Agoriad Swyddogol Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Official Opening of the Fifth National Assembly for Wales

07/06/2016

Cyrhaeddodd y Parti Brenhinol y Siambr am 11:46.

Cludwyd y byrllysg i’r Siambr.

1. Agoriad Swyddogol Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Perfformiodd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru waith corawl a gyfansoddwyd gan yr Athro Paul Mealor, i eiriau ‘Wrth ddŵr a thân’ gan Dr Grahame Davies.

Mae’n bleser o’r mwyaf gen i groesawu pawb i agoriad y pumed Cynulliad. Hoffwn estyn croeso cynnes iawn i’n gwesteion ac i gynrychiolwyr o gyrff seneddol eraill, o’r farnwriaeth, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau Cymreig eraill. Hefyd, hoffwn gyfarch y bobl sydd wedi ymuno â ni y tu allan i’r Senedd heddiw, neu sy’n gwylio neu’n gwrando y tu hwnt i Fae Caerdydd.

On behalf of the Assembly, I would like to welcome our Royal guests—croeso. Thank you for returning here to the Senedd at the beginning of our fifth Assembly. We offer you our congratulations ahead of events this weekend to mark your ninetieth birthday and would like to add our own sincere appreciation for the dedicated service that you have given for more than six decades. [Applause.]

The Senedd’s tenth anniversary this year has been an opportunity to reflect not only on the inspiring architecture of this building, but also its position in Welsh public life as the home of Welsh democracy. We continue to see the evolution of the Assembly’s powers and procedures, which have matured with the passage of time. Following the introduction of the Wales Bill today, we are looking forward to the next phase of our constitutional journey and to our new responsibilities and even greater scope to make a real difference to the lives of the people of Wales.

Fel Llywydd newydd y Cynulliad, rwyf wedi rhoi fy ymrwymiad y byddaf yn hyrwyddo ac yn diogelu enw da y Cynulliad hwn, ein pumed Cynulliad, yma yn y Siambr a thu hwnt, ym mhob cymuned yng Nghymru. Rwyf am inni gael trafodaethau bywiog, brwd a democrataidd yma yn ein Siambr.

‘Boed angerdd i’n trafod a phwyll ymhob cymod’.

‘May there be passion in our debate; prudence in conciliation’.

Having been elected as Assembly Members places on us a solemn responsibility that we are determined to discharge diligently and respectfully. We have been elected by the people of this country and we commit to being their voice and to providing the standard of service and leadership they deserve and demand of us. May I invite Your Majesty to address the National Assembly?

Lywydd, Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, diolch i chi am eich croeso cynnes a'ch dymuniadau da. Rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw ar achlysur agor pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf yn eich llongyfarch ar gael eich ethol yn Aelodau'r Cynulliad.

Rwyf wedi parhau i ddilyn cynnydd y Cynulliad â chryn ddiddordeb gan nodi hanes rhyfeddol o gyflawni dros y pedwar tymor cyntaf. Er mai sefydliad seneddol cymharol ifanc yw hwn, rydych wedi sefydlu enw da fel deddfwrfa gref, hygyrch a blaengar, sy'n gwasanaethu holl gymunedau amrywiol Cymru. 

Gall y Cynulliad fod yn falch o'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chynulleidfa eang ledled Cymru a thu hwnt i greu gwell dealltwriaeth o'r gwaith pwysig a wneir yma, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn parhau i ddangos arloesedd ac arweinyddiaeth yn y ffordd yr ydych yn cyfathrebu â phawb yr ydych yn eu gwasanaethu ac yn eu cynnwys yn eich gwaith.

Pan oeddwn i yma yn 2011, nodais y byddech yn pasio Deddfau'r Cynulliad am y tro cyntaf. Felly, rwyf yn falch, erbyn hyn, o weld y Cynulliad yn gwasanaethu pobl Cymru fel deddfwrfa fodern a chanddi bwerau deddfu llawn. Mae'n llwyddiant y gall pawb y mae Cymru yn agos i'w calon fod yn falch ohono.

Bydd maint a chymhlethdod eich cyfrifoldebau deddfwriaethol yn cynyddu ymhellach yn ystod y pumed Cynulliad hwn, a bydd gennych hefyd y cyfrifoldebau cyllidol sy'n deillio o Ddeddf Cymru 2014, gan gynnwys pwerau trethu am y tro cyntaf. Mae eich cyfrifoldeb yn fawr ac mae'r disgwyliadau yn uchel, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwch yn parhau i lwyddo wrth i chi gyflawni'r dyletswyddau newydd hyn.

Lywydd, Aelodau'r Cynulliad, mae'r Pumed Cynulliad hwn yn nodi datblygiad pwysig arall yn hanes datganoli yng Nghymru. Dymunaf bob llwyddiant i chi wrth i chi baratoi i ateb heriau'r newidiadau cyfansoddiadol hyn ac i helpu i wireddu potensial y Cynulliad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Canodd Anne Denholm y delyn.

Llofnodwyd y memrwn coffaol.

Fel Aelod Cynulliad ac fel y Prif Weinidog, a gaf i ddechrau gan eich croesawu chi, Eich Mawrhydi, i’r Senedd heddiw a diolch ichi am eich geiriau caredig? Mae’n bleser eich cael chi yma gyda ni unwaith eto i agor pumed sesiwn y Cynulliad. Ar ran pobl Cymru, a gaf i ddiolch ichi am y gefnogaeth rydych chi wedi ei dangos tuag at y Cynulliad ers ichi ei agor gyntaf ym 1999 ac a gaf i hefyd ddiolch ichi am y gwasanaeth rydych chi wedi ei roi i’r wlad dros y 60 mlynedd diwethaf?

The beginning of the new parliamentary term is a special moment. A new Assembly has been elected, a new Government has been sworn in and a new agenda for Wales is being developed. But, more than this, the beginning of the new term marks a pivotal moment in the life of Welsh devolution itself. In the coming months and years, further powers will be granted to this Assembly, marking its maturity into a more powerful Parliament.

The responsibility that places on us as legislators is very great indeed. These new powers and the new settlement for devolution that we’re constructing are for a very clear purpose. They are to help us deliver for the people whom we represent. A stronger economy for Wales, greater prosperity for our communities, security for individuals and families right across our nation. Prosperity and fairness for all.

But we must also give careful thought to the way in which we undertake that task. No single party has a majority in this Chamber, no individual has a monopoly on good ideas and no person should feel excluded from our work. It’s required of us all—a duty—to be true to our values and to respect the mandate on which we were elected, but, ultimately, to work together, to discuss, to compromise and to act in a respectful way that allows us all, collectively, to deliver for the people we serve. As First Minister, I pledge that I will work for that end and in that spirit to build the better Wales that I believe we all want to see.

Adroddodd Maeve Tonkin-Wells gerdd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ‘Y tŷ hwn’.

Gadawodd y Parti Brenhinol y Siambr am 12:01.