Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

[Anghlywadwy.]—cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cwestiwn 1, John Griffiths.

Diogelwch ar y Ffyrdd

1. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ52077

Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi'r camau rydym ni a'n partneriaid yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru, ac roedd yr adolygiad canol tymor o'r fframwaith yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn y targedau a'r camau gweithredu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna dystiolaeth a chefnogaeth gynyddol i derfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol, gyda darpariaeth ar gyfer terfynau is neu uwch ar ffyrdd penodol. Mae'r dystiolaeth yn dangos y byddai llai o ddamweiniau, llai o anafiadau, llai o farwolaethau, ac y byddai traffig yn symud yn fwy rhydd, gyda llai o allyriadau. Ceir cefnogaeth gyhoeddus gref i'r dystiolaeth, ac amcangyfrifir y byddai degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu harbed. Ceir cysylltiad hefyd â theithio llesol. Ym Mryste, er enghraifft, lle maent wedi cyflwyno terfyn cyflymder o'r fath, mae mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio i'r ysgol ac i'r gwaith, ac yn wir, mae 25 y cant o ardaloedd trefol Prydain bellach yn ardaloedd 20 mya. Mae yna ymgyrch gref o'r enw '20 yn ddigon', sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol, a chaiff ei chefnogi gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru, a Brake. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno'r polisi hwn yng Nghymru yn awr?

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn, a chadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflwyno parthau 20 mya a therfynau cyflymder 20 mya lle y ceir tystiolaeth fod eu hangen? Mae'r Aelod yn llygad ei le fod y dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu eu bod yn arwain at ostwng cyflymder, ac felly at ddiogelwch gwell, yn arbennig mewn perthynas â cherddwyr a beicwyr. Mae gan awdurdodau cefnffyrdd y pŵer i newid terfynau cyflymder drwy orchymyn eisoes, ac yn amlwg mae angen iddynt ymgynghori â'r gymuned leol ar wneud unrhyw newidiadau. Ond rydym yn darparu cyllid i awdurdodau lleol weithredu parthau 20 mya, a therfynau cyflymder 20 mya, drwy'r grant diogelwch ffyrdd a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, ac rydym hefyd, yn ychwanegol at hyn, yn darparu cymorth ar gyfer gostyngiadau 20 mya y tu allan i ysgolion ar rwydweithiau cefnffyrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd trefol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn dangos, er mai beicwyr modur oedd llai nag 1 y cant o'r traffig yng Nghymru yn 2016, eu bod yn 23 y cant o'r holl bobl a gafodd eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol yng Nghymru hefyd. Lladdwyd 22 o feicwyr modur i gyd ar ffyrdd Cymru yn 2016. Mae'n ffigur brawychus ac yn gwbl annerbyniol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o ba mor agored i niwed yw beicwyr modur ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?

Wel, mae'r Aelod yn hollol iawn—er bod cynnydd da yn cael ei wneud yn erbyn llawer o'r targedau, er enghraifft targedau sy'n ymwneud â phobl ifanc a nifer cyffredinol y bobl sy'n cael eu lladd neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd, mae'r ystadegau sy'n ymwneud â beicwyr modur yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel ac maent yn destun pryder mawr i ni. Gostyngiad o 1 y cant yn unig a fu, felly, o ganlyniad, mae'r gyfran yn parhau i gynyddu. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem arbennig hon—ac rwy'n ymwybodol fod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn gallu cyfeirio at leoliadau penodol lle mae beicwyr modur mewn perygl mawr—rydym yn gweithio gyda Go Safe a phartneriaid eraill o fewn yr heddlu i ddatblygu'r gallu i ddadansoddi data, er mwyn llywio ymyriadau'n well. Rydym hefyd wedi dechrau cael trafodaethau gyda sefydliad diogelwch ffyrdd dielw cenedlaethol ynglŷn â'r posibilrwydd o weithredu eu cyrsiau beicio modur Two Wheels yma yng Nghymru. Rydym yn credu bod hyfforddiant gwell—estyniad o'r hyfforddiant a ddarperir eisoes—yn gwbl hanfodol i leihau ffigurau'r bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Ac rydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr adran addysg ar y posibilrwydd o gynnwys deunydd ar ddiogelwch ar y ffyrdd ym maes iechyd a llesiant y profiad dysgu. Rwy'n credu, unwaith eto, mai gorau po gyntaf y gallwn gyflwyno dulliau cyfrifol, ymddygiad cyfrifol, o ran beicio a beicio modur, ac mae gwneud hynny yn yr ysgol yn gwneud synnwyr perffaith.

Aelod Cynulliad: A gaf fi wneud ymyriad ar hynny, os gwelwch yn dda?

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi yn gyntaf groesawu'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud mewn mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn sicr yn ngorllewin fy etholaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill? Yn benodol, ar gyffordd Beddau Halt yn fy etholaeth, man peryglus cyfarwydd lle mae damweiniau'n tueddu i ddigwydd, mae'r cytundeb diweddar i fuddsoddi £700,000 i wella hwnnw i'w groesawu'n fawr iawn. Cynnyrch ymgyrch gan bobl leol, trigolion lleol, gan gynghorwyr, yw'r buddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd, ac mae wedi arwain, rwy'n credu, at bartneriaeth aruthrol i weithio ar ffyrdd o wella rhai o'r mannau peryglus hyn. A ydych yn cytuno bod hon yn ffordd dda ymlaen, gyda Llywodraeth Cymru yn gwrando ar beth y mae pobl leol a chynghorwyr lleol yn ei ddweud, a'r bartneriaeth yn buddsoddi mewn camau i wella ein mannau peryglus?

13:35

Ni allwn gytuno mwy. Yn wir, mae'r enghraifft y mae'r Aelod yn cyfeirio ati hefyd yn dangos bod pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cyflawni ar lefel leol, gyda chydweithrediad a chyfranogiad, ac yn wir, mae yna lefel dda o gydweithio rhwng fy swyddogion a'r awdurdod lleol er mwyn gwella ansawdd y cais o'r cam cyntaf i'r ail gam. Ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi'r cynigion gyda mwy na £300,000 o gyllid, ac rwyf hefyd yn falch o allu dweud ein bod wedi dyrannu gwerth £119,000 o adnoddau i helpu i wella addysg diogelwch ffyrdd ar draws y fwrdeistref.

Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Caerdydd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl y bartneriaeth i gyflenwi'r metro yn y broses o sicrhau trafnidiaeth integredig ar gyfer Caerdydd? OAQ52083

3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu trafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd? OAQ52093

Diolch. Deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 2 a 3 gael eu grwpio, Ddirprwy Lywydd.

Bydd y bartneriaeth i ddatblygu'r metro yn cyfuno adnoddau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â gweledigaeth o greu hyb trafnidiaeth integredig, amlfoddol yng nghanol Caerdydd, gan sicrhau bod yna ddull cydgysylltiedig wedi'i reoli o gyflawni'r prosiectau cydrannol fel rhan o raglen y bartneriaeth i ddatblygu'r metro.

Mae'n dda gwybod bod yr adnoddau cyhoeddus a phreifat yn cael eu cyfuno, ond mae gennyf ymholiad, mewn gwirionedd, o ystyried bod cymaint o ddatblygiad safon uchel wedi bod ar safle'r Sgwâr Canolog, sef safle'r hen orsaf fysiau, pam nad yw wedi bod yn bosibl ariannu'r orsaf fysiau o'r mecanweithiau cyflawni adran 106 y bydd y cyngor wedi'u cael gan ddatblygwyr preifat sydd wedi elwa o fod wedi'u lleoli ar y Sgwâr Canolog, a pham fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd gyda'r bartneriaeth i gyflawni'r metro. Yn absenoldeb tramiau, rheilffyrdd ysgafn a'r ffaith bod mwy o gapasiti ar y rheilffyrdd maestrefol ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio'r bysiau i deithio o gwmpas. Mae methu deall ble y dylent ddal y bws i leoliadau penodol, fel ar hyn o bryd, yn atal pobl rhag defnyddio bysiau mewn gwirionedd, ac yn amlwg, dyna rydym eisiau iddynt ei wneud. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthyf pryd yn union y bydd yr orsaf fysiau'n cael ei hailagor, oherwydd mae o leiaf 10 mlynedd o ymgyrchu wedi bod, a dyna beth y mae fy etholwyr eisiau ei glywed.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chadarnhau y disgwylir y bydd y gwaith ar yr ased, sy'n hanfodol bwysig i Gaerdydd, yn cael ei gwblhau yng nghanol 2020-21? Cyfrifoldeb y cyngor yw penderfynu sut i wario arian adran 106, a deallaf fod y cyngor yn benderfynol fod angen gwneud gwelliannau ar draws y ddinas gyda'r arian hwn. Rwy'n fwy na pharod i helpu i hwyluso cyfarfod rhwng yr Aelod a'r cyngor i sicrhau gwell dealltwriaeth o'r prosiectau a fydd yn elwa o gyllid adran 106.

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu trafnidiaeth integredig yng Nghaerdydd?

Gyda chwestiynau wedi'u grwpio, gallwch symud ymlaen at eich cwestiwn atodol.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Croesewais ateb y Prif Weinidog i gwestiwn am yr orsaf fysiau fis diwethaf yn fawr iawn—ein bod yn ceisio sicrhau integreiddio di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, a darparu mynediad hawdd i feicwyr a cherddwyr. Fodd bynnag, deallaf fod llai o fannau beiciau yn y cynllun newydd ar gyfer yr orsaf fysiau nag a oedd yn yr un blaenorol mewn gwirionedd. Rwy'n deall bod y niferoedd wedi'u gostwng o 750 o fannau i 500, ac na fyddant yn yr orsaf fysiau ei hun mwyach ond yn hytrach mewn caban ar wahân. Felly, ni wn a all Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o wybodaeth ar hynny a'n sicrhau y bydd beicio a cherdded yn parhau i fod yn elfennau cwbl allweddol o'r gyfnewidfa drafnidiaeth hon.

13:40

Yn sicr, gallaf sicrhau'r Aelod nad cyfleusterau beicio fydd sinderela unrhyw hyb trafnidiaeth y byddwn yn ei ddatblygu yng Nghymru, gan gynnwys yr hyb penodol hwn yng Nghaerdydd. Nawr, mae cynllun yr orsaf fysiau'n dal i gael ei ddatblygu, ac felly mae amser, mae cyfle, i sicrhau bod digon o fannau ar gyfer beicwyr. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ymestyn y cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, gan gynnwys beicio, ac i sicrhau bod yna gyfleusterau sylweddol ledled Cymru sy'n galluogi pobl i wneud mwy o ddefnydd o feiciau. Ac rwy'n credu bod y cyhoeddiad diweddar mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer rhaglenni teithio llesol yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda benodol hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod pawb yn cefnogi cyflwyno'r system fetro, ac mae'n ymddangos, ar bob man cyfyng ar y rhwydwaith trafnidiaeth—yn sicr, yng Nghanol De Cymru—pan leisir cwyn neu broblem atebir drwy ddweud, 'Wel, peidiwch â phoeni mae'r system fetro ar ei ffordd.' A allwch roi amserlen bendant i ni o ran pryd y bydd modurwyr a phobl sydd angen trafnidiaeth i fynd i'r gwaith neu i deithio o amgylch eu cymunedau yn dechrau gweld rhai o'r dewisiadau amlfoddol y mae'r system fetro yn sôn amdanynt mewn gwirionedd, oherwydd os ydych yn gyrru o gwmpas Canol De Cymru, neu'n cerdded o gwmpas yr orsaf ganolog neu'n beicio o gwmpas Canol De Cymru, mae'n ymddangos mai'r cyfan a welwch ar hyn o bryd yw tagfeydd, ac mae'n rhwystredig iawn nad ydym ni, fel Aelodau etholedig, yn gallu cynnig yr amserlenni—yr amserlenni pendant—y mae llawer ohonom eisiau eu gweld yn cael eu cyflwyno?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n hollol gywir—mae pobl yn rhwystredig, ac mae hynny'n ddigon teg, gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig o ran y rheilffyrdd ond hefyd o ran gwasanaethau bysiau lleol. Gallaf gadarnhau y bydd y prosiect Canol Caerdydd yn cael ei gwblhau yn 2021. Bydd cam 2 y prosiect metro'n cael ei gwblhau erbyn 2023. Ond rydym hefyd yn cyflwyno'r prosiectau a neilltuwyd yn wreiddiol fel camau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r metro, er enghraifft cyfleusterau parcio a theithio a hybiau eraill, fel bod pobl yn gweld y metro'n cael ei gyflawni'n gynt na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl adael eu ceir, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu feiciau, ac rydym yn gwneud hynny.

Mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ardal fetro gogledd Cymru er enghraifft, rwyf wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i ddechrau gwaith ar lwybrau beicio ac ar hybiau trafnidiaeth integredig yn ardal Glannau Dyfrdwy. Mae gwaith hefyd ar y gweill mewn safleoedd strategol ar draws gogledd Cymru ac yn wir, ar sail trawsffiniol i'r gogledd-orllewin. Unwaith eto, mae gwaith yn mynd rhagddo yn ne-orllewin Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith sy'n cael ei arwain gan bartneriaid y fargen ddinesig ac sy'n edrych ar sut y gallem gyflwyno gwasanaeth metro modern yn y rhanbarth hwnnw yn ogystal.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn buddsoddi'n drwm iawn mewn cynlluniau ffyrdd i liniaru tagfeydd drwy'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi cynllun mannau cyfyng, sy'n cael ei ddefnyddio ledled Cymru i sicrhau bod ein cefnffyrdd yn cael eu rhyddhau ar bwyntiau penodol lle y ceir tagfeydd ar hyn o bryd.

Mae'r metro wedi bod yn destun siarad ers wyth mlynedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelodau Llafur, mae gorsaf fysiau Caerdydd yn ffiasgo—ffiasgo llwyr. Os ydych yn teithio i'r cyrion, i orllewin y brifddinas, fel y rhagwelasom—ac roedd pobl yn ein galw'n gelwyddgwn ar y pryd—mae tai'n cael eu hadeiladu, mae'r teirw dur yno, ac mae yna ffordd unffrwd lle bydd 8,000 o dai eraill yn cael eu hadeiladu. Beth yw eich neges i drigolion gorllewin y brifddinas? A beth yw eich neges i bobl a fydd yn prynu'r tai newydd hynny, oherwydd nid oes ganddynt unrhyw ffordd o deithio i ganol Caerdydd? Beth a ddywedwch wrth y bobl hynny?

Wel, dyma fy neges: rydym wedi ymyrryd, oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei alw'n ffiasgo gyda gorsaf fysiau Caerdydd, ac mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl ar hyd a lled Caerdydd—ledled Caerdydd gyfan—yn gweld gwelliannau mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig o ran yr hyn a fydd yn teithio ar y rheilffyrdd, ond hefyd o ran gwasanaethau bysiau drwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol a thrwy ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ystod y tymor hwn. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, fod pobl yn cael cyfle i adael eu ceir preifat a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a dibynadwy o'r ansawdd uchaf. Byddwn yn darparu hynny yn ogystal fel rhan o'r metro, a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, a fydd yn cael ei chytuno a'i chyflwyno yn awr o fis Hydref eleni ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a'r llefarydd cyntaf yw Suzy Davies.

13:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, lansiodd Llywodraeth y DU 'Diwydiannau creadigol: Bargen y Sector' y mis diwethaf, gan ragweld gwerth ychwanegol gros o £150 biliwn erbyn 2023. Maent yn ymrwymo degau o filiynau o bunnoedd i hynny. Nawr, mae cynnydd i'w weld fel pe bai wedi ei nodweddu gan y ffaith fy mod yn dal i aros, naw mis bellach, am atebion mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau sy'n effeithio ar y gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau. Rwy'n meddwl tybed a yw Cymru Greadigol yn rhywbeth go iawn neu'n ffrwyth dychymyg. Beth rydych chi'n ei ystyried yn ddefnyddiol ym margen y DU, sy'n ategu neu'n gwella polisi diwylliannol, yn enwedig yma yng Nghymru, yn enwedig ym maes ffilm a theledu, a beth y gellir ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yn eich cyfraniad chi i bolisi ehangach y diwydiannau creadigol yng Nghymru y disgwyliwn yn eiddgar am unrhyw fanylion yn ei gylch?

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

Rydym yn croesawu ymyrraeth Llywodraeth y DU ar fargen y sector diwydiannau creadigol yn fawr iawn. Rydym wedi datblygu, a byddwn yn cyhoeddi, union natur gweithgarwch Cymru Greadigol a'i leoliad o fewn y Llywodraeth, a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau. Bydd hyn yn glir yn fuan, ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â'r Aelod i drafod y mater yn fanylach, yn enwedig o ran ei gymhwyso i fargen ddinesig Abertawe, y gwn fod ganddi ddiddordeb arbennig ynddi.

Gan droi at fater ehangach darlledu, mae Channel 4 wedi cyhoeddi eu bwriad i adleoli. Yr hyn a geisiwn yma yw i un o'r hybiau ddod i Gymru, oherwydd cyhoeddwyd y bwriad eisoes i sefydlu tri hyb cenedlaethol a rhanbarthol newydd, ac mae mater lleoliad y pencadlys cenedlaethol sydd i'w agor yn 2019 yn codi hefyd, ac rydym yn gweld hyn fel rhywbeth y byddem yn sicr yn ymgyrchu drosto, ac rydym eisoes wedi ymgyrchu drosto fel Llywodraeth, gyda chefnogaeth y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â newyddion Channel 4 ac mae dau o'r awdurdodau lleol yn fy ardal yn lobïo'n eithaf cryf ar hynny eisoes, er fod yn rhaid i mi ddweud bod mwy i hyn na Channel 4 a'r Egin. Mae bron i ddwy flynedd wedi bod o'r tymor Llywodraeth hwn bellach a buaswn wedi gobeithio cael rhywfaint o eglurder ar ddatblygiad y diwydiannau creadigol, yn arbennig yr elfen ddiwylliannol rydych yn gyfrifol amdani, er fy mod yn deall, wrth gwrs, nad ydych wedi bod yn Weinidog dros y cyfnod hwnnw.

Rwy'n gweld y byddwch yn siarad yn lansiad Wythnos Twristiaeth Cymru cyn bo hir. Fe fyddwch yn gwybod am adroddiad diweddar y Ffederasiwn Busnesau Bach sy'n honni bod cronfeydd penodol Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi twristiaeth 'y tu allan i gyrraedd' y rhan fwyaf o fusnesau twristiaeth bach, gan awgrymu

y byddai'n rhaid i'r rhan fwyaf o weithredwyr twristiaeth… gynllunio i ddyblu yn eu maint

i fod â gobaith o gael,

cymorth gan y Gronfa Busnesau Micro a Bychan,

nad yw'n swnio fel rhywbeth micro iawn i mi, mae'n rhaid i mi gyfaddef.

Yn yr un modd ag y mae Cadw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn mabwysiadu model busnes mwy anturus, gallai ein gweithredwyr treftadaeth llai o faint wneud yr un peth. Rwy'n meddwl tybed faint o weithredwyr busnesau treftadaeth sy'n rhy fach i elwa o'r grantiau twristiaeth hyn, a sut rydych yn sicrhau bod Croeso Cymru yn targedu'r rhai sy'n ddigon mawr i elwa ohonynt mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn pellach hwnnw. Yn wir, rwyf wedi gweld ac wedi astudio'r adroddiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe baem yn cyfarfod â hwy hefyd er mwyn asesu'n fwy clir pa dystiolaeth y mae eu hadroddiad yn seiliedig arno, oherwydd yn sicr, o'm rhan i, rwy'n ceisio trefnu ein cyllid ar gyfer twristiaeth mewn ffordd sy'n ei wneud yn hygyrch i bawb sy'n cynhyrchu cynlluniau busnes perthnasol ar gyfer fy adran, fel y gallwn asesu'r math o fuddsoddiad y gallwn ei wneud.

Rydym wedi sefydlu twristiaeth yn eithaf pendant fel sector sylfaenol yn nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, sy'n pwysleisio bod datganoli cyfrifoldebau i'r rhanbarthau yn bwysig i ni o ran datblygu'r diwydiant twristiaeth. Gyda chymorth fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cadw pedwar rhanbarth at ddibenion twristiaeth, sydd ychydig yn wahanol i ymagwedd y Llywodraeth ar yr ochr economaidd i bethau, oherwydd rwy'n credu bod cyfraniad canolbarth Cymru i dwristiaeth, a'r potensial yno, yn rhywbeth y mae angen i ni ei gefnogi, ac yn sicr byddai hynny'n golygu cefnogi diwydiannau llai.

O ran y gronfa gyfredol, mae'r Llywodraeth yn edrych yn ofalus ar hyn o bryd ar sut y gallwn ailstrwythuro a chyfuno rhai o'n potiau mewn cronfa datblygu a menter arall, a byddai'r elfen dwristiaeth yn y gronfa honno yn sicr ar gael i gyfran mor eang a phosibl o'r economi.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n gobeithio—mewn ymateb i ran olaf yr hyn a ddywedoch—pan ydych yn sôn am fusnesau twristiaeth, nad ydych yn sôn am lety yn unig, ond am berchnogion busnesau treftadaeth bach yn ogystal, oherwydd, yn amlwg, dylai'r cynnig cyfunol o lety da a threftadaeth ddiddorol fod yn fantais i Gymru mewn gwirionedd.

Os caf orffen ar y thema honno o gynhyrchu incwm, os gallaf ei roi felly, neu gyfleoedd busnes, cyhoeddwyd rhestr fer gwobr fawr ei bri Amgueddfa'r Flwyddyn y DU yn gynharach yr wythnos hon, a bydd enillydd y wobr honno'n derbyn £100,000, sy'n gyfraniad sylweddol i gynllun busnes unrhyw amgueddfa, yn arbennig yr amgueddfeydd llai neu'r amgueddfeydd arbenigol hynny sydd wedi ennill y wobr o bryd i'w gilydd yn y gorffennol mewn gwirionedd. Unwaith yn unig y mae'r wobr wedi cael ei hennill gan Amgueddfa yng Nghymru, 13 mlynedd yn ôl. Beth yw'r rheswm am hynny yn eich barn chi?

13:50

Yn sicr, rwyf wedi cyfarfod â'r gymdeithas sy'n cynrychioli amgueddfeydd. Yr hyn rydym yn ceisio ei bwysleisio—. Os yw hi wedi darllen, ac rwy'n siŵr ei bod, y llythyr cylch gwaith a anfonais yn weddol ddiweddar at Amgueddfa Genedlaethol Cymru, rydym yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio'n agos ag amgueddfeydd lleol a chyda chanolfannau rhanbarthol mewn perthynas ag amgueddfeydd. Rwy'n awyddus iawn i weld sut y gallwn ddatblygu hyn ymhellach wrth greu partneriaethau yn y rhanbarthau twristiaeth rwyf newydd eu disgrifio, rhwng amgueddfeydd, fel y gall pobl fynd ar daith o amgylch gwahanol amgueddfeydd mewn rhanbarth, iddynt allu mwynhau'r cynnig sydd gennym.

I ateb ei chwestiwn cyntaf, ni wn pam nad yw amgueddfeydd yng Nghymru wedi elwa o'r wobr arbennig honno, ond byddaf yn sicr yn edrych yn fanylach i weld beth yw'r meini prawf ar gyfer y wobr hon. Ond o'n rhan ninnau, rydym yn croesawu'r cydweithrediad ag amgueddfeydd awdurdodau lleol a safleoedd treftadaeth sydd ag amgueddfeydd arnynt mewn perchnogaeth breifat. Yn benodol, rwyf wedi ymweld â nifer o gestyll gwych sy'n eiddo preifat, ac mae llawer ohonynt mewn rhannau o'r byd a fydd yn hysbys iddi yn Nyffryn Tywi. Gwn pa mor falch yw'r bobl sy'n malio am yr henebion penodol hyn o weithio gyda Cadw o ran trefniadaeth y lle, ac maent hefyd yn amlwg yn elwa o nifer yr ymwelwyr, ymwelwyr sy'n talu, sy'n ymweld â'u heiddo.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhifyn y mis hwn o gylchgrawn Modern Railways, y gwn ei fod yn ddeunydd darllen gofynnol ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad, wedi nodi na fydd trenau rheilffyrdd y Cymoedd yn cynnig toiledau i deithwyr mwyach. Hoffwn i chi gadarnhau a yw hyn yn wir ai peidio. Ond cyn i chi wneud hynny, hoffwn nodi bod dwy elfen i'r cwestiwn hwn, mewn gwirionedd.

Yn y tymor byr, er mwyn osgoi methiant i gyflawni gofynion hygyrchedd a deddfwriaeth anabledd, yn hytrach na mynd ati'n rhagweithiol i uwchraddio'r stoc Pacer cyfredol i gydymffurfio â manylebau pobl â phroblemau symud, awgrymir bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cloi'r toiledau yn lle hynny. Nawr, rydych wedi gwadu hynny, ond hoffwn i chi nodi'n fanwl sut rydych yn bwriadu sicrhau bod y trenau Pacer yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

Yr ail elfen, wrth edrych i'r dyfodol, yw bod llawer yn credu bod trenau rheilffyrdd ysgafn, nad ydynt fel arfer yn cynnwys toiledau, yn cael eu hystyried ar gyfer rhai o reilffyrdd y Cymoedd fel rhan o'r gwaith o ddatblygu metro de Cymru. A allwch gadarnhau mai'r cwmnïau sy'n gwneud cais a fydd yn penderfynu a fydd toiledau'n cael eu darparu ar y trenau newydd hyn ai peidio? Gan fod toiledau yn mynd â chryn dipyn o le, sy'n effeithio ar refeniw, efallai nad oes angen arbenigwr i ddyfalu beth y gallai eu hargymhellion fod.

Gallaf sicrhau'r Aelod na fydd drysau'n cael eu cloi ar drenau er mwyn osgoi cydymffurfio â rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu cyfleusterau ar gyfer pobl â phroblemau symud. Mae'r ymgeiswyr yn yr ymarfer caffael yn wynebu'r her o ddangos sut y byddant yn sicrhau bod trenau'n cydymffurfio â'r rheoliadau a ddaw i rym cyn bo hir, a bydd angen iddynt wneud hynny heb gloi unrhyw ddrysau o gwbl.

Yn yr un modd, fel rhan o'r ymarfer caffael, cynhaliwyd nifer o ymgynghoriadau gyda theithwyr a'r cyhoedd yn ehangach er mwyn canfod beth yn union oedd y pethau pwysicaf i bobl pan oeddent yn ystyried a oeddent am ddefnyddio trenau ai peidio. Roedd trafnidiaeth gyhoeddus ac ansawdd y trenau ymhlith y ffactorau mwyaf pwysig ac arwyddocaol wrth benderfynu rhwng defnyddio'r trên neu ddefnyddio'u car preifat eu hunain. Ac felly, o ganlyniad, mae hwn wedi datblygu i fod yn un o'r prif feysydd sy'n peri pryder yn ystod y broses gaffael. Rydym wedi gofyn i'r ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn sicrhau bod toiledau ar drenau.

13:55

Hoffwn droi, os caf, at fater arall sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfle i'r gwrthbleidiau gael cyfarfod briffio technegol ar y cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet a'r swyddogion am hynny. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ni, ac yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch eich bod, i gydnabod pwysigrwydd y mater hwn, yn ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth cyn y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn ag a fydd y prosiect yn mynd rhagddo. A allwch chi egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y ddadl honno'n cynnwys pleidlais ystyrlon ar gynnig y gellir ei ddiwygio? Credaf mai dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwn o dan yr amgylchiadau hyn. Gyda phrosiectau tebyg ar lefel y DU, rheilffordd 'high speed 2', Crossrail, y drydedd redfa, yn yr achosion hynny i gyd, y Senedd a wnaeth y penderfyniad ar gynnig gerbron Tŷ'r Cyffredin. Felly, a allwch gadarnhau mai dyna fydd yn digwydd yn ein hachos ni, ac os gwrthodwn roi ein cydsyniad, na fydd hynny'n cael ei ddehongli fel penderfyniad cydsynio ar ein rhan ac yn arwain at y prosiect yn mynd rhagddo beth bynnag?

A gaf fi ddiolch i Adam Price, nid yn unig am ei gwestiwn, ond hefyd am fynychu'r cyfarfod briffio technegol? Rwyf wedi penderfynu cynnal cyfarfodydd briffio technegol pellach ar y mater hwn, oherwydd rwy'n ymwybodol nad oedd nifer o Aelodau, yn anffodus, yn gallu mynychu yr wythnos diwethaf, a byddaf yn rhannu manylion y cyfarfodydd briffio hynny cyn gynted ag y byddant wedi cael eu trefnu.

O ran y ddadl rydym wedi ymrwymo iddi yma, i ddechrau, fel y mae arweinydd y tŷ eisoes wedi'i nodi, roedd yr ystyriaeth yn canolbwyntio ar ba un a ddylai fod yn ddadl 'i nodi' ai peidio. Nawr, rydym bellach yn ymgynghori â chyfreithwyr, nid yn unig ar ffurf y ddadl, ond hefyd ar amseriad y ddadl, a chyn gynted ag y gallaf roi manylion llawn mewn perthynas â ffurf a dyddiad y ddadl honno, byddaf yn eu rhannu â'r Siambr.

A gaf fi—? Yn sicr, credaf fod llawer o'r farn, nid yn unig ar y meinciau hyn, fod yn rhaid i honno fod yn ddadl ar bleidlais ystyrlon a chynnig y gellir ei ddiwygio, a bod yn rhaid i benderfyniad Llywodraeth Cymru adlewyrchu barn y Siambr hon.

Yn olaf, a gaf fi droi at brosiectau ffyrdd eraill? Mae sôn wedi bod am ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd ers dros ddegawd. Bwriadwyd i'r gwaith ddechrau yn 2016 yn wreiddiol, ac i fod wedi'i gwblhau eleni, ac eto dyma ni yn 2018, ac nid yw'r penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â'r prosiect ai peidio wedi cael ei wneud hyd yn oed. Yn nes adref ataf fi, mae ffordd osgoi Llandeilo, y cytunwyd arni fel rhan o gytundeb y gyllideb y llynedd, eisoes ar ei hôl hi: roedd arfarniadau llwybr i fod i gael eu cwblhau yn ystod yr haf y llynedd; fis Ionawr yn unig y dechreuodd yr arfarniad. Felly, mae'r gwaith bedwar mis yn hwyr o leiaf, ac mae'n debyg y bydd o leiaf 10 mis o oedi, er y dywedwyd wrthym y byddai'r gwaith adeiladu'n dechrau ar ddiwedd 2019. Onid yw'n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, mai'r rheswm dros yr oedi mewn achosion fel hyn yw bod ffordd liniaru'r M4 ar fin llyncu'r rhan fwyaf o wariant Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn ogystal â llyncu'r rhan fwyaf o amser eich swyddogion?

Edrychwch, rwy'n annog pwyll wrth alw am arllwys y concrit mewn prosiectau ffyrdd yn etholaethau unigolion cyn gynted â phosibl, ac yn annog pwyll ac ataliaeth ar adeiladu ffyrdd M a darnau mawr eraill o seilwaith. Mae angen i ni allu dangos ein bod yn trin pob datblygiad seilwaith mewn ffordd ddiduedd a gwrthrychol, a dyna'r rheswm pam rydym yn sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru, er mwyn gallu llywio penderfyniadau mewn ffordd sydd wedi'i dadwleidyddoli gyda chymorth arbenigwyr.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, fod y gwaith wedi defnyddio adnoddau sylweddol o ran yr arolygiaeth annibynnol ac o ran amser swyddogion y Llywodraeth, ond mae gennyf ddigon o swyddogion i allu ymdrin â'r mater hwn a'r M4 a llawer o brosiectau eraill yn wir, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar y rhaglen arbennig honno yn ystod y tair wythnos nesaf. Ond y rheswm pam ei fod wedi cymryd amser—ac mae'n iawn i gymryd amser dros brosiect o'r fath, o ystyried nid yn unig y gost, ond hefyd nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori—mae'r arolygydd wedi ystyried 20 datganiad o gefnogaeth, ond mae hefyd wedi ystyried 160 o wrthwynebiadau, ac yn ogystal â hyn, cafodd 20 o lwybrau amgen eu cynnig fel rhan o broses yr ymchwiliad. Mae'n gwbl briodol ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol drwy roi ystyriaeth ofalus i adroddiad yr arolygydd cyn gwneud penderfyniad terfynol, ac yn sicr cyn arllwys y concrit fel y mae'r Aelod yn dymuno i ni ei wneud.

14:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau micro-hydro yng Nghymru?

Wel, mae hwn yn bwnc sydd o ddiddordeb ar draws y Llywodraeth. Mae'n rhan o 'Ffyniant i Bawb', mae'n bwnc rwy'n gweithio'n agos ag ef, nid yn unig gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hefyd gyda Gweinidog yr Amgylchedd, i sicrhau bod cynlluniau ynni ar raddfa fach, ac yn wir, cynlluniau ynni ar raddfa fwy, yn sicrhau manteision i gymunedau lleol. Dyna pam fod targedau uchelgeisiol eisoes wedi cael eu gosod gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn 2015, dywedodd Chris Blake o Cymoedd Gwyrdd (Cymru) fod ei gwmni wedi nodi o leiaf 500 o safleoedd yng Nghymru sy'n addas ar gyfer prosiectau micro-hydro. Y flwyddyn honno, rhoddodd The Guardian sylw i ffermwr mynydd yng Nghymru a ddywedodd ei fod wedi dyblu incwm ei fferm drwy osod generadur 18 KW a oedd yn weithredol 24 awr y dydd. O ystyried cyflwr enbyd ein ffermwyr mynydd o ganlyniad i bolisïau amaethyddol cyffredin, byddai'n arwydd o ewyllys da pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal am gynlluniau o'r fath i'n ffermwyr mynydd, gyda mantais ychwanegol amlwg o dorri allyriadau carbon? Wrth gwrs, mae gennym rai cynlluniau ynni dŵr cymunedol yng Nghymru, ond gyda mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai fod llawer mwy. Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd i ni edrych o ddifrif ar y cynlluniau ynni dŵr bach hyn, yn enwedig o ystyried y sylwadau gwarthus a wnaed ar brosiect bae Abertawe ddoe gan Weinidog busnes y DU, yr Arglwydd Henley?

Yn hollol. Ni allwn gytuno mwy, ond rydym eisoes yn helpu ffermwyr a phobl eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig i ddatblygu cynlluniau micro-hydro, gan ariannu cynlluniau yn ogystal â chynnig cyngor. Rwy'n arbennig o falch o weld bod UKIP wedi newid eu safbwynt i gefnogi dulliau cynaliadwy o gynhyrchu ynni, ac ynni adnewyddadwy ar hynny.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos mai un o'r rhwystrau mawr i'r cynlluniau micro hyn a'r cynlluniau cymunedol mwy yw—. Yn ôl Western Distribution, roedd capasiti grid cefn gwlad Cymru yn llawn yn 2015. A yw hyn yn wir o hyd, ac os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw beth i leddfu'r broblem hon?

Mae'r Alban bellach yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'r llwyddiant hwn yw'r ffaith bod ynni dŵr wedi cynyddu 9 y cant y llynedd. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet ffigurau ar gyfer Cymru? Ac mae Cymru yn un o'r lleoedd gwlypaf yn Ewrop, Ysgrifennydd y Cabinet. Does bosibl nad oes gennym botensial i efelychu'r Alban mewn cynlluniau ynni dŵr sydd, wedi'r cyfan, yn llawer llai ymwthiol yn ein tirlun na'r ffermydd gwynt a solar? Mae'n ymddangos mai ynni dŵr yw'r sinderela yng nghymysgedd ynni adnewyddadwy Cymru, ac mae hynny wedi bod yn wir ers llawer gormod o amser.

Nid oes gennyf ots fod yr Aelod yn sôn am Gymru fel y wlad wlypaf ym Mhrydain yn y Siambr hon, ond peidiwch â dweud wrth unrhyw un o'r twristiaid sy'n ystyried dod yma os gwelwch yn dda.

Fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd ysgrifennu atoch gyda manylion y defnydd o brosiectau mewn perthynas â safleoedd micro-hydro.FootnoteLink Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r grid cenedlaethol, ac rwyf fi a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cyfarfod yn ddiweddar iawn â'r Grid Cenedlaethol, a gallaf gadarnhau bod eich honiad yn hollol gywir: mae angen cryfhau'r grid, ac mae hynny'n golygu bod angen gwariant ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Mae cyfleoedd enfawr y gallai'r Grid Cenedlaethol eu cynnig ac y maent yn eu hystyried, yn benodol cynllun ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a allai arwain at safle penodol sydd ganddynt yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth mewn ymchwil a datblygu. Ond wrth wraidd hyn i gyd y mae'r angen i atgyfnerthu'r grid yn ei gyfanrwydd. Mewn gwirionedd, un o'r problemau sy'n ein hwynebu wrth gyflwyno'r pwyntiau gwefru cyflym iawn ar gyfer cerbydau trydan yw diffyg cryfder yn y grid presennol, ac mae angen gwario swm enfawr o arian cyfalaf i sicrhau bod y grid yn cyrraedd safon ddigon da. Felly, unwaith eto, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn edrych yn ffafriol ar y cynigion a gyflwynir gan y Grid Cenedlaethol ar yr hyn y credaf y byddai'n arwain at 50 o bwyntiau gwefru cyflym iawn ledled y DU mewn mannau strategol, a'n bod yn darparu'r pwyntiau gwefru hynny cyn gynted â phosibl.

Diolch yn fawr iawn. Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn, a chwestiwn 4—Russell George.

Busnesau yng Nghanolbarth Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau yng nghanolbarth Cymru i ehangu eu gweithrediadau? OAQ52066

Gwnaf. Fel y nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu mewn partneriaeth i gefnogi economi gryfach, decach ac i helpu busnesau i ddatblygu, tyfu a ffynnu ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth busnes, cyngor busnes a buddsoddi mewn seilwaith strategol, gan gynnwys safleoedd.

14:05

A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae nifer gynyddol o fusnesau wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod eisiau ehangu eu busnesau ond yn methu, a'r rheswm am hyn yw oherwydd nad oes unrhyw lety addas na safleoedd masnachol ar gael iddynt ehangu eu gweithrediadau. Nawr, rwy'n credu bod unedau masnachol yn brin, yn arbennig yn ardal y Trallwng a'r Drenewydd, ond gwn fod hon yn broblem mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ac rwy'n credu mai'r broblem hon yw'r prif rwystr sy'n atal twf busnes bellach. Nawr, rwy'n tybio y byddwch yn ymwybodol o'r mater hwn, ond tybed a allech amlinellu beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi busnesau yn y sefyllfa benodol hon, a buaswn hefyd yn falch o wybod a fyddech yn gallu rhoi sylw ar unrhyw gymorth ar gyfer unedau ymlaen llaw neu unedau ar hap i gefnogi twf busnes. Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn barod i gyfarfod â mi a llond llaw o fusnesau sydd â'r broblem hon—problem braf i'w chael, wrth gwrs.

Buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod a'r busnesau, ac os caf awgrymu, â'r prif swyddog rhanbarthol sy'n llunio'r cynllun rhanbarthol ar gyfer canolbarth a de-orllewin Cymru. Mae'r broblem a nodwyd gan Russell George yn un a nodwyd hefyd gan Chris Sutton, arbenigwr yn y maes. O ganlyniad i'r broblem hysbys hon, datblygwyd y cynllun gweithredu economaidd i fynd i'r afael yn benodol â diffyg argaeledd safleoedd addas ar gyfer busnesau sy'n tyfu.

Yng nghanolbarth Cymru, yn yr ardaloedd y mae'r Aelod yn eu cynrychioli, rydym wedi buddsoddi mewn safleoedd ar gyfer cwmnïau fel Zip-Clip, Invertek Drives a siopau Charlies. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y datblygiad a welwyd yn y Trallwng yn benodol wedi trawsnewid y gymuned honno. Ond mae'r angen i ddatblygu a darparu mwy o safleoedd addas mewn mannau eraill, yn ogystal ag yn y Trallwng, yn dwysáu.

Yn ddiweddar, rydym wedi gwerthu saith erw o dir yn Abermiwl i Gyngor Sir Powys. Eu cynnig yw adeiladu unedau busnes bach o ansawdd uchel ymlaen llaw fel rhan o'r safle, ond rwy'n credu bod rôl bwysig yn hyn o beth i fargen twf canolbarth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Arglwydd Bourne a phartneriaid Tyfu Canolbarth Cymru, a buom yn trafod, yn gyffredinol iawn, beth sydd ei angen ar ganolbarth Cymru i ffynnu ac i fod yn fwy llewyrchus. Yn fy marn i, os ydych am sbarduno twf economaidd mewn modd cynaliadwy, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith a'r cyfryngau rhanbarthol cywir ar gyfer cynnal twf economaidd. Ynghyd â seilwaith, fel y dywedodd yr Aelod, mae safleoedd yn hanfodol bwysig.

Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch bargen ddinesig rhanbarth Bae Abertawe? OAQ52069

Rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi parhau i gynnal trafodaethau cadarnhaol â'r rhanbarth i ddatblygu'r fargen tuag at y cam cyflawni nesaf.

Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag a fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i orchymyn cyfalafu a geisiwyd gan rai o'r cynghorau ar y bwrdd cysgodol. Rwy'n ceisio deall, pe bai'n mynd yn ei flaen, a fyddai unrhyw effaith andwyol ar y cynlluniau gwariant cyfalaf cyfredol y bydd busnesau wedi bod yn seilio eu cyfranogiad yn y fargen arnynt fel partneriaid uniongyrchol neu fel busnesau arfaethedig. Mae yna rywfaint o nerfusrwydd mewn rhai cylchoedd, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch dawelu'r nerfusrwydd hwnnw heddiw. Yn amlwg, nid wyf yn dadlau yn erbyn y gorchymyn, ond efallai y gallwch ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn amrywiaeth o sylwadau ar y mater hwn gan fusnesau yn arbennig, yn amlwg, gan mai eich portffolio chi yw hwn. Ac a wnewch chi geisio sicrwydd y bydd unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol wedi cael eu hystyried?

Yn sicr. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ysgrifennu at Suzy Davies ynglŷn â'r gorchymyn cyfalafu. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi cael eu lleddfu'n ddiweddar gyda'r cytundeb ar gadw ardrethi annomestig ar gyfer y fargen ddinesig. Credaf fod hyn wedi gwella cysylltiadau ac y bydd yn codi'r fargen ddinesig i lefel arall, ond fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid roi'r sefyllfa ddiweddaraf i chi mewn perthynas â'r gorchymyn cyfalafu.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r fargen honno, yn amlwg mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am rai o'r prosiectau hynny, ac mae'r ganolfan arloesi dur yn un ohonynt. Nawr, rwy'n deall bod cwestiynau'n codi ynglŷn â lle y caiff ei leoli ac mae yna bryderon fod Llywodraeth Cymru yn eu gwthio tuag at Felindre, sy'n bellach o gampws y brifysgol a Tata mewn gwirionedd, dau o bartneriaid pwysig y ganolfan arloesi. Nawr, mae'r sefydliad dur a metelau cyfredol wedi'i leoli ar gampws y brifysgol yn Singleton. Maent eisiau ei symud yn agosach. Mae tir ar gael, ac rwy'n deall mai tir Llywodraeth Cymru ydyw, ac rydym yn cael trafferth rhyddhau'r tir hwnnw. A wnewch chi edrych ar yr elfen hon i sicrhau, os yw'r tir hwnnw ar gael, eich bod yn gallu ei ryddhau i'r sefydliadau er mwyn sicrhau bod y ganolfan ymchwil dur wedi'i lleoli'n agos at y brifysgol ac yn agos at Tata, lle bydd o fudd mewn gwirionedd?

14:10

A gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiwn? Mae'r prosiect £80 miliwn hwn yn hanfodol bwysig i'r sector ac i Bort Talbot yn enwedig. Rwy'n falch o allu dweud fy mod newydd siarad â'r is-ganghellor ynglŷn â materion tir yr wythnos diwethaf, ac rydym yn gobeithio gwneud cynnydd cadarnhaol iawn yn y dyfodol agos.

Yn amlwg, gyda newyddion heddiw mai Port Talbot yw'r lle mwyaf llygredig yng Nghymru, rydym yn credu bod cael ffocws carbon isel yn y fargen ddinesig yn hollbwysig. Os nad yw'n wir heddiw, roedd yn wir pan sefydlwyd y fargen hon, ac un o'r rhaglenni, fel rhan o'r fargen, yw cartrefi fel gorsafoedd pŵer, sy'n fuddsoddiad mawr. Felly, sut rydych yn bwriadu darparu arweinyddiaeth ryngwladol er mwyn sicrhau y gallwn ddangos bod bae Abertawe yn datblygu i fod yn ardal ynni adnewyddadwy yng ngoleuni'r newyddion hwn, a sut y byddwch yn gweithio gyda'r fargen i hyrwyddo'r elfen hon o'r fargen?

Wel, rwy'n credu bod bargen sector yn gwbl hanfodol—bargen sector dur. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu corlannu holl fuddiannau'r sector dur yng Nghymru tuag at fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn eu cynnig, rydym wedi dynodi un o'r pum galwad i weithredu—os hoffech, y prismau y byddwn yn ariannu busnesau drwyddynt yn y dyfodol—yn agenda ddatgarboneiddio. Rydym hefyd yn gwahodd busnesau i ddefnyddio cyfleuster her i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar fargeinion sector yn ogystal â herio cyfleoedd cyllid o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU. Ond rydym wedi bod yn glir iawn drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn y dyfodol, gyda'r contract economaidd, er mwyn croesi trothwy Llywodraeth Cymru, a chyda'r cyfleuster rydych yn ei ddefnyddio er mwyn cael cymorth ariannol, bydd yn rhaid i chi allu dangos eich bod yn cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio. Credaf fod y sector dur, i raddau mwy nag unrhyw sector arall mae'n debyg, yn deall pwysigrwydd yr angen i ddatgarboneiddio, oherwydd ei fod yn cyfrannu tuag at effeithlonrwydd ynni. Costau ynni yw un o'r problemau mawr sy'n amharu ar waith dur yn y DU, gyda gwahaniaethau mawr iawn rhwng y costau ynni yma a chostau ynni cyfandir Ewrop. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny; mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hynny, ond mae gan Llywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd yn sicrhau bod y sector yn datblygu i fod yn fwy modern ac yn croesawu datgarboneiddio.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llwyddiant y fargen ddinesig yn ddibynnol ar seilwaith o'r radd flaenaf, boed hynny'n gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol neu, yn bwysicach, rhwydweithiau telathrebu cyflym iawn sydd wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno band eang gigabit a chyfathrebu symudol 5G ledled rhanbarth bae Abertawe?

Wel, mae hwn yn fater sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i raddau helaeth ond mae cysylltedd digidol wedi bod wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer y fargen ddinesig ym mae Abertawe ers blynyddoedd lawer. Rwy'n arbennig o falch fod Ed Tomp wedi'i enwi fel yr ymgeisydd a ffafrir i fod yn gadeirydd ar y bwrdd strategol ar gyfer y fargen ddinesig. Mae Ed yn ymwybodol o werth cysylltedd digidol, ac rwy'n siŵr, gyda'i arweinyddiaeth, y gwelwn fwy o ffocws, a ffocws gwell, ar yr angen i wella cysylltedd digidol yn ardal y fargen ddinesig.

O ran ymgysylltiad â Llywodraeth y DU, mae'n gwbl hanfodol fod ein gweithredoedd ni a gweithredoedd Llywodraeth y DU yn rhyngwynebu'n dda, ac nad ydym yn dyblygu gwariant nac yn dyblygu neu'n drysu rhaglenni y gallai'r ddwy Lywodraeth fod yn arwain arnynt. Am y rheswm hwnnw, rwyf fi ac arweinydd y tŷ yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'n swyddogion cyfatebol yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau ein bod yn gweithio i'r un diben, sef sicrhau bod Cymru, sicrhau bod y Deyrnas Unedig, yn un o'r gwledydd sydd â'r cysylltedd digidol gorau ar y blaned.

Y Cynllun Gweithredu Economaidd

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo ei chynllun gweithredu economaidd ymhlith yn y gymuned fusnes? OAQ52092

Rydym wedi cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb ag amrywiaeth o fusnesau o bob maint, o amrywiaeth o sectorau, mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, gyda sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau mawr, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chonsortiwm Manwerthu Cymru. Rydym hefyd wedi defnyddio sianelau digidol a sianelau eraill i gyfathrebu'r cynllun yn fwy cyffredinol. Bydd y dull hwn yn parhau dros y misoedd nesaf.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am fynychu uwchgynhadledd fusnes Casnewydd, a gynhaliais yr wythnos ddiwethaf. Daeth yr uwchgynhadledd â busnesau ac arweinwyr sector cyhoeddus o bob cwr o'r ddinas at ei gilydd, ac roedd eu huchelgais a'u hagwedd gadarnhaol tuag at Gasnewydd fel lle i wneud busnes yn amlwg. Mae cydweithrediad a phartneriaeth yn allweddol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymgysylltu a gwrando ar y gymuned fusnes. Mae twf cynhwysol a diogelu'r economi ar gyfer yr heriau a fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol yn hanfodol. Beth arall y gellir ei wneud i sicrhau ein bod yn darparu'r amgylchedd cywir i fusnesau ffynnu, gan greu swyddi, arloesedd a gwella sgiliau er budd pawb?

14:15

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant, nid yn unig am y cwestiwn ond hefyd am fy ngwahodd yn garedig i'r digwyddiad yn y Celtic Manor yr wythnos diwethaf? Roedd yn ddigwyddiad gwych a fynychwyd gan lawer o bobl. Ar ôl i mi adael, deallaf fod nifer o siaradwyr wedi gwneud cyfraniadau yn croesawu'r dull partneriaeth y maent wedi'i fabwysiadu gyda Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i sicrhau nad yw busnesau a'r Llywodraeth yn cydfodoli'n unig ond yn hytrach eu bod yn cydweithio mwy. Byddwn yn gwneud hynny drwy'r contract economaidd, gan sicrhau y ceir buddsoddiad gyda phwrpas cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael fy syfrdanu, a dweud y gwir, gan nifer y busnesau sydd wedi croesawu'r cysyniad hwn—yr angen i sicrhau bod y Llywodraeth a busnesau'n gweithio law yn llaw i'r un diben, nid yn unig i gynyddu lefelau cyfoeth yng Nghymru, ond i sicrhau ein bod yn cynyddu lefelau llesiant hefyd, a'n bod yn lleihau anghydraddoldebau o ran cyfoeth a llesiant. Mewn perthynas â Chasnewydd yn benodol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu ei fod yn gyfnod cyffrous iawn i Gasnewydd ar hyn o bryd, gyda Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, diddymu'r tollau ar yr M4, y Fframwaith Arfarnu Cyffredin ac wrth gwrs, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae hyn i gyd yn dangos bod Casnewydd ar agor i fusnes.

Metro Gogledd Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fetro gogledd Cymru? OAQ52073

Gwnaf, wrth gwrs. Ers cyhoeddi ein gweledigaeth y llynedd, rydym yn gwneud cynnydd da iawn ar ddatblygu'r canolfannau trafnidiaeth integredig allweddol ar draws y rhanbarth, gyda ffocws cynnar ar Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Yn ddiweddar, fel cam diweddaraf y gwaith hwnnw, cyhoeddais £1.8 miliwn o gyllid i gefnogi gwelliannau i'r rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yng Nglannau Dyfrdwy.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae system fetro gogledd-ddwyrain Cymru a'r system drafnidiaeth integredig well yn gynllun uchelgeisiol yr wyf fi, a fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, yn sicr yn ei groesawu. Roeddwn yn falch iawn o'ch croesawu i Lannau Dyfrdwy fis diwethaf i weld a dysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth gwell, yn enwedig ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Ond mae ardaloedd gwledig yn aml yn mynd yn angof, felly rwy'n arbennig o falch eich bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod yr ardaloedd hynny wedi'u cysylltu'n llawn yn ogystal. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod buddsoddiad mewn ardaloedd fel y rhain—ardaloedd trefol a gwledig—yn allweddol i lwyddiant economaidd parhaus Alun a Glannau Dyfrdwy, a rhanbarth gogledd-ddwyrain Cymru yn wir?

Buaswn. Ni ddylai ardaloedd gwledig fod o dan anfantais oherwydd bod ganddynt lai o gysylltiadau trafnidiaeth. Boed yn drenau neu'n fysiau, mae angen i ni wneud yn siŵr fod y lefelau cywir o fuddsoddiad yn cael eu pwmpio i mewn i gymunedau gwledig, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi penderfynu sefydlu uned fusnes gogledd Cymru yn Trafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen â gwaith mewn cymunedau trefol a gwledig. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp llywio trawsffiniol, sy'n gweithio ar brosiectau amrywiol fel rhan o weledigaeth y metro, ac rwy'n falch o ddweud ein bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar nifer o hybiau hefyd, nid yn unig yng Nglannau Dyfrdwy, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Aelod i ymweld â'r fan honno, ond yn Wrecsam hefyd. Rydym yn edrych ar ddatblygu hybiau eraill yn Llanelwy, Abergele, a llawer o gymunedau eraill, gan sicrhau bod cysylltiadau gwell rhwng ardaloedd trefol mawr â'i gilydd, ond bod mwy o gysylltiad rhyngddynt a chymunedau gwledig hefyd.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Eitem 2 yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Daw cwestiwn 1 gan Bethan Sayed.

Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ52084

Diolch am y cwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddarparu barn annibynnol a hirdymor gan arbenigwyr. Mae gwaith y comisiwn ar y gweill bellach, ac mae galwad am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.

Diolch am yr ateb hwnnw. A oes modd i chi amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yw goblygiadau potensial y comisiwn? Rydw i ar ddeall bod y gwaith yn digwydd ar hyn o bryd, ond a oes gennych chi gysyniad o’r hyn rydych chi eisiau ei gael mas ohono fe? Er enghraifft, a fyddech chi eisiau datganoli cyfiawnder yn y dyfodol? Un o’r problemau sydd yn fy meddwl i—rwy'n credu fy mod i wedi codi hyn o’r blaen—yw, os byddai yna ddatganoli cyfiawnder i Gymru, byddai yna sefyllfa lle, os oes yna garchardai newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, efallai y byddai carcharorion o rywle arall, sef Lloegr, yn cael eu rhoi yma yng Nghymru. Pa mor realistig, felly, yw datganoli cyfiawnder os bydd un gyfundrefn yn bodoli ar gyfer Cymru, a'r bobl hynny yn dod o gyfundrefn wahanol? A ydych chi wedi edrych ar y goblygiadau a realiti'r sefyllfa yn hynny o beth?

14:20

Wel, o ran canlyniadau'r comisiwn, nid wyf i eisiau rhagdybio beth ddaw allan o waith y comisiwn. Pwrpas sefydlu'r comisiwn oedd sicrhau bod trafodaeth gan arbenigwyr a thystiolaeth eang yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad a bod hynny'n rhoi cyfle i'r lleisiau hynny gael eu clywed.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt penodol am ddatganoli cyfiawnder. Fe wnaeth hi yn sicr glywed datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddechrau mis diwethaf, a ddywedodd, er ein bod ni'n aros am ganlyniadau gwaith y comisiwn, ei bod hi'n bwysig i ni hefyd ddatblygu gweledigaeth wahanol am sut gallai'r system gyfiawnder gael ei gweithredu yng Nghymru. Mae'r system gyfiawnder—rhannau ohoni—wedi'i datganoli, a gwasanaethau sydd yn gweini arni fel system wedi'u datganoli. Felly, mae cymysgedd o bwerau sydd yn rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cydweithio mewn ffordd sydd yn briodol.

Fe wnaeth yr Aelod sôn yn benodol am y cwestiwn o garchardai, ac wrth gwrs beth welais i yn y datganiad hwnnw, gan Ysgrifennydd y Cabinet, oedd ffordd newydd o edrych ar bwerau a gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar rai o'r pethau yma. Fe wnaeth e ddweud, fel y bydd hi'n gwybod, bod y Llywodraeth angen trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â datblygiadau carchar ym Maglan. Rydw i'n gwybod ei bod hi wedi bod yn ymgyrchu, a bod David Rees, yr Aelod dros Aberafan, wedi bod yn ymgyrchu'n frwd ar hynny, ac mae'r Llywodraeth yma yn ymwybodol iawn o hynny.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar y sail gyfreithiol ar gyfer y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? OAQ52094

Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yng nghynnwys y Bil ymadael â'r UE a mater i'r Cynulliad fydd penderfynu, drwy ddadl y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw'r hyn a ddarperir ar ei gyfer yn y cytundeb yn dderbyniol i Gymru.

Mae'r cytundeb rhwng y Torïaid yn San Steffan a Llywodraeth Lafur Cymru yma yn cynnwys dwy ran: y gwelliannau i'r ddeddfwriaeth a'r cytundeb ei hun. Nid yw'r meysydd polisi sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb yn y ddeddfwriaeth ac nid ydynt yn gynhwysfawr. Mae'n gwbl gredadwy, wrth i Brexit fynd rhagddo, y bydd San Steffan yn penderfynu ei bod angen mwy o reolaeth dros feysydd polisi eraill. A all y Cwnsler Cyffredinol egluro i'r Cynulliad hwn pa gamau cyfreithiol y gallai eu cymryd i atal San Steffan rhag cymryd rheolaeth dros ragor o feysydd polisi, ac ar ba sylfaen gyfreithiol y gosodwyd y rhestr gyfredol o feysydd polisi?

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi camddeall effaith y cytundeb—

Wel, rwyf am amlinellu'r sefyllfa, a buaswn yn hapus iawn i gymryd cwestiynau pellach os yw'r Dirprwy Lywydd yn barod i'w derbyn. Y cwestiwn yw hwn: mae'r 26 o feysydd y mae'r cytundeb yn eu sefydlu fel y meysydd a allai fod yn ddarostyngedig i reoliadau yn glir. Yr hyn na fu mor glir, mewn gwirionedd, yw'r pwerau ychwanegol a arferir yng Nghymru yn hytrach nag ar lefel yr Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i wrthdroi effaith cymal 11. Fe fydd hi'n gwybod, wrth gwrs, mai effaith wreiddiol cymal 11 oedd cadw'r pwerau hynny i gyd yn San Steffan yn y bôn, ac mae effaith gwrthdroi cymal 11 yn golygu y bydd pwerau yr arferid eu harfer ym Mrwsel o'r blaen yn cael eu harfer yng Nghymru, a hynny mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys pethau fel dal a storio carbon, caniatâd cynllunio ynni, trwyddedu hydrocarbon, ansawdd aer, bioamrywiaeth, amgylchedd morol, a llu o feysydd eraill. Mae'r meysydd hyn i gyd yn feysydd a fydd bellach yn cael eu harfer yng Nghymru yn hytrach nag ym Mrwsel, fel rwy'n dweud.

O ran y rheoliadau i roi'r meysydd polisi penodol yn y rhewgell, sef yr iaith a ddefnyddiwyd, fel y bydd yn gwybod, bydd y rheoliadau hynny'n dod i'r Cynulliad er mwyn i'r Aelodau yma roi cydsyniad i'r rheoliadau hynny, neu fel arall. [Torri ar draws.] Fel y mae hi hefyd yn gwybod, nid yw confensiwn Sewel, sef sail ein setliad datganoli—rwy'n amlwg yn ymwybodol nad yw hi na'i phlaid yn hapus gyda hwnnw—yn draddodadwy, nid yw'n bosibl gweithredu ar ei sail yn y llys. Ond fel y gwyddom hefyd, o benderfyniad Miller yn y Goruchaf Lys, mae'n gonfensiwn gwleidyddol cryf iawn sy'n cael ei ystyried gan y Goruchaf Lys yn rhan barhaol o'n setliad datganoli.

14:25

A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi'r Cwnsler Cyffredinol yn frwd ar y mater hwn? Onid yw'n wir mai cytundeb gwleidyddol yw'r cytundeb a gafwyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn y bôn, yn hytrach na chytundeb cyfreithiol? Yn y pen draw, gan ein bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, pe bai Senedd y Deyrnas Unedig yn dymuno gwrthdroi unrhyw ddeddfwriaeth flaenorol, byddai'n berffaith bosibl iddi wneud hynny. Ond byddai unrhyw ymgais i encilio rhag y setliad datganoli yn dilyn dau refferendwm yma yng Nghymru yn amlwg yn creu gwrthdaro cyfansoddiadol rhwng Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a byddai camau i wrthsefyll unrhyw ymgais o'r fath yn cael eu cefnogi'n eang yn y Cynulliad hwn, a hynny o bob ochr i'r tŷ, rwy'n credu. Felly, rhaid ystyried mai dychmygol yw ofnau arweinydd Plaid Cymru yn hyn o beth.

Yn amlwg, byddai gweithredu'n groes i gydsyniad y Cynulliad yn achosi argyfwng cyfansoddiadol, felly nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae'r cytundeb, sy'n gytundeb gwleidyddol—er bod ganddo elfennau cyfreithiol: y gwelliannau eu hunain, y cyfeiriad at y Goruchaf Lys; afraid dweud bod y rheini i gyd yn gamau cyfreithiol—mewn gwirionedd, mae'r cytundeb yn cynnwys cymhwyso confensiwn Sewel i'r pwerau gwneud rheoliadau, rhywbeth nad oedd yn nodwedd o gonfensiwn Sewel yn flaenorol. Yn wir, mae'n mynd y tu hwnt i hynny ac mae'n nodi proses benodol ar gyfer trafod a chymeradwyo'r rheoliadau hynny yn y Senedd. Felly, mae'n gytundeb gwleidyddol, o reidrwydd mae'n gytundeb gwleidyddol, ond mae'n cynnwys camau cyfreithiol penodol iawn y disgwyliwn iddynt gael eu cyflawni.

Meithrinfeydd a Chanolfannau Gofal Plant

3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag apeliadau yn erbyn penderfyniad Arolygiaeth Gofal Cymru i dynnu statws cofrestredig yn ôl o feithrinfeydd a chanolfannau gofal plant? OAQ52085

Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â diddymu statws cofrestredig darparwyr gofal dydd. Mae gan yr arolygiaeth annibyniaeth weithredol. Mae gan ddarparwyr gofal dydd sy'n ddarostyngedig i benderfyniadau diddymu hawl i apelio'n erbyn y penderfyniadau hynny yn y tribiwnlys haen gyntaf.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Nid yw'n ymddangos yn llawer, ond dyna ni. Gwnsler Cyffredinol, efallai y byddwch yn ymwybodol o achos meithrinfa Bright Sparks yn Nhai-bach yn fy etholaeth, sydd wedi bod ar gau ers y llynedd yn dilyn honiadau o orfodi bwyd ar blant ac ataliaeth mewn perthynas â phlant ifanc. Mae'r rhain yn faterion sy'n rhaid eu hymchwilio, oherwydd mae'n rhaid eu cymryd o ddifrif, ac nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd achos llys ac fe gafodd tri unigolyn eu cyhuddo a'u herlyn, ond cafwyd hwy'n ddieuog o'r holl gyhuddiadau, ac felly cawsant eu rhyddhau o fai. Nawr mae'n ymddangos nad yw'r ffaith eu bod wedi cael eu rhyddhau o fai gan y llys yn ddigon i Arolygiaeth Gofal Cymru ailgyhoeddi'r drwydded, sy'n awgrymu bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn dal i gael ei hystyried yn ddigonol gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Pa arweiniad y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Arolygiaeth Gofal Cymru i sicrhau, er bod yr angen i ddiogelu plant mewn amgylchiadau lle y caiff honiadau eu gwneud yn hollbwysig er mwyn sicrhau eu diogelwch yno, fod ymchwiliad trylwyr yn cael ei wneud, ac os na fydd erlyniad yn dilyn hynny, fod cynllun yn cael ei roi ar waith, gan weithio gyda'r sefydliad, i sicrhau bod y meithrinfeydd hynny'n cael cyfle i ailagor mewn ffordd a ddiogelir?

Bydd yr Aelod yn deall bod yr achos unigol y mae'n cyfeirio ato—mae'n anodd i mi wneud llawer o sylwadau penodol ynglŷn â hynny. Mae gan unrhyw ddarparwyr sy'n dymuno herio penderfyniad yr arolygiaeth hawl i apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf, tribiwnlys annibynnol sy'n arbenigo mewn achosion o'r math hwn. Mae'n crybwyll y darparwr gofal plant yn ei etholaeth ei hun a bydd yn gwybod bod gwrandawiad ar y gweill yn y tribiwnlys haen gyntaf ar hyn o bryd mewn perthynas â diddymu penderfyniad a wnaed gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Barnodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe na phrofwyd yr achos yn ôl y safon sy'n gymwys ar gyfer llys troseddol, yn amlwg, ond mae'r baich profi'n wahanol yn yr achosion hyn, felly rydym yn aros i weld beth fydd canlyniad yr apêl gan y feithrinfa yn erbyn y penderfyniad i ddiddymu eu statws cofrestredig.

Y Ddadl ar Adroddiad Ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglyn â'r ddadl ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol a gynhaliwyd ddydd Mercher 18 Ebrill 2018? OAQ52087

14:30

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy’n cyfeirio’r Aelod at yr ateb a roddais wrth ymateb i’r cynnig ar 18 Ebrill. Mae’n amlwg bod gwahaniaeth barn dilys ynglŷn â’r dehongliad o adran 37, ac rŷm ni’n cynnal deialog adeiladol gyda’r Llywydd i ddatrys hyn.

Diolch am yr ymateb yna. Mi fydd y record yn dangos, wrth gwrs, na wnaeth y Cynulliad ildio i'r bygythiad o her gyfreithiol ar y pryd, ac yn wir na wnaeth y Llywodraeth fwrw ymlaen i wireddu'r bygythiad o lansio her gyfreithiol. Dadlau a wnaeth y Llywodraeth, a chithau, ar y pryd, y buasai cynsail perig yn cael ei sefydlu yma. Ond y gwir amdani ydy bod yna ddigon o gynseiliau mewn arferion seneddol yn rhyngwladol yn bodoli yn barod, lle y gall Seneddau fynnu cyhoeddi adroddiadau pwysig.

Wrth gwrs, mae yna adroddiad arall ar y gweill, yn delio â'r un amgylchiadau—amgylchiadau trist iawn, wrth reswm. Beth ydy eich cyngor chi, felly, i'r Prif Weinidog ar yr angen i symud mor fuan â phosib i gyhoeddi manylion cylch gorchwyl yr ymchwiliad arall hwnnw?

Wel, nid wyf i'n mynd i sôn am unrhyw gyngor penodol rwy'n ei roi i unrhyw ran o'r Llywodraeth am y materion yma. Bydd yr Aelod yn deall pam mae hynny yn amhosibl i fi ei wneud. Fe wnaeth e sôn am y ddadl yn benodol. Fe wnaf i ei gyfeirio fe at adran 41 o'r Ddeddf, sydd yn rhagweld ei bod hi'n bosib i'r Llywodraeth neu'r Cynulliad, neu'r ddau ar y cyd, fynd i'r llys i gynnig am ddatganiad i esbonio rhannau o'r Ddeddf sydd yn aneglur neu sydd angen dadansoddiad cyfreithiol. Felly, mae'r Ddeddf ei hun yn rhagweld hynny yn bosibiliad.

Roedd hi'n glir yn y drafodaeth ar y diwrnod hwnnw mai cwestiwn ehangach oedd gan y Llywodraeth mewn golwg na'r cwestiwn penodol ynglŷn â'r adroddiad hwnnw. Ac mae'r Aelod yn sôn am bwysigrwydd sefydlu dealltwriaeth rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad, neu unrhyw ddeddfwrfa, ynglŷn â'r materion pwysig hyn. Yn Senedd San Steffan, er enghraifft, mae'r rheolau yn wahanol, oherwydd nid sefydliad statudol yw Senedd San Steffan, ond sefydliad sydd yn deillio o'r gyfraith gyffredin ac ati. Felly, mae'r rheolau yn wahanol, ac mae'r dull o weithredu'n wahanol, ac mae'r ymgais sydd gyda ni ar y gweill nawr i drafod y materion hyn gyda'r Cynulliad, gyda'r Llywydd, yn ffordd, os liciwch chi, drwy greu protocol, o sefydlu ffyrdd o weithredu sydd yn delio â'r un mathau o sialensiau ag y mae San Steffan a deddfwriaethau eraill wedi llwyddo i ddelio â nhw yn barod erbyn hyn.

Y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ôl cyfeirio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) at y Goruchaf Lys? OAQ52086

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau newidiadau i Fil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU. Fel rhan o'r cytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn gofyn i swyddogion y gyfraith wneud cais i'r Goruchaf Lys i ddiddymu'r cyfeiriad a wnaed i'r llys mewn perthynas â Bil parhad Cymru.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, ers imi gyflwyno'r cwestiwn, mae pethau wedi symud ymlaen ychydig, ac o ganlyniad rydych wedi nodi'r camau a gymerwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl fod cynsail wedi'i sefydlu yma; y bwriad yn amlwg oedd mynd â'r Bil hwn i'r Goruchaf Lys pe na bai'r gwelliannau hynny wedi'u cytuno. O ganlyniad, yn y pen draw, gallem, ac rydym mewn sefyllfa lle roeddem yn y Goruchaf Lys ar gyfer ein Bil, tra bod Bil UE Llywodraeth y DU yn mynd drwodd. Beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â chael ein dal o fewn y Goruchaf Lys tra bo Biliau'r DU yn cael eu pasio, ac felly'n cael Cydsyniad Brenhinol, ond ein bod yn dal i aros am ganlyniad penderfyniad y Goruchaf Lys cyn inni allu cael Cydsyniad Brenhinol?

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hwn yn fater sydd ar feddwl y Llywodraeth mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf y ffaith bod maint y ddeddfwriaeth a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig â Brexit sydd angen mynd ar ei thrywydd a'i gweithredu wedi ei gwneud yn ofynnol i holl Lywodraethau'r DU, a'r holl ddeddfwrfeydd, ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl. Felly, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, gwnaed cais i'r Goruchaf Lys i gyflymu'r gwrandawiad ar y mater. Mae'r cais hwnnw i gyflymu yn parhau i fod ar waith, ac yn amlwg ni fyddwn yn ei dynnu'n ôl hyd nes y tynnir y cyfeiriad ei hun yn ôl, ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto gan y Goruchaf Lys ynghylch cynnal y gwrandawiad yn gynt. Yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl a'r hyn sydd ei angen yw i'r Twrnai Cyffredinol dynnu'r cyfeiriad yn ôl os caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gymeradwyo gan y Cynulliad maes o law. Mae hwnnw'n amlwg yn fater i'r Cynulliad ei ystyried. Ac ar yr adeg honno, bydd y Bil parhad ar gael i'w gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol. Efallai fod hynny'n ymddangos yn gam rhyfedd i'w gymryd o dan yr amgylchiadau, ond fel y bydd yr Aelod ac eraill yn gwybod, ni fydd yn bosibl dirymu'r Bil parhad heb iddo gael ei gyflwyno yn y ffordd honno am Gydsyniad Brenhinol.

14:35
Confensiwn Sewel

6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer hawl ddigolledu gyfreithiol o dan Gonfensiwn Sewel? OAQ52095

A buaswn yn gwerthfawrogi ateb nad yw'n dweud wrthyf nad wyf yn deall y mater, os gwelwch yn dda.

Er bod y Goruchaf Lys wedi dweud nad yw confensiwn Sewel yn rhwymol yn gyfreithiol, mae hefyd wedi pwysleisio bod y confensiwn yn chwarae rhan sylfaenol yng nghyfansoddiad y DU. Rydym yn disgwyl i'r Senedd barchu ewyllys y Cynulliad, a pheidio â bwrw ymlaen â deddfwriaeth sy'n addasu cymhwysedd y Cynulliad, neu'n effeithio ar faterion datganoledig, heb gydsyniad y Cynulliad.

Cadarnhaodd achos Miller yn erbyn y Goron nad yw confensiwn Sewel yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Yn wir, ar o leiaf saith achlysur, mae San Steffan wedi gorfodi deddfwriaeth ar Gymru heb ei chydsyniad. O dan y cytundeb Llafur-Torïaidd ar y Bil ymadael, ceir diffiniad newydd o 'gydsyniad'. Defnyddir dadleuon semantaidd gan Weinidogion i ddadlau bod y diwygiad hwn i'r Bil yn cyfateb i ofyniad am gydsyniad i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Mewn gwirionedd, mae'r gwelliant yn dweud yn benodol os caiff cynnig yn gwrthod cydsyniad ei basio yn y Cynulliad hwn, gall y Senedd barhau i osod ei deddfwriaeth. A all y Cwnsler Cyffredinol roi enghraifft arall imi yn y ddeddfwriaeth lle mae 'na' yn golygu 'ie'?

Roedd dyfarniad Miller yn glir iawn nad oedd confensiwn Sewel yn draddodadwy, ni allai fod yn sail i'r cais yn y llys. Ond roedd hefyd yn glir iawn fod iddo'r pwys gwleidyddol cryfaf posibl, ar wahân i fod ar gael fel sail i gais. Ac fel y soniais yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, roedd y Goruchaf Lys yn ystyried honno fel nodwedd barhaol o'r setliad datganoli. Cyn i gonfensiwn Sewel gael ei ymgorffori mewn statud, roedd wedi'i ddefnyddio tua 100 o weithiau, rwy'n credu—y ceisiadau a wnaed i'r Siambr hon—ac ni chawsant eu diystyru gan Senedd y DU pan dderbyniodd y Llywodraeth yn y DU fod angen cydsyniad. Felly, mae cryfder confensiwn Sewel wedi'i hen sefydlu.

Mae'r pwynt y mae'n ei wneud yng nghyswllt y penderfyniad cydsynio—mae'r iaith yn y gwelliant yn cyfeirio at benderfyniad cydsynio, h.y. y pwynt pan fo'r Cynulliad hwn neu Senedd yr Alban yn gwneud penderfyniad naill ai i roi cydsyniad neu i beidio â chydsynio. Mae hynny'n ymwneud ag amserlennu sut y gall y Gweinidogion yn San Steffan gyflwyno rheoliadau yno. Mae'n gwbl glir yn y cytundeb rhynglywodraethol y bydd rheoliadau'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel, h.y. na fydd Senedd y DU fel arfer yn ceisio deddfu heb gael cydsyniad y lle hwn.

Lles a Diogelwch Cymdeithasol

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r rhwystrau cyfreithiol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ceisio datganoli pwerau deddfwriaethol sy'n ymwneud â lles a diogelwch cymdeithasol? OAQ52097

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod nawdd cymdeithasol yn fater a gadwyd yn ôl o dan ein setliad datganoli. Byddai dileu neu addasu'r cymal cadw hwn yn galw naill ai am Ddeddf Senedd y DU neu Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor. Felly byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno'r newid hwn.

Diolch ichi am yr ymateb. Ac fel sydd wedi bod yn thema i'r cwestiynau heddiw, yr wythnos diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth gytundeb gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan, lle y cytunoch chi gyda hwy yn y bôn, ac ymddiried ynddynt i beidio ag ymyrryd mewn materion datganoledig ar bwerau sy'n dychwelyd o Frwsel. Ac eto, dro ar ôl tro yn y Senedd hon, ac mewn mannau eraill, mae Aelodau o'r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod pwyso droeon am ddatganoli lles a budd-daliadau, ar y sail nad ydynt yn ymddiried yn y Torïaid i gyflawni ymrwymiadau unrhyw gytundeb y gellid ei drefnu i hwyluso hynny. Mae Aelodau o'r Llywodraeth hon yn y gorffennol wedi honni nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft, bwerau gweinyddol mewn perthynas â datganoli rhai o'u pwerau lles, a gwyddom nad yw hynny'n wir, wrth gwrs, oherwydd y fframwaith cyllidol. O ystyried y ffaith bod y cytundeb hwn wedi'i wneud yr wythnos diwethaf, pam nad oes modd ei wneud mewn perthynas â lles?

A gaf fi wneud un pwynt yn glir wrth gyfeirio at y cytundeb? Mae hwn yn gytundeb sy'n dod â mwy o bwerau i'w harfer yng Nghymru nag yn y gorffennol. Nid wyf am weld y syniad yn gwreiddio bod hyn mewn unrhyw ffordd yn gyfystyr â rhoi pwerau yn ôl neu'n ymddiried yn y Ceidwadwyr i beidio â cheisio mwy o bwerau. Mae gwrthdroi cymal 11, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban drwy negodi gyda Llywodraeth y DU, wedi golygu bod mwy o bwerau'n cael eu harfer yn y Cynulliad a chan Lywodraeth Cymru nag o'r blaen. Felly, mae hynny'n gwbl allweddol i'r drafodaeth hon.

Fel y mae'n gwybod—a chyfeiriaf yn ôl at y ddadl a gyflwynodd Plaid Cymru gerbron y Cynulliad fis Hydref y llynedd, dadl y cymerais ran ynddi cyn imi ymuno â'r Llywodraeth—mae datganoli budd-daliadau lles, sydd wedi digwydd yn yr Alban, fel y nododd yn ei chwestiwn, i bob pwrpas wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig â'r galw am fudd-daliadau i'r pwrs cyhoeddus yn yr Alban. I Gymru, barn y Llywodraeth yw y byddai hynny'n achosi risg ariannol sylweddol iawn ac yn ogystal â hynny, byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau o'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Rydym yn gwybod bod y costau ar gyfer yr Alban wedi bod yn sylweddol iawn, gan gynnwys £66 miliwn ar gyfer gweinyddu a thaliad untro o £200 miliwn ar gyfer gweithredu. Mae'r arian hwnnw'n arian y dylid ei ddefnyddio ar y rheng flaen. Ein barn ni yn Llywodraeth Cymru yw y dylem weld cytundeb lles a chytundeb nawdd cymdeithasol gwell i holl breswylwyr y DU, ac rydym yn ystyried honno'n ymagwedd gwbl sylfaenol tuag at gyfiawnder cymdeithasol, nid yn unig yng Nghymru ond ym mhob rhan o'r DU.

14:40

David Rees. [Anghlywadwy.]. Na, iawn, diolch. Cwestiwn 8, felly—Lee Waters.

Defnyddio Technoleg i wneud Cyfreithiau Gwell

8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y gellir defnyddio technoleg i wneud cyfreithiau gwell? OAQ52098

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. rwyf wedi dechrau ystyried sut y gellid defnyddio technoleg i'n helpu i wneud cyfraith Cymru yn haws i ddod o hyd iddi a'i deall. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Archifau Gwladol a barnwr Goruchaf Lys British Columbia i drafod cyfraith fel math o ddata a sut y gallai deallusrwydd artiffisial wneud y gyfraith yn fwy hygyrch ac yn haws ei gweinyddu.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr fod y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o'r gystadleuaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau rhwng botiau cyfraith fel y'u gelwir ac athrawon cyfraith mewn cystadleuaeth gyfreitha. Rhoddwyd pedair awr i fodau dynol a deallusrwydd artiffisial ddarllen contract a nodi 30 term a mater cyfreithiol, gan gynnwys cytundebau cymrodeddu a chyfrinachedd. Yr hyn a oedd yn fwyaf trawiadol oedd bod yr athrawon wedi sgorio 85 y cant, ond fe sgoriodd deallusrwydd artiffisial 95 y cant. Cymerodd yr athrawon 92 munud i gyrraedd eu sgôr, a chymerodd y botiau cyfraith 26 eiliad.

Mae rhai gwledydd ar flaen y gad yn archwilio sut y gellir cymhwyso'r arloesedd hwn. Mae Seland Newydd yn archwilio sut y gellir ysgrifennu deddfwriaeth newydd mewn testun ac mewn cod ar yr un pryd i ganiatáu i'r botiau hyn dreulio a dadansoddi'r gyfraith yn y dyfodol er mwyn gallu rhoi cyngor wedi'i deilwra i bobl yn syth. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi ystyried sut y gellid cyflwyno hyn yng Nghymru?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n codi nifer o bwyntiau diddorol iawn. Ceir her a chyfle sylfaenol i'r sector gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd yn y mathau o bethau y mae'n eu disgrifio, o ran creu contractau clyfar, ond hefyd, fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, yn y gallu i ymchwilio darnau enfawr o ddata a chyfraith a chyfraith achosion mewn ffordd gadarn a dibynadwy. Fel y mae'n digwydd, mae'r sgyrsiau a gefais yn awgrymu bod hynny'n anos ei gyflawni wrth ymchwilio i ddeddfwriaeth ei hun. Ond un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud, wrth feddwl ynglŷn â sut y gallwn wneud cyfraith yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru yn gyffredinol, yw ystyried bod cyflymder y newid yn y maes hwn mor sylweddol fel ein bod mewn perygl o lunio ateb technolegol gwell heddiw ar gyfer yr heriau a oedd gennym 10 mlynedd yn ôl, yn hytrach na meddwl ymlaen at sut olwg fydd ar y byd ymhen 10 mlynedd. Nawr, mae honno'n her uchelgeisiol, ac nid wyf am un eiliad yn awgrymu ei bod yn syml—yn sicr, nid yw'n syml.

Mae'n crybwyll Seland Newydd yn ei gwestiwn. Mae un o'r trafodaethau a gefais gyda'r Archifau Gwladol yn ymwneud â sut y gall deddfwrfeydd ddeddfu mewn cod ac ar ffurf data, ac felly, lle mae gennych ddeddfwriaeth treth, er enghraifft, neu ddeddfwriaeth budd-daliadau, mae'r ddeddfwrfa'n pasio cod y gellir ei droi'n ffurflenni ar amrantiad a'i fod ar gael i'r cyhoedd yn y ffordd awdurdodol honno. Mae hynny'n amlwg yn creu beichiau newydd ar unrhyw ddeddfwrfa ac mae angen ei ystyried yn ofalus iawn. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Google yn yr wythnosau nesaf i drafod a ydynt yn gweithio gyda phartneriaid eraill ledled y byd ar arloesedd yn rhai o'r meysydd hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cynifer o ffynonellau o ysbrydoliaeth gan gynifer o awdurdodaethau gwahanol ag y bo modd ar gyfer yr hyn y gobeithiwn allu ei gyflawni yn y tymor hir yma yng Nghymru.

14:45
Pwynt o Drefn

Ddirprwy Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(ii), (iii) (iv) a (vi)—rhwystro busnes y Cynulliad; ceisio codi mater sydd y tu hwnt i gwmpas y ddadl; sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol; sy'n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad—ac o bosibl mewn perthynas â Rheol Sefydlog 15.1 ar y 'dogfennau canlynol' i'w gosod yn y lle hwn, ac o bosibl gallai fod Rheolau Sefydlog eraill nad wyf eto wedi gallu edrych arnynt.

Fel pob un o'r Aelodau, rwyf wedi derbyn deunydd a ddosbarthwyd yn ddigymell, deunydd yr ystyriaf ei fod yn dramgwyddus, gan UKIP yn y Siambr hon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni roddwyd unrhyw awdurdod gennych chi i ddosbarthu neu osod y deunydd hwn. Mae'n amlwg wedi'i fwriadu ar gyfer dylanwadu ar ddadl benodol ac mae'n amherthnasol i'r ddadl benodol honno. Nid oes gennym syniad beth yw ei statws. Rwy'n ei ystyried yn ymddygiad sarhaus ac anghwrtais a buaswn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi eich dyfarniad ar y mater hwn.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi am y rhybudd eich bod yn bwriadu codi'r pwynt o drefn hwn. Rwy'n ymwybodol fod Neil Hamilton wedi dosbarthu deunydd wedi'i argraffu i ddesgiau'r Aelodau yn y Siambr hon cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw. Nid yw'n ymddygiad priodol i Aelodau rannu taflenni i Aelodau eraill yn y Siambr, pa un a yw'n berthnasol i drafodion y Cynulliad ai peidio. Mae'n arbennig o anghwrtais ac anweddus i Aelodau gymryd rhan mewn gweithgaredd o'r fath yn ddienw. Braint yr Aelodau yw cael eu clywed yn y Siambr hon a dylent gyfleu eu dadleuon drwy ddadl. Nid wyf yn disgwyl i unrhyw Aelod ailadrodd ymddygiad o'r fath.

Do, ond ynglŷn â'r pwynt o drefn hoffwn bwysleisio nad oedd yn ddienw; rhoddwyd slip cyfarch gennyf fi ym mhob amlen. Roeddwn yn ofalus iawn i wneud hynny. Mae'n berthnasol i'r hyn y gobeithiaf ei ddweud yn ddiweddarach—

Nac ydyw. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Diolch.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad, a galwaf ar Jack Sargeant.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod ein Llywydd bob amser yn ceisio bod yn ddiduedd yn ei rôl yn y Siambr hon. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd eithriadol i gynnal y safon honno ddydd Sul pan fydd tîm pêl-droed Aberystwyth yn chwarae Nomads Cei Connah yn 131ain rownd derfynol Cwpan Cymru JD. Edrychaf ymlaen at fynychu'r gêm derfynol gyda'r Aelod dros Geredigion ac rwyf am roi amser heddiw i longyfarch y ddau dîm ar eu cyflawniadau hyd yma ac am eu cyfraniad i'w dwy gymuned—eu cymunedau arbennig. Ond wrth gwrs, rwy'n gobeithio gweld y Nomads yn dod â'r cwpan yn ôl i Gei Connah ddydd Sul. Diolch.

Diolch. Rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd am ymestyn ei dymuniadau am gêm dda i'r ddau dîm. Mae'n arddangos pêl-droed uwch gynghrair Cymru ar ei orau. Rwy'n drist nad yw'r unig dîm yn uwch gynghrair Cymru yr wyf fi erioed wedi bod eisiau ei gefnogi yn cymryd rhan yn y rownd derfynol honno eleni, ond yn y blynyddoedd sydd i ddod, rwy'n gobeithio y gallaf godi i wneud datganiad tebyg i longyfarch neu gefnogi'r tîm hwnnw. Edrychaf ymlaen at y gêm, fel y Llywydd rwy'n siŵr, ac fel Aelodau eraill. Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw ati, ac fel y dywedaf, gobeithio bod hynny'n rhyngu bodd y Llywydd ar gyfer yn ddiweddarach yn y trafodion. Diolch.

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael Cyhoeddus

Eitem 5 yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gaffael cyhoeddus, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor, Nick Ramsay.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o rannu â phawb ohonoch heddiw holl fanylion y gwaith a wnaed hyd yma gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â chaffael cyhoeddus yng Nghymru. Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar 30 Tachwedd 2017. Roedd yr adroddiad hwn yn dilyn adolygiad ehangach o gaffael cyhoeddus yng Nghymru a ryddhawyd ym mis Hydref 2017. Yn ystod camau cynnar yr adolygiad hwnnw, mynegodd rhai cyrff cyhoeddus bryderon penodol ynglŷn â datblygiad a pherfformiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ystyried y materion hyn yn fanylach.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod ffigurau dangosol yn dangos bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi gwario £234 miliwn drwy gontractau a fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2016-17, gyda £222 miliwn o'r ffigur hwnnw'n gysylltiedig â sefydliadau sy'n aelodau ohono. Fodd bynnag, nid yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gymaint ag y rhagwelwyd, gan arwain at bryderon ynghylch ei ariannu, arbedion llai na'r hyn a ragwelwyd—cofnodwyd £14.8 miliwn ar gyfer 2016-17—a llawer o'i aelodau'n anfodlon.

Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio, ym mis Medi 2017, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi nodi cynlluniau cychwynnol ar gyfer ailffocysu rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Caiff hyn ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phartneriaid sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu uno bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a'r bwrdd caffael cenedlethol. Bu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried canfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol ac yn ystod ein gwaith hyd yma, mae wedi casglu tystiolaeth gan nifer o awdurdodau lleol, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.  

O ystyried yr adolygiad parhaus o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, sydd i fod i adrodd ar ei ganfyddiadau yn yr hydref, cytunwyd y byddai'n gynamserol i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau ar hyn o bryd. Rydym wedi cytuno i ddychwelyd at y mater hwn pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau a byddwn yn ystyried canlyniadau'r adolygiad hwnnw maes o law. Yn y cyfamser, rydym wedi nodi rhai materion yr oeddem am eu dwyn i sylw'r Cynulliad ac i sicrhau'r Aelodau y byddwn yn dychwelyd at y mater pwysig hwn ar yr adeg mwyaf priodol. Roedd yna ystod eang o faterion y bydd angen i'r adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru eu hystyried yn yr hyn sy'n ymddangos yn amserlen heriol.

Mae'r pwyllgor yn credu bod llawer i'w ennill drwy fanteisio i'r eithaf ar botensial y gwariant caffael sector cyhoeddus blynyddol o £6 biliwn a thrwy drawsnewid caffael cyhoeddus yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n amlwg i'r pwyllgor fod y potensial hwn gryn dipyn o ffordd o gael ei wireddu'n llawn am nifer o resymau a bod angen gwaith datblygu sylweddol ac adeiladu consensws er mwyn symud ymlaen mewn ffordd gydweithredol ac ymateb i rai o'r pryderon a godwyd ynglŷn â dull o weithredu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol hyd yma. O ystyried y manteision posibl, hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn darparu'r adnoddau sy'n angenrheidiol i yrru'r gwaith adolygu yn ei flaen yn ddigon cyflym. Rydym yn cydnabod y bydd yna benderfyniadau eraill i'w gwneud ynglŷn â darparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor yn croesawu sefydlu grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, sy'n elfen hanfodol o gynnwys lleisiau pawb sydd â buddiant. Rydym yn falch fod y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp yn ei gwneud yn glir y disgwylir i'r aelodau sicrhau adborth gan gymheiriaid yn eu priod sectorau a sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn aelodau ar hyn o bryd o bosibl.

Gan adeiladu ar argymhellion yr archwilydd cyffredinol, credwn ei bod yn bwysig canfod y rhesymau pam y mae cyrff cyhoeddus yn dewis prynu nwyddau a gwasanaethau drwy drefniadau consortia eraill, neu yn syml drwy eu trefniadau lleol eu hunain, yn hytrach na thrwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Er enghraifft, gwelsom fod £60 miliwn o wariant drwy Wasanaeth Masnachol y Goron y gellid ei gynnwys o dan fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Rydym yn croesawu model ariannol a chymelliadol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth, a fydd yn ganolog i sicrhau cefnogaeth yn y dyfodol, ond mae'n ymddangos hefyd fod materion tebyg yn codi gyda'r defnydd anghyson o offer ac adnoddau e-gaffael sy'n galw am eu hymchwilio ymhellach.

Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd y problemau hyn yn cael eu harchwilio fel rhan o'r gwaith adolygu parhaus. Roeddem yn falch o glywed bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol eisoes wedi gofyn i'w gwsmeriaid am sylwadau ar effeithiolrwydd ei fframweithiau ac wedi gweithio gyda'i fwrdd i hyrwyddo manteision defnyddio fframweithiau Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i brynu nwyddau a gwasanaethau cyffredin ac a ddefnyddir yn fynych, ac i annog ei aelodau i'w defnyddio. Mae'r ymgysylltiad wedi darparu cipolwg allweddol ac eisoes wedi dylanwadu ar nifer o ddatblygiadau cadarnhaol. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol fod dulliau rhanbarthol yn cael eu harchwilio bellach gyda'i aelodau, sydd wedi arwain at brosiect peilot lle roedd fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynorthwyo saith o awdurdodau lleol yn y de-orllewin i gyflawni eu gofynion o ran gwasanaethau ymgynghori ym maes peirianneg.

Yn olaf, roeddem yn arbennig o bryderus ynglŷn â materion yn ymwneud â recriwtio a chadw a gallu caffael yn gyffredinol yng Nghymru. Ceir cystadleuaeth sylweddol am weithwyr proffesiynol rhwng cyrff cyhoeddus a'r sector preifat. Er inni glywed gan swyddogion Llywodraeth Cymru fod capasiti a gallu yn rhan graidd o gwmpas y broses adolygu, nodwn nad oedd y materion hyn yn cael lle penodol yn y cylch gorchwyl. Rydym hefyd yn nodi bod defnyddio datganiad polisi caffael Llywodraeth Cymru ei hun, sy'n nodi mesur o un gweithiwr caffael proffesiynol am bob £10 miliwn o wariant, yn dynodi diffyg o oddeutu 274 o staff caffael cymwysedig. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym fod materion cyffredinol ynghylch capasiti a gallu caffael ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn rhan hanfodol o'r adolygiad ac o'r hyn sy'n dilyn. Deallwn y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion hyn drwy gyfrwng rhaglen allu caffael newydd maes o law.

Wrth gwrs, byddwn yn monitro gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, a byddwn yn aros am ganlyniadau ei hadolygiad ar ôl ei gwblhau. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a wnaed sy'n deillio o'r ddau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Felly, yn ystod y saib yn ein gwaith, byddwn yn cadw llygad manwl ar y datblygiadau.

14:55

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr ar y datganiad. Felly, diolch i chi amdano.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

Symudwn ymlaen at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9, a galwaf ar Gadeirydd dros dro y pwyllgor i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6710 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Adroddiad 01-18 gyda’r adroddiad gan Syr John Griffith Williams QC o dan baragraff 8.6 o’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion erbyn Aelodau’r Cynulliad—a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (i) a (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am y cyfnod o saith niwrnod calendr yn syth ar ôl derbyn y cynnig hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fe wnaf y cynnig yn ffurfiol.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Michelle Brown, yr Aelod dros Ogledd Cymru, am ddwyn anfri ar y Cynulliad, sy'n torri'r cod ymddygiad. Nodir y ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a'r rhesymau dros ei hargymell yn llawn yn adroddiad y pwyllgor.

Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, a manteisiodd yr Aelod dan sylw ar y cyfle a roddwyd iddi drwy'r weithdrefn gwyno i ddarparu tystiolaeth lafar i'r pwyllgor. Mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor fod cosb yn briodol yn yr achos hwn. Dyma'r tro cyntaf i'r pwyllgor argymell cosb fel hon, ac nid oedd yn benderfyniad a wnaed gennym yn ysgafn. Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, fe wnaethom ystyried yr holl amgylchiadau lliniarol ond serch hynny, daethom i'r casgliad fod y tramgwydd yn galw am gosb sylweddol.

O ystyried amgylchiadau'r achos hwn, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn dymuno atgoffa Aelodau'r Cynulliad fod y cod ymddygiad yn god 24/7, ac mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i lynu'n gaeth ato bob amser.

Ddirprwy Lywydd, buaswn felly'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

Hoffwn ofyn i'r Aelodau ystyried un cwestiwn syml iawn: sut y gall Aelod o'r Cynulliad hwn y barnwyd ei bod yn hiliol gynrychioli pobl groendywyll yn ei rhanbarth hi yn ddiogel? A'r ateb yw na all wneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n broblem. Nawr, mae arweinydd UKIP a'r Aelod UKIP ar y panel wedi derbyn bod eu Haelod yn hiliol, ac ni fydd unrhyw nifer o lythyrau'n dyfynnu geiriau pobl eraill a allai fod yn hiliol oresgyn hynny. Hiliaeth yw hiliaeth. Mae'n annerbyniol. Nid oes iddo unrhyw le yn y sefydliad hwn nac, yn wir, yn y wlad hon.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn gallu cymeradwyo'r cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Mae'n peri pryder i mi ar sawl lefel. Yn benodol, nid ydym yn glwb hunanddewisol yn y Cynulliad hwn gyda rhyddid llwyr i osod telerau aelodaeth arno. Rydym yn cael ein hawl i eistedd yma nid drwy gydsyniad ein cyfoedion—[Torri ar draws.] Byddwch mor garedig â gwrando ar yr hyn rwyf am ei ddweud cyn i chi ddechrau heclo. Rydym yn cael ein hawl i eistedd yma nid drwy gydsyniad ein cyfoedion, ond drwy bleidleisiau'r bobl, ac mae eithrio unrhyw Aelod yn ymyrraeth ddifrifol ar hawliau democrataidd y bobl sydd i'w cynrychioli gennym, gan amddifadu Gogledd Cymru, yn yr achos penodol hwn, o un o'i aelodau.

Nawr, mae gan bob senedd, wrth gwrs, reolau i wahardd Aelodau afreolus er mwyn cadw trefn yn ystod y trafodion, a heb hynny ni allwn weithredu'n iawn. Ond ychydig iawn o sefydliadau eraill ledled y byd sy'n ceisio gwahardd Aelodau am ddefnyddio geiriau annerbyniol y tu allan i'r Cynulliad perthnasol, heb sôn am sgwrs ffôn breifat, fel yn yr achos hwn, rhwng ffrindiau agos na fwriadwyd erioed iddi gael ei gwneud yn gyhoeddus. Ac yn yr achos hwn, mae'r sefyllfa yn waeth hyd yn oed—[Torri ar draws.] Wel, os nad ydynt yn gwrando, nid yw'r Aelodau'n mynd i allu gwneud penderfyniad rhesymegol ar hyn. Felly, gofynnaf iddynt yn garedig i roi—

15:00

—yn enwedig gan nad oes neb arall yn debygol o wneud y pwyntiau hyn.

Yn yr achos hwn, mae'r sefyllfa yn waeth byth oherwydd bod y sgwrs wedi'i chofnodi yn ddirgel gan rywun a oedd ar y pryd yn gyfaill personol agos, ond maes o law daeth yn bennaeth staff Michelle Brown a gafodd ei ddiswyddo wedi hynny am gamymddwyn, gan gynnwys torri cyfrinachedd, ac aeth ati'n faleisus i gyhoeddi'r recordiad fel gweithred o ddial.

Nawr, mewn byd lle mae technoleg gwyliadwriaeth ym mhobman, mae derbyn y math hwn o dystiolaeth mewn achos disgyblu yn creu peryglon amlwg yn ymwneud â thwyllo rhywun i wneud rhywbeth a rhagfarn, ac nid yn unig mewn perthynas â geiriau. Ni fyddai deunydd o'r fath yn dderbyniadwy yn gyffredinol fel tystiolaeth erlyn mewn llys barn, ac yn wir gallai fod yn torri hawliau o dan erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yr hawl i breifatrwydd yn eich bywyd preifat, ac mae ACau yn haeddu'r un amddiffyniad yn fy marn i o dan ein rheolau gweithdrefnau yma ag y byddai'r gyfraith yn ei roi iddynt y tu allan.

Nid yw Tŷ'r Cyffredin yn honni unrhyw hawl i sensro sgyrsiau preifat ASau. Yn wir, nid yw hyd yn oed yn honni'r hawl i gosbi ASau am y sylwadau mwyaf ffiaidd a cywilyddus yn gyhoeddus, fel John McDonnell a oedd yn cellwair, mae'n debyg, am Esther McVey, pan ddywedodd, 'Pam nad ydym yn lynsio'r bastard?'—jôc oedd honno. Emma Dent Coad, yr AS Llafur dros Kensington, a ddisgrifiodd Shaun Bailey, aelod Ceidwadol du o Gynulliad Llundain fel 'bachgen geto symbolaidd' a 'gwehilyn sy'n sbwnjo' ac a aeth ati'n hapus braf i osod ar y rhyngrwyd—[Torri ar draws.]—ailgynllun o logo'r goeden Dorïaidd gyda rhywun du yn hongian oddi arni.

A ydych yn derbyn ymyriadau? Nac ydych. Na, nid yw'r Aelod yn mynd i dderbyn ymyriadau.

Nid wyf yn meddwl byddai'n broffidiol, Madam Ddirprwy—bron imi ddweud 'Ddirprwy Lefarydd'—Ddirprwy Lywydd, i mi ildio ar y pwynt hwn.

Credaf fod yr hyn a ddywedodd Cadeirydd dros dro y pwyllgor yn fater difrifol: fod y cod ymddygiad yn berthnasol i'r Aelodau bob amser, yn eu bywydau cyhoeddus a'u bywydau preifat, ym mhob amgylchiad. Mae hyn, mi gredaf, yn ddatblygiad syfrdanol a sinistr fod y Cynulliad yn ceisio'r hawl i blismona bywydau preifat Aelodau'r Cynulliad, i'w sensro ac yn wir, yn y pen draw, i'w cosbi am ddwyn anfri ar y Cynulliad. Nid wyf yn credu bod anfri'n cael ei ddwyn ar y Cynulliad gan unrhyw beth y mae unrhyw un yn ei ddweud y tu allan i'r lle hwn. Mae gennym oll gyfrifoldeb dros ein geiriau a'n gweithredoedd mewn mannau eraill, ac nid wyf yn credu fy mod wedi fy llygru gan weithredoedd neu eiriau neb arall yn y Cynulliad hwn, a chredaf y dylai pawb arall goleddu'r un safbwynt cyffredinol. Wedi'r cyfan, mae beth sy'n dwyn anfri ar y Cynulliad yn rhywbeth sy'n rhaid ei ystyried yn oddrychol iawn.

Yn yr adroddiad, rwy'n gresynu at y ffaith nad oes unrhyw wrthateb manwl nac unrhyw wrthateb yn wir i'r dadleuon a gyflwynais ar ran Michelle Brown fel ei heiriolwr ar gyfer y pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar fod y pwyllgor wedi caniatáu imi wneud hynny. Nid wyf yn ceisio amddiffyn y defnydd o'r gair 'coconyt'. Ymddengys ei fod mewn defnydd eang, ond dengys y ddogfen a ddosbarthais yn gynharach y nifer enfawr o enghreifftiau o ddefnydd sarhaus iawn o'r gair 'coconyt' gan aelodau neu gefnogwyr y Blaid Lafur. Nid wyf yn gwybod a oedd y grŵp Llafur, a wnaeth y gŵyn yn erbyn Michelle Brown, nid fel unigolion ond fel grŵp, wedi gwneud unrhyw gwynion am hiliaeth yn y Blaid Lafur, gwrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur, a'r pethau ffiaidd a chywilyddus sy'n cael eu dweud, nid mewn sgyrsiau preifat, ond yn gyhoeddus ac sy'n destun ymfalchïo—

—ymhlith aelodau eithaf uchel yn y blaid honno. Ie, mae'r gair 'coconyt'—

Fe wnaf fi ddirwyn i ben, Ddirprwy Lywydd. Ond a yw'n fwy difrïol a sarhaus na Joyce Watson, er enghraifft, yn y Siambr hon yn disgrifio Aelodau UKIP fel cŵn cynddeiriog—

A yw'n waeth na Leanne Wood yn fy nisgrifio i fel rhywun sy'n gwadu'r Holocost a hynny ar gam—yr enllib mwyaf gwrthun yn fy erbyn? Mae'n ymddangos i mi fod dicter y grŵp Llafur yn oddrychol iawn, ac ar y seiliau hynny buaswn yn annog y Cynulliad i beidio â chymeradwyo'r cynnig hwn.

Aelod Cynulliad: Gwarthus.

Aelod Cynulliad: Cwbl warthus.

Cymeraf bwynt o drefn ar ôl y ddadl. Ni allaf gymryd pwynt o drefn yn ystod y ddadl. Neil McEvoy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yma heddiw fel rhywun sydd wedi ymdrin â hiliaeth yn y rheng flaen, wrth dyfu fyny a hyd heddiw. Caf fy marnu. Cefais fy marnu oherwydd y ffordd rwy'n edrych, oherwydd fy mam, fy nhad, fy neiniau a fy nheidiau, fy nghyfansoddiad ethnig. Mae'n gas gennyf hiliaeth. Mae'n atgas i mi. Heddiw, rydym yma i wneud penderfyniad i daflu Aelod o'r Cynulliad hwn allan, Aelod a etholwyd yn ddemocrataidd. Gwnaeth Michelle Brown sylw hiliol yn breifat. Roedd hi'n siarad yn breifat ar y ffôn heb wybod ei bod yn cael ei recordio, yn cael sgwrs gyda pherson a oedd yn hoffi'r hyn a ddywedodd ddigon iddo benderfynu gweithio iddi. Nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn i mi, fel cynrychiolydd o Ganol De Cymru, bleidleisio dros wahardd Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru. Mae gennym drefn ar gyfer penderfynu pwy a ddylai a phwy na ddylai fod yn Aelod Cynulliad, a'r enw arno yw etholiad.

15:05

Iawn. Diolch yn fawr iawn. A ydych chi, felly, yn awgrymu ei bod hi ond yn euog am ei bod hi wedi cael ei dal?

Rwy'n mynd i fod yn bwyllog yn yr hyn rwy'n ei ddweud, oherwydd rwyf wedi bod yn dyst i ymddygiad hiliol yn y Siambr hon ac rwyf wedi gohebu gyda'r Llywydd ar adegau. Cefais fy mrawychu gan beth o'r ymddygiad a welais yn yr ystafell hon. Felly, gadewch i ni roi'r gorau i'r nodi rhinweddau am eiliad fach. Efallai yr hoffech ohebu gyda'r Llywydd a gweld beth y buom yn siarad amdano'n breifat.

Nawr, cafodd Michelle Brown ei dal. Cafodd ei recordio, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod ar draws y Siambr, ac mewn gwirionedd mae'n fater o 'Os oes un ohonoch chi erioed wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf' oherwydd gallaf ddychmygu, pe bai pawb o gwmpas y Siambr hon wedi'u recordio'n breifat gallaf ddychmygu'n union beth a allai gael ei ddatgelu. Rwy'n siarad fel rhywun tywyll fy nghroen sydd wedi bod drwy hiliaeth—. Rwyf wedi ymdrin â hiliaeth ar hyd fy oes. Ar hyd fy oes. Yr hyn rwy'n ei ddweud yma yw bod gennym wleidydd wedi'i ethol yn ddemocrataidd; y ffordd o ymdrin â'r bobl hyn yw yn y blwch pleidleisio, ac rwy'n credu hynny'n gryf iawn. Rwy'n gwrthod nodi rhinweddau. Os edrychwn ar y sgandal go iawn yn yr adeilad hwn—[Torri ar draws.]

Buaswn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech ddangos digon o barch ataf i wrando ar beth sydd gennyf i'w ddweud. A wnewch chi ddangos y cwrteisi hwnnw i mi heddiw?

Parhewch. Rwyf yn y Gadair, ac rwyf wedi rhoi caniatâd i chi barhau. Felly, parhewch os gwelwch yn dda, mae eich amser yn brin.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rydych chi'n rhoi parch i dderbyn parch.

Nawr, heb fod yn hir yn ôl, roedd Aelodau Llafur ar y meinciau yma'n pleidleisio i gadw eu hymddygiad—ymddygiad y Llywodraeth ei hun—yn gyfrinach ac i mi, dyna'r sgandal go iawn. Roedd yr hyn a wnaeth Michelle Brown yn warthus yn breifat. Y ffordd o ymdrin â'r bobl hynny yw yn y blwch pleidleisio, ac rwy'n credu hynny'n gryf iawn.

Diolch. A gawn ni alw yn awr ar Gadeirydd dros dro y pwyllgor i ymateb i'r ddadl? Paul Davies.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Nodaf gyfraniadau'r Aelodau yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nodaf yn arbennig gyfraniad yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a hoffwn ei atgoffa bod yr adroddiad hwn wedi'i gytuno'n unfrydol gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys Aelod o'i blaid ei hun. Buaswn hefyd yn atgoffa'r Aelodau y dylid glynu wrth god ymddygiad Aelodau'r Cynulliad 24 awr y dydd, ac mae'n berthnasol yn ein bywydau preifat a'n bywydau cyhoeddus. Ddirprwy Lywydd, mae adroddiad y pwyllgor yn gwbl glir, ac mae'n nodi barn y pwyllgor fod cosb yn briodol yn yr achos hwn. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir unrhyw bleidlais angenrheidiol ar y cynnig hwn ar unwaith, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 38, roedd 1 yn ymatal, a 3 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. Diolch.

15:10

NDM6710 - Cynnig i gymeradwyo'r argymhelliad yn Adroddiad 01-18 y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: O blaid: 38, Yn erbyn: 3, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am godi pwynt o drefn fod gennyf hawl o fewn y Siambr hon i gael fy mharchu fel Aelod unigol o'r Siambr hon heb gael fy nadrithio gan gelwyddau gan Aelod arall, yn fy nghyhuddo o bethau y mae'n amlwg nad wyf wedi'u gwneud na'u dweud.

Mewn dadl ar gymorth y llynedd, cawsom ein disgrifio gennych fel cŵn cynddeiriog.

A gaf fi bwynt o drefn? Pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Clywais gyhuddiad a wnaed ychydig funudau yn ôl fod yna ymddygiad hiliol wedi digwydd yn y Siambr hon. Nawr, ni wyddom at bwy y targedir hynny, ond mae'n pardduo pob un ohonom. A allem gael dyfarniad gan y Llywydd ar hynny, os gwelwch yn dda?

Iawn. Os caniatewch i mi edrych ar y cofnod, fe ddychwelaf at hyn rywdro eto. Diolch.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Tlodi misglwyf a stigma

A gawn ni symud ymlaen at eitem 7, os yw pawb—? Iawn. Eitem 7, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar dlodi misglwyf a stigma. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6695 Jane Hutt, Jenny Rathbone

Cefnogwyd gan David Rees, Dawn Bowden, Jack Sargeant, Jayne Bryant, John Griffiths, Julie Morgan, Leanne Wood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Siân Gwenllian, Simon Thomas, Vikki Howells

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.

2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.

3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gydgyflwyno'r cynnig hwn, a fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi ei gefnogi. Mae tlodi misglwyf yn digwydd pan fo menywod a merched yn cael trafferth i dalu am gynhyrchion misglwyf hanfodol yn fisol gan effeithio'n sylweddol ar eu hylendid, eu hiechyd a'u lles.

Dengys canfyddiadau'r elusen Plan International UK fod un o bob 10 merch wedi methu fforddio cynhyrchion misglwyf. Mae un o bob saith merch wedi gorfod gofyn am gael benthyg cynhyrchion misglwyf gan ffrind oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd, ac mae mwy nag un o bob 10 merch wedi gorfod addasu cynhyrchion misglwyf oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd. Mae diddordeb cynyddol y cyhoedd a'r byd gwleidyddol yn y mater wedi dangos y ffaith syfrdanol fod cynhyrchion misglwyf sylfaenol i fenywod yn anfforddiadwy bellach i ormod o fenywod a merched.

Mae gennym dystiolaeth anecdotaidd o famau'n mynd heb eitemau misglwyf er mwyn eu prynu ar gyfer eu merched yn lle hynny; o fenywod sy'n ddigartref yn gorfod addasu drwy ddefnyddio carpiau budr, sanau a hyd yn oed papur newydd; o ferched o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan gânt eu misglwyf oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb ddigon o gynhyrchion misglwyf.

Clywsom hefyd gan Ymddiriedolaeth Trussell a ddatgelodd yr wythnos diwethaf ei bod wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed yn y ffigurau banciau bwyd ar gyfer 2017-18, a bod mwy a mwy o fenywod yn ei chael yn anodd fforddio cynhyrchion misglwyf sylfaenol ac yn dibynnu ar roddion, gyda rhai'n dewis mynd heb gynhyrchion misglwyf ar eu cyfer hwy eu hunain er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd.

Ond ceir effeithiau difrifol i iechyd corfforol a meddyliol menywod nad ydynt yn gallu rheoli eu misglwyf yn hylan bob mis. O heintiau y gellir eu hachosi drwy gael eu gorfodi i fyw ar un neu ddau o damponau i deimlo'n gaeth dan do er mwyn bod yn agos at doiled, ac o deimlo gormod o embaras a chywilydd i ofyn am help.

Mae tlodi misglwyf yn ymdrech breifat iawn ac yn ganlyniad cyni cudd nad yw wedi taro ymwybyddiaeth y cyhoedd hyd nes yn ddiweddar. Rhaid inni ei amlygu fel mater iechyd, hylendid ac anghydraddoldeb hefyd. Ond rwyf hefyd am i'r ddadl hon gydnabod bod gennym gyfrifoldeb clir i fenywod a merched yng Nghymru i ddatblygu urddas misglgwyf fel rhan o'n hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth y mislif, er ei bod yn broses naturiol a phwysig. Mae'n anghredadwy fod y misglwyf wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater tabŵ. Yn wir, roedd cenedlaethau hŷn yn aml yn cyfeirio at y mislif fel 'melltith'. Hyd yn oed heddiw, rydym yn defnyddio mwytheiriau am y misglwyf ac yn ei fychanu; soniwn am 'fod ar' fel bod menywod a merched, yn ogystal â methu fforddio eitemau hylendid, yn teimlo gormod o embaras neu gywilydd i ddweud eu bod yn cael eu misglwyf.

Mae hyn yn hynod o anodd i ferched a menywod ifanc, ac mae'n dechrau yn yr ysgol gynradd a thrwodd i'r ysgol uwchradd. Felly, yn ogystal â siarad am dlodi misglwyf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn siarad ac yn defnyddio'r cyfle i drafod a thynnu sylw at urddas misglwyf. Amlygodd yr adroddiad dadlennol gan weithgor craffu Cyngor Rhondda Cynon Taf, a sefydlwyd i ymdrin â darpariaeth rad ac am ddim ar gyfer y misglwyf mewn ysgolion, rai o'r pryderon a godwyd gan ferched ysgol am urddas misglwyf a stigma, gyda rhai ohonynt yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Mae bechgyn yn gwneud hwyl am ein pennau os ydynt yn ein gweld yn mynd i'r toiled gyda'n bagiau—mae'n creu embaras.

'Byddai'n well gennyf fynd adref' na gofyn i athro neu athrawes am gynhyrchion misglwyf, yn enwedig athro gwrywaidd. 'Mae bechgyn yn aeddfedu'n ddiweddarach', mae angen rhoi'r mislif

mewn persbectif gan eu bod yn mynd i fod yn bartneriaid yn y dyfodol, yn dadau, yn gyflogwyr a rhaid cael gwared ar y stigma. Mae angen iddynt sylweddoli mai un o weithredoedd normal y corff ydyw a'r effaith y gall ei chael ar fenywod.

Dyna pam mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried galwadau i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg ar iechyd a lles mewn perthynas â'r mislif, gan fynd i'r afael â stigma sy'n dal i fod yn gysylltiedig â'r mislif ac agor sgwrs naturiol a chenedlaethol am y misglwyf.

Fodd bynnag, rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb diweddar Llywodraeth Cymru i dlodi misglwyf, gyda'r cyhoeddiad y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i'r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau drwy ddarparu cynhyrchion misglwyf i'r menywod a'r merched sydd fwyaf o'u hangen, a gellid gwneud hyn drwy grwpiau cymunedol, ysgolion neu fanciau bwyd. Ac yn bwysicaf oll, bydd £700,000 o gyllid cyfalaf ar gael i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion. Mae'n arbennig o galonogol nodi y gellir defnyddio'r cyllid hwn mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cydnabod ymchwil sy'n dangos bod mwy o ferched yn dechrau eu misglwyf yn iau, ac nid oes gan rai ysgolion cynradd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.

Ar y pwynt hwn, hoffwn ganmol ymdrechion fforwm menywod a chynghorwyr Llafur lleol ym Mro Morgannwg, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ers y llynedd i godi ymwybyddiaeth o dlodi misglwyf a gwneud yn siŵr fod darparu cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ym Mro Morgannwg ar agenda'r cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson:

Mater tlodi yw hwn. Mae'n broblem gudd a thawel. Nid yw merched eisiau siarad am y peth.

Dywedodd y Cynghorydd Jayne Norman o blaid Llantwit First:

Mae'r mislif yn effeithio ar bob menyw. Nid oes gennym ddewis yn y mater... I ormod o fenywod ifanc a merched, mae cyfaddef eu bod hyd yn oed yn cael eu misglwyf yn ddigon o embaras, heb orfod cyfaddef na all eu teulu fforddio prynu'r cynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Y cynhyrchion sy'n caniatáu iddynt gael yr hawl i urddas a llesiant.

Hefyd, hoffwn ganmol gwaith rhagorol sefydliadau Cymreig megis Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell a llawer o rai eraill, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed amdanynt y prynhawn yma, sefydliadau sy'n codi ymwybyddiaeth am y mater hwn a helpu i fynd i'r afael ag ef.

Mae distawrwydd yn atal cynnydd ac rwyf mor falch ein bod yn torri'r tabŵ ac mae'n dda gweld cymaint yn aros yn y Siambr y prynhawn yma i rannu ac ystyried y mater hwn, er mwyn mynd i'r afael â sgandal anweledig tlodi misglwyf a diffyg urddas misglwyf drwy fod yn rhan o'r ddadl hon yn y Cynulliad heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Diolch.

15:15

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Mae tlodi yn fater ffeministaidd. Pan fo menywod ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio cynhyrchion misglwyf, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod defnyddio papur toiled, hen ddillad, neu ddim byd o gwbl, yn aml, yn lle padiau a thamponau pan fyddant yn cael eu mislif, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod dewis rhwng prynu cynhyrchion misglwyf, dillad, tocyn bws neu fwyd, tlodi yw hynny. Ydy, mae tlodi yn fater ffeministaidd ac mae effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.

Yng Nghymru, menywod yw'r rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser a gweithwyr ar gyflogau isel a hwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan doriadau creulon i les. Mae'n destun cywilydd cenedlaethol fod yna fenywod yng Nghymru nad ydynt yn gallu fforddio prynu'r cyflenwadau o gynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Roeddwn yn falch pan gyhoeddwyd y grant £1 filiwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bydd yn cynnig rhyw lefel o arian i leddfu symptomau tlodi misglwyf. Ond nid yw'n ddigon.

O'i ddadelfennu, mae grant o £1 filiwn yn cynnig oddeutu £22,000 dros ddwy flynedd i bob awdurdod lleol yng Nghymru i brynu a dosbarthu cynhyrchion misglwyf. Fodd bynnag, byddai cyngor Rhondda Cynon Taf yn unig angen £70,000 mewn un flwyddyn yn unig i brynu a dosbarthu'r cynhyrchion misglwyf. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi misglwyf, rhaid inni fynd ymhellach nag ateb arwynebol tymor byr—rhaid inni geisio mynd i'r afael â gwraidd y broblem yn uniongyrchol, ac mae hynny'n golygu trechu tlodi.

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau go iawn ar waith i ddileu tlodi yng Nghymru, ac mae hynny'n dechrau gyda datganoli gweinyddu lles. Rhaid iddi hefyd weithredu strategaeth gydlynol, hirdymor wedi'i chyllidebu'n briodol ac a fydd yn cynnwys sicrhau darpariaeth gyson, gynhwysol o eitemau misglwyf ledled Cymru. Mae stigma a thabŵ yn perthyn i dlodi misglwyf. Mae angen inni gael gwared ar y cywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif ac addysgu pawb yn agored ac yn onest am y pwnc. Dylem fod yr un mor gyfforddus yn sôn am ddarparu cynnyrch misglwyf ag yr ydym yn sôn am ddarparu papur toiled.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiad 'Dyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd yng Nghymru' gan y panel arbenigol rhyw a pherthnasoedd i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn darparu addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n gynhwysol ac o ansawdd uchel.

Rhaid imi nodi hefyd nad menter Lafur yw hon yn wreiddiol. Plaid Cymru a wthiodd y mater ar yr agenda, a phan wthiodd cynghorwyr yn fy ardal am bleidlais ar gronfa tlodi misglwyf, dewisodd Llafur wrthwynebu. Ond mae eu hymagwedd ddygn wedi cadw'r ymgyrch hon yn fyw, a dyna pam rwyf am dalu teyrnged i'r menywod aruthrol sy'n gynghorwyr Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf, ac sydd, ar ôl ymgyrch hir ac a chaled o dan arweinyddiaeth y cynghorydd ifanc, Elyn Stephens, wedi sicrhau bod cynhyrchion misglwyf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim i'r holl ddisgyblion ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae cynghorau Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chasnewydd oll wedi cyflwyno cynigion yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf, gan ddangos bod yna symudiad organig tuag at ddarparu cynhyrchion misglwyf i bawb, gyda menywod ifanc yn flaenllaw ynddo.

Mae gofal mislif yn fater gofal iechyd, ac mae gofal iechyd yn hawl ddynol. Er mwyn cydraddoldeb, rhaid i gynhyrchion misglwyf ac addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysfawr fod ar gael i bawb yng Nghymru. Mae darpariaeth gyffredinol yn olwyn hollbwysig yn y peirianwaith i sicrhau cymdeithas gyfartal. Mae gan Gymru bŵer a photensial i arwain drwy esiampl, nid yn unig ar ddileu tlodi, ond yn y gwaith o greu gwlad sy'n gyfartal.

15:20

Hoffwn ddiolch i Jane a Jenny am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n cefnogi ymdrechion yr Aelodau i dynnu sylw at y mater, ac yn llwyr gefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw. Oherwydd chwiw ein bioleg, mae hanner y boblogaeth yn wynebu her fisol. Oherwydd tlodi, i lawer o ferched ifanc, mae'r her honno'n ymdrech. Mae llawer gormod o ferched ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio cynhyrchion misglwyf. Mae llawer gormod o ferched ifanc yn cael eu gorfodi i fynd i eithafion i addasu cynhyrchion misglwyf. Mae'n anodd credu bod hyn yn digwydd yn 2018.

Rwy'n croesawu'r arian a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu cynhyrchion misglwyf i grwpiau cymunedol, ysgolion a banciau bwyd, ond mae angen inni fynd ymhellach. Ni ddylai merched wynebu eu hallgáu'n fisol o'r ysgol am na allant fforddio cael misglwyf. Rhaid inni sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael am ddim yn ein hysgolion. Hefyd, rhaid inni roi diwedd ar bolisïau sy'n cyfyngu ar fynediad merched i doiledau, yn bennaf yn ystod amser gwersi, a rhoi diwedd ar ddiwylliant lle mae merched yn teimlo gormod o embaras i siarad â staff ysgol pan fo angen iddynt wneud hynny. I ddyfynnu Plan International:

Mae misglwyf merched yn ffaith bywyd ac mae'n dal i fod angen i ysgolion, yn ogystal â'r gymdeithas yn ehangach, addasu i'r ffaith honno.

Hefyd, rhaid inni wneud cynhyrchion misglwyf yn rhatach i bob un ohonom. Rwy'n annog Llywodraeth y DU, gan ein bod yn gadael yr UE ac yn rhydd i osod ein rheolau treth ar werth ein hunain, i ddiddymu'r dreth ar damponau. Mae cynhyrchion misglwyf yn nwydd hanfodol bob mis, ac ni ddylai fod yn ddarostyngedig i dreth ar werth. Rwy'n disgwyl i Ganghellor y Trysorlys ddiddymu TAW ar gynhyrchion misglwyf ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Tan hynny, mae angen iddynt weithio gyda gweithgynhyrchwyr y cynhyrchion i'w gwneud yn fwy fforddiadwy. Rhoddodd un o'r gweithgynhyrchwyr mwyaf, Procter & Gamble, becyn o Always Ultra i ysgol yn y DU am bob pecyn a werthwyd yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill. Hoffwn i'r holl gynhyrchwyr efelychu'r cynllun hwn drwy gydol y flwyddyn.

Tra'n bod yn sôn am y gweithgynhyrchwyr, credaf fod angen iddynt roi'r gorau i ddefnyddio plastig yn eu cynnyrch. Cefais fy synnu wrth glywed ddoe bod 90 y cant o bad misglwyf yn blastig, sy'n cynnwys cymaint â phedwar bag siopa archfarchnad. Mae angen inni ddileu'r ffynhonnell hon o blastig untro ac edrych am rywbeth amgen.

Ond, i ddychwelyd at y pwnc, hoffwn hefyd ddiolch i'r elusennau sy'n gweithio'n galed yn gwneud eu rhan i roi diwedd ar dlodi misglwyf. Mae Jane a Jenny wedi sôn am rai, ond hoffwn sôn am Matthew's House yn Abertawe, sy'n gweithredu The Homeless Period Swansea. Maent yn dosbarthu cynhyrchion misglwyf i fenywod digartref ar ffurf pecynnau urddas, sy'n cynnwys y cynhyrchion misglwyf, cadachau gwlyb a hancesi papur, dillad isaf a sanau, diaroglydd a balm wefusau. Yn eu geiriau hwy, maent yn darparu

gobaith (ar ffurf pecyn gofal) i'r bobl fwyaf agored i niwed yn Abertawe

sydd yn fy rhanbarth i.

Mae'r mislif yn broses naturiol na ddylai roi menywod a merched dan anfantais. Mae elusennau'n gwneud eu rhan i sicrhau chwarae teg. Mae angen i ni wneud ein rhan ninnau, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.

15:25

Mae'n bleser codi i siarad o blaid y cynnig heddiw. Mae hyn yn wirioneddol bwysig, yn cyffwrdd ar sut y gallwn sicrhau urddas merched a menywod ifanc yn ysgolion Cymru.

Mae data Plan International UK yn dangos sut y mae llawer gormod o fenywod ifanc yn cael trafferth i dalu'r gost am gynhyrchion misglwyf. Mae'r elusen wedi dangos effaith ofnadwy hyn hefyd. Roedd bron i hanner y merched a holwyd wedi colli diwrnod cyfan o ysgol oherwydd eu misglwyf. Mae 64 y cant yn colli gwersi addysg gorfforol, ac mae merched a menywod ifanc yn gorfod dweud celwydd oherwydd embaras.

Mae hwn yn fater y deuthum ar ei draws yn uniongyrchol, mewn rôl fugeiliol mewn ysgol uwchradd. Nid yw'n iawn fod merched a menywod ifanc yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Ar ben hynny, nid yw llawer o'r rhai yr effeithir arnynt yn cael gwybodaeth briodol am yr hyn sy'n digwydd i'w cyrff. Cyfaddefodd un o bob saith nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd pan ddechreuodd eu mislif, a dywedodd mwy na chwarter nad oeddent yn gwybod beth i'w wneud pan ddechreuodd eu misglwyf. Mae hyn yn frawychus, ac rwy'n falch fod y cynnig hefyd yn trafod addysg.

Rwyf am ganolbwyntio ar beth sy'n digwydd yn fy awdurdod lleol fy hun yn Rhondda Cynon Taf. Fel y gŵyr yr Aelodau, Rhondda Cynon Taf fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi camau ar waith i drechu tlodi misglwyf. Fel y dywedodd y Cynghorydd Joy Rosser, aelod cabinet dros addysg, mae hwn yn gam arloesol. Rwy'n falch fod hyn hefyd wedi'i gydnabod yn y cynnig.

Hoffwn dalu teyrnged i'r ysbryd trawsbleidiol y datblygwyd y polisi pwysig hwn ynddo yn RhCT. Mae'n dda gweld pob plaid yn gweithio gyda'i gilydd i wella amgylchiadau merched a menywod ifanc. Ond beth y mae gwaith Rhondda Cynon Taf yn ei olygu? Yn gyntaf, rwy'n falch fod y gweithgor a ystyriodd ymateb y cyngor wedi gwneud meddyliau a phrofiadau dysgwyr benywaidd ym mhob rhan o'r sir yn fan cychwyn. Fel y nododd y gweithgor, mae cyfranogiad disgyblion drwy gydol yr adolygiad yn hollbwysig er mwyn codi proffil y ddarpariaeth fisglwyf mewn ysgolion. Mae hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y dryswch a'r ymdeimlad o gywilydd, gobeithio.

Felly, hoffwn nodi rhai pwyntiau pwysig o'u hymchwil. Dywedodd 52 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd benywaidd eu bod yn ymwybodol fod cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim ar gael iddynt yn eu hysgol. Dywedodd y rhan fwyaf eu bod yn gwybod sut i gael gafael arnynt, ac roeddent yn hapus â'r hyn a oedd ar gael. Ond pan ofynnwyd iddynt os oedd eu misglwyf wedi effeithio ar eu presenoldeb, dywedodd 46 y cant ei fod wedi peri iddynt golli'r ysgol. Er ei fod yn cyd-fynd â data Plan, efallai mai crafu'r wyneb yn unig y mae hyn, gan nad oedd pob un o'r ymatebwyr wedi dechrau eu misglwyf mewn gwirionedd. Dywedodd 62 y cant o'r ymatebwyr fod cael misglwyf yn effeithio ar eu perfformiad yn yr ysgol uwchradd. Ac yn olaf, er bod dros hanner y disgyblion wedi cael gwybodaeth am fisglwyf yn ystod eu haddysg gynradd, dywedodd chwech o bob 10 nad oedd eu hysgol uwchradd yn darparu addysg ddilynol ynglŷn â hyn. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, dywedodd 100 y cant o ysgolion uwchradd a ymatebodd eu bod yn teimlo eu bod yn cynnig dosbarthiadau priodol i'w disgyblion. Nid wyf yn credu bod hwn yn achos o un grŵp yn gywir a'r llall yn anghywir. Rwy'n meddwl ei fod yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mewn canfyddiad ac yn dangos efallai fod angen i ysgolion ystyried mabwysiadu dulliau amgen i wneud yn siŵr fod merched a menywod ifanc yn gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Hefyd, rwyf am nodi dau bwynt pellach o'r ymchwil. Dywedodd nifer fach o ysgolion uwchradd eu bod eisoes yn dyrannu cyllideb gyfyngedig ar gyfer prynu cynhyrchion misglwyf, ond nad oedd y mwyafrif helaeth yn gwneud hynny. Fel arfer, yn lle hynny, roeddent yn dibynnu ar staff i brynu'r eitemau, a defnydd o arian mân, neu eitemau am ddim a adawyd ar ôl wedi i'r nyrs ysgol ymweld i drafod y glasoed. Mae ysgolion yn hysbysu disgyblion fod y cynhyrchion hyn ar gael mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn amrywio o sgyrsiau cynnil i drafodaethau dosbarth yn y cyfnod pontio a gwersi addysg bersonol a chymdeithasol blwyddyn 7. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes dull cyson ar draws yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir ledled Cymru hefyd.

Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, hoffwn edrych ar beth y mae Rhondda Cynon Taf yn ei gynnig fel ateb mewn gwirionedd. Bydd bellach yn orfodol yn fy awdurdod lleol i bob ysgol gyda merched naw oed a hŷn ddarparu amrywiaeth o gynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim y gellir cael gafael ynddynt—ac mae hyn yn hollbwysig—yn annibynnol yn y toiledau. Datblygir adnoddau ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth ymysg dysgwyr, staff, rhieni a gofalwyr. Caiff camau eu cymryd hefyd i wella ansawdd y ddarpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gydag athrawon i ddileu stigma neu embaras. Gwn hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant, fel y mae'r Aelodau eraill wedi dweud eisoes, i gynorthwyo cynghorau er mwyn sicrhau bod prosiectau o'r fath yn cael eu hariannu. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

15:30

Rwyf innau hefyd yn falch iawn fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno a'i bod mor drawsbleidiol ar draws y Siambr. Mae'n wych gweld y mater hanfodol hwn yn cael cyhoeddusrwydd a chefnogaeth o'r fath o bob rhan o'r Siambr, yn wir. Rwy'n mynd i'w ailadrodd oherwydd mae'n werth ei ailadrodd—mae'n gwbl annerbyniol fod yna fenywod a merched yng Nghymru nad ydynt yn gallu ymgymryd â'u gweithgareddau bob dydd arferol am na allant fforddio prynu cynhyrchion misglwyf hanfodol i fenywod pan fo'u hangen arnynt. Mae'n gwbl amlwg nad yw pobl sy'n troi at fanciau bwyd oherwydd na allant fforddio bwydo eu teulu yn gallu fforddio hanfodion eraill chwaith. Ac mae'n gwbl warthus, fel y mae llawer o'r Aelodau—yr Aelodau i gyd, rwy'n credu—wedi dweud, yn gwbl warthus fod pobl yn gorfod dewis rhwng bwyd ac urddas.

Mae llawer o'r Aelodau hefyd wedi sôn am yr ymchwil a wnaed gan Plan International sy'n rhoi syniad o ba mor gyffredin yw'r broblem yn y DU. Mae nifer o'r Aelodau wedi crybwyll Rhondda Cynon Taf hefyd, ac mae eu hymchwil wedi bod yn hynod ddefnyddiol yn taflu goleuni ar ba mor annigonol yw cyfleusterau toiled ac ymolchi ar gyfer merched, a sut y maent wedi cyflwyno atebion arloesol. Mae arnaf ofn gorfod cyfaddef hyn yn gyhoeddus—ond credaf ei fod yn werth ei gyfaddef, a gobeithio y bydd Leanne Wood yn fy helpu yma—ond roeddwn ar banel gyda'r cynghorydd ifanc rhagorol, ac mae ei henw wedi mynd allan o fy mhen yn llwyr—

Elyn Stephens. Diolch yn fawr iawn. Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, siaradodd yn frwd am y frwydr i fwrw'r agenda hon yn ei blaen a pham ei bod hi'n teimlo mor gryf am y peth. Roedd yn drawiadol iawn wrth wneud hynny, ac roedd yn fraint cael ei chlywed. Mae'n dyst i gynghorwyr yn Rhondda Cynon Taf eu bod wedi parhau i gael yr agenda hon i symud. Roedd hi'n ysbrydoledig iawn yn y modd y siaradai amdano, ac yn sicr yn werth gwrando arni, ac rwy'n mynd i gael y fraint o'i chyfarfod i siarad ymhellach am yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth ymhen pythefnos. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny. Fe siaradodd lawer iawn, nid yn unig am dlodi misglwyf, ond fel y mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr wedi sôn, am urddas misglwyf a'r angen am addysg ac am wybodaeth, a sut y mae addysg a gwybodaeth yn hanfodol er mwyn cynnal urddas, yn ogystal â chael yr arian sy'n angenrheidiol er mwyn cael hanfodion yn eich bywyd. Ac felly, rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws yr elfennau hynny yn Llywodraeth Cymru, er mwyn cael hynny i gyd—tlodi misglwyf ac urddas misglwyf—yn rhan o'n polisi ar y mater hwn.

Fel y soniodd llawer o'r Aelodau eisoes, rydym wedi llunio cronfa'n gyflym iawn o £700,000 o arian grant cyfalaf, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi manteisio ar y cynnig hwnnw o arian grant. Defnyddir y rownd o gyllid i wneud gwelliannau angenrheidiol i gyfleusterau toiledau ysgol lle nad ydynt yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion. A hoffwn dynnu sylw, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, at y ffaith bod hynny'n cynnwys ysgolion cynradd, lle mae'r toiledau'n aml yn annigonol ar gyfer hynny. Gallai olygu darparu biniau neu newidiadau i giwbiclau toiled.

Cynigir rowndiau eraill o gyllid gwerth cyfanswm o £440,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn nesaf i ategu'r grant. Mae gennym nifer o awdurdodau lleol sydd eisoes wedi derbyn y cynnig o arian y flwyddyn gyntaf, ac rydym yn gweithio gyda phob un ohonynt i wneud yn siŵr ein bod yn gwasgaru hwnnw ar draws Cymru. Defnyddir hwn i ddarparu cynhyrchion misglwyf i fenywod drwy rwydweithiau awdurdodau lleol, ac mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector lleol. Yn y bôn, ein nod yw sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael ar gyfer y rhai na allant eu fforddio. Mae banciau bwyd yn fan dosbarthu pwysig, ac rwy'n credu bod Jane Hutt wedi crybwyll banciau bwyd penodol yn ei hardal hi hefyd. Ond ceir mannau eraill posibl, megis llochesi i'r digartref a llochesi i fenywod, er enghraifft. Gwn fod Caroline Jones wedi crybwyll un yn fy etholaeth sy'n dda iawn o ran y pecynnau y maent yn eu rhoi at ei gilydd—fe'u gelwir yn becynnau gofal. Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid â chynhyrchion misglwyf yn unig y mae'n ymwneud mewn gwirionedd. Maent yn darparu deunydd ymolchi a sychu ac ati.

Daw hynny â mi at y peth nesaf yr ydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ei ystyried, sef darparu cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu gynnyrch ecogyfeillgar, oherwydd fel y nododd sawl Aelod, mae deunydd misglwyf yn gallu bod yn anodd iawn ei ailgylchu mewn gwirionedd, a gall achosi problemau ecolegol annerbyniol eraill, ac rydym am allu mynd i'r afael â rhai o'r rheini ar yr un pryd. Felly, credaf y dylid cymeradwyo ymdrechion awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod angen camau gweithredu pellach er hynny, ac maent y tu allan i'r system addysg yn ogystal. Ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod hi'n werth crybwyll, fel y mae llawer o bobl wedi sôn, fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i fod yn gwneud datganiad ar yr adroddiad rhyw a pherthnasoedd iach yn ddiweddarach y mis hwn, ymhen ychydig wythnosau.

Felly, o ran gweithredu yn y dyfodol, mae gennym swyddogion yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i archwilio opsiynau pellach, gan gynnwys darpariaeth drwy bartneriaethau cymunedol a gwasanaethau iechyd rhywiol. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer dosbarthu drwy raglenni sy'n targedu teuluoedd incwm isel, megis Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Hefyd, rydym yn cael cyfres o gyfarfodydd rheolaidd gyda chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, fel y gallwn ddysgu o'r camau a roddir ar waith gan y tair Llywodraeth a chynnig cefnogaeth ar bolisïau newydd i fynd i'r afael â thlodi misglwyf ac urddas misglwyf. Ac, fel y bydd yr Aelodau oll yn gwybod, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn imi gynnal adolygiad cyflym o'n polisïau rhywedd a chydraddoldeb er mwyn rhoi hwb newydd i'n gwaith yn y maes hwn, a bydd hyn yn sicr yn cynnwys adolygiad o'r mater tlodi ac urddas misglwyf y mae'r Aelodau yn ei godi, ac sydd eisoes wedi'i godi gan randdeiliaid yn ein digwyddiadau cychwynnol i randdeiliaid.

O ran addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu potensial llawn, waeth beth fo'u cefndir a'u hamgylchiadau, ac mae hyn yn cynnwys helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a grëwyd gan amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Felly, mae gan ysgolion drefniadau ar waith sy'n cael eu deall yn dda i gefnogi llesiant dysgwyr. Dylai disgyblion wybod ble i fynd ac fel y nododd Vikki Howells, mae'n hanfodol fod cyfathrebu'n digwydd yn yr ysgol, fel eu bod yn gwybod â phwy i siarad os oes angen cynnyrch misglwyf arnynt pan fyddant yn yr ysgol, gan gynnal urddas. Gall merched yn eu harddegau yn arbennig fod yn sensitif iawn ynglŷn â'r materion hyn. Wrth edrych ymlaen, mae'r cwricwlwm newydd yn mynd i gynnwys y materion hyn, a bydd yn ystyried sut y mae amgylchedd yr ysgol yn cefnogi iechyd a lles cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol disgyblion, a bydd yn gyfrwng i gefnogi un o brif nodau'r cwricwlwm newydd ac yn helpu ein plant i fod yn unigolion iach a hyderus.

O ran iechyd, mae tlodi misglwyf, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi, yn fater iechyd yn ogystal. Mae tlodi misglwyf i fod i gael ei drafod yng nghyfarfod nesaf bwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, oherwydd mae'n hanfodol fod gan bob merch a dynes ffordd o gael y cynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt, yn enwedig os oes ganddynt broblemau iechyd yn ogystal. Mae hylendid mislif effeithiol yn hanfodol i iechyd, lles, urddas, grym, symudedd a chynhyrchiant menywod a merched ac felly, mae'n elfen hanfodol o waith y Llywodraeth hon mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i gadw llygad ar ymchwil sy'n dod i'r amlwg i lywio penderfyniadau a wnawn a sicrhau bod y camau a gymerwn yn cefnogi cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru. Rwy'n awyddus i wybod mwy ynglŷn â sut yr effeithir ar deuluoedd incwm isel yng Nghymru. Felly, bwriedir cyflawni ymchwil i faint tlodi misglwyf ymhlith defnyddwyr banciau bwyd, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, ar gyfer y misoedd i ddod. Mae swyddogion hefyd yn edrych ar opsiynau i weithio gyda'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, sy'n rheoli cronfa dreth ar damponau Llywodraeth y DU, i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar fudd y gronfa honno yng Nghymru.

Felly, credaf fod yna amrywiaeth o faterion yn codi, ond rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gyflwyno'r mater i ni allu ei drafod yn llawn. Hoffwn ddweud hefyd y buaswn yn croesawu unrhyw syniadau eraill y mae'r Aelodau am eu cyflwyno fel rhan o'r adolygiad, neu mewn unrhyw ffordd arall, fel y gallwn ystyried sut y gallem gefnogi'r syniadau hynny yn y ffordd orau. Diolch.

15:35

Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gennyf i gloi'r ddadl, a diolch yn fawr iawn i Jane Hutt am ofyn i mi wneud hynny. Mi gychwynnodd Jane drwy drafod y stigma sydd ynghlwm â'r mislif, yn ogystal â fforddiadwyedd cynhyrchion hylendid, ac, wrth gwrs, mae'r cynnig yn sôn am wella ymwybyddiaeth ac addysg ynglŷn â'r mislif a thorri'r tabŵ. Rydw i'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n trafod y pwnc yn y Siambr yma heddiw yn cychwyn ar y daith honno o dorri'r tabŵ. Nid yw Leanne yn ein cofio ni'n cael trafodaeth ar y mislif yn y Siambr yma o'r blaen. Nid wyf i wedi bod yma mor hir â hynny, ond rydw i'n cymryd nad oes yna ddim trafodaeth o'r math yma wedi bod tan rŵan, felly rydym yn y broses o dorri'r tabŵ yn trafod y mater fel yr ydym ni heddiw. 

Mi wnaeth Leanne ein hatgoffa bod diffyg cynhyrchion hylendid mislif yn yr ysgolion, a'r ffaith bod merched yn cael trafferthion yn prynu'r defnyddiau yma, yn arwydd o dlodi a bod tlodi yn achos ffeministaidd a bod rhaid mynd at wraidd y broblem a thaclo'r broblem a thaclo tlodi fel rhan o hynny, a dyna pam mae angen strategaeth lawn i daclo tlodi. Mi soniodd Leanne hefyd am bwysigrwydd addysg rhyw a pherthnasoedd iach ac mae hwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei drafod ers rhai blynyddoedd, rwy'n credu—pwysigrwydd hynny. Rwy'n falch iawn o glywed y prynhawn yma gan arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar y mater yna yn ystod y mis yma, felly edrychwn ni ymlaen at hynny.

Mi wnaeth Caroline atgyfnerthu'r ddadl ac, yn wir, rwy'n cytuno—mae'n anodd credu bod tlodi mislif yn digwydd yn 2018. Mi soniodd Vikki Howells am y grŵp ymchwil—y grŵp tasg—yn Rhondda Cynon Taf, a buaswn i hefyd yn hoffi cyfeirio at waith y grŵp tasg yna a hefyd i ddiolch i'r cynghorydd Elyn Stephens a chriw Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf am arwain ar hyn drwy Gymru, a hynny o'r cychwyn cyntaf. Dair blynedd yn ôl, fe gyflwynodd Elyn gynnig i gynhadledd Plaid Cymru ar ôl trafod y mater efo Plaid Ifanc tra roedd hi'n aelod o'r mudiad hwnnw. Roedd Elyn ei hun wedi dioddef o dlodi mislif ar ôl cael ei magu gyda'i dwy chwaer gan ei mam, a oedd yn rhiant sengl a oedd yn dibynnu ar fudd-dâl anabledd ar gyfer cynnal y teulu. Meddai Elyn, 'Roeddem ni'n wynebu'r dewis o brynu bwyd, gwresogi, dillad neu gynhyrchion hylendid mislif, a'r olaf oedd yn colli allan bob tro.'

Ar ôl i Elyn gael ei hethol fel cynghorydd yn mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, mi aeth hi ati i geisio cael y maen i'r wal efo cael defnyddiau hylendid mislif am ddim yn ysgolion Rhondda Cynon Taf. Ni chafodd y cynnig a wnaeth hi roi gerbron y cyngor ddim ei basio'r tro cyntaf, ac yn wir, mae hi wedi dweud wrthyf fi ei bod hi, y noson, honno, wedi cael negeseuon gan gyd-cynghorwyr yn dweud wrthi nad oedd hi ddim wedi gwneud digon o ymchwil, ac mae'n siŵr bod pobl yn gallu fforddio 50c am dampon, a'r math yna o ymagwedd. Dyna oedd yr agwedd ar y cychwyn. Ond mi wnaeth hi ddyfalbarhau ac mi wnaeth y cyngor gyfeirio'r mater i'r pwyllgor craffu ar gyfer gwneud mwy o ymchwil. Pedair o gynghorwyr Plaid Cymru a wnaeth y gwaith yma, gan anfon holiaduron i fenywod ifanc mewn ysgolion ar draws yr ardal. Mae Vikki Howells wedi sôn am rhai o ganlyniadau'r gwaith ymchwil yna, ond mi oedd pethau fel hyn yn cael eu dweud gan y menywod a oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg: 'Nid yw mislif byth yn cael ei drafod yn yr ysgolion', 'Nid ydyn nhw'n dweud wrthym bod gennym ni hawl i gael cynhyrchion hylendid oni bai bod yna ddamwain yn digwydd', a'u bod nhw ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn i athrawon gwrywaidd i gael cynhyrchion. 

15:40

A gytunwch chi hefyd fod angen inni edrych ar atebion cynaliadwy? Mae hyn yn ymwneud â mwy na threchu tlodi a mater urddas. Pan edrychwch ar faint o damponau a waredir i lawr y system garthion bob blwyddyn ac anghynaliadwyedd llwyr hyn, rhaid inni hefyd edrych ar addysgu merched am eu cyrff a sut y maent yn gweithredu a sut i osod Mooncup, oherwydd mae Mooncup yn costio rywle rhwng £15 i £20 a bydd yn para am flynyddoedd lawer. Dyna rywbeth gwirioneddol bwysig rwyf am ei bwysleisio yn y ddadl hon, oherwydd os ydym yn rhuthro i gynhyrchu mwy o finiau ar gyfer deunydd misglwyf ac i ailgynllunio toiledau mewn ysgolion, mae angen inni ystyried y posibilrwydd y bydd merched yn y dyfodol yn llawer mwy cyffyrddus a chyfarwydd â'r ffordd y mae eu cyrff yn gweithio ac felly byddant yn gallu defnyddio Mooncup, sy'n golygu nad oes rhaid iddynt fynd i'r toiled bob pedair awr, ni fyddant yn wynebu'r risg bosibl o syndrom sioc wenwynig y gallwch ei gael o damponau, ac mae hefyd yn golygu nad ydynt yn gorfod talu'r holl arian i'r cwmnïau sy'n cynhyrchu'r cynhyrchion hyn, sy'n codi llawer iawn mwy nag y maent yn ei gostio i'w cynhyrchu. Felly, hoffwn grybwyll hynny a sicrhau ein bod yn cadw hynny mewn cof yn y ffordd y byddwn yn bwrw rhagddi ar y ddadl hon.

15:45

Rydw i'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno efo'r egwyddor rydych chi'n rhoi gerbron. Mater, efallai, o gynnig y dewis ydy o ar hyn o bryd, ac addysgu mwy a mwy o ferched am fanteision y dulliau mwy cyfeillgar i'r amgylchedd yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Ond rydw i'n meddwl, ar hyn o bryd, ei bod hi yn bwysig bod y dewis yma ar gael, a dyna pam rydw i yn croesawu'r £1 filiwn sydd wedi cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth yma. Ond rydw i'n cyd-fynd efo chi: oes, mae eisiau agor y drafodaeth yma allan yn fwy na dim ond am y mater sydd gyda ni dan sylw fan hyn. Mae eisiau ei agor o allan hyd yn oed yn fwy, onid oes? Mae eisiau ei weld o mewn cyd-destun taclo tlodi, ond mae eisiau ei weld o yng nghyd-destun cydraddoldeb, neu'r diffyg cydraddoldeb sydd yn wynebu menywod yng Nghymru heddiw. Mae o'n symptomatig o hynny—nad ydym ni wedi bod yn trafod y mater tan yn ddiweddar iawn yn fan hyn.

Rydw i'n falch, a dweud y gwir—merched ydy pawb sydd wedi siarad yma heddiw. Efallai bod hynny'n dweud rhywbeth. Mae o'n dweud un peth—mae o'n dweud, pan fo yna ddigon o ferched mewn safleoedd lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, mae materion sydd o bwys i ferched—merched y tu allan i fan hyn, merched yn gyffredinol—yn cael eu trafod. A dyna pam rydw i o blaid ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfartaledd o fenywod yn fan hyn, ond hefyd yn ein cynghorau sir ac ar draws y sectorau cyhoeddus, fel bod materion pwysig fel hyn yn cael sylw.

Jest i dynnu sylw at—. Gwnaethom ni lansio hwn y bore yma: maniffesto cydraddoldeb i ferched a genethod yng Nghymru—maniffesto wedi'i roi at ei gilydd ar y cyd gan bedwar o fudiadau pwysig yng Nghymru sydd yn gweithio tuag at gydraddoldeb. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn gallu noddi'r digwyddiad yma heddiw. Felly, mae eisiau cofio rhoi beth rydym ni'n trafod heddiw yn y cyd-destun mawr hwn, ac rydw i'n mawr obeithio y byddwn ni'n symud ar yr agenda cyffredinol yma hefyd, fel Cynulliad, ac y byddwch chi fel Llywodraeth yn arwain y ffordd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan.

Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw eitem 8, dadl Plaid Cymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6712 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiangen.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.

4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan 'na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym'.

5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rydym wedi clywed y siarad dwbl Orwellaidd y mae'r Llywodraeth hon wedi ei ddefnyddio i gyfiawnhau ei hildiad, a'r modd y cawsom ein cyhuddo o chwifio baner cenedlaetholdeb. Wel, buaswn o leiaf yn dweud nad baner wen yr ildiwr yw ein baner ni.

Heddiw, rwy'n mynd i ddadelfennu'r cytundeb hwn. Rwyf am ei dynnu'n ddarnau, ddarn wrth ddarn, ynghyd â'r cyfiawnhad afresymegol a roddwyd dros ymrwymo iddo. Fel bod meinciau'r Llywodraeth yn deall, fe rannaf fy nghyfraniad yn dair rhan glir. Yn gyntaf, fe amlinellaf faint eu henciliad ac ehangder eu rhagrith drwy dynnu sylw at ddatganiadau a wnaed cyn y cytundeb a sut y maent yn cymharu â'r cytundeb ei hun. Yna, fe symudaf ymlaen at sylwedd y cytundeb a'r gwelliannau, gan amlinellu sut y mae eu cytundeb gyda'r Torïaid yn peryglu egwyddor datganoli mewn modd sylfaenol iawn. Yn olaf, fe amlinellaf beth y mae'r cytundeb yn ei olygu ar gyfer dyfodol datganoli, ac yn sylfaenol sut y mae'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru.

Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf ddweud nad oes ond un gair i ddisgrifio ymagwedd y Llywodraeth hon: rhagrith. Ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog darllenais ddyfyniad gan y Prif Weinidog yn ymwneud â'i wrthwynebiad ar y pryd i'r Bil ymadael. Gan nad oedd yno ar y pryd, hoffwn ei atgoffa o'r hyn a ddywedodd ar 27 Tachwedd 2017. Dywedodd:

ni fyddem yn derbyn cymal machlud. Pwy sydd i ddweud na fyddai'n cael ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol? Mae'n fater o egwyddor.

Bellach, mae cymal machlud pum mlynedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddi. Ym mis Ionawr eleni, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol erbyn hyn:

Ni chredaf am eiliad fod greddf Llywodraeth San Steffan na'r Prif Weinidog o blaid unrhyw broses a fyddai'n caniatáu'n hawdd i Gymru gael y pwerau o Frwsel yr ydym yn eu haeddu ac y mae gennym hawl iddynt.

Mae'r ddeddfwriaeth yr ydych bellach wedi ymrwymo i'w chefnogi yn golygu bod 24 o feysydd polisi datganoledig yn symud dan reolaeth San Steffan. Gadewch imi fynd ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i'r adeg pan oeddem yn gyd-awduron 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Y pryd hwnnw, roedd safbwynt y Llywodraeth yn wahanol iawn. Ar dudalen 28 y Papur Gwyn hwnnw mae'n dweud mai ei pholisi craidd

'yw na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym.'

Mae 'gwrthwynebu' i'w weld yn gyfystyr ag 'ildiad' yn thesawrws Ysgrifennydd y Cabinet. Gadewch imi egluro pam fod ildio un pŵer yn wan ac ildio 26 o feysydd polisi cyfan yn druenus. Ceir nifer bron yn ddi-ben-draw, i ddyfynnu Prif Weinidog Cymru, o enghreifftiau sy'n amlygu rhagrith Llafur, ond tynnaf sylw at un arall yn unig. Yr wythnos diwethaf, yn ei ddatganiad i'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet

'Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11'

wedi'i gynnwys yn y Bil hwn. Drwy gytuno i gytundeb gyda'r Torïaid yn San Steffan, cael gwared ar y Bil parhad ac ildio ein holl ddylanwad i bob pwrpas, mae wedi sicrhau bod yr hyn a fyddai wedi bod orau ganddo bellach wedi'i golli.

Dywed y Blaid Lafur yn yr Alban fod y Bil hwn yn ddiffygiol. Credai ef ei hun ei fod yn ddiffygiol. Mae aelodau ei feinciau cefn ei hun yn meddwl ei fod yn ddiffygiol. Eto, mae'r Llywodraeth hon wedi ein bradychu. Mae'n embaras fod y Llywodraeth hon wedi dweud y pethau a wnaeth a bellach yn ceisio dweud wrth bobl Cymru ei bod wedi sicrhau cytundeb da. Roedd gennych bryd o fwyd seren Michelin ac rydych wedi gwneud stomp ohono. Ni fyddwn yn anghofio, ac ni wnaiff pobl Cymru anghofio chwaith.

Gadewch imi droi at ail bwynt fy araith, sef sylwedd y cytundeb amheus hwn. Mae dwy ran iddo: cyfres o welliannau i'r ddeddfwriaeth a chytundeb gwleidyddol heb unrhyw bwysau cyfreithiol. Fe soniaf am y gwelliannau yn gyntaf. Cydsyniad, cytundeb, y weithdrefn gadarnhaol—nid yw'n gysyniad anodd. Mae 'ie' yn golygu 'ie', mae 'na' yn golygu 'na'. Fodd bynnag, ym myd pen-i-waered Llywodraeth Cymru, mae 'ie' yn golygu 'ie', a 'na' bellach hefyd yn golygu 'ie'.

Er mwyn inni fod yn glir, gadewch imi ddarllen, air am air, union eiriad y gwelliant y mae'r Llywodraeth yn argymell ein bod yn ildio iddo. Gwelliant 89DA, a gyflwynwyd yn enw'r Arglwydd Callanan, adran 2(4), yn y cyfeiriad at is-adran (3)— penderfyniad cydsynio yw:

(a) penderfyniad i dderbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, (b) penderfyniad i beidio â derbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, neu (c) penderfyniad i dderbyn cynnig yn gwrthod cydsynio i osod y drafft.

Bellach gall San Steffan ddehongli cydsyniad fel (a) cydsyniad, (b) cydsyniad i beidio, (c) unrhyw beth arall y mae'n ei ddymuno. Yr unig gymhariaeth y gall arbenigwyr cyfreithiol yn y Cynulliad hwn ddod o hyd iddo yw deddfwriaeth gynllunio Llywodraeth Leol, ac mae honno hyd yn oed yn gryfach na'r hyn sydd wedi ei dderbyn yma. Mae San Steffan yn trin y Cynulliad hwn fel cyngor lleol ac mae ein Llywodraeth yn fodlon ar hynny.

Ddoe—.

15:50

A wnewch chi ildio? Mewn ymateb i'r pwynt hwn yn gynharach, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y gwelliant hwn a'r holl welliannau yn amodol ar gonfensiwn Sewel beth bynnag. Ond fel y nodwyd gennych, wrth gwrs, ar saith achlysur gwahanol, mae Llywodraeth San Steffan wedi anwybyddu confensiwn Sewel. Felly, nid yw'n rhoi unrhyw amddiffyniad o gwbl i ni.

Ac mae'n dangos yn union pam na ellir ymddiried yn y Torïaid ar hyn.

Ddoe, ceisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ddadlau ynghylch semanteg penderfyniad cydsynio yn hytrach na chydsyniad. Unwaith eto, nid oes unrhyw wahaniaeth. Yr hyn rydych wedi'i ildio yw y gall San Steffan ddehongli 'na' fel 'ie', ac mae'n sefyllfa lle byddant hwy ar eu hennill a ninnau ar ein colled beth bynnag sy'n digwydd.

Gadewch inni droi at y cytundeb fel y'i gelwir. Ymddiriedaeth nid cyfraith sy'n sail i'r cytundeb hwn, ac nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid yn San Steffan i weithredu er budd cenedlaethol Cymru, ond mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn gwneud hynny. A'r cysyniad o ymddiriedaeth sydd wrth wraidd y cytundeb hwn gyda'r Torïaid. Fel rhan o'r cytundeb, mae Llafur yn ymddiried mai'r 26 maes polisi a amlinellir yn y cytundeb yn unig y bydd San Steffan eisiau adfer rheolaeth arnynt. Ni chodeiddiwyd hyn yn unman yn y ddeddfwriaeth, a gallai gynyddu i unrhyw nifer ag y gwelant yn addas. A gadewch i ni fod yn glir: ni ddatganolir unrhyw bwerau ychwanegol o ganlyniad i'r cytundeb hwn. Yn syml, pwerau a oedd gan y Cynulliad hwn eisoes a arferir gan y Cynulliad hwn, ac nid yw hynny'n gyfystyr â phwerau ychwanegol. Dyma'r isafswm lleiaf y mae'r setliad datganoli yn ei ganiatáu, ac mae honni fel arall yn camarwain y Cynulliad hwn a phobl Cymru.

Ond nid dyna'r peth gwaethaf. Mae'r ddogfen fer sy'n amlinellu'r cytundeb yn cynnwys nifer trawiadol o gonsesiynau. Bydd fy nghyd-Aelodau'n tynnu sylw at lawer mwy, ond un o'r rhai mwyaf annifyr yw'r modd y caiff Cymru ei thrin yn wahanol i Loegr. Rwy'n cyfaddef bod hyn yn gymhleth, ond yn y cytundeb nad yw'n rhwymo—[Torri ar draws.]—ceir ymrwymiad niwlog i ddeddfu ar faterion Lloegr yn unig.

15:55

Diolch. I fynd â chi yn ôl ychydig eiliadau ar gwestiwn pwerau, oherwydd rwyf wedi drysu braidd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd pwerau mewn meysydd—maent yn feysydd datganoledig—ond bydd pwerau a ddelir ym Mrwsel ar hyn o bryd o ganlyniad i'r cytundeb hwn yn dod i'r Cynulliad hwn, yn hytrach nag i San Steffan. Felly, sut y gallwch ddweud na ddaw unrhyw bwerau ychwanegol i'r Cynulliad hwn? Byddant yn dod.

Mater i San Steffan yw penderfynu hyn i gyd. Partner iau ydym ni yn y broses.

Nawr, yn y cytundeb nad yw'n rhwymol ceir ymrwymiad niwlog i beidio â deddfu ar faterion Lloegr yn unig, ond yn y gwelliant sy'n rhwymol yn gyfreithiol caiff Cymru ei gwahardd yn eglur rhag deddfu ar faterion Cymru yn unig. Gadewch imi roi enghraifft i'r Aelodau. Gall San Steffan ddeddfu ar ffermio, sy'n faes polisi a ddatganolwyd, gymaint ag y dymuna, ac o ran hynny, gallant ddeddfu i newid y rheolau ar gyfer ffermwyr Cymru heb gydsyniad y Cynulliad. Eto, yn y maes polisi datganoledig hwn, ni fydd Cymru'n cael deddfu, ac ni cheir enghraifft amlycach o gipio pwerau na hynny. Yn y bôn, mae goruchafiaeth seneddol drosom a'r modd y caiff Lloegr driniaeth arbennig yn dangos lefel y dirmyg, y diffyg ymddiriedaeth a'r diffyg diddordeb sydd gan San Steffan tuag at Gymru. Mae ein dwylo wedi'u clymu gan y gyfraith, lle mae Lloegr yn gallu gwneud beth bynnag y mae'n ei ddymuno.

Rwyf am symud ymlaen yn awr at drydedd ran, a rhan olaf hyn: beth y mae'r cytundeb hwn gan Lafur a'r Torïaid yn ei olygu i fywydau pobl? Mae'r cwestiynau cyfansoddiadol cymhleth yn aml yn haniaethol, ond ceir llawer o ganlyniadau eglur a syml i'r ildiad hwn. Gadewch inni ddechrau gyda'r 26 maes polisi lle bydd San Steffan bellach yn dal yr holl awenau. Diolch i Lafur, bydd y Torïaid yn San Steffan yn gallu penderfynu ar fframwaith taliadau fferm, cymorth a phob math o reoliadau amaethyddol eraill, heb unrhyw ystyriaeth o sylwedd i'r hyn y mae Cymru ei eisiau. Nawr, bydd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd yn amlinellu goblygiadau'r cytundeb hwn i ffermydd yn fwy manwl, ond hoffwn ofyn rhai cwestiynau i'r Prif Weinidog. A yw'n credu mai barwniaid barlys Lloegr neu ffermwyr mynydd Cymru fydd yn ennill cefnogaeth San Steffan? Pan fydd cytundebau masnach yn ei gwneud hi'n angenrheidiol i agor marchnadoedd bwyd, beth y mae'n argymell y dylem ei wneud, gan wybod ein bod wedi colli'r holl bwerau i'w atal rhag digwydd?

Gadewch inni edrych ar y peth mewn ffordd arall. Yn y cytundeb hwn, mae gennym gwestiwn ynghylch caffael cyhoeddus. Boed yn ddur, yn gymorth gwladwriaethol neu ein GIG, mae caffael cyhoeddus yn hanfodol i economi Cymru ac i'n sefydliadau cymunedol. Bellach, bydd y pwerau dros gaffael cyhoeddus yn San Steffan. A ydynt yn ymddiried yn y Torïaid i beidio ag agor ein GIG i gwmnïau preifat? Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn eisoes yn Wrecsam, ond gan eich bod bellach wedi rhoi pwerau y gallech chi fod wedi'u cael i rymuso San Steffan, pa obaith sydd gennych o'u hatal rhag agor ein GIG i fwy o gwmnïau preifat? Boed yn gytundeb masnach a buddsoddi trawsatlantig dull partneriaeth neu ryw gytundeb masnach arall, mae awydd y Torïaid i gyfiawnhau Brexit â chytundebau rhyngwladol newydd yn rhoi ein GIG mewn perygl, ac mae'r Llywodraeth hon newydd roi pwerau i'r Torïaid ddifetha ein gwasanaeth iechyd yn y weithred ofer hon.

Roedd datganoli'n cynnig ffordd well i ni, ffordd wahanol, ac rydych wedi dewis ildio hynny. Dros y dyddiau diwethaf, mae fy mhlaid wedi siarad ag arbenigwyr cyfansoddiadol, deddfwyr a chyfreithwyr. Maent i gyd yn dilorni hyn fel cytundeb amheus. Mae ein harweiniad wedi mynd, ein dylanwad wedi'i golli, a'n Cynulliad wedi'i wanhau, ac nid wyf hyd yn oed yn argyhoeddedig fod y Llywodraeth hon yn deall yn iawn beth y mae wedi ei wneud. Mae 'na' yn golygu 'ie' bellach; nid yw dau refferendwm datganoli yn golygu dim mwyach; ac mae San Steffan yn adfer ei goruchafiaeth dros Gymru. Rydym mewn byd cwbl newydd.

Rydym bob amser wedi derbyn y bydd angen fframweithiau a mecanweithiau i sicrhau gweithrediad y llyfr statud, ond nid fel hyn. Heno, byddwn yn pleidleisio ar y cytundeb amheus hwn, ac i gloi hoffwn wneud apêl: os ydych yn credu mewn datganoli, os ydych yn credu mewn Cymru well, os ydych yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru, yna ymunwch â ni. Mae'r gyfraith ar ein hochr ni a bydd hanes ar ein hochr ni hefyd. Aelodau'r Cynulliad, mae eich dewis chi heno yn syml: ymuno â'r rhai sy'n credu mewn Brexit a phleidleisio dros y cytundeb amheus hwn neu sefyll dros Gymru a phleidleisio yn erbyn y fath frad.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies?

Gwelliant 1. Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu:

a) y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);

b) y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau;

c) bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE;

d) y ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan y pwerau sydd wedi'u rhewi yng nghymal 11;

e) y terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig; ac

f) bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i'w gyflwyno yn dilyn hynny yn Senedd y DU. Golyga hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell yn awr fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Felly, gadewch imi ailadrodd y diolch a'r llongyfarchiadau a roddais i Mark Drakeford a David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet y DU, am y ffordd bwyllog, aeddfed a phragmatig y maent wedi cynnal trafodaethau i sicrhau cytundeb pan drafodasom hyn yn faith yma yr wythnos diwethaf.

Unwaith eto, ar ôl trafod y mater hyd syrffed un wythnos, mae Plaid Cymru yn ceisio mynd ar ei drywydd y tu hwnt i syrffed. Ni allant help, a hwythau'n gaeth i hualau ideolegol canfyddiadau ffug a rhagfarn ymrannol. Cyrhaeddodd y cytundeb y cyfaddawd sy'n ofynnol ar y ddwy ochr, lle roedd pob ochr yn cydnabod yr angen am fframweithiau ledled y DU mewn meysydd penodol er mwyn osgoi amharu ar farchnad fewnol y DU. Mae'n drueni nad yw Plaid Cymru i'w gweld yn rhannu'r gydnabyddiaeth honno.

Bydd y newidiadau arfaethedig i'r Bil yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i'r Seneddau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE. Er y bydd pwerau dros bolisi datganoledig yn parhau i fod yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, bydd Llywodraeth y DU yn cael pwerau dros dro dros nifer fach o feysydd polisi a fydd yn dychwelyd iddynt fel y gellir gosod fframweithiau ledled y DU yn lle llyfr rheolau yr UE er mwyn sicrhau na chaiff rhwystrau newydd eu creu o fewn y DU i ddefnyddwyr a busnesau.

Rwy'n cynnig gwelliant 1 felly, sy'n cynnig bod y Cynulliad yn croesawu'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn croesawu y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau, yn croesawu bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE, yn croesawu'r ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan yr hyn a elwir yn bwerau 'wedi'u rhewi yng nghymal 11', yn croesawu'r terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig, ac yn croesawu bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod y Cynulliad hwn yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.

Er y bydd Gweinidogion y DU yn gallu nodi drwy reoliadau y meysydd polisi lle byddai cymhwysedd datganoledig yn cael ei rewi tra bo'r fframweithiau newydd yn cael eu cytuno, mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn golygu bod yn rhaid iddynt geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i gynnwys maes polisi o dan y pwerau a fydd wedi'u rhewi yng nghymal 11. Er y bydd Senedd y DU yn rhydd i allu cymeradwyo'r rheoliadau ar gyfer y rhewi os caiff cytundeb deddfwrfa ddatganoledig ei wrthod neu os na chaiff ei ddarparu o fewn 40 niwrnod, bydd hyn yn ddarostyngedig i ddatganiad a wneir gan Weinidogion y DU i Senedd y DU yn egluro pam eu bod wedi penderfynu gwneud rheoliadau heb gytundeb deddfwrfa ddatganoledig, a gosod unrhyw ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pham na roddwyd cydsyniad gan y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau'n rhydd wedyn i drafod a phleidleisio ar hynny yn Senedd y DU.

Yn groes i honiadau Plaid Cymru, hysbysodd cyfreithwyr y Cynulliad y pwyllgor materion allanol ddydd Llun na fydd Senedd y DU yn gallu cymryd yn ganiataol fod y Cynulliad wedi cydsynio os mai ei phenderfyniad cydsynio fyddai gwrthod cydsyniad. Dyna oedd y cyngor gan gyfreithwyr y Cynulliad. Rydym wedi galw ers tro am derfyn amser neu gymal machlud ar unrhyw gyfyngiad dros dro ar gymwyseddau datganoledig, ac mae'r cytundeb hwn yn darparu terfyn amser o ddwy flynedd ar ôl y diwrnod gadael ar y pŵer i wneud rheoliad os na chaiff ei ddirwyn i ben yn gynt, ac o bum mlynedd wedi iddynt ddod i rym ar y rheoliadau eu hunain os na chânt eu dirymu cyn hynny.

Wrth ddyfynnu'r Prif Weinidog yma ddoe a heddiw eto, gofynnodd Leanne Wood pwy sydd i ddweud na châi cymal machlud ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwn yn golygu y gellir byrhau cymal machlud er na ellir ei ymestyn. Fel y mae gwelliant y Blaid Lafur hefyd yn ei ddweud, bydd unrhyw fframweithiau DU gyfan yn lle fframweithiau presennol yr UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng y Llywodraethau, byddant yn amodol ar gonfensiwn Sewel, ac er bod y fframweithiau hyn wedi'u negodi, ni fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi wrth y status quo. Am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd yn y Cynulliad, rwy'n falch o allu datgan o blaid cydran o welliant Llafur. Diolch i chi.

16:05

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 2. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.

4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.

5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ie, wel, mae'n dweud y cwbl, onid yw ef? Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, mae'r Ceidwadwyr yn falch i allu llongyfarch y Llywodraeth Lafur ar ei gweithredoedd. Wel, trwy eu gweithredoedd yr adnabyddir rhywun, onid ife? 

Mae wythnos yn amser hir, wrth gwrs, mewn gwleidyddiaeth, ond yn yr achos yma, mae wythnos a dau ddiwrnod ers i'r Ysgrifennydd dros Gyllid ymweld â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yma gan honni yn fanna nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu cyrraedd cytundeb, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i gymal 11 yn Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ond, llai na diwrnod yn ddiweddarach, fe gawsom ni ddatganiad personol gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi cyrraedd cytundeb. Ac, ers hynny, wrth gwrs, mae goblygiadau'r cytundeb yna i gymunedau gwledig yn enwedig, wrth gwrs, sef ffocws fy nghyfraniad i yn bennaf dros y munudau nesaf yma, wedi dod i'r amlwg. 

Ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o ddatganiadau bwriad a pholisi sy'n ymwneud â dyfodol amaeth, gan gynnwys sicrhau bod ffermwyr Cymru am dderbyn pob ceiniog y maen nhw'n ei dderbyn nawr yn dilyn Brexit. Dim ond pythefnos yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig fod gan y Llywodraeth gyfle unigryw i ail-lunio ein polisïau amaethyddol yn unol ag ymagwedd unigryw ac integredig Cymru at ein economi, cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol. Ond, wrth gwrs, yn dilyn y cytundeb yma, wel, mae yna ddryswch llwyr ynglŷn â hynny nawr, a gallu Llywodraeth Cymru i wireddu yr uchelgais mae hi wedi bod yn ei hamlinellu.

Er enghraifft, fe gadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth Prydain dros amaethyddiaeth, George Eustice, ddoe yn y Pwyllgor Materion Cymreig mai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fydd yn penderfynu faint o arian fydd ar gael i ffermwyr yn amodol ar adolygiad gwariant cynhwysfawr y Llywodraeth—y comprehensive spending review—gan gynnwys, wrth gwrs, sut y bydd yn cael ei ddosbarthu ar draws y Deyrnas Gyfunol. Nawr, yn syth, mae amaethwyr wedi'i gwneud hi'n glir eu bod nhw'n poeni os ydy hynny'n digwydd y byddwn ni o bosib yn symud i gylch tair blynedd yn lle saith mlynedd o safbwynt ariannu fel oedd gan CAP. Mae cwestiynau wedyn yn codi o ran eu gallu nhw i gynllunio tymor hir i ddiwydiant sydd yn ddibynnol ar fuddsoddiad cyfalaf sylweddol ac i ddiwydiant sydd â’i reolaeth strategol, wrth gwrs, yn seiliedig ar y tymhorau; ni allwch newid cyfeiriad dros nos, nac, yn wir, mewn cylchdro mor fyr â thair blynedd, yn aml iawn. Ac os ydyw’n ddibynnol ar yr adolygiad gwariant cyhoeddus, yna mi fydd yr arian hwnnw’n cystadlu â’r holl flaenoriaethau eraill. Eisoes rŷm ni wedi cael y cwestiwn wedi’i ofyn: pa mor uchel fydd ffermwyr mynydd Cymru yn ystyriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd hi’n dod i’r materion yma? Mae ffermio, wrth gwrs, yn cynrychioli cyfran helaethach economi Cymru nag economïau gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac felly mae’r risg yn uwch o gael effaith ddifäol.

Nid oes dim byd yn y cytundeb rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn rhoi hyder i fi y bydd llais Cymru yn cael ei gryfhau yn y prosesau trafod yma ynglŷn â dyfodol y diwydiant amaeth. Ac os ydym ni mewn unrhyw amheuaeth o ran beth sydd wedi digwydd fan hyn, yna mae’r llythyr gan y Chancellor of the Duchy of Lancaster—nid oeddwn am drio cyfieithu hynny—wedi ei gwneud hi’n gwbl glir: os nad yw caniatâd yn cael ei roi gan y Llywodraethau neu’r Seneddau datganoledig, yna mi fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn eu cymeradwyo nhw beth bynnag. Mae e mewn du a gwyn, felly lle mae yna ddryswch ynglŷn â hynny? Mae’r Llywodraeth yma yn gamblo gyda dyfodol cefn gwlad er mwyn bodloni ei thueddiadau unoliaethol, yn fy marn i.

Cwestiwn leiciwn i ofyn hefyd yw: pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y cytundeb yma ar Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol? Fel rhywun fuodd yn rhan o graffu'r Ddeddf yna, mae’n egwyddor drefniadol ganolog—dyna oedd y lein: central organising principle—y sector gyhoeddus yng Nghymru, ac mae disgwyl bod polisïau fel amaeth, fel yr amgylchedd, fel caffael cyhoeddus yn cwrdd â gofynion y Ddeddf yna. Mae yna gwestiynau yn fy meddwl i, lle rŷm ni’n mynd yn hynny o beth, ac efallai cawn ni eglurder gan y Prif Weinidog. Ble mae’n ein gadael ni o safbwynt polisi gwrth-GM? Ble mae’n ein gadael ni o ran cig eidion llawn hormonau a allai fod yn dod i’r wlad yma? Cyw iâr wedi’i glorineiddio yn dilyn cytundeb posib gyda Donald Trump, newidiadau i safonau lles anifeiliaid ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Yn olaf, gan fod y cloc yn fy nghuro i, nid dim ond Llafur, wrth gwrs, sy’n rhan o’r weinyddiaeth yma sydd wedi dod i gytundeb. Yn anffodus, nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn ei sedd, ond byddwn i’n leicio gwybod beth yw safbwynt Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y mater yma. A ydyn nhw, fel Llafur, yn ochri gyda’r Ceidwadwyr a UKIP, neu a ydyn nhw’n ochri gyda Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban? Rwy’n meddwl bod angen inni wybod yn union lle maen nhw’n sefyll.

Ac i gloi, mae Llafur yn gwybod—rŷch chi yn gwybod—pan fo UKIP a’r Ceidwadwyr yn ciwio i fyny i’ch llongyfarch chi am wneud rhywbeth, rŷch chi’n gwybod eich bod chi naill ai wedi cael eich twyllo, neu rŷch chi wedi gwneud camgymeriad. A’r tristwch fan hyn, wrth gwrs, yw mai pobl Cymru fydd yn talu’r pris.

16:10

Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma, mewn gwirionedd, drwy roi cydnabyddiaeth i'r gwaith a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Dylai pawb yn y Siambr hon gydnabod ymrwymiad Mark Drakeford i'r gwaith hwnnw. Ond nid yn unig Mark Drakeford, ond ei swyddogion hefyd oherwydd ni fydd llawer o bobl yn sylweddoli, efallai, mai'r trafodaethau dwys sydd wedi bod yn digwydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU sydd wedi caniatáu'r cyfleoedd ar gyfer cyrraedd lle rydym heddiw. Rhaid inni gydnabod yr holl waith a wnaed gan y swyddogion hynny, dan arweiniad Mark.

Ond hefyd, mae dull o weithredu Mark Drakeford a'i Weinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, Mike Russell, wedi bod yn adeiladol ac yn eglur. Maent wedi bod yn sicrhau bod safbwynt y ddwy Lywodraeth wedi ei gyflwyno i gyfres o Ysgrifenyddion Gwladol yn San Steffan oherwydd rhaid inni gofio bod amryw o gadeiryddion wedi bod, a hyd nes yn ddiweddar nid oedd y cadeiryddion i'w gweld yn gwrando arnynt.

O ganlyniad i'r safbwynt negodi pendant hwn, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn symud oddi wrth eu safbwynt cychwynnol chwerthinllyd o anwadalwch i safbwynt sydd bellach yn cynnig ateb ymarferol a gaiff ei ystyried yn fanwl pan fyddwn yn trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ymhen llai na phythefnos, a dyna pryd y cawn y bleidlais ystyrlon ar y cytundeb a'r gwelliannau.

Rwy'n gobeithio osgoi unrhyw agweddau technegol yn fy nghyfraniad y prynhawn yma oherwydd byddaf yn eu cyflwyno o bosibl yn ystod y ddadl honno pan fydd yn fwy ystyrlon cael dadl ynglŷn â'r agweddau technegol, rwy'n credu. Ond yn anffodus, mae un neu ddau o bwyntiau yr wyf am i'r Prif Weinidog eu hegluro i mi cyn gynted â phosibl. Nid oes unrhyw amheuaeth fod y cymal 11 sy'n dod i'r amlwg heddiw, os derbynnir y gwelliannau hynny yn Nhy'r Arglwyddi heddiw, yn dra gwahanol i'r un sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y Bil. Ac mae'r cwestiwn parhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, ynghyd â phwyllgorau eu Seneddau, wedi gallu dylanwadu ar y newid hwnnw. Y cwestiwn sydd i'w ateb cyn inni bleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 15 Mai, nid heddiw, fydd: a yw'r newidiadau hynny wedi mynd yn ddigon pell i ganiatáu i'r Aelodau gefnogi'r Bil diwygiedig? Dyna'r cwestiwn y bydd pawb ohonom yn gorfod ei ateb ar 15 Mai. Unwaith eto, nid heddiw. Fodd bynnag, rwy'n gofyn am eglurhad ar un neu ddau o bwyntiau gan y Prif Weinidog.

Roedd y Bil gwreiddiol yn caniatáu i Lywodraeth y DU newid agweddau ar y Bil heb fynd gerbron y Senedd, a byddai hyn wedi cynnwys cyfle i ymestyn y cymal machlud—credaf fod hynny wedi'i amlygu eisoes gan nifer o bobl yn y ddadl y prynhawn yma—am gyfnod amhenodol o bosibl, drwy gadw'r pwerau yn San Steffan, a diwygio'r Bil dro ar ôl tro ar ôl tro. Os yw hynny'n wir, mae hynny'n amlwg yn anghywir.

Nawr, rwy'n deall y bydd y cytundeb bellach yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU fynd gerbron dau Dŷ'r Senedd, gan gynnwys Tŷ'r Arglwyddi, cyn y gellid gwneud newidiadau o'r fath, sydd felly'n gosod amddiffyniad cryfach i sicrhau nad yw parhad posibilrwydd amhenodol yn realiti mwyach. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi unrhyw eglurhad pellach i'r Siambr ar y pwynt penodol hwnnw? Oherwydd—yn fy marn i'n bersonol, mae pum mlynedd yn dal i fod yn rhy hir; mae'n mynd â ni i mewn i'r Cynulliad nesaf, ac mewn gwirionedd i mewn i Lywodraeth nesaf y DU yn ogystal. Hynny yw, os nad yw'n mynd cyn hynny. Ond efallai ei fod yn ein hatal rhag cael trafodaeth ynglŷn â beth y gallwn ei roi yn ein maniffestos, o ran pa bolisïau y gallwn eu gosod, cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Yn ail, rwy'n siomedig nad yw'r cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno adroddiadau neu reoliadau gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bydd yn eu cael gan Lywodraeth San Steffan. Nawr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r cyfnod o 40 diwrnod yn cychwyn pan fydd Gweinidogion y DU yn rhoi'r adroddiadau neu'r rheoliadau hyn i'w cymheiriaid yng Nghymru, ond nid oes unrhyw ofyniad i chi eu cyflwyno ar unwaith gerbron y Cynulliad mewn gwirionedd; mae yna bosibilrwydd o oedi. Buaswn yn ceisio sicrwydd mai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, gosod unrhyw adroddiad neu reoliadau gerbron y Cynulliad—ac fe roddaf amser i chi—heb fod dros 48 awr ar ôl i chi eu derbyn, felly mae'n rhoi cymaint o amser â phosibl i ni allu craffu ar yr hyn a ddaw gerbron.

Nawr, fe adawaf faterion technegol eraill, Ddirprwy Lywydd, tan y ddadl ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ond gan symud ymlaen, rydym am ganolbwyntio ar y fframweithiau hefyd a sicrhau bod y rhain yn gweithio i bobl a busnesau yng Nghymru. Dyna yw hanfod hyn: gweithio ar gyfer busnesau a phobl yng Nghymru, gwneud yn siŵr fod yna barhad, gwneud yn siŵr y gallwn barhau â gweithrediadau ac y gallwn dyfu ein heconomi.

Ond rhaid inni hefyd roi sylw i Filiau eraill a fydd yn dod drwodd—gadewch inni siarad am fwy na'r Bil ymadael â'r UE yn unig. Mae'r Bil Masnach yn un arall sydd â materion tebyg yn codi yn ei gylch ac mae angen inni sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio mewn modd tebyg, fel nad ydym yn caniatáu i un Bil newid rhywbeth sydd gan Fil arall mewn gwirionedd—ac edrychwch i weld a oes angen i chi edrych ar hynny—a dyna sy'n bwysig yn hynny o beth. Hefyd, fe fuom yn trafod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Soniwyd am y cytundeb, sut y caiff ei lywodraethu, sut y caiff ei ddyfarnu, sut y gallwn sicrhau bod pethau'n digwydd: mae yna bethau sydd angen rhoi sylw iddynt o hyd ynglŷn â Chyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly fe roddaf y gorau iddi ar y pwynt hwn, ond hoffwn bwysleisio fy mod yn siomedig gyda'r cyfraniad ar ddechrau'r ddadl gan arweinydd Plaid Cymru, oherwydd teimlwn ei bod yn enghraifft arall o'r hyn a elwir yn 'brosiect ofn' yn hytrach nag edrych ar agweddau ar y cytundeb hwn a ble y gallwn symud ymlaen mewn gwirionedd. A dyna beth y mae pawb ohonom eisiau ei wneud. Nid oes neb yn y Siambr hon eisiau gweld pethau'n mynd tuag yn ôl; rydym am symud ymlaen. Dyna pam y cynhwyswyd y gwelliannau a awgrymwyd gennym ymlaen llaw. Gadewch i ni wneud yn siŵr y cawn y gorau y gallwn ei gael.

16:15

Ddoe, estynnodd Donald Trump ei derfyn amser ar gyfer penderfynu a fydd yn parhau i eithrio gwledydd yr UE rhag ei dariffau 25 y cant ar ddur ac alwminiwm sy'n mynd i mewn i'r Unol Daleithiau ai peidio. Ni ddylem danbrisio'r ansicrwydd i fusnes a'r farchnad y gall tariffau a rhwystrau masnach eu creu i ddiwydiannau o bob math, ond yn enwedig i ddiwydiannau sy'n dibynnu ar allforion megis dur. Mae'n allweddol i ganolfan ddiwydiannol fwyaf Cymru ac un o gyflogwyr preifat mwyaf Cymru yn Tata ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

Nid yw'n gyfrinach ychwaith fod Llywodraeth y DU yn enbyd o awyddus i brofi ei bod yn ymdopi â chanlyniad Brexit, a'r dirywiad economaidd hirdymor y mae'n debygol o arwain ato, drwy hyrwyddo'r syniad o gytundebau masnach ar draws y byd. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r rhain fod yn gytundebau wedi'u teilwra'n bwrpasol, ac yn groes i'r byd ffantasi economaidd y mae Torïaid ac UKIP i'w gweld yn byw ynddo, lle mae Prydain yn dal i fod yn ymerodraeth fasnachol fyd-eang, mae'n amlwg nad yw gwledydd eraill yn baglu dros ei gilydd i ddatblygu cytundebau masnach rydd gyda'r DU. Daeth Theresa May yn ôl yn waglaw o'r India yn ôl yr hyn a welais yn ddiweddar.

Felly, yr hyn sy'n destun pryder mawr i mi ac eraill, yn enwedig y rheini sy'n gweithio mewn diwydiannau megis dur, yw beth yn union y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ildio er mwyn denu cytundebau masnach. Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â'r posibilrwydd o fwyd rhad wedi'i lenwi â chemegau o'r Unol Daleithiau yn tagu ein marchnadoedd, ond beth am y modd y mae gwledydd eraill yn mynnu ein bod yn aberthu rhannau eraill o'n sylfaen economaidd a'n cryfder er mwyn hwyluso cytundebau masnach? O ystyried bod yr Arlywydd Trump—i barhau i ddefnyddio'r enghraifft—wedi dangos tuedd i wneud penderfyniadau polisi sy'n ymwneud yn llwyr â bodloni ei gefnogwyr a fawr ddim arall, nid yw'n realistig tybio y gellid rhoi dur o'r DU a diwydiannau eraill ar y bwrdd fel rhan o gytundebau masnach yn y dyfodol.

Felly, yn fy marn i, mae ildio pwerau cymorth gwladwriaethol a phwerau caffael fel rhan o'r cytundeb Brexit ar bwerau yn eithriadol o fyrbwyll. Un o'r ychydig iawn o bethau cadarnhaol, rhaid imi ddweud, sy'n deillio o adael yr UE yw ein bod yn fwy rhydd o ran rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus, a dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bachu'r rhain â dwy law, ond yn lle hynny, maent wedi eu hildio. Efallai fod yna gymal machlud, ond faint o bŵer a dylanwad a gaiff Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd mewn trefniadau cydsynio pan fo penderfyniad y Torïaid yn San Steffan yn un ar gytundeb masnach y DU? A ydynt o ddifrif yn mynd i flaenoriaethu elfennau o economi Cymru sydd mor hanfodol i gynnal yr economi fregus sydd gennym yma yng Nghymru?

Na foed inni anghofio, pan wynebodd Tata Steel fygythiad difrifol o gau neu golli swyddi ar raddfa fawr yn 2015 a 2016, Llywodraeth Cymru a ymrwymodd i gymorth gwladwriaethol fel rhan o becyn ehangach o fesurau i achub y diwydiant yma yng Nghymru. A gaiff y pŵer ei newid? Cafwyd cyhoeddiadau cymorth gwladwriaethol ar gyfer dur fel rhan o'r gyllideb ddiweddaraf, fel y gwyddom. Yn dechnegol, ni fydd y pŵer hwnnw gan Lywodraeth Cymru mwyach o ganlyniad i gytundeb Bil ymadael yr UE—a hyn ar adeg pan fo llawer o'r Aelodau Llafur yn dal i wisgo bathodynnau 'Achubwch ein Dur'.

I lawer o bobl a fu'n gwylio'r hyn a ddigwyddodd dros yr wythnosau diwethaf, bydd yn ymddangos yn glir iawn fod Llafur wedi penderfynu ei bod yn well i San Steffan arfer pwerau ymyrraeth economaidd allweddol, yn hytrach na'r fan hon ganddynt hwy eu hunain a'u Llywodraeth eu hunain.

16:20

Credaf fod angen inni fyfyrio ar ble roedd ein man cychwyn yn y broses hon. Roedd cymal 11, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, i bob pwrpas yn Fil i ail-ganoli pwerau, a greai lanastr o'r setliad datganoli. Cynnyrch meddylfryd Llywodraeth y DU ydoedd, sy'n dal heb ymgodymu â datganoli, ac roedd yn parhau â'r math o feddwl sydd wedi arwain at fethiant llwyr i anrhydeddu'r holl addewidion a wnaed i gynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig.

Yr hyn sydd gennym erbyn hyn, yn ddiamau, yw cymal 11 gwahanol iawn. Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU wedi symud gryn bellter o'i safbwynt gwreiddiol, a chredaf fod hyn yn deillio o nifer o ffactorau: gwrthod y model cymal 11 gwreiddiol yn gadarn, cryfder y safbwynt cyffredin rhyngom a'r Alban ar faes o ddiddordeb cyffredin, a throsoledd y Bil parhad. Effaith hyn oll oedd rhoi pwysigrwydd cyfansoddiadol confensiwn Sewel yn flaenllaw yn y negodiadau fel mater o egwyddor, yn ogystal ag egwyddorion rhannu sofraniaeth sy'n sail i'r setliad datganoli. Hefyd, ni ddylid tanbrisio dylanwad dyfarniad y Goruchaf Lys nodedig yn yr achos erthygl 50—Miller—ar feddwl y Llywodraeth, a phwysigrwydd gwleidyddol y confensiwn yn arbennig. Yn ogystal â hyn, roedd doethineb gwleidyddol ac arweiniad yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford mewn trafodaethau hynod anodd a chymhleth yn ffactor pendant. Mae angen cydnabod y medrusrwydd a ddangosodd yn y trafodaethau hyn.

Fel gydag unrhyw negodi, nid yw'r cytundeb a gawsom yn rhoi popeth yr oeddem ei eisiau. Yr ateb symlaf fyddai dileu cymal 11 yn ei gyfanrwydd. Rwy'n dal o'r farn mai dyna fyddai'r ateb gorau wedi bod, ond fe ddywedaf eto fod cyfaddawdu yn y sefyllfaoedd rhynglywodraethol cymhleth hyn yn anochel. Nid oes gan Lywodraethau'r moethusrwydd sydd gan wrthblaid barhaol ac amhenodol. Y cwestiwn ger ein bron yw a yw'r cyfaddawdau a'r consesiynau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ddigonol. A ydym wedi cyflawni digon o newid i ddiogelu buddiannau Cymru? Yn y pen draw, mater o farn wleidyddol yw hynny.

Yr hyn a gyflawnwyd yw trawsffurfio cymal 11. Mae'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae meysydd datganoledig yn parhau wedi'u datganoli. Mae rhai pwerau a gydnabyddir gennym oll fel rhai hanfodol i ddatblygu fframweithiau diddordeb cyffredin i'w rhewi a'u gwneud yn amodol ar broses gydsynio Sewel well, rhyw fath o Sewel uwchgadarnhaol. Mae'r diwygiadau'n caniatáu rhai cyfyngiadau ar y pwerau i Gymru, ond ar yr un pryd, yn gosod cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU a Gweinidogion Lloegr. Mae hyn nid yn unig yn ddull arloesol yn gyfansoddiadol o oresgyn y ddadl ynghylch tegwch a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf, yn gynsail nodedig, o natur ffederal—cydnabyddiaeth o swyddogaeth weinidogol Seisnig yn ein setliad cyfansoddiadol sy'n gosod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa gydradd at ddibenion datblygu'r fframweithiau.

Mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf yn yr ystyr, pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru cydsyniad, ni chaff wneud hynny heb ganiatâd eglur dau Dŷ'r Senedd a hawl clir Llywodraeth Cymru i gyflwyno datganiad yn amlinellu ei gwrthwynebiad—fel y dywedais, math o Sewel uwchgadarnhaol, sy'n codi statws cyfansoddiadol Sewel, gan ei gynnwys mewn proses seneddol ffurfiol a thraddodadwy.

Nawr, o farnu llwyddiant safbwynt negodi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae angen inni ystyried canlyniadau peidio â rhoi cydsyniad. Byddai hynny, fel y gŵyr pawb ohonom, yn arwain at argyfwng cyfansoddiadol difrifol a fyddai'n niweidiol i Gymru, a hefyd yn niweidiol i'r DU. Felly, y cwestiwn yw: a ydym wedi cyflawni digon i roi cydsyniad? Rwyf o'r farn ein bod.

Nid dyma ddiwedd y mater fodd bynnag. Wrth symud ymlaen, mae'r cymal 11 newydd hwn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu'r fframweithiau, sy'n hollbwysig i fusnesau Cymru ac i economi Cymru. Mae hefyd yn gosod y paramedrau ar gyfer y Bil Masnach a deddfwriaeth ganlyniadol arall. Mae hefyd yn ein galluogi yn awr i ganolbwyntio ar fater undeb tollau a buddiannau Cymru mewn masnach sy'n rhydd o dariffau a rheoliadau, ac mae'n ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu gweithdrefnau a diwygio rhyngseneddol, sy'n hanfodol ar gyfer Prydain ôl-Brexit a datblygu cysylltiadau cyfansoddiadol mwy ffederal. Ychydig sydd gennym i'w ennill drwy ryfel neu anghytundeb cyfansoddiadol, a llawer i'w golli, ac rwy'n credu, drwy gefnogi'r cytundeb, ein bod yn rhoi buddiannau Cymru a phobl Cymru yn gyntaf.

Nawr, mae'n rhaid imi ymateb i'r hyn y credaf eu bod yn sylwadau eithaf sarhaus a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru pan gyfeiriodd at ildio, baneri gwyn ac ati. Fe ddywedaf hyn: rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf yn hytrach na rhai'r Alban. Mae'n resynus iawn nad yw Plaid Cymru yn gallu sefyll dros Gymru, a bod yn well ganddi ymostwng i Blaid Genedlaethol yr Alban wrth iddi fynd ar drywydd eu hideoleg ymwahanol gul. Ein dyletswydd ni yw hyrwyddo buddiannau Cymru, nid yr Alban. Bydd Llafur Cymru bob amser yn rhoi Cymru yn gyntaf, gan mai ni yw gwir blaid Cymru a phobl Cymru.

16:25

A gaf fi yn awr—[Torri ar draws.] A gaf fi alw yn awr—[Torri ar draws.] Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Os caf ymdrin, ar y cychwyn, â'r materion a godwyd gan David Rees a Bethan Sayed yn gyntaf oll, mewn perthynas â sefyllfa'r cytundeb, mae'n gywir ynglŷn â hynny. Byddwn yn edrych ar sut y mae'r Cynulliad yn cael adroddiadau cyn gynted â phosibl. Credaf fod hynny er budd pawb. Wrth gwrs, crybwyllwyd materion heddiw y bydd yn fwy priodol ymdrin â hwy pan edrychir ar y Bil Masnach, ac maent y tu allan i gwmpas y Bil ymadael. Ac wrth gwrs, bydd angen gwneud mwy o waith ar brosesau rhynglywodraethol, ond mae'r ffaith bod yna gytundeb rhynglywodraethol yn awr, am y tro cyntaf erioed, yn arwydd y gellir dangos bod y peirianwaith hwnnw'n gweithio.

Mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Bethan Sayed, gallaf ddweud nad ydym yn cytuno bod cymorth gwladwriaethol y rhywbeth y dylid ei gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ceir dau fater na chafwyd cytundeb arnynt eto: un yw natur cymorth gwladwriaethol, a pha un a yw wedi'i ddatganoli ai peidio; y llall yw dynodiad daearyddol bwyd. Felly, nid ydym yn cytuno â Llywodraeth y DU y dylai cymorth gwladwriaethol fod yn rhywbeth sy'n gyfan gwbl yn eu dwylo hwy, neu rywbeth a ddylai fod yn y pantri, y rhewgell, beth bynnag y dymunwch ei alw.

Wel, Lywydd, a gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, fod dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn datganoli rhag jygarnot eu polisïau Brexit bob amser yn mynd i alw am benderfyniad, yn ogystal a rhoi a derbyn, ond weithiau rwy'n meddwl tybed a oes gennym ddealltwriaeth lawn o'r hyn y mae'r cytundeb hwn yn ei ddweud mewn gwirionedd. Yn y bôn, mae'n ymdrin â'r holl broblemau a nodwyd gyda'r Bil ymadael gwreiddiol. Fel y mae eraill yn y Siambr hon wedi dweud yn gywir, yn wreiddiol nid oedd Llywodraeth y DU yn barod i ildio dim ar gymal 11, a byddai pob un o'r 64 maes polisi wedi parhau yn San Steffan, heb unrhyw sicrwydd pryd y byddai'r pwerau hynny wedi cael eu rhyddhau i'r gweinyddiaethau datganoledig, a'r hyn a fyddai wedi bod yn gymal machlud amhenodol i bob pwrpas.

Roedd y Bil yn wreiddiol yn cadw llu o faterion datganoledig yn ôl i Lywodraeth y DU ar ôl inni adael yr UE, ac yn ddi-os y Bil gwreiddiol fyddai'r ymosodiad mwyaf sylfaenol ar ddatganoli ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond mae'r cytundeb wedi cael gwared ar y bygythiad hwnnw. Mae'n gam mawr ymlaen, a dylai unrhyw un sy'n credu mewn datganoli ei groesawu. Mae'n diogelu datganoli mewn modd mor llawn â phosibl wrth inni fynd i'r afael â chanlyniadau diddiwedd a dryslyd Brexit, ac fe nodaf y prif resymau, gan gynnwys yr amddiffyniadau yr ydym wedi'u sicrhau.

Yn gyntaf, ac yn hynod bwysig, yr hyn a welwn yn awr yw cytundeb sy'n cadarnhau gwrthdroad cymal 11. Ni chredaf y gall unrhyw un orbwysleisio pa mor arwyddocaol yw'r newid hwnnw. Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU wedi dod yn bell o'i safbwynt gwreiddiol fod cymal 11 yn rhywbeth na ellid ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd. Mae'n cadarnhau bod popeth wedi'i ddatganoli, ac eithrio categori penodol o faterion—mae'n fodel pwerau a gadwyd yn ôl, i bob pwrpas, yn y modd y mae wedi'i wrthdroi—lle rydym yn cytuno bod angen fframweithiau ar gyfer y DU.

Nawr, byddai'r cynnig gwreiddiol wedi cadw holl bwerau'r UE dros feysydd polisi datganoledig yn San Steffan. Byddai Gweinidogion y Goron wedyn yn eu rhyddhau os a phan fyddent hwy yn unig yn penderfynu gwneud hynny. Dyna oedd y cynnig gwreiddiol. Mae hwnnw bellach wedi'i wrthdroi. Delir pwerau dros feysydd polisi datganoledig yng Nghaerdydd a Chaeredin, ac eithrio meysydd fframwaith, a gaiff eu cynnwys mewn cyfres o gyfyngiadau manwl sy'n berthnasol i'r holl lywodraethau. Mae hynny'n bwysig, a byddaf yn dychwelyd at hynny.

Yn fyr, mae'r cytundeb yn gwbl gyson â'r model cadw pwerau a ymgorfforir yn Neddf yr Alban a Deddf Cymru 2017, ac mewn rhai ffyrdd mae'n cryfhau'r model hwnnw, fel y byddaf yn egluro. Yr ail bwynt i'w wneud yw y caiff fframweithiau eu nodi a'u cytuno drwy broses rynglywodraethol gydweithredol, yn seiliedig ar Sewel. Yn wreiddiol, bydd yr Aelodau'n cofio, barn Llywodraeth y DU oedd y byddai fframweithiau'n cael eu llunio a'u pennu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU. Unwaith eto, gwelwn symud enfawr oddi wrth eu safbwynt gwreiddiol. Bydd y broses hon bellach yn datblygu'r rheoliadau drafft sy'n nodi pa bwerau UE a gaiff eu rhewi. A gadewch i mi fod yn hollol glir: nid ydym wedi cytuno i unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Felly, byddai'n anghywir honni y bydd y pwerau UE presennol dros y 26 polisi yn yr atodiad i'r cytundeb bellach yn San Steffan. Y realiti yw nad yw'r Bil a'r cytundeb eu hunain yn ildio dim. Y rheoliadau drafft, sydd eto i'w datblygu, a fydd yn cynnig cadw'r cyfyngiadau UE presennol mewn perthynas â rhai o'r elfennau o fewn y 26 maes—rhai elfennau, nid pob un ohonynt yn eu cyfanrwydd.

Nawr, yn hollbwysig, bydd y rheoliadau drafft hynny'n dod i'r Cynulliad i ni eu hystyried, ac i benderfynu a ydym yn rhoi ein caniatâd i'r cyfyngiadau hyn cyn eu gosod gerbron Senedd y DU. Mae'r cytundeb hwnnw wedyn yn cymhwyso'r un egwyddor ag sy'n gymwys ar hyn o bryd i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n effeithio ar faterion datganoledig. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae gwelliannau'r Arglwydd Callanan yn ei wneud yw ymestyn confensiwn Sewel i gynnwys is-ddeddfwriaeth mewn modd na ddigwyddodd cyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymestyn datganoli. Mae'n golygu na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn bwrw ymlaen i gyflwyno rheoliadau drafft gerbron y Senedd os yw'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad. Nawr, bydd rhai yn dweud, 'nid fel arfer', ond dyna'n syml y mae'r trefniadau datganoli presennol yn ei ddweud. Dyna a ddywedai'r Deddfau a ddarparodd ddatganoli i'r Cymry yn dilyn y bleidlais—mae wedi'i fynegi yn yr un ffordd yn union yn setliad datganoli yr Alban. Felly, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw defnyddio'r un dull a'r un iaith sydd eisoes wedi'i sefydlu'n rhan o'r broses ddatganoli. Mae pa un a ddylai hynny barhau yn y dyfodol yn ddadl y credaf fod angen inni ei chael, ond dyna lle rydym ni, yn gyfansoddiadol. Felly, mae'n symud Sewel gam ymlaen. Mae Sewel, cofiwch, yn rhywbeth a oedd yn perthyn i ddeddfwriaeth sylfaenol yn wreiddiol. I bob pwrpas, cafodd ei ymestyn bellach i gynnwys is-ddeddfwriaeth yn ogystal.

Nawr, pe bai Llywodraeth y DU yn dymuno, mewn amgylchiadau eithafol, ei bod am fwrw ymlaen â'r rheoliadau heb gydsyniad—rhywbeth y gall ei wneud yn gyfreithiol, mae pawb ohonom yn gwybod hynny, oherwydd sofraniaeth y Senedd, pa un a ydym yn cytuno â hynny ai peidio; yn digwydd bod, nid wyf yn cytuno â hynny, ond mater at rywdro eto yw hynny—wel, rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy na chyflwyno'i safbwynt ei hun yn unig, a rhoddir barn y deddfwrfeydd datganoledig gerbron Senedd y DU. Mae Senedd y DU yn ystyried y ffaith y byddai'r ddeddfwrfa hon wedi gwrthod cydsyniad. Felly, mae hynny'n rhoi Senedd y DU mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddi wrando ar fwy na barn Llywodraeth y DU.

Y trydydd pwynt: wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn awr yw y bydd y cymalau machlud yno ar wyneb y Bil o ran y pŵer i greu rheoliadau ddwy flynedd o ddiwrnod Brexit, a bydd unrhyw reoliadau'n cael eu gwneud am uchafswm o bum mlynedd. O'r herwydd, mae unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd felly'n rhai dros dro. Nawr, roedd Aelodau'n gofyn y cwestiwn: a ellir ymestyn y cymal machlud? Wel, yn yr ystyr y gall Senedd y DU wneud yr hyn a ddymuna, yn ddamcaniaethol mae hynny'n bosibl. Ond ceir cytundeb bellach, a rhywbeth sy'n llawer mwy pendant a real, na fydd hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, mae pwysau arall hefyd ar Lywodraeth y DU sy'n rhoi'r cysur sydd ei angen arnom na fyddwn yn gweld y cymal machlud yn cael ei ymestyn, sef hyn: mae'r cytundeb yn gosod cyfyngiadau pwysig pellach ar Lywodraeth y DU yn y ffordd hon, oherwydd mae'n rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn dod ag unrhyw ddeddfwriaeth gerbron y Senedd i Loegr allu gwneud newidiadau i gyfraith yr UE a gedwir yn ôl mewn meysydd fframwaith. Mae'n golygu bod pawb ohonom yn cael yr un chwarae teg, ac un o'r materion y dadleuais yn gryf â David Lidington yn ei gylch yn y negodiadau a gefais gydag ef oedd nad yw'n deg y dylai Lloegr gael rhyddid a wrthodir i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn cael gwared ar y rhyddid. Felly, mewn gwirionedd, ceir pob cymhelliad bellach i wneud y cymalau machlud yn fyrrach, oherwydd nid yw o fudd i Lywodraeth y DU sy'n gweithredu mewn perthynas â Lloegr i gael ei chyfyngu yn yr un modd ag y byddem ni, ond mewn ffordd na fyddent wedi'u cyfyngu heb y cytundeb hwn. Gallent fod wedi gwneud beth bynnag y dymunent a byddai cyfyngiadau ar y Llywodraethau eraill yn y DU, ac mae hwnnw'n newid pwysig. Mae'n sefydlu chwarae teg i bawb er mwyn cadw fframweithiau presennol yr UE, ie—mae arnom angen hynny—ond hyd nes y bydd fframweithiau newydd wedi cael eu negodi a'u cytuno. Felly, gwelwn fod yna gymhelliad cryf i Lywodraeth y DU gytuno ar fframweithiau ymhell cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd ar ei hiraf, oherwydd fel arall ni allant wneud newidiadau yn Lloegr, er enghraifft i ddiwygio polisi amaethyddol yn Lloegr.

A gaf i ddelio gyda'r pwynt wnaeth Llyr Gruffydd ei godi? Mae'n bwynt pwysig dros ben. Mae yna ddau beth yn fan hyn sy'n bwysig: yn gyntaf, ble mae'r pwerau, ac yn ail, ble mae’r arian. Mae hynny'n rhywbeth sydd ddim wedi cael ei ddatrys ar hyn o bryd. Yn fy marn i, beth ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud yw sicrhau bod yna arian yn cael ei ddodi i un ochr a bod yr arian hwnnw yn cael ei roi i Lywodraethau neu i Seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn yr un ffordd a gyda'r un faint o arian â nawr. Yn fy marn i, ni all ddod drwy fformiwla Barnett. Os yw'n dod drwy Barnett, yna byddai'r fformiwla, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni'n colli 75 y cant neu 80 y cant o'r cyllid sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae hynny'n dal i fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni siarad amdano a'i ddatrys. Byddai'n hollol annheg i Gymru pe bai llai o arian yn dod i Gymru ac i amaethwyr Cymru, ac ni fyddai hynny byth yn rhywbeth y byddem ni'n cytuno ag ef. Ond mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan o drafodaethau eraill, ac nid ynglŷn â'r Mesur hwn, byddwn i'n ei ddadlau.

Y pumed pwynt yw bod y cytundeb yn gwarantu y bydd Sewel yn gymwys i unrhyw ddeddfwriaeth seneddol a ddefnyddir i roi fframweithiau ar waith ledled y DU. Wrth gwrs, mae hynny'n sicrhau nad oes unrhyw berygl y bydd unrhyw un yn awgrymu, gan fod materion y tu hwnt i'n cymhwysedd dros dro, nad yw Sewel yn gymwys—mewn geiriau eraill, 'Tra bo pwerau yn y rhewgell, peidiwch â phoeni am Sewel, oherwydd nid yw'r pwerau hyn eto'n bwerau sy'n gyfan gwbl o fewn rôl y gweinyddiaethau datganoledig.' Ac mae'n golygu wedyn y bydd yn rhaid i'r Cynulliad roi cydsyniad i unrhyw Filiau o'r fath.

Rwy'n gweld, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi mynd ymhell dros yr amser. Ac felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi'r atebion i'r Aelodau, pa un a ydynt yn eu derbyn ai peidio. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi dod ffordd bell drwy broses o negodi ac rydym wedi sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu wrth inni gael ein hysgwyd gan donnau Brexit.

16:35

Diolch yn fawr iawn. Fe ddechreuaf ar y pwynt hwnnw: rydym wedi dod ffordd bell. Mae'n ddadl a wnaeth Mick Antoniw hefyd, ac yn sicr o ran cymal 11, yn sicr fe ddechreusom mewn man amheus iawn ar y daith benodol hon, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y daith wedi symud yn ei blaen, a'n bod wedi symud i le gwell. Ond ni allaf ond teimlo bod y Llywodraeth wedi penderfynu camu oddi ar y trên wrth iddo ddod i stop ar ben clogwyn. A byddai'n well gennyf fod yn parhau yn awr i weld faint ymhellach y gallem fynd ar y daith hon. Ac mae'n ddigon posibl fod y cloc yn—[Torri ar draws.] Mae'n ddigon posibl fod y cloc yn ein herbyn, ond rydym yn gweld, beth bynnag yw eich barn ar beth sy'n digwydd yn yr Alban, ei fod yn berthnasol, a bod Gweinidog Cyllid Cymru wedi eistedd gyda Gweinidogion yr Alban fel rhan o'r negodiadau hyn, ac maent hwy, gyda chefnogaeth Llafur, wrth gwrs, yn yr Alban, wedi penderfynu parhau i ymladd. Byddai'n well gennyf pe baem yn parhau i geisio gwneud safiad er mwyn diogelu buddiannau Cymru, oherwydd rydych yn iawn; nid ydym yn cytuno ein bod wedi cael y cytundeb gorau posibl i Gymru.

Beth a ddigwyddodd i wneud i Weinidog cyllid Llafur newid ei feddwl mor sylfaenol yr wythnos diwethaf? Rwy'n dal yn ansicr, oherwydd gwyddom fod y newid meddwl hwnnw wedi digwydd mewn cyfnod byr iawn o amser. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw y bydd yr ildio, fel y'i gwelwn, yn arwain at oblygiadau hirdymor i ddatganoli ac i Gymru. Roedd y Llywodraeth yn benderfynol tan y funud olaf: 'A wnewch chi dderbyn y cymal machlud?', 'Na, mae'n fater o egwyddor, rhowch sicrwydd go iawn i ni na all Gweinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru oni bai fod cydsyniad wedi'i roi yma yng Nghymru.' Yr yn sydd gennym yn awr er hynny, yn rhyfedd iawn, yw cytundeb y gall Gweinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig pan wneir penderfyniad cydsynio, oherwydd gallai penderfyniad cydsynio gynnwys gwrthod cydsyniad. Ac mae hynny'n rhywbeth y cadarnhaodd ein cyfreithwyr unwaith eto y prynhawn yma. Gall fod yn bwynt yr ydym yn anghytuno yn ei gylch, ond dyna yw ein dadansoddiad ni o'r hyn y mae hynny'n ei olygu.

I nodi'r hyn a ddywedodd David Rees—ein bod rywsut yn parhau â'r prosiect ofn a oedd yn gysylltiedig â'r refferendwm Ewropeaidd ym marn rhai, neu refferendwm yr Alban—nid ydym yn gwrthwynebu fframweithiau'r DU yma. Nid ydym yn gwrthwynebu fframweithiau'r DU a'r angen i weithio ar sail y DU gyfan ar nifer o faterion. Yn syml, rydym yn credu y dylai'r fframweithiau hynny fod yn ganlyniad i weithio mewn consensws ac ar y cyd ar draws yr ynysoedd hyn, a chredwn mai'r hyn sydd gennym yn y cytundeb hwn—y mae'r pleidiau eraill yn y Cynulliad ar fin ei gefnogi—yw bygythiad i ddatganoli.

Rwyf am dalu teyrnged yn gyflym iawn i Steffan Lewis am roi hadau'r Bil parhad i ni, Bil y credaf y dylai fod yn ffurfio sylfaen i safiad parhaus i ddiogelu buddiannau Cymru. Diolch i'r Bil hwnnw am alluogi'r negodiadau i barhau cyhyd ag y gwnaethant. Mae datganoli yn dal i fod yn ifanc. Ni all prosesau na digwyddiadau ddigwydd dros nos. Rwy'n gwybod, fel y mae llawer ohonom yma'n gwybod, fod gan ddatganoli ei elynion o hyd. Ymddiriedwyd ynom yma i feithrin democratiaeth Cymru ac nid i blygu dan bwysau neu dactegau llechwraidd Llywodraeth y DU i'w hildio. Efallai fod gennych ffydd ddiderfyn yn Llywodraeth y DU, ond yma rydym yn teimlo bod Cymru yn haeddu ymagwedd fwy gofalus yn hynny o beth, ac roeddech chithau hefyd ar y meinciau Llafur yn credu hynny tan yn ddiweddar iawn. Ond hefyd, credwn fod arnom angen ymagwedd fwy beiddgar o ran diogelu lles Cymru. Felly, gadewch inni sefyll dros ein hegwyddorion a chefnogi ein cynnig heddiw.

16:40

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i ddatgan ei bod hi'n amser pleidleisio yn awr. Iawn. Diolch.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio ar y ddadl gan Blaid Cymru ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 7, neb yn ymatal, a 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6712 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 14, neb yn ymatal, a 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6712 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 14, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 38, neb yn ymatal, a 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6712 - Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 2: O blaid: 38, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6712 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiangen.

3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.

4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.

5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 39, neb yn ymatal, a 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6712 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 39, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn yn awr at y ddadl fer, felly os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n dawel ac yn gyflym, os gwelwch yn dda?

10. Dadl Fer: The land of song: developing a music education strategy for Wales

Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Rhianon Passmore i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Rhianon.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer i fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod bod hwn yn fater eithriadol o bwysig i mi, ond mae hefyd yn fater o bwys mawr i Gymru. Roedd gennyf gariad angerddol yn blentyn at gerddoriaeth a fy mhroffesiwn fel oedolyn oedd addysgu a pherfformio cerddoriaeth, ac rwy'n benderfynol fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, wrth galon Cymoedd Cymru, o wneud popeth a allaf i sicrhau nad yw dyfodol cerddorol Cymru yn gadael unrhyw blentyn ar ei hôl hi. Lle bynnag yng Nghymru y caiff plentyn ei eni, dylai allu cael mynediad at addysg gerddorol a chyllid; dylai fod ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am ei pharodrwydd parhaus i wrando arnaf yn annog Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o wneud mwy, o fynd ymhellach ac o herio'r rhagdybiaethau mewn oes o gyni a ysgogwyd yn wleidyddol nad oes fawr ddim y gallwn ei wneud yng Nghymru i atal dirywiad cymorth ar gyfer addysg cerdd, ac yn arbennig y dirywiad mewn gwasanaethau sy'n cefnogi cerddoriaeth ledled Cymru. Er gwaethaf y toriadau i Gymru ers 2010, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhyddhau arian ychwanegol yn y pumed Cynulliad, gan gynnwys y gwaddol ar gyfer cerddoriaeth ac amnest cerddorol Ysgrifennydd y Cabinet. Anelir y gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth, gydag £1 filiwn o gyllid cychwynnol a roddwyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, at weithgareddau allgyrsiol yn benodol, a bwriad y gronfa hon yw annog rhoddion pellach, gyda'r nod o godi £1 filiwn ychwanegol yn flynyddol yn y dyfodol. Mae'r rhain yn fentrau i'w croesawu'n fawr ac yn adenydd defnyddiol yn yr olwyn, ond fel y dywedais o'r blaen, mae angen inni fod yn fwy radical ac yn fwy uchelgeisiol.

16:45

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd The Economist erthygl o'r enw, 'The quiet decline of arts in British schools'. Defnyddient astudiaeth achos o Gymru o awdurdod lleol yr effeithiwyd arno gan doriadau ariannol. Soniwyd sut roedd cyllideb y gwasanaeth cerddoriaeth wedi lleihau cymaint â 72 y cant. Disgrifiodd pennaeth gwasanaeth cerddoriaeth y cyngor ar y pryd y peth yn gryno—'Bydd llawer yn rhoi'r gorau iddi'. Ac wrth gwrs, mae'n cyfeirio at hyfforddiant offerynnol a'r offerynnau a ddarperir ganddynt.

Os yw Cymru i gadw ei henw da ledled y byd fel y gwlad y gân, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, sef cynllun, ac yn benodol, strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth i Gymru, yn amlinellu'r camau a'r gofynion, a chynnig craidd a chyson ar gyfer disgyblion Cymru. Mae egwyddorion darpariaeth gyffredinol ledled Cymru yn allweddol os ydym am sicrhau cyfleoedd wedi'u gwarantu i bawb.

Yn wir, mae arweinydd cerddorfaol mwyaf blaenllaw Cymru, Owain Arwel Hughes, wedi priodoli'r argyfwng yng ngherddoriaeth Cymru i doriadau mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Ni ellir gwahanu'r rhain oddi wrth y gwasgu parhaus ar gyllideb Cymru, a'r pwysau felly ar wasanaethau llywodraeth leol a gwasanaethau anstatudol, er gwaethaf amddiffyniadau Llywodraeth Cymru. Nid oes neb yn fwy angerddol yng Nghymru, gwlad y gân, nag Owain Arwel Hughes, ond mae angen inni wrando ac mae angen inni wrando'n astud.

Yn ddiweddar mynychais lansiad Proms Cymru. Eleni, er siom amlwg i lawer, cafodd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ei dynnu'n ôl. Y rhesymeg oedd bod yr arian wedi dod o gyllid datblygu economaidd Llywodraeth Cymru, ac na ellid ei gyfiawnhau mwyach. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn syrthio i'r fagl o wybod pris popeth a gwerth dim byd.

Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathebu, gwn pa mor angerddol hefyd yw ein Cadeirydd, Bethan, ynglŷn â'r mater hwn. Rhennir ei brwdfrydedd gan y cyhoedd yng Nghymru. Mae ymchwiliad ein pwyllgor i gyllid a mynediad at addysg cerdd i fod i gyflwyno'i adroddiad cyn bo hir. Ymchwiliad wedi'i ysbrydoli gan bobl Cymru oedd hwn. Pan ofynnodd y pwyllgor yn 2016 beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, gwelodd yr ymgynghoriad cyhoeddus mai'r hyn a oedd yn fwyaf poblogaidd oedd cyllid ar gyfer, a mynediad at addysg cerdd. Ac mae'r cyhoedd yng Nghymru ar y blaen inni fel gwleidyddion. Maent yn gwybod gwerth addysg cerdd i fywyd ein cenedl, ein hartistiaid yn y dyfodol a'n diwylliant. Maent yn pryderu, yn briodol, fod Cymru'n wynebu'r perygl o loteri cod post o ran y ddarpariaeth heb weledigaeth genedlaethol a dull cenedlaethol o weithredu strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth.

Yn gynharach eleni, comisiynais yr Athro Paul Carr o gyfadran diwydiannau creadigol Prifysgol De Cymru i gwblhau adroddiad yn edrych ar arferion gorau rhyngwladol o ran modelau addysg perfformio cerddoriaeth, a'r canlyniadau dysgu cysylltiedig ar gyfer Cymru. Dewisodd yr Athro Carr 12 o randdeiliaid a ddewiswyd naill ai ar sail eu gwybodaeth fanwl am y cyd-destun Cymreig, eu tystiolaeth a'u harbenigedd a gwybodaeth ar sail tystiolaeth o'r DU ac yn rhyngwladol. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys cadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, cyfarwyddwr artistig BBC Cymru Wales, athrawon addysg cerdd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, rheolwyr gyfarwyddwyr Undeb Ysgolion Cerdd Ewrop ac wrth gwrs, Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn mewn dathliad o gerddoriaeth Gymreig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n waith cwmpasu pwysig gydag adroddiad o ganlyniadau i ddilyn. Ac i roi hysbysrwydd bach iddo, rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu bod yn bresennol ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol ac artistiaid rhyngwladol. Ond rhoddodd rybudd difrifol, ac rwy'n dyfynnu:

Os na wneir rhywbeth i wrthdroi'r dirywiad presennol sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, bydd un o'r disgrifiadau enwocaf o Gymru, sef gwlad y gân, dan fygythiad yn bendant yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd yn syml iawn, ni fydd yn wir.

Yng Nghymru, ni allwn dderbyn canlyniadau'r cyni a orfodwyd arnom o Lundain ers 2010 sy'n dinistrio gwead cerddorol ein cenedl. Mae Cymru angen buddsoddiad cyfalaf tebyg i'r gronfa ddatblygu cerddoriaeth a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yn 1999. Byddai hon yn darparu gwasanaeth cymorth cerddorol wedi'i fodelu o'r newydd gyda chyllid cynaliadwy angenrheidiol i wneud gweithgareddau cerddorol offerynnol yn hygyrch i bawb, ac yn lle'r mynediad cyfyngedig a geir at gerddoriaeth, cyhuddiadau o elitiaeth a'r wireb ynghylch y loteri cod post, byddai datganiad clir ar gyfer y genedl.

Cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Alun Michael, y gronfa ddatblygu cerddoriaeth yn 1999, a dosbarthwyd £8 miliwn i wasanaethau cerdd awdurdodau lleol. Ac er gwaethaf cyd-destun toriadau a'r nifer o flaenoriaethau sy'n cystadlu o fewn y Llywodraeth, rwy'n dweud wrth y lle hwn fod a wnelo'r ddadl hon heddiw â mwy na cherddoriaeth yn unig. Mae'n ymwneud â'r math o wlad y dymunwn fod. Mae'n ymwneud â'n lle a'n hunaniaeth yn y byd, ein diwylliant, ein treftadaeth, ein diwydiant creadigol a'n twf economaidd. Ac mae hefyd yn ymwneud yn helaeth â chydraddoldeb—cydraddoldeb o ran mynediad, waeth pa mor gefnog, at les, hunan-barch a llwybrau ar gyfer camu ymlaen a gyrfaoedd ym myd ehangach cerddoriaeth, ac mae'n ymwneud â chydraddoldeb yn yr ystafell ddosbarth, fel nad yw'r byd cerddorol ar gau i'r rhai sy'n gallu chwarae ond sy'n methu talu. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu ei bod hi'n bryd ymrwymo ein cenedl i strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, cynllun i addo buddsoddiad yn sail i'r strategaeth a chefnogi gwasanaethau cymorth cerdd yng Nghymru.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni siarad yn onest: y dewis arall yw dull tameidiog o geisio sicrhau mynediad parhaus at addysg cerdd a chyllid ar draws Cymru, gyda lleihad mawr yn nifer y cyfleoedd i'r tlotaf yn ein cymdeithas na allant gymryd rhan yn nhirlun cerddorol Cymru a thu hwnt, na'i ymestyn. Byddwn i gyd yn dlotach oherwydd hynny, a bydd honiad balch ein cenedl mai hi yw gwlad y gân yn adleisio'n fwyfwy egwan, a bydd y diminuendo hwnnw ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni yn y lle hwn adael i hynny ddigwydd. Diolch.

16:50

Yn amlwg, fel yr amlinellodd Rhianon, mae gennym adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ar gerddoriaeth mewn addysg, felly nid wyf am ddatgelu gormod am hynny, ond gwn ei fod yn ddarn cynhyrchiol o waith ac yn rhywbeth y mae'r cyhoedd wedi cymryd rhan lawn ynddo am fod hwn yn bwnc hynod bwysig. Nid oes angen imi ddweud wrth yr ACau yma ynglŷn â fy angerdd ynglŷn â hyn, gan fy mod yn chwaraewr fiola fy hun, ac mae gennyf frawd yn chwarae'r soddgrwth ac mae fy chwaer, Niamh, ar hyn o bryd yn y system addysg yn chwarae'r soddgrwth yng ngherddorfa cymoedd Morgannwg. Rwy'n cydnabod hefyd yr hyn a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet o ran ei rôl a'i hymyriadau, a chredaf, er bod hyn wedi bod yn hir yn dod, y dylem roi clod lle mae'n ddyledus, a gobeithiaf fod hyn yn rhywbeth a fydd yn deillio o benderfyniadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n mynd i ddweud rhywbeth negyddol yn awr, er nad wyf fi eisiau. Cefais ohebiaeth gan y rheini yn y gwasanaeth cerddoriaeth dros y dyddiau diwethaf yn dweud wrthyf eu bod yn anobeithio ynglŷn â'r sefyllfa ledled Cymru. Yn wir, un o'r negeseuon a gefais oedd ei fod yn ofni mai ras i'r gwaelod yw hyn mewn perthynas â gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru. Yn Wrecsam, er enghraifft, mae toriadau'n digwydd wrth inni siarad, ac maent yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu gorfodi i ddilyn modelau cyflenwi gwahanol oherwydd eu bod yn colli eu swyddi wrth inni gael y ddadl hon yma heddiw. Dywedir wrthyf hefyd nad yw rhai o'r ensembles cenedlaethol yn digwydd eleni oherwydd prinder pobl yn dod i glyweliadau. Nid wyf eisiau bod yn negyddol, oherwydd, fel y dywedodd Rhianon, rydym yn teimlo'n angerddol ynglŷn â chadw'r gwasanaethau cerddoriaeth hyn, ond os nad ydym yn cefnogi'r hyn sydd yno yn awr, efallai na fyddant gennym ar gyfer y dyfodol. Felly, credaf fod angen inni roi ein pennau at ei gilydd yn awr a chefnogi'r diwydiant hwn. Hoffwn weld mwy o fuddsoddi eto, a hoffwn weld strategaeth a fyddai'n sicrhau ei fod yn rhan greiddiol o'r hyn a wnawn ar draws Cymru. Mewn rhai ardaloedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld rhai awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych, ond mae eraill yn ei weld fel rhywbeth atodol a rhywbeth nad oes angen iddynt ei hyrwyddo.

I mi, nid wyf yn meddwl y buaswn yn y byd gwleidyddol oni bai bod cerddoriaeth wedi dysgu sgiliau bywyd i mi, cymryd rhan mewn trefn ddisgybledig, gallu gweithio mewn tîm, a gobeithio y byddai hynny'n wir ar gyfer pobl iau yng Nghymru sydd eisiau dilyn llwybrau cerddorol yn awr ac na fydd yn rhywbeth ar gyfer y breintiedig yn unig neu'r rhai sy'n gallu ei fforddio, ond ar gyfer pawb yma yng Nghymru, fel y gallwn ddal i fod yn wlad y gân ac yn wlad sy'n gallu hyrwyddo ein hunain ar sail ryngwladol, fel gwlad y gân a gwlad diwylliant.

—ond roedd yn destun da.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn cydnabod ei phenderfyniad a'i brwdfrydedd ynglŷn â'r pwnc, ac rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno bod yr un peth yn wir am Bethan hefyd.

Lywydd dros dro, un o bleserau bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw ymweld ag ysgolion ar hyd a lled Cymru, a phryd bynnag y gwnaf hynny, mae cerddoriaeth yn rhan o bethau, boed yn fand samba yn Llandeilo, band drymiau Affricanaidd yng Ngelli Gandryll yr wythnos hon, bandiau dur yng Nghaerdydd, y grŵp ffidlau yn Wrecsam, a rhaid imi ddweud, fy ffefrynnau arbennig, iwcalilis yn Sir Benfro—ac wrth gwrs, mae yna gôr bob amser—rwyf bob amser yn rhyfeddu at y talent cerddorol a welaf ym mhob rhan o'n gwlad. Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod cerddoriaeth yn elfen bwysig o'r cwricwlwm ysgol. Mae'n bwnc statudol i bob dysgwr yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac mae lle cerddoriaeth yn ddiogel yn natblygiad ein cwricwlwm newydd.

Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, bydd yna chwe maes dysgu a phrofiad, gan gynnwys un ar gyfer y celfyddydau mynegiannol, ac rwy'n hyderus fod hyn yn sicrhau statws hyd yn oed yn fwy amlwg i'r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, wrth inni symud ymlaen. Mae addysg cerdd yn cyfrannu at ddatblygu dinasyddion brwd a gwybodus drwy sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd, beth bynnag fo'u cefndir, yn gallu datblygu eu doniau a'u sgiliau drwy astudio a chyfranogi, boed yn unigol neu ar y cyd.

Rwyf wedi gweithio'n galed ers ymgymryd â rôl Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ochr yn ochr â chyd-aelodau o'r Cabinet i sicrhau ein bod yn cynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg cerdd o ansawdd. Rydym wedi mynd ati ar y materion a amlygwyd yn adroddiad 2015 gan y gweithgor gwasanaethau cerddoriaeth. Eleni, rwy'n darparu cyllid ychwanegol o £1 filiwn, gydag £1 filiwn yn rhagor yn 2019-20, i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cerddoriaeth, a daw hwn ar ben yr arian presennol a roddir i awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth. Rwyf fi a fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cytuno ar ddull o weithredu i wella'r cymorth i wasanaethau cerddoriaeth ymhellach.

Rwyf hefyd yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc sy'n dymuno symud ymlaen i gael hyfforddiant cerdd unigol yn cael cyfle i wneud hynny. Mae mynediad at y cyfleoedd hyn nid yn unig yn datblygu cerddgarwch y dysgwr, ond hefyd mae'n cyfrannu at feithrin sgiliau a budd ehangach, fel yr amlinellodd Bethan funud yn ôl, megis disgyblaeth, dyfalbarhad a lles cyffredinol. Dyna pam y darparais £220,000 y llynedd i awdurdodau lleol allu prynu offerynnau cerdd er mwyn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen mynediad at offerynnau yn ei gael.

Rydym hefyd wedi dechrau amnest offerynnau cerddorol cenedlaethol. Arweiniodd hyn at dros 80 o offerynnau o ansawdd da yn cael eu rhoi a'u hailddosbarthu i gerddorfeydd a phobl ifanc. Yn wir, yr wythnos hon yn unig, daeth rhywun â thrwmped i fy swyddfa etholaeth—ychydig ar ôl yr amnest, ond rydym yn ddiolchgar iawn amdano. Roedd hyn yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus yn Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol a welodd dros 60 o offerynnau yn cael eu rhoi gan staff y Llywodraeth a'r Cynulliad, yn ogystal â nifer o Aelodau'r Cynulliad yma hefyd a roddodd offerynnau.

Mae ensembles cerddorol, fel y clywsom y prynhawn yma hefyd, yn chwarae rôl hanfodol yn cynorthwyo ein pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd perfformio a darparu llwybr gyrfa i ddod yn gerddorion proffesiynol. Credaf y dylai pob person ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir, sy'n ddigon dawnus i ennill lle yn un o'r ensembles, allu cymryd rhan. Felly, rwy'n croesawu sefydlu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd, yn 2018-19, yn dechrau ar eu blwyddyn lawn gyntaf o reoli a datblygu'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol. Yn ogystal, y llynedd, darparais £280,000 i awdurdodau lleol am eu cyfraniad i ensembles perfformio cenedlaethol.

Rwyf hefyd wedi cefnogi sefydlu gwaddol cerddoriaeth, fel y clywsom, ar gyfer Cymru i gefnogi gweithgareddau cerddorol ychwanegol i bobl ifanc—menter gyffrous ac arloesol, a'r gyntaf o'i bath yng Nghymru. Fe'i lansiwyd ym mis Chwefror o dan yr enw 'Anthem' ac mae'n seiliedig ar gydweithio agos rhwng yr adrannau addysg a diwylliant yma yn y Llywodraeth a Chyngor Celfyddydau Cymru, a'r gwaddol yw ein dull gweithredu hirdymor a chynaliadwy mewn perthynas â chyllido. Ei nod yw cynyddu cyfleoedd cerddorol i bobl ifanc ledled Cymru yn y dyfodol—nid yn lle gwasanaethau cerddoriaeth presennol, ond i'w hategu. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn i helpu i sefydlu a darparu arian ar gyfer y gwaddol, a gobeithiwn y bydd yn cronni drwy roddion elusennol gan amrywiaeth o gynlluniau a rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi mynediad i bobl ifanc at y profiadau hyn y tu allan i'r ysgol, yn yr un modd ag y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt o fewn yr ysgol. Credaf y bydd y gwaddol yn fenter wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd, ac un a wnaed yng Nghymru.

Mae'r cynllun dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, a seiliwyd ar ein partneriaeth gyda chyngor y celfyddydau, ac a gefnogir gan gyllid o £20 miliwn, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol oherwydd ei ymagwedd weledigaethol tuag at gefnogi creadigrwydd ar draws y cwricwlwm. Mae'r adborth cadarnhaol i'r rhaglen hon yn dangos yn glir ei bod yn cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio creadigrwydd a'r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth—

16:55

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y rhaglen dysgu creadigol mewn ysgolion, ond yr hyn a glywsom o dystiolaeth i'n pwyllgor oedd nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â gwasanaethau cerdd ac mewn gwirionedd, nad oeddent yn gallu gwneud cais am unrhyw ran o'r cynllun hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, yn y dyfodol, a fyddech yn gallu edrych ar ddiwygio'r modd y mae hynny'n gweithio fel y gallai fod yn rhywbeth y gallai'r gwasanaethau cerddoriaeth fanteisio arno?

17:00

Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio am y modd y mae'r cynllun hwnnw'n gweithredu yw mai mater i'r ysgol unigol yw gweithio gyda chyngor y celfyddydau i nodi partneriaid creadigol i gyflawni'r prosiect. Felly, mater i'r ysgol yw nodi'r math o ymarferwyr y maent yn dymuno gweithio gyda hwy. Ni fuaswn yn dymuno cyfyngu ar annibyniaeth penaethiaid ysgolion i allu cynllunio'r ddarpariaeth honno ac i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid proffesiynol, ond rwyf bob amser yn barod i edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau y gall amrywiaeth mor eang â phosibl o weithwyr proffesiynol weithio yn ein hysgolion.

Yr hyn sy'n bwysig iawn am y rhaglen honno yw ei bod yn codi cyrhaeddiad a dyheadau ac mae'n ein helpu i lunio ein cwricwlwm newydd. Yr wythnos diwethaf—ac roeddwn yn siomedig iawn fod ymrwymiadau yma wedi fy rhwystro rhag mynychu—yn y Tate Modern, cafodd 32 o ysgolion creadigol arweiniol o Gymru gyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ac arddangos eu gwaith. Rhannwyd ein ffocws ar greadigrwydd yn y cwricwlwm â chynulleidfa eang y tu allan i Gymru gyda dros 1,000 o ymwelwyr yn gweld yr arddangosfa honno yn Oriel y Tate, ac rwy'n credu bod hynny'n wych.

I gloi, hoffwn ddweud fy mod yn edrych ymlaen at weld yr argymhellion gan y pwyllgor diwylliant a'r iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gerddorol yng Nghymru. Ond gobeithio y gallwch weld o'r trosolwg a roddais y prynhawn yma fy mod yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi addysg cerdd drwy amrywiaeth o ddulliau, ac rwy'n canolbwyntio'n bendant ar sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar, a gwella'r ddarpariaeth gerdd i bawb o'n pobl ifanc—er ei fwyn ei hun ac er mwyn ein cenedl.

Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:01.