog roi'r gorau i'w llinellau coch trychinebus a gwrando. Bydd angen defnyddio'r amser ychwanegol yn ddoeth, i datrys yr anghytundeb ac i dod o hyd i fwyafrif yn y Senedd sydd o blaid ffurf feddal ar Brexit, fel y nodir gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Os na fydd hynny'n digwydd, bydd angen i'r cyhoedd benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Diolch i chi am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Ac mae'r sylw diwethaf yr ydych newydd ei wneud yn ddiddorol iawn, ond, yn amlwg, yr wythnos diwethaf, gwelsom Lefarydd Tŷ'r Cyffredin yn ei gwneud yn gwbl glir na châi'r Prif Weinidog ddod â'r cynnig yn ôl, nad oedd wedi ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd o gwbl. Aeth hi at y Cyngor Ewropeaidd ar 21 a 22 Mawrth, gan wneud cais am estyniad, er, fel y nododd Prif Weinidog Cymru ddoe, nad oeddent wedi gweld beth oedd yn y cais hwnnw. Treuliodd y penwythnos mewn anhrefn, gan siarad â chefnogwyr Brexit yn ei hannedd breifat yn Chequers. A ddoe, fe wnaeth hi osod offeryn statudol yn gofyn am estyniad, neu newid yn y dyddiad ymadael, eto heb roi gwybod i'r cenhedloedd datganoledig ei bod hi'n gwneud hynny. Mae'n anhrefn llwyr. A neithiwr collodd hi'r bleidlais eto yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fel y dywedwch, mae'n braf gweld bod y Cyngor Ewropeaidd a'r Senedd, bellach yn cymryd camau i adennill rheolaeth dros yr holl broses hon, oherwydd nad oes gan Prif Weinidog y DU unrhyw syniadau o gwbl—wel, dim ond un oedd ganddi, ac nid yw hwnnw'n mynd i unman, ydy e? Ac mae hi'n mynd yn brin iawn o amser erbyn hyn hefyd. Ond dim ond pythefnos yw'r ymestyniad yr ydych chi wedi sôn amdano, ac ymhen pythefnos, gallem fod yn wynebu'r un sefyllfa, lle gallem fod yn gadael heb gytundeb. A ydych chi'n cytuno, felly, ei bod yn hanfodol ei bod hi nawr yn ymrwymo i fynd â hyn ymlaen, mae angen iddi weithio mewn gwirionedd gyda phleidiau eraill, mae angen iddi ystyried a chydweithredu mewn gwirionedd â grwpiau eraill i weld os gallwn ni gael y cytundeb gorau posibl? Ac os bydd hynny'n methu, dylai fynd yn ôl at y bobl a gofyn am etholiad cyffredinol, fel y gallwn ni leisio barn mewn gwirionedd ar hyn a chael gwared ar y Llywodraeth hon, sydd mewn methiant llwyr.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod pan ddywed fod hyn yn drychineb a achoswyd gan y Prif Weinidog. Yr hyn sy'n syfrdanol i mi, ac i Aelodau'n gyffredinol, rwy'n siŵr, yw, dri diwrnod cyn y dyddiad y bwriadwyd iddo fod y diwrnod ymadael, ein bod yn gweld y lefel hon o anhrefn yn y Senedd, gyda Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddiswyddo neithiwr, a'r Senedd yn dwyn rheolaeth yn ôl. Mae'n ddyletswydd bellach ar y Prif Weinidog i wrando ar ewyllys y Senedd ac i fwrw ymlaen â hynny. Petai hi wedi mabwysiadu dull o'r dechrau a fyddai'n cynnwys pawb yn Nhŷ'r Cyffredin, i chwilio am wahanol fath o Brexit, ni fyddem yn y sefyllfa hon nawr.
Os yw hi'n dewis parhau i gael y glymblaid culaf bosibl ar gyfer ei hymagwedd tuag at Brexit, bydd hi'n methu. Os bydd hynny'n golygu ei bod yn llwyddo—ac rwyf yn amau y bod hynny'n digwydd—o ran trydedd pleidlais, hyd yn oed pe byddai hynny'n digwydd, mae'n sail hynod ansefydlog ar gyfer mynd i'r afael â'r dasg ddeddfwriaethol sydd o'n blaenau i sicrhau Brexit trefnus, a byddai'n anghyfrifol iawn iddi wneud hynny. Rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn y mae angen iddo ddigwydd yw bod y Senedd yn chwilio am sail ehangach o lawer ar gyfer y trafodaethau sydd i ddod ac i'r datganiad gwleidyddol gael ei ail-negodi ar ffurf debyg i'r hyn yr ydym wedi galw amdano yma yn y Cynulliad hwn, a gymeradwywyd sawl gwaith, ac fel y disgrifir yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru'. Gellid gwneud hynny'n gyflym, ni fyddai angen ail-negodi'r cytundeb ymadael, a gellid ei wneud o fewn y math o amserlen sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac os bydd hynny'n methu, yna, fel yr eglurais yn gynharach, ein safbwynt ni yw bod yn rhaid i'r cyhoedd gael dweud eu dweud.
Mae'n rhaid imi ddweud, Gweinidog Brexit, fy mod i'n siomedig iawn eich bod wedi bod yn beirniadu'r Prif Weinidog. Tra'ch bod chi ac eraill yn y Siambr hon, ac mewn mannau eraill—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Er eich bod chi ac eraill yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill yn benderfynol o wneud popeth o fewn eich gallu i rwystro Brexit a'i atal rhag digwydd, mae'r Prif Weinidog yn gweithio'n galed i wireddu canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ac i gyflawni Brexit trefnus sy'n diogelu swyddi, sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac sy'n cadw pobl yn ddiogel. Rwyf i'n cymeradwyo'r Prif Weinidog am sicrhau estyniad byr i erthygl 50. Mae'n rhywbeth doeth iawn i'w wneud yn yr amgylchiadau presennol, ac, wrth gwrs, mae'n rhoi mwy o amser i bobl fyfyrio ar ei chytundeb, a'r dewisiadau eraill yn hytrach na hynny. Nawr, efallai y byddwch chi eisiau beirniadu'r gwahaniaethau barn yn y Blaid Geidwadol, ond o leiaf mae'r Ceidwadwyr yn gwneud y peth iawn ac yn ymddiswyddo o feinciau'r Llywodraeth pan eu bod yn anghytuno â'r Llywodraeth, yn wahanol i'ch Gweinidog iechyd chi sy'n eistedd i lawr y rhes oddi wrthych ar y fainc flaen. [Torri ar draws.]
Felly, gadewch i mi fod yn glir: pleidleisiodd Cymru i adael yr UE, a gadael yr UE y mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae'n rhaid i Lywodraethau'r DU a Chymru barchu'r penderfyniad hwnnw ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniad y refferendwm. Ni wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros fwy o etholiadau Ewropeaidd. Ni wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros gyfnodau hir o ansicrwydd. Maen nhw'n dymuno i'r ansicrwydd hwn ddod i ben. Fe wnaethon nhw gymryd rhan yn y weithred ddemocrataidd fwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid gweithredu canlyniad eu penderfyniad i adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, gofynnaf i chi nawr, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn dros ein gwlad, ac yn rhoi gwleidyddiaeth pleidiol o'r neilltu—[Torri ar draws.]—gwireddu'r addewid, a wnaeth eich plaid chi mewn dogfennau maniffesto i gyflawni canlyniad y refferendwm, a chefnogi'r unig gytundeb sydd wedi ei negodi â'r Undeb Ewropeaidd ac sydd wedi'i gytuno â'r UE, sef cytundeb y Prif Weinidog, fel y gallwn symud ymlaen, cyflawni Brexit a pharchu canlyniad y refferendwm?
Mae gan yr Aelod tua'r un faint o gefnogaeth o blaid ei safbwynt ef yn y Siambr hon ag sydd gan Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin o blaid ei safbwynt hi. [Torri ar draws.] Mae'n dra rhyfeddol, y diwrnod ar ôl i ni weld ymddiswyddiadau niferus o Lywodraeth y DU er mwyn gallu pleidleisio yn erbyn y chwip, o leiaf y gall y Prif Weinidog ddibynnu ar deyrngarwch diwyro Darren Millar. [Torri ar draws.]
Ni allaf glywed y Gweinidog Brexit. Caniatewch i'r Gweinidog Brexit gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Y Prif Weinidog yn unig sydd ar fai ein bod yn y strach hwn. Petai hi wedi sylweddoli'n gynnar bod y glymblaid gul rhwng cefnogwyr Brexit, y DUP a'i Phlaid hi ei hunan yn mynd i 'n gadael yn y sefyllfa hon—sefyllfa a oedd yn gwbl amlwg o'r cychwyn cyntaf—ni fyddem ni yn y sefyllfa anhrefnus hon dri diwrnod cyn y bwriadwyd i ni adael. Nawr mae'n rhaid i'r Prif Weinidog wneud yr hyn y mae hi wedi methu â'i wneud o'r dechrau a dangos arweinyddiaeth ar y mater hwn, estyn ar draws Tŷ'r Cyffredin, cydymffurfio ag ewyllys Tŷ'r Cyffredin—mae hi yn y sefyllfa hon dim ond oherwydd methiant llwyr y Llywodraeth—a chyflwyno cytundeb i'r DU y gall y Senedd a'r UE ei gefnogi ac y mae'r Llywodraeth yn y fan yma yng Nghymru wedi bod yn dadlau drosto am ddwy flynedd a mwy.
Gweinidog, nawr bod y dewisiadau sydd ar gael yn culhau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder o ran pa mor bell fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i fynd er mwyn osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'. Bydd cyfres o bleidleisiau dangosol yn San Steffan yr wythnos hon, a bydd ASau Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gynnal pleidlais y bobl fel yr unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng. Ond mae ein ASau hefyd wedi llofnodi gwelliant dirymu a fwriedir i orfodi Llywodraeth y DU i ddirymu erthygl 50 petai 'dim cytundeb' yn anochel fel arall. Byddai hyn yn caniatáu inni osgoi'r argyfwng am ryw hyd fel y gellid dod o hyd i lwybr newydd ar gyfer ymdrin â mater ein perthynas â'r UE, gan gynnwys pleidlais y bobl ar ôl dirymu gyda dewis i barhau am byth neu i adael ar delerau penodol. A fyddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi dirymu fel galwad brys i achub y trên gwladwriaethol rhag rhuthro oddi ar glogwyn 'dim cytundeb' i drychineb? Ac, ar y pwynt hwnnw, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa un a yw ef ymhlith y 3,600 o bobl, a disgwylir y bydd mwy, o etholaeth Castell-nedd sydd wedi llofnodi'r ddeiseb i ddirymu erthygl 50?
Mae'n bosibl, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi gweithdrefn a fyddai'n caniatáu iddi ffurfio consensws drwy dynnu gwahanol ddewisiadau oddi ar y bwrdd fesul un tan y gellir ffurfio mwyafrif y tu ôl i un llwybr. Cynigiodd fy nghyd-Aelod Jonathan Edwards AS y syniad hwn fisoedd yn ôl ac awgrymodd y gellid defnyddio system pleidleisio amgen i gyflawni'r nod hwn. Yn olaf, pe byddai hyn yn digwydd a bod y Senedd yn gallu cytuno ar ffordd ymlaen, a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai'n ddoeth i ymestyn erthygl 50 am ba gyfnod bynnag y byddai'n cymryd i ail-negodi â'r UE ar ba sail bynnag a gytunir i gyflawni hynny? Os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai hyn yn golygu y byddai angen i'r DU gymryd rhan yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai?
Wel, diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Yn gyntaf, ynglŷn â'r pwynt am erthygl 50 a dirymu erthygl 50, mae hi'n camgyfleu'r sefyllfa, yn anfwriadol rwy'n siŵr. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi bod yn glir iawn nad yw diddymu erthygl 50 ar gael i Lywodraeth y DU er mwyn ceisio cael refferendwm arall. Mae'n glir mae'r unig sail ar gyfer dirymu hynny yw pe byddai newid ymagwedd a bod y DU yn bwriadu aros fel aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
O ran y dewisiadau a ddarperir i Aelodau Seneddol, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Seneddol yn ystyried y dewisiadau sydd ger eu bron, gan gydnabod nad oes unrhyw ddewis yn debygol o arwain at sefyllfa pan fo pob aelod o'r cyhoedd yn fodlon ar y canlyniad y daethpwyd ato. Mae'n bryd i gyfaddawdu mewn modd adeiladol o ran y dewisiadau sydd ar gael. Rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n cael cyfle i bleidleisio ar y math o gytundeb Brexit yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo yn y fan yma—cyfochri agos a phartneriaeth gref—ac rydym ni hefyd yn gobeithio y byddan nhw'n cael cyfle i bleidleisio ar refferendwm arall. Rydym wedi nodi'n glir y byddwn ni'n gallu cefnogi'r naill ddewis neu'r llall ar y meinciau hyn.
Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn ddydd Sadwrn o orymdeithio â miliwn neu fwy o ddinasyddion y Deyrnas Unedig, gan gynnwys miloedd lawer o bobl o Gymru. Rwy'n siŵr y byddwch chithau hefyd wedi gweld y 5.5 miliwn o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw am ddirymu erthygl 50. O ystyried yr adlach ddemocrataidd ddigynsail o ran y mater hwn, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bryd erbyn hyn i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth groch i'r angen am bleidlais y bobl ar y mater hwn, a fyddai'n ymwneud yn gyfan gwbl â gwrando ar ewyllys y bobl gan eu bod wedi cael y cyfle erbyn hyn i ystyried sut mae dyfodol Brexit yn edrych?
Wel, mi wn fod yr Aelod wedi bod yn un o gefnogwyr y safbwynt hwn yn ein plaid ni ers peth amser ac mi wn ei bod hi ac eraill yno ddydd Sadwrn. Gwelais hefyd neges Prif Weinidog Cymru ddydd Sadwrn, a oedd yn ei gwneud yn amlwg mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw, fel ag y bu, sef os yw'r Senedd yn penderfynu bod angen ail refferendwm er mwyn ein hachub rhag yr argyfwng hwn, y byddem ni'n cefnogi hynny, a'n bod yn credu, er hynny, o gofio'r amser sydd ar ôl, y dylid gwneud paratoadau nawr, y dylid cymryd camau i baratoi nawr, rhag ofn y bydd angen hynny. Os yw'r Senedd yn cymryd y llwybr hwnnw ac yn ein symud ymlaen ar y sail honno, yna rwy'n credu, ac mae'r Llywodraeth yn credu, fel yr ydym wedi ei wneud erioed, y byddai Cymru yn well ei byd wrth ddewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna oedd y sefyllfa yn 2016 ac mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ein bod yn awr mewn argyfwng o ran democratiaeth? Dywedodd ar ddechrau'r cwestiwn hwn heddiw ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth erbyn hyn i gyflawni ewyllys y Senedd. Ond onid y broblem yn y fan yma yw bod y Senedd yn anfodlon i gyflawni ewyllys y bobl? Pleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl dros adael yr UE yn y refferendwm, ond mae gennym fwyafrif llethol o Aelodau Seneddol, ac yn wir, mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad hwn, sydd o blaid aros, ac yn benderfynol, ar bob cyfrif, i lesteirio penderfyniad pobl Prydain mewn refferendwm rhydd ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Mae 87 y cant o'r rhai sydd o blaid gadael, yn y pôl piniwn cyfredol a gyhoeddwyd heddiw, yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit, ac mae hyd yn oed 38 y cant o'r rhai sydd o blaid aros yn credu bod gwleidyddion eisiau atal Brexit. Dim ond 19 y cant o'r cyhoedd a anghytunodd â hynny. Mae pedwar deg un y cant o'r cyhoedd yn credu y dylem ni adael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a dim ond 28 y cant sy'n anghytuno. Mae 53 y cant o'r cyhoedd yn dweud os bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio i ddirymu erthygl 50, y bydd yn gwneud niwed anadferadwy i'r broses ddemocrataidd. Onid yw hyn yn fater o'r dosbarth gwleidyddol proffesiynol yn y fan yma yn mynd wyneb yn wyneb â'r bobl, a dim ond un ffordd y mae hynny'n mynd i ddod i ben maes o law?
Os caf ddweud, nid yw'r Aelod yn gwneud dim tegwch â chymhlethdod y ddadl ynglŷn â Brexit. Ac rydym, i fod yn blwmp ac yn blaen, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi oherwydd yr addawyd pethau nad oedd yn bosibl eu cyflawni i bobl am gyfnod rhy hir, ac nid yw gwleidyddion wedi disgrifio iddynt y dewisiadau anodd sy'n gysylltiedig â tramwyo'r dyfroedd tymhestlog hyn. Mae e'n ymosod ar Aelodau Seneddol am y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn hyn o beth. Mae hynny'n hynod anghyfrifol yn fy marn i, a gwelsom y Prif Weinidog yn gwneud yr un peth o Stryd Downing yr wythnos diwethaf.
Beth ddylai fod wedi digwydd o'r cychwyn yw y dylai'r Prif Weinidog fod wedi gwrando ar fwy o Aelodau Seneddol yn hytrach na llai ohonyn nhw. Maen nhw'n ymwneud â phroses o geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 â'r dewisiadau sy'n ymwneud â hynny a sut yr ydym ni am ddilyn trywydd sy'n parchu'r canlyniad hwnnw yn y modd gorau, ond gan hefyd wneud cyn lleied â phosib o niwed i economi Cymru a'r DU. Rwy'n gobeithio, yn y dyddiau nesaf, ac rwyf yn siŵr y bydd Aelodau Seneddol yn y dyddiau nesaf, yn ymdrin â'r dasg honno mewn ffordd sy'n parchu canlyniad refferendwm 2016 ond sydd hefyd yn mynd â ni at sefyllfa sy'n adlewyrchu'r math o berthynas Brexit—y berthynas ôl-Brexit—yr ydym ni wedi bod yn ei hargymell ar y meinciau hyn am ddwy flynedd neu fwy.
Yn yr un modd ag eraill, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r filiwn o bobl ar strydoedd Llundain ddydd Sadwrn, ac roeddwn i'n falch o orymdeithio y tu ôl i Lynne Neagle, a oedd yn arwain galw gan filiwn o bobl i gael llais teg a'r gair olaf yn y materion hyn. Roeddwn i wrth fy modd o glywed y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog materion rhyngwladol yn siarad dros Gymru ac yn siarad dros Lywodraeth Cymru a Llafur Cymru, yn mynnu—mynnu—bod unrhyw gytundeb yn mynd yn ôl i'r bobl ar gyfer y gair olaf. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â Tom Watson pan siaradodd ddydd Sadwrn? Dywedodd mai'r ffordd o uno ein gwlad, ein Seneddau a'n pobl unwaith eto yw rhoi'r materion hyn yn ôl i'r bobl, i bleidlais gyhoeddus, er mwyn galluogi pob un ohonom ni i wneud penderfyniad ar ein sefyllfa heddiw a'r argyfwng sydd wedi ei greu gan fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ac a ydych chi'n cytuno â Keir Starmer pan ddywedodd bod yn rhaid i unrhyw gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn dychwelyd ag ef fynd yn ôl i'r bobl fel mai'r bobl sy'n gwneud y penderfyniad hwn a'n bod ni'n uno'r wlad hon ac yn symud oddi wrth y rhaniadau y mae pobl ar dde eithafol byd gwleidyddiaeth wedi ceisio eu creu a manteisio arnynt? A thrwy wneud hynny, y peth cyntaf y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud nawr yw sicrhau bod gennym ni amser—bod gennym ni amser i wneud y penderfyniad hwnnw, bod gennym ni amser i ystyried y materion hyn a bod gennym ni amser i bleidleisio arno. Gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn sefyll yn gadarn ac yn siarad dros fy etholwyr—[Torri ar draws.]—oherwydd fe'm hetholwyd ganddyn nhw i wneud hynny. [Torri ar draws.] Dydych chi erioed wedi ennill etholiad o gwbl.
Arhoswch. Mae gormod o ddicter yn yr ystafell hon ar hyn o bryd a gofynnaf i'r Aelodau ymdawelu. Mae'r rhain yn faterion pwysig ac mae angen iddyn nhw gael eu trafod a'u cwestiynu mewn ffordd ddigyffro. Y Gweinidog i ymateb, os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. Wel, mewn ymateb i'r Aelod, fel y bydd ef yn gwybod, safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod refferendwm yn un o ddwy ffordd o ymateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Gwn ei fod yno gyda chyd-Aelodau eraill ddydd Sadwrn yn hyrwyddo refferendwm. Rydym ni wedi bod yn eglur os oes cytundeb ar gael sy'n adlewyrchu egwyddorion 'Diogelu Dyfodol Cymru'—un o bartneriaeth agos a chyfochri yn y dyfodol—mai dyna'r ffordd ymlaen yr ydym ni'n ei hyrwyddo, ac yn absenoldeb hynny, yna bydd angen refferendwm arall er mwyn i ni allu bwrw ymlaen. A dyna fydd y cyfle i bobl fynegi eu barn, a byddwn ni, fel Llywodraeth, yn dadlau y bydd Cymru, fel y bu erioed, yn well ei byd fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn rhoi'r cyngor hwnnw i bobl Cymru ar yr adeg honno.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
A dyma ni'n dod i'r eitem nesaf, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf—Russell George.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgynhyrchu dur? OAQ53665
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi sector dur yng Nghymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae buddsoddiadau mewn arloesedd, ymchwil a datblygiad, datblygu sgiliau a chaffael i gyd yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth o bwysigrwydd gweithgynhyrchu dur i economi Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw ar ymchwil a datblygiad ym maes dur. Rwy'n ymwybodol bod grŵp Liberty wedi lansio strategaeth dur gwyrdd, sy'n ailgylchu dur. Nawr, maen nhw'n dweud y bydd hyn yn gweddnewid gweithgynhyrchu, yn ailfywiogi'r gadwyn gyflenwi ac yn creu swyddi medrus newydd, gan sicrhau dyfodol wedyn i'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Pa ystyriaethau mae eich Llywodraeth a chi eich hunan wedi eu rhoi i fuddsoddi a chefnogi'r cynllun arbennig hwn a chynlluniau a strategaethau eraill tebyg iddo?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at gynigion dur gwyrdd Liberty Steel. Maen nhw'n gyfraniad pwysig iawn i drafodaethau ar ddyfodol y sector dur, a chymeradwyaf y cwmni ar y gwaith y mae wedi ei wneud yng Nghasnewydd hyd yn hyn. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, o gael taith o gwmpas safle Liberty Steel yng Nghasnewydd yn gynharach y llynedd ac i glywed yn uniongyrchol gan y cwmni am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Felly, ar lefel swyddogol, cynhaliwyd trafodaethau gyda'r cwmni y llynedd o ran cyflwr y syniadau y maen nhw'n eu cyflwyno o dan y weledigaeth dur gwyrdd ar yr adeg honno. Bydd yr Aelod yn deall bod cyfres o faterion a gododd i'r Llywodraeth ynglŷn â nhw. Ceir materion mantolen y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn gyfarwydd â nhw, y mae'n rhaid iddyn nhw gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat o ran unrhyw gymorth ariannol y gallai'r Llywodraeth ei roi. Ceir materion cymorth gwladwriaethol y mae'n rhaid eu hymchwilio, ac, wrth gwrs, ceir materion gwerth am arian mewn unrhyw fuddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Cynhaliwyd y trafodaethau hynny y llynedd. Mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â Liberty Steel yn rheolaidd, wrth i ni weld sut y gallwn ni weithio gyda'r cwmni hwn i fwrw ymlaen â'r syniadau diddorol iawn y maen nhw'n eu cynnig.
Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, rydych chi'n sôn am leihau allyriadau ac am foderneiddio'r gweithlu dur o ran y gwaith pŵer ac o ran y cyfleusterau newydd sydd ar gael. Wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o gytundeb cyllidebol Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddeall ar ba gam yr ydym ni erbyn hyn o ran rhyddhau'r cyllid ar gyfer camau'r dyfodol. Rydym ni wedi cael sawl trafodaeth yn y grŵp trawsbleidiol ar y diwydiant dur, gan fod yn awyddus i fwrw ymlaen â'r datblygiad hwn, ond efallai heb ddeall yn llawn pryd y bydd camau'r dyfodol yn gallu cael eu rhyddhau, i wneud yn siŵr y gallwn ni fod mor ystyriol o'r amgylchedd â phosibl yng ngwaith dur Port Talbot, ond hefyd gwneud yn siŵr ei fod yn lle modern i bobl weithio ynddo hefyd.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Gwn ei bod hi, fel eraill yn y Siambr hon, wedi croesawu'r cyhoeddiad ym mis Chwefror eleni fod Prifysgol Abertawe wedi ei phenodi i arwain prosiect gwerth £35 miliwn, gyda phrifysgolion eraill hefyd, gyda'r nod penodol o wneud y diwydiant dur yn addas ar gyfer y dyfodol o ran allyriadau a'r economi carbon-isel yr ydym ni eisiau ei chreu. Roedd y datganiad ysgrifenedig ar y cyd heddiw gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Addysg yn canolbwyntio ar y cymorth ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant dur y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo ag ef.
Yn ystod hydref y llynedd, cefais gyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar y pryd ac eraill, gyda phrif weithredwr grŵp Tata Steel yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i wedi cyfarfod ers hynny gydag aelodau uwch eraill yng ngrŵp Tata, ac rydym ni'n agos iawn erbyn hyn, rwy'n credu, i allu cwblhau cyfres bellach o fuddsoddiadau o'r math a gytunwyd gyda Plaid Cymru ac y bu'n rhaid i ni weithio drwyddynt gyda'r cwmni. Mae'r cwmni ei hun, fel y gwyddoch, wrthi'n cael ei ailstrwythuro, ac mae hynny'n arwain at rai cymhlethdodau o ran gwneud yn siŵr y gellir rhoi'r sicrwydd angenrheidiol ar waith. Ond rydym ni'n agos iawn erbyn hyn at yr adeg pan rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw. Bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn ysgrifennu at bob Aelod pan fydd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau yn derfynol.
Prif Weinidog, a gaf i unwaith eto gofnodi fy ngwerthfawrogiad i, a gwerthfawrogiad y gweithwyr dur ym Mhort Talbot, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae hyn wir wedi sefyll yn gadarn dros faes gweithgynhyrchu dur yma yn y DU. Dyma'r unig Lywodraeth sydd wedi gwneud hynny, yn wahanol i Lywodraeth y DU, sy'n parhau i fethu a chefnogi'r diwydiant dur. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Nhŷ'r Cyffredin adroddiad, a daeth i'r casgliad, o ran dur:
Mae camliwio'r Llywodraeth o gynigion y sector dur ar gyfer cytundeb sector yn awgrymu ei bod yn amharod i ymateb i geisiadau'r sector.
Argymhellodd:
Dylai'r Llywodraeth ddychwelyd i drafodaethau gyda'r sector ar gytundeb posibl a chynnig eglurder ynghylch y gofynion a'r cynigion a allai alluogi'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiad i ddatblygu diwydiant dur y DU—
a dyma'r pwynt pwysig—
gan gefnogi sector sy'n fasnachol gynaliadwy erbyn hyn, mewn marchnad gystadleuol fyd-eang.
Mae llawer o'r ysgogiadau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw yn y gorffennol—y costau ynni—yng ngafael Llywodraeth y DU. A wnewch chi sylwadau pellach i Lywodraeth y DU nawr, yn cefnogi adroddiad y pwyllgor hwn ac yn gofyn i Lywodraeth y DU gymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn o gostau ynni uchel, i sicrhau bod ein diwydiant dur yn ddiwydiant cystadleuol yn y farchnad fyd-eang?
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gydnabyddiaeth o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i Tata yn ei etholaeth ef yn y cyfnod anodd a wynebwyd gan y diwydiant dur yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae wedi bod yn bleser cael y cyfle i ymweld â Tata Steel ddwywaith yn ystod y misoedd diwethaf—gyda'r Aelod lleol ar y ddau achlysur. Rwyf wedi gweld yr adroddiad y mae'n cyfeirio ato, adroddiad y Pwyllgor Dethol, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd ar 19 Mawrth. Mae'n ddeifiol yn yr hyn y mae'n ei ddweud wrth Lywodraeth y DU o ran y sector dur. Mae'r adroddiad yn dweud bod y sector ei hun wedi sefyll ynghyd gerbron Llywodraeth y DU gan gyflwyno cyfres uchelgeisiol o gynigion, ac nid yn unig y cawsant eu diystyru gan Lywodraeth y DU, ond cawsant eu camliwio gan y Llywodraeth honno hefyd. Rwy'n credu bod honno'n iaith gref gan bwyllgor dethol. Rydym ni'n gwybod maint rhwystredigaeth y sector at wrthodiad Llywodraeth y DU i weithredu, er enghraifft, o ran prisiau trydan ar gyfer diwydiant trwm. Yn sicr, rhoddaf sicrwydd i'r Aelod y byddwn yn cysylltu â Llywodraeth y DU eto, ar sail yr adroddiad pwyllgor dethol hwnnw, ac ar sail popeth y mae undebau llafur a rheolwyr gwaith Tata yn ei ddweud wrthym sydd ei angen arnyn nhw gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau'r dyfodol llwyddiannus hwnnw.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cefnffyrdd yn Sir Fynwy? OAQ53683
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy ar ddewisiadau i wella llif y traffig ar hyd yr A48 a'r A466 drwy Cas-gwent. Bydd sawl lleoliad ar gyfer cefnffordd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o'r adolygiad presennol o'r terfyn cyflymder.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu eich bod chi wedi rhagweld yr hyn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn am yr A466 yng Nghas-gwent. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn mynd i wneud hynny y tro yma, am unwaith. [Chwerthin.]
Ddoe, roeddwn i'n falch iawn o gael bod yn bresennol yn y seremoni gosod carreg gopa yn ysbyty athrofaol newydd y Grange yng Nghwmbrân, ynghyd â'r Gweinidog, Lynne Neagle, Alun Davies—rwy'n credu ein bod i gyd wedi cael amser ar gyfer hunlun ar ben yr adeilad newydd gydag ACau cyfagos hefyd.
Mae'r prosiect yn edrych yn dda, ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn darparu profiad cleifion o'r radd flaenaf pan fydd wedi'i gwblhau, ond mae sylw'n troi nawr at y cysylltiadau trafnidiaeth i'r ganolfan gofal critigol newydd honno, gan y bydd yn cwmpasu ardal lawer mwy na'r canolfannau gofal critigol presennol yng Nghasnewydd a'r Fenni, ac mae'r olaf yn cwmpasu de Powys hefyd. Rydym ni'n gwybod—ac rwyf i wedi holi'r Gweinidog trafnidiaeth am hyn yn y gorffennol—bod problemau gyda'r A4042 rhwng y Fenni a Chwmbrân, yn enwedig yn Llanelen, i'r de o'r Fenni, sy'n dueddol o gael llifogydd trwm. Nid wyf i'n credu bod gennym ni ateb i'r broblem honno hyd yn hyn. Tybed a allem ni gael ateb ynghylch yr hyn a wnaed i liniaru llifogydd yn y fan honno fel y bydd etholwyr Kirsty Williams ym Mhowys yn gallu cyrraedd y ganolfan gofal critigol newydd mewn ambiwlans, yn ogystal â'm hetholwyr fy hunan, a hefyd golwg ehangach ar gefnffyrdd o gwmpas sir Fynwy a Gwent i wneud yn siŵr y gall pob claf, ni waeth pa ran o'r ardal honno y mae'n dod ohoni, gael mynediad at y cyfleusterau newydd yn y ganolfan gofal critigol hon fel y bydden nhw'n gobeithio ei wneud.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am y cwestiwn atodol yna? Rwyf i wedi dod yn llawer iawn mwy cyfarwydd â'r system gefnffyrdd yn sir Fynwy o ganlyniad i'w ddyfalbarhad yn cyflwyno'r cwestiwn hwn i'r balot yn ystod yr wythnosau diwethaf. [Torri ar draws.] Ydy yn wir. Byddai yn y pen draw.
Bydd ef yn gwybod bod cyfres o gamau yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad o'r terfyn cyflymder ar gefnffyrdd y soniais amdano yn fy ateb gwreiddiol yn edrych ar dros 600 o safleoedd ledled Cymru, gan gynnwys nifer o safleoedd pwysig iawn yn etholaeth yr Aelod. Mae hynny'n rhan o ymdrech bellach yr ydym ni'n ei gwneud mewn buddsoddiad o £24 miliwn yn ein rhaglen mannau cyfyng y bwriedir iddo fynd i'r afael â'r problemau penodol hynny a all ddigwydd ar unrhyw ffordd ac i ddod o hyd i atebion i hynny.
Mae trafnidiaeth i'r ysbyty newydd wedi bod yn rhan annatod o'r gwaith o gynllunio'r safle hwnnw o'r cychwyn cyntaf. Roedd yn un o'r materion a gyflwynwyd a oedd o blaid y safle hwnnw pan gafodd ei gynnig yn y lle cyntaf. Ac mae o fudd llwyr i bawb wneud yn siŵr bod cleifion o bob rhan o'r dalgylch yn gallu canfod eu ffordd yn brydlon ar gyfer y triniaethau hynny y bydd y ganolfan newydd ardderchog honno yn eu cynnig rbyn hyn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb cynharach yna. Cyn ymweld â'r ysbyty newydd yn y Grange, ymwelais â safle deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr, a siaradais â phobl yno am y cynnydd y maen nhw'n ei wneud. A phan fydd y prosiect deuoli hwnnw wedi'i gwblhau, byddwn wedi gwario oddeutu £500 miliwn yn y Cynulliad hwn yn cyflawni ein haddewid maniffesto i ddarparu manteision economaidd i bobl ar draws ardal gyfan Blaenau'r Cymoedd.
Prif Weinidog, mae'n bwysig i ni bod gwerth hyn i'r cymunedau hynny sydd wrth ochr yr A465 cymaint â phosibl. Nid oes yr un ohonom ni eisiau adeiladu ffordd osgoi, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw adeiladu buddsoddiad yn economi'r cymunedau hynny yn y dyfodol i sicrhau y gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r buddsoddiad sydd ei angen arnom i fynd i'r afael â'r tlodi a welwn yn llawer rhy aml yn ardal y Cymoedd gogleddol. A allwch chi ymrwymo, Prif Weinidog, i sicrhau bod gennym ni gynllun datblygu economaidd sy'n bodoli ochr yn ochr â'r gwaith o ddeuoli'r A465 i sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r budd mwyaf posibl a'r effaith fwyaf posibl o'r buddsoddiad hwnnw i'r bobl sy'n byw ym Mlaenau'r Cymoedd?
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna? Mae e'n hollol iawn i dynnu sylw at y buddsoddiad enfawr y bydd y Llywodraeth hon wedi ei wneud yn y gwaith o ddeuoli'r A465. Fel y dywed, nid oedd erioed yn brosiect trafnidiaeth; roedd yn brosiect datblygu economaidd o'r cychwyn. Dyna oedd y sail y gwnaed y gwaith deuoli arni, er mwyn gwneud mynediad at drafnidiaeth ar ben uchaf cymunedau'r Cymoedd, yn haws ac i sicrhau ffyniant y cymunedau hynny yn y dyfodol. Nawr, gwn, gan ei fod ef ei hun wedi chwarae cymaint o ran ynddo, y sicrhawyd, o ganlyniad i'r gwaith sy'n cael ei wneud yno, amrywiaeth drawiadol o fanteision cymunedol yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda hyfforddiant ar gyfer pobl leol, cyflogaeth ar gyfer pobl leol a phecynnau gwaith ar gyfer busnesau lleol. Y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud yw, y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu, bod yn rhaid i ni barhau i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad a wneir yn y ffordd yn parhau i gynnig cyfleoedd economaidd. Cafwyd cyfarfod y llynedd gyda swyddogion, ynghyd ag awdurdodau lleol, arweinyddion busnes, Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol a Sefydliad Bevan, i gynllunio sut i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd y bydd y gwaith deuoli yn eu cynnig. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol De Cymru i gyflwyno cyfres o syniadau, cynigion, blaenoriaethau ac ati, fel y gallwn ni sicrhau bod y ffordd yn darparu'r union hyn y mae'r Aelod dros Flaenau Gwent wedi ei ddweud—gobeithion hirdymor ar gyfer economi'r rhan honno o Gymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod trefn caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn addas i'w diben?
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r drefn caffael cyhoeddus wrthi'n cael ei hadolygu a'i diwygio. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar y mater hwn ym mis Medi y llynedd, a oedd yn nodi'r ffordd y bydd caffael cyhoeddus yn cael ei drefnu yn y dyfodol, ac mae gwaith yn parhau i gyflawni ar y prosbectws a gyflwynwyd gennym bryd hynny.
Wel, mae'n eithaf amlwg, Prif Weinidog, bod eich Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant llwyr, wrth gwrs, gan fethu â chyrraedd ei dargedau a chostio arian i'r trethdalwr pan ddylai fod yn arbed arian—hyn i gyd gyda diffyg cymhwysedd a chyfeiriad llwyr gan eich Llywodraeth chi. Nawr, peidiwch â chymryd fy ngair i am hyn: canfu adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2017, yn hytrach na phrosesu mwy na £1 biliwn y flwyddyn ar gyfer eitemau swmp-brynu, dim ond £150 miliwn a wariwyd gan gyrff cyhoeddus yn 2015-16, ac, o 2015 i 2017, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud colledion blynyddol o £2 filiwn. Nid yw'r gwasanaeth hwn wedi gallu ad-dalu benthyciad o £5.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae cronfeydd wrth gefn y Llywodraeth erbyn hyn yn parhau i lenwi'r diffyg tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Yn olaf, canfu'r swyddfa archwilio hefyd mai dim ond traean o'r cyrff cyhoeddus a gymerodd ran mewn arolwg oedd yn fodlon â'r gwasanaeth hwnnw. Prif Weinidog, pam wnaeth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fethu mewn modd mor wael?
Wel, Llywydd, cyfeiriais at fy natganiad ysgrifenedig o fis Medi y llynedd, ond nid oeddwn i wedi disgwyl i'r Aelod ei ddarllen ar lafar, oherwydd roedd popeth y mae ef wedi ei ddweud yn amlwg yn y datganiad hwnnw bryd hynny, ac yn ateb ei gwestiwn cyntaf. Rydym ni'n diwygio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yng Nghymru. Nid wyf i'n derbyn yr hyn a ddywedodd yn ei frawddeg gyntaf yn ei ail gwestiwn, oherwydd mewn gwirionedd bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni lefel uwch o arbedion ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—yn y flwyddyn ariannol bresennol, yn hytrach—nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes. Ond mae angen ei ddiwygio. Mae pethau wedi symud ymlaen ers iddo gael ei greu gyntaf. Bydd y rheolau ar gyfer caffael yn newid wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a chyflwynodd fy natganiad ym mis Medi y ffordd y bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i fod â phortffolio symlach o wasanaethau y mae'n eu darparu i brynwyr yng Nghymru. Byddwn yn gwneud mwy ar y lefel rhanbarthol a lleol. Byddwn yn dibynnu ar Wasanaeth Masnachol y Goron ar gyfer nifer fach o fentrau caffael lle'r ydym ni'n credu bod hynny'n cynnig gwell gwerth am arian i Gymru. Byddwn yn dysgu o'r profiad yr ydym ni wedi ei gael, a byddwn yn cynllunio gwasanaeth sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n ei ddefnyddio. Mae hynny i gyd eisoes yn rhan o bolisi'r Llywodraeth. Nid wyf i'n hollol sicr beth y mae'r Aelod yn ei feddwl y mae wedi ei ychwanegu at hynny yn ei gwestiynau hyd yn hyn y prynhawn yma.
Wel, yr hyn wyf i wedi ei ychwanegu, yn amlwg, yw bod eich Llywodraeth chi wedi methu, oherwydd mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r swyddfa archwilio wedi gwneud hynny'n gwbl eglur, oherwydd, pan sefydlwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, dywedwyd wrthym y byddai'n arbed arian trethdalwyr ac yn ei gwneud yn haws i fusnesau bach gaffael contractau. Yn hytrach, mae wedi costio arian i drethdalwyr ac wedi methu â chefnogi busnesau. Felly, a wnewch chi achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro i bobl Cymru am ei fethiant, ac a allwch chi amlinellu'n benodol nawr pa newidiadau sydd wedi eu gwneud, yr effaith ar weithio yn rhanbarthol ac yn lleol, neu, unwaith eto, a yw hwn yn fater syml o'ch Llywodraeth chi yn tin-droi ac yn rhoi penderfyniad arall o'r neilltu, yn union fel ffordd liniaru'r M4?
Wel, mae hwn yn hen bwynt diflas y mae'r Aelod yn ei gynnig i ni wythnos ar ôl wythnos. Gallaf sicrhau'r Aelodau bod yr adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ei arwain gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Dyna'r oeddem ni eisiau ei sicrhau—bod y gwasanaeth a ddarperir yn un y mae'r bobl sy'n dibynnu arno yn ei ganfod yn fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Rydym ni'n parhau i weithio ochr yn ochr â nhw, rydym ni'n parhau i ddiwygio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel ein bod ni'n symud rhywfaint o'i gapasiti i'r lefel rhanbarthol a lleol hwnnw. Rydym ni'n gwneud yn union hynny er mwyn gwneud yn siŵr y gall economïau lleol fanteisio ar rym caffael cyhoeddus wrth i ni symud i sefyllfa lle nad y pris rhataf sy'n bwysig, ond y gwerth mwyaf yn gyffredinol am wariant cyhoeddus yr ydym ni'n ei gael o'r gwerth £6 biliwn o wariant cyhoeddus a wneir yn y modd hwn ledled Cymru bob blwyddyn.
Arweinydd Plaid Cymu, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrtha i fan hyn mai polisi eich Llywodraeth chi o ran Cymraeg yn y gweithle yw gwthio cyrff cyhoeddus i wneud mwy i hybu'r Gymraeg. Fodd bynnag, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd yn achos y llyfrgell genedlaethol, lle mae wedi dod yn amlwg bod y Gweinidog diwylliant wedi gwrthwynebu yn chwyrn gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer swydd y prif lyfrgellydd, yn groes i bolisi eich Llywodraeth chi eich hun. Mae e-byst rhwng Llywodraeth Cymru a'r llyfrgell genedlaethol ynglŷn ag e-byst mewnol rhwng y Gweinidog a'i swyddogion yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi ceisio bargeinio o ran yr archif ddarlledu genedlaethol i ddwyn pwysau ar awdurdodau'r llyfrgell i beidio â gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd. Dyma ddyfyniad o gofnod o sgwrs ffôn rhwng yr adran diwylliant a'r llyfrgell, lle dywedwyd wrth y llyfrgell:
os byddan nhw'n bwrw ymlaen, gallai wneud pethau'n llawer mwy anodd o ran materion Llyfrgell Genedlaethol eraill y maen nhw'n gobeithio sicrhau ein cefnogaeth ar eu cyfer (e.e. yr Archif Ddarlledu).
Fis yn ddiweddarach i ddyddiad yr e-bost, rŷn ni'n gwybod bod y buddsoddiad yma ar gyfer yr union archif ddarlledu yn y fantol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn cytuno bod yr awgrym lleiaf o ddefnyddio dylanwad amhriodol gan Weinidogion yn hollol annerbyniol, ac a wnewch chi felly sicrhau'r Cynulliad y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried a yw'r Dirprwy Weinidog diwylliant a'i adran wedi gweithredu'n groes i'r cod gweinidogol a'r egwyddorion Nolan yn hyn o beth?
Wel, nid wyf i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, Llywydd, o gwbl. Yn hytrach na dibynnu ar nodiadau ar hap o sgyrsiau dros y ffôn, gadewch i ni weld beth yn union ddigwyddodd yn yr achos hwn. Y canlyniad sydd gennym ni ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw bod gennym ni lyfrgellydd cenedlaethol newydd sy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gymwys i wneud y swydd. Dyna'r hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd. Ac mae gennym ni archif ddarlledu newydd wedi'i lleoli yn y llyfrgell genedlaethol. Mae hynny'n ymddangos i mi—. Mae'n ymddangos i mi bod y ddwy ffaith hynny yn llawer mwy grymus ac yn tystio i'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymgymryd â hyn na dibyniaeth yr Aelod ar balu, fel erioed, ymhell i chwyn mater yn hytrach na gallu cydnabod ei sylwedd.
Os caf i ddweud—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud bod hynny'n ymateb gwbl warthus gan y Prif Weinidog i gwestiwn digon dilys a oedd yn gofyn dim ond am ddyfarniad ganddo fe? Yn ôl y cod, mae hawl gyda ni i ofyn iddo fe am ddyfarniad. Mae e wedi gwneud ei safbwynt yn glir. Mae'n siŵr y byddwn ni'n dychwelyd at y mater yma pan ddaw rhagor o fanylion i'r fei.
Prif Weinidog, i droi at y dadleuon hanesyddol sydd ar y gweill yn San Steffan yr wythnos hon ar y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i wneud popeth o fewn ein gallu i roi llais i fuddiannau Cymru. Fodd bynnag, yng nghyfarfod y pwyllgor materion allanol ddoe, roeddech chi'n amharod i ddweud pa un o'r dewisiadau a fydd yn cael eu dadlau ar lawr Tŷ'r Cyffredin yfory sy'n well gennych chi. Dywedasoch y byddai gwneud hynny'n golygu ymgysylltu â chwestiynau damcaniaethol. Ond, yn sicr, o un safbwynt o leiaf, nid oes unrhyw gwestiwn damcaniaethol—mae'n fater o egwyddor sylfaenol. Roedd hynny'n ganolog i'r orymdaith gan dros filiwn o bobl yn Llundain ddydd Sadwrn. A dyna'r cwestiwn—pa un a ddylid mynd â pha bynnag gytundeb a ddaw allan o'r Senedd yn ôl i'r bobl. Roedd eich Gweinidog iechyd yn eglur ynghylch y cwestiwn hwn, roedd eich Gweinidog materion rhyngwladol yn eglur ynghylch y cwestiwn hwn, ac felly hefyd llawer o Aelodau eraill o'ch meinciau eich hun ac, yn wir, aelodau eich plaid a ymunodd â mi mewn rali pleidlais y bobl ym Mangor. Y cwestiwn yw, Prif Weinidog: beth yw eich safbwynt chi?
Wel, fy safbwynt i, Llywydd, yw'r un safbwynt yn union ag y bu gen i o'r cychwyn. Mae safbwynt ei blaid—. Mae ei safbwynt ei hun yn newid o ddydd i ddydd. Fel y gwyddom, roedd gan ei blaid bedwar safbwynt mewn un diwrnod ddim ond wythnos yn ôl. Dim ond un safbwynt oedd gan y Llywodraeth hon, sef yr un a gyflwynwyd yn eglur iawn y prynhawn yma gan y Gweinidog Brexit. Rwy'n gobeithio, yr wythnos hon, yn y Senedd, y bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i bleidleisio ar y math o gytundeb a nodwyd gennym yn ein papur, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cael cyfle i bleidleisio ar ail refferendwm. Gellid cefnogi'r ddau ganlyniad hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru ac, os gall ASau gytuno ar y naill neu'r llall ohonynt, byddwn yn gallu cefnogi'r canlyniad hwnnw.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, bydd aelodau'r Blaid Lafur yn edrych ag anobaith ar yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Roeddwn i'n sefyll mewn undod—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n sefyll mewn undod gydag aelodau'r Blaid Lafur oherwydd, ar rai materion, dylem ni roi ein gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu. Ie, pleidlais y bobl yw polisi fy mhlaid i; dyna bolisi eich plaid chithau hefyd. Pam nad ydych chi ac arweinydd y Blaid Lafur yn sefyll yn gadarn drosto? Dywedodd Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, dros y penwythnos, pa bynnag ateb fydd yn ennill mwyafrif yn San Steffan—ac rwy'n ei ddyfynnu yn uniongyrchol yn y fan yma, Prif Weinidog—mae'n rhaid cael pleidlais gyhoeddus fel 'clo neu rwystr', ac mae angen i hynny fod rhwng dewis credadwy i adael ac aros.
Nawr, mae'n wir—mae'n wir—bod Jeremy Corbyn yn dal i fod yn fwy amwys. Yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, y cwbl a ddywedodd oedd,
mae'n rhaid i'r Tŷ hwn hefyd ystyried pa un a ddylid cyflwyno unrhyw gytundeb i'r bobl ar gyfer pleidlais gadarnhau,
heb unrhyw arwydd sut y byddai'n pleidleisio. Felly, mae gennym ni ddryswch parhaus yn San Steffan ynghylch safbwynt y Blaid Lafur, ond nid oeddwn i'n disgwyl i'r dryswch hwnnw ymestyn i'r fan yma pan gawsom ni bleidlais eglur ym mis Ionawr—y Blaid Lafur a Phlaid Cymru—gyda'n gilydd o blaid pleidlais y bobl. Mae'n rhaid i mi ddweud—mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog efallai fod y dŵr yn swyddfa arweinydd y Blaid Lafur yn Llundain mor goch â'ch dŵr chi erbyn hyn, ond yn sicr nid yw'n glir. Oni ddylai eich teyrngarwch fod i Gymru? Oni ddylid rhoi mwy o bwyslais ar hynny na'ch teyrngarwch i Jeremy Corbyn?
Wel, Llywydd, mae'n brynhawn i'r Aelod beidio â bod yn fodlon derbyn ateb cadarnhaol. Mae eisoes wedi clywed ein safbwynt tua phedair gwaith nawr, rwy'n credu. Rydym ni o blaid pleidlais y bobl fel dewis. Rydym ni o blaid y math o gytundeb a gyflwynwyd gan ei blaid ef a'm plaid innau yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Dyna ni; ni all fod yn fwy eglur. Nid wyf i'n mynd i'w ddweud eto. Rwy'n credu y gall ef adael aelodau'r Blaid Lafur i mi yng Nghymru, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brynhawn dydd Sadwrn, tra'r oedd ef—[Torri ar draws.] Tra'r oedd ef wedi ymgolli yn yr orymdaith, roeddwn i'n curo drysau yng Ngorllewin Casnewydd. Gallwn fod wedi ei gyflwyno i'r person y cyfarfûm ag ef ar garreg y drws a ddywedodd wrthyf ei fod wedi bod yn meddwl pleidleisio dros Blaid Cymru efallai, tan iddo glywed eu bod nhw'n bwriadu cyfuno â'r Torïaid ac yn sicr ni fyddai'n gwneud hynny bellach.
Arweinydd Grŵp UKIP, Gareth Bennett. [Torri ar draws.] Arweinydd Grŵp UKIP, Gareth Bennett, i ofyn y cwestiwn.
Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth chi ar gyfer Cymru erbyn hyn yw—[Torri ar draws.]
A gawn ni glywed y cwestiwn, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r Prif Weinidog yn arbennig allu clywed y cwestiwn. Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru erbyn hyn yw datblygu rhywbeth yr ydych chi a'ch Gweinidogion yn ei alw'n 'economi sylfaenol'. Mae hwn yn ymadrodd sydd wedi dod yn boblogaidd ymhlith academyddion a gwleidyddion yng Nghymru, ond sy'n golygu fawr ddim i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin. Ond, hyd yn oed mewn cylchoedd gwleidyddol ac academaidd, ceir perygl bod ystyr yr ymadrodd 'yr economi sylfaenol' mor niwlog fel ei fod yn golygu ychydig iawn o safbwynt ymarferol. Beth yw eich dealltwriaeth chi o'r term, a pha gymorth ymarferol y gallwch chi weld eich Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu i dyfu'r rhan hon o economi Cymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dadl yr economi sylfaenol yn un bwysig iawn. Rwy'n cytuno ag ef bod mwy i'w wneud i gael y ddadl honno y tu hwnt i'r cylchoedd y mae'n gweithredu ynddyn nhw ar hyn o bryd. Mae'r economi sylfaenol yn cyfeirio at y pethau hynny sydd, ddydd ar ôl dydd, yn darparu'r gwasanaethau y mae bywyd cyffredin yn dibynnu arno. Mewn rhai rhannau o Gymru, dyma'r rhan fwyaf o'r economi honno. Mae'n golygu pethau fel gofal cymdeithasol. Mae'n golygu pethau fel cynhyrchu bwyd. Mae'n golygu pethau fel darparu'r gwasanaethau beunyddiol hynny na ellir eu symud i rannau eraill o'r byd, sy'n parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac y mae cymunedau yn llunio eu dyfodol o'u hamgylch. Rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig iawn o'r hyn yr ydym ni eisiau canolbwyntio arno yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i Lee Waters am y gwaith y mae'n ei wneud ar ran y Llywodraeth yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at y ddadl honno yn mynd tu hwnt i gylchoedd academaidd a gwleidyddol a chynnwys y bobl hynny y mae eu swyddi a'u bywoliaeth yn dibynnu arni.
Ie, diolch am egluro hynna, Prif Weinidog. Nawr, soniasoch am ofal cymdeithasol a bwyd, a soniwyd am dai, ynni ac adeiladu hefyd yn y gorffennol gan eich Dirprwy Weinidog pan ein bod ni wedi trafod y pwnc hwn yn y fan yma yn y Siambr, er ei bod hi'n ddyddiau cynnar i'r drafodaeth hon hyd yn hyn. Nawr, mae llawer o'r swyddi hyn eisoes yng Nghymru, fel y nodwyd gennych, ac mae cyflogau llawer o'r swyddi hyn yn talu'n gymharol wael, yn anffodus. Felly, efallai na fydd cefnogi twf y math hwn o swydd yn ffordd dda i Gymru geisio symud i fath o economi fwy medrus â gwell cyflogau, sef yr hyn y mae eich Gweinidog yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol yr ydych chi eisiau ei wneud. A oes perygl felly, Prif Weinidog, os byddwch chi'n canolbwyntio gormod ar yr economi sylfaenol, efallai mai'r cwbl y byddwch chi'n ei wneud yw creu mwy o swyddi cyflog isel gyda hyfforddiant gwael ac amodau gwaith gwael?
Rwy'n anghytuno gyda'r aelod nad yw'r math o swyddi yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn rhai medrus iawn. Rwy'n credu mai dyma un o'r pethau sy'n tarfu ar bolisi mewnfudo Llywodraeth y DU—yr ymgais hon i rannu pobl yn bobl fedrus iawn a phobl anfedrus. Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn fedrus iawn yn wir, ac yn aml maen nhw wedi eu hyfforddi'n dda iawn, a bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod ni'n buddsoddi yn nyfodol y gweithlu hwnnw—i'w gofrestru, i ddarparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt—yn cael yr effaith o godi'r lefelau sgiliau yn y proffesiwn hwnnw. Ac wrth i ni wneud hynny, rydym ni hefyd yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl sy'n gwneud y swyddi hynny yn cael tâl priodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly, nid wyf i'n cytuno â'r gosodiad sylfaenol hwnnw—ein bod ni'n cael ein dal, trwy ganolbwyntio ar y sectorau hynod bwysig hyn, yn y fagl y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mewn gwirionedd, rydym ni'n benderfynol o wneud yn union i'r gwrthwyneb.
Wel, os edrychwn ni ar rai o'r mathau o swyddi y soniwyd amdanynt o'r blaen—y cyfleustodau—mae llawer o'r rhain yn swyddi mewn canolfannau galwadau, ac nid yw'r sector hwn yn arbennig o adnabyddus am dâl nac amodau da. Mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi fel gweithwyr asiantaeth. Ceir problem yn aml o waith shifft, diffyg hyfforddiant a meddylfryd llwyddo neu adael i reolwyr o ran datblygu gweithwyr. Soniwyd am fancio manwerthu o'r blaen. Mae gan y maes hwnnw enw gwell ond, wrth gwrs, rydym ni mewn oes pan fo mwy a mwy o ganghennau banc yn cau. Manwerthu bwyd—mae llawer o'r swyddi hyn o dan fygythiad gan awtomeiddio. Mae'r rhain yn ffactorau economaidd mawr sy'n dinistrio'r swyddi hyn, neu'n eu gwneud yn sectorau nad ydyn nhw'n ddymunol iawn i weithio ynddynt, a bydd yn gryn ymdrech i Lywodraeth Cymru allu rhwyfo yn erbyn y llanw hwn a gwneud y mathau hyn o swyddi yn faes twf, ac yn faes lle bydd swyddi nad ydyn nhw'n ddim ond yn swydd, ond yn swyddi sydd ag amodau a datblygiad gyrfaol da. O ystyried hynny i gyd, Prif Weinidog, a yw datblygu'r economi sylfaenol wir yn strategaeth hirdymor ddoeth iawn?
Wel, Llywydd, rwy'n deall bod y rheolau yn caniatáu i'r Aelod ofyn cwestiwn i mi ar gyfer pob aelod yn ei grŵp. [Chwerthin.] Ond roeddwn i wedi gobeithio erbyn y trydydd cwestiwn y gallem ni fod wedi cael ychydig mwy o gynnydd nag yr ydym ni wedi llwyddo i'w gael hyd yn hyn y prynhawn yma, oherwydd cyn belled ag y gallaf ddweud, gofynnwyd yr un cwestiwn i mi dair gwaith, a rhoddaf yr un ateb iddo: mae'r economi sylfaenol yn rhan bwysig iawn o'r economi. Ein huchelgais yw buddsoddi ynddi, i wella sgiliau, i wella cynhyrchiant, i wella lefelau cyflog ac i gydnabod yr arwyddocâd sydd gan y swyddi hynny ym mywydau'r unigolion yr ydym ni'n ddigon ffodus i'w perswadio i'w gwneud, ond hefyd yn y cymunedau sy'n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth gyfunol.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ53654
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae bargen prifddinas Caerdydd yn parhau i wneud cynnydd o ran ymateb i heriau cymdeithasol ac economaidd mawr ei hawdurdodau cyfansoddol. Mae swyddfa'r rhaglen yn cael ei hehangu i fwrw ymlaen ag amrywiaeth o brosiectau sydd wrthi'n cael eu datblygu, er mwyn eu troi'n fuddsoddiadau diriaethol yn ystod y flwyddyn hon.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r prosiectau, yn amlwg, a nodir yn y fargen ddinesig yw'r cysylltiad rhwng cyffordd 34 a'r A48 yn Sycamore Cross. Mae hon yn fargen sydd wedi bod ar y bwrdd ers cryn amser, y gwelliant hwn, ac, fel y gallwch ddeall, mae llawer o drigolion yn pryderu am y cynigion—yn enwedig y malltod tai a achoswyd gan rywfaint o'r diffyg penderfyniadau ynghylch rhai o'r cynigion. A allwch chi amlinellu heddiw pa ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r prosiect hwn a phryd y gallai ddod i derfyn o ran penderfyniad am unrhyw gyllid Llywodraeth a allai gael ei roi ar gael?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n rhoi'r ateb gorau posibl iddo, a byddaf yn gwirio rhai o'r manylion y mae wedi gofyn amdanyn nhw a gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu ato i gyflwyno hynny i gyd iddo yn y ffordd honno. Mae'n iawn i ddweud bod gan fargen prifddinas Caerdydd gyfres uchelgeisiol o brosiectau. Mae'r rhaglen metro a mwy gwerth £50 miliwn, a gymeradwywyd gan gabinet bargen prifddinas Caerdydd, yn gwneud buddsoddiadau mewn seilwaith trafnidiaeth ar draws pob un o'r 10 awdurdod lleol ac yn rhan, rwy'n gwybod, o benderfyniad bargen ddinesig y brifddinas-ranbarth i fuddsoddi yn yr amodau sylfaenol hynny a fydd yn creu economi lwyddiannus i bob un o'r 10 awdurdod cyfansoddol. Ac, o ran y cwestiwn penodol, fel y dywedais, byddaf yn gwirio'r manylion yn iawn ac yn sicrhau bod yr Aelod yn cael yr ateb gorau y gallaf i ei roi.
Mewn cynhadledd yr wythnos diwethaf ar fargeinion dinesig, siaradodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ymgorffori metrigau cydraddoldeb yn y bargeinion dinesig fel, yn ogystal â darparu dangosyddion eglur a mesuradwy, y bydden nhw hefyd yn darparu canlyniadau buddiol ynddynt eu hunain—er enghraifft, gostyngiad efallai i niferoedd y plant sy'n derbyn gofal neu ddisgwyliad oes gwell. Beth yw barn y Llywodraeth ar hyn?
Ein barn ni, Llywydd—diolchaf i'r Aelod am dynnu sylw at safbwyntiau'r comisiynydd—yw bod yn rhaid, wrth gwrs, i'r fargen ddinesig fod yn fwy na chyfres o bosibiliadau economaidd unigol. Mae'n rhaid iddi ymestyn i'r gyfres ehangach honno o fesurau sy'n ein helpu i weld pa un a yw'r fargen ddinesig yn cael effaith ym mywydau'r ddinasyddiaeth ehangach yn y 10 awdurdod lleol, ac rwy'n falch o ddweud bod y fargen ddinesig wedi bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i gyngor y comisiynydd. Yn eu hadroddiad ar berfformiad yn chwarter 3, a gyhoeddwyd dim ond yn ddiweddar iawn, byddwch yn gweld bod fframwaith asesu cenedlaethau'r dyfodol ffurfiol wedi ei sefydlu erbyn hyn ar gyfer yr holl benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud gan gabinet y fargen ddinesig ac y bydd y rhain yn cynnwys dangosyddion unigol, mesuradwy ar holl ffrydiau llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys y ffrydiau cydraddoldeb y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Felly, mae'r gwaith y mae'r comisiynydd yn ei wneud yn cael effaith uniongyrchol ar ystyriaethau'r fargen, ac rwy'n credu y bydd hynny'n helpu'r fargen ei hun i ddangos i ddinasyddion yn yr ardal y math o effeithiau y mae'n ceisio eu cyflawni.
Pa gynnydd sydd wedi ei wneud yn rhan o'r fargen ddinesig ar wella seilwaith trafnidiaeth o gwmpas coridor Heol Llantrisant?
Wel, fel y dywedais, Llywydd, ceir rhaglen metro a mwy gwerth £50 miliwn y mae'r fargen ddinesig wedi ei chymeradwyo eisoes. Mae honno'n cynnwys gwelliannau i drafnidiaeth o ogledd-orllewin Caerdydd allan i Rondda Cynon Taf. Mae sgyrsiau eraill yn cael eu cynnal sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yr Aelod lleol dros Bontypridd a'r ddau awdurdod lleol yn ogystal â Llywodraeth Cymru, a'u nod yw llunio ymateb cydlynol i anghenion trafnidiaeth y rhan honno o'r brifddinas a rhan Llantrisant o awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru? OAQ53644
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau cyllid i gynorthwyo gwaith ymchwil a datblygu. Trwy rownd 2014-20 o raglenni'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi mwy na £310 miliwn mewn ymchwil hyd yn hyn, ac mae hynny wedi cynorthwyo cyfanswm buddsoddiad o fwy na £560 miliwn.
Diolch. Cadarnhaodd ffigurau a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf mai Cymru oedd y lleiaf cynhyrchiol o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o hyd. Mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos bod diweithdra yng Nghymru, unwaith eto, yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pam mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn hefyd yn dangos, er bod y DU wedi gwario £527 y pen ar ymchwil a datblygu yn 2017—y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, gyda Lloegr yn gwario £554, yr Alban £456, Gogledd Iwerddon £371—mai dim ond £238 fesul pen o'r boblogaeth a wariodd Cymru?
Wel, rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelod yn ei olygu—bod rhai agweddau ar ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi dechrau o lefel sylfaen is nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond rwy'n credu y byddai wedi bod yn deg iddo nodi, yn yr adroddiad hwnnw o 2017 y cyfeiriodd ato, bod gwariant ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi cynyddu gan 37 y cant rhwng 2011 a 2017, tra ei fod wedi cynyddu 28 y cant ledled y Deyrnas Unedig, ac, yn wir, wedi cynyddu gan 5 y cant yn 2017 yn unig. Felly, er bod llawer iawn i'w wneud o hyd, ac mae'r angen am ymchwil a datblygu yng Nghymru yn bwysig iawn—dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg £6.6 miliwn yn ychwanegol yn ddiweddar ar gyfer cyllid ymchwil i brifysgolion Cymru—o'r man cychwyn y dechreuasom ohono, mae'r buddsoddiad a wnaed yng Nghymru yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Ac nid oeddwn i'n deall, Llywydd, nid wyf i'n siŵr, efallai na wnes i ddeall pwynt yr Aelod am lefelau cyflogaeth yng Nghymru yn llwyr, oherwydd mae'r ffigurau diweddaraf ar lefelau cyflogaeth yn hynod galonogol. Mae ein lefelau diweithdra ar lefel y DU erbyn hyn; mae ein lefelau anweithgarwch economaidd yn is na lefel y Deyrnas Unedig. Mae ei gydweithiwr, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hawlio clod am yr holl lwyddiannau hyn yn rheolaidd ac rwy'n credu y byddai'n synnu'n fawr o'i glywed yn eu beirniadu nhw yn y fan yma y prynhawn yma. [Chwerthin.]
Mae Horizon 2020, wrth gwrs, yn ffynhonnell bwysig iawn o arian ymchwil i Gymru; mae rhyw £100 miliwn, dwi'n meddwl, wedi llifo i wahanol sefydliadau drwy'r rhaglen Horizon 2020. Oes, mae yna ryw fath o sicrwydd ar gyfer cynlluniau sydd wedi cael addewid o gyllid yn barod, ond onid y gwir amdani ydy pa bynnag fath o Brexit sydd ar y ffordd, dŷn ni'n gwybod erbyn hyn fod yna danseilio wedi digwydd o'r ffynhonnell yma o arian? Ydy'r Prif Weinidog yn rhannu'r pryder yna efo fi ac yn gweld bod y dystiolaeth newydd a'r ddealltwriaeth newydd o'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg ers refferendwm 2016 yn cryfhau'r ddadl dros roi hyn o flaen pobl eto mewn refferendwm ffres?
Wel, dwi'n cytuno gyda'r Aelod am Horizon 2020 a beth rydym ni wedi ei wneud yn barod yng Nghymru yma i dynnu arian i mewn i Gymru. Mae mwy na 2,800 o brosiectau ble mae pobl o Gymru wedi cymryd rhan dan Horizon 2020. Fe ges i'r cyfle i fynd i'r M-SParc ar Ynys Môn amboutu mis yn ôl, ac roeddwn i'n trafod beth sy'n mynd i ddod ar ôl Horizon 2020 gyda'r bobl oedd yn gweithio yn y ganolfan lwyddiannus yna. So, dwi'n rhannu'r pryderon mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, ac rydym ni'n gweithio'n galed trwy'r pethau mae'r Gweinidog yn eu gwneud, ac mae cyfarfod gyda'r Gweinidogion dros Brydain i gyd wythnos nesaf ble'r ydym ni'n trio perswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi yn y rhaglen sy'n mynd i ddod ar ôl Horizon 2020 i'w cadw nhw i mewn yn y cynllun ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu i greu rhywbeth arall i ni yma yn y Deyrnas Unedig.
Fel y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, cyn dod i'r Cynulliad, roeddwn i'n gweithio fel peiriannydd ymchwil a datblygu. Prif Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno â mi bod cysylltiadau diwydiant yn hanfodol yn y maes hwn a bod angen i ni sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y gogledd, yn debyg i'r sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil yr ydym ni wedi ei weld yn llwyddo ar safle Airbus?
Rwy'n gwbl ymwybodol, yn wir, o yrfa flaenorol yr Aelod, a gwn faint yr oedd ei waith yn cael ei werthfawrogi yn y ganolfan lle'r oedd yn gweithio. Nawr, bydd, rwy'n gwybod, hefyd yn ymwybodol o'r ganolfan arbenigedd ffotoneg a fydd ar waith yn fuan o dan arweinyddiaeth prifysgol Glyndŵr, y bwriedir iddi gael ei chynnal yng nghanolfan Llanelwy mewn partneriaeth ag Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol De Cymru. Bydd £3.7 miliwn o fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd tuag at gyfanswm o £5.8 miliwn o fuddsoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y ganolfan ymchwil bwysig honno, ac mae'n rhan o'n penderfyniad parhaus i wneud yn siŵr bod buddsoddiad yn y gogledd yn rhan o'r modd yr ydym ni'n ei ddefnyddio i gynllunio cyfleoedd buddsoddiad ymchwil y dyfodol.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau canser yng Nghymru? OAQ53659
Diolch i'r Aelod am hynny. Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn ein cynllun cyflawni canser mae gwella diagnosis cynnar, gwasanaethau estynedig mewn gofal sylfaenol, system technoleg gwybodaeth canser newydd ar gyfer Cymru, a llwybr canser sengl. Cafodd pob un o'r mentrau hynny eu llunio i barhau i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Mae tri chwarter y bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn marw o fewn blwyddyn; caiff 80 y cant o'r rhai sy'n dioddef o'r clefyd eu diagnosis ar gam datblygedig ac erbyn hynny nid yw llawdriniaeth yn opsiwn. Bob blwyddyn, mae tua 500 o achosion newydd o ganser y pancreas yng Nghymru. Mae'r elusen Canser Pancreatig y DU yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o drin pob claf o fewn 20 diwrnod erbyn 2024. Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i ddileu'r oedi diangen i driniaeth, er mwyn cynyddu'r siawns o oroesi ar gyfer pobl â diagnosis o ganser y pancreas yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac wrth gwrs rwyf yn ymwybodol o'r galwadau i gyflwyno targed triniaeth o 20 diwrnod ar gyfer canser y pancreas. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'n llwyr y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am natur canser y pancreas—yr anhawster i gael diagnosis cynnar, ei natur ymosodol unwaith y caiff ei ddarganfod—yn y pen draw, nid wyf yn credu y byddai'n deg cyflwyno targed yn benodol ar gyfer un math o diwmor.
Ein dull ni o weithredu bob amser fu cynnig y cyfle i bobl sydd ag unrhyw fath o ganser gael eu trin mor gyflym â phosibl. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno llwybr canser sengl newydd, oherwydd rydym yn hyderus y bydd yn cefnogi'r gallu i gael triniaeth yn gyflymach. Ac mae hynny'n bwysig iawn, Llywydd, ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio am driniaeth—ac mae hynny'n brawf o lwyddiant: mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio'n gynnar, mwy o bobl yn cael eu hasesu'n gynnar. Roedd 32 y cant yn fwy o bobl yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn yr amser targed yn y mis yn dod i ben ddiwedd Ionawr eleni na phum mlynedd yn ôl. Ac mae hynny'n deyrnged hynod i'r gwasanaeth a ddarperir yma yng Nghymru, y clinigwyr, ac eraill, sy'n gweithio ynddo, ac mae eu hymdrechion yn sicr ddigon yn cynnwys canser y pancreas. Bydd ein hymdrechion o ran canser yn ei gyfanrwydd yn helpu i wella gwasanaethau ar eu cyfer nhw hefyd.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb i Mohammad Asghar. Hoffwn dynnu sylw'r Prif Weinidog at ymchwil a gyflwynwyd i ni fel Aelodau'r Cynulliad gan yr elusen Gweithredu Canser yr Ofari, sy'n dangos bod dros 40 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn credu'n anghywir nad yw symptomau canser yr ofari ond yn dod i'r amlwg yn ystod camau diweddarach y clefyd, ac mae 40 y cant o fenywod yn gorfod ymweld â'u meddyg teulu deirgwaith gyda rhai symptomau cyn iddynt gael eu hatgyfeirio. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog heddiw a fydd yn cynnal rhai trafodaethau gyda'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i weld a oes ffyrdd y gallwn wella ymwybyddiaeth meddygon teulu o'r ffaith bod symptomau cynharach canser yr ofari y gellid eu hadnabod, i sicrhau bod menywod yn cael eu hatgyfeirio'n gyflymach, lle mae'n briodol iddynt wneud hynny, at wasanaethau arbenigol.
Yn sicr, Llywydd, rwyf yn hapus iawn i gynnal y sgyrsiau hynny. Mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei gwneud gyda chymuned meddygon teulu yng Nghymru i wneud yn siŵr bod gan feddygon teulu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu i adnabod symptomau'n gynnar ac atgyfeirio'n gynnar i mewn i'r system. Credaf, o bosib, fod yr Aelod yn ymwybodol o'r ffaith ein bod wedi ariannu dwy fenter beilot newydd yn ddiweddar. Golyga hyn fod meddyg teulu, os oes ganddo glaf sydd â symptomau na fyddent yn caniatáu iddynt gael eu hatgyfeirio at y prif lwybr diagnostig, yn gallu eu hatgyfeirio at y ddwy ganolfan hyn ar gyfer diagnosis cyflym. Nawr, byddwn yn dysgu gwersi o'r ddwy ganolfan yr ydym wedi eu cyllido hyd yma. Mae ganddynt rai agweddau addawol—yn sicr, mae'r cleifion yn eu hoffi'n fawr. A gallant roi cyfle i feddygon teulu, pe gallem eu hymestyn ymhellach, ddarparu cipolwg cynnar ar gyfer y cleifion hynny y mae eu symptomau'n ansicr, ond lle mae'r meddygon teulu yn pryderu bod angen edrych arnyn nhw ymhellach.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu brand Cymru? OAQ53672
Llywydd, ers ei gyflwyno yn 2016, mae brand Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, wedi profi cryn lwyddiant, gan esgor ar ganlyniadau cadarn mewn twristiaeth, busnes, ymgyrchoedd iechyd a bwyd a diod, a darparu llwyfan cyson ar gyfer hyrwyddo Cymru.
Prif Weinidog, diolch ichi. Rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn ddryslyd ynghylch brand Cymru. Twristiaeth, bwyd, cludiant, cig, busnes—bob un ohonynt yn cael eu gweld fel rhan o'r brand. Nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at fuddugoliaeth odidog Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad a'r digwyddiad gwych a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Llun diwethaf. Yn ystod eich araith cyfeiriwyd at dîm Cymru a sut y mae Cymru'n rhagori mewn digwyddiadau tîm. Mae hyn yn syml ac yn effeithiol. O gynhyrchwyr bwyd, menter, addysg i dwristiaid, maen nhw a ninnau'n rhan o Dîm Cymru. A oes unrhyw ffordd y gellid ymgorffori Tîm Cymru i'r broses o farchnata Cymru a'r cyfan sydd ganddi i'w gynnig?
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei lle pan ddywed fod y pethau sy'n tynnu sylw'r byd at Gymru yn aml yn bethau fel digwyddiadau chwaraeon. Ein nod ni, fel y gŵyr, yn y cyfnod wedi Brexit, yw gwneud yn siŵr bod Cymru yn parhau i gael polisi drws agored i'r byd, a bod brand Cymru yn cael ei adnabod gan bobl fel rhywle sy'n parhau i fod yn agored ac yn ymrwymedig i groesawu'r byd i Gymru. Mae digwyddiadau chwaraeon yn aml yn ffordd ragorol o arddangos hynny ac rydym wedi manteisio ar lawer o gyfleoedd dros y blynyddoedd diwethaf i hybu cyfleoedd o'r fath yma, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn dymuno parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Prif Weinidog, er bod y rhaglen groeso yn darparu peth hyfforddiant gwasanaethau cwsmeriaid, mae busnesau twristiaeth Cymru nawr yn dweud wrthyf fod ar Gymru angen rhywbeth mwy na hynny, sy'n crynhoi'r hyn y mae Cymru yn ei gynnig ac yn cael ei gydnabod a'i dderbyn gan y diwydiant twristiaeth ei hun. Byddai'n gwella, nid yn unig ansawdd yr hyn a gynigir, ond hefyd yn hyrwyddo'r economi ymwelwyr fel llwyfan lle gall pobl ifanc yn benodol gael gyrfaoedd boddhaol a pharhaol. Tybed a fyddai'r Llywodraeth yn ymrwymo i weithredu'n gyflym i ddatblygu marc ansawdd hyfforddiant lletygarwch a thwristiaeth Cymru, fel y gall ymwelwyr sy'n dod i Gymru fod yn hyderus y cânt y croeso cynhesaf gorau yn ogystal â gwasanaeth ardderchog, wrth gwrs, sy'n ategu ein record chwaraeon ardderchog.
Diolch i'r Aelod am hynny, ac mae'n fater a godwyd gyda mi ar sawl achlysur gan y diwydiant lletygarwch. Fel y gwyddoch, maent yn wynebu pryderon gwirioneddol am eu dyfodol yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd os yw eu gallu i recriwtio pobl o'r tu allan i Gymru gan bolisïau mewnfudo Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei beryglu. Golyga hyn eu bod yn gwybod yn y tymor hwy fod yn rhaid iddynt wneud mwy i ddenu pobl ifanc i'r busnes hwnnw a bod y busnes hwnnw'n cael ei weld fel rhywle lle gellir cael gyrfa sy'n mynd â chi o'r man cychwyn at ddyfodol y byddech yn ei ystyried yn un a fyddai'n gwella eich rhagolygon yn y dyfodol.
Rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant i wneud hynny, a bydd gwneud yn siŵr bod yna raglenni cymwysterau a hyfforddiant cydnabyddedig y gall pobl eu cymryd yn ddi-os yn rhan o sgwrs y byddwn yn awyddus i barhau i'w chael gyda'r sector. Rydym eisiau adeiladu ar y gydnabyddiaeth sydd ganddyn nhw eu hunain am yr ymdrechion sydd angen iddynt eu gwneud fel bod eu cynnyrch yn fwy deniadol i bobl ifanc, a chreu gweithle mewn modd a fydd yn caniatáu iddynt gadw talentau pobl ifanc a'u gwneud yn aelodau hirdymor o'r gweithlu.
Diolch i'r Prif Weinidog.
A'r eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin menywod mewn bywyd cyhoeddus ar-lein? OAQ53660
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwn. Mae cam-drin menywod mewn bywyd cyhoeddus ar-lein yn gwbl annerbyniol ac yn niweidiol i'n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth. Rhaid i Lywodraeth y DU ddwyn darparwyr gwasanaethau i gyfrif am y cam-drin annerbyniol ym mywyd cyhoeddus.
Cynhaliwyd adolygiad diweddar gan y Pwyllgor Annibynnol ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a ganfu fod gwleidyddion benywaidd yn dargedau anghymesur bygythiadau ar-lein. Yn 2017, cynhaliwyd astudiaeth gan Amnest Rhyngwladol a ganfu fod gwleidyddion a newyddiadurwyr benywaidd ledled y DU ac America yn cael eu cam-drin bob 30 eiliad ar Twitter. O dan y rheoliadau presennol, nid yw'n drosedd targedu rhywun oherwydd eu rhyw. Gyda cham-drin merched ar-lein mor rhemp, rwy'n poeni'n wirioneddol sut rydym yn mynd i annog mwy o fenywod i fywyd cyhoeddus mewn awyrgylch sydd mor elyniaethus. Ac rwyf eisiau disgrifio hyn yn agored: mae'n llwfrdra llwyr ac mae pobl sy'n cuddio y tu ôl i'w cyfrifiaduron yn gorfodi hynny ar unigolion.
Felly, Dirprwy Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter ar sut y maent yn ymdrin â'r mater difrifol iawn hwn? Ac a wnewch chi gyhoeddi datganiad sy'n mynegi'n glir a sylweddol fod yr ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol?
Unwaith eto, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn dwyn y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hyn i gyfrif, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i gyflwyno'r safonau clir a chyson hynny sydd eu hangen arnom ar draws y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i wella diogelwch y defnyddiwr.
Cynrychiolir Llywodraeth Cymru yn swyddogol ar Gyngor y DU ar gyfer Diogelwch ar y Rhyngrwyd, gan ganiatáu inni ddylanwadu ar y penderfyniadau polisi ar lefel Llywodraeth y DU. Mae'r rhyngrwyd, wrth gwrs, yn faes sydd heb ei ddatganoli, ac mae sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar lefel Llywodraeth y DU yn gwbl hanfodol, ond rwyf yn hapus iawn i wneud datganiad ar y pwynt hwn. Er mwyn gwneud hynny, rwy'n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Wright, i ofyn iddo pa ymgysylltiad a fu rhyngddo ef a darparwyr cyfryngau cymdeithasol am y cam-drin ar-lein o fenywod mewn bywyd cyhoeddus. Ond hefyd, mae'n glir iawn bod gennym dystiolaeth ac mae gennym gefnogaeth ddefnyddiol iawn hefyd, er enghraifft, yn adroddiad 'Lleisiau Newydd' y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Dim ond y cychwyn yw eu hargymhelliad am y cyfryngau cymdeithasol a datblygiad cod ymddygiad ar y cyd ein pleidiau gwleidyddol ar ymddygiad difrïol a cham-drin ar-lein. Mae adroddiadau'n dangos ei fod yn ddibynnol ar ryw ac yn adlewyrchu'r un math o anghydraddoldeb rhyw yn y byd gwirioneddol. Felly, unwaith eto, o ran amrywiaeth a democratiaeth, rydym eisiau mynd i'r afael â hyn yng nghyd-destun menywod mewn bywyd cyhoeddus.
Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf fod trolio menywod ar y cyfryngau cymdeithasol yn epidemig ac mae'n mynd yn waeth. Mae gennyf brofiad personol fy hun o hyn, ac rwy'n sefyll yn gadarn yn erbyn y cam-drin pryd bynnag y byddaf yn ei gael, a phan welaf fenywod eraill yn ei gael hefyd oherwydd ni allwn adael i'r bwlis ennill.
Mewn cynhadledd o'r enw Slaying The Trolls yr oeddwn yn bresennol ynddi tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, clywsom am ganfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd gan y Brifysgol Agored a Phrifysgol Stirling. Canfu'r ymchwil hon fod y risg i fenywod ifanc rhwng 18 a 29 o fod yn darged i ymosodiadau bygythiol a sarhaus ar y rhyngrwyd ddwywaith yn fwy na'r risg i fenywod rhwng 40 a 49 oed, ac yn fwy na thair gwaith yn uwch na'r risg i fenywod rhwng 50 a 59 oed. Ys gwn i beth yw effaith hyn i gyd ar atal menywod rhag mynegi eu barn.
Gwnaed ychydig o argymhellion gan y tîm, gan gynnwys y gydnabyddiaeth y dylid ystyried trais a bygythiadau ar-lein yn erbyn menywod fel math o drais ar sail rhywedd yn erbyn menywod a merched. Rwy'n cefnogi hyn. A yw'r Llywodraeth yn cytuno, ac os ydych, a wnewch chi ddweud wrthym beth yr ydych yn mynd i wneud am y peth, os gwelwch yn dda?
Diolch i chi eto, Leanne Wood, nid yn unig am rannu eich profiad, fel rwy'n siŵr y gallwn gydymdeimlo ar draws y Siambr hon, o ran cam-drin menywod ar-lein. Ni allwn fforddio gadael i'r bwlis ennill, fel y dywedasoch, a diolch hefyd am y dystiolaeth ychwanegol yr ydych wedi'i rhoi inni. Bydd hynny'n bwysig iawn o ran y datganiad yr wyf am ei wneud a'r sylwadau yr wyf am eu cyflwyno i Lywodraeth y DU o ran ei chyfrifoldebau.
Mae hefyd yn bwysig iawn inni edrych ar yr ymgynghoriad, Amddiffyn y Ddadl: Bygythiadau, Dylanwad, a Gwybodaeth' a gynhaliwyd. Mewn gwirionedd, rydym wedi ymateb i hwnnw fel Llywodraeth Cymru, a hoffwn i adrodd am yr hyn a ddywedodd fy rhagflaenydd, Alun Davies, yn ei ymateb i Chloe Smith, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad, pan ddywedodd, 'Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r safbwynt cyffredinol fod ymddygiad bygythiol tuag at ymgeiswyr a deiliaid swyddi cyhoeddus yn annioddefol, fel y mae bygwth pleidleiswyr, ac rydym yn cefnogi tryloywder wrth ymgyrchu mewn etholiad digidol.'
Yn amlwg, mae'n rhaid i hyn bellach ganolbwyntio ar yr effaith o ran rhywedd yng nghyd-destun cam-drin menywod ar-lein. Rwy'n ddiolchgar bod y cwestiwn hwn wedi'i godi'r prynhawn yma, fel ein bod ni fel Llywodraeth Cymru nid yn unig yn gwneud datganiad, ond fod y datganiad yn un clir iawn gan yr Aelodau ar draws y Siambr hon o ran y pwynt hwn.
2. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ53688
Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Mae cynaliadwyedd ariannol yn parhau i fod yn fater allweddol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Mae hyn yn parhau i fod yn un o bedair colofn ein cefnogaeth seilwaith ar gyfer y trydydd sector drwy Gefnogaeth y Trydydd Sector Cymru.
Diolch ichi, Dirprwy Weinidog. Un o'r themâu clir a ddaeth i'r amlwg i mi yn ymchwiliadau diweddar y pwyllgor oedd bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dibynnu fwyfwy ar sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ond nad ydynt yn aml yn darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae hyn wedi digwydd yn ymchwiliadau'r pwyllgor plant ar iechyd meddwl amenedigol, ar iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac yn ymchwiliad diweddar y pwyllgor iechyd ar atal hunanladdiad. O gofio mai ychydig iawn o gyllid a ddosberthir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru i'r trydydd sector, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y byrddau partneriaethau rhanbarthol a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth lawn gyda'r trydydd sector, ond yn hollbwysig, eu bod yn rhoi'r cyllid hanfodol sydd ei angen arnyn nhw?
Unwaith eto, mae'n ddefnyddiol iawn cael y dystiolaeth honno sydd wedi dod at eich pwyllgor, ond rwy'n siŵr hefyd yn rhinwedd eich swydd fel Aelod etholaeth. Mae Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny wedi cael effaith ar ddisgwyliadau'r trydydd sector, a chyllid cyhoeddus dan bwysau parhaus. Mewn gwirionedd, aeth y Prif Weinidog a minnau i ddigwyddiad Gofod3 yr wythnos diwethaf. Daeth cannoedd o wirfoddolwyr a sefydliadau trydydd sector ynghyd yno, a buom yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar ddyfodol y gymdeithas sifil yng Nghymru, gan edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd o ran cynaliadwyedd ac ariannu. Ac mae'n glir iawn, gan ei fod yn un o bileri allweddol ein trydydd sector, drwy ein hymgyrch Cefnogi Trydydd Sector Cymru, fod angen inni gefnogi sefydliadau. Maen nhw'n arallgyfeirio eu ffrydiau incwm, yn cynyddu eu cynaliadwyedd ariannol, ond mae'n hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol ac, yn wir, y cynghorau sirol gwirfoddol yn gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector ar lefel leol. Ond, rhaid i mi ddweud, fod cyfanswm y cyfraniad at y cyllid a ddarperir i Gefnogi Trydydd Sector Cymru ar gyfer 2018-19 dros £6 biliwn.
3. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael ynghylch diogelwch cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ53662
Ym mis Chwefror, bûm yn cadeirio Bwrdd y rhaglen cymunedau mwy diogel. Mae'r Bwrdd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu adolygiad Cymru gyfan ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel Cymru gyfan. Rydym wedi mabwysiadu dull rhanbarthol er mwyn ymdrin yn y ffordd orau ag anghenion penodol pob un o'n rhanbarthau i hyrwyddo cydlyniant cymunedol.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Rwy'n sicr fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r ffenomenon eithaf diweddar y cyfeirir ati fel 'llinellau sirol', lle mae pobl sy'n delio mewn cyffuriau'n symud pobl ifanc—pobl ifanc yn bennaf, ond pobl fregus yn sicr—o ganolfannau trefol mawr a'u defnyddio i werthu cyffuriau ac, yn anffodus, wasanaeth rhyw hefyd, yn ein trefi llai a'n trefi sirol ni. Mae gwasanaeth heddlu Dyfed-Powys wedi sôn wrthyf am achosion yn y Drenewydd cyn y Nadolig a, phythefnos yn ôl yn unig, bu'n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys ddelio â dau berson 14 oed o'r tu allan i'r ardal a oedd yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau yn Llanelli. Yn amlwg maen nhw'n bobl ifanc y dylid eu trin fel dioddefwyr. Yn ddi-os maent yn cyflawni troseddau, ond nid ydynt yn gwneud hynny o'u hewyllys. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach heddiw gyda'r partneriaid priodol, sy'n amlwg yn cynnwys y gwasanaeth heddlu, ond hefyd yn cynnwys erlynwyr, oherwydd rhaid inni sicrhau nad yw'r bobl ifanc hyn yn cael eu trin fel troseddwyr. Hefyd, rhaid sicrhau yr eir i'r afael â'r cyhuddiadau hyn, fel y gwneir yn achos Llanelli, yn erbyn y dynion a oedd yn gyfrifol am roi'r bobl ifanc yn y sefyllfa hon? Ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog siarad â'r gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau tai ac, os oes angen, gael trafodaethau gyda Gweinidogion ar lefel y DU, gan fod llawer o'r bobl ifanc hyn yn dod o ddinasoedd mawr Lloegr, i geisio rhoi terfyn ar y ffenomen hon, sy'n cael effaith fawr yn y cymunedau lle mae'n digwydd ond hefyd yn cael effaith ddinistriol, uniongyrchol ar y bobl ifanc sydd ynghlwm yn uniongyrchol â hyn?
Mae Helen Mary Jones hefyd yn codi cwestiwn pwysig iawn, a buom yn ei drafod gyda'r prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn y bwrdd plismona, a gadeiriwyd gan y Prif Weinidog fis diwethaf. Yn wir, roedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn glir iawn ynghylch yr heriau yn ei ardal ef. Credaf ei bod yn gyfle gwerthfawr i ni eto i weld sut y gallwn rannu arfer, rhannu gwybodaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol o ran gweld hyn fel ffordd o atal y llinellau sirol rhag cael gafael ar rai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cysylltu â swyddogion y Swyddfa Gartref, o ran pwysigrwydd materion cyllido, a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer ein swyddogion diogelwch cymunedol. Wrth gwrs, mae 74 o'r rheini wedi eu lleoli yn eich ardal chi, ac maen nhw'n chwarae rhan bwysig iawn yn ymgysylltu'n gadarnhaol â phobl ifanc. Felly, mae hwn yn fater allweddol, nid yn unig i'r heddlu, ond hefyd i'r timau troseddau ieuenctid o ran ein gwaith gyda phobl ifanc ledled Cymru, ond yn enwedig, yn ôl eich cwestiwn, yn eich ardal chi.
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn? OAQ53647
Yn 2018-19, cafodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys £315,957 mewn cyllid craidd i helpu'r gymuned leol a sefydliadau yn y sector gwirfoddol gyda chodi arian, llywodraethu da a gwirfoddoli.
Diolch i chi am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Mae Llais i Chi wedi darparu eiriolaeth dinasyddion ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn fy etholaeth i ers dros 30 mlynedd, ac maent yn sicr yn pryderu am effaith y gostyngiad posibl o gyllid craidd a gânt gan yr awdurdod lleol. Rwy'n rhannu llawer o sylwadau Lynne Neagle yn ei chwestiwn i chi ychydig eiliadau yn ôl. Mae'r sefydliad hwn yn yr un sefyllfa â llawer o rai eraill. Os byddant yn colli eu cyllid craidd, yna mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn iddynt sicrhau arian cyfatebol o ffynonellau eraill hefyd. Tybed sut yr ydych yn credu y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r mater penodol hwn. Yn amlwg, os gallwn ysgogi cyllid sector trydydd parti, mae hyn yn hynod ddefnyddiol i gefnogi ein cyrff gwirfoddol, ond ni allant wneud hynny os ydynt yn colli'r cyllid hwnnw o ffynonellau awdurdod lleol.
Yn amlwg, mae'r cyllid a ddarparwn ni i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yn allweddol i ddarparu'r cymorth seilwaith hwnnw ar gyfer sefydliadau fel Llais i Chi, o ran eiriolaeth dinasyddion. Ac mae angen inni hefyd edrych ar ffyrdd o gefnogi sefydliadau, er enghraifft, y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Gall grantiau cyfalaf fod o gymorth mawr, ac rwy'n siŵr eich bod wedi croesawu'r ffaith bod £500,000 mewn grantiau cyfalaf i ddau o brosiectau cymunedol yn sir Drefaldwyn. Rydych yn ymwybodol ohonynt, mae'n debyg. Felly, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd eraill o ysgogi arian.
Ond hefyd, y pwynt allweddol yr ydym yn ei wneud o ran cyllid trosiannol Ewropeaidd yw ein bod yn edrych ar ffyrdd o gefnogi'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r trydydd sector o'r math yr ydych yn sôn amdanynt. Ond mae'n nodwedd allweddol o ran cynaliadwyedd cyllid. Roedd llawer o'n trafodaeth yr wythnos diwethaf yn Gofod3 yn ymwneud â sut y gallwn gefnogi'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn y cymunedau hynny, y mathau yr ydych wedi sôn amdanynt heddiw, sy'n hanfodol gan eu bod, yn amlwg, yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'u bod yn darparu gwasanaeth.
Hoffwn gyfeirio'r Gweinidog yn ôl at bwyntiau yr wyf wedi eu codi gyda hi o'r blaen, o ran gwasanaethau a ddarperir drwy'r trydydd sector ar gyfer menywod a merched sydd angen cymorth. Rwy'n meddwl yn benodol am gam-drin domestig a gwasanaethau cymorth trais rhywiol. Gwyddom fod y rheini'n aml iawn yn fwyaf effeithiol os ydynt yn fach, dan arweiniad lleol, wedi eu cefnogi'n lleol, a chanddynt gyfranogiad gweithredol gwirfoddolwyr. Gwyddom fod darparu'r gwasanaethau hynny yn arbennig o heriol mewn cymunedau gwledig fel sir Drefaldwyn, fel Powys gyfan. Rydym hefyd yn gwybod bod y gwasanaethau hynny dan bwysau cynyddol oddi wrth gwmnïau masnachol mawr sy'n gosod tendr yn eu herbyn pan fo awdurdodau lleol neu bartneriaethau diogelwch cymunedol neu pa gyrff cyhoeddus bynnag yn rhoi'r tendrau allan. Pa gamau pellach all y Dirprwy Weinidog eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau lleol hynny, dan arweiniad menywod a merched ac yn darparu ar gyfer menywod a merched, yn parhau i gael y gefnogaeth gyhoeddus sydd ei hangen arnynt er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaethau sy'n wirioneddol ddiwallu anghenion y cymunedau hynny yn rhyw fath o fodel o'r brig i lawr oddi wrth gwmnïau masnachol mawr. Gwyddom yn aml nad yw'r rheini'n diwallu'r anghenion, a gwyddom yn aml hefyd nad ydynt yn gynaliadwy yn y pen draw.
Nid yw'n syndod ond daeth y cwestiwn hwn yn uniongyrchol ataf i ddydd Iau diwethaf yn y digwyddiad Gofod3. Gwyddom am yr effaith a gafodd yr holl gyfundrefn gomisiynu o ran sefydliadau llai weithiau—ni all sefydliadau lleol gystadlu o fewn yr amgylchedd hwnnw. Gwyddom hefyd fod yna ffrydiau ariannu sy'n ymateb mewn gwirionedd i ariannu rhanbarthol yn ogystal â threfniadau lleol. Ond mae'n glir iawn bod angen inni sicrhau, ar gyfer y cyrff lleol hynny sy'n gallu profi eu bod yn darparu gwasanaeth angenrheidiol, gan fodloni'r gofynion a'r manylebau, eu bod yn cael chwarae teg o ran cyfleoedd.
Un o'r pwyntiau a wneuthum mewn cynhadledd ddoe, a drefnwyd gan Gymorth i Fenywod Cymru ar gyfer arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus, oedd bod angen inni edrych a gwrando ar leisiau goroeswyr a hefyd ar gymunedau lleol a gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o'r hyn y mae merched a phobl leol ei angen.
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau diogelwch cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53684
Rydym yn gweithio'n agos gyda phrif gwnstabliaid yng Nghymru a'n comisiynwyr heddlu a throseddu i wneud cymunedau'n fwy diogel. Yn benodol, rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i ddatblygu'r ymrwymiadau yn yr adolygiad o weithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Dirprwy Weinidog. Wrth holi am ddiogelwch cymunedol, a gan mai hwn yw'r cyfle cyntaf yr wyf wedi ei gael yma, a gaf i'n gyntaf oll estyn fy nghydymdeimlad â phobl Christchurch a Seland Newydd am yr erchyllterau y maent wedi eu hwynebu'n ddiweddar o ganlyniad i'r ymosodiadau terfysgol gan eithafwyr? Mae'n ddigwyddiad erchyll arall yr ydym wrth gwrs yn ei gondemnio, ond mae'n ategu i ni'r pwysigrwydd o gynnal diogelwch cymunedol a gwaith atal yn ein cymunedau. Yn wir, pan fydd troseddau mawr yn digwydd yn ein cymunedau lleol hefyd, mae'n bwysig ein bod yn gweld mesurau diogelwch cymunedol amlwg. Felly, rwy'n croesawu'r mentrau parhaus yng Nghwm Rhymni uchaf gan y comisiynydd heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert, Heddlu Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a phartneriaid lleol eraill.
Hefyd, mae angen inni ddathlu llwyddiannau lleol i'n hatgoffa nad yw popeth bob amser mor ddigalon. Ac felly, heddiw gofynnaf i chi, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Heddlu Bach, cynllun mewn ysgolion fel Fochriw a Phillipstown yng Nghwm Rhymni uchaf, sydd wedi gweld nifer sylweddol o bobl ifanc yn mynd ati i ymgysylltu â'r heddlu mewn digwyddiadau ymwybyddiaeth a diogelwch cymunedol. A gytunwch â mi fod hyn yn enghraifft dda o falchder yn y gymuned a gwaith atal cynnar y dylem ei annog i'r dyfodol?
Diolch i Dawn Bowden, nid yn unig am ei chwestiwn, ond hefyd am yr enghraifft wych honno, a hoffwn hefyd ddathlu'r llwyddiant lleol hwnnw. Mae Cymru yn wlad gynnes a chroesawgar, a dangosir hynny gan fenter Heddlu Bach Fochriw a chyfraniad yr ysgolion hynny. Cynllun Heddlu Bach yw hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem ei rannu ledled Cymru, ond y bobl ifanc eu hunain sydd wedi elwa o'r cynllun hwnnw.
Mae'n bwysig iawn dweud—.Byddwch wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf mewn ymateb i Christchurch, y digwyddiad erchyll hwnnw, ac i'r ymgysylltu a gawsom. Aeth y Prif Weinidog a minnau, ac Aelodau Cynulliad eraill— Julie Morgan, Jenny Rathbone—i wylnos yn y Deml Heddwch. Yn wir, heno, mae yna ddigwyddiad rhyng-ffydd—rwyf yn siŵr y bydd cynrychiolaeth ar draws y Siambr hon—yn ogystal â gweithio gyda'r heddluoedd a chydlynwyr cydlyniad cymunedol rhanbarthol i sicrhau ein bod yn monitro tensiynau cymunedol yma yng Nghymru. Ond i ni, wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â Chymru fel cenedl sy'n troi ein golygon tuag allan, yn dathlu amrywiaeth, hanes amlddiwylliannol, ymrwymiad a rennir tuag at heddwch a dealltwriaeth o fewn a rhwng cymunedau, ac rwyf yn sicr fod hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhrosiect Fochriw.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Cyn symud i'r eitem nesaf, dwi'n galw ar Helen Mary Jones.
Diolch ichi, Llywydd. Rwyf yn ddiolchgar ichi am ganiatáu imi ymddiheuro i'r Siambr hon ac i unrhyw bobl eraill a allai fod wedi cael eu tramgwyddo gan derm a ddefnyddiais yn anfwriadol mewn dadl yr wythnos diwethaf. Wrth ymateb i ddadl, fe wnes i gyfeiriad—ymadrodd a ddefnyddir yn gyffredin os yw person eisoes mewn trafferthion efallai y dylai ymatal. Ond roedd y term a ddefnyddiais i'n gwbl amhriodol ac yn cyfeirio at hunanladdiad. Rwy'n deall y gallai hynny fod wedi bod yn drallodus iawn i unigolion. Mae'n wir ddrwg gennyf. Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn ofalus yn yr iaith a ddefnyddiaf. Mae'r ymadrodd hwnnw, er enghraifft, yn sicr yn un na fyddwn yn ei ddefnyddio mewn araith wedi'i sgriptio neu mewn cwestiwn; ni ddylai fod wedi dod i fy meddwl. Ymddiheuraf yn llwyr i bawb a oedd yn gofidio neu'n ofidus yn dilyn fy ngeiriau, ac rwy'n ymddiheuro hefyd i'r Siambr hon am ddefnyddio iaith a all gynnwys term cyffredin, ond sy'n amhriodol i'w ddefnyddio yma.
Ocê, diolch.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw, ac ar gyfer newid trefn y rheoliadau sydd i'w trafod yn eitemau 4 a 5 yn yr agenda y mae hynny. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn, Gweinidog: byddwch yn cofio, yn ystod datganiad busnes yr wythnos diwethaf, bod Jenny Rathbone a minnau wedi sôn am sgrinio serfigol yng Nghymru? Dywedodd Sgrinio Serfigol Cymru bod traean o'r menywod o dan 30 oed yn anwybyddu gwahoddiadau i gael eu profi ar gyfer canser ceg y groth. Yn Lloegr, mae pryderon diweddar ynghylch y gyfradd isel o fenywod sy'n cael y prawf wedi arwain at lansio prosiect arbrofol pan fo menywod yn cael y cyfle i gynnal prawf ceg y groth gartref. Mae’r trefnwyr yn gobeithio cynnig pecynnau hunan-samplu i dros 20,000 o fenywod o fis Medi eleni ymlaen. A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mater hwn, gan gyfeirio'n benodol at ba un a yw e'n bwriadu cynnal prosiectau arbrofol tebyg yma yng Nghymru?
Ac o ran ail ddatganiad, Gweinidog, gofynnaf yn ddiymhongar i chi edrych ar sut mae Jacinda Ardern—Prif Weinidog Seland Newydd wedi gosod esiampl o sut i ddiogelu a sut i ymddwyn a sut i ymateb cyn ac ar ôl y sefyllfa a ddigwyddodd i'w gwlad hi. Mae mosgiau Cymru wedi eu diogelu’n dda, ond rwy'n credu bod lleoedd crefyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer crefydd ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, ond eto mae pobl yn cynnal ymosodiadau terfysgol difrifol a sarhaus ar y mannau crefyddol hyn. Mae hyn yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Byddai'n well gennyf gael datganiad gan y Gweinidog i wneud yn siŵr bod mannau crefyddol yng Nghymru wedi eu diogelu, a hefyd bod cymunedau yn cael y sicrwydd ein bod ni yma i’w helpu, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n byw mewn gwlad heddychlon a chymwynasgar a chariadus yn y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. Rwyf yn gobeithio, yr wythnos diwethaf, fy mod i wedi gallu rhoi golwg cyffredinol da o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â sgrinio serfigol yng Nghymru, sy’n ddull gwahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch ar y mater penodol a godwyd gennych chi ynghylch pecynnau profion cartref, ac fe fyddwn ni’n sicr yn edrych ar y prosiect arbrofol hwnnw sy’n cael ei gynnal yn Lloegr yn ofalus iawn i weld beth sydd arnom angen ei ddysgu yn y fan yma, oherwydd, fel yr ydych yn dweud, menywod ifanc yn arbennig sydd bellach ddim yn dod ymlaen i gael profion sgrinio ceg y groth. Cyfeiriais yr wythnos diwethaf at yr ymgyrch #loveyourcervix sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae hwnnw’n ceisio ymgysylltu â menywod ifanc yn benodol er mwyn eu hannog i fynd i gael y profion hynny. Rwyf wedi gweld tystiolaethau pwerus iawn gan bobl ifanc ar y teledu hefyd, felly rwyf yn credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio'n galed arno gyda'n gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth ohono.
Rwy'n gobeithio, unwaith eto, bod y datganiad a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn dilyn yr ymosodiad terfysgol erchyll yn Seland Newydd wedi tawelu meddwl cymunedau ac unigolion i ryw raddau o ran lefel y gwaith sy’n parhau i gael ei wneud drwy gydol y flwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod ni’n diogelu cymaint ag sy'n bosibl ar gymunedau, a sicrhau, fel yr ydych yn ei ddweud, bod Cymru’n agored ac yn oddefgar ac, fel yr ydych yn ei ddweud, yn lle cariadlon i bawb yn ein gwlad.
Trefnydd, heb os, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyhoeddiad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu tynnu’n ôl o gonsortiwm addysg ardal ranbarthol ERW ym mis Mawrth 2020. Nawr, yn amlwg, mae ERW wedi bod trwy gyfnod anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn ystod y misoedd diwethaf, ar ôl i swyddog Llywodraeth Cymru gael ei benodi’n rheolwr gyfarwyddwr dros dro, ymddengys bod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud o ran cyfeiriad strategol ERW. Nawr, pe byddai Castell-nedd Port Talbot yn tynnu'n ôl o ERW, fe fyddai’n canfod mai ef fyddai'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu y tu allan i gonsortiwm addysg ranbarthol, ac mae pryderon wedi eu mynegi gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru ynghylch yr effaith bosibl y gallai’r symudiad hwn ei gael ar ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r awdurdodau lleol eraill sy'n aros yn ERW. Rwyf yn ymwybodol bod arweinyddion cynghorau o ranbarth ERW wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol ddoe i drafod y mater. O gofio'r ansicrwydd y mae hyn yn ei achosi yn lleol, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y mater penodol hwn? Rwyf yn siŵr y byddech chi’n cytuno ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n cyrraedd sefyllfa lle gall ERW ganolbwyntio ar ddarparu gwelliannau i ysgolion yn hytrach nag ymdrin â materion aelodaeth ac ariannol sy’n tynnu sylw oddi wrth hynny.
Diolch am godi hyn, ac, wrth gwrs, mae gweithio'n rhanbarthol yn hanfodol os ydym am godi safonau yn ein system ysgolion. Ac mae gan pob un ohonom ni ddyletswydd i weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, yn enwedig yn y maes pwysig hwn. Fel yr ydych yn ei ddweud, fe wnaeth y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gwrdd ag arweinyddion cynghorau ERW i drafod y mater hwn ymhellach. Rwyf yn credu, yn y lle cyntaf, os yw'r Aelod yn fodlon, y byddaf yn gofyn i'r Gweinidogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cyd ynghylch y trafodaethau hynny a ffordd bosibl o symud ymlaen.
Trefnydd, a gawn ni amser i drafod rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd y Llywodraeth a sut mae awdurdodau cynllunio yn gweithredu'r canllawiau? Ddoe, cwrddais i â rhieni y tu allan i gatiau Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Mae hon yn ysgol newydd sbon sydd ychydig oddi ar yr A40 ar Ffordd Llwyn Helyg sy'n arwain i’r ystad ddiwydiannol, ac mae terfyn cyflymder o 40 mya yno. Bydd unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r darn hwnnw o ffordd yn sylweddoli pa mor brysur a chyflym yw’r ffordd benodol honno. Felly, a dweud y gwir, ni allaf gredu bod Cyngor Sir Penfro wedi adeiladu yno heb flaenoriaethu, yn anad dim, diogelwch plant. Nid oes fawr ddim mesurau diogelwch o werth ar waith, er gwaethaf cwynion gan rieni. Yn fy marn i, mae’r angen am derfyn cyflymder o 20 mya yn eithaf amlwg, heb sôn am fesurau eraill i arafu traffig, a lle diogel hefyd er mwyn i blant groesi'r ffordd honno.
Felly, yr hyn y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo yn y fan yma yw deall sut y gall awdurdodau lleol fod mor anghyson wrth ddarparu mesurau diogelwch ar y ffyrdd y tu allan i ysgolion y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. Ac fe hoffwn i wybod, Gweinidog, pa un a ellid gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro ar y mater hwn fel eu bod nhw’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif cyn i ddamweiniau ddigwydd, nid wedyn, fel sy'n digwydd y tu allan i borth yr ysgol benodol hon.
Diolch i Joyce Watson am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr, a gwn ei bod hi hefyd wedi ei godi yn uniongyrchol gyda Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. O ganlyniad, mae ef wedi gofyn i'w swyddogion gysylltu'n uniongyrchol â Chyngor Sir Penfro i fynegi'r pryderon hyn. Ac fe ofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.FootnoteLink
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad—rwy'n amau mai atoch chi yr wyf yn cyfeirio hyn, ond byddaf yn derbyn eich cyfarwyddyd chi yn ôl ataf innau—ynghylch yr hysbysebu masnachol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda gorsafoedd radio lleol? Yn fy ardal fy hun, mae gennyf dair gorsaf radio lleol, ac mae pobl yn tanysgrifio iddyn nhw’n dda, ydyn maen nhw. Mewn gwirionedd, mae Bro Radio, sydd wedi ei lleoli yn y Barri, yn dathlu ei degfed pen-blwydd eleni gyda chyflwyniad gwobrau nos Sadwrn, ac rwyf yn cymeradwyo Nathan a’r tîm sy'n ymwneud â'r orsaf radio honno. Ond o ystyried y gynulleidfa gymharol fach sy'n gwrando, a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei slotiau hysbysebu, mae’r orsaf wedi ei heithrio rhag llawer o hynny—sef y gallu i fanteisio ar lawer o’r gwariant hysbysebu hwnnw. Rwyf yn siŵr nad dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, ac felly fe fyddwn i’n croesawu cyfle i’r Llywodraeth nodi ei safbwynt ynghylch sut y gallai ryddhau mwy o allu i’r incwm hwnnw gyrraedd radio cymunedol pan mai llawer o’r gynulleidfa sy’n gwrando ar radio cymunedol yw’r union gynulleidfa y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chyrraedd gyda’i negeseuon ynghylch iechyd y cyhoedd, er enghraifft, a llawer o’r negeseuon eraill. Ac mae’n ymddangos y byddai mân addasiadau i’r system yn rhyddhau symiau sylweddol o arian ar gyfer sector teilwng iawn yn ein cymunedau. A phan edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd i radio masnachol yma yng Nghymru—rwyf yn credu mai’r wythnos nesaf y bydd y newidiadau’n digwydd yn Global radio—mewn gwirionedd, gellir ymestyn yr ôl troed ar gyfer radio lleol gyda'r amgylchedd cywir. Felly, a gawn ni ddatganiad, naill ai gennych chi, neu gan y Dirprwy Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb am hyn?
Diolch am godi'r mater hwn, ac fe fyddwch chi'n cofio, yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan Alun Davies, fy mod i wedi gallu mynegi pryderon sydd gennym o ran y penderfyniadau diweddar ynghylch gorsafoedd radio masnachol a'r effaith y gallai hynny ei chael ar eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth newyddion gorau posibl ar gyfer y poblogaethau lleol. Ond rydych chi'n mynegi pwynt da a byddaf yn sicr yn edrych ar hyn ac yn ysgrifennu atoch yn dilyn hynny.
Mae menyw o’r Rhondda wedi cysylltu â mi y mae ei merch sy’n 23 oed wedi dioddef bygythiad i’w hiechyd yn ddiweddar. Ar ôl cael symptomau, fe aeth am brawf gwaed, a phan yr oedd hi yn y clinig, fe ddarllenodd boster gwybodaeth am ganser ceg y groth ac fe sylweddolodd bod ganddi bob un o’r symptomau a ddisgrifiwyd ar y poster, namyn un. Pan ddywedodd hi wrth y meddyg am ei phryderon, fe ddywedodd y meddyg wrthi na châi hi brawf ceg y groth oherwydd ei bod hi o dan 25 oed. Nawr, roedd hyn yn ystod wythnos pan yr oedd pob un ohonom ni’n cael ein hannog i fynd am ein prawf ceg y groth, ac fe ddywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros tan ei bod hi dros 25 oed cyn y gallai hi gael y prawf. Gymaint oedd y pryder yn y teulu am y symptomau yr oedd y fenyw ifanc hon yn eu harddangos, fel eu bod nhw wedi trefnu apwyntiad gyda gynecolegydd mewn ysbyty preifat y bore canlynol. Bu'r fenyw a’i theulu yn poeni am ddwy wythnos a hanner wrth ddisgwyl am ganlyniadau’r prawf, a oedd yn glir, diolch byth.
Nawr, roedd y teulu hwn yn ffodus, roedden nhw’n gallu fforddio talu i fynd yn breifat, ond beth pe na byddai ganddyn nhw’r arian i gael prawf ceg y groth yn breifat? Rwyf yn cytuno â mam y fenyw hon pan ddywedodd hi, 'Os oes symptomau yn cael eu hysbysebu a bod rhywun yn arddangos y symptomau hynny, onid synnwyr cyffredin yw cael ymchwiliad?' Felly, fe hoffwn i gael datganiad ynghylch polisi'r Llywodraeth ar hyn, ac yn y datganiad hwnnw rwyf eisiau i'r Gweinidog iechyd egluro beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar sgrinio menywod o dan 25 oed sydd â symptomau o ganser ceg y groth. A oes eithriadau i’r rheol oedran gyffredinol? Ac fe hoffwn gael gwybod hefyd pa fecanweithiau sydd ar waith i ad-dalu’r teulu hwn am eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i fynd yn breifat er mwyn cael y tawelwch meddwl y dylen nhw fod wedi gallu ei gael drwy ein GIG.
Diolch yn fawr iawn am godi hynna. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall, fe fyddai'r meddyg teulu wedi gallu cyfeirio'r unigolyn ar gyfer y prawf a ddisgrifiwyd gennych. Fodd bynnag, o gofio'r diddordeb sydd mewn canser ceg y groth, ac rwyf i'n falch iawn bod hynny'n wir, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog iechyd gyhoeddi datganiad sy'n mynd i'r afael â'r holl faterion sydd wedi eu codi yn y datganiad busnes yr wythnos hon a'r wythnos diwethaf.
Tybed a allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch cyflog teg i weithwyr y gwasanaeth sifil. Byddwch yn ymwybodol bod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol—y fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o bryd—yn pleidleisio’n ddirgel tan 29 Ebrill ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol. Nawr, maen nhw'n canolbwyntio ar Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau codiad cyflog teg i weithwyr Llywodraeth hanfodol yn dilyn degawd o wasgu ar gyflog. A ydych chi’n cytuno â mi y dylid cynyddu cyflogau’r gwasanaeth sifil yn uwch na chwyddiant yn unol â gofynion Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, er mwyn unioni, i ryw raddau, degawd o driniaeth annheg a gweision sifil yn cael eu defnyddio fel bwch dihangol mewn polisïau cyni? Ac a wnewch chi ymrwymo i gael dadl fel y gallwn ni gael trafodaeth ynglŷn â sut y gallwn ni gefnogi'r sector hwn yma yng Nghymru?
Roedd yr ail ddatganiad yr oeddwn i'n dymuno gofyn amdano yn ymateb i rywbeth yr ydym eisoes wedi ei drafod heddiw, ond roeddwn i'n awyddus i bwysleisio hynny eto, mewn cysylltiad â gofyn am ddatganiad Llywodraeth ar gydlyniant cymunedol. Rwyf yn credu bod angen i ni ddeall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ganlyniad uniongyrchol i’r ymosodiad yn Seland Newydd, nid yn unig yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud bob diwrnod o'r wythnos. Gwn y bu llai o bobl yn y gweddïau dydd Gwener yr wythnos diwethaf na fyddai wedi bod yn bresennol fel arall yn y ddinas hon hefyd oherwydd yr ofn yr oedden nhw’n ei deimlo oherwydd y sefyllfa bresennol tuag at y boblogaeth Foslemaidd. Nid yw hyn yn ymwneud â chydlyniant cymunedol o ran y grwpiau sy’n siarad gyda’i gilydd, ond y presenoldeb gweledol y bydd y gymuned yn ei deimlo gan yr heddlu, gan yr awdurdodau, fel eu bod nhw’n teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau eu hunain. Felly, rwyf yn eich annog i gyflwyno’r datganiad hwnnw fel y gallwn rannu hynny â chymunedau yma yng Nghymru ac y gallwn ymgysylltu â nhw mewn modd cadarnhaol.
Diolch am godi'r ddau fater yna. O ran y cyntaf, gan fod trafodaethau ynglŷn â chyflog yn parhau ar hyn o bryd, mae'n debyg nad yw hi'n briodol i mi ddweud unrhyw beth arall ar hyn o bryd. Ond o ran cydlyniant cymunedol, rwyf wedi bod yn cael rhai trafodaethau gyda fy nghyd-Weinidogion ynghylch y math o ddatganiadau y mae Aelodau yn eu cyflwyno ar ddydd Mawrth yn y datganiad busnes, a'r math o ddatganiadau y maen nhw'n gofyn amdanyn nhw wrth inni gynllunio ein rhaglen datganiadau a dadleuon wrth symud tuag at ddiwedd tymor yr haf. Gwn fod y Gweinidog â chyfrifoldeb, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, yn sicr yn dymuno cyflwyno datganiad sy'n edrych ar fynd i'r afael â hiliaeth, a gallai hyn fod yn rhywbeth y bydd cyfle i'w drafod yn y datganiad hwnnw.
Mi hoffwn i wneud cais am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae yna achos arall wedi bod yn fy etholaeth i yn ddiweddar, yn fferm Llety yn Rhosybol, lle mae nifer o ddefaid ac ŵyn wedi cael eu lladd. Dwi'n gwybod bod hwn yn fater mae Llyr Gruffydd yn fan hyn wedi bod yn llythyru â'r Llywodraeth arno fo, a Ben Lake yn llythyru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Dŷn ni hefyd mewn trafodaethau efo Aelod o Senedd yr Alban, lle mae Emma Harper yno wedi bod yn argymell deddfwriaeth a allai gael ei gyflwyno yn yr Alban er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yma rŵan. Yn ôl beth dŷn ni'n ei weld, mae'r Llywodraeth yma yn credu bod hwn yn fater wedi'i ddatganoli. Mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn credu bod popeth posib yn cael ei wneud. Yn amlwg, mae'r broblem yn parhau. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi dadl yn amser y Llywodraeth, lle byddwch chi yn gallu cael cyfle i egluro'r hyn mae'r Llywodraeth, yn eich tyb chi, yn ei wneud, a ninnau yn gallu cael cyfle wedyn i gynnig gwelliannau ynglŷn ag, o bosib, deddfwriaeth a allai symud pethau yn eu blaen o ran diogelu da byw yng Nghymru.
Diolch i chi am godi'r mater hwn ac, yn amlwg, mae mater perchenogaeth gyfrifol ar gŵn yn eithriadol o bwysig, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ofidus iawn oherwydd hanesion tebyg i'r rhai a welwyd yn ddiweddar. Rwy'n credu mai'r ffaith yw bod y ddeddfwriaeth ar y maes hwn yn gymysglyd. Mae'n gymysgedd o elfennau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli, ond mater heb ei ddatganoli yw gorfodaeth yr heddlu o Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953. Wedi dweud hynny, rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae'r Gweinidog wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, ac yn yr wythnos diwethaf mae hi wedi bod mewn dau ddigwyddiad lle mae perchnogaeth ar gŵn wedi bod yn brif destun. Byddwn yn parhau i weithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fel rhan o aelodaeth o weithgor y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Heddlu i sicrhau bod unrhyw newidiadau posibl i ddeddfwriaeth yn berthnasol i'n pwerau datganoledig ni.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Julie Morgan.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser o'r eithaf i mi gyflwyno Bil plant (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Pleser mawr i mi yw cael cyflwyno Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Bu hen ddisgwyl am y Bil hwn a bu ymgyrchu am amser maith, gennyf innau hefyd. Ac, yn wir, arweiniodd Christine Chapman, y cyn-Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon, a chredaf ei bod hi yn yr oriel heddiw, ddadl yn Siambr y Cynulliad ym mis Ionawr 2002 ar y testun, 'Mae taro plant yn anghywir, ac mae plant yn bobl hefyd.' Felly, mae gennym hanes hir yn y Cynulliad hwn yn hyn o beth.
Mae cyflwyno hwn heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad ni i wella a sefydlu hawliau i blant yng Nghymru, ac yn ein hymrwymiad i bobl Cymru i gadw'r addewidion a wnaethom ni ar garreg y drws. Fe wnaethom addo y byddem yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r amddiffyniad o gosb resymol pan ofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio o'n plaid yn 2016. Ac rwy'n ymfalchïo ein bod ni'n anrhydeddu'r addewid honno heddiw.
Cyn imi droi at y Bil ei hunan, hoffwn roi teyrnged i waith dau a ddaeth yn syth o'm blaen i sydd wedi bod â rhan allweddol i ddod â ni i'r sefyllfa hon heddiw. Felly, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies, a gyflwynodd y Bil gyda'r ymarfer ymgynghori mor frwdfrydig, ac, wrth gwrs, i Carl Sargeant.
Mae'n briodol ein bod ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon eleni, y flwyddyn y mae'r gymuned ryngwladol yn dathlu deng mlynedd ar hugain o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Nod cyffredinol y Bil yw helpu i ddiogelu hawliau plant.
Rwy'n awyddus i fod yn eglur o'r cychwyn cyntaf o ran yr hyn na fydd y Bil hwn yn ei wneud—ni fydd yn creu trosedd newydd. Ein bwriad yw cefnogi rhieni wrth iddyn nhw fagu eu plant a darparu cymorth ychwanegol a chefnogaeth, pe bai angen, wrth wneud yn siŵr bod plant yn cael yr un lefel o amddiffyniad yn erbyn cosb gorfforol ag oedolion yn ôl y gyfraith.
Pe caiff y Bil ei basio, ni fydd yr amddiffyniad o gosb resymol ar gael i rieni yng Nghymru mwyach, neu'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis, fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosodiad cyffredin neu daro. Caiff hynny ei ddiddymu o dan gyfraith droseddol a sifil fel ei gilydd. Er bod cosb gorfforol wedi ei hen wahardd mewn ysgolion, cartrefi plant, yng ngofal maeth awdurdod lleol ac yn y ddarpariaeth o ofal plant, caiff oedolion sy'n gweithredu in loco parentis mewn mannau nad ydyn nhw'n rhai addysgol, gan gynnwys y cartref, ddefnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol. Felly, mae'r Bil hwn yn diddymu'r man gwan hwn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Bydd y ddeddfwriaeth hon nid yn unig yn diddymu'r amddiffyniad ond bydd yn cefnogi newid diwylliannol ehangach yng Nghymru ac yn ei gwneud yn gwbl glir i bawb—i blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol—fod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol mewn unrhyw amgylchiad. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dadlau y dylid gadael llonydd i blant wneud fel y mynnant. Mae angen rhywfaint o ddisgyblaeth ar bob plentyn a chael terfynau call wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Ond nid yw cosbi corfforol yn rhan o ddisgyblu plant na gosod y terfynau hynny. Nid fydd y Bil hwn yn atal oedolion rhag gofalu am blant. Ni fydd y Bil yn ymyrryd â gallu'r rhieni i rwystro plentyn yn gorfforol rhag niwed—i'w atal rhag rhedeg i'r ffordd, i'w helpu gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd, fel gwisgo amdano, neu o ran hylendid a glanweithdra. Ni fydd yn eu rhwystro rhag defnyddio dulliau eraill yn lle cosb gorfforol i gadw disgyblaeth a mynd i'r afael ag ymddwyn yn wael.
Ac rwy'n siŵr, wrth i'r Bil fynd rhagddo drwy ei gyfnodau craffu, y ceir dadl iach o ran y dystiolaeth ynghylch a yw cosbi corfforol yn niweidiol i blant ac ar agweddau'r rhieni. Er hynny, rwyf i o'r farn na ellir goddef defnyddio cosb gorfforol, waeth pa mor ysgafn, yn fath o ddisgyblaeth nac am unrhyw reswm arall. Ond, eisoes, mae'r agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol yn newid yng Nghymru. Fe aiff hi'n llai derbyniol o dipyn i beth. Plant yw aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas ac nid oes dim yn bwysicach na'u diogelwch a'u lles nhw. Er bod y prif gyfrifoldeb am fagu plant yn parhau gyda'r rhieni, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth benodol iawn o ran creu'r math o gymdeithas y gall plant dyfu i fyny ynddi mewn amgylchedd diogel a hapus sy'n eu meithrin nhw.
Wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ystyriwyd yn ofalus bob ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym y llynedd a'r amrywiaeth o ymchwil rhyngwladol ar y pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys yr adolygiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a ddaeth i'r casgliad bod
y rhan fwyaf o'r ymchwilwyr yn y maes yn dyfarnu bod cydbwysedd y dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi'r honiad y gall unrhyw gosb gorfforol mewn unrhyw sefyllfa fod yn niweidiol i ddatblygiad plentyn.
Yn hytrach na gwella ymddygiad plant, nododd fod y ffordd y mae rhieni yn defnyddio cosb gorfforol fel arfer yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad annymunol gan blant fel arall.
Mae'r potensial ar gyfer trin rhieni fel troseddwyr yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod a'i godi gyda mi ar sawl achlysur. Rwy'n dymuno bod yn glir: nid yw diddymu'r amddiffyniad ynddo'i hunan yn mynd i wneud rheini'n droseddwyr nac unrhyw unigolyn arall; eu gweithredoedd nhw yn ôl y gyfraith yw'r peth pwysig. A'n bwriad ni yw tynnu mwy o bobl i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Ond, drwy ddiddymu'r amddiffyniad, efallai y bydd rhai rhieni sy'n cosbi eu plant yn gorfforol, ac y caiff yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol wybod am hynny, yn cael eu cyhuddo o drosedd mewn amgylchiadau lle na fyddai hynny'n digwydd ar hyn o bryd oherwydd ceir amddiffyniad y gallan nhw ei ddefnyddio.
Mae'r Llywodraeth hon yn sylweddoli pa mor bwysig yw sicrhau bod y rhieni'n cael yr wybodaeth, y cymorth a'r cyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys dewisiadau cadarnhaol yn hytrach na chosbi corfforol. Rydym yn gwneud hyn drwy nifer o ffyrdd, gan gynnwys ein hymgyrch 'Magu Plant. Rhowch Amser Iddo', ymwelwyr iechyd, gweithwyr proffesiynol eraill a'n rhaglenni i gefnogi teuluoedd, Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. A byddwn yn adeiladu ar hyn yn rhan o raglen cymorth ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, oherwydd, i fod yn wirioneddol effeithiol, mae'n rhaid i'r Bil hwn fod yn gysylltiedig ag ymgyrch wybodaeth sydd wedi cael ei chynllunio'n dda.
Os caiff y Bil ei basio, os caiff ei basio yn y Cynulliad hwn, bydd bod digon o amser rhwng y Cydsyniad Brenhinol a dechreuad y ddeddfwriaeth ar gyfer cynnal ymgyrch gyhoeddus.
Mater arall a godwyd gyda mi yw'r effaith bosibl ar yr heddlu, ar y gwasanaethau cymdeithasol ac ar eraill, a chredaf fod yn rhaid i ni—ac rydym wedi edrych yn ofalus ar yr hyn a ddigwyddodd pan gyflwynwyd deddfwriaeth debyg yn Seland Newydd. Efallai y bydd cynnydd i'w weld mewn galwadau i'r heddlu ac atgyfeiriadau gwasanaethau cymdeithasol o ganlyniad i hyn. Ond mae'n anodd rhagweld yr effaith oherwydd nid oes unrhyw gynsail yn y DU o ddiddymu'r amddiffyniad ac mae'r dulliau cyfredol o adrodd a chofnodi yn ei gwneud hi'n anodd cael gwaelodlin gywir o weithgarwch fel y mae ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gasglu data i fonitro effaith y Bil.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ymfalchïo fy mod i'n gallu cyflwyno'r Bil hwn i'r Cynulliad heddiw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Aelodau a'r Pwyllgor Craffu dros y misoedd nesaf wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rwy'n gobeithio y bydd gennym ni gefnogaeth yr Aelodau ar draws y Siambr i amddiffyn plant ac amddiffyn hawliau plant yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid imi ddweud ar y cychwyn fy mod i'n wirioneddol barchu'r Aelod dan sylw am y gwaith yr ydych wedi ei wneud wrth gyflwyno'r Bil hwn a'r hyn yr ydych chi'n parhau i'w wneud i ddiogelu ein plant ledled Cymru. Rwyf innau hefyd yn rhannu eich gobeithion, eich nodau a'ch uchelgeisiau o ran llawer o'r gwaith y ceisiwn ei wneud gyda'n gilydd. Ond rwy'n credu, yn hyn o beth, yr hoffwn i gyfeirio at y ffaith eich bod yn dweud bod yr awydd am hyn yn bodoli ers 2002—nid wyf yn credu ein bod ni wedi cyrraedd y fan eto o ran y dystiolaeth sy'n ei gwneud yn iawn i gyflwyno'r Bil hwn ar hyn o bryd. Oherwydd, fel yr ydych chi'n iawn i dynnu sylw ato yn eich datganiad, Dirprwy Weinidog—rydych chi'n gwneud y pwynt eich bod ar hyn o bryd yn gwirio'r effaith a gaiff y Bil hwn. Nid yw'r data ar gael i ddweud wrthym pa mor fawr yw'r broblem yng Nghymru. O'm rhan i, rwy'n hoffi gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio gan y sefydliad hwn sy'n mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ar hyn o bryd mae hwn yn fater mor oddrychol fel y credaf y bydd yr holl Aelodau etholaeth eisoes wedi dechrau cael gohebiaeth, ac mae mantol cydbwysedd yn fy etholaeth i ar hyn o bryd yn dangos bod y pryderon sy'n cael eu cyflwyno eisoes gyda hyn yn dweud wrthyf, mewn gwirionedd, fod mwy o waith i'w wneud cyn y gellir cyflwyno hwn fel darn o ddeddfwriaeth.
Nawr, rwy'n nodi bod hyn yn dechnegol—. Hynny yw, mae gennym ni Fil dwyieithrwydd yn dod gerbron, ond un ochr o bapur A4 yw hwn yn llythrennol, a dywedaf eto pam yr wyf yn gofidio: Bil yw hwn a fydd yn diddymu cosb gorfforol fel amddiffyniad rhesymol ac yn gwahardd taro fel dull derbyniol o gosbi. Yn gyntaf, fel y mae fy ngwaith i ar y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc wedi dangos, rwy'n awyddus i egluro yn y fan hon nawr fy mod yn credu fy mod innau hefyd yn dadlau o blaid hawliau ein plant a'r rhai sy'n arbennig o agored i niwed. Nawr, i blentyn:
'Mae Partïon y Gwladwriaethau i gymryd pob mesur deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol priodol i amddiffyn y plentyn rhag pob ffurf ar drais corfforol neu feddyliol'.
Nawr, rwy'n sicr ein bod ni i gyd yn cytuno yn y fan hon na ellir goddef cam-drin plant a bod hynny'n torri Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Deddf Plant 2004. Ni ddylai unrhyw blentyn fod yn agored i gael ei gam-drin, boed hynny'n gorfforol, yn emosiynol neu'n rheolaeth drwy orfodaeth. Eto i gyd, nid yw'r Bil hwn yn crynhoi'r amrywiaeth lawn o gam-drin y gall rhai plant fod yn agored iddynt a'r unig beth a wna yw cynnig diddymu taro a chosbi corfforol fel amddiffyniad rhesymol.
Nawr, dywedodd yr Aelod hefyd yn ei datganiad fod y math hwn o ymddygiad yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a'r materion eraill yr wyf i wedi eu codi—. Rwyf i o'r farn bod cam-drin emosiynol a rheolaeth ac ymddygiad drwy orfodaeth dros blant yr un mor niweidiol â cham-drin corfforol—. Nawr, rwy'n credu bod y Bil hwn yn tynnu'r taro o gyd-destun ehangach cam-drin—a dyna'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma mewn gwirionedd—ac mae hwnnw'n gronig, yn systematig ac yn fwriadol. Fel y gwyddom yn iawn, mae cam-drin corfforol, emosiynol a rheolaeth drwy orfodaeth yn mynd lawn yn llaw yn aml, ac yn ôl erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn:
Mae Partïon y Gwladwriaethau i gymryd
gweithrediadau
deddfwriaethol priodol i amddiffyn y plentyn rhag pob ffurf ar drais corfforol neu feddyliol.
Nid yw'r Bil hwn yn gwneud hynny. Yn hollbwysig, mae'r Bil arfaethedig hwn yn brin o'r manylion angenrheidiol ac mae diffyg eglurder. Yn gyntaf, nid yw'n glir beth fyddai cost y Bil hwn, sut y gellid gweithredu'r Bil hwn yn llwyddiannus gan ymwelwyr iechyd, a sut y gellid gorfodi'r Bil hwn ar lawr gwlad. Nawr, pan siaradwn am y gost, rydym yn siarad nawr am adrannau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru sydd eisoes yn cael eu tangyllido'n ofnadwy. Gallai sefyllfa godi, pe bai'r Bil hwn yn cael ei basio, fod adroddiad yn cael ei wneud ac yna ymweliad â'r teulu, ac yna'r adnoddau—gan yr heddlu, yr ymwelydd iechyd, yr awdurdod lleol, yr adran gwasanaethau cymdeithasol—rwyf i o'r farn bod angen inni fod yn glir iawn o ran y costau cysylltiedig. At hynny, nid yw'n glir pa beth yn union yw'r diffiniad o daro sy'n sail i'r Bil hwn. Pan gawsom gyfarfod, cafwyd gwahaniaeth barn, os hoffech chi, ar yr hyn a olygir gan y weithred o daro mewn gwirionedd; roedd gwahaniaeth rhwng eich diffiniad a'ch dehongliad chi o hynny, hyd yn oed o'i gymharu â' diffiniad a dehongliad eich ysgrifennydd preifat chi eich hun. Mae yna fater yma o ran y dehongliad llythrennol a thechnegol.
Er mwyn gweld newid yn ymddygiad y cyhoedd, ac er mwyn i'r Bil hwn weithio'n ymarferol, mae'r eglurder hwn yn hanfodol, gan y byddai'n penderfynu pa wybodaeth ysgrifenedig a chanllawiau fyddai ar gael i rieni, ac wrth gwrs weithrediad y gyfraith. O ran gorfodi'r gyfraith hon—wyddoch chi, sut rydym ni'n mynd i blismona ein cartrefi? Onid ydych yn poeni y gallai hyn, yn wir, rannu teuluoedd, pan wneir cyhuddiadau, pan fydd teuluoedd, am ba reswm bynnag—y pwysau sydd ar ein teuluoedd ar hyn o bryd, pwysau ar berthnasoedd, rhyng-gysylltiadau mewn teuluoedd newydd. Rwyf i'n credu'n gryf fod yn rhaid gwneud mwy o waith eto yn hyn o beth. Nawr, er gwaethaf sylwadau'r Gweinidog bod mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd i ddisgyblaeth sydd heb fod yn gorfforol, o 71 y cant yn 2015 i 81 y cant yn 2018, mae'n gwbl aneglur sut fydd y cyhoedd yn derbyn y Bil hwn, ac a ystyrir Bil o'r fath yn ymyrraeth ar farn rhiant a bywydau preifat teuluoedd.
Yn sicr, nid wyf i'n credu y dylai'r sefydliad hwn, na Llywodraeth Cymru, geisio gwneud ein teuluoedd na'n rhieni'n droseddwyr. A byddwn yn annog y Dirprwy Weinidog i fynd yn ôl i ailfeddwl efallai, a chyflwyno Bil sy'n cwmpasu llawer mwy—rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio gydag ef, ym mhob plaid, i sicrhau bod ein plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o gam-drin. Diolch.
Diolch i chi, Janet Finch-Saunders, am eich cyfraniad i'r ddadl. Rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau yn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud; hoffwn innau wneud ychydig o sylwadau wrth ymateb. Yn gyntaf oll, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig cofio nad ni yw'r wlad gyntaf i wneud hyn, bod 54 o wledydd, rwy'n credu, wedi cyflwyno deddfwriaeth erbyn hyn i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae Iwerddon yn agos iawn atom, sydd wedi ei ddiddymu; mae'r Alban yn y broses o'i ddiddymu. Felly nid rhywbeth unigryw neu ryfedd yw hyn. Dilyniant naturiol ydyw o'r ddeddfwriaeth sydd eisoes wedi digwydd i ddileu taro mewn ysgolion—cosb gorfforol mewn ysgolion—i atal rhieni maeth, a dilyniant graddol yw hwn. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn beth mor anarferol ag yr awgrymwch chi.
Roeddech chi'n sôn am y problemau y byddwn yn eu hwynebu—ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a phobl ar lawr gwlad sy'n ymdrin â'r materion hyn i gyd. Mae cefnogaeth gref i'r ddeddfwriaeth hon gan ymwelwyr iechyd, a chefnogaeth gan y mwyafrif llethol o weithwyr cymdeithasol, ac maen nhw'n awyddus i'w gweld yn dod i rym. Oherwydd maen nhw'n gwybod bod yna neges glir wedyn, pan fyddan nhw'n gweithio gyda rhieni i'w helpu gyda gwaith anodd iawn rhianta. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod mai peth anodd iawn yw bod yn rhiant. Rwyf i wedi bod yn rhiant, ar rwyf i'n fam-gu erbyn hyn, ac rwy'n gwybod pa mor anodd yw magu plant. Ac mae'n bwysig i ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a phawb sy'n gweithio gyda phlant, eu bod nhw'n gwbl glir o ran lle maen nhw'n sefyll. Ac wrth gael yr amddiffyniad hwn, mae'n ei gwneud yn anodd iddyn nhw, oherwydd maen nhw eisiau annog rhianta cadarnhaol—fel y gwn y mae pawb—ond mae'n anodd pan fydd gennych chi'r amddiffyniad hwn yno, sydd yn rhoi awgrym fod cosb gorfforol yn dderbyniol. Ac felly mae'r bobl hynny sy'n gweithio ar lawr gwlad i gyd yn gefnogol iawn, iawn i'r ddeddfwriaeth hon, ac, yn wir, wedi bod yn ein lobïo ni am y ddeddfwriaeth hon. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gofio hynny.
Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd yw cyflwyno cyfraith ar gosb gorfforol, dyna'r diffiniad—cosb gorfforol, sy'n fwy na tharo neu bwnio. Mae'n golygu llawer o bethau eraill hefyd. Mae'n gosb gorfforol. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud fod yna bethau eraill sy'n niweidiol i blant. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi ar y pwyllgor, pan fyddwn ni'n siŵr o drafod yr holl faterion eraill hyn. Oherwydd i mi, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n trafod y materion, yn y Cyfnod Pwyllgor hwn, sy'n peri gofid i bobl, a'r materion a gaiff eu codi, yn ddiamau, yn y Cyfnod Pwyllgor gan y cyhoedd ac sydd eisoes wedi dechrau o ganlyniad i gyhoeddusrwydd i'r Bil. Ond rwyf i wedi fy mhlesio'n fawr iawn gan y gefnogaeth sydd i'r Bil hyd yn hyn.
Yn wahanol iawn i'r Torïaid, mi fyddwch chi'n falch o glywed bod Plaid Cymru yn falch iawn o weld y Bil yma yn cychwyn ar ei daith. Mae'n rhaid imi ychwanegu un cymal bychan i hynny: 'o'r diwedd'. Hynny yw, mae wedi cymryd amser inni gyrraedd y diwrnod yma heddiw, er bod rhywun yn gwerthfawrogi ein bod ni wedi cyrraedd yma heddiw yma. A dwi'n credu bod y Cynulliad wedi pasio mewn egwyddor bod angen Bil o'r math yn ôl yn 2001. Dŷch chi'n sôn am 2002, felly mae yna o leiaf 17 mlynedd wedi pasio ers i'r drafodaeth gychwyn, ac mae hynny'n llawer iawn rhy hir. Dwi'n deall bod yna agweddau amrywiol, ac rydyn ni wedi clywed rhai heddiw, ond dyletswydd Llywodraeth ydy arwain newid mewn ymddygiad, ac felly dwi'n falch iawn ein bod ni'n cychwyn ar y daith yma. Mae fy mhlaid i wedi bod yn greiddiol i'r ymdrech i gael y maen i'r wal efo hyn gyda chyn-Aelodau fel Jocelyn Davies a Lindsay Whittle ac eraill wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol. Fe wnaethon ni gynnwys adduned yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2016 i gyflwyno deddfwriaeth i'r perwyl hwn. Mi fyddai pasio'r Ddeddf yn golygu y byddai gan blant yng Nghymru'r un amddiffyniad yn erbyn cosb gorfforol ag sydd gan oedolion.
Mae'n sefyllfa hurt ar hyn o bryd. Pam yn y byd bod plant, ar hyn o bryd, yn cael eu trin yn israddol i oedolion? Pam yn y byd nad oes angen amddiffyniad dros fod un unigolyn yn defnyddio grym corfforol yn erbyn unigolyn arall, ond bod amddiffyniad dros fod unigolyn yn defnyddio grym corfforol yn erbyn plentyn? Un o'r arwyddion cliriaf o gymdeithas wâr ydy'r ffordd dŷn ni'n trin grwpiau bregus o fewn ein cymdeithas. Byddai pasio'r Bil yma yn cynnal hawliau plant ac yn sicrhau bod Cymru'n cydymffurfio'n llawn ag erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sydd, wrth gwrs, yn gofyn bod y wladwriaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol a phriodol i ddiogelu plant.
Mi hoffwn i fynd ar ôl dau fater—dau gwestiwn, os leiciwch chi—pnawn yma. Mae yna dros 50 o wledydd yn y byd wedi dileu'r amddiffyniad o gosb gorfforol, a fy nghwestiwn cyntaf ichi heddiw felly ydy: pa wersi sydd gan Gymru i'w dysgu o brofiadau'r gwledydd hynny, nid yn unig Sweden, Iwerddon, yr Almaen, y Ffindir, Seland Newydd, ond llu o wledydd eraill hefyd? Gwersi cadarnhaol y gallen ni elwa o wybod amdanyn nhw, ond hefyd gwersi am sut y gallwn ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth mewn ffordd fwy effeithiol.
Mae fy ail gwestiwn i yn ymwneud â rhianta cadarnhaol. Mae tystiolaeth gynyddol ar gael sy'n dangos nad ydy cosb gorfforol yn effeithiol a'i bod hi yn niweidio plant yn gorfforol a hefyd yn emosiynol. Mae yna fwy a mwy o rieni yn cydnabod hynny, ac mae agweddau at arferion magu plant yn sicr yn newid. Ond dydy hi ddim bob tro yn hawdd gwybod pa dechnegau sydd orau i'w defnyddio er mwyn dysgu plant bod ffiniau ar gael—ffiniau nad ydyn nhw fod i'w croesi. Mae'n rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad i fel rhiant sengl i bedwar o blant bach, a dim ond chwe blynedd rhyngddyn nhw, rhwng yr hynaf a'r ieuengaf, dwi'n gwybod bod rhianta yn gofyn am bob math o sgiliau, a sgiliau sydd angen eu dysgu, yn aml iawn. Bod yn rhiant yw un o’r swyddi gorau yn y byd, bod yn rhiant yw un o’r swyddi pwysicaf yn y byd, ond mae bod yn rhiant hefyd yn gallu bod yn swydd heriol iawn. Felly, dwi’n credu, law yn llaw â chyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd yma rydyn ni’n ei chroesawu’n fawr ar y meinciau yma, mae angen rhaglenni rhianta cadarnhaol a heini ar draws Cymru.
Felly, fy ail gwestiwn ydy: fydd yna ddigon o adnoddau yn gallu cael eu neilltuo ar gyfer rhaglenni o’r math yna? Dwi ddim yn credu ei fod o’n ddigon i ymestyn y ddarpariaeth bresennol sy’n digwydd trwy gynlluniau Dechrau’n Deg ac ati. Dwi wedi gweld rhai o’r rheini ar waith, ac maen nhw’n gallu gweithio’n ardderchog, ond dŷn nhw ddim yn cyrraedd pawb ac mae angen cyrraedd pawb. Felly, a oes yna adnoddau i wneud hynny? Dwi’n edrych ymlaen at y gwaith o graffu’r Bil hwn rŵan, fel aelod o’r pwyllgor plant a phobl ifanc, dros yr wythnosau nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Siân, ac rwy'n wirioneddol werthfawrogi'r gefnogaeth yr ydych chi'n ei rhoi i'r ddeddfwriaeth hon, oherwydd fy mod i'n gwybod bod eich plaid chi wedi bod yn gefnogol iawn—ac roedd Jocelyn a Lindsay yn rhagorol—ac rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi bod yn gefnogol iawn yn y Cynulliad blaenorol. Rwy'n credu ein bod ni'n unedig o ran eisiau gwella bywydau plant. Felly, diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth.
Ar y ddau gwestiwn yr ydych chi'n eu gofyn, fel y dywedwch, mae dros 50 o wledydd—54 o wledydd, rwy'n credu—wedi cael gwared ar yr amddiffyniad erbyn hyn ac mae mwy yn ystyried gwneud hynny. Felly rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth a ddaw, yn y pen draw, i bobman. Rwy'n credu bod gwersi i'w dysgu. Un o'r pethau yr wyf i'n credu sy'n bwysig iawn yw y dylid, o gyflwyno'r ddeddfwriaeth, pan fydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, gael digon o amser inni ganiatáu iddi ymsefydlu. Felly, rydym ni'n ystyried cyfnod sylweddol o amser, hyd at ddwy flynedd, a gall Gweinidogion ei chyflwyno pan fyddan nhw'n teimlo bod yr amser yn iawn. Credaf ei bod yn bwysig iawn i bawb fod yn ymwybodol o'r newid, ac i wneud hynny, bydd gennym ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus fawr, sy'n bwysig iawn, ac wedyn, mae'n bwysig iawn hefyd fod y staff ar y rheng flaen, y bobl sy'n mynd at bawb yn gyffredin—. Oherwydd bydd gan bob mam ei bydwraig a'i hymwelydd iechyd, ac mae'n bwysig iawn inni allu mynegi'r neges drwyddyn nhw am y newid i'r gyfraith fel y bydd pobl yn gwybod beth a olygir gan y newid yn y gyfraith. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, iawn ac rydym ni wedi dysgu hynny.
Y peth arall a ddysgwyd, sy'n gysylltiedig â'ch ail gwestiwn, yw nad oes llawer o ystyr i newid cyfraith ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i hynny ddod gyda'r wybodaeth, ond hefyd gyda chymorth i rieni. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol yn fy marn i. Felly, rydym yn ein gweld ein hunain yn ehangu'r cymorth i rieni. Fel y dywedwch chi, mae Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf yn ffynonellau enfawr o gymorth, ond nid ydyn nhw o reidrwydd yn cyrraedd pob teulu sydd mewn angen. Felly, mae'r ymwelwyr iechyd a'r bydwragedd yn gwbl hanfodol—eu bod nhw'n gallu cario'r neges. Ac, wrth gwrs, mae rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Rhianta. Rhowch Amser Iddo.', sy'n rhywbeth a ddefnyddir yn eang, ac rydym ni'n bwriadu cynyddu swm y cymorth a roddir.
Yr hyn a ddysgwyd oddi wrth wledydd eraill yw bod llawer o ofid, anesmwythder a phryderon rhesymol yn aml yn dod yn sgil deddfwriaeth o'r fath. Ond, yn aml iawn, yn fuan ar ôl gweithredu'r ddeddfwriaeth, mae'r ysbryd yn newid ac mae pobl yn dechrau holi beth oedd diben yr holl ffwdan, mewn gwirionedd. Rwy'n weddol sicr mai dyna fydd yn digwydd yma, y byddwn ni'n gallu symud ymlaen, rwy'n gobeithio, wedi i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Ac rwy'n credu mai dyna'r hyn a ddysgwyd oddi wrth wledydd eraill, ni chafwyd llawer o ofid wedi i'r newid ddigwydd, ac nid oes unrhyw wlad, hyd yn oed gyda newid yn ei llywodraeth, wedi ceisio gwrthdroi'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu ein bod wedi dysgu, pan ddaw'r ddeddfwriaeth, mai dyna pryd y bydd y newid yn y ddeddfwriaeth yn dylanwadu mewn gwirionedd ar ysbryd y wlad. Felly, unwaith eto, diolch ichi am eich cefnogaeth.
Hoffwn longyfarch Julie Morgan yn fawr iawn ac, yn wir, Chris Chapman, am eu gwaith cydnerth iawn nhw wrth ddal ati gyda'r hyn oedd yn fater amhoblogaidd iawn. Ac mae rhai o'r creithiau ar eich cefn oherwydd Aelodau o'ch plaid chi yn ogystal ag aelodau o'r gymdeithas ehangach. Mae'n hyfryd eich gweld chi'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yma heddiw.
Nid oes cyfarwyddiadau yn dod gyda bod yn rhiant, a'n gwaith ni yw hyrwyddo cyfrifoldebau cymdeithas am bob un o'n plant ni, os ydym yn rhieni neu beidio. Wrth gwrs, mae hynny'n dechrau gyda Llywodraeth y DU, pan welwyd y gostyngiad gresynus yng ngwerth budd-dal plant a chredydau treth a budd-daliadau sy'n gysylltiedig â phlant dros y naw mlynedd diwethaf, wedi gwthio mwy o blant eto i dlodi. Ond mae hon yn ffordd arall sydd gennym ni o gefnogi'r plant hynny sydd â'r angen mwyaf am gymorth gan gymdeithas.
Mae un o'r gwrthwynebwyr mwyaf uchel eu cloch i'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn un o'm hetholwyr i. Nid oes gennyf unrhyw reswm i dybio nad yw'n fam gwbl ardderchog a gofalus, ond nid wyf i'n cael fy argyhoeddi gan ei dadleuon fod angen iddi allu taro ei phlant er mwyn eu cadw'n ddiogel. Rwyf wedi egluro na allaf ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth nad yw taro yn unrhyw beth ond niweidiol i blentyn. Mae'n rhaid inni gofio bod y plentyn yn ddiamddiffyn, heb allu i fynnu ei hawliau ac yn llwyr ddibynnol ar oedolion am ei les, ac mae hwnnw'n wirionedd sy'n sefyll yn gadarnach byth pan fo'r plentyn yn ifanc iawn. Felly, yn wir, rwy'n cymeradwyo'r fenter hon ac rwy'n siŵr y bydd yn golygu y bydd gennym Gymru well i blant.
Roeddwn i eisiau sôn am un pwynt yn y datganiad a wnaethoch chi, Gweinidog, sef yn yr ymchwil a wnaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Roeddech chi'n dweud, yn hytrach na gwella ymddygiad plentyn, eu bod yn canfod bod y ffordd y defnyddir cosb gorfforol gan rieni fel arfer yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiadau annymunol eraill gan blant. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod honno'n dystiolaeth bwysig iawn, iawn.
Wel, rwy'n diolch yn fawr i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth a'r cymorth a roddwyd ganddi hi i hwn yn ogystal ag yn y gorffennol. Rwy'n sicr yn cytuno nad peth hawdd yw bod yn rhiant ac nid ydych yn cael unrhyw beth sy'n dweud wrthych chi sut mae bod yn rhiant. Yn amlwg, ceir llawer o bwysau ar rieni, ac mae hi'n cyfeirio at y newidiadau mewn budd-daliadau lles, sydd, wrth gwrs, yn dod â straen ychwanegol.
Rwy'n credu bod y pwynt a wna am blant yn ddiamddiffyn yn bwynt cryf iawn, oherwydd credaf mai dyna mewn gwirionedd a barodd imi ymwneud â hyn ar y cychwyn—meddwl am berson mawr yn defnyddio cosb gorfforol yn erbyn person bach. Hynny yw, nid yw'n iawn o gwbl fod hynny'n gallu digwydd. Dyna'r hyn a wnaeth i mi deimlo'n gryf iawn iawn o'r cychwyn cyntaf mewn gwirionedd fod hwn yn rhywbeth y dylem ni ddeddfu yn ei gylch. Felly, rwy'n sicr yn ei chefnogi hi yn y ffaith bod plant mor ddiamddiffyn. A pham mae angen tybio bod yn rhaid ichi allu defnyddio cosb gorfforol er mwyn magu eich plentyn? Felly, rwy'n gobeithio pan gawn ni'r cyfle i drafod y materion hyn yn eang—ac yn ystod hynt y Bil hwn rwy'n credu y bydd gennym ni'r cyfle i drafod pob agwedd ar rianta, ac rwy'n credu y bydd hynny'n gymorth i deuluoedd a phlant—a bydd y bobl sy'n ofidus iawn am hyn efallai yn gallu newid eu meddwl. Ac rwy'n meddwl am ei hetholwraig, sydd, rwy'n cytuno, yn siŵr o fod yn rhiant da iawn, ond mae'n amlwg ei bod yn teimlo'r angen i allu defnyddio cosb gorfforol yn erbyn ei phlentyn.
O ran yr ymchwil, rwy'n credu fy mod i wedi dweud pan oeddwn i'n ymateb i'r ymchwil fod y rhan fwyaf o'r ymchwilwyr yn y maes yn dyfarnu bod pob cosb gorfforol o bosibl yn niweidiol i blentyn mewn unrhyw amgylchiad ac nid oes angen cymryd y risg hwn pan fo dulliau ar gael nad ydyn nhw'n ddisgyblaeth gorfforol. Yn amlwg, ceir amrywiaeth o safbwyntiau; mae ymchwilwyr yn cyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau, ond dyna yw'r casgliad yn gyffredinol. Ond cafodd ymchwil mwy diweddar ei gyhoeddi, sef ymchwil eithaf eang, gan ddwyn ynghyd wahanol ddarnau o ymchwil, sy'n dweud y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, fod yn gysylltiedig â defnyddio cosb gorfforol ar oedran cynnar—a'u bod nhw'n fwy tebygol o gymryd rhan mewn ysgarmesoedd. Felly, mae hwnnw'n ddarn gweddol ddiweddar o ymchwil. Ond, unwaith eto, rwy'n diolch i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth a'i chyfraniad.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi bod hon wedi bod yn ymgyrch hir i lawer o Aelodau yn y Siambr, ac i sawl cyn Aelod y cyfeiriwyd atynt. Mae hwn yn fater emosiynol, felly rwy'n ofalus yn yr hyn a ddywedaf i, ond credaf fod angen inni edrych yn ofalus ar unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig yn y maes hwn.
Gweinidog, rydych chi'n dweud nad yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn gwneud dim yn fwy na chau bwlch ac nad yw'n creu trosedd newydd. Rwy'n cytuno bod hynny'n wir, yn dechnegol, ond mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn glir iawn o ran y sefyllfa gyfreithiol ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid yw'r amddiffyniad dros daro plentyn ond yn cwmpasu cosbedigaeth resymol. Felly, yn rhesymegol, mae pobl sy'n cosbi plant mewn modd corfforol yn afresymol yn agored i erlyniad fel y mae pethau'n sefyll. Ceir dadl nad oes angen y ddeddfwriaeth hon arnom mewn gwirionedd, a gallai hyn ddrysu'r mater, ac felly, yn rhesymegol, bydd pobl yn agored i erlyniad am gosbi rhesymol, sy'n ymddangos i mi yn ddefnydd afresymol o gyfraith. Felly, sut y gallwn ni sicrhau nad yw rhieni yn cael eu cosbi am ddisgyblu'n gyfreithlon eu plant sydd o bosib yn camymddwyn? Pa gamau diogelu fydd ar gael i atal erlyniadau diangen yn yr achosion hyn?
Ceir problemau posibl o ran yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ymdrin â chynnydd mawr yn nifer y cwynion. Nawr, rwy'n deall yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, a chredaf ei fod yn synhwyrol iawn, pan oeddech chi'n dweud eich bod yn edrych ar ddwy flynedd i ymsefydlu unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth, ac y byddai ymgyrch ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd. Rwyf i o'r farn, o ddilyn y trywydd hwn, y byddai honno'n elfen bwysig iawn. Roedd Siân Gwenllian yn codi'r mater hefyd, i fynd gyda'ch deddfwriaeth, efallai y bydd angen cael mwy o gymorth i rieni. Roeddech chi'n sôn y gellid defnyddio ymwelwyr iechyd a bydwragedd, rwy'n credu, mewn ffordd addysgol, gan annog rhianta heb ddefnyddio cosbi corfforol ac, wrth gwrs, mae angen inni osgoi hynny gymaint ag y gallwn ni. Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Y cwestiwn bach a ofynnodd Siân chi nad ydych chi wedi ei ateb efallai oedd ynghylch unrhyw gynnydd mewn adnoddau i ariannu ymgyrch o'r fath a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, a hefyd a fydd yna unrhyw oblygiadau o ran adnoddau o ran yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig pan fydd y ddeddfwriaeth yn dechrau.
Yn olaf, rydych chi wedi sôn am Seland Newydd. Rydych chi'n mynd i edrych ar—neu, yn hytrach, rydych chi yn edrych ar—enghraifft Seland Newydd ac, yn wir, 53 o wledydd eraill sydd wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n gwneud hynny. A oes modd inni gael ymatebion mwy manwl a ran sut y maen nhw wedi ymdrin â hyn, naill ai heddiw neu yn nes ymlaen yn y trafodion. Diolch.
Diolch, Gareth Bennett, am eich cyfraniad. Roeddech chi'n sôn am gau'r bwlch. Nid cau'r bwlch o ran cosb gorfforol yn y cartref yn unig yw hyn; mae'n cau'r bwlch o ran cosb gorfforol yn yr ysgolion Sul, mewn cyfleusterau hamdden, mewn amrywiaeth fawr iawn o leoliadau nad ydyn nhw'n rhai addysgol. Mae unrhyw un sy'n gofalu am blentyn yn y lleoliadau hynny, ar hyn o bryd, yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol, a chredaf fod hynny'n achos cryn dipyn o syndod i lawer. Felly, mae hwnnw'n fwlch sy'n cael ei gau, yn ogystal â mater rhieni yn y cartref.
O ran y gwaith sy'n ymwneud â Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol, rwyf wedi cwrdd â'r cyrff hynny i gyd. Fe wnes i gyfarfod â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, prif gwnstabliaid yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol, ac maen nhw i gyd yn cefnogi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Byddwn yn sefydlu grŵp gweithredu. Byddwn yn sefydlu hwnnw'n weddol fuan ac, yn amlwg, pe caiff y ddeddfwriaeth ei phasio gan y Cynulliad, bydd hwnnw'n parhau i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod tan y gweithredu terfynol. Ar y grŵp gweithredu hwnnw, rydym yn bwriadu bod y gwahanol grwpiau hyn yn cydweithio i edrych ar unrhyw oblygiadau mewn ffordd fanwl iawn, ac felly byddwn yn cynnwys yr holl sefydliadau hynny y soniodd ef amdanyn nhw. Wrth gwrs, mae pob un ohonyn nhw wedi dweud y gallai fod angen mwy o adnoddau i wireddu hyn.
Mae'n anodd iawn pennu mewn gwirionedd faint o adnoddau ychwanegol sydd ei angen, oherwydd, yn amlwg, nid ydym wedi diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol o'r blaen, ac felly mae'n anodd iawn gwybod faint fydd ei angen. Rydym wedi amcangyfrif £4 miliwn dros bum mlynedd, a fyddai'n cynnwys rhaglen i godi ymwybyddiaeth—rhaglen ymwybyddiaeth gyhoeddus fawr iawn—ac yn ystyried cynyddu'r cymorth i rieni.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr hyn sydd wedi digwydd yn Seland Newydd. Anodd iawn yw cael gwybod rhywbeth gan y gwledydd sydd wedi gwneud hyn y gallwch chi ei gysylltu a'i ddefnyddio o ran yr hyn sy'n digwydd yma. Ond yr hyn a ganfuwyd yn Seland Newydd oedd bod nifer y rhieni a ddaeth gerbron y system cyfiawnder yn fach iawn. Gan gyfrifo yn ôl y dystiolaeth o Seland Newydd, amcangyfrifir—er mai amcangyfrif yn unig yw hyn—yng Nghymru, y byddai llai na 10 achos mewn unrhyw flwyddyn.
Rwy'n falch iawn o allu siarad ar yr eitem hon heddiw, Dirprwy Weinidog. Yn fy marn i, mae'r Bil hwn yn cynnig newid hir-ddisgwyliedig i'r gyfraith er mwyn diddymu syniad hen ffasiwn o oes Fictoria. Mae'n rhaid imi anghytuno ag Aelod Cynulliad Aberconwy, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl yr wyf i'n siarad â nhw yn fy etholaeth i o'r farn wirioneddol fod gan blant eisoes yr un amddiffyniad cyfreithiol ag oedolion rhag ymosodiad corfforol, ac rwy'n gweld cefnogaeth aruthrol o blaid y Bil hwn yn fy etholaeth i. Rwy'n teimlo ei bod hi'n wir yn amser sicrhau bod y gyfraith yn cyd-fynd â chymdeithas ac rwyf wrth fy modd hefyd, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru o etholiad 2016 y byddwn ni'n ei wireddu.
Hoffwn i roi canmoliaeth i chi, Dirprwy Weinidog, am eich ymgyrchu hirdymor ar y mater hwn ac rwy'n croesawu eich canmoliaeth chi o'ch rhagflaenwyr fel Gweinidogion plant, hefyd. Ond rwy'n gofyn i'r Dirprwy Lywydd faddau imi hefyd am roi gair o deyrnged i Christine Chapman, fy rhagflaenydd fel Aelod Cynulliad i Gwm Cynon, a fu'n ymgyrchu mor frwd ac mor ddiwyd ar y mater hwn am gyfnod mor hir. Rwy'n cofio, yn aelod ifanc o'r Blaid Lafur, clywed Christine wrth iddi ddod i siarad â ni yn rheolaidd yn aelodau o'r blaid ar y mater hwn a'i theimladau cryf hi yn ei gylch, a'r dystiolaeth a gasglodd dros nifer o flynyddoedd ledled y byd ynghylch y manteision y gallai Bil fel hwn eu dwyn i bobl ifanc yng Nghymru.
Hoffwn i ofyn ychydig o gwestiynau heddiw. Yn gyntaf, wrth gwrs, rydym newydd weld sefydlu yn ddiweddar Senedd Ieuenctid Cymru yma yn y Senedd. Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau â'n cynrychiolwyr ni sydd newydd eu hethol i Senedd Ieuenctid Cymru am eu barn nhw o'r Bil hwn a'r ffordd orau y gellid ei drafod a'i bortreadu mewn gwirionedd ar gyfer teuluoedd ledled Cymru?
Yn ail, rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyrwyddo rhianta cadarnhaol a'r atebion yr ydych wedi eu rhoi eisoes i'r Aelodau sydd wedi holi cwestiynau am hynny. Rwy'n nodi bod Bil Aelod Preifat yn Senedd yr Alban sy'n ceisio ei gwneud hi'n ddyletswydd ar Weinidogion yr Alban i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r Bil y maen nhw'n ei gynnig yn y fan honno. Tybed a ydych chi wedi ystyried llunio rhywbeth tebyg yn ein Bil ni yma yng Nghymru?
Yn ogystal â hynny, o ran yr ymgyrch rhianta cadarnhaol y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hi, a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r modd y gellir ei theilwra i gyrraedd grwpiau sy'n fwy ar ymylon cymdeithas, er enghraifft, unigolion sy'n amharod i ymgysylltu â gwasanaethau statudol neu sydd ag anghenion arbennig o ran diwylliant, iaith, cyfathrebu neu fel arall?
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a fyddech chi'n gallu rhoi unrhyw wybodaeth bellach ar amserlen y Bil hwn wrth symud ymlaen, ac yn benodol o ran pa bryd y byddai'r gyfraith ei hun yn dod i rym?
Diolch i Vikki am ei chyfraniad ac am iddi sôn am Christine Chapman a'r holl waith a wnaeth hi. Byddwn i'n cytuno â hi mewn gwirionedd bod llawer o rieni yn credu nad ydych chi'n gallu defnyddio cosb gorfforol yn erbyn eich plentyn yn gyfreithiol bellach, oherwydd bod llawer o bobl wedi dweud wrthyf, 'O, doeddwn i ddim yn credu y gallem ni wneud hynny'—maen nhw wedi credu eisoes—. Felly, mae rhyw awyrgylch yn bodoli, mae'r awyrgylch wedi newid. Rwy'n credu bod pethau'n newid o ran plant a bod yr hyn yr oeddem ni'n ei gynnig rai blynyddoedd yn ôl ac a oedd yn ymddangos yn rhyfedd ac unigryw, yn rhan o'r brif ffrwd erbyn hyn.
Senedd Ieuenctid Cymru—nid wyf wedi cael trafodaeth â nhw eto, ond gobeithiaf wneud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, pan fydd yn edrych ar hyn, yn ystyried siarad â Senedd Ieuenctid Cymru, a hefyd Plant yng Nghymru—rwy'n credu y bydd hwn yn grŵp da i siarad ag ef hefyd.
Yn rhan o'r ymgynghoriad, siaradodd Unicef â dros 1,000 o blant, ac roedd 72 y cant o blant ysgolion cynradd o blaid ein deddfwriaeth, ac roedd 56 y cant o blant ysgolion uwchradd o blaid y ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n credu'n gyffredinol bod plant yn cefnogi'r ddeddfwriaeth, a chafwyd rhai astudiaethau gyda phlant yn gofyn sut roedden nhw'n teimlo ynghylch cosb gorfforol, a bu'n ddiddorol iawn clywed am yr hyn y mae pobl ifanc yn ei deimlo ynghylch cael eu bychanu a theimlo'n ddi-rym, a'r effaith a gafodd hyn arnyn nhw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni, wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, i gofio sut mae pobl ifanc mewn gwirionedd yn teimlo. Felly, rwy'n credu yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn defnyddio pob cyfle. Rwy'n gwybod bod y swyddogion sy'n gweithio ar y Bil yn cynllunio grwpiau ffocws gyda phobl ifanc yn ystod hynt y Bil fel y gallan nhw siarad am yr hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw, ac unrhyw help y gallant ei roi inni. Felly, rwy'n credu bod y mater hwnnw'n bwysig iawn.
Mae'n Fil syml iawn. Dim ond un ddalen, yn cael gwared ar yr amddiffyniad, a byddai'n well gennyf mewn gwirionedd ei gadw mor syml â phosib, dim ond dileu'r amddiffyniad. Ond ein bwriad yw hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac, wedyn, mae cyrraedd grwpiau a all fod ar y cyrion yn amlwg yn rhan hanfodol o'r gwaith, a bwriadwn wneud ymdrechion arbennig i gyrraedd gwahanol grwpiau o bobl sydd, efallai, â phroblemau ac sy'n teimlo ar y cyrion ac nad ydyn nhw'n dod i gyfarfodydd. Ond rwy'n credu, fel dywedais o'r blaen, bod gennym ni wasanaeth cyffredinol sydd yn cyrraedd pawb—ymwelwyr iechyd a bydwragedd. Rwyf wedi gweithio llawer gyda'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n gwybod bod yn rhaid gwneud ymdrech benodol i gyrraedd gwahanol gymunedau er mwyn egluro'r hyn yr ydych chi'n ei wneud. Felly, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle—bydd angen i ni wneud ymdrech arbennig.
Yna, o ran yr amserlen, byddem yn gobeithio, os aiff popeth yn dda o safbwynt y daith drwy'r Cynulliad, y byddem yn cael Cydsyniad Brenhinol yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac yna, fel y dywedaf, rydym ni'n credu y bydd hi hyd at ddwy flynedd cyn y byddwn ni mewn gwirionedd yn gweithredu'r ddeddfwriaeth o'r diwedd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n gwybod fod ganddi farn ddiffuant iawn ynghylch yr angen am y gwaharddiad penodol hwn, a bydd hi'n deall fy mod wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad ar smacio plant y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Rwy'n bryderus iawn, yn amlwg, ynghylch y posibilrwydd o drin degau o filoedd o rieni cariadus, parchus ledled Cymru sy'n defnyddio smacen yn achlysurol i ddisgyblu eu plant, fel troseddwyr, ac rwy'n credu bod y mwyafrif llethol o rieni yn gwybod ble i dynnu'r llinell rhwng cosb resymol a cham-drin plant. Mae gennym ni ddeddfwriaeth gynhwysfawr sydd eisoes wedi ei sefydlu ar gyfer ymdrin â cham-drin plant, a chaiff pobl eu herlyn yn hollol briodol gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol, ac fe ddylen nhw wynebu'r canlyniadau cyfreithiol o ran hynny. Ond rwy'n bryderus ynghylch effaith bosib hyn ar rieni, yn arbennig o ystyried bod eich memorandwm esboniadol yn nodi rhai o'r effeithiau posib hynny, o ran cael cofnod troseddol, a hwn yn ymddangos ar ddogfen y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a'r effaith wedyn a gaiff ar eu cyflogaeth—eu gwahardd rhag rhai swyddi a swyddogaethau, a'r cyfyngiadau ar eu gallu i deithio i wledydd tramor penodol. Ac rwy'n gwybod eich bod wedi dweud nad yw'n fwriad gennych i wneud rhieni'n droseddwyr—rwy'n deall nad dyna eich bwriad—eich bwriad yw hyrwyddo rhianta cadarnhaol. Ond y gwir amdani yw mai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd—bydd unrhyw un sy'n smacio plentyn ar ôl i'r gyfraith newid yn cael ei ystyried yn droseddwr. Felly, rwy'n bryderus iawn ynghylch hynny ac yn meddwl tybed beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau y bydd gweithredu'r gyfraith hon, petai'n dod yn gyfraith, yn gwbl gymesur ac yn gefnogol o rieni, ac nid yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn faleisus o ran eu herlid, fel petai.
Rwy'n pryderu ychydig hefyd ynglŷn â sut y caiff hyn ei orfodi. Rydych chi eisoes wedi cyfeirio, yn rhai o'r cwestiynau eraill, at sut y bydd y gyfraith yn gweithredu ledled Cymru. Yn amlwg, mae'n bwysig bod gennym ni ymgyrch hyrwyddo ynghylch unrhyw newid yn y gyfraith, petai newid yn dod, yng Nghymru, ond mae'n amlwg bod gennym ni lawer o ymwelwyr, o Loegr yn benodol—ymwelwyr dydd ac ati—a tybed sut y byddwn ni'n eu hysbysu nhw am y newid yn y gyfraith fel nad ydyn nhw, yn ddiarwybod yn torri'r gyfraith ar ôl croesi'r ffin a dod i Gymru petaen nhw'n smacio plentyn fel math o ddisgyblaeth.
Clywais yr hyn a ddywedoch chi am y gweithgarwch hyrwyddo y byddwch yn ei gynnal, ac mae'n datgan yn glir eich bod wedi gosod cyllideb o'r neilltu ar gyfer y gweithgarwch hyrwyddo hwnnw, o ran addysgu pobl ynglŷn â'r newid yn y gyfraith, yn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd ddoe. Ond nid oes cyllid ychwanegol ar gael yn unol â'r memorandwm hwnnw ar gyfer cyrsiau rhianta mwy cadarnhaol er mwyn cynyddu capasiti'r cyrsiau hynny. Mae hynny'n peri pryder imi, oherwydd byddwn yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y galw gan rieni a fyddai efallai eisiau'r cyfle i ddysgu technegau rhianta eraill. Ond oni bai eich bod mewn gwirionedd yn barod i gynnig rhywfaint o arian i ehangu'r ddarpariaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru, nad yw'r mwyafrif llethol o rieni yn cymryd rhan ynddi ar hyn o bryd, rwy'n credu na fyddwn ni byth yn cyflawni'r math o newid yr ydych chi a fi eisiau ei weld o ran gwneud yn sicr y bydd hyrwyddo rhianta cadarnhaol ar gael. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch yr angen i hyrwyddo dulliau rhianta gwahanol, ond oni fyddwch yn cynyddu'r adnoddau, oni fyddwch yn cynyddu capasiti'r bobl hynny sydd eisoes yn cynnig y mathau hyn o wasanaethau, ni fyddwn ni byth mewn gwirionedd yn cyflawni'r math o uchelgais yr ydych chi eisiau ei weld o ran newid ymddygiad ledled Cymru.
Rwyf yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith mapio ar hyn o bryd, fel y deallaf, yn edrych ar y gwahanol leoedd lle mae rhianta cadarnhaol yn cael ei weithredu, a meddwl wyf i, tybed a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth ynghylch pryd rydych chi'n disgwyl i'r gwaith mapio gael ei gwblhau. Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith bod cyrsiau rhianta cadarnhaol ar hyn o bryd yn gyffredinol o ran yr hyn sy'n cael ei gynnig, ond nid wyf yn credu eu bod yn cael eu hyrwyddo'n gyffredinol ymhlith rhieni. Mae pobl yn disgwyl mynd i ddosbarth cyn-geni, er enghraifft, os ydyn nhw'n cael eu plentyn cyntaf, ond nid ydyn nhw'n cael cynnig cwrs rhianta cadarnhaol yn yr un modd. Ac rwy'n credu y dylem ni fod yn graff a chynnig y mathau hyn o bethau yn y dyfodol er mwyn rhoi i bobl y pethau y maen nhw eu hangen.
Ac yn olaf, oherwydd mai chi yw'r ail siaradwr, ac rydych chi wedi cael pum munud.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny. A gaf i ofyn ichi am agweddau rhieni ac agweddau cymdeithas yn gyffredinol hefyd? Mae'r memorandwm yn cyfeirio at rywfaint o'r gwaith arolwg y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ond nid yw'n cyfeirio at ddarnau eraill o waith a wnaed gyda'r cyhoedd yn gyffredinol. Felly, cafwyd arolwg ComRes, er enghraifft, yn ôl yn 2017, lle y gwnaed hi'n gwbl glir nad oedd dros dri chwarter y rhieni yn credu y dylai'r weithred o riant yn smacio plentyn fod yn drosedd, dywedodd 68 y cant o'r rhai a holwyd yn yr arolygon ComRes hynny bod yn rhaid smacio plentyn drwg weithiau, a dywedodd hefyd bod 77 y cant o'r ymatebwyr wedi dweud y dylai'r rhieni benderfynu pa un ai i smacio eu plant neu beidio. Mae hynny'n ymddangos yn groes iawn i ganfyddiadau eich arolwg chithau, a meddwl wyf i tybed pam nad ydych chi wedi cyfeirio at arolwg ComRes, o ystyried mai hwn yw'r unig ddarn o waith sylweddol a wnaed gyda'r cyhoedd yn gyffredinol, yn eich memorandwm. Nid yw'n ymddangos yn briodol fod hwnnw wedi ei anwybyddu neu ei anghofio. Ac yn olaf—
Na, mae'n ddrwg gennyf, rydych chi wedi cael chwe munud a chi yw'r ail siaradwr.
Rwyf yn gwerthfawrogi hynny, ond ceir—
Na, na, mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf bum siaradwr arall i'ch dilyn chi ac ni fydd rhai ohonynt yn cael eu galw. Dirprwy Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, am y sylwadau hynny. Yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o'r materion hynny a godwyd gennych chi yn bethau y buom yn eu hystyried yn ofalus. O ran y rhesymau pam efallai y byddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa pryd gwelwn ni rieni yn dod i mewn i'r system gyfiawnder, ceir amodau eithaf clir y mae'n rhaid eu hystyried, ac mae'n rhaid i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gael digon o dystiolaeth—mae'n rhaid ichi ystyried budd y cyhoedd, ac mae'n rhaid ichi ystyried buddiannau'r plentyn. Ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, ceir ymateb cymesur gan yr awdurdodau hynny sy'n rhan o'r system. Mae hynny'n digwydd eisoes a disgwyliaf i hynny barhau heb os nac oni bai, ac felly'n sicr mae'n hollol annhebygol y bydd pobl yn chwilio am rieni neu'n erlid rhieni. Yr hyn a wnawn ni yw darparu cymaint o dystiolaeth a chefnogaeth ag y gallwn ni a chymaint o wybodaeth ag y gallwn ni. Ac rwy'n credu y bydd hyn yn arwain at newid mewn ymddygiad.
Rwy'n gwybod fod Darren Millar yn dweud nad yw llawer o rieni yn gwybod am y cymorth sydd ar gael, ond mae hynny'n gysylltiedig â'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Ac mae 'Rhianta. Rhowch amser iddo' mewn gwirionedd wedi cael ei ddefnyddio'n dda iawn ac mae'n ymdrin â'r holl broblemau anodd y mae'n rhaid i rieni fynd i'r afael â nhw, a bydd hyd yn oed yn bwysicach wrth i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Er enghraifft, mae'n ymdrin â strancio, mae'n ymdrin ag amser prydau bwyd, mae'n ymdrin â hyfforddiant poti—pob math o sbardunau sy'n achosi pryder mawr i rieni. Felly, bydd unrhyw ymateb yn gymesur, fel y mae yn awr. O ran y newid, yr hyn a ddywedwn ni yw nad yw unrhyw gosb gorfforol yn dderbyniol, a dyna'r hyn yr ydym ni eisiau deddfu yn ei gylch a dyna yn ein barn ni yw'r peth priodol i'w wneud.
Yn gyflym, ynghylch pam na wnaethom ni—. Yn amlwg mae arolwg ComRes yn arolwg cyffredinol. Yr hyn yr wyf i wedi ei ddyfynnu yw'r hyn yr ydym ni wedi ei gomisiynu ein hunain. Bu cryn newid mewn barn, a bu'r farn mewn gwirionedd ymhlith rhieni, nid y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, mae'n deillio o'r rhieni. Er enghraifft, y mae newid, oherwydd yn 2018, roedd 81 y cant o rieni yn anghytuno â'r datganiad bod yn rhaid weithiau, smacio plentyn drwg—81 y cant o'r rhieni hynny yn credu nad oedd hynny'n iawn. Ddwy flynedd cyn hynny, 71 y cant oedd y rhif, gyda'r un cwestiynau a'r un grŵp yn gyfrifol. Felly, cafwyd dipyn o symud. Ac o ran rhieni plant dan chwech, rwy'n credu bod yr arolwg diweddaraf wedi dangos mai dim ond 5 y cant oedd yn teimlo'n fodlon ynghylch defnyddio cosb gorfforol ar blentyn, a nifer y rhai a oedd yn dal i ddefnyddio cosb gorfforol oedd mewn gwirionedd 11 y cant, ond dim ond 5 y cant o'r rheini oedd yn teimlo eu bod wedi gwneud y peth iawn. Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi amlygu ei hun o'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed, yw pan fo rhieni'n ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant, cymaint ohonyn nhw sy'n wirioneddol edifar am hynny wedyn, ac y mae'n hunllef iddyn nhw. Ac mae gennym ni lawer o enghreifftiau o hynny.
A gaf i ddweud pa mor falch wyf i o fod yn y Siambr hon heddiw i weld y darn hwn o ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno? Fel y dywedodd Siân Gwenllian, mae wedi bod yn hir yn dod, ond nid yw hynny'n rheswm i beidio â'i groesawu'n fawr iawn heddiw. Hoffwn ategu popeth a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am ei rhagflaenwyr, ond hefyd rwy'n teimlo bod yn rhaid imi ddweud na allaf feddwl am berson mwy addas ar ei meinciau i fod yr Aelod sy'n gyfrifol am y darn hwn o ddeddfwriaeth heddiw ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda hi wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno.
Croesawaf yn fawr iawn—fel rwy'n gwybod bod y grwpiau a'r sefydliadau y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at rai ohonyn nhw—y ffaith y bydd hwn yn Fil syml, y bydd yn fater syml o ddiddymiad. Wrth gwrs, clywais yr hyn a ddywedodd Aelodau eraill am y ffaith bod llawer o faterion y mae angen inni ymdrin â nhw i gefnogi plant a sicrhau nad ydynt yn cael eu cam-drin, ond nid yn y darn hwn o ddeddfwriaeth mae'r lle i hynny. Diddymiad syml yw'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi hynny heddiw a dyna, fel y dywed Siân Gwenllian, fydd pob un o'm cyd-Aelodau Plaid Cymru yn ei wneud.
Wnaf i ddim, Dirprwy Lywydd, ailadrodd y pwyntiau trafod a godwyd eisoes, ond hoffwn gyfeirio at rywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi ei grybwyll ynghylch y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn teimlo pan gânt eu cosbi'n gorfforol. Rydym yn gwybod bod yr ymchwil gorau yn dangos bellach bod y rhai bach yn ofidus a dryslyd, oherwydd bod mami a dadi yn dweud wrthyn nhw trwy'r amser nad yw pobl fawr i fod i daro pobl fychan— 'Paid â tharo dy frawd bach, dydi hynny ddim yn garedig'. Ac yna, ar yr un gwynt, os yw dadi'n rhoi smacen ichi ar ôl i chi daro eich brawd bach, mae hynny'n ddryslyd iawn, os ydych chi'n bedwar neu'n bump oed. Gwyddom mai ymateb y plant hŷn os cânt eu cosbi'n gorfforol, os cânt eu taro—gan mai dyna beth yr ydym yn sôn amdano—yw eu bod yn teimlo wedi eu bychanu ac yn ddi-rym, a bod cyswllt uniongyrchol wedyn rhwng hynny a'r plant hynny wedyn yn mynd ymlaen i ymddwyn yn waeth. Dyma'r cysylltiad y mae Aelodau wedi'i grybwyll—rhwng cosb gorfforol, rhwng oedolion yn taro plant, a'r plant hynny wedyn yn mynd ymlaen i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Rwy'n gwybod ac rwy'n wirioneddol ddeall y pryderon a godwyd gan Aelodau eraill yma, ac rwy'n credu bod y pryderon hynny yn gwbl ddilys. Ac rwy'n gobeithio, yn ystod hynt y Bil, y byddwn ni i gyd yn gallu—yn enwedig aelodau'r pwyllgor, ond y byddwn i gyd yn gallu edrych eto ar y dystiolaeth orau a'r fwyaf cyfredol, a chael sicrwydd, lle bynnag y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon, na chafodd cannoedd ar gannoedd o rieni da eu gwneud yn droseddwyr. Yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud wrth gwrs yw ei gwneud hi'n glir iawn i deuluoedd beth sy'n dderbyniol a beth sy'n annerbyniol. Yn sicr, o edrych ar fy mhost etholaeth, mae llawer o bobl yn croesawu hynny'n fawr iawn.
Hoffwn ofyn un neu ddau o gwestiynau penodol. Mae Vikki Howells eisoes wedi codi pwynt am blant a phobl ifanc yn rhan o'r broses ymgynghori. Hoffwn ddweud wrth y Dirprwy Weinidog ei bod hi'n bwysig iawn bod hynny'n cynnwys plant iau, ac nid pobl yn eu harddegau'n unig. Ceir rhai prosiectau rhagorol y gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol ohonyn nhw, megis y prosiect Lleisiau Bach ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae plant bach iawn, chwech a saith oed, wedi gallu cael llais o ran y polisi, ac o ran beth yw eu barn am yr hyn fyddai'n gweithio iddyn nhw—nid yn gymaint o ran y ddeddfwriaeth, gan nad ydyn nhw'n mynd i boeni am hynny, ond ynghylch sut y maen nhw'n teimlo y maen nhw'n dysgu orau, gall fod yn ddefnyddiol inni wrando arnyn nhw.
Unwaith eto, o ran pwy fydd yn gallu defnyddio gwasanaethau rhianta, clywaf yr hyn a ddywedwyd am yr angen am adnoddau ychwanegol, ac wrth gwrs byddwn yn ategu'r hyn a ddywedodd Vikki Howells am bwysigrwydd estyn allan at yr hyn a alwn ni'n gymunedau anodd eu cyrraedd. Credaf weithiau ei fod yn ymwneud â chymunedau lle nad ydym ni wedi ymdrechu'n ddigon caled, i fod yn onest. Ond byddwn i hefyd eisiau inni fod yn ofalus iawn rhag rhoi'r argraff bod rhianta problemus yn rhywbeth sy'n digwydd ymhlith pobl sy'n dlawd yn economaidd yn unig. A minnau'n fam sengl ddosbarth canol fy hun, roedd adegau pan fyddwn i wedi hoffi'n fawr iawn cael fy mam drws nesaf, a doedd hi ddim yno. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr yn y ddadl hon, nad ydym ni'n creu unrhyw argraff ein bod yn credu bod y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny yn fwy tebygol o ymddwyn yn amhriodol tuag at eu plant na rhieni dosbarth canol. Rwy'n credu hefyd na ddylem ni fod o dan unrhyw argraff nad yw rhieni dosbarth canol angen help ychwaith.
Felly, hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ystyried sut y gallwn ni—. Byddwn i'n dadlau mai'r rhieni dosbarth canol hynny sy'n cael trafferthion tu ôl i ddrysau caeedig o bosib yw un o'r grwpiau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn y drafodaeth hon, oherwydd gall mater o gywilydd godi o ddweud, 'ni allaf ddod i ben â hi'. Felly, efallai cydnabod hynny—a chlywaf yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am wasanaethau ymwelwyr iechyd, gwasanaethau mamolaeth ar gyfer rhieni ifanc iawn, ond hefyd a oes pethau y gallwn ni eu gwneud drwy ysgolion i godi ymwybyddiaeth a rhoi mynediad i fwy o deuluoedd dosbarth canol, a allai ei chael hi'n fwy anodd defnyddio llwybrau mwy traddodiadol efallai.
Ac, yn olaf, o ran amserlenni, rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am yr angen i bethau ymsefydlu. Byddwn i'n dadlau bod y ffaith ein bod wedi cael y dadleuon hyn yn y lle hwn dros nifer o flynyddoedd wedi cyfrannu at y newid y mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato yn y farn gyhoeddus. Mae pobl yn gwybod am yr hyn yr ydym ni wedi bod yn siarad amdano. Gwyddom bellach fod 80 y cant o rieni plant ifanc yng Nghymru yn credu bod cosbi corfforol yn annerbyniol, ac nad ydyn nhw eisiau ei ddefnyddio.
Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi trafod hyn ers tro. Mae'n dda gweld Christine Chapman yma heddiw. Tybed a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog gadw'r cyfnod gweithredu o ddwy flynedd o dan adolygiad. Rwy'n credu bod plant yng Nghymru wedi bod yn aros am amser hir iawn i gael yr un amddiffyniad y mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn teimlo eu bod yn ei haeddu. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud am yr angen i fod yn glir bod pawb yn deall y newid yn y gyfraith, ond rwy'n credu bod dwy flynedd, ar ôl i'r ddeddf gael ei phasio, yn ymddangos yn amser hir iawn, iawn i mi. Felly, byddwn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog adolygu hynny, os byddai hi mor garedig.
Diolch. Rwy'n diolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad, ac am ei chefnogaeth i hyn dros nifer o flynyddoedd. Felly, diolch ichi am hynny. Ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ymgynghori â phlant iau. Fel y dywedais yn yr araith, mae UNICEF wedi ymgynghori eisoes mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd, a gwelsom y farn glir mewn ysgolion cynradd o blaid rhoi'r ddeddf hon ar waith. Felly, ydym, rydym ni'n bwriadu ymgynghori â phlant hŷn ac iau, oherwydd y ffordd y mae hyn yn effeithio arnyn nhw yn amlwg—dyna'r mater allweddol. Felly, byddwn yn gwneud hynny. Ac mae hyn i bawb—pob rhan o gymdeithas. Ond fe wyddom ni gyda rhai grwpiau ei bod hi'n haws eu cyrraedd. Mae'n fwy anodd cyrraedd rhai grwpiau oherwydd nad ydym ni'n cwmpasu môr a thir i'w cyrraedd nhw. Mae hynny'n rhywbeth y credaf yr ydym ni'n ei ddysgu ym mhob agwedd ar bolisi a gwaith. Ond mae'n effeithio ar bawb. Ac, fel y gwnaethoch chi sôn, gall mamau neu rieni a allai fod yn fwy cefnog gael yr un problemau, felly mae hwn i bawb. Felly, llwyr ategaf hynny.
Ac rwy'n credu bod gweithio drwy ysgolion yn bwysig iawn. Cafodd y ddeddfwriaeth hon groeso gan undebau'r athrawon, wrth gwrs, gan ei bod hi yn erbyn y gyfraith i ddefnyddio cosb gorfforol mewn ysgolion ers amser hir, lle wrth gwrs yr ydych chi in loco parentis—mae'r athrawon—er wrth gwrs rydym ni'nn ystyried y gweithlu cyfan, y gweithlu addysgu. Felly, mae hynny i'w groesawu'n fawr.
Gallwn weithredu'r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd ar unrhyw adeg ar ôl iddi dderbyn Cydsyniad Brenhinol, ond rydym ni'n ystyried dwy flynedd er mwyn bod mor sicr ag y gallwn ni, fod pawb yn gwybod amdani, gan ystyried y pryderon a gafodd eu mynegi'n deg. Rydym ni yn teimlo'n gryf iawn ein bod ni eisiau cefnogaeth cymaint o bobl â phosib. Diolch.
Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost a llythyrau ar y mater hwn, ac nid oes un o'i blaid, gan fod gennym ni gyfraith eisoes yn y fan yma. Dyma smacen. Bydd y gwaharddiad arfaethedig hwn yn gwneud y fam, tad neu ofalwr sy'n ceisio amddiffyn ei blentyn rhag perygl ac yn ceisio gosod ffiniau yn droseddwr. Felly, bydd rhiant sy'n rhoi tap bach yn cael ei drin yn awr fel camdriniwr plant. A ydych chi'n credu bod hyn yn rhesymol? Nid wyf yn argymell cosbi corfforol, ond rwyf yn argymell cadw draw o ystafelloedd byw pobl a'u bywydau. Rwy'n teimlo ei bod hi'n berthnasol imi adrodd fy stori i wrthych chi—[Torri ar draws.] A wnewch chi fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Ni wnes i dorri ar eich traws pan oeddech chi'n siarad.
Ewch ymlaen ac fe wnaf i reoli'r Siambr pan fyddaf yn credu bod angen, diolch.
Diolch. Af ymlaen â'm stori. Cefais fy mabwysiadu'n faban a drwy gydol fy mhlentyndod a phan oeddwn i'n oedolyn ifanc cefais fy ngham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan fy mam fabwysiadol. Nid oedd fy nhad mabwysiadol yn cymryd rhan ond roedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Ni sylwodd neb. Roedd y pwniadau mewn mannau lle nad oedd cleisiau yn weladwy, ac fe dyfodd fy ngwallt hir yn ôl ar ôl iddo gael ei rwygo allan wrth imi gael fy nhynnu o'r gwely, i lawr y grisiau i gael fy nghuro bob nos. Dywedwyd wrthyf petawn i'n dweud wrth unrhyw un y byddwn yn cael fy nhrin yn waeth. Dyma, fodd bynnag, oedd normalrwydd i mi ar y pryd, ac, o'm profiad i o fywyd go-iawn fe wn i fod y gwahaniaeth rhwng cam-drin a smacio mor amlwg â nos a dydd. Camdrinwyr fel fy rhieni sydd angen teimlo grym llawn y gyfraith, nid rhieni cariadus. Wnaf i ddim ailadrodd yn y fan yma yr holl faterion ymarferol amlwg sy'n ymwneud â gweithredu a phlismona'r polisi hwn gan fod Aelodau eraill wedi eu datgan. Byddai'n well o lawer gennyf i petai amser gwerthfawr yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac adnoddau llysoedd yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â cham-drin plant ac nid i ymlid rhieni fu'n rhoi tap ar y coesau.
Rydym ni'n clywed bob wythnos yn y Siambr dan gymaint o bwysau y mae ein gwasanaethau, beth yw effaith cyni, ac eto mae Llafur Cymru nawr eisiau ychwanegu at y pwysau hynny gyda'r gwallgofrwydd hwn. Nid yw'r cyhoedd yng Nghymru eisiau i aelodau Llywodraeth Cymru eistedd ar eu soffa, helpu eu hunain i'r bisgedi a defnyddio'r hyn sydd ar ôl o'u dŵr poeth. Ewch allan o'u bywydau a chanolbwyntio ar greu diwylliant lle mae pawb yn parchu ei gilydd, diwylliant o ddewis personol a chyfrifoldeb personol. Nid yw hyn yn ddim mwy nag ymyriad ar lonyddwch gan wladwriaeth faldodus a'r enghraifft unigol fwyaf o ymffrostio mewn rhinweddau a welais i erioed yn fy mywyd.
Diolch i Mandy Jones am ei chyfraniad, ac rwy'n diolch iddi am rannu ei phrofiadau â ni. Credaf y gallaf ond ailadrodd mewn gwirionedd fod y bobl hynny sy'n gweithio agosaf â rhieni—y bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, NSPCC, Barnardos—y rhai sy'n gweithio mewn modd proffesiynol agosaf â rhieni, maen nhw i gyd eisiau'r ddeddf hon. Maen nhw'n awyddus iawn inni gyflwyno'r ddeddf hon, oherwydd eu bod yn gweld pethau o lygad y ffynnon ac maen nhw'n teimlo nad oes lle o gwbl i unrhyw ffurf o gosb gorfforol. Rwy'n credu—wyddoch chi, rydych chi'n siarad am rieni sydd efallai yn tapio eu plant ac a fyddan nhw tybed yn y pen draw yn cael eu gwneud yn droseddwyr. Bydd ganddyn nhw ddigon o gyfle yn ystod yr amser hir y byddwn ni yn ei gymryd i adael i bawb wybod beth yw'r gyfraith hon, i ddod i wybod nad yw hynny'n dderbyniol ac y gallan nhw ymatal rhag gwneud hynny, ac felly rwy'n credu y bydd ganddyn nhw bob cyfle, ac os oes angen cymorth arnyn nhw, byddwn yn cynnig cymorth. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n wirioneddol gredu ei fod—. Fel y dywedaf, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y ffaith eich bod wedi rhannu eich profiad chi, ond dywed yr holl bobl hynny sy'n ymwneud â hyn ac yn ymwneud ag achosion o gam-drin eu bod eisiau gweld y ddeddf hon ar waith, ac y bydd hynny yn gwneud eu gwaith hwythau'n haws, bydd yn gwneud pethau'n gliriach a byddan nhw a'r plant y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw ar eu hennill, ac mae'n—. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i geisio sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd, a byddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, petawn ni'n gallu gwneud yn siŵr nad yw cosbi corfforol yn rhan o'u bywydau.
Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud y bûm i, am flynyddoedd lawer, yn gofalu am blant nad oedden nhw'n blant biolegol i mi ac na chawson nhw erioed mo'u smacio na'u tapio ac, yn yr un modd, a minnau'n athrawes flynyddoedd lawer yn ôl, roedd yr un peth yn wir. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i'r ddeddf yr ydych chi'n eu cynnig yn peri pryder i lawer iawn o rieni cariadus sy'n parchu'r gyfraith. Yn wir, rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost i'r perwyl hwn. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi gadarnhau bod y mwyafrif o rieni a ymatebodd i'ch adnodd ymgysylltu ar-lein TrafodMaguPlant yn gwrthwynebu'r gwaharddiad ar daro plant? Sut ydym ni'n annog newid? A yw rhoi rhiant cariadus ar gofnod troseddol yn weithred gadarnhaol i uned deuluol? Efallai y byddan nhw'n colli eu swyddi ac efallai y bydd y teulu yn cael ei hyrddio i fywyd o dlodi.
Dywedodd cyn-Weinidog plant wrth y Cynulliad y byddai'r newidiadau nid yn unig yn gwneud smacio yn drosedd ond hefyd pan fo rhiant at ddiben disgyblaeth yn defnyddio unrhyw ffurf arall ar gyffwrdd plentyn yng Nghymru y byddai hynny'n drosedd. Er enghraifft, byddai rhiant sy'n defnyddio grym i godi plentyn sy'n camymddwyn yn euog o guro. Dirprwy Weinidog, mae nifer fawr o rieni yn credu y bydd eich cynigion yn arwain at wneud rhieni cariadus yn droseddwyr, a gofynnaf sut ydych chi'n ateb hynny ac yn ymateb i'r rhieni.
Dirprwy Weinidog, nid rhieni'n unig sy'n poeni am y newidiadau y bydd eich Bil yn eu cyflwyno. Mae Dr Ashley Frawley, uwch ddarlithydd mewn polisi iechyd y cyhoedd a gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn credu y bydd eich Bil yn gorlwytho gwasanaethau cymdeithasol sydd eisoes wedi eu gorweithio. Felly, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ymateb i bryderon Dr Frawley? Mynna Dr Frawley hefyd na fydd newid y ddeddf yn gwneud dim i atal cam-drin plant. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu y bydd newid y ddeddf yn cael unrhyw effaith ar ymdrechion i fynd i'r afael â cham-drin plant yn gorfforol? Ac, yn olaf, Dirprwy Weinidog, petai eich deddf yn cael ei phasio, bydd cyrff y GIG yn trin honiadau o smacio fel cam-drin. Pa ddarpariaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau bod gan gyrff y GIG ddigon o adnoddau a digon o staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol i ymchwilio'n llawn a theg i honiadau o'r fath? Diolch.
Wel, diolch i Caroline Jones am ei chyfraniad, a hoffwn ei gwneud hi'n gwbl glir y bydd rhianta arferol yn parhau fel y mae yn awr. Ni fydd rheswm o gwbl pam na all rhieni ymdrin â phlentyn trafferthus, na'u hamddiffyn rhag perygl, na gwneud yn siŵr ei bod yn sownd mewn sedd car ar ôl ychydig o drafferth—dyna natur bod yn rhiant, effeithir dim ar hynny. Felly, os gwelwch yn dda, hoffwn i Caroline Jones fod yn gwbl sicr—ac i bawb yn y Siambr hon ddeall—na fydd y ddeddf hon yn effeithio ar unrhyw beth fel hynny. Yr hyn y mae'r ddeddf hon yn effeithio arni yw cosb gorfforol. Mae'n ymwneud â defnyddio dull corfforol i gosbi'r plentyn, a cheir llawer iawn iawn o ffyrdd eraill o gosbi plentyn, ac, yn wir, mae plant eu hunain wedi crybwyll pethau a allai fod yn fwy effeithiol, megis tynnu breintiau neu eich atal rhag gwylio'r teledu neu gymryd eich ffôn oddi arnoch ac mae'n ymddangos mai hynny yw'r peth gwaethaf oll. Felly, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud mewn gwirionedd, a dyna allwn ni eu gwneud yn ôl adborth y plant eu hunain. Mae 'Rhianta. Rhoddwch amser iddo', y credaf ichi gyfeirio ato, yn ffordd o helpu rhieni, er nad oes gennym ni unrhyw ystadegau o'r fan honno, ond mae'r holl ymchwil yr ydym ni wedi ei gomisiynu ac y mae'r Llywodraeth wedi ei gomisiynu yn dangos bod y mwyafrif helaeth o rieni yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon yn y bôn.
Rwy'n credu bod yr academydd y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn academydd ar ei ben ei hun. Mae gennym ni grŵp llawn o academyddion ar gyfer amddiffyn plant sy'n datgan yn rheolaidd pa mor gefnogol ydyn nhw i'r symud tuag at y ddeddfwriaeth hon, ac mewn gwirionedd maen nhw wedi ymgyrchu am flynyddoedd gyda llawer o'r cyrff eraill sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd.
Ac yna, yn olaf, cytunaf yn llwyr na fydd y newid yn y ddeddf, ar ei ben ei hun yn cyflawni popeth yr ydym ni eisiau ei gyflawni. Mae'n rhaid ei wneud gyda'r gefnogaeth a'r wybodaeth, ond mae newid yn y ddeddf yn arwydd i'r gymdeithas gyfan yma yng Nghymru nad ydym ni'n derbyn cosb gorfforol. Nid ydym ni eisiau i hynny fod yn ddull yr ydym ni'n ei weithredu yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n mynd gyda'r llanw. Mae'r Alban yn gwneud hyn ar yr un pryd; mae Iwerddon wedi gwneud hyn. Nid oes amheuaeth gennyf y bydd Lloegr yn ei wneud yn fuan.
Yn olaf, ac yn fyr, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gaf i ymuno ag eraill i ddweud pa mor falch yr wyf i eich bod yn bwrw ymlaen â hwn? Pan oedd y ddau ohonom ni'n Aelodau Seneddol gyda'n gilydd, roeddech chi'n ymgyrchydd brwd yn erbyn y llanw bryd hynny ynghylch y mater hwn, a cheir rhyw fath o gydamseredd melys mewn gwirionedd wrth ichi sefyll yn y fan acw nawr a bwrw ymlaen â hwn, ac rwyf wrth fy modd. Rwy'n credu eich bod mewn dwylo da hefyd o ran eich tîm o swyddogion.
Gellir ymdrin â rhai o'r pryderon a grybwyllwyd heddiw, ac efallai y gallwn i awgrymu ychydig o ffyrdd y gellid eu datblygu. Dyma un; mae gennym ni eisoes rai enghreifftiau blaengar da iawn o waith amlasiantaethol, lle mae ein gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn dwyn ynghyd pobl sy'n gweithio ym maes cymorth i deuluoedd, mewn timau yn ymwneud a'r teulu, yn y gwasanaethau cymdeithasol. A hefyd, mae diogelwch cymunedol a'r heddlu'n cydweithio agos iawn i nodi'n gynnar iawn yr arwyddion pryd y mae angen cymorth ar deuluoedd, pryd y mae angen ymyriadau, ac nid ymyriadau troseddol bob tro gyda llaw, ond pryd gall ymyriadau fod yn fwy cydgysylltiedig o amgylch y teulu. A dyna un ffordd ymlaen a gobeithiaf y bydd hi'n cytuno â hi.
Yn ail, mae'n ymwneud â'r hyn a wnawn ni gyda'r estyniad i'n gwaith yn y blynyddoedd cynnar, y tu hwnt i le yr ydym ni o safbwynt Dechrau'n Deg ar hyn o bryd, sut y gallwn ni gydgysylltu mwy o'r hyn a wneir ar lawr gwlad gyda'r tîm o amgylch y teulu, Teuluoedd yn Gyntaf a modelau eraill i wneud yn siŵr bod y cymorth ymhobman pan welwn ni fod teuluoedd ei angen.
Ac yn olaf, yn yr ymgyrch ymwybyddiaeth a grybwyllwyd, ein bod yn defnyddio cyrhaeddiad eang y sefydliadau hynny sydd eisoes yn gweithredu er mwyn pwysleisio’r neges hon mewn gwirionedd. Ac mae hi, byddwn yn dweud wrth gloi—gan fy mod wedi hepgor y rhan fwyaf o fy sylwadau, Dirprwy Lywydd, yn sgil eich cyfarwyddiadau i fod yn gryno—rydym yn nodi wrth fwrw ymlaen fod NSPCC Cymru, Plant yng Nghymru, Tros Gynnal Plant, colegau brenhinol, cymdeithasau proffesiynol sy'n cynrychioli pediatregwyr, unigolion amlwg, seiciatryddion, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, Aelodau trawsbleidiol, i gyd yn cefnogi hwn. Felly, dymunaf y gorau ichi wrth ichi fwrw ymlaen â hyn; rwy'n credu bod y gwynt yn awr yn eich hwyliau. Ac mae hyn yn dda i'r wlad gyntaf i gynnwys trais yn erbyn plant yn y diffiniad o drais yn y cartref, y wlad gyntaf i benodi Comisiynydd Plant, y wlad gyntaf i sefydlu'r confensiwn ar hawliau'r plentyn mewn cyfraith a chreu polisi, ac mae'r ffaith ein bod yn camu ymlaen â hwn yn arwydd arall ein bod yn genedl flaengar.
Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau a hefyd, unwaith eto, i ddiolch iddo am y modd brwdfrydig a chefnogol, pan oedd yn y swyddogaeth hon, y cyflwynodd yr ymgynghoriad. Ac rwy'n cofio bod yn San Steffan, ac rwy'n cofio ceisio cynnig gwelliant, ac rwy'n cofio cael cefnogaeth y Cynulliad a chymorth y Gweinidog plant, Jane Hutt, a ddaeth i'n cefnogi ni. Felly, mae hi wedi bod yn daith hir i gyrraedd y pwynt hwn mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod yr awyrgylch wedi newid, ac yn y bôn rwy'n cefnogi'r pwyntiau a wnaethoch chi, gan fy mod i'n credu bod y rheini i gyd yn gyrff ac yn feysydd lle gallwn ni estyn dwylo i deuluoedd a phlant. Rwyf hefyd yn adleisio ei bwynt olaf sef y bu rhai cyfraniadau gwirioneddol wych i'r ddadl hon heddiw. Croesawaf yn arbennig y cyfraniadau gan y rheini a fynegodd amheuon a phryder, ac rwy'n gobeithio, yn ystod hynt y Bil hwn, y byddwn yn gallu tawelu rhai o'r pryderon hynny efallai. Felly, diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Eitem 4 yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Eitem 5 yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019. Ac eitem 6 yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019. Heblaw bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, dwi'n cynnig bod y tri chynnig yn cael eu grwpio i'w trafod os nad oes gwrthwynebiad.
Does yna ddim gwrthwynebiad i hynny, ac felly dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog, unwaith eto, i wneud y cynigion yma—Julie Morgan.
Cynnig NDM7005 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Cynnig NDM7004 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Chwefror 2019.
Cynnig NDM7006 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Cafodd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio'n unfrydol dair blynedd yn ôl. Drwy weithredu'r Ddeddf fesul cam, rydym ni'n sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu darparwyr gofal cymdeithasol sy'n gadarn, yn symlach ac yn canolbwyntio ar y dinesydd. Mae'r rheoliadau ger ein bron heddiw yn cyfrannu at yr ymdrech hon ac yn cwblhau cyfnod 3 y gweithrediad i raddau helaeth iawn.
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn gosod gofynion clir, priodol a chymesur ar wasanaethau mabwysiadu rheoledig ac unigolion cyfrifol y gall Arolygiaeth Gofal Cymru eu defnyddio wrth arolygu. Fel gyda'r rheoliadau ynglŷn â lleoli oedolion, eiriolaeth a gwasanaeth maethu a gafodd eu pasio gan y Cynulliad hwn ym mis Ionawr, mae'r gofynion craidd yn ymwneud â llywodraethu'r gwasanaeth, y ffordd y caiff ei weithredu, ei staffio a sut y mae'n diogelu ac yn cefnogi pobl. Maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd, atebolrwydd a gwella darpariaeth gwasanaethau. Pan nad yw darparwyr neu unigolion cyfrifol yn cyrraedd y safon, mae'r rheoliadau yn pennu pa elfennau o ddiffyg cydymffurfio a gaiff eu trin fel trosedd yn ogystal â dewisiadau gorfodi sifil yr Arolygiaeth.
Oherwydd bod mabwysiadu yn faes cyfreithiol arbennig o gymhleth a heriol i'w ddiwygio, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'r Gymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu Cymru, sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y rheoliadau yn cyd-fynd â'r rhai ar gyfer gwasanaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 lle bynnag y bo'n ymarferol ac yn briodol, ond eu bod hefyd yn addas at y diben o ran mabwysiadu.
Drwy'r ymgysylltu hwn, rydym ni wedi gwneud nifer fach o newidiadau sylweddol mewn terminoleg i adlewyrchu natur gwasanaethau mabwysiadu rheoledig yn well. Er mwyn mynd i'r afael â'r dryswch yn y sector o ran y diben sydd ynghlwm â defnyddio'r gair 'gofal' yn y rheoliadau hyn, rydym ni wedi disodli'r cyfeiriad at 'gofal a chymorth' fel ffordd o ddiffinio'r hyn y mae'r gwasanaeth yn ei wneud gyda chymorth. Hefyd rydym ni wedi disodli'r term 'canlyniadau personol' gydag 'angen am gymorth', a fydd yn osgoi gwrthdaro rhwng y canlyniadau personol i blant â'r rhai ar gyfer oedolion sydd hefyd yn cael cymorth gan y gwasanaeth. Mae'r newidiadau hyn yn cynnal y safonau a ddisgwylir o dan Ddeddf 2016 gan sicrhau eu bod yn gweddu'n well i natur y gwasanaethau mabwysiadu. Mae hyn yn parchu eu sail statudol unigol ac yn cael eu rheoli'n bennaf gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Fodd bynnag, ceir dau faes yn benodol lle rwyf wedi penderfynu peidio â gwneud newidiadau. Rwyf o'r farn na fyddai hi'n briodol dyblygu gofynion cyfreithiol presennol gan nodi gofynion diogelu manwl yn y rheoliadau hyn. Yn lle hynny, mae'r rheoliadau yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaeth gael polisïau cynhwysfawr a gweithdrefnau cyfoes ar waith i adlewyrchu'r gofynion presennol hynny.
Rwyf hefyd yn teimlo'n gryf y dylai gwasanaethau mabwysiadu, fel gwasanaethau eraill a reoleiddir dan Ddeddf 2016, adolygu ansawdd eu gwasanaethau bob chwe mis. Gallant wneud hyn mewn ffordd gymesur, gan wneud y defnydd gorau o ffynonellau data presennol fel rhan o gylch parhaus o sicrhau ansawdd. Mae'r canllawiau statudol cysylltiedig yn canolbwyntio ar y pwyslais hwn. Caiff canllawiau statudol sy'n nodi mewn mwy o fanylder sut y gall darparwyr a'r unigolyn cyfrifol gydymffurfio â'r gofynion yn y rheoliadau eu cyhoeddi yn gynnar ym mis Ebrill.
Gan droi yn awr at Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019, mae'r rhain yn gwneud newidiadau technegol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol o ran y gofynion yn Rhan 1 o'r Ddeddf, sy'n ymwneud â rheoleiddio, lleoli oedolion gwasanaethau mabwysiadu a maethu, a fydd yn dod i rym ar 29 Ebrill. Yn y bôn, maen nhw'n diweddaru'r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016, gan gynnig eglurder a sicrhau cysondeb o ran y gyfraith.
Yn olaf, mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn gwneud nifer fach o newidiadau ar wahân i'r rheoliadau y gweithredodd y Cynulliad hwn yng nghyfnod 2 y gweithredu mewn cysylltiad â rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal preswyl a gofal cartref. Mae'r diwygiadau yn cynnwys newidiadau i'r eithriadau ar gyfer gwasanaethau cymorth cartref i sicrhau bod eglurder ynghylch sut y bydd gwasanaethau sy'n darparu gofal nyrsio yng nghartrefi pobl yn cael eu rheoleiddio, a newidiadau i eithriadau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref, a fydd yn eithrio cynlluniau preswyl yn y gwyliau ar gyfer plant anabl o gwmpas y rheoliad, tra caiff fframwaith rheoleiddio mwy cymesur ei roi ar waith ar eu cyfer. Maen nhw hefyd yn ychwanegu gofynion ynglŷn â goruchwyliaeth a monitro digonol o ran yr arbedion y mae cartrefi gofal a llety diogel ar gyfer plant yn eu gwneud, ac yn newid y gofynion hysbysu er mwyn bod yn gyson â'r rheoliadau a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod 3. Cyhoeddir canllawiau statudol wedi'u diweddaru yn unol â'r newidiadau hyn yn gynnar ym mis Ebrill.
Rwy'n credu bod y newidiadau hyn yn y rheoliadau hyn yn ffurfio rhan angenrheidiol o ddarparu system ddiwygiedig o reoleiddio ac arolygu yng Nghymru, yr oedd y Cynulliad hwn yn eu hewyllysio pan basiodd y Bil yn 2016, ac rwy'n gofyn am eich cefnogaeth.
Galwaf ar Suzy Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau gyda nodyn personol cyn imi siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy'n falch o glywed y bu cydnabyddiaeth bod angen diffiniad manylach o'r gair 'gofal'. Mae hynny'n sylw sydd wedi ei wneud yn y Siambr hon yng nghyd-destun gofal plant, ac rwy'n pendroni, os yw hynny o fewn eich cylch gwaith, a oes angen efallai rhoi ychydig o sylw i hynny ar ryw adeg yn y dyfodol.
Ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a gaf i ddweud y gwnaethom ni ystyried y rheoliadau o dan eitemau 4 a 5 yn ein cyfarfod ar 11 Mawrth, a'r rhai o dan eitem 6 ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni gyhoeddi sylw clir ar y rheoliadau o dan eitem 5, gan dynnu sylw at y sylwadau a wnaethom ni yn ein hadroddiad ar gyfer y rheoliadau o dan eitemau 4 a 6.
Yn ein hadroddiad ar eitem 4, sef Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, fe wnaethom ni dynnu sylw at ddau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(v). Yn gyntaf, o ran yr ymadrodd yn rheoliad 2, roedd angen esboniad pellach ar 'a gymeradwywyd gan y gwasanaeth', yn ein barn ni, yn enwedig oherwydd bod y geiriau hynny yn berthnasol yng nghyd-destun trosedd, y credaf ichi sôn amdano, Gweinidog.
Yn ail, fe wnaethom ni gwestiynu pam, o dan reoliadau 7 ac 8, os na all yr unigolyn cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau, nad oes rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau ar waith i'r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion Rhannau 11 i 15 y rheoliadau, gan ei fod yn gwneud hynny ar gyfer Rhannau 3 i 10.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i'r pwyntiau hyn ac yn dweud bod ystyr y rheoliadau a'r ffordd y cawsant eu drafftio yn ddigon clir. Yn amlwg, nid oedd hynny'n sylw yr oeddem ni'n cytuno ag ef. Dyna pam inni ei grybwyll. O ran y sylw ynghylch rhinweddau y gwnaethom ni ei grybwyll o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), yn unol â'i hymateb i ni, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, fel sy'n ofynnol gan adran 27 o Ddeddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol 2016, ac rydym ni'n ddiolchgar am hynny.
O ran Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019, roedd ein prif sylw ynglŷn â rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) hefyd yn gysylltiedig â'r angen i gyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n ofynnol o gan adran 27 o Ddeddf 2016, ac felly mae'r mater hwnnw wedi cael sylw hefyd.
I gloi, hoffwn dynnu sylw at y manylyn canlynol, sef y byddem ni wedi disgwyl i'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael ei gyflwyno ar yr un pryd ag y cafodd y rheoliadau drafft eu cyflwyno. Rydym ni'n credu mai dyna oedd bwriad y Cynulliad pan gymeradwyodd Deddf 2016, gan gynnwys yr adran benodol honno—adran 27(5). Diolch.
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad i'r ddadl hon, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaeth. Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth—rydym ni wedi ymateb i'r pwyntiau hynny. Ac rwyf hefyd yn nodi'r sylw am yr ymgynghoriad, sydd, fel y gwyddoch chi erbyn hyn, wedi ei gyhoeddi. Felly, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad.
Dros y tair blynedd diwethaf, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r rheolyddion a'r sectorau sy'n ymwneud â datblygu a gweithredu'r fframwaith statudol newydd o dan Ddeddf 2016, y mae'r rheoliadau hyn yn rhan ohonynt. Byddant yn helpu i sicrhau y bydd unigolion sydd angen gofal a/neu gefnogaeth yn derbyn gwasanaeth o ansawdd y maen nhw'n ei haeddu. Rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau ichi ac yn gofyn am eich sêl bendith.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 4? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 4.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 5.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 6 hefyd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n dod â ni at eitem 7. Y rhain yw'r Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y cynnig. Julie Morgan.
Cynnig NDM7007 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cynnig y cynnig.
Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr EAA fel y'i gelwir, a'r Swistir, a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i waharddiadau sy'n effeithio ar gwmpas y gwasanaethau eiriolaeth, fel bod y Ddeddf yn gweithredu'n effeithiol ar ôl y dyddiad ymadael, os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Ar hyn o bryd, mae symudiad rhydd gweithwyr penodol ar draws yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir wedi ei hwyluso gan gyfarwyddebau'r UE sy'n cynnwys fframwaith cyfatebol o reolau ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol. Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, ni fydd cyfarwyddebau'r UE bellach yn berthnasol i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru neu'r DU. O ganlyniad, mae'r offeryn hwn yn dileu o Ddeddf 2016 pob cyfeiriad at y trefniadau cyfatebol o ran cydnabod cymwysterau proffesiynol o dan gyfarwyddebau'r UE.
Os ydym yn gadael heb gytundeb, ar ôl y diwrnod ymadael gall unigolion gyda chymwysterau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir geisio cydnabyddiaeth i'w cymwysterau drwy system gofrestru ryngwladol bresennol Gofal Cymdeithasol Cymru, sef y corff sy'n rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel sy'n wir ar hyn o bryd am ymgeiswyr rhyngwladol, caiff cymwysterau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir eu hasesu yn unol â safonau cymwysterau cyfatebol y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol, ac os ceir eu bod yn debyg, bydd gofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru gydnabod y cymhwyster, heb unrhyw brofion ychwanegol i sgiliau ymarferol yr ymgeisydd. Bydd modd o hyd i Gofal Cymdeithasol Cymru wirio sgiliau iaith yr ymgeisydd a pha un a oes pryderon ynghylch eu haddasrwydd sydd angen eu cofrestru.
Mewn achosion lle nad yw'r cymhwyster yn cyfateb, bydd rhyddid i Gofal Cymdeithasol Cymru benderfynu sut y bydd yn bwrw ymlaen â'r broses gydnabod. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i gynnig mesurau digolledu lle nad yw cymhwyster yn cyfateb i safon cymhwyster y DU, fel yr oedd o'r blaen o dan gyfarwyddeb yr UE. Mae'r offeryn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf 2016 mewn cysylltiad â gwaharddiadau sy'n effeithio ar gwmpas gwasanaethau eiriolaeth rheoledig.
Galwaf ar Suzy Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch, Llywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn rheoliadau negyddol arfaethedig gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 12 Chwefror, ac fe wnaethom ni argymell dyrchafu'r weithdrefn gadarnhaol oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol mor sylweddol, yn bennaf Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Rydym yn croesawu felly bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Yna fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth a hysbysu'r Cynulliad am fanylyn technegol o dan Reol Sefydlog 20.21. Fe wnaethom ni awgrymu ei bod hi'n ymddangos bod rheoliadau'n dileu trefniant cyfatebol o'r math a grybwyllir yn adran 8(2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ac os oedd hynny'n wir, dywedodd paragraff 4 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bŵer i wneud y rheoliadau oni bai eu bod wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol. Nawr, nid oedd unrhyw argoel bryd hynny y bu unrhyw ymgynghori naill ai yn y rhaglith i'r rheoliadau nac yn y memorandwm esboniadol. Dyna pam ein bod ni wedi cwestiynu p'un a allai Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau.
Yn ei ymateb, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad yw'r rheoliadau eu hunain yn dileu trefniant cyfatebol o'r math a grybwyllir yn adran 8(2) o Ddeddf 2018. Eglurodd i ni mai'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwrnod ymadael sy'n peri i'r trefniadau cyfatebol o dan gyfraith yr UE beidio â bod yn berthnasol yng Nghymru, a bod angen felly cael gwared ar y cyfeiriadau at y trefniadau cyfatebol yn y rheoliadau hyn o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Fel y cyfryw, eglurodd Llywodraeth Cymru nad yw'r rheoliadau felly dim ond yn cywiro diffygion yn Neddf 2016 sy'n deillio o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydyn nhw ynddynt eu hunain yn dileu'r trefniadau cyfatebol. Diolch, Llywydd.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Mae'r Dirprwy Weinidog yn dymuno ymateb.
Ydw, diolch am eich cyfraniad. Mae'r rheoliadau hyn yn cywiro diffygion sy'n deillio o ganlyniad i ymadawiad y DU a'r UE, ac yn sicrhau bod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn parhau i weithredu'n effeithiol pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Rwy'n falch o allu rhoi hyn i broses gadarnhaol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor, felly rwy'n eich annog i'w cymeradwyo.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn yn cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8. Yr eitem honno yw'r Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Dwi'n galw ar y Gweinidog amgylchedd i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7008 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.
Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o raglen waith y mae'n rhaid inni ymgymryd â hi wrth baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod gennym ni lyfr statud sy'n gweithio yng Nghymru pan fyddwn ni'n gadael. Bydd y rheoliadau hyn, sy'n cyflwyno diwygiadau technegol i nifer o offerynnau statudol sy'n ymwneud â safonau marchnata bwyd, ymyriadau cyhoeddus yn y sector cynhyrchion amaethyddol a llaeth ysgol, yn sicrhau bod cyfraith Cymru yn parhau i fod yn ymarferol ac yn effeithiol ar ôl inni adael yr UE. Bydd yn cywiro hen gyfeiriadau amherthnasol sy'n ymwneud â chyfraith Ewrop mewn deddfwriaeth ddomestig, er enghraifft lle mae cyfarwyddebau a rheoliadau Ewropeaidd wedi'u diwygio neu eu disodli, a bydd yn dileu cyfeiriadau at aelod-wladwriaethau. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn dileu amodau amherthnasol mewn deddfwriaeth Gymreig sy'n cyfeirio at swyddogaethau y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn eu harfer yng Nghymru.
Oherwydd bod dyletswydd i ymgynghori ar newidiadau i gyfraith bwyd, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 11 Ionawr 2019 am bedair wythnos, a ddaeth i ben ar 19 Chwefror 2019. Cysylltwyd â thros 90 o arbenigwyr rhanddeiliaid a sefydliadau yn uniongyrchol ac fe gyhoeddwyd y papur ymgynghori hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru. Cafwyd saith ymateb i'r ymgynghoriad, a oedd i gyd yn cefnogi'r cynigion i ddiweddaru ac i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE. Ni chrybwyllwyd unrhyw bryderon o ran y diwygiadau.
Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch yn fawr, Llywydd. Eitem 8 yw hwn, Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Fe roesom ni ystyriaeth i'r rheoliadau hyn yn ein cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mawrth gan grybwyll un manylyn technegol i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2(vi). Mae paragraff olaf y rhaglith i'r rheoliadau yn cyfeirio at adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae adran 59(3) yn rhoi dewis i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylai'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol fod yn berthnasol i'r rheoliadau. Rydym ni'n derbyn nad yw cyfeirio at adran 59(3) yn gwneud unrhyw wahaniaeth ynglŷn â dilysrwydd y rheoliadau hyn. Yn ein cyfarfod, buom yn trafod a ddylid nodi'r cyfryw ofynion yn y rhaglith i'r is-ddeddfwriaeth ac fe wnaethom ni gytuno y dylid arddel cysondeb yn y dyfodol, a byddwn yn trafod hyn ar wahân gyda Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb? Na.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yna.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9, felly, yw'r eitem nesaf, a'r eitem honno yw'r Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019, a dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Vaughan Gething.
Cynnig NDM7009 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau y byddwn yn eu trafod yn awr yn gwneud newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol yng Nghymru ynglŷn â bwyd a hylendid bwyd, a safonau diogelwch, labelu bwyd a chyfansoddol. Mae'r diwygiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn unioni diffygion yn y ddeddfwriaeth, pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cynnal y safonau uchel yr ydym ni'n eu mwynhau yn y wlad hon ar hyn o bryd o ran diogelu defnyddwyr a diogelwch bwyd. Felly, nid yw'r offeryn hwn, a baratowyd ar gyfer sefyllfa o ymadael heb gytundeb, yn llacio dim ar y fframwaith cadarn sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gwneir y diwygiadau dim ond i sicrhau bod ein llyfr statud yn gweithio os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gall busnesau ac awdurdodau gorfodi wedyn gael eglurder o'r diwrnod cyntaf un. Mae'r offeryn hwn yn gwneud mân newidiadau technegol. Bydd hyn yn sicrhau bod deddfwriaeth Cymru o ran gweithredu a gorfodi cyfraith uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir yn parhau i weithredu'n effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r newidiadau yn ddiwygiadau canlyniadol.
Mae'r diwygiadau yn cynnwys newidiadau i Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2015, fel rwy'n siŵr yr oeddech chi i gyd yn ysu i wybod. Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau bod dyfroedd mwynol sy'n cael eu cydnabod mewn gwladwriaethau eraill sy'n rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r UE cyn y diwrnod ymadael yn parhau i gael eu cydnabod yng Nghymru ar ôl ymadael os na fydd cytundeb. Mae hyn yn golygu na fydd gan fusnesau yng Nghymru stoc ar ôl na ellir mo'i werthu ac, wrth gwrs, ni fyddai effaith ar ddewis i'r defnyddwyr. Mae'r diwygiadau hefyd yn darparu mecanwaith i atal y gydnabyddiaeth hon yn y dyfodol os nad ydym yn dod i gyd-gydnabyddiaeth ag Ewrop.
Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau i'r taliadau a godir ar gyfer gwirio mathau penodol o gynhyrchion pysgodfeydd. Mae'r diwygiadau yn mewnosod cyfradd gyfnewid sefydlog i'w ddefnyddio i droi symiau a bennir mewn ewros i bunnoedd sterling. Mae hyn yr un fath â'r gyfradd yn Neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir.
Yn olaf, os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar y diwrnod ymadael os byddwn yn gadael. Byddant yn sicrhau bod y safonau uchel o ran bwyd a bwyd anifeiliaid y mae defnyddwyr yn eu disgwyl yn gwbl briodol o ran cynnyrch cartref ac wedi'i fewnforio yn cael eu cynnal, gan roi'r eglurder a'r sicrwydd y mae eu dirfawr angen i fusnesau a defnyddwyr.
Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch, Llywydd. Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019, yw'r rhain ac ni ddylid drysu rhyngddyn nhw â rheoliadau Rhif 1.
Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mawrth, a hysbysu'r Cynulliad am un pwynt rhinwedd o dan Reol Sefydlog 21.3(ii). Y pwynt rhinwedd hwn oedd ein bod yn croesawu eglurder a manylder y memorandwm esboniadol, a chymaint o gymorth oedd hynny i'r pwyllgor graffu ar y rheoliadau'n effeithiol. Felly, pluen yng nghap y Gweinidog yn y fan yna. Un brin, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.]
Hefyd, roedd ein hadroddiad yn ymdrin â goblygiadau'r rheoliadau hyn, gan nodi y bydd yr is-ddeddfwriaeth y byddant yn ei diwygio yn gyfystyr â 'chyfraith yr UE a ddargedwir' at ddibenion Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Diolch yn fawr, Llywydd.
Y Gweinidog i ymateb. Oes gan y Gweinidog ymateb? Nac oes, dim ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 yw'r Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, a dwi'n galw ar Weinidog yr amgylchedd i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7010 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.
Mae llawer o'r diwygiadau a wnaed o dan y rheoliadau yn dechnegol eu natur ac yn sicrhau y bydd deddfwriaeth sydd ei hangen i ategu'r canlynol yn gweithredu'n effeithiol yn y DU ar ôl gadael yr UE: y gallu i olrhain da byw er mwyn rheoli ac atal clefydau, masnach anifeiliaid a chynhyrchion sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid gyda'r UE, ac atal unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion a ystyrir eu bod yn fygythiad i anifeiliaid a/neu iechyd cyhoeddus rhag dod i Gymru; marchnata hadau i sicrhau cyflenwad parhaus ar ôl ymadael lle ceir anawsterau cyflenwi; y parheir i lynu at ofynion iechyd anifeiliaid mewn cysylltiad â rhaglenni rheoli salmonela ac y telir am y gwasanaethau samplu cysylltiedig er mwyn cynnal ein rhaglen reoli i leihau nifer yr achosion o fathau rheoledig o salmonela, ac i amddiffyn anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd; bod rheolaethau o ran enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, TSE, yn parhau i weithredu er mwyn diogelu iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd drwy atal deunyddiau gwaharddedig rhag mynd i mewn i borthiant a'r gadwyn fwyd, ac y parheir i orfodi'r gwaharddiadau presennol sy'n ymwneud â chynhyrchion bwyd anifeiliaid rhag cael eu bwydo i'r anifeiliaid hynny dan gyfyngiad symud sy'n gysylltiedig â TSE oni bai bod y porthiant yn cael ei gynhyrchu a'i brosesu mewn ffordd a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; a masnach deunydd planhigion gyda thiriogaethau dibynnol ar y Goron a chynnal bioddiogelwch.
Galwaf ar Dawn Bowden i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Hoffwn sôn am y Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad am ddau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(vi). Yn ein hadroddiad fe wnaethom ni fynegi pryderon ynghylch drafftio diffygiol oherwydd eu bod yn diwygio rheoliadau nad oedd yn bodoli ar yr adeg yr oeddem yn ystyried y rheoliadau drafft. Rydym yn cydnabod bod y rheoliadau dan sylw bellach wedi'u gwneud. Y rhain yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019, a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Er ein bod yn cydnabod y pwysau sy'n bodoli i gywiro'r llyfr statud o ganlyniad i adael yr UE a'r tebygolrwydd o gael deddfwriaeth sy'n gorgyffwrdd ac yn gymhleth, rydym yn amlygu'r ffaith na allwn ni seilio ein hadroddiadau ar yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol. Pe na bai'r rheoliadau dan sylw wedi'u gwneud, ni fyddai rheoliadau saith ac wyth a oedd o fewn y rheoliadau materion gwledig wedi bod ag unrhyw rym cyfreithiol.
A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb?
Nac ydw.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11 yw'r eitem nesaf: Rheoliadau Tatws Had (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 yw'r eitem yma. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7011 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Bydd Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019—rheoliadau 2019—yn sicrhau bod gennym ni lyfr statud sy'n gweithio yng Nghymru a deddfwriaeth ddomestig a bod maes marchnata tatws hadyd yn parhau i weithredu'n effeithiol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Nid yw'r offeryn yn gwneud unrhyw newidiadau i bolisi ac eithrio'r rhai sy'n angenrheidiol i sicrhau gweithrediad parhaus o'r fath.
Mae rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016. Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016—rheoliadau 2016—yn gweithredu prif reolau'r UE o ran safonau marchnata ar gyfer tatws hadyd, sicrhau safonau gofynnol ansawdd ac olrhain ar gyfer marchnata hadau a deunydd lluosogi. Mae rheoliadau 2019 wedi'u drafftio er mwyn sicrhau parhad cyflenwad a marchnata tatws hadyd yr UE yng Nghymru am gyfnod dros dro ar ôl ymadael.
Pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb negodi cytundeb, ni fyddai modd gwerthu tatws hadyd a gynhyrchir yn y DU yn yr UE. Mae'r DU yn fewnforiwr net o datws hadyd o'r UE a'r Swistir. Pe bai'r DU yn peidio â derbyn tatws hadyd o'r UE yn syth ar ôl ymadael, byddai'n peryglu'r cyflenwad tatws hadyd ar gyfer rhai cnydau sylweddol a byddai'n anodd i'r diwydiant addasu yn gyflym. Er mwyn osgoi colled ariannol, mae rheoliadau 2019 hefyd yn caniatáu cyfnod o un flwyddyn ar gyfer defnyddio stociau presennol o labeli ardystio swyddogol yr UE sydd eisoes wedi eu hargraffu.
O ran tatws hadyd, mae newidiadau pellach a wnaed gan yr offeryn hwn yn cynnwys mewnosod diffiniad ar gyfer tiriogaethau dibynnol ar y Goron a darpariaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i gydnabod deddfwriaeth tiriogaethau dibynnol ar y Goron lle bo hynny'n briodol fel un sy'n cyfateb i ddeddfwriaeth marchnata Cymru i ganiatáu i diriogaethau dibynnol ar y Goron gael mynediad i farchnad fewnol y DU.
Dawn Bowden i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Hoffwn sôn am Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad am dri phwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2. Mae'r cyntaf a'r trydydd o'n pwyntiau yn cyfeirio at wallau yn nhestun Cymraeg rheoliad 2(12) a 2(17). Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y gwallau hyn ac rydym yn croesawu'r ffaith y bydd rheoliadau eraill yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn diwygio'r testun Cymraeg i ymdrin â'r materion hyn. Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yng nghyswllt y pwynt ehangach ynghylch amserlenni ar gyfer diwygio is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Roedd ein hail bwynt adrodd ynglŷn â gwallau croesgyfeirio mewnol yn rheoliad 2(15). Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y croesgyfeirio yn anghywir ac rydym ni'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i weithio gyda'r Archifau Gwladol i ddiweddaru'r cyfeirio yn sgil cyhoeddi'r rheoliadau.
A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb?
Ydw, diolch, Llywydd, dim ond i ddweud ein bod yn derbyn y ddau sylw hynny yn llwyr. Caiff y croesgyfeirio anghywir ei gywiro drwy slip cywiro yn dilyn cyhoeddi'r offeryn statudol, ac fe gaiff offeryn statudol arall ei gyflwyno cyn gynted ag y bo'n ymarferol i ymdrin â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch y testun Cymraeg.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 12 yw'r eitem nesaf, a'r rhain yw'r Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, a dwi'n galw ar Weinidog yr amgylchedd i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7012 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Defnyddiau Atgynhyrchiol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 a Gorchymyn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019. Bwriad y ddeddfwriaeth uchod yw rhwystro cyflwyno ac ymledu planhigion, plâu a chlefydau niweidiol, rhagnodi'r ffioedd sy'n ymwneud â gweithgareddau coedwigaeth, a gweithredu penderfyniadau'r UE ar gywerthedd deunydd atgynhyrchiol y goedwig, a nodi gofynion fel y rhai ynghylch cofrestru.
Bydd y rheoliadau yn sicrhau bod deddfwriaeth ynghylch iechyd planhigion coedwigaeth yng Nghymru, sy'n gweithredu mesurau amddiffynnol presennol yr UE yn erbyn cyflwyno a lledaenu organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, yn parhau i fod yn effeithiol ac yn parhau i fod yn weithredol ar ôl ymadawiad y DU â'r UE pe na bai cytundeb.
At hyn, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio gofynion sy'n amhriodol neu nad oes mo'u hangen mwyach o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Maen nhw'n gwneud newidiadau i sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n gywir ar ôl y diwrnod ymadael, ac yn cael gwared ar rwymedigaethau adrodd i'r Comisiwn na fydd yn addas mwyach.
Dawn Bowden i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Unwaith eto, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth, ac fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad am wyth pwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(vi). Mae'r pwyntiau technegol hyn yn ymwneud yn bennaf ag adnabod gwallau drafftio posib ac mae ymateb Llywodraeth Cymru yn amlygu y cânt, lle bo angen, eu cywiro drwy offeryn statudol dilynol.
Caiff dau o'r pwyntiau technegol eu cywiro drwy slip cywiro, oherwydd maen nhw'n wallau clir ac amlwg. Mae un yn ymwneud â chyfeiriad anghywir at y pŵer galluogi o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, tra bod y llall yn ymwneud â gair coll o gyfres benodol o Reoliadau.
Y Gweinidog i ymateb—na, nid yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Doedd yna ddim gwrthwynebiad—jest sŵn. Felly, derbynnir y cynnig yna.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y rheoliadau nesaf yw'r Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019.
A nawr eich tro chi yw hi, Trefnydd—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7013 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019, sy'n gwneud nifer o newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Ar y cyfan, mae'r newidiadau hyn yn dechnegol eu natur ac yn cael eu gwneud i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth yn gweithio os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys chwe rhan. Mae rhan 1 yn nodi'r dyddiadau cychwyn ar gyfer y rheoliadau amrywiol. Heblaw rhan 2, a fydd yn dod i rym y diwrnod ar ôl gwneud y rheoliadau, daw'r rheoliadau i rym ar y diwrnod ymadael, boed hynny'n 11.00 p.m. ar 29 Mawrth 2019, neu ar ddiwedd unrhyw gyfnodau trosiannol neu gyfnodau ymestyn erthygl 50.
Mae rhan 2 yn diweddaru'r cyfeiriad at reoliadau'r UE sy'n berthnasol i'r cynllun taliad sylfaenol ar gyfer ffermwyr. Mae'r newid hwn yn angenrheidiol, Brexit neu beidio, a dyna pam mae'r rheoliad hwn yn dod i rym ar y diwrnod y gwneir y rheoliadau hyn.
Mae rhan 3 yn disodli'r diffiniad o elusen at ddibenion rhyddhad elusennau yn y ddeddfwriaeth ar dreth trafodiadau tir. Ar hyn o bryd, mae diffiniad y dreth trafodiadau tir yn dibynnu ar groesgyfeiriad at ddeddfwriaeth dreth y DU. Bydd y diffiniad o elusen Gymreig newydd yn gwneud darpariaethau i ryddhad treth fod ar gael i elusennau sydd wedi eu cofrestru yn y DU yn unig ac nid, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, i'r rhai sy'n bodloni amodau perthnasol gwladwriaethau'r UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd hefyd.
Mae rhan 4 yn cael effaith debyg mewn cysylltiad â chynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, a elwir yn CCACau, wrth brynu tir yng Nghymru. Ar hyn o bryd, caiff CCACau yn y DU, yr UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd eu trin, at ddibenion y dreth trafodiadau tir, fel pe baen nhw yn gwmnïau. Mae hyn yn symleiddio'r ffordd y cânt eu trin o ran treth a'r canlyniad yw y cânt eu trin yn yr un modd â chyfryngau buddsoddi eraill, megis ymddiriedolaethau unedau. Bydd y rheolau newydd yn gwneud darpariaethau i'r driniaeth dreth hon fod ar gael i gynlluniau a awdurdodir o dan adran D 261 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 yn unig, ac nid, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, i'r rhai sy'n bodloni amodau perthnasol yr UE a gwladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Mae rhan 5 yn gwneud tri newid mân. Yn gyntaf, cael gwared ar y cyfyngiad ar Aelod o Senedd Ewrop rhag cael ei benodi fel aelod anweithredol o Awdurdod Cyllid Cymru. Mae angen yr ail a'r trydydd newid i sicrhau bod dwy ddarpariaeth yn gweithredu mewn sefyllfa o adael heb gytundeb, yn seiliedig ar yr hyn a fydd yn gyfraith yr UE a ddargedwir ac nid cyfraith yr UE sy'n datblygu ac yn esblygu.
Mae rhan 6 yn gwneud rhai newidiadau canlyniadol naill ai i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hyn mewn meysydd eraill o Ddeddfau trethi Cymru neu i sicrhau bod ein deddfwriaeth mor glir â phosib.
Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn y prynhawn yma.
Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 yw'r rhain. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol ar 18 Mawrth. Fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad o ddau bwynt technegol o dan Reol Sefydlog 21.2(ii).
Mae'r pwynt cyntaf yn gymhleth ac yn ymwneud â'r ffordd anarferol o ddefnyddio'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Dywed y rheoliadau na fydd cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn yr UE neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd bellach yn derbyn yr un driniaeth ffafriol â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn y DU. Nawr, fel y gŵyr pawb, mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn fath o strwythur cronfa dreth dryloyw. Ond er bod Deddf 2017 yn trin cynlluniau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r UE yr un mor ffafriol, mae'n ymddangos yn annhebygol y bu hi erioed yn fwriad gan y Cynulliad y cai'r pwerau gwneud rheoliadau yn Neddf 2017 eu defnyddio i wrthdroi rhan bwysig o Ddeddf 2017. Fodd bynnag, mae angen y newidiadau o ganlyniad i adael yr UE. Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gwahardd y math hwn o newid, felly'r unig ddewis sydd ar gael i Weinidogion Cymru yw defnyddio'r pwerau o dan Ddeddf 2017. Mae hyn felly yn gymhleth iawn.
Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yr amgylchiadau sy'n arwain at ddefnyddio'r pwerau, sef y paratoadau ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE pe na bai cytundeb, yn eithriadol ac anghyffredin. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod defnyddio'r pwerau yn briodol ac yn angenrheidiol.
Mae ein hail bwynt ynglŷn â phroblem gyda'r diffiniad o 'gynllun buddsoddi torfol' yn adran 36(12) o Ddeddf 2017, a fydd yn amherthnasol o ganlyniad i'r gwelliannau a wneir gan y rheoliadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt hwn ac er bod effaith gyfreithiol y diffiniad hwn bellach yn ddiangen, bydd yn diddymu'r diffiniad hwn yn y darn nesaf priodol o ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr, Llywydd.
Y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Mae'r Aelod yn gwneud dau sylw penodol, sef y manylion yr adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eu cylch, a'r cyntaf o'u plith oedd y sylw ynglŷn â Gweinidogion Cymru yn defnyddio pwerau mewn modd anarferol neu annisgwyl. Yn y bôn, diben pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 36(8) yw barnu nad yw cynllun fel y'i disgrifir yn y rheoliadau hynny yn gymwys i gael y driniaeth a roddir fel arfer i'r cynlluniau hynny gan yr adran honno. O ganlyniad, bydd rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn bob amser yn cael yr effaith o wrthdroi'r cynnig a nodir yn y ddeddfwriaeth sylfaenol i'r graddau bod y cynllun yn bodloni'r disgrifiad yn y rheoliadau hynny. Mae'r amgylchiadau sy'n arwain at ddefnyddio'r pwerau—sef, paratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE mewn sefyllfa o ddim cytundeb—yn eithriadol ac anghyffredin. O ystyried yr amgylchiadau, mae'r Llywodraeth yn credu bod defnyddio'r pwerau yn briodol ac yn angenrheidiol.
Ac o ran yr ail sylw ynghylch y diffiniad diangen o 'gynllun buddsoddi torfol', rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am nodi hyn ac, fel y dywedodd Dai Lloyd, bydd y Llywodraeth yn diddymu'r diffiniad hwn ar y cyfle priodol nesaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 14 yw’r eitem nesaf: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019. A dwi’n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7014 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 drwy ddiwygio'r diffiniad o gronfa'r farchnad arian. Roedd y diffiniad hwnnw yn cynnwys cyfeiriadau at gyfarwyddeb 2009/65/EC yr Undeb Ewropeaidd, cyfarwyddeb ar gydlynu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol sy'n ymwneud ag ymgymeriadau buddsoddi torfol mewn gwarannau trosglwyddadwy. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn dileu cyfeiriadau at y gyfarwyddeb. Mae'r diwygiad yn un technegol ei natur ac rwyf eisiau sicrhau Aelodau y bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn.
Dylwn i fod yn agored a chadarnhau y buasai diwygiadau i'r rheoliadau hyn fel arfer yn digwydd drwy'r weithdrefn negyddol. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn cysylltu â'u cymheiriaid yn Whitehall i ddeall yn well sut y byddid yn mynd ati i ddiwygio rheoliadau cyfatebol ac adolygu'r polisi hwn. O ganlyniad, nid oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gwrdd â'r dyddiad cau o 5 Chwefror ar gyfer eu cyflwyno drwy'r weithdrefn negyddol.
Mae cronfeydd y farchnad arian yn gynlluniau buddsoddi torfol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddiadau mwy tymor byr lle caiff unrhyw risg ei ledaenu. Wrth newid y diffiniad, rydym yn parhau i roi i awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ddewis y cronfeydd buddsoddi mwyaf addas ar eu cyfer. Gall roi llai o ragnodi, wrth gwrs, olygu mwy o risg, ond rydym ni wedi ystyried hyn ac yn teimlo y caiff hyn ei reoli wrth i bob awdurdod gael strategaeth fuddsoddi yn rhan o bolisi rheoli'r ei drysorlys. Cynorthwyir y rhain gan reolaeth trysorlys y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yng nghod ymarfer y gwasanaethau cyhoeddus.
Hoffwn i hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ganfod mân wallau yn y memorandwm esboniadol. Caiff y rhain eu cywiro ac mae'r memorandwm esboniadol wedi'i ailgyflwyno. Bydd Aelodau yn ymwybodol o safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a thrafod y cyfnod pontio, ond mae'n hanfodol bod gennym ni lyfr statud cwbl weithredol sy'n gweithio o'r dyddiad ymadael ymlaen, a dyna pam y bu'n rhaid gwneud y newidiadau hyn yn gyflym cyn inni adael yr UE. Diolch.
Suzy Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch yn fawr. Rydym yn hoffi eich cadw chi ar flaenau'ch traed. [Chwerthin.]
Ystyriodd y pwyllgor y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth ac fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad am un pwynt technegol a dau bwynt rhinwedd. Mae'r pwynt adrodd technegol yn ymwneud â rheoliad 2, sy'n diwygio rheoliad 1(4) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003. Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cynnwys anghysondebau ac yn dweud mewn gwahanol leoedd mai bwriad y diwygiad yw cael gwared ar gyfeiriadau at, ac rwy'n dyfynnu, 'Rheoliadau'r UE' neu, rwy'n dyfynnu, 'Cyfarwyddeb Ewropeaidd a'r cyfarfod Cyngor' heb nodi hynny.
Hefyd, mae rheoliad 2 yn hepgor paragraff A o'r diffiniad o gronfa marchnad arian yn ei gyfanrwydd, sy'n cael yr effaith o hepgor darpariaeth sy'n diffinio cronfa o'r fath fel bod yn gyfrwng ar gyfer buddsoddi ar y cyd mewn gwarannau trosglwyddadwy. Ar y pryd, felly, nid oedd hi'n glir yng ngoleuni'r memorandwm esboniadol bryd hynny pa un a fwriedid y newid ai peidio. Rydym yn nodi, yn ei hymateb i'n hadroddiad, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y newid wedi ei fwriadu, ac mae hynny wedi'i gadarnhau eto heddiw.
Felly, o ran y pwynt rhinwedd cyntaf, fe wnaethom ni nodi y byddai'r rheoliadau hyn fel arfer wedi eu gwneud drwy'r weithdrefn ddiddymu negyddol, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi cyfeirio ati, ond, oherwydd y rhesymau a roddwyd gan y Gweinidog heddiw, nid oedd hi'n bosib gwneud hynny o fewn y cyfnod arferol ar gyfer gweithdrefn negyddol ac felly nid oeddech chi wedi gallu gwneud y newidiadau angenrheidiol hynny ynglŷn ag eglurder bryd hynny.
Nododd ein hail bwynt adrodd ynglŷn â rhinwedd fod y memorandwm esboniadol i'r rheoliadau hyn wedi ymddangos bryd hynny yn cynnwys nifer o wallau, ac rydym ni felly yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cywiro ac ailgyflwyno'r memorandwm esboniadol. Diolch, Llywydd.
Dim siaradwyr eraill. A yw'r Gweinidog yn dymuno ymateb?
A gaf i ddweud diolch yn fawr i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei gymorth ar y mater hwn? Mae hi'n bwysig bod dewisiadau buddsoddi amrywiol ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gwneud y gorau o'u hincwm, gan gynnwys buddsoddi arian dros ben ar sail tymor byr. Rydym ni yn disgwyl i bob awdurdod lleol sicrhau cydbwysedd rhwng risg a llog buddsoddiad yn unol â pholisïau rheoli'r trysorlys. Yn garedig, cadarnhaodd Suzy Davies y pwyntiau. Rydym ni'n cytuno â'r pwyntiau hynny ac rydym ni wedi ailgyflwyno'r memorandwm esboniadol. Rwy'n ddiolchgar. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yna.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni at ddiwedd ein busnes am y dydd. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:18.