Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
05/06/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf gan David Rowlands.
1. Sut y mae'r Prif Weinidog yn asesu cynnydd o ran cyflawni'r ymrwymiadau sy'n ymwneud â datblygu economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu? OAQ52286
Wel, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein dull o adeiladu economi gref trwy baratoi busnesau ar gyfer y dyfodol a grymuso ein lleoedd a'n pobl i fod yn fwy cynhyrchiol.
Nododd un o argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru',
'Mae perygl gwirioneddol bod creu Byrddau Rhanbarthol a strwythurau i’w cefnogi yn ychwanegu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth i ddatblygiad economaidd yng Nghymru.'
Rydym ni'n deall erbyn hyn y bydd gan y gogledd, y de-orllewin y canolbarth, a rhanbarth Dwyrain De Cymru, swyddog rhanbarthol i oruchwylio'r bargeinion dinesig a thwf. A allai'r Prif Weinidog roi syniad o sut y mae'r penodiadau hyn yn mynd rhagddynt, a hefyd amlinellu'r hyn y mae'n ei gredu fydd eu cylch gwaith llawn?
Rwy'n deall bod tri yn eu swyddi erbyn hyn. Gofynnodd y cwestiwn am y strwythur. Wel, lle mae gennych chi fargen rhanbarthol, mae angen strwythur rhanbarthol i sicrhau'r fargen honno; allwch chi ddim dibynnu ar awdurdodau lleol unigol i'w wneud gan weithio ar eu pennau eu hunain, ond, trwy weithio gyda'i gilydd, a chyda lefelau eraill o Lywodraeth, gallant sicrhau'r canlyniad gorau i'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno.
Prif Weinidog, mae'n bosibl y bydd y don newydd o ddatblygiadau technolegol ym meysydd roboteg a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith enfawr ar swyddi, ac mae hwn yn ddarn o waith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Nawr, rwyf i'n sicr eisiau gweld economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan awtomatiaeth. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi penodi Phil Brown i gyflawni darn o waith yn y maes hwn, ond nid yw hynny'n golygu na all gwaith barhau nawr, cyn iddo adrodd. A oes gennych chi swyddog arweiniol yn gweithio ar hyn o fewn Llywodraeth Cymru, a, chan fod hwn yn faes sy'n croesi'n briodol ar draws nifer o bortffolios ar draws Ysgrifenyddion Cabinet, pwy yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n arwain yn y maes hwn?
Wel, o ran arloesi digidol, Julie James sydd â'r swyddogaeth honno yn amlwg. Mae hyn yn fwy na dim ond mater o ddatblygu economaidd, wrth gwrs. Mae pobl yn tueddu i weld arloesi fel bygythiad i swyddi. Nid oes rhaid iddo fod. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddeall bod cyfleoedd ar gael o ran gweddnewid y ffordd, er enghraifft, y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio. Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Lanelli wedi ei wneud yn eglur iawn ar nifer o achlysuron. Felly, nid yw'n fater o ddatblygu economaidd yn unig, er ei fod yn rhan bwysig o'r dyfodol, ond mae'n torri ar draws llawer iawn o feysydd Llywodraeth, a dyna pam, wrth gwrs, y mae angen i rywun â chyfrifoldeb traws-lywodraethol yn y maes hwnnw ymdrin ag ef.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfarnu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau? OAQ52261
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fasnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ52285
Gwnaf. Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau dau a phedwar gael eu grwpio.
Bydd Aelodau yn ymwybodol erbyn hyn o fanylion y contract gwasanaethau rheilffyrdd newydd, yn dilyn datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddydd Llun.
Iawn. Diolch. Ychydig cyn y toriad, cyhoeddwyd enillydd masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau gennych, a nodwyd eisoes eich bod chi wedi torri ymrwymiad maniffesto o gael cwmni rheilffordd di-elw. Ond mae hefyd yn ymddangos nawr eich bod chi'n preifateiddio'r seilwaith o reilffyrdd craidd y Cymoedd hefyd, ac mae hynny'n bryder mawr ar ôl yr hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y gwnaeth y Ceidwadwyr breifateiddio rheilffyrdd—yn benodol, cawsom ni drychineb Hatfield, a arweiniodd at droi cefn ar gwmnïau preifat yn rhedeg Railtrack, a chreu Network Rail fel corff cyhoeddus. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pa un a ydych chi wedi cael caniatâd gan Network Rail i breifateiddio'r seilwaith hwn, a'r cwestiwn gwirioneddol mewn gwirionedd yw: pam na ellir ei gadw mewn perchnogaeth gyhoeddus, a beth fydd yn digwydd i'r 1,600 o bobl y mae Network Rail yn eu cyflogi yn uniongyrchol yng Nghymru? A fydd eich Llywodraeth Lafur chi yn trosglwyddo'r bobl hyn i'r corfforaethau amlwladol preifat?
Na fydd. Yn gyntaf oll, mae'n debyg ei bod hi'n iawn i ddweud mai ein dewis cyntaf fyddai wedi bod cael sefydliad neu gorff sector cyhoeddus di-elw i wneud cais am y fasnachfraint. Cafodd hynny ei ddiystyru'n benodol gan y ddeddfwriaeth yn San Steffan, rhywbeth na wnes i ei groesawu, nawr nac ar y pryd. Fodd bynnag, yr hyn sydd gennym ni yw gwasanaeth a fydd yn wasanaeth ardderchog. Bydd yn gwella capasiti ar draws Cymru gyfan, a bydd pawb yn gweld gwahaniaeth cadarnhaol i wasanaethau. Mae e'n awgrymu bod y rhwydwaith wedi cael ei breifateiddio. Wel, rydym ni wedi siarad â'r undebau rheilffyrdd, gyda'r RMT—rwyf i wedi siarad â nhw'n bersonol—gyda'r TSSA, ac gydag ASLEF hefyd. Maen nhw'n deall y ffordd ymlaen. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr, er enghraifft, y bydd giard ar bob trên, i ychwanegu at ddiogelwch teithwyr. Felly, rydym ni'n gweithio gyda'r undebau er mwyn darparu rhwydwaith rheilffyrdd a fydd, yn fy marn i, yn achos cenfigen i weddill y DU yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried yr anhrefn yr ydym ni'n ei weld sy'n bodoli mewn rhai rhannau o Loegr ar hyn o bryd.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych, yn enwedig i lawer ohonom ni a ymgyrchodd am flynyddoedd lawer i reilffordd Glynebwy i Gaerdydd aros yng Nghasnewydd. Mae wedi ennill llawer o gefnogaeth leol, gan gynnwys oddi wrth y South Wales Argus, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith ar y mater hwn, ac mae'n hwb mawr a fydd yn cysylltu cymunedau ar draws y rhanbarth. Croesawaf y cyhoeddiad y bydd £800 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cerbydau a bod y fasnachfraint wedi ymrwymo i gomisiynu 148 o drenau newydd sbon dros y pum mlynedd nesaf.
Nododd y cyhoeddiad ddoe y byddai dros hanner y trenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. A allwch chi roi unrhyw fanylion pellach ynghylch pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda CAF Rail yng Nghasnewydd?
Wel, mae'r buddsoddiad CAF yn arwyddocaol iawn. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n fuddsoddiad cyfalaf aruthrol o bwysig. Bydd yn creu 300 o swyddi medrus iawn yng Nghasnewydd hefyd. Gallaf ddweud y disgwylir i'r gweithredwr a'r partner datblygu gaffael fflyd gerbydau teithiau hir gan CAF. Bydd y cerbydau hynny yn cael eu cydosod yng nghyfleuster CAF yng Nghasnewydd. Wrth gwrs, bydd y trefniadau cytundebol yn fater masnachol rhwng yr ODP a CAF ei hun, ond mae'n enghraifft ardderchog o gydweithio er mwyn darparu swyddi yng Nghymru. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i mai un o'r pethau a ddenodd CAF i Gymru yn y lle cyntaf oedd y ffaith bod gennym ni raglen gyffrous o fuddsoddiad yn ein rheilffyrdd.
Dywedodd y datganiad ddoe gan Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth y byddwn yn gweld ail wasanaeth cyflym arosfannau cyfyngedig bob awr ar reilffordd Wrecsam i Bidston o 2021, ac o 2022, yn gweld gwasanaethau yn aros yn Wrecsam yn rhan o wasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad a wnaed i mi ddoe gan grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd yn y gogledd-ddwyrain y gallai'r ddau drên a neilltuwyd i'r llwybr fod yn rhedeg ar wasanaeth cynharach i mewn i Wrecsam am tua 8.30 a.m. ac yn gweithredu gwasanaeth amlach ar hyd y rheilffordd fin nos ac ar ddydd Sul a, cyhyd â bod modd cael gafael ar griwiau trên, y gellid gwireddu hyn mor gynnar â mis Rhagfyr 2018 neu'r newid i'r amserlen ym mis Mai 2019?
Ie, hynny yw mae'r rhain i gyd yn rhan o'r trafodaethau ar amserlennu, ond y bwriad fel y dywedodd yr Aelod yn briodol yw gwella'r gwasanaeth ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston, ac yn wir, oherwydd yr Halton Curve, ymhellach na hynny, wrth gwrs, i drafod gyda Merseyrail y posibilrwydd o ddefnyddio twnnel Mersi hefyd i drenau allu mynd yn syth i Lerpwl. Bydd y trafodaethau hynny yn cael eu cynnal er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'n uchelgais hirsefydlog i drenau o Wrecsam Canolog fynd i Lerpwl, ond, wrth gwrs, mae gwasanaeth Wrecsam i Bidston ymhlith un o'r prif ymgeiswyr ar gyfer gwelliant y bydd pobl yn ei weld, ac rydym ni eisiau gweld y rheilffordd honno'n datblygu hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol.
Un o'r materion y cyfeiriwyd ato ddoe mewn adroddiadau yn y wasg oedd y bydd y taliadau a wnaed i ddeiliad newydd y fasnachfraint yn dibynnu i ryw raddau ar eu darpariaeth o wasanaeth, sy'n swnio'n dda. Nawr, roedd rhai o'r meini prawf y cyfeiriwyd atynt yn cynnwys glendid, ansawdd gwasanaeth a phrydlondeb, ond un o'r problemau gyda gwasanaethau rheilffyrdd wedi eu preifateiddio yr ydym ni wedi eu cael yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yw, weithiau, o ran prydlondeb, y gellir osgoi'r rheolau weithiau trwy ganslo trenau. Roeddwn i'n meddwl tybed a ystyriwyd y mater hwnnw wrth ddyfarnu'r contract.
Na, ni all hynny ddigwydd. Rydym ni'n ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd yn Northern Rail. Rydym ni wedi sicrhau yn rhan o'r contract na all gweithredwyr rheilffyrdd osgoi eu rhwymedigaethau trwy redeg llai o drenau neu ddim trenau, ac, wrth gwrs, yn rhan o'r cyhoeddiad, bydd trefniadau iawndal wedi eu symleiddio i deithwyr sy'n gorfod aros hefyd. Felly, rydym ni eisiau gwneud y gwasanaeth mor ystyriol o ddefnyddiwr â phosibl, ac mae'n gyffrous bod y gweithredwr eisiau gwneud hynny hefyd. Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio gyda ni er mwyn adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer y dyfodol. Mae dyddiad trenau 40 mlwydd oed yn rhedeg ar reilffyrdd y Cymoedd yn arbennig—mae'r dyddiau hynny yn dod i ben, ac rwy'n siŵr y bydd pobl y Cymoedd yn falch iawn o weld hynny.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed o ganlyniad i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i gynnwys gwasanaethau bob hanner awr i reilffordd Bro Morgannwg o 2022. Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer, ac, wrth gwrs, byddwch yn cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ailagor gorsafoedd yn y Rhŵs a Llanilltud Fawr yn 2005. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y bydd gwasanaeth bob hanner awr sy'n galw yng ngorsaf y Rhŵs ar gyfer Maes Awyr Caerdydd hefyd yn gwella mynediad at y maes awyr?
Bydd, mi fydd. Gallaf ddweud hefyd y bydd Trafnidiaeth Cymru, gyda chefnogaeth gan yr OPD, hefyd yn caffael gwasanaeth bws yn rhan o ddull integredig o wella cysylltedd ar draws Bro Morgannwg, gan gysylltu'r Barri a'r maes awyr, a bydd hwnnw ar gael erbyn 1 Ionawr 2024 fan bellaf.
Rwy'n croesawu'r contractau newydd ac yn enwedig y cerbydau newydd ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd y mae'n hen bryd iddyn nhw gael eu cyflwyno, ond hefyd y gostyngiad i brisiau tocynnau ar gyfer y Cymoedd uchaf, a fydd yn helpu llawer o bobl i gael mwy o gyfleoedd i gymudo i mewn a chael mynediad at swyddi, yn enwedig yng Nghaerdydd.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ddweud rhywbeth am y risgiau a allai ddod o'r contract mewn o ran y gwahanol agwedd tuag at rhannu risg? Os byddwn yn gweld na fydd nifer y teithwyr a phrisiau tocynnau yn cyrraedd y nod o'u cymharu â disgwyliadau, beth allai'r goblygiadau fod i wasanaethau eraill y Llywodraeth?
Nid ydym yn rhagweld hynny o gwbl. Gosodwyd y fasnachfraint ddiwethaf ar y sail na fyddai unrhyw gynnydd i nifer y teithwyr. Cafwyd cynnydd aruthrol i nifer y teithwyr, ac rydym ni'n gweld nawr y gorlenwi sy'n digwydd ar gynifer o wasanaethau, nid yn unig ar reilffyrdd y Cymoedd, ond ar draws llawer o wasanaethau sy'n rhedeg ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r gororau. Rydym ni wedi cynnwys yn y cytundeb y disgwyliad y bydd nifer y teithwyr yn cynyddu, yn enwedig ond nid yn unig teithwyr sy'n mynd trwy Caerdydd Canolog, ac mae'r cytundeb yn seiliedig ar weld cynnydd i nifer y teithwyr. Ni allaf weld y niferoedd yn gostwng. Ni allaf weld y bydd pobl eisiau teithio llai neu beidio â theithio i'r gwaith. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod digon o gapasiti dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fel bod pobl yn teimlo bod dewis cyfforddus sy'n cynnig gwerth da am arian yn hytrach na'r car. Ond yr hyn na allwn ni ei wneud yw parhau i adeiladu ffyrdd i mewn i'n dinasoedd yn y gobaith y bydd hynny'n datrys y broblem o draffig. Ni ellir gwneud hynny heb ddymchwel tai.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r cynlluniau ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn addawol iawn ac yn arwydd eglur o'r hyn sy'n bosibl trwy bartneriaeth cyhoeddus-preifat wirioneddol. Ni allai'r buddsoddiad a fydd yn cael ei wneud yn ein rhwydwaith rheilffyrdd dros y degawd nesaf gael ei gyflawni gan y sector cyhoeddus yn unig. Bydd y newid byd mwyaf yn y de-ddwyrain, gyda'r metro yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar gyfer ein prifddinas. Rwy'n gobeithio, fodd bynnag, y bydd y buddsoddiad yn sicrhau gwelliannau i Gymru gyfan.
Rwy'n sylwi o ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd metro'r gogledd-ddwyrain yn cael ei gyflymu. Beth am weddill y gogledd? A fyddwn ni'n gweld diwedd y sefyllfaoedd a welsom pan roedd gwasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn cael eu canslo?
Ceir materion strwythurol ar reilffordd dyffryn Conwy, o gofio'r ffaith ei bod yn aml yn dioddef llifogydd, ac rydym ni wedi gweld hynny dros y—. Wel, ddim yn aml; mae wedi dioddef llifogydd weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny'n rhywbeth i Network Rail ymdrin ag ef er mwyn osgoi hynny yn y dyfodol. Fe ofynnodd hi, 'Beth fydd gweddill Cymru yn ei weld?' Gwell gwasanaethau ar bob rheilffordd yng Nghymru; gwasanaethau amlach o Landudno, hefyd, er enghraifft; rydym ni eisoes wedi sôn am reilffordd Wrecsam-Bidstone; gwasanaeth bob awr gwirioneddol ar reilffordd y canolbarth; mwy o wasanaethau ar reilffordd Arfordir Cambria; uwchraddio gorsafoedd—cyflwyno gorsaf Bow Street, uwchraddio ym Machynlleth ynghyd â sicrhau dyfodol y siediau trenau yno; os byddwn yn dod i lawr ymhellach i'r de, trên ychwanegol ar reilffordd Calon Cymru; gwelliannau i orsafoedd yn Llanelli, yng Nghaerfyrddin; gwasanaethau amlach rhwng Abertawe a Harbwr Abergwaun. Dyma rai enghreifftiau o'r hyn a fydd yn cael ei wneud ledled Cymru gyfan i sicrhau bod pawb yn elwa.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am nodi sut y bydd Cymru gyfan yn elwa.
Gan aros gyda'r fasnachfraint newydd, rwy'n falch o weld yr ymrwymiad i gadw toiledau ar yr holl drenau presennol, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gwbl hygyrch. Ychydig iawn oedd yn natganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet am hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd ac eithrio ar fetro'r de-ddwyrain. Mae'n rhaid i ni roi terfyn ar y sefyllfa lle mae'n rhaid i deithwyr anabl gynllunio ac archebu eu teithiau ymlaen llaw. Mae teithwyr anabl wedi cael eu gadael ar drenau, gwrthodwyd iddynt deithio ar drenau, ac mae hynny os gallan nhw gael mynediad at y trenau yn y lle cyntaf. Diffinnir chwe deg un o'n gorsafoedd rheilffordd fel bod yn wael ar gyfer hygyrchedd o'r safbwynt nad oes ganddyn nhw unrhyw staff neu fynediad annigonol ar gyfer cadeiriau olwyn neu fynediad cwbl anaddas i gadeiriau olwyn. Felly, Prif Weinidog, pa welliannau fydd y cytundeb masnachfraint newydd yn eu cynnig i deithwyr anabl yng Nghymru?
Dyrannwyd pymtheg miliwn o bunnau i wella hygyrchedd, a bydd pob gorsaf ar rwydwaith y fasnachfraint yn cael ei gwneud yn hygyrch.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Mae deiliaid y fasnachfraint newydd, KeolisAmey, wedi nodi y bydd hanner yr holl drenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a gofynnaf: a fyddan nhw'n cael eu hadeiladu gyda dur Cymru? Gyda thariffau gweinyddiaeth Trump ar ddur, mae'n debygol y bydd gwaith dur Port Talbot yn colli 10 y cant o'i fusnes, ac ar ôl troi cefn ar drydaneiddio i Abertawe, a'r morlyn llanw fwy neu lai ar ben, os yw'r sector dur am gael cefnogaeth yng Nghymru, yna mae angen i honno ddod o Gymru. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda deiliaid y fasnachfraint ynghylch defnyddio deunyddiau o Gymru yn ogystal â gweithlu o Gymru i adeiladu cerbydau newydd ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, metro'r gogledd-ddwyrain a metro de Cymru? Diolch.
Byddem yn annog, wrth gwrs, bod cymaint o ddur Cymru â phosibl yn cael ei ddefnyddio. Mae hi hefyd wedi codi dau bwynt pwysig arall o ran tariffau dur a'r morlyn llanw hefyd. Gallaf hysbysu'r Aelodau fy mod i wedi ysgrifennu at Greg Clark heddiw gan awgrymu iddo y dylai Llywodraeth y DU wneud cynnig o ran y contract gwahaniaeth i'r morlyn llanw ar yr un telerau ag a wnaethant y cynnig i Hinkley. Os yw'n iawn i Hinkley, mae'n iawn i Abertawe. Ac mae hi'n iawn i nodi yr addawyd trydaneiddio gan Lywodraeth y DU cyn iddyn nhw fynd yn ôl ar yr addewid. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol ac eraill wedi tawelu unrhyw obeithion am y morlyn llanw y bore yma. Wel, rydym ni wedi rhoi arian ar y bwrdd, ac rydym ni wedi dweud heddiw, 'Dylech chi drin y morlyn llanw yn yr un modd ag y gwnaethoch chi drin Hinkley.' Dydyn ni ddim yn gofyn dim mwy na hynny, ac rydym ni'n credu y byddai'n bosibl i'r morlyn llanw symud ymlaen ar y sail honno. Rydym ni'n disgwyl ymateb Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny.
O ran dur, ceir dau fater yn ymwneud â dur. Yn gyntaf, wrth gwrs, bydd y tariffau y mae'r Unol Daleithiau wedi eu cyflwyno yn creu sefyllfa lle bydd dur Cymru yn ddrytach ym marchnad yr Unol Daleithiau. Yr hyn nad yw'n eglur yw pa un a fyddai hynny'n arwain mewn gwirionedd at leihad i'r galw, o ystyried y ffaith bod cymaint o'r dur nad yw'n cael ei wneud yn yr Unol Daleithiau a bod yn rhaid ei brynu o'r tu allan beth bynnag. Iawn, nid ydym ni'n gwybod beth fydd effaith hynny, ond o bryder mawr hefyd yw ble y bydd dur a oedd ar gyfer marchnad yr Unol Daleithiau yn wreiddiol yn mynd yn y pen draw. Os bydd yn dod i Ewrop, bydd yn creu gormodedd o ddur yn Ewrop, bydd y pris yn gostwng, ac ni fydd hynny o fudd i gynhyrchwyr dur Cymru. Felly, rwyf i wedi dweud—roeddwn i yn Washington a chefais gyfarfodydd gyda phobl yno ddiwedd yr wythnos diwethaf—ei bod hi hefyd yn bwysig bod yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau prydlon nawr, o fewn wythnosau, nid o fewn misoedd, i sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar waith i sicrhau bod pris dur yn cael ei gefnogi yn Ewrop.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Faint o elw a ddisgwylir i KeolisAmey ei wneud ar draul teithwyr rheilffordd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd nesaf?
Wel, ceir materion masnachol, wrth gwrs, y bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol ohonynt. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, yw y bydd KeolisAmey, am £150 miliwn, yn darparu masnachfraint rheilffyrdd i Gymru a'r gororau am lai na'r gost bresennol o £185 miliwn. Mae'n fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £738 miliwn hefyd yng nghyfnod 2 y metro, a'r hyn y byddwn yn ei weld, am y tro cyntaf, yw system reilffyrdd y mae pobl Cymru yn ei haeddu ac nid elfennau ail law o rwydweithiau eraill.
Prif Weinidog, bu sôn am y cap hwn o 3 y cant ar elw, ac os yw hynny'n wir, nid yw hwnnw'n unrhyw gap o gwbl. Oherwydd yn ôl corff masnach y diwydiant rheilffyrdd ei hun, y Rail Delivery Group, 2.9 y cant yw cyfartaledd elw gweithredu i gwmni rheilffordd. Felly, mae hyn yn golygu bod eich cap yn uwch na'r elw cyfartalog i gwmnïau trenau. Gan roi hynny o'r neilltu, nid yw masnachfraint Cymru a'r gororau yn gwneud elw yn fasnachol, felly yr unig ffordd y mae unrhyw gwmni rheilffordd yn gwneud arian yw trwy gymorthdaliadau gan y Llywodraeth. Mae hynny'n golygu, Prif Weinidog, eich bod chi'n talu elw allan o'n cyllideb ni i bocedi cyfranddalwyr preifat.
Yn ail, prin bod y syniad na fyddwch chi'n talu cwmni os nad yw'n bodloni ei dargedau yn rhyw fath o bolisi sosialaidd radical, oherwydd nid oes neb yn talu am waith nad yw wedi ei wneud—mae mor syml â hynny.
Nawr, addawodd tudalen 20 y maniffesto y cawsoch chi eich ethol ar ei sail y byddech chi'n darparu gweithredwr rheilffyrdd di-elw. Rydych chi wedi methu—rydych chi wedi gwneud yn union i'r gwrthwyneb. Felly, a allwch chi egluro: os ydych chi'n credu mai'r unig ffordd o ddarparu gwasanaeth rheilffyrdd sy'n gweithio i bobl yng Nghymru yw trwy weithredwr di-elw, pam ydych chi wedi ein beichio ni gyda gwasanaeth rheilffyrdd preifat eilradd am y 15 mlynedd nesaf?
Bychanu Cymru—bychanu Cymru unwaith eto. O'r holl bobl a wnaeth sylwadau ddoe, yr unig blaid sydd wedi dweud 'Mae hwn yn syniad gwael. Mae'n mynd i fod yn rhwydwaith eilradd' yw Plaid Cymru—Plaid Cymru, mae'n debyg, sy'n dweud hyn.
Nawr, ceir cwestiynau dilys, rwy'n deall hynny o ran y ffordd y mae'n gweithio, ond nid yw dweud ei fod yn rhwydwaith eilradd yn wir. Edrychwch ar yr hyn sy'n cael ei gynnig ar gyfer Cymru a chofiwch fod y gost gyflenwi tua £30 miliwn yn is na'r gost bresennol. Felly, mewn gwirionedd, mae hyn yn werth llawer gwell am arian na'r system bresennol gydag Arriva. Mae hi'n gofyn y cwestiwn eto: pam na chafodd hyn ei sefydlu ar sail ddi-elw—pam nad oes gweithredwr sector cyhoeddus yn rhedeg y gwasanaeth? Oherwydd bod y gyfraith yn dweud hynny. Dyna pam. Ni all hi ei wneud—ni all eich plaid chi ei wneud. Y gwir amdani yw: mae hi'n dweud wrth bobl Cymru, 'Byddem ni wedi gwneud rhywbeth yr ydym ni'n gwybod yn gyfreithiol na allwn ni ei wneud', ac nid yw hwnnw'n safbwynt arbennig o gredadwy, byddwn i'n awgrymu.
Er mwyn popeth, gadewch i ni i gyd ddathlu'r ffaith bod gennym ni wasanaeth rheilffyrdd rhagorol sy'n mynd i gael ei sefydlu ledled Cymru gyfan, bydd pobl yn elwa ar werth da am arian, trenau newydd, aerdymheru—y cwbl wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio dros bobl Cymru.
Prif Weinidog, bydd cap o 3 y cant yn arwain at elw rhwng £100 miliwn a £150 miliwn i KeolisAmey o'r contract hwn. Pa ydych chi'n eu talu nhw nawr neu ymhen pum mlynedd, mae'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi arian ym mhocedi cyfranddalwyr cwmni preifat yn hytrach na'i ailfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd ein hunain. Mae hynny'n £150 miliwn y gellid bod wedi ei wario ar drenau gwell, ar fwy o orsafoedd, ar docynnau rhatach.
Nawr, roedd Deddf yr Alban 2016—[Torri ar draws.]—yn cynnwys cymal a oedd yn caniatáu'n benodol i Lywodraeth yr Alban gaffael gweithredwr rheilffyrdd sector cyhoeddus. [Torri ar draws.] Flwyddyn yn ddiweddarach—
Mae angen i mi glywed, ac rwy'n siŵr bod angen i'r Prif Weinidog glywed, arweinydd Plaid Cymru. Felly, a allwn ni ganiatáu i Leanne Wood barhau os gwelwch yn dda—os gwelwch yn dda. Os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, nid oedd unrhyw gymal o'r fath yn Neddf Cymru 2017. Er gwaethaf hyn, pleidleisiodd eich Llywodraeth yn ufudd i dderbyn y cytundeb datganoli newydd hwn gan eich ffrindiau yn y Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU. Nawr, ni wnaeth Plaid Cymru ddawnsio i dôn San Steffan. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y Bil hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi'n gresynu erbyn hyn cefnogi'r Torïaid trwy bleidleisio o blaid y Bil Cymru diffygiol?
Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, eisteddodd pob un ohonom ni yn y Siambr hon gan wylio Plaid Cymru yn mynd ati i ganfasio cefnogaeth y Torïaid er mwyn i arweinydd Plaid Cymru fod yn Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Ac nawr mae hi'n pregethu wrthym ni am weithio gyda'r Torïaid. Mae'r cof yn arbennig o fyr ar feinciau Plaid Cymru. Os bydd hi'n gofyn i mi, 'A ydw i'n hapus gyda phob elfen ar y Ddeddf Cymru ddiwethaf?, yr ateb yw 'nac ydw'. 'Nac ydw' yw'r ateb wrth gwrs. Ceir rhai elfennau ohoni nad wyf i'n eu hoffi. Ond mae'r rhan fwyaf ohoni yn rhywbeth y credaf oedd yn werth ei chefnogi. Nid wyf i'n cymryd y safbwynt absoliwtaidd y mae hi o, 'Gadewch i ni neidio oddi ar ymyl y dibyn a gadewch i ni weld beth sy'n digwydd.' Y gwir amdani yw bod mwy o waith i'w wneud ar ddatganoli. Rydym ni'n gwybod hynny. Gwn ei bod hithau'n gwybod hynny.
Ond yr hyn yr ydym ni wedi ei ddarparu, yn unol â'r cyfyngiadau sydd gennym ni, system well, sy'n cynnig mwy o werth am arian y bydd pobl y Cymoedd yn ei chefnogi ac y bydd pobl Cymru gyfan yn ei chefnogi. Bydd yn darparu system reilffyrdd o'r radd flaenaf i Gymru— system reilffyrdd o'r radd flaenaf—y system reilffyrdd orau a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru erioed, system a fydd yn darparu'r trenau gorau, system a fydd yn darparu swyddi i Gasnewydd—i CAF, gyda 300 o swyddi yno—system a fydd yn sicrhau ein bod ni'n bodloni ein targedau o ran cynaliadwyedd, o ran creu swyddi, o ran twf economaidd. Pam ar y ddaear na all Plaid Cymru gefnogi rhywbeth sy'n dda i Gymru dim ond am unwaith?
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Rwy'n canfod fy hun gyda grŵp sydd wedi ei ddal yn y canol yn y fan yma. Yn aml iawn, mae'n dda i fod yn y tir canol ym myd gwleidyddiaeth, yn fy marn i. Felly, gadawaf yr eithafwyr i ddadlau am hyn ymysg ei gilydd.
Prif Weinidog, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru pan ddaw i ail refferendwm, naill ai ar y fargen sy'n cael ei tharo o ran Brexit neu ar ail-gynnal refferendwm mis Mehefin 2016?
Nid oes gennym ni safbwynt ar ail refferendwm. Os ydych chi eisiau fy marn i, nid wyf i'n credu bod ail refferendwm ar fater Brexit yn haeddiannol. Cafwyd refferendwm. Er, roedd ei blaid ef eisiau ail refferendwm ar ddatganoli yn 2005—rwy'n cofio hynny—gan eu bod nhw'n meddwl bod y canlyniad yn rhy agos. Ond nid wyf i o'r un farn yn hynny o beth. Felly, nid oes gennym ni safbwynt fel Llywodraeth. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig nawr yw canolbwyntio ar gael y fargen orau i Gymru a Phrydain o ganlyniad i Brexit.
A wnes i eich clywed chi'n iawn Prif Weinidog? Dywedasoch nad oes gennych chi safbwynt fel Llywodraeth. Oherwydd, yn amlwg, llofnodwyd llythyr gan ddau o'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet yr wythnos diwethaf yn nodi eu bod nhw eisiau gweld refferendwm. Tybiais erioed bod Llywodraeth yn gweithredu ar sail cyfrifoldeb ar y cyd, ac rwy'n sicr wedi eich clywed chi'n dweud ar sawl achlysur fel arweinydd Llywodraeth Cymru nad ydych chi'n cefnogi ail refferendwm. Felly, does bosib nad oes cyfrifoldeb ar y cyd, ac mae cyd-Aelodau yn y Cabinet nawr, ar ôl i chi nodi eich bod chi'n gadael y swydd Prif Weinidog, yn dilyn eu hagendâu eu hunain. Pam nad yw cyfrifoldeb ar y cyd yn bodoli ar y mater penodol hwn?
Ni allaf gredu ei fod wedi dewis y tir hwn i ofyn cwestiynau. Gadewch i ni weld, er enghraifft, y sefyllfa sy'n bodoli yn Whitehall? Os ydych chi eisiau gweld arweinydd cloff, edrychwch ar Whitehall. Beth sydd gennym ni yn y fan honno? Mae gennym ni garfanau yn briffio yn erbyn ei gilydd yn gyhoeddus. Mae gennym ni bobl fel Boris Johnson yn beirniadu'r Prif Weinidog yn agored ar bolisi Brexit heb unrhyw fath o gosb. Byddai wedi bod allan ar ei union pe byddai wedi bod yn fy Llywodraeth i, gallaf ddweud hynny wrthych chi nawr. Mae gennym ni'r ffars yma nawr lle mae penderfyniad wedi ei wneud ar Heathrow lle rhoddwyd rhwydd hynt i Weinidogion Cabinet ymgyrchu yn erbyn hynny, gan nad oes digon o gefnogaeth yn y Cabinet i wneud penderfyniad ar y cyd. A phan ddaw i gyfrifoldeb ar y cyd, rydym ni'n gadarn yma o'n cymharu â'r cymundod anarchaidd sy'n bodoli yn Llundain.
Prif Weinidog, rwy'n sylwi na wnaethoch chi ateb fy nghwestiwn ynghylch eich Llywodraeth eich hun, a dim ond rai misoedd yn ôl y gwnaethoch chi ddiswyddo'r Aelod dros Ganol Caerdydd o'i swydd fel goruchwylydd Llywodraeth ar y pwyllgor Ewropeaidd oherwydd nad oedd hi'n cytuno â chyfrifoldeb Cabinet, fel y'i dehonglwyd gennych chi, oherwydd dywedasoch bod cyfrifoldeb ar y cyd ynghlwm i'w llythyr penodi. Felly, fe wnaethoch chi ddiswyddo un o aelodau eich meinciau cefn, ond pan fydd un o'ch cyd-Aelodau Rhyddfrydol yn y Cabinet neu un o'ch cystadleuwyr am yr arweinyddiaeth yn y fan yma yn penderfynu gadael y rhengoedd o ran cyfrifoldeb ar y cyd, nid ydych chi'n cymryd unrhyw gamau o gwbl. Onid yw'n wir ei bod hi'n un rheol i un aelod o'r Llywodraeth a rheol arall i aelodau'r meinciau cefn, ac mai chi yw'r Prif Weinidog cloff?
O diar, o diar, o diar. Wel, gadewch i ni ystyried hynny. Fel y dywedais—[Torri ar draws.] Fel y dywedais—[Torri ar draws.] Hynny yw, mae'n rhaid i chi edmygu ei ddigywilydd-dra. Mae'n rhaid i chi edmygu ei ddigywilydd-dra mwy nag unrhyw beth arall, a'i allu i anwybyddu'r anhrefn y mae ei blaid ei hun wedi ei chreu yn Llundain, a'r ffaith nad yw Llywodraeth Cabinet fel yr ydym ni'n ei hadnabod yn bodoli, mewn gwirionedd, yn Whitehall o dan ei blaid ef.
Gofynnodd y cwestiwn: beth yw ein safbwynt ni? Ein safbwynt ni erioed, ac rwyf i wedi dweud hyn lawer iawn o weithiau yn y Siambr, yw y dylai unrhyw gytundeb gael ei gymeradwyo gan Seneddau—lluosog—y DU. Dyna'r sefyllfa. Os na fydd hynny'n digwydd, wel, mae'n bosibl iawn y bydd etholiad arall. Byddai'n rhaid cael etholiad arall. Os bydd canlyniad amhendant wedyn, byddai'n rhaid cael rhyw ffordd o'i setlo, ond rydym ni'n bell i ffwrdd o hynny. Felly, yn syml iawn, ein barn ni fel Llywodraeth yw hyn: gadewch i Seneddau'r DU benderfynu ar ba un a yw'r cytundeb terfynol yn un da ai peidio.
Dychwelaf at ei bwynt eto. Ceir elfen o safonau dwbl anhygoel yn y blaid Geidwadol, a gadewch i mi ddweud pam. Nid wyf i'n dadlau o blaid ail refferendwm ar Brexit. Nid wyf i'n dadlau o blaid hynny, gan fy mod i'n cofio ei blaid ef yn dweud ym 1997 bod canlyniad y refferendwm ar ddatganoli yn rhy agos bod angen refferendwm arall, ac fe wnaethant sefyll ar sail yr ymrwymiad maniffesto hwnnw mewn etholiad cyffredinol. Ac nawr maen nhw'n dweud, 'Wel, wrth gwrs, roedd hynny bryd hynny, mae hyn nawr.' Nid yw'r safon ddwbl honno gen i. dadleuais yn erbyn ail refferendwm bryd hynny, ac rwy'n dadlau yn erbyn ail refferendwm nawr ar y mater o Brexit. Pan fydd ef eisiau pregethu wrthym ni am ein safbwynt, mae angen iddo edrych yn ofalus iawn ar ei blaid ei hun a'r llanastr y mae arweinydd y DU ynddo, y diffyg cynllunio llwyr, y diffyg undod llwyr a'r diffyg Llywodraeth llwyr.
3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn y dyfodol i wella cydlyniant cymunedol yn ne Cymru? OAQ52260
Ceir pedwar amcan y byddwn ni'n mynd ar eu trywydd: yn gyntaf, datblygu cydlyniant cymunedol ar lefel genedlaethol; yn ail, cymorth cydlyniant ar lefel ranbarthol ar gyfer grwpiau sydd ar wahân; yn drydydd, integreiddio newydd-ddyfodiaid; ac, yn bedwerydd, lliniaru tensiynau a mynd i'r afael â throseddau casineb.
Prif Weinidog, mae plismona yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau yn gydlynol ac yn mwynhau ansawdd bywyd da, ac mae ein heddluoedd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, iechyd, tai ac, yn wir, y sector gwirfoddol mewn partneriaeth agos, gan adlewyrchu'r ffaith bod y rhan fwyaf o waith yr heddlu yn ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig. O gofio hynny, a'r achos cryf iawn dros ddatganoli plismona sy'n dilyn ohono, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod problemau perthnasol yn cael eu rhagweld a'u harchwilio o ran datganoli plismona yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae e'n iawn wrth ddweud bod gennym ni safbwynt hirsefydlog o gefnogi datganoli plismona ac, wrth gwrs, bydd y comisiwn ar gyfiawnder yn ystyried materion pellach. Mae'n bwysig, wrth gwrs, datganoli ai peidio, ein bod ni'n gweithio gyda'r heddlu. Rydym ni'n gwneud hynny, boed drwy'r fforwm argyfyngau sifil, boed drwy grwpiau eraill, er enghraifft ystyried cymorth i ddioddefwyr, gan ein bod ni wedi ymrwymo i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb. Felly, rydym ni wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu canolfan genedlaethol hysbysu a chymorth troseddau casineb. Bydd y cyllid hwnnw'n parhau hyd at 2020 o leiaf, a cheir arwyddion cadarnhaol o hyd bod dioddefwyr yn dod ymlaen a'u bod yn fwy hyderus o ran hysbysu.
Prif Weinidog, mae sefydliadau trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau a mynd ati i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn ogystal â darparu cyswllt rhwng cyrff y sector cyhoeddus a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Er mwyn iddyn nhw lwyddo, maen nhw angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei strategaeth i wella cydlyniant cymunedol yn defnyddio ac yn cynorthwyo'r trydydd sector yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried yw pa un a ddylem ni ddiweddaru'r cynllun cydlyniant cymunedol ar gyfer yr haf eleni i gymryd cynnydd diweddar i droseddau casineb a'r heriau newydd i gydlyniant cymunedol yng Nghymru i ystyriaeth. Gallaf gadarnhau ein bod ni'n bwriadu cyhoeddi cynllun cydlyniant cymunedol a'r cynllun cyflenwi ar fynd i'r afael â throseddau casineb, fel y bydd y cynlluniau hynny, wrth iddynt gael eu datblygu, yn cymryd tystiolaeth newydd ac amgylchiadau newydd i ystyriaeth.
Mae'n sicr bod mwy y gellir ei wneud yn hyn o beth, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n ystyried bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod troseddau casineb wedi cynyddu gan ugain y cant yng Nghymru mewn blwyddyn yn unig. Mae mwyafrif y 2,941 o droseddau a gofnodwyd—ac rydym ni'n gwybod y bydd llawer mwy o ddigwyddiadau nas adroddir amdanynt—yn ymwneud â hil neu grefydd, ac os cyfunwch chi hyn â graffiti Natsïaidd sydd wedi ymddangos yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn y misoedd diwethaf, mae darlun sy'n peri gofid mawr yn dechrau dod i'r amlwg. Rydym ni hefyd yn gwybod bod menywod Mwslimaidd yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan droseddau casineb. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni: beth all eich Llywodraeth ei wneud i ddarparu cymorth wedi ei dargedu, yn enwedig i fenywod Mwslimaidd, ond i bawb arall sy'n dioddef troseddau casineb a gwahaniaethu hefyd, a sut y gall Llywodraeth Cymru herio'r broblem gynyddol hon o droseddau casineb yn uniongyrchol?
Wel, fel y dywedais yn gynharach, rydym ni'n ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, a dywedais yn gynharach tan pryd y byddai'r cyllid hwnnw'n parhau—2020 o leiaf. A gaf i ymuno â hi o ran gresynu'r weithred o beintio sloganau hiliol ar adeiladau, yn enwedig, ond nid yn unig, yng Nghasnewydd? Gwn y bydd hi yn rhannu fy nghondemniad cryf o hynny. Pan ddaw i hysbysu am droseddau, wrth gwrs, ceir dwy ffordd o edrych ar y mater: yn gyntaf, os bu cynnydd yn nifer y troseddau a adroddwyd, efallai fod lefel wirioneddol y troseddau wedi cynyddu, ond efallai hefyd fod pobl yn fwy parod i ddod ymlaen i hysbysu am droseddau. Mae bob amser yn anodd cael at wraidd yr ystadegau. O'n safbwynt ni, rydym ni'n credu bod mwy o bobl yn dod ymlaen. Nid oes digon eto sy'n hysbysu am droseddau casineb, a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i gefnogi Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, fel y dywedais, a hefyd, wrth gwrs, i weld sut y gallwn ni werthuso'r cynllun cydlyniant cymunedol ymhellach er mwyn bod yn fwy effeithiol.
5. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog ar waith i gefnogi cyflwyno technoleg 5G? OAQ52283
Rydym ni wedi penodi Yr Arloesfa i gynghori, ysgogi a datblygu gweithgarwch o ran 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o gronfa gwely prawf a threialon Llywodraeth y DU.
Diolch, Prif Weinidog. Bydd 5G, fel y gwyddoch, yn hanfodol i alluogi llawer o arloesedd a fydd yn dod yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Heb 5G, ni fydd pethau fel ceir hunan-yrru a rhyngrwyd pethau yn bosibl. Yn Tsieina, maen nhw eisoes wedi sefydlu gwelyau prawf mewn 16 o ddinasoedd ac maen nhw'n rhagweld y bydd 5G ar gael yn fasnachol yn 2020. Mae gennym ni gynlluniau ar gyfer un yn unig ar hyn o bryd, yn sir Fynwy. Ceir cyfle i ddefnyddio metro dinas-ranbarth bae Abertawe sy'n cael ei gynnig fel gwely prawf ar gyfer defnyddio 5G yng Nghymru i ddatblygu math newydd o fetro yn y gorllewin. Felly, beth mae'r Prif Weinidog yn mynd i'w wneud i wneud yn siŵr nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ôl, ac a wnaiff ef ymrwymo i sicrhau y bydd 5G ar gael yn fasnachol yng Nghymru erbyn 2020, yn union fel yn Tsieina?
Wel, mae rhywfaint o hynny y tu hwnt i'n rheolaeth, ond fe ofynnodd y cwestiwn yn briodol: beth ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth? Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod yr Arloesfa wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynigion credadwy ac maen nhw wedi gwneud hynny gyda dinas-ranbarthau Abertawe a Chaerdydd. Y deuddegfed o'r mis hwn yw'r dyddiad terfyn, ond mae'r gwaith hwnnw'n parhau, felly nid yw'n golygu sir Fynwy yn unig, ond rydym ni'n ystyried sut y gall hyn weithio i'n dinas-ranbarthau hefyd. Gallaf ddweud hefyd bod yr Arloesfa yn gweithio gyda Digital Catapult i gyflawni elfen Cymru o astudiaeth mapio 5G ehangach y DU. Mae hynny wedi darparu golwg gynhwysfawr a chyfredol ar y system 5G sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru ar y lefelau rhanbarthol a lleol. Felly, o ran y gogledd, mae'r Arloesfa hefyd wedi bod yn darparu cymorth i Brifysgol Bangor yn ei hymdrechion i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer prosesu signalau digidol yng ngogledd ein gwlad. Felly, sir Fynwy, ie, yn gyntaf, ond yn edrych nawr, wrth gwrs, ar Abertawe a Chaerdydd a thu hwnt.
Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r ffaith y bydd sir Fynwy yn cael ei dewis fel gwely prawf ar gyfer 5G? Rwy'n credu bod y goblygiadau ar gyfer cysylltedd gwledig yn rhagorol, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn enghraifft eglur o Lywodraeth y DU yn cyflawni o ran strategaeth ddigidol i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut yr ydych chi'n mynd i gydweithredu â hi.
Rydym ni wedi clywed am yr ystod o gymwysiadau a bydd y rhain, i ychwanegu atynt, yn mynd i ffermio clyfar gyda dronau a defnyddio'r rhyngrwyd i wella gofal iechyd yn y cartref a chynyddu cynhyrchiant gweithgynhyrchu, cyn belled â cheir hunan-yrru hyd yn oed. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i'r effaith y bydd technoleg 5G yn ei chael ar y sector iechyd a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan arsylwi'r arfer yn sir Fynwy yn gyntaf?
Mae trafodaethau yn parhau rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, Julie James, a'r rhai hynny yn y sector iechyd i weld sut y gall 5G fod o fudd i'r sector iechyd. Fel y dywedais yn gynharach, rydym ni'n aml yn gweld technoleg fel rhywbeth sydd yn bennaf o fudd i'r economi. Mae hynny'n wir, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond rydym ni'n gwybod bod cyfleoedd ym meysydd iechyd ac addysg a sectorau eraill i wneud yn siŵr bod technoleg yn hwyluso gweithio gwell yn y dyfodol.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi busnesau bach yng Nhrefynwy? OAQ52274
Trwy Busnes Cymru a'r banc datblygu, rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo entrepreneuriaid, wrth gwrs, a busnesau bach a chanolig eu maint ledled Cymru. Ac mae ein pwyslais yn parhau ar entrepreneuriaid a ysgogir gan arloesedd, swyddi a'r economi.
Diolch, Prif Weinidog. A gaf i ofyn i chi, roedd pryder mawr ynghylch cyflwyno'r ailbrisiad ardrethi yn ddiweddar—y llynedd, dylwn i ddweud. Cafodd yr ailbrisiad hwnnw effaith gymysg ledled Cymru: roedd rhai ardaloedd yn llawer gwell eu byd, nid oedd eraill yn gwneud cystal. Cafwyd effaith wael ar ardaloedd fel fy ardal i yn sir Fynwy a hefyd Bro Morgannwg, y Bont-faen. Ceir un busnes yng Nghas-gwent yn fy etholaeth i y mae ei ardrethi busnes wedi cynyddu o £4,500 y flwyddyn i bron i £8,000. Gwn fod pecynnau cymorth a oedd ar gael, ond nid yw'r rheini wedi helpu pob busnes, yn enwedig y busnes hwnnw yng Nghas-gwent, sydd mewn trafferthion difrifol iawn erbyn hyn. A allwch chi ddweud wrthyf a ydych chi'n mynd i ailystyried y broses ailbrisio ardrethi a gweld a oes ffordd well y gallwch chi ddarparu cymorth i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio'n wael fel hyn?
Yr anhawster yw os byddwch chi'n diwygio'r ailbrisiad neu'n dychwelyd i'r prisiad blaenorol, bydd gennych chi sefyllfa yn y pen draw lle mae'n rhaid i bobl dalu mwy o ganlyniad i'r ffaith eu bod nhw'n talu llai nawr. Ceir pobl sy'n talu mwy bob amser a cheir pobl sy'n talu llai bob amser. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o hynny trwy ailbrisiadau dros y blynyddoedd. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud wedyn, wrth gwrs, yw rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Nid wyf i'n ymwybodol o union fanylion sefyllfa'r busnes y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y byddwn ni'n darparu tua £210 miliwn o ryddhad ardrethi y flwyddyn hon i gynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill, ac mae hynny'n golygu y bydd mwy na thri chwarter talwyr ardrethi Cymru yn gweld gwahaniaeth. Yn wir, bydd mwy na hanner na fyddant yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol? OAQ52266
Rydym ni'n cynorthwyo gwasanaethau llywodraeth leol trwy gymysgedd o gyllid refeniw craidd, cyllid cyfalaf a grantiau penodol fel y bo'n briodol. Ein strategaeth o hyd yw diogelu Llywodraeth Leol rhag effeithiau cyni cyllidol yn unol â'r adnoddau sydd ar gael i ni fel Llywodraeth.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu yn y cyfnod hwn o gyni cyllidol y Torïaid, bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, ar gyfer y cylch cyllideb 2018-19 cyfredol, bod llai o'r arian hwn wedi ei neilltuo neu ei glustnodi, gan roi mwy o hyblygrwydd a disgresiwn dros flaenoriaethau gwariant awdurdodau lleol.
O'm cwestiynau diweddar i'r Ysgrifennydd dros Addysg, byddwch yn ymwybodol, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, bod hyn yn golygu bod cyllid ysgolion yn cael ei dorri a bod clybiau brecwast o dan fygythiad, sy'n mynd yn groes i ymgynghoriad cyllideb y cyngor ei hun pryd y dywedodd y cyhoedd mai ysgolion ac addysg oedd eu prif flaenoriaeth ar gyfer y fwrdeistref. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i hyn godi cwestiynau ynghylch pa un a all Llywodraeth Cymru gymryd y risg o dynnu cyllid wedi ei glustnodi o unrhyw feysydd blaenoriaeth eraill, fel Cefnogi Pobl, er enghraifft, os yw rhai awdurdodau lleol yn mynd i ddewis torri yn eich meysydd blaenoriaeth a bennwyd?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg. Ein nod, wrth gwrs, yw rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau lleol ac maen nhw'n atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau a wnânt. Byddwn wedi gobeithio y byddai unrhyw awdurdod lleol yn gweld addysg fel blaenoriaeth gref iawn. Rwy'n synnu o glywed yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am ei hawdurdod lleol ei hun, ac mae'n wir bod angen i awdurdodau lleol ddangos, wrth iddyn nhw gael mwy o hyblygrwydd, eu bod nhw'n parhau i flaenoriaethu gwariant yn y meysydd hynny lle mae angen arian fwyaf. Ac mae addysg yn un o'r meysydd hynny.
Cydnabuwyd yn uniongyrchol yn y Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol' bod angen, Prif Weinidog, adolygiad mwy sylfaenol o gyllid llywodraeth leol. Mae'r Papur Gwyrdd cyfredol hefyd yn nodi bod awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at nifer o ychwanegiadau o ran chyllid. Gan ymateb i'r Papur Gwyrdd, dywed CLlLC y bydd
yn parhau i ddadlau'r achos dros gyllid priodol
i awdurdodau, ac mae nifer o'n hawdurdodau lleol yn dal i fod yn ymrwymedig nawr i alw am gyllidebau ariannol tymor hwy priodol a theg. Mae Bro Morgannwg yn nodi bod achos da dros newidiadau i'r fformiwla, ac felly hefyd llawer o awdurdodau lleol eraill. Pan fydd rhywun yn ystyried yr ohebiaeth y mae eich Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei derbyn, ond y mae'n ei hanwybyddu—. Nid yw'n gwrando nawr; mae'n well ganddo anwybyddu'r cwestiwn yn llwyr, ac ef yw Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol. Felly, yn ogystal ag anwybyddu'r galwadau hynny ac anwybyddu'r cwestiwn hwn heddiw—. A wnewch chi gysylltu â'ch Ysgrifennydd y Cabinet a siarad ag ef, os gwelwch yn dda, i sicrhau bod model a fformiwla gyllido mwy cynaliadwy yn cael eu sefydlu, yn y dyfodol? Dyna'r lleiaf un y mae ein hawdurdodau lleol yn ei haeddu.
Wel, rwy'n credu bod angen i Fro Morgannwg esbonio pam maen nhw'n gwario llai ar addysg nag unman arall yng Nghymru, fesul pen. Mae hynny o dan ei phlaid hi, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd angen iddyn nhw ei esbonio i'w hetholwyr. Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi yw hyn: ein bod ni'n ariannu awdurdodau lleol ar lefel uwch o lawer na fyddai'n wir pe bydden nhw yn Lloegr, rydym ni wedi ceisio eu diogelu cymaint ag y gallwn, ond mae'n anochel y bydd anawsterau a gwasgfa ar awdurdodau lleol, gan ein bod ni ein hunain yn cael ein gwasgu. A gaf i awgrymu ei bod hi'n codi'r mater gyda'i phlaid yn Llundain, sy'n parhau i orfodi gwasgfa, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ar Lywodraeth Cymru, ar gyllideb Cymru, gan daflu £1 biliwn tuag at Ogledd Iwerddon ar yr un pryd i brynu llond llaw o bleidleisiau? Dyna pa mor isel y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi gostwng—dim strategaeth, popeth yn ymwneud â phrynu pleidleisiau.
Un o brif ddadleuon eich Llywodraeth chi dros yr angen i ddiwygio llywodraeth leol yn y ffordd a gynigir yn y Papur Gwyrdd ydy'r angen i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y cynghorau i'r dyfodol. Mae arweinwyr cynghorau ledled Cymru o bob lliw gwleidyddol yn cwestiynu'n gryf a fyddai uno'r cynghorau yn arbed arian. Felly, ar sail hynny, pa asesiad ariannol mae'r Llywodraeth wedi ei gwblhau er mwyn cefnogi bwriadau'r Papur Gwyrdd? Faint yn union ydych chi'n gobeithio ei arbed a dros ba gyfnod o amser? Beth fydd cost gychwynnol gweithredu'r ailstrwythuro yma?
Wel, mae yna gost os nad ydym ni'n edrych ar unrhyw fath o newid yn y system o lywodraeth leol. Ar un adeg, roedd chwe awdurdod lleol o fewn mesurau arbennig ynglŷn ag addysg. Roedd Ynys Môn wedi cael ei gymryd drosodd yn gyfan gwbl. Nawr, nid yw hynny'n dangos i fi fod pethau ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Mae'n rhaid inni sicrhau o leiaf fod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd ranbarthol. Nid yw'n ddigon da i awdurdod lleol i ddweud, 'Wel, nid ydym ni'n mynd i weithio gyda'r rheini sydd drws nesaf i ni.' Rydym ni wedi gweld, wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr sydd wedi cael ei wneud yn addysg gyda'r consortia, ac nid oes un awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn iawn dros y bobl sydd yn byw tu fewn i'w ffiniau os nad ydyn nhw'n gweithio gydag awdurdodau eraill. So, mae arian yn bwysig—rydym ni i gyd yn deall hynny—ond mae'r modd mae pobl yn gweithio yn bwysig hefyd.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn a chefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? OAQ52284
Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cynhyrchu dur yng Nghymru ac i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy i'r sector. Rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, gyda Tata. Os caf i ddarllen i'r Aelod y datganiad ar y cyd a anfonwyd allan gennym yr wythnos diwethaf gyda Tata Steel, sy'n dweud:
Rydym ni'n gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda'n gilydd i gwblhau'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot, a fydd yn lleihau costau ynni ac yn lleihau allyriadau carbon. Rydym ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a bydd y buddsoddiad hwn yn chwarae rhan sylweddol yn hyn. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi'r sêl bendith terfynol ar gyfer y prosiect a darparu'r arian yn y dyfodol agos.
Mae hynny'n adeiladu, wrth gwrs, ar y cymorth sylweddol yr ydym ni wedi ei roi i gynhyrchu dur yng Nghymru, yn gwbl briodol, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw cynhyrchu dur i'n heconomi.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna ac am achub y blaen ar fy nghwestiwn, i raddau. Ond mae'r sancsiwn a orfodwyd gan yr Unol Daleithiau ar ddur y DU yn mynd i gael effaith fawr ar ddur Port Talbot a chynhyrchion dur o fannau eraill yng Nghymru. Bydd cwmnïau dur yn troi at fannau eraill, at farchnadoedd eraill, rhywbeth yr ydych chi wedi ei amlygu eisoes, i werthu eu dur ac, felly, mae pris dur yn debygol o ostwng. Mae hyn yn effeithio ar broffidioldeb dur, felly, mae angen i ni roi sylw i'r materion hyn, ac rydych chi wedi gwneud sylwadau eisoes, diolch byth, ar yr adroddiad a ddatgelwyd y cyfeiriwyd ato yn y wasg wythnos neu ddwy yn ôl am y buddsoddiad o £30 miliwn yn Tata ar gyfer yr orsaf bŵer, felly gallaf adael yr un yna.
Ond cyfeiriasoch hefyd, yn eich ymateb i Caroline Jones, at y camau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion tariffau dur. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i wthio'r rheini? Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n cyfleu'r neges hon i Lywodraeth y DU, a mannau eraill, i sicrhau y cymerir camau i ddiogelu ein diwydiant dur a phroffidioldeb ein diwydiant dur. Fel arall, byddwn yn gweld niwed yn cael ei wneud i'n diwydiant ni yma.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a'r cwestiynau lawer y mae wedi eu gofyn ar ran ei etholwyr, a hynny'n gwbl briodol? Mae'n gofyn beth ydw i wedi ei wneud. Roeddwn i yn Washington yr wythnos diwethaf. Cefais sawl cyfarfod yno, gan gynnwys cyfarfodydd gyda staff llysgenhadaeth Prydain. Gweithiwyd drwy'r hyn y mae angen ei wneud nesaf. Nid yw'n eglur, oherwydd gall fod yn anodd rhagweld yr hyn y bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ei wneud, os caf ei roi felly. Fe'i gwnaed yn eglur droeon i'r Unol Daleithiau nad yw dur o Gymru na dur o'r DU yn peri bygythiad i ddiwydiant dur America mewn gwirionedd. Nid oes llawer o'r cynhyrchion yr ydym ni'n eu hallforio i'r Unol Daleithiau yn cael eu gwneud yn yr Unol Daleithiau. Y cwbl fydd yn digwydd yw y bydd y pris yn cynyddu i ddefnyddwyr America. Yr hyn nad ydym yn eglur yn ei gylch yw pa effaith fydd yna o ran tariffau. Gwn yn Nhrostre, er enghraifft, bod allforion i'r Unol Daleithiau yn rhan broffidiol iawn o'r busnes hwnnw, ac nid yw'n eglur, a dweud y gwir, pa un a fydd Trostre yn dal i allu parhau i werthu i'r Unol Daleithiau, oherwydd y ffaith nad yw'r Unol Daleithiau yn cynhyrchu'r hyn y mae Trostre yn ei gynhyrchu. Ond, fel y dywedais yn gynharach, yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad ydym ni'n gweld dur a oedd ar ei ffordd i farchnad yr Unol Daleithiau yn flaenorol yn cyrraedd y farchnad Ewropeaidd nawr, gan achosi gostyngiad i bris dur. Mae'n anochel na fyddai hynny'n helpu o ran cynaliadwyedd hirdymor ein diwydiant.
Ie, Prif Weinidog, rwy'n credu, pan ddaw hi i fygythiad tariffau'r Unol Daleithiau, bod angen i holl Lywodraethau'r DU weithio gyda'i gilydd a siarad ag un llais ar hyn a gwella ymdrechion, nid lleiaf o ran cael arian y dinas-ranbarthau hyn i lifo, oherwydd, yn amlwg, rhan o hynny, i fargen ddinesig bae Abertawe, yw'r ganolfan arloesedd dur. Cymeraf rywfaint o gysur o'ch sylwadau ar yr orsaf bŵer. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein drysu braidd gan y sylw na fyddai'r penderfyniad yn cael ei wneud am hynny tan ar ôl i chi adael fel Prif Weinidog, felly efallai y gallwch chi ein sicrhau y bydd yr arian hwn o gyllideb y llynedd yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl. Os gallwch chi roi dyddiad i ni ar gyfer hynny, yn hytrach na 'rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd', rwy'n credu y byddai holl weithwyr Tata yn llawer tawelach eu meddwl.
Nid oes dim wedi ei ohirio tra fy mod i'n Brif Weinidog. Fel y gall yr Aelod yn hawdd ei ddychmygu, rwy'n awyddus iawn i wneud penderfyniadau sy'n helpu pobl Cymru mor gyflym â phosibl. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny. O ran Port Talbot, rydym ni'n gofyn i bobl ein barnu ni ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes: yr arian yr ydym ni wedi ei ymrwymo, y cydweithio agos yr ydym ni wedi ei gynnal fel Llywodraeth gyda Tata—nid yn unig yn y DU ond ym Mumbai hefyd. A bydd hi wedi clywed y datganiad ar y cyd a ddarllenais yn y Siambr a wnaed gennym ni fel Llywodraeth a chan Tata.
Ynghylch yr orsaf bŵer yr oeddwn i eisiau holi ymhellach oherwydd, wrth gwrs, cefais gyfarfod â Tata a dywedasant eu bod yn amlwg wedi cwblhau cam 1, ond mae ganddyn nhw dri cham arall i'w cwblhau o ran disodli'r orsaf bŵer, ac rydym ni'n sôn yn y fan yma am dariffau dur yr Unol Daleithiau. Siawns bod buddsoddi nawr yn hollbwysig yn yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot i sicrhau ein bod ni'n lliniaru rhag unrhyw rai o'r effeithiau gwaethaf sy'n dod o'r tariffau hynny. Felly, rwy'n deall o'u briffio nad yw penawdau'r telerau ar gyfer y cyllid grant wedi eu cytuno rhyngoch eto. A allwch chi roi sicrwydd y byddwch chi'n gwneud y penderfyniad hwnnw cyn gynted â phosibl ac y byddwch chi'n rhoi amlinelliad eglur i ni ynghylch pryd y bydd y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud, fel y gellir cyflymu'r cynnydd ym Mhort Talbot ar y cynllun penodol hwn?
'Gallaf' yw'r ateb amlwg i hynny. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud y penderfyniad cyn gynted â phosibl. Mae Tata yn deall hynny hefyd, a bydd hi wedi clywed yr hyn a ddywedwyd yn rhan o'r datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ni a Tata. Rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at y cyhoeddiad pryd y gellir gwneud hynny, a darparu'r cyllid. Mae Tata yn gwybod eu bod nhw wedi cael lefel o gymorth, yn ariannol ac yn foesol, gan Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa yn un o ymddiriedaeth, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth gwrs, y gallwn ni wneud y cyhoeddiad hwn mor gyflym â phosibl.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'w hadrodd i fusnes heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar wasanaethau rheilffyrdd a metro de Cymru cyn bo hir. Ac, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gwneud datganiad ar newidiadau i gyfradd comisiwn cartrefi parc. Hefyd, mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau Cynulliad llafar y Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad gan y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus ar y gefnogaeth a'r cymorth sydd gan gynghorau cymuned a chynghorau tref, a'r canllawiau sydd gan yr awdurdodau unedol o ran ymdrin â'n cynghorau tref a chymuned? Yn fy rhanbarth etholiadol i fy hun, mae gen i wahaniaeth mawr yn y lefel o gynghorau cymuned sydd ym Mro Morgannwg, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, ac rwy'n canfod, ar bob achlysur, bod gan awdurdodau lleol wahanol farn ar sut y maen nhw'n ymgynghori a sut y maen nhw'n ymgysylltu â'r cynghorau cymuned a thref hynny. Mae'n peri gofid gwirioneddol clywed llawer o gynghorwyr cymuned yn dweud eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u diystyru'n llwyr ar yr hyn sy'n ris cyntaf ein proses ddemocrataidd. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall pa swyddogaeth a pha gymorth a chanllawiau y mae'r Llywodraeth ganolog—Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn—yn eu rhoi i'r awdurdodau unedol yng Nghymru i wneud yn siŵr y ceir chwarae teg pan ddaw i'r ymgysylltu hwnnw a'r broses ymgynghori honno ar gyhoeddiadau pwysig. Diolch.
Iawn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus atoch chi, ac rwy'n credu ei fod yn dweud y bydd yn fwy na pharod i gyflwyno datganiad ar hyn.
A gaf i ofyn am ddadl Llywodraeth i ddathlu degfed pen-blwydd Cymru yn genedl Masnach Deg? Mae hynny'n rhywbeth y—. Rwy'n credu mai ni oedd y cyntaf yn y byd i gael y statws hwnnw, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni ei ddathlu fel Cynulliad. Ond byddai'n dda cael ei ddathlu â dadl Llywodraeth, oherwydd y byddwn ni'n defnyddio amser y Llywodraeth wedyn, sy'n beth da, gan ei fod ar ddydd Mawrth, sy'n beth da, oherwydd y bydd yn cael sylw pobl, ond oherwydd y gallwn ni hefyd gydblethu i'r ddadl honno y gwaith arall y mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn ei gwaith allestyn drwy Cymru o Blaid Affrica, ac wrth gefnogi masnach deg yn ystyr ehangach y gair. Rwyf ar ddeall bod y Llywodraeth wedi torri'r arian sy'n cael ei roi i fasnach deg yng Nghymru, felly gallwn ni ymchwilio i hynny hefyd. Ni fyddai'r ochr honno mor dda, ond rwy'n credu, ar y cyfan, ein bod ni eisiau dathlu degfed pen-blwydd Cymru yn genedl Masnach Deg yfory.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd? Rwy'n deall y bydd ef yn ymweld ag Ysbyty'r Trallwng cyn bo hir yn dilyn y llifogydd, y llifogydd fflach sydyn iawn, a ddigwyddodd yno ryw wythnos yn ôl, a hoffwn ddiolch i'r gweithwyr a'r staff meddygol hynny a phawb a oedd yn gweithio i oresgyn yr anawsterau hynny. Pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dychwelyd, a gawn ni o leiaf ddatganiad ysgrifenedig ganddo ynghylch pa brofiadau a gwersi a ddysgwyd o hynny, yn enwedig pa gydnerthedd a chynlluniau y byddai angen eu gweithredu ar gyfer y dyfodol er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr—? Nid oes modd rheoli'r tywydd, ond mae modd gwybod effaith y fath fflachlifoedd o leiaf, a rhoi ystyriaeth i hynny.
Yn olaf, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar efallai, rwy'n credu, gan adeiladu ar yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud—mae'n ddrwg gennyf, yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud—yn ystod cwestiynau ynghylch dyfodol y morlyn llanw ym Mae Abertawe, rhywbeth rwy'n gwybod y mae ganddi ddiddordeb mawr ynddo? Rydym ni'n clywed y sïon drwg iawn hyn o San Steffan am ddiffyg cefnogaeth ar lefel Llywodraeth y DU bellach ar gyfer y morlyn llanw a rhai sylwadau rhyfeddol o annoeth gan Alun Cairns—annoeth a chwbl anghywir, fel y mae'n digwydd, o ran ei mathemateg. Os gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog priodol—efallai y Prif Weinidog ei hun—gan gynnwys cyfeiriad at y llythyr, yr wyf erbyn hyn wedi'i weld, a ysgrifennodd heddiw i Greg Clark—. A byddai'n dda pe byddai'r llythyr hwnnw yn cael ei ddosbarthu nawr yn uniongyrchol i Aelodau'r Cynulliad, yn hytrach na drwy Twitter, er mwyn i ni edrych yn fanwl arno oherwydd, am y tro cyntaf, rwy'n gweld ffigur gwirioneddol o £200 miliwn yn y llythyr hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Mae sôn wedi bod am hynny yn y gorffennol. Nid wyf wedi'i weld wedi'i ysgrifennu mewn du a gwyn o'r blaen. Yn sicr, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dydw i ddim wedi ei weld mewn unrhyw bapurau cyllideb o'r blaen. Cynllun ecwiti, cynllun cyd-ariannu: mae dull gweddol debyg wedi ei gymryd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Wylfa wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn seilwaith ynni, ac, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU lunio contract gwahaniaethau, cytundeb tebyg i'r hwn ar gyfer Hinkley Point C. Mae hyn i gyd yn gadarnhaol o du Llywodraeth Cymru, ond mae angen inni ddeall sut y gallwn ni ddatblygu'r dull amgen hwn yn awr, a fydd yn cael ei gefnogi, rwy'n siŵr, gan bob ochr o'r Cynulliad hwn, gan fod y Cynulliad wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid yr egwyddor o forlyn llanw, yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth reoliadol, fel y mae'r llythyr, mewn gwirionedd, yn ei ddweud. Yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw cynllun B wedi ei wneud gan Gymru. Mae hwn yn gyfle gwych, nid yn unig i greu swyddi, nid yn unig ar gyfer cynhyrchu ynni ym Mae Abertawe, ond hefyd ar gyfer technoleg y gall Cymru ei hun ei gwerthu dramor ac mewn gwirionedd ei harloesi a'i symud ymlaen. Mae arnaf ofn fawr iawn mai rhan o'r rheswm ein bod ni'n cael ein cadw'n ôl ac na chaniateir i ni fwrw ymlaen â hyn ein hunain yw bod rhai pobl yn meddwl y dylem ni ufuddhau ac na ddylem gymryd yr awenau gyda phethau fel hyn. Wel, dydw i ddim yn cytuno â hynny, a chredaf ei bod yn briodol iawn fod gennym ni amser yma nawr i drafod yr hyn a allai fod yn gynllun amgen: un a wnaed yng Nghymru, un lle efallai y byddwn ni yn gyd-berchnogion ar syniad o'r fath, lle rydym ni'n gweithio gyda'r cwmni, gyda'r sector preifat, ond bydd pobl Cymru ar eu hennill yn y pen draw, o'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ond gan ddod â Llywodraeth y DU, efallai â'i phen yn isel, ond, ar ddiwedd y dydd, dod â Llywodraeth y DU at y bwrdd hefyd.
Ie, wel, mae Simon Thomas, fel arfer, yn gwneud nifer o bwyntiau diddorol iawn. Rwy’n credu bod ein pen-blwydd yn Genedl Masnach Deg yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei anghofio. Mae'n bwysig iawn ei ddathlu; rwy'n hapus iawn i ystyried beth y gallwn ei wneud i greu'r cyfle i wneud hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar sut y gallwn ni gynnig cyfle o'r fath.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eisiau rhoi diweddariad i'r Aelodau ar faterion sy'n gysylltiedig ag ysbyty'r Trallwng. Fe wnaf innau edrych gydag ef ar y ffordd orau o wneud yn siŵr bod yr wybodaeth ddiweddaraf honno yn cael ei chyflwyno. Dydw i ddim yn gwbl sicr beth yw graddau hynny, ond rwy'n hapus i archwilio sut i wneud hynny gydag ef.
O ran y morlyn llanw, cefais yr anffawd i ddigwydd clywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y bore yma ar Radio Wales, ac roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a wnaeth yn warthus. I ddyfynnu un o Ysgrifenyddion y Cabinet, 'â ffrindiau fel'na, pwy sydd angen gelynion?', wrth iddo dal i geisio honni ei fod ef yn gyfaill i'r lagŵn. Rwy'n credu bod ymddygiad Llywodraeth y DU yn y mater hwn wedi bod yn warthus. Roedd Adroddiad Hendry yn ei gwneud yn eithriadol o glir sut y gellid ei ddatblygu. Nid oes unrhyw esgus o gwbl ar gyfer droi yn ôl unwaith eto at ffigurau anghywir a chyfatebiaethau gwael. Mae'r syniad bod rhywun erioed wedi cynnig cymhariaeth debyg am debyg â Wylfa a, rywsut neu'i gilydd, os byddwch chi'n cynnwys Wylfa Newydd ar sail wahanol, yna bydd y morlyn llanw o reidrwydd yn syrthio, neu, yn wir, bydd unrhyw fath o fuddsoddiad yng Nghymru yn gwneud y tro, ac os yw yng Nghymru, mae'n rhaid bod y pethau hyn yn eithaf agos at ei gilydd ta beth, felly does dim ots wir os yw hyn yn y gogledd neu yn y de, sef yr argraff llethol a gefais o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, nid yw hynny'n ddigon da.
Rydym ni'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i wneud i geisio sicrhau bod y morlyn llanw yn mynd rhagddo. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny o ddifrif calon. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ei farn yn glir iawn, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac o ganlyniad i hynny. Byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff ei ddosbarthu i'r holl Aelodau, naill ai drwy ei roi yn y Llyfrgell neu drwy ryw ddull arall. Mae ar gael. Mae'n llythyr cyhoeddus. Rydym ni'n falch iawn o allu cefnogi'r morlyn. Rydym ni'n drist iawn y bu angen llythyr o'r fath heddiw. Fe ddywedaf i, er hynny, wrth gwrs, nad ydym ni wedi cael penderfyniad o hyd. Yr hyn yr ydym ni wedi'i gael yw llwyth o bethau wedi'u gollwng, a sïon, ac Ysgrifenyddion Gwladol yn mynd ar y radio i ddweud pethau, ond mewn gwirionedd nid ydym ni wedi cael unrhyw benderfyniad. Felly, byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y dicter aruthrol a deimlir, mewn gwirionedd, tuag at y penderfyniad arfaethedig, yn gwneud iddynt feddwl ddwywaith ac y gallwn ni gael y penderfyniad iawn yn wir. Ond yn sicr rydym ni yn gefnogol iawn ohono, a byddaf i yn sicr yn archwilio yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud yn siŵr y gall Aelodau fynegi eu barn ar y pwnc yn rymus iawn.
Arweinydd y tŷ, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ail-strwythuro gwasanaethau ieuenctid yn fy etholaeth, a allai arwain at golli hyd at 30 o weithwyr ieuenctid rhan-amser hyfforddedig. Rwy'n deall na fu unrhyw ymgynghori â'r bobl ifanc yn uniongyrchol, Fforwm Ieuenctid y Fro, na chyda chabinet ieuenctid etholedig, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. Rwy'n deall hefyd nad ydyn nhw wedi ymgynghori â chomisiynydd Heddlu De Cymru o ran yr effeithiau ar bobl ifanc ac atal troseddu. Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol â'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ieuenctid. Byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar y mater hwn.
A gaf i ddweud nad ydwyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau? Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddech chi'n rhannu'r amgylchiadau â mi, ac fe fyddaf i'n ystyried beth y gallwn ni ei wneud unwaith y byddwch chi wedi rhoi'r wybodaeth honno i ni.
Nick Ramsay.
Clywch, clywch.
Diolch, Llywydd. A gaf i—? [Chwerthin.] Diolch i chi am eich cefnogaeth, Oscar. A gaf i gytuno â sylwadau Simon Thomas yn gynharach, pan soniodd am bwysigrwydd dathlu statws Masnach Deg Cymru, rwy'n credu, y degfed pen-blwydd? Nid Cymru'n unig sydd wedi cyflawni'r statws masnach deg. Enillodd y Fenni statws tref masnach deg 11 mlynedd yn ôl. Fe es i, a helpu i dorri'r gacen y llynedd. Felly, a gawn ni hefyd longyfarch y trefi a'r aneddiadau ledled Cymru sydd hefyd yn gwneud eu rhan i gyfrannu at agenda masnach deg Cymru a chefnogi'r neges yn gyffredinol? Mae llawer o waith caled yn digwydd dros y wlad.
Yn ail, ac yn olaf, yn ddiweddar—. Bydd y rhai ohonoch sy'n dilyn fy Facebook wedi gweld fy mod i wedi bod mewn cyfres o weithdai yn niwrnod agored Cymdeithas Bysgota Gwent, a sefydlwyd i annog pobl yn sir Fynwy a de-ddwyrain Cymru i ddechrau pysgota a gwireddu’r manteision. Dysgais i lawer. Yn benodol, dysgais ei fod yn weithgaredd sy'n gwneud i chi dawelu'ch meddwl. Cydnabyddir erbyn hyn ei fod yn dda iawn ar gyfer problemau iechyd meddwl ac ar gyfer y rhai sy'n dioddef o straen, sydd wrth gwrs yn ganolog i ymwybyddiaeth o iechyd meddwl eleni. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad—dydw i ddim yn hollol siŵr pa Weinidog fyddai'n gwneud hyn, materion gwledig o bosibl. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i gefnogi gweithgareddau fel pysgota, ond nid pysgota'n unig, sy'n cael effaith lesol ar iechyd corfforol pobl, ond hefyd ar eu hiechyd meddwl?
Wrth gwrs, mae bob amser yn bleser gennyf longyfarch pob ardal yng Nghymru sydd wedi gwneud yr ymdrech i gefnogi masnach deg. Rydym ni'n falch iawn o fod yn Genedl Masnach Deg, ond wrth nid yw'n bosibl bod yn genedl Masnach Deg heb gefnogaeth pob un o'r cymunedau bach a grwpiau gwirfoddol a'r dinasoedd a'r trefi—pob math o gymunedau ledled Cymru—sy'n dod at ei gilydd i wneud hynny'n bosibl. Rwy'n hapus iawn i longyfarch y Fenni. Ceir rhestr fawr o drefi a chymunedau eraill sy'n ei gefnogi hefyd. Ac, fel y dywedodd Simon Thomas hefyd, mae'n gyfle i brynu nwyddau hyfryd iawn, gan wybod eich bod chi'n cefnogi cymuned o bobl sy'n gwneud y nwyddau hynny, sydd yn cael cyflog teg, ac yn cael bargen well, ond mae hefyd yn gyfle i gefnogi'r gwledydd o ble daw'r nwyddau, drwy estyn llaw o gyfeillgarwch a masnach iddyn nhw. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymuno ag ef wrth wneud hynny, ac, fel y dywedais wrth Simon Thomas, byddwn yn chwilio am gyfle i gael rhyw fath o gydnabyddiaeth ar gyfer y dathliad hwnnw yma yn y Senedd.
O ran pysgota, rwy'n falch iawn o glywed hynny—dydw i ddim yn dilyn eich cyfrif Twitter mor agos â hynny, na'ch cyfrif Facebook ychwaith, fel y byddwn ni wedi sylwi ar eich ymweliad â physgotwyr dros y penwythnos, rwy'n ofni, ond byddaf yn fy ngheryddu fy hun ac yn rhoi sylw mwy manwl yn y dyfodol. Ond wrth gwrs mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn; mae nifer fawr o weithgareddau awyr agored, gweithgareddau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol yn fuddiol iawn i iechyd meddwl. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o hynny, ac mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth iechyd meddwl—bod ymagwedd gyfan tuag at iechyd meddwl, gan gynnwys gweithgareddau corfforol, cymunedol a chymdeithasol yn rhan bwysig o hynny. Mae'r Aelod yn gwneud gwaith da iawn wrth dynnu sylw at effeithiolrwydd cymunedau megis y gymuned bysgota i gefnogi prosiectau iechyd meddwl o'r fath.
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad brys? Yn dilyn ôl-troed cyfraniad ardderchog Simon Thomas i raddau helaeth, mae'n ymwneud â morlyn llanw Bae Abertawe. Yn amlwg, mae'r adroddiadau dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, fel y byddwch yn ymwybodol, yn peri siom enfawr. Yn Abertawe, yn amlwg, mae trydaneiddio'r brif linell reilffordd yn awr yn farw—bydd yn rhaid inni ymdopi â threnau diesel yn y dyfodol, tra bod diesel yn dod i ben ym mhobman arall oherwydd pryderon iechyd. Fel y gwyddoch, mae cefnogaeth fawr yn lleol ar gyfer datblygu morlyn llanw yn Abertawe, nid yn unig oherwydd y manteision amgylcheddol, ond hefyd o ran y potensial economaidd ar gyfer Abertawe a gweddill Cymru i ddod yn arweinydd y byd yn y maes. Byddai methiant Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun hwn, yn wyneb yr adroddiad gan Charles Hendry a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ei hunan ac a alwodd y cynllun yn ddewis cwbl amlwg y llynedd, yn weithred warthus arall a fyddai'n bradychu Cymru.
Gan fod hyn mor strategol bwysig i Abertawe, a gweddill Cymru, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu'n glir yr hyn y mae wedi ei wneud yn y dyddiau diwethaf i ymateb i sïon bod y cynllun yn ymbalfalu. Clywaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, a hefyd eich ateb yn gynharach, ond rwy'n dal i feddwl bod angen i ni gael datganiad brys, fel y gallwn ni edrych yn fanwl ac o ddifrif ar yr hyn sy'n mynd ymlaen. Yn ychwanegol at yr hyn sydd wedi'i ddweud, a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio hwyluso cyfarfodydd â Llywodraeth y DU a datblygwyr yn y dyddiau diwethaf, er enghraifft? Oherwydd, mae angen inni wybod pa gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi eu sefydlu, ac a yw'n barod i edrych ar fodelau arloesol i gyflawni'r cynllun hwn, fel y dywedodd Simon Thomas. Gallai Llywodraeth Cymru geisio defnyddio ei phwerau benthyca cyfalaf i fuddsoddi ym morlyn llanw Bae Abertawe, er enghraifft, yn hytrach na dilyn llwybr du drud ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Drwy sefydlu cwmni ynni Cymru sy'n eiddo cyhoeddus, gallai'r Llywodraeth ei hun gael y prosiect hwn yn ôl ar ei draed.
Dair wythnos yn ôl, yn y bleidlais cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma i gymeradwyo colli pwerau ym Mil ymadael yr UE, roedd y Llafur yn hapus ac yn falch o fod yn unoliaethol, ac yn gosod ei hymddiriedaeth yn Llywodraeth Geidwadol y DU. Nawr, wrth gwrs, anfantais o beidio â bod yn gyfrifol am eich tynged eich hun yw bod penderfyniadau sydd yn niweidiol i chi, yn niweidiol i Gymru, yn digwydd. Cic arall yn y dannedd, fel y dywedodd y Prif Weinidog. Faint o ddannedd sydd gennym ni ar ôl fel cenedl? Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos pa mor ymrwymedig yw hi i gyflawni'r cynllun hwn. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu bradychu Cymru, yna mae angen inni feddwl am ffyrdd y gallwn ni ei gyflawni hebddyn nhw. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddatganiad brys ar y mater hollbwysig hwn?
Wel, rwy'n credu i mi gytuno â rhan o araith Dai Lloyd ar y morlyn llanw o leiaf. Dydw i ddim yn siŵr iawn mai'r datganiad busnes oedd y lle iawn ar ei chyfer, Llywydd, ond fel rwy'n dweud—
Roeddwn i'n hael.
Byddwn yn chwilio am gyfle i wneud yn siŵr bod y Senedd yn cael y cyfle i fynegi ei safbwyntiau dwys iawn ar hyn. Byddwn i, fodd bynnag, yn dweud, wrth gwrs, hyd y gwn i, wrth imi sefyll yma, nad oes unrhyw benderfyniad gwirioneddol wedi'i wneud. Rydym ni wedi cael cyfres o ollyngiadau a threialon ac ati. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth y DU wedi nodi'r croeso oer iawn y mae'r treial hwn wedi'i gael, ac felly rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n dod at eu coed ac yn gwneud y penderfyniad y mae'r adroddiad Hendry wedi gofyn iddyn nhw ei wneud. A gobeithio bod y meinciau gyferbyn â mi yn gwrando ar hyn—oherwydd gwn eu bod hefyd yn cefnogi'r prosiect—ac y byddan nhw'n rhoi rhywfaint o bwysau ar eu Llywodraeth eu hunain yn y DU i wneud y penderfyniad iawn.
Felly, dydyn nhw ddim wedi gwneud y penderfyniad eto, hyd y gwn i. Rwy'n mawr obeithio na fyddan nhw'n gwneud y penderfyniad hwnnw ac y byddan nhw'n callio. Fodd bynnag, os daw'r penderfyniad hwnnw maes o law, wedyn wrth gwrs, byddwn ni mewn sefyllfa i gymryd camau, ac mae'r llythyr yn nodi'r ffaith ein bod ni eisoes yn ei gwneud hi'n eithriadol o glir ein bod ni eisiau i'r prosiect hwn fynd yn ei flaen a'i fod yn bwysig i bobl Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, os yw set o amgylchiadau yn ddigon da ar gyfer Hinkley, yna dylent fod yn ddigon da ar gyfer Gymru hefyd.
Rwy'n credu y bu croeso eang i'r bleidlais benderfynol yng Ngweriniaeth Iwerddon yr wythnos diwethaf i ddiddymu'r wythfed diwygiad a gwrthdroi'r gwaharddiad llwyr bron ar erthyliad. Credaf mewn gwirionedd ei fod yn achlysur pwysig iawn, ond mae'n amlygu'r ffaith mai Gogledd Iwerddon yw'r unig le yn y DU ac yn wir bron yr unig le yn Ewrop lle nad yw erthyliad yn gyfreithiol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn. Gwn ein bod wedi trafod yma yn y Siambr hon fynediad at erthyliadau i fenywod Gogledd Iwerddon drwy'r GIG yng Nghymru, ond a yw arweinydd y tŷ yn credu bod unrhyw achos ar gyfer dadl ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod menywod Gogledd Iwerddon yn gallu cael mynediad at erthyliadau yn yr un ffordd ag y gallwn ni yma? Rwy'n gwybod bod materion datganoli cymhleth yno, ond a oes gan arweinydd y tŷ farn ar sut y gallem fynegi ein barn yn y Siambr hon o bosibl?
Ydw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei gwneud yn glir iawn bod gennym drefniadau ar waith i sicrhau bod menywod sydd angen gadael y lle y maen nhw'n byw ynddo a dod i Gymru i gael erthyliad pan fyddant yn canfod eu hunain yn yr amgylchiadau trist hynny—bod y trefniadau hynny'n parhau i fod ar gael. Rwy'n falch iawn ei fod wedi gwneud hynny'n glir iawn, ond yn amlwg nid yw'r sefyllfa honno yn ddelfrydol, ac mae angen i bobl gael cefnogaeth eu teuluoedd a'u cymunedau o'u cwmpas hefyd. Yn anffodus, rwy'n credu bod y fargen a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r DUP yn golygu bod unrhyw debygolrwydd y byddwn ni'n gallu sicrhau newid yn y setliadau datganoli yn gyffredinol, i gael chwarae teg yno yn annhebygol iawn ar hyn o bryd, ond yma yng Nghymru, rydym yn hapus iawn—ac rwy'n falch, fel y dywedais, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ailadrodd hyn—i sicrhau y gallwn gynnig cymorth meddygol i fenywod sydd ei angen.
Gadewch i mi dalu teyrnged i ymgyrchwyr ar yr wythfed diwygiad yn ne Iwerddon. Roeddwn i'n falch iawn o weld hynny'n llwyddo. Roeddwn i'n synnu—Llywydd, maddeuwch imi, nid fy ngwybodaeth i fy hunan yw hyn gan nad wyf wedi cael y cyfle i ymchwilio i'r peth—ond cefais fy synnu i glywed un o'r ymgyrchwyr yn dweud fod ganddynt bethau eraill i'w gwneud yn awr, a bod cyfansoddiad Gweriniaeth Iwerddon yn dweud mai yn y cartref y mae lle'r fenyw, a'i bod hi'n teimlo'n siŵr y bydden nhw nawr yn gallu diwygio hynny hefyd. Rwy'n gresynu i glywed fod y cyfansoddiad yn cynnwys y fath beth, os yw hynny'n wir, ac rwy'n gobeithio y gallant ddwyn y diwygiad hwnnw yn ei flaen yn fuan iawn hefyd.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar waith gwasanaeth atal twyll yn y GIG yng Nghymru? Mae'r cyn-Brif Weithredwr gwasanaeth atal twyll yn y GIG wedi honni y gallai'r GIG yng Nghymru golli hyd at £200 miliwn y flwyddyn drwy dwyll ac nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny. Y llynedd, roedd y gwasanaeth yng Nghymru yn adennill ychydig o dan £350,000, sy'n biso drwy bach yn y môr, mewn gwirionedd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba un a yw'n cytuno â'r cyn-Brif Weithredwr ynghylch graddau'r twyll yn GIG Cymru a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, os gwelwch yn dda?
Mae'n fater pwysig iawn, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gweld yr adroddiad dan sylw. Rwy'n credu y byddai'n briodol i'r Aelod ofyn cwestiwn yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad i gael deall beth yn union y mae'n ei wneud yng ngoleuni'r adroddiad hwnnw.
Yn ystod y toriad, gwelsom y cwmni Lush yn mynegi ei gefnogaeth i'r ymgyrch Spy Cops, sef ymgyrch i ddatgelu'r ffaith bod llawer o swyddogion yr heddlu, yn y 1980au hyd heddiw, yn treiddio i grwpiau ymgyrchu yma yng Nghymru a ledled y DU, yn cael merched yn feichiog ac yn cael perthynas rhywiol â merched heb iddynt wybod bod hyn yn wir. Nawr, roeddwn i eisiau deall beth yw barn Llywodraeth Cymru ar hyn ac a ydych chi'n fy nghefnogi wrth ymestyn yr ymchwiliad i weddill y DU—rwyf ar ddeall bod adolygiad barnwrol i geisio cynnwys Gogledd Iwerddon—a hefyd i ymestyn yr ymchwiliad cyhoeddus i ddatgeliad llawn. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod i ba raddau y mae hyn wedi effeithio ar fywyd Cymru. Gwn fod ymgyrchwyr o'r enw 'Lisa Jones' a 'Deborah'—ffugenwau yw'r rhain i'w cadw'n anhysbys—sydd wedi cael problemau difrifol ar lefel bersonol o ganlyniad i'r perthnasoedd hyn â swyddogion yr heddlu. Nawr, nid bwriad yr ymgyrch hon yw ceisio tanseilio'r heddlu cyfan, ac rwy'n credu bod angen gwneud hynny'n glir. Ond rwyf i hefyd yn credu mai'r mater pwysicaf yma yw bod bywydau menywod wedi'u heffeithio'n ddifrifol, a dylai pob un ohonom fod yn pryderu am hyn ac, o bosib, am y newyddion nad ydym yn gwybod am rai o'r straeon o Gymru yn hyn o beth ar hyn o bryd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r menywod hynny sydd wedi dioddef a chefnogi'r ymgyrch.
Ie, roeddem ni i gyd wedi ein brawychu pan ddechreuodd y newyddion am y gweithrediadau cudd hyn ddod i'r amlwg ychydig o flynyddoedd yn ôl. Ni ellir dychmygu'r trawma y mae rhywun yn mynd trwyddo wrth ddarganfod nad yw ei bartner y person y dywedodd yr oedd o gwbl a bod ei fywyd cyfan, wedi bod yn gelwydd llwyr mewn gwirionedd. Mae'n ffordd warthus i unrhyw heddlu ymddwyn mewn unrhyw wlad, heb sôn am mewn democratiaeth. Nid oes gen i eiriau i fynegi pa mor ddig yr wyf i am y peth. Byddwn i'n fwy na pharod i ymchwilio gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus p'un a oes unrhyw faterion nad ydyn nhw wedi dod i'r amlwg yng Nghymru a sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael y newyddion diweddaraf. Os oes gan Bethan Sayed unrhyw wybodaeth benodol y mae hi'n credu y byddai o gymorth yn hynny o beth, byddem yn falch iawn o'i chael.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni amser am ddadl ar y fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr? Diben y fframwaith yw sicrhau bod y rhai sydd wedi goroesi trais yn erbyn menywod yn gallu llywio a dylanwadu ar waith y Llywodraeth yn ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mai. Pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hymateb, byddai'n dda cael sesiwn holi ac ateb yma yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr y bydd rhai Aelodau wedi gweld a chlywed barn Germaine Greer a oedd yn ceisio denu sylw ar drais rhywiol a adroddwyd yn y newyddion yr wythnos diwethaf. Mae sylwadau fel hynny, yn fy marn i, yn beryglus, oherwydd gallan nhw niweidio a digalonni a thanseilio ymgysylltiad goroeswr, ond yn bwysicach, ar adeg pan fo angen cymorth ar bobl, mae hi'n tynnu oddi arnynt, drwy ei sylwadau, drwy eu rhannu, y ddealltwriaeth a'r urddas sydd eisoes wedi ei dynnu oddi arnynt. Felly, nod y fframwaith cenedlaethol yw gwneud yn gwbl i'r gwrthwyneb i'r hyn y ceisiodd hithau ei wneud, sef grymuso menywod i lywio ac arwain y polisïau Llywodraeth sy'n effeithio arnyn nhw. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni neilltuo rhywfaint o amser i gael dadl resymegol ac ar yr un pryd, condemnio'r math hwnnw o drafodaeth yma yng Nghymru—yn fy marn i, dim ond i dynnu sylw at ei hun yn hytrach nag unrhyw ddiben ystyrlon o gwbl.
Ie, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt da iawn, gan ei bod hi bob amser yn siarad ar ran goroeswyr y mathau hyn o warth. Byddwn yn parhau â'n cynllun uchelgeisiol i wella'r ymateb i holl ddioddefwyr cam-drin a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol medrus iawn, yn ein holl wasanaethau cyhoeddus, sy'n barod ac yn gallu cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar goroeswyr. Rydym yn rhoi goroeswyr yn ganolbwynt ein hymateb i bob trais domestig, trais rhywiol a throseddau eraill o drais, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni wneud hynny. Felly, heb dynnu i ffwrdd—rwy'n deall bod Germaine Greer yn mynegi ei barn ei hun o'i phrofiad ei hun ac, yn ffodus i mi, ni chlywais yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud, ond rydym ni wedi dysgu llawer iawn trwy ein gwaith ymgysylltu helaeth â goroeswr bod goroeswyr yn ymateb i'r profiad yn wahanol iawn ac mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac, i lawer, mae iddo ganlyniadau tymor hir a difrifol iawn, fel y nododd Joyce Watson. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ystyried hynny.
Yr wythnos hon, fe wnes i gyfarfod â'r comisiynydd heddlu a throseddu—ein cyd-Aelod blaenorol—Jeff Cuthbert, i drafod ag ef beth oedd yn digwydd yng Ngwent o ran yr adolygiad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd o achosion o drais rhywiol. Yr oedd yn fy sicrhau eu bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod cynrychiolaeth briodol ar bob ochr o'r adolygiad o dreialon trais rhywiol, y dioddefwyr a'r goroeswyr ac, yn wir, wrth gwrs, y cyflawnir cyfiawnder i'r rhai sydd wedi'u cyhuddo o drais rhywiol a chyn euogfarn. Cefais fy nghalonogi gan eu dull cyfannol o wneud hynny, ac rwyf i wedi cael nifer o drafodaethau â fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn hyn o beth hefyd. Felly, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, a byddwn yn ei ystyried yn ofalus iawn yn ein strategaeth dioddefwr sydd ar ddod.
Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater o ddiogelwch trydanol a phobl hŷn yng Nghymru. Mewn digwyddiad Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dros chwe mis yn ôl, lansiodd yr unig elusen sy'n ymdrin â lleihau ac atal niwed, anafiadau a marwolaethau yn sgil trydan, Electrical Safety First, eu hadroddiad, 'Sut gallwn ni gadw pobl hŷn yng Nghymru yn ddiogel?' Mae mwy na hanner y tanau damweiniol yng Nghymru wedi'u hachosi gan drydan, a chanfu'r adroddiad fod pobl hŷn yn sylweddol fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o ddioddef tân trydan yn y cartref. Mae pobl hŷn yn cyfrif am dros draean o'r anafiadau yn sgil tân trydan, ac mae pobl dros 80 oed o leiaf pedair gwaith yn fwy tebygol na'r grwpiau oedran eraill o gael eu hanafu yn y tanau hyn. Disgwylir i nifer y bobl 80 oed neu hŷn ddyblu erbyn 2035, gyda rhyw 50,000 o bobl dros 65 oed yn byw â dementia. Mae mwyafrif y bobl hŷn yng Nghymru—rhyw 80 y cant—yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn stoc tai hŷn nad ydyn nhw erioed wedi cael archwiliad tân diogelwch trydanol. Ar sail yr ymchwil, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru am gynllun sy'n cyflawni archwiliadau diogelwch trydanol yn y cartref am ddim bob pum mlynedd i bobl dros 80 oed, ni waeth pa ddeiliadaeth eiddo sydd ganddynt. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw ddweud ers lansio eu hadroddiad nad ydynt wedi gweld unrhyw gynnydd arall gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r mater a sicrhau ei fod yn flaenoriaeth i leihau nifer y bobl hŷn y mae tanau trydanol yn effeithio arnynt yng Nghymru. O ystyried eu pryder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad.
Diolch ichi am hynny. Mae'n amlwg yn bwynt pwysig iawn. Rydym ni newydd gyhoeddi penodiad y comisiynydd pobl hŷn newydd, mewn gwirionedd, ac rwy'n siŵr y bydd gan y comisiynydd newydd ddiddordeb mawr yn hyn hefyd. Mae'r cyfrifoldeb wedi'i rannu rhwng nifer o gyd-Aelodau yn y Cabinet, felly byddaf yn sicrhau y ceir ymateb cydgysylltiedig a byddwn yn ysgrifennu at yr Aelod yn nodi'r sefyllfa yn Llywodraeth Cymru o ran y pwynt pwysig iawn hwnnw.
Yr wythnos diwethaf, daeth menyw a oedd eisiau cymorth ag asesiad taliad annibyniaeth personol ei mam i fy ngweld i. Mae'r fam, sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn dioddef amryw o gyflyrau parhaus o ganlyniad i ymosodiad treisgar gan ei phartner yn ôl yn 2009. Mae arthritis arni, mae ganddi amrywiaeth o gyflyrau croen, problemau â'i horganau mewnol, ar ôl dioddef ymosodiad treisgar â morthwyl a chyllell Stanley a'i gadael i farw. A hawdd yw deall ei bod hi hefyd yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma.
Nawr, gwnaeth aelod o staff Capita weiddi arni wrth geisio trefnu ymweliad cartref ar gyfer yr asesiad PIP hwn. Mae Capita wedi derbyn bod angen ymweliad cartref erbyn hyn, ond nid ydyn nhw'n gallu rhoi amser addas oherwydd apwyntiadau meddygol sydd ganddi eisoes, ac os na fydd yr ymweliad nesaf hwn yn digwydd, mae'n bosibl y bydd hi'n colli'r taliadau annibyniaeth personol, y taliadau y mae hi'n disgwyl eu cael.
Nawr, ni ellir gwadu natur greulon a dideimlad y system fudd-daliadau, a phan fyddwch yn clywed hanesion dirdynnol o'r fath yn eich cymhorthfa yn eich etholaeth chi, gallwch chi weld wyneb dynol y trychineb hwnnw'n drosoch eich hun. Nid hon yw'r ffordd y dylai'r wladwriaeth drin merch sydd wedi ei thrin yn y ffordd hon. Byddai datganoli lles yn galluogi Llywodraeth Cymru i liniaru llawer o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r system ddideimlad hon. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl neu ddatganiad ar beth y gall y Llywodraeth hon ei wneud i liniaru'r boen ofnadwy a'r dioddefaint a ddaw yn sgil y system lles bresennol?
Mae gen i ail fater hefyd, ac mae hynny'n ymwneud ag adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd heddiw, gyda Phrifysgol De Cymru, ar gyflwr carchardai yng Nghymru. Daeth i'r casgliad bod diogelwch a chyflwr carchardai yma yn waeth o lawer na'r rhai yn Lloegr, ac, yn wir, mae nifer yr achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau carchar a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag mewn carchardai yn Lloegr ers 2010, ac roedd mwy o helbulon carchar yn HMP Parc yn 2016 a 2017 nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Mae miloedd o swyddi swyddogion carchar wedi'u dileu, maen nhw'n wynebu gostyngiad mewn cyflogau mewn termau real, ac mae staff a throseddwyr yn agored i berygl o ganlyniad i hyn. Dylai penderfyniadau ar gyflwr carchardai yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru ac mae'r dystiolaeth hon yn gwneud hynny'n glir. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai yng Nghymru a sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod dinasyddion sy'n gweithio fel staff carchardai, neu'r rhai sydd wedi'u dal yn droseddwyr, yn gallu gweithio neu dreulio'u dedfrydau mewn amgylchedd diogel?
Ie, o ran yr ail un, rwy'n credu y byddem ni'n falch iawn o gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw. Mae'r rheiny ohonom sydd â charchardai yn ein hetholaethau, ac rwyf i'n un ohonynt, yn gwybod yn iawn am gyflwr carchardai a'u problemau o ymweld â nhw. Bu'n uchelgais ers tro byd gan ein Llywodraeth i ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru ac un o'r rhesymau gwirioneddol dros hynny yw, mewn gwirionedd, bod y polisïau dedfrydu a arferir gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd yn arwain at lawer o'r problemau hynny y mae Leanne Wood yn tynnu sylw atyn nhw. Nid yw'n ymwneud dim ond â beth sy'n digwydd i bobl pan fyddan nhw'n mynd i'r carchar; mae'n ymwneud â pham maen nhw yn y carchar yn y lle cyntaf ac a yw hynny'n gwbl effeithiol, a beth yw diben, mewn democratiaeth fodern, carcharu cymaint o ddynion ifanc dosbarth gweithiol mewn gwirionedd.
Ac, i ddefnyddio iaith anseneddol iawn, peidiwch â hyd yn oed dechrau sôn am sefyllfa menywod mewn carchardai, oherwydd dadl arall yw honno. Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd Cabinet a fi wedi cael llawer o drafodaethau ynghylch hyn a byddwn i'n fwy na pharod i gael y ddadl honno, oherwydd bod amrywiaeth o faterion sy'n cyfrannu at y sefyllfa niweidiol a welir yn ein carchardai, yn arbennig yng ngharchar y Parc sydd wedi'i breifateiddio. Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad tuag at hynny ac mae gennym ni lawer i'w drafod yma yn Llywodraeth Cymru ynghylch yr amwysedd o ran y setliad datganoli a'r anawsterau y mae hynny'n eu cyflwyno o ran yr hyn y gallwn ni ac na allwn ni ei wneud ar hyn o bryd a pham mae angen i ni gytuno ar y setliad datganoli yn hynny o beth.
O ran yr etholwr â phroblemau cymhleth gyda'r taliad annibyniaeth personol, rwy'n teimlo'n fawr iawn drosti. Mae gen i gymhorthfa yn llawn o bobl â phroblemau tebyg yn aml iawn. Nid oes dim amheuaeth o gwbl bod y rhaglen gyni y mae Llywodraeth bresennol y DU yn ei dilyn yn achosi dioddefaint difesur i unigolion ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghymru. Rwy'n anghytuno â hi ynghylch datganoli lles. Rwy'n credu mai un o unig ddibenion y DU yw ailddosbarthu cyfoeth o'r de-ddwyrain a Llundain. Mae'n drueni mai Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol amdano ar hyn o bryd ac nad oes ganddi unrhyw ddiben o'r fath. Nid wyf yn sicr a fyddai gweinyddu system warthus ag ychydig iawn o'r arian a'r empathi ynddi yn lleddfu'r sefyllfa ryw lawer, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn, hyd eithaf ein gallu, i helpu pobl, ac mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â pham mae'n ymddangos yn ddeniadol gwneud hynny ac mae gen i lawer o gydymdeimlad â phobl sydd wedi'u dal yn y system. Ond rwyf i'n annog Llywodraeth y DU i roi'r gorau i'w rhaglen gyni oherwydd fy mod i'n credu bod y dewis gwleidyddol hwnnw wrth wraidd y gwahaniaethu y mae pobl ag anableddau yn ei ddioddef yn y DU heddiw.
Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy'n gweithio i Virgin Media? Adroddwyd yn South Wales Evening Post bod amser wedi'i wrthod i weithwyr i fynychu profion gwaith ac i chyfweliadau am swyddi, er gwaethaf y ffaith bod eu swyddi o dan fygythiad difrifol. A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael mynediad at Virgin Media a chyfle i siarad â'r staff yno i roi cymorth iddynt? Mae colli bron i 800 o swyddi unrhyw le yn sicr o gael effaith fawr ar yr economi leol.
Yr ail gwestiwn sydd gen i yw: a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gynnal archwiliadau mewnfudo yn y GIG yng Nghymru? Byddai gwrthod triniaeth i ddioddefwyr canser a phlant yn aruthrol o greulon. Byddai methu â thrin pobl sydd â chlefydau hynod o heintus yn berygl i bob un ohonom ni sy'n byw yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi sicrwydd nad yw'n bwriadu dilyn yr un cyfeiriad â'r GIG yn Lloegr?
Ie, o ran yr ail bwynt, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ei gwneud yn fwy na phlaen nad oes gennym unrhyw fwriad o gwbl i godi tâl am unrhyw driniaeth na gofal y bydd unrhyw geisiwr lloches yn ei dderbyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd wedi methu â chael caniatâd i aros. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i GIG Cymru yn nodi hynny'n glir iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r polisi hwnnw am y rhesymau y mae Mike Hedges wedi'u nodi'n gryno iawn yno.
O ran Virgin Media, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cyfarfod yn fuan iawn ag uwch reolwyr Virgin Media i drafod y cynlluniau i gau'r cwmni, y rhesymau dros y penderfyniad, a chynnig unrhyw gymorth y gallwn i helpu i wrthdroi'r penderfyniad os yn bosibl. Mae'r tasglu yn barod i gefnogi unrhyw aelodau staff yr effeithir arnynt os nad ydym yn gallu gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Mae swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd yn ddiweddar â rheolwyr Virgin Media a chynrychiolwyr y cyflogwyr i asesu'r sefyllfa bresennol a chynnig cymorth os yw'n briodol. Rwyf ar ddeall y dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar y cyd ar 23 Mai ac y bydd yn para am o leiaf 45 diwrnod. Bydd gwrthgynnig gan gynrychiolwyr y gweithwyr â'r nod o gadw'r safle ar agor yn cael ei ystyried yn rhan o hyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ochr y gweithwyr er mwyn helpu i lunio'r gwrthgynnig hwnnw.
Fe wnaethom ni drafod y mwd o'r tu allan i atomfa Hinkley Point bythefnos yn ôl, ond chawson ni ddim atebion i rai cwestiynau difrifol iawn. Felly, rwyf eisiau gofyn cwestiwn unwaith eto am y profion. Yn Kosovo, pan oedd amheuaeth bod mwd yn ymbelydrol, roeddent yn ei brofi gan ddefnyddio sbectrometreg alffa, sbectrometreg gama a hefyd sbectrometreg màs plasma. Ac eto, ynghylch y mwd a gaiff ei wagu nid nepell o'r adeilad hwn—ac y bydd pobl mewn cwmpas o 10 milltir ar y tir mawr yn anadlu gronynnau o'r mwd hwnnw; dyna’r dystiolaeth wyddonol yr ydym ni wedi ei chael—pam mai dim ond â sbectrometreg gama y cafodd ei brofi? A pham ar y ddaear na wnaiff y Llywodraeth hon gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ailbrofi’r mwd gan ddefnyddio’r tri dull a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r byd pan fyddant yn amau bod mwd yn halogedig?
Soniodd yr Aelod am hyn wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig pan oedd hi yma yn y Siambr yr wythnos cyn y toriad, ac fe gafodd y ddau ohonyn nhw sgwrs gynhwysfawr iawn gan roi sylw manwl i’r holl faterion hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd? Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod yr wythnos hon yn wythnos ymwybyddiaeth o glawcoma ac mae cyfraddau glawcoma yng Nghymru yn eithaf uchel. Mae tua 38,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glawcoma, ac nid yw tua 19,000 o'r achosion hynny wedi cael diagnosis a bydd llawer o'r achosion hynny’n mynd heb ddiagnosis hyd nes y bydd o leiaf 40 y cant o olwg ymylol wedi’i golli. Eisteddodd nifer o Aelodau'r Cynulliad ar efelychydd heddiw i brofi sut beth yw bod â glawcoma os ydych chi'n yrrwr, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n eithaf anniogel. Rwy'n credu bod pawb wedi cael damwain car erbyn diwedd eu cyfnod ar yr efelychydd. Felly, yn amlwg, mae hyn yn broblem fawr. Rwy’n gwybod fod gan Lywodraeth Cymru fframwaith diogelwch ffyrdd. Nid yw hwnnw’n sôn am yr angen i bobl gael profion llygaid yn rheolaidd. Rwy’n gwybod fy mod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol a’i fod ef wedi arddangos ar rai o'r arwyddion wrth ymyl y ffordd bod angen cael profion llygaid, ond a gaf i ofyn am ddatganiad am y fframwaith diogelwch ffyrdd, oherwydd rwyf wir yn credu bod angen ei adnewyddu i gyfeirio at brofion llygaid fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod ein ffyrdd mor ddiogel â phosibl?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu imi ei fod yn hapus i weithio gyda’n cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, i gyflwyno rhywbeth o ganlyniad i'r materion y mae'r Aelod yn eu crybwyll.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y gwasanaethau rheilffyrdd a metro de Cymru. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Tynnaf eich sylw at fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd i’r Aelodau ddoe. Rwy’n falch o gyhoeddi, ar ôl cwblhau’r cyfnod segur statudol ar gyfer caffael gweithredwr a phartner darparu ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r cytundeb contract ffurfiol ac wedi dyfarnu’r contract i KeolisAmey.
Mae hwn yn gyfnod hanesyddol i ddarpariaeth gwasanaeth rheilffyrdd a bydd ein partneriaeth yn chwyldroi ein rhwydwaith rheilffyrdd, gan ddod â gwelliannau trawsnewidiol i gymunedau a phobl ar hyd a lled Cymru, ac wrth gwrs, y gororau. Bydd ein contract newydd ar gyfer y gwasanaeth rheilffyrdd yn canolbwyntio ar galon cymunedau, gan sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bawb, a bod gwasanaethau ar gael yn amlach, y cyfleusterau’n well a’n bod yn cysylltu pobl â swyddi, iechyd a hamdden.
Yn ddiweddar rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu economaidd. Mae pobl Cymru yn ganolog i’r ymyriadau yn y cynllun, ac mae’n eu cefnogi i fyw bywydau diogel, iach a boddhaus, boed hynny drwy eu cysylltu â gwaith a chyfleoedd eraill drwy gyfrwng seilwaith o ansawdd, eu harfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, neu gefnogi ein sylfeini economaidd. Mae KeolisAmey yn rhannu'r weledigaeth hon. Maen nhw wedi dangos eu hymrwymiad i ddod â’r arferion gorau o ran gweithrediadau rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn i Gymru, buddsoddi mewn seilwaith, cerbydau a staff, a defnyddio technoleg i ddarparu ar gyfer pobl, cymunedau ac economi Cymru.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i staff Trafnidiaeth Cymru ac i bawb sy'n rhan o'r broses yn yr enghraifft hynod hon o ddull caffael trawslywodraethol. Trafnidiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am reoli’r gwasanaethau rheilffyrdd ar ein rhan, ac am ddarparu ein buddsoddiad yn seilwaith y rheilffyrdd a'r metro, a gyda'i gilydd byddant yn darparu’r gwasanaeth rheilffyrdd trawsnewidiol newydd hwn y gall Cymru fod yn falch ohono dros y 15 mlynedd nesaf.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Dylwn hefyd diolch iddo am eich digwyddiadau briffio brynhawn ddoe a bore heddiw, a oedd yn hynod o ddefnyddiol, felly diolch ichi am hynny.
Mae dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn cynrychioli cyfle gwerth biliynau a biliynau o bunnoedd ac rwyf fi, fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru’n elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Nid wyf eto wedi gweld manylion faint yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi a faint mae’r gweithredwr wedi'i fuddsoddi. Rwy’n sylweddoli imi efallai beidio â sylwi ar yr wybodaeth hon yn y dyddiau diwethaf, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu manylion y proffil ariannu o ran faint fydd Llywodraeth Cymru a faint fydd y gweithredwr yn ei fuddsoddi ym mhob blwyddyn y contract.
Mae perthynas y contractwr â Network Rail, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac rwy’n meddwl tybed sut gynghrair a ffurfir rhwng gweithredwr y fasnachfraint a Network Rail. Tybed a allwch chi amlinellu pa strwythurau a gaiff eu rhoi ar waith i sicrhau bod perthynas waith agos rhwng Network Rail a'r contractwr i gynnal y rhwydwaith o ddydd i ddydd, ac, wrth gwrs, gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal.
Roeddwn yn arbennig o falch o weld yr ymrwymiad o ran cyflwyno 4G a 5G, gyda mastiau ar hyd y trac, ac mae’n debyg bod hynny’n enghraifft o’r cwestiwn yr wyf newydd ei ofyn o ran bod Network Rail yn gyfrifol am un agwedd, a’r gweithredwr—y llall, wrth gwrs, Network Rail, sy'n berchen ar y tir o amgylch y rheilffordd. Ac o ran y gwell seilwaith symudol, sut fydd hynny'n cydweddu â chynllun gweithredu symudol Llywodraeth Cymru?
Buaswn yn hoffi gofyn ichi am hygyrchedd toiledau ar drenau. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod am y ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i rym erbyn 2020, a bod rhai cwmnïau trenau’n ceisio ymdopi â'r ddeddfwriaeth ar hen drenau Pacer drwy gloi toiledau'r trenau. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi gwneud rhai datganiadau yn hyn o beth, ond byddai gennyf ddiddordeb clywed gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich barn ynglŷn â sut rydym ni'n gochel rhag canlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth ar bobl gydag anawsterau symud, a byddai datganiad cadarn gennych chi ynghylch hygyrchedd toiledau ar drenau i bobl anabl yn cael ei groesawu.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gytuno ag un neu ddau o bwyntiau: i gyhoeddi, mewn partneriaeth, wrth gwrs, gyda Thrafnidiaeth Cymru a KeolisAmey, y cyfleoedd sy’n dangos yn glir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yr holl gyfleoedd masnachol dros y blynyddoedd nesaf y bydd y fasnachfraint yn eu cyflwyno; i ddarparu diweddariadau ynglŷn â beth arall mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i hysbysebu’r cyfleoedd ariannol fydd yn dod yn sgil y fasnachfraint; ac, yn olaf, i gyhoeddi targedau penodol Llywodraeth Cymru o ran canran y gwaith a enillir ar y cynllun hwn gan gwmnïau yng Nghymru yn y dyfodol? Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe, ynghyd â manylion masnachfraint newydd Cymru a'r gororau? Gwnaethom yn siŵr drwy broses sgorio’r ymarfer caffael bod pawb ym mhob rhan o Gymru ac, yn wir, yn ardal y gororau, yn elwa o’r trefniadau masnachfraint newydd. Roedd y system sgorio yn sicrhau bod y cynigwyr yn awyddus i ddangos sut yr oeddent yn mynd i drawsnewid pob rhan o ardal Cymru a'r gororau.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd nifer o faterion pwysig iawn a amlygwyd yn ddiweddar, gan gynnwys hygyrchedd a thoiledau. Gallaf gadarnhau y bydd pob toiled ar bob trên yn cydymffurfio â rheoliadau PRM erbyn yr amser gofynnol. Mae'n gwbl hanfodol bod toiledau PRM allyriadau is wedi’u cynnwys ar yr holl drenau a fydd yn gweithredu ac mae’r ODP wedi rhoi sicrwydd clir iawn, iawn y bydd hynny'n digwydd. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y bydd £15 miliwn ar gael ar gyfer hygyrchedd mewn gorsafoedd ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anawsterau symud. Rwy’n gwybod yn bersonol am nifer o orsafoedd, gan gynnwys fy ngorsaf fy hun, Rhiwabon, lle nad oes mynediad heb risiau, neu fynediad ychwanegol i fynediad grisiau yn unig. Caiff hynny ei unioni yn y trefniadau masnachfraint sydd ar droed. Bydd pob gorsaf yn ardal y metro hefyd yn hygyrch heb risiau. Ac o ran toiledau, bydd toiledau ychwanegol ar orsafoedd o fewn y rhwydwaith metro i sicrhau, ar gyfer y datrysiad o fewn rhwydwaith craidd rheilffyrdd y Cymoedd, na fydd unrhyw deithiwr yn gorfod aros mwy na 14 munud cyn gallu defnyddio toiled mynediad cyffredinol.
Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig eraill ynghylch cyfleoedd caffael i fusnesau bach a chanolig. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o ymgysylltu â chynifer â phosibl o gwmnïau o Gymru a’r gororau yn y broses o ganfod cyfleoedd ar gyfer partneriaid datblygu seilwaith i sicrhau ein bod yn creu’r cyfle mwyaf posibl i gwmnïau o Gymru. Yn ogystal, mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, wedi'i sefydlu yn fudiad dielw. Yn y dyfodol, ein disgwyliad yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gosod gwasanaethau ychwanegol ar sail nid-er-elw i fwy o gwmnïau Cymru, ac rydym hefyd yn disgwyl yn y dyfodol y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu cymryd cyfrifoldebau ychwanegol dros fathau eraill o reoli trafnidiaeth a darparu seilwaith—ac eto’n gallu, wrth wneud hynny, dyfarnu mwy o gontractau i fusnesau bach a chanolig Cymru.
O ran y gwaith y bydd y partner gweithredu a datblygu yn ei wneud gyda Network Rail, bydd gwaith ar y cyd yn digwydd gyda Network Rail, ond bydd hefyd ar sail gweithio ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal. Rwy’n falch y caiff Cymru ei chynrychioli ar fwrdd cenedlaethol Network Rail gan aelod o Gymru ei hun, sy’n sicrhau y bydd gan Gymru lais ar fwrdd Network Rail. Rwy’n credu y byddai pawb yn cydnabod yn y Siambr nad yw rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn ddiweddar, wedi cael y math o ariannu seilwaith y byddai’n deg ei ddisgwyl. Rwy’n gobeithio yn y cylch nesaf, y cyfnod rheoli nesaf, y caiff hynny ei unioni, ac yn sicr bydd cynrychiolaeth o Gymru ar fwrdd Network Rail o gymorth.
O ran cyflwyno technoleg newydd, mae KeolisAmey wedi cynllunio proses i gyflwyno gwell Wi-Fi, gosod mastiau newydd, yn unol â'n rhaglen Cyflymu Cymru a'n hymyriadau ffonau symudol i sicrhau nad ydynt yn eu dyblygu, ond yn hytrach bod gennym ni gyswllt di-dor o drên i orsaf i drên o ran Wi-Fi. Rwy’n hyderus o gofio’r buddsoddiad y mae KeolisAmey yn bwriadu ei wneud mewn technolegau newydd y byddwn yn gallu gweld pob trên yn darparu mynediad Wi-Fi am ddim yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y trefniant hwn gan y fasnachfraint yn un trawsnewidiol, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyfleoedd, nid dim ond i fusnesau heddiw ond hefyd i fusnesau newydd a fydd yn gallu edrych ar gyfleoedd lle mae gorsafoedd newydd.
Nawr, un o fanteision allweddol y cytundeb masnachfraint hwn i lawer o gymunedau gwledig yw’r addewid a wnaethpwyd i fuddsoddi mewn adeiladau gorsafoedd ac mewn tirlunio gorsafoedd ac mewn ailddechrau defnyddio gorsafoedd lle nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio, a gallai hynny ddarparu cyfleoedd enfawr, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, i fusnesau newydd mewn gorsafoedd. Rwy’n credu y gallai llawer ohonom ni gyfeirio at nifer enfawr o orsafoedd o fewn y slab gorsafoedd 247 sy'n bodoli ar rwydwaith Cymru a'r gororau lle ceir cyfleoedd i agor lle i fusnesau newydd, boed hynny ym maes adwerthu, boed mewn lletygarwch, boed mewn dylunio busnes neu’r diwydiannau creadigol. Mae cyfleoedd di-ri, ac rwy’n arbennig o falch o weld pwyslais cryf gan y gweithredwr a'r partner datblygu ar y maes busnes posibl hwnnw.
Rwy’n mynd i ddechrau, os caf, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw i awgrymu rywsut bod Plaid Cymru wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gael trenau mwy gweddus, gobeithio, ar ryw adeg. Nid oes gennyf amheuaeth bod KeolisAmey wedi llunio cynnig trawiadol iawn, ac rwy’n eu llongyfarch am sicrhau’r fargen broffidiol hon. Felly, ai—[Torri ar draws.]
Does dim cyfle am ymyriad, felly does dim angen i’r Aelod ei gymryd fel ymyriad.
Felly, Plaid Cymru yn gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru—mae’r cyd-destun yn eithaf pwysig yma. Llywodraethau olynol Llafur a Cheidwadol y DU sydd wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru: y Ceidwadwyr, sydd yn ddiweddar wedi camu'n ôl ar drydaneiddio; 13 blynedd o Lywodraethau Llafur cyn hynny a fethodd â gwneud dim trydaneiddio, gogledd, de, dwyrain neu orllewin; Llywodraeth Lafur—rwy’n meddwl fy mod yn iawn—a’n gadawodd â masnachfraint chwerthinllyd Arriva heb unrhyw dwf o gwbl—chwerthinllyd, hynny yw, pe na bai mor ddifrifol i filoedd o gymudwyr rheilffyrdd y Cymoedd sydd wedi’u gwasgu ar drenau, ddydd ar ôl dydd, neu deithwyr o’r gogledd i’r de sy’n eistedd am bump awr ar drenau sydd wir yn fwyaf addas i siwrneiau hanner awr neu awr. Felly, ydym, rydym ni i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o drenau newydd, mwy ffres. Roeddwn ar y pwyllgor menter a busnes yn y Cynulliad diwethaf pan fuom yn ystyried, yn fanwl iawn, sefyllfa enbyd—cyflwr enbyd, a dweud y gwir—y system rheilffyrdd presennol sydd gennym ni yng Nghymru. Mae teithwyr yn gwybod ei bod hi'n hen bryd inni gael trenau gwell, oherwydd maen nhw wedi gweld lluniau o'r hyn sydd ganddyn nhw mewn gwledydd eraill—maen nhw wedi bod ar wyliau ac maen nhw wedi teithio ar drenau sy’n addas i’r ganrif hon yn hytrach na chanol y ganrif ddiwethaf. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i fod yn realistig yn eich disgwyliadau ynghylch pa mor ddiolchgar y dylai pobl fod am yr hyn sydd gennym yn awr, neu’r hyn sy'n cael ei addo ar ôl iddyn nhw ddioddef y gwasanaeth presennol ers cyhyd.
Nawr, wrth ddarllen rhannau o’r datganiad a gyhoeddwyd gennych chi ddoe—ac rydym ni'n ddiolchgar am y datganiad hwnnw—mae elfen o dristwch mewn llawer ffordd. Mae ansawdd y fargen fasnachfraint yn bwysig iawn, iawn. Nid oedd y fargen fasnachfraint ddiwethaf yn ddigon da am lawer o resymau. Dywedwyd wrthym 15 mlynedd yn ôl ein bod yn cael trenau nad oeddent yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—mae’r trenau hynny’n dal i fod gennym ni heddiw. Hyd yn oed nawr rydym yn cael clywed y bydd un o bob 20 o deithiau, am rai blynyddoedd i ddod, yn dal i gael eu gwasanaethu gan yr hen gerbydau rhydlyd, tolciog sydd gennym ni ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Wel, gallwch egluro hynny, ond rydych chi'n sôn am 95 y cant yn teithio ar drenau newydd ymhen ychydig flynyddoedd—mae hynny’n dal i adael un o bob 20 ar y cerbydau hen iawn o’r ugeinfed ganrif sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rydych chi'n dal i orfod aros tan 2020, i gael cyflenwad pŵer i wefru ar drenau, dywedodd y datganiad ddoe wrthym. Ac, unwaith eto, ni fydd gan un o bob 20 siwrnai yr anghenraid sylfaenol hwnnw.
Roedd yn bwysig iawn dysgu o gamgymeriadau’r fasnachfraint diwethaf a gwneud yn siŵr nad oeddent yn cael eu dyblygu y tro hwn, ac nid wyf yn gwbl argyhoeddedig, eto, bod y gwersi hynny wedi cael eu dysgu. Dywedasoch yn eich datganiad fod arlwyo ar y trenau’n dal i fod yn un o nodweddion allweddol gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Bydd unrhyw un sy'n teithio o’r gogledd i’r de yn dweud wrthych—ar wahân i’r un trên y dydd, un tua'r gogledd ac un tua'r de, sydd â chyfleusterau bwffe priodol—bydd unrhyw un sy'n teithio ar y trenau arferol, o’r gogledd i’r de, yn dweud wrthych nad yw’r trenau’n addas i’r teithiau hir hynny—pump awr yn teithio ar drenau sy’n addas i deithiau byr iawn. Es ar y trên ym Modorgan—byddwn yn annog unrhyw un i fynd ar y trên ym Modorgan, mae'n orsaf mewn cae yng nghanol Ynys Môn; rwy'n teimlo'n falch iawn o’n gorsaf fach ni, ond mae'n ddwy awr a hanner dda neu’n dair awr cyn inni gael cynnig paned o de. Ac rwy’n cofio gofyn i Arriva, 'Pam nad yw’r troli te’n dod ymlaen tan Amwythig?' a'r ateb a gefais oedd, 'gan fod y cytundeb masnachfraint yn dweud na ddylai’r troli te ddod ymlaen tan Amwythig.' Felly, mae cael y cytundeb masnachfraint yn iawn yn gwbl hanfodol. Felly, pan ddywedwch chi, yn y fargen fasnachfraint newydd sbon danlli hon,
'Bydd lefel y gwasanaeth yn cadw o leiaf at ei lefel bresennol',
mae hynny’n codi arswyd arnaf am fy siwrneiau o—. Mae hyn yn eich datganiad; rwy’n dyfynnu o'ch datganiad ddoe. Mae hynny'n codi arswyd ar bobl, oherwydd hoffai pobl ddefnyddio mwy ar y trenau ar gyfer teithiau rhwng y gogledd a'r de, ac mae pobl yn chwilio am wasanaeth gwell. Cael gwybod bod y ddarpariaeth bresennol o bethau fel cwpanaid o de, gwydraid o ddŵr, ar daith pum awr; ddylai hynny ddim bod yn ormod i ofyn amdano yn yr unfed ganrif ar hugain.
Gadewch imi ofyn am eich barn, hefyd, am gyfraniad y system newydd ar gyfer dod â Chymru ynghyd. Nid symud pobl o A i B yw unig swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosib na ddylai ein system rheilffyrdd newydd, flaengar ar gyfer Cymru fod yn seiliedig, yn y bôn ar ddod ag A a B yn nes at ei gilydd, gan adeiladu rhwydwaith sy'n clymu gwahanol rannau o Gymru at ei gilydd. Ychydig iawn yr wyf yn ei weld yn y rhestr honno o welliannau a gyhoeddwyd ddoe sy’n dangos inni ein bod yn creu system rheilffyrdd go iawn i Gymru gyfan. Wrth gwrs ceir gwelliannau—rwy’n gweld y cynnydd yn nifer y trenau ar lwybrau penodol, ar lawer o wahanol lwybrau, a gwelliannau i gymudwyr, a threnau newydd—ac mae hynny'n wych, ond ble mae creu system rheilffyrdd i Gymru gyfan?
O ran elw, i ddilyn y sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn gynharach, ni ddylid bod wedi preifateiddio’r rheilffyrdd fel y digwyddodd, ond maen nhw wedi’u preifateiddio. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw rheolaeth gyhoeddus go iawn dros yr arian sy'n llifo drwy’r system reilffyrdd. A allech roi mwy o sicrwydd inni ynglŷn â sut yr ydym ni'n cyfuno perfformiad gwell, yr ydym yn gobeithio ei gael gan y gweithredwr newydd, â sut yn union y caiff yr arian a gawn ni o’r perfformiad newydd hwnnw ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd? Dyna’r mathau o eglurhad sydd eu hangen arnom ni nawr. Gwnaethom golli rheolaeth dros y rheilffyrdd; aeth y rheilffyrdd yn beiriant pres. Roedd cwmnïau’n gallu gwneud elw—maent yn dal i allu gwneud elw. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hyn yn hollol ddiogel, ac rwy’n dal i aros i glywed bod hyn yn rheolaeth gyhoeddus lwyr dros y rheilffyrdd yng Nghymru.
O ran gweithredwyr rheilffyrdd nid-er-elw, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, 'Wel, ni allwn ei wneud. Mae'r gyfraith yn dweud na allwn ni gael system rheilffyrdd gyhoeddus.' Yr hyn y gallwn ei gael, wrth gwrs, a gwnaethom ymchwilio i hyn y tro diwethaf—[Torri ar draws.] Diolch am yr awgrym mai dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl. Buom yn edrych yn y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf ar y posibilrwydd o greu cyfrwng nid-er-elw, sy'n sicr yn rhywbeth a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth. A allwch chi ddweud wrthyf, fel cwestiwn olaf, pa ymdrechion a wnaeth y Llywodraeth i edrych ar y posibilrwydd o ddarganfod, datblygu, ceisio cyfrwng i ddarparu rheilffyrdd nid-er-elw? Os gwnaethoch chi geisio a methu, pam rhoi yn eich maniffestos yr hoffech chi gael system nid-er-elw? Os na wnaethoch chi geisio o gwbl, wel, beth ar y ddaear yr oeddech yn ei wneud, yn ei roi yn eich maniffestos? Fe adawaf bethau fel yna. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod ei neges yn anghyson braidd â’r neges a roddwyd yn gynharach gan arweinydd ei blaid, o ran croesawu'r cytundeb masnachfraint. Dylwn nodi bod arweinydd Plaid Cymru wedi disgrifio’r trefniadau newydd yn gynharach y prynhawn yma yn rhai ‘eilradd’.
Mae'n amlwg mai sefyllfa Plaid Cymru, o ran gosod y fasnachfraint hon, yw na fydden nhw wedi bod mewn unrhyw sefyllfa, pe baen nhw mewn grym, i wneud dim ond parhau â’r trefniadau masnachfraint presennol, oherwydd yn syml—[Torri ar draws.] Oherwydd yn syml nid yw'n bosibl sicrhau bod corff cyhoeddus yn gallu cynnal y rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn ôl y gyfraith. Rydym ni wedi ceisio newid y gyfraith honno, fel y mae pob plaid yn ei gydnabod. Gallai fod wedi digwydd—gallai mudiad nid-er-elw fod wedi ennill y contract pe baen nhw wedi gwneud cynnig, ond ni ddigwyddodd hynny, ac yn amlwg byddai gwladoli'n dal i fod yn well gennym. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt, rydym ni'n credu mai hon, o bell ffordd, oedd y fargen orau y gellid bod wedi ei tharo.
Yn wir, ymrwymodd Aelodau Plaid Cymru i adroddiad yn ddiweddar a oedd yn dweud, pe baem ni yn cyrraedd y pwynt lle’r ydym ni heddiw, y byddem ni wedi cyflawni uchelgais arwrol. Rydym ni wedi gwneud hynny, ac o fod â’r safbwynt hwnnw—un sydd mor ddi-ildio nes nad ydynt yn cydnabod bod angen inni fod yn bragmatig o ran dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd—mae'n awgrymu mai'r unig ffordd ymlaen i Blaid Cymru fyddai wedi bod i barhau gyda’r trefniadau presennol, a byddai pris hynny wedi bod yn enfawr: 16 y cant yn uwch o ran cymorthdaliadau. Felly, byddai Plaid, dros 15 mlynedd, wedi talu pris sy’n cyfateb i fwy na £300 miliwn ychwanegol: 16 y cant yn fwy. Rydym ni'n mynd i arbed 16 y cant o ganlyniad i'r cytundeb yr ydym ni wedi’i daro, a byddai’r gwasanaethau gwael y mae Aelodau eisoes wedi sôn amdanynt wedi parhau ac, wrth gwrs, bydd dros £28 miliwn o elw yn cronni bob blwyddyn. Mae hynny'n ffaith, pe baech chi wedi parhau gyda'r trefniadau presennol, a dyna’r unig beth y gallech fod wedi ei wneud, yn seiliedig ar eich dadl bresennol.
Os na all Plaid Cymru groesawu’r ffaith ein bod wedi cyflawni’r hyn a ddisgrifiodd eu Haelodau eu hunain yn uchelgais arwrol, yna does bosib—does bosib—na ddylai fod rhyw gydnabyddiaeth o'r manteision enfawr a ddaw i Gymru o ganlyniad i'r fasnachfraint newydd hon: £800 miliwn yn fwy ar gerbydau; £194 miliwn yn fwy ar orsafoedd; tocynnau hanner pris i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed; hanner y trenau’n cael eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n meddwl ei bod hi'n bryd cydnabod ein bod, weithiau, yn llwyddo. Rydym ni yn llwyddo ac rydym ni wedi llwyddo. Rydym ni wedi llwyddo i gyflawni trefniant masnachfraint ardderchog ar gyfer pobl Cymru.
Codwyd elw fel mater yn gynharach, a gan yr Aelod nawr. Roedd sôn am elw o 3 y cant yn gynharach, a 2.9 y cant. Wel, os edrychwch chi ar yr hyn y mae Arriva wedi bod yn ei wneud o ran elw: mae’r elw cyn treth yn ddiweddar wedi cyrraedd cymaint â 18.6 y cant; elw ar ôl treth, 6.9 y cant; talu difidendau o £20 miliwn i'r rhiant gwmni; buddsoddi dim ond £3 miliwn mewn—[Torri ar draws.]
Nid ni a lofnododd y contract hwnnw. Nid Llafur—. Corff cyhoeddus anadrannol oedd hwnnw. Gwnaethant gamgymeriad. Gwnaethant gamgymeriad, ac rwyf ar goedd droeon yn dweud eu bod wedi gwneud camgymeriad. Hoffwn pe bai’r rheini ar yr ochr honno i'r Siambr yn cyfaddef eu bod wedi bod yn barod iawn i feirniadu'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati i gaffael yr ymarfer hwn ar sawl achlysur, ond nawr yw'r amser i edifarhau oherwydd rydym ni wedi cyflawni hyn dros bobl Cymru.
Ac o ran y gweithredwr a'r partner datblygu’n gwneud elw, wel, mae'n ddiddorol, oherwydd mae gan Keolis ac Amey ill dau hanes rhagorol o ran cyflawni. Os edrychwch chi ar fodlonrwydd cwsmeriaid, yn wir, y ddau rwydwaith sy’n perfformio orau ar hyn o bryd yn y DU, o ran boddhad cwsmeriaid, yw rheilffordd ysgafn y dociau a system fetro Manceinion—Keolis sy’n gweithredu’r ddau. Ac o ran Amey: hanes rhagorol, fel y dylai’r Aelod wybod, oherwydd un o'r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt yw Cyngor Ynys Môn o dan reolaeth Plaid.
O ran ansawdd, ac mae’r Aelod yn hollol gywir i ddweud bod ansawdd y ddarpariaeth yn hollbwysig—gwnaf faddau iddo am beidio â bod wedi darllen y briff i gyd, oherwydd mae llawer iawn o wybodaeth yno—ond dywedodd y bydd yn rhaid i bobl deithio ar y cerbydau rhydlyd sydd gennym ni nawr. Roedd y datganiad yn dweud bod pob trên yn mynd i gael ei ddisodli, ac y bydd 95 y cant o’r holl deithiau teithwyr yn cael eu gwneud ar gerbydau newydd sbon erbyn 2023. [Torri ar draws.] Na, dywedodd yr Aelod y byddwn yn dal i weithredu cerbydau rhydlyd sydd gennym nawr. [Torri ar draws.] Na.
Pedair blynedd.
Na. Byddwn yn disodli’r unedau sydd ar waith ar hyn o bryd ar y brif reilffordd o’r gogledd i'r de. Rydym yn mynd i ddechrau defnyddio trenau Marc 4 sydd wedi’u hailosod a’u hadnewyddu. Pam? Wel, oherwydd yn ystod y broses ymgynghori—ac roedd 1,300 o bobl a sefydliadau wedi cymryd rhan yn y broses honno—dywedwyd wrthym fod angen gwella’r gwasanaeth gwerthfawr hwnnw o ran amseroedd teithio ac o ran ansawdd y ddarpariaeth. Ac felly, o ganlyniad, aeth y cynigwyr i chwilio am y cerbydau gorau i ddatrys y sefyllfa. Mae’r Marc 4 yn arweinydd dosbarth o ran cysur. Fe’i cydnabyddir fel un o'r trenau gorau o ran cysur teithwyr ac felly, am y rheswm hwnnw, byddant yn cael eu hailosod a byddwn yn dechrau eu defnyddio cyn gynted â phosibl.
O ran y trenau newydd a fydd yn gweithredu, a dweud y gwir, bydd yr unedau lluosog disel newydd yn gweithredu nid yn 2023-24, fel y mae’r Aelod newydd ddweud ar draws y Siambr. Yn y gogledd, y gwn y mae'r Aelod yn awyddus iawn i’w weld yn elwa o’r ymarfer hwn—. Gogledd Cymru fydd yr ardal gyntaf i elwa o’r unedau lluosog disel newydd yn 2022, ac o ran y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de y mae’r Aelod, eto, wedi cyfeirio ato ar sawl achlysur, nid yn unig y byddwn yn cynnal y lefel gwasanaeth bresennol, byddwn yn ei gwella gyda gwasanaethau i’r ddau gyfeiriad.
Dywedodd yr Aelod hefyd fod y cynnig arlwyo ar y trenau’n annigonol ar hyn o bryd, ac rwy’n cytuno. Dyna pam yr wyf wedi dweud, fel isafswm, y dylid cynnal y ddarpariaeth ar yr un lefel ym mhob man, a'i gwella lle bo hynny'n bosibl. Felly, o ganlyniad, yr hyn y mae’r cynigydd llwyddiannus wedi addo ei wneud yw gwella'r cynnig arlwyo ar y gwasanaeth a nodwyd gan yr Aelod. Ond nid dim ond y gwasanaeth hwnnw: caiff y cynnig arlwyo ei wella ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Mae'n gwbl hanfodol bod teithwyr yn disgwyl teithiau mwy cysurus, a gwell cynnig arlwyo. Ni fyddent wedi cael hynny pe baem wedi cadw’r cytundeb masnachfraint cyfredol, sef yr hyn y byddai’n rhaid i arweinydd Plaid Cymru ei wneud, ond byddant yn ei gael gyda’n cytundeb masnachfraint ni.
Ac o ran trafnidiaeth yn dod â phobl yn nes at ei gilydd, mae llawer o enghreifftiau o sut y bydd hyn yn dod â phobl yn nes at ei gilydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn fudiad nid-er-elw cenedlaethol sy'n gyfrifol am oruchwylio’r cytundeb masnachfraint presennol a gwneud yn siŵr bod gwelliannau i’r rhwydwaith yn cael eu gwneud yn gyflym ac o fewn y gyllideb. Ond o ran rhai o'r enghreifftiau o sut y bydd hyn yn dod â phobl yn nes at ei gilydd, o fis Rhagfyr eleni ymlaen bydd gwasanaethau newydd; cyflwynir newidiadau yn 2019; a bydd 22 y cant yn fwy o filltiroedd ar ddydd Sul o 2019 ymlaen. Caerdydd Canolog i Ben-y-bont ar Ogwr: enghraifft berffaith o sut y gallwn ni ddod â phobl yn nes at ei gilydd. Bydd datrysiad cyson pedwar-trên-yr-awr o 2019 ymlaen. Gallwn roi rhagor o enghreifftiau. Mae’r rhestr yno, yn barod i Aelodau ei gweld, os ydynt yn dymuno. Mae pob un gwelliant i’r gwasanaeth yn dangos sut yr ydym yn uno’r wlad yn well, yn dod â phobl yn nes at ei gilydd ac yn dod â phobl yn nes at eu mannau gwaith yn gyflymach yn ogystal.
O ran elw, mae'r Aelod yn gywir, mae angen ailfuddsoddi elw lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Rydym yn capio elw’r gweithredwr a'r partner datblygu, a chaiff pob gormodedd ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith. Byddwn yn monitro perfformiad y gweithredwr, a byddwn hefyd yn edrych ar ddefnyddio cymalau toriad fel modd o sicrhau eu bod yn cyflawni yn erbyn y cynigion y maent wedi eu hamlinellu yn eu cynnig caffael.
O ran y cwestiwn nid-er-elw—a allai mudiad nid-er-elw weithredu’r gwasanaethau rheilffyrdd—unwaith eto, rhaid imi bwysleisio nad oedd dim i atal mudiad nid-er-elw rhag ymgeisio. Yn anffodus, ni wnaeth un—[Torri ar draws.] Roeddem yn annog un, ac yn wir, roedd hynny yn ein maniffesto. Dyna pam yr oeddem yn annog mudiad nid-er-elw. Yn anffodus, ni ddaeth un ymlaen.
Y pwynt allweddol yma, Llywydd, yw budd y teithwyr. Dyna sydd bwysicaf, ac rydym yn darparu trefniant masnachfraint o'r radd flaenaf i bobl Cymru.
Wel, efallai y dylwn nodi ei bod yn debygol y talwyd am y trenau gwych hynny y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt ar y cyfandir â’r biliynau o bunnoedd y mae Prydain wedi’u harllwys i mewn i Ewrop dros y 40 mlynedd diwethaf.
Ond, i symud ymlaen, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, sy'n rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r hyn y disgwylir i’r fasnachfraint newydd ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf? Rhaid imi ddweud, ceir rhai addewidion deniadol iawn a ddylai tawelu hyd yn oed y sylwebyddion mwyaf beirniadol. Mae gwelliannau i orsafoedd a cherbydau ac amserlenni llawer iawn mwy yn argoeli'n dda i ddyfodol teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau. Mae’n sicr yn ymddangos bod modd cyfiawnhau'r broses ddeialog gystadleuol o edrych ar yr ymrwymiadau yr ydych chi wedi’u sicrhau gan y masnachfreiniwr buddugol.
Rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o ddyheadau yn hytrach na chanlyniadau, felly mae'n braf gwybod eich bod wedi cynnwys cymalau sy'n caniatáu ichi derfynu contractau ar ôl pump a 10 mlynedd os nad yw gweithredwr y fasnachfraint yn darparu fel y rhagwelwyd. Ceir llawer o welliannau i amlder ac amseroedd gwasanaethau a ddylai, ynghyd â’r cynnydd mewn capasiti a ddarperir gan gerbydau newydd a mwy niferus, ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd y mae ei ddirfawr angen i wella boddhad teithwyr.
Dim ond un nodyn o siom, fel Aelod o’r de, a hwnnw yw, er eich bod yn sôn am wasanaethau ychwanegol, gwell cerbydau a gwelliannau i reilffordd Glynebwy, un peth sy’n dal i fod yn amlwg wedi’i hepgor yw ymrwymiad i gyswllt rheilffordd i Gasnewydd. Pan holais Trenau Arriva pam na ellid cyflawni’r cyswllt hwn, dywedasant fod y rheilffordd yn llawn gyda'r gwasanaeth i Gaerdydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd y gwelliannau newydd i reilffordd Glynebwy o’r diwedd yn creu digon o gapasiti ar gyfer y cyswllt â Chasnewydd y mae ei ddirfawr angen? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, am ei gwestiynau ac am roi croeso cynnes i'r cyhoeddiad, ac a gaf i ddiolch iddo am groesawu ar achlysuron blaenorol hefyd y broses yr ydym ni wedi’i defnyddio i gaffael gweithredwr masnachfraint Cymru a’r gororau, sef deialog gystadleuol?
Rwy’n meddwl ei bod yn enghraifft ddiddorol o sut, drwy ddefnyddio dull creadigol ac arloesol, rydym ni wedi gallu dangos i weddill y DU sut efallai y dylid caffael contractau rheilffyrdd yn y dyfodol. Cyn hyn, mae masnachfreintiau wedi cael eu gosod drwy i Lywodraethau anfon fan fawr o fanylebau ac wedyn bod cynigwyr wedi dod yn ôl gyda phris, ac nid yw’r ffordd honno o fynd ati i gaffael contractwr wedi cymell cynigwyr i wneud dim mwy na chynnig y gost isaf bosibl ac, felly, byddent yn aml yn darparu darpariaeth anghynaladwy. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld methiant trefniadau masnachfraint ledled y DU. Rydyn ni wedi troi hynny ar ei ben a drwy broses o ddarparu amlen ariannu ac ymrwymo i ddeialog gystadleuol, rydym ni wedi dweud wrth gynigwyr: 'Dyma’r amlen; dyma’r swm mwyaf o arian sydd ar gael; beth allwch chi ei wneud ag ef?' Ac yna rydym ni wedi ymestyn ac ymestyn er mwyn sicrhau y cawn ni'r trefniadau gorau posibl, ac rwy’n meddwl mai dyna pam ein bod ni wedi gallu taro bargen mor gadarnhaol i bobl ar hyd a lled Cymru.
Mae'r Aelod yn hollol gywir bod angen gwella cerbydau. Darperir dros 140 o drenau newydd ar gyfer y rhwydwaith ac, wrth gwrs, caiff mwy na hanner y rheini eu hadeiladu yng Nghymru. Caiff pob un o'r 247 o orsafoedd eu huwchraddio. Mae'n dipyn o ffaith, a dweud y gwir, ein bod yn credu bod oddeutu £600,000 wedi'i wario ar orsafoedd yn y trefniant masnachfraint presennol dros y 15 mlynedd diwethaf. Ar y llaw arall, bydd y ffigur yn £194 miliwn yn y fasnachfraint nesaf—tipyn o gyferbyniad, ac rwy’n meddwl bod hynny'n dangos unwaith eto pam yr oedd y trefniant masnachfraint blaenorol yn anaddas, tra bod y trefniadau presennol yr ydym ni wedi cytuno arnynt yn wych i deithwyr a chymunedau fel ei gilydd.
Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod bod ymgyrch y South Wales Argus ar gyfer gwasanaethau o Lynebwy i Gasnewydd wedi bod yn llwyddiannus, a bod yr Aelodau wedi cyflawni’r hyn y maent wedi dymuno ei wneud ers blynyddoedd lawer oherwydd o fewn y trefniant masnachfraint bydd un trên bob awr yn gweithredu rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Mae'n rhywbeth y dywedodd llawer o bobl yn ystod yr ymarfer ymgynghori fod ei angen arnynt, fod ei eisiau arnynt, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ei ddarparu.
Croesawaf y cyhoeddiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n meddwl ei fod yn gadarnhaol iawn ac yn gyffrous iawn a bydd yn dod â manteision mawr i Gymru. Yn sicr, rwy’n croesawu’r dull caffael; rwy’n meddwl y bydd yn arwain at wasanaeth sy'n canolbwyntio mwy ar y teithwyr, ac rwy’n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei lwyddiant.
Hoffwn roi croeso arbennig i un—. Rwy’n croesawu’r pwyslais ar gyflwyno trenau trydan a’r ymrwymiad i gael y trydan o ffynonellau adnewyddadwy—50 y cant oddi mewn i Gymru; rwy’n meddwl bod hynny'n gam mawr ymlaen—a hefyd defnyddio trenau tri-moddol, a fydd yn lleihau amhariadau ar reilffyrdd y Cymoedd.
Mae fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd bob amser yn cwyno nad ydynt yn gallu mynd ar y trenau neu fod y trenau mor orlawn nes bod y daith yn anodd iawn, felly rwy’n falch iawn y bydd, rwy’n meddwl, 45 y cant yn fwy o seddau yn y cyfnod prysur yn y bore. Felly, rwy’n meddwl y bydd hynny’n help mawr i'm hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd.
Rwyf hefyd yn falch iawn am y gorsafoedd newydd a gynigir. Mae gorsaf newydd wedi’i chynnig o’r enw gorsaf Gabalfa. Nawr, nid yw honno yn union lle’r oeddwn wedi disgwyl iddi fod; a dweud y gwir, mae hi yn ward Gogledd Llandaf. Rwy’n ei chroesawu, ond tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y penderfynwyd ble yn union i’w lleoli, oherwydd nid yw'n union yn lle y meddyliais i y byddai, ac a yw hynny wedi’i gadarnhau hefyd. Yn sicr mae angen gorsaf yn yr ardal honno, ond rwy’n meddwl y byddai o fantais ei rhoi mewn lle ychydig yn wahanol.
Roedd hefyd yn ddiddorol iawn gweld bod cynlluniau i ddatblygu cyswllt cangen metro â chanolfan canser Felindre, sy'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn awyddus iawn i’w weld, oherwydd, yn amlwg, gan fod niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio gwasanaethau'r Felindre, yn enwedig gan fod y boblogaeth yn heneiddio, rwy’n meddwl y byddai darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n mynd yn syth i Felindre fel hyn yn ddelfrydol. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o fanylion am y cynlluniau ar gyfer y gwaith trawslywodraethol ynglŷn â hyn, y cyfeirir ato yn ei ddatganiad ddoe.
Yn olaf, hoffwn ategu eich galwad ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb am y fasnachfraint rhwng dinasoedd rhwng Cymru a gweddill y DU.
A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau ac unwaith eto am roi croeso cynnes i'r cyhoeddiad?
Rwyf innau’n falch iawn bod y cynigiwr a ffefrir wedi gallu cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer lleihau allyriadau carbon—gostyngiad 25 y cant yn y pum mlynedd nesaf—ac, yn fwy na thebyg yn bwysicach, yr addewid y bydd 100 y cant o’r trydan i’w ddefnyddio i drydaneiddio gwasanaethau’n adnewyddadwy, ac y bydd 50 y cant ohono’n dod o Gymru. Gyda’r trenau tri-moddol, gyda’n trenau batri, rwy’n meddwl ein bod yn dangos bod Cymru yn arloesol fel darparwyr trydaneiddio i’r unfed ganrif ar hugain. Tan yn ddiweddar, y dyb erioed oedd mai’r unig ffordd o drydaneiddio fyddai drwy osod nifer enfawr o beilonau, ceblau ym mhobman, ond, a dweud y gwir, nid yw hynny'n wir. Yn ddiweddar tynnwyd sylw yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod potensial trenau pŵer hydrogen a batri heddiw yn enfawr. Mae rhai gwledydd, a bod yn deg, wedi bod yn gweithredu’r mathau hynny o welliannau technolegol ers blynyddoedd lawer—mae Japan, er enghraifft, wedi bod yn defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg ers dros ddegawd—ond ychydig iawn yn y DU. Felly, rwy’n falch iawn y bydd Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio ynni adnewyddadwy, defnyddio ffurf newydd ar drydaneiddio, ac arloesi yn y ffordd honno.
Rwyf hefyd yn falch, fel y nododd yr Aelod, y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn capasiti. Rwy’n meddwl bod y ffaith syfrdanol y bydd cynnydd o 65 y cant ym maint y fflyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau a'r ardal fetro yn dangos potensial mawr iawn, iawn nawr i gwrdd â’r twf disgwyliedig yn nifer y teithwyr, sydd ar hyn o bryd o gwmpas 74 y cant erbyn 2030. Felly, yn amlwg, mae’r hyn y mae’r cynigydd, y mae KeolisAmey, wedi’i ddarparu o fewn eu cynnig caffael yn bodloni disgwyliadau teithwyr o ran y galw am seddi.
O ran lleoli gorsafoedd newydd, wel, penderfynwyd ar hyn ar sail argaeledd tir ac eiddo a'r posibilrwydd o integreiddio â mathau eraill o drafnidiaeth—bysiau, teithio llesol, parcio a theithio strategol—a hefyd yr angen i integreiddio gyda chynllunio tir strategol ar gyfer datblygiadau newydd ac, wrth gwrs, yr angen i’w lleoli mewn ardaloedd strategol bwysig i bobl allu eu defnyddio o'u cartrefi ac o'u gwaith. Rwy’n hapus i drafod ymhellach lleoliad yr orsaf benodol y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ati, ond mae'r Aelod yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y sbardun a fydd yn gwasanaethu Felindre, bod hyn yn enghraifft wych o integreiddio gwasanaethau cyhoeddus gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.
O ran gweithio trawslywodraethol, rwy’n awyddus i barhau i drafod gyda'm cyd-Aelodau, yn arbennig mewn llywodraeth leol ac mewn iechyd ac mewn cynllunio, i sicrhau, lle mae seilwaith cymdeithasol yn cael ei greu, ei fod yn cyfateb yn berffaith i’r seilwaith trafnidiaeth sydd hefyd yn cael ei gynllunio ar gyfer yr ardaloedd hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwrando ar Blaid Cymru heddiw wedi fy atgoffa o hen gynrychiolydd undeb gweithwyr ffowndri a aeth, pan oedd ei weithwyr wedi bod allan ar streic, i drafodaethau. Daeth allan wedyn a dweud wrth ei aelodau, cyfarfod torfol o’r aelodau—dywedodd, 'Wel,' dywedodd, 'frodyr a chwiorydd,' meddai, 'rwyf wedi negodi wythnos ychwanegol o dâl gwyliau,' dywedodd, 'rwyf wedi negodi cynnydd 10 y cant, ac nid yn unig hynny', meddai , 'dim ond ar ddydd Gwener y byddwch yn gorfod gweithio.' Ac mae’r dyn yn y cefn yn gweiddi, 'Beth? Bob dydd Gwener?' Mae’n rhaid imi dybio mai aelod o Blaid Cymru oedd hwnnw oherwydd, o wrando ar eu sylwadau heddiw, mae’n ymddangos i mi nad oes dim byd am yr holl becyn hwn sydd o unrhyw fudd. Wel, gallaf ddweud wrthych chi, yn sicr, yn fy etholaeth i, bod Trafnidiaeth Cymru, yn gyntaf oll, yn dod i Bontypridd, yn mynd i adfywio'r dref honno yn sylweddol. Mae eisoes yn cael yr effaith honno: 500 i 1,000 o swyddi. Mae’r gwaith cynnal a chadw cerbydau newydd yn fy etholaeth i, yn Ffynnon Taf, sy’n creu rhai cannoedd o swyddi, hefyd yn rhywbeth y mae croeso mawr iddo gan bobl Pontypridd a Thaf Elái. Ac mae'r ffaith bod gennym ni bellach yng Ngholeg y Cymoedd rai o'r rhaglenni hyfforddiant gorau, ac rwy’n falch o weld eich bod wedi dod i Nantgarw i’r lansiad, eto yn bwysig iawn—pwysig iawn oherwydd, wrth gwrs, bydd rhai ohonom yn cofio mai dyna oedd safle hen waith glo a golosg Nantgarw; am ardal wedi’i hadfywio. Hefyd mae’r ffaith, nawr, wrth gwrs, bod gorsaf Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn mynd i symud, a hoffwn ichi efallai roi rhyw sylw am yr union amserlen a'r raddfa amser ar gyfer y symudiad hwnnw yn agosach at Nantgarw.
A allech chi hefyd efallai amlinellu’r manteision a fydd yno, yn enwedig i bobl ifanc 16 i 18 oed, o ran y gyfundrefn tocynnau, oherwydd mae hynny wedi bod o fudd sylweddol, a hefyd efallai rywbryd a ydych yn ystyried ymestyn—wrth imi ddatgan buddiant yma—y cerdyn teithio rhatach i bobl dros 60 oed i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn ogystal?
A gaf i hefyd ofyn ichi am gadarnhad y bydd yn bendant, yn unol â thrafodaethau ag ASLEF a’r undebau llafur RMT, gardiaid ar y trenau? Mae pobl yn hoff o weld gardiaid ar y trenau. Maent yn eu gweld yn rhywbeth sy'n eu cadw’n ddiogel, yn rhoi cysur a hyder iddynt yn y rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'n rhywbeth sydd wedi’i golli mewn meysydd eraill.
Ac a gaf i wedyn ofyn ichi am un pwynt olaf cyn cloi? Sef, wrth gwrs, y bydd y rhan fwyaf o'r trenau hyn yn weithredol erbyn 2023. Mae angen inni ddechrau paratoi nawr am y cyfnod nesaf, a byddwch yn gwybod fy mod wedi sôn wrthych, wrth gwrs, am fater y rheilffordd yn mynd i fyny i Lantrisant. Ac, wrth gwrs, cefais neges drydar yn gynharach heddiw yn dweud bod Nessie o'r diwedd wedi cael ei gweld ar ei ffordd i fyny tuag at yr A470, ac rwyf wedi trydar yn ôl yn dweud, wel, rydym yn gobeithio mai dim ond aros ennyd y mae Nessie ac y bydd yn awr yn mynd i fyny tuag at Lantrisant lle’r ydym i gyd yn aros i’w gweld hi yno.
A gaf i ddiolch i Mike Antoniw am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Rwy’n meddwl ei fod yn tynnu sylw at ddatblygiad pwysig iawn yn ei etholaeth ei hun, sef sefydlu Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd. Gallai hynny fod yn enghraifft berffaith o sut y gallwn ddefnyddio seilwaith trafnidiaeth, busnes sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, i sbarduno twf economaidd ledled Cymru. Ac rwy’n arbennig o awyddus i wneud yn siŵr ein bod, o'r cytundeb masnachfraint hwn, yn cymryd pob cyfle posibl i sbarduno twf economaidd mewn ffordd gynhwysol ledled Cymru.
Roeddwn hefyd yn falch iawn bod lansiad y fasnachfraint newydd wedi digwydd yng nghyfleuster rheilffordd Nantgarw, cyfleuster sy’n dod â gobaith a chyfle i bobl ifanc ac, unwaith eto, a fydd yn dod yn gyfleuster pwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i’r union gytundeb masnachfraint hwn.
O ran yr amserlen ar gyfer symud y soniodd yr Aelod amdani, gallaf gael mwy o fanylion i’r Aelod am hynny, ond rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith sy’n ofynnol mewn modd amserol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu rhedeg yn ôl y disgwyl erbyn y dyddiad arfaethedig 2023.
O ran teithio rhatach i bobl ifanc, wrth gwrs, rydym yn ymestyn teithio am ddim o blant dan bump oed i blant dan 11 oed. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd rhatach, neu docynnau rhatach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed, gan haneru cost tocynnau i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed. A byddwn hefyd yn cynnig teithio am ddim ar adegau tawel i blant 11 i 16 mlwydd oed sy'n teithio gydag oedolyn ar rai gwasanaethau—unwaith eto, yn hanfodol bwysig er mwyn cysylltu teuluoedd â'i gilydd, yn enwedig ar benwythnosau, pan fyddant efallai am fynd i wylio gêm rygbi neu gêm bêl-droed, neu unrhyw fath arall o chwaraeon neu weithgarwch diwylliannol. A bydd y budd penodol hwn yn berthnasol i deuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd. Cedwir y trefniadau presennol ar gyfer pobl dros 60 oed, ac rwy’n cytuno ei bod yn hanfodol bwysig bod gard neu ail unigolyn ar y trên, nid yn unig ar gyfer diogelwch y trên, ond ar gyfer diogelwch teithwyr hefyd.
Ac, o ran symud y tu hwnt i 2023, mae'r metro yn cael ei lunio yn y fath fodd fel y gellir ei ymestyn, ac rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl mewn cymunedau lle ceir cyfran uchel o bobl na allant eto deithio i’r gwaith yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael y cyfle i wneud hynny yn y dyfodol drwy ymestyn y metro ac, yn wir, nid dim ond ymestyn y metro yn y de-ddwyrain, ond hefyd ledled Cymru, a gweld gwasanaethau’n cael eu hehangu drwy fuddsoddi yn y dyfodol yn y seilwaith ac yn y trenau sy’n teithio arno.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer y datganiad hwn, ond, o ystyried ei bwysigrwydd, gwnaf ymestyn yr amser datganiadau ychydig, ond os caf alw ar Aelodau i fod yn gryno yn eu cwestiynau—. Nick Ramsay.
Dim ond un cwestiwn gennyf fi, diolch, Llywydd. Rwyf finnau’n croesawu eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch ichi am drefnu’r papur briffio. Euthum i'r un brecwast y bore yma, ac roedd yn ysbrydoledig. Mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n unol â’r cynllun, ond roedd yr hyn a welais yn gadarnhaol iawn.
A gaf ofyn ichi am ymrwymiad KeolisAmey i fynediad i bobl anabl yn ein gorsafoedd rheilffordd a hygyrchedd cyffredinol? Bu problemau parhaus gyda mynediad gwael i bobl anabl yng ngorsaf y Fenni yn fy etholaeth i ers blynyddoedd lawer bellach, ac yn sicr o dan fasnachfraint Arriva. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda KeolisAmey ynglŷn â’r problemau yn yr orsaf arbennig honno? Pa atebion y maent yn eu cynnig? A wnaiff y fasnachfraint newydd ddatrys y problemau hyn a pha mor hir fydd hi cyn i bobl yn y Fenni weld y gwelliannau o ran mynediad y mae eu hangen yn daer yn yr orsaf honno?
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am groesawu'r cyhoeddiad, a diolch hefyd i Nick a phob Aelod arall a ddaeth i'r cyfarfod brecwast briffio am gymryd rhan yn hwnnw? Oherwydd fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu rhannu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl gydag Aelodau, a fydd wedyn yn ddiamau yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i etholwyr.
Roedd hygyrchedd i bobl anabl yn ystyriaeth allweddol, nid yn unig yn yr ymarfer caffael, ond hefyd yn y gwaith a wnaeth y pwyllgor economi a seilwaith wrth edrych ar drefniadau masnachfraint ar gyfer y dyfodol. Rwy'n arbennig o falch na fydd unrhyw orsafoedd ar y map metro â mynediad grisiau yn unig. Caiff pob gorsaf sylw, a bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod hygyrchedd i bobl anabl yn gwella. Mae gorsaf Y Fenni yn un o'r gorsafoedd hynny a fydd yn gweld gwelliannau. Yn ogystal â hynny, mae £15 miliwn yn cael ei roi ar gael i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd y tu allan i ardal y metro, gan eto gynnig cyfleoedd i bobl allu teithio ar drenau o orsafoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn addas iddyn nhw eu defnyddio.
O ran yr amserlen, bydd y gwaith a gaiff ei wneud rhwng nawr a 2023, pan fydd y gwasanaethau metro yn llwyr weithredol, yn cynnwys y gwaith angenrheidiol o ran hygyrchedd. Nid wyf i'n gwybod ymhle yn union y daw'r Fenni o ran yr amserlen ar gyfer y gwaith seilwaith y mae angen ei wneud, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod, ac aelodau eraill, cyn gynted ag y gallaf gyda manylion am yr amserlen benodol y bydd y gorsafoedd hynny yn cael eu gwella oddi mewn iddi.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Mae e newydd grybwyll rhai o'r ffyrdd y gall y fasnachfraint newydd arbed ar garbon; a wnaiff e gadarnhau yn benodol y byddwn ni'n gweld trenau sy'n defnyddio hydrogen fel rhan o'r cynllun yma dros y 15 mlynedd nesaf? Mae trenau o'r math eisoes yn rhedeg yn rhanbarthau o'r Almaen, ac mae'n ffordd, fel mae e wedi awgrymu, o neidio heibio'r cwlwm trydaneiddio sydd gyda ni ar hyn o bryd a chyflwyno rhywbeth gwell yn syth bin i bobl yng Nghymru.
Yr ail beth rydw i eisiau jest gofyn iddo fe yw ynglŷn â'r seilwaith ariannol sydd tu ôl i hwn i gyd. Rydym ni'n gwybod rhywfaint—nid y cyfan, achos mae'n fasnachol—ynglŷn â chostau, ond ddydd Gwener gwnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â thaliadau mynediad ar gyfer y rheilffyrdd, ac roedd e'n dda gennyf weld eich bod chi wedi dod i gytundeb erbyn hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond nid yw manylion y cytundeb ar gael eto. A wnewch chi gadarnhau pryd fydd y manylion a'r cytundeb yn cael eu cyhoeddi fel bod modd i ni graffu ar hynny? Byddwch chi'n cofio, wrth gwrs, os nad ŷch chi'n dod i gytundeb, i bob pwrpas, y byddwch chi'n talu £1 biliwn dros 15 mlynedd er mwyn cael y mynediad o dan y system bresennol. Rydych chi'n dweud bod hynny'n dod i ben—grêt—ond rydych chi hefyd yn dweud eich bod chi wedi gorfod cytuno, o dan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol, i dalu dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. O ystyried bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ond yn rhoi £125 o miliwn tuag at fetro'r de, mae hynny'n enghraifft, mae'n amlwg i fi, o roi mewn un llaw a chymryd gyda'r llaw arall. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim fawr well o gyfraniad gan y Llywodraeth sydd yn dal yn gyfrifol—gan nad ydyn nhw wedi datganoli rheilffyrdd—am y rheilffyrdd drwy'r Deyrnas Gyfunol. A fedrwch chi jest rhoi bach mwy o gnawd ar y symiau hynny, a hefyd esbonio pryd byddwch chi'n cyhoeddi'r datganiad a chytundeb yn llawn, fel bod cyfle i ni, efallai, graffu yn ofalus iawn ar y cytundeb ariannol yma?
A gaf i ddiolch i Simon Thomas am ei gwestiynau? Rwy'n credu y bydd y defnydd o drenau hydrogen yn cael ei weld yn fwy eang yn y blynyddoedd i ddod. Maen nhw'n dal i fod dan brawf mewn rhai amgylchiadau ac ar rai rheilffyrdd, ond yn fy marn i byddwn yn gweld llawer mwy o enghreifftiau o drenau hydrogen ar rwydweithiau rheilffyrdd ledled y byd yn y degawd nesaf neu oddeutu hynny. Nid oedden nhw yn cynrychioli unrhyw ran o'r cynnig gan weithredwr y fasnachfraint. Er hynny, pe byddai elw dros ben yn y dyfodol yn cael ei ailfuddsoddi mewn cerbydau newydd, yna yn sicr gellid ystyried trenau hydrogen, yn arbennig wrth inni gyflwyno cysyniadau metro mewn mannau eraill yng Nghymru. Yn hytrach, mae trydaneiddio'r unfed ganrif ar hugain—os mynnwch chi, trydaneiddio'r genhedlaeth nesaf—wedi cael ei ddefnyddio, gyda phŵer batri. Mae rhai pobl yn dal i hiraethu am y dyddiau pan oedd peilonau a cheblau yn arwydd o'r dyfodol. Wel, mewn ffordd debyg i'r ffordd y mae'r iPhone a'r iPad yn dangos nad oes angen ichi fod â'ch cyfrifiadur Apple wedi'i blwgio i mewn, felly hefyd y mae'r trenau batri yn dangos nad oes angen ichi gael ceblau ym mhobman. Efallai mai'r cam naturiol nesaf fydd hydrogen—nid ydym yn gwybod beth fydd y farchnad yn galw amdano eto. Ond, yn sicr, wrth inni archwilio datblygu trenau hydrogen a pha mor ddibynadwy ydyn nhw, bydd yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw ailfuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y dyfodol ac ailfuddsoddi mewn cerbydau yn y dyfodol.
O ran taliadau ar gyfer defnydd o'r cledrau, byddaf yn fwy na pharod i ysgrifennu at Aelodau gyda manylion y cytundeb y daethpwyd iddo gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau wedi dod i gytundeb yn dilyn yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn drafodaethau cadarnhaol iawn sydd wedi eu cynnal ers mis Medi 2017. Mae'r Aelod yn gwbl gywir fod y cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymdrin â'r hyn yr adroddwyd yn eang amdano y llynedd, pan fyddai angen i Lywodraeth Cymru fod wedi talu dros £1 biliwn i Lywodraeth y DU dros y 15 mlynedd nesaf mewn taliadau i ddefnyddio cledrau. Yn y bôn rydym wedi rhwystro trethdalwyr Cymru rhag gorfod ysgwyddo baich y rhan fwyaf o £1 biliwn, a chyda terfyniad y taliad cymwysedig hwn rydym wedi cytuno ar drefniant newydd, yn debyg i'r trefniadau sydd ar waith rhwng y rhai sy'n gweithredu'r masnachfreintiau yn Lloegr â'r Adran Drafnidiaeth, sydd hefyd yn cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, y modd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu, yn ei dro, mai'r costau tâl a ragolygir ar gyfer y defnydd yn y cais fydd yr hyn a delir am y 15 mlynedd nesaf. Yn sgil y cymhlethdodau o ran yr adolygiad presennol o wariant, gwneir dau daliad addasedig pellach hyd at 2020, fel y nododd yr Aelod.
Mae'n werth ailadrodd bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi ailgadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi £125 miliwn o gyllid tuag at fetro de-ddwyrain Cymru ac y bydd yr Adran Drafnidiaeth yn ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Lloegr yn unig hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i roi mwy o fanylion ar y cytundeb.
Fel cyd-Aelodau ar y meinciau hyn, rwy'n awyddus iawn i ddathlu'r cyfan yr ydych wedi llwyddo i'w gyflawni. Rwy'n credu bod manteision enfawr yn deillio o'r contract newydd hwn. Yn amlwg, mae gallu prynu ein tocynnau ar y ffôn a thocynnau integredig fel bod y daith lawn yn cael ei chwblhau o phan fyddwn yn mynd o gartref i'n cyrchfan ac yn ôl eto—mae hynny'n gwbl wych. A hefyd mae bod â'r gallu i adeiladu ein cerbydau newydd yng Nghymru yn golygu y gallwn ymateb yn gyflymach o lawer pan fo'r galw yn cynyddu.
Mae gennyf i un cwestiwn penodol. Yn eich datganiad ddoe roeddech chi'n sôn am 45 y cant yn fwy o seddau ar gael i fynd i mewn i Gaerdydd yn ystod oriau brig y bore, ac roeddwn yn meddwl tybed a fydd hynny'n ddigon o gofio bod gennym 80,000 o bobl ar hyn o bryd yn cymudo i Gaerdydd, sydd yn gwbl annerbyniol. Byddai'n ddefnydd llawer mwy cynhyrchiol o'u taith i'r gwaith pe bydden nhw'n yn eistedd ar y trên yn llunio eu hadroddiadau neu'n darllen eu negeseuon e-bost. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fydd cynnydd o'r fath yn ddigonol o gofio ein bod nid yn unig yn dymuno eu gweld yn dod i mewn ar y trên, ond bod angen inni eu gweld yn dod ar y trên am resymau da iawn o ran iechyd y cyhoedd hefyd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae'r Aelod yn llygad ei lle bod yn rhaid i'r dechnoleg newydd gael ei defnyddio gan y gweithredwr. Mae hi yn cael ei defnyddio, ac mae'n werth i mi rannu gydag aelodau fwy o fanylion am y system ad-dalu a gaiff ei gweithredu. Bydd yn awtomatig, ac felly bydd unrhyw deithiwr a fydd yn dioddef oedi am 15 munud neu fwy yn cael ad-daliad ar bris ei docyn yn awtomatig. Mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Ewrop, ac rwy'n falch iawn y byddwn ninnau'n cyflwyno'r trefniant hwnnw yma yng Nghymru.
Rwy'n ffyddiog y bydd nifer y seddau ychwanegol yn ddigonol i deithwyr, ac mae'n werth tanlinellu'r pwynt hefyd y bydd cosbau ar gyfer y gweithredwr pan fo unrhyw un yn gorfod bod ar ei draed am fwy nag 20 munud. Yn ogystal â'r cynnydd yn nifer y seddau, bydd ychwaneg o le ar drenau ar gyfer beiciau a ffurfiau eraill o deithio a roir ar drên, gan gynnwys cadeiriau olwyn, oherwydd wrth gwrs bod angen inni integreiddio trafnidiaeth mewn modd llawer gwell, ac os na allwch chi roi eich beic ar y trên ni allwch wedyn fynd ar ei gefn y pellter byr hwnnw, y filltir olaf un honno, fel y'i gelwir yn aml, i'r gwaith. Ceir hefyd rai cynigion cyffrous yn y trefniant masnachfraint ar gyfer y filltir olaf honno i'r gwaith, a byddaf yn falch o gael eu rhannu â'r Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Hoffwn roi fy niolch ar y cofnod am gyflawni’r capasiti ychwanegol ar reilffordd Glynebwy, gan sicrhau y bydd y cyswllt yn aros yng Nghasnewydd hefyd. Mae hyn i'w groesawu'n fawr yn y rhanbarth ac yn arbennig yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd. Roedd hi'n wych cael deffro i ddarllen pennawd y South Wales Argus fore heddiw a oedd yn dweud, 'O'r diwedd!', a chredaf fod hynny yn crynhoi'r hyn y mae llawer ohonom wedi bod yn aros amdano. Gorsaf trenau Casnewydd yw'r ail orsaf trenau brysuraf yng Nghymru. Bydd cysylltu cymoedd Gwent a rhannau o Gasnewydd fel Tŷ-du a Rhiwderyn â chanol y ddinas yn helpu i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd.
Mae'n hanfodol bwysig fod teithio ar drên yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bobl ifanc, a chroesawaf y cyhoeddiad fod tocynnau rhatach wedi'u hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno bod galluogi pobl ifanc i symud yn rhwydd ac yn fforddiadwy ledled y rhanbarth ar gyfer cyfleoedd am addysg a chyflogaeth nid yn unig yn annog defnyddio cludiant cyhoeddus ond hefyd yn cyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer twf cynhwysol?
Yn hollol; allwn i ddim cytuno mwy â chi. Mae'n ffaith frawychus, mewn rhai rhannau o Gymru, na all un o bob pump o bobl ifanc hyd yn oed gyrraedd eu cyfweliad am swydd oherwydd na allan nhw fforddio'r cludiant cyhoeddus sydd ei angen arnyn nhw i gyrraedd eu cyfweliad. Felly, yn sicr bydd cynllun tocynnau hanner pris i rai 16 i 18 mlwydd oed yn helpu i sbarduno twf cynhwysol ledled Cymru a sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael cyfweliadau am swyddi a mynd yn ôl a blaen i'r gwaith.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle, yng Nghasnewydd mae'r ail orsaf brysuraf yng Nghymru, a bydd yn bwysig ei bod hi, fel pob gorsaf arall, yn cael swm da o fuddsoddiad i'w chynnal fel gorsaf ddymunol i edrych arni, ond hefyd yn un sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf fel bod y teithwyr yn gyfforddus wrth deithio ar wasanaethau dibynadwy. Rwy'n falch hefyd y bydd gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd o 2021 ymlaen.
Ac yn olaf, Darren Millar.
A gaf innau hefyd ddiolch ichi am eich datganiad? Rwy'n falch iawn y bydd yna rai gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hi'n hen bryd yn fy marn i, fel un sy'n teithio'n rheolaidd rhwng y gogledd a'r de. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau, er hynny.
Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau wedi bod yn awyddus iawn i weld cyswllt rheilffordd uniongyrchol â Lerpwl yn cael ei sefydlu a bydd hynny yn digwydd gobeithio ym mis Rhagfyr eleni, sydd yn newyddion da dros ben. Ond un peth na wnaethoch chi sôn amdano mewn unrhyw un o'ch datganiadau hyd y gwelaf i oedd y cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol i feysydd awyr Lerpwl a Manceinion, sydd wrth gwrs yn gynyddol bwysig wrth i Gymru ddod yn rhan o'r economi fyd-eang. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a fydd yna gynnydd yn amlder y trenau i faes awyr Manceinion o'r gogledd, yn enwedig o ran y trefniadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus y cyhoeddwyd gennych eich bod yn ymchwilio iddynt a'r cymorth i'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus y gallech chi ei roi i'r cysylltiadau awyr i'r mannau hynny.
Yn ail, mae gorsaf trên a gaewyd ychydig ddegawdau yn ôl yn fy etholaeth i, yr hoffwn ei gweld yn ailagor, a'r Foryd yw honno, sy'n gwasanaethu ardal Tywyn a Bae Cinmel. Byddwch yn ymwybodol o boblogrwydd mawr Tywyn a Bae Cinmel fel cyrchfan i dwristiaid, gyda 60,000 o welyau mewn parciau carafanau yno. Credaf ei bod yn bryd inni edrych eto ar hyfywedd y Foryd fel cyfle i wella trafnidiaeth gwyrdd yn y gogledd, a tybed a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn gallu ei drafod gyda'r gweithredwr newydd, o ystyried y wythïen gyfoethog o arian sydd ar gael i wella a buddsoddi mewn gorsafoedd newydd.
Ac yn olaf, er fy mod i'n croesawu ymestyn tocynnau mantais i rai 16 i 18 mlwydd oed, wrth gwrs nid yw hynny'n mynd cyn belled â'r cynigion a gyflwynwyd gennym yn y Siambr hon beth amser yn ôl ar gyfer ein cerdyn gwyrdd, a fyddai'n cynnig tocynnau gostyngol ar y rheilffyrdd i rai 16 i 25 mlwydd oed, ac, yn wir, rai cyfleoedd i deithio'n rhatach ar fysiau hefyd. Tybed a ydych chi wedi rhoi ystyriaeth bellach i'r rheini a sut y gallen nhw gydblethu â'r cynllun arbennig hwn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r trefniadau caffael, ac am ei ddiddordeb parhaus mewn gwasanaethau allweddol yn y gogledd, gan gynnwys y gwasanaeth o'r gogledd i Lerpwl a fydd yn gweithredu drwy Halton Curve. Fe soniaf am hynny mewn eiliad, ond, yn gyntaf, ddylwn i ddweud hefyd ein bod yn edrych ar wasanaethau uniongyrchol o'r gogledd i orsaf Lime Street yn Lerpwl gan ddefnyddio twnnel Mersi. Gan ddefnyddio cerbydau daufoddol newydd, byddem yn gallu mynd drwy dwnnel Mersi yn uniongyrchol o Wrecsam i Lerpwl, ac nid dim ond o Wrecsam i Bidston. Credaf y byddai hynny'n dod â manteision enfawr i'r gogledd.
O ran y gwasanaethau rhwng y gogledd a Lerpwl, rwy'n falch, gan ddefnyddio Halton Curve, y caiff gwasanaethau newydd eu darparu o'r gogledd i Lerpwl. Bydd y gwasanaeth newydd o Lerpwl i Landudno, er enghraifft, yn 2022, yn un o'r gwasanaethau hynny fydd yn defnyddio llinell newydd Halton Curve, ac o ganlyniad bydd yn gallu mynd i faes awyr John Lennon yn Lerpwl. Yn yr un modd, rwyf hefyd yn falch i allu rhannu gwybodaeth â'r Aelod ynghylch meysydd awyr eraill sy'n gwasanaethu'r gogledd ar ochr Lloegr y ffin, sef maes awyr Manceinion, a bydd gwasanaethau dyddiol uniongyrchol newydd o'r gogledd i faes awyr Manceinion, eto ym mis Rhagfyr 2022. Rwyf hefyd yn falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd y rhain yn drenau newydd sbon wedi eu gwneud yng Nghymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y datganiad nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiweddariad ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Yn fy natganiad ar 1 Chwefror eleni, cadarnheais yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, o dan y trefniadau uwchraddio ac ymyrryd, y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod mewn mesurau arbennig. Mae'r wythnos hon yn nodi tair blynedd o fod mewn mesurau arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Hoffwn roi'r diweddaraf i'r Aelodau heddiw ar y cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd allweddol yn ystod y cyfnod hwn, yr heriau sylweddol sy'n parhau a'r cynlluniau i weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod nesaf o welliannau.
O dan y trefniadau mesurau arbennig, rydym ni wedi rhoi cymorth i sefydlogi ac adfer y sefyllfa mewn meysydd allweddol o bryder. Mae hyn wedi cynnwys meysydd a amlinellir ar gyfer gweithredu ar unwaith yn 2015—ar lywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ac ailgysylltu â'r cyhoedd a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau. Yn fwy diweddar, gorfodwyd camau yn y maes cyllid ac mewn rhai meysydd perfformiad.
Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys craffu a goruchwylio mwy manwl, penodi cynghorwyr allweddol i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd ar arweinyddiaeth a llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl a gofal sylfaenol, gydag uned gyflawni GIG Cymru yn rhoi cymorth penodol. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, darparwyd £10 miliwn o arian ychwanegol i gefnogi camau gweithredu mewn meysydd allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl a gwasanaethau mamolaeth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae buddsoddi i leihau amseroedd aros wedi cynnwys ymrwymiad o £1.5 miliwn tuag at y rhaglen gofal heb ei drefnu, a dros £10 miliwn o gymorth ychwanegol mewn gofal wedi'i gynllunio sydd wedi helpu i arwain at ostyngiad o 45 y cant yn y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, o'i gymharu â diwedd mis Rhagfyr 2017.
Tystiodd adroddiadau diweddaru gan y bwrdd iechyd a Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i gynnydd o ran y cerrig milltir a rhywfaint o dystiolaeth o adferiad. Soniodd adroddiad diweddar gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan hefyd am beth o'r cynnydd diweddar, gan gynnwys meysydd gwaith allweddol y manylir arnynt yn y strategaeth dementia ac o ran cymorth i gleifion a gofalwyr.
Un o'r rhesymau pwysig y gosodwyd bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn 2015 oedd oherwydd pryderon mawr gyda gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Oherwydd gwaith caled y staff a'r cymorth a ddarparwyd, mae hwn yn faes gwasanaeth ble'r ydym ni wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn dilyn cyngor yn yr adolygiad, o dan y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, cyhoeddais yn gynharach eleni y cafodd hyn ei isgyfeirio o fod yn fater mesurau arbennig.
Gwnaed cynnydd hefyd mewn meysydd eraill, gan gynnwys rheoli cwynion a phryderon, gyda gwell goruchwyliaeth glinigol o dan arweiniad y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio; wrth ddatblygu a chyflwyno strategaeth iechyd meddwl drwy gydweithio â defnyddwyr a phartneriaid; gwell perfformiad o ran cyflawni targedau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ailstrwythuro'r tîm iechyd meddwl; a phrosesau llywodraethu'r bwrdd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ers 2015 bu buddsoddi parhaus yn yr ystâd a'r gwasanaethau i sicrhau gofal iechyd gwell a mwy hwylus i drigolion y gogledd, gyda nifer o'r rhain wedi neu ar fin cael eu cwblhau.
Mae disgwyl i'r gwaith ailwampio sylweddol parhaus, sy'n cynnwys dros £160 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar safle Ysbyty Glan Clwyd, gael ei gwblhau'n llawn ym mis Rhagfyr eleni, ac mae disgwyl i'r ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig ar y safle gael ei hagor yn llawn yr haf hwn. Darparwyd cyllid cyfalaf o bron i £14 miliwn i ailgynllunio, ymestyn a gwella yr adran argyfwng a gofal brys yn Ysbyty Gwynedd. Buddsoddwyd hefyd mewn dwy theatr fodiwlaidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac mewn gwelliannau amgylcheddol i wardiau iechyd meddwl yn rhan o'r ymgyrch i wella safonau gofal.
Yn ddiweddar cyhoeddais £2.2 miliwn o gyllid i drosi theatr yn Ysbyty Glan Clwyd yn theatr hybrid ble byddai modd cyflawni llawdriniaethau fasgwlaidd cymhleth. Bydd hynny'n dod â manteision i gleifion, ac mae eisoes yn gwneud y Bwrdd Iechyd yn fwy deniadol o ran recriwtio meddygon ymgynghorol, gyda phum ymgynghorydd fasgwlaidd wedi eu penodi yn llwyddiannus a gwelliannau mewn hyfforddiant llawfeddygol.
Nid mewn ysbytai yn unig mae arian cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth, wrth gwrs. Mae buddsoddiadau mewn gofal sylfaenol yn cefnogi blaenoriaethau i wella iechyd holl drigolion y gogledd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a darparu gofal i bobl yn agosach at gartref. Darparwyd dros £14 miliwn i ddatblygu canolfannau gofal cymdeithasol yn y Fflint, Blaenau Ffestiniog a Thywyn sy'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig i gyd yn yr un lleoliad.
Fodd bynnag, er gwaethaf y buddsoddiad a'r cynnydd mewn rhai meysydd allweddol, mae heriau sylweddol yn parhau, fel yr adroddwyd yng nghanfyddiadau adolygiad Deloitte ac, yn wir, yn adroddiad HASCAS. Amlygodd y ddau bryderon parhaus ynghylch llywodraethu, arweinyddiaeth glinigol ac ailddylunio gwasanaethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymyrryd yn fwy dwys ym maes cyllid a rhai meysydd Perfformiad oherwydd pryderon sylweddol o ran amseroedd aros am driniaeth, gofal heb ei drefnu a chynllunio a rheoli ariannol. Rwyf yn hynod bryderus am y dirywiad mewn perfformiad yn y meysydd hyn, ac wedi fy nghythruddo yn gyffredinol ag arafwch y cynnydd gan y Bwrdd Iechyd yn cyrraedd y cerrig milltir a nodwyd ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn galendr hon a'r diffyg eglurder parhaus ynglŷn â'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Roeddwn bob amser yn glir iawn y byddai angen newid diwylliant sylweddol ar y trawsnewidiad ym mwrdd Betsi Cadwaladr er mwyn gweithio mewn partneriaeth, yn allanol ac yn fewnol. Bydd hyn yn gofyn am bwyslais parhaus ar ymwneud rhwng y bwrdd a wardiau a chefnu ar ddiwylliant o wrthwynebiad sylfaenol i gysondeb mewn arferion clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda goruchwyliaeth broffesiynol ac arweinyddiaeth glinigol gadarn. I gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer ei phoblogaeth, mae angen i'r Bwrdd Iechyd weithio mewn ffordd systematig, mewn partneriaeth fel un sefydliad yn lleol a rhanbarthol, a chwarae rhan lawn yn genedlaethol.
Yn ystod fy ymweliadau a'm cysylltiadau rheolaidd â'r Bwrdd Iechyd, rwy'n parhau i ryfeddu at ymrwymiad a gwaith caled y staff i ddarparu gofal cleifion o safon mewn amgylchedd heriol ac yng nghyd-destun adroddiadau a sylwadau negyddol amlwg a blaenllaw. Rwyf o ddifrif ynglŷn â lles ein staff yn y GIG. Er bod cyfraddau salwch ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn is na'r sefyllfa yn y GIG ledled Cymru am nifer o flynyddoedd, a'i fod yn gweithredu ystod o fentrau i gefnogi staff, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd a'r undebau llafur ynglŷn â sut y gallwn ni roi gwell cefnogaeth i'n staff.
I sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni ei ddisgwyliadau tymor byr a thymor canolig yn gyflym, gan gynllunio a chynnal y broses o drawsnewid, cyhoeddais ar 8 Mai eleni y fframwaith gwella mesurau arbennig. Mae hwn yn nodi cerrig milltir ar gyfer y 18 mis nesaf mewn pedwar maes allweddol: arweinyddiaeth a llywodraethu; cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau; iechyd meddwl; a gofal sylfaenol, gan gynnwys gofal y tu allan i oriau. Rwy'n disgwyl cynnydd gweladwy cyn yr haf o ran disgwyliadau'r fframwaith, gan gynnwys lleihau amseroedd aros, cytuno ar ymatebion i'r argymhellion a nodir yn adroddiadau HASCAS ac Ockenden a gweithredu hynny, bod wedi recriwtio i swyddi allweddol, bod â'r capasiti a'r gallu ychwanegol sydd eu hangen, a bod y camau gweithredu yn cael effaith gadarnhaol.
I gefnogi'r gwelliannau a sbarduno'r gwaith yn y tymor byr a chanolig, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth mwy dwys, gyda thîm i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd, ac adnoddau ychwanegol i wella amseroedd aros ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ychwanegol o ran arweinyddiaeth system, trosiant a gallu gweithredol. Byddwn hefyd yn cynyddu'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud ac yn cyllido unedau ymyriadau cyflenwi i gynnwys aelodau unedol unigol yn darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar gynlluniau, gwybodaeth ac arfer gorau. Bydd cymorth cynghori hefyd yn parhau o dan y trefniadau mesurau arbennig.
Caiff y cymorth dwys i ddechrau ei gyfeirio at gefnogi gwell llywodraethu ac atebolrwydd, cydweithio penodol gyda chlinigwyr a phartneriaid i ddarparu gwelliannau sylweddol, yn enwedig mewn gofal wedi'i gynllunio a heb ei drefnu, cyflawni o ran trosiant ariannol a gweithio tuag at ddatblygu cynllun tymor canolig integredig ar gyfer 2019-2022. Bydd cymorth gan gynghorwyr yn cynnwys canllawiau parhaus ar arweinyddiaeth a llywodraethu gan David Jenkins ac Emrys Elias ynglŷn â sicrhau y caiff y cynllun gwella ansawdd a llywodraethu thematig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ei ddatblygu a'i gyflawni.
Bydd cam nesaf y broses wella yn cael ei arwain gan gadeirydd newydd o 1 Medi, yn dilyn penodi Mark Polin, a fydd yn rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad clir. Bydd yn arwain bwrdd newydd, gyda recriwtio is-gadeirydd newydd a thri aelod annibynnol, a newidiadau ar lefel weithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr gweithredol newydd ar gyfer datblygu'r gweithlu a'r sefydliad a benodwyd yn ddiweddar, a chyfarwyddwr gofal sylfaenol a chyfarwyddwr strategaeth ar fin cael eu recriwtio.
Byddaf yn parhau i gynnal cyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr ac yn mynd i gyfarfod y bwrdd ddydd Iau yma i drafod cynnydd. Byddaf yn egluro fy nisgwyliadau clir i'r bwrdd arwain a darparu newid cadarnhaol parhaol.
A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad? Ond mae'n rhaid imi ddweud na fydd yn rhoi fawr ddim cysur i bobl yn y gogledd, oherwydd er gwaethaf eich honiadau o welliant, hyd yn oed mewn rhai meysydd, mae'n ofid imi nad yw llawer o gleifion yn y gogledd yn gweld y gwelliant hwnnw, ac rwy'n credu fod yr ystadegau yn siarad drostynt eu hunain.
Dyma fwrdd iechyd a roddwyd mewn mesurau arbennig dair blynedd yn ôl, ac eto, dros y cyfnod o dair blynedd, mae wedi dirywio o ran ei berfformiad yn ei adran achosion brys yn erbyn y targed pedair awr, mae wedi dirywio o ran y targed 12 awr, mae'r amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth wedi gwaethygu o ran y targed 26 wythnos, ac mae ganddyn nhw fwy o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth nag a oedd dair blynedd yn ôl pan roddwyd y bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig. Mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn unig yn waeth nag yr oedden nhw dair blynedd yn ôl, nhw yw'r gwaethaf yng Nghymru o ran pob un o'r mesurau hynny.
Un o'r arwyddion eraill o anawsterau mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yw o ran ei reolaeth ariannol, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at ei reolaeth ariannol gynnau. Mae ei ddiffyg wedi cynyddu o £26.6 miliwn, yn y flwyddyn yn union cyn cyflwyno mesurau arbennig, i £38.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd newydd ddod i ben. Ac hwyrach eich bod yn dweud ein bod yn neilltuo mwy o arian i ymdrin â rhai o'r agweddau hyn ynglŷn â pherfformiad, ond y gwir amdani yw ichi hawlio £3.13 miliwn yn ôl ychydig fisoedd yn ôl. Felly, ni allwn ni roi ar y naill law, a chymryd yn ôl gyda'r llall a disgwyl gwelliant y pen arall, oherwydd nid yw'n gweithio. Mae hi'n amlwg nad yw eich ymyriad yn gweithio.
Rydych chi wedi honni y bu rhywfaint o gynnydd o ran iechyd meddwl, ac eto, ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom adroddiad HASCAS yn dweud na allent warantu y byddai unrhyw sefyllfa yn wahanol pe byddai claf yn mynd i mewn i'r system yn awr nag yr oedd pan dorrodd sgandal y ward Tawel Fan flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal â hynny, fe wnaethoch chi ddweud bod y prosesau rheoli cwynion yn gwella. Wel, gallaf ddweud wrthych o'r negesau rwy'n eu cael, ac nid oes unrhyw amheuaeth y bydd Aelodau Cynulliad eraill o'r gogledd yn dweud hefyd, nad ydyn nhw'n cyrraedd y targed o 28 diwrnod o gwbl o ran y Mesur Gweithio i Wella sydd ar waith. Mewn gwirionedd, mae llawer o gleifion yn aros ers blynyddoedd i gael sylw i'w cwynion.
Fe wnaethoch chi sôn bod gofal sylfaenol wedi gwella. Dyma, wrth gwrs, oedd un o'r meysydd allweddol pam y rhoddwyd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, ac eto rydym ni wedi gweld meddygon teulu yn rhoi'r allweddi yn ôl i'w meddygfeydd ac yn cefnu ar y system oherwydd y pwysau y mae'n ei roi arnynt. Ac mae'n waeth yn y gogledd nag yn unman arall. Nawr, rwy'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed mewn rhai agweddau o'r seilwaith cyfalaf, ond pryd ydym ni'n mynd i weld mwy o feddygon fel y gall pobl gael apwyntiadau gyda'r meddygon hynny yn eu meddygfeydd teulu? Allan nhw mo'u cael nhw ar hyn o bryd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at fuddsoddi mewn agweddau o ystadau'r ysbytai. Unwaith eto, croesawaf y buddsoddiad yn ystadau'r ysbytai, ond ble mae'r ysbyty newydd sbon yr addawyd yn y Rhyl, er enghraifft, yn y Royal Alexandra, a addawyd yn ôl yn 2011? Dyma ni yma wyth mlynedd yn ddiweddarach, bron, ac nid oes unrhyw arwydd o unrhyw gynnydd ar y safle hwnnw—nid oes unrhyw waith wedi'i wneud o ran gwella'r safle penodol hwnnw. Allwch chi ein diweddaru ni ar hynny, Gweinidog, efallai, heddiw?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod angen inni weddnewid y sefyllfa hon. Dim ond newydd benodi cyfarwyddwr trawsnewid maen nhw. Mae'r sefyllfa hon wedi bodoli ers tair blynedd. Llofnodwyd eu strategaeth iechyd meddwl dim ond fis Tachwedd diwethaf. Nid dyma'r math o gynnydd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu. Mae angen inni weld gwelliant cyflymach ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Hoffwn dalu teyrnged i'r staff sy'n gweithio'n galed, sy'n torchi eu llewys ar y rheng flaen, yn ymdrechu'n daer i ddarparu'r gwasanaethau maen nhw eisiau eu darparu, ond mae arnaf ofn y bu methiant llwyr gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau yn y bwrdd iechyd hwn dros gyfnod o dair blynedd, bellach. Rydych chi wedi nodi cyfnod o 18 mis i drawsnewid pethau. Dyma fwy na thebyg fydd yr enghraifft hiraf o unrhyw sefydliad GIG erioed yn y DU mewn mesurau arbennig am gyfnod gyn hired o amser. Credaf fod hynny'n beth cywilyddus i chi ac i Lywodraeth Cymru, nad ydych chi wedi llwyddo i drawsnewid y sefyllfaoedd hyn.
Felly, pryd ydym ni'n mynd i weld y gwelliannau? Pryd allwn ni ddisgwyl gweld cyflawni eich targedau, a osodwyd gennych chi, y Llywodraeth, o ran amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth, o ran amseroedd adrannau achosion brys? Pryd allwn ni weld bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn symud o fod y gwaethaf yng Nghymru i fod o leiaf yn un o'r rhai cyfartalog yng Nghymru o ran perfformiad yn yr agweddau hynny? A phryd fyddwn ni'n gweld y gwelliannau sylfaenol yn y maes gofal iechyd roedd pobl yn disgwyl canlyniad cyflym yn eu cylch yn sgîl sgandal Tawel Fan?
Un cwestiwn terfynol: fe wnaethoch chi gyfeirio yma at yr angen am iddyn nhw dderbyn yr argymhellion yn adroddiad Ockenden—cymeraf mai adroddiad newydd Ockenden yw hynny, sydd eto, wrth gwrs, i'w gyhoeddi. Cymeraf, felly, eich bod wedi cael golwg ar yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion y mae'n ei wneud. Pryd gawn ni gipolwg ar yr adroddiad hwnnw? Pryd y byddwn ni'n gallu ei weld? Pryd all y cyhoedd ei weld, fel y gallan nhw gael rhywfaint o hyder yn y system hon sydd eto i gyflawni'r gwelliannau y mae angen iddynt eu gweld?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau ac am y rhai cwestiynau a ofynwyd, hefyd. Fe wnaf i ddechrau â'ch pwynt olaf am Ockenden 2, ac na, nid wyf wedi cael cipolwg arno; rwy'n ei gwneud hi'n glir fy mod yn disgwyl i'r Bwrdd Iechyd gymryd o ddifrif yr adroddiad ynglŷn ag adolygu a gwella ei drefniadau llywodraethu a darparu cynllun amser real ar gyfer gwella. Rwy'n credu fod hynny yn gwbl briodol, oherwydd rydym ni'n disgwyl i'r adroddiad hwnnw weld golau dydd yr haf hwn, i'r bwrdd iechyd ei dderbyn ac ymdrin ag ef yn brydlon, ac y bydd cyfarfod bwrdd cyhoeddus lle byddant yn amlinellu eu cynllun gweithredu mewn ymateb i hynny.
Y man cychwyn, fodd bynnag, yw nad oes unrhyw achos i ddathlu ein bod yn nesáu at drydydd pen-blwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Nid oes cuddio rhag y ffaith nad oes achos i ddathlu ein bod yn cael y sgwrs hon ar hyn o bryd. Nid wyf yn ceisio cuddio rhag y siom a rhag y ffordd y bydd staff yn teimlo. Nid yw'n sefyllfa y mae unrhyw staff eisiau bod ynddi, parhau i weithio mewn sefydliad sydd â'r label arno o fod mewn mesurau arbennig. Nid yw hynny'n golygu bod pob maes gofal iechyd yn methu—ddim o gwbl. Mae rhagoriaeth gwirioneddol—nid yn unig mewn ymrwymiad gan staff, ond rhagoriaeth wirioneddol yn darparu ystod eang o wasanaethau gofal iechyd. Y cydbwysedd, er hynny, yw ein bod yn cydnabod bod gwasanaethau o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr y mae angen iddynt wella'n sylweddol o hyd.
O ran gofal sylfaenol, un o'r rhesymau pam cyflwynwyd mesurau arbennig yn yr adran honno oedd oherwydd y gwasanaeth y tu allan i oriau yn benodol, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn gweld gwelliant mewn gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn ystod y cyfnod nesaf hwn o'r fframwaith gwella, ac i hynny ddod allan o fesurau arbennig. Y pwyntiau ehangach hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, ynglŷn â meddygon teulu sydd wedi dychwelyd eu contractau, mae hynny yn rhan o duedd ehangach, nid yng Nghymru yn unig, ond yng ngweddill y DU, a dydw i ddim yn credu ei bod hi'n deg nodi'r newid hwnnw a'r anhawster o ran rheoli hynny yn rhan o'r trefniadau mesurau arbennig. Mae gan y gogledd, fel rhannau eraill o Gymru, yr her honno i'w rheoli, ac mae hynny'n wir am waith arall a drafodwyd gennym ni yn y Siambr, ac rwy'n siŵr y byddwn ni unwaith eto—nid dim ond ffordd newydd i ddarparu gofal iechyd lleol gyda'r nifer cywir o feddygon ac aelodau o staff clinigol eraill, ond sut i drefnu'r gwasanaethau hynny i'w gwneud yn fwy deniadol. Er enghraifft, ychydig cyn y toriad, buom yn siarad am yr heriau o indemniad a byddai gallu gwneud cynnydd ar hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn ar draws y wlad, ond, yn benodol, yn y gogledd hefyd. Ynglŷn â chadw'r gweithlu mewn swyddogaethau gwahanol, pa un a ydyn nhw'n aros yn y proffesiwn neu yn ymuno â'r proffesiwn, byddai hynny yn sicr yn helpu gyda'r trefniadau y tu allan i oriau hefyd.
Ynglŷn â'r heriau yr ydych yn eu codi o ran rheolaeth ariannol, a'r heriau sydd gan y bwrdd iechyd â rheoli ariannol, nid ydynt yn fater mesurau arbennig, ond maen nhw'n rhan o'r cynnydd mewn uwchgyfeirio ac ymyrryd. Mae'n siom fawr nad ydyn nhw wedi gallu cyflawni gwelliannau yn y maes rheoli ariannol, ond dydw i ddim yn derbyn eich honiad ynglŷn â hawlio arian yn ôl ar gyfer cynllunio gwelliannau gofal. Rydym ni wedi gwneud yn union fel yr ydym ni wedi gwneud gyda phob bwrdd iechyd arall, yn darparu arian ychwanegol o'r gronfa wella £50 miliwn yr ydym ni wedi ei darparu i GIG Cymru; ynglŷn â chyflawni cytundebau ynghylch gwella; a'r angen i gyrraedd y targedau hynny neu na fyddai'r holl arian yn cael ei gadw o fewn y sefydliad hwnnw. A dyna yn union yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud mewn sefydliadau eraill eleni a'r llynedd. Fe wnaethon nhw gadw £10 miliwn oherwydd y gwnaethon nhw gyrraedd gwelliant o 45 y cant yn yr amseroedd aros 36 wythnos o'u cymharu â'r amseroedd sylweddol iawn ym mis Rhagfyr 2017. Ond ni allwn ni ddweud, 'Cymerwch yr arian hwn i wella a does dim ots os na fyddwch chi'n cyflawni'r gwelliant hwnnw neu beidio, a byddwn yn eich trin mewn ffordd hollol wahanol yn hynny o beth i fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.'
O ran y gwelliant rwy'n disgwyl ei weld, yn ogystal â gosod fframwaith 18 mis, rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod yn disgwyl gweld gwelliant parhaus mewn gofal heb ei drefnu, gyda mwy o—. Nid yn unig adnoddau ariannol, ond y cymorth a ddarperir gan PricewaterhouseCoopers. Ac yn wir, ar fy ymweliad mwyaf diweddar â'r gogledd, fe wnes i gyfarfod â staff yn Ysbyty Glan Clwyd oedd yn sôn am y ffordd yr oedd hynny yn eu helpu i edrych eto ar yr hyn yr oedden nhw yn ei wneud, ac mewn gwirionedd roedd gwelliannau yn y ffordd y teimlent eu bod yn gweithio fel tîm. Roedd cyfarfod nyrsys rheng flaen, ynghyd â'u cydweithwyr ymgynghorol, yn sgwrs gadarnhaol ac adeiladol iawn, ochr yn ochr â'r gydnabyddiaeth eu bod nhw eu hunain eisiau darparu gofal gwell, a byddai hynny'n gwella'r amgylchedd gwaith ar eu cyfer. Felly, maen nhw eu hunain yn cydnabod bod rhywfaint o welliant yn digwydd. Maen nhw hefyd yn cydnabod bod rhagor i'w wneud, a rhan o'r her i ni yw pa mor heriol yr ydym yn eu dwyn i gyfrif, yn ogystal â bod yn gefnogol o'r gwaith y mae staff rheng flaen yn ei wneud. Ond rwy'n sicr yn disgwyl gweld gwelliannau yn chwarter 1 a chwarter 2 y flwyddyn ariannol. Nid wyf yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gilio'n ôl, wedi cyrraedd gwelliant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a pherfformiad diwethaf a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, i ddirywio'n sylweddol ar ddiwedd y chwarter cyntaf. Ni fyddai hynny'n sefyllfa dderbyniol i'r bwrdd iechyd fod ynddi. Rhan o'r her yw bod ganddynt broblemau gwirioneddol o ran y cynnydd sylweddol a fu mewn amseroedd aros hir dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd hynny'n rhan o'r rheswm pam na newidiodd y trefniadau uwchgyfeirio yn unig, ond nawr bod mwy o atebolrwydd uniongyrchol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Bydd hynny'n parhau hyd nes y ceir gwelliant gwirioneddol a pharhaus, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny.
Rwyf hefyd eisiau ailadrodd ac ymdrin â'ch sylw ynglŷn â rheoli cwynion. Rwy'n tybio bod Aelodau'r Cynulliad yn cael llythyrau sy'n sôn am achlysuron lle nad ymdriniwyd yn dda â chwynion. Bydd hynny bob amser yn wir. Rwyf i, sydd hefyd yn Aelod etholaeth unigol, yn cael y cwynion hynny hefyd, yn fy ardal i. Ond mewn gwirionedd, yn wrthrychol, rydym ni yn bendant wedi gweld gwelliant o ran rheoli cwynion. Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn berffaith, ond does dim dwywaith fod y sefyllfa'n well nag yr oedd o'r blaen, ac mae'r cyfarwyddwr nyrsio gweithredol yn haeddu clod gwirioneddol am ei harweinyddiaeth yn cyflawni rhai o'r gwelliannau hynny, ynghyd â'i thîm.
Felly, rwy'n disgwyl gweld gwelliannau dros y fframwaith 18 mis yr ydym ni wedi ei gyhoeddi. Rwy'n disgwyl y bydd mwy i'w ddweud ar ôl penodi'r cadeirydd newydd ac inni recriwtio pobl ychwanegol, ond hefyd bod y swyddogaeth drawsnewid, yr wyf—. Rwy'n cydnabod rhwystredigaeth yr Aelod. Gallaf eich sicrhau fy mod yn teimlo'n rhwystredig fy hun ei fod wedi cymryd cyhyd, ar ôl cytuno i gael cyfarwyddwr trawsnewid, i benodi'r person hwnnw a'i dîm. Dyna hefyd pam, yn fy natganiad, fy mod i wedi amlinellu'r pethau ychwanegol y byddwn yn eu gwneud i sicrhau bod y swyddogaeth honno mewn gwirionedd yn ei lle, gyda mwy o afael gweithredol o fewn y sefydliad.
Felly, nid oes unrhyw fannau cuddio nac ymgais i guddio rhag y sefyllfa y mae'r Bwrdd Iechyd ynddi ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod y cynnydd a'r cynnydd gwirioneddol a wnaed, ac rwyf hefyd yn cydnabod y cynnydd pellach sy'n hollol angenrheidiol oherwydd nid yw staff y bwrdd iechyd a phobl y gogledd yn haeddu dim llai.
Does bosib y daw'r amser, ar ôl tair blynedd o fesurau arbennig, pan nad yw arbennig yn arbennig mwyach ac rydych chi'n symud i gyflwr o danberfformio parhaol. Felly, credaf mai'r cwestiynau allweddol ar hyn o bryd yw: beth yw'r arwyddion y dylai cleifion fod yn chwilio amdanyn nhw? Beth yw'r arwyddion y dylai staff fod yn edrych amdanyn nhw i ddangos fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn troi yn ôl at y trywydd cywir? Oherwydd mae'r dystiolaeth yn ymddangos yn brin iawn ar hyn o bryd.
Dirprwy Lywydd, mi ges i row yn gynharach am siarad am rhy hir, felly mi wnaf i gadw fy sylwadau i'n fyr iawn. Mae yna dair blynedd bellach ers cyflwyno'r stad yma o fesurau arbennig ac mae eich datganiad chi yn eithaf onest, a dweud y gwir, mai prin iawn ydy'r cynnydd sydd wedi bod yn y tair blynedd yna. Mi ydych chi'n defnyddio'r eirfa eich hunain: 'some evidence of recovery', 'some recent progress'. Rydw i'n meddwl y dylem ni fod yn gallu disgwyl ychydig mwy na hynny ar ôl tair blynedd.
Yr ydych chi’n disgrifio bod cefnogaeth y Llywodraeth yma wedi cynnwys lefel uwch o sgrwtini ac o oruchwyliaeth, o benodi ymgynghorwyr arbennig, ond y cwestiwn cyntaf ichi: a ydy hyn gyfystyr â’ch bod chi yn cymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy’n digwydd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl tair blynedd o fesurau arbennig? Beth rydw i’n ei weld ydy cleifion yn aros yn hirach. Mae’r ffigurau yn cadarnhau hynny—cleifion yn aros ymhell dros flwyddyn am driniaethau y maen nhw yn wirioneddol eu hangen er mwyn codi safon eu bywydau nhw; pobl sy’n aros yn llawer rhy hir am ofal iechyd meddwl; pobl ifanc yn aros yn rhy hir am ofal iechyd meddwl. Mae’r dystiolaeth i gyd yno, sy’n profi faint o ffordd sydd yna i fynd.
Ond mi ofynnaf i dri chwestiwn ichi. A ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn credu bod y strwythur presennol i ddelifro iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y gogledd, sef un bwrdd iechyd, saith awdurdod lleol, darparwyr allanol hefyd, yn ffit i bwrpas, os liciwch chi? Os nad ydyw o rŵan, a ydyw’r math yna o strwythur yn debyg o ddatblygu i fod yn ffit ar gyfer pwrpas yn y dyfodol agos? A ydych chi'n meddwl, fel ail gwestiwn, fod gwelliannau sylweddol i’r amseroedd referral to treatment ac amseroedd aros eich adrannau achosion brys yn bosib heb wellhad sylweddol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwelyau un gris i lawr o fewn y gymuned? Ac yn drydydd, mae’ch datganiad chi yn cyfeirio at ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol newydd, ond a all y canolfannau i’r gwasanaethau yma wirioneddol ddelifro yr hyn y gallan nhw, mewn egwyddor, tra bod yna’r demtasiwn fawr yna ar y bwrdd i gario ymlaen i daflu arian at ysbytai, at lefel eilradd o ofal iechyd, er mwyn trio taclo amseroedd aros? Hynny ydy, bod arian yn cael ei sugno rhywsut i mewn i ryw bwll diwaelod. Oni bai bod modd delio efo hynny, sut ydych chi’n gallu cryfhau gofal sylfaenol? Achos dim ond drwy—rydw i'n meddwl—gryfhau gofal sylfaenol y gall bwrdd iechyd mewn ardal sydd, ar y cyfan, yn wledig, wella ei berfformiad yn sylweddol.
Diolch ichi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n hapus i ddatgan ar y cychwyn nad wyf yn sicr ddim yn gweld mesurau arbennig yn statws parhaol nac yn wir yn rhywbeth y gallai neu y dylai gael ei normaleiddio. Mae'n gwbl wahanol, nid yn unig i weddill y system gofal iechyd, ond hefyd y ffaith y gwelwyd gwelliannau gwirioneddol mewn rhai meysydd o weithgareddau yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw yn fy natganiad.
Nid yw iechyd meddwl wedi gwneud y cynnydd yr oeddem ni'n gobeithio amdano. Mae hynny mewn gwirionedd wedi amlygu rhai o agweddau bregus strwythur y gwasanaeth, nid yn unig o ran darparu strategaeth newydd, ond mewn gwirionedd, buwyd yn hirach na'r disgwyl yn gwneud gwelliannau oherwydd absenoldeb aelod allweddol o staff. Roedd rhywbeth wedyn ynghylch cadernid y gwasanaeth cyfan. Rydym ni nawr yn gweld cynnydd pellach eto yn y gwasanaeth iechyd meddwl ehangach. Ond, mewn gwirionedd, mae gwasanaethau mamolaeth, a oedd yn un o'r sbardunau mawr ar gyfer rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig, yn dod allan o fesurau arbennig. Maen nhw wedi cael eu hisgyfeirio ac mae hynny, ynddo'i hun, yn gadarnhaol, ac nid yn unig o ran y gwasanaeth hwnnw, ond ar gyfer rhannau eraill y Bwrdd Iechyd, i gydnabod ei bod hi yn gwbl bosib isgyfeirio a dod allan o fesurau arbennig—gwelliant gwirioneddol a sylweddol a pharhaus i'w wneud a'i gydnabod drwy'r mesurau a'r fframweithiau uwchgyfeirio ac ymyrryd.
Dylai hynny roi'r sicrwydd fydd ei eisiau ar y cyhoedd ac aelodau staff oherwydd nid proses yw hwn lle mae gwleidyddion yn gwneud penderfyniad er eu budd eu hunain, neu ar gyfer fy mudd fy hun, i gymryd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. Dyna pam fod gennym ni broses tairochrog yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Byddwn yn parhau i gael y strwythur hwnnw i'w gwneud hi'n glir i'r cyhoedd ac i staff na wneir dewisiadau dim ond er cyfleustra gwleidydd yn y Siambr hon.
Pan soniwn ni am ddisgrifiad o ymgynghorwyr i gynorthwyo ac i weithio gyda'r bwrdd, mewn gwirionedd, yn y rhan o'm datganiad lle siaradais am arweinyddiaeth a chymorth ychwanegol yn y system, rydym ni'n sôn am gael pâr ychwanegol o ddwylo i weithio gyda'r bwrdd i'w helpu i wneud pethau, ar hyn o bryd, nad ydym yn credu y gallan nhw ei wneud, ac nid dim ond i'w cael drwy ateb tymor byr, ond mewn gwirionedd i gael effaith gadarnach ar y sefyllfa recriwtio, nid dim ond ar ffigurau i fynd at y bwrdd iechyd, ond y diwylliant sefydliadol yn cynllunio a chyflawni rydym ni'n cydnabod sydd yn amlwg ei angen.
Byddaf yn ymdrin â'ch tri sylw yn y cwestiynau. Credaf fod perthynas rhwng y ddau olaf mewn rhai ffyrdd, ond ateb gonest i'ch cwestiwn cyntaf ynghylch a yw'r strwythur yn addas i'r diben: nid wyf yn credu bod yr heriau y mae bwrdd iechyd o ogledd Cymru yn eu hwynebu oherwydd ei fod yn un bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu'r gogledd i gyd. Mewn gwirionedd, pan oedd gennym ni ymgynghoriad blaenorol ar hyn roedd neges glir iawn gan staff nad oedden nhw mewn gwirionedd eisiau gweld y bwrdd iechyd yn cael ei rannu'n ddwy neu dair rhan cyfansoddol. Felly, nid wyf yn credu bod rheswm pam na ddylai'r bwrdd iechyd allu perfformio i safonau uchel. Os edrychwch chi ar y byrddau iechyd eraill yn y wlad, mae byrddau iechyd Powys a Hywel Dda yn gwasanaethu ardaloedd daearyddol sylweddol, ac nid yw'r ardaloedd daearyddol eu hunain yn rheswm pam fod byrddau iechyd yn llwyddo ai peidio, yn union fel nad yw bod â nifer sylweddol o bartneriaid yn rheswm pam nad yw byrddau iechyd eraill yn llwyddo, oherwydd yng Ngwent, lle mae ganddyn nhw bum awdurdod lleol yn bartneriaid, maen nhw mewn gwirionedd yn un o'r byrddau iechyd sy'n perfformio orau yn y wlad. Felly, does a wnelo hynny ddim â maint neu nifer y partneriaid. Ond mae a wnelo hynny i raddau â diwylliant a gallu gweithredol a swyddogaeth gynllunio yn y bwrdd iechyd i sicrhau gwelliant.
Rwy'n falch, o ran eich sylw ynglŷn â gwella adrannau achosion brys, y gwelsoch chi hynny yn her ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd, achos mae hynny yn hollol wir, mewn gofal sylfaenol, o ran sut y cefnogir pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain—mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod ni wedi buddsoddi mewn canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol yn ardal y bwrdd iechyd, ac mae hynny'n ddewis strategol rydym ni wedi'i wneud nid yn unig yn y gogledd ond ledled y wlad—ond hefyd y cysylltiad rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn ysbyty a chyda'n cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol. Nawr, bydd gennyf fwy i'w ddweud am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf o ran datblygu ymateb i'r adolygiad seneddol. Ond bydd angen inni weld ffordd well o weithio rhwng y bwrdd iechyd a phartneriaid gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n hollol wir. Mae a wnelo hynny i raddau â sut maen nhw'n cynllunio a darparu gwasanaethau, yn ogystal â chytuno ar union natur y gwasanaethau hynny, a chytuno ar sut i ddeall anghenion iechyd a gofal eu poblogaeth, ac wedyn i allu eu diwallu. Rwy'n ffyddiog y byddwn ni'n gallu helpu nid yn unig y gogledd ond byrddau iechyd eraill a'r awdurdodau lleol sy'n bartneriaid iddynt i wneud hynny, ond does arnaf i ddim eisiau cyhoeddi materion rhag blaen y byddwn yn eu trafod yn bur helaeth yr wythnos nesaf ynglŷn â sut y disgwyliwn i iechyd a gofal weithio'n agosach gyda'i gilydd. Ond rydym ni eisoes yn gweld amrywiaeth o dimau sy'n bodoli ar draws y wlad, gan gynnwys yn y gogledd, lle ceir eisoes cydnabyddiaeth bod yn rhaid iddyn nhw weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau er budd dinasyddion, pa un a oes gan y person hwnnw anghenion gofal cymdeithasol neu anghenion gofal iechyd, ac nid ymwneud yn syml â chael pobl allan o'r ysbyty yn gyflym.
Eich sylw olaf ynglŷn â chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol, a allan nhw gyflawni gwelliannau heb gael y sgwrs bellach honno gyda'r bwrdd iechyd ynghylch pennu blaenoriaethau a chwistrellu arian i'r system ysbytai—mae hynny'n rhan o'r her o redeg system integredig heb ei chynllunio. Nid wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd fod yn ddim amgenach nag ymddiriedolaethau darparu ysbytai gydag ambell beth arall wedi ei ategu. Maen nhw mewn difrif, yn fyrddau iechyd ar gyfer y bobl—maen nhw mewn difrif yn sefydliadau iechyd ar gyfer y bobl. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n gofyn ganddynt, ac mae'n rhaid iddyn nhw edrych yn fwy eglur ar flaenoriaethu mwy a mwy o'u gofal iechyd sylfaenol—nid dim ond ymyrraeth gynnar, ond gwaith atal hefyd. Byddwn yn gweld mwy o hynny wrth inni nid yn unig wneud dewisiadau ynglŷn â'n cyllideb, ond yn y sgwrs y cawn ni yr wythnos nesaf a thrwy weddill y tymor hwn. Ceir enghreifftiau amlwg o awdurdodau lleol eisoes yn ymgysylltu mwy â'r canolfannau hynny, nid yn unig yn Nhywyn ac nid yn unig yn y Fflint, ble agorais y ganolfan iechyd yn ffurfiol, a ble roeddwn yn falch o gael yr Aelod, yr Aelod lleol dros Ddelyn, yno yn ogystal, a gallu cwrdd ag aelodau o'r awdurdod lleol sydd eisoes yn rhedeg gwasanaethau o'r ganolfan honno. Ac, yn wir, pan ymwelais ag Ysbyty Alltwen, eto, gweld aelodau yr awdurdod lleol yno o Wynedd, roeddent yn sôn am beth yr oeddent yn ei wneud eisoes gyda staff gofal iechyd yna i ystyried anghenion gofal iechyd a chymdeithasol. Felly, rydym ni eisoes yn gweld rhywfaint o'r gwaith partneriaeth hwnnw yn lleol, a'n her yn awr yw cynyddu hynny a mynd ati mewn modd mwy ystyriol a chydgysylltiedig yn holl ranbarth y gogledd, y mae pob awdurdod lleol yn cydnabod sy'n dda iddynt a'u dinasyddion, yn union fel y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud hefyd. Ond rwy'n cydnabod yr her y mae'r Aelod yn ei chyflwyno.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y diweddariad cynnydd yr ydych chi newydd ei roi i ni. Nid yw'n ymddangos y bu llawer iawn o gynnydd. Rwy'n gweld bod y rhestr aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio wedi gostwng 45 y cant mewn cyfnod cymharol fyr o amser, ac mae hwnnw'n ffigur da iawn ar yr olwg gyntaf. Ond gadewch i ni roi hynny ei gyd-destun, ie? Mae'r gostyngiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio ato o ychydig o dan 10,500 o bobl yn aros i ychydig dros 5,500. Wrth gwrs, mae hynny'n welliant mawr, ac rwyf yn cymeradwyo'r staff gweithgar sydd wedi sicrhau'r cyrhaeddiad hwnnw, ond mae'n dal yn golygu fod bron i 6,000 o bobl yn aros mwy na naw mis am ofal wedi'i gynllunio, ac mae hwnnw'n ystadegyn ofnadwy, yn enwedig pan rydych chi'n cymharu hynny ag ystadegau eraill Betsi Cadwaladr, fel bod y rhestr aros orthopedig wedi cynyddu 16 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, o'i gymharu â chynnydd hanesyddol o 5,000 y cant yn y rhestr aros honno. Ac ni allwn anghofio, ac ni ddylem ni anghofio, am y 1,000 a mwy o blant a phobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn aros rhwng 12 a 18 mis am asesiad niwroddatblygiadol, sydd yn mynd i gael effaith ar eu cyrhaeddiad addysgol.
Felly, wyddoch chi, er bod y—. Dywed Ysgrifennydd y Cabinet y bu gwelliannau mewn rhai pethau, gan gynnwys rheoli cwynion, goruchwyliaeth glinigol, datblygu a gweithredu'r strategaeth iechyd meddwl, felly rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigyrau ynglŷn â'r gwelliannau hynny i'r Aelodau sydd yma heddiw ac ar gyfer pobl yn y gogledd. Mae'n iawn dweud yn eich datganiad y bu gwelliannau, ond a gawn ni rai ffigurau? Ac a gawn ni mewn gwirionedd ychydig o fanylion ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi manylu ar y symiau mawr o arian a wariwyd ar Ysbyty Glan Clwyd yn benodol, ar yr adeiladau a'r cyfleusterau yno, ond rwy'n cofio pan adeiladwyd Ysbyty Glan Clwyd yn wreiddiol roedd y bobl leol yn ei ystyried yn rhy fawr ar gyfer yr ardal. Roeddem ni i gyd braidd yn amheus o ba mor fawr oedd y lle mewn gwirionedd. Ond mae'n amlwg bellach nad yw Betsi Cadwaladr, sef y bobl a fu'n gyfrifol am yr ysbyty hwnnw dros y blynyddoedd, wedi ehangu'r cyfleusterau yno i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod y symiau anferth o arian y mae'n rhaid iddo eu gwario ar Ysbyty Glan Clwyd bellach yn ganlyniad i Lywodraethau olynol yn osgoi'r gwirionedd ac yn methu â sicrhau bod y cyfleusterau yno yn cyfateb i niferoedd tebygol y boblogaeth? Pa ddadansoddiad mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei wneud i sicrhau bod yr arian a wariwyd hyd yn hyn ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn arwain at fanteision gwirioneddol yn hytrach na chymryd yn ganiataol fod cysylltiad rhwng gwelliannau a gwario?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod angen newid diwylliannol sylweddol. Derbyniaf y sylw hwnnw o'r eiddoch, ond a allwch chi ddweud wrthym ni mewn gwirionedd pa fath o newid diwylliannol a ddisgwylir, a beth sydd o'i le ar y diwylliant ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd? A pha fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith i gyflawni'r newid diwylliannol hwnnw?
Cytunaf yn llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet bod ymrwymiad ac ymroddiad staff rheng flaen Betsi Cadwaladr yn drawiadol iawn, iawn. Mae'r staff rheng flaen hyn yn ymgymryd â'r gwaith hwn i wneud gwahaniaeth ac i ddarparu, fel y dywedwch chi, gofal tosturiol o ansawdd. Ond mae'n rhaid ei fod yn dreth enfawr ar yr enaid pan fo heriau sefydliadol yn rhwystro eu hymdrechion i wneud hynny, ac mae'n esbonio i raddau y niferoedd absenoldeb sy'n gysylltiedig â straen a gofnodwyd yn Betsi Cadwaladr. Felly, o ystyried nifer y staff sy'n mynd yn sâl o ganlyniad i straen, allwch chi ddweud wrthym ni, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gymorth sydd ar gael, y mae Betsi Cadwaladr yn ei gynnig, i gefnogi staff rheng flaen sydd yn dioddef o straen yn y gweithle?
Hefyd byddai gennyf ddiddordeb clywed pa ddisgwyliadau yr ydych chi'n mynd i'w gosod ar aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr, ac, yn benodol, sut ydych chi mewn gwirionedd yn mynd i gymell y bwrdd i gyflawni'r gwelliannau hynny? A ydyn nhw'n mynd i fod mewn peryg o bosib o gael eu diswyddo o'r bwrdd os nad yw'r bwrdd yn perfformio'n iawn? A fydd yna oblygiadau o gwbl i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
Ac yna, gan droi yn olaf at ben-blwydd Betsi Cadwaladr yn mynd o dan fesurau arbennig, rydych chi wedi rheoli'r bwrdd iechyd hwnnw bellach am dair blynedd. Pa wersi ydych chi mewn gwirionedd wedi eu dysgu? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. A, dim ond o ran yr heriau ynghylch gofal wedi'i gynllunio, dydw i erioed wedi datgan fod heriau gofal wedi'i gynllunio wedi'u datrys. Ddim o gwbl. Rwyf wedi dweud yn union i'r gwrthwyneb. Mae'r gwelliant a fu wedi bod yn ddim ond rhan o'r gwelliant sy'n ofynnol, a dyna pam yr hawliwyd arian yn ôl, ac rwy'n gwbl glir mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ac i fod yn glir fy mod yn disgwyl gweld mwy o welliannau drwy chwarter 1 a chwarter 2. Felly, nid oes unrhyw ymgais i ddiystyru difrifoldeb yr heriau sy'n bodoli o hyd, nid yn unig yr her tymor byrrach o leihau amseroedd aros, ond hefyd yr her tymor canolig ac mewn gwirionedd, cael ffordd fwy cynaliadwy o weld a thrin yr angen gofal iechyd sy'n bodoli yn y gogledd hefyd. Felly, nid un ymgais mo hon yn ymwneud â gwario llawer o arian i ddatrys y broblem rhestr aros ac yna bydd popeth yn iawn; mae her fwy i ymdrin â hi hefyd, a dyna pam ein bod ni'n cymryd amser i edrych ar y cynllun orthopedig sydd wedi ei ddiwygio, eto, a'r cynllun offthalmoleg a ddarperir gan y bwrdd iechyd.
Ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch chi am gefnogi staff, dim ond i roi'r ychydig enghreifftiau y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw o ran y gwasanaethau sydd ar gael: mae amrywiaeth o wasanaethau cwnsela, gan gynnwys y rhaglen Lighten Up, ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli straen, hyfforddiant gwydnwch a Rowndiau Schwartz. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o wasanaethau sy'n cael eu darparu gyda gwasanaethau ambiwlans Cymru hefyd. Felly, mae yna amrywiaeth o raglenni penodol a bwriadol, ac, unwaith eto, dyna pam rwy'n dweud ein bod ni'n gweithio yn briodol gyda chydweithwyr yn yr undebau llafur yn ogystal â'r bwrdd iechyd ei hun, sef y cyflogwr.
O ran eich sylwadau ynghylch cwynion, gallaf ddweud wrthych chi, er enghraifft, o ran gwelliannau, bod 94 y cant o gwynion wedi'u cydnabod o fewn dau ddiwrnod gwaith. Mae hynny'n welliant sylweddol o'i gymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi gryn amser yn ôl. Mae hynny'n welliant gwirioneddol sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n gwneud cwynion. Yr her bob amser yw, os mai chi yw'r person na fu cydnabyddiaeth i'ch cwyn mewn da bryd, os ydych chi'n aros am gyfnod hirach nag y dylech chi ei wneud, yna mewn gwirionedd dyna'r person sydd fwyaf tebygol o ddod i'n gweld ni, sef eu cynrychiolwyr etholedig. Mae hynny'n rhan o'r hyn a welwn. Felly, mae gonestrwydd am y gwelliannau a fu o ran ymdrin â chwynion.
O ran enghraifft o'r newid diwylliannol sydd ei angen, does ond angen i chi edrych eto ar adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei hun, sy'n nodi rhai o'r heriau yn y newid diwylliannol ymysg clinigwyr o ran cofleidio'r gwasanaeth. Nawr, mae her yn y fan honno nad yw'n bodoli mewn un gwasanaeth yn unig, a byddwch yn gweld hyn drwy'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol ym mhob un rhan o'r wlad. Mae'n aml yn anodd perswadio pobl sy'n gyfarwydd â gweithio mewn un modd i newid ac i weithio mewn ffordd wahanol, ac eto fe wyddom ni hefyd mai rhai o'r dadleuwyr gorau o blaid newid wrth ddarparu gwasanaeth yw aelodau staff rheng flaen eu hunain, sy'n cydnabod y gallen nhw ac y dylen nhw ddarparu gofal o ansawdd gwell.
O ran eich her ehangach ynghylch a oes arian wedi'i wastraffu yn Ysbyty Glan Clwyd, byddwn yn dweud nad wyf yn credu fod yr arian wedi'i wastraffu. Byddwn wrth gwrs yn dysgu gwersi o bob prosiect cyfalaf mawr yr ydym ni yn ymgymryd ag ef i ystyried a allai'r swm hwnnw o arian a'r ffordd yr oedd yn brosiect cyfalaf fod wedi ei reoli'n well. Rwy'n sicr yn disgwyl y bydd gwersi i'w dysgu am reoli cyfalaf yn fwy effeithiol yn yr achos hwnnw, ond nid wyf yn derbyn eich pwynt ehangach, eich pryder, fod Ysbyty Glan Clwyd yn rhy fawr pan gafodd ei adeiladu. Yr her yw sut ydym ni'n parhau i newid y ffordd y mae ein hystâd ysbytai yn gweithio, y gwasanaethau a gânt eu rhedeg oddi yno, a bod hynny mewn gwirionedd yn gydnaws â'r newid yn y ffordd y bydd angen i ofal iechyd esblygu, a'r symudiadau dwbl yr ydym ni wedi eu trafod droeon o'r blaen yn y Siambr hon y caiff rhai gwasanaethau eu darparu o ganolfan arbenigol, gyda llawdriniaeth fasgwlaidd yn enghraifft o le mae rhai gwasanaethau arbenigol yn dod i Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, ond nid yw llawdriniaeth fasgwlaidd rheolaidd yn digwydd yn y ddwy ganolfan arall yn y gogledd. Ond mae'r arian yr ydym ni wedi ei fuddsoddi mewn theatr hybrid hefyd yn helpu i recriwtio pobl i'r gwasanaeth hwnnw. Felly, mae yna wastad mwy i'w ddysgu am yr hyn sydd wedi digwydd yn y sefyllfaoedd yr ydym ni ynddyn nhw, ac mae yna wastad mwy inni ei wneud. Mae hynny'n rhan o'r llawenydd a'r her o wneud y gwaith hwn a bod yn rhan, ac yn elfen, o'r gwasanaeth iechyd gwladol.
Diolch. Mae gennym ni ddau siaradwr arall a phum munud, felly a gaf i apelio ar y siaradwyr i ofyn eu cwestiynau yn unig, ac a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dim ond i ateb y cwestiynau a ofynnir iddo? Mark Isherwood.
O'r gorau. Pam ydych chi'n credu bod y rhai sy'n aros am fwy na phedair awr mewn unedau damweiniau a gofal brys wedi dangos dirywiad o 3 y cant dros y ddwy flynedd diwethaf i'r hyn sy'n dal i fod, yn anffodus, y bwrdd iechyd lleol sy'n perfformio waethaf? Fe wnaethoch chi gyfeirio at reoli cwynion a phryderon. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder nid yn unig o'r dystiolaeth sy'n deillio o fy ngwaith achos, ond gan etholwyr, ein bod ni wedi gweld dychwelyd at sefyllfa o osgoi mentro ac o ymatebion deddfol pan, ar ddechrau'r mesurau arbennig, cymerwyd camau cadarnhaol tuag at adeiladu pontydd gydag etholwyr, gyda chleifion a'n hunain, gyda chyfarfodydd bord gron i weld os gellid cytuno ar ffordd ymlaen neu ar atebion i broblemau? Rydych chi'n cyfeirio at ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn Y Fflint, Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty Coffa Tywyn, ac wrth gwrs yn y rhan fwyaf o achosion roedd y rhain yn disodli ysbytai cymunedol gyda gwelyau. Pan fydd eich Llywodraeth yn derbyn bod canlyniad cael gwared â'r gwelyau cymunedol hynny yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysbytai, ein hysbytai dosbarth cyffredinol, ar ein meddygfeydd teulu, ac nad yw hynny mewn gwirionedd wedi arwain at fwy o ofal yn y gymuned, ond at fwy o ddioddef yn y gymuned i ormod o bobl pan na allant gael y cymorth roedden nhw wedi gofyn amdano o'r blaen?
Rydych chi'n cyfeirio at adroddiad Tawel Fan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y cyfeiriodd Darren ato yn gynharach wrth gwrs. Wrth dderbyn yr adroddiad hwnnw, pam ydych chi mae'n ymddangos wedi diystyru pryderon Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru nad yw'r rhan fwyaf o'r teuluoedd maen nhw wedi siarad â nhw dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf yn dal heb gael atebion clir i'w cwestiynau a'u pryderon? Pam ydych chi wedi derbyn y casgliad bod gofal yn dda ac na fu cam-drin sefydliadol pan gaiff hynny ei wrth-ddweud yn uniongyrchol gan adroddiad 2015 Donna Ockenden, adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o fis Gorffennaf 2013, gwaith mewnol a wnaed ynglŷn â mapio gofal dementia ym mis Hydref 2013 a llawer o adroddiadau tystiolaeth eraill a oedd eisoes wedi eu derbyn? Rydym ni'n gwybod, oherwydd—
A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Fe wnes i ofyn am ychydig o gwestiynau, ac nid ydych chi'n bod yn deg â'r siaradwyr eraill.
Iawn, wel fe ddof i ben drwy ofyn beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n well gyda darparwyr y trydydd sector, sy'n darparu ystod eang o wasanaethau, ond er gwaethaf ymgysylltu, gyda minnau wedi hwyluso peth o hynny gyda rhai o'r cyrff hynny, flynyddoedd yn ddiweddarach rydym ni'n dal i aros am sefydlu trefniadau newydd i sicrhau y darperir gwasanaethau a gomisiynir yn briodol, ac nad ydyn nhw yn dyblygu nac yn ail-greu ond yn gwella'r profiad i gleifion.
Ynglŷn â'r manylyn olaf, mae'n anodd ateb hynny heb rai enghreifftiau penodol. Felly, os hoffech chi sôn wrthyf i am enghreifftiau penodol o ble mae'r trydydd sector wedi cymryd rhan neu heb gymryd rhan, byddai hynny'n ddefnyddiol, yn hytrach na chyfranogiad ac ymgysylltiad mwy cyffredinol â'r trydydd sector mewn amrywiaeth eang o wasanaethau, na allaf ymateb yn briodol iddo.
Ynglŷn â'r pwynt ynghylch y dirywiad pedair awr, rydym ni wedi gweld dirywiad, ac mae hynny oherwydd amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar y gwasanaeth iechyd ledled y DU. Mae'n rhannol ynglŷn â chynnydd mewn galw, yn rhannol ynglŷn â gallu cydweithio'n well â gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn rhannol ynglŷn â newid elfennau o'r arweinyddiaeth a'r heriau yn yr adrannau hynny. Mae hynny'n rhan o'r gwaith gwella yr ydym wedi'i wneud.
Unwaith eto, i ddychwelyd at yr ymweliad y bûm i arno yn Ysbyty Glan Clwyd, roedden nhw'n cydnabod bod y gwaith a oedd yn cael ei wneud yno—gallent gydnabod ei fod yn gwella'r sefyllfa ar eu cyfer nhw fel staff a'r gofal roedden nhw'n gallu ei ddarparu. Ond os nad ydym ni'n gallu gwneud rhywbeth i gadw mwy o bobl yn eu cartrefi eu hunain yn llwyddiannus a'u cael allan o'r ysbyty yn briodol yn ogystal, yna byddwn yn parhau i weld dirywiad sydd ar ei fwyaf amlwg ym mannau aros yr ysbytai. Felly, mewn gwirionedd, mae gallu darparu yn fwy effeithiol o ran datrys achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a symud pobl allan o'r sector ysbyty yn her fawr o ran y problemau a welwn ni o ran amseroedd aros ym mhob rhan o'n system pan rydym ni'n cydnabod hynny, gan gynnwys, ac yn benodol, yn y gogledd. Ac eto, nid wyf erioed wedi ceisio celu'r ffaith bod heriau yn y ffigur pedair awr a bod hynny yn effeithio ar staff a chleifion hefyd.
Rwy'n gwrthod eich honiad ein bod ni wedi gweld mwy o ddioddef oherwydd y modd yr ydym ni'n ceisio cefnogi newid yn y trefniadau gofal iechyd lleol. Mae'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn darparu gwell gofal yn nes i'r cartref, ac i ddweud y gwir, mae angen inni barhau'r â'r daith honno—mae wedi'i dilysu gan y cyngor a'r her a gawsom ni yn yr arolwg seneddol. Nid ydym ni'n mynd i ddychwelyd i'r ddarpariaeth hŷn a oedd gennym ni, ond mae angen inni feddwl ynglŷn â sut yr ydym ni'n buddsoddi yng ngalluoedd gwahanol ein system. Bydd rhywfaint o hynny ym maes gofal cymdeithasol, bydd rhywfaint o hynny yn y sector preswyl, neu mewn cyfleusterau cam-i-fyny neu ofal llai dwys. A dyna hefyd pam mae angen i iechyd a llywodraeth leol gydweithio'n fwy effeithiol i gomisiynu a chytuno ar gyllido a darparu'r gwasanaethau hynny.
O ran eich sylw ynghylch teuluoedd Tawel Fan a'r adroddiad a'r gwahaniaeth yng nghasgliadau adroddiadau Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym ni wedi trafod hyn ar achlysur blaenorol pan roddais ddatganiad ac ateb cwestiynau ynglŷn ag adroddiad y Gwasanaeth Cynghori. Ac unwaith eto rwyf wedi bod yn glir bod gwybodaeth ychwanegol ar gael i sefydliad y Gwasanaeth Cynghori, a honno'n llawer mwy eglur, cynhwysfawr a sicr, ac mae'n ddealladwy gweld pam, gyda gwahanol wybodaeth wedi ei roi iddynt nad oedd ar gael i Donna Ockenden, i fod yn deg â hi, pan wnaeth hi ei hadroddiad cyntaf, y daethpwyd i gasgliadau gwahanol. Mae'r broses yn dal i fynd rhagddo o ran gweithio gyda theuluoedd unigol er mwyn darparu eu hadroddiadau unigol iddynt ac i gael esboniad gan y Gwasanaeth Cynghori am yr heriau a welson nhw ar lefel unigol. Mae hynny'n broses y bydd angen parhau ag ef ac mae'r Gwasanaeth Cynghori a'r teuluoedd dan sylw yn helpu yn hynny o beth.
Ac yn olaf, gyda chwestiwn byr, Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwyf am ei gyfyngu i orthopedeg, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ar goedd yn y Siambr hon fy mod i wedi crybwyll fy mhryderon wrthych chi dro ar ôl tro ynghylch faint o bobl sy'n gorfod aros am driniaethau orthopedig yn unig. Dim ond heddiw, tra bûm i'n eistedd yn y Siambr hon, rwyf wedi cael llythyr gan ferch etholwraig am ei mam 85 mlwydd oed sydd eisoes wedi bod yn aros 74 wythnos am ben-glin newydd. Ie, deallwch hynny—gwraig 85 mlwydd oed. Mae hi wedi bod yn aros 74 wythnos am ben-glin newydd a dywedwyd wrthi y gallai ddisgwyl aros rhyw 106 wythnos cyn iddi hyd yn oed gael ei hystyried i allu cael y llawdriniaeth honno. Mae hyn yn warthus. Nawr, rwy'n sylwi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y gofyniad carreg filltir ar gyfer y dyfodol ar gyfer mis Ebrill i fis Medi y flwyddyn nesaf i ddarparu tystiolaeth o welliant parhaus a chynaliadwy o ran cyfeirio i driniaeth, gyda dim claf yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth, yn benodol yn eithrio orthopedeg o'r targed hwn. Pam, pan fo'r rhan fwyaf o achosion iechyd a ddygir i fy sylw yn rhai lle na all bobl gerdded, lle na allan nhw gysgu, lle na allan nhw fwyta, pan maen nhw mewn poen gwirioneddol ofnadwy, pan fo nhw'n hŷn, pan fo nhw'n ifanc, pan fo nhw'n ganol oed? Mae ansawdd eu bywyd yn cael ei esgeuluso, mewn gwirionedd, gan eich Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf i pam, pam mewn difrif, ydych chi wedi eithrio hynny o'ch targedau? Mae'n drueni.
I ddweud y gwir rwy'n gwrthod yn llwyr yr honiad bod y Llywodraeth hon yn esgeuluso pobl sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig. Rwy'n credu bod proses graffu gwbl briodol i'w gynnal gyda chwestiynau i'w gofyn am yr heriau sy'n bodoli ar gyfer eich etholwyr, ac eraill, ond dydw i ddim yn credu bod y math hwnnw o ddatganiad sarhaus yn helpu neb, a dydw i ddim yn credu ei fod yn helpu gosod achos rhesymol am y gwelliant sydd yn dal yn ofynnol.
Y rheswm pam nad oedd orthopedeg wedi'i gynnwys yn y targed o 36 wythnos ar gyfer gwella yw y gwyddom ni na fyddent yn syml yn gallu ei gyflawni o fewn yr amserlen a gynigiwyd. Gwyddom na ellir cyflawni'r cyfraddau amseroedd aros y mae angen eu datrys yn y modd hwnnw, ac nid wyf eisiau cael targed gwella sy'n amlwg yn anghyraeddadwy. Nid yw hynny'n golygu na ddylai'r bwrdd iechyd wella. Nid yw hynny'n golygu nad oes diffyg pwyslais ar y mater neu ddiffyg ymwybyddiaeth, ac mae'n sicr yn fater rwyf wedi sôn amdano yn uniongyrchol wrth y cadeirydd a'r prif weithredwr. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn disgwyl gweld cynnydd yn ei gylch, ac mae'n rhan o fy rhwystredigaeth yr wyf wedi ei fynegi o'r blaen, er gwaethaf yr heriau clir ac amlwg a nodwyd, nad oes gan y Bwrdd Iechyd gynllun orthopedig wedi'i gymeradwyo, nid dim ond i ymdrin â'r heriau tymor byrrach o ymdrin â'u rhestrau aros, ond hefyd i gael yr ateb mwy cynaliadwy hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Ac am yr esboniadau cwbl resymol ynghylch pam nad ydyn nhw wedi gwneud mwy dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yr her yw mewn gwirionedd y rhyddhawyd y rhestr aros pan na ddylai fod wedi gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyna ble rwy'n disgwyl gweld cynnydd pellach ac rwy'n gwybod y byddaf yn wynebu cwestiynau gan Aelodau yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor hyd nes datrysir yr amseroedd aros y gall pobl eu disgrifio'n gywir a bod llai a llai o bobl yn aros, nes ein bod yn cyrraedd sefyllfa unwaith eto lle nad oes gennym ni bobl yn aros dros 36 wythnos ac yn sicr nad oes gennym ni bobl yn aros mwy na 52 wythnos am eu triniaeth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—diweddariad ar flaenoriaethau'r iaith Gymraeg. Galwaf ar Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi colli fy llais? Felly, fe wnaf i fy ngorau glas i gyflwyno'r datganiad ac i roi'r diweddariad i'r Senedd ar y camau rydym yn eu cymryd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
Fel y byddwch chi’n ymwybodol, mae pwyslais Llywodraeth Cymru wedi bod ar greu safonau i greu hawliau statudol i bobl Cymru i gael mynnu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y symudiad yma o’r hen gynlluniau iaith i safonau yn symudiad pwysig. Erbyn heddiw, mae dros 120 o gyrff yn cael eu heffeithio gan y safonau. Roedd rhesymau da dros ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus i gychwyn. Rhyngddynt, mae’r cyrff yma yn gyfrifol am y mwyafrif sylweddol o wariant refeniw Llywodraeth Cymru, sef £13 biliwn eleni. Ond, mae sawl peth wedi fy nharo i ers dod yn gyfrifol am yn portffolio yma.
Yn gyntaf, cododd y gwaith o ddatblygu’r safonau iechyd nifer o gwestiynau anodd ynghylch sgiliau Cymraeg y gweithlu a chapasiti cyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Yn ail, mae’r broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, mae'n gostus, ac mae'n gymhleth, ac mae’r broses o ymchwilio i fethiannau yn hir ac yn orfiwrocrataidd. Ond, yn bwysicaf oll, mae nod uchelgeisiol Cymraeg 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn gofyn am newid cyfeiriad pendant. Mae’r nod yn un pellgyrhaeddol. Er mwyn llwyddo, rhaid i ni fod yn glir ynglŷn â sut i wario ein hadnoddau a'n hamser yn well.
Fel canlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Bil newydd, yn unol â’n hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae’r gwaith hwn yn datblygu’r cynigion a wnaethon ni yn y Papur Gwyn, 'Taro’r cydbwysedd iawn', a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd. Rhaid i’r Bil adlewyrchu ein dymuniad i ailgyfeirio adnoddau er mwyn cynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg, yn hytrach na chanolbwyntio cyfran sylweddol o gyllideb y Gymraeg ar gyflwyno safonau newydd a’u plismona.
A gaf i fod yn glir? Ni fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i orfodi’r safonau. Rhaid i gyrff gyflawni eu dyletswyddau statudol. Ond, rwyf o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffyn lle bo hynny’n bosibl. Mae hwnnw'n gyfieithiad ofnadwy, onid yw e? Os oes rhywun yn gallu ffeindio idiom gwell, byddai hynny yn help i mi. Yn y maes ieithyddol, nid yw gorfodi yn debygol o weithio os nad allwn ni newid meddyliau a rhoi cefnogaeth i gyrff i gydymffurfio. Am y rhesymau hyn, rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir na fyddwn ni yn cyflwyno mwy o safonau ar gyfer sectorau eraill am y tro. Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ni ar ddatblygu’r Bil newydd. Mater i’r Prif Weinidog, wrth gwrs, fydd cadarnhau amserlen ar gyfer y Bil maes o law.
Fel rhan ganolog o’n cynigion, rydym yn bwriadu creu comisiwn y Gymraeg. Prif flaenoriaeth y comisiwn fydd hybu’r Gymraeg ar sail cynllunio ieithyddol pwrpasol. Rydym yn bwriadu mai’r comisiwn fydd hefyd yn gyfrifol am reoleiddio’r safonau, ond a gaf i bwysleisio na fyddwn yn rhwyfo nôl o’r safonau nac ar annibyniaeth y rôl rheoleiddio yn y corff newydd? Rydym am i’r comisiwn arwain newid diwylliant sylweddol. Os mai ein nod ni yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae’n amlwg y bydd rhaid i’r comisiwn newydd yma wario rhan helaeth o’i amser yn dwyn perswâd ar fwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Nid oes gobaith gennym i gyrraedd y targed oni bai ein bod ni’n darbwyllo rhai o’r 80 y cant o’r boblogaeth sydd ddim yn medru’r Gymraeg i ymuno yn y daith bwysig yma. Rhaid hefyd sicrhau bod lot mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg. Rhaid i ni ddarbwyllo mwy o arweinwyr byd busnes, gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas sifil—boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio—i weithredu o blaid y Gymraeg neu mewn modd sy’n hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Y comisiwn fydd yn arwain ac yn cydlynu’r gwaith hwn ar draws nifer o sefydliadau.
Rydym eisoes yn gosod seiliau cadarn i Cymraeg 2050. Rydym yn buddsoddi dros £2 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd yng ngwaith Mudiad Meithrin a Cwlwm, er mwyn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Drwy ymgyrch Darganfod Addysgu, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyrwyddo addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr. O fis Medi, bydd cymhelliant newydd o £5,000 ar gael i ddenu mwy o fyfyrwyr i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Ein nod ni yw cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg ôl-16 yn allweddol er mwyn cadw’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg yn siarad Cymraeg. Fe fydd hyn hefyd yn helpu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ac yn ateb anghenion cyflogwyr. Rydym hefyd yn buddsoddi £2.5 miliwn eleni yng nghynllun Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r galw am y cyrsiau yn eithriadol. Yn ogystal â hyn, fe wnes i lansio cynllun Cymraeg Byd Busnes yn ddiweddar, cynllun sy’n gweithio gyda busnesau i’w helpu nhw i ddefnyddio’r Gymraeg. A chyn hir, rwy’n bwriadu lansio llinell gyswllt er mwyn rhoi cymorth rhad ac am ddim i fusnesau ac i unigolion. Rwy’n disgwyl bydd y comisiwn arfaethedig yn ehangu’r math yma o waith i feysydd eraill.
Wrth gynllunio ar gyfer y comisiwn newydd, rwy’n ymwybodol bod tymor y comisiynydd presennol yn dod i ben fis Mawrth nesaf. Er mwyn sicrhau cyfnod pontio priodol rhwng y comisiynydd presennol a’r gyfundrefn newydd, byddaf yn cychwyn trefn penodiadau cyhoeddus ar gyfer comisiynydd newydd yn fuan. Bydd y person a benodir yn chwarae rhan allweddol yn adeiladu ar waith y comisiynydd presennol ac yn gosod seiliau cadarn i’r comisiwn newydd. Byddaf i heddiw yn ysgrifennu heddiw at y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’w gwahodd nhw i enwebu Aelod i fod ar y panel penodi.
Yn olaf, hoffwn i ddiweddaru Aelodau am gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, y WESPs. Nawr, cymeradwyais 15 o’r cynlluniau ar y 15 Mawrth eleni, ac yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, fe wnes i siarad yn uniongyrchol gydag arweinydd pob un o’r saith awdurdod arall er mwyn gosod allan y gwelliannau roeddwn i'n eu disgwyl cyn i mi ystyried cymeradwyo’r cynlluniau. Mae’r trafodaethau hynny wedi dwyn ffrwyth yn y rhan fwyaf o achosion. Mae un cynllun ychwanegol eisoes wedi’i gymeradwyo gennyf, ac rydw i'n obeithiol bod y gweddill yn agos iawn at gael eu cymeradwyo.
Rydw i'n cydnabod bod y daith wedi bod yn un rhwystredig ar adegau, ac rydw i eisiau diolch i bob awdurdod lleol am ddangos yr ewyllys i weithio gyda’r Llywodraeth er mwyn datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach yn sgil nifer uchel y ceisiadau i’r rhaglen grant cyfalaf o £30 miliwn i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach eleni.
Ym mis Chwefror, penodais Aled Roberts i arwain bwrdd cynghori annibynnol. Bydd y bwrdd yn gyfrifol am roi cyngor ar sut i weithredu argymhellion yr adolygiad brys o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd yn 2017. Ac rydw i’n edrych ymlaen at dderbyn cyngor y bwrdd ar sut y gallwn ni gryfhau cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg fel sail i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Rydw i yn yr un lle, Weinidog, ynglŷn â'r peswch yma.
Diolch am y datganiad yma. A gaf i jest ddechrau gyda lle rŷm ni'n cytuno, efallai? Mae'r broses ar gyfer gweithredu'r safonau yn gostus ac yn fiwrocrataidd a hoffwn—ac rwy'n fwy na bodlon—eich cefnogi chi gydag unrhyw ddiwygiad i hynny. Ond beth sydd hefyd yn gostus, wrth gwrs, yw gofyn i'r comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau ar gannoedd o sefydliadau o fewn rowndiau 3 a 4 yr amserlen, derbyn adroddiadau'r ymchwiliadau hynny yn 2016-17, ac wedyn ddim gweld unrhyw gamau gan y Llywodraeth ar gefn hynny. Felly, y cwestiwn cyntaf i fi yw: sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adroddiadau yna mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Os yw'r adroddiadau hyn yn mynd, yn y bôn, yn syth i'r bin, neu os bydd hyn yn digwydd, wel, faint o arian ydych chi wedi'i wastraffu gyda'r broses yma?
Er yr hoffech feddwl bod y sefydliadau yna wedi dechrau paratoi ar gyfer cyrraedd y safonau newydd, maen nhw'n debygol o weld y cyhoeddiad heddiw fel esgus i atal gwneud mwy o hynny nawr, a jest atal beth maen nhw wedi'i wneud yn barod. Sut fyddwch chi'n gweithredu nawr—ac rydw i'n meddwl nawr—i'w hannog i barhau i fynd ymlaen â'u cynlluniau?
Nid oes dim byd newydd yn y datganiad i'm mherswadio o ran pwrpas creu comisiwn newydd, mae'n rhaid imi ddweud. Nid oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffafrio hyn, yn arbennig o ran opsiynau eraill, ac mae'n parhau i fi i fod yn gwbl aneglur pa mor annibynnol fydd y corff hwnnw. Ac mae hyn yn bwysig, achos os nad yw'n gwbl annibynnol, nid ydych chi'n datrys y broblem hon, sef na ddylai'r corff sy'n gwneud y rheolau fod y corff sy'n gorfodi'r rheolau, ac ni ddylai'r deddfwr fod yn orfodwr deddfwriaeth. Ar hyn o bryd, mae rhwystrau a gwrthbwyso yna: mae'r Llywodraeth yn gwneud y rheolau, mae'r comisiynydd yn eu gorfodi. Os nad yw'r comisiwn newydd hwn yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth—. Nid yw hyd braich yn ddigon—mae'n anniogel o safbwynt cyfansoddiadol.
Fel y gwyddoch, mae gan y comisiynydd ddyletswyddau hyrwyddo hefyd, ac mae'r Gweinidog blaenorol, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi'n anodd i'r comisiynydd gyflawni'r dyletswyddau statudol hynny, ond gellir eu hadfer. Felly, yn y bôn, beth yw’r gwahaniaeth rhwng eich comisiwn a’r comisiynydd? Beth sy’n eich atal rhag diwygio swyddfa’r comisiynydd yn lle ei disodli? Byddai diwygiad yn caniatáu i gomisiynydd arwain newid diwylliannol, ac rydym yn cytuno ar y dyhead hwnnw. Mae lle hefyd, fel rydym wedi trafod o’r blaen, i ehangu pwerau lled-farnwrol y comisiynydd i greu comisiynydd ieithoedd, i sicrhau nad yw deddfwriaeth hawliau’n cael ei gweithredu mewn ffordd wahaniaethol.
Diolch am y diweddariad ar y rhaglenni cyfredol. Mae’r cwymp yn nifer yr athrawon sy’n mynd ymlaen i addysgu Cymraeg, neu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, i fi yn fygythiad clir a chyfredol i lwyddiant Cymraeg 2050. Rydym hanner ffordd, nawr, trwy dymor y Cynulliad hwn, ond dim ond nawr rŷch chi’n cyflwyno cymhelliant o £5,000 i helpu sortio hynny mas. Felly, pryd y gallwch chi ddweud bod gan y cynllun hynny effaith sylweddol? Achos rwy’n gwerthfawrogi beth rŷch chi wedi’i ddweud ynglŷn â’r cyfalaf, ond mae yna broblem yma gyda nifer y bobl sy’n fodlon gwneud y gwaith. Mae gyda fi yr un pryderon ynglŷn â’r gweithlu addysg ag y cawsoch chi ynglŷn â’r gweithlu iechyd. Mae'n dal yn broblem ac mae’n anodd wynebu hynny, rydw i’n credu.
Yn olaf, fel y gwyddoch, heb ymrwymiad gan y byd gwaith a chyflogaeth, ymhob sector, nid dim ond yn y sector preifat, i greu amgylchedd gweithio dwyieithog, mae gennym ni fygythiad clir a chyfredol arall i Cymraeg 2050. Felly, a allech chi ddweud tipyn bach mwy am y cynllun Cymraeg Gwaith? Beth sy’n eithriadol am y galw a beth yw’r lledaeniad daearyddol? Yn bwysicach, sut y gallwn ni fesur a fydd y galw’n mynd i gynhyrchu siaradwyr sydd tipyn bach mwy hyderus ac sy’n fodlon iwso eu Cymraeg yn amlach? Yn benodol, beth y dylech chi a ni ei ystyried yn ganlyniad da ym mentrau bach a chanolig? Diolch.
Diolch yn fawr, Suzy. Rwy'n falch ein bod ni'n cytuno bod y system bresennol yn gostus, ei bod yn or-fiwrocrataidd a’i bod yn cymryd lot fawr o amser. Ond rydw i hefyd yn derbyn y ffaith bod lot o waith eisoes wedi’i wneud ar y cynlluniau newydd—y safonau yr oedd pobl yn disgwyl i ddod yn y dyfodol. Ni fyddwn ni'n stopio’n llwyr, ond byddwn ni'n treulio’r amser nesaf yma yn sicrhau ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r Bil, fel ein bod yn gallu symleiddio’r broses. Dyna yw’r syniad y tu ôl sicrhau ein bod ni’n cael Mesur newydd sydd yn edrych ar sut i symleiddio’r broses. Ond yn fwy na hynny, lot yn fwy na hynny, ac yn bwysicach o lawer, beth mae hyn yn ei wneud yw cymryd mewn i ystyriaeth y ffaith bod gyda ni bolisi i gael 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Os na fyddwn ni'n rhoi’r seilwaith yn ei le er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithredu tuag at y targed yna, wedyn fe fydd yn fwy anodd i ni gyrraedd y targed. Beth sydd wedi digwydd, ar hyn o bryd, yw bod cymaint o bwyslais wedi cael ei roi ar y safonau ac ar blismona’r safonau, a'n bod ni wedi colli golwg, rydw i’n meddwl, ar hyrwyddo a hybu. A dyna pam rŷm ni eisiau gweld y pwyslais gwahanol iawn yma ar hybu a hyrwyddo, yn arbennig o ran trial annog pobl, a dysgwyr yn arbennig, i ymgymryd â'r iaith Gymraeg.
Rydw i’n cymryd y pwynt ynglŷn â’r ffaith bod angen inni gael rhyw ffordd y tu fewn i’r comisiwn newydd yma—bod y plismona yma yn annibynnol ar Lywodraeth. Rydw i wedi bod yn glir iawn gyda fy swyddogion i fod yn rhaid inni gael system sydd hyd braich i ffwrdd o’r Llywodraeth, fel bod y plismona yna’n gallu digwydd hyd braich o Lywodraeth Cymru.
O ran y gweithlu, rydw i’n meddwl eich bod yn eithaf iawn. Beth sy’n ddiddorol gyda’r safonau iechyd yw, er bod pobl, yn gyffredinol, eisiau gweld y symudiad, mae’r broblem yn un ymarferol: nad yw’r boblogaeth yna i hyrwyddo. Os ydym yn cael cymaint o bobl i mewn i’r system ag yr ydym yn gobeithio, wedyn, dros amser, bydd y system yna yn newid, gobeithio. Ond rhan hanfodol o hynny yw cael pobl tu mewn i'n system addysg ni i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna pam mae'r £5,000 yna yn hollbwysig i drial annog mwy o bobl i mewn i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷm ni yn gobeithio y bydd hyn yn newid y ffordd ac y bydd yn denu mwy o bobl i gymryd addysg a hyfforddi addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymlaen yn ystod y misoedd nesaf.
Fe gafwyd gwledd Gymraeg yr wythnos diwethaf wrth i gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd ddod at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod—pobl ifanc o bob rhan o Gymru, yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf. A'r nodwedd oedd yn eu huno nhw oedd hyder—hyder yn y Gymraeg a hyder yn eu Cymreictod. Rydw i'n credu bod hyder yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, a dyna pam rydw i'n anghytuno â'r cyfeiriad sy'n cael ei awgrymu gan eich datganiad chi heddiw.
Oes, mae eisiau dathlu, hyrwyddo, hybu, ac yn wir mae nifer o'r pethau sy'n cael eu crybwyll yn y datganiad heddiw yn bethau mae Plaid Cymru wedi eu sicrhau drwy gytundeb cyllideb—£2 filiwn i Mudiad Meithrin a'r buddsoddiad yng ngwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol—ond hefyd mae'n rhaid datblygu hawliau siaradwyr Cymraeg, i roi statws ac i greu mwy o hyder. Mae honno yn rhan bwysig o'r ymgyrch i greu 1 filiwn o siaradwyr. Mae'r gwaith wedi ei gychwyn, mae angen ei ledaenu, a law yn llaw efo hynny mae angen buddsoddi mewn ymgyrchoedd i hyrwyddo'r Gymraeg, mae angen buddsoddi mewn tyfu addysg Gymraeg, fel bod pob plentyn yn datblygu sgiliau yn nwy iaith ein gwlad ni, a'r rheini yn sgiliau llawn, ac mae angen buddsoddi i gynnal cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith bob dydd. Y blaenoriaethau yna i gyd, o'u plethu efo'i gilydd, a fydd yn arwain at 1 filiwn o siaradwyr. Nid ydy gollwng un elfen, sef gwanio hawliau, er mwyn cyllido elfen arall yn strategaeth uchelgeisiol, ac nid ydy o'n debygol o lwyddo i gyrraedd y nod. Felly, o ystyried llwyddiant y safonau iaith hyd yma, pam ydych chi'n cefnogi ymgais i wanio, i lastwreiddio ac i wadu hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg? Dyma ydy byrdwn eich datganiad chi heddiw yma.
Wrth lansio'r Papur Gwyn, mi oedd eich rhagflaenydd chi wedi gobeithio y byddai'r cynigion yn dod â chonsensws, ond ers hynny rydym ni wedi gweld chwalu'r consensws yna a'r gefnogaeth unfrydol a roddwyd i Fesur presennol y Gymraeg gan Aelodau'r Senedd yma yn 2011 yn diflannu, a'r bygythiad yn dod yn sgil darn o ddeddfwriaeth ar y Gymraeg a fyddai, mewn gwirionedd, yn mynd â ni nôl i Gymru 1993 y Torïaid, yn hytrach nag ymlaen i Gymru hyderus 2050 a'r 1 filiwn o siaradwyr.
Hoffwn i wybod, felly, faint o gefnogaeth sydd yna o blith siaradwyr Cymraeg i'r cynigion i wanhau'r hawliau. Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal y llynedd, dim ond 77—so, rydw i'n ateb eich cwestiwn chi i raddau fan hyn—dim ond 77 o'r 504 ymateb a oedd yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r comisiynydd efo comisiwn, sef 15 y cant o'r ymatebion. Mae yna farc cwestiwn mawr, felly, a oes yna unrhyw gefnogaeth i'r cynigion yma, heb sôn am gyfiawnhad i baratoi Bil.
Mae eich datganiad chi'n cyhoeddi'ch bwriad i benodi comisiynydd newydd, penodiad o saith mlynedd o dan Fesur y Gymraeg. Mi ydych chi wedi bod yn canmol effaith bositif y safonau. Rydw i'n credu mai un effaith positif yn deillio o'r safonau ydy creu gweithlu Cymraeg ar draws sectorau a chreu mannau gwaith Cymraeg. Felly, mae'n anodd deall pam y byddech chi am golli momentwm drwy beidio â chaniatáu i'r comisiynydd newydd fwrw ymlaen efo'r gwaith o osod rhagor o safonau. Mae safonau'r cwmnïau dŵr yn eistedd ar eich desg chi, mae'r cymdeithasau tai yn aros o hyd am safonau, ac, yn wir, mi allech chi basio Gorchmynion fory nesaf i ychwanegu cyrff o bwys at setiau o reoliadau sydd eisoes wedi cael eu pasio—cyrff megis Cymwysterau Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac yn y blaen. A gaf i awgrymu eich bod chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i'r safonau drwy ddod â Gorchmynion i'r Cynulliad hwn ar y cyfle cynharaf?
Mae cynnal hygrededd y safonau a'r gyfundrefn sy'n gwarantu hawliau i'r Gymraeg yn allweddol, ac mi ydych chi'n sôn na fyddwch chi'n rhwyfo nôl o'r safonau, na chwaith ar annibyniaeth y rôl reoleiddio mewn unrhyw gorff newydd, ond mae eich cynigion chi am gomisiwn y Gymraeg yn golygu mai Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod y safonau; Llywodraeth Cymru fyddai'n penodi aelodau'r comisiwn; Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod ei gyllideb; Llywodraeth Cymru fyddai'n cymeradwyo ei gynllun strategol; a Llywodraeth Cymru fyddai efo'r grym i gyfarwyddo'r corff newydd yma. Rŵan, ai dyna'ch diffiniad chi o 'annibynnol'? Nid dyna ydy fy niffiniad i.
Rydw i'n gorffen efo un darn bach arall. O ran datblygu'r Gymraeg yn y sector breifat, mi gytunodd y Cynulliad hwn y llynedd y dylid ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Heddiw, rydych chi'n sôn am ddarbwyllo arweinwyr busnes i ddefnyddio'r Gymraeg, ac y dylai'r comisiwn arwain ar hynny. Mi fuodd Bwrdd yr Iaith yn ceisio perswadio yn ddyfal am 15 mlynedd. Sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n llwyddo i ddarbwyllo busnesau mawr efo'r foronen yma rydych chi'n sôn amdani hi, er bod y cyrff eu hunain, y busnesau eu hunain, yn dweud mai i orfodaeth yn unig y byddan nhw'n ymateb?
Diolch yn fawr, Siân. Fe fues i yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf hefyd, ac rydych chi'n eithaf reit: roedd yna lot o blant yna a oedd gyda lot o hyder. Beth sy'n fy mhoeni i yw nid y plant a oedd yn yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, ond y cannoedd o filoedd sy'n mynd i ysgolion Cymraeg nad oedd yn yr Eisteddfod: rheini sydd ddim â'r hyder. Rheini yw'r rhai y mae'n rhaid i ni eu darbwyllo, a dyna pam rydw i'n meddwl nad yw gorfodi pobl i wneud pethau ddim yn mynd i'n elwa yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni ddarbwyllo pobl mai dyma'r cyfeiriad cywir, a dyna pam mae'r newid pwyslais yma yn hollbwysig.
Rydw i eisiau ei gwneud hi'n glir nad ydym ni'n gollwng y safonau; nid ydym yn camu nôl o'r safonau. Bydd digon o waith gan y comisiynydd presennol, a'r un newydd, i sicrhau a gweithredu'r safonau iechyd newydd. Mae lot fawr o waith a fydd yn ymwneud â'r rheini. Ond, y gwahaniaeth yw y byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo, ac nid wyf yn mynd i esgusodi fy hunan na Llywodraeth Cymru am hynny.
Roeddech chi'n dweud bod yr ymatebion rydym ni wedi'u cael i'r Papur Gwyn wedi bod yn wahanol. Beth ddigwyddodd, actually, oedd ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth a gwahaniaethu rhwng ymatebion sy'n rhan o ymgyrch ac ymatebion sy'n dod o unigolion. Ac o ran y rheini a ddaeth o unigolion, roedd yn glir bod y mwyafrif o blaid symud i system a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo.
A gaf i fod yn hollol glir? Nid Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am benodi'r person a fydd yn gyfrifol yn y comisiwn newydd am blismona'r safonau. Rydw i eisiau ei gwneud hi'n hollol glir, ac mae hwn yn rhywbeth rydw i wedi ei wneud yn glir iawn i'r swyddogion: mae'n rhaid i'r person yna fydd yn gyfrifol am blismona fod yn hollol annibynnol. Felly, nid y Llywodraeth fydd yn cymryd rhan yn y penodiad yna o'r person fydd â chyfrifoldeb. Diolch.
Er gwaethaf y beirniadaethau miniog sydd wedi dod gan Siân Gwenllian, yr wyf yn eu deall yn iawn, rwyf i o'r farn, heddiw, ei bod yn bwysig cydnabod y ceir cytundeb eang o amgylch y Siambr hon am y cyfeiriad polisi y mae'r Llywodraeth yn mynd iddo. Er bod arddull y Gweinidog newydd ychydig yn wahanol efallai i arddull hwyliog ei rhagflaenydd, credaf ei bod yr un mor effeithiol mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Rwyf i o'r farn ei bod yn hanfodol bwysig, os ydym am briodi'r hyder yr oedd Siân Gwenllian yn sôn amdano ymhlith y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn naturiol—os y caf ei roi felly—gyda'r rhai y bydd yn rhaid inni fynd â nhw gyda ni ar y daith hon i gyflawni'r nodau a nodwyd gan bob un ohonom yn y rhaglen Cymraeg 2050, wrth i ni ymestyn llwyddiant y rhaglen hon y tu hwnt i gaerau'r Fro Gymraeg yn y gorllewin i ardaloedd Saesneg eu hiaith yn bennaf, credaf ei bod yn hanfodol mai'r anogaeth y dylid ei phwysleisio yn hytrach na'r cerydd, ac felly rwy'n croesawu cyfeiriad teithio'r Llywodraeth yn fawr iawn.
Nid oes, wrth gwrs, fawr iawn o sylwedd yn y datganiad penodol hwn, ond nid wyf i'n dweud hynny er mwyn beirniadu; credaf ei bod yn ddigon teg i'r Gweinidog fod yn awyddus i adrodd ar sut y mae hi'n gweld pethau'n mynd rhagddynt ychydig fisoedd ar ôl iddi ddod i'w swydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni fod yn ymarferol ein hymagwedd wrth gyflawni'r amcan hwn. Nid oes pwrpas mewn gosod amcanion nad oes modd eu cyrraedd, ac nid oes pwrpas mewn codi cynhennau, a fyddai'n arafu cyfradd y cynnydd yr ydym i gyd yn dymuno ei weld. Felly, nid wyf i'n beio dim ar Blaid Cymru am yr hyn y maen nhw'n ei ddweud, neu hyd yn oed sefydliadau fel Cymdeithas yr Iaith am fod yn rhwystredig o ran cyflymder y newid. Mae'n bwysig iddyn nhw gael eu llais a dylen nhw ddal at y feirniadaeth hon i wneud yn siŵr bod eu bod yn ceryddu'r Llywodraeth, sydd yn cynnig anogaeth. Felly, mae'n bwysig y gwrandewir ar lais bob un ohonom, yn fy marn i, mewn gwahanol ffyrdd gan ein bod ni i gyd yn dymuno gweld yr un amcan.
Rwyf i yn cefnogi'r cynigion i newid i'r Comisiwn o'r Comisiynydd, am resymau a nododd y Gweinidog ei hun, ac rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig y dylai swyddogaethau plismona'r rhaglen gael ei wneud gan rai sydd hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae'n bwysig mai dwyn perswâd y dylai'r Llywodraeth ei wneud, yn fy marn i, ac nid plismona'r system. Honno yw'r ffordd orau, rwy'n meddwl, i ni gyflawni'r nod hwnnw. Gwelsom yn y gwrthdaro anffodus, er enghraifft, yn Llangennech y llynedd, sut y gall problemau o'r fath ei gwneud yn anos cyrraedd ein hamcan, rwy'n credu, mewn ardaloedd nad ydyn nhw efallai mor argyhoeddedig o'r angen i wneud cynnydd yn y cyfeiriad yr ydym i gyd yn awyddus i'w weld. Felly, rydym yn eiddgar i geisio tawelu'r dyfroedd a chael cymaint â phosibl o ddealltwriaeth gyffredin i gyflawni'r nodau hyn.
Mae gennyf i un cwestiwn ymarferol yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog. Rwy'n cymeradwyo yn fawr iawn y cymhelliant i athrawon ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddysgu sut i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn y blaen, ond un peth y mae'n rhaid inni ei sicrhau yw nad yw rhieni, yn arbennig, yn credu nad oes modd gwneud hynny heb ei fod ar draul cael gafael ar yr athrawon gorau ar gyfer ysgolion penodol i addysgu eu plant. Felly, tybed beth allai'r Gweinidog ei ddweud wrthym am y modd y gellid tawelu ofnau—pa mor ddi-sail bynnag y bônt—o'r fath.
Yn ail, rhywbeth nad yw yn y datganiad, ond a oedd yn y rhaglen Cymraeg 2050. Roedd honno yn nodi ffyrdd ar gyfer cyflawni nodau ac, yn benodol, y nod o weddnewid tirweddau digidol Cymraeg, gyda phwyslais penodol ar dirwedd technoleg. A all y Gweinidog roi'r manylion diweddaraf inni ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau rhagweithiol tuag at gyflawniad yr ymdrech hon?
A chyda hynny, ni wnaf i ond dweud fy mod wedi fy mhlesio â'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn datblygu'r polisi hwn, ac rwyf i o'r farn mai'r dull ymarferol, a gyflwynodd ei rhagflaenydd i hyn, ac sy'n cael ei ymestyn ymhellach gan y Gweinidog presennol, yw'r ffordd orau o gyflawni ein hamcan cyffredin.
Diolch yn fawr iawn, Neil. Rwy'n credu yr hoffwn i ei gwneud yn glir pa mor bwysig yw'r newid hwn o ran pwyslais os ydym ni am gyrraedd y nod hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn yw tynnu sylw at hawliau siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny'n hollol iawn—mae hynny'n dda, ac mae wedi dod yn ei flaen yn sylweddol. Rydym ni wedi newid yr amgylchedd yn wirioneddol, yn arbennig mewn Llywodraeth Leol ac mewn rhai prifysgolion. Rwy'n deall iddo fod yn llwyddiannus, ond mae'r newid pwyslais, os ydym yn dymuno cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr, yn golygu ei bod yn rhaid inni ddechrau canolbwyntio ar yr 80 y cant hynny nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg. Fel arall, ni chyrhaeddwn ni fyth—ni chyrhaeddwn ni fyth. Felly, mae'n rhaid inni newid y pwyslais hwnnw.
Ni allwn wneud popeth. Dim ond cyllideb gyfyngedig sydd gennym, a dyna pam mae hi'n bwysig, yn fy marn i, y ceir dealltwriaeth mai dyna pam yr ydym ni'n gwneud hyn. Nid oes unrhyw golli momentwm, mewn gwirionedd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ei wneud mewn ffyrdd gwahanol. Felly, er enghraifft, mae gennym y Cymraeg Byd Busnes newydd hwn. Rydym yn rhoi cefnogaeth, ac rydym wedi penodi 10 o bobl newydd i fynd o amgylch Cymru, i fynd i mewn i fusnesau bach a chanolig i ddweud, 'Pam na wnewch chi gynnig rhai gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg? Pam na wnewch chi'n siŵr fod eich cwsmeriaid yn ymwybodol bod gennych chi bobl sy'n siarad Cymraeg?' Y math o gymorth ymarferol, mewn gwirionedd, y mae pobl yn chwilio amdano—gwybodaeth am bwy sy'n gallu siarad Cymraeg.
Fyddech chi ddim yn credu'r peth. Roeddwn i gyda dau neu dri o bobl yn ddiweddar, ac roedden nhw wedi adnabod ei gilydd am bedair blynedd ac nid oedd ganddyn nhw syniad o gwbl eu bod i gyd yn siarad Cymraeg. Dim ond pan ddechreuais i siarad â nhw yn unigol y daethon nhw i wybod. Felly, dyna'r math o ddealltwriaeth ac amlygrwydd i'r iaith Gymraeg, nad yw'n ymwneud â gorfodi pobl. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn newid yr awyrgylch a'r ffordd y mae pobl yn ymateb.
Mae Cymraeg Gwaith yn rhywbeth arall, a cheir llinell gymorth newydd, fel na fyddwn yn gweld y sefyllfa lle mae gennym ni'r cyfieithiadau ofnadwy hyn o'r Saesneg i'r Gymraeg. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai hynny ddigwydd yn y dyfodol oherwydd bydd cefnogaeth ar gyfer hynny.
Bydd y cymhelliant hwn o £5,000 ar gyfer athrawon newydd, rwy'n gobeithio, ac nid i ddwyn pobl o'r sector Saesneg i'r sector Cymraeg. Y syniad yw annog athrawon newydd, ac yn sicr rydym ni angen hynny.
Ac, ar yr ochr ddigidol, rydym yn gobeithio bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr mewn addysg bellach, er enghraifft—. Am y tro cyntaf, mae'r system addysg bellach yn cael ei dwyn i mewn i'r system. Yr hyn yr oeddem yn ei weld oedd gostyngiad mawr. Byddai rhai yn dod o ysgolion Cymraeg ac yn colli eu Cymraeg yn syth wrth fynd i'r colegau addysg bellach. Felly, rydym ni'n newid y system honno nawr, gan roi llawer mwy o gymorth i'r system addysg bellach. Mae hyn wedi digwydd yn y prifysgolion eisoes, ac rydym yn symud nawr at addysg bellach. Felly, gobeithio bod hynny yn ogystal â'r fframweithiau digidol sy'n digwydd yn y colegau a'r prifysgolion yn rhan o hynny hefyd.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Mae angen defnyddio'r iaith yn y gwaith, yn gymdeithasol, a gyda theulu. Pan fyddaf yn ymweld â Chaernarfon, Cymraeg yw iaith naturiol pobl mewn siopau, tafarndai ac ar y stryd. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, cefais anhawster y llynedd i gael banc i dderbyn llythyr yn y Gymraeg. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mwy o gymunedau arnom fel Caernarfon? Sut y gallwn ni gyflawni hynny? Mae arnom angen mwy o gyrsiau prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Beth sy'n cael ei wneud i gyflawni hynny?
Diolch yn fawr, Mike. Mae dy Gymraeg di'n gwella pob munud, chwarae teg. Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi pwyslais ar bwysigrwydd defnyddio'r iaith. Dyna rŷch chi'n ei weld mewn cymunedau fel Caernarfon, wrth gwrs, a byddai'n dda gweld mwy o gymunedau fel Caernarfon. Y ffordd i sicrhau hynny, wrth gwrs, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a'r ffordd fwyaf hawdd i wneud hynny, wrth gwrs, yw drwy gynyddu'r nifer sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Dyna pam rydym yn pwysleisio'r cynnydd hwnnw rŷm ni eisiau ei weld mewn ysgolion Cymraeg, a dyna pam mae'r cynlluniau strategol hyn mor bwysig. Rŷm ni wedi gweld gwahaniaeth yn y safbwynt sy'n dod o lywodraeth leol tuag at y cynnydd yn nifer yr ysgolion y maen nhw'n barod i fuddsoddi ynddyn nhw o ran addysg Gymraeg.
Rŷch chi'n eithaf reit: mae pethau wedi newid eisoes mewn prifysgolion. Mae eisoes lot mwy o gyrsiau yr ydych yn gallu eu cymryd trwy gyfrwng y Gymraeg achos ein bod ni wedi buddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw sicrhau bod mwy o gyrsiau ar gael. Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i weld os gallwn ni wneud yr un peth ym maes addysg bellach.
Weinidog, beth ydych chi'n gallu ei ddweud heddiw am ardaloedd fel Dwyrain Casnewydd, lle mae'r iaith Gymraeg yn eithaf gwan? Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ddelio â'r materion hyn, yn enwedig yn Nwyrain Casnewydd ac ardaloedd tebyg yng Nghymru, i gefnogi'r iaith a'i gwneud yn fwy cryf yn y dyfodol?
Diolch yn fawr, John. Rwy'n gwybod bod eich cefnogaeth chi tuag at y Gymraeg yn frwd, ac rwy'n gwybod bod yna grŵp y tu fewn i Gasnewydd sydd yn ymgyrchu'n frwd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd gan blant, yn sicr, i gael mynediad at addysg Gymraeg. Rwyf wedi bod yn ymweld â'r ysgol ragorol yn eich etholaeth chi yng Nghasnewydd, lle mae cymaint o bobl o ardal ddifreintiedig yn cael addysg arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r galw yna yn dod o’r gymdeithas. Mae Casnewydd yn un o’r ardaloedd hynny lle yr ŷm ni’n aros i weld a fydd llywodraeth leol yn barod i symud tamaid bach ymhellach ynglŷn â’i nod hi a’i ffordd hi o ddarparu addysg Gymraeg. Felly, rŷm ni’n aros i gael mwy o syniadau yn ôl oddi wrth lywodraeth leol yng Nghasnewydd.
Ond rydw i yn meddwl beth sy’n bwysig yw bod pobl yn deall nawr bod y strategaeth yma yn golygu nad ydym ni’n aros am i’r galw ddod o’r boblogaeth, ond ein bod ni’n arwain y galw, a dyna’r gwahaniaeth mawr y byddwn ni’n ei weld yn y dyfodol. Felly, rydw i yn meddwl ei bod yn bwysig hefyd ein bod ni yn rhoi help llaw i bobl, er enghraifft ym myd busnes, yn y siopau. Lle rŷm ni’n ymwybodol bod pobl yn siarad Cymraeg, cawn ni sicrhau ein bod ni’n gwybod pwy ydyn nhw a bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith unwaith eu bod yn dod mas o’r ysgol.
Eitem 6 ar ein hagenda yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar y newyddion diweddaraf ynghylch y rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Pan ffurfiodd y Prif Weinidog y Llywodraeth Cymru hon ym mis Mai 2016, fe'i gwnaeth yn glir mai un o flaenoriaethau canolog y weinyddiaeth fyddai creu swyddi gwell yn nes at adref. Roedd yn gyfarwyddyd i'r holl Weinidogion, ar draws y Llywodraeth, i ledaenu cyfleoedd ledled Cymru gyfan ac i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu datganoledig a oedd ar gael i gefnogi'n greadigol yr uchelgais honno. Roedd hynny'n golygu gweithio mewn ffyrdd newydd, ar draws portffolios Gweinidogol a chwalu seilos traddodiadol Llywodraeth i greu cyfleoedd swyddi arwyddocaol pan nad oedd y farchnad yn gallu gwneud hynny. Un o'r cyfrifoldebau pwysicaf a roddwyd i mi ar yr adeg honno oedd cynyddu ymhellach y syniad newydd a gawsom gan Gyngres Undebau Llafur Cymru i ddefnyddio pŵer gwario caffael cyhoeddus, a thrwy ddefnyddio contractau neilltuedig, defnyddio'r dull hwnnw o ddylanwadu i greu swyddi mewn ardaloedd lle mae'r angen am gyflogaeth yn uchel. Roedd y syniad yn un syml. Yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith newydd i unigolion oedd eu hangen nhw, gallem hefyd ychwanegu pecynnau cymorth unigol i gyd-fynd â'r cyfleoedd a chanolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy'n eu hatal rhag cael gwaith a symud ymlaen i swyddi sy'n talu'n well.
Mewn nifer o ffyrdd, nid yw'r syniad yn newydd. Rydym wedi sôn sawl gwaith, ar draws y pleidiau, am y posibilrwydd o ddefnyddio pŵer gwario arferol y Llywodraeth yn y modd hwn. Yr her, fel erioed, yw sut i wneud hwnnw weithio'n ymarferol ar lawr gwlad. Roedd rheolau cymorth gwladwriaethol, canllawiau caffael, cyfraith contract, rheoliadau Ewropeaidd a chyfres o rwystrau ymarferol eraill yn aml yn ei gwneud hi'n anodd troi syniad da yn newid ymarferol yn ein cymunedau. Felly, gan weithio gyda thîm dawnus ac arloesol o swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid cymdeithasol ym mudiad yr undebau llafur ac mewn diwydiant, dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o raglenni arbrofol a allai ein helpu i ddatrys llawer o'r problemau ymarferol hyn a phrofi, drwy nifer fechan o raglenni masnachol wedi eu monitro yn ardal tasglu'r Cymoedd, cyfres o wahanol fodelau i weld sut y gellid datblygu ymyraethau o'r fath.
Canlyniadau'r gwaith hwnnw yw'r hyn a gyflwynaf i'r Aelodau yma heddiw. Rydym yn bwrw ymlaen â phedwar prosiect arbrofol. Er nad ydynt, ar eu pennau eu hunain, ond yn cynrychioli dim ond cyfran fechan o gyllideb caffael flynyddol Llywodraeth Cymru o £6 biliwn ac o gyfanswm y gyllideb gyffredinol o £15 biliwn, rwy'n credu y gallent gyflwyno gwersi cyffrous ynglŷn â sut i ddefnyddio pŵer gwario'r Llywodraeth yn y dyfodol mewn modd defnyddiol i greu mwy o swyddi a rhai gwell yn nes at adref.
Mae'r cyntaf o'r cynlluniau arbrofol hyn yn ceisio datblygu canolfan i weithgynhyrchu dillad arbenigol. Gan weithio mewn partneriaeth â'r sector cymdeithasol, byddwn yn penodi menter gymdeithasol i weithredu uned weithgynhyrchu yng Nglynebwy gan gynhyrchu dillad arbenigol ar gyfer pen ucha'r farchnad. Un enghraifft o'r math o gynnyrch y gallai'r uned hon ei gynhyrchu yw dillad gwaith diogelu awyr agored, gan ddefnyddio tecstilau sy'n gallu anadlu a gwrthsefyll crafiadau, ar gyfer eu defnyddio mewn diwydiannau megis gwaith ffordd. Bydd yr uned weithgynhyrchu yn gweithredu fel marchnad lafur drosiannol sy'n canolbwyntio ar bobl, gyda'r nod o gynyddu cyflogadwyedd hirdymor yn yr ardal gyfagos, a chefnogi'r rhai hynny sy'n dyheu am gael gwaith, ac aros mewn gwaith a datblygu. Manteision y dull hwn o weithredu yw'r gallu i ailfuddsoddi elw yn y busnes neu yn y gymuned leol, i sicrhau pan fydd busnes yn elwa bod y gymdeithas yn elwa hefyd.
Ystyriwyd y rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys sut y gellir eu goresgyn drwy'r cynllun arbrofol hwn. Mae lleoliad yr uned ffatri sydd ar gael, er enghraifft, rhyw bum munud ar droed o'r cysylltiadau bysiau a threnau.
Rydym wedi sefydlu perthynas waith gref gydag ardal fenter Glynebwy fel y gellir rhoi gwybodaeth yn gynnar i bobl leol am unrhyw gyfleoedd cyflogaeth tymor hir.
Rwyf yn falch o adrodd y disgwylir cwblhau'r broses o benodi partneriaid cymdeithasol yn ystod yr haf, ac rwy'n disgwyl i'r ffatri fod yn weithredol erbyn hydref eleni. Y bwriad cychwynnol yw cyflogi 25 o bobl, gan ddisgwyl iddyn nhw symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy tymor hwy drwy hyfforddiant a phrofiadau ymarferol yn y gweithle.
Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu cyfleoedd pellach er mwyn i'r cwmni hwn fod yn gyflenwr gwerthfawr o fewn y sectorau cyhoeddus a'r sectorau preifat a chynyddu nifer ei weithwyr. Pan allwn ni, fe fyddwn yn defnyddio'r dulliau dylanwadu hynny sydd ar gael i gynorthwyo yn hyn o beth, er enghraifft drwy gontractau'r sector cyhoeddus megis Trafnidiaeth Cymru — un arwydd yn unig o'n hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i'r cynlluniau arbrofol wrth inni ddefnyddio ein systemau contractio ein hunain.
Mae'r ail brosiect arbrofol yn cynnwys uned sy'n cynhyrchu arwyddion traffig ac arwyddion masnachol megis arwyddion priffyrdd, enwau strydoedd, arwyddion diogelwch a byrddau hysbysu. Mae hon yn fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl ag anableddau, a'r nod yw cynyddu oriau gwaith y gweithlu presennol. Bydd yr oriau gwaith yn cynyddu o ganlyniad i drafodaethau, a gafodd eu trefnu gan fy nhîm Swyddi Gwell, rhwng yr uned a chadwynau cyflenwi ledled Cymru gyda'r nod o archebu oddi wrthynt. Mae'r trafodaethau yn bennaf gyda chontractwyr haen gyntaf sy'n cael archebion gan y sector cyhoeddus i gwblhau gwaith, yn hytrach na chan brynwyr yn y sector cyhoeddus. Targedir y cyflenwyr hyn yn fwriadol i sbarduno telerau ac amodau budd cymdeithasol a chymunedol sy'n rhan annatod o gontractau a fframweithiau'r sector cyhoeddus yn unol â'n polisi caffael cyhoeddus.
Rwyf yn falch fod y galw ychwanegol am gynhyrchion y prosiect arbrofol hwn eisoes wedi arwain at archebion o'r ffatri gan brif gontractwyr awdurdod lleol, gyda'r awdurdodau lleol yn cefnogi fy swyddogion yn y trafodaethau hyn, ac rwyf yn ddiolchgar am hyn. Rwyf hefyd yn falch o hysbysu Aelodau'r Cynulliad fod Trafnidiaeth Cymru wedi mynnu bod y ffatri hon yn cael ei defnyddio ar gyfer ei gofynion o ran arwyddion pan fydd y gweithredwr penodedig yn cyrraedd cyfnod teithiol y contract gweithredwr trên newydd. Mae'r archebion hyn i'w croesawu; fodd bynnag, i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y sefydliad hwn, mae swyddogion yn ymchwilio i archebion tymor byrrach hefyd, ac mae'r rhain yn cynnwys contractwr ystâd gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ei hun.
Paent wedi'i ail-beiriannu yw'r agwedd arbenigol ar fusnes y trydydd prosiect arbrofol. Mae fy nhîm Gwell Swyddi yn sefydlu cerbyd dibenion arbennig i ail-beiriannu paent gwastraff a gesglir o safleoedd gwastraff awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd hyn yn dwyn ynghyd perchennog y patent ar gyfer y broses o ail-beiriannu a menter gymdeithasol leol i atgynhyrchu eu gwaith, sydd wedi ei leoli ym Mirmingham ar hyn o bryd. Byddan nhw'n gweithredu'r un broses o barc eco Bryn Pica o fewn ffiniau Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu y gellir casglu paent gwastraff o Gymru, ei ail-beiriannu a'i ailddefnyddio yng Nghymru. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hagenda datgarboneiddio — bydd pob litr o baent sydd yn cael ei ail-beiriannu yn cynnwys 1.3kg yn llai o garbon wedi ei ymgorffori yn y cynnyrch hwn.
Mae cynllunio cynnar ar y llwybr i gyflogaeth yn mynd rhagddo, a menter gymdeithasol wedi ei lleoli ym Merthyr Tudful fydd y sefydliad sy'n lletya. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gyda phartneriaeth sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi amlygu prinder busnesau paentio ac addurno yn y rhanbarth.
Yn olaf, mae ein pedwerydd prosiect arbrofol yn canolbwyntio ar ailgylchu papur. Mae'n seiliedig ar fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl anabl, y digartref a'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir. Mae'n gweithredu fel marchnad lafur drosiannol. Mae'r cwmni'n casglu, trefnu a rhwygo papur gwastraff ond mae angen tunelli yn fwy o bapur i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth o fewn y sefydliad ac er mwyn iddo fod yn hunangynhaliol yn ariannol. Mae'r tîm yn parhau i weithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliad hwn a'i wasanaethau. Rwy'n falch iawn fod y tîm eisoes wedi cael ymrwymiad gan awdurdod lleol i ddarparu mwy o bapur gwastraff i'r cwmni; mae hyn yn llwyddiant cynnar i'r cynllun arbrofol hwn.
Dirprwy Lywydd, yr wyf am gloi drwy nodi bod gan bob un o'r cynlluniau arbrofol wahanol fecanwaith ymyrraeth, a gosodwyd pob un o fewn ardal tasglu'r Cymoedd. Cynllunnir hyn yn fwriadol er mwyn inni gael amrywiaeth profedig o ymyraethau masnachol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel yn gyntaf, ac y gellir mesur llwyddiant y safle arbrofi cyfleoedd hwn ac, o bosibl, ei ailadrodd mewn mannau eraill yng Nghymru.
Byddwn yn hapus i hysbysu'r Aelodau am unrhyw gynnydd, ac edrychaf ymlaen at rannu llwyddiant y cynlluniau arbrofol gyda chi wrth iddynt ddwyn ffrwyth. Diolch yn fawr.
Mae'n fater sy'n peri pryder, yn enwedig i Lywodraeth Cymru, fod adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Tlodi yng Nghymru 2018' ar ôl 19 mlynedd o ddatganoli, wedi canfod fod cyfran y teuluoedd sy'n byw mewn tlodi incwm yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a bod tlodi ymhlith parau sydd â phlant wedi bod ar gynnydd ers 2003.
Drwy gydol yr ail, y trydydd a'r pedwerydd Cynulliad galwais yn rheolaidd ar eich rhagflaenwyr i fynd i'r afael ag achosion o anfantais, tlodi ac amddifadedd, ac nid dim ond trin y symptomau. Felly, croesawaf y gydnabyddiaeth yn eich datganiad fod angen i'r newid ymarferol mewn cymdeithas ganolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy'n atal unigolion rhag cael gwaith a symud ymlaen i waith â chyflog gwell. Ni fynegodd rhai o'ch rhagflaenwyr hynny na chydnabod hynny yn yr un modd.
Fodd bynnag, fel un a oedd yn falch o fod wedi gweithio yn y sector cydfuddiannol di-elw neu fenter gymdeithasol am ddau ddegawd a mwy, rwyf hefyd yn cydnabod nad ydynt yn fwledi arian, ac y gellir eu rhedeg yn aneffeithlon, gallant golli arian, gall yr hwch fynd drwy'r siop. Maen nhw'n gallu gwneud pobl yn ddi-waith, fel y gall corff sydd er elw hefyd, a weithiau hyd yn oed cyrff y sector cyhoeddus—er, yn gyffredinol, ni chaniateir i'r rheini fethu yn yr un modd.
O gofio, gyda Cymunedau yn Gyntaf, pan edrychodd Swyddfa Archwilio Cymru ar Cymunedau yn Gyntaf yn 2009, ei fod wedi cynhyrchu adroddiad yn nodi methiannau llywodraethu corfforaethol wrth reoli arian, rheoli adnoddau dynol a thrywydd archwilio, pa rwystrau a gwrthbwysau llywodraethu corfforaethol ydych chi'n eu rhoi ar waith fel bod y sylfeini'n iawn, er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i'r mentrau cymdeithasol hyn, sy'n aml yn fentrau cymdeithasol newydd, i gychwyn a llwyddo gan sicrhau hynny i'w cyflogeion hefyd.
Rydych chi'n sôn am weithio gyda thîm talentog ac arloesol o swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid cymdeithasol mewn mudiadau undebau llafur a diwydiant. O gofio mai Canolfan Cydweithredol Cymru yw'r corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu a rheoli mentrau cymdeithasol, pa gysylltiad gawsoch chi gyda nhw, a hefyd gyda'r trydydd sector ehangach, o ystyried y gwaith a wnaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar olynwyr modelau Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol, cyrff angori cymunedol ac ati, a hefyd y gwaith a wneir ar hyn o bryd ledled Cymru gan y rhwydwaith cyd-gynhyrchu sydd yn cynyddu yn union y math hyn o ardaloedd?
Sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan, a gafwyd ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf ddod i ben, sef:
Na wnaeth y rhaglen leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y rhan fwyaf o gymunedau, a llai yng Nghymru gyfan
ac felly y dylai rhaglen newydd
gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol; ac na ddylai gael ei chyfarwyddo o'r brig i lawr',
yn seiliedig ar:
theori glir o newid sydd yn adeiladu ar asedau'r gymuned ac asedau'r bobl yn hytrach nag ar eu diffygion
a dylai:
gweithredu lleol gael ei arwain gan gyrff yn y gymuned sydd wedi eu sefydlu ac sydd â hanes cryf o gyflawni ac sydd wedi hen ymgysylltu â'r gymuned'?
Dywedodd hefyd, os yw pobl yn teimlo bod polisïau yn cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau’n gweithio. Felly, sut y gallwch chi sicrhau'r Cynulliad ac eraill y tu allan, yn ogystal â'r mentrau a ddisgrifiwyd gennych yn eich datganiad, eich bod yn manteisio ar y dulliau hynny i sicrhau nad ydym ni'n ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol?
Rwyf am gloi drwy gyfeirio at ddigwyddiad a lywyddais yma ym mis Ebrill gyda Sefydliad Bevan a Big Issue Cymru i drafod atal a chynhwysiant pryd yr eisteddais wrth ochr sylfaenydd The Big Issue, Arglwydd John Bird a'i gyflwyno. Sut ydych chi'n ymateb i'w ddatganiad tybed, a dyfynnaf, 'Mae gormod o amser yn cael ei dreulio yn dadansoddi tlodi, a dim digon o amser i'w drechu, gormod o amser yn gwneud pobl deimlo ychydig yn fwy cysurus ynghylch eu tlodi, dim digon i sicrhau bod y tlawd yn cael eu hystyried' a dywedodd, 'Mae'n rhaid i ni wneud i bobl dlawd '—ei eiriau ef—'newid y ffordd y maen nhw'n meddwl am dlodi, i agor eu llygaid er mwyn iddyn nhw weld y problemau a all ddod i'w rhan, gan droi nawdd cymdeithasol yn gyfle cymdeithasol', ac, yn olaf, ei sylw bod 80 y cant o ymyraethau cymdeithasol yn cael ei wario ar achosion brys ac ymdopi, ond bron dim ar wellhad, ac wrth ystyried gwariant cymdeithasol bod rhaid inni felly bob amser, ofyn pa un ai arian atal yw'r bunt gymdeithasol?
Gwn fod yr Aelod yn llawn bwriadau da yn yr hyn mae'n ceisio ei wneud, ac rwyf am drafod nod y prosiect hwn, sef defnyddio gwariant caffael y Llywodraeth wrth ymyrryd yn y farchnad pan fo'r farchnad wedi methu'n ddirfawr i gynhyrchu unrhyw fath o gyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel iawn, yn enwedig gyda'r economi sylfaenol ar gyfer pobl sy'n wynebu nifer o rwystrau wrth iddyn nhw geisio cael gwaith. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud hynny yn rhan o raglen wrth-dlodi, ond mae'r rhain yn gynlluniau arbrofol penodol iawn sydd wedi eu targedu er mwyn gweld os oes unrhyw un o'r prosesau hyn yn gallu cynhyrchu'r mathau o systemau cyflogaeth barhaus y gobeithiwn eu gweld er mwyn galluogi pobl i gamu allan o dlodi a chamu i mewn i waith sy'n talu'n dda. Oherwydd gwyddom—ac mae arnaf ofn fod y system fudd-daliadau y mae'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU yn ei gweithredu ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn waeth—mewn gwirionedd mae gwaith gyda chyflog isel yn gwneud pobl yn dlawd iawn ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mewn gwirionedd mae llawer o bobl sy'n byw mewn tlodi yn gweithio, felly ni ddylem ni greu amodau gwaith gwael. Holl ddiben y fenter hon gan y TUC yw rhoi pobl mewn gwell swyddi sy'n nes at eu cartrefi, fel ein bod yn cyflawni nifer fawr o bethau ac rwyf yn sicr bod pob aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r dyhead hwn. Felly, mae'r pedwar cynllun arbrofol gwahanol hyn wedi'u cynllunio'n benodol i brofi model sydd yn caniatáu i ni ddargyfeirio gwariant y Llywodraeth neu ddefnyddio dylanwad gwariant y Llywodraeth i gael y canlyniadau hynny yr wyf yn siŵr ein bod i gyd eisiau eu gweld.
Mae'r cysyniad Gwell Swyddi yn Nes at Adref yn un y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr. Mae allfudiad pobl ifanc o'r cymoedd i rannau eraill o Gymru a'r DU yn aflwydd ar ein cymunedau ac nid yw'r broblem hon wedi ei chyfyngu i'r cymoedd, oherwydd fel y gwelwn yn ein cymunedau Cymraeg yn y gorllewin ac yn y gogledd, mae allfudo oherwydd diffyg cyfleoedd economaidd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg hefyd.
Mae caffael cyhoeddus wedi bod yn adnodd economaidd pwysig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn bellach, ac yn y blynyddoedd diwethaf o leiaf, mae canran y prynu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng. Mae hyd yn oed y prynu a wneir gan Lywodraeth Cymru ei hun, sy'n honni ei bod yn arwain drwy esiampl, wedi gostwng o 44 y cant i 41 y cant ers 2015-16. Felly, a all arweinydd y tŷ amlinellu sut y mae'r cynllun hwn yn gweddu i strategaeth caffael cyhoeddus ehangach Llywodraeth Cymru, a sut ydych chi'n mynd i wrthdroi'r ffigurau siomedig hyn?
Nododd arweinydd y tŷ yn ei datganiad bod rheolau cymorth gwladwriaethol a rheoliadau caffael cyhoeddus yr UE wedi bod yn rhwystr rhag gweithredu'r cynllun hwn. Mae cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus yn ddau faes polisi a fydd yn dychwelyd i San Steffan yn dilyn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynghylch y Bil ymadael â'r UE. Felly, a all arweinydd y tŷ nodi sut y bydd y rhwystrau newydd hyn yn effeithio ar y cynllun hwn yn awr ac yn y dyfodol?
Rydym newydd gael datganiad ar ddyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae cynlluniau buddsoddi mewn trafnidiaeth Llywodraeth yn amlygu ei bwriadau o ran polisïau economaidd ehangach ac, yn arbennig, lle bydd mwyafrif y llafurlu wedi ei leoli. Canlyniad y cytundeb masnachfraint gyda'r gweithredwr preifat er elw KeolisAmey yw y bydd yr holl reilffyrdd a ddaw o'r cymoedd yn ffigurol ac yn llythrennol yn arwain i Gaerdydd. Rwyf yn cytuno bod angen buddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd ac, yn wir, o fewn Caerdydd ei hun hefyd—angen mawr. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd uno rheilffyrdd Merthyr a Rhymni i greu rheilffordd gylch y cymoedd fel y'i gelwir yn cael ei gynnwys ym metro de Cymru, sydd yn gwbl groes i'ch uchelgais ar gyfer creu swyddi gwell yn nes at adref. Felly, a all arweinydd y tŷ egluro sut y mae polisïau trafnidiaeth ehangach Llywodraeth Cymru yn cefnogi eich uchelgais i greu swyddi gwell yn nes at adref?
Rwyf yn falch bod Leanne Wood wedi dechrau drwy ddweud ei bod yn cefnogi'r fenter Gwell Swyddi yn Nes at Adref, ac nid oeddwn yn hollol sicr o glywed gweddill ei chyfraniad sut yr oedd hi yn cefnogi hynny.
O ran y strategaeth gaffael, ni ddywedais ei bod yn rhwystr; dywedais fod nifer o bethau yr oedd yn rhaid i ni eu hystyried wrth lunio cynllun sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gwariant caffael a'i dylanwad caffael i sefydlu ymyrraeth i'r farchnad er mwyn creu gwaith i bobl a oedd yn dod ar draws rhwystrau cyflogaeth difrifol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel. Cytunaf yn llwyr â chi y ceir ardaloedd o ddiweithdra uchel ledled Cymru, a bod nifer fawr o gymunedau sydd â rhwystrau gwahanol a phroblemau gwahanol. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma yw treialu pedwar prosiect gwahanol sy'n ymdrin â gwahanol ffyrdd o ymyrryd yn y farchnad, fel y gallwn eu defnyddio fel cynlluniau arbrofol gwirioneddol i weld pa un a ydynt yn gweithio, ac i weld a oes modd eu hehangu, neu i weld, er enghraifft, os ydynt yn bethau penodol wedi eu seilio ar leoliad, oherwydd fe fyddai gan rai cymunedau fwyafrif mawr o sgiliau penodol a theimlad cymunedol gweddilliol tuag at ardal benodol, er enghraifft. Un o'r rhain yw'r cynllun ym Merthyr Tudful sydd eisoes yn bodoli, ac rydym yn gobeithio ei droi yn fenter fwy o lawer drwy ddefnyddio ein dylanwad.
Felly, ni ddywedais fod y rheolau yn rhwystr. Nid wyf i'n credu bod y portread o beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r sefyllfa yn sgil y Bil ymadael yn un yr wyf i'n cytuno ag ef o gwbl. Nid wyf wir yn credu bod ras i'r gwaelod heb unrhyw reolau ledled y DU ar gyfer sut y byddem yn ymyrryd mewn diwydiant lleol, neu sut y byddem yn cael rheolau gwariant caffael rhag i drefi a phentrefi ddechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn sefyllfa gynaliadwy. Rwyf yn sicr nad yw arweinydd Plaid Cymru mewn gwirionedd yn dweud y byddai honno'n sefyllfa y gallai unrhyw un ohonom ei derbyn. Mae'n amlwg ei bod yn fuddiol i ni i gyd gael cyfres o reolau sydd yn caniatáu i ni gefnogi ein poblogaeth leol a chael ffyniant economaidd, heb gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod neu ras i frig y swm o arian sydd gennych i gynnig i bob cyflogwr i ddod i'ch ardal leol, ac rwy'n sicr nad oedd hi'n bwriadu awgrymu hynny.
O ran y system drafnidiaeth, wrth gwrs, rydym wedi edrych yn ofalus iawn i ganfod beth yw'r cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer pob un o'r canolfannau hyn, oherwydd mae nifer fawr o'r problemau, er enghraifft gyda'r Cymoedd uwch, yn ymwneud â chyflymder cysylltiadau trafnidiaeth i ganolfannau cyflogaeth. Ond nid yw hyn yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth; mae hyn yn ymwneud â chael swyddi ym y man y mae'r bobl yn byw ynddo eisoes, yn enwedig y rhai sy'n wynebu nifer o rwystrau megis pobl â chyfrifoldebau gofalu, sydd yn bennaf yn fenywod, neu bobl sydd wedi bod yn economaidd anweithgar ers cryn amser. Gall unrhyw fath o gostau trafnidiaeth neu rwystr fod yn broblem wirioneddol. Felly, mae'r rhain yn canolbwyntio ar geisio cael gwaith yn lleol i bobl leol. Rwyf yn fodlon iawn â'r cynlluniau arbrofol ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf ddod yn ôl i adrodd stori wirioneddol dda yr adeg hon y flwyddyn nesaf ar ôl inni gael blwyddyn gyfan i weithredu, ond os na fydd stori dda gennym yna o leiaf gallwn fod yn dryloyw a dweud beth oedd y broblem a sut y gellid ei datrys drwy ddefnyddio rhai o'r dulliau dylanwadu sydd ar gael i ni.
Diolch ichi arweinydd y tŷ am y datganiad hwn. Wrth gwrs, mae UKIP yn croesawu unrhyw brosiect sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth mewn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'n arbennig o briodol ei fod wedi'i ddylunio i gynnwys y rhai hynny nad ydyn nhw wedi bod mewn cyflogaeth ers peth amser ac mae yna sôn am waith ar gyfer pobl anabl. Fodd bynnag, â sôn am bobl anabl, oni fyddai'n syniad da i sefydlu un o'r unedau peilot hyn i gyflogi pobl anabl yn unig, yn yr un modd â'r ffatrïoedd Remploy, a gafodd eu cau gwaetha'r modd dros yr ychydig ddegawdau diwethaf? Gwyddom o ymholiadau a wnaed gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod Cymru yn sylweddol ar ei hôl hi o'i chymharu â Lloegr o ran darparu prentisiaethau ar gyfer pobl ddi-waith. A fyddai arweinydd y tŷ yn ystyried sefydlu unedau o'r fath, hynny yw, unedau a fyddai'n benodol ar gyfer cyflogi pobl â phob math o anableddau, wrth i'r prosiect gael ei ymestyn? Byddem ni wedyn yn gallu cyflwyno pobl i'r byd gwaith a fyddai'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyflogaeth yn y sector preifat.
Wel, mae'r mater ynghylch pobl anabl yn un da, ac yn amlwg mae un o'r unedau peilot yn benodol yn ystyried ehangu ar weithrediad presennol sydd eisoes yn cyflogi nifer o bobl anabl. Mewn gwirionedd, nid oedd Remploy byth yn cyflogi dim ond pobl anabl; roedd yna bobl yn y haenau rheoli, er enghraifft, nad oedden nhw'n anabl.
Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau peilot hyn yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer cyfleoedd marchnad lafur drosiannol. Felly, er enghraifft, os gymerwn ni ffatri ddillad, mae'n amlwg y bydd yna bobl sy'n cynhyrchu'r dillad eu hunain, yn gwnïo, torri ac ati, ond hefyd, bydd yna pobl sy'n dysgu sut i wneud y busnes cynhyrchu, y gwaith gwerthu, y gwaith marchnata, rhedeg y ffatri, y gwaith cyllidebu, y gwaith rheoli ac ati, ac rydym ni'n benderfynol iawn bod y cyfleoedd hynny i gyd ar gael i bawb sy'n mynd drwy'r llwybr marchnad lafur drosiannol, fel nad ydych chi'n dysgu dim ond un o'r pethau hynny; fe gewch chi amrywiaeth o gyfleoedd ac fe fyddwch chi'n gallu rhoi prawf ar eich sgiliau mewn amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael.
Mae'n gwbl bosibl y gallai rhai o'r bobl sy'n dechrau yno ar y sail ei fod yn llwybr trosiannol i farchnad, yn darganfod, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen ac efallai y byddwn yn gweld bod angen rhyw gyflogaeth warchodol i bobl ag anableddau nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen, ond y nod yw sicrhau y gall pawb fynd allan a chael swydd gynhyrchiol, swydd well yn agosach at eu cartref, ag amodau gweithio da a theg, ac y bydd y cynlluniau peilot hyn yn sbarduno'r cynnydd hwnnw mewn sgiliau. Ond, Dirprwy Lywydd, os byddan nhw, ynddynt eu hunain, yn dod yn gyflogwyr mawr, hynod gystadleuol, yna byddwn i wrth fy modd â hynny fel canlyniad hefyd.
Gweinidog, hoffwn groesawu'r datganiad a wnaethoch chi yma heddiw. A minnau'n gynrychiolydd cymuned yn y Cymoedd, byddwch chi'n ymwybodol o fy angerdd hirsefydlog ar gyfer adfywio cymunedau fel fy nghymuned i, a does dim amheuaeth nad yw dod â swyddi gwell yn nes at adref yn rhan gwbl hanfodol o hynny. Felly, mae'n dda gweld y manylion yr ydych chi wedi eu cyflwyno i ni heddiw, ac rwy'n croesawu'n arbennig y gwaith sydd wedi'i wneud ym mharc eco Bryn Pica yn fy etholaeth i ar un o'r prosiectau hyn.
Mae fy nghwestiwn i i chi yn ymwneud â'r economi sylfaenol. Rydym ni'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnal rhai prosiectau peilot ar hyn, ac, yn amlwg, mae caffael yn un elfen hanfodol o'r economi sylfaenol. Pa ddulliau sydd ar waith ar gyfer gweithio traws-lywodraethol ar hyn, er mwyn i wersi a ddysgwyd o'r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref gael eu hymgorffori yn y cynlluniau peilot hynny ar yr economi sylfaenol hefyd?
Mae hynny'n bwynt da iawn, ac oes wir mae gennym nifer o—. Un o'r rhesymau pam mai fi sy'n Weinidog arweiniol ar hyn yw gan ei fod yn drefniant gweithio traws-lywodraethol. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sydd wedi bod yn ymwneud yn helaeth â rhannau mawr ohono hefyd. Ceir nifer o gydweithwyr yn y Cabinet sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i sefydlu.
Yn hollol, un o'r rhesymau yr oeddwn yn canmol y tîm sydd wedi bod yn allweddol yn hyn yw oherwydd eu bod yn gweithio yn draws-lywodraethol yn y modd mwyaf rhagorol, a dyna'n union beth yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym bedwar cynllun peilot penodol sy'n caniatáu inni dreialu ymyriadau penodol yn y farchnad gaffael er mwyn i ni allu gwerthuso cryfder yr ymyriadau hynny, eu heffeithiolrwydd a sut y maen nhw'n gweithio, ac y gallwn ni eu lledaenu nhw wedyn fel sy'n briodol, neu beidio—os gallwn ni eu datblygu nhw lle y maen nhw. Un o'r pethau yr wyf yn awyddus cael gwybod amdano yw pa un a ydyn nhw'n benodol i le neu a allai weithio pe byddem yn defnyddio'r model yn rhywle arall yng Nghymru.
Felly, mae llawer o bethau yn digwydd. Os ydych chi'n cymryd yr un a grybwyllwyd gennych ym Mryn Pica gydag ail-weithio paent, un o'r pethau gwych am hynny yw ei fod yn lleihau'r ôl troed carbon, gan fod y paent yn teithio llawer llai o bellter ac ati, ond mae'n bosibl iawn nad gwneud hynny unwaith ar gyfer Cymru gyfan yn y lleoliad hwnnw fyddai'r canlyniad gorau, ac y gallai creu un yn y gogledd neu yn y gorllewin wella'r ôl-troed carbon. Gellid sicrhau bod y ffatrïoedd yn gysylltiedig er mwyn i chi gael rhannu sgiliau ac yn y blaen. Ond mae gen i ddiddordeb mawr i weld sut y gallwn ni wneud hynny.
A sôn am barc eco Bryn Pica, mae hefyd yn dda gweld yr hyn y gall clwstwr ei wneud. Mae gennym ni'r treulydd anerobig mawr yno, sydd yn rhan o raglen ailgylchu bwyd llwyddiannus iawn Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n cynhyrchu trydan a gwres, ac wrth gwrs, mae hynny'n rhoi'r cyfle i ni redeg ffatrïoedd a phethau eraill yn yr ardal honno sy'n elwa ar y trydan a'r gwres sydd eisoes wedi'i gynhyrchu drwy ailgylchu. Felly, ceir cylch rhinweddol gwirioneddol, a'r hyn yr ydym yn edrych i wneud yma yw model marchnad drosiannol sy'n caniatáu i bobl gael profiad o'r holl sgiliau a'r cyfleoedd cyflogaeth y gallai clwstwr o'r fath eu cynnig, gyda dau ddisgwyliad ar gyfer hynny, sef: (a) bydd yn gallu tyfu a byddwn ni'n gallu ailgylchu llawer mwy o eitemau—paent yn yr achos hwn, ond nifer o eitemau eraill y mae aelodau, mi wn, â diddordeb mawr ynddyn nhw—a (b) bydd y bobl hynny yn ennill sgiliau lefel uchel gwerthfawr iawn a fydd yn eu galluogi i symud i swyddi eraill yn ein cymunedau a chynyddu lefel y sgiliau yn gyffredinol, sydd wedi'r cyfan, yn un o'r grealon sanctaidd ym mywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwyddom ni i gyd.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad diddorol iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am y pedwar cynllun peilot hyn, ond rwy'n amlwg yn teimlo'n rhwystredig nad ydyn ni wedi gallu ymestyn hyn ymhellach, oherwydd mae'n wych ein bod i'n cael busnesau newydd yn dod i'r Cymoedd, ond i lawer o fy etholwyr i, mae gorfod teithio mwy na hanner awr yn rhwystr gwirioneddol i weithio, oherwydd po bellaf y mae'n rhaid i chi deithio, po fwyaf y mae'n rhaid i chi ei dalu am ofal plant a pho anoddaf y mae'n gwneud yr hafaliad o allu fforddio i fynd i weithio.
Felly, mewn gwirionedd, hoffwn glywed ychydig mwy am y rhwystrau i'w brif-ffrydio, oherwydd byddwn i wedi meddwl ei fod yn rhywbeth y byddai Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn frwdfrydig iawn drosto. Ac mae'n rhaid iddo fod yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, nad oes yn rhaid i bobl deithio mwy na hanner awr fel arfer i gyrraedd y gwaith, oherwydd ei bod yn ddrwg i'w hiechyd, yn wael i'r amgylchedd ac yn bendant nid yw'n beth da i blant, oherwydd mae'r amser a gymer yn amser nad ydych chi'n cael ei dreulio gyda'ch plant. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed beth yw'r rhwystrau y gallwn ni eu goresgyn.
Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau, ac mae'n nod gan y cynlluniau peilot hyn i geisio edrych ar y pethau hyn. Ac rwy'n pwysleisio'r pwynt 'peilot' yma. Dydw i ddim eisiau gorbwysleisio'r rhwystrau a wynebwyd gennym ni i gyrraedd y pwynt hwn, ond ni fu'n hawdd creu pedwar cynllun peilot ar wahân gan ddefnyddio gwahanol drefniadau caffael a gwahanol ysgogiadau gwariant y Llywodraeth er mwyn gwneud hynny.
Ond rwy'n pwysleisio'n bendant mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yw cynlluniau peilot gwirioneddol, oherwydd fy mod yn derbyn yn llwyr y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: does dim amheuaeth nad yw hyn yn ymwneud â chael gwell swyddi yn nes at adref —mae'r gair 'nes' yn un mor bwysig—am yr union reswm hwnnw. Nid ydym ni eisiau i bobl deithio'n bell i'r gwaith. Hyd yn oed lle rydym ni'n hwyluso hynny, dydyn ni dal ddim eisiau hynny. Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r rhan fwyaf o gymunedau yn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, ac weithiau canol y dinasoedd—rwyf hefyd yn cynrychioli ardal canol dinas sydd â phroblemau tebyg—yr hyn y mae ar bobl ei eisiau yw gallu cael swyddi da rownd y gornel o'u tŷ er mwyn iddynt gael cydbwysedd gwaith-bywyd, a gallu rhoi ystyriaeth i'w cyfrifoldebau gofalu a bod eu plant yn gallu mynychu ysgolion lleol ac ati.
Felly, nod mawr y cynlluniau peilot hyn yw gweld pa un a ydyn nhw'n gweithio ac, fel y dywedais i, a allwn ni wedyn eu hail-greu mewn cymunedau eraill, efallai fel hybiau cysylltiedig, efallai fel un busnes â nifer o safleoedd—nifer o bosibiliadau. Ac rydym ni wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y Llywodraeth i gyrraedd y fan lle'r ydym ni nawr, ac yn sicr fe fyddaf i'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl ar y cynlluniau peilot a'r mater hwn o'r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion a pha un a oes modd eu lleoli mewn mannau eraill, a phopeth arall ymhen rhyw flwyddyn, pan fydd gennym rywfaint o ddata oddi wrthyn nhw.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y newidiadau i gyfradd comisiwn cartrefi mewn parciau, a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Yn fuan cyn y toriad, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'n hymgynghoriad ar gyfradd comisiwn cartrefi mewn parciau ac amlinellais fy mwriad i ostwng y gyfradd uchaf. Rwy'n falch o allu rhoi mwy o fanylion i'r aelodau am gyflymder a graddfa'r newid ac am y camau gweithredu ehangach y bwriadaf eu cymryd i gefnogi'r sector cartrefi mewn parciau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad a'r gwaith dadansoddi ariannol—cafwyd bron i 400 o ymatebion. Hoffwn hefyd ddiolch i'r perchnogion safleoedd a rannodd gwybodaeth ariannol â'n dadansoddwr ariannol annibynnol.
Bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â llawer o'r dadleuon ar ddwy ochr y ddadl. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni eisiau sicrhau bod y safleoedd hyn yn hyfyw ac yn cael eu rheoli'n dda a'u gweld yn parhau i gynnig ffordd o fyw deniadol i bobl sy'n dewis byw mewn cartref mewn parc. Mae mater y cyfraddau comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau yn un o'r materion hynny sy'n parhau i hollti barn. Mae wedi'i drafod cyhyd ag y mae pobl wedi defnyddio cartrefi mewn parciau fel preswylfeydd barhaol. Yn y 1960au, roedd y cyfraddau arferol oddeutu 20 y cant, ac fe wnaethant ostwng i'w cyfradd bresennol, sef 10 y cant, yn y 1980au. Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r sector wedi'i drawsnewid; mae byw mewn cartref mewn parc bellach heddiw yn gwbl wahanol i fyw mewn cartref mewn parc yn y 1960au.
Ni fu modd sefydlu consensws ynghylch y ffordd ymlaen oherwydd bod safbwyntiau pobl mor begynol. Ac ni fu'n hawdd casglu digon o dystiolaeth i seilio penderfyniad cytbwys arni. Rwyf wedi trafod yn hir ac yn drylwyr, ac rwyf wedi herio fy swyddogion a'r sector i ddarparu tystiolaeth well a mwy o waith dadansoddi er mwyn sicrhau ein bod yn canfod ffordd ymlaen sy'n gytbwys ac yn gymesur ac sy'n cefnogi byw mewn cartrefi mewn parciau yn y modd gorau.
Mae'r dystiolaeth sydd gennym erbyn hyn yn ategu'r farn bod gwerth cartref mewn parc yn gyfuniad o werth y cartref ynghyd â'r llain y mae wedi'i leoli arno. Mae cartref parc ar ei ben ei hun yn costio llai nag un sydd eisoes wedi'i leoli, yn enwedig os yw wedi'i leoli ar safle deniadol sy'n cael ei redeg yn dda â chyfleusterau da mewn lleoliad dymunol. Gall costau lleoli cartref fod yn sylweddol. Mae hyn wedi bod yn rhan sylfaenol o'r ddadl o blaid y gyfradd comisiwn dros y blynyddoedd.
Mae'n amlwg bod y gyfradd comisiwn bresennol yn effeithio'n sylweddol ar bobl sydd yn berchen ar gartref mewn parc. I rai, mae colli ecwiti wrth werthu eu cartrefi yn dod yn rhwystr i allu gwerthu a symud ymlaen i lety arall neu i lety sy'n fwy addas ar eu cyfer. Gallai comisiwn hefyd fod yn atal darpar brynwyr rhag prynu cartref mewn parc, gan eu bod yn poeni am y goblygiadau o ran colli 10 y cant o'i werth os oes angen ei werthu yn y dyfodol. Mae hyn i gyd yn peri risg y gallai byw mewn cartref mewn parc ddod yn llai deniadol ac na fydd bellach yn cynnig dewis ffordd o fyw amgen.
Mae'r dadansoddiad ariannol annibynnol a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos bod comisiwn yn elfen bwysig o incwm perchnogion safleoedd, a bod hynny'n arbennig o wir ar safleoedd llai. Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad ynglŷn â newidiadau i'r gyfradd comisiwn felly sicrhau cydbwysedd rhwng y manteision a'r risgiau posibl i'r ddau barti—perchnogion cartrefi mewn parciau a pherchnogion safleoedd. Pe na byddai safle yn hyfyw mwyach, byddai angen i'r perchenogion ystyried sut i newid eu model busnes er mwyn ei wneud yn gynaliadwy, fel arfer drwy geisio cynyddu'r ffioedd am leiniau. Y risg yn y pen draw, os bydd safle anhyfyw yn cau, yw y bydd hynny'n gadael perchnogion cartrefi mewn parc heb lain ac yn gorfod symud eu cartrefi. Gall hyn fod yn drefniant cymhleth a chostus, a gall cartrefi heb lain fod werth llai o arian.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael cartrefi addas, o ansawdd da sy'n ddiogel ac yn fforddiadwy. Bydd gostwng y gyfradd comisiwn uchaf yn helpu i symud y rhwystrau ariannol i drigolion sydd eisiau neu sydd angen gwerthu. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau nad yw darpar brynwyr yn cael eu hatal rhag prynu cartref mewn parc oherwydd eu bod nhw'n poeni ynglŷn â sut y bydd yn effeithio arnyn nhw, pe byddai angen iddyn nhw ei werthu yn y dyfodol. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r angen i osgoi rhoi safleoedd mewn sefyllfa lle maen nhw mewn perygl o gau, gan hefyd geisio diogelu preswylwyr rhag cynnydd serth a sydyn yn y ffioedd am leiniau. Mae'n fwriad gennyf i ostwng y gyfradd comisiwn i lefel uchaf newydd o 5 y cant. Caiff hyn ei wneud drwy weithredu lleihad o un pwynt canran yn y gyfradd comisiwn bob blwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Bydd y rheoliadau a fydd yn cyflawni hyn yn destun gwaith craffu gan weithdrefn gadarnhaol y Cynulliad hwn, a byddaf yn cyflwyno rheoliadau cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn newydd. Rwy'n credu bod y dull hwn yn taro cydbwysedd resymol wrth ddiogelu buddiannau pob parti. Bydd gostwng y gyfradd comisiwn yn raddol yn helpu i leihau'r risgiau i hyfywedd rhai safleoedd drwy roi amser i berchnogion safle addasu eu modelau busnes i adlewyrchu'r newid hwn, ac rwy'n derbyn y gallai'r addasiad hwn gynnwys cynnydd yn y ffioedd am leiniau i rai. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y galwadau gan rai i ddefnyddio'r pwerau yn Neddf 2013 i gyfyngu ar unrhyw gynnydd posibl mewn ffioedd am leiniau, ond rwyf wedi penderfynu yn erbyn y camau gweithredu hyn.
Mae'r broses hon wedi amlygu amrywiaeth o faterion llawer ehangach sy'n ymwneud ag arferion gwael honedig gan rai perchnogion safleoedd ac amrywiadau wrth weithredu Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Rwy'n bwriadu cyhoeddi gwybodaeth wedi'i diweddaru am fyw mewn cartref mewn parc, sy'n canolbwyntio ar ddarparu canllawiau clir a hygyrch i bawb. Gan weithio gyda'r sector, byddaf yn datblygu deunyddiau arfer gorau a fydd yn edrych ar sut y gallwn ni gryfhau swyddogaeth LEASE wrth ddarparu cyngor. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn mabwysiadu dulliau cyson o drwyddedu a gorfodi safleoedd. Mae gennym enghraifft wych o gydweithio yn y sector rhentu preifat gyda Rhentu Doeth Cymru yn awdurdod arweiniol. Byddaf yn ystyried beth y gallwn ni ei ddysgu o'r model hwn a allai fod o fantais i'r sector cartrefi preswyl mewn parciau.
Llywydd, rydym ni i gyd am weld safleoedd hyfyw sy'n cael eu rheoli'n dda sy'n cynnig dewis ffordd o fyw deniadol i'r rheini sy'n dewis byw mewn cartref mewn parc. Rwy'n credu y gall gostyngiad graddol yn y gyfradd comisiwn, wedi'i gefnogi gan welliannau mewn gwybodaeth, cyngor a chymorth, a safonau cyson a glynu at y ddeddfwriaeth bresennol, helpu i gyflawni yr union beth hynny.
A gaf i ddechrau drwy ganmol y Gweinidog am ymagwedd ofalus ac ystyriol tuag at ddatblygu polisi cyhoeddus yn y maes hwn? Mae'n faes cymhleth, fel yr ydych chi wedi awgrymu. Yn amlwg, mae angen model busnes cryf arnom ar gyfer perchnogion cartrefi mewn parciau. Ar eu gorau, mae cartrefi mewn parciau a pherchnogion cartrefi mewn parciau yn creu amgylchedd dymunol i fyw ynddo. Er mwyn buddsoddi mewn cyfleusterau megis ffyrdd, tir, ardaloedd cyffredin, mae angen llif incwm dibynadwy.
Yn gyffredinol, rwy'n credu y bu astudiaeth Llywodraeth Cymru o'r maes hwn yn drylwyr ac yn ddiduedd, ond mae'n dal i fod bylchau yn y dystiolaeth, fel y gwnaethoch chi awgrymu, Gweinidog. Teimlaf fod Llywodraeth Cymru yn cynnig ffordd ymlaen a allai, o leiaf yn y Siambr, ennill consensws, oherwydd mae angen inni sicrhau cydbwysedd, mae'n ymddangos, rhwng ffioedd comisiwn ar hyn o bryd a ffioedd am leiniau, ac mae angen i hyn fod wedi'i seilio ar dryloywder, tegwch, atebolrwydd, hyfywedd y busnes a hyblygrwydd, a bu rhai arwyddion calonogol o gynnydd yma, o ran y cydweithredu rhyngoch chi â'r sector a'u dull mwy gonest o ddatgelu costau, gan fod hynny'n bwysig iawn. Byddwn i'n dweud hefyd y byddai rhyw fath o hyblygrwydd yn y dyfodol, lle mae'n bosibl y bydd pobl yn dymuno ymrwymo i ffi comisiwn neu ffi benodol pan fyddant yn gwerthu, ac yna yn peidio ag wynebu, efallai, gynnydd yn y ffi am y llain i adlewyrchu'r costau gwasanaeth cyffredinol y mae llawer o bobl, dywedwch, mewn llety ar rent yn eithaf cyfarwydd â nhw—. A chredaf fod yn rhaid inni gofio bod hyd at 80 y cant o'r gwerth ailwerthu a gyflawnir ar gartrefi mewn parciau oherwydd eu bod ar safle cartrefi symudol, a phe na byddai'r cartrefi symudol hynny yno, yna byddent yn colli rhan sylweddol iawn o'u gwerth presennol. Felly, mae'r materion hyn yn gymhleth.
Felly, byddwn yn cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru, yn amodol ar eu hadolygu'n rheolaidd. Mae hyn yn debygol, yn fy marn i, o symud tuag at ffioedd uwch am leiniau, a bydd angen monitro hynny'n ofalus i sicrhau eu bod yn deg, ac, fel yr wyf wedi dweud, mae angen iddyn nhw fod yn atebol ac yn dryloyw, a hefyd ymgynghori â pherchnogion cartrefi symudol—pwysig iawn, iawn. Felly, mae gennyf i'r cwestiwn hwn beth bynnag: rydych chi'n dweud y byddwch chi'n cyhoeddi gwybodaeth wedi'i diweddaru am fyw mewn cartref mewn parc, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl i fynd ymhellach a chyhoeddi canllawiau ffurfiol, fel y byddai ganddynt fwy o nerth wrth reoleiddio'r gweithredwyr allweddol yn y maes hwn, sef perchnogion cartrefi mewn parciau ond hefyd yr awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau gorfodi. Ond, yn gyffredinol, rwyf i am gydnabod bod llawer o waith caled wedi ei wneud ar hyn, ac rwy'n credu eich bod wedi cyflwyno ateb hyfyw—un yn sicr y gellir ei brofi'n llawn yn nawr—ac unwaith eto, rwy'n meddwl bod y ffordd yr ydych chi'n ceisio ei gyflwyno fesul gostyngiad o 1 y cant dros bum mlynedd, yn ddoeth. Felly, yn gyffredinol, byddwn yn croesawu eich datganiad y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad. Pan ddywedais yn y datganiad fy mod wedi rhoi ystyriaeth hir a dwys i'r mater hwn, roeddwn i o ddifrif oherwydd mae hwn wedi bod yn fater anodd iawn o ran casglu'r wybodaeth y mae ei hangen arnom, o ran tystiolaeth a barn y sector, sydd mor begynol, mae hi wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n deg ac yn rhesymol ac yn gymesur, o gofio'r holl bryderon gwahanol sydd wedi'u codi. Ond rwy'n credu ein bod wedi canfod ffordd ymlaen na fydd yn bopeth yr oedd ar pawb ei eisiau, ond pan fo gennych chi gymaint o hollt yn y farn, mae'n anodd iawn cyflawni hynny.
Mae'n bwysig ein bod yn ystyried rôl y ffioedd am leiniau. Penderfynais yn erbyn cyfyngu ar ffioedd am leiniau yn y mesurau y bwriadaf fwrw ymlaen â nhw, ac mae hynny oherwydd fy mod yn credu bod rhai rhwystrau a gwrthbwysau eisoes ar waith i sicrhau bod y ffi am y llain yn cynyddu yn gymesur. Dylid cytuno ar unrhyw gynnydd mewn ffioedd am leiniau rhwng perchennog y safle a pherchnogion y cartrefi mewn parciau a'r trigolion yn y lle cyntaf, ond os nad ydyn nhw'n gallu cytuno, yna gellir mynd â'r mater i'r tribiwnlys eiddo preswyl am benderfyniad. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig wrth gefn, mewn gwirionedd, i'r perchnogion safleoedd, pe byddai angen iddyn nhw gynyddu'r ffioedd am leiniau, ond hefyd i'r trigolion yn ogystal i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y ffioedd am y llain yn deg. Yn gyffredinol, ni ddylai adolygiad blynyddol o'r ffi am y llain bennu cynnydd sy'n uwch na chyfradd berthnasol y mynegai prisiau defnyddwyr heb gynnwys y tribiwnlys eiddo preswyl. Felly, unwaith eto, mae'r cam wrth gefn hwnnw yn bodoli, pe byddai unrhyw gynnydd arfaethedig uwchlaw'r cynnydd hwnnw ar lefel y mynegai prisiau defnyddwyr.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am y pecyn ehangach o ddiwygiadau. Mewn gwirionedd, ar ddechrau eich cyfraniad fe wnaethoch chi ddweud y gall byw mewn cartref mewn parc, ar ei orau, fod yn beth deniadol iawn, ac mae hynny'n hollol gywir, ond, yn ein hymgynghoriad a'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud i ymgysylltu â'r sector, mewn gwirionedd rydym ni wedi gwrando ar straeon ac enghreifftiau lle nad yw byw mewn cartref mewn parc ar ei orau o bell ffordd. Mae llawer o berchnogion cartrefi mewn parciau yn bobl ragorol, sy'n gwneud gwaith ardderchog ar ran y bobl sy'n byw mewn cartrefi yn eu parciau, ond yn yr un modd rydym ni wedi clywed rhai straeon lle nad yw perchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau, er gwaethaf y profion person addas a phriodol sy'n bodoli, yn darparu'r math o wasanaeth y byddem ni'n dymuno ei weld. Dyna un o'r rhesymau pam yr wyf i'n bwriadu gweithio gyda phob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru i sefydlu a oes yna awydd i greu awdurdod arweiniol gwirfoddol ai peidio ymhlith yr awdurdodau lleol yng Nghymru i roi arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar y mater o drwyddedu safleoedd cartrefi mewn parciau. Mae swyddogion eisoes yn dechrau cynnal y sgyrsiau hynny ag awdurdodau lleol, a byddwn i'n sicr yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r awgrym ein bod ni'n cyflwyno canllawiau cryfach yn hytrach na dim ond cryfhau cyngor a gwybodaeth, o ran y camau nesaf ymlaen.
Mae mater y cartrefi mewn parciau yn fater sydd yn hollti barn, ac rwy'n cofio hyn yn dda o fy amser ar y Pwyllgor Deisebau, lle y cawsom ni dipyn o ddadl ar y pryd, ychydig flynyddoedd yn ôl, gan y rheini a oedd yn breswylwyr cartrefi mewn parciau a'r rheini a oedd yn rhedeg cartrefi mewn parciau. Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd, rwy'n credu, o ran y datganiad hwn. Felly, mae yna wrthdaro uniongyrchol, rwy'n credu, rhwng y bobl hynny sy'n rhedeg y safleoedd cartrefi mewn parciau a'r rhai sy'n dymuno ac sy'n disgwyl peidio â chael eu cosbi am ddewis ffordd o fyw amgen. Rwyf i eisiau gweld sector iach ar gyfer y preswylwyr, ond rwyf eisiau gweld hynny hefyd ar gyfer perchnogion safleoedd, ac i geisio datrys unrhyw faterion mewn ffordd sifil. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yma heddiw yn dymuno ceisio cael y cydbwysedd cywir ar y mater penodol hwn.
Mae gennyf rai cwestiynau am y datganiad, a chodwyd eisoes, rwy'n credu, y pryder mwyaf—sef y pryder yr ydych chi'n ei fynegi ynghylch ffioedd am leiniau ac unrhyw gynnydd, sydd efallai yn fwy o debygolrwydd na phosibilrwydd, rwy'n credu. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ochel rhag y posibilrwydd hwn ac unrhyw gynnydd afresymol a gormodol yn y ffioedd. Felly, hoffwn i ofyn i chi, o'r dadansoddiad ariannol a gwblhawyd, a ydych chi'n disgwyl cynnydd yn y ffioedd am y llain ai peidio ac a ydych chi wedi gwneud unrhyw amcangyfrif o faint y cynnydd hwn o bosibl. O ystyried ei bod yn ymddangos yn eich datganiad eich bod chi'n disgwyl gweld cynnydd yn y ffi am y llain—cywirwch fi os wyf yn anghywir—a oes yna unrhyw reswm pam eich bod chi wedi penderfynu peidio â defnyddio dulliau sydd ar gael i gyfyngu ar gynnydd yn y ffioedd nawr? Rwy'n gwybod, ac rwyf wedi clywed eich ymateb i Aelodau eraill o'r Cynulliad, am y ffaith bod yna drafodaethau a all ddigwydd rhwng perchnogion cartrefi mewn parciau a'r rhai hynny sy'n eu rhedeg, a bod yna lwybrau cyfreithiol. Ond, wrth gwrs, os yw'r datganiad hwn yn mynd i arwain at gynnydd, yna os oes gennych chi unrhyw syniadau o'r cynnydd hwnnw a sut y bydd hynny'n effeithio ar y sector, byddai'n ddefnyddiol i chi sôn neu ymhelaethu ar hynny yma heddiw.
Unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni sicrhau cydbwysedd, ac rwy'n sylweddoli bod rhai safleoedd cartrefi mewn parciau yn dibynnu'n helaeth ar gomisiwn gwerthiannau, ac mae o fudd inni sicrhau nad ydyn nhw'n cau, yn amlwg. A allech chi efallai ymrwymo i ailystyried y mater hwn y flwyddyn nesaf, os oes angen, i wneud penderfyniad ar natur a maint unrhyw ffioedd am leiniau, os yw'r rhain wedi cynyddu yn gyffredinol o ganlyniad i unrhyw newidiadau sydd wedi'u cyhoeddi yma heddiw?
Yn olaf, a gaf i ofyn i chi amlinellu sut y mae disgwyl i awdurdodau lleol gynyddu neu wella trefniadau trwyddedu ac arolygu? Rwy'n nodi, yn eich datganiad, eich bod wedi dweud y byddech chi'n hoffi hyrwyddo gwell cydweithio. Felly, a allem ni gael syniad ynglŷn â sut beth fyddai hynny yn ymarferol? Rydych chi'n cyfeirio at Rhentu Doeth Cymru. Sut y gellir defnyddio hwnnw fel ffordd o sicrhau bod y maes hwn yn fwy llwyddiannus o ran sut y mae'n gweithio, wrth fynd ymlaen?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Yn ystod y broses ymgynghori, daeth amryw o faterion i'r amlwg nad oedd yn uniongyrchol gysylltiedig, o reidrwydd, â'r cyfraddau comisiwn, ond roeddynt yn faterion y mae angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol iawn o'r angen i'w hystyried, wrth inni fwrw ymlaen â'r mater hwn. Roedd diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth, hyd yn oed, am y Ddeddf cartrefi symudol yn fater amlwg ymhlith pobl a oedd yn byw mewn cartrefi symudol, a hefyd, dryswch ynghylch pwy ddylai fod yn talu'r ffi i berchennog y safle, dryswch ynghylch ble i gael gwybodaeth, ansicrwydd ynghylch yr hyn y caiff ac na chaiff awdurdodau lleol ei wneud, ansicrwydd ynghylch lefel y cyfrifoldebau, a dryswch hefyd ymhlith rhai perchnogion cartrefi mewn parciau am eu cyfrifoldebau nhw eu hunain. Felly, rwy'n credu bod nifer o faterion yn y fan yna, a nifer o faterion i ni fynd ar eu trywydd.
O ran beth y byddem ni'n ei ddisgwyl i awdurdodau lleol ei wneud, byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall yn well eu profiad o weithredu'r Ddeddf cartrefi symudol, i archwilio eto: ai gwell arweiniad sydd ei angen, ynteu dull gweithredu mwy cydlynol. Byddwn yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol yn cael trafodaeth â swyddogion ynghylch y syniad o awdurdod arweiniol. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol wrth sicrhau rhyw fath o gysondeb ledled Cymru. Nid yw'n rhywbeth y byddem ni'n ceisio pwerau cyfreithiol i'w wneud, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gellir cytuno arno drwy awdurdodau lleol. Fel y dywedwch chi, mae gennym ni enghraifft Rhentu Doeth Cymru, sydd yn fy marn i wedi bod yn llwyddiannus wrth newid tirlun y sector rhentu preifat, newid dealltwriaeth pobl o swyddogaethau a chyfrifoldebau, newid dealltwriaeth pobl o pwy all gael ei ddwyn i gyfrif a sut, ac yn y blaen. Felly, mae llawer iawn y gallwn ni ei ddysgu yn y fan honno o brofiad Rhentu Doeth Cymru, o ran sut yr ydym ni'n symud ymlaen â'r materion sy'n ymwneud â chartrefi mewn parciau.
Rhywbeth sy'n dod yn amlwg i mi, mewn gwirionedd, yw mai rhan fach yn unig o'r broblem yw'r cyfraddau comisiwn, ond maen nhw wedi dod yn ffocws amlwg iawn ar gyfer anfodlonrwydd pobl yn yr ystyr bod pobl, yn arbennig y rheini sy'n byw ar safleoedd parc lle nad oes ganddyn nhw berthynas dda â pherchennog y safle parc, yn teimlo'n ddig iawn y bydd 10 y cant o'u hased yn mynd i'r unigolyn hwnnw neu'r unigolion hynny nad oes ganddyn nhw berthynas dda â nhw, pe byddai angen iddyn nhw werthu.
Rhywbeth hefyd yr ydym ni wedi bod yn ymwybodol iawn ohono yw bod llawer o bobl sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau yn hŷn. Maen nhw'n ei ystyried yn ddewis ymddeol gwych. Mae llawer o bobl—nid pawb—ar safleoedd cartrefi parc yn bobl sy'n agored i niwed. Felly, mae angen gwell lefel, rwy'n credu, o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y gallwn ni ddiogelu pobl sy'n byw ar safleoedd cartrefi mewn parciau yn well a gweithio gyda nhw. Byddwn yn eu hannog i ystyried sefydlu cymdeithasau trigolion, os nad oes un eisoes yn bodoli, er mwyn cyfuno eu pŵer bargeinio a'u pŵer i ddylanwadu. Mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth y gallwn ni ddarparu gwybodaeth arno.
Roedd yn syndod i mi, pan ddechreuais ddysgu am y peth, nad oes unrhyw drawsgludo yn gysylltiedig â phrynu cartref mewn parc, fel sy'n digwydd pan fyddwch chi'n prynu tŷ. Gall pobl brynu cartref mewn parc â llai o wybodaeth bron na phe bydden nhw'n prynu car ail law, sy'n bryder mawr o ran y math o ymrwymiad y mae pobl yn ei wneud wrth brynu cartrefi mewn parciau heb fod ganddyn nhw o reidrwydd yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn ei brynu.
Felly, rwy'n credu bod llawer i'w wneud o ran gwneud byw mewn cartref mewn parc yn ddeniadol, ac mae'n bwysig inni wneud hynny, oherwydd mewn gwirionedd gall byw mewn cartref mewn parc ddarparu cartrefi cymharol fforddiadwy yn rhai o'r ardaloedd cost uchel iawn yng Nghymru, a gallan nhw hefyd ddarparu cymunedau hyfryd i fyw ynddyn nhw hefyd. Rydym ni wedi cael rhai enghreifftiau gwych yn ein hymgynghoriad a'n hymgysylltiad â safleoedd cartrefi mewn parciau sy'n gymunedau go iawn, y mae pobl yn efengylaidd iawn ynghylch byw ynddyn nhw. Felly, unwaith eto, rydym ni'n cydbwyso hynny â straeon gwael yr ydym ni'n eu clywed am safleoedd a reolir yn wael hefyd. Felly, mae digon i'w wneud o ran gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny ac o ran sicrhau bod gan bobl y math o wybodaeth a chyngor a chymorth sydd eu hangen arnyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau y mathau hyn o ymgysylltiadau, neu gytundebau, y dylwn i ei ddweud.
Diolch i'r Gweinidog am eich datganiad heddiw. Rwy'n sylweddoli, o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud ac o'r hyn y mae cyfranwyr eraill wedi'i ddweud, bod hyn wedi bod yn dipyn o broblem ers cryn amser. Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae'r safbwyntiau yn dueddol o fod yn begynol, yn arbennig ar un mater penodol hwnnw sef y cyfraddau comisiwn. Felly, bu'n dasg anodd i chi. Gallaf weld bod hynny'n wir.
Nawr, rydych chi wedi pwysleisio'r angen am gydbwysedd—yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y gwahanol fuddiannau—yn eich datganiad, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig, felly, rwy'n cytuno â chi mai dyna yr oedd angen ichi ei wneud. Mae angen diogelu buddiannau'r gymuned cartrefi mewn parciau gyfan. Wedi'r cyfan, dydyn ni ddim eisiau i barciau sy'n cael eu rheoli'n dda i gau. Fe wnaethoch chi sôn fod llawer o bobl sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau yn dueddol o fod yn bobl hŷn. Wel, mae eisoes prinder llety addas ar gyfer pobl hŷn yn y gymdeithas yn gyffredinol, felly dydyn ni ddim mewn gwirionedd eisiau gwaethygu'r broblem honno a chyfrannu at gau safleoedd cartrefi mewn parciau sy'n cael eu rhedeg yn dda. Felly, mae angen i ni fod yn ymwybodol iawn o'r perygl hwnnw.
Fe ddes innau'n ymwybodol o rai o'r materion ynghylch cartrefi mewn parciau tua blwyddyn yn ôl pan gefais fy ngwahodd i ymweld ag un ger Croes Cwrlwys ar gyrion gorllewinol Caerdydd. Felly, euthum ar dipyn o daith o amgylch y parc. Cefais fynediad eithaf rhydd at amrywiol drigolion—doedden nhw ddim wedi'u dewis yn arbennig i siarad â mi o gwbl—ac, yn gyffredinol, roedd yn ymddangos bod y trigolion yn mwynhau byw yn y gymuned honno, ac roedd yn ymddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r naws tebyg i bentref a gynigiwyd iddynt drwy fyw yno. Felly, mae angen, unwaith eto, i ni fod yn ymwybodol bod yna lawer o gartrefi mewn parciau sy'n cael eu rhedeg yn dda lle mae pobl yn mwynhau y math arbennig hwnnw o ffordd o fyw. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw hynny'n cyfleu'r darlun llawn. Mae'n debyg bod safleoedd nad ydynt yn cael eu rhedeg yn dda hefyd, a gwnaethoch chi gyfeirio at y profiadau gwahanol y mae pobl yn eu cael. Rwy'n ymwybodol bod cartrefi a reolir yn wael hefyd, felly mae angen inni roi sylw i hynny.
Nawr, mae'r elfennau ariannol yn ddiddorol, oherwydd rydych chi wedi datgan y rhoddwyd llawer o fynediad i chi gan berchnogion safleoedd—fe wnaethon nhw gydweithredu'n helaeth drwy ganiatáu i'ch dadansoddwr ariannol annibynnol edrych ar y cyfrifon. Felly, roedd y cyfrifon hynny ar gael i chi, ac roedd hynny o gymorth i'ch arwain chi i wneud penderfyniad mwy deallus. Felly, mae gennyf ddiddordeb, mewn gwirionedd, yn eich rhesymeg chi dros ostwng y comisiwn gwerthu. Nawr, rwy'n sylweddoli eich bod chi'n dweud ei fod yn mynd i gael ei wneud dros bum mlynedd, felly mae hynny'n well na rhywbeth sydyn, ond ar yr un pryd, mae'n gostwng y cyfraddau, ac roeddwn i'n rhyfeddu at y rhesymeg, o ystyried rhai o'r ffactorau eraill yr ydych chi wedi'u nodi yn eich datganiad. Rydych chi wedi nodi bod y comisiwn cyfartalog yn y 1960au tua 20 y cant ac mae hwnnw wedi gostwng i 10 y cant eisoes. Rydych chi hefyd wedi sôn am ffactor hollbwysig: bod gwerth y cartrefi i raddau helaeth yn seiliedig ar y llain ei hun. Felly, yn ôl y rhesymeg honno, mae hi braidd yn rhyfedd meddwl tybed pam y byddech chi'n dymuno gweld y comisiwn yn lleihau, oherwydd rydych chi wedi dweud bod yna fater o ran y ffioedd am leiniau, felly, os yw perchnogion y safleoedd bellach yn eithaf rhydd i godi'r ffioedd am leiniau, y perygl yw y gallai trigolion fod yn wynebu cynnydd yn y ffioedd am leiniau, ac fe fydd hynny wedyn yn gorfod cael ei rheoli fel problem ar wahân. Ac os na chaiff y ffioedd am leiniau eu codi, oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r tribiwnlysoedd hyn os byddan nhw uwchlaw'r mynegai prisiau defnyddwyr, yna'r perygl, sydd mewn gwirionedd yn eich datganiad, yw y bydd llawer o gartrefi mewn gwirionedd yn anhyfyw a bydd safleoedd yn cau. A hefyd, pan fo pobl yn colli eu lleiniau, gallen nhw mewn gwirionedd golli mwy o ecwiti yn eu cartref oherwydd bod angen iddyn nhw adael eu llain. Felly, rwy'n rhyfeddu at eich dadansoddiad cyffredinol o'r holl ffactorau hyn wrth benderfynu lleihau'r comisiwn. Felly, hoffwn ichi roi ychydig mwy o oleuni ar hynny.
Rwy'n cytuno â chi bod cymdeithasau trigolion bob amser yn beth da os nad ydyn nhw eisoes yn bodoli, felly mae annog hynny yn dda. Ac mae eich syniadau chi am gael mwy o arweiniad yn dda, oherwydd roeddwn i'n meddwl—nawr, mae hyn yn rhywbeth y gwnaethoch chi fy addysgu yn ei gylch heddiw—bod y rhain yn ffioedd cymharol amlwg. Roeddwn i'n meddwl nad oedd hyn yn debyg i'r pethau yr ydym ni wedi eu trafod yn ddiweddar yma, fel ffioedd rhydd-ddaliadol cudd a thaliadau am ffordd fynediad. Roeddwn i'n credu bod pobl, pan oedden nhw'n sefydlu'r cytundebau ariannol hyn, yn deall fod yna gomisiwn o 10 y cant, ond o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, efallai fod yna ddiffyg gwybodaeth ac efallai fod pobl yn sefydlu, unwaith eto, fel gyda'r materion eraill hyn, gytundebau ariannol pan nad ydyn nhw'n llwyr ymwybodol o'r hyn y maen nhw'n cytuno iddo. Felly, cytunaf yn llwyr â'r angen i efallai addysgu'r bobl hyn, ac os gallwch chi roi mwy o oleuni ar hynny, byddwn yn ddiolchgar. Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Fe wnaf i ddechrau lle y gwnaethoch chi orffen, sef amlygrwydd y gofyniad i dalu y gyfradd comisiwn y bydd pobl yn cytuno iddi pan fyddan nhw'n dechrau eu contract. Wel, mae'r gyfradd yn y contract, ond mae hyn yn mynd yn ôl at y math o fater yr oeddwn i'n sôn amdano wrth ymateb i Bethan Sayed, lle nad oes unrhyw drawsgludo. Dyma leygwyr yn y bôn, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sefydlu rhywbeth sy'n gontract difrifol iawn am un o'r pethau mwyaf y byddan nhw'n ei brynu, neu'r peth mwyaf y byddan nhw'n ei brynu, byddwn i'n ei ddychmygu, yn eu hoes, ond nid oes ganddyn nhw'r cyngor cyfreithiol y byddai pobl sy'n prynu tŷ nad yw'n gartref mewn parc yn sicr yn disgwyl chwilio amdano. Felly, yn sicr mae yna broblem yn y fan honno. Wyddoch chi, rwyf i wedi clywed am achosion, drwy'r cyfnod ymgynghori, lle y daeth pobl yn ymwybodol o'r gyfradd comisiwn, mewn gwirionedd, dim ond pan oedd eu ffrindiau yn gwerthu eu heiddo. Felly, mae hyn yn rhywbeth nad yw llawer o drigolion yn ymwybodol ohono.
O ran pam rydym ni eisiau lleihau'r gyfradd comisiwn, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â sicrhau bod byw mewn cartref mewn parc yn parhau i fod yn ddewis atyniadol i bobl. Unwaith eto, mae hynny'n rhannol yn ymwneud â sicrhau bod gennym lety fforddiadwy i bobl mewn ardaloedd gwledig drud ym aml, lle byddai pobl sy'n ymddeol i'r cartrefi hyn yn ei chael hi'n anodd fforddio prynu yn y farchnad dai arferol. Mae cartrefi mewn parciau yn aml yn addas iawn i bobl, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn hefyd. Mae'n anghyffredin iawn i ddod o hyd i fyngalos ar y farchnad, er enghraifft. Mae yna ddiffyg mawr o fyngalos yn y sector pan fo pobl yn ceisio prynu cartrefi, ond gall cartrefi mewn parciau yn aml fod yn addas iawn i bobl wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Felly, mae'n ymwneud â helpu pobl, mewn gwirionedd, i symud i mewn ac allan o'r sector cartrefi mewn parciau, a'i gadw'n gynnig deniadol i bobl o ran lle y bydden nhw'n hoffi byw.
Soniodd Bethan Sayed hefyd am y gwaith dadansoddi ariannol, fel y gwnaethoch chi. Yn wreiddiol, cawsom 17 o fusnesau yn cynnig agor eu llyfrau i ni, ac rwy'n credu bod hynny'n wych ac mae'n dangos pa mor bell yr ydym ni wedi dod o ran y math o berthynas sydd wedi datblygu â'r sector dros lawer o flynyddoedd. Mewn gwirionedd, bu'n bosibl inni edrych ar lyfrau 10 busnes, am wahanol resymau—gwnaeth busnesau newid dwylo mewn rhai achosion, gan ein hatal ni rhag edrych ar y llyfrau, neu roedd perchnogion yn sâl ac ati. Ond roedd cael gweld 10 yn dda iawn. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, yw nad oedd y 10 hynny o anghenraid yn cynrychioli'r sector cyfan; maen nhw'n sicr yn cynrychioli pen micro a bach y sector cartrefi mewn parciau, ond nid ydyn nhw'n rhoi'r darlun i ni, mewn gwirionedd, o'r hyn sy'n digwydd yn y safleoedd cartrefi mewn parciau hynny sy'n fwy o lawer. Ond yr hyn yr oedd y dystiolaeth yn ei awgrymu'n gryf oedd bod y safleoedd llai o faint hyn yn dibynnu ar eu ffioedd comisiwn er mwyn bod yn gynaliadwy, a dyna pam yr ydym ni wedi cymryd ymagwedd fesul cam dros gyfnod mor hir—pum mlynedd—er mwyn peidio â rhoi unrhyw fath o sioc i'r system i fusnesau, ond yn hytrach, rhoi'r gallu iddynt gynllunio dros y cyfnod hwnnw.
Efallai y bydd rhai busnesau yn chwilio am ffynonellau incwm amgen neu newydd er mwyn cynyddu incwm y safle ac efallai na fyddan nhw'n penderfynu cynyddu'r ffioedd am y lleiniau, ond ceir y sicrwydd hwnnw yno y byddai angen cytuno ar unrhyw ffi am y llain sy'n uwch na'r mynegai prisiau defnyddwyr drwy fynd â'r achos i'r tribiwnlys eiddo preswyl. Byddai cyfle yn y fan honno i bob un o'r materion gael eu hystyried—hyfywedd a chynaliadwyedd y safle, barn a fforddiadwyedd ar gyfer y tenantiaid ac ati—a bydd pob un o'r materion hyn yn cael eu hystyried fesul achos gan y tribiwnlys. Felly, ni fydd y tribiwnlys yn gwneud dyfarniad ar gyfer Cymru, ar draws Cymru. Bydd yn sicr ar sail safle unigol.
Rwy'n credu fy mod wedi gallu ateb yr holl gwestiynau hynny a godwyd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad heddiw? Yn dilyn ymgynghoriad helaeth, fel y dywedasoch chi, ar y cyfraddau comisiwn ar gyfer cartrefi mewn parciau a'r effeithiau ar berchnogion cartrefi mewn parciau a busnesau cartrefi mewn parciau yng Nghymru, rwyf wedi cael sylwadau pendant iawn ynghylch y gyfradd comisiwn bresennol o 10 y cant i breswylwyr cartrefi mewn parciau, sydd yn aml yn cael eu hunain wedi'u cyfyngu gan eu hamgylchiadau ariannol, fel trigolion cartrefi mewn parciau, o ran costau ailwerthu. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd bwyllog yr ydych chi wedi ymateb i'r sefyllfa heriol hon â gostyngiad o 5 y cant dros gyfnod o bum mlynedd. Rwy'n croesawu hefyd y pwyslais yr ydych chi wedi'i roi ar y materion ehangach ynghylch cartrefi mewn parciau, sy'n hanfodol bwysig o ran yr ymgysylltu yr wyf i wedi'i gael dros y blynyddoedd â chartrefi mewn parciau, o ran y modd gorau o reoli, cyfleusterau, monitro ac arolygu.
Ond codwyd pryderon gyda mi hefyd gan breswylwyr cartrefi mewn parciau o ran effaith y gostyngiad hwn—er enghraifft, pryderon y gallai preswylwyr cartrefi mewn parciau fod yn wynebu, fel y dywedwyd eisoes, cynnydd annerbyniol mewn rhent ac a phryderon ynghylch a fyddai'r rhai hynny a dalodd y comisiwn o 10 y cant yn cael eu hamddiffyn dros gyfnod pontio, rhag y cynnydd hwnnw mewn rhent.
Diolch yn fawr iawn ichi am y pwyntiau hynny. Rwy'n gwbl ymwybodol eich bod chi, ers lawer o flynyddoedd, wedi cefnogi preswylwyr cartrefi mewn parciau yn eich etholaeth eich hun. Gwn ein bod ni wedi cael cyfarfodydd i drafod y pryderon hynny y mae eich etholwyr wedi'u codi gyda chi hefyd.
Rwy'n mawr obeithio y bydd y ffaith bod y cam wrth gefn hwn, sef y tribiwnlys eiddo preswyl, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bobl—y bobl hynny sy'n rheoli safleoedd, a pherchnogion y safleoedd, ond hefyd perchenogion y cartrefi mewn parciau hefyd—y bydd unrhyw gynnydd mewn ffioedd am leiniau yn rhesymol ac yn gymesur, ac yn sicr byddai unrhyw beth sy'n uwch na'r mynegai prisiau defnyddwyr yn rhywbeth y byddai'n rhaid ei gyflwyno gerbron y tribiwnlys.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio y cytunwyd ar y mynegai prisiau defnyddwyr pan ddaeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i rym, a dewiswyd y mynegai prisiau defnyddwyr oherwydd ein bod yn sylweddoli bod llawer o drigolion ar incwm sefydlog o bensiynau neu fudd-daliadau, a bod y pethau hynny eu hunain yn gysylltiedig â'r mynegai prisiau defnyddwyr. Felly, gwnaed y penderfyniad hwnnw yn y lle cyntaf er mwyn bod yn deg i drigolion. Unwaith eto, mae gennym ni'r cyfnod pum mlynedd bellach o ran symud i lawr i'r 5 y cant, a fydd yn haneru cyfradd y comisiwn, a hwn, yn sicr, fydd y gyfradd comisiwn isaf yn y DU. Felly bydd hyn yn rhoi amser i fusnesau addasu, ond hefyd amser i berchnogion cartrefi ystyried eu hopsiynau.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch. Diolch, Llywydd.
Diolch ichi am eich datganiad. Rydym ni'n gwybod bod tua 5,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau, a bod y sector i raddau helaeth yn seiliedig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a bod oddeutu hanner y safleoedd yn y wlad wedi'u lleoli yn y rhanbarth penodol hwnnw. Felly, am y rheswm hwnnw, yn ystod y cyfnod ymgynghori, dechreuais ymweld a chyfarfod â pherchnogion a phreswylwyr ac nid oes angen dweud eto bod rhaniadau sylweddol rhwng y safbwyntiau, p'un a ydych chi'n breswylydd neu a ydych chi'n berchennog. Mae'r rhaniad yn un dwfn, ond mae hefyd yn un hirfaith, ac mae wedi bod yn rhygnu yn ei flaen am flynyddoedd lawer. Rwy'n cofio eistedd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a chraffu ar Ddeddf 2013 a oedd yn rhoi mwy o hawliau i breswylwyr, ond nad oedd wrth gwrs yn dileu'r 10 y cant. Roeddwn i hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau hwnnw y soniodd Bethan amdano yn gynharach.
Rwy'n croesawu eich dull gweithredu fesul cam, a chredaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny. Ond rwy'n credu mai'r pethau efallai y mae angen mynd i'r afael â nhw nawr—ac nid wyf yn mynd i ofyn ichi ailadrodd yr ateb yr ydych chi wedi'i roi am y potensial ar gyfer cynyddu rhent—y cwestiwn yr wyf i'n mynd i'w ofyn, oherwydd rydych chi wedi ei grybwyll sawl gwaith, yw'r hawl i allu mynd i dribiwnlys, ac a yw hynny'n gost-effeithiol i bobl a allai ganfod eu hunain yn y sefyllfa hon, ac, os nad ydych chi'n gwybod yr ateb yn awr, beth fyddai cost mynd ar y trywydd hwnnw o bosibl i breswylydd a allai eisoes fod yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Gwelais safleoedd a oedd yn cael eu rhedeg yn arbennig o dda—mae'n rhaid imi ddweud hynny. Ni ymwelais i ag unrhyw safle a oedd yn cael ei redeg yn wael, ond gwn fod yna safleoedd sy'n cael eu rhedeg yn wael, a gwn fod ganddyn nhw berchnogion absennol a threfniadau rheoli gwael fel arfer. Felly, mae fy nghwestiwn i yn ymwneud â cheisio gorfodi'r rheolau sydd gennym eisoes. Rwy'n cofio'r personau addas a phriodol yn y Ddeddf honno, boed yn berchennog neu'n rheolwr neu'n asiant, bod yn rhaid iddyn nhw fodloni'r meini prawf hynny fel person addas a phriodol cyn cael rhedeg y safle hwnnw. Gwn fod y gwaith o oruchwylio hyn, os cofiaf yn iawn, yn gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Felly, mae'n debyg, er mwyn inni ddweud bod gennym ni ddeddfwriaeth ar waith a ddylai ymdrin â materion y mae pobl eisoes yn poeni amdanyn nhw, mae angen inni wybod hefyd bod hynny'n gweithio yn y ffordd yr oeddem ni'n gobeithio y byddai ar adeg pasio'r Ddeddf honno. Felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod a oes gennym ni unrhyw ddiweddariad ar hynny. Os nad oes gennym ni, a allwn ni edrych ymlaen at ei gael yn fuan.
Gwych. Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau hynny. Unwaith eto, gwn ein bod ni wedi cyfarfod i drafod y pryderon hynny yr ydych chi wedi'u clywed gan breswylwyr yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, o safbwynt y bobl sy'n berchnogion cartrefi mewn parciau, ond hefyd o safbwynt y bobl sy'n berchen ar y safleoedd. Felly, rydych chi, yn sicr, rwy'n gwybod, wedi clywed dwy ochr y ddadl ac yn cydnabod, fel yr wyf i, nad oes unrhyw bwynt mewn gwirionedd lle bydd y safbwyntiau hynny yn dod at ei gilydd. Yn gyffredinol, ceir y rhaniad clir a chyson hwnnw. Wrth gwrs, fel y gallwch ddychmygu, byddai'r rhan fwyaf o breswylwyr yn cefnogi lleihau neu ddileu'r ffi, ond roedd pob un o'r perchnogion safleoedd a gyfrannodd at ein hymgynghoriad am weld y ffi safle neu'r gyfradd comisiwn yn cael ei chynnal ar lefel o 10 y cant. Felly, mae'r rhaniad hwnnw yn bodoli.
Rydych chi yn llygad eich lle i ddweud bod peth amser wedi mynd heibio bellach ers dechrau gweithredu Deddf 2013, a chredaf mai nawr yw'r amser i gael y sgyrsiau hynny ag awdurdodau lleol ac eraill i ddeall, mewn gwirionedd, o ran monitro a gweithredu'r Ddeddf, beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod pobl mewn cartrefi mewn parciau yn cael y fargen deg y maen nhw'n ei disgwyl, a'u bod yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu trin â thegwch gan y bobl sy'n berchen ar y safleoedd cartrefi mewn parciau hyn hefyd. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae swyddogion eisoes wedi dechrau ymgysylltu yn ei gylch ag awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gwneud hynny, ond yn sicr mae rhai o'r profiadau yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw drwy ein proses ymgynghori yn gwneud imi feddwl, mewn gwirionedd, nad yw pobl ar rai safleoedd yn cael y math o wasanaeth y maen nhw'n ei haeddu. Mae angen i'r mater hwnnw o ba mor effeithlon y mae'r prawf person addas a phriodol yn gweithio i bobl fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ymchwilio iddo mewn mwy o ddyfnder, ac yn sicr fe fyddwn ni'n gwneud hynny.
O ran costau'r tribiwnlys, roeddwn i'n chwilio'n wyllt am y tabl hwnnw sy'n cynnwys pob un o'r costau hynny, sy'n dibynnu ar nifer y partïon sy'n rhan o'r achos, ond fe wnaf yn sicr ysgrifennu atoch chi â'r manylion hynny.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem olaf, felly, yw'r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6732 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1 i 9;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 10 i 29;
d) Teitl hir.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Nid oes gen i ddim siaradwyr i'r cynnig, na chwaith ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet i hynny. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hynny â'n trafodion am heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.