Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/02/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Amseroedd Aros y Gwasanaeth Iechyd ar draws Gogledd Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros y gwasanaeth iechyd ar draws gogledd Cymru? OAQ53374

Llywydd, er gwaethaf galw cynyddol, bu gostyngiad dros y flwyddyn ddiwethaf o bron i 30 y cant i nifer y bobl a fu'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth yn Betsi Cadwaladr. Mae angen rhagor o waith, fodd bynnag, ac mae'n cael ei wneud i sicrhau bod yr holl amseroedd aros o fewn targedau Llywodraeth Cymru.

Diolch, Prif Weinidog, ac rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, ond, gadewch i ni fod yn onest, gweithredwyd ymyraethau uniongyrchol gan eich Llywodraeth Cymru chi ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mehefin 2015, tra'n aros am nifer o welliannau mawr a oedd yn ofynnol. Mewn gwirionedd, mae cleifion ar draws y gogledd yn dal i ddioddef digalondid amseroedd aros cynyddol. Rydym ni newydd weld y ganran waethaf erioed o gleifion a welwyd o fewn yr amser targed o bedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys; clust, trwyn a llwnc—cynnydd o bron i 9 pwynt i ganran y llwybrau cleifion sy'n aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth, ac mae'r un peth yn wir o ran rheoli poen. Ac mae'r rhai sy'n aros am fwy na 24 wythnos am sigmoidosgopi hyblyg wedi cynyddu 4,900 y cant mewn termau canrannol.

Nawr, mae gen i nifer o achosion lle mae etholwyr yn aros yn llawer rhy hir am driniaeth yn anffodus, fel un wraig oedrannus a gwympodd ym mis Mehefin y llynedd, gan dorri ei hysgwydd yn yfflon, ac a hysbyswyd erbyn hyn y bydd hi'n debygol o fod yn aros am o leiaf naw mis arall mewn poen arteithiol. Prif Weinidog, mae problemau o ran amseroedd aros ar draws y bwrdd iechyd hwn ar gyfer gwahanol driniaethau a gwasanaethau. Nawr, mae'n amlwg i mi, ac i Aelodau eraill yn y Siambr hon rwy'n credu, ac, yn wir, i'n cleifion yn y gogledd, bod eich Gweinidog iechyd eich hun, ar ôl tair blynedd a hanner, yn parhau i fethu o ran swyddogaethau a gweithrediad y bwrdd iechyd hwn. Fel y Prif Weinidog, sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw—[Torri ar draws.]

Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb am bob portffolio yn y pen draw—[Torri ar draws.]

Pan fy mod i'n gofyn i chi ddod at y cwestiwn, nid wyf i'n bwriadu i chi barhau i ddarllen yr hyn sydd gennych chi o'ch blaen. A wnewch chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Iawn. Fel y Prif Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw, onid yw hi'n bryd erbyn hyn i chi ddechrau cymryd mwy o afael ar yr hyn sy'n digwydd yn y bwrdd iechyd hwn, ac efallai ystyried ffordd well o reoli'r ymyraethau uniongyrchol yn y bwrdd iechyd hwn?

Wel, Llywydd, rwy'n parhau i gymryd diddordeb uniongyrchol ym mhopeth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yn y gogledd. Ar yr adeg y gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, roedd pryderon gwirioneddol ynghylch ei wasanaethau mamolaeth. Mae'r rheini wedi gwella ac ni ystyrir mwyach eu bod angen bod mewn mesurau arbennig. Roedd pryderon gwirioneddol ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau, sydd wedi gwella'n sylweddol. Roedd pryderon ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal, ac roedd hynny wedi gostwng gan 22 y cant ym mis Tachwedd a chan 24 y cant ym mis Rhagfyr. Mae llawer o bethau sy'n gwella yn Betsi Cadwaladr, ond rydym ni'n cydnabod y ceir pobl sy'n aros yn rhy hir am driniaeth, er gwaethaf y ffaith bod amseroedd aros o 36 wythnos wedi gostwng, bod amseroedd aros o 26 wythnos wedi gostwng, ac mai 8.4 wythnos o'r adeg y caiff rhywun ei atgyfeirio am driniaeth i'r adeg pan fydd y driniaeth honno wedi ei chyflawni yw'r amser aros canolrifol ar gyfer triniaeth yn y bwrdd iechyd.

Fel rhan o'r ymateb i bwysau'r gaeaf, mae'r Groes Goch wedi bod yn mynd mewn i adrannau brys rhai o ysbytai Cymru. Maen nhw wedi bod yn gymorth mawr mewn dau o'r tri phrif ysbyty yn y gogledd, ac wedi cynorthwyo bron 5,500 o gleifion, sy'n cynrychioli mwy na hanner yr holl gleifion sydd wedi cael eu cynorthwyo yng Nghymru, yn Wrecsam Maelor ac yn Ysbyty Glan Clwyd. Nawr, efallai eich bod chi'n dweud bod y darlun cyffredinol yn gwella, ond mae'n rhaid i fi siarad o brofiad fan hyn, Brif Weinidog. Mi ges i fy nghyfeirio i'r uned frys yn Wrecsam Maelor ddydd Llun diwethaf. Roeddwn i'n cyrraedd am 5 o'r gloch y prynhawn a doeddwn i ddim yn cael fy ngweld tan 5 o'r gloch y bore—12 awr fues i'n aros yn yr uned frys. [Torri ar draws.] Mae e'n digwydd yn gyson, dwi'n gwybod, ac mae'r darlun yn cael ei bortreadu fan hyn bod pethau'n gwella. Efallai eu bod nhw yn gyffredinol, ond yr ateb dwi'n ei roi i chi yw bod yna brofiadau cwbl annerbyniol mae pobl yn dal yn gorfod eu goddef. 

Rŷn ni yn cydnabod y gwaith mae rhywun fel y Groes Goch yn ei wneud, ond mae'r gwasanaeth penodol yna yn dod i ben fis nesaf. Felly, gaf i ofyn i chi ydych chi'n meddwl y dylai fod y math yna o wasanaeth yn parhau a'n bod ni'n dibynnu ar y Groes Goch yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a pha effaith rŷch chi'n credu bydd dod â'r gwasanaeth yna i ben yn ei chael ar y gwasanaethau a fydd yn cael eu gadael ar ôl?

13:35

Wel, Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am beth ddywedodd e am waith y Groes Goch. Ac mae beth mae'r Groes Goch yn ei wneud yn y gogledd yn rhan o dri pheth rŷn ni'n ei wneud dros y gaeaf—pethau newydd i drio helpu'r system, a gwneud pethau mewn ffyrdd newydd. Ac mae'r gwaith y mae'r Groes Goch yn ei wneud, ond hefyd beth rŷn ni'n ei wneud gyda Care and Repair a chael pobl newydd yn yr adrannau brys i helpu, mae hwnna'n rhywbeth lle rŷn ni'n mynd i dynnu gwersi mas o'r profiadau yn y gogledd a thrio gweld a ydyn ni'n gallu gwneud hwnna ledled Cymru. Dwi'n cydnabod, fel y dywedais i wrth Janet Finch-Saunders, fod rhai pobl yn aros yn rhy hir yn yr adrannau brys dros y gaeaf. Maen nhw wedi dod o dan bwysau wrth gwrs, ac mae lot o bethau rŷn ni eisiau eu gwneud, ac yn eu gwneud, gyda'r bwrdd i wella'r sefyllfa yn y gogledd.

Cynnydd Bargeinion Twf

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru? OAQ53379

Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae bargeinion twf ar wahanol gamau aeddfedrwydd ledled Cymru, gan adlewyrchu gwahanol amseroedd cychwyn. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i fod yn bartner llawn yn natblygiad a darpariaeth bargeinion llwyddiannus i bob rhan o Gymru.

Un o heriau bargeinion twf yng Nghymru, o'i gymharu â Lloegr, lle'r oedd llawer yn mynd o'r blaen, yw bod Llywodraeth Cymru yn bartner pwysig arall yn yr ystafell, y mae angen ei chytundeb i gyflawni bargeinion, a bydd ganddi, yn briodol, wahanol bwysleisiau, ac efallai mewn rhai meysydd, gwahanol flaenoriaethau i Lywodraeth y DU. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ei phresenoldeb, a'r gofyniad hwnnw am gadarnhad ychwanegol, yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd i helpu i fwrw ymlaen â bargeinion twf yn hytrach na'u rhwystro neu eu harafu nhw mewn unrhyw ffordd, ac yn benodol rhoi cymorth i gynghorau lle efallai nad oes ganddyn nhw yr un lefel o seilwaith a chyllideb â rhai o'r bargeinion twf eraill?

Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y cymhlethdod ychwanegol y mae Mark Reckless yn cyfeirio ato, ond rydym ni wedi bod yn bartneriaid cadarnhaol a pharod erioed yn yr ymdrech i greu bargeinion twf mewn gwahanol rannau o Gymru. Cadarnhawyd bargen ddinesig Abertawe gan y Prif Weinidog blaenorol ar y cyd â Phrif Weinidog y DU, gan ddangos y gwaith a wnaed ar y cyd gydag awdurdodau lleol, a gydag eraill â buddiant, a chyda'r sector preifat, yn y rhan honno o Gymru. Ac rydym ni'n bwriadu chwarae rhan gadarnhaol yn y gogledd hefyd, lle bu fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn cyfarfod â'r bwrdd uchelgais economaidd yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf o ran bargen ar gyfer y canolbarth. Ac yn yr holl gyd-destunau hynny, sy'n wahanol ac yn peri gwahanol heriau, bydd Llywodraeth Cymru yn bresenoldeb cyson, ac yn bresenoldeb cadarnhaol gyson hefyd.

Dwi wedi galw am arian ychwanegol a ffocws ychwanegol i fargen twf y gogledd, o ganlyniad i gyhoeddiad Hitachi ynglŷn â Wylfa Newydd, ac mi ellid ychwanegu cyhoeddiad Rehau yn Amlwch at hynny hefyd. A thra mod i'n nodi a chroesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn barod i roi rhagor o arian i'r fargen twf yn y gogledd, os daw arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi yn ymwybodol o bryderon y gallai newid y fargen twf rŵan arwain at oedi yn y broses. Os felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried rhyw fath o gynllun cyllido yn ychwanegol at y fargen twf, ac yn rhedeg mewn paralel â'r fargen twf, er mwyn dod â'r hwb angenrheidiol yna i Ynys Môn, ar yr adeg heriol yma?

Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Wrth gwrs, rŷn ni'n gallu gweld beth ddywedodd e am y pryderon yn y gogledd, ar ôl Wylfa, os bydd hwnna'n cael effaith ar y fargen twf, sy'n tynnu pethau yn ôl. Mae'r Gweinidog hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi mwy o arian i fewn i'r fargen twf yn y gogledd nawr, ar ôl Wylfa. Ac rŷn ni wedi dweud, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, os bydd mwy o arian yn dod o'r Deyrnas Unedig, ein bod ni'n fodlon edrych a allwn ni roi mwy o arian i fewn i'r fargen hefyd, i helpu pobl yn y gogledd ar ôl beth sydd wedi digwydd yn Wylfa, ac yn ehangach ar yr ynys yn benodol.

Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a beth all cymunedau Islwyn ei ddisgwyl ei weld yn realistig o ffrwyth yr ymdrechion hyn?

13:40

Wel, diolch i Rhianon Passmore am hynna. Yn union fel yn fy ateb i Mark Reckless, cyfeiriaf at gyfranogiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn bargeinion dinesig ledled Cymru. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi cyfarfod ddoe ag Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a chadeirydd bwrdd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd, i drafod cynnydd o ran y fargen honno a phethau y gallwn ni eu gwneud i barhau i'w chynorthwyo. Gwn fod gan fargen ddinesig prifddinas Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mewn tai yn yr ardal, i ddod â safleoedd segur i ddefnydd buddiol; i ychwanegu rhagor o fuddsoddiad at seilwaith trafnidiaeth yr ardal, i fynd ochr yn ochr â'r rhan ganolog honno o fargen Caerdydd sef y cynllun metro. Yn hynny o beth, gall pobl sy'n byw yn ardal yr Aelod, ac yn ehangach, edrych ymlaen at well cysylltedd, cyfleoedd economaidd newydd, lefelau sgiliau uwch ymhlith pobl sy'n byw yn Nhorfaen, ac mae hynny i gyd yn rhan o'r cynllun uchelgeisiol sydd gennym ni ar y cyd â'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pryd fyddwch chi'n gwneud penderfyniad am ddyfodol ffordd liniaru'r M4?

Wel, byddaf yn gwneud penderfyniad, Llywydd, pan fydda i yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Gwn ei bod hi'n rhwystredig i'r Aelodau, ond mae'r sefyllfa yr un fath ag yr wyf i wedi ei hamlinellu ar lawr y Cynulliad o'r blaen. Bu ymchwiliad cyhoeddus lleol mawr. Mae wedi llunio adroddiad, yr wyf i'n credu sy'n sylweddol o ran maint a natur. Mae swyddogion yn parhau i ystyried yr adroddiad hwnnw ac i wneud yn siŵr, pan fyddan nhw'n rhoi cyngor i mi, ei fod yn ddiogel cyn belled ag y mae'r agweddau cyfreithiol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau ariannol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau polisi yn y cwestiwn, ac rwyf i wedi dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau'r cyngor gorau posibl. Nawr, rwy'n credu y bydd y cyngor hwnnw gen i cyn bo hir, ond rwy'n dal yn fodlon gwneud yn siŵr mai'r cyngor hwnnw yw'r cyngor iawn, ac yna—i fod yn eglur gyda'r Aelod—pan ddaw'r cyngor, byddaf angen amser i astudio'r cyngor hwnnw, oherwydd bydd y cyngor yn gymhleth a bydd yn sylweddol, a bydd yn neilltuo'r amser sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud.

Llywydd, y cwbl yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraethau Llafur olynol yw gogor-droi, gogor-droi, gogor droi, a'r cwbl yw'r ateb yna yw mwy o ogor-droi gennych chi, Prif Weinidog. Mae'n eithaf eglur, er gwaethaf y ffaith fod £44 miliwn o arian trethdalwyr wedi cael ei wario ar yr ymchwiliad i atebion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, bod y manylion yn hel llwch ar eich desg chi erbyn hyn, Prif Weinidog, o gofio y bu misoedd ers cyhoeddi'r adroddiad. Mae eich Llywodraeth yn parhau i lusgo eich traed o ran dod o hyd i ateb ymarferol, ac mae'r ansicrwydd y mae hyn yn ei greu yn niweidio busnesau Cymru ac yn niweidio buddsoddiad. Nawr, yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd mwy na 90 o fusnesau mawr, sy'n cynrychioli chwarter gweithlu Cymru, atoch chi yn gofyn am eglurhad ar y mater hwn ar frys. Mae'n rhaid i chi roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn trwy ddweud wrth Gymru o'r diwedd beth yw eich cynlluniau. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw? Os bydd canfyddiadau'r ymchwiliad yn argymell y llwybr du, a wnaiff eich Llywodraeth dderbyn y canlyniad wedyn a darparu'r llwybr du mewn gwirionedd?

Wel, does bosib bod yr aelod yn dychmygu fy mod i'n mynd i roi ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw ar lawr y Cynulliad pan nad wyf i wedi gweld yr adroddiad nac wedi gweld dim o'r cyngor ategol a fyddai'n angenrheidiol i mi. Byddai gwneud hynny yn anghyfrifol dros ben, a'r cwbl y byddai'n ei wneud fyddai rhoi beth bynnag a ddywedais mewn perygl cyfreithiol gan y rhai a allai ddymuno ei herio. Wrth gwrs, gwelais yr hyn a ddywedodd y CBI ac eraill, ac mae'n rhaid i'r ateb a roddaf iddyn nhw fod yr un fath ag yr wyf i wedi ei roi i chi: byddaf yn gwneud penderfyniad yn y ffordd orau bosibl. Byddaf yn ei wneud gan roi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau sy'n cyfrannu at ei wneud, a byddaf yn ei wneud yn y ffordd orau y gallaf.

Prif Weinidog, roedd fy nghwestiwn yn gwestiwn syml, ond, unwaith eto, ni allwch chi roi ateb syml. Mae Llafur Cymru wedi oedi ar y mater hwn ers bron i 20 mlynedd erbyn hyn, ac mae'n ymddangos fel pe byddai mor analluog ag erioed i fwrw ymlaen ag ateb i'r broblem. Mae'n dechrau edrych, o'm safbwynt i, fel pe byddai'r prosiect hwn wedi cerdded drwy'r drws gyda'r Prif Weinidog blaenorol. Mae effeithiau niweidiol eich methiannau polisi o ran datblygu system drafnidiaeth effeithiol yn eglur. Mae gwerth ychwanegol gros Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cynhyrchiant ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cyflogau ar waelod tabl cynghrair y DU. Ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw'r prosiect seilwaith hwn ar gyfer gwella ffyniant economaidd Cymru. Felly, Prif Weinidog, os nad ydych chi'n mynd gyflwyno'r llwybr DU, a allwch chi ddweud wrthym ni pa atebion y byddwch chi'n eu cynnig fel Llywodraeth, oherwydd mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir?

13:45

Llywydd, mae'n anodd gwrando weithiau ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud heb gofio mai ei blaid ef yw'r un sydd wedi methu â thrydaneiddio'r rheilffyrdd, sydd wedi bod yn gyfrifol am oediadau yn Wylfa—[Torri ar draws.] A phan ddaw, Llywydd, i aros i weithredu ar adroddiad, sawl mis, ac, yn y pen draw, blwyddyn aeth heibio cyn i'w Lywodraeth ef weithredu i wrthod yr adroddiad yr oedd hi ei hun wedi ei gomisiynu o ran morlyn llanw bae Abertawe? Felly, credaf fod ganddo ddigon i feddwl amdano o ran hanes ei blaid ei hun.

Gadewch i mi ddweud hyn wrtho: roedd ei gwestiwn i mi y gwrthwyneb llwyr i syml. Roedd yn esgus ei bod yn bosibl rhoi ateb syml i gwestiwn cymhleth, y dylwn ddod i gasgliad yma ar lawr y Cynulliad heb ystyried dim o'r cyngor na'r adroddiad ei hun. Byddai hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr o ffyrdd synhwyrol o weithredu i mi fod wedi dilyn ei gyngor.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Senedd nad yw eich gwas sifil blaenllaw, yr ysgrifennydd Parhaol y Fonesig Shan Morgan, wedi dweud mewn sgwrs gyda chi, neu'r Cabinet neu gydweithwyr eraill ei bod yn fodlon gadael ei swydd cyn i'w chontract ddod i ben yn 2022?

Rhoddaf sicrwydd i'r Aelod na fu unrhyw sgyrsiau o'r fath.

Prif Weinidog, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi bwyso arnoch chi unwaith eto ynghylch y pwynt hwn, ac mae hyn oherwydd natur y mae'r ymadawiad honedig hwn wedi dod i'r amlwg yn y cyfryngau, fel yr adroddwyd ddydd Iau diwethaf gan brif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton. Mae'n cyfeirio at y ffaith fod nifer o ffynonellau uwch, ac, fel y mae ef yn ei eirio, rhai sydd mewn sefyllfa dda yn Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r wybodaeth iddo y bu trafodaethau ynghylch ymadawiad cynnar y Fonesig Shan Morgan. Nawr, ceir dau bosibilrwydd sy'n deillio o'r stori fel y'i hadroddwyd: naill ai mae'n wir, sy'n golygu y gallai fod gan yr Ysgrifennydd Parhaol achos i hawlio diswyddiad adeiladol, neu nid yw'n wir, ac felly mae rhywun yn ceisio tanseilio'r Ysgrifennydd Parhaol yn fwriadol. Bu'n rhaid i'ch Llywodraeth chi, o dan eich rhagflaenydd, wadu honiadau o friffio yn erbyn unigolion. Onid ydych chi rhywfaint yn bryderus ei bod yn ymddangos bod yr arfer hwn yn parhau?

Wel, Llywydd, cyn belled ag y mae'r stori honno yn y cwestiwn, rwy'n credu fy mod i'n ffynhonnell sydd mewn cystal sefyllfa ag y bydd gan yr Aelod fyth. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud—. Nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddyfalu ynghylch sut y mae pobl eraill wedi dod o hyd i wybodaeth y maen nhw'n credu sydd ganddyn nhw ac yn y blaen. Yr hyn a wnaf, yn syml, yw hysbysu am y sgyrsiau uniongyrchol yr wyf i wedi eu cael gyda'r unigolyn y mae'r Aelod wedi ei henwi, a rhoddaf iddo'r sicrwydd llwyr hwn nad yw'r pethau y mae wedi eu darllen yn y papur newydd erioed wedi codi mewn unrhyw sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, a bod y cywiriad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd ei gynnwys yn y stori honno yn cynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru 100 y cant.

Prif Weinidog, yn yr achos enwog pan wnaeth John Howard ddiswyddo ei holl benaethiaid adrannol 20 mlynedd yn ôl yn Awstralia, cyfeiriwyd ato fel 'noson y cyllyll hir'. Nawr mae eich Llywodraeth chi yn gwadu pob gwybodaeth am sgyrsiau y mae sawl ffynhonnell uwch wedi mynnu eu bod wedi digwydd. Mae'n ymddangos mai noson y cofion byr yw hon. Nawr, roedd yn dweud yn yr erthygl eich bod chi'n awyddus i gael dechrau newydd, ond i roi mwy o hygrededd i'r hyn a ddywedasoch nawr, heddiw, ar y cofnod, a allwch chi gadarnhau na fyddwch chi nac unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan naill ai'n gwneud cais nac yn cytuno i'r Ysgrifennydd Parhaol derfynu ei chontract yn gynnar? Wedi'r cyfan, mae egwyddor bwysig iawn yn y fan yma—mae'r cliw yn yr enw ysgrifennydd 'parhaol'. Er mwyn gwarchod natur ddiduedd ac annibyniaeth y gwasanaeth sifil, ni ddylai gwleidyddion byth allu diswyddo'r gwasanaeth sifil uwch. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os na fydd unrhyw ddechrau newydd yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf, mai'r bobl fydd y barnwr wedyn, ac mai chi fydd yr unigolyn a ddylai gael ei ddiswyddo wedyn o dan yr amgylchiadau hynny ?

13:50

Wel, gadewch imi geisio achub rhywbeth o gwestiwn olaf yr Aelod a fyddai'n werth ymateb synhwyrol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Adam Price bod annibyniaeth a natur ddiduedd y gwasanaeth sifil yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni busnes, ac mae'n ganolog i'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni busnes yma yng Nghymru, ac nid oes dim y byddaf i'n ei wneud nac y bydd unrhyw Aelod o'm Llywodraeth yn ei wneud i godi unrhyw amheuon ynghylch yr egwyddor honno. Wrth gwrs, roedd yr Aelod yn iawn ein bod ni i gyd, yn y pen draw, yn gweithio i'r bobl sy'n ein hethol ni, ac mae pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—mewn sefyllfa ar ddiwedd tymor Cynulliad lle bydd dyfarniad yn cael ei wneud arnom ni gan y bobl a'n hanfonodd ni yma yn y lle cyntaf, ac felly y dylai hi fod.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gwasanaethau bws Caerdydd mewn argyfwng. Fe wnaeth Bws Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan y cyngor, golled o bron i £2 filiwn y llynedd ac mae'n colli arian ar gyfradd aruthrol. Mae Bws Caerdydd wedi ymateb trwy dorri llwybrau a chodi prisiau tocynnau, sy'n effeithio ar deithwyr, a thrwy israddio tâl ac amodau ar gyfer ei staff ei hun. Mae'n dal i fod heb ffeilio ei gyfrifon ar gyfer y llynedd. Beth yw eich myfyrdodau ar argyfwng bysiau Caerdydd a'i oblygiadau ar gyfer gwasanaethau bysiau yng ngweddill Cymru?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau y mae'n eu codi yn rhai pwysig i bobl sy'n byw yn y brifddinas yn arbennig. Oherwydd y sefyllfa yng nghwmni Bws Caerdydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gysylltu â'r cwmni i gynnig cyngor iddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i'r pwysau masnachol y maen nhw'n ei wynebu ac i wneud penderfyniadau sy'n hybu iechyd hirdymor gwasanaethau bysiau yn y brifddinas.

Rwy'n falch bod camau wedi eu cymryd eisoes ac rwy'n falch bod eich Gweinidog trafnidiaeth eisoes yn rhoi sylw i'r mater ac y bydd trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd. Ond mae problemau gyda thrafnidiaeth yng Nghaerdydd wedi bodoli ers cryn amser, felly rwy'n credu efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau—gwn ei fod yn Weinidog Cabinet galluog iawn, ond efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau y tro hwn. Cyngor Caerdydd sy'n goruchwylio gweithrediad Bws Caerdydd ac yn craffu arno, ond tybed pa mor effeithiol yw'r craffu hwnnw mewn gwirionedd. Nid oes gan Gyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Llafur Cymru chi bwyllgor trafnidiaeth i oruchwylio gweithrediadau bysiau. Caiff Bws Caerdydd ei oruchwylio gan bwyllgor yr amgylchedd mewn gwirionedd, sy'n ymddangos fel pwyllgor eang iawn, a tybed pa mor drylwyr maen nhw'n ystyried y gweithrediadau bysiau. Hefyd, caiff ei gadeirio gan Ramesh Patel, ac fe oedd aelod cabinet y cyngor dros drafnidiaeth tan yn ddiweddar. Felly, i ryw raddau, mae'n craffu i bob pwrpas ar benderfyniadau a wnaed ganddo ef ei hun nid mor bell yn ôl fel yr aelod cabinet. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o hyn, Prif Weinidog, oherwydd pan fo ganddo'r amser i wneud hynny, mae'r Cynghorydd Patel hefyd yn gweithio i chi yn y Cynulliad. A ydych chi'n ffyddiog fod gan bwyllgor yr amgylchedd Cyngor Caerdydd, sy'n llawn aelodau Llafur, y gallu mewn gwirionedd i oruchwylio'r hyn y mae Bws Caerdydd yn ei wneud a helpu i roi trefn ar y llanastr syfrdanol hwn?

Wel, Llywydd, mae trefniant priodol lle ceir bwrdd sy'n gofalu am Bws Caerdydd ac mae'r berthynas rhwng y cwmni a chyngor y ddinas yn un i gyngor y ddinas ei hun i fod yn fodlon â hi, nid i mi. Cyn belled ag y gwelaf i o'r tu allan, rwy'n credu bod y trefniadau craffu hynny yn gadarn. Yn dilyn y Papur Gwyn y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi ei gyhoeddi ac yn y ddadl yn ei gylch yma yn y Cynulliad, gallai arwain at awdurdod trafnidiaeth ar y cyd, a fyddai'n atgyfnerthu'r trefniadau craffu ymhellach dros yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd ond yn fwy eang ar draws holl ranbarth de Cymru a thu hwnt.

Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr awdurdod trafnidiaeth ar y cyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth, ac mae'n well na dim ond dweud, 'Mater i'r cyngor lleol yw hwn', sef y math o ymateb y mae Gweinidogion yn y fan yma yn tueddu i guddio y tu ôl iddo fel rheol. Ond mae'n ddiddorol, onid yw, pan wnaethoch chi ymgyrchu ar gyfer swydd y Prif Weinidog, mai un o'ch polisïau oedd cytuno gyda Jeremy Corbyn bod angen i ni ddychwelyd i gael mwy o gwmnïau bysiau trefol yma yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud yr hyn y dywedasoch chi y byddech chi'n ei wneud ac yn ceisio cael mwy o gwmnïau bysiau trefol, onid yw'n wir mai'r cwbl y byddai hyn yn ei wneud yw ymestyn model aflwyddiannus Caerdydd ledled Cymru gyfan ac achosi mwy o broblemau i drethdalwyr Cymru, sydd eisoes o dan bwysau?

13:55

Wel, yr ateb i hynny, Llywydd, yw: nac ydy siŵr iawn. Oherwydd pe byddem ni mewn sefyllfa, fel yr ydym ni'n gobeithio gallu bod ynddi, i ailgyflwyno ail-reoleiddiad y gwasanaethau bysiau i ddod â gwasanaethau sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud ynddynt eisoes yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd, yna byddem ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n osgoi llawer o'r anawsterau y mae'r model presennol yn ei achosi i'r gwasanaeth bysiau trefol yma yng Nghaerdydd. Rwy'n falch iawn yn wir o gysylltu fy hun â'r cynigion hynny sy'n cael eu datblygu i ddod â gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd a'r bobl hynny sydd eisoes yn talu amdanyn nhw, ac mae'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog yn gam mawr ymlaen ar y daith honno.

Gwerth Gorau am Arian ar gyfer Caffael Cyhoeddus

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau'r gwerth gorau am arian ar gyfer caffael cyhoeddus? OAQ53333

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dull Llywodraeth Cymru o sicrhau'r gwerth gorau o gaffael yn cynnwys sicrhau cymaint â phosibl o wariant yn economi Cymru, sicrhau manteision cymunedol ehangach o'r gwariant hwnnw, a sicrhau bod gwaith teg a safonau cyflogaeth moesol yn cael eu cynnal pan fydd arian yn cael ei wario ar ran y cyhoedd yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad gyda 3SC, menter gymdeithasol a sefydlwyd i wneud ceisiadau am gontractau cyhoeddus ac eraill, gan harneisio grym y trydydd sector i ddarparu'r contractau hynny drwy sefydliadau a fyddai ar eu colled fel arall. Yn y digwyddiad, lansiwyd eu papur safbwynt, 'The Crisis in Public Sector Contracting and How to Cure It: A Wales Perspective', ganddyn nhw gan dynnu sylw at rai o'r heriau y mae'r trydydd sector yn eu hwynebu o ran caffael sector cyhoeddus yng Nghymru a rhai syniadau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain. Er bod y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn tyfu, dywedasant bod y sector yn dal i fod yn fach a heb ei fodloni o ran cyrraedd ei botensial llawn, a bod presenoldeb monopoli mewnol mewn llawer o awdurdodau lleol yr un mor gyfyngol o ran arloesi ac amrywiaeth â phe byddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar gontract allanol gan gwmni sector preifat mawr. Sut, felly, y gwnewch chi ymgysylltu â'r adroddiad hwn i ystyried ei gynigion ar gyfer mwy o sensitifrwydd o ran sut y caiff gwasanaethau eu caffael ac ymrwymiad pendant i'r trydydd sector a sefydliadau llai i sicrhau cyfran resymol o'r bastai caffael cyhoeddus? Yn olaf, lle maen nhw'n dweud bod problemau fel aildroseddu, tai, anabledd a chyflogaeth yn gofyn am gydweithrediad, amynedd a meddyliau clir yn ogystal ag arian, ond arian sy'n cael ei wario nid yn unig gyda golwg ar gael yr ateb rhataf, ond yr ateb gorau—mewn geiriau eraill, partneriaethau â phwrpas iddynt—a wnewch chi ystyried yr adroddiad hwn?

Llywydd, nid wyf i'n gyfarwydd â'r adroddiad, ond byddwn yn sicr yn awyddus i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu fy sylw ato. Mae'n iawn, wrth gwrs: rydym ni'n gwybod y gall ennill contractau fod yn anodd i sefydliadau bach. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i ddod o hyd i ffyrdd y gall sefydliadau bach, pa un a ydyn nhw'n fentrau bach a chanolig eu maint neu'n sefydliadau trydydd sector, ddod at ei gilydd i gydweithio ar geisiadau, i greu consortia, i ffurfio mentrau ar y cyd, ac yn y modd hwnnw gwella eu cyfleoedd o gael gwaith drwy'r broses caffael cyhoeddus. Bydd yr Aelod yn cael ei galonogi o glywed, rwy'n siŵr, bod 58 y cant o fusnesau a ddaeth drwy wefan GwerthwchiGymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd at BBaChau yng Nghymru, ac mae honno'n ganran sylweddol uwch na, gadewch i ni ddweud, dair blynedd yn ôl. Ond os oes syniadau diddorol a newydd yn yr adroddiad, yna byddwn yn awyddus iawn i'w astudio, ac rwy'n ddiolchgar iddo am dynnu fy sylw ato.

Prif Weinidog, roedd y cwestiwn yn canolbwyntio ar werth am arian, ond un o'r meysydd pwysig eraill yw gwerth i economi Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae hefyd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a busnesau annibynnol bach. Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi codi hyn yn aml gyda chi. Enghraifft hefyd allai fod sicrhau bod dur Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. A wnewch chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn hynny o beth, ac a allwch chi roi datganiad ar gynnydd i ni o ran sut mae'r broses gaffael yn newid i sicrhau bod cymaint o fusnesau Cymru a chynhyrchion yng Nghymru yn cael eu defnyddio wrth gaffael yng Nghymru?

Diolchaf i David Rees am hynna. Fel y bydd yn gwybod, yn dilyn yr anawsterau yn y diwydiant dur yn ôl yn 2016, lluniwyd nodyn caffael penodol ar gyfer prynwyr cyhoeddus Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau bod cymaint â phosibl o ddur Cymru yn mynd i'r adeiladau a'r buddsoddiadau seilwaith eraill a wneir ar ran y cyhoedd yma yng Nghymru. Gwnaed cyfres gyfan o bethau, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, i wneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau nid yn unig y gwerth gorau am arian ond y gwerth gorau yn yr ystyr ehangach hwnnw.

Mae'r cynllun manteision cymunedol yng Nghymru yn cwmpasu mwy na 500 o gynlluniau erbyn hyn, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran gwneud yn siŵr bod swyddi lleol, prentisiaethau, hyfforddiant a gwariant ar y gyfres ehangach honno o fuddiannau cymunedol yn deillio o'r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Nodwyd ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesol yn y gadwyn gyflenwi drwy ddigwyddiad ym mis Ionawr yr oedd Ken Skates yn bresennol ynddo i ddathlu'r ffaith fod 150 o sefydliadau yng Nghymru wedi ymrwymo i'r cod hwnnw, sy'n enghraifft ymarferol wirioneddol o'r synnwyr ehangach hwnnw o sut y gellir dod o hyd i'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud gwerth gorau yn economi Cymru.

14:00
Lliniaru Tagfeydd Traffig yn Ne-ddwyrain Cymru

4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch lliniaru tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53372

Diolchaf i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan drafod materion trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar dde-ddwyrain Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Mae llygredd aer a achosir gan dagfeydd traffig llonydd rheolaidd ar yr M4 yn ardal Casnewydd eisoes ar lefelau uchel. Mae'n broblem hirsefydlog, sy'n parhau i waethygu, ac yn cynrychioli risg sylweddol i iechyd fy etholwyr i. Mae cludiant cyhoeddus gwell, rheolaidd, dibynadwy a fforddiadwy yn bwysig i Gasnewydd, ond ni fydd yn datrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae'r ystadegau traffig dangos yn eglur nad pobl Casnewydd yw prif achos y tagfeydd, ond nhw yw'r rhai sy'n gorfod byw gyda'i ganlyniadau yn feunyddiol.

Pan fo digwyddiadau ar y draffordd, fel yr oedd y bore yma i'r ddau gyfeiriad, mae tagfeydd a llygredd aer yn tagu Casnewydd ymhellach. Prif Weinidog, mae hwn yn fater sy'n gofyn am atebion tactegol byrdymor a strategol hirdymor. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid yw gwneud dim yn ddewis. Tra ein bod ni'n aros yn eiddgar am ganlyniadau'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a wnewch chi ystyried ffurfio tasglu o arbenigwyr, sy'n cynnwys pobl, busnesau a chynrychiolwyr lleol, i ystyried y dewisiadau uniongyrchol sydd ar gael?

Llywydd, a gaf i ddweud bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, er bod y ddadl ar lawr y Cynulliad yn canolbwyntio yn gwbl ddealladwy ar adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol a'r hyn y gallai hwnnw ei wneud yn y dyfodol, mae hynny rai blynyddoedd i ffwrdd, yn anochel, beth bynnag fydd canlyniad hynny, tra bod y problemau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn broblemau sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd? Gwn ei bod wedi cyfarfod gyda'r Gweinidog yn y diwrnodau diwethaf i drafod y camau hynny sydd eisoes yn cael eu cymryd yn ardal Casnewydd i fynd i'r afael â'r materion y mae Jayne Bryant wedi tynnu sylw atynt.

Nawr, mae'r syniad o ffurfio tasglu o arbenigwyr i edrych, fel y dywedodd, ar y dewisiadau uniongyrchol yn ymddangos i mi fel un deniadol iawn. Gofynnaf i'r Gweinidog, Ken Skates, ei drafod gyda Jayne Bryant yn uniongyrchol ac ymhellach. Mae gwaith a wnaed eisoes gyda'r awdurdod lleol o ran cynlluniau ansawdd aer lleol, felly byddai gan grŵp gorchwyl a gorffen o'r fath waith y byddai'n gallu manteisio arno wrth geisio llunio rhai atebion ar unwaith i'r anawsterau a wynebir yn y rhan honno o Gymru, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am godi'r posibilrwydd hwnnw gyda ni y prynhawn yma.

Prif Weinidog, cyhoeddwyd datganiad yr wythnos diwethaf, wedi ei lofnodi gan ddwsinau o fusnesau ac arweinwyr cyngor, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Roedd y llofnodwyr yn cynnwys Syr Terry Matthews a phenaethiaid busnesau fel Aston Martin, Tata ac Admiral—cwmnïau a ddisgrifiwyd gan gyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru fel pobl sydd â'u bys ar guriad calon economi Cymru.

Cyhuddodd un cwmni eich Llywodraeth o oedi i roi amser i'w hun a chwilio am resymau i beidio ag adeiladu'r ffordd liniaru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r busnesau a'r arweinyddion cyngor hyn bod gohirio penderfyniad yn dal economi Cymru yn ôl ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i roi dyddiad pan fydd y mater hwn yn cael ei ddwyn gerbron y Cynulliad hwn? Mae wedi bod ar y gweill ers yr wyth i 10 mlynedd diwethaf bron, ac mae bob diwrnod sy'n mynd heibio yn ychwanegu at y gost o adeiladu, neu ba ffordd bynnag yr hoffech chi feddwl amdano. Mae angen taer i'r ffordd hon gael ei datblygu, a gwneud yn siŵr o'r tagfeydd hyn, a fyddai'n gwella ein heconomi, ein hiechyd, ein haddysg ac, yn fwy nag unrhyw beth arall, ein chwaraeon. Diolch.

14:05

Wel, Llywydd, roeddwn i'n gwrando pan ofynnodd arweinydd yr Aelod yr union gwestiynau hynny i mi yn gynharach y prynhawn yma ac nid wyf i'n credu y gwnaf i gymryd amser yr Aelodau drwy ailadrodd yr un atebion, gan fod yr Aelodau wedi clywed yr un cwestiynau eisoes.

Datganoli Gweinyddol mewn Cysylltiad â Lles

5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran datganoli gweinyddol mewn cysylltiad â lles? OAQ53335

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Byddwn yn ystyried yr achos dros ddatganoli gweinyddu agweddau ar y system fudd-daliadau i Gymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn cymryd i ystyriaeth gwaith pwyllgorau'r Cynulliad ar y mater hwn a phrofiad mewn mannau eraill. Byddai'n rhaid i'r cyllid angenrheidiol fod ar gael ar y cyd ag unrhyw drosglwyddo swyddogaethau.

Mae'r cwestiwn o ba un a all datganoli gweinyddol agweddau ar les ddod â manteision trwy gyfochri lles yn well gyda pholisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi ac i ymdrin â darparu cyfle i bawb yn un sydd wedi bod o gwmpas ers peth amser. Ond roedd gwefr o gyffro yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, yn sgil ymateb y Prif Weinidog, yr oedd croeso mawr iddo, i gwestiwn fy nghyd-Aelod John Griffiths ar 15 Ionawr bod yr achos wedi ei wneud dros ymchwilio i ddatganoli'r agweddau gweinyddol ar les. Mae'n rhywbeth yr oeddwn i'n credu ddylai fod yn agored i'w ystyried pan yr oeddwn i'n Weinidog ac rwy'n dal i'w gredu nawr. Felly, gan gydnabod bod peryglon, y tynnwyd sylw atyn nhw yn wir gan ddatganoli budd-dal y dreth gyngor, pryd y gwnaeth Llywodraeth y DU dro gwael iawn â ni—dyna wers a ddysgwyd—byddwn yn ei annog i ymchwilio o ddifrif i hyn , ond gyda diwydrwydd dyledus, gydag amynedd, heb ildio i or-frwdfrydedd y rhai a fyddai'n anwybyddu unrhyw beryglon ac yn ceisio sicrhau'r datganoli hwn ar unrhyw gost i'n sylfaen ariannol yng Nghymru a dinasyddion Cymru, nac ildio i'r gor-ofalus a fyddai'n dweud bod hyn yn rhy beryglus i'w ystyried hyd yn oed. A allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni nawr sut y gallai fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac yn unol â pha amserlen gyffredinol efallai, a pha un a wnaiff ef fanteisio ar adroddiad Sefydliad Bevan wrth wneud hynny?

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna, gan mai'r ysbryd y mae'n awgrymu y dylem ni fynd ati i wneud hyn yw'r union ffordd yr wyf i eisiau i ni ei wneud? Rwyf i eisiau i ni ei wneud o ddifrif, rwyf i eisiau i ni ei wneud mewn modd cadarnhaol, ond rwyf i eisiau i ni ei wneud mewn ffordd sy'n cydnabod y bydd anawsterau ar y ffordd yn ogystal â manteision i'w hennill. Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith nad yw gweinyddu rhannau o'r system fudd-daliadau yn syniad hollol newydd cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cadw cynllun budd-dal treth gyngor yma yng Nghymru, y ffaith bod gennym ni gronfa cymorth dewisol, y ffaith ein bod ni'n cymryd camau i ddiddymu carchar fel canlyniad o beidio â thalu'r dreth gyngor ac i ryddhau'r rhai iau na 25 oed sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth gyngor—mae'r pethau hynny i gyd yn enghreifftiau o sut, pan fydd y gallu gennym ni i'w wneud, yr ydym ni'n defnyddio'r pwerau sydd gennym ni eisoes yn y maes gweinyddu budd-daliadau. Cyfeiriodd yr adroddiad a luniwyd gan bwyllgor ein cyd-Aelod John Griffiths at rai o'r effeithiau ar bobl yng Nghymru, er enghraifft, y drefn cosbau budd-dal. Ac rydym ni'n ymwybodol o'r ffordd gosbol y mae hynny wedi cael ei weinyddu yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a dyna pam yr wyf i wedi ymrwymo i ystyried a oes ffyrdd eraill y gallem ni wneud pethau'n wahanol ac yn well yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ymchwilio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru pa un ai nhw a allai fod y ffordd orau y gallwn ni gymryd y camau cyntaf hyn ymlaen, gan edrych ymhellach ar y dystiolaeth y mae'r pwyllgorau wedi ei hystyried, edrych ar brofiad yr Alban hyd yn hyn, ac yna darparu sail dystiolaeth i ni o'r fath y mae Huw Irranca-Davies wedi cyfeirio ati, un lle mae gennym ni ddewrder i ystyried pethau a allai fod yn newydd i ni ond yn ddigon effro i'r peryglon a allai fod yno o hyd.

Rwy'n credu, a bod yn blaen, Prif Weinidog, mai rhywbeth pitw iawn fyddai datganoli gweinyddol yn y maes hwn. Nawr, ers 1945, y contract cymdeithasol a fu'n sylfaen i'r wladwriaeth les yw bod gan ddinesydd berthynas uniongyrchol â'r wladwriaeth ar gyfer lefel o ddiogelwch economaidd ac, ni waeth ble mae ef neu hi yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod ganddo'r un hawliau economaidd sylfaenol i fudd-daliadau. Os byddwn ni'n ymyrryd â'r egwyddor hon, gallem ni yn y pen draw chwalu'r consensws hwnnw yr ydym ni'n ei fwynhau ar hyn o bryd ac sy'n cynnal gwladwriaeth les. Mae angen i ni fod yn ofalus dros ben ynghylch y math hwn o ddarnio.

Wel, Llywydd, nid yw hon yn egwyddor a oedd yn apelio i Lywodraeth yr Aelod ei hun pan orfodwyd gweinyddu'r dreth gyngor arnom ni yma yng Nghymru ganddynt, pan wnaethant ddatganoli'r gronfa gymdeithasol i ni erbyn ein dymuniadau, pan wnaethant fynnu ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb am y lwfans byw i'r anabl heb ofyn i ni o gwbl amdano yn gyntaf. Ond, a dweud y gwir—. Welwch chi, rwy'n digwydd cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond rwy'n gwneud gwahanol wahaniaethiad iddo ef. Nid wyf i eisiau gweld y system budd-daliadau treth yn cael ei chwalu; rwy'n credu ei bod hi'n rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig at ei gilydd. Nid wyf i'n sôn am ddatganoli cyfrifoldeb polisi am y materion hyn; rwy'n sôn am ddatganoli gweinyddol—y gallu nid i ni gael system wahanol yng Nghymru, ond am y ffordd y mae'r system honno yn cael ei darparu ar lawr gwlad i fod yn nwylo Cymru—ac rwy'n credu bod hwnnw'n  fater gwahanol i'r perygl y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, a pherygl yr wyf i'n digwydd ei rannu, mewn gwirionedd.

14:10

Rwy'n croesawu'r newid diweddar gan y Llywodraeth Lafur pan ddaw i ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles. Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl i, nac ym meddyliau llawer o bobl sy'n gweithio i asiantaethau cynorthwyo pobl ddigartref, bod cyni cyllidol yn gysylltiedig â'r cynnydd syfrdanol i gysgu ar y stryd amlwg ar ein strydoedd, ac nid yw'n syndod y dywedwyd gan Shelter Cymru bod hyn yn cyrraedd pwynt argyfwng. Mae gan yr Alban bwerau helaeth dros les eisoes, diolch i'r Llywodraeth ragweithiol gan Plaid Genedlaethol yr Alban sydd mewn grym yno, ac maen nhw'n gwneud yn llawer gwell o ran digartrefedd. Felly, a wnewch chi gomisiynu astudiaeth i ystyried sut y gwnaethant liniaru toriadau lles o San Steffan fel bod cynllun gweithredu yn barod i fynd os byddwn ni'n gallu cael y pwerau hynny yng Nghymru? Ac a wnewch chi gytuno hefyd i adolygu'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud yn y cyfamser, gan ddefnyddio eich pwerau presennol, i roi rhywfaint o ryddhad i'r argyfwng digartrefedd cynyddol sydd gennym ni yma yn y wlad hon?

Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood mai'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y strydoedd yw'r arwydd mwyaf gweladwy o'r oes o gyni cyllidol, ac mae'n newid sylweddol i'r ffordd yr ydym ni'n gweld yr argyfwng hwnnw ym mywydau pobl o'n blaenau bob dydd, o'i gymharu â degawd yn ôl. Rwyf i eisiau dysgu o'r profiad o ddatganoli lles yn yr Alban. Mae'n broses y bydd hi'n ymwybodol nad oes disgwyl iddi gael ei chwblhau tan 2021, felly mae ar y camau cynnar iawn, ond, serch hynny, yn y fath o astudiaeth y cyfeiriais ati yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, rwy'n credu bod dysgu am brofiad yr Alban yn bwysig i ni. Yma yng Nghymru, cyn belled ag y mae cysgu ar y stryd yn y cwestiwn, rydym ni'n rhoi mwy o arian i wasanaethau digartrefedd y flwyddyn nesaf yn ogystal ag eleni, a cheir amrywiaeth eang o fentrau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog a oedd yn gyfrifol amdano ar y pryd, Rebecca Evans, cyn y Nadolig. Rydym ni wedi gweld rhai ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn bod rhai arwyddion cyntaf bach iawn bod y mentrau hynny yn dechrau gwneud gwahaniaeth, a hoffwn i ni barhau i wneud mwy i fynd i'r afael â'r arwyddion annymunol dros ben yr ydym ni'n eu gweld o'n cwmpas o bobl sy'n cael eu gorfodi i fwy eu bywydau o dan amgylchiadau na fyddai yr un ohonom ni'n barod i'w hystyried fel bod yn dderbyniol.

Categoreiddio Ysgolion

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gategoreiddio ysgolion? OAQ53376

Diolch i Suzy Davies am hynna. Nid yw categoreiddio yn arwydd o lwyddiant na methiant ond mae'n fodd o nodi lefel y cymorth sydd ei hangen ar ysgol. Dangosodd ffigurau yr wythnos diwethaf bod cyfran gynyddol o ysgolion yn dod yn hunan-gynhaliol ac angen llai o gymorth allanol. Mae honno'n duedd ar i fyny o flwyddyn 2015 ymlaen.

Ydy, ac rwy'n gobeithio y byddem ni i gyd yn hoffi ymuno i longyfarch yr ysgolion hynny sy'n canfod nad oes angen cymorth arnyn nhw mwyach; fel y dywedwch, diben categoreiddio yw nodi pa un a oes angen cymorth ychwanegol ar ysgolion. O ystyried rhai o'r canlyniadau TGAU a Safon Uwch a welsom eleni, fodd bynnag, a'r ffigurau diwygiedig ar y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion, a gawsoch chi eich synnu yr ystyrir bod llai o ysgolion angen rhywfaint o gymorth erbyn hyn? A byddwn hefyd yn awyddus i gael gwybod pa un a ydych chi'n credu bod y system yn gwasanaethu'n dda yr ysgolion hynny sy'n dda ond a allai fod yn rhagorol, oherwydd ni ddylai da fod yn ddigon i'n staff a'n myfyrwyr mwyaf galluog a dawnus?

Rwy'n credu bod perygl efallai fod yr Aelod yn cymysgu dau wahanol fater—y perfformiad o ran canlyniadau arholiadau, sy'n bwysig iawn, a'r angen i ysgol gael cymorth. Oherwydd y pwynt pwysig a wnaeth yw hwn—y gallai fod ysgol y mae'n ymddangos ei bod wedi cael canlyniadau arholiadau da iawn, ond lle dylai'r canlyniadau hynny fod yn well byth, o ystyried natur y disgyblion sy'n mynychu. Ac efallai fod angen cymorth ar yr ysgol honno. Efallai y bydd angen cymorth arni er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cynnig y gwerth ychwanegol y dylai ysgol ei gynnig, yn dibynnu ar natur ei dalgylch. Felly, yn yr ystyr hwnnw, nid wyf i'n synnu at y ffigurau yr ydym ni'n eu gweld yn y fan yma, oherwydd nid wyf i'n credu bod cysylltiad mor uniongyrchol rhwng y ddau beth ag yr oedd y cwestiwn atodol yn ei awgrymu.

Wrth gwrs, rwy'n falch o weld bod mwy o ysgolion angen llai o ddiwrnodau o gymorth, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n dangos gwelliant yn y system. A lle nad yw hynny'n digwydd, a lle mae gennym ni nifer fach, ond sy'n peri pryder, o ysgolion nad ydyn nhw'n gallu dianc o'r categori coch, gwn fod fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu datganiad iddi, ar lefel ysgol, o'r cynlluniau sydd ar gael i wneud yn siŵr bod yr ysgolion hynny yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yn siŵr eu bod hwythau hefyd yn rhan o'r darlun hwn sy'n gwella.

14:15
Effaith Brexit heb Fargen ar y Sector Modurol yng Nghymru

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378

Diolchaf i Lynne Neagle. Mae ein hasesiad yn parhau i ddangos y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychinebus i'r sector modurol. Dylai Llywodraeth y DU gymryd posibilrwydd o'r fath oddi ar y bwrdd a dylid ceisio estyniad nawr i'r amserlen erthygl 50.

Diolch, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r wers o'r penwythnos, a'r newyddion drwg iawn gan Nissan, yw er mai dim cytundeb fyddai'r canlyniad gwaethaf un i'r diwydiant modurol, y gwir amdani yw y bydd unrhyw Brexit yn golygu y bydd dadleuon ac ansicrwydd yn parhau am flynyddoedd, a bod bob dydd o ansicrwydd yn ddiwrnod pan fo buddsoddwyr yn aros i ffwrdd ac mae swyddi o dan fygythiad, yn enwedig mewn etholaethau fel fy un i? Ac a fyddai'r Prif Weinidog hefyd yn cytuno, pa bynnag gytundeb Brexit a wneir, mai dim ond Brexit dall y bydd beth bynnag, gan mai dim ond rhestr o ddymuniadau gwleidyddol yw'r datganiad gwleidyddol sy'n ategu'r cytundeb ymadael, sy'n cyfateb i bethau cysurus fel bod yn fam a theisen afal, a pha un a fydd yn gytundeb Mrs May, neu Norwy a mwy, neu'n unrhyw fath arall o Brexit, ei bod yn debygol y bydd y trafodaethau a'r ansicrwydd niweidiol yn parhau am flynyddoedd i ddod?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn hollol iawn mai ansicrwydd yw gelyn buddsoddiad ac mae honno'n neges y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a chyrff eraill sy'n arwain eu diwydiannau wedi ei chyfleu ers misoedd ar fisoedd ar fisoedd. Iddyn nhw, nid yw Brexit yn rhywbeth a fydd yn digwydd ar ôl 29 Mawrth, mae Brexit yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer erbyn hyn, ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn busnesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, lle mae pethau a fyddai wedi cael eu gwneud ac a fyddai wedi bod ar waith a byddai ffyniant wedi cael ei gefnogi—nid yw'r pethau hynny yn cael eu gwneud oherwydd yr ansicrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi llwyddo i wneud smonach o Brexit hyd at y llinell olaf un. Ac, wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn—bydd hi'n cofio'r ddadl a gawsom ni yma ar lawr y Cynulliad pan wnaeth Mrs May gyhoeddi ei chytundeb gyntaf. Mae pethau sydd yn anghywir gyda'r cytundeb ymadael, a chyfeiriwyd at y rheini gennym ni yn y fan yma. Ond mae'r pethau sy'n anghywir gyda'r datganiad gwleidyddol yn fwy arwyddocaol fyth, ac mae disgwyl i'r Cynulliad hwn neu unrhyw un arall i gytuno i'r ddogfen simsan honno heb unrhyw fath o sicrwydd ynghylch y math o ddyfodol sydd ei angen arnom ni yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd—does dim rhyfedd ei bod hi wedi dioddef y trechiad a wnaeth, a does dim rhyfedd nad oedd y Cynulliad hwn yn barod i'w gefnogi ychwaith.

Datblygu Cyfranogiad mewn Chwaraeon

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon? OAQ53371

Ymhlith ein blaenoriaethau y mae cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon gan grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol, y ddarpariaeth o chwaraeon cymunedol a chryfhau'r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol a llesiant.

Prif Weinidog, mae llwyddiant ar lefel broffesiynol yn bwysig iawn o ran ysbrydoli mwy o gyfranogiad ar lawr gwlad, ac yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod llwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dychwelyd i gynghrair pêl-droed Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf, yn cyflawni dihangfa wyrthiol rhag cwympo o'r gynghrair ac yna cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Lloegr y llynedd, gan drechu Leeds United, cael gêm gyfartal â Tottenham Hotspur a mynd i Wembley ar gyfer y gêm ailchwarae, a heno eto yn wynebu Middlesbrough ym mhedwaredd rownd Cwpan Lloegr ar ôl trechu Dinas Caerlŷr yn y rownd ddiwethaf. A fyddech chi'n cytuno â mi bod hyn yn gosod esiampl wych i'r rhai sy'n ystyried cymryd rhan mewn pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghasnewydd, Prif Weinidog? Ac a wnewch chi hefyd ymuno â mi i anfon dymuniadau da i Gasnewydd ar gyfer y gêm heno?

Diolchaf yn fawr iawn i John Griffiths am y cwestiwn yna. Rwy'n sicr yn ymuno ag ef i anfon, rwy'n siŵr, dymuniadau gorau'r Cynulliad cyfan i Gasnewydd yn eu gêm ailchwarae yn erbyn Middlesbrough heno, sy'n rhan o'r hanes rhyfeddol hwnnw y mae Casnewydd wedi ei ddatblygu yn y blynyddoedd diwethaf mewn cystadlaethau cwpan. Ac, wrth gwrs, mae e'n hollol iawn bod eu llwyddiant yn ysbrydoli pobl yn fwy eang yn yr ardal, yn y sir. Gwyddom fod ymddiriedolaeth gymunedol Clwb Pêl-droed Casnewydd yn weithgar iawn—mae 48 y cant o bobl ifanc yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos, ond mae'r ffigur ar gyfer Casnewydd yn 58 y cant, ac nid oes amheuaeth bod hynny'n rhannol oherwydd effaith yr ysbrydoliaeth o fod â chwaraeon proffesiynol llwyddiannus yn yr ardal. Dymunwn bob lwc iddyn nhw yn eu gêm ailchwarae heno.

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad a'r cyhoeddiad—Rebecca Evans.

Mae dau ddatganiad ychwanegol wedi eu hychwanegu at agenda heddiw, un ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd a'r wybodaeth ddiweddaraf ar y model buddsoddi cydfuddiannol yng Nghymru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ystadegau amseroedd aros diweddaraf ar gyfer cleifion damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Nghymru? Y mis diwethaf, gwelwyd y gyfradd isaf a gofnodwyd erioed ar gyfer mis Rhagfyr, gyda 77.8 y cant o gleifion yn unig yn cael eu gweld o fewn yr amser aros targed o bedair awr. Arhosodd dros 18,000 o gleifion am fwy na phedair awr, gyda 4,000 eisoes yn aros dros 12 awr cyn iddyn nhw gael eu gweld gan weithwyr iechyd proffesiynol. O gofio mai yn 2008 y pennwyd yr amser aros targed, ac nad yw erioed wedi ei fodloni, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch y rhesymau pam mai amseroedd aros damweiniau ac achosion brys y mis diwethaf oedd y gwaethaf ar gofnod ers mis Rhagfyr llawer o flynyddoedd? Diolch.

Diolch am hynny. Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinidog iechyd yn cyflwyno datganiad yr wythnos nesaf ar bwysau'r gaeaf ar ofal heb ei drefnu.

Hoffwn i gael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar eich polisi o ran cartrefi gofal a diogelu a chadw cartrefi gofal cyhoeddus yn y sector cyhoeddus. Rwyf yn codi’r mater hwn oherwydd bod cyngor Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Llafur, yn bwriadu trefnu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat ar gontract allanol yn sgil rhaglen foderneiddio honedig ar gyfer gwasanaethau i'r henoed. Mae hyn yn golygu bod cartrefi preswyl ym Mhentre, Treorci, y Gelli, Trealaw, y Porth a Glynrhedynog, ynghyd â rhai gwasanaethau gofal dydd, yn cael eu hadolygu, ac felly, dan fygythiad. Mae hyn wedi achosi llawer iawn o bryder dealladwy i’r bobl leol yr wyf wedi siarad â nhw. Felly, a oes modd ichi roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwn drwy gyflwyno datganiad gan y Llywodraeth ar ei strategaeth gofal?

Rwyf newydd gwrdd ag Imam Sis, aelod Cwrdaidd o Blaid Cymru, sydd wedi bod ar streic newyn ers 16 Rhagfyr mewn protest oherwydd gorthrwm Twrci ar ei phobl. Yn ganolog i'r ymgyrch hon, ceir yr ymgais i ryddhau arweinydd Plaid Gweithwyr Kurdistan, Abdullah Öcalan, o garchar yn Nhwrci. Carcharwyd ef ers 1999, dan yr amodau mwyaf ofnadwy. Yn gywilyddus, mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu hyn. A wnewch chi ymuno â Phlaid Cymru wrth ddangos undod â dinasyddion Cwrdaidd Cymru sy'n protestio yn erbyn gorthrwm ac yn sefyll dros ryddid?

Cefais fy ysgwyd wrth glywed am achos y teithiwr o Gaerdydd, Gilbert Watt, a gafodd, gyda chymorth yr heddlu, ei daflu allan oddi ar fws National Express yr oedd ganddo docyn dilys ar ei gyfer. Rastaffariad du yw Mr Watt, a oedd yn ymweld â'i bartner o Lundain, ac roedd wedi bod ar y daith hon gan ddefnyddio e-docyn nifer o weithiau o’r blaen heb unrhyw broblemau. Mae'r ffaith bod National Express bellach wedi ymddiheuro ac wedi cynnig i’w ad-dalu, ynghyd â 10 taith am ddim, yn arwyddocaol iawn i mi. A ydych chi, fel fi, yn amau bod hiliaeth y tu ôl i’r digwyddiad hwn? Ac a wnewch chi ddatganiad cryf yn erbyn gweithrediadau o'r fath, sy’n amlwg iawn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl?

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe byddech chi’n ymuno â mi i gydnabod gwaith Elfed Wyn Jones, Osian Hedd Harris, Aron Tudur Dafydd, Grisial Hedd Roberts, Iestyn Phillips a Caleb Siôn Davies ar ôl iddyn nhw gymryd camau cyflym a chadarnhaol i adfer y graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud? Mae hwn yn arwyddnod o bwys cenedlaethol. Felly, fel llawer o bobl ledled Cymru, roeddwn i wedi dychryn pan glywais ei fod wedi cael ei ddifwyno. Gweithiodd y bobl ifanc hyn drwy'r nos, nos Sul, i unioni'r camwedd hwn, ac maen nhw wedi dangos gwybodaeth o’u hanes eu hunain ond hefyd wedi dangos eu bod nhw’n benderfynol o gyflawni newid cadarnhaol. Mae enghreifftiau fel hyn yn rhoi gobaith mawr i mi ar gyfer dyfodol y wlad hon, felly a wnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch y bobl ifanc hyn am y camau a gymerwyd ganddyn nhw yn ystod y penwythnos?

14:25

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i longyfarch y bobl ifanc hynny am y gweithredu dros y penwythnos yn wyneb yr hyn yr wyf yn ei gredu oedd yn weithred arbennig o ddisynnwyr a dideimlad ynglŷn â’r gofeb ‘Cofiwch Dryweryn’.

Byddwn yn sicr yn dweud bod Cadw, rwy'n credu, wedi edrych yn y gorffennol i weld a ddylai fod yn strwythur rhestredig ai peidio, a gwn na fyddai bod yn strwythur rhestredig hyd yn oed yn atal y math hwn o beth rhag digwydd eto. Ond gwn y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb ynghylch yr hyn y gallem ei wneud i warchod y safle yn well yn y dyfodol.

Ar y mater a godwyd gennych am ddinasyddion Cwrdaidd yng Nghymru, gallaf gadarnhau bod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi codi’r mater hwn gyda llysgennad Twrci yr wythnos diwethaf, ac efallai y bydd hi’n gallu ysgrifennu atoch gyda mwy o gadarnhad ynghylch y sgyrsiau hynny a gafodd hi.

Ar y mater gwahaniaethu, yn amlwg, byddem ni’n gwrthwynebu gwahaniaethu lle bynnag y bo hynny'n digwydd. Ac, yn sicr, byddai gan sefydliadau a busnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod eu staff yn ymddwyn mewn ffordd sy’n cadw at lythyren ac ysbryd y ddeddfwriaeth gydraddoldeb i raddau helaeth bob amser, a byddwn yn pryderu o glywed am unrhyw enghreifftiau lle nad oedd hynny’n digwydd.

Ar y mater strategaeth gofal, gwn y bydd gennych gyfle i godi’r pryderon hyn yn y cwestiynau iechyd a fydd yn digwydd yfory.

Hoffwn godi dau fater a gofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog economi a thrafnidiaeth ynghylch diogelwch ar y ffyrdd ar yr M4 rhwng cyffordd 44, sydd yn fy etholaeth i, a chyffordd 46 sydd, rwy'n credu, yn etholaeth y Gweinidog? Mae nifer fawr o ddamweiniau wedi digwydd, ac mae’r bobl leol wedi sôn am ddraenio dŵr ac wyneb y ffordd yn yr ardal honno. 

Yn ail, a gaf i fynd yn ôl at y swyddi sy’n cael eu colli yng nghanolfan alwadau Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedasoch chi wrthyf fod y gyfran gyntaf o staff hynny wedi gadael ym mis Tachwedd a bod dau gam arall wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn hon. Mae tîm cymorth all-leoli Virgin Media wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu mynediad ar gyfer staff ar y safle i bartneriaid allweddol tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Cynhaliwyd ffair swyddi ar safle Virgin Media ym mis Hydref a chynlluniwyd rhagor o ffeiriau swyddi i gyd-fynd â’r cyfrannau cychwynnol o staff fydd yn gadael. Felly, bydd y ffeiriau swyddi eraill hynny yn cael eu hamseru i gyd-fynd â’r cyfrannau eraill o bobl a fydd yn gadael y cwmni. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth nawr, neu a allwch chi ymateb a rhoi rhagor o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd yno, sy'n effeithio ar eich etholaeth chi, Julie James, ar fy etholaeth innau, a llawer o rai eraill?

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Yn sicr, mae pryder ynghylch y damweiniau sydd wedi digwydd yn ddiweddar rhwng cyffordd 44 a 46 ar y draffordd, ac, yn sicr, roedd yn ddrwg calon gen i glywed am y ddamwain angheuol a ddigwyddodd yn ddiweddar ar gyffordd 45, ac, yn amlwg, byddem yn dymuno cydymdeimlo â theulu’r unigolyn dan sylw. Sicrhau diogelwch ar ein rhwydwaith ffyrdd yw ein prif bryder yn y fan hon, ac mae swyddogion yn aros am adroddiad manwl ac ymchwiliad yr heddlu ynghylch y gwrthdrawiad penodol hwnnw ar hyn o bryd. Gallaf ddweud bod gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio ar y rhan hon o'r M4 rhwng cyffyrdd 45 a 46—ar y ffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin—a bydd rhaglennu'r gwaith yn dibynnu ar flaenoriaethu a’r arian fydd ar gael. Ond yn y cyfamser, bydd ein hasiant yn parhau i arolygu’r rhan hon o’r briffordd yn rheolaidd gan atgyweirio diffygion sy’n ymwneud â diogelwch fel y byddan nhw’n codi.

Ynghylch mater Virgin Media a’r swyddi sy’n cael eu colli, nid oes gen i lawer mwy i’w ychwanegu at yr wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi inni y prynhawn yma. Ond gallaf gadarnhau y bwriedir cael dau gam o ddiswyddiadau pellach yn ddiweddarach eleni, ac y byddwn yn cynnal y ffeiriau swyddi hynny fel eu bod nhw’n cyd-fynd â’r dyddiadau gadael hynny. Gwn fod Mike Hedges a Julie James ac eraill yn ymwneud yn agos iawn â’r mater hwn ac yn siarad â'r gweithlu, ac felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod am unrhyw faterion ychwanegol eraill sydd angen sylw y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gallu helpu gyda nhw.

Trefnydd, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un ohonynt mewn cysylltiad â ffordd newydd sydd wedi ei chynnig gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg rhwng Sycamore Cross a'r M4 ym Meisgyn. Rydym wedi cael newid Llywodraeth, byddwn i’n awgrymu—nid newid plaid, ond newid Llywodraeth—gyda Gweinidog newydd a Phrif Weinidog newydd, a byddai’n ddiddorol i drigolion yr ardal yr effeithir arni yn sicr pe byddai modd cael gwybod a oes unrhyw newid polisi yn y cynllun trafnidiaeth. Oherwydd, yn amlwg, rydym yn ymwybodol bod y dirprwy Weinidog newydd, byddwn i'n awgrymu, yn wrthwynebus i ffyrdd, a byddai’r trigolion yn hoffi deall a oes unrhyw newid o ran cynllunio, ac yn wir, newid i’r cynllunio a'r cymorth a allai ddod gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y prosiect hwn.

Ac, yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros faterion gwledig mewn cysylltiad â’i hymgynghoriad ynghylch Cyfraith Lucy, hynny yw, gwerthu cŵn bach trydydd parti? Mae hyn yn destun dadl fawr ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol wedi cefnogi'r cynnig sy’n ymwneud â Chyfraith Lucy. Dywedir wrthyf yn hyderus y bydd y rhai nad ydyn nhw wedi ei gefnogi yn dod i gytundeb arno cyn bo hir. Deallaf fod y Gweinidog yn bwriadu cyflwyno ymgynghoriad. Hyd yma, nid yw'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod i sylw'r cyhoedd, felly byddai dealltwriaeth o sut y gallai hynny fynd rhagddo yn y dyfodol yn cael ei chroesawu yn fawr iawn.

14:30

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Ar fater y ffordd newydd ym Meisgyn, rwy'n credu efallai mai'r peth mwyaf priodol i'w wneud fyddai ichi ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth er mwyn cael yr eglurder yr ydych yn ei geisio ar ran eich etholwyr yn y fan honno.

Ac ynghylch mater Cyfraith Lucy, byddaf yn sicr yn cael sgwrs gyda'r Gweinidog i gael gwybod pryd y cawn ragor o fanylion ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw ac unrhyw gamau arfaethedig sy'n ei ddilyn.

Hoffwn i godi materion yn ymwneud â thryloywder peirianwaith Llywodraeth Cymru ac atebolrwydd gweinidogol priodol i'r Senedd hon. Ers peth amser bellach, mae yna amwysedd ynglŷn â pha Weinidog sy'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y gwasanaeth sifil sy'n cefnogi gwaith Gweinidogion. Yn San Steffan, mae'r cyfrifoldeb hwnnw wedi ei roi yn glir iawn i'r Prif Weinidog, ond dydy'r rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol diweddaraf ar gyfer Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi llawer o oleuni ar y mater. Ac mae gen i ymateb i ddau gwestiwn ysgrifenedig a oedd wedi eu cyflwyno gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn gofyn i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, egluro sut y mae peirianwaith adrannau'r gwasanaeth sifil wedi newid yn dilyn penodi ei Gabinet newydd. Ac mae o'n dweud mewn ymateb fod cyfrifoldebau staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol ac y bydd Shan Morgan yn ysgrifennu at Adam Price efo ateb. Ac mewn ateb i gwestiwn penodol arall, yn gofyn yn blwmp ac yn blaen pa Weinidog sy'n gyfrifol i'r Cynulliad hwn am y gwasanaeth sifil, yr un ydy'r ateb, sef fod materion staffio wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Parhaol. Rŵan, dwi'n gofyn i chi, felly, am eglurder: pa Weinidog sy'n ateb i'r Cynulliad yma am y gwasanaeth sifil yn ei gyfanrwydd a'r weinyddiaeth yn ei chyfanrwydd sydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru?

Ac ar fater cysylltiedig yn ymwneud â thryloywder y gwasanaeth sifil, dwi wedi bod yn bryderus ers tro am y diffyg gallu i gael gwybodaeth am lefelau staffio a strwythurau staffio o ran safonau'r Gymraeg, achos mae hynny'n gallu effeithio'n uniongyrchol ar bolisi'r Llywodraeth yn y maes yna a chyflawni polisi'r Llywodraeth. Mi fu yn arfer gan y Llywodraeth i gyhoeddi siart strwythur o'r prif adrannau a'r prif uwch-weision sifil arweiniol. Ond dwi wedi bod yn chwilio am siart tebyg, ac mae'r un diweddaraf dwi'n medru dod o hyd iddo fo yn dyddio yn ôl i Fai 2017, ac wedi dyddio hefyd, ac roedd yn rhaid i fi fynd i grombil gwefan Llywodraeth Cymru ac archif o'r cyfnod hwnnw i ddarganfod y siart yma. Mae Llywodraeth Mark Drakeford wedi bod yn awyddus iawn, ar yr wyneb beth bynnag, i bwysleisio ymagwedd newydd at Lywodraeth agored, ac yn yr ysbryd hwnnw felly, allwch chi sicrhau bod yna fersiwn gyfredol o siart strwythur lefel uwch y Llywodraeth a'i hadrannau ar gael ar fyrder i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru?

Diolch am godi'r materion hyn. Ynghylch y cyntaf, nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth at yr hyn a oedd yn y ddau ateb i'r cwestiynau ysgrifenedig i Adam Price. Rwyf wedi gweld yr atebion fy hun, a gwn ei fod yn fwriad, fel y dywedwch, i Shan Morgan ysgrifennu at Adam Price mewn ymateb i'w ymholiadau yntau hefyd.

Byddaf yn sicr yn archwilio'r mater yr ydych wedi ei godi ynghylch tryloywder mewn cysylltiad â safonau'r Gymraeg, o ran yr uwch wasanaeth sifil yn arbennig, a byddaf yn ysgrifennu atoch gyda rhagor o wybodaeth.

14:35

Arweinydd y Tŷ, ddydd Sadwrn diwethaf roeddwn i mewn cyfarfod o Fenywod Castell-nedd Port Talbot yr 1950au—gan wneud yn siŵr fod y derminoleg honno'n gywir gennyf i. Roedd yn llawn dop yn y cyfarfod, gyda dros 400 yn bresennol.  Nawr, rwy'n sylweddoli mai mater i San Steffan yw pensiynau, a'r mater hwn yn benodol, ond mae'r canlyniadau yn digwydd mewn gwirionedd yn y cymwyseddau datganoledig. Os oes gennym ni fenywod na allant bellach ymddeol pryd yr oedden nhw wedi bwriadu gwneud, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu, pwy fydd yn gyfrifol am y cyfrifoldebau gofalu hynny? Byddan nhw'n dibynnu ar y gwasanaethau a gynigir yng Nghymru. Felly, mae nifer o faterion sydd mewn gwirionedd o fewn ein cymwyseddau datganoledig. Mae'n bwysig inni gael bargen deg ar gyfer menywod hyn, ac rwy'n datgan diddordeb yma, Llywydd, gan fod gennyf fi aelodau o'm teulu i—ni fyddaf yn eu henwi nhw, rhag ofn y caf fy saethu pan af i adref—sydd yn y sefyllfa honno. Ond mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod llawer iawn o fenywod yn cael cam i'r fath raddau fel na fyddan nhw'n gallu gadael eu gwaith oherwydd na allan nhw fforddio i adael eu gwaith. Gall fod ganddyn nhw gyfrifoldebau eraill, sy'n rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw. Mae'n bryd i ni nawr wneud cymaint ag y gallwn i'w helpu nhw. A wnewch chi roi datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau a gymerwyd i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau y bydd dinasyddion Cymru sydd yn y sefyllfa hon yn elwa mewn gwirionedd ar y cytundebau? Mae cytundebau amrywiol yn cael eu trafod, ond maen nhw'n haeddu'r hyn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, a hynny yw pensiwn gan y wladwriaeth yn 60 oed.

Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r mater hwn. Fel y dywedwch, nid yw materion pensiwn wedi cael eu datganoli, ond mae'r effaith a gaiff hyn ar y menywod dan sylw yn ofid mawr i Lywodraeth Cymru heb unrhyw amheuaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryderon ynghylch yr effaith anghymesur a gaiff Deddfau pensiwn 1995 a 2011 ar fenywod sydd wedi gweld yr oedran y byddan nhw'n cael pensiwn gan y wladwriaeth yn cael ei godi'n sylweddol, heb rybudd effeithiol na digonol. Ac, fel y dywedwch, mae llawer o fenywod yn y grŵp oedran arbennig hwn wedi gweithio mewn swyddi rhan-amser, swyddi ar gyflog isel yn aml, ac wedi cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant a pherthnasau oedrannus, a hefyd wedi gweld anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cyflog am y rhan fwyaf o'u gyrfa. Felly, mae'n amlwg mai annhegwch mawr yw'r hyn sy'n cael ei wneud i'r garfan arbennig hon o fenywod. Fel y dywedaf, rydym eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ond rydych chi wedi ei godi yma yn y Siambr, ac yn sicr byddwn i fy hunan yn hapus i godi hynny unwaith eto.

3. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd a Chysgu Allan

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol ar ddigartrefedd a chysgu allan. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion. Mae gwireddu'r ymrwymiad hwn wedi bod yn fwy heriol byth oherwydd y cyni ac ansicrwydd parhaus. Yr her fwyaf enbyd a'r fwyaf anodd yw diwallu anghenion y rheini sydd ymhell oddi wrth dai diogel, addas, yn arbennig y rheini sy'n cysgu allan ar ein strydoedd mewn pebyll ac wrth ddrysau siopau, ond hefyd y rhai y mae eu digartrefedd yn llai gweladwy ond yr un mor wir.

Rydym wedi cyhoeddi'r bore 'ma gyfrifiad blynyddol ar gyfer Cymru o'r rhai sy'n cysgu allan. Bwriad y cyfrifiad blynyddol yw nodi pwy sy'n cysgu allan ar noson benodedig. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau'r ymarferiad o gasglu data am bythefnos, gan ddefnyddio gwybodaeth o ystod o wasanaethau, i ddwyn tystiolaeth ynghyd am niferoedd y rhai sy'n cysgu allan dros gyfnod mwy estynedig o amser. Mae'r data yn rhoi cipolwg ar ddarlun sy'n newid yn barhaus. Yn gyffredinol, mae'r data yn dangos y gall ein hymdrechion ni ar y cyd fod yn dechrau cael effaith. Yn wyneb y pwysau cynyddol ar aelwydydd, ymddengys bod nifer y bobl sy'n cysgu allan yn sefydlogi yn gyffredinol, ac, mewn rhai ardaloedd, mae'r niferoedd wedi gostwng. Er hynny, mae hyd yn oed un person yn cysgu allan ar ein strydoedd yn un yn ormod. Fel pob Aelod Cynulliad arall sy'n gyfarwydd â'r sefyllfa hon ar strydoedd yn ein trefi a'n dinasoedd, gwn fod cysgu allan yn dal i ddigwydd yn barhaus ac ar lefel annerbyniol yng Nghymru.

Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i Gymru. Yn anffodus, mae cysgu allan i'w weld ym mhob tref a dinas fawr. Nid yw hyn yn dderbyniol ac, yn fy marn i, nid yw'n anochel. Dylai tai addas fod yn un o'r hawliau dynol sylfaenol mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni, ond mae effaith diwygio budd-daliadau, ynghyd â bron i ddegawd o gyni, yn ychwanegu at y pwysau ar aelwydydd a'u gallu i sicrhau lle i aros sy'n fforddiadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol o ran atal a mynd i'r afael â digartrefedd dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn ychwanegu at y buddsoddiad hwnnw, gyda thros £30 miliwn eto eleni a'r flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai fforddiadwy ac amddiffyn ein stoc o dai cymdeithasol. Gwelir arwyddion bod y cyfuniad o'n deddfwriaeth arloesol ar ddigartrefedd a'r buddsoddiad ariannol hwn yn gwneud gwahaniaeth.

Llwyddwyd i rwystro bron 19,700 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref rhwng mis Ebrill 2015 a diwedd mis Medi 2018. Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol o ystyried bod nifer yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd wedi codi 12 y cant o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn yn y galw, llwyddodd awdurdodau lleol i gynnal lefelau gwasanaeth, gan atal digartrefedd mewn 65 y cant o achosion. Cysgu allan yw'r ffurf fwyaf eithafol a gweladwy o ddigartrefedd. Yn aml mae pobl sy'n cysgu ar ein strydoedd ag ystod o anghenion cymhleth na fydd llety ar ei ben ei hun yn eu datrys. Os ydym ni o'r farn fod niferoedd y rhai sy'n cysgu allan yn digwydd yn barhaus ac yn annerbyniol o uchel, yna bydd yn rhaid inni holi a yw'r modelau ar gyfer ein gwasanaethau yn ymateb yn ddigonol i anghenion y rhai sy'n eu cael eu hunain ar ein strydoedd ni. Mae'n rhaid inni ddysgu o brofiad bywydau pobl a cheisio cael ymatebion arloesol sy'n canolbwyntio ar unigolion.

Mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain a yw'r cyllid ychwanegol wedi cael effaith, ac a yw'r modelau ar gyfer gwasanaeth yn cefnogi anghenion cymhleth pobl yn ddigonol i helpu i'w dwyn nhw oddi ar y strydoedd ac i lety tymor hir. Rwy'n awyddus i awdurdodau lleol fod yn ddewr ac eofn. Rwy'n eu cymeradwyo nhw a phob un unigolyn sy'n gweithio mor galed i gefnogi pobl sy'n cysgu allan a'u helpu i drawsnewid eu bywydau.

Mae rhai dulliau arloesol o weithredu arloesol yn cael eu treialu ledled Cymru. Yn Wrecsam, mae'r ganolfan gofal cymunedol yn un enghraifft o hyn. Fel y gwelodd y Prif Weinidog ei hunan yn ddiweddar, i'r rheini sy'n cysgu allan, mae'n cynnig iddynt ofal gan feddyg teulu, gofal iechyd meddwl, gofal i atal camddefnyddio sylweddau, gyda thai, ac allgymorth, canolfan waith a gwasanaethau cymorth eraill, a'r cyfan i gyd mewn un ystafell. Mae Cyngor Wrecsam yn gweld arwyddion cynnar hefyd o lwyddiant gyda'i ddull o 'allgymorth grymusol'. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar gymorth amlddisgyblaethol sy'n barhaus a phwrpasol, gyda'r prif nod o roi terfyn ar ddigartrefedd.

Rwy'n falch o adrodd ar gynnydd gwirioneddol wrth gyflwyno Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o lwyddiant gyda rhai o'n cysgwyr allan sydd â'r problemau mwyaf cymhleth. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r sector ehangach i gyflwyno rhaglen arall o arloeswyr Tai yn Gyntaf, gyda chymorth mwy na £700,000 o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar sut y byddwn yn cydlynu ac yn rhannu'r arfer gorau o'r prosiectau cynnar hyn.

Mae Tai yn Gyntaf yn rhoi'r gorau i'n dull traddodiadol ni o flaenoriaethu ar sail teilyngdod i helpu i ddwyn pobl oddi ar y stryd. Mae ei lwyddiant yn dibynnu ar y ffaith ei fod yn rhoi'r unigolyn yn y canol. Nid oes angen iddyn nhw ennill teilyngdod i fod ar gam nesaf y daith. Mae'n derbyn y gall unigolion fod â chymysgedd gymhleth o broblemau ac anghenion. Yn y bôn, mae'n cydnabod y gall unigolion reoli neu ymdrin yn well â materion fel salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ac ymgysylltu â gwasanaethau pan fo ganddyn nhw le sefydlog i'w alw'n gartref.

Wythnos neu ddwy yn ôl, ymwelais â phrosiect Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd a chefais gyfle i siarad ag un o ddefnyddwyr y gwasanaeth a chlywed sut y gwnaeth Tai yn Gyntaf wahaniaeth dramatig i'w fywyd. Roedd yn amlwg fod llwyddiant Tai yn Gyntaf yn tarddu o ddwyn amrywiaeth o wasanaethau ynghyd, a phob un yn gweithio mewn ffyrdd newydd, hyblyg ac ymatebol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref.

Cydnabyddir pwysigrwydd ymrwymiad amlasiantaeth a hyblygrwydd yng Ngheredigion hefyd. Maen nhw'n gweld pwysigrwydd cael pob gwasanaeth a'r partneriaid i gydweithio, ac yn chwilio'n ddyfal am atebion i anghenion cymhleth yr unigolion. Mae Ceredigion yn ceisio profi y gall ymrwymiad cyffredin i deilwra gwasanaethau i unigolion, yn hytrach nag o'r tu arall, ddwyn ffrwyth gwirioneddol.

Yn ogystal ag annog awdurdodau lleol i ofyn y cwestiynau anodd iddyn nhw eu hunain, a dysgu oddi wrth ei gilydd a newid eu modelau cyflenwi, byddaf hefyd yn eu hannog i weithio ochr yn ochr â'm hadran i er mwyn ystyried yr hyn y bydd angen ei wneud yn wahanol. Y nod, yn y tymor hwy, yw alinio ein cyllid â strategaethau digartrefedd statudol yr awdurdodau lleol. Bydd yn bwysig i'r cynlluniau hyn ddangos yn eglur sut mae sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd yn strategol i gyflawni'r effaith fwyaf dymunol. Rwy'n awyddus i weld cydweithio gwirioneddol rhwng yr holl bartneriaid mewn ardal. Byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidogion ac i fi fy hun ddarparu'r un lefel o bendantrwydd, ymrwymiad a chydlyniant strategol. Mae amgylchiadau annerbyniol pob dinesydd digartref sydd heb do uwch ei ben yn mynnu hynny, ac nid yw'n haeddu dim llai.

14:40

Hoffwn i ddechrau gyda'r meysydd yr wyf yn credu bod cytundeb llwyr â nhw, fwy na thebyg, ar draws y Siambr, ar y mater hwn o'r pwys mwyaf, yn fy marn i—baromedr cyflawn ar gyfer y math o warineb sydd gennym mewn cymdeithas, neu fel arall. Credaf mai cysgwyr allan yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, o ran bod mor bell o dai diogel ac addas. Roeddwn i'n falch o glywed hynny gan y Gweinidog. Er bod cysgu allan yn rhywbeth parhaus, mae'n beth annerbyniol ac nid yw'n anochel, a dyna'r farn y mae angen inni ei chlywed gan y Llywodraeth. Mae tai gweddus yn hawl dynol sylfaenol. Credaf fod hynny wedi ei ddatgan yn eglur iawn ar ôl yr ail ryfel byd, ond efallai ei fod wedi mynd ar goll dros y degawdau diwethaf i ryw raddau, ac mae angen inni ei ailddatgan. Mae angen inni fod yn ddewr ac eofn—rwy'n hoffi'r geiriau hynny, ac rwy'n eich cymeradwyo amdanynt—a phrofi ein modelau gwasanaeth presennol. Ar yr egwyddorion hyn, gallwn adeiladu consensws a dull cadarn o weithredu ar y mater heriol hwn.

Cyfeiriodd y Gweinidog at lwyddiant y Ddeddf tai o ran ysgogi Cymru i ganolbwyntio ar atal, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl yn canmol dull y Llywodraeth. Felly, gan ganolbwyntio ar un neu ddau o ddiffygion, rwy'n awyddus iawn i fod yn gytbwys a dweud fy mod wedi clywed pobl yn canmol y dull gweithredu ac yn ei wthio ar rannau eraill o'r DU. Serch hynny, clywais hefyd dro ar ôl tro mai diffyg allweddol yn Neddf 2014 yw nad yw ond yn ofynnol i awdurdodau lleol helpu'r rhai sy'n mynd ati i geisio cymorth. Nawr, wrth gwrs, mae llawer yn mynd y tu hwnt i hynny, ond y gofyniad yn ôl y gyfraith yw ymateb i'r rheini sy'n mynd ati i geisio cymorth, a gall yr awdurdodau lleol roi'r gorau i'w dyletswyddau o ran digartrefedd pe na fyddai unigolyn yn cydweithredu â'r awdurdod lleol—unwaith eto, nid yw hynny'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw, ond y bydden nhw yn gallu gwneud felly. Ac, yn olaf, nid yw'r rhai sy'n cysgu allan yn ennill statws angen blaenoriaethol yn awtomatig yn ôl y ddeddfwriaeth.

Nawr, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo model Tai yn Gyntaf, ac rwy'n cytuno â hi mai honno yw'r ffordd orau ymlaen fwy na thebyg o ran mynd i'r afael â'r rhai sy'n cysgu allan. Ond credaf nad yw rhai o'r pethau sydd bellach, os nad ydynt wedi eu hymgorffori, yna wedi eu caniatáu, yn y dull deddfwriaethol yn cyd-fynd yn hollol â hynny. Er tegwch, rwy'n credu ichi gyfeirio at rai o'r anawsterau yn y dull o ennill teilyngdod wrth roi tai. Ond rwyf i'n credu bod angen inni edrych yn ofalus ar y ddeddfwriaeth i weld sut mae'n gweithredu ar y lefel hon o ddod â chymorth i'r rhai sy'n cysgu allan, ac na all yr angen cyfredol i ofyn am gymorth ac yna, mewn ffordd barhaus, gydweithredu fod yno fel prif egwyddor yn y ddeddfwriaeth. Ni ddylid ei ddehongli fel yna, oherwydd, yn amlwg, mae gan y rhai sy'n cysgu allan anghenion cymhleth iawn, iawn, fel y dywedoch chi, ac mae eu hamgylchiadau yn gymhleth iawn hefyd.

Credaf fod y model yn Wrecsam yn wirioneddol galonogol oherwydd mae ganddyn nhw yno yr hyn a alwoch yn 'allgymorth grymusol'. A dyna'r ffordd ymlaen, mae'n ymddangos i mi, o ran sut y byddwn yn dehongli'r ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cadarnhau hynny.

Yn olaf, rwyf am bwysleisio'r gwaith arloesol yn y sector gwirfoddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen erthygl graff a theimladwy Lindsay Cordery-Bruce yn y Western Mail ddoe. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod o'r farn mai hon yw un o'r erthyglau sylwebaeth gorau i mi ei darllen ers blynyddoedd lawer mewn unrhyw bapur newydd, a dweud y gwir, ar y pwnc hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau nad ydyn nhw wedi cael cyfle i'w darllen i wneud hynny. Mae Lindsay yn pwysleisio'r angen am ddull gweithredu, rwy'n dyfynnu

sy'n rhoi'r tosturi yn ôl yn y comisiynu.

Diwedd y dyfyniad. Ac mae angen rhoi sylw arbennig i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nawr, gwn fod y Llywodraeth yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'r sector hwn. Mae hi'n dweud hefyd bod digartrefedd wedi mynd yn argyfwng o ran arweinyddiaeth lawn cymaint ag yn argyfwng o ran tai, a chredaf mai ein dyletswydd ni bellach yw ceisio cyfuno'r consensws egnïol hwn a symud pethau yn eu blaenau.

Ac rwyf am orffen mewn maes arall yn y sector gwirfoddol, gyda Phrif Weithredwr Crisis, John Sparks, a ddywedodd, ar ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw, ac rwy'n dyfynnu:

Mae'n ddim llai na sgandal cenedlaethol fod pobl, noson ar ôl noson, yn dal i orfod cysgu allan ar ein strydoedd, yn enwedig gan y gwyddom pe cymerid y camau cywir y gellid rhoi diwedd ar hynny am byth.

Mae angen i bob un ohonom ni weithio tuag at hynny.

14:45

Diolch i chi am y sylwadau hynny. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw un ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Ceir mymryn bach o bwyslais, efallai—rhyw arlliw bychan—y byddem yn anghytuno ag ef, ond, yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn.

Rwy'n credu bod llawer iawn i'w ddysgu o'r daith hyd yma, yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn nad yw wedi bod yn effeithiol ac, er tegwch, ledled y byd gorllewinol, mae gennym ni broblem gyffelyb, a'r modelau sy'n cael eu datblygu—rydym ni'n ceisio dysgu oddi wrth y gorau yn y modelau hynny. Felly, mae Tai yn Gyntaf yn ymddangos i mi yn ateb synhwyrol iawn yn amlwg ynddo'i hun. Gall fod yn fisoedd lawer, serch hynny, cyn i rywun sydd wedi bod yn cysgu allan gyda nifer o broblemau cymhleth gael y llety diogel sydd ei angen arno. Ond rydym yn golygu ymbellhau i raddau helaeth iawn oddi wrth y math o flaenoriaethu   sydd wedi bodoli hyd yn hyn. Er bod hynny wedi gweithio i rai. Bydd hynny wedi gweithio i rai, ond, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn edrych arno yw'r dulliau sy'n canolbwyntio ar drawma, sy'n unigryw i'r unigolyn, oherwydd mae pob unigolyn yn wahanol. Felly, rwy'n siŵr bod cyfleoedd tai pur dda ar gael y bydden nhw'n fy ngwneud i'n ddigalon iawn ond fe allen nhw wneud rhywun arall yn hapus iawn. Y pwynt yw ceisio darganfod yr hyn y mae'r unigolyn hwnnw'n fwyaf tebygol o allu ei gynnal a pha wasanaethau cymorth y bydd eu hangen i wneud hynny. Mae'n bosibl, i rai, y byddai cael lle mewn fflat a chynnig lefel sylfaenol o incwm yn ddigonol, a byddai angen llawer iawn mwy o gymorth na hynny ar eraill.

Felly, mae'r model yn canolbwyntio ar ddull sydd wedi ei ganoli ar yr unigolyn hwnnw, ac roedd hi'n fraint fawr i gwrdd â gŵr bonheddig a oedd wedi elwa ar hynny ac a oedd yn siŵr iawn na fyddai ef wedi gallu dod i mewn oddi ar y stryd oni bai am hynny. Felly, rwy'n cytuno â hynny. Rydym ni'n edrych, ac mae gennym wahanol adolygiadau yn digwydd, a ddechreuwyd gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog Tai—adolygiadau i angen blaenoriaethol a nifer o bethau eraill y soniodd David Melding amdanyn nhw, yn ystyried yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn sydd ei angen arnom ni i'w wneud i symud y drafodaeth yn ei blaen. Rwy'n falch eich bod yn hoffi model Wrecsam gan fy mod yn credu bod llawer i'w ddweud dros y math hwnnw o allgymorth grymusol, fel y'i gelwir. Wedi dweud hynny, eto i gyd, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni hefyd barchu'r hyn y mae'r unigolyn yn ei farnu sy'n angenrheidiol iddo ac yn gallu ei fynegi i ni. Felly, ystyr hyn yw cydbwysedd gofalus rhwng hawliau unigol yr unigolyn hwnnw a'n hangen ni i gynorthwyo'r unigolyn hwnnw'n ôl i gartref sy'n gynaliadwy.

14:50

Mae eich datganiad yn honni bod nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd yn ymddangos fel pe bai'n sefydlogi, ond mae hynny'n seiliedig ar y cyfrifiad cysgu allan, sy'n parhau i ddangos cynnydd o 45 y cant ers 2015. At hynny, er bod y cyfrifiadau hynny'n ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd, maen nhw'n gallu methu â chyfrif y rhai sy'n cysgu allan sydd wedi eu gyrru i ffwrdd o'r mannau lle mae pobl yn cael eu cyfrif, sy'n digwydd fel y gwyddom o ganlyniad i blismona gorfrwdfrydig, ac mewn rhai achosion hefyd o ganlyniad i bolisi diffygiol. Awgryma'r data eraill sydd gennym fod y broblem ar gynnydd o hyd. Mae cynnydd o 27 y cant yn yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd ers 2015, er enghraifft, yn dangos y niferoedd enfawr yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y cyswllt hwn. Felly, a fyddech chi'n derbyn ei bod yn rhy fuan i ddweud yr ymddengys bod y pwysau sy'n achosi digartrefedd yn sefydlogi? Wedi'r cwbl, nid yw credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno'n llawn eto, ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n debygol o gynyddu digartrefedd eto hyd yn oed.

Yn ail, mae eich datganiad yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arloesol, deddfwriaeth sydd wrth gwrs yn cadw'r prawf Pereira a'r categorïau angen blaenoriaethol, er gwaethaf y cyngor yr oedd y sector cyfan yn ei roi i chi. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at hynny, ac rwy'n dyfynnu,

Mae awdurdodau lleol yn ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd gyda graddau amrywiol o lwyddiant, ond ychydig o bwyslais sydd ar atal achosion sylfaenol digartrefedd.

Nawr, mae eich datganiad yn awgrymu eich bod chi'n gwybod am hyn, oherwydd rydych yn dweud bod angen i'r awdurdodau lleol ofyn rhai cwestiynau anodd iawn, iawn i'w hunain. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa gwestiynau fyddai'r rheini, os gwelwch chi'n dda?

Yn drydydd, ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at adroddiad diweddar Crisis ar sut i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y DU, sef y cynllun mwyaf cynhwysfawr yr wyf i wedi ei weld. A ydych chi'n bwriadu darllen y cynllun hwnnw? Ac yn olaf, mae eich datganiad yn sôn am nifer o brosiectau Tai yn Gyntaf, ac mae Tai yn Gyntaf yn feddylfryd yr ydym ni'n ei gymeradwyo. Mae eich datganiad yn nodi bod mabwysiadu'r model hwn yn ymbellhau oddi wrth ddulliau blaenoriaethu traddodiadol, ond a wnewch chi ymhelaethu ar hyn, os gwelwch yn dda, o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau ac, er enghraifft, ei chyllid i sicrhau symudiad tuag at Dai yn Gyntaf? A wnewch chi esbonio hefyd sut mae cadw at angen blaenoriaethol yn gydnaws â pholisi Tai yn Gyntaf, os gwelwch yn dda?

Ie, diolch i chi am y sylwadau hynny. Byddwn yn hapus iawn i geisio gwneud fy ngorau ynglŷn â'r rhain. Rydym yn cynnal adolygiad o'r system angen blaenoriaethol, a gomisiynwyd gan Rebecca Evans, ac rydym yn gobeithio adrodd yn ôl ym mis Ebrill eleni, gyda golwg ar weld i raddau helaeth iawn yr hyn y mae'r Aelod wedi sôn amdano—yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, yr hyn y dylem ni ei wneud i'w newid, os oes unrhyw beth, ac ati. Felly, rwy'n mynd i aros i weld beth ddaw o hwnnw, ond fe'i comisiynwyd gyda golwg ar lawer o'r pethau a nododd hi yn ei sylwadau.

O ran adroddiad Crisis, rydw i wedi cyfarfod eisoes â Crisis. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Mae gennym ni nifer o gynlluniau peilot ar waith. Rydym yn awyddus i weld sut y caiff y rheini eu gwerthuso. Mae gennym ddiddordeb mawr iawn, iawn o ran edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gyda golwg ar rai o'r pethau—dull Tai yn Gyntaf, y trefniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a nodir yn yr adroddiad hwnnw.

Y cwestiynau y dylai'r awdurdodau lleol ofyn i'w hunain yw: a ydyn nhw'n dysgu o'r arfer gorau o'u cwmpas? Roeddwn i'n sôn am nifer o awdurdodau—Ceredigion, Wrecsam, i enwi dim ond dau—mae gennym ni arfer da yn ein hawdurdodau lleol. Nid yw hynny i'w gael ym mhob awdurdod lleol. Felly, wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, ar gyfer awdurdodau lleol, nid yn unig ym maes tai, rydym yn bwriadu gwthio arfer da ledled y sector awdurdod lleol mewn nifer o ffyrdd. Byddaf yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd yn gywir i wneud yn siŵr ein bod yn gweld yr arfer gorau yn ymestyn ledled Cymru, ac nad ydym yn mynd ar yr un cyflymder â'r arafaf, fel petai, ac nid yn unig o ran tai, mae hynny ar draws amrywiaeth o wasanaethau. Mae gennym ni arferion rhagorol yng Nghymru, ond nid yw hynny mor gyffredinol ag y byddech chi a minnau yn hoffi ei weld yn fawr iawn.

O ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, rwy'n derbyn ei phwynt hi'n gyfan gwbl. Dywedais yn fy natganiad mai cipolwg yw'r cyfrifiad cysgu allan ar ŵyl symudol iawn. Rydym yn gwybod ei fod yn cuddio nifer o ystadegau ynglŷn â phobl nad ydyn nhw mewn llety diogel ond sy'n cael cysgu ar soffa rhywun neu gyda ffrindiau neu deulu. Gwyddom ei fod yn cuddio'r pethau hynny. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi cymryd rhai camau i atal digartrefedd, ond maen nhw'n ymladd yn erbyn y cynnydd mewn tlodi sydd yn cael ei yrru gan gyni, ac yn sicr nid yw cyflwyno'r credyd cynhwysol yn gymorth yn hynny o beth. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi nawr.

Ein gwaith ni yw gweld beth y gallwn ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol nid yn unig i ddal y llanw, os hoffech chi, ond mewn gwirionedd i'w gyflymu i'r cyfeiriad arall. A dyna, i raddau helaeth iawn, y mae adolygiadau yr ydym wedi eu comisiynu yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

14:55

Yn gyntaf, a gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? A gaf i groesawu hefyd rai o'r sylwadau a wnaeth cyd-Aelodau yn gynharach? Rwy'n croesawu yn arbennig y gwahaniaethu rhwng digartrefedd a chysgu allan. Mae digartrefedd yn cynnwys y rhai sydd heb gartref sefydlog sy'n symud rhwng y naill soffa a'r llall drwy garedigrwydd teulu a ffrindiau, ond mewn llawer o achosion maen nhw o fewn un noson i fod yn cysgu allan. Ceir rhai hefyd mewn cartrefi anaddas a'r llety'n orlawn, yn aros gyda theulu neu ffrindiau'n aml, ac nid ydyn nhw'n ddigartref nac yn cysgu allan ond mae angen llety amgen arnyn nhw. Ac mae hynny, yn anffodus, yn cynnwys plant.

Ceir nifer o hosteli sy'n gwneud gwaith da ond byddai'n well gan rai unigolion fod ar y stryd na mewn hostel am resymau personol o bob math, a gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd y gallwn ni leihau digartrefedd a chysgu allan yw drwy adeiladu digon o dai cyngor i fodloni'r galw, gan roi cymorth i ddod â'r digartref a'r rhai sy'n cysgu allan i gartref parhaol, gan roi'r gorau i droi pobl allan yn ddi-fai, a datblygu mentrau tai cydweithredol?

'Ydw' yw'r ateb cryno iawn i hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Rydym yn gwbl benderfynol o gyflawni ein targed tai fforddiadwy ond, yn llawer pwysicach na hynny, i adeiladu tai i'w rhoi ar rent cymdeithasol ar raddfa fawr. Nawr fod Llywodraeth y DU wedi dychwelyd at gonsensws 1945, os gallaf ei rhoi hi felly, ac wedi diarddel y capiau ar gyfrifon refeniw tai ac ati, mae hynny'n golygu bod ein hawdurdodau yn cael eu rhyddhau i adeiladu'r tai y mae cymaint o'u hangen arnom ni.

Y peth mawr fydd i ni adeiladu'r math iawn o dai yn y mannau iawn. Felly, bydd rhywfaint o hyn y golygu tai safonol cymdeithasol i'w rhentu, ond bydd rhywfaint ohono'n golygu llety â chymorth, a bydd hynny ar gyfer pobl sy'n dod oddi ar y strydoedd, a'r gefnogaeth addas ac yn y blaen— ac fel y dywedais, nid yw'r un peth yn addas i bawb yn sicr yn y sefyllfa honno—a bydd hefyd yn llety o ofal llai dwys, a fydd yn rhyddhau ein GIG, er enghraifft, i ganiatáu lleoliadau â chymorth allan i'r gymuned. Bydd hefyd yn golygu adeiladu cymunedau cynaliadwy unwaith yn rhagor. Nawr, dyma bwynt lle nad yw David Melding a minnau'n cytuno, mae'n rhaid imi ddweud. Yn fy marn i, anffodus tu hwnt oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r hawl i brynu a'r hyn a ddigwyddodd yn yr ystadau cyngor lle cefais i fy magu, a drodd cymunedau cymysg cynaliadwy i fod yn gymunedau lle ceir un grŵp economaidd-gymdeithasol sydd wedi ei ynysu oddi wrth bawb arall. Credaf mai'r peth anghywir i'w wneud oedd hynny, ac nid oedd yn gweithio. Hoffwn yn fawr iawn gymell y cymunedau cymysg cynaliadwy yn ôl i'r ystadau hynny drwy adeiladu ac addasu'r tai fel y gall nifer o ddefnyddiau gwahanol gael eu rhoi'n ôl yno, fel ei bod, heb eisiau ymddangos fy mod yn hiraethu am fy mhlentyndod, yn ymdebygu llawer mwy â'r ystad dai y tyfais i fyny ynddi na'r grwpiau cymdeithasol ynysig a welwn ni ar hyn o bryd. Fe nododd Mike Hedges yn hyfryd, mewn gwirionedd, y pethau y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni hynny, ac rydym yn benderfynol iawn i'w gwneud nhw.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cafwyd ymchwiliad ar broblemau digartrefedd a chysgu allan yn y pwyllgor cymunedau y llynedd, ac fel y soniodd David Melding, mewn llawer o achosion darlun cymhleth yw hwn, ac rydych chi wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw. Weithiau mae angen dulliau cymhleth a thrawsbynciol i ddatrys y problemau hyn, a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau at y dull yn Wrecsam, lle, yn amlwg, bydd gofyn i chi fonitro sut y bydd y canlyniadau yn datblygu. Ond mae'n ymddangos fod angen rhyw fath o ddull trawsbynciol arnoch chi yn aml, ac efallai'n wir mai dyna maen nhw'n ei wneud gyda'u canolfannau gofal cymunedol yno. Felly, gallai honno fod yn enghraifft y gallwn ni ei defnyddio o bosib wrth edrych ar hyn ledled Cymru.

Nawr, un mater amlwg a welsom ni'n ddiweddar yw'r cynnydd mewn pobl sy'n byw mewn pebyll yng nghanol trefi, sy'n mynd yn fater dadleuol. Yn amlwg, mae'n ymddangos ei bod yn well eu byd ar y rhai mewn pebyll na'r rhai sy'n byw y tu allan ac yn agored i'r elfennau—mae hynny i'w weld yn amlwg—ond credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bod rhai o fewn y sector tai wedi codi materion ynglŷn â hyn, sef bod yr hyn sy'n ymddangos yn ddatrysiad dros dro o fyw mewn pabell yn troi yn ateb hirdymor, a gallai hynny mewn gwirionedd atal pobl yn y diwedd rhag chwilio am ddatrysiadau o ran tai mwy hyfyw i'r hirdymor.

Felly, mae pobl mewn sefydliadau fel y Wallich yn codi materion am hyn. Credaf fod angen i ni ymchwilio i'r rhesymau pam mae pobl yn fwy parod weithiau i fyw mewn pebyll yn hytrach na cheisio lloches mewn llochesi dros nos. Nawr, ceir rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, a rhai o'r bobl sydd wedi cael eu cyfweld—rhai o'r bobl ddigartref sy'n byw yn y pebyll—wedi nodi nad yw llochesi dros nos weithiau mor ddeniadol iddyn nhw â byw mewn pabell ac weithiau nid ydynt yn teimlo'n ddiogel yn y llochesi dros nos. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni geisio datrys sut i'w gwneud yn fwy hyfyw i gael llety i bobl mewn lloches dros nos.

Rwy'n credu bod defnyddio cyffuriau yn mynd yn broblem—ceir rhywfaint o dystiolaeth ei bod yn mynd yn fwy anodd i bobl ailintegreiddio wedi bod yn ddigartref am amser maith ac maen nhw'n fwy tebygol o gael eu hecsbloetio ar y strydoedd gan rai sy'n gwerthu cyffuriau. Mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai sydd yn y pebyll—y rhai a ddyfynnwyd—yn dweud mai un o'r rhesymau nad ydyn nhw'n dymuno mynd i'r llochesi dros nos yw eu bod eisiau osgoi  cwrdd â defnyddwyr cyffuriau. Ond, mewn gwirionedd, os byddan nhw'n aros yn y pebyll, mae rhywfaint o dystiolaeth y gallan nhw ddod ar draws defnyddwyr cyffuriau hyd yn oed yn groes i'w dymuniadau.

Felly, mae'r rhain yn broblemau cymhleth, ac rwy'n sylweddoli nad yw'r atebion bob amser mor hawdd â hynny. Credaf fod yna rywfaint o dystiolaeth bod cysgu allan yn yr Alban—efallai fod y ffigurau wedi sefydlogi, felly tybed a oes gwersi i'w dysgu o'u dulliau nhw yno. Mae rhai wedi nodi hefyd bod llawer o elusennau, o bosib, ar adegau, yn cystadlu â'i gilydd. A gawn ni weithio i sicrhau bod yr elusennau yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatrys y materion hyn? Diolch yn fawr.

15:00

Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n dda iawn, rwy'n credu, at y cymhlethdodau mawr yn yr anawsterau sy'n ein hwynebu. Ni fyddwn yn sicr yn dymuno beirniadu unrhyw un sy'n helpu drwy roi pabell i unigolyn digartref er mwyn ei rwystro rhag gorfod cysgu wrth ddrws, oherwydd gall fod yn wahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i hwnnw. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw hynny'n ateb cynaliadwy. Holl ddiben dull Tai yn Gyntaf yw rhoi'r gallu i gynnig llety parhaol diogel i bobl ac nid eu gorfodi i fynd i mewn ac allan o'r llochesi nos ac ati sydd, yn amlwg, ond yn un cam bychan oddi wrth gysgu ar y stryd.

Wedi dweud hynny, mae'r llochesi nos yn rhan bwysig iawn o'r gymysgedd. Rydym yn helpu llawer o'r elusennau sy'n rhedeg llochesi nos gyda phethau fel diogelwch gwell a lle gwell i fyw, fel petai, ond nid yw'r un peth yn gweithio i bawb. I rai, ni fydd hwnnw'n lle derbyniol i fynd iddo—i eraill, bydd yn fodd i fyw. Felly, wyddoch chi—. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y cymhlethdodau, a'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn fy natganiad i ac wrth ateb cwestiynau ar draws y llawr yw: mae'n amlwg iawn i mi, ac mor blaen ag y gallai hi fod, mewn gwirionedd, fod gan bob unigolyn wahanol set o anghenion, a bydd yn rhaid dylunio set unigryw o ymyriadau ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae'r syniad y gallwch chi gael rhyw fath o wasanaeth cyffredinol a fydd yn gweddu i bawb—yn amlwg, ni fyddai hynny'n gweithio.

Ac fel y dywedais yn eglur, rwy'n berffaith siŵr na fyddai cynnig o lety addas i'r Dirprwy Lywydd, er enghraifft, yn rhywbeth y byddwn i yn ei ystyried yn llety addas efallai, gan ein bod yn unigolion gwahanol iawn i'n gilydd. Mae angen i ni allu cydnabod dynoliaeth yr unigolyn sy'n ddigartref a rhoi'r math o gartref iddo y gall ei gynnal yn y tymor hir, ac mae amrywiaeth enfawr o gymhlethdodau yn gysylltiedig â hynny.

Hoffwn ddweud dau beth arall, serch hynny. Y cyntaf yw, er eglurder, nad oes gan bob person sy'n cysgu allan broblemau camddefnyddio sylweddau—mae gan rai ac nid oes gan eraill, felly nid yw honno'n nodwedd gyffredinol chwaith. Nid yw honno'n broblem ym mhob lloches nos ychwaith, felly y broblem yw ei bod yn hynod gymhleth ac yn ymddangos yn  wahanol iawn yn dibynnu ar ble y byddwch chi'n chwilio.

Hoffwn dalu teyrnged, yn gyntaf oll, i'r holl bobl, yn staff a gwirfoddolwyr, sydd bob dydd a nos yn atal pobl rhag bod yn ddigartref ac yn cefnogi'r rhai sydd ar y strydoedd. Bob un noson, mae pryd o fwyd twym ar gael i bobl anghenus, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd a phobl yn gweithio fel lladd nadredd. Helpodd tîm allgymorth digartref Cyngor Caerdydd ddim llai na 54 o bobl ar un noson yr wythnos diwethaf i mewn i lety argyfwng—yn amlwg, pan oedd y tywydd ar ei fwyaf eithafol. Mae gennym 90 o leoedd brys ar gael o hyd i bobl a all gael eu perswadio i fynd i mewn i lety argyfwng yn ystod yr hyn oedd yn dywydd peryglus iawn o ran yr oerfel ychydig ddyddiau'n ôl. Rwy'n rhoi teyrnged hefyd i'r ffaith bod Caerdydd yn perfformio'n well na'r cyfartaledd yng Nghymru.

Cafodd tri chwarter y rhai a aeth i ofyn am gyngor cynnar o ran bod yn ddigartref eu helpu i lety amgen yn hytrach nag aros nes eu bod ar y stryd. Felly, mae'n amlwg fod honno'n neges bwysig iawn i unrhyw un yn y sefyllfa honno.

Yn anffodus, gwyddom nad prif achos digartrefedd yw dibyniaeth o ryw fath neu ei gilydd. Y prif achos, yn anffodus, yw ôl-ddyledion morgais a rhent ac mae hynny oherwydd polisi bwriadol gan Lywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i fudd-daliadau mewn gwaith gadw i fyny â phrisiau, a bydd teuluoedd yn chwalu yn arwain ar unwaith at bobl yn methu â thalu eu rhent.

Felly, bu cynnydd o 247 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, o ganlyniad i ôl-ddyledion morgais a rhent, ac mae hynny'n peri pryder. Felly, mae'r angen dybryd am fwy o dai cymdeithasol, yn fy marn i, ar ben fy rhestr o bryderon. Mae pobl sydd mewn llety dros dro yn aros yn rhy hir cyn cael eu symud i lety parhaol, oherwydd nid oes digon ar gael. Eisoes mae gennym lawer o bobl sydd wedi cael eu cartrefu yn amhriodol ond sydd â tho uwch eu pennau, serch hynny.

Felly, mewn gwirionedd—gwn fod yna bodiau canolraddol yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r rhaglen tai arloesol yng Nghaerdydd gan Cadwyn, tybed a allech chi ddweud wrthym pryd fyddan nhw'n barod, oherwydd maen nhw braidd fel podiau Ikea—popeth ar gael, preifatrwydd, diogelwch. Ac roeddech chi'n sôn hefyd am brosiect arloesol Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth, yr ymwelsoch ag ef yn ddiweddar. Byddai'n ddefnyddiol iawn i ni gael clywed ychydig mwy am hynny. Fel arall, a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i ddiddymu adran 21, sy'n gorfodi llawer o bobl i fynd yn ddigartref, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cynnig llety amgen pan fydd eu landlordiaid preifat yn penderfynu nad ydyn nhw'n dymuno eu cartrefu mwyach?

15:05

Felly, gan ddechrau gyda hynny, rydym ni'n gweithio'n galed i fynd ar drywydd unrhyw gyfle deddfwriaethol a fyddai'n codi er mwyn ymdrin â'r materion yn sgil adran 21. Nid wyf i mewn sefyllfa i allu dweud mewn gwirionedd beth yw hynny ond rydym yn mynd ar drywydd y dewisiadau amrywiol sydd ar gael i ni, o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, i allu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

Rydym hefyd, fel y clywsoch chi fi'n dweud mewn ymateb i gwestiynau eraill, yn golygu cael polisi adeiladu tai cymdeithasol o swmp mawr iawn, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdodau lleol mor gyflym ag y bo modd i ryddhau tir cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn—mae Rebecca Evans a minnau'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y trefniadau i roi capiau ar y cyfrif refeniw tai yn cael eu codi ym mhob awdurdod lle ceir hynny ar hyn o bryd. Credaf fod gennym ni bedwar ar ôl, ond beth bynnag does yna ddim llawer ar ôl eto. Rydyn ni'n annog awdurdodau lleol i raddau helaeth iawn i fynd ati a defnyddio eu pwerau benthyca darbodus i ddechrau'r adeiladwaith ar gyfer tai ar rent cymdeithasol.

Rydym hefyd, wrth gwrs, yn dilyn ein polisi tai fforddiadwy,—rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd ein nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond nid dyna'r unig ateb sydd ei angen, fel y dywed Jenny Rathbone yn gywir. Mae gennym brinder tai dybryd iawn ac mae hynny'n achosi peth o'r digartrefedd. Ond mae gennym gynnydd mewn tlodi a achoswyd gan gyni, sydd hefyd yn cyfrannu at deuluoedd yn chwalu, a'r pwysau arnynt ac ati a amlinellwyd ganddi yn fedrus iawn, rwy'n credu.

Felly, rwy'n mynd yn ôl at ddweud bod angen inni ddysgu oddi wrth yr awdurdodau da iawn hynny sydd â rhaglenni campus. Mae angen inni ledu'r arfer gorau ledled Cymru. Hoffwn i orffen drwy ddweud yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: a mynegi gwir ddiolchgarwch y Llywodraeth i'r holl bobl sy'n gweithio yn y sector hwn—y trydydd sector, yr awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac ati—hebddyn nhw byddem wedi gweld llawer iawn mwy o farwolaethau ar y strydoedd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r pwyslais ar alluogi'r gallu i gyflenwi mwy o dai cymdeithasol. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol i ddatrys llawer o'r materion yr ydych wedi eu trafod y prynhawn yma. Ond hoffwn i hefyd ofyn eich barn am gyfeirio at bobl ddigartref fel bodau dynol, ac nid yn unig fel niferoedd ac ystadegau. A oes gan y Llywodraeth gynlluniau i ddiddymu Deddf Crwydraeth 1824? Rydym yn ymwybodol bod y Ddeddf Crwydraeth yn parhau mewn grym mewn ardaloedd yng Nghymru, ac mae hynny'n gwneud troseddwyr o'r rhai sy'n ceisio byw ar y strydoedd ac sy'n ceisio creu strategaethau i oroesi wrth iddyn nhw fyw ar y stryd. Ac rydym yn gwybod bod hwn yn ddarn niweidiol o ddeddfwriaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nad oes lle iddo ar y llyfr statud modern. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn amlinellu unrhyw gynlluniau a allai fod ganddyn nhw i ddiddymu'r Ddeddf honno, ond hefyd, wedyn, i gyflwyno hawliau newydd ar gyfer pobl sy'n byw ar y strydoedd. Gwyddom, er enghraifft, nad oes gan bobl sy'n cysgu allan gyfle i dderbyn y cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw, ond ni allan nhw gael gafael ychwaith ar rai pethau y byddai llawer ohonom ni'n eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd, fel bod â dŵr glân a ffres i'w yfed, er enghraifft. Felly, yn ogystal â diddymu'r ddeddfwriaeth sy'n gwneud pobl yn droseddwyr, mae angen inni sicrhau hefyd bod pobl yn cael y mathau o hawliau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol.

Ac, yn olaf, Gweinidog, clywais eich atebion yn gynharach ar faterion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Ond hoffwn bwysleisio fy mod yn credu y byddai llunio dull cyfannol o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n effeithio ac yn dylanwadu ar lawer, llawer o bobl sy'n ddigartref, yn effeithio ar allu pobl wedyn i ddal eu bywydau at ei gilydd i'r dyfodol. Rydym yn cydnabod—rwy'n credu fod yna gydnabyddiaeth eang—nad oes gennym ar hyn o bryd ddull cyfannol o roi polisi ar waith; rydym yn ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn un lle, yn ymdrin ag iechyd meddwl, ac yn ymdrin â thai ar wahân i'w gilydd. Mae angen inni ddod â'r meysydd hyn at ei gilydd fel y gallwn sicrhau y bydd pobl sy'n eu cael eu hunain yn ddigartref yn gallu cael eu cynnal nid yn unig am un noson, ond eu bod yn gallu ailadeiladu eu bywydau.   

15:10

Ie wir, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Dyna, mewn gwirionedd, yw holl sail y strategaeth Tai yn Gyntaf. Roeddwn i'n sôn am y prosiect arloesol yn Wrecsam sy'n dwyn yr holl wasanaethau ynghyd i un ystafell fel y bydd pobl yn cael y cwbl yn hwylus ac ati. A holl ddiben y dull Tai yn Gyntaf yw bod cael rhywun i gartref diogel a hirdymor, y gall ei ystyried yn gartref iddo, yn ei gwneud yn llawer mwy amlwg iddyn nhw y gallan nhw gael gafael ar y gwasanaethau addas sy'n deillio o fod â chyfeiriad a man i'w alw'n gartref, tra byddwch, os ydych ar yr ysgol o lety dros dro ac ati, yn parhau i wynebu anawsterau a methu cael y gwasanaethau parhaol hynny sydd ar gael i bobl pan fydd ganddyn nhw le gweddus a diogel i fyw ynddo. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ac rydym yn edrych ledled y Llywodraeth ar y modd y gallwn ni wella darpariaeth y gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd ar begwn eithaf yr ymylon, y rhai sy'n cysgu allan, ond, mewn gwirionedd, yr holl bobl a grybwyllodd Mike Hedges—y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall—a'r bobl a grybwyllodd Jenny Rathbone—teuluoedd yn chwalu o ganlyniad i anawsterau ariannol difrifol ac ati—rydym ni i gyd yn ymwybodol o hynny yn ein cymunedau.

A gaf i orffen drwy gytuno ag ef i'r carn mai holl ddiben hyn yw trin yr unigolyn truenus ac anffodus sy'n cael ei hunan yn y sefyllfa honno fel bod dynol oherwydd, a dweud y gwir, gallai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonom ni. Ddim ond trwy lwc y byddwch chi'n osgoi'r amgylchiadau hynny yn y pen draw, ac felly rwy'n llawn gredu y dylem drin pob unigolyn fel bod dynol unigol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym ni ddull sy'n canolbwyntio ar drawma ac sy'n rhoi i'r unigolyn hwnnw yr ymateb sy'n addas iddo.

Ac, o ran y Ddeddf a grybwyllodd, rydym yn edrych yn gyffredinol ar ryngweithio deddfwriaethau amrywio. Mewn rhai achosion, mae gennym bwerau i wneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae achosion eraill wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol—mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, er enghraifft, yn cael canlyniadau anfwriadol yn hyn o beth—bydd angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen arnom ni.

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd yn gyn-filwyr. Maen nhw'n gadael y lluoedd arfog, yn aml yn dioddef o glwyfau corfforol a meddyliol a gawsant mewn brwydrau, yn disgwyl cael eu cartrefu gan genedl ddiolchgar, ddim ond i gael eu gadael, yn ddiymgeledd ac yn ddigartref.

Mae'r rhai a oedd yn barod i aberthu eu bywydau i'n hamddiffyn ni a'n cenedl yn cael eu trin yn wael erbyn hyn, ac yn cael eu gwthio o'r neilltu, fel nad ydyn nhw'n cael eu gweld ac felly'n mynd yn angof. Nid yw hyn yn ddigon da, er mwyn y nefoedd. Mae gwleidyddion o bob tuedd wedi ymosod ar rai sy'n cysgu allan fel sbwriel i'w olchi o'n strydoedd heb fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd hynny, heb feddwl am y dioddefaint ofnadwy y mae pobl sy'n cysgu allan yn ei brofi. Nid yw pobl yn dewis cysgu yn nrysau siopau—gorfod gwneud hynny y maen nhw. Ni ddylem godi cywilydd arnyn nhw, gan mai arnom ni y dylai'r cywilydd fod. Rwy'n gwybod am sawl cyn-filwr sy'n teimlo ei fod dan orfodaeth i guddio'r ffaith ei fod yn cysgu allan y tu ôl i finiau neu mewn llwyni oherwydd y ffordd y cân nhw eu trin. Ble mae'r cydymdeimlad â'r rhai sy'n llai ffodus na ni?

Pan oeddwn i'n gweithio yng ngharchar Parc, roedd pobl yn y carchar am grwydraeth. Ni ddylen nhw fod yn y carchar; dylen nhw fod wedi cael cymorth yn ein cymuned. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu â darparu digon o dai fforddiadwy, sy'n arwain at y cynnydd hwn mewn digartrefedd. Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy eleni? Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru am bron i ddau ddegawd ac eto mae digartrefedd wedi cynyddu. Felly, a wnewch chi dderbyn bod eich polisïau chi ar fai am y cynnydd?

Mae Helsinki bron â chael gwared yn gyfan gwbl ar gysgu allan dros y ddau ddegawd diwethaf, ac ers 2007, mae Llywodraeth y Ffindir wedi seilio ei pholisïau digartrefedd ar sail polisïau Tai yn Gyntaf. Gweinidog, pa wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o brofiad y Ffindir?

Yn ôl Shelter, mae llety Tai yn Gyntaf yn ddewis amgen i bobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac eto nid oes yng Nghymru ond ychydig iawn o lety Tai yn Gyntaf. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y bwriadwch gywiro hynny?

Ac yn olaf, Gweinidog, pa gamau penodol fydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr digartref a sicrhau bod milwyr yn cael help, cymorth a thriniaeth ar ôl gadael y lluoedd arfog, er mwyn atal eu digartrefedd a chysgu allan yn y pen draw?

15:15

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu i mi grybwyll llawer o'r hyn a ofynnodd yr Aelod i mi mewn atebion blaenorol gan Aelodau Cynulliad. Er hynny, wnes i ddim ymdrin â mater y cyn-filwyr, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n iawn iddi ei godi. O dan y ddeddfwriaeth blaenoriaeth angen, mae'r flaenoriaeth angen ar gyfer personél y lluoedd arfog yn berthnasol wrth iddyn nhw adael y lluoedd arfog rheolaidd, ac nid yw hynny'n berthnasol i filwyr wrth gefn, gwŷr a gwragedd priod neu aelodau eraill o'r teulu estynedig. Rydym ni, er hynny, o fewn y cod canllawiau, wedi awgrymu bod awdurdodau lleol, wrth ystyried yr angen am dai ar fyrder, yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i unrhyw un sydd ag anaf difrifol, neu â chyflwr meddygol, neu unrhyw nam, y maen nhw neu aelod o'u haelwyd wedi ei ddioddef o ganlyniad i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Ac mae gennym hefyd lwybr tai penodol i gyn-filwyr, sy'n darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at ddewisiadau llety ar eu cyfer nhw, ac mae croes ddeiliadaeth ar gael i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd wrth drosglwyddo yn ôl i fywyd sifil.

Hefyd datblygwyd, cyhoeddwyd a dosbarthwyd cardiau cynghori, taflenni a phosteri i roi cyhoeddusrwydd i'r llwybr o fewn cymuned y lluoedd arfog a chyda'r cysgwyr allan presennol, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth porth y cyn-filwyr, sy'n darparu un safle holl gynhwysol i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd fel y gallant gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn yr un man. Felly, hoffwn i'n fawr iawn dynnu sylw'r Aelodau, os ydyn nhw'n dod ar draws rhywun o gefndir personél y lluoedd arfog, y dylen nhw eu cyfeirio at wasanaeth porth y cyn-filwyr, a fydd yn eu helpu i gysylltu â'r cymorth iawn a'r bobl iawn a fydd yn gallu ymdrin â'u hanghenion penodol nhw.

Gweinidog, rwy'n credu bod llawer o bobl yn rhannu'r ymdeimlad cryf iawn ei bod yn foesol anghyfiawn fod gennym ni yn y bedwaredd, y bumed, neu chweched economi fwyaf yn y byd lawer o bobl yn ddigartref ac yn cysgu allan, a chredaf fod hynny'n cael ei amlygu yn y math o ymateb gwirfoddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach. Gwn ar adeg y Nadolig, er enghraifft, fod llawer o bobl wedi dod i helpu gyda rhai o'r gwasanaethau dros dro a sefydlwyd yng nghanol y dinasoedd a'r trefi, a'u bod wedi cael eu cynghori i fynd adref am eu bod yn baglu dros ei gilydd. Ond roedd eu hymrwymiad yn sicr i'w groesawu, yn amlwg, serch hynny. Ond mewn gwirionedd mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall sut, fel Teyrnas Unedig ac yng Nghymru, yr ydym ni'n analluog i'n trefnu ein hunain fel gwladwriaeth, fel gwlad, fel cymdeithas, mewn ffordd sy'n atal digartrefedd a chysgu allan cynyddol. Mae'n amlwg bod angen inni wneud yn llawer, llawer iawn gwell.

O ran y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gweinidog, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau o ran rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ni, o ran rhai o'ch ymatebion chi ac ymatebion eich rhagflaenydd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. O ran y cynllun gweithredu, roedd ceisio cael mwy o wybodaeth yn mynd i ddigwydd drwy wneud ymchwil i achosion y cynnydd diweddar mewn cysgu allan. Tybed a yw'r gwaith hwnnw wedi nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer mesurau atal mwy cadarn. Hefyd, bwriedir i'r cynllun gweithredu cysgu allan fod yn ddogfen fyw, ac rwy'n holi i ba raddau y mae honno wedi esblygu a pha ddatblygiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Ac ar yr ymatebion i'r argymhellion yn adroddiad ein pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y byddai cod o ganllawiau yn cael ei ddiweddaru ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â dyrannu llety a digartrefedd, ac y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi tua diwedd y llynedd ac y byddai'n destun ymgynghoriad. Felly, o gofio nad ydym wedi gweld ei gyhoeddi, rwy'n holi ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r materion hynny.

Yn olaf, nododd ymateb Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o gomisiynu asesiad annibynnol o'r goblygiadau a risgiau posib sy'n gysylltiedig â newid y dull blaenoriaeth angen presennol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith hwnnw a rhoi syniad o ba bryd y cyhoeddir y canfyddiadau?

15:20

Rwyf am ddechrau gyda'r un olaf a gweithio'n ôl gyda'r pwyntiau hynny, a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd Rebecca Evans, sydd i ddod yn ei ôl ym mis Ebrill. Rydym ni'n disgwyl hwnnw'n ei ôl ym mis Ebrill.FootnoteLink Rwy'n gwybod bod y canllawiau newydd wedi eu gohirio, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni'r cydweithrediadau cywir i gyd ac ati, ac rydym ni, yn amlwg, wedi gweld newid Gweinidog yn y cyfamser hefyd. Felly, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn dweud wrtho beth yn union yw'r cynllun, oherwydd cawsom rywfaint o drafodaeth ynghylch gwneud yn siŵr ein bod wedi cael mewnbwn priodol gan bob un o'n partneriaid cydweithredol—y trydydd sector, awdurdodau lleol ac ati—cyn i ni gyhoeddi'r canllawiau newydd. Ac rydym yn gweithio, fel y dywedaf, i symud at fodel llety diogel Tai yn Gyntaf, felly rydym am roi ystyriaeth i'r hyn a ddaw yn sgil y gwerthusiadau o'r cynlluniau treialu amrywiol. Hefyd, fel y dywedais wrth ymateb i Leanne Wood, rydym am roi ystyriaeth i'r profiad a gafwyd mewn mannau eraill gyda modelau Tai yn Gyntaf.

Ni ddywedais hynny wrth ymateb i Caroline Jones, ond mae model y Ffindir yn ddiddorol iawn. Ond, wrth gwrs, bydd pobl yn dewis a dethol yr hyn y maen nhw'n ei hoffi yn y modelau, ac un o'r ystyriaethau ym model y Ffindir yw ei bod yn un o'r cymdeithasau mwyaf cyfartal yn y byd ac nad yw yn ei nawfed flwyddyn o gyni, sy'n ysgogi llawer iawn o'r materion y mae model y Ffindir yn gallu ymdrin â nhw. Mae ein sefyllfa ni yn wahanol iawn o ran y pwysau sydd ar lawer o'n teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn swyddi isafswm cyflog, lle mae cyflwyniad y credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i gynnal eu llety diogel. Dyna pam mae ein deddfwriaeth ni'n torri tir newydd, oherwydd rydym wedi newid i edrych ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Mae gennyf i'r uchelgais fawr iawn o weld diwedd ar droi unrhyw un allan o unrhyw fath o dŷ cymdeithasol yng Nghymru a'n bod yn gosod y gwasanaethau cymorth yn eu lle fel na fydd neb yn cael ei droi allan o dŷ cymdeithasol, oherwydd pan ddigwydd hynny, bydd yn ddigartref—a dyna yw diwedd y daith honno. Felly, mae angen inni weithio'n galed gyda'r cynghorau sydd â'u tai eu hunain o hyd a chyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud yn siŵr y gallwn gynnal pobl mewn cartref ar rent cymdeithasol, y gallwn ddiwallu eu hanghenion a sicrhau eu bod mewn llety addas. Oherwydd, yn aml, gall fod yn fater o fod yn y man anghywir y tu allan i'ch rhwydwaith cymorth ac yn y blaen. Felly, byddwn yn gweithio'n galed iawn i gael trefn ar y materion hynny.

Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r ochr gyflenwi hefyd, fel y dywed ef ac y fel y dywed yr adroddiad yn briodol, ac rwyf wedi ateb aelodau amrywiol o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar yr ochr gyflenwi, ond mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn: cael y math cywir o ochr gyflenwi a'r math addas o dai ar gyfer pobl fel bod modd diwallu eu hanghenion yn sgil y llety diogel hwnnw. Mae hynny'n gwbl sylfaenol, ac mewn lleoedd fel y Ffindir, dyna graidd yr hyn a wnân nhw. Rydym yn awyddus iawn i ddysgu'r pethau hynny oddi wrthyn nhw.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw? Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaethoch i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd. Hoffwn ymuno hefyd â Jenny Rathbone i dalu teyrnged i'r rhai sy'n helpu gyda'r sefyllfa hon sydd gennym ni o ddydd i ddydd. Mae'n achos gofid mawr i mi, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, fod cysgu allan yn digwydd bob dydd, ac mae'n anghyfiawnder annerbyniol sy'n niweidio ac yn difa miloedd o fywydau. Ac nid yw'n unigryw i strydoedd Caerdydd neu Lundain. Mae'n digwydd mewn trefi ledled y DU, gan gynnwys fy nhref fy hun. Felly, rwy'n awyddus i weld ein cymunedau, yn ogystal â'r Llywodraeth, yn gweithio i roi terfyn ar yr epidemig o fod yn ddigartref unwaith ac am byth. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall busnesau fod â rhan yn hyn—busnesau fel Dandy's Topsoil yn fy etholaeth i, a gynigiodd swydd, mewn gwirionedd, i un a oedd yn cysgu allan? Nid oedd curriculum vitae ganddo, nid oedd ganddo siwt, ond cynigiwyd gwaith iddo, cyfweliad a swydd, a dechreuodd hynny newid y ffordd yr oedd ef yn byw ei fywyd.

Hefyd, a gaf i dynnu eich sylw at adroddiad gan Shelter, a elwir yn 'Yn Gaeth ar y Stryd'? Mae'r adroddiad yn nodi'n bwysig iawn, er bod rhai achosion cyffredin yn cael eu disgrifio gan bobl sy'n cysgu allan, mae'r boblogaeth yn amrywiol mewn gwirionedd ac mae anghenion pob unigolyn, fel yr ydym wedi crybwyll o'r blaen, a phrofiadau unigolion yn amrywio'n aruthrol fawr. Felly, a roddwch chi ystyriaeth i'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn, oherwydd rwyf i o'r farn ei fod mewn gwirionedd yn adroddiad rhagorol a chredaf y dylai'r Aelodau ar draws y Siambr roi sylw iddo hefyd.

Yn olaf, gwn ein bod yn mynd yn brin o amser, Gweinidog, rwy'n hynod o falch i chi grybwyll y gwaith gyda Tai yn Gyntaf, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y gelwais amdano'r llynedd, ac fe wnes i eistedd i lawr gyda'r Gweinidog blaenorol y llynedd hefyd i drafod hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau â'r drafodaeth honno yn y misoedd nesaf gyda mi, i weld sut y gallwn ddatblygu hyn ar gyfer Cymru?

15:25

Gwnaf, wrth gwrs. Rwy'n hapus iawn yn ymrwymo i hynny ac i siarad ag unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y ffordd yr ydym ni'n datblygu'r polisïau hyn. Mae gennym ni amrywiaeth o gamau gweithredu, fel y nododd Jack Sargeant—mae'n galonogol clywed am y busnes y cyfeiriodd ato. Yn drist iawn, mae swyddi gan lawer o'r bobl sy'n cysgu ar y strydoedd, gan eich bod, mewn gwirionedd, angen mwy na hynny. Ac un o'r pethau y byddwn ni'n ei wneud cyn bo hir yw dechrau ar Gam 3 ein Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), a fydd yn diddymu llawer o'r ffioedd sy'n rhwystr difrifol rhag i bobl rentu yn y sector preifat, oherwydd bod gennym ni dystiolaeth ar lawr gwlad o bobl yn gorfod dod o hyd i oddeutu £3,000 o ran blaendaliadau a ffioedd a threfniadau gwarantwr credyd ac yn y blaen, ac nid yw hynny'n bosib i nifer fawr o bobl sydd wedyn yn gorfod mynd o un soffa i'r llall ac yn y blaen. Felly, dyna ddiben y Ddeddf honno i raddau helaeth iawn. Felly, fel rwy'n gobeithio bod hynny yn ei ddangos, rydym ni'n ceisio mynd i'r afael â'r pla gwbl erchyll hwn ar ein cymdeithas mewn nifer fawr o wahanol ffyrdd.

Yn benodol, fe hoffwn i gyfeirio at y modd yr ydym ni'n canolbwyntio ar drawma pan ymdrinnir â phob unigolyn fel bod dynol unigol ac yr eir i'r afael â'u hamgylchiadau penodol nhw, ac nad ydym ni'n mynd ati mewn un ffordd yn unig, 'o ie, rydych chi'n cysgu ar y stryd; rydych chi'n perthyn i'r categori hwn', oherwydd ei bod hi'n amlwg iawn nad yw pobl yn perthyn i'r categorïau hynny, fel rwyf wedi dweud droeon. Felly, byddwn yn ceisio sicrhau bod y cynllun gweithredu yn adlewyrchu hynny; ein bod ni'n adolygu gyda'n hawdurdodau lleol i weld os yw eu cynlluniau gweithredu nhw hefyd yn adlewyrchu hynny, a byddwn ni cyn bo hir, fel y dywedais wrth John Griffiths, yn cyhoeddi nifer o ganllawiau arfer gorau a'r papurau cynghori ac ati, a fydd yn pwysleisio'r dull hwn o weithredu unwaith y cawn ni'r ymchwil a'r gwerthusiadau yn ôl, fel y gallwn ni sicrhau bod y cyngor a'r arweiniad gorau ar gael gennym ni ar gyfer pob rhan o'n trydydd sector a'n holl bartneriaid awdurdod lleol.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: y wybodaeth ddiweddaraf am fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans.

Diolch. Y llynedd, cyhoeddodd y cyn-weinidog cyllid ddatganiad ysgrifenedig ynghylch datblygiad y model buddsoddi cydfuddiannol i'n helpu i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith cyhoeddus.

Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi disgrifio droeon yn y Siambr hon sut mae ein cyllidebau cyfalaf yn crebachu o ganlyniad i bwyslais digyfaddawd Llywodraeth y DU ar gyni. Torrwyd 10 y cant oddi ar ein cyllideb cyfalaf mewn termau real o ganlyniad i'r polisïau cynni hyn. Yn 2019-20, mae hyn yn golygu y bydd gennym ni £200 miliwn yn llai i'w wario nag oedd gennym ni yn 2010-11, ond mae ein cynlluniau a'n galw am fuddsoddiad cyfalaf yng Nghymru wedi parhau i dyfu.

Ychydig fisoedd yn ôl, roedd Canghellor y Trysorlys yn datgan fod cyni ar ben a'i fod yn cyhoeddi cyllideb i ryddhau buddsoddiad i sbarduno ffyniant ar gyfer y dyfodol. Aeth yn ei flaen wedyn i roi dim ond £2.6 miliwn o gyfalaf ychwanegol i'r Cynulliad hwn fynd i'r afael â phob angen buddsoddiad sydd heb ei ddiwallu sydd gennym ni yn y flwyddyn i ddod. Dyma'r cyd-destun y bu'r Llywodraeth hon yn gweithio ynddo i geisio gwneud defnydd llawn o'r holl ffynonellau o gyllid cyfalaf sydd ar gael i ni, ac i ddatblygu ffynonellau newydd ac arloesol o ariannu, gan gynnwys y pŵer i gyhoeddi bondiau a model buddsoddi cydfuddiannol Cymru.

Er bod arnaf i eisiau canolbwyntio yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma ar y model buddsoddi cydfuddiannol a'r datblygiadau diweddaraf, fe hoffwn i hefyd ddweud ychydig eiriau o ran gallu cael arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop a'n perthynas yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch ei safbwynt ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop. Fe wnaethom ni alw ar y DU i aros yn bartner tanysgrifio yn y banc—rhywbeth yr ydym ni'n credu a fyddai wedi bod yn gyraeddadwy pe byddai'r DU wedi dangos yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop: mae benthycwyr yn elwa o gost cyfalaf llai ac mae aelod-wladwriaethau yn eu swyddogaeth fel buddsoddwyr yn elwa o adenillion graddol ar fuddsoddiadau. Fel y mae pethau, gyda neu heb gytundeb, ar 29 Mawrth, bydd y DU yn gadael Banc Buddsoddi Ewrop yn ddisymwth. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi unrhyw drefniant diogelu ar waith, ac eithrio cynnig i roi £200 miliwn o gyfalaf ychwanegol i Fanc Busnes Prydain yn 2019. Does dim ond angen imi nodi bod Banc Buddsoddi Ewrop dros y 10 mlynedd diwethaf wedi buddsoddi ar gyfartaledd mwy na £5 biliwn y flwyddyn yn y DU i ddangos pa mor bitw yw'r trefniant diogelu hwn. Dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Tŷ'r Arglwyddi, yn gynnil braidd, bod diffyg unrhyw gynigion ystyrlon gan y Llywodraeth Geidwadol ynglŷn â pherthynas gyda Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu ddewisiadau domestig amgen yn siomedig. Ar y lleiaf, mae'r Llywodraeth hon eisiau i'r Deyrnas Unedig anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau perthynas ystyrlon gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Rhaid i'r berthynas honno gynnwys mandad clir i Fanc Buddsoddi Ewrop barhau i fuddsoddi yma, gan ddarparu'r arian a'r arbenigedd y mae benthycwyr cyhoeddus a phreifat wedi gallu dibynu arnyn nhw ers mwy na phedwar degawd.

Gan droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cyllid am roi ystyriaeth briodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol tuag at ddiwedd y llynedd. Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo i gyflawni tri chynllun gan ddefnyddio'r ffurf arloesol hon o gyllid: cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, buddsoddiad ychwanegol yng ngham nesaf rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a Chanolfan Ganser newydd Felindre. Gyda'i gilydd, mae gan y cynlluniau hyn werth cyfalaf o fwy na £1 biliwn, ac ni fyddent yn fforddiadwy o'n cyllidebau cyfalaf cyfredol, sydd wedi'u disbyddu. Pe na byddem ni wedi datblygu'r model, byddai prosiectau fel y rhain yn gorfod aros eu tro nes bod digon o gyfalaf ar gael, ac er gwaethaf yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gan San Steffan ynglŷn â diwedd cyni, nid yw'r rhifyddeg gyllidebol yn adlewyrchu hyn o gwbl.

O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach. Yn wir, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn disgwyl i bob awdurdod contractio yng Nghymru gynnal adolygiadau o'u contractau menter cyllid preifat hanesyddol a chanfod ble mae modd gwneud arbedion.

O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny. Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Byddwn yn gofyn i holl gynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol gael arfarniad buddsoddi trwyadl y model pum achos—dull arfarnu achrededig rhyngwladol, y mae Llywodraeth Cymru yn gydberchennog arno. Mae Gweinidogion Cyllid y G20 wedi mabwysiadu egwyddorion y model yn sail ar gyfer safon fyd-eang o ran arfarnu buddsoddi mewn seilwaith.

Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'r DU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw. Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf.

O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad. Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau.

Cytunais y mis diwethaf, yn ddibynol ar gwblhau gwaith diwydrwydd dyladwy yn foddhaol, y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 15 y cant o gyfanswm y gofyniad cyfalaf risg ar gyfer y cynllun i ddeuoli ffordd yr A465, wrth ddisgwyl penderfyniad i ddechrau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat. Er bod pob cyfalaf risg, drwy ddiffiniad, yn fuddsoddiad gydag elfen o risg, rydym ni'n disgwyl i'n buddsoddiad ennill elw i'r sector cyhoeddus y gellir ei ailfuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus eraill.

Mae'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth wedi penderfynu gwneud y gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn. Cyhoeddwyd llythyrau hysbysu ddoe. Bydd yn rhoi manylion pellach am gynnydd y prosiect hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod y pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ac rydym ni wedi bod yn benderfynol yn ein hymrwymiad i wneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU. Ochr yn ochr â'r pecyn tair blynedd o fesurau ariannol ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni cyn y gyllideb derfynol, rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol ill dau. 

Bydd prosiectau cyfalaf yn elwa o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru o 65 y cant o'r costau, a bydd prosiectau sy'n defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn elwa o gyfraniad lled-gymharol gan Lywodraeth Cymru o 81 y cant o'r costau. Bydd ysgwyddo rhagor o faich, er yn heriol, yn darparu cymorth ychwanegol gwerthfawr i'n partneriaid darparu yn y cyfnod hwn o gyni. Mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i ni gyflawni mwy mewn partneriaeth. Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi manylion pellach am y gyfradd ymyrraeth mewn datganiad ysgrifenedig cyn bo hir. Diolch.

15:35

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Cyllid am ddatganiad heddiw? Rwy'n credu mai dim ond yr wythnos diwethaf y gofynnais i'r Prif Weinidog am y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol—rwy'n credu eich bod chi'n eistedd yn y Siambr ar yr un pryd, Gweinidog—felly yn sicr dyna effeithlonrwydd. Gan hepgor y rhagymadrodd arferol sy'n nodwedd o ddatganiadau nifer o Weinidogion am gyni, ceir rhai materion pwysig iawn yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad. Fe hoffwn i sôn am rai o'r rheini fy hun.

Yn gyntaf, a gaf i groesawu eich safbwynt ar Fanc Buddsoddi Ewrop? Bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r banc, ac fe wyddom ni fod gwledydd eraill, fel Sbaen, wedi bod yn defnyddio'r cyllid ers talwm ar gyfer cynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd a phrosiectau seilwaith eraill. Felly, swyddogaeth fy mhlaid fu galw am fwy o fuddsoddiad o Fanc Buddsoddi Ewrop ers tro byd. Nid ydym ni wedi gwneud yr un peth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU ychwaith. Ac rwy'n credu eich bod chi'n gywir—mae angen i ni bwyso am aelodaeth barhaus, neu bartneriaeth neu bartneriaeth gyswllt, neu beth bynnag y gallai hynny fod, gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Gadewch inni beidio ag anghofio y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd angen ffyrdd Cymru a'r DU i gyrraedd yno o hyd—o leiaf rwy'n tybio mai dyna sut fydd hynny'n gweithio—unwaith y byddwn ni yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae angen buddsoddi yn ffyrdd y DU, yn rhan o seilwaith Ewropeaidd, os nad Undeb Ewropeaidd, ehangach.

Gan droi at yr agwedd ar eich datganiad sy'n ymwneud â sylwedd: rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r defnydd o'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer rhaglenni megis cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, a grybwyllwyd gennych chi; rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—unwaith eto, y mae cefnogaeth eang iddi—a grybwyllwyd gennych chi; a hefyd  Canolfan Ganser newydd Felindre. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amserlenni ar gyfer y prosiectau hyn, ac yn wir yr amserlenni ar gyfer cael y modelau buddsoddi cydfuddiannol hynny ar waith yn llawn ac yn derfynol?

Mae monitro'r prosiectau hyn yn mynd i fod yn hollbwysig, o gofio rhai o'r achosion o werth gwael am arian—unwaith eto, y cyfeiriasoch chi atyn nhw, ac y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw'r wythnos diwethaf—prosiectau menter cyllid preifat blaenorol, a ddigwyddodd dros gyfnodau sylweddol o amser, o dan Lywodraethau o liwiau gwahanol, a bod yn onest. Rwyf yn cydnabod hefyd, o'r blaen, yn aml, roedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y cynlluniau hynny, felly bydd monitro yn hollbwysig yn hyn o beth, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni'r wythnos diwethaf.

A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y model pum achos? Mae'n amlwg yn bwysig bod y gwaith monitro yn gadarn, ac mae hyn yn swnio'n drawiadol ar yr wyneb ond, wrth gwrs, gan feddwl yn ôl i'r adeg pan gyflwynwyd prosiectau menter cyllid preifat yn wreiddiol, roedd llawer, ar yr wyneb, o ddadleuon synhwyrol iawn ar gyfer y model menter cyllid preifat a'r math o effeithlonrwydd a fyddai'n dod yn sgil hynny, ac yn sicr ni ddigwyddodd hynny, naddo? Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr nad yw'r model buddsoddi cydfuddiannol yn dioddef rhai o'r problemau a wynebwyd gan y model menter cyllid preifat a bod gwersi wedi'u dysgu.

Hefyd, fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau meddal ac fe wnaethoch chi sôn am beidio â defnyddio arian ar gyfer cyfarpar cyfalaf—nid oes amheuaeth gennyf nad ydych chi'n gywir mewn rhai neu nifer o achosion, ond dim ond meddwl wyf i tybed a yw'n briodol cael gwrthwynebiad cyffredinol i ddefnyddio arian buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer pob cyfarpar cyfalaf, er enghraifft. Efallai'n wir y gallwch chi ddadlau dros hynny, ond rwyf ychydig yn bryderus y gallem ni gael sefyllfa yn y pen draw lle mae'r model buddsoddi cydfuddiannol mewn gwirionedd mor anhyblyg yna, efallai yn y dyfodol—os ydym ni eisiau sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol, mae hyn yn bwysig—efallai na fydd rhai cynlluniau yn hyfyw pryd y gallen nhw fod fel arall. Felly, fyddwn i'n ddiolchgar i gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny.

A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am eich ymdrechion i wella tryloywder? Rydych chi'n dweud y caiff cyfranddaliad y Llywodraeth ym mhob cynllun ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir gan Weinidogion. Pa broses gaiff ei defnyddio i ddewis y cyfarwyddwyr hynny a pha mor dryloyw fydd y prosesau hynny?

Ond diolch am eich datganiad. Rwy'n credu bod cefnogaeth eang ym mhob rhan o'r Siambr hon i'r model buddsoddi cydfuddiannol, ac rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud heddiw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n rhoi ychydig o atebion i rai o'r cwestiynau a holwyd.

15:40

Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny'r prynhawn yma, a diolch yn fawr i chi hefyd am eich cefnogaeth i'n safbwynt ni ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, oherwydd, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o arian ac arbenigedd i ni yma yng Nghymru. Mae wedi darparu swyddogaeth allweddol inni, mewn gwirionedd, yn cefnogi buddsoddiad tymor hir i wella tai cymdeithasol yma yng Nghymru, addysg, ynni, seilwaith, trafnidiaeth a seilwaith dŵr. Mae wedi cynnwys cefnogi buddsoddiad gan Dŵr Cymru, er enghraifft, ar draws y wlad, gan gynnwys Ysgol Gynradd Stebonheath yn Llanelli, lle mae'r prosiect Glawlif yn helpu i leihau gorlif carthion i Fôr Hafren. Roedd hefyd yn gymorth i ariannu ail bont Hafren a ffordd ddeuol yr A55 o Gaer i Gaergybi, yn ogystal â ffyrdd newydd yn ne a gorllewin Morgannwg, Dyfed a Gwent, a soniodd yr Aelod am bwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith hwnnw.

Mae benthyciadau diweddar o Fanc Buddsoddi Ewrop wedi cefnogi buddsoddi mewn addysg yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi campws newydd Prifysgol Bae Abertawe, a thorri costau gwresogi ym Mhrifysgol Bangor, er enghraifft, ac mae hefyd wedi darparu cymorth ar gyfer ein rhaglen tai cymdeithasol, gan ddarparu cartrefi newydd yn ogystal â gwella tai presennol, gan weithio gyda 10 o gymdeithasau tai gwahanol ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae Banc Buddsoddi Ewrop hefyd wedi cefnogi buddsoddiad allweddol yng nghwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o gyllid, ond hefyd yn ffynhonnell bwysig o arbenigedd. Ac mae'r manteision ychwanegol hynny o arbenigedd wedi dod i'r amlwg i raddau helaeth iawn drwy'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud i ddatblygu prosiect metro de Cymru, er enghraifft, sydd wedi elwa'n fawr iawn yn wir ar yr arbenigedd masnachol, sydd wedi cyfrannu at y broses gaffael, tra bod buddsoddiadau blaenorol eraill yng Nghymru wedi elwa hefyd ar arferion gorau y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi gallu dwyn ein sylw ni atyn nhw hefyd.

O ran y prosiectau penodol, gallaf roi'r newyddion diweddaraf am yr A465. Fel y gwyddoch chi, daeth yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i ben ar ddiwedd mis Mai 2018. Soniais yn fy natganiad bod y Gweinidog wedi cytuno i wneud y gorchmynion. Felly, bydd penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cam nesaf yn awr o ran caffael yn yr wythnosau nesaf, a bydd y newyddion diweddaraf ar gael gan y  Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth mewn cysylltiad â hynny.

O ran y prosiect yn Felindre, y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn datblygu cyfres o achosion busnes amlinellol ar gyfer darparu Canolfan Ganser newydd Felindre ar safle'r Northern Meadows yn yr Eglwys Newydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r ymddiriedolaeth i gwblhau'r prosiect pwysig hwn i sicrhau bod monitro priodol ar gyfer hynny ar waith. Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu i sicrhau mynediad i'r safle ar hyn o bryd, ac mae rhai trafodaethau manwl yn digwydd gydag amrywiaeth o gyrff a sefydliadau eraill i wneud yn sicr y gall hynny ddigwydd, ac ochr yn ochr â hynny, wedyn, mae achos busnes y gwaith galluogi yn cael ei ddatblygu, tra bo'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'r cynllun diweddaraf yn sôn am ddyddiad cwblhau ar ddiwedd 2023, gydag agoriad yn hanner cyntaf 2024.

Unwaith eto, dim ond megis dechrau yr ydym ni gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol o ran sut y gall hynny gefnogi ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae Kirsty Williams yn bwriadu cyhoeddi datganiad arall ar y mater hwn cyn bo hir.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at dryloywder, a dyna un o fanteision y model buddsoddi cydfuddiannol—bydd tryloywder yn allweddol—hefyd y sicrwydd y bydd gwybodaeth ar gael i Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n awyddus iawn ein bod ni yn achub ar bob cyfle i roi gwybodaeth drylwyr i Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, a bydd gofynion adrodd penodol i Lywodraeth Cymry fel cyfranddaliwr a hefyd fel cleient. Caiff y manylion penodol hynny eu nodi yn y cytundebau prosiect a gytunir arnyn nhw gyda'n partneriaid o ran cyflawni'r prosiectau hyn.

O ran cyfarpar cyfalaf, rwy'n credu mai'r penderfyniad cywir yw peidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer hwnnw, ond yn amlwg mae dewisiadau eraill o ran sut y byddwn ni'n ariannu hwnnw. Mae'n fater mewn gwirionedd, o ddod o hyd i'r ffynhonnell fwyaf priodol o gyllid ar gyfer y math o bethau yr ydym ni eisiau eu caffael.

15:45

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n cytuno efo'r bwriad yn fan hyn, sef yr angen i chwilio am ffyrdd arloesol o hybu buddsoddiad yn ein hisadeiledd ni: isadeiledd sydd yn dangos ôl clir o danfuddsoddi yn hanesyddol—a'r tanfuddsoddiad yna, dwi'n eich atgoffa chi, yn dod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros y blynyddoedd. Er, wrth gwrs, dwi'n cytuno bod oes llymder wedi dyfnhau'r broblem.

Felly, oes, mae eisiau edrych ar ystod o fodelau sydd ar gael neu a all gael eu datblygu. Dwi'n edrych ymlaen i weld datblygiad yr egwyddor o godi arian drwy fondiau Llywodraeth. Gaf i hefyd ddweud fy mod i'n falch o glywed cyfeiriad yn y datganiad at ein perthynas ni efo Banc Buddsoddi Ewrop, yr EIB? Mae'n bryderus iawn bod diffyg sylw na sicrwydd yng nghanol llanast Brexit i sut i ddiogelu'r math o fuddsoddiad sydd ar gael drwy'r EIB ar hyn o bryd, a dwi'n cytuno y dylid sicrhau bod y berthynas efo'r EIB yn parhau yn y dyfodol. Dwi wedi bod i bencadlys yr EIB yn Lwcsembwrg, ynghyd â nifer o aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, a sylweddoli'r awch sydd yna a'r gallu sydd yna o fewn y Banc Buddsoddi Ewropeaidd i chwilio am brosiectau y gallen nhw eu cefnogi er budd buddsoddiad hirdymor yn cryfhau ein hisadeiledd ni, a dwi'n ofni beth sy'n digwydd os ydy hynny'n cael ei golli.

Ond, i droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, mae fy mhlaid i wedi rhoi croeso gofalus i ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar y model hyd yma. Yn wir, un rhwystredigaeth dŷn ni wedi ei leisio ydy diffyg uchelgais, o bosib, o ran faint y gallwn ni edrych i'w godi neu ei fuddsoddi yn defnyddio'r model yma. Ond, wrth gwrs, mae eisiau bod yn ofalus iawn a nodi mor, mor bwysig ydy cael y model yn iawn. Dŷn ni yn, yn annatod, mae'n siŵr, yn mynd i fod yn dwyn cymariaethau efo PFI, ac mae'r Gweinidog wedi dwyn cymariaethau heddiw er mwyn ceisio tawelu rhai ofnau. Mae rhai pobl yn mynd i edrych ar beth ydy diffiniad y model yma a beth ydy diffiniad PFI a'u gweld nhw yn eithaf tebyg, ond dwi'n meddwl mai'r hyn dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy sicrwydd bod risg yn gorwedd yn y lle iawn, achos, a bod yn blaen, mi oedd llawer gormod o gynlluniau PFI yn dangos mai bach iawn oedd y risg oedd yn cael ei chymryd gan fuddsoddwyr preifat, a hynny tra yn eu gweld nhw'n gwneud elw mawr.

Felly, allaf i ofyn i'r Gweinidog, yn dilyn cyfres o addewidion bod hwn yn wahanol, pa gamau sydd yn mynd i fod yn cael eu cymryd i werthuso'r cytundebau wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau i sicrhau bod y cydbwysedd risg wedi cael ei daro yn iawn ac nad oes yna or-elwa? Achos partneriaeth, cydfuddsoddiad a system gydfuddiannol ydy hon i fod, ac mi ydyn ni drwy'r amser angen bod yn gwerthuso i sicrhau mai dyna sydd gennym ni, achos tra bod buddsoddwyr, yn deg iawn, angen gweld bod yna return hirdymor teg i ddod o wneud buddsoddiad, dŷn ni angen sicrwydd bod yna werth am arian i'r pwrs cyhoeddus.

Ac, yn ail, o bosib yn cyfeirio yn ôl at ein rhwystredigaeth ni ynglŷn â diffyg uchelgais ar hyn o bryd, allwch chi roi awgrym i ni o'r camau nesaf ar gyfer chwilio am fuddsoddiadau pellach yn defnyddio'r model newydd yma a rhoi gair o eglurhad ynglŷn â sut mae blaenoriaethu'n mynd i ddigwydd? Oherwydd, cyn yr etholiad diwethaf, mi oeddem ni ym Mhlaid yn sôn am roi'r pŵer i flaenoriaethu ym maes isadeiledd i gorff hyd braich o'r Llywodraeth. Mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn edrych am gyngor ac arweiniad a thrafodaeth civic ynglŷn â gosod y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio'r model newydd yma yn y ffordd mwyaf effeithiol. 

15:50

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Fe hoffwn i ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ddweud nad oes diffyg uchelgais o ran ein huchelgeisiau seilwaith ar gyfer Cymru. O ran i ba gyfeiriad yr awn ni nesaf, mae'n amlwg bod gennym ni ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ein fframwaith datblygu cenedlaethol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a'r comisiwn seilwaith, ac rwy'n credu, gyda'i gilydd, y bydd y tri pheth hyn yn ein helpu ni mewn gwirionedd i glustnodi a chanolbwyntio ar ble mae angen inni wneud y buddsoddiadau mwyaf strategol bwysig ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

O ran bondiau, gall, yn sicr, fe all Llywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau, ac rydym ni wedi ennill y pwerau newydd i wneud hynny er mwyn helpu i ariannu ein buddsoddiad mewn seilwaith, ac, yn sicr, ar adeg pan fo ein cyllidebau cyfalaf yn parhau i ostwng, mae'r rhain yn rhoi inni'r gyfres lawn o bwerau benthyca y gallwn ni eu defnyddio i wireddu'r cynlluniau buddsoddi seilwaith uchelgeisiol hynny ledled Cymru, ond y peth pwysig i'w gofio yw nad yw ein gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu ein gallu i fenthyca. Felly, mae manylion penodol y bondiau yma y gallem ni fod yn dymuno eu cyhoeddi yn y dyfodol yng Nghymru eto i'w penderfynu oherwydd ni fyddem ni ond yn defnyddio'r bondiau hynny pan fo'r holl ffurfiau eraill rhatach o gyfalaf wedi eu disbyddu, a byddai unrhyw arian a godir gan fondiau Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cael ei gyfrif yn erbyn ein terfyn benthyca hefyd, sydd yn un o atyniadau mathau eraill o gyllid y byddem yn sicr yn eu dewis yn gyntaf.

O ran eich sylwadau ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, rwy'n eu croesawu'n fawr. Rwy'n credu inni nodi'n glir iawn gyda'n gilydd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y byddai hi'n fwy buddiol inni yma yng Nghymru pe byddem ni'n aros yn bartner tanysgrifio gyda Banc Buddsoddi Ewrop oherwydd y manteision uniongyrchol i'n heconomi yn sgil hynny, nid yn unig o ran buddsoddi, ond hefyd yr arbenigedd hwnnw yr wyf i wedi cyfeirio ato o'r blaen. Ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, mabwysiadodd Tŷ'r Arglwyddi adroddiad a oedd yn dweud bod buddsoddi yn seilwaith y DU wedi elwa ar fwy na €118 biliwn o arian a fenthycwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop, ond, yn anffodus, roedd hefyd yn sôn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop ers y refferendwm a sbarduno Erthygl 50 ac yn cwyno am y ffaith, er gwaethaf colli ein mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl Brexit, nad yw'r Llywodraeth Geidwadol wedi dweud fawr ddim am unrhyw berthynas â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu unrhyw ddewisiadau domestig eraill posib.

Cyfeiriodd yr Aelod at y gwahaniaethau rhwng y model buddsoddi cydfuddiannol a'r fenter cyllid preifat, ac fe geir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd y cyfeiriais i atyn nhw yn fy natganiad. Y cyntaf yw y byddwn ni'n gofyn am fanteision cymunedol eang iawn o'n prosiectau model buddsoddi cydfuddiannol. Rwy'n credu bod hyn yn wahaniaeth pwysig ac allweddol. Er enghraifft, byddwn yn edrych ar swyddi a grëwyd, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer lleoliadau gwaith graddedig, lleoliadau disgybl. Byddwn yn gofyn am ymgysylltu ag ysgolion, mentrau cymunedol, mentrau cadwyn cyflenwi, gwaith gyda mentrau cymdeithasol, ac, hefyd, yn amlwg, cymorth ar gyfer ein busnesau bach a chanolig. Felly, ceir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd rhwng menter cyllid preifat a'r model buddsoddi cydfuddiannol.

Un arall o'r gwahaniaethau allweddol hynny, mewn gwirionedd, fydd y gofynion hynny y byddwn ni'n eu gosod ynghylch cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Felly, er enghraifft, i ddarparu cynaliadwyedd amgylcheddol, bydd egwyddorion cynllunio allweddol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre yn cynnwys y defnydd o adnoddau naturiol ac effeithlonrwydd ynni ym mhob maes posib. Yr A465—wrth wella diogelwch, cysylltedd a thagfeydd yn yr ardal leol, bydd hefyd yn gwella cydnerthedd ffyrdd eraill Cymru gan ddod yn ffordd amgen yn ystod cyfnodau o dagfeydd, cynnal a chadw neu ddigwyddiadau mawr, a bydd yr ardal leol hefyd yn gweld gwelliannau mewn llwybrau troed, llwybrau beiciau, gwell draenio a'r nod o wella ffitrwydd corfforol a theithio llesol. A bydd gwelliannau amgylcheddol nodedig hefyd yn cael eu darparu gan y cynllun o ran lleihau perygl llifogydd a lleihau perygl llygredd i gyrsiau dŵr. A bydd yn rhaid i'r mannau newydd hynny—y mannau dysgu newydd a adeiladwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gyflawni sgôr A Tystysgrif Perfformiad Ynni ynghyd â rhagoriaeth BREAM. Felly, fe allwn ni ddefnyddio'r dulliau hyn yn y trafodaethau y byddwn ni'n eu cael gyda phartneriaid posib yn y dyfodol.

15:55

Caf fy hun yn llais amheugar iawn ar y mater hwn ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol. Er, mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl achub ar y cyfle i siarad â swyddogion y Gweinidog ar ddau achlysur, rwyf wedi cael rhyw gysur ynghylch y mecanweithiau adrodd a manylion y gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol a fydd yn digwydd a hefyd y cytundebau prosiect a'r mecanweithiau adrodd a fydd yn gysylltiedig â'r rheini. Felly, mae cysur, ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cadw pethau'n bur gyfrinachol ynghylch sut y bydd y pethau hyn yn digwydd tan yn ddiweddar. Gallai hygyrchedd a gwybodaeth am y model buddsoddi cydfuddiannol wedi bod yn well o lawer, er fy mod i bellach wedi dod o hyd i eglurhad ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar dudalen beta.gov.wales. Mae yna chwe pharagraff o wybodaeth eithaf syml i'r cyhoedd ynglŷn â buddsoddi cydfuddiannol ynghyd â dogfennau technegol. Fodd bynnag, pe bawn i'n rhiant ac ysgol fy mhlentyn yn cael ei hadeiladu drwy ddefnyddio cyllid y model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r iaith a ddefnyddiodd y Gweinidog yn ei datganiad yn gysur imi. Er enghraifft:

Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat

Ac

rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol.

Nid wyf yn credu fod hynny yn agored iawn i'r cyhoedd ac nid wyf yn credu ei fod yn rhoi llawer o gysur i rieni'r plant hynny a fydd mewn ysgolion band B yr unfed ganrif ar hugain. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wneud yr wybodaeth ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol yn hygyrch tra bo prosiectau yn cael eu paratoi, ac yn enwedig pan fo nhw'n cael eu cyflawni ac wedyn? Mae'n rhaid cael cynlluniau i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r bobl hynny sy'n pryderu ond nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn gwybodaeth dechnegol.

Diolch am y sylwadau hynny. Roeddwn yn falch y cawsoch chi'r cyfle i gwrdd â swyddogion a sgwrsio gyda nhw am y model buddsoddi cydfuddiannol. Fe fyddwn i'n sicr yn cynnig sesiynau briffio technegol i unrhyw Aelodau sy'n awyddus i wybod mwy ynglŷn â sut mae'r model yn gweithio ac i ateb unrhyw gwestiynau technegol manwl sydd ganddyn nhw. Mae'n rhaid imi ddweud fodd bynnag nad wyf i'n credu y bu'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gyfrinach—mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo mor bell yn ôl â 2011, pan yr oedd ein maniffesto yn sôn am edrych ar ffyrdd arloesol o ariannu seilwaith cyhoeddus. Mae'r model wedi esblygu dros amser, felly rydym ni wedi bod yn benthyca gan yr Alban a Lloegr lle bo'n briodol, gan ddysgu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, addasu i reolau cyfrifyddu lle bo angen, ac mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn brosiect sy'n deillio o'r dysgu hwnnw i raddau helaeth iawn a'r her a'r addasu sydd wedi bod yn digwydd, sy'n beth da, rwy'n credu.

Bu gweinidogion yn goruchwylio'r prosiect hwn yn ofalus ers y cychwyn. Rwy'n gwybod i'r Cabinet drafod cyllid arloesol dair gwaith yn ystod y weinyddiaeth flaenorol ac ystyriwyd diweddariadau achlysurol hefyd gan is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer seilwaith. Yn y tymor presennol, mae'r Cabinet wedi ystyried ddwywaith eisoes y model buddsoddi cydfuddiannol ac fe wnaeth fy rhagflaenydd ddatganiadau ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar ddau achlysur eisoes yn y tymor hwn—felly, ym mis Chwefror 2017 ac ym mis Mehefin y llynedd—yn ogystal â phwysleisio swyddogaeth bwysig y model buddsoddi cydfuddiannol mewn cyhoeddiadau niferus, megis y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru a'r gyllideb ddrafft. Felly, nid yw'n gyfrinach mewn unrhyw fodd, ond rwyf i'n sylweddoli ac yn deall eich pryder y dylai'r model buddsoddi cydfuddiannol fod yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch i bobl sydd â diddordeb, yn arbennig, rwy'n credu, o ran ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sy'n brosiect hynod gyffrous a fydd yn trawsnewid amgylcheddau dysgu plant ledled Cymru.

Wrth lansio'r model buddsoddi cydfuddiannol, dywedodd y Prif Weinidog, pan yr oedd yn Weinidog Cyllid:

'Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau gorfodol pwysig tymor hir i sicrhau manteision cymunedol, i greu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr Cymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cefnogi cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar ein harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat a ddewiswyd er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn. Pan rydym ni'n buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran yr hyn sydd wedi cael ei sicrhau mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran mynediad at wybodaeth sydd ar gael i'r bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.'

Nid wyf yn credu y gall unrhyw un ganfod unrhyw broblemau yn ymwneud â hwnnw. Fodd bynnag, mae'n fodd o ddenu cyllid preifat i wasanaethau cyhoeddus fel nad yw ynghlwm wrth ofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, fellly mae hynny'n cadw'r Trysorlys yn fodlon, ac nid yw hynny'n fenter cyllid preifat, sy'n cadw'r gweddill ohonom ni'n fodlon. Ond rwy'n bryderus ynghylch cost refeniw'r cyfalaf yn y dyfodol o dan y model hwn. Rwyf wastad yn bryderus ynghylch cost refeniw yn y dyfodol unrhyw arian sydd wedi ei fenthyg, yn cynnwys fy arian fy hun. Rydym ni'n gwybod ei fod yn ddrutach na defnyddio cyfalaf Llywodraeth Cymru neu ddefnyddio'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.

Mae gennyf dri chwestiwn: a ydych chi'n derbyn bod bondiau ar gael dim ond i gadw cyfraddau'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn isel, ac nac ydych chi'n disgwyl i Lywodraeth Cymru eu defnyddio, ond eu bod yn bwrw cysgod dros y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a phe byddech chi'n cynyddu eich cyfraddau, fel y gwnaethant gyda llywodraeth leol, yna byddai llywodraeth leol yn dechrau dweud, 'Wel, fe allwn ni gyhoeddi bondiau', ac maen nhw'n dal i ostwng y cyfraddau? Fe wnaethoch chi sôn am elw o 15 y cant ar yr hyn yr ydym ni wedi ei fuddsoddi, ond onid yw hynny'n ddim ond ni'n cael ein harian ein hunain yn ôl, hynny yw, os ydym ni wedi ei fuddsoddi, daw'r arian yn ôl, a dim ond ein harian ni sy'n mynd i mewn, onid ydym ni felly dim ond yn cael ein harian ein hunain yn ôl? Ac, mewn gwirionedd, y cwestiwn allweddol yw: beth yw'r gyfradd enillion gymedrig a roddir i'r rhai sy'n darparu cyllid preifat drwy'r model hwn? Rydym ni'n gwybod y gellir benthyca arian yn gymharol rad, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod terfyn ar yr hyn y gallwn ni ei fenthyg. Os gallem ni fenthyca'n ddarbodus, byddai pob un o'r ffyrdd arloesol hyn o wneud pethau yn ddiangen. Byddem yn defnyddio, fel y gall awdurdodau lleol, y model arloesol—yn hytrach na model arloesol, byddem yn defnyddio ein gallu i fenthyca'n ddarbodus, a byddai hyn i gyd yn cael ei wneud drwy fenthyca'n ddarbodus, y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yw hynny, a fyddai'n rhatach. Os yw'r Gweinidog yn mynd i ddweud wrthyf na fydd hynny'n rhatach, fe hoffwn i weld y ffigurau. Felly, mewn gwirionedd, i ddychwelyd at y tri chwestiwn hynny, y prif un yw: faint o elw mae'r rhai sy'n benthyca yn ei wneud?

16:00

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r materion hynny. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaethoch chi am fenthyca darbodus a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud hynny. Cawsom dipyn o drafodaeth am hyn yn ystod fy ymddangosiad diwethaf gerbron y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch chi ac eraill yn y Pwyllgor Cyllid ynghylch y mater hwn.

O ran y bondiau, er bod gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i gyhoeddi'r bondiau hynny, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i wneud hynny, oherwydd ein bod yn gallu benthyca drwy'r gronfa benthyciadau cenedlaethol, sydd yn gyffredinol yn cynnig cyfraddau llog is na bondiau Llywodraeth Cymru. Mae'r pŵer i gyhoeddi bondiau, fodd bynnag, yn bwysig, oherwydd ei fod yn golygu bod ffordd arall i Lywodraeth Cymru fenthyg pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu cynyddu ein cost benthyca.

O ran y cwestiwn am gyfradd gymedrig enillion ar gyfer prosiectau, wel, ar hyn o bryd rydym ni'n mynd i chwilio am bartneriaid i gyflawni'r prosiectau hyn ochr yn ochr â ni, felly, bydd llawer o'r manylion yn rhan o'r drafodaeth y byddwn ni'n ei chael yn y dyfodol agos gyda'r rhai sydd â diddordeb. Hoffwn ddweud ynglŷn â'r mater o bwysigrwydd penodi cyfarwyddwr y byrddau, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y manylion ynghylch sut y gallai'r penodiad hwn weithio i sicrhau y byddai gan y sawl a benodir y sgiliau a'r profiad i ymgymryd â'r swyddogaeth honno, oherwydd mae hynny i gyd yn rhan o'r ffordd bwysig y byddwn ni'n ceisio ei defnyddio i ddwyn partneriaid i gyfrif o ran cyflawni.

Mae nifer o bobl wedi codi'r mater o risg, a byddwn yn gweithredu dulliau adrodd sy'n cefnogi sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy wrth gwblhau dyfarniadau contract. Bydd ein trefniadau yn helpu i roi rhybudd cynnar am unrhyw gyflenwyr sy'n strategol bwysig a allai fod yn dioddef anawsterau ariannol, ac rydym ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael i ddatblygu darlun mor gynhwysfawr â phosib o gyflenwyr sy'n strategol bwysig ar draws y sector cyhoeddus fel y gallwn ni a chleientiaid yn y sector cyhoeddus ddeall yn glir y perygl posib o or-ddibynnu ar rhy ychydig o gyflenwyr.

A bwriad ein dulliau o weithredu polisïau caffael yw datblygu sylfaen gyflenwi amrywiol, gystadleuol, a sicrhau bod arferion busnes teg yn llifo drwy'r cadwyni cyflenwi hynny.

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 5 a 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 5 yw'r ddadl ar ddyfodol rheilffordd Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM6954 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y seilwaith strategol yng Nghymru.

2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru—Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru.

3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.

4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn arbennig am gytuno i gael y ddadl hon ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Rwy'n credu ei bod hi'n amser cyffrous ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n rheoli llawer o wasanaethau rheilffyrdd Cymru, ac rwy'n credu, o ganlyniad, y gallwn ni edrych ymlaen at gyflawni newid sylweddol o ran darparu gwasanaeth, gwelliannau i orsafoedd a hefyd, cerbydau newydd. Ond, mae hi yr un mor deg i ddweud gyda'r pwerau cywir a'r cyllid angenrheidiol, y gallem ni fod yn gwneud llawer mwy—mwy o wasanaethau i wella mynediad at swyddi a gweithgareddau hamdden; amseroedd teithio mwy deniadol i annog pobl i gefnu ar eu cerbydau preifat eu hunain; a mwy o orsafoedd i gysylltu ein cymunedau.

Mae'r cyd-destun ar gyfer darparu rheilffyrdd yng Nghymru yn gymhleth, yn dameidiog ac wedi'i danariannu. Cynlluniwyd y setliad rheilffordd presennol cyn dyfodiad datganoli. Er y gwnaed rhai ymdrechion i'w esblygu, mae'r setliad presennol yn parhau i adlewyrchu'r cyfnod pan gafodd ei greu. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan sydd yn y pendraw yn rheoli'r seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru.

Y setliad datganoli amherffaith hwn yw gwraidd llawer o'r problemau gyda'n rheilffyrdd. Mae'n tanseilio ein hymrwymiad i annog twf economaidd cynhwysol, i ddarparu buddsoddiad cytbwys ar draws rhanbarthau ac i ddatblygu rheilffordd sy'n diwallu anghenion cymdeithasol ein cymunedau gwledig.

Rydym ni'n gwybod nad yw rhaglen wella Llywodraeth y DU yn gwasanaethu Cymru ac nad yw'n diwallu ein hanghenion ni. Hyd yma, nid ydym ni wedi gweld un o'r achosion busnes a gyhoeddwyd pan ganslodd Llywodraeth y DU y cynllun trydaneiddio i Abertawe dros 18 mis yn ôl. Nid ymrwymwyd i roi arian ar gyfer unrhyw gynlluniau i wella ein rheilffordd—ni roddwyd eglurder ynghylch cynnydd na'r camau nesaf.

Ni ellir parhau i ddefnyddio ffordd Llywodraeth y DU o ddyrannu cyllid, sy'n rhoi blaenoriaeth i ardaloedd o'r wlad lle mae mwy o bobl yn defnyddio rheilffyrdd, yn aml oherwydd mwy o fuddsoddiad hanesyddol. Mae'r pwyslais ar eu blaenoriaethau seilwaith, eu meini prawf buddsoddi a'u cymhellion gwleidyddol eu hunain mewn gwirionedd yn gwahaniaethu yn erbyn ein cymunedau llai o faint a mwy anghysbell, ac yn lleihau ein gallu i ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae'r diffyg buddsoddi parhaus yma mewn seilwaith yn cyfyngu ar y capasiti ar gyfer gwasanaethau newydd, yn cyfyngu ar gyflymderau trenau newydd ac yn llyffetheirio ein gallu ni i agor y gorsafoedd yr ydym ni'n wirioneddol eisiau eu gweld.

Mae ein gweledigaeth strategol, 'Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru: Yr Achos dros Fuddsoddi', a luniwyd gan yr Athro Mark Barry, yn cynnig dadl gref dros wella seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru a'r prif reilffyrdd sy'n gwasanaethu Cymru. O'r gwaith hwn, mae'n amlwg bod modd cyflawni mwy na £2 biliwn o fanteision economaidd o raglen fuddsoddi uchelgeisiol, realistig a theg o fewn seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Disgwylir y bydd dros £3 biliwn yn cael ei wario ar y rheilffordd cyflymder uchel 2 yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r un peth eto ar wella'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol. Byddai setliad datganoli teg i Gymru yn caniatáu inni, dros y 10 mlynedd nesaf, ariannu cynlluniau megis ailagor rheilffyrdd, trydaneiddio prif reilffyrdd y de a'r gogledd, a chodi gorsafoedd newydd ar draws y rhwydwaith.

Felly, rwy'n galw ar i Lywodraeth y DU gydnabod a mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol hwn yn seilwaith rheilffyrdd Cymru drwy gynnig dull arall ar gyfer datblygu a darparu'r cynlluniau y mae eu hangen arnom ni i wella cysylltedd ledled Cymru. Byddai'r buddsoddiad sy'n ofynnol i fodloni'r safonau a bennwyd ar gyfer y llwybrau rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd craidd drwy Gymru i Aberdaugleddau a Chaergybi erbyn 2030 yn sicrhau cynnydd sylweddol. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddatblygu amserlen er mwyn cyflawni ei hymrwymiadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd y gogledd a'r de yn llawn. Ni ddylai Cymru fethu â manteisio ar y buddsoddiad hwn o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau a wneir yng nghyd-destun Brexit.

Mae adolygiad trwyadl Keith Williams o reilffyrdd Prydain yn gyfle i ddiwygio'r rheilffordd ac i greu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig y mae ar Gymru ei angen. Ni ddylid colli'r cyfle hwn. Dylai ein rheilffordd fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad enfawr, yng Nghymru, i fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi.

Rydym ni'n disgwyl i adolygiad Williams nodi cynllun clir er mwyn i Gymru gael mwy o lais wrth bennu gwasanaethau rheilffyrdd; i reoli a datblygu seilwaith gyda setliad cyllido teg; ac i sefydlu fframwaith rheoleiddio sy'n cydnabod amrywiaeth datganoli yn y DU, gan gynnal rheilffordd genedlaethol sydd o fudd i bob rhan o Brydain.

Rwy'n gofyn i Aelodau heddiw gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad rheilffyrdd Llywodraeth y DU, adolygiad sy'n cael ei wneud gan Keith Williams, a'r newidiadau sylweddol y gofynnwyd amdanyn nhw. Bydd hyn yn rhoi'r mandad cryfaf imi pan fyddaf yn cyfarfod â Keith Williams yr wythnos nesaf i ddadlau'r achos dros ddwyn y setliad datganoli rheilffyrdd i'r unfed ganrif ar hugain, gan roi inni'r pwerau a'r arian sydd eu hangen arnom ni i ddarparu'r rheilffordd y mae pobl Cymru yn ei haeddu. 

16:10

Diolch. Rwyf wedi dewis yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 1.

Gwelliant 5—Darren Millar

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 6—Darren Millar

Dileu popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau.

Yn gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a Lerpwl.

Yn nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud.

Yn annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 5 a 6.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau yn enw Darren Millar. Mae dweud y bu tanfuddsoddi gan Lywodraeth bresennol y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn gwbl anghywir. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na'r rhethreg a amlinellir yn y cynnig.

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed yn seilwaith rheilffordd Cymru. Mae cyllideb Network Rail ar gyfer llwybr Cymru a'r gororau ar gyfer y cyfnod 2019-2024 yn £2 biliwn, cynnydd o 28 y cant ers y cyfnod rheoli diwethaf. Gadewch inni ddathlu rheilffordd sy'n fwy a gwell ar gyfer Cymru—[Torri ar draws.]—mewn eiliad, gwnaf, fe wnaf i—a fydd yn cael ei darparu, gan wella amserau siwrneiau i deithwyr ar y trenau newydd mwyaf datblygedig. Hefyd, y buddsoddiad o £5.7 biliwn mewn trenau cyflym InterCity newydd sbon, a fydd yn tynnu 15 munud oddi ar y daith rhwng de Cymru a Llundain, ac mae gan bob trên hyd at 24 y cant o seddi ychwanegol o'i gymharu â thrên cyflym arferol—mae hyn, rwy'n gobeithio, i'w groesawu.

Diolch i chi am ildio, Russell. Rydych chi'n ymdrechu'n lew i geisio amddiffyn hwn, ond tybed beth yw eich ymateb i'r dadansoddiad a gymeradwywyd gan y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig a'r pwyllgor dethol seneddol ar drafnidiaeth yn San Steffan, grwpiau trawsbleidiol. Yn wir, caiff y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig ei gadeirio, os cofiaf yn iawn, ar hyn o bryd, gan yr Aelod Ceidwadol dros Sir Fynwy, rwy'n credu ei fod yn dal i wneud. Daethant i'r casgliad fod systemau presennol yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer arfarnu cynlluniau a'i phrosesau presennol wrth wneud penderfyniadau yn milwro yn erbyn rhanbarthau y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr gan eu bod yn rhoi pwyslais sylweddol ar leihau tagfeydd presennol. Maen nhw'n nodi Crossrail, buddsoddiad enfawr o amgylch Paddington a phopeth yn rhan o hynny. Dônt i gasgliad sydd i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn yr ydych chi'n ei honni, Russell, felly a ydyn nhw'n anghywir?

Wel, mae'n ddiddorol eich bod wedi crybwyll rhan o'r adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae rhan arall o adroddiad y pwyllgor dethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017 yn dod i'r casgliad bod buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gamreoli'n gyson gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf. Felly, fe allwn ni i gyd ddewis a dethol, oni allwn ni, pa rannau o'r adroddiad yr ydym ni eisiau eu darllen.

O ran y gwaith—wrth imi symud ymlaen yn awr—gan yr Athro Mark Barry, mae'r adroddiad yn edrych yn fanwl ar ymyriadau strategol hirdymor y gellid eu gwneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru i wella cysylltedd a sicrhau manteision economaidd yn y pen draw. Rwy'n sicr yn credu bod llawer yn yr hyn a ddywed i'w groesawu ac rwy'n credu ei fod yn synhwyrol. Ond nid oes costau, wrth gwrs, yn ei adroddiad, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio mwy ar gyflwyno gweledigaeth ar gyfer dyfodol seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn hytrach na ffordd realistig o gyflawni'r weledigaeth honno. Rwy'n derbyn bod eisiau rhoi mwy o gig ar yr asgwrn yn amlwg.

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, y ffaith yw y gall Llywodraeth Cymru wneud sawl peth, ac rwy'n credu i'r gweinidog ddechrau drwy ddweud hynny hefyd. Y gwir amdani yw, mewn llawer o achosion, yn y pen draw yma yn Llywodraeth Cymru y mae'r cyfrifoldeb o ran sefyllfa'r trenau yng Nghymru. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran profiad teithwyr.

Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, sydd ers y llynedd yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, fel y gwyddom ni. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r nifer enfawr o drenau a gafodd eu canslo, tra bo gwasanaethau sy'n dal i redeg yn orlawn erbyn hyn oherwydd peidio â defnyddio llawer o gerbydau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gwestiynu strategaeth drosglwyddo Llywodraeth Cymru o ran hyn. Yr hyn a welsom ni yr Hydref diwethaf oedd nid y gwelliannau trawsffurfiol i wasanaethau a addawodd Llywodraeth Cymru, ac nid yw ychwaith yn cynrychioli'r capasiti ychwanegol neu'r weledigaeth o wasanaethau rheilffyrdd y dyfodol yng Nghymru y mae'r Athro Barry yn eu disgrifio. Llywodraeth Cymru sydd heb os yn gyfrifol am y llanast presennol a welsom ni'r Hydref diwethaf ac mae ei hymgais i fwrw'r bai yn annerbyniol yn y ddadl hon heddiw.

16:15

Yn ôl yr Athro Mark Barry, fel a ddyfynnwyd gennych chi, mae'n credu bod Cymru wedi'i thanariannu—[Anghlywadwy.]—2016. A ydych chi'n anghytuno?

Fe wnes i amlinellu ar ddechrau fy nghyfraniad fod y cyfnod rheoli nesaf yn gynnydd o 24 y cant, ac o ran buddsoddiad hefyd, cafwyd £50 miliwn ar gyfer y prosiect i uwchraddio llinellau rheilffordd y gogledd, gan gynnwys system signalau newydd ar gyfer y gogledd ar brif linell reilffordd yr arfordir o Shotton i Fae Colwyn, £300 miliwn o fuddsoddiad yn ardal Caerdydd ar gyfer ailosod signalau, buddsoddiad o £2 miliwn o'r gronfa gorsafoedd newydd o Pye Corner i Gasnewydd, £4 miliwn o'r gronfa gorsafoedd newydd ar gyfer Bow Street ac Aberystwyth, £16 miliwn o fuddsoddiad ar linell Halton curve sy'n cysylltu gogledd Cymru â Lerpwl. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn codi'r pwynt hefyd, ond gadewch i ni ganolbwyntio—gobeithio eich bod yn cytuno—nid ar ble y mae'r buddsoddi'n digwydd, ond ar beth yw'r budd i deithwyr Cymru. Yn sicr, mae'n rhaid ystyried hynny, ac mae'r un peth yn wir o ran HS2 yn hynny o beth hefyd. Felly mae'n siomedig o ran hynny.

Wrth gwrs, yn ogystal â threnau gwell, mwy o gapasiti a gwell prisiau a dewis o docynnau, rwy'n credu hefyd ein bod ni eisiau gweld gwasanaethau rheilffyrdd sy'n integreiddio'n effeithiol â'r dulliau eraill o drafnidiaeth yr ydym ni'n eu defnyddio'n feunyddiol, a system drafnidiaeth nad yw'n cael ei hystyried ar wahân ond yn cyfrannu at dwf economaidd trawsffiniol ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn well. Rwyf wedi crybwyll llinell Halton curve yn un enghraifft o hynny.

Mae'n rhaid inni edrych hefyd ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU o £5 miliwn ym margen ddinesig Caerdydd, a fydd yn hybu cronfa fuddsoddi a chyfres o gyfleoedd i'r rhanbarth a chymorth ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd hefyd. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod graddfa'r ymyriad hwn gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru drwy'r fargen twf a'r fargen ddinesig, nid ei ddilorni fel y gwelir yn y cynnig heddiw. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ceisio cydnabod bod angen mynd ati mewn modd sy'n cynnwys y Llywodraeth gyfan yn ei sylwadau wrth gloi heddiw.    

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8 a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.'

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.'

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.

Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 7 ac 8.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. 

Gadewais fy nghartref ar Ynys Môn tua 6.30 p.m. neithiwr. Chwe awr yn ddiweddarach, cyrhaeddais Fae Caerdydd. Gallwn i fod wedi neidio i'r car a gwneud y daith mewn tua phedair awr yn hawdd ar yr adeg honno o'r nos. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod gennym ni system reilffyrdd—a ddylai gymell pobl i'w defnyddio—sy'n anghymhelliad bob tro yr edrychwch chi ar sut y mae teithiau hir yn gweithio yng Nghymru. Cant ac un o bunnau yw cost tocyn dwyffordd ar gyfer y daith honno. Doedd dim cwpanaid o de yn ystod y chwe awr ar y trên. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac nid yw'n dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain fy mod i'n gorfod ymbalfalu ar fy mhedwar yn chwilio am yr un soced sydd yno ar y trenau hynafol hynny. Nid yw'n ddigon da.

Nawr, wrth gwrs, bu newidiadau yr ydym ni'n edrych ymlaen at eu gweld yn dwyn ffrwyth wrth greu Trafnidiaeth Cymru, ac, ydy, mae'r cerbydau i fod i gael eu gwella yn y blynyddoedd i ddod. Ond mae rheswm da iawn, rwy'n credu, pam fod gennym ni gerbydau mor druenus, pam fod gennym ni system o'r fath sy'n anghymhelliad i bobl ei defnyddio, a'r rheswm yw diffyg buddsoddi yn seilwaith ein rheilffyrdd. Ac mae'n hanesyddol, ac mae'n digwydd ers blynyddoedd lawer. Mae'r Athro Mark Barry yn ei adroddiad yn dyfynnu data'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar gyfer 2011-2016 sy'n dangos na chafodd llwybr Cymru ond 1 y cant o'r gyllideb gwella—£198 miliwn allan o'r gyllideb o £12.2 biliwn—er gwaetha'r ffaith ei bod yn 11 y cant o'r rhwydwaith. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Gellir nodi ffigurau cyfartal o gyfnod y Blaid Lafur mewn Llywodraeth—1997-2010—sydd unwaith eto'n dangos diffyg hanesyddol o fuddsoddiad. Felly, nid yw fel petai un blaid yn gallu golchi ei dwylo. Ond dyma ble'r ydym ni, ac rwyf yn cefnogi'r sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ar y cyfan, wrth ymateb i adroddiad Williams a dweud na allwn ni aros yn y sefyllfa hon yn edrych at y dyfodol lle mae tanfuddsoddi yng Nghymru yn parhau heb ei ddatrys. Os nad oes gennym ni'r buddsoddiad sydd ei angen yn y seilwaith, ni fyddwn yn cael, faint bynnag y bydd y cerbydau yn gwella, a faint bynnag y bydd nifer y gwasanaethau'n cynyddu, seilwaith rheilffyrdd sy'n gweithio i Gymru.

Rydym ni'n cyfeirio at nifer o gynigion ynglŷn â beth sydd angen ei wneud yn ein gwelliannau heddiw. Yn sicr, yn ein gwelliant cyntaf, gwelliant 2, rydym ni'n condemnio'r sefyllfa, y sefyllfa hanesyddol. Nid yw'n siomedig—rhaid ei gondemnio. Yn ein trydydd gwelliant, gwelliant 3, rydym ni'n gwneud y pwynt bod Cymru wedi bod yn llusgo y tu ôl i weddill y DU yn barhaus o ran seilwaith trafnidiaeth. Yng ngwelliant 4, pwysleisiwn yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yn ein system reilffyrdd. Oes, mae angen llawer iawn o gysylltiadau lleol cryfach, ar gyfer cymudwyr yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain, ar draws arfordir y gogledd, ar draws y de ac mewn rhannau eraill o Gymru, ond mae angen inni fod yn ceisio creu cysylltedd drwy Gymru gyfan. A dyna pam mae'n rhaid—mae'n rhaid—i ni roi cynlluniau tymor hir ar waith i'n cysylltu ni ar batrwm rhif wyth, rhywbeth sy'n cymryd gormod o amser i'w adeiladu yn nhermau ffyrdd, ond mae ei angen o ran rheilffyrdd hefyd, fel ein bod ni'n cysylltu'r gorllewin—[Torri ar draws.]—nid yn unig o Gaerfyrddin i Aberystwyth, y cyfeirir ato'n aml, ond hefyd o Fangor i lawr i Aberystwyth. Gwnaf, fe wnaf i ildio.

16:20

A yw'n derbyn y gall fod yna fudd hefyd i bobl yng Nghymru o fuddsoddi yn y rheilffyrdd hyd yn oed os nad yw hynny o fewn ffiniau Cymru, yn enwedig trydaneiddio'r rheilffordd o Paddington hyd at dwnnel Hafren? Mae hynny yn hynod o fuddiol i Gymru ac a wnaiff ef gydnabod hynny?

Rwy'n sicr yn un nad yw'n gweld Cymru'n ynysu ei hun, ac fe all yr hyn sy'n digwydd o ran seilwaith mewn mannau eraill fod yn fuddiol. Ond fe all yr hyn sy'n digwydd o ran seilwaith mewn mannau eraill fod yn niweidiol i ni hefyd. Edrychwch ar HS2—mae pob astudiaeth yn dangos y gallai HS2, gyda'r biliynau sy'n cael ei wario arno, fod yn niweidiol i economi Cymru gyfan, er bod rhai manteision yn bosib o ran cyswllt fyddai ychydig yn gyflymach i Crewe i deithwyr yn y gogledd.

Af ymlaen at fy ngwelliant lleol, gwelliant 8, sy'n galw am ailagor y rheilffordd o Gaerwen i Amlwch. Rydym ni i gyd yn gresynu at y penderfyniadau a wnaed gan Beeching yn y 1960au, ond fe arbedwyd rhai rheilffyrdd yr adeg honno ac rydym ni wedi elwa o hynny. Un enghraifft dda yw ailagor y rheilffordd i Lynebwy. Cafodd rhai rheilffyrdd eu harbed. Un arall a arbedwyd oedd y llinell ar draws Ynys Môn. Cafodd ei harbed gan ei bod yn cael ei defnyddio fel cyswllt diwydiannol i waith bromid y Great Lakes yn Amlwch, hyd at y 1990au. Mae yna reilffordd yno, mae angen ei hailagor. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi am y newyddion economaidd drwg a gawsom ni yng ngogledd Ynys Môn yn ddiweddar. Gadewch inni ganolbwyntio o'r newydd ar ailagor y llinell honno fel y gallwn ni ystyried cysylltu'r gymuned anghofiedig honno yng ngogledd yr Ynys gyda chyfleoedd economaidd newydd, ac edrych am gyfleoedd twristiaeth ar yr un pryd. Mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol ar Ynys Môn, ond wrth inni edrych ychydig yn ehangach heddiw, mae'n rhaid inni fod yn fwy uchelgeisiol ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer ein seilwaith rheilffyrdd ein hunain yng Nghymru yn y dyfodol.

Rwyf eisiau dechrau fy sylwadau'r prynhawn yma drwy groesawu'n fawr iawn y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn y ddadl hon. Credaf ei bod hi'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i roi ein cefnogaeth lwyr i Lywodraeth Cymru wrth iddi gyfrannu at adolygiad Williams a gwneud yn siŵr fod gennym ni setliad sy'n addas i'w bwrpas. A phan rwy'n dweud, 'setliad sy'n addas i'w bwrpas', nid wyf yn golygu rhywbeth y gallai llefarydd Ceidwadol sefyll ar ei draed a'i amddiffyn ar brynhawn dydd Mawrth yma. Rwy'n golygu rhywbeth sy'n ateb anghenion ein hetholwyr o ddydd i ddydd. A phan rwy'n edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithredu gyda chreadigrwydd a dychymyg i ailagor gwasanaethau, i fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd, yr hyn a welaf yw Llywodraeth sy'n gwbl ymroddedig i wasanaethu fy etholwyr o ddydd i ddydd.

Siaradodd Rhun ap Iorwerth am lwyddiant llinell Cwm Ebwy, ac mae'n llygad ei le yn gwneud hynny, ac, wrth gwrs, byddai fy nghyfaill yn siarad am linell Maesteg, a byddai cyfaill arall yn sôn am linell Bro Morgannwg. Mae gennym ni'r llwyddiannau gwirioneddol yma i'w dathlu, ond mae angen inni hefyd—.Os yw'r llinellau yma a ail-agorwyd i barhau i fod yn llwyddiant yn y dyfodol, mae angen inni fuddsoddi ynddyn nhw yn awr ar gyfer y dyfodol hefyd, a golyga hynny i ni ar linell Glyn Ebwy ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym ni gerbydau newydd, cerbydau sy'n fodern, a bod gennym ni'r gwasanaethau newydd, nid dyblu'r gwasanaethau yn 2021 yn unig, ond rwy'n cofio'r Gweinidog yn dweud yn ei ddatganiad ym mis Mehefin y llynedd fod arno eisiau ymchwilio i bedwar gwasanaeth ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ac rwy'n gobeithio y bydd modd inni gyflawni hynny, ac yn sicr mae gennyf ddiddordeb yn ei sylwadau'r prynhawn yma ynglŷn â'r cynnydd hwnnw mewn capasiti y mae angen inni allu ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf. Ond allwn ni ond gwneud hynny os yw'r strwythurau yn eu lle i hyrwyddo'r gwaith.

Mae gennyf gryn ddiddordeb gael sicrwydd, os mynnwch chi, gan y Gweinidog fod llinell Cwm Ebwy yn parhau i gael ei hystyried yn wasanaeth rhyng-drefol, yn cysylltu Blaenau'r Cymoedd gyda chalon ein prifddinas, oherwydd er bod pob un ohonom ni'n gobeithio cynyddu gwasanaethau, cynyddu'r nifer o orsafoedd, buddsoddi yn ein rheilffyrdd ar hyd a lled y wlad, wrth gwrs, i'r rheini ohonom ni sy'n defnyddio gwasanaethau lle mae'r gorsafoedd ar ddiwedd y llinell, mae aros ymhob gorsaf ar y ffordd yn gwneud ein teithiau'n hirach. Felly, mae angen inni sicrhau fod yna ymrwymiad er mwyn gallu darparu cysylltiad rheilffordd effeithiol o dref Glynebwy i Gaerdydd, gan gynnwys Abertyleri, lle mae'r gwasanaeth rheilffordd yno ar gyfer  Blaenau'r Cymoedd ac nid gwasanaeth cymudo i Gaerdydd a Chasnewydd, ac mae hwnnw'n wahaniaeth real a phwysig iawn. Ac fe ddyweda hyn wrthych chi, Gweinidog— ac rwy'n gwybod eich bod wedi cael eich lobïo ar hyn ar nifer o achlysuron gwahanol: nid oes yna unrhyw gefnogaeth yng Nglynebwy na Blaenau Gwent ar gyfer unrhyw wasanaeth i Gasnewydd. Cafodd hwn ei sefydlu fel gwasanaeth i gysylltu Blaenau'r Cymoedd gyda phrifddinas y wlad, ac mae hwn yn wasanaeth mae arnom ni ei eisiau, ac nid oes angen gwasanaeth cymudo arnom ni, ychwaith, mae arna i i ofn, ar gyfer Casnewydd na Chaerdydd. Gwasanaeth yw hwn i gysylltu'r cymunedau tlotaf yn y wlad hon gyda chalon ein prifddinas, ac mae angen inni allu canolbwyntio mewn difrif calon ar hynny. Felly, nid oes consensws na chefnogaeth ym Mlaenau Gwent i amharu â'n gwasanaeth rheilffyrdd fel yna.

Ond er mwyn darparu'r hyn y gallai'r rheilffordd honno ei wneud mewn gwirionedd, sef llwyddiant cymdeithasol ac economaidd, mae angen strwythur arnom ni a all wneud hynny yn y dyfodol, ac er bod yr Aelod dros Sir Drefaldwyn, llefarydd y Ceidwadwyr ar y materion hyn, wedi gwneud ymdrech lew i amddiffyn agwedd y Ceidwadwyr tuag at ddatblygu'r rheilffyrdd, rwy'n ofni na lwyddodd i fy argyhoeddi ynglŷn â'r mater hwnnw y prynhawn yma. Nid ydym ni wedi gweld y buddsoddiad angenrheidiol yng Nghymru sydd ei angen arnom ni. Nid ydym ni wedi gweld y pwyslais ar Gymru sydd ei angen arnom ni, a'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn ein rheilffyrdd, ond heb y strwythur democrataidd yr ydym ni'n disgwyl ei weld er mwyn cyflawni hynny.

Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, Gweinidog. Mae'n ymwneud â chyfiawnder economaidd. Mae'n ymwneud â chael strwythur sy'n gallu darparu'r ddau beth yna yn ein gwlad yn y dyfodol. Wn i ddim a yw Gweinidogion y DU wedi trafod buddsoddiad ar linell Cwm Ebwy gyda Gweinidogion Cymru o gwbl; rwy'n amau hynny'n fawr. Mae rheilffordd Cwm Ebwy yn bell iawn, iawn o Whitehall a San Steffan. Mae'n bell iawn o'u meddyliau, ac nid wyf i erioed wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw—nid wyf erioed wedi cael fy argyhoeddi eu bod yn poeni mewn unrhyw fodd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma.

Felly, rwy'n gobeithio yn y dyfodol, Gweinidog, y byddwn ni'n gallu gweld setliad sy'n eich galluogi chi a ninnau i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Mae angen buddsoddiad mewn cerbydau ac mewn cysylltiadau rheilffyrdd arnom ni. Mae angen cysylltiadau ar gyfer cymunedau megis Abertyleri, sydd ddim yn cael eu gwasanaethu o gwbl gan y strwythurau presennol, ond yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim arnom ni yw setliad ac eglurder fod yna ymrwymiad i ariannu'r uchelgais a'r weledigaeth hon, ymrwymiad i ariannu'r math o fuddsoddiad yn y system reilffyrdd sydd ei angen arnom ni, ac i mi, mae hynny'n golygu datganoli'r seilwaith a'r rheolaeth dros y seilwaith i Gymru, fel y gall y Llywodraeth hon dorchi ei llewys a bwrw ymlaen â'r gwaith nad oes gan y Torïaid unrhyw ddiddordeb ei ddechrau hyd yn oed.

16:30

Wel, fel sy'n digwydd mor aml gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yma, mae'r cynigion yn dechrau gyda phennawd papur newydd, nawr yn honni tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Mewn datganiad ysgrifenedig fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd y Gweinidog yma mai Cymru gafodd y swm lleiaf o fuddsoddiad rheilffyrdd yn y DU a'n bod ni wedi derbyn llai na 2 y cant o'r buddsoddiad mewn gwelliannau rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, wedi cyfleu hyn wrth Network Rail yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2017, anfonwyd copi o adroddiad blynyddol Swyddfa Rheilffordd a Ffyrdd, 'UK Rail Industry Financial Information 2015-16' i'r Aelodau, sy'n datgan i Gymru mewn gwirionedd dderbyn 9.6 y cant o arian net y Llywodraeth ar gyfer gweithredwyr masnachfraint trenau a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm net cyllid y Llywodraeth ar gyfer llinellau trên Network Rail.

Rhoddodd adroddiad y flwyddyn ganlynol, a gyhoeddwyd yn 2018, oleuni pellach ar hyn. Ar gyfartaledd, cyfrannodd y Llywodraeth £1.53 fesul taith teithiwr yn Lloegr, £6.08 yn yr Alban a £8.82 yng Nghymru. Cyllid net y Llywodraeth, fel canran o incwm cyfan y diwydiant rheilffordd yng Nghymru, yr Alban a Lloegr oedd 17 y cant yn Lloegr, 47 y cant yn yr Alban a 49 y cant yng Nghymru. Cyllid net y Llywodraeth ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd fel canran o gyfanswm yr incwm, gan gynnwys cyllid ar gyfer seilwaith, oedd 56 y cant yng Nghymru a'r Gororau, o'i gymharu â dim ond 21 y cant ar gyfer cyfanswm Prydain Fawr.

Derbyniodd Cymru a'r Gororau 9.4 y cant o arian net gan y Llywodraeth o ran ardal masnachfraint. O blith holl linellau Prydain Fawr, yng Nghymru oedd y gwariant mwyaf fesul teithiwr, sef 43c y cilomedr. Derbyniodd Cymru dros 5 y cant o wariant gwella Network Rail GB fesul llinell, a derbyniodd Cymru bron i 10 y cant o gyfanswm cyllid Llywodraeth gweithredwyr masnachfraint trenau a Network Rail—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.

[Anghlywadwy.]—ystadegau ar flaenau eich bysedd.

Nac oes, nac oes—dim ystadegau o gwbl. Dim ond fel fy mod i'n glir pan rwyf yn trafod hyn gyda'm hetholwyr fy hun, Mark, rydych chi'n cyflwyno dadl argyhoeddiadol bod Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd o gronfa'r DU. Ai dyma safbwynt y Blaid Geidwadol mewn difrif calon? Oherwydd bydd hynny'n cael lle amlwg a blaenllaw ar fy holl lythyrau a anfonir at fy etholwyr: 'Mae gennym ni fwy na'n cyfran deg, fe ddylem ni fod yn ddiolchgar am yr hyn a gawn ni.' Ai dyna mewn gwirionedd yr hyn y mae'n ei ddweud?

Dyma'n wir yr hyn y mae adroddiadau blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn ei ddweud, sydd, rwy'n credu, yn annibynnol o'r Llywodraethau yma ac yn y DU.

Yn ei ddatganiad ar 10 Rhagfyr, dywedodd y Gweinidog fod rhagolwg Adran Drafnidiaeth y DU ei hun yn dangos y byddai HS2 yn achosi £200 miliwn o ddifrod economaidd blynyddol i economi de Cymru. Y ffynhonnell ar gyfer hyn yw'r gwaith a wnaeth yr Athro Mark Barry i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiad yr Athro Barry hefyd yn dyfynnu dadansoddiad KPMG, a oedd yn amcangyfrif y gallai cynnyrch domestig gros y gogledd elwa o £50 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i HS2. O gofio bod y Gweinidog hefyd yn Weinidog dros y gogledd, mae angen inni wybod, felly, ble mae ei flaenoriaethau. Cyflwynwyd cais Bargen Twf Gogledd Cymru i Lywodraethau Cymru a'r DU ym mis Ionawr 2018. Deellir bod penawdau'r telerau i'w cytuno arnyn nhw erbyn diwedd mis Chwefror. Fis Hydref diwethaf, nodwyd yn 'Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru - Dogfen Gynnig' gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

'Ceisir pwerau a chyfrifoldebau newydd i hwyluso twf mewn meysydd polisi allweddol megis trafnidiaeth a chyflogaeth. Mae ein hymagwedd yn hyrwyddo rhanbartholdeb a datganoli'.

Mae'n datgan hefyd:

'Nid yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn cefnogi twf economaidd rhanbarthol yn effeithiol. Mae llai na 1% o deithiau i'r gwaith yn cael eu gwneud ar y rheilffordd... Sefydlwyd yr ymgyrch Growth Track 360 er mwyn adnabod blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi...mewn isadeiledd ac mewn gwasanaethau ychwanegol hefyd...Yn benodol, mae gwelliannau i gyflymder y lein ar hyd arfordir y Gogledd, gwelliannau lein Wrecsam i Bidston a gwelliannau capasiti gorsafoedd Caer a Wrecsam yn flaenoriaethau.'

Mae'n galw unwaith eto ar i Lywodraeth Cymru gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol yn y gogledd, gyda phwerau ac arian wedi ei ddirprwyo i'r corff er mwyn caniatáu iddo weithredu mewn capasiti gweithredol. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthyf yn y Siambr hon ei fod yn croesawu'r cynnig yn fawr i greu corff trafnidiaeth rhanbarthol, dywedodd wrth y Cynulliad hwn hefyd ei fod wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cael swyddfa yn y gogledd. Felly, pa un sydd i fod, Gweinidog? Cyfarwyddyd o'r brig gan Lywodraeth Cymru, neu wneud penderfyniadau yn rhanbarthol?

Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni y byddai paratoi manwl yn sicrhau trawsnewid gwasanaethau pan fyddai Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau fis Hydref diwethaf, cafwyd ymddiheuriad am yr oedi a'r diddymu gwasanaethau a fu yn y gogledd ym mis Tachwedd. Dywedwyd wrthyf gan ffynhonell ddibynadwy mai'r achos oedd prinder offer a darnau sbâr a diffyg mynediad at durniau olwyn oedd yn deillio o fethiant y gweithredydd i'w darparu mewn da bryd. Fis yn ddiweddarach, cysylltodd un o'm hetholwyr â mi ynghylch problemau parhaus ar linell Shotton i Wrecsam, gan ddweud, 'Maen nhw'n beio storm Callum yn rhan o'r esgus, ond roedd hynny chwe wythnos yn ôl'. Fis diwethaf, ysgrifennodd Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Bidston Wrecsam gan ddweud mai'r rheswm ymddangosiadol pam fod nifer y teithwyr i'w weld yn sylweddol is oedd oherwydd yr amharu sylweddol a fu yn fuan ar ôl i'r gwasanaeth drosglwyddo i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Felly, yn lle bwrw'r bai, dylai'r Gweinidog ganolbwyntio eto ar y mater hwn.

16:35

Mae yna chwe blynedd ers adroddiad Mark Barry, 'Metro ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Cymru', ac mae yna dair blynedd ers i fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyhoeddi, 'Sbarduno Economi Cymru', a oedd yn dadlau y gallai system drafnidiaeth integredig, fyddai'n cyd-fynd â chynllunio'r defnydd o dir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. Mae'n dadlau mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus fodern, o ansawdd uchel, amlfodd ac integredig, a'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud oedd nad oedd angen rhagor o ffyrdd arnom ni.

Un bore'r wythnos diwethaf, teithiais i ymweld â fferm ym Mro Morgannwg—ar hyd yr A4232, rwy'n credu mai dyna enw'r ffordd—ac roeddwn i'n rhyfeddu o ddifrif o weld y tagfeydd diddiwedd oedd yn dod i mewn i Gaerdydd am naw o'r gloch y bore. Beth oedden nhw'n ei wneud? Y rheswm eu bod nhw'n eistedd yno'n eu ceir yw am nad oes yna wasanaeth rheilffordd digonol, na gwasanaeth tram, i'w galluogi i wneud y peth iawn iddyn nhw eu hunain ac i'w plant, sef cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid mai hyn yw'r dewis amgen realistig i'r cynigion Brenin Caniwt a glywir dro ar ôl tro gan Paul Davies a Mark Reckless, sef adeiladu mwy o ffyrdd, gan y bydd hynny'n arwain at fwy o geir a mwy o dagfeydd yn ystod oriau brig. Nid dyna'r ateb, ac ni allwn ni fforddio gwneud hynny, gan ein bod yn gwybod fod llinell reilffordd yn costio'r un faint â thraffordd, ond mae'n cludo rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl. Felly, yn amlwg, mae rheilffordd yn well ateb na ffyrdd.

Ond mae angen i ni gael atebion gwirioneddol glir i'r problemau cymudo sy'n bodoli o amgylch Casnewydd, ac mae angen i ni hefyd gysylltu Maesteg, Glynebwy a llinellau Bro Morgannwg gyda gweddill Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan nad yr ateb yw dewis rhwng un peth a'r llall. Nid ydym ni eisiau gweld pawb yn dod i ganol y ddinas; rydym ni angen i bobl allu teithio mewn modd rhagweladwy lle maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n mynd i gyrraedd ar adegau penodol, a dyna lle mae'r ffyrdd bob amser yn methu, a ble bydd rheilffyrdd a thramiau yn ennill. Felly, fe hoffwn i holi ychydig mwy ynghylch cyflymder y newid y mae Network Rail yn mynd i allu ei ddarparu, oherwydd rwy'n credu, Ken Skates, eich bod wedi ysgrifennu at reolwr gyfarwyddwr llinellau Network Rail ddiwedd 2016, oherwydd fe ddywedwyd wrthych chi y byddai'n cymryd 28 mlynedd i glirio'r ôl-groniad o waith sydd ei angen i gael system Cymru at y safon ofynnol, o ganlyniad i'r lefel buddsoddiad gwirioneddol echrydus o wael y buom ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU. Nodaf hefyd bod yr Athro Calvin Jones, athro economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi dweud yn gyhoeddus y gallai gymryd degawdau i gael y metro sydd ei angen arnom ni. Mae'n dweud bod hwn yn brosiect fydd yn cymryd o leiaf 15 i 20 mlynedd.

Hoffwn ddadlau fod angen inni gael Llywodraeth yn Llundain sy'n deall mai'r rhannau o'r DU sydd angen buddsoddi ynddyn nhw yw lleoedd fel Gogledd-ddwyrain Lloegr a Chymru, sydd wedi eu hamddifadu o arian, yn hytrach na rhoi'r arian i HS2 sy'n ddrud iawn, iawn ac sydd ond yn gwobrwyo'r ardaloedd sydd eisoes yn ffynnu. Felly, rwyf eisiau holi ymhellach am un neu ddau o bethau. Un ohonyn nhw yw'r ddadl dros reilffyrdd ysgafn, gan nad yw topograffi a'r nifer o arosfannau sydd ar reilffyrdd y Cymoedd byth yn mynd i allu sicrhau'r cyflymder, na'r amlder, y mae arnom ni eu hangen yn y gwasanaethau os ydym ni eisiau annog pobl i ddefnyddio'r rheilffyrdd yn hytrach na'u ceir mewn gwirionedd, ac rwy'n synnu ein bod yn parhau i drafod y dewis o gerbydau rheilffordd trwm, oherwydd er mwyn gwneud y rheilffyrdd neu'r tram yn gystadleuol, dyweder, i Ferthyr, mae'n rhaid i chi sicrhau bod amser y daith yn cael ei gostwng i 40 munud os ydych chi'n mynd i ddadlau'r achos hwnnw.

Bydd rhwydwaith reilffyrdd ysgafn yn rhatach i'w redeg, gan arbed miliynau dros y blynyddoedd o bosib, a bydd hefyd yn defnyddio llai o drydan, sy'n golygu llai o allyriadau carbon. A'r peth arall y byddwn yn falch o'i glywed gan y Gweinidog yw ynghylch y cynlluniau ar gyfer y pedair llinell hollbwysig hynny sy'n rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gan fod dwy ohonyn nhw, yn amlwg, angen eu cysylltu â'r brif reilffordd rhwng Abertawe, Caerdydd a Llundain, ond am y ddwy linell arall: pam na fellir eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cymudo, i Gasnewydd i Lynebwy, ac ati? Mae'n ymddangos i mi fod yna wasanaethau yr ydym ni mewn gwirionedd yn eu hanwybyddu pan fôn nhw eisoes yn bodoli, a byddai hyn yn rhoi amser i ni greu'r tramleiniau yn yr ardaloedd hynny lle mae gwir angen amdanyn nhw. Cofiwch nad oes car gan 25 y cant o gartrefi. Felly, mae'r syniad hwn o greu rhagor o ffyrdd yn eu heithrio nhw ac yn eu gwneud yn dlotach fyth. Mae'n rhaid i ni wneud i'r system drafnidiaeth gyhoeddus weithio i bawb, ac felly mae angen gwasanaethau rheilffyrdd gwell arnom ni, ond mae angen gwell gwasanaethau tramiau a bysiau arnom ni hefyd.

16:40

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sawl peth y byddem ni yn UKIP yn ei feirniadu. Fodd bynnag, teimlwn fod gennym ni ddyletswydd i bobl Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru lle'r ydym ni o'r farn fod eu gweithredoedd, ar y cyfan, wedi bod yn briodol. Roedd dechrau masnachfraint rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru fis Hydref y llynedd yn adeg allweddol i ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Ni ragwelodd masnachfraint 15 mlynedd y gweithredwr blaenorol unrhyw dwf yn nifer y teithwyr. Roedd y dybiaeth hon yn rhy isel o lawer, oherwydd cynyddodd nifer y teithwyr bob blwyddyn yn ystod cyfnod y fasnachfraint ddiwethaf, a arweinodd, yn anochel, at orlenwi cronig, yn enwedig ar linellau craidd y Cymoedd.

Roedd proses y fasnachfraint newydd yn orchwyl anferth i Lywodraeth Cymru, ac mae arnom ni yn UKIP eisiau talu teyrnged i waith y Gweinidog, Ken Skates, a'i adran yn sicrhau masnachfraint sy'n addo darparu trenau newydd, cynyddu cysylltedd a gwella cyfleusterau i deithwyr. Yn wir, mae llawer i edrych ymlaen ato yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n ymddangos bod cyfiawnhad llwyr dros ddefnyddio'r broses ddeialog gystadleuol. Er i'r dyddiau cyntaf o dan y gweithredwr newydd fod yn lled simsan, efallai, gyda'r oedi a'r canslo gwasanaethau a achoswyd oherwydd diffyg cerbydau, mae'n bwysig nodi nad oedd newid mawr byth yn mynd i ddigwydd dros nos. Cymharwch y dechreuad sigledig hwnnw, fodd bynnag, â pherfformiad yr wythnos diwethaf, pan oedd rhannau helaeth o Gymru o dan flanced o eira ac roedd llawer o'r trenau yn rhedeg ar amser neu gyda'r lleiafswm o oedi.

Credaf mai un o'r materion y mae hyn yn ei amlygu yw bod gweithredwyr y rheilffyrdd—y gorffennol a'r presennol—wedi bod yn cerdded llinell fain o ran cerbydau. Dim ond tri chwmni prydlesu trenau sydd yn y DU. Mae hyn, ynghyd â'r prosiectau trydaneiddio yn Lloegr sydd wedi'u gohirio, yn golygu na all unedau diesel gael eu dosbarthu'n helaeth, mae hyn wedi gwneud caffael cerbydau newydd neu hyd yn oed rai wedi'u hadnewyddu yn anodd dros ben, yn enwedig yn y tymor byr. Bydd cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch pum trên pedwar-cerbyd dosbarth 769 i redeg ar linellau Cymoedd y De, ynghyd â chyflwyno trenau dosbarth 230 wedi'u hailadeiladu, yn rhoi cymorth tymor byr cyn y gellir dod o hyd i, a darparu, trenau newydd. Os cyfunwn y gwahanol brosiectau metro, megis y gorsafoedd sydd wedi'u hadnewyddu'n llwyr, ac, mewn rhai achosion, gorsafoedd newydd, dylai teithwyr weld gwelliannau trawsnewidiol yn ystod oes y fasnachfraint newydd. Er ein bod yn edrych ymlaen at y gwelliannau hyn, rydym ni hefyd yn bwriadu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am weithredu hynny.

Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad dros gyfnod hir. Mae Llywodraethau olynol San Steffan, o bob lliw, wedi cyfrannu at hyn, ac ni welaf fod unrhyw fudd bwrw bai ar wleidyddiaeth y gorffennol ar hyn o bryd. Bellach, mae angen i'r DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i hybu gwelliannau. Am y rheswm hwn, Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r adroddiad gan yr Athro Mark Barry ynglŷn â'r ddadl dros fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dadlau'n frwd dros weddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ardaloedd cymudo y de a'r gogledd. Ar y cyfan, rwy'n credu y dylem ni hefyd fod yn gadarnhaol am adolygiad Williams. Rwy'n obeithiol y bydd yn rhoi sylw eang ac annibynnol i ddyfodol y rheilffyrdd ledled y DU, heb orfod troi at bwyntio bys at bwy sydd ar fai am fethiannau'r gorffennol. Yn fy nhyb i, y peth pwysicaf i gyd yw ailennyn hyder y cyhoedd yn rheilffyrdd y dyfodol.

A siarad yn fras, mae rheilffyrdd y DU yn cael gwir ddadeni, gyda chynnydd yn nifer y teithwyr a nwyddau yn arwain at lai o geir a lorïau ar ein ffyrdd. Ni allwn ni adael Cymru ar wahân. Nid oes unrhyw ffin galed rhwng Cymru a Lloegr, ac, wrth gwrs, mae llawer o ganghennau ar ein rhwydwaith yn ymestyn i Loegr. Felly, beth bynnag a fydd yn cael ei argymell gan adroddiad Williams yn y pen draw, byddem ni ar y meinciau hyn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU i ddarparu rhwydwaith rheilffyrdd sy'n wirioneddol gwasanaethu pobl Cymru. Byddwn, wrth gwrs, yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi bwyso i weithredu canfyddiadau adolygiad Williams yng Nghymru.

Ni allaf adael i'r foment yma fynd heibio, Dirprwy Lywydd, heb orfod gwrth-ddweud y sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Flaenau Gwent pan ddywedodd fod cyswllt rheilffordd i mewn i Gasnewydd yn hollol ddiangen. Nid dyna rwy'n ei glywed gan bobl ar lawr gwlad. Maen nhw'n awyddus iawn i gael y cysylltiad hwnnw. Pam y dylid trin dinas Casnewydd yn eilradd o'i chymharu â Chaerdydd? Mae'n sylw ofnadwy gennych chi—[Torri ar draws.] Gallwch wrth gwrs—Ildiaf.

16:45

Rydych chi newydd ddweud ei fod yn sylw ofnadwy o ran sôn am Gasnewydd. Roeddwn yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar bobl Blaenau Gwent, yr wyf yn eu cynrychioli.

Wel, wrth gwrs, wn i ddim a oeddech chi'n siarad mewn gwirionedd â phobl Blaenau Gwent, oherwydd yn sicr nid hynny mae pobl Blaenau Gwent yn ei ddweud wrthyf i. Maen nhw eisiau cysylltiad i mewn i Gasnewydd yn union yr un ffordd ag y maen nhw eisiau cysylltiad i mewn i Gaerdydd. Dyna'r gwir amdani.

Rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn dod â'r mater o ddyfodol rheilffyrdd Cymru ger bron y Senedd er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei drafod. Yn Islwyn, un o ganlyniadau mwyaf gweladwy datganoli yng Nghymru yw ailsefydlu'r llinell reilffordd i deithwyr rhwng Glynebwy a Chaerdydd gan Lywodraeth Cymru. Croesawyd hyn yn fawr fel gwelliant trafnidiaeth a buddsoddiad sylweddol. Mae rheilffordd Glynebwy wedi bod yn hynod boblogaidd, ac mae cymunedau yn Islwyn, megis Trecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phont-y-meistr wedi elwa'n uniongyrchol.

Hefyd mae'n gas gennyf anghytuno â fy nghyd-Aelod gynt, Alun Davies AS, ond, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, rwyf yn edrych ymlaen, ynghyd â fy etholwyr, at y gwasanaeth a addawyd ar linell Glynebwy a fydd yn cludo pobl Gwent yn uniongyrchol i'n dinas fwyaf, sef Casnewydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru, ac yn benodol Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi'i rhoi i'r alwad gan Aelodau Cynulliad Gwent i wneud hyn yn bosib—[Torri ar draws.] Mae gen i lawer i'w ddweud felly yn anffodus, na.

Mae hyn yn cyferbynnu'n llwyr ag esgeulustod Llywodraeth y DU o ran trydaneiddio—ymhell ar ei hôl hi, ac yn dal heb ei gyflawni. Rwy'n gwybod fod llawer o waith eto i'w wneud â'n gwasanaethau rheilffordd yn Islwyn. Yn rhy aml o lawer, mae etholwyr wedi cysylltu â mi, yn wyllt gacwn gyda'r gwasanaeth gwael yr oedden nhw'n ei gael o'r blaen gan Drenau Arriva Cymru wrth iddyn nhw ddod â'u masnachfraint i ben. Yr unig fodd o fynd i'r afael â'r cwynion am drenau gorlawn yw buddsoddi'n sylweddol mewn cerbydau a'r llinell ei hun i gynyddu nifer y gwasanaethau sy'n rhedeg bob awr, a hefyd i gynyddu nifer y cerbydau. Eto, felly, rwy'n galw am hyn ar linell Glynebwy, Gweinidog.

Wrth inni drafod y mater hwn, fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn realistig nad yw seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae dewisiadau a blaenoriaethau o ran buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn cael eu pennu gan Lywodraeth y DU ar ran Cymru. Does ond angen i chi edrych ar benderfyniad gwarthus Llywodraeth Dorïaidd y DU i gefnu ar eu haddewidion i drydaneiddio prif reilffordd De Cymru i Abertawe i ddeall nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU les pennaf Cymru a'n pobl mewn golwg.

Canfu'r Athro Mark Barry, arbenigwr trafnidiaeth enwog yn y maes hwn, ynghyd â'r ddogfen 'Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru: Yr Achos dros fuddsoddi', ac fe wnaf i ailadrodd, y cafodd Cymru ei llwgu o arian gan fwy na £1 biliwn rhwng 2011 a 2016. Felly, cymharwn hyn â haelioni Llywodraeth Dorïaidd y DU yn buddsoddi mwy na £50 biliwn yng nghynllun High Speed 2 ac, o bosib, £30 biliwn i Crossrail. Rydym ni'n gwybod fod yr arian ar gael. Gofynnwch i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Er na fyddwn i erioed yn gwarafun unrhyw fuddsoddiad mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid cael cydraddoldeb a thegwch wrth flaenoriaethu'r cymunedau y mae'r Llywodraeth yn eu cefnogi. Rydym ni'n gyfarwydd iawn â pharodrwydd dideimlad y Torïaid i drin cymunedau yn wahanol yn ôl eu mympwy, a bod y tlotaf oll yn ein cymunedau wedi dioddef polisïau niweidiol cyni yn anghymesur ers 2010. Mewn cyferbyniad llwyr, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru a'r Blaid Lafur, yn anghofio am ein cymunedau.

Mae Darren Shirley, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Wasg wedi datgan

Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn rhaglen genedlaethol o ymestyn y rheilffyrdd i helpu cymunedau difreintiedig ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol; lleihau allyriadau carbon a llygredd aer; a chreu lleoedd sy'n well ac yn fwy iach i fyw ynddynt.

Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le, ac mae Mick Cash, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr RMT, yn ei gefnogi.

Felly, mae Llywodraeth Cymru ar ochr gywir hanes gyda'n hawydd uchelgeisiol ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ac mae'n bryd i Lywodraeth Dorïaidd y DU ganiatáu i Lywodraeth Cymru newid Deddf Rheilffyrdd 1993, Deddf aflwyddiannus Llywodraeth Major sy'n atal gweithredwyr yn y sector cyhoeddus rhag gwneud cais i redeg ein gwasanaeth rheilffyrdd. Yn ddi-os, mae hi'n hen bryd i Lywodraeth Dorïaidd hollol ddi-drefn y DU gefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru o ran y penderfyniadau gwleidyddol y maen nhw'n eu gwneud a'r cyfraniadau ariannol sydd dirfawr eu hangen gan y Trysorlys. Felly, galwaf ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu eu haddewidion i Gymru. Diolch.

16:50

Yn fy nghyfraniad byr at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r rhan o'r gwelliant sy'n cyfeirio at adolygiad rheilffyrdd Williams, sy'n sôn am drosglwyddo perchnogaeth seilwaith rheilffyrdd Cymru, setliad cyllideb teg yn ymestyn i welliannau reilffyrdd, y gallu i ddewis o blith amrywiaeth o fodelau ar gyfer darparu gwasanaeth rheilffordd i deithwyr, a'r ffaith y byddem ni'n symud i fodel nid-er-elw neu fodel perchnogaeth gyhoeddus, sef, yn fy marn i, yr hyn y byddai'r rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd bellach yn ei gefnogi'n llwyr, ac ati?

Felly, roeddwn i eisiau agor â hynny. Ond mae hi yn werth myfyrio ar adroddiad Mark Barry. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod gynnau, er gwaethaf protestiadau gan gyd-Aelodau Ceidwadol yma yn y Siambr hon heddiw, roedd hynny'n amlwg yn amlygu'r £1 biliwn o danariannu o fewn cyfnod o ddim ond pum mlynedd rhwng 2011 a 2016. Mae hynny'n sylweddol. Gadewch imi esbonio realiti hynny wrthych, oherwydd yn fy etholaeth i, mae'r drwgenwog bellach, rwyf yn cofio—. Mae Dennis Skinner yn enwog am lawer o bethau. Ni fydd rhai pobl yn sylweddoli ei fod yn arfer codi ar ei draed yn y Senedd yn rheolaidd gan ddadlau dros adnewyddu canolfan chwaraeon yn ei ardal. Rwyf yn sefyll yn rheolaidd ac yn dadlau dros linell Maesteg a dolen Tondu, sydd bellach, yn fy marn i, yn dod yn rhan o groniclau'r Senedd hon fel rhywbeth sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro. Pryd ydyn nhw'n mynd i ddatrys dolen Tondu? Wel, yn y diwedd, cafodd Dennis Skinner hynny ar ôl 20 mlynedd. Fe wnaf i ddweud wrthych chi'r rheswm pan nad ydym ni wedi datrys hynny: oherwydd yr oedd buddsoddiad i fod i ddigwydd i uwchraddio blwch signalau Tondu yn ddigidol tua 10 neu 15 mlynedd yn ôl, a dygodd Network Rail UK yr arian i ffwrdd yn syth i Lundain ar gyfer buddsoddiad yn y de-ddwyrain. Oherwydd hynny, mae gennym ni ddyn sy'n dod i lawr o'r hen flwch signalau Fictoraidd gydag allwedd yn ei law, ac yna'n ei throsglwyddo. Oherwydd hynny, ni allwn ni gael gwasanaeth bob hanner awr i Faesteg, i Garth, i ffordd Ewenni a'r holl wasanaethau ar y ffordd, oherwydd bod gennym ni ddyn yn dod i lawr o'r blwch reilffordd Fictoraidd i drosglwyddo'r allwedd, oherwydd cafodd y buddsoddiad ei ddwyn ar gyfer buddsoddi yn y de-ddwyrain. Ac, er gwaethaf protestiadau cyd-Aelodau Ceidwadol gyferbyn, dyna'n union beth sydd wedi bod yn digwydd, ac yn yr ysbryd o gydweithio a phartneriaeth â Llywodraeth y DU, byddwn yn dweud mai dyna beth sydd angen ei newid yn awr.

Amlygir hynny yn yr adroddiad hwnnw. Rydym ni'n gweld buddsoddiad anferth o £50 biliwn yn HS2, £30 biliwn ar gyfer Crossrail. Pob lwc iddyn nhw. Mae hynny'n wych, a gallai'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn ddweud wrthyf, 'A bydd hynny'n wych ar gyfer eich etholwyr o Bencoed a Phont-y-clun a Llanharan ac yn y blaen, ac ati, pan maen nhw'n ei ddefnyddio.' Wel, mae'r un peth yn digwydd o chwith, oherwydd pan fydd y teithwyr hynny'n teithio yma i'r de, rwyf eisiau iddyn nhw fod ar deithiau cyflym i fyny ac i lawr y brif reilffordd. Rwyf eisiau iddyn nhw gael cysylltedd y tu hwnt i flwch signalau Tondu a hyd at Faesteg er mwyn defnyddio parc antur Afan, a dod â beiciau mynydd a chyrraedd yno a gwario llwyth o arian mewn gwestai gwely a brecwast. Mae'r un peth yn wir y ddwy ffordd, mae'n rhaid imi ddweud, a'r cyfan yr ydym ni'n gofyn amdano yw am ein cyfran deg. Er gwaethaf y protestiadau, 1 y cant o fuddsoddiad yng Nghymru am 11 y cant o'r trac—dyna'r ffigurau moel. Felly, mewn ysbryd o gydweithredu, gadewch i ni gael ychydig o chwarae teg yma—gadewch inni gael ychydig o chwarae teg yn hyn o beth. Os gallwn ni gael y buddsoddiad hwnnw, yna gallwn ni wneud yn union beth sydd wedi ei amlygu yn adroddiad yr Athro Barry.

Pan mae'n sôn am y syniadau hyn, er enghraifft, o gyflymu'r gwasanaeth—felly, 30 munud rhwng Abertawe a Chaerdydd—rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni fuddsoddi mewn lleoedd fel Pencoed er mwyn cau'r groesfan a rhoi gwir fuddsoddiad y priffyrdd ar draws y bont rheilffordd sy'n mynd dros y ffordd fel y gallwn ni leihau'r tagfeydd sy'n bodoli ym Mhencoed ar hyn o bryd. Ni allwn ni wneud hynny gyda Llywodraeth Cymru yn unig—ni allwn ni wneud hynny gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Tref Pencoed. Gobeithio dyma lle bydd yr arian astudiaeth ddichonoldeb £60,000 sydd wedi ei gyhoeddi, yn ein helpu ni i gael buddsoddiad gan yr Adran Drafnidiaeth a rheilffyrdd y DU i liniaru'r tagfeydd hynny, yna byddwn yn cyflawni'r 30 munud rhwng Abertawe a Chaerdydd.

I gynyddu amlder y gwasanaeth rhwng de-orllewin Cymru a Llundain—rwy'n cytuno, oherwydd pan fo fy etholwyr eisiau mynd i Lundain ar fusnes neu am noson allan ac ati yn Llundain, wel, rhagorol, ond nid yw'n mynd i wneud hynny oni bai bod gennym ni fuddsoddiad ar hyd y llinell gyfan honno yn ne Cymru ac yn y mannau hynny lle y ceir tagfeydd. Ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain, fel Llywodraeth Cymru.

Mae llawer o bwyntiau da eraill yma ynglŷn â pharcio a theithio ac yn y blaen ac ati. Felly, dim ond eisiau dweud wyf i fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt strategol da o le y mae angen iddi fuddsoddi. Byddai fy safbwynt i yn cynnwys croesfan Pencoed a'r gwelliannau i'r bont, a fydd yr astudiaeth ddichonoldeb honno gan Lywodraeth Cymru yn gymorth i'w cyflawni. Bydd yn cynnwys cynyddu amlder ar y llinell o Faesteg i Ben-y-bont ac o Faesteg i Gaerdydd, a fydd y gofyn am y buddsoddiad hwnnw yn signalau Tondu ac yn gofyn am fuddsoddi yn y ddolen basio hefyd.

Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, gwnaed sylwadau am rai o'r mannau lle y maen nhw wedi ymgyrchu'n galed—soniodd Rhun ap Iorwerth amdano—a lle mae'r ymgyrchoedd yn dal i fynd. Wel, rydym ni wedi cadw llinell Maesteg ar agor, oherwydd i Awdurdod Lleol Llafur ddal eu tir a dweud, 'Dros ein crogi y byddwch chi'n cau'r llinell honno.' Rydym ni'n dal i ymgyrchu drosti. Yn Llanharan, rydym ni wedi ailagor yr orsaf, yn groes i'r holl dueddiadau presennol, oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd ag Awdurdod Lleol Llafur ac Aelod Cynulliad Llafur, ac eraill, wedi cefnogi ymgyrchwyr lleol ac agorwyd yr orsaf honno. Pan gawn ni'r gwasanaeth ar y Sul ddiwedd y flwyddyn hon, bydd hynny oherwydd bod Llywodraeth Lafur wedi buddsoddi yn y ddarpariaeth i Faesteg. Pan gawn ni'r cynydd yn yr amlder—Llywodraeth Lafur unwaith eto. Byddwn yn parhau i ymgyrchu oherwydd bod hyn yn bwysig, ond mae angen i Lywodraeth y DU sefyll ochr yn ochr â ni hefyd a rhoi ychydig o chwarae teg i ni.

16:55

Ers agor y rheilffordd Brydeinig gyntaf bron 200 mlynedd yn ôl, mae trenau wedi newid y ffordd yr ydym ni'n teithio ac yn cyfathrebu. I gymunedau fel yr un yr wyf i yn ei chynrychioli ym maes glo'r de, datblygodd y rheilffyrdd berthynas gymhleth a symbiotig â chloddio. Roedden nhw'n cynnig cyfleoedd i ddinasyddion weithio, dysgu neu fwynhau hamddena, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Yn 2016-17, gwnaethpwyd dros 30 miliwn o deithiau ar y rheilffordd gan bobl yng Nghymru, a dyna'r nifer mwyaf ers y 1990au.

Mae'r rheilffordd yn dal i ddarparu'r unig gyswllt trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol rhwng fy etholaeth a Chaerdydd, ac eto, tra bod gwasanaethau rheilffyrdd yn cyflawni swyddogaeth mor bwysig,  mae'n rhaid i ni, yn ein tro, sicrhau eu bod yn cael arian digonol a'u bod yn bodloni gofynion nid yn unig ein hetholwyr, ond hefyd pobl sy'n dod i Gymru, a'u bod yn cael eu cefnogi fel bod modd iddyn nhw fodloni nid yn unig yr anghenion presennol ond y gallan nhw ymdopi â'r galw yn y dyfodol.

Fel rwy'n credu bod pob siaradwr eisoes wedi dweud, ni allwn ni wadu nad yw ein gwasanaethau rheilffyrdd wedi cael eu hariannu fel y dylent gan Lywodraeth y DU. Cytunaf yn llwyr â fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies mai'r cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw ein cyfran deg. Ni fyddaf yn ailadrodd yr ystadegau hynny sy'n hysbys o amgylch y Siambr, heblaw am yr un ystadegyn a grybwyllwyd, rwy'n credu, gan Rhun ap Iorwerth: allan o gyfanswm cyllideb y DU, sef  £12.2 biliwn, derbyniodd Cymru £198 miliwn yn unig. Gyda llaw, roedd hynny tua hanner yr hyn a fuddsoddodd Gweinidogion Cymru mewn rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, er nad yw'r cyfrifoldeb wedi cael ei datganoli. Wrth gwrs, mae'r tanfuddsoddi syfrdanol hwnnw yn rheilffyrdd Cymru gan Weinidogion y DU yn amlycaf pan ystyriwn eu brad o ran trydaneiddio'r rheilffordd. Eto, ni fyddaf yn sôn eto am y ddadl honno, oherwydd soniwyd amdani eisoes gan siaradwyr blaenorol.

I ddiwallu anghenion presennol fy etholwyr a'u hangenion yn y dyfodol, rwyf yn falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i gefnogi gwasanaethau. Bydd penodi KeolisAmey i ddarparu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn ddi-os yn dod â manteision a chyfleoedd sylweddol, nid lleiaf yr holl fuddsoddiad gwerth £1.9 biliwn gan y gweithredwr. Ac ar gyfer beth y defnyddir y rhaglen hon o fuddsoddiad? Wel, edrychaf ymlaen yn arbennig at gynyddu capasiti ar wasanaethau llinellau'r Cymoedd. Bydd nifer y trenau rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn dyblu felly bydd pedwar bob awr, gan ddod â mwy o gyfleoedd i fy etholwyr fwynhau teithio ac i gynyddu eu cyfleoedd economaidd. A bydd hefyd yn cynyddu nifer y gwasanaethau sy'n galw heibio gorsafoedd ar hyd y ffordd—er enghraifft, bydd gan Abercynon wyth trên yr awr. Gallai'r cynlluniau i ehangu cyfleoedd parcio a theithio fod yn gymorth mawr i gael pobl allan o'u ceir, ond mae'n rhaid i'r gwasanaethau diwygiedig ymateb i angen y cymudwyr. Ni allant fod yn ddydd Llun i ddydd Gwener, naw tan bump yn unig.

Rwyf i, fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, rwy'n siŵr, yn cael sylwadau mynych am brinder ac amserau anghyfleus y gwasanaethau ar ddiwrnodau gemau, er enghraifft. O ran gwasanaethau dydd Sul, roeddwn yn falch iawn o allu gweithio'n agos â'r gweithredwr blaenorol, Arriva, i wthio am gapasiti ychwanegol ar linell Aberdâr ar ddydd Sul, sydd bellach yn rhan annatod o'r amserlen newydd. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod trenau yn rhedeg ar yr adegau y mae pobl eu hangen os ydym ni'n mynd i gyflawni'r newid cyfrwng hwnnw sydd mor bwysig.

Daw hynny â mi at gerbydau. Yn amlwg, mae cerbydau'n hanfodol ar gyfer darparu profiad diogel a chyfforddus i deithwyr a hefyd er mwyn sicrhau dibynadwyedd y gwasanaeth. Mae'r metro a'r ganolfan fyd-eang arfaethedig o ragoriaeth rheilffyrdd  yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ni, lle gall Cymru gael ei hadnabod am gerbydau arloesol yn hytrach na'r pacers toreithiog, cynhanesyddol sydd yn fwrn i ni. Ond yr her yn y cyfamser yw sut i reoli disgwyliadau cwsmeriaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd hyny pan rydym ni'n dal i drosglwyddo i'r cerbydau newydd.

Hoffwn wneud un pwynt olaf gan ein bod yn sôn am ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Efallai ni ddaw yn syndod fy mod yn awyddus i ymestyn gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr yn fy etholaeth fy hun. Rwyf wedi cael llawer o awgrymiadau synhwyrol gan etholwyr ar gyfer gorsafoedd newydd, ond yn fwyaf aml oll o ran pentref Hirwaun. Mae'r llinell yn dal yno, a arferai gael ei defnyddio gan Lofa'r Tŵr, ac mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn nod hirdymor i gynlluniau trafnidiaeth cenedlaethol di-rif. Pan gymerodd y pwyllgor economi dystiolaeth yn ddiweddar gan Drafnidiaeth Cymru, cefais fy synnu braidd gan y datganiad y gallai gymryd hyd at 20 mlynedd o bosib i ailagor y trac i Hirwaun. Rwy'n mawr obeithio nad fel hynny y bydd hi a bod modd i ni wneud cynnydd ar hyn, y byddai llawer iawn o fy etholwyr yn ei groesawu.

17:00

Diolch. A gaf i yn awr alw ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn falch iawn o ymateb i lawer o Aelodau sydd wedi dangos diddordeb mawr ac wedi siarad ag angerdd am y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ac, yn wir, ledled Prydain. Er hynny rwyf yn mynd i ymdrin yn gyntaf â'r wybodaeth ffug a rhai o'r datganiadau anghywir a wnaed ynghylch y gwasanaeth a reolir gan Trafnidiaeth Cymru a hefyd y lefelau hanesyddol o fuddsoddiad yn rhwydwaith llwybr Cymru.

Yn gyntaf oll, o ran perfformiad—ac, wrth gwrs, mae hwn yn ganolog i welliannau'r Ceidwadwyr—mae'r mesurau perfformiad cyhoeddus presennol, sy'n cael eu penderfynu pan fo gwasanaeth yn gadael o fewn pum munud i'r amser cyrraedd a drefnwyd, yn dangos bod 95.1 y cant yn cyrraedd y lefel PPM presennol. Mae hynny'n cymharu'n genedlaethol â 90 y cant yn unig. Yn y cyfnod blaenorol, rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr, roedd 91.98 y cant yn bodloni'r lefel honno o wasanaeth, o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 87.3 y cant. Hefyd, o ran achosion o ganslo ar lwybr Trafnidiaeth Cymru, cafodd 1.6 y cant o wasanaethau eu canslo o gymharu â 2.1 y cant yr adeg hon y llynedd. Yn amlwg, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau gwell ac mae prydlondeb wedi gwella.

O ran y ffigurau sy'n ymwneud â lefelau hanesyddol o fuddsoddi a lefelau o fuddsoddi yn y dyfodol, nododd nifer o Aelodau'r ffigur y mae'r Athro Mark Barry wedi ei ddyfynnu yn ei adroddiad: fe ddylem ni fod wedi cael £1 biliwn. Siaradodd nifer o Aelodau, megis Huw Irranca-Davies, ynghylch sut mae Cymru wedi'i hamddifadu o'r buddsoddiad hanfodol hwnnw. Nawr, pam mae hynny'n bwysig? Mae'n bwysig oherwydd roedd Aelodau Ceidwadol yn cyfeirio at y cynnydd yng nghyllideb Network Rail o 24 y cant dros y cyfnod rheoli nesaf. Fodd bynnag, yr hyn nad yw Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol ohono efallai, yw bod y cynnydd hwnnw o 24 y cant yn y cyfnod rheoli nesaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu yn unig, nid ar gyfer gwasanaethau newydd, llinellau newydd nac ymyriadau newydd. A gellid dadlau mewn gwirionedd na fyddai angen cynnydd o'r fath petai'r Llywodraeth wedi bod yn cynnal a chadw ein rheilffyrdd yn iawn ers 2010. Dyna, yn ei dro, sydd wedi arwain at ôl-groniad dros 28 o flynyddoedd yng Nghymru. Ac, yn wir, cafodd trenau newydd rhwng de Cymru a Llundain dipyn o sylw. Wel yn wir, fe geir trenau newydd ac maen nhw'n gyflymach, ond maen nhw'n parhau i'ch cludo chi o dde Cymru i Lundain yn yr un amser ag y byddai wedi ei gymryd ym 1977. Dyna'r ffaith, a pham hynny? Oherwydd bod ein seilwaith yn gwegian.

Nawr rwy'n teimlo bod Mark Isherwood braidd yn hŷ yn awgrymu bod y gwleidyddion eraill yn ceisio cipio'r penawdau gyda'u rhethreg, ac a yw'n dadlau mewn gwirionedd bod Cymru wedi cael ei chyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd? Ar y meinciau hyn, fe fyddem ni'n dweud, dim o gwbl. Nawr, o ran HS2, gofynnodd gwestiwn am gyfeiriad ac fe roddaf i ateb uniongyrchol: mae gan HS2 y potensial i fod o fudd mawr i Brydain gyfan, yn benodol, gogledd Cymru, ond bydd yn effeithio ar dde Cymru oni bai y gwneir buddsoddiadau lliniaru ar hyd prif reilffordd de Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn gyson wrth ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Cyflwynwch yr achosion busnes ar gyfer gwella prif reilffordd de Cymru, yn enwedig rhwng Caerdydd ac Abertawe'.

Soniodd Mark Isherwood hefyd am yr angen i ddatganoli penderfyniadau yn ymwneud â rheilffyrdd a thrafnidiaeth yn gyffredinol i ogledd Cymru, a gofynnodd pa bryd y byddwn ni'n gwneud datganiad. Wel, petai'n darllen y Papur Gwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddai'n gweld yr union ddatganiad am awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd yn cael mwy o reolaeth a chyfrifoldeb o fewn y ddogfen honno, ac felly gobeithio y bydd yn cefnogi hynny.

O ran y cynnig gan y Ceidwadwyr sy'n cyfeirio at dwf a bargeinion dinesig—

Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargenion twf a dinesig Llywodraeth y DU yn eu gwneud tuag at seilwaith rheilffyrdd Cymru '—

beth yw'r maint? A oes unrhyw raddfa fuddsoddi? Ym margen twf gogledd Cymru, er enghraifft, yn sicr byddem ni'n ei nodi petai buddsoddiad, ond nid wyf yn gweld ceiniog yn mynd i ogledd Cymru o ganlyniad i'r fargen twf arbennig honno.

Rwy'n ymwybodol bod llawer o Aelodau wedi siarad am wasanaethau yn eu hetholaethau eu hunain, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru mewn sefyllfa i wella cerbydau, gwella gwasanaethau, cynyddu nifer y gwasanaethau, gwella prydlondeb a hefyd sicrhau bod gorsafoedd yn lleoedd mwy deniadol. Dywedodd Rhun ap Iorwerth am ei brofiadau personol wrth deithio ar y gwasanaeth cyflym rhwng y gogledd a'r de. Rwy'n credu ei fod yn dangos pam nad oedd y contract blaenorol yn addas i'r diben, pam ei fod wedi ein siomi. Mae hefyd yn dangos pam ei bod hi'n briodol i ni wario £800 miliwn ar gerbydau newydd. Rwy'n falch o ddweud y bydd trenau newydd ar y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni, ac y bydd tri gwasanaeth cyflym y dydd.

Ond, yn drydydd, mae'n dangos pam fod y model ariannu yn ddiffygiol. Ac rwy'n credu y gallai pob un ohonom ni o amgylch y Siambr hon gytuno bod y model a fabwysiadwyd ar gyfer seilwaith ledled Prydain ers llawer iawn o flynyddoedd wedi rhoi'r flaenoriaeth i ardaloedd mwy trefol a dwys y wlad ac mae'r ardaloedd hynny, yn gyffredinol, yn ne-ddwyrain Lloegr. Nawr, rydym ni wedi dweud ein bod eisiau sicrhau ein bod yn tyfu'r economi'n gynhwysol ym mhob rhan o Gymru, ac er mwyn gwneud hynny byddwn yn cyhoeddi cyllidebau dangosol rhanbarthol i sbarduno penderfyniadau buddsoddi ar draws y rhanbarthau. Felly, fy mhwynt i i'r Aelodau hynny sydd yn petruso ynghylch pa un a ddylen nhw gefnogi'r cynnig heddiw yn syml yw: Os ydych chi'n credu y dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid buddsoddi yn y rheilffyrdd, os ydych chi'n credu y dylem ni gael mwy o reolaeth dros ble y gwerir yr arian hwnnw wedyn, ac os ydych chi'n credu y dylid ei wella—gwasanaethau rheilffyrdd, seilwaith rheilffyrdd—ar hyd a lled Cymru, yna pleidleisiwch dros y cynnig os gwelwch yn dda.

17:05

Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn cynnwys yr holl bleidleisio nawr yn y cyfnod pleidleisio. Ydy'r Aelodau yn dymuno i'r gloch gael ei chanu? Mae'n rhaid inni aros am eiliad. Mae gennym ni broblem dechnegol fechan, fel y gallwch chi weld ar y sgriniau. Felly, fe arhoswn ni am funud ac yna, gobeithio—.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Cyfnod Pleidleisio
17:10

Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Rydym ni'n mynd i bleidleisio ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig naw, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 1.

NDM6954 - Gwelliant 1: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Symudwn yn awr at—. Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi'i golli nawr oherwydd y sgriniau—. Nid yw gwelliant 1 wedi'i dderbyn, felly pleidleisiwn nawr ar welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid gwelliant 2 30, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 2.

NDM6954 - Gwelliant 2: O blaid: 30, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant pedwar, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 3.

NDM6954 - Gwelliant 3: O blaid: 4, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant saith, naw yn ymatal, 27 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 4.

NDM6954 - Gwelliant 4: O blaid: 7, Yn erbyn: 27, Ymatal: 9

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig naw, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 5.

NDM6954 - Gwelliant 5: O blaid: 9, Yn erbyn: 31, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, 31 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 6.

NDM6954 - Gwelliant 6: O blaid: 12, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, pedwar yn ymatal, un yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 7.

NDM6954 - Gwelliant 7: O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 8, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, tri yn ymatal, 27 yn erbyn, felly ni dderbynnir gwelliant 8.

NDM6954 - Gwelliant 8: O blaid: 13, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Cynnig NDM6954 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

1. Yn condemnio'r tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y seilwaith strategol yng Nghymru.

2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru—Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru.

3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.

4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn.

5. Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, neb yn ymatal, naw yn erbyn, felly derbynnir y cynnig.

NDM6954 - Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 35, Yn erbyn: 9, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 17:14.