Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/10/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod lles disgyblion yn cael gymaint o sylw â chyrhaeddiad yn ein hysgolion uwchradd? OAQ52785
Diolch, Jenny. Mae iechyd meddwl cadarnhaol a lles yn ffactorau allweddol ym mherfformiad a chyrhaeddiad disgybl yn yr ysgol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i newid sylweddol yn y cymorth sydd ar gael yn hyn o beth ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol i ystyried dull o weithredu ar sail ysgol gyfan a fydd yn sicrhau bod lles yn dod yn rhan o ethos pob ysgol.
Wel, credaf fod hwnnw'n ddatblygiad calonogol iawn. Gwyddom fod Estyn wedi bod yn gwerthuso cynnydd safonau a lles dysgwyr sy'n byw mewn tlodi yn eu holl arolygon ers 2010, ond yn amlwg, nid yw hynny wedi bod yn ddigonol i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Gwyddom fod sawl rheswm pam fod disgyblion yn ei chael hi'n anodd o bosibl, gyda phroblemau yn y cartref neu broblemau yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio neu anghenion arbennig heb eu nodi. Gall hyn, ac mae hyn yn effeithio ar eu hymddygiad yn yr ystafell ddosbarth ac felly rwy'n derbyn bod gwaharddiadau'n angenrheidiol weithiau er mwyn gorfodi rheolau'r ysgol a sicrhau bod pob disgybl yn ddiogel ac mewn sefyllfa i ddysgu.
Gan edrych ar yr ystadegau, yn wahanol i Loegr, credaf ei bod yn dda gwybod nad yw'n ymddangos bod lefelau anghyfartal o ddisgyblion du'n cael eu gwahardd. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod gwaharddiadau parhaol yn cael effaith ddinistriol ar ragolygon hirdymor unrhyw unigolyn ifanc yn y sefyllfa honno, gan y bydd amheuaeth ynglŷn â pha mor gyflogadwy y byddant wrth gwrs, ac mae'r gost i wasanaethau cyhoeddus yn enfawr, o ran bod ar fudd-daliadau a'r rhan fwyaf ohonynt yn y pen draw'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl neu'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol.
Felly, gyda'r gweithgor newydd a'i ffocws mewn golwg, sut y gallwch sicrhau bod y plant mwyaf difreintiedig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt o ran llesiant fel y gall pob un ohonynt gyflawni hyd eithaf eu gallu? Ac a ydych yn fodlon fod y grant amddifadedd disgyblion yn arf digon cadarn ar gyfer mynd i'r afael â hyn?
Diolch, Jenny. Gwyddom fod plant sydd â lefelau uwch o lesiant emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol yn meddu ar lefelau uchel ar gyfartaledd o gyflawniad academaidd ac maent yn ymwneud mwy â'r ysgol, ar y pryd ac yn ystod y blynyddoedd wedyn, a dyna pam y buom yn glir iawn yng nghenhadaeth ein cenedl i sicrhau bod llesiant dysgwyr, gan gynnwys pob agwedd ar fywyd dysgwr, yn hollbwysig i ysgolion.
Fe gyfeirioch chi at y gwaith y mae Estyn wedi'i wneud yn flaenorol ar hyn. Yn y llythyr cylch gwaith i Estyn eleni, rwyf wedi gofyn iddynt wneud gwaith newydd i edrych ar sut y mae ysgolion yn sefydlu dull o weithredu ar sail ysgol gyfan mewn perthynas â llesiant, gan sefydlu beth sydd angen ei wneud i hynny ddigwydd yn llwyddiannus fel y gallwn rannu'r arferion da hynny.
Mae'r grant datblygu disgyblion yn offeryn pwysig iawn ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion dysgu penodol plant o'n cefndiroedd tlotach. Yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â gogledd Cymru, a siarad ag athrawon o Ysgol Gynradd Christchurch yn ardal y Rhyl—ysgol â lefelau uwch na 60 y cant o brydau ysgol am ddim—roeddent yn dweud bod y cyllid sydd ar gael iddynt drwy'r grant datblygu disgyblion yn werthfawr iawn ar gyfer sicrhau y gallant fynd i'r afael â'r anghenion plentyn cyfan sydd gan y disgyblion yn eu hysgol.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o brosiect hynod lwyddiannus Hafod yn dilyn ei hymweliad diweddar ag Ysgol y Preseli yn fy etholaeth. Fel y gŵyr, nod prosiect Hafod yw gwella lles disgyblion a hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, a chredaf fod hynny'n hollbwysig i gynorthwyo disgyblion i gamu ymlaen a chyflawni eu llawn botensial. O gofio'r diddordeb mawr y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i fynegi yn y prosiect hwn, a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar gefnogi'r prosiect llwyddiannus hwn?
Diolch, Paul, a diolch am y gwahoddiad a'r cyfle a gefais i ymweld ag Ysgol y Preseli gyda chi i glywed yn uniongyrchol gan y staff a'r myfyrwyr yn yr ysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwnnw. Ers yr ymweliad ag Ysgol y Preseli, rwyf wedi bod yn ffodus iawn yn wir i ymweld â'r PEAR Institute ym Mhrifysgol Harvard, sef partner Ysgol y Preseli yn cyflawni'r rhaglen honno, ac mae swyddogion wedi'u cyfarwyddo i gysylltu â'r PEAR Institute i edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r prosiect ymhellach, gyda'r posibilrwydd o weld a fyddai modd i ysgolion eraill gymryd rhan yn y rhaglen, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r gwaith hwnnw. Mae'r effaith y mae'r rhaglen yn ei chael yn Ysgol y Preseli yn ddiddorol iawn wir ac mae'n amlwg ei bod yn gwneud gwahaniaeth i lefelau lles y disgyblion, a hynny yn ei dro yn adlewyrchu ar eu cyflawniadau academaidd yn yr ysgol. Ac yn sicr, credaf fod rhywbeth yn y rhaglen honno y gallwn ddysgu ohono.
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi lles disgyblion ysgol benywaidd? OAQ52781
Diolch, Jane. Mae lles a diogelwch pob dysgwr yn hollbwysig. Mae cenhadaeth ein cenedl yn egluro ein hamcanion i ddarparu ysgolion cryf a chynhwysol sy'n ymrwymedig i ragoriaeth, tegwch a lles i bawb.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn nadl yr Aelodau ar dlodi mislif ym mis Mai, clywsom fod rhai merched ysgol o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan fyddant yn cael eu mislif oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb eitemau mislif digonol. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £700,000 o arian cyfalaf i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion, ac roedd yn arbennig o galonogol nodi y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cydnabod ymchwil sy'n dangos bod mwy o ferched yn dechrau eu mislif yn iau ac nad oes gan rai ysgolion cynradd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y cyllid hwn, a beth yw'r disgwyliadau o ran cynaliadwyedd y cyllid yn y dyfodol?
Diolch, Jane. Fel y dywedoch, yn gwbl gywir, cafodd yr arian a ddarparwyd gan fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, ei rannu'n ffrydiau cyfalaf a refeniw. Defnyddiwyd y £700,000 o arian cyfalaf i fuddsoddi mewn cyfleusterau toiled i ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod wedi'u cynllunio a bod ganddynt gyfleusterau i alluogi merched i ymdopi â'u mislif gydag urddas. Mae elfen refeniw'r grant wedi'i dosbarthu i awdurdodau lleol, gan fod y Llywodraeth yn credu mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y ffordd orau o ddosbarthu cynnyrch. Ac mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud naill ai drwy ganolfannau cymunedol, banciau bwyd neu nifer o brosiectau sydd ar waith mewn ardaloedd lleol. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gwariwyd y grantiau, ac mae'r arwyddion cynnar yn dangos bod yr arian hwnnw wedi'i ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd diddorol.
O ran cynnyrch mewn ysgolion, mae rhai awdurdodau lleol wedi darparu cynnyrch mewn ysgolion, ond dylai pob ysgol fod wedi egluro i ddisgyblion lle gallant gael gafael ar gynnyrch am ddim yn yr ysgol pe bai angen. Rwy'n deall nad yw arweinydd y tŷ wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â chyllid yn y dyfodol, ond yn amlwg, bydd yr adborth o'r defnydd a wnaed o'r arian hyd yn hyn yn dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau ariannu.
Dengys adroddiad gan yr elusen blant, Plan International UK, fod un o bob tair merch wedi wynebu aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus wrth wisgo gwisg ysgol, a dangosodd arolwg barn o 1,000 o ferched yn eu harddegau a menywod ifanc rhwng 14 a 21 oed ledled y DU fod dwy o bob tair merch wedi dioddef sylw rhywiol neu gyswllt corfforol rhywiol digroeso yn gyhoeddus. Mae Chwarae Teg wedi canfod y gall aflonyddu rhywiol beri i ferched beidio â dilyn eu llwybr gyrfa dewisedig. Nawr, rwy'n bryderus ynglŷn â'r holl ganfyddiadau hyn, ac maent yn syndod mawr o ystyried yr hinsawdd sydd ohoni. Ond hoffwn wybod gennych pa gymorth sydd ar gael i ddarparu cymorth i ferched sydd wedi dioddef yn sgil aflonyddu ac ymosodiadau rhywiol. Gallai hwn fod yn gyfle da i chi edrych ar ddarparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, gan fod Cymdeithas y Plant wedi dod i'r casgliad eu bod yn anghyson. Ac a allwch ddweud wrthyf hefyd pa waith y mae ysgolion yn ei wneud i addysgu pobl ifanc nad yw aflonyddu rhywiol yn dderbyniol?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Leanne Wood am godi'r pwnc pwysig hwn? Roeddwn innau'n arswydo, ond nid yn synnu, wrth weld canfyddiadau arolwg Plan International UK. Rwy'n awyddus i sicrhau bod lleoliadau addysgol yng Nghymru yn lleoedd diogel, yn lleoedd y gall pob merch fod yn hyderus ac ymgymryd â'u hastudiaethau a'u gweithgareddau heb y bygythiad hwn. A dywedaf hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet ac fel mam i dair merch. Yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud. Ar fater cefnogi merched, mae'n amlwg fod angen sicrhau bod ein cwricwlwm, drwy ein gwersi addysg bersonol a chymdeithasol presennol, ac yn ein cwricwlwm newydd ein rhaglen addysg rhywioldeb a perthnasoedd newydd, yn archwilio'r materion hyn o oedran ifanc iawn ar gyfer merched a bechgyn, oherwydd, wrth gwrs, mae bechgyn yn gwbl hanfodol wrth sicrhau nad yw merched yn gorfod goddef ymddygiad o'r fath. Yn ein cwricwlwm newydd, bydd ein haddysg perthnasoedd a rhywioldeb newydd yn dechrau ar yr oedran ysgol statudol. Felly, o'n disgyblion ieuengaf, byddwn yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hyn fel y gallwn weld newid diwylliant mewn perthynas â'r modd y mae merched a menywod yn gorfod byw eu bywydau.
O ran gwasanaethau cymorth presennol, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb, dyletswydd yn wir, i ddarparu gwasanaethau cwnsela i bob plentyn ym mlwyddyn 7, drwy'r ysgol uwchradd ac ym mlwyddyn 6. Mae awdurdodau lleol unigol wedi dewis gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, yn fy awdurdod lleol i, maent yn dibynnu'n helaeth ar gyfleusterau cwnsela ar-lein ac maent wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bobl ifanc. Ond mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny.
Rydym hefyd, wrth gwrs, ar fin cynnal ymgynghoriad ar y wisg ysgol ei hun i ystyried cyflwyno canllawiau statudol newydd ar wisg ysgol, a bydd hynny, gobeithio, yn ymdrin â rhai o'r pryderon sydd gan ferched o bosibl ynglŷn â beth y gallant ei wisgo, o ran gwisg ysgol a dillad ymarfer corff, a gobeithio y bydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth amser yn ôl, gofynnais i chi a oeddech yn credu y byddai ymadael â'r UE yn arwain at unrhyw fanteision i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ac fe ddywedoch nad oeddech. Mewn erthygl gan y BBC yn gynharach y mis hwn, tynnwyd sylw at y ffaith bod ein colegau'n gweld bod cyfleoedd i'w cael ar gyfer addysg bellach ac uwch i'r rheini sy'n mynd i'r drafferth o edrych amdanynt. A yw'r erthygl honno yn gynharach y mis hwn, lle nododd y BBC fod pennaeth coleg Caerdydd wedi dweud bod Brexit yn arwain at hwb enfawr o £3 miliwn gan fyfyrwyr o Tsieina, yn dangos eich bod yn anghywir neu ai pennaeth y coleg sy'n anghywir?
Rwy'n falch iawn fod Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn bwysig iawn i'n sefydliadau AB ac AU, a hoffwn anfon neges glir iawn i fyfyrwyr ledled y byd y gallant fod yn sicr o brofiad cadarnhaol iawn wrth ddod i astudio yng Nghymru. Pe bawn i ond yn gallu darbwyllo'r Swyddfa Gartref i beidio â chynnwys eu niferoedd yn ein ffigurau mewnfudo, efallai y gallem gael mwy ohonynt eto.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Aeth yr is-bennaeth yn ei blaen i ddweud:
Mae ein partneriaeth gyda Tsieina wedi dod yn gryf iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy gymorth Brexit o bosibl.
Mae eich plaid chi—ac wrth hynny golygaf blaid y Democratiaid Rhyddfrydol rydych yn ei chynrychioli, yn hytrach na'r Blaid Lafur rydych yn ei gwasanaethu—eisiau anwybyddu pleidleisiau mwyafrif pleidleiswyr Cymru ac aros yn yr UE, fel y mae eich cyd-Aelodau o'r Cabinet. Os cewch eich dymuniad a'ch bod yn sicrhau Brexit ffug, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wneud iawn am y diffyg gwerth miliynau o bunnoedd o'r difidend y gall prifysgolion a cholegau ei ddisgwyl yn sgil Brexit?
Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, mai'r Aelod, ac efallai ei chyd-Aelodau o'i chwmpas—ond nid wyf fi byth yn gallu dweud a oes consensws ymhlith aelodau grŵp UKIP—yw'r unig bobl y gwn amdanynt, yn y sectorau AB ac AU, nad ydynt yn anesmwyth ynglŷn â Brexit. Buaswn yn ei hannog i wrando ar Prifysgolion Cymru a'r sector AB ynglŷn â'r heriau real iawn fydd yn wynebu addysg bellach ac uwch o ganlyniad i Brexit: y ffaith y bydd cyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr a all ddod yma i astudio; y ffaith bod cryn dipyn o bryder eisoes ymhlith aelodau o staff Ewropeaidd sydd eisoes o bosibl yn gwneud penderfyniadau i adael addysg uwch Cymru a mynd i weithio yn rhywle arall; y bygythiad i Horizon 2020, a'r bygythiad i allu myfyrwyr Cymru i gymryd rhan yn Erasmus+. Mae'r holl faterion hynny'n fygythiad gwirioneddol i'n sectorau AB ac AU.
Diolch am y rhestr o sgwarnogod, Ysgrifennydd y Cabinet. Af ymlaen i drafod yr agwedd ymarferol ar hyn. Hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd i helpu prifysgolion a cholegau i farchnata eu hunain i'r sylfaen myfyrwyr rhyngwladol ehangach a mwy proffidiol. Er enghraifft, a ydych wedi gofyn i'r is-gangellorion mewn colegau AB pa gymorth ymarferol y gallwch ei roi iddynt? Er enghraifft, noddi a threfnu eu presenoldeb mewn ffeiriau addysgol a thalu am ryddhau staff iddynt allu gwneud hynny mewn marchnadoedd rhyngwladol megis Tsieina a Malaysia, a allai fod yn broffidiol iawn i ni, neu'r modd y gallai cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sicrhau bod eu hymgyrchoedd marchnata'n cael mwy o effaith, fel y gellir denu mwy o fyfyrwyr i Gymru. A allwch egluro, os gwelwch yn dda, pa gamau ymarferol rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd i farchnata ein prifysgolion a'n colegau y tu hwnt i'r UE, sef lle mae'r rhan fwyaf o'r farchnad mewn gwirionedd—nid yr UE?
Yn amlwg, nid oedd yr Aelod yn gwrando'n astud iawn pan oeddwn yn rhoi tystiolaeth ar hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Pe bai wedi gwrando, byddai'n ymwybodol o'r buddsoddiad o fwy na £2 miliwn a roddwyd i Cymru Fyd-Eang drwy'r gronfa bontio Ewropeaidd i'w cynorthwyo i farchnata eu sefydliadau AU dramor. Ym mis Medi, gydag is-ganghellor Prifysgol Abertawe, cynhaliais ddigwyddiad 'Astudio yng Nghymru' yn swyddfa conswl Prydain yn Efrog Newydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein perthynas gyda'r sector AU yn Fiet-nam, a bydd un o ddirprwy is-gangellorion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Fiet-nam cyn bo hir, eto i ddatblygu gwaith systemau i systemau.
Ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir, er bod hyn oll i'w groesawu'n fawr, pe bai'r Aelod yn gwrando ar Prifysgolion Cymru, byddai'n ymwybodol o'u pryderon enfawr ynghylch effaith Brexit. Pe bai'n gwrando ar lais y myfyrwyr, byddai'n ymwybodol mai'r pryderon a fynegwyd gan y prifysgolion a'r pryderon a fynegwyd gennyf fi a'r Llywodraeth hon yw'r pryderon a fynegwyd gan lais y myfyrwyr. Tybed pam fod cymaint o gonsensws ar hyn os yw'r pryderon yn ddi-sail.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, mae athrawon mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, wrth gwrs, o 3.5 y cant, neu hyd at 3.5 y cant, ond bydd gennym ni sefyllfa wedyn lle bydd athrawon sy'n dysgu disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, tra bydd y rhai sy'n dysgu myfyrwyr chweched dosbarth mewn colegau addysg bellach, wrth gwrs, ddim yn derbyn codiad cyflog cyfatebol. Nawr, nid wyf yn mynd i ofyn ichi ymyrryd yn y trafodaethau presennol yna, ond, o ran egwyddor, a ydych chi'n cytuno bod angen sicrhau chwarae teg cyflog i athrawon mewn colegau addysg bellach, o'u cymharu ag athrawon ysgol?
A gaf i ddiolch yn fawr, Llyr, am y cwestiwn? Byddwch chi'n ymwybodol bod cyflogau athrawon yn cael eu penderfynu ar hyn o bryd gan y Llywodraeth yn San Steffan, a byddwn yn derbyn consequential er mwyn talu ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n digwydd pan fo'n dod i addysg bellach.
O ran beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, rŷm ni'n monitro'r sefyllfa, wrth gwrs, gyda beth sy'n digwydd yn y negodi rhwng yr undebau a ColegauCymru, a gadewch inni fod yn glir mai nhw sydd yn gyfrifol am benderfynu beth yw'r cyflogau. Ond, o ran egwyddor, rydw i'n meddwl y byddai hi'n gwneud synnwyr bod rhywun sy'n dysgu ffiseg mewn ysgol i'r chweched dosbarth efallai yn haeddu'r un math o gyflog â phobl sydd yn dysgu mewn coleg chweched dosbarth.
Diolch ichi am yr eglurdeb yna, ac am dderbyn yr egwyddor, achos mae hi'n neges bwysig, rydw i'n meddwl, y mae'r sector eisiau ei chlywed. Wrth gwrs, yn ôl ColegauCymru, mae'n debyg y bydd angen £10 miliwn i dalu am godiad cyflog ar gyfer staff addysg bellach er mwyn cynnig codiad cymesur ar eu cyfer nhw.
O fod yn ymwybodol o sefyllfa gyllido'r sector fel y mae hi ar hyn o bryd, mae'n debyg y byddai gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â'r gost, neu o leiaf peth o'r gost yna, felly a gaf i ofyn, gan eich bod chi'n gwybod bod yna anghydfod ar hyn o bryd, gan eich bod chi'n gwybod mai'r tebygolrwydd yw y bydd gofyn i'r Llywodraeth gyfrannu at y gost ychwanegol yna petai hi'n codi, a hefyd gan eich bod chi'n gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yma yn y broses o gael ei chwblhau, pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael â'r Gweinidog neu'r Ysgrifennydd cyllid i ddadlau dros gefnogaeth ychwanegol i sicrhau cyflogau tecach ar gyfer y rheini yn y sector?
Tan ein bod ni'n glir beth y mae'r trafodaethau yn mynd i'w benderfynu, mae'n anodd iawn inni benderfynu beth ddylai fod yn y gyllideb, ond a gaf i fod yn glir gyda chi ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa? Mae Ysgrifennydd y gyllideb yn ymwybodol y bydd hwn, efallai, yn fater y bydd yn rhaid edrych arno. Felly, rydw i'n meddwl bod rhaid tanlinellu'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n trio delio â'r materion hyn tra ydym ni dal yn ceisio trafod ac wynebu austerity. Mae hynny wedi creu problem, wrth gwrs. Felly, mae'n gwestiwn anodd inni i wneud y penderfyniadau hyn, ond mae eisiau ichi fod yn hollol glir ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa, a bod yr Ysgrifennydd cyllid hefyd yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Diolch yn fawr. Nawr, mi ddywedoch chi yn ddiweddar, ac rydw i'n siŵr eich bod chi wedi rhagweld y byddai rhywun yn codi hyn—ond mi ddywedoch chi fod angen mwy o bwyslais ar ddysgu gydol oes, ac nad yw hynny yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. A allwch chi fod yn glir gyda ni, onid eich bai chi yw hynny, oherwydd chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes o fewn y Llywodraeth yma?
Diolch yn fawr. Yn amlwg, roedd hynny wedi ei ddweud mewn fforwm gwahanol, ac nid yma yw'r lle, rydw i'n meddwl, i drafod blaenoriaethau'r dyfodol i'r Blaid Lafur. Ond, a gaf i fod yn glir mai llymder sydd wedi achosi'r toriadau sydd wedi digwydd hyd yn hyn, ond bod y Llywodraeth bresennol yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod ni'n cario ymlaen i fuddsoddi mewn basic skills, mewn dysgu Saesneg i bobl sydd â Saesneg fel ail iaith, a hefyd ar gyfer sicrhau bod pobl gyda sgiliau digidol? Felly, mae'r ymrwymiad yna ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roedd ddoe yn ddiwrnod Adfywio Calon. Rwy'n siŵr eich bod wedi rhagweld y cwestiwn hwn. Dim ond hyn a hyn y gall cynllun yr Ysgrifennydd iechyd ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ei wneud, a hyd y gallaf ddweud o siarad â'r elusennau perthnasol ledled Cymru, mae gwrthwynebiad ymhlith eich swyddogion i gynnwys sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, nid adfywio cardio-pwlmonaidd yn unig, fel rhan orfodol o gwricwlwm newydd Donaldson. Nawr, rwy'n sylweddoli bod dull Donaldson yn ymwneud â pheidio â bod yn rhy gyfarwyddol, ond ceir eithriadau i hyn yn barod. Pa dystiolaeth sy'n rhaid i mi ei rhoi ichi er mwyn sicrhau bod addysgu sgiliau achub bywyd gorfodol yn un o'r eithriadau hynny?
Diolch, Suzy. Yn wir, roeddwn wedi rhagweld y byddech, ar ryw adeg, yn gofyn y cwestiwn hwn, oherwydd eich gwaith yn ymgyrchu ar hyn. Fel y dywedwch yn gwbl gywir, mae 'Dyfodol Llwyddiannus' wedi ein herio i ailfeddwl am ein hymagwedd at y cwricwlwm, ac mae'n dweud yn glir iawn fod lefel uchel o gyfarwyddyd a manylder ar lefel genedlaethol yn cyfyngu, a dyfynnaf o adroddiad Donaldson,
'ar y llif a'r dilyniant yn y dysgu gan blant a phobl ifanc'.
Fel y cyfryw, mae angen inni sicrhau nad yw'r cwricwlwm yn rhoi rhestr gynhwysfawr a manwl o bopeth sy'n rhaid ei addysgu, ac mae perygl gwirioneddol wrth wneud hynny. Fodd bynnag, mae'r rhain yn sgiliau pwysig a ddylai fod ar gael i blant eu dysgu. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol mai un o'r meysydd dysgu a phrofiad, fel yr amlinellodd Donaldson, yw iechyd a lles, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn ein rhwydwaith o ysgolion arloesi. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gydag ysgolion arloesi a chynrychiolwyr o Sefydliad Prydeinig y Galon, y Groes Goch Brydeinig ac Ambiwlans Sant Ioan i ystyried diogelwch ac iechyd pobl eraill yn y cwricwlwm newydd. Ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried sut y gall y cwricwlwm gefnogi a galluogi ysgolion i ymgorffori sgiliau achub bywyd yn ôl angen y dysgwr.
Diolch. Roeddwn wedi rhagweld eich ateb chi hefyd, fel y mae'n digwydd. Rwy'n disgwyl y byddwn yn ôl yma cyn i gwricwlwm Donaldson gael ei gwblhau'n derfynol, gan y credaf fod lle—nid yw hyn yr un fath â, 'A gaf fi roi hebogyddiaeth ar y cwricwlwm?', mae a wnelo â sgiliau achub bywyd. Ac mae galw am iddo fod yn orfodol ar y cwricwlwm, hyd y gallaf ddweud, felly efallai y byddwn yn dychwelyd ato.
Yn y cyfamser, hoffwn ddychwelyd at y cwestiynau y buoch yn eu hateb yn gynharach ar les disgyblion ysgol benywaidd. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi canfod fod bwlio ar sail rhywedd, wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem yn ein hysgolion, a bod cydnabyddiaeth bellach fod anhwylder sbectrwm awtistiaeth ymhlith merched, mae'n debyg, yn cael ei nodi'n llai aml na nifer yr achosion mewn gwirionedd, yn rhannol wrth gwrs am fod merched yn llwyddo i ddysgu ymddygiad sy'n cuddio eu gwir brofiadau. Nawr, yn bersonol, credaf y bydd Bil Paul Davies yn cyfeirio sylw ac adnoddau at hyn, ond buaswn yn falch o gael gwybod beth rydych yn ei wneud ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff a disgyblion ynglŷn â sut y gellir nodi merched sydd â chyflyrau anhwylder sbectrwm awtistiaeth mewn ysgolion, a sut i'w cefnogi os ydynt yn cael eu bwlio, ac efallai ar yr adegau hynny pan allent hwy fod yn bwlio rhywun arall. Diolch.
Diolch, Suzy. Gadewch imi ddweud yn glir: prin yr aiff diwrnod heibio heb i rywun ofyn imi roi rhywbeth yn y cwricwlwm, felly, credwch fi, mae cryn dipyn o alw am wneud llawer iawn o bynciau yn elfen statudol o'r cwricwlwm. Nid wyf yn gwybod os wyf fi erioed wedi cael hebogyddiaeth, ond rwyf wedi cael awgrymiadau y dylai pethau eraill o'r math hwnnw fod yn orfodol i bob plentyn ysgol.
Ar fater bwlio, rwy'n siŵr fod llawer o'r Aelodau wedi gweld sylw yn y papurau newydd ac ar y rhyngrwyd i achosion yn ymwneud â merch ifanc yr wythnos hon. Hoffwn ddweud yn gwbl glir: nid oes unrhyw le i fwlio unrhyw un o'n myfyrwyr yn ein hysgolion mewn unrhyw ffordd. Fel y dywedais wrth Leanne Wood, rwy'n disgwyl i'n hysgolion fod yn lleoedd diogel ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Y tymor hwn, rydym yn y broses o ddiweddaru ac adnewyddu ein canllawiau gwrth-fwlio i ysgolion i'w gwneud yn ddogfen lawer mwy defnyddiol na'r hyn a fu gennym yn y gorffennol o bosibl, a bydd honno'n cael ei chyhoeddi maes o law.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn hefyd ynglŷn â nodi a chynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol—
Na, na.
—o bob math.
Ond nid ADY.
ADY a phlant â niwro-wahaniaethau sydd efallai'n dangos mathau gwahanol o ymddygiad yn yr ysgol a all fod yn rhywbeth y mae bwli yn penderfynu canolbwyntio arnynt. Felly, mae ein datblygiad dysgu proffesiynol newydd, fel rhan o addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus i staff sydd eisoes yn yr ysgol—mae'n ymdrin yn rhannol ag ADY, oherwydd os gallwn sicrhau bod pethau'n iawn i blant ag ADY byddwn yn sicrhau bod pethau'n iawn i'n holl blant. Mae manteision gwell dealltwriaeth, empathi a sut y gallwn ymdopi â gwahaniaeth yn ein hystafell dosbarth—waeth beth yw natur y gwahaniaeth hwnnw—yn helpu ein holl blant. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adborth cychwynnol gan Estyn, sy'n edrych ar ein rhaglen newydd i baratoi a thrawsnewid y system ADY, wedi bod yn gadarnhaol iawn am y datblygiadau hyd yn hyn.
Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, mewn gwirionedd. Rwy'n falch o glywed bod y gwaith yn mynd rhagddo ar y canllawiau ar fwlio, a gobeithiaf y byddant mor eang â phosibl ac yn cynnwys bwlio pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol—a llu o ffactorau eraill rydym wedi eu trafod yma o'r blaen.
Roeddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gadarnhau nad yw'r codiad cyflog ar gyfer athrawon—yr arian canlyniadol Barnett ohono, y dywedasoch y byddai'n mynd i athrawon mewn sesiwn gwestiynau ddiweddar yma—yn cynnwys darlithwyr, yn ôl pob tebyg. A gaf fi ofyn ichi felly—dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, ychydig wythnosau yn ôl wrth ateb fy nghwestiwn ar y gyllideb ddrafft, ei fod yn rhoi £15 miliwn yn eich cyllideb i fynd, a dyfynnaf, yn uniongyrchol i ysgolion. Nawr, ai arian newydd yw hwnnw neu a yw'n rhan o'r £100 miliwn y mae eisoes wedi'i addo chi, ac ar beth fydd yn cael ei wario?
Yn gyntaf oll, a gaf fi gywiro—? Mae'n rhywbeth technegol, ond mae angen ei gywiro.
O'r gorau.
Nid oes arian canlyniadol Barnett i dalu am godiad cyflog athrawon. Yn Lloegr, mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o'r Adran Addysg. Mae'r rhain yn adnoddau rydym wedi darbwyllo Llywodraeth San Steffan ei bod yn ddyletswydd arnynt i'w darparu inni, felly nid yw'n arian canlyniadol Barnett. Er bod hynny'n swnio fel peth bach, mewn gwirionedd, wrth ystyried y darlun mawr, mae'n wahaniaeth go bwysig i'w wneud. Gallaf ddweud yn gwbl glir hefyd y bydd pob ceiniog o'r arian hwnnw'n cael ei ddosbarthu, drwy'r grant cymorth refeniw, i awdurdodau lleol ei ddefnyddio ar gyfer cyflogau athrawon. Ni fydd dim ohono'n cael ei gadw yn ganolog. Mae'r £15 miliwn yn ychwanegol at fy nghyllideb i; dyna pam y gwelwch arwydd plws wrth ymyl y prif grŵp gwariant addysg yng ngwaith papur y Gweinidog cyllid. Byddwn yn dosbarthu'r arian drwy awdurdodau lleol unigol. Bydd yn cael ei ddarparu'n bennaf at ddibenion datblygu proffesiynol, a gobeithiaf wneud datganiad i'r Siambr maes o law i roi manylion llawn ein pecyn datblygiad proffesiynol newydd ar gyfer y staff sydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon? OAQ52771
5. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer cyflogau athrawon ar ôl i bwerau yn y maes hwn gael eu datganoli? OAQ52764
Diolch yn fawr, Joyce. Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiwn 3 a chwestiwn 5 gael eu grwpio. Felly, datganolwyd y pwerau hyn ar 30 Medi. Bydd y cyflogau ac amodau athrawon cyntaf i gael eu gosod gan Weinidogion Cymru yn weithredol o 1 Medi 2019. Byddant yn cael eu llywio gan system sy'n cynnwys trafodaeth fanwl gyda fforwm partneriaeth rhanddeiliaid ac yn cael eu hystyried yn fanwl gan gorff adolygu annibynnol newydd.
Diolch am eich ateb ac edrychaf ymlaen at weld yr ymgynghoriadau a ddaw yn ôl. Yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth fydd y prif fanteision i athrawon a disgyblion yn y dyfodol, gan fod gennym y pwerau hynny bellach?
I mi, dyma'r darn olaf yn y jig-so addysg ac rwy'n falch iawn wir ein bod wedi gallu cyrraedd y sefyllfa hon lle mae'r pwerau bellach wedi'u datganoli'n ffurfiol. Ers llawer gormod o amser, rydym wedi gweld y gyfundrefn cyflogau ac amodau athrawon yn ymateb i agenda Llywodraeth wahanol i gefnogi system addysg wahanol. Mae hyn yn caniatáu inni deilwra cyflogau ac amodau ein hathrawon i adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth wraidd ein system addysg, a gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle inni sicrhau mai Cymru yw'r lle i fod yn weithiwr addysg proffesiynol.
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. A wyf yn dweud:
'A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer cyflogau athrawon ar ôl i bwerau yn y maes hwn gael eu datganoli?'
Neu a ydym wedi bod yno?
Mae angen ichi ofyn eich cwestiwn atodol.
Iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich barn chi, beth yw'r cyfleoedd allweddol yn sgil datganoli cyflog yn benodol? A pha mor wahanol y disgwyliwch i'r drefn ar gyfer cyflogau fod i'r drefn yn Lloegr, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar?
Diolch, Mr Reckless. Rwyf wedi dweud yn glir iawn, ar ôl datganoli'r pwerau hyn, na fydd athrawon yng Nghymru dan anfantais o gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr. Oherwydd natur barhaus cyni, mae'r cyfleoedd ar gyfer cyflog yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ond credaf fod rhai cyfleoedd cyffrous iawn i'w cael mewn perthynas â mater amodau. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod am yr adroddiad a gyhoeddwyd y mis diwethaf gan yr Athro Mick Waters, sy'n rhoi rhai awgrymiadau diddorol imi ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio'r pwerau newydd hyn. Mae'n ddarn diddorol o waith, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 1992, ac rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i weithio gyda'r timau uwch reoli mwyaf rhagorol. Yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi rhoi cyngor ichi ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn, rwy'n sylwi y gallai'r ffordd y caiff penaethiaid eu cyflogi newid yn sylweddol, fel eu bod yn cael eu cyflogi ar sail ranbarthol a chenedlaethol. Nawr, tybed sut y gallai hynny weithio. Ai'r syniad wrth wraidd hynny yw gwella'r ysgolion sy'n cyflawni ar lefel y credwn fod angen ei gwella, er mwyn sicrhau eu bod yn dod cystal â'r goreuon, a'ch bod yn rhoi timau uwch reoli newydd ynddynt i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David am ei ymrwymiad personol i genhadaeth ein cenedl drwy wasanaethu fel llywodraethwr? Fel y dywedais wrth Mark Reckless, ceir rhai awgrymiadau arloesol iawn yn yr adroddiad gan yr Athro Mick Waters ac eraill. Yr hyn a wyddom yw bod arweinyddiaeth dda yn allweddol i sefydliad llwyddiannus, ac mae ganddo bethau diddorol i'w dweud ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio ein harweinwyr gorau yn y system i godi safonau. Wrth gwrs, mewn gwledydd eraill, gwledydd sy'n perfformio'n uchel yn y byd addysg, mae'r broses o reoli adnoddau dynol y gweithlu addysgu yn cael ei rheoli o'r canol, ac yn wir, mae'r Llywodraeth yn pennu ysgolion i benaethiaid, ond hefyd i athrawon unigol weithio ynddynt. Nawr, wrth gwrs, ni fuaswn yn dymuno corddi'r dyfroedd y prynhawn yma drwy awgrymu mai i'r cyfeiriad hwnnw rydym yn mynd, ond ceir rhai cynigion diddorol yng ngwaith Mick Waters. Wrth gwrs, byddwn yn ymateb iddynt yn ffurfiol, a bydd unrhyw ymateb gennym fel Llywodraeth yn digwydd mewn cydweithrediad â'r sector ei hun, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, y byddaf yn cyfarfod â hwy ddydd Gwener, yn ogystal â'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau a phobl eraill sydd â buddiant yn y maes hwn.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau y mae eu hangen ar fusnesau i dyfu economi Cymru? OAQ52759
Diolch, Mohammad. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu medrus, gan gynnwys darparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae ein rhaglen sgiliau hyblyg yn cefnogi busnesau ledled Cymru i uwchsgilio eu gweithlu, ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod darpariaeth sgiliau ym mhob rhanbarth yn ymateb i anghenion busnesau.
Diolch yn fawr am eich ateb manwl, ond fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Estyn wedi canfod nad yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yn eu rheoli'n dda a bod llawer o gyrsiau wedi dyddio. Aethant ymlaen i ddweud, o ganlyniad i hynny, nad yw llawer o ddarparwyr yn adlewyrchu ymarfer cyfredol ac anghenion cyflogwyr yng Nghymru. Mae Dŵr Cymru yn anfon eu staff i'r coleg yn Lloegr i gyflawni anghenion hyfforddi, tra bo cwmnïau mawr eraill wedi gorfod datblygu eu prentisiaethau eu hunain gan na chynigir eu hanghenion hyfforddi mewn mannau eraill yn y wlad hon. Pa gamau rydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn er mwyn sicrhau bod gan weithwyr Cymru y sgiliau sydd eu hangen i alluogi busnesau i dyfu a ffynnu, os gwelwch yn dda?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle: Llywodraeth Cymru a gomisiynodd yr adroddiad hwnnw gan Estyn, wrth gwrs, gan ein bod yn pryderu nad oeddem, efallai, mewn perthynas â'r fframwaith prentisiaethau uwch, yn sicrhau'r mathau o ganlyniadau roeddem wedi gobeithio amdanynt. Felly, dyna pam y comisiynwyd yr adroddiad gennym. Yn amlwg, rydym o ddifrif ynglŷn â'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Rydym yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i sicrhau eu bod yn deall bod angen codi safonau, ac mae llawer o hyn ymwneud â sicrhau ein bod yn cyfathrebu ac yn gweithio gyda'r sectorau priodol i sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion yr hyn sydd ei eisiau ar fusnesau, fel bod gwir angen i'r cwricwlwm fynd i'r afael â'r materion y mae angen iddynt weithio mewn ffordd gadarn, mewn ffordd ymarferol, yn y gweithle.
Yn ôl ymchwil diweddar gan Chwarae Teg, mae menywod ifanc yn dal i ffafrio sectorau gwaith sydd wedi'u dominyddu gan fenywod yn draddodiadol, er yr angen am fwy o fenywod mewn meysydd fel STEM ac ati. Un honiad yn yr adroddiad ydy nad ydy gwasanaethau cyngor gyrfaoedd yn cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar ferched ifanc. Rydw i yn gwybod bod yna nifer o unigolion yn gwneud gwaith clodwiw, ond a ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod gwasanaethau cyngor gyrfaoedd yn herio stereoteipiau yn ddigonol ac yn darparu gwybodaeth am bob math o yrfaoedd a sectorau?
Diolch i chi. Rydym ni i gyd yn poeni am y diffyg menywod a merched sy'n mynd i mewn i STEM. Mae eisiau i ni gynyddu hynny, a dyna pam mae gyda ni raglen benodol i sicrhau ein bod ni yn ceisio cael mwy o ferched i astudio'r pynciau yma. Mae lot fawr o arian Ewropeaidd wedi cael ei ariannu'n ddiweddar i wthio'r syniad yma ymlaen, i hybu merched i fynd i mewn i'r sector yma. Rydw i yn meddwl bod y sector gyrfaoedd yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa. Mae gyda ni ddiwrnodau fel Have a Go days, ble maen nhw yn annog merched i gael go ar bethau sydd ddim yn ardaloedd traddodiadol ar gyfer merched. Felly, mae hwn yn bwnc pwysig ofnadwy i'r Llywodraeth, a beth nad ydym ni eisiau gweld yw bod merched a menywod yn cael eu hannog i fynd i mewn i sectorau lle maen nhw'n cael eu trapio mewn gyrfaoedd sydd ddim yn derbyn tâl uchel. Felly, cynyddu'r nifer o fenywod sy'n mynd i mewn i STEM, ac rydw i yn meddwl bod y sector gyrfaoedd yn ymwybodol iawn o hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, Weinidog, bydd economi Cymru yn trawsnewid dros y degawdau sydd i ddod wrth i dechnolegau digidol ddod yn fwy amlwg. Bydd yn rhaid i fusnesau addasu wrth i ddata ddod yn nwydd mwy gwerthfawr na dim arall. Er mwyn helpu ein heconomi i addasu, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol y sgiliau codio sydd eu hangen ar gyfer ein heconomi ddigidol yn y dyfodol?
Felly, mae gennym raglen benodol a chlir iawn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei harwain mewn perthynas â sgiliau digidol mewn ysgolion. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn, o ran sgiliau yn y sector, fod angen inni symud yn y maes hwn. Dyna pam rydym wedi comisiynu'r Athro Brown i edrych ar awtomatiaeth, yr effaith y bydd awtomatiaeth a digideiddio yn ei chael ar ein heconomi a'r ffordd orau i ni ymateb i hynny, fel Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn mynd i'r afael â hyn. Rydym yn ymwybodol iawn y gallai degau o filoedd o swyddi gael eu newid a'u colli o ganlyniad i'r oes ddigidol, ond mae angen inni hefyd ystyried hwn yn gyfle, oherwydd wrth gwrs, bydd miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu ac mae angen inni sicrhau bod y sgiliau gennym yn y gweithlu i sicrhau y darperir ar eu cyfer yn briodol. Rydym yn mynd i'r afael â hyn; rydym yn aros yn eiddgar am adroddiad yr Athro Brown.
6. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rôl y bydd sefydliadau addysgol yn ei chwarae os caiff yr oedran pleidleisio yng Nghymru ei ostwng i 16? OAQ52757
Diolch. Ar hyn o bryd, mae disgyblion yn astudio gwleidyddiaeth a materion cyfoes fel rhan o fagloriaeth Cymru a thrwy addysg bersonol a chymdeithasol yn y cwricwlwm cyfredol. Mae gan ein cwricwlwm newydd bedwar diben, gan gynnwys cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu'n ddinasyddion gwybodus, moesegol fel Cymry ac fel dinasyddion y byd sy'n gallu arfer eu hawliau a'u cyfrifoldebau democrataidd.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb, er nad wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd. Cynhaliais ymgynghoriad mewn dwy ysgol yn fy etholaeth—Y Pant a Bryn Celynnog—ac arweiniodd hynny at y cyflwyniad hwn a aeth i mewn, mewn gwirionedd, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol mewn llywodraeth leol, ond mae'n uniongyrchol berthnasol i'r ddeddfwriaeth a argymhellir bellach ar gyfer gostwng yr oedran pleidleisio. Yr hyn a oedd yn glir iawn oedd bod pobl ifanc 16 oed yn credu'n gryf y dylent gael pleidleisio yn 16 oed, cyhyd ag y darperir addysg glir sy'n ddigonol i'w galluogi i ddeall y mater. Rhywbeth arall a oedd yn glir iawn oedd eu bod yn teimlo y dylai ddechrau'n 14 oed, ond y dylai fynd yn llawer pellach na'r ffordd y mae'r fagloriaeth—. Yn wir, mynegwyd cryn anfodlonrwydd ynghylch digonolrwydd y lefel a gynhwysir ar hyn o bryd.
Os ydym am rymuso myfyrwyr 16 oed i allu pleidleisio, mae'n rhaid inni gael system glir o addysg wleidyddol yn ein hysgolion sy'n caniatáu mynediad at wleidyddion, at sefydliadau. Er enghraifft, nid yw cydweithredu a chydymddibyniaeth yn cael eu dysgu mewn ysgolion ac nid ydynt wedi ymddangos yn iawn mewn unrhyw ran, ac eto maent yn rhan bwysig o bolisi cymdeithasol, fel llawer o agweddau eraill ar hanes cymdeithasol ac ati. Ymddengys i mi fod yn rhaid inni gael adolygiad trylwyr o ganlyniadau rhoi pleidlais i fyfyrwyr 16 oed a'r angen gwirioneddol i sicrhau bod y system addysg yn ddigonol mewn perthynas â'r holl faterion y bydd yn rhaid iddynt benderfynu yn eu cylch. Gyda'r cyfrifoldeb hwnnw, mae gwir angen addysgu a grymuso'r bobl 16 mlwydd oed hyn.
Diolch yn fawr iawn, Mick. Wel, mae gennyf ferch 14 mlwydd oed gartref ac mae hi wrth ei bodd gyda'r syniad o allu bwrw pleidlais yn y set nesaf o etholiadau. Ond rydych yn llygad eich lle—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu. [Chwerthin.] Rydych yn llygad eich lle fod angen inni sicrhau bod ein plant yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gallu arfer y cyfleoedd newydd hyn.
Rydym yn dysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban pan gafodd pobl ifanc 16 mlwydd oed yr Alban hawl i bleidleisio yn eu refferendwm. Gwnaed llawer o waith rhwng y Comisiwn Etholiadol yn y wlad honno, ac ysgolion, a'r Llywodraeth. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd gyda'r Comisiwn Etholiadol yma i ddeall y gwersi y gellir eu dysgu. Mae hynny hefyd yn golygu cynhyrchu deunyddiau addas i'w defnyddio yn ein hysgolion, ac rwy'n gobeithio cael cyfarfod gyda fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, a'r Llywydd cyn bo hir i drafod goblygiadau'r bleidlais a gynhaliwyd yma yn ddiweddar a sut y mae angen inni gydweithio i sicrhau bod gan ein pobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Bydd gan rai Aelodau yn y Siambr farn wahanol o ran a ddylai fod yn 16 neu 18 oed, ond ceir cyfeiriad teithio clir sy'n dangos y bydd pleidlais i rai 16 oed yn dod yn weithredol yng Nghymru. Ond ar bob cyfle—a dyma lle rwy'n cytuno â'r Aelod dros Bontypridd—mae pobl ifanc wedi dynodi eu bod yn teimlo eu bod angen mwy o addysg i ddeall y rôl y byddant yn ei chwarae wrth fwrw eu pleidlais.
A all Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd elfen addysgol adolygiad McAllister, er enghraifft, ac erthyglau barn addysgiadol eraill yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion? Oherwydd nid oes ond cwta ddwy flynedd a hanner bellach tan etholiad nesaf y Cynulliad. Ac os yw'r etholfraint am gael ei rhoi i rai 16 oed, does bosib nad oes gan yr adran syniad sut y bydd y rôl hon mewn addysg yn cael ei chyflwyno yn ysgolion Cymru fel y gall pobl ifanc gael y wybodaeth y maent yn gofyn amdani.
Wel, Andrew, nid wyf yn anghytuno â chi. Fel y dywedais, rydym yn defnyddio profiad yr Alban i'n harwain yn hyn o beth. Felly, rydym yn gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, sydd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â phob etholiad. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo pobl i gofrestru gan fod hynny'n rhan bwysig o'r broses, fod pobl ifanc yn deall yr angen i gofrestru er mwyn arfer eu hawl i bleidleisio. Felly, rydym mewn cysylltiad rheolaidd â hwy, a byddwn yn trafod ymgyrch wybodaeth i’r cyhoedd i gofrestru pleidleiswyr ifanc, yn ogystal ag edrych ar y dystiolaeth o'r Alban, lle cyhoeddodd Education Scotland ddeunyddiau i'w defnyddio mewn ysgolion cyn y refferendwm er mwyn cynorthwyo athrawon i roi arweiniad i'w myfyrwyr.
Fel y dywedais, o dan y cwricwlwm presennol, ceir darpariaeth o fewn yr elfen ABCh i allu rhoi'r cyfleoedd hyn i bobl ifanc. Rwy'n siŵr fod Aelodau ar draws y Siambr, o bob plaid wleidyddol, yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i siarad â phobl ifanc, yn ogystal â defnyddio'r cyfle, fel y gwnes innau yr wythnos diwethaf, i ymweld â Brownies Llangynidr i siarad â phobl ifanc am hanes—hanes y bleidlais i fenywod yn yr achos hwn—a pham ei bod yn bwysig bod yn bleidleisiwr a pham fod hynny'n bwysig. Ac rwy'n siŵr fod yr holl Aelodau—credaf fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol, fel y mae gan bob un o'n pleidiau gyfrifoldeb gwleidyddol hefyd, i allu rhoi'r cyfleoedd hyn i bobl ifanc. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion ynglŷn â'r gwaith a fydd yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol.FootnoteLink
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau boddhad cwsmeriaid Cyllid Myfyrwyr Cymru? OAQ52779
Roedd cyfradd boddhad Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd yma yn 86 y cant, ar 1 Hydref. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr ynglŷn â'u profiad o wneud ceisiadau i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nid yw gohebiaeth gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu'r gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, wedi darparu'r canlyniadau a'r esboniadau roedd rhai o fy etholwyr yn dymuno'u cael. Un pryder sy'n cael ei fynegi wrthyf yn gyson yw'r sylw nad yw'r staff wedi cael hyfforddiant digonol i'w galluogi i ateb cwestiynau penodol, ac nad oes uwch reolwyr wrth law i gynorthwyo. Gall hyn arwain at oedi wrth brosesu ceisiadau, gan achosi cryn bryder i etholwyr sydd â dyddiadau pendant a chlir ar gyfer mynd i'r brifysgol. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau a gafwyd gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl?
Diolch, Jayne. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am anawsterau rhai o'ch etholwyr wrth ymdrin â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Yr wythnos cyn y diwethaf, cyfarfûm gyda phrif weithredwr newydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn eu swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno i drafod fy nisgwyliadau o'r hyn yr hoffem ei sicrhau ar gyfer myfyrwyr Cymru gyda hi ac uwch aelodau eraill o staff, ac rydym yn parhau i drafod gyda hwy sut y gellir gwella gwasanaethau.
Rydym yn ymwybodol o rai o'r anawsterau y mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi'u hwynebu o ran recriwtio a chadw staff yng Nghyffordd Llandudno, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gytundeb gyda'r Trysorlys a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn talu'r cyflog byw go iawn i bob un o'r staff, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau datrys rhai o'r problemau gyda recriwtio a chadw staff. Yn wir, mae sawl aelod newydd o staff wedi cael hyfforddiant sefydlu y mis hwn, ond mae rhai swyddi gwag yn y swyddfa o hyd, ac mae'n amlwg y gall hynny arwain at anawsterau. Ac fel y dywedais, rydym yn parhau i drafod gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr pa gamau y gallant eu cymryd i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru.
Hoffwn ategu'r un math o sylwadau â Jayne Bryant AC, oherwydd gwn fod fy nhîm o staff a minnau wedi teimlo'n rhwystredig iawn gyda'r distawrwydd ar y pen arall wrth ymwneud ar ran rhywun sydd mewn sefyllfa anobeithiol, ac a dweud y gwir, mae'r amser hir y maent wedi bod yn ei gymryd hyd yn oed i ymateb i ohebiaeth wedi bod yn annerbyniol. Ond wrth sôn am gyllid myfyrwyr, mae nifer gynyddol o fyfyrwyr yn dod ataf yn fwyfwy pryderus ynglŷn â lefelau eu dyled. Dengys ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch y bydd dyledion graddedigion o'r cartrefi tlotaf yn cynyddu 20 y cant, o £25,000 i £30,000, ac y bydd dyledion graddedigion o gartrefi gydag incwm blynyddol o £50,000 yn cynyddu oddeutu 40 y cant.
Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae Bethan Jenkins AC, ein cyd-Aelod, wedi tynnu ein sylw sawl tro yn y Siambr hon at gynhwysiant ariannol ac addysg ariannol drwy ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion. Rwyf wedi ei chefnogi gyda'r galwadau hynny, a gwn fod y Llywodraeth i fod i gymryd camau cadarn i ystyried sut y gallwn sicrhau'r math hwn o ymwybyddiaeth a chodi proffil y ffordd rydych yn rheoli eich arian eich hun. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr holl ddadleuon a gawsom yn flaenorol, pan soniwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu?
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi rhoi amser i eistedd gyda'r bobl sy'n ateb galwadau yng Nghyffordd Llandudno er mwyn gwylio'r ffordd y maent yn gweithredu a'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu? Ac a gaf fi ddweud bod ymroddiad y staff a'u hymrwymiad i wneud y gwaith yn iawn wedi creu argraff enfawr arnaf? Felly, pan oeddwn yno, yn sicr nid oeddwn yn dyst i unrhyw ddistawrwydd ar ben y llinellau ffôn, ac rwy'n synnu bod yr Aelod yn teimlo fel hyn am lawer o'i hetholwyr, rwy'n tybio, sy'n gweithio yn y swyddfa honno.
Ar fater dyledion myfyrwyr, gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn y mae myfyrwyr o aelwydydd tlotaf Cymru yn ei gael: maent yn cael grant nad oes angen ei ad-dalu o dros £9,000 y flwyddyn i astudio, a gadewch inni fod yn gwbl glir, Janet Finch-Saunders, na fyddai'r myfyrwyr hynny, pe baent yn byw dros y ffin yn Lloegr, yn derbyn unrhyw beth. Dim un geiniog goch.
O ran cynhwysiant ariannol, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau difrifol, a bydd yn gwybod, wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, fod materion sy'n ymwneud â chynhwysiant ariannol ac addysg ariannol yn bwysig iawn, ac yn wir, unwaith eto, rwyf wedi rhoi amser i archwilio sut y mae hyn yn cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, a gwelais wers wych yn cael ei rhoi yn ysgol uwchradd yr Olchfa yn Abertawe, a oedd yn gwbl ganolog i addysgu mathemateg, oedd, ond a oedd hefyd yn dysgu myfyrwyr ynglŷn â threth, sut y gallent gyfrifo eu biliau treth, ac yn hollbwysig, ar gyfer beth y defnyddir eu trethi—ac yn yr achos hwn, fe'u defnyddir i gefnogi myfyrwyr tlawd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn ag astudio, cyllid myfyrwyr a Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae profiad y rhan fwyaf o bobl yn eithaf da. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion penodol, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i sôn am yr anhawster wrth sicrhau cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio dramor. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft?
Diolch yn fawr iawn, Jack. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, nid yw'r pecyn cymorth llawn ond ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig, naill ai ar sail amser llawn, rhan-amser, neu ar lefel israddedig neu ôl-raddedig. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod manteision cyfnod o astudio dramor i rai myfyrwyr. Dyna pam rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i gael mynediad at raglen Erasmus͏+.
O ran yr argymhellion yn adolygiad Diamond a ddywedai y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa fath o gefnogaeth y gellir ei darparu i fyfyrwyr sy'n mynd dramor, rwy'n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad i'r Siambr hon yn ystod y tymor hwn ynglŷn â chynllun peilot yn y cyswllt hwn, ond mae'n rhaid imi ddweud yn glir iawn mai ar gyfer cyfnod o astudio mewn gwlad dramor fydd hynny, nid ar gyfer cwrs yn ei gyfanrwydd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, David Melding.
8. Sut y mae rhaglen addysg Llywodraeth Cymru yn datblygu sgiliau mewn arloesedd a thechnoleg newydd? OAQ52783
Diolch, David. Mae 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl' yn nodi ein dull o sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddigidol gymwys ac yn datblygu'n feddylwyr beirniadol mentrus a chreadigol. Bydd y sgiliau hyn yn nodwedd gryf yn ein cwricwlwm newydd ac maent eisoes wedi'u gwreiddio ym mhob dim y bydd y dysgwr yn ei wneud yn yr ysgol drwy ein fframwaith cymhwysedd digidol.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi gweld adroddiad diweddar sy'n dweud bod diwydiant technoleg Cymru yn tyfu'n gyflymach nag yn unrhyw ardal arall ac eithrio Llundain. Yn 2016, tyfodd nifer y cwmnïau digidol a lansiwyd yng Nghymru o 3,000 i 3,275, neu dwf o 9.1 y cant, ac mae Caerdydd ac Abertawe bellach yn arwain y cynnydd technolegol hwn. Mae'n bwysig iawn inni adlewyrchu hyn yn y cwricwlwm fel y gall ein pobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyn, a'u creu yn wir, ac os oes angen cynghorydd arbennig arnoch, a gaf fi argymell fy nai wyth mlwydd oed, sy'n rhoi cyngor da iawn i mi yn y maes hwn?
Rwy'n tybio bod gan bob Aelod yn y Siambr rywun tebyg i'ch nai wyth mlwydd oed sy'n eu cynorthwyo gyda'r materion hyn. Yn sicr, rwy'n gwybod bod gennyf fi. Mae'r Aelod yn llygad ei le yn tynnu ein sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ein plant wedi'u paratoi'n dda i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd hyn wrth i fwy a mwy ohonynt ymddangos. Dyna pam rydym wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn addysgu codio yn ein hysgolion. Dyna pam mai'r fframwaith cymhwysedd digidol yw'r rhan gyntaf o'n cwricwlwm newydd i fod ar gael i'n sefydliadau addysgol, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda Chyngor Addysg Uwch Cymru ar sefydlu'r Sefydliad Codio, a fydd yn caniatáu i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe ddod yn aelodau hyd yn oed yn fwy gweithgar o'r consortiwm pwysig iawn hwnnw.
Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd gyda'r sector addysg uwch i ehangu'r sgiliau cyfrifiadureg sydd gennym ar bob lefel yn ein cymunedau, felly pa un a ydych yn blentyn ysgol, yn fyfyriwr mewn addysg bellach, neu'n wir, yn un o'r oedolion sy'n ddysgwyr y soniodd Eluned Morgan amdanynt yn gynharach, mae mynediad at sgiliau digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.
1. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i ddod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig? OAQ52790
Diolch. Rwyf wedi nodi disgwyliadau clir i'r bwrdd iechyd eu cyflawni er mwyn cael eu hystyried ar gyfer eu hisgyfeirio yn fframwaith gwella'r mesurau arbennig. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gynnydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 6 Tachwedd.
Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi bod yn destun mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015. Ar y pryd, dywedwyd wrthym fod y camau a gymerwyd yn adlewyrchu pryderon difrifol a pharhaus ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd y bwrdd iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am y newyddion diweddaraf a ddarparwyd gennych wedi tair blynedd o fesurau arbennig, ond yr hyn rwy'n ei chael hi'n anodd asesu yw trywydd y gwelliant a phryd y bydd y bwrdd iechyd yn darparu'r gwasanaethau o ansawdd y mae fy etholwyr yn eu haeddu. Ysgrifennydd y Cabinet, os yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd fel y dywedwch, pryd y bydd yn cyrraedd ei nod terfynol?
Mae'n gwestiwn y bydd yr Aelodau'n parhau i'w ofyn hyd nes y byddwn yn gweld gwelliant gwirioneddol a pharhaol yn narpariaeth yr ardaloedd sy'n destunau mesurau arbennig. Rydym wedi gweld cynnydd mewn perthynas â mamolaeth. Nid ydym wedi gweld cynnydd digonol ar iechyd meddwl. Rydym wedi rhywfaint o gynnydd ar wasanaeth y tu allan i oriau. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd ar arweinyddiaeth.
Iechyd meddwl yw'r maes gweithgarwch sydd bob amser wedi bod fwyaf heriol, ac felly mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd drwy gael strategaeth, ond i mi yn sicr, ni all fod yn fater o osod amserlen artiffisial er hwylustod gwleidyddion. Dyna pam fod gan y fframwaith mesurau arbennig brif weithredwr GIG Cymru, ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ein rheoleiddiwr, a Swyddfa Archwilio Cymru, i sicrhau nad yw hon yn broses sy'n cael ei gyrru gan yr hyn sy'n gyfleus i mi neu unrhyw un arall yn y Llywodraeth, ond yn hytrach, ei bod yn asesiad real a gonest o'r cynnydd a wneir gan fwrdd iechyd. Felly, y cynllun gwella a amlinellais yw'r cynllun y dylent lynu wrtho, er mwyn dod allan o fesurau arbennig. Cyflwynir adroddiad gonest ac agored ar eu cynnydd ar 6 Tachwedd ac yn y dyfodol. Dylai'r Aelodau a'r cyhoedd gael eu sicrhau bod yna drosolwg annibynnol go iawn ar y cynnydd a wneir, neu fel arall.
Fe ddywedoch chi nad oeddech yn dymuno nodi amserlen ar gyfer gwelliannau, ac eto gallaf gofio, pan wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, fe gyhoeddodd fod cynlluniau 100 niwrnod ar waith i drawsnewid y sefyllfa. Wel, mae 1,228 diwrnod wedi bod ers hynny.
Mae llawer o'r dangosyddion perfformiad yn y bwrdd iechyd hwnnw'n mynd tuag yn ôl. Mae'n fwrdd iechyd sy'n torri pob record bellach, gan mai hwy sydd â'r adrannau damweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf erioed mewn dau o'u hysbytai yn y mis diwethaf yn unig, a gwyddom nad yw eu sefyllfa ariannol wedi'i datrys, nid yw'r problemau iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd wedi'u datrys o hyd, ac mae cwestiynau'n dal i fodoli ynglŷn â gallu'r arweinyddiaeth a'r llywodraethiant yn y bwrdd iechyd i drawsnewid y sefyllfa.
Dywedwch eich bod yn nodi eich disgwyliadau, ond rydych yn methu cyflawni'r disgwyliadau hynny o gwbl—y gwelliannau rydych wedi'u haddo ac yr addawodd eich rhagflaenydd y byddent yn cael eu gwneud yn y bwrdd iechyd hwn. Ni chredaf fod gadael y sefyllfa'n hollol benagored yn ddigon da. Mae pobl yn awyddus i weld rhywfaint o atebolrwydd uniongyrchol yn ein system byrddau iechyd. Nid ydynt yn ei weld ar hyn o bryd—nid ydych yn derbyn cyfrifoldeb, ac mae'r bwrdd iechyd yn methu gwneud unrhyw benderfyniadau gan eu bod mewn mesurau arbennig ac maent yn dweud mai chi yw'r un sy'n gwneud yr holl benderfyniadau.
Felly, a ydych yn derbyn nad yw'r trefniadau atebolrwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn ddigon da, a bod hon yn enghraifft berffaith o pam nad ydynt yn ddigon da? A beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod y byrddau iechyd yn fwy uniongyrchol atebol i'r cyhoedd?
Wel, fel y gŵyr yr Aelodau o'n sesiynau rheolaidd yn y Siambr, mewn datganiadau, mewn dadleuon, ac yn wir, mewn cwestiynau a gaf bob tair wythnos, mae atebolrwydd rheolaidd ac uniongyrchol i'w gael. Rwy'n ateb cwestiynau a chaf fy nwyn i gyfrif yn rheolaidd. O ran Betsi Cadwaladr, ceir fframwaith gwella newydd, gyda gwelliannau i'w gwneud, ac rwy'n disgwyl cael fy nwyn i gyfrif amdanynt. Nid wyf erioed wedi ceisio gwadu'r ffaith mai fi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru—i'r gwrthwyneb.
Yr her gyda'n fframwaith atebolrwydd yw sicrhau ei fod yn cynnwys gonestrwydd a gwrthrychedd, er mwyn mesur y cynnydd a wnawn, y cymorth ychwanegol rydym yn ei ddarparu, nid yn unig o ran pobl, ond hefyd o ran yr adnoddau ychwanegol rydym wedi'u darparu, yr adnoddau ychwanegol rydym wedi'u darparu o'r mis Mehefin hwn, er enghraifft—bron i £7 miliwn yn ychwanegol ar gyfer darparu staff ychwanegol i sicrhau gwelliant. Ac fe fyddaf yn agored ynglŷn â ble mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd, fel y byddaf yn agored ynglŷn â ble mae rhagor o waith i'r bwrdd iechyd ei wneud. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau gael cysur o'r ffaith bod ein staff yn y bwrdd iechyd yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â gweithio i'r sefydliad nag a oeddent ddwy flynedd yn ôl a phedair blynedd yn ôl. Fel y dengys yr arolwg staff, gwnaed gwelliannau sylweddol o ran i ba raddau yr ystyriai'r staff fod y bwrdd iechyd yn lle da i weithio, neu y dywedent eu bod yn falch o weithio i'r bwrdd iechyd, ac y byddent yn argymell triniaeth i ffrind neu berthynas. Felly, mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, ond hyd nes y gwelwn welliant sylweddol a pharhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig, a chynnydd ar ddisgyblaeth ariannol yn y bwrdd iechyd hefyd, yn ogystal â pherfformiad mewn prif driniaethau dewisol, byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau, wrth gwrs, fel y bydd y bwrdd iechyd eu hunain.
Un o'r trafferthion mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn anodd mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yw'r oedi mewn trosglwyddo gofal cleifion, ac nid wyf yn gwybod os gallwch chi esbonio i fi sut y gallem ni fod wedi gweld sefyllfa fel ag a welwyd yn ysbyty'r Waun yn ddiweddar, lle cymerodd hi 368 o ddyddiau i drosglwyddo un claf, yn ôl y cyngor iechyd cymunedol. Nawr, nid yn unig bod hynny'n ddrwg i'r claf, mae yn sicr yn ddrwg i'r ysbyty ac i unrhyw un arall oedd am neu oedd angen defnydd o'r gwely hwnnw. Felly, pryd rydym ni yn mynd i weld gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal yn y gymuned yn cydlynu'n effeithiol yn y gogledd?
Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol ar leihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar draws ein gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Mae’r Gweinidog a minnau yn edrych ar y ffigurau bob mis a phan fo byrddau iechyd yn llusgo ar ôl, rydym yn gwneud yn siŵr fod camau'n cael eu cymryd a chwestiynau’n cael eu gofyn. Felly, nid oes diffyg goruchwyliaeth neu ddiffyg diddordeb gan Weinidogion y Llywodraeth mewn perthynas â’r cynnydd rydym wedi'i wneud, na hunanfodlonrwydd. Bydd y cynnydd hwnnw’n parhau. Nid yw ond yn ymwneud yn rhannol ag adnoddau: mae llawer ohono'n ymwneud â'r berthynas waith, ac ers i mi ddod i'r adran, fel Dirprwy Weinidog ar y pryd, gallaf ddweud bod gwelliant sylweddol wedi bod yn y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol, ac mae hynny wedi arwain at wella perfformiad hefyd.
Yn yr achos unigol a grybwyllwyd gennych, er na allaf wneud sylwadau ar yr amgylchiadau unigol, gallaf ddweud yn fras, pan fo cymaint o oedi wedi digwydd, y rheswm am hynny bron bob amser yw oherwydd bod yr unigolyn angen pecyn gofal cymhleth nad yw ar gael ar ei gyfer. Fodd bynnag, hoffwn pe baech yn ysgrifennu ataf, a byddaf fi neu'r Gweinidog yn ymchwilio ac yn dod yn ôl atoch gyda manylion y mater hwnnw.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Vertex Pharmaceuticals am y cyffur ffibrosis systig Orkambi? OAQ52768
Diolch am y cwestiwn. Nid wyf fi, na fy swyddogion, wedi cael unrhyw drafodaethau ffurfiol gyda Vertex ynglŷn ag Orkambi. Er hynny, rwyf wedi atgoffa Vertex fod yn rhaid i feddyginiaeth gael ei harfarnu a’i hargymell gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan cyn y gall GIG Cymru ei darparu'n rheolaidd. Cyfrifoldeb Vertex yw cydymffurfio â'r broses arfarnu ac maent yn ymwybodol ohoni ac yn ei deall yn iawn.
Mae'n anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda hwy, er eich bod yn nodi eich bod wedi cael rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'r cyffur hwn ar gael ar gyfer dioddefwyr ffeibrosis systig a deallaf nad yw ar gael yma yng Nghymru yn anffodus. Pam fod cyn lleied o gynnydd wedi’i wneud ar sicrhau bod y cyffur ar gael yma yng Nghymru? Deallaf fod adrannau iechyd eraill wedi gwneud trefniadau gyda'r cwmni fferyllol i sicrhau y bydd ar gael. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda'r cwmni fferyllol i sicrhau bod y cyffur hwn ar gael yma yng Nghymru, oherwydd mae’r manteision wedi'u profi ac yn glir i ddioddefwyr ffeibrosis systig? Yn anffodus, mae ffeibrosis systig yn gyflwr gydol oes: nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd i chi wrth i chi fynd ar eich taith drwy fywyd, ac felly, y gorau yw’r driniaeth y gallwn ei chynnig, yr hiraf a’r gorau fydd ansawdd bywyd yr unigolyn. Felly, rwy'n gofyn i chi: os gwelwch yn dda, a wnewch chi, fel Gweinidog ac fel adran, ymrwymo i weithredu'n gadarnhaol er mwyn sicrhau bod y cyffur hwn ar gael yma yng Nghymru?
Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo’n rhwystredig yn aml ynglŷn â'r ffordd y mae’r drafodaeth wedi digwydd mewn perthynas ag Orkambi. Yn ganolog i hyn oll, dylem gofio bod yna bobl, teuluoedd, sydd eisiau sicrhau bod y driniaeth orau bosibl ar gael yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae pob cwmni sy'n cynhyrchu meddyginiaeth ar gyfer y GIG yn deall y broses y mae'n rhaid iddynt ei dilyn, a'r broses honno yw sicrhau bod meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol a bod gwerth priodol i’r driniaeth honno. Nid yw'r driniaeth hon—Orkambi—ar gael yn rhwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Nid yw hynny’n wir. Mae’n bosibl—. Nid yw ar gael mewn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig ac nid yw ar gael yng Nghymru. Mae ar gael i geisiadau cyllido cleifion unigol, ac mae ar gael ar sail treialon gan y gwneuthurwr, ar sail gyfyngedig i bobl ym mhob un o wahanol wledydd y DU. Felly, mae'n anghywir awgrymu bod GIG Cymru wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol. Mae hynny'n rhan o fy rhwystredigaeth, oherwydd rwy'n derbyn bod Aelodau ym mhob plaid wedi cael gohebiaeth gan y cwmni, ac rwy'n credu fy mod wedi cael gohebiaeth gan Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon, sydd wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â'r mater. Ac rwy’n teimlo’n rhwystredig ynglŷn â'r diffyg eglurder yn y broses. Oherwydd nid wyf yn credu bod yr Aelodau'n adrodd materion—nid ydynt wedi cael gwybod, ac maent wedi'u derbyn yn ddidwyll.
Nid yw'r manteision wedi'u profi—dyna yw un o'n problemau mwyaf yn hyn o beth. Nid yn unig fod Orkambi wedi methu arfarniad NICE ar sail costau, ond mae NICE, yn ôl y wybodaeth sydd ar gael iddo ar ddata clinigol gan Vertex, wedi’i roi ar y rhestr o feddyginiaethau na ddylid eu defnyddio. Nawr, mae hynny'n hynod anarferol, a’r rheswm am hynny yw oherwydd cyflwr y data clinigol a oedd ar gael ar y pryd. Rwyf wedi dweud fwy nag unwaith, mewn gohebiaeth uniongyrchol ag Orkambi, ac yn wir, pan ddaeth y cwmni a’u cynrychiolydd i fy ngweld uwchben y lle hwn, fod angen iddynt ymwneud â'r broses y maent yn ei deall. Ac mae hynny’n rhan o fy rhwystredigaeth. Nid wyf yn credu eich bod wedi cael y stori'n llawn. Yn y Pwyllgor Deisebau, pan oeddent yn ystyried y mater—[Torri ar draws.] Yn y Pwyllgor Deisebau, pan godwyd y mater, dywedwyd bod yna 96 wythnos o ddata clinigol ychwanegol ar gael erbyn hyn ers yr arfarniad gan NICE. Ni all NICE na Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan asesu'r wybodaeth honno am nad yw wedi'i darparu ar eu cyfer. Pan gaiff y wybodaeth ei darparu ar gyfer NICE, bydd penderfyniad yn cael ei wneud. Ond cyfrifoldeb y cwmni, a neb arall, yw darparu'r wybodaeth a’r data hwnnw, am mai hwy sydd â mynediad ato, nid unrhyw gorff arfarnu. Rwy’n fwy na bodlon siarad â'r Aelodau y tu allan i’r lle hwn, ond rwy’n teimlo’n rhwystredig nad wyf yn credu eich bod wedi cael y darlun llawn ynglŷn â sut y mae'r cyffur ar gael ac nad yw ar gael a’r cyfrifoldeb am hynny.
Rwyf innau hefyd wedi cael trafodaethau â Vertex, ac rwyf wedi gwneud sylwadau ynglŷn ag un o fy etholwyr y gwn ei bod yn awyddus iawn i'w merch, nad yw ond tua saith oed, gael mynediad at y cyffur hwn. Ond yn fy nhrafodaethau â Vertex, rwyf wedi bod yn teimlo'n rhwystredig iawn, fel chi— ymddengys eu bod yn deall beth yw'r broses, ond am ba reswm bynnag, nid ydynt wedi dilyn y broses yn y ffordd y gwyddant ei bod yn rhaid iddynt ei wneud. Ond fy nghwestiwn i chi yw hwn: pe bai Vertex yn dilyn y prosesau priodol, a phe bai Orkambi yn bodloni holl brofion NICE a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a fyddai'n gymwys wedyn o dan y gronfa triniaethau newydd?
Byddai, ac mae hynny'n eithaf defnyddiol, oherwydd, er fy mod yn rhwystredig nad ydynt wedi dilyn y broses yn ystyrlon, pe baent yn gwneud hynny, dyma yw union ddiben y gronfa triniaethau newydd. Felly, pan fydd triniaethau newydd yn dod ar gael ar ôl eu cymeradwyo gan NICE—hynny yw, eu bod wedi'u profi'n effeithiol ac yn ddiogel ac yn gosteffeithiol—yn aml mae'n her i sicrhau bod y cyffuriau hynny'n cael eu cynnwys yn ein system mewn ffordd deg. Dyna yw union ddiben y gronfa triniaethau newydd, a gallaf ddweud y byddai'n gymwys i gael cymorth o fewn y gronfa triniaethau newydd er mwyn sicrhau ei fod ar gael ar sail gyflym a chyson. Ac fel y gwyddom, mae hynny'n golygu bod meddyginiaethau effeithiol sydd â sylfaen dystiolaeth y tu cefn iddynt ar gael yn gynt yma yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, ac rwy'n falch iawn o hynny.
Os yw'n wir nad yw pobl yn cael eu hysbysu, credaf mai dyna pam fod pobl yn codi'r mater yma, er mwyn iddynt gael y wybodaeth gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono yma. O siarad â Vertex, rwy'n deall bod rhywfaint o rwystredigaeth wedi bod wrth ymdrin â chaffael meddygol ar sail Cymru gyfan, a arweiniodd at oedi sylweddol yn y broses hon. Mae'n bosibl mai un digwyddiad ydoedd—ac rwy'n gobeithio mai dyna ydoedd—ond mae'n rhywbeth y dylid edrych arno mewn perthynas â'r achos penodol hwn. A gaf fi ofyn i chi, a oes unrhyw gynlluniau i ddiwygio prosesau i ganiatáu asesiadau o bortffolio o feddyginiaethau, gan ddangos yr hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer y mathau hyn o feddyginiaethau at glefydau prin? Nawr, rydym wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen gyda Kalydeco, ac roedd gennym safbwynt gwahanol i'r Gweinidog ar y pryd. Byddai portffolio o fathau o feddyginiaethau at glefydau prin yn rhywbeth y gellid ei groesawu i chi edrych arno o leiaf, ac rwy'n siŵr nad Vertex yn unig fyddai'n croesawu hynny, ond ninnau hefyd fel cynrychiolwyr a etholwyd yn uniongyrchol.
Rwy'n derbyn yn llwyr fod Aelodau ym mhob plaid yn gweithredu'n ddidwyll wrth ofyn cwestiynau ynglŷn â'r mater hwn. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae ymgysylltiad wedi bod rhwng ein prosesau arfarnu ar nifer o achlysuron, ac nid yw hynny wedi arwain at ddarparu'r data clinigol ychwanegol. Mae'r cwestiwn caffael yn ddiddorol. Ond byddwch yn cyrraedd y pwynt hwnnw pan fyddwch wedi cyflawni'r broses arfarnu. Oherwydd, os na all y gwneuthurwr ddangos bod y feddyginiaeth a gynigir yn effeithiol ac yn ddiogel, nid oes ots beth yw'r pris mewn gwirionedd. Pe bai Vertex yn cynnig rhywbeth am £1 y tro—wel, os na allwch ddangos ei fod yn effeithiol, ni fydd yn cael mynd drwy'r gât. Bydd yr her mewn perthynas â chaffael a dull portffolio posibl yn ddiddorol pan fydd y data clinigol ar gael, a byddai hwnnw wedyn o bosibl yn caniatáu i ni fabwysiadu safbwynt gwahanol ac ehangach, yn union yn yr un ffordd ag y mae nifer o wneuthurwyr cyffuriau eisoes yn ei wneud; maent yn eu galw'n 'gynlluniau mynediad cleifion'. Felly, ydw, rwy'n agored, ac mae ein system yma yng Nghymru—fel pob gwlad arall yn y DU—yn agored i drafodaeth synhwyrol ynglŷn â chost pan fydd Vertex yn cydymffurfio â'r broses y maent hwy, a phob gwneuthurwr cyffuriau arall, yn ei deall, a phan fyddant yn darparu'r data clinigol ar gyfer arfarniad priodol ac annibynnol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o benderfyniad yr Athro Siobhan McClelland—economegydd iechyd a rheolwr iechyd uchel ei pharch sydd wedi dal uwch swyddi ar fyrddau iechyd—i adael Cymru er mwyn chwilio am well gofal i'w gŵr sydd â chanser. Adroddir ei bod wedi dweud:
Nid oes capasiti na gallu yn Llywodraeth Cymru i greu polisi iechyd gwirioneddol dda.
O gofio mai geiriau rhywun mor uchel ei pharch â'r Athro McClelland yw'r rhain, does bosib nad ydych yn cytuno na allech glywed beirniadaeth fwy hallt o'r ffordd rydych yn rhedeg y GIG yng Nghymru.
Mae'n ddrwg gennyf, wrth gwrs, fod gan yr Athro McClelland reswm—ac yn ôl y datganiad a wnaed gan y bwrdd iechyd, rheswm da—dros gwyno am y gofal y mae ei gŵr wedi'i gael. Mae hefyd yn ddrwg gennyf ei bod yn teimlo'r angen i symud i fyw yn rhywle arall. Ond nid wyf yn derbyn y ffordd y mae'n beirniadu holl system y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Rwy'n derbyn bod ei barn—. Wrth gwrs, fel gyda phob claf, rydych yn deall eich profiad personol. Pan fyddaf yn edrych ar yr hyn y mae'r adolygiadau o'r system gyfan wedi'i ddangos yma yng Nghymru—. Edrychwch ar adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd; nid oedd hwnnw'n awgrymu bod problem gyda'r system gyfan fel y disgrifiodd yr Athro McClelland. Yn wir, os edrychwch ar yr adolygiad annibynnol mwy diweddar y cytunodd pob plaid yn y Siambr hon iddo ar ffurf yr adolygiad seneddol, nid oeddent yn cytuno â beirniadaeth yr Athro McClelland yn awr. Proses yr adolygiad seneddol annibynnol hwnnw a arweiniodd at greu 'Cymru Iachach'. Dyna yw'r cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'n cynnwys gwella a diwygio'r system, ac rwy'n ymrwymedig i gyflawni hynny.
Mae'r Athro McClelland wedi edrych ar y GIG yng Nghymru a'r ffordd y mae'n cael ei redeg yn fwy manwl nag unrhyw un arall, mwy na thebyg, ac un o'i phryderon yw bod eich Llywodraeth yn cael trafferth wrth geisio cael y byrddau iechyd i wneud yr hyn rydych eisiau iddynt ei wneud.
Nawr, yn y gyllideb ddiweddaraf, mae eich Llywodraeth wedi dewis rhoi dros £500 miliwn yn ychwanegol i iechyd a gofal cymdeithasol—newyddion gwych ar yr wyneb; mae pawb ohonom eisiau gweld buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ond gyda digon o angen mewn meysydd eraill ac adrannau eraill, cyrff cyhoeddus eraill, yn wynebu toriadau, pwy a allai weld bai arnynt am ofyn, 'Ai buddsoddiad yw hwn mewn gwirionedd neu achub croen?' Felly, yng ngoleuni pryderon Siobhan McClelland, a oes gennych reolaeth dros yr hyn a fydd yn digwydd i'r £500 miliwn hwnnw neu a fydd yn diflannu i dwll du camreoli ariannol?
Credaf y dylai llefarydd Plaid Cymru fod yn ofalus sut y mae'n nodi ei safbwyntiau. Mae'n swnio bron fel pe bai'n gwahodd y Llywodraeth i dorri'r gyllideb iechyd. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflawni ein cynllun gwella ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cymryd cryn dipyn—[Torri ar draws.] Mae wedi cymryd cryn dipyn o waith i greu cynllun ar y cyd y mae iechyd, tai, llywodraeth leol a'r trydydd sector yn cytuno arno. Bydd angen edrych bob amser ar effeithlonrwydd a disgyblaeth ariannol o fewn y gwasanaeth. Os edrychwch ar hynny, mae gwelliant gwirioneddol wedi bod dros y tair blynedd diwethaf mewn gwirionedd, a llawer mwy i'w wneud. Ni fydd y gwasanaeth iechyd byth yn gwbl berffaith—bydd lle bob amser i gamgymeriadau a gwelliant, yn ogystal â llwyddiant sylweddol. Rwy'n falch ein bod yn deall fod yna heriau gwirioneddol, ac nad ydym yn hunanfodlon ynglŷn â rheoli a goresgyn y rheini.
Ymateb braidd yn ysgafn, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran dweud fy mod yn gwahodd toriadau mewn cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. Fy nghwestiwn yw: a oes gennych reolaeth ar beth sy'n digwydd i'r cynnydd hwnnw, cynnydd rwy'n ei groesawu, os yw'n gynnydd gwirioneddol, os yw'n fuddsoddiad? Nawr, y perygl, wrth gwrs, yw mai cronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi yw hi. Rydym wedi gweld hynny dro ar ôl tro—£100 miliwn yma, £200 miliwn acw, er mwyn llenwi bylchau. Pan fo gennych gronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi, mae gennych £500 miliwn na fydd yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi cronig ym maes gofal sylfaenol, er enghraifft. Ni fydd yn ffurfio rhan o'r gwaith o greu cynaliadwyedd hirdymor. Felly, gadewch i mi eich gwahodd i ledaenu'r buddsoddiad hwn a gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad yn gweithio. Rydych yn dweud ei fod ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag iechyd, ond wrth edrych ar ble mewn iechyd y dylid rhoi'r arian hwnnw, os oes gennych reolaeth ar bethau, a wnewch chi ymrwymo i gyfarwyddo'r byrddau iechyd i roi, dyweder, hanner yr arian tuag at ofal sylfaenol fel y gallwn ddechrau adeiladu gwasanaeth cynaliadwy o'r diwedd?
Rwy'n ymrwymedig i ddarparu 'Cymru Iachach', sef ein cynllun ar y cyd sydd â ffocws pendant ar symud ein buddsoddiad a'n gweithgarwch i mewn i ofal iechyd lleol. Rwyf eisoes wedi dweud ar sawl achlysur nad ceisio cael ffigur artiffisial ar y swm sydd i fynd i un rhan o'r system yw'r ffordd gywir o fynd ati i wneud hynny. Rydym wedi sefydlu cronfa drawsnewid, ac rydym hefyd wedi sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer y gronfa drawsnewid. Mae hwnnw'n gyllid ar y cyd i iechyd a gofal cymdeithasol benderfynu gyda'i gilydd sut i'w wario ar flaenoriaethau ar y cyd. Rydym wedi sicrhau, am y tro cyntaf, y bydd arian ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol o iechyd i ofal cymdeithasol yn ogystal. Dyna ddewis a wnaed gennyf fel Gweinidog portffolio am fy mod yn cydnabod yr angen i sicrhau bod y system yn cael ei hariannu'n briodol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n cadw'r addewidion rwyf wedi'u gwneud i iechyd a llywodraeth leol o ran y ffordd y byddwn yn defnyddio adnoddau i gyflawni'r cynllun ar y cyd y mae pawb ohonynt wedi ymrwymo iddo. Ni chaf fy rhwystro rhag gwneud hynny am mai dyna'r peth iawn i'w wneud i'n dinasyddion oherwydd bydd yn darparu gofal gwell, gofal mwy integredig a gofal sy'n nes at y cartref.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o hunanladdiad yng Nghymru?
Rwyf wedi rhoi tystiolaeth ar atal hunanladdiad i'r pwyllgor rydych yn aelod ohono ac rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad. Fe fyddwch yn gwybod, o'r adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2', ein bod wedi edrych ar ystod o fesurau. Er enghraifft, rhoesom gamau ar waith ar unwaith yn dilyn y dystiolaeth a roddais i wneud yn siŵr fod gwybodaeth a ddylai fod ar gael ar sail eang—ac nad oedd ar gael yn eang fel y clywsom gan Sefydliad Jacob Abraham er enghraifft—. Felly, rydym wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i geisio sicrhau bod cymorth a chefnogaeth ar gael yn dilyn digwyddiadau o'r fath yn ogystal â phethau y gallem ac y dylem eu gwneud i geisio atal hunanladdiad yn y lle cyntaf.
Ni all fod yn iawn fod un o bob tri unigolyn sy'n marw drwy hunanladdiad wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn y flwyddyn cyn eu marwolaeth. Nid oes unrhyw amheuaeth ein yn bod yn methu cefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas a darparu cymorth effeithiol. Mae cleifion yng Nghymru yn gyson yn gorfod aros yn hir am asesiad. Dychmygwch y profiad o weld eich meddyg teulu a rhannu rhai o'ch teimladau mwyaf personol a chael clywed bod yn rhaid i chi aros a dioddef hyn am 56 diwrnod pellach cyn i chi gael asesiad cychwynnol i benderfynu a ydych chi'n ddigon sâl i gael cymorth. Yn ôl eich ystadegau diweddaraf, dyma sydd wedi digwydd i 528 o bobl yng Nghymru. Ni fyddai'r meddylfryd hwn o 'ddirywio cyn y gallwch gael mynediad at driniaeth' yn bodoli mewn unrhyw lwybr gofal arall. Felly, pam fod hynny'n wir ym maes iechyd meddwl? Gwyddom eich bod wedi gwrthod llawer o adroddiad damniol y pwyllgor plant a phobl ifanc ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ataliol. Fel rydych wedi'i grybwyll, mae'r pwyllgor iechyd yn cynnal ymgynghoriad ar y mater hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, a allwch chi ddweud wrth y Siambr heddiw beth yn union y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gryfhau mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ataliol ar gyfer pobl yng Nghymru?
Credaf eich bod yn codi pwynt diddorol ynglŷn â'r ffaith bod un o bob tri o bobl wedi bod mewn cysylltiad, ond mae hynny hefyd yn golygu nad oedd tua dau o bob tri wedi cysylltu. Felly, mae yna her o ran yr hyn a wnawn os yw pobl yn cysylltu gyda'r gwasanaeth iechyd yn ogystal â her gymdeithasol ehangach o berswadio pobl i siarad a gwrando hefyd. Ar eich pwynt am yr hyn rydym yn ei wneud, buaswn yn gwneud dau bwynt cyffredinol. Y cyntaf yw ein bod yn buddsoddi £35 miliwn yn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anabledd dysgu yn y flwyddyn nesaf, a bydd cyfran benodol o hwnnw'n mynd tuag at ofal mewn argyfwng. Rydym yn cydnabod bod rhai rhannau o'n system yn well na rhannau eraill, felly byddwn yn buddsoddi mwy mewn gofal mewn argyfwng dros y flwyddyn nesaf.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud â 'Cadernid Meddwl' a'r ochr fwy ataliol i bethau, ymyrraeth gynnar ac atal, nid yn unig yn nhermau cyffredinol y canol coll, ond yn arbennig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethom. Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a minnau wedi bod yn cadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc yn sylwedydd yn y grŵp hwnnw, ac yn gallu siarad yn rhydd, ac yn sicr fe wnaeth hynny yn ystod y cyfarfod heddiw. Pwrpas y grŵp yw deall a ydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond yn fwy na hynny i weld a oes gennym y bobl iawn gyda'i gilydd i geisio gwneud gwahaniaeth, nid yn unig mewn dull o weithredu ar sail ysgol gyfan, ond yn fwy cyffredinol ar draws ein system gyfan hefyd. Felly, rydym o ddifrif ynglŷn â'r negeseuon yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Rydym yn ymrwymedig i wneud yr hyn y gwnaethom addo ei wneud, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn ymddangos gerbron y pwyllgor eto. Fel y dywedodd y Cadeirydd, bydd yn rhoi cyfle i ni ymddangos gerbron y pwyllgor yn ystod y gwanwyn er mwyn i ni gael dweud beth y byddwn wedi'i wneud dros y chwe mis cyntaf a lle rydym yn disgwyl bod yn y dyfodol hefyd. Gwn fod yr Aelodau o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, fel y dylent fod.
Hoffwn fynd at wraidd y mater cyllid, oherwydd dyna'n union roeddwn eisiau ei wybod gennych heddiw. Rydych newydd grybwyll, ac rwy'n credu fy mod yn eich dyfynnu'n gywir, eich bod yn bwriadu rhoi £35 miliwn ychwanegol yn y gyllideb iechyd meddwl. I fod yn onest, mae'r gyllideb mor aneglur fel ei bod hi'n anodd iawn canfod y llinellau i gyd—mae'n anodd gwybod a oes arian yn dal i fod wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl.
Rwy'n credu eich bod wedi dweud, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor, eich bod yn mynd i dynnu arian ar gyfer gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau ym maes iechyd meddwl allan o'r gronfa drawsnewid £100 miliwn ar gyfer achub-popeth-yn-y-GIG—dyna oedd yn y dystiolaeth ysgrifenedig. A fydd y £35 miliwn ychwanegol hwn yn cyfrannu'r arian ychwanegol ar gyfer ymyrraeth gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau, neu a yw hwnnw'n dod o'r gronfa drawsnewid?
Credaf eich bod yn bwriadu cyflwyno datganiad ar y gronfa drawsnewid, a hoffwn weld rhestr o ble y daw'r holl arian hwn, gan fod cymaint o bobl yn dweud eu bod yn cael arian o'r £100 miliwn hwnnw ac mae'n anodd iawn dweud i ble yn union y mae'r arian yn mynd. Wedi'r cyfan, ein gwaith ni yw craffu ar y gwariant a sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu cyflawni, felly byddem yn gwerthfawrogi eglurder ar y mater hwn yn fawr.
Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cyfle i fanylu llawer mwy ar y meysydd penodol hynny sydd gennym wrth graffu ar y gyllideb, ond rwy'n hapus i egluro'r pwyntiau rydych yn eu codi. Rydych yn gywir: bydd £35 miliwn yn ychwanegol—dyna'r rwy'n bwriadu ei fuddsoddi yn ogystal â'r hyn rydym yn ei ddarparu eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anabledd dysgu. Mae arian yn dal i fod wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.
Ceir rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r term 'cronfa drawsnewid', oherwydd mae cronfa drawsnewid benodol ar gael ar gyfer iechyd meddwl sy'n gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddweud—ceisio helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Mae cronfa drawsnewid 'Cymru Iachach' yn bodoli ar wahân; nid yr un symiau o arian ydynt ac nid yr un gronfa. Byddaf yn gwneud datganiad ar y gronfa drawsnewid i helpu i ddarparu 'Cymru Iachach'—yr wythnos nesaf neu'r wythnos ar ôl honno rwy'n credu. Byddaf yn gallu cadarnhau'r broses y mae sefydliadau yn ei dilyn yn ogystal â sut rydym yn edrych ar y cynigion cychwynnol a gyflwynwyd. Felly, dylwn allu rhoi mwy o fanylion i chi bryd hynny ynglŷn â'r hyn sydd eisoes wedi digwydd a'r hyn rwy'n disgwyl ei weld yn digwydd yn y dyfodol, ond maent yn gronfeydd gwahanol. Rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro'r sefyllfa, ond o gofio bod yna gronfa drawsnewid iechyd meddwl a chronfa drawsnewid 'Cymru Iachach', rwy'n deall sut y gallai fod rhywfaint o ddryswch gonest mewn perthynas â'r mater.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch i chi, Lywydd. Cefais fy synnu braidd wrth glywed ymateb yr Ysgrifennydd iechyd i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn y sesiwn heddiw. I bob pwrpas, yr hyn a wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd oedd diystyru barn yr Athro McClelland mewn modd a awgrymai nad oedd hi'n gallu gweld y coed gan brennau, neu ei bod hi, efallai, yn chwyddo ei phrofiad personol ei hun a'i gyffredinoli'n annheg mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r Athro McClelland yn un o arbenigwyr economeg iechyd mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, ond mae hi hefyd wedi chwarae rôl ymarferol yn rheoli gwasanaethau iechyd fel is-gadeirydd bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae hi wedi bod yn bennaeth tystiolaeth i Cymorth Canser Macmillan a llawer o bethau eraill. Credaf ei bod wedi tynnu sylw at broblem systemig sylweddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae'n crisialu'r broblem yn yr ychydig frawddegau hyn:
Mae gennym broblem sylfaenol yma gyda byrddau iechyd, nid o ran ffiniau daearyddol, ond yn y ffordd awtonomaidd y maent yn gweithredu.... Nid yw byrddau iechyd yn cael eu rheoli'n gadarn gan Lywodraeth Cymru ac nid ydynt yn atebol i'r bobl. Mae gwagle yn Llywodraeth Cymru lle dylid llunio polisi cadarn, trylwyr ac arloesol.
Pan fydd rhywun mor flaenllaw â'r Athro McClelland yn gwneud pwyntiau yn y ffordd honno, oni ddylai'r Ysgrifennydd iechyd wrando?
Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda'r Athro McClelland ar nifer o faterion, yn enwedig pan oedd yn gadeirydd ar y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys. Rwy'n gwerthfawrogi ei chyfraniad i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Ond nid yw ei barn ar natur problem systemig wedi'i hategu gan amrywiaeth o bobl eraill. Rwyf wedi cyfeirio at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rwyf hefyd wedi cyfeirio at yr adolygiad seneddol annibynnol a edrychodd ar y system sydd gennym i weld a yw'r system ei hun yn addas i'r diben. Nid dweud 'Rydych angen diwygio'r system yn gyfan gwbl am ei bod hi wedi torri' oedd eu her i ni. Eu her oedd sut y defnyddiwn y dulliau sydd ar gael i ni i bennu cyfeiriad polisi priodol a chyflawni yn ei erbyn. Mae gwahaniaeth rhwng cyflawni a gweld a yw'r system ei hun yn addas i'r diben ai peidio. Ac o ran y polisi cadarn, yr adolygiad a'r camau i'w wella, wel, rydym wedi gweld hynny gyda'r adolygiad seneddol a 'Cymru Iachach', ac os edrychwch, er enghraifft, ar wobrau GIG Cymru, fe welwch arloesedd ar waith o fewn ein system. Fe welwch dystiolaeth yn cael ei defnyddio i greu mentrau polisi newydd ar gyfer cynhyrchu ymarfer newydd a gwell. Dyna'n union beth y dylem ei gael. Dyna beth rwy'n ei ddisgwyl ar gyfer ein system wrth i ni gyflawni'r cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny.
Wrth gwrs, mae gwelliannau mewn rhai rhannau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mewn rhannau eraill mae'n ymddangos ein bod yn symud tuag at yn ôl. Felly, er gwaethaf yr holl arian sy'n cael ei wario a'r ffaith bod hanner y byrddau iechyd naill ai'n destunau mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu—ers blynyddoedd lawer mewn rhai achosion, fel Betsi Cadwaladr—mae cynnydd, ar y gorau, yn boenus o araf. Felly, does bosib nad yw hwn yn gyfle inni feddwl a yw'r system ei hun yn gweithio neu'n wir, a oes modd inni wneud iddi weithio o gwbl.
Ond hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn nesaf yn benodol ar Betsi Cadwaladr, er mwyn mynd ar drywydd yr atebion a roddwyd i Mandy Jones ar ddechrau'r cwestiynau heddiw. Un o nodweddion Betsi Cadwaladr yw bod mwy a mwy o bractisau meddygon teulu yn cael eu gweithredu'n fewnol a'u rheoli'n uniongyrchol, yn fwyaf diweddar ym Mhorthmadog bythefnos yn ôl—bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd practis arall o dan ei adain yn uniongyrchol. Bellach, mae bron i 100,000 o gleifion yng ngogledd Cymru o dan reolaeth uniongyrchol y bwrdd iechyd. Hoffwn wybod pa adolygiadau perfformiad a gynhaliwyd ar bractisau meddygon teulu a reolir yn uniongyrchol yng Nghymru a pha effeithiau y credir bod y newid hwn yn y trefniadau rheoli wedi'u cael ar ofal cleifion? Pan gyfarfûm â chynrychiolwyr meddygon teulu sawl mis yn ôl, roeddent yn eithaf pryderus ynglŷn â hyn oherwydd, yn benodol, un o'r problemau sydd wedi datblygu yw'r ffaith nad yw cleifion unigol bellach yn teimlo bod ganddynt feddyg teulu sy'n atebol iddynt yn bersonol, gan mai staff locwm a welir yn llawer o'r practisau hyn. Mae hynny'n arwain at ddiffyg hyder cynyddol, nid yn unig yn y system ysbytai, ond hefyd mewn gofal sylfaenol ar lefel leol.
Oes, mae yna nifer o bractisau a reolir ar draws ein system. Fel canran gyffredinol, mae'n dal i fod yn fach iawn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod strwythur ymarfer cyffredinol yn newid. Byddwn yn gweld llai o bractisau bach sy'n cynnwys un neu ddau feddyg yn y dyfodol gan mai ein huchelgais mewn perthynas â darparu ymarfer cyffredinol, fel y nodir yn 'Cymru Iachach' ac fel y cawsom ein hannog i wneud yn yr adolygiad seneddol, yw gallu darparu gwasanaethau gyda'i gilydd mewn ffordd fwy integredig a gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau. Rydym yn debygol o weld practisau mwy o faint ond llai ohonynt o ran nifer. Rydym yn debygol o weld mwy o feddygon teulu yn cael eu cyflogi gan feddygon teulu eraill fel partneriaid, fel y gwelwch ar hyn o bryd ym myd y gyfraith lle cyflogir y rhan fwyaf o gyfreithwyr gan gyfreithwyr eraill.
Yr her yw hon: a ydym yn dal i gael gwerth da am arian? A ydym yn dal i ddarparu gofal cleifion o safon uchel? Ac ym mhob practis a reolir, ac yn yr holl arolygon sy'n dod yn ôl, mae'r cyhoedd yn parhau i fod yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gânt, ac felly nid oes effaith weladwy ar ofal cleifion. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl gweld cost uwch am fod yn rhaid iddynt gyflogi staff locwm ar ryw bwynt i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn parhau, a dyna'r pris y byddwn yn ei dalu i sicrhau bod ymarfer cyffredinol yn goroesi tra'n bod yn gwneud newidiadau bwriadol iddo er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym strwythur gwell ar gyfer darparu gofal gwell gyda mwy o wasanaethau yn y dyfodol.
Yn sicr, o ran gogledd-orllewin Cymru, mewn un rhan o fy rhanbarth, Blaenau Ffestiniog, ac ym Mhorthmadog hefyd erbyn hyn, mae gennym sefyllfa sy'n gwaethygu mewn gwirionedd, oherwydd nid yw cleifion yn teimlo bod ganddynt berthynas bersonol gyda meddyg unigol am na allant ddatblygu'r berthynas honno'n ddigonol gyda meddyg locwm trwy ddiffiniad, gan na fydd yno'n barhaol o anghenraid.
Mae problem arall yn codi yn sgil hyn hefyd, oherwydd pan fydd Betsi Cadwaladr yn dod â phractis dan reolaeth fewnol, mae'n cael gwared ar yr adnodd rhyngrwyd Fy Iechyd Ar-Lein sy'n caniatáu i gleifion wneud apwyntiadau meddyg teulu ar-lein, ac mae hynny'n ei gwneud yn fwy anghyfleus i gleifion hefyd. Felly, pam mai un o nodweddion practisau dan reolaeth uniongyrchol yw'r arfer o gael gwared ar dechnoleg ddefnyddiol sy'n hanfodol er mwyn gwella gofal iechyd? Go brin fod hyn yn gwbl angenrheidiol. Gan fod Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd holi'r bwrdd iechyd i weld a allant wrthdroi'r polisi negyddol hwn.
Rwy'n hapus i edrych ar y mater ac ysgrifennu at yr Aelod gan gynnwys yr Aelodau Cynulliad eraill yn yr ohebiaeth cyn gynted â phosibl.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i atal hunan-niweidio? OAQ52792
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae 'Siarad â fi 2', ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn nodi grwpiau o bobl sy'n arbennig o agored i niwed ac yn cyflwyno camau gweithredu i fynd i'r afael â ffactorau sy'n gallu cyfrannu at hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2' wedi adrodd ar gynnydd da ar nifer o'r camau gweithredu yn y strategaeth.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dadansoddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant wedi darganfod bod chwarter y merched 14 mlwydd oed a bron un o bob 10 bachgen yn y DU wedi hunan-niweidio mewn cyfnod o flwyddyn. Yn anffodus, mae lefel y ddealltwriaeth o'r rhesymau y tu ôl i'r ffigurau hyn yn wael. Mae'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a gyflawnwyd gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi taflu goleuni pwysig ar y mater hwn. Canfu'r adroddiad fod nifer y bobl ifanc a dderbyniwyd i adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd eu bod wedi hunan-niweidio wedi cynyddu 41 y cant yn y tair blynedd diwethaf. Bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yw'r unig fwrdd iechyd sy'n cofnodi faint o bobl sy'n manteisio ar gymorth dilynol yn y dyddiau ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn sgil hunan-niweidio, cyfnod pan fo mynediad at gymorth priodol yn hanfodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa un a yw byrddau iechyd eraill yn ymwybodol o'r fenter hon, a beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella mynediad at gymorth i gleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty?
Diolch i chi am y cwestiwn. Fel y dywedais yn gynharach, rydym o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn ac rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethom mewn ymateb i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', ac fe gynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a gadeiriwyd ar y cyd yn gynharach heddiw. Roedd hwnnw'n gyfarfod adeiladol a chadarnhaol, felly rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar gynnydd pellach maes o law mewn perthynas â'r hyn rydym yn ei wneud yno.
Fodd bynnag, mae ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' cyfredol yn nodi ein disgwyliad y bydd byrddau iechyd yn monitro'r ddarpariaeth o gymorth yn dilyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty; mae hynny hefyd wedi'i amlinellu yng nghynllun cyflawni 'Siarad â fi 2'. Credaf y dylwn ddod yn ôl at yr Aelod eto i ofyn am sicrwydd priodol gan fyrddau iechyd eraill—maent o ddifrif ynglŷn â hynny ac yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond yn fwy na hynny, o ran sut rydym yn asesu ac yn deall sut y gwneir hynny, rydym eisoes yn edrych i weld sut y gallwn wella'r data a gasglwn drwy ddatblygu'r hyn a elwir yn set ddata graidd iechyd meddwl—er mwyn deall ein bod yn casglu'r un wybodaeth, yn yr un modd, yn yr un lle, i ganiatáu inni ddeall y gwelliannau sy'n cael eu gwneud a'r cynnydd cymharol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae hynny'n mynd ochr yn ochr â'r gwaith o weithredu system wybodaeth gofal clinigol Cymru ledled Cymru, i helpu i wella'r gwaith o fonitro cynnydd a gweithredu. Rwy'n credu y bydd yn ddefnyddiol i'r Aelodau wybod nad mater i'r gwasanaeth iechyd gwladol a chlinigwyr yn unig yw hyn, ond mae'n cynnwys y trydydd sector hefyd o ran ymgysylltu ynglŷn â'r hyn y dylem ei gasglu a sut y dylem ei gyflwyno a'i ddarparu i'r cyhoedd wedyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hanner y gwahanol fathau o salwch meddwl yn dechrau erbyn y bydd yr unigolyn yn 14 oed. I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyfres o fesurau ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys recriwtio timau cymorth iechyd meddwl newydd a fydd yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. O gofio bod mwy na 3,000 o bobl wedi llofnodi deiseb gan grŵp iechyd meddwl yng Ngwent yn galw am roi mwy o lais i bobl ifanc mewn gwasanaethau iechyd meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â salwch meddwl yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maent eu hangen yn ein gwlad? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Nodaf ymrwymiadau diweddar y Prif Weinidog ac fel y dywedais o'r blaen, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog cyfredol a'r Prif Weinidog blaenorol wedi bod yn barod i siarad yn agored am bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl. Yr her bob amser yw i ba raddau y maent wedi llwyddo i gefnogi eu geiriau gydag adnoddau a chamau gweithredu ar lawr gwlad. Os nad ydych yn fy nghredu, gofynnwch i ymarferwyr a grwpiau yn Lloegr, a byddant yn dweud nad yw'r rhethreg wedi cyd-fynd â'r realiti. Nid dweud yn unig nad ydym mor wael â Lloegr yw'r her i ni yma, ond gofyn yn hytrach 'Beth y gallwn ei wneud i wella ymhellach?' Dyna'n union y ceisiwn ei wneud trwy fwrw ymlaen â'r grŵp gorchwyl a gorffen mewn ymateb i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Bydd ffocws ar blant a phobl ifanc yn y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw, ond yn fwy na hynny gallaf gadarnhau y byddwn hefyd yn cynnwys plant a phobl ifanc yn uniongyrchol er mwyn llywio ein gwaith. Rhan o hynny fydd y dystiolaeth y mae'r pwyllgor eisoes wedi'i chlywed, gwybodaeth rydym eisoes yn ei chasglu, ond hefyd ymgysylltiad uniongyrchol wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc mewn gwahanol rannau o Gymru wrth i ni geisio deall sut y gallwn wella'r cymorth a'r ymyrraeth gynharach honno.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghanol De Cymru? OAQ52782
Diolch. Fy mlaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd yn ardal Canol De Cymru, fel ar gyfer gweddill Cymru, yw sicrhau bod pobl yn cael mynediad teg at iechyd a gofal sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, yn integredig, ac o ansawdd uchel i ddiwallu eu hanghenion.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gweithio gyda phartneriaid mewn gofal cymdeithasol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r sector gwirfoddol i ddatblygu cynllun gaeaf i reoli'r cynnydd yn y galw ar wasanaethau, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Llandochau. Mae'r argymhelliad yn cynnwys 32 o welyau ychwanegol ar gyfer pwysau'r gaeaf a 12 o welyau eraill yn ogystal os ydynt yn angenrheidiol. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith y bydd y rhwydwaith o glinigau cwympiadau cymunedol yng Nghaerdydd ar gael i unigolion sy'n wynebu risg is o gael codwm ond a fyddai'n elwa o asesiad i leihau eu risg o gael codwm yn y dyfodol. Nawr, rydym yn aros i weld a fydd y dull cydgysylltiedig hwn a gynlluniwyd yn sicrhau'r math o gryfder rydym ei eisiau yn y system er mwyn gallu ymateb i bwysau'r gaeaf, ond maent yn cydgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill o leiaf. Dylai fod yn enghraifft o'r hyn y dylem fod yn ei weld yn y dyfodol, nid yn unig yng Nghanol De Cymru, ond ym mhob cwr o Gymru.
Rwy'n hapus i sicrhau'r Aelod fod pob bwrdd iechyd wedi mabwysiadu dull tebyg, ynghyd â'u partneriaid yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, eu partneriaid cyffredin, ynghyd â llywodraeth leol a'r trydydd sector, ac yn hollbwysig, maent yn cynnwys eu cydweithwyr ym maes tai hefyd i ddeall sut y mae cynllunio'n briodol ar gyfer y gaeaf. Yr her a'r prawf bob amser yw sut y mae ein cyd-wasanaethau'n ymdopi â'r galw ychwanegol y gwyddom y bydd ein system iechyd a gofal yn ei wynebu drwy gydol misoedd y gaeaf a beth arall y gallwn ei wneud yn llwyddiannus i sicrhau ein bod yn cadw pobl nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty allan o'r ysbyty, ond hefyd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n briodol yn eu cartrefi eu hunain. Bydd gennyf ragor i'w ddweud ar y materion hyn a'r cynlluniau ar gyfer y gaeaf yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf wrth i mi barhau i wneud datganiadau ac ateb cwestiynau, ond rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi rhoi amser i ddeall ac ymgysylltu â'r broses o gynllunio ar gyfer y gaeaf yma yng Nghaerdydd a'r Fro.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a chyngor Rhondda Cynon Taf i ddatblygu cyfleuster gofal sylfaenol integredig newydd yn Aberpennar. Nawr, byddai'r cyfleuster gofal iechyd arfaethedig hwn sy'n werth £6.5 miliwn yn disodli'r gwasanaethau hen ffasiwn yn y dref ac yn mabwysiadu dull cyfannol drwy ddod â gwasanaethau at ei gilydd. Gan gydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar ddatblygu'r prosiect hwn, pa fath o fanteision y bydd y gymuned yn elwa arnynt o'r model hwn yn eich barn chi, a sut y bydd Llywodraeth Cymru'n hwyluso'r gwaith o'i ddarparu?
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod bod hwn yn bwnc rydych wedi'i godi gyda mi yn gynnar ar ôl i chi gael eich ethol, ynghyd ag arweinydd y cyngor, ynglŷn â'r angen i wella'r cyfleusterau, a dyna un o'r manteision cyntaf a welwyd mewn gwirionedd. Bydd cyfleusterau modern, cyfoes ac addas i'r diben yn dod yn lle'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac weithiau nid ydym yn pwysleisio digon pa mor bwysig yw rôl yr amgylchedd ffisegol ym mhrofiadau unigolion o ofal a lle maent yn debygol o gael mynediad at ofal yn y lle cyntaf. Yna, ceir y pwynt ynglŷn â mynediad gwell, oherwydd gallwn fynd ati wedyn i ddod â mwy o wasanaethau at ei gilydd yn yr un lle, ac yn fwyaf arbennig, dod â gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol at ei gilydd er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael y gwasanaeth cywir yn y lle cywir. Mae hynny, fel y gwyddom o rannau eraill o'r wlad, wedi arwain at wella'r berthynas rhwng yr holl weithwyr proffesiynol gwahanol hynny. Maent yn gallu siarad â'i gilydd a deall, os nad oes rhywun yn dod atoch gyda phroblem iechyd, bydd rhywun ar gael—os yw o fewn yr un adeilad, mae hynny hyd yn oed yn well—i ddeall sut y gallwch helpu'r unigolyn i ddod o hyd i gymorth ar gyfer eu problem. Ond mae'r profiad hwnnw a'r gwasanaethau gwell hynny yn rhan o'r cynllun y byddem yn disgwyl ei weld. Dyna pam ein bod yn buddsoddi arian gyda'r awdurdodau lleol ar gyfer darparu'r cyfleusterau newydd hyn. Bydd yn bwysig i'r staff yno hefyd, oherwydd fe wyddom, mewn rhannau eraill o'ch etholaeth er enghraifft, fod y ffordd wahanol y mae'r arferion hynny'n gweithio gyda'i gilydd bellach wedi arwain at waith gwell gan weithwyr proffesiynol sy'n fwy tebygol o aros.
A'r peth olaf rwyf am ei ddweud ynglŷn â'r mater hwn, Lywydd, yw hyn: nid yn unig y mae'r datblygiad rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol wedi helpu o ran darparu cyfleusterau newydd; fel y byddwch yn gwybod o Wobrau GIG Cymru, fe aeth y wobr fawr ar y noson i wasanaeth Stay Well@home—y bartneriaeth rhwng iechyd a llywodraeth leol i ddarparu gwell gofal er mwyn cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy a'u rhyddhau o'r ysbyty yn gynt. Ac mae enghreifftiau go iawn yno yn ardal Cwm Taf o'r hyn sydd angen i weddill y gwasanaeth ei wneud.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am broffylacsis cyn-gysylltiad ac atal HIV? OAQ52753
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Cymru wedi gweld gostyngiad cyson mewn achosion newydd o HIV. Ers i mi gyhoeddi'r astudiaeth dair blynedd ar broffylacsis cyn-gysylltiad, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2017, mae 559 o bobl wedi dechrau cael triniaeth proffylacsis cyn-gysylltiad, ac nid oes neb yn y garfan hon wedi cael HIV.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, ac yn dilyn eich datganiad llafar ar y mater hwn ar 2 Hydref ac wrth symud ymlaen, yn amlwg, mae cyffuriau proffylacsis cyn-gysylltiad generig yn rhatach na'r rhai brand cyfredol sy'n cael eu defnyddio. A fyddech yn cytuno, os oes unrhyw arbedion i'w gwneud drwy newid i gyffuriau proffylacsis cyn-gysylltiad generig yn y dyfodol, byddai arbedion o'r fath yn hynod ddefnyddiol i hyrwyddo proffylacsis cyn-gysylltiad i grwpiau nad oes ganddynt fynediad ato yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl ar hyn o bryd?
Rydych yn gwneud pwynt hollol deg wrth ddweud, pan fydd meddyginiaeth newydd ag iddi frand ar gael, y daw amser pan fydd rhai generig ar gael, ac mae'n waith rydym wedi'i wneud ar draws y gwasanaeth cyfan mewn gwirionedd er mwyn gwneud yn siŵr fod cynhyrchion generig yn cael eu ffafrio lle bo hynny'n bosibl, oherwydd nid yw'n cael gwared ar y gwerth, mae'n cynyddu'r gwerth, ac nid yw'n lleihau effeithiolrwydd y cyffuriau hynny mewn unrhyw ffordd.
Rydych yn gwneud pwynt diddorol ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd os ydych yn gweld gostyngiad mewn cynnyrch sydd wedi'i anelu'n arbennig at un rhan o'r gwasanaeth a pha un a ddylid cadw'r arbedion ar feddyginiaethau generig yn y gwasanaeth hwnnw. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw fy mod yn credu ein bod eisiau sicrhau ein bod yn darparu mynediad teg at driniaeth o'r ansawdd gorau, ac ni fuaswn yn barod i weithredu dull a allai gael ei efelychu mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth gan olygu na allem symud arian o gwmpas lle rydym ei angen, ond ni fyddai'n lleihau pwysigrwydd gwneud yn siŵr fod gennym wasanaeth iechyd rhywiol effeithiol fel y gallwn barhau i geisio sicrhau ein bod yn cyflawni uchelgais Sefydliad Iechyd y Byd a dod yn wlad sy'n rhydd o HIV cyn gynted â phosibl yn y dyfodol.
A gaf fi gytuno â sylwadau Dai Lloyd ac rwy'n croesawu'r newyddion hefyd fod y treialon wedi bod yn llwyddiannus yn ôl pob golwg? Mae'n teimlo fel amser hir er pan ddaeth y cyflwr yn hysbys am y tro cyntaf yn yr 1980au, pan nad oedd gan y rhai a gâi ddiagnosis o HIV unrhyw obaith mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid croesawu'r ffaith bod gennym gyffuriau ataliol yn awr yn ogystal â chyffuriau i drin y clefyd.
O fy nealltwriaeth o'r driniaeth proffylacsis cyn-gysylltiad, ni allwch ei gymryd yn achlysurol yn unig, mae'n rhaid iddo gael ei gymryd yn gyson, ac rwy'n credu bod angen archwiliadau meddygol rheolaidd bob tri mis i sicrhau bod yr effeithiolrwydd yn cael ei gynnal. Felly, a allwch ddweud wrthym yn ogystal â'r rheini sydd wedi cael eu trin yn llwyddiannus ac sydd wedi cymryd y cyffuriau, beth rydych yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r math hwn o driniaeth ar gyfer y rhai y mae'n addas ar eu cyfer, ond hefyd i sicrhau bod y dioddefwyr HIV sy'n ei gymryd yn deall pa mor bwysig yw dal ati i gymryd y feddyginiaeth fel ei bod mor effeithiol â phosibl?
Wel, edrychwch, ar gyfer y bobl sydd wedi dechrau'r driniaeth proffylacsis cyn-gysylltiad, mae'r ffaith nad oes unrhyw un yn y cohort wedi cael HIV ers dechrau'r driniaeth yn galonogol iawn. Mae hynny'n wirioneddol bwysig. Ond fel y dywedais yn fy natganiad llafar, rydym wedi bod yn ceisio cyrraedd y bobl sy'n wynebu'r risg mwyaf, ac felly, rydym wedi gweld heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol o fewn y grŵp hwnnw. Mae hynny'n dangos ein bod yn cyrraedd y math iawn o bobl. Rydym hefyd wedi canfod pobl sydd â HIV ond heb gael diagnosis, ac maent wedi cael cymorth i sicrhau eu bod yn cael y driniaeth briodol, a dyna sydd angen i ni ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwneud â'r gwasanaethau sy'n cael eu hadeiladu o'u cwmpas, sy'n deall eu hanghenion er mwyn eu cefnogi'n briodol a'r bobl o'u cwmpas i wneud yn siŵr eu bod yn byw y bywyd gorau posibl, oherwydd rwyf innau hefyd yn cofio pan roddwyd cyhoeddusrwydd mawr i HIV ac AIDS—a phlentyn oeddwn i—rwy'n cofio'r hysbysebion ar y teledu, a'r ofn a'r stigma a ddaeth yn eu sgil. Ac mae cael neges, mewn gwirionedd, sy'n dweud y gallwch fyw bywyd da a pharhau i fyw bywyd iawn o gael cymorth a thriniaeth, ac nad yw'n golygu bod eich bywyd ar ben—mae'r stigma a'r ofn yn dal i fod yno. Felly, mae hwnnw'n waith sydd angen i ni ei wneud o hyd, ac rwy'n wirioneddol falch o'r ffaith ein bod ni yma yng Nghymru wedi mabwysiadu dull blaengar o weithredu.
Rwyf wedi gweld newyddion yn eich rhan chi o'r byd, gyda'r Argus, yr wythnos hon, yn argraffu erthygl yn sôn am y sefyllfa yn Lloegr, lle mae ganddynt elusennau o hyd yn galw am broses fwy dibynadwy na chodi arian i ddarparu proffylacsis cyn-gysylltiad i bobl eraill. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu gwneud penderfyniad yma yng Nghymru i ddarparu ar gyfer y genedl gyfan ar sail gyfartal, wedi'i sbarduno gan angen, ac angen yn unig.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan bobl sydd ag afiechyd meddwl yng ngogledd Cymru fynediad at wasanaethau eirioli a chymorth annibynnol? OAQ52788
Rydym yn cydnabod rôl hanfodol eirioli annibynnol wrth ddarparu cymorth iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar unigolion. Mae'r Cynulliad wedi deddfu ar gyfer eirioli annibynnol yn ein Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl eto y flwyddyn nesaf i barhau i wella'r cymorth sydd ar gael.
I fod yn deg, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod eich bod yn gweld gwerth eirioli annibynnol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl—. Ond rwyf ychydig yn bryderus ynglŷn â rhywfaint o'r ailstrwythuro sy'n mynd rhagddo gydag eiriolaeth iechyd meddwl yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yna sefydliad o'r enw Un Llais sydd wedi bod yn hynod effeithiol yn meithrin gallu yn y trydydd sector, yn enwedig o ran datblygu cymorth eirioli yn ardal gogledd Cymru, ond yn ddiweddar iawn, mae'r bwrdd iechyd wedi penderfynu dod â'r cytundeb sydd ganddo gydag Un Llais i ben, ac mae hynny yn fy marn i yn niweidiol i'r gwaith y mae'r trydydd sector yn ei wneud i gefnogi'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y rhanbarth, yn enwedig o ran cymorth eirioli.
A gaf fi ofyn a fyddwch—o gofio bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig—yn gallu helpu i adolygu'r penderfyniad hwn i wneud yn siŵr ei fod yn briodol a bod gwasanaethau digonol ar gael i'r rheini sydd angen cymorth eirioli mewn perthynas â'u gwasanaethau iechyd meddwl? Oherwydd mae'n bryder a gafodd ei ddwyn i fy sylw nid yn unig gan y sefydliad trydydd sector yr effeithir arno, ond gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu hunain hefyd.
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n hapus i ddweud ein bod yn monitro darpariaeth y gwasanaethau eirioli ledled y wlad, ac ar hyn o bryd mewn gwirionedd, mae Betsi Cadwaladr yn cyrraedd ein safonau cyfredol i wneud yn siŵr fod gwasanaethau eirioli'n cael eu darparu. Rydym yn cael sicrwydd chwarterol ynghyd ag adroddiadau ar ddarpariaeth y gwasanaethau eirioli. Ni allaf roi manylion am y mater penodol rydych yn ei godi, ond os ysgrifennwch ataf gyda'r manylion am natur y pryder, byddaf yn hapus i sicrhau ei fod yn cael ei archwilio'n briodol.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ52776] yn ôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn Islwyn? OAQ52789
Diolch i chi am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ynghyd â sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £586,000 yn awr i ariannu dwy flynedd gyntaf y prosiect hwnnw.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu partneriaeth strategol, yn debyg i'r un yn yr Alban, o'r enw Achub Bywydau Cymru. Mae ymgyrch arloesol 'Adfywio Calon' gwasanaeth ambiwlans Cymru, a lansiwyd yr hydref diwethaf, wedi dysgu bron i 13,000 o blant ysgol sut i gyflawni dadebru cardio-anadlol, sy'n gallu achub bywydau, ac mae hynny, ochr yn ochr ag ymgyrch parafeddygon gwasanaeth ambiwlans Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael mewn mannau cyhoeddus—a gafodd sylw drwy ymgyrch benodol Cyfraith Jack—wedi golygu bod diffibrilwyr cyhoeddus mewn ysgolion eisoes wedi achub bywydau yn Islwyn.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gymorth fy nghyd-Aelod Jack Sargeant gyda hybu'r mentrau achub bywyd hanfodol hyn. Sut, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cymorth ac yn sicrhau bod cymunedau Islwyn yn chwarae rhan lawn yn ymgyrch Achub Bywydau Cymru ac yn dysgu sut i gyflawni dadebru cardio-anadlol, gan sicrhau cyfraddau goroesi ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty yn Islwyn? A pha ran bellach sydd i'w chwarae yn cyflwyno diffibrilwyr cyhoeddus ledled Cymru a hyrwyddo Cyfraith Jack?
Wel, wrth gwrs fod gennyf ddiddordeb yn hyn. Ceir amrywiaeth o sefydliadau unigol yn y trydydd sector sy'n mynd ati i sicrhau bod diffibrilwyr yn cael eu defnyddio, eu hariannu, a'u monitro a'u cynnal hefyd. Yr hyn y ceisiwn ei wneud, fel rhan o'r gwaith hwn, yw dod â'r sefydliadau hynny i gyd at ei gilydd i ddeall lle mae bylchau'n bodoli a lle nad ydynt yn bodoli.
Rwy'n falch fod 75 o ysgolion uwchradd ledled Cymru wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch Adfywio Calon ddoe, a dysgu technegau achub bywyd sylfaenol. Ac rwyf innau hefyd wedi gwneud rhywfaint o'r hyfforddiant yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, er y llynedd, roeddwn yn sir Benfro gyda Joyce Watson, a bu'n rhaid i ni adael oherwydd tywydd stormus a bu'n rhaid iddynt anfon y plant i gyd adref oherwydd dyna sy'n digwydd pan fyddwch yn dibynnu ar y tywydd.
Edrychwch, rwy'n gwybod hefyd y bydd mwy o ysgolion yn cymryd rhan dros y diwrnodau nesaf, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Islwyn, a bydd hynny'n ymwneud â gwirfoddolwyr gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru yn monitro'r hyn sy'n digwydd drwy'r bartneriaeth. Bydd hynny'n cael ei fonitro gan y grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y galon, felly bydd pobl yn y Llywodraeth, pobl o fewn y gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector, yn goruchwylio hynny, ac wrth gwrs, rwy'n hapus i adrodd yn ôl i'r lle hwn ar y cynnydd a wnawn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Ni ddewisiwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Yr eitem nesaf yw eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Siân Gwenllian.
Diolch. Bob mis Hydref, dathlwn Fis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru er mwyn rhoi’r cyfle i unigolion a chymunedau ledled Cymru gydnabod cyfraniad pobl ddu i hanes economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Mae hefyd yn gyfle i’r gymuned ehangach ddysgu, dathlu a rhannu ein hanes cenedlaethol cyfoethog gyda’r byd i gyd.
Rydym yn eithriadol o falch yng Nghymru mai ein prif ddinas ni oedd un o’r dinasoedd aml-ddiwylliannol cyntaf o’i bath yn y byd, lle mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn byw yn ddedwydd ochr yn ochr ers degawdau. Ymhyfrydwn a rhannwn ein hanes amrywiol a chyfoethog.
Cofiwn, yn anffodus, am ran Cymru yn y fasnach gaethweision erchyll. Adroddwn hanes morwyr o Somalia a’r Yemen yn bwrw gwreiddiau yn nociau Trebiwt a’r Bari, a mwyngloddwyr o’r Caribî yn gweithio ym mhyllau glo'r Cymoedd. Dathlwn gyfraniad cenhedlaeth Windrush ac arloeswyr arbennig megis Betty Campbell, pennaeth ysgol du cyntaf Cymru, a chyfraniadau unigolion heddiw, megis Uzo Iwobi, pencampwr cydraddoldeb hil; Rungano Nyoni, cyfarwyddwr ffilm Cymreig a Sambiaidd; a’r bardd o Gamerŵn, Eric Ngalle Charles.
Does dim dwywaith, mae hanes pobl dduon yn rhan gwbl annatod a chreiddiol o hanes Cymru, a’r byd hefyd, ac mae’n perthyn i bob un ohonom ni. Parhawn i ddathlu a chofio cyfraniad pobl dduon heddiw, yfory, a thrwy gydol y flwyddyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yn dathlu llwyddiant Partneriaethau Alcohol Cymunedol. Cwmni buddiannau cymunedol yw PAC, a'i nod yw mynd i'r afael ag yfed dan oed drwy ddarparu rhaglenni addysg, ymgysylltu â chymunedau lleol, a gweithio gyda busnesau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth alcohol gyfredol yn cael ei dilyn a'i hatgyfnerthu. Ers iddo gael ei lansio yn 2007, mae wedi datblygu 162 o gynlluniau ledled Cymru, gan gynnwys pum prosiect newydd.
Mae pawb ohonom wedi gweld effeithiau negyddol camddefnyddio alcohol yn ein hardaloedd lleol. Mae normaleiddio yfed dan oed yn cael effaith ddifrifol ar iechyd hirdymor a llesiant plant a phobl ifanc. Dyna pam rwy'n hynod falch o'r llwyddiant y mae PAC wedi'i gael yn helpu i leihau nifer y rhai sy'n yfed dan oed. Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018, mae'n nodi bod ei brosiectau wedi sicrhau gostyngiad o 60 y cant mewn yfed wythnosol ymhlith rhai 9 i 11 oed, a gostyngiad o 40 y cant mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ymhlith pobl ifanc. Mae hwn yn gyflawniad gwych a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar lawer o bobl ifanc a chymunedau lleol ledled Cymru. Mae effaith gadarnhaol o'r fath yn dyst i waith caled ac ymroddiad aelodau PAC, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â rhai ohonynt yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i rai o'r prosiectau a leolir yng Nghymru. O ystyried llwyddiant PAC ledled y wlad, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda PAC i adeiladu ar y ddeddfwriaeth ddiweddar, gan gynnwys Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, i leihau cyfraddau yfed dan oed yn ein cymunedau lleol.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar yr economi sylfaenol, a galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig. Lee.
Cynnig NDM6782 Lee Waters, David Melding, Jenny Rathbone, Hefin David, Adam Price, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi sylfaenol.
2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi sylfaenol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac yn treialu modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r paratoadau'n cyflymu ar gyfer Brexit 'dim bargen'. Mae storio meddyginiaeth a bwyd yn cael sylw'r cyfryngau, ond gallai'r realiti i economi Cymru fod yn llawer gwaeth. Mae ein polisi economaidd wedi canolbwyntio ar roi cymorth i gwmnïau angori fel y'u gelwir—cwmnïau rhyngwladol mawr gyda chanolfannau yng Nghymru a gefnogwyd gennym â grantiau a chymhellion eraill. Ond pan fydd rhwystrau'n dechrau cael eu codi a fydd yn creu oedi costus, buan iawn y bydd y penderfyniadau a wneir yn y prif swyddfeydd byd-eang ynglŷn â ble i fuddsoddi arian yn y dyfodol yn anffafrio Cymru. Fel y dangosodd sylwadau Ford in Europe yr wythnos hon, mae'n bosibl y bydd yr angorau'n cael eu codi cyn bo hir.
Mae'n ymddangos i mi mai rhan o'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw wynebu'r ffaith na allwn barhau i roi grantiau mawr i gorfforaethau enfawr er mwyn eu denu i aros yn ein cymunedau pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Mae pethau'n anodd eisoes, ac rydym yn arllwys adnoddau mawr eu hangen i mewn i ogr, ac yn gwylio ein buddsoddiadau'n llifo i hafanau trethi, a hynny am ychydig iawn o enillion ar lawr gwlad. Mae Cymru wedi cael llwyddiant mawr yn mynd ar drywydd cyfalaf tramor. Rydym wedi gweld y lefelau isaf erioed o ddiweithdra. Mae gennym y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad uniongyrchol tramor. Ac eto, mae llawer o bobl wedi'u datgysylltu'n enbyd, yn gweithio mewn swyddi bregus am gyflogau isel.
Lywydd, nid â gwerth ychwanegol gros yn unig y mae a wnelo'r economi. Mae'n ymwneud hefyd â phrofiadau bywyd pobl, ac mae dull o weithredu ar sail economi sylfaenol yn caniatáu inni ailystyried ein sefyllfa. Mae bron i hanner pobl Cymru'n cael eu cyflogi yn yr hyn y gallwn ei hystyried yn economi sylfaenol: y rhan gyffredin, bob dydd o'n heconomi; y rhannau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol yn eu cymunedau—gofal, bwyd, ynni a thai, i enwi rhai yn unig—y rhannau nad ydynt yn gallu addasu'n hawdd pan fo'r economi ryngwladol yn dioddef. Ac mae'r sector sylfaenol hwn wedi cael ei esgeuluso gan bolisïau ar draws y DU wrth inni ganolbwyntio ar y prosiect sgleiniog nesaf, a'r cyfle nesaf i dorri rhuban. Ac mae'n rhaid i ni newid hynny.
Pwrpas y cynnig heddiw, a gyflwynwyd gennyf fi, Vikki Howells, Jenny Rathbone, Hefin David, Adam Price a David Melding, yw edrych eto ar bwysigrwydd canolog y sector hwn a ddiystyrwyd yn ein heconomi. O gofio’r ymrwymiad trawsbleidiol i’r cynnig hwn, mae'n amlwg fod yna awydd am ddull newydd o weithredu.
Yn ddiweddar, gyda fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ymwelais â Preston i ddysgu mwy am eu dull hwy o weithredu'r hyn y maent yn ei alw'n 'adeiladu cyfoeth cymunedol'. Ers yr argyfwng ariannol, a methiant canolfan siopa fawreddog newydd yr oeddent yn dibynnu arni i roi hwb i Preston, ac yn wyneb cyni parhaus, gorfodwyd y cyngor i ailystyried eu hymagwedd tuag at ddatblygu economaidd. Nawr, mae eu diffiniad o sefydliad angori yn gwbl wahanol i’n diffiniad ni. Maent yn defnyddio’r term i ddisgrifio sefydliadau sydd wedi’u gwreiddio’n lleol a'u lleoli'n gadarn—y brifysgol leol, y coleg addysg bellach, y coleg chweched dosbarth, y cyngor sir, y gymdeithas dai leol a'r heddlu. Gyda'i gilydd roedd yr angorau hyn yn gwario £750 miliwn y flwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau, ond 5 y cant ohono'n unig a werid yn Preston, a llai na 40 y cant yn ardal ehangach Swydd Gaerhirfryn. Felly, roedd tua £458 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei golli o economi Swydd Gaerhirfryn bob blwyddyn.
O ganlyniad i’w dull newydd o harneisio eu heconomi sylfaenol, mae'r sefydliadau angori lleol hyn bellach yn defnyddio caffael i sicrhau’r gwerth cymdeithasol gorau yn lleol. Drwy archwilio'r 300 contract mwyaf gwerthfawr a oedd gan bob un, maent wedi gallu ailgyfeirio gwariant i gwmnïau lleol heb effeithio ar gost nac ansawdd. Mae hwnnw'n bwynt hollbwysig. Bellach, cedwir 17 y cant o wariant y sefydliadau angori lleol o fewn Preston—o 5 y cant i 17 y cant—a 79 y cant yn economi ehangach Swydd Gaerhirfryn, i fyny o 39 y cant.
Mae hyn wedi cael effaith amlwg yn Preston. Dyma ardal a oedd unwaith ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr, ac mae bellach yn codi o'r dyfnderoedd. Tra bo cyflogau wedi aros heb symud yn y rhan fwyaf o'r DU ers dros ddegawd, maent yn codi yn Preston. Ac mae’r sefydliadau angori lleol wedi cyfrannu'n helaeth at hynny. Mae pump o’r chwe sefydliad bellach yn gyflogwyr cyflog byw achrededig.
Mae angen i ni wneud yr un peth—nodi pwy yw'r chwaraewyr mawr yn ein heconomïau lleol a gofyn iddynt wneud eu rhan. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn glir i'r holl sefydliadau hyn ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat y bydd adeiladu eu heconomïau lleol yn rhoi sylfaen gadarn a dyfodol sicr iddynt. I gymdeithasau tai, bydd eu rhenti’n cael eu talu; i’r gwasanaeth iechyd, bydd llai o alw a achosir gan dlodi ar wasanaethau; i’r heddlu, bydd achosion troseddau’n lleihau. Yng Nghymru, mae'r sector cyhoeddus yn gwario £5.5 biliwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn, a gallem ddefnyddio’r arian hwnnw i hybu ein heconomi sylfaenol yn uniongyrchol.
Mae hyn yn golygu bod angen dull newydd o weithredu, dull sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd, fel y mae pwynt 3 ein cynnig yn ei nodi, yn cynnig cyfle sylweddol a fyddai’n caniatáu i ni fynd ymhellach na Preston hyd yn oed. Ond i wneud hynny mae angen i ni wneud newidiadau. Bydd angen grymuso ein sector cyhoeddus i gaffael mewn ffordd sy'n sicrhau llawer mwy na'r pris isaf. Bydd busnesau lleol angen mwy o gymorth i gyflawni ac ennill contractau sector cyhoeddus, ac mewn perthynas â llywodraeth leol, bydd angen i ni fuddsoddi mewn staff mwy medrus sy’n meddu ar sgiliau prynu arbenigol i ysgogi'r newid hwn yn ein dull o weithredu.
Ond rydym wedi argyhoeddi ein hunain fod y rhwystrau i wneud y pethau hyn yn uwch nag y maent mewn gwirionedd. Mae’r profiad yn Preston yn dangos nad yw rheolau caffael Ewropeaidd yn broblem mor fawr ag y credwn. Yn wir, dywedodd arweinydd y cyngor, Matthew Brown, a'i uwch swyddogion, wrth Jenny Rathbone a minnau fod y diwygiadau wedi bod yn llawer haws eu cyflawni nag y rhagwelwyd ganddynt yn wreiddiol. Felly mae pwynt 2 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Chyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
Roeddent yn pwysleisio wrthym nad yw eu dull o weithredu yn un y dylid ei gymhwyso yn yr un modd ym mhobman. Mae gan leoedd gwahanol atebion gwahanol i broblemau gwahanol. Er enghraifft, yn Islington, lle mae gofod gwaith fforddiadwy’n brin, mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn cynlluniau i ddod ag adeiladau yn ôl i ddwylo'r gymuned er mwyn caniatáu i ficrofusnesau a mentrau bach rentu ar gyfraddau is na chyfraddau'r farchnad. Dyna yw eu ffocws wedi bod. Ym Manceinion Fwyaf, mae’r gronfa bensiwn wedi darparu £50 miliwn o fenthyciadau a chyfalaf ecwiti i fentrau bach a chanolig. Dyna a nodwyd ganddynt fel eu prif broblem. Yn yr Alban, mae Highlands and Islands Enterprise wedi arwain ar ddatblygu asedau ynni cymunedol, gan ddarparu buddsoddiad mewn maes sy’n cael ei anwybyddu gan gynlluniau ariannu traddodiadol.
Nawr, yng Nghymru, mae gennym ninnau hefyd gnewyllyn dull gweithredu cynhwysfawr. Ceir arwyddion o agwedd newydd tuag at brynu. Mae adolygiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnig cyfle i symud oddi wrth y ffocws ar gontractau mawr am y pris isaf. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ein hymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol ac mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn a olygwn, ac i ba raddau y mae'n golygu cael gwared ar yr hen ffyrdd o weithio. Ond mae’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’i gynlluniau ar gyfer dull o weithredu sylfaenol trawsbynciol yn ystod ei ymddangosiad diweddaraf gerbron pwyllgor yr economi yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y cawn glywed rhagor heddiw.
Ond mae rhagor i'w wneud. Mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu amrywiaeth o wahanol fodelau o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull sylfaenol lleol. Yn rhy aml, mae pobl sy'n gweithio yn y sector ar gytundebau dim oriau a chyflogau isel, heb unrhyw obaith o gamu ymlaen yn eu gwaith. Mae cwmnïau mawr yn symud i'r sector ac yn gwneud elw sylweddol tra bo’r enillion yn brin iawn i ddefnyddwyr gofal a’r cyhoedd sy’n eu hariannu. Er ein bod wedi rhoi £1 miliwn tuag at archwilio dulliau sylfaenol o weithredu mewn gofal cymdeithasol, rydym yn rhoi symiau llawer mwy o arian i rai o gwmnïau mwyaf y byd i’w denu i symud yma neu i aros yma, ac mae angen i ni droi’r fantol, ym maes gofal cymdeithasol ac ar draws ein heconomi.
Yr hyn a ddysgais yn Preston, Ddirprwy Lywydd, yn anad dim arall, oedd bod eu llwyddiant yn deillio o weledigaeth ac arweinyddiaeth â ffocws. Mae wedi'i wreiddio yn niwylliant gweithio eu cwmnïau angori a thrwy ymdrech barhaus arweinwyr ymrwymedig. Gall ymagwedd sylfaenol tuag at yr economi fod yn weledigaeth i ni, a gall Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau. Mae realiti'r hyn y bydd Brexit yn ei olygu i'n heconomi yn golygu bod angen i ni wneud hyn ar frys. Diolch.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac rwy'n falch ein bod yn y pumed Cynulliad hwn wedi canolbwyntio ar hyn, holl fater yr economi sylfaenol, oherwydd ers yr argyfwng ariannol credaf fod gwir angen edrych eto ar sut yr edrychwn ar yr economi, gan fod yn rhaid iddi fod yn llawer mwy na'r hyn y gellir ei ddisgrifio fel 'globaleiddio', 'marchnadoedd rhesymegol' ac 'uchafswm defnydd-deb'. Mae economïau'n lleol, yn genedlaethol, yn ogystal â byd-eang, a diystyrwyd yr economi leol yn rhy hir o lawer, ac yn fy marn i mae hyn wedi creu llawer o le i ddylanwad poblyddwyr a diffyndollwyr allu cynyddu, a beirniadu agweddau ar yr economi fyd-eang sy'n eithaf cynhyrchiol i ni, yn ogystal â chanolbwyntio ar faterion sy'n galw am fwy o graffu.
Ond mae'n rhaid bod o ddifrif ynghylch yr ymadrodd, 'adfer rheolaeth'. Wrth gwrs, y drychineb gyda Brexit yw nad yw'n glir iawn sut rydym yn adfer rheolaeth. Bydd yn sicr yn waith sydd ar y gweill ac mae angen iddo fod yn waith sy'n llywio'r economi wleidyddol gyfan, os gallaf ddefnyddio cysyniad sy'n perthyn i'r ddeunawfed ganrif, ond credaf ei bod yn bryd iddo ddychwelyd gan fod gwleidyddiaeth ac economeg yn gwbl gysylltiedig. Wrth edrych ar rywbeth fel 'adfer rheolaeth', mae angen inni i ystyried cysyniadau fel tegwch, gwerth, dinasyddiaeth, oherwydd mae'r rhain yn elfennau hanfodol o gymdeithas gydlynus ac economi wleidyddol iach. Yn anochel cânt eu hybu gan y cysyniad o'r economi sylfaenol, ac eisoes mae Lee Waters wedi rhoi disgrifiad ardderchog o'r rheswm pam. Ac rwyf finnau'n credu hefyd, fel y soniodd Lee, mai dyma sydd wrth wraidd rhywbeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Credaf fod honno'n brism da iawn i ni ei ddefnyddio i gael mwy o sylw a ffocws ar economïau lleol a'u twf.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ganmol y Ffederasiwn Busnesau Bach a'u partneriaid am yr adroddiad a gynhyrchwyd ganddynt, a hefyd yr adroddiad gan Sefydliad Bevan y credaf ei bod yn ddogfen allweddol arall? Nodaf fod Sefydliad Bevan wedi annog y Llywodraeth i lunio strategaeth ar gyfer yr economi sylfaenol, ac i wneud hynny'n gyflym. A dywedant y dylai fod yn dasg lawn mor bwysig â'r strategaeth ddiwydiannol i Lywodraeth y DU, a chymerodd chwe mis yn ôl y sôn i roi honno at ei gilydd. Felly, gobeithio y byddwch yn mynd ati gyda'r un ymdeimlad o frys.
A gaf fi symud at rai materion ymarferol, o ran yr hyn y dylem ganolbwyntio arno? Mae caffael clyfrach, fel sy'n digwydd yn Preston yn awr, ac sy'n cynhyrchu gwariant mwy lleol, yn bwysig tu hwnt. Nawr, gallem wynebu ddiffyndollaeth ar raddfa fach os nad ydym yn ofalus. Nid oes dim o'i le ar i bobl o'r tu allan i'r ardal leol fod yn weithgar yn yr economi honno. Ond mae angen inni wario mwy o fewn ardaloedd lleol—ar ddarparu gofal cymdeithasol, er enghraifft. Mae'n ffordd ardderchog o uwchsgilio'r rhai sy'n aml yn anweithgar yn economaidd, a chael hyder, a gallu dod i mewn i'r farchnad lafur leol wedyn. Gall llawer iawn o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar y bobl y maent yn eu cyflogi—yn ardaloedd mwy llewyrchus yr economi ranbarthol, er enghraifft. Ac mae pobl yn teithio i leoedd fel Merthyr Tudful a'r Cymoedd uchaf o Gaerdydd a choridor yr M4, pan allem fod yn cynhyrchu mwy o'r gwaith hwnnw'n lleol.
Mae BBaCh yn amlwg yn allweddol yn yr economi sylfaenol. Ac edrychwch beth sydd wedi digwydd yn y sector tai—rydym wedi colli llawer o'n gallu i adeiladu ar raddfa fawr, am fod BBaCh i raddau helaeth wedi troi cefn ar adeiladu tai ac wedi troi at feysydd eraill cysylltiedig fel gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac addasu.
Mae sgiliau'n greiddiol i hyn. Pe baem yn gallu mynd i'r afael â diffyg sgiliau sylfaenol gyda'r parodrwydd a ddangoswn tuag at fynd i'r afael â sgiliau uwch a sgiliau technolegol—ac mae angen inni wneud hynny, wrth gwrs—byddem yn gweld gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd. Dyna yw prif ddangosydd lefelau tlodi—nifer y bobl o oedran gweithio ond nad ydynt yn gweithio. Ac mae hwn yn faes pwysig iawn.
A gaf fi orffen gyda hyn, ac mae'n dasg y tu hwnt i Llywodraeth Cymru'n unig—mae hyn yn rhywbeth rydym yn mynd i fod angen ei wneud ar lefel y DU? Nid yw ardrethi busnes yn addas at y diben mwyach. Maent yn gyrru entrepreneuriaid lleol o'r stryd fawr, ac mewn llawer o ardaloedd o gwmpas y parciau busnes ac yn y blaen. Rydym yn y sefyllfa afresymol yn awr lle mae economïau lleol yn talu mwy mewn ardrethi busnes nag y mae rhai cwmnïau rhyngwladol yn ei dalu mewn trethi yn yr holl fusnes y maent yn ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Ni all hynny fod yn iawn.
Hoffwn ddweud 'diolch' wrth Lee Waters a Jenny Rathbone am wneud y daith i Preston; ni allwn wneud hynny fy hun, am resymau teuluol. Ond mae'n wych eu bod wedi cynhyrchu adroddiad, fel y byddech yn ei ddisgwyl, o ganlyniad i'w taith, ac rwyf wedi ei ddarllen gyda diddordeb. Mae'n datgelu bod yna bethau y gellir eu trosglwyddo o fodel Preston i'n cymunedau, heb ormod o drafferth. Rwy'n derbyn y pwynt am fod ag anghenion lleol penodol yn ogystal, ond mae yna rai egwyddorion y gallem eu trosglwyddo.
Mae'r Athro Kevin Morgan yn aml wedi canmol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn benodol am eu gwaith caffael, ac mae wedi enwi Liz Lucas a'i thîm yno fel arbenigwyr ac esiamplau ym maes caffael. Felly, achubais ar y cyfle y prynhawn yma i siarad â'r tîm yng nghyngor Caerffili, ac un o'r pethau a atseiniai'n glir oedd y llinell o adroddiad Lee a Jenny ar Preston:
Dywedodd y dirprwy brif weithredwr yn Preston wrthym eu bod wedi cael rheolau caffael yr UE yn haws na'r disgwyl ar ôl cael clywed eu bod yn rhwystr.
Ac fe ategir hyn gan brofiad cyngor Caerffili, oherwydd yr hyn a wnaethant â rhaglen safon ansawdd tai Cymru oedd datblygu eu fersiwn eu hunain o system brynu ddynamig ar gyfer Caerffili, fersiwn sy'n caniatáu mynediad wedi'i symleiddio—rhywbeth a alwent yn basbort i fasnach—er mwyn i gontractwyr lleol allu cael mynediad at waith ar gyfer safon ansawdd tai Cymru. Roedd yn rhywbeth sy'n cyd-fynd yn bendant iawn â'r hyn a darllenais yn yr adroddiad Preston gan Lee Waters a Jenny Rathbone.
Un o'r pethau eraill y dywedodd Caerffili eu bod yn gwneud yn dda yw cydweithio ag awdurdodau lleol eraill. Ac roeddent yn teimlo nad oedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn caniatáu hynny, neu nad oedd wedi'i ymgorffori yn egwyddorion y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond eu bod er hynny yn cynnal y cydweithio hwnnw'n lleol. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn wrth edrych ar y sefydliadau angori a nodir yn yr adroddiad a gynhyrchodd Lee a Jenny o ganlyniad i'r ymweliad â Preston, yw nad oes gan Gaerffili yr un lefel o systemeiddio a strwythuro ag a welir yno, ac rwy'n credu bod gwersi i'w dysgu yno: sut y mae gwneud y mwyaf o'r ddealltwriaeth o'n hamgylchedd uniongyrchol? Credaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn parhau i fod yn eithaf pell o'i gyflawni.
Rwyf wedi sôn cyn hyn am waith Mark Granovetter, 'The Strength of Weak Ties' a'r ffaith mai cysylltiadau gwan â chyfalaf cymdeithasol yw'r rhai sy'n galluogi twf. Felly, heb ddibynnu fel busnes ar eich teulu a'ch ffrindiau, ond dibynnu ar y trefniadau cydweithredol gyda busnesau eraill yn eich rhwydwaith cymdeithasol uniongyrchol—cryfder cysylltiadau gwan o'r fath mewn cyfalaf cymdeithasol.
Un o'r pethau y gwelodd Caerffili oedd bod cymeriadau cryf iawn yn dod gyda'r cysylltiadau gwan hynny. Ni all cwmnïau bach sy'n ceisio cydweithio gynnal cydweithio o'r fath pan fyddant yn gwneud ceisiadau ac yn ymgeisio am gontractau. Weithiau, mae'n deillio o anghydfod ynglŷn â phwy y dylid ei dalu faint ac am beth, ac mae'n dod yn anhawster wrth gynnal cydweithio mewn cwmnïau bach ar draws contractau. Efallai eu bod yn llwyddo i gyflawni un contract, ond ni fyddant yn cydweithio drachefn ar gyflawni contract arall. Mae hynny'n golygu rhywfaint o addysg yn ein cwmnïau bach, yn ein cymuned BBaCh, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig.
Yn olaf, y mater arall a dynnodd cyngor Caerffili i fy sylw oedd y cysylltiad â gofal cymdeithasol. Rwy'n falch o weld bod un o'n hymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru yma ac wedi nodi'r angen am wasanaeth gofal gwladol. Credaf fod gwasanaeth gofal gwladol yn hanfodol ar gyfer ein helpu i ddarparu gofal cymdeithasol. Yn rhy aml, rydym wedi rhoi ein gofal cymdeithasol ar gontract allanol heb feddwl i bwy rydym yn ei roi. Mae Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru wedi cynhyrchu adroddiad a ddywedai y dylem fod yn adeiladu mentrau cymdeithasol i mewn i'n systemau darparu gofal, i mewn i'r modd rydym yn darparu gofal cymdeithasol. Nid ydym wedi llwyddo yn hynny o beth yng Nghymru, a chredaf fod angen inni ailedrych ar sut rydym yn darparu gofal cymdeithasol. Credaf y bydd y fframwaith gwasanaeth gofal gwladol hwnnw'n allweddol ar gyfer caniatáu hynny.
Felly, credaf fod hon yn ddadl bwysig ar yr adeg hon. Cawsom ddadleuon ar yr economi sylfaenol cyn hyn. Buaswn yn dweud un peth: mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando oherwydd fe'i gwelsom yn cael ei gyflwyno yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, ond bellach mae angen inni ei weld yn cael ei roi ar waith. Credaf y bydd peth o'r drafodaeth yn y ddadl hon heddiw yn rhoi cymhelliant pellach i Ysgrifennydd y Cabinet fwrw ymlaen â'r syniadau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed ei ymateb i'r ddadl heddiw hefyd.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, i siarad ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price. Mae angen gallu gwirioneddol, ewyllys wleidyddol a dewrder sylweddol i symud oddi wrth y ffyrdd confensiynol o feddwl am bolisi economaidd, symud oddi wrth yr obsesiwn gyda dangosyddion economaidd cenedlaethol fel gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros, obsesiwn y mae'r cyfryngau a phob plaid wleidyddol wedi bod yn euog ohono yn y gorffennol, ac edrych ar sut y gallwn wella bywydau pob dydd ein cyd-ddinasyddion mewn termau real. Mae i werth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros le yn y broses o fesur cyfoeth cenedlaethol cyffredinol wrth gwrs, ond nid yw'r dangosyddion hyn yn ein galluogi i fesur a deall mynediad pobl go iawn at adnoddau go iawn, gan gynnwys cyfoeth ariannol, heb sôn am iechyd a hapusrwydd a lles ein cyd-ddinasyddion, a hynny, wrth gwrs, sy'n bwysig go iawn i bobl yn eu bywydau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi canolbwyntio ein polisi economaidd ar gyflawni 'prif enillion' fel y'u gelwir—y cwmnïau angori y cyfeiriodd Lee Waters atynt eisoes. Cafwyd rhywfaint o lwyddiant yn denu cwmnïau mawr rhyngwladol, cwmnïau dan berchnogaeth dramor yn bennaf, i Gymru, a'u cadw yma. Er y gallwn weld atyniad y dull hwn o weithredu, mae'n achosi problemau; mae bob amser wedi achosi problemau, ond fel y nododd Lee Waters yn gynharach, mae wedi dod yn fwy o broblem bellach.
Wrth gwrs, ceir budd economaidd uniongyrchol, yn amlwg, i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol yn y cwmnïau hyn, ac weithiau i gwmnïau a chadwyni cyflenwi lleol, ond yn y diwedd anfonnir yr elw i fannau eraill a'i wario mewn mannau eraill, a gwyddom fod ymrwymiad y cwmnïau rhyngwladol hyn i Gymru, gyda rhai eithriadau nodedig, ar y gorau'n arwynebol. Yn rhy aml, byddant yn adleoli ar fympwy'r marchnadoedd, ac wrth gwrs, mae Brexit yn cynyddu'r perygl o hynny, fel y nodwyd eisoes.
Ymddengys bod yna gonsensws yn datblygu na allwn barhau fel hyn. Mae angen newid y patrwm meddwl o ran polisi. Rhaid inni ganolbwyntio datblygu economaidd yn fwy tuag at yr economi bob dydd, sy'n berthnasol i bob dinesydd yn eu bywydau bob dydd. Felly, mae'r ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr iawn yn fy marn i, fel y mae eraill wedi dweud. Lluniwyd yr economi sylfaenol o'r nwyddau a gwasanaethau sylfaenol a ddosberthir yn lleol sy'n hanfodol i fywyd, gan gynnwys bwyd, cyfleustodau, adeiladu, manwerthu, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Hefin am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a sut rydym wedi rhoi llawer ohono ar gontract allanol i gwmnïau rhyngwladol mawr nad ydynt yn poeni llawer iawn mewn gwirionedd naill ai am y bobl y maent yn darparu gwasanaethau iddynt, eu gweithwyr, na'r cymunedau y maent yn darparu gwasanaethau o'u mewn. Ac wrth gwrs, mae tai'n hanfodol. Dyma'r sectorau lle mae dros hanner y bobl yng Nghymru'n gweithio, wrth gwrs, ond rydym wedi tueddu i'w diystyru, yn nhermau polisi.
Bydd gweithio ar flaenoriaethu'r economi sylfaenol yn ein galluogi i godi cyflogau yn y sectorau allweddol hyn wrth inni wella cynhyrchiant, ac atal colledion o gaffael lleol a defnydd preifat. Gwnaed pwyntiau da iawn eisoes am gyngor Preston, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed pa gysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cael, a pha gysylltiadau pellach y bwriadant eu cael, gyda'r enghraifft drawiadol iawn honno. Ond wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eraill, ac mae eraill wedi eu crybwyll.
Wrth gwrs, byddai canolbwyntio ar yr economi sylfaenol yn caniatáu inni gadw cyfran fwy o'r elw trwy berchnogaeth leol a chymdeithasol uwch. A gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Mae Plaid Cymru wedi bod yn ystyried syniadau, gan gynnwys sefydlu cwmnïau datblygu economaidd cymunedol ledled Cymru sy'n gallu nodi cyfleoedd yn y farchnad ar gyfer mentrau cydweithredol lleol a sefydlu rhwydwaith a strwythur gwell ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd y gwahanol randdeiliaid ym meysydd amaethyddiaeth, prosesu bwyd, iechyd, maeth a'r amgylchedd. Gallai hyn greu un polisi cydgysylltiedig sy'n gosod bwyd iach, maethlon a gynhyrchwyd yn lleol fel nod trosfwaol allweddol i Lywodraeth Cymru.
Fel popeth arall mewn gwleidyddiaeth, mater o flaenoriaethau yw newid ffocws polisi economaidd. Os yw'r sectorau sylfaenol a'r economi sydd wedi'i diystyru yn symud i fyny rhestr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd, a bod yr arwyddion yn dda—mae'n amlwg fod yna symud ar hyn—yna gellir defnyddio adnoddau'n well i gefnogi a datblygu polisïau gwell i ymgysylltu â'r microgwmnïau er elw sydd i gyfrif am dros 30 y cant o gyflogaeth yng Nghymru.
Rhaid inni ddatblygu cymorth effeithiol i fusnesau bach, ac er y bu rhywfaint o lwyddiant yn y gorffennol, rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cydnabod bod modelau blaenorol o gymorth i fusnesau bach ar y cyfan wedi methu cyrraedd y busnesau gyda'r potensial mwyaf i dyfu ac a allai eu defnyddio fwyaf.
Os gallwn gael hyn yn iawn, gallwn ddylanwadu'n gadarnhaol ar fywydau nifer fawr o ddinasyddion, a chreu swyddi da tra'n cefnogi twf a llywio diwylliant y genhedlaeth nesaf o gwmnïau gwreiddiedig canolig eu maint—y canol coll y clywn amdano. Mae llawer o'r sylfeini a rhai o'r sefydliadau a all gynnal yr economi sylfaenol eisoes yn bodoli. Er enghraifft, mae gan y banc datblygu botensial enfawr i adeiladu'r canol coll. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo symud tuag at wneud cymorth ariannol hirdymor ar gyfer y cwmnïau hyn sy'n wreiddiedig yng Nghymru drwy fenthyciadau amyneddgar, lle nad oes disgwyl gallu cynhyrchu elw cyflym neu adenillion cyflym iawn ar fuddsoddiad, a helpu cwmnïau lleol i dyfu, a phan fo angen, i gael eu prynu o bosibl gan y staff eu hunain.
Gallaf weld, Ddirprwy Lywydd, fod fy amser yn brin. Mae llawer mwy y gellid ei ddweud.
Mae wedi dod i ben.
Mae wedi dod i ben. Diolch. Fe orffennaf drwy ddweud bod y newid patrwm hwn yn galw am lawer o waith gan y Llywodraeth, gweision sifil, y trydydd sector, academyddion ac eraill sydd â diddordeb, er mwyn llunio'r corff o dystiolaeth a gweithio i'w gyflawni. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i chwarae ein rhan yn hyn.
Rwy'n petruso cyn anghytuno â David Melding, ond hoffwn ein hatgoffa nad pobl sy'n economaidd anweithgar sy'n byw yn y tlodi mwyaf, ond yn hytrach, pobl sy'n gweithio; mae eu cyflogau'n annigonol iddynt fyw arnynt. Rhoddwyd hwn i mi dros amser cinio:
Teimlo'n llwglyd? Dyma rywbeth i gnoi cil arno. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl Cymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu rhagor.
Pobl mewn gwaith yw'r rheini'n bennaf. Nid ydynt yn ennill digon, a dyna arwydd clir nad yw'r economi'n gweithio i Brydain ac mae angen diwygio sylfaenol.
Felly, o ystyried y daeargryn y gallai Brexit ei achosi, mae angen inni feddwl yn galed iawn sut y gallwn ddatblygu economi leol sy'n gallu gwrthsefyll y corwyntoedd hyn, economi sy'n decach, yn defnyddio'r adnoddau sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau ac y talwyd amdanynt gan ein cymunedau, yn hytrach na dibynnu ar y rhai y gellir eu sugno i ffwrdd i'r hafan dreth fwyaf cyfleus. Er enghraifft, fel yn Preston, gyda methiant canolfan siopa fawr, mae'r modd y mae Sports Direct wedi prynu House of Fraser yn annhebygol o fod yn achubiaeth i ganol dinas Caerdydd. Mae'n gohirio'r anochel, ond nid yw'n ateb hirdymor i batrymau newidiol. Prin ei fod ronyn yn fwy gwreiddiedig yn ei economi na'i landlord, sydd â buddiannau ar draws y DU a'r Unol Daleithiau. Felly, credaf fod gwir angen inni ganolbwyntio ar sut y gallwn gryfhau ein heconomi sylfaenol, ac mae gan bawb ohonom fuddiant yn hynny.
Er enghraifft, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd ar ddefnyddio trosglwyddiadau asedau cymunedol pan na allant ddod o hyd i'r adnoddau i ddatblygu rhai o'u hasedau cyfalaf, er enghraifft drwy drosglwyddo canolfan gymunedol Plasnewydd i'r YMCA, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol lewyrchus lle roedd yn methu yn y gorffennol. Trosglwyddo llyfrgell y Rhath, a oedd angen gwaith atgyweirio dybryd i'r to—mae bellach wedi'i throsglwyddo i Rubicon Dance, sefydliad gwirfoddol lleol, y bydd llawer ohonoch yn gwybod amdano, sy'n gallu codi'r asedau nad ydynt yn gyhoeddus ac nad yw cyngor Caerdydd yn gallu eu sicrhau ar yr adeg anodd hon.
Ddoe, yn y Senedd, croesewais y wobr tai arloesol, sy'n golygu y byddwn yn cael datblygiad hollol wych y tŵr coed o 50 o fflatiau i bobl, gyda rhenti fforddiadwy ac yn hollol groes i'r cytiau cwningod y mae'r chwe adeiladwr tai mawr mor frwdfrydig yn eu cylch. Felly, bydd hynny'n adeiladu sgiliau lleol, yn adeiladu arbenigedd yn y math o dai sydd eu hangen arnom ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â rhoi mwy o arian i mewn yn yr economi leol. Oherwydd os nad yw pobl yn gorfod gwario rhan fawr o'u hincwm ar wresogi eu cartref, mae'n cryfhau'r swm o arian sy'n cylchredeg yn yr economi leol i'w wario ar fwyd ac adloniant ac unrhyw beth arall.
Felly, credaf fod yna fanteision enfawr i'w dysgu o'n hymweliad â Preston, a chredaf fod angen i'n awdurdodau lleol a'n holl gwmnïau angori feddwl o ddifrif amdanynt. Nid yw'n—. Hefyd, mae'r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn. Ymwelais â fy siop ddodrefn Sefydliad Prydeinig y Galon leol yr wythnos diwethaf—cyfleoedd gwych ar gyfer gwirfoddoli, sy'n golygu bod pobl nad ydynt yn ddigon iach i wneud swyddi lleol neu bobl nad ydynt yn teimlo'n barod i fynd yn ôl i'r gweithle yn gwneud cyfraniad serch hynny, yn ogystal â sicrhau bod y myfyrwyr sy'n byw gerllaw yn rhoi'r dodrefn nad ydynt eu hangen mwyach yn ôl i'w cylchredeg ymhlith y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr. Mae honno'n sefyllfa lle bydd pawb ar ei ennill.
Un o'r llefydd yr ymwelais â hwy gyda Lee Waters oedd Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, lle mae'r fenter Propeller yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fe'i sefydlwyd fel canolfan datblygu busnes, cwmni cydweithredol sy'n eiddo i'r gweithwyr yn y cyfryngau digidol, er mwyn atal y draen dawn i Fanceinion. Felly, mae'n cyd-fynd â'r hyn roedd David Melding yn ei ddweud, nad oes angen lleoli pob busnes yng Nghaerdydd. Gellid eu lleoli'n hawdd mewn mannau eraill yn y Cymoedd, yn hytrach na thagu'r ffyrdd. Felly, er bod Prifysgol Caerdydd lawer yn fwy o faint na Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, mae'n gwmni angori pwysig y mae un o bob 130 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu arno. Mae'r patentau y maent yn eu datblygu a'r £29 miliwn a gynhyrchir trwy fusnesau newydd myfyrwyr a staff yn dangos y math o swyddi newydd sy'n debygol o aros yng Nghymru ac aros yng Nghaerdydd yn arbennig. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ystyrlon. Heddiw, mae gennym ddwy ddadl gefn wrth gefn y credaf eu bod yn adlewyrchu'r nodau deuol a geir yn ein cynllun gweithredu economaidd: un nod o drydanu diwydiannau yfory wrth inni gychwyn, neu wrth inni symud ymlaen drwy'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, a'r ail nod o gefnogi ac ysgogi twf cynhwysol. Ac rwy'n meddwl ei bod hi wedi bod yn ddadl ardderchog. Ni allwn ddweud hyn am bob mater sy'n codi, ond rwy'n credu bod cytundeb trawsbleidiol gwirioneddol ar bwysigrwydd yr economi sylfaenol.
Cefais fy nharo gan nifer o gyfraniadau, gan gynnwys yr hyn a ddywedodd David Melding. Roedd ei gyfraniad meddylgar yn cyfeirio at y ffaith bod llawer o effeithiau cymdeithasol, seicolegol a gwleidyddol i iechyd yr economi sylfaenol. Credaf fod y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch—neu'r cyhoeddiad rhagorol diweddaraf ynghylch—yr economi sylfaenol gan Manchester University Press yn cyfleu'n dda iawn, pan fydd gennych ddarpariaeth gwasanaethau a nwyddau sy'n amrywio o ran ansawdd yn ôl statws cymdeithasol, bydd gennych raniadau cymdeithasol yn sgil hynny. Pan fo hynny'n digwydd, bydd gennych y math o fanteisiaeth wleidyddol y nododd David Melding yn gywir, a hefyd, wrth gwrs, y ddiffyndollaeth a welsom yn cael ei harddel ym mhob cwr o'r byd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol ac ar lefel ficro yn ogystal.
Roeddwn yn falch iawn hefyd o glywed Helen Mary Jones yn siarad o blaid yr hyn y bûm yn ei ddadlau yma ers dros ddwy flynedd—fod gwerth ychwanegol gros yn llai pwysig i fywydau pobl na'u hapusrwydd a'u lles, na ellir eu mesur bob amser drwy ddefnyddio'r mesuriadau y mae gormod o wleidyddion yn hoffi cyfeirio atynt wrth golbio Llywodraeth mewn perthynas â pherfformiad economaidd. Nod y cynllun gweithredu economaidd yw codi lefel cyfoeth, ie, ond hefyd—yn fwy pwysig yn fy marn i—lefel lles, a sicrhau ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn y ddau.
Credaf ei bod yn iawn ein bod ni, fel cynrychiolwyr etholedig waeth beth fo lliw ein plaid, yn canolbwyntio ar yr economi sylfaenol, oherwydd ni waeth pa etholaeth a gynrychiolir gennym, mae'r economi sylfaenol yn berthnasol i bawb ohonom a'r holl bobl a wasanaethir gennym. Mae wrth galon ein cymunedau a'n profiadau dyddiol, yn ddibynnol fel yr ydym ar nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol.
Felly, mae'n hen bryd, yn fy marn i, fod yr hyn y cyfeiriwyd ato yn y gorffennol fel yr 'economi bob dydd' yn cael y ffocws a'r sylw y mae'n eu llawn haeddu. Unwaith eto, dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi mwy o fin ar ein dull o weithredu pedair rhan benodol o'r economi sylfaenol—y meysydd hynny sy'n ymwneud â bwyd a diod, twristiaeth, gofal a manwerthu—lle byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r sectorau hyn i fynd i'r afael â thair her allweddol, sef yn gyntaf, gwella ansawdd, cynaliadwyedd a rhagolygon y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol. Mae cynhyrchiant, arweinyddiaeth ac arloesedd yn berthnasol i'n holl economi, ond maent yr un mor berthnasol i'r economi sylfaenol.
Yn ail, mae angen inni newid canfyddiadau ynglŷn â gwaith yn yr economi sylfaenol—yn wir, canfyddiadau ynglŷn â'r economi sylfaenol ei hun. Mae angen inni hybu'r gwerth y mae pob unigolyn yn ei roi ar rôl yr economi sylfaenol yn ein cymdeithas, gan mai pobl a'u sgiliau a'u hymrwymiad sy'n gwneud i'r economi sylfaenol wasanaethu cymdeithas yn llwyddiannus, ac felly mae angen inni fuddsoddi mwy yn y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol.
Yn drydydd, rwy'n credu bod rhaid inni fanteisio i'r eithaf ar effaith yr economi sylfaenol ar ein lleoedd. Mae gan fusnesau a gwasanaethau a nwyddau sy'n ffurfio'r economi sylfaenol ran hollbwysig i'w chwarae yn hybu'r balchder sydd gan bobl yn ein lleoedd a chydlyniant yn ein lleoedd yn ogystal. Felly, mae ein ffocws bellach ar ddatblygu cynllun galluogi sy'n ystyried yr amcanion hynny ac a fydd yn arwain gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, oherwydd mae adeiladu economi sylfaenol gref ac effeithiol yn ymwneud â mwy nag ysgogiadau'r economi a thrafnidiaeth sydd at ein defnydd—mae'n ymwneud â dod at ein gilydd a gwneud ymdrech gyfunol ac unedig ar draws y Llywodraeth.
Gan droi at elfennau penodol y cynnig, rwy'n cydnabod yr alwad i fynd ymhellach wrth groesawu egwyddorion yr economi sylfaenol. Rwy'n credu bod yna sail resymegol gref dros ddewis y pedwar gweithgaredd sylfaenol sydd gennyf. Rhaid inni ddechrau yn rhywle, Ddirprwy Lywydd, a chydag adnoddau cyfyngedig, mae cael ymdeimlad o ddiben a ffocws yn eithriadol o bwysig. Ond nid yw hyn yn golygu na allwn groesawu egwyddorion ehangach yr economi sylfaenol. Yn wir, rwyf wedi gofyn i fy mwrdd cynghori gweinidogol edrych ar arferion gorau a'r gwersi y gallwn eu dysgu o enghreifftiau rhagorol fel model Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol y cyfeiriodd rhai o'r Aelodau ato. Gwn ein bod eisoes wedi cymhwyso gwersi o fodel Preston yn ein polisïau caffael, ac mae dysgu gan eraill yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i wneud. Dywedodd Hefin David yn gywir ei bod hi'n gwbl bosibl mabwysiadu arferion o fannau eraill, y dylid gwneud hynny pryd bynnag a lle bynnag y bo awydd i'w wneud, a nododd Jenny Rathbone enghreifftiau o arloesi ac arferion gorau yn agosach at adref y dylid eu cyflwyno'n eang ar draws Cymru.
Ac rwy'n cytuno'n gryf gyda'r pwyslais yn y cynnig ar ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae gwreiddio ffyrdd o weithio a nodau cenedlaethol y Ddeddf llesiant yn cynnig cyfle gwych, yn fy marn i, ar gyfer darparu gwerth ehangach drwy gaffael. Gwn fod adnoddau caffael ar gael i'w defnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i ymgorffori'r Deddf llesiant wrth gyflawni gwaith caffael.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cynnig yn gywir i dynnu sylw at rôl gofal, a'r cyfle sydd gennym, rwy'n credu, i dorri cwys newydd drwy edrych ar fodelau cyflawni newydd ledled ein gwlad. Rydym wedi gweld rhai datblygiadau cadarnhaol iawn yn y maes hwn; mae rhai Aelodau eisoes wedi nodi rhai o'r datblygiadau hynny. Rydym wedi ymgysylltu â Chanolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi datblygu ac ehangu modelau cyflawni amgen sy'n llawer mwy cynaliadwy, ac yn gwasanaethu'r cymunedau y maent yn rhan annatod ohonynt. Rydym hefyd wedi cyflawni cynllun peilot cymorth busnes yn ardal tasglu'r Cymoedd i roi cyngor gyda'r nod o wella gwybodaeth, hyder a sgiliau ymarferol. Ac mae ein dull newydd, fe gredaf, yn rhoi cyfle inni gynyddu gweithgareddau o'r fath o bosibl ac ymwneud yn ehangach â mentrau cymdeithasol ac eraill wrth ddatblygu modelau busnes amgen.
I gloi, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau unwaith eto am eu cyfraniad heddiw? Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gynnal ysbryd cadarnhaol y ddadl heddiw, a'r ewyllys da yn drawsbleidiol, wrth inni ddatblygu ein dull o weithredu ar sail yr economi sylfaenol, a sicrhau ei bod yn mynd o nerth i nerth.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vikki Howells i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Credaf ein bod wedi cael cyfraniadau meddylgar iawn, sy'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi, ac mae hynny'n bwysig iawn wrth gwrs gan fod yr economi sylfaenol yn cynnwys cymaint o agweddau amrywiol, o soffas i ofal cymdeithasol, y bwyd a fwyteir gennym, yr ynni a ddefnyddiwn, trin gwallt i dai, trafnidiaeth i delathrebu. Mae gweithgareddau sylfaenol yn cwmpasu holl amrywiaeth bodolaeth ddynol ac ar ben hynny, maent yn cwmpasu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae pob aelod o gymdeithas angen mynediad atynt. Maent yn sail i'r wladwriaeth les ac yn cyfoethogi ein profiad materol.
Ar gyfer fy sylwadau i gloi, hoffwn dreulio ychydig o amser yn myfyrio ar bob rhan o'r cynnig sydd ger ein bron yn ei dro. Yn gyntaf, fel y nodwn yn ein pwynt cyntaf, mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu, ac nid yw honno'n gamp hawdd. Fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae angen dewrder i symud oddi wrth y mesuriadau traddodiadol o lwyddiant economaidd megis gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros. Ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymwneud yn llwyr â chefnogi a gyrru twf cynhwysol, ac mae'n wych gweld bod ganddo hyder i dorri'n rhydd o hualau defnyddio gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros yn unig fel arwyddion o dwf a llwyddiant cenedl, a'i fod o ddifrif, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn edrych ar ffyrdd o harneisio ac o fesur lles dinasyddion.
Ond fel y gwnaeth cyfranwyr eraill yn glir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i ymgorffori egwyddorion ac ethos yr economi sylfaenol. Yn wir, gweithgareddau'r economi sylfaenol sy'n darparu 54 y cant o'r swyddi yng Nghymru, a 45 y cant o'n gwerth ychwanegol gros. Yn yr un modd, amcangyfrifir bod hanner gwariant rheolaidd aelwydydd yn cael ei wario ar agweddau ar yr economi sylfaenol.
I droi at fy ail bwynt, rhaid inni ddysgu o'r gwaith a wnaeth cyngor Preston yn mynd i'r afael â thlodi lleol gwreiddiedig, a buddsoddi yn yr economi sylfaenol, fel yr eglurodd Lee Waters, drwy ailddiffinio'r cysyniad o sefydliad angori. Mae busnesau a sefydliadau cymunedol wedi deor yno, a rhoddodd fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone enghreifftiau gwych o sut y gwnaed hyn yng Nghaerdydd hefyd a sut y gellid ei efelychu mewn mannau eraill. A dyma'r pwynt allweddol, yn Preston, mae'r £1.2 biliwn a wariwyd gan gyrff y sector cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio'n gadarn er budd yr ardal leol. Mae gwariant lleol gan y cyngor, o leiaf, wedi mwy na dyblu, gyda'r canlyniad fod yr ardal wedi gweld y newid mwyaf ond un yn ei safle ar y mynegai amddifadedd lluosog dros bum mlynedd.
Ynghylch trydedd elfen ein cynnig ar gaffael, mae hyn yn allweddol i sicrhau ein bod yn cefnogi economïau sylfaenol ledled Cymru, ac mae enghreifftiau o arferion rhagorol yn y maes hwn y gellir eu harneisio a'u lledaenu, fel y dywedodd Hefin David wrthym pan siaradodd am yr arbenigedd a ddangoswyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Pe gallem annog yr arian hwn i gael ei wario'n lleol, fel y digwyddodd yn Preston, gellid ei ddefnyddio fel arf i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yng Nghymru. Fel y noda comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, nid rhywbeth braf i'w wneud yn unig yw hyn, mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i'w wneud o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, mae pedwerydd pwynt ein cynnig yn un hollbwysig. Buaswn yn dadlau'n gryf fod gofal nid yn unig yn elfen allweddol o'r economi sylfaenol, ond drwy ei gydnabod yn y modd hwn, gallwn sicrhau canlyniadau gwell i bawb. Fodd bynnag, fel yr awgrymodd Diane Burns o brifysgol Sheffield, mae angen inni gyflwyno newidiadau sylfaenol i'r ffordd y gwnawn bethau. Mae angen inni newid y ffordd rydym yn comisiynu gofal. Mae angen inni newid o ofal sy'n canolbwyntio arno fel gwasanaeth pecyn nwyddau hawdd ei farchnata. Mae angen inni newid o seilio darpariaeth ar fusnesau heb unrhyw ymrwymiadau lleol i'r rhai sydd ag ymrwymiadau lleol. Yn wir, mae angen inni fod yn uchelgeisiol a cheisio gweld sut y gallwn ail-gydbwyso gwasanaethau i gael y fargen orau i bobl leol, gan adfer ymdeimlad o hunan-werth pobl a gwella eu sgiliau, fel y dadleuodd David Melding mor gryf.
I gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Nid yw arfer dull o weithredu sylfaenol tuag at yr economi yn ymwneud â gwario mwy o'n hadnoddau cyfyngedig. Mae'n ymwneud â chysyniadoli'r modd rydym yn ei wario mewn ffordd wahanol a gwell, ac fel y nododd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn ei sylwadau agoriadol, â dod o hyd i ddulliau pwrpasol o fynd i'r afael â'r gwendidau allweddol yn economi Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau a chydnabod y rôl allweddol y mae'r gweithgareddau hyn yn ei chwarae yn ein heconomi, a buaswn yn awgrymu, â sicrhau ein bod yn gweld y gweithgareddau sy'n rhan o'r economi sylfaenol, ac sy'n sylfaen i gymunedau lleol a'r wladwriaeth les—a'r rhai a gyflogir ynddynt—fel rhai hanfodol i'n ffyniant yn y dyfodol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Diwydiant 4.0—dyfodol Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Cynnig NDM6828 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Diwydiant 4.0—dyfodol Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Awst 2018.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i.
Nawr, mae'r holl ymchwiliadau a wnawn fel pwyllgor yn ddiddorol yn eu ffordd eu hunain, ond o'r holl ymchwiliadau a wnaethom yn y pwyllgor ers i mi fod yn Gadeirydd ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rhaid imi ddweud mai hwn yw'r un lle cefais fy llygaid wedi'u hagor fwyaf—sef y gwaith sy'n ymwneud ag awtomatiaeth. Clywsom rai o'r tystion yn dweud wrthym am ymchwil sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu colli o ganlyniad i awtomatiaeth, a chlywsom hefyd am astudiaeth sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu creu o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, rwy'n credu fy mod yn rhywun sy'n optimistaidd o ran ei natur, felly rwy'n croesawu'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ond fe ddysgasom un peth pendant o'n gwaith—sef bod Llywodraeth sy'n methu paratoi ar gyfer awtomatiaeth yn paratoi i fethu. Wrth gwrs, nid her i Lywodraeth yn unig yw hon; mae'n her i fusnes a darparwyr gwasanaethau ar draws y wlad. Mae awtomatiaeth yn dod ac mae angen i bawb ohonom feddwl beth y mae hynny'n ei olygu i ni.
Cefais fy siomi gan agweddau ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a allai ymddangos braidd yn rhyfedd gan i'r Llywodraeth dderbyn 11 o'r 12 o argymhellion. Roeddwn yn falch o nodi na dderbyniwyd unrhyw argymhellion mewn egwyddor, ac un yn unig a wrthodwyd. Ond fel pwyllgor, rydym yn glir mai ein nod a'n pwrpas yw sbarduno newid. Bwriedir i'n hargymhellion newid a gwella polisi Llywodraeth. Felly, pan gaiff ein hargymhellion eu derbyn, ond bod y testun cysylltiedig yn ei gwneud yn glir nad yw ein pryderon yn newid ymddygiad, yna rwy'n bryderus.
Mae argymhelliad 1 yn enghraifft o hyn: mae'r pwyllgor yn galw am waith
'i sicrhau bod Cymru yn darparu technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u defnyddio.'
Ond mae'r ymateb yn rhestru'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, ac mae'n sôn am y gwaith sydd eisoes ar y gweill gan yr Athro Phil Brown. Nid yw'n glir ein bod yn cytuno yma, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i hynny yn ei sylwadau cloi. A bod yn deg, efallai fod adolygiad Brown yn ymdrin â'r materion sy'n codi, a byddaf yn aros yn eiddgar iddo gael ei gyhoeddi i weld pa argymhellion y mae'n eu gwneud. Rwy'n weddol siŵr nad gwaith yr Athro Brown fydd diwedd y gân o ran y gwaith sydd angen ei wneud, a gobeithio bod y Llywodraeth yn barod i ymateb i unrhyw fylchau neu'r camau nesaf y mae'n eu nodi.
Mae argymhelliad 11 yn dilyn patrwm tebyg o dderbyn heb weithredu o'r newydd. Mae'r argymhelliad yn glir ein bod am weld mwy o ymchwilwyr ar y lefel uchaf yn gwneud eu gwaith yma yng Nghymru ac yn cadw'r sgiliau hynny ar gyfer economi Cymru. Mae'r goblygiadau ariannol a restrir yn ymateb y Llywodraeth yn dweud y byddai costau ychwanegol
'Pe baem yn lansio cronfa'
ond nid fel arall. Wel, am hynny y mae'r argymhelliad yn galw, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, gobeithio bod y cylch cyllidebol cyfredol yn rhoi gallu i chi wneud hynny.
Fe edrychaf ar argymhelliad 4, sef yr unig un a wrthodwyd. Daeth yr argymhelliad o awgrym gan yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd y gallai fod manteision gwirioneddol i Gymru o greu model cymunedol i brofi technolegau sy'n dod i'r amlwg yng nghyd-destun Cymru. Roedd yn syniad a gafodd dderbyniad brwd gan eraill y siaradasom â hwy yn ystod yr ymchwiliad, ac mae ymateb y Llywodraeth yn dweud ei bod yn gweithio ar nifer o gynigion yn hytrach nag un lleoliad penodol. Nawr, mae gennyf gydymdeimlad â'r syniad y gallai fod manteision i gynnal profion mewn nifer o leoliadau yn hytrach nag un gymuned unigol. Nid pa un a oes un safle neu 10 o safleoedd yw'r peth pwysicaf; yr hyn sy'n bwysig yw bod yna safleoedd yng Nghymru sy'n caniatáu i dechnoleg arloesol gael ei phrofi a'i datblygu i weddu i anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd modd mynd ar drywydd y cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn cael ail gyfle i fod yn flaenllaw yn y technolegau newydd hyn.
Rwy'n falch fod argymhelliad 12 wedi gweld gweithredu ar unwaith. Roedd hi'n eithaf rhyfedd clywed mai dim ond un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol a oedd wedi nodi awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn eu cynlluniau ar gyfer gofynion y dyfodol, felly edrychaf ymlaen at weld ffrwyth llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth.
Bwriad y pwyllgor oedd i'r adroddiad hwn fod yn ddechrau yn hytrach na diwedd ar y drafodaeth, ac ni allai fod mwy yn y fantol, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn sylwadau'r Aelodau y prynhawn yma ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ran—. Efallai y gallai amlinellu rhai o'r sylwadau a wneuthum ar yr argymhellion a gyflwynais ac a drafodais heddiw mewn rhagor o fanylder.
Roeddwn am ganolbwyntio'n unig ar argymhellion 3, 7 a 9 yn fy ymateb. O ran argymhelliad 3, sy'n gofyn beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i harneisio arbenigedd a chysylltiadau ledled Cymru ac ymhlith y Cymry ar wasgar, un o'r pethau y buaswn yn ei ddweud yw bod cynnydd yn cael ei wneud yng Nghymru yn y maes hwn mewn prifysgolion, ac maent yn cynnwys arbenigedd o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Er enghraifft, yn gynharach eleni, helpais i lansio ysgol dechnolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n un enghraifft o'r modd y gall sefydliadau addysg uwch harneisio arbenigedd academaidd ac ymchwil.
Yr wythnos diwethaf hefyd, helpais i lansio rhaglen Uwchgyfrifiadura Cymru, sef rhaglen £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewropeaidd, sy'n uno prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i edrych ar amrywiol brosiectau gwahanol i ddatblygu deallusrwydd cyfrifiadura er mwyn datblygu prosiectau. Canfûm mai un o'r pethau mwyaf diddorol am hynny oedd nad oedd yn ymwneud yn unig â chynnyrch terfynol, megis yr uwch-gar a microbioleg; mae'n ymwneud hefyd â sut y deallwn wyddoniaeth gymdeithasol. Roedd gan yr Athro Roger Whitaker bapur ar rwydweithiau a sut y gall cyfrifiaduron ein helpu i ddeall rhwydweithiau rhyngweithio cymdeithasol rhwng pobl. Dyma'r union beth yr oeddwn yn sôn amdano yn y ddadl flaenorol pan gyfeiriais at gyfalaf cymdeithasol. Felly, mae cyfrifiaduron yn ein helpu i ddeall yr amgylchedd a adeiladwyd ar batrwm cymdeithasol cymhleth yr ydym yn byw ynddo. Credaf fod hynny'n hynod o ddiddorol yn y ffordd rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o gymdeithas. Felly, mae gwyddoniaeth gymdeithasol yn chwarae rhan yn hynny o beth.
O ran argymhelliad 7, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y rôl y dylai ei chwarae yn annog cwmnïau cerbydau clyfar ac awtonomaidd—CAV—i rannu data cyn damweiniau er mwyn cyflymu dysgu, hoffwn dynnu sylw'r Siambr at dudalen 36 yn yr adroddiad. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn gyda Dr Nieuwenhuis, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod,
llawer o'r ceir allan yno y byddai modd eu hacio erbyn heddiw mae'n debyg
—mae'n debyg y byddai modd hacio cerbydau clyfar ac awtonomaidd heddiw—
ac mewn gwirionedd, mae rhai ohonynt wedi cael eu hacio. Felly, mae angen inni osgoi senario lle gallai rhywun gyda bwriad drwg hacio degau o filoedd o geir yn sydyn a'u defnyddio i redeg dros bobl mewn dinasoedd neu rywbeth fel hynny, a byddai hynny'n bosibl yn ddamcaniaethol.
Buaswn yn dweud nad yn ddamcaniaethol y mae'n bosibl hyd yn oed: mae'n bosibl; ac yn sicr yn rhywbeth sy'n hollol gredadwy yn yr amgylchedd rydym yn byw ynddo heddiw. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, maent yn dweud nad yw'r rheoliadau sy'n effeithio ar CAV wedi'u datganoli i Gymru ac felly bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Gan ddibynnu ar ba mor gyflym y mae'r dechnoleg hon yn datblygu, efallai na fydd hyn yn digwydd bob amser, ac rwy'n gobeithio na fydd y setliad datganoli presennol sydd gennym yn un parhaol. Ac os daw Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am hyn, mae'n bwysig ein bod yn cadw llygad ar beth sy'n newid yn y maes hwn.
Ac yn olaf—. Os gallaf ddod o hyd i fy mhapurau—. Rwyf dros y lle ym mhob man oherwydd roeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl flaenorol yn ogystal. Yn olaf, gydag argymhelliad 9, mae'n dweud,
'Wrth ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer addysg ôl-orfodol, dylai Llywodraeth Cymru ailffocysu ac ailddatblygu ei chymorth ar gyfer dysgu gydol oes, gan greu ffyrdd newydd a hygyrch i weithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn y tonnau awtomeiddio cyntaf o ailhyfforddi ac uwchsgilio.'
Ac un o'r pethau—. Prif destun pryder ymateb Llywodraeth Cymru yw cynllun peilot y cyfrif dysgu personol, a fyddai'n ariannu ail-hyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau. Nawr, bid a fo am hynny, ond mae angen i bobl wybod bod mwy na gwerth ariannol i'w cyfraniad ac y bydd y cyfraniad sydd ganddynt i'w wneud yn cael ei werthfawrogi pan fyddant yn gadael addysg. A buaswn wedi hoffi clywed mwy gan Lywodraeth Cymru ar y maes penodol hwnnw ynglŷn â sut rydym yn mynd i ddatblygu'r weledigaeth o fewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y Llywodraeth yn datblygu deddfwriaeth ar hyn—ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol—yn y dyfodol agos, ac rwy'n credu y bydd angen inni ddeall y bydd diwydiant 4.0 yn chwarae rôl enfawr yn natblygiad addysg a hyfforddiant. Ac ar argymhelliad 9, credaf fod ymateb Llywodraeth Cymru ychydig yn fyr o'r nod o ran yr hyn y buaswn yn disgwyl ei weld, sy'n rhyw lun o adleisio sylwadau Cadeirydd y pwyllgor yn ei sylwadau agoriadol.
Rwy'n credu y bydd yn rhaid aros i weld ai ymateb i'r adroddiad hwn yw fy ngweithred olaf fel aelod o'r pwyllgor, ond—[Torri ar draws.] Iawn, peidiwch â chynhyrfu.
Ond credaf fod Cadeirydd y pwyllgor yn llygad ei le: credaf fod yr adroddiad hwn wedi bod yn un o'r rhai mwyaf diddorol a mwyaf pellgyrhaeddol. Os caf ganolbwyntio ar un o'r argymhellion y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt o ran y syniad o greu ardal beilot, credaf fod hwn yn gyfle anhygoel i ni, a chredaf mai'r pwynt am ardal beilot mewn man penodol—mewn gwirionedd mae'r cyfle go iawn yn y cyfuniad o dechnoleg. Felly, mewn gwirionedd, mae ardaloedd peilot yn bodoli, onid ydynt, a labordai byw ar gyfer syniadau penodol? Ac mae'r syniad o brosiectau peilot clyfar mewn dinasoedd yn bodoli ar draws y byd. Mae'r syniad diddorol am adeiladu ardal beilot draws-dechnoleg, os mynnwch—. Mae pobl yn cyfeirio ato fel adeiladu dinas neu dref o'r rhyngrwyd i fyny, gan gyflymu'r daith tuag at y dyfodol, ac yn y rhyng-gysylltiad â gwahanol dechnolegau ac adeiladu labordy trefol lle gallwch weld y rhyngweithio rhwng pŵer synwyryddion wedi'u masgynhyrchu a chyfrifiadura cwmwl a cheir awtonomaidd ac ati, oll yn cael eu hadeiladu yn yr un lle. Ac wedyn, wrth gwrs—. Mae hyn yn dechrau digwydd. Felly, ar lannau dwyreiniol Toronto ar hyn o bryd, mae Sidewalk Labs, sef is-gwmni arloesi trefol Google, yn adeiladu ardal beilot drefol, y gyntaf o'i bath, am $50 miliwn, i roi rhywfaint yn unig o'r hyn y soniwn amdano i bobl. Mae Bill Gates yn gwneud yr un peth yn Belmont, Arizona—prosiect $80 miliwn yno, sy'n cyfuno'r technolegau hyn am y tro cyntaf. Felly, mae'n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Nid oes unrhyw un wedi adeiladu un yn Ewrop eto. Roedd cynnig i wneud hynny ym Mhortiwgal yn ddiweddar, ond nid yw wedi digwydd eto. Yn sicr nid oes neb wedi gwneud un mewn cyd-destun gwledig chwaith. Ceir cwestiynau gwahanol ynglŷn â'r cyd-destun gwledig y cyfeiriodd Calvin Jones atynt yn rhai o'i sylwadau.
Wrth gwrs, nid ardal beilot technoleg yn unig ydyw, mae'n ardal beilot ar gyfer arloesi cymdeithasol, oherwydd ni allwch dreialu technoleg tan i chi roi pobl yn y darlun hefyd mewn gwirionedd. Y modd y mae pobl yn rhyngweithio â thechnoleg yw un o'r cwestiynau allweddol, a dyna pam mai'r peth cyffrous am adeiladu ardal beilot go iawn, sef ardal beilot ar raddfa ddynol mewn cymuned arfaethedig newydd, yw ei bod yn caniatáu i chi gael y wybodaeth honno. Dyna pam y mae'r cwmnïau technoleg eu hunain yn buddsoddi yn hyn oherwydd gallant weld mewn gwirionedd, os gallwch gael y data hwnnw, yna mae'n darparu llwyfan ar gyfer arloesi i chi, ac mae hynny'n gyffrous dros ben.
Pam na wnawn ni adeiladu'r cyntaf yn Ewrop yma yng Nghymru? Y math o ffigurau y soniais amdanynt, does bosib eu bod y tu hwnt i'n gallu? Ac mewn gwirionedd, byddai'n rhoi brand i ni. Mewn un ystyr, yr hyn a wnewch yw adeiladu llwyfan; rydych yn adeiladu ardal arddangos agored ar gyfer yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig o safbwynt technoleg deallusrwydd artiffisial. Ac mewn gwirionedd, $50 i $100 miliwn, nid yw'n fuddsoddiad gwael o'i gymharu â rhai o'r pethau eraill y buddsoddwn ynddynt yn aml o ran ein strategaeth datblygu economaidd. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych eto ar hyn. Rwyf wedi awgrymu o'r blaen—edrychwch—gallech ei gyfuno â chais am expo. Nid oes rhaid i chi fynd am yr un mawr, ond gallech fynd am yr un llai, yr un canolig, sy'n seiliedig ar themâu penodol. Yn 2027, er enghraifft, gallech ddweud, 'Wel, gallai cymuned y dyfodol, cymuned deallusrwydd artiffisial y dyfodol, fod yn thema', a gallech adeiladu'r ardal beilot, i bob pwrpas, fel y safle expo, ac yna gallai barhau fel math o labordy trefol yn y dyfodol.
Un neu ddau o bethau eraill y gallem ei wneud: mae Sefydliad Technoleg Massachusetts wedi cyhoeddi yr wythnos hon eu bod yn creu coleg deallusrwydd artiffisial cyntaf y byd. Cymerodd 20 mlynedd i ni yng Nghymru greu prifysgol feddalwedd—rwy'n cofio'r daflen pan gafodd ei dosbarthu gyntaf. Pam na wnawn ni lamneidio'r dyfodol ac adeiladu coleg deallusrwydd artiffisial? Gallai fod yn gyfle cyffrous iawn i ni yng Nghymru.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen am gronfa. I roi syniad i chi, mae gan ddinas yn Tsieina—Tianjin—gronfa gwerth $16 biliwn ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Un ddinas yn unig yn Tsieina yw honno; mae gan Shanghai yr un fath yn union. Gyda'i gilydd maent yn gwario mwy ar ddeallusrwydd artiffisial yn y gronfa honno nag a wnawn ledled yr Undeb Ewropeaidd. Os nad yw hynny'n ein cymell i weithredu, nid oes dim arall yn mynd i wneud hynny.
Fel y mae'r siaradwyr blaenorol wedi nodi, nid yn unig ein bod yn gweld newidiadau dirfodol i economi Cymru wrth i'r economi wynebu newidiadau—rhai da, rhai drwg—felly hefyd ym myd gwaith. Bydd y swyddi yn y dyfodol yn perthyn nid yn unig i oes arall o gymharu â swyddi'r gorffennol, o ran eu cyfleoedd, eu heriau a'u gofynion byddant hefyd yn perthyn i fyd arall.
Rwyf wedi mwynhau cyfrannu at yr ymchwiliad hwn, sydd, fel y mae'r Cadeirydd wedi ein hatgoffa, i fod yn ddechrau ar sgwrs ynglŷn â sut y gallwn lywio'r dyfodol hwnnw, ac er bod yr ymadrodd wedi tyfu'n ystrydeb braidd, sut y gallwn sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n briodol ar bobl. Mae hyn yn allweddol i'n nawfed argymhelliad, sy'n herio Llywodraeth Cymru i roi ailhyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr wrth wraidd ei pholisi dysgu gydol oes. Roedd y tystion a siaradodd â ni yn eglur yn eu tystiolaeth mai gweithwyr heb lawer o sgiliau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial.
Ond mae menywod yn wynebu risg arbennig yn y tymor byr, er enghraifft yn y sector manwerthu, lle rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o'r til hunanwasanaeth. Gyda llaw, mae ymchwil newydd yn dangos bod cyflenwadau o diliau hunanwasanaeth wedi parhau i gynyddu, gyda'r niferoedd 14 y cant yn uwch am yr ail flwyddyn yn olynol. At hynny, mae gennym dasg i'w gwneud o hyd yn nodi sgiliau'r dyfodol ar gyfer edrych ar y galw a'r mathau o swyddi a allai fod eu hangen mewn unrhyw ardal benodol. Bydd rhan allweddol gan fyrddau sgiliau rhanbarthol i'w chwarae yn hyn o beth.
At hynny, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng cyflogwyr, addysg uwch ac addysg bellach fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies yn ei dystiolaeth i ni. Hefyd mae angen inni ddeall sut y gallwn ymgysylltu â'r grwpiau mwyaf anodd eu cyrraedd, sydd fwyaf o angen uwchsgilio efallai, a chredaf fod rôl allweddol i'w chwarae yma ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned, yn enwedig yng ngallu'r sector hwnnw i gynnwys a datblygu cysylltiadau cymunedol. Gan fod yr argymhelliad hwn yn allweddol, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod y Gweinidogion wedi'i dderbyn, a hefyd eu bod wedi dechrau rhoi camau ar waith i ateb yr her hon. Rhaid i ddysgu gydol oes olygu hynny. Dylem annog diwylliant sy'n cydnabod hyn ac yn cynnig yr adnoddau a'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen, felly edrychaf ymlaen at lansio peilot y cyfrif dysgu personol y flwyddyn nesaf.
Dylai datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ei gwneud yn haws hefyd i Gymru gyflawni argymhelliad 1. Mae hwn yn cydnabod bod angen inni sicrhau bod ein heconomi yn cynhyrchu cymaint ag y mae'n ei ddefnyddio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Ar ei fwyaf uchelgeisiol, efallai y gellid adfer ein henw da am fod yn weithdy'r byd. Roedd tystiolaeth gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Athro Calvin Jones yn nodi ffyrdd y gallem wneud hyn. Mae gan ein prifysgolion ran allweddol i'w chwarae yma, a chefais fy synnu, ar ein hymweliad â Phrifysgol Abertawe, wrth weld sut y mae'r sefydliad hwnnw'n ymateb i awtomatiaeth. Mae ei adran beirianneg wedi treblu yn ei maint ac mae ei adran gyfrifiadureg yn profi twf tebyg. Rhaid i hyn hefyd fod yn amcan allweddol i raglen y dinas-ranbarth, gan ein galluogi i fabwysiadu dull rhanbarthol o weithredu'r economi.
Yn y trafodaethau a arweiniodd at argymhelliad 6, dull 'gwnaed yng Nghymru' o gyflawni amaethyddiaeth fanwl, cawsom dystiolaeth ar y ffyrdd y gallai hyn fod o fudd i ffermydd bach. Mae gwir angen hyn arnom. Gwyddom mai 48 hectar yn unig yw maint cyfartalog ffermydd Cymru, ac mae 54 y cant o ffermydd Cymru yn llai nag 20 hectar o faint. Fodd bynnag, mae modd cymhwyso ei fanteision hyd yn oed yn ehangach na hyn.
Cyfarfûm yn ddiweddar â chwmni o'r enw CEA Research and Development. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r cysyniad, ystyr 'CEA' yw 'amaethyddiaeth rheoli amgylchedd', sef math o hydroponeg sy'n tyfu cnydau mewn amgylchedd artiffisial a reolir. Mae gan CEA Research and Development uchelgeisiau, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Ffermio Fertigol, i agor cyfleuster ymchwil a datblygu newydd i wneud gwaith ymchwil a datblygu ar systemau artiffisial ar gyfer y diwydiant amaethyddiaeth rheoli amgylchedd yn fy etholaeth. Ceir nifer o fanteision i amaethyddiaeth rheoli amgylchedd: dim angen plaladdwyr, gwell defnydd o dir, defnyddio llai o ddŵr, llai o filltiroedd bwyd, ac wrth gwrs, gallu i wrthsefyll yr hyn a all fod yn dywydd anwadal iawn yng Nghymru. Yn wir, gellid cael gwared ar fethiant cnydau a gwastraff, a gallai hyd yr amser o hadau i gynnyrch fod ychydig o dan chwarter yr amser y mae'n ei gymryd i amaethyddiaeth draddodiadol. Dywedodd CEA Research and Development fod Cymru'n lleoliad perffaith ar gyfer hyn o ran mynediad at adnoddau ffisegol, a lawn mor bwysig, at gyfleusterau academaidd o'r radd flaenaf. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hyn fel rhan o gyfres o gamau gweithredu y mae'n eu hamlinellu yn ei hymateb i'r argymhelliad, ac edrychaf ymlaen at ailedrych ar agweddau ar y pwnc hollbwysig hwn yn ddiweddarach yn y tymor.
A gaf fi gyfeirio'n ôl at y ddadl flaenorol am eiliad, Ddirprwy Lywydd? Er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r holl deimladau a fynegwyd mor huawdl gan Lee Waters, ac yn wir gan yr holl gyfranwyr eraill, rhaid inni beidio ag anghofio mai drwy economi gref ddiwydiannol yng Nghymru yn unig y gellir darparu'r arian sector cyhoeddus a fydd yn sail i'r economi sylfaenol, sy'n fy arwain at fy nghyfraniad i'r ddadl bresennol.
Mae dyfodol diwydiant yng Nghymru ar groesffordd, a bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn newid economi Cymru'n sylweddol er gwell neu er gwaeth. A ydym yn croesawu'r technolegau newydd, megis deallusrwydd artiffisial, ac o bosibl yn elwa ar y budd ariannol? Neu a ydym mewn perygl o lusgo ar ôl y gwledydd sydd eisoes yn croesawu'r dechnoleg hon? Dyna pam y mae'n hollbwysig ein bod, yn ein safle o gyfrifoldeb, yn gosod y sylfeini i'r busnesau newydd hynny ffynnu, tra'n sicrhau bod gweithwyr a busnesau sefydledig yn cael y cymorth sydd ei angen i fanteisio ar y dechnoleg newydd hon, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yng Nghymru.
Un o ofnau mwyaf, a mwyaf dealladwy, pobl sy'n wynebu ymddangosiad technoleg newydd megis deallusrwydd artiffisial yw'r bygythiad o golli swyddi. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg gweithwyr heb lawer o sgiliau. Mae Future Advocacy yn darogan fod y gyfran o swyddi mewn perygl mawr yn sgil awtomatiaeth erbyn y 2030au cynnar yn amrywio rhwng 22 y cant a dros 39 y cant. Mae David Hagendyk, cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, yn tynnu sylw at yr ofn hwn, gan ddweud
mai ar weithwyr heb lawer o sgiliau y bydd awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn effeithio fwyaf.
Fodd bynnag, o'i drin yn iawn, gallai'r bygythiad o golli swyddi greu cyfle euraid, cyfle i wella sgiliau ac ailhyfforddi gweithwyr yn y sgiliau a allai nid yn unig gyflymu'r broses o greu swyddi newydd, ond a allai'n raddol greu gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a'u teuluoedd, a'u cymunedau hefyd. Er y gall y broses o hyfforddi'r gweithwyr hyn mewn rolau anghyfarwydd a thechnegol fod yn ymarfer costus ar y dechrau, bydd yn profi'n hynod o gosteffeithiol yn y dyfodol trwy ddiogelu swyddi a chyflwyno gweithlu newydd mwy medrus. Mae hefyd yn gyfle perffaith i bwyso ar brofiad cwmnïau technoleg a seiber sy'n bodoli'n barod, gan ddefnyddio'r arbenigedd yn ein prifysgolion sydd o'r radd flaenaf. Gyda help y sefydliadau hyn, gall cwmnïau a diwydiannau sy'n mentro tuag at awtomatiaeth gael hyfforddiant a dealltwriaeth werthfawr. Daw bonws ychwanegol drwy hyn o gadw'r hyfforddiant yng Nghymru ei hun.
Ni all y cyfle i uwchsgilio a hyfforddi fod yn gyfyngedig i'r gweithlu presennol. Fel llunwyr polisi a chyfraith, mae gennym ddyletswydd i baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithlu Cymru. Amcangyfrifir y bydd 65 y cant o blant a ddechreuodd yn yr ysgol gynradd ym mis Medi yn gweithio yn y pen draw mewn rolau nad ydynt yn bodoli eto. Drwy fethu â buddsoddi ynddynt heddiw, mae risg y byddwn yn peryglu nid yn unig eu dyfodol hwy, ond dyfodol Cymru hefyd, gan y gallai cwmnïau uwch-dechnoleg gael eu gorfodi i chwilio am weithwyr sydd â chymwysterau addas y tu allan i Gymru. Er ei bod yn wir y gall y penderfyniadau i greu cyflogaeth a dod â diwydiannau newydd a chyffrous i Gymru fod y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol, drwy ddatblygu a meithrin sgiliau newydd yng nghenedlaethau'r dyfodol, fe allwn annog diwydiant i weld Cymru fel cyrchfan ar gyfer busnes arloesol.
Er mwyn galluogi myfyrwyr y dyfodol i gyrraedd eu llawn botensial yn ddigyfyngiad mae angen newid mawr yn y cwricwlwm a'r amgylchedd y mae'r plant hyn yn cael eu haddysgu a'u magu ynddo. Yn ymchwil ein pwyllgor, roedd nifer o dystion arbenigol, megis Dr Rachel Bowen, yn cefnogi canfyddiadau adroddiad Donaldson, ac yn awgrymu pe bai adroddiad Donaldson yn cael ei weithredu'n briodol y gallai greu dysgwyr sy'n hollol barod i ymdrin â heriau'r unfed ganrif ar hugain. Ein dyletswydd yw sicrhau bod gweithwyr y dyfodol yn gadael addysg gyda'r sgiliau i ymdopi mewn amgylchedd gwaith a fydd yn esblygu ac yn newid ar gyflymder nas profwyd erioed o'r blaen.
Barn ein pwyllgor yw bod dyfodol economi Cymru yn dibynnu'n fawr ar allu Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y technolegau newydd hyn a chreu amgylchedd lle ceir cyfle unigryw i'r gweithlu presennol wella'u sgiliau, a system addysg a fydd yn arfogi cenedlaethau'r dyfodol â'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i addasu i amgylchedd gwaith sy'n newid yn barhaus. Diolch.
Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod y ddadl hon a'r ddadl ar yr economi sylfaenol yn ddwy ochr i'r un geiniog. Mae'n edrych yn debyg fod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i greu cyfoeth enfawr, ond mae'n gyfoeth nad yw'n mynd i gael ei rannu'n gyfartal. Bydd wedi'i ddosbarthu'n anghyfartal, a dyna pam y mae cadernid yr economi sylfaenol wrth edrych ar ôl cymunedau a adawyd ar ôl mor bwysig—oherwydd bydd pobl yn cael eu hadleoli. Ceir rhagfynegiadau cyson y bydd oddeutu traean o swyddi'n cael eu heffeithio, ond nid yw'n mynd i fod mor ddu a gwyn â hynny. Bydd oddeutu 60 y cant o dasgau cyffredinol wedi'u hawtomeiddio—bydd yn effeithio ar bob un ohonom.
Dyma un o'r meysydd lle mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd, ac rydym yn brwydro i ddal i fyny. Buom yn trafod hyn yn y Siambr ers dros ddwy flynedd ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd i Lywodraeth ddal i fyny â lefel y newid sy'n digwydd yn yr economi. I fod yn deg â Llywodraeth Cymru, maent wedi cychwyn adolygiad Phil Brown i edrych ar y goblygiadau o ran sgiliau, a bydd yn cyflwyno'i adroddiad i ddechrau yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n credu bod honno'n fenter ragorol. Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud yn siŵr yn ei gynllun gweithredu economaidd newydd fod cymorth Llywodraeth yn y dyfodol yn canolbwyntio—un o'r colofnau allweddol yw'r modd y mae'n cefnogi awtomatiaeth a'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae hynny i'w ganmol.
Ond nid wyf yn teimlo ein bod yn bachu'r agenda o ddifrif. Fel y mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad pwyllgor hwn yn ei ddweud yn glir, mae llawer o bethau'n digwydd, ond nid wyf yn teimlo ein bod ni'n manteisio i'r eithaf arno ac yn ei gymhwyso mewn ffordd a allai roi inni'r fantais a ddaw i'r sawl sy'n symud yn gynnar. Un o argymhellion y pwyllgor yw ein bod yn edrych i weld sut y gallwn ddangos ein harbenigedd maes—y meysydd lle mae gennym fantais wirioneddol. Ac nid oes llawer ohonynt, ond mae yna rai lle mae gan Gymru fantais wirioneddol. Felly, mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn enghraifft glasurol—rydym yn arwain y byd yn y maes hwnnw. Dylem fod yn edrych ar sut y gallwn gymhwyso awtomatiaeth yn y meysydd lle rydym yn gwneud yn dda, er mwyn inni allu dod yn arweinwyr yn y meysydd lle rydym wedi achub y blaen i ryw raddau eisoes. Nid ydym yn gwneud hynny, ac mae'r ymateb i'r adroddiad yn siomedig.
Hoffwn inni ganolbwyntio'n bennaf ar yr elfen amaethyddiaeth fanwl, oherwydd unwaith eto, mae'n enghraifft o ddefnydd ymarferol ble gallem gael mantais y sawl sy'n symud gyntaf mewn is-set benodol. Ac o ran Brexit, dyma rywbeth y gallwn achub y blaen arno—goblygiadau hynny—i roi rhywfaint o fantais inni. Ac mae Vikki Howells eisoes wedi sôn am gynhyrchu bwyd, sydd unwaith eto yn un o nodweddion y ddadl ar yr economi sylfaenol.
Credaf fod ymateb y Llywodraeth yn wan. Ddwy flynedd yn ôl, cytunwyd mewn dadl gan Aelod unigol y byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth ar amaethyddiaeth fanwl. Mae honno eto i ymddangos. Mae ymateb y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 5 ac argymhelliad 6, ond unwaith eto, pan edrychwch ar yr hyn a ddywedant, ymddengys nad ydynt yn barod i wneud dim yn wahanol i'r hyn y maent yn ei wneud eisoes. Nawr, rwy'n derbyn bod swyddogion y Llywodraeth hyd at eu clustiau'n ceisio ymdrin â Brexit yn y portffolio amaethyddiaeth, ond yn bendant rydym yn colli cyfle yma. Hoffwn annog y Llywodraeth i edrych eto ar hyn, fel y bûm yn pwyso ers dwy flynedd, yn ofer, oherwydd teimlaf o ddifrif ein bod yn colli cyfle allweddol.
Roedd y dystiolaeth a gafwyd yn un a oedd yn darbwyllo. Mae manteision amaethyddiaeth fanwl yn lluosog. Clywsom gan yr Athro Simon Blackmore o Brifysgol Harper Adams ynglŷn â sut, o safbwynt amgylcheddol, y gall defnydd o'r technolegau hyn leihau'n sylweddol faint o blaladdwyr a niwed a wneir i'r amgylchedd. Felly, er enghraifft, yn ei dystiolaeth, dywedodd wrthym sut y maent bellach yn gallu cael gwared ar y defnydd o chwynladdwyr a rhoi cemegau'n uniongyrchol ar ddeilen chwynnyn, gan arbed 99.9 y cant o'r cemegau'n syth—a dileu'r angen am gemegau a gwella ansawdd y planhigyn, gwella cynhyrchiant ar ffermydd, ac ar ôl Brexit, dyna'n union fydd angen inni ei wneud. Ond nid yw'r cymorth Llywodraeth Cymru a gynigir i ffermydd—fel y clywsom yn y dystiolaeth—yn ddigon hyblyg, felly dywedodd Jason Llewellin, ffermwr o sir Benfro wrthym ei fod wedi gorfod cael 600 o brofion pridd er mwyn gallu defnyddio amaethyddiaeth fanwl ar ei fferm, ond dim ond 10 ohonynt a oedd ar gael o dan gynllun Cyswllt Ffermio y Llywodraeth, ac nid oes unrhyw lwybr go iawn i fynd ymlaen at y lefel nesaf. Nawr, nid yw'r Llywodraeth yn derbyn hynny yn ei hymateb.
Felly, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen wrth y Gweinidogion sy'n bresennol, sef os darllenwch yr adroddiad, mae yna achos cryf dros y modd y gallwn gymhwyso'r dechnoleg hon i amgylchiadau Cymru—y mathau o ffermydd sydd gennym, y ffermydd llai, datblygu peiriannau bach. Gallwn arwain yn hyn o beth. Mae gwaith gwych ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe, mae clwstwr arbenigedd eisoes o amgylch Prifysgol Aberystwyth, ac mae gwaith da'n cael ei wneud ar draws y colegau addysg bellach yng Nghymru yn y ffermydd sy'n eiddo iddynt. Fe allwn dorri drwodd yma, ond mae angen inni wneud mwy, ac nid yw'r Llywodraeth ei wneud, ac nid wyf yn deall pam.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu diddordeb mewn diwydiant 4.0 ac am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn. Mae'n rhywbeth y buaswn yn bendant wedi hoffi cyfrannu ato.
Rydym yng nghanol newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu cynnyrch, diolch i ddigideiddio gweithgynhyrchu. Dylem bob amser barhau i ganolbwyntio ar weld y chwyldro diwydiannol nesaf fel cyfle ac nid fel her. Nid yw hynny'n golygu esgus na fydd yna heriau, oherwydd fe fydd rhai, yn sicr, ond dylem bob amser barhau'n uchelgeisiol ynglŷn â'r dyfodol a'r hyn y gallwn ei wneud i droi'r risgiau'n wobrau, felly o allu nodi cyfleoedd i wneud y gorau o logisteg a chadwyni cyflenwi, offer a cherbydau awtonomaidd, robotiaid, rhyngrwyd pethau, a'r cwmwl. Nawr, fel peiriannydd, rwy'n arbennig o gyffrous ynglŷn â'r potensial i bob sector yn ein heconomi, a gallwn ei wireddu os cawn y buddsoddiad yn gywir, a hynny o seilwaith i addysg, dysgu gydol oes, prentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'n allweddol ein bod yn rhoi diwydiant wrth wraidd ein cwricwlwm a'n bod o ddifrif ynglŷn â buddsoddiadau fel cysylltedd digidol.
Mae'n bosibl mai fy etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy fydd yn cael ei tharo galetaf yn sgil colli swyddi gweithgynhyrchu. Felly, yn yr ysbryd o droi risg yn wobrau, rhaid inni weithredu. Nid yw'n fater sydd wedi'i gyfyngu i gorneli gogledd-ddwyrain Cymru neu Gaerdydd yn unig, mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond gall fod o fudd inni hefyd. Dylem fod yn cynllunio i greu canolfannau technoleg yng ngorllewin Cymru, gan weithio ar sgiliau digidol at ddibenion rhaglennu, codio a datblygu. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar ein record fyd-eang o fod yn gartref i rai o gwmnïau gweithgynhyrchu gorau'r byd, gyda'r buddsoddiad cywir mewn seilwaith digidol, gallem wella ein galluoedd drwy gyfuno ein gweithlu medrus a robotiaid a chaniatáu iddynt esblygu ar y cyd. Mewn rhannau eraill o Gymru, dylem gryfhau ein hymdrechion i ddenu cwmnïau byd-eang i fuddsoddi yn y farchnad cerbydau awtonomaidd. Mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei ofni, ac yn y Gymru wledig, fel y dywed Lee yn gywir, dylem edrych ar sut y gall deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth greu elw pellach i'n gweithwyr gwledig a'n ffermydd.
Gwn fod telerau ac amodau gwaith, ynghyd â chyflogau, yn poeni llawer o weithwyr hefyd, wrth inni fynd drwy'r cyfnod hwn o newid. Ond nid yw'r cwestiwn ynglŷn â sut y mae datblygiadau technolegol wedi effeithio ar natur greiddiol ein gwaith yn ddim byd newydd. Mae'n gwestiwn oesol ac yn ymestyn yn ôl i'r chwyldro diwydiannol cyntaf. Felly, gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch i ni edrych ar opsiynau fel yr incwm sylfaenol cyffredinol fel ateb atodol, gadewch i ni edrych ar sut y gall cymunedau cyfan elwa ar yr amser y mae gweithwyr yn ei arbed drwy awtomatiaeth, gan wneud gweithwyr yn rhan o'n cymunedau unwaith eto. Credaf hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych yn agosach ar sut y mae'n ystyried ac yn cynllunio ac yn ymateb i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Efallai y dylai fod ganddynt Weinidog penodol wedi'i gefnogi gan weithgor yn cynnwys arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Nid chwyldro y gallwn ei gynllunio 10 mlynedd ymlaen llaw yw hwn. Mae'r chwyldro yma eisoes ac mae angen inni weithredu ar frys i addasu ac i elwa.
Heddiw, Lywydd, rwy'n gwisgo oriawr Apple a brynwyd yn ddiweddar. Mae ei nodweddion newydd yn caniatáu i chi weld mwy a gwneud mwy mewn un cipolwg—gallaf weld Lesley yn gwenu arnaf yn awr. Mae cydosodiad yr oriawr 30 y cant yn llai o faint ac eto mae'n cynnwys y 21 y cant yn fwy o gydrannau, ac ynghanol yr oriawr mae yna synhwyrydd calon optegol sy'n caniatáu i chi wirio curiad eich calon yn gyflym. Gall ganfod os yw curiad eich calon yn disgyn islaw'r trothwy am gyfnod o 10 munud pan fyddwch i'ch gweld yn anweithgar, ac mae'n sbarduno hysbysiad. Dyna awtomatiaeth gofal iechyd o flaen ein llygaid. Ond yn sicr mae angen inni wneud mwy a monitro cyfradd y newid mewn awtomatiaeth gofal iechyd yma yng Nghymru. Cafodd yr oriawr ei hail-gynllunio'n sylfaenol a'i hail-strwythuro i'ch helpu i fod hyd yn oed yn fwy egnïol, iach a chysylltiedig, a rhaid i hynny fod yn nod terfynol i'r Llywodraeth hon. Drwy gydol y chwyldro diwydiannol hwn yn yr unfed ganrif ar hugain, dylem ail-gynllunio ac ail-strwythuro polisi yn sylfaenol er mwyn helpu pobl ledled Cymru.
I gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor am y gwaith hwn. Mae'n adroddiad gwych ac yn gyflawniad aruthrol. Da iawn yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth? Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae wedi bod yn ddadl ystyrlon iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ei waith. Dywedodd Russell George ar y cychwyn os methwch baratoi, dylech baratoi i fethu. Mae hyn yn rhywbeth a gâi ei ddweud yn aml pan oeddwn yn y corfflu hyfforddi swyddogion. Mae'n rhywbeth sydd yr un mor berthnasol i ddatblygiad economaidd a llawer o feysydd gwasanaeth eraill. Rwy'n credu'n gryf mai ein her yn hyn o beth yw diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhaid inni achub y blaen ar newid er mwyn arfogi, nid yn unig ein pobl a'n lleoedd, ond hefyd ein busnesau i wynebu'r dyfodol yn hyderus. Y prif ffocws wrth ddiogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol yw ein cynllun gweithredu economaidd.
Mae'n werth dweud bod pob chwyldro diwydiannol blaenorol wedi arwain at greu mwy o swyddi nag y maent wedi'u dinistrio—a'r prif wahaniaeth yw bod y swyddi a grëwyd yn aml yn fwy datblygedig na'r rhai a gollwyd, ac felly mae'n gwbl hanfodol y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion yn gadarn ar arfogi pobl â'r sgiliau i fanteisio ar y swyddi a gaiff eu creu o ganlyniad i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymgorffori tair prif elfen ein dull o fynd i'r afael ag awtomatiaeth—yn gyntaf, y buddsoddiad sydd ei angen i ddatblygu awtomatiaeth ar gyfer gwireddu ei fanteision niferus. Yn ail, mae angen inni addysgu a hyfforddi pobl ar gyfer swyddi'r dyfodol, ac yn drydydd, mae angen inni gefnogi gweithwyr yn yr hyn a fydd, mewn llawer o rannau o'r wlad, yn gyfnod pontio anodd. Hefyd mae angen inni rymuso gweithwyr i sicrhau bod twf wedi'i rannu at ei gilydd—gan daflu cipolwg yn ôl unwaith eto ar y ddadl yn gynharach fod yn rhaid i'n ffocws fod ar sbarduno twf cynhwysol. Dylid defnyddio'r pedwerydd chwyldro diwydiannol fel ffordd o ysgogi twf tecach a dosbarthiad tecach o swyddi o ansawdd uchel ar draws y wlad.
Mae awtomatiaeth a digideiddio yn un o'r pum galwad i weithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn â busnesau a rhanddeiliaid i drafod effaith bosibl a chyfleoedd awtomatiaeth a thechnolegau digidol. Roeddwn yn arbennig o falch, y bore yma, o gyfarfod â CAF, sy'n adeiladu mwy na hanner y trenau a defnyddir yn y 15 mlynedd nesaf a thu hwnt. Byddant yn cael eu hadeiladu yn y cyfleuster yng Nghasnewydd, ac roeddwn yn falch o glywed mai cyfleuster Casnewydd fydd y cyfleuster gweithgynhyrchu cyntaf a ddigideiddir yn llawn yn nheulu CAF—a hynny o ganlyniad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i osod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn gadarn ar flaen eu hystyriaethau wrth ddylunio'r cyfleuster, a sicrhau bod y bobl a fydd yn gweithio yno yn cael sgiliau i fanteisio ar dechnoleg ddigidol sy'n newydd ac yn datblygu.
Yn ogystal, rwy'n meddwl bod cymuned dechnoleg arloesol Cymru eisoes yn ystyried cyfleoedd deallusrwydd artiffisial. Yn ddiweddar, agorodd M7 Managed Services, mewn partneriaeth ag IBM, ganolfan cymhwysedd mewn deallusrwydd artiffisial. Drwy ein rhaglen Creu Sbarc, rydym hefyd yn helpu i greu amgylchedd er mwyn i fusnesau technoleg newydd allu cystadlu'n effeithiol ac yn effeithlon drwy ysgogi ac ennyn diddordeb pawb yn ecosystem Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth wedi'i yrru gan arloesedd ar draws y wlad. Mae'r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol, a leolwyd ym Mhrifysgol De Cymru, yn cynorthwyo busnesau Cymru i ddatblygu gwasanaethau drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill sy'n datblygu.
Rwy'n credu bod harneisio manteision awtomatiaeth yn galw am seilwaith sy'n cefnogi rhyng-gysylltedd dyfeisiau mewn amgylchedd awtomataidd. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein hymrwymiad i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy ledled Cymru ac i alluogi'r farchnad i gyflwyno rhwydweithiau symudol pumed genhedlaeth.
Nawr, mae'r angen am fusnesau hynod gymwys ac arloesol yng Nghymru yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae ein cryfderau eisoes yn cynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu uwch a niwclear, ac rydym yn gweithio i fanteisio ar gyllid o gronfa her strategaeth ddiwydiannol y DU a chyllid o'r UE i gefnogi'r cryfderau hyn. Rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol yn y meysydd gweithgaredd hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny, oherwydd—
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
—y rhain yw diwydiannau'r dyfodol. Gwnaf, â phleser.
Diolch am ildio. Rydych wedi sôn am gydrannau allweddol yr economi newydd hon—band eang, trenau trydan. Credaf fod hwn yn amser da i hyrwyddo'r seilwaith ceir trydan yn ogystal. Gwn nad yw'n gwbl gysylltiedig â hyn, ond ar yr un pryd, mae'r cyfan yn rhan o rwydweithiau. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, fod angen i Gymru ddal i fyny o ran cael seilwaith gwefru ceir trydanol ar waith, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud honno'n ystyriaeth flaenllaw yn ogystal.
Yn wir. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le—mae'r farchnad yn methu'n sylweddol yng Nghymru, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i feysydd eraill o ddarpariaeth dechnolegol. Y rheswm y bu'n rhaid inni ymyrryd mor ddwfn o ran band eang cyflym iawn yw oherwydd ein bod wedi gorfod mynd i'r afael â methiant y farchnad.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r sector modurol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd sut y caiff y gronfa o £2 miliwn ei defnyddio i osod pwyntiau gwefru trydan. Rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio hynny fel cymhelliant i ddatblygu mwy o bwyntiau gwefru a fydd yn galluogi ceir i gael eu gwefru'n gyflym iawn. Credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio adnodd cyfyngedig yn y ffordd orau bosibl, ac mae hynny'n golygu diogelu'r ddarpariaeth o fannau gwefru ar gyfer y dyfodol; mae'n golygu buddsoddi yn y pwyntiau gwefru sy'n mynd i allu cyflenwi pŵer i geir yn gynt. Rwy'n arbennig o falch fod technolegau newydd yn y sector modurol yn cael eu datblygu yma ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn y bydd pwerwaith trydan Lagonda newydd Aston Martin Lagonda ymhlith y mwyaf datblygedig ar y blaned, ac y byddwn yn ei weld yn cael ei ddatblygu yma.
Nawr, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd adolygiad o oblygiadau arloesi digidol ar ddyfodol gwaith ac economi Cymru, fel y nododd yr Aelodau, ac mae'r gwaith hwnnw bellach ar y gweill ac yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown o ysgol gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad yr adolygiad ym mis Mawrth, a gallaf sicrhau Russell George y bydd yn mynd i'r afael ag argymhelliad 1, ac os nad yn llawn, yna gallaf ei sicrhau y gwneir rhagor o waith ategol. Mae angen inni fod yn wirioneddol effro bob amser yn ystod y pedwerydd chwyldro diwydiannol i dechnolegau sy'n creu marchnad newydd y gellid ei defnyddio gan economi Cymru, ac o fewn economi Cymru, i roi mantais gystadleuol inni. Felly, bydd gofyn cael gradd gyson o fonitro, gwerthuso, astudio ac ymchwil. Ac a gaf fi sicrhau Russell ac Aelodau eraill yn y Siambr y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas strategol, gydgefnogol a buddiol gyda busnesau, gyda'r byd academaidd a chyda chymunedau i baratoi ein heconomi ar gyfer y dyfodol.
Mae newidiadau yn y ffordd y gweithiwn a goblygiadau awtomatiaeth yn golygu bod angen inni ailystyried ein hymagwedd tuag at ddysgu gydol oes ac addasu ein darpariaeth hyfforddiant a sgiliau yn unol â hynny. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amryw o fesurau i gynorthwyo unigolion i ddatblygu ac addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur. At hynny, fel y nododd rhai o'r Aelodau, bydd technoleg ac arloesedd, gan gynnwys y defnydd o ddata, yn helpu'r diwydiant ffermio i foderneiddio ac i ddod yn fwy gwydn a chystadleuol a mynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd. Ni chredaf y dylid ystyried ffermio manwl ar ei ben ei hun; yn hytrach, dylid ei ystyried yn rhan o strategaeth amaethyddol a defnydd tir ehangach ar ôl Brexit, a bydd amaethyddiaeth fanwl yn sicr yn helpu'r sector i fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd yn unol â'r cynllun gweithredu economaidd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. Gan daflu cipolwg yn ôl ar y ddadl flaenorol, yn aml iawn cwmnïau angori, fel buddsoddwyr mawr gyda'r gallu i harneisio arloesedd ac arbenigedd o bob cwr o'r byd, sy'n gyrru newid technolegol, a chredaf mai honiad peryglus iawn yw dweud y dylem roi'r gorau i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau megis Airbus UK, Ford, Calsonic Kansei, Tata ac eraill er mwyn cefnogi datblygiad yr economi sylfaenol yn unig. Yn hytrach, dylem weld yr economi sylfaenol fel sylfaen i economi Cymru sy'n sbarduno twf cynhwysol, a diwydiannau yfory, sy'n cynnwys y cwmnïau angori a gefnogwyd gennym, fel ysgogwyr y pedwerydd chwyldro diwydiannol y mae angen inni weithio mewn partneriaeth â hwy.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Roedd y pwyllgor yn bwriadu i'r adroddiad hwn fod yn adroddiad ac yn ymchwiliad i godi ymwybyddiaeth o rai o'r prif syniadau a chysyniadau yn ogystal â gwneud argymhellion i'r Llywodraeth. Hefyd roeddem am herio busnesau a'r trydydd sector yn ogystal â'r Llywodraeth, oherwydd rwy'n credu bod angen i bob un ohonom feddwl am y newidiadau enfawr sy'n cyrraedd yn fwyfwy mynych.
Nawr, fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon heddiw, ni allai fod mwy yn y fantol. Ni allai'r dystiolaeth a gasglwyd gennym fod yn gliriach. Cawsom dystiolaeth glir yn ein sesiynau pwyllgor; rhybuddiodd arbenigwyr fod miloedd o swyddi'n debygol o fod yn y fantol yn y dyfodol agos iawn. Mae awtomatiaeth yn wynt a allai rwygo drwy'r economi gyfan a gadael dinistr yn ei sgil os nad ydym yn paratoi'n briodol. Ond os ydym yn barod, mae yna gyfleoedd enfawr hefyd wrth gwrs, a soniodd cyd-aelodau o'r pwyllgor a Jack Sargeant am hynny yn ystod ein dadl heddiw.
Ymhelaethodd Adam Price ar ardaloedd peilot a'r angen i adeiladu llwyfan i arddangos gallu Cymru a photensial deallusrwydd artiffisial—coleg deallusrwydd artiffisial, yn hytrach, ac amlinellodd yr achos o'i blaid. Soniodd Hefin, wrth gwrs, am gerbydau awtonomaidd, a gwn ein bod fel pwyllgor yn bwriadu gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw. A chanolbwyntiodd David Rowlands ei gyfraniad ar y ffaith bod angen i'r Llywodraeth nodi'r anghenion, ac angen i fusnesau nodi'r anghenion, mewn perthynas â chreu'r gweithlu cywir ar gyfer y dyfodol. Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd, fel y dywedodd Lee Waters. Siaradodd Lee Waters yn helaeth, wrth gwrs, am amaethyddiaeth fanwl. Dyma rywbeth nad oedd gennyf farn arbennig o gryf yn ei gylch o'r blaen. [Torri ar draws.] Ai eich dyfyniad chi ydoedd, Lee, neu un rhywun arall? [Torri ar draws.] Fe'i rhoddaf i chi. Credaf fod amaethyddiaeth fanwl yn rhywbeth nad oedd gennyf lawer o farn arno cyn gwneud y gwaith hwn, ond gallaf ddweud yn sicr bellach fy mod yn rhannu'r farn sydd wedi bod gan Lee ers peth amser. Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ei gyfraniad, yn rhoi ei safbwynt ef fel peiriannydd, ac enghraifft a roddodd ynglŷn â sut y gall deallusrwydd artiffisial wella ein gofal iechyd yn ogystal.
Hoffwn ddiolch i ychydig o bobl. Cawsom amrywiaeth helaeth o arbenigwyr yn ystod ein hymchwiliad ac roedd y rhan fwyaf ohonynt, os nad y mwyafrif, wedi'u lleoli yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth mewn perthynas â cherbydau awtonomaidd, amaethyddiaeth fanwl—y cyfan yn dystiolaeth dda. Ymwelsom hefyd ag Amazon yn ystod ein hymchwiliad, a Phrifysgol Abertawe yr ochr draw i'r ffordd—ymwelsom â'u hadran beirianneg. Fel y nododd Vikki Howells, mae'r adran beirianneg honno'n ehangu. Credaf fod Vikki wedi'i chyfareddu cymaint â minnau gan y robot a welsom, ac a oedd yn mynd i fod yn edrych ar ein holau yn ein henaint, mae'n debyg. Diolch hefyd i dîm y pwyllgor sy'n ein cynorthwyo a'r tîm integredig.
Er fy mod yn cloi'r ddadl yn awr, credaf mai dechrau ar ddadl lawer hwy yw hi ac un y credaf fod angen iddi ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig i nodi adroddiad y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gapasiti'r GIG. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6829 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym am fynegi ein pryder ynghylch capasiti GIG Cymru i ateb y galw am ofal heb ei gynllunio drwy gydol y flwyddyn, ac nid yn ystod y gaeaf yn unig, sy'n aml yn destun llawer o drafod yma, gan mai gwirionedd y sefyllfa yw y gall pwysau edrych ychydig yn wahanol yn y gaeaf gan fod nifer uwch o blant ifanc â bronciolitis neu bobl fregus sydd wedi cael codymau a heintiau ar y frest, ond y gwir plaen yw bod y pwysau hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae methiant cyson Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her hon yn llesteirio'n ddifrifol gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at ofal heb ei gynllunio.
Yn y 12 mis diwethaf, cofnodwyd bron 1,400 o ddyddiau—dyna un fil pedwar cant o ddyddiau—o bwysau argyfwng eithafol yn ysbytai GIG Cymru. Gweithredodd ein hysbytai o dan bwysau eithafol ar 1,395 o ddyddiau dros gyfnod o flwyddyn yn 2016-17. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth, ar staff ac ar gleifion yn annioddefol ac ni all barhau. Mae cyfraddau salwch yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru yn 8.8 y cant, sy'n ffigur syfrdanol ac yn 2015-16, collodd GIG Cymru dros 948 o flynyddoedd pobl o waith yn sgil absenoldeb staff gyda salwch sy'n gysylltiedig â straen. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau mewn gwasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Nawr, mae'n ymddangos i mi fod gwelliannau yn y meysydd allweddol hyn yn dibynnu ar sicrhau nad yw pobl yn mynd i ddibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hynny oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal yn y gymuned leol lle maent yn byw. Mae sicrhau model gofal cymunedol cywir yn hanfodol, yn enwedig gan fod y Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ceisio gweddnewid y ddarpariaeth o ofal eilaidd. Pan fydd ardaloedd fel gorllewin Cymru yn gweld y ddarpariaeth o ofal iechyd yn cael ei newid mewn ffordd nad yw'n ategu argaeledd gwasanaethau yn y gymuned rhaid gofyn y cwestiwn: sut y gallwn atal y pwysau ar ofal critigol, ar wasanaethau y tu allan i oriau a thimau ambiwlans ledled Cymru?
Rydym wedi clywed dro ar ôl tro fod y rhai ohonom sy'n ddigon ffodus i fyw yn hwy—ac i wneud hynny yn ein cartrefi ein hunain gyda lwc—yn aml yn cael trafferth i gael y cymorth priodol, fel arfer oherwydd diffyg adnoddau gan y gwasanaethau cymdeithasol. Er mai nod y ddadl hon yw tynnu sylw at ddiffyg cynllunio integredig ar ran y Llywodraeth ar gyfer gofal heb ei gynllunio, rwy'n derbyn bod gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, yn cyflwyno elfen hanfodol, a byddwn yn cefnogi ei welliannau.
Ddirprwy Lywydd, ni allaf fod o ddifrif o gwbl ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gadewch imi ddarllen y tamaid hwn:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru iachach ar waith i ymdrin â'r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans'.
Nawr, efallai eich bod yn cofio bod 'Cymru Iachach', gweledigaeth a chynllun gweithredu mawr ei glod y Llywodraeth a ddeilliodd o adolygiad seneddol, yn rhoi modelau cymdeithasol o iechyd a gofal yn y gymuned yn bendant iawn ynghanol y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd. Conglfaen sylfaenol y cyfeiriad teithio hwn yw rhagweld anghenion iechyd a gweithredu strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar cynaliadwy er mwyn lleihau'r effaith ar afiechyd a'r angen am fodelau gofal cymdeithasol ymyraethol. Yr uchelgais yw sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty oni bai ei bod yn hanfodol iddynt wneud hynny. Caiff gwasanaethau eu cynllunio i leihau'r angen i fynd i'r ysbyty ac i dreulio amser yno. Mae 'Cymru Iachach' yn datgan yn benodol y bydd yna 'symud adnoddau i'r gymuned', ac mae hyn yn newydd da os yw'n ei gwneud hi'n bosibl lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac ar ofal y tu allan i oriau a gofal critigol. Felly, y cynllun yw cyfeirio pobl oddi wrth yr ysbyty ac at wasanaethau cymunedol. Fodd bynnag, heb i'r gwasanaethau cymunedol fod ar waith, bydd pobl yn dal i fod angen eu hysbyty, ac eleni, gwelodd rhai ysbytai yng Nghymru eu perfformiadau gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion o ran y ddarpariaeth o wasanaethau brys.
Mae Llywodraeth Cymru yn methu cryfhau seiliau'r GIG. Ni allwn ddatblygu model cymunedol os nad oes gennym ddarpariaeth o ofal ataliol, gofal sylfaenol neu ofal cymdeithasol sy'n ymateb 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. A sut y gellir datblygu hwnnw pan fo gwariant ar ofal sylfaenol gan y byrddau iechyd wedi gostwng 5 y cant mewn termau real rhwng 2010-11 a 2017-18? Mae'r dirywiad hwn yn y gwasanaethau'n effeithio ar lawer o brofiadau cleifion ac yn creu oedi mawr i bobl.
Ysgrifennydd y Cabinet, y gofyniad mwyaf sylfaenol ar gyfer gofal heb ei gynllunio yw bod yn rhaid iddo allu darparu gofal yn gyflym i bobl sydd mewn argyfwng neu ag anghenion brys, ac fel y dywedais eisoes, bydd y gymuned yn parhau i ddibynnu ar hynny. Cafodd un o fy etholwyr sy'n 91 mlwydd oed godwm a thorrodd ei glun mewn tri lle mewn uned iechyd meddwl sydd wedi'i leoli ar draws y ffordd o ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Nid oedd y staff yn yr uned yn cael ei godi oddi ar y llawr hyd nes y cyrhaeddai gweithwyr meddygol proffesiynol. Ysgrifennydd y Cabinet, cymerodd bump awr i'r gweithwyr proffesiynol hynny gyrraedd, a gadawyd y truan i orwedd ar y llawr am yr holl amser hwnnw, yn 91 mlwydd oed. Yn ffodus, cafodd ei godi gan barafeddygon a'i gludo'r 380 llathen yr holl ffordd ar draws y ffordd. Mater o lwc oedd hi ei fod wedi byw drwy'r profiad o ystyried ei oedran a difrifoldeb ei anafiadau. Nawr, fe allwn, ac mae'n rhaid inni, gynllunio ar gyfer ein gwasanaethau iechyd, ond rhaid inni hefyd gael yr hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau anghyffredin fel hyn, oherwydd credaf fod y stori hon yn amlygu ei bod hi'n mynd yn fwyfwy heriol i wasanaethau brys Cymru allu ymdopi â phwysau'r gaeaf, pwysau'r haf, ac yn wir, pwysau'r flwyddyn gyfan.
Y llynedd, darparodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn yn ychwanegol i leddfu pwysau'r gaeaf ac agorodd 400 o welyau ychwanegol ar draws y GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallai ein gwasanaethau ymdopi â'r galw. Gyd-Aelodau'r Cynulliad, mae hynny'n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth. Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn ailddyrannu'r cyllid hwn eleni er gwaethaf y ffaith bod y galw am wasanaethau wedi tyfu trwy gydol y flwyddyn. Mae'r defnydd gwelyau yn parhau i fod yn gyson uwch na'r lefel defnydd a argymhellir o 85 y cant, sy'n golygu bod safonau diogelwch cleifion yn cael eu bygwth. Yn 2017-18, roedd y defnydd dyddiol cyfartalog yn 87 y cant ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, gan gyrraedd dros 88 y cant ar rai adegau, ac ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, cyrhaeddodd bron i 88 y cant. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol o uchel.
Ac mae'r darlun hyd yn oed yn fwy digalon yn y cyfraddau defnydd ar gyfer gwelyau meddygol acíwt. Ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft, cyrhaeddodd dros 93 y cant. Eisoes, cawn ein hystyried ymhlith rhai o'r gwasanaethau gofal critigol gwaethaf yn Ewrop, ac mae'n dod yn fwyfwy gwir fod gwelyau gofal critigol yn cael eu defnyddio'n amhriodol a bod ysbytai'n gorfod canslo llawdriniaethau er mwyn sicrhau y gall y gwelyau gofal critigol hyn barhau heb eu defnyddio.
Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn galw am 250 o welyau ychwanegol a chyllid i'w ddefnyddio'n benodol ar gyfer mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Byddai hyn yn rhyddhau gwelyau mewn ysbytai ac yn caniatáu ar gyfer llif yn symudiad cleifion drwy'r system gyfan. Felly, rydym yn ôl gyda mater hollbwysig cyllido. Nid wyf yn galw am fwy a mwy o arian, ond am i'r arian sy'n cael ei roi i'r GIG gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy creadigol. Bob blwyddyn, cyrhaeddwn bwynt lle mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Dim mwy o arian'; bob blwyddyn mae'n newid ei meddwl wrth i'r pwysau gynyddu. Y broblem yw nad yw'r cylch hwn yn gynaliadwy, nid yw'n caniatáu ar gyfer cynllunio cydlynol ac mae'n golygu bod arian yn anochel yn cael ei daflu at broblemau tymor byr, sy'n gwneud gwahaniaeth hynod o ymylol yn y tymor byr yn hytrach na newid cynaliadwy. Mae angen arian, newid sylfaenol, canlyniadau newydd, nid pwysau, arian, pwysau, arian, pwysau, arian, neu ni fydd y darlun byth yn newid.
Ychydig iawn o dryloywder a geir ynglŷn â'r defnydd o'r cronfeydd hyn. Ni allwn ddweud os yw'r ateb cyflym yn datrys y broblem: a oedd yn cynnig gwerth am arian? A allwn nodi ar gyfer beth y cafodd ei ddefnyddio? Er bod y byrddau iechyd wedi gallu ei yrru drwodd i'r rheng flaen o bosibl, y realiti mae'n debyg yw mai dim ond cau tyllau ariannol y bydd, oherwydd er mwyn ei ddefnyddio'n effeithiol yn y rheng flaen, mae angen adnoddau dynol, ac ni ellir sicrhau'r rheini fel agor a chau tap. Ac yn y pen draw, mae datrys y broblem yn yr ysbyty yn ymwneud ag ymdopi â galwadau cynyddol mewn gwasanaethau, diffyg staff, colli gormod o welyau, diffyg adnoddau yn y gymuned a lefel sy'n gostwng o gyllid cymesur ar gyfer gofal sylfaenol. Yr un meddygon teulu'n union ag y gofynnoch iddynt ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau sydd dan bwysau ar ôl cael eu cyllid wedi'i dorri 5 y cant mewn termau real, gwasanaeth a ddylai chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau brys a heb eu cynllunio—nid yw'n bosibl. Ni cheir cysondeb mewn unrhyw ran o Gymru yn y mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau.
Ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y llynedd, roedd 19 y cant o'r holl sifftiau y tu allan i oriau heb eu llenwi. Ni all Hywel Dda lenwi oddeutu 1,500 awr o wasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Ar 12 achlysur gwahanol, nid oedd gan Caerdydd a'r Fro unrhyw ddarpariaeth meddyg teulu ar draws y bwrdd iechyd cyfan am gyfnod o amser, ac yn Aneurin Bevan, digwyddodd y sefyllfa honno ar 27 diwrnod gwahanol. Ym mis Ionawr eleni, roedd bron 14 y cant o'r sifftiau heb eu llenwi yn Betsi Cadwaladr. Gallwch weld ei fod yn digwydd ar draws Cymru gyfan, ac nid wyf ond yn dangos mai crafu'r wyneb yn unig yw hyn. Pan fo gennym Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud, a dyfynnaf,
mae gwendidau yn y system ar draws y wlad yn peryglu gofal cleifion ac yn cynyddu'r pwysau ar adrannau achosion brys,
does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod y sefyllfa yn y ddarpariaeth y tu allan i oriau yn argyfyngus.
Gwasanaethau y tu allan i oriau, ambiwlans, gofal critigol, pwysau nas cynlluniwyd yn cael ei waethygu gan ofal cymdeithasol sy'n gwegian. Os ydych chi fel Llywodraeth o ddifrif eisiau glynu at yr uchelgais a nodwyd yn yr adolygiad seneddol, os ydych chi fel Llywodraeth o ddifrif yn awyddus i drawsnewid gwasanaethau—fel y dengys eich geiriau teg yn y weledigaeth ar gyfer iechyd—os ydych chi fel Llywodraeth yn wirioneddol awyddus i ymdrin â'r pwysau diddiwedd ar ein gwasanaethau brys, ar ofal critigol, ar wasanaethau y tu allan i oriau neu wasanaethau ambiwlans, mae angen ichi edrych ar ben arall y telesgop, symud mesur o adnoddau i ofal sylfaenol a gofal cymunedol, cyllido a staffio gofal cymdeithasol, a naill ai cefnogi pobl yn briodol yn eu cartrefi neu sicrhau bod gwelyau preswyl o ansawdd ar gael sy'n gweddu i anghenion yr unigolyn, buddsoddi mewn gofal ataliol, ymateb i ddynameg tueddiadau iechyd ein poblogaeth a chanolbwyntio ar lesiant integredig pobl Cymru.
Dyma'r dewis anoddaf un i chi, i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol, ac a bod yn onest, i ninnau. Mae dyletswydd arnoch i ddiwallu anghenion heddiw tra'ch bod yn cynllunio, yn darparu adnoddau ac yn cyllido anghenion yfory, ond fel y mae, byddwch yn treulio gweddill eich amser fel Ysgrifennydd iechyd yn datrys problemau wrth iddynt godi, a byddwch yn syrthio rhwng dwy stôl. Ni fyddwch yn cynnal ein systemau presennol yn ddigonol, ac ni fyddwch yn dylanwadu ar y trawsnewidiad a geisiwch ac a rannwn gyda chi.
I ddyfynnu'r adolygiad seneddol:
'Oni ellir datgloi cynnydd cyflymach, ehangach, bydd mynediad at y gwasanaethau, a’u hansawdd, yn dirywio yn wyneb y pwysau a ragfynegir.'
Dyma pam y bydd y pum mlynedd nesaf yn brawf hollbwysig. Mae'n ymwneud â blaenoriaethau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roedd bob amser yn mynd i ymwneud â blaenoriaethau, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, a gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun? Rhun.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo:
Yn nodi bod pwysau ariannol sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau cynyddol ar y GIG.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 3, ychwanegu 'gofal cymdeithasol,' ar ôl 'phwysau ar wasanaethau'.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n cynnig y gwelliannau yma sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Mae hi'n galonogol, rydw i'n meddwl, ein bod ni yn ymddangos fel petaem ni'n symud tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig erbyn hyn bod yr NHS yn wynebu pwysau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn y gaeaf, pan fo tywydd eithafol, wrth gwrs, yn gallu creu pwysau ar y system ofal brys. Mae goblygiadau'r sylweddoliad yma yn glir iawn—mae'r NHS angen cynllunio ar gyfer pwysau tymhorol, ond beth mae angen ei ddeall ydy bod pwysau tymhorol yn rhywbeth sy'n gallu digwydd ar draws y flwyddyn. Ydy, mae hi'n aeaf bob blwyddyn, ond mae'n debygol iawn y bydd pyliau amlach o dymheredd uchel yn y dyfodol hefyd, ac rydym ni'n gwybod bod tymheredd uchel yn gallu bod yn straen mawr ar wasanaethau iechyd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn amlach na pheidio, nid y nifer o bobl sy'n troi i fyny yn yr adrannau brys sydd yn achosi'r pwysau gaeaf—mae mwy o bobl yn mynychu adrannau brys yn ystod misoedd yr haf. Wrth gwrs, nid yw hi'n ddefnyddiol, nid yw hi'n llawer o help, pan fo pobl—lot o bobl—sydd ddim yn wir angen adran brys yn troi i fyny efo annwyd drwg neu oherwydd eu bod nhw wedi yfed gormod. Ond hyd yn oed pe baem ni'n atal y math yna o fynediad i adrannau brys, mae pwysau'r gaeaf yn dal i fodoli achos mae'r pwysau gaeaf yna yn ymwneud, mewn difri, â'r math o gleifion, y bobl sydd angen bod yna, sydd yn dod drwy'r drws, achos, yn nodweddiadol, maen nhw'n hŷn, maen nhw'n dioddef o nifer o gyflyrau gwahanol ar yr un pryd, sydd, o ganlyniad, yn creu achosion mwy cymhleth. Mae'n cymryd mwy o amser. Mae'n cymryd mwy o arbenigedd i ddelio â'r anhwylderau. Mae'n fwy cymhleth i drin salwch yn llwyddiannus. Mae angen cyfnod hirach yn yr ysbytai ar bobl fel hyn, ac, yn aml iawn, wrth gwrs, maen nhw'n methu cael eu rhyddhau oherwydd methiant i roi pecynnau gofal cymdeithasol addas mewn lle.
Wrth gwrs, mae'r gaeaf yn ei gwneud hi'n fwy tebygol bod claf yn cael ei daro'n wael oherwydd tywydd oer. Pan yw'n llithrig y tu allan, mae'n fwy tebygol bod claf oedrannus yn llithro, a hefyd, mae yna broblemau ychwanegol sy'n cael eu hachosi gan, er enghraifft, dai o safon isel yn ystod misoedd y gaeaf. Ond mae tywydd cynnes hefyd yn gallu cael yr un effaith ar gleifion fel yma, drwy eu gwneud nhw yn wael, yn ddioddef o ddisychiad, o dehydration, strôc haul, ac yn y blaen. Felly, yng nghanol pwysau tymhorol, beth sydd gennym ni mewn difri ydy math o glaf sydd yn fwy bregus, ac mae deall hynny yn golygu y gallwn ni ddeall pa bolisïau, gobeithio, sydd angen eu rhoi mewn lle er mwyn helpu'r NHS i gynllunio ar gyfer y newidiadau mewn patrymau defnydd yma—ac yma mae ein gwelliannau ni yn dod i mewn.
Mae'n anhygoel, mewn difri, ein bod ni'n dal, drwy ein gwelliannau ni, yn gorfod tynnu sylw at ofal cymdeithasol a'i bwysigrwydd wrth helpu'r NHS. Mae'n anghredadwy bod y Ceidwadwyr fel petaen nhw'n briod i'r syniad ei bod hi'n bosib gwarchod cyllideb yr NHS ar un llaw, a thorri gwariant gofal cymdeithasol ar y llaw arall, heb unrhyw effaith. Rydw i'n meddwl bod methu cynnwys gofal cymdeithasol yn y cynnig gwreiddiol yn gwneud rhywfaint o ddrwg i'ch hygrededd chi yn hyn o beth. Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth, am ei fod o'n dileu ein gwelliant ni ac yn gwneud hefyd yr un camgymeriad esgeulus o fethu sôn am bwysigrwydd gofal cymdeithasol.
I gloi, ychydig o bolisïau eraill a fyddai'n help: buddsoddi mewn gwasanaethau i gadw pobl yn iach ac allan o'r ysbyty yn y lle cyntaf—gwasanaethau ataliol drwy wasanaethau gofal cymdeithasol; gofal meddygol allan o oriau gwell a all fod o gymorth i bobl ynghynt i gael triniaeth pan fydd anhwylder arnyn nhw, pigiadau ffliw—rydym ni'n gwybod bod yna broblemau ar hyn o bryd efo'r ddarpariaeth o bigiadau ffliw—ac, fel y gwnes i grybwyll, tai o ansawdd sâl, ychydig funudau yn ôl. Mae angen meddwl ar draws holl adrannau'r Llywodraeth ynglŷn â sut i greu poblogaeth fwy gwydn. Mae yna bethau y gallem ni edrych arnyn nhw o ran hyblygrwydd a chynyddu hyblygrwydd ymhlith staff ac ysbytai er mwyn sicrhau bod cyfnodau o dywydd gwael ddim yn effeithio mor ddrwg, er enghraifft, ar allu staff i gyrraedd eu gwaith, a drwy fonitro angen mewn amser real a diffinio'r angen yna mewn modd mwy ystyrlon na ffigurau yn unig, mi allem ni ymateb drwy symud staff a rhannu cyfleusterau ac yn y blaen.
Heb os, mae paratoi yn effeithiol ar gyfer pwysau tymhorol yn rhywbeth a ddylai fod yn arfer cyffredin, felly mae'n rhaid inni weld, rydw i'n meddwl, diwedd ar yr esgusodion sydd i'w clywed bob blwyddyn, ac mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa lle nad ydym ni'n gorfod dychweled at yr un testun flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Drwy geisio dileu ein cynnig, sy'n adlewyrchu'r pryder a fynegwyd wrthym gan staff a chleifion drwy gydol y flwyddyn ynglŷn â chapasiti GIG Cymru i ateb y galw, mae Llywodraeth Cymru yn ailgylchu brawddegau rydym wedi'u clywed mor aml o'r blaen. Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon tebyg trwy gydol y pedwar Cynulliad diwethaf, a bob tro, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r cyfrifoldeb trwy ofyn inni gydnabod y gwaith y mae'n ei wneud ar adeiladu capasiti GIG Cymru. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir: mae GIG Cymru wedi cael ei arwain gan Weinidogion iechyd Llafur mewn Llywodraeth dan arweiniad Llafur ers 1999.
Rydym yn parhau i fethu cyflawni targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac nid yw'r targed ar gyfer amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion wedi'i gyrraedd mewn 10 mlynedd. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers tair blynedd. Dangosodd ffigurau Llywodraeth Cymru fis diwethaf fod Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd wedi cyflawni'r perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf ar gyfer ysbytai Cymru ers dechrau cadw cofnodion.
Bythefnos ar ôl ysgrifennu at y bwrdd iechyd ynglŷn ag etholwr a oedd wedi aros am dair blynedd am lawdriniaeth ar y pen-glin ac sydd mewn poen cyson, ddoe yn unig y cawsom gydnabyddiaeth gan y bwrdd iechyd, ar ôl gorfod mynd ar drywydd hyn gyda'u cadeirydd newydd. Treuliodd etholwr arall dair awr gyda chymydog a fu farw tra'i fod yn aros yn yr eira am ambiwlans yn dilyn strôc, a dioddefodd chwe mis o oedi a chamwybodaeth wedyn ar ôl cwyno wrth wasanaeth ambiwlans Cymru. Drwy fy ymyrraeth i gyda'r prif weithredwr yn unig y cafodd ymddiheuriad ac ymateb hanner blwyddyn yn ddiweddarach.
Yr haf hwn, collwyd mwy na 5,000 o oriau oherwydd bod ambiwlansys yn gorfod oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai yng ngogledd Cymru. Mae cyfraddau defnydd gwelyau yn gyson yn uwch na'r lefel defnydd o 85 y cant a argymhellir er mwyn cynnal safonau diogelwch cleifion. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, canslwyd llawdriniaethau bron i 75,000 o gleifion GIG Cymru am resymau nad oeddent yn rhai clinigol. Erbyn hyn mae'n glir nad yn y gaeaf yn unig y ceir pwysau eithafol ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, ond trwy gydol y flwyddyn.
Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau a sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaethau gofal heb ei gynllunio a gofal critigol sy'n diwallu eu hanghenion, gan gynnwys gwasanaethau ataliol megis gofal yn y gymuned a gofal y tu allan i oriau. Fel y dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Peter Fox, yr wythnos diwethaf, mewn dogfen a gefnogir gan arweinwyr llywodraeth leol o bob plaid, gyda £370 miliwn o arian newydd yn cyrraedd o San Steffan, mae angen dull creadigol o ariannu gwasanaethau ataliol er mwyn cadw pobl allan o ysbytai.
Yn rhwystredig o reolaidd, rwyf wedi siarad yn y Siambr hefyd am achosion o gyrff trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau ataliol effeithiol ac sydd wedi colli eu cyllid oherwydd comisiynu hurt sy'n ychwanegu miliynau at bwysau costau ar wasanaethau iechyd a gofal statudol. Ar gais yr ymgyrchwyr ffurfiais CHANT Cymru—ysbytai cymuned yn gweithredu'n genedlaethol gyda'i gilydd—yn yr ail Gynulliad, i ymgyrchu yn erbyn rhaglen Llywodraeth Lafur Cymru o gau ysbytai a gwelyau cymunedol. Ar lefel genedlaethol, fe wnaethom hyrwyddo rôl ysbytai cymunedol yn darparu gofal iechyd hygyrch o safon uchel yn lleol a lleihau pwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Ar ôl 2011, gwthiodd Llafur yn ei blaen gyda'r cau, ac rydym yn gweld y canlyniadau anorfod y buom yn rhybuddio yn eu cylch.
Nid oes adnoddau'n cael eu dyrannu i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gryfhau gofal sylfaenol a lleoliadau cymunedol. Os yw cleifion yn cael gofal yn agosach at eu cartrefi, mae'n hanfodol fod ymarfer cyffredinol yn cael adnoddau digonol. Yn 2014, rhybuddiodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod y gyfran o gyllid GIG Cymru ar gyfer gofal cleifion mewn ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd. Canfu arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn 2016 fod 82 y cant o feddygon teulu yn poeni ynglŷn â chynaliadwyedd eu practis yng Nghymru. Yn 2016, dywedodd is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru, 'Ni allaf bwysleisio digon pa mor agos i ymyl y dibyn yw pethau, a'i bod yn bryd gweithredu yn awr neu byth.' Yn 2016-17—y ffigurau diweddaraf sydd ar gael—ymarfer cyffredinol yng Nghymru a gafodd y gyfran isaf o wariant y GIG ar iechyd yn y DU er gwaethaf cynnydd yn y galw gan gleifion. Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyfer Cymru fod 21 o bractisau meddygon teulu wedi cau ers mis Hydref 2015, gydag 82 pellach mewn perygl o gau a 29 bellach yn cael eu rheoli gan fwrdd iechyd, gyda'r nifer fwyaf ohonynt yng ngogledd Cymru.
Wrth fynd ar drywydd yr agenda hon, gallai rhai pobl ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ideoleg o flaen cleifion, lle roedd BMA Cymru hefyd wedi darparu tystiolaeth nad yw practisau sy'n cael eu rheoli yn darparu gwerth am arian a bod byrddau iechyd wrthi'n ceisio'u dychwelyd i ddwylo contractwyr ymarfer cyffredinol annibynnol. Da iawn, Weinidog.
Yn fy sylwadau agoriadol ac mewn ymateb uniongyrchol i'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn, ac yn arbennig y sylwadau yng nghyfraniad Mark Isherwood, rwy'n gofyn a ydynt yn teimlo y byddai'r £4 biliwn ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i gael pe bai'r grant bloc wedi cyfateb i'r twf yn yr economi ers 2010 wedi bod yn un ffordd ddefnyddiol i Gymru a'n system gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ymateb i beth o'r pwysau y maent yn ei ddisgrifio. Ac yn yr un modd, a ydynt yn credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod yn union faint o arian y mae Cymru'n mynd i'w gael yn sgil yr addewid gan y Prif Weinidog ar ben-blwydd y GIG yn ddiweddar na chafodd ei ariannu, neu faint o arian ychwanegol y mae Cymru'n mynd i'w gael yn sgil y diwedd ar gyni sydd ar fin digwydd, fel y mae Prif Weinidog y DU yn ein harwain i gredu. Oherwydd er bod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn bwrw iddi'n dda gyda chynlluniau ar gyfer y gaeaf o'n blaenau, maent yn gwneud hynny heb unrhyw sicrwydd ynglŷn â phryd y daw'r cyllid ychwanegol i law gan Drysorlys y DU.
Yr wythnos diwethaf, roedd plaid cyni yn galw am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol. Yn awr maent am wario mwy ar gapasiti yn y GIG. Rwy'n credu y bydd pobl Cymru'n gweld eironi hyn yn glir iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Byddwch yn sicr yn cydnabod bod y sefyllfa a etifeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn ôl yn 2010, o ran cyllid cyhoeddus, yn gwbl erchyll. Aeth Gordon Brown â'n gwlad at ymyl y dibyn, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol gyfrifol hon wedi gwrthdroi'r sefyllfa honno.
Wel, wrth gwrs, Lywydd, dim ond y Ceidwadwyr sy'n dal i gredu'r celwydd hwnnw, ond dyna ni. Felly, wrth i'r ddadl—[Torri ar draws.] Felly, wrth inni drafod y materion yma, a chanolbwyntio'n gwbl briodol ar gyfrifoldebau ein Llywodraeth yng Nghymru, nid wyf fi wedi anghofio cyfrifoldebau Llywodraeth y DU i gyllido Cymru'n iawn. Ac os nad ydych yn hoffi hynny, gadewch imi ofyn i gyn-arweinydd y Ceidwadwyr neu arweinydd presennol y Ceidwadwyr os gallant ddangos imi y llythyrau a anfonasant at Lywodraeth y DU yn mynnu mwy o arian i Gymru. Ac fe fentraf nad ydynt yn bodoli.
Ond i droi at gapasiti'r GIG—
Andrew R.T. Davies a gododd—
Nid wyf yn cymryd ymyriad arall. I droi at gapasiti'r GIG—[Torri ar draws.]
Nid yw'n derbyn ymyriadau. Dawn Bowden, gallwch barhau.
I droi at gapasiti'r GIG, mae'r ymateb sydd angen inni ei wneud, fel y mae'r cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod, yn ymateb system gyfan. Ac mae'r gydnabyddiaeth honno ar goll yn llwyr o gynnig y Ceidwadwyr. Mae'n werth cofio, yma yng Nghymru, ein bod eisoes yn trin iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, ac y bydd 'Cymru Iachach'—cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru—yn cyflymu cynnydd yn y maes, wedi'i gefnogi gan £100 miliwn y gronfa trawsnewid.
Ar y llaw arall, mae Lloegr fwy neu lai wedi anwybyddu gofal cymdeithasol, sydd wedi golygu, pan fo pwysau'n cynyddu, fod y straen yn pentyrru ar y GIG yno, heb ddim capasiti i gael pobl allan o'r ysbyty. A thra bo'r Torïaid yn parhau i feirniadu model ymateb ambiwlans llwyddiannus Cymru, ac yn dweud ein bod yn symud y pyst gôl i sicrhau gwell canlyniadau targed, mae'n ddiddorol nodi bod Lloegr a'r Alban bellach yn ei efelychu.
Ond bydd ymateb system gyfan yn mynd y tu hwnt i wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, fel y'u crybwyllir yn y cynnig hwn. Mae angen iddo ganolbwyntio hefyd ar rôl gofal cymdeithasol ac ar gryfhau gofal sylfaenol. Ac yng Nghymru, diolch i Lafur Cymru, mae gennym system iechyd a gofal wedi'i chynllunio sy'n caniatáu ar gyfer y math hwnnw o ymateb. Gwyddom fod y Llywodraeth hon mewn rowndiau cyllidebol olynol wedi darparu arian i helpu i integreiddio'r gwasanaethau hollbwysig hyn, a diolch byth, nid yw ein gwasanaethau wedi'u torri'n ddarnau bach, yn barod ar gyfer preifateiddio. Felly, mae gennym botensial i wneud gwelliannau pellach.
Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, rwyf wedi darllen gwaith cyrff fel y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys gyda diddordeb. Mewn adroddiad ar eu prosiect llif cleifion yn y gaeaf ar gyfer y DU gyfan, maent wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen inni ganolbwyntio ar anghenion gofal cleifion sydd wedi cael yr holl ofal meddygol sydd ei angen arnynt ac sy'n ffit i gael eu rhyddhau'n ôl i'r gymuned. Mae'r coleg brenhinol yn disgrifio hyn fel y bloc ymadael y gallwn ei agor drwy gryfhau ein pecynnau gofal cymdeithasol ymhellach. Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gyda hyn yng Nghymru, yn amlwg mae llawer mwy y gellir ei wneud, ac wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod bod gallu symud cleifion allan o'r ysbyty mor gyflym â phosibl hefyd yn gwella canlyniadau i gleifion.
O'r dystiolaeth a glywsom yn y pwyllgor iechyd ar draws amrywiaeth o faterion, credaf fod angen inni barhau i fynd i'r afael hefyd â'r amrywio rhwng arferion a pherfformiad byrddau iechyd. Rwy'n credu mai dyna oedd y pwynt roeddech chi'n ei wneud, Angela, oherwydd rwy'n ei chael hi'n amhosibl deall pan fo bwrdd iechyd yn sefydlu arferion gwaith llwyddiannus, er enghraifft trosglwyddo cleifion Cwm Taf o ambiwlansys wrth ddrws blaen yr ysbyty, pam nad yw hynny'n cael ei ailadrodd yn gyflym mewn mannau eraill. Yn yr un modd, credaf fod angen cefnogaeth fwy cadarn ar systemau brysbennu. Er enghraifft, os yw rhywun yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys ac nad dyna'r gwasanaeth sydd ei angen arnynt, dylem alluogi staff y GIG sydd o dan bwysau i'w cyfeirio'n fwy cadarn allan o'r rhan honno o'r gwasanaeth.
Rwy'n deall bod y coleg brenhinol yn gofyn am gynyddu'r capasiti gwelyau, a mater i'r Llywodraeth ei ystyried yw hynny fel rhan o'r strategaeth genedlaethol newydd, ond roedd y coleg brenhinol hefyd yn canolbwyntio eu cyngor ar optimeiddio llif cleifion, ar gamau adweithiol i helpu capasiti, ar ddefnyddio a grymuso'r system ehangach, ac ar strategaeth ar gyfer y gweithlu. Felly, er bod y cynnig yn ddefnyddiol, yn fy marn i mae iddo ffocws rhy gyfyng, a dyna pam y mae'r gwelliant, rwy'n credu, yn darparu darlun gwell o'r ymateb y gallwn ei roi yng Nghymru i ateb gofynion ein gwasanaethau iechyd a gofal, a dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth ac yn pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol.
Yn sicr hoffwn gefnogi ein cynigion ein hunain i sefydlu cynllun cenedlaethol sy'n anelu at gyflwyno gwasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans mwy cynaliadwy a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru. O dan y Llywodraeth Lafur Cymru hon, mae'r GIG yng Nghymru wedi parhau i dangyflawni'n gynyddol. Mae'r problemau hyn wedi bod yn arbennig o ddifrifol ym mwrdd Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun.
Mae Betsi Cadwaladr wedi gweld problemau sylweddol gyda pherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys. Dengys adroddiad Ystadegau ar gyfer Cymru ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yn 2018, fod 68 y cant o gleifion yn aros mwy na phedair awr i gael eu gweld, gan waethygu ym mis Awst 2018. Mewn dau ysbyty yng ngogledd Cymru y cafwyd y perfformiad gwaethaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. Gwelodd Ysbyty Maelor Wrecsam lai na hanner eu cleifion o fewn amser targed y Llywodraeth ei hun o bedair awr. Roedd cyfradd Ysbyty Glan Clwyd yn 52 y cant.
Gwaethygwyd y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans gan rwystrau system yn ein hysbytai yn achosi oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Collwyd bron i 5,000 awr i oedi wrth drosglwyddo cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni. Daw'r ffigurau hyn wedi i uwch grwner gogledd Cymru a chrwner cynorthwyol amlygu pryderon yn ddiweddar ynglŷn ag amseroedd aros am ambiwlans yn eu hysbysiadau rheoliad 28.
Ymhellach—[Torri ar draws.]—mae gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau, sy'n rhan annatod o'r broses o ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaethau brys, hefyd o dan bwysau. Rwy'n credu bod hynny wedi dihuno Ysgrifennydd y Cabinet. Dywed adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018 ar gyflwr gwasanaethau y tu allan i oriau nad yw gwasanaethau o'r fath yn bodloni'r safonau cenedlaethol oherwydd diffyg morâl a phroblemau staffio. Mae ymchwil gan BBC Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos na allai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr lenwi 2,082 awr o sifftiau meddyg teulu y tu allan i oriau. Mae hyn yn golygu bod 462 o sifftiau unigol heb eu llenwi, a phwysau cynyddol ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
Er bod y bobl sy'n gweithio mewn gofal critigol y tu allan i oriau a'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd gwych i gleifion, ac rydym yn canmol pob un ohonynt, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir fod diffyg arweinyddiaeth wedi gwneud cam â hwy, ac rwy'n dweud wrthych: daw'r diffyg arweiniad hwnnw o'r fan hon. Mae fy etholwyr wedi blino ar fwrdd iechyd sy'n tangyflawni'n ddifrifol ac sydd wedi gweld safonau'n disgyn yn barhaus, a bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers tair blynedd.
Nid ein hetholwyr yw'r unig rai sydd wedi blino. Mae cyn reolwr uwch yn y GIG yng Nghymru, Siobhan, bellach yn gadael Cymru yn dilyn sawl methiant yng ngofal ei gŵr, ac nid oeddwn yn hoffi'r ffordd y cafodd ei dadleuon eu diystyru yn y Siambr hon yn gynharach. Mae'n dadlau bod yna wagle yn Llywodraeth Cymru ac nad yw byrddau iechyd yn cael eu rheoli gan y Llywodraeth, nac yn atebol i'r bobl. Mae hyn yn digwydd oherwydd methiannau eich Llywodraeth—heb arweiniad, yn analluog ac yn ddi-glem. Dyna waddol y Llywodraeth Lafur hon.
Fodd bynnag, mae'n galonogol clywed am ymrwymiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar i fuddsoddi £20 biliwn ychwanegol y flwyddyn mewn cyllid termau real i'r GIG. Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn cael hwb ariannol o £1.2 biliwn y flwyddyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi cyllid hirdymor yn ddoeth yn awr, yn enwedig mewn gwasanaethau gofal critigol ac ambiwlans. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r byrddau iechyd i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau y mae gwasanaethau gofal critigol ac ambiwlans yn eu profi ar hyn o bryd. Hefyd, rwy'n annog y Llywodraeth i ymrwymo mwy o adnoddau i wasanaethau ataliol er mwyn lleihau presenoldeb diangen mewn adrannau achosion brys tra bo'r gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn yn cael ei gweithredu.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid dyma'r tro cyntaf i mi fod yn ymbil arnoch, bron iawn, ac yn erfyn arnoch i ddangos peth trugaredd tuag at y cleifion lu sy'n dibynnu ar ein nyrsys, ein meddygon ymgynghorol, ein meddygon, ein meddygon teulu a'n gweithwyr gofal yn y gymuned diwyd. Yn y fan hon y mae'r bai—nid ar y Senedd hon, ond arnoch chi, y Llywodraeth, yma yng Nghaerdydd. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi eto, nid yn unig er lles fy etholwyr yn Aberconwy, a'ch cleifion, ond er lles holl gleifion Cymru a'u teuluoedd.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae UKIP yn cefnogi eu cynnig heddiw. Fel hwythau, rydym yn cydnabod y problemau o ran capasiti yn y GIG yng Nghymru. Fel hwythau, rydym yn cydnabod bod y pwysau ar y GIG yn bwysau drwy gydol y flwyddyn ac nid taro gofal cleifion yn ystod misoedd y gaeaf yn unig y mae'n ei wneud. Ac fel hwythau, rydym yn cydnabod yr angen am strategaeth hirdymor, a elwir ganddynt yma yn 'gynllun cenedlaethol', i fynd i'r afael â'r problemau hyn, yn hytrach na'r atebion plaster glynu rydym i'n gweld yn eu cael flwyddyn ar ôl blwyddyn gan y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd.
Rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, sy'n nodi bod angen inni gael strategaeth hirdymor hefyd ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, oherwydd os parhawn i ddefnyddio'r dull o ddatrys problemau iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt ddigwydd yn unig, fel y nododd Rhun ap Iorwerth yn gynharach heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Gweinidog iechyd—mae'n well gennyf ei alw'n ddull plaster glynu, ond yr un peth ydyw yn ei hanfod—bydd hynny hefyd yn arwain at gynyddu'r pwysau ar y GIG.
Rydym yn cydnabod bod gan y Llywodraeth Lafur gynllun, ac maent yn cyfeirio ato yn eu gwelliant, ond mae amser yn gweithio'n erbyn eu dadleuon bellach. Maent wedi rheoli'r GIG yng Nghymru ers 19 blynedd, ac mae canlyniadau iechyd i lawer o bobl mewn llawer o rannau o Gymru yn dal i ymddangos fel pe baent yn gwaethygu. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi'u plagio gan anfodlonrwydd y cyhoedd ynglŷn â'u gwaith yn rhedeg y GIG ers tymor cyntaf y Cynulliad, ac maent yn dal i wynebu'r un problemau yn eu hanfod ag a oedd ganddynt yr adeg honno. Fel y gwyddom, ac fel y crybwyllwyd heddiw mae'n dal i fod gennym sawl bwrdd iechyd sy'n destunau mesurau arbennig ac ymyrraeth wedi'i thargedu.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gwario tua 50 y cant o'i chyllideb ar iechyd. Yn sicr, ni ellir caniatáu i'r duedd ar i fyny barhau am gyfnod amhenodol. Mae angen inni symud tuag at fwy o wariant ataliol, fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac eraill wedi'i gynghori. Gwnaeth argymhelliad fod angen inni glustnodi swm penodol o leiaf o'r gyllideb iechyd er lles hirdymor y cyhoedd yng Nghymru a dweud ei fod i'w neilltuo ar gyfer gwariant ataliol. Felly, roedd yn rhaid iddo fod yn fuddsoddiad, er enghraifft, mewn hybu gweithgareddau a allai atal gordewdra rhag digwydd, yn hytrach na'i wario ar drin effeithiau gordewdra.
Mae'n ymddangos i mi fod y syniad o wariant ataliol yn un da, ond mae ei weithredu'n ymarferol wedi bod yn anodd. Yn y pen draw, mae gennym ddadl ynglŷn â beth yn union yw gwariant ataliol, felly mae angen inni feddwl yn awr am ddiffiniad ar ei gyfer cyn y gellir llunio polisi o'r fath. Nid wyf am edrych yn fanwl ar beth sydd a beth nad yw'n wariant ataliol heddiw, ond rwy'n teimlo bod rhaid inni symud tuag at ddull mwy strategol a mwy hirdymor o weithredu, ac nid wyf yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Lafur Cymru yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Felly, dyna pam y mae UKIP heddiw yn cefnogi'r cynnig a gwelliannau Plaid Cymru ac yn gwrthwynebu gwelliant y Blaid Lafur. Diolch yn fawr iawn.
Os ydym i leddfu'r pwysau ar ein GIG, rhaid inni ymdrin â mater cymorth ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau ataliol. Un gwasanaeth o'r fath yw gofal y tu allan i oriau. Mae'n ffaith bod gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau yn hollbwysig ar gyfer lleddfu'r pwysau ar wasanaethau brys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ac arolwg a ganfu fod bron 700,000 o bobl yn cysylltu â'r gwasanaeth y tu allan i oriau bob blwyddyn yng Nghymru. O'r staff a ymatebodd i'r arolwg, dywedodd 66 y cant nad yw'r gwasanaethau'n ddigon hyblyg i ateb y llanw a'r trai yn y galw. Roedd 46 y cant yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf fod y morâl yn dda. Er bod cleifion yn gweld gwerth gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'r safonau cenedlaethol yn cael eu cyrraedd oherwydd problemau staffio a morâl isel.
Ni allai fy mwrdd iechyd lleol fy hun, Aneurin Bevan, lenwi oddeutu 2,300 o sifftiau gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Ar ddim llai na 27 diwrnod gwahanol, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y bwrdd iechyd cyfan am o leiaf 30 munud. Yn y chwe mis rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2018, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y rhanbarth cyfan am dros 53 awr. Am gyfnod o bum niwrnod ym mis Chwefror, roedd mwy na hanner y sifftiau meddyg teulu y tu allan i oriau heb eu llenwi.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae'r cynllun gweithredu'n galw am roi camau ar waith ar unwaith i ymateb i'r argyfwng. Maent yn dweud bod gwendidau yn y system bresennol ar draws y wlad yn peryglu gofal cleifion, a mwy o bwysau ar adrannau achosion brys. Dywedodd y coleg eu bod wedi galw am bum cam hanfodol a chyraeddadwy i helpu i drawsnewid gofal meddyg teulu y tu allan i oriau yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â'r problemau allweddol sy'n wynebu ymarfer cyffredinol yn yr hinsawdd bresennol.
Er gwaethaf ymrwymiadau maniffesto'r Blaid Lafur i wella mynediad at feddygon teulu, mae'n dod yn fwyfwy anodd i gleifion allu gweld eu meddyg teulu. Canfu ymchwiliad newyddion gan y BBC yn gynharach eleni mai ond mewn dau fwrdd iechyd yng Nghymru y gall claf weld eu meddyg teulu yn hwyrach gyda'r nos. Ledled Cymru, mewn saith bwrdd iechyd, dim ond chwarter y cleifion meddyg teulu oedd yn cael cynnig apwyntiadau hyd at 6.30 p.m. gyda'r nos ddwywaith yr wythnos, a dim ond 20 y cant o feddygfeydd meddygon teulu Cymru oedd yn gallu cynnig apwyntiadau yn gynnar yn y bore cyn 8.30 a.m. o leiaf ddwywaith yr wythnos. Nid yw'n ryfedd fod cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud, yn ei eiriau ef,
Gyda'r diffyg adnoddau a dim buddsoddiad newydd mewn gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'n syndod fod meddygon teulu'n teimlo eu bod wedi blino gormod i weithio y tu allan i oriau.
Mae'r pwysau ar feddygon teulu bellach yn ddifrifol. Mae nifer y meddygon teulu newydd sy'n ymuno â'r gweithlu yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd ar hyn o bryd. Dim ond 129 meddyg teulu yn unig a ychwanegwyd at y gweithlu yn 2016-17. Mae'r nifer sy'n gadael y gwasanaeth bellach ar ei lefel uchaf yn y ddau ddegawd diwethaf; gadawodd 212 y gwasanaeth dros yr un cyfnod, sy'n llawer mwy nag a ddaeth i mewn.
Lywydd, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans. Credaf y byddai cynllun o'r fath yn sicrhau gwelliant sylweddol i gleifion yng Nghymru, ac mae'n haeddu cefnogaeth y Cynulliad hwn heddiw. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando. Nid yw pawb yn y Siambr hon yn gwrando, ond ar yr ochr hon i'r Siambr o leiaf mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld gwasanaeth iechyd gwell yn y wlad hon. Mae gennych dros un rhan o dair o'r gyllideb, ond ble mae'r gwasanaethau i'r bobl? Rwyf eto i'w gweld. Diolch i chi.
Mae'n bleser gallu cymryd rhan yn y ddadl yma ar gapasiti yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, fel sydd wedi cael ei ddweud, mae'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan straen anferthol drwy'r flwyddyn. Yn fy mhractis i yn Abertawe, rydym ni'n cael ryw gwpwl o gannoedd o alwadau ffôn oddi wrth gleifion bob bore o'r wythnos, ac roedd yna un dydd Llun gwpwl o fisoedd yn ôl pan wnaethom ni gael 700 o alwadau ffôn. Wedyn, wrth gwrs, fel meddygon teulu a nyrsys ac ati, mae'n rhaid inni ddygymod efo'r baich gwaith yna, mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle y mae gyda ni brinder staff a hefyd brinder adnoddau i edrych ar ôl y bobl yma.
Wrth gwrs, o dan y fath amgylchiadau, mae'r staff yn y gwasanaeth iechyd, fel rydym ni wedi clywed eisoes, yn cyflawni gwaith clodwiw iawn o dan amgylchiadau sydd yn anodd, sydd yn gymhleth, ac sydd mor, mor brysur mae'n anodd iawn gallu trosglwyddo pa mor brysur ydym ni, yn aml, i bobl sydd ddim yn gweithio o dan y fath amgylchiadau.
Felly, mae yna ryw dri pheth i'w ddweud ynglŷn â'r ddadl yma ynglŷn â chapasiti yn y gwasanaeth iechyd. Oes, mae yna brinder staff yn y lle cyntaf. Enwch chi unrhyw fath o broffesiwn sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac mae angen rhagor ohonyn nhw—nyrsys, meddygon teulu. Rydym ni'n brin o ryw 400 o feddygon teulu yma yng Nghymru. Mae yna ryw 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru; dylai fod yna tua 2,500. Mae gennym ni lai o feddygon y pen yma yng Nghymru na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop. Ymhlith ein harbenigwyr ni yn ein hysbytai, mae tua 40 y cant o swyddi consultants, felly, yn wag yn ein hysbytai ni yma yng Nghymru.
Felly, wrth gwrs, gyda system mor brysur a phrinder staff, wrth gwrs ein bod ni'n mynd i gael rhestrau aros, pobl yn gorfod gweithio llawer yn rhy galed ac ati, ac ati. Dyna pam, fel plaid, rydym ni eisiau agor ysgol feddygol newydd ym Mangor. Mae'n rhaid inni hyfforddi mwy o feddygon yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni dyfu fwy ohonyn nhw achos nid ydym ni'n cynhyrchu digon o feddygon ar hyn o bryd, a hyd yn oed pe bai pob un sy'n graddio'r dyddiau yma yn aros i weithio yng Nghymru, ni fuasai yna yn dal ddim digon o feddygon yng Nghymru i fod yn gwasanaethu ein pobl.
Elfen arall o'r capasiti ydy prinder gwlâu sydd wedi cael ei sôn amdano eisoes. Mae sawl coleg brenhinol yn dweud am hyn ac weithiau nid yw hi'n ffasiynol i sôn am brinder gwlâu, achos dros y chwarter canrif diwethaf, rydym ni wedi colli rhai miloedd o wlâu yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi gofal yma yng Nghymru. Pam mae hynny'n bwysig? Wel, gyda'r boblogaeth yn mynd yn hŷn rŵan, mae yna ystod o bobl sydd yn rhy sâl i aros gartref, hyd yn oed â pha bynnag package dwys sydd gyda chi yn eu cefnogi nhw. Ond eto, er eu salwch a'r ffaith eu bod nhw mor fregus, nid ydyn nhw'n ddigon difrifol wael i fod ar wely mewn ward argyfwng acíwt mewn ysbyty cyffredinol fel Singleton neu Dreforys. Mae yna wastad ystod o gleifion sy'n cwympo rhwng y ddwy stôl yna, ac nid ydym ni'n gallu delio efo nhw yn dda iawn y dyddiau hyn yn absenoldeb gwlâu yn ein hysbytai cymunedol ni.
Y pwynt olaf rwy'n mynd i'w wneud o ran capasiti, wrth gwrs, ydy bod y rhan fwyaf o'r capasiti pwysig yn fan hyn y tu allan i'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n sôn yn fan hyn am ofal cymdeithasol. Mae sefyllfa gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain, yn fregus iawn ar hyn o bryd oherwydd tanariannu cyson dros y blynyddoedd, sy'n golygu bod yna drothwy uchel iawn i chi allu derbyn gwasanaethau, wedyn, oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol. Yn y bôn, os nad oes yna ddim gofal cymdeithasol, fydd yna ddim gwasanaeth iechyd. Dyna pam, yn y lle cyntaf, mae angen mynd i'r afael efo gofal cymdeithasol. Mae'r amser yn brin rŵan, achos nid ydym ni'n gallu cynnig unrhyw fath o gefnogaeth i drwch eang o'n poblogaeth ar hyn o bryd. Dyna pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa. A dyna pam, fel plaid, rydym ni'n edrych i ailgynllunio'n radical y system gofal cymdeithasol drwy greu gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol o'r newydd, a fydd yn gweithredu fel ein gwasanaeth iechyd ni, ochr yn ochr. Mae'n rhaid, achos ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gallu cynnig fawr ddim gofal i'n pobl fwyaf bregus ni sydd fwyaf angen y gofal yna, ac mae'r adnoddau jest ddim ar gael. Mae'r amser wedi pasio i jest wneud pethau bach wrth yr ochrau; mae angen ateb radical a gwasanaeth gofal cymdeithasol newydd, teilwng i'n gwlad. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein GIG yn wynebu galw nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen. Yn y 12 mis diwethaf, cafwyd ymhell dros filiwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Mae dros bedwar o bob 10 ohonom yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu a chaiff llawdriniaethau eu canslo fel mater o drefn oherwydd diffyg gwelyau. Er bod yr ymgyrch Dewis Doeth yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae'n mynd i gymryd llawer mwy o amser i ail-addysgu'r cyhoedd yng Nghymru yn llwyr. Mae'n rhan mor annatod o feddylfryd y cyhoedd fod angen iddynt weld meddyg pan fyddant yn sâl fel bod eu hargyhoeddi bod fferyllydd cymunedol weithiau'n opsiwn llawer gwell yn mynd i gymryd amser hir iawn. Pan gysylltwch y meddylfryd hwn â'r ffaith ei bod hi'n mynd yn anos gweld meddyg teulu oherwydd tanariannu a gorweithio, nid yw'n unrhyw syndod fod pobl yn ymweld yn amhriodol ag adrannau damweiniau ac achosion brys.
Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym am sicrhau bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym yn mynd i sicrhau nad yw ein staff GIG gweithgar yn teimlo eu bod yn gweithio ynghanol rhyfel. A rhaid inni fod yn feiddgar os ydym yn mynd i sicrhau bod dyfodol gan ein GIG. Gwyddom y byddai dros draean o'r rhai sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael sylw mwy priodol mewn mannau eraill yn y GIG, a dyna pam rwy'n cefnogi Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn llwyr, wedi iddynt awgrymu ein bod yn ystyried cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol a'r defnydd o ffisigwyr wrth y drws blaen. Rhaid inni edrych hefyd ar gyflwyno gwasanaeth porth un pwynt a all gyfeirio pobl at y gwasanaeth priodol. Mae'r gwasanaeth 111 yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen iddo gael ei gyflwyno'n gyflymach a chael cylch gorchwyl sy'n llawer ehangach.
Adnoddau cyfyngedig sydd gennym o ran meddygon a nyrsys, ac yn aml iawn gall claf gael ei weld yn gyflymach a chael yr un lefel o ofal drwy weld gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd. Pam mynd ag amser gwerthfawr meddyg teulu ar gyfer darparu nodyn salwch pan all therapydd galwedigaethol ymdrin â'r cais? Pam gweld meddyg ynglŷn ag annwyd pan all y fferyllydd ddarparu'r driniaeth orau ar eich cyfer? Ac fel y dywedais yn gynharach, bydd hyn yn galw am newid ffordd o feddwl y cyhoedd yn llwyr, a dyna pam y mae'n rhaid inni eu helpu i wneud y dewisiadau cywir. Ni all hysbysebion wneud mwy na hyn a hyn. Rhaid inni gyflwyno system brysbennu cleifion, a chredaf fod gan y gwasanaeth 111 botensial i fod yn system o'r fath. Gwnewch y peth yn siop un stop ar gyfer y GIG a helpwch i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau ar yr adeg iawn drwy eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol.
Ni all ein GIG fforddio gaeaf drwg arall sy'n arwain at wanwyn drwg a haf gwaeth. Rhaid inni weithredu yn awr a chymryd y camau mentrus sydd eu hangen i leddfu'r pwysau ar y system. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r wrthblaid am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r teimlad cyffredinol—fod darparu gwasanaethau o safon uchel sy'n ateb galw mawr a chynyddol—yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno arno, ond yn amlwg mae yna bwyntiau yn y cynnig lle ceir anghytundeb; a dyna'r rheswm dros welliant Llywodraeth Cymru.
Disgrifiodd yr adolygiad seneddol, a luniwyd o banel o arbenigwyr annibynnol wedi'i gefnogi gan bob plaid yn y lle hwn, y galwadau cynyddol a'r heriau newydd sy'n wynebu'r GIG a gofal cymdeithasol: poblogaeth sy'n heneiddio, ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw a disgwyliadau newidiol y cyhoedd. Er gwaethaf y galwadau hyn, fe wyddom fod y mwyafrif helaeth o gleifion sydd angen gwasanaethau'r GIG yn cael gofal mewn modd amserol, gyda chyfraddau uchel o fodlonrwydd. Diolch i'n staff wrth gwrs fod gofal GIG nodweddiadol yn effeithiol, yn amserol ac yn drugarog. Ond o ran capasiti i ateb y galw am wasanaethau, mae'r nifer uchaf erioed o staff yn gweithio yn GIG Cymru bellach. Dyma'r unig wasanaeth cyhoeddus, mewn adeg o gyni, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr, ac yn yr wythnosau sydd i ddod, byddaf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad ar fuddsoddi yn nyfodol ein gweithlu gofal iechyd.
Rwyf eisoes wedi disgrifio sut y mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein hymrwymiad i alluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fodloni anghenion y boblogaeth—fel y dywedais o'r blaen, y tro cyntaf erioed inni gael cynllun iechyd a gofal cymdeithasol sy'n eiddo i'r sector iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Bydd rhaglen drawsnewid yn sicrhau cyflymder a diben i'r modd rydym yn buddsoddi mewn pobl a'r modd yr adeiladwn y capasiti staff, ac rydym yn gwybod bod gwella gallu'r system i gynllunio'n effeithiol ac yn effeithlon yn hanfodol. Rydym yn cyflawni ar flaenoriaeth allweddol i weithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid er mwyn symleiddio'r gwaith o gynllunio a darparu ein gwasanaethau. Mae ein gwelliant yn cydnabod gwaith cynhwysfawr ein staff yn y GIG, mewn llywodraeth leol, a chan bartneriaid ehangach, ar gynllunio ac adeiladu capasiti o amgylch ac o fewn GIG Cymru i ateb y galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, fe glywsom rywfaint o hyn mewn perthynas â chynlluniau penodol ar gyfer y gaeaf, yn sylwadau cynharach David Melding.
Rydym wedi bod yn agored ynglŷn â'r heriau a deimlir gan y gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans brys, a gwyddom hefyd, er gwaethaf y pwysau, fod y mwyafrif helaeth sydd angen y gwasanaethau hyn yn parhau i gael mynediad amserol a gofal o safon uchel—unwaith eto, diolch i'n staff tosturiol ac ymroddedig. Er enghraifft, dengys y ffigurau diweddaraf sydd ar gael fod pobl sydd wedi'u categoreiddio fel rhai y mae eu bywyd mewn perygl yn ein categori coch o alwadau brys am ambiwlans yn cael ymateb o fewn ychydig dros bum munud ar gyfartaledd, ac roedd Dawn Bowden yn iawn i nodi bod ein model ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys yn cael ei efelychu yn Lloegr a'r Alban. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â'r modd y targedwn gymorth cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau hyn, gyda dealltwriaeth eglur o'r galw a'r ffordd orau i'w reoli. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu gofal sylfaenol y tu allan i oriau sy'n gynaliadwy yn ogystal â gwasanaethau gofal critigol. Yn ddiweddar cyhoeddais £5 miliwn ychwanegol i fod ar gael eleni ar gyfer gofal critigol, a bydd yn ein helpu i greu'r capasiti sydd ei angen dros y gaeaf ac i greu sylfaen ar gyfer gwelliant cynaliadwy.
Rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau ambiwlans a'r categori oren i ddeall a ellir gwella trefniadau rheoli cleifion ac wrth gwrs, bydd gennym ddatganiad ar hynny y mis nesaf a chyfle i'r Aelodau ystyried hynny ymlaen llaw. Mae gwaith sylweddol ar y gweill ym mhob un o'r tri maes i ganolbwyntio ar yr angen i gydnabod a deall y pwysau a chynllunio i'w ddiwallu. Ein cynllun yw helpu i gynorthwyo staff rheng flaen i ddarparu gwasanaethau perfformiad uchel, gan ganolbwyntio ar brofiad, canlyniad a gwerth.
O ran datblygu cynllun cenedlaethol i ymdrin â phwysau ar wasanaethau, mae 'Cymru Iachach' yn disgrifio ein hymrwymiad i ddarparu dull system gyfan, lle mae'r holl wasanaethau'n cael eu darparu'n ddi-dor a'u lapio o amgylch anghenion yr unigolyn. Mae'n hanfodol nad ydym yn ystyried gwasanaethau ar eu pen eu hunain. Dylem wrthsefyll y galwadau rheolaidd yn y lle hwn ac mewn mannau eraill i greu cynlluniau penodol newydd a thameidiog, a chanolbwyntio yn lle hynny ar gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd gennym ac y cytunwyd arnynt yn ein cynllun hirdymor.
Ar niferoedd gwelyau—gwnaed pwynt ar amrywiol adegau yn y ddadl—mae gennym gyfradd defnydd is nag yn Lloegr a mwy o welyau yn gyfrannol na'r system yn Lloegr. Nawr, yn benodol ar ofal critigol, rwyf wedi cyfeirio at y £5 miliwn eleni i helpu i gefnogi cynnydd parhaol yn nifer y gwelyau gofal critigol, ac mae hynny'n tanlinellu ein hymrwymiad i gryfhau gofal critigol ac rydym yn cydnabod bod hynny'n angenrheidiol, nid yn unig ar gyfer y gaeaf, ond yn y tymor hwy. Mae hynny'n dilyn fy nghyhoeddiad diweddar o £15 miliwn o gyllid rheolaidd o'r flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn.
Ar ein gwasanaethau ambiwlans brys, mae gennym gynllun cenedlaethol eisoes. Mae gan ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru gynllun a gymeradwywyd hyd at 2021 yn seiliedig ar y bwriadau a nodwyd gan brif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans. Heb amheuaeth, bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y trefniadau comisiynu cydweithredol sydd gennym yng Nghymru wedi'u copïo yn Lloegr yn ddiweddar. Gwyddom fod mwy o barafeddygon yn gweithio yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac ers 2014 mae nifer y lleoedd hyfforddiant parafeddygol wedi mwy na dyblu ers 2014—nid drwy ddamwain, ond drwy ddewisiadau bwriadol a wnaed gan arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Ar wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, cafwyd ffocws sylweddol a chyfunol ar y maes hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel rhan o'n cynllun ehangach, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu model newydd o ofal sylfaenol y tu allan i oriau, wedi'i fodelu ar integreiddio di-dor â gwasanaethau eraill drwy'r gwasanaeth 111. Ac rwy'n falch o glywed cydnabyddiaeth yn y ddadl hon ac yn ystod yr wythnosau diwethaf i effaith lwyddiannus y gwasanaeth 111 lle cafodd ei gyflwyno. Buaswn yn rhybuddio Aelodau a fyddai'n galw am gyflwyno'r gwasanaeth hwnnw ar unwaith ledled y wlad. Rhan o'r llwyddiant oedd deall y galw ym mhob ardal ac adeiladu capasiti mewn cymorth gofal sylfaenol a gwneud yn siŵr fod gennym y staff cywir yn y lle cywir i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Ond does bosib nad ydych yn cydnabod bod cael rhywle fel bwrdd iechyd Aneurin Bevan heb wasanaeth y tu allan i oriau am rannau o'r diwrnod ar 27 o ddiwrnodau gwahanol yn annerbyniol os ydym yn ceisio cael gwared ar y pwysau hwn.
A dyna pam rydym yn ymrwymedig i gyflwyno'r gwasanaeth 111. Rydym yn ymrwymedig i wella gofal y tu allan i oriau, fel y mae pob Llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd. Ac fe fyddwch yn gweld y gwasanaeth 111 yn cyrraedd Aneurin Bevan yn y dyfodol gweddol agos.
Nawr, ar niferoedd staff—[Torri ar draws.] Wel, ar niferoedd staff, mae'n werth ystyried, fel y dywedais, ein bod wedi parhau i fuddsoddi yn ystod cyfnod o gyni Torïaidd, ond mae'n ymwneud â mwy na nifer y staff; mae'n ymwneud â sut y maent yn gwneud eu gwaith. Dyna pam fod integreiddio iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda modelau gofal di-dor yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf toriadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru, ar ôl wyth mlynedd galed o gyni Torïaidd—sy'n parhau, fel y mae Dawn Bowden yn ein hatgoffa—rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, lle mae dewisiadau'r Ceidwadwyr—dewisiadau bwriadol—wedi arwain at doriadau eto ac eto i ofal cymdeithasol yn Lloegr. Eto i gyd, yma yng Nghymru, rydym wedi cael £50 miliwn eleni yn y gronfa gofal integredig, £100 miliwn dros ddwy flynedd i'r gronfa trawsnewid, a £30 miliwn y flwyddyn nesaf ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Ceir stori wahanol iawn yma yng Nghymru am ein dewisiadau mewn adeg o gyni a beth sy'n digwydd pan fo'r Ceidwadwyr mewn grym. Ac mae nifer o'r sylwadau a wnaeth y siaradwyr Ceidwadol heddiw yn gwrth-ddweud ei gilydd—ar y naill law'n galw am fwy o arian tuag at ofal sylfaenol, ond ar y llaw arall, yn galw am fwy o arian tuag at ofal eilaidd. Nid oes modd gwneud y ddau beth a awgrymwch a galw ar yr un pryd am gael mwy o arian i lywodraeth leol. Dyma ganlyniadau anochel y cyni Torïaidd, a dylwn eich atgoffa o'r ffaith ddiymwad honno. Mae'r Blaid Geidwadol wedi ymgyrchu dros gyni mewn tri etholiad cyffredinol olynol. Ni allwch hyrwyddo cyni mewn etholiad a throi eich cefn wedyn ar ei ganlyniadau diymwad a diwahân. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwys cenedlaethol. Mae'n cael lle blaenllaw yn 'Cymru Iachach', ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i gynllunio a'i berchnogi, am y tro cyntaf, gan y sector iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector.
Fe wyddom fod angen i'r GIG drawsnewid er mwyn diwallu anghenion a gofynion heddiw a'r dyfodol, ond bydd un peth yn aros fel erioed: bydd y GIG yn parhau i gyflawni er mwyn diwallu anghenion y bobl sydd ei angen fwyaf, ac ni fydd y bobl hynny byth yn ymddiried yn y Torïaid i ofalu am ein GIG.
Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ydy, mae'n hawdd gwneud eich hun i edrych yn well bob amser, onid yw, oherwydd bod Llywodraeth arall o bosibl yn gwneud yn waeth na'u harfer. Nid yw hynny'n celu'r ffaith eich bod yn dal i gynhyrchu'r canlyniadau iechyd gwaelaf ledled y DU. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn mynd i gael amser i ymateb i'r cyfan, gan nad oes gennyf lawer o amser. Ond yn y bôn roedd y ddadl hon yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng gweledigaeth, a gefnogwyd gan lawer ohonom, a phrofiad byw ein hetholwyr—ac yn wir, ein meddygon, a barnu o'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd.
Nid yw enghraifft Angela Burns o'r gŵr bonheddig a fu'n aros am bum awr i fynd lai nag ychydig gannoedd o lathenni yn unigryw, ond mae'n ddarlun o'r problemau roeddem yn ceisio rhoi sylw iddynt yn y ddadl hon ac y gobeithiem gael ymateb synhwyrol gan y Llywodraeth yn eu cylch. Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr nad ydych wrth eich bodd â'r ystadegau y tu allan i oriau hynny chwaith, na'r ystadegau oedi wrth drosglwyddo gofal, pa mor hir y mae ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai—nid wyf yn hapus iawn eich bod wedi methu rhoi datganiad ar amseroedd ambiwlansys, gyda llaw—neu'n wir, y ffaith bod parafeddygon, 8.8 y cant ohonynt, yn absennol oherwydd salwch. [Torri ar draws.] Ond mae hyn oll yn digwydd dan eich goruchwyliaeth chi.
Mae pawb ohonom y tu ôl i chi gyda chyfeiriad yr adolygiad seneddol, yn dilyn y gwaith a wnaed ar hynny, tuag at ofal cymunedol gwell—roedd yn gyfeiriad polisi y tueddai pawb ohonom i'w ddilyn beth bynnag—ond nid ydym yn ei deimlo, a dyna pam y mae eich gwelliant mor wag. Mae'r cyfeiriadau at ofal cymdeithasol y tueddwn i'w clywed yma yn dal i deimlo fel ôl-ystyriaeth o gymharu â'r gwasanaeth iechyd. Mae gennym enghreifftiau yn fy etholaeth o gau gwasanaethau a chlinigau dros dro—dros dro sy'n troi'n barhaol, gan fod staff yn cael eu hadleoli; digwyddodd hynny ym Maesteg. Mae gennym syniadau newydd, fel gwaith y Groes Goch gydag unigolion sy'n gwneud cyfres o alwadau 999 amhriodol, yn cael eu treialu yn Nhreforys. Canlyniadau gwych—tynnu arian yn ôl. Ac wrth gwrs, pan fyddwch yn sôn am fodel cymdeithasol o ofal yn y gymuned, mae'n ymwneud â mwy na meddygon teulu; mae'n ymwneud â phobl fel y Groes Goch a'r parafeddygon a'r fferyllwyr a'r trydydd sector.
Felly, rwyf am ichi edrych ar ofal yn y gymuned, os mynnwch, fel math o orlifdir ataliol lle gellir rheoli gofal a lles ein hetholwyr yn well. Nid lliniaru effeithiau dŵr storm ymhellach i lawr yr afon yn unig y mae gorlifdiroedd yn ei wneud; maent yn creu pridd ffrwythlon. Dyna lle mae pethau'n tyfu, lle bydd pethau'n gwella, lle rydych yn cael arwyddion o iechyd. Os yw gofal cymunedol yn ymwneud â gofal ataliol yn cynhyrchu'r canlyniadau gwerthfawr hyn dan lai o bwysau ac yn fwy effeithlon i fyny'r afon, dyna ble y dylid buddsoddi. Ond os gadewch i ddyfroedd y storm—ac maent yn cynyddu; maent yn digwydd drwy gydol y flwyddyn bellach—i barhau i ledu ar draws anialdir sych, rydych yn mynd i aros gyda'r canlyniadau sydd gennym yn awr.
Y toriad o 5 y cant y soniodd Angela Burns amdano—gwn eich bod chi'n sôn am gynnydd canol blwyddyn, ond mae'r toriad o 5 y cant yn tanseilio diben 'Cymru Iachach' yn sylfaenol yma, ac nid yw'n iawn, fel y soniodd Caroline Jones—. Os nad ydych yn buddsoddi mewn gofal yn y gymuned, nid ydych yn creu hyder mewn rhan o'r gwasanaeth iechyd lle mae angen creu hyder er mwyn darbwyllo pobl i ymatal rhag pwyso 999 ar eu ffôn.
Felly, nid wyf yn arbennig o awyddus i aros tan yr wythnos nesaf, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddrwg gennyf na sonioch chi am hyn yn eich ymateb i'r ddadl, ond ceir cronfa trawsnewid—dwy, mewn gwirionedd; fe sonioch am hynny'n gynharach—ac nid wyf yn gweld eto sut y maent yn cyfrannu at greu'r gofal yn y gymuned sydd ei angen er mwyn inni allu atal problemau rhag digwydd i lawr yr afon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, at y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Felly, mae'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr ar gapasiti y gwasanaeth iechyd, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, un yn ymatal, 34 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.
NDM6829 - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 34, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Ar welliant 1, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, un yn ymatal, 19 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
NDM6829 - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 19, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Mae gwelliant 2 a gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol, sy'n dod â ni at y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6829 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, un yn ymatal, 21 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM6829 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 21, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lee Waters i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis. Lee.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf roi munud o fy amser i Jenny Rathbone.
Mae'r wyddoniaeth yn ddiamwys: mae'r cysylltiad rhwng gweithgarwch dynol a thymereddau byd-eang cynyddol mor gryf ac mor bendant â'r cyswllt rhwng ysmygu a chanser yn ôl y Gymdeithas Americanaidd er Hyrwyddo Gwyddoniaeth. Mae cytundeb Paris ar newid hinsawdd yn gosod targed o ddim mwy na 2 radd canradd o gynhesu byd-eang uwchlaw'r tymereddau cyn-ddiwydiannol erbyn diwedd y ganrif. Roedd hefyd yn gosod targed uchelgeisiol o ddim mwy nag 1.5 gradd canradd. Rydym ar hyn o bryd ar y trywydd tuag at 3 gradd canradd a mwy o gynhesu byd-eang erbyn diwedd y ganrif. Rydym yn debygol o losgi drwy weddill y gyllideb garbon ddyheadol o fewn y tair i 10 mlynedd nesaf a chyrraedd 1.5 gradd o gynhesu erbyn 2040.
Nawr, nid yw 1.5 gradd yn swnio'n llawer, ond mae'n trosi'n ddigwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, fel stormydd, tywydd poeth a llifogydd—y math o ddigwyddiadau sy'n effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl. Mae'r gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2 radd o gynhesu byd-eang yn gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng Arctig sy'n rhydd o iâ unwaith bob degawd, neu unwaith bob canrif. Mae'n gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng dinistrio riffiau cwrel y byd yn llwyr neu golli tua 30 y cant o'r ecosystem hon sy'n cynnal bywyd.
I osgoi'r trychineb posibl hwn, rhaid i'r byd roi cychwyn ar ymdrech benderfynol i symud oddi wrth danwydd ffosil fel ffynhonnell ynni. Gallwn baratoi ar gyfer rhyfel, gallwn ail-gyfalafu banciau byd-eang gyda rhaglen enfawr o esmwytho meintiol ac felly hefyd, gallwn ail-galibradu er mwyn lliniaru newid hinsawdd a achoswyd gan bobl os ydym yn dewis gwneud hynny. Y wers syml o'r wyddoniaeth hon yw po gyflymaf y byddwn yn lleihau allyriadau carbon, y lleiaf difrifol fydd effeithiau cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Diolch byth, mae llawer o'r dulliau ar gyfer lleihau ein hallyriadau eisoes yn bodoli. Gallwn weithredu yn awr. Mae'n golygu bod yn rhaid i newid ein system ynni i ffynonellau adnewyddadwy fod yn flaenoriaeth allweddol i Gymru. Wrth ynni, yr hyn a olygaf yw'r trydan a ddefnyddiwn i oleuo ein swyddfeydd a phweru ein setiau teledu, yn ogystal â'r ynni a ddefnyddiwn i bweru ein cerbydau a gwresogi ein cartrefi.
Rhaid inni ddechrau, fel yr Almaen a Denmarc, drwy dargedu gostyngiad yn ein galw am ynni, drwy gynyddu effeithlonrwydd a dileu gwastraff. Wedyn gallwn ddechrau datgarboneiddio trydan. Targed Llywodraeth Cymru yw cynhyrchu 70 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ar hyn o bryd nid ydym ond yn cynhyrchu 42 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae angen inni symud yn gynt. Nid oes gennym ond 12 mlynedd ar ôl i gyrraedd ein targed.
Mae'r technolegau a'r modd o wneud hyn eisoes yn bodoli, ac er mor llwm yw'r wyddoniaeth, mae yna gyfleoedd enfawr yn bodoli i Gymru. Gallwn fod yn arweinydd ym maes datblygu a defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw. Ceir cwmnïau yng ngogledd Cymru a de Cymru sy'n datblygu atebion sy'n arwain diwydiant ar gyfer datrys problemau allweddol y defnydd o ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio ar ein potensial yn y sector hwn, yn wahanol iawn i stori ynni gwynt, lle roedd Cymru unwaith yn arweinydd byd cyn iddi gael ei gadael ar ôl a cholli cyfle i fanteisio ar y gweithgynhyrchu a'r eiddo deallusol gwerthfawr a ddatblygodd.
Ond mae'r cyfleoedd mwyaf uniongyrchol yn dal i fodoli ar y tir, mewn ynni gwynt ac ynni'r haul, a biomas hyd yn oed—technolegau a brofwyd yn llawn ac sy'n hawdd eu hadeiladu a'u cynnal ac felly'n gymharol isel o ran cost. Rydym yn agos at bwynt lle gall ynni adnewyddadwy ar y tir weithredu heb gymhorthdal, gan roi diwedd ar y pryderon y bydd ynni gwyrdd yn chwyddo biliau'r cartref mewn modd artiffisial. Mae cost ynni adnewyddadwy newydd yn sylweddol is na niwclear, ac yn cystadlu â gorsafoedd pŵer nwy newydd. Mae hyn yn newid pethau'n sylfaenol.
Yng nghefn gwlad Cymru y ceir un o adnoddau gwynt mwyaf sylweddol y DU, ond ni wnaed defnydd digonol ohono ac ni cheir cyfle i adeiladu mwy na nifer fach o brosiectau oherwydd bod y grid yn gyfyngedig. Mae diffyg capasiti grid yn cyfyngu ar gyfleoedd eraill hefyd. Ar hyn o bryd, ni fydd y rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn gallu gweithredu mannau gwefru cerbydau trydan ar raddfa fawr, gwres adnewyddadwy na hyd yn oed datblygu cyflogaeth newydd oherwydd na allwn drosglwyddo digon o drydan, ac rydym mewn perygl o ynysu pobl yng nghefn gwlad Cymru, a rhan o fy etholaeth fy hun, rhag effaith newidiadau technolegol a chyfleoedd newydd.
Nodir na ellir gosod mwy nag 1 MW o gapasiti yng Nghymru tan ail hanner y degawd nesaf. Mae angen y capasiti hwn i gefnogi cynhyrchiant uchel a defnydd o ynni adnewyddadwy. Hyd nes y gallwn ddatrys hyn, nid wyf yn gweld sut y gallwn gyrraedd ein targed o gynhyrchu 70 y cant o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ac yn fwy perthnasol, os na allwn gyflymu'r amserlen hon, gallai fod yn rhy hwyr i atal cynhesu byd-eang trychinebus. Dylai'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru ystyried y grid fel mater o flaenoriaeth fel y dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn datgloi cyllid i adeiladu'r grid hwn, a allai'r sector cyhoeddus fuddsoddi yn y grid drwy gronfeydd pensiwn a buddsoddiadau eraill? Yn hytrach na gwario ein gallu benthyca ar godi mega-ffordd a fydd yn anochel yn arwain at allyriadau pellach ac a gaiff ei hadeiladu drwy wlyptiroedd gwarchodedig, sy'n ddalfeydd carbon wedi'r cyfan, dylem roi blaenoriaeth i brosiectau sy'n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r dyfodol, nid eu chwalu'n rhacs. A gallai ein helpu yma yn y presennol. Bydd galluogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn creu elw economaidd sefydlog a hirdymor ar gyfer pobl Cymru.
Felly, rhaid inni ymatal rhag rhoi cyllid tuag at ynni budr. Ar hyn o bryd mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru wedi sicrhau buddsoddiad o dros £1 biliwn mewn tanwyddau ffosil, arian y gellid ei roi tuag at ddefnydd llawer gwell i gefnogi economi werdd newydd yng Nghymru. Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu y gallem greu 3,500 o swyddi yn ninas-ranbarth bae Abertawe, sy'n cynnwys etholaeth Llanelli, drwy newid i rwydwaith trydan 100 y cant adnewyddadwy, a byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn swyddi gweithredu a chynnal a chadw hirdymor.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyflawni ymchwil helaeth i weld pa gamau ymarferol y byddai eu hangen i droi Cymru'n wlad sy'n diwallu ei hanghenion ynni i gyd o ffynonellau adnewyddadwy. Dyna'r math o ymateb beiddgar sydd angen inni ei weld i rybudd cytundeb Paris. Un peth yw pasio deddfwriaeth symbolaidd a chael sylw yn y Cenhedloedd Unedig; gweithredu sy'n cyfrif—gweithredu ar gyfer y tymor hir sy'n cynhyrchu manteision pendant yn y tymor byr hefyd.
Mae ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu bod tua £1.6 biliwn o fantais economaidd i ailosod tai i gydymffurfio â safon effeithlonrwydd ynni uwch dros gyfnod o 15 mlynedd. Oherwydd bod y cwmnïau a fyddai'n cyflawni'r gwaith wedi'u gwreiddio'n lleol yn yr economi sylfaenol, mae manteision hyn yn debygol o gael eu cadw yn ein cymunedau, a chan ein cymunedau. Eisoes mae gennym arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes adeiladu cynaliadwy yn ein prifysgolion, yn ein cymdeithasau tai ac yn ein sector preifat, a dylem ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl adeiladau a adeiladir o'r newydd yng Nghymru yn bodloni safonau llym ar gyfer allyriadau carbon. Felly, rwy'n falch fod y Gweinidog tai wedi cyhoeddi cyllid o £4 miliwn ar gyfer prosiect tai gwyrdd arloesol ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth.
Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na thrydan a gwres; mae a wnelo hefyd â thrafnidiaeth. Rhaid inni ddatgarboneiddio ein system drafnidiaeth. Yr ateb mwyaf uniongyrchol ac effeithiol yw torri'r ddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, symud pobl tuag at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr. Mae pob math o fanteision ehangach i iechyd a lles y genedl hefyd o sicrhau bod mwy o bobl yn cerdded a beicio. Dyma'r ateb sy'n gwneud synnwyr ar bob math o lefelau.
Er mor sylweddol a phwysig yw cerbydau trydan fel dyfais, nid ydynt yn ateb i'r broblem hon heb drawsnewid y system drydan. Wedi dweud hynny, dylai Llywodraeth Cymru nodi uchelgais i roi diwedd ar werthu cerbydau petrol a diesel newydd yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad erbyn 2040, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn mynd lawer yn gynharach. Gadewch i ni osod ein huchelgais yn uwch a gadewch i ni ddenu'r sector modurol sydd wedi'i leoli yng Nghymru i droi hyn yn gyfle. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, ac mae'n rhaid iddi wneud yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth yn rhan ganolog ohoni, nid yn unig yn y geiriau ar ei blaen ond yn y camau gweithredu yn y cefn. Ac mae angen sicrhau bod yr ynni a ddefnyddiwn ar gyfer trafnidiaeth yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, boed yn drydan, yn hydrogen neu'n fiodanwyddau.
Gall Cymru ddefnyddio'r argyfwng hinsawdd hwn fel cyfle i ddod yn arweinydd byd-eang, nid mewn geiriau'n unig ond drwy ddefnyddio technolegau adnewyddadwy a datgarboneiddio'r system ynni. Mae'r amserlen yn dynn ac mae angen inni weithredu, ond mae cyfleoedd yma i wella bywydau dinasyddion Cymru wrth inni ei wneud. Diolch.
Mae gennym lawer o eiriau cynnes ar hyn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gosod targed heriol o 70 y cant ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy i Gymru. Ond mae angen inni drosi geiriau'n weithredu, nid yn lleiaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hyd yn hyn, defnyddiwyd y system gynllunio i danseilio brwdfrydedd dinasyddion sy'n dymuno gwneud y pethau cywir, ac mae rhan fwyaf wedi ildio o dan y gymysgedd o broblemau a roddwyd yn eu ffordd. Ddoe, cawsom restr galonogol o wobrau tai arloesol ledled Cymru, a fydd yn darparu cartrefi di-garbon fforddiadwy ar gyfer tua 600 o deuluoedd. Mae angen inni wneud rhagor ac yn well. Mae angen inni newid y rheolau cynllunio, y rheoliadau adeiladu, er mwyn sicrhau bod yr holl gartrefi yn y dyfodol yn bodloni'r safonau di-garbon heriol hyn, sef yr hyn y ceisiodd Gordon Brown ei gyflwyno yn ôl yn 2007 ond cawsant eu taflu allan gan Lywodraeth y DU yn 2015. Yn ddiweddar bûm mewn cyfarfod â Dŵr Cymru a ddywedodd wrthym nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud i gasglu dŵr llwyd ar gyfer ei ailddefnyddio hyd nes y bydd y rheoliadau adeiladu'n newid i sicrhau bod dŵr llwyd yn cael ei wahanu pan ddaw oddi ar y to a'r ffyrdd, fel nad yw'n mynd yn syth i'r môr. Felly, buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi amserlen inni ar gyfer pryd y gallwn ddiwygio'r rheoliadau adeiladu i fodloni'r dyheadau sydd angen inni eu cyflawni er lles ein hwyrion.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lee, am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y prosiect Ail-egnïo Cymru gan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae'r gwaith yn ystyried sut y gellid diwallu 100 y cant o'n galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a'r manteision y gallai hyn eu cynnig i Gymru. Rwy'n disgwyl canlyniadau eu hymchwil gyda diddordeb.
Y flwyddyn diwethaf gosodais darged uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Byddai cyflawni 100 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn heriol iawn a gallai ein gadael yn ddibynnol ar ein cymdogion i gadw'r goleuadau ynghynn yng Nghymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd adroddiad grymus iawn ar effeithiau cynhesu byd-eang. Tynnodd sylw at sut y byddai gyfyngu cynhesu i 1.5 gradd yn hytrach na 2 radd yn cynnig manteision lluosog o ran y cyflenwad bwyd a dŵr, iechyd dynol a'r amgylchedd. Er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r panel yn argymell fod angen inni gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu tua 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Câi hyn ei gefnogi gan ynni niwclear a thanwydd ffosil gyda dal a storio carbon. Mae'r panel yn datgan fod nwy yn debygol o gynhyrchu tua 80 y cant o'r trydan ledled y byd i ddarparu hyblygrwydd a diogelwch. Byddai cyfyngu ar allyriadau yn galw am ddal a storio carbon, ac nid yw'r dechnoleg hon wedi'i phrofi eto.
Yn eu hasesiad o'r seilwaith cenedlaethol, argymhellodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y dylai'r system ynni fod yn rhedeg ar 50 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy fan lleiaf erbyn 2030, fel rhan o'r trawsnewid i gymysgedd o ddulliau cynhyrchu hynod adnewyddadwy. Dangosodd modelau'r comisiwn fod darparu system drydan carbon isel erbyn 2050, wedi'i phweru'n bennaf gan ffynonellau adnewyddadwy, yn opsiwn cost isel.
Yng Nghymru, rydym eisoes yn gweithredu ar newid hinsawdd drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, lle rydym wedi deddfu i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo ein targedau allyriadau dros dro hyd at 2050 a'n dwy gyllideb garbon gyntaf yn ddiweddarach eleni. Mae ein ffocws yn awr ar y camau sydd angen inni eu cymryd i gyflawni yn erbyn ein targedau. Rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gyhoeddir ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Rwyf wedi mynegi pryderon wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â'u penderfyniad i hepgor technolegau ynni'r haul a gwynt ar y tir o gontractau gwahaniaeth, y bwriad i ddod â'r tariff cyflenwi trydan i ben, a'r diffyg cyllid i gefnogi technolegau'r tonnau a'r llanw. Mae'r mecanweithiau cymorth hyn wedi ysgogi nifer enfawr o bobl i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac wedi sicrhau gostyngiadau dramatig yn y gost. Mae angen i Lywodraeth y DU adolygu'r gyfundrefn gymorthdaliadau gyfredol fel ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd datblygiadau ynni'r haul a gwynt i gymysgedd ynni fforddiadwy.
Yng Nghymru, rydym yn gweithio i hybu a hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy ac mae effeithiau'r gwaith hwn i'w gweld. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn dynodi ei fod wedi codi ymhellach i 48 y cant yn 2017. Yr haf hwn, mynychodd Gweinidog yr Amgylchedd agoriad fferm wynt Gorllewin Coedwig Brechfa a lansiodd y gronfa buddsoddi cymunedol flynyddol sy'n werth £460,000. Mae ystâd coetiroedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal Pen y Cymoedd, sef y prosiect gwynt ar y tir mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â'r gwaith y mae ystâd y Goron, y cefais gyfarfod â hwy y bore yma, yn ei wneud ar lesoedd newydd posibl, maent hefyd wedi nodi'r potensial ar gyfer estyniad i fferm wynt ar y môr bresennol Gwynt y Môr.
Nid yw cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ei ben ei hun, fodd bynnag, yn gwneud dim i leihau ein hallyriadau carbon. Rhaid inni ddileu cynhyrchiant tanwydd ffosil er mwyn ddatgarboneiddio. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n cynhyrchu 19 y cant o'r capasiti trydan a gynhyrchir o nwy yn y DU. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llai na 6 y cant o gyfanswm trydan y DU. Roedd 82 y cant o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru y llynedd wedi'i gynhyrchu o lo a nwy. Rydym yn ystyried faint y dylai Cymru ei gynhyrchu o nwy yng Nghymru yn y dyfodol a'r dulliau sydd ar gael gennym i reoli hyn. Bydd penderfyniadau ar safleoedd niwclear yn y dyfodol yn cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU. Bydd Wylfa Newydd yn darparu ynni carbon isel llwyth sylfaenol gwerthfawr ar gyfer system y DU. Fodd bynnag, os yw Cymru i gynnal prosiectau ynni strategol o'r fath, rhaid iddynt ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru.
Mae symud tuag at ynni glân hefyd yn galw am weithredu er mwyn symud oddi wrth echdynnu tanwydd ffosil. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu er mwyn atal Cymru rhag cael ei chloi i mewn i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis methan gwely glo neu siâl.
Erbyn diwedd y flwyddyn hon, byddaf yn lansio diweddariad cynhwysfawr o 'Polisi Cynllunio Cymru'. I ateb cwestiwn Jenny Rathbone, byddaf yn llunio argraffiad diwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru cyn diwedd y tymor hwn. Fel y gwyddoch, rydym yn edrych ar adolygiad o'r rheoliadau adeiladu a fydd yn mynd i mewn i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Fel rhan o'r gwaith o adolygu polisi cynllunio Cymru, byddaf yn cryfhau'r polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol ar y tir. Bydd Polisi Cynllunio Cymru yn rhan allweddol o'n polisi cenedlaethol cryfach i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Rwyf am i awdurdodau cynllunio lleol weld adnoddau adnewyddadwy fel asedau gwerthfawr. Rydym wedi cyflwyno gofynion newydd i awdurdodau lleol nodi ardaloedd ar gyfer cynhyrchiant ynni'r haul a gwynt newydd ac i osod targedau lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol a'r cynllun morol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn darparu cyfle i ystyried y seilwaith sydd ei angen arnom i sicrhau economi wedi'i datgarboneiddio. Ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol, rydym yn gweithio i nodi adnoddau ynni'r haul a gwynt ar y tir yng Nghymru, effeithiau eu harneisio, a'r ardaloedd mwyaf priodol ar gyfer annog cynhyrchiant. Yn yr un modd, ar gyfer y cynllun morol, datblygir polisïau i harneisio ynni adnewyddadwy morol cynaliadwy. Fodd bynnag, o ystyried y trydan y mae Cymru eisoes yn ei allforio, rhaid i gynhyrchiant newydd ddarparu digon o fudd i gyfiawnhau ei gyflawni yng Nghymru.
Dengys ymchwil a gyflawnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Dyfodol Carbon Isel ar draws ystod o ddinas-ranbarthau byd-eang, y ceir allforio sylweddol o werth economaidd yn syml drwy dalu biliau ynni. Yn rhanbarthau'r DU a astudiwyd, roedd hyn rhwng 5.9 y cant a 18 y cant o'r gwerth ychwanegol gros a gâi ei allforio. Mae'r cynhyrchiant sy'n eiddo lleol yn darparu cyfle da i gadw arian yn yr economi leol, gan gyfrannu at ffyniant. Dyma pam y gosodais darged i sicrhau 1 GW o gynhyrchiant trydan sy'n eiddo lleol erbyn 2030 a disgwyliad i bob datblygiad newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol o 2020 ymlaen. Rhaid i'n safbwynt polisi ar ynni adnewyddadwy gyflawni'r diben o gadw budd yn lleol heb weithredu fel rhwystr i gynhyrchiant newydd. Daeth ein galwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol i ben yn y gwanwyn a byddaf yn cyhoeddi ein hymateb y mis nesaf.
Byddwn yn cefnogi cynlluniau ynni rhanbarthol drwy'r atlas ynni. Adnodd fydd hwn ar gyfer helpu awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau rôl ganolog i ddatgarboneiddio mewn cynlluniau ar gyfer dyfodol eu hardaloedd. Bydd angen i gynlluniau ynni rhanbarthol gynnwys trydan, gwres a datblygiadau yn y dyfodol, megis cynnydd yn y galw am bŵer cerbydau trydan. Mae cyflwyno cerbydau trydan yn galw am seilwaith, fel y nododd Lee Waters, ac rydym yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol a dau weithredwr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i gefnogi eu gwaith ar ddeall effeithiau ehangu'r seilwaith gwefru yng Nghymru.
Hefyd, mae angen inni ddeall mwy ynglŷn â sut y bydd system ynni glyfar a chydgysylltiedig yn gweithio'n ymarferol. Rydym yn ffodus fod gan Gymru y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol a Systemau Ynni Integredig Hyblyg—mentrau a ariennir gan yr UE sydd wedi dwyn arbenigedd ynghyd o'n prifysgolion i lywio datblygiadau arloesol mewn adeiladau ynni positif a byw yn glyfar. Rydym yn ategu hyn â'n gwaith ar yr arddangoswyr byw yn glyfar.
Rwyf wedi cynnig dadl, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer 20 Tachwedd, a hoffwn inni archwilio yn ystod y ddadl honno pa rôl y dylai Cymru ei chwarae ym marchnad ynni'r DU ac yn fyd-eang. Byddai'n ddefnyddiol inni archwilio'r lefelau cynhyrchiant y mae'r Aelodau'n credu y dylem fod yn anelu atynt. Mae hyn yn bwysig gan y bydd angen i ni arddangos arweinyddiaeth gref ar y cyd i gyflawni'r newidiadau hyn a sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer pobl Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:24.