Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
01/05/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rwyf wedi cael gwybod o dan Reol Sefydlog 12.58 y bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Mark Isherwood.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu locwm yng Nghymru? OAQ52065
Gwnaf. Bydd contractwyr ymarferwyr cyffredinol annibynnol a byrddau iechyd yn cyflogi meddygon teulu locwm lle bo angen gwasanaeth. Mae'n rhaid i feddygfeydd teulu sicrhau eu bod yn gymwysedig ac wedi eu cofrestru yn briodol.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn 2014, ysgrifennodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at Aelodau yn galw am gamau brys i fynd i'r afael ag argyfwng cynyddol a oedd yn datblygu ym maes ymarfer cyffredinol. Yn 2016, ysgrifennodd is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at yr Aelodau yn dweud eu bod yn ymwybodol iawn o ba mor fregus yw ymarfer cyffredinol yn y gogledd, lle mae rhai ardaloedd, fel Wrecsam, mewn perygl o golli mwy o feddygfeydd yn y dyfodol agos iawn. Ac, wrth gwrs, mae Gresffordd o dan fygythiad erbyn hyn. Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau newydd Llywodraeth Cymru bod nifer y meddygon teulu cofrestredig sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel isaf ers 2013, gan fod 83 yn llai nag yn 2016 a 2017, ac ychydig dros hanner y meddygon teulu a adawodd y gweithlu yn ailymuno fel meddygon locwm. Sut, felly, ydych chi fel Llywodraeth yn ymateb i'r rhesymau a roddwyd i mi gan rai meddygon teulu locwm yn y gogledd bythefnos a hanner yn ôl am beidio â gweithio yng Nghymru fel: yswiriant diogelwch meddygol mwy fforddiadwy i feddygon locwm sy'n cyflawni sesiynau yn Lloegr nag yng Nghymru, yn ogystal â'r mater rhestr perfformiad ar wahân; biwrocratiaeth ychwanegol wrth ymdrin â chyfraniadau pensiwn; cwtogi cysylltiadau hyfforddiant gydag ysgolion meddygol y gogledd; y 'straen a'r perygl' o weithio yn y system yng Nghymru; systemau TG gwahanol ac eilradd, ac yn y blaen ac yn y blaen?
Mae'n wir bod defnyddio yr un ffynhonnell ddata â blynyddoedd blaenorol yn dangos gostyngiad o 83. Fodd bynnag, mae ystadegwyr wedi canfod problemau ansawdd gyda'r data, a allai olygu ei fod yn sylweddol is. A mesuriad mwy cyflawn o gapasiti meddygon teulu yng Nghymru yw cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol, meddygon teulu locwm, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a chofrestryddion. Mae defnyddio'r dull hwnnw yn dangos y bu gostyngiad 0.3 y cant o oddeutu wyth ers 2016. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud, yn groes i'r argraff ddigalon, nad wyf yn meddwl sydd yn ddefnyddiol o gwbl, a roddwyd gan Mark Isherwood, ar ôl cwblhau bob un o dair rownd ein proses recriwtio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i swyddi ymarferwyr cyffredinol dan hyfforddiant, bod Deoniaeth Cymru wedi cadarnhau penodiad 144 o leoedd, sy'n fwy na'r 136 o leoedd hyfforddi a oedd ar gael ar ddechrau'r broses recriwtio, sy'n cymharu â 121 o leoedd a lenwyd yn dilyn tair rownd yn 2016. Mae hyn yn gynnydd o 19 y cant, yr wyf yn credu y gall pawb fod yn hapus dros ben yn ei gylch, ac mae'n gwbl groes i rywfaint o'r digalondid ac anobaith yr ydym yn ei glywed gan y meinciau gyferbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n wir mai un o'r problemau gyda meddygon teulu locwm yw'r ffaith nid yn unig eu bod yn gallu ennill £800 a mwy y dydd heb gyfrifoldebau rhedeg meddygfa, ond bod y system dreth y maen nhw'n gweithredu oddi tani yn golygu y gallan nhw, i bob pwrpas, drwy sefydlu fel menter gydweithredol, dalu dim ond 20 y cant o dreth a'r gweddill fel difidendau? A'r hyn y mae'r system locwm yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw tanseilio meddygfeydd teulu. A yw'n wir bod y Llywodraeth yn gwneud sylwadau neu'n cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch newid y system dreth fel nad yw'n gallu gweithio yn y ffordd arbennig hon a'n bod ni'n rhoi cymorth i'r rheini sy'n ymgymryd â rhedeg meddygfa deulu yn barhaus, o ddydd i ddydd a'r ddarpariaeth feddygol hirdymor sydd ei hangen arnom gan ein meddygon teulu, yn hytrach na'r hyn sydd, yn ddealladwy, yn bobl sy'n gallu gweld telerau ac amodau ac enillion llawer gwell trwy ddod i mewn fel meddygon locwm?
Ydy, mae'n wir ei bod yn debygol bod cyflwyno IR35 yn y proffesiwn meddygol wedi arwain at feddygon teulu locwm yn ystyried eu materion trethiant. Nid yw polisi trethiant wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae'n effeithio, yn amlwg, ar ein gweithlu meddygon teulu yn yr un modd ag y mae yng ngweddill y DU. Nid yw'n gwbl eglur sut y mae'n effeithio ar benderfyniadau gyrfaol unigol gan feddygon teulu, ond mae llawer o ffactorau eraill ar waith ar hyn o bryd fel indemniad proffesiynol ac atebolrwydd y person diwethaf mewn practis a'r math yna o beth.
Wrth gwrs, mae gennym ni wahanol fodel yng Nghymru i gefnogi hyn hefyd, ac er bod y model ymarferydd annibynnol wedi ein gwasanaethu ni'n dda am flynyddoedd lawer, mae llawer o feddygfeydd teulu yn ei chael hi'n anodd ymateb yn y sefyllfa bresennol. Felly, rydym ni'n edrych ar wahanol ffyrdd o ddarparu hynny, gan gynnwys arferion cyflogi, a hwyluso staff locwm pan fo meddygon iau eisiau'r hyblygrwydd y mae bod yn feddyg locwm yn ei gynnig. Felly, rydym ni'n ystyried ffyrdd gwahanol iawn o ddarparu hynny, ochr yn ochr â'r arferion amlddisgyblaeth yr ydym ni hefyd yn ceisio eu cyflwyno mewn nifer fawr o feddygfeydd yng Nghymru.
Arwydd arall o'r pwysau ar ofal sylfaenol oedd pan ddangosodd y ffigurau hynny yr wythnos diwethaf bod nifer y meddygon teulu sy'n gweithio'n llawn amser yn ein meddygfeydd gofal sylfaenol yng Nghymru ar eu hisaf ers dros 10 mlynedd. Ac, mae'n ddrwg gen i, ond nid wyf i mor hamddenol â chi ynghylch hynny. Dywedasoch eto heddiw, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth yn y gorffennol, 'Peidiwch â phoeni am nifer y meddygon teulu llawn amser; mae gennym ni ddigon o feddygon locwm.' Wel, mae arna i ofn nad yw hynny'n dderbyniol, oherwydd yr hyn sydd gennych chi mewn meddyg locwm yw rhywun a fydd yn fwy tebygol o weithio llai o oriau, am fwy o arian, ac mae'n tanseilio cynaliadwyedd y GIG. Onid yw'n hen bryd i ni weld camau pendant gan Lywodraeth Cymru i atal y llithriad tuag at weithio asiantaeth a gweithio locwm, ac i roi gofal sylfaenol ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?
Wel, unwaith eto, rwy'n anghytuno â safbwynt Rhun ap Iorwerth ar hyn, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae nifer o ffyrdd o edrych ar faint o bobl sy'n gweithio fel meddygon teulu, fel meddygon teulu locwm, fel ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, fel cofrestryddion meddygon teulu, yng Nghymru. Mae llawer o ganolfannau meddygol Cymru yn bractisau hyfforddi, sy'n gyfrifol am hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon teulu. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, rydym ni'n gwneud yn dda iawn o ran ein hyfforddiant—rydym ni'n recriwtio mwy nag erioed o'r blaen ac yn llenwi pob un o'n lleoedd hyfforddi, gan gynnwys mewn ardaloedd y bu'n anodd recriwtio ynddyn nhw yn y gorffennol, fel Ceredigion, ac yn y blaen. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn ddefnyddiol o gwbl cynnig y safbwynt negyddol yr ydych chi'n ei roi ar y mater, a'r hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw hysbysebu'r ffaith fod cynifer o bobl yn hapus iawn o ganlyniad i'n hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', i ddod i lenwi ein lleoedd hyfforddi ac yna mynd ymlaen i weithio yng Nghymru.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru? OAQ52081
A wnaiff y Prif Weinidog sefydlog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Nid wyf i'n hollol siŵr beth yr ydych chi'n ei olygu wrth ddweud hynny, ond mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hollbwysig i helpu pobl fyw yn annibynnol, gan weithio mewn partneriaeth â'r sector iechyd, y sector annibynnol a'r trydydd sector, i reoli galw a gwella canlyniadau i bobl yn y gogledd ac yn genedlaethol. Dyna pam mae 'Ffyniant i Bawb' yn neilltuo gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol.
Diolch am yr ateb yna. Mae Cyngor Swydd Hampshire yn bwriadu ysgogi sgiliau seinydd cartref a weithredir gan y llais Amazon Echo i gynorthwyo gyda gofal cymdeithasol i oedolion. Gall y dechnoleg helpu pobl sy'n dioddef o salwch corfforol yn ogystal â helpu'r rhai sy'n dioddef o unigrwydd ac iselder. Yn ôl y cyngor, mae dros 9,000 o bobl yn elwa ar dechnoleg gynorthwyol fel Amazon Echo ar hyn o bryd, ac mae 100 o atgyfeiriadau newydd yn cael eu gwneud bob wythnos. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno eu treial eu hunain er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r galw am ofal cymdeithasol yn y gogledd?
Gwnawn. Mae gennym ni sawl treial ar waith eisoes. Mae'n fater o ddiddordeb mawr i ni sut y gallwn ni ddefnyddio technolegau meddygol o bob math i gynorthwyo gyda gofal cymdeithasol ac, yn wir, gofal meddygol. Mae gennym ni dreialon gweithredol ar waith yn ystyried sut yn union y gallwn ni fanteisio ar y technolegau hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn frawychus, gorwariwyd £383 miliwn gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru o'i gymharu â'u cyllidebau yn 2016-17, gyda Chyngor Caerdydd ar ei ben ei hun yn gwario'r swm syfrdanol o £190 miliwn yn fwy na'i gyllideb. Nawr, rhagwelir y bydd llawer yn gorwario'n enfawr unwaith eto yn ystod y flwyddyn nesaf. Rhagwelir y bydd costau gwasanaethau cymdeithasol yn cynyddu gan £344 miliwn arall yn y tair blynedd nesaf, a cheir tystiolaeth erbyn hyn y bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n byw yng Nghymru, erbyn 2035, yn cynyddu gan 35 y cant a'r rhai dros 85 oed yn cynyddu gan 113 y cant. Mae hon yn sefyllfa sy'n mynd i fod yn beryglus. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, pa fframweithiau ydych chi'n ei gredu y mae eich Prif Weinidog ac, yn wir, eich Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith nawr i sicrhau bod ein darparwyr gofal cymdeithasol, a'u cyllidebau, yn cael adnoddau effeithiol a'u bod wir yn barod ar gyfer y dyfodol dros yr 20 mlynedd nesaf?
Rwyf i bob amser yn ei chael hi'n anodd pan fydd y Blaid Geidwadol yn sôn am wariant, o ystyried yr arian—[Torri ar draws.]
Mae'r arian gennych chi. Mae'r gyllideb gennych chi. Mae'r gyllideb gennych chi.
Mae'n ddefnyddiol iawn gallu bod ag ymennydd ranedig ar y pwnc hwn, ond rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod bod gwariant cyhoeddus ar wasanaethau cymdeithasol i deuluoedd a phlant, yma yng Nghymru, wedi cynyddu gan 22 y cant rhwng 2010-11 a 2016-17, sy'n wahaniaeth sylweddol i'r cynnydd i wariant yn Lloegr, sydd ddim ond yn 5 y cant.
Wel, rwy'n cytuno bod yr arian sy'n dod o Lundain yn annigonol—byddem yn amlwg yn cytuno â hynny. Ond y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw beth mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i baratoi ar gyfer realiti y £344 miliwn ychwanegol hwn y bydd ei angen erbyn 2020? Nid yw pwyntio bys a beio pobl eraill yn ateb y cwestiwn mewn gwirionedd. Nawr, dim ond fis diwethaf hefyd, wrth gwrs, clywsom fod un o ddarparwyr gofal mwyaf y DU, Allied Healthcare, mewn trafferthion ariannol. Felly, yn ogystal â dweud wrthym beth arall fydd y Llywodraeth yn ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r diffyg cyllid sylweddol, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gwnewch chi sicrhau na fydd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dioddef o ganlyniad i broblemau parhaus Allied Healthcare?
Gallaf, o ran Allied Healthcare, rydym ni'n ymwybodol o geisiadau'r contractwr i fynd i mewn i ryw fath o fod yn nwylo'r gweinyddwyr, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ni gynllun da ar waith. Gwn fod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ni ddilyniant o ran arferion gofal ar waith i unrhyw un a allai gael ei effeithio gan hynny, er fy mod i'n prysuro i ddweud, er mwyn peidio â chychwyn unrhyw sgwarnogod i redeg, nad ydym ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd a fyddai'n golygu bydd unrhyw ofal yn dod i ben yn unrhyw un o'r mannau lle y darperir gofal Allied Healthcare.
O ran y mater cyffredinol, mae'n amlwg fod poblogaeth sy'n heneiddio yn broblem ar draws gorllewin Ewrop gyfan, ond rydym ni wedi gwneud yn hollol siŵr yma ein bod ni'n gweithio ochr yn ochr â'r maes iechyd i gyfuno adnoddau gyda gwasanaethau cymdeithasol, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi atal llawer o'r toriadau i wasanaethau cymdeithasol sydd wedi digwydd yn y DU. Ond mae'n rhyfeddol gallu gwahanu'r agenda cyni cyllidol a chanlyniadau cyni cyllidol, sef arian annigonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, oddi wrth effeithiau hynny, y gwn nad ydych chi'n ei wneud.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. A fyddai'n well gan y Gweinidog gael cefnogaeth Plaid Lafur yr Alban ynteu'r Torïaid ac UKIP yng Nghymru? [Torri ar draws.]
Os yw arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio at Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yna byddai'n well gennym ni fod wedi gwneud y gorau posibl dros Gymru, a dyna yr ydym ni wedi ei wneud.
Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod canghennau'r ddwy blaid yn ei Llywodraeth yn yr Alban wedi cyfuno ddoe i wrthwynebu San Steffan. Yn hytrach, yng Nghymru, mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ildio, wedi ildio ein trosoledd bargeinio ac wedi gwanhau llaw pobl yma yn y wlad hon. Ar 27 Tachwedd 2017, dywedodd y Prif Weinidog yn y Cynulliad hwn, a dyfynnaf,
ni fyddem yn derbyn cymal machlud. Pwy sydd i ddweud na fyddai'n cael ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol? Mae'n fater o egwyddor,
meddai. Mae cymal machlud pum mlynedd bellach yn rhan o'r cytundeb y mae eich Llywodraeth chi wedi ymrwymo iddo. A all y Gweinidog esbonio: a yw'r Llywodraeth wedi colli ei holl egwyddorion?
Nac ydy. Rwy'n credu, unwaith eto, nad yw'r ormodiaith sy'n cael ei dangos gan Blaid Cymru yn y fan yma yn ddefnyddiol o gwbl. I fod yn gwbl eglur, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau newidiadau sylweddol i Fil ymadael yr UE Llywodraeth y DU sy'n diogelu'r setliad datganoli, y mae'r blaid hon yn cytuno ag ef. Mae Gweinidogion Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y bydd llawer o feysydd sydd wedi eu datganoli eisoes yn parhau i fod wedi eu datganoli. Byddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, wedi caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros feysydd polisi datganoledig, fel ffermio a physgota, ond nid yw hynny'n wir mwyach. Ar ôl misoedd o drafodaethau dwys, daethpwyd i gytundeb sy'n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad i'r Bil ar sail cytundeb rhynglywodraethol a gwelliannau i'r Bil sydd wedi'u cyhoeddi, ac nad ydynt yn dweud yr hyn y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud y maen nhw'n ei ddweud ar hyn o bryd.
Nid fy ngormodiaith i yw hon. Dyna oedd geiriau'r Prif Weinidog, ac nid yw hyn yn ddim llai nag ystryw rhwng y Torïaid a Llafur. Cawsoch eich cefnogi gan gredinwyr Brexit tra y collwyd cefnogaeth pob cangen yn eich plaid eich hun, a gall pobl yng Nghymru weld eich bod wedi taro bargen wael ar ran y wlad hon.
Mae gan San Steffan reolaeth dros o leiaf 24 o feysydd polisi erbyn hyn, ac mae llawer o'r rheini yn hynod bwysig i fywydau pobl: rheolaeth dros amaethyddiaeth, yr amgylchedd, caffael cyhoeddus—San Steffan sy'n gyfrifol am bob un o'r materion hynny bellach. Yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo yw eich bod chi'n credu bod y Torïaid yn San Steffan mewn sefyllfa well i weithredu er budd cenedlaethol Cymru na'ch Llywodraeth chi eich hun. [Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi ddweud wrthych, Gweinidog, nid yw fy mhlaid i yn ymddiried yn y Torïaid, ac nid ydym ni'n ymddiried yn San Steffan gyda'n ffermydd, gyda'n hamgylchedd na'n GIG. Efallai y gall y Gweinidog ein goleuo: pan fydd San Steffan yn taro bargen amheus gyda Donald Trump, sut mae ei Llywodraeth hi yn bwriadu eu hatal nhw rhag agor ein GIG i gwmnïau preifat nawr eich bod chi ildio'r pwerau hynny? [Torri ar draws.]
Mae arna i ofn bod arweinydd Plaid Cymru wedi camddeall y pwerau yn y Bil yn sylfaenol. Ni all Llywodraeth y DU weithredu yn lle Llywodraeth Cymru, ac esboniodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, pan aeth â ni drwy'r Bil yn fanwl iawn yn ddiweddar iawn ar lawr y Senedd, y ffordd y byddai rhewi'r pwerau yn gweithio, y ffordd y mae gennym ni gonsesiynau fel na all Gweinidogion Lloegr weithredu lle byddent wedi gallu gweithredu fel arall, ac, wrth gwrs, y cymal machlud, ar ei ffurf bresennol, tra bod y sylwadau y mae hi'n sôn amdanynt, wrth gwrs, o'r Bil gwreiddiol. Felly, byddwn yn argymell bod arweinydd Plaid Cymru yn darllen y Bil yn ofalus iawn, gan ei bod yn amlwg nad yw hi wedi gwneud hynny.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a allech chi roi asesiad i mi o beth yw dewisiadau bywyd pobl ifanc yma yng Nghymru?
Rwy'n credu bod cyfleoedd pobl ifanc yma yng Nghymru yn dda dros ben, ond gallem ni wneud mwy ac, unwaith eto, fel yr wyf i'n ei bwysleisio, heb bolisïau cyni cyllidol Llywodraeth y DU, gallem ni wneud llawer iawn yn well.
Wel, Arweinydd y tŷ, pan ddaw i addysg, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am lawer o'r pethau y gellir eu gwneud i wella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc, ac, yn anffodus, mae'r cyflawniad wedi ei lesteirio gan rai o'r polisïau a gyflwynwyd gan Lywodraethau Llafur blaenorol. Ond ym maes dyslecsia, ceir diffyg uchelgais gwirioneddol o ran ceisio gwella cyfleoedd bywyd plant y nodir bod ganddynt ddyslecsia yn ein hysgolion. Mae'r bwlch o ran plant sy'n ennill graddau A neu A* i C mewn cymwysterau TGAU dethol wedi lledaenu ers 2015. Roedd tri deg tri y cant o ddisgyblion yn arfer cael y canlyniadau hynny ar lefel TGAU. Erbyn hyn, nid yw 36 y cant o ddisgyblion yn cyrraedd y targed hwnnw mewn Saesneg. Pan ddaw i wyddoniaeth, a oedd yn arfer bod yn dir cadarn i fyfyrwyr y nodwyd bod ganddynt ddyslecsia, ceir bwlch o 10 y cant erbyn hyn o ran plant sy'n ennill pum gradd dda mewn pynciau TGAU. Nid oes angen arian arnoch chi i wneud y gwahaniaeth hwnnw, y cwbl sydd ei angen arnoch yw polisïau ar waith i wneud y gwelliannau. Dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, rydym ni wedi gweld gostyngiad enfawr yn nifer y plant sy'n ennill y graddau yr hoffem ni eu gweld ac sydd wedi cael diagnosis o ddyslecsia. Pam nad yw'r Llywodraeth yn gwneud mwy yn y maes penodol hwn?
Wrth gwrs, dyna oedd holl bwynt y Bil anghenion dysgu ychwanegol—i roi cymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein system. Ond rwy'n credu ei bod hi'n dra rhyfeddol dweud nad arian yw'r broblem, ond polisi, oherwydd, wrth gwrs, mae'r polisïau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol bob amser yn cynnwys cymorth ychwanegol i'r disgybl. Mae'n ffaith bendant mai'r mwyaf o anghenion dysgu ychwanegol sydd gan y disgybl, y mwyaf o gymorth sydd ei angen arno a'r mwyaf o arian y mae hynny'n ei gostio. Ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud y gorau posibl i bawb yn ein system ysgolion, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed a'r rhai ag anghenion ychwanegol, a dyna yw nod y ddeddfwriaeth.
Nodais yn eglur sut y mae'r bwlch yn lledaenu ac mae hynny'n amlwg yn annerbyniol, yn enwedig dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, pan, mewn Saesneg a gwyddoniaeth yn arbennig, y bu dirywiad gwirioneddol. Dros y ffin yn Lloegr, maen nhw wedi cyflwyno ffoneg fel maes polisi i gynyddu gallu plant i wella eu darllen. Ers 2011, mae 147,000 yn fwy o blant chwe blwydd oed yn elwa ar y maes polisi hwn yn Lloegr. 147,000 o blant yw'r nifer honno rhwng 2011 a 2016. A fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu mwy o strategaethau i gynorthwyo plant y nodwyd bod ganddynt ddyslecsia ac yn gwneud yn siŵr bod y niferoedd hyn, yr wyf i wedi eu dyfynnu i chi heddiw, yn cael eu sefydlogi ac yn cael eu gostwng fel bod gan blant y nodwyd bod ganddynt ddyslecsia gyfle bywyd gwell yma yng Nghymru?
Rydym ni yn addysgu ffoneg yn ysgolion Cymru. Rwyf i wedi ymweld ag ysgolion yn bersonol a gwylio eu haddysgu ffoneg, felly rwy'n gwbl ymwybodol ein bod ni'n addysgu ffoneg eisoes. Rwy'n siŵr y gellid gwneud mwy i addysgu ffoneg i fwy o blant. Ond rwy'n credu bod yr ystadegau yr ydych chi'n eu dyfynnu braidd yn gamarweiniol gan fod y rhan fwyaf o blant dyslecsig yn cael amser ychwanegol ac yn sefyll gwahanol arholiadau. Felly, mae gen i ofn nad yw manylion hynny gen i ar flaenau fy mysedd, ond efallai pe hoffai arweinydd yr wrthblaid ganiatáu i ni weld yr ystadegau hyn y mae'n eu dyfynnu, yna byddwn yn gallu ymateb iddynt yn llawn.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Mae hi bob amser yn bleser gweld arweinydd y tŷ wrth y darllenfwrdd. Gobeithio nad yw'n golygu bod y Prif Weinidog wedi datblygu hoffter anffodus at ddimobio.
Tybed a yw arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod isafswm pris ar gyfer alcohol yn cael ei gyflwyno yn yr Alban heddiw a bod hynny wedi arwain at bris potel o Sainsbury's Basics London Gin i gael ei gynyddu o £10.50 i £13.13, potel o Asda Rich & Ripe Red Wine o £3.19 i fyny i £4.88 ac y bydd 18 can o gwrw Tennent's, a oedd yn costio £12 yn Asda yn cynyddu i £15.85. Mae'r rhain yn cynrychioli cynnydd sylweddol yn ôl canran ac onid yw hi'n cytuno â mi bod hyn yn mynd i effeithio'n anghymesur ar bobl ag incwm isel? Gwn ei bod hi'n pryderu am effaith cyni cyllidol ar bobl, felly ai dyma'r adeg iawn i ychwanegu beichiau ychwanegol arnyn nhw pan mai un o'r ffyrdd y maen nhw'n ceisio lliniaru cyni cyllidol yw yfed yn gymedrol? Nid yw'n mynd i effeithio rhyw lawer ar y bobl sydd â phroblemau alcohol difrifol, ond mae'n mynd i effeithio ar y mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed yn gyfrifol.
Yn gyntaf oll, o ran ei sylwadau am y Prif Weinidog, yr wyf i'n credu eu bod yn arbennig o annoeth, mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, ar daith hynod o bwysig i Doha, yn dod i mewn ar yr awyren Qatar Airways gyntaf i Faes Awyr Caerdydd, rhywbeth yr ydym ni i gyd yn hynod falch ohono. A, Llywydd, rwy'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i ddweud ar y pwynt hwn mai'r dasg drist gyntaf a roddwyd i mi pan ddychwelais i Gymru yn rhan o'm gyrfa broffesiynol ym 1993, oedd gweithio ar breifateiddio gorfodol maes awyr Caerdydd o'r sector cyhoeddus, oherwydd ei fod yn codi cywilydd ar y Llywodraeth ar y pryd gan ei fod yn gwneud swm mor enfawr o arian. Rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth Lafur hon wedi gallu ei roi yn ôl yn y sector cyhoeddus lle, wrth gwrs, y mae wedi mynd o'r perfformiad gwael iawn yr oedd ganddo yn y sector preifat i berfformiad rhagorol yn y sector cyhoeddus. Felly, rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP am roi'r cyfle yna i mi ddweud hynny.
O ran isafswm pris ar gyfer alcohol, gwn nad yw'n cytuno â'r polisi, ond mae nifer fawr o bobl yn marw o ganlyniad i wenwyn alcohol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r blaid hon yn ei rhoi sylw o ddifrif iawn yn wir iddo.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae arweinydd y tŷ yn ei gyfaddef yw ei bod yn sefyllfa o forthwyl gof i fethu nyten, gan fod y mwyafrif llethol o bobl yn mynd i gael eu heffeithio yn eu pocedi, ond nid yw'n mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i'w hiechyd. Ar hyn o bryd, cymerir hyd at 76 y cant o bris potel o wisgi mewn tollau cartref a threth ar werth. Wrth gwrs, nid yw hon yn dreth a gynigir ar yr isafswm pris ar gyfer alcohol, felly bydd yr elw ychwanegol, os bydd elw ychwanegol, a wneir yn mynd i bocedi'r archfarchnadoedd. Felly, ni fydd cronfa y gellid lledaenu manteision iechyd cyhoeddus ohoni trwy bolisi Llywodraeth. Does bosib na fyddai'n llawer gwell targedu'r yfwyr trafferthus eu hunain fel modd o drin y broblem hon, yn hytrach na gorfodi beichiau ar bobl nad oes ganddyn nhw broblem.
Wrth gwrs, nid y polisi isafswm pris ar gyfer alcohol yw'r unig bolisi sydd gennym ni ar waith i helpu pobl sy'n dioddef â phroblemau camddefnyddio alcohol a chamddefnyddio sylweddau. Mae arweinydd UKIP yn hollol iawn i ddweud y gall fod yn broblem gyda chyni cyllidol bod pobl yn ceisio hunanfeddyginiaethu ac ati, ond rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn cael y cymorth cywir sydd ei angen arnynt i allu rhoi terfyn ar y camddefnydd y maen nhw'n ei ddioddef. Ac rydym ni'n gwybod o'r gwaith ymchwil bod isafswm pris ar gyfer alcohol yn un o'r darnau o arfogaeth yn y pecyn hwnnw.
Ond, wrth gwrs, nid alcoholiaeth na dibyniaeth ar alcohol yw'r unig broblem iechyd y cyhoedd sy'n bodoli yng Nghymru. Ceir problem sylweddol gyda gordewdra, ceir problem sylweddol gyda chlefyd cardiofasgwlaidd, ac mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ffigurau yn ddiweddar sy'n dangos mai'r ffactorau risg ar gyfer clefyd y galon yw: ymarfer corff, 71 y cant; methu â bwyta'n iach, 67 y cant; alcohol, yn syndod efallai, dim ond 43 y cant; ac a minnau'r ysmygwr ar hyn o bryd, yn fwy o syndod fyth, dim ond 23 y cant yw hynny. Felly, ble mae'r polisi hwn o isafswm pris ar gyfer alcohol yn mynd? Os yw'r wladwriaeth wedi neilltuo iddi ei hun y grym i geisio newid ymddygiad pobl yn eu bywydau preifat trwy ddefnyddio'r system dreth neu amrywiolyn arni, pam na ddylem ni gyflwyno treth ar fwyd, treth ar halen, neu unrhyw un arall o'r ffactorau hysbys a allai fod yn achos dirywiad i iechyd unigolion?
Wel, wrth gwrs, mae gan y blaid hon syniad gwahanol iawn o swyddogaeth y wladwriaeth ym mywydau pobl na'r hyn sydd gan UKIP. Nid wyf yn gwbl sicr ei fod yn gyson o fewn UKIP. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni nifer o bethau ar gael i ni y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud. Rydym ni wedi gwneud nifer fawr iawn o bethau ym maes iechyd y cyhoedd. Felly, er enghraifft, gostyngodd nifer yr achosion o ysmygu ymhlith oedolion i 19 y cant cyn ein targed o 20 y cant yn 2016. Mae ysmygu ymhlith pobl ifanc ar ei lefel isaf, gyda 7 y cant o fechgyn a 9 y cant o ferched 15 i 16 oed yn ysmygu'n rheolaidd, o'i gymharu â 9 a 14 y cant yn 2009-10. Ac mae 425,000 o ddynion a menywod yn cael eu sgrinio fel mater o drefn yng Nghymru ar gyfer canser y fron, ceg y groth a'r coluddyn. Mae'r rhain yn ymyraethau gan y wladwriaeth ym mywydau pobl, ond maen nhw i'w croesawu'n fawr, ac maen nhw'n cyfrannu'n aruthrol at agendâu iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru, ac rydym ni'n falch iawn o hynny.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cefnffyrdd yn Nwyrain De Cymru? OAQ52110
Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein hymrwymiadau o ran gwelliannau i gefnffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys y de-ddwyrain.
Diolch. Mae'r newidiadau diweddar i gylchfan Rechem yr A4042 ym Mhont-y-pŵl wedi achosi tarfu enfawr i drigolion lleol a chymudwyr, ac rwyf i wedi derbyn nifer fawr iawn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch yr oediadau mawr yn ogystal ag ofnau ynghylch diogelwch y ffordd. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion Llywodraeth Cymru am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddarach y prynhawn yma i drafod newidiadau arfaethedig a allai ddatrys yr hyn sy'n cael ei cyflwyno gan ddatblygwr yr ystâd dai gyfagos. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru, gan weithio'n agos â'r datblygwyr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn ystyried hyn yn fater o flaenoriaeth, ac y bydd system newydd yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl?
Ydy, fel y deallaf, fel y dywedasoch nawr, Lynne Neagle, mae'r swyddogion trafnidiaeth yn cyfarfod â chi ar ôl y sesiwn hon i drafod y mater yn fanylach, ac rydym ni wedi derbyn nifer o bryderon ynghylch y cynllun ffordd newydd ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r datblygwr sy'n gyfrifol am wneud y gwaith a'i ddyluniad i roi sylw i'r sefyllfa fel mater o frys. Rwy'n deall ei bod yn debygol y bydd yn rhaid newid y marciau ffordd a gyflwynwyd yn ddiweddar i wella llif y traffig, a bydd hyn yn cymryd peth amser i'w wneud oherwydd yr archwiliadau diogelwch y mae angen eu cwblhau. Felly, yn y cyfamser, bydd y terfyn cyflymder 40 mya dros dro yn parhau, a bydd lonydd newydd a ddarparwyd yn parhau i fod ar gau i draffig er mwyn cynnal diogelwch. Mae'r gwaith yn cael ei wneud i gynyddu capasiti'r gylchfan, fel y gwn y mae hi'n ei wybod, i ddarparu ar gyfer y datblygiadau newydd yn yr ardal. Mae'r swyddogion yn fwy na hapus i weithio gyda chi i ddatrys y problemau.
Y prosiect i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yw'r cynllun adeiladu ffyrdd mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth raglen gynhwysfawr ac adolygiad cost o'r prosiect oherwydd yr oedi o ran targedau cwblhau a chanddynt oblygiadau cost sylweddol. A wnaiff y Prif Weinidog dros dro nodi'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, ac a wnaiff hi ymrwymo ei Llywodraeth i wneud datganiad yn y Cynulliad ar y mater pwysig hwn cyn gynted ag y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau?
Gwnaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei fod yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy gyfrwng datganiad.
Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o sgandal iechyd y cyhoedd yr A472 rhwng Crymlyn a Hafodyrynys. Nid yw'n gefnffordd Llywodraeth Cymru, ond roeddwn i'n meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ei hailddosbarthu fel cefnffordd Llywodraeth Cymru. Mae'n llwybr pwysig, wedi'r cyfan, i'r rhanbarth ac i'r ardal, ond yn bwysicach, gydag adnoddau Llywodraeth Cymru, efallai y gellid datrys problemau iechyd y cyhoedd y gefnffordd honno yn well.
Mae gen i ofn nad oes gen i unrhyw fanylion am y ffordd y mae'r aelod yn sôn amdani. Byddwn yn fwy na pharod i wneud yn siŵr yr ysgrifennir ato gyda'r manylion.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn croesawu'r manteision economaidd posibl y mae Trago Mills yn amlwg yn mynd i'w cynnig i Ferthyr Tudful a'r cyffiniau, ond mae ei leoliad yn uniongyrchol oddi ar gylchfan Cyfarthfa ar yr A470 yn achos pryder parhaus. Aeth rheolaeth agoriad Trago Mills y penwythnos diwethaf yn dda iawn mewn gwirionedd ac rwy'n meddwl ei fod yn dda iawn yn gyffredinol, ond mae'r traffig yn parhau i fod yn drwm iawn yn yr ardal, o gofio bod gennym ni barc manwerthu Cyfarthfa yn union gyferbyn hefyd, ac rwy'n siŵr bod y penwythnos gŵyl y banc hwn sydd ar fin dod yn mynd i fod yn dipyn o hunllef i fyny yn y fan honno. Rwy'n credu bod y broblem i raddau helaeth oherwydd y ffaith y rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddatblygu Trago Mills tua 20 mlynedd yn ôl pan oedd traffig yn llawer ysgafnach ac nad oedd y datblygiadau manwerthu eraill yno.
Felly, a allwch chi fy sicrhau i o ddau beth, os gwelwch yn dda: un yw y bydd ateb parhaol hirdymor i leddfu'r pwysau i drigolion lleol yng Nghyfarthfa; ac a allwch chi hefyd gadarnhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu'r terfynau amser ar ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau o'r fath, nad ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i amgylchiadau yn newid mewn ardal dros gyfnod mor hir o amser?
Diolch am godi hynna. Rydym ni'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd coridor strategol yr A470. Mae'r darn o'r ffordd o gwmpas Trago Mills wrthi'n cael ei ymchwilio a'i arfarnu y unol â gofynion canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, a adnabyddir fel WelTAG. Mae seibiant yn yr astudiaethau ar hyn o bryd tra bod y patrymau traffig a'r galw ansefydlog yn dychwelyd i'r amodau cyfartalog ar ôl agor siop Trago Mills, y gwyddom ei fod wedi cynyddu galw yn sylweddol.
Disgwylir i'r cyfnod ymsefydlu bara tua chwe mis, ac ar yr adeg honno bydd yr astudiaeth yn ailddechrau trwy brofi tueddiadau a ragwelir gyda'r rhai sy'n hysbys ar ôl agor Trago Mills. Bydd y profion sensitifrwydd yn hysbysu'n well priodoldeb yr atebion tymor hwy a gynigir. Ar ôl i'r astudiaethau cyfnod 2 ar hyd y coridor gael eu cwblhau a'u harfarnu, bydd ymyraethau trafnidiaeth i fynd i'r afael â thagfeydd yn cael sylw. Disgwylir i hynny gael ei gwblhau erbyn dechrau 2019, a cheir mesurau tymor canolig i fwrw ymlaen â nhw yn y cyfamser.
Mater i awdurdodau cynllunio lleol ei ystyried yw'r mater ynghylch y terfynau amser ar gyfer caniatâd cynllunio yn ymwneud â datblygiadau mawr. Gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd yr awdurdod lleol a chithau yn ymateb i hwnnw. Yn yr achos hwn, fel y gwyddoch, gwnaed y penderfyniad ynghylch caniatâd cynllunio ym 1994 gan awdurdod cynllunio Morgannwg Ganol ac roedd yn cynnwys gwelliannau i'r briffordd a oedd yn briodol i raddfa'r datblygiad ar y pryd, ond, fel y mae'r Aelod wedi ei amlygu, mae'r sefyllfa honno wedi newid i raddau helaeth iawn. Felly, bydd yr astudiaethau yn llywio gwelliannau i'r ffordd ar ôl i'r traffig ymsefydlu unwaith eto.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r berthynas rhwng tai ac iechyd? OAQ52079
Integreiddio tai ac iechyd yw'r llwyfan ar gyfer atal ac ymyrraeth gynnar effeithiol i bobl ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam mae tai a gofal cymdeithasol yn flaenoriaethau yn 'Ffyniant i Bawb'.
A gaf i ddiolch i chi am yr ymateb yna? Fel y gwyddoch, roedd gan Lywodraeth Lafur 1945 i 1951 dai ac iechyd yn yr un weinyddiaeth, o dan arweiniad Nye Bevan, rhywun sy'n uchel iawn ei barch gan y ddau ohonom.
Mae tai gwael yn cael effaith ddifrifol ar iechyd. Mae pobl, yn enwedig yr hen a'r ifanc, yn dod yn fwy agored i salwch pan fyddant yn byw mewn amodau oer a llaith. Mae amodau gwael yn golygu na ellir rhyddhau pobl o'r ysbyty pan, yn feddygol, y gellid gwneud hynny. Ond os byddwch yn eu rhyddhau, rydych chi'n mynd i'w cael yn ôl i mewn eto gan fod yr amodau y maen nhw'n byw ynddynt yn golygu y byddant yn eu gwneud yn sâl. Beth sy'n cael ei wneud i wella tai o ansawdd gwael ac felly lleihau derbyniadau i'r ysbyty?
Rwy'n cytuno'n llwyr, gall cartref o ansawdd gwael gael effaith sylweddol iawn ar fywydau pobl, yn enwedig i'r rheini o'r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae safonau ansawdd, gan gynnwys safon ansawdd tai Cymru ar gyfer tai cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn helpu i ddarparu agenda llesiant ehangach y Llywodraeth. Bydd safon ansawdd tai Cymru yn sicrhau, erbyn 2020, y bydd gan fwy na 220,000 o aelwydydd yng Nghymru gartref sy'n ddiogel ac yn gynnes. Ar hyn o bryd, ar 31 Mawrth 2017, mae 86 y cant o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn bodloni safon ansawdd tai Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £108 miliwn arall o gyllid cyfalaf y flwyddyn mewn landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod safon ansawdd tai Cymru yn cael ei fodloni yn ystod y cyfnod amser.
Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig iawn; diolchaf i Mike am ei godi. Mae pedwar deg pump y cant o ddamweiniau yn digwydd yn y cartref, ac mae damweiniau ymhlith y 10 uchaf o achosion marwolaeth i bobl o bob oed, ac mae'n arbennig o uchel ymhlith plant—yr uchaf ar ôl canser, rwy'n credu—a phobl hŷn. Nawr, yn yr ymyraethau niferus yr ydym ni'n eu gwneud, er enghraifft, inswleiddio cartrefi, ymweliadau gofal cymdeithasol, dylem fod yn cynnal asesiad o ddiogelwch cartrefi oherwydd gellid diogelu llawer iawn, iawn o bobl agored i niwed pe byddem ni'n gwneud hynny ac yn meddwl am atal damweiniau.
Dylem. Mae'r Aelod yn codi mater pwysig, ac yn rhan o safon ansawdd tai Cymru, wrth gwrs, mae gwneud yn siŵr bod cartrefi yn bodloni safon lle y sicrheir bod cyn lleied o ddamweiniau â phosibl yn bwysig.
Ceir nifer o gynlluniau ar gyfer addasiadau ledled Cymru hefyd, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod cyflymder addasiadau wedi cynyddu y tu hwnt i bob amgyffred yn fy nghyngor fy hun o'i gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod y safonau diogelwch gorau yn cael eu cynnwys yn y dyluniad wrth i ni ddatblygu cartrefi newydd yng Nghymru.
Canllawiau Shelter Cymru i denantiaid preifat ynghylch cymryd camau os na fydd eu cartref yn iach neu ei fod mewn cyflwr peryglus yw, a dyfynnaf:
Yn gyntaf, mae'n rhaid i chi feddwl yn ofalus a ddylid cymryd camau. Yn benodol, ystyriwch a yw eich landlord yn debygol o geisio eich troi allan yn hytrach na gwneud y gwaith.
Er y gall y tenantiaid ofyn wedyn i'r Cyngor anfon arolygydd, maen nhw'n dal i fod mewn perygl wedyn os bydd y landlord yn penderfynu eu troi allan, neu os yw'n dal dig oherwydd eu bod wedi cymryd y camau hynny. Yn hynny o beth, a wnewch chi ystyried cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer diogelu rhentwyr hirdymor ac annog tenantiaethau mwy hirdymor gyda chosbau eglur a sylweddol i landlordiaid os byddant yn cymryd y mathau hyn o gamau? Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod eu tai yn iach, ond os byddant yn cael eu barnu am gymryd camau, yna mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn bryderus yn ei gylch.
Ydy, mae'r Aelod yn codi pwynt da iawn, ac, yn amlwg, rydym ni eisiau i bobl i fod yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi, ond hefyd i fod â threfniadau rhentu diogel gan ein bod ni'n gwybod bod trefniadau rhentu ansefydlog, yn enwedig i deuluoedd, yn cyfrannu at iechyd meddwl a salwch hirdymor. Gwn fod gan y Gweinidog Tai ac Adfywio hyn mewn golwg yn sicr pan fyddwn ni'n edrych ar ein Deddf tai newydd sy'n cael ei chyflwyno yn y tymor Cynulliad hwn.
5. A wnewch chi ddatganiad am yr adolygiad rhywedd sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd? OAQ52107
Bydd yr adolygiad, sy'n cael ei arwain gennyf i, yn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei roi wrth wraidd gwaith llunio a darparu polisi Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.
Rydw i’n croesawu’r adolygiad, wrth gwrs, cyn belled â bod y deilliannau yn glir ac y bydd yn arwain at wella cydraddoldeb. Wrth gyhoeddi’r adolygiad mewn araith yn Rhydychen, fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud, fel rŷch chi newydd ei ddweud, ei fod e eisiau gweld Cymru fel y lle mwyaf saff yn Ewrop ar gyfer menywod. Ac eto, rydw i’n cytuno’n llwyr, ond mae troi’r geiriau yna yn realiti yn gofyn am ymrwymiad ac ewyllys wleidyddol gadarn. Ar hyn o bryd, mae’r agenda cydraddoldeb rhywedd yn rhan o'ch ystod o ddyletswyddau chi fel arweinydd y tŷ. Beth ydy’ch barn chi am gael Gweinidog sydd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod?
Wel, mae'n syniad diddorol. Rwy'n meddwl bod iddo fanteision ac anfanteision sydd wedi eu trafod yn drylwyr ac mae'n debyg na wnaiff y Llywydd ganiatáu i mi gyflwyno araith awr o hyd ar y manteision a'r anfanteision. Ond yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw bod unrhyw Weinidog â chyfrifoldeb yn ei wneud yn flaenllaw yn yr hyn y mae'n treulio ei amser yn ei wneud. Y rheswm am yr adolygiad cyflym yw i sicrhau nad ydym wedi methu unrhyw beth; nad oes unrhyw fylchau ac nad ydym ni'n cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol; ond hefyd bod ein holl bolisïau yn cael eu targedu i'r un cyfeiriad ar yr un pryd.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn yr adroddiad cyntaf ym mis Mehefin. Mae gennym ni nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid ac mae gen i nifer o gyfarfodydd â gwahanol fenywod dylanwadol, goroeswyr, gwylwyr a phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, ac yn y blaen, ledled Cymru i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl wrth i ni geisio canolbwyntio ein holl ymdrechion ar sicrhau cydraddoldeb ychydig yn gyflymach nag yr wyf i'n ei gredu y byddem pe byddem ni wedi parhau fel yr oeddem yn ei wneud ar y cychwyn.
Arweinydd y tŷ, fe ddywedasoch wrthyf yn ystod cwestiynau yr wythnos diwethaf y bydd yr adolygiad rhywiau yn cynnwys y bwlch cyflog ar draws pob sefydliad sector cyhoeddus. Gan mai dim ond un o'r 50 o gwmnïau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru sydd â phrif weithredwr benywaidd—sef y Bathdy Brenhinol—byddwn yn awyddus i ddeall sut y mae cwmnïau preifat a arferai fod mewn perchenogaeth gyhoeddus, neu sydd â chysylltiadau cryf â'r sector cyhoeddus o leiaf, yn cael eu cynnwys yn eich adolygiad. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd yr adolygiad yn helpu i berswadio cwmnïau preifat mawr o'r math sy'n rhan o gwmpas safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd, er enghraifft, leihau eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau?
Un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried o ran y cynllun gweithredu economaidd, yr agenda gwaith teg a'n polisïau caffael ein hunain yw gweld pa ysgogwyr sydd gennym ni i sicrhau bod y nodau hynny yn nodau y ceisir eu cyrraedd yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni roi trefn ar ein materion ein hunain yn gyntaf, hefyd, ond rydym ni'n gobeithio'n fawr iawn, trwy ddylanwad meddal a thrwy ysgogiad uniongyrchol gan ddefnyddio ein cyllid, y mae nifer fawr o sefydliadau sector preifat yng Nghymru yn ei dderbyn, gallu symud yr agenda honno ychydig yn gyflymach nag y mae'n ymddangos ei bod yn symud ar hyn o bryd.
Arweinydd y tŷ, ddoe, croesewais bererindod myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; roedden nhw wedi cerdded o Ferthyr i Bontypridd ac i lawr i Gaerdydd. Roedd ganddyn nhw faneri yn dangos neges y swffragetiaid, 'Gweithredoedd nid geiriau', ac mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr o'r Coleg Celf yn Abertawe—rwy'n credu bod hwnnw yn etholaeth Mike Hedges—a chyflwynasant faniffesto eu pererindod i mi. Fe wnaethant ganu 'Bread and Roses' hefyd, a oedd yn wefreiddiol iawn, ar risiau'r Senedd. Ond yr hyn y maen nhw ei eisiau yw cyfle cyfartal; gofal plant am ddim; diogelwch swyddi i fenywod ar gyfnod mamolaeth; i barhau'r frwydr am gyflog cyfartal; ymrwymiad i amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn sefydliadau cyhoeddus; ac ymrwymiad i gefnogi cydlyniant mewn cymunedau trwy fentrau creadigol. Felly, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod y maniffesto hwn yn cyd-fynd ag amcanion yr adolygiad rhywiau. A wnewch chi sicrhau bod lleisiau'r myfyrwyr hyn yn cael eu clywed a'u croesawu?
Yn sicr. Mae yn fy etholaeth i a dweud y gwir, ac roeddwn i'n drist iawn i fethu â gallu—.
Ymddiheuriadau.
Fe wnes i fy ngorau glas i fod yn bresennol a dweud y gwir, ond nid oedd yn ddigon, ac fe'u collais, yn anffodus, felly roeddwn i'n siomedig iawn. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gallu eu gweld yno. Maen nhw'n grŵp ysbrydoledig o fenywod ifanc a chytunaf yn llwyr â'u hagenda. Pe byddem ni ond yn gallu ei wneud yn gyflymach.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52100
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth a'r gorllewin, gan gynnwys £3 miliwn yn ddiweddar ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a £25 miliwn ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £6.6 miliwn yn Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob claf.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ am yr ateb yna. Efallai y bydd hi'n gwybod fy mod i wedi codi'r ddarpariaeth o gyfleusterau gwasanaeth iechyd yn ucheldiroedd Cymru, yn seiliedig ar Flaenau Ffestiniog, yn y Cynulliad ar sawl achlysur. Caewyd yr ysbyty bwthyn yno rai blynyddoedd yn ôl ac fe'i disodlwyd yn ddiweddar gan adeilad swyddfa newydd—digon o ddesgiau, ond dim gwelyau. Ceir problem barhaus gyda recriwtio meddygon teulu, wrth gwrs, a chadw staff, ac mewn ffyrdd eraill hefyd.
Mae anfodlonrwydd sylweddol ymhlith pobl leol ym Mlaenau Ffestiniog a'r cyffiniau, a chyflwynwyd deiseb i'r Cynulliad ganddyn nhw yn ddiweddar i alw am ymchwiliad annibynnol i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn ucheldiroedd Cymru. Heno, mae cyfarfod o bobl o Flaenau Ffestiniog a Dolwyddelan i ystyried y posibilrwydd o gymryd camau cyfreithiol i orfodi ymchwiliad annibynnol. Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn fanteisiol hwyluso ymchwiliad annibynnol, oherwydd ni fyddai'n bosibl i hynny niweidio'r ddarpariaeth o gyfleusterau gwasanaeth iechyd yn yr ardal, ond gallai wneud llawer iawn i leddfu pryderon y cyhoedd.
Na fyddem, ac rwy'n credu bod yr Aelod wedi tanseilio ei ddadl ei hun trwy gyfeirio at ganolfan iechyd fel adeilad swyddfa. Nid yw hynny wir yn cynorthwyo'r—
Adeilad swyddfa yw ef.
—llif rhwydd o wybodaeth.
Nid adeilad swyddfa yw ef. Ydych chi wedi bod yno? Ydych chi wedi bod y tu mewn iddo?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael y ffeithiau allan pan ein bod ni'n trafod iechyd, sydd bob amser yn bwnc emosiynol—
Pwy yw'r Prif Weinidog yn y fan yma?
Nid wyf i'n credu bod arweinydd y tŷ angen unrhyw gefnogaeth gan ei chyd-Weinidogion. Arweinydd y tŷ—
Yr Aelod dros Flaenau Ffestiniog sy'n gwybod am yr hyn y mae'n sôn amdano.
Mae llawer o Aelodau—mae o leiaf pum aelod dros Flaenau Ffestiniog yn y Siambr hon, rhywbeth sydd wedi bod yn ganolog i'r parch sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad yn y Siambr hon o'r cychwyn. Arweinydd y tŷ.
Fel yr oeddwn i'n ei ddweud, ceir amrywiaeth o safbwyntiau brwd ar y pwnc, a mynegwyd amrywiaeth helaeth ohonynt, fel yr ydym ni newydd ei weld, Llywydd, yn y Siambr ei hun. Ond rwy'n credu bod gan Ysgrifennydd y Cabinet reolaeth dda dros hyn ac mae eisoes wedi ateb sawl cwestiwn ar y pwnc, fel y dywedodd yr Aelod ei hun.
Arweinydd y tŷ, rwyf i wedi codi fy mhryderon ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd gorllewin Cymru ar sawl achlysur yn y Siambr hon. Oherwydd hynny, rwyf i wedi cael fy nghyhuddo gan aelodau o'r Llywodraeth a gan aelodau'r meinciau cefn o godi bwganod, o ddilorni'r gwasanaethau iechyd ac o niweidio'r broses recriwtio staff—y cwbl ar fy mhen fy hun, rwyf i wedi niweidio'r broses recriwtio staff.
Cysylltodd Ysgrifennydd y Cabinet presennol â'r Ceidwadwyr Cymreig i gymryd rhan mewn adolygiad Seneddol, a gwnaethom hynny gyda phleser mawr. Un o nodau hynny oedd helpu i ddadwleidyddoli'r GIG er mwyn ceisio sicrhau dyfodol cryf i Gymru gyfan yn y GIG. Felly, dychmygwch y don o sinigiaeth a ysgubodd drosof y penwythnos hwn pan welais Aelodau Cynulliad Llafur, ASau Llafur a phlaid wleidyddol Llafur yn ymgyrchu y tu allan i ysbytai Llwynhelyg a Llanelli i achub ein hysbytai. Dywedwch wrthyf, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ, yn eich swyddogaeth fel prif chwip, beth ddylem ni edrych ymlaen ato? A fydd y galw enwau arnom ni yma, os ydym ni'n ddigon eofn i ddadlau ynghylch hyn, yn dod i ben? A fydd yn parhau? A fyddwch chi'n siarad â'ch cyd-Aelodau? Yn anad dim, a ydym ni'n mynd i geisio cael dadl resymegol, neu a fydd y Blaid Lafur yn parhau i grafu am bleidleisiau mewn ymgais daer i geisio lliniaru'r problemau y maen nhw'n gwybod sy'n eu hwynebu gyda gwasanaeth iechyd y maen nhw wedi bod yn gyfrifol amdano dros y ddau ddegawd diwethaf? Rwy'n ddig dros ben, Vaughan, oherwydd rydych chi eisiau i ni ddadwleidyddoli—y criw yna, calliwch.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn ynglŷn â chynnal materion cyhoeddus. Nid wyf i'n bersonol yn ymddwyn yn unrhyw un o'r ffyrdd y cyfeiriodd atynt. Nid wyf yn cytuno â gwleidyddoli—
Gadewch i ni glywed arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda.
Fodd bynnag, ceir—. Fel y dywedais, gwn fod yr Aelod yn teimlo'n gryf iawn, fel yr wyf innau, bod gwleidyddiaeth, weithiau, yn ddiangen o gynhennus a gwleidyddol, ac nid wyf yn cytuno â sylwadau personol yn cael eu gwneud am eraill mewn unrhyw ffordd o gwbl, a gwn ei bod hi'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, ceir, fel y dywedais, amrywiaeth o safbwyntiau cryf ar unrhyw ddiwygiad o ofal iechyd. Mae ymgynghoriad agored yn digwydd ar hyn o bryd. Mae gan nifer fawr o bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol safbwyntiau brwd ar y pwnc hwnnw ac maen nhw'n eu mynegi yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae nifer fawr o wythnosau ar ôl yn y cyfnod ymgynghori o hyd. Rwy'n siŵr y bydd mwy o brotestiadau a safbwyntiau brwd yn cael eu mynegi yn y ffordd honno yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad, ac yna, ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd y cyfle gennym i drafod canlyniad yr ymgynghoriad, ar ôl i'r ymatebion gael eu dadansoddi.
7. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwil diweddaraf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr sy'n amlygu bod y gyfradd uchaf o fyfyrwyr sy'n rhoi'r gorau i'r brifysgol yn rhai dosbarth gweithiol? OAQ52076
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rhwystrau ariannol sy'n gallu atal pobl rhag mynd ymlaen i addysg uwch. Dyna pam, yn dilyn adolygiad Diamond, yr ydym ni wedi diwygio cymorth i fyfyrwyr, fel bod gan fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser yr hawl i gael cymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio.
Rwy'n credu bod adroddiad Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr 'Class dismissed: Getting in and getting on in further and higher education' yn gyfraniad pwysig at y ddadl y mae angen iddi fod yn berthnasol i ni i gyd, oherwydd, yng ngoleuni'r ffigurau ymadael hyn a'r her sgiliau sy'n cael ei hachosi gan y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae angen i ni fod yn codi sylfaen sgiliau ein holl bobl ifanc i ymateb i'r ansicrwydd sydd i ddod yn y farchnad swyddi. Rwy'n pryderu braidd bod gennym ni gryn dipyn o wahaniaeth yn nifer y bobl ifanc sy'n ennill graddau yng Nghymru, o'i gymharu, er enghraifft, â de-ddwyrain Lloegr: 26.5 y cant yng Nghymru o'i gymharu ag ychydig dros 32 y cant yn ne-ddwyrain Lloegr. Roeddwn i'n meddwl tybed sut y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn, oherwydd mae'n amlwg mai ymhlith pobl ifanc dosbarth gweithiol y mae angen i ni fod yn eu hannog i fanteisio ar addysg bellach.
Ie, yn hollol. Mae ein pecyn cyllid myfyrwyr newydd yn cael ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru, ac yn ateb llawer o'r cwestiynau a godwyd gan yr adolygiad yn Lloegr. Dyma'r pecyn mwyaf hael yn y DU, a bwriedir iddo roi mwy o gymorth tuag at gostau byw trwy ddarparu'r hyn sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol trwy gymysgedd o fenthyciadau a grantiau nad ydynt yn rhai ad-daladwy. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu hastudiaethau yn hytrach na phoeni am gael dau ben llinyn ynghyd.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddarparu cymorth sy'n cyfateb i gostau byw mewn grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr israddedig llawn amser, yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig. £797.5 miliwn oedd cyfanswm y cymorth i fyfyrwyr llawn amser a roddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2015-16, sy'n gynnydd o 7 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Mae ein data perfformiad diweddar yn awgrymu bod cyfraddau cadw ar gyfer myfyrwyr addysg uwch israddedig yng Nghymru yn gwella. Mae data ar gyfer Cymru ar newydd-ddyfodiaid gradd gyntaf llawn amser ifanc o ardaloedd cyfranogiad isel yn dangos gostyngiad i gyfraddau ymadael o 9.1 y cant yn nata 2015-16 i 7.6 y cant yn nata 2016-17. Oherwydd, fel y dywed Jenny Rathbone yn gywir, nid yw'n ymwneud â chael i mewn i'r brifysgol yn unig; mae'n fater o aros yno a gallu canolbwyntio ar eich astudiaethau a pheidio â chael eich tanseilio neu fod o dan anfantais o orfod gweithio drwy eich bywyd fel myfyriwr mewn ffordd sy'n annheg ac yn eich rhoi o dan anfantais yn eich ymdrechion yn y dyfodol. Felly, bwriedir yn llwyr i'n pecyn cymorth wneud yn union hynny, gan ein bod ni eisiau cefnogi'r cymunedau hynny sydd â'r plant mwyaf disglair, beth bynnag fo'u cefndir, i wneud yn siŵr y gallant fod y person gorau posibl y gallant fod.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52109
Rydym ni'n parhau i gefnogi mentrau twristiaeth treftadaeth yn y de-ddwyrain. Er enghraifft, darparodd y prosiect twristiaeth treftadaeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru £1.058 miliwn ar gyfer gwelliannau i ymwelwyr, gan gynnwys mynediad, dehongliad a chyfleusterau eraill, yng nghastell Caerffili a gwaith haearn Blaenafon. Rydym yn parhau i fuddsoddi a hyrwyddo safleoedd treftadaeth i ddenu rhagor o ymwelwyr i Gymru.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Mae gan Gasnewydd hanes diwylliannol cyfoethog sy'n dyddio yn ôl 2,000 o flynyddoedd, ac yn cynnwys Caerllion, sef un o'r unig dri chaer parhaol ym Mhrydain Rufeinig, sy'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf AD. Mae'n gartref i'r amffitheatr fwyaf cyflawn yn y DU, baddonau caer trawiadol, ac unig weddillion barics y lleng Rhufeinig sydd i'w gweld unrhyw le yn Ewrop. Cyhoeddwyd ailddatblygiad yr Amgueddfa Lleng Rhufeinig yn yr adolygiad diweddar o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'n gyfle i hyrwyddo a datblygu treftadaeth Rufeinig Caerllion ymhellach. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r amgueddfa a Cadw i ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a gweddill y byd?
Ie, mae'n rhaid imi ddweud es i i ymweld â gwaith Rhufeinig ac Amgueddfa Caerllion yn ddiweddar iawn a chael amser hyfryd iawn. Roeddwn i'n hoffi'n arbennig y baddonau, ac mae delwedd y bobl yn nofio yn y baddonau yn arbennig o effeithiol. I unrhyw un nad ydynt wedi bod yno, rwy'n ei argymell yn fawr iawn. Mae'n ddiwrnod addysgol a dymunol iawn, felly ni allaf ei argymell yn fwy. Rydym wedi cynnal sgyrsiau cychwynnol i ystyried dyfodol y dreftadaeth a gynigir yng Nghaerllion. Byddwn yn cynnwys partneriaid eraill maes o law, fel yr awgrymwyd gan adroddiad Thurley, er mwyn sicrhau profiad cyson a chydlynol ar gyfer twristiaid. Bydd gwaith hanfodol i'r to yng Nghaerllion yn golygu y bydd ar gau am sawl mis, yn anffodus. Mae'r amgueddfa yn gweithio mewn partneriaeth â Cadw, a bydd yn parhau i gynnig profiad addysg rhagorol i ysgolion. Bydd y baddonau Rhufeinig, yr amffitheatr a'r barics yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y cyfnod pan fydd yr amgueddfa ar gau. Ni allaf ei argymell ddigon. Mae'n brofiad hynod o wych ym mhob ffordd, ac yn addysgol iawn.
Diolch i arweinydd y tŷ yn ei rôl yn ateb dros y Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw arweinydd y tŷ, yn ei rôl fel arweinydd y tŷ, a'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw arni, Julie James, i wneud y datganiad busnes. Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Wel, a gaf i gydnabod eich dygnwch a galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar grant byw'n annibynnol Cymru? Fel, ymysg pethau eraill, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rwyf wedi bod yn mynegi pryderon yn y Siambr hon ac mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ers i Lywodraeth Cymru benderfynu symud grant byw'n annibynnol Cymru i gyllid awdurdodau lleol, yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle y sefydlwyd partneriaeth â'r trydydd sector. Comisiynodd Gogledd Iwerddon o dan fodel yr Alban i sicrhau bod annibyniaeth a rheolaeth y defnyddiwr gwasanaethau yn cael eu hamddiffyn. Codais i hyn ddiwethaf yn gynnar ym mis Mawrth gyda'r Prif Weinidog, gan ddisgrifio'r cynnig fel bradychiad o hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ond, unwaith eto—er gwaethaf fy ngalwad ar y Prif Weinidog i gydnabod bod annibyniaeth yn golygu rhoi dewis a rheolaeth i bobl, ac nid gorfod cytuno ar sut y maen nhw yn gwario'u harian ag arbenigwyr â bwriadau da yn neuadd y sir pan mai nhw yw'r gwir arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, gwrthododd y Prif Weinidog hyn unwaith eto. Fodd bynnag, rwyf wedi cael copi erbyn hyn o adroddiad gan elusen yr wyf yn ei noddi, sy'n nodi y pleidleisiodd cynadleddwyr yng nghynhadledd ddiweddar Plaid Lafur Cymru yn Llandudno, ar gynnig a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur De Clwyd i gefnogi parhad grant byw'n annibynnol Cymru, er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru, ac adroddwyd y bydd hyn bellach yn parhau o leiaf tan etholiadau'r Cynulliad yn 2021—croesawyd hyn gan yr ymgyrchwyr dan arweiniad Nathan Lee Davies o Wrecsam, ond maent yn awyddus i bwysleisio bod pellter i fynd i sicrhau'r grant yn y tymor hir. Felly, o gofio nad penderfyniad i unrhyw gynhadledd plaid yn unig yw hyn, rwy'n siŵr—mae'n benderfyniad i'r lle hwn hefyd—rwy'n credu bod yn rhaid i'r Cynulliad gael datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn sy'n fater pwysig iawn i lawer iawn o bobl, yn enwedig yr ymgyrchwyr sydd wedi bod yn brwydro mor galed i gyflawni'r hyn yr ymddengys ei fod yn rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw unwaith eto, yn dilyn galwadau yr wythnos diwethaf, am ddatganiad ar ffordd osgoi yr A487 Caernarfon i Bontnewydd, er bod fy nghais i yn dod o ongl ychydig yn wahanol? Gwyddom y bu ymchwiliad cyhoeddus. Gwyddom, yn dilyn yr ymchwiliad, y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried adroddiad yr ymchwiliad ac yn gwneud penderfyniad erbyn y gaeaf. Rydym yn gwybod, ym mis Mawrth, y dywedodd Llywodraeth Cymru fod arni angen mwy o amser i ystyried y cynlluniau, ond codwyd pryderon i mi gan fusnesau lleol bod dogfen yr oeddent wedi ei chyflwyno i'r ymchwiliad yn rhoi manylion gwrthwynebiadau, nid i'r ffordd osgoi ond i'r llwybr melyn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno—. Ond cynrychiolydd cyfreithiol o Lywodraeth Cymru, bargyfreithiwr Llywodraeth Cymru—. Ar sail ei gyflwyniadau, fe wnaethon nhw wrthod yr hawl i holi Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys y ddogfen, er y dywedodd y cyngor cyfreithiol yr oedden nhw wedi'i gael na fyddai unrhyw farnwr yn gwneud penderfyniad ar sail unrhyw adroddiad drafft, ac y byddai unrhyw adolygiad barnwrol dim ond yn bosibl pe cyhoeddir gorchmynion. Mentraf ddweud bod eich bargyfreithiwr wedi dweud na ddylen nhw fod wedi mynd i adolygiad barnwrol yn dilyn cyhoeddi'r gorchmynion drafft, yn erbyn y cyngor cyfreithiol a gafwyd. Maen nhw wedi codi pryder gyda mi ynghylch yr hyn y maen nhw wedi ei ddisgrifio yn anhyblygrwydd llwyr Llywodraeth Cymru dros 10 mlynedd wrth ystyried yr effaith ar swyddi a busnesau lleol. Maen nhw'n cefnogi'r ffordd osgoi yn gryf, ond wedi bod yn ceisio cyflwyno eu hachos—heb fawr o lwyddiant hyd yma—yn gofyn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r llwybr oren neu ddu i amddiffyn busnesau a swyddi. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Mae'r ddogfen y cyfeiriais ati yn gyflwyniad manwl, sy'n cadarnhau, os darllenwch chi'r cyflwyniadau gwreiddiol yn gywir, y cafwyd 75 y cant o gefnogaeth leol ar gyfer y llwybr du. Ni chyflwynwyd hynny yn nhystiolaeth WelTAG; ni chafodd ei holi yn yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly rwy'n cefnogi'r galw am ddatganiad i'r Cynulliad ar y cynllun pwysig hwn ac yng nghyd-destun y gwrthwynebiadau dilys hyn a bygythiad gwirioneddol i swyddi mewn dau gyflogwr lleol mawr ar y llwybr.
Wel, o ran y mater cyntaf y mae'n ei godi, rydym yn parhau i fod o'r farn na all grant sefydlog ddiwallu holl ofynion pob person anabl yng Nghymru, sydd ag anghenion cymhleth ac amrywiol. Ni wnaed unrhyw newid mewn polisi Llywodraeth, felly ni allaf weld unrhyw reswm dros ddatganiad gan nad oes dim wedi newid ym mholisi'r Llywodraeth. Ac, fel y dywedodd Mark Isherwood ei hun, gofynnodd i'r Prif Weinidog am hynny yn ôl ym mis Mawrth.
O ran y ffordd osgoi, mae ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo. Mae'r Aelod wedi gwneud ei sylwadau am gynnal yr ymchwiliad hwnnw, ond, yn amlwg, ni fyddai'n iawn i'r Llywodraeth roi sylwadau ar ymddygiad a chyflwyniadau cyfreithiol mewn ymchwiliad cyhoeddus.
Sylwaf, arweinydd y tŷ, y nodwyd heddiw bod y llosgydd arfaethedig ar gyfer y Barri yn debygol o fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn, ac rwy'n credu bod gwersi ehangach i Gymru gyfan o brofiadau pobl y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhywbeth wedi mynd o'i le yn ddifrifol, yn fy marn i, os oes gennym losgydd mor agos i gartrefi, mewn ardal o amddifadedd hefyd, o ran ansawdd aer, rydym ni i gyd yn ceisio'i wella yng Nghymru, heb ddatganiad ar yr effaith amgylcheddol. Nodwyd, rwy'n credu, gan y Gweinidog dros yr amgylchedd y lle hwn o'r blaen, ei bod yn bwriadu gofyn am gynnal astudiaeth o'r effaith amgylcheddol, ond dywedwyd wrthym, serch hynny, bod y llosgydd yn cael ei sefydlu. Felly, hoffwn yn fawr iawn, a hoffai Plaid Cymru, glywed datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar ba un a fyddwn yn gweld astudiaeth o'r effaith amgylcheddol. Ac, wrth gwrs, os bydd yr astudiaeth honno o effaith, yn codi cwestiynau ynghylch allyriadau, ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth, ynghylch storio pren, ynghylch pob un o'r pethau y mae trigolion lleol wedi bod yn cwyno amdanyn nhw, bydd angen inni ddeall sut y gallai hynny effeithio ar roi'r trwyddedau terfynol ac amodau ar gyfer y llosgydd yn y Barri.
Hefyd, hoffwn i ofyn a fyddai modd i ddatganiad o'r fath, os, caiff ei wneud, gynnwys unrhyw waith y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud gydag Ofgem ynghylch y ffaith bod y cynnig presennol yn ymddangos yn wahanol iawn i'r un a gafodd y dystysgrif rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy yn wreiddiol—mae mor hen, y cynnig hwn, mae'n dyddio'n ôl i ddyddiau'r tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy, rwyf ar ddeall; fe'i gwnaed o dan drefn flaenorol. Ond bu llawer o newid ers hynny, gan gynnwys i'r llosgydd ei hun sydd o leiaf 10 y cant yn fwy o ran ei allbwn nag yr oedd o'r blaen. Felly, rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn gwerthfawrogi, nid dim ond ar gyfer y Barri ond ar gyfer y gwersi ehangach ynghylch yr amgylchedd yng Nghymru, ddatganiad llafar er mwyn i ni allu gofyn cwestiynau i'r Gweinidog ynghylch hynny.
Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi yw'r ffaith y gwnaeth llawer ohonom ddathlu bwyd a ffermio yn ystod amser cinio heddiw, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, rwy'n siŵr, i lansio eu hymgyrch, Ni Yw Ffermio Cymru. Ond y cyd-destun i godi hyn gyda chi heddiw, wrth gwrs, yw bod gennym y cynnig hwn i uno Asda a Sainsbury, yn dweud wrthym y gwneir hyn gyda phrisiau is. Ni fydd unrhyw swyddi o'r siopau yn cael eu colli, ni fydd y siopau yn cau, ond rywsut bydd gennym brisiau sydd o leiaf 10 y cant yn is. Nawr, dim ond un ffordd sydd o wasgu prisiau'n is dan yr amgylchiadau hynny, a hynny gan y cyflenwyr, a'n ffermwyr ni yw'r cyflenwyr. Ac wrth wasgu ein ffermwyr, ie, efallai y cewch chi rywbeth rhatach yn y siop, ond mewn gwirionedd rydych chi'n gwasgu ein cymunedau, oherwydd bod y ffermwyr hynny yn ailgylchu'r punnoedd maen nhw'n eu hennill yn ein cymunedau, a dangosir hynny'n glir yng ngwaith Llywodraeth Cymru ei hun yn ogystal â gwaith yr undeb.
Felly, os bydd uno ac atgyfnerthu o'r fath raddau yn y sector archfarchnadoedd, mae'n rhaid codi'r cwestiwn bod angen atgyfnerthu'r ombwdsmon archfarchnadoedd yn sylweddol, oherwydd nid ydym yn dymuno gweld unrhyw gyflenwr—ond rwyf i'n sôn yn arbennig am ffermwyr Cymru yma—yn cael eu gwasgu gan farchnad afreolaidd a defnyddio gormod o bwysau a gormod o rymoedd gwrth-gystadleuol, mewn gwirionedd, y farchnad yn cael eu defnyddio. Felly, byddai'n dda cael ymateb gan Lywodraeth Cymru, efallai llythyr gan Lywodraeth Cymru ar y cam hwn, i'r tîm uno Asda a Sainsbury, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, pa gamau y gellir eu cymryd i amddiffyn cyflenwyr Cymru a ffermwyr Cymru yn benodol, ac a ydych yn credu—chi, rwy'n credu, eich hun yn bersonol, ond yn sicr mae'r Llywodraeth wedi dweud yn y gorffennol bod ganddi ddiddordeb mawr mewn atgyfnerthu'r Ombwdsmon a gwneud yn siŵr y caiff llais y cyflenwr yn y gadwyn archfarchnadoedd ei gryfhau, yn ogystal ag, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld nawr, sef yr archfarchnadoedd eu hunain yn cael eu cryfhau.
Rwy'n credu, o ran yr ail bwynt hwnnw, bod Simon Thomas yn gwneud cyfres ragorol o bwyntiau. Mae'n peri pryder mawr bod proses uno mor fawr yn cael ei hystyried, yn enwedig pan fydd un o'r partneriaid, i bob pwrpas, yn Walmart, gan nad yw'n enwog iawn am—dyweder—polisïau prynu blaengar. Mae'n amodol, fel y gwyddoch, ar y comisiwn cystadleuaeth, ond rwyf i ar ddeall bod y comisiwn cystadleuaeth yn edrych yn gyffredinol ar yr effaith ar ddefnyddwyr ac nid ar gyflenwyr. Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a minnau bryderon am hyn a byddwn yn mynegi'r pryderon hynny i'r ymchwiliad monopolïau ac uno cwmnïau, oherwydd rwyf i'n rhannu eich pryderon, mewn gwirionedd, am y cyflenwyr. Dim ond un ffordd sydd o'i wasgu a hynny ar y diwedd. Felly, mae'n sicr yn fater i ni y byddwn yn ei ystyried.
O ran y llosgydd yn y Barri, dydw i ddim yn gwbl sicr beth yw'r sefyllfa o ran o broses honno. Rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen, mae'n debyg, fyddai i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni drwy lythyr ynglŷn â'r sefyllfa o'n safbwynt ni, ac yna gallwn symud ymlaen o'r fan honno.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Ydych chi'n gwybod pryd y gallem ni ddisgwyl diweddariad ar ddefnydd meddygol o rwyll y wain yn y GIG? Rwyf i wedi codi hyn nifer o weithiau yn y Siambr, ac rwyf ar ddeall y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd yn ôl yn fuan. Rwy'n credu y byddai'n briodol pe cawn ni ddatganiad yn dilyn hynny yn y Siambr.
Mae'r ail ddatganiad rwyf yn gofyn amdano yn ymwneud â lles anifeiliaid. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid fod erlyniadau yn sgil creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru ar y lefel uchaf mewn pedair blynedd a bod llawer o'r achosion yr ymdriniodd yr RSPCA â nhw yn ystod 2017 yn ymwneud â cheffylau ac aelodau eraill o'r un teulu o anifeiliaid. Mae'n aml yn achos o ddod o hyd iddyn nhw wedi'u hesgeuluso, ceffylau sâl, yn marw neu wedi marw weithiau. Un broblem sylweddol yw'r anhawster i ganfod pwy yw perchnogion y ceffylau hynny a gallai cofrestru helpu o bosibl. Felly, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar hyn a lles anifeiliaid yn ehangach?
O ran rhwyll y wain, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad pan ddaw'r adroddiad, felly byddwn yn sicr o ddwyn hynny ymlaen cyn gynted ag y bo modd pan fydd wedi'i wneud.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid. Rydym yn ymwybodol iawn o'r mater ynghylch olrhain perchnogaeth ceffylau, sydd, Llywydd, yn fater enfawr yn fy etholaeth i fy hun, er ei bod yn ganol dinas, sy'n groes i'r disgwyl. Rydym yn ymwybodol o hynny. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd y mater o ddifrif ac y bydd yn gwneud datganiad yn fuan.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru? Mae adroddiad blynyddol y rhaglen mesur plant ddiweddaraf yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru yn rhy drwm neu'n ordew. Mae hyn yn llawer uwch nag yn Lloegr. Cafodd ardaloedd megis Blaenau Gwent a Chaerffili yn fy rhanbarth ill dau ganlyniadau uwch na chyfartaledd Cymru. Rwyf ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu strategaeth newydd i fynd i'r afael â gordewdra. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar pryd y bydd y strategaeth yn debygol o adrodd, a pha ddulliau y mae'n bwriadu eu defnyddio i ymdrin â'r broblem hon yn y cyfamser yng Nghymru? Diolch.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn disgwyl cynnal ymgynghoriad a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad hwnnw cyn toriad yr haf.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os yw hynny'n bosibl. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n honni bod gwasanaethau plant yng Nghymru bron mewn argyfwng—. Nawr, yn amlwg, mae galw cynyddol a lleihau cyllidebau yn arwain at drychineb, fel y gwyddom ni i gyd. Rydym ni wedi gweld yr anawsterau ym Mhowys yn ddiweddar, ac mae'n amlwg bod cynghorau eraill yng Nghymru yn teimlo pwysau o ran y galwadau ar eu gwasanaethau a'u gallu i ymateb. Felly, gyda'r cefndir hwnnw, a gaf i ofyn a fyddai'r Gweinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, felly, yn fodlon cyflwyno datganiad llafar ar y cyfle cyntaf ar y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau plant, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â nhw? Dyna'r cyntaf.
Mae'r ail gais yn ymwneud â chynlluniau i ddatblygu system fetro ar gyfer Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol. Fel yr wyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr hon, mae datblygu system metro sydd, mewn egwyddor, yn ceisio gwella amseroedd teithio i bobl y de-orllewin i'w groesawu, yn naturiol, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon yng Nghastell-nedd o ran yr angen i amddiffyn statws gorsaf drenau Castell-nedd yn rhan o unrhyw gynnig metro. Mae teimladau cryf yng Nghastell-nedd ar hyn o bryd. Felly, o gofio bod gwaith wedi dechrau ar ddatblygu'r achos busnes amlinellol strategol ar gyfer y metro, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn fodlon cyflwyno datganiad llafar sy'n amlinellu'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd a sut y mae'n disgwyl i'r prosiect ddatblygu? Diolch yn fawr.
Gan ymateb iddyn nhw am yn ôl, o ran hynny, mae fy nghyd-Aelod Aelod y Cynulliad dros Gastell-nedd wedi mynegi ei farn yn glir ar unrhyw bosibilrwydd o gau gorsaf Castell-nedd. Nid yw'r fath gau yn agos at y gorwel. Ni allwn hyd yn oed ysgogi Llywodraeth y DU i drydaneiddio'r rheilffordd, heb sôn am ei sythu. Felly, rwy'n credu mai breuddwyd gwrach yw hynny. Mae yna drafodaeth ynghylch metro Bae Abertawe, rydych yn gwbl gywir, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi rhoi arian ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i hynny, ond nid yw hynny'n cynnwys cau gorsaf Castell-nedd.
O ran gwasanaethau plant, bydd y Gweinidog dros blant yn gwneud datganiad ar y materion hynny yn fuan iawn, ac wrth gwrs bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn gwneud datganiad ar Bowys yn nes ymlaen ar yr agenda heddiw.
A fedrwch chi fy sicrhau i fy mod yn cael ateb gonest a chlir gan eich Llywodraeth ar fater syml rwyf wedi bod yn mynd ar ei ôl o rŵan ers mis Ionawr? Rwyf wedi gofyn i Weinidog y Gymraeg faint o staff sydd wedi eu lleoli yn uned Gymraeg y Llywodraeth—y staff sy'n gyfrifol am baratoi rheoliadau safonau'r iaith Gymraeg. Ar ôl cael yr ateb 'loads' mewn pwyllgor, mi ges i ateb i gwestiwn ysgrifenedig a oedd yn dweud mai'r Ysgrifennydd Parhaol a oedd i fod i ateb. Ni ches i ddim ateb ganddi hi tan ddydd Iau diwethaf, a hynny oherwydd fy mod i wedi gorfod codi'r mater yma yn y Siambr. Ac mi ges i yr ateb yma, a oedd yn syfrdanol:
'Rwy’n fodlon bod digon o swyddogion polisi yn gweithio yn yr Is-adran er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol.'
Yr Ysgrifennydd Parhaol ddywedodd hynny. Felly, yn gyntaf, nid wyf wedi cael ateb o hyd i gwestiwn syml gan Aelod Cynulliad ers mis Ionawr. Yn ail, onid ydy hwn yn enghraifft eto fyth o ddiffyg tryloywder gan eich Llywodraeth chi—rhan o batrwm, o ddiwylliant, yn anffodus? Ac, yn drydydd, a ydy pennaeth y gwasanaeth sifil, sydd i fod yn ddi-duedd, i fod i roi ymateb y byddai rhywun yn ei ddisgwyl a fyddai'n dod gan Weinidog, ac ai ymdrech i osgoi rhoi ateb gonest i gwestiwn syml sydd yn mynd ymlaen fan hyn? Felly, buaswn i'n hoffi cael eich cefnogaeth chi i sicrhau ateb i fy nghwestiwn i. Nid wyf fi'n meddwl y dylai'r Cynulliad yma, na'ch Llywodraeth chi, ganiatáu y math yma o ymddygiad gwrth-ddemocrataidd.
Rwy'n ymwybodol o'r mater. Rwy'n credu ei fod, mewn gwirionedd, yn gymharol gymhleth. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch chi, Siân Gwenllian, ac yn gwneud yn siŵr y cewch chi, pa mor gymhleth bynnag yw'r ateb, ateb uniongyrchol i'ch cwestiwn.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Rydych chi'n haeddu eich cwpanaid o de bellach. Diolch ichi am hynny.
Rydym yn symud ymlaen, felly, i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar adolygiad man canol cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru 2018. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cyllid i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn anterth y dirwasgiad, ac yn y blynyddoedd cynnar o raglen gynni ddiffygiol a ffaeledig Llywodraeth y DU, cyhoeddodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, y cynllun buddsoddi cyntaf yn seilwaith Cymru yn 2012. Fyth ers hynny, mae'r cynllun hwn wedi bod wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru i greu a chynnal twf economaidd, ac i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae ei nodau a'i flaenoriaethau wedi llywio ein buddsoddiad seilwaith sylweddol iawn ledled Cymru, gan gynnwys, yn nhymor diwethaf y Cynulliad yn unig, £1.2 biliwn i ddarparu mwy nag 11,500 o gartrefi fforddiadwy, £1.3 biliwn i gefnogi ein rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ble mae 100 o gynlluniau eisoes wedi'u cwblhau a 60 ar y gweill, ac £1.8 biliwn i foderneiddio ein seilwaith trafnidiaeth, o ffordd Blaenau'r Cymoedd i ffordd osgoi y Drenewydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi gwneud hyn, a mwy, ar adeg pan fydd ein cyllideb cyfalaf confensiynol 20 y cant yn llai mewn termau real erbyn diwedd y degawd nag yr oedd hi yn 2009-10. A hyn i gyd yn union yn ystod y cyfnod yn y cylch economaidd pan ddylai Llywodraeth y DU fod wedi achub ar y cyfle yn hytrach na pheidio â buddsoddi yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, yn y chwe blynedd ers y cafodd cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ei gyhoeddi gyntaf, rydym ni wedi buddsoddi £9 biliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, a datblygu ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiadau o ffynonellau eraill, i gyflawni prosiectau uchelgeisiol, sy'n creu manteision parhaol ar gyfer pobl Cymru.
Nawr, Dirprwy Lywydd, mae llawer wedi newid ers cyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru cyntaf un yn 2012. Bryd hynny, addawodd y Canghellor, George Osborne, y byddai cyni ar ben erbyn 2015. Bellach, bydd yn ymestyn i 2025. Rydym ni wedi cael refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid bod effaith yr ansicrwydd y mae hyn wedi ei greu yn helpu esbonio pam, ar adeg pan mae economïau yn ardal yr ewro yn tyfu ar eu cyfradd gyflymaf ers degawd, mae twf ledled y DU yn arafu, ac mae ar ei wannaf ers 2012.
Dirprwy Lywydd, dyna'r sefyllfa sydd ohoni wrth gyhoeddi ein hadolygiad canol cyfnod o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru heddiw. Mae'r adolygiad yn ystyried profiad y chwe blynedd diwethaf, lle gallwn ni weld cynnydd, a lle gallwn ni ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae'n ystyried y llu o newidiadau—rhai ohonyn nhw yr wyf i newydd sôn amdanynt—sydd wedi digwydd yn ystod oes y cynllun hyd yn hyn, ac mae'n disgrifio ein blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y cyfnod sy'n weddill o'r cynllun, gan ei gysoni ag amcanion a nodau 'Ffyniant i bawb' a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a gosod gwariant Llywodraeth Cymru yn fwy uniongyrchol yng nghyd-destun y buddsoddiad y mae eraill yn cynllunio i'w wneud yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mwy yn seilwaith Cymru, gyda chynlluniau eisoes ar y gweill i fuddsoddi gwerth £6.5 biliwn yn ychwanegol o gyfalaf yn ein blaenoriaethau rhwng nawr a 2020-21. A heddiw, gallaf gyhoeddi pecyn ariannu cyfalaf newydd o £266 miliwn i helpu cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth dros y tair blynedd nesaf. Ymhlith amcanion eraill, mae'r buddsoddiadau hyn yn ategiad cryf i gefnogi gwaith fy nghyd-Aelod Cabinet Lesley Griffiths yn y maes hanfodol o leihau allyriadau carbon.
Mae'r dyraniadau ariannu newydd yn cynnwys: £60 miliwn dros dair blynedd i gyflymu'r broses o greu llwybrau teithio llesol i gysylltu ardaloedd preswyl, gwaith, safleoedd addysg a gwasanaethau; mwy na £60 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer y GIG, ar gyfer rhaglen gyfalaf Cymru gyfan; £31.5 miliwn dros dair blynedd ar gyfer mynediad band eang cam 2 y genhedlaeth nesaf; £25 miliwn dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen Cymoedd Technoleg newydd; a £15 miliwn dros ddwy flynedd i ariannu cynllun arbrofol, yn rhan o'r tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, i sicrhau bod ysgolion yn yr ardal yn dod yn ganolfannau cymunedol ac yn darparu gwasanaethau estynedig i ganolfannau dysgu yn y gymuned. Mae'r adolygiad man canol hefyd yn cynnwys rhestr gyfredol o'r buddsoddiadau sydd gan Lywodraeth Cymru, awdurdod lleol a'r sector preifat yn yr arfaeth. Mae'n rhoi manylion ynglŷn â mwy na 350 o gynlluniau sydd werth tua £42 biliwn, gan gynnwys ymrwymiadau blaenllaw y Llywodraeth ei hun.
Llywydd, fel y gŵyr Aelodau o'r Pwyllgor Cyllid, fy egwyddor i erioed yw dihysbyddu'r defnydd lleiaf drud o gyfalaf cyn defnyddio'r ffynonellau eraill drutach. Mae'r cynllun, felly, yn dibynnu ar ein hymdrechion yn y lle cyntaf i ymrwymo'r rhan helaethaf o'n cyfalaf confensiynol, ymhell cyn ei wario, yna wedi hynny i ddefnyddio pob punt o gyfalaf sydd ar gael i ni drwy'r cronfeydd datblygu rhanbarthol y mae Cymru yn elwa ohonynt o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—mae hynny'n cyfateb i fwy na £720 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol—yna i wneud defnydd llawn o'r pwerau benthyca gwerth £1 biliwn sydd yn awr ar gael i ni, ac yna i fynd ati i gefnogi benthyca ychwanegol fel bod modd i'n hawdurdodau lleol a'n cymdeithasau tai fuddsoddi.
Ac oherwydd, hyd yn oed pan rydym ni wedi dihysbyddu'r holl bosibiliadau hyn, mae gennym ni o hyd ddibenion cyhoeddus hanfodol bwysig na ellid fel arall eu fforddio, rydym ni wedi dyfeisio ein model buddsoddi cydfuddiannol ein hunain, gan adeiladu ar gynlluniau nid-er-elw Llywodraeth yr Alban, i ddod o hyd i ffordd o ariannu ysbyty canser newydd y Felindre ar gyfer de Cymru, i gwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, ac i'n galluogi i gyflymu band B ein rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. A, Dirprwy Lywydd, gallaf gyhoeddi heddiw y datblygiad diweddaraf yn y maes hwn, oherwydd yn unol â darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, mae cytundeb bellach wedi'i sicrhau gyda Llywodraeth y DU y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi bondiau ar gyfer gwariant buddsoddi cyfalaf, gan roi cyfres arall o declynnau benthyca i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wrthi'n sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ynghylch y dewis yr ydym ni'n ei ffafrio ar gyfer ein cynllun defnydd tir newydd, y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn rhoi darlun strategol o anghenion ein seilwaith cenedlaethol a rhanbarthol, ac o gymorth inni sicrhau bod ein buddsoddiadau yn cyd-fynd a thargedau lle gallant gael yr effaith fwyaf yn wyneb cyni parhaus.
Dirprwy Lywydd, bydd adolygiad canol tymor y cynllun buddsoddi yn ein helpu i weithio mewn ffordd mwy cydweithredol ac integredig, o fewn y Llywodraeth a gyda ein partneriaid. Bydd yn sicrhau bod ein seilwaith yn gadarn, yn cyfrannu at dwf economi Cymru ac yn ein helpu i lunio dyfodol tymor hir ein gwlad a'i phobl. Rydw i'n cymeradwyo'r cynllun i'r Cynulliad.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod ein bod yn dal i fod mewn amser o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn croesawu cynigion i fuddsoddi yn ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, er gwaethaf yr heriau amlwg hynny.
A gaf i ddim ond dweud wrth ymateb ar y dechrau i'ch datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet—? Ynglŷn â'ch sylw ynghylch cyllid gan y DU, a wnaethoch chi ar ddechrau eich cyfraniad ac ar y diwedd, y sylw sydd bron yn orfodol bellach ynglŷn â thoriadau cyllid—. Ydy, mae toriadau gwariant, rydych chi'n hollol gywir yn dweud, wedi ymestyn y tu hwnt i'r terfyn gwreiddiol o 2015 a fynegwyd yn ôl yn 2010. Ond os mai'r dewis arall oedd toriadau dyfnach, blynyddol, yna rwy'n credu y byddwn i fwy na thebyg yn cadw at amserlen bresennol y Canghellor yn hytrach nag ystyried y toriadau hynny a fyddai wedi bod yn gyflymach ac yn llymach ar y pryd. Ac ydym, rydym ni'n gwybod, do, mae'r diffyg wedi cymryd hirach nag y gobeithiwyd yn flaenorol i'w leihau, ond mae Llywodraeth y DU yn graddol gyrraedd y nod yn hynny o beth. Caiff dyled ei hun cyn bo hir ei thorri, nid y diffyg yn unig, a bydd, yn y tymor hwy, yn gosod economi'r DU ac economi Cymru ar sylfaen gadarnach, felly bydd gennych chi fwy o arian i'w fuddsoddi yn y seilwaith a'r gwasanaethau cyhoeddus pwysig hynny. [Torri ar draws.] Efallai nad ydych chi yn cytuno â hynny, Lee Waters, ond mae llawer o bobl yn cytuno â hynny.
Roedd eich datganiad yn cwmpasu ystod eang o gynigion buddsoddi ac ystod eang o feysydd gwariant. Hoffwn grybwyll rhai ohonynt. Rwy'n croesawu'n fawr y cynigion i barhau i ddatblygu'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain drwy'r ail fand o gyllid, ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ddiweddar ymwelais â safle Ysgol Gyfun Trefynwy, sydd i fod i agor ym mis Medi. Mae'n adeilad modern o'r radd flaenaf ac yn drawiadol iawn, sy'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol Ceidwadol fel sir Fynwy. Bydd yn ehangu cyfleoedd ar gyfer addysgu a dysgu modern. Er eich bod wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, allech chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i'r amserlen ar gyfer cyfnod nesaf y rhaglen? Ai dyna fel y rhagwelwyd yn wreiddiol?
Ynglŷn ag adeiladu tai, rydym ni'n cydnabod bod pwysau cynyddol ar y farchnad dai, yn enwedig yn y de-ddwyrain, ac mae sylwebyddion yn pryderu ynglŷn â dileu tollau Pont Hafren a'r effaith a gaiff hynny ar y cyflenwad tai lleol yn sir Fynwy ac awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y cyllid yr ydych chi'n ei ddarparu ar gyfer datblygu cynigion tai fforddiadwy, ar draws y de yn sicr, yn cyflawni ei fwriad?
Fe wnaethoch chi sôn am y buddsoddiad parhaus yn rhaglen Blaenau'r Cymoedd. Dangoswyd y ffordd newydd imi—rhan ceunant Clydach o'r ffordd—ychydig wythnosau yn ôl, ac mae'n sicr yn ddarn trawiadol iawn o seilwaith, y mae busnesau a phobl leol, rwy'n gwybod, yn ei groesawu'n fawr. Fodd bynnag, wrth gwrs, yn anffodus, mae'n sylweddol fwy na'r gyllideb ac yn sylweddol y tu ôl i'r amserlen, sy'n arwain at oedi ymhell y tu hwnt i'r hyn y rhagwelwyd yn wreiddiol ac a oedd yn rhesymol gan bobl leol. Felly, rwy'n credu mai fy nghwestiwn yw: o ran y prosiect hwnnw a phrosiectau seilwaith mawr cyffelyb, pa systemau ydych chi'n eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod y trethdalwr yn cael gwerth am arian, y caiff prosiectau fel hyn eu darparu mor effeithlon â phosib a bod gwaith craffu priodol ar y pwrs cyhoeddus? Rwy'n gwybod, yn y dyfodol, y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yr wyf yn gadeirydd arno, yn edrych ar wariant fel hyn, ond rwy'n pendroni, yn y cyfamser, ynghylch beth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod y gwariant yn effeithlon?
Nid wyf yn credu ichi grybwyll y ganolfan gofal critigol—efallai fy mod i yn anghywir—sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yng Nghwmbrân. Dyna brosiect arall y bu oedi sylweddol yn ei gylch. Fodd bynnag, mae'n cael ei adeiladu ac, unwaith eto, mae'n edrych yn adeilad trawiadol. Felly, a allech chi, yn y man canol hwn yn eich rhaglen seilwaith, warantu y bydd hynny yn agor yn unol â'r amserlen sydd gennym ni ar hyn o bryd?
A gaf i ddweud yn olaf, yn ogystal â chrybwyll toriadau gwariant y DU, fe wnaethoch chi sôn, fel sy'n orfodol bellach, am Brexit, sy'n nodwedd mewn nifer o ddatganiadau a dadleuon—mae gennym ni un arall yfory, rwy'n credu—yn y Siambr hon? Rwy'n cydnabod eich pryderon ynghylch Brexit a bod hynny'n creu rhywfaint o ansicrwydd ar gyfer eich Llywodraeth, ond fe hoffwn i nodi nad penderfyniad Llywodraeth y DU mo hwnnw; roedd yn benderfyniad pobl y DU a phenderfyniad, mewn gwirionedd, y rhan fwyaf o bobl Cymru. Nid hynny mae'n debyg oedd penderfyniad y mwyafrif o'm hetholwyr na'ch rhai chi mae'n debyg yng Ngorllewin Caerdydd, ond roedd yn sicr yn benderfyniad a wnaeth pobl Cymru. Onid ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, yn hytrach na chwyno'n gyson am effeithiau hyn, mai lle Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach yw bwrw iddi i gyflwyno economi gryfach yng ngoleuni'r hyn sy'n digwydd? Rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn edrych atoch chi i osod gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol a fydd yn arwain Cymru i'r cyfeiriad y mae angen inni fynd ar yr adeg bwysig hon yn ein hanes.
Dirprwy Lywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Caniatewch imi ateb y ddau gwestiwn cyffredinol yn gyntaf. O ran cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, ni ddylai'r dewis a wynebodd y Llywodraeth fod wedi bod rhwng toriadau llymach, cyflymach a mygu economi'r DU yn hir ac yn araf, fel y maen nhw wedi ei wneud; dylid bod wedi dewis defnyddio buddsoddiad gwrth-gylchol, yn enwedig ar gyfer seilwaith ar adeg pan na fu costau benthyca erioed yn is. Ac yn lle hynny, dewisodd George Osborne, yn hytrach na gwneud yr hyn a wnaed yn Unol Daleithiau'r America ac ar gyfandir Ewrop i achub ar y cyfle hwnnw i ysgogi twf economaidd, yr adeg mwyaf anhymig y gallwch ei ddychmygu i leihau buddsoddi cyfalaf ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn a ddywedodd Nick Ramsay: nid Llywodraeth y DU sydd ar fai am y penderfyniad ynghylch Brexit a doeddwn i ddim yn awgrymu eu bod. Yr hyn rwy'n ei ddweud yn fy natganiad yw'r hyn y mae busnesau sector preifat a sefydliadau yn ei ddweud wrth y Llywodraeth hon ac yn ei ddweud wrth Lywodraeth y DU drwy'r amser, sef bod yr ansicrwydd ynghylch Brexit yn cael effaith ar eu gallu i gynllunio buddsoddi yn y dyfodol. Rwy'n credu bod pethau y gallai Llywodraeth y DU fod wedi eu gwneud i roi mwy o sicrwydd ynghylch y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â Brexit, ond mae'n ffaith anorfod, ar gyfer Llywodraeth y DU yn ogystal â'n un ni, bod newid mawr o'r math hwn, pa bynnag farn sydd gennych chi yn ei gylch, yn dod ag ansicrwydd enfawr gydag ef, ac y mae yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi busnesau preifat nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.
A gaf i ymdrin yn fyr â'r cwestiynau mwy penodol a holodd yr aelod? Rwy'n gwerthfawrogi yn fawr iawn yr hyn a ddywed am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae awdurdod lleol Mynwy, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, wedi elwa'n sylweddol o fand A. Rydym ni bellach yn symud i fand B ac mae'r rhychwant amser pum mlynedd ar gyfer band B o'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn parhau'n ddigyfnewid.
Rwy'n ffyddiog fod y buddsoddiad cyfalaf yr ydym ni'n ei wneud mewn tai fforddiadwy—y buddsoddiad mwyaf unigol y byddwn yn ei wneud fel Llywodraeth—er mwyn cyflawni'r 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu codi yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn darparu'r buddsoddiad angenrheidiol a'n bod ar y trywydd iawn i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth honno o dai sydd ei wirioneddol angen ar lawr gwlad yn cael ei gwireddu.
Mae'r sylw a wnaeth yr Aelod ynghylch camau blaenorol ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei wyntyllu'n drylwyr yn y fan yma. Mae yna heriau topograffig gwirioneddol gyda'r rhan honno o'r gwaith adeiladu. Yr hyn yr wyf i wedi ei gyhoeddi heddiw yw'r pethau ychwanegol yr ydym ni'n eu gwneud i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ei chyfanrwydd gan ddefnyddio ein model buddsoddi cydfuddiannol.
Wnes i ddim sôn, mae'n hollol gywir, am y ganolfan gofal critigol, Dirprwy Lywydd, oherwydd ceir darpariaeth eisoes ar gyfer hynny o ran cyllid yn y cynlluniau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi.
Rwy'n croesawu'r adolygiad hanner ffordd yma. Nid wyf i wedi cael cyfle i'w ddarllen eto, wrth gwrs. Roeddwn i'n cymryd bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi. A fyddai e'n gallu rhannu gyda ni—? Gan mai adolygiad yw e, wrth gwrs, mi fydd e wedi adnabod rhai pethau a oedd wedi gweithio'n dda iawn a rhai pethau nad oedd wedi gweithio cystal, ac, wrth gwrs, y rhai nad oedd wedi gweithio cystal efallai yw'r rhai sy'n aml iawn yn rhoi gwersi i ni. Felly, beth oedd ddim wedi gweithio mas fel roeddem ni wedi gobeithio, neu fel roedd y Llywodraeth wedi gobeithio, pan gyhoeddwyd y WIIP gyntaf, chwe blynedd yn ôl? Un o'r nodau a osodwyd bryd hynny oedd newid y broses yn gyffredinol ar gyfer buddsoddi, er enghraifft i ddod â'r angen am achosion busnes llawer cadarnach ar gyfer asesu prosiectau a defnyddio technegau gwerthuso o'r radd flaenaf yn fyd-eang. A ydy hynny wedi digwydd i'r graddau yr oedd y Llywodraeth wedi gobeithio?
Yn ail, fe hoffwn i droi at y cwestiwn bod—. Rydym ni wedi trafod y mater hwn droeon, Ysgrifennydd y Cabinet, sef y mater o gydbwysedd y buddsoddi mewn seilwaith rhanbarthol ledled Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny, mewn gwirionedd, yn eich sylwadau ynglŷn â'r darlun strategol sydd angen ystyried anghenion cenedlaethol a rhanbarthol. Rydym ni wedi cynhyrchu ffigurau, wrth gwrs, yn flaenorol sydd wedi dangos yn sicr y math o anghydbwysedd o ran buddsoddiad cyfalaf a welwn ni yn nodweddiadol ledled y DU, a'r ofn yw ein bod yn dod o bosib yn ficrocosm, yn fersiwn, o'r broblem honno yn y DU o ran canolbwyntio'n ormodol ar fuddsoddiad cyfalaf, mewn gwirionedd, yn y gornel o'r wlad sydd eisoes yn gymharol lewyrchus. Wrth gwrs, allwn ni ddim osgoi hynny ar hyn o bryd, ond rydym ni wedi cael—. Wel, mae pob un o'n Prif Weinidogion wedi dod o Gaerdydd a choridor yr M4 sydd o'i amgylch, ac efallai y bydd gennym ni bedwerydd—
Mae'n cynnwys Caerfyrddin.
—wel, y darn hwnnw o goridor yr M4 yn y de-ddwyrain—sy'n cynrychioli hynny. Yn amlwg, mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar y penderfyniadau hyn, felly sut allwn ni wneud yn siŵr, pwy bynnag fydd Prif Weinidog nesaf Cymru, bod strwythurau ar waith, yn arbennig o ystyried Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, i sicrhau y cawn ni amrediad gwell o fuddsoddiad ledled Cymru?
Ac yn olaf, ynglŷn â'r mater o ba mor uchelgeisiol ydym ni, mae'n wych, gyda llaw, gweld bod pŵer gan Lywodraeth Cymru i godi bondiau; rwy'n credu mewn gwirionedd ein bod ni wedi galw am hynny o'r blaen. Ond wedyn y cwestiwn nesaf yw, wrth gwrs: pa mor uchelgeisiol ydym ni o ran y swm? Ac ynghylch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n hollol gywir y bu'r cyfle hanesyddol hwn gyda chyfraddau llog isel ac ati, a fwy na thebyg, dylem ddweud, ôl-groniad o danfuddsoddi yn y gorffennol yn seilwaith Cymru. Diben y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru oedd achub ar y cyfle hwnnw, ond eto, hyd yn oed os ydym ni'n ystyried y ffigurau hynny yn eich datganiad—yr £1 biliwn ar gyfer y buddsoddiad cydfuddiannol enghreifftiol, £1 biliwn o ran y pwerau benthyca—mae hynny'n gyfystyr, o ran ariannu ar sail flynyddol, â thua 1 y cant o'r gyllideb flynyddol. Mae gan Lywodraeth yr Alban darged o 5 y cant. Ac felly, pe baem ni yr un mor uchelgeisiol â nhw o ran ein harchwaeth i ariannu rhaglen gyfalaf ar y raddfa honno, yna byddem mewn sefyllfa hollol wahanol, yn byddem ni, o ran lefel y buddsoddiad cyfalaf y gallwn ni ei ariannu ar hyn o bryd. Yr oddeutu 350 o brosiectau, y £42 biliwn—ar y gyfradd bresennol, bydd yn cymryd 20 mlynedd, cenhedlaeth, i ni weithio mewn gwirionedd ein ffordd drwy'r Cynllun Buddsoddi—neu oddeutu hynny. Oni ddylem ni fanteisio ar y cyfle hwn fel rydym ni'n adolygu'r Cynllun Buddsoddi hefyd i ofyn i ni'n hunain, 'A yw maint ein huchelgais yn cyfateb i'r cyfle ac yn cyfateb i'r her sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd o ran ei seilwaith?'
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Diolch i Adam Price am y cwestiynau.
I ateb ei gwestiwn neu ddau cyntaf yn gyntaf, wrth edrych yn ôl dros gyfnod cyntaf y cynllun buddsoddi, beth fydd rhai o'r gwersi rwy'n credu y byddem yn eu dysgu oddi wrtho? Wel, rwy'n credu mai'r cyntaf yw ein bod yn rhoi llawer mwy o bwyslais yn yr adolygiad man canol ar y ffordd y mae'n rhaid i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ategu'r buddsoddiadau y mae cyrff sector cyhoeddus eraill yn ei wneud mewn llywodraeth leol, er enghraifft, ond hefyd y buddsoddiadau mawr mewn trafnidiaeth, ynni a dŵr, gan fuddsoddwyr mawr eraill yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu bod angen gwneud yn siŵr bod y pethau hynny yn fwy cydnaws.
Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu hefyd bod angen i awdurdodau cyhoeddus gael dealltwriaeth fanylach o seilwaith yn eu hardaloedd eu hunain. Felly, mae'r gweithgor asedau cenedlaethol yr ydym ni wedi ei sefydlu, sydd wedi gwneud—fel y gwn i fod Adam Price yn gwybod—ymarfer mapio yn ardal Cwm Taf, yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr holl bartneriaid ar lawr gwlad yn ymwybodol o'r asedau seilwaith y mae gwahanol gyrff yn berchen arnynt, ac mae felly yn gallu gwneud gwell penderfyniadau buddsoddi, gan rannu cyfleusterau, rhyddhau tir ar gyfer tai, creu swyddi gwell o ran rheoli seilwaith a gwneud i'r bunt gyhoeddus fynd ymhellach. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth arall yr ydym ni wedi dysgu yn y rhan gyntaf hon, a dyna pam rydym ni wedi cynhyrchu swm cymharol fach o arian—tua £2 filiwn—i wneud yn siŵr y gellir efelychu'r ymarfer mapio ledled Cymru.
Gofynnodd Adam Price ynghylch p'un a ydym ni wedi llwyddo i gryfhau'r ffordd y cyflwynir achosion busnes ar gyfer buddsoddi, a mabwysiadwyd y model busnes achos pum cam bellach fel safon, ac mae hynny i raddau helaeth yn ffrwyth peth o'r gwaith a wnaed ar y Cynllun Buddsoddi gwreiddiol.
Nid wyf yn anghydweld â'r gosodiad bod yn rhaid ystyried daearyddiaeth wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, ond nid wyf i byth wedi credu yn bersonol y dylai hynny fod yn faen prawf ar gyfer penderfynu. Rwy'n credu, yn y pen draw, bod yn rhaid i hynny fod yn seiliedig ar ansawdd y cynnig a gyflwynir, yr adenillion ar fuddsoddiad cyhoeddus a ddaw yn ei sgil a'r effaith a gaiff ar ddyfodol ein heconomi. Dyna'r pethau y mae'n rhaid inni edrych arnyn nhw'n gyntaf, ac wedyn, wrth gwrs, mae'n rhaid inni weld sut gall buddsoddiadau ein helpu i ledaenu a chynnal ffyniant ym mhob rhan o Gymru.
Wnes i ddim yn sôn yn fy natganiad am y £600 miliwn a mwy o fuddsoddiad cyfalaf a fydd yn dod yn sgil y bargeinion dinesig sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Ac, wrth gwrs, mae'r fargen twf ar gyfer gogledd Cymru yn gwneud cynnydd pellach erbyn hyn. Dyna'r metro yn Abertawe, y soniodd Dr Dai Lloyd amdano yn gynharach y prynhawn yma; metro gogledd-ddwyrain Cymru; y buddsoddiadau mawr sy'n digwydd ar Ynys Môn i wneud yr ynys yn ynys ynni a'r uchelgeisiau sydd gennym ni ar gyfer ynni morol yn y dyfodol. Rwy'n credu y gallwn ni ddangos ein bod yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru. Mae'n faen prawf pwysig yr ydym ni'n ei ddefnyddio, ond nid dyna'r un dyngedfennol.
O ran uchelgais, rwy'n ddiolchgar i Adam Price am groesawu'r newyddion ynglŷn â materion y bondiau. Mae'n fater y gwn i ei fod wedi cyfeirio ato'n rheolaidd yn y Siambr. Gallaf ddweud wrtho hefyd fy mod eisoes wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei rhybuddio o'r ffaith fy mod yn bwriadu cyflwyno achos dros ymestyn y pwerau benthyca sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o'r adolygiad gwariant sydd ar y gorwel.
Mae'r gwahaniaeth rhwng yr Alban a Chymru, fodd bynnag yn seiliedig yn rhannol o leiaf ar faint o ddyled sydd ynghlwm â'r fenter cyllid preifat a luniodd yr Alban yn ystod degawd cyntaf datganoli, y gwnaethom ni benderfynu, diolch byth, ei osgoi. Ac mae yna ddewis y mae ef a minnau wedi trafod droeon y tu allan i'r Siambr ac yn y fan yma: bob tro rydych chi'n cyllido benthyca, mae'n rhaid ichi ddefnyddio peth o'r refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru at ddibenion eraill. A gellir dadlau o blaid dargyfeirio mwy o'n refeniw i gefnogi benthyca cyfalaf ychwanegol, ac mae dadl gwbl glodwiw dros wneud hynny. Ond mae pob £1 a ddargyfeirir yn y modd hwnnw yn £1 yn llai ar gyfer y gofynion refeniw dybryd iawn sy'n pwyso ar y Llywodraeth o bob ochr i'r Siambr. Rydym ni'n gwybod nad oes gennym ni mo'r arian sydd ei angen arnom ni ar gyfer ein hysgolion a'n hysbytai a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill gwych. Felly, mae'n fater o farn ac mae angen cael cydbwysedd, ac mae'n fater heriol i'w gyflawni'n briodol.
Rwy'n cefnogi'n llwyr yr hyn y mae'r Ysgrifennydd cyllid newydd ei ddweud am y dewisiadau y mae'n rhaid eu gwneud, a'r gwir amdani yw, wrth gwrs, ein bod wedi ein cyfyngu gan floc Cymru, nad oes gennym ni reolaeth drosto. Caiff hanner y gyllideb ei gwario iechyd, caiff y chwarter arall ei gwario ar addysg, a rhennir y gweddill rhwng y penawdau eraill y mae'r Llywodraeth yn gwario arnynt. Mae'r swm sydd ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf yn gyfyngedig felly, a dim ond hyn a hyn y gall yr Ysgrifennydd cyllid ei wneud. Felly, rydym ni'n sôn yma am ran fach o gyllideb Llywodraeth Cymru. Yr angen dybryd i Gymru, fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig, yw codi'r sylfaen dreth yma, nawr bod gennym ni ryddid cyfyngedig i godi refeniw o drethi yn y dyfodol. Bydd hyn yn fwyfwy pwysig i wneud Cymru yn lle mwy deniadol i fusnesau ymsefydlu ac ehangu ac i ddenu entrepreneuriaid i'r wlad ac i annog y rheini sydd eisoes yma.
Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd cyllid yn dechrau pob un o'r datganiadau hyn drwy sôn yn ddefodol am gyni, ond mae'r ffantasi y byddai Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol iawn i'r hyn a wnaeth y Ceidwadwyr pe baent wedi bod mewn grym ar ôl 2010 yn lol botes. Roedd cynlluniau Alistair Darling, yr ymladdodd Llywodraeth Lafur Brown etholiad 2010 arnynt, mewn gwirionedd yn fwy caethiwus na'r cynlluniau a gynigiwyd gan George Osborne yn ei ddatganiadau ariannol cyntaf. Mae'r syniad y gallwch chi barhau i wario arian am byth a chael diffyg gwario diddiwedd wedi ei wrthbrofi gan brofiad gwledydd mor amrywiol â Venezuela a Zimbabwe. Rydym ni wedi dyblu'r ddyled genedlaethol ers 2010 i bron £2 triliwn, sydd bellach yn £22,000 ar gyfer pob person unigol yn y Deyrnas Unedig. Do, buom ni'n byw mewn oes o gyfraddau llog isel, ond pe bai polisi ariannol y Llywodraeth wedi bod yn llawer llai caeth, yna ni fyddai'r cyfraddau llog hynny wedi gostwng mor gyflym ac mor isel ag y gwnaethon nhw. Nawr, wrth gwrs, dim ond un peth all ddigwydd i gyfraddau llog yn y dyfodol, sef cynyddu. Felly, mae'n rhaid inni fod yn fwy gofalus nag erioed, rwy'n credu, wrth gydbwyso'r llyfrau, neu wrth amcanu at wneud hynny. Cafodd George Osborne ei wthio o'r neilltu yn barhaus hyn oni ddelai diwrnod arall—a Philip Hammond yn yr un modd—y diwrnod pan fydd y gyllideb yn gytbwys. Nawr, mae gan hynny oblygiadau, wrth gwrs, i ni yma yng Nghymru hefyd. Ond ar gyfer y dyfodol, wrth edrych i'r dyfodol pell, mae arnom ni eisiau polisi treth yng Nghymru sydd yn mynd i annog twf a buddsoddi. Mae'n rhaid ichi greu cyfoeth cyn ichi allu ei wario. Os ydych chi'n ei wario cyn iddo gael ei greu, yna byddwch chi yn yr un sefyllfa â Mr Micawber.
Ond i droi at y manylion, dim ond eisiau gwneud ambell sylw wyf i. Mae'r datganiad yn dweud bod y cynllun wedi bod wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru i greu a chynnal twf economaidd, ond, wrth gwrs, cymharol fychan fu'r twf economaidd o ran busnesau yn y sector preifat yng Nghymru ers sefydlu'r cynllun, ac, yn wir, mae'r canolbarth a'r gorllewin yn un o'r ardaloedd gwaethaf. Rwyf i yn cefnogi'r hyn a ddywedodd Adam Price am yr angen i gael buddsoddiad tecach ledled y wlad.
Cymru, yn ôl mynegai entrepreneuriaid Barclays, sydd â'r nifer leiaf o gwmnïau twf uchel yn y DU, sef dim ond 77. Mae nifer y cwmnïau sy'n cael cyllid cyfalaf menter hefyd wedi cynyddu o 23 y llynedd i 32 bellach. Nid yw gwerth y buddsoddiad hwn wedi cynyddu; mae'n sefydlog flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ddim ond £9 miliwn. Mae'r rhain yn ffigurau siomedig iawn.
Mae ffigurau StatsCymru ynglŷn â mentrau busnes gweithredol fesul 10,000 o'r boblogaeth yn dangos, ar y cyfan, bod ffigurau Cymru wedi cynyddu gan ddim ond 57 o fusnesau gweithredol fesul 10,000 ers 2012. Ac mae ffigurau'r canolbarth a'r gorllewin yn llawer iawn llai na'r ardaloedd gorau a'r cyfartaledd yng Nghymru yn gyffredinol. Yn y canolbarth, sef at y dibenion hyn, Powys a Cheredigion gyda'i gilydd, bu cynnydd o ddim ond 31 busnes gweithredol fesul 10,000 o'r boblogaeth rhwng 2012 a 2016. Felly, mae angen inni wneud rhywbeth i sicrhau, o ran gallu Llywodraeth Cymru i wario, ein bod yn adeiladu ar y llwyddiannau cymharol fach hyn fel ein bod yn lleihau'r anghydbwysedd yng Nghymru. O edrych ar y cynnydd mewn trosiant busnes rhwng 2012 a 2017, eto o ffigurau StatsCymru, mae Cymru wedi gweld cynnydd cyffredinol o 13.8 y cant. Mae Sir Benfro wedi gweld cynnydd o ddim ond 3 y cant. Rwy'n gwybod na chewch chi fyth pawb ar y cyfartaledd ledled y wlad, yn amlwg, ac mae pethau'n newid dros amser, ond fe ddylem ni, rwy'n credu, o leiaf ymdrechu i sicrhau bod mwy o degwch yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gwario. Rwy'n siŵr y bydd Lee Waters yn canfod y bydd yn closio at hynny po hiraf y caiff y cyfle. Y peth arall—[Torri ar draws.]
Na, chewch chi ddim llawer mwy o amser oherwydd rydych chi wedi cael llawer mwy o amser na'r ddau lefarydd arall. Felly, pe gallech chi ofyn rhai cwestiynau, diolch.
Iawn, wrth gwrs. Ildiaf bob amser i'ch awdurdod chi, Dirprwy Lywydd.
Hoffwn wneud apêl arall, yn olaf, o ran gallu defnyddio band eang oherwydd, unwaith eto, yn y canolbarth a'r gorllewin, o'r 10 etholaeth sydd â'r cysylltiad band eang arafaf, roedd saith o'r 10 yn y canolbarth a'r gorllewin. Yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Sir Drefaldwyn, Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd, roedd dros 50 y cant o gysylltiadau band eang yn arafach na 10 MB yr eiliad yn 2016. Rwyf yn canmol yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn hyn o beth i wella cysylltedd, ond rwy'n credu bod llawer mwy yn dal angen ei wneud, a gellir gwneud hynny dim ond os gallwn ni ddarparu mwy o gyllid ar ei gyfer. Felly, tybed a allai'r Ysgrifennydd cyllid roi ei farn inni ynghylch yr ychydig sylwadau rwyf wedi eu gwneud.
Diolch yn fawr iawn. Caniatewch yn gyntaf imi grybwyll nifer fach o bwyntiau lle nad wyf yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu. Nid ydym ni wedi ein cyfyngu gymaint ag yr oeddem ni ar un adeg, i raddau helaeth oherwydd y gwaith a wnaed gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wrth ddechrau mynd ati mewn ffyrdd arloesol i ychwanegu at y cyfalaf confensiynol sydd ar gael i ni. Ac fe geisiais i ddisgrifio rhai o'r rheini yn y ffordd yr ydym ni wedi cefnogi cymdeithasau tai a chynghorau lleol i fenthyca ac yn y ffordd yr ydym ni wedi defnyddio ffynonellau cyllid y tu allan i floc Cymru. Wrth gwrs, gosodir y cyd-destun mawr gan y bloc yn y ffordd y dywedodd Neil Hamilton. Caniatewch imi ddweud wrtho: nid llwybr at waredigaeth mo cyni, ond ffordd nad yw'n arwain i unlle. Dyna a ddangosir drwy ei wfftio'n barhaol pan fyddwn ni yn y pen draw yn gweld ei benllanw.
Nid wyf wedi dadlau o gwbl, Dirprwy Lywydd, y prynhawn yma am wariant diddiwedd, ond mae'r awgrym yn y term, onid yw—buddsoddi 'cyfalaf'? Nid arian wedi ei wastraffu yw gwariant cyfalaf, yr arian yr ydym ni yn ei ddefnyddio i greu'r amodau ble byddwn ni'n cael adenillion gwell o ganlyniad i'r buddsoddiad nag a gaem ni pe na baem ni wedi gwneud hynny. A dyna sut yr ydym ni'n rheoli—ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yn hyn o beth—i geisio codi'r sylfaen dreth yng Nghymru, i geisio sicrhau y gall ein heconomi wneud yn well. Beth mae busnesau sy'n dod i Gymru yn disgwyl ei weld? Maen nhw'n disgwyl gweld y math o seilwaith y gwyddon nhw y caiff y buddsoddiad y maen nhw'n barod i'w wneud ei gefnogi gyda gwariant cyhoeddus. Ac felly nid wyf yn cytuno ag ef bod buddsoddi cyfalaf am ryw reswm yn rhywbeth y dylem ni fod yn amheus yn ei gylch. Rydym ni'n buddsoddi heddiw er mwyn llwyddo yfory, ac mae llwyddiant yfory yn mwy nag ad-dalu'r buddsoddiad a wnawn ni er mwyn cyflawni hynny.
Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ar y diwedd ynglŷn â gallu defnyddio band eang. Mae wedi gweld bod mwy na £30 miliwn yng nghyhoeddiad heddiw o fuddsoddiad ychwanegol dros y tair blynedd nesaf o ran gallu defnyddio band eang. Fy nealltwriaeth i, ond fe allech chi glywed llawer mwy ynghylch hynny gan fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am y maes hwnnw, yw y caiff yr arian, yn rhannol o leiaf, ei wario yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r her o allu defnyddio band eang ar ei uchaf ac yn ein galluogi ni i gyflymu'r gwaith o ddatblygu'r seilwaith sydd ei angen arnom ni mewn technolegau digidol, unwaith eto oherwydd bod busnesau yn y rhan honno o Gymru—mae eu dyfodol a'u twf yn dibynnu arno.
Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr ei fod yn cytuno â mi bod y dewis yn aml rhwng cyni neu dwf a'r hyn y mae cyni yn ei wneud yw llyffetheirio twf yn economi Prydain ac economi Cymru. A gaf i ddweud hefyd nad hap a damwain yw hi fod gan Gymru Fenter Cyllid Preifat isel? Mae'n ganlyniad penderfyniadau da a wnaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd. Byddai hi wedi gallu efelychu yr Alban a Lloegr a chronni'r ddyled honno.
Hoffwn ddweud ar goedd fy mod i'n llongyfarch Jane yn bersonol, y person a ddechreuodd y rhaglen 10 mlynedd hon. Does ond angen imi edrych ar y manteision a ddaeth i fy etholaeth yn sgil hynny: ysgolion uwchradd newydd, ysgolion cynradd newydd, seilwaith trafnidiaeth gwell, cartrefi newydd. Dyna pam rydym ni'n ceisio cael ein hethol—i wella bywydau'r etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae gwariant cyfalaf yn eithriadol o bwysig, nid yn unig i ddarparu adeiladau, ond i raddau helaeth er mwyn atgyfodi economi Cymru. Rydych chi'n gwario arian—gwariant cyfalaf—ac yn prynu nwyddau ac rydych chi'n cyflogi pobl ac fe gaiff yr arian ei gylchdroi yn yr economi. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n ymddangos nad yw wedi croesi meddwl Philip Hammond, oherwydd mae'n debyg nad yw'n ymddangos ar ei daenlen.
Roedd y sylw a wnaeth Adam Price ynglŷn â bondiau yn un pwysig iawn, ond y peth pwysig ynglŷn â bondiau yw nid eu defnyddio, ond bod â'r gallu i'w defnyddio i gadw'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn onest. Ychydig iawn o bobl—. Fe welwch chi y cawn nhw eu defnyddio—bondiau—gan gyrff llywodraeth leol. Manteisiodd Transport for London ar fond sylweddol iawn, ond ychydig iawn o bobl eraill sydd wedi. Pan ddechreuodd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ystyried cynyddu cyfraddau llog, dechreuodd pobl ystyried bondiau er mwyn gwthio eu cyfraddau i lawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gennym ni'r gallu i ddefnyddio bondiau, nid o reidrwydd oherwydd ein bod ni eisiau eu defnyddio, ond oherwydd eu bod yn rhoi pŵer inni dros y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a fyddai, os nad oedd gennym ni'r bondiau hynny, yr unig fenthyciwr y gallem ni fynd ar ei ofyn.
A gaf i ddim ond dweud fy mod i'n croesawu'n fawr y £60 miliwn dros dair blynedd i gyflymu'r broses o greu llwybrau teithio llesol i gysylltu ardaloedd preswyl â safleoedd a gwasanaethau gwaith ac addysg allweddol? Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Lee Waters yn dweud mwy am hynny yn nes ymlaen. Pryd fydd y dadansoddiad fesul rhanbarth neu awdurdod lleol ar gael, neu a fydd yn rhaid i awdurdodau lleol wneud cais, a sut y penderfynir ar y ceisiadau hynny?
Yn rhan o'r arian hwn, a fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer trafnidiaeth yn y rhanbarth hwnnw? Rwy'n gwybod ein bod ni'n defnyddio'r gair 'metro' oherwydd mai dyna'r gair yr ydym ni wedi arfer â'i ddefnyddio, ond gwell cysylltiadau bws a thrên, agor gorsafoedd rheilffordd ychwanegol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl feicio a cherdded yn yr ardal honno yw'r hyn yr wyf yn sôn amdano mewn gwirionedd. Am symiau cymharol fach, gellir gwneud gwelliannau enfawr o ran sicrhau y caiff llwybrau beicio eu cwblhau, bod bysiau a threnau mewn gwirionedd yn cysylltu â'i gilydd fel y gallwch chi ddod oddi ar fws a dal trên neu ddod oddi ar drên a dal bws, yn hytrach na bod yn ddigyswllt, a bod bysiau yn teithio i orsafoedd rheilffyrdd, yn hytrach na gorfodi pobl i gerdded 200 llath, neu 200 metr yn yr iaith fodern, pan mae hi'n bwrw glaw.
Fy nghwestiwn olaf yw: cydweithio i ailgylchu gwastraff, fydd arian ar gael ar gyfer hynny, a sut y cyflawnir hynny?
Wel, caniatewch imi ddechrau drwy gytuno, fel y rhagwelodd Mike Hedges y byddwn i, gyda sylw a wnaeth ar y cychwyn: y broblem gyda chyni yw ei fod yn tanseilio'i hun. Mae'n creu'r broblem y mae'n honni i fynd i'r afael â hi, a dyna pam y cawn ni ein hunain yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae'n hollol gywir dweud, wrth gwrs, fod peidio â defnyddio Menter Cyllid Preifat yn benderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Cymru yn ystod degawd cyntaf datganoli, a chofiaf yn dda y beirniadu a fu ar Lywodraeth Cymru ar y pryd am wneud yr union benderfyniad hwnnw. Rwy'n credu yn awr ein bod yn gweld doethineb hynny. Gall pob un ohonom ni, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, gyfeirio at effaith buddsoddi cyfalaf yn ystod cyfnod cyntaf Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn ein hetholaethau, boed hynny mewn iechyd neu mewn addysg neu mewn trafnidiaeth neu mewn tai a'r dibenion allweddol eraill a nodwyd ar ei gyfer.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ein hatgoffa o effaith lluosog buddsoddi cyfalaf? Mae'n fwy na'r adeilad a welwch chi, neu'r cyswllt trafnidiaeth a grëir, mae ynglŷn â'r cadwyni cyflenwi y mae'n eu cefnogi, mae ynglŷn â'r swyddi sy'n cael eu creu yno, mae ynglŷn â'r gwariant mewn economïau lleol, mae ynglŷn â'r cylch economaidd llesol hwnnw sy'n ffrwyth gwariant cyfalaf.
Dirprwy Lywydd, roedd Mike Hedges hefyd yn gywir yn ein hatgoffa nad yw cyhoeddi bondiau yn ymestyn terfyn cyfalaf Llywodraeth Cymru. Nid yw'n rhoi mwy o arian inni ei fuddsoddi, ond yr hyn y mae yn ei wneud yw rhoi mwy o ddewisiadau inni o ran y ffordd y gallwn ni gyrraedd y terfyn cyfalaf, a phe delai'r diwrnod ble byddai cyfradd llog y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn cynyddu—a Llywodraeth y DU yn cael eu temtio i wneud hynny, fel y dywedodd Mike, nid gymaint â hynny yn ôl—byddai gennym ni rywle arall i fynd. Mae hynny'n offeryn pwysig sydd gennym ni wrth law.
Fe hoffwn i allu ateb y cwestiynau manylach a holodd Mike ynglŷn â theithio llesol, ynglŷn ag ardal Abertawe, ynglŷn â gwastraff ailgylchu ac ati, ond mae'r rheini'n bethau y mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn gyfrifol amdanynt. Byddant yn rhoi'r manylion i Aelodau mewn cyfres o gyhoeddiadau yr wyf yn siŵr y byddant yn eu gwneud yn ystod y dyddiau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i hefyd groesawu adolygiad man canol cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru a lansiwyd gennyf, fel y gwnaethoch chi ddweud, yn 2012? Fe wnaethom ni ddatblygu'r cynllun er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf yn unol â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. A gaf i groesawu'r £9 biliwn a fuddsoddwyd o ganlyniad i'r cynllun, gan gynnwys y llif o fuddsoddiad sector cyhoeddus a'r sector preifat ehangach o ran proffiliau a chynllunio, a chroesawu'r ffaith y bu hynny yn unol â'r model busnes pum achos sydd wedi bod yn sail i effeithlonrwydd, cynnal a chadw a rheoli'r cynllun?
Felly, dau gwestiwn gennyf fi: o ran y cynlluniau cyllid arloesol yr ydych chi'n eu datblygu, allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r sefyllfa bresennol ac ar ôl Brexit ynglŷn â chael benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop? Mae'r banc wedi chwarae rhan allweddol yn buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys y sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus, gydag ail gampws nodedig Prifysgol Abertawe yn enghraifft amlwg—wrth gwrs, a gafodd gefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru a chyllid o gronfeydd datblygu rhanbarthol Ewrop. A fyddwn ni'n dal i allu cael arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop? A allwch chi hefyd gadarnhau y caiff y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd—ac rydych chi'n cyfeirio at y £720 miliwn a ddefnyddir ar gyfer buddsoddi cyfalaf yng Nghymru yn y rhaglen hon—eu defnyddio'n llawn yn amserlen y rhaglen hon, ac at ba ddibenion allweddol? A gaf i ddiolch i chi am agor campws dysgu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, a oedd, wrth gwrs, yn ganlyniad i'r rhaglen fuddsoddi ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a ariannwyd ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg?
Dim ond yn olaf, fe wnaeth Mike Hedges a chithau yn eich ymateb iddo, sôn am yr effaith ehangach ar yr economi. Mae'r effaith heddiw ar y sector adeiladu yn hollbwysig, a byddai'n ddefnyddiol gwybod a allwch chi adnabod y swyddi a gaiff eu creu. Rydym ni wedi dangos yng Nghymru y gallwn ni fod yn arloesol ac y gallwn ni, yn wir, herio cyni drwy arloesi a rheoli ein blaenoriaethu a'n hadnoddau yn ofalus.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud wrth Jane Hutt fod campws dysgu Llanilltud Fawr yn enghraifft ardderchog o'r hyn a ddywedais ynglŷn â sut mae lleoedd blaenllaw ym mhob un o'n hetholaethau oherwydd y gwaith a sbardunwyd gan y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru?
Gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig iawn am y sector adeiladu. Bûm mewn digwyddiad yng Ngholeg y Cymoedd ddoe, ble y cwrddais â nifer o grwpiau o bobl ifanc—roeddwn yn falch iawn o weld nifer o fenywod ifanc eu plith—sy'n dilyn cyrsiau mewn peirianneg ac yn y diwydiant rheilffordd, gan wneud yn siŵr bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y sector adeiladu yn y dyfodol, ac i glywed gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, er enghraifft, pa mor bwysig fu'r Cynllun Buddsoddi iddyn nhw yn caniatáu iddyn nhw a'u haelodau gynllunio ymlaen llaw ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y maen nhw'n gwybod sydd yma yng Nghymru.
Dau gwestiwn penodol gan Jane. Yn gyntaf, o ran Banc Buddsoddi Ewrop, rydym ni wedi dadlau o'r cychwyn y dylai'r DU anelu at aros yn bartner tanysgrifio i'r banc. Rydym ni'n ddeiliad cyfalaf sylweddol yn y banc, ac wrth gwrs mae Cymru wedi elwa o hynny. Mae adroddiad cyfnod 1 y DU ynglŷn â'r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dweud bod gobaith cael yr hyn a elwir yn 'drefniant parhaus' rhwng y DU a Banc Buddsoddi Ewrop. Rwyf wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ar sail yr adroddiad hwnnw, i bwysleisio wrtho y pwynt ein bod yn gweld rhinwedd amlwg cael cyd-berthynas fuddiol â'r banc, ac yn gwneud nifer o awgrymiadau technegol iddo, yn seiliedig ar ein profiad o sut y gellid sicrhau perthynas barhaus â Banc Buddsoddi Ewrop.
Ynghylch cronfeydd strwythurol, rydym ni'n parhau i weithredu o fewn gwarant y Canghellor, sy'n gosod 2019 yn derfyn inni ymrwymo'r holl gronfeydd strwythurol sydd ar gael i ni yn ystod y cylch presennol. Rwy'n parhau'n ffyddiog, Dirprwy Lywydd, os nad yn obeithiol, y bydd y trefniant pontio, sy'n rhan o fargen y cyfnod 1 cyntaf, unwaith y caiff ei gadarnhau, yn golygu y gallwn ni ddefnyddio cronfeydd strwythurol yn y cylch presennol yn ôl yr arfer. Hynny yw, byddan nhw'n berthnasol hyd at ddiwedd y cyfnod o saith mlynedd, a'r ddwy flynedd wedi hynny, fel y gallwn ni wneud hyd yn oed gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael i ni.
Diolch. Yn olaf, Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n codi i ganmol y Llywodraeth. Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad o £20 miliwn y flwyddyn ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol. Gan mai ni yw'r Llywodraeth gyntaf yn y byd i osod gofyniad statudol ar gyfer cynllunio tymor hir i wneud cerdded a beicio yn ddewis mwy cyffredin, beunyddiol, rwy'n credu ei bod hi'n briodol bod yr adnodd hwnnw yn dechrau cael ei roi ar waith—nid yn lleiaf oherwydd bod hyn yn arwain at fanteision mewn sawl maes gwahanol, gan fynd i'r afael nid yn unig ag iechyd y cyhoedd, ond newid yn yr hinsawdd a thagfeydd hefyd.
Mae gennyf sawl cwestiwn, ond fel yr ydych chi yn ein hatgoffa yn gwbl briodol, mae'r manylion ar gyfer yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol. Cwestiwn i chi, efallai, yw a allwch chi helpu i'n cyfeirio ni, yn y dyfodol, at gyfanswm y buddsoddiad y mae'r Llywodraeth bellach yn ei wneud mewn cynlluniau cerdded a beicio. Mae'n eithaf anodd datgysylltu'r gwahanol ffrydiau ariannu amrywiol, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, o ystyried maint y cyhoeddiad hwn, i gael ffigwr byd-eang, a fyddai'n ein galluogi i gymharu ein gwariant â gwledydd eraill. A hefyd, fe wnaethoch chi sôn bod y £60 miliwn i gysylltu ardaloedd preswyl. Oherwydd bod Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio yn bresennol hefyd, roeddwn yn meddwl y byddwn yn achub ar y cyfle dim ond i bwysleisio pwysigrwydd cael y budd mwyaf posib o'r buddsoddiad hwn. Ni all fod yn fater o ddim ond Llywodraeth Cymru yn rhoi grantiau ar gyfer seilwaith newydd. Rhaid inni sicrhau pan fydd datblygiadau newydd yn digwydd, bod hynny'n greiddiol i'r dyluniad. Felly, rhaid i fersiwn newydd 'Polisi Cynllunio Cymru', y mae ymgynghoriad yn ei gylch ar hyn o bryd, gynnwys, nid yn elfen ddymunol ond yn elfen hanfodol ohono, bod llwybrau teithio llesol yn cael eu cynnwys mewn polisi cynllunio. Felly, byddwn yn eich annog i gael sgwrs gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gorau o'r buddsoddiad yr ydych chi wedi ei gyhoeddi, ac yr wyf i'n ei groesawu yn gynnes iawn.
Dirprwy Lywydd, diolch i Lee Waters am y pwyntiau yna. Dywedais, yn fy natganiad, mai un o'r egwyddorion allweddol sy'n cysylltu bron pob un o'r buddsoddiadau yr wyf i wedi eu cyhoeddi heddiw yw'r cyfraniad yr wyf yn dymuno iddynt ei wneud i'r ymdrechion y mae Lesley Griffiths yn eu gwneud i leihau allyriadau carbon ledled Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian sy'n mynd tuag at deithio llesol yn sicr yn helpu i wneud hynny. Bydd yn gwella ansawdd yr aer, bydd yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rhan feunyddiol o fywydau pobl, a bydd yn cynnig y manteision iechyd ehangach hynny. Cafodd ei gynllunio, fel y dywedais i, i gysylltu ardaloedd preswyl â safleoedd cyflogaeth ac addysgol allweddol a mannau eraill lle mae'n rhaid i bobl fynd i fyw eu bywyd bob dydd. Felly, bydd Aelodau eraill yn y Llywodraeth wedi clywed yr hyn a ddywedodd Lee Waters am wneud y mwyaf un o'r buddsoddiad ychwanegol ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth. Nid oes gennyf rif yn syth o'm blaen a fyddai'n tynnu ynghyd gyfanswm y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr o ran cerdded a beicio a mentrau teithio llesol eraill, ond rwy'n hapus iawn i gomisiynu hynny, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda ffigur y gall ddibynnu arno wedyn.
Diolch yn fawr iawn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae creu lleoedd cynaliadwy lle gall pobl fyw bywydau egnïol ac iach ac ymfalchïo o ddweud o ble y maen nhw'n hanu yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae gan y system gynllunio swyddogaeth ganolog wrth ddarparu'r lleoedd hyn, a'r broses a ddefnyddiwn ar gyfer hynny yw llunio lleoedd. Mae llunio lleoedd yn llwyddiannus yn cynnwys llawer o elfennau. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth chwarae ei rhan drwy roi arweiniad a gosod fframwaith polisi yn ei le ar gyfer y system gynllunio sydd â llunio lleoedd yn rhan hanfodol ohoni.
Fis Chwefror diwethaf, fe lansiais i, ar gyfer ymgynghoriad, fersiwn newydd o'n polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae'r ddogfen yn cydnabod natur amlweddog y nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru yn ceisio gosod llunio lleoedd cynaliadwy wrth wraidd ein polisi cynllunio. Er mwyn ategu 'Polisi Cynllunio Cymru' a gwella llunio lleoedd, ddoe fe gyhoeddais i ymgynghoriad ar y dewis amgen ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dyma'r cam cyntaf ffurfiol sy'n edrych tuag allan wrth baratoi'r fframwaith datblygu cenedlaethol, a fydd yn disodli cynllun gofodol Cymru. Yn wahanol i gynllun gofodol Cymru, bydd gan yr FfDC statws cynllun datblygu.
Bydd gan yr FfDC swyddogaeth bwysig i ddarparu strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, 'Ffyniant i Bawb', a fydd, yn ei thro, yn cydnabod swyddogaeth yr FfDC a'r angen i gydlynu cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd, cyfleusterau a seilwaith gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cymdeithasau tai a phartneriaid allweddol eraill. Bydd yr FfDC yn edrych tua gorwel cyfnod o 20 mlynedd a bydd yn eistedd ar frig hierarchaeth y cynlluniau datblygu yng Nghymru. Oddi tano bydd cynlluniau datblygu strategol a chynlluniau datblygu lleol, ac mae darpariaethau deddfwriaethol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynlluniau dan y fframwaith datblygu cenedlaethol gydymffurfio ag ef. Mae hyn yn cynrychioli mecanwaith grymus iawn i lunio'r system gynllunio yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod cynlluniau datblygu lleol yn cael eu paratoi a'u hadolygu mewn modd amserol os ydym am wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer llunio lleoedd.
Mae'r dewis amgen yn gynnyrch ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid, arbrofi a herio, ac yn adlewyrchu strwythur drafft 'Polisi Cynllunio Cymru'. Gyda'i gilydd, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r FfDC yn cryfhau swyddogaeth llunio lleoedd yn y system gynllunio. Mae'n rhaid inni droi oddi wrth feddwl am faterion pwysig yr oes, megis tai, trafnidiaeth, iechyd ac ynni fel materion ar wahân, a chydnabod yr effaith a gaiff y rheini ar y cyd ar leoedd. Mae'n amser i ailsbarduno’r system gynllunio ac awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu lleoedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r ymgynghoriad ar y dewis amgen ar gyfer yr FfDC yn cau ar 23 Gorffennaf. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn natblygiad hirdymor Cymru a chreu lleoedd cynaliadwy i wneud eu barn yn hysbys drwy ymateb i'r ddau ymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Diolch ichi.
A gaf i groesawu'r cyhoeddiad heddiw? Un o anfanteision—a, Dirprwy Lywydd, byddwch chi'n rhannu hyn—cael eich ethol gyntaf ym 1999 yw ein bod yn cofio mynd ar ôl yr ysgyfarnog hwn am y tro cyntaf. Roedd y cynllun gofodol yn cael ei ystyried yn arloesol iawn, yn wir yn torri tir newydd. Roedd yn weledigaeth 20 mlynedd, yn integreiddio'r prif feysydd polisi cyhoeddus fel nad ydynt yn cael eu hystyried yn endidau ar wahân, ac roedd cynllunio rhanbarthol yn gysyniad newydd a oedd yn mynd i wneud y cylch cynllunio yn rhywbeth perthnasol. Cyhoeddwyd hynny yn 2004. Ac ni allaf fynegi i chi cymaint y bu hynny yn tra-arglwyddiaethu'r Cynulliad cyntaf, y cysyniad cyfan hwn o feddwl yn ofodol. Diweddarwyd y cynllun yn 2008 ac yna fe'i ddiweddarwyd eto yn 2013. A, thua hanner ffordd drwy'r broses hon, yn 2009, barnwyd y cynllun yn hallt gan gadeirydd fforwm economaidd y Gogledd, gan ddweud ei fod yn dda o ran egwyddor ond ei bod yn anodd iawn i weld yr hyn yr oedd yn ei gyflawni. Credaf mai beirniadaeth fras iawn yw honno ac nid yw'n gwbl deg, ond credaf ei bod yn crynhoi rhai o'r rhwystredigaethau.
A gaf i ofyn ambell gwestiwn penodol iawn? Pryd fydd drafft y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cael ei roi gerbron y Cynulliad i'w ystyried, oherwydd mae perygl y bydd yn dod atom yn hwyr iawn, yn hwyrnos y tymor Cynulliad hwn? Tybed a oes gennych unrhyw beth arall i'w ddweud ynglŷn â hynny. A pha beth ydych chi wedi ei ddysgu yn sgil cynllun gofodol Cymru? Beth sy'n mynd i gael ei gadw o'r cysyniad hwnnw, a beth sy'n mynd i gael ei adael nawr am nad yw'n effeithiol? Ac rwy'n sylwi, mae'n amlwg, fod ei arwyddocâd statudol, o ran bod yn rhaid i gynlluniau datblygu lleol gyfeirio ato, yn newid mawr.
Hoffwn wybod sut y bydd y rhaniad rhwng arwyddocâd cenedlaethol a rhanbarthol yn cael ei ddiffinio. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r broblem ar y lefel hon o gynllunio. Ai yr un fydd eich rhanbarthau chi a'r chwe is-ranbarth yng nghynllun gofodol Cymru—gyda ffiniau niwlog braidd, mae rhaid dweud—neu a ydych wedi dod o hyd i ffordd wahanol o wneud hyn? Pryd fydd yn rhaid i gynlluniau datblygu lleol ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r fframwaith datblygu cenedlaethol? Gallai fod yn amser maith, yn fy nhyb i, cyn i hynny ddigwydd, o ystyried yr amser y bydd yn ei gymryd i fynd drwy'r system. A sut fydd y cynlluniau datblygu strategol, y cynlluniau rhanbarthol, yn gweithio ochr yn ochr â'r cytundebau dinesig? Credaf fod y rhain yn gwestiynau pwysig iawn.
Ac yna, o ran tai, gwn y bydd gennym ychydig mwy o fanylion y prynhawn yma o bosib. Ond rydych chi'n dweud eich bod yn awr am gael amcanestyniadau o ran tai rhanbarthol, ac rwy'n holi tybed sut y bydd hynny'n cyd-fynd â'r amcanestyniadau diwygiedig a gynhyrchwyd yn 2015, ond na chawsant eu derbyn—amcanestyniad amgen Holmans. A sut fydd yr adolygiad presennol hwnnw wrth ddatblygu amcanestyniadau tai rhanbarthol yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad diweddar ar yr adolygiad o gyflenwad tai fforddiadwy sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd?
Fodd bynnag, mae'n bwysig inni wneud hyn yn iawn. Yn amlwg, mae gennym ni ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn, a chredaf ei bod yn bwysig inni ymdrechu i gael system gynllunio integredig a chydlynol. Ond, o ystyried un o fentrau mawr camau cynnar y datganoli, sef cynllunio gofodol, nid yw'n ymddangos i mi iddi fod yn llwyddiant ysgubol.
Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, David Melding, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Credaf fod cynllun gofodol Cymru—. Nid oeddwn i yma ym 1999, ond credaf ei fod yn arloesol iawn, ond cyfyngedig oedd ei ddylanwad, ac nid oedd ganddo'r pwysau statudol i allu dylanwadu ar benderfyniadau fel y bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei wneud. Cyfyng iawn hefyd, yn fy marn i, oedd ei flaenoriaethu strategol gofodol cenedlaethol, a chredaf ei fod yn brin o'r trosolwg cenedlaethol hwnnw y mae ei angen arnom yn daer. Dyna'r hyn a ddysgais i, yn sicr, o edrych ar sut y datblygodd cynllun gofodol Cymru. Felly, y cynllun datblygu statudol—ac roeddech yn cyfeirio at hyn yn eich sylwadau; bydd statws cynllun datblygu statudol yr FfDC yn sicrhau y bydd yn gallu pennu cyfeiriad cynlluniau datblygu'r haen is ac wedyn yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau.
Roeddech yn holi am yr amserlen. Byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad y flwyddyn nesaf. Dyma gam cyntaf y broses. Mae'n dechnegol iawn, ond nid oes dim ar bapur; nid oes cynnwys eto. Mae fy swyddogion wedi gwneud llawer iawn o waith gyda rhanddeiliaid—credaf eu bod wedi siarad â thua 200 o wahanol randdeiliaid dros y flwyddyn ddiwethaf i gyrraedd y cam hwn, ond mewn gwirionedd dyma gam cyntaf y gwaith paratoi. Felly, y flwyddyn nesaf, 2019, byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad. Dyna pryd, mae'n amlwg, y bydd y craffu'n digwydd, a bydd cynllun yn ei le yn 2020.
Roeddech chi'n holi am y cytundebau dinesig ac ardaloedd twf ac am gynlluniau datblygu lleol a chynlluniau datblygu strategol. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn i awdurdodau lleol y bydd yn rhaid iddyn nhw gael cynlluniau datblygu lleol yn eu lle. Rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn gweithio ar lefel datblygu strategol hefyd. Rwyf wedi gweld ychydig o wrthwynebiad, mae'n rhaid imi ddweud. Yr wythnos nesaf—rwy'n credu mai'r wythnos nesaf fydd hi—byddaf yn cyfarfod â holl aelodau arweiniol cynllunio, lle bydd modd inni drafod hyn ymhellach. Mae'r system gynllunio yn gymhleth iawn, a chredaf fod angen inni symleiddio peth arni, os mynnwch chi. Ac un ffordd o ddod â'r holl wahanol haenau at ei gilydd, a dyna pam yr euthum i ymgynghoriad â pholisi cynllunio Cymru—. A hefyd, yn fy mhortffolio i fy hun, mae gennyf bolisïau ynni, sydd yn gwrthdaro weithiau â chynllunio. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig inni wneud pethau'n iawn, a bydd yr FfDC yn ein helpu yn y ffordd honno hefyd.
Felly, yn amlwg bydd gan y system gynllunio swyddogaeth hollbwysig o ran cyflawni cytundebau dinesig Caerdydd ac Abertawe—a chytundebau twf arfaethedig y Gogledd a'r Canolbarth hefyd, os cymeradwyir y ceisiadau hynny—drwy nodi ein polisïau gofodol strategol o ran tai, o ran cyflogaeth, o ran trafnidiaeth, o ran addysg, o ran seilwaith digidol, o ran twristiaeth. Ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy holl gydweithwyr sy'n Ysgrifenyddion Cabinet cyn y cam hwn hefyd.
O ran tai, rwyf wedi cyfarfod â'r Gweinidog Tai ac Adfywio hefyd. Yr hyn yr wyf yn dymuno i'r FfDC ei wneud yw darparu cyfeiriad strategol ar gyfer tai, eto yn gysylltiedig â seilwaith cysylltedd; rwyf o'r farn ei bod yn bwysig iawn bod hynny'n digwydd o ran cyfleusterau allweddol, a hefyd lle mae ardaloedd o dwf, fel ein bod yn canolbwyntio'n fawr iawn ar lunio lleoedd. Credaf fod cyfle i'r fframwaith datblygu cenedlaethol nodi'r amcanestyniad poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar bolisi a thai. Gallai hynny gynnwys cyfres o niferoedd tai ledled Cymru am gyfnod arfaethedig. Mae'n rhywbeth y mae'r Alban yn edrych arno, a byddaf yn hapus iawn i ddysgu oddi wrthyn nhw.
Diolch am y datganiad. Mi fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn gosod y strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, fel rydych chi yn ei nodi. Felly, mae'n ofnadwy o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gymaint â phosib i sicrhau bod yr amcanion iawn yn cael eu gosod, a bod y strategaeth gywir mewn lle i gyflawni'r fframwaith. Ac, wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i'r cynlluniau datblygu strategol, a chynlluniau datblygu lleol, gydweddu efo'r fframwaith—rheswm arall dros gael ymgynghoriad sydd yn un trwyadl yn yr ardaloedd gwledig, yn ogystal ag yn yr ardaloedd dinesig, ac efo grwpiau gwahanol o ddemograffig yng Nghymru hefyd.
Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ofnadwy ar y pwynt yma bod pobl Cymru—a'r awdurdodau lleol, mewn gwirionedd—yn deall beth ydy pwrpas y fframwaith datblygu cenedlaethol a'i berthynas o efo'r ddwy haen sy'n dod oddi tano fo. Mae o'n edrych yn rhywbeth hollol dechnegol a diflas ar yr wyneb, onid yw, ond rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod hwn yn gosod allan y fframwaith ar gyfer datblygiad am gyfnod mor hir, a bod angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses. Felly, rydw i'n meddwl y byddai cael eglurhad o beth yn union ydy pwrpas hwn, reit ar y cychwyn fel hyn, yn fuddiol iawn.
Ac rydw i'n cytuno efo David Melding; mae angen dysgu gwersi o gynllun gofodol Cymru. Nid oeddwn innau, chwaith, yma yn 1999, ond rydw i'n cofio'r cyfnod yna, ac yn cofio ei fod o'n amhoblogaidd iawn, a'i fod o wedi achosi llawer o ddrwg-deimlad a gwrthwynebiad. Felly, gobeithio na fydd y fframwaith yma yn mynd i'r un cyfeiriad â'r cynllun hwnnw. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd fod yr ymgynghoriad yma yn mynd i fod yn ymgynghoriad yng ngwir ystyr y gair ac nid rhyw ymarferiad lle mai'r canlyniad terfynol a'r opsiwn a ffafrir—nid hwnnw fydd yn diweddu efo ni ar ddiwedd y dydd?
Mae'r ddogfen yn sôn am, ac rydw i'n dyfynnu:
'darparu cyfeiriad ar gyfer y tri rhanbarth sydd yng Nghymru—Gogledd Cymru, Canolbarth a De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.'
Rŵan, pwy sy'n dweud mai'r rheini ydy'r tri rhanbarth yma yng Nghymru? Mae'r fframwaith hefyd yn sôn am ganolbwyntio ar dai strategol, darparu seilwaith cydgysylltiedig mewn ardaloedd bargen ddinesig a bargen twf a chefnogaeth i ardaloedd gwledig. Rŵan, nid ydw i'n deall yn union beth mae hynny i fod i feddwl. Felly, ai'r bwriad ydy gorfodi awdurdodau lleol i weithio ar faterion sydd wedi cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru o fewn rhanbarthau sy'n cael eu gosod ac yn cael eu llywio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yr ardaloedd dinesig ac yn y blaen, sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu hefelychu hefyd gan Lywodraeth Cymru?
Gan droi at faes y Gymraeg, wrth gwrs, mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem ddifrifol mewn llawer o gymunedau, tra bod cymunedau eraill yn teimlo bod tai wedi cael eu hadeiladu yn y llefydd anghywir heb yr isadeiledd a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y twf mewn poblogaeth. Yr her fawr fydd y Cymry'n wynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, wrth gwrs, ydy datblygu'r Gymraeg a gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae gan y system gynllunio ran i chwarae yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Ni fydd y potensial yma sydd gan y system gynllunio yn dod yn amlwg os nad ydy Llywodraeth Cymru'n darparu arweiniad cryf a chadarn yn y maes yma. Byddwn i'n awgrymu i gychwyn bod angen diwygio a chryfhau nodyn cyngor technegol 20, sy'n gwrth-ddweud Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Rydym ni wedi cael y drafodaeth yma o'r blaen, ond rydw i'n dal at hynny ac yn gobeithio bydd hwn yn rhoi cyfle i ni gael y drafodaeth yna unwaith eto.
Mae yna gyfle efo'r fframwaith i Lywodraeth Cymru roi arweiniad cryf i awdurdodau lleol o ran cynllunio ieithyddol. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: a wnewch chi ddarparu sicrwydd y bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir a chadarn a digamsyniol ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir? Diolch.
Diolch, Siân Gwenllian. Gallaf eich sicrhau yn gyfan gwbl ei fod yn ymgynghoriad gwirioneddol. Fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nid ysgrifennwyd gair eto. Dyma ddechrau'r broses mewn gwirionedd, er y cafwyd ymgynghoriad enfawr â rhanddeiliaid gan fy swyddogion dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am tua 200 o randdeiliaid ac mae hynny'n cynnwys yr holl awdurdodau lleol—cyfeiriasoch at awdurdodau lleol—byrddau iechyd, byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r gwaith caled yn dechrau nawr. Ac mae'n dechnegol iawn ac, oherwydd nad yw'n rhywbeth diriaethol, mae'n anodd sicrhau bod pobl yn deall pa mor bwysig yw'r ddogfen hon a'i bwriad.
Bydd hwn yn gynllun datblygu defnydd tir cenedlaethol. Rydych chi'n gwybod fy mod allan ar ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda'r cynllun morol drafft. Mae'n amlwg fod hynny ar gyfer dŵr a môr. Mae hwn yn cyfateb ar y tir ac, fel y soniais, bydd yn disodli cynllun gofodol Cymru sy'n bodoli eisoes a bydd yn gosod y fframwaith gofodol am 20 mlynedd ar gyfer defnydd tir yng Nghymru. Felly, mae hwn yn gyd-destun ar gyfer seilwaith newydd, ac mae hefyd ar gyfer twf ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Roeddech chi'n holi am gymunedau gwledig. Eto, rwy'n rhagweld y bydd yr FfDC yn gweithio i gefnogi bywyd a gwaith mewn mannau gwledig i wneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ac yn ffynnu. Bydd y polisïau o'i fewn yn gosod fframwaith ar gyfer tai gwledig, er enghraifft, y cyfeirioch chi ato, ond hefyd wasanaethau, cyfleusterau—gan gynnwys iechyd ac addysg—a chyflogaeth a chysylltedd. Mae hynny i wneud yn siŵr bod ein cymunedau gwledig yn cadw ac yn denu pobl ac yn amlwg yn helpu i sicrhau cefn gwlad Cymru sy'n llawer mwy ffyniannus a chynaliadwy.
Roeddech chi'n gofyn cwestiynau penodol am yr iaith Gymraeg. Rydym dan rwymedigaeth i ystyried effeithiau yr FfDC ar yr iaith, ac rydym yn gwneud hynny yn rhan o'r broses asesu integredig. Gall cynllunio yn amlwg greu amodau a fydd yn galluogi'r iaith i ffynnu gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd ac ar gyfer tai a chyfleusterau cymunedol. Felly, credaf y gall yr FfDC yn anuniongyrchol ein helpu i gyrraedd y targed hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr ydym yn awyddus i'w gyflawni, gan hyrwyddo datblygiadau yn y mannau cywir.
O ran awdurdodau lleol, soniais bod swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau lleol fel eu bod yn deall safle'r CDLlau a'r CDSau. Credaf mai'r hyn y bydd yr FfDC yn ei roi inni yw ffordd well o ddangos y blaenoriaethau datblygu mawr ar gyfer Cymru, ac mae hynny'n sicrhau hefyd bod y system gynllunio yn gyson. Felly, rwy'n dymuno gweithio gydag awdurdodau lleol a datblygwyr i ddangos ymhle y mae ein blaenoriaethau ni, ond hefyd i'w helpu i wneud penderfyniadau anodd yn gyflymach. Oherwydd byddwch yn ymwybodol fod pethau weithiau yn glanio ar fy nesg i, ac rwy'n credu y bydd hynny'n eu helpu nhw cyn iddi ddod i hynny—bydd hynny yn eu helpu. Felly, yr hyn y bydd yr FfDC yn ei wneud yw sefyll, os mynnwch chi, ar frig pyramid o gynlluniau datblygu, gyda chynlluniau datblygu strategol ar gyfer y lefel ranbarthol a'r cynlluniau datblygu lleol ar raddfa awdurdod lleol. Mae'n hynod bwysig fod y tri yn cydweithio'n dda. Rydym yn awyddus i osgoi dyblygu gwaith, er enghraifft. Bydd yr FfDC yn canolbwyntio ar y materion cenedlaethol, os mynnwch chi—y materion sy'n effeithio ar y rhan fawr honno o Gymru—ond bydd y cynlluniau datblygu strategol a lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am y manylion ac am nodi'r safleoedd ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad.
Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rydym yn siarad heddiw am gynlluniau a chynllunio ac, fel yr amlinellodd y Gweinidog eiliad yn ôl, mae'n ymddangos ein bod yn ymlwybro tuag at dri math o gynllun yn fras: cynlluniau datblygu lleol ar y gwaelod, fframwaith datblygu cenedlaethol ar y brig, a chynlluniau datblygu strategol yn y canol.
Rydym wedi gweld achosion o gynnen cyhoeddus dros Gynlluniau Datblygu Lleol mewn blynyddoedd diweddar, gyda'r cynghorau yn teimlo, mewn rhai achosion, bod eu dwylo wedi'u rhwymo a'u bod yn gorfod bwrw ymlaen â CDLlau nad oeddent yn boblogaidd yn gyffredinol bob amser gyda rhai, neu gryn dipyn, o'u hetholwyr. Felly, yn fy marn i, un o'r problemau, neu'n un o'r materion, neu, gan ddefnyddio ymadrodd poblogaidd mewn Llywodraeth, un o'r heriau hynny yr ydych yn mynd i'w wynebu wrth fynd ymlaen yw: sut mae cadw cydsyniad democrataidd ar gyfer newid sylweddol mewn cynllunio, sy'n cynnwys penderfyniadau a wneir ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol? Efallai mai honno fydd y brif her fydd gennych chi, wrth symud ymlaen, oherwydd os ydym wedi cael problem ar lefel weddol leol â ChDLlau, sut allwn ni sicrhau na fyddwn ni mewn gwirionedd yn chwyddo'r problemau hyn, wrth symud ymlaen, gyda chynllunio ar raddfa fwy fel CDSau a'r FfDC yn ei gyfanrwydd? Felly, mae'n debyg mai yw fy nghwestiwn cyntaf yw: yn fras, sut fyddwch yn sicrhau eich bod yn cadw mesur mawr o gydsyniad democrataidd i'r mathau hyn o gynigion? Mae’n mynd i ddibynnu'n helaeth ar sut fath o strwythur y byddwch chi'n ei sefydlu.
Rhoddodd David Melding, a siaradodd yn gyntaf, olwg hanesyddol inni, a diddorol iawn yn fy nhyb i, ar yr hyn y ceisiwyd ei gyflawni yn nhymor cyntaf y Cynulliad gyda'r cynllun gofodol nad oeddwn i, mae'n rhaid cyfaddef, yn ymwybodol ohono. Ni allaf gofio i hynny fod yn bwnc llosg yn y papurau newyddion ar y pryd, ond efallai mai wedi anghofio yr wyf i. Ond, yn amlwg, yr oedd yn ddatblygiad mawr gan y Llywodraeth yn y tymor cyntaf, ac ni lwyddodd mewn gwirionedd. Felly, erbyn hyn rydym yn y sefyllfa hon gyda chynllun newydd. Sut fyddwch chi'n yn dysgu o wersi'r cynllun gofodol? Tybed pa wersi y byddwch yn eu dysgu eich hun, Gweinidog, o fethiant cymharol y cynllun gofodol a sut y gallwn sicrhau nad fydd y cynllun hwn yn ailadrodd y methiannau hynny.
Rwy'n ystyried bod problemau'n bodoli, ac rwy'n obeithiol y bydd hyn yn llwyddiant yn fras. Ond gallaf weld problemau, wrth symud ymlaen, gan fod gennych chi hefyd ad-drefnu llywodraeth leol, sydd dan ystyriaeth o hyd, y mae eich cyd-Aelod sy'n eistedd y drws nesaf ond un i chi yn gyfrifol amdano. Mae'n amlwg fod chi fel Gweinidog cynllunio ac yntau fel Gweinidog Llywodraeth Leol ar wahân, ac weithiau gall hynny achosi problemau. Rydych yn amlwg yn mynd i orfod cydweithio'n agos gyda'ch gilydd ar hyn i sicrhau llwyddiant. Tybed sut mae'r pethau hyn yn mynd i asio. Ar yr un pryd, mae gennym ni'r cytundebau dinesig, y cytundebau twf, felly rwy'n gobeithio na fydd hyn i gyd yn annibendod llwyr. A gobeithiaf y byddwch chi rhwng y ddau ohonoch chi, a'r Gweinidog tai hefyd, yn llwyddo i gadw rhywfaint o drefn ar hyn. Felly, tybed yn fras beth yw eich barn ar y pwyntiau hyn.
Un mater yr oeddwn yn arbennig o awyddus i'ch holi yn ei gylch oedd y Cynlluniau Datblygu Strategol. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud bod y rhain yn mynd i fod yn statudol—mae'n ddrwg gennyf i, bydd yr FfDC yn statudol. Felly, bydd hyn yn dylanwadu, yn sicr o ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir yn yr haenau is. Rwyf mewn ychydig o benbleth braidd o ran pwy sydd mewn gwirionedd yn gwneud y penderfyniadau gyda'r CDSau. Mae'n ymddangos mai'r awdurdodau lleol gyda'i gilydd fydd yn gwneud hynny. Roeddech chi'n dweud eich bod yn ceisio eu cael i weithio gyda'i gilydd ar lefel strategol. Sut fydd hynny'n gweithio gyda'ch pwerau statudol? Sut fydd hynny yn gweithio yn ymarferol mewn gwirionedd? A fyddan nhw'n gweithio ar yr un lefel â'r cytundebau dinesig? A fydd y dinas-ranbarthau mewn gwirionedd yn gwneud y penderfyniadau am y CDSau, neu a fydd yn gydglymiad arall o wahanol awdurdodau lleol? Thank you very much.
Diolch i Gareth Bennett am ei sylwadau a'i gwestiynau. Credaf fod angen imi roi sicrwydd—. Wel, rwyf wedi sicrhau bod fy swyddogion wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau cynllunio lleol, ac rwy'n hapus iawn i roi sicrwydd i'r Aelodau nad yw'r FfDC yn rhyw fath o ymaflyd yn yr awenau neu'n ffordd o osgoi gwneud penderfyniadau lleol da ac effeithiol. Os ydym yn ystyried y peth, ymdrinnir â mwy na 25,000 o geisiadau cynllunio gan awdurdodau cynllunio lleol bob blwyddyn, a dim ond llond llaw sy'n cael eu cymryd gan Weinidogion Cymru. Ni fydd hynny'n newid o ganlyniad i'r FfDC. Yr hyn y mae'r FfDC yn ei gynnig inni yw ffordd well o ddangos y blaenoriaethau datblygu mawr i Gymru a sicrhau bod y system gynllunio yn gyson. Rydych chi'n llygad eich lle; clywsoch yr hyn a ddywedais yn fy ateb i Siân Gwenllian y bydd yr FfDC yn sefyll ar frig pyramid o gynlluniau datblygu a bydd y CDSau a'r CDLlau oddi tano ar lefel awdurdodau lleol a rhanbarthol.
Mae awdurdodau lleol eisoes wedi chwarae rhan sylweddol iawn wrth gyrraedd y cyfnod ymgynghori cynnar iawn hwn. Maen nhw wedi bod yn rhan bwysig o'r ymgysylltiad cynnar. Serch hynny, rwyf i o'r farn y gallwn wneud llawer mwy gyda nhw. Mae gennyf i gynnig ar y bwrdd i bob awdurdod lleol weithio gyda ni wrth inni gasglu ein tystiolaeth nawr cyn inni gyflwyno'r FfDC drafft. Byddaf yn parhau i geisio barn awdurdodau lleol, ond wrth gwrs mae'n ddyletswydd arnyn nhw i chwarae rhan lawn a gweithgar iawn. Rwyf hefyd wedi egluro nad yw'r FfDC yn esgus i ohirio unrhyw waith ar gynlluniau datblygu lleol neu adolygiad o GDLlau a sy'n digwydd ar hyn o bryd gan yr awdurdodau cynllunio. Ni fydd unrhyw beth annisgwyl yng nghynnwys yr FfDC, oherwydd rydym yn disgwyl iddyn nhw weithio gyda ni wrth ei lunio.
Roeddech chi'n cyfeirio at gynllun gofodol Cymru, nad oeddech chi'n gwybod amdano, fel methiant. Ni fyddwn yn mynd mor bell â dweud hynny, ond byddwn yn—. Rwy'n credu bod David Melding wedi cyfeirio at y math o frwdfrydedd y gwnaeth cynllun gofodol cyntaf Cymru ei ennyn, a chredaf ei bod yn hollol deg dweud na lwyddodd i sicrhau'r newid ystyrlon yr oedd ar y Llywodraeth gyntaf ei eisiau.
Roeddech chi'n gofyn i mi pa wersi yr ydym wedi'u dysgu ac rwy'n credu mai'r wers fawr yr wyf i'n bersonol wedi'i dysgu, ac yn amlwg y mae'r swyddogion wedi'i dysgu, yw nad oedd ganddo'r fframwaith hwnnw a'r statws o fod yn gynllun datblygu, ac felly nid oedd ganddo'r dannedd, os mynnwch chi, i gyflwyno'r newid ystyrlon hwnnw. Felly, dyna pam yr ydym wedi rhoi'r statws hwnnw i'r FfDC, oherwydd nid wyf i'n dymuno iddi fod ond yn rhyw fath o ddogfen sgleiniog sydd yn eistedd ar y silff ac heb dannedd i sbarduno'r newid hwnnw yr ydym yn eiddgar i'w weld.
Rwyf i'n gweithio'n agos gyda fy holl gydweithwyr sy'n Ysgrifenyddion y Cabinet ac yn gyd-Weinidogion. Soniais fy mod wedi cwrdd â phob un ohonyn nhw cyn inni gyrraedd y cyfnod hwn hyd yn oed i weld beth yw eu blaenoriaethau nhw. Mae'n ddogfen draws-Lywodraethol i raddau helaeth iawn. Nid ydym yn gweithio mewn seilos. Gweithiwn yn agos iawn at ein gilydd, a chyfeiriais at y math o waith yr wyf wedi'i wneud gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio. Fel y dywedwch, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, yn dechrau ar waith sy'n ymwneud â diwygio. Bydd hyn yn cydweddu â hynny. Yn amlwg, mae gennym ni 25 o awdurdodau cynllunio lleol gyda 22 o awdurdodau lleol ac, yn amlwg, byddaf yn gweithio'n agos iawn gydag Alun Davies yn y gwaith y mae ef yn ei gyflwyno.
Rwy'n cefnogi'n gryf yr egwyddor o gynllun datblygu cenedlaethol a chynllun datblygu strategol uwchben y cynlluniau datblygu lleol. Credaf ein bod yn rhy aml yn edrych ar ardaloedd ar wahân i'w gilydd, ac i'r rheini sy'n adnabod yr ardal gerllaw'r lle rwyf i'n byw, mae gennych chi Barc Trostre, ac mae gennych chi Barc Manwerthu Fforest-fach, sydd dair neu bedair milltir oddi wrth ei gilydd. Maen nhw'n effeithio ar ei gilydd, ond maen nhw'n cael eu trin gan wahanol awdurdodau cynllunio, ac o dan unrhyw newidiadau y mae unrhyw un wedi'u cyflwyno'n ddiweddar, bydden nhw'n aros o dan wahanol awdurdodau cynllunio. Rydym ni wedi gweld datblygiad yr ail gampws yn Abertawe, y credaf ei fod wedi bod yn adeilad rhagorol, ond mae ganddo mewn gwirionedd effaith llawer mwy ar Abertawe nag y sydd ganddo ar Gastell-nedd Port Talbot, y cyngor y mae'n ymddangos ynddo drwy serendipedd. Darn o dir oedd hwn nad oedd neb yn ei ddefnyddio, a dilyn y nant wnaethon nhw i gael ffin. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael trosolwg strategol yn y pen draw.
A gaf i ddychwelyd at gyfnod cyn y cynllun gofodol? Nid oedd y cynllun gofodol yn disodli ond yr hen gynlluniau sirol. Roedd y cynlluniau sirol yn bodoli ac roedden nhw'n dynodi ardaloedd o fewn Sir ar gyfer gwahanol ddefnydd. Mae'n ddiddorol iawn bod y cynlluniau sirol wedi diflannu, am fod adrannau cynllunio'r siroedd wedi diflannu, am fod rhywun wedi penderfynu pe byddai adran gynllunio mewn rhanbarth ac adran gynllunio yn y sir, mae'n rhaid fod peth gorgyffwrdd y gellid cymhwyso eu heffeithlonrwydd drwy eu huno nhw. Mae pobl bob amser yn awyddus i uno pethau ar gyfer sicrhau arbedion effeithlonrwydd; un diwrnod fe ddaw hynny i weithio. Ac fe welsom ni wedyn fod y cynlluniau sirol wedi diflannu, ac felly nid oedd cynllun datblygu sirol i'w gael gennych chi, ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Credaf fod angen cynlluniau datblygu cyffredinol arnom ni, oherwydd caiff pobl eu dylanwadu bob amser gan yr ardal gyfagos, ac nid yw hynny'n cael ei ddatrys gan ffiniau Cymru na ffiniau ardaloedd y cynghorau, ni waeth pa mor fawr y byddwch chi yn eu gwneud nhw, neu gan ffiniau'r dinas-ranbarthau.
Mae gennyf i ddau gwestiwn gwirioneddol. A fyddwch yn edrych ar ddynodi tir ar gyfer coedwigaeth? Un o'r methiannau mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw nad yw cyfanswm y coedwigo a ddylai fod wedi digwydd yng Nghymru wedi digwydd. Mae llawer yn yr ystafell hon yn awyddus iawn i gynyddu'r swm coedwigaeth yng Nghymru. A fyddwch yn dynodi ardaloedd, fel y gwnaethai'r cynlluniau sirol ddynodi ardaloedd ar gyfer mwynau ac ardaloedd ar gyfer coedwigaeth? A fydd hynny i'w gael fel eich bod yn gallu dynodi ardaloedd, fel y gallwn gael mewn gwirionedd ddigon o dir ar gael ar gyfer coedwigo i fodloni ein cynlluniau mewn gwirionedd?
Yr ail gwestiwn yw: erbyn hyn mae gennym gynllun morol ar wahân i'r cynllun datblygu cenedlaethol—pam hynny? Rwyf i wedi dod i'r casgliad bod y môr yn cwrdd â'r tir ymhobman. Ac rwyf hefyd o'r farn fod porthladdoedd, er enghraifft, yn cael effaith ar y môr; mae o leiaf ran ohonynt ar dir a rhan ohonynt ar y môr. Siawns na fuasai un cynllun cyfunol sy'n cwmpasu'r morol a'r tir yn well na chael dau gynllun, oherwydd yr wyf yn siŵr y bydd rhywun yn y dyfodol dymuno eu huno nhw.
Diolch ichi, Mike Hedges, am y cwestiynau hyn. Byddaf yn cymryd yr ail un yn gyntaf. Credaf mai pwynt da iawn yw hwnnw mewn gwirionedd ynghylch pam oedd cynlluniau ar wahân gennym, ac rwy'n amau pan yr etifeddais y portffolio ddwy flynedd yn union yn ôl roeddwn yn ymwybodol iawn o'r ffaith nad oedd gennym unrhyw farn strategol ar ein morol—ein moroedd a'n dyfroedd—ac roedd yn mynd yn broblem gynyddol, ac roeddwn yn awyddus iawn i gael y cynllun morol yn weithredol. Fel yr oedd hi, fe gymerodd ychydig dros flwyddyn i mi. Pe byddwn wedi aros am yr FfDC hefyd—ac, mae'n amlwg, nid yw'r FfDC am ddod tan 2020—byddai hynny wedi ei ohirio, ond mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n ymblethu gyda'i gilydd yn dynn iawn.
O ran eich cwestiwn am goedwigaeth, yn sicr, cytunaf yn llwyr â chi nad ydym yn plannu cymaint o goed ag y byddem oll yn ei ddymuno, ac yn amlwg mae hwnnw'n ddarn o waith y mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn ei wneud. Credaf mai'r hyn sydd gan yr FfDC y potensial i'w wneud yw cynorthwyo wrth gyflawni'r polisi adnoddau naturiol yr ydym wedi'i gyflwyno. Credaf fod potensial i bob un o dair blaenoriaeth cynllunio cyfoeth naturiol gael eu cefnogi gan yr FfDC. Yn amlwg, mae gan y system gynllunio swyddogaeth allweddol wrth helpu i wrthdroi'r dirywiad bioamrywiaeth, er enghraifft. Felly, gallwn yn sicr edrych a ydym yn dynodi ardaloedd ar gyfer coedwigaeth, ac eto, crybwyllais mai darn gwbl wag o bapur sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, gallwn weld yn sicr pa ymatebion sy'n dod i'r ymgynghoriad, ond rwy'n credu bod hwn yn faes y gallwn edrych arno wrth fynd yn ein blaenau.
Diolch am y datganiad, Gweinidog. Rydw i jest eisiau ffocysu ar un agwedd o'r datganiad, sef ynni. Mae'r datganiad, yn hytrach na'r ymgynghoriad, yn ei wneud yn glir bod ynni yn ganolog i ddatblygiad yn ôl lleoliad, fel rŷch chi wedi amlinellu. Yn benodol, mae lot o sôn yn yr ymgynghoriad, yn y papur, ynglŷn ag ynni adnewyddol, sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod yna ddatblygiadau ynni o bwys y tu hwnt i ynni adnewyddol sydd yn effeithio ar gymunedau. Rŷch chi'n meddwl, er enghraifft, am orsaf bŵer Aberddawan. Fe gafodd y pwyllgor newid hinsawdd dystiolaeth yr wythnos diwethaf fod cau'r orsaf honno, sydd yn yr arfaeth gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, yn hollbwysig i dargedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru. Rŷm ni newydd weld cais cynllunio ar gyfer ailagor pwll glo yn Aberpergwm, sydd hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â sut mae datblygiadau ynni fel hyn yn ffitio i mewn gyda'r cysyniadau eraill sydd gyda chi. Achos pwrpas unrhyw gynllun strategol cenedlaethol yw cyflawni ar lawr gwlad beth sydd gyda chi fel polisi cenedlaethol. Dyna beth yw ei bwrpas e. Felly, pan ŷch chi'n sôn yn yr ymgynghoriad am ynni sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, a fedrwch chi jest ddweud wrthym ni heddiw a ydy'r 'cenedlaethol' yn fanna yn cyfeirio at Gymru neu'r Deyrnas Gyfunol? Rydw i ond yn defnyddio 'cenedlaethol' i feddwl Cymru, wrth gwrs, ond rydw i'n gweld 'cenedlaethol' weithiau yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun arall. Felly, jest inni ddeall hynny, fel ein bod ni'n gallu bod yn glir yn ei gylch e.
Yn ail, fel sydd wedi cael ei grybwyll inni eisoes, mae eich dewis amgen ymysg yr ymgynghoriad yma yn sôn am dri rhanbarth yng Nghymru, sydd yn golygu bod y canolbarth yn mynd gyda'r de-orllewin. Ond, wrth gwrs, pedwar rhanbarth, i bob pwrpas, sydd gyda ni bellach, gyda rhanbarth uchelgais y gogledd, rhanbarth twf Ceredigion a Phowys gyda'i gilydd, ac wedyn y ddwy ddinas-ranbarth yn y de. Fel rŷch chi'n gwybod, efallai, ddoe fe gynhaliwyd cynhadledd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn edrych ar ynni yn ninas-ranbarth bae Abertawe—roedd wedi cael ei chynnal gan yr IWA—ac un o'r pethau a drafodwyd, ac, yn wir, a argymhellwyd, yn y gynhadledd yna oedd y dylai fod targedau ynni ac ynni adnewyddol rhanbarthol yng Nghymru. Hynny yw, er mwyn cyrraedd eich targedau cenedlaethol sydd yn yr ymgynghoriad yma, rŷch chi eisiau targedau rhanbarthol, achos mae gwahanol ranbarthau yn gwneud yn well na'i gilydd o ran ynni adnewyddol—mae'r canolbarth yn cyfrannu yn helaeth o ran ynni o felinau gwynt, er enghraifft. Felly, a ydych chi wedi glynu wrth y syniad yma o dri rhanbarth, ac a fyddwch chi'n cyflwyno yn eu sgil dargedau adnewyddol rhanbarthol?
Diolch ichi. O ran y gair 'cenedlaethol', rwyf innau hefyd yn sôn am Gymru pan gyfeiriaf at yr FfDC. Rwyf i o'r farn fod cysondeb a chywirdeb ein polisi ynni a'n polisi cynllunio yn bwysig iawn. Soniais am wrthdaro polisïau ar brydiau, ac mae'n rhaid imi edrych ar gais cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy, tyrbinau gwynt dyweder, a chan ei fod yn gorwedd y tu allan i ardal—wyddoch chi, y polisi cynllunio—ceir y gwrthdaro hwnnw. Roeddech chi'n sôn am un arall sydd newydd ddod ger fy mron. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cysoni ein polisïau, a dyna un o'r rhesymau am fynd allan ar 'Bolisi Cynllunio Cymru' er mwyn inni allu cyrraedd y targedau a osodais ar gyfer ynni adnewyddadwy a'r mathau o ynni yn ôl ym mis Rhagfyr.
O ran y rhanbarthau, nid wyf wedi fy rhwymo i'r rhain, a chredaf fod hwn yn faes y gallwn edrych arno dros y cyfnod hwn pan fyddwn yn edrych ar y dewis a ffefrir ac yn gosod y llwyfan, os mynnwch chi, o flaen cyflwyno'r FfDC drafft y flwyddyn nesaf. Mae ystyried a ddylid cael targedau rhanbarthol ar gyfer ynni yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno. Credaf mai'r peth pwysicaf yw bod yr FfDC yn cefnogi ein hamcanion datgarboneiddio ac yn ein helpu i fagu nerth i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, yn amlwg, y buaswn yn dymuno iddo ei gyflawni.
Os ydym am gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio strategol, rwy'n credu y bydd yn rhaid i hynny fod yn amcan canolog i'r FfDC, ac mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Felly, rwy'n dymuno gweld yr FFDC yn helpu i gyflawni ein targedau drwy bolisïau a fydd wedyn yn cefnogi cynhyrchu drwy amrywiaeth o dechnoleg, ac yn darparu fframwaith ar gyfer cynhyrchu ynni lleol hefyd.
Roeddech chi'n sôn am seilwaith mawr i ynni, ac, eto, credaf ei fod yn gyfle gwych inni—yr FfDC —fynegi'n ofodol ein polisïau cynllunio cadarnhaol iawn ar seilwaith ynni er mwyn, unwaith eto, inni allu ateb ein rhwymedigaethau o ran newid hinsawdd a'n targedau ynni adnewyddadwy hefyd. Mae fy swyddogion yn ymchwilio ar hyn o bryd i gyfleoedd i fapio'r potensial ar gyfer seilwaith ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr newydd ledled Cymru. Ac, eto, rwy'n credu y bydd gosod y rheini mewn polisi cynllunio yn ein galluogi ni i roi arweiniad gwirioneddol wrth ystyried y lleoliadau gorau ar gyfer y datblygiadau.
Rwy'n falch iawn ac rwy'n croesawu'n fawr y modd y mae'r nodau llesiant a'r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhannau annatod o bolisi cynllunio Cymru, a'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Yng ngoleuni hynny, tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am ei statws fel cynllun datblygu ac a yw'n eich galluogi chi i wneud rhai o'r canlynol. Er enghraifft, a yw'n eich galluogi chi i'w gwneud yn glir na fydd canolfannau siopa ar gyrion trefi yn cael croeso yn y dyfodol oherwydd y niwed y maen nhw'n ei achosi i lunio lleoedd mewn canol dinas neu dref? A yw'n eich galluogi chi i fynnu y bydd datblygiadau sylweddol o dai newydd yn digwydd yn unig lle ceir cysylltiadau da o ran trafnidiaeth gyhoeddus hefyd, gan y bydd yn amhosib inni fodloni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd oni bai ein bod yn rheoli datblygiad i ardaloedd sydd â'r cysylltiadau priodol? A yw'n ein galluogi ni, er enghraifft, i ddiddymu Deddf Iawndal Tir 1961, sydd yn un o'r prif rwystrau i ddatblygu tir newydd ar gyfer tai lle ceir angen am dai, gan ei bod yn caniatáu i bobl ddal eu gafael mewn tir yn y gobaith y gallai rywbryd yn y dyfodol fod yn llawer mwy gwerthfawr nag ydyw ar hyn o bryd? Felly, byddwn yn awyddus i ddeall ychydig mwy am y pwerau sydd gan y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd hwn i'w rhoi i chi er mwyn cyflawni amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn gwirionedd.
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Rydych chi yn llygad eich lle—rwy'n credu bod y ffyrdd o weithio o ran Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad yr FfDC, hyd yn oed yn ystod y gwaith a wnaed hyd yn hyn, ond yn arbennig felly ar gyfer y gwaith sydd o'n blaenau. Rydym wedi ystyried yn fanwl sut y mae'r dulliau o weithio yn llywio'r hyn a wnawn a sut y gallan nhw helpu inni gyflawni'r datblygiad cynaliadwy yr ydym yn dymuno ei weld. Cawsant eu defnyddio hefyd i lywio adolygiad y dystiolaeth a nodi materion, a hefyd i edrych ar strwythur y fframwaith asesu. Mae'n ofyniad, yn amlwg, gan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth ein bod yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau mewn cysylltiad â'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi ceisio integreiddio'r dull sydd eisoes yn y broses asesu.
Rydych yn holi am bwyntiau penodol, a chredaf eich bod yn llygad eich lle—mae'n hanfodol bwysig pan fyddwn ni'n edrych ar y mannau y mae datblygiadau tai yn mynd i fod, er enghraifft, fod cludiant cyhoeddus ar gael yno. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet a chydweithwyr gweinidogol cyn hyn, ac mae'n rhywbeth y maen nhw'n edrych arno. Felly, er enghraifft, pan oeddwn yn siarad â Kirsty Williams, pe byddai hi'n ceisio lleoli coleg trydyddol newydd yn rhywle, byddai'n bwysig edrych ar yr hyn sydd o gwmpas y lleoliad—a yw'r tai yno, a yw'r cludiant cyhoeddus yno. Felly, yn sicr, bydd hynny'n rhan o hyn.
Roeddech yn fy holi am Ddeddf iawndal 1961—nid oes gennyf i ateb i'r cwestiwn hwnnw, rwy'n ofni, ond byddaf yn sicr yn hapus i anfon nodyn at yr Aelod.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Sir Powys—diweddariad ar gefnogaeth o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn arolygiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, hysbysiad rhybuddio i'r cyngor o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ar 16 Ebrill, cafwyd diweddariad gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar gynnydd y camau gweithredu a oedd wedi deillio o'r hysbysiad rhybuddio.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru ei hadroddiad o'i harolygiad o wasanaethau oedolion ym Mhowys. Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at feysydd o bryder sylweddol y mae angen i Bowys fynd i'r afael â nhw. Roedd yn glir yn yr adroddiad blaenorol ar wasanaethau plant ac yn adroddiad heddiw ar wasanaethau oedolion fod angen gwelliannau yn yr awdurdod yn ei gyfanrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cefais gais am gymorth ffurfiol gan arweinydd Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris. Yn dilyn hynny, fe wnes i arfer fy mhwerau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i Bowys er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau corfforaethol. Datblygwyd hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2017, penodais Sean Harriss, prif weithredwr awdurdod lleol profiadol ac uchel ei barch, i gynnal adolygiad cyflym o'r cyngor. Rhoddais iddo'r dasg o bennu cwmpas y prif heriau a oedd yn wynebu'r cyngor a llunio adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau a'r camau yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â nhw. Cyhoeddwyd ei adroddiad, 'Adolygiad o Arweinyddiaeth, Llywodraethu, Strategaeth a Gallu', ym mis Chwefror 2018, a rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar ei ganfyddiadau allweddol. Amlygodd yr adroddiad fod y cyngor wedi gwneud cynnydd ond ei fod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth gryfhau ei arweinyddiaeth a'i allu corfforaethol. Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd y gellid goresgyn yr heriau hynny, ac rwy'n dyfynnu, drwy 'gynyddu capasiti a gallu yn yr awdurdod lleol, ynghyd â phecyn dwys o welliannau dan arweiniad y sector'.
Er mwyn sicrhau parhad a chysondeb, gofynnais i Sean Harriss barhau i weithio gyda Chyngor Sir Powys a goruchwylio ail gam o gymorth. Mae wedi rhoi cymorth i'r cyngor yn y meysydd allweddol canlynol: perfformiad ac ansawdd, gweledigaeth, newid sefydliadol, ac, yn olaf, cryfhau sefyllfa'r gyllideb.
Cawsom gyfarfod eto ddoe, a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd ar ddiwedd ail gam y gwaith. Yn ôl ei asesiad ef, mae'n amlwg bod cynnydd wedi'i wneud, ond mae heriau sylweddol yn parhau, ac mae angen arweinyddiaeth gorfforaethol well er mwyn cyflawni a chynnal lefel y newid sydd ei hangen. Roedd y gofyniad hwn wedi'i adlewyrchu hefyd yn ei adroddiad ym mis Chwefror, a oedd yn argymell penodi prif weithredwr dros dro profiadol, â record wedi'i brofi o weddnewid.
Mae Cyngor Powys wedi bod yn cymryd camau yn dilyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn longyfarch Mohammed Mehmet, cyn-brif weithredwr Cyngor Sir Dinbych, ar gael ei benodi'n brif weithredwr dros dro Cyngor Sir Powys. Mae ei hanes yn Sir Ddinbych yn siarad drosto'i hun, wedi iddo arwain y cyngor drwy gyfnod o her sylweddol i fod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Gan fod prif weithredwr dros dro newydd wedi'i benodi, bydd amser a gwaith Mr Harriss gyda Phowys yn dirwyn i ben yn awr. Hoffwn ddiolch iddo am ei waith gyda'r cyngor, ond hefyd, Dirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod gwaith David Powell, y prif weithredwr gweithredol, a'r ffordd gadarnhaol y mae'r cyngor, ei staff a'i aelodau wedi ymateb i'r heriau hyn.
Caiff arweinydd y cyngor a'r prif weithredwr dros dro newydd eu cefnogi gan fwrdd gwella a sicrwydd newydd, sydd wedi'i sefydlu â chylch gwaith ehangach ac sy'n disodli'r bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol blaenorol. Rwy'n falch o ddweud bod Jack Straw, a gadeiriodd y bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol, yn parhau yn gadeirydd.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi penodi Bozena Allen, cyn-gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, yn aelod allanol gwasanaethau cymdeithasol, a Jaki Salisbury, cyn-brif weithredwr a chyfarwyddwr cyllid, yn aelod corfforaethol ar y Bwrdd. Byddan nhw'n darparu cymorth, her ac arweiniad i'r cyngor. Maen nhw'n arbenigwyr yn eu maes, ac mae ganddyn nhw hanes o weithredu llwyddiannus ac arwain sefydliadau yn ystod cyfnodau o weddnewid. Cynhaliodd y bwrdd ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher, 25 Ebrill, a bydd y bwrdd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd ac yn rhoi cyngor ar ba gymorth pellach sydd ei angen dan arweiniad Llywodraeth Cymru neu'r sector.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y camau gweithredu ar gyfer y cyngor yn amlwg. Mae'n rhaid iddo gyflawni'r cynllun gwella gwasanaethau cymdeithasol sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer gwasanaethau plant, a sicrhau bod cynllun tebyg yn cael ei weithredu ar gyfer gwasanaethau oedolion. Mae'n rhaid iddo hefyd gymryd y camau dilynol priodol yn unol â'r argymhellion yn adolygiad Sean Harriss o arweinyddiaeth, llywodraethu, strategaeth a gallu. Byddaf yn disgwyl i'r cyngor weithredu strategaeth ariannol tymor canolig gyfoes, gadarn a chynaliadwy, sy'n blaenoriaethu ei wariant ar wasanaethau allweddol, ac a all gyflawni'r pecyn o fesurau sydd ei angen i weddnewid y cyngor. Rwyf wedi darparu rhywfaint o fuddsoddiad i helpu yn hyn o beth.
Rwyf i wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor heddiw, ac mae hi wedi fy sicrhau ei bod yn ymrwymedig i gyflawni'r cynnydd a sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn gallu cynnig y gwasanaethau o ansawdd uchel y mae gan bobl bob hawl i'w disgwyl. Ymunodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â ni yn y cyfarfod hwnnw hefyd. Byddaf i a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i roi diweddariadau i Aelodau ar y cynnydd a wneir. Diolch.
Diolch. Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd ddiolch a rhoi ar gofnod fy niolch i Huw Irranca-Davies a'i ragflaenydd Rebecca Evans am fod yn agored iawn i roi briff i Aelodau perthnasol a rhoi'r newyddion diweddaraf i ni am y sefyllfa, yn dilyn yr arolygiad o wasanaethau plant Powys? Hefyd, rwy'n gwerthfawrogi cynnig Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod am sesiwn briffio. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Mae hefyd yn galonogol, yn fy marn i, bod Cyngor Sir Powys eu hunain wedi rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad gael eu briffio am y materion diweddar.
Rwy'n falch o glywed bod yr awdurdod lleol yn cymryd camau gweithredu eisoes i weithredu'r argymhellion, ac ymddengys bod arweinwyr y cyngor yn bwrw ymlaen yn gadarnhaol â'r argymhellion, a hynny mewn ffordd dryloyw ac adeiladol.
Fe wnaethoch chi nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, neu fe wnaethoch chi ddechrau eich datganiad drwy gyfeirio at adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd heddiw, sy'n tynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder sylweddol y mae angen i Bowys fynd i'r afael â nhw o ran gwasanaethau oedolion. Roeddwn yn falch, wrth edrych ar hynny, ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod morâl y staff wedi cael hwb erbyn hyn. Nid oedd hi felly beth amser yn ôl, felly mae hynny'n gadarnhaol yn fy marn i. A gaf i ofyn i chi: sut byddwch chi'n mesur y gwelliannau y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu gwneud? Yn y pen draw, bydd gwell canlyniadau yn pennu, wrth gwrs, a yw gwasanaethau oedolion yn ddigon da fel nad oes angen lefel mor uchel o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru mwyach. Felly, a wnewch chi amlinellu rhai targedau penodol ar gyfer gwelliannau ac egluro pa waith sy'n cael ei wneud gyda Phowys ar hyn o bryd i ddatblygu'r rhain?
Hefyd, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw sawl gwaith at y ffaith bod gan y gweithlu sy'n darparu gwasanaethau oedolion gyfradd uchel o salwch ac absenoldeb, trosiant uchel a lefelau anghyson o oruchwyliaeth. Felly, tybed pa swyddogaeth fydd gan Lywodraeth Cymru wrth sefydlu strategaeth gweithlu sy'n gallu meithrin cryfder y gweithlu a darparu gwasanaeth amserol, gwybodus ac effeithiol.
Rydych chi wedi llongyfarch Mohammed Mehmet ar ei benodiad yn brif weithredwr dros dro. Fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa yw ei fod yn brif weithredwr gweithredol, yn hytrach na phrif weithredwr dros dro—a wnewch chi egluro hynny? Ond rwyf innau wedi clywed sylwadau cadarnhaol iawn mewn ymateb i'w benodiad. Fe wnaethoch chi sôn am ei hanes da yn eich datganiad. A ydych chi'n hyderus bod penodiad y prif weithredwr newydd neu'r prif weithredwr gweithredol yn gywir? Efallai byddai'n ddefnyddiol gwybod, hefyd, am y broses recriwtio—beth yw swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses recriwtio honno.
Yn olaf, a ydych chi'n cydnabod, er mwyn meithrin gallu a sicrhau bod y gwelliannau hyn yn parhau, bod sefydlogrwydd o ran y dirwedd wleidyddol yn bwysig? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cynigion yn y Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol i gadw Powys yn un awdurdod lleol â'r un ôl-troed â'r bwrdd iechyd yn cyfrannu at y sefydlogrwydd hwnnw ac yn rhoi'r cyfle gorau un o sicrhau bod gwelliannau parhaus yn cael eu gwneud?
Hoffwn ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei eiriau caredig ar ddechrau ei gyfraniad, a hefyd am ei ddyfeisgarwch wrth sleifio'i sylwadau ar ddiwygio llywodraeth leol i ddiweddglo'r araith honno.
Fe ddechreuaf, efallai, y peth hawsaf, drwy ateb rhai o'ch cwestiynau olaf yn gyntaf. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad wrth benodi prif weithredwr Powys nac unrhyw awdurdod arall. Mater i'r awdurdod yw gwneud penderfyniadau o'r fath. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn barod i helpu a chefnogi, ond mae'n iawn ac yn briodol i'r llywodraeth leol ei hun wneud y penderfyniadau hyn. Penodwyd Mohammed Mehmet gan Gyngor Sir Powys, yn unol â'i weithdrefnau, ac rwyf i'n croesawu’r penodiad. Mae gen i bob ffydd ynddo ef a'i allu i arwain y gweithlu proffesiynol yng Nghyngor Sir Powys a chynnig yr arweinyddiaeth broffesiynol sydd ei hangen er mwyn adfer y cyngor i'r sefyllfa yr ydym ni i gyd yn dymuno iddo fod ynddi yn y dyfodol.
O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru, mae llefarydd y Ceidwadwyr, Dirprwy Lywydd, wedi holi nifer o gwestiynau sy'n cyfeirio at swyddogaeth bosibl Llywodraeth Cymru, o ran strategaeth y gweithlu a chyflawni cyfres o ymyriadau. Gadewch imi ddweud hyn: un o'r pethau cadarnhaol, yn fy marn i, wrth edrych ar yr ymyraethau a gyflawnwyd i Bowys gyda chymorth Powys, yw bod y gwaith hwn wedi'i arwain i raddau helaeth iawn gan bobl sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a phrofiad o lywodraeth leol, ac sydd wedi'u gwreiddio ynddynt. Dyma llywodraeth leol yn cynnal ac yn cefnogi llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod y blynyddoedd nesaf, roi mwy o strwythurau ar waith a fydd yn galluogi llywodraeth leol i gynnal a chefnogi gwasanaethau llywodraeth leol.
Rwy'n gobeithio y bydd y dyddiau o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben yn fuan, mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi strwythurau a dulliau a phrosesau ar waith y gall llywodraeth leol eu defnyddio er mwyn cymryd cyfrifoldeb am wella'r gwasanaethau a ddarperir i, gan ac ar gyfer llywodraeth leol. Dyna sut y dylai hi fod. Mae'n iawn ac yn briodol bod gan lywodraeth leol y strwythurau hynny ar waith ac, yn sicr, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth yn ei gallu i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gyrraedd y pwynt hwnnw.
Mae'r Aelod Ceidwadol wedi holi nifer o gwestiynau ynghylch sut y byddwn yn mesur gwelliannau a'r lefel uchel o ymyrraeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni ein targedau a'n hamcanion. Dywedaf wrtho fy mod i'n disgwyl i'r bwrdd gwella gyhoeddi ei amcanion a chyhoeddi ei ffrydiau gwaith maes o law, a byddwn ni'n gallu dwyn y bwrdd gwella i gyfrif am sut y mae'n mynd ati i gyflawni a gwireddu'r uchelgeisiau hynny.
Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: rwyf i, fel ef, wedi darllen yr adroddiad ar wasanaethau oedolion, a gyhoeddwyd amser cinio heddiw. Rydym yn gweld methiannau yn y fan yna. Rydym yn cydnabod y methiannau, ond rydym ni hefyd yn cydnabod yr hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r pwynt y gwnaeth Russell George yn ei gyfraniad ef, am forâl y staff a'r gweithlu, yn fy marn i, yn gwbl ganolog i bopeth arall yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma. Rydym yn rhoi strwythurau ar waith ac yn sicrhau bod y bobl iawn yno i allu helpu i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau technegol a'r sgiliau rheoli i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac sydd gan bobl Powys bob hawl i'w disgwyl. Ond yn fwy na hynny, mae angen i ni fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r diwylliant corfforaethol; mae angen i ni fynd i'r afael â diwylliant corfforaethol ym Mhowys, ac weithiau mewn mannau eraill hefyd.
Rwy'n gobeithio y bydd y newidiadau ehangach, y mae'r arweinydd yn cydnabod yn hollol eu bod yn cael eu gwneud, yn sicrhau'r newid hwnnw mewn diwylliant o fewn y sefydliad hefyd. Dywedaf, Dirprwy Lywydd, wrth yr Aelodau fod y cyfarfod a gefais â'r Cynghorydd Harris y prynhawn yma yn un da iawn a chadarnhaol iawn. Wrth adael y cyfarfod, roedd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a minnau yn teimlo'n gadarnhaol iawn am yr ymrwymiad y mae'r Cynghorydd Harris yn ei wneud i wella, a'r daith y mae'n ei harwain ym Mhowys. Ac mae'n sicr yn fater i mi a'r holl gydweithwyr gweinidogol sy'n ymwneud â hyn, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu pob cymorth sydd ei angen ar Bowys er mwyn cyrraedd pen y daith hon.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac am y cyfle i drafod nifer o faterion tebyg yn y gorffennol, gyda'r Gweinidog yn ogystal. A gaf i ddechrau gyda'r pwynt y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bennu arno? Mae'n dda gen i glywed ei fod e'n ffyddiog bod pethau wedi gwella ym Mhowys, ond o edrych ar dri pheth, a dweud y gwir—yr adroddiad ar wasanaethau plant, yr adroddiad heddiw ar wasanaethau i oedolion ac, wrth gwrs, y gwaith y mae yntau wedi ei wneud ynglŷn â llywodraethiant y tu fewn i gyngor Powys—rydym ni yn gweld mai, yn fras iawn, yr un bobl sydd nawr yn gwella'r gwasanaethau a oedd yn gyfrifol pan aeth y gwasanaethau i drafferth yn y lle cyntaf. Er eu bod nhw wedi newid eu swyddogaethau, maen nhw'n dal yn rhan o'r un criw, i bob pwrpas, sydd wedi bod yno ers gwnaed rhai o'r penderfyniadau, yn enwedig y penderfyniadau cyllido, a wnaeth ein harwain ni i mewn i'r gors arbennig yma.
Felly, a gaf i ddechrau gyda'r trosolwg hwnnw, gan groesawu a dymuno'n dda i Mohammed Mehmet, pan fydd yn dechrau ar ei waith fel prif weithredwr dros dro, gan ddweud hefyd fy mod innau wedi cwrdd—ac Aelodau Cynulliad eraill—tuag wythnos yn ôl, gyda phrif swyddogion ac arweinydd y cyngor? Roeddem ni wedi ein plesio gydag atebion y prif swyddogion, yn sicr. Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw wedi cael gafael ar y sefyllfa. Ond, erbyn hyn, a ydych chi o'r farn, fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am lywodraeth leol, fod y diffyg capasiti a oedd wedi cael ei amlinellu bellach wedi'i lanw o ran y staff hŷn, o ran y Cabinet ym Mhowys yn deall eu rôl hwythau yn gyrru'r gwaith yma ymlaen, ac o ran y dynodiad cyllidol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem yma? Felly, o ran y diffyg capasiti a'r tri chwestiwn penodol hynny, a ydych chi bellach—ac yn sgil eich cyfarfod heddiw—yn hapus gyda hynny?
Os caf i droi at yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, wrth gwrs rydym ni'n trafod hwnnw yng nghyd-destun adroddiad gwaeth o lawer yng nghyd-destun gwasanaethau plant, sydd yn lliwio i raddau beth yr ydym ni'n—. Mae'n anodd gwybod sut y byddem ni wedi ymateb i adroddiad heddiw oni bai ein bod ni wedi cael yr adroddiad cynt. Achos, fel roedd Russell George yn ei grybwyll, mae nifer o'r pethau a ddylai fod wedi digwydd nawr ar y gweill, ac rydym ni'n croesawu hynny, ond un o'r pethau sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw diffyg dealltwriaeth—ac nid jest diffyg dealltwriaeth, ond absenoldeb dealltwriaeth—o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A ydych chi o'r farn bod yr hyfforddiant bellach yn ei le i wneud yn siŵr bod pob swyddog ym Mhowys sydd yn gyfrifol, o dan y Ddeddf honno, bellach yn derbyn yr hyfforddiant yna?
Yr ail beth sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw trosiant staff difrifol—staff yn symud, staff yn mynd, diffyg parhad staff. Mae wedi cael ei awgrymu i fi fod—os liciwch chi—y drefn fwy llym yn ddiweddar wedi gyrru rhai staff i benderfynu efallai eu bod nhw am adael y gwasanaeth, ond y mae'n dal yn drosiant, ac y mae'n dal angen i'r staff ddeall y sefyllfa ym Mhowys a bod yn glir ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Beth sy'n gyfrifol am y diffyg dealltwriaeth yma? Ai'r trosiant naturiol sy'n digwydd? Ai natur Powys, fel cyngor cefn gwlad? Ai'r ffaith eu bod nhw'n delio, weithiau, dros y ffin â Lloegr hefyd? A ydych chi'n hapus bellach fod y mater yna wedi'i ddatrys, yn enwedig o safbwynt hyfforddi?
Un o'r pethau eraill sy'n dod allan o'r adroddiad heddiw yw bod gofal wedi'i ohirio ymysg oedolion yn effeithio ar wasanaethau ehangach ym Mhowys yn y gwasanaeth ysbytai a gofal. Byddwn i jest yn hoffi gwybod a oes gennych chi fwy i'w ddweud am fynd i'r afael â'r broblem arbennig honno hefyd.
Ac yn olaf, un o'r pethau rydw i'n meddwl sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa yma ym Mhowys yw'r diwylliant gwleidyddol sydd wedi bod yn y cyngor sir yn y gorffennol: y diffyg herio, y diffyg rhannu gwybodaeth, diffyg tryloywder ymysg rhai o aelodau'r cabinet hŷn. Efallai bod hynny'n newid. Rwyf i'n gwybod bod rhai o'r grwpiau gwleidyddol yn fwy awyddus y tro yma i ddal pobl i gyfrif, ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi o'r farn bod y cyngor sir ei hun yn rhoi digon o gefnogaeth—hyfforddiant a chefnogaeth yn ystyr ehangach y gair—i'r gwrthbleidiau, i gynghorwyr unigol, fel eu bod nhw'n gallu dal y cabinet presennol i gyfrif, a hefyd fel bod ganddyn nhw arfau i ddeall y broblem yna, ac i fod yn rhan o'r ateb i ddatrys y broblem yn ogystal?
Rydw i'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i'r Aelod am y ffordd y mae wedi dod â'i gyfraniad y prynhawn yma—cyfraniad adeiladol a phositif, ac rwy'n gobeithio bod yna gytundeb ar draws y Siambr y mae ei angen arnom ni pan rydym ni'n delio â rhai o'r problemau rydym ni'n eu hwynebu ym Mhowys.
Rydych chi wedi gofyn sawl cwestiwn, ac, yn anffodus, rydw i'n credu fy mod yn mynd i ateb bron bob un yn yr un ffordd. Ydy, mae'r sefyllfa wedi gwella, ac mae yna welliant yn digwydd yn sir Powys, ond nid yw hynny yn meddwl ein bod ni'n gallu camu yn ôl, ac nid yw'n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd y math o amcanion ac uchelgais yr oedd Russell George wedi'i awgrymu yn ei gyfraniad e. Felly, pan ydw i'n edrych—. Ac rydw i'n cytuno gyda chi bod eisiau trosolwg o'r sefyllfa ym Mhowys, ac nid i edrych ar wasanaethau plant neu oedolion neu'r mater o lywodraethiant y cyngor ar wahân ac yn unigol. Mae'n rhaid edrych ar draws pob un o'r adroddiadau a'r dadansoddiadau yma.
Nid ydw i'n yn siŵr fy mod i'n cytuno mai'r un bobl sydd, yn eich geiriau chi, wedi achosi'r problemau ydy'r un bobl sy'n trio datrys y problemau. Rydym ni wedi gweld penodiadau newydd, fel rydw i wedi awgrymu yn fy natganiad i, ac rydw i'n gobeithio mi fyddan nhw yn gallu newid y ffordd mae'r cyngor yn cael ei redeg, a hefyd y steil a'r diwylliant. Rŷch chi wedi sôn amboutu'r diwylliant yn y cyngor, ac rydw i yn cytuno gyda chi ar hynny. Rydw i'n credu bod angen newid, nid jest yn y ffordd y mae pobl yn gweithio, ond sut maen nhw'n gweithio hefyd, ac mae hynny yn meddwl bod eisiau newid diwylliant, ac mae Aelodau, rydw i'n credu, o bob ochr y Siambr yn cydnabod bod hynny'n cymryd amser. Nid yw'n digwydd dros nos, a hefyd, mae'n rhaid i ni sicrhau ym mhob un rhan o'r Siambr ein bod ni'n rhoi tipyn bach o gefnogaeth i'r arweinyddiaeth i'w galluogi nhw i wneud hynny, er bod angen ar yr un pryd sicrhau bod y tensiynau priodol o sgrwtini ac atebolrwydd yn dal i ddigwydd y tu fewn i'r cyngor. Ac rydw i'n cytuno bod angen cydbwysedd yno, ac mae'n gydbwysedd sy'n gallu bod yn anodd ambell waith.
Rydw i yn meddwl bod y capasiti y tu fewn i'r cyngor, fel y mae hi heddiw, yn ddigonol i alluogi nhw i gyrraedd yr amcanion rydym ni wedi'u gosod iddyn nhw. Rydw i yn meddwl bod gyda nhw y capasiti presennol i wneud hynny. Wrth gwrs, os ydym ni yn darganfod yn ystod y misoedd nesaf bod eisiau neu angen gymorth neu gefnogaeth ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ein hamcan ni yw galluogi Powys i wella Powys. Ein hamcan ni yw sicrhau bod Powys yn gallu symud ar y daith yma gyda'n cefnogaeth ni, ac i sicrhau bod gyda nhw bob un o'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud hynny.
Rydw i'n cytuno, ac rydw i'n gweld, bod yna ddiffyg deallusrwydd ambell waith amboutu—. Rydych chi wedi enw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol; rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny. Rydw i'n meddwl bod e'n mynd tipyn bach tu hwnt i hynny ac yn bellach na hynny ambell waith hefyd, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod pobl yn cael y math o hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i alluogi nhw i wneud y gwaith rydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud, ac rydw i'n hyderus bod hynny yn gallu digwydd a bod hynny yn mynd i ddigwydd.
Rydych chi wedi gofyn amboutu drosiad staff a morâl ymhlith y gweithlu ym Mhowys, ac yn y gweithlu yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn benodol. Rydw i'n cydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud. Nid yw i fi gynnig fy marn ar natur Powys fel cyngor sy'n gwasanaethau ardal neu ranbarth wledig. Ni fuaswn i'n cytuno bod problem yn y fan honno. Rydw i'n credu bod y problemau y mae Powys wedi eu hwynebu wedi bod yn broblemau y tu fewn i'r cyngor, ac wedi bod yn broblemau oherwydd y diwylliant sydd wedi bod tu fewn i'r cyngor. Ac rydw i'n gobeithio, fel yr ydym ni'n gwella'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg ym Mhowys, mi fyddwn ni'n gweld diwylliant gwell ym Mhowys hefyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n deall yr impact ar wasanaethau ychwanegol y tu fewn i'r cyngor, rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny, ac rydw i'n hyderus mi fydd y prif weithredwr ac arweinyddiaeth newydd yn gallu gwneud hynny.
Ac a gaf i bennu ateb eich cwestiynau gyda hyn? Mae diwylliant gwleidyddol ym Mhowys wedi bod yn un Powysaidd iawn dros y blynyddoedd ac mae pob un ohonom ni sydd wedi cynrychioli'r sir yn y lle yma, a'r rhai sy'n cynrychioli'r sir heddiw, yn deall hynny. Rydym ni hefyd yn gweld, ambell waith, nad yw'r diwylliant gwleidyddol—rydw i'n ofalus gyda'm geiriau fan hyn—wedi bod yn ddiwylliant sydd wedi hybu sgrwtini ac wedi hybu'r math o densiynau sy'n angenrheidiol mewn unrhyw sefydliad democrataidd. Rydw i'n credu bod hynny yn newid ac mae'n rhaid i gynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ym Mhowys dderbyn y cyfrifoldeb dros wella Powys, gwella'r ffordd maen nhw'n rhedeg y cyngor a gwella hefyd sut maen nhw'n sgrwtineiddio'r executive ym Mhowys. Rydw i wedi gweld hyn yn digwydd yn fy nghyngor i ym Mlaenau Gwent ac rydw i'n hyderus bod y newid diwylliant gwleidyddol sydd ei angen—ac rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny—yn bosibl ym Mhowys hefyd.
A gaf innau hefyd ganmol Ysgrifennydd y Cabinet a'i ddau gydweithiwr am y ffordd y maent wedi bod yn agored a thryloyw— [Anghlywadwy.]—mater trasig. Nid yw hwn yn bwnc y mae unrhyw yn ceisio'i ddefnyddio i wneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol, gan y byddai hynny'n gwbl anghywir, ac rwy'n credu bod y sensitifrwydd y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi'i ddangos wrth fynd i'r afael â'r dasg anodd hon yn gymeradwy iawn. Oherwydd, yn sicr, ni fyddech chi eisiau lleihau'r morâl mwy fyth yng Nghyngor Sir Powys, ac rydym ni i gyd yn cydnabod pa mor anodd yw gweinyddiaeth leol mewn sir sydd mor fawr, lle mae cysylltiadau trafnidiaeth yn anodd ac mae'r boblogaeth yn wasgaredig iawn. Mewn ardaloedd gwledig, mae problemau cymdeithasol yn aml yn llawer mwy anodd eu datrys nag y maent mewn ardaloedd trefol mwy dwys. Felly, mae gennym bob cydymdeimlad â'r cyngor sir a'r gwaith anodd sydd ganddynt i'w wneud. Ond, yn y pen draw, fel ym mhob achos o'r fath, methiant o ran arweinyddiaeth sy'n gyfrifol ac rwy'n derbyn pwynt Simon Thomas, bod llawer o'r un bobl a oedd yn rhan o'r penderfyniadau a'n harweiniodd ni at y pwynt hwn yn dal i fod yno. Y cwestiwn yw, i ba raddau y mae ganddyn nhw'r gallu i ddysgu o'r camgymeriadau hynny, a pheidio â'u hailadrodd. Mae hynny, ar hyn o bryd, yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei dderbyn ar eu gair, ac rwy'n gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad fel hwn heddiw. Y cyfan sydd wedi digwydd, yn y bôn, yw ein bod ni wedi rhoi pobl newydd ar y brig yn y lleoedd hyn sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau sylfaenol a fydd, gobeithio, yn datrys pethau yn y dyfodol. Ac yn sicr, rwy'n dymuno'n dda i Mr Mehmet yn y dasg anodd sydd o'i flaen.
Yr hyn y gwnes i fyfyrio arno fwyaf yn yr adroddiad gwreiddiol am y gwasanaethau plant oedd y datganiad beiddgar
'ymddengys mai'r her fwyaf arwyddocaol oedd y peth symlaf, sef cyfathrebu da a chynllunio cydlynol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o brofiadau bywyd beunyddiol plentyn A ac effaith sylweddol trawma difrifol mewn plentyndod cynnar.'
Y gweithwyr proffesiynol, yn baradocsaidd, a oedd yn cael anawsterau wrth gyfathrebu. Roedd y plentyn ei hun yn huawdl iawn wrth allu disgrifio'i anghenion. Ac mae honno'n sefyllfa ryfeddol ar y naw i fod ynddi. Rwy'n siŵr y bu'n brofiad trawmatig i staff Cyngor Sir Powys. Ni ddylai neb danbrisio hynny a dylid dangos cydymdeimlad. Nid wyf yn hoff o fwrw bai yn yr amgylchiadau hyn, ac eithrio â'r nod o gael canlyniadau cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod ymagwedd y Llywodraeth yn hyn o beth, gydag Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa—wel, tebyg i'r un a ddisgrifiwyd gan Walter Bagehot yn The English Constitution am y Frenhines Fictoria, fod ganddo hawl i ymgynghori, yr hawl i annog, a'r hawl i rybuddio. Roedd yn briodol, yn fy marn i, iddo ateb Russell George, gan dynnu sylw at y rhaniad yn swyddogaethau Llywodraeth Cymru ar y naill law a llywodraeth leol ar y llaw arall. Rwyf yn credu, fodd bynnag, ac yntau'n un o'r Aelodau mwy ymosodol yn y lle hwn, fod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i ddenu pobl i ymuno ag ef hefyd. Mae ganddo'r sgiliau arwain, sydd, heb ddymuno bod yn rhy llawdrwm am y peth, yn rhoi'r cyfle i ni wneud y gorau o'r llanastr sydd wedi'i etifeddu o'r gorffennol.
Un o'r pethau rhyfeddol, yn fy marn i, yn adroddiad Sean Harriss yw lle mae'n dweud,
'mae rhywfaint o ddiffyg dealltwriaeth o beth yw "da" yn y sefydliad'
ac
'ar adegau, nid oedd y Cyngor wedi'i "ddychryn ddigon" gan faint, graddfa a natur y newid sydd ei angen.'
Gobeithio bod hynny wedi newid erbyn hyn. Dywedodd hefyd,
'Nid yw'r Cyngor yn ddigon clir ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud, a sut i wneud hynny.'
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y penodiadau newydd yn ymdrin â'r diffyg hwnnw hefyd. Er bod adroddiad Sean Harriss yn llawn iaith rheoli, rydym ni i gyd, rwy'n credu, yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Ac mae'n rhaid iddi fod yn fenter gydweithredol. Mae grŵp o gyfoedion wedi'u tynnu ynghyd i gydgysylltu pethau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ba mor aml y bydd yn gallu adrodd i ni ar y cynnydd a wneir gan yr unigolion newydd a'r sefydliadau hyn? Oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn cymryd pawb ar eu gair; nid oes gan neb unrhyw opsiwn arall. Ond byddwn ni, rwy'n credu, mewn sefyllfa yn fuan iawn i ofyn a yw'r penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud, a yw'r timau rheoli newydd yn cael eu ffurfio, a byddwn ni'n gallu dod i gasgliadau ynghylch pa wersi sydd wedi'u dysgu o'r gorffennol.
Casgliad adroddiad Sean Harriss oedd y dylai holl drigolion Powys, ymhen pum mlynedd, fod yn dawel eu meddwl bod y cyngor sir yn cael ei reoli, a bod ei holl wasanaethau yn cael eu darparu i'r safon uchaf posibl. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gael ein sicrhau yn eithaf buan bod y penderfyniadau unioni angenrheidiol yn cael eu gwneud. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dawelu ein meddyliau ni ar y pwyntiau hynny.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP am ei sylwadau caredig a chywair ei anerchiad i'r Siambr y prynhawn yma. Mae'n ymddangos fy mod i'n dechrau pob cyfraniad heddiw drwy ateb y cwestiynau olaf yn gyntaf. Pa mor aml y byddwn ni'n adrodd? Rwy'n credu y byddwn i'n hapus iawn i adrodd i'r Aelodau yma bob tymor, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn ymdrin â'r materion hyn hefyd wrth gwrs, yn fodlon ac yn hapus i wneud hynny mewn modd tebyg. Rwy'n gweld ei fod yn nodio'i ben o'i sedd, felly fe wnawn ni gymryd bod hynny'n ymrwymiad ar ran y ddau ohonom i wneud hynny. Fe wnawn ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i Aelodau, boed ar ffurf datganiad ffurfiol ar y llawr, neu drwy bwyllgorau neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. Ond byddwn yn sicr yn ceisio trafod â'r Aelodau sut y bydden nhw'n dymuno derbyn y diweddariadau hynny.
Rwy'n pwysleisio unwaith eto bod Gweinidogion bob amser ar gael, yn arbennig i'r Aelodau hynny sy'n cynrychioli etholaethau Powys, i siarad yn breifat ac i gael sgwrs, os oes angen hynny, ac rydym yn hapus iawn i barhau i wneud hynny. Rwy'n credu pan gododd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y materion hyn gyntaf, roedd hi'n glir iawn, iawn o ran ym mhle yr oedd y materion hyn yn bodoli. Rwy'n credu hefyd ei bod yn deg dweud ei bod hi'n glir o ran sut yr oedd yn dymuno gweld y Llywodraeth a llywodraeth leol yn cydweithio i ddatrys rhai o'r materion hynny. Yn amlwg, gwelwyd yn ddiweddarach fod y materion hynny yn ehangach nag yr oeddent yn ymddangos yn y lle cyntaf, ac y mae'n iawn ac yn briodol i ni edrych yn ehangach ar y materion hyn o ganlyniad i hynny.
Nid wyf i'n dymuno rhoi sylwebaeth y prynhawn yma, neu ar unrhyw adeg arall, ar rai o'r rhesymau—fe soniodd arweinydd UKIP, Dirprwy Lywydd, am fethiant yr arweinyddiaeth. Rwy'n credu bod hynny'n glir ar rai lefelau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl glir. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i allu ei wneud heddiw yw sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar symud yr awdurdod yn ei flaen, yn hytrach nag edrych yn ôl ar y rhesymau pam y digwyddodd hynny. Mae'n bosibl iawn y bydd amser pan allai fod yn briodol i bwyllgor y cyngor neu bwyllgor y lle hwn edrych ar y materion hynny, ac yn sicr, byddwn i'n awyddus i gydweithredu ag unrhyw ymchwiliad a fydd yn digwydd i'r materion hynny, ond, i mi, rwy'n awyddus i ni ddarparu arweinyddiaeth yn awr, a darparu'r arweinyddiaeth y mae ar bobl a staff Powys ei heisiau, ei hangen a'i haeddu, ac fe wnawn ni hynny drwy weithio gyda'n gilydd. Fe wnawn ni hynny drwy ddysgu gyda'n gilydd a, rwy'n gobeithio, fel y dywedodd arweinydd UKIP, dysgu o'r camgymeriadau posibl a wnaed yn y gorffennol.
Mae'n llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd am faterion cyfathrebu a chynllunio. Mae'r rhain yn faterion difrifol ac maen nhw'n faterion y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt ac a fydd yn cael sylw. Rwy'n gwbl hyderus bod gan y bobl sydd wedi eu penodi i swyddi arweinyddiaeth ym Mhowys y sgiliau i allu arwain, ond mae ganddyn nhw ddealltwriaeth hefyd o'r hyn y mae'n ei olygu i arwain ac ystyr arweinyddiaeth weddnewidiol. Nid mater o fynd ymlaen gan bwyll bach yw hyn, nid mater o dicio blychau, ac nid mater o wneud dim ond cymryd camau unioni syml i ymdrin â materion unigol o fewn un adran. Mae a wnelo â newid gweddnewidiol o fewn awdurdod i fynd i'r afael â'r diwylliant o fewn yr awdurdod, sut y mae'r awdurdod yn cynnal ei hun, ac yna'n cael ei ddwyn i gyfrif am y newidiadau hynny gan y bobl maen nhw'n eu cynrychioli ym Mhowys.
Fe wnes i gydnabod llawer iawn o'r hyn yr ysgrifennodd Sean Harriss yn ei adroddiad. Rydych chi wedi'i ddyfynnu yn dweud bod diffyg dealltwriaeth o'r hyn sy'n 'dda', a diffyg dealltwriaeth o'r hyn sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau nad hwn yw'r tro cyntaf i mi ddarllen brawddegau o'r fath mewn adroddiad o'r fath. Gwn fod rhywfaint o gyndynrwydd mewn gwahanol rannau o'r Siambr am rai o'r cynigion yr wyf i wedi'u gwneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond dywedaf wrth yr Aelodau ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych o ddifrif ar y strwythurau sydd gennym ar waith, a sicrhau ein bod yn gallu gwneud mwy na dim ond ymdrin â materion unigol mewn awdurdodau unigol pan fyddan nhw'n codi, ond yn hytrach, mae'n rhaid i ni sefydlu strwythurau sy'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd yr Aelodau wedi gweld y sylw a roddwyd gan y wasg heddiw i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, a'r hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud. Dywedaf i yn y fan hon, fy mod i'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw. Nid wyf i'n credu bod y strwythurau sydd gennym ar waith yn gynaliadwy at y dyfodol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, iawn. Mater ar gyfer pob plaid unigol a gynrychiolir yma felly yw ystyried eu hymateb i'r heriau hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, edrych tuag at weledigaeth y gallwn gytuno arni ar gyfer y dyfodol, lle bo gennym awdurdodau lleol cryf a chadarn sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb am wella gwasanaethau ar gyfer llywodraeth leol, gan gyflawni o fewn llywodraeth leol. Ac rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny mewn ysbryd cydweithredol a thrwy ymagwedd gydweithredol, sef yr union beth a awgrymwyd gan arweinydd UKIP y prynhawn yma. Dyna'r hyn rwyf i'n ceisio'i gyflawni, ac rwy'n credu bod yna gytundeb eang i hynny, nid yn unig yn y Siambr hon, ond ledled llywodraeth leol hefyd.
Hoffwn ychwanegu at y pwynt olaf a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, a hynny'n ymwneud â chydweithredu. Rydym ni i gyd yn gwybod, dros y blynyddoedd—ac rydym ni i gyd wedi clywed y cwestiwn yn cael ei ofyn—mae yna lawer iawn, iawn o enghreifftiau o arferion gorau mewn llywodraeth leol. Rydym ni wedi gofyn dros y blynyddoedd, pan ddaw adroddiadau fel hyn i law, ynglŷn â rhannu'r wybodaeth honno. Felly, nid yw'n beth newydd, nid yw'n astrus o gymhleth, rydym ni'n gwybod bod arferion gorau ar gael, byddai Cyngor Powys wedi gwybod eu bod ar gael, gan fod awdurdodau eraill wedi wynebu'r un problemau ac wedi llwyddo i'w datrys. Felly, mae'n debyg, mewn ffordd, dyna yw fy nghwestiwn cyntaf.
Peth arall a allai fod yn ddefnyddiol—ac efallai wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried, ac mae wedi'i wneud cyn hyn, yn sicr ym maes amddiffyn plant—yw sicrhau bod y cynghorwyr, wrth herio'r gwelliannau hyn yn eu hawdurdod, yn deall y cwestiynau y dylen nhw fod yn eu gofyn, yn hytrach na gwneud dim ond sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn ei gilydd. Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod—ac nid wyf i eisiau edrych yn ôl i'r gorffennol—ond rydym ni yn gwybod, rhai ohonom, hanes y methiant i gydweithio'n wleidyddol ym Mhowys, a'r anawsterau y mae hynny wedi'u creu gan nad oes arweinyddiaeth gyffredinol yno. Ac rwy'n aml iawn wedi'i chael hi'n anodd deall cyfluniad y peth a phwy sy'n gyfrifol a phwy sy'n cefnogi pwy, pam a sut. Ac fel y gwyddoch chi, rwy'n eithaf hyddysg mewn cyfluniadau gwleidyddol, felly os ydwyf i'n cael trafferth i'w ddeall, rwy'n eithaf sicr y byddai'r cyhoedd yn ei chael hi'n anodd hefyd. Felly, mae'n debyg mai fy mhle i yma heddiw, yn anad dim, yw bod y cynghorwyr a'r arweinwyr gwleidyddol yn y cyngor yn rhoi'r wleidyddiaeth o'r neilltu, yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn ysgogi newid, ac yn codi i'r her maen nhw'n ei hwynebu yn awr. Ac mae'n eithaf amlwg mai arweinyddiaeth wleidyddol yw'r her honno, ac mae a wnelo â sicrhau bod y polisïau hynny yn cael eu gweithredu mewn fforwm y cytunir arni, gyda'n cefnogaeth ni.
Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw hyn: a fydd y bwrdd gwella a sicrwydd yn parhau i gydgysylltu'r gwelliannau, a hynny yng ngwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion ym Mhowys, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r broses honno hyd nes y cyrhaeddir adeg pan fyddwch chi'n teimlo y gallan nhw barhau heb y gefnogaeth honno? Hefyd, gan ddychwelyd at fy man cychwyn, a fydd hi'n wir y bydd llywodraeth leol ynddi'i hun yn dechrau helpu llywodraeth leol i wella, ac a oes modd i chi rywsut helpu i sicrhau bod arferion gorau yn batrwm i eraill ac yn cael eu hefelychu?
Cwestiynau diddorol iawn. Ie, rwy'n gobeithio y gallwn ni sicrhau bod arferion gorau—. Wyddoch chi, mae llywodraeth leol yn darparu rhai gwasanaethau gwych. Mae tuedd i ni drafod y materion hyn pan fo problemau gyda'r gwasanaethau hynny, ac rwy'n credu hefyd y dylem ni ddathlu llwyddiannau llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau i miliynau o bobl bob dydd. A dylem gydnabod, lle ceir problemau, bod y bobl orau i ddatrys y materion hynny yn digwydd bod mewn llywodraeth leol hefyd, yn fy marn i—pobl sy'n weithwyr proffesiynol profiadol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac sy'n gallu adnabod y gwendidau yr ydym ni wedi'u disgrifio y prynhawn 'ma ac wedi'u trafod heddiw a nodi atebion i'r meysydd hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd modd deall arferion gorau drwy lywodraeth leol ac y gallwn ni helpu llywodraeth leol, os oes angen, i roi'r mathau o strwythurau ar waith sydd eu hangen i wneud arferion gorau yn rhywbeth a welir ac a dystir ar draws llywodraeth leol ledled Cymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
O ran ble yr ydym ni'n mynd gyda'r bwrdd gwella a sicrwydd, rydym ni wedi sefydlu'r bwrdd o dan arweinyddiaeth Jack Straw, cyn-brif weithredwr Abertawe, er mwyn darparu'r sicrwydd sydd ei angen arnom fod gwersi wedi'u dysgu a bod y gwelliannau yn cael eu cyflawni. Rwyf i wedi darparu cyllid ar gyfer y bwrdd hwnnw er mwyn iddo allu fwrw ymlaen â'i waith. Rwyf wedi rhoi ymrwymiad y prynhawn 'ma ac mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymrwymo hefyd i adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Aelodau ar y gwelliannau wrth iddyn nhw ddigwydd.
Bwriad y bwrdd gwella a sicrwydd yw gwella nid yn unig gwasanaethau cymdeithasol, ond materion corfforaethol ehangach hefyd o fewn y Cyngor. Rwy'n gwbl hyderus bod gennym ni'r strwythurau ar waith a fydd yn sicrhau bod y gwelliannau hyn yn digwydd, a hynny mewn modd amserol. Byddaf i'n sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i'r Aelodau fel y gall yr Aelodau ar bob ochr o'r Siambr hon ein dwyn ni i gyfrif am yr ymrwymiadau hynny a'r sicrwydd hynny yr wyf i'n eu rhoi heddiw, y prynhawn 'ma.
O ran y diwylliant gwleidyddol o fewn unrhyw sefydliad, mae hynny yn nwylo'r Aelodau i raddau helaeth. Mae angen i'r Aelodau gyflawni swyddogaethau atebolrwydd a chraffu. Mae'n gwbl glir ac yn gywir bod yn rhaid i aelodau'r gwrthbleidiau a'r aelodau sy'n cynrychioli'r weithrediaeth ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Mae hynny'n wir yn y fan hon, mae'n wir ym Mhowys, mae'n wir mewn unrhyw sefydliad democrataidd. Ond mae sut y dylid dwyn arweinyddiaeth yr awdurdod i gyfrif yn gwestiwn gwahanol. Rwy'n gobeithio y bydd pob aelod o bob plaid wleidyddol, ac nid oes plaid wleidyddol nad oes cynrychiolaeth ohoni ym Mhowys, yn gwneud hynny mewn ffordd adeiladol a chadarnhaol. Efallai nad wyf i'n rhannu'n llwyr eich optimistiaeth chi, Joyce, y caiff gwleidyddiaeth ei rhoi i'r neilltu—rydym ni wedi dweud hynny o'r blaen ar adegau eraill—ond rwyf yn gobeithio, ac rwyf yn adnabod arweinwyr y gwrthbleidiau ym Mhowys—. Rwy'n adnabod Matt Dorrance, James Gibson-Watt ac Elwyn Vaughan, a gwn fod pob un ohonyn nhw wedi ymrwymo'n llwyr i bobl Powys ac i wasanaethu pobl Powys. Gwn y bydd pob un o arweinwyr y gwrthbleidiau yn gweithio'n galed i sicrhau bod Powys yn cael ei roi yn ôl ar y trywydd iawn ac y byddan nhw'n gweithio gyda'r weithrediaeth i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac ar yr un pryd, yn dwyn y weithrediaeth i gyfrif yn y ffordd y maent wedi'u hethol i'w gwneud. Mae hynny'n gydbwysedd anodd ei gyflawni, ond rwy'n gwbl hyderus y gall aelodau Cyngor Sir Powys wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar berchentyaeth cost isel yw eitem 6. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn tai cymdeithasol; credwn mewn tai fforddiadwy. Ein huchelgais yw bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod yn rhaid inni weithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni hyn. Mae 'Ffyniant i bawb' nid yn unig yn rhoi blaenoriaeth haeddiannol i dai, ond mae'n ailddatgan ein hymrwymiad hirdymor i dai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Byddwn yn darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Y gyfran fwyaf fydd tai rhent cymdeithasol. Y llynedd, cefnogwyd buddsoddiad o £179 miliwn drwy ein grant tai cymdeithasol a'r rhaglen grant cyllid tai.
O dan hawl i brynu Thatcher, collwyd 139,000 o gartrefi o'n stoc tai cymdeithasol. Rydym wedi deddfu i atal hynny, ac i gadw ein stoc tai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf, ac i roi hyder i awdurdodau lleol adeiladu. Ac rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym. Rydym yn gwybod nad yw un math o ddeiliadaeth yn addas i bawb. Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig. Mae gan bobl ar incwm is uchelgais i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a byddwn yn eu helpu mewn ffyrdd na fydd yn gostwng lefel ein tai cymdeithasol.
Mae cynnydd mewn prisiau tai a'r gofyn am flaendal uwch wedi ei gwneud hi'n anos i'r rhai a allai fod yn berchenogion cartrefi i gael eu traed ar yr ysgol dai. Yn wir, yn ddiweddar cyhoeddodd y Resolution Foundation ei ragfynegiad y gallai dan hanner y millennials fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain erbyn iddyn nhw gyrraedd 45 oed. Dyma pam yr wyf eisiau cynyddu a gwella'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i bobl sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, a darparu cyfleoedd newydd ochr yn ochr â'r cynhyrchion sydd gennym eisoes. Rhwng Ionawr 2014 a diwedd mis Mawrth 2018, roedd ein cynllun Cymorth i Brynu—Cymru wedi cefnogi'r gwaith o adeiladu a gwerthu bron 6,900 o gartrefi, gyda mwy na 750 ar y gweill sy'n disgwyl cael eu cwblhau yn fuan. Bydd y cynllun yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn cyflawni'r union beth y bwriadwyd iddo ei wneud. Mae'n rhoi benthyciad rhannu ecwiti hyd at 20 y cant o werth yr eiddo, gan alluogi prynwyr eiddo newydd i symud i mewn i gartref gydag isafswm blaendal o 5 y cant yn unig. Mae hyn yn arbennig o bwysig i brynwyr am y tro cyntaf ac, o ganlyniad, y nhw sy'n gyfrifol am dros 75 y cant o geisiadau Cymorth i Brynu—Cymru. Hefyd, mae'n parhau i roi hwb i'r diwydiant tai drwy gefnogi adeiladu cartrefi newydd ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn cynnig manteision amlwg i'r economi, drwy gefnogi'r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â hwnnw.
Rydym yn parhau i sicrhau bod Cymorth i Brynu—Cymru yn dal i fod ar gael. Mae'r cynllun ecwiti a rennir hwn yn cynnig cyfle i brynwyr brynu cartref sy'n bodoli eisoes, ac mae hynny'n apelio, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae adeiladau newydd yn brin, gan gynnwys ardaloedd gwledig lle nad oes adeiladu ar raddfa fawr. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ailedrych ar y cynllun hwn sydd wedi ei sefydlu ac, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, iddyn nhw ystyried a ellir nodi unrhyw fesurau ychwanegol i wella a chefnogi ei dwf. Rwyf yn awyddus i ystyried cyfleoedd perchentyaeth ychwanegol ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae prisiau tai yn arbennig o uchel. Mae fy swyddogion yn edrych ar bosibiliadau megis hunanadeiladu, a all gynnig cyfleoedd ychwanegol.
Rwyf yn falch o dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith ein bod wedi cymryd camau sylweddol i wella ein cynnig ynghylch perchentyaeth cost isel yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gyflwyno dau gynllun newydd a'r wefan Eich Cartref yng Nghymru. Lansiais y cynlluniau Rhentu i Brynu—Cymru a Rhanberchnogaeth—Cymru i helpu ystod ehangach o bobl i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Bydd Rhentu i Brynu—Cymru yn helpu pobl sy'n gallu fforddio taliadau misol ond sy'n methu â chynilo digon ar gyfer blaendal morgais. Bydd Rhanberchnogaeth—Cymru yn helpu'r rheini sy'n gallu cael gafael ar flaendal bach ac felly yn gallu cael morgais ar gyfran o werth yr eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £70 miliwn yn y mentrau perchenogaeth cartref newydd hyn fel rhan o'n hymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth. Mae'r diddordeb cynnar yn y cynlluniau wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda chwe chymdeithas dai ledled Cymru bellach wedi cofrestru i gymryd rhan ac i gynnig portffolio o gartrefi. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o gartrefi ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae lansio'r ddau gynllun newydd hyn yn dangos y cynnydd sydd yn y dewisiadau sydd ar gael i gefnogi darpar berchnogion cartrefi, gan gynnwys prynwyr am y tro cyntaf a phobl ifanc sy'n gobeithio aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd iddyn nhw.
Mae gwybodaeth eglur yn hanfodol i bobl sy'n ystyried prynu eu cartref eu hunain, ac rwyf yn cydnabod, gyda nifer o ddewisiadau gwahanol, mae angen egluro'r hyn sydd ar gael. Dyna pam yr wyf wedi lansio'r wefan Eich Cartref yng Nghymru sy'n rhoi gwybodaeth allweddol ynghylch pob un o'r cynlluniau perchentyaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y canllaw ymarferol hwn yn helpu pobl i benderfynu pa gynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol nhw. Bydd y cynlluniau hyn i gyd yn cyfrannu at ein targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y Cynulliad hwn.
Rwyf eisiau gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol, mewn ymateb i amrywiaeth o anghenion tai. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd ar gyfer gwthio arloesedd a gwelliannau o safbwynt dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. I gefnogi hyn, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwyf yn sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn dan y cadeirydd annibynnol, Lynn Pamment. Bydd angen i'r adolygiad sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen cynyddol am dai fforddiadwy a'r pwysau parhaus ar wariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai. Edrychaf ymlaen at gyflwyno manylion wrth i'r adolygiad fynd rhagddo.
Mae ein cynlluniau perchentyaeth cost isel, ynghyd â'n gwaith mewn meysydd tai eraill a'r adolygiad sydd ar y gweill, yn dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei huchelgais i weld pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, ffyniannus a llwyddiannus.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Teimlaf y dylwn i ddechrau mewn ysbryd mwy hael nag y gwneuthum yr wythnos diwethaf, oherwydd rydym yn aml yn gwrthdaro ar faterion tai. Felly, gadewch imi groesawu naws y datganiad hwn ac ymadroddion megis: 'Rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym'—dyna'r amrywiol bobl sy'n adeiladu tai; 'Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig'—wel, dyna pam yr amddiffynnais yr hawl i brynu, er y gall y Gweinidog ddilyn yr egwyddor hefyd, ac nid wyf yn gwadu hynny, hyd yn oed os anghytunwn; 'Byddwn nawr yn canolbwyntio ar wella'r cyflenwad o gartrefi ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru.'; ac 'Rwyf eisiau gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd'—mae 'posibilrwydd' braidd yn wan, beth bynnag 'o bennu targedau mwy uchelgeisiol yn y dyfodol'. Felly, mae rhywfaint o naws y datganiad wedi gwella, ond ofnaf fod yn rhaid imi ddychwelyd i lle'r oeddwn i ac atgoffa pobl o'r sefyllfa bresennol. Ceisiaf, hefyd, ei gymharu â'r hyn a geir yn Lloegr, sydd hefyd yn dioddef argyfwng tai. Rwyf wastad yn cadw cydbwysedd yn fy sylwadau ac nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dyfeisio'r math o farchnad dai yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Ond y broblem i mi yw lefel ei hymateb a'i rhagamcanion ynghylch yr angen am dai. Os nad oes gennym y targedau cywir i anelu atynt, nid ydym yn mynd i ddiwallu dyheadau cymaint o bobl, yn enwedig pobl ifanc a phobl sy'n magu teuluoedd.
Os edrychaf ar yr ystadegau adeiladu tai, y rhagamcanion cyfredol, sy'n cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, yw bod angen 8,700 o gartrefi bob blwyddyn arnom ni—8,700. Sef 5,200 o dai ar y farchnad, 3,500 o dai cymdeithasol. Er tegwch, mae gan Lywodraeth Cymru bellach darged o 4,000 o dai cymdeithasol bob blwyddyn—neu 'yn weddol fforddiadwy' yw'r disgrifiad mwy cyffredinol. Yn 2015 amcangyfrifodd rhagamcan arall, sef rhagamcan Holmans, fod angen y canlynol bob blwyddyn: 7,000 o dai ar y farchnad, 5,000 o dai cymdeithasol. Mae hynny'n rhoi targed o 12,000. Ni ellid ei gyflawni ar unwaith, ond mae'n rhywbeth y byddai'n rhaid ichi anelu ato. Os yw'r rhagamcan arall yn fwy cywir—ac rwy'n credu mai'r farn academaidd gref yw ei bod hi, yna byddwn 66,000 o dai yn brin erbyn 2031, ac rwy'n cymryd 2031 fel cyfnod rhesymol o amser er mwyn edrych ar ein strategaeth dai ddyfnach. Mae hynny'n bryder mawr, ac rwyf yn gobeithio y bydd eich adolygiad yn edrych ar y rhagamcanion hyn o ddifrif ac yn cyflwyno ymateb difrifol, rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi ei wneud. Nid yw wedi ymateb yn swyddogol i ragamcan yr Athro Holmans a dweud pam nad yw'n cytuno ag ef. Mae wedi ei anwybyddu'n llwyr, a heb wneud unrhyw ymgais i'w wrthbrofi.
Nawr, edrychwch ar Loegr: mae Llywodraeth y DU eisiau adeiladu 300,000 o gartrefi bob blwyddyn yn Lloegr erbyn canol y 2020au. Mae hynny yn cyfateb, neu fe fyddai'n cyfateb pe bai gennym yr un targed erbyn canol y 2020au, i 15,000 o gartrefi bob blwyddyn yng Nghymru. Mae'n raddfa wahanol iawn, a chredaf, pan fyddwch yn gosod eich strategaethau yn yr adolygiadau sylfaenol hyn, fod yn rhaid ichi siarad yr iaith hon a dweud wrthym ble yr ydych am osod eich targedau, beth yw eich cyflymder neu beth bynnag—adeiladu llawer o dai yn gyflym, i ddefnyddio'r geiriau yn eich datganiad eich hun.
Gadewch imi ddweud wrthych beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Yn 2017, adeiladwyd 6,885 o anheddau newydd. Y tro diwethaf inni gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 8,700 oedd yn 2008. Dyna hyd a lled yr argyfwng presennol. Nawr nid wyf yn rhoi'r bai yn gyfan gwbl ar y Llywodraeth am hyn, mae yna ffactorau ehangach, ond mae gosod targedau yn bwysig iawn iawn.
A gaf i ofyn un neu ddau o gwestiynau penodol? Beth yw amcangyfrif diweddaraf y Gweinidog o nifer y tai fforddiadwy yr ydym yn eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn? Rydym bellach ddwy flynedd i mewn i dymor bum mlynedd y Cynulliad hwn ac rwyf am wybod a ydym yn agos o gwbl at adeiladu llawer o dai yn gyflym i gyrraedd y targed o 20,000, oherwydd yn ôl fy nghyfrifiadau i—ac nid yw'r data yn gyflawn ac rydym yn aros am fwy o gyhoeddiadau, yn amlwg—mae rhesymau da dros fod yn bryderus. Erbyn yr amser y bydd eich adroddiad ar yr adolygiad o gyflenwadau tai fforddiadwy ar gael, sydd i'w gwblhau erbyn Ebrill 2019, byddwn dros hanner ffordd drwy dymor y Cynulliad. Bydd yn rhy hwyr yr adeg honno ichi gael gwybod nad yw'r targedau hyn yn realistig mwyach neu fod arnom angen targedau mwy uchelgeisiol. Credaf fod angen inni wybod beth yw eich uchelgais nawr. Yn benodol, pam nad yw'r adolygiad, o ran ei gylch gorchwyl, yn edrych ar yr angen am dai? Nid yw'r rhagamcanion cyfredol yn cael eu bodloni, wrth gwrs, fel yr amlinellais, ond nid ydyn nhw'n ddigon uchel beth bynnag, hyd yn oed petaem ni'n gallu eu bodloni, ond nid oes dim yn y cylch gorchwyl y gallaf weld—wrth gwrs, nid ydym wedi cael y cyfle i graffu arnoch yn fanwl ynghylch hyn—y byddant yn edrych o gwbl ar ragamcanion. Dim ond ar y dystiolaeth a'r rhagamcanion gorau y gallwn seilio polisi tai a strategaeth ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr am y sylwadau hynny ac rwy'n croesawu'n arbennig y ffordd yr agoroch chi eich sylwadau mewn modd cadarnhaol. Byddaf yn sicr yn ceisio symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw hefyd. Fe sonioch chi eich bod yn falch o glywed fy mod yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig, i ddechrau adeiladu llawer o dai yn gyflym, a byddech wedi fy nghlywed yn sôn yn y Siambr o'r blaen am y gwaith yr wyf yn ei wneud i geisio gweithio gydag awdurdodau lleol i gynyddu'r cap benthyg. Fel diweddariad felly, rwyf wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol ar rai cynigion. Mae un yn y tymor byr: sut ydym yn defnyddio'r capasiti benthyca sydd heb ei neilltuo sydd gennym, felly tua £17 miliwn—sut ydym yn canolbwyntio hynny ar yr awdurdodau lleol sy'n barod i adeiladu? A hefyd sut ydym yn mynd i'w herio nhw dros y tymor canolig i lunio rhai cynlluniau posibl y gellid eu cyflwyno'n gyflym iawn, petai arian ychwanegol a chapasiti benthyg ar gael gan Lywodraeth y DU? Rydym yn sicr yn cael y trafodaethau hynny gyda'r Trysorlys, a chyn gynted ag y gallaf i ddiweddaru'r wybodaeth i'r Aelodau, byddaf yn falch o wneud hynny. Ond, fel rwy'n dweud, mae gwaith yn mynd rhagddo ynghylch hynny.
O ran yr angen am dai, rwyf yn ymwybodol iawn o adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a gomisiynwyd gan Alan Holmans a'i gyhoeddi yn ôl yn 2015. Rwyf yn cydnabod bod angen diweddaru'r ffigurau hynny bellach. Gwn fod llawer o ddadlau wedi bod rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd ynglŷn â'r ffigurau hynny. Rydych yn cyfeirio at y rhagamcan arall, sef y rhagamcan sy'n awgrymu y byddai angen 12,000 o unedau'r flwyddyn. Fel rwy'n deall, roedd y rhagamcanion eraill hynny yn seiliedig ar set gynharach o ragamcanion aelwydydd—y cyfrifiad yn seiliedig ar 2006—ac nid yw'r rheini yn ystyried y newidiadau mwyaf diweddar i faint aelwydydd a'r math o aelwydydd, a gofnodwyd gan y cyfrifiad. Felly, rydym yn symud ar hyd llwybr gwahanol, a dyna pam y mae angen inni edrych eto a gwneud mwy o waith ac ailasesu'r ffigurau hynny. Felly, rydym yn gwneud hynny.
Mae fy swyddogion wedi cyfarfod ag arbenigwyr, gyda'r bwriad o ddatblygu darn o waith cadarn a fydd yn edrych ar yr angen am dai ledled Cymru, ac yng nghyd-destun hynny yn sicr y bydd yr adolygiad yn digwydd. Dywedaf hefyd fod swyddogion wedi bod yn casglu gwybodaeth am y dull o wneud penderfyniadau ynghylch yr angen am dai a ddefnyddir gan lywodraethau eraill y DU, ac yn sicr maen nhw wedi cael rhai sgyrsiau adeiladol gyda swyddogion—o Lywodraeth yr Alban yn arbennig. Felly, bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â chyngor gan arbenigwyr allanol, yn helpu i benderfynu beth fydd ein dull ni o weithredu. Hoffwn dawelu meddwl yr Aelodau drwy ddweud fy mod yn ystyried yr angen am dai yn y dyfodol yn ddifrifol ac felly hefyd sicrhau targedau cadarn ymarferol sydd hefyd yn adlewyrchu'r angen sydd yn y gymuned. Ond rwyf hefyd yn edrych ar yr angen am dai, gan ei dorri i lawr i'r gwahanol fathau o ddeiliadaeth a'r gwahanol fathau o dai: tai cymdeithasol, tai canolraddol, tai fforddiadwy ac yna dai'r farchnad agored.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle—. Er nad yw'n rhwydd inni wthio ac ysgogi tai'r farchnad agored, credaf mewn gwirionedd y gallwn greu hinsawdd ar gyfer gwella'r broses o gyflenwi, a chyflymu cyflenwi tai'r farchnad agored. Un ffordd o wneud hynny fyddai drwy ein rhaglen dai arloesol a fydd, rwy'n credu, yn rhoi modd inni adeiladu tai yn llawer cyflymach yn y dyfodol. Ddydd Iau diwethaf roeddwn yn falch iawn ein bod wedi agor cylch ceisiadau 2018-19. Dyma'r tro cyntaf inni agor hwn nid yn unig i landlordiaid cymdeithasol, ond hefyd i'r sector preifat, fel y gall adeiladwyr y sector preifat wneud cais am gyllid er mwyn cefnogi'r elfen o arloesi wrth iddyn nhw adeiladu hefyd. Rwy'n credu y gallai hyn gynnig cyfle i lawer mwy o dai arloesol gael eu hadeiladu. Buddsoddiad o £90 miliwn dros dair blynedd yw hwn; dyfarnwyd £19 miliwn i 22 o brosiectau arloesol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, felly erys £71 miliwn. Mae digon o gyfle i gynlluniau da gael eu cynnig, ond mae'n glir, er ein bod ar hyn o bryd yn arloesi ac yn rhoi llawer o wahanol syniadau ar brawf, bydd yn rhaid inni gyrraedd pwynt lle byddwn mewn gwirionedd, drwy werthuso gwahanol brosiectau, yn penderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru, ac yn penderfynu ymhle i ganolbwyntio ein hymdrechion o ran creu'r raddfa o adeiladu y byddem eisiau ei weld yn y dyfodol.
O ran a wyf i'n hyderus y byddwn yn cyrraedd ein targed o 20,000—ydw, rydw i'n hyderus. A gallaf ddweud wrthych ein bod ni'n chwalu'r targed hwnnw: 5,500 o unedau grant tai cymdeithasol; 1,500 o unedau grant cyllid tai 2; daw 6,000 o'r unedau drwy Cymorth i Brynu; bydd 1,000 yn rhai Rhentu i Brynu, neu'n rhai Rhanberchnogaeth, a dyna'r ddau gynllun y tynnais sylw arbennig atyn nhw heddiw; byddem yn gobeithio i 1,000 gael eu hadeiladu drwy raglen adeiladu tai cyngor yr awdurdod lleol; 1,000 drwy'r rhaglen dylunio arloesol; 1,000 drwy gytundebau adran 106; 800 drwy Leoedd Llewyrchus Llawn Addewid; a 2,500—adeiladau hunanariannu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Byddai hynny'n fwy na 20,000. Ac un o'r rhesymau pam yr wyf yn hyderus ein bod yn gallu cyrraedd y targed hwnnw yw oherwydd, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae adeiladwyr tai yn aml yn gweithio i raglen dreigl dair blynedd, felly rydym yn gallu gweld y math o brosiectau sydd ar y ffordd a'r nifer o dai sydd ar y gweill. Mae hynny'n rhoi hyder inni y byddwn yn gallu cyrraedd y targed hwnnw. Ond fel rwy'n dweud, hoffwn weld yr adolygiad yn ystyried gosod targedau mwy uchelgeisiol hyd yn oed ar gyfer y dyfodol.
Diolch am anfon copi o'r datganiad ymlaen llaw, a chyn imi ofyn cwestiynau am y datganiad arbennig hwn, hoffwn ofyn eich barn chi am rai o'r adroddiadau ar y newyddion, dros y penwythnos, a oedd yn sôn am gynghorau yn Lloegr yn ystyried prynu stoc dai yma yng Nghymru—credaf i Gyngor Merthyr gael ei grybwyll. Dyw hyn ddim yn ffenomen newydd, mewn gwirionedd. Pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwelais DVD gan Fwrdeistref yn Llundain, a oedd yn awyddus i hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw i denantiaid yn Llundain, sydd, yn amlwg, ddim yn beth drwg yn fy marn i—dylem annog pobl i ddod i Gymru os ydynt yn dewis byw yng Nghymru—ond beth mae hynny'n ei olygu i chi, fel Llywodraeth, os oes cynghorau yn Llundain yn prynu stoc y byddech chi efallai eisiau ei ddatblygu yma yng Nghymru, gyda chynghorau Cymru? Sut ydym i ddeall beth yw eich ymgysylltiad chi â'r awdurdodau lleol hynny, er mwyn gwybod sut y bydd hynny yn effeithio ar ein targedau yma yng Nghymru?
Rydym ni yn croesawu'r adolygiad. Rwyf hefyd yn croesawu'r cylch gorchwyl, ac yn enwedig y canolbwyntio ar opsiynau ariannu i sicrhau'r dewisiadau o dai fforddiadwy hirdymor sydd gennym. Rwy'n deall—fel yr ydym i gyd—bod ystyriaethau ariannol yn bwysig yn yr hinsawdd bresennol, ond wrth gwrs, mae angen inni fod yn uchelgeisiol, nid yn unig yn y sector rhentu cymdeithasol ond o ran cartrefi i'w prynu. Amcangyfrifir pe byddai'r DU wedi adeiladu 300,000 o gartrefi yn y DU bob blwyddyn ers 1996, yna ar gyfartaledd byddai pris tŷ yn y DU heddiw dim ond 7 y cant yn is nag ydyw ar hyn o bryd. Nid canlyniad prinder cartrefi'n unig yw'r argyfwng tai presennol. Mae'n ganlyniad methiant y Llywodraeth a benthycwyr i gydnabod yr effaith y mae swyddi ansefydlog, cyflog llonydd a'r cynnydd mewn costau byw yn ei chael ar draws y sector cyfan. Felly, petai'r llywodraeth yn gallu camu i'r adwy i helpu pan fo'n bosib, byddwn yn sicr yn croesawu hynny.
Mae'n hollbwysig, o ystyried cost tai a chostau byw cynyddol, ynghyd â chyflogau llonydd, bod cymorth iawn ar gael i bobl sy'n ceisio cael cartref fforddiadwy. Felly, croesawaf lansiad y wefan hon. Mae'n bwysig cael yr holl help a gwybodaeth mewn un lle. Yn y gorffennol rydym wedi beirniadu rhai cyhoeddiadau tameidiog a'r sefyllfa lle ceir llawer o wybodaeth mewn llawer o leoedd gwahanol, felly rydym yn obeithiol y bydd y wefan hon yn gwella'r sefyllfa i raddau helaeth.
O ran y ddau gynllun newydd a lansiwyd ac agweddau eraill ar yr adolygiad, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol. Faint o'r £70 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn ei adennill o'r ariannu, yn arbennig o safbwynt Rhentu i Brynu? A ydych yn hyderus fod y swm yn ddigonol? O ran y cynlluniau cyfredol eraill, credaf y dylid nodi nad cynllun ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf yn unig yw Cymorth i Brynu. Ar gyfartaledd, pris cartref dan y cynllun oedd £180,000, ac nid prynwyr am y tro cyntaf oedd chwarter y prynwyr. Felly, efallai fod modd canolbwyntio mwy ar y gynulleidfa darged wirioneddol. Credaf i'r cynllun hwn gael ei lansio ar y dechrau i helpu'r diwydiant adeiladu hefyd, felly hoffwn ofyn a allai'r adolygiad ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o gynorthwyo prynwyr am y tro cyntaf.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan ITV yn ddiweddar fod 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru erbyn hyn—bron dwbl y nifer ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn er gwaethaf cynllun Llywodraeth Cymru i wneud yn sicr bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Felly, a all eich adolygiad geisio canfod pa mor effeithiol yw'r polisïau cyfredol yn hyn o beth? Deallaf fod gan gynghorau bwerau i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ond yn amlwg nid ydynt yn defnyddio'r pwerau hynny, neu byddai'r nifer yn uwch na'r hyn yr wyf newydd ei ddyfynnu.
Hoffwn hefyd i'r adolygiad ymchwilio i'r hyn y gellid ei wneud ynghylch rhenti uchel a chynnydd. Ar hyn o bryd, mae cynnydd rhent y sector preifat ar gyfartaledd yn llai na'r swm a ganiateir ar gyfer cynnydd mewn rhent yn y sector rhentu cymdeithasol. Felly, mae angen edrych ar hyn, ynghyd â dewisiadau eraill.
Yn olaf, fe wnaethoch chi sôn am gymunedau gwledig a sut yr ydych yn awyddus i edrych ar ffyrdd arloesol eraill o annog cymunedau gwledig i edrych ar y dewisiadau ym maes tai. Hoffwn ddweud hefyd bod angen inni gael mwy o ymgysylltu cymunedol mewn cymunedau. Felly, os gallant o bosib nodi'r hyn sydd ei angen, er enghraifft iaith neu nodweddion penodol y mae angen eu cadw o bosib yn yr ardaloedd hynny—pwnc dadleuol yn aml, ond pwnc y mae angen inni fynd i'r afael ag ef—yna beth fydd eich adran yn eu hystyried yn ddewisiadau ymarferol i'r perwyl hwnnw?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n mynd i ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, o ran y gefnogaeth i adeiladu tai a chymorth i bobl sydd eisiau bod yn berchen ar gartref, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Oherwydd, rydym yn gwybod, mewn cymunedau gwledig, fod yna her arbennig o ddifrifol o ran fforddiadwyedd, yn enwedig rwy'n credu, i rai o'n gweithwyr allweddol—nyrsys, athrawon ac ati—sy'n ei chael yn wirioneddol anodd fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
Mae swyddogaeth ein swyddogion galluogi tai gwledig yn arbennig o bwysig o ran gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn y cymunedau gwledig hynny, er mwyn nodi'r meysydd lle mae angen inni roi rhagor o fuddsoddiad a chreu mwy o gyfleoedd i adeiladu cartrefi. Rwy'n arbennig o awyddus i weld beth allwn ni ei wneud ynghylch annog hunanadeiladu, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor i mi ar hyn. Mae'n rhywbeth, mewn gwirionedd, a allai fod yn fuddiol ar gyfer pob math o gymunedau. Ond mewn cymunedau gwledig yn benodol, credaf y gallai fod yn rhywbeth sy'n rhoi cyfleoedd i bobl.
Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp strategol gwledig, ac mae hwnnw'n cynnwys y swyddogion galluogi tai gwledig hynny, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Mae'r grŵp yn cwrdd bob chwarter bellach er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru, ond hefyd i brofi syniadau a rhannu arferion da. Rwy'n cytuno bod ein cynigion tai, ond hefyd gydweithio mewn partneriaeth â chynllunio, yn gyfle i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, yn enwedig yn aml eto, mewn cymunedau gwledig. Rwy'n credu bod gan dai swyddogaeth bwysig i gefnogi'r Gymraeg.
Gwnaethoch gyfeirio hefyd at gartrefi gwag, ac rwy'n rhannu eich pryder ynghylch nifer y cartrefi gwag ledled Cymru. Gallai rhai o'r rheini yn hawdd fod yn gartrefi y mae eu hangen yn fawr ar bobl. Felly, rydym wedi ymrwymo eto i weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio tai a darparu cefnogaeth barhaus i'r awdurdodau hynny, i'n cynlluniau Troi Tai'n Gartrefi a benthyciadau canol trefi. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn, a weithredir gan awdurdodau lleol, yn cyfateb i dros £50 miliwn, gan roi'r cyllid sydd ei angen ar berchnogion cartrefi er mwyn iddynt adnewyddu'r eiddo hynny a dod â nhw i safon sy'n addas i'w rhentu neu werthu.
Diwygiwyd telerau ac amodau'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn ddiweddar i alluogi awdurdodau lleol i fod yn fwy hyblyg er mwyn iddynt allu cynnig ateb i'r broblem tai gwag sy'n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Mae benthyciadau ar gael erbyn hyn i allu ailddefnyddio tai gwag ac adeiladau masnachol, ond mewn gwirionedd i'w rhannu'n fflatiau hefyd er mwyn ceisio creu mwy o gartrefi. Felly, mae gwaith ar y gweill ar gartrefi gwag, ond rwy'n cytuno bod angen inni ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud. Yn lleol, rwy'n gwybod am enghreifftiau da yn Abertawe lle mae'r cyngor yn darparu cyllid i berchnogion cartrefi gwag sydd yna'n cael eu hannog i wella safon eu cartrefi ar y ddealltwriaeth y bydd ganddynt denant gwarantedig. Felly, mae hynny'n ateb ein hagenda ni a'u hagenda nhw o ran creu mwy o dai cymdeithasol, ond hefyd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag.
Mae'r cynnydd yn y costau byw a'r anhawster i sicrhau digon o arian ar gyfer blaendal yn rhai o'r ysgogiadau mawr y tu ôl i gynllun Rhentu i Brynu: Cymru a chynllun Rhanberchenogaeth: Cymru. Dylwn fod wedi nodi yn gynharach bod y cynllun rhentu i brynu yn benodol yn un o'r cytundebau y daethpwyd iddo gyda Kirsty Williams, sydd wedi bod yn arbennig o frwd ynghylch hwn a'r cyfle y mae'n ei gynnig ers tro byd.
Mae'r cynllun rhentu i brynu yn gyfle i bobl symud i mewn i'r tŷ y maent ei eisiau yn gynnar yn y broses, ond yna byddant yn gallu talu rhent ar yr eiddo hwnnw a, rhwng dwy a phum mlynedd yn ddiweddarach, byddant yn gallu hawlio yn ôl 25 y cant o'r arian a dalwyd ganddynt fel rhent, a defnyddio hwnnw fel blaendal, ynghyd â pheth o werth unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo hwnnw hefyd. Felly, mae'n gyfle i bobl, pobl ifanc yn aml, ond fel y dywedwch chi nid pobl ifanc bob amser, symud i mewn i'r tŷ y byddent yn hoffi byw ynddo ac y byddent yn hoffi ymgartrefu ynddo yn gynnar yn y broses.
Mae chwe chymdeithas dai yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd ond rydym yn cael trafodaethau i gynyddu'r rheini a hoffwn i weld y tai hyn ar gael ledled Cymru. Mater i'r unigolyn i benderfynu arno yw dewis mynd am rhentu i brynu neu'r cynllun rhanberchenogaeth, ond mae'r tai penodol hynny ar gael ar gyfer y ddau gynllun hefyd.
Byddaf yn sicr yn cael rhai trafodaethau gyda swyddogion am y sgyrsiau a gawsant ag awdurdodau lleol am y storïau dros y penwythnos y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw. Ond byddwn yn dweud bod symudiadau pobl dros y ffin yn rhywbeth sy'n sicr ar fy radar i, yn enwedig yn ardal Casnewydd yn dilyn y cyhoeddiad am gael gwared ar y tollau ar bont Hafren. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag adeiladwyr tai ac maen nhw'n dweud wrthyf ei fod yn cael effaith wirioneddol ar y pwysau ar y farchnad dai yn yr ardal honno. Mae nhw wedi gweld mwy o awydd am adeiladu tai yn yr ardal, felly bydd yna rai trafodaethau y bydd angen inni barhau i'w cael gyda'r awdurdod lleol yn y fan honno i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion pobl yr ardal sydd eisiau aros o fewn eu hardal hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom ni'n cydnabod bod problem fawr yn wynebu'r genhedlaeth iau heddiw, sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai, sef, i lawer o bobl, nad yw tai yn fforddiadwy. Un broblem fawr yw nad yw codiadau cyflog yn cadw'n wastad â'r cynnydd mewn prisiau tai, sy'n creu amgylchedd heriol os ydym ni'n ceisio gwella cyfraddau perchentyaeth.
Roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio cryn dipyn ar gynlluniau rhanberchenogaeth. Rwy'n credu, i ryw raddau, ei bod yn dda i geisio bod yn arloesol i helpu pobl i godi cyllid i gael troed ar yr ysgol dai. Rwy'n gwerthfawrogi bod yna wahanol fathau o gynlluniau—dau yn benodol y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw heddiw—ond, yn anffodus, nid yw rhanberchenogaeth bob amser yn ateb ymarferol. Yn aml iawn, mae cynlluniau rhanberchenogaeth, hyd yn oed, allan o gyrraedd llawer o weithwyr. Ni all llawer o bobl sydd mewn swyddi sy'n talu llawer mwy na'r isafswm cyflog gael eu cymeradwyo ar gyfer morgeisi mewn cynlluniau rhanberchenogaeth. Un o ganlyniadau anffodus hyn yw bod yr union bobl hyn yna'n aml yn y pen draw yn gwario hyd yn oed mwy o arian nag y byddai'r taliadau morgais wedi bod ar eu rhent misol.
Mae perygl posibl o'i gwneud yn haws i bobl gael eu cymeradwyo ar gyfer morgeisi, oherwydd mae'n rhaid i'r cynlluniau fod yn gynaliadwy ar gyfer y bobl hynny; nid dim ond y blaendal, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi. Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw pobl yn ymdopi â blaendal cychwynnol ond wedyn yn cael trafferthion i gadw at eu taliadau misol, ac yn y pen draw yn diffygdalu ar eu morgeisi. Felly, mae yna lawer o faterion yn ymwneud â rhanberchenogaeth. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth nad yw rhanberchenogaeth yn troi'n awtomatig ac yn hawdd i berchenogaeth lawn. Felly, a ydych chi'n cydnabod bod yna anhawster mawr wrth ymateb i'r her hon a chyrraedd eich targedau? A yw cynlluniau tai cost isel yn darparu gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus, yn eich barn chi? A yw'r gwiriadau cymhwysedd a fforddiadwyedd yn ddigon cadarn?
Problem arall yw'r farchnad lafur gyfnewidiol. Os bydd perchnogion cartrefi yn colli eu swyddi gallant wynebu anawsterau, gan nad ydynt yn gymwys yn awtomatig am fudd-dal tai. Nid yw hwn yn faes datganoledig—rwy'n deall hynny—ond mae gennym weithle yn awr lle na fydd gan lawer o bobl swydd am oes. Gall pobl â CV da, hyd yn oed, wynebu cyfnodau o ddiweithdra, dros dro, gobeithio. Os ydyn nhw wedi cymryd morgais, nid oes gan bawb yswiriant. Nid yw rhai pobl hyd yn oed yn ymwybodol o'r broblem hon pan fyddan nhw'n cymryd morgais yn y lle cyntaf. Felly, mae'n debyg bod hwn yn achos arall dros gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm ysgol. Cwestiwn arall sy'n deillio o hynny, Gweinidog, yw: a ydych chi'n cydgysylltu'n effeithiol â'r Gweinidog Addysg ar y mater hwn o ddarparu'r math hwn o addysg ariannol i ddisgyblion ysgol?
Roedd yn galonogol eich clywed yn sôn am gartrefi hunanadeiladu yn y datganiad heddiw. Bu arolygon yn awgrymu y byddai llawer o bobl yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn ystyried adeiladu eu cartref eu hunain pe byddai cyfle iddynt wneud hynny. Yn ddiweddar, ar un o wefannau blaenllaw y DU ar gyfer dod o hyd i lain, roedd hysbysebion 'ei heisiau ar hyn o bryd' ar gyfer cartrefi hunanadeiladu yng Nghymru. Mae gennym gyfradd is o lawer o hunanadeiladu yn y DU yn gyffredinol nag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill. Ar y mater pwysig o gyllid, mae benthycwyr yn tueddu yn gyffredinol i ystyried benthyciadau hunanadeiladu yn rhai risg uwch, ac ni chredaf fod unrhyw grant ar gael gan Lywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, i bobl sydd eisiau hunanadeiladu. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud eich bod yn ystyried hyn ar hyn o bryd, felly mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n edrych arno. Gwn hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwanhau rhai gofynion cynllunio er mwyn galluogi datblygiad Lammas, sef eco-bentref gwledig yng Ngogledd Sir Benfro. Felly dangoswyd rhywfaint o hyblygrwydd yn y maes hwn yn y gorffennol. Tybed os oes gennych chi fwy o wybodaeth heddiw am unrhyw gynigion ar gyfer cynlluniau hunanadeiladu Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Fe wnaf ddechrau drwy ystyried eich sylwadau am godiadau cyflog a pha mor anodd yw hi i rai pobl gael troed ar yr ysgol dai. Mae ein cynlluniau ni heddiw yn gwneud hynny'n haws, ond cytunaf nad yw hyn yn addas i bawb. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod gennym sector tai iach yn gyffredinol, a byddwn yn dechrau drwy ddweud bod hyn yn cynnwys gwaith gyda'r sector rhentu preifat yn benodol. Byddwch yn ymwybodol bod Rhentu Doeth Cymru eisoes wedi ei sefydlu ac mae hwnnw'n rhoi sicrwydd bod y bobl hynny sydd yn rhentu cartrefi i bobl wedi'u trwyddedu'n ddigonol a bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn bod yn landlordiaid da.
Rydw i hefyd yn ymrwymedig i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid gan asiantau gosod ac rwyf hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector er mwyn parhau i godi safonau. Byddwch chi'n ymwybodol, hefyd, ein bod yn ddiweddar wedi gorffen ymgynghori ar ein safonau cartrefi ffit i bobl fyw ynddynt. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r sector rhentu preifat er mwyn cynyddu a gwella'r cynnig y maen nhw'n gallu ei roi, yn rhannol oherwydd fy mod yn credu y bydd y sector yn dod yn bwysicach eto yn y dyfodol am yr holl resymau y mae pobl wedi'u disgrifio ynghylch pa mor anodd yw hi i lawer o bobl gael troed ar yr ysgol dai—ac, mewn gwirionedd, ni fydd pawb yn dymuno gwneud hynny, oherwydd bydd ganddyn nhw wahanol flaenoriaethau a gwahanol ffyrdd o fyw a allai olygu nad ydyn nhw eisiau ymgartrefu mewn un lle penodol.
Felly, rwy'n credu bod sector tai iach yn gyffredinol yn bwysig. Ond byddwn yn rhoi sicrwydd ein bod yn ystyried cymhwysedd a fforddiadwyedd yn ddifrifol iawn o ran y cynhyrchion a gynigiwn. Nid ydym eisiau gwneud i bobl fethu mewn unrhyw ffordd. Felly, rydym yn awyddus iawn bod pobl yn amlwg yn cymryd yr holl gyngor hynod bwysig a hanfodol sydd ei angen arnynt. Un ffordd o alluogi hynny i ddigwydd wrth gwrs yw drwy'r cynllun trawsgludo achrededig, a gyflwynais fel rhan o'r pecyn diwygio lesddaliadau. Bydd hynny'n sicrhau bod pobl yn cael digon o wybodaeth, nid yn unig am lesddaliadau, ond eu bod yn cael y cyngor gorau posib i wneud y penderfyniad hwnnw ynghylch a yw perchentyaeth yn iawn iddyn nhw.
Cytunaf yn llwyr ar bwysigrwydd addysg ariannol, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ddatblygu mewn ysgolion, yn enwedig drwy ddiwygio'r cwricwlwm, ond nid ydym ni'n aros am hynny. Mae hefyd gwaith da yn digwydd eisoes fel rhan o'n cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol, sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn gadael yr ysgol â dealltwriaeth gref o'r wybodaeth bwysig fydd ei hangen arnynt i gynnal cartref, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn llawer mwy cymhleth nag y mae pobl yn aml yn ei ddychmygu.
Ar fater hunanadeiladu, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaethoch chi heddiw a byddaf yn eu cadw mewn cof wrth inni geisio datblygu rhai o'r cynigion eraill yn y maes hwn, y gobeithiaf eu rhannu gyda'r Siambr maes o law.
Mae prisiau tai yn cynyddu oherwydd prinder tai. Mae'n fanteisiol i'r adeiladwyr tai mawr leihau'r cyflenwad yn is na'r galw, gan y bydd hynny'n cynyddu prisiau. Byddai'r gwrthwyneb hefyd yn wir, ac os ydych chi'n ymweld â Sbaen byddwch yn gweld llawer o dai ar hanner eu hadeiladu gan fod y cyflenwad wedi dechrau bod yn fwy na'r galw. Mae hefyd yn fanteisiol i dirfeddianwyr leihau'r cyflenwad o dir ar gyfer tai er mwyn cynyddu gwerth eu tir. Pe bydden nhw'n gwerthu eu tir i gyd ar yr un pryd, yna byddai gwerth y tir hwnnw yn gostwng yn sylweddol.
Gwnaeth Cymorth i Brynu, wrth gwrs, ychwanegu arian at ochr y galw. Rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i wedi ei ganfod yn rhyfedd—ac eraill hefyd o bosib—yw fy mod wedi cyfarfod â nifer o weithwyr proffesiynol ifanc dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn eu 30au cynnar sydd yn dal i fyw mewn llety rhentu preifat. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi gwneud yr holl bethau yr ydym ni fel cymdeithas wedi dweud wrthyn nhw am wneud. Maen nhw wedi mynd allan ac mae nhw wedi astudio'n galed, mae ganddyn nhw raddau da, yna maen nhw wedi cael swyddi da, a dydyn nhw'n dal ddim yn gallu prynu tŷ. Aeth pobl o'm cenhedlaeth i—a bûm yn siarad â Peter Black am hyn rai misoedd yn ôl—yn ein 20au, at gymdeithas adeiladu, a chawsom rywfaint o arian a phrynu tŷ. Roedd yn eithaf syml. Doedd dim llawer o drafferth a sôn amdano, mewn gwirionedd. Ond mae pobl ifanc heddiw—rwy'n defnyddio'r gair 'ifanc' i ddisgrifio pobl yn eu 30au, sydd o bosib yn dweud rhywbeth wrthych chi am fy oedran i, os dim byd arall—. Ceir y broblem honno. Mae'r rhan fwyaf o'r tai cost isel yn dai hŷn, yn aml yn dai o'r cyfnod cyn yr ugeinfed ganrif. Mae'n sicr yn wir yn fy etholaeth i, ac mae'n wir yn eich etholaeth chi hefyd, rwy'n credu, bod y tai hŷn yn rhatach na'r tai newydd, modern—rwy'n dweud 'newydd'; rwy'n golygu'r tai pâr a'r tai sengl a adeiladwyd ar ôl y rhyfel.
Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i wella ansawdd tai hŷn? Ailddechrau defnyddio cartrefi gwag: wyddoch chi, rydym ni i gyd, yn ein dyddiau ymgyrchu, wedi crwydro o gwmpas yn curo ar ddrysau ac wedi meddwl tybed pam mae rhif 23 yn wag—a gallech weld ei fod yn wag, yn hytrach na bod rhywun heb gofrestru—ac yna, wrth fynd i lawr stryd arall, yn meddwl tybed pam mae tri thŷ gwag mewn bloc o dai teras braf.
Mae cefnogi tai cydweithredol: rwy'n gwybod fy mod i'n rhygnu ymlaen am hyn, mwy nag y mae neb arall yn yr ystafell hon yn dymuno ei glywed, fwy na thebyg, ond rwy'n credu bod tai cydweithredol, mae'n rhywbeth sydd mor boblogaidd yng Ngogledd America ac yn Ewrop—mae mwy yn Vancouver nag ym Mhrydain—yn rhywbeth y mae gwir angen inni eu hystyried. Mae'n drydydd dull o ddarparu tai, ac mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei anwybyddu gan Lywodraethau—wel, roeddwn i'n mynd i ddweud o amser penodol, ond mae wedi cael ei anwybyddu gan lywodraethau erioed yn y wlad hon. Mae ar y rhestr rhy anodd. Mae angen inni adeiladu mwy o dai cyngor ac, yn fy marn i, cael y cynghorau i werthu tir a defnyddio hwnnw i adeiladu tai cyngor fel eu bod yn eu hadeiladu o'u hadnoddau eu hunain.
A'r peth olaf yw: beth am—? Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi darnau mawr o dir, ac rwy'n credu, yn Abertawe, mae 10 neu fwy o dai. Mae yna lawer o safleoedd mewnlenwi yn bodoli yn Abertawe. Ni wn am rannau eraill o Gymru, ond yn Abertawe, mae yna lawer o safleoedd mewnlenwi. Beth am annog y cynghorau i ganiatáu hunanadeiladu ar y safleoedd mewnlenwi hynny? Gallai hyn ymdrin ag ef. Rydym bob amser yn sôn am y Cynllun Datblygu Lleol, ond, ewch i lawr stryd, ac yn aml iawn mae yna fwlch lle gallech chi adeiladu dau dŷ, ond nid oes neb wedi gwneud hynny—ac uwchben i garej yn aml, lle'r arferai'r garej fod—gallai hwnnw fod ar gael ar gyfer hunanadeiladu. Pam na wnawn ni ragor o hyn? Rydym yn rhoi arian i gymdeithasau tai, rydym yn cefnogi adeiladwyr mawr, rydym yn gosod targedau. Beth am wneud rhai pethau mwy arloesol a fydd yn sicrhau bod mwy o dai yn cael eu hadeiladu a chael pobl i symud i mewn iddynt?
Diolch yn fawr iawn, iawn am y sylwadau hynny. Byddwn i'n dechrau yn benodol drwy ddweud fy mod yn rhannu eich diddordeb mewn tai cydweithredol a gweld beth arall y gallem ni ei wneud yno, oherwydd, yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y swydd, rwyf wedi gallu gweld—wel, mae un yn arbennig yn sefyll allan yn fy meddwl, yr enghraifft o'r tai cydweithredol yr ydym wedi'u cefnogi yng Nghaerfyrddin. Gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffaith, mewn gwirionedd, nad yw hynny dim ond yn ymwneud ag adeiladu cartrefi, ond mae hefyd mewn gwirionedd yn ymwneud ag adeiladu cymunedau. Cafwyd gwerth dwy flynedd o waith yn gweithio ochr yn ochr â'r preswylwyr hynny cyn iddynt hyd yn oed symud i mewn i'w cartrefi newydd er mwyn eu helpu i ddod yn aelodau cydweithredol da, ond i greu cymuned hefyd.
Mae'r sgiliau y mae pobl wedi eu dysgu drwy fod yn gysylltiedig â hynny, a'r gwerth a gafwyd ohono, yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cartrefi y maen nhw'n gallu byw ynddynt, yn fy marn i. Felly, rydym yn darparu cyllid i Ganolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi'r gwaith hwnnw. Ond un peth a ddywedaf yw bod angen i ni i gyd, yn fy marn i, annog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ystyried tai cydweithredol. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae angen gwneud llawer o waith yn ystod y camau cyntaf, sef efallai yn un o'r rhesymau dros fod yn llai poblogaidd ac na fu cymaint o fanteisio ar dai cydweithredol nag yr hoffwn ei weld. Ond rwyf wedi cytuno i ragor o gyllid ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru eleni er mwyn gweld beth allwn ei wneud i hyrwyddo'r gwaith ar dai cydweithredol. Rwy'n deall bod yna drafodaethau gydag o leiaf 25 o bartïon sydd â diddordeb ar hyn o bryd, felly byddwn yn gobeithio bod hwn yn faes lle gallwn weld rhywfaint o dwf yn y dyfodol, dim ond oherwydd y gwerth ychwanegol hwnnw a gewch wrth i chi adeiladu tai cydweithredol.
Mae tir ar gyfer tai yn faes arall lle rwy'n cydnabod y gall fod llawer o bwysau, felly rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ni ei wneud ynghylch defnyddio tir Llywodraeth Cymru. Gwn y gall chwarae rhan bwysig iawn yn y ddarpariaeth o dai yng Nghymru. Cyflwynwyd nifer sylweddol o safleoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai eisoes, ac rwyf mewn cysylltiad agos â Ken Skates a'i adran, yn ystyried y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ac a allwn ni ei gyflwyno i'w ddefnyddio gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn benodol, gan o bosibl ei gynnig iddyn nhw ar gyfradd y farchnad ond heb orfod ei roi ar y farchnad, er enghraifft. Felly, rydym yn ystyried ffyrdd arloesol o gefnogi tir ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn benodol.
Mae gennym ni dir ar gyfer cynllun tai, ac mae hwnnw'n gynllun benthyciadau, sy'n galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i brynu tir i gefnogi'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a/neu gartrefi'r farchnad, ac mae'r cynllun hwnnw eisoes wedi buddsoddi £42 miliwn hyd yn hyn. Mae hynny'n mynd i hwyluso'r ddarpariaeth o dros 2,800 o gartrefi, 85 y cant ohonyn nhw'n gartrefi fforddiadwy. Rydym ni hefyd yn ystyried tir heblaw am dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru—felly, tir a berchnogir ar draws y sector cyhoeddus—oherwydd gall hynny fod yn wirioneddol allweddol ar gyfer cyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, darparwyd cartrefi fforddiadwy ar dir a ddaeth i fod ar gael gan y sector cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 689 ohonyn nhw. Felly, mae'n rhywbeth sy'n digwydd, er y derbyniaf ei fod yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ystyried ei wneud ar raddfa fwy hefyd.
Gwnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am dir sy'n cael ei gadw'n wag, a byddwch chi'n ymwybodol o'r cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag. Credaf fod hynny'n ffordd gadarnhaol o ysgogi ac annog adeiladu tai yn y dyfodol ac atal pobl a sefydliadau rhag cadw tir sydd ddim yn mynd i gael ei ddefnyddio at y diben penodedig.
Rwy'n credu bod gan fentrau bach a chanolig hefyd swyddogaeth bwysig o ran adeiladu ar y parseli bach hynny o dir, tir a na fyddai'n ddeniadol i gwmnïau adeiladu mwy o faint, ond a allai fod yn ddeniadol i gwmnïau adeiladu bach neu ar gyfer hunanadeiladu. Felly, rydym yn cydweithio'n agos â Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Ffederasiwn Cyflenwyr Adeiladwyr a Chyflenwyr Adeiladwyr Cymru i hyrwyddo amrywiaeth eang o gynlluniau yr ydym eisoes yn eu darparu. Rydym hefyd yn gweithio drwy'r rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr datblygwyr preifat bach, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, er mwyn deall y rhwystrau sydd ganddyn nhw o ran adeiladu mwy o dai, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael â hynny. Fe wnes i, Ken Skates a Lesley Griffiths gyfarfod â'r rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai yn yr ychydig wythnosau diwethaf er mwyn deall mwy am y rhwystrau sy'n bodoli, yn enwedig o ran cynllunio adeiladu'r cynlluniau llai hynny hefyd.
Felly, yn amlwg mae llawer iawn yn digwydd, ond rwy'n sylweddoli bod llawer mwy i'w wneud, ac mae gwella ansawdd cartrefi sy'n bodoli eisoes yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi. Mae rhai o'r cartrefi hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf yn y sector perchen-feddianwyr, ac mae angen inni ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud—. Pan fyddwn wedi cyflawni safon ansawdd tai Cymru yn y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector awdurdodau lleol, yna mae angen inni ddechrau meddwl, mewn gwirionedd, am y cymorth y gallem ni ei gynnig i bobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain ond nad yw'r cyllid angenrheidiol ganddyn nhw i ddod â nhw i'r safon y byddem ni eisiau ei weld.
Hoffwn i groesawu'r adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol dan bwysau i ddenu datblygwyr mawr â thargedau tai fforddiadwy isel, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch chi sicrhau bod datblygwyr mawr yn adeiladu. Mae arnaf ofn bod y system bresennol o gynlluniau datblygu lleol yn gweithio yn y modd hwnnw yn hytrach nag yn ei erbyn, ac mae trigolion sydd eisiau tai fforddiadwy o'r farn bod hynny'n gywilyddus. Er enghraifft, cytunwyd ar ystad yn fy etholaeth i ar gyfer 260 o dai, a 60 ohonyn nhw'n rhai fforddiadwy. Dyna beth sy'n digwydd pan rydych chi'n rhoi tactegau cyn strategaeth ac mae gennych chi gynlluniau datblygu lleol cyn bod gennych gynlluniau datblygu strategol. Dydw i ddim yn meddwl bod y Llywodraeth wedi bod yn iawn ar hynny.
Hoffwn i ddarllen i chi rywfaint o'r dystiolaeth a roddwyd gan y prif swyddog cynllunio i'r pwyllgor craffu polisïau ac adnoddau yng Nghyngor Caerffili ynghylch targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Dywedodd:
'Dim ond targed yw hwn, ac os nad yw'n ymarferol ar gyfer y datblygwyr wedyn mae'n rhaid inni dderbyn ffigur is. Mae'r datblygwyr yn gwybod bod y targedau'n bodoli ond mae ganddyn nhw eu costau sefydlog eu hunain, gan gynnwys maint eu helw. Os na all y datblygwyr wneud yr elw y maen nhw'n ei ddisgwyl, ac os na all y tirfeddiannwr werthu'r tir am bris boddhaol, yna does dim datblygiad yn digwydd.'
Mae hyn yn ein dal ni yn yr argyfwng tai hwn ac rwy'n teimlo bod y darn olaf o'ch ateb i Mike Hedges yn rhoi gobaith i ni y gall cwmnïau bach ddechrau torri trwyddo a dechrau chwalu'r cartél hwnnw—cartél y pedwar datblygwr tai mawr. Rwy'n gobeithio cynnal grŵp trawsbleidiol yn nes ymlaen eleni, a hoffwn wybod, Gweinidog, a fyddech chi'n barod i ddod i'r grŵp trawsbleidiol hwnnw a chlywed gan adeiladwyr bach yno. Ond, hefyd, a ydych chi'n cytuno bod goruchafiaeth y pedwar cwmni adeiladu mawr yn gweithio yn erbyn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, mewn gwirionedd?
Diolch ichi am y cwestiynau hynny a byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i ddod i gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ac edrychaf ymlaen at gytuno ar ddyddiad gyda chi yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod eich angerdd dros fentrau bach a chanolig a hefyd y gydnabyddiaeth sydd gennych o'r ffaith y gallan nhw chwarae mwy o ran wrth adeiladu tai yn Nghymru yn dderbyniol iawn. Byddwch chi'n falch o glywed bod gennym ni ein cronfa datblygu eiddo Cymru ac mae'r gronfa honno yn benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig i gael cyllid, oherwydd, yn aml, mae angen gwario llawer o arian ymlaen llaw ar yr holl gynllunio amrywiol ac ati sy'n ofynnol—felly, llawer o arian i'w wario ymlaen llaw ac, yn aml, nid ydynt yn gallu cael hwnnw o'r ffynonellau arferol. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gallu camu i mewn yn y fan hon a chynnig cyllid i gael y mentrau bach a chanolig hynny'n adeiladu unwaith eto. Rwy'n falch iawn o fod wedi cynyddu'r arian a oedd ar gael ar gyfer hynny yn flaenorol. Rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynllun sylweddol i gefnogi busnesau bach a chanolig a chynyddu adeiladu cartrefi cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at wneud cyhoeddiad arall ar hynny. Felly, dyna damaid i aros pryd yn y Siambr heddiw.
O ran Cymorth i Brynu, neu o ran swyddogaeth y datblygwyr mawr, rwy'n credu mai un o'r pethau sydd o'n plaid ni yw'r ffaith bod Cymorth i Brynu yn gymaint o fendith i'r rhan benodol honno o'r diwydiant, ac maen nhw dibynnu yn fawr iawn, yn fy marn i, ar Cymorth i Brynu. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn gofyn mwy drwy Cymorth i Brynu, er enghraifft y gwaith a wnaed gennym i ofyn am osod systemau chwistrellu mewn cartrefi newydd. Cafwyd rhywfaint o wrthwynebiad i hynny ar y dechrau, ond, mewn gwirionedd, oherwydd bod gennym ni berthynas waith gref bellach drwy ein bwrdd ymgysylltu ag adeiladwyr cartrefi, rwy'n credu bod cyfleoedd i ddechrau edrych ar y Cymorth i Brynu nesaf i weld beth ddylem ni fod yn gofyn amdano yn y fan honno yn y dyfodol. Bydd hwn yn dod i ben ar ddiwedd y Cynulliad hwn, ac mae'n bwysig inni ddechrau meddwl am yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Hefyd, mae angen cynnal trafodaethau gyda'r Llywodraeth ar draws y ffin i ddeall beth yw eu cynllun nhw ar gyfer Cymorth i Brynu, er mwyn i ni allu cael dealltwriaeth o'r cyllid sydd ar gael i ni, ond hefyd, gynnal trafodaethau, mewn gwirionedd, ar gyd-destun yr heriau sy'n ein hwynebu gyda newid yn yr hinsawdd a'n hawydd i symud tuag at economi ddi-garbon ac ati.
Felly, rwy'n credu bod yna gyfle i weithio'n agos ac yn adeiladol â'r holl gwmnïau adeiladu mawr, fel y gwnaethom pan oedd gennym y cytundeb gyda nhw i beidio â gwerthu unrhyw dai newydd fel lesddeiliadaeth, er enghraifft. Rwy'n credu bod yna gyfleoedd i weithio'n gadarnhaol, gan hefyd geisio sicrhau ein bod yn cael yr uchafswm am ein harian o ran y buddsoddiad a wnawn.
Fel rydych wedi dweud eisoes, Gweinidog, rwy'n credu bod angen i ni ddeall y sefyllfaoedd penodol ledled Cymru os ydym i wneud y cynnydd sy'n angenrheidiol er mwyn ateb y galw am gartrefi yn ein gwlad. Yng Nghasnewydd, mae'n amlwg bod y pwysau hwnnw am gartrefi newydd yn sylweddol iawn. Ers mis Gorffennaf y llynedd, pan wnaed y cyhoeddiad y byddai'r tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu ddiwedd y flwyddyn hon, bu cynnydd o 5 y cant yn y chwartel isaf o brisiau tai, hyd at fis Chwefror eleni, a 3 y cant yw'r cyfartaledd. Rwy'n credu bod y 5 y cant yn arbennig o anodd, gan mai'r tai rhatach hynny yw'r mwyaf fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf, a dyna lle mae'r cynnydd mwyaf mewn pris yn digwydd. Mae pawb, rwy'n credu, yn disgwyl i'r tueddiadau hyn gyflymu wrth inni agosáu at ddiddymu'r tollau ac, yn wir, pan fyddant yn dod i ben. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru yn fawr iawn i gydnabod y sefyllfa honno a gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y datblygwyr ac eraill i ymateb i'r her arbennig honno.
Rwy'n siŵr y gwyddoch chi, Gweinidog, yn sicr mae llawer o waith yn digwydd yng Nghasnewydd gan gyngor y ddinas, y cymdeithasau tai a datblygwyr. Darparwyd chwe chant o unedau tai fforddiadwy rhwng 2013 a 2017, ac mae rhaglen barhaus dros y pum mlynedd nesaf. Fel y dywedodd Hefin David, mae'r cwmnïau mawr yn dweud bod hyfywedd yn broblem o ran bodloni'r cyfrannau tai fforddiadwy a ddisgwylir. Mae'r pŵer sydd ganddyn nhw yn broblem wirioneddol yn hynny o beth, a hoffem ni weld camau i fynd i'r afael â hynny.
Mae Cymorth i Brynu wedi bod yn arbennig o arwyddocaol yng Nghasnewydd ac, yn wir, ers 2014, prynwyd 1,248 o gartrefi gyda chymorth y cynllun hwnnw, ac mae hynny bron yn un rhan o bump o gyfanswm Cymru. Felly mae'n amlwg ei fod yn arbennig o arwyddocaol. Byddwn yn gofyn ichi ystyried sut y bydd y cynllun hwnnw'n cael ei ddatblygu yn y dyfodol o ran yr heriau penodol i Gasnewydd a sut mae wedi helpu i ateb y problemau penodol hynny.
A gaf i orffen, Gweinidog, drwy ddweud, o ystyried yr holl heriau hynny, oes, mae gan Cymorth i Brynu swyddogaeth fawr, ac mae tai fforddiadwy yn rhan o gynlluniau mawr a phroblemau hyfywedd yn sylweddol iawn. Ond byddwn yn cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd gan eraill—bod angen inni fod yn arloesol y tu hwnt i hynny. Yn wir, mae gan hunanadeiladu hanes arwyddocaol yng Nghasnewydd mewn lleoedd fel Llanfaches a Phen-hŵ yn fy etholaeth i, er enghraifft, ac mae diddordeb gwirioneddol mewn hunanadeiladu. Felly, nid ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig y mae hyn, fel, yn wir, y dywedasoch chi'n gynharach; yn amlwg, mae'n berthnasol mewn ardaloedd trefol hefyd.
Mae gennym ni lawer o eiddo gwag. Tybed a oes modd gwneud rhywbeth i orfodi'r eiddo gwag hynny i gael eu hailddefnyddio, yn amodol ar y lefel briodol o gymorth i alluogi hynny. Serch hynny, os nad achubir ar y cyfle hwnnw, beth y gellid ei wneud i orfodi defnydd adeiladol o'r eiddo hynny?
Ac yn olaf, y cynlluniau cydweithredol. Rydym ni wedi cael enghraifft ddiweddar yng Nghasnewydd o gynlluniau cydweithredol yn chwarae rhan ddiddorol wrth ateb y galw. Ond tybed a oes modd ichi ystyried edrych ar ehangu hynny eto, yn y ffordd y sonioch amdani yn gynharach, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar waith yng Nghasnewydd.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Rwy'n cydnabod bod y cynlluniau i gael gwared ar y tollau ar gyfer ail bont Hafren yn cael effaith ar y farchnad yng Nghasnewydd. Rwy'n cydnabod hynny ac mae'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o hynny.
Dyna pam yr oeddwn i mor falch o gael mynd yr wythnos hon i lansiad gweledigaeth Melin Homes ar gyfer Casnewydd a rhannau o Sir Fynwy am y pum mlynedd nesaf. Maent yn bwriadu adeiladu 1,000 o gartrefi newydd, ond hefyd, wrth wneud hynny, maent yn ceisio cadw cymaint ag y gallant o'r gwerth o fewn y gymuned, a dyna pam y maen nhw'n canolbwyntio llawer ar y gwaith a wnânt o ran cyflogaeth a phrentisiaethau. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â rhai o'u prentisiaid, a deallaf fod manteision a chyfleoedd iddyn nhw o ganlyniad i'r buddsoddiad y mae Cartrefi Melin yn ei wneud. Ac mae hwn yn gyfle imi longyfarch Melin Homes ar gyrraedd rhif 17 yn rhestr The Sunday Times o'r sefydliadau nid-er-elw gorau i weithio iddyn nhw. Yn sicr, drwy siarad â'r prentisiaid hynny y cefais i'r teimlad cryf eu bod nhw o'r farn bod rhywrai mewn gwirionedd yn buddsoddi ynddynt a'u bod yn gweithio mewn sefydliad sy'n eu gwerthfawrogi nhw fel rhan o'r diwylliant hwnnw. Ac mae'r sefydliad hefyd yn canolbwyntio'n gryf iawn ar annog y menywod sy'n gweithio yno, ac maent yn gobeithio hyrwyddo neu ddenu menywod i ymgymryd â llawer mwy o'u swyddi cynnal a chadw, gan felly symud y menywod a rhoi cyfleoedd iddyn nhw mewn meysydd sydd heb fod ar gael iddynt bob amser. Felly, mae hynny'n sicr yn gadarnhaol iawn, ac edrychaf ymlaen at weld y 1,000 o gartrefi hynny yn dod i ardal Casnewydd.
O ran cwmnïau cydweithredol, credaf hefyd fod cyfleoedd i fentrau cydweithredol yn y dyfodol, wrth inni edrych ar ble i fynd y tu hwnt i lesddaliad. Oherwydd mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, ac ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad am hyn yn gynharach heddiw. Ond mewn gwirionedd, credaf y gallem ni fod yn edrych ar fodelau cydweithredol ar gyfer cynnal blociau neu hyd yn oed ystadau ac ati yn y dyfodol. Felly, credaf fod digon o botensial i fentrau cydweithredol ddod yn fwy amlwg o ran sut rydym yn darparu tai a'r gwasanaethau cysylltiedig hynny yng Nghymru hefyd.
O ran eiddo gwag, amlinellais yn fy ateb i Bethan Jenkins rai o'r cynlluniau sydd gennym. Ond credaf fod yna fater hefyd, yr wyf wedi gofyn am gyngor gan swyddogion arno, mewn trafodaeth â swyddogion o adran Ken Skates, ynghylch prynu gorfodol. Yn aml mae'n wir, nid yn unig ar gyfer tai ond hefyd o ran adfywio'r stryd fawr, nad oes modd dod o hyd i berchnogion, mewn llawer o achosion, neu maen nhw'n amharod i ollwng gafael ar eiddo sydd yn profi i fod yn bla ar y stryd fawr neu nad yw'n cael ei ddefnyddio at ddiben cymdeithasol da. Felly, credaf, eto, fod hwn yn faes y gallem ni fod yn mynd i'r afael ag ef, gan weithio ar draws y Llywodraeth.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar sgiliau digidol a chodio. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr. Thank you. Rhan hanfodol o'n cenhadaeth genedlaethol, Llywydd, yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael y sgiliau digidol lefel uchel sy'n golygu bod ein pobl ifanc yn ddigidol gymwys i fod yn feddylwyr beirniadol, creadigol a mentrus. Gwn fod hwn yn faes o ddiddordeb i lawer o Aelodau, felly tybiais heddiw y byddai'n ddefnyddiol amlinellu'r cynnydd a wnaed.
Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer addysg yn nodi sut y bydd y system ysgol yn gweithredu'r cwricwlwm newydd, â phwyslais ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, a rhagoriaeth a thegwch wrth wraidd system hunanwella i ysgolion. Roedd y fframwaith cymhwysedd digidol—y DCF—a oedd yn anelu at ymwreiddio sgiliau digidol, ar gael ym mis Medi 2016 fel elfen gyntaf ein cwricwlwm newydd. Bydd cymhwysedd digidol yn ffurfio un o'r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, o fewn y cwricwlwm newydd. Mae hynny, ynddo'i hun, yn arwydd clir o'r pwysigrwydd a roddaf i a Llywodraeth Cymru i'r maes pwysig hwn. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael ar ein llwyfannau dysgu, Hwb a Dysgu Cymru, i helpu ysgolion i weithredu'r DCF, cynllunio eu darpariaeth a datblygu gweledigaeth ddigidol. Mae ysgolion arloesi digidol wrthi ar hyn o bryd yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i weithredu a datblygu deunyddiau a gynhelir ar Hwb.
Er mwyn galluogi ysgolion i gael eu hymgorffori'n llawn yn y DCF, mae consortia rhanbarthol yn gwneud gwaith manwl i gyflunio dysgu proffesiynol digidol â'r safonau proffesiynol newydd, y modelau dysgu proffesiynol cenedlaethol a gofynion cymeradwyo yr academi arweinyddiaeth, i ddatblygu fframwaith dysgu proffesiynol digidol cenedlaethol ar gyfer pob ysgol. Bydd y fframwaith newydd hwn yn cefnogi athrawon ac arweinwyr i ddatblygu profiadau dysgu digidol effeithiol a chynaliadwy ar gyfer disgyblion, ac yn rhoi iddynt yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i weithio mewn cymdeithas fwyfwy digidol. Mae safonau addysgu ac arweinyddiaeth yn ystyried yn fanwl gysyniadau ac ymddygiadau pwysig sy'n berthnasol i ddysgu digidol. Cynhelir gwaith manwl ar ddylunio ar gyfer y we, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn ystod tymor yr haf, cyn y bydd y fframwaith dysgu proffesiynol digidol rhyngweithiol ar gael i bob ysgol yn raddol.
Llywydd, byddwch hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad droeon am bwysigrwydd codio. Fis Mehefin diwethaf, lansiais gynllun 'Cracio'r Cod', ein cynllun i wella sgiliau codio. Gyda chefnogaeth dros £1 miliwn o gyllid, rydym yn gweithio gyda chonsortia, busnesau, partneriaid trydydd sector a phrifysgolion fel bod mwy o ddysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn cyn y cwricwlwm newydd. Hefyd, cefnogir 'Cracio'r Cod' gan nifer o randdeiliaid allweddol, megis Clwb Cod y DU, Sony, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a Technocamps. A dim ond y bore yma, Llywydd, cefais gyfle i ymweld ag ysgol St Philip Evans, yma yn Llanedeyrn yng Nghaerdydd. Mae'n enghraifft wych o sut y mae cymhwysedd digidol a sgiliau codio yn cael eu datblygu gan blant o oedran ifanc iawn. Rwy'n siŵr y gallai rhai o blant y feithrinfa a phlant blwyddyn 1 fod wedi codi cywilydd ar rai ohonom â'u dealltwriaeth a'u gallu i weld pwysigrwydd y sgiliau hyn.
Mae 'Cracio'r Cod' hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o sgiliau codio, yn ogystal â chefnogi ysgolion, ac rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud mewn cyfnod byr o amser. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018, cofrestrodd 473 o glybiau gweithredol â Chlwb Cod y DU, ac mae hynny'n gynnydd o tua 173 clybiau, o'i gymharu â mis Mehefin y flwyddyn flaenorol. Mae llawer mwy o ysgolion yn gweithio gyda Chlwb Cod y DU a'r pedwar consortiwm addysgol rhanbarthol, sydd o bosib heb gofrestru'n ffurfiol â Chlwb Cod y DU eto, gan ei gwneud yn anodd gwybod faint yn union o glybiau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â 'Cracio'r Cod', mae Technocamps—uned cyswllt diwydiannol o adran gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe—wedi derbyn dros £1.2 miliwn o gyllid addysg Llywodraeth Cymru i ddarparu gweithdai codio cyfrifiadurol i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi profiad ymarferol i athrawon a dysgwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau ac offer codio, ac mae'n sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd o leiaf un athro sydd â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda chodio.
Bydd cam nesaf y rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol yn rhoi mwy o ddewis i athrawon o ran yr offer digidol a ddefnyddir ganddynt yn yr ystafell ddosbarth, gyda Google for Education yn cael ei gyflwyno i lwyfan Hwb o dymor y gwanwyn 2018. Gan adeiladu ar yr offer presennol sydd ar gael, gan gynnwys Microsoft Office 365 a Just2easy, gall athrawon ddewis o blith ystod eang o adnoddau, megis Google Classroom, gan hwyluso cydweithredu a rheoli dyfais pwerus ar gyfer Chromebooks.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod blaenoriaethu'r mynediad gan ysgolion at fand eang cyflym iawn yn rhan allweddol o'r cytundeb blaengar a ddaeth â mi i'r Llywodraeth hon. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bob ysgol fynediad at fand eang cyflym iawn, ac mae'n rhaid i'n seilwaith fodloni ein huchelgais. Felly rwyf wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol ar gael i uwchraddio cysylltiadau band eang mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae yna nifer bach o ysgolion lle mae materion ynghylch capasiti band eang yn parhau i fod yn rhwystredig. Mae pob un ond un o archebion yr ysgolion hynny wedi'u cyflwyno i'r darparwyr rhyngrwyd—darparwyr seilwaith—ac rydym yn parhau i weithio gyda phob ysgol i ddod o hyd i atebion.
Ochr yn ochr â hyn, mae cyfres o safonau addysg digidol i helpu ysgolion i gael offer ac adnoddau yn cael ei datblygu. Gan weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, rydym ar hyn o bryd yn cynnal asesiad o 180 o ysgolion i helpu i lunio safonau a deall pa gymorth ac arweiniad fydd eu hangen yn y dyfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw ein gwaith yn dod i ben gyda'r ysgolion. Ar ymweliad diweddar â Choleg Meirion Dwyfor, gwelais â'm llygaid fy hun sut y mae'r coleg yn gweithio gyda phartneriaid allweddol ac ysgolion i annog dysgwyr ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni codio. Soniodd y myfyrwyr a oedd yn ymwneud â menter clybiau codio'r Coleg am eu llawenydd wrth weithio gydag ysgolion lleol a'r dilyniant o un ymweliad i'r nesaf a brwdfrydedd y dysgwyr wrth gwblhau'r rhaglenni codio, a oedd, yn eu geiriau nhw, bron â bod yn barod ar gyfer y farchnad.
Yn fy llythyr cylch gorchwyl CCAUC blynyddol, a gyhoeddwyd fis diwethaf, soniais fy mod yn disgwyl i'r cyngor a phrifysgolion gynyddu eu hymgysylltiad â diwydiant ac ysgolion i wella'r mynediad at godio ymhellach. Dyna pam yr wyf wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi prifysgolion Cymru i greu Sefydliad Codio. Mae hyn yn cynnwys £200,000 i gefnogi gweithgarwch cenhadaeth ddinesig o godio mentrau mewn ysgolion a cholegau, ac i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a phrifysgolion. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe fod yn aelodau gweithgar o gonsortiwm y DU-gyfan sy'n creu'r Sefydliad Codio. Bydd y sefydliad yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol ar lefelau 6 a 7 ac yn galluogi partneriaid i ddatblygu a darparu addysg arloesol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn llawn a'n bod mewn sefyllfa dda i elwa ar fanteision y sefydliad.
Llywydd, fel yr amlinellais, mae'r Llywodraeth hon yn cymryd nifer o gamau arwyddocaol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar sgiliau digidol lefel uchel. Fodd bynnag, mae'n neilltuol o bwysig bod pob un o'r camau hyn, yn eu tro, yn ffurfio cynllun cydlynol a ddarperir mewn ffordd a fydd yn codi safonau yn yr ystafell ddosbarth, ac yn cefnogi disgyblion i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Diolch.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r newyddion y bydd prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn derbyn cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau. Bydd hyn yn helpu'r prifysgolion hyn i fod yn rhan o Sefydliad Codio'r DU, a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, sy'n bartneriaeth â chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant mewn ymgais i gryfhau sgiliau digidol yn y wlad hon yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi wrth ganmol y fenter hon gan Lywodraeth y DU.
Mae codio yn sgil sydd ei angen ar bob sefydliad. Mae cod wedi dod yn rhan mor annatod o fusnesau, ac o'n bywydau cyfan, fod cod wrth wraidd bron i bob busnes erbyn heddiw. Felly, a gaf i ofyn sut y bydd hi'n sicrhau bod cynlluniau'r Llywodraeth i roi sgiliau digidol arbenigol i Gymru yn cyfateb i faint yr heriau sydd o'n blaenau? Mae'n hanfodol addysgu pobl ifanc sut i lwyddo yn y byd digidol. Gwnaeth yr adroddiad Cymreig o'r enw 'Cracio’r Cod: Cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru' sawl ymrwymiad o dan bob pennawd strategol. Fodd bynnag, mae llawer o'r ymrwymiadau hyn yn amwys, ac nid oes amserlen ar gyfer newid, sy’n ei wneud yn anodd monitro'r cynnydd. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd y cynllun hwn?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu ansawdd a maint y cymorth cyfrwng Cymraeg i ysgolion ar gyfer codio. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi creu parth pwrpasol ar Hwb i ddod â phartneriaid ac ysgolion at ei gilydd i greu ystorfa o brosiectau ac adnoddau? Mae angen ymrwymiad cydlynol a hirdymor arnom ni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Ddigidol, o sgiliau i seilwaith. Mae Estyn wedi codi pryderon nad yw cynnydd sgiliau digidol disgyblion yn cadw'n gyfredol â thechnoleg yng Nghymru. Mae'n adrodd bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau TGCh ar draws y pynciau yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd ac mewn traean o'r ysgolion cynradd. Mewn ychydig o dan ddwy ran o dair o ysgolion cynradd, ceir diffygion mawr yn safonau TGCh. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn hyderus wrth ddefnyddio rhaglenni megis prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau yn aml yn gyfyngedig i ystod gul o raglenni. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn ymdrin â'r ffaith bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio TGCh yng Nghymru wedi gostwng? Hefyd, ceir gwahaniaeth anferth o ran rhywedd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyfrifiadureg ar Safon Uwch. Safodd tri chant tri deg a naw o fyfyrwyr gyfrifiadureg Safon Uwch y llynedd; dim ond 32 o'r rhain oedd yn fenywod. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i fynd i'r afael â'r bwlch syfrdanol hwn rhwng y rhywiau?
Un mater pwysig yw bod ein bywydau digidol yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr yn cael trafferth i gadw'n gyfredol â hyn. Mae sgiliau digidol yn newid yn gynt na darparwyr addysg ffurfiol. Mae'r diwydiant yn datblygu ar y fath gyfradd, ond gall fod deng mlynedd rhwng yr amser o ddechrau llunio cwricwlwm a'i gymeradwyo gan y gwahanol gyrff, i'r adeg y bydd myfyrwyr yn graddio yn y pen draw. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein haddysgwyr yn cadw i fyny â chyflymder y newid?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae lefel gallu digidol unigolyn yn prysur ddod yn ffactor allweddol yn ei allu i sicrhau cyflog da, ac eto mae Cymru'n glytwaith o sgiliau digidol. Mae mynegai datblygu digidol Barclays 2017, sy'n dadansoddi 88,000 o hysbysebion swyddi'r DU, ynghyd â 6,000 o oedolion, yn honni bod gweithwyr Cymru yn sgorio ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol. Gobeithio y byddwn yn derbyn datganiadau'n rheolaidd gennych chi ar y cynnydd a gaiff ei wneud wrth roi Cymru ar frig y gynghrair o sgiliau digidol yn y Deyrnas Unedig. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth ddatblygu sefydliadau ledled y DU. Ni ddylem gau'r drws ar gymryd rhan yn y mentrau hyn, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu ariannu prosiectau prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn llwyddiannus drwy CCAUC. Mae hyn yn datblygu ar eu traddodiad cryf, eu presenoldeb cryf yn y pynciau hyn, a bydd yn caniatáu iddynt gymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu'r Sefydliad Codio. Felly, rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithio drwy CCAUC i ddarparu'r adnoddau hynny.
Gofynnodd yr Aelod am ehangu'r clybiau codio. Rydym ni'n gweld ehangiad sylweddol yn y clybiau codio, ond wrth gwrs mae mwy y byddem ni'n hoffi ei wneud bob amser, ac rydym ni wedi rhoi adnoddau i mewn i hynny. Mae'n bwysig i mi, ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig i Weinidogion eraill hefyd, fod y clybiau codio yn gymysgedd o ddarpariaeth o fewn yr ysgol ar gyfer plant ysgol a'n bod ni hefyd ystyried clybiau codio cymunedol sy'n yn agored i'r boblogaeth fwy cyffredinol. Rydym ni'n cydnabod bod manteision ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, er enghraifft, i gael y gallu i feithrin y sgiliau hyn er mwyn gwella eu cyflogadwyedd.
O ran parthau arbenigol ar Hwb, nid oes angen ichi ddibynnu ar yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi am hyn, Oscar, y cyfan sydd ei angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i Hwb. Gallwch gwglo Hwb heddiw, gallwch glicio ar y parthau a byddwch yn gallu gweld ein bod ni'n llenwi platfform Hwb â chynnwys newydd ac arloesol yn gyson, gan gynnwys gwaith sy'n cefnogi ein rhwydwaith o ragoriaeth mewn mathemateg a'n rhwydwaith o ragoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a hefyd, yn fwyaf diweddar, ein parth newydd ar Hwb, sydd â'r nod o gefnogi lledaenu arfer da o ran y cyfnod sylfaen.
Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedir yn adroddiad arolygu blynyddol Estyn am ansawdd yr addysgu TGCh mewn ysgolion, ond dylem ni bob amser wahaniaethu rhwng TGCh a chyfrifiadureg bob amser. Nid yw sefyll arholiadau TGCh a sefyll arholiadau cyfrifiadureg yr un peth, a dyna un o'r rhesymau pam yr oedd angen inni roi'r fframwaith cymhwysedd digidol—y rhan gyntaf un o'n cwricwlwm cenedlaethol—ar waith yn gyntaf er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd gan adroddiad arolygu Estyn i'w ddweud.
Mae dau beth allweddol sydd angen i ysgolion eu gwneud yn hyn o beth. Mae angen iddynt allu edrych yn greadigol ar sut y gallan nhw ddefnyddio technoleg ddigidol mewn dosbarth annibynnol, Oscar, ond hefyd mewn gwirionedd mewn modd cydlynol drwy'r cwricwlwm cyfan. Nid oes gan yr ysgol yr es i iddi y bore yma ystafell gyfrifiaduron y mae plant yn mynd iddi am gyfnod o 15 munud. Mae cyfrifiaduron a thechnoleg ddigidol yn rhan annatod o sut y caiff y cwricwlwm cyfan ei gyflwyno, ym mhob gwers ac ym mhob un rhan o'r diwrnod ysgol, ac mae angen inni sicrhau bod yr hyn a welais y bore yma yn ysgol Sant Philip Evans yn cael ei ail-greu ledled Cymru.
Un o'r rhesymau allweddol pam nad yw hyn yn digwydd weithiau, yn enwedig mewn pynciau y tu allan i TGCh a chyfrifiadureg, yw cymhwysedd yr athrawon eu hunain a hyder yr athrawon, yn enwedig os yw'r athrawon hynny wedi gwneud eu hyfforddiant athrawon cychwynnol a'u hymarfer proffesiynol cyn i'r technolegau hyn fod ar gael yn rhwydd. Dyna pam yr wyf i wedi treulio llawer o amser yn fy natganiad yn sôn am ddatblygu safonau proffesiynol cenedlaethol a phecyn dysgu proffesiynol i gefnogi'r athrawon hynny, oherwydd bod angen iddynt fod â'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol. Ac fe ddywedwn i wrth bob ysgol fod offeryn ar gael ar Hwb lle y gallwch chi roi prawf ar y gallu a geir yn eich ysgol chi, fel y mae ar hyn o bryd, a dechrau cynllunio'r hyn y bydd angen i chi ei wneud i wella eich darpariaeth.
Gwnaethoch chi sôn hefyd am fenywod yn y materion hyn. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod arweinydd y tŷ, yn rhan o'i gwaith ar gydraddoldeb, ac ar y cyd â minnau ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn gweithio'n agos gyda grŵp sy'n goruchwylio'r gweithredu ar yr adroddiad menywod mewn pynciau STEM. Rydym ni'n cydnabod bod mwy i'w wneud i sicrhau bod merched a menywod yn gweld bod yna le iddyn nhw i ddilyn y pynciau hyn yn yr ysgol ac, yn hanfodol, i ddilyn gyrfa gan ddefnyddio'r sgiliau hynny y maen nhw wedi'u caffael yn yr ystafell ddosbarth. Byddwn ni'n parhau i weithio gydag asiantaethau allanol ac unigolion i fynd i'r afael â'r materion hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o ferched yn manteisio ar y cyfleoedd hyn a'r cyfleoedd gyrfa a ddaw yn sgil astudio'r pynciau hyn.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei datganiad a chroesawu’r hyn yr oedd ganddi hi i ddweud? Mae Plaid Cymru, ers cryn amser, wedi cefnogi gwneud mwy i ddysgu disgyblion i greu yn ogystal â defnyddio adnoddau digidol fel hyn, ac felly rŷm ni’n sicr yn symud i’r cyfeiriad iawn. Mor bwysig ag yw cael fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod, nid yw hynny yn ei hunain yn ddigon. Yr her fwyaf fan hyn yw grymuso athrawon ar y rheng flaen i allu gweithredu’r fframwaith hwnnw’n effeithiol. Felly, mae datblygiad proffesiynol parhaus a rôl hyfforddiant cychwynnol athrawon yn y maes yma’n gwbl, gwbl allweddol.
Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at y sylwadau y mae Estyn wedi’u gwneud. Wel, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd wedi datgan, yn ein hymchwiliad ar addysg ac addysgu proffesiynol athrawon, nad yw’r gweithlu addysg yn barod ar hyn o bryd ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd. Ac o safbwynt y fframwaith cymhwysedd digidol yn benodol, mae’r pwyllgor wedi dweud ei bod hi’n bryder mawr, gan fod canlyniadau arolwg gan y pwyllgor wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth neu wybodaeth ymysg athrawon sy’n ymwneud â’r newidiadau sydd i ddod yn y cyd-destun yma. Rŷch chi eisoes wedi cyfeirio, wrth gwrs, at Estyn yn sôn nad oes gan yr athrawon y wybodaeth na’r hyder sydd eu hangen i fedru gweithredu hwn i’w llawn botensial. A bach iawn, iawn o ysgolion, er enghraifft, hyd y gwelaf i, sydd wedi gwneud awdit o gymhwysedd digidol eu staff, neu’n sicr mae hynny’n rhywbeth yr oedd Estyn yn tynnu sylw ato fe.
Rŷch chi’n sôn am phased approach i’r digital professional learning framework, ac rŷch chi wedi sôn am y safonau ac yn y blaen. A allwch chi roi amserlen fwy penodol i ni? Os oes phased approach yn mynd i fod, erbyn pryd ŷch chi’n disgwyl y bydd pawb wedi cyrraedd y lefel angenrheidiol o safbwynt cael y gallu i ddelifro hwn yn effeithiol?
Rŷch chi wedi cyhoeddi adnoddau ychwanegol heddiw ac mae hynny, wrth gwrs, i’w groesawu, yn enwedig ar ôl beirniadaeth ynghylch y datganiad y gwnaethoch chi rai misoedd yn ôl gan Aelodau mainc cefn y Llywodraeth. Mae’n bosibl bod hynny’n dal i ganu yn eich clustiau achos roeddech chi’n troi at yr Aelod a wnaeth y cerydd yna pan ateboch chi’r cwestiynau blaenorol. Yr oedd un cerydd a wnaethpwyd bryd hynny yng nghyd-destun Minecraft for education. Yr oedd sôn am 10 ysgol—yn y datganiad blaenorol—yn ymwneud â hynny, allan o 1,600 o ysgolion, a dywedwyd nad oedd hyn yn ddigon da. Wel, mae’n dda gweld, yn y datganiad yma, beth bynnag, fod mwy o ysgolion yn ymwneud â Code Club UK. Rwy’n credu bod hynny’n bositif. Mae’r ffigwr rŷch chi wedi’i roi yn dweud un stori wrthym ni, wrth gwrs. Nid wyf i'n gwybod os oes gennych chi wybodaeth ynglŷn â spread daearyddol rhai o’r ysgolion yna. Nid wyf i'n disgwyl i chi ateb, efallai, yn y Siambr, ond byddai cael y math yna o wybodaeth yn fuddiol, oherwydd yn aml iawn mae'n dibynnu ar unigolyn o fewn consortiwm neu sir i fod yn gyrru'r agenda yma weithiau, ac mi fyddwn i yn cael cysur o wybod bod y twf yna'n digwydd ar draws Cymru ac efallai ddim o reidrwydd wedi'i ganoli dim ond mewn rhai ardaloedd.
Mae'r £1.2 miliwn ychwanegol yma rŷch chi wedi cyfeirio ato fe yn eich datganiad i'w groesawu, fel roeddwn i'n dweud. Nid yw'n glir i mi a ydy hynny ar gyfer eleni neu o nawr tan ddiwedd y Cynulliad yma. A ydy e'n ymrwymiad blynyddol, neu a oes yna ymrwymiad hirdymor y tu hwnt i hynny? Oherwydd mae angen sicrwydd ariannu tymor hir yn aml iawn i fedru gwreiddio y diwylliant newydd yma o weithredu i mewn i'r gyfundrefn. Felly, byddai gwell eglurder yn rhywbeth y byddwn i'n ei groesawu. A thra bod hynny wrth gwrs yn gadarnhaol o safbwynt prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, a ydy hi'n fwriad i edrych i ddatblygu hyn mewn sefydliadau eraill? Rydw i'n meddwl am Fangor a Glyndŵr yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, oherwydd rydym ni'n awyddus i ddatblygu’r arbenigeddau a'r modd i hyfforddi fel hyn ym mhob rhan o Gymru, buaswn i'n tybio, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle.
Ni allaf adael i unrhyw ddatganiad sy'n cyfeirio at Hwb fynd heibio heb gyfeirio at eich penderfyniad chi i beidio â pharhau â Hwb+. Rŷm ni wedi cael sawl exchange ar hynny yn y gorffennol, ac rwy'n derbyn bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, ond mi fyddwn i yn pwyntio at y ffaith bod Larry Nelson, rheolwr-gyfarwyddwr byd-eang partneriaid addysg Microsoft Corporation, wedi disgrifio platfform Hwb+ fel un sy'n arwain y byd ac fel, ac rwy'n dyfynnu,
arddangosfa fyd-eang ac yn enghraifft o sut y gall technoleg gefnogi newid mewn arfer addysgol.
Ac fe wnaeth gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hunan wrth gwrs ddod i'r casgliad, ac rydw i'n dyfynnu eto:
byddai rhoi'r gorau i'r prosiect yn siomi ac yn dieithrio athrawon sy'n frwd dros annog mwy o ddefnydd o ddysgu digidol, ac sydd wedi buddsoddi cryn amser ac ymdrech i sefydlu safleoedd ysgol Hwb+ a'u hyrwyddo i gydweithwyr yn eu hysgol.
Felly, nid wy'n mynd i ofyn am y penderfyniad, yr hyn rydw i'n mynd i ofyn yw: sut allwn ni felly fod yn hyderus na fydd y brwdfrydedd y mae gwerthusiad y Llywodraeth yma'n cyfeirio ato fe ddim yn cael ei danseilio gan y penderfyniad i beidio â pharhau â Hwb+?
Ni wnaethoch chi ymateb i'r cwestiwn blaenorol ynglŷn â darpariaeth adnoddau cyfrwng Cymraeg, oherwydd un o'r rhwystrau a nodwyd yn 'Cracio'r cod' yw'r diffyg yn lefelau darpariaeth arbenigwyr, hwyluswyr ac adnoddau Cymraeg i ysgolion yn y maes yma. Mae e yn broblem mewn meysydd eraill, ac mae'n rhywbeth mae'r pwyllgor addysg yn edrych arno fe fory mewn sesiwn graffu arbennig. Fe fyddwn i'n falch i glywed ac i gael sicrwydd gennych chi y bydd gan ysgolion fynediad i'r adnoddau angenrheidiol sydd eu hangen i ddarparu sgiliau digidol a chodio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac yn olaf, mi oeddech chi'n dweud, os wnes i ddeall yn iawn, oherwydd fe wnaethoch chi ychwanegu rhywbeth ar lafar nad oedd yn ysgrifenedig, fod pob ysgol ond un bellach â phroblemau cael mynediad i fand llydan neu yn y broses o gael rhyw ddatrysiad wedi'i roi yn ei le. Fe fyddai diddordeb gyda fi i wybod pa un yw'r ysgol sydd ar ôl. Diolch.
Diolch, Llŷr. O ran cais grant llwyddiannus prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, mater i CCAUC fydd penderfynu pa brifysgolion a gaiff eu hariannu. Anfonodd y ddwy brifysgol hynny gais yr ystyriwyd ei fod yn deilwng o'r cyllid hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd CCAUC a sefydliadau unigol sy'n dymuno cymryd rhan yn y gwaith hwn yn parhau i gynnal y sgyrsiau hynny. Yr hyn yr wyf i'n falch iawn ohono yw y bydd sefydliadau yng Nghymru yn rhan o'r corff newydd hwn. Ni ddylem ni ynysu ein hunain rhag datblygiadau yn y DU, ac mae angen i brifysgolion Cymru fynnu lle wrth y bwrdd, yn enwedig pan fod ganddynt gymaint o gryfderau yn y meysydd hyn ac adran ragorol, er enghraifft, yr adran sydd gan Abertawe. Byddai'n ofnadwy meddwl nad oeddem ni'n rhan o'r bwrdd oherwydd diffyg adnoddau. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud rhywbeth am hynny.
Byddwn i'n cynnig yr un cyngor i chi ag y cynigiais i—. Llŷr, nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am yr ehangu sydd wedi bod yn y clybiau codio—os ewch ati i chwilio am wefan Code Club UK, mae ganddyn nhw fap sy'n dangos ymhle yn union y mae pob clwb codio sydd wedi'i gofrestru â nhw wedi'i leoli ar hyn o bryd. Mae'r clybiau'n cael eu datblygu drwy'r amser, ac felly weithiau mae'r pethau hyn yn gallu cymryd ychydig bach o amser—mae yna oedi—ond rwyf newydd edrych ar fy nghlwb mwyaf diweddar, a gynhelir yn Llyfrgell Aberhonddu ar fore Sadwrn, ac rwy’n falch o weld bod hwnnw wedi'i restru yno. Felly, ar bob cyfrif, cyfeiriwch at y wefan. Yr hyn a welwch chi yw bod yna glybiau codio ym mhob cwr o Gymru—mewn ardaloedd trefol, ardaloedd gwledig—ond, wrth gwrs, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser oherwydd mae ein pobl ifanc ni ym mhobman, a dylem ni fod yn ceisio gwneud hyn a allwn ni i annog gwirfoddolwyr i allu darparu'r cyfleoedd hynny i bobl ifanc.
Y rheswm pam yr edrychais ar Lee Waters oedd oherwydd bod Lee a minnau yn parhau i gael y trafodaethau hyn oherwydd nad yw ef yn gadael llonydd i bethau—nid yw'n cael ei bum munud o ogoniant yn y Siambr ac wedyn yn anghofio am rywbeth. Rwy'n siŵr nad oes neb yn gwneud hynny, mewn gwirionedd; rwy'n siŵr nad oes unrhyw Aelod yn codi ar ei draed ac yn dweud rhywbeth yn y Siambr ac yna'n anghofio amdano unwaith y mae wedi gadael ac wedi cael ei ddau funud ar gyfer ei ddatganiad i'r wasg. Mae Lee, mewn gwirionedd, yn parhau i'm trafferthu yn rheolaidd ynghylch y mater hwn y tu allan i sylw'r Siambr, ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau.
Mae'n amlwg i mi fod gennym ni gryn ffordd i fynd i sicrhau bod gwir ysbryd y fframwaith cymhwysedd digidol wedi ymwreiddio drwy ein holl gwricwlwm. Mae yna nifer o bethau y mae angen inni eu gwneud ynghylch hynny. Mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn gwybod lle maen nhw ar hyn o bryd, a dyna pam y byddwn yn annog pob ysgol i ddefnyddio offeryn mapio'r fframwaith cymhwysedd digidol sydd ar gael ar Hwb, a'r offeryn anghenion dysgu proffesiynol, a fydd yn helpu ysgolion i gynllunio eu darpariaeth a datblygu gweledigaeth ddigidol.
Rwy'n parhau i drafod gyda'r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol er mwyn cael cyngor ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r adnoddau hyn a bod ysgolion mewn difrif yn meddwl am, ac yn cynllunio ar gyfer anghenion y fframwaith cymhwysedd digidol. Ond yn hollbwysig, mae dysgu proffesiynol yn rhan allweddol o hynny, a dyna pam, er enghraifft, ein bod yn parhau ar hyn o bryd i ddefnyddio ein grant datblygu proffesiynol parhaus sy'n rhan o'r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, sydd yng ngham 2. Mae'r arian hwnnw yn parhau i fod ar gael drwy'r consortia rhanbarthol. Mae'n rhoi pwyslais ar amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cymorth ar gyfer staff mewn ysgolion i ddatblygu eu hyder a'u hyfedredd wrth ddefnyddio ystod o adnoddau digidol ac offer drwy'r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Mae'n rhoi'r modd i roi cymorth arbenigol i arweinwyr digidol, sy'n cydlynu gwaith mewn ysgolion gyda'r consortia rhanbarthol. Mae'n hybu dinasyddiaeth ddigidol o ran defnyddio technoleg yn ddiogel a chyfrifol—mae hynny'n rhywbeth nad yw wedi ei drafod hyd yma yn y Siambr, ond mae mewn gwirionedd yn rhan bwysig o'r fframwaith cymhwysedd digidol: mae nid yn unig yn rhoi'r sgiliau i bobl ifanc ond ynglŷn â gwybod sut i ddefnyddio'r rheini yn gyfrifol ac i gadw'u hunain yn ddiogel pan fo nhw ar-lein. Felly, mae'r grant hwnnw ar gael i'r consortia, a'i brif bwyslais yw datblygu sgiliau, cymhwysedd a hyder.
O ran Hwb+, mae'r penderfyniad hwn wedi'i groesawu gan y rhai y tu allan i'r Llywodraeth sydd yn wybodus yn y maes hwn, sy'n darparu cyngor yn y maes hwn, ac mae'n seiliedig ar ddealltwriaeth sy'n gyson ddatblygu o ba adnoddau sy'n gweithio orau mewn ysgolion, ac mae'n adlewyrchu adborth. Nid yw hynny'n dweud y bu popeth yn Hwb+ yn ddrwg—nid wyf yn dweud hynny—ond mae'r contract wedi dod i ben, a dyna pryd yr oedd y contract i fod i ddod i ben. Mae'n rhoi cyfle i'r Llywodraeth a Gweinidogion fyfyrio ynghylch y ffordd orau ymlaen. Rydym ni wedi penderfynu nad y cyfrwng hwnnw yw'r cyfrwng gorau posib sydd ei angen arnom ni, yn y dyfodol, i helpu athrawon. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynghylch yr hyn y mae angen i ysgolion ei wneud i symud eu data, ac rydym ni wedi rhoi cymorth i ysgolion yn hynny o beth.
Mae'n rhaid imi ddweud, Llyr, yr adborth a gafodd fy swyddogion yw nad yw'r ysgolion eu hunain wedi codi unrhyw gwestiynau gyda ni, neu gwyno wrthym ni, am gael gwared ar Hwb+. Yr hyn yr ydym ni yn ei roi iddyn nhw yw mwy o ddewis, a'r gallu gobeithio i ryngweithio'n haws gyda'r cyfrwng i'w helpu i ymgorffori'r cyfleusterau hyn yn eu harferion bob dydd. Fel y dywedais, rydym ni wedi darparu cymorth o bell i helpu ysgolion drosglwyddo eu data, a lle mae ysgolion wedi gwneud cais, rydym ni wedi darparu cymorth personol ar y safle i'r ysgolion hynny a oedd angen y cyfryw gefnogaeth.
Y mater o'r ysgolion—fel gyda'r holl bethau hyn, rydych chi'n credu eich bod wedi datrys y peth, a bod popeth wedi ei wneud. Mae un ysgol—ac mae gennyf yr enw yn rhywle, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda hwnnw—lle na roddwyd archeb, felly, ar gyfer yr holl ysgolion eraill, mae archebion wedi'u gosod gyda'r cyflenwyr, ac mae gwaith wedi'i raglennu i gael ei wneud. Ond mae un ysgol ar ôl, ac rydym ni'n gweithio i edrych i weld sut y gallwn ni roi sylw i'r anghenion hynny.
Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yn gynyddol gydag ysgolion yw nid y seilwaith y tu allan i'r ysgol, ond bellach seilwaith y tu mewn i'r ysgol. Ac rydym ni yn parhau i gael cwynion gan ysgolion sy'n cael trafferth, ond yn aml wrth archwilio hynny, mae a wnelo hynny â'r problemau o fewn yr ysgol. Dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda 180 o ysgolion ar hyn o bryd i weld beth yw'r cyfyngiadau a beth yw'r materion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, fel y gallwn ni ystyried, unwaith yr ydym ni wedi mynd i'r afael â chyflymder y tu allan, beth y gallwn ni ei wneud wedyn i fynd i'r afael â seilwaith o fewn ysgolion i sicrhau ei fod yr hyn y dylai fod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. A gaf i ddweud fy mod i a'm plaid yn ei groesawu'n fawr? Roeddem ni'n arbennig o falch o glywed am gyfranogiad busnesau a'r cyllid ar gyfer prifysgolion Cymru yn eich cynigion, yn ogystal â'ch pwyslais ar flaenoriaethu darpariaeth band eang cyflym iawn yn ysgolion Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynllun 'Cracio'r Cod' wedi codi ymwybyddiaeth o godio mewn ysgolion ac, yn benodol, sylwaf fod 473 bellach, efallai hyd yn oed mwy, o glybiau gweithredol cofrestredig gyda Chlwb Cod y DU, sy'n amlwg yn dangos cynnydd sylweddol o ran cymell plant i ymwneud â chodio. A gawn ni eich llongyfarch am y llwyddiant hwnnw?
Mae yna rai agweddau ynglŷn â manylion y datganiad yr hoffwn i eu crybwyll yn gryno. Yn gyntaf, ac rwy'n credu y soniodd Mohammad Asghar yn fras am hyn yn ei sylwadau, bydd addysgwyr, cwmnïau a phrifysgolion o hyd fydd yn dymuno gwerthu neu dderbyn cyllid gan y Llywodraeth i ddysgu sgiliau codio a chyfrifiadur. Wedi'r cyfan, dyna fu'r achos ers y 30 neu 40 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae natur cyfrifiaduron, meddalwedd a chodau yn newid yn gyflym oherwydd mae technoleg a'r cyflymder datblygiad technoleg o'r fath yn debygol o gyflymu yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'n bwysig bod y rhaglenni addysg y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cynnig nid yn unig yn rhaglenni sydd ar flaen y gad o ran technoleg ar hyn o bryd, ond eu bod yn rhaglenni addysg hirhoedlog sy'n datblygu sgiliau cyfrifiadureg a chodio trosglwyddadwy y gall myfyrwyr eu defnyddio am flynyddoedd lawer yn y dyfodol. Mae'n rhaid imi ddweud bod pethau'n argoeli'n addawol yn hyn o beth o ystyried amlinelliad eithaf manwl Ysgrifennydd y Cabinet o gynnwys rhanddeiliaid megis Sony a chynnwys prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
A gaf i drafod dim ond yn fyr y pwnc o'r hyn y mae darn o god cyfrifiadur, meddalwedd neu dechnoleg yn seiliedig arno? Pam fod y feddalwedd yn cynhyrchu'r hyn yr ydym ni'n ei weld? Pam ei fod yn gwneud yr hyn y mae'n ei wneud? Beth sy'n gwneud iddo wneud yr hyn y mae'n ei wneud? Bydd rhai dysgwyr deallusol chwilfrydig ar y rhaglenni y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cynnig a fydd yn gofyn y mathau hyn o gwestiynau yn union. Mae swm anferth o theori academaidd sy'n sail i god meddalwedd, fel y gwyddoch chi'n amlwg. Mae peth o'r ddamcaniaeth honno yn perthyn i faes mathemateg, mathemateg pur yn aml, ac, wrth gwrs, systemau gwahanol o resymeg. Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud bod addysgu rhesymeg yn tueddu i gael ei gategoreiddio braidd yn niwlog yn ein prifysgolion. Weithiau, mae'n rhan o'r adran fathemateg, ond, lawer o'r amser, mae'n rhan o'r adran athroniaeth. Nid yw'r ffigurau ar gyfer athroniaeth ym mhrifysgolion Cymru mor gadarnhaol ag y gallent fod. Mewn gwirionedd, caewyd yr adran athroniaeth a oedd yn Aberystwyth yn y 1980au a'r 1990au ar ddiwedd y degawd. Felly, nid yw adran Prifysgol Caerdydd ymhlith yr adran fwyaf o'r math hwn yn y DU, er ei bod yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru.
Felly, a gaf i gloi drwy ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet onid yw hi'n gweld cyfle enfawr i ddefnyddio ei rhaglenni codio yn gyfrwng i ddatblygu chwilfrydedd deallusol myfyrwyr Cymru i ystyried cyrsiau prifysgol mwy traddodiadol megis rhesymeg, athroniaeth a mathemateg pur? A all hi ymhellach weld cyfle ar gyfer ehangu'r pynciau mwy traddodiadol hyn ym mhrifysgolion Cymru, gan ddefnyddio'r rhaglenni y mae hi yn manylu arnynt yn gyfrwng?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei groeso i'r datganiad a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn. Mae'n codi cwestiwn diddorol am y cwricwlwm ym mhrifysgolion Cymru. Beth y dylwn i ei ddweud wrtho yw bod hyd yn oed yr arlliw lleiaf o ymyrraeth y Llywodraeth yn annibyniaeth ein sefydliadau academaidd yn rhywbeth rwy'n dymuno ei osgoi. Mae'r cwricwlwm a chynnig pob prifysgol unigol mewn gwirionedd yn fater iddyn nhw, ond, fel chi, rwy'n falch, ym mhrifysgolion Cymru, bod gennym ni draddodiad cryf mewn llawer o bynciau, gan gynnwys mathemateg. Mae gwyddoniaeth gyfrifiadurol, fel y dywedais, yn arbennig o gryf yn Abertawe. Caiff tabl ei gyhoeddi ynglŷn â beth sy'n digwydd i bobl pan maen nhw wedi gwneud gradd benodol, a beth yw eu hanes wedyn. Mae cyfrifiadureg yn Abertawe yn gwneud yn arbennig o dda yn dod o hyd i rai swyddi bras iawn i'w graddedigion dim ond ychydig fisoedd ar ôl iddyn nhw raddio. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y mae'r myfyrwyr sy'n dewis y cwrs hwnnw yn ei wneud yn dda iawn. Ond mewn gwirionedd mae'n fater i'r prifysgolion. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw manteisio, yn y prifysgolion, ar yr arbenigedd sydd ganddyn nhw yn eu hadrannau, ar draws eu cwricwlwm, a gallu defnyddio eu harbenigedd i'n helpu i adeiladu gallu yn ein system ysgolion, a oedd yn un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n buddsoddi, fel yr ydym ni, drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn y prifysgolion hyn, ac fel yr ydym ni wedi gwneud o'r blaen gyda Technocamps, oherwydd rydym ni'n cydnabod bod hon yn ymdrech ar y cyd—ysgolion unigol, y sector preifat a mentrau, yn ogystal â'n prifysgolion. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gynnig rhywbeth gwirioneddol wych ar gyfer ein plant.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y gallwn i boeni ychydig yn fwy arnoch chi. Petai chi ond wedi dweud yn eich datganiad yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn y cwestiynau, oherwydd rwy'n credu eich bod yn deall y broblem mewn gwirionedd. Roeddwn yn ddigalon braidd bod y datganiad yn rhoi sglein ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi, ac mae'n ymddangos i mi os oes gennym ni unrhyw obaith o fynd i'r afael â maint y newid y mae angen inni ei gyflawni, mae angen dechrau gyda dadansoddiad onest o'r sefyllfa sydd ohoni. Fe wnaethoch chi ddyfynnu adroddiad Estyn, a ddywedodd, mewn dwy ran o dair o ysgolion cynradd, bod diffygion arwyddocaol yn safonau TGCh a ddylai fod yn ysgytwad inni i gyd. Rwy'n rhwystredig gyda phob adran o ran sut yr ydym ni'n cofleidio technoleg ddigidol. Ond o ran addysg, nid wyf yn credu bod rhestru llwyth o fentrau defnyddiol yr ydym ni'n eu cynnal yn gwneud y tro mewn gwirionedd, o ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu. Rwyf yn wirioneddol synnu ein bod ymhell ar ei hôl hi o ran lle y dylem ni fod.
Fe wnaethoch chi sôn bod yna 473 o glybiau cod. Byddai gennyf ddiddordeb gwybod faint o ddisgyblion sy'n mynychu'r clybiau cod hynny. Byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwybod faint o ddisgyblion prydau ysgol am ddim sy'n mynychu'r clybiau cod hynny. Gadewch inni beidio â thwyllo ein hunain: mae faint o bobl rydym ni'n ymgysylltu â nhw yn ddibwys, o ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, a byddai'n llawer gwell gennyf petai Llywodraeth Cymru wedi dechrau ei datganiad drwy ddweud hynny, a bod yn onest ynghylch y sefyllfa, yn hytrach na cheisio esgus bod popeth yn iawn.
Y canfyddiadau eraill yn adroddiad Estyn yw bod diffyg gwybodaeth a hyder gan athrawon. Fe wnaethoch chi sôn bod offeryn yn bodoli ar Hwb—offeryn mapio ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol—ond o ystyried y ffaith nad yw ysgolion yn archwilio eu cymhwysedd digidol eisoes, maen nhw'n annhebygol o ddechrau defnyddio offeryn mapio ar Hwb. Dywedwyd hefyd yn yr adroddiad Estyn fod diffyg gweledigaeth glir am TGCh gan uwch arweinwyr ysgolion. Mae hynny'n gyhuddiad damniol a dwys o gyflwr ein harweinyddiaeth mewn ysgolion. Os nad oes ganddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth a'r hyder, dydyn nhw ddim yn sydyn iawn yn mynd i ddechrau gwneud hyn. Mae'r eitemau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw beth ffordd yn y dyfodol, ac maen nhw'n mynd i gymryd amser hir i dreiddio drwy ein hysgolion i gyd. Dyna beth ddylai pob un ohonom ni fod yn ei wynebu. Fel mae'n digwydd, rwy'n cytuno â chi ynglŷn â Hwb+. Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd yn anghywir ynglŷn â hynny. Rwy'n credu mai'r adborth yr wyf i'n ei gael gan y proffesiwn oedd bod hwnnw wedi colli ei ffordd a bod angen dull gweithredu newydd.
Ond rwyf yn erfyn arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod yn onest gyda ni ynglŷn â lle'r ydym ni arni mewn gwirionedd, a beth sydd angen newid mewn gwirionedd, a pha mor gyflym ac i ba raddau y mae angen i hynny ddigwydd.
Diolch i chi, Lee. Nid wyf yn osgoi'r ffaith a chanfyddiadau adroddiad Estyn ynghylch beth ddylai ddigwydd yn feunyddiol yn ein hysgolion. Dyna beth sy'n hollol allweddol: beth allwn ni ei wneud wnaiff effeithio ar arfer, oherwydd mae angen inni weld newid sylweddol yn yr ystafell ddosbarth? Mae sut y gallwn ni gael yr arweinyddiaeth o frig yr ysgol i gydnabod pwysigrwydd hyn ac wedyn i gynllunio'n briodol yn allweddol. Rwy'n parhau i drafod gyda'r cyngor dysgu sy'n rhoi cyngor ar y materion hyn beth mwy y gallwn ni ei wneud a beth mwy y gallaf i ei wneud i sicrhau bod pob ysgol yn ymdrin â hynny o ddifrif, yn strategol ac yn gyson, yn hytrach nag unigolion yn gwneud cynnydd.
Mae ein rhwydwaith o ysgolion arloesi hefyd yn gwbl allweddol yn hyn i sicrhau eu bod yn gweithio gydag ysgolion nad ydynt yn rhan o'r rhwydwaith arloesi i weld newid ac arsylwi arferion. Mae'n bwysig iawn inni wneud hynny oherwydd, weithiau, elfen o'r gwrthwynebiad i newid yw, 'does dim posib i hynny weithio yn fy ysgol i. Mae'n hawdd iawn i chi, y doethor hollwybodus, ddweud hynny wrthyf i, ond dewch i fy ystafell ddosbarth i—', ac mewn gwirionedd drwy ddefnyddio'r rhwydwaith arloesi rydym ni'n dangos bod y rhain yn ddulliau sydd wedi eu treialu a'u profi mewn ysgolion a'u bod wedi gweithio ac felly, 'Does dim i atal hyn gael ei drosglwyddo i'ch ysgol eich hun.' Felly, mae'r ysgolion arloesi yn rhan hanfodol o hynny. Byddwn yn parhau drwy gyfrwng arolygiadau Estyn o leoliadau unigol i gadw golwg agos iawn ar sut mae'r ysgolion hynny yn mynd i'r afael â'r anghenion penodol hyn.
Wrth law, nid oes gennyf ffigurau ynglŷn â phlant prydau ysgol am ddim sy'n mynychu clybiau codio. Byddaf yn holi swyddogion i weld a yw'n bosib canfod y data hwnnw. Does arnom ni ddim eisiau i hyn fod yn rhaniad arall rhwng y plant hynny sy'n gallu a'r plant hynny nad ydyn nhw'n gallu. Beth oedd yn ddiddorol iawn gyda'r dull a ddefnyddir yn yr ysgol gynradd yn Llanedeyrn y bore yma yw bod y pennaeth hwnnw yn talu cynorthwywyr addysgu i aros ar ôl ysgol am awr ychwanegol fel gall y plant i gyd, p'un a oes ganddyn nhw fynediad i gyfrifiaduron neu dechnoleg yn y cartref ai peidio, gael yr amser hwnnw i ddefnyddio'r dechnoleg ar gyfer eu gwaith cartref neu i fynd i'r clwb codio. Mae hynny'n ddiddorol iawn. Mae hynny mewn ysgol gyda dros 20 y cant o'r plant ar brydau ysgol am ddim, mewn ardal o statws economaidd gymysg iawn o ran y teuluoedd sy'n mynychu'r ysgol.
Bydd hyn yn parhau i fod yn rhan o'r gwaith yr wyf yn ei wneud, yn dilyn y ddadl a gawsom ni yr wythnos diwethaf, am wir gost addysg uwchradd, a beth yw'r rhwystrau ariannol, fel bod pob plentyn yn gallu profi popeth sydd gan ein system addysg i'w gynnig. Rwy'n benderfynol o roi pwysau ar fy swyddogion yn hyn o beth; hefyd, mae'r cyngor digidol yn barod iawn i roi pwysaf arnaf i o ran sut y gallwn ni ddatblygu hyn i greu'r newid hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano, ac mae'n fwriad gennyf barhau i ddod yn ôl i'r Cynulliad fel y gallwn ni gadw llygad ac y gallwch chi gadw llygad ar ddatblygiadau yn yr achos hwn.
Ond nid wyf yn bychanu'r her o ymgorffori'r fframwaith cymhwysedd digidol i'r fframwaith llythrennedd a rhifedd. Pan fyddwn ni'n meddwl am faint o amser gymerodd hi i ymgorffori'r fframwaith llythrennedd a rhifedd i arferion, ac roeddem ni'n sôn am gysyniadau y byddai pob ysgol yn gyfarwydd â nhw— addysgu llythrennedd a rhifedd—mae hynny'n rhoi darlun inni o'r her o gyflwyno rhywbeth cyson yn ein hystafelloedd dosbarth lle efallai na fu'r profiad hwnnw na'r hanes hwnnw. Ac fe ddylem ni fod yn ymwybodol o hynny, ac rydym ni yn dysgu'r gwersi o'r broses o weithredu'r fframweithiau llythrennedd a rhifedd o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â hyn.
Yn olaf, David Rees.
Diolch Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw, oherwydd, yn amlwg, mae rôl bwysig cyfrifiadura a chymhwysedd digidol o fewn ein gweithrediadau yn y dyfodol yn hollbwysig? Ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed am Estyn. Rydych chi wedi gwneud yr atebion hynny yn gwbl glir hyd yn hyn, ond rwy'n dymuno'ch atgoffa chi, efallai—ac atgoffa pawb—nad yw cymhwysedd digidol a chodio yr un peth. Yn wir, efallai bod codio yn sgil uwch o fewn cymhwysedd digidol, ac mae gennym ni ddwy dasg wahanol i'w cyflawni yn hynny o beth. Mae'n bwysig i ni asesu sgiliau a sgiliau codio staff, ac rwy'n credu bod Llyr yn llygad ei le o ran bod angen archwiliad o'r cymwyseddau hynny arnom: a all rhywun ddefnyddio technoleg ddigidol i gyflawni'r gwaith mewn gwirionedd, ond hefyd a all rhywun godio? Gan fod hynny'n wahanol hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu gwaith yr Athro Faron Moller a Technocamps, a sefydlwyd yn wreiddiol, rwy'n credu, gan Beti Williams. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ymwneud â—. Roeddwn i'n gwybod am waith Beti Williams yn y dyddiau cynnar, a minnau'n rhan o'r tîm a helpodd Beti i sefydlu'r pethau hynny. Ond, unwaith eto, fy mhryderon i yw'r sgiliau a'r codio, oherwydd yn ôl tua dechrau'r Cynulliad diwethaf roedd gennym ni Tom Crick a arweiniodd y gweithgor a sefydlwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Leighton Andrews, a sefydlodd yr angen i edrych ar y gwahaniaethau, gan gynnwys gwyddoniaeth i TGCh, fel yr ydych chi wedi'i amlygu eisoes yn un o'ch atebion, a nododd ef y gwaith y byddai angen i ni ei wneud oherwydd ein bod ni ar ei hôl hi eisoes o'i gymharu â Lloegr. Rwy'n credu bod ein sgiliau codio ymhlith athrawon, a chymhwysedd a hyder athrawon wrth godio, yn brin o hyd, ac mae angen i ni roi rhywbeth ar waith mewn gwirionedd.
Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn hyn ymlaen, nid dim ond mewn Technocamps, oherwydd bod hynny'n gyfyngedig, ond o ran sut yr ydych chi am wthio'r peth fel bod gan bob athro ym mhob ysgol sy'n cyflwyno'r cwricwlwm mewn cyfrifiadureg y sgiliau i gyflwyno codio, a gwneud yn siŵr bod y codio mewn iaith benodol sy'n berthnasol ledled Cymru, fel nad oes gennych chi wahanol ieithoedd mewn gwahanol ysgolion, a all ddrysu disgyblion a drysu dulliau addysgu? 'Slawer dydd, roeddwn i'n addysgu iaith gydosod, CESIL a BASIC, ond mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd, ac rydym ni bellach yn defnyddio C# a Java a phethau eraill, ond dyna ni.
Ond, unwaith eto, mae'n bwysig o ran y datblygiad hwnnw, oherwydd os ydym ni eisiau i bobl ifanc ddatblygu apiau a datblygu ac addasu gemau, mae angen y sgiliau hynny arnyn nhw. Mae angen y sgiliau hynny ar y staff. Yn aml iawn, rydym ni'n gweld bod gan bobl ifanc sgiliau gwell na'r staff, mewn gwirionedd, a bod y staff yn dysgu oddi wrthyn nhw, ond ni ddylem ni fod ag ofn hynny. Ac ni ddylai fod ar staff ofn hynny, oherwydd bod tuedd i staff weld bod ganddynt lawer o bethau eraill i'w gwneud. Mae tuedd i ddisgyblion a phobl ifanc weld bod ganddynt lawer o amser i'w dreulio ar gemau a chodio, ond mae hynny'n bwysig ac mae angen inni ddatblygu hynny.
Ac a wnewch chi hefyd edrych ar ba bartneriaid diwydiannol sy'n cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r sgiliau hynny, a'r merched? I roi enghraifft i chi, mae Microsoft wedi bod yn cynnal y cynllun DigiGirlz , ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi bod eisiau i ni ganmol y disgyblion ifanc yn Ysgol Bae Baglan a aeth i Microsoft yr wythnos diwethaf, a dod yn ôl o'r digwyddiad hwnnw â gwobr effaith gymdeithasol. Merched ifanc yw'r rhain, yn mynd i gystadleuaeth a datblygu cod ym Microsoft. Dyna'r math o gynllun sydd ei angen arnom ni, i sicrhau y gall disgyblion weld dyfodol a gweld gyrfa, ac yn gallu datblygu hynny, oherwydd bod gwahaniaeth rhwng defnyddio TGCh a datblygu cymwysiadau sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu'r cymwysiadau hynny drwy ysgrifennu'r cod meddalwedd ar eu cyfer. Mae hynny'n hynod o bwysig. Felly, a wnewch chi edrych ar ein sefyllfa ni yn hynny o beth, fel y gallwn weld i ble y bydd partneriaid diwydiannol yn cyfeirio merched ac yn cynnig modelau rôl hefyd, oherwydd bod angen llawer o fodelau rôl benywaidd? Gallaf i roi enwau sawl un i chi, ond mae angen i ni sicrhau bod y rheiny ar gael hefyd.
A wnewch chi hefyd edrych ar gynlluniau sy'n galluogi athrawon i fynd i weithio ar ddatblygu meddalwedd, oherwydd bod cael hyfforddiant a datblygu'r sgiliau hynny mewn amgylchedd ystafell ddosbarth yn wahanol, mewn gwirionedd, i fynd i'r gweithle a chymhwyso'r sgiliau hynny i waith datblygu meddalwedd ei hun mewn gwirionedd? Ac rydych chi'n dysgu llawer iawn mwy drwy sicrhau bod y llwybrau byr a'r technegau y byddwch chi'n eu hennill yn cael eu trosglwyddo i'ch pobl ifanc.
Diolch yn fawr iawn, David, am y gyfres honno o sylwadau a chwestiynau. I dawelu'ch meddwl chi, mae Tom Crick yn parhau i fod yn rhan annatod o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r Llywodraeth yn y meysydd hyn. Mae'n cadeirio un o'r rhwydweithiau rhagoriaeth, ac rwy'n sylwi o'i gyfrif Twitter heddiw ei fod wedi croesawu'r cyhoeddiad yn fawr iawn a'i fod yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth pwysig iawn heddiw o ran y buddsoddiad yn Abertawe a Chaerdydd.
O ran codio, wel, rwy' mor hen, rwyf innau hyd yn oed yn cofio gwneud BASIC, ac rwy' mor hen y gwnes i arholiadau lefel O. Pan wnes i lefel O mewn cyfrifiadureg, yn wir, Beverley Thomas a fi oedd yr unig ddwy ferch yn y dosbarth. Roedd yna ddewis rhwng cyfrifiadureg ac ysgrythur, felly aeth Beverley Thomas a fi i wneud cyfrifiadureg, yr unig ddwy ferch yn y dosbarth, ac fe wnaethom ni ddysgu BASIC.
Rwy'n credu o ran y mater ynghylch codio, ni fyddwn i'n dymuno i ni fod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n dweud wrth ysgolion, 'Hon yw'r unig raglen godio y dylech fod yn ei defnyddio', oherwydd, yn gyntaf oll, mae yna fater datblygiadol yn y fan honno. Felly, er enghraifft, ni fyddech chi eisiau dechrau eich plant ieuengaf ar Python, er enghraifft—fe fyddai'n rhy anodd iddyn nhw fwy na thebyg—ond fe fyddech chi mae'n siŵr eisiau dechrau eich plant ieuengaf ar Blockly, sy'n rhoi iddyn nhw'r ddealltwriaeth sylfaenol o gyfarwyddiadau, ac wedyn byddech chi'n eu datblygu'n raddol i rywbeth fel Python. Felly, nid ydych chi eisiau dweud wrth ysgolion, 'Dyna'r unig un—' [Torri ar draws.] Siawns eich bod chi'n gwybod dim am y peth. [Chwerthin.] Go dda. Ond fyddech chi ddim eisiau dweud mai dyna'r unig iaith y byddem ni'n ei defnyddio yn yr ysgol. Ond yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw datblygu sgiliau'r athrawon hynny yn ein hysgolion. Rydych chi yn llygad eich lle; mae llawer o'r athrawon yn cael eu haddysgu gan y bobl ifanc eu hunain, ac mae ceisio cadw i fyny â nhw yn her wirioneddol i'r staff, a dyna pam y mae angen i ni ddatblygu ein rhaglen ddysgu genedlaethol ar gyfer pob aelod o staff, ni waeth ymhle y maent yng Nghymru, er mwyn iddynt allu cael mynediad at raglen datblygu proffesiynol a fydd yn eu helpu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd. Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a dyna ddiwedd ar ein trafodion ni am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.