Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/01/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones. 

Capasiti TG mewn Ysgolion yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti TG mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ53153

Mae'r capasiti technoleg gwybodaeth yng ngogledd Cymru yn amrywio o ysgol i ysgol. Yn ychwanegol at y £5 miliwn ar gyfer uwchraddio band eang, rwyf wedi dyrannu £1.7 miliwn i gynorthwyo ysgolion i fodloni gofynion digidol y cwricwlwm newydd, gyda blaenoriaeth i’r ysgolion sydd fwyaf o angen uwchraddio seilwaith yr ysgol.

Diolch. Weinidog, rydym wedi gweld penawdau sy'n peri pryder, cyn ac ar ôl y Nadolig, ynglŷn â'r sector addysg. Heddiw, hoffwn drafod yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Cymwysterau Cymru ddiwedd y llynedd ar ddysgu TG, yn enwedig y cyfeiriad at y galedwedd, y feddalwedd, ac mewn rhai achosion, y sgiliau sydd wedi dyddio. Weinidog, a allwch roi sicrwydd fod gan ysgolion yn fy rhanbarth y galedwedd, y feddalwedd a'r staff addysgu sydd eu hangen arnynt i roi'r sgiliau angenrheidiol i'w myfyrwyr yn y byd digidol hwn?

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod angen inni sicrhau bod gan ysgolion y galedwedd, y tu allan i'r ysgol ac yn yr ysgol, i sicrhau y gellir darparu’r cwricwlwm. Fel y dywedais, rydym wedi ymrwymo £5 miliwn i uwchraddio band eang fel rhan o'r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Rwy'n falch o ddweud, o’r pum ysgol anodd eu cyrraedd a nodwyd yng ngogledd Cymru, fod tair o'r ysgolion hynny bellach wedi'u cysylltu, a bod dwy ohonynt wrthi’n cael eu cysylltu. Fel y soniais ddoe wrth ateb cwestiynau ynglŷn â dechrau asesiadau ar-lein, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi derbyn adnoddau pellach i fynd i'r afael ag anghenion mewnol yr ysgolion mwyaf anghenus hynny, ac rwy’n parhau i weithio gyda fy swyddogion yn y tîm Dysgu yn y Gymru Ddigidol i nodi ble y gallwn flaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf pellach yn y maes pwysig hwn.

Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. 

Weinidog, fel y gwyddoch, mae technoleg yr unfed ganrif ar hugain, fel band eang cyflym iawn, yn fwyfwy pwysig i'n hysgolion cynradd, gyda mwy o offer ac adnoddau digidol dwyieithog ar gael ar-lein bellach. Un enghraifft bwysig lle mae TG o bwysigrwydd sylweddol, wrth gwrs, yw'r prosiect peilot newydd e-sgol. Fel y gwyddoch, mae hyn wedi arwain at y defnydd o dechnoleg fideo i gysylltu ystafelloedd dosbarth mewn gwahanol ysgolion ledled Ceredigion a Phowys. Rwy'n ymwybodol fod £279,000 o arian cyfalaf wedi'i ddyrannu i gyngor Ceredigion er mwyn prynu offer arbenigol i dreialu e-sgol mewn 13 ysgol. Yn amlwg, ymddengys bod hon yn fenter dda. Fodd bynnag, mae'n wariant sylweddol a allai fod yn filiynau os ydych yn mynd i gyflwyno'r cynllun ledled Cymru.

Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni yma heddiw fod prosiect e-sgol wedi ei brisio’n drwyadl cyn i'r cynllun peilot ddechrau, a’i fod yn cael ei fonitro yn erbyn gwariant o ran ei berfformiad? Ac a allwch egluro a fyddwch yn darparu’r cyllid yn dilyn yr adolygiad yn nes ymlaen eleni? Os bydd wedi bod yn gynllun llwyddiannus yng Ngheredigion, a fyddwch yn ei gyflwyno ar draws gogledd Cymru, ac yn wir, yn Aberconwy?

Rwy'n falch fod yr Aelod yn ymwybodol o brosiect arloesol e-sgol sydd, yn wir, yn cael ei dreialu ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae'n adeiladu ar brofiad Llywodraeth yr Alban o ddarparu addysg yn yr ucheldiroedd a'r ynysoedd. Weithiau, rydym yn poeni am ein gwledigrwydd; wel, mae darparu addysg o dan yr amgylchiadau hynny, mewn system ddwyieithog, fel yr un sydd gennym, yn sicr yn her. Roeddwn yn falch o lansio'r prosiect yn yr ysgol uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan, a gwelais wers fathemateg bellach arloesol yn cael ei dysgu’n ddwyieithog i ddisgyblion yn yr ysgol honno ac i ysgol arall yng Ngheredigion. Heb y prosiect hwnnw, ni fyddai'r disgyblion yn yr ysgol arall yn gallu ymgymryd â chwrs mathemateg bellach Safon Uwch, cymhwyster sy’n atyniadol iawn i rai o’r prifysgolion gorau.

Mae prosiect e-sgol yn rhan bwysig o'n cynllun addysg ar gyfer ysgolion gwledig. Nid yw'r prosiect wedi'i gynllunio i fod yn brosiect ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n rhan o'r ateb i rai o anfanteision logistaidd darparu addysg mewn ardal wledig. Wrth gwrs, byddwn yn gwerthuso'r cynllun o ran gwerth am arian, ond yn bwysicach fyth, yr effaith a gaiff ar gyfleoedd i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig, ac os yw'r cynllun yn dilyn llwyddiant cynllun yr Alban, a chredaf yn gryf y bydd, byddwn yn ceisio'i gyflwyno mewn awdurdodau lleol gwledig eraill, oherwydd ni waeth lle y caiff plentyn ei addysg yng Nghymru, boed mewn lleoliad trefol neu leoliad gwledig, maent yn haeddu’r cyfleoedd gorau posibl.

13:35

Un o'r rhwystredigaethau mawr rydw i'n ei glywed gan athrawon, rhieni, ac ysgolion yw diffyg faint o ddyfeisiau sydd mewn ystafelloedd dosbarth—faint o dabledi neu faint o liniaduron sydd ar gael i ddisgyblion i'w defnyddio. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwybod o brofiad personol fod nifer o ysgolion yn dibynnu nawr ar ymdrechion gwirfoddol rhieni, cymdeithasau rhieni, er enghraifft, i godi arian i brynu tabledi a gliniaduron digonol. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn ein dyddiau ni, yn cyfateb i orfod dibynnu ar arian yn cael ei godi'n wirfoddol i brynu papur a beiros flynyddoedd yn ôl. A ydy hynny'n dderbyniol?

Wel, Llyr, rydych yn iawn—cyfrifoldeb pob ysgol unigol yw sicrhau bod ganddynt yr adnoddau yn yr ysgolion hynny, a dylent gynllunio yn unol â hynny. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol nad yw pob ysgol yn yr un sefyllfa, ac rydym newydd fod yn sôn am gydraddoldeb rhwng addysg wledig a threfol, ac ni ddylai unrhyw ysgol fynd heb y cyfleusterau sydd eu hangen arni yn yr ysgol oherwydd anallu i’w prynu drwy ddulliau eraill. Fel y dywedais yn fy ateb i Mandy Jones, wrth inni symud ymlaen ar ôl datrys, gobeithio, ledled Cymru erbyn mis Mawrth eleni, y problemau sy'n ymwneud â chapasiti yn y seilwaith y tu allan i ysgolion, gallwn droi ein sylw bellach at ffordd deg a chyfartal o gynorthwyo awdurdodau lleol ac ysgolion i ddatblygu’r seilwaith yn yr ystafell ddosbarth. Mae angen gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfartal, a chydnabod, mewn rhai ardaloedd, fod y dyfeisiau sydd gan blant gartref yn fwy pwerus yn ôl pob tebyg na'r hyn sydd ar gael iddynt mewn ysgolion. Felly, nid oes un ateb sy'n addas i bawb i hyn o reidrwydd. Ond byddwn yn gweithio gyda swyddogion yng nghangen Dysgu yn y Gymru Ddigidol i geisio blaenoriaethu'r adnoddau cyfalaf sydd gennym, er mwyn sicrhau bod gan ysgolion yr offer—boed yn gyfrifiaduron annibynnol, neu’n ddyfeisiau llaw—a bod ysgolion, yn allweddol, yn cael cyngor i wybod beth i'w brynu, ac i sicrhau, ar ôl ei brynu, fod athrawon mewn sefyllfa i allu ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer dysgu disgyblion. Ac unwaith eto, rydym yn ystyried sut y gallwn, ar lefel genedlaethol, ddarparu’r cysondeb hwnnw o ran cefnogaeth, a dewislen o gynhyrchion a chymorth efallai, fel y gall ysgolion wneud penderfyniadau gwirioneddol dda a doeth pan fyddant yn buddsoddi'r adnoddau hyn.

Gwella Safonau Ysgolion

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella safonau ysgolion? OAQ53132

Diolch, Darren. Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i'n pobl ifanc ledled y wlad. Rydym yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd, a fydd yn cefnogi gwelliant ysgolion ymhellach, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â’r trefniadau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Weinidog, heb os, byddwch wedi gweld yr adroddiad yn y Western Mail ddydd Llun, a oedd yn cynnwys sylwadau gan nifer fawr o benaethiaid ac undebau addysgu yn mynegi cryn bryder ynghylch y pwysau sydd arnynt. Dywedai fod pobl wedi ymlâdd, o dan straen, yn methu ag ymlacio, a rhai penaethiaid yn troi at alcohol o ganlyniad i'r pwysau y mae eich Llywodraeth yn ei roi ar ysgolion ar hyn o bryd, nid yn unig o ran yr agenda ddiwygio sydd ar waith ar hyn o bryd, ond hefyd o ran cyllid. Ac wrth gwrs, gwyddom fod bwlch cyllido fesul disgybl yn bodoli rhwng Cymru a Lloegr. Mae hynny'n arwain at benaethiaid ar gyfnodau hir o absenoldeb. Awgrymai'r adroddiad, dros gyfnod o dair blynedd, fod oddeutu wyth mlynedd a 10 mis wedi’u colli, o leiaf, mewn absenoldebau penaethiaid ledled Cymru, ac roedd 108 o benaethiaid wedi bod yn absennol am fwy na chwe wythnos. Mae hyn yn achos pryder mewn cyfnod pan fo'ch Llywodraeth yn ceisio gwella safonau ysgolion. Felly, beth rydych yn ei wneud i leihau'r pwysau ar benaethiaid, yn enwedig o ystyried prinder y ceisiadau am swyddi penaethiaid newydd pan fyddant yn dod yn wag?

Diolch am eich cwestiwn, Darren. Mae diogelu, meithrin, ac ysbrydoli arweinwyr ysgolion yn awr ac ar gyfer y dyfodol yn flaenoriaeth bwysig i'r genhadaeth genedlaethol. Dyna pam y lansiwyd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru gennym y llynedd, fel y gallwn roi mwy o gefnogaeth i’r rheini sydd eisoes yn y swydd, neu'r rheini sydd ag uchelgais i arwain yn ein system addysg, i gael y cymorth sydd ei hangen arnynt. Ceir mesurau statudol ar waith i gynorthwyo pob gweithiwr, gan gynnwys staff addysgu, i gynnal eu hiechyd a'u lles. Ac fel y gwyddoch, rydym yn ymgymryd â gwaith ar sut y gallwn sicrhau bod ysgolion yn lleoedd lle y gellir meithrin lles, ac mae hynny cyn bwysiced ar gyfer y staff ag y mae ar gyfer y disgyblion yn yr ysgol. Byddwn yn gweithio—. Fel y gwyddoch, mae nifer o adroddiadau wedi eu comisiynu ac mae ffrydiau gwaith ar y gweill mewn perthynas â llwyth gwaith. Un enghraifft gadarnhaol oedd cyflwyno'r cynlluniau peilot rheolwyr busnes, sy’n mynd â thasgau a dyletswyddau o ddwylo penaethiaid fel bod ganddynt fwy o amser i feddwl am y cwricwlwm ac addysgu a dysgu. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol ac undebau penaethiaid eu hunain i weld beth yn fwy y gallwn ei wneud. Wrth gwrs, rydym yn mynnu safonau uchel gan arweinwyr ein hysgolion; maent yn rhan annatod o’r gwaith o gyflawni'r genhadaeth genedlaethol, ond yn amlwg, rydym am wneud hynny mewn ffordd, fel y dywedais, sy’n meithrin ac sy’n gefnogol yn hytrach na chosbol, ac wrth gwrs, mae gan ein diwygiadau i fesurau asesu’r cwricwlwm ran bwysig i’w chwarae yn hynny o beth.

13:40

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi y dylem gydnabod a dathlu safonau addysg rhagorol yng Nghymru, megis rhai Ysgol Gynradd Sant Julian yn fy etholaeth, a gafodd arolygiad gan Estyn ym mis Hydref y llynedd a asesodd eu bod yn rhagorol ym mhob categori? Mae'n ysgol gynradd ag ychydig o dan 700 o ddisgyblion. Mae'n ysgol arloesi o ran cymhwysedd digidol a dysgu proffesiynol. Hoffwn dalu teyrnged i'r staff, llywodraethwyr yr ysgol, y rhieni a'r plant, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi wneud yr un peth.

John, rydych yn llygad eich lle—mae angen inni herio tangyflawniad pan y'i gwelwn yn y system addysg yng Nghymru, ond mae angen inni hefyd gydnabod a dathlu llwyddiant pan y'i gwelwn yn y system addysg yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn barod i ladd ar ein gweithwyr addysgu proffesiynol a'u hymdrechion. Mae Ysgol Gynradd Sant Julian—ysgol rwyf wedi cael y fraint o ymweld â hi er mwyn gweld y gwaith a wnânt o ran cymhwysedd digidol—yn ysgol wych sy'n gwneud gwaith ardderchog ar gyfer y plant hynny sy'n ei mynychu. Hoffwn ymuno â chi i dalu teyrnged i waith y pennaeth a'r tîm yn ysgol Sant Julian. Wrth gwrs, edrychaf ymlaen at ymuno â hwy, oherwydd, os ydynt wedi cael dyfarniad 'rhagorol' gan Estyn, byddant yng nghinio gwobrau blynyddol Estyn, a chaf gyfle i'w llongyfarch wyneb yn wyneb, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cyfle nawr i lefarwyr y pleidiau ofyn cwestiynau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n siŵr eich bod yn disgwyl imi ddychwelyd at yr adroddiad yn y Western Mail heddiw, Weinidog, ac rwyf am wneud hynny. Soniodd Darren Millar fod arweinwyr ysgolion yn teimlo wedi ymlâdd ac o dan fygythiad ac yn fwyaf arbennig

yn methu ymdopi â gofynion amhosibl a bennir oddi fry gan amrywiaeth o bobl fiwrocrataidd.

Ar ôl nodi cyllid, a byddech yn disgwyl hynny, mae'n debyg, a phroblemau recriwtio a chadw staff, ychwanegodd y penaethiaid hyn—ac rwy'n eu dyfynnu—

nad yw'r systemau addysg gorau yn recriwtio talent ac yn cyfyngu arnynt wedyn gyda pholisi o'r brig i'r bôn neu gydag arweinyddiaeth ysgolion... wedi'i gor-ganoli.

Ac wrth gwrs, fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y gorffennol, byddwch wedi cytuno gyda'r maniffesto yn 2016, a ddywedai,

'Mae athrawon yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt hyblygrwydd a chefnogaeth, nid eu llethu gan fiwrocratiaeth. Byddwn yn darparu mwy o ryddid i athrawon a mwy o hyblygrwydd i'n hysgolion.'

Yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol—a allwch egluro pwy sy'n ei llunio ac yn ei llywio er mwyn osgoi unrhyw bryderon fod hyn hefyd yn ymwneud â gofynion amhosibl a bennir oddi fry gan amrywiaeth o bobl fiwrocrataidd?

Nid yw fy marn wedi newid ers i'r maniffesto gael ei ysgrifennu. Dyna pam rydym yn diwygio'r cwricwlwm, i ymbellhau oddi wrth y disgwyliadau ticio blychau rydym yn gofyn i'n hysgolion eu cyflawni ar hyn o bryd. Dyna pam rydym yn buddsoddi mewn cymorth hunanarfarnu ar gyfer ysgolion, fel mai hwy eu hunain a fydd orau am farnu eu perfformiad eu hunain, gan y credaf eu bod yn y sefyllfa orau wedyn i ddeall lle maent arni a sut y gallant wella. Dyna pam rydym yn buddsoddi mewn meintiau dosbarthiadau, er mwyn sicrhau bod gan yr athrawon hynny yr amser sydd ei angen arnynt i'w dreulio gyda phlant unigol, a dyna'n wir pam ein bod yn buddsoddi mewn Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol i gefnogi ein penaethiaid gyda'r hyfforddiant a'r dysgu proffesiynol parhaus fel y gallant fod y gorau y gallant fod. Ni welaf unrhyw wahaniaeth rhwng yr ymagwedd honno a'r ymagwedd a fyddai gennyf pe bawn yn dal i eistedd ar yr ochr honno i'r Siambr. Yr hyn a wyddom yw, os gallwn adeiladu capasiti o fewn ein system addysg ein hunain, dyna'r ffordd orau o gyflawni'r genhadaeth genedlaethol.

Wel, ni fyddem yn anghytuno â chi ynglŷn â hynny, wrth gwrs, gan fod maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys academi debyg, a hoffem weld fersiwn lwyddiannus iawn o hynny yn darparu'r canlyniadau y gobeithiaf y byddai pob un ohonom yn eu gweld. Fy nghwestiwn oedd: pwy sy'n llywio hynny mewn gwirionedd? Ai gweision sifil a fydd yn ei llunio, neu athrawon? Clywsoch gennyf ynghylch y pryderon ynglŷn â hunanarfarnu ddoe, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy gennych maes o law ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych.

Ond gadewch inni edrych ar y gwaith a grybwyllwyd gennych o ddiwygio'r cwricwlwm. Yn gynharach yr wythnos hon, beirniadwyd cyflymder y newid mewn ysgolion gan yr un penaethiaid, gan fod ysgolion uwchradd—unwaith eto, rwy'n dyfynnu—

yn ymdrin â TGAU a Safon Uwch diwygiedig ar yr un pryd ag y maent yn ceisio paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd,

rhywbeth a gefnogwyd mewn egwyddor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eu tystiolaeth ysgrifenedig

nad oes digon o'r hyn sy'n wirioneddol bwysig wedi'i gynnwys yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad... mae gormod o'r datganiadau yn rhai generig, wedi'u diffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau,

a bod hyn yn debygol o arwain at ddatblygiad disgyblion yn cael ei adael i ffawd, ac y bydd cyfanswm o 30 maes dysgu a phrofiad yn

arbennig o heriol i athrawon cynradd lle nad yw'r llwyth yn cael ei rannu ar draws adrannau/cyfadrannau.

Ac yn olaf, yn fwyaf damniol oll, tra bo'r

tirlun yn gorlifo ag arbenigwyr yn "cynhyrfu" ynglŷn â diwygio'r cwricwlwm... y realiti yw y bydd yn rhaid i athrawon o dan bwysau llwyth gwaith geisio gwneud iddo weithio ar lawr gwlad.

Nawr, rydych yn clustnodi llawer iawn o arian i hyfforddi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn—ar gyfer hyn—pan nad ydym yn deall yn iawn beth yw ystyr 'hyn', ac ar yr un pryd, golyga hynny fod arian i'w gael nad yw'n mynd i gyllidebau ysgolion, ac nid yw hynny'n rhoi rhyddid i athrawon nac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion. Sut rydych yn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y penaethiaid a CLlLC na fydd y cwricwlwm, sydd i fod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar amser mewn unrhyw ffordd glir ac ystyrlon, a beth a wnewch ynglŷn â hynny?

13:45

A gaf fi roi sicrwydd i'r Aelod, o ran pwy sy'n llywio'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, fod yr academi'n cael ei harwain gan gyn-bennaeth. Fe'i cefnogir gan amrywiaeth o bartneriaid cyswllt i'r academi, pob un ohonynt yn addysgwr cyfredol sy'n arwain ysgolion yn ein gwlad, ac ar gyfer arweinyddiaeth ein system addysg, maent yn llunio ac yn achredu cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd ar eu cyfer. Gellir dweud yr un peth yn union am y cwricwlwm.

Dywed CLlLC mai athrawon a fydd yn gyfrifol am ei ddarparu o ddydd i ddydd—wrth gwrs hynny, a dyna pam mai athrawon eu hunain a'n hysgolion arloesi sydd wedi cynllunio'r cwricwlwm. Nid biwrocrat yn Llywodraeth Cymru yn dweud wrth athrawon beth fyddant yn ei addysgu yn y dyfodol yw hyn—ein hathrawon, sydd allan yno yn awr yn ein system, sy'n cynllunio ein cwricwlwm yn y ffordd y credant sy'n gweddu orau i'w cydweithwyr ar lawr gwlad.

Mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod ychydig yn bryderus ynglŷn â rhywfaint o'r dystiolaeth a ddarparwyd gan CLlLC i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus i drafod hynny'n fwy manwl yfory. Mewn rhai ffyrdd, mae'n dangos diffyg dealltwriaeth gyffredinol o'r diwygiadau a sut y byddant yn gweithio yn ymarferol, ond yn amlwg, ceir pwysau arnom ni wedyn i sicrhau eu bod yn deall yn iawn sut y bydd hyn yn gweithio. Ac mae hefyd yn dweud bod llawer o'r adborth y maent wedi adrodd arno i'w weld yn ymwneud â lle'r oeddem ar y daith i ddiwygio'r cwricwlwm yn ôl ym mis Gorffennaf.

Fodd bynnag, ceir materion y bydd angen mynd i'r afael â hwy yn y dystiolaeth a gyflwynwyd ganddynt, ac yn wir, dyna pam y gwneuthum y penderfyniad 12 mis yn ôl i oedi cyn cyflwyno'r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o amser i bob un o'n hysgolion, cynradd ac uwchradd, baratoi ar gyfer hyn ac i sicrhau bod ein hathrawon yn cael y cyfleoedd dysgu proffesiynol y bydd eu hangen arnynt i droi'r cwricwlwm newydd yn realiti cyffrous ar gyfer plant ysgol Cymru.

Wel, credaf y dylai hyn fod yn achos pryder i chi, felly, oherwydd os nad ymddengys bod CLlLC yn deall sut y bydd system a gynlluniwyd gan athrawon yn edrych, sut ar y ddaear y gallant helpu i ddosbarthu'r arian rydych yn ei roi iddynt yn awr, drwy'r system a glustnodwyd, i helpu i annog athrawon i ddysgu sut i ddarparu system a luniwyd ganddynt hwy eu hunain ond nad yw CLlLC yn ei deall.

A gawn ni symud ymlaen at y grant gwella addysg rydych wedi penderfynu ei leihau 10 y cant eleni? Un o brif nodau'r grant gwella addysg, wrth gwrs, oedd mynd i'r afael â rhwystrau dysgu i ddysgwyr a gwella cynhwysiant, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn gwerthfawrogi hynny. Mewn ardaloedd â lefelau uchel o addysg Gymraeg, fel Gwynedd, mae'n gwbl resymol rhagweld y gallai diffyg sgiliau Cymraeg fod yn un o'r rhwystrau hynny i addysg ar gyfer pobl sy'n symud i'r ardal. Pan wnaethoch y penderfyniad i dorri'r grant gwella addysg, tybed a allwch egluro i mi pa asesiad a gynhaliwyd i weld pa effaith y byddai'r penderfyniad hwnnw'n ei chael ar ddarparwyr a oedd yn helpu pobl sy'n symud i'r ardal i wella eu sgiliau yn y Gymraeg er mwyn cael mynediad at eu haddysg. A hefyd, o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a hawliau'r plant hynny i addysg, wrth wneud y toriadau hyn ac wrth symud y gwasanaeth hwn, rwy'n tybio y bydd yn creu problem o ran gallu dangos tystiolaeth fod hawl plant i addysg yn cael ei pharchu'n briodol. Diolch.

Lywydd, os caf gywiro'r Aelod, nid CLlLC neu'r awdurdodau lleol a fydd yn penderfynu sut y bydd yr arian dysgu proffesiynol yn cael ei wario. Bydd yr arian ar gael drwy grant drwy awdurdodau lleol unigol. Yr ysgolion eu hunain a'r penaethiaid eu hunain a fydd yn penderfynu sut y gwerir eu dyraniad ar gyfer dysgu proffesiynol. Nid CLlLC neu awdurdodau lleol unigol fydd yn gwneud hynny, er y bydd yr arian yn cael ei ddarparu drwy'r llwybr penodol hwnnw. Y penaethiaid hynny a'r ysgolion unigol hynny sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion dysgu proffesiynol eu staff fel y gallant wireddu'r cwricwlwm.

Mae'n rhaid gwneud dewisiadau anodd ynglŷn â chyllidebau, Lywydd; mae'r rhain wedi eu hailadrodd sawl tro yn y pwyllgor addysg. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng faint o arian a ryddheir i awdurdodau lleol, sef lle y caiff ysgolion y rhan fwyaf o'u cyllid, wrth gwrs, a pha grantiau a ddelir yn ganolog gan y Llywodraeth. Fel y dywedais, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ond mae gennyf hyder yng ngallu'r awdurdod yng Ngwynedd a'r consortia rhanbarthol a'r rheini sydd wedi ymrwymo i roi cyfle i blant ddysgu sgiliau iaith Gymraeg os byddant yn dod i'r sir honno, ac y byddant yn gallu gwneud hynny'n llwyddiannus, ac nid yw Gwynedd wedi codi'r materion hyn gyda mi.

13:50

Er bod Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol i rai o'r newidiadau rydych wedi'u gwneud mewn perthynas ag ysgolion, o ran addysg ôl-16, mae rhai o'r bobl rwyf wedi siarad â hwy wedi dweud eu bod yn credu bod y Llywodraeth wedi bod yn esgeulus. Mae hyd yn oed y cyn-Weinidog—nid wyf yn siŵr o'r teitl ar y pryd—wedi dweud na roddwyd blaenoriaeth i addysg bellach. A ydych yn cytuno gyda'r datganiad hwnnw? A ydych yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus?

Wel, rwy'n falch iawn fy mod bellach yn gyfrifol am addysg bellach wedi'r newid diweddar i gyfrifoldebau'r Cabinet ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos iawn gyda ColegauCymru i sicrhau bod addysg bellach, un o drysorau addysg Cymru o ran y ddarpariaeth y mae'n ei chynnig, o ran cyrsiau Safon Uwch traddodiadol neu gyrsiau galwedigaethol neu gyrsiau i oedolion sy'n dychwelyd i addysg—mae'n gryfder gwirioneddol yn ein system ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weithio ochr yn ochr â hwy. Rwy'n falch iawn ein bod, cyn y Nadolig, wedi gallu eu cynorthwyo gydag adnoddau ychwanegol mewn perthynas â materion yn ymwneud â chyflogau i bobl sy'n gweithio mor llwyddiannus yn y sector hwnnw.

Diolch am eich ateb. Rwy'n derbyn bod elfennau o hyn yn newydd, ond yn amlwg, nid yw addysg uwch yn newydd. Rydym wedi gweld pwysau sylweddol yn y sector colegau, gyda streiciau'n cael eu hosgoi ar y funud olaf, ond nid yw hynny'n tynnu dim oddi wrth y ffaith bod pwysau llwyth gwaith yn dal i fodoli. Mae angen inni weld cynnydd ar Hazelkorn ac ar ddeddfwriaeth addysg bellach. Lle mae hynny yn y darlun mawr? Ceir problemau llywodraethu sylweddol ym maes addysg uwch. Rydym wedi gweld is-ganghellor Bangor yn gadael ei swydd yn ddiweddar, a'r anawsterau ariannol difrifol yno ac yng Nghaerdydd gyda £21 miliwn o doriadau. Os nad ydych wedi bod yn esgeulus, beth rydych yn ei wneud i geisio lliniaru rhai o'r materion hyn rwyf newydd eu hamlinellu yma heddiw?

Wel, wrth gwrs, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol ac maent yn gyfrifol am y modd y maent yn rhedeg eu hunain a'u hyfywedd ariannol. Yr hyn rydym yn ei wneud am y peth yw rhoi canfyddiadau adolygiad Diamond ar waith, a fydd yn ein harwain at ddull llawer mwy cynaliadwy o ariannu addysg uwch yn y dyfodol.

Diolch am eich ateb, wrth gwrs, ond credaf y byddai llawer o'r prifysgolion yn ateb hynny drwy ddweud bod angen cymorth brys arnynt gan eu bod yn gwneud y toriadau hynny ar hyn o bryd, ac y byddai unrhyw ymyriad y gallwch ei wneud fel Gweinidog yn cael croeso.

Hoffwn droi, yn olaf, at Brifysgol Abertawe a phroblemau llywodraethu ym maes addysg uwch. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones gwestiwn busnes mewn perthynas â hyn a dywedwyd wrthi na allai Llywodraeth Cymru wneud sylwadau ar ymchwiliad sydd ar y gweill. Nawr, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe wrth y BBC ddoe fod ymchwiliad trylwyr wedi'i gynnal cyn yr ataliadau dros dro, ond yn yr un datganiad, dywedodd fod ymchwiliad ar y gweill. Felly, pa un sy'n wir? A allwch egluro hynny yma heddiw? Mae'r is-ganghellor ei hun wedi dweud na ddarparwyd unrhyw dystiolaeth berthnasol iddo cyn iddo gael ei atal a bod yma dramgwydd difrifol yn erbyn y drefn briodol. Dyma is-ganghellor uchel ei barch ers 15 mlynedd sydd wedi'i atal o'i swydd. Fe'i gwaharddwyd o'i gartref, sef y man y dywed rheolau'r brifysgol yw ei gartref—mae gofyn iddo fyw ynddo. Rwyf wedi clywed bod y broses o ymchwilio wedi dod i stop ac nad oes llawer yn digwydd o gwbl, ac rwyf hefyd wedi clywed bod dicter a phryder ynghylch y ffordd y cyflawnwyd hyn oll. Rydym yn sôn am sefydliad pwysig yma yn Abertawe, sy'n dod â manteision economaidd di-ben-draw i'r ardal o ran y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn yr ysgol reolaeth, er enghraifft, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd wedi gweld bod llys y brifysgol wedi'i ohirio. Pam fod elfen lywodraethu'r brifysgol yn cael ei gohirio ar fyr rybudd, heb ddweud pam wrth Aelodau'r Cynulliad?

Yn bersonol, ni chredaf ei bod yn ddigon da ichi ddweud nad oes gennych unrhyw sylwadau i'w gwneud. Beth y bwriadwch ei wneud i ddwyn y sefydliadau hyn i gyfrif er mwyn sicrhau y cedwir at y broses lywodraethu yn briodol ac y gellir rhoi sicrwydd inni fod cyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei wario yn y ffordd iawn a phriodol, fel y gall pob un ohonom yma ddwyn y Llywodraeth hon a'r sector prifysgolion i gyfrif? A oes angen diwygio llywodraethiant prifysgolion yma yng Nghymru?

13:55

Y bore yma, yn y pwyllgor datblygu economaidd, treuliasom gryn dipyn o amser—fe dreuliais gryn dipyn o amser—yn gwrando ar ba mor bwysig yw hi fod prifysgolion yn parhau'n sefydliadau annibynnol, heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal ymchwiliad mewnol ar hyn o bryd, a byddai'n gwbl—yn gwbl—amhriodol imi wneud sylwadau ar hynny tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Mae CCAUC mewn cysylltiad â Phrifysgol Abertawe ac yn cynnal trosolwg i fodloni eu hunain fod pethau'n cael eu gwneud yn gywir, ond byddai'n gwbl amhriodol i mi, yn y lle hwn, roi sylwadau ar ymchwiliad disgyblu mewnol sydd ar y gweill mewn sefydliad annibynnol.

Diolch, Lywydd. Mae'r comisiynydd plant ac elusennau gwrthfwlio wedi galw am gofnodi pob achos o fwlio yn statudol. Yn 2017, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r polisi. A ydych wedi gorffen yr adolygiad eto? Os nad ydych, pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser?

Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n cynnal—rwy'n synnu nad yw'r Aelod yn gwybod—rydym wrthi'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaethau gwrthfwlio ar gyfer y dyfodol yn y maes addysg yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw: dywedwch fod ymgynghoriad parhaus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd—mae hynny'n ddigon teg, mae ymgynghoriad ar waith. Fodd bynnag, nid yw bwlio mewn ysgolion yn fater newydd. Mae hwn wedi bod yn fater datganoledig ers tro byd bellach. Pam mai yn awr, neu'n gymharol ddiweddar, y rhoddwyd ymgynghoriad ar waith gennych? A ydych yn mynd i argymell y dylid cofnodi bwlio'n statudol? A fyddwch yn trin bwlio yr un ffordd â digwyddiadau eraill?

Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth wrthfwlio gyfredol a chanllawiau gwrthfwlio a roddir i ysgolion—mae hynny'n digwydd eisoes. Credaf fod hynny'n anhylaw. Credaf nad yw'n ddefnyddiol i ysgolion, ac nad ydym wedi gwneud pethau'n hawdd i ysgolion ymdrin yn effeithiol â'r mater tra phwysig hwn. Dyna pam ein bod yn cynnal yr ymgynghoriad yn awr, ar yr union adeg hon, i wella'r cymorth sydd ar gael i ysgolion. Pobl ifanc, ysgolion ac unrhyw un sydd â diddordeb—buaswn yn eu hannog i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw.

Mae'r gwaith hwn hefyd yn sefyll ochr yn ochr â'r gwaith a wnawn i sicrhau bod ysgolion yn dod yn sefydliadau lle y mae lles yr holl ddisgyblion a'r staff yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Felly, mae hon yn un o nifer o ffrydiau lle rydym am sicrhau bod ysgolion Cymru yn lleoedd hapus i weithio ac i ddysgu ynddynt, oherwydd oni bai ein bod yn rhoi sylw i les plant, gwyddom na allwn ddisgwyl iddynt ragori'n academaidd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wel, rydych wedi meddwl am gofnodi statudol mewn perthynas ag achosion o hiliaeth mewn ysgolion ac rydych wedi meddwl am brofion papur ar gyfer darllen ac asesiadau eraill. Ar yr un pryd, mae un o bob 10 dysgwr yn ysgolion uwchradd gwladol Cymru yn dioddef bwlio bob wythnos. Golyga hynny fod mwy o blant yn cael eu bwlio nag sy'n methu cyrraedd targedau llythrennedd neu rifedd. Nid wyf wedi darllen unrhyw storïau newyddion am blant yn lladd eu hunain oherwydd eu bod ychydig ar ei hôl hi gyda'u darllen, ond rydym yn parhau i glywed adroddiadau am achosion o hunanladdiad yn dilyn bwlio. Ni waeth am ymgynghori yn ei gylch, onid yw'n bryd i chi drin hyn yn yr un modd â phethau eraill, a bod yn wirioneddol o ddifrif yn ei gylch, a'i gwneud yn ofynnol i ysgolion gofnodi pob achos o fwlio, heb ddefnyddio ymgynghoriad yn esgus?

Lywydd, cyn i Lywodraethau newid eu polisi a gosod yr hyn y byddai rhai pobl yn y Siambr hon yn eu hystyried yn rheolau biwrocrataidd ar ysgolion, roeddwn yn meddwl ei fod yn arfer da sy'n cael ei dderbyn ar draws y Siambr hon, ein bod yn ymgynghori â'r rheini—[Torri ar draws.]—ein bod yn ymgynghori—[Torri ar draws.]—ein bod yn ymgynghori â'r rheini a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod ein holl blant yn gallu sicrhau bod ysgolion yn rhydd o unrhyw fath o ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu fwlio yn y modd hwn. Dyna pam ein bod yn cynnal yr ymgynghoriad.

Dylai unrhyw blentyn—pob plentyn—deimlo'n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol, ac mae unrhyw blentyn nad yw'n teimlo felly angen—yn haeddu—cymorth priodol. O ran rhieni sydd wedi colli plentyn, cyfarfûm heddiw â rhiant yn y sefyllfa honno i gael eu cymorth er mwyn sicrhau bod ein strategaeth cystal ag y gall fod.

14:00
Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer cynllun haf 2019 rhaglen gwella gwyliau’r haf? OAQ53145

Diolch, Vikki. Rwy'n falch iawn, fel rhan o'r gyllideb derfynol ar gyfer 2019-20, ein bod yn darparu £400,000 yn ychwanegol ar gyfer y rhaglen hon, gan ddod â'r cyfanswm ar gyfer 2019-20 i £900,000. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi hyd yn oed mwy o deuluoedd dros yr haf hwn.

Diolch, Weinidog, ac un o rolau allweddol y rhaglen wella hon, yn amlwg, yw mynd i'r afael â newyn gwyliau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Prif Weinidog newydd ynglŷn â sut y mae'n bwriadu defnyddio cynlluniau addysgol fel hyn i gyflawni addewid ei ymgyrch i ddileu newyn gwyliau yng Nghymru?

Mae hon yn flaenoriaeth a rennir gennyf fi a'r Prif Weinidog newydd. Gwyddom fod y clybiau bwyd a hwyl yn chwarae rhan bwysig yn mynd i'r afael â phroblem newyn bwyd, ond mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae hefyd yn atal colli dysgu, sy'n broblem go iawn i lawer o blant, yn enwedig plant o gefndiroedd tlotach, ac sy'n gallu digwydd dros y gwyliau hir o chwe wythnos yn yr haf. Rwy'n falch o ddweud y byddwn, gobeithio, yn symud o sefyllfa lle'r oedd gennym 53 o gynlluniau ar waith yr haf diwethaf i sefyllfa lle y bydd gennym 83 o gynlluniau'n gweithredu dros yr haf sydd i ddod.

Ac rydym hefyd wedi gallu, fel Llywodraeth Cymru—gan gydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol, rydym wedi gallu newid y cyfraddau ymyrryd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo mwy o'r gost er mwyn lleddfu rhywfaint ar y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n golygu y bydd y chwe awdurdod lleol nad ydynt, hyd yma, wedi cynnig y rhaglen fwyd a hwyl yn ystod gwyliau'r haf yn cael eu cymell i wneud hynny ac y byddant yn awyddus i sicrhau bod y gwasanaeth hwn ar gael i'w trigolion erbyn gwyliau'r haf.

Weinidog, rwyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â cholli dysgu, sydd wedi'i nodi fel problem ers peth amser, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, lle y mae plant sydd wedi gwneud cynnydd gwych yn dal i fyny ar sgiliau allweddol—er enghraifft, llythrennedd a rhifedd—ar eu colled wedyn yn ystod yr haf. Pan adolygodd Prifysgol Caerdydd y rhaglen hon yn 2016, gwn eu bod wedi dweud ei bod yn bwysig iawn cynnal gwerthusiadau parhaus o'r cynllun a'i effaith, a tybed pa mor greiddiol yw'r elfen ddysgu i'r cynlluniau hyn bellach, a beth yw eich uchelgais i'r elfen honno fod yn gyffredin ac yn dreiddiol ym mhob un ohonynt.

Rydych yn llygad eich lle, David. Fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae'r cynllun yn darparu dwy rôl bwysig iawn—trechu newyn gwyliau, ond fel Gweinidog addysg, wrth gwrs, fy mhrif ddiddordeb yw cyrhaeddiad addysgol. Ac i rai o'r plant hyn, gwyddom fod colli dysgu yn broblem wirioneddol, ac y gall plant sy'n dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi gymryd wythnosau lawer i gyrraedd lle'r oeddent cyn gwyliau'r haf. Dyna pam y darperir y cynllun hwn yn ein hysgolion yn hytrach nag mewn lleoliad mwy generig, a pham hefyd ein bod yn manteisio ar y cyfle yn ystod y cynllun i fynnu bod rhieni'n dod i mewn—rhieni a gofalwyr yn dod i mewn—o leiaf unwaith yr wythnos, gan mai rôl bwysig arall a gyflawnir gan y cynllun yw dod â rhieni i mewn i'r ysgol i ddatblygu'r berthynas honno, gan fod hynny hefyd yn cael effaith ddwys ar ganlyniadau dysgu'r plant hynny. Ac wrth gwrs, wrth inni symud ymlaen gyda mwy o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y cynllun, rydym yn cynnal gwerthusiad manwl er mwyn sicrhau bod gennym y dystiolaeth i ddangos bod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi'n dda.

Fel y dywedais, hyd yma, mae chwe awdurdod lleol heb gymryd rhan yn y cynllun. Gyda'r hyblygrwydd ychwanegol a phwysau'r ymyrraeth ychwanegol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, rwy'n gobeithio y bydd mwy o awdurdodau lleol yn teimlo y gallant gymryd rhan.

Rwy'n falch iawn ynglŷn â'r arian ychwanegol ar gyfer bwyd a hwyl yn ogystal â'r gobaith y bydd pob awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun gwyliau pwysig hwn. Tybed a allwch edrych ar y canllawiau 'Blas am Oes' i sicrhau mai'r hyn a gynigir i blant yn yr ysgol yw—wyddoch chi, ei fod yn effeithiol o ran sicrhau bod plant yn bwyta'n iach yn yr ysgol. Mae hyn mor bwysig yng nghyd-destun y ffaith bod plant yn bwyta dwywaith cymaint o siwgr ag y dylent—gwelsom dystiolaeth o hynny yn gynharach. Felly, mae angen cadw at ganllawiau 'Blas am Oes' mewn ysbryd ac yn llythrennol ac rwy'n bryderus braidd nad yw hynny'n digwydd.

14:05

Wel, os oes gan yr Aelod bryderon, rwy'n amlwg yn fwy na pharod i edrych ar hynny. Caiff y prydau bwyd a ddarperir yn y clwb bwyd a hwyl eu paratoi a'u darparu gan staff arlwyo presennol yr ysgol. Os yw'r cyrri cyw iâr a gefais y llynedd mewn ysgol yn Nhrelái yng Nghaerdydd yn enghraifft, mae'r plant yn ffodus iawn; roedd yn flasus tu hwnt.

Mynediad i Ddysgu Gydol Oes

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda sefydliadau addysg bellach am ddarparu gwell mynediad i ddysgu gydol oes? OAQ53143

Uwchsgilio a chyflogaeth sy'n darparu'r llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi. Yng Nghymru, mae gennym nifer o raglenni i helpu'r rheini sydd angen ein cymorth fwyaf, ac i gefnogi mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes. Rydym yn gweithio'n agos â'n sector addysg bellach i sicrhau llwyddiant pob un o'r rhaglenni hynny.

Weinidog, diolch am eich ateb. Croesawaf y ffaith eich bod bellach yn edrych ar ôl addysg bellach yn ogystal â'r agweddau eraill ac mae eich sylwadau yn gynharach heddiw yn awgrymu eich bod yn awyddus i sicrhau bod addysg bellach yn parhau i fod yn un o brif drysorau'r sector addysg yng Nghymru. Ond yn amlwg, mae llawer o'r rhaglenni hynny a mynediad at ddysgu gydol oes, sy'n darparu cyfleoedd i bobl gamu ymlaen ymhellach naill ai mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn cael eu hariannu gan yr UE. Nawr, o ganlyniad i hynny, a'r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen' ar 29 Mawrth, a fyddwch yn cael trafodaethau brys gyda sefydliadau addysg bellach a'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn barhau i ddarparu'r rhaglenni hynny, gan weithio gyda cholegau addysg bellach, fel nad yw ein pobl yn colli'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig?

Lywydd, mae'r Aelod yn nodi risg wirioneddol i'r agenda benodol hon. Nid yn unig y byddaf yn gweithio'n agos gyda cholegau addysg bellach i liniaru'r risg honno ac i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r rhaglenni tra phwysig hyn, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod mor falch â minnau fod gennym ymrwymiad yn y cytundeb newydd rhyngof fi a'r Prif Weinidog newydd i archwilio'r hawl i—archwilio darpariaeth yr hawl i ddysgu gydol oes i bawb yma yng Nghymru. Credaf fod hwn yn gynnig cyffrous iawn ac rwy'n awyddus i weithio gyda chydweithwyr ym maes addysg bellach i'w wireddu.

Weinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio'r hawl i ddysgu gydol oes y dywedoch eich bod wedi ymrwymo iddi gyda'r Prif Weinidog newydd. Cyfarfûm â'r colegau addysg bellach y diwrnod o'r blaen a gwnaethant y pwynt fod oedran cyfartalog eu dysgwyr oddeutu 25, yn hytrach na rhywun sy'n 16 neu 17, a thrwy'r gweithle modern, mae'n ymwneud â gwerthuso cyson a her gyson. Sut y credwch y caiff eich cynigion eu gwireddu—oherwydd, yn amlwg, er mwyn llofnodi'r cytundeb, mae'n rhaid ichi ddeall i ble rydych am i'r daith hon fynd—a phryd y gallem weld rhai o'r cynigion hyn yn cael eu gwireddu, gan ei fod yn fater enfawr i bobl hyfforddi yn y gweithle heddiw yma yng Nghymru?

Andrew, rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at y ffaith nad yw oedran cyfartalog dysgwyr yn cyfateb i'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl. Yn aml, pan fyddwn yn sôn am ddysgwyr yn y Siambr hon, byddwn yn meddwl am bobl 16 oed neu 18 oed; nid ydym yn meddwl am y rheini sy'n hŷn. Rydych wedi nodi mater pwysig iawn yn glir hefyd: wrth i'r byd gwaith newid, mae angen inni allu darparu cyfleoedd i'r unigolion hynny fynd i mewn ac allan o addysg er mwyn paratoi eu hunain i allu newid wrth i ofynion yr economi newid fel y gallant aros mewn cyflogaeth ystyrlon neu ddod o hyd i ffordd o ymgyrraedd at swyddi â chyflogau gwell yn y diwydiant y maent ynddo eisoes. Yn rhy aml, rydym wedi canolbwyntio ein cyrsiau ar gyrsiau sy'n cynnwys ymrwymiad hirdymor, ac ychydig iawn o bobl sy'n gallu cymryd seibiant sylweddol naill ai o'u cyfrifoldebau gofalu neu gyfrifoldebau gwaith i ddychwelyd i addysg amser llawn. Felly, mae'n bwysig ein bod wedi gwneud hyn mewn addysg uwch gyda'n cymorth rhan-amser ar gyfer rhaglenni gradd, ond bydd angen inni edrych ar sut y gallwn gefnogi unigolion, efallai drwy gyfrif dysgu unigol, lle y gall pobl ddefnyddio'r hawl a'r adnoddau hynny i allu cael mynediad at addysg ar adeg ac mewn ffordd sy'n gweddu iddynt hwy ac sy'n rhoi'r sgiliau a'r cymwysterau iddynt er mwyn iddynt allu sicrhau cyflogaeth, fel y dywedais, neu newid cyflogaeth, ac ymateb i'r economi y maent yn gweithio ynddi.

Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n mynd ar drywydd cyfleoedd dysgu gydol oes yn ein colegau addysg bellach. Fodd bynnag, mae'r sector yn dal i ddarparu cyfleoedd dysgu i bron 65 y cant o'r 250,000 o oedolion sy'n ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r sector addysg bellach yn wynebu argyfwng ariannu o ganlyniad i doriadau diweddar. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o effaith y toriadau hyn ar gyfleoedd dysgu gydol oes?

14:10

Wel, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, rydym yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi'r sector addysg bellach, yn fwyaf diweddar drwy ddarparu adnoddau ychwanegol iddynt fynd i'r afael â mater cyflogau, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud mewn partneriaeth â hwy. O ran dyfodol addysg i oedolion, byddwch yn gwybod bod y Llywodraeth wedi cwblhau ymgynghoriad ar ddyfodol addysg i oedolion yn ddiweddar, ac ar hyn o bryd, rwy'n ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw a byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr pan allaf wneud hynny a phan fyddaf yn sicr o fy ffordd ymlaen.

Y Cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd? OAQ53119

Mae brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi bod yn un o gynlluniau blaenllaw Llywodraeth Cymru ers dros 15 mlynedd. Mae'n rhan annatod o'n gwaith ehangach i gynorthwyo ein dysgwyr ieuengaf i fod yn barod yn emosiynol ac yn gorfforol ar gyfer dysgu drwy roi dechrau iach i'r diwrnod ysgol.

Diolch, Weinidog. Mae'r ethos wrth wraidd y cynllun yn wych, ond mae rhai o fy etholwyr wedi ysgrifennu ataf yn mynegi pryderon am ei bod hi'n bosibl nad yw rhai plant o gefndiroedd difreintiedig yn gallu elwa ohono, a hynny oherwydd y gallai eu bywydau anodd gartref ei gwneud yn anodd iddynt fynd i'r ysgol ar amser yn gyson i fanteisio ar y bwyd am ddim, a gallai hynny effeithio ar eu dysgu. Mae'n ffaith drist fod yna blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi go iawn ac yn mynd heb fwyd. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o ddarparu bwyd am ddim yn nes ymlaen yn y bore ar gyfer y plant sy'n methu mynychu'r clwb brecwast cyn i'r ysgol ddechrau?

Ers mis Ionawr 2018, mae 88 y cant o'r holl ysgolion cynradd a gynhelir yn cynnig clwb brecwast am ddim, gan ganiatáu i ddysgwyr yn yr ysgol honno fanteisio, fel y dywedais, ar y brecwast iach hwnnw cyn iddynt ddechrau'r diwrnod ysgol. Yn wir, byddai'r dystiolaeth yn awgrymu—ac mae'n rhaid imi gyfaddef, ac mae pobl sydd wedi bod yn y Siambr yn ddigon hir i wybod fy mod yn amheus iawn o'r cynllun brecwast am ddim pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, ond mae'r dystiolaeth a'r gwerthuso a gynhaliwyd ers hynny—[Torri ar draws.] Mae'r dystiolaeth a'r gwerthuso a gynhaliwyd wedi profi bod hyn yn gwneud gwahaniaeth, a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, wedi cynnal y gwerthusiad hwnnw, fod y polisi hwn yn gwneud gwahaniaeth. Un o'r ffyrdd y mae'n gwneud gwahaniaeth, mewn gwirionedd, yw mai'r gallu i gael mynediad at y bwyd hwnnw yw'r cymhelliad i rieni, ac yn wir, y plant eu hunain weithiau, yn anffodus, i godi o'r gwely, i wisgo, ac i'r ysgol. Felly, mae angen inni gael sgyrsiau gydag ysgolion hefyd ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod mwy o blant yn gallu gwneud hynny, ond nid wyf wedi cael unrhyw sgyrsiau ynglŷn â sicrhau bod y bwyd hwnnw ar gael yn nes ymlaen yn y dydd. Ond mae arferion da i'w cael. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod at ysgol yn etholaeth Wrecsam sy'n gwasanaethu cymuned ddifreintiedig, lle y mae'r pennaeth yn defnyddio peth o'i grant datblygu disgyblion i greu bws cerdded. Ac mewn gwirionedd, mae staff yr ysgol honno'n mynd i'r ystâd dai leol, maent yn casglu'r plant o'u cartrefi, maent yn eu hebrwng i'r ysgol, fel y gallant fynychu clwb brecwast ac fel y byddant yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol. Rwy'n cymeradwyo arfer mor arloesol ar ran y pennaeth, ac fe'i galluogir gan y grant datblygu disgyblion.

Gallaf gofio, beth amser yn ôl, Weinidog, fy mod yn teimlo'n eithaf cadarnhaol ynghylch y cynllun brecwast am ddim, pan nad oedd rhai Aelodau, gan eich cynnwys chi, yn amlwg, mor frwd, ond mae hynny'n hen hanes bellach. Mae cynllun brecwast ysgol am ddim Llywodraeth Cymru wedi bod yn bolisi blaenllaw, fel y dywedoch, i lawer o'ch rhagflaenwyr am gyfnod hir o amser, ond mae wedi dod o dan bwysau cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o gynghorau yn lleihau oriau agor clybiau brecwast ac eraill yn codi tâl, er mai tâl bach iawn ydyw. Pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi i awdurdodau lleol i'w helpu i gynnal mynediad at glybiau brecwast er mwyn sicrhau bod y plant sydd wir angen y maeth y mae'r brecwast yn ei roi iddynt yn gallu cael mynediad ato yn y dyfodol?

Rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn â sut y maent yn trefnu clybiau brecwast. Fe fyddwch yn gwybod, yn 2013-14, y flwyddyn ariannol honno, fod y mecanwaith ariannu ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi newid o grant uniongyrchol, a bod yr arian hwnnw bellach yn cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal refeniw. Mae'r brecwast am ddim, ond gall ysgolion ac awdurdodau lleol unigol godi tâl bach, er enghraifft, os defnyddir y clwb am gyfnod hwy o amser, ar gyfer gofal plant a gofal cofleidiol i bob pwrpas, y bydd rhai rhieni ei angen ac yn ei ddefnyddio. Ond ni ddylid codi tâl am y slot 30 munud ar gyfer brecwast am ddim.

14:15
Cyllid Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ53139

Bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu buddsoddiad o £1.4 biliwn dros y cyfnod pum mlynedd, sy'n dod i ben yn awr, eleni, yn 2019. Mae £2.3 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad wedi'i gynllunio o fis Ebrill eleni ymlaen, a darperir y rhaglen mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac eraill sy'n rhoi blaenoriaeth i'r prosiectau y mae angen eu darparu.

Diolch yn fawr iawn am y crynodeb hwnnw. Rydych eisoes wedi dweud wrth Mike Hedges fod £34 miliwn o'r £51 miliwn a aeth i Abertawe o dan fand A, sef—hoffwn ddweud hyn yn glir: croesawaf y buddsoddiad hwnnw'n llwyr. Ond dangosodd fod 66 y cant o'r arian a aeth i ardal dinas Abertawe wedi mynd i Ddwyrain Abertawe, ac mewn gwirionedd, nid aeth unrhyw beth o gwbl i Orllewin Abertawe. Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedasoch ynglŷn â'r cynghorau'n blaenoriaethu hyn, ond dywed cynghorwyr yn Abertawe wrthyf fod rhai ysgolion yng Ngorllewin Abertawe a'r Gŵyr naill ai ddim yn cael gwybod sut i wneud cais am y cyllid hwn neu ddim yn cael gwybod yn briodol sut y gallant wneud cais am y cyllid.

Pan fydd band B yn cael ei gyflwyno, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion yn cael gwybod yn uniongyrchol sut y gallant wneud cais am y cyllid hwn? Oherwydd er eu bod mewn rhannau mwy cefnog o Abertawe, o bosibl, mae rhai ysgolion yng Ngorllewin Abertawe a'r Gŵyr nad ydynt yn y bôn yn ddim ond casgliadau o gabanau, ac nid ydynt yn ymwybodol y gallent fod wedi gwneud cais am gyllid rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Nid cyfrifoldeb ysgolion unigol yw gwneud cais i gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen i'r ceisiadau ddod gan yr awdurdod addysg lleol unigol, a ddylai gynnal asesiad o anghenion ac asesiad arolwg adeiladau o'i ystâd ysgolion, a gwneud cais priodol felly am flaenoriaethau o fewn eu hardal awdurdod lleol eu hunain. Mae'r ceisiadau a wneir gan awdurdodau addysg lleol yn cael eu goruchwylio gan fwrdd rhaglen gyfalaf annibynnol sy'n gwneud argymhellion i mi fel Gweinidog, ac mae gweithdrefn gadarn ar waith i graffu ar y ceisiadau a gyflwynir gan awdurdodau addysg lleol. Ond mewn gwirionedd, mae angen i'r Aelod godi'r pryder hwn gydag aelodau o awdurdod lleol Abertawe.

Effaith Cynlluniau Arweinyddiaeth Disgyblion

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cynlluniau arweinyddiaeth disgyblion mewn ysgolion? OAQ53118

Mae llais disgyblion yn allweddol i hysbysu polisi a chreu amgylchedd addysgol cynhyrchiol ar gyfer ein hysgolion. Dylai pob disgybl gael cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'u dysgu, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth i'r cwricwlwm newydd ddod yn agored ar gyfer cael adborth.

Diolch, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân wedi cael ei chanmol yn ddiweddar gan Estyn am greu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion a'u hagweddau at ddysgu, gydag un ohonynt yn cynnwys cynllun arweinyddiaeth disgyblion sy'n golygu bod disgyblion yn arsylwi ar wersi, gan ganolbwyntio ar ymddygiad dysgu dysgwyr a'u hagwedd at ddysgu a lle y maent yn darparu adborth i ddisgyblion a staff, gan gynnwys ffyrdd ymlaen sy'n effeithio ar addysgu a dysgu. Maent hefyd yn rhoi adborth i'r uwch dîm arwain a chorff llywodraethu'r ysgol. O ganlyniad i hyn a gwaith arloesol arall yn ysgol Coed Efa, ceir adroddiadau fod lles disgyblion a'u hagweddau at ddysgu yn gadarn iawn, ac mae bron bob disgybl yn ymddwyn mewn modd rhagorol mewn gwersi ac yn ystod amser egwyl. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch ysgol Coed Efa ac ysgol Ffordd Blenheim, yr ysgol ffederal, ar eu gwaith rhagorol yn y maes hwn? Ond a allwch ddweud hefyd pa wersi y credwch y gellir eu dysgu o'r arfer rhagorol hwn a'u cyflwyno mewn mannau eraill yng Nghymru?

Wel, rwy'n falch iawn o wneud hynny. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i—wel, mewn gwirionedd, cefais agor ysgol newydd Ysgol Gynradd Coed Efa, ac rwyf wedi ymweld â'i gefell ffederal ar sawl achlysur, yn fwyaf diweddar, mae'n rhaid imi ddweud, ar ddiwrnod iechyd meddwl arloesol iawn a drefnwyd gan y plant—nid y staff, y plant a'i cynlluniodd, nid yn unig er eu budd eu hunain, ond ar gyfer amryw o ysgolion cynradd yn yr ardal leol i dynnu sylw at feysydd yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles. Mae Gill Ellis, pennaeth yr ysgol ffederal, hefyd yn un o'n partneriaid cyswllt yn yr academi arweinyddiaeth addysgol newydd, a thrwy'r mathau hynny o fecanweithiau gallwn sicrhau bod yr arferion da hyn yn cael eu rhannu drwy'r system gyfan. Felly, dylid llongyfarch ysgol Coed Efa. Er nad hwy yn unig—gwn y bydd Mike Hedges yn torri ei galon nad yw yn y Siambr i fy nghlywed yn dweud hyn, ond ar ymweliad diweddar ag Ysgol Tan-y-lan gyda Mike Hedges yn Abertawe—. Maent wedi cyflwyno system newydd lle y mae disgyblion, am un prynhawn yr wythnos, yn cael dewis beth y maent am ei astudio. Ac mae'r cynnydd hwnnw yn llais disgyblion wedi arwain at lefel uwch o bresenoldeb yn yr ysgol a chanlyniadau gwell gan y plant eu hunain, sy'n dangos grym gwrando a grymuso plant mewn perthynas â'u haddysg eu hunain a'r gwahaniaeth y gall hynny ei wneud iddynt.

14:20
Derbyniadau i Gyrsiau Prifysgol yng Nghymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dderbyniadau i gyrsiau prifysgol yng Nghymru? OAQ53127

Rwyf wedi nodi ystadegau UCAS ar dderbyniadau i gyrsiau israddedig amser llawn ar gyfer 2018-19. Mae'r gostyngiad bychan yn adlewyrchu'r gostyngiad parhaus yn nifer y bobl 18 oed yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, ceir adroddiadau calonogol gan rai prifysgolion am fwy o geisiadau am gyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau israddedig rhan-amser.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ôl y gwasanaeth derbyniadau, UCAS, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle y gostyngodd cyfanswm y myfyrwyr a gafodd le ar gyrsiau y llynedd, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dengys ffigurau fod nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd ar gyrsiau amser llawn ym mhrifysgolion Cymru wedi gostwng 5.7 y cant. Dengys ffigurau hefyd mai ymgeiswyr o Gymru yw'r rhai mwyaf tebygol o astudio y tu allan i'w mamwlad, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, lle y ceir cymhellion ariannol i ymgeiswyr astudio ym mhrifysgolion eu gwlad. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad a pha gymhelliad y bydd yn ei gynnig i annog mwy o ymgeiswyr o Gymru i astudio ym mhrifysgolion eu gwlad, os gwelwch yn dda?

Wrth gwrs, Lywydd, mater i sefydliadau unigol yw recriwtio. Y fantais sydd gan fyfyrwyr Cymru yw'r system fwyaf blaengar a hael o gymorth i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.

O ran cymell myfyrwyr i astudio yng Nghymru, bydd yr Aelod yn ymwybodol, oherwydd, unwaith eto, trafodasom hyn y bore yma yn y pwyllgor, o ran cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig, nid yw hwnnw ond ar gael i ymgeiswyr cymwys sy'n ymgymryd â'u hastudiaethau ôl-raddedig mewn sefydliad yng Nghymru.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

Argaeledd Meddyginiaethau Fferyllol Dros y Cownter

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd meddyginiaethau fferyllol dros y cownter? OAQ53150

Diolch am eich cwestiwn. Ceir tystiolaeth dda fod llawer o ymgynghoriadau meddygon teulu yn ymwneud â mân anhwylderau y gallai fferyllydd cymunedol ymdrin â hwy'n effeithiol o bosibl, gan fod meddyginiaethau ar gael yn rhwydd o fferyllfeydd heb bresgripsiwn. Golyga Dewis Fferyllfa y gellir gwneud diagnosis o'r anhwylderau hyn yn ddiogel ac yn gywir heb fod angen ymyriadau meddygol.

Cafodd rhai o'r materion y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atynt eu dwyn i fy sylw gan Norgine, gweithgynhyrchwr fferyllol yn fy etholaeth gyda phresenoldeb sylweddol ac sy'n digwydd bod yn un o gwmnïau angori Cymru hefyd. Soniodd y cwmni wrthyf am yr ymgynghoriad sydd ar waith ar hyn o bryd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru—credaf ei fod yn dod i ben ddydd Gwener—sy'n edrych ar gyflyrau na ddylid rhoi presgripsiwn dros y cownter ar eu cyfer fel mater o drefn mewn gofal sylfaenol. Ymddengys ei fod yn gopi carbon o ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach yn Lloegr. Mae'r ddogfen yn rhestru 1,314 o feddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter ac sy'n cael eu presgripsiynu ar hyn o bryd gan feddygon teulu yng Nghymru, ar gyfer 35 o gyflyrau. Mae Norgine wedi dwyn rhai pryderon i fy sylw, yn enwedig y canlyniadau anfwriadol posibl yn sgil mabwysiadu'r canllawiau, gan gynnwys costau cynyddol; dadrymuso presgripsiynwyr; peryglu canlyniadau i gleifion; creu anghydraddoldeb ym maes gofal iechyd; a pheryglu aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas. A wnaiff y Gweinidog ystyried y pryderon hyn, a dweud hefyd wrth y Siambr pa bryd y mae'n bwriadu adrodd yn ôl i'r Senedd ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw?

Gwnaf, rwy'n fwy na pharod i ddweud bod yr ymgynghoriad, fel y dywedoch, bron â dod i ben, ond ymgynghoriad ydyw. Oherwydd ceir tystiolaeth hefyd nad yw rhai meddyginiaethau dros y cownter yn darparu gwerth da, naill ai o ran gwerth am arian neu effeithiolrwydd. Credaf felly ei bod yn gwbl iawn a phriodol adolygu'r wybodaeth honno a llunio canllawiau newydd.

Y realiti o hyd, fodd bynnag, yw fod gan y presgripsiynydd unigol, pwy bynnag ydynt, gyfrifoldeb unigol i wneud dewis presgripsiynu priodol ar gyfer yr unigolyn ger eu bron. Nawr, rwy'n cydnabod rhai o'r pryderon a godwyd gan y cwmni ac a ailadroddwyd gennych yma. Maent yn bryderon rwy'n ymwybodol ohonynt, ond buaswn yn fwy na pharod i sicrhau bod y Siambr hon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr ymgynghoriad ac am unrhyw ganllawiau newydd y gallwn ddewis eu cymeradwyo.FootnoteLink

14:25

Yn eu paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen', argymhellodd Gweinidogion y DU dros y GIG, yn Lloegr o leiaf, ganiatáu i fferyllwyr amnewid cyffuriau penodol am rai gydag effeithiau tebyg, lle y mae eu barn broffesiynol yn cefnogi hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno, yn gyffredinol, y dylem ganiatáu mwy o ddisgresiwn i fferyllwyr ddefnyddio eu barn broffesiynol i wasanaethu eu cleifion, er mwyn lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu ac i sicrhau darpariaeth gosteffeithiol?

Ie, mae yma her ynghylch argaeledd ehangach meddyginiaethau generig a'u defnydd o fewn ein system gofal iechyd gyfan. Yna, ceir yr her gysylltiedig, ond ychydig yn wahanol, o wneud y defnydd gorau o sgiliau ein staff o fewn y system, ac mae fferyllwyr yn bendant yn rhan o hynny. Rydym wedi sôn ar sawl achlysur, yn y lle hwn a thu hwnt, am wneud gwell defnydd o'r sgiliau sydd gan fferyllwyr, nid yn unig mewn perthynas â chynorthwyo eu cydweithwyr mewn gofal sylfaenol, ond o ran bod yn bwynt cyswllt i roi cyngor i ddinasyddion, ac os oes angen, i ddarparu meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Felly, nid yn unig o safbwynt ein paratoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' trychinebus, ond yn fwy cyffredinol o ran gwella effeithiolrwydd a gwerth am arian a'r profiad o iechyd a gofal, rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud defnydd mwy fyth o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd gan fferyllwyr i'w cynnig.

Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa y bore yma, Weinidog, yn hynod o bryderus am nad yw'n gallu cael gafael ar gyffur penodol y mae ei angen arni er mwyn rheoli ei hepilepsi, er bod y cyffur ar gael yn ddidrafferth mewn fferyllfeydd yn Lloegr. Enw'r cyffur y cyfeiriaf ato yw Epilim Chrono, cyffur rhyddhad araf. Nawr, eglurodd i staff fy swyddfa y bore yma y bydd ei chyflenwad o'r cyffur yn dirwyn i ben cyn bo hir. Felly, a wnewch chi edrych ar y mater hwn ar frys i sicrhau y gall fy etholwr gael y cyffur penodol hwn o fferyllfa leol yma yng Nghymru? Ac os ymrwymaf i ysgrifennu atoch y prynhawn yma, a gaf fi ofyn ichi ymateb ar fyrder, Weinidog?

Os ysgrifennwch ataf gyda'r manylion, byddaf yn sicrhau bod ymateb priodol yn cael ei ddarparu. Wrth gwrs, fe fyddwch yn deall na allaf ymyrryd mewn materion sy'n ymwneud â thriniaeth unigol, ond rwy'n fwy na pharod i sicrhau y darperir ymateb priodol, ac rwy'n cydnabod ei fod yn fater brys.

Gofal Iechyd yn Sir Drefaldwyn

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal iechyd a gynllunir yn Sir Drefaldwyn? OAQ53117

Rydym yn parhau i weithio gyda bwrdd iechyd addysgu Powys a phartneriaid eraill er mwyn rhoi amryw o gamau ar waith i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd wedi'i gynllunio sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac mor agos at gartrefi pobl â phosibl.

Diolch, Weinidog. Rwy'n falch o glywed hynny. Cyn bo hir, byddwn yn clywed casgliadau ymgynghoriad a fydd yn arwain at ganlyniad ymgynghoriad yn Swydd Amwythig. Bydd hynny'n golygu ad-drefnu gwasanaethau yn Swydd Amwythig, ac yn sicr, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod peth darpariaeth wedi'i chynllunio yn cael ei darparu'n lleol yn ein hysbytai cymunedol lleol megis y Drenewydd, Llanidloes, y Trallwng neu Fachynlleth, er mwyn lleihau'r angen, wrth gwrs, i gleifion deithio hyd yn oed ymhellach yn dilyn newidiadau yn Swydd Amwythig. Ac wrth gwrs, gellir darparu rhai—pwysleisiaf 'rhai'—triniaethau gofal wedi'i gynllunio yn fwy lleol, sydd wrth gwrs yn gwneud ysbytai cymunedol yn fwy cynaliadwy, a cheir manteision amlwg eraill lle na fydd raid i gleifion a'u teuluoedd deithio hyd yn oed ymhellach am ofal wedi'i gynllunio. Felly, rwy'n awyddus i ddeall sut y credwch fod Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â bwrdd iechyd Powys—sut y gallwch weithio gyda'r bwrdd iechyd, gan ystyried y newidiadau rydym yn disgwyl eu gweld yn Swydd Amwythig.

Ceir dau bwynt yma. Y cyntaf yw bod bwrdd iechyd addysgu Powys eisoes yn darparu amrywiaeth o ofal iechyd wedi'i gynllunio, ac mewn gwirionedd, mae ganddynt hanes da iawn o'i ddarparu ar amser. Mae ganddynt uchelgais gwirioneddol hefyd, ac rydym yn hapus i'w gefnogi, i barhau i ddarparu cymaint o ofal iechyd wedi'i gynllunio ym Mhowys neu mor lleol i Bowys â phosibl. Ar nifer o fy ymweliadau â lleoliadau ym Mhowys, maent wedi sôn am beth arall y gallant ei ddarparu yn y lleoliadau hynny er mwyn lleihau'r amser y byddai pobl yn ei gymryd fel arall i deithio i ganolfannau gwahanol. Er enghraifft, mewn gofal mamolaeth, gall mwy o fenywod gael mynediad at ofal mamolaeth cymhleth a arweinir gan fydwraig ym Mhowys, yn hytrach na gorfod teithio'n bellach i'w gael, a chefnogir y dyheadau hynny, wrth gwrs, gan y cynllun cyffredinol o fewn ein cynllun, 'Cymru Iachach', y cynllun iechyd a gofal cymdeithasol hirdymor yma yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn cydnabod eich pwynt ehangach ynglŷn â'r ymgynghoriad yn Swydd Amwythig, ymgynghoriad Future Fit, a gwn eich bod wedi sôn am hyn ar sawl achlysur. Byddai'r opsiwn a ffafrir, opsiwn 1, yn golygu bod y safle gofal brys yn aros yn yr Amwythig, gyda gofal wedi'i gynllunio yn symud ymhellach i ffwrdd, a dyna'r opsiwn a ffafrir gan y bwrdd iechyd hefyd. Byddwn yn gwybod erbyn diwedd y mis pa opsiwn a ddewisir, ac edrychaf ymlaen at weld perthynas wirioneddol adeiladol rhwng bwrdd iechyd Powys a'u partneriaid. Wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys eu gweld yn mynd drwy'r cyfnod presennol o fesurau arbennig yn yr Amwythig, ond byddwch yn falch o glywed bod bwrdd iechyd Powys yn ymdopi â'r sefyllfa honno ac yn sicrhau bod gwaith y maent yn ei gomisiynu ar ran trigolion Powys yn cael ei gyflawni ar yr adeg iawn ac i'r safon iawn.

14:30

A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch yn ffurfiol ar gadw eich swydd? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi. Roeddwn wedi bwriadu gwneud hynny yn y pwyllgor y bore yma ac rwy'n ymddiheuro am fethu gwneud hynny.

I ddychwelyd, yn amlwg, at fater gofal iechyd wedi'i gynllunio yn Sir Drefaldwyn, fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am y rôl bwysig y gall meddygfeydd meddygon teulu ei chwarae yn hyn o beth a rhai o'r heriau mawr y mae bwrdd iechyd Powys yn eu hwynebu o ran recriwtio a chadw meddygon teulu. Un o'r materion o bryder sydd wedi eu dwyn i fy sylw yw fod gan feddygon teulu safleoedd mawr sy'n eithaf drud i'w rhedeg a'u cynnal yn aml, a bod amharodrwydd cynyddol ymhlith meddygon iau i ysgwyddo'r math o ymrwymiad sydd ei angen i redeg y mathau hynny o safleoedd yn ogystal â darparu gofal iechyd sylfaenol. Pa gymorth ac arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fyrddau iechyd i'w galluogi i weithio'n adeiladol gyda meddygon teulu, yn enwedig gan y gallai'r meddygon teulu hynny fod yn agosáu at oedran ymddeol, i sicrhau y gallwn gadw'r cyfleusterau pwysig hyn, yn enwedig mewn cymunedau gwledig?

Rwy'n cydnabod yr her, wrth gwrs. Nid yn Sir Drefaldwyn yn unig y mae'n digwydd, fel y gwyddoch chi a'r Aelodau eraill, rwy'n siŵr. Ledled y wlad, ceir heriau gyda chyfleusterau sydd wedi gwasanaethu eu poblogaethau lleol yn dda dros gyfnod o amser, ond rydym bellach yn cydnabod bod pob un ohonom am eu gweld yn cael eu diwygio a'u gwella. Felly, mae hynny'n cael ei ddatrys mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gyda byrddau iechyd yn mynd i bartneriaeth â phractisau unigol, â grwpiau o bractisau, ac yn wir, â phartneriaid llywodraeth leol a'r maes tai hefyd. Gallwch weld amrywiaeth o ardaloedd lle y mae'r bartneriaeth honno wedi bod yn beth da ar gyfer symud y ddarpariaeth o wasanaethau lleol i gyfleusterau pwrpasol newydd.

Ceir her ehangach hefyd, nid yn unig mewn perthynas â safleoedd, ond ynghylch indemniad a rhwymedigaethau posibl yr unigolyn 'olaf i adael', ac mae hynny'n broblem go iawn i feddygon teulu iau, nad ydynt o bosibl yn dymuno mynd i bartneriaeth, ond yn fwy na hynny, oherwydd newid yn y ffordd y mae pobl eisiau gweithio. Ceir nifer o feddygon teulu ifanc, ni waeth am y materion hynny, nad ydynt yn dymuno prynu i mewn i bractis a gwneud ymrwymiad hirdymor iawn. Mae'r holl bethau hynny'n rhan reolaidd o'n trafodaeth ym mhwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain, ac maent yn rhan reolaidd o fy nhrafodaethau gyda phob bwrdd iechyd unigol a'u partneriaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr i'r Gweinidog gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones. 

Diolch yn fawr eto, Llywydd. 

Weinidog, yn y pwyllgor y bore yma, buom yn trafod y pryderon parhaus ynglŷn â rhai o'r materion sy'n ymwneud â Brexit a'r system gofal iechyd, ac fe fyddwch yn gwybod fod rhifyn 17 Tachwedd o'r British Medical Journal wedi datgan yn blwmp ac yn blaen y bydd cleifion yn marw os na allwn gynnal y gadwyn gyflenwi meddyginiaethau. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynlluniau wrth gefn eich adran i ddiogelu'r cyflenwad o feddyginiaethau, yn enwedig meddyginiaethau gydag oes silff gyfyngedig na ellir eu storio mewn senario 'dim bargen', sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn gobeithio na fydd yn digwydd wrth gwrs, ond sy'n dod yn fwy ac yn fwy o risg?

Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gwneud datganiadau yn y lle hwn eisoes am ein paratoadau ar gyfer unrhyw fath o Brexit, ond yn benodol am Brexit 'dim bargen'. Rwyf wedi nodi hyd a lled a difrifoldeb fy mhryderon ynghylch effaith Brexit 'dim bargen'. A'r gwir diymwad yw, os ydym yn gadael heb gytundeb ar ddiwedd mis Mawrth, bydd hynny'n cael effaith wirioneddol a bron ar unwaith ar iechyd a lles pobl. Y gwir amdani yw, os ydym yn wynebu heriau gyda threfniadau masnachu, nid yn unig ynglŷn ag a yw pobl yn dymuno parhau i gyflenwi ystod o ddyfeisiau meddygol, offer a meddyginiaethau ai peidio, yna bydd hynny'n cael effaith.

Byddaf yn cael cyfarfod pellach gyda rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yfory i ganolbwyntio ar Brexit. Bydd y Dirprwy Weinidog a minnau yn ei fynychu. Byddwn yn parhau i amlinellu cyflwr presennol ein paratoadau iddynt, yng Nghymru, ac yn wir, y camau rydym yn ceisio'u cymryd ar y cyd â phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig. Efallai y byddaf mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r lle hwn am ein paratoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' a'i effaith heb fod yn hir iawn.

Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog, a chredaf y bydd y Siambr gyfan yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth honno. Fel y dywedais, mae'n sefyllfa y mae pob un ohonom yn gobeithio'i hosgoi, ond ymddengys ei bod yn dod yn fwy o fygythiad go iawn. Hoffwn roi enghraifft benodol i chi er mwyn dangos y peryglon sy'n ein hwynebu, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn ohoni. Defnyddir yr isotop ymbelydrol technetiwm mewn oddeutu 850,000 o sganiau yn y DU ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys clefyd y galon a chanser. Mae gan y cynnyrch hwn hanner-oes o 66 awr yn unig, sy'n golygu na ellir ei gadw a'i storio. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn ei chyfanrwydd yn dibynnu ar gyflenwad parhaol o'r cynnyrch hwn o Ffrainc, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd, a rheolir y cyflenwad hwnnw gan gytundeb Euratom. Mae'r cyflenwyr posibl agosaf nad ydynt yn yr UE yn Ne Affrica ac yn Ontario yng Nghanada, ac yn amlwg, ni allant fod yn ddefnyddiol i ni yn y sefyllfa hon. Ac yn amlwg, un enghraifft yn unig yw hon, gan fod sawl math o isotop na ellir eu storio. Gwyddom fod Gogledd Iwerddon, hyd yn oed dan y trefniadau presennol, wedi cael problemau ddwywaith—yn 2009 ac yn 2013—oherwydd yr heriau logistaidd sy'n ymwneud â chyflenwi'r cynnyrch mewn pryd. A allwch egluro sut y bydd ysbytai yng Nghymru yn cael y mathau hyn o gynhyrchion pe baem yn cael Brexit 'dim bargen'?

14:35

Pe bai Brexit 'dim bargen', byddai bron iawn yn amhosibl i gadwyni cyflenwi barhau yn yr un ffordd ag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Caiff llawer o hyn ei gludo ar y ffyrdd a'r realiti diymwad yw, os oes problemau gyda chludo nwyddau ar y ffyrdd sy'n effeithio ar ein porthladdoedd, fel y byddwch wedi'i weld yn sgil yr ymarfer a gynhaliwyd yn ddiweddar ac yr adroddwyd yn ei gylch yn y Financial Times—a phrin fod y papur hwnnw'n offeryn i godi bwganod neu'n lledaenu damcaniaethau cynllwyn asgell chwith—mae'n dangos effaith sylweddol ac eithaf syfrdanol mân achosion o oedi ar yr holl nwyddau sy'n cael eu cludo i mewn i'r wlad. Pe bai hynny'n digwydd, mae'r cynllun arall, nad yw'n gyfrinach, yn ymwneud â pha un a ellir trefnu i feddyginiaethau gyda hanner-oes byr iawn cyn iddynt orffen bod yn ddefnyddiol—ac rwyf wedi siarad droeon am feddyginiaeth niwclear a radioisotopau yn y gorffennol hefyd—gael eu hedfan draw ac yn ddiau, byddai hynny'n arwain at gost ychwanegol, a gallai effeithio ar y cyflenwad. Ond wedyn, byddai'n rhaid i'r trethdalwr ysgwyddo'r gost ychwanegol. Felly, heb amheuaeth, mae'n her, ac rwyf hefyd wedi sôn droeon am yr her i inswlin a gynhyrchir ar gyfer pobl â diabetes math 1. Nid ydym yn cynhyrchu agos digon o inswlin ar gyfer pobl â diabetes math 1 yn ein poblogaeth. Ac unwaith eto, mewn Brexit 'dim bargen', dyna un o'r peryglon gwirioneddol a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles pobl bron ar unwaith.

Diolch, Weinidog, ac efallai y gallwch roi rhagor o wybodaeth inni yn dilyn y cyfarfod â'r rhanddeiliaid ynghylch yr union drefniadau pe baem yn wynebu gorfod hedfan meddyginiaethau draw.

Soniasoch yn eich ymateb am y gost ychwanegol i'r GIG. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'—. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr Aelodau draw acw'n peri peth rhwystredigaeth i mi; rwy'n siŵr y cewch gyfle i ymateb i'r pwyntiau hyn i'r Gweinidog, ond mae'n anodd iawn cael trafodaeth synhwyrol ynglŷn â'r materion hyn pan fydd pobl yn gwneud sylwadau ar eu heistedd.

Weinidog, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o'r costau ychwanegol posibl hyn, a sut y mae hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynlluniau wrth gefn? Rwy'n sylweddoli bod y costau posibl hyn, ar hyn o bryd, yn rhai damcaniaethol, a gobeithio y bydd hwnnw'n fater na fydd yn rhaid inni ei wynebu, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi'n hanfodol, o ran cynllunio ar gyfer y senario waethaf, fod gennych ryw fath o syniad clir ynglŷn â'r costau ychwanegol y gallech orfod eu hwynebu.

Ie, mae yna her ynghylch costau damcaniaethol, ond mewn gwirionedd, mae'r costau'n cynyddu ar hyn o bryd. Er enghraifft, ceir cost ychwanegol y mae'r gwasanaeth iechyd ledled pedair gwlad y DU yn ei hysgwyddo i gynyddu capasiti storio, a'r costau rydym yn eu gwario ar hyn o bryd ar gynllunio ar gyfer senarios posibl, pan wyddom nad yw un senario o leiaf am fod—wel, ni fydd mwy nag un senario yn realiti erbyn diwedd mis Mawrth. Mae pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gorfod ymdopi â'r her benodol hon. Mae swyddogion yn siarad â'i gilydd yn rheolaidd, yn ogystal â'n sgyrsiau o fewn pedair gwlad y DU yn unigol. Rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i ddarparu mwy o wybodaeth am gostau, am y trefniadau rydym yn eu cyflawni. Rwy'n gobeithio hefyd y cawn ymateb cadarnhaol gan Weinidogion iechyd cyfatebol ledled y DU—pedwar Gweinidog iechyd y gwahanol Lywodraethau o wahanol gefndiroedd gwleidyddol—i gael sgwrs adeiladol ac agored serch hynny ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein gilydd, a'r peryglon y mae pob un ohonom yn cydnabod eu bod yn bodoli, gan ddibynnu ar ba ffurf o Brexit a gawn, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Gwn fod fy ngweinidog cyfatebol yn yr Alban yr un mor awyddus i gael y cyfarfod hwnnw gyda'n gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a pha swyddog bynnag a fyddai'n mynychu o Lywodraeth Gogledd Iwerddon.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pam ei bod wedi cymryd cyhyd i ymyrryd yn y sefyllfa ym mwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf?

Nid yw wedi cymryd llawer o amser o gwbl. Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon ar bob pwynt mewn perthynas â'r ymyrraeth o ran y mater cychwynnol ynghylch gofal mamolaeth, ac yn wir, yn dilyn y cyfarfod tairochrog diweddar iawn rhwng prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gwneuthum ddewis cynnar—fel y byddwch wedi'i weld o'r datganiad ysgrifenedig heddiw—i newid statws uwchgyfeirio Cwm Taf o 'arferol' i 'monitro gwell'. Ac wrth gwrs, byddaf yn ateb cwestiwn amserol ar y mater hwn ymhen ychydig funudau.

14:40

Ar 4 Hydref, Weinidog, amlygwyd pryderon am y tro cyntaf ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf. Cyfeiria eich datganiad heddiw at ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ac ymbelydredd, ansawdd llywodraethu a threfniadau adrodd ynghylch digwyddiadau difrifol, diffyg gweithredu ac ymateb i adroddiadau'r arolygiaeth gofal iechyd, a phrinder staff hefyd fel ffactorau sy'n achosi problemau yn y bwrdd iechyd hwnnw. Bydd llawer o bobl yn ardal y bwrdd iechyd yn pendroni pam ar y ddaear ei bod wedi cymryd tri mis—mwy na thri mis—i Lywodraeth Cymru uwchgyfeirio'r sefyllfa yno er mwyn sicrhau rhywfaint o welliant.

Wrth gwrs, nid Cwm Taf yw'r unig fwrdd iechyd sydd mewn mesurau uwchgyfeirio ar hyn o bryd. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, sy'n cefnogi 2.4 miliwn o bobl yng Nghymru—tri chwarter ein poblogaeth—yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan fyrddau iechyd sy'n destunau ymyrraeth. Onid yw hynny'n peri pryder ichi, o ran cyflymder yr ymateb, gan ei fod yn bendant yn peri pryder i mi?

Wel, buaswn yn gobeithio cael ymateb mwy rhesymol a seiliedig ar ffeithiau ar y materion hyn. Nid yw ceisio cyfuno mater gwasanaethau mamolaeth gyda'r meysydd a amlinellir yn fy natganiad ysgrifenedig heddiw yn gydnaws â chraffu gonest. Ar wasanaethau mamolaeth, fe wnaethom weithredu'n briodol ac yn amserol, gyda'r sgyrsiau a ddigwyddodd rhwng swyddfa'r brif nyrs a'r bwrdd iechyd, a'r penderfyniad a wneuthum wedyn y dylid cynnal adolygiad ar y cyd gan ddau goleg brenhinol yn annibynnol, gyda'r Llywodraeth mewn gwirionedd, os mynnwch, yn gweithredu fel y corff noddi, yn hytrach na'r bwrdd iechyd. Rwy'n disgwyl i'r adroddiad hwnnw fod ar gael yn y gwanwyn. Felly, mae'r materion hyn yn cael sylw priodol ac yn cael sylw cyflym gan y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach. Edrychaf ymlaen at allu darparu mwy o ffeithiau ar y mater hwn wrth i'r adroddiad gael ei ddarparu, fel yn wir y disgwyliaf allu dweud mwy ynglŷn â'r camau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd mewn ymateb i fy mhenderfyniad heddiw i newid statws uwchgyfeirio bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf.

Dylai'r sefyllfa, wrth gwrs, fod wedi cael ei huwchgyfeirio o'r cychwyn cyntaf cyn gynted ag y daeth y sefyllfa mamolaeth i'r amlwg yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi eu siomi gan ba mor araf y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu.

Nid ydych wedi ymateb i'r ffaith bod pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun trefniadau ymyrryd ac uwchgyfeirio o ryw fath ar hyn o bryd a bod tri chwarter poblogaeth Cymru yn cael eu gwasanaethu gan y byrddau iechyd hynny. Onid yw hynny'n dweud wrthych, os yw pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun trefniadau uwchgyfeirio ar hyn o bryd—ac mae llawer ohonynt wedi bod felly ers peth amser, gan gynnwys bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dros dair blynedd a hanner hyd yma heb unrhyw arwydd eto o'u tynnu allan o fesurau arbennig—onid yw hynny'n dweud wrthych eich bod yn Llywodraeth Lafur Cymru sy'n methu, ac wedi methu mynd i'r afael â phroblemau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac nad ydych yn gweithredu'n ddigon cyflym i'w datrys?

Wel, fel y dengys yr Aelod, mae'n haws o lawer mynd ar drywydd penawdau nag ymdrin â'r ffeithiau o'u blaen. Byddai wedi bod yn gwbl anghywir—byddai wedi bod yn gwbl anghywir—fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, inni ymyrryd ym mis Hydref ar y diwrnod cyntaf pan godwyd y pryderon ynghylch gwasanaethau mamolaeth. Rwy'n gwneud y peth iawn ar gyfer y wlad ac ar gyfer y bobl a wasanaethir gan y byrddau iechyd unigol hyn, ac yn wir, ar gyfer y staff sy'n darparu'r gwasanaethau. Rwy'n disgwyl y ceir craffu priodol ar y dewisiadau a wnaf yn ogystal ag ar ymddygiad pob sefydliad iechyd yn y wlad. Mae trefniadau uwchgyfeirio, wrth gwrs, wedi digwydd am wahanol resymau mewn gwahanol fyrddau iechyd ac edrychaf ymlaen at weld sefydliadau'n gostwng eu lefel uwchgyfeirio hefyd, fel rwy'n disgwyl ei weld yn digwydd ar adegau gwahanol dros y flwyddyn a mwy nesaf.

Rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn darparu'r dyfodol hwnnw, ac yn wir, mae gan bobl Cymru ffydd a hyder mawr yn ein gwasanaeth iechyd, fel y dengys pob cydnabyddiaeth o brofiad pobl o ofal iechyd. Mae dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yn un anodd. Rydym yn wynebu ymchwydd yn y galw, newid technolegol sydyn a chyflym, ac wrth gwrs, fel y gŵyr pob un ohonom, cyfnod o gyni parhaus. Er hynny, rydym wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym gynllun hirdymor—cynllun ar y cyd—ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fyny ac yn sicrhau bod ganddynt gynllun ar y cyd—

Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, fis Hydref diwethaf, i mi godi'r ffaith nad oedd offeryn ar-lein Fy Iechyd Ar-lein ar gael i gleifion meddygon teulu yng ngogledd Cymru allu gwneud apwyntiadau. Yn garedig iawn, ysgrifennodd ataf wedyn i ddweud nad penderfyniad polisi oedd hwn, ond weithiau, nid oedd y system ar gael gan fod cyfateb anghenion cleifion i argaeledd meddygon teulu yn ymarferol amhosibl, yn enwedig lle'r oedd niferoedd uchel o staff locwm. Yr awgrym, wrth gwrs, oedd fod cyfnodau o amser pan nad oes modd cael mynediad at y gwasanaeth. A yw'n ymwybodol fod treialon llwyddiannus wedi eu cynnal yn Llundain o'r adnodd hwn mewn practisau meddygon teulu, gan arwain at leihau gwaith gweinyddol a gwella effeithlonrwydd? Mewn un achos penodol, cafodd rhestrau aros meddygon teulu eu torri o bedair wythnos i un diwrnod yn unig, ac roedd angen apwyntiad ar 25 y cant o'r 2,500 o gleifion, felly roedd modd ymdrin â 75 y cant heb ddefnyddio amser y meddygon teulu yn y feddygfa, gyda llawer o fanteision eraill hefyd, a llwyddodd meddygon teulu i brosesu 30 o ymholiadau cleifion ar-lein yn yr amser a fyddai wedi'i gymryd fel arall i weld 18 o gleifion wyneb yn wyneb. Felly, yn amlwg, mae hwn yn offeryn pwysig a defnyddiol, lle rydym yn wynebu'r broblem gyson o baru anghenion â modd. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd imi y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod yr offeryn ar-lein hwn ar gael mor aml ag y bo'i angen, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond ar gyfer pob rhan o'r GIG yng Nghymru?

14:45

Credaf mai'r her rydych wedi'i nodi yw nid sut y gallwn barhau i gyflenwi'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ond sut y mae'r dyfodol yn edrych a'r diwygio sy'n angenrheidiol er mwyn cyrraedd yno, ac nid yn unig ym maes gwneud gwell defnydd o dechnoleg. Yn y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fe welwch adran sylweddol ar wneud gwell defnydd o dechnoleg, ac o dechnoleg ddigidol yn benodol.

Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â mynediad, ac mae'r enghreifftiau a roesoch yn ymwneud â mynediad, ac ni chredaf fod hyn yn ymwneud ag un adnodd penodol yn unig. Mae amrywiaeth o wahanol adnoddau cyfrifiadurol, fel petai, ar gael i geisio gwella a gwneud gwell defnydd o amser staff wrth wneud hynny. Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gennym staff sy'n gallu gweithredu'r system honno, ac nid yn unig gweithredu'r system fel technegydd digidol, ond darparu'r cymorth clinigol wedyn i alluogi'r system i weithio'n iawn. Felly, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud, ac rydym yn disgwyl ei wneud, mewn gofal iechyd lleol ond hefyd ym maes gofal ysbytai mewn perthynas â mynediad, mewn perthynas â diagnosis a thriniaeth a gwneud gwell defnydd o dechnoleg, ac yn y pen draw, dylai hynny olygu ei fod yn lle gwell i'n staff weithio yn ogystal â bod yn well profiad i gleifion pan fo angen gofal iechyd arnynt.

Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, mae'n codi rhai pwyntiau synhwyrol a phwysig iawn mewn ymateb i fy nghwestiwn. Fe fydd yn ymwybodol iawn o'r problemau rydym wedi eu hwynebu yng Nghymru gyda systemau gwybodeg GIG Cymru, ac yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ddywedai ein bod yn credu bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar redeg systemau TG sydd wedi dyddio, ac ar adeg pan fo potensial gofal iechyd digidol yn tanio'r dychymyg ac yn gwella canlyniadau i gleifion, 10 y cant yn unig o weithgarwch Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy'n canolbwyntio ar arloesi.

Cynhaliwyd y treialon clinigol a grybwyllais funud yn ôl yn Llundain gan gwmni meddalwedd feddygol o'r enw EMIS, ond maent hwy bellach wedi colli eu statws fel y darparwr a ffafrir o ganlyniad i benderfyniad gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yma yng Nghymru. Felly yma, yn gyntaf oll, mae gennym adroddiad damniol o weithgareddau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a methiant eu hymdrechion i foderneiddio system gyfrifiadurol y GIG, ac eto, ar y llaw arall, maent yn cael gwared ar statws darparwr cwmni sydd wedi llwyddo i ddarparu'r union fath o wasanaethau y mae arnom eu hangen. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau nad ydym yn gweld y math o gamddeall gweinyddol a achoswyd gan y math hwn o beth, yn ôl pob golwg?

Gyda phob parch, credaf eu bod yn ddau bwynt gwahanol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r system yr hoffem ei chael yma yng Nghymru o dan ein goruchwyliaeth strategol ein hunain, ac ynghylch lefel yr adnoddau y gallem ac y dylem eu hymrwymo er mwyn cynnal ein systemau presennol. Mae hynny ynddo'i hun yn her sylweddol yn ogystal â'n gallu a'r adnoddau a roddwn tuag at ddiwygio ac arloesi. Wrth gwrs, byddwn yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n destun trafod rheolaidd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Nid yw'r pwynt ynglŷn ag EMIS yn ymwneud yn gymaint â'r ffaith bod hon yn enghraifft o bobl â syniadau arloesol gwych sydd wedi eu tynnu allan o'r system a bod diffyg cysylltiad yn bodoli, ond yn hytrach mai'r hyn a ddigwyddodd gydag EMIS a'r systemau meddygon teulu yw bod ymarfer tendro wedi'i gynnal, ac fe ddewisasant gyflwyno cais nad oedd yn cydymffurfio â gofynion sylfaenol y tendr. Nid oedd y penderfyniad hwnnw wedyn i beidio â chaniatáu iddynt barhau serch hynny i fod yn gyflenwr posibl yn benderfyniad a wnaed gan y Llywodraeth yn unig; mewn gwirionedd, fe'i cefnogwyd gan bwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain eu hunain. Cytunodd grŵp cynrychioliadol o feddygon, o gofio bod EMIS wedi gwrthod cydymffurfio â'r tendr, na ddylent felly gael eu gwobrwyo mewn unrhyw fodd a'u caniatáu yn ôl i mewn i'r system. Ac yn anarferol—gan y cafwyd cwestiynau yn y Siambr ar y pryd gan bobl o fwy nag un blaid—ers hynny, nid oes cwynion sylweddol wedi'u gwneud ynglŷn â'r peth gan ein bod wedi darparu'r cymorth y dywedasom y byddai ar gael, ac yn gyffredinol, mae cymuned y meddygon teulu wedi derbyn ein bod wedi gwneud y dewis cywir wrth beidio â chaniatáu EMIS i mewn i'r system wedi iddynt wrthod cydymffurfio â manylion y tendr.

14:50

Dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Dr Rebecca Payne, ar y pryd ei bod yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith bosibl hyn ar bractisau yng ngogledd Cymru, gan fod 89 o'r 118 practis gydag EMIS. Mae'n anodd gweld sut y mae gennym staff clinigol yng Nghymru i liniaru'r problemau posibl a allai godi. Ond gan symud ymlaen o hynny i newid systemau TG, mae'n amlwg y gallai hynny greu pob math o anawsterau ymarferol pan fo'n rhaid i hynny ddigwydd weithiau, wrth gwrs, gan fod systemau presennol yn dyddio neu'r dechnoleg yn datblygu. Mae llawer o bobl o'r farn y bydd yn cymryd tair blynedd cyn i'r holl gofnodion cleifion ddod i drefn ar systemau newydd, ac mae angen integreiddio cofnodion meddygol cleifion rhwng lleoliadau sylfaenol ac acíwt, ac nid yw'r amgylchiadau presennol yng ngogledd Cymru yn caniatáu hyn. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf pa gamau penodol rydych yn eu cymryd yng ngogledd Cymru i leihau dioddefaint cleifion a'r cyfleoedd sy'n cael eu colli i sicrhau gwell effeithlonrwydd ar gyfer cleifion yn y rhanbarth hwn?

Credaf mai'r pwynt cyntaf y buaswn yn ei wneud yw bod cyn-gadeirydd, bellach, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, Dr Payne, wedi codi pryderon ar y pryd, fel y gwnaeth nifer o randdeiliaid eraill, ond fel y dywedaf, roedd corff cynrychioliadol y meddygon teulu sy'n ymwneud â'r gwaith o asesu'r ymatebion i'r ymarfer tendro yn cytuno â'r dewis hwnnw ac yn ei gefnogi. Mae David Bailey yn sawl peth, ond yn sicr, nid yw'n byped i'r Llywodraeth, ac fe gefnogodd y dewis a wnaed i beidio â rhoi cyfle i EMIS geisio bod yn gyflenwr, wedi iddynt fethu ymdrin â'r tendr.

O ran y pwynt ehangach ynglŷn â mynediad pobl at gofnodion, nid o fewn y system iechyd yn unig y mae hyn yn codi; rydym wedi wynebu her o ran cydgysylltu cofnodion, er enghraifft, o fewn lleoliad fferyllfa. Dyna mae Dewis Fferyllfa yn caniatáu inni ei wneud—felly, fersiwn o gofnod meddyg teulu i fod ar gael ac i allu ychwanegu ati, ond gwneud mwy mewn perthynas â sicrhau bod cofnodion ar gael o fewn lleoliad y fferyllfa gymunedol hefyd. Ond o ran mynediad rhwng y gwasanaeth ambiwlans brys a rhwng ymarfer cyffredinol, ac yn wir, ymarferwyr mewn ysbytai hefyd, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma yng Nghymru tuag at wneud hynny. Ond mae mwy i'w wneud bob amser, gan gynnwys parhau i gyflwyno system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, sy'n golygu y gallwn rannu gwybodaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

Nawr, ceir sawl rhan o Gymru lle y mae hynny wedi'i gyflwyno, ac ym mhob ardal, bron â bod, lle y digwyddodd hynny, mae ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod ei fod wedi bod yn welliant. Mae'n golygu eu bod yn treulio llai o amser yn ceisio cael gafael ar wybodaeth, a chredant nid yn unig fod eu swydd yn well gan ei bod yn llai rhwystredig, ond eu bod yn darparu gwell gofal i'r dinesydd.

Felly, oes, mae mwy i'w wneud, ac rwy'n derbyn y bydd yna syniadau eraill bob amser ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud i wella, ond nid maes ymylol mohono. Mae'n waith craidd i wasanaethau iechyd a gofal, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn ateb rhagor o gwestiynau ar hyn yn awr ac yn y dyfodol.

Perfformiad Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? OAQ53131

Diolch am eich cwestiwn. Mae perfformiad yn gwella ar draws nifer o feysydd allweddol. Mae cynnydd wedi'i wneud o ran diagnosteg, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac amseroedd aros am driniaethau canser. Mae Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi derbyn £8.3 miliwn o gronfa berfformiad a grëwyd gennyf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

Weinidog, mae'n achos cryn bryder i gleifion yn ne-orllewin Cymru fod bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn destun ymyrraeth wedi’i thargedu Llywodraeth Cymru ers mis Medi 2016. Mae pryderon yn parhau ynghylch elfennau penodol o berfformiad nad ydynt yn cael eu bodloni, ac yn ddealladwy, mae pobl am weld gwelliannau. Gan fod y bwrdd iechyd wrthi'n cwblhau eu strategaeth sefydliadol, eu cynllun gwasanaethau clinigol a'u cynllun integredig tair blynedd ar gyfer 2019-22, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â'r trafodaethau diweddar a gafodd eich swyddogion gyda bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a phryd y byddech yn disgwyl gwneud penderfyniad ynglŷn â chymeradwyo'r cynllun integredig tair blynedd?

Wel, y pwynt cyntaf yw y byddai angen imi weld y cynllun integredig hwnnw'n cael ei gyflwyno a'i ddarparu. Ceir ffynhonnell reolaidd, nid yn unig o ohebiaeth, ond o gyfarfodydd uniongyrchol rhwng swyddogion o fewn y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, ac mewn gwirionedd, credaf fod y gwelliant y cyfeiriaf ato yn rhywbeth cadarnhaol o ran y gwaith y mae Tracy Myhill, y prif weithredwr, a'i thîm yn ei wneud gyda'r bwrdd. Mae yno welliant gwirioneddol, ac mae'n cael ei gynnal. Yr her fydd i ba raddau y gallant roi digon o hyder—nid yn unig eu cynllun ar bapur, ond yr hyder y byddant yn gallu ei ddarparu. Mae hynny'n rhan o'r pwynt. Ceir llawer o bobl sy'n ysgrifennu cynlluniau sy'n edrych yn wych mewn sawl agwedd ar fywyd, ond mae arnom angen hyder y gallant gyflawni yn erbyn hynny. Gallant fod mewn sefyllfa i gael cynllun integredig tair blynedd wedi'i gymeradwyo erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i wneud hynny, rwy'n hyderus y bydd y bwrdd iechyd hwn yn parhau i wneud cynnydd dros y flwyddyn nesaf, a chredaf y gallwch chi a thrigolion eraill ardal y bwrdd iechyd fod â mwy o hyder ynghylch gallu'r bwrdd i gyflawni yn erbyn ei gynlluniau a'i fodd ariannol, ond hefyd, wrth gwrs, i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl ledled y rhanbarth.

14:55

A gaf fi droi at berfformiad Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg mewn perthynas ag un o'u prif asedau, sef Ysbyty Cymunedol Maesteg? Mae plac yn yr ysbyty gyda fy enw arno; fe ddathlodd ei ganmlwyddiant ychydig flynyddoedd yn ôl. Gyda chynhaliaeth ein gwasanaeth iechyd gwladol a datblygiadau allweddol ac arloesedd ym maes iechyd, rwy'n bwriadu bod yno pan fydd yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant hefyd. Rwy'n mynd i fod mor hen â Job.

Ond a gaf fi ddweud, cafwyd cyfarfod enfawr a gorlawn ar 14 Tachwedd yn neuadd y dref ym Maesteg. Roedd llawer iawn o bobl yn bresennol, a chafwyd areithiau angerddol a huawdl iawn gan bobl leol yn yr ymgynghoriad ar gau uned ddydd Ysbyty Cymunedol Maesteg. Nawr, ochr yn ochr â chau'r uned ddydd honno a'r cynnig i'w throsglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnig hefyd i wella gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaeth doppler, uned y goes, ochr yn ochr â'r clinig clwyfau a gwasanaethau eraill sydd yno eisoes, gan gynnwys y ward cam-i-lawr sydd ganddynt ar hyn o bryd, gyda gwelyau yn y ward yno.

Nawr, yr hyn yr hoffwn ei gael gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd wrth iddo drosglwyddo i Gwm Taf cyn bo hir, yw gwarant ynglŷn â dyfodol hirdymor Ysbyty Cymunedol Maesteg. Mae'n rhan hanfodol o ymagwedd 'Cymru Iachach' o ran sicrhau bod gwasanaethau'n agosach at y gymuned. Byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â chadeirydd Cwm Taf i sicrhau nad yw hyn yn wir, ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i wneud yr un pwynt, os gwelwch yn dda, yn eich cyfarfodydd gyda chadeirydd a phrif weithredwr Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a chadeirydd a phrif weithredwr Cwm Taf: er gwaethaf yr ad-drefnu, y dylid gwella'r gwasanaethau yma yn unol â 'Cymru Iachach', a dylid naddu dyfodol Ysbyty Cymunedol Maesteg ar garreg y tu allan, os nad ger y plac gyda fy enw arno?

Wel, rwy'n cymeradwyo uchelgais yr Aelod i fod o gwmpas ar gyfer y deucanmlwyddiant. Nid wyf yn siŵr y buaswn yn gwneud addewid neu ddatganiad mor uchelgeisiol fy hun.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ac ynglŷn â gwasanaethau sy'n newid, sy'n amlwg yn achos pryder i'r boblogaeth leol wrth i wasanaethau symud, ac ar yr un pryd, maent yn gweld gwasanaethau, ar y llaw arall, yn symud i'r lleoliad hwnnw hefyd. Ond dyna ran o'r her rydym wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach'—sut rydym yn symud rhai gwasanaethau o gwmpas er mwyn eu crynhoi mewn llai o leoliadau, a sicrhau ar yr un pryd, fod mwy o wasanaethau'n symud i leoliadau cymunedol er mwyn eu darparu yn agosach at adref. Felly, ni chredaf fod unrhyw beth yn anghyson o ran yr hyn rydych wedi'i nodi.

Ni chredaf y dylai newid y ffin wneud unrhyw wahaniaeth o ran dyfodol mwy hirdymor yr ysbyty, ac rwy'n fwy na pharod i sicrhau, pan fyddaf yn cyfarfod â bwrdd iechyd Cwm Taf, fel rwy'n siŵr o wneud yn y dyfodol agos, fy mod yn codi'r ffaith bod gennych y pryderon hynny ac y byddwch yn disgwyl ateb uniongyrchol gan y bwrdd iechyd hefyd.

Y Targed Amser Aros o Bedair Awr ar Gyfer Gofal Brys

4. Pryd y mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i ysbytai gyrraedd y targed amser aros o bedair awr ar gyfer gofal brys? OAQ53134

Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd lleol gynllunio'n effeithiol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel, amserol ac o safon uchel i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod problemau arbennig yng ngogledd Cymru, yn y tri phrif ysbyty cyffredinol dosbarth, gyda phob un ohonynt wedi methu cyrraedd y targed amser aros ar gyfer gofal brys ers peth amser, gan gynnwys yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholwyr, sef Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Ymddengys bod y sefyllfa wedi bod yn gwaethygu, ac ym mis Tachwedd, roedd y ffigurau'n waeth o lawer nag yr oeddent dair blynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 2015. Mae hwn, wrth gwrs, yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig. Eich cyfrifoldeb chi yw gwella'r canlyniadau ar gyfer cleifion o ganlyniad i'ch ymyrraeth yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac eto, mae'r sefyllfa'n gwaethygu. A allwch egluro i fy nhrigolion a'r rheini mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru pam, mewn bwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig ar hyn o bryd, fod y sefyllfa'n gwaethygu o ran perfformiad yn hytrach na gwella?

Mae gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch y ffigurau pedair awr ym mhob un o'r tair canolfan yng ngogledd Cymru, ond nid wyf erioed wedi ceisio cuddio rhag y pryderon hynny. Maent yn bendant yn rhan o'r trafodaethau rwyf wedi eu cael gyda'r cadeirydd newydd ynglŷn â'r angen i weld gwelliant. Mae ganddynt gynllun gwella 90 diwrnod, ond y pwynt rwyf wedi'i wneud yw, 'Mae'n iawn cael cynllun, ond yn amlwg, dylech allu ei gyflawni a sicrhau gwelliant, a mynd â'r staff gyda chi'. Y peth gwaethaf y gallem ei wneud fyddai dweud, 'Mae angen i bobl geisio gweithio'n galetach' a dyna ni. Mewn gwirionedd, mae yna newidiadau o ran sut y trefnir y gwasanaethau, sut i sicrhau bod pobl yn mynd i'r lle iawn yn ein system iechyd a gofal, a sut i sicrhau bod capasiti digonol ar gael yn y system hefyd. Dywedir wrthyf fod rhywbeth yma ynghylch cefnogi arweinyddiaeth glinigol dda, oherwydd os edrychwch ar draws gogledd Cymru, ar hyn o bryd, yr ardal sydd wedi wynebu'r heriau ffisegol mwyaf, yn sicr yn y gorffennol diweddar, yw Ysbyty Gwynedd. Serch hynny, mae eu perfformiad yn well na'r ddau safle arall yn aml.

Felly, nid yw'n ymwneud â'r lleoliadau ffisegol yn unig, ond weithiau, mae'r lleoliad ffisegol yn ffactor. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y clinigwyr cywir yn y lleoedd cywir, ag arweinyddiaeth, ac â pherswadio aelodau o'r cyhoedd i geisio defnyddio pwyntiau gwahanol yn y system ar yr adeg iawn. Ond rwy'n disgwyl y byddwch chi ac Aelodau eraill o bob plaid nid yn unig yn parhau i fy holi ond yn gofyn eto—pan fyddwn wedi cael cynllun 90 diwrnod, rwy'n disgwyl dod yn ôl yma i ateb cwestiynau ynglŷn â hynny a pha wahaniaeth y mae wedi'i wneud. Credaf fod y trefniadau cenedlaethol a roesom ar waith gyda'r arweinydd clinigol cenedlaethol, Jo Mower, wedi bod yn ddefnyddiol, oherwydd, wrth gwrs, mae'n ennyn hyder am ei bod yn dal i fod yn glinigydd gweithredol mewn adran achosion brys. Felly, rwy'n ochelgar obeithiol y byddwn yn gweld gwelliant, os nad dros gyfnod prysur y gaeaf, gan fod y cyfnod hwnnw yn ddibynnol iawn ar ffawd, ond rwy'n disgwyl dros y flwyddyn nesaf y gall eich etholwyr ac eraill gael gwell profiad gydag amseroedd aros byrrach mewn adrannau argyfwng. Ond mae hon yn her fwy hirdymor ac nid yw'n rhywbeth y gallaf ei ddatrys drwy glicio fy mysedd, er cymaint y carwn allu gwneud hynny.

15:00

Weinidog, rwyf am edrych ar ddwy agwedd ar y pedair awr—sef dechrau a diwedd y cyfnod o bedair awr. Ar y dechrau, yn amlwg, gallwn ofyn i bobl ddewis yn well gyda'r dull iechyd darbodus ac edrych ar ddefnyddio cyfleusterau gwahanol megis unedau mân anafiadau ar draws de Cymru, ac yn enwedig y gwasanaethau gwych yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn fy ardal i. Rwyf am annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw. Ond hefyd, ar yr ochr arall i'r pedair awr, mae'r gwaith o drosglwyddo cleifion i ysbytai. Y llynedd, cynhaliodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ymgynghoriad ar gau gwelyau. Roedd yn ymgynghoriad â gogwydd iddo—yn fy marn i—oherwydd roedd y cwestiynau a gafodd eu gofyn yn tueddu mwy tuag at yr atebion roeddent eu heisiau. Ond mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol, a wnewch chi sicrhau bod yn rhaid i fyrddau iechyd ofyn cwestiwn ynglŷn â sut y mae'n effeithio ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, oherwydd mae cael gwared ar welyau yn golygu llai o gyfleoedd i drosglwyddo cleifion o'r adran ddamweiniau ac achosion brys i wely yn yr ysbyty?

Mae dau bwynt cyffredinol yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i'r Aelod. Y cyntaf yw fy mod yn cytuno'n llwyr ag ef—credaf mai dyna yw'r defnydd gorau o'r system gyfan. Mae ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn enghraifft dda o uned mân anafiadau lle y mae pobl weithiau'n tanbrisio'r ystod o wasanaethau sydd ar gael. Mae'n aml yn haws teithio yno na theithio i Ysbyty Tywysoges Cymru neu, yn wir, i Dreforys, ac mae'r amser aros yn aml yn llawer byrrach hefyd. Mewn gwirionedd, mae cyhoeddi rhai o'r amseroedd aros sy'n dangos pa mor gyflym rydych yn debygol o gael eich gweld wedi helpu i gyfeirio pobl i'r mannau hynny. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gwaith y gwasanaeth ambiwlans yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn mynd â phobl i'r lleoliad priodol.

Ar eich ail bwynt ynglŷn â gwelyau ar draws y system, mae yna her yma, a gwn eich bod wedi nodi eich barn, yn breifat ac yn y lle hwn, ar yr ymarfer blaenorol a gynhaliwyd gan y bwrdd iechyd, ond mae'n ymwneud â chapasiti ar draws y system gyfan mewn gwirionedd. Oherwydd yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn i mi, wrth gyfarfod â llawer o glinigwyr adrannau damweiniau ac achosion brys, yw'r ffaith bod ganddynt farn ar gapasiti o fewn system yr ysbyty, a barn hefyd mewn gwirionedd ar lif cleifion o fewn rhan yr ysbyty o'r system ac i mewn ac allan o leoliad yr ysbyty ei hun hefyd. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nodi nid yn unig yr hyn sy'n digwydd gyda nifer o'r gwelyau mewn un rhan o'n system iechyd a gofal, ond i sicrhau hefyd ei fod yn gynllun ar y cyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o ran sut i ddiwallu capasiti. Oherwydd, yn aml, nid gwely ysbyty yw'r man cywir ar gyfer trin claf—dylent gael eu trin yn rhywle arall yn aml, ond mae angen i chi gynllunio ar gyfer hynny yn hytrach na siarad am y peth yn unig. Wrth leihau capasiti mewn un rhan, os nad ydych wedi cynllunio hefyd i gynyddu a gwella capasiti mewn rhan arall o'n system iechyd a gofal ehangach—. Mae honno'n sgwrs a gefais y bore yma gydag amryw o aelodau awdurdodau lleol.

Gwella Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ53115

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae gennym amrywiaeth eang o weithgarwch gwella rydym yn disgwyl i bobl Sir Benfro elwa ohono. Yn ogystal â gwelliannau i wasanaethau penodol, rydym yn disgwyl i Sir Benfro elwa o'r gronfa drawsnewid a'n cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach'.

Weinidog, un ffordd o wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro, ac yn wir ledled Cymru, yw cefnogi fy Mil awtistiaeth yr wythnos nesaf a chaniatáu iddo symud ymlaen i gam 2 o'r broses ddeddfwriaethol. Rwy'n derbyn bod y Llywodraeth yn cyflwyno cod ymarfer, ond nid yw fy Mil arfaethedig yn cystadlu â rhai o'r mesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno neu'n bwriadu eu cyflwyno. Mae'n bwriadu adeiladu ar rywfaint o'r gwaith da hwnnw. O dan yr amgylchiadau hynny, a wnewch chi ystyried gweithio gyda mi i sicrhau y gall y Bil symud ymlaen yr wythnos nesaf i'w graffu ymhellach? Oherwydd rwy'n credu'n ddiffuant y bydd pasio'r ddeddfwriaeth hon yn gwella gwasanaethau iechyd i lawer o bobl yn fy etholaeth i, ac yn wir i filoedd o bobl ledled Cymru gyfan.

Rwy'n cydnabod bod yr Aelod o ddifrif yn dymuno gwella gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig, ac yn fwy na hynny, yn dymuno gwella profiad bywyd pobl—nid oes unrhyw anghytundeb rhyngom ar hynny. Yr her yw i ba raddau y bydd y Bil rydych yn ei gynnig yn cyflawni hynny—nid ydym yn cytuno ar hynny. Bydd gennym ddigon o amser i sôn am hynny yr wythnos nesaf, ac yn wir, i ystyried adroddiadau gan amryw o bwyllgorau sydd wedi ystyried hynny a barn ystod o randdeiliaid.

Felly, rwy'n hapus i adael y sgwrs honno tan yr wythnos nesaf, pan fyddwn yn trafod y mater yn fanwl. Wrth gwrs, rydych yn gwybod ein bod wedi cyfarfod sawl gwaith yn ystod hynt y Bil hyd yn hyn i drafod y materion hyn. Os bydd y Bil yn symud ymlaen, rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i siarad.

15:05
Atal HIV

6. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'n eu cymryd mewn perthynas ag atal HIV? OAQ53146

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae nifer o brosiectau ar y gweill i wella mynediad at brofion, gan gynnwys darparu profion hunan-samplu HIV a chynllun peilot ar gyfer profi ar-lein. Mae proffylacsis cyn-gysylltiad yn darparu amddiffyniad i'r rheini sy'n wynebu risgiau'n gysylltiedig â'u ffordd o fyw. Mae'r mesurau hyn, wedi’u cefnogi gan ofal meddygol effeithiol, yn golygu ein bod yn parhau i leihau'r risg o heintiad HIV.

Diolch i chi, Weinidog. Rwyf wedi bod yn dilyn yr ymateb calonogol i gyflwyno'r proffylacsis cyn-gysylltiad fis Gorffennaf diwethaf yn agos iawn. Mae'r nifer fawr sydd eisoes yn elwa o'r driniaeth ataliol hon wedi gwneud argraff fawr arnaf mewn gwirionedd. Mae gwaith Llywodraeth Lafur Cymru ar gyflwyno dull cenedlaethol i atal HIV a darparu proffylacsis cyn-gysylltiad yng Nghymru yn dangos ymrwymiad clir i'r materion hyn. Pa gynlluniau sydd ar waith i adeiladu ar unrhyw ganfyddiadau cynnar? A fyddech yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniadau pellach pan ddaw'r rhain ar gael maes o law?

Ie, rwy'n falch iawn o'r dull cenedlaethol rydym wedi dewis ei fabwysiadu yma yng Nghymru—dull gwirioneddol genedlaethol sy'n seiliedig ar sicrhau mai angen clinigol yw'r maen prawf ar gyfer mynediad at broffylacsis cyn-gysylltiad. Mae hynny'n gwrthgyferbynnu â'r dull a fabwysiadwyd yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr, lle nad oes dull cenedlaethol o weithredu ac wrth gwrs, mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ac eraill yn codi arian i sicrhau bod arian ar gael i bobl ddefnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad. Nid yw honno'n her sy'n ein hwynebu ni yma.

Ers diwedd mis Medi, mae proffylacsis cyn-gysylltiad wedi'i bresgripsiynu ar gyfer 697 o bobl yng Nghymru, ac mae 386 yn cael triniaeth ataliol. Nid oes unrhyw achosion newydd o HIV wedi bod o fewn y grŵp hwnnw o bobl, ac mae hynny'n arwydd go iawn o lwyddiant i bob un ohonom.

Er hynny, rydym yn cydnabod nad yw oddeutu un o bob pedwar o bobl a allai fod yn gymwys ar gyfer proffylacsis cyn-gysylltiad yn dod yn ôl am apwyntiad dilynol nac yn manteisio arno. Felly, rhan o'r her sy'n ein hwynebu, mewn gwaith ymchwil sy'n mynd rhagddo, yw deall yn iawn beth yw effaith darparu proffylacsis cyn-gysylltiad a sicrhau ein bod yn parhau i weld y gostyngiad o ran HIV, a cheisio deall hefyd pam nad yw rhai pobl yn manteisio ar broffylacsis cyn-gysylltiad pan allai fod ar gael.

Ceir llawer o ymchwil, gan gynnwys cyllid a ddarparwyd gennym i Brifysgol Caerdydd—£400,000 o gyllid—i gyflawni ymchwil i ymddygiad y rhai sy'n dewis manteisio ar broffylacsis cyn-gysylltiad, oherwydd rydym yn cydnabod bod nifer uchel o achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ymhlith pobl sy'n manteisio ar broffylacsis cyn-gysylltiad, felly mae'n ymwneud â chyrraedd y garfan iawn o bobl mewn gwirionedd.

Ond o ran eich pwynt olaf, wrth gwrs, byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r lle hwn pan fydd gennym ganlyniadau o ran y niferoedd pellach sy'n dewis manteisio arno, ac yn benodol, canlyniadau'r treialon ymchwil rydym eisoes yn eu cefnogi.

Ysbyty Athrofaol y Grange

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o adeiladu a chynllunio ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Grange? OAQ53138

Rwy'n falch o gadarnhau bod y gwaith adeiladu ar safle ysbyty'r Grange wedi cychwyn ar 30 Hydref 2017. Mae'r gwaith ar amser ac o fewn y gyllideb, a disgwylir y bydd yn agor yn ystod gwanwyn 2021.

Pa gyfran o staff yr ysbyty y mae'r Gweinidog yn ei ragweld fydd eisiau byw yng Nghwmbrân ac yn nghyffiniau'r ysbyty? A yw'n ystyried bod digon o dai yn cael eu hadeiladu'n lleol i fodloni'r galw hwnnw?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ni allaf ragweld lefel y galw gan bobl nad ydynt eto wedi penderfynu lle y maent eisiau byw neu lle nad ydynt eisiau byw. Wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol o staff a fydd yn gweithio yn y Grange eisoes yn gweithio o fewn GIG Cymru. Mae yna nifer o bobl sy'n teithio pellteroedd cymharol sylweddol i'r gwaith, yn ogystal â'r rheini sy'n dewis byw o fewn amser teithio cryn dipyn yn llai i brif safle eu gwaith.

Rwy'n disgwyl y bydd y sgwrs honno am yr angen am dai yn parhau gyda'r awdurdod lleol, i wneud yn siŵr fod ganddynt gynlluniau ar waith i sicrhau eu bod yn bodloni'r angen hwnnw yn y dyfodol. Ond credaf y gallwn edrych ymlaen at ddyfodol cadarnhaol iawn i'r Grange a'r effaith economaidd y bydd yn ei chael ar yr ardal leol, yn etholaeth eich cyd-Aelod, Nick Ramsay, yn wir, ac wrth gwrs, etholaeth fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Dorfaen.

Gwasanaethau Fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53125

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo cynlluniau i greu uned fasgwlaidd arbenigol ar gyfer gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw adrannau fasgwlaidd. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i drin cleifion ag anghenion nad ydynt yn gymhleth ym mhob un o'r tair ysbyty yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd.

15:10

Mae'r cynlluniau sydd rŵan o'n blaenau ni yn tanseilio gwaith rhagorol yn Ysbyty Gwynedd. Yr wythnos yma, rydw i ac Aelodau etholedig eraill Plaid Cymru yn y gogledd-orllewin wedi galw am asesiad llawn gan Lywodraeth Cymru o effaith, o impact, penderfyniad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Fis yn ôl, mi wnaeth y bwrdd fynd yn ôl ar eu gair a thorri addewid i warchod rhai gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna sicrwydd wedi ei roi y byddai'r gwasanaethau llawdriniaeth fasgiwlar yn cael eu cynnal ac, yn hollbwysig, y byddai'r gallu i dderbyn mynediadau brys fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn parhau. Nid dyna ydy'r achos erbyn hyn. Yr ofn, yn amlwg, ydy y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gleifion yn y gogledd-orllewin a fydd yn wynebu taith, rai ohonyn nhw, o awr a hanner am fynediad brys am lawdriniaeth sy'n cael ei darparu yn rhagorol yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i gynnal yr astudiaeth impact yna? Mae o'r peth lleiaf mae cleifion yn ei haeddu. 

Gyda phob parch, nid wyf yn rhannu'r farn y mae'n ei rhoi am y cynlluniau i newid y gwasanaeth, a hoffwn nodi bod y corff proffesiynol perthnasol, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn ogystal â'r cyngor yma yng Nghymru, yn cefnogi'r cynlluniau hyn i newid y gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, oherwydd y newidiadau sy'n cael eu gwneud, mae'r bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio llawfeddygon fasgwlaidd ymgynghorol newydd. Maent wedi cynnig swyddi i naw llawfeddyg fasgwlaidd ac o'r rheini, mae pedwar bellach wedi dechrau ar eu swyddi ac mae dau arall yn dechrau ym mis Ebrill 2019. Bydd hynny'n sicrhau cyflenwad o wyth llawfeddyg ymgynghorol parhaol ar draws y bwrdd iechyd—gwelliant sylweddol. Ac o'r holl bobl sydd wedi dechrau neu sydd ar fin dechrau yn y bwrdd iechyd, mae'r cynlluniau i newid y gwasanaeth wedi bod yn ffactor gwirioneddol yn eu penderfyniad i dderbyn swydd yn y bwrdd iechyd. Mae hyn yn bell o fod yn tanseilio'r gwasanaeth sydd ar gael i gleifion ym mhob rhan o ogledd Cymru, ac mae'r newid i'r gwasanaeth a'r recriwtio ychwanegol sydd wedi digwydd yn ei sgil yn rhywbeth cadarnhaol i staff a chleifion. 

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a daw'r cwestiwn amserol y prynhawn yma gan Dawn Bowden.

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

1. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynglŷn â diben y monitro uwch a gyhoeddwyd heddiw? 253

Diolch i chi am y cwestiwn. Diben y monitro uwch yw darparu cymorth ychwanegol i'r bwrdd iechyd i'w galluogi i ganolbwyntio ar gamau gweithredu priodol ac i ddychwelyd at drefniadau monitro arferol cyn gynted â phosibl.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y mae eich datganiad yn ei gydnabod, mae'r bwrdd iechyd wedi dilyn trefniadau arferol ers cyflwyno'r fframwaith uwchgyfeirio yn 2014. Ac yn ogystal â'u hanes ariannol da, rydym wedi gweld llawer o fentrau clinigol a mentrau gofal da yn cael eu darparu gan y bwrdd iechyd. Felly, er fy mod yn ymwybodol o'r sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a drafodwyd gennym yn y Siambr ychydig wythnosau'n ôl, cefais fy synnu wrth weld eich datganiad y bore yma yn codi eu statws o drefniadau arferol i fonitro uwch, oherwydd y pryderon yn y meysydd rydych wedi tynnu sylw atynt yn eich datganiad. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth yng Nghwm Taf fod o'r pwys mwyaf ar y pwynt hwn. Felly, a allwch fy sicrhau bod y rhesymau dros yr uwchraddio i fonitro uwch yn cael eu cyfleu'n glir fel bod defnyddwyr yn cael y sicrwydd ychwanegol y maent ei angen ynglŷn â gwasanaethau lleol? A allwch roi syniad i ni o'r amserlen ar gyfer datrys y materion a nodwyd?

Ie, ac ni ddylai'r penderfyniad heddiw fod yn syndod i'r bwrdd iechyd. Mae cyfathrebu rheolaidd wedi bod rhwng prif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwr y bwrdd iechyd. Ac rwyf wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd sawl gwaith ers i'r materion ynghylch gwasanaethau mamolaeth gael eu codi. Ac nid wyf yn credu y byddai wedi bod yn briodol anwybyddu'r materion ychwanegol a godwyd gan reolyddion yn y swyddfa archwilio. Felly, rydych yn cyrraedd pwynt lle rydych naill ai'n dewis gwneud rhywbeth neu'n dewis osgoi gwneud rhywbeth, ac rwy'n credu mai'r penderfyniad hwn oedd y peth cywir i'w wneud, a bod yn glir am y meysydd cyfyngedig a phenodol sy'n peri pryder. Ond nid yw'r pryderon hynny'n golygu bod y bwrdd iechyd hwn yn darparu iechyd a gofal gwael i'w ddinasyddion—ddim o gwbl. O arolygon boddhad cleifion ac amrywiaeth o fesurau eraill, gwyddom fod y bwrdd iechyd hwn yn perfformio'n dda o ran ei gyflawniad yn erbyn mesurau amser, yn ogystal â'i berfformiad ariannol, a cheir adborth cadarnhaol rheolaidd gan gleifion. Ar ôl gwneud y datganiad heddiw, rwy'n disgwyl y bydd y bwrdd iechyd yn cyfathrebu'n uniongyrchol â'i staff a'r cyhoedd, ond hefyd dylid ystyried yr amserlen ar gyfer hyn o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gael cynllun i fynd i'r afael â phroblemau penodol, gydag amserlenni y gellir eu defnyddio i fesur ac asesu yn briodol. Unwaith eto, y pwynt ynglŷn â sicrwydd i chi'ch hun a'r etholwyr a wasanaethwch yw nad mater syml o hwylustod gwleidyddol a wneir gan Weinidog ar gyfer Gweinidog yw hwn. Bydd sicrwydd—. Bydd y trefniadau adolygu gan brif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhoi cyngor i mi ynglŷn ag a yw'n briodol newid y statws uwchgyfeirio a dychwelyd i fonitro arferol, ond rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynllunio ar gyfer hynny, a'i gyflawni o fewn cyfnod o fisoedd.

15:15

Weinidog, rwy'n ddiolchgar am y datganiad a gyhoeddasoch y bore yma. I'r darllenydd arferol sy'n edrych ar hyn, byddai'n dynodi'n glir fod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud y tu allan i'r cylch gwerthuso arferol. Credaf fy mod yn gywir yn dweud hynny, ond buaswn yn ddiolchgar os gallwch gadarnhau hynny, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod cyfarfod arbennig wedi ei alw ym mis Rhagfyr i sicrhau bod y mesur hwn yn cael ei gyflwyno heddiw neu ei gyhoeddi heddiw.

Mae'n rhaid i ni gofio bod 300,000 o bobl yn dibynnu ar y gofal iechyd y mae'r bwrdd iechyd hwn yn ei ddarparu, ac mae miloedd lawer o staff yn dibynnu arno fel eu man gwaith a'r gwasanaeth a'r datblygiad proffesiynol y maent eisiau ei arfer wrth ddarparu gofal o ansawdd rhagorol. Ond mae'r rhestr rydych wedi'i nodi yn eich datganiad y bore yma yn achosi pryder mawr. Oherwydd, fel y mae'r Aelod dros Ferthyr wedi'i nodi, i ddechrau, yn amlwg, yn y datganiad hwn—. Rhoddodd y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau mamolaeth, a bellach mae gennym restr saith pwynt, o lefelau staffio i ddarparu adroddiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae hwn yn gyfnod sy'n peri pryder—nad yw hwn yn rhyw fath o drobwll y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i mewn iddo a mwy o broblemau'n cael eu nodi yn y pen draw. A ydych yn hyderus fod y rhestr rydych wedi'i nodi yn eich datganiad yn rhestr gynhwysfawr o'r materion y mae angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â hwy, ac a ydych yn hyderus fod y cymorth rydych yn ei nodi yn eich datganiad mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a'r cymorth y byddwch yn ei gynnig i'r bwrdd yn unioni'r problemau ac y bydd y bwrdd iechyd yn dod allan o'r lefel uwch o fonitro? Oherwydd, hyd yn hyn, nid wyf yn credu bod unrhyw fwrdd iechyd wedi dod allan o statws monitro uwch yma yng Nghymru. Fel y nododd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn gyntaf, yn ymwneud â'ch pwynt am—. Mae gan bob bwrdd iechyd heriau i'w hwynebu ym mron pob maes gweithgaredd. Rydym yn trafod y galw cynyddol yn rheolaidd, a'r newid yn natur y galw hwnnw, ac wrth gwrs, mae'r rheini'n heriau i fwrdd iechyd yn y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw berson o unrhyw duedd wleidyddol yn gallu diffinio rhestr gynhwysfawr o'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd. Yr hyn a wneuthum yw darparu rhestr glir o'r materion sydd wedi arwain at fy mhenderfyniad i newid statws monitro'r bwrdd iechyd. Rwy'n disgwyl i'r problemau hyn gael eu datrys ac os cânt eu datrys, buaswn yn disgwyl mai'r cyngor fyddai y gallai statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd ddychwelyd i fonitro arferol. 

Roedd hwn yn gyfarfod y tu allan i'r cylch arferol, ac unwaith eto, mae hwnnw'n ddewis. Gallwn naill ai ddewis dweud, 'Gadewch i ni ohirio'r mater hyd nes y bydd y cylch arferol yn digwydd mewn nifer o fisoedd', neu gallwn ddweud, 'Mae rhestr o broblemau ger ein bron yn awr ac felly dylid cynnal cyfarfod yn awr i asesu beth yw'r camau gweithredu priodol', ac rwy'n credu mai hwnnw oedd y dewis cywir i'w wneud. Dylid rhoi sicrwydd i staff a'r cyhoedd mai rhestr benodol o bethau i'w datrys yw hon. Nid wyf yn disgwyl fod unrhyw awgrym fod yna restr o broblemau a fydd yn achosi i'r bwrdd iechyd symud yn uwch i fyny'r rhestr o ran statws uwchgyfeirio. Fel bwrdd sy'n perfformio ar lefel uchel, rwy'n disgwyl iddynt fod o ddifrif ynglŷn â'r datganiad a wnaethpwyd heddiw ac rwy'n disgwyl iddynt ymateb yn briodol a llunio cynllun clir y byddant yn glynu wrtho er mwyn dychwelyd i fonitro arferol, fel rwyf wedi'i ddweud, o fewn cyfnod o fisoedd.

Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Weinidog. Wrth gwrs, blaenoriaeth yr ymyrraeth hon yw sicrhau bod y bwrdd a'i staff yn cael eu cefnogi a bod gan fy etholwyr ac etholwyr eraill bob ffydd yn eu gwasanaethau iechyd lleol.

Mae eich datganiad yn tynnu sylw at chwe maes ffocws a chredaf ei bod yn bwysig, fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, ei fod yn cadarnhau nad yw'r monitro uwch hwn ond yn weithredol mewn rhai meysydd darpariaeth ac nad yw'n rhywbeth cyffredinol. Sut y gallwn sicrhau bod pobl leol mewn cymunedau megis Cwm Cynon, nad ydynt ond yn ymwybodol o'r penawdau newyddion, o bosibl, yn gwybod nad yw'n cyfeirio at ansawdd cyffredinol gwasanaethau? A sut y gallwn roi'r sicrwydd hwnnw i bobl sy'n defnyddio'r GIG yng Nghwm Taf, a'r staff gweithgar a gyflogir yno wrth gwrs?

Rwy'n croesawu'r sylwadau gan brif weithredwr Cwm Taf fod y bwrdd iechyd yn benderfynol o weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir dychwelyd i fesurau arferol cyn gynted â phosibl, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd rydych wedi'i roi ynglŷn â faint o amser rydych yn disgwyl i'r broses honno gymryd, ond a allwch chi ddarparu unrhyw fanylion pellach ar y math o fonitro a fydd yn digwydd yn y cyfamser?

Gan gyfeirio'n ôl at y datganiad a wnaethoch ym mis Hydref y llynedd ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, dywedasoch eich bod wedi gofyn i'ch swyddogion geisio sicrwydd gan bob bwrdd iechyd mewn perthynas â threfniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau a threfniadau uwchgyfeirio. Yn eich datganiad heddiw, un o'r meysydd ffocws yw ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol. Beth yw canfyddiadau cychwynnol eich swyddogion mewn perthynas ag ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn fwy cyffredinol ar draws y GIG yng Nghymru?

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â threfniadau llywodraethu. Yn eich datganiad, rydych yn nodi'r angen i ddarparu cymorth allanol o ystyried mai yn gymharol ddiweddar y penodwyd rhai o'r aelodau i'r bwrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Rwy'n bryderus mai dim ond yn awr y mae'r math hwn o gymorth ar gael, pan fo aelodau'r bwrdd eisoes yn eu lle a phryderon wedi cael eu nodi, felly sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag aelodau newydd a benodir i'r bwrdd yn y dyfodol cyn iddynt ymgymryd â'u swyddogaethau er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gyflawni eu rhwymedigaethau?

15:20

Diolch. Rwy'n hapus i ail-gadarnhau ac ailadrodd nad yw'r datganiad hwn yn effeithio ar ansawdd cyffredinol gwasanaethau, ac ni ddylai arwain at golli ffydd a hyder ymhlith y cyhoedd yn ansawdd cyffredinol y gwasanaethau a ddarperir gan fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf. Rwy'n gobeithio y bydd datgan hynny'n glir o fudd, ac rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn ailadrodd hynny i'w staff ac i'r cyhoedd a wasanaethir ganddo. Rwy'n falch eich bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r bwrdd iechyd eich hun. Credaf y byddai'n synhwyrol i'r bwrdd iechyd gysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid fel Aelodau etholaethol a rhanbarthol i gadarnhau'r camau y maent yn eu cymryd ar unwaith i ailadrodd y pwyntiau ynglŷn â difrifoldeb y mater iddynt hwy yn ogystal â'r camau y maent yn eu cymryd. 

Wrth gwrs, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â fy swyddogion a'r bwrdd iechyd ei hun. Rwy'n disgwyl y bydd y cysylltiad hwnnw'n fwy rheolaidd yn awr yn dilyn y penderfyniad a wneuthum ac a gyhoeddais heddiw, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i siarad â'r cadeirydd yn ogystal. Byddaf yn sicrhau bod sgwrs reolaidd rhyngof â'r cadeirydd, nid yn unig am y cynllun ond am ein cynnydd er mwyn sicrhau bod goruchwyliaeth briodol. 

O ran y pwynt a wnaethoch am ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol—mae  hwn yn fater a drafodir yn rheolaidd yn ystod y sgyrsiau uwchgyfeirio rheolaidd sy'n digwydd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaeth yn codi ystod o feysydd mewn gwirionedd, ac mae hon yn nodwedd reolaidd. Felly, mae yna her o ran gwneud yn siŵr fod digwyddiadau difrifol yn cael eu hadrodd mewn da bryd a bod ansawdd yr wybodaeth a rennir yn briodol hefyd. Ni ddylai hwn fod yn fater anodd i'w ddatrys, ac i mi mae'n wirioneddol bwysig—mae'n ymwneud â'r diwylliant o fod yn agored, heb geisio bychanu difrifoldeb y mater, oherwydd mae natur yr adrodd agored a'r dysgu priodol yn digwydd o ganlyniad i'r diwylliant hwnnw.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â datblygiad y bwrdd, credaf ei fod yn bwynt teg ynglŷn â sut rydym yn mynd ati'n gyson i adolygu mesurau datblygu'r bwrdd sydd ar waith wrth i bobl gychwyn ar eu swyddi a thra'u bod yn newydd i'r swydd hefyd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i gael cymorth i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Ac yn sicr, yn dilyn hyn, bydd gennyf ddiddordeb mewn edrych eto, nid yn unig yng Nghwm Taf, ond ar draws y system ehangach, i sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n iawn.

Bydd llawer o fy etholwyr, yn enwedig i'r dwyrain o Ogwr yn Llanharan a'r Gilfach Goch ac mewn mannau eraill, yn cael eu gwasanaethu gan awdurdod iechyd Cwm Taf, mewn perthynas â gofal sylfaenol a gofal eilaidd a llwybrau acíwt yn ogystal, ac mae'n werth ailadrodd fod Cwm Taf, hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fwrdd ac yn sefydliad sydd wedi perfformio'n dda yn gyffredinol, gyda llawer i'w ganmol, felly mae hon yn dipyn o ergyd, ond mae llawer sy'n dda ym mherfformiad y sefydliad hwn er hynny. Ond y tu hwnt i'r gwasanaethau mamolaeth, ac roeddem yn gwybod amdanynt hwy eisoes, nodaf ein bod yn sôn am broblemau o ran cydymffurfiaeth, camau gweithredu na chafodd eu rhoi ar waith, trefniadau adrodd annigonol, ymateb i gamau gweithredu yn adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a methiant i gwblhau camau gweithredu, cydymffurfiaeth â'r Ddeddf lefelau staff nyrsio. Mae'n ymddangos i mi fod y rhain yn bethau y gellir eu gwneud, y gellir eu cyflawni, mewn amser cymharol fyr os gallant gael trefn ar bethau, ond yr un sy'n peri pryder i mi yw'r un yng nghanol y rhestr yn eich datganiad heddiw, sef pryderon mewn perthynas â threfniadau llywodraethu o ansawdd. Nawr, rwy'n meddwl tybed beth y mae'r Gweinidog yn ei feddwl o ran pa mor gadarn yw gafael y bwrdd iechyd ar yr angen i ymateb yn gyflym i'r camau gweithredu hyn yn gyffredinol a dod â hwnnw'n ôl i fwrdd iechyd sydd, unwaith eto, yn perfformio'n dda yn gyffredinol, i allu dychwelyd at fonitro arferol heddiw. A ydynt yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw hyn i'r Gweinidog a difrifoldeb y neges y mae wedi'i chyflwyno—nad oes unrhyw hunanfodlonrwydd i fod, na gorffwys ar berfformiad y gorffennol; mae angen iddynt gael trefn ar bethau fel y gallant ddychwelyd i fonitro arferol?

Fy ail gwestiwn yw, a oes gan hyn unrhyw oblygiadau o ran trosglwyddo ardal Pen-y-bont ar Ogwr o Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Rwy'n siŵr nad oes unrhyw oblygiadau yn hynny o beth, ac mae hwn yn sefydliad sy'n perfformio'n dda ar draws llawer o ardaloedd, ond credaf y bydd llawer o fy etholwyr, nid yn unig yn ardal Llanharan a'r Gilfach Goch, ond ardal ehangach Maesteg, Cwm Garw, Cwm Ogwr, Sarn a mannau eraill, sydd wedi cael eu gwasanaethu gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg hyd yn hyn, ac sydd yng nghanol y broses o gael eu trosglwyddo i Gwm Taf ar hyn o bryd, eisiau sicrwydd gan y Gweinidog nad oes angen iddynt boeni ar sail yr hyn rydym wedi'i glywed heddiw.

15:25

Rwy'n hapus i roi sicrwydd a chadarnhad mewn perthynas â'ch ail bwynt yn syth. Ni fydd hyn yn effeithio ar yr amserlen ar gyfer newid y ffiniau. Credaf y byddai'n gwbl anghywir i ni geisio oedi neu dorri ar draws hynny yn awr. Mae'r newid i'r ffiniau i ddigwydd o ddechrau mis Ebrill, ac ni ddylai effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r rhestr o feysydd. Mae'r arolwg allanol o'r gwasanaethau mamolaeth eisoes wedi'i gomisiynu; bydd angen iddynt ymateb iddo. Ac mae llawer o'r meysydd sy'n peri pryder ychwanegol a grybwyllais yn fy natganiad, ac rydych wedi cyfeirio atynt, yn ymwneud â chydymffurfiaeth a sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn ac o fewn cyfnod priodol o amser.

Her i swyddogion, cyflogeion y bwrdd iechyd, yn rhannol yw'r gwaith o sicrhau ansawdd trefniadau llywodraethu, ond mae hefyd yn her i'r aelodau anweithredol o'r bwrdd yn ogystal. Mae'n ymwneud â'r pwynt a wnaeth Vikki Howells ynglŷn â sicrhau bod aelodau'r bwrdd mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol, i graffu ar y bwrdd iechyd ac nid gweithredu fel hyrwyddwyr y sefydliad yn unig. Mae honno'n rôl ddeuol, ond mae'n un y byddem yn disgwyl i aelodau ei chyflawni.

Felly, dyna rwy'n ei ddisgwyl, a chredaf y gallwn bob amser ddysgu gwersi o sefyllfaoedd lle nad yw pethau ar eu gorau. Ac yn rhan o hyn, rwy'n disgwyl y bydd gwersi i fyrddau iechyd eraill eu dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn edrych eto ar eu cydymffurfiaeth eu hunain i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud, pan ddylent ei wneud, ac yn yr un modd, fod aelodau'n cael eu cynorthwyo i allu ymgymryd â'u rôl fel aelodau o'r bwrdd yn effeithiol.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar ein hagenda yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae gennym un y prynhawn yma, gan y Llywydd, Elin Jones.

Ar 9 Ionawr 1839, 180 o flynyddoedd i’r dydd heddiw, ganwyd Sarah Jane Rees yn Llangrannog, Ceredigion. Yn fwy adnabyddus yn ôl ei henw barddol, Cranogwen, fe wnaeth hi herio holl gyfyngiadau ar fywyd menyw yn yr oes Fictoraidd i fwynhau gyrfa arloesol. Yng ngeiriau yr Athro Deirdre Beddoe:

'Cranogwen oedd merch Gymreig fwyaf nodedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg.'

Yn ei harddegau hwyr, perswadiodd ei thad, a oedd yn gapten llong, i fynd â hi i’r môr. Am ddwy flynedd bu'n gweithio fel morwraig ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc cyn dychwelyd i Lundain ac i Lerpwl i gynyddu ei haddysg forwrol. Enillodd ei thystysgrif prif forwr, ac, yn 21 oed, sefydlodd ysgol yng Ngheredigion, lle addysgodd forwriaeth i ddynion ifanc lleol.

Yn 1865, daeth yn enwog dros nos gan mai hi oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan guro prif feirdd eraill y dydd. Roedd cerdd fuddugol Cranogwen, 'Y Fodrwy Briodasol', yn ddychan cynhyrfus ar dynged y wraig briod. Aeth ymlaen i fod yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan farddoni ar bynciau amrywiol o wladgarwch i longddrylliadau.

Mi oedd yn ddarlithwraig ac yn bregethwraig ar adeg pan nad oedd siarad cyhoeddus yn beth derbyniol i fenywod o gwbl. Mi sefydlodd gylchgrawn i fenywod, Y Frythones, sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De, a gwneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch menywod yn eu cartrefi ac o fewn cymdeithas.

Un o'i syniadau mwyaf blaengar oedd lloches i fenywod ifanc, ac er na fu hi byw i weld ei breuddwyd o dŷ i fenywod digartref yn cael ei adeiladu, agorwyd y lloches Llety Cranogwen er cof iddi yn y Rhondda yn 1922.

Mae Cranogwen yn un o’r pump o fenywod Cymreig y Merched Mawreddog/Hidden Heroines, sy’n destun pleidlais yr wythnos yma i’w hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus. Y bedair arall yw Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Elaine Morgan, a’r Arglwyddes Rhondda. Mi fydd y bleidlais yma yn agor am 9.30 p.m. nos Wener. Mi fyddaf i yn pleidleisio dros Cranogwen o Geredigion, ond mae’r pump ohonynt, a mwy, yn haeddu eu cofio a’u hanrhydeddu.

15:30
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Symudwn yn awr at gynnig i ethol aelod i bwyllgor, a galwaf ar yr Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM6916 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca Evans (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Julie James (Llafur).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio

Eitem 5 ar agenda ein y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid 'Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM6908 Llyr Gruffydd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i gost gofal am boblogaeth sy'n heneiddio. Ac er nad  oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor adeg cynnal rhai o'r sesiynau tystiolaeth, mi hoffwn i, wrth gwrs, ddiolch i bawb a gyfrannodd, a hefyd i'r Gweinidog blaenorol dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am ei ymateb e i'n hadroddiad ni, ac yn enwedig am dderbyn ein hargymhellion ni, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.

Fe gafodd un o'r chwe maes a drafodwyd gennym ni yn ein hymchwiliad, sef yr arfau cyllidol, neu'r levers cyllidol, sydd ar gael ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddoe, wrth gwrs, ac felly mi fyddaf i'n canolbwyntio ar y pum arf arall yn fy nghyfraniad i heddiw. Fodd bynnag, fel y nodais i ddoe, mi oeddwn i'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn teimlo y gallai hi gydweithio â'r pwyllgor o ran amserlennu ei dadl hi, er mwyn rhoi cyfle inni gael trosolwg mwy cydgysylltiedig o'r drefn gyllido ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe glywom ni dystiolaeth gref yng ngwaith y pwyllgor fod dryswch ar raddfa eang am y system sydd gennym ni, ac mi ddywedwyd wrthym ni y byddai'n amhosibl creu system fwy cymhleth, hyd yn oed pe bai rhywun yn trio gwneud hynny. Nid yw dadl ddarniog ar system neu gyfundrefn ddarniog yn mynd i ddod â'r eglurder sydd ei angen arnom o ran y pwnc pwysig hwn. Felly, rydw i wedi gwneud y pwynt ein bod ni wedi colli cyfle, rydw i'n meddwl, ac rydw i'n gwybod bod y Trefnydd yma, mewn capasiti arall, yn mynd i ymateb i'r ddadl fel y Gweinidog Cyllid, ond rydw i jest eisiau dweud fy mod i'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw ddulliau mwy creadigol i ddefnyddio amser y lle yma yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon efallai yn y dyfodol. 

Nawr, fe glywodd y pwyllgor, er bod gwariant ar ofal cymdeithasol wedi'i ddiogelu mewn termau cymharol, fod gwariant y pen ar bobl dros 65 oed wedi gostwng yn sylweddol, yn rhannol oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn cynyddu. Mae'r pwyllgor yn pryderu, oni bai bod camau'n cael eu cymryd, y bydd y pwysau parhaus yma ar gyllidebau gofal cymdeithasol, yn sgil galw cynyddol, yn arwain yn y pen draw at ddarpariaeth annigonol o wasanaethau ar gyfer pobl hŷn.

Mae'r pryder o ran y pwysau cynyddol hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ein dibyniaeth ar y rôl amhrisiadwy y mae'r 370,000 o ofalwyr di-dâl, neu ofalwyr gwirfoddol yn ei chwarae—cyfraniad, gyda llaw, sydd werth dros £8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, yn ôl amcangyfrifon. Ac mi hoffwn i gydnabod y rôl hanfodol hon, ac ailadrodd ein barn ni, er mor werthfawr yw'r cyfraniad hwnnw, wrth gwrs, nad yw dibynnu ar ofalwyr di-dâl yn gynaliadwy yn y tymor hirach.

Nawr, mae ein hadroddiad yn pwysleisio ein pryder ynghylch a yw'r asesiadau y mae gan ofalwyr hawl iddyn nhw o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cynnal, ac, ble y maen nhw'n cael eu cynnal, a yw anghenion yn cael eu hasesu'n gywir. Mae'r cymorth a roddir i ofalwyr yn hanfodol, ac roedd y pwyllgor yn pryderu am y dull o gynnal asesiadau. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o asesiadau gofalwyr er mwyn gwerthuso a yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn cryfhau'r cymorth sy'n cael ei roi i ofalwyr. Ac rwy'n falch bod yr adolygiad hwn wedi dechrau ym mis Tachwedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ei gasgliadau.

Fe glywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch pwysau ariannol a phwysau staffio yn y sector gofal. Roeddem ni'n pryderu i glywed bod darparwyr gofal cartref, mewn rhai achosion, yn ymateb drwy roi contractau yn ôl i awdurdodau lleol, gan nad ydyn nhw yn ariannol hyfyw ar lefelau'r ffioedd sy'n cael eu talu iddyn nhw. Fel sydd wedi'i nodi yn ein hadroddiad, mae'n hanfodol felly fod y contractau sy'n cael eu rhoi gan awdurdodau lleol yn realistig, a hynny er mwyn osgoi unrhyw gynnydd mewn angen sydd heb ei ddiwallu, a fyddai wedyn, yn ei dro, yn rhoi pwysau cynyddol ar y gwasanaeth iechyd cenedlaethol.

Fe glywom ni am argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, ac roedd cyflog isel a chanfyddiad o statws cymdeithasol isel yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa yma. Mae'r sector gofal cymdeithasol, yn arbennig, yn agored i bwysau ychwanegol ar y gweithlu, gan fod cyfran uchel o'r staff eu hunain yn heneiddio. Ac rŷm ni hefyd yn pryderu'n arbennig ynghylch honiadau bod staff, ar ôl cael eu hyfforddi gan ddarparwyr gofal, yn cael eu colli i'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, neu i awdurdodau lleol, sydd, wrth gwrs, ag amodau gwaith a phecynnau cyflogaeth mwy deniadol i'r gweithwyr rheini. Yn ein hadroddiad ni, rŷm ni'n pwysleisio'r ffaith bod mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y system. Mae angen i bobl weld gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa deniadol, a hynny er mwyn denu gweithwyr newydd, ac, wrth gwrs, er mwyn cadw staff profiadol. Ac mae'n rhaid i'r amodau gwaith yn y sector gofal fod yn gydradd â'r rhai sy'n cael eu cynnig i staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, a hynny er mwyn dangos pa mor werthfawr yw'r rolau hyn. Felly, rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r broses o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Ac mi ddylai hyn gynnwys cymryd camau i godi statws y rheini sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y rôl hon yn yrfa ddeniadol sydd yn denu cyflog priodol.

Rydw i'n falch bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, a bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy, ac rydw i'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i roi gwelliannau ar waith. Ac mi fydd y pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y mesurau a weithredwyd yn ddiweddar, yn ogystal â'r rhai a gaiff eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni, pan fyddwn ni'n cynnal ein hadolygiad o'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar weithredu ein hargymhellion ni yn 2020.

Nawr, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd yn y trothwy cyfalaf ar gyfer cyfraniadau o asedau mewn perthynas â gofal dibreswyl, ond rydym yn pryderu ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid digonol i dalu am refeniw a gollwyd gan awdurdodau lleol. Rŷm ni'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar, wrth gwrs, ynghylch y cynnydd terfynol a wnaed i gyrraedd trothwy o £50,000, yn ogystal â'r £7 miliwn ychwanegol a ddarperir i ariannu hyn. Ond, yn bwysicaf oll, rŷm ni'n croesawu'r ymrwymiad i fonitro, a hefyd i addasu'r cyllid hwn os yw e yn annigonol.

Er ein bod ni'n croesawu cynlluniau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn eu hysbysu nhw'n well ynglŷn â fframwaith y taliadau yn y flwyddyn sydd i ddod, mae'r pwyllgor yn pryderu am y diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol sy'n bodoli o ran talu am ofal cymdeithasol i oedolion, ac yn benodol am y ffaith y gall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth y trefniadau presennol arwain at annhegwch mewn perthynas â'r rhai sy'n gymwys i gael cymorth ffurfiol a ariennir yn gyhoeddus.

Fel rhan o'n hymchwiliad, bu'r pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer diwygio cyllidol, gan gynnwys y cynnig a wnaed gan yr Athro Gerry Holtham ar gyfer cyflwyno cynllun cyfrannol o yswiriant gorfodol. Nawr, rŷm ni'n croesawu'r gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn fel cam cadarnhaol tuag at gydnabod y bydd angen i'r system bresennol newid er mwyn diwallu'r galw yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor yn ategu galwadau gan randdeiliaid am sgwrs genedlaethol am safon y gofal y mae'r cyhoedd yn awyddus i'w chael, cyn bod unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud am y drefn gyllido yn y dyfodol. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â chyllid gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a hynny er mwyn trafod yr hyn y byddai'r cyhoedd yn disgwyl ei gael yn gyfnewid am wneud unrhyw gyfraniadau ychwanegol. Yn benodol, fe wnaethom ni argymell, cyn cyflwyno ardoll i godi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru gyfiawnhau sut y bydd unrhyw arian a godir yn cael ei ddefnyddio, a dangos sut y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth. Nawr, mi ddylai'r broses hon gynnwys egluro'r lefel o ofal y dylai'r cyhoedd ei disgwyl, gan ei bod hi'n annhebygol, wrth gwrs, y bydd y cyhoedd yn rhoi ei gefnogaeth os yw'r gofal a ddarperir yn parhau ar ei lefel bresennol. Ac mi oedd clywed sylwadau'r Gweinidog iechyd ynglŷn â'r angen yma am y sgwrs genedlaethol yma ddoe, wrth gwrs, yn galonogol i'r perwyl hwnnw.

Rydw i'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion 7 ac 8 yn ein hadroddiad ni, ac yn benodol ei hymrwymiad i ddatblygu modelau cyllido arloesol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i fodloni anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a'i chydnabyddiaeth y bydd angen ymgysylltu cyhoeddus sylweddol cyn gwneud penderfyniadau.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o gasgliadau'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nawr, mi glywodd y pwyllgor fod y cynnig i sefydlu un system iechyd a gofal di-dor wedi'i groesawu'n fras, ond rŷm ni hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r pryderon sy'n bodoli ynglŷn â'r ffaith bod gofal cymdeithasol weithiau'n cael ei weld fel gwasanaeth sinderela. Mi wnaeth y pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gallai'r cynnig i sefydlu system iechyd a gofal di-dor, a argymhellir yn yr adolygiad seneddol, gyfuno cronfa ar gyfer gofal cymdeithasol â'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol sydd am ddim, wrth gwrs, ar y pwynt cysylltu. Fe gafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor yn unig. Felly, mi fyddem ni yn croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y syniad yma yn cael ei ddatblygu.

Mae'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn un o'r materion mwyaf a phwysicaf sy'n wynebu Cymru heddiw, ac mae'n galonogol bod y Llywodraeth yn derbyn ein holl argymhellion, ac eithrio un, yn llawn. Mae ymateb y Llywodraeth yn cyfeirio at weithgarwch amrywiol ar y pwnc, gan gynnwys creu grwpiau rhyngweinidogol, datblygu nifer o strategaethau hirdymor, cynnal ymgynghoriadau a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae hyn i gyd, fel rydw i'n ei ddweud, yn galonogol, ac rŷm ni'n gobeithio gweld canlyniadau cadarnhaol yn sgil y mentrau yma pan fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu'r holl argymhellion yn ein hadroddiad ni yn y flwyddyn 2020.

Fodd bynnag, mae yn hanfodol bod newidiadau yn cael eu gwneud. Mae angen gweithredu cadarn, a hynny ar frys, er mwyn dod o hyd i'r datrysiad gorau i Gymru ac er mwyn sicrhau y gall pobl Cymru weld cynnydd. Mae cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn broblem na ddylai byth fod yn bell o'n meddyliau ni, ac mae'n broblem sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar bob un ohonom ni. Diolch. 

15:40

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac yn wir, o fod wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid a chymryd rhan yn adroddiad adolygiad y Pwyllgor Cyllid. Roedd yn ymchwiliad a ysgogai'r meddwl am fater sydd, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, yn peri pryder cynyddol ac a ddylai beri pryder cynyddol i bob un ohonom. Fel y clywsom, mae cyfran y bobl hŷn yng Nghymru wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf, ac mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y duedd hon yn parhau. Mae cwestiynau difrifol i'w hateb o ran y lefel o adnoddau sydd ar gael ar gyfer cynnal gwasanaethau a'r pwysau arnynt.

Felly, i ble yr awn oddi yma? Dyna y ceisiwyd ei ateb yn yr adroddiad. Wel, fel y dywedwyd, mae'r Athro Gerry Holtham wedi awgrymu cronfa yswiriant cyffredin i dalu am gostau gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol, ac edrychodd y pwyllgor ar hyn, yn ogystal ag atebion eraill posibl, a dof at y rheini mewn munud.

Yn gyntaf oll, hoffwn gyfeirio'n fyr at rai o'n prif argymhellion, ac mae argymhelliad 1 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu mwy o ymchwil wedi'i dargedu, fel bod gennym y data mwyaf diweddar a manwl gywir ar gyfer seilio amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol arnynt, ac fel y gwyddom o brofiad, hyd yma mae rhai o gyfyngiadau'r data ar Gymru yn unig wedi bod yn broblem i'r Cynulliad hwn. Mae argymhelliad 2 yn galw am adolygiad llawn o asesiadau gofalwyr ac i weld a yw'r Ddeddf wedi darparu cymorth mwy cadarn i ofalwyr ar lawr gwlad mewn gwirionedd—sef ei holl fwriad.

Nawr, edrychodd ein hymchwiliad ar natur fregus y farchnad ddarparwyr, ac roedd y dystiolaeth a ddarparwyd ar ein cyfer yn awgrymu bod y farchnad wedi bod yn fregus ers cryn dipyn, ac mae hyn yn arwain at gynyddu'r adnoddau mewnol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol er mwyn ceisio lleihau'r risg i'r sector annibynnol. Nododd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru sut y mae rhai darparwyr yn dychwelyd eu contractau i awdurdodau lleol, am na allant ddarparu gwasanaethau ar lefel y ffi a osodwyd. Felly, pa ffordd bynnag yr edrychwch arni, mae hon—dros y tymor hwy—yn sefyllfa anghynaliadwy.

Os caf ddweud ychydig am y pwysau ar y gweithlu a chadw gweithwyr, cafodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth a dynnai sylw at yr anawsterau i recriwtio staff i'r sector gofal cymdeithasol yn y lle cyntaf, a chadw'r staff hynny wedyn. Dywedodd Fforwm Gofal Cymru y gall gweithwyr gofal ennill mwy drwy lenwi silffoedd yn aml na thrwy weithio yn y sector, ac mae hynny'n anhygoel, neu dyna'r canfyddiad, o leiaf, ac ni all hynny fod yn iawn. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i godi proffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel y gellir ei weld fel dewis gyrfa mwy cadarnhaol, gan fod hynny'n sicr ar goll o'r dystiolaeth a gawsom gan y sector. Ond mae angen inni wneud mwy na hynny; mae'n fwy na chanfyddiad. Mae angen inni gadw'r gweithwyr hynny ar ôl eu recriwtio.

Gan symud ymlaen at yr ardoll gofal cymdeithasol arfaethedig y cyfeiriodd y Cadeirydd ati a'r ateb y mae'r Athro Gerry Holtham yn ei ffafrio a'i elfennau allweddol, sef cyfraniadau a wneir fel cyfran o incwm, gyda chyfraddau'n aros yn gyson drwy gydol oes yr unigolyn, er y byddent yn uwch po hynaf y bo'r unigolyn wrth ymuno â'r cynllun. Roedd yr Athro Holtham yn onest iawn a dywedodd y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a fyddai gennych raddfa symudol, er enghraifft, ar gyfer cyfrannu neu gyfradd sefydlog—awgrymodd 1.5 y cant. Felly, mae yna nifer o newidynnau.

Cyfaddefodd yr Athro Holtham hefyd nad oedd sicrwydd fod ei awgrym i wrthdroi'r dirywiad o 20 y cant a nododd yn y gwariant fesul y pen o'r boblogaeth yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Dywedodd y gallai fod yn well sôn am oddeutu 23 y cant ar y pen uchaf neu 17 y cant ar y pen isaf ac y gallai'r naill neu'r llall o'r rhain weithio, neu beidio â gweithio, ac y byddai angen gwneud llawer iawn mwy o waith i ddarganfod ar ba lefel yn union y byddai angen ei osod.

Hefyd, wrth gwrs, mae'r cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y mae gwerthu hyn oll i'r cyhoedd. A ydych yn cyfeirio at y cynllun newydd fel ardoll—treth i bob pwrpas—neu a ydych yn ei labelu fel yswiriant gorfodol? Wrth gwrs, hyd yn oed os gwnewch yr olaf, gallai ddod i gael ei hystyried fel treth beth bynnag, felly mewn rhai achosion o bosibl, waeth i chi fynd amdani ar hynny, ond rhaid i'r cyhoedd gael gwybod bod problem fawr yma a rhaid iddynt fod ar ein hochr ni o ran dod o hyd i ffordd o'i datrys.

Yn hollbwysig, rwy'n credu, rhaid i hyn gael cefnogaeth drawsbleidiol a hirdymor. Dyna'r unig ffordd y bydd hyn yn gweithio ac yn cael ei dderbyn. Hefyd, rhaid ichi gael cytundeb ynglŷn â sut i dalu costau'r rhai nad ydynt o bosibl wedi gwneud unrhyw gyfraniadau sylweddol ar hyd eu hoes o ganlyniad i salwch neu fethu gweithio am resymau eraill.

Felly, a ydym am gael ardoll ar wahân neu ei hymgorffori yng nghyfradd Cymru o'r dreth incwm? Bydd yr opsiwn hwnnw'n agored i Lywodraeth Cymru cyn bo hir. Mae'r olaf yn ffordd symlach o wneud pethau, fel y dywedodd y cyn-Weinidog cyllid, ac mae'r strwythur yn ei le, ond unwaith eto, efallai y bydd angen i'r cyhoedd weld yn glir fod y swm sy'n cael ei gasglu yn mynd tuag at eu gofal cymdeithasol.

Felly, yn olaf, dywedodd y Gweinidog—neu'r cyn-Ysgrifennydd Cabinet, fel yr oedd—mai ateb DU gyfan fyddai'r ateb gorau yn ôl pob tebyg a gallaf weld ei resymau dros ddweud hynny. Mae'r costau mor fawr fel y byddai lledaenu hyn ar draws y DU yn fanteisiol mae'n debyg. Ond wedi dweud hynny, os mai Cymru fydd yn arwain ar hyn yn y pen draw, boed hynny fel y bo. Mae hwn yn fater na ellir ei anwybyddu mwyach. Rhoddodd yr adroddiad ddarlun go llwm i ni, ond roedd yn cynnwys nifer o atebion hefyd a chredaf fod yn rhaid i ni i gyd edrych ar draws y pleidiau i ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen sy'n dderbyniol i bawb ohonom yma ac i'r cyhoedd yn gyffredinol hefyd.

15:45

Rwy'n hapus iawn i gymryd rhan yn y ddadl yma er nad wyf yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ond rydw i'n croesawu'r adroddiad a hefyd y gwaith cefndirol tu ôl iddo ac, wrth gwrs, fe wnaethom ni glywed y dadleuon yn ystod dadl y Llywodraeth ddoe. 

Mae'r system o ariannu beth sydd ar gael o dan ein system gofal cymdeithasol ni ar hyn o bryd—fel y mae'r Cadeirydd wedi ei olrhain—yn hynod gymhleth ac ni fyddai'n bosib dyfeisio system fwy cymhleth, hyd yn oed pe tasech yn trio, fel y dywedodd y Cadeirydd. Wedi dweud hynny, nid yw jest yn fater o arian. Fel y dywedais i ddoe, mae angen edrych yn gynhwysfawr ar yr her sylweddol o ddarparu gofal i'r henoed a thrio ei weld o mewn ochr bositif. Mae gennym ni gyfle i greu system gofal cymdeithasol genedlaethol yn fan hyn, achos rydw i'n credu bod angen newid y strwythur. Mae angen bod yn radical achos mae'n mynd i gymryd arian ac mae'n rhaid gallu darbwyllo'r cyhoedd bod yna system gwerth chweil, yn seiliedig ar yr un math o system â'r gwasanaeth iechyd. Mae pawb mewn cariad efo'r gwasanaeth iechyd, wel, beth am ailstrwythuro ein system gofal yr un peth â'n system gwasanaeth iechyd ni? Achos bydd yna fudd economaidd yn dod o hynny hefyd, yn darparu swyddi, cyflogau a hyfforddiant ac yn y blaen, yn union fel y gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, yn yr ardaloedd yna yng Nghymru sydd yn ei ffeindio hi'n anodd i gael swyddi ta beth, ac mae angen datblygu gwasanaeth gofal cymdeithasol fel datblygiad economaidd.

Achos, nid yw'r system, fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gynaliadwy ar hyn o bryd. Mae'n rhaid cael rhyw syniad ymlaen ac nid jest meddwl am sut rydym yn mynd i ariannu system sydd yn ffaelu nawr. Achos, ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau ariannol ar wasanaethau cymdeithasol ein siroedd ni, codi y mae'r trothwy i bobl dderbyn gofal cyhoeddus bob blwyddyn rŵan. Rwy'n ei weld o o hyd: pobl hŷn efo sawl her gorfforol a chymdeithasol, maen nhw'n teilyngu derbyn gofal, ond eto, nid ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy—trothwy sydd yn codi bob blwyddyn, y trothwy i gael y gofal am ddim oddi wrth y sir, achos, yn naturiol, nid yw'r arian yna. Rydw i’n gwybod beth mae pobl yn ei ddweud: 'Aha', mae pobl yn ei ddweud, 'talwch amdano fo, felly; talwch am eich gofal yn breifat, felly.' Dyna beth rydym ni’n ei glywed, a chlywsom ni e ddoe. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n opsiwn i nifer fawr o'n pobl hŷn ni; nid ydyn nhw'n gallu talu, ac maen nhw'n mynd heb ddim gofal cyhoeddus, heb ddim gofal, a'r cwbl yn syrthio ar eich teulu, os ydych chi'n ddigon ffodus i ddal cael teulu. Dyna beth rydym ni weithiau yn anghofio.

Pam mae hyn yn bwysig? Wel, mae pobl yn marw achos y toriadau cyllid a diffyg darpariaeth gofal. Pobl yn marw. Bu adolygiad yn The British Medical Journal yn 2017 yn olrhain sefyllfa enbydus gofal yn Lloegr, lle mae cyllid gofal cymdeithasol wedi gorfod dioddef ergyd ddwbl. [Torri ar draws.] Nick.

15:50

Diolch am ildio, Dai. Cytunaf â llawer o'r hyn rydych newydd ei ddweud. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn eironig, yn ystod yr ymchwiliad, fod yr Athro Holtham wedi nodi pan edrychodd ar y farn gyhoeddus yng Nghymru, ei bod hi'n ymddangos bod diffyg dealltwriaeth, i raddau helaeth, ynglŷn â maint y broblem sy'n ein hwynebu? Mae hynny'n dangos sut y mae angen gwirioneddol inni fynd i'r afael â hyn a chael pobl i ddeall sut y mae'n rhaid i bawb ohonom wynebu hyn gyda'n gilydd.

Ie, buaswn i'n cytuno 100 y cant, achos mae angen ad-drefnu; nid yw siarad am y peth yn ddigon. Mae yna system sydd yn ffaelu yn fan hyn. Rydym ni'n ei weld o'r ffigurau—roeddwn i'n mynd i'w ddweud—yn Lloegr, rŵan. Roedd yna adolygiad wedi cael ei wneud yn y BMJ ynglŷn â gofal a bod diffygion yn y system gofal yn Lloegr wedi arwain at 22,000 o farwolaethau uwchben y disgwyl. Hynny yw, 22,000 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn yn Lloegr achos dim darpariaeth gofal. Felly, nid yw ceisio taflu ychydig rhagor o arian at system sydd yn ffaelu heb ad-drefniant sylweddol yn mynd i weithio. Wrth gwrs, os bydd y system gofal yn methu, yna bydd y gwasanaeth iechyd yn methu hefyd.

Nawr, fel y dywedais i ddoe, system ranedig, rhannol breifat, rhannol gyhoeddus a rhannol elusennol oedd iechyd cyn i Aneurin Bevan fynnu sefydlu gwasanaeth iechyd cynhwysfawr i arbed bywydau, achos roedd miloedd o bobl yn y 1930au ddim yn gallu cael mynediad at driniaeth gwasanaeth iechyd o gwbl. Dyna'r sefyllfa sy'n wynebu pobl efo gofal heddiw ac mae angen gofal cymdeithasol, felly, yn teilyngu'r un un ateb, hynny yw, cael system genedlaethol, gynhwysfawr o ofal. Diolch yn fawr.

Gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn rhan o'r trafodaethau a arweiniodd at yr adroddiad hwn, ond hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad gofalus a thrylwyr ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Mae datblygiadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi pawb ohonom i fyw bywydau hirach ac iachach. Ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth, nid yw'n syndod fod mater talu amdano'n codi ei ben a dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor, ynghyd â'r adroddiad annibynnol gan yr Athro Gerald Holtham, a drafodwyd gennym ddoe, yn gwbl amserol.

Os edrychwn ar y gwariant cyfredol, gwelwn ei fod wedi gostwng 14 y cant mewn gwirionedd rhwng 2009-2010 a 2016-17 wrth i wasanaethau ganolbwyntio ar gefnogi pobl â lefelau uwch o angen. Mae hyn yn golygu bod yna fwy o bobl ag anghenion gofal llai acíwt o bosibl sy'n cael gofal yn eu cartrefi eu hunain. Wrth gwrs, mae'n bosibl mai priod neu bartner sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, pan fyddwn yn edrych ar ariannu gofal cymdeithasol, rhaid inni roi ystyriaeth ofalus iawn i'r gofalwyr eu hunain, yn enwedig aelodau o'r teulu sy'n darparu gofal ar gyfer eu hanwyliaid. Yn wir, ceir oddeutu 370,000 o ofalwyr anffurfiol yng Nghymru. Rydym yn clywed llawer o straeon am y gofalwyr hyn yn methu eu hapwyntiadau meddygol eu hunain neu weithgareddau cymdeithasol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Mae gofalwyr ifanc yn arbennig angen ein cymorth, a gwn y byddai Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dymuno talu teyrnged i'r gwaith y mae pob gofalwr yn ei wneud yn ddyddiol. Rwy'n falch, felly, fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai gynnal adolygiad i weld a yw'r asesiad y mae gan ofalwyr hawl iddo o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei gyflawni, ac a yw'r anghenion hynny'n cael eu hasesu'n gywir.

Gan droi at y galwadau ar y system gofal cymdeithasol, mae'r gymhareb rhwng nifer y bobl dros 70 oed a rhai 20 i 69 oed yn mynd i gynyddu erbyn y 2040au cynnar o 23 y cant i 37 y cant. Felly, dyna gynnydd o 50 y cant o fewn y boblogaeth—ac efallai y dylwn gyffesu rhywfaint o euogrwydd ynglŷn â'r ystadegyn hwnnw fy hun. Rhagwelir y bydd y galw am wariant ar ofal cymdeithasol yn codi dros 85 y cant erbyn 2035, ar brisiau 2016-17, felly dyna gynnydd o 20 y cant yn y gwariant y pen a chynnydd o dros 55 y cant yn y niferoedd sydd angen gofal. Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'n glir yr angen i wynebu realiti hirdymor ariannu gofal cymdeithasol. Ers gormod o amser, nid ydym wedi mynd i'r afael â hyn yn ddigonol. Fel y nododd y pwyllgor, dengys y dystiolaeth fod pwysau ariannu ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth yn arwain at ddiffyg ariannol. Cymhlethir hyn ymhellach gan y trefniadau cymhleth sy'n gysylltiedig â thalu am ofal, sy'n aml yn arwain at annhegwch.

Wrth gwrs, bu llawer o ddadlau ynghylch y posibilrwydd o ardoll gofal cymdeithasol, ac mae'r pwyllgor hwn wedi ystyried hyn yn ofalus iawn. Rwy'n falch o weld mai un o'r argymhellion yw y byddai angen i Lywodraeth Cymru allu cyfiawnhau sut y defnyddir unrhyw arian a godir a gallu dangos y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Dylai hyn gynnwys esbonio pa lefel o ofal y gallai'r cyhoedd ei disgwyl yn gyfnewid am eu cyfraniadau, gan ei bod yn annhebygol y byddent yn cefnogi argymhellion i dalu mwy os yw lefel y gofal yr un fath â'r hyn ydyw ar hyn o bryd. Cyn inni ystyried unrhyw drethi newydd, gan mai dyna fyddai'r ardoll newydd mewn gwirionedd, mae angen i'r cyhoedd fod yn sicr eu bod yn cael rhywbeth sy'n quid pro quo, ac yn sicr, ni fyddem ni ar y meinciau hyn yn gallu cefnogi ardoll newydd oni bai a hyd nes y gellir ei chyfiawnhau'n llawn i'r trethdalwr.

Pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, yn ystod trafodaethau'r pwyllgor yw bod angen inni hefyd wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn sylweddol yn y sector iechyd. Rhaid inni sicrhau bod pobl yn gallu gweld eu meddyg teulu pan fo angen. Byddai hyn yn lleihau nifer yr achosion brys a derbyniadau i'r ysbyty. Bydd sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty'n gyflymach ac yn ôl i'w cartrefi, gydag addasiadau a phecynnau gofal addas, hefyd yn helpu i leihau'r baich hirdymor ar y sector gofal cymdeithasol.

Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi prosiect ymateb i gwympiadau o'r blaen ar y cyd ag Ambiwlans Sant Ioan, i ymdrin â pheth o'r pwysau ar y GIG dros y gaeaf. Dylem edrych ar bob un o'r mathau hyn o brosiectau er mwyn gwerthuso eu budd i ofal cymdeithasol. A bod yn deg â hwy, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud peth gwaith rhagorol yn y maes hwn, ond rhaid inni wneud rhagor er mwyn goresgyn heriau'r dyfodol.

Yn olaf, mae angen inni ymdrin â thwf yn y boblogaeth, ac mae hynny'n golygu cael polisi mewnfudo sy'n addas ar gyfer ein buddiannau economaidd cenedlaethol. Felly rhaid inni gael mesurau rheoli ffiniau priodol fel y gallwn asesu'n iawn pa bobl sydd ag angen dybryd a phriodol am loches, ond gyda mesurau rheoli llymach ar gyfer y rhai sy'n dod yma am resymau economaidd, ac a fydd, yn anochel, yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau gormodol.

15:55

Fel y mae rhagair y Cadeirydd i'r adroddiad hwn yn datgan,

'Roedd llawer o'r dystiolaeth yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac er bod y tystion, ar y cyfan, yn gefnogol i'r Ddeddf, roedd peth pryder ynghylch cymhwyso'r meini prawf cymhwyster, cynnal asesiadau gofalwyr a'r amrywiad yn y ffioedd rhwng awdurdodau lleol. Yr hyn a ddaeth yn glir hefyd oedd bod costau annisgwyl yn gysylltiedig â'r Ddeddf.'

Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi

'Manylir ar ein rhaglen i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn
Cymru Iachach'

a'i bod wedi dechrau ar werthusiad tair blynedd

'[o Dd]eddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i archwilio rhoi’r Ddeddf ar waith a’r effaith ar y sawl sy’n derbyn gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr di-dâl,'

ym mis Tachwedd 2018.

Pan dderbyniais wahoddiad i weithio gyda'r Llywodraeth Cymru ddiwethaf i ymgorffori cynigion yn fy Mil Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Cymru a dynnwyd yn ôl, gosododd cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i dilynodd system ar waith lle y mae pobl yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gofal a chymorth, gan roi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys i bobl. Mae'n nodi y dylai'r broses o asesu anghenion unigolion fod yn seiliedig ar egwyddorion cydgynhyrchu, gan sicrhau ei fod yn cynnwys perthynas lle y mae ymarferwyr ac unigolion yn rhannu pŵer i gynllunio a darparu cymorth gyda'i gilydd, ac yn cydnabod bod gan bob partner gyfraniadau allweddol i'w gwneud wrth helpu i gyflawni canlyniadau personol a nodwyd. Mae'r ffyrdd o weithio sy'n rhaid i'r cyrff cyhoeddus a restrwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eu harddangos hefyd yn cynnwys gweithio gydag eraill, yn cynnwys cyrff trydydd sector a chymunedau, er mwyn helpu i gyflawni nodau y penderfynwyd arnynt ar y cyd.

Fodd bynnag, mae cyfres o adroddiadau wedi dynodi nad yw'r ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu fel y rhagwelwyd, nad yw'r bywydau gwell a'r costau is a fwriadwyd yn cael eu gwireddu, a bod angen ymyrryd ar frys yn unol â hynny. Nododd cylchlythyr Cynghrair Henoed Cymru ar gyfer y gaeaf diwethaf fod

cynrychiolwyr trydydd sector ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi adrodd eu bod yn teimlo wedi'u heithrio, neu, fan lleiaf, nad oes ganddynt ran lawn yn y gwaith,

a bod y trydydd sector wedi cael ei weld fel elfen sydd ond yn chwarae rhan fach yn y gwaith, heb fawr o ymwneud strategol os o gwbl yn y gronfa gofal integredig a fawr ddim mewnbwn i'r broses o gynllunio rhaglen. Er gwaethaf eu gwaith ymgysylltu dilynol gyda'r Gweinidog ar y pryd ar hyn, rwy'n deall bod hyn yn parhau.

Canfu'r gwerthusiad fis Mawrth diwethaf o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, er bod disgwyl

'i'r pwyslais ar gydgynhyrchu ac atal helpu i wella effeithiolrwydd a
lleihau'r galw'

a bod

'llwyddiant yn ei gwneud yn ofynnol cael dull cydgynhyrchiol sy'n cynnwys staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r Gwasanaeth'

ceir pryderon fod y dull o'r brig i lawr wedi llesteirio hyn. Ddydd Gwener diwethaf, mynychais gyfarfod gyda chyngor Sir y Fflint ac aelodau o'r gymuned awtistiaeth leol i drafod gwasanaeth awtistiaeth integredig gogledd Cymru a ddarperir gan y cyngor, anghenion defnyddwyr y gwasanaeth awtistiaeth a gweithio gyda'n gilydd yn well yn y dyfodol.

Nododd dadansoddiad fis Tachwedd diwethaf gan yr elusen iechyd meddwl Hafal o gynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru

'mae’n methu’r prawf os ydych yn ystyried yr hyn sydd yn medru newid i gwsmeriaid unigol yn hytrach na’r darparwyr gwasanaeth',

ei fod

'yn enghraifft o bolisi sydd wedi ei lunio ar gyfer darparwyr gan ddarparwyr'

ac er y dylid parchu barn y darparwyr,

'dyma un persbectif yn unig a dylai gael ei ystyried ar ôl ystyried barn y cwsmeriaid'.

Gwelodd canlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd gan Gynghrair Niwrolegol Cymru ar ran y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, 'The Social Services and Wellbeing Wales Act—experiences of people living with a neurological condition', a gyhoeddwyd fis diwethaf, er bod y Ddeddf wedi bod mewn grym ers dwy flynedd, nad oes neb yn gofyn i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol beth sydd o bwys iddynt hwy, nid ydynt yn cael gwybod am eu hawliau i gael asesiad, nid ydynt yn cael gwybodaeth am wasanaethau cymorth a chyngor, ac maent yn gorfod talu o'u pocedi eu hunain am gymorth.

Yn gywilyddus, canfu'r arolwg hyd yn oed fod canllawiau gyda'r Ddeddf hon wedi'u defnyddio i wahardd y taliadau uniongyrchol sydd wedi llwyddo'n flaenorol i ddarparu gofal o ansawdd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A'r wythnos diwethaf,  er bod disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno'u cynlluniau gofal lliniarol tair blynedd i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Ionawr, dywedodd hosbisau sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol wrthyf nad yw eu bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â hwy o gwbl.

Dyma'r realiti creulon, ac mae'n galw am weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r bywydau sydd wedi'u difrodi'n ddiangen a'r adnoddau a wastraffwyd o ganlyniad i hyn.

16:00

Diolch. Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn, oherwydd mae'r modd y mae cymdeithas yn trin ei phobl hŷn yn adlewyrchiad sicr o'i gwerthoedd, ac rwy'n canmol y pwyllgor am ddewis y maes pwysig hwn i'w ystyried. Ceir ffocws pendant yn adroddiad y pwyllgor ar agweddau ar y polisi gofal cymdeithasol, ac rydym wedi clywed llawer o'r rheini yn awr yng nghyfraniad Mark Isherwood, yn ogystal ag ar yr heriau ariannol ehangach pwysig o ofalu am boblogaeth hŷn. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i'r gyfres o argymhellion yn yr adroddiad. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am ei waith ar yr agenda benodol hon.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud cynnydd amlwg ar wella'r gofal a'r cymorth hanfodol sydd ei angen ar bobl hŷn. Rydym yn ymrwymedig i wneud Cymru y wlad orau ar gyfer tyfu'n hen ynddi ac fel yr amlygwyd yn ystod yr ymchwiliad, rydym yn ail-lunio'r ffordd y darperir gofal a chymorth er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon.

Gyda hyn mewn golwg, fe nodaf yn fyr y gwaith a wneir yn y meysydd allweddol a gafodd sylw gan y pwyllgor yn ei adroddiad, gan adeiladu, wrth gwrs, ar y materion a godwyd yn y ddadl ar adroddiad Holtham ar dalu am ofal, a arweiniwyd gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd ddoe, sy'n amlinellu un ffordd bosibl ymlaen.

Mae gofalwyr anffurfiol, yr aelodau teuluol a'r ffrindiau sy'n darparu gofal ar sail barhaus, yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, a chredaf fod cyfraniad Dai Lloyd yn arbennig wedi ein hatgoffa o hynny'n rymus iawn.

Cyflawnir argymhelliad y pwyllgor i gynnal adolygiad o asesiadau gofalwyr drwy werthusiad o effaith ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Dechreuodd hwn ym mis Tachwedd a bydd yn cynnwys ymgysylltu â gofalwyr eu hunain. Bydd yn ystyried pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar ofalwyr anffurfiol a beth sydd wedi newid ers i'r Ddeddf ddod i rym. Bydd yn nodi i ba raddau y mae'r Ddeddf yn hwyluso'r cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt i barhau i ofalu ac a fydd angen unrhyw welliannau pellach. Yn ogystal, rydym yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf, ac elfen benodol ohoni fydd sicrhau bod gofalwyr anffurfiol yn ymwybodol o'u hawliau ac yn cael eu hannog i ofyn am wybodaeth ac asesiad gofalwyr lle y gallai fod angen amdano.

Heb weithlu gofal cymdeithasol profiadol wedi'i hyfforddi'n briodol, bydd unrhyw ymgais i weithredu gwelliannau neu wella ansawdd yn ofer, a chredaf fod cyfraniad cadeirydd y pwyllgor wedi cydnabod hyn yn dda. Roedd y pwyllgor yn cydnabod hyn yn llawn wrth argymell ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i hyn yn 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gweithredu amrywiaeth o fesurau gwella'r gweithlu. Mae'r rhain yn cynnwys rheoliadau i wella telerau ac amodau drwy leihau'r defnydd o gontractau dim oriau, cyfres o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu llwybr gyrfa clir, a chyflwyno cofrestru i adlewyrchu ein hymrwymiad i broffesiynoli'r gweithlu.

Yn uchel ar ein hagenda, mae cyllid hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n ganolog i'w gynaliadwyedd. Pwysleisiodd y pwyllgor y galw cynyddol am ofal y gallem ei weld yn y dyfodol gan boblogaeth sy'n heneiddio a'r her y mae hyn yn ei chreu. Oherwydd yr her hon, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol yn ein strategaeth 'Ffyniant i Bawb', sy'n ymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol i ateb y galw disgwyliedig. Fe fyddwch yn gwybod o'r ddadl ddoe am ein hymrwymiad i archwilio opsiynau ar gyfer trethi newydd yng Nghymru, gan gynnwys ardoll gofal cymdeithasol bosibl, i godi arian ychwanegol. Yr argymhellion hyn sy'n sail i waith ein grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, a sefydlwyd yr haf diwethaf a'i orchwyl yw darparu'r safbwynt polisi i'r ystyriaethau ariannol hyn. Mae ei waith ar gam cynnar ond byddwn yn mynd ati'n gyflym eleni i sicrhau safbwynt gwybodus ar hyfywedd ardoll, er enghraifft, ac a allai wireddu'r manteision a ragwelwn.

Credaf fod cyfraniad Nick Ramsay yn benodol wedi amlinellu pa mor heriol yw'r agenda hon a pha mor fawr yw rhai o'r cwestiynau sy'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Nick y byddai datblygu rhyw fath o gonsensws trawsbleidiol yn ffordd dda ymlaen, oherwydd mae hon yn her a fydd yn wynebu pob un ohonom, ni waeth beth yw ein pleidiau. A gwn fod yr ysgrifennydd iechyd a minnau'n awyddus iawn i wrando ar y pleidiau eraill a'u syniadau ac edrych gyda'n gilydd ar y ffordd ymlaen. A rhaid imi ddweud hefyd fy mod yn croesawu'r ffordd y mae'r Aelodau'n ymwneud â'r agenda wirioneddol bwysig hon.

Felly, ochr yn ochr â hyn byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â'u safbwyntiau ar dalu am ofal a goblygiadau hynny iddynt hwy. Ac fel yr argymhellodd y pwyllgor yn briodol, mae angen inni gynnal ymgysylltiad o'r fath, ac yn fuan byddwn yn ystyried cynnig i gynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn deall pwysigrwydd gofal cymdeithasol a'r system sydd ar waith ar hyn o bryd. A chyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei araith at y dryswch cyffredinol sy'n bodoli ar hyn o bryd mewn perthynas â thalu am ofal.

Credaf y bydd y gwaith hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer ymgysylltiad wedi'i dargedu ar yr opsiynau i godi arian ychwanegol wrth i'r opsiynau hyn ddatblygu, ac yn sicr, cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood o bwysigrwydd rhoi'r unigolyn wrth wraidd y penderfyniadau hyn.

Yn olaf, mewn ymateb i un argymhelliad penodol, rwy'n falch o gadarnhau bod ein hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen' i gynyddu'r cyfalaf y gall pobl mewn gofal preswyl ei gadw heb orfod talu am eu gofal wedi'i gwblhau. Ymrwymiad ydoedd i godi'r ffigur o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ar hyn o bryd mae'r swm yn £40,000 a bwriadwn ei godi i'r £50,000 llawn o fis Ebrill ymlaen. I helpu i weithredu hyn, rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn y flwyddyn pellach yn y setliad llywodraeth leol o 2019-20, gan gynyddu'r cyllid gweithredu cyffredinol a ddarperir i i £18.5 miliwn y flwyddyn. Fel yr argymhellodd y pwyllgor, byddwn yn parhau i fonitro er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn ddigon i alluogi awdurdodau i gyflawni eu dyletswyddau gofal cymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at barhau'r trafodaethau a gawsom dros y ddeuddydd diwethaf. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Ni wnaf gyfeirio at bob cyfraniad, maddeuwch i fi, ond fe wnaf jest ategu un neu ddau o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Yn sicr, yng nghyfraniad Nick Ramsay, roedd y cyfeiriad at lefel y cyflogau o fewn y sector yn cymharu â rhai yn stacio silffoedd, rydw i'n meddwl, yn tanlinellu lle mae'r sector yn y cyd-destun hynny ar hyn o bryd. Ac, wrth gwrs, yn ei hymateb, mi wnaeth y Gweinidog gyfeirio at rai pethau mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i edrych ar dermau ac amgylchiadau cyflogaeth o'r fath. Wrth gwrs, y llinell waelod yw bydd pobl eisiau gweld cynnydd yn eu pecyn cyflog. Tan fod hynny'n digwydd, mae'n debyg y bydd hi'n anodd iawn dangos i'r bobl sy'n gweithio yn y sector yna fod cymdeithas yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw yn ei wneud. 

Soniodd Nick am y cyfeiriadau a nodwyd yn ystod ein gwaith ynghylch yr angen am ateb ar sail y DU gyfan, ac mae'n debyg fod hynny'n adlewyrchu barn y pwyllgor neu ei ddewis yn hynny o beth, ond wrth gwrs, os nad yw hynny'n digwydd rhaid inni fwrw iddi a'i wneud ein hunain. Rwy'n obeithiol fod y Llywodraeth o'r un farn, oherwydd, fel y dywedodd Nick, rydym mewn sefyllfa anghynaliadwy yn y tymor hir, er y credaf nad yw'r tymor hir mor hir ag y mae rhai pobl yn ei feddwl neu'n ei obeithio.

Cawsom ein hatgoffa gan David Rowlands am y gymhareb rhwng pobl ifanc a phobl hen sy'n newid yn gyflym, ac mae hynny, wrth gwrs, yn galw am ymateb mawr gan ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mater i ni, felly, yw dod o hyd i ffordd o ddarparu'r gwasanaethau hynny. Cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood hefyd o'r gwerth a'r cyfleoedd a ddaw o'r dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n siŵr y gallai'r sgwrs genedlaethol fod yn ddechrau ar hynny.

Rydw i eisiau diolch i Dai Lloyd hefyd am ei gyfraniad y prynhawn yma. Mae yna gyfle yn y fan hyn, fel roedd Dai yn ei awgrymu, inni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol. Mae eisiau dangos yr un uchelgais, yr un arloesedd a'r un dewrder a welwyd adeg creu y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Nid taflu arian at system sy'n methu yw'r ateb, fel dywedodd Dai. Mae angen newid y system hefyd fel bod gennym ni gyfundrefn fwy cynaliadwy. 

Rydw i felly eisiau diolch i'r Aelodau a gyfrannodd i'r ddadl yma. Diolch hefyd i dîm clercio’r pwyllgor a phawb roddodd dystiolaeth i ni fel rhan o'r broses yma. Rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r naw argymhelliad a wnaed, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae yna gonsensws, rydw i'n siŵr o hynny, fod angen gweithredu'n awr—bod yr amser wedi dod nawr inni fynd i'r afael â'r sefyllfa yma unwaith ac am byth. 

Rydw i eisiau cloi drwy ategu'r gydnabyddiaeth rŷm ni fel pwyllgor eisiau rhoi i'r gofalwyr gwirfoddol allan yn fanna—y glud sy'n dal y gwasanaeth yma at ei gilydd. Mae'r ddibyniaeth yn drom iawn arnyn nhw, ond mae'r ddibyniaeth yna hefyd, wrth gwrs, yn peri risg i gynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed am y pryderon ynghylch pwysau ar y gweithlu. Rŷm ni wedi clywed yr heriau sydd o'n blaenau ni.

A gaf i ddiolch i chi i gyd? A gaf i ddweud ei fod wedi bod yn ymateb calonogol gan y Llywodraeth? Ond, wrth gwrs, mae angen i'r holl weithgarwch yma nawr sydd yn digwydd arwain at ganlyniadau pendant a newidiadau go iawn i gyfundrefn ariannu sydd, rydw i'n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno, yn rhedeg allan o amser. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Russell George.

16:15

Cynnig NDM6907 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae cyflwr y ffyrdd yng Nghymru yn fater o bwys mawr i bob un ohonom. Pa un a fyddwn yn gyrru, yn seiclo, neu'n mynd ar y bws, mae pawb ohonom yn defnyddio'r ffyrdd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Caiff y pethau bob dydd sy'n ein cynnal, yn cynnwys llawer o'n bwyd, eu cludo ar hyd y ffyrdd wrth gwrs.

Yn ychwanegol at ei bwysigrwydd i ni i gyd fel rhan o'n bywydau, mae'r rhwydwaith ffyrdd hefyd yn un o asedau mwyaf y wlad, sy'n werth oddeutu £13.5 biliwn, ac yn ymestyn dros 21,000 milltir. Mae ein hymchwiliad wedi edrych yn fanwl ar sut rydym yn cynnal ein ffyrdd, sut rydym yn eu gwella, ac a yw'r modd y gwneir hynny yn ateb y disgwyliadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod iddi ei hun yn y deddfau y mae wedi eu pasio.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol o faint o siarad a wneir gan y cyhoedd am gyflwr ein ffyrdd, felly roeddem yn awyddus i alluogi pobl i gyfrannu at ein gwaith. Felly, cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffig i annog pobl o bob rhan o Gymru i gyflwyno lluniau sy'n cynrychioli'r rhwydwaith. Mae'r lluniau a ddaeth i law i'w gweld ar y sgriniau yma yn y Siambr, ac roeddent yn cynnwys amrywiaeth eang—rhai'n ddoniol, rhai tirweddau ysgubol a rhai enghreifftiau o darmac yn llawn o dyllau.

Bydd y Gweinidog yn cofio ei fod wedi derbyn llawer, ond nid pob un, o'n hargymhellion. Un o'r agweddau sobreiddiol ar yr ymchwiliad hwn yw cymaint o'r materion a godwyd mewn astudiaethau blaenorol sy'n parhau i fod yn anodd. Ceir consensws aruthrol y byddai cyllid hirdymor ar gyfer llywodraeth leol ac asiantaethau cefnffyrdd yn arwain at welliannau, ac eto rydym yn dal yn sownd mewn cylch blynyddol. Ddeuddeg mis yn ôl, mewn datganiad ar ddyfodol Trafnidiaeth Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd ei fod:

wedi ymrwymo i raglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf trafnidiaeth drwy Trafnidiaeth Cymru.

Honnodd y byddai hyn yn arwain at 15 i 20 y cant o arbedion effeithlonrwydd.

Argymhellodd y pwyllgor fod y model ariannu pum mlynedd a oedd yn cael ei gymhwyso ar gyfer Trafnidiaeth Cymru—neu'n hytrach, sy'n cael ei gymhwyso—hefyd yn gymwys ar gyfer awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod yr alwad honno. Er ei bod yn dweud ei bod yn cydymdeimlo â galwadau o'r fath, mae'r ymateb ffurfiol yn nodi nifer o resymau pam y mae hyn yn anodd ar hyn o bryd. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau lleol yn cael cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, nid Llywodraeth Cymru'n unig. Mae hefyd yn nodi ansicrwydd ynghylch adolygiad o wariant arfaethedig Llywodraeth y DU, ynghyd â'r cyni ariannol a Brexit. Er ei bod yn ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu

'gwybodaeth fynegol... i lywio blaengynllunio ariannol',

nid yw'n glir sut y mae'r ansicrwydd hwn ynglŷn ag ariannu'n effeithio ar y rhaglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf a addawyd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu egluro pam y mae'r ddau gorff yn gweld dulliau mor wahanol o weithredu.

Os oes un peth allweddol yn deillio o'n hadroddiad—un argymhelliad a ystyriwyd yn fanwl gennym—argymhelliad 12 yw hwnnw:

'Dylai’r strategaeth arfaethedig, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, bennu blaenoriaeth glir ar gyfer cynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol,
prif-ffrydio ac uwchraddio’r seilwaith teithio llesol, a blaenoriaethu mynediad, yn
hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.'

Rwy'n siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn.

Nawr, gwyddom fod arian yn dynn, a gwyddom fod pwysau ar y rhwydwaith presennol a straen ar y gost o'i gynnal, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd buddsoddi a chynnal a chadw yn arbed arian yn fwy hirdymor. Mae'r pwyllgor a'r Gweinidog wedi dangos yr angen am fwy o wariant ar seilwaith teithio llesol. Mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd hyn yn bosibl ar unrhyw raddfa heb ail-flaenoriaethu'r gwariant o fewn y gyllideb drafnidiaeth. Yn ogystal â'r rhesymau ariannol hyn, mae pwysau o du Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ystyried effeithiau ehangach buddsoddi. Mae rhagor o ffyrdd yn golygu rhagor o draffig, a rhagor o lygredd.

Dylwn egluro bod gennyf—mae fy safbwyntiau a barn y pwyllgor—. Nid wyf yn dweud y dylem beidio ag adeiladu ffyrdd newydd. Nid dyna rydym yn ei ddweud o gwbl—dim o gwbl. Rydym ar fin gweld ffordd osgoi'r Drenewydd yn fy etholaeth yn cael ei hagor—prosiect seilwaith enfawr mawr ei angen ers llawer iawn o flynyddoedd. Ceir achosion lle y mae angen symud ffyrdd, neu lle y byddai mynd i'r afael â mannau cyfyng yn ateb gorau posibl. Felly, mae ein hargymhelliad yn ymwneud â ffocws ar y gweithgareddau eraill, yn hytrach na dweud, 'Peidiwch ag adeiladu ffyrdd newydd'. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

16:20

Diolch yn fawr iawn am ildio, Russell. Mae'n bwynt pwysig, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, y cyfeiriodd ati. Pan gafodd ei phasio yn 2013, soniai am wneud cerdded a beicio y ffordd fwyaf naturiol o symud o gwmpas yng Nghymru ond wrth gwrs, pan wneir gwaith ffordd ar seilwaith ffyrdd sy'n bodoli'n barod, yn aml iawn gwyddom mai'r cerddwyr a'r beicwyr yw'r rhai sy'n cael eu hanghofio, y rhai sy'n wynebu'r anghyfleustra mwyaf. Y llwybrau beicio sy'n tueddu i gael eu defnyddio fel y gorlif o'r gwaith ffordd a chânt eu blocio—nid oes gwyriad, na dewisiadau eraill i gymryd eu lle. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ei bod am i hynny ddigwydd, nid yw i'w weld yn digwydd. A chredaf mai un o'r—. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod a edrychodd y pwyllgor ar yr agwedd hon i weld a wnaeth y canllawiau darparu ar gyfer y canllawiau cynllunio o dan y Ddeddf fynd ati'n briodol i ddatrys y mater hwn oherwydd, yn sicr, os ydym yn ceisio hybu teithio llesol a gwneud hon y wlad fwyaf naturiol i gerdded a beicio ynddi, pan fyddwn yn gwneud unrhyw waith ffordd, ar ffyrdd newydd neu hen, rydym am wneud yn siŵr fod y lonydd beicio a'r llwybrau cerdded yn dal yno, ac nad ydym yn gwthio pobl allan i ganol traffig neu i mewn i gae.

Wel, fel mae'n digwydd, fe edrychwyd ar hynny mewn gwaith arall a wnaethom y llynedd mewn perthynas â theithio llesol. Fe gynaliasom ein harolwg ein hunain o ddefnyddwyr a oedd yn gofyn, 'Beth sy'n eich rhwystro rhag beicio neu ddefnyddio llwybrau?' ac yn wir, cyflwr y ffyrdd oedd yr ateb. Ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydych yn ei ddweud, felly rwy'n cytuno gyda'r pwynt hwnnw; credaf ei fod yn bwynt da.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion rwy'n falch o ddweud eu bod wedi'u derbyn, ac mae'r rhain yn cynnwys ymchwilio i'r posibilrwydd o apiau i ddarparu adborth amser real ar gyflwr ffyrdd, gwella tryloywder ac argaeledd cynlluniau rheoli asedau priffyrdd, creu panel o arbenigwyr i roi cyngor ar arferion gorau ym maes atgyweirio ffyrdd, a chyfyngu ar nifer yr achosion lle y gallai fod yn ddoeth i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol o ariannu cyhoeddus-preifat. Ar y nodyn olaf, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ataf yn gynharach yr wythnos hon yn ymateb i'n pryderon am y model buddsoddi cydfuddiannol, ac roeddwn yn falch o ddarllen y byddant yn gwneud gwaith ehangach ar gyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn i ddod i ystyried y materion hyn.

Rwy'n rhagweld llawer o gyfraniadau heddiw, gan y bydd llawer ohonom wedi cael negeseuon e-bost a llythyrau ynglŷn â chyflwr y ffyrdd yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau, felly edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan eraill i'w ddweud y prynhawn yma.

Yng Nghymru, mae gennym ychydig o dan 35,000 km o ffyrdd. Mae teithiau'r rhan fwyaf o bobl yn cynnwys y defnydd o'r rhwydwaith ffyrdd, ffigur sydd wedi bod yn sefydlog ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Rydym hefyd yn dibynnu ar y ffyrdd ar gyfer cludo cyfran uchel o'n nwyddau domestig. Ledled y DU, mae gwefan 'Fill that Hole' Cycling UK yn rhoi gwybod am 13,500 o dyllau ffordd ar gyfartaledd bob blwyddyn. Mae'r ddau ystadegyn yn dangos maint yr her sy'n ein hwynebu, ac maent hefyd yn dangos bod cyflwr ein ffyrdd yn bwnc sy'n peri pryder i lawer o ddinasyddion Cymru, pwynt y mae Cadeirydd ein pwyllgor, Russell George, wedi'i nodi eisoes.

Ar gyfer fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar dri argymhelliad yn benodol, ac mae'n siomedig fod pob un o'r rhain wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog edrych yn ei ymateb ar sut y gellid ystyried y dystiolaeth a gawsom. Yn gyntaf, argymhelliad 3: nawr, roedd a wnelo hwn â chymell awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw. Yn fy awdurdod lleol i yn Rhondda Cynon Taf, cymeradwywyd cynlluniau yn ddiweddar i fuddsoddi £23.5 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf. Mae ffocws cyson ar wella'r rhwydwaith priffyrdd yn golygu, ers 2011-12, fod canran y ffyrdd dosbarthiadol sydd angen sylw yno wedi gostwng ddwy ran o dair.

Hoffwn ganmol y cyngor am eu gwaith caled yn gwella'r rhwydwaith ffyrdd, sydd wedi arwain at gwblhau dros 1,000 o gynlluniau lonydd cerbydau. Rwy'n croesawu arian sylweddol Llywodraeth Cymru i gynghorau lleol dros gyfnod o bedair blynedd ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y gallai'r Gweinidog amlinellu'r modd y bydd yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod hyn yn dal yn flaenoriaeth. Rwy'n ymwybodol iawn mai un peth yw fod preswylwyr un awdurdod yn cael ffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, ond beth os ydynt yn teithio i awdurdod arall lle y mae'r sefyllfa'n wahanol iawn? Efallai mai cynnal a chadw ffyrdd mewn un awdurdod yw'r gwasanaeth a allai effeithio fwyaf ar drigolion sy'n byw mewn awdurdod arall. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y mater hwn.

Yn ail, argymhelliad 4: nawr, mae hwn yn ymwneud ag edrych ar fodel pum mlynedd o gymorth ar gyfer cynghorau. Yr hyn sy'n allweddol yma yw'r capasiti ar gyfer cynllunio hirdymor ar bob lefel. Rwy'n derbyn rhesymeg y Gweinidog ac yn nodi, lle y bo'n bosibl, fod cyllid wedi'i ddarparu ar sail fwy hirdymor. Er enghraifft, cyfeiriais at y gronfa £60 miliwn ar gyfer tyllau yn y ffyrdd a ddyrannwyd i awdurdodau dros dair blynedd. Soniais y gall cynghorau wneud cynlluniau hirdymor, fel yn achos Rhondda Cynon Taf a'i fodel tair blynedd.

Credaf fod yr ymateb mwy cadarnhaol i argymhelliad 6 yn mynd i'r afael â rhai o'n pryderon. Gyda phwysau parhaus y cyni ariannol, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau hirdymor cywir sy'n darparu'r atebion hirdymor cywir. Mae hynny'n well nag atebion byrdymor cyflym, sydd ond yn arwain at gost bellach yn y pen draw. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r cynllun cynnal a chadw pum mlynedd y cyfeiriwyd ato maes o law.

Yn olaf, argymhelliad 8: yn ei hanfod, mae hwn yn ymwneud ag eglurder a blaenoriaethu gwelliannau i'r seilwaith ffyrdd, ac egluro, pan fo amserlenni'n llithro, pam fod hynny'n digwydd. Credaf fod hyn yn hanfodol bwysig. Un o'r pethau sydd wedi achosi fwyaf o rwystredigaeth i fy etholwyr fu'r oedi cyn cwblhau'r gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng y Fenni a Hirwaun. Nawr, nodwyd yr angen am welliannau i'r darn o ffordd tair lôn peryglus hwnnw bron i dri degawd yn ôl. Mae'r llithriant yn y ffrâm amser ar y prosiect hwn a addawyd ers cyhyd, yn aml heb atebion clir ynglŷn â pham neu pa bryd, wedi gadael blas chwerw. Buaswn yn dweud nad yw'n gyd-ddigwyddiad fod fy mhlaid wedi cael trafferth cadw sedd y cyngor yn ward Hirwaun, un o ddwy sedd yn unig rydym wedi methu eu cadw yng Nghwm Cynon.

Yn yr un modd, beth bynnag yw barn yr Aelodau ar ffordd liniaru'r M4, nid yw cwestiynau ynglŷn â'r amserlen yno wedi bod o fudd i neb. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi efallai nad yw'r ymdeimlad o rwystredigaeth yn ymwneud yn unig â phrosiectau adnewyddu ffyrdd. Mae hefyd yn effeithio ar welliannau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad i weld a ellid darparu mwy o eglurder ynghylch y camau datblygu o fewn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor glir ag y bo modd fel bod yr holl wleidyddion a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli yn cael yr wybodaeth gywir. Diolch.

16:25

Diolch am y cyfle i siarad am adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru. A gaf fi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i fy rhagflaenydd ar y pwyllgor, Mark Isherwood, am ei holl waith yn helpu i gynhyrchu'r adroddiad gwerthfawr hwn? Mae cyflwr y ffyrdd yng Nghymru yn bwnc hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru. Mae pawb ohonom yn defnyddio'r ffyrdd fel gyrwyr neu deithwyr, at ddibenion hamdden neu waith neu'n syml er mwyn bwrw ymlaen â'n bywydau bob dydd.

Mae ffyrdd yn hanfodol ar gyfer economi Cymru. Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod eu haelodau'n aml yn cwyno bod cyflwr ein ffyrdd yn gwaethygu a bod tagfeydd yn llesteirio eu busnesau. Aethant ymlaen i ddweud, pan gawsant eu holi, mai blaenoriaeth y rhan fwyaf o fusnesau ar gyfer buddsoddi oedd y seilwaith trafnidiaeth. Dangosodd arolwg yn 2014 fod dros 60 y cant o aelodau'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud bod gwaith ffordd, tagfeydd a chyflwr y ffyrdd yn cael effaith negyddol ar eu busnesau. Yn 2016, awgrymodd arolwg arall fod tagfeydd a chyflwr y ffyrdd lleol, yn hytrach na'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol, yn peri pryder sylweddol.

Awdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar ôl ffyrdd lleol wrth gwrs. Yn wir, dengys data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun fod cyflwr ffyrdd lleol yn sylweddol waeth na'r cefnffyrdd neu'r traffyrdd. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod y broblem o gynnal a chadw ffyrdd lleol wedi'i gwaethygu gan doriadau yng nghyllid awdurdodau lleol. Roedd llawer o'r ymatebion i'r pwyllgor yn dweud yn glir y byddai ffyrdd lleol yn dirywio os na châi lefelau ariannu eu cynnal. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed ym mis Chwefror y llynedd o £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gwelliannau i ffyrdd lleol, ond rhan bitw iawn o'r swm sydd ei angen yw hwn. Mae cyngor dinas Abertawe, er enghraifft, yn amcangyfrif bod cost ei ôl-groniad o waith atgyweirio yn £54 miliwn. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod angen dull mwy hirdymor o weithredu mewn perthynas ag arian ar gyfer ffyrdd lleol na'r hyn a gynigir gan system bresennol y setliad blynyddol. Mae'n siomedig nodi, felly, fod y ddau argymhelliad a wnaed ynghylch cyllido wedi'u gwrthod gan Lywodraeth Cymru, ac eto ceir cynsail ar gyfer cytundeb mwy hirdymor. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn elwa o raglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf. Os gall Trafnidiaeth Cymru gael sicrwydd o gyllid fel hyn, pam na all awdurdodau lleol elwa hefyd?

Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae cyllidebau awdurdodau lleol dan bwysau difrifol. Mae'n annhebygol y byddant yn gallu dod o hyd i'r arian ychwanegol sylweddol y mae cynnal a chadw'r seilwaith yn galw amdano. Mae angen dod o hyd i ffyrdd arloesol o gymell awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i wrthod y ddau argymhelliad.

Ddirprwy Lywydd, nid yw'n ddigon inni gysuro'n hunain â'r casgliad nad yw cyflwr ffyrdd Cymru'n waeth na ffyrdd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Er y gallai hynny fod yn wir, mae'r mater yn llawer rhy bwysig inni fod yn hunanfodlon. Rhaid inni wynebu'r her y mae cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru yn ei chreu. Credaf fod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn gwneud hynny a byddent yn gwella ein rhwydwaith ffyrdd yn sylweddol er budd pawb. Gan fod y Dirprwy Weinidog yn arfer bod yn un o aelodau'r pwyllgor a gymeradwyodd yr argymhellion hynny, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych yn gydymdeimladol ar hyn, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Cynulliad. Diolch.

16:30

Gwnaf i siarad yn fyr iawn. Nid oeddwn i’n Aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gwaith ymchwil yma. Yn rhyfedd, mi oedd yna rywfaint o gellwair pan gafodd y gystadleuaeth yna ei lansio i bobl anfon lluniau o dyllau mewn ffyrdd i mewn—rhai yn amau difrifoldeb hynny. Ond, wir, mi oedd o’n gam defnyddiol, a beth a ddangoswyd yn ymateb pobl oedd cymaint y mae hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Ein ffyrdd ni, wedi’r cyfan, ydy un o’n hasedau mwyaf ni, gwerth dros £13 biliwn, ac mae pob un ohonom ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn defnyddio’r ffyrdd, ac mae pob un ohonom ni—mi fentraf i ddweud—rhyw dro neu'i gilydd wedi dod ar draws twll mewn ffordd, ac mi oedd hi yn, rydw i’n meddwl, yn exercise defnyddiol iawn mewn ymgysylltiad go iawn rhwng ein Senedd genedlaethol ni a phobl Cymru ar bwnc a oedd yn wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Ac nid oedd yna ddim gwobrau, nid ydw i’n meddwl, am ddyfalu beth fyddai rhai o gasgliadau’r ymchwiliad yma, neu beth fyddai rhai o’r argymhellion a fyddai’n dod yn sgil y casgliadau hynny, ond mi oedd hi’n bwysig iawn, iawn, iawn eu bod nhw’n cael eu nodi mewn du a gwyn, ac rydw i’n falch bod yr adroddiad yma gennym ni. Nid oedd hi’n ddim syndod gweld, drwy’r adroddiad yma, fod arian yn rhy dynn ar lywodraeth leol yng Nghymru, fel y mae hi, iddyn nhw heb gymorth ychwanegol fynd i’r afael â’r broblem yma; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod angen cynllun cyllido hirdymor, fel mae elfennau eraill o’n rhwydwaith trafnidiaeth ni’n ei dderbyn; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod rheoli hirdymor a sicrhau bod yr ased yma’n cael ei gynnal a’i gadw yn y cyflwr gorau yn y hirdymor yn fwy cost effeithiol nag ymateb i broblemau fel ag y maen nhw’n codi, ac mae gennym ni argymhellion rŵan yr ydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw.

Ond nid oes dim celu'r ffaith bod yna broblem ariannol ddybryd wrth wraidd y sefyllfa yma. Mae arolwg ALARM, sydd wedi cael ei dynnu i’n sylw i heddiw, yn awgrymu bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwario 40 y cant yn llai nag awdurdodau lleol yn Lloegr ar drwsio ffyrdd yn 2018. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n deall yn fy etholaeth i fod yr arian sydd ar gael ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd wedi bron haneru mewn cyfnod o ryw 10 mlynedd. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n gweld un awdurdod yn sôn am ôl-groniad o £50 miliwn ar gyfer trwsio ffyrdd. Mae ystadegau Abertawe eto wedi cael eu tynnu i’m sylw i heddiw.

Ac mae sefyllfa’n gallu gwaethygu dros amser hefyd. Rydw i wedi cael achos yn fy etholaeth i yn ddiweddar lle mae newid mewn arferion amaethyddol, cerbydau trymach yn cael eu defnyddio ar ffyrdd gwledig, yn gwaethygu ac yn creu problemau o’r newydd ar gyfer ffyrdd gwledig, a hynny’n achosi costau ychwanegol maes o law. Felly, nid ydy hon yn broblem sy’n mynd i ffwrdd, mae’n broblem, ac mae’n rhaid inni ei chymryd hi o ddifri.

All rhywun ddim anwybyddu’r ffaith bod yna, ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd, gynlluniau ffyrdd gwerth hyd at, beth, £2 biliwn a allai fod yn digwydd ar gyfer un cynllun, a chynlluniau sylweddol eraill gwerth degau, cannoedd o filiynau o bunnau. Mae’n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Mae'n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Ac mae’n rhaid rhoi cynlluniau gwariant hirdymor—pum mlynedd ydy’r awgrym yn yr adroddiad yma, ac rydw i’n cyd-fynd â hynny—cynlluniau cyllidol hirdymor er mwyn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol ni’n gallu rhoi rhaglenni mewn lle er mwyn gwarchod yr ased yna ar gyfer yr hirdymor. Ac rydw i'n falch iawn bod yr adroddiad yma wedi cael ei wneud, beth bynnag am y cellwair ynglŷn â’r gystadleuaeth ffotograffiaeth ar ei dechrau hi.

16:35

Wel, i adleisio rhai o eiriau Rhun ap Iorwerth, yn ystod ein sesiynau tystiolaeth ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru, roedd llawer o randdeiliaid, os nad y cyfan, yn bendant fod angen cynllunio strategol hwy, ac ni ellid cyflawni hyn heblaw drwy gynigion cyllideb hirdymor gan Lywodraeth Cymru, ac roedd y rhan fwyaf yn argymell cyfnod o bum mlynedd fan lleiaf. Mae'n drueni, felly, fod argymhelliad 4 yn ein hadroddiad wedi'i wrthod gan Weinidog y Cabinet. Er y rhoddir esboniad pam y caiff ei wrthod, oni ddylai'r Llywodraeth gydnabod bod atebion byrdymor i'r rhwydwaith ffyrdd yn llawer mwy costus dros amser na phrosiectau wedi'u cynllunio'n dda dros y tymor canolig i'r tymor hir? Felly, ymddengys yn rhyfedd eich bod yn derbyn argymhelliad 6, sydd, unwaith eto, yn galw am gynllunio hirdymor, er bod y penderfyniad hwn i'w dderbyn i'w weld yn seiliedig ar ddeunyddiau metlin gwell, sy'n para'n hwy.

Gan mai cyfyngiadau ariannol yw'r prif achos dros anallu'r Llywodraeth i hwyluso cyllidebau hirdymor, a ddylai cyfyngiadau o'r fath fod yn ffactor sylfaenol yn nhrafodaethau Gweinidog Cabinet ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4? Yn sicr byddai rhyddhau'r swm cyfalaf enfawr a ragwelir ar gyfer y ffordd osgoi yn lleddfu'r holl gyfyngiadau a amlinellir yn eich penderfyniad i wrthod yr awgrymiadau a geir yn argymhelliad 4 y pwyllgor.

Gan droi at benderfyniad y Llywodraeth i wrthod argymhelliad 12, lle roeddem yn gofyn am roi blaenoriaeth glir i'r gwaith o gynnal a chadw ffyrdd presennol, a gwella'r rhwydwaith teithio llesol, mae eich penderfyniad i wrthod yn datgan yn syml mai'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol sy'n pennu'r rhaglen fuddsoddi, nid strategaeth drafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, a yw'n ymdrin ag egwyddor sylfaenol ein hargymhelliad, sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn o flaenoriaethu, o gofio bod y strategaeth a'r cynllun cyllid ill dau'n rhan o gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru?

I gloi, y ddau beth sylfaenol a ganfu ein hymchwiliad yw fod safon cefnffyrdd Cymru yn dda at ei gilydd a'u bod yn cael eu huwchraddio mewn modd amserol a chosteffeithiol. Fodd bynnag, ni ellir dweud yr un peth am y rhwydwaith ffyrdd a weinyddir gan awdurdodau lleol, ac mai'r rheswm am hyn yn bennaf yw cyfyngiadau ariannol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru felly i unioni'r anghydbwysedd hwn fel bod y rheini sy'n defnyddio'r rhwydwaith yng Nghymru yn gweld bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal i safon ardderchog a diogel.

Un maes yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol arno yw llifogydd dŵr wyneb, a phan ddaeth y dystiolaeth i law, soniodd Prifysgol Leeds am newid yn yr hinsawdd yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn arbennig, y cynnydd mewn glaw trwm, sydd, yn ei dro, yn cynyddu llifogydd. Nodaf fod systemau draenio cynaliadwy ar gyfer eiddo newydd wedi dod i rym yr wythnos hon. Fodd bynnag, rhaid i ymdrin â pherygl llifogydd a sglefrio, sy'n gallu bod yn angheuol o ran ei ganlyniadau, gael ei gynnwys mewn amserlenni adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd, boed yn waith a wneir gan lywodraeth leol neu gyrff priffyrdd eraill. Edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei gynnwys yn y cynllun cynnal a chadw pum mlynedd.

Rwy'n croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi dod i lywodraeth leol, yn enwedig ar gyfer datrys y broblem hon mewn ymateb i'w hanghenion, ond fe fyddaf yn parhau i ddadlau'n gyson ynglŷn â llifogydd dŵr wyneb, oherwydd gall canlyniad llifogydd o'r fath fod yn gwbl angheuol.

16:40

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol.

Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd dros 24 mlynedd a mwy na £0.5 biliwn i sicrhau bod ffyrdd Cymru'n cyrraedd y safon. Mae gennym ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio ffyrdd, sydd hefyd wedi arwain at gynnydd mewn taliadau iawndal ac yswiriant oherwydd difrod ac anafiadau a achoswyd gan dyllau yn y ffyrdd. Tyllau yn y ffyrdd yw un o brif achosion damweiniau car ar ein ffyrdd ac maent yn gyfrifol am beri marwolaeth neu anaf difrifol i lawer o feicwyr bob blwyddyn. Mae toriadau awdurdodau lleol ac un neu ddau o aeafau caled wedi cyfrannu at gynnydd sydyn yn nifer y tyllau yn y ffyrdd sy'n bla ar ein priffyrdd a'n cilffyrdd. Heb fuddsoddiad ychwanegol a blaengynllunio, bydd ein ffyrdd yn dirywio llawer mwy, ymhell y tu hwnt i'r gallu i ddarparu atgyweiriad cyflym. Gall tyllau yn y ffyrdd sy'n cael eu hatgyweirio'n wael wneud y sefyllfa'n waeth o lawer, gan fod halen ffordd a dŵr is na'r rhewbwynt yn ystod misoedd y gaeaf yn difetha'r gwaith atgyweirio, gan arwain at dwll sydd hyd yn oed yn fwy.

Mae'r proffwydi tywydd yn rhagweld gaeaf caled arall eto a fydd yn difetha cyflwr ein rhwydwaith ffyrdd ymhellach. Felly, rwy'n croesawu argymhellion Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu derbyn pob un ohonynt. Y ffyrdd sydd yn y cyflwr gwaethaf yw ein ffyrdd lleol—cyfrifoldeb y 22 cyngor yng Nghymru—ac eto mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod sicrhau arian wedi'i glustnodi ar gyfer ein ffyrdd neu i sicrhau ein bod yn symud oddi wrth gyllidebu o flwyddyn i flwyddyn i gynlluniau buddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n fwy strategol. Yr agwedd gibddall hon sydd wedi ein harwain i lle'r ydym heddiw, lle y gadewir i ffyrdd ddirywio bron hyd nes na ellir eu defnyddio, yna eu hatgyweirio'n frysiog a ffwrdd â hi a'u gadael i ddirywio ymhellach cyn gosod wyneb newydd arnynt yn y pen draw.

Mae angen inni symud oddi wrth yr ymagwedd adweithiol hon a mabwysiadu ymagwedd fwy strategol tuag at ein seilwaith cenedlaethol. Mae gwir angen rhaglen wedi'i chynllunio a'i hariannu'n briodol ar gyfer atgyweirio a gosod wyneb newydd ar ffyrdd. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd y gall technoleg helpu i fynd i'r afael â phroblem tyllau yn y ffyrdd. Mae peiriannau newydd a datblygiadau newydd ym maes cyfryngau bondio yn golygu y gall gwaith atgyweirio bara mwy na wyneb gwreiddiol y ffordd. Mae datblygiadau newydd ym maes gwyddor deunyddiau wyneb ffyrdd wedi arwain at greu ffyrdd sy'n gwella'u hunain, sy'n cael eu hadeiladu yn yr Iseldiroedd a Tsieina.

Mae angen inni sicrhau bod ein ffyrdd, asgwrn cefn ein heconomi, yn addas ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn sicr o arwain at arbedion ariannol yn y dyfodol yn ogystal â lleihau nifer y damweiniau, y marwolaethau a'r anafiadau difrifol sy'n digwydd ar ffyrdd Cymru. Gyda'r pwyntiau hyn mewn cof, rwy'n annog y Gweinidog i ailystyried ei wrthwynebiad i argymhellion 3 a 4. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf allu ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd y pwyllgor am ddarparu'r elfennau gweledol ategol i'r ddadl heddiw. Nid oeddwn wedi sylweddoli bod y gystadleuaeth ffotograffig wedi denu unrhyw wawd; rwy'n credu o ddifrif ei bod hi'n ffordd wirioneddol arloesol o ddenu diddordeb ymhlith y bobl a wasanaethir gennym yn y gwaith a wnawn, a hoffwn longyfarch y pwyllgor am benderfynu cynnal y gystadleuaeth honno.

Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn, drwy gydol fy amser yn y swydd, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i system drafnidiaeth integredig, garbon isel ac amlfodd safonol a all gefnogi ein cymunedau, ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ar hyd a lled Cymru. Gwn mai canfyddiad y cyhoedd o bosibl yw fod Llywodraeth Cymru yn llawn o beirianwyr ffyrdd sydd ond eisiau adeiladu ffyrdd newydd—clywais y jôc lawer gwaith o'r blaen—ond nid yw'n wir. Edrychwch ar yr hyn a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Cynigion ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer metros yn y gogledd ac yn y de, cynnydd mawr yn y buddsoddiad ar gyfer teithio llesol, ac mae Papur Gwyn newydd pwysig ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n argymell newidiadau uchelgeisiol i'n sectorau bysiau a thacsis yn profi'r pwynt hwnnw yn fy marn i.

Ond sut bynnag y bydd pethau yn y dyfodol, mae cael rhwydwaith ffyrdd dibynadwy sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n gallu gwasanaethu'r cymunedau a'r economïau rhanbarthol y soniais amdanynt yn rhan hanfodol o'r hafaliad. Ar dros 1,700 km o hyd, mae'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr, ac yn werth tua £16 biliwn. Drwy wella cysylltedd a hybu gweithgarwch economaidd, mae'n cefnogi cyflawniad llawer o'r amcanion yn 'Ffyniant i Bawb' a'r 'Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru'. O'i roi'n syml, rydym yn gyfrifol am dri maes: rydym yn gyfrifol am adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol; rydym yn gyfrifol am adnewyddu ffyrdd, pontydd a strwythurau eraill; ac rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd o ddydd i ddydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, gan gynnwys, wrth gwrs—yn hollbwysig—gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf.

Mae angen gwaith yn barhaus ar draws y rhwydwaith i sicrhau ei ddiogelwch, a chaiff gwaith ei reoli ar hyn o bryd gan ddau asiant sector cyhoeddus: Asiant Cefnffyrdd De Cymru, a reolir gan gyngor Castell-nedd Port Talbot; ac yng ngogledd a chanolbarth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, a reolir gan Gyngor Sir Gwynedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gaeafau caled yn ddiweddar wedi bod yn garedig i'r rhwydwaith mewn unrhyw fodd, gan achosi tarfu sylweddol, ac rydym wedi profi dirywiad cyflym yng nghyflwr wyneb ffyrdd, oherwydd y cylch rhewi-dadmer ar draws Cymru a nodwyd gan lawer o'r Aelodau heddiw. Ond hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym yn parhau i weithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio'r rhwydwaith, gan ganiatáu 10 biliwn o gilometrau o ddefnydd y flwyddyn gan gerbydau drwy gydol pob tymor. Mae natur y gwaith yn hynod o gostus, ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, buddsoddwyd dros £146 miliwn mewn gwaith cynnal a chadw a mân welliannau yn unig. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd gyrru ym mhob un o'n cynlluniau trafnidiaeth. O ran argymhelliad 4, rydym yn cydnabod, ac yn cydymdeimlo â galwadau gan ein partneriaid sector cyhoeddus a busnesau i gyllidebu dros gyfnod hwy o amser lle y bo'n bosibl, er mwyn cefnogi blaengynllunio ariannol, ond rhaid cydbwyso ein huchelgais i gyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol.

Mae ein cyllideb gyfalaf 10 y cant yn is mewn termau real nag ar ddechrau'r degawd hwn, ac mae tyllau yn y ffyrdd yn ein hatgoffa'n glir, yn weladwy ac yn ddyddiol am raglen gyni Llywodraeth y DU. Mae'r ansicrwydd ariannol sy'n parhau a'r amhendantrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau am fargen yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi cynlluniau cyfalaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, 2019-20 a 2020-21—y cyfnod y mae gennym setliad hysbys ar ei gyfer. Dyrannwyd gwerth £32.5 miliwn ychwanegol o grantiau penodol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i awdurdodau lleol ar gyfer gwella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a byddwn yn darparu £60 miliwn pellach yn benodol ar gyfer adnewyddu priffyrdd dros y tair blynedd rhwng 2018-19 a 2021-22. Yn briodol yn fy marn i, mae penderfyniadau ynglŷn â ffyrdd lleol a blaenoriaethu gwaith atgyweirio a gwelliannau yn faterion y dylid eu penderfynu'n lleol.

Bydd cyfalaf cyffredinol o £100 miliwn ychwanegol a ddarparir rhwng 2018-19 a 2021-22 fel rhan o'r pecyn ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cyfrannu'n enfawr tuag at gynorthwyo cynghorau lleol i wella cyflwr eu rhwydwaith ffyrdd, ac yn eu galluogi i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth eraill lleol, a werthfawrogir yn llawer mwy eang na chan ddefnyddwyr ffyrdd yn unig wrth gwrs.

Rydym yn datblygu prosiectau mawr i wella'r rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru, yn enwedig mewn mannau cyfyng lle y mae tagfeydd yn gallu bod yn broblem fawr. Drwy wneud ein rhwydwaith yn fwy effeithlon, rydym yn gwella cynhyrchiant, a hefyd yn gwella mynediad at swyddi, gwasanaethau a hamdden. Gall gwella mannau cyfyng chwarae rôl bwysig hefyd wrth leihau allyriadau yn gyffredinol, yn ogystal â darparu manteision sylweddol o ran ansawdd aer, sŵn a theithio llesol i gymunedau lleol.

Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi rhaglen dreigl bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth rydym yn eu cyflwyno ar draws Cymru, a diweddarwyd y cynllun ym mis Rhagfyr 2017 gyda bwriad i'w adolygu'n flynyddol er mwyn adlewyrchu datblygiadau dros amser a'r proffil anghenion newidiol ledled Cymru. Mae strategaeth drafnidiaeth gyfredol Cymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008, yn cael ei hadolygu hefyd. Bydd y strategaeth honno, a gyhoeddir eleni, yn darparu cyfle i fabwysiadu dulliau newydd o weithredu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod cyfnodau allweddol ei datblygiad. Mae swyddogion eisoes yn ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyfeiriad y strategaeth hon, a buom yn gweithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar lansio'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru hefyd.

I ategu ein cyllideb gyfalaf, rydym hefyd wedi datblygu amrywiaeth o gynlluniau ariannu arloesol, gan gynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol, i ariannu prosiectau cyfalaf mawr. Bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus ar draws ein gwlad. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau pwysig i hyrwyddo lles y cyhoedd. Mae'r model yn ymestyn dull y Llywodraeth o weithredu manteision cymunedol, sydd wedi bod yn nodwedd allweddol o'r cynlluniau eraill a gyflawnwyd hyd yma. Mae hefyd yn ymgorffori ein hymrwymiadau i gyflogaeth foesegol a datblygu cynaliadwy, a bydd yn cyfrannu at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi dweud yn glir na ddefnyddir y model buddsoddi cydfuddiannol os oes mathau eraill o gyfalaf ar gael. Gwn fod swyddogion eisoes wedi briffio'r pwyllgor ar y model, ond darperir cyfarwyddyd pellach yn ystod y broses o gaffael y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol cyntaf, sef cwblhau'r gwaith deuoli ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.

Mae swyddogion yn parhau i gysylltu â gweithredwyr amrywiol ledled y DU er mwyn rhannu arferion gorau, gan gynnwys Transport Scotland, Highways England a chontractwyr lleol. Mae hyn wedi arwain at fanyleb newydd ar gyfer gosod wyneb ar ffyrdd sy'n addas ar gyfer ateb her gwytnwch, cynaliadwyedd ac effeithiau amgylcheddol newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn gwbl ymwybodol fod apiau ffonau symudol yn tyfu'n norm, ac y gallent fod yn anhygoel o ddefnyddiol i gynorthwyo gyda chynllunio gwaith cynnal a chadw. Mae'n gydnabyddedig ar draws y diwydiant nad yw arolygon cyfredol yn arfer dull amser real effeithlon, a byddai'r system gwybodaeth ddaearyddol yn gallu amlygu problemau gyda chyflwr ffyrdd a llywio penderfyniadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gynllunir ar sail dreigl.

Felly, i gloi, Gweinidogion Cymru sy'n uniongyrchol gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru ac mae ganddynt ddyletswydd statudol i gynnal ei ddiogelwch a'i weithrediad. Byddwn yn parhau ein buddsoddiad parhaus yn y gwaith o gynnal a chadw a gwella'r ased allweddol hwn.

16:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Credaf fod yr holl Aelodau, neu nifer o'r Aelodau o leiaf—yn enwedig Vikki Howells a David Rowlands—wedi canolbwyntio eu cyfraniadau ar yr argymhellion na chafodd eu derbyn gan y Llywodraeth. Diolchodd Oscar Asghar i'r cyn-aelod Mark Isherwood am ei waith ar yr ymchwiliad. Rwy'n ategu hynny'n llwyr hefyd, ond er tegwch, hoffwn ddiolch i gyn-aelodau eraill hefyd, gan gynnwys Lee Waters, am eu cyfraniad i'n hymchwiliad ac i'n gwaith yn ogystal. Wrth gwrs, Lee Waters bellach yw Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a gwn y bydd yn gweithio'n galed i geisio perswadio'r Gweinidog y dylai ein hargymhellion—ei argymhellion ef yn wir—na chafodd eu derbyn fod wedi cael eu derbyn. A dylwn sôn am Adam Price yn ogystal gan ei fod yntau hefyd yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr amser hwn, a soniodd lawer am yr ap y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn rhan olaf ei gyfraniad, yn ogystal ag un o'n hargymhellion.

Cafwyd ychydig o wawdio ar ein cystadleuaeth ffotograffig, fel y crybwyllodd Rhun, ond i raddau helaeth roedd yr ymateb yn ganmoliaethus. Ac roedd peth o'r gwawd yn ddefnyddiol yn wir. Anfonodd rhai o fy etholwyr luniau ataf heb eu cyflwyno'n ffurfiol. Mae gennyf un llun o rywun yn pysgota mewn twll yn y ffordd, yn eistedd yno ar eu cadair gyda'u gwialen bysgota'n diflannu i'r twll o'u blaen. Ond wrth gwrs, fe wnaeth ein cystadleuaeth greu trafodaeth ac roedd hynny'n arbennig o ddefnyddiol yn fy marn i. A hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyflwyno ffotograffau ac a rannodd eu lluniau gyda ni yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i staff cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a ofynnodd inni rannu manylion am y tyllau gwaethaf a ddaeth i law rhag ofn nad oeddent yn ymwybodol ohonynt.

Roedd atgyweirio cyn adeiladu yn fater y soniodd nifer o'r Aelodau yn ei gylch yn ystod eu cyfraniadau, a chredaf fod hon yn neges bwysig i gymunedau ac i wleidyddion, y dylai adeiladu rhagor o ffyrdd fod yn ddewis olaf yn hytrach na dewis cyntaf.

Cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ymateb at argymhelliad 4 mewn perthynas â chyllidebu a chyllidebu mwy hirdymor ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau cefnffyrdd. Rwy'n clywed eich sylwadau. Gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo â'r hyn a awgrymwn, er na dderbyniwyd yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n deall y pwyntiau y mae'n ei wneud. Ond rwy'n credu, a hoffwn ailadrodd unwaith eto, fod cynllunio mwy hirdymor a chyllidebu mwy hirdymor yn caniatáu penderfyniadau ac arbedion gwell yn hirdymor. Ond unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd eich Dirprwy Weinidog yn eich perswadio ynglŷn â'r ddadl honno wrth i amser fynd yn ei flaen.

16:55

Hoffwn ddiolch hefyd i'r criw ffordd cyfeillgar sy'n gweithio i gyngor Caerdydd ac a ddangosodd beth o'r offer anhygoel sy'n cael ei ddefnyddio i osod wyneb ar ffordd ystâd o dai ger Castell Coch. Ymwelais â'r fan fy hun ac roedd hi'n wych gweld yr offer hwnnw ar waith. Ar un pwynt, pe na bawn wedi symud yn gyflym, buaswn yn rhan o'r ffordd newydd honno bellach, ond diolch i'r staff yno a'n cefnogodd hefyd. A hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor, tîm clercio'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, am eu holl waith yn ogystal.

Rwy'n gobeithio bod y ddadl wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadw ein ffyrdd mewn cyflwr da, nid yn unig ar gyfer ceir, ond ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer cludo nwyddau ac ar gyfer annog beicio yn ogystal. Ac wrth gwrs, mae'r pwyntiau a wnaeth Huw Irranca-Davies yn gwbl werthfawr hefyd o ran gwaith arall a wnaethom, fel y crybwyllais.

Edrychaf ymlaen at weld sut y mae'r Gweinidog a'i ddirprwy yn bwrw ymlaen â'r agenda hon i ddarparu gwell ffyrdd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, ac rydw i'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6909 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.

2. Yn gresynu:

a) bod mwy na 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a

b) bod prisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog oherwydd prinder cartrefi.

3. Yn nodi papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydnabod yr angen i adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a

b) rhoi mwy o hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ac a gaf fi ddechrau gyda gorchwyl hapus iawn a chroesawu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, i'w swydd? O ddifrif, mae'n fater y gallwn ei ddathlu, yn fy marn i, fod gennym swydd Gweinidog Cabinet unwaith eto wedi'i dynodi'n arbennig ar gyfer tai—ac er ei bod hi'n gyfrifol am adran arall hefyd, mae'n un sy'n cysylltu'n agos â'r maes tai mewn llywodraeth leol. Rwy'n ddiolchgar fod y Prif Weinidog wedi cyflawni addewid a wnaeth, rwy'n credu, yn ystod ei ymgyrch i gael ei ethol yn arweinydd Llafur i ddynodi swydd Gweinidog Cabinet ar gyfer tai. Mae'n gam mawr ymlaen.

Rwy'n mynd i agor y ddadl hon gyda dyfyniad gan gyn-brif weithredwr y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, ac rwy'n dyfynnu:

Heb weithredu effeithiol yn awr, mae'r holl arwyddion yn dynodi bod Cymru'n anelu am argyfwng tai sydd cyn waethed, neu o bosibl yn waeth, nag yng ngweddill y DU... Oni roddir camau ar waith ar frys, rydym yn pwysleisio wrth Gynulliad Cymru y bydd argyfwng tai'r wlad yn arwain at ganlyniadau difrifol i dwf yn y dyfodol a ffyniant y wlad yn gyffredinol.

Lywydd, siaradwyd y geiriau hynny yn 2004 mewn gwirionedd—15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi cael 15 mlynedd o leiaf o rybudd, a hyd yn oed mwy na hynny o bosibl yn ôl arbenigwyr eraill, ond dyma ni yn ceisio ymrafael â marchnad dai doredig, sydd bellach yn un o'r rhwystrau mwyaf i les cymdeithasol, ac sy'n niweidio gweithwyr cyffredin yn fwy na neb.

Ddoe ddiwethaf, rhyddhaodd Shelter adroddiad a oedd yn agor gyda gwirionedd plaen am fethiannau polisi yn y DU o ran tai a pherchentyaeth. Rwy'n annog pobl i ddarllen y crynodeb gweithredol o leiaf. Credaf ei bod hi'n ddogfen bwysig dros ben. Os caf ddyfynnu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud:

rydym yn byw mewn gwlad sy'n teimlo effeithiau 40 mlynedd o fethiant o ran polisi tai.

Yn fy marn i, mae'n bwysig inni fod yn onest yma a pheidio ag osgoi goblygiadau hynny i bob plaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth.

Mae'r gostyngiad yn nifer y teuluoedd ifanc sy'n symud tuag at berchnogaeth—mae'r adroddiad yn nodi bod y cynnydd yn nifer y pensiynwyr sy'n byw mewn eiddo rhent preifat ansicr, na allant ei fforddio, a'r digartrefedd sy'n bla ar ein cymdeithas yn ein hatgoffa bob dydd o fethiant y polisi.

Aiff yr adroddiad rhagddo i ragweld y bydd cenhedlaeth o deuluoedd ifanc yn gaeth i rentu preifat drwy gydol eu bywydau oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn o ddifrif. Erbyn 2040, mae'r adroddiad yn cyfrifo y gallai cynifer ag un rhan o dair o bobl 60 oed fod yn rhentu'n breifat, gan wynebu cynnydd na allant ei fforddio yn y rhent neu gael eu troi allan ar unrhyw adeg.

Mae'r angen am strategaeth gyfannol a chydlynol i fynd i'r afael â'r mater hwn yn gliriach nag erioed, ac ni fu erioed fwy o angen consensws trawsbleidiol. Mae pawb ohonom mewn bywyd cyhoeddus wedi bod yn rhan o'r broblem. Nawr, rhaid inni ddod at ein gilydd ac adeiladu polisi i ddatrys yr argyfwng. Lywydd, ymwneud â hyn y mae'r ddadl heddiw. Heddiw, rwy'n pwyso ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig, sy'n cofnodi bod y Cynulliad hwn yn cydnabod nad ydym wedi gwneud digon a bod angen inni wneud llawer mwy.

Eisoes, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cydnabod maint y dasg sydd o'n blaenau, a dyna sydd angen i ni ei wneud yn awr yma yn y Cynulliad. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu targed o 300,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, targed y maent yn gobeithio ei gyrraedd yn y 2020au. Yn wir, mae'n un o'r rhesymau pam y cyhoeddodd Shelter yr adroddiad, ac mae'n rhoi sylwadau go helaeth ar y targed hwnnw.

I'r rhai ar y rheng flaen, mae'r argyfwng yn golygu anhawster i dalu eich morgais neu fethu talu eich rhent. Mae eraill yn poeni ynglŷn â ble y byddant yn treulio'r nos o'u blaenau, a rhai'n gorfod byw ar y strydoedd, fel y gwyddom, a chysgu ar y stryd. Ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae tai yn angen sylfaenol ac mae'r hawl i gartref gweddus yr un mor bwysig â'r hawl i ofal iechyd. Mae un peth yn sicr, mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi. Llawer mwy o gartrefi—o leiaf 100,000 o gartrefi newydd yng Nghymru yn y 2020au yn ein barn ni.

I gyflawni hyn, mae'n amlwg fod angen inni gael consensws gwleidyddol newydd, oherwydd os yw'r Llywodraeth yn newid neu os ceir clymblaid, beth bynnag sy'n digwydd o ran y rhai sy'n gyfrifol am lunio polisi, rhaid sicrhau'r cysondeb sy'n deillio o gonsensws gwleidyddol dwfn. Dyna a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd mewn cyfnod o 25 mlynedd pan ymrwymodd pleidiau gwleidyddol a'r mân bleidiau eraill a oedd yn rhan o'r broses o graffu ar y gwaith hwnnw i dargedau uchelgeisiol ar gyfer tai a llwyddo i gyflawni pethau rhyfeddol, rwy'n credu, ar ran pobl Cymru a'r DU gyfan.

Mae'r galw am dai yn fwy na'r cyflenwad yng Nghymru, fel y mae ledled y DU. Mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer. Cododd y galw ychwanegol am dai yn bennaf o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un person, sy'n adlewyrchu ffordd o fyw mwy modern, a ffactorau eraill hefyd, megis y cynnydd yn y boblogaeth.

Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei strategaeth dai ei hun, 'Cartrefu Cenedl'. Gwn fod rhai ohonoch wedi gofyn amdani, ac rwyf wedi bod yn hapus i'w dosbarthu, ac mae rhai ohonoch wedi gwneud sylwadau adeiladol iawn. Yn amlwg, bydd pethau ynddi na fyddwch yn eu rhannu'n gyfan gwbl, o ran y pwyslais y byddem yn ei osod ar y materion hynny, ond rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bwysig inni nodi ein gweledigaeth a'n bod yn agor y drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi dangos diddordeb yn hynny. Mae ein syniadau presennol, felly, yn mapio llwybr fel y gallwn ddechrau datrys yr heriau sydd o'n blaenau, ond yn amlwg, mater i eraill, bellach, yw dod ynghyd ac i bawb ohonom ffurfio'r safbwynt cydsyniol hwnnw.

Rydym yn trafod fforddiadwyedd a pherchentyaeth, tir a chyflenwad tir, a datblygiadau o ran adeiladu ac arloesedd. Rydym yn rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad tai. Rydym yn argymell mwy o gydweithredu rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, ac yn cyflwyno syniadau i annog mwy o ymgysylltiad cymunedol. Rydym yn codi mater cyflogaeth yn y sector adeiladu, a gwella sgiliau gweithwyr profiadol sydd mewn perygl o syrthio ar ôl gydag esblygiad safonau tai, yn enwedig gyda thechnegau adeiladu mwy modern. Dyma faes nad yw'n cael ei drafod yn aml mewn unrhyw ddadl ynglŷn â thai mewn gwirionedd, ond mae'n gwbl hanfodol, ac rwy'n falch fod adroddiad Shelter yn rhoi sylw iddo, gan fod cyfle gwych yma i ni. Fel y mae Shelter yn ei bwysleisio, mae pwysigrwydd adeiladu preswyl i'r economi ddomestig yn helaeth, gydag un o'r lluosyddion uchaf a gyfrifwyd, sef 184 y cant. Felly, mae'n weithgaredd da iawn ar gyfer yr economi yn ogystal â'r angen cymdeithasol enfawr y mae'n ei ddiwallu.

Rydym hefyd yn sôn am adeiladu cartrefi cynaliadwy—nid yn unig o ran eu deunyddiau ond cynaliadwy o ran eu hyblygrwydd yn y dyfodol fel eu bod yn addas am eu hoes gyfan, nid ar gyfer heddiw'n unig.

Fel y dywedais, nid ein syniadau yw'r gair olaf ar bopeth. Rydym wedi eu cyflwyno, mewn gwirionedd, fel Papur Gwyn, i gael mwy o ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gwleidyddion, i ni allu dysgu beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio.

Lywydd, rwy'n credu bod angen imi sôn yn fyr am rai o'r costau a allai fod ynghlwm wrth hyn. Unwaith eto, rwy'n argymell y dylai pobl edrych ar adroddiad Shelter. Mae'n ymdrin â Lloegr yn unig, ond nid yw'n anodd ei drosi a gwneud cyfrifiadau. Bydd mwyafrif y costau'n cynnwys buddsoddi a benthyca cyfalaf, yn enwedig yn rhan gynnar eu tymor.

Mae Shelter yn cyfrifo ar gyfer rhaglen 20 mlynedd, ac mae ein strategaeth dai ein hunain yn edrych ar raglen 10 mlynedd. Beth bynnag, os edrychwch ar Shelter, fe wnaethant ofyn i Capital Economics amcangyfrif y math o lefel o wariant a fyddai'n ofynnol—hyn ar gyfer Lloegr. Cyfrifwyd y byddai cyfartaledd y benthyciad ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y rhaglen honno yn £3.8 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai'n £190 miliwn. Mae'n swm sylweddol o arian, ond yn y ddadl flaenorol clywsom am seilwaith trafnidiaeth a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Cyfrifir y bydd uchafswm y benthyciad yn y rhaglen ar gyfer Lloegr yn £5.4 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai hynny'n rhywbeth fel £270 miliwn.

Mae hyn yn rhan o'r consensws newydd sydd ei angen arnom—fod angen inni fenthyca. Credaf fod gan bawb ohonom safbwyntiau amrywiol ynglŷn â sut i reoli cyni, ond mae benthyca ar gyfer seilwaith sy'n talu nôl—nid yw tai'n rhedeg i ffwrdd ac mae pobl yn talu rhent—yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno yn awr. Byddai Llywodraeth Cymru yn cael ein cefnogaeth i hyrwyddo'r dadleuon hyn yn ogystal, oherwydd mae benthyca ar gyfer buddsoddiad sy'n amlwg yn angenrheidiol yn beth deallus i'w wneud.

Felly, Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n gynnig diffuant, a gwn fod angen inni ailadrodd y llwyddiant a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, gadewch inni roi diwedd ar wleidydda pitw, a gadewch inni weithio gyda'n gilydd i oresgyn yr heriau mawr sy'n wynebu Cymru ym maes tai. Diolch yn fawr.  

17:10

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1 caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.  

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.

b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.

2. Yn croesawu:

a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.

b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.

3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.

4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf nawr ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne Wood. 

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 1, ar ôl 'sy'n cael eu hadeiladu', mewnosoder 'yn y sector tai cymdeithasol'.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:

bod cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth cartrefi.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru;

b) gweithredu argymhellion adroddaid Crisis, 'Everybody In: How to end homelessness in Great Britain';

c) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau cynaliadwy; a

d) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau.

Mae hon yn ddadl bwysig iawn wrth gwrs, ac rwy'n cytuno bod angen inni ddod o hyd i gonsensws ar y cwestiwn hwn os yw'n bosibl, ond mae angen inni fod yn glir hefyd ynglŷn â beth yn union yw'r problemau rydym yn ceisio'u datrys, a dyna mae ein gwelliannau'n ceisio ei wneud. A byddwn yn cyfrannu ymhellach at y ddadl hon drwy gyhoeddi ymgynghoriad Plaid Cymru ar dai maes o law.

Felly, i fod yn glir ynglŷn â gwir natur y prinder tai, gadewch i ni gymryd un amcanestyniad o'r galw am dai yn y dyfodol i ddangos y pwynt yr hoffwn ei wneud. Mae adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar angen a galw am dai yn y dyfodol yn amcangyfrif y bydd angen 8,700 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2011 a 2031. O'r rhain, byddai 63 y cant yn y sector marchnad—sef 5,500 y flwyddyn—a 37 y cant yn y sector cymdeithasol—sef 3,300 flwyddyn. Ond os bydd y twf yn y boblogaeth yn fwy, mae'r adroddiad yn amcangyfrif y byddwn angen 12,000 o unedau y flwyddyn, a byddai angen i 35 y cant ohonynt fod yn y sector tai cymdeithasol—sef 4,200 y flwyddyn.

Nawr, gadewch i ni edrych ar adeiladu tai dros yr 20 mlynedd diwethaf a sut y mae'n berthnasol i'r ffigurau rwyf newydd eu rhoi. Rhwng 1997 a 2007, cafodd cyfartaledd o 7,591 o unedau eu cwblhau yn sector marchnad bob blwyddyn. Rhwng 2007 a 2017, gostyngodd y ffigur hwnnw i gyfartaledd o 5,573 o unedau. Yn y ddau ddegawd, bydd lefel y perfformiad yn ddigon i ateb prif ragfynegiadau o angen y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ond os yw'r perfformiad yn parhau'n debyg i'r degawd diwethaf, byddai'n achosi problemau o ran y cyflenwad os yw'r amcangyfrifon uwch ar gyfer y boblogaeth yn gywir.

Gallwn weld o'r ffigurau hyn fod y cyflenwad tai o'r sector marchnad yn ddigonol felly. Ond os edrychwn ar y perfformiad mewn tai cymdeithasol, gwelwn ddarlun gwahanol iawn. Rhwng 1997 a 2007, 825 yn unig o unedau newydd o dai cymdeithasol a adeiladwyd bob blwyddyn, ac nid yw ond wedi codi i 850 bob blwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf. Ond mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn amcangyfrif bod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau ychwanegol o dai cymdeithasol arnom bob blwyddyn, ac eto 850 yn unig o gartrefi, pan fo angen dros 4,000 arnom. Mae'r bwlch hwnnw'n gwbl syfrdanol.

Felly, rhaid inni fod yn glir mai ym maes tai cymdeithasol y mae'r prinder mwyaf yn y cyflenwad. Yn rhy aml, defnyddir y farn fod arnom angen rhagor o dai fel arf lobïo ar gyfer glastwreiddio deddfau cynllunio a rheoliadau adeiladu, ac ar gyfer gwthio cynlluniau datblygu lleol drwodd yn erbyn gwrthwynebiad lleol, cynlluniau nad ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i sut i greu cymunedau cynaliadwy. Ni fydd unrhyw un o'r atebion hynny'n datrys ein problemau tai mewn gwirionedd. Nid ydynt yn dweud dim am ddigartrefedd, a bod datrys digartrefedd yn golygu ffocws diwyro ar gynyddu tai cymdeithasol. Felly, rhaid inni ymwrthod â'r buddiannau breintiedig hynny drwy wneud yn siŵr fod y cynnig ger ein bron yn gliriach ar y pwynt hwn, ac yn nodi'n amlwg fod yn rhaid i'r cyflenwad tai ymwneud â chreu cymunedau, nid unedau mewn jyngl goncrit heb eu cynnal gan wasanaethau cyhoeddus.

Rhaid inni hefyd gydnabod mai'r rhwystr pennaf i berchentyaeth yw cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel sy'n atal llawer o bobl ifanc rhag cynilo ar gyfer blaendal. Ni fydd rhagor o gartrefi chwe ystafell wely yn y maestrefi yn gwneud dim i helpu'r bobl hynny i gael troed ar yr ysgol dai.

Cyflwynwyd y ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr yn sgil cyhoeddi eu papur polisi ar dai, papur nad yw'n cydnabod y ffactorau sylfaenol sy'n achosi'r argyfwng rydym yn ei wynebu: hynny yw, penderfyniadau Llywodraethau olynol i danfuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i roi'r cyfrifoldeb am ddarparu lloches—hawl ddynol sylfaenol—yn nwylo cwmnïau preifat sy'n ceisio gwneud elw. Mae'r blaid Dorïaidd yn gyfrifol am ddinistrio ein stoc dai, gan gyflwyno'r dreth ystafell wely a gweithredu newidiadau i'r system les sydd wedi peri i filoedd o bobl fod yn ddigartref, felly maddeuwch imi os wyf yn amheus eu bod yn sydyn wedi dod o hyd i'w cydwybod ar y mater hwn. Wrth egluro'r problemau yn y cyflenwad tai, gobeithio y gallwn ddechrau dod o hyd i atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yma yng Nghymru yn hytrach nag i elw datblygwyr tai. Mae angen rhaglen ar gyfer adeiladu nifer fawr o dai cymdeithasol er mwyn datrys yr argyfwng hwn ac mae ei hangen ar frys.

17:15

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ac o gefnogi'r cynnig hwn—cynnig a wnaed yn huawdl iawn, fel arfer, gan David Melding ar ddechrau'r ddadl hon, ac fe wnaeth bwyntiau pwysig iawn.

Credaf ein bod i gyd yn gwybod fod gennym broblem mewn perthynas â thai yng Nghymru. Gadewch inni wynebu'r ffaith, fel y mae Leanne Wood newydd ei ddweud, mae'r broblem honno wedi bod gyda ni ers cryn dipyn o amser, felly nid ydym yn mynd i weld unrhyw atebion cyflym o ran darparu cartrefi. Yn syml iawn, pa ffordd bynnag yr edrychwch ar y mater, nid oes gennym ddigon o gartrefi i ateb y galw. Neu, i fod yn fwy cywir mae'n debyg, nid oes gennym ddigon o'r math cywir o dai i ateb y galw ar adegau priodol ym mywydau pobl, gan fod y galwadau hynny'n newid drwy gydol bywydau pobl. Fan lleiaf, nid oes gennym ddigon o gartrefi y gellir eu haddasu. Y llynedd, roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i agor datblygiad tai newydd bach yn y pentref lle rwy'n byw, sef Rhaglan, datblygiad gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy o oddeutu pump neu chwech o dai—cartrefi poblogaidd iawn. Fe'm trawyd gan ansawdd y gwaith adeiladu, a hefyd gan ba mor addasadwy oedd y cartrefi fel bod pobl, boed yn eu 20au cynnar, yn sengl, yn cael plant neu'n hŷn, yn eu 60au, eu 70au neu eu 80au, yn gallu aros yn y cartrefi hynny drwy gydol eu bywydau ac na fyddent yn symud os nad oeddent eisiau gwneud hynny. Roeddwn yn credu bod hwnnw'n gysyniad gwych ac yn un y mae angen ei ddatblygu.

Wrth gwrs, mae cymdeithasau tai yn gwneud eu gorau i ateb y galw, yn sgil y gost, yn anad dim, o brynu eich cartref eich hun y dyddiau hyn. Fel y dywedodd David Melding, mae prisiau tai bellach o gwmpas chwe gwaith y cyflog cyfartalog—mwy mewn rhai achosion—o ganlyniad i'r prinder a wynebwn. Felly, mae angen inni adeiladu rhagor, ond nid rhagor yn unig. Mae angen inni roi sylw i'r ffaith hefyd—gadewch inni beidio ag anghofio—fod 27,000 amcangyfrifedig o gartrefi gwag yng Nghymru wrth imi sefyll yma'n siarad am yr ystadegau hyn. Gadewch inni wneud yr hyn a allwn i ddefnyddio'r rheini unwaith eto, oherwydd rhaid bod honno'n ffordd effeithlon o symud ymlaen. Os gallwn fodloni'r cyhoedd fod y capasiti dros ben—cymaint o gapasiti dros ben ag sy'n bodoli—yn cael ei ddefnyddio, yna bydd llai o wrthwynebiadau i ddatblygiadau. A gadewch i ni wynebu'r ffaith bod yna rai datblygiadau, oes, rwy'n siŵr, yn ein hetholaethau, sy'n fwy dadleuol nag eraill. Bydd y datblygiadau hynny'n fwy derbyniol os yw pobl yn teimlo bod y stoc dai dros ben yn cael ei defnyddio. Nid yw hyn yn golygu, er hynny, y dylid troi cefn ar gynllunio. Ac nid wyf yn credu y dylem fod yn adeiladu ar unrhyw gost—dim o gwbl. Mae angen proses gynllunio sy'n llyfn a chadarn ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd ac yn cyflawni mewn ffordd sy'n dderbyniol i awdurdodau lleol ond hefyd yn dderbyniol i'r cyhoedd. Gadewch i ni ymdrechu i gael y broses gynllunio orau, y broses gynllunio fwyaf llyfn y gallwn ei chael yma yng Nghymru.

Roeddwn yn meddwl bod Leanne Wood wedi gwneud pwynt ardderchog, pan ddywedasoch, Leanne, fod angen inni adeiladu cymunedau cynaliadwy, nid tai cynaliadwy yn unig. Credaf ein bod yn rhy aml yn sôn am y pethau hynny fel pe baent yn annibynnol ar ei gilydd. Rydym yn cael dadleuon am gymunedau yn y Siambr hon, a heddiw rydym yn cael dadl ar dai, ac weithiau mae'n ymddangos fel pe baem yn gweithredu fel pe baent yn gwbl annibynnol ar ei gilydd ac ni ddylent fod. Yn y pen draw, dylai datblygiadau tai a adeiladir gael eu gwasanaethu'n dda. Dylai fod cynaliadwyedd yn ganolog iddynt. Dylent gydymffurfio â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Dyna ddeddfwriaeth arall y soniwn amdani'n aml yn y Siambr hon, ond awn ati wedyn i siarad am bynciau eraill heb sylweddoli y dylai'r ddeddfwriaeth honno fod yn ganolog i adeiladu. Felly, os ydym yn mynd i adeiladu datblygiad mewn pentref neu ardal yng nghefn gwlad, wrth gwrs y bydd yn ddadleuol os nad yw'n cael ei gynnal yn dda gan drafnidiaeth gynaliadwy, os ydym yn caniatáu i'r tai hynny gael eu hadeiladu a disgwyl i bobl ddibynnu ar y car, dau neu dri mewn teulu weithiau, neu i ddibynnu ar dacsis neu i ddibynnu ar beth bynnag y mae'n ei olygu. Nid wyf yn dweud bod yn rhaid cael cyswllt rheilffordd i bob pentref, ond rhaid cydnabod bod cartrefi newydd angen seilwaith cynaliadwy, gwasanaethau lleol cynaliadwy, ysgolion cynaliadwy. Pa mor aml y caiff datblygiadau eu hadeiladu heb ystyriaeth briodol i ysgolion lleol a gwasanaethau o'r fath?

Felly, mae llawer i'w wneud, ond wrth wraidd hyn, rwy'n credu bod rhaid dweud: oes, mae angen mwy o dai, ond mae angen mwy o dai o safon hefyd. Ac fe orffennaf, Lywydd, drwy sôn am Electrical Safety First, elusen y cyfarfûm â hi yn ddiweddar dros gyfnod y Nadolig. Roeddent yn pwysleisio'r angen i wneud yn siŵr fod tai modern yn cael eu hadeiladu i safon uchel sy'n osgoi lefelau uchel o danau trydan, a rhoddasant un ystadegyn i mi, ac rwyf am orffen gyda hyn, sef bod pobl dros 80 oed bedair gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân trydan na neb arall. Ar hyn o bryd nid oes gennym archwiliadau diogelwch trydanol gorfodol yn ein stoc dai yng Nghymru. Efallai y dylem eu cael. Ceir digonedd o feysydd lle y gallem symud pethau yn eu blaenau mewn gwirionedd, yn enwedig, fel y dywedais, gyda'r broses gynllunio.

17:20

Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon a chroesawu hefyd y Papur Gwyn 'Cartrefu Cenedl' gan y Ceidwadwyr? Nid wyf yn cytuno â'r cyfan ohono, ond credaf ei fod yn lle da i ni ddechrau siarad. Nid wyf yn credu ein bod yn trafod agos digon ar dai yn y Cynulliad, ac mae llawer gormod o siarad cyffredinol am dai yn seiliedig ar fod cynnydd mewn prisiau tai yn dda i berchnogion tai a thalwyr morgeisi yn hytrach na'i fod yn ddrwg i brynwyr tro cyntaf, pobl sy'n rhentu a phobl heb gartrefi digon da, sy'n cynnwys llawer o fy etholwyr.

Tai yw'r her fawr sy'n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod mewn perthynas â thai: yn gyntaf, y cyfnod rhwng 1945 a 1980. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd twf aruthrol yn niferoedd tai cyngor, adeiladu nifer fawr o ystadau newydd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, unwaith eto yn yr ardaloedd trefol mwy o faint yn bennaf.

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr adeiladau gwag. Clywais bob math o ffigurau, rhwng 16,000 a 27,000. Os defnyddiaf y term 'dros 20,000', i mi, mae hynny'n golygu dros 20,000 yn ormod. Mae nifer o'r rhain, gan gynnwys rhai yn fy etholaeth i, mewn lleoedd y mae pobl eisiau byw ynddynt mewn gwirionedd. Nid ydynt allan mewn mannau 'pwy fyddai am fyw yno?' math o beth. Yn aml mae pobl eisiau byw yno, ond maent wedi cael eu gadael yn wag, dyna i gyd. Rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Gwelwyd cynnydd hefyd mewn—. Deiliadaeth tai, gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person, gan fod pobl wedi tyfu'n hŷn ac mae mwy o bobl ifanc yn byw ar eu pen eu hunain, cynnydd yn nifer yr aelwydydd pensiynwyr, cynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn tai amlfeddiant, yn enwedig myfyrwyr, er nad myfyrwyr yn unig. Mae niferoedd tai cyngor wedi gostwng yn sgil gwerthu nifer fawr o dai a methiant i adeiladu rhai newydd. Cynyddodd eiddo cymdeithasau tai yn sylweddol ond nid yw'n hanner digon i wneud iawn am y gostyngiad yn nifer y tai cyngor a adeiladwyd.

Mae'r dirywiad yn y sector rhentu preifat yn y 1960au a'r 1970au wedi'i wrthdroi, gyda chynnydd enfawr yn nifer y landlordiaid preifat, yn berchnogion ar raddfa fawr a rhai sy'n defnyddio eiddo ychwanegol fel dewis arall yn lle pensiwn. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae'r galw wedi cynyddu am lety llai o faint. Ers 1980, rydym wedi gweld diwedd bron yn llwyr ar adeiladu tai cyngor, twf perchen-feddiannaeth, sydd wedi arafu, ac mae twf cymdeithasau tai yn landlordiaid mawr wedi digwydd, ond nid yw hyn yn mynd yn agos at wneud iawn am y tai cyngor a gollwyd.

Yn ystod yr holl gyfnod hwn, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer gyfartalog yr oedolion sy'n byw ym mhob eiddo, ac mae gwerthu tai cyngor wedi cael effaith ddifrifol ar y farchnad dai. Mae wedi lleihau'r cyflenwad o dai cyngor, ac mae hynny wedi cynyddu'r galw am eiddo cymdeithasau tai ac eiddo rhent preifat. Bydd unrhyw un sydd wedi bod o gwmpas ystadau cyngor yn ymgyrchu wedi nodi nifer yr arwyddion 'ar rent'—rhent preifat—ar eiddo a adeiladwyd gan gynghorau yn y gorffennol. Ac a gaf fi ddweud wrthych fod y rhenti gryn dipyn yn uwch na'r hyn y mae'r cyngor yn ei ofyn?

Roedd dau gyfnod yn ystod yr ugeinfed ganrif pan lwyddodd y cyflenwad tai i fodloni'r galw a'r angen am dai yn eithaf da. Y cyfnod cyntaf oedd rhwng y ddau ryfel byd, pan ehangodd dinasoedd yn llorweddol i ddatblygu caeau gwyrdd maestrefol, gyda chymorth mentrau llywodraeth, a gallai adeiladwyr gynnig perchentyaeth fforddiadwy i bobl ar incwm canolig i isel. Ac roedd hynny oherwydd nad oedd gennym Ddeddf cynllunio. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un eisiau cael gwared ar Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947, fel y'i diwygiwyd, felly y dewis arall, ar ôl yr ail ryfel byd, oedd tai cyngor, ac ar un adeg, dyna oedd oddeutu hanner y nifer o dai a adeiladwyd. Bydd unrhyw un sy'n astudio etholiadau—os edrychwch ar yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain yn 1974, ar y llyfr sy'n cael ei gynhyrchu ar ôl pob etholiad, fe welwch nifer yr etholaethau, yn bennaf yn yr Alban, lle'r oedd dros 50 y cant o'r tai yn dai cyngor, ond mewn rhan fawr o Gymru, gan gynnwys fy etholaeth i, roedd dros 40 y cant o'r tai yn dai cyngor.

Felly, rydym mewn sefyllfa bellach lle y mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Mae nifer y tai preifat a adeiladir bob amser wedi aros yn eithaf tebyg—mae wedi codi a disgyn ychydig, ond mae wedi bod yn weddol debyg. Oherwydd, gadewch inni fod yn onest, os oeddech yn gwmni adeiladu tai mawr, pam y byddech eisiau adeiladu gormod o dai? Os adeiladwch ormod o dai, bydd prisiau tai yn disgyn; bydd gennych eiddo gwag. Rydych eisiau cadw'r galw'n uchel. Ac nid wyf yn beio'r cwmnïau adeiladu tai am hynny; byddent yn gwneud anghymwynas â'u cyfranddalwyr. Felly, rhaid i rywbeth ddal y slac yn dynn. Yr unig beth sy'n dal y slac yn dynn yn effeithiol yw tai cyngor, felly dyna lle y mae'n rhaid inni fynd.

Rydym wedi gweld rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys fy awdurdod fy hun yn Abertawe, yn dechrau adeiladu tai cyngor, ond mae angen iddynt gael eu hadeiladu ar raddfa fawr. Hynny yw, os edrychwch—. Mae Prif Weinidog Cymru yn cynrychioli'r ystâd o dai cyngor fwyaf yng Nghymru, yn Nhrelái. Rwy'n cynrychioli un o'r ardaloedd mwyaf o ystadau tai cyngor, sy'n nifer o enwau gwahanol mewn gwirionedd, ond mae'n ymestyn o'r Clâs i Flaen-y-maes, ar draws gogledd Abertawe. Roedd y rhain yn darparu tai ar gyfer pobl. Ceir rhwystrau mawr i ddadeni mewn adeiladu tai cyngor, gan gynnwys yr un amlwg, sef arian, er nad hynny'n unig. Sut y gallwn ei oresgyn? Wel, caniatáu i gynghorau fenthyca yn erbyn gwerth eu stoc. Credaf fod—.

A gaf fi orffen gyda dau bwynt? Mae angen inni adeiladu nifer sylweddol o dai cyngor ac mae angen inni ailddechrau defnyddio mwy o eiddo gwag unwaith eto. Ailddechreuwch ddefnyddio'r 20,000 o adeiladau gwag, adeiladwch dai cyngor. A phe bai gennyf amser, buaswn wedi dweud pa mor bwysig oedd tai cydweithredol.

17:25

Mae'n bleser cael dilyn Mike Hedges, a chredaf fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaeth am dai cyngor a phwysigrwydd adeiladu ar gyfer rhentu cymdeithasol yn rhai da. Fodd bynnag, buaswn yn pwysleisio, beth bynnag yw'r union darged sydd gennym—ac yn ein cynnig, galwn am 10,000 o dai y flwyddyn, rwy'n credu; mae gan y Llywodraeth darged gwahanol a chyfrannau gwahanol efallai, ond yn y rheini i gyd, mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r tai hynny ddod o'r sector preifat, ac fel y mae Mike yn ei nodi'n briodol, mae cwmnïau adeiladu tai yno'n bennaf i wneud elw i'w cyfranddalwyr.

Nawr, un peth a welsom yn ne-ddwyrain Cymru, lle rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau, yw cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai, mewn rhai ardaloedd yn enwedig. Ar rifau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o fis Medi i fis Tachwedd, y tri mis diwethaf sydd ar gael, roedd y cynnydd o un flwyddyn i'r llall yn 13 y cant a rhagor yng Nghasnewydd a Thorfaen ac yn agos at 11 y cant yn Sir Fynwy. Nawr, clywaf gryn bwyslais gan sawl un ym Mhlaid Cymru, ond o fewn y Blaid Lafur hefyd i raddau, ar y posibilrwydd fod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai o ganlyniad, a rhai efallai a allai fod yn fwy croesawgar tuag at bobl sy'n dod i mewn i Gymru—cwynion fel, 'Pam y dylem ymdopi â gorlif Bryste?', er enghraifft. A hoffwn bwysleisio elfennau cadarnhaol hyn. Mae gennym bobl ar gyflogau cryn dipyn yn uwch ym Mryste sy'n dod i fyw yng Nghymru ac yn gwario arian yn lleol, ac o fis Ebrill ymlaen, byddant yn talu cyfraddau Cymru o dreth incwm, gan roi mwy o arian o bosibl i ni ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.

A'r cynnydd hwn ym mhrisiau tai sydd, yn ei dro, yn ailgyflwyno cynnydd gwirioneddol sylweddol yn nifer y tai a adeiladir. Cyfeiriodd David Melding at bwysigrwydd hynny i'r economi yn ei chyfanrwydd: mae 8 y cant o'n heconomi, 8 y cant o'n cyflogaeth, yn y diwydiant adeiladu ac mae'n un o'r meysydd lle y gwelwch economïau'n tyfu'n gyflym, ac rydym eisiau i economi Cymru dyfu'n gyflym. Adeiladu, bron yn ddieithriad, sy'n cyflymu'n llawer cyflymach na'r economi yn ei chyfanrwydd, ac mae hynny'n beth da ac yn rhywbeth y dylem fod eisiau ei weld, ac rydym yn dechrau ei weld mewn rhannau o dde-ddwyrain Cymru. I raddau, fe'i cefnogir gan bolisi Llywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth i Brynu a chyfran yr arian hwnnw sy'n mynd i'r ardaloedd hyn sy'n tyfu'n gyflym. Yn Nhorfaen, mor ddiweddar â 2015-16, dim ond 130 o dai a gafodd eu dechrau. Yn 2016-17, cododd i 215—cynnydd o 50 y cant—a chynnydd tebyg y flwyddyn wedyn i 284, yn 2017-18. Ac yn ystod chwe mis cyntaf 2018-19 yn unig, maent wedi rhagori ar y ffigur blynyddol hwnnw: 299 o dai wedi'u dechrau—felly, cyfradd adeiladu tai sy'n dyblu o un flwyddyn i'r llall ar ôl tair blynedd o gynnydd sylweddol cynt. Ac os edrychwn ar Gasnewydd, yn 2017-18, dechreuwyd dros 1,000 o dai newydd yn ardal cyngor Casnewydd, ac mae hynny'n cymharu â 6,000 yng Nghymru yn ei chyfanrwydd—

17:30

Gwn fod tai yn rhan fawr o'r ymgyrch yng Nghaerffili, ac fel ymgeisydd UKIP, roedd yn ymgyrchu gyda'r tîm hwnnw yng Nghaerffili. Roedd eu safbwynt yn gwbl groes i bopeth y mae'n ei ddweud yn awr, felly a yw'n mynd i wadu'r hyn a ddywedodd yn ystod ymgyrch yr etholiad yn 2016?

Wel, roeddwn yn meddwl fy mod yn cytuno i ryw raddau gyda'r Aelod ar hyn, ac yn benodol, cynllun datblygu lleol Caerffili a rhwygo hwnnw a cheisio dechrau eto, a rhai o'r cynigion ar gyfer adeiladu ar fynydd Caerffili a sut y byddai'r rheini'n ddibynnol ar y defnydd o gar a'r angen i gysylltu â'r hyn a oedd yn digwydd yng nghynllun datblygu lleol Caerdydd. Roeddwn yn meddwl bod hynny i gyd yn synhwyrol ac roeddwn yn meddwl ein bod yn cytuno ar hynny i ryw raddau.

Ond yn sicr, o ran y niferoedd yng Nghaerffili, mae'r adeiladu wedi bod yn llai na'r cynnydd mawr a welsom yn Nhorfaen a Chasnewydd, ac roeddwn yn awyddus i bwysleisio hynny. Ac rwy'n credu eu bod yn ymwneud â rhoi diwedd ar dollau Hafren. Byddwn yn gweld twf economaidd oherwydd bod tollau'r Hafren wedi mynd, ond yn ei dro, mae adeiladu tai hefyd yn helpu i sbarduno'r twf economaidd hwnnw. Rydych yn mynd i ddweud, 'O, ond roedd mwy o ecwiti tai', ond mewn gwirionedd, mae hynny'n wirioneddol bwysig. Os yw gwerth tai pobl yn codi, un o'r pethau y mae hynny'n arwain ato yw creu cryn dipyn yn fwy o fusnesau a thwf busnesau. A phan edrychaf ar y lefelau o fusnesau newydd sy'n cael eu ffurfio neu entrepreneuriaeth yn ne-ddwyrain Cymru a chymharu hynny â'r hyn a welais yn flaenorol yn ne-ddwyrain Lloegr, nid wyf yn credu bod gwahaniaeth o ran entrepreneuriaeth yr unigolion na chymaint â hynny hyd yn oed yn y sgiliau y mae pobl yn eu dwyn i'r busnesau hynny o reidrwydd. Y gwahaniaeth mawr yw argaeledd ecwiti tai, ac mae gennym bethau da gan Fanc Datblygu Cymru, ond yn gyffredinol, mae banciau sector preifat yn ei chael hi'n anodd iawn rhoi benthyg i fusnesau bach sy'n dechrau pan nad oes ganddynt warantau. Eto, os yw'r cyfarwyddwyr mewn sefyllfa i roi gwarant bersonol o ecwiti tai, ceir llawer mwy o fenthyca i fusnesau, sy'n gyrru llawer mwy o dwf economaidd drwy fusnesau bach, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylem ei groesawu a chefnogi'r adeiladu hwnnw a'r hyn y mae'n ei wneud i'r economi yn gyffredinol, wedi ei yrru gan dde-ddwyrain Cymru. Gadewch i ni ei annog.

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar dai. Rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw; rydym yn credu ei fod yn eithaf clir ac yn canolbwyntio ar yr angen i gynyddu'r cyflenwad tai. Mae'n weddol hyblyg mewn gwirionedd o ran yr awgrymiadau y mae'n eu gwneud ynglŷn â sut i gynyddu'r cyflenwad hwnnw.

Mae gwelliant Llafur yn dilyn patrwm penodol rydym yn dod yn gwbl gyfarwydd ag ef yn y Cynulliad, yn yr ystyr ei fod yn datgan yn y bôn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Yn aml, dyma a gawn gan welliannau'r Llywodraeth. Ac wrth gwrs, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai, ond y perygl, wrth gwrs, yw hunanfodlonrwydd. Os edrychwn ar gynnig y Ceidwadwyr a gwelliant y Blaid Lafur gyda'i gilydd, mae'n amlwg fod anghysondeb rhwng y ddau darged gwahanol ar gyfer adeiladu tai. Rwy'n credu bod targed y Blaid Lafur yn weddol fach a hyd yn oed os caiff ei gyrraedd, ni fydd yn ateb y galw am dai fforddiadwy yng Nghymru yn llawn. Felly, nid ydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno'n llwyr â'r gwelliant Llafur, a byddwn yn ei wrthwynebu heddiw.

Roeddwn yn mynd i ddweud bod gwelliannau Plaid Cymru'n codi materion rydym yn cytuno â hwy'n rhannol, ond wedyn gwnaeth Leanne Wood achos da iawn dros yr angen i ganolbwyntio ar dai cymdeithasol, a chafodd hynny ei ategu gan ystadegau. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ba lefel o dai cymdeithasol y mae angen inni ei hystyried. Yn bendant, rwy'n credu bod angen canolbwyntio ar dai cymdeithasol i raddau helaeth, ond ni chredaf y dylem o reidrwydd ganolbwyntio ar dai cymdeithasol ac eithrio popeth arall. Credaf fod angen cymysgedd o dai newydd fforddiadwy. Mae rhan o welliannau Plaid Cymru yn ymdrin yn drylwyr â mater digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn destun pryder enfawr. Credaf fod cymaint o elfennau'n perthyn i'r mater er hynny, ac efallai fod angen dadl arall ar gyfer ymdrin â'r pwyntiau hynny.

Nawr, mae gan Lafur darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd dros gyfnod o bum mlynedd, sy'n cyfateb i 4,000 o gartrefi y flwyddyn. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn datgan targed, gan gyfeirio at eu hadroddiad cynharach, o 100,000 mewn cyfnod o 10 mlynedd, sy'n cyfateb i 10,000 o gartrefi'r flwyddyn. Mae gennym ffigurau gan Dr Alan Holmans hefyd a oedd yn awgrymu y gallai Cymru fod angen 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Felly, os yw Dr Holmans yn gywir, mae targed y Ceidwadwyr i'w weld yn fwy ystyrlon nag un Llafur. Heddiw bydd y Gweinidog tai yma'n cytuno yn ôl pob tebyg nad oes unrhyw darged yn ystyrlon mewn gwirionedd oni bai ei fod yn gyraeddadwy, ond mae'n well gennym uchelgais ehangach y targed Ceidwadol.

Problem arall yw sut i sicrhau bod y cartrefi a adeiladir yn fforddiadwy mewn gwirionedd, ac mae hon yn broblem fawr gyda llawer o ddatblygiadau preifat; pan fyddant yn dod ar y farchnad, nid ydynt yn fforddiadwy i lawer o bobl a cheir problemau hefyd o ran faint o dai fforddiadwy sy'n rhan o'r cytundebau cynllunio ar y cychwyn. Weithiau, ymddengys bod hyn yn cael ei ddiystyru pan fydd cwmnïau adeiladu tai'n datblygu eu cynlluniau. Felly, credaf fod angen edrych ar hynny. Mater cynllunio yw hynny.

Rwy'n credu y gallai fod ffyrdd eraill o gael mwy o dai fforddiadwy drwy ddefnyddio'r sector preifat. Er enghraifft, mae angen inni edrych yn fanylach ar dai modiwlar, sy'n gymharol rhad i'w hadeiladu, yn bosibl eu codi'n gyflym, ac yn gallu helpu i greu swyddi. Ond mae adeiladu'r mathau hyn o dai yn galw am sgiliau gwahanol yn lle dulliau traddodiadol o adeiladu tai, felly mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o bobl fedrus i weithio ar y cynlluniau hyn. Gwn fod y Gweinidog tai blaenorol, Rebecca Evans, yn gweithio i ddatblygu'r sector hwn, a gobeithiaf y bydd ei holynydd galluog iawn yn parhau gyda'r gwaith hwn. Mae'n galw am ddull rhyngweithiol rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat a cholegau addysg bellach.

Hefyd, mae angen inni annog mwy o ddatblygiadau mewnlenwi a datblygiadau tai ar raddfa fach, sy'n tueddu i fod yn ddeniadol, nid i'r cwmnïau adeiladu mawr ond yn hytrach i'r busnesau bach a chanolig y credaf fod angen iddynt chwarae rhan fwy yn y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru. Hefyd gallem wneud mwy i annog datblygu safleoedd tir llwyd. Ceir cryn dipyn o alw hefyd gan bobl sy'n awyddus i adeiladu eu cartrefi eu hunain. Yn ôl arolygon barn, mae oddeutu 53 y cant o bobl wedi mynegi diddordeb yn hyn, ac mae cyfraddau hunanadeiladu yn llawer uwch yn rhai o'r gwledydd Ewropeaidd gorllewinol nag yma yng Nghymru—yn arbennig Awstria, lle y mae 80 y cant o dai wedi'u hunanadeiladu. Yn y DU, y ffigur yw 7 y cant i 10 y cant yn unig. Felly, nid wyf yn gwybod a allwn wneud rhywbeth yng Nghymru i annog y rhan hon o'r sector tai.

Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud i liniaru'r—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, iawn.

17:35

Y broblem yw tir a chael mynediad at dir, a dyna pam y mae gennych anhawster gyda'r sector hunanadeiladu.

Ie, rwy'n derbyn bod anawsterau gyda mynediad at dir mae'n debyg. Credaf ei bod hi'n werth edrych ar hynny, ond deallaf ei bod yn her fawr.

Mae cartrefi gwag yn fater arall, ac mae mesur y gall cynghorau lleol ei gyflwyno a elwir yn 'Orchmynion rheoli anheddau gwag', a gallai greu gorfodaeth ar ddatblygwyr sy'n gadael adeiladau'n wag am gyfnodau hir. Felly, gellir defnyddio'r rhain, efallai, mewn rhai amgylchiadau. Ceir y dreth ar dir gwag hefyd, a gwn fod honno ar y gweill, ac rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth ddod â manylion hynny i'r Siambr. Yn sicr, dyna'r mesur y byddai UKIP yn ei ffafrio mae'n debyg. Felly, ceir amrywiaeth o fesurau y gellid eu defnyddio. Y ffactor allweddol yw sicrhau y bydd gennym nifer gryn dipyn yn fwy yn y pen draw o gartrefi yng Nghymru sy'n fforddiadwy. Diolch yn fawr.

Pan soniwn am dai mewn modd generig mewn dadleuon fel hon, credaf ei bod yn eithaf hawdd osgoi manylion y mathau o dai sydd eu hangen arnom, lle y mae eu hangen, a meddwl hyd yn oed lle nad oes arnom eu hangen bellach o bosibl; gallem fod eisiau newid defnydd peth o'n stoc bresennol.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn ddefnyddiol inni symud oddi wrth y math hwn o feddwl yn nhermau da a drwg sydd weithiau'n cael sylw yn rhai o'n dadleuon ar dai, oherwydd yr hyn rydym ei eisiau yma, fel y dywedodd David Melding ar y dechrau un, yw consensws ar gyfeiriad y gallwn ei gymryd. Oherwydd, er gwaethaf y tai cyhoeddus o ansawdd yr oedd Mike Hedges yn siarad amdanynt yn gynharach, tai a adeiladwyd rhwng y rhyfeloedd yn Abertawe, mae rhai ohonynt yn dal i fod mewn mannau lle y ceir amddifadedd parhaus, a chredaf y gall pawb ohonom gyfeirio at ystadau tai eraill, ystadau cyngor—a adeiladwyd mewn mannau amrywiol rwyf fi wedi byw ac wedi gweithio ynddynt beth bynnag—a adeiladwyd yn y 1960au a'r 1970au, y credaf y byddent yn ysgytwad inni yn awr er gwaethaf y safonau ansawdd ac ati, ac er iddynt gael eu prynu gan gymdeithasau tai, yn syml iawn oherwydd y ffordd y cawsant eu cynllunio yn y lle cyntaf. Mae'r rhain yn bethau y mae angen inni eu hosgoi o hyn ymlaen.

Roedd fy rhieni'n blant yn—

Caf fy nghalonogi'n fawr gan y syniad hwn o greu consensws ynghylch polisi tai, ac rydych yn sôn am dai cyngor. Cafodd rhai o'r tai cyngor gorau—yr eiddo teuluol mwy o faint—eu gwerthu o dan yr hawl i brynu. Er mwyn cyrraedd y consensws hwn, a fyddech yn barod i droi cefn ar eich obsesiwn ideolegol gyda'r polisi hwnnw?

Wyddoch chi beth, Leanne? Nid oes gennyf obsesiynau ideolegol, ond credaf y dylai ein cynghorau gael y gallu i ddefnyddio'r arian y maent yn ei godi o Hawl i Brynu i adeiladu tai newydd, neu'n wir ei fuddsoddi mewn stoc dai hŷn sydd angen ei datblygu.

Ond nid oes gennyf ddiddordeb yn y gorffennol; yn y dyfodol y mae gennyf fi ddiddordeb. Gyda llaw, a gaf fi ddweud hefyd fod Penyrenglyn yn enghraifft dda iawn o gymuned yn cymryd rheolaeth ar ddefnydd tai yno? Hynny yw, rydych yn adnabod yr ystâd rwy'n sôn amdani; mae Plant y Cymoedd a'u cyfeillion wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i dai cymunedol yno. Felly, dyna'r math o beth y byddai'n well gennyf inni ei drafod na'r pethau gwirion a disynnwyr y mae Leanne Wood yn barod i siarad amdanynt.

Roeddwn am ddweud mai rhywfaint o gyd-destun i hyn yw fod fy rhieni wedi'u magu fel plant yn ystod yr ail ryfel byd, felly cefais fy magu ar aelwyd lle'r oeddent wedi profi'r ffrwydrad mawr o dai yr oedd Mike yn sôn amdano, ond roedd hefyd yn gyfnod pan oeddent yn gwgu ar wastraff a byddent yn cynllunio ar gyfer prynu pethau drud, yn rhannol oherwydd yr angen i gynilo, ac yn rhannol er mwyn osgoi sefyllfa lle—nid oedd raid i bobl brynu rhywbeth mewn panig oherwydd nid oedd ganddynt ddewis.

Nawr, bydd Lee Waters yn gyfarwydd ag ystâd Brynmefys yn Ffwrnais, a dyna lle'r oedd cartref fy nhad-cu a fy mam-gu am y rhan fwyaf o'u bywydau. Efallai, mewn gwirionedd, ei bod hi'n stori rybuddiol hefyd yn erbyn gorddefnyddio dulliau adeiladu nad ydynt yn draddodiadol, ond yn bwysicach, credaf ei fod yn gyfle a gollwyd ar gyfer cartrefu pobl, gan fod yr ystâd honno mor faluriedig bellach, mae bron â bod angen ei hailadeiladu. Credaf fod rhesymau lleol penodol am hynny, a bod yn deg, ond nid afradlonedd yw'r rheswm am y 27,000 o gartrefi gwag. Ni all y rheswm fod yn lleol ym mhob achos unigol.

Felly, rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ystyried ein polisi o ymestyn Cymorth i Brynu i ailddechrau defnyddio eiddo gwag addas oherwydd ar hyn o bryd mae Cymorth i Brynu yn ffafrio cwmnïau adeiladu mwy o faint, er eu bod yn is-gontractio, wrth gwrs. Mae'n amrywiad a fyddai'n cynnig mwy o gymorth uniongyrchol i'r busnesau bach sy'n nodweddu ein heconomi, gan mai hwy sydd â diddordeb mewn gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ac adnewyddu. Felly, er fy mod yn credu, wrth gwrs, fel pawb ohonom, y dylid adeiladu mwy, yn hytrach na rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged adeiladu o'r newydd, beth am ffocws newydd ar gadw eiddo presennol sy'n sylfaenol gadarn mewn cylchrediad fel cartrefi mewn cymunedau lle y mae cydlyniant o dan fygythiad o bosibl, a lle y mae eiddo'n parhau i fod yn gymharol rhad, a lle y dylai cysylltedd, ffisegol a digidol, sbarduno cynaliadwyedd y cymunedau hynny?

Nawr, do, rydym wedi cael cynlluniau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cael Troi Tai'n Gartrefi—addawyd £30 miliwn ers 2012 ar gyfer benthyciadau tymor byr, di-log i berchnogion eiddo gwag i'w helpu i adnewyddu. Nid oes gennyf ffigurau ar ôl 2015, mae'n ddrwg gennyf, ond erbyn hynny, dim ond 360 o fenthyciadau a gymeradwywyd a dim ond 40 y cant o'r gwaith a gwblhawyd. Credaf ei bod hi'n system ddrud, nad yw wedi'i hysbysebu'n dda, ar gyfer cyflawni diben y gellir yn hawdd ei gefnogi, sy'n syndod braidd gan y Llywodraeth hon, ac wedi'i hanelu at berchnogion preifat yn y farchnad rentu.

Nawr, mae landlordiaid preifat egwyddorol yn ddarparwyr cartrefi pwysig, a chymeradwyaf waith y Wallich a Crisis, sydd wedi bod yn gweithio gyda landlordiaid preifat i fynd i'r afael â digartrefedd. Nid yw'r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn ddiofal o'u tenantiaid, neu'n farus, ac fel cyfreithiwr eiddo yn y ddau gyfnod o ffyniant ym maes tai a ragflaenodd y cwymp ariannol, gallaf ddweud nad oedd pob achos o brynu i osod yn ymwneud â'r swigen arian ofnadwy honno. Roedd yna bobl gyffredin, etholwyr a oedd wedi etifeddu neu wedi prynu eiddo i fod yn bot pensiwn iddynt. Credaf fod Mike wedi crybwyll hyn. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown wedi gwerthu'r aur i gyd, roedd cyfraddau buddsoddi yn isel iawn, ac ar fin gwaethygu, felly wrth gwrs fod pobl yn poeni am eu diogelwch ariannol yn y dyfodol, a dyna yw llawer o landlordiaid preifat heddiw.

I orffen, Lywydd, os nad oes ots gennych: un peth yw fod hyn yn wastraffus; peth arall yw prynu mewn panig. Buaswn yn tybio bod y rhan fwyaf o gynlluniau datblygu lleol yn adlewyrchu elfen o'r panig hwn. Ar ôl blynyddoedd o adeiladu cyfyngedig, mae cynghorau bellach yn cael eu gwthio i'r safleoedd mawr posibl hyn ar gyrion cymunedau sefydledig, gyda'r holl broblemau gyda gwasanaethau, weithiau gyda chyngor datblygwyr sydd â gwybodaeth bersonol, ond heb y dewrder i fynnu taliadau adran 106 neu ardoll gymunedol ystyrlon i dalu am seilwaith cysylltiedig. Mae hynny'n creu llond trol o drwbwl i lesddeiliaid a hyd yn oed i rai rhydd-ddeiliaid, fel y crybwyllodd Hefin David yn weddol ddiweddar, mewn lleoliadau heb gysylltiadau da ag unman.

Mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond nid wyf yn meddwl bod gennyf amser, Lywydd. Ond diolch yn fawr iawn.

17:40

Mae'n anhygoel o anodd cael sgwrs resymol fel hyn allan yno, yn enwedig, fel y gwelais, yn ystod ymgyrch etholiadol. Safodd Lindsey Whittle mewn cae gwyrdd yn dal bwcedaid o fwd, a dywedodd, 'Nid wyf am roi'r bwced hwn o fwd i lawr, oherwydd cyn gynted ag y gwnaf, bydd y Blaid Lafur yn adeiladu tŷ arno'. Cafodd hyn ei ddweud mewn fideo ar Facebook yn ystod ymgyrch etholiadol, a'i rannu gyda 20,000 o bobl, credwch neu beidio. Roeddwn yn ei gyfrif wrth i'r niferoedd godi. Felly, pan fyddwn yn sôn am gonsensws gwleidyddol, credaf ei bod hi'n anhygoel o anodd ei gyrraedd, a buaswn yn dweud wrth Mark Reckless, ydym, rydym wedi cyrraedd y cytundeb hwn fod angen inni gael cynllun datblygu strategol, nad yw cysylltu i mewn i Gaerdydd yn digwydd gyda chynllun datblygu lleol Caerffili, ac mae'n anghywir i adeiladu ar fynydd Caerffili, ond rhywbeth y deuthum ato drwy drafodaeth â Carl Sargeant yn ystod ymgyrch yr etholiad oedd hynny. Credwch fi, nid oedd UKIP a Phlaid Cymru'n gwthio'r ddadl honno mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Y cyfan yr oeddent yn ei ddweud oedd, 'Mae Llafur eisiau adeiladu ar eich tir gwyrdd', a dyna oedd diwedd y mater yn syml iawn.

A gaf fi longyfarch yr Aelod? Ond roeddwn am ofyn iddo: gyda phrisiau tai uwch yn ein rhanbarth, a yw honno'n ffordd o gael mwy o'r datblygu i ogledd bwrdeistref Caerffili ac yn yr un modd, yng nghynghorau Blaenau Gwent a Merthyr Tudful lle na welwn, weithiau, fwy na 50 o dai yn cael eu dechrau mewn blwyddyn?

17:45

Os gallwch gael cwmni adeiladu tai sy'n fach i adeiladu, yna mae'n bosibl, ond y broblem sydd gennym yw fod gennym oligopoli yma yng Nghymru, cartél o bum cwmni adeiladu tai mawr sy'n adeiladu 75 y cant o'r cartrefi a chyn belled â'u bod—

Boed yn dai cyngor ai peidio, neu'n dai cymdeithasol ai peidio, mae gennych oruchafiaeth y cwmnïau adeiladu tai mawr hyn ar y farchnad, cwmnïau, fel y dywedodd Mike Hedges, sydd heb unrhyw gymhelliant i ateb y galw'n llawn ac sy'n adeiladu mewn ardaloedd lle y mae'r galw'n uchel iawn ac nid ydynt yn adeiladu tai sy'n fforddiadwy i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny eisoes neu'n byw mewn ardaloedd ychydig y tu allan, i'r gogledd, sy'n ardaloedd incwm is. Felly, cyn belled â bod gennych gartél yn dominyddu'r farchnad, ni fyddwch yn gallu datrys y broblem tai cymdeithasol chwaith.

Yn 2013 y dywedodd Persimmon na fyddant yn adeiladu cartrefi i'r gogledd o Bontypridd mwyach. Maent wedi dweud hynny'n gyhoeddus. Dywedodd yr Athro John Punter, athro mewn dylunio trefol ym Mhrifysgol Caerdydd, nad oes unrhyw reswm pam y dylem fod yn neilltuo ardaloedd penodol yng Nghymru ar gyfer peidio ag adeiladu ynddynt. Gwnaeth Mike Hedges y pwyntiau eisoes: mae a wnelo â'r ffaith, pan fyddwch yn dechrau ateb y galw, nid oes unrhyw reswm i wneud elw, mae llai o allu i wneud elw, ond hefyd, ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu—ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu. Felly, gallaf weld pam y byddai'n synhwyrol i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, oherwydd mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar dai cymdeithasol mewn ardaloedd na chânt eu diwallu gan y cromlin galw, ardaloedd nad ydynt yn cyrraedd yr angen am dai, ac felly gallaf weld yn berffaith fod angen i dai cymdeithasol fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi hynny hefyd.

Nid mater o dai yn unig yw hyn, fel y dywedwyd eisoes, mae hefyd yn fater o economi a thyfu'r economi yn ardaloedd y Cymoedd gogleddol rwy'n eu cynrychioli, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig o Gymru yn ogystal. Mae'r ddogfen dai a lluniodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiddorol, ond nid yw'r adran ar gyflenwad tir yn sôn am y gost o adfer. Nid yw'n ddogfen wedi'i chostio. Ni all y sector preifat fforddio talu'r gost o adfer mewn llawer o achosion. Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar fin dechrau ymchwiliad i fusnesau bach a chanolig ac adeiladu tai, ac rwy'n eithaf sicr y bydd adfer tir yn fater enfawr ac mae'n ffaith nad yw'r cyllid hwnnw gan awdurdodau lleol chwaith. Nid wyf yn berson arbennig o ddallbleidiol, ond mae cyni yn sicr wedi chwarae rhan yn y diffyg adfer tir, a rhaid i'r Ceidwadwyr wynebu hynny ac ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny.

Un o'r materion eraill a godais yw'r angen am gynllun datblygu strategol. Soniodd y Prif Weinidog—credaf mai yn ystod ei gwestiynau cyntaf i'r Prif Weinidog y gwnaeth hynny—fod prifddinas-ranbarth Caerdydd bellach yn gweithio ar gynllun datblygu strategol ac mae'n awyddus i'w weld yn cael ei weithredu. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, 'Pwyswch am hynny gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd', ac wrth y Gweinidog tai, 'Pwyswch am hynny gyda'r prifddinas-ranbarth'; mae angen inni weld cynnydd ar hynny, ac mae angen inni weld cynnydd ar hynny'n gyflym.

Ond y ffaith amdani yw fod y ddadl a gawsom heddiw, mewn llawer o ffyrdd, yn synhwyrol, yn aeddfed, ac ychydig yn ddallbleidiol hefyd, fel y bydd unrhyw ddadl y bydd Leanne Wood yn rhan ohoni, ond nid dyma'r math o ddadl y byddem yn ei chael allan gyda'r cyhoedd. Nid dyma'r math o ddadl a gawn ar adeg etholiad. Gadewch inni fod yn synhwyrol ynglŷn â hyn. Os ydym am sicrhau consensws, rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'r math o iaith a ddefnyddiwn yn ystod cyfnodau gorffwyll ymgyrchoedd etholiadol.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cyfle i siarad am y tro cyntaf yn fy mhortffolio newydd am fod tai yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac am fod y Prif Weinidog wedi gweld gwerth dwyn ynghyd nifer o faterion cysylltiedig yn fy mhortffolio gyda'r nod o allu symleiddio a chyflymu'r broses o gyflenwi tai.

Ac fel y cydnabu David Melding, mae gwir angen inni flaenoriaethu a gweithio gyda'n gilydd cymaint â phosibl. I aralleirio'r Prif Weinidog yn ystod ei sesiwn gwestiynau gyntaf ddoe, mae pawb ohonom angen, eisiau ac yn deisyfu'r un canlyniad; y broblem yw nad ydym bob amser yn gweld yr un llwybr tuag at y canlyniad hwnnw. Felly, gan ganolbwyntio ar y ffaith bod pob un ohonom eisiau'r un canlyniad, sef i holl ddinasyddion Cymru gael lle diogel a gweddus i fyw ynddo, gyda'r llwybr hawsaf posibl at y lle diogel a gweddus hwnnw i fyw ynddo, rwy'n credu y byddem oll yn cytuno â hynny. Y broblem mewn gwirionedd yw nad ydym bob amser yn cytuno ar y fethodoleg ar gyfer cyrraedd yno, ond rydym yn derbyn llawer o'r hyn a nodwyd yn nogfen y Ceidwadwyr oherwydd rydym eisoes yn gweithio ar rai rhannau ohoni. Mae yno feysydd yr anghytunir yn eu cylch hefyd, ond credaf y gallwn adeiladu rhywbeth y gallwn gytuno arno'n fras. Rydym yn cydnabod bod darparu nifer y cartrefi sydd eu hangen yn y farchnad a'r sectorau fforddiadwy yn her barhaus ar draws y DU gyfan. Fel y cydnabu David Melding a sawl un arall, mae Cymru'n wynebu'r un problemau â gweddill y wlad. Rydym yn rhoi camau sylweddol ar waith i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom.

Byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr sylwadau Leanne Wood ynglŷn â thai cymdeithasol a'r angen am gymunedau cynaliadwy. Ni allaf ddod o hyd i unrhyw beth i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd am yr anghenion hynny a byddwn yn edrych yn galed iawn i weld sut y gallwn gyflymu gallu ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau i ddatblygu tai cymdeithasol yn gyflymach o lawer ac ar raddfa fawr, os yn bosibl, gan ddefnyddio pwerau benthyca. Roedd yn wych clywed pobl ar feinciau'r Ceidwadwyr yn cydnabod yr angen i fenthyca ar gyfer buddsoddi'n gynaliadwy yn y stoc dai. Gwn fod David Melding yn cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein hawdurdodau lleol i fenthyca'n sylweddol er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol o'r fath. Buom yn gweithio ar bartneriaeth dda yn dilyn y trafodaethau cychwynnol llwyddiannus iawn a gafodd fy rhagflaenydd yn y swydd gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Byddwn yn anelu i ddatblygu hynny'n gyflym er mwyn sicrhau'r raddfa y gwyddom y bydd ei hangen.

Ac yna o ran—.

17:50

Diolch i'r Gweinidog am ildio. Fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ni allwn adael i'r ddadl fynd heb godi llais dros atebion tai cydweithredol a modelau ymddiriedolaethau tir cymunedol. Os edrychwch yn ôl i'r 1980au, cyflwynodd Bernie Sanders—credaf ei fod yn disgrifio'i hun fel sosialydd democrataidd; yn America, rwy'n credu eu bod wedi'i alw'n gomiwnydd—un o'r ardaloedd canol dinas mwyaf arloesol, ac un o'r rhai mwyaf o ran maint bellach—dros 500 o gartrefi—a ddyfeisiwyd ar fodel ymddiriedolaethau tir cymunedol. Maent yno ar ymyl ein meddyliau o hyd ac rwy'n meddwl tybed a allwn ddatblygu'r rheini ar hyd yr M4, yng nghanol dinasoedd, fel y maent yn ei wneud ym Mryste a Llundain ac ati, fel rhan o'r ateb hwn. Felly, os gwelwch yn dda cefnogwch y rhain hefyd.

Ie, fe fyddaf yn dod at fathau arloesol o ddeiliadaeth a modelau gwahanol o ddatblygu'r cyflenwad tai. Mae nifer fawr ohonynt, pob un o'r pethau y mae Huw Irranca-Davies newydd eu crybwyll mae'n debyg, ar y rhestr honno.

Er hynny, mae'n bwysig ailadrodd mai ein polisi sylfaenol ar yr ochr hon o hyd yw darparu tai cymdeithasol ychwanegol. Felly, er nad wyf yn dibrisio unrhyw beth a ddywedwyd ynghylch cyflenwi tai yn y sector preifat a'r farchnad ac ati, ein blaenoriaeth yw darparu tai cymdeithasol ychwanegol a diogelu ein stoc bresennol. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym erioed wedi colli golwg ar yr angen i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a'r bobl fwyaf anghenus, a dyna pam mai cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf o'n targed o 20,000. Hefyd, dyna pam y rhoesom gamau ar waith i roi diwedd ar yr hawl i brynu, sydd wedi arwain at golli cymaint o gartrefi ym mhob rhan o Gymru o'r sector tai fforddiadwy. Nid wyf am oedi gyda hyn eto, ond rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd ar y meinciau Ceidwadol ynglŷn â hyn.

Roedd y rhan fwyaf o fy nheulu innau hefyd yn byw ar yr ystâd tai cyngor fwyaf yng ngogledd Abertawe, sef ystâd tai cyngor Gendros, y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. Nid oes ond angen i chi gerdded drwyddi ac fe welwch y tai hawl i brynu. Nid y bobl a'u prynodd sy'n eu meddiannu, landlordiaid sector preifat sy'n eu meddiannu ac nid ydynt wedi uwchraddio'r tai hynny. Ni osodwyd cladin arnynt yn yr un ffordd ag y gwnaed hynny ar dai'r awdurdod lleol, nid yw'r ffenestri a'r drysau'n rhai safonol fel rhai'r awdurdod lleol, mae'r gerddi mewn cyflwr gwael, ac nid yw'n dda o gwbl. Nid wyf yn credu bod hynny wedi helpu'n arbennig—.

Rwy'n derbyn eich pwynt, ac mae'n bwynt dilys iawn, ond a fyddech yn cyfaddef, gyda gwerthiant, y gellir gosod amodau fel nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Gellid gwneud hynny'n hawdd.

Credaf y byddai wedi bod yn gynllun gwell pe bai cynghorau bob amser wedi cael caniatâd i ailfuddsoddi'r arian a gawsant o'r gwerthiant mewn stoc ychwanegol. Wrth gwrs, rhwystrwyd hynny am y rhan helaeth o'r amser y bu'r hawl i brynu ar waith. Roedd yn rhaid ei osod yn erbyn talu dyled ac ati mewn ffordd hynod o ddi-fudd. Credaf fod hynny'n gamgymeriad. Ond mewn gwirionedd, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r egwyddor yn y lle cyntaf, oherwydd nid wyf yn credu bod unrhyw beth o'i le mewn cael tai cymdeithasol da, cael deiliadaeth lle rydych yn rhentu. Nid oedd y rhan fwyaf o fy nheulu erioed eisiau bod yn berchen ar eu tŷ eu hunain, yr hyn yr oeddent ei eisiau oedd lle gweddus gyda deiliadaeth ddiogel, lle i fagu eu teuluoedd, lle y gallai eu teuluoedd fyw hefyd. Felly, os ydych am brynu, gwych, ond ni chredaf y dylem adeiladu tai cymdeithasol gyda golwg ar eu gwerthu i'r sector preifat, a dyna pam y rhoesom ddiwedd ar yr hawl i brynu.

Rydym wedi cael y ddadl am yr hawl i brynu a gwnaeth y Cynulliad ei benderfyniad. Yr hyn sy'n hollbwysig yn fy marn i yw cael deiliadaeth gymysg. Mae llawer o sylw wedi ei roi i hyn—mai dyna sydd wrth wraidd cymunedau cynaliadwy. Yn union fel y byddem o blaid gwerthu tai cyngor dan amodau, byddem o blaid gweld cynghorau'n prynu'r hyn sydd yn y stoc breifat ar hyn o bryd a'i osod wedyn ar rent cymdeithasol, ac mae hyn wedi'i wneud gryn dipyn yn y gorffennol—y dull cymysg hwn sydd ei angen arnom, a bod yn hyblyg.

17:55

Rwy'n cytuno â'r rhan honno. Nid wyf yn siŵr y byddai ein llwybrau tuag ato yr un fath yn union, ond yn hollol, cymdeithas gynaliadwy o ddeiliadaethau cymysg neu gyfansoddiad cymdeithasol cymysg sydd ei angen arnom. Un o'r pethau rwy'n gresynu’n fawr atynt ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr ystadau tai cyngor lle y mae fy nheulu'n byw gan mwyaf yw nad yw'n economi gymysg o gwbl bellach—maent wedi troi'n ystadau geto, mewn gwirionedd, gyda phobl benodol sydd â mathau penodol o broblemau yn cael eu gwthio i'r ystadau. Dyna sydd wedi achosi llawer o anawsterau cymdeithasol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno—y cyflenwad tai sydd dan sylw yma'n bennaf.

Felly, fel y dywedais eisoes, mae'r portffolio tai a llywodraeth leol newydd yn dwyn ynghyd y meysydd polisi allweddol sy'n cyfrannu fwyaf at adeiladu mwy o gartrefi. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r holl ddulliau polisi perthnasol i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraeir gan y system gynllunio, a byddwn yn parhau i archwilio beth y gallem ei wneud i gryfhau cynllunio fel y gallwn ddarparu mwy o gartrefi.

Mae cyhoeddiad y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig cyn y Nadolig, unwaith eto gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, yn nodi'n glir ymagwedd fwy cadarn tuag at ddarparu cartrefi newydd drwy osod ystyriaethau hyfywedd yn flaenllaw yn y broses gynllunio. Y nod yw annog busnesau adeiladu bach a chanolig a phobl sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain yn ogystal, gan ein bod yn cydnabod yn llwyr y pwynt a wnaed gan nifer o bobl o gwmpas y Siambr am yr angen i ryddhau cymaint o dir â phosibl a hwyluso hunanadeiladu mewn rhannau mawr iawn o Gymru.

Mae'n werth crybwyll o ran hynny fy mod wedi cael y fraint fel rhan o dasglu'r Cymoedd o fod wedi cael cyflwyniadau da iawn gan swyddogion ac eraill ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu cynlluniau parod ar gyfer hunanadeiladu, os mynnwch, i helpu pawb yn ein cymdeithas i weld y gallent hwythau hefyd ddatblygu eu cartref eu hunain yn y ffordd honno. Rwy'n falch iawn o allu symud ymlaen ar hynny hefyd.

Rydym yn llwyr gydnabod rôl y Llywodraeth i fuddsoddi mewn tai ychwanegol, fel y dywedwyd ar draws y Siambr. Mae ein buddsoddiad mwyaf erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, felly dyna un arwydd yn unig o faint yr ymrwymiad. Fel y dywedais, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd yn nogfen strategaeth y Blaid Geidwadol yn hynny o beth.

Fel y dywedais, rydym yn cytuno â'r cynigion ynghylch hunanadeiladu. Rydym hefyd yn cytuno bod gan dai modiwlar a gweithgynhyrchu oddi ar y safle ran bwysig a chynyddol i'w chwarae. Bydd sefydliadau tai yn gallu dysgu o'r prosiectau cyffrous sy'n dechrau dod i'r amlwg drwy'r rhaglen tai arloesol, ac edrychaf ymlaen at ymweld â datblygiad cyfleuster tai modiwlar yng ngogledd Cymru cyn bo hir i weld beth y gallwn ei wneud i annog pob un o'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fanteisio ar y rhaglen adeiladu tai modiwlar, a fydd yn cyflymu'r broses adeiladu pan fyddwch wedi dechrau arni yn y lle cyntaf.

Rydym hefyd yn cynorthwyo bron i 8,000 o bobl i brynu cartref drwy Cymorth i Brynu—Cymru. Er mwyn dylanwadu ar ymddygiad adeiladwyr, mae gwahardd y defnydd o'r cynllun ar gyfer tai lesddaliadol newydd wedi dileu'r arfer fwy neu lai yn llwyr yng Nghymru. Y mesurau hyn oedd y cyntaf o'u bath yn y DU. Maent wedi helpu i sicrhau cytundeb y pum cwmni adeiladu tai mwyaf yng Nghymru na fyddent mwyach yn gwerthu eu tai ar sail lesddaliadol. Credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwyf am edrych i weld a oedd hynny'n ddigonol neu a oes angen inni roi camau ychwanegol ar waith.

Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed i ailddechrau defnyddio 5,000 o gartrefi gwag yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Ceir llawer o eiddo gwag, fodd bynnag, na wneir unrhyw beth yn ei gylch, fel y nododd Mike Hedges a nifer o bobl eraill. Byddwn yn edrych i weld pa gamau pellach y gellid eu rhoi ar waith i helpu i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt i annog camau i ailddechrau defnyddio tai gwag, gan gynnwys rhai o'r darpariaethau treth gyngor a roddwyd ar waith gennym ac ysgogiadau treth eraill—y dreth ar dir gwag ac yn y blaen. Credaf ein bod yn edrych ar dreth eiddo gwag hefyd fel rhywbeth y gallem ei ddatblygu yn y dyfodol i geisio annog camau i ailddechrau defnyddio'r tai hyn.

Maddeuwch imi, ni allaf gofio pa Aelod a'i dywedodd, ond byddaf yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud am y fenter Troi Tai'n Gartrefi—rwy'n credu efallai mai Suzy Davies a wnaeth. Rwy'n cytuno nad yw wedi'i deall yn dda gan bawb, a chredaf y gallem wneud llawer mwy â'r fenter honno, yn enwedig mewn ardaloedd lle y cafwyd crynodiadau mawr o dai amlfeddiannaeth a fyddai'n elwa'n fawr o gael eu troi'n ôl yn gartrefi at ddefnydd teuluoedd.

Rwy'n dod â fy sylwadau i ben—diolch ichi, Lywydd.

Mae hon yn ddadl i'w chroesawu'n fawr iawn. Gallwch weld o gymhlethdod y sylwadau o amgylch y Siambr cymaint y gallwn ei gynnig yn y lle hwn. Felly, rwyf am gloi—mae gennyf lawer mwy y gallwn ei ddweud o ran yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, ond rwyf am gloi'r ddadl yn y modd hwn. Rwy'n croesawu'n fawr unrhyw gyfraniad gan unrhyw Aelod o gwmpas y Siambr sydd o'r farn fod ganddynt rywbeth a fyddai'n ein helpu i gynyddu'r cyflenwad tai. Dyna yw nod pawb yma—ein nod cyffredin—ac rwy'n hapus iawn i gael cyfarfodydd ychwanegol ag unrhyw un neu grwpiau o bobl, neu grwpiau pleidiol, neu unrhyw beth arall i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â rhai o'r awgrymiadau y mae pawb ohonom yn cytuno â hwy, a sut y gallwn leihau'r gwahaniaethau a manteisio i'r eithaf ar y tir cyffredin rhyngom er mwyn cael y cyflenwad o dai sydd ei angen ar Gymru. Diolch yn fawr.

18:00

Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd.

Dechreuodd David Melding y ddadl hon drwy ddyfynnu o araith yn 2004 yn rhybuddio am argyfwng tai, ac eto dyma ni yn mynd i'r afael â marchnad dai doredig gydag anghyfiawnder cymdeithasol o ganlyniad i hynny. Mae'n fy atgoffa o fod yn rhan o'r dadleuon hynny yn 2004, yn cefnogi ymgyrch a unai'r sector elusennol a'r sector masnachol ym maes tai ar draws Cymru, ac a rybuddiai ynghylch argyfwng tai os na châi camau eu rhoi ar waith ar frys. Fel y dywedais ar y pryd, mae tai yn gyfrwng allweddol ar gyfer adfywio cymdeithasau a chymunedau. Mae'n ofid fod pobl, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, bellach yn cydnabod hynny ar ôl colli cymaint o gyfle.

Cyfeiriodd at yr effaith ddinistriol ar deuluoedd ifanc, pobl hŷn a digartrefedd, yr angen am gonsensws gwleidyddol newydd i ddatrys yr argyfwng, a chyfeiriodd at y cynsail a osodwyd ar ôl yr ail ryfel byd, at darged Llywodraeth y DU o 300,000 o gartrefi bob blwyddyn, at y galw am dai neu, yn benodol, at y cynnydd yn y galw am dai, lansiad strategaeth dai y Ceidwadwyr Cymreig, 'Cartrefu Cenedl', y mis diwethaf, ac mae David yn haeddu clod aruthrol amdani—diolch ichi, David—a'r gydnabyddiaeth fod angen buddsoddi a benthyca cyfalaf os ydym yn mynd i fwrw ymlaen â hyn, gan adlewyrchu'r adroddiad a lywiwyd gan David ond hefyd yr adroddiad gan Shelter wrth gyfeirio at Loegr.

Cyfeiriodd Leanne Wood at adroddiad yn dangos yr angen am hyd at 12,000 o gartrefi y flwyddyn, gyda 37 y cant ohonynt yn y sector cymdeithasol. Mae hynny mewn gwirionedd yn adlewyrchu nifer o adroddiadau dros nifer o flynyddoedd, a phob un yn nodi lefelau tebyg o angen. Ond mewn gwirionedd, fel y nodwyd gennych, rydym wedi bod yn adeiladu llai na hanner y lefel honno.

Cyfeiriodd Nick Ramsay at brinder cartrefi hyblyg a gydol oes, a hefyd at y rôl allweddol y mae cymdeithasau tai di-elw yn eu chwarae yn hynny fel mewn cymaint o bethau eraill, at y modd y mae prisiau tai chwe gwaith y cyflog cyfartalog, at y capasiti a wastreffir yn y 27,000 amcangyfrifedig o gartrefi gwag yng Nghymru, a'r angen i dai cynaliadwy fod o fewn cymunedau cynaliadwy.

Cyfeiriodd Mike Hedges at y rhwystrau i brynwyr tro cyntaf ac i rentu—y cynnydd mewn aelwydydd un person a phensiynwyr. Dywedodd nad oedd cymdeithasau tai yn adennill y nifer o dai cyngor a gollwyd, er i hynny ddigwydd erbyn 1997 wrth gwrs, a soniodd am yr angen am ragor o dai cyngor, rhywbeth sy'n bosibl bellach wrth i Lywodraeth y DU godi'r cap ar fenthyca a rhoi caniatâd i adael y cyfrif refeniw tai sy'n golygu y gellir defnyddio elw gan denantiaid hefyd bellach i adeiladu tai cyngor newydd. Ond fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthyf ddoe mewn ymateb i fy nghwestiynau, rhaid i hynny fod mewn partneriaeth â chymdeithasau tai er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a hefyd yr effaith orau o ran adfywio cymunedol. Nid brics a morter yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â bywydau a chymunedau.

Soniodd Mark Reckless am effaith cynnydd ym mhrisiau tai, a'r angen i annog gwaith adeiladu a thwf.

Dywedodd Gareth Bennett na fyddai targed Llywodraeth Cymru yn ateb y galw a bod angen cymysgedd o dai sy'n wirioneddol fforddiadwy.

Soniodd Suzy Davies am yr angen i edrych ar y math o dai a lleoliad tai, yr angen i alluogi hawl i brynu, a bellach, diolch i Lywodraeth y DU, i allu buddsoddi'r elw ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol newydd, y defnydd o'r cynllun Cymorth i Brynu ar gyfer ailddechrau defnyddio eiddo gwag yn ogystal ag ar gyfer adeiladu tai newydd, a gwaith yr elusen ddigartrefedd Wallich gyda landlordiaid preifat i fynd i'r afael â digartrefedd.

Soniodd Hefin David am yr angen i gymell datblygu mewn ardaloedd nad ydynt yn ateb y galw, ac mae hynny'n allweddol wrth gwrs.

A soniodd y Gweinidog, Julie James—rwyf innau hefyd yn ei chroesawu i'w rôl newydd ac i siarad am hyn am y tro cyntaf yn ei phortffolio newydd—am yr angen i flaenoriaethu a gweithio gyda'n gilydd, a'r angen i dderbyn llawer, fel y mae hi'n ei wneud, o ddogfen y Ceidwadwyr Cymreig. Cyfeiriwyd at rôl y model ymddiriedolaethau tir cydweithredol a chymunedol. Yn wir, os edrychwch yn ôl, mewn gwirionedd, ar Gynulliadau blaenorol, mae hynny wedi'i ddatblygu, ac efallai yr hoffech edrych ar beth oedd canlyniadau hynny. A'r angen i annog mentrau bach a chanolig, adeiladwyr bach, hunanadeiladu, tai modiwlar, a'r flaenoriaeth yw darparu tai cymdeithasol, a dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi colli golwg ar hynny. Yn anffodus, yn negawd cyntaf y ganrif hon, gostyngodd y cyflenwad o dai fforddiadwy newydd gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru 73 y cant dros y degawd blaenorol, sy'n dangos, yn anffodus, fod Llywodraethau Cymru blaenorol wedi colli golwg ar hynny. Felly, fel y dywedais lawer blwyddyn yn ôl yn y Siambr hon yng nghyd-destun y rhybuddion ynglŷn â'r argyfwng tai sydd bellach gyda ni, gadewch inni roi cartref i dai yng Nghymru unwaith eto, gan gydnabod, fel y dywedais yn gynharach, nad yw'n fater o frics a morter yn unig; mae hyn yn ymwneud â gwell bywydau, bywydau iachach ac ailadeiladu cymunedau cynaliadwy.

18:05

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rwy'n mynd i symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen. Nac oes. Iawn. O'r gorau.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, galwn am bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 16, roedd 1 yn ymatal, a 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

NDM6909 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Roedd 30 o blaid gwelliant 1, 3 yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6909 Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6909 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.

b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.

2. Yn croesawu:

a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.

b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.

3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.

4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 30, roedd 3 yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6909 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig, cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 30, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Gwres gwyn technoleg?

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A gaf fi ofyn i'r Aelodau beidio â chael sgyrsiau yn y Siambr? Os ydych chi'n aros, eisteddwch. Os nad ydych, ewch allan yn gyflym os gwelwch yn dda.

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Mohammad Asghar i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Pan ddeuthum i'r Deyrnas Unedig yn 1970, roeddwn wedi gwneud fy BA mewn gwyddor gwleidyddiaeth a chymdeithaseg a rhoddwyd cyfle i mi astudio cyfrifiaduron, neu TG fel y'i gelwir heddiw, yn Llundain. IBM 360 model 30—roedd yn fwy o lawer na bwrdd cyfan y Llywydd. Yn y dyddiau hynny, roedd cyfrifiaduron bron â bod mor fawr ag ystafell wely ddwbl, ac mae'n fy rhyfeddu'n barhaol cymaint y mae technoleg wedi datblygu ers hynny.

Yn ddiweddar, darllenais erthygl lle y dywedodd sylfaenydd SpaceX a chrëwr Paypal, Elon Musk, rywbeth rwy'n cytuno'n gryf iawn ag ef. Dywedodd nad yw o bwys,

os ydych yn gyd-sylfaenydd neu'n brif swyddog gweithredol, rhaid i chi wneud pob math o dasgau nad ydych efallai am eu gwneud... Os nad ydych yn gwneud y mân orchwylion, ni fydd y cwmni'n llwyddo... Nid oes yr un dasg sy'n rhy isel.

Felly, bydd pob sgìl y byddwch yn ei dysgu mewn bywyd yn handi rywbryd. Ac efallai na fyddwn yn ei weld ar y pryd, ond fe wnawn ymhen amser.

Yn ôl Sundar Pichai, prif weithredwr Google—mae technoleg

yn datblygu y tu hwnt i ffonau, ac mae pobl yn ei defnyddio mewn cyd-destun ar draws nifer o senarios, boed yn eu set deledu, boed yn eu car, boed yn rhywbeth y maent yn ei wisgo ar eu harddwrn neu hyd yn oed rhywbeth llawer mwy tri dimensiwn.

Yn sicr, rydym yn byw mewn byd lle na all y rhan fwyaf ohonom weithredu hyd yn oed heb ein ffonau, ein cyfrifiaduron llechen, ein gliniaduron neu ein cyfrifiaduron. Rwy'n cyfaddef nad wyf y person mwyaf gwybodus ar y blaned ym maes TG, ond gwn fod y byd yn datblygu ar gymaint o gyflymder fel bod yn rhaid i bawb ohonom yng Nghymru ddal i fyny ag ef. A ydym yn gwneud hynny mewn gwirionedd? Efallai y cofiwch mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ar ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Honnai cefnogwyr datganoli fod hyn wedi'i adlewyrchu ym methiant cymharol economi Cymru. Honnent fod Cymru'n rhy ddibynnol ar y sector cyhoeddus am swyddi, fod diweithdra'n uwch a'r gweithlu'n llai medrus nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthym mai atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru yn unig a allai ddatrys y problemau economaidd hyn. Heddiw, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae'n dristwch imi orfod dweud mai Cymru sydd â'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Cyflogau wythnosol gweithwyr yng Nghymru yw'r rhai isaf, ac mae lefelau diweithdra yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU. A cheir bwlch sgiliau difrifol yng Nghymru.

Hanner cant a phump o flynyddoedd yn ôl, myfyriodd y Prif Weinidog, Harold Wilson, ar gyflymder newid technolegol a goblygiadau hynny i ddiwydiant. Os oedd y wlad i ffynnu, rhybuddiodd, byddai angen creu Prydain newydd yng ngwres gwyn chwyldro gwyddonol. Mae hynny'n wir am Gymru heddiw. Mae angen inni roi hwb i'r economi drwy fynd i'r afael â rhwystrau i dwf. Mae'r bwlch sgiliau cynyddol, yn enwedig ym maes sgiliau digidol, yn llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i ddatblygu.

Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain:

Mae'n bosibl mai prinder sgiliau a llafur fydd y maen melin mwyaf i fusnesau yn 2018, gan mai pobl yn y pen draw sy'n gwneud i fusnesau weithio.   

Mae mynegai datblygu digidol Barclays 2017, a ddadansoddodd 88,000 o hysbysebion swyddi a 6,000 o oedolion yn y DU, yn honni bod gweithwyr Cymru yn sgorio ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU am eu sgiliau digidol. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae cyflogwyr Cymru yn barod i dalu premiwm i weithwyr sydd â galluoedd prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol. Mae lefel medr ddigidol pobl yn prysur ddod yn ffactor allweddol sy'n penderfynu eu grym ennill. Yn ôl banc Barclays, gall meddu ar sgiliau digidol ychwanegu mwy na £11,500 flwyddyn at eich enillion posibl yng Nghymru. Mae'r rhyngrwyd wedi gwneud y cae chwarae'n llawer mwy gwastad i fusnesau, yn enwedig o ran gallu cwmni i gyrraedd eu cynulleidfa neu eu marchnad. Mae hefyd wedi gostwng y bar ar gyfer mynediad at fusnes yn ddramatig fel bod eu gwefan, i lawer o fusnesau newydd, yn bwynt ymgysylltu ac yn fan gwerthu iddynt.

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU ynghylch menter ddigidol gyda'r nod o ddatrys y prinder sgiliau digidol. Mae'r Sefydliad Codio gwerth £40 miliwn yn gytundeb partneriaeth gyda chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant mewn ymgais i gryfhau sgiliau digidol yn y wlad hon yn y dyfodol. Lluniwyd y consortiwm o fwy na 60 o brifysgolion, busnesau ac arbenigwyr y diwydiant. Bydd mewnbwn pendant gan gyflogwyr i'r cwricwlwm, gan weithio law yn llaw â'r prifysgolion i ddatblygu sgiliau arbenigol yn yr ardaloedd lle y mae fwyaf o'u hangen. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio mewn cydweithrediad â San Steffan drwy gadarnhau bod prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn mynd i gael cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau.

Mae addysg yn ganolog i sicrhau bod gennym sgiliau i ymdopi yn ein bywydau digidol, ond y ffaith amdani yw eu bod yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr yn cael trafferth dal i fyny. Mae sgiliau'n newid yn gyflymach nag y gall darparwyr addysg ffurfiol ddal i fyny â hwy. Mae'r diwydiant yn newid mor gyflym, ac erbyn yr amser y caiff y cwricwlwm ei lunio a'i gymeradwyo gan gyrff amrywiol ac y bydd myfyrwyr yn graddio yn y pen draw, rydych yn sôn am ddegawd bron o'r dechrau i'r diwedd.

Mae angen ymrwymiad hirdymor a chydlynol gan Lywodraeth Cymru tuag at 'Gymru ddigidol', o sgiliau i seilwaith. Fodd bynnag, mae Estyn yn dweud nad yw cynnydd disgyblion mewn sgiliau digidol wedi dal i fyny â'r dechnoleg. Maent yn honni bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau TGCh ar draws y pynciau yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd ac mewn traean o ysgolion cynradd. Mewn ychydig o dan ddwy ran o dair o ysgolion cynradd, ceir diffygion pwysig o ran safonau TGCh. Rhaid i mi gyfaddef, er bod y rhan fwyaf o bobl yn hyderus wrth ddefnyddio rhaglenni megis y rhai ar gyfer prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau'n aml yn gyfyngedig i ystod gul o gymwysiadau. Un o'r nifer o bryderon yw fod Llywodraeth Cymru yn methu hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gam cynnar.

Mae gwybodaeth gyrfaoedd mewn ysgolion am brentisiaethau yn hanfodol os ydym i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig sydd eu hangen yn daer ar ein heconomi. Ar hyn o bryd, ceir problemau gydag ansawdd ac argaeledd cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgolion. Mae ysgolion hefyd yn dangos tueddiad i annog disgyblion i astudio at Safon Uwch yn hytrach na phrentisiaethau.

Mae angen i sefydliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael mwy o fynediad at ysgolion i ehangu'r ystod o gyngor a gaiff pobl ifanc am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n peri pryder a diffyg cynrychiolaeth o blith pobl anabl a welwn ar hyn o bryd mewn prentisiaethau yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, mae angen i Gymru wynebu'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr economi fyd-eang fodern. Yn Google, pa bryd bynnag y byddant yn cynllunio i wneud naid uchelgeisiol tuag at gynnyrch neu wasanaeth newydd, maent yn ei alw'n 'moonshot'. Mae'n siŵr fod pawb ohonoch wedi clywed yr ymadrodd hwnnw—'Os anelwch am y lleuad, fe fyddwch chi o leiaf yn glanio ymysg y sêr.' Rwy'n credu bod angen inni annog pobl o bob oedran a chefndir, o bob cwr o Gymru, i fod yn ddigon dewr i anelu am y lleuad a rhoi cynnig ar eu 'moonshots' eu hunain.

Ddirprwy Lywydd, sgiliau digidol yw ein dyfodol, pa un a ydych yn gweithio ym maes iechyd, addysg, trafnidiaeth—unrhyw faes. O fewn yr 20 mlynedd diwethaf yn unig—dim ond 20 mlynedd—mae datblygiad digidol ym mhob agwedd ar fywyd wedi newid gwareiddiad yr economi fyd-eang, diwydiant byd-eang—. Digidol, digidol, digidol yw pob agwedd ar fywyd. Felly, rhaid inni gael meysydd penodol, pa un a ydynt yn sgiliau strategol, sgiliau sy'n darparu gwybodaeth, sgiliau offerynnol neu sgiliau digidol—rydym angen sgiliau eraill, ac mae angen inni hyfforddi ein plant i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi oherwydd bod y wlad—. Nid oes prinder arian ar gyfer addysg yma, felly os oes raid inni ddatblygu ein heconomi a'r dyfodol gorau i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni roi hwb cadarn a chefnogaeth lawn iddynt drwy sicrhau bod eu sgiliau digidol yn cael sylw llawn yn ein cwricwlwm. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Lee Waters?

Diolch yn fawr iawn. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos mai ychydig fisoedd yn ôl y safwn yn y Siambr hon yn gwneud araith debyg yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar sgiliau digidol, a hynny oherwydd mai ychydig fisoedd yn ôl yn unig y gwneuthum yr araith honno.

Hoffwn ddiolch i Mohammad Asghar am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n bwysig inni weithio ar draws y pleidiau ar yr agenda hon, ac fe'm trawyd gan ei ddyfyniad o araith enwog Harold Wilson yn 1963. Aeth Harold Wilson yn ei flaen i ddweud

nerth, diddyledrwydd, dylanwad Prydain, pethau y mae rhai'n dal i feddwl eu bod yn dibynnu ar rithiau hiraethus... mae'r pethau hyn yn mynd i ddibynnu dros weddill y ganrif hon i raddau nas gwelwyd o'r blaen ar ba mor gyflym y down i delerau â byd o newid.

Mae hyn mor wir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Rwy'n credu'n gryf mewn gwneud yn siŵr y gall Cymru ddod i delerau â, ac addasu i'r byd o newid y soniai Harold Wilson amdano yn yr araith y dyfynnodd Oscar ohoni. Mae awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn mynd i ddod â newidiadau mawr i'r gweithle ac maent wedi bod yn gwneud hynny o dan ein trwynau. Mae perygl y caiff unrhyw swydd sy'n cynnwys tasgau ailadroddus ar draws pob diwydiant ei hawtomeiddio. Ein rôl yw gweld technolegau newydd fel modd o ryddhau pobl i wneud pethau na all peiriannau mo'u gwneud. Fel yr eglurodd y Prif Weinidog newydd, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn darparu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol ac yn annog cwmnïau i adleoli pobl y mae eu tasgau'n cael eu trosglwyddo i ddeallusrwydd artiffisial eu gwneud fel y gellir harneisio eu medr a'u creadigrwydd er mwyn datblygu eu busnesau a chynorthwyo gwasanaethau rheng flaen.

Rhaid i'r dyfodol barhau i ymwneud ag arfogi ein pobl, ein lleoedd a'n busnesau i addasu i newid er mwyn wynebu'r dyfodol gyda hyder. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddais ychydig cyn y Nadolig, a nodai ystod o argymhellion ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud gwell defnydd o ddarpariaeth ddigidol. Ac un o gasgliadau allweddol yr adroddiad hwnnw, a ddatblygwyd gyda phanel o arbenigwyr, yw'r angen i sicrhau bod gan y sector cyhoeddus y sgiliau priodol i fanteisio ar gyfleoedd technoleg ddigidol.

Y llynedd, comisiynodd pwyllgor yr economi, dan gadeiryddiaeth Russell George, ymchwiliad i effaith deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth a derbyniodd Llywodraeth Cymru lawer o argymhellion yr adroddiad hwnnw, o ran sut y gall Cymru addasu i newidiadau a chyfleoedd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac rydym bellach yn gweithio i'w rhoi ar waith.

Consensws cyffredinol yr holl adroddiadau hyn, yn ogystal â gwaith ymchwil gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Banc Lloegr a llawer o rai eraill, yw fod technoleg yn trawsnewid, a bydd yn parhau i drawsnewid, y ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn gwneud busnes. Caiff cyflymder y newid ei bennu gan rymoedd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae gan y Llywodraeth rôl bwysig yn arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen a darparu'r seilwaith galluogi i baratoi'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer y newidiadau a wynebwn. Nid yw'r newid yn y sgiliau'n ymwneud yn unig â datblygu sgiliau digidol neu sgiliau TGCh. Bydd angen set fwy cymhleth o sgiliau ar yr economi a chyflogwyr i gynnal y sgiliau digidol hyn—sgiliau datrys problemau uwch, sgiliau rhyngbersonol, meddwl yn greadigol, gweithio mewn tîm. Caiff y rhain oll eu defnyddio'n helaeth mewn gwaith yn y dyfodol, a dyma'r mathau o bethau na all peiriannau mo'u gwneud—pobl yn unig sy'n gallu eu gwneud.

Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddiogelu'r gweithlu ar gyfer y dyfodol cyn belled ag y gallwn. Nid yw awtomeiddio tasgau ailadroddus a rhagweladwy yn newydd; mae wedi bod yn digwydd ers y chwyldro diwydiannol. Yr hyn sy'n newydd yw'r ystod o dasgau a sectorau yr effeithir arnynt a'r cyflymder yr effeithir arnynt. Yn draddodiadol, gwelwyd yr effaith fwyaf mewn gweithgynhyrchu. Yn y dyfodol, ac wrth inni siarad, mae hynny'n lledaenu ar draws yr economi. Mae Bill Gates wedi dweud ein bod yn tueddu i oramcangyfrif cyflymder y newid yr ydym yn debyg o'i weld yn y ddwy flynedd nesaf, ond yn tanamcangyfrif cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld yn y 10 mlynedd nesaf. Rwyf wedi mynegi pryderon ac wedi trefnu cyfarfodydd bwrdd crwn ar yr effaith a gaiff y newidiadau hyn mewn proffesiynau fel y gyfraith a chyfrifyddiaeth—meysydd na chawsant eu cyffwrdd o'r blaen gan awtomatiaeth, ond sydd bellach yn wynebu'r newid hwn yn eglur iawn.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn gallu deall y bydd cyfleoedd newydd i'w cael mewn meysydd megis amaethyddiaeth fanwl a'r defnydd o dechnoleg newydd wrth gynhyrchu bwyd. Ond yn ogystal â chanolbwyntio ar rolau swyddi risg uchel, dylem dderbyn hefyd efallai na fydd awtomatiaeth yn effeithio mor sylweddol ar rai galwedigaethau, yn enwedig swyddi mewn sectorau cymdeithasol megis iechyd a gofal, ond fe fydd yna effaith arnynt hwy hefyd. Bydd mwy a mwy o swyddi yn y maes hwnnw'n cael eu cynorthwyo gan beiriannau. A bydd hyd yn oed y bobl mewn swyddi yr ydym yn ystyried eu bod y tu allan i'r sector technoleg angen sgiliau i allu gweithio ochr yn ochr â'r dechnoleg.

Nawr, mae'n deg dweud bod buddsoddiad cyflogwyr ac ymwneud cyflogwyr â hyfforddiant yn dal yn her i Gymru fel y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Ni all y Llywodraeth ysgwyddo'r baich o gyllido addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ar ei phen ei hun, a bydd angen i chi greu system sy'n cymell cyflogwyr i fuddsoddi ochr yn ochr â'r cymorth a fydd ar gael drwy'r Llywodraeth. Mae angen inni ymrwymo i ddysgu gydol oes go iawn; dylai'r llwybr o'r gwaith i addysg ac yn ôl eto fod yn hawdd i unrhyw berson yng Nghymru. Rydym yn newid swyddi a gyrfaoedd—yn enwedig yn y gêm hon—yn amlach nag y gwnaethom erioed o'r blaen, ac mae gallu ailhyfforddi i ateb anghenion swyddi newydd yn hanfodol, ac mae pwysau awtomatiaeth sydd ar y ffordd yn atgyfnerthu ac yn cyflymu'r angen hwn.

Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy grynhoi rhai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i'r heriau hyn. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo unigolion i wella'u sgiliau ac i addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur, ac rydym wedi gofyn i'r Athro Phil Brown, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd i arwain yr adolygiad o oblygiadau arloesedd digidol i ddyfodol y gweithlu. Mae'n bwriadu cyhoeddi ei ganfyddiadau interim yn yr wythnosau nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn eu trafod yn y Siambr. Bydd rhaglen newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i bobl o bob oed oresgyn rhwystrau a meithrin sgiliau i gael a chadw swyddi da. Ac rydym yn uwchraddio ein darpariaeth brentisiaethau yn barhaus drwy ehangu'r cyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac rydym wedi ategu'r ymrwymiad hwn drwy gynyddu refeniw yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun prentisiaeth yng Nghymru. Bydd cynlluniau peilot yn dechrau cyn bo hir hefyd i brofi dull diwygiedig o weithredu cyfrifon dysgu unigol. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion cyflogedig ariannu ailhyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle y ceir prinder sgiliau. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau trefniadau ar gyfer gweithredu'r cynlluniau peilot hyn. Caiff hyn oll ei gynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd newydd, a'i seilio ar raglenni arloesol megis Creu Sbarc, y gwn y bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol ohoni, ac os nad ydych, buaswn yn eich annog i gysylltu â hwy; rhaglen ysbrydoledig yw hi i helpu busnesau technoleg newydd drwy ysgogi ac ennyn diddordeb pawb yn ecosystem Cymru er mwyn cefnogi arloesedd a hybu entrepreneuriaeth.

Nid oes unrhyw ddiben ceisio cysuro ein hunain â'r syniad nad oes angen i awtomatiaeth ddigwydd yma,

meddai Harold Wilson yn yr araith honno, ac roedd yn llygad ei le. Ni allwn atal awtomatiaeth, felly rhaid inni ei harneisio. Diolch.

18:25

Daeth y cyfarfod i ben am 18:27.