Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding. 

Diogelwch Tân mewn Blociau Uchel

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru? OAQ52469

Ein blaenoriaeth gyntaf ar ôl trychineb Tŵr Grenfell fu sicrhau bod trigolion blociau uchel yn ddiogel. Rydym ni wedi darparu £3 miliwn i gael gwared ar gladin a gosod un newydd mewn tri bloc sector cymdeithasol a effeithiwyd, ac rydym ni'n gweithio gyda chwmnïau sector preifat i lunio eu cynlluniau i gwblhau'r gwaith hanfodol.

Prif Weinidog, wrth gwrs, rwy'n cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud yn y sector cymdeithasol, ac mae i'w groesawu'n fawr, ond y mis diwethaf, dywedodd prif gynghorydd tân Cymru efallai y bydd yn rhaid i breswylwyr mewn blociau uchel preifat fyw gyda chladin anniogel am flynyddoedd oherwydd dadlau dros pwy ddylai dalu amdano, ac mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau tymor byr i adeiladau sy'n eiddo preifat ar gyfer gwaith ailwampio tra bod y mater o atebolrwydd yn cael ei ddatrys. A ydych chi, Prif Weinidog, yn cytuno â mi mai'r flaenoriaeth i'r sector preifat ddylai fod cael gwared ar ddeunyddiau peryglus o'r adeiladau hyn ac y dylai'r mater yn ymwneud â chontractau atebolrwydd a chyfrifoldeb ddod yn ddiweddarach?

Materion i'r landlord yw strwythur yr adeilad a'r tu allan iddo fel rheol. O ran adeilad uchel, y cwmni rheoli sy'n gyfrifol o dan amgylchiadau arferol. Nhw sy'n gyfrifol. Nawr, ceir cwmnïau preifat ledled Cymru sy'n edrych ar yr adeiladau y maen nhw'n berchen arnynt ac sy'n cymryd camau i'w gwneud yn fwy diogel, ac mae hynny'n briodol. Nawr, byddwn yn annog y cwmnïau preifat hynny sy'n berchen ar adeiladau i wneud yn union hynny. Byddan nhw wedi gwneud swm sylweddol o arian o'r adeiladau hynny ar y cyfan. Mae'n gwbl briodol felly y dylen nhw gyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw'r adeiladau hynny a pheidio â disgwyl i breswylwyr neu denantiaid dalu.

Dim ond i ymhelaethu ar y pwynt hwnnw, nid wyf i'n gwbl argyhoeddedig ei fod mor rhwydd â dweud y dylai'r cwmni rheoli dalu, gan fod rhai o'r cwmnïau rheoli hyn wedi eu cyfansoddi yn y gorffennol o gymdeithasau preswylwyr, ac mae hynny'n golygu, trwy rinwedd trefn a chyfansoddiad y cyrff rheoli hynny, mai'r preswylwyr eu hunain yw'r rhai a fydd yn talu. Felly, er enghraifft, yn Prospect Place, mae gennych chi gymysgedd o bobl sydd ar fudd-daliadau, mae gennych chi gymysgedd o bobl broffesiynol a phobl oedrannus. Ni fydd rhai pobl yn gallu fforddio eu cyfraniad at y cladin hwnnw. Felly, unwaith eto, rwyf yn gofyn i chi: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'r sector preifat? Yn Llywodraeth y DU—nid wyf i'n un sydd yn eu canmol nhw yn aml iawn—maen nhw'n cynnal cyfarfodydd bwrdd crwn ar sail y DU gyfan gyda'r diwydiant, gan ddweud wrthyn nhw sut y gallent fynd i'r afael â'r mater hwn, ond nid wyf i'n gweld yr un math o weithredu brys yma o ran y cladin preifat yr wyf i wedi ei weld mewn mannau eraill.

Wel, na, mae hynny'n gwbl anghywir. Cafwyd cyfarfodydd â sefydliadau. Rydych chi'n iawn i ddweud bod rhai cwmnïau rheoli wedi eu cyfansoddi'n llwyr o breswylwyr mewn adeilad. Mae'n rhaid iddynt hwythau ystyried yr atebolrwydd hefyd o dan yr amgylchiadau hynny. Mae'n fantais i'r rhai hynny sy'n byw yn yr adeilad gan eu bod nhw'n teimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros ran cymunedol yr adeilad, ond ceir anfanteision, yn enwedig pan ddaw i atebolrwydd.

Byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda sefydliadau preswylwyr. Gallaf ddweud bod y Gweinidog eisoes wedi cael cyfarfod adeiladol gyda chynrychiolwyr y cwmni rheoli preswylwyr, y datblygwr ac asiantau rheoli nifer o'r adeiladau yr ydym ni'n sôn amdanynt. Byddwn yn parhau i gynnal y cyfarfodydd hynny i weld pa gymorth y gellid ei ddarparu lle ceir anhawster gwirioneddol cyn belled ag y mae rhai preswylwyr yn y cwestiwn er mwyn gwneud adeiladau yn fwy diogel.

Adroddiad 'Cadernid Meddwl'

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'? 

Cyhoeddwyd ein hymateb ar 27 Mehefin. Mae yn cydnabod, yr adroddiad gwreiddiol, y cynnydd a wnaed, ond nid oes unrhyw amheuaeth bod mwy y mae angen ei wneud i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn archwilio'n ofalus iawn yr argymhellion hynny yr ydym ni wedi eu derbyn mewn egwyddor ac yn edrych yn ofalus iawn ar beth arall y gallem ni ei wneud er mwyn rhoi sicrwydd i'r pwyllgor a'r adroddiad y mae wedi ei lunio.

Prif Weinidog, mae aelodau pwyllgor o bob plaid, llawer o weithwyr addysg ac iechyd proffesiynol, yn ogystal â phlant ysgol, wedi gweithio'n galed dros fisoedd lawer i lunio'r adroddiad hwn, 'Cadernid meddwl'. Cyfarfu ein Cadeirydd gyda chi yn bersonol wedyn i ofyn i chi arwain ymateb traws-Lywodraeth, gan ein bod ni angen i'r Ysgrifennydd iechyd ymgysylltu â'n gwaith gymaint â'r ysgrifennydd Addysg. Prif Weinidog, beth sydd gennych chi i'w ddweud wrth bawb a helpodd gyda'n hadroddiad nawr eu bod nhw'n gweld nad ydych chi wedi derbyn dim ond saith o'r 28 argymhelliad a wnaed, a bod wyth wedi eu gwrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol, tra dywedwyd bod 13—ac mae llawer yn gresynu defnydd cynyddol Llywodraeth Cymru o'r ymadrodd ochr-gamu hwn—wedi eu derbyn mewn egwyddor yn unig?

Wel, fy nealltwriaeth i yw bod yr adroddiad yn gwneud un argymhelliad allweddol a 27 o argymhellion ar wahân. Rydym ni wedi derbyn yn llawn neu'n rhannol 23 o'r argymhellion hynny. Mae'n bwysig, pan fo argymhellion yn cael eu derbyn mewn egwyddor, ein bod ni'n edrych yn ofalus iawn ac o ddifrif ar sut i weithredu neu fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny, a byddwn yn gwneud hynny gan ein bod ni'n ymwybodol, wrth gwrs, fod iechyd meddwl yn un o'r meysydd o flaenoriaeth allweddol i ni, a nodwyd yn 'Ffyniant i Bawb'.

13:35

Prif Weinidog, rydych chi'n gwbl ymwybodol o fy mhryder mawr ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid meddwl'. Nawr, nid wyf i eisiau achub y blaen ar y ddadl yn y pwyllgor yfory, gan na fyddai'n bosibl gwneud cyfiawnder â'r mater hwn mewn cwestiwn, ond a gaf i ofyn i chi roi eich sicrwydd i mi y gwnewch chi ystyried yn ofalus iawn yr hyn sy'n digwydd yn y ddadl honno yfory, gyda'r nod o sicrhau ein bod ni wir yn cael y newid sylweddol sydd mor daer ei angen arnom ni ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc?

Cewch. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i'm ffrind a'm cyd-Aelod. Gwn fod hwn yn fater y mae wedi rhoi llawer iawn o ymroddiad iddo, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr mai ymateb y Llywodraeth yn y tymor hwy yw'r math o ymateb y byddai hi, ac aelodau eraill y pwyllgor, eisiau ei weld. Bydd dadl lawnach yfory, wrth gwrs, a gellir ystyried y materion hyn yn fwy manwl bryd hynny.

Rydw innau hefyd eisiau cofrestru fy siom, a dweud y gwir, ar ymateb cwbl lipa'r Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad yma. Yn amlwg, i fi, nid yw'r Llywodraeth yn rhannu'r un uchelgais ag aelodau'r pwyllgor o safbwynt y newid trawsnewidiol sydd ei angen yn y maes yma, yn enwedig wrth edrych ar y trajectory o ran y cynnydd yn y broblem rydym ni'n ei weld. Mae'n rhaid i ni gwrdd â'r her yna gyda llawer mwy o frwdfrydedd na derbyn mewn egwyddor, sydd, i fi, yn god, yn aml iawn, am fusnes fel arfer.

Nawr, mae cael mwy nag un Ysgrifennydd Cabinet neu mwy nag un Gweinidog yn gyfrifol am rai meysydd weithiau'n gallu bod yn gryfder, ond i fi, yn yr achos yma, mae'n amlwg yn wendid, oherwydd nid oes dim un person yn cymryd gafael, yn cymryd perchnogaeth o'r gwelliannau ac yn gyrru'r newidiadau yna drwyddo. Felly, a gaf i ofyn a wnewch chi, fel Prif Weinidog, oherwydd natur y modd y mae'r pwyllgor yn teimlo bod yn rhaid i hyn nawr fod yn flaenoriaeth genedlaethol, gymryd y rôl yna?

Wel, os oes eisiau gwneud hynny, fe wnaf i hynny, wrth gwrs, yn enwedig gyda CAMHS. Fel rhywun sydd â phrofiad agos gyda CAMHS, a gwybod am a gweld rhai o'r problemau mae rhai pobl wedi cael ynglŷn â'u plant yn enwedig, mae hyn yn rhywbeth rydw i'n moyn sicrhau sy'n cael ei yrru ymlaen. A gaf i ddweud hyn wrth Aelodau: fe fyddaf i'n cymryd ystyriaeth, wrth gwrs, o'r ddadl fory ac, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn ymateb fory, a hefyd ar ôl fory, er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cryfhau'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r wythnos hon yn dathlu deng mlynedd a thrigain ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y gwnewch ichi ymuno â mi i ddathlu'r gwasanaeth a gwaith diflino gweithwyr iechyd proffesiynol, sydd, dros y blynyddoedd, wedi parhau i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion ledled y DU. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r garreg filltir bwysig hon, a oes gennych chi gywilydd o fod yr unig arweinydd o wlad yn y DU erioed sydd wedi torri cyllideb y GIG?

A gaf i yn gyntaf dalu gair o deyrnged unwaith eto i ragflaenydd yr Aelod, y gwnes i groesi cleddyfau ag ef am saith mlynedd, rwy'n credu, yn y Siambr hon? Aeth yr amser yn gyflym iawn, rwy'n amau, ond a gaf i ddymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol hefyd, a chroesawu'r Aelod dros Preseli Sir Benfro yn ôl i'r swydd yr oedd ynddi yn ôl yn 2011 am gyfnod byr o amser?

A gaf i ei sicrhau ein bod ni'n falch iawn o'r hanes sydd gennym ni o ran y GIG? Ni yw'r blaid a sefydlodd y GIG. Rydym ni'n gwario mwy y pen ar iechyd nag y mae Lloegr. Rydym ni'n gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol o lawer iawn nag y mae Lloegr. Ac os yw'n awgrymu i mi rywsut bod pethau'n well o dan ei Lywodraeth ef yn Llundain, hoffwn ailadrodd yn syml iddo arwydd a welais, a gafodd effaith arnaf i, yn Nhredegar ddydd Sul, a dyma fe: 'Mae gennym ni gerflun i Aneurin Bevan; ni fydd gennym ni fyth gerflun i Jeremy Hunt.'

Wel, wrth gwrs, dyma ni eto—y Prif Weinidog, eisiau siarad am Loegr. Nid yw eisiau siarad am Gymru. Chi yw Prif Weinidog Cymru. Nawr, wrth gwrs, efallai nad yw'r Prif Weinidog sydd ar fin gadael eisiau siarad am ariannu'r GIG yng Nghymru, ond o leiaf mae'r Prif Weinidog newydd yn dechrau derbyn camgymeriadau ei blaid yn y gorffennol. Dim ond yr wythnos diwethaf, yng nghynhadledd CLlLC yn Llandudno, fe'i gwnaed yn eglur gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gamgymeriad torri'r gyllideb iechyd yn 2011, pan ddywedodd—a dyfynnaf:

Ni wnaeth y setliad cyllideb arian gwastad weithio.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?

13:40

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi rhoi adnoddau enfawr i mewn i'r gwasanaeth iechyd ers blynyddoedd lawer iawn erbyn hyn. Mae'n gwbl briodol i ni dynnu sylw at yr hyn y byddai ef—ei blaid—yn ei wneud pe bydden nhw mewn Llywodraeth yng Nghymru, gan ein bod ni wedi gweld yr enghraifft o'r hyn y maen nhw wedi ei wneud yn Lloegr: blaenoriaethu torfol, loteri cod post—[Torri ar draws.] Ie, gwn ei fod yn brifo, ond mae'n rhaid i chi wrando. Loteri cod post o driniaeth, blaenoriaethu, toriadau i wariant iechyd mewn termau real, peidio â gwario gymaint ar iechyd ag yr ydym ni yng Nghymru, toriadau anferth i wasanaethau cymdeithasol. Pe bydden nhw'n siarad â'u cydweithwyr—eu cydweithwyr yn eu plaid eu hunain—mewn llywodraeth leol yn Lloegr, byddwn yn gweld ganddyn nhw, ac yn clywed ganddyn nhw, effaith ddinistriol toriadau ei blaid ef yn Lloegr a diolch byth—diolch byth—rydym ni wedi gallu eu hatal yng Nghymru. Un peth yr wyf i'n ei gofio: rydym ni, dros yr wyth mlynedd diwethaf a mwy yn y Siambr hon, wedi gorfod dioddef effeithiau cyni cyllidol a orfodwyd ar bobl Cymru gan ei blaid ef ei hun. Byddwn yn derbyn ei feirniadaeth yn fwy ffafriol efallai pe byddai'n sefyll ar ei draed heddiw ac yn mynnu bod ei Brif Weinidog ei hun a'r hyn sy'n weddill o'i Llywodraeth yn rhoi terfyn ar gyni cyllidol yn y DU.

Wel, nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw bregethau ar wariant gan y Prif Weinidog nac, yn wir, y Blaid Lafur. Y Blaid Lafur a adawodd ddiffyg o £150 biliwn yn ôl yn 2010—[Torri ar draws.]—ac rydym ni i gyd yn cofio—[Torri ar draws.] Rydym ni i gyd yn cofio cyn-brif Ysgrifennydd y Trysorlys Llafur, Liam Byrne, a ddywedodd nad oedd unrhyw arian ar ôl. Bu'n rhaid i'r blaid hon glirio'r llanastr hwnnw. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—

Rwy'n credu bod angen i ni i gyd ymdawelu ychydig a gwrando ar Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae effeithiau'r toriadau yn ôl yn 2011 yn dal i gael eu teimlo gan gymunedau ledled Cymru heddiw. Mae atal cyllid GIG hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig, canoli ac israddio gwasanaethau ac ysbytai fel Llwynhelyg yn y gorllewin, yn fy etholaeth i, byrddau iechyd mewn trafferthion ac, mewn rhai achosion, ddim yn gallu mantoli eu cyllidebau. Mae cyfraddau boddhad gydag amseroedd aros wedi gostwng, yn ôl arolwg eich Llywodraeth eich hun, ac mae miloedd o bobl ledled Cymru yn dal i gael trafferth i gael gweld eu meddygon teulu. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi addo hwb ariannol o £1.2 biliwn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn—[Torri ar draws.]—dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bob blwyddyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. A wnewch chi ymrwymo nawr i wario pob ceiniog o'r cyllid hwnnw ar y GIG yng Nghymru a rhoi'r anrheg pen-blwydd y mae'n ei haeddu gymaint i wasanaeth iechyd Cymru?

Wel, mae'n fwy bywiog nag yr wyf i wedi ei weld ef yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf yn y Siambr hon. Nid oes angen iddo gael clyweliad ar gyfer y swydd; does neb arall ei heisiau hi, yn y pen draw. [Chwerthin.] Ond gadewch i mi ddweud hyn wrtho: unwaith eto, mae eisiau osgoi'r cyni cyllidol y mae ei blaid ei hun wedi ei orfodi ar bobl Prydain. Oherwydd cyni cyllidol y ydym ni'n canfod ein hunain yn y sefyllfa lle byddem ni'n dymuno gwario mwy o arian, mwy o adnoddau ym maes iechyd a meysydd eraill ond nad ydym yn gallu gwneud hynny. Unwaith eto, ar ôl cael y gwahoddiad heddiw i sefyll ar ei draed a galw am derfyn ar gyni cyllidol, mae wedi methu. Ni allaf ddweud 'unwaith eto' oherwydd dyma'r tro cyntaf y mae wedi ei wneud, ond mae wedi siomi pobl Cymru o ran yr hyn y mae wedi ei wneud.

Unwaith eto, mae'n lledaenu'r chwedl hon—mae'n lledaenu'r chwedl hon am swm canlyniadol o £1.2 biliwn. Nid yw hynny'n wir. Gadewch i mi esbonio pam nad yw'n wir. Yr hyn a fydd yn digwydd yw, bydd y swm canlyniadol yn dod, ac yna bydd toriadau mewn meysydd eraill. Ni fydd £1.2 biliwn. Bydd yn llawer llai na hynny. Rydym ni'n gwybod hynny gan mai dyna sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ganfod yw efallai'n wir y bydd swm canlyniadol, ond bydd yn llai o lawer nag £1.2 biliwn, gan fod ei blaid yn mynd i wneud yn siŵr o hynny. Mae ei blaid yn mynd i wneud yn siŵr y bydd yn gwneud toriadau mewn llywodraeth leol, bydd yn gwneud toriadau mewn meysydd datganoledig eraill, a bydd yn trosglwyddo'r toriadau hynny i ni ac yn gostwng y ffigur hwnnw o £1.2 biliwn i lawr i rywbeth llawer, llawer llai. Felly, gadewch i ni weld, os yw ef eisiau bod yn arweinydd ei blaid, pa un a wnaiff ef ddweud heddiw y bydd yn mynnu wrth ei blaid yn Llundain y dylem ni gael £1.2 biliwn llawn a mwy, yn union fel y rhoddasant £1 biliwn i wyth o Aelodau Seneddol o blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Diolch, Llywydd. Er bod y GIG yn ddeg a thrigain oed, mae'n dal i fod y peth gorau a ddyfeisiwyd gan Gymru, ac i'r staff, wrth gwrs, y mae arnom ni'r diolch mwyaf. Felly, rwy'n sicr fy mod i'n siarad ar ran pawb yma pan ddywedaf 'diolch o galon i chi i gyd' ar ran bob un ohonom ni.

Nawr, mae poblogaeth Cymru sy'n heneiddio yn golygu nad yw gwasanaethau gofal yn gallu ymdopi â'r pwysau sydd arnyn nhw, sy'n arwain at filoedd o atgyfeiriadau diangen i'r GIG. Mae yn eich rhodd, Prif Weinidog, i greu'r gwasanaeth gofal gwladol y mae Plaid Cymru wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser bellach, i leddfu'r pwysau hynny. A wnewch chi hynny?

13:45

Wel, nid yw'n eglur beth fyddai gwasanaeth gofal gwladol yn ei wneud. Mae'n iawn i ddweud bod gwaith i'w wneud o hyd i gyfochri ymhellach gwaith gwasanaethau cymdeithasol gydag iechyd. Rydym ni'n gwybod na ellir ysgaru'r ddau. Mae'r ddau yn sicr yn rhedeg law yn llaw. A dyna'r ydym ni'n ei wneud, gweithio gyda'n cydweithwyr llywodraeth leol, i wneud yn siŵr bod llai o bobl sy'n cael eu hoedi yn yr ysbyty—rydym ni'n gweld nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng—a hefyd, wrth gwrs, yn gweithio gyda darparwyr gofal sylfaenol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl er mwyn iddynt allu osgoi mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.

Nid yw'n digwydd yn ddigon cyflym, Prif Weinidog, a dyna pam yr ydym ni wedi argymell y gwasanaeth gofal gwladol hwn. Mae angen newidiadau beiddgar i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i adlewyrchu'r ddemograffeg newidiol yn y wlad hon. Arweiniodd gweledigaeth feiddgar Bevan at greu'r GIG, ac mae angen gweledigaeth feiddgar debyg nawr ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol. Gallwn ni i gyd gytuno bod y GIG yn sefydliad o Gymru sy'n destun eiddigedd y byd, ond mae lle Cymru yn y byd yn ei roi o dan fygythiad. Yn wahanol i'r addewidion ar ochr y bws coch mawr enwog, mae perygl Brexit i'r GIG wedi dod yn gwbl amlwg yr wythnos hon. Cadarnhaodd prif swyddog gweithredol GIG Lloegr, Simon Stevens, bod cynllunio helaeth yn cael ei wneud ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni'n union pa waith cynllunio sydd wedi bod yn cael ei wneud yma yng Nghymru yn GIG Cymru ar gyfer sefyllfa Brexit 'dim cytundeb'?

Ni fydd unrhyw faint o gynllunio yn ein helpu ni i recriwtio meddygon mewn achos o Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n drychineb. A dweud y gwir, dywedwyd wrth bobl ddwy flynedd yn ôl na fyddai'n digwydd. Nawr, maen nhw'n cael eu paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' a fydd yn arwain at lawer o bethau, ac mae hi'n iawn i dynnu sylw at hyn. Yr hyn y byddai'n ei olygu yw y byddai'n llawer mwy anodd denu meddygon a nyrsys i'n system iechyd. Mae pob un gwasanaeth iechyd yn y byd gorllewinol yn dibynnu ar staff meddygol o wledydd eraill, gan eu bod nhw eisiau gallu denu'r gorau, o ble bynnag y maen nhw'n dod. Y neges sy'n cael ei anfon allan gan Brydain ar hyn o bryd yw: nid oes croeso i feddygon a nyrsys o wledydd eraill yma; nad dyma'r wlad i ddod iddi, rywsut; mae'n ormod o drafferth i ddod iddi; mae gormod o fiwrocratiaeth yn y dyfodol. Nid dyna yr ydym ni ei eisiau. Ni ellir cynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', oherwydd os na allwn ni ddenu meddygon a nyrsys o wledydd eraill, ni fyddwn yn denu'r niferoedd sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. Dyna pam yr ydym ni'n parhau i ymladd, fel y mae hithau, dros Brexit sy'n synhwyrol ac sy'n gwneud yn siŵr nad yw pobl Cymru yn dioddef.

Rwy'n bryderus iawn nad oes gennych chi gynllun wrth gefn ar gyfer Brexit 'dim cytundeb', Prif Weinidog. Maen nhw'n cynllunio ar gyfer hyn yn Lloegr. Dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer hyn yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n gwybod bod y ddau ohonom ni eisiau gweld ein GIG yn dod trwy waethaf storm Brexit. Rydych chi mewn sefyllfa i wneud rhywbeth yn ei gylch, fodd bynnag. Nid oes gen i unrhyw ffydd yn San Steffan i sicrhau llaw gadarn ar y llyw. Mae angen cynllunio ar gyfer dim cytundeb, ac mae angen i'r cynllunio hwnnw ddechrau nawr, er lles cleifion ac ar gyfer staff.

Mae un o'r pethau mwyaf syfrdanol a ddatgelwyd yn ymwneud â'n mynediad at feddyginiaethau, ar ôl Brexit. Caiff 37 miliwn o becynnau meddyginiaethau i gleifion eu mewnforio i'r DU o'r UE bob un mis. Nawr, mewn sefyllfa 'dim cytundeb', nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch yr un o'r pecynnau hynny. Nid yw rheoleiddio meddyginiaethau yn fater datganoledig, ac mae GIG Lloegr wedi cadarnhau eu bod nhw'n paratoi i bentyrru meddyginiaethau a gynhyrchir y tu allan i'r DU ar gyfer cleifion yn Lloegr. Dyna mae cynllunio yn ei wneud.

Prif Weinidog, a oes cynlluniau wrth gefn penodol i Gymru, neu a ydych chi'n mynd i'w gadael i'r adran iechyd yn Whitehall sicrhau y gall cleifion Cymru gael gafael ar y triniaethau sydd eu hangen arnynt ar ôl Brexit?

Byddwn, byddwn yn gwneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn darparu ar gyfer y sefyllfa honno, ond gadewch i ni beidio ag esgus yma bod dim o hyn yn dda. Mae hi'n gwneud y pwynt bod cynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o amgylch mewn cylchoedd yn sgrechian. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl ar ei gyfer. Gadewch i ni edrych, er enghraifft, ar y porthladdoedd. Ble mae'r cynlluniau i gyflwyno'r strwythur yn y porthladdoedd i ymdrin ag archwiliadau tollau ychwanegol, rheolaethau ffin ychwanegol o bosibl, ciwiau o lorïau a fyddai'n cael eu creu o ganlyniad, a'r parcio a fyddai'n cael ei greu o ganlyniad i hynny? Dim byd. Nid oes unrhyw gynllunio ar ei gyfer. Y rheswm pam nad oes unrhyw gynllunio wedi ei wneud ar Brexit 'dim cytundeb' yn Whitehall yw oherwydd eu bod nhw wedi argyhoeddi eu hunain y byddai'r UE yn ildio ac felly y byddai cytundeb. Byddai'n fethiant llwyr ar ran y Brexiteers pe bydden nhw, ar ôl addo i bobl Prydain yn 2016 y byddai cytundeb y byddai'r UE yn cytuno iddo, yn torri'r addewid hwnnw wedyn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Byddai ganddyn nhw waith esbonio i'w wneud i bobl Prydain.

13:50

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd fy holl ranbarth a'i gymunedau ochenaid o ryddhad pan dorrodd y newyddion am y fargen yn cael ei tharo rhwng Tata a ThyssenKrupp. Daeth â blynyddoedd o ansicrwydd i weithwyr ym Mhort Talbot a Glannau Dyfrdwy i ben. Felly, bydd gwaith Port Talbot yn cael trwsio un o'i ffwrneisi chwyth, gan helpu i sicrhau swyddi'r miloedd o weithwyr tan 2026. Fodd bynnag, nodaf o'r cyhoeddiad mai dim ond uchelgais i osgoi diswyddiadau gorfodol tan hynny sydd gan y cwmni. Felly, mae'n amlwg bod y sector yn dal i fod angen cymorth sylweddol os yw'n mynd i lwyddo. Prif Weinidog, pa gymorth ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w gynnig i'r sector dur yng Nghymru yn gyffredinol, ac i waith Port Talbot yn benodol?

Y pecyn gwerth £60 miliwn yr ydym ni eisoes wedi cyfeirio ato yn y Siambr hon a'r tu allan. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig dim. Ni fu unrhyw ddiddordeb o gwbl gan Lywodraeth y DU yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd diddordeb—pan oedd David Cameron yno, roedd diddordeb, ac rwy'n cydnabod hynny. Ers hynny, dim byd.

Rwyf i yn croesawu'r cytundeb, fodd bynnag. Mae'r undebau wedi ei groesawu hefyd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod gennym ni'r sicrwydd o ddim diswyddiadau gorfodol tan 2026. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, yr addewidion ynghylch ffwrnais chwyth rhif 5. Ddwy flynedd yn ôl, roedd pethau yn llwm dros ben. Roedd marc cwestiwn gwirioneddol ynghylch pa un a allai pen trwm Port Talbot barhau yn y dyfodol. Roedd y gwaith ar werth. Rydym ni wedi dod ymhell iawn ers hynny. Mae rhan o hynny oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth—yr arian yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd, y trafodaethau a gynhaliwyd, yr ymgysylltu yr ydym ni wedi ei gael gyda Tata. Ac yn y ddwy flynedd ers 2016, pan oedd pethau'n edrych yn anodd dros ben, mae gennym ni erbyn hyn—gadewch i ni beidio ag esgus bod pethau allan o berygl eto, ond mae gennym ni ein diwydiant dur mewn sefyllfa gryfach o lawer erbyn hyn nag yr oedd bryd hynny.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn wir, mae gan Lywodraeth y DU lawer mwy i'w wneud ar gyfer y sector hwn. Ceir strategaeth i ddefnyddio 3 miliwn tunnell o ddur yn y pum mlynedd nesaf ar brosiectau seilwaith fel HS2, Hinkley C ac uwchraddio traffyrdd y DU, ond nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, oherwydd dylai pob un prosiect seilwaith fod yn defnyddio dur y DU, a dylai pob prosiect amddiffyn fod yn defnyddio dur Cymru a'r DU. A dylai pob prosiect sy'n cael ei ariannu a'i gefnogi yn gyhoeddus fod yn defnyddio dur y DU hefyd. Felly, a yw eich Llywodraeth chi wedi awgrymu hyn yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU? Ni allwn fforddio colli ein diwydiant dur oherwydd diffyg gweledigaeth polisi'r Llywodraeth. Mae o bwysigrwydd strategol i'n cenedl ein bod ni'n cynnal gwaith cynhyrchu dur yma yn y DU, sy'n golygu yma yng Nghymru. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn ystyried ffyrdd eraill o gefnogi'r sector yng Nghymru, gan edrych ar forlyn llanw ym Mhort Talbot efallai, a fydd yn helpu i leihau costau ynni i'r gwaith?

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd mae'r diwydiant dur, fel diwydiannau eraill, yn dibynnu ar farchnad allforio. Os byddwn ni'n dweud mewn gwirionedd wrth wledydd eraill, 'Dim ond dur o Brydain y caniateir iddo gael ei ddefnyddio ym Mhrydain', byddan nhw'n dweud,' 'Iawn—chewch chi ddim ymuno â'n marchnadoedd ni ychwaith.' Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod ein polisi caffael mor gryf ag y gall fod, cyn belled ag y mae defnyddio dur Cymru yn y cwestiwn. Mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n cynorthwyo'r diwydiant i gryfhau o ran allforio. Yn sicr, mae swm bach ond arwyddocaol o ddur yn cael ei allforio i'r Unol Daleithiau, lle mae'r tariffau bellach wedi ei gwneud hi nid yn anodd i ddur Cymru ar y cyfryw, ond yn fwy drud i'w prynwyr yn yr Unol Daleithiau. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn y fan yma o ddweud mai dim ond dur o Brydain sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau ym Mhrydain, gan y bydd gwledydd eraill yn cymryd yr un agwedd wedyn, ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â gwahanu ein hunain o'r farchnad allforio.

Diolch, Prif Weinidog. Er bod y diwydiant dur o bwysigrwydd cenedlaethol a strategol, ni allwn anwybyddu'r effaith y mae'n ei gael ar ein hamgylchedd. A minnau'n byw yng nghysgod gwaith Port Talbot, rwy'n gweld yn feunyddiol yr effaith y mae'r gwaith dur yn ei chael ar yr amgylchedd, wrth i blu enfawr o fwg oren pigog gael eu rhyddhau i'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a haenau trwchus o lwch yn gorchuddio popeth o'n ceir i'n ffenestri. Felly, nid yw'n syndod bod Port Talbot wedi ei nodi yn un o'r trefi mwyaf llygredig yn y DU. Nid yw cynddrwg ag yr oedd ar un adeg, gan fod dyddiau'r glaw asid wedi mynd. Fodd bynnag, mae'r effaith ar iechyd pobl yn bresennol o hyd ac yn dal i fod yn fygythiad. Felly, Prif Weinidog, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i sicrhau nad yw'r buddsoddiad hwnnw yn y gwaith yn dod ar draul bywydau pobl?

Wel, rwy'n credu, er tegwch i Tata, maen nhw'n sicr wedi gwella'r sefyllfa o ran allyriadau dros flynyddoedd lawer, gan gynnwys ystyried, wrth gwrs, ailddefnyddio'r nwy sy'n cael ei losgi ar gyfer ynni yn y gwaith. Yn anochel, lle ceir gwaith dur, bydd hwnnw'n cael effaith ar ansawdd aer, ond yr hyn sy'n allweddol, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod yr effaith honno yn cael ei chadw cyn lleied â phosibl dros y blynyddoedd.

Mae gan Bort Talbot hefyd, wrth gwrs, ddarn o draffordd lle ceir llawer o dagfeydd sydd ymhell islaw'r safon a fyddai'n cael ei adeiladu y dyddiau hyn, ac mae'n broblem nad yw'n hawdd ei datrys, gan y byddai'n cymryd swm sylweddol o arian i ddatrys y mater o edrych ar ateb sy'n gwbl gysylltiedig â'r ffordd yn unig ym Mhort Talbot. Ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda Tata—ac mae Tata wedi bod yn gwneud hyn beth bynnag dros y blynyddoedd—fel bod y gwaith dur yn lleihau ei allyriadau, ac mae wedi gwneud hynny fel y mae'r Aelod wedi ei gydnabod, ac i barhau'r duedd honno yn y dyfodol.

13:55
Trafnidiaeth Gyhoeddus

3. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru? OAQ52472

Mae'r contract newydd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn cynnwys nifer o gynigion ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ym mhob rhanbarth o Gymru. Maen nhw'n cynnwys cynigion a fydd yn cyflymu darpariaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal â chyllid i ddatblygu metro de-orllewin Cymru hefyd.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llawer o gymoedd nad ydyn nhw'n mynd i gael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru, gan gynnwys cwm Afan. Rwyf i wedi cael deiseb gan drigolion yng nghwm Afan sy'n pryderu am wasanaethau bws yng nghwm Afan a'r gostyngiad i nifer y gwasanaethau. A dweud y gwir, mae gennym ni Abergwynfi a Blaengwynfi sy'n cael eu gwasanaethu bob dwy awr, a Glyncorrwg hefyd, ac ni allwch chi hyd yn oed gyrraedd Glyncorrwg ar y bws ar ôl 5.15 gyda'r hwyr. Nawr, mae hyn yn mynd i gael effaith ar fywydau gan fod hon yn ardal lle mae cyfran fawr o bobl nad ydynt yn berchen ar geir ac yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y cwm yn cael yr un driniaeth â'r ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu gan y metro fel y gall gael gwasanaethau a fydd yn darparu ar gyfer pobl yno—cyrraedd yr ysbyty, cyrraedd apwyntiadau, cyrraedd y gwasanaethau y maen nhw angen eu cyrraedd?

Wel, gallaf roi dau sicrwydd i'r Aelod. Yn gyntaf oll, rydym ni'n ystyried deddfwriaeth bosibl i ddechrau rheoleiddio gwasanaethau bws eto yng Nghymru, oherwydd fel yr wyf i wedi ei ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae llawer o Aelodau yn y Siambr sydd wedi cael cwynion am wasanaethau bws na allwn wneud dim amdanynt, gan y gall y cwmnïau preifat, ac eithrio'r gwasanaethau sy'n cael cymhorthdal, wneud fel y dymunant fwy neu lai. Cefais drafodaethau anfoddhaol gyda'r comisiynydd trafnidiaeth, flynyddoedd yn ôl, pan oedd y person hwnnw wedi ei leoli yn Birmingham, lle nad oedd llawer yn cael ei wneud. Felly, bydd gennym ni fwy o reolaeth, ac, yn amlwg, gallwn ystyried rhannu'r reolaeth honno gyda llywodraeth leol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Yn ail, i ailbwysleisio’r pwynt, nid yw'r metro yn ymwneud â cherbydau sy'n rhedeg ar reilffyrdd yn unig—os caf ei roi felly—mae'n ymwneud a bysiau hefyd. Ac mae'n golygu, os ydym ni'n mynd i gael system drafnidiaeth sydd wedi'i hintegreiddio'n iawn, bod y gwasanaethau bws yn cysylltu, er enghraifft, gyda gorsaf Parcffordd Port Talbot, a bod pobl yn gweld bod ganddyn nhw system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ddi-dor. Mae bysiau yn rhan fawr o hynny, a bydd bysiau yng nghwm Afan yn rhan o hynny hefyd.

Ers 2010, mae gwariant ar ddarpariaeth bysiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng gan 20 y cant ac mae nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig yng Nghymru yn parhau i ostwng. Mae hyn yn sicr yn cael effaith ledled Cymru gyfan, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, byddwn i'n awgrymu. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog: beth ydych chi'n ei wneud i ddatrys yr argyfwng hwn yng Nghymru? Ac a ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn y mae teithwyr yng Nghymru ei eisiau yw rhwydwaith bysiau, yn arbennig, glanach, mwy diogel a mwy dibynadwy, sy'n cael ei werthfawrogi a'i ariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru?

Chi wnaeth breifateiddio'r bysiau. [Torri ar draws.] Wel, nid ef yn bersonol, ond ei blaid ef, gan ddweud y byddai'n ardderchog ac y byddai cystadleuaeth. Ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, monopoli preifat yw'r rhan fwyaf o'r hyn sydd gennym ni nawr, ac sy'n golygu, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw gystadleuaeth o gwbl.

Yn ail, mae'n rhaid i mi dynnu ei sylw at hyn, pan ddaw i addewidion ynghylch trafnidiaeth, mae gan ei blaid ei hun hanes gwael. Ble, er enghraifft, mae'r trydaneiddio i Abertawe a addawyd gan un Prif Weinidog Ceidwadol ac yna aeth Prif Weinidog Ceidwadol arall yn ôl ar yr addewid hwnnw?

Mae ef hefyd yn methu, unwaith eto, â nodi effaith cyni cyllidol fel pe byddem ni, ers 2010, wedi cael llwyth o arian wedi ei ddarparu i ni bob blwyddyn i'w wario fel y dymunwn ac felly ein bod ni'n nofio mewn arian. Nid ydym ni. Mae ei blaid ef wedi gwneud yn siŵr bod gwariant cyhoeddus wedi ei dorri ar draws y DU gyfan. Ond er gwaethaf yr heriau hynny, rydym ni wedi cynnal dyraniadau grant cymorth gwasanaethau bws i awdurdodau lleol, o £25 miliwn y flwyddyn. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu pa wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol i'w cynorthwyo gan ddefnyddio'r grant hwnnw. Felly, os oes gwasanaeth a ddylai gael cymhorthdal, yna'r lle cyntaf i'r Aelod holi yw ei awdurdod lleol ei hun.

Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi y bydd yr ysbyty gofal critigol mawr newydd, y Grange, ger Cwmbrân yn hygyrch drwy gludiant cyhoeddus o bob rhan o etholaeth Caerffili erbyn yr adeg y bydd yr ysbyty yn agor?

Ni fydd yn wasanaeth sy'n rhedeg ar y rheilffordd, os caf ei roi felly, ar reilffyrdd ysgafn neu reilffyrdd trwm, ond trwy fysiau. Bydd yn arbennig o bwysig—rydym ni'n deall pwysigrwydd hyn—bod yr ysbyty yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith bysiau effeithlon ac eang sy'n cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd ehangach lle bydd pobl angen hynny. Felly, ydy, mae trafnidiaeth gyhoeddus a hwylustod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hynod bwysig o gynllunio ar gyfer yr ysbyty.

14:00
Dyfodol Ynni’r Môr

4. Ar wnaiff y Prif Weinidog datganiad am ddyfodol ynni’r môr yng Nghymru? OAQ52467

Rydym ni’n cydnabod potensial ynni’r môr ar gyfer creu ynni carbon isel a darparu manteision economaidd a chymdeithasol i’n cymunedau arfordirol. Mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi helpu i gyflwyno cyfres o dechnolegau ynni’r môr ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio i wireddu’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r sector hwn.

Diolch i'r Prif Weinidog. Ar ôl siom yr wythnos diwethaf, roedd yn braf ymweld ag Ynys Môn gyda Rhun ap Iorwerth ddydd Gwener a gweld nifer o gynlluniau cyffrous yna yn ymwneud ag ynni'r môr—yn bennaf, Minesto, sydd newydd lansio eu dyfais ynni llanw yn yr harbwr yng Nghaergybi. Y cwestiwn sy'n codi yw: a yw'r £200 miliwn roeddech chi fel Llywodraeth wedi'i neilltuo i gefnogi un cynllun penodol ar gyfer y morlyn llanw ym mae Abertawe nawr ar gael ar gyfer rhychwant o ddatblygiadau ynni môr, megis yn Ynys Môn, neu ar gael ar gyfer cynllun newydd morlyn ym mae Abertawe? Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i arwain datblygiad yn y maes yma?

Mae'n wir i ddweud fod y swm o arian yna ddim yn swm a oedd wedi'i benodi'n uniongyrchol i Abertawe, er bod ei eisiau fe ar y pryd. Rydym ni yn ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni helpu technolegau ar draws Cymru, yn enwedig y morlyn yn y gogledd, er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth er mwyn cefnogi'r dechnoleg. Ond, mae'n rhaid inni ystyried ynglŷn â'r arian mawr, sef yr arian byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gallu dodi mewn i forlyn Abertawe, er enghraifft, fod hynny'n rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli. Ond, mae'n wir i ddweud ein bod ni'n dal i ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni gefnogi'r technolegau yn y pen draw.

Prif Weinidog, mae hyn yn eich rhoi mewn tipyn o penbleth, rwy'n credu, oherwydd clywsom wrth gwrs gynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer morlyn bae Abertawe newydd dros y penwythnos, ac er bod cwestiynau ynghylch hynny, yn amlwg, a pham na wnaethon nhw gyflwyno'r cynnig hwn ynghynt a pha un yw'r ffigurau’n gwneud synnwyr, cynigiwyd £200 miliwn gennych i gefnogi morlyn bae Abertawe ar sail ffigurau a oedd yn anymarferol yn y pen draw. Felly, pa ffigurau fyddech chi'n chwilio amdanynt i ddarbwyllo—[Torri ar draws.] Yr un ffigurau ag yr oedd gennych chi oedden nhw. Roedd gennym ni'r un ffigurau. Felly, pa ffigurau fyddai'n eich darbwyllo i ystyried cadw'r cynnig ar y bwrdd ar gyfer bae Abertawe?

Dylwn ymddiheuro i Paul Davies, mae ymgeisydd arall newydd ei herio. Mae'n ddrwg gen i am hynny. Gallwn weld y dystiolaeth yn y fan yna. [Chwerthin.]

Y gwir yw bod methiant morlyn llanw bae Abertawe yn nwylo Llywodraeth y DU yn gyfan gwbl. Mae hi'n sôn am y ffigurau; nid ydym ni'n derbyn y ffigurau. Cofiwch y dyfarnwyd bod y ffigurau hyn yn anymarferol gan yn union yr un bobl a gafodd y ffigurau ar gyfer Hinkley yn anghywir yn y lle cyntaf. Felly, pam y dylem ni ymddiried wedyn ym marn Llywodraeth y DU? Gadewch i ni gofio mai'r cwbl y gwnaethom ni ofyn amdano oedd yr un driniaeth â Hinkley. Dyna'r cwbl. Os yw hi'n dweud bod y ffigurau ar gyfer Hinkley yn anghywir, yna mae hynny'n rhywbeth i Lywodraeth y DU ei esbonio. Y cwbl yr oeddem ni ei eisiau oedd yr un chwarae teg i Gymru ag y cafodd Hinkley, a chawsom ein siomi unwaith eto.

Rhaglen Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OAQ52473

Byddaf yn gwneud fy natganiad blynyddol am y rhaglen ddeddfwriaethol cyn toriad yr haf.

Edrychwn ymlaen i gael hwnnw, felly. Ond, mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi datgan ei bod hi am wthio'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg yn eu blaen fel rhan o'r rhaglen honno. Prif fyrdwn y cynigion rheini ydy ysgogi newid cyfeiriad llwyr ym mholisi iaith y Llywodraeth, gwanio hawliau, sgrapio'r comisiynydd a mynd â ni nôl i fframwaith gyfreithiol Deddf fethiedig 1993. Pa dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi cynigion y Llywodraeth? A wnewch chi oedi cyn cyflwyno Bil newydd ar y Gymraeg er mwyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r achos dros Fil newydd? Onid ydy hi'n berffaith glir erbyn hyn mai cryfhau nid gwanio deddfwriaeth sydd ei angen yn sgil yr ymosodiad diweddaraf ar yr iaith Gymraeg gan Trago Mills?

Rwy'n rhannu'r anhapusrwydd ynglŷn â beth ddywedodd Trago Mills gyda hi, wrth gwrs—a phawb arall, rwy'n gobeithio, yn y Siambr hon. Nod y Bil yw cryfhau'r strwythur cyfreithiol ynglŷn â'r iaith Gymraeg, nid ei wanhau. Gyda'r system sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac yn enwedig gyda'r ddeddfwriaeth sydd gyda ni ar hyn o bryd, nid yw'n amlwg i fi fod y ddeddfwriaeth yn ddigon clir na bod y ddeddfwriaeth yn ddigon cryf er mwyn cael Bil Cymraeg yn y pen draw. Mae'n hollbwysig hefyd i ystyried pa fath o fframwaith deddfwriaethol a ddylai fod, ond hefyd ystyried ym mha ffordd y gallwn ni berswadio mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Er nad oeddwn yno, rwy'n clywed bod gŵyl Tafwyl wedi tynnu 40,000 o bobl mewn i Gaerdydd dros y penwythnos. Mae honno yn enghraifft dda i mi o'r ffordd y gallwch chi berswadio pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i gael agwedd dda tuag at y Gymraeg. Felly, mae'n bwysig i ystyried ym mha ffyrdd y gallwn ni gryfhau'r ddeddfwriaeth a'r gyfraith, ond hefyd mae'n hollbwysig i ystyried ffyrdd y gallwn ni helpu i berswadio pobl jest er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael sbri yn yr iaith Gymraeg.  

14:05

Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Mae bob amser yn braf cael cymeradwyaeth. [Chwerthin.]

Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am y sylwadau caredig iawn—maddeuwch i mi, Llywydd—a fynegwyd gennych chi yr wythnos diwethaf, a hefyd i'r Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi bod yn garedig iawn dros y diwrnod neu ddau diwethaf o ran y sylwadau y maen nhw wedi eu gwneud ar fy ymadawiad o'm swydd? Ond rwy'n sicr yn edrych ymlaen at herio'r Llywodraeth, ac mae gen i wahanol olygfa wrth eistedd yma nawr o feinciau cefn y Blaid Lafur; gallaf weld yr holl fainc gefn nawr.

Ond hoffwn eich holi am y rhaglen ddeddfwriaethol. Ymwelais ag elusen yng Ngogledd Caerdydd yn ddiweddar, Tomorrow's Generation, ac maen nhw'n arbenigo mewn darparu cymorth i blant sy'n dioddef â dyslecsia mewn addysg prif ffrwd. Gwnaed y pwynt ganddyn nhw bod y fframwaith deddfwriaethol sy'n rhoi hawliau i blant sy'n cael diagnosis o ddyslecsia yn gryfach o lawer mewn llawer o wledydd ledled Ewrop—Bwlgaria, y Weriniaeth Tsiec, yr Eidal, y Swistir ac yn Lloegr. A allwn i eich annog i gymryd golwg ar y fframwaith deddfwriaethol sydd ar gael yma yng Nghymru, ei gymharu ag enghreifftiau eraill yn Ewrop, ac os oes angen tynhau'r fframwaith deddfwriaethol hwnnw, bod y newidiadau hynny yn cael eu gwneud a bod y Llywodraeth yn cyflwyno'r cynigion? Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw'n wir; y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw cyfleu'r neges a roddwyd i mi gan yr elusen. Os nad yw'n wir, gwych, ond os oes angen gwneud newidiadau yna byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried.

Yn gyntaf oll, roedd y croeso a gafodd yn y fan yna gan ei feinciau ei hun yn sylweddol, ac mae'n dangos eu bod nhw hiraeth ar ei ôl yn barod, rwy'n amau, ond yn ail, mae'n codi pwynt pwysig. Os gwnaiff ef ganiatáu i mi edrych ar y mater hwn ac ysgrifennu ato gydag ateb o sylwedd, gall ef wedyn gyfleu'r ateb hwnnw i'r rhai sydd wedi mynegi eu pryderon.

Seilwaith

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ail-gydbwyso ei gwariant ar seilwaith? OAQ52466

Mae buddsoddi mewn seilwaith yn hanfodol i ffyniant y DU gyfan. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg.

Prif Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r seremoni ddirgel yr oeddech chi'n bresennol ynddi yr wythnos hon i ailenwi ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru, yn groes i ddymuniadau'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru na chafodd eu gwahodd hyd yn oed. [Torri ar draws.]

Bu'n rhaid gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ddatgelu pa mor awyddus oeddech chi i fynd i'r seremoni gyfrinachol, a pha mor agos yw eich perthynas ag Alun Cairns. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol, er i addewidion allweddol maniffesto'r Ceidwadwyr gael eu torri, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pan oeddech chi'n llowcio diodydd gyda Cairns a'r teulu brenhinol pa un a wnaethoch chi drafod yr adroddiad gan y pwyllgor trafnidiaeth yn San Steffan a amlygodd sut y mae Cymru yn cael ei gwthio o'r neilltu o ran gwariant seilwaith, gan ei gwneud yn eglur y bydd penderfyniadau bob amser yn ffafrio Llundain. Dangosodd yr adroddiad pa mor hurt oedd canslo prosiectau seilwaith sydd wir eu hangen yng Nghymru ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd biliynau o bunnoedd o wariant ar Lundain. Nawr, nid oes dim yn cael ei wneud gan Cairns. Tra bod arian yn cael ei daflu at de-ddwyrain Lloegr, toriadau sydd gennym ni yng Nghymru. [Torri ar draws.]

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dechrau codi cywilydd ar ein gwlad, yn ogystal â'n hatal rhag datblygu ein heconomi. [Torri ar draws.] Dyma'r cwestiwn. Gobeithio, y gellid deall hyn.

Sut gallech chi bleidleisio—? [Torri ar draws.] Cwestiwn syml iawn i'w ateb yr wythnos hon. Sut gallech chi bleidleisio yr wythnos diwethaf yn erbyn cynnig o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Mae'n syml iawn.

Mewn dau funud a phum eiliad, oherwydd edrychais i ar y cloc, llwyddodd yr Aelod i gymryd mater yr wyf i'n cytuno ag ef yn eithaf sylweddol, a'i gyflwyno mewn ffordd mor drwsgl iddo gythruddo bron pawb yn y Siambr. Dyna ei ddawn—rwy'n deall hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn ni bob amser yn ymladd i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad mewn seilwaith. Nid oes gennym ni gyfran deg ar hyn o bryd. Mae'n sôn am seremoni gyfrinachol, mor gyfrinachol, yn wir, nad oeddwn i hyd yn oed yno. [Chwerthin.] Ond, dyna ni, a bydd wedi gweld y sylw iddi ar y newyddion beth bynnag. Ond yn sicr, rwy'n rhannu ei awydd i wneud yn siŵr y cedwir yr addewidion a wnaed i Gymru yn y gorffennol, o ran trydaneiddio ac o ran, wrth gwrs, gweld mwy o arian ar gael ar gyfer y seilwaith sydd ei angen arnom ni yng Nghymru.

14:10

Roeddwn i ar fin gofyn i chi, Prif Weinidog, sut y gwnaethoch chi lwyddo i gael gwahoddiad i'r seremoni gyfrinachol hon na chefais i wahoddiad iddi ychwaith, ond rydych chi wedi cymryd y gwynt o'm hwyliau o ran yr un yna. [Chwerthin.]

A fyddech chi'n dweud bod y cwestiwn am y—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Ac mae gennym ni bob amser ffordd Alun Davies o Fryn-mawr i'r Fenni hefyd, onid oes? [Chwerthin.] Efallai pan fyddwch chi'n Brif Weinidog byddwn ni'n gweld hynny hefyd, Alun. [Chwerthin.]

Rwy'n dod i gwestiwn. Codwyd y cwestiwn am enw'r bont droeon, ond onid yw'n bwysicach, Prif Weinidog, bod y tollau ar y bont honno wedi cael eu gostwng ac yn mynd i gael eu ddiddymu yn ddiweddarach eleni? Beth bynnag fo'ch barn am enw'r bont—mae rhai o'i blaid, mae rhai yn erbyn—onid yw'n ffaith bod pobl bellach yn mynd i allu dod i Gymru a gadael Cymru, heb dalu'r hyn y mae llawer yn y Siambr hon wedi ei alw'n dreth ers cymaint o flynyddoedd? Mae hynny i'w groesawu. Mae hynny oherwydd Llywodraeth bresennol y DU.

Rwy'n croesawu cael gwared ar y tollau, ac mae'n hen bryd hefyd. Mae pobl wedi bod yn talu ers blynyddoedd lawer, lawer iawn, y tu hwnt i gost y bont mae'n debyg, oherwydd cafodd ei hadeiladu ym 1996. Felly, rhannaf ei longyfarchiad, os mai dyna'r gair, i Lywodraeth y DU ar ddiddymu'r tollau, ond mae wedi cymryd yn ddigon hir iddyn nhw wneud hynny. Hynny yw, roedd y gostyngiad i'r tollau yn llwyr oherwydd y ffaith nad oedd modd codi TAW arnyn nhw mwyach. Nid oedd yn rhyw fath o haelioni a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU o ran y tollau eu hunain. Ond, oes, mae cyfleoedd nawr, wrth gwrs, i ni oresgyn yr hyn sydd wedi bod yn rhwystr seicolegol i fuddsoddwyr sy'n edrych ar Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau gyda'n llwyddiant mawr yr ydym ni wedi ei gael gyda buddsoddiad uniongyrchol o dramor a gwella'r ffigurau hynny dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Y Sector Cydweithredol a Chydfuddiannol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector cydweithredol a chydfuddiannol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ52461

Mae'r adroddiad 'Mapio'r Sector Busnesau Cymdeithasol yng Nghymru' yn nodi bod y sector werth swm anhygoel o £2.37 biliwn i Gymru erbyn hyn ac yn darparu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i tua 100,000 o bobl. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno bod y sector yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymdeithas.

Diolch, Prif Weinidog, a byddwn i'n cytuno'n llwyr â hynny. Ymwelais yn ddiweddar â Chylch Meithrin Seren Fach yn Aberpennar yn fy etholaeth i, sy'n ddarparwr gofal plant cofrestredig. Fe'u cynorthwyir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac maen nhw wedi sicrhau canlyniadau gwirioneddol gadarnhaol yn eu harolygiadau Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar. Gan ein bod ni ym Mhythefnos y Mentrau Cydweithredol, a chan fod gwella gofal plant yn nod mor bwysig i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tymor hwn, sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r gwaith o sefydlu darparwyr gofal plant ar sail model cydweithredol, sy'n dod â chymaint o fanteision ychwanegol i economïau lleol yn ei sgil?

Gallaf ddechrau trwy ddweud bod Busnes Cymdeithasol Cymru wedi darparu, hyd yma, cymorth i helpu'r grŵp i ddatblygu cynllun busnes, polisi amgylchedd cynaliadwyedd, cod eco ac archwiliad iechyd cynaliadwyedd, ac rydym ni'n cyfeirio unrhyw unigolyn sy'n dymuno sefydlu model cydweithredol at Busnes Cymdeithasol Cymru, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu'r cymorth priodol sydd ei angen, trwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, ni a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i wneud yn siŵr bod prosiectau gwerth chweil fel hyn yn gallu ffynnu yn y dyfodol.

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog—? Nid sefydliadau fel y rhai a ddisgrifiwyd gan Vikki Howells yn unig, cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol, sy'n cefnogi addysg. Mae cyfoeth o elusennau hefyd yn ymwneud â rhoi cymorth i'n system addysg. Ceir Groundwork Gogledd Cymru, er enghraifft, sy'n darparu addysg i bobl ifanc ar faterion amgylcheddol. Mae gennych chi elusen Superkids Gogledd Cymru, sy'n gwneud gwaith gwych gyda phobl ar draws y gogledd, yn cwmpasu cymunedau o Gaergybi yr holl ffordd i lawr i Wrecsam, ac, wrth gwrs, Syniadau Mawr Cymru, sy'n annog menter yn ein hysgolion trwy gael pobl fusnes i mewn i'r ysgolion hynny er mwyn annog pobl ifanc i fod yn entrepreneuriaid. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi iddyn nhw er mwyn mabwysiadu'r math yna o ddull, fel y gall pobl ifanc gael y cyfleoedd efallai na fyddent wedi eu cael fel arall?

Dyfarnwyd cyllid craidd ar gyfer cymorth i fentrau cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon i Ganolfan Cydweithredol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru. Maen nhw'n cynorthwyo darpariaeth ein hamcanion i ddatblygu'r farchnad mentrau cymdeithasol ac yn darparu cymorth busnes arbenigol wedi'i deilwra i fentrau cymdeithasol. I'r rhai nad ydynt yn fentrau cymdeithasol, wrth gwrs, ceir meysydd eraill o gymorth sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, rydym ni'n darparu cyllid tuag at brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru sydd werth £11 miliwn ac a gefnogir gan ERDF.

Tlodi

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? OAQ52445

14:15

Rydym ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol trwy fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar a chynyddu ffyniant i bawb trwy ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a thwf economaidd.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae llawer o'm hetholwyr yn wynebu argyfwng ariannol yn ystod gwyliau'r haf, gan orfod dod o hyd i 10 o brydau ychwanegol fesul plentyn am chwe wythnos. Er bod Carolyn Harris AS yn darparu bwyd i rai plant am bythefnos o'r gwyliau, bydd angen sylweddol heb ei ddiwallu. Mae Faith in the Community wedi diwallu rhywfaint o'r angen hwnnw, ond mae cau Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi parhad cinio a brecwast mewn rhai o'n cymunedau tlotaf yn y fantol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i gost parhau brecwastau am ddim a phrydau ysgol am ddim i'r rheini sy'n gymwys yn ystod gwyliau haf yr ysgolion?

Wel, rydym ni wedi sicrhau bod grant o £500,000 y flwyddyn ar gael i CLlLC ers 2017 i gefnogi'r rhaglen Food and Fun—Bwyd a Hwyl. Cafodd ei redeg mewn 38 o ysgolion y llynedd, yn cwmpasu 12 awdurdod lleol a phob un o'r saith bwrdd iechyd lleol, gyda tua 1,500 o blant yn elwa ar y rhaglen. Rhagwelir y bydd rhaglen 2018 yn rhedeg mewn oddeutu 60 o ysgolion. Bydd yn cwmpasu 16 o awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, pob ardal BILl. Yr arwyddion yw y bydd amcangyfrif o 3,000 o ddysgwyr yn mynychu'r cynllun yr haf hwn.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiad cynhwysfawr a gyhoeddwyd ddoe gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, o'r enw 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'. Nid wyf i'n disgwyl ei fod wedi ei ddarllen i gyd dros nos, ond, ynddo, awgrymir dulliau arloesol ar gyfer trethi atchweliadol, yn enwedig y dreth gyngor. Ac, fel y gwyddom, mae pobl sy'n byw yn yr eiddo â'r gwerth isaf yn talu bron i 5 y cant o werth eu tŷ mewn treth gyngor tra bod pobl sy'n byw yn yr eiddo drutaf yn talu cyn lleied â 0.25 y cant. Ond mae'r adroddiad yn awgrymu'n hollbwysig y dylem ni fabwysiadu agwedd gyfannol at drethiant a pholisi cyllidol yn gyffredinol yn hytrach nag edrych ar drethi unigol ar wahân. Dywed yr adroddiad y dylid mynd ar drywydd diwygiadau treth mewn ffordd integredig. Er enghraifft, gallai agwedd fwy blaengar at y dreth gyngor fod yn gysylltiedig â newidiadau i'r gyfradd treth trafodiadau tir neu dreth incwm. A yw'r Prif Weinidog yn cefnogi'r agwedd honno?

Credaf fod llawer iawn o gyfleoedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i archwilio modelau o'r fath. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dwy dreth sydd wedi'u datganoli; bydd treth incwm yn dilyn yn fuan. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei bod hi'n bwysig ymsefydlu'r system, ond rwy'n credu bod cyfle i gael trafodaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac o fewn pleidiau gwleidyddol, i weld pa fath o system dreth y byddem ni'n hoffi ei chael yng Nghymru. Ceir manteision ac anfanteision gyda'r dreth gyngor, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod bod rhai pobl sy'n talu lefel uchel o dreth gyngor pan fo eu hincwm yn eithaf isel mewn gwirionedd. Rydym ni'n gwybod hefyd, wrth gwrs, gyda phethau fel treth incwm leol, bod y cwestiwn yn codi wedyn: a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n byw, neu a ydych chi'n talu lle'r ydych chi'n gweithio? Mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y pethau hyn, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n rhan o'r ddadl dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Diolch, Llywydd. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, canfu adroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2018' Sefydliad Joseph Rowntree bod cyfran yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi incwm yng Nghymru yn dal yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a bod tlodi ymhlith parau â phlant wedi bod yn cynyddu ers 2003-06. Yn y cyd-destun hwnnw, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Sefydliad Bevan nad yw'r polisïau'n gweithio os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi arnynt, ac na ddylai rhaglen trechu tlodi newydd gael ei chyfarwyddo o'r brig i lawr?

Rwyf i bob amser yn meddwl bod gwrando ar y Ceidwadwyr yn siarad am dlodi ychydig fel rhywun yn ceisio sefyll ar gwch olwyn heb syrthio i mewn i'r môr o gyni cyllidol sydd wedi casglu o'i amgylch. Y gwir amdani yw bod ei blaid ef wedi gwneud cymaint i leihau incwm ein pobl dlotaf. Sut gallwn ni orffwys fel cymdeithas pan ydym yn gwybod bod nyrsys yn Lloegr sy'n gorfod mynd i fanciau bwyd? Roeddem ni'n arfer dweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd'. Nid yw hynny'n wir mwyach. Rydym ni wedi gweld budd-daliadau mewn gwaith yn cael eu torri, rydym ni wedi gweld toriadau treth i'r rhai sy'n ennill fwyaf, ac wedyn mae gennym ni wleidyddion Ceidwadol yn meddwl tybed pam mae lefelau tlodi wedi cynyddu. Oes, wrth gwrs, mae gennym ni ein cynlluniau i fynd i'r afael â thlodi, ond mae angen newid Llywodraeth arnom ni yn Llundain fel bod gennym ni Lywodraeth sydd yn llawer mwy ymrwymedig i gymdeithas fwy cyfartal.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, o fusnes yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch, Llywydd. Ceir dau newid i agenda yfory: mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau Cynulliad llafar y Cwnsler Cyffredinol wedi ei leihau i 30 munud, a hefyd mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl UKIP tan fis Medi.

Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i docynnau teithio rhatach yng Nghymru? Yr wythnos hon, mae Trafnidiaeth Casnewydd yn cyflwyno newidiadau i wasanaethau bws yn y ddinas. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar wasanaethau bws 10A a 10C yn gyfan gwbl, a ddefnyddiwyd gan lawer o deithwyr oedrannus sy'n byw mewn ardaloedd tai â chymorth yng Nghasnewydd. Hysbyswyd un o'm hetholwyr gan Gyngor Dinas Casnewydd, a dyma'r dyfyniad: mae'r swm o arian y mae Casnewydd yn ei gael ar gyfer tocynnau rhatach hefyd wedi gostwng, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gymryd mwy mewn refeniw tocynnau gan y teithwyr—diwedd y dyfyniad. Fel y dywed fy etholwr, 'Os ydych chi'n byw mewn ardal lle ceir nifer fawr o bobl hŷn sy'n defnyddio tocynnau bws, rydych chi'n anlwcus gyda'ch gwasanaeth bws.' Diwedd y dyfyniad. A allem ni gael datganiad ar effaith y toriadau hyn ar wasanaethau bws yng Nghymru, yn enwedig ar symudedd a llesiant y teithwyr oedrannus sydd wedi gweld eu gwasanaethau'n cael eu torri a'u diddymu'n llwyr? Rwy'n credu, ddim yn bell yn ôl, eu bod nhw'n gofalu amdanom ni ac mae'n hen bryd i ni ofalu amdanyn nhw, yn enwedig yn y cyfnod hwn o oedran bregus a henaint. Diolch.

14:20

Wel, ydw, rwy'n cytuno â'r farn a fynegodd Mohammad Asghar ar ddiwedd ei gwestiwn yn y fan yna. Yn amlwg, dyna pam yr ydym ni'n rhoi teithiau rhatach ar fysiau i bobl hŷn, oherwydd ein bod ni'n cytuno bod angen iddynt gael gwell symudedd ac ati. Mater i'r awdurdod lleol yw'r cymhorthdal ac mae'r Prif Weinidog newydd ateb cwestiwn i'r perwyl hwnnw. Rwy'n credu mai'r peth gorau yw iddo fe ofyn i'r Gweinidog dros drafnidiaeth ynghylch y pwynt penodol iawn y mae'n ei godi am ei gyngor ei hun yn ystod cwestiynau llafar.

Mae eisoes trafodaeth wedi bod ynglŷn ag agwedd perchennog Trago Mills tuag at yr iaith Gymraeg, ac roedd y Prif Weinidog yn ateb Siân Gwenllian yn glir iawn nad yw e’n cytuno a’i fod yn anhapus iawn gyda sylwadau fel yna. Ond byddwn i’n gofyn am ddatganiad neu lythyr gan y Gweinidog dros yr iaith Gymraeg i Aelodau i esbonio sut y cododd y sefyllfa yma. Dyma fuddsoddiad a oedd yn cael ei weld a’i bortreadu fel buddsoddiad yn ardal Merthyr Tudful. Mae yna nifer yn gofyn nawr: a gafodd y cwmni yma gymorth o gwbl i fuddsoddi yn yr ardal? Ac, os cafodd e gymorth o gwbl gan y Llywodraeth neu gan y cyngor lleol, onid oedd parch tuag at dreftadaeth a’r iaith leol yn rhan o’r buddsoddiad yna?

Ymhellach—er i beidio ag ailadrodd y cwestiynau sydd eisoes wedi’u gofyn ynglŷn â statws cyfreithiol y Gymraeg—mae agwedd y cwmni yma tuag at leiafrifoedd eraill, os caf i ddweud, dros y blynyddoedd, hefyd wedi dod i’r amlwg: rhywbeth nid ydw i eisiau ailadrodd yn y Siambr yma, ynglŷn â phobl hoyw, er enghraifft. Os dyma’r pris rŷm ni’n gorfod ei dalu am fuddsoddiad, mae’n well inni gadw ein parch a dweud wrth y buddsoddwyr yma lle i fynd, o bosib. Ond, yn benodol, rydw i am ddeall gan y Llywodraeth beth oedd ymwneud y Llywodraeth â’r buddsoddiad yma ymlaen llaw ac a ydy’r Gweinidog, bellach, wedi cysylltu â Trago Mills ac yn gallu rhannu’r cysylltiad yna gyda ni? Rwy’n gwybod bod y comisiynydd iaith wedi gwneud, ond hoffwn i wybod beth mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn ei gylch.

Yr ail beth rydw i am godi gyda chi yw’r ffaith bod diffyg carbon deuocsid ar hyn o bryd. Mae wedi, wrth gwrs, cyrraedd tudalennau’r wasg ynglŷn â diffyg cwrw ar gyfer Cwpan y Byd, ond mae yna rywbeth llawer mwy pwysig yn digwydd yn y diwydiant bwyd ar hyn o bryd. Mae diffyg carbon deuocsid yn golygu nad oes modd pecynnu cig i’w gadw’n ffres, nac ychwaith defnyddio carbon deuocsid sydd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o 'stun-io' anifeiliaid bellach—nid y dull trydan, yn benodol, sy’n cael ei ddefnyddio, ond carbon deuocsid, fel nwy, sy’n cael ei ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, mae’r cwestiwn o les anifeiliaid yn codi yn hynny o beth. Felly, a oes modd i ni gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â defnydd carbon deuocsid ar gyfer lles anifeiliaid a phecynnu bwyd? Ac a oes sicrwydd bod hyn yn cael ei wneud o hyd at y safon rŷm ni’n ei disgwyl yng Nghymru? Yn ail, gan fod hwn, a dweud y gwir, yn tanlinellu pa mor anodd fydd tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, achos mae’r diffyg carbon deuocsid yma’n adlewyrchu’r gadwyn drwy ryw bum ffatri yng ngorllewin Ewrop sy’n cynhyrchu nwy i’r safon rŷm ni’n ei defnyddio, a yw Llywodraeth Cymru, bellach, yn trafod gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â pharatoi i sicrhau cyflenwad digonol cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac ar ôl?

Mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig iawn. O ran mater Trago Mills, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn rhannu ei ddicter, nad yw'n air rhy gryf yn fy marn i, ynglŷn â rhywfaint o'r iaith a ddefnyddiwyd. Ni wnaf innau ei ailadrodd ychwaith; nid oes angen rhoi cyhoeddusrwydd iddo. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod holl Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, a hynny mae'n debyg drwy lythyr yn dweud lle'r ydym ni arni â hynny. Mae'r cwmni hwn wedi achosi problemau lle bynnag y mae wedi mynd ym Mhrydain, rwy'n credu ei bod yn deg dweud hynny. Rwy'n cofio'n dda y protestiadau a fu pan gafodd ei sefydlu yng Nghernyw am y difrod amgylcheddol a ddigwyddodd a'r difrod a wnaed i fflora a ffawna yn yr ardal honno, felly nid yw wedi ennill unrhyw fri mewn mannau eraill yn y DU. Felly, byddaf yn sicrhau bod holl Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â lle'r ydym ni arni â hynny.

Ar y prinder carbon deuocsid, mae'r Aelod yn codi cyfres o bwyntiau da iawn am hynny, ac, unwaith eto, byddaf yn gwneud yn siŵr bod holl Aelodau'r Cynulliad yn cael gwybod, drwy lythyr, lle'r ydym ni â'r sefyllfa, o ran lles anifeiliaid ac o ran diogelwch cyflenwi wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

14:25

Ers y cwestiynau diwethaf i arweinydd y tŷ, rydym ni wedi cael y newyddion gan San Steffan y cefnwyd ar y bwriad i adeiladu pum carchardy menywod ac, yn lle hynny, bydd pum canolfan fenywod yn cael eu hadeiladu, sy'n reswm i lawenhau yn fy marn i. Rwy'n gwybod y bydd arweinydd y tŷ yn rhannu'r farn honno, oherwydd ein bod ni wedi ymgyrchu dros hyn am flynyddoedd. Felly, ymddengys y bu newid sylfaenol yn y polisi, sydd o'r diwedd yn cydnabod sefyllfa unigryw'r menywod yn y system gyfiawnder. Felly, a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol, ynghylch goblygiadau hyn i Gymru? A ydym ni'n debygol o gael un o'r canolfannau preswyl hyn yng Nghymru a pha drafodaethau sydd wedi'u cynnal â Gweinidogion Cymru ynghylch y newid hwn yn y polisi, sydd i'w groesawu'n fawr?

Ie, yn hollol. Mae Julie Morgan yn llygad ei lle, rwy'n falch iawn bod ein hymgyrch hir i weld cyfiawnder ar gyfer llawer o fenywod sydd yn y carchar, a hynny ar y cyfan am droseddau sy'n ymwneud a thlodi, mewn gwirionedd, wedi cael y math iawn o ymateb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 18 Gorffennaf i drafod ein dull o fynd i'r afael â throseddwyr benywaidd, gan gynnwys y potensial i ddatblygu ymagwedd wahanol i'r ystad ddiogel i fenywod ar gyfer menywod o Gymru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth cywir yn eu cymunedau ac, os yn bosibl, yn cael eu dargyfeirio yn gyfan gwbl o'r ystad carchardai. Ar ôl iddo fod yn y cyfarfod hwnnw ar 18 Gorffennaf, rwy'n siŵr y bydd ef yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn i holl Aelodau'r Cynulliad.FootnoteLink

A gaf i, mewn ffordd, gefnogi galwad Simon am ddatganiad ar fuddsoddiad Trago Mills, ond gan gynnwys hefyd gyfrinachedd yr ohebiaeth ar gyfer mewnfuddsoddwyr? Rwyf ar ddeall bod fy rhanbarth i wedi elwa ar fuddsoddiad o £65 miliwn yn y safle hwn. Condemniwyd ei bennaeth gan Weinidog y Gymraeg a'r Cwnsler Cyffredinol am fynegi ei farn ynghylch arwyddion dwyieithog. Dydw i ddim wedi clywed unrhyw gondemniad tebyg gan unrhyw un yn Llywodraeth Cymru ynghylch gollwng yr ohebiaeth honno yn y lle cyntaf. A oes gennym ni nawr brawf cymeriad addas a phriodol ar gyfer mewnfuddsoddwyr, ac, os felly, a allwn ni, efallai, egluro cwmpas hynny? Dywedodd yr unigolyn dan sylw, yn ôl y South Wales Argus o leiaf, y bydd yr arwyddion croesawu,

'disgrifiadau adrannol, arwyddion lles a diogelwch yn...arddangos y Gymraeg a'r Saesneg',

ond dywedodd wedyn nad oedd yn bwriadu

'datblygu lawer mwy ar ei defnydd ar hyn o bryd.'

A wnaiff Llywodraeth Cymru egluro pa safonau a ddisgwylir o ran arwyddion dwyieithog gan fusnesau preifat? A allem ni ddweud hefyd pe byddai unrhyw fewnfuddsoddwr arall neu, yn wir, unrhyw un o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru, yn cwestiynu polisi iaith Gymraeg, yna a allen nhw hefyd ddisgwyl cael eu gohebiaeth gyfrinachol wedi'i datgelu? Arweinydd y tŷ, pa effaith a gaiff hyn, yn eich barn chi, ar barodrwydd pobl o'r fath i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? A gawn ni ganllawiau ar ba ohebiaeth o'r fath—neu pa mor eithafol y byddai'n rhaid i farn fod er mwyn ei hystyried yn sarhaus, i'r graddau a fydd yn achosi iddi gael ei datgelu yn y modd hwn? Yn olaf, a fydd unrhyw ymchwiliad ynghylch Comisiynydd y Gymraeg a'r gollyngiad hwn?

Wel, dydw i ddim yn meddwl bod y pethau hynny yn faterion i mi yn y datganiad busnes, Mark Reckless. Rwy'n credu y dylech chi eu cyfeirio at y Gweinidog sy'n gyfrifol.

Arweinydd y tŷ, fel yr ydych chi'n gwybod, o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, mae gofyn 

'i Weinidogion...lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.'

Pwrpas y rhestr hon yw darparu mynediad i un ffynhonnell ganolog o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd hanesyddol ac i gynorthwyo'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn ag enwau tai, bryniau, llynnoedd ac ati. Nawr, nid oes dim statws cyfreithiol gyda'r enwau ar y rhestr yma, wrth gwrs, er i mi drio sicrhau hynny flwyddyn ddiwethaf, ond collais bleidlais ar gael Deddf i ddiogelu enwau hanesyddol Cymru. Nawr, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed am ddatblygiadau tai newydd fel Regency Park yn ardal Llanilltern, i'r gogledd o Gaerdydd. Mae'r datblygiad yn agos i safle mynachlog o'r chweched ganrif a sefydlwyd gan Sant Illtud. Ond, yn lle adlewyrchu'r hanes yma, mae'r datblygwr wedi dewis enw hollol anaddas i'r datblygiad, sydd â dim cysylltiad hanesyddol i'r ardal o gwbl. Mae yna esiamplau tebyg o golli enwau hanesyddol ar draws Cymru, ac felly, gan bod y Ddeddf wedi ei mabwysiadu ers peth amser rŵan, a wnaiff y Gweinidog dros ddiwylliant ddod â datganiad gerbron y Siambr yma yn edrych ar effeithiolrwydd y rhestr a'r gwaith sy'n mynd yn ei flaen i hyrwyddo'r rhestr yna? Bydd hyn hefyd yn gyfle i ni i gyd drafod a oes yna ffyrdd eraill allwn ni helpu amddiffyn ein hiaith a'n treftadaeth.

14:30

Rwy'n credu y bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad ar yr adeg briodol ar ôl i'r Ddeddf ymsefydlu. Fel y dywedodd Dai Lloyd, fe gawsom ni ychydig o ddadl wrth i'r Ddeddf fynd ar ei hynt ynghylch y mater a godir ganddo. Rwy'n siŵr y bydd yna bwynt priodol iddo ef gael ei godi eto.

Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am dri datganiad y prynhawn yma, os gwelwch yn dda. Fe wnaf i'r ddau hawdd yn gyntaf. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ddoe ynghylch y concordat y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyrraedd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Wrth ddarllen drwy'r concordat, mae mewn gwirionedd yn disgrifio swyddogaethau yn bennaf, ond nid yw'n diystyru'r posibilrwydd o drafodaethau ar garchar enfawr yn y dyfodol ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad i'r tŷ, er mwyn inni ofyn cwestiynau ar y concordat hwnnw, a beth y mae'n ei olygu mewn gwirionedd o ran y materion cyfiawnder yr ydym ni wedi ymladd drostyn nhw am gyfnod mor hir ym Mhort Talbot? Rwy'n dymuno gwneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn yn parhau i fod wedi ei gyflawni.

Ar yr ail bwynt, rydym ni'n amlwg yn aros am y Papur Gwyn ar berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. Rydym ni'n dal i ddisgwyl gan ddal ein hanadl. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mrwsel yn siarad â llawer iawn o unigolion yno a fynegodd bryder dwfn am fethu â chyrraedd rhywle, gan nad oedden nhw'n gwybod i ble roedden nhw'n mynd. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid neu'r Prif Weinidog ar ôl i'r Papur Gwyn hwnnw gael ei gyhoeddi, fel y gallwn ni weld a gofyn cwestiynau ynglŷn â sut y mae'n effeithio ar Gymru a'r hyn a'n gweledigaeth ni o'r dyfodol o ganlyniad i'r Papur Gwyn hwnnw, fel y gallwn ni sicrhau, yn yr amser byr iawn sydd gennym ni ar ôl cyn dod i benderfyniad, ein bod ni'n gallu mynegi'r safbwyntiau hynny yn glir a chael ymgynghoriadau â busnesau, yn arbennig y rheiny sydd eisoes wedi nodi eu pryderon ynghylch y berthynas â'r UE yn y dyfodol?

Yn drydydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gadael erbyn hyn, ond byddai'n ddiddorol cael datganiad ar y diwydiant dur a'r cytundeb sydd wedi ei gyrraedd ddydd Gwener diwethaf rhwng ThyssenKrupp a Tata. Mae hynny'n amlwg yn rhoi darpariaeth ar waith ar gyfer cynaliadwyedd tymor canolig hyd at 2026. Fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, ni fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol cyn y pwynt hwnnw, a bydd uwchraddio ffwrnais chwyth Rhif 5 yn para am oddeutu'r cyfnod hwnnw o amser. Ond mae'n bwysig, wrth inni edrych ar gynaliadwyedd hirdymor y gwaith, ac yn y dyfodol yma yng Nghymru, a'r effaith hirdymor—. Hoffwn i ddeall beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa hirdymor ar gyfer dur yng Nghymru, a sut y gallwn ni gefnogi'r diwydiant, ac yn arbennig yr uno rhwng Tata a ThyssenKrupp, i sicrhau na fydd y diwydiant yn dioddef ymhen 10 mlynedd, ac nad yw'n fesur i gau bwlch tymor byr i gadw pobl yn hapus nawr; y mae mewn gwirionedd yn rhywbeth yr ydym ni bob amser wedi credu ynddo, sef bod yna ddyfodol i ddur yma yn y DU, ac yn arbennig, yma yng Nghymru.

Yn sicr, David Rees. Yn amlwg, roedd y Prif Weinidog, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, wedi croesawu'n fras y cyhoeddiad am arwyddo'r cytundeb pendant rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp, a hoffwn i ailadrodd bod y Llywodraeth yn hynod falch bod hynny wedi digwydd. Nodwyd hefyd fod yr undebau llafur dur wedi datgan eu bod yn cydnabod rhesymeg ddiwydiannol y bartneriaeth ac yn ei ystyried mai hwn yw'r ateb gorau i sicrhau dyfodol hirdymor gweithrediadau Tata Steel yn y DU. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i drafod â'r cwmni a'r undebau llafur i ystyried manylion y cyhoeddiad, a sut y gallai effeithio ar sicrhau haearn a dur yng Nghymru yn y tymor hirach. Soniodd y Prif Weinidog hefyd am gadw llygad manwl, er enghraifft, ar ein marchnadoedd allforio a beth yw'r sefyllfa o ran tariffau a beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r diwydiant yn y cyfamser.

O ran gweithrediadau y DU, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, byddwn ni'n sicrhau bod yr ymrwymiadau yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth presennol â'r undebau llafur yn cael eu cyfrif yn fenter ar y cyd. Rydym ni'n croesawu cyhoeddiad y cytundeb cyflogaeth i 2026, ac, yn wir, uwchraddio'r ffwrnais chwyth. Ond gallwn eich sicrhau ein bod ni'n parhau i ymgysylltu â'r cwmni ar bob lefel, i sicrhau ei ffyniant a'i lwyddiant parhaus, ac rydym ni'n rhannu'r pryderon a fynegwyd gan yr aelod ar nifer o achlysuron, wrth gefnogi'r diwydiant dur yn ei etholaeth.

O ran y concordat, rwy'n credu os oes gennych chi faterion etholaethol penodol iawn i'w codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet, y peth gorau fyddai eu codi nhw'n benodol mewn cwestiynau gydag ef. Dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol i wneud datganiad cyffredinol ar y concordat gan fod y concordat ar gael yn gyhoeddus eisoes. Dydw i ddim yn credu bod ganddo unrhyw beth arall o ddiddordeb cyffredinol i'w ddweud ar hynny. Ac o ran y berthynas â'r UE, byddwn ni'n sicr yn cynnig nifer o achlysuron pan fydd modd i'r Aelodau holi'r Gweinidogion sy'n ymwneud â'r trafodaethau hynny, er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael y fargen orau bosibl allan o'r hyn a elwir yn drafodaethau wrth i ni fwrw ymlaen.

14:35

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y cynnig gofal plant newydd? Roeddwn i'n falch iawn o weld y bydd y 30 awr o ofal plant am ddim yn ymestyn i wahanol rannau o'r gogledd yn ddiweddarach eleni o fis Medi ymlaen, gan gynnwys Conwy, sy'n rhan o fy etholaeth i. Ond, wrth gwrs, mae un awdurdod lleol a fydd yn cael ei eithrio o'r cynnig o fis Medi eleni, sef sir Ddinbych. Rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y mater hwn, ond rwy'n credu y byddai'n fuddiol i holl Aelodau'r tŷ gael rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â hyn, oherwydd bod rhai rhieni sy'n pryderu y gallai fod materion traws-ffiniol os ydynt yn gweithio mewn un ardal awdurdod lleol ac yn ceisio hawlio gofal plant am ddim mewn un arall a sut y gallai hynny effeithio ar yr agweddau ymarferol ar eu gallu i fwynhau manteision y 30 awr a allai fod ar gael. Felly, rwy'n credu y dylid rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny, a byddwn i'n annog y Gweinidog i ystyried ymestyn y cyflwyniad i sir Ddinbych o'r un dyddiad—1 Medi—fel pob un o'r awdurdodau lleol eraill yn y gogledd, i oresgyn y problemau posibl. [Torri ar draws.]

Llywydd, rwy'n teimlo fel pe bawn i wedi cael fy nal mewn sgwrs rhwng dau berson yn y fan yma. Mae'n amlwg y bu gohebiaeth rhyngoch chi ar y mater hwn, ac mae'r Gweinidog yn dangos i mi ei fod ar fin ysgrifennu yn ôl atoch. Mae'n amlwg yn gyfres o raglenni treialu; nid sir Ddinbych yw'r unig awdurdod yng Nghymru nad yw yn y gyfran gychwynnol. Deallaf fod y Gweinidog ar fin ysgrifennu atoch ac egluro'r union sefyllfa ar y mater hwn.

Mae David Rees wedi achub y blaen arnaf ynghylch Tata. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar y materion o ran Thyssenkrupp, ond hefyd ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei addo eisoes rhwng Plaid Cymru a Llafur. Gwn fod cam 1 wedi mynd rhagddo. Hoffwn i gael sicrwydd ynghylch y camau eraill, ond hefyd, hoffwn ddatganiad cyffredinol a fydd yn dangos inni beth sy'n digwydd o ran cymorth gwladwriaethol ar ôl Brexit. Gwn fod materion amrywiol yn y fan yna, a gwn fod y Prif Weinidog eisoes wedi nodi i ni ar y cofnod fod yna anghytuno o hyd ynghylch hynny â Llywodraeth y DU. Felly, byddai datganiad cyffredinol ar y diwydiant dur yn fuddiol.

Hefyd, a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar sut y mae'r ymgynghoriad yn mynd o ran y fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf i yn ei groesawu, fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen, ond fe gawsom ni gyfarfod grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar, ac nid oedd rhai o'r rheini a oedd yno o'r gwasanaeth iechyd yn ymwybodol bod yr ymgynghoriad yn digwydd, felly hoffwn i ddiweddariad ynghylch sut y maen nhw'n cael gwybod y gallan nhw ymgysylltu â'r broses, oherwydd rwyf i'n dymuno bod cynifer o bobl â phosibl yn y gwasanaeth iechyd yn cymryd rhan yn yr adolygiad, er mwyn inni gael dadansoddiad cwbl gynhwysfawr o'r gwasanaethau anhwylderau bwyta, i gael y manteisio i'r eithaf ar unrhyw fframweithiau diwygiedig. Felly, dyna fy ail alwad. Diolch.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei fod wedi tynnu eu sylw atynt yr wythnos hon. Rydym ni, wrth gwrs, yn dymuno'n fawr fod yr holl ymgynghoriadau yn cael yr ymateb ehangaf posibl. Mae'n nodi i mi ei fod wedi dwyn sylw ato o'r newydd yr wythnos hon, felly gobeithio y bydd hynny yn ysgogi'r amrywiaeth eang o ymatebion sydd ei hangen arnom, fel y mae Bethan Sayed yn llygad ei lle yn dweud, er mwyn gallu gwerthuso'r polisi.

O ran y diwydiant dur, wrth gwrs, mae gan y nifer mawr ohonom sy'n cynrychioli'r rhanbarth hwnnw ddiddordeb mawr iawn yng nghryfder parhaus y diwydiant dur. Gwnaed nifer o ddatganiadau ar y cofnod heddiw am hynny, ac rwy'n siŵr eich bod wedi clywed ein bod ni, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, yn awyddus iawn yn wir i wneud yn siŵr bod y cydweithrediaeth newydd yn clywed yn glir yr holl sicrwydd yr ydym ni wedi ei roi eisoes.

Hoffwn i ddychwelyd eto at y bygythiad gan Virgin Media i gau eu cyfleuster yn Abertawe. A gaf i ofyn yn gyntaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif gynnig i geisio achub y safle cyfan ac asiantau'r ganolfan alwadau, ar sail eu hansawdd a'u sgiliau? Yn ail, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar y cymorth ar gyfer y staff gweithredol nad ydynt yn y ganolfan alwadau, rhyw 80 ohonynt, sy'n cyflwyno cynnig am safle amgen yn lleol neu ehangu safleoedd eraill yn y de?

Diolch ichi am hynny. Mae'r Aelod yn parhau i ddangos ei bryder am y nifer mawr o bobl sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu diswyddo yn ei etholaeth ef ac yn ardal Abertawe yn gyffredinol. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod â Virgin Media ar 14 Mehefin i drafod y cynlluniau ar gyfer cau a'r rhesymau dros y penderfyniad, ac i gynnig cymaint o gymorth ag y gallwn ni i helpu i wrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 23 Mai, a bydd yn para am o leiaf 45 diwrnod. Rydym yn helpu cynrychiolwyr y cyflogwr â gwrthgynnig i geisio cadw'r safle ar agor, ac rydym ni'n disgwyl canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw ar hyn o bryd. Pe byddai'r cynlluniau i gau yn parhau ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, bydd y tasglu yn barod i gefnogi'r staff y bydd hyn yn effeithio arnynt, ac mae hynny'n cynnwys trafodaethau ag unrhyw grwpiau penodol o staff sydd â chynnig penodol i rannau o'r busnes sefyll ar eu pennau eu hunain yma yng Nghymru.

14:40

Fel y gwyddoch chi, mae'n siŵr, mae timau argyfwng wrthi yn fy ardal i ac yn gweithio’n galed iawn er mwyn diffodd tanau sydd wedi cael eu hachosi gan y tywydd sych. Mae Carmel, Bethesda a Mynydd Bangor wedi cael eu heffeithio, efo o leiaf 45 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac rydw i yn hynod ddiolchgar i’r diffoddwyr tân, y gwasanaethau argyfwng eraill, a hefyd y cymunedau eu hunain sydd wedi dod ynghyd er mwyn cefnogi’r rheini sydd wedi eu heffeithio. Felly, a gaf i ofyn pa gysylltiad sydd yna rhwng y Llywodraeth a’r gwasanaethau lleol, ac a ydych chi’n hyderus bod ganddyn nhw adnoddau digonol er mwyn delio efo’r argyfwng hwn yn Arfon ac mewn rhannau eraill o Gymru?

A throi at fater diwygio llywodraeth leol, ychydig fisoedd yn ôl, mi gawsom ni wybod mewn blog gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol ei fod o’n mynd i symud ymlaen efo cynlluniau newydd ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, gan roi heibio’r cynigion a oedd ym Mhapur Gwyn y Gweinidog blaenorol ar gydweithio rhanbarthol. Ddydd Gwener, mi ges i wybod drwy drydariad gan newyddiadurwr o gynhadledd y WLGA yn Llandudno bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol rŵan yn hapus i roi’r ffidil yn y to efo’i fap ad-drefnu llywodraeth leol, sydd ddim yn syndod i neb ohonom ni, nid ydw i’n meddwl. Ond efo datganiadau mor bwysig â hyn, sydd yn effeithio’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn y dyfodol, onid ydych chi’n meddwl bod angen meddwl o ddifri ai cyhoeddi ar wefannau cymdeithasol ydy’r ffordd briodol o gyhoeddi newidiadau polisi mawr fel hyn, heb ddatganiad ysgrifenedig ffurfiol i Aelodau Cynulliad? Mae hynny, i mi, yn tanseilio hygrededd Llywodraeth Cymru, a hefyd hygrededd y Cynulliad cyfan. Felly, buaswn i’n licio cael dau ddatganiad: un yn nodi beth ydy’r ffordd ymlaen rŵan—beth nesaf i lywodraeth leol, beth nesaf ar gyfer ad-drefnu—ond hefyd buaswn i’n hoffi gwybod pa gyfarwyddiadau sydd yna i Weinidogion wrth iddyn nhw gyflwyno gwybodaeth sydd efo arwyddocâd cenedlaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yma.

O ran y tanau, hoffwn i hefyd dalu teyrnged i'r staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau diogelwch y cefn gwlad a'r bobl sy'n defnyddio'r cefn gwlad. A, Llywydd, rwy'n ailadrodd yr apeliadau gan y gwasanaeth tân i bobl fod yn ofalus iawn, er enghraifft o ran pethau fel ble y maen nhw'n parcio, i sicrhau nad yw'r bibell wacáu boeth yn cyffwrdd â glaswelltau hynod fflamadwy, er enghraifft, sydd, yn ystod y tywydd sych iawn hwn, yn gallu achosi problemau gwirioneddol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amgylchiadau pan fydd gennym ni ddarlun llawn o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd.

O ran diwygio llywodraeth leol, fy nealltwriaeth i yw bod y Gweinidog yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan fydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u dadansoddi'n briodol. Roedd y sgwrs yr oedd yn ei chael yn ymwneud â'r sgwrs a oedd yn cael ei chynnal yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymgynghoriad parhaus.

Arweinydd y tŷ, mae gen i ddau gwestiwn. Yn gyntaf, yfory rwy'n hwyluso cyfarfod yn y Senedd o grŵp Goroeswyr Triniaethau Rhwyll Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y grŵp gweithredu dan gyfarwyddyd gweinidogion a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 8 Mai, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill.

Yn ail, arweinydd y tŷ, a wnewch chi egluro a yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar wisgo gwisg ysgol mewn ysgolion uwchradd wedi eu diweddaru i ymateb i'r tywydd poeth hwn? Wrth i'r tymheredd gyrraedd dros 30 gradd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwy'n ymwybodol bod rhai ysgolion yn caniatáu i ddisgyblion wisgo trowsus byr—bechgyn a merched—os yw hynny'n well gan ddisgyblion a rhieni, ond mae ysgolion eraill nad ydynt yn gwneud hyn.

Ie, yn wir; mae'r tywydd poeth wedi bod yn bleser gwirioneddol i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae rhai materion gwirioneddol yn ymwneud ag ymatebion priodol. Caiff polisïau gwisg ysgol ac ymddangosiad disgyblion eu pennu gan bob pennaeth ysgol a chorff llywodraethu, ond maen nhw'n rhoi'r hyblygrwydd i lacio'r rheolau os byddan nhw'n dymuno, er y byddem ni'n disgwyl i benaethiaid ddefnyddio rhywfaint o ddisgresiwn yn ystod cyfnodau o dywydd poeth. Mae ein canllawiau ar bolisïau gwisg ysgol ac ymddangosiad disgyblion yn awgrymu bod cyrff llywodraethu yn defnyddio ymagwedd hyblyg at ofynion gwisg ysgol sylfaenol yn ystod tywydd poeth, yn hytrach na chael gwisg ysgol wahanol ar gyfer y gaeaf a'r haf—felly, yn debyg iawn i'r hyn y mae Jane Hutt newydd ei ddweud. Yn amlwg, mae angen defnyddio synnwyr cyffredin o dan yr amgylchiadau hyn fel bod disgyblion yn aros yn gyfforddus ac yn gallu parhau â'u dysgu, sef y brif flaenoriaeth, wedi'r cyfan. Rwy'n siŵr y bydd penaethiaid yn cadw hynny mewn cof.

O ran y mater o rwyll y wain, blaenoriaeth y grŵp gweithredu ar iechyd menywod yn gyntaf fydd goruchwylio'r gwaith o weithredu argymhellion yr adolygiad o dâp a rhwyll y wain. Rydym ni'n rhagweld y bydd y grŵp yn ystyried unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau o endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol sy'n mynd rhagddynt. Bydd y gweithgareddau wedi'u cyfarwyddo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda chyngor y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio, a bydd yn rhan ganolog o'r arweiniad a chyfeiriad strategol a ddarperir i sicrhau bod dull gweithredu Cymru-gyfan ar waith i helpu i chwalu rhwystrau ac uno llwybrau rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol a rheoli iechyd menywod yn y gymuned. Felly, mae'n ddull cyfannol a chyflawn, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu hyn yn fawr iawn.

14:45

Arweinydd y tŷ, ddydd Mercher—sef yfory—bydd Sarah Champion AS yn arwain dadl yn San Steffan ar fynd i'r afael â'r galw am gamfanteisio rhywiol masnachol. Mae'n canolbwyntio ar y cwestiwn o ba un a ddylai'r DU ddilyn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill drwy wahardd gwefannau puteindra, fel y'i gelwir. Ceir tystiolaeth gynyddol bod gwefannau fel Vivastreet ac AdultWork yn galluogi cynnydd enfawr mewn camfanteisio'n rhywiol ar fenywod a masnachu menywod i'r DU er elw, a gwneud arian trwy osod hysbysebion ar ran gangiau ac unigolion sy'n rhedeg rhwydweithiau o fenywod, ac mae llawer o'r menywod hynny wedi eu masnachu i'r DU o dramor. Mae Vivastreet yn gweithredu mewn 19 o wledydd ac yn eiddo i gwmni daliannol alltraeth yn Jersey, ac mae AdultWork wedi ei gofrestru yn Panama. A gawn ni ddatganiad, yn dilyn y ddadl yfory, gan y Llywodraeth ar ei hasesiad o'r camfanteisio rhywiol ar-lein hwn, a pha un a fydd Cymru yn ychwanegu ei llais at yr ymgyrch sy'n galw ar Lywodraeth y DU i wahardd pimpiaid a masnachwyr ar-lein?

A gaf i dalu teyrnged i Joyce Watson am fod mor benderfynol, bob amser, i fynd i'r afael â phob math o drais a cham-fanteisio yn erbyn menywod, ac rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn rhannu hyn yn llawn. Nod ein camau trwy ein deddfwriaeth ar drais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol, ein gwaith i atal caethwasiaeth fodern a'n gwaith gyda phartneriaid i darfu ar droseddu cyfundrefnol yw rhoi mesurau ar waith a fydd yn diogelu menywod a merched, ac yn benodol, fel y dywed Joyce, y rhai hynny sy'n fwyaf agored i gamfanteisio, caethwasiaeth modern a masnachu pobl. Rydym yn hapus iawn i barhau i gefnogi pob cam sy'n ceisio sicrhau y diogelir menywod hynny, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref a sicrhau ein bod yn ychwanegu ein pwysau at yr ymgyrch i sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar waith.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i gynnal lansiad 'Beichiogrwydd a babis', adroddiad pwysig newydd ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru, a oedd yn gydweithrediad rhwng NSPCC Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Mind Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl. Daeth y cyhoeddiad hwn, wrth gwrs, yn sgil cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Fel y byddwch yn ymwybodol, un o'n prif argymhellion oedd y dylid sefydlu darpariaeth ar gyfer mamau a babis yn y de, a darpariaeth ar gyfer mamau yn y gogledd. Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad, yn yr hydref, roedd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ystyried hynny, ond, hyd yma, ymddengys na fu llawer o gynnydd. Felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth bwysig iawn hon ar gyfer mamau.

Ie, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelodau ac i roi diweddariad i ni.

Yn gyntaf, hoffwn i gytuno'n llwyr â geiriau Julie Morgan ynghylch y newid yn y polisi ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol—nid yn unig ar gyfer y menywod, i sicrhau y cânt gymorth priodol i adsefydlu, ond hefyd i weddnewid bywydau plant carcharorion yn llwyr. Anaml iawn y caiff eu hanghenion nhw eu hystyried yn y distryw a gaiff ei achosi pan fydd menywod yn cael eu cludo i'r carchar.

Yn ail, hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Jane Hutt am wisg ysgol yn ystod y tywydd poeth hwn. Mae un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i yn mynnu bod merched yn gwisgo teits yn y tywydd hwn, sy'n wael iawn i'w hiechyd yn ogystal â'u gallu i ganolbwyntio. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Llywodraeth roi rhywfaint o arweiniad ar hyn.

Y prif fater yr hoffwn i ei godi yw tocynnau integredig. Tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny, oherwydd clywodd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gan gyfarwyddwr gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru, ac roedd y datganiad a gawsom yn llai na phendant y byddem ni'n parhau â hyn. Gwn pa mor bwysig yw hyn i bobl ledled Cymru sy'n ceisio mynd o'r bws i'r trên i'r bws i gyrraedd y gwaith, ac rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni gael polisi cydlynol ar hyn. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach na mynd mewn car wrth geisio mynd i'r gwaith neu'r siopau.

Y mater arall yr oeddwn i'n dymuno'i godi, ac nid wyf i'n disgwyl y bydd ateb gennych, ond tybed a gaf i ofyn i'r Llywodraeth lunio datganiad ar fargen deg i athrawon cyflenwi, oherwydd bod llawer o'r asiantaethau sy'n helpu penaethiaid sydd angen cael gafael ar bobl ar frys yn parhau i dorri'r rheoliadau gweithwyr asiantaeth trwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn rhanddirymiad Sweden. Bydd yna orymdaith ddydd Sadwrn o orsaf Caerdydd Canolog i New Directions, sydd ar hyn o bryd yn diystyru'r rheoliadau, a meddwl oeddwn i tybed pam y mae Llywodraeth Cymru rhoi unrhyw waith iddyn nhw pan fyddan nhw'n parhau i ddiystyru'r rheoliadau sydd gennym ar hyn o bryd, trwy fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

14:50

Ie, ar y mater cyntaf, ar fenywod mewn carchardai, allwn i ddim cytuno mwy. Mae Jenny Rathbone yn aelod pwysig o'r grŵp sydd wedi bod yn ymgyrchu dros newidiadau o'r fath ers amser maith, a hoffwn gymeradwyo yn y Siambr yr ymgynghoriad a gyhoeddodd Mark Drakeford yn ddiweddar ar atal cynghorau rhag carcharu pobl am beidio â thalu’r dreth gyngor, rhywbeth yr ydyn ni’n gwybod ei fod yn effeithio’n drwm ar fenywod a merched, er enghraifft, a throseddau sifil eraill o’r fath na ddylent wir arwain at garcharu dan yr amgylchiadau hynny. Felly, rwy’n cymeradwyo’r ymgynghoriad hwnnw i'r Aelodau os nad ydynt eisoes wedi ei weld.

O ran gwisg ysgol, fel y nodais, ceir canllawiau i ddweud y dylid defnyddio disgresiwn, ac mae'n werth tynnu sylw ysgolion at hynny, os yw'r Aelod yn gwybod am un nad yw’n defnyddio ei disgresiwn priodol yn y tywydd poeth iawn hwn.

O ran y trefniadau tocynnau integredig, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi pwysleisio droeon ein bod yn awyddus iawn i sefydlu trefniadau tocynnau integredig sy’n sicrhau teithio drwodd a theithio rhesymol. Rwy’n siŵr y bydd yn ailadrodd hynny yn ei ddatganiad nesaf ar y ffordd yr ydyn ni’n defnyddio pwerau bysiau, sydd wedi cael ei drafod lawer gwaith eisoes heddiw.

O ran y fargen deg i athrawon llanw, mae’r Aelod yn amlwg yn gwybod am rai enghreifftiau penodol o ran y cwmni hwnnw. Rwy’n awgrymu ei bod hi’n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i dynnu sylw at hynny, ac efallai’n anfon copi at bawb ohonon ni.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Fel mae’r Aelodau’n gwybod eisoes, mae’r wythnos hon yn nodi dengmlwyddiant a thrigain ein gwasanaeth iechyd. Rydyn ni yma yng Nghymru yn arbennig o falch o’r garreg filltir hon, o gofio mai ei sefydlwr oedd ein Aneurin Bevan ni wrth gwrs. Mab i löwr o Dredegar a adawodd yr ysgol yn 13 oed ac a oedd yn ymddangos y byddai’n treulio ei fywyd yn gweithio o dan y ddaear. Oni bai am fudiad undebau llafur a ymrwymodd i hunanwelliant a chyd-gymorth, ni fyddai wedi cael yr addysg a’r cyfleoedd a’i rhoddodd yn y pen draw ar lwybr gyrfa i mewn i wleidyddiaeth.

Wrth gwrs, roedd profiadau ffurfiannol Bevan yn cyfrannu’n annileadwy at ei safbwyntiau gwleidyddol: absenoldeb gwasanaeth gofal iechyd cyffredinol, clytwaith o drefniadau lleol yn seiliedig i raddau helaeth ar y Ddeddf Tlodion Fictoraidd lle byddai pobl a oedd yn gallu talu yn cael gofal, a phobl nad oeddent yn gallu talu fel arfer ddim yn ei gael. Mae’r gwahaniaethau a'r caledi y byddai hynny’n eu creu ac yn eu cynnal y tu hwnt i ddychymyg i ni sydd wedi cael ein magu gyda'r GIG. Fodd bynnag, fel y gwyddom, rhoddodd cymdeithas leol Cymorth Meddygol Tredegar gipolwg i Bevan ar yr hyn oedd yn bosibl pan fyddai unigolion yn cymryd camau ar y cyd er budd pawb.

Mae’r brwydrau a ymladdodd Bevan i sefydlu’r GIG wedi'u dogfennu'n dda, ac roedd ei enw fel penboethyn yn sicr yn un o'r rhesymau pam cafodd ei ddewis gan Attlee ar gyfer y dasg. Yn wyneb beirniadaeth ffyrnig a phersonol iawn, llwyddodd i ddarparu system gofal iechyd gyda thair egwyddor sylfaenol sy'n dal yn wir heddiw yng Nghymru: gwasanaethau yn rhad ac am ddim yn y man defnyddio, wedi’u hariannu o drethu canolog, a phawb yn gymwys.

Mae cyflawniadau’r gwasanaeth a ddarparodd, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi’i chael ar ein cymdeithas, yn rhy niferus i’w rhestru. Ac eto mae'n llawer rhy hawdd cymryd yn ganiataol i ba raddau rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ein gwasanaethau iechyd a gofal o'r crud i'r bedd. Mae pob un ohonom wedi elwa o ddileu clefydau a fyddai yn y gorffennol wedi llesgáu neu ladd cannoedd o bobl bob blwyddyn. Heddiw, rydym yn gallu trin neu wella afiechydon a chyflyrau a fyddai, hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl, wedi ymddangos yn amhosibl. O ganlyniad, wrth gwrs, mae mwy ohonom yn byw'n hirach.

Ac mae'r rhain yn llwyddiannau anhygoel y dylid eu dathlu. Ond eto rydyn ni’n gwybod bod rhagor i'w wneud bob amser. Mae poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar ein gwasanaethau. Mae cyfradd datblygiad technolegol a meddygol, sy'n gyflymach nag erioed, yn creu cyfle a disgwyliad, ynghyd â mwy o gyfyngderau cyllido ar gyfer gwasanaethau â chyllidebau cyfyngedig a llu o flaenoriaethau sy'n cystadlu. Mewn llawer o ffyrdd, does dim o hyn yn newydd. Bron o'r diwrnod cyntaf un, mae’r GIG wedi cael ei amgylchynu â dadleuon dros arian, cynyddu cyllidebau, a dadleuon dros drefniadau strwythurol a sefydliadol, capasiti a dogni gwasanaethau.

Yr hyn sy'n wahanol nawr, fodd bynnag, yw maint yr her, ei brys a maint y gweithrediad. Y llynedd yng Nghymru roedd tuag 20 miliwn o gysylltiadau â chleifion, mwy na 700,000 o apwyntiadau cleifion allanol cyntaf, mwy na 600,000 o achosion cleifion mewnol a dydd, mwy na 479,000 o alwadau am ambiwlans a mwy na 1 miliwn o bobl yn cael eu gweld yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, tra'r oedd tuag 82,000 o oedolion a thuag 16,000 o blant yn dibynnu ar gymorth gan ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rhyngddynt, mae gan y gwasanaethau hyn gyllideb gyfunol o dros £9 biliwn ac maen nhw’n cyflogi gweithlu o dros 170,000 o staff. A hyn oll ar gyfer poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn.

A phan ystyriwn heddiw, wrth gwrs, ein bod yn dal i wynebu heriau dros ystod o anghydraddoldebau iechyd. Hoffwn gydnabod nawr y gwaith arloesol sydd wedi cael ei wneud ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn ardaloedd bwrdd iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan a'r arwyddion eu bod wir yn cau bwlch ar anghydraddoldebau iechyd, sy’n gamp ryfeddol. Ac mae'n werth myfyrio, wrth gwrs, ar farwolaeth y meddyg teulu o Gymru, Julian Tudor Hart, yn 91 oed ddydd Sul. Fel eraill, cwrddais ag ef a gwnaeth argraff arnaf, ond, yn fwy na hynny, mae effaith ei bapur yn The Lancet yn 1971 ar ddeddf gofal gwrthgyfartal yn parhau i ysgogi dadl a chydnabyddiaeth o’r cyfrifoldeb sydd gennym o hyd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd.

Rydym yn gwybod bod ateb yr heriau hyn ac ymdopi â’r gwahanol ofynion a ddaw yn y dyfodol yn golygu y bydd ein gwasanaethau’n gorfod newid ac addasu, fel y maent wedi gorfod ei wneud yn y gorffennol. Dyna pam, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, y gwnaethom gomisiynu’r arolwg seneddol annibynnol i edrych ar ein system iechyd a gofal, ac, ar ôl cymryd eu cyngor ar yr hyn y mae angen ei newid, rydym wedi treulio rhan gynnar y flwyddyn hon yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, 'Cymru Iachach' yw’r cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd cyntaf yn y DU. Mae'n nodi camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth i gefnogi ein gwasanaethau fel y gallant sicrhau'r trawsnewid sydd ei angen a sicrhau bod ein gwasanaethau’n addas i'r dyfodol.

Wrth i ni fyfyrio ar ein gorffennol a’i ddathlu, mae gennym ddewisiadau i'w gwneud ar gyfer ein dyfodol. Ni all yr ateb fod yn fwy o'r un peth. Ni allwn ganiatáu i fethiant gwasanaethau newid ein GIG. Rhaid inni rymuso a galluogi newid i wella gwasanaethau a chanlyniadau. Ac, yn hollbwysig, rhaid inni wrando ar ein staff a rhoi llwyfan iddynt i arwain dadl gyda'r cyhoedd am y dyfodol.

Pan fyddaf yn cael canmoliaeth am y gwasanaeth iechyd gwladol, mae’r llythyrau a’r sgyrsiau a gaf ynddynt eu hunain yn aml yn cyfeirio at allu technegol anhygoel y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, maent bob amser yn sôn am bobl. Oherwydd nid brics a morter yw’r gwasanaeth— ein staff, yn anad dim, yw’r gwasanaeth iechyd. Byddai'r GIG yn goroesi hebof fi, ond ni wnaiff oroesi heb ein staff—y meddygon, y nyrsys, y therapyddion, y gwyddonwyr, y staff gweinyddol, y cogyddion, y glanhawyr, y parafeddygon, y porthorion a llawer mwy—yr holl bobl sy'n cadw ein gwasanaeth yn fyw â’u sgiliau, eu hymrwymiad a’u cydymdeimlad, ac mae’n fraint aruthrol i wasanaethu ein staff.

Wrth gwrs, y 70 mawr arall yr ydyn ni’n ei ddathlu eleni yw Windrush 70. Chwaraeodd llawer o'r genhedlaeth Windrush ran ganolog wrth lunio ein gwasanaeth iechyd gwladol, yr un bobl anhygoel sy'n cael gwrthod eu lle yn y Brydain y gwnaethant helpu i’w chreu. Y wlad hon yw eu cartref, ac mae ein gwledydd yn lleoedd gwell oherwydd cenhedlaeth Windrush, ac maent wedi cael eu had-dalu’n wael am eu teyrngarwch. Ni allwn, ac ni wnawn, ganiatáu i’w tynged nhw staenio dwylo’r genhedlaeth hon.

Mae ein GIG a’n sector gofal cymdeithasol yn ffodus o’i weithlu sydd mor fedrus ac amrywiol. Mae gennym hanes cyfoethog o groesawu pobl a gafodd eu geni neu eu hyfforddi y tu mewn a thu allan i Ewrop. Dylem eu gwerthfawrogi am fwy na’u gwasanaeth cyhoeddus ond am eu cyfraniad fel ein ffrindiau a'n cymdogion ym mhob cymuned yr ydyn ni’n byw ynddynt ac yn eu cynrychioli. Dyfyniad enwog gan Bevan yw:

'ni all unrhyw gymdeithas alw ei hun yn gymdeithas wâr mewn gwirionedd os yw’n gwrthod cymorth meddygol i rywun sâl oherwydd diffyg adnoddau.'

Mae'r Llywodraeth hon yn cadw at yr egwyddor honno heddiw, fel bryd hynny. Bydd mwy inni ei wella yma yng Nghymru bob amser, ond rwy’n falch ein bod wedi aros yn driw i ddelfrydau Bevan. Rydyn ni wedi gwrthod y farchnad o blaid system wedi’i chynllunio, rydyn ni wedi cynyddu cyllidebau’n gyflymach na dros y ffin yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi diddymu taliadau presgripsiwn ac wedi capio costau gofal cymdeithasol.

Ond nid dim ond dyn o eiriau da ac egwyddor oedd Bevan ei hun. Roedd yn rhaid iddo gyfaddawdu â realiti i gyflawni'r gamp o werth parhaol sy'n cyffwrdd ac yn gwella bywydau pob un ohonom. Pe bai yma heddiw, rwy’n credu y byddai’n cydnabod yr angen i wella ac i beidio â chael ein gadael gyda'r hyn sydd gennym yn hytrach na'r hyn yr ydym yn ei haeddu. Rwy’n credu y byddai’n cydnabod y frwydr o syniadau a’r gwrthdaro rhwng gwerthoedd. Rwy’n sicr y byddai'n cydnabod ein gwerthoedd, yn eu cefnogi ac yn ymladd drostynt.

15:00

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am gyflwyno'r datganiad heddiw. Mae'n 2018—70 mlynedd o’n gwasanaeth iechyd gwladol. Waw, mae wedi bod yn dipyn o daith. Fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n bendant yn cydnabod penderfyniad ac angerdd Aneurin Bevan. Fe welodd yr angen, fe adeiladodd ar syniadau a gyflwynwyd yn ystod blynyddoedd y rhyfel, ac fel rhan o Lywodraeth Attlee, gofynnwyd iddo geisio dod â’n gwlad yn ôl at ei gilydd eto. Ei ddatblygiad ef oedd y GIG, y lluniad anhygoel sydd gennym heddiw.

I sôn yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, am rai o'r datblygiadau arloesol a'r dathliadau anhygoel y dylen ni eu cael—1958: cyflwyno brechiadau polio a difftheria. Roedd y rhain yn arfer lladd miliynau o bobl—wedi mynd. Pa mor wych yw hynny? Ym 1968: cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf erioed ym Mhrydain yn Marylebone gan Donald Ross. Ym 1978: Louise Brown. Ym 1998: Galw Iechyd Cymru. Yn 2008: cawsom ddadl yr wythnos diwethaf am ymestyn hyn—y rhaglen genedlaethol i frechu merched rhag y feirws papiloma dynol. Am wyrthiau rhyfeddol yr ydyn ni wedi eu gwneud.

Felly, rwy’n dweud wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, Aneurin Bevan—dechreuodd ef rywbeth, ond ein peth ni yw e nawr, ac mae’n perthyn i ni i gyd ac i bob plaid wleidyddol, i bob gwleidydd, ond yn anad dim, i chi Vaughan, i mi Angela, ac i eraill yn yr ystafell hon. Ein GIG ni yw hwn. Achubodd fy mywyd i dair blynedd yn ôl, mae'n achub bywydau llawer o bobl, mae bob amser ar gael pan fo ei angen, ac ni ddylem anghofio hynny, a'n gwaith ni yw datblygu'r GIG hwn.

Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, os awn yn ôl at brif egwyddorion Bevan—hoffwn ofyn tri chwestiwn ichi am dri ohonynt. Rhannu'r cyfrifoldeb dros iechyd rhwng pobl Cymru a'r GIG: sut y gallwn wir berswadio pobl Cymru i gyd-fynd â hyn, canolbwyntio ar atal ac nid dim ond ar wella, canolbwyntio nid yn unig ar bobl sy’n amlwg yn wael, fel rhywun sydd â chanser neu wedi torri ei goes, ond pobl sydd â salwch wedi'i gladdu'n ddwfn yn eu heneidiau sydd ddim mor hawdd eu gweld, pobl â phroblemau iechyd meddwl? Sut rydyn ni’n ymdrin â’r bobl hynny sydd ddim yn sâl yn ystyr arferol y gair, ond sy’n agored i niwed, yn oedrannus, yn fregus ac mae angen yr help hwnnw arnyn nhw? Sut allwn ailysgrifennu ac atgyfnerthu’r contract hwnnw rhwng ein GIG a phobl Cymru?

Un arall o egwyddorion Bevan yw gwasanaeth sy’n gwerthfawrogi pobl, ac yn anad dim sy’n gwerthfawrogi, rwy’n tybio, y staff. Mae tua 80,000 o staff yn gweithio yn ein GIG, a dyma pam rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro am gynllun mynediad cyflym at driniaeth ar gyfer staff y GIG. Rydyn ni’n colli dros 900 mlynedd o oriau staff bob blwyddyn oherwydd bod pobl i ffwrdd, dan straen ac yn wael. Soniasoch am y llythyrau yr ydych chi’n eu cael sy’n canmol y GIG, ac rwyf fi’n cael y llythyrau hynny. Rwy’n cael llythyrau yn canmol y staff ac rwy’n cael llythyrau sy’n anobeithio pan fydd y system wedi torri i lawr, a lle mae pobl wedi'u siomi oherwydd na allant gael apwyntiad, na allant gael galwad yn ôl, na allant gael y driniaeth sydd ei hangen. Ac mae’r staff hynny sy'n darparu'r gwasanaeth GIG hwnnw inni, bob dydd, ar ddydd Nadolig, Sul y Pasg, Sul y mamau, Sul y tadau, pryd bynnag—mae angen ein cymorth ni arnynt, oherwydd maent yn gweithio mewn system sy’n ddiffygiol, sy’n gwegian ac sydd heb ddigon o adnoddau i wneud popeth. Felly, beth allwch chi ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod yr 80,000 a mwy o bobl anhygoel hynny wrth wraidd ein GIG, oherwydd os na wnawn ni hynny, bydd y 3 miliwn o bobl Cymru yn cael eu siomi, ac rydyn ni am gadw’r GIG i fynd?

Yn olaf, sut ydyn ni’n cael gwir atebolrwydd cleifion a'r cyhoedd? Hoffwn ateb hynny'n rhannol, a’ch herio chi i’w ateb yn rhannol—mae'n ymwneud â’r bêl-droed wleidyddol. Heddiw, mae Comisiwn Bevan wedi dweud bod y GIG yn cael ei ddefnyddio’n rhy aml fel pêl-droed wleidyddol. Ddydd Llun, cyhoeddodd Jeremy Hunt yr ap mwyaf rhyfeddol y gall pobl ei ddefnyddio nawr i wneud pob math o bethau, o wneud apwyntiadau a chael galwadau GIG 111, i weld beth yw eu meddyginiaeth ar bresgripsiwn i gael ail-archebu—syniad gwych. Mae arloesi gwych yn digwydd yn yr Alban, yn enwedig gyda'r dechnoleg. Yma yng Nghymru, ein trawsblannu organau ni. Mae gan y gwledydd cartref i gyd syniadau gwych. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i edrych mewn gwirionedd ar sut y gallwn ddysgu o arfer gorau nid yn unig o fewn ein gwlad ni, ond yr arfer gorau yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, fel bod y GIG sy’n perthyn i bob unigolyn yn y Deyrnas Unedig yma ymhen 70 mlynedd, nid dim ond i Aneurin Bevan, ond i chi ac i mi, ac i bawb arall yn yr ystafell hon?

15:05

Diolch, Angela. Rwy’n croesawu’r hyn a ddywedwch am y diolch personol i'r GIG, nid dim ond gwelliant cyffredinol iechyd y cyhoedd. Soniasoch am polio, y frech goch a llu o bethau eraill a laddodd lawer o bobl yn yr 1930au, yr 1940au a'r 1950au sydd wedi cael eu dileu oherwydd bod gennym wasanaeth cyffredinol a oedd yn gallu darparu rhaglen frechu gynhwysfawr. Felly, mae wedi bod yn gamp aruthrol, ac yn union fel y mae gennych chi resymau personol dros fod yn ddiolchgar i'r GIG, mae gen innau hefyd, ac rwy’n dychmygu y bydd gan bobl eraill yn yr ystafell hon eu straeon personol eu hunain amdanynt eu hunain neu am eu hanwyliaid.

Rwy’n mynd i ddechrau â'ch pwynt am rannu cyfrifoldeb rhwng pobl a'r gwasanaeth iechyd. Rwy’n cofio mai un o'r pethau cyntaf imi bleidleisio arnynt ar ôl dod yn Aelod Cynulliad yn 2011 oedd adroddiad gan Gomisiwn Bevan am egwyddorion allweddol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Roedd un o'r rheini’n ymwneud â chyfrifoldeb personol dinasyddion unigol, a bod angen inni sicrhau bod gennym sgwrs a pherthynas gadarnhaol rhwng y dinesydd, y gwasanaeth ac, wrth gwrs, weddill y wladwriaeth, oherwydd rydym yn rhannu’r cyfrifoldeb am y dewisiadau a wnawn. Mae'n un o'r pethau yr ydym yn sôn amdanynt yn rheolaidd ar bron pob prif ffactor sy’n achosi clefyd, salwch a marwolaeth—felly ysmygu, faint yr ydyn ni’n ei yfed, faint o ymarfer corff yr ydyn ni’n ei wneud a beth ydyn ni’n ei fwyta. Yn ogystal â hynny, mae angen inni wneud rhai o'r dewisiadau iachach hynny—[Anghlywadwy.]—yn haws. Mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud, oherwydd os mai dim ond darlithio neu bwyntio bysedd sy’n digwydd, fe gawn yr hyn sydd gennym. Felly, mae newid eang gan y Llywodraeth, gan wasanaethau cyhoeddus ond hefyd gan y byd busnes, oherwydd mae gwaith yn cael effaith enfawr ar ganlyniadau iechyd pobl. Nid dim ond gwaith, ond mae gwaith da yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau pobl. Wrth gwrs, yna mae angen inni berswadio pobl i dderbyn eu mesur eu hunain ar gyfer eu cyfrifoldeb am y dewisiadau a wnânt, ac yn benodol y dewisiadau a wnawn dros ein plant.

Hoffwn droi nesaf at eich pwynt am bêl-droed wleidyddol y gwasanaeth iechyd, ac ar y naill law mae hyn, wrth gwrs, yn anochel. Bydd Aelodau Llafur yn deall ac rwy’n credu y byddan nhw, yn ddigon teg, yn cwyno am y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn cael sylw rheolaidd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Rydym wedi clywed cyn hyn y pwyntiau mai Clawdd Offa yw 'llinell bywyd a marwolaeth'. Nawr, rwy’n credu bod y pethau hynny wrth gwrs yn sicr o gynhyrchu ymateb gwleidyddol anochel a dig. Ond yr hyn y mae’n rhaid inni allu ei wneud, fodd bynnag, yw cydnabod bod arloesi yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig, a dysgu i'w wneud. Ceir pwyntiau lle mae, a dweud y gwir, o fudd i ni weithio gyda'n gilydd. Y fisâu haen 2, er enghraifft—gofynnais i am i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, ond rwy’n gwybod bod pob sefydliad sy'n cynrychioli staff yn y DU wedi gwneud hynny, ac rwy’n gwybod hefyd bod adran iechyd y DU eisiau i’r Swyddfa Gartref yn y DU newid cwrs cyn gynted â phosibl. Felly, roedd gwneud y newid hwnnw er budd pob un o bedair rhan y DU. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y newid wedi cael ei wneud, er y byddwn yn parhau i gael dadleuon ynghylch pam na chafodd y newid ei wneud yn gynharach, ac eto rydym yn gwybod, wrth arloesi, bod pobl yn edrych ar Gymru. Rwy’n mynd i roi enghraifft ichi. O ran gwasanaethau ambiwlans, rwy’n gwybod y bydd craffu ac anghytundeb yn dal i ddigwydd ynghylch y newidiadau y dewisais eu gwneud ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Ac eto i gyd, os siaradwch chi â phobl o fewn y gwasanaeth ambiwlans ledled y DU, maen nhw’n dod i Gymru i edrych ar yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud, sut a pham, ac rydyn ni’n gweld cynlluniau peilot o Gymru, lle mae’r Alban a Lloegr yn edrych yn hynod o debyg i’r hyn yr ydyn ni wedi'i wneud yma. Wnewch chi ddim clywed Gweinidog o Loegr yn sefyll ac yn dweud ei fod yn bwriadu dysgu gan Gymru, ond dyna sy'n digwydd yn ymarferol. Felly, mewn rhyw ffordd, mae gwleidyddiaeth anochel y peth yn ymwneud â'r hyn sydd gennyn ni i’w ddysgu gan rannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr, yn ogystal â'r hyn sydd gennyn ni i’w roi.

Hoffwn ddod yn ôl at eich pwynt bod y gwasanaeth yn gwerthfawrogi pobl a’r niferoedd mawr iawn o weithwyr sydd gennyn ni. Rydyn ni’n cyflogi dros 91,000 o bobl yn y gwasanaeth a bron 80,000 cywerth ag amser llawn, ac eto mae’r nod pedwarplyg a’r angen i werthfawrogi ein staff yn rhan allweddol o 'Cymru Iachach'. Bydd lle da i weithio gyda staff brwdfrydig yn darparu gwell gwasanaeth ym mhob rhan o'r gweithgarwch, yn y gwasanaeth cyhoeddus a'r sector preifat. Rwy’n gwybod y byddwch chi’n gwybod hynny, gan eich bod wedi rhedeg eich busnes eich hun. Rwyf i'n gwybod hynny ers fy amser fy hun fel rheolwr a chyflogwr.

Ar adeg lansio’r cynllun—dyma'r pwynt rwy’n mynd i orffen arno, Dirprwy Lywydd—gwnaethom siarad â staff o fewn y gwasanaeth, ac maent yn cydnabod bod newidiadau a wnaed i'r ffordd y maen nhw’n darparu iechyd a gofal eisoes wedi cyflawni gofal o ansawdd gwell, ond hefyd le gwell iddynt weithio ynddo, ac mae’r newid hwnnw’n gymhelliant iddyn nhw. Rwy’n clywed yn rheolaidd, yn ystod pob ymweliad, ymdeimlad o rwystredigaeth ynghylch y ffordd y mae gwleidyddion yn ymddwyn ac yn sôn am y gwasanaeth a’u bod eisiau inni gael nid yn unig yr aeddfedrwydd i ddweud, 'Dyma’r heriau mawr, dewch inni greu arolwg seneddol', ond mae’n ymwneud â’r ffordd y mae pob un ohonom yn dewis ymddwyn wrth fwrw ymlaen â’r cynllun hwnnw. Hoffai’r rhan fwyaf o’r bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol weld ychydig mwy o onestrwydd am yr heriau hynny ac ychydig mwy o ryddid a chymorth i ymgymryd â’r heriau mawr yr ydyn ni’n cydnabod eu bod yn bodoli a bod yn ddigon dewr i wneud dewisiadau amdanynt yn y dyfodol.

15:10

Yn gyntaf, a gaf i ddymuno pen-blwydd hapus i sefydliad sydd mor bwysig i bob un ohonom ni?

Pen-blwydd hapus iawn i'r GIG. Mae pen-blwydd yn amser i ddathlu ac, yn fwy na dim, rwy’n credu ein bod ni’n dathlu holl staff y GIG—cannoedd ar filoedd ohonynt dros 70 o flynyddoedd sydd wedi gwneud y GIG yr hyn ydyw. Maen nhw’n ffrindiau, yn deulu, ac yn anwyliaid inni. Byddai fy mam-gu—roeddwn i’n ceisio ystyried hyn heddiw—wedi gadael y GIG yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Roedd hi’n nyrs yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl ac rwy’n gwybod y byddai hi’n edrych yn ôl gyda syndod ar y GIG fel y mae heddiw. Mae unrhyw ben-blwydd yn amser i fyfyrio; mae’r 70 mlwyddiant yn amser i fyfyrio ar y gamp ynddi ei hun bod gennym GIG sydd wedi para cyhyd. Mae'n llwyddiant gwych ynddo'i hun. Pan gafodd ei greu, roedd amheuon mawr ynghylch a fyddai’n para, a fyddai'n gynaliadwy, ac a fyddai'r syniad o ddarparu gofal am ddim yn y man cyflenwi’n arwain at lu o bobl yn ceisio triniaeth am ddim. I wynebu’r risg o chwarae pêl-droed gwleidyddol, mae rhai ar yr ochr dde i wleidyddiaeth sy'n dal i gwestiynu cynaliadwyedd y GIG ac sy’n credu mai preifateiddio yw'r ffordd ymlaen ac sy’n codi ofnau am lu o bobl yn ceisio presgripsiynau am ddim ac ati. Ond rwy’n hyderus y byddwn yn edrych yn ôl ar 140 mlynedd, pan fydd 70 mlynedd arall wedi mynd heibio, ac rwy’n siŵr y bydd yr un cwestiynau am gynaliadwyedd yn cael eu gofyn bryd hynny. Ond y peth allweddol yw bod yn rhaid i bob un ohonom fod yn glir bod cynaliadwyedd yn flaenoriaeth, yn flaenoriaeth inni ym mhob peth a wnawn.

Codwyd y pwynt am ddefnyddio’r GIG fel pêl-droed wleidyddol, ac rwy’n mynd i ddweud ar y cychwyn yma nad wyf yn amau bod y Llywodraeth hon a’r Ceidwadwyr a phawb arall a gynrychiolir eisiau gweld y GIG yn perfformio cystal ag y bo modd. Mae gennym syniadau gwahanol, wrth gwrs, ynghylch sut i gyflawni hynny, ac rwy'n credu, lle y gallwn gydweithio, bod hynny er budd pawb yng Nghymru—staff y GIG a chleifion hefyd—ond mae'n bwysig ein bod yn dal y Llywodraeth i gyfrif. Ac nid wyf yn ymddiheuro—20 mlynedd ar ôl i Lafur gymryd awenau’r GIG yng Nghymru—am ofyn cwestiynau ynghylch pam rydych chi wedi methu ag ymdrin â’r heriau gweithlu fel y credaf y gellid bod wedi'i wneud; pam mae diffyg integreiddio gofal cymdeithasol o hyd; pam mae perfformiad yn dal i fod yn wael o ran amseroedd aros o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Ac mae cleifion a staff y GIG yn disgwyl i ni eich dal chi yn y Llywodraeth i gyfrif ar y meysydd hynny.

Rwy’n mynd i ofyn rhai cwestiynau ichi: un, rwy’n credu mai’r bygythiad mwyaf, ac rwy’n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi, ar ddechrau ail 70 mlynedd y GIG, yw’r bygythiad gwirioneddol o Brexit caled. Byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau am rai o’r—. Yr ateb sy'n peri pryder a glywais gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, pan awgrymodd nad oes paratoadau'n cael eu gwneud o fewn y GIG yng Nghymru ar gyfer Brexit caled. Awgrymodd ef nad oes unrhyw ffordd y gallai'r GIG baratoi am Brexit caled. Dydw i ddim yn credu hynny am eiliad, a nawr yw'r amser i wneud yn siŵr bod pob cam posibl—pa bynnag mor heriol—yn cael ei gymryd i'n paratoi ar gyfer Brexit caled.

Yn ail, ynghylch gwerthfawrogi staff. Byddwn yn gwerthfawrogi eich barn am sut ydyn ni’n cefnogi staff sy’n cael eu gorweithio. Gwyddom fod angen mwy o staff yn y GIG, ac, wrth gwrs, rydyn ni wedi cyflwyno syniadau fel hyfforddi meddygon, er enghraifft, ym Mangor. Mae angen inni leddfu'r straen hwnnw, ond sut fyddwch chi’n ymdrin â staff sy’n cael eu gorweithio a’r help sydd ei angen arnynt nawr?

Ac yn olaf, o ran y dyfodol, mae trydydd paragraff, rwy’n credu, eich datganiad yn cyfeirio at yr egwyddorion sylfaenol sy'n sail i'r GIG. Dydw i ddim o'r farn ein bod ni wedi cyflawni’r egwyddorion sylfaenol o ran gofal, a byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau ynghylch sut ydyn ni’n cyflawni'r nod o ddarparu gofal yn ogystal â gofal iechyd i bobl Cymru, oherwydd mae’r egwyddorion hynny yr un mor bwysig mewn gofal ag y maent yn y GIG.

15:15

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn gyntaf rwy'n mynd i adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed ers cyn y gwasanaeth iechyd, fel y mae rhai wedi cyfeirio ato. Ddoe, roeddwn yn Ysbyty Llandochau yn edrych ar y murlun lle'r oeddent wedi datblygu rhywfaint o'r gydnabyddiaeth a'r ymchwil i niwmoconiosis. Ar ôl hynny, gwelais gwilt clytwaith yn dangos nifer o wahanol straeon am y GIG. Un ohonynt oedd mam-gu a oedd wedi gwneud cwilt clytwaith er cof am ei chwaer 10 mlwydd oed a fu farw cyn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol am fod ei ffrog wedi mynd ar dân, ac roedd adroddiad y crwner yn dweud bod y meddyg wedi gwrthod ei gweld hi heb i’w ffi gael ei thalu. Mae hynny'n dangos y math o gynnydd sydd wedi’i wneud. Felly, er ein dadleuon i gyd, ceir cynnydd enfawr—pethau nad ydynt yn digwydd erbyn hyn, neu os ydynt, maent yn sgandal genedlaethol yn hytrach nag yn rhan gyffredin o fywyd.

Mae hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod twf presgripsiynau yng Nghymru—gan eich bod chi wedi sôn am bresgripsiynau—mae’r twf wedi bod yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ers inni gyflwyno’r polisi presgripsiynau am ddim, felly nid yw wedi arwain at roi mwy a mwy o bresgripsiynau.

O ran eich cwestiynau, rwy’n credu mai’r ddau fygythiad mwyaf sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd gwladol yw dau gwmwl storm Brexit a llymder. Os ydym yn parhau i danariannu nid yn unig y gwasanaeth iechyd, ond yr ystod ehangach o wasanaethau cyhoeddus sy’n benderfynyddion allweddol o ran iechyd pobl, byddwn yn parhau i bentyrru mwy o alw ar y gwasanaeth iechyd, a ni fydd yn cael y bai am hynny, tra bo gwasanaethau eraill yn cwyno bod mwy o arian yn mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd ei hun. Bydd gennym gylch anrhinweddol.

Byddwch yn cofio o ddatganiad yr wythnos diwethaf fod Brexit caled yn peri risgiau sylweddol i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Ceir rhywfaint o ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch maint y risgiau hynny. Dydw i ddim yn credu ei fod yn gyflwyniad teg na chywir i ddweud bod y Llywodraeth hon mewn unrhyw ffordd yn ddifater ynghylch y risgiau hynny, nac yn ddidaro ynghylch unrhyw angen i gynllunio ar eu cyfer. Wrth gwrs rydyn ni’n cynllunio paratoadau ar gyfer Brexit caled, ond y pwynt sy’n cael ei wneud yw bod rhai o ganlyniadau Brexit caled yn amhosibl eu datrys heb oblygiadau.

Yr wythnos diwethaf, cawsom enghraifft dda iawn a godwyd gennych chi, ac rwyf wedi sôn am hon ar adegau eraill cyn hynny. Y radioisotopau a ddefnyddir ar gyfer triniaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae bron pob un ohonynt yn dod o Amsterdam. Os cawn ni Brexit caled, fyddwn ni ddim yn gallu dyblygu cynhyrchu’r rheini rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf, neu hyd yn oed yn y cyfnod pontio sy'n debygol, ac felly, yn syml, fydd dim triniaeth i’w chael mewn amrywiaeth o feysydd. Rhaid ichi fod yn onest bod hynny'n un o oblygiadau Brexit caled, ac ni allwch gadw stoc o radioisotopau. Felly, mae yna heriau sy’n gwbl amhosibl eu dyblygu os gwnawn ni adael ar delerau Brexit caled. Ac fel y dywedais yr wythnos diwethaf, y perygl mwyaf i ddyfodol y gwasanaeth iechyd, yn y dyfodol agos, yw Brexit caled. Ac, wrth gwrs, mae Simon Stevens a’r GIG yn Lloegr yn cydnabod hynny hefyd, a dyna pam maen nhw wedi sôn am y peth yn gyhoeddus.

O ran cynllunio'r gweithlu, bydd creu AGIC yn rhoi strwythur newydd i ni gynllunio ar gyfer y gweithlu cyfan. Ac, unwaith eto, ni allwn gael galwadau croes gan grwpiau staff yn gofyn am fwy ohonynt neu am grwpiau lobïo. Felly, os yw'n fwy o bobl mewn un maes meddygaeth, mwy o bobl mewn un maes nyrsio neu therapi, bydd rhaid inni edrych ar y gwasanaeth cyfan yn y cylch a chydnabod bod yno dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal iechyd. Rwy'n disgwyl gweld gwelliant sylweddol o ran cynllunio'r gweithlu a byddwch yn gweld mwy o hynny unwaith y caiff AGIC ei greu o fis Hydref eleni ymlaen.

Ynglŷn â’ch pwynt ynghylch gofal, mae'n werth ystyried, wrth gwrs, fod gofal cymdeithasol wedi bod yn destun profion modd erioed. Rhan o'r anhawster o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yw bod y gwasanaeth iechyd am ddim, yn cael ei dalu amdano drwy drethi, a bod gofal cymdeithasol yn destun profion modd. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw ceisio cael gwared ar rai o’r anghydfodau am arian, fel nad yw'r dinesydd yn syrthio rhwng y craciau, rhwng y ddau wasanaeth. Dyna pam mae argymhellion yr adolygiad seneddol a’r cynllun sydd gennym ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mor bwysig. Dyna pam rwy'n rhoi cymaint o werth ar sicrhau bod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cynllunio gyda'i gilydd, fel nad oes angen i’r dinesydd wybod na phoeni gormod a yw mewn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd yn ei gwneud yn haws i ddinasyddion gael mynediad at y gwasanaethau hynny, a dyna pam nad yw’r cynnydd ar gyllidebau cyfun yn ddim mwy na modd i gyflawni diben o wneud yn siŵr ein bod yn cael llawer mwy o werth o’r £9 biliwn o gyllid integredig sy’n bodoli yno, a llawer gwell canlyniadau. Rwy’n disgwyl y bydd y model integredig hwnnw’n sicrhau'r union ganlyniadau hynny yr hoffai pawb ohonom yn yr ystafell hon eu gweld.

15:20

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n fraint enfawr gallu sefyll yma heddiw a dathlu 70 mlynedd o’r GIG.

Heb y gwasanaeth iechyd gwladol, fyddwn i ddim yn yma heddiw. Un ar ddeg mlynedd yn ôl, darganfu meddyg GIG gweithgar ganser ar fy mron a gwnaeth byddin o feddygon, nyrsys, radiograffyddion a fferyllwyr eraill gweithgar achub fy mywyd i. Heb y GIG, fyddai llawer o'm hetholwyr, fy nheulu a fy ffrindiau ddim yma. Saith deg mlynedd yn ôl, roedd y disgwyliad oes cyfartalog yn 65 oed a marwolaethau babanod o gwmpas 52 o farwolaethau i bob 1,000 o enedigaethau byw. Heddiw, gallwn ddisgwyl byw ymhell i’n 80au a’r gred yw y gallai plant sy’n cael eu geni heddiw fyw ymhell dros 100 oed. Mae marwolaethau babanod wedi gostwng i lawer llai na thair marwolaeth i bob 1,000 ac rydyn ni fwy neu lai wedi dileu llawer o'r clefydau plentyndod mwyaf.

Mae’r diolch am hyn i Gymru. Heb Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar a gweledigaeth Aneurin Bevan AS a anwyd yn Nhredegar, ni fyddai gennym GIG, a heb y GIG, ni fyddai gennym drawsblaniadau arennau, triniaeth i osod cluniau newydd, sganiau CT, trawsblaniadau mêr esgyrn na llu o welliannau gwyddoniaeth feddygol.

Yr hyn sy'n gwneud y GIG yn gymaint o lwyddiant yw’r staff. Rhaid dathlu eu hymrwymiad a'u hymroddiad ac mae arnom ni i gyd ddyled o ddiolchgarwch iddynt. O’r porthoriaid i’r pediatregyddion, o’r cynorthwywyr gweinyddol i'r anaesthetyddion, fyddai’r GIG yn ddim heb ei staff gweithgar.

Mae'r GIG yn gamp anhygoel ac yn un y dylem fod yn falch ohoni. Ond wrth ddathlu llwyddiant y 70 mlynedd diwethaf, rhaid inni hefyd edrych i'r dyfodol. Wrth i’n poblogaeth dyfu ac wrth i lawer ohonom ddatblygu cyflyrau hirdymor sy'n cyfyngu ar fywyd, a wrth i feddyginiaethau fynd yn fwy pwrpasol ac felly’n ddrutach mae’n rhaid inni addasu. Mae’r GIG heddiw yn wahanol iawn i’r GIG ym 1948 a bydd yn wahanol iawn yn y blynyddoedd i ddod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod eich cynllun hirdymor yn mynd i’r cyfeiriad cywir, ond rhaid inni sicrhau bod y polisïau’n cael eu gwireddu ar lawr gwlad. Disgrifiodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad y GIG fel gwasanaeth gweddol, gan ddweud nad yw polisïau gwych yn cael eu troi’n arferion gwych. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod polisïau’n gallu cyrraedd y rheng flaen, a sut y gallwn sicrhau bod y staff yn eu derbyn? Y GIG yw’r pumed cyflogwr mwyaf yn y byd, felly bydd angen i lawer o bersonél dderbyn unrhyw newidiadau.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Anesthetyddion Prydain Fawr ac Iwerddon, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion a'r Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys wedi codi pryderon am effaith patrymau shifft a blinder ar weithlu'r GIG ac wedi lansio’r ymgyrch Ymladd Blinder. Mae ein GIG yn dibynnu ar y staff, a rhaid inni roi lles staff yn gyntaf. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gefnogi'r ymgyrch Ymladd Blinder a sicrhau y caiff ei chyflwyno ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff, unwaith eto, ac rwy’n gobeithio y gallaf chwarae rhan fach iawn i sicrhau bod y GIG o gwmpas i ddathlu ei ben-blwydd yn gant a deugain, ac yn parhau i ddarparu gofal o'r radd flaenaf yn rhad ac am ddim ar y pwynt cyflenwi. Diolch.

15:25

Diolch, Caroline. Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich stori bersonol a'ch cydnabyddiaeth o'r ffaith bod y GIG wedi helpu i ddiogelu a chynnal eich bywyd chi, a hefyd y cynnydd aruthrol a wnaed i wella iechyd ac i ddileu achosion sylweddol o anabledd, salwch a marwolaeth. Unwaith eto, rydym i gyd wedi sôn am staff o fewn y gwasanaeth, ac mae'n hollol iawn ein bod yn gwneud hynny.

Yr her wedyn yw a ydyn ni'n barod i fwrw ymlaen â’n prif ymrwymiad i gael sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol a chyflawni arni. Nid yw hynny'n atal pobl rhag gofyn cwestiynau lletchwith i’r Llywodraeth—ni wnaiff byth wneud hynny, ac ni ddylai—ond ceir heriau o hyd ynglŷn â sut i wneud dewisiadau pan gynigir newid mewn gwahanol rannau o'r wlad a’r hyn yr ydyn ni'n barod i’w wneud mewn gwirionedd. Nid dim ond her i un blaid yw hon, mae'n her i bob un ohonom, oherwydd bydd pob un ohonom yn cael ein herio gan newidiadau yn ein hardaloedd lleol, yr ydym yn eu cynrychioli, a gan bryder pobl oherwydd cynnig i newid rhywbeth y maen nhw’n ei werthfawrogi ac yn ei ddeall. Dyna pam mae mor bwysig bod y staff yn arwain y sgwrs, staff yn siarad â staff eraill, staff yn siarad â’r cyhoedd ac yn gwrando arnynt, oherwydd rwy’n gwarantu na chaiff 10 o wleidyddion yn sôn wrth y cyhoedd am y GIG byth eu credu o'i gymharu â llond llaw o aelodau staff yn sôn am yr heriau sy'n eu hwynebu. Mae'n hawdd deall pam mae pobl yn ymddiried yn y staff yn y modd hwnnw. Felly, mae angen inni wrando ar y staff, ond y rhanddeiliad allweddol o ran gwella iechyd y cyhoedd yw'r dinesydd unigol ei hun, yn ei gyd-destun ei hun. Mae’r dewisiadau yr ydyn ni’n eu gwneud yn cael effaith fwy o lawer ar ganlyniadau iechyd y genedl na'r gwasanaeth technegol a ddarperir gan y GIG.

Ar eich pwynt am Ymladd Blinder, yr wythnos diwethaf, cytunais ar siarter blinder gyda Chymdeithas Feddygol Prydain. Felly rwy’n edrych i weld sut y bydd yr ymgyrch Ymladd Blinder yn cysylltu â’r siarter y cytunwyd arni, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen i’n staff allu mynd i'r gwaith ac nid dim ond bod yn hapus a brwdfrydig, ond bod ag amser i orffwys ac i gyflawni eu dyletswyddau heb ymdopi â blinder ei hun. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y maes, byddaf yn edrych ar yr ymgyrch sy’n cael ei lansio a sut mae hi mewn gwirionedd yn gyson â’r siarter yr wyf fi wedi cytuno arni gyda chynrychiolwyr meddygon o fewn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

Mae'n wych defnyddio'r cyfle hwn i gydnabod holl gyflawniadau’r GIG dros y 70 mlynedd diwethaf, gan gydnabod yn enwedig y bywydau hirach a'r gostyngiad yn y gyfradd marwolaethau babanod, y gostyngiad enfawr mewn beichiogrwydd heb ei gynllunio. Ac rwy’n arbennig o falch o groesawu’r mentrau y llwyddwyd i'w cynnal yma yn benodol yng Nghymru, fel y presgripsiynau am ddim, oherwydd rwy’n credu bod hynny’n gwbl iawn o ran darparu gofal iechyd am ddim yn y pwynt galw. Credaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn haeddu clod mawr am gyflwyno presgripsiynau am ddim ac, wrth gwrs, y parcio am ddim hefyd. Rwy’n credu bod y parcio am ddim mewn ysbytai yn hanfodol bwysig, oherwydd y peth olaf yr ydych chi eisiau ei wneud yw poeni am ddod o hyd i arian i barcio pan ydych naill ai'n mynd i apwyntiad claf allanol neu, yn wir, yn ymweld â’ch anwyliaid. Felly, credaf fod llawer i'w ddathlu, ac afraid dweud, fy ymrwymiad llwyr a’m cefnogaeth i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y GIG.

Ond roedd arnaf eisiau defnyddio'r cyfle hwn i sôn am y sgandal gwaed wedi'i heintio, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn un o'r materion mawr y mae’r GIG wedi gorfod ymdopi â nhw. Roedd arnaf eisiau sôn amdano heddiw, oherwydd cafwyd cytundeb ar y cylch gorchwyl ddoe yn y Senedd, sy’n golygu y gallwn nawr symud ymlaen gyda'r ymchwiliad. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod, rydym i gyd wedi chwarae rhan flaenllaw gyda'r ymchwiliad hwn yma, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, gyda’r teuluoedd a’r bobl sydd wedi dioddef. Wrth gwrs, yng Nghymru, bu farw 70 o bobl o ganlyniad i’r sgandal hwn. Felly, yr hyn y mae gwir angen inni ei wneud nawr yw gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael atebion. Mae dau ymchwiliad blaenorol wedi bod, ond dydy’r rheini ddim mewn gwirionedd wedi darganfod pam roedd y gwaed wedi'i heintio hwn yn dal i gael ei roi i bobl a oedd yn dioddef o hemoffilia, a bod llawer ohonynt wedyn wedi dal AIDS/HIV drwy’r gwaed wedi'i heintio.

Felly, tybed beth allai Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud wrthym am sut y mae’n gweld Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn nawr bod yr ymchwiliad hwn wedi dechrau, ac a all y Llywodraeth gynnig unrhyw gymorth i'r grŵp sydd, o dan arweinyddiaeth Hemoffilia Cymru, yn cyflwyno achos cleifion Cymru i'r ymchwiliad cenedlaethol. Rwy’n gobeithio y gall y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio gymryd rhan fel cyfranogwr craidd, gan mai ni sydd wedi bod yn ymgyrchu am yr ymchwiliad hwn dan arweiniad barnwr, ond hoffem sicrhau bod lleisiau pawb yng Nghymru yn cael eu clywed. Felly, rwy’n credu ei bod yn briodol codi'r mater hwn ar y diwrnod pan ydyn ni’n nodi’r dengmlwyddiant a thrigain, oherwydd mae'n fater sy’n ymwneud â’r gwasanaeth iechyd sydd mor hanfodol bwysig ac mor gyfredol i lawer o'n hetholwyr yng Nghymru.

15:30

Ie, a hoffwn gydnabod yn benodol y pwynt am yr ymchwiliad i waed wedi'i heintio. Mae effaith y gwasanaeth iechyd mor fawr oherwydd ein bod yn cydnabod yr heriau a fyddai gennym hebddo. Mae hynny hefyd yn golygu bod yna adegau pan fydd gofal iechyd yn mynd o'i le ac yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl hefyd. Ac mae bob amser rhywbeth i'w ddysgu o gwynion ac o achosion pan fyddwn yn gwneud pethau'n anghywir. Ac, mewn gwirionedd, mae'r sgandal gwaed wedi'i heintio wedi arwain at welliant sylweddol yn niogelwch a'r gallu i olrhain y defnydd o waed a chynhyrchion gwaed yn ein gwasanaeth iechyd. Gallwn fod yn falch iawn o'r gwaith a wneir gan Wasanaeth Gwaed Cymru wrth arloesi amrywiaeth o wahanol ffyrdd o gyflawni buddion meddygol. Yr her wedyn, wrth edrych yn ôl, yw nid yn unig sut y byddwn yn dysgu gwersi ond yr her hon o ddeall beth ddigwyddodd mewn gwirionedd. Dyna'r gŵyn fwyaf sydd gan bobl, yn fy marn i, eu bod yn credu nad ydynt erioed wedi cael gwybod y gwir ac na wnaethant erioed gyrraedd y gwir. Felly, rwy'n croesawu nid yn unig yr ymchwiliad, ond y ffordd y mae Syr Brian Langstaff wedi mynd ati i gynnal yr ymchwiliad fel y Cadeirydd a benodwyd—barnwr sydd wedi ymddeol yn ddiweddar a dyn sy'n meddu ar unplygrwydd sylweddol. Rwy'n credu ei fod wedi datblygu ffydd gan gymuned nad oedd yn siŵr, mewn gwirionedd, y gallen nhw fod â ffydd yn yr ymchwiliad ei hun. Ac rwy'n credu hefyd y bu o gymorth i symud yr adran noddi o Adran Iechyd y DU i Swyddfa Cabinet y DU, ac rwy'n croesawu'r cam a gymerwyd i wneud hynny.

Felly, rydym ni eisiau annog pobl i roi tystiolaeth. Mae fy swyddogion yn parhau i gael sgyrsiau rheolaidd â Hemoffilia Cymru a rhanddeiliaid eraill yma yng Nghymru am eu disgwyliadau ar gyfer yr ymchwiliad a'r busnes ymarferol o sut yr ydym yn eu cefnogi i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad, gan gynnwys yma yng Nghymru. Rydym wedi gofyn am hynny a chredaf y bydd hynny'n digwydd. A'n her ni yw sut y cawn ni sgwrs â nid yn unig Swyddfa'r Cabinet, ond yr ymchwiliad ei hun ynghylch sut y mae'n mynd ati i weithredu i wneud yn siŵr y gall pobl ddweud eu stori mewn gwirionedd a gofyn cwestiynau os ydyn nhw o'r farn nad ydyn nhw wedi cael eu hateb o'r blaen. Ac, yn hynny o beth, rwy'n falch iawn fod Syr Brian wedi nodi ei fod yn disgwyl y bydd arbenigwyr ychwanegol ar gyfer rhannau penodol o'r ymchwiliad. Felly, dydyn nhw heb ddiystyru bod ag aelodau ategol ychwanegol i eistedd gydag ef pan ddaw'r trafodaethau, ond, yn y rhan casglu tystiolaeth ohono, mae'n bwriadu gwneud defnydd o arbenigedd ychwanegol ar gyfer gwahanol rannau o'r hyn a aeth o'i le ar y pryd, ac rwy'n credu bod hynny yn fantais wirioneddol. Felly, rwy'n ymdrin â hyn gyda rhywfaint o optimistiaeth bwyllog ar y cychwyn, ond byddwn, wrth gwrs, yn parhau i wrando a gweithio gyda rhanddeiliaid yma yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r cyfle i allu croesawu'r datganiad yma a hefyd gallu datgan pen-blwydd hapus i'r gwasanaeth iechyd yn 70 mlwydd oed. A hefyd a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i Aneurin Bevan a hefyd i Dr Julian Tudor Hart, a fu farw yn y dyddiau diwethaf yma, ac y bum i'w gyfarfod ef sawl tro fel cyd-feddyg teulu yng Nghymoedd y De yma? Ond, yn y bôn, felly, rydym ni yn dathlu goroesiad gweledigaeth o driniaeth rhad ac am ddim yn seiliedig ar angen yn unig a gwasanaeth iechyd wedi'u ariannu o drethiant cyffredinol—pawb, felly, yn rhannu ac yn talu am y risg. A rhywbeth unigryw dros rhan fwyaf o'r byd, a dweud y gwir, ydy'r syniad yna bod pawb yn rhannu yn y risg yn ogystal ag yn cyfrannu i'r taliad. A'r gwasanaeth iechyd, felly, yn mynd i'r afael efo anghyfartaleddau iechyd go iawn felly, achos mae gorfod talu am driniaeth wastad yn mynd i waethygu pethau yn nhermau anghyfartaledd iechyd, gan na fydd rhai pobl yn gallu talu am y driniaeth. 

Nawr, rwyf i wedi bod yn feddyg ers 38 o flynyddoedd nawr, sef dros hanner bodolaeth y gwasanaeth iechyd, ac yn falch iawn o dal i fod yn feddyg yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd y dyddiau hyn. Balchder hynod, mae'n rhaid cyfaddef, achos mae rhai pobl sy'n dod i fy ngweld i rŵan fel cleifion, roedden nhw'n blant pan wnes i ddechrau gweithio fel meddyg, a nawr maen nhw'n neiniau ac yn deidiau eu hunain, ac mae'n anrhydedd bod yn llinyn di-dor mewn bywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru heddiw.

Nid ydym ni'n gallu gorbwysleisio'r rhyddhad o fynd ag arian allan o'r drafodaeth—o fynd ag arian allan o'r consultation. Wrth gwrs, mi ddaeth taliadau am bresgripsiwn i mewn yn 1951, ac mi wnaeth Aneurin Bevan adael y Cabinet yn sgil hynny. Ac, wrth gwrs, y Llywodraeth yn fan hyn ddaeth â'r polisi yna yn ôl i rym rhyw 11 mlynedd yn ôl. Gyda dileu talu am bresgripsiwn, rydym ni'n wirioneddol yn gallu canolbwyntio ar y triniaethau gorau, achos mae talu am bresgripsiwn yn Lloegr yn golygu eich bod chi'n talu dros £8 am bob eitem sydd ar eich presgripsiwn chi. Felly, nid oes yn rhaid i ni orfod tan-drin ein cleifion yma yng Nghymru achos ein bod ni fel meddygon yn pryderu am y gost i'r claf. Nid oes yn rhaid i ni newid y driniaeth neu beidio â phresgreibio rhywbeth o achos y gost, yma yng Nghymru, i'w gyferbynnu â'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr.

Byddem ni'n syfrdanu, felly, o orfod cynilo ein harian, neu werthu ein tŷ, neu dalu crocbris am gymorth iechyd—a allwch chi feddwl am y sefyllfa? Mewn sawl gwlad heddiw mae'n rhaid i chi gasglu arian cyn i chi gael llawdriniaeth; nid fel yna efo'r gwasanaeth iechyd. Ond, yn rhyfeddol, heddiw yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, dyna yw ein sefyllfa ni efo gofal cymdeithasol. Mae disgwyl i bobl arbed eu harian, i gynilo. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, werthu eu tŷ. Mae disgwyl iddyn nhw, weithiau, dalu crocbris am gymorth gofal cymdeithasol heddiw. Buaswn i'n dweud, wrth inni ddathlu gwasanaeth iechyd am ddim yn seiliedig ar angen yn unig, wedi'i ariannu o drethiant cyffredinol, fod angen yr un un ateb i ofal cymdeithasol, a chael hwnnw am ddim, ar sail gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol. A fyddech chi'n cytuno?

15:35

Diolch i chi am eich sylwadau. Yn rhyfedd ddigon, fe wnaethoch chi sôn am Julian Tudor Hart—dyn yr ydych chi wedi ei gyfarfod sawl gwaith eich hun—cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng nghyfadran de-orllewin Cymru o Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac roedd yn dal ganddo ddigon i'w ddweud ar yr adeg honno, fel yr oedd ganddo bob amser. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud am rannu risg a rhannu buddion, ac rydym yn gweld gwledydd datblygedig—nid dim ond gwledydd datblygol y byd, gwledydd datblygedig—lle nad oes ganddyn nhw yr un mynediad breintiedig ag sydd gennym ni fel hawl yn y wlad hon, yr Unol Daleithiau yw'r enghraifft fwyaf amlwg, lle mae pobl yn dal i fod yn methu fforddio yr hyn y byddem ni yn ei ystyried yn ofal iechyd sylfaenol.

Ar eich her ynghylch cyllido gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn 'Cymru Iachach', fe wnaethom ymrwymo i adolygu anghenion yn y dyfodol ar sail gofal cymdeithasol ac i wneud hynny mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac, yn benodol, Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, ond i adolygu'r cyllid i fynd gyda hynny hefyd. Yn hynny o beth, yn yr wythnos ddiwethaf cawsom yr adroddiad gan Gerry Holtham, yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol a'r opsiynau posibl ar gyfer sut y gallem ni ddewis defnyddio ein pwerau yn y lle hwn i lenwi'r bwlch yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Byddwn i'n falch iawn pe na fyddai angen i ni wneud hynny, pe byddai yna setliad gwahanol ar lefel y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ond ni ddylem ni aros i hynny fod yn wir. Mae ei gynnig ef o greu cronfa sy'n cael ei neilltuo at ddibenion gofal cymdeithasol yn arbennig o ddiddorol, ac mae Gweinidogion o bob rhan o'r Llywodraeth yn edrych ar y cynigion hynny i geisio deall beth y mae'r cynigion hyn yn ei olygu i ni. Rwy'n edrych ymlaen at amrywiaeth o ymgysylltiad traws-sector ac ymwneud yn yr hyn y mae'r cynigion yn ei olygu, oherwydd mae hon yn her i'r wlad ac nid dim ond i un blaid wleidyddol.

Mae gennyf ddau siaradwr arall, a galwaf ar y ddau ohonyn nhw er ein bod ni'n brin o amser, ond dydy hynny ddim yn arwydd y gallwch chi fynd ymlaen am bum munud, ac rwy'n siŵr na wnewch chi, y naill na'r llall ohonoch chi. David Rees.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a wnaf i ddim. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n gyfle i mi gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad o holl staff y GIG sydd wedi gweithio dros y 70 mlynedd hynny ac sy'n dal i weithio ac a fydd yn gweithio yn y blynyddoedd sydd i ddod. Eto rwy'n cofnodi, Dirprwy Lywydd, fod fy ngwraig yn un o'r aelodau staff hynny ar hyn o bryd. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Dr Julian Hart, a fu farw ddydd Sul? Wrth gwrs, roedd yn feddyg teulu yng Nglyncorrwg yn fy Nghwm Afan i. Mewn gwirionedd, gweithiodd ochr yn ochr â Dr Brian Gibbons, fy rhagflaenydd, a chyn Weinidog iechyd hefyd. Felly, mae'n adnabyddus i lawer ohonom ni, ac mae ei golli yn golled drist i gymdeithas oherwydd y gwaith a wnaeth dros gymunedau difreintiedig, yn enwedig yn y Cymoedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at nifer o faterion, a chredaf efallai mai un o'r pethau mwyaf yr ydych chi wedi tynnu sylw ato yw'r ddealltwriaeth bod angen newid, ac mae'n rhaid inni rymuso'r newid hwnnw, o fewn y gwasanaeth a hefyd o fewn y cyhoedd. Rhan o'n swyddogaeth ni fel gwleidyddion yw derbyn yr her honno ac arwain y newid hwnnw—[Anghlywadwy.]—unrhyw le arall ac i gydnabod na allwn ni ddal ati i ddweud, 'Wel, roedd yn gweithio'n well 10 mlynedd yn ôl, felly dyna'r ffordd y mae'n rhaid iddo aros', ond wrth wneud hynny, mae angen inni hefyd felly edrych ar strategaethau ar gyfer y newid hwnnw. Yn amlwg, yn ddiweddar, yn fy ardal i fy hun, rydym ni wedi gweld newid yn y strategaeth o gau gwelyau fel enghraifft, ond nid oes gennym ni strategaeth glinigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cynlluniau a rhaglenni gwych—y cynllun cyflawni gofal canser, y cynllun gofal anadlol, a llawer o rai eraill—ond y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: ble mae'r ystyriaeth gydgysylltiedig i sicrhau y gall yr holl gynlluniau hyn weithio gyda'i gilydd i gyflawni strategaeth glinigol ar gyfer y gwasanaeth cyfan, a sut mae'r byrddau iechyd hefyd yn sicrhau bod ganddyn nhw strategaeth glinigol? Felly, pan fyddwn yn dod ar draws gwasanaeth sy'n gweithio'n well, sy'n gwella oherwydd mesurau effeithlonrwydd, yn hytrach na chau gwelyau rydym yn ystyried sut orau y gallwn ni ddefnyddio'r gwelyau hynny i wella'r strategaethau mewn meysydd eraill i ddarparu'r gwasanaeth ar gyfer ein cleifion. Rwy'n credu bod hynny'n gam pwysig ymlaen oherwydd yr wyf i—fel Angela Burns—eisiau ei weld, nid dim ond am 30 mlynedd neu 70 o flynyddoedd—a byddaf i ddim yma mewn 70 mlynedd—ond am flynyddoedd i ddod, fel bod gan ein plant ni, eu hwyrion a'u plant hwythau y tu hwnt i hynny wasanaeth y gallan nhw ddibynnu arno am ddim pan fydd ei angen. Mae gen i chwaer yn America, ac nid oes ganddi hi'r gwasanaeth hwnnw. Credwch chi fi, dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw beth tebyg i hynny. Mae angen inni sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau, ond mae'n rhaid inni groesawu newid, ond hefyd newid sy'n mynd â ni gydag ef, ac sy'n cario cleifion gydag ef. Felly, mae hynny'n bwysig.

A gaf i hefyd ofyn y cwestiwn: roedd Rhaglen De Cymru yn amlwg yn un o'r dulliau hyn y byddem ni'n gweld y newid hwn yn ei sgil, ond ychydig iawn yr wyf i'n ei weld o ganlyniad i Raglen De Cymru, felly pryd fyddwn ni'n gweld mwy ar hynny i sicrhau y bydd y newid yn y gwasanaeth, a gafodd ei arwain gan glinigwyr, yn sicrhau y newidiadau hynny y mae eu hangen arnom ni mor druenus? Oherwydd rydym ni'n gwybod bod her anodd o'n blaenau. Rydym ni'n gwybod bod yr adnoddau yn anodd.

Yn olaf, o ran y gweithlu, rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi pwynt pwysig iawn ynghylch sut yr ydym ni'n ei ddatblygu, a gwnaethoch chi ateb yn eithaf da. Nid yw'n ymwneud â nyrsys a meddygon yn unig; mae'n ymwneud ag amrywiaeth eang o staff. A allwch chi sicrhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cwmpasu'r amrediad eang hwnnw o staff, ac, os ydym ni'n sôn am offer newydd, fod gennym ni hefyd y staff ychwanegol i ddefnyddio'r offer newydd hwnnw? Oherwydd mae sganiwr tomograffeg allyrru positronau mewn ysbyty newydd yn wych, ond mae angen staff i weithredu'r sganiwr PET hwnnw, ac mae'r staff hynny yn bwysig i'r ddarpariaeth.

15:40

Da clywed sôn am un o'm rhagflaenwyr, Dr Gibbons, a welais yn ddiweddar, wrth gyfeirio at Julian Tudor Hart hefyd—ac mae Dr Gibbons yn dal i fod yn llawn syniadau a safbwyntiau ynghylch dyfodol y gwasanaeth.

O ran eich pwynt ynglŷn â strategaeth glinigol, mae yna her ynghylch beth ddylai fod yn genedlaethol a beth ddylai fod yn rhanbarthol, a sut mae angen i'r strategaeth glinigol gyd-fynd a chael ei chynllunio ar y cyd â'r strategaeth gofal ehangach yn y rhanbarthau. Dyna pam yr ydym ni'n edrych ar sut mae gan ofal cymdeithasol ac iechyd gynlluniau lefel uchel sydd wedi'u cynllunio gyda'i gilydd, yn ogystal, yn wir, â sut mae'r byrddau iechyd eu hunain yn gweithio ochr yn ochr. Felly, mae'r gwaith y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft, yn raddol yn gwneud mwy ohono gyda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn bwysig iawn. Mae ganddyn nhw ddarlun mwy cydgysylltiedig o ba wasanaethau y dylid eu darparu ymhle, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran mynediad a rhagoriaeth y gwasanaethau hynny hefyd, heb anghofio, wrth gwrs, ein bod ni eisiau cynnal gwasanaethau lleol o hyd. Pan fyddwn yn sôn am uno gwasanaethau, mae'r pwyslais unwaith eto yn aml ar wasanaethau ysbyty yn hytrach na lle mae mwy na 90 y cant o ymadweithiau salwch yn digwydd. Daw hynny eto yn ôl at y pwynt am ein staff, a phwysigrwydd hanfodol mai'r staff sy'n arwain sgwrs am ba fath o newid a pham mae'n beth da neu beidio. Fel yr oeddwn yn dweud, dydy'r ffaith fy mod i'n mynd yno mewn siwt ddim yn mynd i argyhoeddi criw mawr o bobl beth ddylai dyfodol y gwasanaeth fod—mae cael chwech o wahanol weithwyr iechyd a gofal yn argyhoeddi llawer, llawer mwy, yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu hadnabod fel pobl sy'n byw yn y gymuned honno ac sy'n gwasanaethu'r gymuned arbennig honno, lle bynnag y bo.

Mae eich pwynt ynghylch Rhaglen De Cymru yn un da. Cafodd ei harwain gan glinigwyr. Cafwyd cytundeb ar yr hyn y dylid ei wneud, ac rydym wedi cyflawni nifer o'r pethau hynny. Ond, unwaith eto, mae'n ddefnyddiol yn tynnu sylw at y pwynt ynghylch cyflymder a maint y newid. Rydym ni wedi cymryd amser hir i beidio â darparu'r rhaglen gyfan, a dyna un o'r pethau y mae angen i ni allu ei oresgyn a'i osgoi yn y dyfodol, oherwydd mae'r cyflymder yr ydym ni'n gallu symud ymlaen yn peri rhwystredigaeth i bawb, mae'n gwneud pobl yn bryderus ynghylch a fydd newid yn digwydd mewn gwirionedd ac mae'n golygu nad ydym yn cyflawni'r gwelliannau yr ydym yn cydnabod sy'n angenrheidiol mor gyflym ag y bo modd. Felly, ydy, mae gwaith de Cymru yn dal i gael ei gyflawni, ac mae blociau adeiladu allweddol wedi digwydd, ond rwyf eisiau gweld hyn yn digwydd yn llawer cyflymach yn y dyfodol ar gyfer y newid yr ydym ni'n sôn amdano. Fel arall, bydd pwy bynnag fydd yn fy olynu i yn y swydd hon ar ryw adeg yn y dyfodol yn dal i fod yn sôn am yr un pethau, yr un heriau a'r un problemau, heb allu gwneud i newid ddigwydd. Gallaf eich sicrhau chi, gobeithio, y bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn defnyddio dull holl staff ar gyfer pob gradd a math o staff. Mae'n ymwneud â gweithredu mewn dull cyfannol a gwirioneddol integredig ar ddyfodol y staff y mae eu hangen arnom heddiw, ac, wrth gwrs, ar gyfer yfory.

15:45

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ben-blwydd y GIG yn saith deg? Cafodd ei eni yng Nghymru o ganlyniad i un dyn, Aneurin Bevan, a oedd â'r ewyllys gwleidyddol ac argyhoeddiad cryf a gweledigaeth i fwrw ymlaen â hyn, gan ddatblygu ar y Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar leol, fel y dywedasoch, a'i hysbrydolodd cymaint.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai nad ydych chi wedi cael y cyfle yn eich amserlen brysur i weld y gerdd i'r GIG a grëwyd gan y bardd o Gymru Owen Sheers a'i ffilm To Provide All People. Cafodd ei darlledu yr wythnos diwethaf a phenwythnos diwethaf. Dewisodd anrhydeddu ei ysbyty cyffredinol dosbarth lleol, Nevill Hall, ac mewn rhagolwg yn y Radio Times—cafodd ei ffilmio yn Ysbyty Nevill Hall—siaradodd fel teyrnged i Ysbyty Nevill Hall, lle cafodd ei fam ei phen-glin newydd, lle cafodd ei ferch ei geni'n gynnar gan dderbyn gofal a achubodd ei bywyd, a lle mae ei ferch hynaf yn mynychu clinigau offthalmoleg. A wnewch chi ymuno ag Owen Sheers a minnau i ddiolch i staff Ysbyty Nevill Hall am eu hymroddiad i ofal a rhagoriaeth glinigol, y gwyddom y cânt eu hailadrodd yn ein hysbytai ledled Cymru? A fyddech chi hefyd yn cytuno ag Owen Sheers pan fo'n disgrifio'r hyn a gyflawnodd Nye Bevan—creu'r GIG fel cofeb gymunedol, ac eto darparu gofal i'r unigolyn, a diwallu anghenion iechyd y boblogaeth? A ydych chi'n cytuno mai dyma sut y mae'n rhaid i ni gynnal a diogelu ein GIG yng Nghymru?

Hoffwn i hefyd roi teyrnged i Dr Julian Tudor Hart, a fu farw dros y penwythnos yn dilyn ymddeoliad gweithgar iawn, yn arwain y Gymdeithas Iechyd Sosialaidd, ar ôl 30 mlynedd fel 'math newydd o feddyg'. Ysgrifennodd lyfr am hynny, yn amlwg, o'i brofiad yn ei ganolfan iechyd yng Nglyncorrwg, pan ysbrydolodd Dr Brian Gibbons i ddod o Iwerddon i weithio yno ac yna i ddod yn Weinidog iechyd yma. Roedd Julian yn ddylanwad enfawr arnaf i cyn imi ddod yn Aelod o'r Cynulliad a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyntaf. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd honno, bu'n ddylanwad ysbrydoledig a chefnogol yn y dyddiau cynnar hynny. Hoffwn ichi fynegi unwaith eto eich bod yn cydnabod ei gyfraniad i'r gyfraith gofal gwrthgyfartal. Edrychais ar y papur yn The Lancet a ysgrifennodd—roedd hynny yn ôl yn 1971—ac yn y crynodeb mae'n dweud:

Mae argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio yn wrthgyfartal â'r angen amdano yn y boblogaeth a wasanaethir. Mae'r gyfraith gofal gwrthgyfartal hon yn gweithredu'n fwy cyflawn lle mae gofal meddygol fwyaf agored i rymoedd y farchnad, a llai felly pan fo amlygiad o'r fath yn llai.

A ydych chi'n cytuno ei bod yn dal yn berthnasol heddiw fel tystiolaeth, a bod gennym ni ddyletswydd yma yng Nghymru i sicrhau mai ein polisi a'n hymrwymiad ni yw darparu gofal iechyd am ddim i bawb, heb effaith negyddol grymoedd y farchnad?

Bydd gwaith Julian Tudor Hart yn parhau i herio nid yn unig y rhan hon o system y gwasanaeth iechyd gwladol, ond mewn gwirionedd bob rhan o'r byd datblygedig. Yr her yw mai'r rhai sydd fwyaf angen gofal meddygol yw'r lleiaf tebygol o'i dderbyn a'i ddefnyddio, er bod y rhai hynny â'r angen lleiaf am ofal iechyd yn tueddu i ddefnyddio gwasanaethau iechyd yn fwy, ac yn fwy effeithiol. Mae hynny'n her i amrywiaeth o'n gwasanaethau cyhoeddus, mewn gwirionedd, nid dim ond y gwasanaeth iechyd. Dyna pam mae'n arbennig o ddiddorol—a soniais amdano yn fy natganiad agoriadol—eich bod yn gallu gweld byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar eu gwaith ar raglen y gyfraith gofal gwrthgyfartal. Mae hynny'n achos gwirioneddol inni ddathlu, eu bod yn troi'r gornel ar anghydraddoldeb iechyd. Yr her erbyn hyn, fel yn achos cymaint o rai eraill, yw gallu ei gyflwyno'n fwy cyson ar draws y wlad.

Rwy'n cydnabod eto y pwyntiau a wnaed am y cyfraniad a'r fantais gymunedol ac unigol i'r gwasanaeth iechyd. Rwyf wedi cael amser i wylio To Provide All People. Fe wnes i ei mwynhau yn fawr: amrywiaeth o straeon, a'r actorion yn darllen geiriau a ddarparwyd gan bobl yn disgrifio eu profiad gwirioneddol o'r gwasanaeth iechyd mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Doedd e' ddim yn waith ffuglen. Roedd yn adrodd straeon am bobl yn y gwasanaeth ac o'i gwmpas. Roedd yn arbennig o drist i mi oherwydd dyna lle bu farw fy nhad—Ysbyty Nevill Hall. Rwy'n cofio cael galwad ddagreuol gan fy mam a mynd i'r tŷ lle'r oeddynt wedi ymddeol iddo yn Llangynidr a dod o hyd i olion y fan lle'r oedd fy nhad wedi cael codwm, ymweld ag ef yn yr ysbyty, siarad ag ef. Fi oedd yr un olaf yn fy nheulu i siarad ag ef yn Nevill Hall. Nid y ffaith eu bod wedi gofalu am fy nhad yn unig yr wyf yn ei gofio, ond rwy'n cofio'n arbennig am y caredigrwydd a'r tosturi y gwnaethant ei ddangos i fy mam. Ni allai hi dderbyn nad oedd e'n mynd i ddod yn ôl. Pan oedd ar beiriant anadlu, doedd hi ddim yn credu nad oedd e'n mynd i ddod yn ôl, ac roedd y ffaith iddynt wneud hynny'n dyner, ond gwneud hynny fel y dylasent fod wedi'i wneud, heb roi gobaith ffug, yn garedigrwydd mawr, yn fy marn i. Rwy'n credu mai'r caredigrwydd a'r tosturi hwnnw yw'r hyn y mae pobl yn ei gofio pan fyddan nhw'n meddwl am y rhan orau o'n gwasanaeth iechyd—nid dim ond y peiriannau, ond y bobl sy'n rhoi ac yn darparu'r gofal.

15:50
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeiriad y Goruchaf Lys: Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar gyfeiriad y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (yr Alban). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 7 Mehefin, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn dweud fy mod i wedi gwneud cais i'r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn atgyfeiriad Bil Ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban). Rwyf wedi derbyn cadarnhad bod modd i mi, ynghyd â Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, gymryd rhan, sy'n golygu y bydd dadansoddiad a rhesymeg y Goruchaf Lys yn seiliedig ar farn pob rhan unigol o'r Deyrnas Unedig.

Yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan yr holl bartïon i'r trafodion, ffeiliais fy achos ysgrifenedig â'r Goruchaf Lys ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Gadewch imi fod yn glir: nid yw cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'n Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y gwyddoch, drwy'r newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chytundeb rhynglywodraethol, rydym wedi sicrhau amddiffyniadau ar gyfer datganoli yng Nghymru ac wedi gwneud yn siŵr bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn aros yn ddatganoledig.

Fodd bynnag, mae materion a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban yn eu hachos hwy yn codi cwestiynau ynghylch pob un o'r setliadau datganoli yn y DU ac nid ydynt yn gwbl gyfyngedig i Fil yr Alban nac i setliad datganoli yr Alban. Felly, mae ein cyfranogiad yn achos yr Alban gerbron y Goruchaf Lys yn crybwyll y materion hyn sydd yn ymestyn y tu hwnt i setliad yr Alban ac sy'n ymwneud â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac mae'n hanfodol felly bod gan Gymru lais. Rwy'n dymuno bod yn glir na fyddaf yn trafod y materion penodol sy'n arbennig i Fil yr Alban a setliad datganoli yr Alban, yr ymdrinnir â nhw, wrth gwrs, gan Arglwydd Adfocad yr Alban ac Adfocad Cyffredinol yr Alban. Mae fy achos ysgrifenedig felly yn canolbwyntio ar y pedwar mater a ganlyn.

Yn gyntaf, rwy'n ymdrin â'r cwestiwn o ba effaith y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad. Rwy'n dadlau'n gryf y bydd gadael yr UE yn golygu na fydd y pwerau hynny mewn meysydd datganoledig, sy'n eistedd ar hyn o bryd gyda'r UE—er enghraifft o ran cymorth amaethyddol—yn cael eu cyfyngu mwyach gan gyfraith yr UE. Fel y mae'r Goruchaf Lys ei hun wedi nodi yn achos Miller, bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gwella cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Mater i'r Cynulliad yw penderfynu os yw'n dymuno 'cyfuno' rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU neu beidio.

Mae'r ail fater yn ymwneud ag ymarferoldeb deddfwriaethol ymadael. Mae fy achos yn nodi bod deddfu ar gyfer canlyniadau domestig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, pan fo'r canlyniadau hynny yn ymwneud â materion nad ydynt wedi'u cadw, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn llwyr ac nid o fewn cymal cadw'r cysylltiadau rhyngwladol.

Yn drydydd, rwy'n dadlau ei bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad yn llwyr i ddeddfu cyn ymadael er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol y mae angen iddynt fod ar waith o'r diwrnod cyntaf ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn wir, pe gellid dweud bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn torri cyfyngiad cyfredol cyfraith yr EU, byddai'r un peth yn wir am allu'r Senedd i ddeddfu'n gyfreithiol yn y fath fodd cyn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, bwriad sydd wrth wraidd Deddf Ymadael â'r UE Llywodraeth y DU ei hun.

Mae'r pedwerydd pwynt yn fy achos yn ymdrin â chwmpas pŵer y llysoedd i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad y tu allan i'r hyn y darperir yn benodol ar ei gyfer dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel yr eglurodd y Goruchaf Lys yn achos AXA, lle ceir deddfwrfeydd datganoledig a etholwyd yn ddemocrataidd yn gweithredu o fewn cwmpas y fframweithiau datganoli a osodwyd gan y Senedd, ni all llysoedd adolygu eu deddfau ac eithrio ar sail gyfyngedig iawn, a dim ond lle mae hawliau sylfaenol neu hanfod rheol y gyfraith yn y fantol. Roedd yr enghreifftiau a roddodd y llys yn yr achos hwnnw yn cynnwys Deddf a fyddai'n diddymu'r hawl i adolygiad barnwrol, er enghraifft, neu a fyddai fel arall yn diddymu'r hawliau sylfaenol. Yn amlwg, nid yw Bil parhad yr Alban yn ddeddfwriaeth o'r fath eithafol hwnnw.

Rwy'n gobeithio bod hyn yn egluro fy rhan i yn y trafodion hyn. Nid fy ngwaith i, fel y mae rhai yn anghywir—yn wir, yn rhyfedd iawn—wedi awgrymu, yw cefnogi'r Twrnai Cyffredinol a'r Adfocad Cyffredinol yn eu cyfeiriad o Fil yr Alban, ond yn hytrach i wneud yn siŵr bod llais Cymru i'w glywed ar y cwestiynau ehangach hyn, wrth i ddatganoli gael ei amddiffyn gerbron y Goruchaf Lys. A rhag bod unrhyw un yn aneglur ynghylch fy sefyllfa i o ran Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), byddaf yn ailadrodd fy mod yn parhau'n hyderus 100 y cant bod y Ddeddf o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Pe na byddai'r Twrnai Cyffredinol wedi tynnu'n ôl ei gyfeiriad yn dilyn casgliad llwyddiannus y cytundeb rhynglywodraethol, byddwn wedyn wedi amddiffyn y Ddeddf yn llawn gerbron y Goruchaf Lys. Nawr bod yr holl bartïon wedi ffeilio eu hachosion, rydym yn aros am y gwrandawiad, a gynhelir ar 24 a 25 Gorffennaf, a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau. 

15:55

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n derbyn y pwynt bod hwn yn gyfeiriad pwysig, er nad yw'n un gweithredol i Lywodraeth Cymru, gan eu bod yn awr wedi dod i gytundeb, a chytundeb cadarn iawn, yn fy marn i, â Llywodraeth y DU. Ein safbwynt ni bob amser, yr ochr hon i'r Cynulliad, oedd bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn parhau i fod yn amddiffyniad allweddol, ond ceir amwysedd ynddi, yn enwedig pan fo'r Llywodraeth o'r farn y gall wrthod cydsyniad yn afresymol, ac rwy'n credu mai dyna y mae llawer ohonom yn credu yw'r sefyllfa yn yr Alban. Ond mae hynny'n ein harwain ni i dir mwy dadleuol, does dim amheuaeth am hynny.

Mae sut yr ymdrinnir ag anghydfodau awdurdodaeth yn bwysig iawn mewn ffurfiau datganoledig o Lywodraeth ac mae rhaid i bob system feddu ar fecanweithiau cadarn o wneud hyn. A byddwn i'n dadlau bod gan y Goruchaf Lys hanes da o neilltuo'r amser a'r ystyriaeth angenrheidiol er mwyn datrys yr anghydfodau hyn. Mae'r un presennol yn amlwg yn fater anodd iawn iddynt ei ystyried, oherwydd mewn gwirionedd roedd Llywydd yr Alban mewn gwirionedd yn credu bod eu Bil y tu allan i'w hawdurdodaeth. Mae hwn yn amlwg yn ffactor allweddol ac mae angen ei ddatrys, er fy mod yn nodi'r hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol wrth amddiffyn Deddf Cymru.

Wrth i lywodraethu'r DU ddod yn fwy arwyddocaol o ganlyniad i adael yr UE, bydd angen yr eglurder mwyaf ar y ffiniau rhwng deddfu yn y DU a deddfu datganoledig, yn enwedig oherwydd, yn anochel—ac mae hyn yn wir ym mhob cyfundrefn ddatganoledig—ceir llawer iawn o feysydd o gyfrifoldeb a rennir, neu o leiaf bydd gweithredoedd un Llywodraeth yn effeithio ar un arall, weithiau i'r fath raddau y gall amharu ar y gallu gwirioneddol i ddeddfu mewn maes polisi penodol. Mae'r rhain yn faterion hollbwysig; rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae gennyf hyder y bydd y Goruchaf Lys yn ystyried yn effeithiol ac y bydd yr hyn y maent yn ei benderfynu o gymorth mawr i'r cyfansoddiad Prydeinig sy'n esblygu, yn enwedig yng ngoleuni her Brexit. Felly, nid oes gennyf gwestiwn penodol i'r Cwnsler Cyffredinol heblaw i ddweud, yn amlwg, y byddaf yn dilyn y trafodion yn ofalus pan fyddant yn dechrau ar eu trafodaethau yn ddiweddarach y mis hwn.

Diolch i'r Aelod am hynny ac am ei sylwadau. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod hwn, fel y mae'n ei ddweud yn ei gwestiwn, yn llwybr, sydd, yn amlwg, wedi'i bennu mewn statud er mwyn egluro materion o gyfraith gyfansoddiadol. Nid oedd y rheswm am yr ymyriad yn ymwneud mewn gwirionedd ag agweddau penodol ar Fil yr Alban. Yn amlwg, mater i Arglwydd Adfocad yn yr Alban yw gwneud yr achos er mwyn amddiffyn Bil yr Alban. Fy sylwadau fy hun oedd fy sylwadau am gymhwysedd yn hynny o beth. Ond aeth y ffordd y gosododd y Twrnai Cyffredinol yr achos â ni y tu hwnt, yn fy marn i, i faterion cul yn ymwneud â Bil yr Alban ac, yn wir, hyd yn oed i setliad datganoli'r Alban ei hun. Yn amlwg, yn enwedig ar ôl i'r Ddeddf Cymru ddiwethaf ddod i rym, ceir mwy o debygrwydd nag oedd yn y gorffennol. Felly, y dull o weithredu yr wyf wedi'i gymryd, a siarad yn gyffredinol, yw peidio ag ailadrodd y pwyntiau a wnaeth yr Arglwydd Adfocad wrth amddiffyniad Bil yr Alban, ond yn hytrach, cyfyngu'r achos ar ran Llywodraeth Cymru i egwyddorion cyfansoddiadol ehangach sy'n effeithio ar y setliad datganoli yma yng Nghymru. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig tynnu'r pwyslais at hynny, mewn gwirionedd, i sicrhau bod pryderon Llywodraeth Cymru a'r lle hwn, rwy'n gobeithio, wedi eu clywed mewn cyd-destun a oedd yn berthnasol ac yn benodol i brofiad Cymru a setliad Cymru.

16:00

Fe fyddai'n cymryd bargyfreithiwr o fri, a dweud y gwir, i lunio cwestiynau ar sail y datganiad yma, ond wedi dweud hynny, mae gen i ychydig o bwyntiau, ac un cwestiwn o leiaf. A gaf i yn gyntaf oll wneud y pwynt nad Llywodraeth yr Alban sydd wedi gwrthod cydsynio, wrth gwrs, i'r Ddeddf yma, ond Senedd yr Alban, gan gynnwys ei blaid yntau, y Blaid Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn yr Alban? Felly, mae'r achos yma yn un o bwys i gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol, ac er fy mod i'n derbyn yn llwyr yr hyn mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei ddweud—nad yw ei ymyrraeth ef yn ymwneud â'r cwestiwn yna, achos mae e wedi osgoi y dyfarniad rhwng y ddwy farn ynglŷn â chymhwysedd y Bil yma cyn belled â'r Alban—. Mae'n bwysig yn wleidyddol, serch hynny, fod y mater yma yn cael ei ddatrys a bod Senedd yr Alban yn cael eu cefnogi yn y ffordd maen nhw'n datgan eu priod hawliau nhw. Dyna sut rydym yn datblygu grymoedd seneddol, yn ôl traddodiad yr ynysoedd hyn, mae'n rhaid dweud.

A gaf i hefyd ddweud yn fras iawn fy mod i a Phlaid Cymru yn cytuno â'r pedwar maes mae wedi dewis ymyrryd yn eu cylch? Maen nhw’n bwysig i'r Cynulliad hwn, neu'r Senedd hon fel y bydd. Mae'r un sydd yn deillio o'r hyn ddigwyddodd yn achos AXA yn hynod bwysig, rydw i'n meddwl, achos mae'n gwneud yn glir ac yn cryfhau a chefnogi penderfyniadau cynt ynglŷn â lle mae llysoedd yn ymyrryd ynglŷn â Seneddau sydd wedi'u datganoli, sy'n bwysig, ac mae'r Bil yn codi rhai o'r cwestiynau yma. Felly, mae'n briodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn rhan o'r broses yn y Goruchaf Lys o ran Llywodraeth Cymru ac o ran cyfansoddiad Cymru yn y darn yna.

Y prif bwynt sy'n cael ei godi yw'r pwynt cyntaf mae'n ei wneud. Mae e'n dweud ei fod e'n rhan o'r achos yma oherwydd ei fod e'n credu bod cymhwysedd y Cynulliad hwn yn ehangu wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, gan fod deddfwriaeth Ewropeaidd, wrth gwrs, yn diflannu, ac rydym yn gwneud un o ddau beth: rydym naill ai'n datgan—fel rŷm ni wedi gwneud yn ein Bil parhad ein hunain, neu hwnnw sydd bellach yn Ddeddf, Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018—bod y ddeddfwriaeth honno'n parhau neu rŷm ni'n dod, naill ai ein hunain neu â chytundeb â rhai eraill, i roi deddfwriaeth arall yn ei lle. Felly, mae'n bwysig bod hynny yn cael ei ddatgan. Nawr, yn ei ddatganiad, mae'n disgrifio hwnnw fel:

'"cyfuno" rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU'.

Ond, yn rhyfedd iawn, wedi cael y gwahoddiad yma i redeg ras fel sbrint, mae e wedi dewis clymu y Cynulliad hwn mewn rhyw fath o ras deircoes gyda Llywodraeth San Steffan, achos dyna beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ei wneud, wrth gwrs, am saith mlynedd, sef cyfyngu ein gallu ni i ddefnyddio'r grym newydd yma sydd yn llifo i'r Cynulliad, ond yn hytrach drwy gytundeb sydd wedi'i gytuno rhwng dwy Lywodraeth, a fydd ddim yn eu lle fel yr un ddwy Lywodraeth ymhen saith mlynedd, i wneud y cyfan ar y cyd.

Mae gyda fe, wrth gwrs, ddehongliad gwahanol i fi a Phlaid Cymru ynglŷn ag a fydd hyn yn fygythiad i'r lle hwn, ond pan yw'n defnyddio'r gair 'bizarrely' yn ei ddatganiad, neu, i ddefnyddio tafodiaith Ceredigion, yn gomig efallai, Llywydd—beth sydd yn gomig yn y datganiad a'i gred yntau yn y materion yma yw bod gyda ni eisoes enghreifftiau o le nad yw Llywodraeth San Steffan yn dilyn ysbryd y cytundeb rhynglywodraethol. Mae sôn am Fil pysgodfeydd, mae sôn am Fil amaeth—mae papurau sy'n cael eu trafod ddiwedd yr wythnos yma ynglŷn â'r cytundeb masnach rŷm ni'n mynd i gael gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl y pwyllgor materion allanol a wnaeth gyfarfod ddoe, heb gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru eto. Dim ond y penawdau, yn fras iawn, sydd wedi cael eu rhannu. Felly, nid yw'n ymddangos i fi fod y cytundeb rhynglywodraethol yma, sydd yn sail, wrth gwrs, i'r ffaith nad yw'r Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn rhan o'r achos yn y Goruchaf Lys—nid yw'n ymddangos i fi fod y Llywodraeth wedi paratoi cytundeb digon cryf, ond rydw i wedi gwneud y pwyntiau yna o'r blaen, ac rydw i jest yn manteisio ar y cyfle i'w hailwneud nhw a'u hailddatgan nhw, sy'n dod â fi at yr un cwestiwn.

Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â Bil yr Alban a rôl y Cwnsler Cyffredinol, ond wedi dweud hynny, mae e'n gwybod nad yw ein Deddf ni ddim yn rhan o'r broses yma oherwydd ei bod hi wedi—wel, nid yw eto wedi ei diddymu, ond oherwydd bod yr ewyllys i'w diddymu wedi ei mynegi fel rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol. Beth, felly, nawr fydd y camau y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i ddiddymu ein Deddf ninnau? A fydd yna ymgynghoriad dros yr haf ar y camau hynny? A fydd yna gyfle eto i'r Cynulliad hwn drafod ac ailedrych ar y cytundeb rhynglywodraethol, a sut mae am weithio dros yr haf o ran nifer y penderfyniadau pwysig rydw i newydd eu hamlinellu? Beth, felly, fydd y terfyn i'r Cynulliad hwn ynglŷn â phenderfynu diddymu'r Ddeddf ai peidio?  

16:05

Diolch i'r Aelod am sawl sylwad ar feysydd eang, a'r cwestiwn ar y diwedd. Fe wnaf i drio sicrhau fy mod yn cyfeirio fy ateb at y prif bwyntiau a wnaeth. Wrth gwrs, rwy'n derbyn mai cydsyniad Senedd yr Alban, nid y Llywodraeth, oedd y cwestiwn. 

Mae'r datganiad yma'n gyfle i fi fod yn eglur nad o blaid achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yma. Fe wnaethpwyd sylwadau gan bobl ar feinciau ei blaid e yn San Steffan mai hynny oedd yn digwydd. Wel, nid dyna sy'n digwydd o gwbl. Rwy'n gobeithio bod hynny'n glir iawn o'r hyn rwyf wedi ei esbonio yn y datganiad yn gynharach.

O ran y pwynt ynglŷn â'r egwyddor gyfansoddiadol a drafodwyd yn AXA, mae'n bwysig ein bod ni yn cael sicrwydd ar yr egwyddor honno. 

Mae'r ffordd mae'r cwestiwn yma yn dod o flaen y Goruchaf Lys yn berthnasol, hynny yw mae'n dod trwy gyfeiriad at y Goruchaf Lys. Mae cwestiwn technegol yn codi yn sgil hynny, pa un a fyddai'r egwyddor gyffredinol yn ddilys yn y cyd-destun hwnnw neu beidio. Ond yn llawer pwysicach na hynny, mae'r ffaith bod y safon sy'n rhaid ei gyrraedd er mwyn i'r llys allu ymyrryd yn llawer iawn uwch na'r math o beth sydd gyda ni mewn golwg fan hyn, fel y byddai'n addas o fewn y setliad datganoli.

Rwyf wedi trafod sawl gwaith â'r Aelod y gwahaniaeth barn sydd gyda ni ar y cytundeb rhynglywodraethol. Jest er mwyn bod yn hollol glir ag e—os ydy e'n credu bod posibilrwydd o ryw 20 pŵer yn cael eu cytuno i gael eu rhewi yn lleihad ar bwerau y lle yma, beth felly yw'r dadansoddiad o'r dros 40 o bwerau sydd yn dod i'r lle yma heb unrhyw fath o gyfyngiad o gwbl ar y pwerau hynny? Rwyf jest ddim yn cydnabod y dadansoddiad hwnnw fel un sydd yn cyfyngu ar bwerau y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru hefyd. Ac i fod yn berffaith eglur, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu yn unol â'r cytundeb ymhob maes, ac i sicrhau eu bod nhw'n cadw i lythyren ac ysbryd y cytundeb ar bob achlysur. 

Fe wnaeth e ofyn am y camau sydd yn briodol i'w cymryd o dan y cytundeb hwnnw er mwyn diddymu Deddf—bellach—parhad y Senedd hon. Mae cytundeb o fewn y cytundeb hwnnw i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod hynny yn digwydd. Y peirianwaith ar gyfer hynny yw ein bod ni'n gosod regulations o flaen y Senedd mewn drafft am 60 diwrnod tra bod y Senedd yn eistedd, hynny yw ddim dros gyfnod yr haf. Bydd rhaid i'r Senedd gael dadl a chytuno ar y rheoliadau hynny cyn eu bod nhw'n dod yn gyfraith. Fe'u gosodwyd nhw ar 8 Mehefin. Oherwydd cyfnod yr haf, ni fydd yn bosibl cael trafodaeth ar y rheini tan ddechrau mis Hydref, ac felly, ar ôl hynny, bydd y broses yn mynd rhagddi, ar ôl i’r Cynulliad gael cyfle i drafod a phenderfynu ar y rheini. Mae’n rhaid i fi fod yn glir unwaith eto: nid oes cyfyngiad yn y cytundeb hwnnw i fi fel Cwnsler Cyffredinol rhag cymryd y cam rwyf i wedi’i gymryd i ymyrryd yn yr achos hwn. Ni fuaswn i’n ei wneud e petaswn i ddim yn golygu bod egwyddorion ehangach yn y fantol, ac rwyf felly wedi cymryd y cam pwysig hwn. 

16:10

Croesawaf y datganiad. Mae'n berffaith resymol, yn fy marn i, fod y Cwnsler Cyffredinol yn ceisio ymyrryd yn yr achos hwn yn sgil yr achos a ddygwyd gan Arglwydd Adfocad yr Alban. Mae datganoli yn broses esblygol ac yn anochel fe fydd ansicrwydd ac amwysedd a grëir gan y ddeddfwriaeth sy'n sylfaenol i'w gyflawni. Fe wnaethom ni symud o sail pwerau a roddir i sail pwerau a gedwir yn ôl, ac mewn ffordd mae hynny efallai yn darparu mwy o waith ar gyfer cyfreithwyr i ddatod pa feysydd o amheuaeth a fydd yn parhau i gael eu cadw yn ôl wrth i brofiad bywyd arwain at broblemau ymarferol sydd angen eu datrys. Felly, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gymryd rhan yn y trafodion hyn. Yn wir, mae'n hanfodol ein bod yn datrys yr amwyseddau sydd ynghlwm wrth achos yr Alban.

Hoffwn roi canmoliaeth yma i Lywodraeth Cymru, fel yr wyf wedi ei wneud o'r blaen, o'i chymharu â Llywodraeth yr Alban, eu bod wedi cymryd ymagwedd ymarferol at ymadael â'r UE a heb geisio ei droi'n rhyw fath o gêm bêl-droed wleidyddol fel sydd wedi digwydd yn yr Alban. Rwy'n sylweddoli bod pleidiau eraill y tu ôl i'r penderfyniad i wrthod cydsyniad deddfwriaethol yn yr Alban yn ogystal â chenedlaetholwyr yr Alban, ond rwy'n credu, er bod y sefyllfa yn yr Alban yn wahanol gan fod datganoli wedi mynd ymhellach yn yr Alban, serch hynny, mae'r dadleuon y maen nhw'n eu cynhyrchu yn dwyllodrus ac wedi'u cynllunio'n sylfaenol i atal y broses ymadael. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd safbwynt gwahanol, ac mae'n synhwyrol eu bod yn rhoi llais i Gymru yn y llys hefyd.

Credaf hefyd fod y pedwar mater y nododd y Cwnsler Cyffredinol eu bod yn rhai y mae angen eu datrys yn gwestiynau hanfodol yn yr achos hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â barn y Llywodraeth y dylai'r holl bwerau sydd ar hyn o bryd wedi'u breinio ym Mrwsel ddod i Gymru dan y setliad datganoli a chael eu breinio yma, ac mae wedi bod erioed, yn fy marn i, yn baradocs bod rhai sy'n cwyno bod y broses ddatganoli yn cael ei thanseilio mewn gwirionedd yn sôn am bwerau nad oes gennym y pwerau i'w defnyddio ar hyn o bryd beth bynnag. Felly, credaf mai'r pwynt pwysig a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach oedd bod ymadael â'r EU yn hyn o beth o bosibl yn gwella cymhwysedd y Cynulliad hwn. Mae'n rhoi mwy o bŵer inni. Efallai nad yw'n mynd mor bell ag yr hoffai Plaid Cymru. Rwy'n deall yn llwyr eu gwrthwynebiadau a'u hamheuon; mae ganddynt hawl i wneud y pwyntiau hynny oherwydd nad ydynt yn credu yn y Deyrnas Unedig fel y strwythur gwleidyddol y byddwn yn parhau i fodoli o'i fewn. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y farn honno yn cael ei mynegi ac y dylid rhoi'r dadleuon hyn gerbron y Cynulliad hwn ac y dylai'r Llywodraeth amddiffyn ei hun yn erbyn y dadleuon hynny. Mae'n bwysig iawn bod hyn yn cael ei wneud yn y modd mwyaf agored a thryloyw posibl.

Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn bod pwerau'r llys i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad yn cael eu mireinio ymhellach drwy achosion o'r math hwn. Mae'n anochel y bydd meysydd o ansicrwydd sydd angen eu datrys, ac mae proses y gyfraith gyffredin yn gweithio drwy gyfraith achos, felly gallwn adeiladu corpws o gyfraith gyfansoddiadol, nid yn unig drwy statud, ond mewn gwirionedd yn fwy sylfaenol yng nghyfyngau'r gyfraith drwy achosion unigol sy'n troi dros gyfnodau hir o amser yn egwyddorion cyfreithiol a chonfensiynau. Felly, credaf fod hyn yn gam anochel yn y broses ddatganoli a hefyd yn y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n un yr wyf yn ei groesawu, a dymunaf yn dda i'r Cwnsler Cyffredinol yn ei eiriolaeth dros Gymru yn yr achos.

Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Credaf mai holl bwynt datganoli yw galluogi gwahanol rannau o'r DU gyrraedd canlyniadau gwahanol a gwahanol gasgliadau ynghylch sut i fynd ati gyda'r math hwn o gwestiwn, a dyna beth ddigwyddodd, yn y pen draw, yn yr achos hwn. Cymerodd Llywodraeth yr Alban, Senedd yr Alban, farn wahanol yn y pen draw i'r hyn y gwnaethom ni yma yng Nghymru, ac mae hynny yn elfen annatod o natur datganoli ac, yn wir, os ydych chi'n ddatganolwr, mae'n rhywbeth i'w ddathlu. Mae ystyriaethau gwahanol yn berthnasol, ond roedd Llywodraeth Cymru yn glir o'r dechrau mai ein prif amcan oedd sicrhau gwelliannau priodol i'r Ddeddf ymadael â'r EU, fel y mae yn awr, a bod y Bil parhad yn ffordd o sicrhau cynnydd mewn perthynas â hynny.

Byddwn hefyd yn dweud ein bod wedi elwa, drwy gydol hyn, ar gydweithio'n agos â Llywodraeth yr Alban wrth ddatblygu cytundeb rhynglywodraethol, ac wedi hynny, hefyd. Rwy'n credu mai hwn fydd dechrau proses hirach, wrth i bob rhan o'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; bydd y math hwnnw o gydweithio a chydweithredu rwy'n meddwl, yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni symud ymlaen dros y misoedd, ac yn ddiau, y blynyddoedd nesaf.

O ran y pwynt y mae'n ei wneud, mewn gwirionedd, sy'n adleisio'r pwynt yn achos Miller y Goruchaf Lys, h.y. heb ymyriad deddfwriaethol, mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd yn yr ardaloedd datganoledig hynny yn hytrach nag yn ei gyfyngu. Mae'r ddadl bod angen Deddf Seneddol cyn y gall deddfwrfa ddatganoledig weithredu mewn maes lle caiff cyfraith yr UE ei thynnu'n ôl yn amlwg yn y bôn yn groes i'r sylw hwnnw. Ond byddwn hefyd yn nodi bod y cytundeb rhynglywodraethol—fel y cafodd ei lunio yn wreiddiol, a oedd ag ymosodiad ehangach o lawer, mewn gwirionedd, ar y setliad datganoli—wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU fel un a oedd, dan gonfensiwn Sewel, yn ofynnol iddo gael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, sy'n awgrymu cydnabyddiaeth ar ei rhan hi fod lefel sylfaenol o gymhwysedd, hyd yn oed mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, credaf fod hynny'n mynd yn groes i sut y mae'r Twrnai Cyffredinol yn cyflwyno ei achos yma, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gorchfygu mewn perthynas â hynny pan roddir ein dadleuon gerbron y Goruchaf Lys.

16:15

Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Mae'n ddiddorol iawn deall y sefyllfa ar gyfer yr angen hwnnw i ymyrryd, ac rwy'n cefnogi eich pwyntiau yn llwyr. Rwy'n deall yr angen i wahanu'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi penderfynu mewn gwirionedd ar gydsyniad, yn seiliedig ar y cytundeb a'r gwelliannau, a Senedd yr Alban, fel y dywedodd Simon Thomas yn gwbl briodol, yn gwneud penderfyniad arall.

Ond rydych yn canolbwyntio hefyd ar y goblygiadau i ddatganoli a hawliau'r Senedd hon i wneud penderfyniad ar gymwyseddau datganoledig, yr oeddech chi'n credu ein bod o fewn ein hawliau i'w wneud ar y Bil penodol hwn. A ydych chi wedi asesu beth petai'r Alban hefyd o fewn ei hawliau, a bod y Goruchaf Lys yn dyfarnu bod yr Alban yn gywir i gyflwyno'r Bil hwnnw, ac felly, yn ei gyfreithloni? A pha faterion, felly, y byddwn yn eu hwynebu yng Nghymru o'u cymharu â'r hyn y bydd yr Alban yn ei wynebu? Bydd gan yr Alban wahanol bwerau a deddfau oherwydd bydd hynny wedi ei gymeradwyo, o'i gymharu â'r hyn y bydd Cymru nawr yn gweithredu oddi tano, ac felly gallai'r materion fframweithiau y byddwn yn eu trafod fod o dan wahanol senarios o ganlyniad i hynny. A ydych wedi gwneud yr asesiad hwnnw eto?

Wel, mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi ei bod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau fframwaith cyffredin hynny beth bynnag, felly, yn ymarferol, bydd hynny ar gael fel mecanwaith ar gyfer pob rhan.

Yn amlwg, bydd y Ddeddf tynnu'n ôl yn gymwys i bob rhan o'r DU, i ddweud yr hyn sy'n amlwg. Fel y mae pethau heddiw, nid oes unrhyw Ddeddf mewn grym yn yr Alban sy'n torri ar draws hynny. Yn amlwg, wrth inni gymryd camau i ddiddymu'r Ddeddf yn y fan hon yn y Cynulliad, ni fydd unrhyw ddeddfwriaeth yma yng Nghymru ychwaith. Felly, bydd, os mynnwch chi, gyfle tebyg i bawb ledled pob rhan o'r DU. Yn amlwg, gallai hynny newid pe bai'r Bil yn yr Alban yn dod yn gyfraith

Rwy'n credu, oherwydd natur yr achosion sydd wedi eu rhoi, a'r dadleuon a roddwyd mewn ymateb, nad yw dyfalu ynghylch union gydbwysedd hynny, a sut yr ymdrinnir ag ef gan y Goruchaf Lys, yn rhywbeth sydd yn fy marn i yn arbennig o synhwyrol nac yn bosibl, fwy na thebyg, ar hyn o bryd. Ond yn amlwg byddwn yn adolygu hynny a byddwn yn edrych ar sut y gwneir cyflwyniadau yn y Goruchaf Lys, a byddwn yn cymryd safbwynt ac yn ymateb yn unol â hynny.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau

Felly, yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.

Llywydd, diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y rhaglen gwella bywydau ar ôl cyhoeddi'r adroddiad yr wythnos diwethaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r adolygiad traws-Lywodraeth hwn o bolisi, gwasanaethau a chyllid anabledd dysgu yn deillio o'n hymrwymiad i wella bywydau ein dinasyddion ac ymdrin ag anghydraddoldebau lle bynnag y maen nhw'n bodoli. Comisiynwyd y gwaith hwn gan sawl un o'm cyd-Weinidogion, ac rydym wedi ymdrin â'r mater gan edrych ar hyd y cwrs bywyd cyfan, sy'n cwmpasu blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, cyflogaeth a sgiliau. Rwy'n falch tu hwnt o gael cymaint o bobl i'n cefnogi wrth i ni Gwrandawsom ar brofiad o fywyd gwirioneddol pobl, gan fod hynny'n rhoi cipolwg i ni o'r mannau y mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn cael yr effaith fwyaf. Dywedodd pobl wrthym, er bod ardaloedd bychan o arfer da a gwasanaethau cryf, fod gormod o bobl yn dal i orfod brwydro i gael y cymorth a'r addasiadau i'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen i'w galluogi i fyw bywydau cyffredin.

Yn gwbl ganolog i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a 'Ffyniant i bawb', mae'r angen i ganoli ein gwasanaethau ar yr unigolyn ac i feithrin gallu ein cymunedau i gefnogi gwell iechyd a lles. Fel Llywodraeth, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i gael eu cynnwys yn fwy helaeth yn eu cymunedau. Credaf fod y rhaglen gwella bywydau yn rhoi inni'r trywydd i gyflawni hyn ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd.

Mae'r argymhellion yn eang. Serch hynny, credaf mai'r tair blaenoriaeth flaenaf yw: lleihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu integreiddio yn y gymuned a gwella systemau cynllunio ac ariannu.

Mae tystiolaeth o nifer o adroddiadau yn dangos bod disgwyliad oes pobl ag anabledd dysgu gryn dipyn yn is nag eiddo eraill yn ein poblogaeth. Mae'r rhaglen gwella bywydau yn gwneud ymgais i leihau'r anghydraddoldeb hwn ac atal marwolaethau cynamserol. Bydd addasiadau rhesymol yn yr holl leoliadau gofal iechyd yn galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau priodol yn brydlon. Mae archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn bwysig ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i archwilio'r ffyrdd o gynyddu'r archwiliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu llythyr gwahoddiad safonol a syml, ar sail Cymru gyfan, yn hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng cydweithwyr yn y gwasanaethau gofal sylfaenol ac anabledd dysgu i sicrhau y bydd pob un sy'n gymwys am wiriadau iechyd yn hysbys i'r gwasanaethau.

Yn ein hysbytai cyffredinol, ein nod yw cynyddu'r defnydd o'r pecynnau gofal, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2014, yn dilyn adroddiad crwner i farwolaeth Paul Ridd, y mae ei deulu erbyn hyn yn rhedeg y Paul Ridd Foundation—partner allweddol wrth gefnogi ein gwaith ar anghydraddoldebau iechyd. Mae gan y Paul Ridd Foundation raglen lawn o hyfforddi hyrwyddwyr anabledd dysgu mewn ysbytai ac mae wedi sicrhau bod gan wardiau ledled Cymru ffolder adnoddau i gefnogi'r defnydd o becynnau gofal.

Ein hail flaenoriaeth yw mwy o integreiddio yn y gymuned. Bythefnos yn ôl, ymwelais ag un o brosiectau cyfeillgarwch Mencap Cymru a chefais fy nharo gan y profiadau personol o stigma ac unigedd yr oedd y plant a'r bobl ifanc yn sôn amdanynt. Dywedasant wrthyf  hefyd eu bod yn teimlo bod gwahaniaeth rhwng y dyheadau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer nhw a'r dyheadau ar gyfer pobl ifanc yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau i gyd yn cytuno ei bod yn flaenoriaeth allweddol mynd i'r afael â'r stigma y mae pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd yn ei wynebu. Mae angen inni bwyso am yr un newid agwedd yr ydym yn dechrau ei weld gydag iechyd meddwl, gan ddathlu'r cyfraniad y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud i'n cymunedau, a defnyddio ein ffrydiau ariannu i sicrhau bod pobl yn cyflawni eu dyheadau.

Felly, bydd rhai o'r pethau y bwriadwn eu gwneud yn cynnwys: gweithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i gynyddu'r dewis o dai a sicrhau bod pobl yn byw yn nes at eu cartref, drwy'r agenda 20,000 o gartrefi newydd wedi'i thargedu; gan ddefnyddio'r rhaglen gronfa gyfalaf gofal integredig dair blynedd gwerth £105 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau annibynnol a llwyddiannus—rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda byrddau'r partneriaethau rhanbarthol i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu gan yr hwb hwn mewn buddsoddiad; a chefnogi prosiectau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu drwy gangen refeniw'r gronfa gofal integredig, yr ydym eto wedi dyrannu £50 miliwn iddi yn 2018-19. Ehangwyd cwmpas y gronfa i gynnwys meysydd blaenoriaethu y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer integreiddio, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu. Mae hyn wedi arwain at gefnogaeth ariannol i amrywiaeth eang o brosiectau sy'n golygu mwy o integreiddio cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Yn olaf, byddwn i gyd yn cydnabod mai un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o sicrhau bod pobl yn teimlo'n integredig yn eu cymunedau yw sicrhau bod pobl yn cael llwybr i waith. Gyda dim ond 6 y cant o bobl ag anabledd dysgu mewn cyflogaeth â thâl, rwy'n cydnabod anferthedd yr her a wynebwn. Felly, byddaf yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymchwilio i ddewisiadau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu i gael gafael ar gymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno lleoliadau gwaith cyflogedig a gynorthwyir.

Ein blaenoriaeth derfynol yw'r angen i edrych ar wella data a'r cyllid sydd ar gael. Mae'r cofrestri gwasanaethau cymdeithasol yn dangos bod 15,000 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, ond credir bod llawer mwy na hynny nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael gwasanaethau. Wrth i anghenion y bobl hyn newid, mae'n debyg iawn y bydd angen mwy o gymorth arnyn nhw. Felly, cynigir ein bod yn cynnal ymchwil ac yn casglu data ar boblogaeth y rhai ag anabledd dysgu yng Nghymru i ddeall eu hanghenion yn well i'r dyfodol.

Mae angen inni hefyd wneud gwell defnydd o'r cyllid presennol drwy edrych ar sut mae taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio ac ailddyrannu cyllid iechyd a gofal cymdeithasol i alluogi cytundeb cyflym ar becynnau gofal, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau ar y cyd.

Felly, rwy'n ddyledus i gefnogaeth y grŵp cynghori gweinidogol ar anabledd dysgu wrth gynhyrchu'r adroddiad hwn a'r argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â nhw a'r cadeirydd, Mrs Gwenda Thomas, a'r cyd-gadeirydd, Miss Sophie Hinksman, i ddarparu gwasanaethau a fydd yn wir yn gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:25

Diolch am eich datganiad. Fel cadeirydd grwpiau trawsbleidiol, gan gynnwys anabledd ac awtistiaeth, rwy'n cymeradwyo eich datganiad: ceir ardaloedd bychan o arfer da, ond mae gormod o bobl yn gorfod brwydro i gael cymorth ac addasiadau i'r gwasanaethau sydd eu hangen i'w caniatáu i fyw bywydau cyffredin.

Rydych yn cyfeirio at weithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Sut, ochr yn ochr â hi, y byddwch yn edrych ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ystyriwyd yn ddiweddar gan y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a ddangosodd mai dim ond un yn unig o 22 o awdurdodau Cymru sydd â tharged canrannol ar gyfer cartrefi hygyrch a fforddiadwy, a hefyd ar bryder a godwyd yn fy ngwaith achos fy hun yn y gogledd bod diffyg cysylltiad rhwng anghenion unigolion, yn enwedig ar y sbectrwm awtistiaeth, i fyw'n annibynnol gyda chymorth priodol, ac ymwybyddiaeth awdurdod lleol a'i ymgysylltiad, yn aml, â darparwyr tai cymdeithasol, fel Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, sy'n gweithio yn fy rhanbarth i, i gynllunio a darparu'r rheini? Oherwydd pan fyddan nhw'n gwneud hynny'n iawn, gall chwyldroi ansawdd ac annibyniaeth bywydau.

Rydych yn cyfeirio at fyrddau partneriaethau rhanbarthol. Sut ydych yn cyfeirio at y pryder, y gwn iddo gael ei fynegi ichi gan Gynghrair Henoed Cymru ddechrau'r flwyddyn hon, bod cynrychiolwyr y trydydd sector, gan gynnwys yn y maes hwn, ar fyrddau'r partneriaethau rhanbarthol hynny'n teimlo eu bod wedi eu gwthio i'r cyrion? Roedd hon yn farn neu'n bryder a fynegwyd imi hefyd mor ddiweddar â dydd Gwener diwethaf—pan agorais, gyda phrif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain yn y gogledd—gan gynrychiolwyr o fyrddau partneriaethau rhanbarthol a oedd yn bresennol fel gwesteion.

Rydych yn cyfeirio at sicrhau bod pobl yn cael llwybr i waith. Pa gysylltiad yr ydych chi, neu eich cyd-Aelodau, wedi ei gael gyda thimau partneriaeth cymunedol newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd wedi cael eu recriwtio yn allanol, o'r trydydd sector yn bennaf? Cyfarfûm â phobl yn fy ardal i yn ddiweddar sydd wedi gweithio yn flaenorol mewn elusen awtistiaeth ac i Remploy, yn cyflawni prosiect 12 mis i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, i uwchsgilio staff Canolfan Byd Gwaith a chodi pontydd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Roeddech yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn yr adroddiad yr ydych yn gwneud datganiad arno, ac, wrth gwrs, mae hon yn gosod dyletswydd arbennig ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cysylltiad y bobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae 'Rhan 2 y Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol)' yn pwysleisio hynny'n fawr, gan roi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys ar y bobl. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r sefyllfa, er enghraifft, sy'n bodoli yn Wrecsam ar hyn o bryd, lle mae newidiadau o fewn gwasanaethau addysg ac anabledd i oedolion i'r prosiect cyfleoedd gwaith yn Wrecsam yn bygwth swyddi tua 100 o bobl ag anawsterau dysgu? Mae nifer o deuluoedd yn dweud wrthyf i fod gwasanaethau oedolion Wrecsam yn adolygu'r prosiectau, ac fel rhan o'r adolygiad, yn cynnal cyfnod ymgynghori. Ond mae amodau'r adolygiad a'r ymgynghoriad yn gamarweiniol, ac yn awgrymu bod y gwasanaethau cymdeithasol yn gwrando ar yr hyn y mae'r rhieni yn ei ddweud ac yn cymryd hynny i ystyriaeth cyn y gwneir penderfyniad, er mai'r gwir amdani yw bod y penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud. Roedd y swyddog yn honni, medden nhw, fod yr adolygiad yn cael ei gynnal i fodloni meini prawf y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ond nid ydyn nhw'n gweld sut y gall hynny fod yn wir.

Dim ond dau grŵp yn olaf, os caf i sôn amdanyn nhw—. Fel y gwyddoch, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi tynnu sylw at bryder ynglŷn â'r bwlch cyrhaeddiad parhaus i ddysgwyr byddar. Fel y dywedant, nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond caiff dysgwyr byddar eu hanablu gan annhegwch parhaus o ran canlyniad. Maen nhw 26.2 y cant yn llai tebygol o gael gradd A i C yn yr iaith Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, mewn cyfuniad, na phoblogaeth ysgol yn gyffredinol. Wrth gwrs, mae hyn wedi bod yn digwydd ers i mi fod yn y lle hwn. A hefyd, er pryder iddyn nhw, er bod plant byddar yn cael trafferth i gael cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o'u hanghenion gofal cymdeithasol, mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015 yn dweud:

'Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n cynnal asesiad...yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymhwysedd i gynnal yr asesiad o dan sylw',

yn achos plentyn byddar, yn rhy aml, nid yw'r asesiadau yn cael eu llywio gan wybodaeth arbenigol o anghenion gofal cymdeithasol plant byddar.

Yn olaf, o ran y digwyddiad a gynhaliais amser cinio heddiw ar gyfer Epilepsi Cymru, roeddwn yn llywyddu yn eu digwyddiad blynyddol Cefnogi Pobl ag Epilepsi yng Nghymru, a gofynnwyd imi godi'r pwyntiau olaf hyn. Mae gan un o bob pump o bobl ag epilepsi anhawster dysgu. Mae gan rai ag epilepsi cymhleth yn gyffredin iawn anawsterau dysgu amrywiol yn gydamserol, ond nid yw pobl ag epilepsi cymhleth yn gallu cael triniaeth neu wasanaethau fel, ac yn arbennig, y deiet keto, er bod hon yn driniaeth reng-flaen a argymhellir gan ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac a argymhellir gan NICE hefyd ar gyfer plant ag epilepsi wedi'r defnydd aflwyddiannus o ddau gyffur rheng-flaen. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch ymwybyddiaeth a gwasanaethau cymorth. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Maen nhw'n mynegi pryder ynghylch ymchwiliadau pellach pan na fydd y diagnosis yn amlwg, gan gynnwys yr angen am brofion genetig, nad oedden nhw, fel y clywsom gan y bobl oedd yn bresennol, yn aml yn cael eu cynnig.

Byddaf yn cloi ar y pwynt hwnnw. Gallwn i, yn anffodus, fel y gallwch ddychmygu, fynd ymlaen drwy'r dydd ar y pwnc hwn. Ond rwy'n gobeithio y byddwch chi'n rhoi ystyriaeth wirioneddol i'r pryderon hyn a godwyd, bob un ohonyn nhw, gan rai nad ydyn nhw'n wleidyddion a heb gysylltiadau pleidiol wleidyddol.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n credu bod efallai tua saith neu wyth pwynt yma, felly rwy'n mynd i geisio, os gallaf, ymdrin â nhw cyn gynted â phosibl. Yn gyntaf, o ran adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n gwneud rhai argymhellion yn ôl themâu fel cartrefi mwy hygyrch a hyblyg, gosod addasiadau yn y cartref, paru pobl â'r bobl iawn y mae eu hangen arnyn nhw, a chefnogi pobl sy'n byw yn annibynnol, wel, mae hynny'n syrthio i raddau helaeth iawn i mewn i'r ffrydiau gwaith yr ydym wedi eu nodi bellach yn y rhaglen byw yn annibynnol hon a'r grŵp gweinidogol hefyd. Felly, byddwn yn gweithio oddi mewn i hynny i sicrhau y bydd yn gyflymach ac yn haws i bobl gael addasiadau defnyddiol yn ôl yr angen i hwyluso'r mynediad at adeiladu'r cyfleusterau.

Rydym yn casglu data hefyd ar hyn o bryd i'n helpu i ddeall sut y gallwn symleiddio'r broses hon eto. Felly, byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad hwnnw yn ofalus, a bydd hynny'n gymorth i ni lywio ein gwaith parhaus, gyda'r awdurdodau lleol, mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, ac â phartneriaid eraill, i wella'r mynediad at gartrefi addas. O ran ymgysylltu â thimau partneriaeth cymunedol yr Adran Gwaith a Phensiynau, byddaf yn gwneud yn siŵr fod gennym yr ymgysylltiad parhaus hwnnw â nhw. Mae'n bwysig cael gwaith cydgysylltiedig ar draws gwahanol ffrydiau o Lywodraeth, yn ddatganoledig ac yn annatganoledig hefyd.

O ran gwasanaethau i oedolion Wrecsam, rwy'n siŵr y byddan nhw wedi clywed y pwynt a wnaeth ef heddiw. Ond, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o wybodaeth, byddaf yn hapus i ofyn i'm swyddogion wneud ymholiadau ynghylch unrhyw beth a godir ganddo.

Yn ddiweddar bûm yn bresennol mewn grŵp trawsbleidiol byddardod a cholli clyw, lle codwyd rhai o'r materion hyn, a chodais i nhw ar unwaith gyda'm swyddogion. Mae'n bwysig bod yr asesiad priodol yn cael ei gynnal gan awdurdodau lleol a bod y gwasanaethau arbenigol cywir yn cael eu darparu.

Ar y pwyntiau a godwyd ynglŷn ag epilepsi, byddaf yn siŵr o fynd â'r rheini yn ôl gyda mi. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, wedi bod yn gwrando hefyd, a byddaf yn mynd â'r rheini yn ôl ato fel y gallwn eu trafod ymhellach.

O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, Mark, rydych chi'n hollol iawn. Codwyd y pwynt am ymgysylltiad ystyrlon. Yn wir, ceir rhai arferion gwirioneddol dda, ac mae un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael ei gadeirio'n fedrus iawn gan bartner trydydd sector, sy'n cynrychioli estyniad eang iawn o sefydliadau trydydd sector, ac mae'n iawn gweithio dda iawn mewn rhai achosion; mewn achosion eraill, gwledd sy'n esblygu yw hi, gan fod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn bethau cymharol ddiweddar. Ond, rwyf wedi gwneud hynny'n wir, ac mewn gwirionedd rwyf wrthi ar hyn o bryd yn mynd o amgylch y byrddau partneriaeth rhanbarthol, a dyna un o'r pethau y byddaf yn eu pwysleisio wrth i mi fynd o'u cwmpas, yr ymgysylltiad ystyrlon â gwerth cymdeithasol, â sefydliadau trydydd sector—o ran darparu, a hefyd ar lefel strategol. Credaf fod hynny wedi ymdrin â'r holl bwyntiau, ond, os wyf wedi hepgor unrhyw bwynt, byddaf yn hapus i sgwrsio â chi wedyn hefyd.

16:35

A allaf i ddiolch hefyd i’r Gweinidog am ei ddatganiad? Ie, yn wir, rhaglen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu—wrth gwrs, o’r teitl yna, a hefyd o'm profiad personol dros y blynyddoedd, mae gwir angen gwella bywydau'r sawl sydd ag anabledd dysgu achos, yn wir iawn, mae’r bobl hyn wedi cael eu hanghofio. Buasai’n well imi ddatgan rŵan fy mod i wedi bod yn ymddiriedolwr efo Pobl yn Gyntaf Abertawe, Swansea People First—y mudiad i bobl ag anabledd dysgu—ers bron 20 mlynedd nawr, rydw i’n credu. Mae gyda ni brofiad helaeth yn lleol efo’r cydlynu y mae ei angen efo gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal hefyd. Ond, yn gyntaf, rydw i’n nodi'r gwaith rhagorol y mae’r sector wirfoddol yn ei wneud yn y maes yma. Mae Pobl yn Gyntaf Abertawe, fel mudiadau cyffelyb drwyddi draw yng Nghymru, yn rhoi cefnogaeth fendigedig i’n pobl. Ond, wrth gwrs, mae yna her sylweddol—nid oes byth ddigon o adnoddau, mae yna golli gwasanaethau, mae materion wastad yn llwm, mae’r system o dan straen, mae’r gweithwyr cefnogol wastad yn newid achos eu bod nhw’n colli swyddi neu am eu bod nhw ar gontractau byrdymor.

Ac, wrth gwrs, fel mae Pobl yn Gyntaf yn Abertawe yn rhedeg, rydym ni’n cael cyfarfodydd, yn naturiol, fel bwrdd rheoli sydd yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu eu hunain. Maen nhw ar y bwrdd rheoli hefyd, ac rydym ni’n cynhyrchu cofnodion ac ati mewn iaith y mae pawb yn gallu ei deall, gyda lluniau ac ati. Mae eisiau mwy o’r math yna o gydweithio a hefyd darparu gwybodaeth. Mae cyngor Dinas a Sir Abertawe, i fod yn deg, yn rhan o hyn yn aml ac yn gwneud hefyd yn y maes pan fyddan nhw’n gallu, wrth gwrs, mewn system hefyd sydd o dan straen, ac yn gwneud gwaith clodwiw iawn.

Rydw i’n croesawu’r bwriad bod gwahanol sectorau yn cydweithio â’i gilydd, achos yn ddirfawr mae angen i’r gwahanol sectorau fod yn cydweithio â’i gilydd, yn enwedig mewn amseroedd o lymder fel yr ŷm ni, a lle mae cyllidebau yn brin iawn. Ond, o gydnabod yr angen i gydweithio, mae angen jest i bobl allu gweithio yn y lle cyntaf—hynny yw, bod digon o staff gyda ni, yn enwedig yn yr ochr nyrsio cymunedol yn y sector gofal, y nyrsys arbenigol yna sydd yn gallu gofalu am y sawl ag anableddau dysgu ac weithiau ag angenrheidiau sydd yn gymhleth iawn. Rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf yma ddirywiad yn niferoedd y nyrsys arbenigol, yn enwedig yn gweithio yn y gymuned ac yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hynny’n her, a buaswn i’n gofyn i’r Gweinidog amlinellu beth y mae o’n mynd i’w wneud ynglŷn â’r her yna. Rydw i’n siŵr bod yna lot o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni, wrth gwrs. O’r datganiad yma’r prynhawn yma, nid ydym ni’n gallu gweld y manylion i gyd, ond mae’n deg nodi bod yna bryderon ynglŷn â staffio.

Mae yna bryderon hefyd ynglŷn â’r angen i gyllido prosiectau tymor hir. Rydw i’n ymwybodol bod Pobl yn Gyntaf, dros y blynyddoedd, wedi bod yn cynnig am wahanol brosiectau, ac, wrth gwrs, maen nhw’n brosiectau bendigedig, maen nhw’n cael eu hariannu, ac, wrth gwrs, wedyn mae’r arian yn rhedeg allan ac mae’r prosiect yn dod i ben, rydym ni’n colli’r staff, mae’n rhaid dod i fyny â syniad newydd am brosiect, ac mae’n rhaid cynnig am ragor o bres. Mae’r holl beth hyn yn sugno egni mewn system sydd o dan ddigon o bwysau eisoes.

Fy mhwynt olaf i—. Yn ogystal â’r holl gydweithio yma, mae ein pobl ni ag anabledd dysgu angen gwaith, angen gyrfaoedd. Dewch i nodi’r ffigurau—dim ond 6 y cant o oedolion ag anabledd dysgu sydd mewn gwaith. Mae bod mewn gwaith yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw unigolyn fod ynddo fo. Mae yn ein diffinio ni fel unigolion, ac eto rydym ni’n amddifadu ein pobl ni ag anabledd dysgu o’r gobaith yna yn aml iawn. Rwy’n clywed beth yr ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r angen i ariannu prosiectau sydd yn cynnal pobl mewn llefydd gwaith er mwyn iddyn nhw gael profiad o waith, ond mae eisiau bod yn llawer yn fwy rhagweithiol na hynny; mae’n rhaid inni, rydw i’n credu, gael rhaglen bwrpasol o wneud yn siŵr bod ein pobl ni ag anabledd dysgu mewn gwaith yn y lle cyntaf, a gwneud hynny yn flaenoriaeth. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn, Dai.

Ceir rhai pwysig pwyntiau yma. Yn gyntaf oll, diolch i chi ac i eraill sydd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu—eich swyddogaeth gyda Phobl yn Gyntaf Abertawe. Ond ceir llawer o rai eraill ledled y wlad, mewn gwirionedd, sy'n gwneud gwaith aruthrol hefyd, ac roeddech yn iawn i dalu teyrnged nawr i'r holl wirfoddolwyr a'r sector elusennol, y trydydd sector, sy'n gwneud hyn yn bosibl.

Roeddech yn codi'r pwynt pwysig nawr am sut i wneud hyn yn beth cynaliadwy. Nid wyf i o'r farn mai chwilio am botiau unigol o gyllid yw hyn, er y gwnaed rhywfaint o waith da o dan gyllid y gronfa gofal integredig. Felly, er enghraifft, pan wnaethoch chi grybwyll mater nyrsio, un o'r pethau y mae cyllid o'r gronfa gofal integredig—. Mae un enghraifft dda—ac, yn wir, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau da hyn—yn y gogledd, lle cafwyd cyllid refeniw o'r gronfa gofal integredig a aeth i'r hyn a elwid yn wasanaeth Diana yn Wrecsam. Darparodd hyn gymorth nyrsio ychwanegol ar gyfer plant â chyflyrau meddygol cymhleth, gan eu cadw gartref yn eu cymunedau. Cafodd un ar hugain o blant y gwasanaeth hwn yn 2017-18. Cafwyd eraill yng Ngwent a'r gorllewin y gallaf dynnu sylw atyn nhw.

Ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae'r cyllid o'r gronfa gofal integredig ar gael er mwyn treialu ac arloesi, ac i ddweud wrth y meysydd hynny wedyn, yn unol â'n hymrwymiadau statudol, 'Os yw'n gweithio, os yw'n edrych yn dda, yna ewch â nhw yno a'u gwneud yn rhan o'ch busnes craidd.' Dylai hynny ddigwydd boed yn y sector statudol neu beidio, a dweud y gwir. Felly, os oes angen cymorth i wneud yr ymyriadau cywir i newid bywydau pobl ag anableddau dysgu, a bod hynny wedi ei brofi, yna byddem, yn natblygiad ehangach y cynllun hirdymor ar ofal iechyd a chymdeithasol hefyd, yn ceisio gwneud yn siŵr bod hynny'n gweithio, a'n bod yn cynnwys y mathau hyn o ddulliau cyllido hefyd.

Dai, roeddech yn sôn am fater gyrfaoedd, fel y cyfeiriais innau ato yn fy natganiad hefyd. Ceir un neu ddau o bethau yma. Un yw herio'r stigma a'r camsyniadau ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd. Oherwydd mae gan bobl ag anableddau dysgu lawer i'w gyfrannu, mewn gwirionedd, yn y gweithle, a dyna beth y mae angen i ni ei ddweud o'r cychwyn cyntaf. Ond wedyn, credaf fod yna ffyrdd—a soniais am un ohonyn nhw, o bosibl, yn y fan hon, y trafodaethau y gallaf eu cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Sgiliau, i archwilio pethau fel lleoliadau cyflogedig a gynorthwyir. Rwyf i o'r farn fod y dystiolaeth yn dangos, pan fydd yr unigolyn wedi cael ei droed yn y drws, y bydd hynny'n arwain at gyflogaeth hirdymor wedyn. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny.

Ond dyma'r her iawn, ac rwy'n credu, ar yr holl faterion hyn—y rhai a godwyd yma heddiw ond hefyd wrth fynd ymlaen—y byddai grŵp cynghori'r Gweinidog a minnau yn awyddus i glywed awgrymiadau ynghylch y ffordd ymlaen, boed hynny o ran cynaliadwyedd neu ffrydiau gwaith gwirioneddol sy'n adeiladu ar 27 o gamau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Nid ateb dros nos fydd hyn—bydd yn daith o welliant, gwelliant, gwelliant.      

16:40

Diolch. Rydym dros hanner ffordd drwy'r datganiad ac rydym wedi cael dau gwestiwn. Rwy'n derbyn bod hynny gan lefarwyr, ond os gallwn wneud rhywfaint o gynnydd—. Michelle Brown.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau hefyd am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn ddiolch hefyd i sefydliad Paul Ridd am eu gwaith gwerthfawr wrth helpu i lunio'r adroddiad. Fel y dywedwch yn eich datganiad, tair blaenoriaeth flaenaf yr adroddiad yw anghydraddoldebau iechyd, integreiddio yn y gymuned, a gwella systemau cynllunio ac ariannu. Blaenoriaeth gyntaf yr adroddiad, neu o leiaf yr un sy'n ymddangos gyntaf ar y ddogfen, yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn eu profi, a hynny'n gwbl briodol.

Mae tebygolrwydd y bydd un o bob 10 o ddioddefwyr canser y ceilliau sydd ag anableddau dysgu hefyd yn marw o'i gymharu ag un mewn 36 yn y boblogaeth gyffredinol. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, 75 y cant o bobl ag anableddau dysgu a oedd yn gymwys am sgrinio canser y colon a'r rhefr a gafodd y prawf, o'u cymharu ag 80 y cant o'r bobl hynny sy'n gymwys ond nad oes ganddyn nhw anableddau dysgu. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer sgrinio canser y fron oedd 51 y cant a 67 y cant ac, ar gyfer sgrinio canser ceg y groth, 30 y cant a 76 y cant. Mae'n eironig, a dweud y lleiaf, fod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi o hyd gan y systemau gofal iechyd, cymdeithasol ac addysg, ar ôl tua 70 mlynedd o addysg gan y wladwriaeth a'r GIG.

Rydych chi yn gwneud rhai datganiadau cyffredinol am y ffyrdd y caiff anghydraddoldebau iechyd eu lleihau, ond nid ydyn nhw'n fanwl iawn. Yn Lloegr, yn 2013, cynhyrchwyd adroddiad gan Brifysgol Bryste a wnaeth 18 o argymhellion manwl gyda'r nod o leihau marwolaethau cynamserol ymhlith y rhai ag anableddau dysgu, ac ymatebodd y Llywodraeth yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Unwaith eto, yn Lloegr, mae'r amcanion wedi cael eu gosod ers 2014 ar gyfer y GIG yn y fan honno i gau'r bwlch iechyd rhwng pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth, a'r boblogaeth yn gyffredinol. Unwaith eto, cyhoeddodd GIG Lloegr gynllun gweithredu cenedlaethol i ddatblygu gwasanaethau cymunedol a chau cyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Gallwn fynd ymlaen, ond ni wnaf hynny.

Nawr, nid oes amheuaeth fod gan y gwrthbleidiau yn San Steffan eu barn eu hunain ynglŷn â pha mor effeithiol y mae'r holl waith hwnnw wedi bod. Ond erys y ffaith fod y gwaith yn dal i ddigwydd dros y ffin. Felly hoffwn i ofyn hyn: i ba raddau yr ydych chi'n defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r astudiaethau hynny, a'r gwaith sy'n cael ei wneud draw yn Lloegr, i lywio'r gwaith y byddwch yn ei wneud yma? A yw Llywodraeth Cymru wedi mesur unrhyw effaith o'r dull gweithredu y mae'r GIG a'r Llywodraeth yn Lloegr yn gyfrifol amdano? A ydych chi wedi edrych ar yr ymchwil honno, a ydych chi wedi edrych ar yr adroddiadau a gynhyrchwyd, a ydych chi wedi edrych ar y cynllun gweithredu a beth yw eich barn? A ydych chi'n dysgu oddi wrtho er mwyn Cymru? Mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn edrych ar hyn yn fanwl yn Lloegr, felly, tybed pam yr ydych wedi bod cyhyd yn dal i fyny yn eich Llywodraeth chi.

Os caiff ei weithredu, bydd eich adroddiad yn debygol o gael effaith gadarnhaol, a pheidiwch â'm camddeall i, rwyf i'n wirioneddol yn croesawu eich adroddiad. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad da, ac rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf da iawn. Ond rydych yn cyfaddef nad oes arian newydd i'w roi ar waith, ac mae'r gyllideb bresennol dan straen. Felly, pa sicrwydd a allwch ei roi i ni y bydd yr hyn yr hoffech ei wneud yn cael ei wneud mewn gwirionedd ac a fydd hynny'n parhau am flynyddoedd i ddod? A fydd yr arian a'r cyllid yno yn y dyfodol i'w gefnogi? Mae'r bobl y mae anableddau dysgu yn effeithio ar eu bywydau yn haeddu cael gwybod eu bod nhw'n uchel ar restr eich blaenoriaethau. Felly, os bydd problemau gyda'r cyllidebau yn y dyfodol, pa feysydd gwariant fydd yn rhaid torri arnyn nhw cyn bo'r cynigion hyn yn cael eu peryglu?

Pa gynlluniau manwl sydd ar gael i gynyddu cyfraddau sgrinio a'r defnydd yng Nghymru a'r anghydraddoldebau eraill a brofir gan bobl sydd ag anableddau dysgu yn y system iechyd? Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r system gofal iechyd yn eich portffolio chi, Gweinidog, ond y mae lles pobl ag anableddau dysgu. Mae'r hyn sy'n digwydd i bobl ag anableddau dysgu yn y system gofal iechyd yn hanfodol i'w lles cyffredinol. Felly, byddai'n dda iawn gennyf i gael clywed pa waith yr ydych yn ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gydlynu eich gweithgareddau i weithio gyda'ch gilydd er mwyn gwella cyfleoedd a lleihau'r anghydraddoldebau iechyd a brofir gan bobl ag anableddau dysgu.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad ei hun yn ganmoladwy iawn. Ond heb wybod pwy sydd ag anabledd dysgu ac felly ag angen cymorth, go brin y byddwch yn gallu helpu'r bobl hynny. Ceir nifer fawr o bobl sydd heb eu nodi, ac rydych chi eich hunan wedi cydnabod hynny yn eich adroddiad ac yn y datganiad. Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn edrych mewn gwirionedd ar ffyrdd y gallwch gasglu'r data er mwyn cael gwell gwybodaeth yn y dyfodol. Pa ymchwil benodol fydd yn cael ei chynnal, er hynny, i gasglu'r data, a sut fyddwch mewn gwirionedd yn mynd allan ac yn casglu'r data hynny? Pa ffynonellau yr ydych yn golygu eu defnyddio? Neu a yw eich cynlluniau ar y fath gam prototeip fel na allwch ddweud hynny wrthyf? Yn olaf, pa gynlluniau yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi eu rhoi ar waith, a fyddwch yn cyhoeddi eich cynllun gweithredu eich hunain i gyflawni amcanion yr adroddiad, ac os felly, pryd? Diolch.

16:45

Diolch i chi, Michelle. Nid wyf am fod yn achos unrhyw ddicter i chi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn ceisio bod yn gyflym iawn, iawn, ond roedd yna tua saith o gwestiynau yn hwn hefyd. A gaf i droi at y rhai craidd yma—

Nid wyf yn bwriadu gwneud hynny. Fel arall byddwn yn y fan hon—. Ond rwyf am geisio ymdrin â'r rhai allweddol.

Yn gyntaf, o ran dysgu'r gwersi o Loegr neu o rywle arall, rydym yn sicr yn gwneud hynny. Yr adroddiad LeDeR a oedd yn edrych ar faterion ynglŷn ag adolygiad o farwolaethau pobl ag anableddau dysgu—rydym yn ymwybodol iawn o hwnnw. Felly, mae gan y gwaith gwella bywydau y cytunwyd arno yn ddiweddar argymhellion clir iawn â'r nod o leihau'r anghydraddoldebau iechyd hynny ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ac yn wir cafodd ei lywio nid yn unig gan y rhanddeiliaid ond gan y Paul Ridd Foundation hefyd. Felly, mae gennym grŵp llywio cenedlaethol ar gyfer gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu. Cylch gwaith y grŵp hwn yw cynllunio a goruchwylio ffyrdd o fabwysiadu dull cenedlaethol o leihau'r anghydraddoldebau iechyd hynny—er enghraifft, drwy hyrwyddo'r defnyddio o becynnau gofal i bobl sy'n mynd i'r ysbyty. Fel y dywedaf, mae'r gwaith hwn o fewn y GIG—a gobeithiaf fod hynny'n ymdrin â'ch pwynt am y gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet Vaughan Gething a minnau yn ei wneud gyda'n gilydd yn hyn o beth—yn cael ei gefnogi gan waith y Paul Ridd Foundation. Cafodd ei frawd a'i chwaer Jonathan Ridd a Jayne Nicholls eu gwobrwyo'n ddiweddar, er clod am eu gwaith, pan gawsant fedalau'r Ymerodraeth Brydeinig i gydnabod eu gwaith i wella safonau gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Y pwynt arall sylweddol yr ydych yn ei godi, Michelle—roedd llawer ohonyn nhw—yw mater archwiliadau iechyd blynyddol. Rydym yn ymwybodol bod angen a bod yn rhaid cynyddu'r niferoedd sy'n cael gwiriad iechyd blynyddol ymhlith pobl ag anableddau dysgu. Felly, rydym wedi sefydlu grŵp llywio cenedlaethol i oruchwylio datblygiad y gwaith o ran y gwiriadau iechyd blynyddol hyn a materion iechyd eraill ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae swyddogion ar draws adrannau ledled y Llywodraeth yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac archwiliadau iechyd blynyddol. Ac ar y pwyntiau eraill a godwyd gennych, byddaf yn hapus i ysgrifennu atoch chi, oherwydd y cyfyngiad cwbl briodol a osodwyd ar y ddadl hon gan y Dirprwy Lywydd. Diolch.

16:50

Mae'n wych o beth eich bod wedi llwyddo i siarad â 2,000 o bobl, ond, fel yr ydych yn ei ddweud yn eich datganiad, er bod yna rai ardaloedd o arfer da, mae gormod o bobl yn gorfod brwydro am gefnogaeth ac addasiadau i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w galluogi i fyw bywyd cyffredin. Dim ond megis dechrau ar ei daith y mae cynhwysiant i raddau helaeth iawn. Rhagorol oedd gweld ddoe, yng Ngwobrau Jo Cox, mai'r sawl a enillodd y wobr am fynd i'r afael ag unigrwydd oedd mam bachgen awtistig a oedd yn awyddus i gymryd rhan mewn gemau pêl-droed wedi'u trefnu. Gwyddai na fyddai ef byth yn ffynnu mewn senario prif ffrwd, a bellach mae hyn wedi datblygu yn academi bêl-droed brif ffrwd a ddefnyddir gan nifer mawr o deuluoedd sydd â phlant awtistig, gyda chymorth gan Ddinas Abertawe, sy'n darparu hyfforddwr anabledd. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth i'w ddathlu, a da iawn i Andrea Smith.

Yr wythnos diwethaf ymwelais ag Autistic Spectrum Connections Cymru, sydd â chanolfan ar y Stryd Fawr yng nghanol dinas Caerdydd ac yn darparu gwasanaeth i bobl ar y sbectrwm awtistig ledled y de-ddwyrain. Byddwn yn wir yn hoffi dathlu'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Tra'r oeddwn i yno, cwrddais â phobl sy'n cymryd rhan yn y grŵp ysgrifennu creadigol, ac roedd peth o'r gwaith o ansawdd gwobr Booker yn bendant. Dywedodd un o'r bobl yno wrthyf mai dim ond un diwrnod yr wythnos y bydd yn mynd yno oherwydd bod ganddo gymhlethdodau iechyd eraill, a hwn oedd yr unig ddigwyddiad cymdeithasol iddo bob wythnos. Cyfarfûm â phobl hefyd sydd yn sefydlu menter gymdeithasol busnes arlwyo oherwydd eu bod yn dweud nad oes unrhyw reswm pam na ellir talu'r gyfradd ar gyfer y swydd i bobl ag anableddau, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw weithio fel gwirfoddolwyr—wyddoch chi, ardderchog.

Cyfarfûm hefyd ag un o raddedigion Oxbridge sy'n cynghori cyflogwyr a gweithwyr ynghylch y disgwyliadau rhesymol y mae'n rhaid i'r ddwy ochr eu cyflawni i sicrhau eu bod yn gwneud llwyddiant o'r contract cyflogaeth, ac yn cadw pobl ag anableddau mewn swyddi, gan esmwytho unrhyw gamddealltwriaeth a allai arwain fel arall at eu diswyddo. Rhaid inni gofio bod rhai o'r bobl fwyaf disglair ar y sbectrwm awtistig. Mae Saga Norén, y ditectif yn y gyfres deledu Broen, yn dangos hynny. Mae'n golygu eu bod nhw, mewn rhai ffyrdd, yn gallu gwneud y gwaith yn well na phobl nad ydyn nhw ag awtistiaeth.

Felly, maer llawer i'w ddathlu. Rwy'n siŵr y bydd y rhaglen mewn dwylo da gyda Gwenda Thomas, oherwydd gwn ei bod hi'n gwerthfawrogi'r model cymdeithasol o ymdrin ag anabledd yn hytrach na'r model meddygol, a chredaf fod hynny'n eithriadol o bwysig. Fy nghwestiwn i chi yw: sut fyddwch yn sicrhau na fydd pobl ag anableddau yn cael eu tangynrychioli mewn rhaglenni sgrinio fel sgrinio ceg y groth, y fron a'r coluddyn? Oherwydd os oes anhawster dysgu ganddyn nhw, mae'n bosibl na allan nhw ddeall y llythyr a gaiff ei anfon iddyn nhw na deall ychwaith bwysigrwydd sgrinio i sicrhau eu bod yn osgoi clefydau difrifol.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwyf innau hefyd yn cydnabod gwaith y sefydliad hwnnw, Autistic Spectrum Connections Cymru, a rhai eraill. Y mater a godwyd gennych chi yw mai'r hyn sydd ei angen yw dull gydol oes—sef y meysydd eang y tu hwnt i edrych ar y cyflwr drwy sbectrwm meddygol yn unig. Y model cymdeithasol yw hwnnw i raddau helaeth iawn. Mae hon yn ffordd newydd o weithio, ac mae'n ffordd o weithio a gyflwynwyd gan randdeiliaid yn y maes—pobl ag anableddau dysgu, gofalwyr ac eraill sydd wedi dweud, 'Dyma sut mae angen datblygu'r rhaglen waith hon, mewn gwirionedd, nid rhoi pethau mewn seilos.' Mae'n ymwneud â'r model cymdeithasol i raddau helaeth iawn.

Credaf y bydd eich sylwadau ynghylch sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu clywed nid yn unig gennyf fi, ond gan Gwenda Thomas yn ogystal â Sophie Hinksman, y cyd-gadeirydd, hefyd, wrth ddwyn hyn yn ei flaen. Mae'n werth dweud bod yna arweinyddion polisi penodol ar gyfer pob un o'r 26 o argymhellion o fewn hyn. Ceir ymrwymiad i weithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned anabledd dysgu ar y 26 o argymhellion, ynghyd â'u gofalwyr a rhanddeiliaid eraill, i lywio'r ddarpariaeth.

Mae'r grwpiau cynghori gweinidogol hyn wedi gweithio orau drwy fod yn dynn ac wrth ganolbwyntio ac anelu at y blaenoriaethau ac at y ffrydiau gwaith. Ond maen nhw'n estyn allan ac yn ymgysylltu yn ehangach hefyd. Rwy'n siŵr mai dyma sut y bydd Gwenda a Sophie yn dymuno datblygu'r grŵp cynghori gweinidogol. Y peth da, wrth gloi, fyddai dweud ein bod yn y cyfnod hwnnw pan fo cyfle o hyd i'r Aelodau Cynulliad yma gyfrannu eu barn ar yr argymhellion a sut y bydd y grŵp hwn yn esblygu. Mae Gwenda ar hyn o bryd yn newydd yn y gadair, byddan nhw'n cyfarfod cyn bo hir, byddan nhw wrth eu gwaith, ond byddan nhw'n gwrando hefyd o ran y ffordd i ddatblygu hyn.

16:55

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, ac yn croesawu'r meddylfryd y tu ôl iddo. Mae'n fy atgoffa i o'r strategaeth anfantais feddyliol Cymru gyfan a gyflwynwyd yma yng Nghymru yn 1983. Fe'i hystyrid ar y pryd yn un â gweledigaeth bwysig, a gwn y cyfeirir ati yn yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n ymwneud â pheth o waith y strategaeth honno. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym a welwch chi waddol yng Nghymru o'r strategaeth honno a oedd yn cael ei chanmol ar y pryd. Hoffwn gael sicrwydd nad ydym yn dechrau eto, oherwydd roedd pwyslais yno ar—wyddoch chi, y meddylfryd y tu ôl i hynny, yn fy marn i, mae'n debyg iawn i'r meddylfryd sydd yn y fan hon nawr. Felly, dyna un cwestiwn.

Y cwestiwn arall yw: tybed a oedd gennym lawer neu unrhyw oedolion ag anableddau dysgu wedi eu lleoli y tu allan i Gymru ac a allech chi roi amcangyfrif o gost hynny ac a oes unrhyw gyfle i ddod â nhw yn ôl i Gymru.

Yn olaf, o ran anghydraddoldebau iechyd, cefais fy syfrdanu o ddarllen mewn un o'r adroddiadau Seisnig fod disgwyliad oes cyffredinol pobl sydd ag anableddau dysgu ymhell ar ei hôl hi: 23 blynedd i ddynion a 29 mlynedd i fenywod, a chredaf fod hwnnw'n ffigur cwbl syfrdanol. Tybed a ydym wedi cael unrhyw ymchwil yng Nghymru i ddangos bod ffigur cyffelyb i Gymru. Credaf eich bod eisoes wedi ateb sut yr ydych yn bwriadu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond a allech roi sylwadau ar y ffigurau hynny?

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie. Yn wir, prif waddol y strategaeth gynharach honno yw meddylfryd hyn wrth ei ddatblygu. Felly, mae'n drawsbynciol, a chaiff ei gyrru i raddau helaeth iawn gan randdeiliaid, mae'n cymryd y dull profiad bywyd yn hytrach na'i fod wedi ei yrru gan Lywodraeth o'r brig i lawr sy'n dweud, 'Dyma'r atebion hawdd'. Y meddylfryd o weithio, a datblygu'r ffrydiau gwaith ar sail yr argymhellion, yw'r warant fwyaf mae'n debyg y bydd hyn yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, wedi'i dargedu'n dda ac yn sicrhau'r canlyniadau iawn.

O ran oedolion ag anableddau dysgu y tu allan i Gymru, nid oes gennyf ffigur pendant wrth law. Ond gwn y bydd gennych ddiddordeb i wybod ein bod ar hyn o bryd yn datblygu rhywfaint o feddylfryd mwy blaengar ynghylch sut i ddatblygu modelau, gan gynnwys cymorth pwrpasol a fydd yn caniatáu inni beidio â dibynnu ar fynd allan o'r sir, ac o Gymru pan ddigwydd hynny, a gwneud yn siŵr bod oedolion ag anableddau dysgu yn cael eu rhoi mewn gwirionedd yn y cymunedau, yn y strwythurau cymorth y maen nhw'n eu hadnabod. Mae gennym waith arloesol yn digwydd ar hyn o bryd o fewn y Llywodraeth ac â rhanddeiliaid i geisio datblygu'r modelau hynny sy'n meddwl mewn ffyrdd gwahanol am y ffordd ymlaen yn hyn o beth.

Roeddech yn gofyn am fanylion y niferoedd gwirioneddol yng Nghymru. Nawr, nid oes gennyf y rhain wrth law. Mae gennyf ffigurau'r DU, ond nid y ffigurau ar gyfer Cymru yn unig. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod gennym ni nawr, fel un o'r meysydd blaenoriaeth, grŵp llywio cenedlaethol yn gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anableddau dysgu, ac mae gan hwnnw ychydig o is grwpiau sydd yn edrych ar y meysydd penodol hyn. Felly, credaf, wrth i'r grŵp esblygu, yn sicr y byddaf yn gallu dod yn ôl i'r Senedd a rhoi diweddariad ar yr hyn a nodwn o ran y niferoedd, ond hefyd yr hyn a nodwn o ran yr atebion i hynny wrth fynd yn ein blaenau. Ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym yn obeithiol iawn y bydd y grŵp yn canolbwyntio arno mewn gwirionedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Efallai y gallaf ddechrau drwy ddweud, wrth gwrs, nad yw awtistiaeth ynddo'i hun yn anabledd dysgu. Credaf fod hynny efallai yn rhywbeth y dylem ei wneud yn glir yn y Siambr. Mae siop un stop Autism Spectrum Connections Cymru yr ydym wedi bod yn siarad amdani, yn ôl a ddeallaf, yn cael ei gorfodi i gau oherwydd ei bod wedi colli ei chyllid. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar hynny, os gwelwch yn dda, Gweinidog.

Yr un cwestiwn gennyf i oedd am yr adolygiad traws-Lywodraeth o bolisi anabledd dysgu, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud rhywbeth wrthym am sut yr ydym wedi ymgynghori â'r Gweinidog diwylliant, yn benodol. Rwy'n meddwl yn arbennig am gwmni Theatr Hijinx lle ceir, wrth gwrs, berfformwyr â phob math o alluoedd, ac efallai nad oeddech yn sylweddoli eu bod wedi cymryd gwaith gan faes awyr Caerdydd i helpu eu staff gyda'u strategaeth gyfathrebu. Felly, nid dim ond mater yw hyn o actorion o'r anian hon yn mynd i mewn i fusnesau ac yn codi ymwybyddiaeth, ond maent mewn gwirionedd yn gwneud gwaith da yn helpu Maes Awyr Caerdydd, yn yr achos hwn, i wella eu cyfathrebu. Diolch.

17:00

Diolch yn fawr iawn. O ran Hijinx yn benodol, ni allaf wneud sylw uniongyrchol ynglŷn â hynny, yn amlwg, ond mae disgwyliad wrth gyflawni hyn, y rhwymedigaeth statudol a roddwn ar ddarparwyr, ond hefyd y rhai sydd ag arian ar gael yn rhwydd iddyn nhw, yw eu bod mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio i gyflawni'r canlyniadau hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arnynt. Ac, ie, o ran datblygu hyn, mae wedi ymwneud nid yn unig â chyfranogiad eang mwy na 2000 o randdeiliaid, ond hefyd â'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd hefyd. Mae hynny'n diffinio'r rhaglen hon, gan gynnwys felly y Gweinidog Diwylliant—ceir cyfraniad o bob rhan o'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod yn rhaid i hynny nodweddu datblygiad y gwaith hwn hefyd, wrth gyflwyno'r argymhellion ac i'r grŵp gweinidogol ymateb a dweud, 'Dyma lle bellach y mae angen ichi dargedu eich blaenoriaethau, eich canlyniadau cyllid ac ati.' Mae'n rhaid i'r Llywodraeth gyfan fod yn rhan ohono. 

6. Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Caroline Jones, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 yw dadl ar Brexit a'r diwydiant pysgota, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6755—Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales’.

2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.

3. Yn cefnogi’r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:

a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o’n moroedd;

b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o’n hamgylchedd morol a’n hadnoddau naturiol;

c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;

d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; ac

e) bod yn annibynnol.

4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:01:48
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf arwain y ddadl hon heddiw ar yr hyn sy'n fater pwysig iawn i bobl Cymru ac, yn enwedig, i'n trefi a'n cymunedau arfordirol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae ein harfordir a'n moroedd yn ased naturiol anhygoel sy'n cyfrannu miliynau i economi Cymru, yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn ffynhonnell treftadaeth a diwylliant cyfoethog. Roedd y gwerth ychwanegol crynswth a gynhyrchwyd gan y sector morol yng Nghymru yn 2014 yn unig oddeutu £370 miliwn. Mae mwy na 60 y cant o boblogaeth Cymru yn byw ger ein glannau, gyda'n holl ddinasoedd mawr a sawl tref bwysig ar yr arfordir.

Yn fuan ar ôl y refferendwm, deuthum â grŵp bord gron o randdeiliaid cynrychioliadol at ei gilydd i geisio eu cymorth i ganfod a deall yr heriau a'r cyfleoedd posib y mae Brexit yn eu cyflwyno i Gymru. Mae'r is-grŵp moroedd ac arfordir a ffurfiwyd o aelodau o fy ngrŵp bord gron a Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol wedi helpu i gyfeirio ein hystyriaeth o Brexit a'n moroedd. Mae Aelodau wedi gweithio gyda'r Llywodraeth i lunio pum thema allweddol i weithio tuag atynt wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn arwain datblygiad polisi pellach ac yn cyfrannu at gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o foroedd cynhyrchiol, iach a biolegol amrywiol.

Rwyf wedi gwneud trefniadau i ddosbarthu'r rhain i'r Aelodau heddiw, ac mae'r themâu yn cynnwys: cynllunio i wneud y defnydd gorau o'n moroedd, sy'n cynnwys cyflawni'r cynllun morol; stiwardiaeth effeithiol o'n moroedd a'n hadnoddau naturiol, gan gynnwys ein cyfraniad at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig; parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol yn y DU, gan gynnwys gweithio'n agos gyda'n partneriaid ledled y DU o ran gwyddoniaeth a gorfodi, a byddwn yn gweithio gyda'r rhai hynny yr ydym ni'n rhannu ardal forol â nhw; sicrhau bargen decach ar gyfer y diwydiant pysgota, gan gynnwys ail-fantoli cyfran y DU o'r cwota pysgod a datblygu cyfleoedd mewn marchnadoedd domestig a thramor; a sefyll ar ein traed ein hunain drwy wella ein gallu o ran gwyddoniaeth forol a chasglu data, ac adolygu ein deddfwriaeth pysgodfeydd i ymgorffori rheolaeth gynaliadwy o egwyddorion adnoddau naturiol, a sicrhau eu bod yn addas i'w diben. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried y themâu hyn yn rhan o'r ddadl heddiw.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle i gael polisi pysgodfeydd i Gymru sydd â buddiannau pysgodfeydd a chymunedau arfordirol Cymru wrth ei wraidd. I ddeall y cyfleoedd hyn yn llawn, comisiynais Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i roi dirnadaeth annibynnol ar y goblygiadau i bolisi pysgodfeydd yng Nghymru yn dilyn Brexit. Hoffwn ddiolch i'r Ganolfan Polisi am eu gwaith, ac rwy'n falch o gyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cynulliad heddiw.

Rwy'n gobeithio bod Aelodau yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sy'n wynebu'r diwydiant. Fel yr amlinellwyd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', mae diwydiant pysgota Cymru yn haeddu cyfran decach o gyfleoedd pysgota yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gan fflyd Cymru fodel busnes ffyniannus a chynaliadwy i annog buddsoddiad ac i ddenu cenedlaethau'r dyfodol i'r diwydiant. Rheolir cyfleoedd pysgota'r fflyd ar hyn o bryd drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth wedi ei llunio yng Nghymru a'r polisi pysgodfeydd cyffredin. Mae'r rhain yn pennu cyfanswm y pysgod sydd ar gael ac yn sefydlu rheolau ar gyfer rheoli stociau pysgod sy'n treulio rhan o'u hamser yn ein dyfroedd. Fodd bynnag, mae'r polisi pysgodfeydd cyffredin yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar bysgota diwydiannol ar raddfa fwy, a fy mwriad i mewn trafodaethau blynyddol yw sicrhau bod y sector bychan yn cael bargen decach. 

Mae rhai sylwebyddion yn sôn am fflyd Cymru yn dal llawer mwy o bysgod oherwydd Brexit. Nid yw'r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod fawr o fudd i gychod y DU o ran cyfran y pysgod. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau mai dim ond cyfran fach iawn o gyfran y DU yw cyfran Cymru. Bydd angen trafod unrhyw bysgod ychwanegol stoc wrth stoc, a bydd hynny'n cymryd amser. Mae unrhyw bysgod ychwanegol a fydd ar gael drwy'r trafodaethau hyn yn adnodd cyhoeddus, nid ased masnachol i'w prynu a'u gwerthu. Dylai fod ar gael i ail-fantoli cyfleoedd pysgota.

Mae natur pysgota ym mhedair rhan y DU yn wahanol o ran graddfa a'r rhywogaethau y maen nhw yn eu targedu. Mae gennym ni hanes hir o weithio gyda'n gilydd i reoli'n priod fflydoedd a'r rhywogaethau pysgod sy'n symud o un lle i'r llall. Yng Nghymru, am resymau hanesyddol, cychod bach llai na 10 metr o hyd yw'r rhan fwyaf o'r fflyd. Mae'r diwydiant pysgota yn ddibynnol ar rywogaethau pysgod cregyn di-gwota, megis crancod, cimychiaid a chregyn moch, tua 90 y cant ohonyn nhw yn cael eu hallforio i'r UE neu i wledydd eraill drwy gytundebau masnachu'r UE. Caiff y rhan fwyaf o'n pysgod cregyn eu hallforio yn gynnyrch ffres neu fyw. Mae hyn yn golygu bod amseriad yn hollbwysig. Gallwch ddychmygu'r anawsterau y bydd allforwyr yn eu hwynebu os caiff pysgod cregyn eu dal yn ôl ym mhorthladdoedd y DU neu'r UE oherwydd rhwystrau di-dariff.

Mae'n amlwg na all unrhyw bolisi yn y dyfodol lwyddo oni bai ein bod yn parhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynnyrch sydd eisoes yn dod o'n pysgodfeydd. Roedd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac adroddiad ein grwpiau rhanddeiliaid yn glir yn hyn o beth. Byddaf yn parhau i bwyso'n galed am hyn mewn cyfarfodydd gyda'm cymheiriaid yn Whitehall er mwyn cael y fargen orau i Gymru wrth i'r trafodaethau masnach ddatblygu, ac rwy'n gobeithio y gall y Cynulliad gefnogi ein hymdrechion yn y maes hwn hefyd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Diolch i chi am ildio. Dim ond o ran y darlun cyffredinol y mae hi newydd ei bortreadu, mae hi wedi sôn am y diwydiant pysgod cregyn, nad yw, wrth gwrs, yn dibynnu ar gwotâu, ac yn gynharach soniodd am gwotâu a'r posibilrwydd o ryddhau stoc newydd, a byddem yn tybio y gwneid hynny yn gynaliadwy, a dywedodd y byddai cwotâu o'r fath er budd y cyhoedd. A yw hynny'n golygu ei bod yn rhagweld polisi pysgota Cymru yn datblygu i fod yn seiliedig ar gwotâu wedi eu seilio ar egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol, ond nid yn seiliedig ar brynu a gwerthu?

Dim ond dweud wnes i y byddai'r pysgod ychwanegol yn adnodd cyhoeddus, felly credaf fod hynny i raddau helaeth iawn yn destun trafodaeth a negodi, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ddatblygu.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Prif Weinidog bod cyllid ar gael i helpu'r sectorau pysgodfeydd a dyframaethu baratoi, gan gynnwys cyllid ar gyfer ymchwil a dadansoddi tactegol o ran gadael yr UE. Rwyf eisiau bod yn glir iawn: rwy'n disgwyl bargen decach i Gymru yn rhan o unrhyw gytundeb ynglŷn â dyfodol pysgodfeydd. Rwy'n anhapus â'r system gwota bresennol a'r ffordd y mae'n cael ei rheoli, a chredaf y bydd angen i unrhyw system newydd fod er budd cyhoeddus ac y dylai unrhyw gyfleoedd pysgota yn y dyfodol fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol.

Rwy'n disgwyl i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â Brexit mewn ffordd gyfrifol. Byddaf hefyd yn pwyso am ddatganoli sy'n cyfateb i'r hyn sydd gan yr Alban gan ennill cymhwysedd deddfwriaethol llawn ar gyfer pysgodfeydd ym mharth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli pysgota yn hynny o beth ond ni chaiff lunio deddfwriaeth sylfaenol. Nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr bod llinell artiffisial yn y môr sy'n ein rhwystro rhag gwneud deddfwriaeth gyson ar gyfer ein hardal forol. Mae angen i bob rhan o'r DU weithio gyda'i gilydd mewn rhai meysydd polisi yn y dyfodol—fframweithiau'r DU, fel y'u gelwir nhw. Mae'r cytundeb a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y cytundeb rhynglywodraethol yn cydnabod hyn ac yn amddiffyn datganoli wrth inni adael yr UE.

Mae rheoli pysgodfeydd yn un o'r 24 maes a nodwyd lle mae pwerau sy'n dychwelyd o'r UE yn dod o fewn ein cymhwysedd datganoledig ni a lle mae fframweithiau cyffredin y DU yn debygol o fod yn angenrheidiol. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweddill y DU i nodi sut bydd y fframwaith hwn yn edrych, pa rannau sy'n gofyn am ddeddfwriaeth, beth yr ydym ni eisiau ei wneud gyda'n gilydd a beth yr ydym ni eisiau ei wneud ein hunain. Ochr yn ochr â hyn, rydym ni'n gweithio'n galed i baratoi'r diwydiant i fod yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael, a byddwn yn gweithio i leihau unrhyw effaith ar fusnesau ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pysgodfeydd yn cael eu rheoleiddio'n llym. Nodwyd bod angen gwneud gwelliannau i fwy na 90 o reoliadau'r UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys cannoedd o dudalennau o ddeddfwriaeth, i wneud i hyn weithio. Mae hon yn dasg enfawr, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweddill y DU er mwyn sicrhau y caiff y gwaith deddfwriaethol ar ôl gadael, yn ogystal â datganoli, eu hamddiffyn. Rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd da iawn yn ein paratoadau i ddiwygio ein deddfwriaeth ddomestig. Mae sicrhau bod gennym fframwaith deddfwriaethol ymarferol ar gyfer ein moroedd ar ôl gadael yn hanfodol bwysig, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau.

17:10

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Neil Hamilton.

Gwelliant 1—Caroline Jones

Ym mhwynt 2, dileu 'yr heriau' a rhoi 'y cyfleoedd' yn ei le.

Gwelliant 3—Caroline Jones

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu parth economaidd unigryw o 200 milltir i roi mynediad unigryw i bysgotwyr y DU i foroedd o fewn 200 milltir o arfordir y DU.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ei chael hi'n anodd anghytuno â llawer o'r pethau a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn arbennig o falch ei chlywed hi'n dweud, yn ystod ei haraith, y bydd hi'n canolbwyntio ar gael bargen decach i bysgotwyr bychain a bargen decach i Gymru. Dyna'r hyn y mae bob un ohonom ni yn y Cynulliad hwn ei eisiau, rwy'n siŵr. Rwyf hefyd yn cytuno â hi yn ei hanfodlonrwydd â chwotâu, ac rwyf hefyd yn cymeradwyo ei bwriad i ymdrin ag anghydraddoldebau hanesyddol. Yn anffodus, fyddwn ni ddim yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond dim ond oherwydd un gair ynddo. Oherwydd dywed ym mharagraff 2 ei fod yn cydnabod heriau penodol Brexit heb wneud unrhyw gyfeiriad at y cyfleoedd.

Nawr, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn un o'r Gweinidogion mwy eangfrydig, a'i bod yn aml yn gwneud areithiau gan dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit, yn enwedig i'r diwydiant pysgota. Ychydig iawn o ddiwydiannau ym Mhrydain sydd wedi dioddef cymaint â'r diwydiant pysgota dros yr hanner canrif diwethaf oherwydd ein haelodaeth o'r UE, ac mae'n hanfodol bwysig, felly, y manteisir ar Brexit er mwyn adfywio ein porthladdoedd pysgota arfordirol ac ardaloedd cyfagos, ac adfywio'r diwydiant pysgota Prydeinig, gan gynnwys, wrth gwrs, diwydiant pysgota Cymru.

Rwy'n falch, wrth ddarllen yr adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, o weld ei fod mewn gwirionedd yn cyfeirio yn eithaf clir ar dudalen 8 at y ffaith bod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi ei lunio heb fawr o gynllun iddo yn ôl ym 1973 o fewn ychydig oriau i Brydain, ynghyd ag Iwerddon a Norwy, wneud cais i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Nid oedd polisi pysgodfeydd cyffredin i'w gael yn yr UE cyn ein cais i ymuno, ac roedd hyn yn ychwanegiad munud olaf i'r UE, wedi ei gynllunio dim ond er mwyn galluogi gwledydd eraill yr UE i ysbeilio ein dyfroedd ym Môr y Gogledd ac mewn mannau eraill. Ac wrth wneud hynny, dros y 40 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi distrywio diwydiant pysgota y wlad hon yn llwyr, a'r trefi a'r pentrefi sy'n dibynnu arno.

Roedd naw deg y cant o stociau pysgod yr UE, gan gynnwys y gwledydd a wnaeth gais i ymuno ym 1973, yn nyfroedd y gwledydd hynny, ac mewn gwirionedd roedd 80 y cant o'r pysgod yn nyfroedd y DU. Roedd hyn yn weithred o ladrad gwleidyddol ar raddfa fawr gan y farchnad gyffredin, fel y'i gelwid hi bryd hynny. Ond hen hanes yw hynny, a bellach mae gennym ni gyfle i wrthdroi'r broses. Rydym ni wedi byw trwy'r amseroedd mwyaf ofnadwy yn yr ychydig ddegawdau diwethaf o bysgota diwydiannol, ac roeddwn i'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod ei haraith, wedi cyfeirio hefyd at ei bwriad i osgoi ailadrodd hynny yn nyfroedd Cymru.

Diwydiant bychan iawn yw pysgota—dim ond 0.05 y cant o gynnyrch domestig gros y DU ydyw—ac, i'r graddau hynny, mae perygl y caiff ei aberthu yn rhan o broses Brexit yn ogystal â'r broses a ddaeth â ni i mewn i'r UE yn y lle cyntaf. Mae'n hollbwysig, felly, nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud tro gwael â'r diwydiant pysgota Prydeinig unwaith eto yn rhan o'r broses o negodi ein hymadawiad, oherwydd mae'n bosib y bydd y Llywodraeth yn dweud mai rhwydd hynt i ddefnyddio dyfroedd Prydain yw'r pris i'w dalu am ryw fath o gytundeb masnach rydd, neu fath arall o fargen, sydd wrthi'n cael ei daflu at ei gilydd. Mae'r UE wedi bod yn gwthio bargen galed drwy gydol yr holl broses hon oherwydd nid yw eu negodi wedi'i gynllunio i wella llesiant economaidd pobl Ewrop, ond wedi ei lunio i'w cadw'n rhygnu ymlaen gyda'u prosiect gwleidyddol ffederal methedig. 

Nawr, mae gan Gymru, wrth gwrs, fuddiannau gwahanol iawn mewn pysgota o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, nid lleiaf oherwydd pwysigrwydd pysgota pysgod cregyn, fel y dywed Simon Thomas yn aml yn ei gyfraniadau i'r dadleuon hyn, ond mae gennym ni'r cyfle yng Nghymru i ddatblygu'r diwydiant mewn ffyrdd eraill hefyd. Nid yw'n dda i unrhyw ddiwydiant ddibynnu'n ormodol ar ffurfiau penodol o gynhyrchu, ac mae arallgyfeirio yn rhan bwysig, felly, o'r cyfleoedd sydd ar y gorwel—

17:15

Onid ydych chi'n derbyn, fodd bynnag, gyda'r cynnyrch amaethyddol a'r pysgod sydd gennym ni yng Nghymru, os na chawn ni fynediad hollol digyfyngiad i'r farchnad Ewropeaidd lle mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch hwnnw'n mynd, bydd y rhan fwyaf ohono yn difetha, caiff y farchnad honno ei cholli mewn gwirionedd, ac mae'n debyg mai'r unig bobl a fydd yn elwa fydd poblogaeth Cymru fwy na thebyg fydd yn cael eu gorfodi i fwyta cimwch bob wythnos?

Wel, mae cimychiaid sir Benfro yn hynod o flasus, gallaf ddweud hynny wrthych chi. Ond, ydw, rwy'n sylweddoli bod y diwydiant yn ddibynnol iawn ar allforio, ond mae cyfle enfawr i ni yn y fan yma, oherwydd mae gennym ni anghydbwysedd enfawr yn y bwydydd yr ydym ni'n eu masnachu gyda'r UE ac os caiff tariffau eu gosod yn ffôl gan yr UE—nid oherwydd na fydd diddordeb gan Lywodraeth Prydain mewn gwneud hynny—yna, mae gennym ni gyfleoedd enfawr o ran ailystyried yr hyn a gaiff ei fewnforio a newid, efallai, chwaeth y cyhoedd ym Mhrydain i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'n rhan.

Yn anffodus, does gen i ddim amser i fanylu ar y dadleuon cymhleth o anghydbwysedd masnach, ac rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd eraill i'w gwyntyllu, ond mae hi yn bwysig cydnabod bod hyn yn rhoi cyfleoedd enfawr inni, hefyd, i wneud iawn am y drychineb amgylcheddol sydd wedi taro'r diwydiant pysgota Prydeinig dros y 40 mlynedd diwethaf, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i chwarae ei rhan lawn yn y broses honno.

Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. David Melding.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i geisio'r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf i longyfarch Neil Hamilton am sensitifrwydd ei araith yn pwysleisio bod pryderon amgylcheddol yn drech na'r farchnad rydd? Rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni wedi credu bod honno'n egwyddor bwysig iawn, iawn, iawn. Hwrê, mae UKIP bellach yn croesawu hynny hefyd.

Mae hon yn ddadl bwysig iawn, ac nid ydym ni'n siarad digon am hyn yn y Siambr, felly rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dod â hyn i'n sylw. Mae'n rhaid imi ddweud, o ran pwyntiau 1 i 3 yn y cynnig, nid oes gennyf unrhyw anhawster â nhw, ond mae'r pedwerydd un yn achosi problemau. Rwyf wedi darllen yr adroddiad rhagorol hwn, 'Goblygiadau Brexit i Gyfleoedd Pysgota yng Nghymru'—'cyfleoedd'— ac yn cydnabod yr heriau ac, er tegwch, y cyfleoedd, fel y mae Neil Hamilton wedi eu hamlinellu, fydd yn dod i ddiwydiant pysgota Cymru a'r amgylchedd morol yn sgil y broses Brexit. Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig iawn inni bendroni yn eu cylch.

Mae Brexit yn gyfle i Gymru adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan bolisi pysgodfeydd cyffredin yr UE ac chreu cyfundrefn fwy bwrpasol ac amgylcheddol uchelgeisiol ar gyfer rheoli pysgodfeydd Cymru ar ôl Brexit. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwaith yr is-grŵp moroedd ac arfordir ac yn croesawu'r themâu y maen nhw wedi eu cyflwyno.

Nid oedd pwynt 4, fel yr wyf i wedi awgrymu, mor syml i ni, oherwydd yr unig ffordd y mae pob gwlad yn mynd i gael mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE yw derbyn bod rhag-amodau megis rhyddid symudiad o ran pobl, nwyddau a gwasanaethau. Mae'r UE wedi'i gwneud hi'n glir na fydd mynediad dilyffethair i'r farchnad sengl i unrhyw wlad nad yw'n ymrwymo i'r egwyddorion hyn, fel y maen nhw'n eu gweld, ac mae hyn yn realiti, mewn gwirionedd, y mae Jeremy Corbyn wedi ei gyfaddef yn gyhoeddus. Dylem fod â'r nod o gael y mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, drwy negodiadau gyda'r UE ar ffurf cytundeb masnach rydd gynhwysfawr, fel yr un y mae Llywodraeth y DU yn gweithio i'w gyflawni ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, i sicrhau ein bod ni yn gwneud y defnydd gorau o'n moroedd ac i sicrhau y gallwn ni sefyll ar ein traed ein hunain, mae angen inni ddatblygu polisi effeithiol a chynaliadwy sy'n briodol ar gyfer dyfroedd y DU, ac sy'n parchu'r setliad datganoli, ond bydd hyn yn gofyn am broses sy'n seiliedig ar ymgynghori a thystiolaeth, ac, unwaith eto, rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma.

Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn mynd i gyflwyno Bil pysgodfeydd domestig, sy'n dal mewn cyfnod ymgynghori, rwy'n credu, ac y mae peth oedi ar hyn o bryd yn ei gylch oherwydd anawsterau penodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Rwy'n synhwyro bod Llywodraeth Cymru yn fwy adeiladol ar hyn o bryd. Ond rwyf yn eu hannog i eiriol yn gryf, ac yn sicr fe gewch ein cefnogaeth ni wrth ddadlau dros y sefyllfa orau i Gymru.

Mae natur a chyfansoddiad y diwydiant pysgota yn amrywio'n sylweddol yn y DU, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, ac mae angen cydnabod hyn wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth pysgodfeydd ar gyfer y DU gyfan. Wnaf i ddim rhygnu ymlaen ynghylch y sylw am ein dibyniaeth ar bysgod cregyn a bychander ein fflyd a maint llai y cychod eu hunain. Mae'r rhain yn wahaniaethau pwysig. Felly, mae hyn yn dangos bod anghenion diwydiant pysgota Cymru yn wahanol i'r diwydiant yn y DU yn gyffredinol. Mae angen i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd fod yn ymwybodol o hyn yn y trefniadau pysgodfeydd ar ôl Brexit a'r fframweithiau a gaiff eu cyflwyno bellach o ganlyniad i drafodaethau Bil ymadael yr UE.

Rydym ni hefyd wedi clywed bod pysgod yn adnodd cyffredin ac y dylid eu rheoli er budd y cyhoedd. Nid oes unrhyw ffordd arall. Gallant silio mewn un ardal, bwydo mewn un arall a mudo'n helaeth. Mae hwn yn adnodd cyffredin pwysig iawn, iawn i'w reoli'n effeithiol, ac mae canlyniadau gorbysgota yn llawer rhy gyffredin a brawychus. Felly, mae angen inni edrych ar reoli adnodd cyffredin a rennir fel yr amgylchedd morol a stociau pysgota. 

Ar gyfer y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater hwn, dros Gymru, mewn modd sy'n golygu bod y diwydiant wrth y llyw, oherwydd rwyf yn teimlo, am gyfnod rhy hir, nad yw eu lleisiau wedi cael gwrandawiad teg. Rwyf yn cydnabod y rhwystredigaeth a fynegwyd gan Neil yn rymus iawn yn ei gyfraniad yn hyn o beth. Mae'r ymchwil a gyflwynwyd i ni yn y pwyllgor hinsawdd yn rhan o'n hymchwiliad i bysgodfeydd ar ôl Brexit yn dweud sut mae enghreifftiau o Norwy, Gwlad yr Iâ ac Ynysoedd y Ffaröe wedi dangos bod cyd-berthynas rhwng Llywodraeth, awdurdodau lleol a'r diwydiant yn hanfodol ar gyfer diwydiant pysgodfeydd sy'n ffynnu. Felly, mae angen inni adeiladu ar y mathau hyn o ddulliau. A gaf i ddweud, Llywydd, wrth ymdrin â'r mater yn y modd hwn, sef ei seilio ar dystiolaeth a rhoi anghenion clir Cymru wrth ei wraidd, y gall y Llywodraeth ddisgwyl inni gefnogi eu polisi pan fyddan nhw yn gweithredu er lles gorau Cymru? Diolch.

17:20

Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau ac yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma. Mae yn hen bryd i bysgodfeydd gael eu trafodaeth lawn gyntaf am gyfnod hir iawn, rydw i'n meddwl, yn y Cynulliad. Rydw i hefyd yn croesawu'r papur sydd wedi ei baratoi gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd yn gefn i'r ddadl yma.

Nawr er, fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, fod pysgodfeydd yn sector gweddol fychan yn economi Cymru, mae yn rhan bwysig o fywoliaeth cymunedau arfordirol Cymru. Nid oes ond angen i ddyn ymweld â Phorth Meudwy ar ddiwrnod o haf a gweld pysgotwr cimwch sydd hefyd yn bysgotwr defaid ar y tir mawr ym Mhen Llŷn i weld bod y môr a'r tir yn dod gyda'i gilydd. Dyna'r fath o fywoliaeth gynaliadwy rydym ni eisiau iddi gael ei hadlewyrchu wrth lunio polisi pysgodfeydd newydd.

Er bod cwotâu a'r ffordd roedd cwotâu wedi cael eu trin gan y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi hawlio lot o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac er fy mod i'n ddigon hapus i ddweud, ac wedi dweud yn y gorffennol hefyd, nad oeddwn i'n ffan yn y cyd-destun yna o bolisi'r Undeb Ewropeaidd, y ffaith amdani yw, pan ydych chi'n edrych ar Gymru, fod 92 y cant o gynnyrch pysgota Cymru yn dod o bysgodfeydd sydd heb gwotâu. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn yn benodol am bysgod cregyn.

Mae'n wir hefyd i ddweud, cyn inni gael meddu ar y pwerau, fod 88 y cant o gwotâu pysgota Cymru wedi cael eu gwerthu i fusnesau Sbaen, nid gan yr Undeb Ewropeaidd ond gan Lywodraeth Prydain—hi wnaeth awdurdodi hynny. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennym ni fwy o reolaeth dros ein cwotâu ein hunain, ond dim ond 10 y cant o gwota Cymru sy'n cael ei ddal yn nyfroedd Cymru, ym moroedd Cymru ar hyn o bryd. Felly, mae yna dipyn o ffordd i fynd i adennill perchnogaeth dros y maes yna. Mae'n rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sydd yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd ac sydd yn cydnabod y cynefin a'r berthynas rhwng y tir mawr a'r môr.

Dim ond i roi enghraifft ichi o ba mor bwysig yw hyn: wrth edrych ar ambell i gymuned, rydym ni'n dal yn allforio gwerth £5 miliwn o'r gwichiaid moch dramor, ond nid i'r Undeb Ewropeaidd mae'r cregyn bach yma'n mynd, ond i Gorea. Os ŷch chi wedi ymweld, yn y gorffennol, â ffatri bysgod Cei Newydd, byddwch chi wedi gweld effaith y diwydiant yna, ond byddwch chi hefyd yn gwybod ei fod yn ddibynnol ar gytundebau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae honno'n farchnad sydd yn gallu bod yn bwysig i ambell i gymuned yn ogystal.

Yn y cyd-destun hwnnw, fe fyddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwotâu pysgod tu allan i Gymru nes bod y sefyllfa yn gliriach, wrth i ni drafod y cytundebau newydd. Dyna pam roeddwn i mor awyddus i ddeall a oedd yna bolisi newydd gan y Llywodraeth fod unrhyw gwotâu newydd ynglŷn â physgod newydd sydd yn dod yn ôl, fel petai, ar sail prynu a gwerthu neu ar sail cwota sydd yn seiliedig ar amgylchedd yn unig. Achos yn fy marn i, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddal y cwota pysgod erbyn hyn ar gyfer y blynyddoedd i ddod, nes ein bod ni'n gweld yn glir beth yw'r effaith amgylcheddol, pwy gaiff bysgota ein tiroedd ni, a pha fath o gytundeb masnach pysgodfeydd sydd gyda ni.

Bydd angen mynediad i bysgodfeydd tu hwnt i foroedd Cymru. Dim ond 20 y cant o rywogaethau cwota Cymru sy'n cael eu glanio yma ym mhorthladdoedd Cymru—rydw i'n gwybod y bydd y pwyllgor newid hinsawdd yn ymweld ag Aberdaugleddau yn fuan iawn—ac mae 73 y cant o rywogaethau cwota Cymru yn cael eu glanio ym mhorthladdoedd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes modd i ni, ac nid oes adnoddau i ni, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, i newid hynny yn sylfaenol iawn. Felly, mae trafodaeth ryngwladol yn mynd i fod yn hynod bwysig, ond yn y cyfamser, fe fyddwn i'n apelio i'r Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi moratoriwm ar unrhyw werthu cwota pellach.

Yr ail ran o'r ddadl sy'n bwysig i ni yw bod yna adnoddau digonol i wireddu hyn. Roeddwn i wedi ymweld, gyda Rhun ap Iorwerth, â'r Prince Madog, sef llong ymchwil sydd gyda ni yng Nghymru, gyda Phrifysgol Bangor. Mae'n amlwg bod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yna. Rydw i'n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yn y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod angen mwy o fuddsoddi yn y maes yma. Nid ydym ni'n deall digon am ein moroedd ein hunain: lle mae'r pysgod, sut mae eu cynefin nhw, sut mae cynnal moroedd cynaliadwy. Felly, mae angen i ni fuddsoddi yn yr ymchwil yn ogystal â'r amddiffyn o bosib, a'r plismona hefyd, o unrhyw bysgota wrth fynd ymlaen.

A'r pwynt olaf rydym yn ei wneud yn y gwelliannau yma—[Torri ar draws.] Ocê. Rwy'n credu bod jest abówt amser.

17:25

Hoffwn yn fawr iawn ategu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud. Ymwelais â'r ysgol gwyddorau eigion ym Mangor y llynedd. Fe wnaethon nhw siarad â mi am eu cwch, y Tywysog Madog. Wrth gwrs, mae mewn perchenogaeth ddeuol, ac fe grybwyllais hyn wrth Lywodraeth Cymru. Dywedasant fod hynny'n rheswm i beidio ag ymyrryd, yn hytrach na mecanwaith y mae angen iddynt ei ddilyn i sicrhau bod y llong hon yn parhau i hwylio, ond rwy'n eich cefnogi'n llwyr: mae'n rhaid i'r llong hon barhau â'i gwaith gwych.

Rydw i'n siŵr, ac rydw i'n gobeithio y bydd Rhun yn gallu cynnig—. Bydd dadl fer gyda fe cyn bo hir, rydw i'n deall, a bydd yna fwy o drafod ar ddyfodol y llong. Ond rydw i'n derbyn y pwynt.

Y peth olaf, os caf i jest cloi gyda hynny, yw: yn y cyd-destun sydd ohoni, mae hi yn bwysig iawn i ymladd yr achos dros sicrhau masnach heb dariffau i bysgodfeydd Cymru. Fe wnaf i gloi drwy ddyfynnu James Wilson, sydd yn gyfrifol am Gynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor—mae'n siŵr bod rhai ohonoch chi wedi blasu nhw ar lan y Fenai—a disgrifiodd e ei fusnes fel hyn:

Mae wagen yn aros ar ochr y cei pan ydym ni'n glanio. Rydym yn cymryd y cregyn gleision oddi ar y cwch ac fe gân nhw yn eu rhoi ar y wagen, mae'r wagen yn gyrru ymaith. Ac yna fe gymer hi rhwng 26 ac 18 awr i'w cludo o ogledd Cymru i ogledd Ffrainc neu dde yr Iseldiroedd. Os byddan nhw yn archebu gennyf i ar ddydd Llun, yna maen nhw'n disgwyl i'r wagen gyrraedd ar ddydd Mawrth oherwydd mae arnyn nhw eisiau... eu gwerthu ar ddydd Mercher. Mae mor llyfn â hynny. Mae unrhyw beth sy'n peri oedi neu ansicrwydd neu beth bynnag yr ydych chi'n ei alw i'r broses honno yn creu problem o ran y gadwyn gyflenwi. Nid problem fach yw honno. Does neb eisiau bwyta cregyn gleision sydd wedi troi.

Rwy'n credu y gwnaed llawer o addewidion byrbwyll gan y Brexitwyr. Un ohonyn nhw oedd y byddai gadael yr UE yn galluogi'r DU i fod yn wladwriaeth annibynnol arfordirol, sef yr hyn yr oeddem ni bron i 50 mlynedd yn ôl, ond credaf fod hynny'n llwyr anwybyddu rhai o wirioneddau bywyd, un ohonynt yw nad oes angen pasbort ar bysgod i groesi ffiniau, a bydd pa bolisïau bynnag a gaiff eu mabwysiadu gan yr Undeb Ewropeaidd wedi inni adael yn effeithio ar nifer y pysgod sy'n nofio yn ein dyfroedd, cymaint ag o'r blaen.

Cytunaf nad yw polisi pysgodfeydd yr UE yn un o'r polisïau mwyaf llwyddiannus i'r UE eu llunio, ac roedd hynny oherwydd bod gwleidyddion wastad yn ymyrryd â'r hyn oedd yn fesurau cynaliadwyedd ac amgylcheddol yn eu hanfod. Felly, bob amser yn y negodiadau munud olaf am 4:00 y bore byddai pobl yn glastwreiddio'r cynigion a luniwyd gan yr arbenigwyr. Felly, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi am sawl rheswm, ond nid oherwydd ein bod ni neu nad oeddem ni yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Fel mae Simon Thomas eisoes wedi nodi, nid oes cwotâu o gwbl ar y rhan fwyaf o'r pysgod sy'n cael eu dal gan bysgotwyr Cymru, ond, serch hynny, mae angen inni sicrhau nad yw'r cytundebau y deuir iddynt gyda'r Undeb Ewropeaidd yn osgoi neu'n colli'r masnachu a wneir gyda rhai o'n porthladdoedd yma yng Nghymru. Rwy'n deall y daw traean o werth y pysgod sy'n dod i'r lan ym mhorthladdoedd Cymru o gychod yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n debyg ein bod ni eisiau parhau i elwa ar y fasnach honno. Os yw hanner y cychod yn Aberdaugleddau yn gychod o Wlad Belg, os nad oes gennym ni drefniant synhwyrol â'n cymdogion Ewropeaidd, yna bydd hynny'n niweidiol i'r porthladdoedd hynny ac i'r fasnach sy'n deillio o hynny. 

Ond rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding a Simon Thomas, ac yn wir, ag Ysgrifennydd y Cabinet, bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rheidrwydd ym mhopeth a wnawn o ran y pysgod oherwydd, os na wnawn ni hynny, byddwn yn mynd yn groes i'n buddiannau ein hunain. Yn amlwg, byddai'n wych pe byddai mwy o bobl Cymru yn magu archwaeth at flas rhyfeddol pysgod cregyn Cymru, y mae David Melding wedi eu canmol i'r cymylau lawer gwaith, ac mae angen inni gofio bod rhinweddau niferus i ddefnyddio cynnyrch cartref yn hytrach na phethau sy'n cael eu mewnforio. Arferai wystrys fod yn brif gynhwysyn lobsgows ymhlith pobl dlawd ym mhorthladd Lerpwl. Mae arna i ofn bod wystrys bellach yn ddanteithfwyd prin; Felly nid oes arnom ni eisiau gweld yr un peth yn digwydd i bysgod cregyn eraill, fel cregyn gleision.

Mae'n rhaid i mi sôn am yr achos ofnadwy o bysgotwyr cregyn bylchog ychydig flynyddoedd yn ôl, a gafodd ddirwy bitw o £50,000 am ysbeilio gwelyau cregyn bylchog yng Nghymru, pan oedd y ddalfa ei hun yn werth £400,000, yn ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion. Felly, mae hwn yn dal yn fater o bwys pa un a ydym ni yn aelodau o'r UE ai peidio. Mae'n rhaid inni sicrhau nad yw pobl yn torri'r gyfraith o ran cynnal hyfywedd ein hadnoddau.

Yn amlwg, un o'r materion eraill enfawr sy'n ein hwynebu yw'r ffaith bod yr holl bysgod y dyddiau hyn—gallwch weld bod plastig i'w ganfod ym mhob pysgodyn, mae'n debyg, sy'n cael ei ddal. Mae hynny, wrth gwrs, mewn gwirionedd yn tanseilio ein mwynhad o bysgod. Felly, mae angen i'r ddau bolisi fynd law yn llaw: dileu plastig o'n cefnforoedd, a sicrhau nad yw pobl yn gorbysgota, er mwyn sicrhau y bydd pysgotwyr Cymru yn parhau i allu ennill bywoliaeth weddus o bysgota—sy'n waith peryglus iawn, ac yn rhywbeth y byddwn ni'n parhau i fod eisiau ei fwynhau ar gyfer y dyfodol.

17:30

Dim ond eisiau gwneud cyfraniad oeddwn i ar sail peth o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yr wyf yn aelod ohono—a pheth o'r dystiolaeth honno mor ddiweddar â ddoe—ac i ofyn i Lywodraeth Cymru sut y mae ystyried hyn ochr yn ochr ag adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. A gaf i ddechrau drwy ddweud, er hynny, fy mod i'n credu mai hon yw un o ddadleuon cyntaf Llywodraeth Cymru ynglŷn â Brexit—os nad y cyntaf—sy'n cynnwys y gair 'cyfleoedd', sy'n air cadarnhaol, er bod hynny yn nheitl yr adroddiad sydd wedi ei ysgogi? Credaf, o'r diwedd, ei bod yn ymddangos ein bod wedi cyrraedd man lle y gallwn ni ddechrau sôn am gyfleoedd i'w hennill o Brexit synhwyrol, ar ôl blynyddoedd o sôn am ddim byd ond anobaith a gwae yn y Siambr hon.

Nawr, rwy'n credu bod angen inni ddechrau canolbwyntio a dechrau cynllunio ar gyfer creu cyfleoedd, gan ystyried y ffaith—gan gofio'r ffaith, wrth gwrs— nad ydym ni'n gwybod lle efallai y down ni o hyd iddyn nhw ar yr adeg hon yn y trafodaethau. Oherwydd pa un a ydych chi'n ystyried hyn i fod yn friwsion a lludw, neu yn balmentydd aur y strydoedd, does dim ots gennyf fi; dim ond eisiau inni ddechrau gwneud hynny wyf i, ac i gydnabod nad oes yn rhaid dewis rhwng masnach rydd â'r UE a masnach rydd â gweddill y blaned, ac i gefnogi Prif Weinidog y DU yn ei hymdrechion i gael y gorau o'r ddau. Oherwydd allwn ni ddim bwyta egwyddorion, ac ni all anhyblygrwydd dorri ein syched, ac fe allwn ni adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb masnach rydd cynhwysfawr a bwydlen ymarferol na fydd yn plesio'r eithafwyr ar y naill begwn na'r llall, ond a all gadw'r ddwy garfan wrth y bwrdd, yn iach, wedi bwyta eu gwala, ac yn rhydd i fwyta wrth fyrddau eraill.

Nawr, does dim dwywaith fod rhyddhau fflyd pysgota'r DU yn un o'r cyfleoedd hynny, a, gan gydnabod bod anfodlonrwydd gyda chwotâu, yn ein Pwyllgor, dywedwyd wrthym ni gan yr Athro Richard Barnes, bod ymbellhau o'r cyfandir yn bendant yn ddewis deniadol ar gyfer pysgodfeydd. Ac yn enwedig yng Nghymru, lle efallai y gallem ni ystyried trafod syniadau o ran sut y gallwn ni wneud y mwyaf o hyn—a yw'n ddichonadwy, hyd yn oed, i gynyddu'r rhan fach honno o'n fflyd bysgota nad yw cwotâu yn effeithio arni ar hyn o bryd. Wrth gwrs, bydd angen llais penderfynol o Gymru i gyflawni hynny—rhywun sydd â rhywbeth buddiol i'w ddweud. Ond mae hynny'n wir hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am ein cychod llai, ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am hynny'n gynharach, oherwydd, yn amlwg, mae 90 y cant o'r pysgod a ddelir yn nyfroedd Cymru wedi eu heithrio o system gwota yr UE, fel rydym ni wedi clywed eisoes. Bydd y llais cryf hwnnw yn arbennig o bwysig ar gyfer cymorth amgylcheddol wedi'i deilwra hefyd, ac rwy'n ategu'r hyn, mewn gwirionedd, y mae David Melding a Jenny Rathbone wedi'i ddweud am bwysigrwydd pysgota cynaliadwy a'r amgylchedd pysgota ar gyfer hyn.

Clywsom yn ein pwyllgor ddoe fod y fforymau gweinidogol sy'n dod â'r Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion perthnasol ac ati o'r pedair gweinyddiaeth genedlaethol at ei gilydd i helpu i lywio'r JMC (EN) yn gweithio'n arbennig o dda yn achos DEFRA. Fe wnaethoch chi sôn am y sgyrsiau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich araith agoriadol, a gobeithio y gallwch chi gadarnhau wrthym fod y berthynas honno'n un dda ac y clywir eich llais yn ystod y sgyrsiau a gewch chi. Gan fy mod i'n Aelod, wrth gwrs, sy'n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru, gyda'i arfordir yn gyforiog o bysgod cregyn, yn enwedig yn y gorllewin, bydd fy etholwyr yn eich dwyn i gyfrif am y sicrwydd a roesoch chi heddiw, na fydd stociau di-gwota yn cael eu hanwybyddu wrth geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU o ran y darlun mwy a chyffrous hwnnw.

Rydym ni hefyd wedi clywed, ers ddoe, mai dim ond £2.1 miliwn y mae cronfa bontio Brexit Llywodraeth Cymru—ac mae honno'n £50 miliwn dim ond ar gyfer eleni—wedi ei dalu i'r sector bwyd hyd yma er mwyn ei ddiogelu rhag effeithiau Brexit. Nawr, dywedodd yr Athro Barnes—ac rwy'n credu y byddwn ni'n cytuno â hyn, oni fyddwn—mai'r pwysigrwydd pennaf yw gwneud yn siŵr bod marchnad ar gyfer ein cynhyrchion pysgota. Mae'r cyfnod pontio yn gyfnod i ddechrau edrych am y marchnadoedd newydd hynny, y cyfleoedd newydd hynny, hyd yn oed os na allwn ni eu defnyddio ar unwaith. Felly, gellir defnyddio'r gronfa bontio hon o £50 miliwn i ddechrau edrych am farchnadoedd newydd, cynllunio sut y gallem ni ddechrau edrych yn awr am y cyfleoedd hynny, a manteisio ar y cysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu haddo inni drwy ei rhwydwaith o swyddfeydd ledled y byd. Rwy'n annog ein fflyd bysgota, a'n holl gynhyrchwyr bwyd a diod, mewn gwirionedd, nid yn unig i gydnabod yr heriau sydd ynghlwm â'r sawl gwahanol fath o Brexit sy'n bosibl, fel y cyfeirir ato yn y cynnig, ond i ddechrau meddwl am y cyfleoedd ac i ddefnyddio peth o'r £50 miliwn i ddechrau eu canfod. Diolch.

17:35

Am dros 40 mlynedd, ers i'r Gweinidog ar y pryd, Geoffrey Rippon, gamarwain y cyhoedd ym Mhrydain yn fwriadol gan addo na fyddai unrhyw ymyrryd ar ddyfroedd pysgota Prydain pe byddem ni'n ymuno a'r hyn a elwid bryd hynny y Farchnad Gyffredin, mae ein dyfroedd pysgota sofran blaenorol wedi eu hysbeilio gan fflydoedd pysgota o dramor. O dan y polisi pysgota cyffredin fe wnaethom ni golli bron y cyfan o'n rheolaeth dros y cwotâu pysgota, er, cyn i ni ymaelodi â'r UE, roedd gennym ni 80 y cant o stociau pysgota Ewrop. Mae'r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn drychineb llwyr i stociau pysgota, a dim ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf y daethpwyd â'r polisi o daflu unrhyw bysgod cwota yn ôl i'r môr o dan reolaeth i ryw raddau. Amcangyfrifir bod biliynau yn llythrennol o bysgod a oedd yn berffaith iawn i'w bwyta wedi eu taflu yn y môr bob blwyddyn o dan reolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin. Roedd hyn nid yn unig yn arfer arbennig o wastraffus, roedd hefyd yn drychineb amgylcheddol. Yn groes i'r hyn a ddywedodd David Melding am ein harferion yn UKIP, UKIP sydd wedi bod yn dweud pa mor drychinebus fu'r polisi pysgodfeydd cyffredin i'r stoc bysgota.

17:40

Rwy'n gwerthfawrogi eich dull gwyddonol o ymdrin â'r mater hwn, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi'n ei ymestyn i feysydd eraill eich polisi.

Rydym ni'n realistig yn y byd hwn, David. Fyddwn ni ddim yn dilyn—[Torri ar draws.]

Diolchaf i'r Aelod am ildio, ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn y mae newydd ei ddweud am safbwynt UKIP. A ydych chi felly mor hynod siomedig â minnau bod eich cyn-arweinydd, Nigel Farage, ddim ond wedi mynd i un o 42 o gyfarfodydd y pwyllgor oedd yn ymdrin â physgodfeydd?

Ydw, ac a dweud y gwir roedd hynny oherwydd ei fod yn darllen llawer o'r adroddiadau yn ofalus, sef yr hyn nad oedd y rhan fwyaf o'r ASEau eraill yn ei wneud, a dyna pam y daeth i nifer o'r casgliadau y daeth iddynt, mewn gwirionedd.

O ran Cymru, fe ddioddefodd hi mewn modd anghymesur oherwydd polisïau'r polisi pysgodfeydd cyhoeddus oherwydd mae'r rhan fwyaf o fflyd Cymru o dan 10m mewn maint. Felly dim ond 1 y cant o gwota pysgota y DU neu 0.02 y cant o'r cwota Ewropeaidd sydd gennym ni, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phwyntiau Simon Thomas o ran cadw unrhyw gwotâu newydd sy'n dod i Gymru.

Ar ôl Brexit, dylai'r DU ddychwelyd at y parth gwahardd 200 milltir fel yr argymhellwyd gan gyfraith forol y Cenhedloedd Unedig, gan ryddhau ardaloedd enfawr o foroedd o gwmpas Prydain i fflydoedd pysgota Prydeinig. Gyda llaw, dyma rai o ddyfroedd pysgota gorau'r byd. Bydd pysgotwyr Cymru wedyn yn gallu buddsoddi mewn llongau llawer mwy, gyda chymorth grantiau gan Lywodraeth Cymru efallai, a allai arwain at ddiwydiant pysgota estynedig iawn yng Nghymru. Ar ôl Brexit, gallai'r DU fynnu bod yr holl bysgod a ddelir yn nyfroedd Prydain yn dod i'r lan yn y DU, a fyddai'n arwain wedyn at sefydlu amrywiaeth o gyfleusterau prosesu pysgod ar y tir. Byddai'r cynnig i drwyddedu llongau tramor hyd nes y gallwn ni gynyddu ein fflydoedd pysgota ein hunain hefyd yn creu refeniw i helpu ein diwydiant pysgota i archwilio marchnadoedd eraill ledled y byd. Soniodd Mick Antoniw fod yna farchnadoedd eraill ledled y byd. Cynyddodd cynnyrch pysgod Iwerddon sy'n cael ei allforio i Tsieina gan 56 y cant y llynedd yn unig, ac roedd allforion— [Torri ar draws.] Ie.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ond onid y pwynt yw hyn: oni bai bod gennym ni fynediad dilyffethair i'r farchnad Ewropeaidd, lle'r aiff y rhan fwyaf o'n cynnyrch, bydd mewn gwirionedd yn lladd ein diwydiant pysgota a'n diwydiant pysgod cregyn, oni bai fod gennym ni hynny? Felly, onid ai rhesymeg yr hyn yr ydych chi'n ei ddadlau yw bod yn rhaid i ni gael mynediad dilyffethair?

Wel, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai bob un ohonom ei eisiau, mewn gwirionedd, Mick, ond nid ar draul yr Undeb Ewropeaidd yn dweud wrthym ni beth yn union y mae'n rhaid inni ei wneud, ac ar draul mynediad diderfyn i ni gan unrhyw nifer o bobl, sef yn union yr hyn y pleidleisiodd pobl y Cymoedd yn ei erbyn. Ni fyddwn ni yn aberthu hynny er mwyn cael mynediad rhydd i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae hyrwyddwyr agweddau hollol negyddol Brexit ar ddiwydiant pysgota Cymru yn anwybyddu'n llwyr—ac nid wyf yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet yn y datganiad hwnnw—entrepreneuriaeth ein brawdoliaeth bysgota a'r manteision enfawr a allai ddod yn sgil Brexit i ddiwydiant pysgota Cymru sydd, gadewch inni wynebu'r ffaith, yn dioddef.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 17:44:05
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe wnaf i gyfeirio at rai o'r pwyntiau a godwyd ganddyn nhw yn y man.

Fe ddechreuaf gyda'r gwelliannau. Gofynnaf i'r Cynulliad wrthwynebu gwelliant 1, ac rwy'n cydnabod yr heriau gwirioneddol a gwahanol iawn sy'n wynebu'r diwydiant pysgota; i wrthwynebu gwelliant 2 ar y sail y bu Llywodraeth Cymru yn glir iawn ei bod yn disgwyl mynediad llawn a dilyffethair i farchnad yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, a'i bod hi'n bosib i unrhyw beth llai na hyn niweidio'r diwydiant; ac i wrthwynebu gwelliant 3 ar y sail na fydd parth economaidd penodol yn cael dim neu fawr ddim effaith gadarnhaol ar fflyd Cymru ac mewn gwirionedd fe allai amharu ar negodiadau masnach gyda'r UE. Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliannau 4, 5 a 6. Credaf yn gryf fod llais Cymru yn y trafodaethau yn hollbwysig, ac wrth gwrs rwyf yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant hwn i'n cymunedau arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod blynyddoedd blaenorol yn y sector, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff ei gyfran deg yn y dyfodol.

Cyfeiriodd Simon Thomas at dystiolaeth a roddais yr wythnos diwethaf i'r Pwyllgor Cyllid. Rwyf yn cytuno bod hwnnw'n faes lle mae angen inni barhau i roi adnoddau ac arian ychwanegol iddo, ond bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod gennym ni longau gorfodi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Cytunaf ynghylch y gwaith ymchwil—credaf fod hwnnw'n faes lle mae angen inni gael mewnbwn sylweddol—ond rydym ni eisoes yn gweithio'n agos iawn gyda Phrifysgol Bangor ac wedi defnyddio'r Tywysog Madog, sy'n ein helpu i wneud ymchwil morol.

Cyfeiriodd Neil Hamilton a David Rowlands at drychineb amgylcheddol. Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â hynny. Pysgodfeydd y DU—o ganlyniad i'r polisi pysgodfeydd cyffredin, mae'n golygu y caiff y rhan fwyaf o'n pysgodfeydd eu rheoli'n gynaliadwy. Rydym ni'n gweithio tuag at gael y Cyngor Stiwardiaeth Forol i achredu'n pysgodfeydd—marc ansawdd yw hwnnw—a byddwn yn parhau i wneud hynny.

David Melding, rydym ni yn ymgysylltu'n rhagweithiol â'r sector pysgota. Soniais eu bod yn rhan o'r grŵp cynghori. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r sector pysgota. Felly, credaf ein bod ni'n gwneud hynny beth bynnag, ond wrth gwrs gallwn bob amser wneud mwy. Soniodd Suzy Davies am y gair 'cyfleoedd' am y tro cyntaf. Fel y cydnabu hyd yn oed Neil Hamilton, rwyf yn defnyddio'r gair 'cyfleoedd'. Mae'n anodd iawn chwilio amdanyn nhw weithiau, ond credaf fod yn rhaid i ni wneud hynny. Rwy'n ymgysylltu'n llawn yn y cyfarfodydd pedairochrog gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Mae'r un nesaf ddydd Iau yn Llundain ac y mae'n wirioneddol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gronfa bontio'r UE. Gwnaeth fy mhortffolio yn dda iawn yn y gyfran gyntaf, ac er eich bod yn dweud mai dim ond £2.1 miliwn ydyw, mae'n rhaid imi ddweud bod fy nghwmnïau bwyd a diod yn hapus iawn gyda'r cyllid sydd gennym ni eisoes.

Soniodd sawl Aelod am bysgod cregyn a bwyd môr. Heddiw ddiwethaf, rwyf i wedi cyhoeddi prosiect £1 miliwn newydd i farchnata'r marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Ni fydd marchnad y DU yn cymryd niferoedd y pysgod cregyn y buom ni'n eu hallforio, felly mae angen inni chwilio am farchnadoedd newydd. Roeddwn i ym mhorthladd Lerpwl ddoe, yn cael trafodaethau yno ynglŷn â faint o bysgod cregyn sy'n cael eu hallforio, yn arbennig o ogledd Cymru, ac yn amlwg does arnom ni ddim eisiau eu gweld yn eistedd ar y dociau. Fe wnaethoch chi bwynt da iawn am James Wilson a chregyn gleision Bangor.

Roeddwn i hefyd eisiau ei gwneud yn glir i Simon Thomas am y cwota: busnesau pysgota Cymru a werthodd y cwota i gychod Sbaen. Mae'n adnodd cyhoeddus a does gennyf i ddim bwriad i ganiatáu gwerthu cwotâu Cymru. Nid ydym ni'n berchen arno, gwarcheidwaid ydym ni ohono, ac mae'n bwysig iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n sicr yn hapus i ystyried moratoriwm ar werthu a symud cwotâu y tu allan i Gymru, ac rwy'n credu y gallem ni gynnwys hynny mewn polisi pysgodfeydd yn y dyfodol.

Felly, rwyf yn falch iawn o'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni gydnabod fod y dyfodol yn heriol iawn ar gyfer y sector hwn, ond hefyd bod potensial a chyfleoedd pwysig, a byddaf yn parhau i weithio'n galed i sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar Brexit a'r diwydiant pysgota. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6755 - Gwelliant 1: O blaid: 17, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r ail welliant. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, pedwar yn ymatal, 36 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 2. 

NDM6755 - Gwelliant 2: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6755 - Gwelliant 3: O blaid: 17, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 4.

17:50

NDM6755 - Gwelliant 4: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 5. Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 5.  

NDM6755 - Gwelliant 5: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 6. Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 6. 

NDM6755 - Gwelliant 6: O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6755 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales’.

2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.

3. Yn cefnogi’r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:

a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o’n moroedd;

b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o’n hamgylchedd morol a’n hadnoddau naturiol;

c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;

d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; ac

e) bod yn annibynnol.

4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.

5. Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.

6. Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, 11 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio. 

NDM6755 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 4, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 17:51.