Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/03/2019

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf am Drafodaethau'r UE
4. Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019
5. Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019
6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru
7. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
Grŵp 1: Taliadau gwaharddedig—terfynu contract (Gwelliannau 3, 4, 6, 7, 8, 10, 23, 24, 1, 2)
Grŵp 2: Esboniadau drafftio (Gwelliannau 5, 28)
Grŵp 3: Ad-dalu taliadau gwaharddedig (Gwelliannau 55, 57)
Grŵp 4: Dirymu trwyddedau (Gwelliannau 56, 58)
Grŵp 5: Taliadau a ganiateir (Gwelliannau 9, 64)
Grŵp 6: Blaendaliadau cadw (Gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 65, 66, 38, 67, 39, 40, 41, 42)
Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27)
Grŵp 8: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 35, 48, 49, 52, 51, 50)
Grŵp 9: Awdurdodau gorfodi (Gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20)
Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig (Gwelliannau 43, 44)
Grŵp 11: Awdurdodau gorfodi: rhannu gwybodaeth (Gwelliannau 45, 17, 21)
Grŵp 12: Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol (Gwelliant 22)
Grŵp 13: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant (Gwelliannau 46, 54)
Grŵp 14: Gwybodaeth a chanllawiau (Gwelliannau 25, 26, 47, 53)
Grŵp 15: Dod i rym (Gwelliannau 60, 61)
8. Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019
9. Cyfnod Pleidleisio

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Prynhawn da. Cyn i ni fwrw ymlaen â'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ar ran y Cynulliad cyfan, hoffwn gyfleu ein cydymdeimlad dwysaf â phawb a gafodd eu heffeithio gan y saethu yn Christchurch a, ddoe, yn Utrecht. Rwy'n siŵr, dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, a heddiw'n arbennig, bod ein meddyliau gydag anwyliaid y rhai a fu farw a'r rhai sydd wedi'u hanafu. Fel Cynulliad, rydym ni'n condemnio eithafiaeth ar ei holl ffurfiau ac mae'n rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion nawr i feithrin caredigrwydd a goddefgarwch yn wyneb y fath gasineb yr ydym ni wedi ei weld. A gaf i ofyn nawr i'r Aelodau sefyll gyda mi am gyfnod o fyfyrio, os gwelwch yn dda?

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Trown nawr at eitem 1 ar yr agenda y prynhawn yma, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma, Siân Gwenllian.

Gwasanaethau Fasgwlaidd Brys

1. A wnaiff y Prif Weinidog gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd i ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53603

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud gwelliannau i wasanaethau fasgwlaidd ar hyn o bryd. Cytunwyd ar y gwelliannau hyn ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus yn 2013. Nid wyf yn bwriadu cyfarwyddo'r bwrdd iechyd i gynnal ymgynghoriadau newydd ar y mater hwn.

Tra oeddech chi yn Buckingham Palace, fe glywodd y lle hwn fod y bwrdd iechyd wedi camarwain y cyhoedd ar fater israddio'r gwasanaeth ym Mangor. Ers hynny, mae yna aelod blaenllaw o'r bwrdd iechyd wedi ymddiswyddo mewn protest—cam difrifol iawn—ac eto, dydy eich Llywodraeth chi ddim yn bwriadu ymyrryd. Ai'r gwir amdani yw mai agenda wleidyddol y Blaid Lafur sy'n gyfrifol am ffafrio ysbyty sydd mewn sedd ymylol, a hynny ar draul gwasanaethau i gleifion ar draws y gogledd?

Wel, Dirprwy Lywydd, dyw hwnna ddim yn wir o gwbl. Nawr, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn adlewyrchu beth mae pobl leol yn ei ddweud wrthi hi, ond, yn y bôn, beth sy'n digwydd fan hyn yw nid mater o broses, ond mater o greu gwasanaethau newydd a gwasanaethau cynaliadwy i bobl ledled gogledd Cymru. Dyna pam mae'r Gymdeithas Fasgwlaidd a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cefnogi beth rŷm ni'n ei wneud. Dyna pam dŷn ni'n ei wneud e—nid am ddim byd arall ond y cyngor rŷm ni wedi ei gael oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes, pobl â'r anawsterau, sori, pobl â'r—.

Rydym ni yn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, oherwydd y cyngor a gawsom gan y sefydliadau hynny sydd yn y sefyllfa orau bosibl i roi'r cyngor sydd ei angen arnom i ni—y colegau brenhinol, y Gymdeithas Fasgwlaidd. Nhw yw'r bobl sydd wedi egluro i ni nad yw'r trefniadau presennol yn gynaliadwy. O ganlyniad i'w cyngor nhw y byddwn ni'n darparu gwasanaeth yn y gogledd a fydd yn iawn i gleifion. Bydd wyth deg y cant o wasanaethau yn parhau i gael eu darparu'n lleol, ond, pan eich bod angen gwasanaeth arbenigol, pan eich bod angen gwasanaeth sy'n golygu eich bod angen cyfleusterau a thîm o bobl sy'n cyflawni'r gweithdrefnau hyn ddigon o weithiau yn ystod y flwyddyn i gael yr achrediad proffesiynol sydd ei angen arnyn nhw, i gael y profiad sy'n eu cadw'n perfformio ar y lefel orau bosibl o'u sgiliau proffesiynol, dyna fydd pobl yn y gogledd yn ei gael o ganlyniad i'r materion hyn.

Bydd y newidiadau yn weithredol ar 8 Ebrill, a dyna'r ffordd orau, dwi'n siŵr, i roi gwasanaethau i bobl ledled gogledd Cymru.

Hoffwn gamu yn ôl oddi wrth unrhyw gasgliadau gwleidyddol pleidiol ar y mater pwysig iawn hwn, ond rwy'n cefnogi'r galwadau gan Siân Gwenllian am ymgynghoriad newydd, a'r rheswm am hynny yw fy mod i'n credu bod nifer o bobl yn bryderus dros ben am hyn. Mae gennym ni ddeiseb o dros 5,000 o lofnodion. Roeddwn i'n meddwl bod hyn wedi'i wneud ar sail penderfyniad clinigol fel yr ydych yn ei ddweud yn briodol. Fodd bynnag, rwy'n cael fy hysbysu yn eithaf dibynadwy bod rhai o'r meddygon ymgynghorol yn gwrthod symud mewn gwirionedd. Felly, mae hwnnw'n sicr yn fater eithaf difrifol. Fel y mae Siân wedi ei nodi yn briodol, mae Bethan Russell Williams wedi ymddiswyddo cymaint yw'r pryderon am y mater hwn.

Nawr, mewn llythyr agored, mae Mark Polin a Gary Doherty wedi cynghori y dylai fod gwell canlyniadau i gleifion yn y gogledd, ond yn nodi y darperir gwasanaethau brys y tu allan i oriau ar hyn o bryd yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Maelor Wrecsam, mewn gwirionedd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl ar gyfer y penderfyniad hwn. Felly, byddwn yn gofyn a wnewch chi ystyried edrych ar ymgynghoriad arall. Mae hyn wedi mynd ymlaen am chwe blynedd erbyn hyn.

13:35

A wnewch chi ailystyried a buddsoddi mewn gwirionedd yn y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Gwynedd, fel y gall y timau meddygol hynny deimlo'n hyderus y gallant ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd brys i'r bobl hynny sydd eu hangen yn ddirfawr?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr bod yr Aelod eisiau'r gwasanaethau gorau posibl i'r trigolion yn ei hetholaeth, a dyna fydd y newid hwn yn ei sicrhau. Y cwbl y byddai oedi pellach nawr yn ei wneud fyddai ymddatod popeth a roddwyd ar waith. A bydd hi'n gwybod beth sydd wedi ei roi ar waith: £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer theatr hybrid fasgwlaidd, ac, o ganlyniad i ganolbwyntio'r gwasanaeth hwnnw ar un safle, mae'r bwrdd iechyd wedi gallu denu chwech o lawfeddygon fasgwlaidd ymgynghorol ychwanegol, radiolegydd ymyraethol ymgynghorol ychwanegol, pedwar o feddygon fasgwlaidd iau, nyrsys fasgwlaidd arbenigol ychwanegol, ward fasgwlaidd 18 gwely pwrpasol. Byddai pob un o'r rhain yn cael eu peryglu pe byddem ni'n dweud wrth yr holl bobl hynny sydd wedi cael eu denu i'r gwasanaeth newydd hwn, a bydd yn un o'r gwasanaethau gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan—. Pe bydden nhw'n meddwl ein bod ni'n tynnu’r plwg nawr—gall y bobl hynny fynd i swyddi mewn unrhyw le y maen nhw'n dymuno yn y Deyrnas Unedig—byddem ni'n eu colli nhw i ogledd Cymru. Ni fyddai gan eich etholwyr y gwasanaeth sy'n mynd i fod ar gael iddynt.

Rwy'n ffyddiog, Dirprwy Lywydd, pan fydd y gwasanaeth newydd yno, pan fydd cleifion yn gweld yr hyn y mae'n ei gynnig iddyn nhw a'u teuluoedd ac eraill sydd angen gwasanaeth fasgwlaidd arbenigol, y bydd cleifion yn y gogledd yn ei werthfawrogi yn gyflym iawn. Ac, fel y gwyddom, mae cleifion yng Nghymru yn datblygu cysylltiad cyflym iawn a grymus â'r gwasanaeth newydd sydd ganddyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddan nhw ymhlith ei gefnogwyr mwyaf brwd.

Gwella Amseroedd Aros Ysbytai

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael er mwyn gwella amseroedd aros ysbytai? OAQ53637

Mae perfformiad y GIG, gan gynnwys amseroedd aros mewn ysbytai, yn rhan o'm cyfarfodydd rheolaidd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2018, bod ambiwlans yn aros y tu allan i ysbytai yn y Fenni ac yng Nghasnewydd am dros 5,000 o oriau ac, felly, nid oeddent yn gallu ymateb i achosion brys. O gofio mai dau yw'r criw ambiwlans cyfartalog ar yr achlysuron hyn, mae hynny'n 10,000 o oriau criw a gollwyd. 15 munud yw'r amser trosglwyddo targed yn yr achosion hyn, ond o ran Ysbyty Brenhinol Gwent, dim ond hanner yr amser y bodlonwyd y targed hwnnw.

Nawr, datgelwyd y ffigurau hyn mewn ateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Mr Eddie Blanche, a ddywedodd ei fod wedi gweld ambiwlansys yn cael eu gwasanaethu gan faniau lles y tu allan i'r ysbyty i gyflenwi criwiau a oedd yn aros gyda diodydd poeth a thoiledau gan fod disgwyl iddyn nhw aros yno am amser mor hir. Felly, os yw'n ddigon gwael bod yn rhaid iddyn nhw roi bws iddyn nhw orffwyso wrth aros i ddadlwytho cleifion, yna mae hwn yn fater y mae angen rhoi sylw iddo nawr. Meddai, 'Mae'n frawychus. Rwy'n poeni y bydd pobl yn dechrau marw os na chaiff y broblem ei datrys'. Pryd mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd y broblem yn cael ei datrys?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae'r ffigurau y mae'r Aelod yn eu dyfynnu ar gael i bawb; nid oes angen cael gafael arnynt trwy gais rhyddid gwybodaeth, gan ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth honno ar gael yn gyhoeddus drwy'r amser. Mae ffigurau trosglwyddo ambiwlansys yn destun pryder i ni, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n adlewyrchu pwysau yn y system yn ei chyfanrwydd. Dros y gaeaf hwn, rydym ni'n gwybod bod amseroedd trosglwyddo wedi gwella, yn hytrach na mynd yn fwy anodd. Rydym ni'n gwybod, ers i ni symud i wahanol ffordd o fesur llwyddiant y gwasanaeth ambiwlans, ein bod ni wedi gallu dangos bod y cleifion hynny sydd angen y gwasanaeth hwnnw ar y brys mwyaf yn ei gael yn y modd mwyaf cyflym ac effeithiol ledled Cymru, a chaiff ymdrechion glew ei gwneud drwy'r gwasanaeth ambiwlans, trwy adrannau achosion brys, trwy'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, i barhau i wella'r hyn y gallwn ei gynnig, a bydd yr ymdrechion hynny yn parhau i mewn i'r flwyddyn hon.

13:40

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael i wella amseroedd aros?

Wel, mae'r trafodaethau hynny'n cael eu cynnal gyda'r Gweinidog ar bob achlysur sydd ar gael gan fod llawer iawn i'w drafod ac mae llawer iawn i fod yn falch amdano yma yng Nghymru. Arosiadau tri deg chwech wythnos 41 y cant yn is yn Rhagfyr 2018 na'r flwyddyn flaenorol; amseroedd aros diagnostig 54 y cant yn is nag yr oedden nhw flwyddyn yn ôl; mae bron i naw o bob 10 o gleifion yng Nghymru yn aros llai na 26 wythnos o atgyfeiriad i driniaeth, ac mae'r nifer hwnnw yng Nghymru yn cynyddu nid gostwng; mae ein hamseroedd aros canser yn gwella, tra eu bod y gwaethaf y maen nhw wedi bod ers dechrau cofnodi'r ffigurau hynny ar draws ein ffin. A Dirprwy Lywydd, efallai'n fwy rhyfeddol na dim, ar y pwynt lle mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyfarfod, mae ein perfformiad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yn well nag unrhyw beth mewn mannau eraill. Gostyngodd ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal eto ym mis Rhagfyr, er gwaethaf pwysau'r gaeaf, a 2017 a 2018 yw'r ddwy flwyddyn orau o ran ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal ers i'r ffigurau hynny ddechrau cael eu casglu gyntaf 13 mlynedd yn ôl.

Ond un o'r rhesymau y mae'r ffigurau hynny yn well yw oherwydd bod gennym ni gleifion wedi eu pentyrru mewn coridorau yn hytrach na mewn ciwbiclau yn cael eu gweld gan weithwyr meddygol proffesiynol, a byddwch yn gwybod mai un o'r rhanbarthau sydd â'r perfformiadau adrannau brys gwaethaf yw gogledd Cymru, lle mae gennym ni Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ar gyfer pob math o broblemau sy'n gysylltiedig â pherfformiad, gyda Ysbyty Maelor Wrecsam yn cyhoeddi'r ffigurau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, nid yn unig yng Nghymru, a'r ail ysbyty sy'n perfformio waethaf yw Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Ac nid gofal heb ei drefnu yn unig yw hyn; mae'n cynnwys gofal a drefnwyd a llawdriniaethau hefyd. Os edrychwch chi yn ôl i fis Rhagfyr 2012, derbyniodd 87 y cant o gleifion eu triniaeth yn unol â'r amser targed o 26 wythnos ar gyfer llawdriniaeth orthopedig o'i gymharu â llai na 60 y cant ym mis Rhagfyr 2018. Felly, rydych chi'n awgrymu bod pethau'n gwella. Mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain o ran y ffaith eu bod yn mynd yn waeth ac yn waeth. Pryd mae cleifion yn y gogledd—pryd mae fy etholwyr—yn mynd i weld y sefyllfa hon yn newid, a phryd mae'r ysbytai hynny yn mynd i fodloni'r targedau y mae eich Llywodraeth yn eu pennu ar eu cyfer?

Wel, Llywydd, mae'n amlwg na all y pwynt a wnaeth yr Aelod ar y cychwyn fod yn wir. Nid yw ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael eu heffeithio gan y ffordd y derbynnir pobl i'n hysbytai; maen nhw nhw'n ymwneud â'r ffordd y mae pobl yn cael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned, ac mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o lwyddiant GIG Cymru a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn hynny o beth. A dweud y gwir, gellir gweld y gwelliant mwyaf oll o ran ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal yn y gogledd. Wrth gwrs ei bod ni'n pryderu, mae'r Gweinidog yn pryderu, am yr anawsterau a gafwyd mewn dau ysbyty yn y gogledd dros y gaeaf hwn. Mae eu perfformiad yn ystumio perfformiad y GIG cyfan, lle, mewn mannau eraill, y gwelwyd gwelliannau. Rydym ni'n parhau, rydym ni'n parhau i fuddsoddi, buddsoddi yng nghynllun ffisegol yr ysbytai hynny, buddsoddi yn arweinyddiaeth broffesiynol yr adrannau hynny ac, ynghyd â'r bwrdd iechyd, rydym ni'n ffyddiog bod cynlluniau ar waith a fydd yn arwain at welliannau pellach o ran gofal dewisol a gofal brys.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch. Trown nawr at gwestiynau'r arweinyddion. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yw'r arweinydd plaid cyntaf heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i yn gyntaf ymuno â'r côr o haleliwias ar draws y wlad a gyfarchodd y gêm ddydd Sadwrn diwethaf a buddugoliaeth y Gamp Lawn, ac a gaf i gymeradwyo'n llwyr eich awgrym, Prif Weinidog, a wnaed neithiwr ar risiau'r Senedd, pan fydd gennym ni'r pwerau i roi dinasyddiaeth anrhydeddus o Gymru, yna y dylai Warren Gatland fod yno ar flaen y ciw? Ond, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael annibyniaeth cyn i ni gael y cyfle hwnnw mewn gwirionedd.

Mae'r mater cyntaf yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw yn ymwneud â mater sy'n agos iawn at fy nghalon i ac, yn wir, fy mywyd fy hun, sef cydraddoldeb LGBT+. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylid caniatáu i ysgolion ffydd weithredu'n wahanol i ysgolion nad ydynt yn rhai ffydd yn y ffordd y maen nhw'n ymdrin â'u haddysgu am berthnasoedd rhywiol? Codaf hyn oherwydd, fel y mae ITV Wales wedi ei ddangos, yn yr achos hwn yng nghyd-destun ysgolion Catholig, ceir cadarnhad ar wefannau ac, yn wir, yn nhystiolaeth athrawon bod y gred fod perthynas hoyw yn foesol annerbyniol yn cael ei chyflwyno i blant a phobl ifanc yn 2019. Adroddir bod eich Gweinidog addysg yn fodlon parhau i ganiatáu disgresiwn i ysgolion ffydd Cymru i addysgu perthnasoedd a rhyw yn unol â'u credoau eu hunain. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n ei gefnogi?

13:45

Wel, Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll gadewch i mi ddweud cymaint y gwnes i fwynhau digwyddiadau neithiwr. Gwelais yr Aelod yno a llawer o Aelodau eraill y tu ôl iddo, ac o bob rhan o'r Siambr yn ymuno yn y dathliadau hynny.

Cyn belled ag y mae addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y cwestiwn, ceir ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd o ran ein cwricwlwm presennol a'r cwricwlwm newydd. Ceir rheolau cymhleth ynghylch y ffordd y mae gan ysgolion ffydd fathau penodol o ryddid, nad ydynt, felly, yn uniongyrchol yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ond gadewch i mi fynd i'r afael â hanfod ei gwestiwn, sef ei bod hi'n gwbl annerbyniol i mi fod y dylai'r math o safbwyntiau a adroddwyd ganddo gael eu mynegi yn unrhyw un o'n hysgolion, a hoffwn gysylltu fy hun yn uniongyrchol â'r hyn a ddywedodd am annerbynioldeb y mathau hynny o safbwyntiau yn cael eu lledaenu mewn unrhyw ystafell ddosbarth, o unrhyw fath, ac mewn unrhyw ran o Gymru.

Rwy'n croesawu'r Prif Weinidog yn dweud bod hyn yn annerbyniol. Y pwynt yw, wrth gwrs, gwneud rhywbeth yn ei gylch. Yn y 1980au, dywedwyd wrthyf i fy hun, 'gobeithio i'r nefoedd raslon na fyddi di'n hoyw.' Nid oedd yn dderbyniol bryd hynny, ac yn sicr nid yw'n dderbyniol nawr, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth, pan ein bod yn sôn am ysgolion a ariennir yn gyhoeddus—mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth i'w gwneud yn gwbl eglur na ddylai hynny fyth fod ar wefan ysgol, na ddylai hynny fyth fod yn brofiad i athro. Felly, mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth i ddangos nad oes unrhyw ddisgresiwn, hyd yn oed yn yr achos hwn. Nid yw'n gymhleth: mae'n syml iawn o'm safbwynt i.

Gan droi at fater arall, os caf, ddydd Sadwrn diwethaf, cymerais ran mewn gorymdaith diwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig yng Nghaerdydd ochr yn ochr â'ch Dirprwy, Jane Hutt. Ar yr orymdaith honno, roedd llawer o aelodau'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru a oedd yn mynegi eu gobaith mai'r Senedd hon—eich Llywodraeth chi, yn wir—fyddai'r gyntaf yn y byd i fynegi ein hundod â'r streicwyr newyn Cwrdaidd ledled Ewrop. Maen nhw'n protestio yn erbyn arwahanu arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Öcalan, a garcharwyd gan Twrci ers 1999 mewn amodau sy'n mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci o ran hawliau dynol. Fel y gwyddoch, mae'r protestwyr yn cynnwys Imam Sis, un o drigolion Casnewydd sydd wedi bod ar streic newyn am gyfnod amhenodol ers 17 Rhagfyr y llynedd. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n cefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gennym ar gyfer dadl, gan fynegi undod ag Imam Sis a chyda'r gymuned Gwrdaidd?

Wel, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddychwelyd, yn gyntaf, at y pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn agoriadol, a dim ond i fod mor eglur ag ef ag y gallaf fod y Llywodraeth yn gwneud yn union yr hyn y byddai'n dymuno i ni ei wneud o ran ymgysylltu â'r sector hwnnw a'i gwneud yn eglur beth yw ein safbwynt ni a'r hyn y credwn y dylai fod eu safbwynt hwythau hefyd, ac os oes ganddo dystiolaeth fod pethau'n digwydd na ddylent fod yn digwydd, yna byddem yn sicr eisiau cymryd camau ar unrhyw beth y gallwn ni ddod ar ei draws. Nid oes unrhyw wahaniaeth o ddiben rhyngom ni o gwbl o ran y mater hwnnw.

Mae'r Aelod yn cyfeirio wedyn at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal yfory ar lawr y Cynulliad. Bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn ateb y ddadl honno. Byddwn yn ymddwyn yn weddus o ran y cyfrifoldeb sydd gennym ni fel Llywodraeth gan ymgysylltu â sylwedd y materion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn ei ail gwestiwn.

Mae'n flin gyda fi, ond dwi ddim yn deall beth mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud fanna. So, efallai, wrth ymateb i'r trydydd cwestiwn, lle dwi'n mynd i godi pwnc arall, gallai fe jest esbonio a ydych chi'n mynd i gefnogi'r cynnig neu beidio.

I droi at frwydr arall dros gyfiawnder i iaith a diwylliant gwlad ddiwladwriaeth—nid y Cwrdiaid yn yr achos yma, ond Cymru a’r Gymraeg—a maes lle'r ŷch chi wedi gosod nod clodwiw o ran creu miliwn o siaradwr, ac yn benodol, cynyddu Cymraeg yn y gweithle, yn ei adroddiad a gyhoeddwyd y bore yma, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn mynegi pryder am yr oedi wrth gyflawni argymhellion adroddiad sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg a’r posibilrwydd o wneud lefel o sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer staff Llywodraeth Cymru, sydd yn dal yn aros i’w gytuno gan fwrdd y Llywodraeth ddwy flynedd ar ôl ei gwblhau. Esboniad y Llywodraeth wrth y pwyllgor ynghylch pam eich bod chi wedi eistedd ar adroddiad eich uwch weision cyhyd heb weithredu, heb wneud penderfyniad, oedd eich bod chi’n awyddus i gael eich goleuo gan sefydliadau blaengar eraill. Ond o ystyried record drychinebus y Llywodraeth ar Gymraeg yn y gweithle, ydych chi’n cytuno y byddai unrhyw ymdrech gan Weinidog i ddwyn pwysau ar unrhyw gorff cyhoeddus arall i lastwreiddio eu hymlyniad nhw i’r Gymraeg—er, enghraifft, ym maes polisi cyflogaeth—yn annerbyniol ac yn groes i bolisi’r Llywodraeth?

13:50

Dirprwy Lywydd, rŷn ni eisiau gweld cyrff ledled Cymru yn hybu’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Rŷn ni’n ei wneud e fan hyn yn y Senedd, rŷn ni’n ei wneud e’n fewnol yn y Llywodraeth Gymreig. Rŷn ni’n dysgu gwersi sydd gyda ni, er enghraifft, oddi wrth heddlu yng ngogledd Cymru, a beth rŷn ni eisiau ei wneud yw tynnu’r gwersi, tynnu beth sy'n digwydd a beth sy’n effeithiol yng Nghymru, a gwneud mwy yn y cyrff cyhoeddus i hybu’r iaith Gymraeg i roi hyder i bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg a gwneud mwy i'w helpu nhw i loywi’r iaith sydd gyda nhw. Mae’r Gweinidog yn gweithio ar yr agenda yna bob dydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd achub ar y cyfle hwn i weiddi 'haleliwia' ar draws y wlad a llongyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych? Ac roedd hi hefyd yn bleser bod yn y digwyddiad neithiwr.

Prif Weinidog, pam mae mamau a babanod wedi cael eu rhoi mewn perygl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?

Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n meddwl bod mamau a babanod yn cael ei rhoi mewn perygl nawr gan fod camau wedi eu cymryd—camau arwyddocaol iawn wedi  eu cymryd—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gydag ymyrraeth y coleg brenhinol, i roi sylw i wybodaeth bryderus a ddaeth i'r amlwg. Mae'r camau hynny, rwy'n credu, yn llwyddo. Mae mwy i'r Bwrdd Iechyd ei wneud, ond rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn ymwybodol o natur frys y materion hynny; ei fod wedi gweithredu ar sail yr wybodaeth a ddaeth i'r amlwg; bod ganddo gynllun ar waith i gymryd camau pellach; byddwn yn olrhain y camau hynny, ynghyd â'r coleg brenhinol, i wneud yn siŵr bod gan y bwrdd ei hun, yn ogystal â phobl y tu allan i'r bwrdd, ffydd yn y mesurau y maen nhw wedi ei cymryd ac y gall mamau a babanod yn y rhan honno o Gymru fod yn ffyddiog yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael.

Wel, mae'n gwbl eglur, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth wedi methu ers gormod o amser â mynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd a Mae sawl mis ers i ni glywed y newyddion erchyll o golli 26 o fabanod o dan ofal y bwrdd iechyd hwn mewn cyfnod o ddwy flynedd. Ac, ar ôl ymweliad annisgwyl gan yr arolygiaeth gofal iechyd, maen nhw wedi tynnu sylw yn ddiweddar at broblemau staffio sy'n gyfrifol am ansawdd gofal gwael a mwy o risg i ddiogelwch cleifion. Ac yn wir, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn glir, ac roedd yn dweud, a dyfynnaf:

'Roeddem ni'n pryderu am y risg bosibl i ddiogelwch cleifion.'

Nawr, mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn yr hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod anodd hwn, a'r siawns orau o esgor babi iach, ond ymddengys nad yw hyn bob amser yn wir ar draws rai rhannau o Gymru, Prif Weinidog. Hyd yn oed yn fy etholaeth fy hun, ceir pryderon difrifol y gallai'r uned famolaeth arbenigol dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Llwynhelyg gael ei hisraddio i wasanaeth dydd erbyn hyn, a fydd, heb amheuaeth, yn peri risg i ddiogelwch mamau a babanod. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw ynghylch pa gamau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith i roi terfyn ar y loteri cod post o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru?

Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi fod yn gwbl eglur fel nad oes angen i'r Aelod barhau i'w ailadrodd, nid oes unrhyw risg o'r fath y mae ef newydd ei disgrifio i wasanaethau mamolaeth yn ysbyty Llwynhelyg—gwasanaethau yr wyf i, fy hunan, wedi ymweld â nhw, sydd â rhai o'r bobl fwyaf trawiadol y gwnewch chi fyth eu cyfarfod yn darparu gwasanaethau i fenywod yn y rhan honno o'r byd. Ac nid oes unrhyw gynigion o unrhyw fath i wneud newid i'r gwasanaeth a ddarperir yno. Gobeithiaf fod hynny o gymorth i'r Aelod fel y gellir tawelu ei feddwl ef a meddyliau unrhyw un arall.

O ran y sefyllfa yng Nghwm Taf, yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid newydd ei ddisgrifio, Dirprwy Lywydd, yw'r rhwystrau a'r gwrthbwysau sydd gennym ni yn y system yma yng Nghymru sy'n caniatáu i bryderon o'r math a nodwyd ganddo gael eu hamlygu. Cyfeiriodd at ymweliad annisgwyl AGIC; dyna'r union reswm pam mae gennym ni arolygiaeth annibynnol sy'n gallu gwneud gwaith yn y ffordd honno. Ac, wrth gwrs, y pryderon a ddaeth i'r amlwg, o ganlyniad i'r ymweliad hwnnw ac o gamau eraill, arweiniodd at fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn cymryd camau o ran statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd hwnnw, ac i sefydlu mesurau eraill—pobl o'r tu allan i'r bwrdd iechyd i ddod i mewn i adrodd ar yr hyn y maen nhw wedi ei weld, i roi crynodeb diflewyn ar dafod o rai o'r anawsterau a nodwyd ganddynt, ac yna i weithio gyda'r bwrdd iechyd hwnnw i wneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu hunioni, ac y gellir adfer y gwasanaeth y mae'r bwrdd Iechyd hwnnw yn ymfalchïo yn gwbl briodol o fod wedi ei ddarparu i'r gymuned leol honno o ran y gwasanaethau i fenywod a phlant yn y rhan honno o Gymru yn y dyfodol.

13:55

Prif Weinidog, wrth gwrs fy mod i'n derbyn bod eich Llywodraeth wedi gwneud datganiadau o fwriad i fynd i'r afael â'r problemau yng Nghwm Taf, ond roedd penawdau yr wythnos diwethaf yn taflu goleuni eto ar arolygiad annisgwyl Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan yr Arolygiaeth Iechyd yn dilyn y marwolaethau trasig y soniais wrthych amdanyn nhw yn gynharach. Nawr, rhybuddiodd yr Arolygiaeth am brinder staff sylweddol sy'n parhau i beryglu diogelwch cleifion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hefyd wedi tynnu sylw at amodau gweithio gwael gweddill y gweithwyr meddygol proffesiynol tra hyfforddedig sy'n gweithio'n galed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n cael effaith andwyol ar iechyd, ysbryd a hyd yn oed diogelwch bydwragedd ac aelodau eraill y tîm. Nawr, daeth hyn i'r amlwg ar yr un adeg ag y gwnaethom ni eich herio chi am ystadegau brawychus sy'n dangos y byddwn yn wynebu argyfwng staffio bydwragedd yn y blynyddoedd i ddod ar draws y wlad. O ystyried bod y statws uwchgyfeirio wedi ei godi yng Nghwm Taf, mae'n bwysig iawn clywed yn fuan iawn pa sicrwydd y gallwch chi, Prif Weinidog, a'ch Llywodraeth ei roi i brofi eich bod yn mynd i'r afael â phroblemau gyda'r bwrdd iechyd hwn a'ch bod yn gweithio i ddiogelu mamau a babanod yr ardal hon. A phryd fyddwn ni'n gweld erbyn hyn yr adroddiad a addawyd i'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf, yr ymrwymodd eich Gweinidog iddo yn ôl ym mis Ionawr?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, oherwydd mae'n caniatáu i mi roi ar gofnod y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd ei hun, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ers y digwyddiadau, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ond a ddigwyddodd cyn y Nadolig, wedi eu cymryd. Oherwydd yn sicr, nid yw'r bwrdd iechyd wedi anwybyddu unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Mae wedi sefydlu newidiadau i staffio, i oruchwylio staffio. Mae wedi newid y ffordd y darperir gwasanaethau rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl; mae ganddo newidiadau pellach ar y gweill, mae wedi newid y ffordd y caiff rotas penwythnos eu trefnu a'u goruchwylio. Mae'r rhain yn gamau ymarferol iawn a gymerwyd mewn ymateb i'r wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Mae'r Gweinidog wedi bod yng Nghwm Taf, wedi cyfarfod â bydwragedd yno. Mae eu hyfforddiant, eu goruchwyliaeth yn bwysig iawn yn hyn o beth. Dyna pam, Dirprwy Lywydd, yr ydym ni'n hyfforddi'r nifer fwyaf erioed o fydwragedd drwy'r system hyfforddi sydd gennym ni yma yng Nghymru—niferoedd sydd wedi cynyddu, rwy'n credu, bob blwyddyn yn ystod y tair blynedd diwethaf, wrth i ni baratoi ar gyfer y gweithlu y bydd ei angen arnom ni yn y dyfodol. Mae'r rhain yn fesurau ymarferol syml yr ydym ni'n benderfynol o'u cymryd, y mae'r bwrdd iechyd yn benderfynol o'u cymryd, a, gyda'i gilydd, byddant yn arwain at welliannau gwirioneddol i'r sefyllfa a nodwyd yn ystod yr ymweliad hwnnw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i Warren Gatland a charfan rygbi Cymru am gyflawni camp lawn arall? Gadewch i ni obeithio y bydd y rhediad diguro yn parhau tan Gwpan y byd, yn ystod Cwpan y Byd a, gobeithio, trwy gydol Cwpan y Byd yr hydref nesaf. [Torri ar draws.] Na, nid y rygbi.

Prif Weinidog, un o'r meysydd y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo yw anghydraddoldeb cyflog. Yn eich maniffesto personol, a gyhoeddwyd gennych y llynedd, dywedasoch, a dyfynnaf,

Mae'n rhaid i ni ddod ag egni ffres i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog.

Mae'n ymddangos i mi mai un o achosion anghydraddoldeb cyflog yng Nghymru yw bod gennym ni nifer o bobl mewn sefydliadau sector cyhoeddus y mae'n ymddangos eu bod ar gyflogau gwirion o uchel. Er enghraifft, mae gennym ni brif weithredwr cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Lafur Cymru chi, sy'n cael cyflog o £170,000 y flwyddyn, sy'n llawer mwy na Phrif Weinidog y DU, ac eto mae hwn yn gyngor nad yw hyd yn oed yn gallu trefnu gorsaf fysiau ar gyfer y ddinas. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un ffordd o fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb cyflog yw rhoi terfyn ar gyflogau gwirion o uchel pobl fel prif weithredwr cyngor Caerdydd?

14:00

Wel, yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, nid dyna'r math o anghydraddoldeb cyflog yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Roeddwn i'n cyfeirio, wrth gwrs, at syniadau llawer mwy prif ffrwd o anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau yn y gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwyf i, fy hun, yn credu mewn system lle ceir lluosydd rhwng tâl y rhai sy'n cael y cyflogau isaf yn y sefydliad a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn y sefydliad, ac y dylai hynny fod ar gyfradd sefydlog a gytunwyd, ac wedyn rydych chi'n cael pwysau ar anghydraddoldebau cyflog i godi tâl y rhai sydd ar waelod y raddfa gyflog, sy'n llawer mwy niferus, wrth gwrs, yn hytrach na phwyslais poblyddol ar unigolion mewn rhannau eraill o'r sbectrwm.

Wel, rydych chi wedi siarad o blaid y lluosydd. Byddwn yn ymchwilio i hynny ac yn gweld pa mor effeithiol yw hynny a pha mor effeithiol yr ydych chi o ran goruchwylio hynny yng Nghymru o ran llywodraeth leol. Dim ond un enghraifft o'r broblem yr wyf i'n tynnu sylw ati heddiw yw prif weithredwr cyngor Caerdydd. Mae gennym ni nifer gynyddol o swyddogion sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyflogau chwe ffigur. Nawr, rydym ni mewn cyfnod o gyni cyllidol, fel yr ydych chi'n dweud wrthym ni drosodd a throsodd. Mae'n rhaid i gynghorau lleol gau cyfleusterau gan fod eu cyllidebau yn cael eu torri. Ond mae'n ymddangos bod yr haen uchaf o swyddogion cyngor yn rhyw fath o rywogaeth a warchodir sy'n dal i gael derbyn cyflogau gwirion o uchel. Mae gennym ni lol cyngor Caerffili, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Lafur Cymru, lle mae anghydfod ynghylch cyflogau tri o uwch swyddogion wedi arwain at i'r cyngor wastraffu mwy na £4 miliwn. Mae gennym ni brif weithredwr yn y fan honno nad yw wedi dod i'r gwaith ers chwe blynedd, ac mae'n cael ei dalu £130,000 y flwyddyn i wneud dim byd o gwbl. Ac eto, nid yw'r sefyllfa wedi ei datrys. Prif Weinidog, sut ydych chi'n cysoni eich cwyno cyson am gyni cyllidol gyda'r ffaith bod gennym ni haen o fiwrocratiaid tewion yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, a oruchwylir gennych chi, sy'n ennill symiau mor hynod fawr o arian?

Wel, Dirprwy Lywydd, os oes gan yr Aelod ddiddordeb yn y lluosydd, yna mae'r ffeithiau a'r ffigurau yno iddo gymryd diddordeb yn y pwnc hwnnw. Bydd yn canfod bod y bwlch rhwng y rhai sy'n cael y cyflogau isaf a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn Llywodraeth Cymru y lleiaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd mai ni sy'n gyfrifol am Lywodraeth Cymru. Byddai'n well i'r Aelod fynd ar drywydd ei ddiddordeb mewn llywodraeth leol yn uniongyrchol â'r cynghorau hynny sy'n gyfrifol am y mater y mae'n ei godi.

Gwelaf eich bod chi wedi ceisio, unwaith eto, osgoi craffu ar lywodraeth leol, sy'n amlwg o dan oruchwyliaeth gyffredinol eich Llywodraeth Cymru chi yma yn y Cynulliad. Mae'r sefyllfa yng Nghaerffili wedi llusgo ymlaen ers 2012, felly rwy'n credu ei fod yn haeddu rhyw sylw cyhoeddus gennych chi erbyn hyn, o gofio hefyd mai Gweinidog llywodraeth leol oedd un o'ch swyddi blaenorol. Felly, mae'r llanastr parhaus hwn yn sicr wedi bod o dan eich goruchwyliaeth chi. O safbwynt dynol, byddai cyflog prif weithredwr sy'n cael ei dalu am aros gartref fwy neu lai yn talu'r gost o redeg canolfan hamdden Pontllanfraith, sydd dan fygythiad o gael ei chau. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno mai cau cyfleusterau fel canolfannau hamdden yw cost ddynol eich Plaid Lafur Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ei ffrindiau mewn swyddi uwch reolwyr yn sector cyhoeddus Cymru?

Wel, mae'n hurt, Dirprwy Lywydd. Nid yw'n taro tant, hyd yn oed â'r rhai sy'n eistedd o'i gwmpas. Gadewch i ni fod yn eglur: mae'r sefyllfa yng Nghaerffili yn un nad yw'n foddhaol i neb, ond ceir proses, sydd yno, yr ydym ni i gyd wedi ein rhwymo ganddi. Nid yw'n ddim o gwbl i'w wneud ag unrhyw unigolion nac unrhyw sefydliadau. Cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei rhan hi o'r cyfrifoldeb hwnnw trwy benodi unigolyn annibynnol i oruchwylio'r cam nesaf yn y broses honno. Rhoddais addewid i Hefin David, yr Aelod lleol, pan mai fi oedd y Gweinidog cyfrifol, y byddwn yn sefydlu adolygiad o'r broses bresennol cyn gynted ag y bydd wedi gweithio ei ffordd drwyddo. Nid yw'n foddhaol. Nid yw'n gweithio. Nid yw'n cyflawni dros drigolion lleol na dros y cyngor ei hun. Ond, pan eich bod chi mewn proses, mae gennych chi rwymedigaeth gyfreithiol i'w chyflawni. Gall pobl wneud cymaint o lol ohono ag y maen nhw'n ei ddymuno. Mewn democratiaeth aeddfed, os oes cyfraith y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hi, yna dyna'n union y bydd yn rhaid i ni ei wneud. Wedyn, byddwn yn gweld sut y gellir newid y gyfraith honno, fel bod proses fwy boddhaol ar gyfer y dyfodol.

14:05
Dileu Llygredd Plastig

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu llygredd plastig? OAQ53635

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Strategaeth Llywodraeth Cymru yw defnyddio'r holl gamau sydd ar gael i ni er mwyn helpu i ddileu llygredd plastig; mae deddfwriaeth, addysg, cyllid grant, buddsoddi mewn seilwaith a mesurau cyllidol i gyd yn elfennau o'r dull strategol hwnnw.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi bod y 2.3 miliwn tunnell o lygredd plastig o ddeunydd pacio sy'n cael ei gynhyrchu ar draws y DU ar hyn o bryd yn broblem iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol fawr. Rydym ni wedi darganfod yn ddiweddar bod llygredd plastig yn drosglwyddydd effeithlon iawn o E.coli a chlefydau eraill a gludir mewn dŵr, a fyddai'n marw pe bydden nhw yn dibynnu ar ddŵr yn unig fel cludwr. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n gwybod bod gronynnau plastig yn cyrraedd llawer o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta ar hyn o bryd. Felly, yng ngoleuni'r materion iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol difrifol iawn hyn, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd, fel mater o frys, i sicrhau bod cynllun blaendal-dychwelyd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl, ac i sicrhau bod cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ar waith yn briodol yng Nghymru?

Wel, hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y pryderon o'r newydd a geir am belenni plastig cyn-cynhyrchu fel ffynhonnell o lygredd microplastig. Trafodwyd y mater hwn yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Glasgow, lle daeth Gweinidogion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ynghyd i nodi camau y gellir eu cymryd i ymateb i'r pryder hwnnw sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r Aelod hefyd yn llygad ei lle i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd. Ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, amcangyfrifir bod cynhyrchwyr yn talu tua 10 y cant o gyfanswm y gost o ailgylchu eu gwastraff deunydd pacio, ac ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod gweithredoedd cynhyrchwyr yn cyd-fynd â'r cyfrifoldeb llygrwr sy'n talu. Dyna pam yr ydym ni'n ymgynghori ar y cyd â Llywodraethau'r DU a'r Alban ar gynigion i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ar gyfer deunydd pacio ar sail y DU gyfan.

Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn wedi trefnu sesiwn friffio ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad ar yr 28ain o'r mis hwn, a fydd yn ymdrin â chynigion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd a'r cynllun blaendal-dychwelyd. Rwy'n gwbl sicr y bydd yr Aelod yn bresennol, a gobeithiaf y bydd llawer o Aelodau eraill sydd yma yn gallu bod yn y cyfarfod hwnnw hefyd.

Prif Weinidog, rydym ni'n gallu gweld plastigau ym mhob man o'n cwmpas. Ewch allan i ardal y bae a gallwch weld poteli plastig ar wyneb y dŵr yng nghorneli'r bae. Er gwaethaf llawer o'r rhethreg yn y sefydliad hwn a thu hwnt, yn anffodus, mae llygredd plastig yn broblem enfawr y mae'n ymddangos ein bod ni'n methu'n lân â mynd i'r afael â hi mewn unrhyw ffordd ystyrlon ar hyn o bryd.

Rydym ni newydd weld y grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth, yn ystod amser cinio, a gafodd ei atgyfodi yn ddiweddar. Amlygwyd ganddyn nhw y rhan y gall coedwigaeth ei chwarae o ran cynnig cynhyrchion amgen yn hytrach na phlastigau, fel gwelltyn yfed, er enghraifft. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cael trefn ar bethau o ran ei thargedau ar gyfer ailblannu, yn enwedig ar ystâd Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw 6,000 hectar ar ôl o ran eu hamserlen. A allwch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynyddu ei hymdrechion yn y sector coedwigaeth, fel y gellir datblygu'r dewisiadau amgen hynny yma yng Nghymru, ac y gellir cynnig y dewisiadau amgen wedyn i'r cyhoedd yn gyffredinol, fel y gallan nhw leihau eu defnydd o blastig? Oherwydd heb y dewisiadau amgen hynny, byddwn yn parhau i gael ein amharu gan lygredd plastig.

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy o ymdrech ar draws yr ystod gyfan o gamau gweithredu y gall Llywodraethau eu cymryd, y gall diwydiant eu cymryd, ac y gall unigolion hefyd eu cymryd yn ein bywydau eu hunain i leihau'r defnydd o gynhyrchion plastig. Ac mae cynhyrchion yn hytrach na phlastig yn sicr yn rhan bwysig iawn o'r holl ymdrech honno. Agorodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyfleuster gweithgynhyrchu newydd Frugalpac yn Wrecsam dim ond yr wythnos diwethaf, ac mae hwnnw'n gyfleuster sy'n cynhyrchu cwpanau coffi cwbl ailgylchadwy. Ac yn union fel yr ydym ni'n gweld poteli plastig ar wyneb y dŵr, felly hefyd yr ydym ni'n gweld llawer gormod o gwpanau untro sy'n cael eu gadael gan bobl lle maen nhw'n digwydd gorffen eu defnyddio.

O ran coedwigaeth, rwy'n cytuno gyda'r Aelod: wrth gwrs mae gan hynny ran i'w chwarae i greu cynhyrchion amgen a fydd yn caniatáu i ni i gyd wneud mwy—mwy yn ein bywydau ein hunain, yn ogystal â'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu gyda'n gilydd—er mwyn lleihau'r defnydd o blastigau, y genhedlaeth o lygredd plastig, a'r niwed y mae hynny'n ei wneud yn ein hamgylchedd.

14:10
Datblygu'r Cwricwlwm Ysgol Newydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ysgol newydd? OAQ53611

Diolch i'r Aelod am hynna. Ar ôl eu datblygu gan ysgolion arloesi, bydd canllawiau drafft ar gyfer y cwricwlwm Cymru newydd yn cael eu rhoi ar gael ym mis Ebrill. Mae hyn o ganlyniad i gyfnod dwys o ddylunio a datblygu, a bydd hynny'n parhau yn y misoedd i ddod.

Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, clywodd adroddiad diweddar gan bwyllgor iechyd y Cynulliad dystiolaeth nad yw addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol yn gyffredinol yn cael digon o flaenoriaeth mewn ysgolion. Rydym ni eisoes wedi clywed yn y Siambr hon ei bod yn ymddangos bod llawer o ysgolion nad ydynt yn llwyddo i ddarparu'r ddwy awr yr wythnos sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Rydym ni'n gwybod bod addysg gorfforol yn helpu i fynd i'r afael â gordewdra, a bod llawer mwy o fuddiannau.

Rydym ni newydd weld penwythnos cofiadwy o chwaraeon. Mae carfan genedlaethol Cymru yn yr ail safle yn y byd erbyn hyn, mae gennym ni feicwyr sydd ymhlith goreuon y byd, ac mae nifer o sêr chwaraeon Cymru ar y llwyfan byd-eang. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod gan ysgolion Cymru y llwyfan perffaith ar hyn o bryd i ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn addysg gorfforol. Sut bydd eich Llywodraeth yn ymgorffori hyn yn y cwricwlwm ysgol newydd?

Diolch i'r Aelod am hynna. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hi am bwysigrwydd addysg gorfforol, llythrennedd corfforol, yn ein hysgolion a'r cyfraniad y gall hynny ei wneud at atal achosion o ordewdra, y gwyddom o ffigurau eraill—fe'i trafodwyd gennym yma yn y Siambr ddim ond wythnos neu ddwy yn ôl—y gwyddom sydd yno yn y boblogaeth. Ond mae tensiwn yn bodoli, ac mae cwestiwn yr Aelod yn cyfeirio at y tensiwn, rhwng y gwersi a ddysgwyd gennym o adolygiad Donaldson, sy'n ymwneud â phennu dibenion eglur ar gyfer y cwricwlwm, gan ddatblygu'r gwahanol feysydd o ddysgu a phrofiad, ac yna chaniatáu i'r bobl broffesiynol hynny sydd agosaf at y boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu—sef arweinwyr ysgolion, yr athrawon yn yr ystafell ddosbarth—i roi'r rhyddid proffesiynol iddyn nhw gymhwyso'r egwyddorion hynny a'r canllawiau hynny yn yr amgylchiadau y maen nhw'n canfod eu hunain ynddynt.

Mae llythrennedd corfforol yn rhan o'r holl ffordd yr ydym ni'n disgwyl i'r cwricwlwm newydd gael ei ddatblygu. Mae'n demtasiwn bob amser—rydym ni wedi ei glywed o amgylch y Siambr lawer gwaith, pan fydd pobl yn cytuno â'r gosodiad cyffredinol y dylai fod fframwaith cenedlaethol ac yna hyblygrwydd lleol i'w gymhwyso, ond yna mae pawb eisiau dweud, 'A, ond, pam nad yw hyn ar y cwricwlwm? Pam nad yw'r llall ar y cwricwlwm?' A chyn i chi wybod ble'r ydych chi, rydym ni wedi gweithio ein ffordd yn ôl o'r math o ddull yr ydym ni i gyd, ar draws y Siambr hon, rwy'n credu, wedi dweud ein bod ni eisiau ei weld yma yng Nghymru, yn ôl i rywbeth sy'n dod hyd yn oed yn fwy rhagnodol.

Felly, rwy'n cytuno gyda gosodiad sylfaenol yr Aelod am y pwysigrwydd. Rwy'n ceisio ei darbwyllo y bydd y ffordd yr ydym ni'n ei wneud yn sicrhau'r canlyniadau y mae hi eisiau eu gweld, a cheisio ei darbwyllo rhag ei chred mai'r ffordd o sicrhau addysg gorfforol yw gwneud y cwricwlwm yn rhagnodol yn y maes hwnnw, oherwydd y cwbl y byddem ni'n ei wneud wedyn fyddai agor y cwricwlwm i ragor o syniadau eto ynghylch sut y gallwn ni ei gulhau o'r Siambr hon, pan ein bod ni eisiau caniatáu i alluoedd, rhyddid, sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol athrawon yn yr ystafell ddosbarth ddarparu'r cwricwlwm yr ydym ni'n ei ddatblygu yn y fan yma.

Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n bresennol mewn digwyddiad tebyg i Pawb â'i Farn ar gampws Coleg Castell-nedd ar gyfer myfyrwyr ifanc, a mynegwyd diddordeb mawr iawn ganddyn nhw yng nghwricwlwm y dyfodol. Un o'r cwestiynau a godwyd gyda mi—ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn y cwricwlwm—yw addysg dinasyddiaeth, mewn un ystyr, a mudiadau gwleidyddol, oherwydd, yn amlwg, bydd posibilrwydd o bleidleisio yn 16 a 17 oed yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'r Cynulliad yn mynd i gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n tybio, ymhlith y pethau hynny yr ydym ni i gyd eu heisiau yn y cwricwlwm, y bydd hyn yn rhan o'r cwricwlwm hwnnw. Ond, hefyd, beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Llywodraeth i sicrhau ei fod ar waith ar gyfer 2020-1, oherwydd mae'n debyg na fydd y cwricwlwm ar waith tan tua 2020. Bydd y bobl ifanc hyn wedi mynd heibio hynny. Sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr addysg fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth, pan fyddan nhw'n cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, o'r broses honno a'r hyn y gall ei olygu?

14:15

Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi bod mewn llawer o gyfarfodydd ar gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, a gwn fod y Llywydd o'r farn y dylai hynny fod yn wir ar gyfer etholiadau'r Cynulliad hefyd. Pan roeddwn i gerbron cynulleidfaoedd amheus, gan gynnwys pobl ifanc weithiau a oedd yn amheus ynghylch eu gallu i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw, un o'r dadleuon yr oeddwn i'n teimlo oedd yn cael yr effaith fwyaf ar gynulleidfaoedd amheus oedd y ddadl, os bydd gennych chi bleidleisio yn 16 oed, mae gennych chi gyfnod pan fydd pobl ifanc yn dal mewn addysg a phan allwch chi ddarparu'r fath o wybodaeth a sylfaen iddyn nhw yn strwythurau democratiaeth, y ddealltwriaeth o gysyniadau gwleidyddol, yr hawliau a'r cyfrifoldebau democrataidd y gallwch baratoi pobl ar gyfer y cyfrifoldeb hwnnw yn 16 oed, gallwch argymell cyflwyno'r arfer o bleidleisio yn gynnar, a gwyddom fod pobl sy'n pleidleisio yn yr etholiad cyntaf y mae nhw'n cael cyfle i bleidleisio ynddi yn llawer mwy tebygol o barhau i bleidleisio mewn etholiadau dilynol, ac mae'r rhai nad ydyn nhw'n pleidleisio y tro cyntaf yn llai tebygol o bleidleisio yr ail waith, ac os nad ydych chi wedi pleidleisio yn yr etholiad cyntaf neu'r ail etholiad mae gennych chi gyfle i wneud hynny, mae'r tebygolrwydd y byddwch chi'n gwneud hynny ar y trydydd achlysur yn llawer iawn llai.

Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Rydym ni'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, gyda'r Comisiwn yma yn y Cynulliad, i wneud yn siŵr y bydd maes dysgu'r dyniaethau a phrofiad yn darparu hyn yn yr ystafell ddosbarth, ond ein bod ni'n gwneud ymdrech ychwanegol yn y cyfamser i wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny a fydd yn gobeithio cael y cyfle cyntaf un i bleidleisio yn 16 ac yn 17 oed wedi eu paratoi cystal ag y gallwn eu paratoi ar gyfer y posibilrwydd newydd hwnnw.

Hyrwyddo Twristiaeth

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ53591

Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'r gogledd wedi ei gynnwys yn holl weithgarwch marchnata Croeso Cymru, gan gynnwys ei ymgyrchoedd Blwyddyn Darganfod Cymru presennol yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a'r Almaen. Ceir hefyd, trwy gais cystadleuol, gymorth ariannol a roddir i bartneriaid gydweithio ar brosiectau penodol i farchnata ardal gogledd Cymru.

Diolch am yr ymateb yna. Ond gyda bargen dwf gogledd Cymru yn symud ymlaen gobeithio, a dull Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel tîm gogledd Cymru y dylai Croeso Cymru fuddsoddi mwy i gefnogi'r rhanbarthau i dargedu ein marchnad gartref yn y DU gan adael Croeso Cymru i ganolbwyntio ar broffil Cymru yn rhyngwladol, sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'n sefydliad marchnata cyrchfannau rhanbarthol, Twristiaeth Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli oddeutu 1,500 o fusnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn y gogledd, sydd eisoes yn gwneud gwaith ardderchog gyda'u brand 'Go North Wales', ond a allai wneud llawer iawn mwy pe byddai mwy o gymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno ag ef y gwneir ymdrechion ardderchog gan weithredwyr twristiaeth yn y gogledd i hyrwyddo'r ardal a'i gwneud yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr o weddill y Deyrnas Unedig, ond hefyd o weddill y byd. Rydym ni wedi sôn eisoes y prynhawn yma, Llywydd, am Japan, a phan fydd Cymru yn Japan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd bydd yn gyfle pwysig i ni arddangos Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr o'r rhan honno o'r byd, ac mae gweithredwyr yn y gogledd yn arbennig eisoes wedi gweithio'n galed iawn i gynyddu nifer yr ymwelwyr o Japan sy'n ymweld â gogledd Cymru. Yn wir, mae 27 o 30 prif weithredwr teithiau Japan yn cynnwys gogledd Cymru yn eu hamserlenni yn y DU erbyn hyn, ac mae hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed yn y rhanbarth i'w hyrwyddo fel cyrchfan. Byddwn yn parhau i weithio drwy'r fforwm twristiaeth rhanbarthol o'r gogledd i wneud yn siŵr bod y gwaith a wneir gan Croeso Cymru i hyrwyddo ein cenedl yn adlewyrchu anghenion y gogledd ac yn parhau i'w wneud yn gyrchfan llwyddiannus i ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.

Rŷn ni i gyd hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, nad dim ond rygbi sy'n cael ei chwarae yn y wlad yma. Mae yna gêm bêl-droed bwysig nos yfory yn y Cae Ras yn Wrecsam, ac mi fydd yna filoedd lawer o bobl yn ymweld â gogledd-ddwyrain Cymru. Mae digwyddiadau chwaraeon, wrth gwrs, yn bwysig iawn o safbwynt y cynnig twristiaeth sydd gennym ni yn y gogledd fel y mae e yng Nghaerdydd, wrth gwrs, ac felly, y cwestiwn dwi eisiau gofyn yw: pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ar y cyd â chlwb pêl-droed Wrecsam, gyda'r cyngor sir lleol a chyda'r gymdeithas bêl-droed, er mwyn ailddatblygu'r Cae Ras i sicrhau ein bod ni'n cael mwy o gyfleoedd fel hyn, ac nad dim ond un gêm bêl-droed ryngwladol bob degawd fydd yn dod i ogledd-ddwyrain Cymru, ond y byddwn ni'n gweld hynny yn digwydd yn gyson?

14:20

Diolch yn fawr i Llyr Gruffydd am y cwestiwn yna. Mae beth mae'n ddweud yn wir: pan ydych yn dweud 'Cymru' ledled y byd, beth sy'n dod i mewn i bennau pobl? Wel, chwaraeon yw un o'r pethau mae pobl yn meddwl amdano yn gyntaf pan maen nhw'n meddwl am beth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, dwi'n cael gwybodaeth bron pob wythnos oddi wrth yr Aelod lleol yn Wrecsam am beth sy'n mynd ymlaen yn y Racecourse. Mae hi'n anfon beth mae Wrecsam yn ei wneud yn y maes pêl-droed ataf i bron bob dydd Sul, ac mae hi'n gweithio, ac mae Ken Skates hefyd yn gweithio, ar y pethau mae Llyr Gruffydd wedi eu codi, i ddatblygu beth sy'n mynd ymlaen yn Wrecsam, i dynnu mwy o gemau i mewn yno, ac i ddefnyddio beth sy'n mynd ymlaen yn y gogledd-ddwyrain i helpu i dynnu mwy o bobl i mewn i'r ardal.

Cau'r A465 rhwng y Rhigos a Glyn-nedd

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd? OAQ53633

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Cyfrannodd cwlfert diffygiol at yr achosion o gau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Mae un newydd yn ei le erbyn hyn a bydd amodau'r ffyrdd lleol yn dychwelyd yn llawn i'r hyn sy'n arferol erbyn diwedd yr wythnos hon.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nawr, yn ogystal â'i bod yr unig ffordd A allan o Gwm Cynon yn yr ardal honno, mae'r A465 hefyd yn ffordd bwysig iawn yn rhanbarthol hefyd, gan gysylltu, fel y mae'n ei wneud, Blaenau'r Cymoedd, mor bell i ffwrdd â chanolbarth Lloegr, i lawr i orllewin Cymru a dyma'r unig ffordd yng Nghymru, os wyf i'n gywir, sy'n cael ei hystyried yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd. Felly, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi, Prif Weinidog, bod cynnal a chadw'r ffordd honno yn effeithiol yn gwbl hanfodol.

Bythefnos yn ôl, cymerodd cyngor Rhondda Cynon Taf y cam digynsail o gyflwyno hysbysiad cyfreithiol yn erbyn Asiant Cefnffyrdd De Cymru am beidio â chynnal a chadw priffordd fawr. Ac roedd rhai o'r beirniadaethau a wnaed ohonynt yn cynnwys: methu â chael mynediad at y pympiau cywir pan yr oedd cyngor RhCT yn gallu cael gafael arnyn nhw gan wahanol gyflenwr; peidio â chynnal na monitro'r pympiau i safon ddigonol, gan arwain at achos arall o lifogydd ar y ffordd; ac arwyddion annigonol ym mhentref y Rhigos, gan arwain at anhrefn llwyr i drigolion y pentref hwnnw, gyda'r holl draffig hwn yn ceisio llifo ar hyd ffordd B fach wedyn.

Gyda'r holl broblemau hynny, Prif Weinidog, pa ffydd allai fod gennym yn Asiant Cefnffyrdd De Cymru, yn y dyfodol, i gynnal y ffordd hon yn briodol a pheidio ag achosi anhrefn i drigolion fy etholaeth i, i gymudwyr ac i fusnesau lleol?

Wel, rwy'n deall, Dirprwy Lywydd, y pryderon a achoswyd yn lleol gan y digwyddiadau ar y rhan o'r ffordd y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, ac, wrth gwrs, mae yn llygad ei lle am bwysigrwydd y rhan honno o'n seilwaith trafnidiaeth. Rwyf i wedi trafod yr holl faterion hyn gyda Ken Skates, y Gweinidog sy'n gyfrifol, ac mae dau wahanol fater, rwy'n credu, yn y fantol yn y fan yma, Dirprwy Lywydd. Mae'r mater sylfaenol o'r hyn sydd wedi achosi'r anhawster yn y cwlfert yn y lle cyntaf. A gwn fod llawer o wahanol esboniadau a awgrymir yn lleol, ac o ganlyniad mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion fod mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol fel y gellir rhoi darn o waith i law fel ein bod ni'n canfod yr anhawster sylfaenol a achosodd i'r cwlfert chwalu yn y lle cyntaf. Yna, ceir cyfres o broblemau ynghylch y ffordd y darparwyd ymateb ar unwaith i'r anawsterau a gafwyd yn gynharach yn y mis, ac rwy'n cymryd yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud yn wirioneddol o ddifrif. Rwy'n credu, fodd bynnag, bod rhywfaint o dystiolaeth arall hefyd yr anwybyddwyd rhai o'r arwyddion gorfodol a osodwyd i ddargyfeirio traffig gan rai gyrwyr, a bu adroddiadau i'r heddlu pryd y teimlwyd bod hynny wedi ei wneud mewn modd bwriadol.

Cafwyd yr ail achos o lifogydd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ôl ymyrraeth dros nos â phympiau sy'n cael eu pweru gan ddisel, a oedd wedi eu gosod—cafodd tanwydd ei ddwyn ohonynt ac nid oedd y pympiau yn gweithio o ganlyniad. Mewn ymateb i hynny, mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru a'i gontractwr wedi gorfod cyflwyno goruchwyliaeth safle 24 awr o'r pympiau gan eu harchwilio bob pedair awr, gan gynnwys drwy'r nos. Yn dilyn hynny, ni fu unrhyw fethiannau pellach. Byddwn yn dysgu gwersi, byddan nhw'n dysgu'r gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd, nawr bod y ffordd wedi ei thrwsio ac ar fin cael ei hailagor yn llawn.

14:25
Tai Cyngor

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dai cyngor? OAQ53589

Ein polisi yw cefnogi awdurdodau lleol i adeiladu tai cyngor ar raddfa sylweddol uwch ac yn yr amser byrraf posibl.

A gaf i bwysleisio eto bwysigrwydd adeiladu tai cyngor er mwyn ymdrin â'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru? A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe bod pobl bellach yn byw yn eu cartrefi cyngor newydd a hefyd y rhai sy'n cael eu hadeiladu? Ond beth arall a all Llywodraeth Cymru ei wneud i oresgyn yr hyn sy'n atal cynghorau rhag adeiladu nifer fawr o anheddau cyngor, sef yr hyn a ddywedwyd gennych yn eich ateb cyntaf?

Diolch yn fawr iawn am hynny. Fe fyddwn i’n sicr yn cytuno o ran llongyfarch Abertawe ar y gwaith y maen nhw’n ei wneud, yn enwedig y dulliau tai arloesol a gwneud hyn i gyd ar yr un pryd, rwy'n gwybod, â gorfod canolbwyntio ar gyrraedd safonau ansawdd tai Cymru, y mae’r cyngor bellach yn agos iawn at eu cwblhau. Rwy'n credu bod tri gwahanol beth y gallwn ni eu gwneud i gyflymu a chynyddu nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Gwn y bydd yr Aelod yn falch o wybod y bydd y cap ar fenthyca i awdurdodau lleol Cymru yn cael ei godi’n ffurfiol ddydd Gwener yr wythnos yma, pan fydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol y mae’n rhaid inni ei chwblhau yn dwyn ffrwyth. Felly, i rai awdurdodau lleol, yn sicr bydd mwy o gyllid ar gael nag y byddai fel arall. Yn ail, ceir y mater sgiliau, gwybodaeth a gallu. Bydd yn rhaid inni wneud mwy, a bydd yn rhaid i'r sector wneud mwy, gan weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill, i wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol y gallu, y tu hwnt i arian, i ymgymryd â’r swyddogaeth bwysig hon yr ydym yn dymuno eu gweld nhw’n ei chyflawni. Yn drydydd, bydd angen inni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud ar lefel Llywodraeth Cymru. Fe gychwynnodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, adolygiad o'n strategaeth tai fforddiadwy. Bydd hwnnw’n adrodd ddiwedd mis Ebrill. Mae dwy o'r 10 ffrwd waith yn yr adolygiad hwnnw yn ymwneud yn benodol â ffyrdd y gallwn ni gael awdurdodau lleol yng Nghymru i adeiladu mwy o dai cyngor a’u hadeiladu nhw yn gynt.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans.

Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi datganiad: yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trafodaethau'r UE. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Hoffwn i'r Gweinidog roi datganiad am y llifogydd erchyll a ddigwyddodd yn y gogledd a rhannau eraill o Gymru, mewn gwirionedd, y penwythnos yma. Fe gawsom ni’n taro’n wael yn Aberconwy, ac fe welais bethau nad oeddwn erioed wedi eu gweld mewn llifogydd o’r blaen. Roedd yr A470 wedi ei chau ar hyd dyffryn Conwy ac mae’r rheilffordd sydd wedi ei hatgyfnerthu yn Llanrwst bellach wedi ei difrodi yn ofnadwy, a bydd sawl wythnos cyn y bydd hi’n gallu cael ei defnyddio eto, ar ôl gwario arian arni dim ond yn ddiweddar. Roedd llifogydd mewn tai a busnesau yn Nolwyddelan, Betws-y-coed, Maenan ac, yn wir, yn Llanrwst, lle, unwaith eto, na weithiodd y 'dutchdam'—ac mae hwnnw’n gynllun lliniaru llifogydd, yn offer eithaf drud a osodwyd, ac nid dyma'r tro cyntaf iddo fethu, felly rwy'n gofyn am ddatganiad ynghylch hynny. I'r gorllewin, fe welodd castell Gwydir a'i erddi, yr unig erddi rhestredig gradd I yng Nghymru, ei amddiffyniad bagiau tywod yn methu a chafwyd llif arswydus o gyflym.

Trefnydd, fe achosodd y digwyddiad hwn y penwythnos yma gymaint o broblemau i mi yn Aberconwy a'm trigolion. Roedd gennym bobl ifanc yn cael eu hachub o do car—mae hyn yn y papurau newydd cenedlaethol i gyd. Ac, a dweud y gwir, mae dal enfawr bellach bod y cynllun lliniaru llifogydd a roddwyd ar waith rai blynyddoedd yn ôl—er ei fod o fudd i rai, yn cael effaith andwyol ar eraill, mewn gwirionedd. Rwyf wedi galw am gyfarfod cyhoeddus ar 5 Ebrill—dyna'r cyfan y gallaf ei wneud ar hyn o bryd fel Aelod Cynulliad. Rwyf yn ymbil ar y Cynulliad hwn—y Llywodraeth Cymru hon—os gwelwch yn dda, gwnewch ddatganiad a darparwch rywfaint o sicrwydd i’m trigolion, i bobl yn awr. Mae fy musnesau'n wynebu gwerth miloedd ar filoedd o bunnoedd o ddifrod; nid yw rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn gallu agor. Mae angen rhagor o gymorth, ac mae angen edrych o’r newydd ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghonwy. Diolch.

14:30

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Ac mae’n rhoi cyfle imi ddweud diolch wrth bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys, sydd wedi gweithio mor ddiflino dros y penwythnos i ymateb i’r digwyddiadau llifogydd ledled y wlad.

Fe gawsom ni ddatganiad ar lifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf, a amlinellodd raglen fuddsoddi gwerth £50 miliwn i reoli llifogydd a pherygl arfordirol ledled Cymru. Ac mae hynny'n golygu, droes gyfnod y Llywodraeth hon, y byddwn wedi buddsoddi dros £350 miliwn ar reoli llifogydd a’r perygl o erydu arfordirol yng Nghymru. Rwy'n credu y gallwn ni ddweud ein bod ni wedi cael adroddiadau o asedau a fu'n gweithio'n dda dros y penwythnos, gan gynnwys yn Llanrwst, dyffryn Conwy, Llanelwy a Bangor Is-coed, lle lleihaodd y cynlluniau llifogydd sydd ar waith nifer yr eiddo a ddioddefodd lifogydd. Rydym ni’n gwybod bod tua wyth cartref wedi dioddef llifogydd, a bod gerddi tua 40 eiddo wedi dioddef llifogydd hefyd. Ac, yn amlwg, rydym ni’n meddwl am y bobl hynny, oherwydd mae'n brofiad ofnadwy i unrhyw un. Rydym ni’n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd bod amddiffynfeydd a gweithdrefnau ar waith ym Mangor Is-coed sydd wedi perfformio'n dda, gan amddiffyn 381 eiddo yn yr ardal rhybudd llifogydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn adrodd bod y systemau telemetreg y maen nhw wedi'u gosod ar geuffosydd, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gweithio’n dda hefyd gan ganiatáu iddyn nhw weld a nodi ardaloedd lle’r oedd gweddillion yn atal cyrsiau dŵr, er mwyn eu galluogi nhw i anfon timau i’r ardaloedd hynny a symud y rhwystrau hynny yn gyflym. Ac, wrth gwrs, roedd camerâu a reolir o bell sydd wedi'u gosod ym Mhlas Isaf yn Llanrwst wedi gweithio'n dda yn ystod y digwyddiad llifogydd, gan roi rhybudd i staff y cyngor am rwystrau posibl i gyrsiau dŵr, gan ganiatáu iddyn nhw gael amser i anfon timau i glirio'r ardal, a sicrhau bod y risg o lifogydd i eiddo wedi ei ddileu.

Felly, rwy'n credu bod y dystiolaeth, yn sicr, yn dangos bod yr amddiffynfeydd wedi gweithio'n dda, gan amddiffyn nifer fawr o eiddo. Bydd hi'n sawl diwrnod, wrth gwrs, cyn y bydd yr effeithiau llawn wedi eu nodi, a byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ysgrifennu atoch chi cyn eich cyfarfod ar 5 Ebrill, fel bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Trefnydd, dwi'n galw am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf: mae Estyn a chod trefniadaeth ysgolion y Gweinidog Addysg, fel ei gilydd, wedi nodi'r angen i archwilio posibiliadau ffederaleiddio yn drylwyr cyn cau ysgol, megis Felindre, ar gyrion Abertawe. Gan fod cyrff llywodraethol ysgolion Felindre a Lôn Las, yn gyfagos, wedi cytuno'n unfrydol ar yr egwyddor o ffederaleiddio, onid lle'r awdurdod addysg yn Abertawe yw cynorthwyo ysgol Felindre, ym mhob dull a modd, i wireddu hyn? Nawr, does dim sôn am hyn ym mhapurau cabinet dinas a sir Abertawe yr wythnos yma. Felly, ydy hi'n bosib cael datganiad ar ba oruchwyliaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflawni i sicrhau bod ein siroedd yn dilyn canllawiau cenedlaethol, fel y cod trefniadaeth ysgolion, a pha sancsiynau sydd mewn lle os nad ydyn nhw'n gwneud hynny?

Ac yn ail, Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol, ddydd Gwener diwethaf, bod yr adolygiad annibynnol i Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ei ryddhau. Comisiynwyd yr adolygiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Actica Consulting, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yr hyn sy’n deillio o'r adroddiad hwn yw nifer o argymhellion o blaid newid er mwyn gwella’r llywodraethu a chyflymu'r cyflawniadau. Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad bod rhwystredigaeth o safbwynt Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac o safbwynt yr awdurdodau lleol rhanbarthol o ran sut mae’r fargen ddinesig yn mynd rhagddi. Mae'n codi nifer o gwestiynau ynghylch effeithiolrwydd strwythur bargen ddinesig Bae Abertawe. Yr hyn sy’n fy nharo i yw bod llawer o welliannau i'w gwneud o ran y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU a'r awdurdodau lleol. Pan fo'r argymhelliad cyntaf yn ceisio annog sgyrsiau, ac rwyf yn dyfynnu, 'uniongyrchol ac wyneb yn wyneb yn rheolaidd', rydych chi’n gwybod bod rhywbeth o’i le. Mewn cynllun o'r maint hwn, fe fyddech chi’n disgwyl i drafodaethau wyneb yn wyneb rheolaidd ac uniongyrchol fod yn anhepgor.

Yr hyn sydd hefyd yn drawiadol yw pa mor araf y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau arian. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau bod arian yn cael ei ryddhau ar unwaith ar gyfer Yr Egin yng Nghaerfyrddin a phrosiectau Glannau Abertawe. Y ddamcaniaeth y tu ôl i'r strwythur bargen ddinesig ym Mae Abertawe yw y dylai’r ddwy Lywodraeth ddarparu cyllid yn gynnar i roi'r rhan fwyaf o'r arian ar ddechrau proffil ariannu prosiectau er mwyn eu galluogi nhw i gael eu cyflawni. Fodd bynnag, mae gennym sefyllfa chwerthinllyd lle bo datblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei adeiladu, fe gafodd ei agor yn swyddogol y llynedd, ac mae bron yn llawn, ac eto nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi rhyddhau’r cyllid. Mae pobl yn briodol yn gofyn, 'Beth sy'n digwydd yn y fan yma?' Nawr, rwy'n sylweddoli bod sesiwn friffio anffurfiol wedi ei threfnu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad bore yfory, ond, yn amlwg, ni fydd nifer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu mynd i’r sesiwn honno oherwydd yr angen i fynychu pwyllgorau yn y fan yma. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyflwyno datganiad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe yn y Siambr hon er mwyn i ni allu trafod y camau nesaf ar gyfer y fargen ddinesig yn gyhoeddus? Diolch yn fawr.

14:35

Diolch am godi'r ddau fater hyn. Fel yr ydych yn dweud, mae'r Dirprwy Weinidog wedi cynnig sesiwn friffio yfory i Aelodau'r Cynulliad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe a'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd. Rwy'n sylweddoli na fydd rhai Aelodau yn gallu bod yn bresennol, felly byddaf yn siarad â’r Dirprwy Weinidog i edrych a oes cyfle arall lle gallai’r Aelodau gael trafodaeth wyneb yn wyneb ag ef yn y lle cyntaf er mwyn mynd drwy'r adroddiad. Ac wrth gwrs, bydd Gweinidog yr Economi yn ateb cwestiynau yn y Siambr brynhawn yfory, felly byddai hyn yn gyfle arall i godi'r mater hwnnw. 

Rwyf yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n wynebu ysgol Felindre, ac ysgol Craigcefnparc hefyd, y mae'r ddwy yn fy etholaeth i, ac yn fy swyddogaeth fel Aelod Cynulliad, rwy'n sicr wedi gwneud sylwadau ar ran y gymuned. Rwyf yn eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg os oes unrhyw ddiffyg eglurder o ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau a'r cyngor yr ydym ni’n ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y mathau hyn o amgylchiadau.

Yr hyn sy'n lladd y nifer fwyaf o fenywod ifanc mwyaf yw canser ceg y groth, ac rwy'n credu bod ymgyrch wych yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ledled y DU er mwyn cael menywod ifanc i oresgyn unrhyw gywilydd sydd ganddyn nhw am eu cyrff a dod i gael sgriniau ceg y groth, a all achub eu bywydau mewn llawer o achosion. Ond cefais fy siomi o ddarllen bod anhrefn llwyr yn y labordai yn Lloegr lle maen nhw'n uno labordai o 50 i naw, ac mae hynny'n achosi oedi mawr yn y broses o roi canlyniad sgriniau i bobl. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch cyflwr profion mewn labordai yng Nghymru, ac a ydym ni wedi ein hamddiffyn rhag y fath anhrefn a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.

Diolch am godi'r mater hwn. Rydym ni’n sicr mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru o gymharu â’r sefyllfa y mae Lloegr ynddi, wrth gwrs, gan mai ni yw’r unig wlad yn y DU sy’n cynnig profion Feirws Papiloma Dynol risg uchel fel y prif brawf ar gyfer yr holl bobl sy’n dod i sgrinio ceg y groth. Mae hwn yn brawf mwy sensitif ac mae’n fwy cywir, a bydd yn atal mwy o ganserau na'r prawf blaenorol, sef y prawf a ddefnyddir o hyd yng ngweddill y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 99 y cant o’r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan rywogaethau risg uchel o’r Feirws Papiloma Dynol. Fe gyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cyflawni’r rhaglen sgrinio ceg y groth, ein dull gweithredu yn llwyddiannus ym mis Medi. Fe baratôdd Sgrinio Serfigol Cymru i weithredu'r dull newydd o sgrinio am nifer o flynyddoedd, felly fe wnaethon nhw sicrhau eu bod nhw wedi cadw staff a chynnal y gwasanaeth drwy gydol y cyfnod pontio i'r prawf newydd. Felly, nid ydym ni wedi cael yr un problemau ag y maen nhw’n eu gweld dros y ffin. 

Rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll yr ymgyrch newydd, sy’n cael ei lansio ar hyn o bryd. Enw’r ymgyrch yw #loveyourcervix. Mae hi newydd gael ei lansio yr wythnos hon, rwy'n credu, a’i nod yw annog pobl ifanc yn enwedig i fynd am eu prawf, oherwydd rydym ni’n gwybod, er bod gennym stori dda i'w hadrodd o ran pa mor gyflym yr ydym ni’n gallu rhoi canlyniadau eu profion i bobl, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd am sgrinio, ymhlith menywod iau yn arbennig, sef y demograffig sy'n peri'r pryder mwyaf inni.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu un datganiad yn sicr a pheth cadarnhad gennych chi? Cadarnhad, yn y lle cyntaf: pryd ar wyneb y ddaear a gawn ni’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch asesiad effaith amgylcheddol llosgydd y Barri? Ymddengys fy mod i’n sefyll yn y fan yma bob mis, ac rwy'n credu ein bod ni ar fis 13 yn awr. Mae'r Aelod dros Fro Morgannwg a'r Dirprwy Weinidog yn eistedd yn y fan yna; mae’r Prif Weinidog yn eistedd yn y fan yna. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y llynedd ei bod yn bwriadu cyfarwyddo y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y llosgydd yn y Barri. Mae hi bellach yn fis Mawrth 2019. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru hysbysiad i ddweud eu bod nhw’n fodlon i amodau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer y gollyngiad o’r safle newydd. Nid wyf yn rhoi bai ar Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd, o’m cyfarfodydd i â Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes ganddyn nhw ran i'w chwarae yn y penderfyniad hwn, nid oes ganddyn nhw, o ran a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ai peidio. Felly, heddiw, a gawn ni beth cadarnhad o leiaf o ran pryd y bydd hyn? Oherwydd pan mae pobl yn clywed Aelodau eraill yn y Siambr hon yn sôn am ddyfodol y sefydliad hwn yn y Barri, mae'n debyg eu bod nhw’n cwestiynu gwerth hyn pan nad yw’r ymrwymiadau a wneir yn y Siambr hon yn cael eu gweithredu. Ac a gawn ni ‘ie’ neu ‘na' o leiaf, os gwelwch yn dda?

Yn ail, a gaf i geisio cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth mewn cysylltiad â’r datblygiadau o amgylch y gwelliannau i gyffordd 34 o Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Byddai rhai pobl yn ei alw yn ‘welliannau’, byddai rhai pobl yn ei alw'n ‘fandaliaeth cefn gwlad’—gallwch chi fod unrhyw le rhwng y ddau. Mae hyn yn ymwneud â’r cynigion i gyflwyno ffordd newydd sy’n cysylltu cyffordd 32 â Sycamore Cross ar yr A48. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar rannau penodol o'r ffordd honno, ac rwy'n credu y byddai croeso mawr i glywed safbwynt a barn diweddaraf y Gweinidog newydd ynghylch cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn. Fel y dywedais, mae Gweinidog newydd yn ei swydd erbyn hyn ac, os yw'r prosiect hwn i fynd rhagddo, byddai'n rhaid iddo gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac yn wleidyddol, er mwyn gallu darparu’r prosiect hwn. Felly fe fyddwn i’n gwerthfawrogi datganiad o fwriad er mwyn deall hynny.

14:40

Diolch yn fawr iawn. O ran llosgydd y Barri, mae arnaf ofn bod y sefyllfa yn parhau fel y bu hyd yma a chyn gynted ag y bydd y cyngor cyfreithiol ar gael i ni, yna fe fyddwn ni'n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw. Yn anffodus, nid wyf yn gallu rhoi dyddiad ichi ar gyfer hynny heddiw.

O ran eich ymholiad ynghylch cyffordd 34, wrth gwrs, bydd cyfle ichi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog yn ystod ei gwestiynau yfory. Fel arall, os na fydd y cyfle yn codi, fe fyddwn yn sicr yn argymell ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn cael yr eglurder hwnnw.

Ddydd Iau, fe fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol er mwyn Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, ac mae'n dod yn union ar ôl yr ymosodiad erchyll yn seiliedig ar hil gan y dde eithafol a laddodd 50 o bobl ac anafu yr un nifer wrth iddyn nhw addoli yn Seland Newydd. A ddoe, wrth gwrs, bu ymosodiad terfysgol arall yn yr Iseldiroedd. Yn ddealladwy, mae llawer o bobl yn teimlo'n nerfus yn yr hinsawdd bresennol, felly beth a all y Llywodraeth ei wneud i dawelu meddyliau pobl, yn enwedig y dinasyddion Moslemaidd hynny yng Nghymru a allai fod yn teimlo'n arbennig o agored, bod eu pryderon yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif? Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gwleidyddion poblyddol ac eraill yn ymuno yn y mynegiadau o gasineb yn eu herbyn. Beth arall y gellir ei wneud â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu dwyn yn gyfrifol am sbarduno a lluosi'r atgasedd yma? Fe hoffwn weld datganiad yn ymateb i'r cwestiynau hynny. Fe fyddwn hefyd yn croesawu rhyw fath o gytundeb mewn egwyddor drwy ddangos undod yn agored er mwyn mynegi, fel dinasyddion Cymru, ein bod ni i gyd yn unedig a’n bod ni’n casáu hiliaeth, goruchafiaeth a chasineb o bob math. Felly, a wnewch chi gytuno â hynny mewn egwyddor?

Mae cyhoeddiad adroddiad pwyllgor Tŷ'r Cyffredin heddiw yn disgrifio sut y bo rhai menywod wedi canfod eu hunain heb ddewis arall heblaw troi at buteindra o ganlyniad i ddiwygiadau budd-daliadau’r Torïaid, sydd wedi'u hysgogi, wrth gwrs, gan gyni. Nid yw'n syndod bod llawer o fenywod wedi canfod eu hunain yn cael eu gwthio i’r sefyllfa anodd hon. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif, wrth edrych ar yr holl newidiadau i drethi a budd-daliadau rhwng 2010 a 2017, mai gwariant ar fenywod oedd 86 y cant o’r gostyngiadau mewn gwariant Llywodraeth. Erys y ffaith fod gan bob menyw, waeth pa swydd, gefndir neu amgylchiadau, ond yn enwedig y menywod hynny sy'n gweithio yn y diwydiant rhyw, yr hawl i fod yn ddiogel. Ein nod, yn sicr, ddylai creu byd lle mae pob menyw yn rhydd rhag camdriniaeth, trais rhywiol ac ymosodiadau. Mae’n rhaid clywed lleisiau gweithwyr rhyw, ac mae’n rhaid eu cynnwys nhw yn yr weledigaeth honno. A dyna pam yr wyf wedi rhoi fy nghefnogaeth i ymgyrch Make All Women Safe. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i'r mater hwn yn fwy manwl yng Nghymru, sy’n amlwg yn effeithio ar fwy a mwy o bobl wrth i’r diwygiad lles waethygu?

Diolch am godi'r ddau fater hynny, ac fe fyddwn i’n sicr yn cytuno â chi nad oes gan unrhyw fath o wahaniaethu ar sail hil, neu wahaniaethu o unrhyw fath, ond yn enwedig yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf, unrhyw le o gwbl yng Nghymru. Ac fe fyddwch yn falch o weld bod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi darparu datganiad ysgrifenedig heddiw, sy'n amlinellu ymagwedd Llywodraeth Cymru at y mater hwn, yn enwedig y trafodaethau a gafwyd gyda’r heddlu a gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y gymuned Foslemaidd yn benodol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, ac nad ydyn nhw’n teimlo'n agored i niwed neu’n ofnus mewn cyfnod sy’n amlwg yn gyfnod ofnadwy o anodd.

O ran yr adroddiad Tŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yn nes ymlaen heddiw, mae gennym ddadl ynghylch effaith diwygio lles ac, fel yr ydych chi'n dweud, mae llawer o fenywod yn canfod eu hunain yn cael eu gwthio i mewn i waith rhyw oherwydd eu bod nhw’n canfod eu hunain mewn tlodi o ganlyniad i’r diwygiadau lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Roeddwn mewn digwyddiad gyda Julie James yn rhinwedd ei swydd flaenorol, pan oedd hi’n gyfrifol am gydraddoldeb, sef digwyddiad ochr yn ochr â’r heddlu a sefydliadau eraill sy’n ceisio cefnogi gweithwyr rhyw, yn enwedig yn Abertawe yn yr achos hwnnw, ond gwn fod llawer o waith cydweithredol a chydweithrediadol da yn cael ei wneud ar draws pob sector er mwyn cefnogi menywod sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa honno.

14:45

Yn dilyn fy nghais diweddar am ddatganiad ynghylch y crocbris am docynnau trên drwy Ben-y-bont ar Ogwr, a gaf i ailadrodd yr alwad honno? Fe gefais i sgwrs ddiddorol ar Twitter ddoe rhyngof i, fy etholwr a, chwarae teg iddo, gweithredwr cyfrif Twitter Trafnidiaeth Cymru gweithgar, a datgelwyd (a) bod yr un tocyn o Faesteg i Lundain, o’i gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr i Lundain £31 yn ddrytach, er mai £2.60 yw pris tocyn o Faesteg i Ben-y-bont; yn ail, mynna fy etholwr nad oedd y gwahaniaeth hwnnw’n bodoli cyn Trafnidiaeth Cymru, er bod Trafnidiaeth Cymru yn gwrthod hyn; ond yn drydydd, mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud mai polisi prisio Great Western Railway yw hyn, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ran yn hyn o gwbl. Nawr, mae hynny'n hynod ddiddorol, oherwydd dim ond dau neu dri stop i fyny’r llinell ydym ni am wahaniaeth o £31. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, sy’n egluro cyfrifoldebau Trafnidiaeth Cymru a GWR ynghylch prisiau tocynnau drwy Ben-y-bont ar Ogwr, ac a yw hi'n dderbyniol bod disgwyl i deithwyr ar linell Cwm Llynfi, oherwydd eu cyfoeth rhodresgar llewyrchus, eu cychod hwylio a’u fflatiau ail gartrefi yng nghanol Manhattan, dalu am y fraint o sybsideiddio teithwyr tlawd rhwng dinasoedd Caerfaddon neu Fryste neu Ben-y-bont ar Ogwr hyd yn oed, yn eu plastai cyfoethog i lawr yn y fan honno?

Yn ail, a gawn ni ddadl ynghylch newid yn yr hinsawdd, yn dilyn protest gan bobl ifanc o dan faner streic yr hinsawdd? Nawr, fe fyddai hyn yn caniatáu i'r Gweinidog, sydd yma heddiw, nodi ei huchelgais o gael Cymru i arwain y ffordd drwy droi Cymru yn genedl teithio llesol wirioneddol, lle mae hi’n fwy naturiol i seiclo, cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na disgyn yn swp y tu ôl i lyw; lle'r ydym yn ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig sy’n annog symud, 100 y cant, i ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a chreu 20,000 o swyddi gwyrdd ym maes ynni adnewyddadwy bob blwyddyn; lle mae pob cartref newydd yn un dim carbon neu’n un ynni cadarnhaol; lle'r ydym yn cyflymu ein rhaglen ôl-osod cartrefi hŷn, yn creu mwy o swyddi gwyrdd; a lle'r ydym yn atal ac yn gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a llawer iawn mwy? Nawr, fe fydd rhai pobl yn beirniadu’r bobl ifanc hyn am gymryd diwrnod i ffwrdd o’r ysgol, a chwarae triwant, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n diolch iddyn nhw am ein hatgoffa ni o’n braint a’n cyfrifoldeb ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang ac i Gymru arwain y ffordd, hyd yn oed os yw’r DU wedi colli ei ffordd. Mae angen i Gymru fyw yn unol â’r ddihareb ‘Byddwch y newid y mynnwch ei weld’, a byddai dadl yn caniatáu i'r Gweinidog glywed syniadau ynghylch sut y gallem wneud hyn gan arddangos ei gallu ynghylch sut y gall Cymru fod yr arweinydd byd-eang hwnnw.

Diolch yn fawr iawn. O ran y mater prisiau tocynnau trên, gwn y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ysgrifennu atoch cyn bo hir ynghylch y mater hwn, ond mae'n fater hanesyddol sy’n mynd yn ôl i’r adeg pan breifateiddiwyd y rheilffyrdd ym 1998, a dyrannwyd llifau teithio i fasnachfreintiau rheilffyrdd a oedd wedi eu neilltuo i'r gweithredwr sylfaenol, sef y gweithredwr y mae ei wasanaethau yn uniongyrchol dros y llwybr penodedig neu y mae ei wasanaethau yn gweithredu dros y rhan fwyaf o’r llwybr hwnnw fel arfer, a dyna pam, mewn rhai achosion, GWR fydd hwnnw, ac mewn achosion eraill, Trafnidiaeth Cymru fydd hwnnw. Felly, mae’r mater yn gymhleth iawn a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael ymateb llawn i'r cwestiwn hwnnw.

O ran newid yn yr hinsawdd, yn amlwg, mae’n un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu pob un ohonom ni, ond rwyf yn sicr yn annog pobl ifanc i gael dweud eu dweud, llywio’r ddadl ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol fel y gallwn gryfhau ein hymateb i newid yn yr hinsawdd. Fe fyddwch yn falch o wybod bod y Prif Weinidog yn lansio ein cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf ddydd Iau yr wythnos hon, ac mae hyn yn cynnwys y camau y byddwn yn eu cymryd i fodloni ein cyllideb garbon gyntaf. Bydd y camau hyn yn cwmpasu'r sectorau allyriadau allweddol, megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth, defnydd tir, adeiladau, pŵer a gwastraff. Yn rhan o'r lansiad hwnnw, rydym ni wedi cynnwys pobl ifanc, ac fe fyddan nhw’n siarad yn ein digwyddiad lansio hefyd. Felly, pan fydd y cynllun hwnnw’n cael ei gyhoeddi a’r Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno fe, fe fyddwn yn dod ag ef yn ôl i'r Cynulliad ar ôl toriad y Pasg er mwyn cael cyfle i’w drafod.

14:50

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Rwy'n ymwybodol o’r embargo oriau brig ar symudiadau llwythi annormal, sy’n cynnwys cario carafanau, ar bob ffordd, bron, yn ardal heddlu Manceinion Fwyaf. O 1 Ebrill ymlaen, fe fydd cerbydau yn cael eu stopio, ac ni fyddan nhw’n cael parhau ar eu taith yn ystod oriau brig, fel yr wyf i ar ddeall. Fe fydd hyn yn effeithio ar nifer o barciau gwyliau yng nghanolbarth a gogledd Cymru gan fod Hull yn ganolfan ar gyfer diwydiant gweithgynhyrchu carafanau’r DU, ac mae dosbarthu carafanau yn amserol ac yn effeithiol, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer dichonoldeb y sector. Felly, fe fyddwn i’n gwerthfawrogi pe byddai’r Gweinidog dros Drafnidiaeth yn cydgysylltu â heddlu Manceinion Fwyaf ac fe allai datganiad ddilyn i egluro'r effaith ar Gymru yn hyn o beth, oherwydd, yn amlwg, ceir effaith sylweddol ar y sector twristiaeth yma gan y symudiadau hyn, ac, fel yr wyf i ar ddeall, nid oes unrhyw ymgynghoriad wedi bod. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes rhywun wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.

Yn ail, mae lefelau uchel afonydd a llifogydd i lawr Afon Clywedog yn ddiweddar wedi bod yn destun pryder. Clywais eich ymateb i Janet Finch-Saunders ac rwy'n cydnabod bod datganiad wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond mae fy mhryder penodol i’n canolbwyntio ar reoli’r gwaith o dynnu dŵr o ddau argae yn fy etholaeth i, a byddwn i’n ddiolchgar—. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ar safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran rheoli lefelau dŵr yn argaeau Cymru ac, yn benodol, wrth gwrs, y ddau y mae gennyf ddiddordeb ynddyn nhw, sef Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy.

Diolch am y materion hynny. O ran y cyntaf, fe fyddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod Gweinidog yr economi yn ysgrifennu atoch chi ynghylch unrhyw drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda heddlu Manceinion neu'r awdurdod lleol yno i sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd fel nad yw'n effeithio ar ein diwydiant twristiaeth yn eich rhan chi o'r byd yn enwedig.

Ac a gaf i awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ynghylch tynnu dŵr o'r ddau argae sy'n peri pryder arbennig ichi?

Trefnydd, yn dilyn y pwyntiau a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog cydraddoldeb am ei datganiad ysgrifenedig mewn ymateb i’r digwyddiadau ofnadwy yn Seland Newydd ac yn awr, wrth gwrs, yn yr Iseldiroedd. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth ailystyried a allwn ni, mewn gwirionedd, gael hwn wedi ei gyhoeddi fel datganiad llafar er mwyn ein galluogi ni i graffu arno a herio’r Llywodraeth ymhellach ynghylch pa gamau a gymerir i atal eithafiaeth asgell dde ac eithafiaeth o unrhyw fath.

Wrth gwrs, mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi llawer o’r gwaith presennol sydd eisoes yn digwydd ac mae hynny'n sicr yn waith y byddai pob un ohonom ni yn Plaid Cymru yn ei groesawu'n fawr, ond mae'r Dirprwy Weinidog yn ei datganiad yn cyfeirio, wrth gwrs, at noswyl a drefnwyd ddydd Gwener gan Cyngor Mwslimiaid Cymru. Roeddwn i’n falch iawn o weld y Prif Weinidog ac uwch-wleidyddion eraill yno. Roeddwn i’n falch iawn o gynrychioli Plaid Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio ni'n cael ein herio'n gryf iawn gan un o'r siaradwyr Mwslimaidd ifanc a ddywedodd, 'Mae’n rhaid ichi wneud yn well'. Ac mae arnaf ofn fy mod i o'r farn mai’r hyn sydd gennym yn y datganiad ysgrifenedig yw datganiad o'r hyn sydd eisoes wedi ei wneud, ac mae hynny'n dda, ond rwy'n credu ei bod hi’n ddyletswydd arnom ni, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, i ddarparu sicrwydd, ond i edrych ar gamau gweithredu ychwanegol eraill hefyd. Er enghraifft, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y Llywodraeth yn ymrwymo i ariannu ymchwil i weld beth sy'n strategaethau effeithiol er mwyn ymdrin ag eithafiaeth o bob math a gwrthsefyll ei dwf, oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw rhai o'r strategaethau sy’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, drwy'r rhaglen Prevent, er enghraifft, yn llwyddiannus bob amser.

Felly, rwy'n gofyn a yw’n bosibl i chi ailystyried—. Wyddoch chi, yn ddelfrydol, dadl yn amser y Llywodraeth a fyddai orau oherwydd y byddwn ni’n gallu cyfrannu'n llawn, ond, os na fydd amser am ddadl ar gael—ac rwy'n gwerthfawrogi faint o bwysau amser sydd yn y Siambr hon—ac os bydd dadl yn amhosibl, rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig fel datganiad llafar er mwyn gallu gofyn rhagor o gwestiynau.

Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, roedd y Dirprwy Weinidog yma i glywed eich cyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi rhagor o ystyriaeth i'r mater.

A gaf i ddechrau drwy ymuno ag arweinwyr ar draws y Siambr a'r Prif Weinidog i longyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych dros y penwythnos? Fe ddylent fod yn hynod o falch o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n dod yn eu holau o Japan ddiwedd mis Tachwedd gyda Chwpan y Byd gan ddod â'r fasnach twristiaeth gyda nhw, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato o'r blaen.

Llywydd, rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Flaenau Gwent wedi cymryd diddordeb brwd yn y Cwpan Irn-Bru, a dyna pam yr wyf yn gobeithio y bydd ef, ynghyd â’r Trefnydd, yn dymuno’r gorau i Nomadiaid Cei Connah ar gyfer eu rownd derfynol yn erbyn Ross County dros y penwythnos. Mae pawb yng Nglannau Dyfrdwy yn eu cefnogi'n llwyr, ac rwyf yn edrych ymlaen at wneud y daith i fyny i Inverness y penwythnos yma ac at gwrdd â chefnogwr sydd wedi hedfan o Awstralia ar gyfer y gêm. Dyna pa mor bwysig ydyw i bobl o’r gogledd.

Ond, Llywydd, peidiwch â phoeni, nid yw’r chwaraeon yn gorffen yn y fan yna, mae mwy i ddod. Ddiwedd y mis, fe fyddaf innau yn cau careiau fy esgidiau. Byddaf yn dod allan o’m hymddeoliad ac yn chwarae i’r Offside Trust yn erbyn actorion Hollyoaks. Ond ar nodyn mwy difrifol, Dirprwy Lywydd, a wnaiff y Trefnydd ddatganiad a threfnu i'r Gweinidog perthnasol wneud datganiad ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gefnogi elusennau fel Offside Trust sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar gam-drin mewn chwaraeon am byth? Diolch.

14:55

Diolch yn fawr iawn i Jack Sargeant am godi'r hyn sydd yn fater difrifol a phwysig iawn. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn y portffolio chwaraeon, fy mod yn awyddus iawn i archwilio sut y gallem gydweithio orau â'r cyrff llywodraethu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel pan eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Gwn y bydd y Gweinidog chwaraeon presennol yn ysgrifennu atoch gyda diweddariad ar y mathau hynny o drafodaethau. Ac, wrth gwrs, rwy'n manteisio ar bob cyfle i ddymuno'r gorau i Grwydriaid Cei Connah, fel y gwnaf i'r rhan fwyaf o dimau—[Chwerthin.]—a diolchaf i Jack am godi hyn eto.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn enwedig os nad ydyn nhw'n cael eu codi yn y cwestiynau amserol yfory? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r sefyllfa gyda chwmni adeiladu Dawnus, ac er fy mod i'n diolch i Lywodraeth Cymru am y datganiad ysgrifenedig byr a dderbyniwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu y byddai'n werthfawr iawn i'r Aelodau gael y cyfle i ofyn cwestiynau, oherwydd bod cwymp cwmni sy'n mor bwysig i economi Cymru yn bendant yn werth datganiad llafar, yn fy marn i.

Yn ail, rwyf yn ategu cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen ddinesig Bae Abertawe. Er fy mod i'n rhannu ei rwystredigaethau ynghylch pa mor gyflym y mae peth o'r arian yn cael ei ryddhau, nid yw hynny'n syndod o ystyried bod rhai cwestiynau difrifol wedi eu codi ynglŷn â rheoli risg,  gwrthdaro buddiannau o bosibl, ar draws strwythur llywodraethu'r fargen ddinesig. Os cawn ni ddatganiad llafar am hynny, credaf y byddai hynny'n eithriadol o bwysig, oherwydd mae dyfodol y fargen hon yn bwysig ac mae'n gyfle mor bwysig i'n rhanbarth ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys eich etholaeth chi, a byddai'n drueni os na fyddwn ni'n cael cyfle i drafod hyn yn llawn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn cofio bod Ken Skates wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar Dawnus yn syth ar ôl y newyddion ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac mae swyddogion yn monitro cynnydd y gweithdrefnau gweinyddu. Byddwn yn sicr yn gweithio â'r gweinyddwr, pan gaiff ei benodi, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer pawb yr effeithir arnynt. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner yn y sector preifat i gefnogi staff uniongyrchol sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion. Ac rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, bod hyn yn amser annifyr iawn i bawb dan sylw, a byddwn yn ceisio cefnogi unigolion sydd wedi eu heffeithio i gael swyddi newydd tymor hir a diogel.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu i geisio sicrhau y gellir nodi lleoliadau newydd ar gyfer prentisiaid fel eu bod yn gallu gorffen eu rhaglenni hyfforddi. Ac, wrth gwrs, bydd rhai effeithiau sylweddol ar gadwyn gyflenwi Cymru, ac felly rydym ni'n gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i gefnogi'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt.

Yn amlwg, bydd rhai contractau sector cyhoeddus parhaus sylweddol yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio, a byddwn yn gweithio â'r gweinyddwr er mwyn sicrhau bod yr oedi, y tarfu ac unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu cadw cyn lleied â phosibl. Rwyf wedi siarad am y mater hwn gyda Ken Skates y bore yma, a gwn y bydd yn croesawu'r cyfle yn ystod y cwestiynau yfory i ddarparu rhagor o wybodaeth ac i sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei ddiweddaru cymaint â phosibl.

Hoffwn innau hefyd ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma, yn gyntaf ar y cyfryngau a mynediad at newyddion yng Nghymru. Rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf bod dwy orsaf fasnachol sy'n gwasanaethu Cymru yn dileu eu sioeau brecwast a gynhyrchir yn lleol, a chlywsom yr wythnos diwethaf fod Radio Cymru yn dileu Good Morning Wales ac yn ei disodli ym mis Mai. Gyda'i gilydd, mae hwn yn fater arwyddocaol i wlad sydd eisoes yn brin iawn o gyfleoedd i gael gafael ar newyddion a materion cyfoes yn ymwneud nid yn unig  â llywodraethu Cymru, ond yr hyn sy'n digwydd yn y wlad hon. A gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn gallu cael safbwynt ar y materion hyn a rhoi cyfle i'r Aelodau drafod a dadlau'r materion hyn ac yna  edrych ymlaen at sut y gallem fynd i'r afael â'r materion real iawn sy'n ein hwynebu o ran diffyg newyddion a materion cyfoes yn y wlad hon. 

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael, gan y Llywodraeth, os yw'n bosibl, yw dilyniant ar y cynnig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru gerbron yr Aelodau rai wythnosau yn ôl a oedd yn cynnwys ymrwymiad i baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus i ganiatáu i'r cyhoedd leisio barn derfynol ar unrhyw drafodaethau neu unrhyw gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, gwn fod y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trafodaethau ynghylch yr argyfwng Undeb Ewropeaidd, os mynnwch chi, yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn syth ar ôl y datganiad hwn. Ond fe hoffwn i glywed gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi bod yn ei wneud i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd wedyn ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddechrau paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais o'r fath. Credaf y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau ddeall pa gamau y mae Gweinidogion unigol wedi bod yn eu cymryd a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd er mwyn hyrwyddo'r polisi hwn ac er mwyn sicrhau bod pleidlais gyhoeddus yn digwydd i alluogi pob un ohonom i gael  gair olaf democrataidd ar y materion yn ymwneud â Brexit a'r Undeb Ewropeaidd.

15:00

Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â radio masnachol yn y lle cyntaf, yn amlwg, mae'r sector yn gwneud cyfraniad hanfodol pan ein bod yn ystyried pwysigrwydd sicrhau lluosogrwydd gwasanaethau yng Nghymru. Fel Llywodraeth, yn sicr nid ydym ni'n dymuno gweld rheolau lleolrwydd presennol ynghylch radio masnachol yn cael eu llacio ymhellach na'u diddymu. Rydym wedi pwysleisio hyn yn rheolaidd i Ofcom, a hefyd, rydym wedi codi'r mater hwn yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru i radio yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i weithrediadau radio masnachol fod yn hyfyw yn ariannol er mwyn bod yn gynaliadwy, ond rydym yn annog Ofcom i ymgysylltu â'r diwydiant i nodi dewisiadau eraill i gefnogi cynaliadwyedd radio masnachol, heb lacio'r rheolau lleolrwydd hynny, yn enwedig ynglŷn â darpariaeth newyddion lleol.

O ran y mater o ddarpariaeth amser brecwast BBC News, BBC Cymru neu BBC Wales yn y dyfodol, deallaf y bu cynigion i newid hynny, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi eich pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog perthnasol, a fydd yn gallu gwneud sylwadau ar eich rhan.

Ac, fel y dywedwch, mae gennym ddatganiad gan y Prif Weinidog ar Brexit fel yr eitem nesaf yn y Siambr y prynhawn yma, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi'r mater yn ystod y datganiad hwnnw.

Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar ariannu prentisiaethau, wythnos yn ôl, yn y Siambr, cyflwynodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod ei gyfraniad, dywedodd bod

tric consurio yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ariannu prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i ni i adlewyrchu ardoll. Yr ardoll yw... treth ar fusnesau ac nid yw'r cyllid wedi ei drosglwyddo i ni—torrwyd oddeutu £120 miliwn gan y Llywodraeth yn Lloegr oddi ar brentisiaethau sector cyhoeddus, ac, wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni i ariannu'r cynllun hwn.

Fodd bynnag, dywedodd llythyr dyddiedig 20 Gorffennaf 2018 oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol y DU at Eluned Morgan, a hi oedd, ar y pryd, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, fod y swm o arian a oedd yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan fformiwla Barnett wedi'i warantu yn yr adolygiad o wariant. Mae'r swm yn defnyddio £128 miliwn yn 2017-18, yn codi i £133 miliwn yn 2018-19 ac i £138 miliwn yn 2019-20. Felly, a gawn ni ddatganiad yn egluro (a) faint o arian gafodd Llywodraeth Cymru o dan y system flaenorol, (b) faint mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod ei dalu i'r ardoll, y mae'n rhaid wedyn i Llywodraeth Cymru wneud iawn amdano gyda swm y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ac (c) cadarnhau ei bod wir yn derbyn y ffigurau sydd yn y llythyr hwnnw oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref fis Gorffennaf diwethaf, neu fel arall a oes gennych chi dystiolaeth i'r gwrthwyneb?

Yn ail, a gaf i ddatganiad gan Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar y gefnogaeth ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth o led safonol yng Nghymru? Ac rwy'n siŵr fod nifer ohonom ni wrth ein boddau â'n rheilffyrdd treftadaeth. Gofynnwyd i mi ddod ag erthygl a fu yn y Denbighshire Free Press yn gynharach y mis hwn ar brosiect Corwen rheilffordd Llangollen i sylw cynrychiolwyr etholedig. Roedd hwn yn dweud bod gwirfoddolwyr sy'n adeiladu'r cyswllt rhwng dwy dref yn Sir Ddinbych yn dweud bod angen £10,000 arnynt i gwblhau'r prosiect. Maen nhw wedi gorffen 10 milltir o reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen ers i drenau roi'r gorau i redeg 45 mlynedd yn ôl, mae platfform wedi ei greu, ond mae bwlch yn dal i fod yn yr arglawdd rhwng yr orsaf newydd yng Nghorwen a gweddill y rheilffordd, a'r nod yw llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r prosiect ar gyfer yr orsaf yn costio tua £1 miliwn. Mae tua £600,000 o hyn yn waith sydd wedi ei gyflawni gan wirfoddolwyr, ac maen nhw'n gobeithio, gorffen hyn cyn tymor yr haf, oherwydd bod denu pobl i ymuno â'r trên yng Nghorwen yn hanfodol a bydd y dref yn elwa ar yr ymwelwyr ychwanegol hefyd.

Os caf i alw am ddatganiad ar gymorth ar gyfer ein rheilffyrdd treftadaeth o led safonol—oherwydd gwyddom fod Llywodraeth Cymru yw cefnogi'n rheilffyrdd treftadaeth cul—a chymeradwyo ac ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r ymdrech wirfoddol enfawr honno, sydd nid yn unig yn cyflawni prosiectau treftadaeth, ond sydd hefyd yn cynnig cymaint i dwristiaeth ac economïau ehangach ardaloedd y mae wir angen yr ysgogiad hwnnw arnynt.

15:05

Diolch am grybwyll hynny. Fe wnaf i yn sicr ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder sydd ei hangen arnoch chi ynghylch yr ardoll prentisiaeth, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd y Gweinidog priodol yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r rheilffyrdd treftadaeth lled safonol, ond fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ymuno â chi i longyfarch y gwirfoddolwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud er mwyn diogelu'r rhan hon o'n treftadaeth a'n hanes, a hefyd i hybu a gwella twristiaeth.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â'r canfyddiadau diweddar o ran sgrinio serfigol yng Nghymru? Dywedodd Sgrinio Serfigol Cymru bod traean o'r menywod o dan 30 mlwydd oed yn gwrthod gwahoddiadau i gael prawf canser ceg y groth, sy'n glefyd ofnadwy mewn gwirionedd. Canser ceg y groth yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc. Fel gyda phob math o ganser, po gynharaf y canfyddir y clefyd, y gorau y gellir ei gyflawni ar gyfer y claf. A allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r hyn y mae hi'n bwriadu ei wneud i gynyddu nifer y merched ifanc sy'n cael y profion sgrinio hanfodol hyn yng Nghymru?

A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yn y Siambr hon yw ynglŷn â chydlyniant a diogelwch cymunedol. Yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yn Seland Newydd, rwy'n gobeithio y bydd y wlad hon yn gosod esiampl fel gwlad gariadus, oddefgar ac yn hyrwyddo cydlyniant ymysg cymunedau a lles pawb sy'n byw yn y rhan hon o'r byd, a'i drafod yn y Siambr yn rheolaidd, i arwain y byd o ran sut yr ydym ni'n byw a sut yr ydym ni'n gwella ein safon. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. O ran y mater o ganser ceg y groth, rwy'n eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, ond yn cydnabod, fel y dywedwch chi, fod diagnosis cynharach yn hynod bwysig, a dyna pam mae'r amseroedd ymateb ar gyfer canlyniadau profion ceg y groth yng Nghymru—rydym ni'n gweithio'n galed iawn er mwyn sicrhau eu bod yn rhagori ar ein targed o 95 y cant o'r canlyniadau yn cael eu derbyn o fewn pedair wythnos, gyda 99.2 y cant o fenywod mewn gwirionedd yn cael eu prawf o fewn yr amser safonol, felly credaf fod hynny'n dyst i'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwnnw. Ond fel y dywedais yn gynharach, yn sicr nid ydym ni'n llaesu dwylo, a byddem yn annog Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgyrch #loveyourcervix, sydd wedi'i hanelu yn arbennig at ferched ifanc, sef y grŵp sydd leiaf tebygol ar hyn o bryd o fynd i gael eu sgrinio.

Ni allaf ond cytuno ag ac ategu eich sylw ynglŷn â Chymru'n wlad gariadus, groesawgar, oddefgar, a gobeithiaf yr adlewyrchwyd hynny yn y datganiad ysgrifenedig a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn gynharach heddiw.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Diweddaraf am Drafodaethau'r UE

Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Prif Weinidog ar y newyddion diweddaraf am drafodaethau'r UE, a galwaf ar Mark Drakeford, y Prif Weinidog.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfle arall eto i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau pendant i osgoi'r trychineb o Brexit heb gytundeb. Naill ai byddai'r Prif Weinidog yn llwyddo i gael ei chytundeb drwy'r Senedd, gan glirio'r ffordd ar gyfer estyniad byr i erthygl 50 i basio'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen, neu byddai'r Senedd yn dweud wrthi am ofyn i'r Cyngor Ewropeaidd am estyniad i erthygl 50 beth bynnag. Byddai cyfres o bleidleisiau seneddol yn rhoi cyfle i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi diwedd ar yr ansicrwydd sy'n niweidio ein heconomi ac sy’n effeithio ar fywydau ein cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig a thramor.

Ond, Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni’n cyrraedd diwedd yr wythnos heb symud ymlaen o gwbl. Er gwaethaf barn glir Tŷ'r Cyffredin, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gofyn am estyniad eto, nac wedi dweud yn gyhoeddus nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn. Mae methiant trychinebus cytundeb y Prif Weinidog am yr ail waith yn cadarnhau beth roedden ni'n gwybod o'r dechrau. Y Democratic Unionist Party a'r European Research Group yw'r union grwpiau sydd eisiau inni ymadael heb gytundeb, ac roedd dibynnu arnyn nhw i bleidleisio dros gytundeb sydd ddim yn eu plesio nhw—nac yn plesio’r rhai eraill ohonom ni sydd am leihau niwed economaidd Brexit—yn hollol ddwl.

Yr unig beth lwyddodd y Prif Weinidog i’w wneud yr wythnos ddiwethaf oedd creu mwy o niwed i fuddiannau ein gwlad, a’i gwneud yn fwy tebygol y byddwn yn ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth.

Yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fe welsom ni ddrama ffug taith funud olaf Mrs May i Strasbwrg i gael cyfres newydd o ymrwymiadau ail-law gan 27 o wledydd yr UE. Roedd yr ymrwymiadau hyn eisoes ymhlyg neu'n amlwg yn y cytundeb ymadael ym mis Tachwedd ac y cefnodd y Prif Weinidog arno ym mis Ionawr. Yna fe wnaethom ni edrych mewn syndod wrth iddi fethu â sicrhau cymeradwyaeth ei swyddog cyfraith ei hun o ran yr honiadau yr oedd hi wedi eu gwneud.

A, drwy ddangos y gwir—fod y 27 o wledydd yr UE wedi gwneud popeth posib i wneud y cytundeb yn dderbyniol heb gefnu ar egwyddorion yr UE o undod rhwng aelod-wladwriaethau a pharchu'r farchnad sengl—mae Prif Weinidog y DU wedi helpu 27 o wledydd yr UE i ddangos bod unrhyw fethiant parhaol yn y trafodaethau hyn yn ganlyniad i gamreoli gwleidyddol y Llywodraeth Dorïaidd.

Y canlyniad yw ein bod ni bellach ar ymyl y dibyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog yn llwyddo. Os, fel y mae hi yn awr yn ymddangos sy'n debygol, y bydd hi'n gofyn am estyniad i Erthygl 50 heb unrhyw gynllun clir, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y 27 o wledydd yr UE yn llwyddo i gael yr unfrydedd angenrheidiol sydd ei angen i gytuno i hynny. Os lwyddan nhw, hwyrach y byddant yn gosod amodau, gan gynnwys y gofyniad i gynnal etholiadau Ewropeaidd ymhen dau fis, y gallai Llywodraeth y DU, yn ei thro, eu gwrthod.

A, hyd yn oed os cytunir ar estyniad, byddwn mewn maes dieithr. Yn llawer rhy aml yn y broses hon, Dirprwy Lywydd, mae Saeson cenedlaetholgar cibddall y mudiad Brexit yn anghofio bod angen i ddwy senedd gymeradwyo unrhyw gytundeb. Mae'n rhaid i Senedd Ewrop bleidleisio arno erbyn 18 Ebrill—ei chyfarfod llawn olaf cyn cael ei hethol—neu bydd angen i'r broses ddechrau gyda Senedd Ewrop newydd a gwahanol iawn o bosib yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nawr, hyd yn oed heb ymyrraeth llefarydd Tŷ'r Cyffredin ddoe, roedd hi'n amlwg nad oedd gan y Prif Weinidog unrhyw le i fynd. Erbyn y trydydd diwrnod o bleidleisiau'r wythnos diwethaf, roedd ei Chabinet wedi chwalu. Caeodd yr Ysgrifennydd Brexit y ddadl drwy gyflwyno'r cynnig ar gyfer yr estyniad ac annog Aelodau Seneddol i beidio â phleidleisio fel yr oedd yntau yn bwriadu ei wneud, ochr yn ochr â phump o Weinidogion Cabinet eraill.

Sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod yn pleidleisio ddwywaith: unwaith o blaid, ac unwaith yn erbyn y cynnig yn enw ei Brif Weinidog ei hun. Pasiwyd y cynnig hwnnw gyda phleidleisiau'r wrthblaid yn unig. Mae gennym ni Lywodraeth sy'n dal i ddioddef gorchfygiad ar ôl gorchfygiad, Cabinet mor rhanedig ag erioed, a Phrif Weinidog na all uno ei phlaid ei hun, heb sôn am y genedl. O ran y mater pwysicaf i'r Llywodraeth, nid oes unrhyw arweinyddiaeth, nid oes cyfrifoldeb ar y cyd ac nid oes unrhyw reolaeth.

Does bosib, Dirprwy Lywydd, fod yr amser wedi dod pryd mae'n rhaid i'r Llywodraeth, gyda neu heb y Prif Weinidog, newid cwrs er mwyn meithrin consensws traws-bleidiol—nid er mwyn ceisio dyhuddo llond llaw o bobl anfoddog a gwrthwynebus, ond drwy sicrhau cymorth gan arweinwyr y pleidiau o bob rhan o Dŷ'r Cyffredin—ac i wneud hynny'r sail yr ydym ni'n ceisio estyniad i Erthygl 50 arni.

Ond, Dirprwy Lywydd, ni fydd hyn yn digwydd os yw'r Llywodraeth a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Torïaidd yn cael eu llyffetheirio gan ofynion y Prif Weinidog: 'na' i'r farchnad sengl; 'na' i undeb tollau; 'na' i agwedd synhwyrol i ymfudo. Mae oblygiadau ei strategaeth drychinebus a gafodd ei disgrifio yn ei haraith yn Lancaster House yn dod i'w penllanw trychinebus. Rydym ni wedi gweithio'n galed i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ond dim ond hyn a hyn a allwn ni ei wneud i liniaru beth fyddai'n drychineb llwyr i Gymru.

Rydym ni'n parhau i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol ar bob cyfle. Aeth Vaughan Gething yr wythnos diwethaf i gyfarfod cyntaf gweinidogion iechyd y pedair gwlad. Rydym ni wedi cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon o'n Cabinet ein hunain ac o'n his-bwyllgor Cabinet ein hunain ar ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn siarad â David Lidington y prynhawn yma, ar ôl cyfarfod ag aelodau o Senedd Ewrop yn Strasbourg yr wythnos diwethaf.

Nawr, Dirprwy Lywydd, fel yr wyf i wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn ein barn ni, mae dwy ffordd y gellid gwneud cynnydd. Rydym ni'n parhau i ddadlau dros y polisi y buom ni'n ei arddel erioed ers y refferendwm: ffurf ar Brexit sy'n rhoi buddiannau economaidd ein gwlad o flaen ymagweddu a gorchest wleidyddol, ac sy'n rhoi swyddi cyn ymadroddion rhwysgfawr ond gwag fel adfer rheolaeth o'n harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau. A, Dirprwy Lywydd, nid yn unig yw ein cynllun yn gywir mewn egwyddor, ond rydym ni hefyd yn credu bod modd ei gyflawni'n ymarferol. Byddai aildrafod y datganiad gwleidyddol yn y modd hwn, gan ymrwymo i gymryd rhan mewn undeb tollau ac yn y farchnad sengl, ynghyd â chael cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei groesawu, fel y gwyddom ni, gan 27 o wledydd yr UE, ac, rydym ni'n credu, y gellid cyflawni hyn yn gyflym a'r tu allan i'r cytundeb ymadael ei hun.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymalau drafft i ddangos sut y gellid cynnwys newidiadau o'r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol—enghraifft arall o Gymru yn cyflwyno atebion creadigol i broses sydd fel arall mewn parlys llwyr. Mae'r parlys hwnnw, Dirprwy Lywydd, yn deillio o gymysgedd gwenwynig o anghymhwysedd ac anhyblygrwydd sydd wedi dod yn nodwedd o Lywodraeth y DU. Oherwydd ei bod hi mor anodd cael ffydd yn ei gallu i sicrhau Brexit trefnus, dyna pam ein bod ni'n parhau i gefnogi ail bleidlais gyhoeddus os na ellir fel arall dod o'r parlys hwnnw. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi'i nodi yn y Siambr hon, ac rwy'n ei hailadrodd eto heddiw, ond ni ddylai unrhyw un, fel y gwyddom ni, dybio y bydd hynny'n syml.

Mae ail bleidlais yn gynnig sydd eto i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddai angen estyniad hirach na 30 Mehefin, gyda'i holl oblygiadau ar gyfer etholiadau Ewropeaidd. A byddai ail ymgyrch refferendwm yn cael ei hymladd mewn ffordd a fyddai'n anochel yn peri rhwyg. Ond gadewch i mi ailadrodd eto: Os yw Tŷ'r Cyffredin yn penderfynu mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd drwy'r gors a grëwyd, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu yn y modd hwnnw.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n sefyll ar ymyl y dibyn. Gyda dim ond 10 diwrnod nes yr ydym ni i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes cytundeb, ac ychydig iawn o arwyddion sydd gan y Prif Weinidog fod parodrwydd neu gynllun i ganfod cytundeb newydd. Boed iddi newid cwrs. Boed iddi roi anghenion y wlad cyn ei phlaid doredig. Boed iddi estyn allan at bobl eraill sy'n barod i helpu, a boed iddi wneud hynny cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

15:15

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma?

Mae'n ofid mawr fod rhai gwleidyddion, ym mhob plaid, wedi defnyddio'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd fel pêl droed wleidyddol, ac rwy'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi dewis cyfrannu at hyn drwy ei wrthwynebiad cyson i unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud i dorri drwy'r parlys. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl ledled y DU yn teimlo rhwystredigaeth fawr, gyda chyn lleied o amser cyn inni adael yr UE, gyda'r pendilio cyson sy'n parhau i dra-arglwyddiaethu yn y byd gwleidyddol. Ac roeddwn i wedi gobeithio o leiaf yn y sefydliad hwn, y gallai pobl Cymru fod yn siŵr y byddai dadl aeddfed, mewn difrif, ar y mater mwyaf sy'n ein hwynebu fel Aelodau Cynulliad. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Brif Weinidog Cymru yw gofyn pa drafodaethau uniongyrchol y mae wedi eu cael gyda Phrif Weinidog y DU ac Arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan i sicrhau yr ymdrinnir ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gadarn, yn deg a heb yr angen am ennill pwyntiau gwleidyddol.

Fel y gŵyr y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf pleidleisiodd Aelodau Seneddol i ganiatáu estyniad i Erthygl 50. Wrth gwrs, bydd hyd yr estyniad hwnnw yn dibynnu ar ba un a gaiff cytundeb presennol Prif Weinidog y DU ei gymeradwyo'n derfynol gan San Steffan. Mae Prif Weinidog Cymru yn gwbl ymwybodol fy mod i wedi cefnogi cytundeb Prif Weinidog y DU oherwydd fy mod yn credu y bydd yn parchu canlyniad y refferendwm, ond byddai hefyd yn sicrhau y bydd ein busnesau yn gallu parhau i fasnachu'r ddwy ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, os cymeradwyir y cytundeb yn y pen draw, yna wrth gwrs bydd yn rhaid ymestyn Erthygl 50 er mwyn pasio'r ddeddfwriaeth. Efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynghylch yr estyniad i Erthygl 50. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddweud wrth y Prif Weinidog y credaf y bydd hi'n annerbyniol i bobl a busnesau Cymru pe byddai'r Prif Weinidog yn annog ymestyn Erthygl 50 y tu hwnt i fis Mehefin, gan wneud y rhwystredigaeth yn waeth ac ychwanegu amhariad yr etholiadau Ewropeaidd at broses Brexit. Bydd llawer o bobl yn cwestiynu perthnasedd yr etholiadau hyn i sefydliad yr ydym ni i fod, ac y byddwn ni yn ei adael.

Mae'r Prif Weinidog newydd ddweud yn ei ddatganiad bod adfer rheolaeth dros ein harian, ein ffin a'n cyfreithiau yn eiriau gwag, ond dyma'n union yr hyn a bleidleisiodd pobl Prydain a Chymru amdano, a dyma'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei gyflawni. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fod Prif Weinidog Cymru eisiau gweld cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd, ond mae Prif Weinidog y DU wedi achub y blaen arno, ac wedi ymrwymo i'w cryfhau unwaith ein bod ni mewn gwirionedd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Rwy'n cytuno gyda'r Prif Weinidog ei bod hi'n hollbwysig y gwneir popeth i liniaru effaith gadael heb gytundeb, yn enwedig ar gyfer busnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw yn rhan annatod o farchnadoedd Ewropeaidd. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymwybodol iawn o'r effaith ddifrifol y gallai tariffau'r UE ynghyd â'r sefyllfa bosib o Brexit heb gytundeb ei chael ar lawer o gynhyrchwyr llai a chadwyni cyflenwi ym mhob agwedd ar ddiwydiant Cymru, yn enwedig ffermwyr mynydd Cymru, a gaiff eu taro gan dariffau uwch. Gyda fawr ddim amser yn weddill, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha drafodaethau brys y mae wedi eu cael ac yn eu cael gydag arweinwyr busnes Cymru.

Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, rwy'n awyddus i weithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pryd y gallaf er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru orau, ac rwyf eisiau ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Wrth gwrs, gallai digwyddiadau allweddol yr wythnosau diwethaf gael effaith ddifrifol ar allu'r DU i ddatblygu cytundebau masnach ryngwladol, a fydd yn hollbwysig wrth helpu i ddatblygu economi Cymru ar ôl Brexit, fel y byddai dymuniad Plaid y Prif Weinidog i'n rhwymo i undeb tollau yr UE—yr union beth sy'n nacau inni'r gallu i fod â llais mewn cytundebau masnach. Pan ffurfiodd y Prif Weinidog ei Lywodraeth, aeth ati'n ddiymdroi i benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros Brexit, a Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros fasnach ryngwladol. Yng ngoleuni'r penodiadau hynny, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa ganllawiau swyddogol ac asesiadau a dderbyniodd gan y ddwy adran ynglŷn ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gallu Cymru i fod yn rhan o gytundebau masnach ryngwladol yn y dyfodol? Efallai y gallai hefyd gadarnhau pa waith mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud i ddatblygu ei strategaeth fasnach ryngwladol ei hun, fel y gall Cymru ddechrau arni'n syth ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd a gweithio gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa sy'n hollol newydd iddynt. Mae'n bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig yma, sef parchu canlyniad refferendwm 2016 a sicrhau'r ymadawiad rhwyddaf posib â'r Undeb Ewropeaidd. Yn y gorffennol, mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yr un mor bryderus â minnau ynglŷn â natur gyfansoddiadol y DU ers Brexit a lle Cymru yn hynny. Felly, efallai mewn ymateb i fy nghwestiynau y prynhawn yma y bydd hefyd yn achub ar y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar asesiad Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar Gymru mewn cyd-destun cyfansoddiadol.

Dirprwy Lywydd, byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gweithio lle gallwn ni ag eraill i amddiffyn buddiannau Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant Cymru ar ôl Brexit ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog nawr yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod.

15:25

Diolch i'r Aelod am gyfres o gwestiynau pwysig. Rwyf eisiau wfftio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau, oherwydd yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi coleddu'r agwedd o wrthwynebu unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei wneud yn y maes hwn. Rhoesom groeso cymedrol i araith Fflorens, pan ddechreuodd y Prif Weinidog gyfaddawdu ar yr amodau yr oedd hi wedi eu nodi yn ei haraith yn Lancaster House. Rhoesom groeso cymedrol i'w chynllun Chequers. Nid Llywodraeth Cymru oedd y broblem a oedd gan y Prif Weinidog ynghylch y mater hwnnw; ond ei hanawsterau wrth geisio cael cymorth o fewn ei phlaid ei hun. Faint o Weinidogion Cabinet a adawodd ei Llywodraeth o ganlyniad i'r cynllun Chequers? A faint mae hi wedi parhau i'w colli bron yn wythnosol fyth ers hynny? Pan fo Llywodraeth y DU wedi symud i'n cyfeiriad ni, rydym ni wedi ceisio croesawu hynny a'u hannog i wneud hynny. Yn y pen draw, pendantrwydd Prif Weinidog y DU mai ei chynulleidfa bwysicaf yw'r rhai sydd yn eistedd y tu ôl iddi ac nad ydynt yn fodlon derbyn ei chynllun sydd wedi ei thanseilio.

Mae'r Aelod yn gofyn pryd siaradais â Phrif Weinidog y DU ddiwethaf; siaradais â hi yr wythnos diwethaf. Fe wnes i gyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid ychydig cyn dechrau'r hanner tymor hwn, ac rwyf wedi trafod gyda'r ddau ohonyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld y prynhawn yma bod arweinydd yr wrthblaid yn cyfarfod ag arweinwyr y pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio gwneud beth ddylai'r Prif Weinidog fod wedi bod yn ei wneud ers wythnosau lawer bellach, sef estyn at y pleidiau eraill i ddod o hyd i wahanol fath o gydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin lle gellid dod i gytundeb.

Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yn hollol ddidwyll yr hyn y mae Arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud ynghylch dymuno chwarae rhan adeiladol ei hun, ac rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio ei swyddogaeth yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru i eiriol dros Gymru ar y Prif Weinidog ei hun, oherwydd cytunais â'r hyn a ddywedodd am effaith Brexit heb gytundeb o ran goblygiadau tariff a di-dariff ar economi Cymru, ar ein sector gweithgynhyrchu, ar ein sector amaethyddol. Mae'r rheini'n anawsterau mawr iawn sy'n ein hwynebu pe byddai Brexit heb gytundeb yn digwydd, a byddai croeso i unrhyw eiriau yng nghlust y Prif Weinidog am yr anawsterau hynny.

Gofynnodd Aelod beth ydym ni'n ei wneud i sicrhau ein bod mewn cysylltiad â busnesau Cymru. Wel, rydym ni'n parhau i annog busnesau Cymru i ddefnyddio'r porth Brexit a sefydlwyd gennym ni—mae 30,000 wedi ymweld â hwnnw. Ond un peth yw ymweld â'r porth, peth arall yw derbyn ei gyngor a gwneud y gwaith diagnostig y mae angen i gwmnïau ei wneud i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Rydym ni'n defnyddio cronfa bontio'r UE sydd gennym ni i barhau i gefnogi busnesau a sectorau eraill yn economi Cymru i baratoi ar gyfer y byd hwnnw.

Yr hyn na fyddwn ni'n gallu ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cofleidio'r ffantasi sy'n bodoli ymysg gwleidyddion Ceidwadol fod y byd yn aros am Brydain anturus, fel pan fyddwn ni'n troi ein cefn ar ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig, y caiff hynny ei ddisodli gan yr holl gytundebau hyn a fydd yn cael eu llunio ar draws y byd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod y cytundebau yr ydym ni eisoes yn eu mwynhau drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwrthod i ni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ymhell o gael mwy o gytundebau masnach ledled y byd, byddwn yn dechrau gyda llawer llai na'r hyn sydd gennym ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r UE.

Gadewch imi derfynu gyda'r sylw olaf pwysig iawn a wnaeth arweinydd yr wrthblaid: natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae hwn yn fater y mae fy rhagflaenydd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei gylch ledled y Deyrnas Unedig, wrth geisio dal sylw pobl eraill ar y ffyrdd hynny o weithio o fewn y Deyrnas Unedig a fydd yn angenrheidiol er mwyn iddi barhau i weithredu'n llwyddiannus unwaith y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dechreuwyd ar y gwaith gan Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y DU mewn cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth y llynedd. Mae'r gwaith hwnnw eto i'w gwblhau, ac mae'n anodd iawn yn wir dod o hyd i bobl yn Llywodraeth y DU sydd â'r diddordeb neu'r ynni i weithio ar yr agenda honno pa fo nhw wedi eu llethu gymaint gan yr anawsterau y mae Brexit wedi eu creu. Ond rydym ni'n parhau i weithio ar hyn, rydym ni'n parhau i weithio ar hyn gyda chydweithwyr yn yr Alban, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddychwelyd at y Cyd-bwyllgor Gweinidogion llawn gydag adroddiad cynhwysfawr ar yr holl feysydd gwaith gwahanol y cytunwyd arnynt, oherwydd bydd cynnal busnes yn drefnus ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu arnyn nhw pan na fydd yr Undeb Ewropeaidd yno mwyach.

15:30

Prif Weinidog, mae fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn cyfarfod â Jeremy Corbyn wrth inni siarad, er mwyn ystyried cydweithredu trawsbleidiol i sicrhau, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, dull cydweithredol. Rydym ni'n gobeithio y daw mwy o eglurder ynghylch safbwynt gwirioneddol y Blaid Lafur ar Brexit. Yr wythnos diwethaf, nododd BBC Cymru fod uwch-aelod ym Mhlaid Lafur Cymru—sydd naill ai'n eistedd neu beidio, pwy a ŵyr, ar eich meinciau blaen—wedi dweud bod eich diffyg eglurder dros bleidlais y bobl yn achosi tensiynau yn eich Cabinet. Fe wnaethon nhw alw eich polisi yn anghynaliadwy ac yn ddryslyd. Disgrifiodd eich Aelod Cynulliad eich hun—Lynne Neagle, Torfaen—eich sefyllfa fel un chwerthinllyd ac un nad yw'n argyhoeddi. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi ddweud y byddai ail refferendwm yn rhannu pobl, o bosib yn amhendant, ond y byddech chi'n cefnogi hynny wedyn, os byddai Tŷ'r Cyffredin yn gwneud hynny'n gyntaf. Mae'n anodd dychmygu cymeradwyaeth wannach o'r achos dros ail refferendwm. Rydych chi'n rhwyfo ymhellach ac ymhellach i ffwrdd, Prif Weinidog, o'r polisi a gymeradwywyd gennym ni yn y lle hwn ym mis Ionawr, cymaint felly, petai Jeremy Corbyn, yn wyrthiol, yn gwneud tro pedol eto, ac yn mabwysiadu polisi o roi pleidlais i'r bobl, yn dilyn ei gyfarfod â Phlaid Cymru y prynhawn yma, fe fyddech chi mewn gwirionedd yn pasio eich gilydd, yn wynebu cyfeiriadau cyferbyniol, fel llongau yn suddo yn y nos.

Ac yna dyna'r cwestiwn, Prif Weinidog, pe byddai refferendwm arall, sut fyddech chi a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu ac yn pleidleisio? Pan gafodd ei gyfweld gan Sky News ddydd Sul, roedd yn ymddangos bod Jeremy Corbyn, o'r diwedd, yn cymryd agwedd bendant. Ac yna peidiodd. Yn gyntaf, cyfaddefodd y dylid cael refferendwm arall, ar yr hyn a alwodd yn gytundeb credadwy i adael yr Undeb Ewropeaidd, sef yr hyn a olygai oedd cytundeb gan y Blaid Lafur i sefydlu undeb tollau newydd a pherthynas agos â'r farchnad sengl, a dewis i aros yn yr UE. Pan bwyswyd arno ynghylch sut fyddai'n pleidleisio mewn refferendwm o'r fath, atebodd y byddai'n well ganddo gydnabod canlyniad refferendwm 2016. Dyna ben ar niwlogrwydd, hir oes i niwlogrwydd. Beth oedd yn ei olygu wrth hynny? Prif Weinidog, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni yma nawr. Bydd fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn sicr yn gofyn iddo. Ond mae eich datganiad heddiw yn awgrymu mai eich dewis chi hefyd yw sicrhau eich fersiwn chi o Brexit dros ganlyniad 'aros' mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.

Yn olaf, a gaf i droi at y dadansoddiad ar gyfer eich Llywodraeth gan yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, sydd wedi canfod y caiff Cymru ei tharo'n galetach na gweddill y DU gan yr isafswm cyflog arfaethedig o £30,000 ar gyfer ymfudwyr medrus sy'n bwriadu dod i'r DU o 2021? Dywedodd, er nad yw enillion llawn amser cyfartalog ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd ymhell o £30,000, eu bod nhw yng Nghymru yn sylweddol is na hynny. O ganlyniad, byddent yn rhwystr enfawr i fusnesau yng Nghymru sy'n chwilio am weithwyr proffesiynol medrus o dramor. Argymhellodd bennu isafswm cyflog o £20,000 i Gymru. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru—i'r graddau yr wyf i wedi llwyddo i'w ddarganfod—wedi mynegi barn ynghylch canlyniadau ei hymchwil ei hun. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda'r Athro Portes, ac, os felly, beth ydych chi'n ei wneud i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ystyried ei argymhellion?

Wel, dechreuodd Adam Price drwy gyfeirio at y dull cydweithredol y mae mannau eraill yn rhoi cynnig arno, ac rwy'n falch iawn o hynny. Ac rwy'n falch iawn y bydd Aelodau ei blaid, a'r pleidiau eraill, yn dod at ei gilydd er mwyn ceisio dod o hyd i'r ffordd wahanol honno drwy Tŷ'r Cyffredin.

Yn rhan ganol yr hyn yr oedd gan Adam i'w ddweud—mae ganddo obsesiwn â phobl nad ydyn nhw yn y Cynulliad hwn, ac nad ydyn nhw'n atebol iddo. Felly, fe wnaf i siarad drosof fy hun a'r cyfrifoldebau sydd gennyf yn y fan yma. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson o'r dechrau a bod ein safbwynt yn hollol eglur. Efallai ei fod yn gymhleth, ond mae'n eglur, a dyna'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma—bod cytundeb i'w wneud ar sail y cynigion yr ydym ni yn gyson wedi eu cefnogi ers iddyn nhw gael eu ffurfio'n gyntaf mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru yma yn y Cynulliad, ac rydym ni'n parhau i gefnogi'r cynigion hynny. Rwy'n gwybod fod yr Aelod wedi ymbellhau cryn dipyn oddi wrthyn nhw'n ddiweddar, ac, wrth gwrs, mae ganddo berffaith hawl i wneud hynny, ond nid ydym ni wedi gwneud hynny. Rydym ni'n dal i gredu eu bod yn cynnig ateb a allai weithio i Gymru a dyna fy safbwynt i heddiw.

Nid yw hi'n gwneud unrhyw les i neb, pan fo nhw'n dweud eu bod o blaid sefyllfa, i beidio ag edrych ar yr anawsterau sydd efallai ynghlwm â'r sefyllfa honno. Er fy mod i'n cefnogi—fe wnaf i ddweud hynny eto; rwyf wedi dweud hynny droeon yn y fan yma—ail bleidlais gyhoeddus fel datrysiad i Dŷ'r Cyffredin sydd mewn parlys, nid oes neb ar ei ennill drwy beidio ag edrych ar y pethau y byddai'n rhaid eu datrys ar gorn yr ateb hwnnw, a dyna'r hyn y ceisiais i ei wneud y prynhawn yma. A byddai eu hwfftio fel pe na baen nhw'n bodoli, fel pe na fyddai cynnal ail refferendwm yn gynhennus—. Mae'r mater hwn yn gynhennus yn y Siambr hon, mae'r mater hwn yn gynhennus yn ein cymdeithas. Os cawn ni bleidlais arall—ac os mai dyna sydd ei angen arnom ni, byddaf yn ei gefnogi'n llwyr—yna byddwn yn gwybod y ceir pobl a fydd yn arddel safbwyntiau gwahanol cryf ynghylch hynny, ac nid yw ysgwyd pen a gweithredu fel pe na bai hynny'n bwysig yn gwneud cyfiawnder ag arwyddocâd y penderfyniad hwnnw.

Beth fyddai safbwynt Llywodraeth Cymru pe byddai ail refferendwm? Wel, rwyf wedi dweud hyn yn eglur droeon hefyd—os ceir ail refferendwm, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio hwnnw, yna nid oes dim a welais yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf yn fy arwain i gredu bod y cyngor a roesom ni i bobl yng Nghymru yn y refferendwm cyntaf yn gyngor anghywir. Fe wnaethom ni gynghori pobl bryd hynny bod modd sicrhau dyfodol pobl yng Nghymru orau drwy aelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd, a hynny fyddai fy nghyngor onest i bobl pe caem ni gyfle arall i bleidleisio ar hynny. Caiff dyfodol Cymru ei sicrhau orau drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae llawer o bobl yma yn anghytuno—wrth gwrs eu bod nhw. Dyna pam y dywedais y byddai'r ddadl yn anochel yn un a fyddai'n ein rhannu. Ond dyna yw fy marn onest. Nid yw unrhyw beth a welais yn y cyfamser wedi newid hynny. Byddai'n safbwynt anodd ei gyfleu i lawer o bleidleiswyr Llafur sydd o farn wahanol i hynny. Ond os cawn ni bleidlais gyhoeddus arall, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio, cyngor y Llywodraeth hon fydd mai hynny sydd fwyaf llesol i Gymru.

Gadewch imi droi at y pwynt olaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Y pwynt olaf un a wnaeth yr Aelod oedd yr un ynglŷn ag adroddiad Jonathan Portes. Dyna'r ail adroddiad a ddarparwyd gan yr Athro Portes i Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gwrdd ag ef ac i drafod ei adroddiad cyntaf. Yr hyn y mae'n ei wneud yw nodi dau o'r diffygion mawr yn y polisi ymfudo a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU: mae'r polisi yn mynnu gosod terfyn cyflog mympwyol ac yn mynnu rhannu'r gweithlu yn fympwyol rhwng y rhai medrus a'r rhai di-grefft. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny yn gweithio i Gymru.

Siaradais yn fanwl â Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a gofyn iddo a oedd wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gosodiadau hynny o ran economi Cymru. Dywedodd wrthyf nad oedd. Nid yw'n syndod bod yr Athro Portes—y prif arbenigwr ar y materion hyn yn y DU—yn dod i gasgliad sy'n dweud y byddai isafswm cyflog o £30,000 yn groes i fuddiannau gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion yng Nghymru. Ac mae disgrifio pobl sy'n gweithio yn ein system gofal cymdeithasol fel rhai anfedrus ac, felly, nad oes angen eu recriwtio o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn gwbl groes i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bobl o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Byddwn yn cefnogi casgliadau adroddiad Portes, a phan yr ydym ni wedi cael cyfle priodol i gnoi cil arno ac i'w drafod gyda'r awdur, yna byddwn yn mynegi'n eglur ein casgliadau o ran hynny.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fodd bynnag, erbyn newyddion chwech o'r gloch heno, efallai y bydd peth ohono'n amherthnasol, wrth i Lywodraeth traed moch San Steffan gythru hyd y lle yn ceisio newid hynny a llunio diffiniadau newydd o'i chytundeb presennol ei hun i'w gadw ar y papurau hynny. Mae un neu ddau sylw yr hoffwn i eu crybwyll ichi. Yn amlwg rydym ni wedi clywed dadleuon ynghylch lle'r ydym ni arni yn y broses, ac rydym ni yn awr lai na 10 diwrnod o'r dyddiad ymadael o dan y gyfraith—fel y gwyddom ni sydd yn y gyfraith ar hyn o bryd—ac nid yw penderfyniadau Llywodraeth y DU dros y ddwy flynedd a hanner mewn gwirionedd wedi cyflawni dim o ran y broses hon. Ond rydym ni bellach mewn sefyllfa pryd yr ydym ni'n gwybod, os na cheir chytundeb, bellach caiff tariffau eu cyflwyno. Fe gawson nhw eu datgan yr wythnos diwethaf a'u cyhoeddi yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth y DU. Efallai y gallwch chi awgrymu sut y byddai'r tariffau hynny yn effeithio ar economi Cymru, yn enwedig yng nghyswllt porthladdoedd Cymru, gan fod rhan o'r trafodaethau hynny yn cynnwys dim tariff rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, a fyddai'n amlwg yn annog busnesau Iwerddon i gludo eu nwyddau drwy Ogledd Iwerddon ac ymlaen i Lerpwl gan na fyddai unrhyw archwiliadau ar yr agwedd honno chwaith? Byddai hynny'n effeithio'n fawr ar borthladdoedd Cymru. Bydd y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y byddant yn sicrhau buddsoddiad a chynhyrchiant y porthladdoedd hynny yng Nghymru yn hollbwysig.

O ran y trafodaethau ynglŷn ag estyniad, nid ydym ni'n gwybod pa mor hir fydd hwnnw, nid ydym ni'n gwybod beth y mae hi'n ei fwriadu—mae hi'n sôn am un byr ac un hir. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod, fel y dywedwch chi, a fydd y 27 o wledydd yr UE yn cytuno i hynny chwaith, gan fod rhaid cael diben ac nid wyf wedi clywed am ddiben eto. A yw hi wedi nodi diben i chi mewn unrhyw drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda chi ynghylch beth fydd yr estyniad hwnnw mewn gwirionedd yn ceisio ei gyflawni? Oherwydd rydym ni i gyd yn siarad am y peth, ond nid ydym ni'n gwybod beth yw'r bwriad neu beth fydd diben hynny.

A ydych chi hefyd yn cytuno â mi ein bod ni'n chwarae gemau a bod canlyniadau difrifol i'r gemau hynny, oherwydd y berthynas sydd ganddi gyda'r DUP y tu ôl i ddrysau caeedig? Mae hi'n amlwg o'r wybodaeth yr ydym ni'n ei chael bod posibilrwydd y bydd y DUP yn cael cynnig sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Beth fydd yn digwydd i Gymru a Llywodraeth yr Alban mewn perthynas â hynny? Ond hefyd ariannu—pa ddadl gaiff ei defnyddio ynghylch sut y gall hi gyfiawnhau rhoi mwy o arian i'r DUP, pan rydym ni unwaith eto yn cael dim budd o hyn ac felly'n gweld effaith ar ein heconomïau wrth inni chwalu allan heb gytundeb gan fod 60 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE? Felly, ble ydym ni arni yn hynny o beth?

Tynnodd Arweinydd yr wrthblaid sylw at baratoi busnesau ar gyfer ymadael heb gytundeb, ond a allwch chi hefyd roi inni wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth Leol, oherwydd, unwaith eto, bydd Llywodraeth Leol yn dioddef o ddifrif, a chyrff cyhoeddus fel cyrff iechyd, oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod am y goblygiadau i'n gwasanaethau iechyd o ymadael heb gytundeb? Yn anffodus—nid rhywbeth y byddai llawer o bobl eisiau ei weld yn digwydd yr wythnos nesaf—rydym ni'n symud yn agosach ac yn agosach ac yn agosach at sefyllfa o ymadael heb gytundeb.

Mae gennyf ddamcaniaeth cynllwyn efallai bod Llywodraeth y DU a'r Prif Weinidog yn benodol yn hoffi symud tuag at hyn oherwydd mae'n gweddu i'w hanghenion—estyniad, estyniad hir i ddod yn ôl ag ef—. Mae hynny'n mynd i wthio Brecsitwyr i dderbyn ei chytundeb. Mae'n amlwg yn ffordd o weithredu, ac yn seiliedig ar ei gweithredoedd yr wythnos diwethaf, pan addawodd pleidlais rydd ar nos Fawrth ar ôl iddi golli'r bleidlais yn y Tŷ o 149—cododd ac addawodd mewn gwirionedd bleidlais rydd i'w phlaid ar ymadael heb gytundeb. Y diwrnod canlynol, fe wnaeth hi mewn gwirionedd ailystyried a chwipio ei haelodau yn erbyn ei chynnig ei hun. Felly, sut gellir ymddiried ynddi mewn gwirionedd i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed ganddi ar y dechrau? Oherwydd fe wnaeth hi addo hyn ar y blwch dogfennau, ac mae hynny'n agwedd bwysig. Rhaid inni gael ffydd yn y cytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig. Os nad yw ein Prif Weinidog hyd yn oed yn anrhydeddu ei haddewidion ei hun i'w phlaid ei hun, sut allwn ni ymddiried yn ei haddewidion i ni?

O ran y cytundebau masnach unwaith eto, Prif Weinidog, fe gawsom ni drafodaeth yr wythnos diwethaf ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach, ond rwy'n mynd i anwybyddu'r Bil Masnach ar hyn o bryd—gadewch i ni edrych ar y cytundebau parhad masnach a oedd yn cael eu trafod. Rwy'n deall bod chwech wedi eu llunio erbyn hyn, ond a allwch chi gadarnhau a oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld y cytundebau masnach hynny cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Ydych chi wedi mynnu gweld cytundebau masnach eraill cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Oherwydd bod y rhain yn effeithio'n fawr ar economi Cymru ac mae'r rhain yn newid polisi. Nid ydyn nhw mor syml â throsglwyddo; ceir newidiadau polisi o ganlyniad i hyn. Felly, lle ydym ni arni o ran cyrraedd sefyllfa o gael llais Cymru yn y cytundebau hynny cyn eu llofnodi?

A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni—? Deddfwriaeth—un o'r dadleuon y mae hi'n ei defnyddio ar gyfer estyniad yw oherwydd nad oes gennym ni amser i gau pen y mwdwl ar yr holl ddeddfwriaeth. Faint o ddeddfwriaeth sy'n dal yn ofynnol gennym ni yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar Lywodraeth y DU yn llunio deddfwriaeth yn y fan honno yn gyntaf, oherwydd, yn amlwg, mae yna rannau o'r ddeddfwriaeth na allwn ni eu llunio nes iddyn nhw lunio eu rhai nhw? Felly, lle ydym ni arni o ran yr amserlen o gwblhau ein rhan ni ac a oes gennym ni syniad, y byddan nhw, mewn gwirionedd, wedi eu cwblhau i gyd erbyn 30 Mehefin—os oes modd, 23 Mai, oherwydd dyna ddyddiad arall sy'n cael ei drafod ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd?

15:45

Ac yn olaf, ie—[Chwerthin.] A ydych chi'n cytuno â mi mai un o'r camgymeriadau mwyaf yr wythnos diwethaf oedd peidio â chefnogi gwelliant Hilary Benn, pryd y gallen nhw mewn gwirionedd gytuno ar safbwynt o ran cael ateb posib yn Nhŷ'r Cyffredin, a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi gwybod i ni ynghylch yr union fath o bleidlais a allai ddigwydd a'r math o gytundeb a allai fod ar waith pe gwyddem ni beth gytunodd y rhan fwyaf o Dŷ'r Cyffredin arno?

Wel, Llywydd, byddaf yn gwneud fy ngorau i fod mor gyflym ag y gallaf wrth ateb y cwestiynau hynny. Wrth gwrs, mae David Rees yn llygad ei le fod ein porthladdoedd yn cael eu heffeithio gan y model tariff y mae'r Llywodraeth wedi ei awgrymu ar draws Ynys Iwerddon. Mae hi wedi bod yn gyfnod hir o addysgu Gweinidogion y DU ynghylch y ffaith bod gennym ni borthladdoedd yng Nghymru a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Ac mae'n gywir yn dweud y byddai'r awgrym presennol yn niweidiol i borthladdoedd Cymru, oherwydd ei bod yn anochel y bydd nwyddau'n teithio o'r de i'r gogledd ac yn dod i mewn i'r DU o ran ogleddol Iwerddon.

O ran y DUP, gwelaf fod Prif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU y prynhawn yma, yn nodi'r pryderon y byddem ni yn sicr yn eu rhannu ynghylch y ffordd y mae adroddiadau o drafodaethau gyda'r DUP yn ymddangos, gyda'r DUP rywsut yn cael sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Mae'n gwbl syfrdanol, Llywydd, y gellid gwneud unrhyw awgrym o'r fath ag un blaid wleidyddol nad yw hyd yn oed mewn llywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ac i esgeuluso gweinyddiaethau yng Nghymru ac yn yr Alban. Yr awgrymiadau parhaus y gellid arllwys mwy o arian eto i lawr llwnc y DUP—rwy'n falch fod cyni ar ben mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n annheg yn y bôn ac yn gwbl groes i'r datganiad polisi ariannu bod arian yn cael ei drosglwyddo i un rhan o'r Deyrnas Unedig ar gyfer cyfrifoldebau sy'n cael eu rhannu yn rhywle arall. Ac mae hynny'n cynnwys Lloegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban.

O ran llywodraeth leol, mae ein trafodaethau gyda nhw yn canolbwyntio ar fwyd, bwyd arbennig mewn ysgolion, bwyd mewn cartrefi gofal preswyl, bwyd ar gyfer pobl hŷn sy'n dibynnu ar ofal cartref, a gwneud yn siŵr, pe bai Brexit heb gytundeb, bod systemau ar waith i amddiffyn y mwyaf agored i niwed.

Yng nghyswllt y gwasanaeth iechyd, rydym ni am y tro cyntaf, rwy'n credu, bellach wedi gorfod neilltuo arian mewn perthynas â Brexit heb gytundeb. Byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn siarad am warws yr ydym ni wedi gorfod ei ddefnyddio yng Nghasnewydd. Rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ei bod hi'n angenrheidiol diogelu buddiannau gwasanaeth iechyd Cymru a chleifion Cymru rhag Brexit heb gytundeb.

A wnaiff Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog lwyddo? Y ffordd y mae hi'n ceisio'n barhaus i ddarbwyllo pobl i fynd i'r lobi i'w chefnogi, oherwydd fel arall gallai rhywbeth hyd yn oed gwaeth ddigwydd—wel, mae'n gêm o fentro a hapchwarae, ac ni ddylai ein dyfodol ni gael ei negodi yn y ffordd honno mewn gwirionedd. A oes modd ymddiried yn y Prif Weinidog? Wel, rwy'n credu yr adroddais i'r Siambr yr wythnos diwethaf, pan oeddwn ym Mrwsel yn ystod ein gwyliau hanner-tymor, fe'm trawyd gan ba mor gadarn y datganodd cyfeillion da i Gymru a'r Deyrnas Unedig eu cred bod gweithredoedd y Prif Weinidog yn cefnogi gwelliant Brady wedi tanseilio ffydd mewn modd sylfaenol iawn. Fe wnaeth hi gefnogi gwelliant yn erbyn y cytundeb yr oedd hi wedi dod iddo gyda'r Undeb Ewropeaidd. Sut allen nhw deimlo'n hyderus yn parhau i negodi gyda rhywun a oedd yn barod i wneud hynny?

Mae deddfwriaeth sydd ei angen yma yn dibynnu, fel y dywedodd David Rees, ar offerynnau statudol y mae'n rhaid eu llywio drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydym ni yn barod. Rydym ni'n ffyddiog ein bod yn y lle cywir; mae pa un a ydyn nhw yn fater gwahanol.

Ac yn olaf, ynglŷn â gwelliant Hilary Benn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud wrthych chi am rywbeth a ddigwyddodd i mi, sydd fwy neu lai yn unigryw yn fy mhrofiad fy hun? Roeddwn yn curo wrth ddrysau yn isetholiad Casnewydd nos Iau ddiwethaf, fel llawer o Aelodau yma yn ddiau hefyd. Curais wrth ddrws a daeth dyn at y drws a dywedodd ar unwaith wrthyf, 'rhaid i chi ddod i mewn, rhaid i chi ddod i mewn.' Nid oes gennyf syniad beth yr oeddwn i wedi'i wneud, ond yr hyn yr oedd eisiau imi ei wneud oedd gweld canlyniad y bleidlais ar welliant Hilary Benn. Felly, roeddwn yn sefyll yn ei ystafell fyw ac fe welais i'r peth yn digwydd, ac rwy'n gwbl o'r un farn â chi yn ei gylch. Roedd yn ennyd pan allai Tŷ'r Cyffredin fod wedi meistroli'r broses hon, ac roedd colli'r bleidlais honno gan ddwy bleidlais, rwy'n credu, yn siomedig iawn i'r rhai ohonom ni a oedd yn gobeithio bod honno'n eiliad pryd gellid bod wedi cychwyn ar lwybr gwahanol.

15:50

Wel, mwynheais glywed Prif Weinidog Cymru yn diberfeddu Prif Weinidog y DU a'r traed moch gwleidyddol y mae hi a'r Blaid Geidwadol wedi ei greu, ond rwy'n credu bod mwy o draed moch yn y gwrthbleidiau, oherwydd, er gwaethaf bod gennym yr hyn y credaf yw'r Prif Weinidog mwyaf anfedrus mewn 250 o flynyddoedd, nid yw arweinydd yr wrthblaid wedi elwa mewn unrhyw ffordd ar yr hyn sydd wedi digwydd ac ymddengys bod Llafur yn dal i fod 10 pwynt y tu ôl yn y polau piniwn—[Torri ar draws.] Ond y—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad bellach yn eithaf amlwg ac yn agored yn benderfynol i danseilio'r refferendwm Brexit a gawsom ni ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Blaid Geidwadol, hyd yn oed, yn benderfynol o beidio â chyflawni yr hyn y pleidleisiodd pobl amdano yn 2016. Gadewch i ni atgoffa'n hunain, ie, bod 406 etholaeth o blith 650 wedi pleidleisio i adael; pleidleisiodd 247 o etholaethau Ceidwadol i adael a dim ond 80 i aros; pleidleisiodd 148 o etholaethau Llafur i adael a dim ond 84 i aros; ac eto, yn y lle hwn, pleidleisiodd 49 o aelodau ein Cynulliad i aros ac fe bleidleisiodd 480 o'r 650 o Aelodau Seneddol hefyd i aros. Mae mwyafrif mawr iawn dros aros i'w gael yn y Cynulliad hwn ac yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae'r mwyafrif hwnnw'n benderfynol, yn gwbl benderfynol, doed a ddelo, ar unrhyw gost o rwystro'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto ac—rwy'n falch fod Alun Davies yn amneidio mewn cytundeb yn y fan acw—[Torri ar draws.]—i bleidleisio yn erbyn yr hyn y pleidleisiodd y bobl amdano dim ond dwy flynedd a hanner fyr yn ôl. Ac yr wythnos diwethaf profwyd hynny gan Dŷ'r Cyffredin, oherwydd fe bleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE gyda chytundeb honedig y Prif Weinidog, pleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a elwir hefyd yn ymadael heb gytundeb, a phleidleisiodd o blaid ymestyn erthygl 50. Ni ellir ar unrhyw gyfrif galw hynny yn bleidleisio dros Brexit mewn unrhyw fodd. Ac, fel y dywedodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr:

Mae hi'n hollol anghredadwy y gallai'r Llywodraeth fod yn benderfynol o selio cytundeb sy'n cyflwyno £39 biliwn, er ei fod yn rhoi'r hawl i'r UE orfodi cyfreithiau ar y DU am gyfnod amhenodol a feto ar roi terfyn ar y sefyllfa hon o reolaeth faenoriaethol. 

Dyna'r llanastr y mae Theresa May wedi ei greu ac nad yw'r Blaid Lafur mewn gwirionedd yn anghytuno ag ef. Mewn gwirionedd, maen nhw eisiau mynd hyd yn oed ymhellach na Theresa May wrth ildio'r holl fanteison a oedd gennym ni ac aros yn yr UE. A yw Prif Weinidog Cymru yn pryderu am y gagendor cynyddol sy'n agor rhwng y bobl a bleidleisiodd dros Brexit drwy fwyafrif—56 y cant yng Ngorllewin Casnewydd; gan i Brif Weinidog Cymru sôn am yr etholaeth honno, meddyliais y buaswn yn dyfynnu'r ffigur hwnnw—a'r etholedigion gwleidyddol? Mae arolwg a gyhoeddwyd gan ComRes yn The Daily Telegraph heddiw, yn gofyn gwahanol gwestiynau i bobl: ydyn nhw'n ymddiried mewn Aelodau Seneddol i wneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad o ran Brexit? Mae chwe deg wyth y cant yn anghytuno. Cwestiwn arall: 'mae hi wedi teimlo fel pe byddai'r UE wedi bod yn ceisio cosbi'r DU am Brexit.' Mae chwe deg un y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw. Pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth, ai hynny fyddai'r canlyniad gorau posibl? Roedd pedwar deg tri y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw; dim ond 30 y cant oedd yn anghytuno.

Mae'r polisi sydd gan Brif Weinidog Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gwbl groes i gyfran fawr iawn o bobl yn y wlad hon ac, yn wir, cyfran uwch na'r rhai sy'n cefnogi ei farn. Beth mae e'n gredu y bydd hyn yn ei wneud i ddemocratiaeth yn y wlad hon os, ar ddiwedd y broses hon, nad oes, mewn gwirionedd, unrhyw newid? Pan gaiff y cytundeb hwn ei selio, os bydd hynny'n digwydd, yna gallai aelodaeth Prydain o'r UE barhau am gyfnod amhenodol. Ac, ie, gallai gael ei ohirio tan 30 Mehefin, ond nid oes dim yn mynd i newid rhwng nawr a 30 Mehefin ac wedyn, wrth gwrs, bydd yr holl bwysau ar ei ymestyn y tu hwnt i hynny, ac felly ymlaen yn ddi-ben-draw. Pam ar y ddaear y byddai'r UE eisiau rhoi unrhyw gonsesiynau i ni pan ei fod eisoes wedi cael popeth yr oedd arno ei eisiau? Dyna'r cwestiwn allweddol sydd gennym ni yn y fan yma, rwy'n credu. Beth fydd iechyd democratiaeth Prydain yn y dyfodol os caiff ei fradychu gan y rhai y mae pobl wedi ymddiried hynny ynddynt?

15:55

Wel, Dirprwy Lywydd, rydych chi'n credu bod y ddadl ar Brexit yn symud y tu hwnt i barodi, ac wedyn rydych yn canfod eich hun yn cael eich cyhuddo gan Neil Hamilton o fod yn perthyn i'r sefydliad ac o fod yn un o'r etholedig rai. Bryd hynny, teimlaf fod y ffin lle'r oeddech chi'n credu nad oedd hi'n bosib ei ymestyn ymhellach yn canfod ei hun yn ymestyn ymhellach fyth.

A wyf i'n poeni am iechyd democrataidd ein gwlad? Wrth gwrs fy mod i. Dyna pam y dywedais yr hyn a ddywedais yn fy natganiad. Nid fy mhryder i yw ei bryder ef, oherwydd mae ef bob amser eisiau darlunio hyn mewn ffordd sy'n apelio at reddfau poblyddol ei gefnogwyr. Rwyf i'n poeni am y berthynas rhwng pobl. Rwy'n poeni am y berthynas rhwng pobl sy'n arddel safbwyntiau cryfion gwahanol ar y mater hwn a phryd yr wyf yn wirioneddol, wirioneddol gredu bod angen i bob un ohonom ni fod yn ofalus wrth roi ein barn, ein bod ni'n parchu barn pobl eraill sy'n arddel safbwynt gwahanol. Os nad ydym ni'n gallu gwneud hynny, yna mae'r bygythiadau i iechyd ein democrataidd yn real, ac mae'r pethau hynny ar wyneb ac yn agos at wyneb y ddadl hon.

Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu, serch hynny, Dirprwy Lywydd, yw nid yr un y mae'r Aelod yn cyfeirio ato o gwbl. Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yw 10 diwrnod o nawr fe allem ni fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb o unrhyw fath ac ni ddywedodd neb—ond ni ddywedodd neb—wrth bobl yn y refferendwm mai dyna oedd hyn i gyd yn ymwneud ag ef. Roeddem ni'n mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn un o'r negodiadau hawddaf a gynhaliwyd erioed. Byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd yr oedd ble byddai'r holl fanteision ar ein hochr ni a dim un o'r anfanteision. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb o unrhyw fath, yna bydd yr effaith yma yng Nghymru yn drychinebus a bydd effaith hynny ar ein hiechyd democrataidd mewn gwirionedd yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn poeni amdano.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Fe wnaf i ddweud wrtho fy mod i'n gresynu'n fawr iawn at ei agwedd pan ddisgrifiodd y cyfle i gynnig pleidlais gyhoeddus ac i roi'r gair olaf i bobl y wlad hon. Dyna, wrth gwrs, yw polisi Llafur Cymru, polisi Llafur, dyna bolisi Llywodraeth Cymru, dyna'r polisi a gyflwynodd ef ei hun gerbron ei Aelodau rai wythnosau yn ôl a gofyn i'r Senedd hon ei fabwysiadu fel y polisi y byddem ni eisiau ei weld yn cael ei weithredu. Rwyf i yn credu, felly, y bu ymrwymiad clir iawn, o gofio na fydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ei hun i ddim  ond disgrifio'r problemau a'r anawsterau sy'n ein hwynebu, ond yn ceisio mynd ati'n rhagweithiol i baratoi ar gyfer pleidlais. Ac mae'r rhain yn ddau beth gwahanol. Nid ailadrodd dadleuon academaidd yw hyn. Mae'n dweud mai dyma'r mater pwysicaf sy'n wynebu'r wlad hon ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn Llundain. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod na all Llywodraeth y DU gytuno â hi ei hun, heb sôn am unrhyw un arall. Rydym ni'n gwybod nad ydyn nhw'n gwybod beth yw eu polisi heddiw, yfory, yr wythnos nesaf. Rydym ni'n gwybod y pethau hynny i gyd. Ond yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yn y Senedd a'r Llywodraeth hon yw gwneud yn well na hynny a gwneud mwy na hynny, ac mae hynny'n golygu bod yn driw i'r hyn yr ydym ni'n credu ynddo, ac nid anwadalu, nid canfod geiriau i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o osgoi ein hymrwymiadau, ond dadlau'n eglur dros yr ymrwymiadau hynny.

Felly, rwy'n gobeithio, felly, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymrwymo mewn modd eglur iawn, iawn i'r polisi y dylai pobl y wlad hon gael y gair terfynol, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros ddewis i aros ac ymgyrchu i aros, a'r hyn a wnawn ni yn y fan yma yw derbyn nad oes y fath beth â Brexit lle mae swyddi'n dod yn gyntaf, ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw'r egwyddor—yr egwyddor—y dylai pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig gael y gair olaf ar unrhyw gytundeb y deuir iddo. 

16:00

Dirprwy Lywydd, allwn i ddim wedi bod yn fwy eglur y prynhawn yma yn nodi polisi'r Llywodraeth oherwydd dyna bolisi'r Llywodraeth hon ers i ni ddechrau trafod hyn yn y fan yma. Mae wedi ei ailadrodd droeon mewn penderfyniadau, wedi ei osod gan y Llywodraeth a'i gytuno gan yn y Cynulliad hwn, fod ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a all ddiogelu swyddi a'r economi yma yng Nghymru. Ond os yw hynny'n amhosibl, a bod Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna dylai'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl. A Llywodraeth Cymru a roddodd gynnig gerbron y Cynulliad hwn a oedd yn gofyn i'r paratoadau gael eu dechrau fel nad ydym yn colli'r cyfle hwnnw yn ddiofyn—nad os yn syml ddigon o amser er mwyn i hynny ddigwydd.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Yr hyn na fyddaf i yn ei wneud, Dirprwy Lywydd dros dro, yr hyn na fyddaf yn ei wneud yw esgus ar lawr y Cynulliad hwn, rywsut, ein bod ni'n rheoli pethau nad ydym ni. Yn y pen draw, nid yw refferendwm yn nwylo pobl yn y Cynulliad hwn, a dylem fod yn onest ynglŷn â hynny. Ni fyddaf ychwaith yn esgus os mai dyna lle y byddwn ni yn y pen draw, fod hynny rywsut yn ddewis heb unrhyw anawsterau. Oherwydd mae anawsterau yn gorwedd yn ei lwybr; mae anawsterau ymarferol ac anawsterau gwleidyddol hefyd.

Gofynnodd yr Aelod i mi petai yna ail refferendwm a bod 'aros' ar y papur pleidleisio, wel, dywedaf eto,  fel yr wyf wedi'i ddweud yn y fan yma, safbwynt Llywodraeth Cymru fyddai ein bod ni'n parhau i fod o blaid aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedaf hynny er gwaethaf yr anawsterau y credaf a fyddai yn hynny o beth, oherwydd dyna'r safbwynt gonest. Ond mae'n onest hefyd i egluro i bobl hyd yn oed os ydych chi, fel y gwn i fod yr Aelod, yn ymrwymedig iawn i ail bleidlais ymhlith y bobl, y mae gan hynny broblemau sydd angen eu hwynebu hefyd, ac nid yw o unrhyw les i neb i ymddwyn fel ei bod yn bosibl cael gwared ar y problemau hynny drwy chwa o frwdfrydedd rhethregol.

4. Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Iawn. Felly, symudwn ymlaen nawr at eitem 4: Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019,a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6994 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Cadeirydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i Reoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, a  Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cynnwys hepgor y cyfeiriad at

yn gweithredu fel aelod-wladwriaeth mewn lles anifeiliaid

a Rheoliadau adeg eu lladd (Cymru) 2014.

O ran Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, cywiro cyfeiriadau at gyfarwyddebau'r UE gan na fydd cyfarwyddebau'r UE yn rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael. Yn yr achos hwn, mae diffiniad 'triniaeth sootechnegol' wedi'i dynnu allan o gyfarwyddeb perthnasol y cyngor a'i fewnosod yn y rheoliadau hyn. Gwnaed darpariaeth atodol hefyd gan newid cyfeiriadau amrywiol at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i 'Weinidogion Cymru'. Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu'r status quo. Mae gwelliannau o'r fath yn ategu'r darpariaethau hynny sydd yn gosod swyddogaethau ychwanegol ar Weinidogion Cymru.

Yn olaf, gwnaed newidiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 a fydd yn rhoi terfyn ar cyd-gydnabod tystysgrifau cymhwysedd ar gyfer gweithwyr lladd-dai a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Byddai parhau i gydnabod tystysgrifau yn codi materion gorfodi posibl, oherwydd ni fyddem yn gallu atal na dirymu tystysgrif a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall. Yn y weithred o ladd, byddai'n torri gofynion deddfwriaeth yr UE a gedwir neu ddeddfwriaeth ddomestig. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau na fydd tystysgrifau cydnabod cymhwysedd a gyhoeddwyd yn y DU yn cael eu cydnabod mewn aelod-wladwriaethau eraill ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau nad oes unrhyw weithwyr lladd-dai ar hyn o bryd sydd â thystysgrif cymhwysedd a gyhoeddwyd mewn aelod-wladwriaeth Ewropeaidd yn gweithio yng Nghymru. Cynigiaf y cynnig.

Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ynglŷn â'r rheoliadau yma, y Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, trafodwyd y rheoliadau hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad ar ddau bwynt adrodd o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3.

Yn gyntaf, ystyriwn nad yw'r ffordd y mae'r memorandwm esboniadol, paragraff 4.6 yn arbennig, yn egluro pam mae rheoliad 2 yn cyfeirio at 'Reoliadau'r UE' yn ddefnyddiol, naill ai i'r Cynulliad nac i ddefnyddiwr terfynol y ddeddfwriaeth. Dylai ystyr ac effaith deddfwriaeth, gan gynnwys y ffordd y mae'n rhyngweithio efo deddfwriaeth arall, fod yn dryloyw i'r rhai sy'n craffu arni, ac, yn bwysicach fyth, i'r rhai y mae'n effeithio arnynt. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, nododd Llywodraeth Cymru:

'Gan ei bod yn ofynnol i gymaint o deddfwriaeth fod yn ei lle cyn y diwrnod ymadael er mwyn sicrhau bod y Llyfr Statud i Gymru yn gallu gweithredu, nid oedd yn ymarferol darparu manylion pellach am y berthynas rhwng...Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2019.'

O ystyried pwysigrwydd cyhoeddus ystyr ac effaith deddfwriaeth, rydym wedi ein siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru. Fel y dengys ein hadroddiad ein hunain, nid ydym o'r farn y byddai wedi bod yn dasg feichus i egluro'n glir sut y bydd cyfraith ddiwygiedig yr Undeb Ewropeaidd yn gweithredu ar ôl ymadael.

Yn ail, ymddengys fod rheoliadau 5(4) a (5) yn dileu trefniant cyfatebol rhwng Cymru, fel rhan o'r Deyrnas Unedig, ac aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd neu awdurdodau cyhoeddus yn y gwladwriaethau hynny. Os felly, mae hyn yn dileu trefniant cyfatebol o fath y sonnir amdano yn adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sy'n golygu nad oes gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliad 5(4) a (5) oni bai eu bod wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw'r rhagarweiniad na'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cyfeirio at ymgynghoriad o'r fath.

Yn y cyd-destun hwn, credwn fod arferion deddfwriaethol da yn gofyn am i ragarweiniad i offeryn statudol gyfeirio yn benodol at gyflawni unrhyw amodau statudol, megis dyletswydd i ymgynghori, y mae'n rhaid eu cyflawni cyn y gellir gwneud yr offeryn statudol. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol ac rydym yn nodi ac yn croesawu bod y memorandwm esboniadol bellach wedi'i ddiwygio. Diolch.

16:05

Galwaf nawr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb.

Diolch, Dai Lloyd am eich barn a'ch sylwadau. Yn amlwg, ni fyddem eisiau creu deddfwriaeth yn y modd yr ydym ni'n gorfod ei wneud ar hyn o bryd, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen yn y lle hwn, pe byddem ni wedi gwneud y penderfyniad i wneud pob cywiriad deddfwriaethol ar gyfer ymadael â'r UE yng Nghymru yn unig ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli, byddai'n ofynnol i oddeutu 200 offeryn statudol ac o leiaf pedwar Bil gael eu gosod yn y Cynulliad, yn ogystal â deddfwriaeth busnes fel arfer. A fyddai ond wedi bod yn bosibl pasio'r Biliau angenrheidiol mewn pryd drwy ddilyn gweithdrefn garlam, a fyddai, unwaith eto, yn cyfyngu ar waith craffu gan y Cynulliad. Wedi dweud hynny, derbyniais yn llwyr y sylwadau a ddaeth oddi wrth aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a gwnaethpwyd penderfyniad, er enghraifft, i newid y weithdrefn sydd i'w dilyn yn achos yr Offeryn Statudol hwn, a hefyd, fel y nododd Dai Lloyd diwygiwyd y Memorandwm Esboniadol yn unol â hynny.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5, Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6995 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r pedwar darn canlynol o is-ddeddfwriaeth ddomestig ym maes amaethyddiaeth: Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol a Chynlluniau Grantiau (Apelau) (Cymru) 2006; Rheoliadau Datblygu Rhaglenni Gwledig  (Cymru) 2014; Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014;  Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015. Nid yw'r cywiriadau yn newid y sefyllfa bolisi yn y meysydd hyn. Mae'r gwelliannau yn dechnegol eu natur ac wedi'u cynllunio i gadw'r status quo ar ôl i'r DU adael yr UE.

Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cynnwys y canlynol. Mae rheoliad 4 yn hepgor cyfeiriad at y corff cydgysylltu yn Rheoliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 i adlewyrchu'r ffaith fod y cysyniad o 'corff cydgysylltu' yn cael ei dynnu o reoliadau'r UE a ddargedwir gan adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 i gywiro cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Mae'r cyfeiriadau hyn ynghlwm wrth amser penodol oherwydd eu bod yn cyfeirio at reolau cynllun a ddefnyddiwyd ar adeg lansio'r cynllun taliad sylfaenol yn 2015. Mae rheoliad 5 yn cywiro'r cyfeiriadau hynny i'w gwneud yn glir eu bod yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth cyn ymadael yr UE. Gwneir gwelliant technegol hefyd yn rheoliad 5, i gydnabod bod Gweinidogion Cymru wedi sefydlu cronfa genedlaethol ar gyfer Cymru yn 2015. Pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, bydd y Gronfa Genedlaethol yn cael ei chynnal yn unol â deddfwriaeth yr UE a ddargedwir. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y fframwaith rheoleiddio angenrheidiol i symud ymlaen â'i hymrwymiad i barhau i gyflawni'r cynlluniau PAC. Bwriedir ymgynghori ar unrhyw newidiadau i gymorth amaethyddol Cymru yn ddiweddarach eleni, ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' gael eu hystyried.

16:10

Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dyma eitem 5, Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Trafodwyd y rheoliadau hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, eto ar 11 Mawrth, a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad ar un pwynt adrodd o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3.

Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gymhlethdod y ddeddfwriaeth hon ac yn amlygu y byddai mwy o eglurder wedi bod yn ddefnyddiol o ran disgrifio ei heffaith o ganlyniad. Mae'r rheoliadau'n dangos pa mor anodd yw hi i'r corff craffu, a'r rheini y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, ddeall effaith yr offerynnau statudol sy'n ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ym maes y polisi amaethyddol cyffredin.

Ymhlith nifer o rwystrau rhag deall y sefyllfa, enghraifft benodol a welir yn y rheoliadau hyn yw'r anhawster i ddeall yn union pa fersiwn o offerynnau'r Undeb Ewropeaidd sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol, fel rhan o gyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydym yn cydnabod bod y cymhlethdod a'r anhryloywedd yn deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), mae hynny'n deg. Fodd bynnag, rydym yn credu bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i geisio esbonio, yn well ac yn fwy llawn, i'r Cynulliad ac i ddinasyddion sut mae pob darn o ddeddfwriaeth Cymru ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cyd-fynd efo'r darlun cyfan o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd—cyfredol ac arfaethedig—ar y pwnc penodol. Ymddengys mai'r lle priodol ar gyfer hyn fyddai'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol.

Fodd bynnag, pryder ychwanegol yw nad yw defnyddwyr terfynol deddfwriaeth yn ymwybodol o fodolaeth memoranda esboniadol, neu'n methu cael mynediad atynt yn hawdd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwella'r sefyllfa hon er mwyn ei gwneud yn haws i ddinasyddion Cymru ddeall ystyr deddfwriaeth.

Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ynghylch y pryderon penodol a godwyd gennym am reoliadau 4 a 5 y ddeddfwriaeth, ond nodwn na wnaeth sylw ar ein pryderon ehangach yr wyf newydd eu nodi. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Dirprwy Llywydd, ac o ran y pwynt yr ydych yn dweud na wnes i gyfeirio ato, credaf fod Dai Lloyd wedi gwneud pwynt perthnasol iawn, bod angen i ni ystyried sut mae pobl o'r tu allan i'r lle hwn yn gallu cael gafael ar y ddeddfwriaeth, oherwydd mae gennym ni gorff mor enfawr o ddeddfwriaeth yn mynd drwodd nawr i baratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf, ar ôl Brexit, sy'n amlwg yn golygu y byddai'n bosibl methu rhywbeth. Felly, byddwn yn hapus iawn i edrych ar hynny.

16:15

Diolch yn fawr iawn i chi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar y Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM6993 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.

2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y dadansoddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru.

Hoffwn i droi yn gyntaf at y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Nid wyf i'n credu y bydd yn syndod i neb ein bod ni'n gwrthod y gwelliant gan y Ceidwadwyr, sydd ar ei orau yn ceisio bychanu'r effaith a gaiff diwygio lles, ac ar ei waethaf, yn ceisio ymryddhau o unrhyw gyfrifoldeb am yr effaith ddinistriol a gaiff ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac yn dlawd yng Nghymru.

O ran y gwelliant gan Blaid Cymru, rwy'n awyddus i egluro bod y Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i archwilio'r achos o blaid datganoli agweddau ar weinyddu'r system fudd-daliadau. Byddwn yn edrych eto ar dystiolaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd, yn asesu profiad yr Alban hyd yma, ac wedyn yn darparu sylfaen o dystiolaeth i edrych ar bethau y gellir eu dwyn yn eu blaenau. Bydd raid i ni, wrth gwrs, edrych ar y modd y gallwn sicrhau bod unrhyw drosglwyddo swyddogaethau yn dod gyda'r cyllid angenrheidiol.

Mae'r adroddiad hwn yn dwyn at ei gilydd ystadegau allweddol, dadansoddiadau a thystiolaeth ar effaith digwyddiadau lles cyfredol ac arfaethedig ar deuluoedd yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y toriadau budd-dal sylweddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU o 2010 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2019—cyfnod y gwelsom ni ynddo newid sylweddol yn y system—ac yn amlinellu'r effeithiau unigol a chronnol.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi rhai newidiadau cadarnhaol yn ddiweddar, fel cynnydd mewn rhai lwfansau gwaith credyd cynhwysol, ond mae'r rhain yn gymharol fychan yn eu maint. Rydym yn gwybod bod effaith y newidiadau lles hyn yn gyffredinol yn atchweliadol, gyda'r effeithiau mwyaf yn cael eu teimlo gan bobl ar yr incwm isaf, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o doriadau budd-dal yn cael eu cyflawni yn rhannol yn unig, yng nghysgod toriadau sylweddol sydd eto i ddod. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r diwygiadau yn gwthio 50,000 o blant yn ychwanegol i dlodi pan fydd y rhain i gyd yn weithredol. Y gwir plaen yw bod yr ergyd ddwbl o ddiwygio lles ac agenda cyni yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd leiaf abl i ddwyn y baich. Ac nid dyna ddiwedd arni.

Ceir effaith negyddol anghymesur hefyd ar incwm nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, aelwydydd pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd, a menywod, wrth gwrs. Mae'r effeithiau negyddol hyn, i raddau helaeth, yn deillio o newidiadau i'r system budd-daliadau, yn benodol: y penderfyniad i rewi cyfraddau budd-daliadau oedran gweithio; y terfyn dau blentyn o ran credydau treth a chredyd cynhwysol; diddymiad yr elfen deuluol; a newidiadau i fudd-daliadau anabledd. Roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf yn rhoi llwyfan amserol o ran gweithredu ar rewi budd-daliadau. Yn anffodus, ni chafwyd cyhoeddiad na chamau gweithredu, er i'r rhewi wthio llawer o deuluoedd ymhellach i dlodi.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn nodi'n eglur nifer o bryderon o ran cyflwyno credyd cynhwysol hyd yma, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol: yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, banciau bwyd, a gwneud cais am gredyd cynhwysol ar-lein. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau seneddol yn briodol yn galw am ddiwedd i orfod aros am bum wythnos am y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cyfaddef ar 11 Chwefror mai'r prif reswm sydd wedi arwain at y cynnydd hwn yn nefnydd y banciau bwyd o bosib yw'r ffaith bod pobl yn cael anhawster o ran asesu eu harian ar gyfer credyd cynhwysol yn ddigon cynnar.

O ran taliadau annibyniaeth personol, mae'r dystiolaeth a grynhoir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod problemau enfawr a niweidiol yn bodoli ac yn parhau gyda'r broses asesu cymhwysedd. Dirprwy Lywydd, bydd pob un sydd yma yn y Siambr hon yn gyfarwydd â rhai o'r problemau gwrthnysig y mae pobl wedi dod ar eu traws wrth wneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Ceir pryderon gwirioneddol o ran gallu contractwyr i gynnal asesiadau cymhwysedd yn gywir. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y gyfran sylweddol a chynyddol o apeliadau yn barnu o blaid yr hawlydd.

Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau ataf i, gan nodi nifer o newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cwblhau. Mae'r ymrwymiad i adolygu'r broses asesu i'w groesawu ond, fel y dywedir, yn y manylion a'r ddarpariaeth y bydd y diafol yn hyn o beth. Rydym ni dro ar ôl tro ac yn gadarn wedi egluro pryderon y Llywodraeth hon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal cyflwyno'r credyd cynhwysol, a chwilio am newid brys yn y polisïau mwyaf niweidiol, fel y cyfyngiad dau blentyn. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai newidiadau, ond nid yw'r rhain yn mynd yn ddigon pell.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i ateb y diffyg cyfan sy'n deillio o'r diwygiadau lles hyn gan Lywodraeth y DU, yr amcangyfrifir y byddan nhw'n £2 biliwn erbyn 2020 i Gymru. Ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud yn iawn â nhw wrth iddyn nhw geisio ymdopi ag effaith annheg ac anghymesur y diwygiadau hyn. Drwy ein gwaith cynhwysiant ariannol, rydym yn rhoi cyllid grant o bron £6 miliwn y flwyddyn, sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau fel Cyngor Da, Byw'n Well sy'n darparu gwasanaethau cyngor o fewn pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol. A phan fydd cyfran o'r ardoll ariannol i ddarparu gwasanaethau cynghori ar ddyled wedi cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, rwy'n rhagweld y bydd hyn yn cynyddu ein cyllid grant cyfredol i oddeutu £8.5 miliwn o fis Ebrill eleni ymlaen.

Gwyddom fod ein cyllid i wasanaethau cynghori yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd y cyllid dros 73,000 o bobl, gan eu helpu i gael gafael ar bron £60 miliwn o incwm budd-daliadau lles. Ymwelais â Chyngor ar Bopeth Bargoed yn ddiweddar, un o'r ardaloedd peilot ar gyfer gwasanaeth cymorth newydd i'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol, a gwelais drosof fy hun rai o'r anawsterau gyda thechnoleg ddigidol a pha mor hanfodol yw'r cymorth hwn wrth wneud cais am gredyd cynhwysol.

Mae gan ein cronfa cymorth dewisol swyddogaeth hollbwysig wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf anghenus ac mae wedi cefnogi 214,300 o bobl, gan roi nawdd i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gyda thros £44 miliwn mewn grantiau ers mis Ebrill 2013. Mae'r gronfa wedi gweld penllanw o ran pobl yn ymgysylltu am gymorth. Dirprwy Lywydd, pan ymwelais â'r ganolfan sy'n derbyn galwadau gan bobl sy'n ceisio cael gafael ar hawliadau gan y Gronfa Cymorth Dewisol a'r gronfa cymorth mewn argyfwng, mae'r dystiolaeth o'r fan honno'n awgrymu, i lawer o'r bobl hyn, fod hyn o ganlyniad i gyflwyniad credyd cynhwysol. Felly, rydym yn rhoi £2 miliwn yn fwy o gyllid eleni, ac ar gyfer 2019 a 2020.

Er mwyn talu cost y prydau ysgol am ddim ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno credyd cynhwysol, byddwn yn rhoi £5 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018-19 drwy gynllun grant. Bydd £7 miliwn ar gael i awdurdodau lleol hefyd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20.

Mae ein cynnig gofal plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru ac yn helpu ail enillwyr i gael gwaith ac yn galluogi rhieni sy'n gweithio'n rhan-amser i gynyddu eu hincwm drwy weithio mwy o oriau, sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.

Gwyddom fod cyni yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl, felly rydym yn rhoi £244 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae bron 300,000 o aelwydydd ar incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu biliau treth gyngor, ac nid yw 220,000 ohonyn nhw yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Dirprwy Lywydd, gwn nad yw effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU i lawer yn y Siambr hon a llawer mewn cymunedau ledled y wlad yn rhywbeth sy'n achosi pryder mawr yn unig iddyn nhw, ond ei fod yn achos dicter gwirioneddol, a hynny'n briodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfraniadau i'r ddadl hon ar y dadansoddiad ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwir yn enw Darren Millar. Mark.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.

2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.

3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;

4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth y DU gylch o anobaith, gyda diweithdra a dibyniaeth aml-genhedlaeth wedi gwreiddio'n ddwfn mewn gormod o leoedd, a Chymru ar ei hôl hi. Nawr mae gennym ni fwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen ac mae cyflogau yn y DU yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers mwy na degawd. Ac mae'r ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod lefelau lles personol a sgoriau iechyd meddwl wedi gwella yn y DU ar ôl 2011.

Rwy'n cynnig gwelliant 1, sy'n cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Lafur Cymru o effaith diwygio lles. Er hynny, mae ei natur wleidyddol a'i fod yn hepgor meysydd allweddol o newid, gan gynnwys newidiadau gan Lywodraeth y DU i lwfansau treth incwm personol ers 2010 a chyflwyno credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol yn achos siom i ni. Siom i ni hefyd yw diffyg nodau ystyrlon gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi. Wrth feio Llywodraeth y DU yn barhaus am achosi amddifadedd yng Nghymru, maen nhw'n ceisio osgoi'r gwirionedd mai yn eu dwylo nhw y mae llawer o'r ysgogiadau wedi bod i fynd i'r afael â thlodi dros 20 mlynedd. Ac, fel y canfu 'A yw Cymru'n Decach?' adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fis Hydref diwethaf, mae tlodi ac amddifadedd yn parhau'n uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain. Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU ac mae cyflogau wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Yn ddamniol, dangosodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyflogau gweithwyr y DU yn 2018 hefyd fod cyflogau cyfartalog yn is yng Nghymru ac wedi tyfu'n fwy araf nag yng ngwledydd eraill y DU yn y flwyddyn flaenorol. Mewn gwirionedd, 20 mlynedd ar ôl datganoli, gan Gymru y mae'r cyflogau clir isaf ymysg gwledydd y DU.

Canfu adroddiad 'UK Poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod 60 y cant o oedolion o oedran gweithio mewn aelwydydd di-waith mewn tlodi o'i gymharu â 16 y cant o'r rhai mewn aelwydydd sy'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru ei hunan wedi cyfaddef bod cyflogaeth yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae Tŷ'r Cyffredin—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, pwy sy'n siarad? Ie, mae'n ddrwg gen i.

16:25

Diolch i chi, Mark, am ildio. Diolch yn fawr iawn. Os derbyniwn fod cyfraddau uchel o anfantais ac amddifadedd yn rhai o'r cymunedau ac yr effeithir ar rywfaint o'r rhai sydd ar yr incwm isaf gan y newidiadau mwyaf pitw, rwy'n gofyn iddo wrando ar lais Aelodau Seneddol Ceidwadol, a Gweinidogion yn wir, sydd wedi siarad allan ynglŷn â hyn. Pan wnaeth Esther McVey gydnabod y gallai pobl gyda throsglwyddiad credyd cynhwysol, rhai o'r bobl hynny yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw funud yn ôl, fod £200 yn dlotach yn sgil y newid, fe fydden nhw'n dlotach, gan gynnwys pobl sydd mewn gwaith. Fe ddywedodd hi

Rwyf wedi dweud ein bod ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, a bydd hi'n waeth ar rai pobl,

neu hyd yn oed Amber Rudd, a ddywedodd fod credyd cynhwysol wedi achosi ymchwydd yn y defnydd o'r banciau bwyd. Ni allwch chi wadu, 'does bosib, fod y newidiadau i drethiant a lles wedi taro'r bobl yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw galetaf un.

Diolch. Wel, byddaf yn sôn am hynny yn ystod gweddill fy araith, ac rwyf innau hefyd wedi bod yn ysgrifennu at Weinidogion San Steffan am y materion a godwyd yn fy mhrofiad i gydag etholwyr.

Dywedodd Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin yn 2012,

Mae cefnogaeth eang i'r egwyddorion y tu ôl i gredyd cynhwysol, ac rydym ninnau o'r un farn.

A dywedodd Ysgrifennydd cysgodol Gwaith a Phensiynau'r Blaid Lafur yn 2014,

Mae Llafur yn cefnogi egwyddor credyd cynhwysol.

Mae credyd cynhwysol yn disodli system sy'n ffaelu, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd, a symud i mewn i waith yn gynt ac aros mewn gwaith yn hwy. Serch hynny, fel y dywed Llywodraeth y DU, dylai unrhyw faterion, o'i chyflwyno, gael sylw, ac fe wnaiff hynny ddigwydd. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r DU fis Tachwedd diwethaf,

Rwy'n gwybod bod problemau gyda chredyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da... Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Rwy'n gwybod y gall fod yn well.

Wrth i mi siarad yn y fan hon fis Tachwedd diwethaf, manylais ar gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynglŷn â rhoi credyd cynhwysol ar waith a oedd wedi eu cyhoeddi eisoes. Er bod y rhwydwaith banc bwyd yr oeddech chi'n sôn amdano wedi agor yn 2004, gyda'r nod o gael banc bwyd ym mhob tref yn y DU, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fis Tachwedd diwethaf,

Rydym ni eisoes wedi cyflwyno taliadau 100% ymlaen llaw, rhoi cyllideb ar gyfer cymorth, taliadau uniongyrchol i landlordiaid a thalu dwy wythnos yn ychwanegol o fudd-dal tai i bobl sy'n symud o Fudd-Dal Tai i Gredyd Cynhwysol.

Dan daliadau annibyniaeth personol, mae 31 y cant o hawlwyr anabl yn derbyn y gyfradd uchaf o gymorth erbyn hyn o'i gymharu â 15 y cant dan lwfans byw i'r anabl. Er hynny, rwyf wedi cefnogi llawer o'm hetholwyr i herio penderfyniadau ar daliadau annibyniaeth personol yn llwyddiannus tra bod y gweithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn cynnal eu hasesiadau yn arddangos ymwybyddiaeth wael a diffyg dealltwriaeth o'r rhwystrau y mae eu cyflyrau yn eu creu iddyn nhw. Rwyf wedi ysgrifennu droeon hefyd at Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â hyn. Felly, rwy'n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fod nifer yr apeliadau ar daliadau budd-dal anabledd personol sy'n dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU—72 y cant haf y llynedd—yn rhy uchel. Hefyd, fe fydd hi'n rhoi sylw i hyn a chyhoeddiadau eraill, gan gynnwys y bwriad i integreiddio'r taliad annibyniaeth personol, credyd cynhwysol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn un gwasanaeth rhannu gwybodaeth i leihau'r angen i ymgeiswyr orfod cyflwyno gwybodaeth sawl tro. Dim ond ddoe fe glywais i gan elusen yng Nghymru sydd â rhan yn hyn am eu gwaith gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gefnogi pobl gyda namau ar y synhwyrau i gael gwaith.

Dylai Llywodraeth Cymru hithau chwarae ei rhan hefyd. Er enghraifft, dylai ymateb yn gadarnhaol i'r alwad gan Dai Cymunedol Cymru iddi hi ac awdurdodau lleol Cymru weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gyd-leoli gwasanaethau a chaniatáu i fudd-daliadau gan awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â chredyd cynhwysol, a chan gyhoeddi cynllun cadarn i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys nodau perfformiad clir a mesurau o gynnydd. Diolch.

Rwy'n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, ac rwy'n cynnig y gwelliant. Nid yw'n syndod ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Rydym wedi gwthio'r agenda hon ers sawl blwyddyn erbyn hyn, gan gredu mai'r unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael mewn gwirionedd â'r agweddau gwarthus tuag at y bobl dlotaf yn ein cymdeithas yw drwy gymryd y cyfrifoldeb ein hunain. Mae'n werth nodi ar y dechrau yr effaith y mae'r dewisiadau gwleidyddol sef cyni a diwygio lles wedi ei chael ar fenywod. Fel yr amlinellais yn gynharach yn ystod y cwestiynau busnes, mae llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif, wrth edrych ar bob newid i drethiant a budd-daliadau rhwng 2010 i 2017, fod 86 y cant o'r gostyngiad yng ngwariant y Llywodraeth wedi bod yn wariant ar fenywod. Ac rydym wedi cael adroddiad gan bwyllgor Tŷ'r Cyffredin heddiw sy'n disgrifio nad oes gan rai menywod unrhyw ddewis heblaw am droi at buteindra i gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae hynny'n gysylltiedig â diwygio lles.

Nid oes angen imi raffu rhestr hir o bolisïau sydd wedi cael effaith ddinistriol a  chronnus ar y bobl dlotaf yng Nghymru. Mae'r polisïau hyn wedi cael eu dogfennu yn dda, ac fel y dangosodd y newidiadau arfaethedig i'r credyd cynhwysol yn ddiweddar, mae'r effeithiau hyn yn cael eu derbyn yn dawel erbyn hyn, hyd yn oed gan lawer o Dorïaid. Mae wedi bod yn ddoniol ar un ystyr gweld cyn-Dorïaid fel Anna Soubry yn sylweddoli graddfa'r hyn sydd wedi digwydd yn ei henw, fel y gwelwyd yn The Last Leg ar y teledu yn ddiweddar.

Y meddylfryd o fewn y gwasanaeth sifil yw'r hyn yr wyf i am dynnu sylw ato heddiw mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn mewn gwirionedd greu system o nawdd cymdeithasol ddynol sy'n deilwng o'r enw oni bai ein bod ni'n newid y ffordd y mae'r staff yn rhyngweithio gyda phobl mewn angen o ddydd i ddydd. Mae'r rhestr hir o gosbedigaethau a roddir i bobl sydd mewn amgylchiadau truenus—er enghraifft, y dyn a gafodd ei gosbi am golli apwyntiad oherwydd ei fod yn yr ysbyty gyda'i bartner a oedd newydd gael plentyn marw-anedig—yn darlunio hynny. Mae'r system hon yn ddideimlad. Nawr, mae adolygiadau o gosbedigaeth wedi gwadu fod yna bolisi swyddogol o gosbi'r rhai mewn profedigaeth, ac wedi tynnu sylw at anghysondebau rhanbarthol o ran y polisi hwnnw. Nid oes gennyf i amheuaeth, er hynny, y byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi defnyddio'r adroddiadau hynny i nodi'r rhanbarthau lle nad ydyn nhw'n cosbi digon ar bobl, ac wedi holi pam oedd hynny, mae'n debyg. Ond byddai'r gweddill ohonom ni sy'n darllen yr adroddiadau hynny yn cydnabod bod rhywbeth llawer mwy cymhleth yn digwydd.

Mae polisi swyddogol wedi bod yn llym ac wedi cael ei lunio i gosbi'r tlodion ac, wrth gwrs, nid oes ganddo ddim i'w wneud â chymhellion i weithio, fel y mae asesiadau effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gredyd cynhwysol wedi dangos. Ond yn fwy eang, nid yw'r polisïau hyn wedi cael eu cyflwyno mewn gwagle—maen nhw wedi bod yn rhan o gyfres o bolisïau a ddechreuodd pan dreuliodd yr Arglwydd Freud dair wythnos gyfan yn adolygu polisi lles yn fanwl i Tony Blair. Ie, siarad yn goeglyd wyf i—yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd oedd mai ymdrech gan y Blairites oedd hon i dawelu'r Daily Mail. Gwyddom nad yw tawelu'n gweithio, ac felly yn hytrach na newid y ffordd y mae'r papurau tabloid yn ymdrin â materion nawdd cymdeithasol, gwelwyd bod y papurau tabloid yn mynd yn fwy gorffwyll a chamarweiniol, pan mai'r materion gwirioneddol ar y pryd oedd biwrocratiaeth, anhyblygrwydd a'r anallu i gefnogi llafur achlysurol. Creodd hynny yn ei dro ddiwylliant a oedd yn gwneud i'r system wleidyddol gyfan ofni gwrthwynebu llawer o doriadau lles y glymblaid, ac roedd hi'n ymddangos felly mai'r hyn a achosodd y chwalfa ariannol yn 2008 oedd gormod o fudd-daliadau i bobl anabl. Mae honno'n hinsawdd a all droi'n annifyr yn gyflym iawn a threiddio drwy Lywodraeth, fel y gwelwyd gan ryngweithio staff yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda chosbedigaethau o ddydd i ddydd.

Daw hyn â mi at fy mhwynt olaf—mae'r agweddau yn parhau i fod yn amlwg, hyd yn oed yn adroddiad Llywodraeth Cymru. Nawr, gwn nad y Gweinidog ei hunan yn bersonol a ysgrifennodd yr adroddiad hwn, ond rhoddaf enghraifft fel a ganlyn. Ar dudalen 2, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr. Nawr, dyna derm gwleidyddol llwythog—dyna'r term y ceisiodd y Torïaid ei ddefnyddio i wrthweithio labelu'r polisi o dreth ar ystafell wely. Enw gwirioneddol y polisi, fel y gwelir yn y dogfennau swyddogol ar y pryd, yw'r 'tâl am danddeiliadaeth'. Ond gan ddefnyddio'r term Torïaidd yn y fan hon, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint y mae'r naratif am doriadau lles wedi cael ei fewnoli.

Mae hyn i gyd yn dangos bod yr iaith a ddefnyddiwn i ddisgrifio pethau yn bwysig ac anaml y bydd yn anwleidyddol, ac mae caethiwed i derminoleg a meddylfryd Whitehall yn parhau. Dyna un rheswm pam mae angen datganoli lles fel y gallwn ni ddechrau newid agweddau ac fel y gallwn ni ddod o hyd i rywfaint o drugaredd.

16:35

Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl, ond byddai'n well gen i pe na fyddai'n rhaid i mi, mewn sawl ffordd. Dywedodd John F. Kennedy un tro:

Os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog.

Rwyf i o'r farn mai hynny yw hanfod yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yma—sut y mae cymdeithas yn gwarchod y rhai sy'n wynebu anfantais. Gyda llaw, nid yw anfantais yn rhywbeth sydd filiwn o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth unrhyw un ohonom ni. Mae'r dadansoddiadau dro ar ôl tro wedi ystyried faint ohonom sydd ond rhyw un neu ddau o daliadau cyflog oddi wrth gyni a thlodi gwirioneddol. Yn fy achos i fy hunan—pan oeddwn i yn anterth fy ngyrfa ym maes rheoli hamdden, ac yn gwneud yn arbennig o dda, cafodd y cwmni ei gymryd drosodd a chafodd llu o reolwyr eu dihysbyddu gan y cwmni newydd—cefais fy niswyddo yng nghanol fy 20au, yn Ninas Llundain, yn talu rhent uchel, a'm gwraig a minnau yno o hyd. Treuliais i chwe mis nid yn unig yn rhoi ystyriaeth ddofn i bethau ond yn gweithio hefyd fel swyddog diogelwch nos ar sifftiau 12 awr yn Ninas Llundain wedi fy amgylchynu gan gyfoeth a golud canol y 90au yn Llundain, ac yn gweithio cyn yr isafswm cyflog drwy sifftiau hir o 12 awr. Cefais i amser wrth fy modd a chwrdd â llawer o bobl ffein hefyd. Ond mae'n hynny'n dangos, mewn gwirionedd, i lawer ohonom ni—ac mae'r bobl hynny sy'n troi i fyny yn y banciau bwyd yn aml yn bobl sydd naill ai mewn gwaith neu wedi bod yn gweithio tan yn ddiweddar a bod ychydig o ddigwyddiadau yn eu bywydau wedi eu gwthio dros y dibyn. Ac ar y pwynt hwnnw rydym yn disgwyl i'r system dreth a lles eu cefnogi a'u galluogi i ddychwelyd i'r gwaith, a phan fyddan nhw'n cael gwaith eto i wneud i'r gwaith hwnnw dalu mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n digwydd, er gwaethaf dyheadau gorau—ac rwy'n bod yn hael yma—Iain Duncan Smith, ar un adeg, a ddaliodd y portffolio hwn yn y Llywodraeth, ac a aeth i'r ystadau tai yn Glasgow a threulio chwe mis yno yn dysgu sut beth oedd bywyd yno. Rhoddodd gynnig ar waith, wedi ei ariannu'n dda, ar y pryd, i chwildroi'r cymunedau hynny mewn gwirionedd, ac yna pan ddaeth yn ei ôl i'r Llywodraeth fe rwygodd George Osborne y llyfr sieciau a dweud, 'Fe gei di wneud yr holl stwff ynglŷn â'r gosbedigaeth, mi gei di wneud peth o'r stwff ynglŷn â'r cymhellion, ond 'fydd 'na ddim arian i ti wneud hynny'. Tanseiliodd hynny yr hyn a allasai fod yn ffordd dosturiol, ystyriol, strwythuredig ac yn seiliedig ar dystiolaeth, o helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw sydd ei hangen, i wneud i waith dalu mewn gwirionedd. Ni ddigwyddodd hynny. Rydym yma lle yr ydym ni nawr.

Hoffwn dalu teyrnged i'r cymdeithasau tai niferus, yr awdurdodau lleol, yr undebau credyd, a'r sefydliadau fel Cristnogion yn Erbyn Tlodi ac eraill, sydd allan yno ar hyn o bryd yn feunyddiol yn rhoi cyngor ar ddyledion, cyngor ar reoli arian, cyngor ar gyllidebu ariannol, gan gynorthwyo pobl wrth iddyn nhw geisio ailadeiladu eu bywydau, yn aml oherwydd bod diwygiadau mewn treth a lles yn eu gwthio i dlodi. Hoffwn ddiolch hefyd, wrth gwrs, i'r rhai sy'n gwirfoddoli wythnos ar ôl wythnos, nid yn unig pan fyddwn ni'r gwleidyddion yn troi i fyny i helpu un dydd Sadwrn bob yn hyn a hyn, ond y rhai sy'n gwneud eu rhan bob wythnos, bob dydd o bob wythnos, gyda'r banciau bwyd fel banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, Ymddiriedolaeth Trussell, yr eglwysi, y trefnwyr cymunedol ac eraill, sy'n darparu nid yn unig gynhaliaeth gorfforol a llythrennol gyda bwyd a chewynnau a diaroglyddion a phopeth arall i helpu pobl i gael cydbwysedd yn eu cyllidebau—a hynny yn y chweched wlad fwyaf ffyniannus yn y byd— ond yn ogystal â hynny maen nhw'n cynnig cyfeillgarwch a chymorth hefyd. Hoffwn ddiolch i'r holl elusennau digartrefedd lleol ar hyn o bryd hefyd, gan gynnwys Emaus, y Wallich, Centrepoint a Shelter a llawer un arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru hefyd. Ond ni ddylem ni fod yma—os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog.

Y ffeithiau syml yw, Mark, ac fe glywais i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith yr ydych chi'n ei wneud fel Aelod Cynulliad unigol, yn ymgymryd ag achosion ar les a budd-daliadau er mwyn eich etholwyr, fel yr wyf innau a llawer un arall yn ei wneud—ond y ffaith syml yw bod y diwygiadau treth a lles hyn wedi bod yn atchweliadol iawn. Hyd yn oed ar ôl y gwelliannau, dengys y dadansoddiad eu bod yn dal i fod yn atchweliadol iawn. Maent yn druenus o atchweliadol gan eu bod yn taro'r rhai sydd leiaf abl i'w hamddiffyn eu hunain. Y menywod, cymunedau ethnig penodol, yr ifanc, y rhai nad oes ganddyn nhw lais—sydd yn gorfod dod atoch chi a minnau i ofyn am gymorth. Ond a wyddoch chi ein bod ni yn eu helpu nhw i wrthsefyll y system, er gwaethaf y system? Pam na wnaeth—? Pan oeddwn i'n Weinidog, pan ysgrifennodd Julie James a minnau ac eraill y llythyr at Weinidogion y DU i ddweud, 'Gwnewch eich asesiad eich hunain ar yr effaith gronnol yn seiliedig ar dystiolaeth. A gweithiwch allan beth yw effaith y rhain.' 'Na, does dim angen gwneud hynny'. 'Pam, beth sy'n codi ofn arnoch chi?' Maen nhw'n ofni'r ffaith syml y bydd yn dangos bod y rhain yn cosbi'r tlawd.

Ni fu a wnelo hyn erioed â gosod cyni ar ysgwyddau'r rhai a all ei fforddio fwyaf—mae'n cael ei wneud ar y rhai a all ei fforddio leiaf, ac mae'n peri niwed iddyn nhw a niwed i gymunedau. Pan soniwn ni am y pellter, fel y crybwyllwyd mewn dadl flaenorol yn y fan hon, rhwng y goreuon, y gwleidyddion, pa ryfedd, pan mae gennych mewn etholaeth fel fy un i ardaloedd cefnog nad ydynt yn gweld hyn o gwbl ac nid yw'n cyffwrdd â'u bywydau, ac eto i gyd yng Nghaerau a Gilfach ac mewn mannau eraill, ceir cymunedau cyfan sy'n dioddef nawr dan hyn, a bydd pethau'n gwaethygu. Ni allaf fynd drwy fanylion y cyflwyniadau y byddwch chi wedi eu gweld, ac yr wyf i wedi eu gweld, ac y bydd pawb wedi eu cael nhw gan Age Cymru ynglŷn â rhai o'r newidiadau sydd eto i ddod a sut y byddan nhw'n effeithio ar rai o'r bobl hŷn sy'n cael y taliad annibyniaeth personol ac ati. Dim ond dweud a wnaf wrth Geidwadwyr tosturiol, wrth bobl sy'n wirioneddol boeni am eu hetholwyr—na allwn guddio ein pennau yn y tywod mwyach. Mae hon yn gosbedigaeth ar bobl, ac os ydym ni'n credu na fydd y bwlch yn cynyddu, wel fe wna. Os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog. Mae'n ddyletswydd arnom gydnabod y ffeithiau ar lawr gwlad cyn y gallwn ddod ymlaen gyda'r atebion mewn gwirionedd.

16:40

Mae'n rhaid inni wynebu'r ffeithiau yma heddiw. Un peth oedd dweud y byddem ni'n hepgor y wleidyddiaeth yn hyn, ond peth arall yw hepgor y wleidyddiaeth o benderfyniad gwleidyddol sydd wedi cael ei wneud, sef gwasanaethu system gyfan sy'n gweld pobl mewn tlodi, mewn tlodi mawr, y bobl hynny na all weld eu ffordd trwy yfory, drennydd a thradwy—pobl sy'n troi i fyny yn ein cymorthfeydd neu bobl sy'n ysgrifennu atom i ddweud nad ydyn nhw'n gwybod sut y maen nhw'n mynd i ddal ati. Ac ni allwn honni nad dewis gwleidyddol mo hwnnw. Dewis gwleidyddol yw hwn. Dewis gwleidyddol yw cyni. Yn wir, dewis mewn dwy ran oedd hwn. Y rhan gyntaf oedd amddifadu'r sector cyhoeddus o unrhyw arian, a'r sector cyhoeddus oedd yn darparu'r cymorth i'r bobl hynny sy'n eu cael eu hunain dan ormes y diwygiadau lles llym hyn. Felly nid yn unig y gwelwyd y diwygiadau lles yn torri'r cyllid a oedd yn mynd i deuluoedd wythnos ar ôl wythnos, ond roedd y toriadau wedyn ar Lywodraeth Leol, y penderfyniad gwleidyddol i gael gwared ar y cronfeydd a oedd ar waith yn 65 y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth pan wnaethoch chi gymryd yr awenau a bellach ar 45 y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth—dewis gwleidyddol oedd hwnnw. Felly, ceir llai o arian i fynd o gwmpas ym mhobman.

Mae'n fethiant llwyr. Mae'n warth llwyr, ac rwy'n falch bod Leanne Wood wedi tynnu sylw at yr hyn a wnaeth hi—y ffordd y mae pobl yn cael eu trin pan na allan nhw gyrraedd cyfarfodydd, y cosbedigaethau sydd arnyn nhw. Pwy allai gredu mewn difrif ei bod yn system deg a honno'n cosbi pobl lle mae'n rhaid iddyn nhw fynd i gardota am eu harian, ac os na allan nhw fynd i gardota am eu harian, yna nid oes unrhyw arian iddyn nhw? Ni ellir esgusodi hynny fel penderfyniad anwleidyddol, oherwydd penderfyniad gwleidyddol yw peth fel hyn.

Hoffwn i godi mater Age Cymru, a'r diwygiadau lles sydd eto i ddod. Meddyliais y byddwn i'n canolbwyntio ar hwnnw oherwydd mae'n amlwg nad yw pobl eraill wedi gallu gwneud hynny. Rydym ni'n sôn yma am gyplau o oedran cymysg a'r meini prawf credyd pensiwn a budd-dal tai sy'n newid ar 15 Mai eleni, a fydd yn gwneud yr aelwydydd hynny yn y dyfodol cymaint â £7,000 y flwyddyn yn dlotach. A theuluoedd yw'r rhain sydd eisoes yn dlawd eu hunain. Felly, beth yw'r newidiadau hyn? Wel, ar hyn o bryd, gall yr unigolyn hynaf hawlio lwfans credyd pensiwn, ac fe wna hynny waeth beth fo oedran yr unigolyn iau ar yr aelwyd honno. Yr hyn a fydd yn digwydd ar 15 Mai yw y bydd pobl yn gorfod cyrraedd yr oedran pensiwn hwnnw, a gadewch i ni fod yn glir yma: rydym yn sôn am fenywod yn bennaf, a fydd yn iau na'u dynion—nid yw'n hynny'n ddieithriad; gwyddom hynny—a gwyddom hefyd eu bod nhw wedi codi oedran ymddeol y menywod hynny beth bynnag. Gwyddom hefyd, a rhoddwyd enghreifftiau o hynny yma heddiw, y gallai rhai o'r menywod hynny fod allan o waith ers cryn amser am amryw o resymau. Ac mae 'na ystadegyn arall hysbys, a hwnnw yw ystadegyn PRIME Cymru, sef bod rhywun dros 65 oed sy'n chwilio am waith yn fwy tebygol o farw cyn iddyn nhw ddod o hyd i'r gwaith hwnnw. Ac mae'r ystadegyn hwnnw'n hysbys iawn, iawn. Caiff ei gadarnhau, mae'n hysbys, ac eto i gyd mae gennym ni Lywodraeth yma sy'n dweud wrth bobl hŷn, 'Rhaid i chi fynd allan a chwilio am waith, oherwydd, os na wnewch chi hynny, fe welwch y bydd raid ichi fyw ar £143 yr wythnos, oherwydd rydym wedi dileu eich hawliau.' Oni bai, wrth gwrs, eich bod yn digwydd gwahanu. Pe byddech yn digwydd gwahanu, caiff y partner hŷn gynnydd, a bydd yn cael £163 yr wythnos, os yw'n ddyn. Nawr, dewch ymlaen, gadewch inni fyw yn y byd go iawn yma. Mae hyn yn gwbl warthus. Er bod y Torïaid wedi cydnabod ac wedi esgus cefnogi'r syniad o beidio ag effeithio ar bobl hŷn oherwydd eu bod eisiau eu pleidleisiau, maent bellach wedi diarddel y syniadau hynny, hyd yn oed. Felly, rydym yn mynd i roi pobl, o'r crud i'r bedd  nawr, mae'n debyg, mewn tlodi. Nid cymorth cymdeithasol o'r crud i'r bedd mo hyn.

16:45

A gaf i alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl ystyriol hon heddiw, ac yn enwedig i Leanne Wood, Huw Irranca-Davies a Joyce Watson. Roeddech chi'n dechrau drwy sôn, mewn gwirionedd, am sut y dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl sut yr ydym ni'n trin y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf. Joyce, gan gysylltu â hynny, roeddech chi'n sôn am annynoldeb y system bresennol ac yn benodol yr effaith ar bobl hŷn, menywod yn arbennig felly. Roedd yr Aelodau yn y Siambr heddiw yn sôn am ba mor wleidyddol yw pethau, neu am beidio â gwneud pethau yn faterion gwleidyddol, ond, mewn gwirionedd, gadewch inni fod yn onest, mae diwygio lles a chyni yn mynd yn erbyn menywod yn eu hanfod. Nid oes dianc rhag hynny. Rydym yn gweld yr effeithiau a'r dystiolaeth o hynny. Derbyniaf yr hyn a ddywedwch am eirfa. Mae iaith yn aml yn llwythog a gellir defnyddio hynny i ddadwleidyddoli, fel y dywedwch chi, ac i annynoli hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig, yn arbennig pan soniwn am fater fel hwn. Felly, mae'n amlwg bod—

A ydych chi'n derbyn y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am y swyddogion a ysgrifennodd yr adroddiad a'u bod nhw'n gwbl anghyfarwydd â'r sefyllfa ar lawr gwlad? Felly, er enghraifft, mae'r adroddiad yn edrych ar y penderfyniad i gyfyngu ar gredydau treth i'r ddau blentyn cyntaf ond yn llwyr anwybyddu sgandal y cymal trais rhywiol. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch hyn?

Nid wyf i'n credu mai beirniadaeth o swyddogion yn uniongyrchol neu fel unigolion yw hyn, ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch o ran meddwl am yr iaith a ddefnyddiwn ni. Ac, yn wir, bwriadwyd y ddogfen hon i fod yn ddogfen ffeithiol, ond rwy'n derbyn yn llwyr os nad ydym ni'n agored ac yn blaen o ran ystyr y pethau hyn yn ymarferol, gallai hynny fod yn annynoli ac yn dadwleidyddoli a thywys y ddadl i gyfeiriad nad ydym ei eisiau, ac mae angen inni fod yn fwy dewr ac agored ynglŷn â hynny.

Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r materion systemig o ran y system fudd-daliadau lles a gwrthdroi'r toriadau niweidiol sy'n cael eu harwain gan ideoleg, sy'n cynyddu tlodi plant. Pan welwch chi effaith gronnol y diwygiadau lles mawr hyn sydd wedi cael eu gweithredu neu sydd heb fod mewn grym yn llawn eto, mae effaith mesurau cyni Llywodraeth y DU yn wirionedd noeth na all neb ohonom ni neu na ddylai neb ohonom ni gilio oddi wrtho.

Un o'r agweddau niferus sy'n peri pryder i hawlwyr newydd y credyd cynhwysol yw sefyllfa'r rhai sy'n ceisio cymorth hanfodol gyda'u costau tai, ac ni fydd llawer yn gallu fforddio i dalu'r rhent i'r landlord nes y daw eu taliad cyntaf i law. Mae awdurdodau lleol lle mae'r gwasanaeth llawn credyd cynhwysol ar waith eisoes yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent i nifer o denantiaid. Mae hyn yn achosi ac yn gwaethygu problemau â dyled i'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth ac wedi arwain at ganlyniadau difrifol i bobl sy'n wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i fod heb arian o gwbl i dalu eu rhent. Bydd rhai newidiadau gan Lywodraeth y DU, fel treialu taliadau mwy cyson a thaliadau uniongyrchol i landlordiaid y sector preifat, a amlinellodd y Gweinidog dros gyflogaeth yn ei lythyr yn ymateb i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn helpu i greu gwelliannau pe bydden nhw ar waith yn llawn ledled Cymru. Eto i gyd, ni fydd y newidiadau hyn ar eu pennau eu hunain yn mynd yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym i ymdrin â phroblemau sylweddol sydd yn nyluniad y credyd cynhwysol.

Dirprwy Lywydd, fel yr amlinellir yn fy sylwadau agoriadol, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n methu â chydnabod maint y problemau a ddaeth i'r amlwg eisoes. Rwyf hefyd yn awyddus i ailadrodd sut y byddwn ni'n edrych ar yr achos o blaid datganoli gweinyddiad rhai agweddau ar y system budd-daliadau lles, gan edrych a oes ffordd y gallem wneud pethau, yn weinyddol, yn wahanol, yn well ac yn decach yng Nghymru. Rydym wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n cynorthwyo wrth ddatblygu'r gwaith hwn. Yn rhan o hyn, byddwn hefyd yn dilyn yn agos ac â diddordeb mawr waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran ei ymchwiliad ar hyn o bryd i fudd-daliadau yng Nghymru, dewisiadau ar gyfer darpariaeth well.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir iawn fod effaith diwygio lles Llywodraeth y DU yn niweidiol yng Nghymru. Fel y clywsom ni yma eto heddiw—ac mae llawer ohonom ni'n clywed ac yn gweld y sefyllfa wirioneddol boenus a dinistriol hon, boed hynny yn ein gohebiaeth, yn ein cymorthfeydd neu yn ein cymunedau. Cyn imi gael fy ethol i'r Senedd hon, ymgyrchais dros ddod â'r gyfundrefn o gosbedigaeth greulon a dideimlad i ben. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau i fynd i'r afael ag effaith diwygio lles ac yn pwyso am wrthdroi'r polisïau niweidiol sy'n cael effaith—[Torri ar draws.]—niweidiol a dinistriol ar fywydau pobl yma yng Nghymru. Diolch.

16:50

A ydych chi'n ildio? Nac ydych. Iawn, mae'n ddrwg gen i. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn i ni symud at y ddadl ar Gyfnod 3 o'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati.) (Cymru), rwy'n gohirio'r trafodion am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, ond a gaf i annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda? Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:52.

17:00

Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:02 gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

7. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Mae gwelliannau a nodir ag [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu 17 wrth gyflwyno’r gwelliant.

Os yw'r Aelodau'n barod, awn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef Cyfnod 3 o'r Bil Rhentu Cartrefi Cymru(ffioedd ac ati).

Grŵp 1: Taliadau gwaharddedig—terfynu contract (Gwelliannau 3, 4, 6, 7, 8, 10, 23, 24, 1, 2)

Felly, mae grŵp 1 yn daliadau gwaharddedig — terfynu contract, ac yn y grŵp cyntaf o welliannau. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 3, felly galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn — Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Julie James).

Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Cyflwynwyd Gwelliannau 1, 2, 3, 4, 6, 7, 8 a 10 i fynd i'r afael ag argymhelliad 6 yn Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Maent yn sicrhau bod ffioedd ar gyfer ymadael â chontract meddiannaeth yn cael eu gwahardd. Yn benodol, hoffwn sicrhau'r Aelodau bod y gwelliannau yn atal y math o ffioedd ymadael y mae tenantiaid yn eu hwynebu weithiau pan fyddant yn diweddu eu tenantiaeth; fe'u gwaherddir yn llwyr. Fodd bynnag, mae yna sefyllfaoedd lle caniateir taliadau, megis lle terfynir contract tymor penodol yn gynnar neu pan fo deiliad y contract yn dymuno gadael heb roi'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan y contract drwy drafodaeth gyda'r landlord.

Nid ydym eisiau bod mewn sefyllfa lle mae deiliad contract, os yw ei amgylchiadau'n newid ac mae'n dymuno symud i rywle arall, wedi cael ei glymu i gontract. Felly, os bydd deiliad y contract a'r landlord yn cytuno ar ffordd gyfeillgar o ymadael, gan gytuno ar daliad ar gyfer rhyddhad cynnar o'r contract neu ryddhau deiliad y contract o'u hymrwymiadau o hysbysiad o dan y contract, yna ni ddylem atal hyn.

Bydd effaith y gwelliannau i adrannau 2 a 3 o'r Bil yn sicrhau bod taliadau cytundebol ar ôl gadael contract meddiannaeth safonol yn cael eu gwahardd. Mae cynnwys y geiriad yng nghyswllt taliadau sy'n unol ag un o delerau contract meddiannaeth safonol yn gwahardd taliadau ymadael gofynnol pan ddaw'r contract i ben. Mae'r gwelliannau hyn yn ymdrin â phryderon yr Aelodau ynghylch a yw taliadau ymadael yn cael eu gwahardd yn y Bil ai peidio. Bydd ffioedd ymadael a godir fel arfer gan asiant neu landlord ar ddiwedd y contract ar gyfer pethau fel casglu allweddi, glanhau neu archwiliadau stocrestr yn cael eu gwahardd. Rwy'n derbyn pryderon yr Aelodau na ddylid cael unrhyw amwysedd ynghylch taliadau wrth adael contract a bod taliadau ar gyfer ffioedd ymadael wedi bod yn aneglur. Rwyf eisiau sicrhau nad oes lle i unrhyw fath o amwysedd ac felly rwyf wedi cyflwyno'r gyfres hon o welliannau. Bydd y gwelliannau hyn, fel pecyn, yn dileu pob amheuaeth.

Yn fwy penodol, byddai taliadau lle byddai deiliad contract yn dymuno terfynu contract yn gynnar, megis unrhyw rent sydd heb ei dalu, yn cael eu caniatáu ar y sail nad ydynt yn cael eu gwneud wrth ystyried y grant adnewyddu neu barhad y contract, ond yn hytrach yn cael eu gwneud yng nghyswllt diweddu'r contract, ac felly ni fydd y gwaharddiadau yn effeithio arnynt.

 Yn gryno, mae gwelliannau 1, 2, 3, 4, 6, 7, 8 a 10 yn diwygio adrannau 1, 2 a 3 er mwyn gwahardd ffioedd ymadael. Gobeithio y bydd Aelodau yn cefnogi'r newidiadau hyn. Bydd gwelliannau Cyfnod 2 a wnaed i adran 17 yn cael eu cynnig o fewn gwelliant 46 David Melding, os cytunir arnynt, yn yr Atodlen 3 newydd, fel bod y gwelliannau i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i gyd gyda'i gilydd. Mae Gwelliannau 23 a 24, fel y'i cyflwynwyd, yn rhagofal pe byddai Gwelliant 46 yn cael ei wrthod. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn.

17:05

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y grŵp hwn o welliannau, felly y cwestiwn yw cytuno ar welliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 3 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Julie James).

Yn ffurfiol, diolch ichi. Felly, y cwestiwn yw cytuno ar welliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 4 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Esboniadau drafftio (Gwelliannau 5, 28)

Mae Grŵp 2, y grŵp nesaf o welliannau, yn ymwneud â drafftio eglurhad, a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 5. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Julie James).

Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Mae gwelliant 5 yn newid mân i'r Bil i egluro adran 2(3) a sicrhau ein bod yn diogelu'r contract perthnasol ar gyfer gwasanaethau. Ein nod yma yw osgoi unrhyw gyfyngiad ar gontract ar gyfer gwasanaethau os darperir y gwasanaethau hynny gan rywun sydd â hawl i feddiannu'r annedd. Enghreifftiau cyffredin y gellid eu gweld yma yw gofalwr neu nani. Mân welliant yw hwn sy'n gwella dealltwriaeth o'r ddarpariaeth yn hytrach na gwneud unrhyw newid i'r polisi ei hun. Mae gwelliant 28 yn welliant technegol arall sydd wedi ei wneud i adran 23 o'r Bil er mwyn sicrhau cysondeb â'r newidiadau a wnaed i adrannau 2 a 3 o'r Bil. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn cytuno bod hyn yn gwella eglurder y Bil ac y byddant yn cefnogi'r gwelliannau.

Unwaith eto, nid oes gennyf siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw cytuno ar welliant 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Julie James).

Y cwestiwn yw cytuno ar welliant 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 6 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Ad-dalu taliadau gwaharddedig (Gwelliannau 55, 57)

Grŵp 3 yw ad-dalu taliadau gwaharddedig. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 55, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Leanne.

Cynigiwyd gwelliant 55 (Leanne Wood).

Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y llys yn gofyn am ad-dalu taliad gwaharddedig gan y troseddwr uniongyrchol i'r person y'i talwyd iddo. Rydym wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn eto, oherwydd credwn ei bod yn bwysig nad oes unrhyw le i ddadlau yma; rhaid ad-dalu unrhyw ffioedd heb awdurdod. Nawr, gwrthodwyd y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 am fod y Gweinidog blaenorol wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae yna egwyddor bwysig sydd raid inni ei hystyried yma, sef cadw annibyniaeth y llys. Byddant yn gwneud gorchymyn o'r fath os ystyriant ei bod yn briodol dan yr amgylchiadau.'

Dywed ein cyngor cyfreithiol wrthym nad yw hynny'n wir. Dywed ein nodyn cyfreithiol, ac rwy'n dyfynnu, 'Ceir nifer o enghreifftiau o droseddau atebolrwydd caeth yn y gyfraith lle nad oes gan y llys unrhyw ddisgresiwn dros lefelau o gosb os yw'r diffynnydd yn euog o'r drosedd dan sylw.'

Felly, roedd yn eithaf clir i ni yng Nghyfnod 2 fod y Gweinidog blaenorol yn defnyddio dadleuon cyfreithiol technegol i wrthod y gwelliant, fel arfer, gan wybod nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw hawl i herio hyn. Felly, mae hyn yn awgrymu bod angen inni newid  rheolau'r sefydliad hwn. Pan fo dadleuon cyfreithiol yn digwydd, dylai fod egwyl er mwyn gallu cynnal y gwiriadau hynny. Felly, byddai'n well o lawer gennyf gael dadl heddiw ar yr egwyddor y tu ôl i'r gwelliannau, sef na ddylai pobl elwa o'r taliad heb awdurdod a bod pawb yn gwybod yn iawn fod yn rhaid ad-dalu'r ffioedd hynny yn y llys.

O ran y ddau welliant hyn, sy'n ymwneud â'r llys yn gorchymyn ad-dalu ffioedd gwaharddedig, mae gennyf welliant pellach eisoes yn y Bil hwn yn grŵp 10, gwelliant 44. Bydd hwnnw'n cyflawni hyn ar yr un pryd ag y telir hysbysiad cosb benodedig, pwy bynnag sy'n cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig. Dan welliannau'r Llywodraeth yng ngrŵp 9, bydd yr awdurdod trwyddedu, Rhentu Doeth Cymru, yn etifeddu pwerau i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ac mae fy ngwelliant diweddarach yn cynnwys Rhentu Doeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn ei gwmpas, sef galw am ad-dalu ffioedd wedi eu gwahardd ar yr adeg y cyhoeddir hysbysiad o gosb benodedig. Mae hyn yn glir iawn, ac mae'n darparu ar gyfer y tenant sydd wedi ei gyhuddo ar gam. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn yn mynnu bod rhaid i'r llys fynnu'r ad-daliad pan fydd troseddwr yn cael ei farnu'n euog. Felly, credaf fod fy ngwelliannau i yn cyflawni amcan tebyg mewn modd sydd efallai'n fwy effeithlon ac yn llai cyfyngol, er yn amlwg rwy'n derbyn bod gan yr Aelod gyferbyn farn wahanol. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r bwriad, credaf fy mod yn cyflawni hynny'n fwy effeithiol.

Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Byddai gwelliannau 55 a 57, a gynigwyd gan Leanne Wood, yn gosod dyletswydd ar y llys troseddol, pe byddai cyhuddiad o dan adrannau 2 a 3 o'r Bil, sef gofyn am dâl gwaharddedig, i orchymyn i landlord neu asiant i dalu'r taliad gwaharddedig, neu lle bu ad-daliad rhannol, y swm sy'n weddill, fel y dywedodd yn briodol. Nid yw ein barn ni wedi newid o Gyfnod 2—y dylai ad-dalu taliad gwaharddedig fod yn fater i'r llys ei benderfynu. Mae hi'n iawn wrth ddweud y byddai'r gwelliant yn llyffetheirio annibyniaeth a disgresiwn y llys, ac mae hi hefyd yn iawn i ddweud bod annibyniaeth a disgresiwn y llysoedd yn cael ei gyfyngu weithiau. Ond, yn yr achos hwn, nid wyf yn credu bod hynny'n briodol, ac rwy'n gwrthwynebu'r gwelliannau ar y sail honno.

Rwyf yn hyderus y bydd y llys, os bydd cyhuddiad o drosedd, yn gallu pwyso a mesur y ffactorau perthnasol wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn dan adrannau 2 a 3 o'r Bil. Ni allaf gefnogi'r gwelliannau, sy'n effeithio ar annibyniaeth y llys ac ar ei allu i ymarfer ei ddisgresiwn yn y mater hwn. Rwy'n dal i gredu bod hwn yn fater i'r llys ei benderfynu.

17:10

Diolch. Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl. Na? Y cwestiwn yw bod gwelliant 55 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Ar gyfer gwelliant 11, nid oes ymatal, 37 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 55.

Gwelliant 55: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Dirymu trwyddedau (Gwelliannau 56, 58)

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â dirymu trwyddedau. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 56. Galwaf ar Leanne Wood i gynnig ac i siarad am y prif welliant a'r gwelliant arall yn y grŵp hwn.

Cynigiwyd gwelliant 56 (Leanne Wood).

Diolch. Cyflwynwyd y gwelliannau hyn i roi pŵer i'r llys i ddirymu trwydded ar gyfer rhywun a fu'n codi taliadau heb ganiatâd. Pŵer disgresiwn fyddai hwn, ni fyddai'n orfodol, ond yno i'w benderfynu gan y llysoedd. Nawr, yng Nghyfnod 2, gwrthododd y Gweinidog blaenorol y gwelliannau hyn ar y sail y byddai'n tanseilio swyddogaeth Rhentu Doeth Cymru i benderfynu pa gamau i'w cymryd. Ond, y pwynt yw ein bod yn gofyn i'r llysoedd i orfodi'r gyfraith hon ac, fel rhan o hynny, bydd rhoi pŵer disgresiwn iddynt i ddirymu trwydded yn eu helpu i orfodi'r gyfraith.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei ddyddiau cynnar ac yn debygol o fod yn destun heriau cyfreithiol oddi wrth landlordiaid mewn modd na fydd yn wir am y llysoedd. Mae'n debygol y gallai landlord sydd a'i drwydded wedi cael ei dirymu gan Rentu Doeth Cymru herio hyn a defnyddio'r diffyg eglurder o ran pryd y dylid dirymu'r trwyddedau. Wedi'r cyfan, rhaid gofyn y cwestiwn a yw'r person yn addas a phriodol i benderfynu hyn, ac wrth gwrs gall collfarnu yn y llysoedd am godi ffioedd heb awdurdod gyfrannu at hynny. Ond byddai'n cymryd amser i sefydlu'r pwerau hynny, ac felly byddent yn llai tebygol o gael eu herio.

Unwaith eto, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â safbwynt Leanne yma, ond ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru fod gennym Rhentu Doeth Cymru ar waith, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwthio a hyrwyddo'r corff hwn i fod yn drawsnewidiol yn y sector rhentu preifat. Mae un o'm gwelliannau diweddarach—gwelliant 45 yng ngrŵp 11, a gefnogwyd gan Blaid Cymru yng Nghyfnod 2—yn darparu y bydd Rhentu Doeth Cymru yn cael eu hysbysu pan fydd hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno. Roedd un arall o'm gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn hyrwyddo'r syniad y dylai Rhentu Doeth Cymru allu cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig—rhywbeth y mae'r Llywodraeth wedi ei fabwysiadu bellach. Bydd Rhentu Doeth Cymru yn cael eu hysbysu am unrhyw weithgaredd twyllodrus gan landlordiaid, a chredaf y bydd, fel yr awdurdod arweiniol yn y sector rhentu preifat, yn y sefyllfa orau i benderfynu a oes angen dirymu trwydded. Fel arall, beth yw pwrpas ei fodolaeth? Os derbynnir fy ngwelliannau, credaf y bydd Rhentu Doeth Cymru yn ennill cryn dipyn o gyfrifoldeb, a bydd y maes hwn o ddeddfwriaeth yn gwella, gan ddileu'r angen am y gwelliannau arfaethedig yn y grŵp hwn.

Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Rwy'n gwrthwynebu gwelliannau 56 a 58, sydd yr un fath â'r rhai a ddygwyd ymlaen ar y mater hwn yng Nghyfnod 2. Mae ein safbwynt ni hefyd yr un fath—fod y gwelliannau'n cyfyngu'n amhriodol ar weithrediad yr awdurdod trwyddedu. Nid diddymu trwydded dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yw'r ateb gorau o reidrwydd, ond mae hwnnw'n fater i'r awdurdod trwyddedu benderfynu arno. Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod adran 20 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu, wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i fod yn drwyddedig, y dylai'r awdurdod trwyddedu—ar hyn o bryd Rhentu Doeth Cymru—  roi sylw i'r holl faterion y mae'n eu hystyried yn briodol. Ac ymysg y materion y mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi sylw iddynt yw sicrhau nad oes unrhyw dramgwydd dan y gyfraith sy'n ymwneud â thai neu faterion landlord a thenant.

Mae trefniadau trwyddedu'n disgwyl fod landlordiaid ac asiantau yn gallu dangos eu bod yn addas i weithredu. Byddai collfarn am drosedd dan adran 2 neu adran 3 y Bil yn fater y dylai'r awdurdod trwyddedu roi sylw iddo wrth benderfynu a fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu neu beidio, neu ei dirymu dan adran 25 o Ddeddf 2014. Mae'r gofynion i fod yn berson addas a phriodol dan adran 20 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu y dylai'r awdurdod trwyddedu, wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i fod yn drwyddedig, roi sylw i'r holl faterion a ystyria'n briodol, sy'n cynnwys mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy'n ymwneud â thai neu landlord a thenant. Byddai collfarn am dramgwydd yn un enghraifft, a rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi sylw i dramgwyddau o'r fath wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i gael ei drwyddedu dan Ran 1 o Ddeddf 2014. Gallai hyn olygu dirymu trwydded os nad yw'r awdurdod trwyddedu yn cael ei fodloni mwyach fod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

Fel y nodir yng Nghyfnod 2, mae yna hefyd bosibilrwydd y byddai canlyniadau anfwriadol difrifol pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei basio. Gallai'r gwelliannau greu sefyllfa wrthnysig lle gellid dirymu'r drwydded dan Ran 1 o Ddeddf 2014 gan y llys troseddol. Gallai'r un landlord neu asiant barhau i ddal trwydded rheoli tŷ amlfeddiannaeth ond ar yr un pryd gael trwydded dan ran 1 o Ddeddf 2014 wedi ei dirymu gan y llys troseddol. Nid yw'r gwelliant yn ymdrin â'r materion hyn, a allai olygu y gallem weld anghysonderau o'r fath.

Byddai canlyniad anfwriadol arall y gwelliant yn codi pe byddai asiant neu landlord yn penderfynu apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu trwydded dan Ran 1 o Ddeddf 2014. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai rhaid cynnal yr apêl mewn tribiwnlys eiddo preswyl. Yn ôl gwelliannau 56 a 58, os gallai llys troseddol orchymyn i'r awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded y tramgwyddwr dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2014, ni fyddai'r gwelliannau hyn yn gweithio ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth bresennol. Byddai'n rhaid i Rentu Doeth Cymru amddiffyn unrhyw achos o ddiddymu trwydded y gorchmynnwyd iddynt ei wneud gan y llys, er nad oedd ganddynt unrhyw ran yn y penderfyniad i ddirymu. Unwaith eto, nid wyf yn gweld bod y materion hyn wedi cael sylw yn y gwelliant, sydd heb newid ers Cyfnod 2.

Er mwyn osgoi amheuaeth, rydym ni'n disgwyl i'r awdurdod trwyddedu roi sylw i'r materion hyn yn eu hystyriaethau. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant i'w drafod yn ddiweddarach, Rhif 25, sy'n caniatáu ar gyfer canllawiau i'r awdurdod trwyddedu ar y mater hwn.

Mae'r gwelliannau hyn, felly, yn ein barn ni, yn ddiangen ac yn sylfaenol ddiffygiol, a byddwn yn annog yr Aelodau i wrthod y ddau welliant.

17:15

Diolch. Leanne Wood. Na?

Felly, y cwestiwn yw bod gwelliant 56 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Ar gyfer gwelliant 11, nid oes ymatal, 37 yn erbyn. Felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 56: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 7 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 7 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 8 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 8 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Taliadau a ganiateir (Gwelliannau 9, 64)

Taliadau a ganiateir yw grŵp 5. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 9, a galwaf ar y Gweinidog i gynnig ac i siarad am y prif welliant ac unrhyw welliannau eraill yn y grŵp hwn.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Julie James).

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gwelliant technegol yw gwelliant 9. Mae isadran newydd (3) o adran 3 yn egluro y gall asiantau gosod tai ymrwymo i gontract ar gyfer gwasanaethau gyda landlord lle gall yr asiant ddarparu gosodiadau neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord. Byddai angen hyn pe na fyddai'r landlord yn drwyddedig drwy Rentu Doeth Cymru i wneud gwaith o'r fath.

Gobeithio y bydd yr Aelodau yn derbyn na ddylai'r Bil ymyrryd yn y berthynas waith rhwng asiant a landlord, a allai fod wedi digwydd pe na fyddem wedi gwneud y gwelliant hwn. Nid yw hon yn ddarpariaeth gymhleth na dadleuol i'w hychwanegu at y Bil, a hyderaf felly y bydd yr Aelodau'n cytuno arni yn ddi-broblem.

Rwy'n falch o allu cefnogi gwelliant 64 Leanne Wood, sy'n dileu unrhyw amwysedd y gellir ad-dalu benthyciad y Fargen Werdd. Gwahoddaf bob aelod i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Dirprwy Lywydd, os caf i siarad yn gyflym am welliant 64 Plaid Cymru yn y grŵp hwn, sy'n egluro ansicrwydd ynghylch taliadau'r Fargen Werdd. Cofiaf fod peth dryswch yng Nghyfnod 2, gan fy mod i hefyd wedi cyflwyno gwelliant ar y mater hwn. Penderfynais dynnu'r gwelliant yn ôl er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd. Am resymau tebyg, nid wyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant ar hyn o bryd, ac rwyf yn falch fod y Gweinidog wedi ymestyn allan i weithio gyda Phlaid Cymru i ddatblygu cynnig sy'n cwmpasu ein holl bryderon, sy'n adlewyrchu Deddf Ffioedd Tenant 2019 yn Lloegr. Felly, byddwn yn cefnogi'r gwelliant hwn heddiw.

Mae gwelliant 64 yn un y cytunwyd arno â'r Llywodraeth ar ganiatáu taliadau Bargen Werdd fel taliadau. Mae'n dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor a hefyd rywfaint o ddryswch, fel sydd newydd gael ei amlinellu, yng Nghyfnod 2 ynghylch a fyddai deddfwriaeth a gwelliannau yn y cyfnod hwnnw wedi sicrhau bod hyn yn wir. Ond rydym wedi cyflwyno hyn gyda chytundeb y Llywodraeth er mwyn rhoi mwy o eglurder. Diolch.

Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Na? Iawn, diolch yn fawr. Y cwestiwn yw ein bod yn derbyn gwelliant 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na? Felly, derbynnir gwelliant 9.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Julie James).

17:20

Y cwestiwn yw bod gwelliant 10 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir gwelliant 10.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 57 (Leanne Wood).

Cynnig yn ffurfiol. Y cwestiwn yw cytuno ar welliant 57. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen at bleidlais electronig, ac yn agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Ar gyfer gwelliant 11, nid oes ymatal, 37 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 57: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 58 (Leanne Wood).

Cynnig. Y cwestiwn yw cytuno ar welliant 58. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig, ac agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Ar gyfer y cynnig 11, nid oes ymatal, 37 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 58: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 6: Blaendaliadau cadw (Gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 65, 66, 38, 67, 39, 40, 41, 42)

Mae grŵp 6 ar flaendaliadau cadw. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 29, a galwaf ar y Gweinidog i gynnig ac i siarad am y prif welliant ac unrhyw welliannau eraill yn y grŵp. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Julie James).

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae tystiolaeth a roddwyd gan sefydliadau tenant mewn cysylltiad â blaendaliadau cadw yn dangos, ar adegau, bod rhywfaint o gam-werthu gan rai asiantau neu landlordiaid, lle gall y cynnig a wnaed pan gymerir blaendal y darpar denant fod yn wahanol i'r hyn a osodir wedyn yn y contract ysgrifenedig. I raddau, gall hyn weithiau fod yn rhesymol, gan adlewyrchu, dyweder, yn dilyn gwneud gwiriad o eirda, fod angen trefniadau gwarantwr sy'n fwy cadarn, neu amrywiad arall i'r denantiaeth. Fodd bynnag, mae gwelliant 42 yn ceisio ymdrin â math o ymarfer heriol lle mae tenant yn cael ei ddarbwyllo i drosglwyddo blaendal cadw, a lle nad yw'r gwahaniaeth yn y contract terfynol o ganlyniad i amgylchiadau'r tenant, ond oherwydd bod yr asiant gosod tai yn addo gormod neu'n rhoi gwybodaeth nad oedd yn hollol gywir ymlaen llaw.

Mae gwelliant 42 yn mewnosod paragraffau 10 a 11 newydd yn Atodlen 2. Mae'r paragraff 10 newydd yn nodi'r amgylchiadau pan nad oes raid ad-dalu blaendal cadw a dalwyd i asiantau gosod tai. Hynny yw, os gwneir pob cam rhesymol i gynorthwyo'r landlord, sydd hefyd yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract, ond yn y pen draw fod deiliad y contract yn methu ymrwymo i'r contract. Mae paragraff newydd 11 yn dweud na ellir dibynnu ar yr eithriadau ym mharagraffau 8, 9 a 10, sy'n ymdrin ag ad-dalu os bydd partïon yn methu ymrwymo i gontract, os na fydd gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau i ddeiliad y contract cyn talu blaendal cadw. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw beth annisgwyl pan fydd deiliad y contract yn dod i lofnodi'r contract. Os na ddarperir gwybodaeth, ni all landlord neu asiant gosod tai ddibynnu ar eithriad i'r gofyniad i ad-dalu'r blaendal cadw. O ganlyniad, rhaid iddo gael ei ad-dalu.

Wrth graffu ar y Bil, daeth yn amlwg fod ansicrwydd a oedd taliad blaendal cadw yn rhoi'r hawl gyntaf i wrthod i ddeiliad contract i rentu'r eiddo. Mae gwelliant 36 yn egluro, mewn cysylltiad â blaendal cadw, fod cyfeiriadau at ddeiliad contract yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl gyntaf i wrthod yn cael ei chadw gan y blaendal cadw. Mae'r blaendal yn darparu gwarant fod darpar ddeiliad y contract, cyn gynted ag y bydd y gwiriadau angenrheidiol wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, yn gallu arfer ei hawl i rentu annedd, sy'n ddarostyngedig i'r contract. Gwnaed honiadau bod rhai landlordiaid neu asiantau yn cymryd blaendal gan fwy nag un daliad ar yr un pryd er mwyn gosod pwysau ar bobl i lofnodi contract. Mae'r gwelliant yn amddiffyn yr hawl gyntaf i wrthod i'r person sydd wedi talu blaendal, gan egluro i bwy y rhoddwyd yr hawl hon.

Cyflwynwyd gwelliant 31 i sicrhau bod swm blaendal cadw sy'n uwch na rhent un wythnos yn daliad gwaharddedig. Roeddem yn pryderu bod rhywfaint o amwysedd ynghylch y swm y gellid ei godi, a allai danseilio hyder y deiliad contract wrth iddynt ddechrau chwilio am gartref. Bydd deiliaid contractau yn gwybod mai'r swm sydd angen iddynt ei dalu yw rhent un wythnos neu lai. Mae unrhyw beth dros y swm hwnnw yn daliad gwaharddedig.

Wrth adolygu'r Bil ar ôl Cyfnod 2 ystyriwyd y byddai'n fuddiol egluro'r ddarpariaeth yn Atodlenni 1 a 2 o ran cynnal blaendaliadau, gan gynnwys i bwy y gellid talu blaendal cadw. Gallai hyn fod yn landlord neu asiant gosod tai. Mae gwelliannau 29, 37, 38, 39, 40 a 41 yn dileu unrhyw amwysedd ynghylch i bwy y telir blaendal a phwy ddylai ei ad-dalu.

Mae gwelliant 30 yn fân welliant i adlewyrchu bod person sy'n talu blaendal cadw yn ddeiliad contract arfaethedig ar yr adeg y telir y blaendal yn hytrach nag yn ddeiliad y contract.

Cyflwynwyd gwelliannau 65 a 66 gan Leanne Wood i ddarparu 48 awr o gyfnod pwyllo pan fydd modd i'r deiliad contract hysbysu'r landlord nad yw eisiau ymrwymo i'r contract a chael ad-daliad o'r blaendal cadw. Rydym wedi gwrthod yr un gwelliant yng Nghyfnod 2, a gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliant hwn unwaith eto, oherwydd mae'n debygol o fod yn niweidiol i ddarpar ddeiliaid contract  eraill yn ogystal â'r landlord.

Diben blaendal cadw yw dal yr eiddo am gyfnod byr o amser i ganiatáu i landlord wneud y gwiriadau a'r gwaith papur. Mae'n atal deiliaid contract posibl eraill rhag ymrwymo i gontract ar yr eiddo ac yn rhoi hawl cynnig cyntaf i'r person sydd wedi talu'r blaendal cadw. Ni ddylai'r landlord, wedi iddo gymryd blaendal cadw, gynnig yr eiddo i ddeiliaid contract posibl eraill— rhywbeth yr ydym wedi ei egluro'n well yn ein gwelliant 36. Pe bai gwelliannau 65 a 66 yn cael eu cytuno, mae'n bosibl y gallai deiliad contract osod blaendal cadw ar sawl eiddo, gan wybod y byddai'n cael ei arian yn ôl. Byddai hyn yn golygu y gallai deiliaid contract eraill gael eu hatal rhag cytuno ar gontract ar eiddo yr oedd deiliad y contract a oedd wedi talu'r blaendal cadw â diddordeb rhannol yn unig ynddo.

Gwnaed y pwynt yng Nghyfnod 2 y gallai cyfnod pwyllo fod yn briodol lle mae trefniadau gwerthu o bell yn gymwys, a byddai cyfnod pwyllo yn rhoi hawl awtomatig i ganslo a diddymu'r contract yn fuan ar ôl i'r contract gael ei ffurfio. Fodd bynnag, gwneir cyfyngiadau ar drefniadau gwerthu o bell i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn cael ei amddifadu o ganlyniad i hynny, ar wahân i'r gwerthwr, ac oherwydd bod yna ymrwymiad i gontract. Fy mhryder i yw, lle telir blaendal cadw, y gall deiliaid contract eraill gael cam wrth geisio dod o hyd i gartref ac nid oes unrhyw ofyniad gorfodol i ymrwymo i gontract hirdymor.

Rydym wedi cyflwyno gwelliant 42 i ymdrin â phryderon a godwyd yn ystod y gwaith craffu bod gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rhoi i ddarpar denantiaid. Credaf y bydd pennu disgwyliadau o ran yr wybodaeth sydd i'w darparu i ddarpar denant, drwy reoliadau, ar yr adeg y telir blaendal cadw, yn ddigon i ddiogelu rhag unrhyw arferion diegwyddor. Gobeithio bod y dadleuon yr wyf wedi'u hamlinellu yn erbyn gwelliannau 65 a 66 yn ddigonol i dynnu sylw at eu hanfantais.

Byddai gwelliant 67, a gyflwynwyd hefyd gan Leanne Wood, yn atal ad-dalu blaendaliadau cadw pe byddai deiliad y contract yn fwriadol ac yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i'r landlord. Cyflwynwyd gwelliant oedd yn union yr un fath yng Nghyfnod 2. Nodais yng Nghyfnod 2 nad oeddwn yn ystyried bod y gwelliant yn angenrheidiol gan y byddem yn cyflwyno baich prawf troseddol a fyddai'n anodd ei brofi—hynny yw, a oedd deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid. Byddai asiant neu landlord yn gorfod profi bod deiliad y contract wedi darparu gwybodaeth yn ddi-hid neu'n fwriadol. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid yw methu gwiriad credyd neu gyfeirio yn sail ddigonol i gadw'r blaendal cadw dan Atodlen 2. Gwn fod hyn wedi bod yn bryder a godwyd gan lawer o randdeiliaid, a gallaf sicrhau'r Aelodau nad yw hyn yn eithriad a ganiateir, gan nad yw'n cael ei adlewyrchu yn Atodlen 2. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi gwelliant 67 a gofynnaf i'r Aelodau ei wrthod.

I grynhoi, felly, Dirprwy Llywydd, rwyf yn gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 38, 39, 40, 41 a 42, a gwrthod y rhai a gyflwynwyd gan Leanne Wood, sef rhifau 65, 66 a 67.

17:25

Os gallaf drafod gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn, nad wyf yn barod i'w cefnogi, gan nad wyf yn credu bod y cydbwysedd yn iawn rhwng buddiannau tenantiaid a landlordiaid. Siaradais am y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ond credaf ei bod yn briodol imi fynegi fy ngwrthwynebiad i'r Siambr gyfan yn awr.

Drwy weithredu cyfnod 48 awr o bwyllo ar gyfer y blaendal cadw, fel y mae gwelliannau Plaid Cymru 65 a 66 yn ceisio ei wneud, rydym yn tanseilio diben y blaendal cadw, ac yn effeithio'n andwyol ar fodel busnes y landlord. Mae pedwar deg wyth awr yn amser hir i landlordiaid fod mewn sefyllfa, o bosib, lle maent yn atal gweithgarwch y busnes ar yr eiddo hwnnw a'i ddal yn ôl. Efallai eu bod wedi cael hysbysiadau cryf eraill o ddiddordeb, ond, yn amlwg, oherwydd bod ganddynt flaendal cadw, ni allant fanteisio arnynt. Mae blaendal cadw yn fath o ymrwymiad, ac rwy'n credu bod gwir angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng landlordiaid a thenantiaid. Felly, credaf ei bod yn afresymol gosod y baich ychwanegol ar landlordiaid, o gofio ein bod yn ceisio tynhau'r gyfraith yma'n gyfan gwbl er budd y tenantiaid, sydd yn beth da. Ond wedyn, mae'r cyfnod pwyllo hwn o 48 awr ar gyfer y tenantiaid yn diddymu'r rhesymeg o gael blaendal cadw, felly nid wyf yn barod i dderbyn gwelliannau 65 a 66.

Yn ogystal â hyn, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 67 gan Leanne oherwydd credaf y bydd yn ychwanegu cymhlethdod pellach a dryswch, ac fe fydd yn fwy o faich ar landlordiaid. Byddai'r baich o brofi a yw deiliad y contract wedi cyflwyno gwybodaeth gamarweiniol, ac rwy'n dyfynnu, yn 'fwriadol ac yn ddi-hid' yn disgyn ar y landlordiaid, ac nid wyf yn credu bod hynny'n ychwanegu at ei eglurder na'i gydbwysedd. Rwy'n cytuno â safbwynt y Llywodraeth ar hyn.

Byddwn yn cefnogi nifer o welliannau a gynigwyd gan y Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Mae gwelliannau 65 a 66 yn darparu ar gyfer cyfnod 48 awr o bwyllo, pan fydd modd i ddeiliad y contract dderbyn ad-daliad o'r blaendal cadw. Gwrthodwyd y gwelliannau hyn yn gynharach, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â Shelter Cymru ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar y ffordd ymlaen. Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog beth yw'r diweddaraf ar hynny.

Mae gwelliant 67 yn egluro na ellir dal gafael ar flaendaliadau cadw o ganlyniad i fân anghysonderau ar ran deiliad y contract, megis methu gwiriad credyd neu gyfeiriad. Cafodd hyn ei wrthod fel gweithred anymarferol yng Nghyfnod 2, ond mae ein nodyn cyfreithiol yn dweud am hyn, 'Ni fyddwn yn cytuno â hyn, ond byddai'n gosod y baich ar y landlord i brofi  bod deiliad y contract wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid.' Ar y llaw arall, gallech ddadlau bod y gwelliant, yn syml, yn rhoi amddiffyniad i ddeiliad y contract ac yn fodd iddo adennill y blaendal pe byddai wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol wrth ddarparu ei fanylion i'r landlord heb fod unrhyw fai arno ef ei hunan. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Llywodraeth: beth ydych chi am ei wneud i atal gorelwa yma?

17:30

Credaf imi nodi ein safbwynt yn eithaf amlwg yn fy sylwadau agoriadol. Dim ond i ailadrodd, bod gwelliant 42 yn cynrychioli gwelliant synhwyrol a chymesur i ymdrin â phryderon ynghylch arferion amheus ar adeg cymryd blaendal cadw. Mae ein gwelliannau eraill yn dechnegol, i egluro sut y dylid trin blaendaliadau cadw. Ni wnaf eu hailadrodd Dirprwy Lywydd.

Yn anffodus, rwy'n dal i fod o'r farn bod gwelliannau 65 a 66, a gyflwynwyd gan Leanne Wood, yn parhau i fod yn anymarferol a gallen nhw yn anfwriadol roi tenantiaid sy'n ceisio dod o hyd i gartref dan anfantais. Rwy'n gwerthfawrogi nad hyn yw ei bwriad, ond rwy'n credu bod posibilrwydd o ganlyniad anfwriadol. Fel y dywedais, mae gwelliant 67 yn y bôn yn codi'r bar i'r un lefel ag a geir ar gyfer troseddau, a allai o bosibl arwain at fwy o anghydfodau rhwng landlordiaid a deiliaid contract. Am y rheswm hwnnw, anogaf yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hynny.

Y cwestiwn yw bod gwelliant 29 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 29.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 30 i'w dderbyn—a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Mae'n ddrwg gennyf, Gweinidog, dylwn i fod wedi gofyn ichi gynnig gwelliant 30.

Cynigiwyd gwelliant 30 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 30 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae gwelliant 30—.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 31 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 31 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Felly —.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27)

Grŵp 7, felly, yw taliadau diffygdalu. Dyma'r grŵp nesaf o welliannau. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 32 a galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliannau a gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Julie James).

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando ar bryderon a godwyd gan Aelodau a rhanddeiliaid ynghylch yr angen i wneud darpariaeth i atal codi taliadau gormodol neu afresymol ar adeg diffygdaliad. Yn benodol, rwy'n ymwybodol o dystiolaeth a roddwyd o arferion amheus o ran ffioedd dyddiol am daliadau rhent hwyr, gan arwain at ddyledion sylweddol yn cael eu hysgwyddo gan denantiaid. Mae gwelliannau 27, 32, 33 a 34 yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn drwy ei gwneud hi'n drosedd i asiant neu landlord godi swm sy'n fwy na'r terfyn penodedig a nodir mewn rheoliadau y darperir ar eu cyfer drwy welliant 35. Rwy'n gwerthfawrogi bod Leanne Wood yn ceisio mynd i'r afael â'r un pryderon hefyd ond ni allaf gefnogi ei gwelliannau gan nad ydyn nhw yn fy marn i yn cyflawni'r un amcan polisi.

Mae pŵer gwneud rheoliadau i bennu terfyn penodedig a nodi disgrifiadau o daliadau diffygdaliad o dan welliant 34 yn rhoi hyblygrwydd i ymateb i newidiadau yn y sector rhentu preifat. Nid yw'n ymddangos bod ffioedd diffygdaliad afresymol yn eang ond y maen nhw'n amrywio'n dibynnu ar yr eiddo ac amgylchiadau'r landlord a'r tenant. Bydd Aelodau'n pryderu a hynny'n deg, ynghylch ffioedd taliadau rhent hwyr a dyna y byddwn yn canolbwyntio arnynt wrth bennu terfyn sy'n rhwystro ecsbloetio deiliaid contract. Felly, mae dull o weithredu hyblyg, gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, yn fwy priodol na cheisio pennu un ateb sy'n addas i bawb ar wyneb y Bil. Mae hyn yn arbennig o wir gan efallai y byddwn ni eisiau diwygio'r terfyn penodedig ar ryw adeg yn y dyfodol, yn arbennig wrth i'r sector addasu i'r diwygiadau ehangach a ddaw yn sgil y Bil.

Wrth fwrw ymlaen â'r rheoliadau o dan welliant 34, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwybod yr holl ffeithiau cyn rhagnodi pa daliadau, os o gwbl, a fyddai'n rhesymol o ganlyniad i weithred tenant. Bydd hefyd yn sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei chyflwyno i Aelodau cyn y gallan nhw ystyried pa un a chytuno i'r rheoliadau y byddaf i neu unrhyw Weinidog arall yn eu cyflwyno yn y dyfodol. Byddwn yn ymgynghori ar y polisi i roi prawf ar y cynigion gyda rhanddeiliaid a bwriadwn wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i'r Bil gwblhau ei daith drwy'r Cynulliad. Mae gwelliant Leanne Wood yn rhy gul a byddai'n ein rhwystro rhag sefydlu'r hyn fyddai'n ffi briodol i landlord ei chodi pan fo tenant yn torri contract. Drwy gyfyngu'n ormodol yn y ffordd hon, gallai landlordiaid diegwyddor chwilio am ddulliau cyfrwys o adennill arian sy'n deillio o ddiffygdaliad canfyddedig, fel taliadau am rent hwyr. Gallai hyn danseilio enw da ehangach y sector rhentu preifat yn gyffredinol.

Credaf hefyd ei bod yn rhesymol i ddisgwyl i denantiaid sy'n hwyr yn talu rhent ac efallai sy'n gwneud hynny'n gyson dalu am hynny. Bydd fy ngwelliant yn rhoi'r mesurau diogelu angenrheidiol yn y maes hwn ar waith drwy reoliadau. Rydym yn gwybod bod rhai landlordiaid yn denantiaid eu hunain hefyd neu fod ganddyn nhw forgeisi i'w talu. Os na thelir rhent iddyn nhw ar amser, mae'n bosibl na allan nhw dalu eu rhent neu eu morgais eu hunain, a'u gadael nhw hefyd yn agored i ffioedd diffygdaliad posibl neu hyd yn oed rhoi eu cartref mewn perygl hefyd.

Mae gwelliant 59 Leanne yn adlewyrchu fy ngwelliant 27. Diben y ddau yw sicrhau y bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir i osod terfyn ar daliadau diffygdaliad yn destun y weithdrefn gadarnhaol. Rwy'n sicr na fydd ots gan Leanne petawn i'n gofyn i Aelodau bleidleisio dros fy ngwelliant i yn hytrach na dros ei un hi gan eu bod yn cyflawni’r un nod. Byddwn i hefyd yn gofyn i Aelodau beidio â phleidleisio dros welliant 63 Leanne gan fy mod wedi cyflawni ein nod cyffredin drwy fy ngwelliant 34. Mae'r gwelliant yn sicrhau y caiff Gweinidogion Cymru ragnodi, drwy reoliadau, derfyn ar daliadau sy'n ofynnol pe byddai diffygdaliad yn digwydd. Mae'r Rheoliadau yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol. Felly mae'n ei gwneud hi'n bosibl i Weinidogion Cymru ragnodi terfyn ar daliadau diffygdaliad, gan sicrhau bod unrhyw swm dros ben yn daliad gwaharddedig.

Mae gwelliannau 32 a 33 yn rhoi gwelliant 34 mewn grym. Maen nhw'n sicrhau bod cyfyngiadau a nodir yn y rheoliadau ar driniaeth taliad sy'n diffygdaliad yn gyson â'r is-adran hon o'r Bil.

17:35

A gaf i gofnodi eto pam na fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 62 Plaid Cymru yn y grŵp hwn? Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn cynnwys y cydbwysedd iawn rhwng tenantiaid a landlordiaid, ac fel y dywedais eisoes, dylai ceisio datblygu marchnad dai sy'n deg i bawb fod yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Drwy ddiffinio ffioedd diffygdaliad yn benodol fel y gwnaiff y gwelliant hwn a drwy ddileu toriad yn nhelerau'r contract a oedd yn ddiffygdaliad cymwys, rwy'n credu y byddai hyn yn gadael landlordiaid yn agored i gamau gweithredu a allai fod yn fai clir a bwriadol ar ran y tenant gan adael y landlordiaid heb unrhyw ffordd effeithiol o ymateb.

Fel y dywedodd y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, efallai bod yna sefyllfaoedd dilys eraill lle mae deiliad y contract ar fai a phryd y caiff landlord geisio ad-daliad oddi wrth ddeiliad y contract dros gyfnod y contract, a gallai'r rhain amrywio o gontract i gontract. Byddai cyfyngiad rhwystrol ar gontract o'r fath a awgrymir yng ngwelliant Plaid Cymru yn niweidiol i'r berthynas rhwng deiliaid contract a landlordiaid. Ac efallai y byddai landlordiaid yn amharod iawn i osod eu heiddo yn y modd hwn gyda chyfyngiad o'r fath.

Fodd bynnag, os gaf i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, mae Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliannau tebyg o ran y terfynau rhagnodedig ar ffioedd diffygdaliad. Yn hyn o beth, byddaf yn cefnogi fersiwn Plaid Cymru, sef gwelliant 63 a'i welliant 59 canlyniadaol, gan fy mod yn credu y dylai unrhyw derfyn rhagnodedig a bennir mewn rheoliadau fod yn destun craffu manwl iawn.

Mae'n parhau i fod yn bryder i ni nad yw ffioedd diffygdaliad wedi'u diffinio gan Lywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch chi, gofynnodd y Pwyllgor yn ei adroddiad Cyfnod 1 i'r Llywodraeth gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i roi ar wyneb y Bil y dylai holl ffioedd diffygdaliad fod yn deg ac yn rhesymol. Mae ein gwelliannau'n ceisio cyfyngu ffioedd diffygdaliad i gynnwys dim ond talu rhent yn hwyr a cholli allweddi a rhoi terfyn uchaf ar y swm sy'n daladwy.

Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog blaenorol y gallai'r gwelliannau hyn fod yn annheg i landlordiaid ond y byddai'n ymgysylltu â Shelter Cymru ar y mater. Felly, mae gennyf ddiddordeb clywed a yw'r Gweinidog newydd wedi ymgysylltu â Shelter Cymru ar y cwestiwn hwn a chlywed beth oedd y canlyniad. Rydym ni'n parhau i fod yn bryderus y bydd landlordiaid ac asiantau yn defnyddio ffioedd diffygdaliad i gynhyrchu refeniw gan na chânt godi ffioedd bellach. Mae'n ddihangfa bosibl.

Cytunaf â'r pryder y mae Leanne Wood yn ei fynegi—cytunaf â hynny, ond rydym ni'n credu bod ein gwelliannau ni yn rhoi trefn well ar waith, yn amodol ar weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad, i sicrhau bod gennym restr gyflawn o ffioedd diffygdaliad a waherddir, y gellir eu diweddaru wrth i amser fynd heibio ac sy'n gallu ystyried materion eraill sy'n codi. Felly, er enghraifft, nid yw Deddf Ffioedd Tenantiaid 2019 yn Lloegr yn caniatáu ffioedd diffygdaliad dim ond mewn achos o rent hwyr neu golli allweddi, mae hynny'n wir, ond hefyd, pan fo'r cytundeb tenantiaeth yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei dorri, mae'n caniatáu adennill taliad. Felly hoffem atal unrhyw awgrym y gellid addasu'r contractau eu hunain er mwyn celu taliadau diffygdaliad o'r fath, ac rydym yn credu bod ein gwelliannau ni yn cyflawni hynny mewn modd mwy boddhaol.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 32 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd gwelliant 32.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Julie James.)

Y cwestiwn yw bod gwelliant 33 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd gwelliant 33.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 62 (Leanne Wood.)

Cynnig. Y cwestiwn yw bod gwelliant 62 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant naw, tri yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 62: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 34 (Julie James.)

Gwrthwynebu. Iawn, diolch. Felly, fe awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, un yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

17:40

Gwelliant 34: O blaid: 38, Yn erbyn: 9, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 63 (Leanne Wood).

Cynnig. Y cwestiwn yw bod gwelliant 63 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 18, dau yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 63.

Gwelliant 63: O blaid: 18, Yn erbyn: 28, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 64 (Leanne Wood).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 64 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 45, un yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Gwelliant 64: O blaid: 45, Yn erbyn: 2, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 8: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 35, 48, 49, 52, 51, 50)

Symudwn nawr i grŵp 8, sef pwerau gwneud rheoliadau, a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 35. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliant a gwelliannau eraill yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 35 (Julie James).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Amlygodd ein hadolygiad o'r Bil rywfaint o'r drafftio ynghylch y pŵer i wneud rheoliad i amrywio ystyr 'amrywiad a ganiateir' o ran rhent ym mharagraff 1 o Atodlen 1. Mae amrywiad a ganiateir o ran rhent sy'n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol yn golygu amrywiad a gytunwyd rhwng deiliad y contract a'r landlord; amrywiad a wnaed yn unol ag un o delerau contract sy'n darparu ar gyfer amrywio rhent; neu amrywiad drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad. Mae gwelliant 35 yn welliant technegol er mwyn sicrhau nad yw'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 7 wedi ei gyfyngu gan baragraff 10 o'r Atodlen honno i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag amrywiadau a ganiateir yn unig. Mae'r Bil yn gwneud hyn yn glir. Gobeithiaf y bydd Aelodau yn derbyn y newid hwn.

Byddai gwelliannau 48, 49, 51 a 52, a gyflwynwyd gan David Melding yn diwygio gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer gwneud rheoliadau i ddiwygio'r diffiniad o daliad a ganiateir o dan adran 7 ac i newid lefel y gosb benodedig o dan adran 13 i weithdrefn uwchgadarnhaol a nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn. Ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn a gofynnaf i'r Aelodau eu gwrthod. Wrth ddefnyddio'r pwerau hyn i wneud rheoliadau, byddwn yn ymgynghori arnynt fel yw'r drefn a'r arfer, naill ai ar sail ymgynghoriad polisi neu ar ddrafft y rheoliadau eu hunain. Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn gofyn bod rheoliadau yn cael eu gosod gan bwyllgorau a fyddai hefyd yn craffu arnynt ac yna'r Cynulliad yn eu cymeradwyo. Mae hon yn lefel gymesur o graffu.

Ar adegau, mae'n fwy defnyddiol i ymgynghori ar y cynnig polisi i roi prawf ar ragdybiaethau. Efallai na fyddai ymgynghori ar reoliadau drafft yn ffordd briodol i ymgysylltu â rhanddeiliaid megis tenantiaid. Fodd bynnag, mae gwelliannau 48 a 49 yn dileu'r dewis hwn ac yn creu proses hirfaith, gan o bosibl rhoi anogaeth i beidio ag ymgysylltu â datblygu rheoliadau. Yng Nghyfnod 2, fe wnaethom egluro bod y rheoliadau o dan adran 7 yn debygol o gael eu defnyddio i ymdrin â newidiadau mewn arferion yn hytrach nag ailwampio'n llwyr y taliadau a ganiateir. Nifer gymharol fach o daliadau a ganiateir sydd yn y Bil, ac er y gallai'r rhain newid dros y blynyddoedd mae'n anodd gweld sut y gellid ychwanegu atynt mewn unrhyw ffordd arwyddocaol.

Rheoliadau o dan adran 13 yw'r mwyaf tebygol o gael eu defnyddio i nodi newidiadau mewn costau byw fel bod y lefel hysbysiadau cosb benodedig yn gymesur â chostau y mae landlordiaid yn eu hysgwyddo. Petai newid mwy sylweddol yn cael ei gynnig, byddai'r dewis ar gyfer craffu manwl gan bwyllgorau'r Cynulliad yn agored o dan y trefniadau cadarnhaol. Bydd y ddwy gyfres o drefniadau'n diogelu'r Bil at y dyfodol. Gallai'r weithdrefn uwchgadarnhaol, olygu y treulir chwe mis yn adolygu cynnydd cymharol gymedrol efallai llai na £100 i lefel hysbysiad cosb benodedig. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod hyn yn gymesur nac yn briodol.

Mae gwelliant 50 hefyd wedi'u ddwyn ymlaen, eto o gyfnod 2, gan David Melding i ddiwygio gweithdrefn y Cynulliad fel y dylai rheoliadau i ddiwygio Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 o ran cyhoeddi ffioedd gosod fod yn destun yr weithdrefn gadarnhaol. Ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn ac rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn ei erbyn ar y sail y byddai'r rheoliadau wedi eu cyfyngu i'r hyn sydd ar wyneb y Bil. Fel y dadleuwyd yng Nghyfnod 2, mae'r pŵer i wneud rheoliadau yn y fan yma yn gyfyngedig iawn, gan ganiatáu ar gyfer yr hyn a ddarperir yn benodol ar ei gyfer yn adran 19 o'r Bil, sef y gallai rheoliadau ddiwygio pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 i'w gwneud hi'n ofynnol i asiantau gosod tai sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn cyhoeddi ffioedd yr asiant ac yn caniatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiantau gosod tai o ran yr un toriad dyletswydd a geir ym mhennod 3. Ni allwn ni wyro oddi wrth y darpariaethau hyn, felly nid wyf yn argyhoeddedig bod angen y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau â phwyslais mor gyfyng â'r rhain.

Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliant 35 a gwrthod gwelliannau 48, 49, 50, 51 a 52.

Gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn ymroi i mi nawr a minnau'n gyn-gadeirydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwyf yn credu bod hyn yn rhan bwysig iawn o'r ddeddfwriaeth, a phan ddaw i bwerau gwneud rheoliadau, mae'n naturiol bod llygaid Aelodau eraill efallai'n pylu ychydig. Ond mae hyn yn wirioneddol bwysig. Mae'r ffordd y bydd y Bil hwn, os daw yn Ddeddf, yn gweithio ac yn cael ei addasu yn cael ei phennu fwy neu lai gan y math o weithdrefnau rheoleiddio sydd gennym. Mae fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, gwelliant 48, 49, 52, 51 a 50, oll yn deillio o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn ac maen nhw'n gofyn bod rheoliadau a wneir o dan adran 7 ac adran 13 y Bil yn destun i'r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Yn gyntaf, mae Adran 7, yn rhoi' pŵer i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r rheoliadau i ddiwygio'r rhestr o daliadau a ganiateir. Dyma bŵer Harri'r VIII, gan y bydd yn ei gwneud hi'n bosibl diwygio Adran 1 drwy is-ddeddfwriaeth. Yr amcan y tu ôl i'r pwerau gwneud rheoliadau yw galluogi rheoliadau i adlewyrchu unrhyw newidiadau annisgwyl yn ymddygiad ac arfer landlordiaid, ac ni chaniateir i Weinidogion Cymru gael gwared ar y taliadau rhent o'r categorïau o daliad a ganiateir. Felly, yr arfer sefydledig yw ceisio defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth a fyddai'n newid deddfwriaeth sylfaenol, ac, am y rheswm hwnnw, bu i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol groesawu'r ffaith bod y Gweinidog, o'r cychwyn, wedi drafftio Bil fel bod y weithdrefn gadarnhaol yn cael ei defnyddio ar gyfer rheoliadau a wneir o dan adran 7. Felly, rwy'n cydnabod cryfder y drafftio yn hynny o beth.

Fodd bynnag, cytunodd y pwyllgor hefyd y byddai'r rheoliadau hyn, a ddylai ei gwneud hi'n bosibl i newid y rhestr o daliadau a ganiateir—neu y bydden nhw'n ei gwneud yn bosibl i'w newid—yn elwa ar y diogelwch ychwanegol y byddai'r weithdrefn uwchgadarnhaol yn ei ganiatáu: felly, o'r cadarnhaol i'r uwchgadarnhaol yn hyn o beth. O gofio bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid, nid wyf yn credu y byddai rhoi'r ymrwymiad hwn mewn statud drwy weithdrefn uwchgadarnhaol yn feichus. Caiff y farn hon hefyd ei dylanwadu gan ddibyniaeth y Gweinidog, ac, yn wir, dibyniaeth ehangach Llywodraeth Cymru, ar yr ymagwedd 'ymgynghori lle bo'n briodol' sylfaenol, ond mae'r ymagwedd hon yn ddiffygiol o ran tryloywder—dewis y Gweinidog yw hyn; nid ydym ni'n pennu'r telerau—ac efallai nad yw'n ennyn hyder yn y rhai y bydd y newidiadau y gellir eu gwneud drwy reoliadau yn effeithio arnynt. Felly, gallai'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o 'taliad a ganiateir' newid effaith nod cyffredinol y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd neu fyrhau'r rhestr taliadau a ganiateir, cynyddu nifer y troseddau a grëwyd gan y Bil—pethau sylweddol iawn.

Dylai rhanddeiliaid allweddol a phwyllgorau perthnasol y Cynulliad gael y cyfle i roi sylwadau ar reoliadau drafft a fyddai'n newid elfen arwyddocaol o'r ddeddfwriaeth. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—. Ac rwy'n credu y dylid gwneud y rheoliadau drwy weithdrefn uwchgadarnhaol—felly, rwy'n cytuno gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch hynny—sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid cyn gosod y rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Byddai'r cyfnod ymgynghori hefyd yn rhoi amser i bwyllgorau perthnasol y Cynulliad ystyried y rheoliadau ar ffurf ddrafft. Felly, mae'n cryfhau'r weithdrefn gadarnhaol yn sylweddol drwy fynnu y ceir y lefel honno o ymgynghori ar y drafft. Felly, credaf ei fod yn sylweddol iawn.

Mae adran 13, ar y llaw arall, yn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod tai lleol i roi hysbysiad cosb benodedig i unigolyn os cred y swyddog hwnnw fod yr unigolyn wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu adran 3 o'r Bil. Swm y gosb benodedig yw, ers cyfnod 2, £1,000. Mae is-adran 3 adran 13, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddefnyddio rheoliadau i ddiwygio lefel hysbysiad cosb benodedig, a phŵer Harri'r VIII yw'r pŵer hwn, gan y bydd yn ei gwneud hi'n bosibl i ddiwygio adran 13 drwy is-ddeddfwriaeth. Ac, fel yn adran 7, mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a deddfwriaethol—ac, unwaith eto, rwy'n cytuno â nhw—yn credu y dylid gwneud rheoliadau adran 13 o dan y weithdrefn uwchgadarnhaol, sy'n sicrhau y bydd ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol yn digwydd cyn newid swm y gosb benodedig. Maen nhw’n dadlau am hyn yn gyson pan fyddwch yn gosod cosb ac yna'n newid y gosb honno yn sylweddol. Felly, mae fy ngwelliant yn sicrhau bod unrhyw reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 paragraff 2(4) o'r Bil yn agored i'r weithdrefn gadarnhaol.

Credaf yn eu hanfod, fod y rhain yn newidiadau pwysig, o bosibl, i'r hyn sydd ar hyn o bryd ar wyneb y ddeddfwriaeth ac sy'n gofyn am ymgynghori eang â rhanddeiliaid ac â'r pwyllgorau perthnasol. Felly, petai Llywodraeth yn y dyfodol eisiau cynyddu'r gosb benodedig o £1,000 i £5,000, er enghraifft, yn amlwg, byddai hynny'n eithriadol o arwyddocaol, a byddai ymgynghori ag asiantau gosod a landlordiaid ynghylch eu barn hwythau ar hynny ac, yn wir, beth fyddai barn tenantiaid, yn allweddol i sicrhau y byddai newid o'r fath—newid sylweddol, mewn gwirionedd—wedi ei brofi'n llawn. Fel y dywedais mewn ymateb i wrthbrofiad y Gweinidog i'r pwynt hwn yng Nghyfnod 2, pan fydd Gweinidog yn y Llywodraeth yn dweud—ac Aelodau'n dod yn ymwybodol o hyn—'Nid ydym yn credu y byddai x, y neu z yn ddefnydd da o'ch amser craffu'—felly, gwrandewch ar y Llywodraeth a gadewch i'r Llywodraeth ddweud wrthych ba fath o graffu sydd ei angen ar y ddeddfwrfa—mae angen i chi ei heglu hi rhag cyngor y Llywodraeth. Nid yw'n ddiduedd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ni benderfynu. Os ydym ni eisiau buddsoddi'r amser hwnnw yn y broses graffu, ni ddylai benderfynu hynny. Ac, fel y dywedais, o ran lefel y dirwyon, mae hynny'n sylweddol iawn, iawn.

Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei awgrymu'n ddidaro; rwyf wedi cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol o'r dechrau, sydd ei hun yn ddewisol iawn, ac, yn wir, rydym yn canmol yr arfer lle y cymhwysir hynny hefyd. Mae'r Llywodraeth wedi gwrando ac wedi ei mabwysiadu mewn sawl lle, y weithdrefn gadarnhaol, ond ceir achlysuron pan fydd uwchgadarnhaol, sy'n caniatáu ymgynghoriad llawnach o lawer—a rhaid imi ddweud, rywsut, mae'r Llywodraeth yn cael ei hatal ar unwaith rhag ymgynghori â thenantiaid gan fod angen iddi ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol, ond os mai gweithdrefn breifat y Llywodraeth sydd dan sylw, yna rhywsut drwy hud a lledrith mae'n gallu ymgynghori â'r holl denantiaid ar unwaith, ond cyn gynted ag y bo hwnnw'n ymrwymiad statudol cyhoeddus, rhywsut neu'i gilydd mae dan fygythiad. A bod yn onest, nid wyf yn credu ei bod yn ddadl deilwng iawn mewn proses Cyfnod 3 sydd wedi bod yn broses dda iawn hyd yn hyn.

17:50

Er bod yn rhaid i mi ddweud hynny, yn amlwg, rwy'n cydnabod cryfder y dadleuon a wnaed gan David Melding a'i gefnogaeth gyson i swyddogaeth craffu'r Cynulliad o ran y lefel uwch o graffu ar gyfer y rheoliadau penodol hyn, fel y nodais yn fy nghyflwyniad, oherwydd natur gul y pŵer i wneud rheoliadau, gan ddiwygio taliadau a ganiateir a hysbysiadau cosb benodedig yn unig, rydym yn ystyried bod y weithdrefn gadarnhaol yn briodol ar gyfer y ddau, ac ar y sail honno, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gwrthod gwelliannau 48 i 52, ond yn cefnogi'r newidiadau technegol y bwriadwn eu gwneud drwy welliant 35.

Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 35 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 35.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 36 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 37 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd gwelliant 37.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 65 (Leanne Wood).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 65 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe awn ymlaen i bleidlais electronig ar welliant 65. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 9, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd gwelliant 65.

Gwelliant 65: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 66 (Leanne Wood).

Cynigwyd. Y cwestiwn yw bod gwelliant 66 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Fe awn ymlaen i bleidlais electronig ar welliant 66. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 9, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly ni dderbynnir gwelliant 66.

Gwelliant 66: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 38 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 38 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 38.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 67 (Leanne Wood).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 67 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig ar welliant 67. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 9, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 67.

Gwelliant 67: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 39 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 39 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 39.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 40 yn caei ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 40.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 41 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 41 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 41.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 42 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 42 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 42.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 9: Awdurdodau gorfodi (Gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20)

Grŵp 9 yw awdurdodau gorfodi. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 11. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Julie James).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19 a 20 wedi'u gwneud mewn ymateb i argymhelliad 3 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r gwelliannau yn rhoi i awdurdod trwyddedu dynodedig o dan ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014—os nad yw'r awdurdod hwnnw yn awdurdod lleol—y pwerau i orfodi'r Bil. Mae'r pwerau yn cyfateb i'r rhai a roddir i awdurdod tai lleol.

Mae'r gwelliannau yn disodli cyfeiriadau at awdurdod 'tai lleol' gydag awdurdod 'gorfodi', ac at ddibenion Rhan 4, mae'r awdurdod trwyddedu a'r awdurdod tai lleol yn awdurdodau gorfodi o ran ardal awdurdod tai lleol. Mae gwelliannau 11, 13, 14, 15, 18 a 19 yn rhoi'r newid hwn mewn grym, gan roi mwy o eglurder yn y Bil, ac rwy'n ffyddiog y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi.

Mae gwelliant 12 yn welliant technegol i egluro y gall awdurdod gorfodi a swyddog awdurdodedig dim ond ymchwilio i droseddau yn ymwneud ag annedd a leolir yn ardal yr awdurdod gorfodi. Mae gwelliant 16 yn sicrhau cysondeb â'r cyfeiriadau newydd i anheddau 'yn ardal awdurdod'. Ceir testun diangen ei ddiddymu o adran 14 hefyd gan y gwelliant hwn.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn mwynhau perthynas waith ardderchog gyda'r awdurdodau tai lleol ledled Cymru, sydd â hanes da o'u cynorthwyo nhw ag amrywiaeth o faterion gorfodi ym maes tai. Gan gydnabod y gall fod angen am gydweithredu rhwng yr awdurdod trwyddedu ac awdurdod tai lleol, rydym wedi cynnwys darpariaeth o fewn gwelliant 20 fel bod yr awdurdod trwyddedu yn cael cytundeb awdurdod tai lleol fel y caiff weithredu ei swyddogaethau awdurdod gorfodi. Bydd yr amddiffyniad hwn yn sicrhau bod pob parti yn ymwybodol o unrhyw gamau gorfodi troseddau, gan osgoi unrhyw ddyblygu neu ddryswch. Mae'r darpariaethau hyn yn adlewyrchu'r trefniadau gorfodi yn rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

17:55

A gaf i groesawu'r gwelliannau hyn, a fydd yn rhoi'r pŵer i Rhentu Doeth Cymru gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig? Cyflwynais y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ac roeddem ni'n falch o glywed y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno fersiwn fwy addas yng Nghyfnod 3. Rwy'n credu bod angen rhoi pwerau ychwanegol i Rhentu Doeth Cymru i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon, fel yr ydym yn ei hystyried heddiw, gan leihau'r cyfleoedd i osgoi cosb am dorri'r gyfraith.

Ni hoffwn i weld sefyllfa lle mae Rhentu Doeth Cymru'n darganfod bod asiant yn codi ffi afresymol fel rhan o'i waith o dan Ddeddf rhan 1 Tai (Cymru) 2014, ac yna'n gorfod trosglwyddo'r swyddogaeth orfodi i awdurdod lleol. Yn wir, roedd Rhentu Doeth Cymru yn cytuno â'r ymagwedd hon yn eu tystiolaeth, ac fe ddywedon nhw y byddai'n fuddiol iddyn nhw gael pwerau i orfodi pan fo'n briodol, nid fel awdurdod arweiniol, ond i gael pwerau gorfodi. Fe wnaethon nhw ddisgrifio sut y mae'r broses hon yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r trefniadau sydd yn eu lle i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i symud y broses erlyn yn ei blaen.

Yn gyffredinol, Rhentu Doeth Cymru sy'n symud camau gorfodi ymlaen, ond, lle bo awdurdod lleol eisoes yn gysylltiedig ag eiddo neu landlord, caiff yr awdurdod hwnnw gymryd camau gorfodi yn hytrach na Rhentu Doeth Cymru o dan y ddeddfwriaeth arbennig honno. Felly, dyna pam yr ydym yn teimlo y dylai system debyg weithredu o dan y Ddeddf hon. Byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn heddiw, a fydd yn gwneud y system yn fwy cadarn ac yn caniatáu i Rhentu Doeth Cymru gymryd camau pan fo'n briodol.

Diolch. Y Gweinidog i ymateb? Na. Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 11 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 11.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 12 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 12.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 13 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 13.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig (Gwelliannau 43, 44)

Grŵp 10 yw hysbysiadau cosb benodedig. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 43 a galwaf ar David Melding i gynnig a siarad am y prif welliant ac unrhyw rai eraill yn y grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 43 (David Melding).

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y ddau welliant yn y grŵp hwn, sef 43 a 44. Mae gwelliant 44 yn deillio o'r un gwelliant a gyflwynais yng Nghyfnod 2 ac mae'n adeiladu ar y gwelliannau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi eu rhoi ar waith, gan gynyddu'r hysbysiad cosb benodedig o £500 i £1,000. Mae fy fersiwn yn cynyddu'r hysbysiad cosb benodedig o £1,000 i £2,000. Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi symud rhywfaint o ran polisi yma, ond credaf fod tystiolaeth glir o'r sector nad oedd y lefelau arfaethedig o gosbau penodedig yn ddigon uchel. Roedd yn eithaf cynhwysfawr yn ein tystiolaeth. Roedd yn syndod, yn wir, y cafwyd y fath unfrydedd ymhlith tenantiaid a landlordiaid ac asiantau. Nid wyf yn credu bod £1,000 yn ddigon, fodd bynnag, ac, yn hynny o beth, mae angen dull ataliol mwy cadarn yn y ddeddfwriaeth hon fel bod landlordiaid ac asiantau gosod amheus yn ymatal rhag unrhyw weithredu amhriodol gan anfon neges bwysig iawn.

Dywedodd y Gweinidog y byddai darpariaeth i adolygu lefel y gosb benodedig a'i chynyddu mewn rheoliadau. Yn wir, rwyf newydd gyfeirio at hynny'n gynharach. Ond credaf fod yn rhaid gosod y gosb benodedig gychwynnol ar lefel sy'n amlwg yn ataliad. Er, fel y dywedais, mae'r Gweinidog wedi symud ychydig—gadewch i ni gofio y sefydlwyd £500 fel y gost weinyddol i awdurdodau lleol, a'r model yno oedd adennill y costau hynny yn unig. Credaf fod y £500 ychwanegol a gynigir gan y Llywodraeth nawr yn cydnabod o leiaf y dylai fod elfen glir o atal y tu hwnt i'r costau gweinyddol, ond nid wyf yn credu bod mynd am y £1,000 yn ddigon. Felly mae £2,000, rwy'n credu, yn anfon neges gryfach, a gobeithio y bydd Aelodau'n cytuno.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywed y Gweinidog mai'r ataliad pennaf yw'r perygl o golli trwydded Rhentu Doeth Cymru. Mae hynny, o safbwynt y landlord yn gosb pwerus iawn. Oherwydd hynny, rwy'n credu na fyddai gosod y gosb benodedig ar gyfradd uwch, megis £5,000 fel yn Lloegr, yn sicrhau'r cydbwysedd cywir, oherwydd y dylem ni gydnabod pwysigrwydd Rhentu Doeth Cymru yng Nghymru yn y ffordd yr ydym yn penderfynu ar y materion hyn. Rwy'n falch o gofnodi fy mod yn credu ei bod bellach yn system sy'n gweithredu'n ymarferol gyda mwy a mwy o effeithlonrwydd, ac mae'n rhan bwysig o'n model i gryfhau'r sector rhentu yng Nghymru a darparu marchnad decach.

Mae fy ail welliant, gwelliant 44, yn ceisio sicrhau bod taliadau gwaharddedig yn cael eu hadennill ar yr un pryd ag y telir hysbysiad cosb benodedig. Mae hyn, i mi, yn ganolog i'r ddeddfwriaeth. Y cyd-destun y tu ôl i'r Bil hwn yw bod pobl yn cael eu twyllo gan ffioedd na ellir eu cyfiawnhau, gan wneud eu costau tai yn fwy anfforddiadwy nag yr oedden nhw eisoes. I'r rhan fwyaf o bobl, y lleiaf y bydden nhw'n ei ddisgwyl o'r ddeddfwriaeth hon fyddai i ni wneud y ffioedd diegwyddor hynny'n anghyfreithlon ac i roi ar waith system ad-dalu sy'n datrys y broblem uniongyrchol ac atal y landlord rhag ymgymryd â gweithgaredd o'r fath eto yn y dyfodol. O ran y Bil ar hyn o bryd, nid yw ad-dalu ar unwaith yn bodoli. Gallai'r llys orchymyn bod y ffioedd yn cael eu had-dalu pan geir erlyniad llwyddiannus, ond pan na cheir unrhyw erlyniad, os nad yw ffi waharddedig yn cael ei ad-dalu gan y landlord neu asiant gosod, bydd rhaid i'r tenant geisio sicrhau'r taliad drwy'r llysoedd sifil. Ceir consensws—fe ddywedwn i gonsensws cryf iawn, aruthrol—ymhlith holl randdeiliaid y dylai unrhyw ffi waharddedig gael ei ad-dalu'n awtomatig, ac mae ymdeimlad yma bod angen i'r Bil wneud yr hyn y bwriedir iddo ei gyflawni. Ar hyn o bryd, nid yw'n gwneud hynny. Dadleuodd Cyngor ar bopeth ein bod angen—ac rwy'n dyfynnu—,

Dull hygyrch iawn o sicrhau iawndal,

ac nad y llysoedd—ac eto rwy'n eu dyfynnu—

o reidrwydd yw'r lle ar gyfer hyn.

Mae'n bwysig bod tenantiaid yn gallu adennill y ffioedd a godwyd yn anghyfreithlon yn y ffordd hawsaf posibl. Fel arall, ni fydd tenantiaid yn mwynhau manteision llawn y ddeddfwriaeth hon, sydd, unwaith eto, rwy'n credu, yn wrthnysig iawn. Felly rydym eisiau gweld y Bil yn cael ei ddiwygio fel bod gofyn i unrhyw daliad gwaharddedig gael ei ad-dalu pan fo hysbysiad cosb benodedig yn cael ei dalu. Nid wyf yn cael fy argyhoeddi gan dystiolaeth y Gweinidog a'i swyddogion ynghylch y mater hwn. Mae disgwyl i denantiaid fynd drwy'r broses gyfreithiol o adennill ffioedd a oedd yn cael eu codi'n anghyfreithlon yn afresymol ac yn annheg. Mae'n hepgoriad sylweddol o fewn y ddeddfwriaeth hon, a gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cytuno i lenwi'r bwlch hwn.

Rydym wedi nodi gyda diddordeb yn y Pwyllgor, bod adran 10 o'r Bil Ffioedd Tenantiaid yn Lloegr yn rhoi pŵer i'r awdurdod gorfodi fynnu ad-daliad y ffi waharddedig. Heb gyflwyno gwelliant tebyg yn y fan yma, bydd tenantiaid yng Nghymru o dan anfantais sylweddol o gymharu â thenantiaid yn Lloegr, ac nid wyf yn credu bod hyn yn dderbyniol. Dylem ni anelu at arferion gorau. Cefnogwch ein gwelliannau os gwelwch yn dda.

18:00

Yn amlwg, ni ddylem ni fod yn canfasio ar gyfer mwy o swyddi i'r canolfannau cyngor ar bopeth nac unrhyw asiantaethau cynghori eraill sy'n gorfod cynorthwyo tenantiaid sy'n agored i niwed i'w galluogi i lywio eu ffordd drwy'r system gyfreithiol, felly rwyf—. Mae David Melding yn gwneud rhai pwyntiau rhesymegol, ac rwy'n sylweddoli bod yna rai cymalau hwyrach i ddod yn ddiweddarach y mae'r Gweinidog yn eu cynnig i sicrhau bod yn rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu Rhentu Doeth Cymru os nad yw'r landlord wedi cydymffurfio neu os yw wedi derbyn taliad gwaharddedig. Felly, hoffwn ddeall yn union sut mae Rhentu Doeth Cymru, ar y cyd â'r awdurdod lleol, yn mynd i sicrhau bod unrhyw landlord sy'n parhau i ofyn am daliad gwaharddedig ac nad yw wedyn yn ei ad-dalu yn gweld bod gormod yn y fantol i wneud hynny, a'i fod yn dychwelyd yr arian y mae wedi ei godi yn anghyfreithlon, os nad yw hynny drwy'r dull y mae David Melding yn ei awgrymu.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diben gwelliant 44 yw galluogi awdurdodau gorfodi i ddefnyddio'r hysbysiad cosb benodedig fel ffordd hefyd o ofyn am ad-dalu taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw ar ran deiliaid contract. Cafodd y mater ei drafod yn helaeth, fel y dywedodd David Melding, yng Nghyfnod 2, ac mae'r sefyllfa yr un fath. Dylai'r prif lwybr ar gyfer adennill taliadau gwaharddedig fod drwy'r llys. Y peryg o gynnwys awdurdodau lleol yn y materion hyn, hyd yn oed pan roddwyd y pŵer iddynt wneud hynny yn hytrach na'u bod yn cael eu rhoi o dan ddyletswydd, yn tynnu eu sylw oddi ar gamau gorfodi eraill. Felly, y broblem gyntaf sydd gennyf â'r gwelliant hwn yw'r capasiti. Ni ddylem ni anghofio bod awdurdodau lleol yn gorfodi ystod eang o faterion tai, llawer ohonynt yn ymwneud â diogelwch a lles deiliaid contractau, yn ogystal â safonau cyffredinol eiddo yn y sector rhentu preifat. Mae'r rhain yn hanfodol bwysig ac yn berthnasol i bawb. Byddai galw arnynt bellach hefyd i orfodi'r darpariaethau o dan y Bil hwn. Unwaith eto, mae'r rhain yn berthnasol i holl ddeiliaid contract presennol a darpar ddeiliad contract, a po fwyaf o adnoddau y gellir eu rhoi i ymchwilio i droseddau, cyflwyno hysbysiadau cosb penodedig neu ddwyn achos i'r llysoedd, y lleiaf tebygol o ddigwydd fydd y sefyllfa y mae'r gwelliant yn ceisio mynd i'r afael â hi.

Yr ail fater yw un o arbenigedd, a phwy sydd yn y sefyllfa orau i ymgymryd â'r gwaith a ragwelir gan y gwelliant. Fy ymateb i hyn yw mai'r llys yw hwnnw, gan mai dyma lle y caiff yr anghydfodau contract eu dwyn. Mae gan y llysoedd y profiad a'r capasiti i ymdrin â'r math o anghydfod a allai ddeillio o fod taliad gwaharddedig wedi ei wneud neu flaendal cadw heb ei ad-dalu. Caiff fy marn i ar hyn ei chadarnhau gan y ffaith nad yw gwelliant 44 yn darparu ar gyfer gorfodi unrhyw ofyniad i ad-dalu. Mae'n eithaf tebygol felly y byddai anghydfodau yn dal i gael gwrandawiad yn y llys pe byddai'r landlord neu'r asiant yn dewis anwybyddu cais yr awdurdod tai lleol iddynt ad-dalu'r taliad gwaharddedig. Yn hynny o beth, nid yw'r gwelliant yn darparu unrhyw warant y byddai deiliad y contract yn cael y taliad gwaharddedig wedi'i ad-dalu, gan na fyddai unrhyw gosb am fethu â gwneud hynny a dim modd o'i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny. Mae hyn yn ategu fy marn ei bod yn well i awdurdodau lleol gyfeirio eu hymdrechion i fannau eraill.

Fodd bynnag, rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen sicrhau bod deiliaid contract yn cael eu cefnogi yn eu hymdrechion, os oes angen. Ar hyn o bryd, gall deiliaid contract geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain neu gallant gael cymorth diduedd am ddim gan Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth, neu UCM Cymru os ydynt yn fyfyrwyr. Mae'r sefydliadau hyn yn fedrus ac yn brofiadol iawn wrth ymdrin â chael iawndal i ddeiliaid contract. Ond, rwyf eisiau gwneud yn siŵr y gwneir y broses mor hawdd i'w dilyn â phosib i ddeiliaid contract. Yn hynny o beth, hoffwn dynnu sylw at welliant 26 a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, sy'n gosod gofyniad ar awdurdodau tai lleol i gyfeirio a rhoi gwybodaeth i ddeiliaid contract a allai fod angen cymorth i gael ad-daliad o daliad gwaharddedig neu flaendal cadw, gan roi'r holl wybodaeth y mae ei hangen i ddeiliad contract, a'i roi mewn cysylltiad â sefydliadau sydd â phrofiad o ddarparu cyngor, cymorth a chefnogaeth a fydd yn y pen draw yn helpu deiliad contract i wneud hawliad yn y llys, pe byddai angen. Am y rhesymau hynny, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 44.

Mae gwelliant 43 yn ceisio cynyddu ymhellach y gosb benodedig i £2,000. Roedd gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2 yn ymateb i bryderon y gallai £500 fod yn rhy isel i fod yn gyfrwng atal effeithiol. Rwy'n credu'n gryf, ar £1,000, y gosodir yr hysbysiad cosb benodedig ar lefel resymol a bod cynyddu hwnnw eto yn annhebygol o newid ymddygiad unrhyw landlord neu asiant. Mae'n siŵr y gallai rhywun ddadlau y byddai swm uwch yn creu ffrwd gwneud refeniw ar gyfer yr awdurdod gorfodi. Fodd bynnag, ni ellir ond defnyddio arian a dderbynnir drwy hysbysiadau cosb benodedig at ddibenion swyddogaethau'r awdurdod sy'n ymwneud â gorfodi darpariaethau'r Ddeddf, felly nid oes fawr o werth gwneud y ddadl honno.

Efallai bod yr Aelodau yn edrych dros y ffin ar Ddeddf Ffioedd Tenantiaid 2019, a amlygwyd gan David Melding, sy'n dod i rym yn Lloegr yn ddiweddarach eleni. Ond mae eu trefniadau gorfodi nhw yn hollol wahanol i'n rhai ni, ac mae'r Ddeddf ei hun yn gwbl wahanol. Gadewch inni beidio ag anghofio bod dewis gan yr awdurdod gorfodi i fynd yn syth at erlyniad. O dan yr amgylchiadau hynny, gallai unigolyn a ganfyddir yn euog o drosedd wynebu dirwy ddiderfyn. Ein disgwyliad ni yw y bydd yr awdurdod gorfodi yn dewis y ffordd fwyaf priodol o weithredu—hysbysiad cosb benodedig neu erlyniad—yn seiliedig ar eu hasesiad o achos penodol. Wrth gwrs, canlyniad methu â chydymffurfio â darpariaeth yn y Ddeddf yn y pen draw, fel y gwnaeth David Melding ei gydnabod, fyddai o bosib colli trwydded yr asiant neu'r unigolyn, sydd, yn fy marn i, yn fwy o atalfa a dyma'r rheswm pam na fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hunain yn y sefyllfa hon.

Yn olaf, os daw hi'n amlwg nad yw'r hysbysiadau cosb benodedig yn gweithio fel dewis amgen cyflym a syml i erlyniad, sef yr hyn y bwriedir iddynt ei wneud, mae gennym y dewis o gynyddu lefel yr hysbysiad cosb benodedig o dan Adran 13(3) o'r Bil, pe byddai angen gwneud hynny yn y dyfodol. Y gwahaniaeth yw y byddai newid o'r fath yn seiliedig ar brofiad awdurdodau gorfodi a'r dystiolaeth o ba mor effeithiol, neu beidio, yw'r ddeddfwriaeth hon. Ar y sail honno, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn ac rwy'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y ddau ohonynt.     

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wyddoch chi, ar adegau penodol yng Nghyfnod 3, rydym ni'n mynd at wraidd y mater, ac mae'r ddeddfwriaeth hon, y Bil hwn, i fod i ymwneud â diogelu tenantiaid rhag taliadau anghyfreithlon. Yr un peth nad yw'n ei wneud yn effeithlon yw ad-dalu taliad anghyfreithlon, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un sy'n gwylio hyn mewn penbleth. O leiaf yn Lloegr, beth bynnag fo'r diffygion y mae'r Gweinidog yn eu gweld yno, mae'n ymdrechu i wneud hynny.

Cyfeiriodd y Gweinidog at fy ngwelliant i ac, wyddoch chi, awgrymodd nad oedd ganddo'r pŵer i gael ei orfodi o hyd. Wel, o leiaf mae ar y statud, a gallech chi fod wedi cyflwyno gwelliant i sicrhau ei fod yn cael ei gryfhau o ran ei ddarpariaethau gorfodi. Mae gennych chi'r holl rym yna y tu ôl i chi o ran eich gallu i ddeddfu a chynghori, ond rydych chi wedi dewis peidio â gwneud hynny. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl wrthnysig, y bydd gennym ni bellach system lle mae'n rhaid i denantiaid orfod mynd trwy system gyfreithiol astrus sydd eisoes yn rhan o'r broblem. Nid oes ganddyn nhw'r hyder na'r modd, yn aml, yn ariannol i ddechrau ar hynny. Hyd yn oed pe byddent yn gallu cael cyngor, nid ydyn nhw o reidrwydd yn mynd i fod yn ymwybodol ohono na theimlo'n ddigon cryf i ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Efallai eu bod yn ofni'r adnoddau a fydd yn eu herbyn o ran y landlord neu'r asiant.

Rwyf yn diolch i Jenny Rathbone am yr hyn yr wyf yn casglu yw cymorth, i'r graddau y gall Aelodau'r meinciau cefn ei roi o dan y chwip. Gwn nad yw'n hawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn sefyllfa drist nad yw'r diffyg canolog hwn wedi'i ddatrys gan y Llywodraeth. Roedd angen dull cyflym ac effeithlon arnom ni er mwyn datrys hyn. Dyna pam y gwnaethom ni gyflwyno cosbau penodedig, fel nad yw'r troseddwyr eu hunain yn mynd trwy weithdrefn llys llawn, ond rydym yn derbyn egwyddor wahanol iawn o ran y tenantiaid, ac mae'n ddrwg gennyf, rwy'n credu bod hynny'n wrthnysigrwydd sydd wedi mynd yn rhy bell. Mae'n gamweithredol.

Yr ail bwynt, o ran maint y gosb benodedig, sef ei phennu ar £2,000 yn hytrach na £1,000. Rwy'n cydnabod bod £1,000 yn well na £500. Mae'n cynnwys elfen o atal, oherwydd mae'n mynd y tu hwnt i'r costau gweinyddol. Ond, wyddoch chi, yn y Pwyllgor, clywsom gan landlordiaid ac asiantau gosod da nad oeddynt yn credu mai £500, na hyd yn oed £1,000, oedd y lefel y dylid ei phennu arni. Maen nhw eisiau marchnad deg. Maen nhw eisiau eu hamddiffyn eu hunain rhag gweithredwyr twyllodrus, oherwydd mae'r gweithredwyr twyllodrus yn tanseilio model busnes y rheini sydd yn y farchnad am y bwriadau gorau. A byddent yn croesawu £2,000, yn hytrach na £1,000. Wyddoch chi, nid yw £1,000 yn llawer o rwystr, yn fy marn i, mewn gwirionedd, oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn y fan yma—wyddoch chi, yw gosod taliadau anghyfreithlon gan denantiaid sydd mewn sefyllfaoedd sy'n eu gwneud yn agored i niwed, sy'n chwilio am dai sydd weithiau'n brin, ac yna, wyddoch chi, y gwahaniaeth yn y berthynas pŵer, os dim byd arall. Ac rwy'n credu bod angen inni osod arwydd cryfach o lawer ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli y gall gael ei newid yn y dyfodol gan reoliadau, ond rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar y Cynulliad hwn i anfon neges gref, ac anogaf yr Aelodau, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, i gefnogi ein gwelliannau. Maen nhw'n amlwg yn cryfhau'r Bil, ac maen nhw wedi'u llunio i wneud hynny. Rwy'n credu y dylai pob plaid gefnogi'r diwygio mawr ei angen hwn i'r farchnad i'w gwneud yn fwy teg ac effeithlon. Rwy'n cynnig felly.

18:10

Diolch.

Y cwestiwn yw bod gwelliant 43 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ni dderbynnir gwelliant 43.

Gwelliant 43: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 14 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 14 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 14.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 15 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Mae gwelliant 15 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 44 (David Melding).

Cynnig. Y cwestiwn yw bod gwelliant 44 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 44.

Gwelliant 44: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 11: Awdurdodau gorfodi: rhannu gwybodaeth (Gwelliannau 45, 17, 21)

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud ag awdurdodau gorfodi a rhannu gwybodaeth, a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 45. Galwaf ar David Melding i gynnig ac i siarad am y prif welliant a rhai eraill yn y grŵp hwn—David.

Cynigiwyd gwelliant 45 (David Melding).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r prif welliant yn y grŵp hwn, gwelliant 45, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan gaiff cosb benodedig ei thalu. Yn ystod Cyfnod Pwyllgor y Bil hwn, fe wnaethom ni gytuno â Rhentu Doeth Cymru bod angen i'r broses gael ei thynhau i sicrhau, pan gaiff hysbysiad cosb benodedig ei thalu, bod Rhentu Doeth Cymru yn cael gwybod. Bydd hyn yn helpu gyda'u gwaith casglu gwybodaeth ac yn gwneud y system yn llawer mwy cadarn. Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog—ac rwy'n dyfynnu—

Wel, mewn gwirionedd, mae'r ddyletswydd honno eisoes yn bodoli oherwydd mae'n rhaid i'r awdurdod lleol drosglwyddo gwybodaeth i Rhentu Doeth Cymru ac ni chaiff ei dal yn ôl.

Ond mae'n ymddangos i mi fod hyn yn oddefol iawn, a dylem ni roi'r egwyddor hon ar wyneb y Bil. Ni chefais sicrwydd gan sylwadau eraill a wnaed gan y Gweinidog.

Unwaith eto, yn yr hyn y dywedodd y Gweinidog ynghylch pam yr oedd hi o'r farn bod y polisi yn ddigon cryf ar hyn o bryd, soniodd hi am Rhentu Doeth Cymru yn gofyn i'r awdurdod lleol am yr wybodaeth hon, ac eto, nid yw hynny'n ddyletswydd. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud y cais. Sut maen nhw'n gwybod bod hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno a'i dalu? Byddai angen iddynt fod â chweched synnwyr, yn ôl pob tebyg, i ofyn am yr wybodaeth honno, ac mae'n hysbysiad pwysig iawn mewn gwirionedd. A beth yw hyn mewn gwirionedd? Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol anfon neges e-bost at Rhentu Doeth Cymru yn dweud bod hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno ac wedyn wedi'i dalu, a gall hynny wedyn, yn amlwg, fod yn rhan o'r cofnod a gedwir ar y landlord neu'r asiant gosod. Rwy'n credu bod troseddau ailadroddus, hyd yn oed os y'u hystyrir yn fân droseddau, os ydyn nhw'n cael eu hailadrodd, dro ar ôl tro, dro ar ôl tro, eu hunain yn gyfystyr â throsedd difrifol. Felly, rwy'n credu bod casglu gwybodaeth yn bwysig iawn, iawn i gydnerthedd y system hon, ac a dweud y gwir rwyf mewn penbleth pam nad yw'r Llywodraeth wedi derbyn y gwelliant hwn. Ond, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi gorfod dysgu byw gyda llawer o siomedigaethau yn fy swyddogaeth yn y fan yma. [Chwerthin.]

18:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adran 14 o'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu'r awdurdod trwyddedu, neu bob awdurdod trwyddedu os oes mwy nag un, o unrhyw euogfarn o drosedd o dan y Ddeddf yn gysylltiedig ag annedd yn ei ardal. Mae hyn yn sicrhau cysylltiad priodol rhwng y Bil ac arfer swyddogaethau gorfodi yn gysylltiedig â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid a thenantiaid. Mae gwelliant 17 o f'eiddo yn cyflwyno is-adran newydd, is-adran (3) i adran 14. Yr effaith yw na fydd yn rhaid i awdurdod tai lleol hysbysu awdurdod trwyddedu o euogfarn os cafodd yr achos ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu. Mae'r gwelliant hwn yn perthyn i'r gwelliannau yng ngrŵp 9, sy'n darparu ar gyfer yr awdurdod trwyddedu i fod yn awdurdod gorfodi o dan y Bil. Os nad ydym yn gwneud gwelliant 17, byddai'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol gymryd camau gweithredu sy'n gwbl ddiangen. Hyderaf y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant.

Mae gwelliant 45, a gyflwynwyd gan David Melding, yn ceisio ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu'r awdurdod trwyddedu pan fydd hysbysiad cosb benodedig wedi ei dalu. Yng Nghyfnod 2, fe wnaethom ni wrthod gwelliant tebyg iawn oherwydd bod adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i drosglwyddo unrhyw wybodaeth i'r awdurdod trwyddedu sy'n angenrheidiol at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan Rhan 1 o'r Ddeddf. Bydd hyn yn berthnasol i unrhyw wybodaeth sydd wedi'i derbyn gan awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol.

Mae'r gwelliant hwn, yn ogystal â bod yn ddi-angen, hefyd yn rhoi pwysigrwydd i'r ffaith a yw hysbysiad cosb benodedig wedi'i dalu ai peidio. Fodd bynnag, y gwir amdani yw mai'r hyn sydd o'r diddordeb mwyaf i awdurdod gorfodi yw a yw hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno. Hyn ynghyd ag erlyniadau, yw'r materion sydd fwyaf perthnasol i Rhentu Doeth Cymru wrth iddynt ystyried a yw rhywun yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

Mae gwelliant 21 o f'eiddo yn darparu ar gyfer y caniatâd angenrheidiol i awdurdod trwyddedu ac awdurdod tai lleol rannu gwybodaeth yn rhan o'u gwaith gorfodi. Fel y soniwyd, mae adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn caniatáu i awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth gan awdurdod tai lleol i'w helpu i arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o'r Ddeddf honno. Mae'r gwelliant hwn yn darparu pŵer cyffelyb yn gysylltiedig â galluogi awdurdodau gorfodi i arfer eu swyddogaethau o dan y Bil. Bydd yn gwella effeithiolrwydd y cydweithio rhwng awdurdodau gorfodi, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r newid hwn. Rwyf felly yn annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 17 a 21 a gwrthod gwelliant 45, nad oes ei angen, ond mae'n ddrwg gennyf siomi David Melding yn hyn o beth.

David i ymateb i'r ddadl? Na. Iawn. Y cwestiwn yw bod gwelliant 45 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni chaiff gwelliant 45 ei dderbyn.

Gwelliant 45: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 16 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir gwelliant 16.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 17 yn cael ei dderbyn. Unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly awn ymlaen i bleidlais electronig ar welliant 17. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, neb yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 17.

18:20

Gwelliant 17: O blaid: 39, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 18 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd gwelliant 18.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 19 ei cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd gwelliant 19.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 20 ei cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd gwelliant 20.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 21 ei cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, derbyniwyd gwelliant 21.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 12: Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol (Gwelliant 22)

Grŵp 12 yw pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol. Y prif a'r unig welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 22, a galwaf ar y Gweinidog i siarad.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Julie James).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwelliant 22 yn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad yn dilyn Cyfnod 1. Mae'n perthyn i welliannau grŵp 9. Bydd yn caniatáu i awdurdod gorfodi, sy'n awdurdod trwyddedu dynodedig, gyflawni swyddogaethau cofrestru a thrwyddedu o dan rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014—Rhentu Doeth Cymru ar hyn o bryd—i ddwyn achos troseddol yn gysylltiedig â throsedd honedig sy'n codi o dan y Bil. Yn amlwg, nid yw hi ond yn briodol y dylai awdurdod gorfodi o'r fath allu dwyn achos troseddol yn gysylltiedig â'r drosedd. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn cydnabod bod hyn yn gwneud newid angenrheidiol i'r Bil ac y byddant yn cefnogi'r gwelliant.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, felly rwy'n cymryd nad oes angen ymateb i'r ddadl. Y cwestiwn yw bod gwelliant 22 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd gwelliant 22.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 13: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant (Gwelliannau 46, 54)

Mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â chyfyngiadau ar roi hysbysiad adennill meddiant. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 46. Galwaf ar David Melding i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. David.

Cynigiwyd gwelliant 46 (David Melding).

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i gynnig y ddau welliant yn y grŵp hwn, sydd wedi eu datblygu mewn cydweithrediad agos â'r Gweinidog a'i thîm. A gwn fy mod wedi dweud rhai pethau miniog, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi dweud llawer o bethau mwy adeiladol am y ddeddfwriaeth hon, ac rwyf yn credu ei bod hi'n arwydd da pan fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant a ysbrydolwyd gan un o'r gwrthbleidiau.

Mae'r gwelliant yn deillio o un a gyflwynwyd gennyf yng Nghyfnod 2, sydd wedi'i ehangu i gymeradwyo rhai anghysondebau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 sydd hefyd yn berthnasol i'r mater hwn. Mae'r gwelliannau hyn yn atal y landlord rhag cyflwyno hysbysiad adennill meddiant i'r tenant pan fo taliad gwaharddedig wedi'i wneud a heb ei ad-dalu wedi hynny. Rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn taro cydbwysedd angenrheidiol, hyd yn oed pan fo taliad gwaharddedig wedi'i wneud drwy gamgymeriad, oherwydd mae'r cyfyngiad hwn yn dod i ben ar yr adeg y caiff hwnnw ei ad-dalu. Yn ogystal â hyn, cawsom wybod yn y Cyfnod Pwyllgor y ceir rhai amgylchiadau a nodir mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth tai sy'n rhwystro landlord rhag terfynu tenantiaeth oherwydd nad yw wedi cydymffurfio â'r gyfraith. Felly, ar y lleiaf, mae'r gwelliannau hyn yn darparu cysondeb â darnau eraill o ddeddfwriaeth, ac yn cynnig cam diogelu i denantiaid, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am estyn ar draws ffiniau pleidiau i gael y newidiadau pwysig hyn wedi'u cynnwys. Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.

Rwyf eisiau mynegi fy niolch i David Melding am gyflwyno gwelliannau 46 a 54, sy'n mynd i'r afael â mater y bu iddo helpu eu canfod yng Nghyfnod 2. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda David i gynhyrchu gwelliant sy'n gweithio ochr yn ochr â darpariaethau presennol i gyfyngu ar hawl landlord i adennill meddiant o eiddo pe byddai'n codi taliadau gwaharddedig ar ddeiliaid contract. Mae'r Bil ar hyn o bryd yn cynnwys darpariaeth i gyfyngu ar roi hysbysiad adennill meddiant o dan adran 173 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gysylltiedig â chontract safonol cyfnodol a rhoi hysbysiad o dan gymal terfynu'r landlord. Bydd y cyfyngiadau hynny'n gymwys os bydd landlord yn gofyn am dâl gwaharddedig ac nad yw'n ei ad-dalu, neu os na chaiff blaendal cadw ei ad-dalu yn unol â'r Bil.

Mae gwelliant 54 hefyd yn rhoi cyfyngiad ar roi hysbysiad yn gysylltiedig â diwedd contractau tymor penodol o dan adran 186 o Ddeddf 2016, sydd i'w groesawu, ac yn rhoi amddiffyniad pellach i ddeiliaid contract pan fo achosion o dorri'r Bil. Mae'n well rhoi'r holl welliannau hyn gyda'i gilydd yn y Bil o ystyried bod pob un ohonyn nhw'n diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r tŷ, a diolch i David Melding unwaith eto am ei gydweithrediad.

David. Na? Diolch. Os derbynnir gwelliant 46, mae gwelliannau 23 a 24 yn methu. Y cwestiwn yw bod gwelliant 46 yn cael ei dderbyn, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, derbyniwyd gwelliant 46 ac mae gwelliannau 23 a 24 yn methu.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Methodd gwelliannau 23 a 24.

Cynigiwyd gwelliant 54 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 54 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 54.

18:25

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 14: Gwybodaeth a chanllawiau (Gwelliannau 25, 26, 47, 53)

Awn i grŵp 14, sef gwybodaeth a chanllawiau. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 25. Galwaf ar y Gweinidog i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn—Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Julie James).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Gwelliant 25 yn gwella adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a fydd yn helpu i ategu'r canllawiau presennol a roddir i awdurdod trwyddedu gan Weinidogion Cymru fel y gallant gynnwys darpariaeth benodol ynghylch materion sydd i'w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu taliad gwaharddedig neu flaendal cadw yn effeithio ar addasrwydd unigolyn i gael ei drwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae'n helpu, felly, i sicrhau bod cysylltiad priodol rhwng darpariaethau'r Bil a'r system cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau. Yn y pen draw, bydd landlord neu asiant sy'n codi taliad gwaharddedig yn peryglu eu gallu i ddal y drwydded angenrheidiol i allu wneud gwaith gosod neu reoli eiddo. Bydd y darpariaethau hyn yn helpu i atal arferion diegwyddor gan nifer fach o asiantau a landlordiaid, sy'n bla ar y sector rhentu preifat.

Bydd gwelliant 26 yn sicrhau bod awdurdodau tai lleol yn gwneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael i'r cyhoedd yn eu hardaloedd ym mha ffordd bynnag sy'n briodol am effaith y Ddeddf yn eu barn nhw. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut y gall deiliaid contract adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw. Er ein bod yn disgwyl i landlordiaid ac asiantau gydymffurfio i raddau helaeth iawn â'r Ddeddf, gallai fod rhai achosion lle mae angen i ddeiliaid contract adennill taliadau gwaharddedig drwy'r llys. Bydd y gwelliant hwn yn cynorthwyo unrhyw ddeiliaid contract i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth i'w cynorthwyo i adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw.

Rwyf o'r farn bod gwelliannau 25 a 26 yn ychwanegiadau defnyddiol i'r Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi. Mae'n siomedig gweld gwelliannau 47 a 53 eto ar ôl Cyfnod 2. Cawsant eu gwrthod yn briodol bryd hynny am resymau da, ac nid yw'r rhesymau hynny wedi newid. Yn dilyn Cyfnod 2, rhannais fy nghynllun cyfathrebu â'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Fel y byddan nhw wedi gweld, mae'n nodi manylion graddau'r strategaeth gyfathrebu eang y byddwn yn ei defnyddio i sicrhau bod pawb yn gwbl ymwybodol o effaith y Bil. Mae gennym ni gyswllt uniongyrchol â landlordiaid ac asiantau drwy Rhentu Doeth Cymru. Byddan nhw'n derbyn hysbysiad o'r dyddiad y bydd y Bil hwn yn dod i rym. Byddan nhw hefyd yn derbyn canllawiau penodol i roi gwybod iddyn nhw am yr hyn y gellir ac na ellir codi tâl amdano a beth yw'r cosbau am dorri'r ddeddfwriaeth hon. Ni fydd hyn ar gyfer y landlordiaid a'r asiantau hynny sydd wedi cytuno i dderbyn diweddariadau drwy negeseuon e-bost neu lythyrau yn unig, bydd pob un landlord ac asiant yn derbyn yr wybodaeth hon.

Byddwn yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diwygio o'r canllawiau i denantiaid, gan nodi hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid, a byddwn yn annog landlordiaid ac asiantau i ddarparu'r rhain i denantiaid. Mae'r canllawiau ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Rydym ni wedi bod a byddwn ni'n parhau i fod mewn trafodaethau â rhanddeiliaid yn y sector. Bydd grwpiau landlordiaid ac asiantau yn ddefnyddiol wrth atgoffa eu haelodau am eu cyfrifoldebau, a'r gwaharddiadau o dan y Bil. Rydym yn disgwyl i grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau tenantiaid—Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, er enghraifft—i fod ar flaen y gad yn cyfleu'r neges i denantiaid a darpar denantiaid.

Caiff cod ymarfer Rhentu Doeth Cymru Cod ei ddiweddaru hefyd i adlewyrchu'r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth hon. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n glir y gallai torri unrhyw amod yn y ddeddfwriaeth hon beryglu'r drwydded i weithredu yng Nghymru. Byddwn, wrth gwrs, yn diweddaru Rhentu Doeth Cymru a'r 22 o awdurdodau lleol am y dyddiadau pan fydd y gyfraith newydd hon yn gymwys, drwy gyswllt rheolaidd fy swyddogion â nhw, megis drwy'r panel arbenigwyr tai a grŵp rhanddeiliaid Rhentu Doeth Cymru. Bydd y gweithgareddau hyn yn cyd-fynd  â chyfathrebu mwy cyffredinol i rybuddio'r cyhoedd yng Nghymru am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud, drwy'r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill.

Yn y pen draw, ni fydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol os nad ydym yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod pawb yn glir ynghylch y rheolau newydd. Mae'r hyn y mae David Melding yn ei gynnig gyda'r gwelliannau hyn eisoes yn mynd i gael ei wneud. Rwyf wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw i'r pwyllgor, ac rwy'n ei ailadrodd i chi i gyd yma heddiw. Byddai ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn ddiangen. Mae'n ddigwyddiad unwaith yn unig a bydd yn ddiangen ar ôl un mis. Mentraf ddweud, nad yw o bosibl yn gyfraith dda? Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliannau 47 a 53.

Rwy'n gwybod bod gwelliant 25 yn allweddol i naratif canolog y Llywodraeth ac, yma yng Nghymru, yr hyn sy'n atal gwyro o'r gyfraith yn y pen draw yw y gallai landlord golli ei drwydded o dan Rhentu Doeth Cymru, ac adlewyrchir hyn yn y gwelliant hwn, yn benodol yn gysylltiedig â methiant i ad-dalu taliad gwaharddedig. Fel rwyf wedi ei ddweud, rwy'n credu ein bod wedi colli cyfle drwy beidio â sicrhau bod y taliad gwaharddedig yn cael ei ad-dalu ar adeg talu'r hysbysiad cosb benodedig. Rwyf eisiau ailadrodd fy rhwystredigaeth ynghylch pam mae hyn, i mi, yn gwneud y Bil hwn ychydig yn llai na'r hyn y gallai fod. Fodd bynnag, gallai ffordd y Llywodraeth o fynd ati, fel yr amlinellwyd, fod yn effeithiol fel ail orau ac yn rhan o gyfres ehangach o fesurau a bwriad polisi, fel y disgrifiodd y Gweinidog. Byddwn ni'n eu cefnogi nhw heddiw, ar ôl methiant fy ngwelliannau cynharach, oherwydd o leiaf maen nhw'n cyflawni rhywfaint o'r bwriad yr oeddwn i'n ei hyrwyddo.

Os caf droi at yr ymgyrch wybodaeth. Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi newid ei barn ychydig yn y maes hwn, oherwydd pan gyflwynais fy ngwelliant yng Nghyfnod 2, roeddwn dan yr argraff nad oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflwyno unrhyw newidiadau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol cynnal ymgyrch gyfathrebu gref. Felly, rydym ni wedi cynnig a derbyniaf hynny, ond y dull yw eich bod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, ac rwy'n credu y dylai fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru. Felly, mae fy ngwelliant cyntaf, gwelliant 17, yn gosod y gofyniad hwnnw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i gymryd camau rhesymol i roi gwybod i ddeiliaid contractau, landlordiaid ac asiantau gosod am y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Bil, ac mae'n deillio o argymhelliad 2 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Mae gwelliant 53 yn ganlyniad i welliant 47 a byddai'n caniatáu i welliant 47 ddod i rym ar y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn caniatáu i'r ymgyrch wybodaeth ac effeithiau'r Bil gael eu lledaenu i'r holl randdeiliaid perthnasol ar y cyfle cynharaf, a chyn i'r darpariaethau perthnasol o'r hyn a fyddai erbyn hynny yn Ddeddf ddod i rym.

I mi, dyma rai o'r elfennau mwyaf allweddol o'r polisi cyfan hwn, a nod y gwelliant hwn, fel yr wyf wedi'i gyflwyno, yw sicrhau bod gennym ni broses sy'n debyg i honno a ddilynwyd yn y Ddeddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 y llynedd. Roedd consensws eang ar y pryd gan randdeiliaid ei bod yn rhan bwysig o gyflwyno gwaharddiad ac y dylai gael ei chyfleu yn glir. Dywedodd Sefydliad Tai Siartredig Cymru, a dyfynnaf:

Mae'n rhaid cael rhaglen gynhwysfawr ac eglur o weithgarwch cyfathrebu â chymorth i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r hyn y mae ffioedd yn ei gynnwys ac felly yr hyn y gallai gweithredu'r ddeddfwriaeth hon ei olygu ar gyfer y bobl hynny sy'n rhentu yn y dyfodol.

Roeddynt hefyd yn gwneud cymhariaeth â'r darpariaethau yn Neddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), fel rwyf eisoes wedi cyfeirio atynt, sy'n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i wneud tenantiaid yn ymwybodol o'r newidiadau sydd ar ddod. A chafwyd llawer o drafodaeth ar yr elfen hon ar adeg hynt y ddeddfwriaeth honno. Mewn tystiolaeth lafar, tynnwyd sylw at y ffaith bod Shelter wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu fawr yn yr Alban i wneud asiantau gosod a thenantiaid yn ymwybodol o'r newidiadau.

Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando i'r graddau hynny ac wedi pwysleisio'r angen am ryw fath o ymgyrch. Byddwn yn gwylio hyn yn ofalus iawn, os na fydd ein gwelliant ni yn pasio, hynny yw, ac yn sicrhau bod y rhan hon o'r newid yn y gyfraith yn cael ei chyfleu'n effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth inni wneud cyfraith, Dirprwy Lywydd, ein bod ni'n rhoi llawer o sylw i'r rhan hon o'r hyn yr ydym yn ei wneud a'r angen i'w gyfathrebu'n effeithiol. Ond gwnaf un cais olaf i'r Aelodau i gefnogi fy fersiwn i, yr wyf i o'r farn, gan ei fod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar Weinidogion, ei fod yn ffordd fwy cadarn o fynd ati i sicrhau y ceir ymgyrch wybodaeth effeithiol.

18:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dim ond i ailadrodd—rwy'n ddiolchgar am sylwadau David Melding—ond dim ond i ailadrodd y byddwn ni'n hysbysu'r gynulleidfa darged allweddol am y ddeddfwriaeth arfaethedig a'i goblygiadau, oherwydd rwy'n cytuno ag ef y bydd cyfathrebu yn allweddol yn hyn o beth. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod landlordiaid ac asiantau yn gwybod bod angen iddynt gydymffurfio, ac na chodir ffioedd gosod ar ddeiliaid contract mwyach gan eu landlord na'u hasiant.

Byddwn ni'n defnyddio gwefannau, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau a sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol yn y sector, a cheir diweddariadau ar rwydweithiau rhanddeiliaid, a thrwy ein heiriolwyr. Byddwn hefyd yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo'r Bil i gynulleidfa eang fel eu bod yn cael eu hysbysu am y Bil a'i oblygiadau. Bydd y sianeli yn cynnwys gwefannau'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau rhanddeiliaid eu hunain, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol, fel y mae David Melding yn cydnabod. A byddwn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda Rhentu Doeth Cymru i rannu gwybodaeth a thargedu landlordiaid ac asiantau yn y sector preifat sydd wedi cofrestru a chael eu trwyddedu, oherwydd, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n falch iawn o'r Bil ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y fantais orau ohono.

Y cwestiwn yw bod gwelliant 25 ei cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 25.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 26 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 39, neb yn ymatal a naw yn erbyn, felly derbyniwyd y gwelliant.

Gwelliant 26: O blaid: 39, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 47 (David Melding).

Cynnig. Y cwestiwn yw bod gwelliant 47 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly, awn i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb yn ymatal, 30 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

18:35

Gwelliant 47: O blaid: 18, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 48 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 48 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni chaiff gwelliant 48 ei dderbyn.

Gwelliant 48: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 49 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 49 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly awn i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch—. Pwy bynnag sydd newydd bleidleisio roedd yn cyfrif o drwch blewyn. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni chaiff y gwelliant ei dderbyn.

Gwelliant 49: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 52 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 52 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 52: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 51 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 51 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 51: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 50 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 50 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 50: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 59 (Leanne Wood).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 59 yn cael ei dderbyn, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 19, neb yn ymatal, 29 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 59: O blaid: 19, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 27 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 27 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly caiff gwelliant 27 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 28 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly caiff gwelliant 28 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 53 (David Melding).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 53 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbynnir y gwelliant.

Gwelliant 53: O blaid: 20, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 15: Dod i rym (Gwelliannau 60, 61)

Felly, mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â dod i rym, a'r prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 60. Galwaf ar Leanne Wood i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill. Leanne.

Cynigiwyd gwelliant 60 (Leanne Wood).

Diolch. Dyma ein gwelliannau i sicrhau bod y gyfraith yn dechrau ar 1 Mehefin 2019. Byddai hyn yn dod â'r ddeddfwriaeth yn unol â Lloegr, lle bydd deddfwriaeth debyg yn dechrau ar 1 Mehefin.

Mae llawer o asiantaethau gosod a landlordiaid yn gweithredu ar sail Cymru a Lloegr, felly er y bydd wedi'i wahardd yn Lloegr, byddant yn ddi-os yn cynyddu'r ffioedd ar gyfer tenantiaid Cymru os nad yw ein deddfwriaeth ni yn cyfateb â hynny. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau iddi ddigwydd yw sefyllfa lle mae ffioedd wedi'i gwahardd mewn mannau eraill, ond mae cynnydd yn araf yma.

Cafodd Llywodraeth Cymru ei llusgo o'i hanfodd i'r ddeddfwriaeth hon a thrafodwyd nifer o ddadleuon yn galw ar i ffioedd asiantau gosod gael eu gwahardd yn y Siambr hon cyn i'r Llywodraeth gydnabod o'r diwedd fod yna broblem wirioneddol yn y fan yma. I lawer ohonom ni, mae marc cwestiwn o hyd ynghylch ymrwymiad y Llywodraeth hon ar y cwestiwn hwn.

Gwelsom gyda sawl darn o ddeddfwriaeth yn y gorffennol bod cynnydd ar weithredu wedi bod yn araf, y tu ôl i'r amserlen, ac yn aml yn methu â gwireddu'r addewidion a wnaethpwyd pan oeddynt ar eu hynt drwy'r lle hwn. Rydym ni wedi gweld hynny gyda llawer o ddarpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y Cynulliad blaenorol, maen nhw eto i ddod i rym, ac mae Shelter Cymru yn nodi bod Lloegr nid yn unig wedi dal i fyny â Chymru ond wedi gweithredu deddfwriaeth debyg cyn i ni wneud hynny.

Fy mhwynt olaf fyddai hyn: mewn cynulliad dinasyddion y DU a gynhaliwyd ym mis Chwefror, gofynnwyd i'r Prif Weinidog y cwestiwn: 'A wnewch chi weithio gyda ni i sicrhau bod ffioedd asiantau gosod yn cael eu gwahardd yng Nghymru erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2019-20?' Ateb y Prif Weinidog oedd, 'rwy'n falch o ddweud mai hwn yw'r hawsaf i'w ateb oherwydd, fel y clywsoch chi, mae yna Fil gerbron y Cynulliad, y Bil Rhentu Cartrefi. Mae'n cael ei ystyried nawr a bydd yn gwahardd ffioedd asiantau gosod yng Nghymru. Nid yw pa mor gyflym y bydd y Bil yn cyrraedd y llyfr statud yn nwylo'r Llywodraeth. Mae yna Gynulliad sy'n ei drafod, ac rydym yn eu dwylo nhw hefyd, ond rwy'n optimistaidd os y cawn ni fwrw ymlaen ag ef fel y bwriadwn fwrw ymlaen ag ef, bydd ffioedd gosod wedi'u gwahardd yn yr haf cyn dechrau blwyddyn academaidd 2019-2020.' Gofynnodd llywydd undeb y myfyrwyr wedyn, 'rwyf eisiau cadarnhau, ac yn gofyn am yr ail waith, a wnewch chi weithio gyda ni i sicrhau bod ffioedd asiantaethau gosod yn cael eu gwahardd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ie neu na?' A'r ateb oedd 'ie'.

Felly, rydym ni wedi cyflwyno hyn, ac os bydd y Llywodraeth yn ei wrthod bydd rhai cwestiynau difrifol i'w hateb, ond os caiff ei wrthod hoffwn ymrwymiad clir gan y Llywodraeth ac iddi ddweud ar goedd pryd fydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu, ac mae hynny'n golygu dyddiad. Felly, os nad Mehefin, pryd?

18:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n deall brwdfrydedd Leanne Wood i gychwyn y Bil cyn gynted â phosibl, ac rwy'n ei rannu. Fodd bynnag, mae cychwyn y Bil erbyn 1 Mehefin yn afrealistig. Os caiff y Bil ei basio gan y Cynulliad yr wythnos nesaf fel sydd ar yr amserlen, ni allwn ddisgwyl Cydsyniad Brenhinol tan ddechrau mis Mai ar y cynharaf, yn dilyn cwblhau cyfnod hysbysu o 28 diwrnod. Bydd y dyddiad a gynigir gan Leanne Wood yn caniatáu ychydig o wythnosau i ni baratoi a gwneud rheoliadau o dan adran 20 o'r Bil, gan wneud darpariaethau trosiannol er mwyn i'r Bil weithio gyda'r gyfraith tai bresennol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Bil yn defnyddio terminoleg Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Bydd angen diwygio hon tan i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym. Rydym wedi dechrau gwaith ar reoliadau trosiannol adran 20 a'n nod yw eu cael yn barod erbyn diwedd yr haf. Fodd bynnag, nid yw'r gwaith o baratoi rheoliadau yn rhwydd ac ni ellir gwarantu eu cwblhau mewn pryd i ni gychwyn y Ddeddf erbyn 1 Mehefin. Nid yw'r gwelliant ychwaith yn ystyried nifer digynsail yr is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r ffaith y bydd angen i ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i weithredu'r Ddeddf ddatblygu yng ngoleuni’r her honno. Ychydig iawn o amser hefyd a fyddai ar gael i ni ymgysylltu â thenantiaid, landlordiaid ac asiantau am y newidiadau arfaethedig, a fyddai'n anochel yn arwain at weithredu'r Ddeddf mewn modd anhrefnus. Byddai hefyd yn mynd yn groes i'r confensiwn, sef cyfnod o ddau fis o leiaf rhwng y Cydsyniad Brenhinol a chychwyn y Ddeddf, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Ystyriwyd y codi ymwybyddiaeth hyn yn bwysig iawn yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1. Mewn cymhariaeth, mae pedwar mis rhwng Cydsyniad Brenhinol a gweithredu Deddf Ffioedd Tenantiaid Llywodraeth y DU 2019. Rwy'n disgwyl i'r Bil gychwyn cyn tymor academaidd 2019, ac rwy'n sicrhau y byddwn yn ei gychwyn ar y cyfle cynharaf posibl. Ar sail y dadleuon hyn, anogaf yr Aelodau i wrthod gwelliannau 60 a 61.

Wel, nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw 'rwy'n disgwyl iddo gael ei weithredu mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd' yn unol â'r hyn y dywedodd y Prif Weinidog yn y cynulliad dinasyddion hwnnw. Mae gennych chi rai cwestiynau difrifol i'w hateb am yr ymrwymiad hwnnw a roddwyd, a byddwn yn dadlau o blaid yr holl Aelodau i gefnogi ein gwelliant fel bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd, nid gobeithio ei gweithredu yn unig.

Y cwestiwn yw derbyn gwelliant 60. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant naw, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 60.

Gwelliant 60: O blaid: 9, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 61 (Leanne Wood).

Cynnig. Y cwestiwn yw derbyn gwelliant 61. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, awn ymlaen i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wyth, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 61.

Gwelliant 61: O blaid: 8, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 1 (Julie James).

Y cwestiwn yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:45

Cynigiwyd gwelliant 2 (Julie James).

Y cwestiwn yw bod gwelliant 2 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Felly, rydym wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), ac rwyf yn datgan y bernir bod pob adran ac Atodlen o'r Bil wedi eu derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

8. Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Dychwelwn yn awr at ein hagenda, ac eitem 8 ar yr agenda yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6992—Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018. Bydd y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod deddfwriaeth iechyd planhigion yng Nghymru, sy'n sicrhau bod mesurau amddiffynnol presennol yr UE i atal cyflwyno a lledaenu organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion yn parhau i fod mewn grym ar ôl i'r DU ymadael â'r UE mewn sefyllfa 'dim cytundeb'. Mae llawer o'r rheoliadau hyn yn cywiro diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig, sy'n gweithredu'r gyfarwyddeb iechyd planhigion sy'n deillio o ymadawiad y DU o'r UE. Mae'r newidiadau yn sicrhau y gall deunydd planhigion barhau i gael ei fewnforio yn ddiogel i Gymru a symud yn ddiogel o fewn y wlad ar ôl ymadael â'r UE, gan gynnwys parhau i fewnforio deunydd planhigion o aelod-wladwriaethau'r UE a'r Swistir.

Mae'n ofynnol i ddeunydd sy'n cynnal y plâu a'r clefydau mwyaf difrifol fod â phasbort planhigion yr UE i hwyluso ei symudiad. Bydd planhigion a chynhyrchion planhigion a reolir ar hyn o bryd o dan drefn pasbort planhigion yr UE pan fyddant yn symud i Gymru o aelod-wladwriaethau'r UE a'r Swistir yn destun rheolaethau mewnforio a fydd yn disodli'r sicrwydd a'r gallu i olrhain y mae trefn pasbort planhigion yr UE yn eu cynnig. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn trosi darpariaethau yn ymwneud â phlannu rhywogaethau penodol: tatws, tomatos a phlanhigion eraill teulu'r codwarth a rheoli plâu planhigion perthnasol. Yn olaf, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwneud gwelliannau canlyniadol i'r ffioedd presennol a nodir yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, gan ddileu'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE, gan felly sicrhau'r gallu i'w gweithredu'n gyfreithiol ar ôl ymadael.

Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dyma'r Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Nawr, trafodwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fel y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mawrth. Cyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad ar saith pwynt technegol ac un pwynt adrodd o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3. Mae tri o'r saith pwynt adrodd technegol yn ymwneud â'r ffaith ei bod yn ymddangos fod anghysondebau rhwng ystyr y testunau Cymraeg a'r Saesneg. Mae'r pedwar pwynt adrodd technegol arall yn ymwneud â drafftio diffygiol posibl o fewn y rheoliadau.

Mae'r pwynt adrodd o ran rhinweddau y cyflwynwyd adroddiad arno i'r Cynulliad yn nodi bod y rheoliadau hyn yn creu dwy drosedd newydd. Mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r pwyntiau technegol yn ein hadroddiad. Nodwn o ran pwyntiau 1, 2 a 4 y bydd y Llywodraeth yn cywiro'r gwallau a nodwyd gennym. Wrth nodi pwyntiau 3, 5, 6 a 7, hoffem hefyd dynnu sylw'r Cynulliad at y ffaith bod y Llywodraeth o'r farn nad yw'r gwallau drafftio yn effeithio ar effaith gyfreithiol y darpariaethau. Diolch yn fawr. 

Diolch. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Dai Lloyd, am y sylwadau yna. Rydym ni'n cytuno yn llwyr a byddwn yn cywiro pwynt 1. Pwyntiau 2 a 4: rydym ni'n cytuno ac rydym ni'n ceisio cywiro'r gwallau drwy reoliad 8(4) a (6) o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Ac rydym yn nodi pwyntiau 3, 5, 6 a 7, ac rydym o'r farn nad ydynt yn effeithio ar effaith gyfreithiol y darpariaethau, fel y dywedasoch chi.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Trown yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, bwriadaf fwrw ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Na. Iawn, iawn.

9. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio amdani, felly. Rydym yn pleidleisio ar y ddadl ar y dadansoddiad o effaith diwygio lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 9, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.

NDM6993 - Gwelliant 1: O blaid: 9, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant naw, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir y gwelliant.

18:50

NDM6993 - Gwelliant 2: O blaid: 9, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

NDM6993 - Cynnig: O blaid: 36, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.