Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

20/03/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 14:05 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. A'r cwestiwn cyntaf, Lee Waters. 

Y Cymry ar Wasgar yn UDA

1. Yn dilyn ei daith ddiweddar i UDA, pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog y Cymry ar wasgar i ymgysylltu ymhellach? OAQ51929

Mae cymunedau alltud yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo Cymru dramor. Wrth deithio dramor, rwy'n cyfarfod pobl â threftadaeth Gymreig yn rheolaidd, sy'n cyfrannu'n fawr, wrth gwrs, at eu gwledydd mabwysiedig. Gallaf ddweud wrth yr Aelod, pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, cefais gyfarfod gydag arweinwyr technoleg a drefnwyd gan rywun yr oeddwn i yn yr ysgol gydag ef—roedd yn berthynas mor agos â hynny—a hefyd â llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn ninasoedd yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada sy'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ac, wrth gwrs, fel lle i fuddsoddi ynddo.

Diolch. Roeddwn i'n falch o glywed eich bod chi wedi cyfarfod ag arweinwyr technoleg yn Efrog Newydd, gan gynnwys alltudion o Gymru yn eu plith sy'n arwain cwmnïau technoleg rhyngwladol blaenllaw erbyn hyn. Dangoswyd bod manteisio ar arbenigedd a brwdfrydedd cymunedau alltud yn ddull datblygu economaidd pwysig. Roeddwn i'n falch o glywed y cyhoeddiad ddoe eich bod chi wedi comisiynu adolygiad o arloesedd digidol o dan arweiniad gweithwyr academaidd, ond nad oes disgwyl iddo adrodd am flwyddyn, ac mae hynny'n amser maith o ystyried cyflymder datblygiad deallusrwydd artiffisial. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud yn y cyfamser i wneud yn siŵr ein bod ni'n cymryd camau ymarferol i roi Cymru ar flaen y gad, a sut y gwnaiff Llywodraeth Cymru ymgysylltu â grwpiau alltud i'n helpu ni i ymdrin â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial?

Mae'n iawn i ddweud bod y byd digidol yn symud yn gyflym iawn, iawn—gallwn weld hynny—ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r adolygiad ystyried yr holl faterion y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown, sef yr athro ymchwil nodedig yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Rydym ni eisiau datblygu, wrth gwrs, swyddi o ansawdd da sydd ar gael i bawb a gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sgiliau sydd eu hangen arnom, nid yn unig ar gyfer heddiw ond ar gyfer y dyfodol.

Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n cymunedau alltud, y mae gan lawer ohonynt—cyfarfûm â nhw pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau—gysylltiadau â'r mannau sydd ar flaen y gad o ran digidoleiddio fel Dyffryn Silicon i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n dod yn y dyfodol a pha fath o sgiliau fydd eu hangen ar ein pobl. Bydd angen i'r adolygiad wneud hynny yn rhan o'r cynllun yr ydym ni'n ei ddatblygu i wneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau hynny.

Prif Weinidog, cymerodd myfyrwyr ran mewn cynhadledd twristiaeth a lletygarwch Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yma yn y Senedd ddoe, a noddwyd gan fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, ac un o'r siaradwyr ardderchog yno oedd Samantha Birdsell, a oedd wedi gadael Cymru ar ôl bod yn y brifysgol, ac a fu'n gweithio am 20 mlynedd ym maes twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys 11 mlynedd yn yr Unol Daleithiau, ac mae hi yn ôl yn y DU bellach yn gweithio i westai Marriott. Mae'n un o'r enghreifftiau o rywun sydd wedi llwyddo a chyflawni, sydd wedi bod i ffwrdd ac wedi dod yn ôl, ac mae hi'n gweithio yn un o'n sectorau allweddol ar gyfer datblygu economaidd. Sut gallwn ni fynd ati'n ymarferol i ddenu pobl lwyddiannus eraill o Gymru i ddod yn ôl, a beth allwch chi fel Llywodraeth Cymru ei gynnig iddyn nhw i wneud hynny?

Wel, rydym ni wedi, ar y cyd â'r sector preifat, rhan-ariannu astudiaeth o ddichonoldeb alltudion sy'n cynnwys tri maes allweddol o bwyslais: yn gyntaf, ymchwilio i sut y mae gwledydd eraill yn ymgysylltu â'u cymunedau alltud; yn ail, nodi ac ymgysylltu 50 o gymunedau alltud mwyaf dylanwadol Cymru i ganfod eu gallu a'u tuedd i gyfrannu at lunio menter cymunedau Cymry alltud; ac yna, wrth gwrs, canfod y manteision posibl i Gymru o sefydlu ei sefydliad cymunedau alltud ei hun. Sefydlwyd GlobalWelsh, sy'n bartneriaeth sector preifat, i sefydlu cwmni cymunedau alltud i Gymru er mwyn cefnogi swyddi a thwf. Mae ar gam cynnar o'i ddatblygiad ac, wrth gwrs, ei nod yw denu rhagor o fuddsoddiad sector preifat. Nawr, trwy symud ymlaen yn y modd hwnnw, gallwn geisio darganfod lle mae pobl, yn gyntaf oll, ac yna gwneud yn siŵr y gellir defnyddio eu sgiliau ar ran Cymru yn y dyfodol, pa un a ydyn nhw'n aros yn y gwledydd lle maen nhw'n byw ar hyn o bryd neu'n dod â'r sgiliau yn ôl i Gymru.

Rwy'n credu, o'r holl wledydd Celtaidd, bod gennym ni lawer o ddal i fyny i'w wneud pan ddaw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ymgysylltu â'n cymunedau alltud. Ceir un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu codi gyda'r Prif Weinidog—un yr wyf i wedi ei godi o'r blaen, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â pharhau i fesur enw da Cymru yn fyd-eang. Tybed a allai'r Prif Weinidog gyflwyno'n ysgrifenedig y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i beidio â mesur enw da Cymru yn fyd-eang, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n ddangosydd defnyddiol, yn enwedig pan ein bod ni'n ceisio ymgysylltu â'r gymuned alltud ac, yn fwy cyffredinol, enw da Cymru fel gwlad fasnachu. Ac, yn ail, a wnaiff ef ofyn i'w swyddogion ystyried y posibilrwydd o gael cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardystiad swyddogol Llywodraeth Cymru o dreftadaeth Gymreig i bobl fel y gall pobl o bedwar ban byd, yn gyfnewid am ffi sylweddol, a hefyd, wrth gwrs, y gallu i ddangos eu bod nhw o linach Gymreig, gael ardystiad swyddogol o dreftadaeth Gymreig gan y Llywodraeth y byddant yn ei drysori, a fydd yn codi arian i Lywodraeth Cymru y gellid ei roi tuag at ymdrechion a phrosiectau gwych fel Cymru o Blaid Affrica, neu roi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru fynd i astudio a theithio dramor.

14:10

Mae'r Aelod wedi bod yn llawn syniadau gwreiddiol erioed, ac mae hwnna'n un ohonynt. Mae'n syniad, rwy'n credu, sy'n haeddu ystyriaeth bellach. Yr hyn na fyddwn i eisiau ei wneud, wrth gwrs, yw awgrymu i bobl os ydyn nhw eisiau hawlio treftadaeth Gymreig, bod yn rhaid iddyn nhw dalu amdani. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweithio gyda'r gymuned alltud sydd gennym ni.

Dim ond i roi enghraifft i chi o ba mor bell yr ydym ni wedi dod, prin iawn oedd y swyddfeydd a oedd gennym ni dramor yn ôl yn 2011. Rydym ni wedi agor llawer mwy ers hynny. Nid oedd gennym ni unrhyw gysylltiad gwirioneddol â'r gymuned alltud yn yr Unol Daleithiau, nid oedd gennym ni unrhyw gysylltiad â Washington; rydym ni bellach yn cynnal digwyddiad ar Capitol Hill bob un flwyddyn. Mae hwnnw'n ddigwyddiad a fynychir gan lawer o wleidyddion ar Capitol Hill. Rydym ni bob amser yn cynnal digwyddiadau yn Efrog Newydd; ceir cymdeithas Cymry newydd yn Efrog Newydd sy'n cynnwys entrepreneuriaid ifanc o dreftadaeth Gymreig—llawer ohonynt o Gymru yn wreiddiol, beth bynnag—sydd eisiau ein helpu ni, ac, wrth gwrs, rydym ni newydd agor swyddfa newydd ym Montreal. Mae Montreal yn gartref i rai cwmnïau mawr sy'n cyflogi pobl yng Nghymru, ac rydym ni'n gwybod bod gennym ni gymuned alltud ym Montreal hefyd.

Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud ers 2011 yw ceisio agor swyddfeydd newydd mewn rhannau o'r byd lle'r ydym ni'n gwybod bod treftadaeth Gymreig yn gryf er mwyn defnyddio'r gymuned alltud sy'n bodoli yno, a gweithio gyda nhw i hyrwyddo Cymru yn eu gwledydd cartref ac, wrth gwrs, gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu creu cyfleoedd i fusnesau o Gymru wrth iddyn nhw geisio masnachu â'r Unol Daleithiau a Chanada.

Ansicrwydd Bwyd

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ansicrwydd bwyd yng Nghymru? OAQ51954

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghrair tlodi bwyd Cymru i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, ac mae hynny'n cynnwys cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr ac archfarchnadoedd i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau corfforaethol a chymdeithasol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ddechrau mis Chwefror, cafodd Emma Lewell-Buck AS ei hail ddarlleniad o'i Bil Ansicrwydd Bwyd arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y Bil yw sicrhau bod Llywodraeth y DU yn sefydlu proses monitro blynyddol, ac adrodd ar ansicrwydd bwyd yn y DU.

Cysylltodd Jig-So â mi fis diwethaf am y mater penodol hwn. Mae hon yn elusen sy'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, ac maen nhw'n dweud bod dau ddull yn bodoli ar gyfer cynnal arolwg sydd wedi eu dilysu ac y gellid eu cyflwyno'n rhad i fesur ansicrwydd bwyd. Prif Weinidog, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o gyflwyno dulliau cynnal arolwg o ansicrwydd bwyd i Gymru?

Wel, rydym ni'n gweithio gyda Chynghrair Tlodi Bwyd Cymru i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni'n deall bod nifer o ddulliau o gynnal arolwg o ansicrwydd bwyd. Maen nhw i gyd yn casglu gwybodaeth bwysig y mae angen ei hystyried yn ofalus. Nodaf, er enghraifft, bod arolwg diweddar End Hunger UK wedi tynnu sylw at y ffaith bod traean o aelwydydd tlotaf y DU yn peidio â chael prydau gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd, gan fod cyni cyllidol a phrisiau bwyd sy'n codi yn ysgogi newyn cudd. Rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r sefyllfa gyda chredyd cynhwysol. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda sefydliadau i nodi dull y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, oherwydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod nifer o ddulliau. Ond maen nhw i gyd yn cyfleu yr un neges, sef bod cyni cyllidol yn gyrru pobl i dlodi.

Prif Weinidog, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif maint y broblem ansicrwydd bwyd yn y DU ac, yn wir, mewn gwledydd eraill, ond mae'n ymddangos i mi, o edrych drwy rywfaint o'r wybodaeth y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei darparu, bod diffyg data perthnasol cyfredol, ar lefel y DU ac yn benodol i Gymru, fel y gallwn asesu maint y broblem hon yn llawn. Rwy'n credu bod y data sy'n cael eu defnyddio tua 10 mlwydd oed. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i Lywodraeth Cymru gasglu mwy o ddata penodol i Gymru neu, yn niffyg hynny, gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni sicrhau bod y data hynny yn gwbl gyfredol fel ein bod ni'n gwybod maint y broblem yr ydym ni'n ymdrin â hi?

Wel, cyhoeddwyd yr arolwg End Hunger—neu yn hytrach, adlewyrchodd ganfyddiadau a gyhoeddwyd y llynedd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mewn gwirionedd, roedd arolwg End Hunger UK yn fwy diweddar na hynny, hyd yn oed.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod dadansoddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos, mewn mannau lle mae credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno'n llawn ers chwe mis neu fwy, y bu cynnydd cyfartalog o 30 y cant i'r defnydd o fanciau bwyd ar ôl ei gyflwyno o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r rhain yn ffigurau diweddar ac maen nhw'n dangos maint y broblem sy'n cael ei hachosi gan gyni cyllidol diddiwedd.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gynnal digwyddiad yma gyda Sefydliad y Merched ynglŷn â thlodi bwyd. Roedd Jig-So o Aberteifi'n bresennol, roedd y gynghrair tlodi bwyd yn bresennol a'r Trussell Trust hefyd yn bresennol. Mae'n amlwg bod Sefydliad y Merched am arwain ymgyrch ynglŷn â thlodi bwyd dros y misoedd nesaf, ac mae yna agwedd, wrth gwrs, ynglŷn â sefyllfa menywod yn arbennig yma, achos nhw, yn bennaf, sydd yn colli pryd o fwyd yn y sefyllfa yma. Mae hynny'n agwedd y dylem ni fod yn glir arni gyda bygythiad universal credit yn dod lawr y lein i nifer o gymunedau yng Nghymru, fel sydd newydd gael ei gyfeirio ato. Beth fyddech chi'n gallu ei wneud, fel Llywodraeth, i gydweithio gyda mudiadau fel Sefydliad y Merched, sydd yn mynd i mewn i gymunedau i wneud yn siŵr bod y gorau glas yn cael ei wneud i gefnogi'r teuluoedd hynny sydd yn wynebu llymder?

14:15

Wel, dau beth. Yn gyntaf, mae'n hollbwysig ein bod ni'n ystyried beth yw'r sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, rŷm ni'n gweithio gyda'r cynghrair yn erbyn tlodi er mwyn delio gyda'r ansicrwydd ynglŷn â bwyd. Ond, beth sy'n wahanol ar hyn o bryd yw bod lefel y tlodi ymhlith y rheini sydd o oedran gweithio yn waeth nag ydyw ymhlith pensiynwyr. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Yn hanesyddol rŷm ni’n tueddu meddwl, os yw pobl yn byw ar bensiwn, eu bod nhw mewn sefyllfa waeth. Nid felly mae hi ar hyn o bryd, achos rŷm ni wedi gweld siẁd doriadau i fudd-daliadau i’r rheini sydd o oedran gweithio. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Dyna pam, wrth gwrs, mae’n hollbwysig i sicrhau bod y pwysau sydd yna ar incwm siẁd gymaint o deuluoedd ar hyn o bryd yn cael ei godi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cyn i ni symud ymlaen, mae’n briodol ein bod ni’n cofnodi marwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards, Arglwydd Crickhowell, dyn a gafodd y weledigaeth ar gyfer trawsnewid yr ardal yma—bae Caerdydd— sy’n gartref i’n Senedd ni heddiw. A hefyd, Ivor Richard, Arglwydd Rhydaman, a arweiniodd y gwaith allweddol yn 2004 o baratoi’r ffordd tuag at gryfhau ein Cynulliad Cenedlaethol a chreu Senedd gryfach i Gymru. Rydw i’n siŵr, fel Cynulliad cyfan, ein bod ni’n cydymdeimlo gyda theuluoedd y ddau unigolyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac rydw i'n galw ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nid yw eich Llywodraeth wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon o hyd, a phan fo fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru wedi gofyn i chi am hyn yn y gorffennol, dywedodd eich Ysgrifennydd iechyd y byddai'n cyhoeddi lleoedd hyfforddi i feddygon ar wahân i'r rheini ar gyfer nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. A allwch chi ddweud wrthym pryd y gallwn ni ddisgwyl y cyhoeddiad hwn a ddylai fod wedi ei wneud ers talwm?

Mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gallu ei gyhoeddi maes o law. Rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n darparu cymaint o leoedd hyfforddi ag y gallwn ni a lleoedd mewn meysydd lle y gall pobl gael y profiad mwyaf posibl, gan, wrth gwrs, adeiladu ar yr ymgyrch recriwtio sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â meddygon i Gymru.

Prif Weinidog, mae angen y cyhoeddiad hwnnw arnom ni cyn gynted â phosibl. Mae ein sefydliadau academaidd a'n byrddau iechyd angen sicrwydd nad ydych chi wedi anghofio am feddygon. Heddiw, rydym ni wedi gweld cynlluniau i agor pum ysgol feddygol newydd yn Lloegr yn Sunderland, swydd Gaerhirfryn, Lincoln, Caergaint a Chelmsford dros y tair blynedd nesaf—pump o ysgolion meddygol newydd. Mae'n berthnasol i Gymru bod yr ysgolion meddygol hyn wedi eu targedu at yr hyn a gydnabyddir fel ardaloedd â phrinder doctoriaid.

Yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r cynnydd o ran coleg meddygol Bangor wedi bod yn boenus o araf ac rydym ni'n dal i fod ar y cam lle mai eich Llywodraeth ddim ond wedi derbyn myfyrwyr o fannau eraill yn cael cyfleoedd i dreulio mwy o amser ym Mangor, yn hytrach na myfyrwyr meddygol yn cael eu lleoli yno yn barhaol. A gyda llaw, mae'r prifysgolion hynny sy'n gweithio mewn partneriaeth ar hyn yn dweud pethau cadarnhaol iawn, sy'n newyddion gwych. O gofio bod hyd yn oed y Torïaid yn agor ysgolion meddygol newydd yn Lloegr, a ydych chi'n derbyn eich bod chi wedi bod yn boenus o araf yn ehangu addysg feddygol yn y gogledd?

Mae'n hynod bwysig bod addysg feddygol, pan gaiff ei hehangu, yn gallu cynnig y profiad eang i fyfyrwyr sydd ei angen arnynt i gymhwyso, a chymerwyd y ffactor hwnnw i ystyried erioed. Mae'r mater o ran Bangor, wrth gwrs, wedi ei archwilio'n drylwyr. Rydym ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod cymaint o leoedd â phosibl ar gael ledled Cymru, gan sicrhau wrth gwrs bod gan bobl fynediad at gymaint o arbenigeddau ag y gallant i gynyddu eu profiad.

Prif Weinidog, mae cyfraddau hyfforddi meddygon yn is yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'r holl sefydliadau—Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr—i gyd wedi bod yn cefnogi galwadau i gynyddu niferoedd y meddygon yng Nghymru. Nawr, ni allwn ddibynnu ar wledydd eraill i hyfforddi ein meddygon. Rydym ni'n colli digon o dalent fel y mae hi, a thrwy gynyddu capasiti yn Lloegr, bydd Llywodraeth y DU a GIG Lloegr yn denu mwy fyth o'n meddygon o Gymru yn y dyfodol. Mae gennym ni lai o feddygon teulu nawr nag yn 2013. Mae gennym ni lai o feddygon ysbyty nawr nag yn 2014. Felly, mae'r honiad yr ydych chi'n ei wneud weithiau am y nifer uchaf erioed o staff iechyd yn cynnwys cynorthwywyr nyrsio, mae'n cynnwys staff gweinyddol ac yn cuddio'r ffaith bod nifer y meddygon yn is. Nawr, byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon newydd i GIG Cymru. Mae gwledydd eraill yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ehangu lleoedd hyfforddi. Mae hyd yn oed Jeremy Hunt yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod y prifysgolion yn awyddus. Pam mae Cymru, o dan y Llywodraeth Lafur hon, mor bell ar ei hôl hi?

14:20

Ar 8 Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet becyn buddsoddi gwerth £107 miliwn i gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae hynny'n gynnydd o £12 miliwn o'i gymharu â 2017-18. Mae hynny'n golygu y bydd mwy na 3,500 o fyfyrwyr newydd yn ymuno â'r rheini sydd eisoes yn astudio rhaglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru, a bydd cyfanswm o 9,490 o bobl mewn lleoedd addysg a hyfforddiant yn 2018-19, o'i gymharu â 8,573. Bydd cynnydd o 10 y cant i leoedd hyfforddi i nyrsys ar draws pob un o'r pedwar maes nyrsio, a 161 o leoedd hyfforddi nyrsys yn 2018-19. Nawr, y camgymeriad a wnaed, yn fy marn i, gan Blaid Cymru yw edrych ar feddygon yn annibynnol. Ni allwch edrych ar feddygon yn annibynnol; mae'n rhaid i chi edrych ar yr ystod gyfan o staff gofal iechyd, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, nyrsys, mae'n golygu edrych ar y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, mae'n golygu gwneud yn siŵr bod digon o bobl i wneud yn siŵr bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i ostwng ac, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod gennych chi staff fel ffisiotherapyddion, sy'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl.

Os edrychwn ni ar ein hymgyrch recriwtio, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran denu meddygon i Gymru. Ni fydd byth yn wir, mewn unrhyw wasanaeth iechyd datblygedig yn Ewrop, bod yr holl feddygon yn y gwasanaeth iechyd hwnnw wedi eu hyfforddi o fewn y gwasanaeth iechyd hwnnw yn unig. Rydym ni eisiau denu'r bobl orau o bedwar ban byd, a dyna pam, wrth gwrs, mae ein hymgyrch recriwtio wedi bod mor llwyddiannus.

Diolch, Llywydd. Os caf innau hefyd, gyda'ch caniatâd, Llywydd, dalu teyrnged i Arglwydd Nick Edwards ac Arglwydd Richard, a oedd yn bileri pwysig o ran gwella ansawdd bywyd i bobl yma yng Nghymru, ac a drosglwyddodd y brwdfrydedd hwnnw i'r ail siambr hefyd, gan sefyll yn eu pleidiau unigol fel prif esiamplau ardderchog i wleidyddion cenedlaethau'r dyfodol eu dilyn. Bydd eu colli yn cael ei deimlo'n fawr gan eu teuluoedd, ond hefyd gan eu cydweithwyr gwleidyddol, a thalwn deyrnged i'w hymdrechion ar ran Cymru ac, yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, heddiw.

Prif Weinidog, amlygwyd yn y wasg ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried codi tollau ar ffordd liniaru'r M4. Yn sicr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynigion Gerry Holtham yn 'ddiddorol'. Os bydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu, a yw Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i godi tollau ar y darn hwnnw o ffordd?

Felly, ni fu unrhyw ystyriaeth o gwbl ynghylch codi tollau ar ffordd liniaru'r M4. Amlygodd eich cyd-Aelod ar y meinciau cefn yn y fan yna, Mick Antoniw o Bontypridd, dim ond pythefnos yn ôl bod y system fetro yn debyg iawn i anghenfil Loch Ness yn y fan yma nawr i lawer o bobl. Ond y pwynt yr oedd e'n ei wneud oedd bod llwybrau yn cael eu colli oherwydd cost ffordd liniaru'r M4, a hefyd costau cynyddol y system fetro. Os nad yw codi tollau yn cael ei ystyried ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddau brosiect seilwaith hanfodol hyn yma yn y de-ddwyrain ac, yn wir, prosiectau seilwaith eraill ledled Cymru, oherwydd nid yw'n ymddangos bod y ddau ohonynt, ar y fantolen, yn gwneud synnwyr?

Maen nhw'n dod o ddau wahanol bot. Yn gyntaf oll, o ran ffordd liniaru'r M4, roedd hwnnw'n arian yr ydym ni'n bwriadu ei fenthyg. Pan ddaw i'r Metro, mae hwnnw'n dod o ffynonellau eraill o ran ein cyllidebau ein hunain, o ran edrych ar y fargen ddinesig ar gyfer cyllid. Nid ydyn nhw'n cystadlu am yr un adnoddau, a dim ond i ail-bwysleisio, nid ydym yn bwriadu codi tollau ar yr M4.

Rwy'n ddiolchgar am yr eglurder ynghylch y tollau, ond, unwaith eto, nid yw'n ymddangos y gallwch chi gael y ddau brosiect yma ar wahân, gan fod y ddau brosiect mor anferth o ran eu gwariant cyfalaf. Rydym ni'n gwybod y bydd ffordd liniaru'r M4, ar hyn o bryd, yn ôl eich amcangyfrifon eich hun i'r ymchwiliad cyhoeddus, yn costio £1.4 biliwn, ac mae'n codi, dylwn ychwanegu. Mae'r system fetro yn £700 miliwn yn ôl yr amcangyfrifon cyfredol. Fel y dywedais, ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud synnwyr o'r symiau hynny. Felly, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i ni fod gennych yr arian hwnnw ar gael i chi adeiladu'r ddau brosiect ac na fydd yn rhaid cwtogi ar brosiectau eraill mewn rhannau eraill o Gymru oherwydd bod eich cyllideb cyfalaf wedi ei gwario neu ei gwacáu ar y ddau brosiect hynny?

14:25

Un o'r rhesymau na allem ni fwrw ymlaen, neu'r prif reswm pam na allem ni fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 yn y gorffennol oedd oherwydd na allem ni dalu amdani o'n cyllideb ffyrdd bresennol. Roedd angen i ni gael pwerau benthyg er mwyn talu am brosiect ffordd o'r maint hwnnw. Felly, telir am hwnnw o bot ar wahân i'r gyllideb ffyrdd, felly nid yw'n cystadlu ag unrhyw brosiect ffyrdd eraill o ran cyllid. Pan ddaw i'r metro, mae hwnnw'n cael ei ariannu mewn ffordd wahanol, gan edrych ar ein cyllidebau ein hunain, gan edrych ar y cyllidebau bargen ddinesig, i fwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw. Yr hyn y gallaf ei sicrhau i'r Aelodau yw nad yw'r metro a'r M4 yn cystadlu am yr un cyllid; maen nhw'n dod o ddau wahanol bot.

Diolch yn fawr, Llywydd. Pan oeddwn i ar fy ffordd i Gaerdydd ddoe, roeddwn i'n gwrando ar y radio yn y car, ar raglen World at One, a, chyda chryn anghrediniaeth, clywais fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â phlant ysgol rhwng saith ac 11 oed am eu safbwyntiau ar Brexit—efallai ei fod yn dangos lefel aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn—ac yn mynd i gymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth wrth lunio polisi. Ni allaf gredu bod hyn yn wir, er i mi ei ddarllen yn ddiweddarach ar wefan y BBC. Ymhlith y rhai a glywais ar y rhaglen honno roedd plentyn naw mlwydd oed a ddywedodd ei bod hi'n meddwl bod gadael yr UE yn syniad gwael, oherwydd, 'Mae un o fy ffrindiau yn dweud ei bod hi eisiau bod yn gantores, ac os wyf i eisiau mynd o gwmpas y byd i weld gwahanol gerddoriaeth, fel, ni fydd hi'n gallu gan ein bod ni wedi gadael brecwast'—mae'n rhaid ei bod hi'n hoff o araith arweinydd yr wrthblaid yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol y llynedd. Does bosib nad yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hon yn weithred o oferedd llwyr.

Oes rhaid iddo fe ddefnyddio plentyn naw mlwydd oed i ymladd ei frwydrau? A yw pethau cynddrwg â hynny yn UKIP bellach fel bod rhaid iddo feirniadu safbwynt plentyn naw mlwydd oed? Gallaf ddweud wrthych fod y safbwynt hwnnw yn gwneud mwy o synnwyr na llawer o'r safbwyntiau a glywais gan bobl yn ei blaid ef ei hun yn ystod y refferendwm. Roedd yn ymddangos ei fod yn cwyno fod yr eitem newyddion yn 'llenwad gordeimladol', yn chwarae ar—. A dyfynnaf:

chwarae ar yr emosiynau'r gwrandäwr er mwyn cefnogi naratif y rheini sy'n dymuno aros yn yr UE bod y bobl gas sy'n dymuno gadael yn atal ein plant rhag gallu chwarae â'u ffrindiau o dramor.

Nawr, os mai dyna lefel y drafodaeth wleidyddol y gall arweinydd UKIP ei chyrraedd, yna rhowch y plentyn naw mlwydd oed i mi unrhyw ddydd.

Wel, mewn gwirionedd, roedd y cyfeiriad penodol hwnnw—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. Mewn gwirionedd, roedd y cyfeiriad penodol hwnnw'n cyfeirio at sylw plentyn 11 mlwydd oed, a ddarlledwyd ddoe hefyd, pryd y dywedodd  hi, pe byddem ni'n gadael, efallai na fyddai llawer o bobl sydd â ffrindiau yn Ewrop yn gallu dod i mewn. 'Rwy'n ymwybodol y gall pobl ddod i mewn i'r wlad efallai na fyddant bob amser yn gwneud pethau da, a gallant wneud pethau drwg, ond ar y llaw arall, mae ganddyn nhw berthnasau a ffrindiau. Mae'n well eu gweld nhw mewn bywyd go iawn yn hytrach na siarad ar Skype drwy'r amser a stwff.'

Wel, mae'r rhain—[Torri ar draws.] Mae'r rhain—[Torri ar draws.] Nid fi sy'n dod â phlant ifanc i mewn i'r ddadl wleidyddol. Gwleidyddoli plant yw'r arfer y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn. Onid yw'n amhriodol gwleidyddoli plant yn y modd hwn er mwyn mynd ar drywydd agendâu gwleidyddol y Llywodraeth ei hun?

Beth mae arweinydd UKIP yn feddwl yw barn rhieni'r plant hynny ohono nawr? Yr hyn y byddan nhw'n ei weld yw gwleidydd yn y Siambr hon yn bychanu safbwyntiau eu plant at ei ddibenion gwleidyddol ei hun. Nawr, nid wyf i'n gwybod pa un a yw e'n ceisio gelyniaethu rhieni yn fwriadol i'w hatal rhag pleidleisio dros ei blaid, ond mae wedi gwneud gwaith rhagorol hyd yma.

Nid yw'n bychanu safbwyntiau plant o gwbl, ond mae lefel yr aeddfedrwydd a ddangosir yn y sylwadau hynny yn adlewyrchu eu hoedran wrth gwrs. Efallai fod y Prif Weinidog hyd yn oed yr un mor anaeddfed yn yr oedran hwnnw; wn i ddim. Ond nid yw plant saith i 11, wrth gwrs, yn aeddfed eto, ac mae eu safbwyntiau yn adlewyrchu hynny—er  ein bod ni i gyd yn aeddfedu ac yna mae'n werth gwrando ar ein safbwyntiau, fel sylwadau o ddifrif mewn dadl wleidyddol, mae'n gwbl ryfeddol i mi fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd o ddifrif nawr. Rydym ni'n gwybod bod athrawon—[Torri ar draws.] Rydym ni'n gwybod bod addysg wleidyddol mewn ysgolion yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig y dylai fod cydbwysedd, ac y dylai plant gael eu haddysgu i fod yn feirniadol. O gofio bod y Times Educational Supplement, yn 2016, wedi cynnal arolwg barn ymhlith athrawon a oedd yn dangos bod 88 y cant ohonynt o blaid aros yn yr UE—75 y cant o athrawon; mae 88 y cant o ddarlithwyr Prifysgol o blaid aros yn yr UE—onid oes perygl, hyd yn oed yn isymwybodol, os bydd pynciau gwleidyddol o natur ddadleuol yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth bod y cydbwysedd hwnnw'n debygol o gael ei golli?

14:30

Gadewch i ni weld faint o bleidleisiau y mae arweinydd UKIP wedi llwyddo i'w colli—pleidleisiau athrawon, pleidleisiau rhieni, pleidleisiau llywodraethwyr, pleidleisiau neiniau a theidiau, y cwbl oherwydd ei fod wedi dewis, am resymau sydd y tu hwnt i mi, beirniadu aeddfedrwydd plant naw ac 11 mlwydd oed. Rydym ni wedi treulio ein hamser yn y Siambr hon, ym mhob plaid a bod yn deg, yn sôn am roi llais i blant. Nawr, mae e'n dweud—a, David Melding, fe'i clywais e'n ei ddweud, a chredaf fod y sylw yn briodol—y dylai plant gael eu gweld ac nid eu clywed, a dyna'n union y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud. Efallai yr hoffai fyfyrio ar y ffaith, wrth lwyddo i godi gwrychyn miloedd lawer o bobl ledled Cymru, bod plant, mewn gwirionedd, yn haeddu llais.

Addysg Uwch

Tybed beth mae'r plant yn yr oriel yn ei feddwl am sylwadau Neil Hamilton.

3. Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i addysg uwch yng Nghymru? OAQ51965

Wel, bydd y cymorth yr ydym ni'n ei roi i'r sector, ynghyd â'r diwygiadau yr ydym ni wedi eu cyflwyno mewn ymateb i adolygiad Diamond, yn creu sector addysg uwch mwy cynaliadwy yng Nghymru ac yn cynnig y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU.

Prif Weinidog, roeddwn i eisiau codi mater streic yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. Gwn fod trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch dilysrwydd y ffigur a roddwyd ar gyfer y diffyg o ran pensiynau o £6.1 biliwn, ac mae Universities UK wedi cytuno i banel arbenigol annibynnol ei adolygu. Fodd bynnag, mae mwy o streiciau yn dal i gael eu cynnig, sy'n golygu tarfu posibl i arholiadau, ond, serch hynny, mae'r myfyrwyr, rhai o'r is-gangellorion, a llawer ohonom ni wleidyddion yn cefnogi'r streicwyr. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: pa gymorth gallai Llywodraeth Cymru ei roi i ddod â'u streic i ben yn foddhaol?

Wel, mae hon yn streic mewn sector datganoledig, ond dros fater nad yw wedi ei ddatganoli. Mae dau beth, fodd bynnag, y mae'n bwysig i ni ei ddweud. Credaf yn gyntaf oll ei bod hi'n bwysig y ceir prisiad annibynnol, fel y gellir cael hyder yn y prisiad hwnnw, ac, yn ail, fel Llywodraeth, ein bod ni'n sefyll yn barod i hwyluso unrhyw drafodaethau er mwyn dod â'r streic i ben.

Prif Weinidog, un grŵp o bobl ifanc sy'n aml yn methu â chael addysg prifysgol yw'r rheini o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. A byddwch yn gwybod mai rhan o'r rheswm am hynny yw eu perfformiad gwael mewn arholiadau TGAU o'u cymharu â'u cyfoedion. Maen nhw'n cael 30 y cant yn is o ran unigolion sy'n llwyddo i gael graddau A* i C mewn pump neu fwy o bynciau TGAU. Nawr, un o'r pethau y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn ddiweddar, sy'n mynd i'w gwneud yn fwy anodd i blant sy'n Sipsiwn, yn Roma ac yn Deithwyr allu cael mynediad at addysg brifysgol, yw diddymu'r grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig. Defnyddiwyd llawer o hwnnw, wrth gwrs, i gynorthwyo addysg plant sy'n Sipsiwn, yn Roma ac yn Deithwyr. A wnewch chi ystyried gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw, a pha gymorth ychwanegol ydych chi'n mynd i'w ddarparu yn ogystal â hynny, fel y gallwn ni fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?

Os cofiaf yn iawn, roedd tri awdurdod lleol yr effeithiwyd yn arbennig arnynt gan y grant. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod arian wedi roi ar gael iddyn nhw fel eu bod yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae angen iddyn nhw eu darparu. Fodd bynnag, mae angen i ni edrych yn y dyfodol ar ba un a yw'r grant wedi ei dargedu'n ddigonol. Rydym ni'n gwybod bod tangyflawni ymhlith y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ond, wrth gwrs, mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill, mae cyflawniad yn uwch na'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd mewn gwirionedd. Felly, y cwestiwn i ni fyddai: sut ydym ni'n ceisio targedu adnoddau yn fwy penodol at y grwpiau hynny sydd eu hangen fwyaf?

Mae angen i'ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, fod yn fwy rhagweithiol yn y mater yma. Rŷch chi'n iawn fod yr union bwynt o dan sylw ddim wedi'i ddatganoli, ond mae e yn, fel yr ŷch chi'n cydnabod, yn cael effaith sylweddol iawn ar agweddau helaeth o'r sector sydd wedi'u datganoli. Felly, a gaf ofyn i chi, wrth fod yn fwy rhagweithiol, a wnewch chi gynnull cyfarfod o is-gangellorion Cymru er mwyn dweud wrthyn nhw yn union beth yw barn eich Llywodraeth chi am yr hyn sydd wedi digwydd? A fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru bod y modd y mae prifysgolion wedi trin ein darlithwyr ni yn gwbl warthus ac yn gwbl annerbyniol?

Wel, beth a ddywedais i'n gynharach yw beth yn gwmws mae'r undeb wedi dweud wrthym ni, sef eu bod nhw'n moyn i ni eu cefnogi nhw er mwyn cael ystyriaeth unwaith eto o beth yw gwerth y cynllun pensiwn ar hyn o bryd, ac, yn ail, i ni i helpu i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn gweld a oes ffordd ymlaen ynglŷn â hwn. Beth sydd yn ffaelu digwydd yn y pen draw—. Byddai'n beth gwael i ni yng Nghymru petai'r streic yn parhau, felly mae'n hollbwysig i sicrhau ein bod ni'n dod i gasgliad, bod y sefydliadau yn dod i gasgliad gyda'r undebau, dod i setliad gyda'r undebau, sydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cario ymlaen gyda'u hastudiaethau. 

Dysgu Rhan Amser i Oedolion

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu rhan amser i oedolion? OAQ51966

Fe'i gwnaed yn eglur gennym yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod ni'n cydnabod gwerth addysg ac yn bwriadu meithrin angerdd at ddysgu ym mhawb trwy gydol eu bywydau. Rydym ni'n cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i oedolion, gyda phwyslais eglur ar gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf angen ein cymorth.

14:35

Roeddwn i'n bresennol mewn seminar gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, pryd y tynnwyd sylw at y rheini sydd angen dychwelyd i'r gwaith, a dychwelyd i addysg a datblygu eu sgiliau. Ac un o'r materion a godwyd oedd y ffaith y gallai fod yn anghyfforddus ac yn frawychus i'r bobl hynny sy'n dychwelyd i addysg fynd i leoliadau coleg ffurfiol, lle gallai'r awenau gael eu cymryd gan bobl ifanc, sy'n datblygu eu sgiliau yn yr amgylcheddau hynny ac sydd â chyfres wahanol o anghenion o ran sgiliau efallai. Felly, mae dysgu yn y gymuned yn bwysig iawn, lle gall dysgwyr sy'n dychwelyd ddatblygu eu sgiliau mewn lleoliadau cymunedol. A fyddech chi'n fodlon ymrwymo i fod yn rhan o'r strategaeth sgiliau genedlaethol, a hefyd i'r corff addysg a hyfforddiant ôl-orfodol newydd sy'n goruchwylio addysg bellach ac addysg uwch wneud dysgu yn y gymuned yn ganolog i'w cenhadaeth hwythau hefyd?

Byddwn. Fe'i gwnaed yn eglur gennym yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod ni'n cydnabod gwerth addysg. Rydym ni eisiau ennyn brwdfrydedd at addysg, wrth gwrs, ymhlith ein pobl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cynorthwyo'r rheini sydd angen ein cymorth fwyaf. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr, pan mai lleoliad cymunedol yw'r un mwyaf priodol, ei fod ar gael yn y dyfodol. O ran Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, iddyn nhw, eu tasg fydd darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol i'r sector AHO cyfan, gan gynnwys dysgu oedolion, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl mor agos i gartref â phosibl.

Prif Weinidog, addawyd buddsoddiad sylweddol i bobl Casnewydd gyda chlwstwr digidol newydd, a allai adfywio'r ddinas. A wnewch chi gynnig y cyfleoedd i oedolion sydd mewn swyddi cyflog isel ar hyn o bryd i ailhyfforddi ar gyfer economi ddigidol newydd Casnewydd?

Mae'n ddrwg gen i, chlywais i ddim ail ran y cwestiwn yna.

A wnewch chi gynnig y cyfleoedd i oedolion sydd mewn swyddi cyflog isel ar hyn o bryd i ailhyfforddi—yn rhan-amser mae'n debyg—ar gyfer economi ddigidol newydd Casnewydd?

Wel, wrth gwrs, bydd y Cynulliad yn gwybod mwy am y cynllun cyflogadwyedd yn ystod y prynhawn yma ac, wrth gwrs, mae cynyddu sgiliau pobl, ac felly eu gallu i symud i swyddi sy'n talu'n well, yn rhan bwysig o hynny.

Wrth gwrs, mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, mae gennym ni oedran ymddeol sy'n codi, ac, wrth gwrs, mae colled o swyddi ar y gorwel yn y dyfodol oherwydd awtomeiddio, a bydd angen i'r genhedlaeth hŷn addasu a dysgu sgiliau newydd mewn ffordd efallai nad yw wedi digwydd yn y gorffennol. Nawr, bydd angen felly i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth i'r bobl hynny ar yr adegau pontio allweddol hyn. Felly, a gaf i ofyn sut y bydd dysgu cymunedol i oedolion yn rhan o'ch cynllun cyflogadwyedd fel y gallwn ni sicrhau bod gan bob oedolyn y mynediad y bydd ei angen arnynt yn gynyddol yn y blynyddoedd i ddod at ddysgu gydol oes?

Wel, byddwn yn ymgynghori yn fuan ar strwythur ariannu a darparu dysgu i oedolion yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym ni eisiau edrych ar yr annhegwch—yw'r gair, rwy'n meddwl, y byddwn i'n ei ddefnyddio ar ei gyfer—presennol o ran cyfleoedd dysgu ledled Cymru. Mae'n rhaid i'n gweledigaeth ar gyfer dysgu i oedolion fod yn un sy'n canolbwyntio ar drechu tlodi, i wneud yn siŵr nid yn unig bod pobl yn meddu ar y sgiliau, wrth gwrs, i gael mynediad at y gweithle, ond eu bod nhw'n cael y cyfle fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, i ddysgu drwy gydol eu bywydau. Mae'r byd yn lle sy'n newid yn gyflym, ac mae'n mynd yn gyflymach fyth, fel y mae'r Aelod dros Lanelli ac eraill eisoes wedi ei ddweud. Felly, bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n rhan bwysig o'r cyfeiriad y byddwn ni'n ei ddilyn o ran darparu'r lefel briodol o ddysgu i oedolion, gan gofio, wrth gwrs, y swm o arian a dorrwyd o'n cyllideb ers 2010.

Amseroedd Aros Ysbytai

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru? OAQ51924

Wel, mae GIG Cymru wedi dangos gwelliant blynyddol o ran amseroedd aros ers mis Awst 2015. Roedd £50 miliwn o wariant ychwanegol yn 2017-18, a bydd craffu gweinidogol yn gwneud yn siŵr, wrth gwrs, bod y cynnydd hwnnw'n parhau yn y dyfodol a'n bod ni'n cynnal y pwyslais ar wella'r rhagolygon pan ddaw i amseroedd atgyfeirio i driniaeth, a hefyd o ran—o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth ac, wrth gwrs, yr holl dargedau eraill sydd gennym ni yn y GIG.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un ffordd o leihau amseroedd aros mewn ysbytai yw mynd i'r afael â'r broblem o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu methu. Y llynedd, roedd bron i 300,000 o apwyntiadau a fethwyd, ar gost o fwy na £36 miliwn i'r GIG. Mae'n ffigur braidd yn syfrdanol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer yr apwyntiadau ysbyty cleifion allanol sy'n cael eu methu, i leihau amseroedd aros a rhyddhau mwy o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Wel, mater i'r byrddau iechyd yw hynny. Yr hyn yr wyf i wedi sylwi arno, fodd bynnag, yw, yn sicr, bod rhai byrddau iechyd yn anfon llythyrau apwyntiad sy'n pwysleisio cost apwyntiad a fethir. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig—bod pobl yn deall hynny. Maen nhw hefyd yn pwysleisio os nad yw pobl yn dod i apwyntiad, y gallen nhw symud yn ôl, ymhellach i lawr y rhestr aros yn y pen draw. Dyna'r ffon. Y foronen yw ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gysylltu â'r adran lle mae ganddyn nhw'r apwyntiad. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, peidio â dibynnu ar linell ffôn yn unig, a allai fod yn brysur neu ar agor am ddim ond ychydig oriau y dydd, ond gallu cael cyfeiriad e-bost y gall pobl gysylltu ag ef, ac yna, wrth gwrs, ymateb yn gyflym. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei weld gyda PABM ac yn rhywbeth sy'n sicr, rwy'n credu, yn arfer da i weddill Cymru.

14:40

Mae pobl nad ydynt yn dod i apwyntiadau cleifion allanol a drefnwyd yn cael effaith uniongyrchol ar ambiwlansys a'u gallu i gyrraedd yn brydlon. Dim ond yn ystod yr oriau diwethaf, rwyf i wedi cael stori gan etholwr pryd y cysylltodd â'r gwasanaeth ambiwlans am 10 o'r gloch un noson ym Maesteg, cafodd ei gategoreiddio fel risg coch o drawiad ar y galon oherwydd y straen ar yr etholwr hwnnw, sydd wedi dioddef nifer o afiechydon eisoes, ond ni chyrhaeddodd ambiwlans beth bynnag, ar ôl galwadau dilynol lluosog. Cysylltodd aelod o'r teulu â'r heddlu hefyd gan ei fod mor ofidus. Bu'n rhaid i'r fenyw aros ar y llawr mewn tywydd llaith gan nad oedden nhw eisiau ei symud hi oherwydd yr anaf hwnnw i'r pen. Wedyn, yn y pen draw, daeth yr heddlu, ac yna ambiwlans, bron i dair awr yn ddiweddarach.

Nawr, mae hyn yn wirioneddol ofnadwy, ac nid wyf i'n credu bod y sawl a gysylltodd â mi yn cwyno fel rheol gan ei fod yn defnyddio cryn dipyn ar y gwasanaeth iechyd, a nhw yw'r bobl gyntaf i ganmol y gwasanaeth iechyd, a dweud y gwir. Cododd fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, y ffaith fod yr elfen benodol hon o'r system wedi torri—yr wythnos diwethaf—a chafodd ei ddifrïo gan sylwadau'r Ysgrifennydd Iechyd. Os nad yw wedi torri, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i leddfu'r boen i'r bobl hynny sy'n aros am ambiwlansys? Oherwydd efallai y byddwn yn cael ein beirniadu am fyw mewn swigen os nad ydym yn ymatebol i'r ffaith eu bod yn dioddef yr oediadau hir hyn ac eisiau cael eu gweld mewn modd priodol ac nad ydynt eisiau bod yn aros am oriau ar y strydoedd mewn tywydd llaith.

Wel, gallaf ddweud bod y targed coch wyth munud wedi ei fodloni am 22 mis yn olynol ar draws y de—a Chanol De Cymru yn arbennig—ond, wrth gwrs, ceir enghreifftiau lle nad yw hynny wedi digwydd. Nawr, mae'r Aelod wedi rhoi enghraifft o hynny. Os gall yr Aelod roi manylion i mi, yn gyfrinachol, os nad yw'r person eisiau rhoi ei—

Wel, cymaint o fanylion ac y mae hi'n teimlo sy'n briodol. Byddaf yn gwneud yn siŵr wedyn, wrth gwrs, bod yr achos yn cael ei ymchwilio.

Prif Weinidog, mae nifer fawr o apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer profion diagnostig, lle y gwelwn restrau aros enfawr. Ym mis Rhagfyr, gwelsom dros 20,000 o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos, a dros 1,000 o gleifion yn aros mwy na 24 wythnos. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol ac y bydd yn gwaethygu oherwydd galw cynyddol yn y blynyddoedd i ddod. Prif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu cynyddu capasiti diagnosteg i sicrhau nad oes neb yn aros mwy nag wyth wythnos?

Mae wedi digwydd eisoes, gan fod nifer y bobl a oedd yn aros dros wyth wythnos am un o'r profion diagnostig ddiwedd mis Rhagfyr 38 y cant yn is nag ar yr un adeg y llynedd. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn profion diagnostig er mwyn lleihau amseroedd aros, ac mae'r ffigurau yn dechrau dangos hynny. Ydy, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud y ceir, fel erioed, galw cynyddol o un flwyddyn i'r llall yn y GIG, ond nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n anochel y bydd amseroedd yn parhau i godi, fel y mae'r ffigurau yn dangos.

Deddf Lobïo (Yr Alban) 2016

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Ddeddf Lobïo (Yr Alban) 2016, a sut y gellir rhoi trefniadau tebyg ar waith yng Nghymru? OAQ51955

Wel, rwy'n cytuno â chasgliadau adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.

Mae Deddf Lobïo (yr Alban) 2016 mewn grym erbyn hyn, fel y bydd yn rhaid i lobïwyr yn y wlad honno gael eu cofrestru'n gyfreithiol. Mae'r un peth yn wir yn Iwerddon, a cheir cofrestr yn Llundain, ond mae gan Gymru y ddeddfwriaeth lobïo wannaf yn yr ynysoedd hyn oherwydd bod eich Llywodraeth chi wedi dewis gwneud dim. Mae gennym ni lobïwyr erbyn hyn yn cydgysylltu cwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad i niweidio enw da pobl. Mae cyfryngau yn Llundain wedi honni bod lobïwyr yng Nghaerdydd yn rhan o'r cwynion a arweiniodd at ddiswyddo Carl Sargeant. Mae arweinydd yr wrthblaid wedi honni bod lobïwyr wedi datgelu diswyddiad Carl Sargeant cyn ei fod ef yn gwybod amdano hyd yn oed. Ofcom hyd yn oed—bu'n rhaid i reoleiddiwr cystadleuaeth derfynu contract gyda Deryn, cwmni lobïo yng Nghymru, ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi torri'r rheolau. Mae'r cyhoedd bellach yn gofyn i'w hunain beth ar y ddaear—beth ar y ddaear—sy'n mynd ymlaen yn y lle hwn. Oherwydd, o'r tu allan, mae'n edrych fel llanastr. A wnewch chi dderbyn nawr bod problem gyda lobïwyr yn y fan yma a symud yn gyflym i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn eu cofrestru'n gyfreithiol, fel ein bod ni i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw a'n bod ni i gyd yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud?

14:45

Wel, nid oes gan ddim o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud unrhyw sail mewn gwirionedd o gwbl, ond mater iddo fe yw siarad am beth bynnag y mae'n dymuno yn y Siambr hon. Ni fyddwn yn ei gynghori i wneud hynny y tu allan i'r Siambr hon, ar unrhyw gyfrif. Ond, nid yw'n fater i Lywodraeth gyflwyno deddfwriaeth. Mae'n fater i'r Cynulliad ei hun. Gadewch i ni atgoffa ein hunain y cynhaliodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ymchwiliad i ystyried pa un a oedd y trefniadau ar gyfer tryloywder ynghylch lobïo yn addas i'r diben ac yn briodol i'r Cynulliad. Adroddodd yn ôl gyda phum argymhelliad, nad oeddent yn cynnwys sefydlu cofrestr lobïo ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n fater i'r Pwyllgor ei hun. Nid yw'n briodol i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fel hyn. Mae'n fater i'r Cynulliad, yn gorfforaethol, ei ystyried, fel y mae wedi ei wneud drwy'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Brif Weinidog, rŷch chi wedi cyfeirio at ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Dywedodd y pwyllgor yn glir ei fod—ac rwy'n dyfynnu fan hyn—

'yn credu yn gryf y dylid trin Aelodau’r Cynulliad yn gydradd â Gweinidogion y Llywodraeth. Mae’r Pwyllgor felly yn argymell y dylai unrhyw newidiadau yn y dyfodol...ar gyfer Aelodau’r Cynulliad hefyd gynnwys y Llywodraeth a chod y Gweinidogion, ac ystyrir hyn fel rhan o waith y Pwyllgor yn y dyfodol.'

Felly, a ydych chi'n cytuno â barn y pwyllgor mewn perthynas â'r cod gweinidogol—hynny yw, y dylai unrhyw newidiadau yn y dyfodol i Aelodau'r Cynulliad hefyd fod yn berthnasol i aelodau'r Llywodraeth? Ac, os felly, sut byddwch chi fel Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau bod hynny yn digwydd?  

Wel, dau beth. Yn gyntaf, wrth gwrs, ni fyddai'r pwyllgor ei hun yn gallu newid y cod gweinidogol, ond os oes yna unrhyw newidiadau ynglŷn â sefyllfa Aelodau, wrth gwrs, byddai'n rhaid imi ystyried ym mha ffordd y dylai'r cod gweinidogol newid hefyd.

Prif Weinidog, gyda'r pwerau codi trethi newydd ddim ond dyddiau i ffwrdd, a'r pwerau ychwanegol y mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, onid yw'n amser cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Cynulliad hwn gymryd camau ar ddiwygiadau lobïo nawr er mwyn helpu i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd ynom ni a sut yr ydym ni'n gweithredu?

Wel, byddwn i'n dadlau bod y Cynulliad eisoes wedi gwneud hynny. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi gwneud hynny, ac mae hefyd wedi dweud, wrth gwrs, y bydd yn cadw golwg ar weithrediad model yr Alban ac yn adolygu'r sefyllfa yn 2020, gyda'r bwriad o gyflwyno cynnig cadarn ar gyfer y chweched Cynulliad. Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig, pan ddaw i'r ffordd y mae'r Aelodau yn ymddwyn, bod hwnnw'n fater i'r Cynulliad cyfan ac nid i'r Llywodraeth yn unig.

Rhwydweithiau Ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am uwchraddio'r rhwydweithiau ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51958

Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn y canolbarth a'r gorllewin, fel y nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â mannau cyfyng ar y rhwydwaith cefnffyrdd trwy raglen benodol.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod gwaith uwchraddio i'w groesawu'n fawr, ond ei fod weithiau'n gallu achosi tarfu a chostau economaidd, ac mae'n bwysig, felly, ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd, ceir prosiect ailsignalu ar yr A477 i Ddoc Penfro ar ei chyffordd â'r A4139. Mae hon wedi ei dynodi'n ffordd rhwydwaith Ewropeaidd bwysig. Dyma'r prif lwybr, wrth gwrs, i'r fferi i Iwerddon yn Noc Penfro a hefyd y prif lwybr o Benfro i bont Cleddau. O gofio bod disgwyl i hyn bara am 17 wythnos—mae hynny bron i draean o'r flwyddyn—oni fyddai'n ddoeth mewn prosiectau o'r math hwn y dylent gael eu cynnal nid yn unig yn ystod oriau gwaith arferol, ond hefyd yn y nos neu dros y penwythnos er mwyn lleihau'r dryswch economaidd y mae'n anochel y byddant yn ei achosi?

Wel, nid yw'n gweithio, wrth gwrs, yn y nos, gan fod y fferi yn gadael tua 02:30 i 02:45 yn y bore. Felly, o ran y fferi—. Ydy, mae'n drist, rwy'n gwybod hynny. Ond mae'r fferïau yn gadael tua 02:30 yn y bore a tua 14:30 yn y prynhawn. Felly, nid yw'n gweithio o ran gweithio yn ystod y nos, pan ddaw i draffig fferi. Ond dim ond i atgoffa'r Aelodau: mae'r gwaith hwn yn darparu llwybr mwy diogel i gerddwyr trwy gyflwyno signalau traffig ar y gyffordd rhwng Lôn y Fferi a'r A477. Mae'n hanfodol i wella diogelwch. Fe'i cefnogir gan Gyngor Sir Penfro. Disgwylir ar hyn o bryd iddo gael ei gwblhau ym mis Mai eleni. Nawr, er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, mae'n anochel y bydd rhywfaint o darfu. Ond, wrth gwrs, pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd yn sicrhau bod diogelwch yn well.

Gwella Iechyd Plant

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella iechyd plant yng Nghymru? OAQ51964

14:50

Rydym yn gweithio i wella iechyd plant drwy ystod o gynlluniau a chamau gweithredu. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys gweithredu ein rhaglen Plant Iach Cymru, rhaglen iechyd gyffredinol i bob teulu â phlant hyd at saith oed.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Un o'r heriau iechyd mwyaf y mae plant yn ei hwynebu yng Nghymru yw gordewdra ymhlith plant, ac mae gan Gymru rai o'r cyfraddau gwaethaf yn y DU ac, yn wir, yng ngorllewin Ewrop. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r broblem honno. Nawr, mae wedi dod i'm sylw i y bydd Cymru, dros y tair blynedd nesaf, yn derbyn £57 miliwn o ganlyniad i'r ardoll ar y diwydiant diodydd meddal sy'n cael ei gyflwyno fis nesaf, ac mewn rhannau eraill o'r DU mae'r arian hwnnw'n mynd i gael ei gyfeirio at fentrau i fynd i'r afael â gordewdra a gwella gweithgarwch corfforol ymhlith plant. Byddwch yn ymwybodol bod pwyllgor iechyd y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth gordewdra sy'n annhebygol o fod yn niwtral o ran cost. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd rhywfaint o'r swm sylweddol hwnnw o arian yn cael ei gyfeirio at fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru ac y bydd y strategaeth ei hun yn cyfateb â maint yr her sy'n ein hwynebu yma?

Wel, mae yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried. Gallaf ddweud ein bod wedi derbyn swm cymharol fach o gyllid hyd yma, oherwydd gwariant Llywodraeth y DU mewn ardaloedd yn Lloegr sy'n ymwneud â chwaraeon ysgol a chlybiau brecwast. Mae'r arian hwnnw wedi'i neilltuo i gynnal brecwast ysgol am ddim, cyllid newydd ar gyfer clybiau gwyliau haf, buddsoddi mwy mewn imiwneiddio plant ac, wrth gwrs, ystyried datblygu cronfa drawsnewid ym maes iechyd. Nawr, pan ddaw'r arian hwnnw, wrth gwrs, rhoddir ystyriaeth i'r ffordd orau o'i wario orau. Ond rwy'n cydnabod, wrth gwrs, bod gennym ni broblem nad yw'n unigryw i Gymru, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni yn ei wynebu yng Nghymru, sef gordewdra ymhlith plant, a byddai adnoddau ychwanegol yn sicr yn ddefnyddiol er mwyn mynd i'r afael â hynny.

Y Cyllid a Ddyrennir i Addysg

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y cyllid a ddyrennir i addysg yng Nghymru? OAQ51959

Mae diwygio addysg yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae'n adlewyrchu ein hymdrechion i gael y lefelau uchaf o ddisgwyliad ar gyfer dysgwyr ac athrawon. Ac rydym ni wedi cyfochri a blaenoriaethu ein cyllidebau yn unol â'n cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer addysg.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd eich Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg £14 miliwn o arian i helpu i ariannu gwaith atgyweirio mewn ysgolion. Mae hwn yn swm derbyniol iawn o arian, ac yn ei datganiad dywedodd yn glir iawn y byddai pob ysgol yn derbyn rhywfaint o arian. Nawr, ledled Cymru, mae gennym nifer o adeiladau newydd, naill ai a adeiladwyd eleni neu yn llythrennol yn y 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf. Yn fy etholaeth i, mae gennyf achos o ddwy ysgol, un wrth ochr y llall. Mae un yn newydd sbon ac wedi costio miliynau o bunnoedd. Mae'r llall yn ysgol hen iawn, yno ers degawdau, lle maen nhw yn llythrennol wedi gorfod erfyn a benthyca er mwyn gallu ei throi yn ysgol cyfrwng Cymraeg a'i llenwi ag adnoddau. Rydw i wedi bod yno; mae'r to yn gollwng, mae'r teils yn cwympo oddi ar y to, ac ati. A ydych chi'n credu ei bod yn briodol bod pob ysgol yn cael rhywfaint o'r dyraniad hwn? Oni fyddai'n fwy synhwyrol—neu a fyddech chi'n ystyried edrych ar yr ysgolion sydd wir angen cymorth i roi amgylchedd dysgu da, cyfoes, neu gystal â phosibl yn rhai o'r adeiladau ysgol hen iawn hynny sydd gennym, yn hytrach na rhoi rhywfaint o'r arian hwn i adeiladau newydd iawn hefyd?

Wel, mae'n fater i awdurdodau lleol i flaenoriaethu pa ysgolion y maen nhw'n dymuno gwneud cais am arian ar eu cyfer o ran y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Dydym ni ddim yn pennu pa ysgolion ddylai dderbyn yr arian.

Roeddwn i'n falch yr wythnos diwethaf i fod yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, lle mae estyniad newydd yn cael ei adeiladu. Ond mater i awdurdodau lleol—[torri ar draws.] Mater i awdurdodau lleol yw hynny. Gadewch i ni atgoffa ein hunain, o dan blaid yr Aelod yn Lloegr, does dim un ysgol newydd yn cael ei hadeiladu o gwbl. Ni fyddai unrhyw arian ar gael ac, yn ddiau, pe bydden nhw mewn grym yng Nghymru, yna ni fyddai unrhyw ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru ychwaith.

Ydy, mae'n anodd, wrth gwrs, pan fo ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, a bydd ysgolion eraill yn dweud, 'Wel, beth amdanom ni?' Ond mae hwnnw'n gwestiwn y dylid ei gyfeirio at yr awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu ac yn blaenoriaethu pa ysgolion a pha waith y maen nhw yn dymuno gwneud cais amdanynt.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James. 

Diolch, Llywydd. Mae ychydig o newidiadau i'w gwneud i fusnes yr wythnos hon. Mae datganiadau ar lywodraeth leol ac ar ymgynghori ar Fil deddfwriaeth (Cymru) drafft wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw. Yn ogystal â hynny, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu gohirio'r ddadl a arweinir gan UKIP tan ar ôl toriad y Pasg. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:55

Arweinydd y tŷ, heb ystyried y trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch yr ymgynghoriad y bydd y Llywodraeth yn ei gynnal gyda phlant 7 ac 11 mlwydd oed ynglŷn â'u barn ar Brexit, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod sut, os cawn ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol, y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ac yn  rhyngweithio â phobl ifanc. Rwy'n gwerthfawrogi mai hwn yw mater y dydd i lawer o bobl, ond mae hefyd yn fater gwleidyddol iawn. Efallai fy mod i'n anghywir ond nid wyf yn credu bod ymarfer o'r fath ar fater mor wleidyddol wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru ymysg y garfan o'r fath o blant yn ein hysgolion o'r blaen.

Mae'n bwysig bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ond mae'n bwysig hefyd i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn yr ymgynghoriad a sut y bydd yn gweithio gydag ysgolion i wneud yn siŵr nad oes—ac nid wyf yn awgrymu am funud y gallai hyn ddigwydd—gynnydd graddol mewn gwleidyddoli yn ystod y broses. Heb unrhyw ddatganiad o du'r Gweinidog—a gallaf glywed grwgnach yn dod o'r meinciau, ond mae'n bwynt dilys i'w wneud, oherwydd os yw'r ymgynghoriad hwn yn mynd rhagddo, fel y mae'r Llywodraeth wedi nodi, ar wahân i'r sylwadau i'r wasg, ni chafwyd unrhyw ddatganiad nac arwydd gan y Gweinidog ynglŷn â faint o amser yn union y byddai'r ymgynghoriad yn ei gymryd, y math o ryngweithio â phobl ifanc fyddai'n digwydd neu ba fath o fforymau yr ymgysylltir â nhw. Credaf fod hynny'n wybodaeth eithaf perthnasol a ddylai fod ar gael i Aelodau, pe byddai rhieni'n codi pryderon ynghylch yr ymgynghoriad hwn, neu yn wir pe byddent eisiau rhyngweithio â'r ymgynghoriad. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Gweinidog perthnasol yn nodi sut yn union y bydd yn cynnal yr ymgynghoriad hwn, ac yn benodol, pa fesurau diogelu fydd ar waith.

Rwyf o'r farn y dylai plant gael eu clywed a'u gweld, ac y dylent gymryd rhan weithredol, sy'n briodol iddynt, mewn unrhyw un o faterion mawr y dydd sy'n effeithio ar eu dyfodol. Yn amlwg, mae'n rhaid i'r rhyngweithio fod yn briodol, ond y bobl ifanc hynny sydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd yw'r rhai hynny a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniadau a wnawn ni, gan y byddant, yn amlwg ar y blaned yn hwy na'r rhai hynny ohonom ni sy'n dechrau tynnu 'mlaen.

Felly, credaf ei fod yn beth priodol i'w wneud. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ymdrin â phlant yn briodol. Mae'r Gweinidog, mi wn, yn bwriadu dweud rhywbeth am yr ymgynghoriad hwnnw cyn bo hir, ond fe wnaf yn siŵr y bydd yn gwneud hynny yn briodol, ac os nad yw hynny ar fin digwydd, yna gwnaf yn siŵr y bydd yn ysgrifennu at yr holl Aelodau i'r perwyl hynny.

A gaf i dynnu sylw arweinydd y tŷ at y ffaith ein bod heddiw wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol ar hapchwarae yn y Cynulliad, a gofyn iddi ystyried dadl gan y Llywodraeth ar hapchwarae? Rydym newydd gael cynigion y Comisiwn Hapchwarae ynghylch terfynellau betio ods penodedig, ac fe synnwyd llawer ohonom a oedd yn disgwyl i'r terfyn uchaf fod yn is o lawer na'r £30 a gynigiwyd. Cafodd y farchnad ei synnu hefyd, oherwydd cododd stociau a chyfranddaliadau'r cwmnïau betio ar unwaith. Roeddynt yn amlwg yn disgwyl rheoliad llawer mwy llym na'r hyn sydd gennym. Nododd yr arolwg diweddaraf o broblemau gamblo yng Nghymru bod gan 4.5 y cant o ddynion Cymru yr hyn y gellid ei ystyried yn broblem hapchwarae. Nawr, mae hwnnw'n ffigur a fydd yn codi. Nodwyd gan y Prif Swyddog Meddygol bod hwn yn fater iechyd y cyhoedd i Gymru, felly credaf y byddai dadl—rydym wedi cael dadl meinciau cefn, ond credaf y byddai dadl gan y Llywodraeth ar hapchwarae yn briodol.

Yn y ddadl honno, hoffwn wybod yn union pa bwerau dros ddatganoli y mae'r Llywodraeth yn debygol o'u cael. Cafodd ei gynnig fel datganoli pwerau i atal ymlediad y terfynellau betio ods penodedig, ond credaf nad yw'n ond yn ymwneud â swm penodol o arian—rwy'n credu mai £10 yw'r arian betio sydd wedi'i grybwyll. Yn amlwg, petai'r Comisiwn Hapchwarae wedyn yn newid lefel yr arian fe fyddai'r setliad datganoli yn edrych ychydig yn rhyfedd. Rydym wedi ei gyflwyno fel un swm, ac yna mae'r Comisiwn Hapchwarae yn gallu newid y swm, felly nid yw'n ymddangos fel setliad datganoli da iawn i mi. Ond byddai'n dda cael deall beth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud â'r pwerau hyn, a hefyd beth yw'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Hapchwarae ei hun.

Rwyf wedi rhyngweithio â llawer o gyrff yn y DU dros y blynyddoedd, a dros y pum mlynedd diwethaf yn enwedig, maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i gynnwys Aelodau'r Cynulliad ac i siarad â nhw, ac i sylweddoli eu bod yn cynrychioli Cymru pan fyddant yn cynrychioli'r DU, neu Gymru a Lloegr. Corff y DU yw'r Comisiwn Hapchwarae sydd i fod i ryngweithio â Chymru, ond nid wyf yn ymwybodol—yn sicr nid yw wedi siarad ag Aelodau'r Cynulliad, a chredaf y byddai'n ddiddorol gwybod pa berthynas sydd ganddo â'r Llywodraeth. A all y Llywodraeth enwebu aelod o'r Comisiwn Hapchwarae ei hun, er enghraifft, neu a oes ganddo unrhyw berthynas ffurfiol fel hynny? Felly, rwy'n credu y byddai dadl ar hapchwarae yn ddiddorol iawn i Aelodau, ond rwy'n credu hefyd y byddai'n berthnasol iawn i'r broses o gaffael y pwerau newydd a sut y gellid eu defnyddio.

Yr ail beth yr hoffwn i ofyn amdano, os caf i, yw datganiad syml. Ddoe, cyhoeddwyd y cytundeb Brexit rhwng David Davis a Michel Barnier. Rydym wedi gweld y manylion ynglŷn â hwnnw. Dwi ddim eisiau dadlau am hwnnw nawr—mae gennym y Biliau yr ydym yn eu trafod hefyd; yr ydym wedi cael digon o hynny, efallai. Ond, wrth gwrs, erys yn y cytundeb hwnnw, y posibilrwydd y bydd Ynys Iwerddon gyfan yn parhau mewn undeb tollau a marchnad sengl. Byddai hynny'n gwthio'r ffin yn syth i Gaergybi yn benodol, ond i weddill Cymru hefyd. Golyga hyn oblygiadau enfawr i Gymru. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi datganiad ysgrifenedig inni, yn nodi, mae'n debyg, beth yw dehongliad a syniadau Llywodraeth Cymru ynghylch hynny. Beth yw'r goblygiadau i ni? Ar gyfer beth y dylem ni baratoi? Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn syml a ffeithiol i gael gwybod eich bod wedi ystyried y materion hyn a'ch bod yn barod i, os oes angen, weithredu arnyn nhw gyda Llywodraeth y DU.

Ac yn olaf, os caf i, byddwch yn gwybod y datgelwyd heddiw bod y ddau aelod sylfaenol o New Directions, sydd â chytundeb ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, wedi gwneud bron i £1 miliwn rhyngddynt. Efallai eich bod yn meddwl sut ar y ddaear y gallwch wneud £1 miliwn mewn dwy flynedd drwy ddarparu athrawon cyflenwi. Wel, fe ddywedaf i wrthych chi sut: rydych yn codi £1,250 am athro hanes dros bedwar diwrnod a hanner, ac wedyn rydych yn talu £130 y dydd i'r athro hanes. Dyna sut yr ydych chi'n gwneud £1 miliwn drwy ddarparu athrawon cyflenwi. Ni ddylid gwneud unrhyw elw ar ddarparu athrawon cyflenwi yng Nghymru. Mae'n gwbl anghywir bod arian cyhoeddus yn creu elw ar ddarparu athrawon cyflenwi. Mae yna ddewis arall—y dewis hwnnw yw asiantaeth athrawon cyflenwi gydweithredol, neu asiantaeth athrawon cyflenwi sy'n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol fel, er enghraifft y mae safonau bwyd yn dod o dan yr awdurdod lleol. Soniodd y Gweinidog addysg blaenorol am hynny ond ni wnaeth dim ynglŷn ag ef. Mae'r Llywodraeth hon wedi sôn amdano droeon ond wedi gwneud dim ynglŷn ag ef. Yn sicr mae'n bryd tynnu llinell o dan unrhyw elw a wneir ar ddarparu athrawon cyflenwi. Cyflwynwch ddeddfwriaeth gyflym a hawdd, y credaf y byddwn ni'n ei chefnogi, i wahardd yr arferion hyn.

15:00

Wel, roedd gan yr Aelod amryw o faterion i'w codi. O ran hapchwarae, mae'r Gweinidog yn mynd i gyflwyno datganiad, mewn gwirionedd, am sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r pwerau newydd pan fyddan nhw gennym ni, ond rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer i benodi rhywun i'r comisiwn. Rydym ni wedi gofyn i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2. Mae yna ymgyrch enfawr ar hyn, felly rydym ni'n siomedig iawn â'r canlyniad, a chredaf ei fod yn dipyn o ateb dros dro, gan ei roi i'r naill ochr heb gymryd y cyfrifoldeb drosto mewn gwirionedd. Rwy'n credu felly, ein bod ni'n rhannu'r siom y mynegodd yr Aelod ynglŷn â hynny. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar y pwerau newydd a'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda nhw i wneud yn siŵr ein bod yn cael y budd gorau.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, fel y soniodd yr Aelod o'r blaen, wedi galw ar i uchafswm yr arian gael ei ostwng i £2, oherwydd, yn amlwg, gallwch chi golli llawer iawn o arian yn gyflym iawn ar y pethau hyn. Mae'r cyfan yn rhan o'r mater o ymdrin â chaethiwed i hapchwarae a'r effaith ddifrifol y mae'n ei chael ar unigolion a'u teuluoedd. Rydw i wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd fy hun â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, mewn gwirionedd, ynghylch rhai o'r materion hyn, felly byddwn i'n fwy na pharod i gael rhagor o gysylltiad â nhw am rai o'r hysbysebion a welir ar y teledu yn hwyr y nos. I'r rhai hynny ohonom ni sy'n gwylio teledu yn hwyr y nos, mae'n eithaf syndod faint ohonyn nhw a geir. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymgymryd â chodi hynny gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu hefyd.

O ran Brexit, ie, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan fydd wedi gwella ar ôl y ffliw, yn dymuno gwneud datganiad ynghylch canlyniadau'r trafodaethau mwyaf diweddar, fel yr adroddwyd, a'u heffaith ar ein sefyllfa ni ac ati. Hoffwn i ddymuno'n dda iddo. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd yn gallu bod yn ôl yfory, ond mae arnaf ofn na fydd. Rwy'n siŵr y bydd eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein sefyllfa o ran hynny, cyn gynted ag y bydd yn ddigon iach.

Ac o ran athrawon cyflenwi, roedd contract Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol—cyflwynwyd tendrau gan bum endid. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o'r pethau hyn. Clywais i hefyd y cyfweliad ar y radio y bore yma gyda'r cyflenwr dan sylw. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gael ei barn hi ynghylch y teimladau a fynegwyd ar y rhaglen honno, ond rhoddwyd y contract yn y modd arferol, drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Ond, fel rwy'n dweud, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Arweinydd y tŷ, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am gyfyngiadau difrifol ar gysylltiad ffynonellau pŵer, gan gynnwys ffynonellau ynni adnewyddadwy, â'r grid cenedlaethol ym Merthyr Tudful—ac, felly, rwy'n tybio mewn ardaloedd eraill hefyd. Mae'n ymddangos i mi fod goblygiadau sylweddol i hynny ar nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynhyrchu ynni, datgarboneiddio ystâd y sector cyhoeddus, ac ar economïau lleol. Felly, a wnewch chi, arweinydd y tŷ drefnu, o bosibl, i gyflwyno datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y broblem hon a'r camau y gellid eu cymryd i'w goresgyn?

Ie, rydym ni'n ymwybodol iawn o broblem cyfyngiadau'r grid, yn arbennig yn y de, sydd yn cyfyngu ar y gallu i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy mewn rhai ardaloedd, ac mae wedi bod yn broblem barhaus ers peth amser. Rydym ni wedi codi'r pryderon hyn gyda Western Power Distribution, sy'n rheoli'r rhwydwaith dosbarthu yn y de. Er ein bod yn ei alw yn 'y grid', nid un endid mohono, wrth gwrs. Rydym ni wedi cael sicrwydd nad oes unrhyw gyfyngiadau eang ar y rhwydwaith, ond mae hwylustod a chost cysylltiad â'r rhwydwaith yn dibynnu yn fawr iawn ar nifer o ffactorau, fel maint y cysylltiad, lle mae'r safle, pa anghenion cynhyrchu eraill sydd eisoes wedi cysylltu â'r rhwydwaith, beth yw'r capasiti eisoes—mae'n faes cymhleth iawn i'w drafod. Felly, oherwydd hynny, rydym ni'n trefnu grŵp i weithio gyda ni ar atebion i'r heriau cynhenid wrth ddatblygu grid addas i gefnogi ein systemau ynni yn y dyfodol, ac yna byddwn yn gallu, o ganlyniad i drefnu'r grŵp hwnnw, datblygu dewisiadau i fynd i'r afael â phroblemau seilwaith grid Cymru, sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd y grŵp hwnnw wedi cyfarfod, eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â sut y mae'n mynd a datblygiad ei waith yn y dyfodol.

15:05

Dau fater, os caf i, arweinydd y tŷ: y cyntaf yw ei bod yn chwe wythnos dda bellach ers diwedd yr ymgynghoriad ar leoliad y ganolfan trawma newydd ar gyfer y de. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau wedi gweithio'n galed iawn i gael pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Mae barn gref iawn, fel y gwyddoch chi mae'n siŵr, o blaid lleoli'r gwasanaethau hynny yn Ysbyty Treforys ac, wrth gwrs, mae'n lleoliad gwell o gyfeiriad y gorllewin a de-orllewin Powys. Mae'n wasanaeth mor bwysig; meddwl ydw i tybed a gewch chi ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd iechyd cyn gynted â phosibl ar ôl toriad y Pasg.

Yn ail, tybed a gaf i ofyn i chi, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, am ddatganiad byr neu lythyr i Aelodau'r Cynulliad efallai yn cadarnhau a oes arweiniad ar gael i awdurdodau lleol ynghylch y defnydd o gilfachau parcio i bobl anabl yn ystod cyfnodau o adeiladu mewn ardaloedd dinesig. Mae etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cwyno bod gwaith sy'n cael ei wneud i gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi golygu bod y cilfachau parcio i bobl anabl yn llawn o ddeunyddiau adeiladu, a bod hynny'n ei gwneud yn arbennig o anodd iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau'r cyngor, heb sôn am fynd i mewn i swyddfeydd y cyngor i wneud cais i adnewyddu bathodyn glas. Diolch.

O ran y mater cyntaf, roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad. Canlyniad hynny, wrth gwrs, yw y cawsom ni lawer o gyfraniadau i'r ymgynghoriad, felly bydd Ysgrifennydd y Cabinet, cyn gynted ag y bydd y broses honno wedi gorffen, yn adrodd yn ôl yn fuan ar ôl toriad y Pasg. Mae'n nodio'n hapus ataf, felly rwy'n dweud hynny'n hyderus.

O ran y mater arall yr ydych yn ei godi, nid wyf yn ymwybodol o hynny o gwbl. Credaf yn wir mai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n gyfrifol am hynny, felly awgrymaf eich bod yn ysgrifennu ato i nodi manylion y digwyddiad penodol hwnnw, oherwydd nid wyf i'n ymwybodol o hynny fel problem gyffredinol.

Arweinydd y tŷ, a gaf i yn gyntaf oll gefnogi'r sylwadau gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas o ran y ddadl am hapchwarae yr ydym yn gobeithio ei chael ar ôl cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar hapchwarae heddiw? Mae yna deimladau cryf iawn, bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem honno, mewn gwirionedd, yn enwedig yn dilyn y newyddion o San Steffan ynghylch y terfyn betio o £30, sy'n gwbl annerbyniol.

Fy ail fater yw y byddwch chi'n ymwybodol, arweinydd y tŷ, y bu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o dan ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2016, sef, fel y gwyddoch chi, dim ond un cam i ffwrdd o fesurau arbennig. Roedd pryder yn bodoli ar yr adeg honno ynglŷn â gofal heb ei drefnu/gofal heb ei gynllunio, ymhlith materion eraill. Yn lleol, yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol y bu pwysau gweithredol sylweddol ar ofal heb ei drefnu, fel ym mhobman arall, dros y gaeaf, a bu effaith ganlyniadol ar gyflawni targedau perfformiad cenedlaethol. Felly, o gofio hynny i gyd ac o ystyried y ffaith bod dros flwyddyn a hanner wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru benderfynu darparu ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cyflwyno dadl â phwyslais penodol ar welliannau o'u cymharu â blaenoriaethau'r ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Diolch.

Ie, rwy'n cefnogi sylwadau'r Aelod ar hapchwarae, fel y nodais wrth ymateb i Simon Thomas. Rwy'n falch o weld bod grŵp trawsbleidiol wedi'i ffurfio i wneud hynny, ac, fel y dywedais i, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y bydd gennym y pwerau sydd ar gael inni i ystyried beth y gallwn ni ei wneud â'r pwerau hynny. Mae'n bwynt pwysig iawn.

O ran y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y mae'r Aelod yn ei chodi, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ddiwedd y flwyddyn yn crynhoi'r holl faterion sy'n ymwneud â hynny. Nid ydym ni'n bell iawn o ddiwedd y flwyddyn o ran hynny.

Arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu cynllun didyniad o'r gyflogres yr undeb credyd, a gefnogir gan Michael Sheen. Bûm yn siarad yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf yn Capital Law. A wnewch chi egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter hon ledled Cymru, sydd o fudd i gyflogwyr a chyflogeion yn y farchnad lafur?

A gawn ni hefyd ddatganiad ar yr alwad gan Ovarian Cancer Action am archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer Cymru o ganser yr ofari. Fel yr amlygwyd wrth Aelodau'r Cynulliad yr wythnos diwethaf, pan ddaeth Ovarian Cancer Action i'r Cynulliad i ddigwyddiad a noddwyd gan Hannah Blythyn, canser yr ofari yw'r canser gynaecolegol mwyaf marwol yn y DU. Ar Sul y Mamau, ymunais â channoedd o bobl eraill i gerdded er cof am Lesley Woolcock o'r Barri a oedd yn ymgyrchydd diflino ar ganser yr ofari, ond yn drist iawn fe fu hi farw yn 2016 o ganlyniad i ganser yr ofari. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Soraya Kelly a ymunodd â'r daith gerdded, sy'n cefnogi'r ymgyrch TheGlovesAreOn?

15:10

Ydw. O ran cynllun didyniad o'r gyflogres yr undeb credyd, rwy'n falch iawn o groesawu'r gwaith diweddar—pa un a yw'n cael ei gefnogi gan actorion enwog neu beidio, mewn gwirionedd—i hybu cynlluniau didynnu o'r gyflogres yr undeb credyd. Bu ymgyrch barhaus ers sawl blwyddyn bellach, mewn gwirionedd, i annog cyflogwyr mawr i ganiatáu didynnu o'r gyflogres i gefnogi'r undebau credyd oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n cynnig modd gwych i bobl gynilo a benthyg yn gyfrifol a chadw rheolaeth ar eu cyllid ac mae manteision gwirioneddol i gyflogeion a chyflogwyr—fel y mae Jane Hutt wedi'u nodi—o weithio mewn partneriaeth ag undebau credyd.

Rwy'n gobeithio mewn gwirionedd y bydd cyflogwyr ledled Cymru yn cymryd rhan, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd bod â nod i gydnabod cyflogwyr sy'n cynnig cynlluniau cyflogres yn helpu i ddatblygu hyn. Mae cant a deugain o sefydliadau ledled Cymru eisoes wedi cytuno i nod partner cyflogres undebau credyd Cymru, felly mae'n ddechrau calonogol iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog undebau credyd i ymweld â'n swyddfeydd i helpu i gynyddu'r aelodaeth ac i hyrwyddo agwedd gyfrifol tuag at gynilo a benthyg ymysg y staff. Ysgrifennodd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn ddiweddar at Gomisiwn y Cynulliad, mewn gwirionedd, i hyrwyddo gwerth gwasanaethau cyflogres ar gyfer staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd. Byddwn yn eu cynghori cyn bo hir ar ddyfarniadau cyllid i ddatblygu prosiectau o fis Ebrill eleni, felly mae'n gynllun da iawn yn wir, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei ymestyn ar hyd a lled Cymru. Mae hynny'n dda iawn.

Dau fater, os caf i, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, fel y Gweinidog dros yr holl bethau sy'n ymwneud â band eang a chysylltedd, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i dreialu technoleg band eang 5G yn Sir Fynwy. Mae hwn yn gyfle gwych: rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ar hynny. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU i dreialu hyn i wneud yn siŵr bod modd, os yw'n llwyddiannus, ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ledled gweddill Cymru neu fod modd datblygu atebion arloesol pwrpasol eraill?

Yn ail, mae llawer o'm hetholwyr yn poeni'n fawr am benderfyniad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gau ward dementia St Pierre yn ysbyty Cas-Gwent. Rwy'n sylweddoli mai mater i'r Bwrdd Iechyd yw hwn, ond tybed a allem ni gael datganiad ar y canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar sicrhau na chaiff pobl agored i niwed eu gadael—oherwydd penderfyniadau bwrdd iechyd —yn gorfod teithio pellteroedd hir ac afresymol iawn i gael y gofal dementia sydd ei angen arnynt.

Fe ddechreuaf gyda'r olaf a gweithio am yn ôl: mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei fod yn fodlon ystyried unrhyw faterion y mae'r Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw ynghylch hynny, felly byddwn i'n awgrymu eich bod yn ysgrifennu gydag unrhyw fanylion sydd gennych a gall ef ymdrin â nhw yn y modd hwnnw.

Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i gael peidio â dweud y geiriau 'band eang' heddiw, ond dyna ni; dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Mewn gwirionedd, cefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda chyngor Sir Fynwy a'r cynghorwyr yno am fand eang yn Sir Fynwy ac am gyflwyno 5G, felly rydym ni'n hapus i'w cefnogi nhw a chawsom gyfarfod defnyddiol iawn am sut y gallem ni wneud hynny. Rydym ni'n parhau i wthio am sawl cynllun treialu 5G mewn gwahanol fannau yng Nghymru. Rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn, fel yr wyf i wedi dweud yn aml iawn yn y Siambr hon, am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd i'r afael â gwerthu technoleg 5G a byddwn ni'n cadw llygad barcud ar hynny ac yn ymgynghori yn yr holl ffyrdd arferol a wnawn.

Roeddwn i eisiau gofyn am ddatganiad gweinidogol ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd i ymwneud â'r sector breifat yng nghyd-destun diogelwch y fflatiau sydd yn cwmpasu y sefyllfa deunydd cyfansawdd alwminiwm. Rydw i'n gwybod bod Llywodraeth San Steffan yn edrych i mewn i'r sefyllfa, ond pan gawsom ni dystiolaeth i'r pwyllgor sy'n cael ei gadeirio gan John Griffiths, roedd hi'n amlwg bod lot o'r sector breifat ddim wedi ymwneud â'r sefyllfa; ddim wedi rhoi gwybodaeth gerbron ynglŷn ag os oedd yna cladding ACM gyda nhw, ac rydw i wedi cwrdd â nifer o grwpiau tenantiaid yn y sector breifat sydd yn poeni mai nhw fydd yn gorfod talu y bil os oes yna broblemau. Felly roeddwn i eisiau, cyn ein bod ni'n torri am recess, gofyn am ddiweddariad ar ôl i ni ddod nôl er mwyn deall beth sydd yn digwydd yn benodol yn y sector breifat.

Ie. Rwy'n deall ein bod ni wedi gwneud cynnydd rhagorol, mewn gwirionedd, o ran ymgysylltu â pherchnogion preifat ac asiantau rheoli tua 105 o flociau preswyl uchel ledled Cymru, ond mae'r Gweinidog yn dangos ei bod hi'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch ein sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, yn ffodus i chi, mae hi'n eistedd y tu ôl i mi yn nodi ei bod yn cytuno i hynny.

15:15

Arweinydd y tŷ, mae arnaf ofn nad ydych chi'n cael anghofio am fand eang oherwydd mae fy nghwestiwn yn deillio o ohebiaeth yr wyf wedi ei chael gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Maen nhw wedi dwyn fy sylw at ddiffyg band eang yn eu gorsaf ym Mhenmaen Dewi.

Maent wedi fy sicrhau mai dyma'r unig orsaf RNLI ledled y DU heb fand eang. Mae gwasanaeth cyflym, dibynadwy, fel y gallwch ei ddychmygu, yn hanfodol i gael bad achub i'r rhai sydd ei angen, pan mae ei angen arnynt. Ar hyn o bryd, gall lansio'r bad achub fod yn annibynadwy oherwydd cysylltiadau radio gwael, yn enwedig mewn tywydd gwael, pan mae'r angen am fad achub yn fwyaf tebygol, wrth gwrs. Dywedodd yr RNLI wrthyf eu bod nhw wrthi'n diweddaru eu system lansio yn Nhyddewi, ond bod band eang dibynadwy yn hollbwysig. Mae'n ymddangos na chawson nhw system a fu'n llwyddiannus iawn, ond yn yr achos hwn, nid oes ganddyn nhw fand eang o gwbl. 

Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn yw: allech chi gael gair gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am fand eang—hynny yw, chi eich hun—a siarad gyda BT a chael trafodaeth gyda nhw ynglŷn â gosod band eang, ym mha ffordd bynnag a wnânt hynny, yn yr orsaf bad achub hon yn Nhyddewi, fel nad hi fydd yr unig orsaf RNLI heb fand eang yn y DU?

Ydy. Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt ardderchog, ac mae'n bwynt pwysig iawn hefyd. Byddaf yn sicr yn codi'r mater gydag Openreach a chyda fy swyddogion i weld a allwn ni ddatrys rhai materion gyda nhw cyn gynted â phosib. Mae rhai materion ar y gweill sy'n fasnachol gyfrinachol ynglŷn â chaffaeliadau newydd, ond rwy'n gobeithio y bydd penderfyniad yn eu cylch yr wythnos hon. Felly, gobeithio y cawn ni newyddion da cyn y gwyliau Pasg ynglŷn â'r pwynt hwnnw.

Mewn gwirionedd, gofynnwyd fy nghwestiwn cyntaf gan Mr Nick Ramsay, ac fe wnaethoch chi ei ateb yn huawdl. 

Fy ail gwestiwn yw hyn. Cerddodd un o'm hetholwyr i mewn i'm swyddfa a gofynnodd y cyngor lleol iddo wneud—. Gan nad yw ei fusnes yn llewyrchus iawn, ar ôl 30 mlynedd mae eisiau rhoi'r gorau iddi, felly aeth at y cyngor a dywedodd y cyngor lleol, 'os caewch chi'r siop, bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi llawn, ond os ydych chi'n cadw'r siop yn agored, byddwch yn talu hanner yr  ardrethi.' Ai dyma beth mae Cyngor Caerffili yn ei wneud yn yr ardal gydag ardrethi? A allech chi ofyn i'ch Gweinidog llywodraeth leol esbonio pam mae'r busnesau hyn yn brwydro i oroesi, o ran yr ardrethi a phopeth arall, a pham y ceir  goblygiadau o'r fath? Pan maen nhw'n masnachu, rhaid iddyn nhw dalu hanner yr ardrethi, ond os nad ydyn nhw'n masnachu, mae'n rhaid iddyn nhw dalu ardrethi llawn ar gyfer yr eiddo.

Rwy'n credu bod hynny'n fater penodol iawn, nad yw'n addas rhoi sylw iddo ar ffurf datganiad. Awgrymaf eich bod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ateb penodol i'r broblem honno.

Tra rydym ni wedi bod yn y Siambr, hwyrach y gwelsoch chi fod adroddiad yr anfonwyd gwasanaethau brys i RAF y Fali ar ôl i awyren Hawk a oedd yn cael ei hedfan gan dîm arddangos y Red Arrows gael damwain. Hwyrach bod yr Aelodau yn bryderus. Gobeithio na fu marwolaethau nac anafiadau, ond gwyddom fod 1,500 o bobl yn gweithio yn y ganolfan ac mae llety preswyl ar y safle ac o'i amgylch. A allai Llywodraeth Cymru, felly, sefydlu ar frys yr hyn a wyddom ni a gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau, fel y gallwn ni gael gwerthusiad o'r amgylchiadau?

Ac yn ail, ac yn olaf, ar nodyn hapusach, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Glyndŵr, sy'n dathlu ei 10 mlynedd gyntaf ers ymsefydlu'n brifysgol?

Ydw, rwy'n ymwybodol o'r digwyddiad yn RAF y Fali. Mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod wedi gadael y Siambr er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth. Nid oes gennyf unrhyw wybodaeth bellach hyd yma. Rwy'n siŵr fel y cawn fwy o wybodaeth, y byddwn yn hysbysu'r Senedd.

Ac ydw, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ymuno gyda'r Aelod i longyfarch Prifysgol Glyndŵr ar yr achlysur hwnnw.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol

Felly, rŷm ni'n cyrraedd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r datganiad hwnnw ar lywodraeth leol. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Alun Davies.

Member
Alun Davies 15:19:38
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr. Llywydd, rwy'n credu mewn Llywodraeth Leol. Cefais fy magu mewn tŷ lle'r oedd fy nau riant yn gweithio yn darparu gwasanaethau lleol yn Nhredegar. I mi, nid yw Llywodraeth Leol yn ymwneud yn unig â strwythurau a llinellau ar fapiau. I mi, mae'r drafodaeth hon yn ymwneud â phobl, ac mae'n ymwneud â phwy ydym ni fel pobl.

Hoffwn inni drafod a dadlau sut yr ydym ni'n cryfhau ac yn grymuso cymunedau a chynghorau ledled Cymru. Cytunaf gyda'r bobl hynny sydd wedi dadlau bod angen inni ddatganoli pwerau, nid yn unig i Gymru, ond ledled Cymru hefyd. Rwyf eisoes wedi gofyn i arweinwyr cyngor pa bwerau newydd ac ychwanegol y mae arnyn nhw eu heisiau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn well ac i ddylanwadu ar ddyfodol y cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli.

Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o bwerau i lywodraeth leol Cymru ac rwyf eisiau rhoi'r pwerau newydd hynny i gynghorau sy'n gadarn ac yn ddigon cynaliadwy i'w defnyddio. Rwy'n gobeithio y bydd hon yn drafodaeth fuddiol a chadarnhaol. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae pob un ohonom ni wedi canolbwyntio dim ond ar yr heriau sy'n wynebu cynghorau, boed y rheini yn rhai ariannol neu fel arall. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ganolbwyntio ar y cyfleoedd y gallwn ni helpu i'w creu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru—cynghorau sydd â mwy o ryddid a phwerau, sy'n fwy beiddgar ac yn fwy arloesol, ac a all gyflwyno'r atebion gorau ar gyfer eu cymunedau a llunio'u dyfodol.

Rydym ni i gyd eisiau gweld mwy o bobl yn dod i lywodraeth leol i wasanaethu fel cynghorwyr. Mae arnom angen cynghorwyr, hen a newydd, sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau ac sy'n egwyddorol, yn alluog ac egnïol, yn gweithio'n galed i wella bywydau pobl er gwell. Rydym ni i gyd hefyd eisiau gweld dadlau democrataidd ac atebolrwydd grymus yn ymwreiddio yn y cymunedau a wasanaethwn. Ac mae hynny'n cynnwys cynghorau cymuned a thref, sy'n chwarae rhan bwysig wrth gyflwyno llywodraeth leol gref. Er bod swyddogaeth cynghorwyr a'u perthynas â'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli wedi newid yn ddramatig dros y 10 mlynedd diwethaf, nhw o hyd yw curiad calon llywodraeth leol. Mae gan gymunedau ddisgwyliadau uchel ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac mae cynghorwyr ledled Cymru yn gwneud rhai dewisiadau anodd iawn. Rwyf eisiau sicrhau y cânt eu cefnogi, eu cydnabod a'u gwobrwyo yn ôl eu hangen a'u haeddiant ar gyfer y swyddogaeth hanfodol y maent yn rhan ohoni yn ein democratiaeth.

Llywydd, nid wyf yn credu y gellir adeiladu'r weledigaeth hon o lywodraeth leol rymus, gadarn ac egnïol heb gael trafodaeth o ddifrif ynglŷn â strwythurau llywodraeth leol. Mae ar Gymru angen awdurdodau lleol cryf, effeithiol, a grymus y gallant ymdopi â chynni parhaus ac adeiladu strwythurau democrataidd lleol sy'n addas i'r cenedlaethau i ddod. Mae angen i'n hawdurdodau lleol gael y capasiti a'r gallu i ddatblygu a gweithredu'r atebion newydd beiddgar a fynnir gan yr heriau cynyddol y maent yn eu hwynebu.

Rwy'n gwybod bod llywodraeth leol wedi gwneud rhai ymdrechion gwirioneddol i newid, i addasu ac i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf hefyd yn deall yn wyneb toriadau Llywodraeth y DU, mai dim ond hyn a hyn o ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau lleol yn y dyfodol. Mae derbyniad cyffredinol na all pethau barhau fel y maent a chydnabyddiaeth gyffredinol na fyddai mwy o arian, hyd yn oed pe bai ar gael, o reidrwydd yn datrys yr holl broblemau hyn.

Mae cydweithio'n rhanbarthol yn parhau'n hanfodol. Mae'n ganolog i'n model o ddarparu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae llywodraeth leol wedi arwain hyn yn rhagweithiol drwy gyfrwng y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf. Rhaid i hyn barhau, ac rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio'n rhanbarthol. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau newid. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi cynigion i gynyddu cyfranogiad ac i wella'r broses ddemocrataidd i bawb yng Nghymru, a byddaf yn parhau i weithio'n galed i gyflwyno'r gyd-weledigaeth hon.

Mae'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd yr wyf yn ei lansio heddiw yn nodi'r cynigion i edrych ar y posibilrwydd o greu cynghorau cryfach, mwy o faint. Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi'r gwahanol ddewisiadau i'w trafod ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn. Mae'r dewisiadau hyn yn cynnwys trefniadau uno gwirfoddol, dull gweithredu fesul cam gyda'r rhai sy'n mabwysiadu hynny yn gyntaf yn uno yn gyntaf, ac yna awdurdodau eraill, neu yn olaf, raglen gynhwysfawr i greu strwythur newydd ar gyfer llywodraeth leol.

Llywydd, mae dod ag awdurdodau lleol at ei gilydd, gan wneud amrywiaeth o newidiadau er mwyn adfywio'r broses ddemocrataidd gyda'r bwriad o gryfhau swyddogaeth aelodau etholedig, yn cynnig cyfle inni greu sefydliadau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy ac yn atebol yn ddemocrataidd, ac sy'n gallu ymdrin â llawer o'r newidiadau a'r heriau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu ein cymunedau nawr, ac yn y dyfodol.

Mae'n bwysig, fel rhan o'r ddadl hon, gael cynllun cytunedig ar gyfer dyfodol llywodraeth leol. Er y credaf fod cynllun o'r fath ar gyfer y dyfodol yn hanfodol, rwy'n barod i drafod ei ffurf. Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi ffordd o fynd ati sy'n adlewyrchu meddylfryd Comisiwn Williams ac yn adeiladu ar adborth o'r ymgynghoriadau blaenorol i ysgogi trafodaeth i gytuno ar sut i fynd ati. Rwy'n cydnabod bod nifer o heriau wrth greu awdurdodau cryfach, mwy o faint. Nid yw'r heriau hyn yn rhai amhosib eu goresgyn; maent yn gymhleth, o bosib, a bydd eu goresgyn yn gofyn am ymrwymiad ac arweinyddiaeth ar bob lefel o Lywodraeth. Fodd bynnag, ynddynt eu hunain, nid ydynt yn rhesymau dros osgoi gwneud newidiadau i helpu i drawsnewid a chynnal ein gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol.

Credaf fod gan lywodraeth leol y weledigaeth a'r uchelgais i drawsnewid ein cymunedau a bod angen i ni, Lywodraeth Cymru, eu galluogi i wireddu'r uchelgeisiau hynny. Rwy'n gwneud cynigion heddiw, ond rwyf yn parhau'n ymroddedig i gael sgwrs a byddwn yn croesawu unrhyw gynigion ychwanegol gan eraill. Llywydd, gobeithio yn awr y gallwn ni gael y sgwrs gadarnhaol, adeiladol a gobeithiol honno ynglŷn â sut yr ydym ni'n grymuso ac yn cryfhau llywodraeth leol ar gyfer y dyfodol.

15:25

Llywydd, heddiw, fe'n galwyd ni lefarwyr am 10:30 i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i drafod y cynigion ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Mae wedi dadlau ers iddo ymgymryd â'i swydd bod arno eisiau gwneud hynny gyda pharch llwyr, ac mae hynny'n rhywbeth y mae arnom ni eisiau gweithio tuag ato, mewn modd cadarnhaol, wrth gamu i'r dyfodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi fod yn onest, i gyflwyno wedyn Bapur Gwyrdd 70 tudalen o hyd gydag ychydig iawn o amser i'w ddarllen ac i allu craffu yn uniongyrchol, nid yw'n rhoi llawer o amser inni, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos diffyg parch. Fodd bynnag, rydym ni'n symud ymlaen; rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, ac mae gennym ni gwestiynau'r llefarwyr yfory, felly yn ddiamau byddaf yn holi ynghylch rhai o'r pwyntiau mwy dadleuol.

Ond, wyddoch chi, gall diwygio ym mha bynnag fodd, a sut bynnag y mae'n ofynnol, fod yn ddadleuol, yn enwedig o gofio bod hon yn ymgais arall eto gan eich Llywodraeth i fynd i'r afael â system fethedig o lywodraeth leol, ac mae hi wedi methu dan Lywodraeth Lafur Cymru. Nid wyf yn rhoi'r bai ar ein staff gweithgar, ein swyddogion na'n haelodau etholedig ym mhob un o'r 22 awdurdod. Y bai am 20 mlynedd o redeg ein system llywodraeth leol i gyflwr a ddisgrifiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel gweld gwasanaethau

'yn cael eu gwasgu hyd yr eithaf ac mae’r cyhoedd yn...rhwystredig wrth dalu mwy o dreth cyngor ac eto’n gweld gwasanaethau cymunedol allweddol yn cael eu torri neu'n cau'—.

Yn wir, mae'n arwyddocaol nad oes unrhyw sôn mewn gwirionedd am wella ansawdd gwasanaethau i drigolion lleol, nid oes sôn am yr egwyddorion sylfaenol sy'n ofynnol gydag unrhyw ddiwygio, o lywodraethu ariannol, atebolrwydd democrataidd ac uniondeb ariannol. Rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa gyfan ar hyn o bryd yn anghynaladwy a bod yn rhaid i rywbeth newid. Unwaith eto, dyna'r hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud.

Y maes mwyaf mewn llywodraeth leol lle gellid gwneud arbedion ymlaen llaw heb ailstrwythuro cynhwysfawr yw drwy weithio ar y cyd mewn gwasanaethau cefn swyddfa, a chrybwyllwyd hynny gyda'r holl gyrff rheoleiddio ac eraill sy'n awyddus ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ledled Cymru. Gyda hynny nid oes angen unrhyw newid i ddeddfwriaeth, nid yw'n effeithio ar gynrychiolaeth ddemocrataidd a gallai ddechrau ar unwaith. Mae'r agweddau cefn swyddfa ar lywodraeth leol wedi cael eu halltudio i dudalennau 41 a 42 y Papur Gwyrdd, ac rydych chi'n cael yr argraff ei fod yn ôl-ystyriaeth. Mae hynny, i mi, yn dweud cyfrolau bod Llywodraeth Lafur Cymru nid yn unig wedi andwyo ein gwasanaeth iechyd ers datganoli, ond oherwydd diffyg gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth, mae gennym ni bellach system ddarniog iawn o wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Rydych chi'n cyfeirio at gomisiwn Williams yn eich Papur Gwyrdd, gan dynnu sylw at rai o'r problemau sy'n wynebu llywodraeth leol. Eto i gyd, nid yw'n cydnabod llawer o'r 62 o'r argymhellion eraill a wnaed gan y comisiwn hwnnw.

Dyma bellach fydd y drydedd ymgais a'r trydydd cyhoeddiad o fwriad eich llywodraeth chi o chwarae'r ffiniau —rwy'n golygu ad-drefnu llywodraeth leol. Dros y saith mlynedd diwethaf, yn fy swyddogaeth fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Leol, mae'r portffolio hwn wedi newid dwylo yn y Cabinet ddim llai na phum gwaith gyda thri model gwahanol o ddiwygio Llywodraeth Leol yn y dyfodol. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yw: a ydych chi'n credu, mewn gwirionedd, y byddwch chi hyd yn oed yn dal i fod yn y swydd i weld unrhyw ddiwygio sylfaenol a chadarnhaol yn y dyfodol?

Yn 2016, adroddwyd hefyd bod eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, wedi addo i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin y byddai ei gyngor yn uned ar wahân am o leiaf 10 mlynedd, gan gefnogi yn hytrach y dewis o weithio'n rhanbarthol. Cawn wybod bellach fod y Papur Gwyrdd yn ceisio cael gwared ar weithio rhanbarthol ac, wrth wneud hynny, rydych yn taflu cynghorau, a'u staff, i fwy o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.

Nawr, rwy'n credu bod hyn yn golygu tri chynnig ar gyfer diwygio Llywodraeth Leol mewn dwy flynedd. Mae nifer y cyhoeddiadau ac ymgynghoriadau a restrir yn Atodiad A—wyth mewn dwy flynedd—yn dangos pa mor hir fu'r daith o adeg cyhoeddi adroddiad Williams i'r sefyllfa bresennol. Yn sicr ni fu'n uniongyrchol. Rwy'n nodi'r dewisiadau a amlinellir yn y papur gwyrdd ac o'r farn mai un yn unig sy'n diogelu awdurdodau lleol rhag uno gwirfoddol. A oedd sicrwydd eich rhagflaenydd i Gyngor Sir Gaerfyrddin, felly, yn anghywir o ran dewis 1 ac uno gwirfoddol? Nawr bod y rhain yn bosibiliadau unwaith eto, a fyddwch chi'n dechrau trafod gyda'r awdurdodau hynny, a beth ydych chi wedi ei wneud hyd yn hyn ar gyfer y rhai a gyflwynodd gynigion ar uno gwirfoddol o'r blaen, i wneud yn iawn i'r rhai a daflwyd yn ddiseremoni o'r neilltu gan Weinidog, wel, Cabinet blaenorol, ar y pryd?

O ran dewisiadau 2 a 3, rydym ni'n wynebu yr un pryderon ynghylch y broses wirioneddol tuag at uno. Ble mae eich dadansoddiad cost ar gyfer gweithredu'r system a fydd, i bob pwrpas, yn gweld 22 awdurdod lleol mewn gwirionedd yn lleihau i 10? Ynglŷn â chysoni'r dreth gyngor, prin iawn yw'r sôn am hynny yn y papur hwn. Dywed fod cydgyfeirio wedi digwydd, ac, yn y rhan fwyaf o leoedd, bod y gwahaniaethau heddiw yn fach ac ni ddylai hyn fod yn broblem nad oes modd ei datrys. Ond rydym yn gwybod, yn Sir Fynwy, er enghraifft, ar gyfer eiddo band E, mae'n £300 yn llai nac ym Mlaenau Gwent. Ac rydych chi mewn difrif calon eisiau uno Blaenau Gwent, Torfaen gyda Sir Fynwy. Rydym ni'n gwybod beth yw gwreiddyn hyn. Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda system etholiadol newydd, yn y dyfodol. Ac mae hyn yn—mae hyn yn ddiwygio gwleidyddol. Does a wnelo ddim â darparu gwasanaethau da i'n pobl.

O ran pwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol, mae gennym yr un cwestiynau ag yn y Cynulliad diwethaf. Sut y byddant yn atebol? Beth fydd y gost? Pwy fydd yn eu diogelu ac yn eu cynllunio ymhell ymlaen llaw? Rwy'n sylwi ichi esbonio eich bod yn bwriadu datganoli pwerau sylweddol i awdurdodau lleol—mae wedi cymryd 20 mlynedd mewn gwirionedd ichi hyd yn oed ystyried gwneud hynny—er enghraifft, defnydd tir, cynllunio, tai, sgiliau, trafnidiaeth a'r amgylchedd, yn ogystal â materion yn ymwneud ag arian, cyllid a threthu. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn amrywiaeth sylweddol iawn, ac rwy'n dal i fod, mewn gwirionedd, yn amheus ynghylch a yw'r Llywodraeth hon yn barod amdani. Yn y bôn, cynnig mwy o ffyrdd i drethu ein trigolion lleol sy'n gweithio'n galed—rydym ni'n gwybod bod grŵp Llafur Cymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr wedi galw am dreth gyngor uwch, treth gwerth tir newydd a threth gwesty, felly a wnaiff ef—

15:30

A gaf i ofyn ichi ddod â'ch cwestiynau i ben? Rydych chi bellach wedi cymryd hirach nag Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, os gallwch chi ddirwyn eich cwestiynau i ben.

Iawn. Iawn. Gyda'ch cynigion ar gyfer awdurdodau lleol mwy, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld y caiff cynghorwyr eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol neu y cyntaf i'r felin? Hoffem gael ateb i hynny heddiw. Ac, yn olaf, a wnewch chi gadarnhau faint o arweinwyr cyngor sydd wedi gofyn i chi adael llonydd i'w cynghorau ac mewn gwirionedd i barhau gyda'r model presenol o 22 awdurdod lleol? Faint o arweinwyr cyngor, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn gwirionedd? Diolch.

Rwy'n credu y bydd yr Aelodau drwy'r Siambr gyfan yn falch o glywed bod gan y Ceidwadwyr Cymreig gwestiwn neu ddau ar ddiwedd hynny. Byddaf yn dweud wrth yr Aelod imi orffen fy natganiad gyda'r geiriau fy mod yn gobeithio y gallwn ni gael sgwrs gadarnhaol, adeiladol a gobeithiol bellach. Efallai fod hynny, ynddo'i hun, yn obeithiol. Mae'r Aelod wedi rhestru nifer o ymgynghoriadau a'r broses y buom drwyddi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yr hyn na soniodd amdano yw'r ffaith nad yw hi wedi cefnogi dim un o'r cynigion hynny, nac ychwaith wedi cyflwyno unrhyw gynigion ei hun. Wyddoch chi, nid yw'n ddigonol—. A gadewch imi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn yn gwbl, gwbl eglur: mae'n ymateb annigonol i'r heriau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu i wneud dim amgenach na dweud ac ailadrodd yr areithiau a wnaed flwyddyn a dwy flynedd yn ôl. Mae hynny'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol. Mae'n ymateb annigonol i'r hyn a gynigir heddiw, a'r hyn a gynigir yn y Papur Gwyn hwn. Gadewch imi ddweud hyn: mae'r Aelod dan sylw, y Blaid Geidwadol—[Torri ar draws.] Rydych chi wedi gofyn y cwestiynau; rwyf yn eithaf parod i eistedd os nad ydych chi'n barod i wrando ar yr atebion. Gadewch imi ddweud hyn: mae'r Ceidwadwyr yn disgrifio ein system llywodraeth leol yn system sydd wedi methu a system sydd wedi torri. Rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw. Rwy'n ei wrthod yn llwyr. Rwy'n gwrthod ei beirniadaeth o arweinwyr llywodraeth leol, ac rwy'n gwrthod ei beirniadaeth o'r ffordd y mae llywodraeth leol ar hyn o bryd yn cael ei rheoli yng Nghymru. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw nid edrych am anawsterau ac edrych am yr agweddau hynny lle mae heriau yn wynebu llywodraeth leol. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud yw edrych ar ddyfodol llywodraeth leol a bod yn gadarnhaol am y dyfodol hwnnw.

Mae'r Aelod yn gofyn am systemau pleidleisio, ac mae'n defnyddio iaith pur wael er mwyn disgrifio ei phryderon. Ond rhaid imi ddweud wrthi, gwnes y datganiad hwnnw— [Torri ar draws.] Gwnes y datganiad hwnnw—gwnes y datganiad hwnnw, ym mis Ionawr, ynglŷn â systemau etholiadol. Nid ydym wedi diwygio hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl, ac mae hynny yn ffurfio rhan o sail yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud heddiw. Ond gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cefnu ar arfer oes ac yn edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y byddant yn rhan o'r broses hon—nid ydyn nhw wedi bod hyd yn hyn, ond rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud hynny. A gadewch imi bwysleisio eto, Llywydd, proses Papur Gwyrdd yw hon. Nid terfyn sgwrs; mae'n ddechrau sgwrs. Rwyf eisiau clywed, a byddaf yn ceisio mynd ati'n rhagweithiol i glywed, nid yn unig yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud am y cynigion a wnaf yn y ddogfen hon, yn y Papur Gwyrdd hwn, ond cynigion y mae eraill yn dymuno eu gwneud yn ogystal â'r cynigion sydd ganddyn nhw i rymuso awdurdodau lleol, cynigion sydd ganddyn nhw i wneud llywodraeth leol yn fwy cadarn a mwy pwerus yn y dyfodol, cynigion sydd ganddynt er mwyn datganoli mwy o bwerau o'r lle hwn i lywodraeth leol ledled Cymru, cynigion sydd ganddyn nhw i wella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, a chynigion sydd ganddyn nhw er mwyn cryfhau a grymuso atebolrwydd democrataidd a'n dadleuon democrataidd lleol ledled Cymru. Mor wahanol i'r Ceidwadwyr, pryd bynnag y gofynnir y cwestiynau anodd, y cyfan a glywn yw distawrwydd byddarol.

15:35

Ges innau, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, fy magu mewn cartref ble roedd fy nau riant yn gweithio i gyngor lleol, yn darparu gwasanaethau lleol i bobl a phlant yng Ngwynedd. Rydw i wedi bod yn gynghorydd cymuned ac yn gynghorydd sir, ac rwyf yn rhannu barn yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â phwysigrwydd llywodraeth leol. Dyma'r rhwyd sy'n ceisio diogelu ein pobl a'n cymunedau mwyaf bregus. Mae'r dasg yn mynd yn gynyddol anodd wrth i bolisïau llymder frathu, ac mae gen i'r parch mwyaf i'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein cynghorau lleol ar draws Cymru.

Felly, beth yn y byd sydd yn mynd ymlaen yn rhengoedd y Llywodraeth hon? Heddiw, rydym ni'n cael cadarnhad o dro u-bedol pellgyrhaeddol ynglŷn â dyfodol ein cynghorau. Wedi dwy flynedd o fynd i un cyfeiriad dan arweinyddiaeth Mark Drakeford, wele Ysgrifennydd Cabinet newydd yn dod â Phapur Gwyrdd gerbron sydd yn dro pedol syfrdanol. Mae'r saga hon—yn wir, y ffars hon—yn gofyn cwestiynau sylfaenol am allu'r Llywodraeth hon i lywodraethu yn effeithiol, ac yn gofyn cwestiynau sylfaenol am yr arweinyddiaeth bresennol.

Fe gofiwch chi ym Mehefin 2015 cafwyd cyhoeddiad gan Leighton Andrews, y Gweinidog llywodraeth leol ar y pryd, a oedd yn cynnig creu wyth neu naw awdurdod lleol allan o'r 22 yng Nghymru. Fe gofiwch chi'r storm o brotest a ddaeth yn sgîl hynny, ac, erbyn cyhoeddi maniffesto Llafur, cyn etholiadau Cynulliad 2016, roedd hynny wedi mynd i'r gwellt—nid oedd yna ddim ymrwymiad i'r nifer o gynghorau yr hoffai Llafur eu gweld yn cael eu creu. Ac meddai Unison ar y pryd:

Rydym mewn cyflwr o ansicrwydd... mae'r gweithlu yn bryderus ac yn ofni'r dyfodol.

Fe gollodd Leighton Andrews ei sedd yn y Rhondda ym Mai 2016, yn sgîl buddugoliaeth swmpus fy ffrind Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. Daeth Mark Drakeford yn Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac roedd yna gynigion newydd ar y bwrdd. Roedd uno cynghorau, drwy Ddeddf, wedi mynd, ac roedd rhanbartholi mandadol o rai gwasanaethau yn opsiwn canolog i weledigaeth Drakeford. A dyma ni, bron i dair blynedd yn ddiweddarach, ac o dan oruchwyliaeth Ysgrifennydd Cabinet newydd eto—y trydydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Leol mewn tair blynedd. A dyma ni, yn ôl i fap tebyg iawn i un Leighton Andrews. Roedd ganddo fo wyth neu naw cyngor newydd; heddiw, 10 cyngor newydd sydd ar y bwrdd.

Felly, mi hoffwn i ofyn: pam fydd uno cynghorau yn mynd i ddenu cefnogaeth y tro yma pan fethwyd y tro diwethaf? A fedrwch chi gadarnhau bod yr amserlen yn opsiwn 2 yn golygu bod gan gynghorau tan 2027 i uno? Rydw i'n meddwl bod Janet Finch-Saunders wedi gofyn y cwestiwn, ond wnes i ddim clywed yr ateb. Roedd Mark Drakeford wedi gwarantu na fyddai yna newid am 10 mlynedd. Eisoes, rydw i'n cael negeseuon yn gofyn am gadarnhad o hynny, felly mi fuaswn i'n falch iawn petaech chi'n gallu cadarnhau hynny. Ynglŷn â'r pwerau newydd a fydd yn cael eu datganoli i'r cynghorau newydd yma, beth fydd y pwerau yma? Ac a fydd yna gyllid yn mynd efo'r pwerau hynny? Ac yn olaf, a fydd eich Llywodraeth yn gwneud dadansoddiad o faint fydd yr opsiwn o uno cynghorau yn ei gostio?

I gloi, mae yna dri pheth yn glir. Unwaith eto, mae llywodraeth leol mewn limbo. Unwaith eto, mae gweithwyr yn ansicr am eu dyfodol. Unwaith eto, rydym ni'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd yn ailgylchu cynigion, yn ailgychwyn sgwrs sydd wedi ei chynnal yn aflwyddiannus o'r blaen, a dim arwydd o gynnydd o du'r Llywodraeth aneffeithiol yma.

15:40

Rydw i'n dal yn mynd i fod yn cymryd fy optimism ymlaen gyda'r math o atebion rydym ni'n eu cael, achos beth rydw i'n clywed gan y llefarydd Plaid Cymru yw ailadrodd hanes; araith hanesyddol, ond ddim yn cynnig unrhyw syniadau newydd. Dyna beth nad ydym ni'n gweld yn y drafodaeth yma. Nid oes un o'r gwrthbleidiau rydym ni wedi clywed ganddyn nhw yn barod—nid oes ganddyn nhw unrhyw syniadau o gwbl am sut rydym ni'n mynd i symud ymlaen.

A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn yn glir? Rydw i wedi bod yn siarad gydag arweinwyr cyngor ar draws Cymru, yn cynnwys arweinwyr Plaid Cymru, ac a gaf i ddweud hyn wrthych chi: nid oes neb sydd yn mynd i ddweud eu bod nhw'n hapus gyda'r sefyllfa bresennol ac yn credu bod y strwythur presennol yn gynaliadwy yn y dyfodol? Ac mae'n rhaid i fi wynebu hynny. Mae'n rhaid i fi wynebu hynny. Mae'n bosibl i chi edrych yn ôl i'r etholiadau diwethaf, ond mae'n rhaid i fi edrych i'r dyfodol, ac mae'n rhaid i fi edrych ymlaen, ac mae'n rhaid i fi meddwl amboutu'r math o strwythur a fydd yn rhoi sicrwydd i'r gweithwyr cyngor ac i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaethau lleol.

Nid yw hi'n ddigonol, felly, i beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth yna amboutu'r dyfodol. Fe wnaf i ddweud hyn wrthych chi: rydw i eisiau chwilio am gytundeb gyda llywodraeth leol. Nid ydw i eisiau gwthio newid trwyddo oni bai bod yna gefnogaeth am hynny. Rydw i eisiau treulio amser yn cael y sgyrsiau yma. Rydw i eisiau treulio amser yn arwain y drafodaeth yma. Rydw i eisiau cael y math yma o drafodaeth ar draws Cymru i sicrhau ein bod ni yn cael cytundeb yn y pen draw, so bod yna gytundeb ar y ffordd ymlaen. Ac rydw i'n fodlon buddsoddi amser i wneud hynny, ac rydw i'n fodlon buddsoddi adnoddau, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod ni yn cael y cytundeb yna. Ond, mae'n rhaid i ni hefyd gael arweinyddiaeth. Mae'n rhaid i ni hefyd gael arweinyddiaeth, ac nid yw hi'n ddigonol i edrych yn ôl. Pan rydych chi'n trio arwain, mae'n rhaid i chi edrych o'ch blaen chi.

Rydw i'n trafod ar hyn o bryd y math o bwerau y gallem ni eu trosglwyddo i lywodraeth leol, ac mi fyddaf i'n gwneud datganiad ar hynny pan rydw i mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'r Aelod yn gofyn a fydd cyllid ar gyfer y pwerau newydd yma. Wrth gwrs, mae rhai o'r pwerau yma yn gallu codi eu cyllid eu hunain. Mae'n dibynnu ar sut mae llywodraeth leol yn defnyddio'r pwerau newydd. Felly, rydw i eisiau edrych ar sut rydym ni'n creu pecyn gwahanol, newydd ar gyfer llywodraeth leol, ac rydw i'n mynd i chwilio am gytundeb gyda llywodraeth leol. Ond, rydw i'n mynd i sicrhau bod y cytundeb yma yn gytundeb gydag uchelgais—uchelgais ar gyfer lywodraeth leol, uchelgais ar gyfer y dyfodol, ac uchelgais am beth rydym ni'n gallu gwneud fel gwlad.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol iawn o'm pryderon dwfn iawn i am effaith ceisio ailstrwythuro llywodraeth leol ar raddfa eang yn ystod cyfnod o gyni. A gaf i achub ar y cyfle hwn i atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet bod Torfaen yn y Cynulliad diwethaf wedi cyflwyno cynnig ar gyfer uno gwirfoddol, a gafodd ei wrthod? Felly, does dim diffyg parodrwydd o gwbl i gydweithio yn Nhorfaen. Mae gennyf rai cwestiynau. Fy mlaenoriaeth yw goroesi'r blynyddoedd hyn o gyni gan geisio sicrhau'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib. Nawr, rydym yn gwybod bod gwasanaethau dan straen, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae'r dystiolaeth bod hyn oherwydd strwythur, yn hytrach nag effaith cynni a galw cynyddol, na fydd lliniaru ar y naill na'r llall drwy ad-drefnu? A gaf i ofyn beth yw amcangyfrifon Llywodraeth Cymru—? Rwy'n tybio bod y Papur Gwyrdd wedi ei gostio. Beth yw costau ad-drefnu, a sut y telir amdano, o ystyried y prinder adnoddau presennol? A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y bargeinion dinesig a chydweithio o fathau eraill yn dangos, gyda negodi a dyfalbarhad, y gall gweithio rhanbarthol, yn wir, gael effaith?

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Ydy, mae gweithio rhanbarthol yn rhan hanfodol a phwysig o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Nid y naill neu'r llall mohono, os mynnwch chi. Mae hyn yn ymwneud â chreu'r unedau llywodraethu gyda'r capasiti a'r gallu strategol i rymuso ac i sbarduno gweithio rhanbarthol. Roeddech chi a minnau yn cefnogi uno arfaethedig Torfaen a Blaenau Gwent yn y Cynulliad blaenorol, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi a minnau siarad o blaid hynny ar y pryd. Yn sicr, gwnaeth y ddau ohonom ni gyfarfod arweinwyr ein priod gynghorau ar y pryd, ac yn sicr rhoddwyd cymorth iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n credu bod y ddau ohonom yn rhannu'r siom na ddigwyddodd hynny ar y pryd, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ceisio ei wneud yn awr.

Wrth ateb y cwestiwn blaenorol gan lefarydd Plaid Cymru, rwy'n gobeithio y bûm yn eglur iawn, iawn mai'r hyn yr wyf yn ceisio ei wneud yma yw ceisio cael cytundeb ar sut i ddatblygu'r materion hyn. Nid yw'n golygu sefydlu proses drwy'r Papur Gwyrdd hwn heddiw ac yna ddewis un o'r posibiliadau hynny. Mae'n ymwneud â sefydlu'r drafodaeth, creu fframwaith ar gyfer y drafodaeth honno, creu cyfle ar gyfer y drafodaeth honno, ac yna, o ran y cynigion y cytunwn ni arnyn nhw, y byddwn yn eu trafod ar ddiwedd y broses hon, byddwn yn datblygu'r rheini yn ddeddfwriaeth. Nawr, ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn y sefyllfa honno. Dydyn ni ddim yn y sefyllfa mewn gwirionedd i roi ichi rai o'r atebion manwl yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, oherwydd dydyn ni ddim wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Yr hyn nad wyf i eisiau ei wneud—a dyma'r hyn nad wyf i eisiau ei wneud o gwbl y prynhawn yma—yw terfynu sgwrs gyda chasgliadau'r sgwrs honno. Yr hyn yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw dechrau'r sgwrs honno a chael trafodaeth nid yn unig ynglŷn â'r dewisiadau yr wyf yn eu cynnig yn y fan yma—yr hyn yr wyf yn ei gynnig yma yn y Papur Gwyrdd hwn—ond os daw cynllun gan Torfaen, Blaenau Gwent neu rywle arall, yna gadewch i mi ddweud: rwy'n hapus iawn, iawn i ystyried hynny. Nid yw'r ystyriaeth y byddwn yn ei rhoi i'r materion hyn yn gyfyngedig i'r tri chynnig yn y Papur Gwyrdd. Nid yw'n gyfyngedig i un cynnig neu i nifer o gynigion. Cyfle yw hwn i bobl gyflwyno'r cynigion hynny, cyflwyno'r syniadau hynny, a bod yn greadigol yn union fel mae'r Aelod dros Torfaen yn awgrymu y bu llywodraeth leol yn greadigol yn y ffordd yr aeth i'r afael â'r bargeinion dinesig a gweithio rhanbarthol mewn ffyrdd eraill. Mae hwn yn gyfle i gael y drafodaeth honno—y drafodaeth ehangach honno, y drafodaeth gadarnhaol honno, y drafodaeth greadigol honno, y drafodaeth gyfoethog honno, a'r hyn nad wyf i eisiau ei wneud heddiw yw gorffen y drafodaeth honno, terfynu'r drafodaeth honno neu gyfyngu ar y drafodaeth honno.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw, a hefyd am y sesiwn wybodaeth yn gynharach heddiw. Bu'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i lywodraeth leol yn yr arfaeth yn hir, fel yr ydym ni wedi clywed gan gyfranwyr eraill, ac ie, dyma'r trydydd Gweinidog sydd bellach wedi gweithio arnynt. Felly, mae'r Gweinidog presennol wedi etifeddu mater anodd, ac rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn teimlo rhyddhad, i ryw raddau, ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon heddiw—hynny yw, bellach mae gennym ni fap o gynghorau arfaethedig. Yr hyn y mae'r rhan fwyaf o arweinyddion cyngor ei eisiau yw rhywfaint o sicrwydd ar gyfer eu sector yn y blynyddoedd i ddod. Felly, er bod gennym ni bellach Bapur Gwyrdd, gall pethau newid o hyd, ac maen nhw'n amodol ar ymgynghori, a gobeithio y byddwn cyn bo hir yn gwybod sut y bydd y map terfynol o gynghorau Cymru yn edrych. Nawr, nid yw hynny'n golygu na fydd dadlau ynglŷn â pha gynghorau fydd gennym ni yn y pen draw. Crybwyllodd Janet yn gynharach heddiw y posibilrwydd o gastiau gwleidyddol. Nawr, ni wnaf i ddefnyddio'r un term, ond gwyddom fod hynny bob amser yn bosib pan fydd ffiniau yn newid. Ond rwy'n credu bod pryderon gwirioneddol sydd bob amser yn debygol o ddeillio o'r math hwn o ad-drefnu.

Er enghraifft, efallai y bydd gan drigolion yn Sir Fynwy, sy'n wledig i raddau helaeth, bryderon dilys ynghylch y cynnig arfaethedig i uno gyda dau gyngor yn y Cymoedd dwyreiniol, sef Torfaen a Blaenau Gwent. Efallai fod pryder hefyd ym Mro Morgannwg am y cynnig i uno â Chaerdydd—problem fawr yw bod Caerdydd yn ddinas sy'n ehangu o ran poblogaeth, a byddai cynllunwyr yng Nghaerdydd wrth eu bodd yn meddiannu'r caeau gwyrdd sy'n weddill yn y Fro. Ond, efallai na fydd llawer o bobl sy'n byw yn y Fro yr un mor awyddus. Rwy'n siŵr bod materion eraill y bydd yn rhaid i chi ymdrin â nhw, Gweinidog.

Mae Rhondda Cynon Taf yn gyngor mawr fel y mae—mae hwn yn fater arall—o ran ei etholwyr. Rwy'n credu bod gennym ni ryw syniad y gallai uno â Merthyr o bosib fod yn ddewis, o gofio bod y ddau gyngor eisoes yn rhannu llawer o wasanaethau. Ond roedd taflu Pen-y-bont i'r cymysgedd hefyd yn syndod braidd. Felly, rwy'n siŵr y bydd llawer o ddadleuon yn y dyfodol. Gwyddom y bydd sawl cynnen. Felly, yr hyn yr wyf i yn ei ofyn heddiw yw: eich ffigur o 10 cyngor—a yw hynny wedi ei bennu yn bendant yn eich meddwl? Beth os, er enghraifft, y ceir lobi gref o amrywiol gyfeiriadau ar gyfer, gadewch i ni ddweud, 12 yn hytrach na 10? A fyddech chi'n dal i roi ystyriaeth deg i'r mathau hynny o sylwadau?

Ceir hefyd y mater o drefniadau uno gwirfoddol. Rydych chi'n dal i adael rhywfaint o ryddid i'r uno ddigwydd yn wirfoddol. Ond, wrth gwrs, y broblem gyda hynny, fel y clywsom yn gynharach, yw pan gynigiwyd hynny gan eich rhagflaenydd ond un, gwrthododd yr holl uniadau gwirfoddol hynny a gynigiwyd gan y cynghorau. Felly, faint o ryddid a rowch chi i gynigion ar gyfer uno gwirfoddol nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'r map yr ydych chi wedi ei gyflwyno yma?

Gweithio rhanbarthol—crybwyllodd Lynne Neagle hynny. Fe wnaethoch chi nodi eich hun yn y datganiad heddiw pa mor bwysig yw gweithio rhanbarthol, ac rwy'n credu bod angen inni annog gweithio rhanbarthol. Rwy'n gwybod fod rhywfaint o arfer da yn digwydd o ran gweithio'n rhanbarthol, wedi'i seilio ar reidrwydd ariannol. Gwyddom fod llawer o bethau yn digwydd yn y de-ddwyrain lle maen nhw'n rhannu gwasanaethau. Nawr, ai eich cynllun yw—. Gwyddom eich bod wedi ymbellhau oddi wrth y sylw hwn o weithio rhanbarthol gorfodol, yr oedd Mark Drakeford yn awyddus iawn i'w ddefnyddio. Roedd yn defnyddio'r term 'gorfodol' o hyd. Nid ydych chi'n defnyddio hynny mwyach. Felly, sut ydych chi'n mynd i hyrwyddo'r syniad o weithio rhanbarthol? Hefyd, pan fo gennych chi eich cynghorau—boed hynny'n 10 neu 12 neu ba nifer bynnag—a fyddwch chi'n dal yn annog gweithio rhanbarthol y tu hwnt i ffiniau un cyngor? A fyddwch chi'n parhau i annog, er enghraifft, gweithio rhanbarthol drwy Went gyfan, y deallaf sy'n digwydd mewn rhai achosion ar hyn o bryd? Diolch. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Fe wnaf i ddweud bod y map yn fap dangosol, sy'n rhoi arwyddion o'r llwybr yr hoffem ni ei ddilyn. Ond, yn sicr, os gwneir achosion cryf, byddwn yn barod iawn i ystyried yr holl achosion hynny, fel yr wyf i wedi dweud mewn ateb i gwestiynau blaenorol. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd, lle rydym yn hapus i ystyried yr holl gynigion gwahanol a wneir o unrhyw ffynhonnell wahanol er mwyn edrych yn gadarnhaol ar sut y gallwn ni gryfhau a grymuso llywodraeth leol.

Byddwn yn dweud y byddwn yn siomedig iawn pe byddai cynrychiolwyr Sir Fynwy yn sydyn yn ei chael hi mor anodd i fyw gyda fi a chynrychiolydd Torfaen. Wyddoch chi, cefais fy ngeni yn Sir Fynwy yn y 1960au—yn Nhredegar —ac mae Sir Fynwy fel cysyniad yn mynd yn ôl i'r Ddeddf Uno. Dros y 500 mlynedd diwethaf, rydym wedi dod i adnabod ein hunain yn bur dda, a gobeithio nad ydym wedi ei golli yn yr 20 mlynedd diwethaf. Felly, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei gydnabod yn y ffordd yr ydym ni'n ceisio dod â phobl ynghyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod bod popeth yr ydym yn ei gynnig heddiw yn ymwneud â dechrau sgwrs ac nid dod â sgwrs i ben.

Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch gweithio rhanbarthol yn hanfodol. Mae'n gwbl hanfodol. Mae yna rai pethau lle rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn yn ein dull o weithredu.  Nid wyf yn dymuno gweld unrhyw awdurdod newydd yn croesi ffiniau bwrdd iechyd neu awdurdod heddlu. Rwy'n credu bod hynny'n gwneud synnwyr o ran cysondeb darparu gwasanaethau ac o ran gweithio rhanbarthol. Nid diben y cynnig diwygio yw naill ai un peth neu'r llall—gweithio rhanbarthol neu strwythur gwahanol. Y diben yw dad-gymhlethu pethau, os mynnwch chi, ac er mwyn atgyfnerthu gweithio rhanbarthol. Mae llawer ohonom wedi cael sgyrsiau, yn enwedig y rhai ohonom sy'n cynrychioli Cymoedd y De, ynghylch cymhlethdod rhai o'n strwythurau heddiw, ynghylch cymhlethdod y broses o wneud penderfyniadau. A'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw cael dull o lywodraethu sy'n briodol i wlad o 3 miliwn o bobl. Mae hynny yn ein galluogi ni i greu strwythurau sydd â'r grym i allu gweithio'n rhanbarthol mewn ffordd fwy dwys, i fod â'r gallu i feddwl ac i weithredu'n strategol o fewn ffiniau rhanbarthol, ac i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr er mwyn sicrhau naill ai y gwasanaethau neu'r datblygiad economaidd strategol y maent eisiau eu gweld.

Felly, nid diben hyn yw gwneud dim byd amgenach na thynnu llinellau ar fap, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n grymuso llywodraeth leol a sut y gallwn ni gryfhau llywodraeth leol er mwyn darparu strwythur mwy cadarn ar gyfer y dyfodol.

15:55

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd yn syndod ichi fy mod yn dal i wrthwynebu cyfuno Sir Benfro a'i gorfodi i fod yn rhan o fodel Dyfed unwaith eto, oherwydd rwyf yn dal o'r farn y bydd hynny'n arwain at ganoli pellach ar draul Sir Benfro. Nawr, rwy'n sylweddoli mai bwriad y Papur Gwyrdd heddiw yw ystyried sut y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati, sy'n cynnwys rhaglen uno gynhwysfawr sengl, ac rwy'n tybio o'r dewis hwnnw mai'r canlyniad fyddai Llywodraeth Cymru yn gorfodi uno os mabwysiedir y dewis hwnnw.

Mae'n eithaf clir nad oes gan y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli unrhyw awydd i uno Sir Benfro yn ôl i fodel Dyfed, yn enwedig o gofio bod Cyngor Sir Penfro, o bob plaid, gan gynnwys eich cyd-Aelodau Llafur ar y Cyngor, wedi pleidleisio ychydig dros ddwy flynedd yn ôl o blaid hysbysiad o gynnig, gan ddweud bod ailgyflwyno hen fodel Dyfed yn annerbyniol. Yn yr amgylchiadau hyn, a allwch chi yn y fan yma, heddiw, felly, sicrhau fy etholwyr na fyddwch yn bwrw ymlaen ag uno gorfodol, oni fydd y cynigion yn seiliedig ar farn y bobl yr wyf yn eu cynrychioli?

Rwy'n ymwybodol o deimladau cryf yr Aelod dros Breseli. Caniatewch imi ddweud hyn: fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, yr hyn nad wyf yn mynd i'w wneud heddiw yw cyhoeddi fy nghasgliadau o'r broses hon. Nid wyf yn credu, gyda phob tegwch, y byddech yn disgwyl neu yn tybio y buaswn yn dweud hynny. Yr hyn yr ydym yn ei gynnig yw tri dewis, yr ydych chi wedi disgrifio dim ond un ohonyn nhw yn eich cwestiwn, ac ni fyddai un ohonynt, wrth gwrs, yn darparu ar gyfer unrhyw un o'r posibiliadau hynny y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn eich cwestiwn.

Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych yw: sut ydym ni'n gwarchod gwasanaethau cyhoeddus? Sut ydym ni'n diogelu gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus? Sut ydym ni'n datganoli mwy o bŵer i'n hardaloedd, ymhell o'r lle hwn? Yr holl faterion hynny yr ydych chi wedi eu crybwyll dros y blynyddoedd yr ydym ni wedi eu treulio yn y Siambr hon gyda'n gilydd, a lle bu cytundeb eang a helaeth—sut ydym ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwarantu atebolrwydd lleol cadarn, yn ogystal â gwneud penderfyniadau cadarn yn lleol? Ac nid wyf yn credu y byddech chi o reidrwydd yn anghytuno ag unrhyw un o'r amcanion hynny, er fy mod i yn deall yr ymrwymiad emosiynol bron, os mynnwch chi, i Sir Benfro fel sir hanesyddol yng Nghymru. Ni fyddwn am eiliad eisiau i'r cynigion hyn gael eu dehongli fel bygythiad i unrhyw un o'r hunaniaethau hanesyddol hynny—rydym yn eu cofleidio'n dynn, ac mae'n gwbl briodol inni gofleidio'r hunaniaethau hynny yn dynn. Mae'n bwysig ein bod yn eu cydnabod. Ond byddai darparu gwasanaethau cyhoeddus, o dan unrhyw fodel, yn fater ar gyfer yr awdurdod lleol yn yr ardal honno, a byddwn yn sicr yn annog pob awdurdod lleol i sicrhau bod swyddi a gwasanaethau yn cael eu darparu mor agos i'r dinesydd â phosib ym mha strwythur bynnag y down i'r casgliad a fyddai'n berthnasol i'r dyfodol.

Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu datganoli mwy o bwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru? Mae'n ymbellhau o'r llwybr y buom yn ei dilyn yn ystod y 45 mlynedd diwethaf. Efallai y bydd rhai pobl yma yn cofio adeg pan oedd yr awdurdodau lleol yn rheoli'r heddlu, yn rheoli dŵr, yn rheoli addysg uwch, yn rheoli addysg bellach, bob un ohonynt wedi'u cymryd oddi ar lywodraeth leol yn ystod y 45 mlynedd diwethaf. Yn aml iawn, mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ymddangos yn amser da i hawlio pwerau oddi ar awdurdodau lleol. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr.

Wrth gwrs, mae'n hen bryd ad-drefnu llywodraeth leol. Rydym ni'n gwneud hynny bob 22 mlynedd, a dylem fod wedi gwneud hynny y llynedd, oni ddylem, yn hytrach na'r flwyddyn hon, ond dyna'r sefyllfa. A phob tro yr ydym wedi ad-drefnu llywodraeth leol, rydyn ni wedi gwneud hynny'n gywir. Dyma'r ffordd orau bosib o redeg llywodraeth leol. Gwnaed hynny ym 1973, pan oeddwn i yn yr ysgol, pan oedd y siroedd a'r rhanbarthau oddi mewn iddynt yn berffaith, ac fe gawson ni, 'Na, mae angen ichi gael awdurdodau unedol.' Nawr gwyddom fod angen inni gael awdurdodau mawr iawn.

Pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod cyrff mwy o faint mewn llywodraeth leol yn fwy effeithlon ac effeithiol na chyrff llai o faint? A gaf i ofyn: a yw'n ymwybodol o'r problemau y mae gwasanaethau cymdeithasol Birmingham, er enghraifft, wedi eu cael, sef yr awdurdod lleol mwyaf ym Mhrydain, o bosib y mwyaf yn Ewrop? Pa boblogaeth a maint daearyddol sydd orau, yn ei farn ef? Rwy'n gofyn hynny oherwydd mae'n iawn i Bowys, mae'n debyg, sydd â phoblogaeth o oddeutu 132,000, fod yn uned yn ei hawl ei hun, ond nid yw'n iawn i Sir Benfro, fel y soniodd Paul Davies, sydd â phoblogaeth o 128,000. Nid yw'n iawn i Sir Gaerfyrddin, sydd â 180,000. Rwy'n ceisio deall y rhesymeg pam, mewn rhai ardaloedd, mae angen awdurdodau mawr iawn arnom ni. Pam mae'n rhaid uno Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sydd ill dau yn fwy na Phowys? Does gen i ddim problem gyda nhw yn uno. Nid wyf yn siŵr a gawn ni awdurdod fawr gwell, a bydd costau'n gysylltiedig â hynny. Ac i ateb y cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach—[Anghlywadwy.]—tua 5 y cant o'r gwariant net cyfredol fydd y gost o ad-drefnu. Dyna a ddigwyddodd y tro diwethaf, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai fod yr un peth y tro hwn.

Rydym ni wedi creu llawer yng Nghymru dros y blynyddoedd—llawer o gyrff mawr o fewn y sector cyhoeddus. Dyna'r llwybr a ddilynwyd dan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan,  dan Lafur, dan Lafur a Phlaid Cymru, dan Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y fan hon. Rydym ni wedi cael llai a llai o sefydliadau, sy'n tueddu i fod yn fwy ac yn fwy o faint. Dim ond cwestiwn—efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ateb hwn—ond a yw'n credu bod y sefydliadau mwy o faint yng Nghymru, y rhai mawr iawn—a gallwch chi feddwl am rai nawr—a'r cyrff Cymru gyfan, yn perfformio cystal fel bod angen inni gael ychwaneg o gyrff mwy?

16:00

Diolch. Rwy'n falch bod yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn croesawu ar y cyfan y ffordd yr wyf yn ymdrin â'r materion hyn o ran datganoli pwerau i strwythurau a chyrff llywodraeth leol ledled Cymru, a datganoli llywodraethu yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch fy mod i yn croesawu hynny.

Wyddoch chi, y sgwrs y rhoddoch chi gychwyn arni yn y cwestiwn hwnnw yw yr un sgwrs yn union yr hoffwn i ei chael dros y misoedd nesaf? Nid wyf yn dweud yn y papur hwn, ac nid wyf yn credu, bod un siâp neu faint delfrydol sy'n gweddu i bobman yng Nghymru. Nid yw'r hyn sy'n briodol ym Mhowys o reidrwydd yn briodol ar gyfer y Cymoedd y De, yn sicr ni fyddai'n briodol ar gyfer y dinasoedd, ac yn sicr ni fyddai'n briodol ar gyfer ardaloedd y Gogledd chwaith. Felly, nid ceisio dweud yr ydym ni fod siâp delfrydol neu faint delfrydol ar gyfer llywodraeth leol. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw creu strwythurau y gallwn ni ddatganoli pwerau ychwanegol iddyn nhw ac y gallwn ni warchod swyddi a swyddogaethau gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus gyda nhw, fel y gallwn ni sicrhau rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod atebolrwydd democrataidd a gwneud penderfyniadau democrataidd wrth wraidd y strwythurau hynny, mor agos at ddinasyddion â phosib.

Nawr, bydd y modd yr ydych yn closio at y dinesydd yn wahanol mewn gwahanol leoedd. Rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n derbyn y bydd rhai cynghorau bob amser yn fwy, ac eraill yn llai na rhai awdurdodau eraill. Rwy'n derbyn hynny, a dyna natur y wlad yr ydym yn byw ynddi. Nid wyf eisiau sicrhau unffurfiaeth drwy Gymru ond rwyf yn credu bod angen lefel o gysondeb o ran gwasanaethau a chysondeb mewn atebolrwydd democrataidd, a chysondeb o ran sut rydym ni'n gallu ymgymryd â'n gorchwylion. Roedd Mike Hedges a minnau ill dau yn yr ysgol ym 1973—gwahanol ysgolion rwy'n amau, ond roedd y ddau ohonom yn yr ysgol—ac mae'r ddau ohonom wedi cael ein geni ac wedi byw mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol, ac rwy'n derbyn ein bod wedi chwilio am y siâp cywir a'r maint cywir ar gyfer awdurdodau, ac nad ydym bob amser wedi llwyddo yn hynny o beth yn y gorffennol. Dyna pam yr hoffwn i ddechrau'r sgwrs hon heddiw mewn ffordd sy'n ceisio ysgogi trafodaeth ac nid dod â thrafodaeth i ben. Rwy'n gwybod, ar adegau fel hyn, mewn datganiadau fel hyn, y bydd yr Aelodau yn gofyn cwestiynau ac y byddant yn ceisio atebion pendant a manwl, ond rwy'n credu bob hyn a hyn ei bod yn addas a phriodol i Weinidog ddechrau trafodaeth heb geisio ddod â'r drafodaeth i ben yn yr un araith.

A gaf i yn gyntaf roi ar gofnod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod i'n credu y byddai'n well gennyf fyw yn y tŷ drws nesaf i chi nag yn yr un tŷ â chi? Efallai fod amser o hyd i'ch swyn weithio arnaf, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, rwy'n bodloni ar fod yn gymydog. [Chwerthin.]

Rydych chi'n sicr yn haeddu clod am eich dewrder wrth fynd ar drywydd materion sydd wedi eu cynllunio yn ôl pob golwg i'ch gwneud yn llai poblogaidd, gymaint felly yn y Blaid Lafur, o ystyried areithiau heddiw, a chyda'r pleidiau gwleidyddol eraill. Nawr, rwy'n croesawu eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n drafodaeth ddiddorol. Rydym ni, bob un ohonom ni, eisiau trafod sut yr ydym ni'n datblygu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae'n rhaid imi ddweud, ni allaf ddeall pam mae'r Papur Gwyrdd hwn yn dechrau drwy ddweud bod llywodraeth leol yn golygu mwy na thynnu llinellau ar fapiau, ac yna ar y dudalen nesaf rydych chi'n tynnu llwyth o linellau ar fapiau. Nid oes unrhyw ddewisiadau ynghylch sut y dylid tynnu'r llinellau hynny. Mae'n cael ei wthio i ganol y ddogfen rywsut fel y ffordd amlwg o'i wneud, ond does dim rhesymeg wirioneddol yn perthyn iddo, i mi.

Mae yna lawer o ystadegau diddorol, yn amrywio o boblogaeth i sylfeini treth gyngor, ond dim cydnabyddiaeth o bwysigrwydd naws ardal, ei chymeriad, ei brand—i ddefnyddio'r term modern. Pam ydych chi'n mynd ati fel hyn, yn hytrach nag edrych ar y ffactorau hynny, er enghraifft, yn fy ardal i, sy'n gwneud Sir Fynwy yn llwyddiannus yn harneisio ynni ei phobl, yn hybu ei hanes a'i threftadaeth, ac yn tyfu economi leol, oherwydd mae'r brand yn gweithio? Nid yw'n wir fod llywodraeth leol wedi bod yn drychinebus ledled Cymru. Bu elfennau o arfer da a bu elfennau o arfer gwael. Credaf mai eich bwriad—o leiaf, credaf mai eich bwriad ar ddechrau'r broses hon—yw ceisio gwneud yn siŵr mai'r arfer da sy'n cario'r dydd ar yr arfer gwael. Byddem yn sicr yn cefnogi hynny.

Nid oes unrhyw eglurhad ynglŷn â sut y bydd ardal llywodraeth leol 10, y credaf y byddaf yn byw ynddi yn y pen draw—. Rwy'n ffyddiog mai teitl gweithredol yw hynny, mae yn swnio ychydig fel rhywbeth o Nineteen Eighty-Four— Orwellaidd iawn—efallai fod hyn yn seiliedig ar rywbeth. Sut y bydd yr ardal 10 honno yn cynnig brand mwy llwyddiannus? A gaiff ei hadnabod neu ei pharchu neu ei derbyn gan y bobl sy'n byw ynddi? Fel y dywedodd Gareth Bennett yn ei sylwadau yn gynharach, os ydych chi'n sôn am uno ardal fel Sir Fynwy a Blaenau Gwent—iawn, mae gennych chi ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n cael ei datblygu, ac efallai fod rhai dadleuon o blaid adeiladu ar hynny, ond nid yw'n ymddangos i mi fod y cyhoedd, y bobl ar lawr gwlad y mae'r cyrff hyn i fod i'w cynrychioli, yn ymwneud â hyn neu yn rhan o hyn o gwbl mewn gwirionedd. Felly, os hoffech chi ddod i fy ardal i rywbryd, fe wnaf i eich tywys o gwmpas un o'r sioeau cefn gwlad, ac rwy'n siŵr y byddech yn cael barn y bobl yn ebrwydd iawn.

Nawr, fel chithau, rwy'n optimist, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae angen sail ar gyfer yr optimistiaeth honno a rhaid iddi fod yn fwy na cham yn y tywyllwch. Mae arnaf ofn bod y papur hwn ar hyn o bryd yn agosach i'r diwethaf na'r cyntaf.

16:05

Rwy'n cytuno â rhannau helaeth o araith Nick Ramsay, er mawr syndod iddo—mewn gwirionedd, rwy'n creu ei fod yn gywir. Y peth diddorol yw ei fod yn ei ddisgrifio ei hun yn un o feibion Sir Fynwy ac mae'n cymryd perchenogaeth o hynny, ond rwyf i o Sir Fynwy. Cefais fy ngeni yn Ysbyty Sant Ioan, Tredegar, Sir Fynwy. Cefais fy addysg yn Sir Fynwy hefyd. A'r tro cyntaf y gwelais y Crysau Duon yn chwarae, roedden nhw'n chwarae yn Sir Fynwy. Wyddoch chi, mae'n rhan o fy hunaniaeth i yn ogystal â bod yn rhan o'ch hunaniaeth chi, Nick, ac rydych chi'n gwybod hynny ac rwyf innau'n gwybod hynny. Rydym ni'n dau yn hanu o'r lle hwnnw y mae'r ddau ohonom ni yn ei adnabod a lle mae gennym wreiddiau hanesyddol sy'n mynd yn ôl ymhell mewn hanes. Dyna pam mae'r pwynt yr ydych yn ei wneud, a'r pwynt a wnaeth Paul Davies hefyd, mor bwysig ynghylch sut bethau yw strwythurau lleol.

Nid yw fy nghred yn fy nharddiad a fy hunaniaeth i, fel rhywun o ororau Cymru, o Sir Fynwy, y sir ar y ffin, yn seiliedig ar strwythur llywodraeth leol, ond mae'n seiliedig ar sut yr ydym ni'n gweld ein hunain a sut yr ydym ni'n diffinio ein hunain yn yr hyn a wnawn a sut yr ydym ni'n byw, ac nid yw hynny'n fater—. Ni all unrhyw wleidydd gymryd hynny oddi ar rywun, ac ni all unrhyw wleidydd ei greu chwaith.

Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yw cydnabod y ffiniau hanesyddol hynny, y traddodiadau hanesyddol hynny, yr hanesion hynny sydd wedi creu pob un ohonom ni. Dydych chi ddim yn berchen ar Sir Fynwy ac nid wyf innau chwaith. Mae'r ddau ohonom ni'n rhannu'r hanes hwnnw a'r ddau ohonom yn rhannu'r hunaniaeth honno. Rwy'n cydnabod dilysrwydd y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ac yn cydnabod y pwyntiau a wnewch chi o ran y strwythurau yr ydym ni wedi'u disgrifio yn y Papur Gwyrdd hwn. Ond yr hyn y byddwn i mewn gwirionedd yn ei werthfawrogi gennych chi yw nid beirniadaeth o hynny ond dewis amgen a chynnig i adeiladu arno.

Rydych chi a minnau'n cydnabod mai'r hyn na allwn ni ei wneud heddiw yw parhau i wneud yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol, ac mae hynny'n golygu bod angen inni feddwl yn ddwys am y materion hyn. Mae angen inni feddwl yn ddwys am y bobl sy'n darparu ein gwasanaethau, mae angen inni feddwl yn ddwys am sut yr ydym ni'n gosod atebolrwydd democrataidd wrth wraidd hyn i gyd, ac mae angen inni feddwl yn ddwys am y math o strwythurau y gallem ni ddatganoli pwerau iddyn nhw, ac fe allwn ni ddatganoli a grymuso cyfleoedd newydd i lywodraeth leol, i weld dadeni mewn llywodraeth leol yng Nghymru ac i sicrhau bod gan lywodraeth leol yn y dyfodol nid yn unig y pwerau ond y gallu i gyflawni gyda'r pwerau hynny.

16:10

Diolch. Wel, rydym ni wedi clywed llawer am eich byrdwn cyffredinol, gan gynnwys eich bod yn cydnabod bod angen i ni ddatganoli pwerau o fewn Cymru, sef yr union beth y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn galw amdano yn ei gynnig twf. A gaf i awgrymu mai model arall posibl fyddai'r dull rhanbarthol cydweithredol a ddatblygir yn y gogledd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan weithio gyda'i gilydd mewn strategaeth, wrth flaenoriaethu ac, yn gynyddol yn y dyfodol, wrth gyflenwi, lle gwyddom o'r dystiolaeth o achosion o uno yn yr holl sectorau nad yw mawr bob amser yn well, yn fwy cost-effeithiol nac yn fwy effeithlon?

Ydw, rwy'n hapus i fynd ar drywydd y ddeialog a'r sgwrs honno. Fel y dywedais, dechrau proses yw hyn nid diwedd proses, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud heddiw yw ysgogi'r union sgwrs honno. Rwyf wedi siarad â'r holl arweinwyr llywodraeth leol yn y gogledd, ac wedi siarad â nhw yn fanwl am sut y maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd, ac rwyf wedi ceisio siarad â nhw am sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws y gogledd. Ceir safbwyntiau gwahanol ar draws y chwe awdurdod, ond mae ymrwymiad pendant i weithio gyda'i gilydd, ac rwy'n derbyn hynny; dydw i ddim yn amau hynny. Rwy'n gwerthfawrogi hynny ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

Yr hyn y mae angen inni allu ei sicrhau drwy weithio'n rhanbarthol yw bod gennym y blociau adeiladu er mwyn grymuso gweithio rhanbarthol, bod gennym y blociau adeiladu er mwyn cyflawni'r meddwl strategol, y gallu strategol i ddefnyddio adnoddau er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl honno. Mae'r modd y byddwn yn gwneud hynny yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gael y ddadl gyfoethog honno yn y gogledd ynghylch sut y gall ein holl gymunedau deimlo eu bod wedi eu grymuso a'u bod yn teimlo y gallan nhw ddwyn gwleidyddion i gyfrif, yma ac yn lleol.

4. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i wneud y cynnig. Eluned Morgan. 

Cynnig NDM6693 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae’n bleser mawr cael agor y drafodaeth hon ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae’r rheoliadau yn caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau iechyd cymunedol a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Maent yn gyrff sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd, ac ymhlith prif gyflogwyr Cymru. Bydd y safonau hyn yn adeiladu ar 'Mwy na geiriau', fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Mae’r fframwaith yn cyflwyno’r egwyddor o gynnig rhagweithiol, fod rhywun yn cael cynnig gwasanaeth Cymraeg heb orfod gofyn amdano. Mae 'Mwy na geiriau' yn cydnabod bod gofal ac iaith yn mynd law yn llaw â phwysigrwydd sicrhau urddas a pharch i siaradwyr Cymraeg. Mae’n fwy na chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae’r rheoliadau yn adeiladu ar y seiliau cryf mae’r cynlluniau iaith a 'Mwy na geiriau' wedi eu creu o fewn y sector. Y peth pwysicaf am y polisi o greu safonau a’i ymestyn i gyrff newydd yw ei fod yn sicrhau bod mwy o gyrff yn cynnig gwasanaethau Cymraeg i’w defnyddwyr ac i’w staff. Ond mae llawer o waith adeiladu capasiti i’w wneud, ac mae’r safonau hyn yn adlewyrchu hynny.

Mae pawb yn defnyddio gwasanaethau iechyd ar ryw adeg neu’i gilydd, felly rwy’n falch o fedru cyflwyno y rheoliadau yma, sydd â photensial i wella profiad siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.

Wrth baratoi’r rheoliadau, rydym wedi bod yn ymwybodol bod rhai o’r cyrff yn rhedeg gwasanaethau 24 awr bob diwrnod o’r flwyddyn, ac rwyf hefyd wedi ystyried yr ystod eang o wasanaethau maen nhw’n eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau, o’r arferol i lawdriniaeth y galon, o ofal brys i ofal diwedd oes. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r holl wasanaethau yma yn heriol, ac mae yna ddealltwriaeth na fydd yn digwydd dros nos. Ond er mwyn llwyddo, bydd angen i'r cyrff newid eu dulliau o weithio, a byddwn yn sicrhau bod y gefnogaeth ar gael i wella gwasanaethau Cymraeg.

Wrth baratoi'r rheoliadau yma, rydw i wedi gwrando ac ystyried ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad, ac rydw i'n derbyn bod yr amserlen wedi bod yn dynn i graffu arnynt, ond mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, ein bod ni'n symud ymlaen. Mae sawl ymgynghoriad wedi bod, ac mae'n bryd, rydw i'n meddwl, nawr, i gychwyn ar y daith. Yn sgil y dystiolaeth a dderbyniwyd, rydw i wedi diwygio rhai o'r safonau drafft, ac rydw i'n credu bod y safonau yma yn cynorthwyo'r cyrff i gynllunio a chynyddu eu gallu i gynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Y nod yn y pen draw yw bod pawb yn medru derbyn gwasanaethau yn yr iaith o'u dewis.

Rhan o'r jig-so yw'r rheoliadau hyn. Er mwyn gwireddu'r nod o fwy o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, mae'n gwneud synnwyr i gefnogi'r rheoliadau hyn fydd yn gosod seilwaith i weithredu gydag ymyraethau eraill er mwyn adeiladu'r capasiti yn y sector i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Er enghraifft, trwy'r prosiect Cymraeg Byd Busnes, mae swyddogion yn gweithio gyda busnesau i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg, ac mi fyddwn yn rhedeg project peilot gyda rhai clystyrau meddygon teulu yn ardaloedd byrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Hefyd, fe fydd yna toolkit yn cael ei ddatblygu ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, gan gynnwys cyngor ar sut i weithredu yn ddwyieithog.

Mae cynllun peilot newydd wedi'i lansio gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n astudio meddygaeth. Mae dros 50 o ddisgyblion blwyddyn 12 wedi ymuno â'r peilot yma, ac mi welais i enghraifft wych yn Ysgol Feddygol Caerdydd o ddarlith yn cael ei chyflwyno yn y Gymraeg i ddarlithfa llawn myfyrwyr, a'r rhan fwyaf o'r rheini yn gwrando drwy glustffonau. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn datblygu cyrsiau sy'n benodol ar gyfer y sector iechyd. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron yn rhan allweddol o'r jig-so hwn a fydd yn arwain at well gwasanaethau yn y sector iechyd dros amser. 

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Mae'r rheoliadau hyn yn amlwg yn rhan bwysig iawn o'r system safonau iaith Gymraeg a gyflwynwyd gan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei bod yn bwysig craffu ar y rheoliadau yma mor ofalus â phosib, gyda chyfle i randdeiliaid gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac i'r pwyllgor glywed tystiolaeth lafar.

Yn yr amser cyfyngedig iawn oedd ar gael, roedd y pwyllgor yn gallu gwahodd a derbyn ystod o dystiolaeth ysgrifenedig, a hefyd cwestiynu peth o'r dystiolaeth honno mewn cyfarfod cyhoeddus o'r pwyllgor. Hoffwn gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad a darparu tystiolaeth lafar, a hynny ar fyr rybudd. Cafodd y pwyllgor sesiwn friffio technegol preifat gan swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth, a hoffwn hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'r swyddogion hynny. Mae'r holl dystiolaeth a gawsom wedi'i hatodi i'n hadroddiad neu wedi'i chyhoeddi yn nhrawsgrifiad ein cyfarfod ar 14 Mawrth.

Casgliadau'r pwyllgor, ac amser ar gael i graffu: wel, dim ond 21 diwrnod gafodd eu caniatáu y tro hwn o'r rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad tan y ddadl hon. Er bod hyn wedi caniatáu i ni gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig sylfaenol iawn, a threfnu rhywfaint o dystiolaeth lafar, prin yw hynny'n ddigonol er mwyn craffu ar reoliadau mor arwyddocaol â'r rhain. Er enghraifft, dim ond pum diwrnod gwaith oedd ar gael i dderbyn ymatebion ysgrifenedig, a dim ond 10 diwrnod gwaith rhwng gosod y rheoliadau a'r dyddiad olaf i'r pwyllgor eu hystyried nhw. Oherwydd gofynion y Rheolau Sefydlog a briffio'r pwyllgor, roedd yr amser a oedd wirioneddol ar gael rhywfaint yn llai na hyn.

Nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm penodol pam na ellid fod wedi cynnal y ddadl hon yn nes ymlaen er mwyn caniatáu amser ar gyfer craffu mwy cynhwysfawr. Er y gallai hyn fod wedi achosi ychydig o oedi o ran y gwaith paratoi ar weithredu'r rheoliadau, byddai wedi caniatáu i'n pwyllgor ni ystyried y mater yma'n fanylach. Felly, byddai'r pwyllgor yn falch pe byddai'r Llywodraeth yn caniatáu mwy o amser i graffu ar reoliadau safonau'r Gymraeg yn y dyfodol.

Gellid cyflawni hyn yn haws trwy ei wneud yn glir yn y memorandwm esboniadol na fydd yn ceisio cymeradwyaeth o ran rheoliadau tan fod cyfnod hwy na'r isafswm o 20 diwrnod wedi mynd heibio. Byddai 40 diwrnod yn caniatáu craffu rhesymol gan y pwyllgor—gan gynnwys pwyllgorau eraill sydd â diddordeb—ac ni fyddai hynny'n achosi oedi gormodol o ran eu gweithredu.

Cytunodd y pwyllgor ei fod wedi cymryd yn rhy hir i ddod â'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad—rhyw dair blynedd o'r dechrau i'r diwedd. Cytunom fod angen dybryd bellach i roi safonau Cymraeg cadarn ar waith ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Ac ni chlywsom unrhyw dystiolaeth oedd yn nodi nad oes angen safonau er mwyn symud darpariaeth y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn ei blaen. 

Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon sylweddol am agweddau o'r rheoliadau. Mewn sawl ffordd, y gwasanaeth iechyd yw'r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio. Efallai mai'r pryder mwyaf a glywsom oedd diffyg unrhyw hawl i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd clinigol wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Wrth gwrs, am resymau ymarferol, ni all hawl i dderbyn y gwasanaethau hyn fod yn absoliwt. Ond mae pwysigrwydd iaith mewn diagnosis a gofal yn glir iawn. Hefyd, dylai'r hawl i dderbyn gwasanaeth yn eich dewis iaith fod yn egwyddor sefydledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os ceir achlysuron pan fydd amgylchiadau ymarferol yn cwtogi ar yr hyn y gellir ei ddarparu. Nid yw'r syniad na ddylai'r egwyddor sylfaenol hon hefyd fod yn gymwys i'r gwasanaeth iechyd, yn ein barn ni, yn dderbyniol. Felly, rydym am i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rheoliadau ychwanegol cyn gynted ag y bo'n ymarferol posib i sefydlu hawliau cliriach i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb yn y Gymraeg.

Gwasanaethau gofal sylfaenol yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio amlaf gan y cyhoedd, a'r prif faes pryder arall am y rheoliadau yw nad yw'r mwyafrif ohonynt yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yn cydnabod y problemau ymarferol, ond mae absenoldeb unrhyw safonau o gwbl ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn wendid clir yn ein tyb ni. Nid ydym yn argyhoeddedig ei fod yn afresymol gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol i sicrhau bod darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn cydymffurfio â safonau. [Torri ar draws.] Rwy'n credu taw datganiad yw hwn.

16:20

Roeddwn i'n meddwl mai datganiad oedd hwn. Mae'n ddrwg gennyf.

Mae'n ddadl nawr, ie. Y pwynt roeddwn i jest eisiau ei godi, ac rwy'n gwybod nad yw'r pwyllgor wedi cael lot o amser i edrych ar hyn, ond mae yna ddarpariaeth benodol yn y Mesur ar gyfer yr hyn y mae Cadeirydd y pwyllgor newydd ei amlinellu. Mae modd i'r Llywodraeth benodi, drwy reoliadau, drwy ddeddfwriaeth, unrhyw un i ddod o dan y Mesur sydd yn derbyn mwy na £400,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf, nid pob un, ond y rhan fwyaf o ymarferwyr gofal sylfaenol yn derbyn y swm yna, ac felly yn gallu cael eu cynnwys o dan y Mesur yma. A oedd unrhyw ystyriaeth yn y pwyllgor, neu gan y Gweinidog, o pam nad oedden nhw wedi iwso'r ffordd yma?

Gwnaethom ni ofyn i bobl a oedd wedi dod gerbron ynglŷn â'r syniad hwnnw, ond nid ydym wedi cael digon o amser i sgrwtineiddio'n effeithlon. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydym wedi'i godi fel rhywbeth y gellid ei ystyried.

Mae gen i dipyn bach o amser ar ôl. Mater i'r Llywodraeth yw cyflwyno safonau y gellir eu cymhwyso'n synhwyrol i ofal sylfaenol ac i rymuso a chefnogi byrddau iechyd lleol i helpu darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol i gydymffurfio â safonau a datblygu gwasanaethau. 

Mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn bwriadu gosod nifer bach o ddyletswyddau Cymraeg gan ddefnyddio'r contract gofal sylfaenol. Ond fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae yna fodd gwneud hyn yn ehangach, ac nid yw'n glir inni pam na ellir nodi'r dyletswyddau penodol a osodir mewn contractau mewn safonau ar gyfer byrddau iechyd lleol a fyddai'n creu llwybr ar gyfer cwynion i Gomisiynydd y Gymraeg a mwy o dryloywder.

O dan y system sydd yn cael ei phenodi gan y Gweinidog, yn ôl beth rwy'n deall, ni fydd y comisiynydd yn ymatebol i unrhyw gwynion neu unrhyw faterion yn ei chylch. Felly, daeth y pwyllgor i'r casgliad y dylai'r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau diwygiedig, gyda safonau cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau Cymraeg yn y sector gofal sylfaenol.

Yn olaf, a sori am redeg dros amser, thema sy'n rhedeg drwy'r dystiolaeth a glywsom oedd yr angen i wella recriwtio a sgiliau perthnasol staff sy'n siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd. Rydym ni yn cytuno bod hwn yn fater o bryder. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod y polisïau ehangach hyn yn cael eu sicrhau yn gyflym a gydag uchelgais i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion ymarferol y mae tystion wedi tynnu sylw atynt. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Mae'n rhaid imi gyfaddef, mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd. Mae'n rhaid imi ddweud hynny. Ar yr un llaw, mae gyda ni system o hawliau yr ydym yn ceisio eu hymestyn, ac, ar y llaw arall, mae gyda ni sector sydd ddim yn barod ar gyfer hawliau ystyrlon, sef cyfathrebu wyneb yn wyneb a darpariaeth yn y sector gofal sylfaenol. Mae'r safonau fel ag y maen nhw yn cynnwys gwahaniaethu anffodus rhwng cleifion sy'n mynychu meddygfa a gynhelir gan yr awdurdodau iechyd a'r rhai sy'n mynd i feddygfa annibynnol. Maen nhw'n cynnwys gwahaniaethu anffodus rhwng cleifion mewnol a chleifion allanol.

Serch y ffaith bod ymgynghoriad eang ar fersiwn drafft y rheoliadau wedi digwydd, ni chafodd y fersiwn terfynol gyfnod hir o ymgynghori, ac mae’n cynnwys nifer fach o newidiadau o bwys. Nid oedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad byr o’r un farn chwaith. Yn gyffredinol, mae’r safonau fel ag y maent yn glir ac yn gallu cael eu cymhwyso’n rhesymol ac yn gyfatebol mewn ardaloedd gwahanol o Gymru, ond rydym yn methu ag anwybyddu’r anghysondebau cynhenid am byth.

Serch hynny, mae’n rhaid ystyried y rhesymau pam mae’r gwendidau hyn yn ymddangos. Yn flaenorol, rwyf i wedi dweud yn fan hyn, yn y Cynulliad, bod safonau heriol yn gallu gwthio cynghorau ystyfnig i gymryd camau, er enghraifft. Ac, ar gyfer rhannau mawr o’r gwasanaeth iechyd, dywedwn yr un peth. Roeddem yn gwybod bod safonau ar y ffordd ers 2010, a dylent fod wedi bod yn paratoi ar eu cyfer. Yn sicr, gall y rhan fwyaf o’r safonau fel ag y maent wedi cael eu rhagweld. Dyna pam hoffwn i fwrw ymlaen gyda nhw nawr.

Gallwn ni ystyried pam nad yw rhai o’r safonau wedi cael eu cynnwys, pan, o safbwynt hawliau, efallai y dylent fod. Beth rydw i’n gweld yw: pam ydy'n anodd recriwtio ymarferwyr meddygol o safon berthnasol? Pam ydy hwn yn fwy anodd nag yw recriwtio staff i’r cyngor? Achos dyna beth sydd wedi bod yn digwydd, yn anffodus. Gyda chyn lleied o ymarferwyr meddygol allweddol perthnasol sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru, mae’r hawl i ymgynghoriad trwy gyfrwng y Gymraeg, ar hyn o bryd, yn rhywbeth ni ellir ei orfodi, ac felly ni ddylied ei eirio fel hawl. Yn wahanol i awdurdod lleol, mae'r garfan o feddygon a meddygon dan hyfforddiant yn dod o bob cornel y byd ac nid wyf yn gweld hwn fel cwestiwn o'r gwasanaeth iechyd yn anwybyddu sgiliau'r gweithlu meddygol; mae’n gwestiwn o sicrhau gweithlu o gwbl, pa bynnag iaith maen nhw’n ei siarad.

Ond ni fyddwn yn derbyn y rheswm hwn am byth. Weinidog, byddwn yn pleidleisio dros y rheoliadau heddiw achos mae angen rhywbeth ar ôl cymaint o amser, ac mae dros 100 o safonau y gellir eu cymhwyso ar unwaith. Ond byddwn yn eich cadw at safon 110, a byddwn yn disgwyl i hyn fod yn gam tuag at unrhyw set newydd o safonau maes o law—y rhan nesaf o’r jig-so, fel y dywedoch chi. Rydym ni’n cydnabod, er bod recriwtio’n parhau i fod yn broblem, ei bod yn bosib y bydd sicrhau hawliau i ymgynghoriadau wyneb yn wyneb dros bob disgyblaeth yn dal i fod yn anodd, ond byddwn yn disgwyl iddynt gael eu cyflwyno mewn meysydd allweddol megis dementia, iechyd meddwl, plant ac awtistiaeth o leiaf, fel canlyniad i safon 110, a chyn, os yw'n bosib, i'r pum mlynedd, sef yr hyd y tu mewn i’r safon yna, ddod i ben.

Felly, dyna pam roeddwn i’n fodlon arwyddo adroddiad y pwyllgor, achos rwyf i o’r farn ei bod yn bosib gwneud rhywbeth cyn y pum mlynedd, os yw'n bosib, sef pan fo’n ymarferol. Nid oes angen i ni aros am bum mlynedd os oes yna siawns i wneud rhywbeth cyn hynny. Diolch.

Mae'n siomedig bod y Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen i gynnal pleidlais heddiw ar y safonau pwysig sydd i'w pennu mewn perthynas â'r Gymraeg yn y maes iechyd, sef Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae Plaid Cymru yn credu y dylid gohirio'r penderfyniad er mwyn rhoi cyfle i'r Llywodraeth ychwanegu at y safonau sydd gerbron heddiw. Mae pwyllgor trawsbleidiol y Gymraeg, diwylliant a chyfathrebu wedi dweud y dylai'r Llywodraeth ystyried rhoi mwy o amser i'r pwyllgor gael mwy o gyfle i graffu ar y safonau. 

Mae'r pwyllgor hefyd yn dod i'r casgliad y dylid cyflwyno safonau ychwanegol. Fel y mae pethau'n sefyll, mae'r safonau yn gwbl annigonol a diffygiol. Gan y bydd yna bleidlais heddiw, nid oes gennym ni yn rhengoedd Plaid Cymru ddim dewis ond pleidleisio yn erbyn y safonau gwan yma. Nid yw'r safonau sydd gerbron yn gosod unrhyw safon sy'n cydnabod yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg yn ein hysbytai. Nid ydyn nhw chwaith yn gosod safonau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, sef y prif gysylltiad rhwng trigolion a'r byd iechyd.

Mae cael cysylltiad wyneb yn wyneb yn eich mamiaith i drafod agweddau o'ch gofal iechyd yn gwbl angenrheidiol i ansawdd y gwasanaeth hwnnw, yn arbennig felly os ydych chi'n blentyn bach sydd heb gaffael yr iaith Saesneg eto, neu os ydych chi'n dioddef o broblemau cof megis dementia sy'n golygu mai yn eich mamiaith yn unig y byddwch chi'n cyfathrebu, neu os ydych chi'n dioddef salwch meddwl ac am drin emosiynau dyrys mewn ffordd ystyrlon. Mae ansawdd y gofal, ac, mewn rhai achosion, diogelwch y claf, yn cael eu cyfaddawdu os oes yna broblemau cyfathrebu. Mae'r angen hwnnw yn cael ei gydnabod yn gwbl glir yn strategaeth arloesol Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau', ond, yn anffodus, nid ydy ysbryd y strategaeth honno yn cael ei adlewyrchu yn y safonau gwan sydd gerbron heddiw. 

A gawn ni oedi am funud i ystyried beth yn union yw safonau? Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, sef dull o bennu safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Yn achos y sector iechyd, mae yna 114 safon yn cael eu pennu, yn ymwneud yn bennaf â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd staff, arwyddion, cyfweliadau swyddi, llunio polisi ac yn y blaen. Ond nid oes disgwyl i gorff iechyd neidio yn syth i gyflawni hynny dros nos. Mae proses lle bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ar y corff dan sylw, ond, ac mae hwn yn 'ond' pwysig, nid oes rheidrwydd ar y comisiynydd i'w gwneud hi'n ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon. Yn hytrach, rhestr yw safonau—bwydlen, os liciwch chi—ac os yw hi'n amlwg yn gwbl anymarferol i gorff weithredu yn unol ag unrhyw un o'r safonau yna nid oes rhaid i'r safon benodol yna fod yn yr hysbysiad cydymffurfiol. Nid oes yn rhaid chwaith i'r safonau fod yn weithredol yn syth. Mae hyblygrwydd mawr yn y system yn galluogi'r comisiynydd i osod diwrnod gosod i'r dyfodol.

Beth sy'n cael ei anghofio fel rhan o'r drafodaeth yma i gyd yw llais y claf. Prin iawn yw'r sôn am hawliau cleifion mewn ysbyty. Mae yna un safon o blith y rhain yn sôn am yr angen i gofnodi dymuniad i siarad Cymraeg, ond, ar ôl gwneud hynny, nid yw'n sôn am beth i'w wneud efo'r wybodaeth. Wedyn mae yna safon arall yn sôn am gyhoeddi cynlluniau pum mlynedd am y camau sy'n bwriadu cael eu cymryd i gynyddu'r gallu i gynnal ymgynghoriad clinigol yn y Gymraeg, ond, eto, nid oes yna safon benodol sydd yn gosod yr hawl i wasanaeth Cymraeg, ac felly mae hyd yn oed y safon bum mlynedd yn mynd yn ddiystyr oherwydd nad ydy'r safon yna yn cael ei diffinio yn glir fel rhan o'r rheoliadau yma. Nid oes yna gyfeiriad o gwbl at osod safonau yn y sector gofal sylfaenol annibynnol, sydd yn wendid amlwg.

Fy nadl i ydy y dylai'r safonau osod hawliau am wasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg—hawliau clir. Wrth gwrs, mae yna heriau mawr, rydym ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae yna newid ar droed wrth i fwy a mwy o nyrsys a doctoriaid dderbyn eu hyfforddiant drwy'r Gymraeg. Mae angen ymateb yn greadigol i'r heriau sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd. Mae modd ychwanegu at y safonau yma heb achosi problemau mawr, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn troi pob carreg i ganfod yr atebion creadigol, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, efo'r ewyllys wleidyddol gadarn i fynnu bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyfarch yn llawn.

16:35

Mae'n hawdd gweld y rheoliadau hyn—yn anghywir—fel rhan o bolisi ar ddiwylliant;  trafod mesur iechyd yr ydym ni heddiw mewn gwirionedd, a byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau ar y sail bod hanner torth yn well na dim bara. Clywais apêl huawdl Siân Gwenllian heddiw i fynd ymhellach, a chydymdeimlaf yn fawr iawn â hynny. Ni fydd clywed hyn yn ei phlesio hi, ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno rhywfaint o dystiolaeth ysgrifenedig yr wyf yn cytuno â hi i raddau helaeth. Maen nhw'n dweud eu bod yn argymell y dylid ychwanegu safbwynt penodol yn cadarnhau hawliau cleifion mewnol a chleifion allanol i gael ymgynghoriad clinigol, triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae Siân Gwenllian wedi egluro pam mae hyn yn angenrheidiol i blant ifanc iawn, efallai i'r rhai sy'n hen iawn, ac efallai i'r rhai nad ydynt mor hen, sydd yn anffodus yn dioddef o ddementia neu gyflyrau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae cael ymgynghoriad drwy'r iaith y gallwch fynegi eich hun orau ynddi, yn golygu mai'r iaith honno yw'r orau ar gyfer cael y diagnosis gorau ac felly cael y driniaeth orau. Mae hynny'n fater hanfodol bwysig, ac mae angen ei gydnabod yn briodol.

Rwyf yn deall yn iawn y rhesymau pam nad yw'r Gweinidog wedi teimlo y gall fynd mor bell, ond rwyf yn credu bod Siân Gwenllian wedi gwneud pwynt da pan gyfeiriodd at faint o hyblygrwydd sy'n bodoli o fewn y cynllun a sefydlwyd gan Fesur 2011. Rwyf i'n credu y dylid gosod nod mewn deddfwriaeth ar gyfer yr hawl i gael triniaeth neu ddiagnosis wyneb yn wyneb drwy gyfrwng iaith o'ch dewis, ac mae'r memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau hyn yn egluro pam na fyddai hyn, o reidrwydd yn gwrthdaro â'r anawsterau ymarferol amlwg sydd gennym, sef y prinder o weithwyr proffesiynol sy'n gallu ymdrin â chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r dystiolaeth a welsom gan Gymdeithas Feddygol Prydain hefyd yn bwynt diddorol i'w ychwanegu at hynny: Allwn ni ddim gadael i'r Gymraeg gael ei gweld o'r tu allan i Gymru fel rhwystr i recriwtio gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, ac rwyf i'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig y mae'n rhaid inni ei gadw mewn cof bob amser. Ond mae'r memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau hyn, yn fy marn i, yn esbonio'n glir iawn bod y cynllun y mae'r Comisiynydd yn gorfod gweithredu yn rhoi iddi hi—'hi' ar hyn o bryd, beth bynnag, y pŵer i fod yn hyblyg, fel y dywedodd Siân Gwenllian. Gallai'r Comisiynydd

ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon mewn rhai amgylchiadau ac â safon arall mewn amgylchiadau eraill.

gall y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â'r safon mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn eraill, neu ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon mewn rhai meysydd yn unig.'

Yn yr un modd, pan fo dwy neu fwy o safonau sy'n ymwneud ag ymddygiad penodol,

gall y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o'r safonau hynny yn unig, neu â gwahanol safonau ar wahanol adegau, mewn amgylchiadau gwahanol, neu mewn meysydd gwahanol.

Credaf fod hynny'n ei gwneud hi'n gwbl bosibl i gyflwyno hyblygrwydd i'r cynllun. Felly, rwy'n gobeithio, er byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw—a gwn yn sicr yr hoffai'r gweinidog fynd ymhellach a'i bod yn cael ei chyfyngu dim ond gan yr hyn y mae'n eu gweld fel anawsterau ymarferol ar hyn o bryd—y byddwn, o fewn cyfnod cymharol fyr, yn gallu mynd ymhellach tuag at wireddu'r amcan hwn. Oherwydd rwyf i'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl fod yn sicr y gallant ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd sydd orau iddyn nhw. Mae'n wasanaeth iechyd cenedlaethol, ac mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, siaradwyr Cymraeg—ac, yn wir, Cymry uniaith, o ran hynny—yn ogystal â phawb arall, ac felly mae'n bwysig o ran cynwysoldeb. Mae'n bwysig am y rheswm, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, ein bod eisiau cyflawni, os gallwn ni, y dasg o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, ond mae'n bwysicach, rwy'n credu, ein bod ni'n gweld hwn fel mesur sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaeth iechyd gorau posibl ar gyfer pawb yn ein gwlad.

Wel, rwyf yn cytuno i raddau helaeth â Neil Hamilton ynglŷn â hyn, o ran ei bod hi'n bwysig iawn, beth bynnag fo'r mesurau yr ydym ni'n eu cyflwyno, nad ydym ni'n creu'r argraff mai dim ond y rhai sy'n siarad Cymraeg gaiff weithio yn GIG Cymru, oherwydd byddai hynny'n llwybr peryglus iawn i'w droedio. Croesawaf y mesur; cafodd feichiogrwydd hir, ond bellach mae angen rhoi genedigaeth i'r babi. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y mesur. Mae'n rhaid inni gydnabod hynny—. Cytunaf yn llwyr â Siân Gwenllian, mewn rhai achosion, nad yw'n fater o ansawdd yn unig. Gall fod yn fater o ddiogelwch. Os yw plentyn yn Gymraeg ei iaith a bod angen iddo fynegi ei deimladau am y boen neu ble mae'r boen, bydd ansawdd yr ymgynghoriad yn ddibynnol ar y gallu i ddeall beth mae'r plentyn hwnnw yn ei ddweud. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn mewn ardaloedd lle mae plant yn cael eu magu yn Gymraeg eu hiaith. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fyddwn ni'n trafod materion iechyd meddwl neu ddementia, pryd y bydd pobl efallai yn dychwelyd i fod yn uniaith o ganlyniad i'r dementia.

Mae'n rhaid cymryd pwyll wrth inni gyflwyno'r mesur hwn, yn syml oherwydd bod llawer o'r gwasanaethau, yn sicr yn fy ardal i yng Nghaerdydd a'r Fro, yn dibynnu nid yn unig ar ddenu pobl o rannau eraill o Brydain, ond ar ddenu clinigwyr Ewropeaidd y mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn siarad Saesneg yn ddigon da, heb sôn am y Gymraeg, ac mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n siarad Cymraeg os ydyn nhw'n dod o wledydd eraill. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r hawl a'r ddyletswydd sydd arnom ni i symud ymlaen o ran sicrhau bod gwasanaethau yn cynnig y dewis o Gymraeg neu Saesneg i bobl, ond fel yn achos y mudiad i alluogi menywod i gael gweld clinigwyr benywaidd, yn enwedig ar faterion iechyd menywod, pan fo bywyd rhywun mewn perygl, yn amlwg nid ydym yn mynd i gynnig na all rhywun weld meddyg oherwydd nad oes meddyg benywaidd ar gael. Mewn amgylchiadau o argyfwng, yn amlwg mae'n rhaid inni dderbyn y clinigwr sydd o'u blaenau.

Felly, cefnogaf y mesur hwn, ond credaf fod angen inni droedio'n ofalus rhag i ni, mewn modd artiffisial, annog pobl i beidio â dod i weithio i GIG Cymru pan fo anhawster sylweddol ar hyn o bryd i lenwi swyddi gwag gyda phobl sy'n siarad y naill iaith neu'r llall, heb sôn am y ddwy iaith.

16:40

Diolch yn fawr iawn, a diolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor am yr adroddiad. Rydw i'n ymwybodol iawn nad ydych chi wedi cael lot o amser i edrych ar hyn, ond rydym ni wedi cydymffurfio â'r 21 diwrnod sydd fel arfer yn cael eu cydnabod. Ond rydw i yn derbyn efallai y gallwn ni edrych ar ehangu hynny, os mae hynny wedi creu problem y tro yma. Ond dyna'r ffordd y mae wastad wedi cael ei wneud. O ran egwyddor, rydw i'n meddwl y gallwn ni edrych ar ymestyn yr amser yn y dyfodol.

Roedd Cadeirydd y pwyllgor yn iawn i ddweud ei bod hi wedi cymryd amser hir. Wrth gwrs, roedd yna ymgynghoriad a oedd wedi mynd ymlaen am amser hir. Mae e'n wasanaeth sy'n eithaf soffistigedig, yn eithaf eang, ac roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n cael ymateb oddi wrth bob math o lefelau yn yr adran iechyd. Ond dyna pam rydym ni'n awyddus i fwrw ymlaen heddiw.

Nawr, mae'r mater yma o'r ymgynghoriad clinigol wyneb yn wyneb yn un eithaf caled, achos, yn rhannol, y problemau ymarferol. Unwaith rydych chi'n sefydlu hawliau, ar ba bwynt ydych chi'n dweud, 'Wel, actually, mae'n rhaid ichi gael y driniaeth yma ar y foment yma'? Nid ydych chi, ambell waith, eisiau stopio'r broses yna o helpu'r claf drwy'r system. Felly, mae'n rhaid inni gael y balans yna'n iawn. Dyna pam beth rydym ni wedi'i ddweud yw ein bod ni eisiau dechrau byrddau iechyd ar y trywydd yma o sicrhau eu bod nhw'n gwybod, yn y pen draw, y bydd angen iddyn nhw roi gwasanaeth—symud tuag at roi gwasanaeth clinigol i'r claf. A dyna pam rydym ni wedi cyflwyno'r syniad yma o gynlluniau pum mlynedd, a dyna pam y mae'n rhaid iddyn nhw ddangos inni sut y maen nhw'n mynd i ymateb, a'u bod nhw'n gallu newid o ran beth y maen nhw eisiau ei wneud yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae beth sy'n iawn ar gyfer rhan o Wynedd, efallai, yn hollol wahanol i beth sy'n iawn ar gyfer rhan arall o Betsi Cadwaladr. Felly, bydd lle gyda nhw i ymateb i beth sy'n ddelfrydol yn lleol.

O ran gofal sylfaenol—

16:45

Beth rydym wedi'i glywed gan un aelod o'r Pwyllgor, Siân Gwenllian, oedd bod modd rhoi safon yn hynny o beth, a hyblygrwydd wedyn o ran sut y byddai'r safon honno'n cael ei weithredu. Felly, gellir wedyn rhoi'r safon honno ar, er enghraifft, Gwynedd, lle bod Blaenau Gwent efallai'n mynd i gymryd mwy o amser i wneud hynny. Os nad oes yna safon, wedyn efallai nad yw'r rhwymedigaeth mor gryf—heb y safon honno yn gweithredu. 

Beth rwy'n gobeithio y bydd yn digwydd nawr yw y bydd y comisiynydd yn siarad gyda'r gwasanaethau yma ac yn gweld beth sy'n ddelfrydol ac yn gwthio nhw yn yr ardaloedd lle mae hi efallai'n meddwl y gallwn ni wthio pobl ymhellach.

O ran gofal sylfaenol, bydd y gofal a fydd yn cael ei roi yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd yn dod o dan y safonau. Mae yna fater ymarferol ynglŷn â sut rydym ni'n cael pobl yng ngofal sylfaenol sy'n annibynnol i weithredu'r safonau hyn, a sut rydym yn eu cael nhw i gydymffurfio, a beth yw'r system o blismona. Mae dros 3,500 o'r rhain. Nid oes capasiti gyda'r comisiynydd iaith i fynd ar ôl cymaint â hynny o fudiadau. Felly, rwy'n meddwl ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i wneud hwn drwy'r byrddau iechyd. Dyna pam y mae yna gytundeb. Roedd cytundeb wedi dechrau ddoe. Mae GPs wedi cael mwy o arian, a rhan o'r cytundeb yna oedd eu bod nhw wedi ymrwymo i edrych i mewn i roi mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷm ni wedi dechrau ar y trywydd yma, ac mae ffordd i fynd gyda'r cytundebau hynny. Ond mae plismona hefyd yn bwysig.

Suzy, mae balans hawliau yn bwysig, rwy'n cytuno. Mae'n really anodd yn y maes yma. Beth yw'ch hawl chi? A oes gyda chi yr un hawl ym Mlaenau Gwent ag sydd yng Ngwynedd? Mae'n anodd iawn pan mae'r system yma sydd gyda ni yn edrych ar beth sy'n reasonable a proportionate. Felly, rwy'n meddwl bod y system sydd gyda ni yn eithaf soffistigedig, ond mae yn gwneud sens i ymateb i beth sydd ei angen yn lleol.

Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn sensitif, Siân Gwenllian, i'r henoed ac i blant yn arbennig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl, wrth ddod ymlaen â'r syniadau ynglŷn â chynlluniau pum mlynedd, yn edrych ar rheini fel y pwynt cyntaf i sicrhau eu bod yn symud tuag at roi cynnig clinigol i'r rheini yn gyntaf. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n ystyried hynny. Ond, rwy'n awyddus nawr i'r comisiynydd fwrw ymlaen gyda'r gwaith. Rwy'n deall bod recriwtio yn gallu bod yn broblem yn yr adran iechyd, ac nid ydym eisiau rhoi unrhyw negeseuon allan na fydd pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn cael eu croesawu yng Nghymru. Mae'n really bwysig ein bod ni'n cael y neges sensitif yma yn gywir, fel yr oedd Neil Hamilton yn ei ddweud.

Wel, dim ond ar y pwynt hwnnw, achos cawsom dystiolaeth ar y ffordd y mae darpar fyfyrwyr meddygol yn cael eu recriwtio yn ein hysgolion meddygol yng Nghymru—y ddwy sydd gyda ni. Mae canran isel iawn yn dod o Gymru yn y lle cyntaf, ac nid oes dim pwysau yn cael eu rhoi ar a ydych chi'n siarad Cymraeg ai peidio ar hyn o bryd. Dyna pam y mae pwysau cynyddol i gael ysgol feddygol ym Mangor, a fyddai, gobeithio, yn gallu gwyrdroi y math yma o bethau. 

Ond eto, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud lot o waith yn y maes yma yn barod. Felly, mae lot o waith eisoes yn cael ei wneud. Felly, ni allwn ddiystyru'r pethau eraill sy'n digwydd. Dim ond safonau yw'r rhain, a phan wnes i siarad yn y cyflwyniad agoriadol, dywedais fod yn rhaid inni edrych ar y safonau hyn mewn cyd-destun sydd lot yn ehangach. Ond, rwy'n gobeithio nawr y gallwn ni fwrw ymlaen gyda hyn. Rwy'n meddwl bod angen inni ofyn i'r comisiynydd ddechrau ar y gwaith yma, ac rwy'n hyderus y bydd yr ystyriaeth a'r gwasanaeth a fydd ar gael ar gyfer pobl yn y dyfodol yn gwella o ganlyniad i'r safonau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Symudwn yn awr at eitem 5 ar ein hagenda, sef Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018. Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig y cynnig hwnnw—Julie James.

Cynnig NDM6694 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad y llynedd ar ba un a ddylai Awdurdod Cyllid Cymru gael mynediad at rai o'r un pwerau troseddol â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 2 Hydref, yn canolbwyntio ar y pwerau hynny i atal ac ymchwilio i droseddau treth datganoledig—pwerau sy'n gyson â'r rhai hynny a ddefnyddir gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Lloegr ar gyfer y trethi y mae'n gyfrifol amdanynt. Cafwyd dau ar bymtheg o ymatebion, gan gynnwys cyfraniadau gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth i ganiatáu i Awdurdod Cyllid Cymru arfer pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu, yn amodol ar gael gwarant, i arfer pwerau penodol o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 drwy ymchwilwyr ariannol achrededig, ac i gynnal ac awdurdodi'r defnydd o wyliadwriaeth gudd a gwyliadwriaeth gyfeiriedig yn unol â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, gosodwyd drafft o'r Reoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 gerbron y Cynulliad ar 21 Chwefror. Dirprwy Lywydd, rwyf heddiw yn ceisio cefnogaeth y Cynulliad ar gyfer y rheoliadau hyn. Ar 21 Chwefror, gosodwyd Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018 o dan y weithdrefn negyddol. Mae'r rhain yn cwblhau'r pecyn o bwerau ymchwilio a fydd ar gael i Awdurdod Cyllid Cymru. Dirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at rai pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac egluro sut yr ydym wedi ymateb.

Cafwyd ymateb cymysg i'r cynnig i beidio â darparu pwerau arestio a chadw yn y ddalfa i Awdurdod Cyllid Cymru, a mynegodd rhai o'r ymatebwyr rywfaint o bryder y gallai absenoldeb y pwerau hyn atal Awdurdod Cyllid Cymru rhag cyfweld â phobl sydd dan amheuaeth yn ystod ymchwiliad. Teimlai rhai ymatebwyr hefyd y gallai fod yn briodol i Awdurdod Cyllid Cymru gael pŵer cyffredinol i stopio a chwilio unigolion sydd dan amheuaeth o droseddau treth datganoledig. Fodd bynnag, o ystyried y nifer fach o droseddau treth datganoledig y disgwylir yr ymchwilir iddynt bob blwyddyn, nid ydym ni'n credu ei bod yn gymesur ar hyn o bryd i'r Awdurdod fod â mynediad at bwerau arestio a chadw yn y ddalfa, ac nid ydym yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r Awdurdod fod â mynediad at bŵer stopio a chwilio cyffredinol. Ni fydd absenoldeb y pwerau hyn yn atal yr Awdurdod rhag gweithio ochr yn ochr â heddluoedd ychwaith, lle bo angen, na rhag gofyn i bobl sydd dan amheuaeth ddod am gyfweliad o'u gwirfodd.

Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith wrth ystyried y rheoliadau a'r gorchmynion.

16:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Jest i ategu bod y Pwyllgor Cyllid wedi ystyried y rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw, a hefyd y rheoliadau a wnaethpwyd drwy’r weithdrefn negyddol, sydd yn rhan o’r pecyn, fel y dywedodd arweinydd y tŷ. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y grymoedd hyn yn cael eu rhoi i Awdurdod Cyllid Cymru, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at y ffaith bod y grymoedd yma yn rhai sylweddol iawn. Maen nhw’n rhai pwerus iawn, ac maen nhw yn caniatáu i’r awdurdod cyllid fynd i mewn i eiddo ac i archwilio ymddygiad pobl. Wrth gwrs, mae gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rymoedd tebyg, ac mae ond yn deg, wrth ddatganoli trethi, ein bod ni hefyd yn datganoli grymoedd yn ymwneud ag unrhyw ymgais i dwyllo cyllid y wlad—y wlad yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, yw Cymru. Felly, er ein bod ni’n cytuno ar y rheoliadau, rydym ni hefyd jest yn tynnu sylw’r Cynulliad yn ein hadroddiad ni at y pwerau eang ond pwrpasol hyn.

A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwahanol ddarpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 sydd i'w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru, ac maent yn cynnwys cael mynediad i safleoedd o dan amgylchiadau penodedig ac atafaelu eitemau perthnasol.

Dim ond ychydig o bwyntiau yr oedd y pwyllgor am eu codi, mewn gwirionedd. Mae'r rheoliadau yn rhoi pwerau sylweddol i'r Awdurdod, ac roeddem ni o'r farn bod yr esboniad a roddwyd yn rhesymol, ond bod gwerth adrodd ar yr offeryn ar y sail ei fod o bwysigrwydd cyfreithiol neu wleidyddol neu yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.

Gwnaethom benderfynu yn ein cyfarfod i gynnwys pwynt arall ar gyfer adrodd, sy'n ymwneud ag anghysondeb rhwng y rheoliadau a'r memorandwm esboniadol. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan bod yn rhaid i'r awdurdod cyllid gydymffurfio â chodau ymarfer statudol a wnaed o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, ond ein dealltwriaeth ni yw mai dim ond y cod y mae angen iddyn nhw ei ystyried ac, yn benodol, rhannau perthnasol o'r cod. Mae yna wahaniaeth pwysig rhwng cydymffurfio â rhywbeth a gorfod rhoi sylw iddo. Yn ein hadroddiad felly, gwnaethom ddweud y dylai Llywodraeth Cymru egluro'r sefyllfa ac, os oes angen, sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r rheoliadau yn cael eu cywiro yn unol â hynny.

16:55

Cytunaf â sylwadau'r siaradwyr blaenorol. Credaf ei bod yn amlwg yn bwysig fod gan Awdurdod Cyllid Cymru yr un arfau ag sydd ar gael i Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd. Rydym yn awr yn y cyfnod pontio hwnnw cyn rhoi'r trethi newydd ar waith, ac mae hyn yn rhan bwysig o sicrhau bod y gyfundrefn dreth newydd yn cael ei gorfodi'n briodol. Rwy'n hapus i gefnogi'r rheoliadau.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch yn fawr iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth ddeddfu i roi pwerau troseddol i awdurdod cyhoeddus oni fydd hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig y dylai fod gan Awdurdod Cyllid Cymru rai o'r pwerau y mae Cyllid a Thollau EM yn eu harfer ar hyn o bryd wrth ymchwilio i droseddau treth yng Nghymru. Mae cyfres o fesurau diogelu â therfynau eglur iddynt gan y pwerau sefydledig hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn gymesur ac yn briodol. Wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, daethpwyd i'r casgliad y dylai fod gan ACC rai o'r pwerau sydd ar gael i Gyllid a Thollau EM ar hyn o bryd, ac felly cynigiaf y rheoliadau yn ffurfiol. Thank you.

Diolch ichi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan hynny, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Byddwn yn symud i'r cyfnod pleidleisio nawr, heb i dri aelod ddymuno i'r gloch gael ei chanu.

6. Cyfnod Pleidleisio

Byddaf yn bwrw ymlaen i agor y bleidlais nawr. Felly, rydym yn mynd i bleidleisio ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dros y cynnig 43, dim ymataliadau, wyth yn erbyn. Gan hynny, derbynnir y cynnig.

NDM6693 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: O blaid: 43, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Cynllun Cyflogadwyedd

Symudwn yn awr at ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y cynllun cyflogadwyedd. Galwaf ar Eluned Morgan i gynnig y datganiad. Eluned.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i lansio'r cynllun cyflogadwyedd heddiw, ac a gaf i ddechrau trwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau nhw wrth ddatblygu’r cynllun, achos mae'r cynllun yma yn gynllun traws-lywodraethol?

Un o brif gyfrifoldebau Llywodraeth yw addysgu, hyfforddi a pharatoi pobl ar gyfer y byd gwaith. Mae cael gweithlu mwy o faint a mwy cynhwysol yn dda i hybu lefelau cynhyrchiant ein gwlad, ond mae yna hefyd fanteision eraill i weithio. Mae cael gwaith yn codi pobl allan o dlodi ac, yn ôl yr Athro Stephen Hawking, mae gwaith yn rhoi ystyr a phwrpas, a gall bywyd fod yn wag hebddo.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn economi gyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel ynddi. Rydym yn awyddus i fwy o bobl ymuno â'r byd gwaith neu ddychwelyd iddo. Rydym eisiau gweithlu mwy cynhwysol, gyda niferoedd uwch o bobl anabl mewn gwaith, a gostyngiad yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â'r bwlch cyflog o ran pobl anabl, pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae angen inni baratoi pobl ar gyfer byd gwaith sy'n newid, sicrhau eu bod yn barod i achub ar gyfleoedd yn sgil awtomeiddio, digideiddio a datgarboneiddio. Ond ni ddylem ffoi oddi wrth yr heriau y mae'r newid hwn yn eu cyflwyno chwaith. Rhagwelir colledion sylweddol o ran swyddi ac amharu ar y farchnad lafur. Felly, rydym yn paratoi ar hyn o bryd, drwy wneud yn siŵr bod cysylltiad agos rhwng ein darpariaeth sgiliau a hyfforddiant â gofynion y farchnad, bod datblygu gyrfa gydol oes yn dod yn ymarfer safonol, bod anghenion busnes yn cael eu clywed a bod ymateb cyflym iddynt. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnull tasglu ar awtomatiaeth i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i sicrhau bod ein gweithlu yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gyda'r cynllun hwn, rydym yn cynnig fframwaith cenedlaethol sy'n pennu cyfeiriad a safonau. Rydym wedi gosod cyfres o nodau ymestynnol ac uchelgeisiol sy'n ymwneud â diweithdra, anweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau, oherwydd ein bod yn benderfynol o wneud cynnydd gwirioneddol o ran y pethau hyn o fewn y degawd nesaf. Ond rwy'n ymwybodol na fydd hyn yn hawdd: mae anweithgarwch economaidd a diweithdra aml genhedlaeth yn effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, ond bydd ein cymorth unigol wrth law i helpu pobl i fynd i'r afael â'u rhwystrau personol i gyflogaeth.

O dan y fframwaith cenedlaethol hwn, mae lle i hyblygrwydd ar lefel leol a rhanbarthol. Mae gan gymunedau ledled Cymru amrywiol gryfderau ac anghenion. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar lefel ranbarthol i ddwyn ynghyd busnes, darparwyr addysg a hyfforddiant, Llywodraeth Leol a'r trydydd sector, a sicrhau eu bod yn gweithio ar y cyd i ddiwallu anghenion yr ardal.

Gan adeiladu ar y cynllun gweithredu ar yr economi, rŷm ni’n dynodi ac yn hyrwyddo llwybrau cynnydd o ran gyrfa a chyfleoedd datblygu o fewn sectorau’r economi sylfaenol. Yn rhan o’n nod o gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rŷm ni’n annog cyflogwyr hefyd i gydnabod sgiliau a chyfraniad gweithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae cydnabod Cymraeg fel sgìl yn rhywbeth mae'n rhaid inni danlinellu.

Ein nod yw cynnig cyfleoedd i greu unigolion cydnerth sy'n meddu ar sgiliau, brwdfrydedd, penderfyniad a chreadigrwydd i wireddu eu potensial, beth bynnag fo'u gallu, eu cefndir, eu rhyw neu ethnigrwydd. Mae'r cynllun hwn yn olwg tymor hwy ar sut y gallwn wireddu'r weledigaeth hon, a byddwn yn cymryd camau mewn pedwar maes allweddol.

Yn gyntaf, byddwn yn darparu cymorth unigol ar gyfer y rhai sydd ei angen. Byddwn yn creu system gymorth sy'n newydd, yn symlach ac yn fwy effeithlon i helpu pobl i gael gwaith. Bydd hyn yn ymatebol i anghenion yr unigolyn a bydd yn haws i'w gael a'i gyfarwyddo i unigolion a'u hymgynghorwyr. Bydd ein porth cyngor cyflogaeth newydd yn gweithredu dull 'nid oes un drws anghywir' a bydd yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl nad ydyn nhw mewn gwaith.

Cymru'n Gweithio yw ein rhaglen gyflogadwyedd newydd, a fydd yn cefnogi pobl i gael gwaith drwy gael gwared ar y rhwystrau a chodi lefelau sgiliau. Bydd y rhaglen yn cefnogi'r rheini dros 16 oed sy'n ddi-waith, yn economaidd anweithgar ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i gael cyflogaeth barhaol, prentisiaeth, neu i fod yn hunan-gyflogedig. Bydd manylion caffael ar gyfer Cymru'n Gweithio yn cael eu rhyddhau ddiwedd y mis hwn.

Yn ail, rydym yn gofyn i gyflogwyr wneud rhagor i gefnogi eu gweithwyr. Mae gwella sgiliau'r gweithlu yn ganolog i'n nod o gynyddu lefelau cynhyrchiant yng Nghymru. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wella sgiliau eu gweithwyr, cefnogi eu staff a darparu gwaith teg. Rydym yn galw ar gyflogwyr i chwarae eu rhan i hyrwyddo gweithleoedd iach a chynhwysol a blaenoriaethu datblygiad sgiliau fel y gall y rhai sydd mewn cyflogaeth ffynnu yn eu gwaith. Rydym yn annog cyflogwyr i weithio gydag undebau a phartneriaid cymdeithasol eraill lle bo'n bosibl i fuddsoddi yn y gweithlu a chynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor eu cwmnïau a dyfodol eu staff.

Yn drydydd, byddwn yn ymateb i'r bylchau mewn sgiliau lleol a chenedlaethol. Byddwn yn gosod fframwaith cenedlaethol i flaenoriaethu'r meysydd lle gwelwn dwf posibl a bylchau mewn sgiliau. O bwysigrwydd arbennig mae'r ardaloedd hynny a nodwyd fel blaenoriaethau yn y cynllun gweithredu economaidd, a'r sectorau hynny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan Brexit. Gan weithio mewn partneriaeth ar sail ranbarthol, byddwn yn sicrhau bod y cymwysterau mewn addysg uwch, addysg bellach ac addysg seiliedig ar waith yn cyfateb i anghenion y busnesau lleol a rhanbarthol.

Ac yn olaf, rydym yn paratoi ar gyfer newid sylfaenol yn y byd gwaith. Bydd yn rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer y dyfodol. Fel cenedl, byddwn yn paratoi heddiw i gwrdd â gofynion sgiliau yfory, felly gallwn reoli potensial llawn y datblygiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg. Gwyddom fod cyflymder a natur y newid technolegol yn cynyddu'n sylweddol. Efallai y bydd y sectorau sydd yn draddodiadol wedi gwthio ein heconomi yn crebachu a bydd sectorau newydd yn ymddangos i'w disodli. Rydym eisoes yn diwygio ein system addysg i annog dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n gallu cyfrannu mewn modd creadigol a blaengar i fyd gwaith fel dinasyddion deallus a hyderus. Ond mae'n rhaid inni gefnogi'r gweithlu sy'n heneiddio hefyd, a bydd yn rhaid i'r rheini uwchsgilio a dysgu drwy gydol eu hoes i allu ffynnu mewn cyflogaeth. I gyflawni hyn, rydym yn ystyried cynllun peilot cyfrif dysgu unigol, a fydd yn darparu arian ar gyfer ailhyfforddi mewn sectorau blaenoriaeth. Rydym hefyd yn cydnabod y twf mewn hunangyflogaeth ac yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r rhai sy'n sefydlu busnes.

Er hynny, rydym yn byw mewn cyfnod ansefydlog yn wleidyddol. Rydym yn glir ynghylch y dasg o'n blaenau a'r modd y bwriadwn weithredu i gynyddu cyflogaeth a gwneud Cymru yn genedl uwch-dechnoleg, ond gall digwyddiadau annisgwyl ein gwyro oddi wrth y llwybr. Gallai hynny gynnwys ergyd economaidd sylweddol o ganlyniad i fargen masnach wael gyda'r UE neu pe byddai llywodraeth y DU yn torri ei haddewid na fyddai'r Cymry yn waeth eu byd o ganlyniad i Brexit. Cafodd llawer o'n rhaglenni cyflogaeth eu hariannu hyd yn hyn gan yr UE, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar drefniadau ariannu'r dyfodol.

Mae’r cynllun yma yn cynnig y weledigaeth hirdymor a’r fframwaith cenedlaethol sydd ei angen ar Gymru i helpu pobl i fyd gwaith heddiw, gan baratoi ar yr un pryd ar gyfer y newidiadau radical yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno camau gweithredu sydd yn y cynllun yma.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg a hyfforddiant wrth roi'r sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr er mwyn cael swyddi da a chynaliadwy i'r dyfodol.

Mae'r Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfres o dargedau ymestynnol ac uchelgeisiol yn ymwneud â diweithdra, gweithgarwch economaidd a lefelau sgiliau. A gaf i ofyn a fydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r targedau hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd yn y Siambr hon ar y cynnydd o ran bodloni'r targedau o fewn yr amserlen ac o leiaf o fewn tair blynedd tymor y Siambr hon?

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod busnesau yng Nghymru yn bryderus o hyd nad yw'r arian a dderbyniwyd gan yr ardoll prentisiaeth wedi ei neilltuo ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r cyflogwyr sy'n talu'r ardoll yn derbyn talebau i wario ar hyfforddiant staff, tra bod cyflogwyr llai yn gymwys i gael cymorth hefyd. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud mai'r sefyllfa ddelfrydol fyddai cael un system ar gyfer defnyddio'r ardoll prentisiaeth ledled y Deyrnas Unedig. Wedi'r cwbl, economi unigol mewn un wlad ydyn ni. A gaf i ofyn: pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno system o dalebau yng Nghymru? Bydd yn rhaid gwrando'n astud ar lais y busnesau o ran sut y caiff yr arian ei wario ar sgiliau a hyfforddiant i sicrhau bod ein gweithlu yn gymwys i'n heconomi i'r dyfodol.

Rwy'n croesawu haeriad y Gweinidog ei bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod cysylltiad agos rhwng ein darpariaeth sgiliau a hyfforddiant a gofynion y farchnad. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu gyda'r sector busnes i sicrhau y bydd hynny'n cael ei gyflawni? Mae'r Gweinidog yn ymrwymo i ymateb i'r bylchau mewn sgiliau lleol a chenedlaethol. Mae o gwmpas traean o'r holl brentisiaethau ar hyn o bryd yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen inni fynd i'r afael â'r prinder sgiliau mewn meysydd fel TGCh, peirianneg ac adeiladu, yn ogystal â gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Daeth pwysigrwydd hyn i'r amlwg yn ddiweddar gan gyhoeddiad Persimmon Homes eu bod yn recriwtio mwy na 700 o weithwyr adeiladu, gan gynnwys seiri coed a bricwyr yn y De. Felly, cyfle rhagorol yw hwnnw i'r sector sgiliau fanteisio ar y cyfle rhagorol hwn. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Cymru yn amcangyfrif y bydd angen mwy na 5,000 o bobl dros y flwyddyn i ddarparu'r gweithlu i wireddu ei ddyhead presennol ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ganiatáu i gontractwyr gyflogi ac uwchsgilio'r gweithlu sydd ei angen.

Gweinidog, pa bwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarparu sgiliau a hyfforddiant yn y sector hwn i sicrhau bod digon o weithwyr medrus o Gymru ar gael i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd yn y dyfodol sydd yn cael eu rhoi gan y busnesau hyn?

Dywed y Gweinidog hefyd y bydd yn rhoi cymorth unigol i'r rhai sydd ei angen, felly a gaf i holi hefyd am bwnc y cymorth ariannol gyda chostau byw ar gyfer prentisiaid? Beth yw eich barn chi am hynny? Ceir tystiolaeth sylweddol bod rhwystrau ariannol, fel costau trafnidiaeth, yn ddigalon ac, mewn rhai achosion, yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ymateb i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y dylai prentisiaethau gael yr un cymorth ariannol gyda chostau byw â myfyrwyr prifysgol ledled y wlad?

I gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog—. Pobl ifanc, pobl anabl a phobl hŷn, mae'r sector sgiliau sector ychydig yn ddiffygiol yn y fan honno, a hefyd yng nghymuned y lluoedd arfog yn y wlad hon. Felly, beth yw cymhelliad y Llywodraeth o ran hynny—neu'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw ar ei hôl hi? Pobl anabl, menywod.

A'r bwlch cyflog: maes yr ydym wedi clywed amdano'n ddiweddar iawn. Rwy'n gwybod, wyddoch chi, fod Mr McEnroe yn chwaraewr tennis gwych. Ei gyflog ef a Marina Navratilova: mae hi'n cael 10 y cant yn unig—£15,000 a bwlch o £150,000 yn yr hyn y mae'r cyfryngau yn y wlad hon yn ei dalu i'r bobl hyn. Menywod—.

17:10

Yr hyn yr wy'n ei ddweud yw bod yna fwlch mewn gwahanol feysydd yn y sector preifat—preifat ddywedaf i. Felly, a oes unrhyw gymhelliad yn y Llywodraeth hon—? Dylid annog y sector preifat i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector cyflog. Dyna yw fy mhwynt i. Ni ddylai pethau fod fel hynny, y bwlch mawr rhwng dynion a menywod: yr un gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond nid yw'r cyflog yr un faint. Byddwn yn ddiolchgar. Diolch ichi.

Diolch ichi, Mohammad. Credaf fod rhai o'r targedau wedi cael eu nodi yn y ddogfen, felly gallwch fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir yn y fan honno. Byddaf yn ceisio sicrhau mwy o fanylder; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr effaith ranbarthol, a sut olwg sydd ar bethau yn rhanbarthol, felly byddwn yn monitro hyn mewn ffordd gydlynol iawn. Ond byddwn yn gwneud hynny mewn modd systematig dros gyfnod hir o amser. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi yn fy nal i gyfrif yn hyn o beth oherwydd bydd yn bwysig i mi i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni. Ac un o'r pethau y byddwn yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn tynnu ynghyd yr holl wahanol sefydliadau mawr sy'n gweithio yn y maes hwn. Rydym eisoes wedi siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel nad ydym ni i gyd yn mynd ar ôl yr un rhai a allent fod yn economaidd anweithgar; ein bod ni'n cydgysylltu ein hymdrechion.

Yr ardoll prentisiaeth: wel, oni fyddai wedi bod yn hyfryd pe byddai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â ni mewn gwirionedd cyn iddyn nhw ei gyflwyno? Dyna ran o'r broblem. Cafodd hyn ei orfodi arnom ni, ac rydym bellach yn gorfod gweithio gyda'r system sydd gyda ni. Nid wyf i'n siŵr a fyddwn i'n hyrwyddo'r system talebau yn Lloegr pe byddwn yn eich lle chi. Bu cwymp enfawr yn nifer y prentisiaethau yn Lloegr yn ystod y misoedd diwethaf, felly nid wyf yn sicr mai hwnnw yw'r patrwm sydd angen inni ei ddilyn, ond yr hyn na fyddwn ni'n cyfaddawdu arno yw ansawdd y prentisiaethau yng Nghymru.

 Ar y sector adeiladu: rydym ni wedi bod yn gwneud llawer o waith yn y sector hwn. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn edrych yn fanwl ar hyn: beth mae'r cyflogwyr yn edrych amdano? Beth yw'r safonau a'r rhinweddau y maen nhw'n chwilio amdanynt? Ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, ond un o'r pethau y byddwn ni'n ei ofyn yw bod sefydliadau addysg bellach yn ymateb. Rydym yn gofyn iddyn nhw ymateb i'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Felly, yr hyn sydd gennym ni nawr yw'r cyflogwyr hyn i gyd yn dweud wrthym beth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen inni wneud yn siŵr nawr bod hynny'n cael ei drosglwyddo a'i egluro i'r colegau addysg bellach a'u bod yna yn ymateb i hynny, fel y gallwn roi i'r cyflogwyr hynny y sgiliau y maen nhw'n chwilio amdanynt.

Ac i gloi, o ran pobl anabl yn benodol: mae llawer o waith gennym ni eto i'w wneud yn y maes hwn. Dim ond 49 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd yn gweithio. Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud yn hyn o beth. Mae'n ddiddorol iawn: pan fyddwch yn gofyn i gyflogwyr helpu, mae llawer ohonynt yn barod i wneud hynny, ac mae llawer o gefnogaeth y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ei roi hefyd. Felly, byddwn yn gwneud llawer mwy o waith yn y maes penodol hwnnw, gallaf eich sicrhau chi.

Rydw i yn credu bod yn rhaid cymeradwyo'r Llywodraeth o ran yr uchelgais sydd yn cael ei gosod mas gyda'r targedau. Mae rhai ohonyn nhw'n bell-gyrhaeddol iawn: hynny yw, cau'r bwlch o ran sgiliau, o ran y gwahanol lefelau cymhwyster rhwng Cymru a’r Deyrnas Gyfunol dros gyfnod o ddegawd. Mae hynny’n uchelgeisiol, ond a gawn ni glywed beth yw’r adnodd sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer cwrdd â rhai o’r targedau yma? Dim ond ychydig o sôn am gynnydd mewn cyllid sydd yna ar gyfer y rhaglenni, a dweud y gwir, felly, a ydy’r Gweinidog yn gallu rhoi syniad inni o ran y buddsoddiad sydd yn sail i’r cynllun?

A all y Gweinidog hefyd esbonio’r rhesymeg dros ailgyflwyno cyfrifon dysgu unigol? Hen bolisi, wrth gwrs, a oedd wedi cael ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru saith mlynedd yn ôl, nad oedd yn cael ei weld fel llwyddiant mawr, a dweud y gwir. Yn Lloegr, wrth gwrs, roedd wedi cael ei ddiddymu oherwydd yr oedd wedi achosi un o’r achosion o dwyll ariannol mwyaf erioed. Felly, byddai deall rhesymeg y Llywodraeth efallai’n help fanna.

O ran y sector dysgu oedolion yn y gymuned, roedd rhagflaenydd y Gweinidog wedi rhoi datganiad polisi nôl yn yr haf. Oherwydd ei fod yn sector sydd wedi gweld erydu yn ei ariannu yn eithaf dybryd dros gyfnod o amser, roeddem wedi cael addewid y byddai yna gyllido newydd, ac y byddai strwythur newydd a chynllun newydd. A ydy’r Gweinidog yn gallu sôn am hynny yng nghyswllt y cynllun y mae hi wedi’i gyflwyno?

O ran y ffocws yma ar ddynesiad wedi’i deilwra at yr unigolyn, rwy’n credu bod yna lawer o rinwedd yn hynny, ond a fyddai hynny'n gallu cael ei ymestyn, er enghraifft, i dracio cynnydd unigolion ar ôl iddynt adael addysg ffurfiol? Er enghraifft, y math o waith tracio sydd wedi cael ei wneud yn llwyddiannus iawn yng Ngheredigion, a chysylltu hynny gydag un syniad, wrth gwrs, o sut i gau bylchau sgiliau Cymru, sef denu myfyrwyr yn ôl sydd wedi gadael Cymru, wedi astudio yn Lloegr, a cheisio'u denu nhw yn ôl, fel mae ein plaid ni wedi bod yn pwysleisio ers talwm.

Yn olaf, wedi hynny, roedd cyfeiriad at yr angen am sgiliau Cymraeg yn eich cyflwyniad chi. Wrth gwrs, rŷm wedi gweld tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg, y ffigwr arbennig o isel o ran prentisiaethau, er enghraifft, sydd yn cael eu cynnig yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg—0.3 y cant, rwy’n credu, oedd y ffigwr roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gyflwyno. A allwn ni gael targed ar gyfer darpariaeth, yn sicr o ran y ddarpariaeth alwedigaethol sydd yn isel iawn ar hyn o bryd, ac o ran prentisiaethau, fel ei bod yn gallu cyfrannu nid yn unig at y polisi o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond hefyd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i fedru cyrraedd eu potensial o ran eu sgiliau nhw hefyd?

17:15

Diolch yn fawr. Wel, yn gyntaf i gyd, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn uchelgeisiol achos mae e, ond rwy’n meddwl dylem fod yn uchelgeisiol. Rwy’n meddwl dylem fod yn glir ynglŷn â ble rŷm ni eisiau cyrraedd. Nid ydym yn mynd i wneud hyn dros nos, ond beth oedd yn really bwysig i fi oedd ein bod ni’n hollol glir o ran ble roeddwn i eisiau cyrraedd a’n bod ni’n cael camau mewn lle er mwyn cyrraedd y pwynt yna.

Felly, sut ydym yn mynd i gyrraedd y lefelau yna? Wel, os ydych chi’n meddwl am rywbeth fel cyrraedd lefel 4 o ran sgiliau, er enghraifft, rydym tua 50,000 o bobl y tu ôl i ble dylem ni fod o gymharu â Lloegr. Wel, mae 100,000 o brentisiaethau gyda ni, ac un o’r pethau rydym yn ei wneud yw trio gwthio pobl i fyny'r llwybr sgiliau fel bod mwy o bobl yn gwneud prentisiaethau lefel 3, 4 a 5, a llai, efallai, ar y lefelau isel. Felly, y lefelau isel, rŷm ni’n cyrraedd mwy neu lai'r un targed â Lloegr, so mae eisiau inni wthio pethau i fyny, a dyna beth rŷm yn ei wneud yn barod. So, rŷm ni ar y trywydd iawn, rwy’n meddwl, gyda hynny.

Gyda’r learning accounts, rwy’n ymwybodol bod hwn wedi cael ei wneud yn y gorffennol. Rwy’n meddwl bod yn rhaid inni gael rhyw fath o ymateb ymarferol i’r ffaith bod automation yn mynd i ddigwydd a bod yn rhaid inni gael rhywbeth i bobl sydd eisoes mewn gwaith. Sut ydym yn mynd i’w sgilio nhw a rhoi sgiliau iddyn nhw, a rhoi cyfle iddyn nhw i symud ymlaen? Felly, mae pethau wedi newid. Bydd dim arian yn newid dwylo yn y ffordd roedd e yn y gorffennol—mae pethau wedi'u digideiddio, gallwch wneud pethau’n wahanol—a dyna pam rŷm ni eisiau treial peilot allan a gweld beth sydd yn bosib yn y maes yna, cyn i ni weld os dylem ehangu hynny dros Gymru gyfan. Rŷm ni'n aros am yr adroddiad ar adult learning a beth y dylem ei wneud yn y maes yna, ond rydw i'n ymwybodol iawn bod angen inni wneud gwaith yn y maes yna. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio bydd y learning accounts yma’n bwydo i mewn i hynny.

O ran tracio unigolion, beth rŷm ni’n ei wneud fan hyn yw tracio unigolion sy’n ddi-waith. So, cawn ni ddechrau yn fanna. Un o’r pethau nad ydym yn mynd i'w wneud unwaith inni roi gwaith iddyn nhw, yw gadael iddyn nhw i fynd, achos rŷm ni’n gwybod, yn arbennig gyda phobl sydd â lefelau isel, wrth iddyn nhw fynd i mewn i waith am y tro cyntaf, maen nhw’n tueddu i gwympo allan. Felly, byddwn ni’n eu tracio nhw am o leiaf chwe mis i sicrhau ein bod ni’n eu cadw nhw mewn gwaith ac yn rhoi’r cymorth iddyn nhw. Achos, dyna un o’r problemau: ni allwn jest gadael iddyn nhw fynd y foment y maen nhw yn y gweithle. Mae gan rai o’r bobl hyn anghenion eithaf dyrys ac mae’n rhaid inni fod yna iddyn nhw yn ystod y cyfnod yna.

O ran prentisiaethau, mae mwy o brentisiaethau yn y Gymraeg. Mae’r Urdd yn gwneud lot fawr ohonyn nhw, ond rydw i’n meddwl bod hwn yn faes efallai y dylem ni edrych i mewn iddo, felly a gaf i ystyried a yw hwn efallai'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni feddwl amdano?

17:20

Rwy'n croesawu uchelgais y cynllun yn gynnes iawn, ac fel y gwnaeth y Gweinidog ei gydnabod, mae'n bwysig inni gael camau mesuradwy fel y gellir olrhain cynnydd dros amser. Felly, dau gwestiwn yn unig sydd gennyf i. Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar gyhoeddi targedau; rwy'n credu bod hynny'n bwysig ar gyfer atebolrwydd. Rwyf ychydig yn bryderus nad ydynt yn dargedau campus, a bod pedwar o'r chwe tharged, mewn gwirionedd, yn dargedau ar gyfer gosod targedau eraill. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn barod i weithio gyda phwyllgor yr economi i fireinio'r targedau i weld a allwn ni eu gwneud yn fwy campus?

Ac, yn ail, ar fater sgiliau i'r dyfodol, fel y nodwyd gennych yn gywir yn eich datganiad, rydym wedi trafod yma o'r blaen nad yw'r sgiliau digidol a roddir i ysgolion yn digwydd yn ddigon cyflym. Rydych yn iawn i ddweud mai dichon y gall cwricwlwm Donaldson wneud hynny, ond mae'r gweithgarwch a gynllunnir ar hyn o bryd yn llawer rhy gymedrol. Dangosodd adroddiad Estyn yn ddiweddar mai lefelau annigonol o sgiliau digidol sy'n cael eu dysgu yn nwy ran o dair o'r holl ysgolion cynradd. Felly, a allwch chi wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn deall hynny ac yn bachu ar y cyfle a bod yr agenda honno'n cael ei chyflwyno'n gyflymach ac yn ehangach i gyflawni amcanion eich cynllun? Diolch.

O ran targedau, rwy'n ymwybodol iawn mai'r hyn sydd gennym ni yma yw'r prif dargedau a byddaf yn gweithio gyda swyddogion i wneud yn siŵr ein bod yn cael targedau mwy penodol a'n bod yn eu torri i lawr, fel na fyddwn yn dod ar eu traws yn sydyn 10 mlynedd o nawr.

Mae credu ei bod yn werth inni nodi, mewn gwirionedd, na allwn gyflawni hyn i gyd ar ein pennau ein hunain. Felly, os aiff yr hwch drwy'r siop gyda'r economi yn sydyn, yna bydd hynny'n effeithio ar yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud. Mae'n rhaid inni fod yn sensitif felly. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gyfrifoldeb enfawr hefyd i gymryd camau yn y maes hwn. Felly, mae gweithio gyda nhw a gwneud yn siŵr nad ydym ni i gyd yn mynd ar ôl yr un bobl, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ond rydym yn gwybod, fwy neu lai, faint o bobl sydd â diddordeb, hyd yn oed y rhai sy'n economaidd anweithgar, a fyddai'n hoffi ymuno â gweithle. Mae angen inni, yn syml, dorri hynny i lawr, nid yn unig ar sail Cymru yn unig; gallem wneud hynny ar sail ranbarthol, ar sail awdurdod lleol. Yn wir, gallwn ddechrau arni, yn fy marn i, a rhoi cyfrifoldebau ar bobl i gyflawni'r targedau hynny.

O ran sgiliau i'r dyfodol, o ran digidol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymwybodol iawn, rwy'n credu, o bwysigrwydd sgiliau digidol. Roedd yn gwbl ganolog i argymhellion Donaldson. Gwn ei bod yn cadw llygad ar hynny. Nid wyf i'n meddwl ein bod am eiliad wedi tynnu ein llygaid oddi ar y bêl honno, ond ceir cydnabyddiaeth bod angen mawr inni feistroli hyn os ydym eisiau bod yn wir ddylanwadol yn yr economi fyd-eang.

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Hoffwn fynd ar drywydd ychydig o bwyntiau o'r cynllun cyflogadwyedd ei hun. Yn gyntaf, rwy'n croesawu creu'r porth cyngor ar gyflogaeth. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol cael cyngor a chymorth gan rywun sydd ag arbenigedd gydag ennyn sgiliau a phrofiad y sawl sy'n ceisio am waith, ac sydd â gwybodaeth i lywio ceiswyr gwaith drwy'r myrdd o gyrsiau a hyfforddiant sydd ar gael.

Un cwestiwn yr hoffwn ei ofyn, serch hynny, yw: i bwy fydd hyn ar gael? A fydd ar gael i bobl ifanc NEET a di-waith yn unig, neu a fydd ar gael i'r rheini sydd mewn gwaith sy'n awyddus i wella eu sgiliau? Rwy'n gobeithio eich bod chi'n mynd i ddweud yr olaf. Nid yn unig y mae angen inni gael pobl yn ôl i'r gwaith; mae angen inni helpu pobl sydd eisoes yn gweithio i ennill a chadw mwy o'u harian eu hunain hefyd. Methiant rhai o'r cynlluniau blaenorol ar gyfer pobl ddi-waith i ddychwelyd i'r gwaith oedd mai'r bwriad oedd eu bod yn dechrau rhoi cymorth rai misoedd i mewn i'r cyfnod o ddiweithdra. Yn amlwg, po hwyaf y bydd rhywun yn ddi-waith, y mwyaf anodd yw dod o hyd i gyflogaeth, felly mae'n bwysig iawn gan hynny fod y cyngor a'r cymorth ar gael o'r dechrau'n deg, a phe byddai'r Gweinidog yn egluro hynny i mi, byddwn yn ddiolchgar tu hwnt.

Gan droi at Gymru'n Gweithio, eto, mae gan y rhaglen hon amcanion canmoladwy ac rwy'n gobeithio y bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn gweithio yn y ffordd y cafodd ei fwriadu. Eto i gyd, sut rydych yn bwriadu sicrhau na fydd gosod pobl mewn addysg a hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio i guddio'r ffigurau diweithdra, a methiant y Llywodraeth i ddarparu amgylchedd busnes sy'n ffafriol i greu swyddi? Mae gwella cyflogadwyedd yn gorfod gweithio ochr yn ochr ag annog buddsoddiad gan y BBaChau hynny y mae'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn dibynnu arnyn nhw am eu cyflogaeth. Felly, mae'n achos pryder i mi eich bod yn ystyried rhoi mwy o rwymedigaethau ar gyflogwyr.

Mae annog cyflogwyr i ofalu am les ac iechyd eu gweithwyr yn gais berffaith resymol a chanmoladwy, ac, wrth gwrs, mae cyflogwyr eisoes yn rhwymedig i sicrhau iechyd a diogelwch eu cyflogeion a'u gweithwyr. Er hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus iawn nad yw gosod rhwymedigaethau ar gyflogwyr yn achosi gostyngiad yn anfwriadol i lefel cyflogaeth yn gyffredinol, oherwydd, yn amlwg, po fwyaf fo'r gost o gyflogi rhywun, lleiaf fydd y niferoedd a gaiff eu cyflogi. Felly, pa ddadansoddiad cost a budd fyddwch chi'n ei gynnal i sicrhau na fydd unrhyw rwymedigaethau newydd a roddwch ar gyflogwyr yn arwain at gynyddu costau cyflogaeth a thrwy hynny leihad yn lefelau cyflogaeth? Diolch.

17:25

I fod yn glir, caiff y porth cyngor cyflogaeth ei anelu at bobl economaidd anweithgar, di-waith a NEETs, ond mae Gyrfa Cymru ar gael i bawb, a'r un sefydliad ydyw. Felly, mae'r Cyngor, a'r posibilrwydd o fynd at Gyrfa Cymru am gyngor yn bodoli ac mae ar gael i unigolion ar hyn o bryd. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw ein bod yn edrych ar dlodi mewn gwaith. Mae honno'n broblem enfawr sydd gennym ni heddiw: tlodi mewn gwaith. Rydych chi'n hollol gywir, ni allwn adael hyn yn unig i bobl sydd eisoes yn ddi-waith. Rhaid inni annog pobl i wella'u sgiliau a gwella'r math o gyflogaeth sydd ganddynt, fel y gallant gael cyflogau gwell a dod allan o'r tlodi hwnnw. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n gobeithio fydd yn digwydd yn sgil y rhaglen hon.

O ran y canolbwyntio ar gyflogwyr, credaf ei bod yn rhaid inni danlinellu nad ydym yn gwneud hyn i'w cosbi nhw, rydym yn gwneud hyn fel y gallan nhw helpu eu hunain. Os byddant yn buddsoddi yn eu pobl eu hunain, yn eu gweithlu eu hunain, yna byddant yn fwy tebygol o elwa. Felly, yr hyn sy'n glir yw, os edrychwch chi ar reoli yng Nghymru, er enghraifft, mae llawer o waith i'w wneud mewn rhai meysydd i wella sgiliau pobl o ran rheoli a'r holl feysydd eraill. Felly, bydd eu cael nhw i wella sgiliau a galluoedd eu gweithluoedd eu hunain yn gwella eu cynhyrchiant nhw eu hunain ac, weithiau, os mai cyflogwyr sector preifat ydyn nhw, yn gwneud mwy o elw iddyn nhw. Felly, rydym yn gwybod bod hynny'n wir.

Fel y gwnaeth eraill, a gaf i ddiolch yn fawr ichi am gyflwyno'r datganiad? Yn amlwg, mae'n ymdrin â nifer o faterion hollbwysig sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol economïau lleol ledled y wlad gyfan. Ond hoffwn godi dau fater penodol. Mae un yn sylfaenol ac yn ymarferol iawn ac nid yw o angenrheidrwydd yn perthyn i'ch portffolio chi, felly pe byddech yn amyneddgar â mi, oherwydd rydych mewn gwirionedd yn sôn am hyn yn y cynllun, ac mae hynny'n ymwneud â galluogi pobl i deithio i'w cyfleoedd hyfforddi a'u cyfleoedd am waith, ac mae hynny'n gwbl sylfaenol. Os nad oes gennych eich cludiant eich hun ac os nad yw'r gwasanaethau bws lleol yn ddibynadwy, yna mae hynny'n amlwg yn elfen bwysig iawn o unrhyw gynllun cyflogadwyedd. Eto, ar hyn o bryd, er enghraifft, rwy'n ymdrin â chwynion yn fy etholaeth i am wasanaethau bysiau lleol sydd yn gadael cymunedau wedi eu hynysu ar adegau hanfodol i gymudwyr yn y bore a fin nos, ac ni wnaiff y system bresennol o reoleiddio bysiau—neu yn hytrach, ddadreoleiddio—sy'n caniatáu i hyn ddigwydd, 'mo'r tro. Felly, a fyddech yn cytuno os nad awn i'r afael â mater trafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddibynadwy, yna byddwn yn methu â chefnogi llawer o'r rhai sydd yn ceisio cael hyfforddiant a gwaith, ac mae angen gwneud darn arwyddocaol o waith traws-lywodraethol o safbwynt eich cynllun chi a'r angen i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus leol ddibynadwy?

Yn ail, a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun o werth y gwaith a wneir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, neu drwy'r Gronfa Ddysgu Undebau Cymru? Ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu'r llwyddiant a ddaeth yn sgil y rhaglen i lawer o'n gweithleoedd, gan helpu i ddatblygu cyflogadwyedd a sgiliau hanfodol y gweithlu—mewn nifer o achosion, gan roi'r sgiliau llythrennedd a rhifedd mwyaf sylfaenol i bobl a adawodd yr ysgol hebddynt mewn gwirionedd. Ac a gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi y bydd hyn yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o unrhyw gynllun cyflogadwyedd?

17:30

Mae'n werth pwysleisio bod y rhaglen hon yn rhaglen traws-lywodraethol, felly mae hi wedi'i negodi a'i thrafod ar draws y Llywodraeth gyfan, felly dyna pam y mae cymaint o ffactorau gwahanol ynddi, ac mae'r mater hwnnw ynghylch trafnidiaeth wedi cael ei danlinellu fwy nag unwaith fel nodwedd allweddol sy'n atal pobl, mewn gwirionedd, rhag cyrraedd y gweithle. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Tasglu'r Cymoedd wedi'i drafod yn ddiweddar, ac mae awydd gwirioneddol, yn arbennig, rwy'n credu, yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, i gydnabod yn benodol, yn rhai o'r ardaloedd hynny yn y Cymoedd, rhai o'r ardaloedd gwledig, bod hon yn elfen y mae angen rhoi sylw iddi. Felly, rydym ni'n siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau i weld beth allwn ni ei wneud yn y fan honno, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod hynny'n broblem wirioneddol, pa beth bynnag, mewn gwirionedd, yr ydych chi'n ei roi ar waith o ran cludiant cyhoeddus, mae'n bosibl bod angen inni fod ychydig yn fwy creadigol na hynny.

O ran Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn sicr. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth wirioneddol bod weithiau—. Rwy'n credu mai chi, Dawn, a ddywedodd wrthyf nad yw cyflogeion, weithiau, eisiau mynd at eu cyflogwyr i gyfaddef eu bod nhw'n ddiffygiol mewn rhai sgiliau penodol, ac mae gallu mynd at eich cynrychiolwyr undeb a dweud, 'A dweud y gwir, a allwch chi fy helpu i yn y fan yma?' yn gymorth gwirioneddol, nid dim ond i'r unigolion hynny, ond yn y pen draw, i'r busnesau eu hunain hefyd. Felly, roeddwn i'n falch iawn o roi ambell i wobr i bobl sy'n cymryd rhan yn rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yr wythnos diwethaf.

8. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. A galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd fy rhagflaenydd fel Cwnsler Cyffredinol fod y Llywodraeth yn dechrau proses arloesol i greu codau o gyfraith Cymru. Dyna oedd y cam cyntaf mewn taith hir, ac mae'n bleser cyhoeddi nawr ein bod ni'n barod i gychwyn ar gam uchelgeisiol arall ar y daith honno.

Rwy heddiw'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. Bydd y Bil hwn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch, ac mae hefyd yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynglŷn â dehongli deddfwriaeth Gymreig.

Un o'n swyddogaethau mwyaf sylfaenol fel Llywodraeth yw diogeli rheol y gyfraith, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein deddfwriaeth ddatganoledig yn hygyrch a dealladwy. Rwy'n sylweddoli bod cael llyfr statud clir, sicr a hygyrch yn ased economaidd. Mae'n rhoi fframwaith cyfreithiol cadarnach a mwy sefydlog i'r rhai sy'n dymuno gwneud busnes yng Nghymru. Dylai hynny, yn ei dro, hybu buddsoddiad a thwf. Bydd yn haws i gyrff y sector cyhoeddus, a sefydliadau eraill, ddeall y cyd-destun cyfreithiol y maen nhw'n gweithio ynddo, a bydd gan y rhai sy'n llunio polisïau yn y Llywodraeth sylfaen gliriach i ddatblygu syniadau newydd. Bydd y broses o graffu ar ddeddfwriaeth yn haws, a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rheini ohonom sydd efallai am ddefnyddio'r gyfraith yn Gymraeg.

Ond yn anad dim, mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn. Mae gwneud y gyfraith yn hygyrch yn hanfodol er mwyn galluogi dinasyddion i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y gyfraith—rhywbeth sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig ers gwneud toriadau fwy nag unwaith i gymorth cyfreithiol a gwasanaethau eraill sydd wedi eu cynllunio i gynghori'r rhai sydd angen cymorth neu gynrychiolaeth.

Ni yw ceidwaid llyfr statud Cymru, sy'n cynnwys nid yn unig y cyfreithiau a wneir gan y Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru, ond hefyd y cyfreithiau hynny o'r cyfnod cyn datganoli a etifeddwyd gennym. Nid yw'r elfen honno o'r llyfr statud, yn arbennig, a dweud y gwir, mewn cyflwr da. Yn y degawdau diwethaf, caniatawyd i ddeddfwriaeth luosi heb oedi i ad-drefnu ac integreiddio'n llwyr yr hyn sy'n newydd a'r hyn a oedd yn bodoli o'r blaen.

Mae llyfr statud â miloedd o Ddeddfau ac offerynnau statudol wedi bod yn anodd ei defnyddio ers amser, ond mae deddfwriaeth Cymru hyd yn oed yn fwy anhygyrch oherwydd ein system hynod gymhleth o ddatganoli ac absenoldeb—oherwydd mai un awdurdodaeth gyfreithiol sydd gennym yng Nghymru a Lloegr—corff ffurfiol o gyfraith wahanol yng Nghymru. Mae'n anodd i bobl Cymru wybod beth y mae'r gyfraith yn ei olygu a deall pwy sy'n gyfrifol am beth. Mae hynny'n tanseilio atebolrwydd democrataidd.

Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i gydgrynhoi deddfwriaeth mewn modd systemig, parhaus a chynhwysfawr o fewn ein cymhwysedd, a threfnu’r gyfraith honno i godau sy'n benodol i bwnc. Er y bydd hyn yn torri tir newydd yn y DU, byddwn yn dilyn cynseiliau tebyg a osodwyd ar draws awdurdodaethau y gyfraith gyffredin. Mae Awstralia a Chanada, er enghraifft, fel mater o drefn wedi cydgrynhoi eu deddfwriaeth ers dechrau'r ugeinfed ganrif, ar ôl etifeddu cyfreithiau gan Senedd y DU mewn amgylchiadau nid annhebyg. Aeth yr Unol Daleithiau gam ymhellach a chreu cod cyfraith yn 1926 sydd wedi parhau byth ers hynny.

Ond nid oes angen inni edrych yn bell yn unig am enghreifftiau o arfer da. Trefnwyd cyfreithiau Hywel Dda mewn codau, ac roedd y cyfreithwyr ar yr adeg honno yn gallu mynd at y cyfreithiau hynny mewn un llyfr. Felly, mae codio yn rhan bwysig o'n traddodiad cyfreithiol, a'n tasg ni yn awr yw gwneud yn siŵr ei fod yn rhan o'n dyfodol cyfreithiol. Rydym ni yng Nghymru wedi gwneud hyn o'r blaen, ac rwy'n benderfynol y byddwn ni'n gwneud hynny eto.

Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch yn gyfyngedig i symleiddio'r ddeddfwriaeth yn unig—er bod honno'n dasg bwysig. Mae'n rhaid cyhoeddi mewn modd effeithiol hefyd llyfr statud trefnus sydd wedi'i ddrafftio'n glir, ac yn aml mae angen deunydd atodol i nodi'r cyd-destun ac esbonio effeithiau ymarferol y gyfraith yn llawn. Am y rheswm hwn, bwriedir cynnwys gwelliannau i wefan legislation.gov.uk, a weithredir gan yr Archifau Cenedlaethol, a gwefan Cyfraith Cymru-Law Wales yn rhan o'r rhaglen.

Mae gwneud darpariaeth ddwyieithog, bwrpasol ynghylch sut y dylid dehongli ein deddfwriaeth hefyd yn rhan o'n huchelgais ehangach i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Deddfwyd Deddf Dehongli am y tro cyntaf gan Senedd y DU ym 1850, ac mae'r arfer hwn wedi'i efelychu mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin ar draws y byd, gan gynnwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Nid ydym wedi cael ein Deddf Ddehongli ein hunain yng Nghymru hyd yma. Yn hytrach, rydym ni'n dibynnu ar ddeddfwriaeth a gafodd ei gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig ym 1978, ac a gafodd ei haddasu wedyn mewn ymgais i gydnabod bodolaeth deddfwriaeth Gymreig. Gan fod corff o ddeddfwriaeth yn prysur ddatblygu yma yng Nghymru, rwy’n credu ei bod yn bryd nawr i gywiro’r anghysondeb hwn a mynd ati i ddatblygu ein darpariaethau penodol ein hunain ar gyfer Cymru.

Rwy’n credu felly y dylai ein deddfwriaeth ni, fel mater o egwyddor, gael ei darpariaethau ei hunan ynglŷn â sut y dylid ei dehongli. Ar ben hynny, mae Deddf 1978 yn 40 oed bellach ac y mae angen ei moderneiddio. Rydym ni'n cymryd y cyfle i wneud hynny yn ein Bil.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r trefniadau presennol yn rhoi ystyriaeth briodol i natur ddwyieithog ein deddfwriaeth, a’r ffaith bod statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg. Yn yr iaith Saesneg yn unig y mae Deddf 1978, wrth gwrs, ac yn Saesneg y mae’n diffinio’r termau sy’n perthyn i ddeddfwriaeth Cymru. Rhaid unioni hyn, ac rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn fater o bryder i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad, a hefyd i Gomisiwn y Gyfraith.

Rwy'n gobeithio, felly, y byddwch chi'n croesawu'r garreg filltir bwysig hon yn natblygiad llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Bwriadwyd—cynlluniwyd—y Bil drafft i helpu i wneud cyfraith Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol a bydd, rwy'n siŵr, yn dod yn garreg sylfaen ar gyfer yr awdurdodaeth gyfreithiol sy'n datblygu yng Nghymru. Mae'n Fil drafft sydd ag arwyddocâd cyfansoddiadol a phwysigrwydd ymarferol i bobl Cymru.

Rwy'n gwahodd yr Aelodau i ystyried nid yn unig y Bil drafft a gyhoeddir heddiw, ond hefyd y weledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n sail iddo. Ac rwy'n annog yr holl bartïon sydd â buddiant ledled Cymru ac ymhellach i ffwrdd i helpu i lunio Bil a fydd yn gwella'r ffordd y mae cyfraith Cymru yn gweithio ac yn fwyaf sylfaenol, bydd yn helpu pawb y mae'r gyfraith yn effeithio arnynt i ddod o hyd iddi a'i deall.

17:40

A gaf i ddechrau trwy groesawu cyhoeddiad y Bil deddfwriaeth drafft hwn, a hefyd y ddogfen ymgynghori a'r cyfnod a gaiff ei roi nawr i'r ymgynghoriad hwnnw o bron i dri mis? Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn ac mae angen ymgynghori'n helaeth arnynt. Gwn y bydd gan y Llywodraeth ddiddordeb mawr yn yr ystod o safbwyntiau y mae'n gobeithio eu cael drwy'r broses hon. Ar yr ochr hon i'r Cynulliad, rydym ni'n rhannu'r dyhead yn llwyr i wneud ein cyfraith yn fwy hygyrch. Credaf ei bod yn bwysig dros ben i'r cyhoedd ein bod yn gwneud hyn, ac ni allaf feddwl am lawer o dasgau gwell o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud yn ein prosesau technegol o wneud deddfau—ond, o ran sefydliad newydd, Senedd newydd, i wir osod y safonau uchaf ar gyfer gweddill y DU, o bosibl, yn y ffordd y byddwn yn gwneud hyn.

Mae cymhlethdod diangen, heb unrhyw amheuaeth, yn tanseilio atebolrwydd democrataidd. Rydym ni ar hyn o bryd mewn system lle nad yw cyfreithwyr eithaf dawnus yn gallu deall llawer o'r llyfr statud. Mae angen ichi fod ag arbenigedd gwirioneddol mewn maes penodol o'r gyfraith i allu ei ddehongli, a go brin fod hyn yn beth da, yn fy marn i, ar gyfer y maes cyhoeddus lle'r ydym ni'n gobeithio y bydd llawer o bobl â buddiannau amrywiol sydd angen mynd at y gyfraith ar unrhyw un adeg yn gallu gwneud hynny. Mae cydgrynhoi'r gyfraith hefyd yn rhywbeth dymunol iawn. Eto, fel sefydliad newydd—yn wir, dim ond saith oed ydym ni fel Senedd, mewn gwirionedd—gallwn ni fod â'r nod o gael llyfr statud sydd mewn cyflwr llawer mwy rhesymegol a chrynodedig. Dylwn i ddweud nad ydym ni wedi gwneud yn wych hyd yn hyn. Mae hynny oherwydd nad yw cydgrynhoi yn rhwydd. Rwy'n derbyn hynny. Ond, rwy'n dal i gredu, ar gyfer y meysydd pwysig, y dylem ni wneud y buddsoddiad hwnnw. Er enghraifft, o ran cynllunio, rydym ni ar fin gweld, ond mewn meysydd eraill o ddarnau mawr o gyfraith gyhoeddus, credaf y dylem ni ddechrau gweithio drwyddyn nhw a'u cydgrynhoi nhw. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, mewn awdurdodaethau eraill, maen nhw wedi bodloni'r dyheadau hyn, yn aml ar adeg pan eu bod nhw wedi etifeddu corff mawr o gyfraith fel deddfwrfeydd newydd. Felly, rwy'n credu mai dyna y dylem ni ei wneud. Rwy'n falch iawn o nodi beth sydd yn y drafft ar hyn o bryd yn ymwneud ag amrywiaeth o ddeunyddiau sy'n gallu helpu pobl i ddeall y gyfraith, ac mae'r cyfeiriadau a wnaethoch chi at y wefan a'r archif cenedlaethol, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ar gyfer y lleygwr sydd â diddordeb, dyna sut y bydd mewn gwirionedd yn mynd i allu cael rhyw fath o ddirnadaeth.

Mae angen i mi ofyn ychydig o gwestiynau, felly a gaf i wneud hynny yn ysbryd ymateb cynnar i'r ymgynghoriad, bron? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad o ran yr agwedd Deddf dehongli o hyn. Rydych chi yn llygad eich lle: fe wnaeth y Gymdeithas Ddysgedig, er enghraifft, flwyddyn neu ddwy yn ôl, gymeradwyo'r angen am Ddeddf dehongli, yn enwedig o ran deddfwriaeth ddwyieithog, ond byddai hefyd yn caniatáu inni foderneiddio Deddf 1978. Ond, credaf fod angen inni wybod sut y bydd unrhyw Ddeddf newydd yn y fan yma y bydd y Cynulliad yn ei phasio yn cyd-fynd â Deddf Dehongli 1978, oherwydd bydd honno'n dal i gael ei defnyddio, cyn belled ag y gallaf i weld. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ceisio sefydlu egwyddorion dehongli ar wahân a fyddai'n gymwys yng Nghymru, ond nad ydynt, ar hyn o bryd, yn rhan hanfodol o Ddeddf 1978? A gaf i ddweud hefyd, o ran cwmpas yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud—? Rwy'n troi at Atodlen 1. Mae cysyniadau pwysig iawn fel tir a pherson wedi'u cynnwys yno. Tybed a ddylai pethau o'r pwysigrwydd hwnnw fod mewn Deddf dehongli, mewn gwirionedd, sydd fel arfer yn ymwneud â thermau cyffredin a thechnegol. Onid yw'n wir bod angen dehongli rhai cysyniadau pwerus iawn ym mhob Deddf yr ydym yn ei phasio, er mwyn iddynt allu bod yn benodol ac yn dynn iawn? Gwn fod tipyn o gyfyng-gyngor yn hyn i gyd, ond byddwn yn gofyn iddo fyfyrio ar y ddwy enghraifft benodol hyn sy'n amlwg iawn i mi.

O ran hygyrchedd, rwy'n credu bod angen gweledigaeth arnom ar gyfer sut y mae hyn i gyd yn mynd i helpu, ac rwy'n dyfynnu, 'y llanastr annealladwy' sef cyfraith Cymru. Nawr, o ble mae'r dyfyniad hwnnw yn dod? Wel, ffynhonnell llawer gwell na mi: yr Arglwydd Lloyd-Jones, barnwr y Goruchaf Lys. Ac os yw barnwr y Goruchaf Lys wedi dweud wrthym fod y gyfraith ar hyn o bryd yn llanastr annealladwy, yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei basio nawr fel deddfwrfa—rwy'n credu eich bod chi'n iawn, y caiff ei chydnabod fel awdurdodaeth gyfreithiol ar ryw adeg, ond mae hwnnw'n dal i fod yn fater sensitif—yn rhesymegol, yn hygyrch ac yn glir.

Credaf fod angen inni hefyd gael syniad o sut y bydd y cod yn gweithio, gan eich bod chi wedi cyfeirio at awdurdodaethau eraill sydd wedi defnyddio'r dull hwn. Ond, wyddoch chi, o dan amgylchiadau ymarferol, a fyddai gennym ni god gofal cymdeithasol? A fyddai gennym ni god gofal iechyd? Neu a fyddech chi'n ceisio cysylltu'r rheini mewn rhyw fffordd? Yn yr un modd, a fyddai yna god cynllunio a chod amgylcheddol gwahanol? Mae llawer o wahanol ffyrdd o fynd ati i wneud y pethau hyn, ac rwy'n credu y byddai rhyw fath o syniad o faint o godau neu pa mor gynhwysfawr y maen nhw'n mynd i fod yn ddefnyddiol. Ac a fyddai cyfreithiau sydd wedi eu cynnwys mewn codau penodol yn gallu datblygu y tu allan i'r codau hynny? Oherwydd, unwaith eto, maen nhw'n cydberthyn â'i gilydd yn aml iawn, iawn.

Ac yn olaf, a gaf i ddweud, yn adran 20—ac mae hyn yn apêl fel cyn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—? Mae adran 20 yn ymwneud â chyfarwyddiadau. Maen nhw'n anodd iawn i gadw llygad arnyn nhw, cyfarwyddiadau gweinidogol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw ef wedi ystyried dull ffurfiol a strwythuredig o'u cyhoeddi, rhywbeth tebyg i'r dull sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer offerynnau statudol. Rwy'n credu y byddai hynny'n ychwanegu'n fawr at hygyrchedd cyfraith Cymru. Diolch.

17:45

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ystod o gwestiynau hynod o graff ac am y sylw y mae wedi'i roi i'r ymgynghoriad, yr wyf yn ei werthfawrogi'n fawr? Ceir nifer o gwestiynau yn ei gyfraniad. Gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder â nhw.

Wrth wraidd y pwyntiau y mae'n eu gwneud yn fwy cyffredinol, mae'n debyg, y mae'r syniad nad oes dim amser i'w golli, os mynnwch chi. Ceir corff o gyfraith. Rydym ni'n ddeddfwrfa gymharol ifanc o hyd. Mae angen inni achub ar y cyfle, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r broblem yn dod yn fwy a mwy anhydrin yr hiraf yr ydym yn ei gadael hi, a byddwn i, yn bendant, yn ategu'r teimlad y tu ôl i'w gyfraniad yn hynny o beth.

Bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, y bu gweithgarwch ynghylch cydgrynhoi hyd yma ar sail bob yn dipyn, os mynnwch chi, a gwnaed gwaith yn arbennig yn y maes amgylchedd hanesyddol ac, fel y bydd ef yn gwybod, ar y cyd â Chomisiwn y Gyfraith ar gydgrynhoi cynllunio, y cyfeiriodd ato yn ei sylwadau. O edrych i'r dyfodol, mae yna feysydd sy'n addas, yn amlwg, ar gyfer cydgrynhoi a chodio. Mae cyfraith llywodraeth leol yn enghraifft o hyn. Mae cyfraith addysg yn enghraifft arall. A byddaf yn sôn ymhen ychydig sut, yn fy marn i, y gall cod weithio mewn rhai o'r meysydd hynny.

Ond y syniad craidd y tu ôl i'r Bil drafft yw symud ymlaen oddi wrth y dull tameidiog i greu ymdeimlad o gyfeiriad o fewn y Llywodraeth, o fewn y ddeddfwrfa, bod hyn yn amcan ac yn nod yr ydym ni'n symud tuag ato'n gynyddol dros amser. Wedi dweud nad oes dim amser i'w golli, nid yw hwn, fel y mae ef, rwy'n ymwybodol iawn, yn gwybod, yn brosiect tymor byr; mae'n waith cenhedlaeth, mewn gwirionedd, a gallwch chi ei ddychmygu yn ymestyn dros ddegawdau, yn dibynnu ar lefel yr adnoddau a lefel y cynnydd y gall unrhyw raglen benodol ei wneud.

O ran beth fyddai nodweddion cod, dydw i ddim yn rhagweld y bydd gan y cod rhyw fath o bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân, os mynnwch chi. Felly, gydag unrhyw god, tybiaf y byddai'n un neu'n ddau, neu efallai mwy, gan ddibynnu ar gymhlethdod y pwnc dan sylw, prif Ddeddfau sy'n cydgrynhoi efallai tri neu bedwar o bynciau o fewn addysg, dyweder, dim ond i gymryd hynny fel esiampl at y diben hwn, ac yna byddai gennych islaw hynny yr offerynnau statudol perthnasol i'r is-bwnc penodol hwnnw, os mynnwch chi, ac islaw hynny—ac mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r cwestiwn y gorffennodd ef arno, ynghylch y cyfarwyddiadau—y gyfraith feddal, gyda'r codau ymarfer a chanllawiau eraill fel bod y cyfan ar gael yn gynhwysfawr mewn un man, a rhyw fath o hierarchaeth gyfreithiol yr ydym ni i gyd yn gweithredu yn unol â hi ac yn ei deall yn dda iawn. Dyna'r weledigaeth a geir yn yr ymgynghoriad hwn, mewn gwirionedd. Y peth hanfodol, fel yr oedd ef yn ei gydnabod, unwaith eto, yw bod angen ei gynnal. Rydym ni wedi gweld digon o enghreifftiau yn y gorffennol o gydgrynhoi eithaf sylweddol mewn sawl deddfwrfa, mewn gwirionedd, ac yna daw Llywodraeth newydd i mewn, mae'n diwygio'r gyfraith, ond mae'n gwneud hynny drwy Ddeddf annibynnol sy'n tanseilio'r modd y cydgrynhowyd yr hyn a ddigwyddodd yn flaenorol. Yr amcan yw osgoi hynny, ac felly byddech chi'n—. Rhan hanfodol o hyn yw bod y codau, ar ôl eu sefydlu, yn cael eu cynnal fel codau. Felly, yn ymarferol, os oes un Ddeddf cyn y diwygio, dylai fod un Ddeddf ar ôl y diwygio, mewn gwirionedd. Dyna fyddai'r egwyddor gyffredinol, oni bai bod rhesymau da iawn dros wyro oddi wrth hynny. Mae hynny'n hanfodol, mewn gwirionedd, i'r cwestiwn o hygyrchedd.

Cododd nifer o bwyntiau ynghylch cyhoeddi i gyd-fynd â hynny. Rydym ni'n eithaf pell o'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi o fod ag adnodd ar-lein sy'n gyfredol ac yn awdurdodol ar draws deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym ni'n bell o fod mewn sefyllfa i gyflawni'r amcan honno. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf â'r Archifau Cenedlaethol, argraffydd y Frenhines, i drafod yr her benodol hon, a cheir her benodol ynghylch darparu adnoddau ar gyfer yr agwedd Gymraeg ar hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw'r adnoddau sydd gennym ni, wrth gwrs, yn y fan yma. Felly, mae trafodaeth ynghylch yr agwedd honno.

Cododd nifer o bwyntiau am y Ddeddf Dehongli. O ran diffiniadau penodol, yn amlwg nid yw bodolaeth term yn y Ddeddf Dehongli yn atal y term hwnnw rhag cael ei ddiffinio mewn ffordd wahanol mewn Deddf benodol os yw hynny'n angenrheidiol at y diben. Un o'r materion, rwy'n gwybod, y mae ei bwyllgor ef wedi eu codi mewn gohebiaeth gyda mi mewn adroddiadau ar gyfer deddfwriaeth ac offerynnau statudol blaenorol yw mater adran 11 y Ddeddf flaenorol a sut y gall hynny fod yn ddryslyd, a'r cynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw na fyddai hynny'n berthnasol i Ddeddf dehongli newydd ar gyfer Cymru yn unig, ond y byddai wyneb Deddf yn egluro'r rheol honno yn fanwl, neu egluro'n fanwl y diffiniad, gan ei gwneud yn haws i ddarllenydd unigol fynd at y pwynt. Y nod yw cael dyddiad clir a chofiadwy gobeithio—1 Ionawr, efallai, mewn unrhyw flwyddyn—fel y bydd yn gwbl glir beth yw'r pwynt terfyn ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf. O ran pa Ddeddfau ac offerynnau statudol a fyddai'n berthnasol, byddai'n unrhyw Ddeddf y Cynulliad hwn ar ôl y dyddiad hwnnw, beth bynnag y byddai, ac unrhyw offerynnau statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru ar ôl y dyddiad hwnnw, pa un a yw'n dod o dan Ddeddf y Cynulliad neu Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig. Felly, dylai fod yn eithaf syml i ddeall y modd o gymhwyso'r darpariaethau newydd.

17:50

Diolch. A gaf i atgoffa'r Aelodau yn garedig mai datganiad 30 munud yw hwn, ac rydym ni ar bron ar 21 munud nawr. Simon Thomas.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddwch chi'n falch o wybod, rydw i'n credu, bod David Melding wedi gofyn y rhan fwyaf o fy nghwestiynau. Felly, gwnaf i ganolbwyntio, efallai, ar y ffordd yr ŷm ni'n mynd i fynd o gwmpas pethau. Mae'n wir i ddweud na fydd yna lawer o boteli o champagne yn cael eu hagor yn dilyn y datganiad heddiw, ond mi ddylen nhw, achos mae hwn yn ddatganiad o bwys. Am y tro cyntaf, rŷm ni'n camu mas o gysgod San Steffan yn y ffordd yr ŷm ni'n mynd ati i lunio ein deddfwriaeth. Rydw i'n croesawu hynny. Wrth i ni droi ein cefnau ar yr Undeb Ewropeaidd rŷm ni'n agor y drws i ddull llawer mwy Ewropeaidd o lunio Deddfau a gwneud Deddfau yn fwy agored i'r cyhoedd. Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn iawn, rydw i'n meddwl, i ganolbwyntio yn ei adroddiad gymaint ar gyfiawnder cymdeithasol. Rydw i wedi defnyddio'r enghraifft yma o'r blaen, ond mae'n dal i fod yn wir: rydw i wedi cael etholwr yn daer iawn yn dweud bod cyfraith tai yn ymwneud â'i sefyllfa yntau oherwydd bod y gyfraith yn dweud, 'This law applies in England and Wales', ond wrth gwrs, nid oedd hi yn yr ystyr yna. Cyfraith Lloegr yn unig oedd hynny. Felly, rydw i'n croesawu beth sydd wedi ei ddatgan yn fan hyn ac yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at hynny.

Jest ychydig o gwestiynau, felly. Mae'n amlwg ein bod ni fel Plaid Cymru yn credu y dylai fod awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, ac y byddai'n llawer mwy rhwydd i nifer o'r pethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gosod allan pe bai hynny'n digwydd. Ond a fedrwch chi esbonio ym mha ffordd fydd y gwaith ymgynghorol yma yn mynd llaw yn llaw gyda gwaith comisiwn y gyfraith, sydd wedi'i sefydlu gan y Prif Weinidog, â'r Arglwydd Cwmgiedd yn gadeirydd arno, a sut mae'r ddau set o waith yn mynd i blethu gyda'i gilydd?

Rydw i'n dal yn gyndyn iawn ac yn anhapus a dweud y gwir gyda'r ffaith nad oes gennym wefan a gwybodaeth ddwyieithog lawn. Rŷch chi'n dweud nad oes yr adnoddau gan y Queen's printer a phobl felly. Wel, tra bod gyda ni awdurdodaeth Cymru a Lloegr, mae'n ddyletswydd arnyn nhw hefyd i roi adnoddau priodol fel bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad yn y Gymraeg at gyfraith Cymru, gan ein bod yn cyfreitha yn Gymraeg yn y fan hyn. 

Rydw i'n meddwl ei fod yn anffodus ein bod ni o hyd, ar ôl tua phedair blynedd o ddadlau hyn, yn benthyg aelodau staff, rwy'n gwybod, o Lywodraeth Cymru i'r archif genedlaethol, ac maen nhw'n dal ddim wedi cyrraedd lle dylen nhw fod. Felly, a fedrwch chi ddweud pa waith pellach fyddwch chi'n gwneud ar hyn? Nid oes pwynt cael codau a chydgrynhoi'r gyfraith os nad oes gan bobl fynediad at y gyfraith i ddeall beth yw'r gyfraith yna. 

Rwy'n gwybod eich bod wedi ateb David Melding ar hyn, ond a allwch chi esbonio, os medrwch chi, jest ychydig mwy am sut fydd y gwahanol godau'n digwydd? Rŷch chi'n cyfeirio at yr hanes yng Nghymru, wrth gwrs, a chod Hywel Dda. Roedd mwy nag un cod yn anffodus: roedd cod Gwynedd, cod Dyfed, cod Gwent, efallai codau sydd ddim wedi goroesi hyd yn oed. Rydym ni'n derbyn wrth gwrs y bydd mwy nag un cod, achos mae'n ymwneud â mwy nag un maes. Ond ym mha ffordd ydych chi'n gweld bod y Llywodraeth, neu, yn hytrach, y Cynulliad, yn gallu cael gafael ar ddatblygiad y rhain a gwneud yn siŵr eu bod nhw dal yn addas?

Wrth gwrs, ynghlwm wrth hyn mae'r ffaith eich bod chi'n gorfod gosod dyletswydd nid yn unig ar y Llywodraeth yma a'r Cwnsler Cyffredinol presennol, ond Llywodraethau i ddod. Sut cweit ydych chi'n gosod dyletswydd y mae unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn gallu anwybyddu neu wyrdroi neu beth bynnag? Pa ffordd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gallu rhoi'r ymrwymiad yma'n fwy concrit, os liciwch chi? Rwy'n gwybod eich bod chi o blaid y peth, ond cawn ni weld sut mae'n datblygu. 

Wrth gwrs, ar dir mawr Ewrop, Napoleon oedd fwyaf enwog am ddatblygu codau o'r fath. Nid wyf i'n awgrymu am eiliad y byddwch chi'n Napoleon bach fan hyn yng Nghymru—byddai'n well gyda fi gweld Blegywyd Mawr yn dilyn ôl troed efallai y cyfreithiwr mwyaf sydd gyda ni yng Nghymru hyd yma. 

17:55

Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Maent yn cyffwrdd â sawl maes. Ar y cwestiwn cyntaf ar y berthynas rhwng hwn a gwaith y comisiwn, un o'r pethau mae'r comisiwn yn edrych mewn iddo wrth gwrs yw'r cwestiwn o hygyrchedd i'r system gyfiawnder yn gyffredinol, a hynny mewn ffordd eang. Fel wnes i sôn yn fy sylwadau, rwy'n credu ei fod yn hollol hanfodol mewn cyd-destun lle rŷm ni’n colli legal aid a'i bod jest yn anoddach i bobl gael access i gyngor cyfreithiol. Mae'n ddyletswydd benodol yn y cyd-destun hwnnw ar Lywodraethau i allu gwneud y gyfraith mor hygyrch ag sy'n bosibl, ac i gyhoeddi'r gyfraith mewn amryw ffyrdd, fel bod pobl yn gallu, nid yn unig ei ffeindio, ond ei ddeall pan fyddan nhw yn ei ffeindio. 

Yr elfen arall i hynny yw, fel mae e'n gwybod, bod y comisiwn yn edrych ar y cwestiwn o awdurdodaeth a bydd consolidation a chreu'r codau yma yn ail-wneud y ddeddfwriaeth yma fel deddfwriaeth Gymreig ddwyieithog. Hynny yw, mae'n llanw'r categori hwnnw o ddeddfwriaeth Cymru mewn ffordd sydd yn lot fwy dealladwy a lot fwy penodol. Felly, mae hynny'n cyfrannu at sail y drafodaeth honno. 

Rwy'n rhannu ei siom ef gyda chymaint o gynnydd rŷm ni wedi ei wneud yn nhermau cael gwefan ddwyieithog ddibynadwy i gyfraith Cymru. Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar iawn gydag argraffydd y Frenhines ynglŷn â hyn i ffeindio ffordd i allu symud hynny ymlaen. Beth fuaswn i'n dweud wrtho yw bod yr elfen ieithyddol yn benodol i ni fan hyn wrth gwrs, ond yn awdurdodaeth Lloegr hefyd mae'r diffyg hwnnw'n perthyn i'r ffaith bod y deddfau sydd yn fanna ddim yn gyfredol chwaith. Felly, mae hon yn sialens ar draws y Deyrnas Unedig, yn anffodus. Rwyf i wedi bod yn trafod gyda nhw rhywbeth maen nhw wedi bod yn datblygu ar gyfer DEFRA yn Llywodraeth San Steffan—rhywbeth o'r enw DefraLex—sydd yn rhyw fath o index, mynegai dros dro fel ei bod yn haws i bobl ffeindio popeth sydd o fewn un maes hyd yn oed os nad yw wedi cael ei 'consolidate-o'. 

O ran sut y byddai’r codau’n gweithio, byddai dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol, o fewn chwe mis i bob Cynulliad, i gyflwyno cynllun i’r Cynulliad. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ar hwnnw, a bydd y Cabinet a’r Gweinidogion wedi cytuno cynnwys y cynllun, a bydd yn rhaid edrych ar y pryd ar feysydd sydd yn barod i’w diwygio ac efallai bod cyfle yn hynny i allu gwneud rhywfaint o greu’r codau hyn, neu efallai os oes rhywbeth newydd gael ei ddiwygio a bod cyfnod o dawelwch polisi, bod hynny hefyd yn creu cyfle i allu gwneud peth o’r gwaith yma.

Rwy’n rhagweld y bydd cynllun a bydd sawl project o fewn cynllun. Efallai bydd project yn cymryd mwy nag un tymor Cynulliad i allu’i greu. Felly, os bydd hwnnw yn ei ffordd pan ddaw’r Llywodraeth newydd i rym, buasai’n bosib, wrth gwrs, i’r Llywodraeth atal hwnnw, ond buasai'n lot fwy tebygol, y byddwn i’n meddwl, o greu cynllun newydd ar gyfer y dyfodol. Bydd dyletswydd gyfreithiol ar y Llywodraeth i ddwyn cynllun yn ei flaen, ond bydd cynnwys y cynllun hwnnw’n dibynnu ar amgylchiadau deddfwriaethol a chynllun deddfwriaethol cyffredinol y Llywodraeth honno, o bryd i’w gilydd.

18:00

Mae'n ddrwg gen i orfod efallai arllwys dŵr oer ar frwdfrydedd fy nghymydog yn y fan yma am symud cyfraith Cymru i gyfeiriad—

—cyfreitheg Ewrop, ond rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno, oherwydd sonnir yn y datganiad ei hun y gall codio ddigwydd hefyd, wrth gwrs, mewn awdurdodaethau y gyfraith gyffredin, fel yr Unol Daleithiau a Chanada, ac nid yw dim ond gwneud synnwyr o ddatblygiad anhrefnus, heb reolaeth, o gyfres o wahanol statudau neu Orchmynion a'u cydgrynhoi mewn un uned y gellir ei defnyddio'n haws yn union yr un fath â symud i gyfeiriad y math o ddull gweithredu 'teleolegol', fel yr hyn a geir mewn awdurdodaethau cyfraith Ewropeaidd.

Rwyf i fy hun wedi bod yn gydgrynhowr ar adegau, fel golygydd Butterworths' Land Development Encyclopaedia mwy o flynyddoedd yn ôl nag yr wyf yn dymuno eu cofio, a bob blwyddyn roedd yn rhaid i mi ddiweddaru unrhyw statudau neu offerynnau statudol a luniwyd yn ystod y flwyddyn a'u rhoi mewn un llyfr, gan ddileu'r hyn a oedd wedi'i ddisodli a mewnosod y mesurau newydd, ac mae hon yn broses gwbl ddibwrpas, nad yw o reidrwydd yn golygu unrhyw newid i gorpws y gyfraith ei hun. Ni allai unrhyw un, yn rhesymol, wrthwynebu'r hyn y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol oedd y nod, sef gwneud y gyfraith yn hygyrch, i alluogi dinasyddion i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y gyfraith.

Un o'r problemau mawr â'r gyfraith heddiw, wrth gwrs, yw cymaint y mae wedi tyfu, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan oeddwn i, flynyddoedd lawer iawn yn ôl, yn ymarferydd treth, roedd Butterworths yn cyhoeddi cod treth bob blwyddyn. Yn 1965, roedd yn 750 o dudalennau; mae bellach yn 17,000 o dudalennau ac mae wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Po fwyaf o gyfraith a geir ar y llyfr statud yn ei amryw ffurfiau, y mwyaf anhygyrch y bydd, yn anochel, a'r mwyaf arbenigol y bydd. Ond mae'n hollbwysig y dylem ni ei gwneud mor hawdd â phosibl i lywio'r amrywiol lwybrau hyn. Felly, rwy'n croesawu'r arfer hwn.

Ni allai neb wrthwynebu ymgynghoriad. Pa un a yw'n arwain at y fenter fwy uchelgeisiol o greu awdurdodaeth ar wahân ar gyfer Cymru ai peidio, mae hynny'n fater arall yn gyfan gwbl, ond rwyf wedi cael rhai sgyrsiau diddorol iawn eisoes gyda'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd am hyn, ac mae'n gwneud ambell i bwynt pwysig iawn am faterion ymarferol y gyfraith yng Nghymru yn datblygu yn ddigon da i wasanaethu pobl yn ymarferol drwy ddim ond manylion fel datblygu system ffurflenni, er enghraifft. Ac ni ellir gwneud hynny'n hawdd mewn system gyfreithiol sydd ar hyn o bryd yn cael ei chyfarwyddo a'i rheoli o Lundain. Felly, rwyf yn ystyried hyn yn ddatblygiad dibwrpas.

Rwy'n pryderu am y posibilrwydd y bydd Deddf dehongli ar gyfer Cymru o bosibl yn ei gwneud yn fwy anodd deall y gyfraith yn hytrach nag yn haws, i'r graddau y gellid dehongli'r Ddeddf dehongli ei hun fel rhywbeth sy'n gwrthdaro â pha bynnag fesur sydd mewn grym yn Lloegr. Gwn fod yna Ddeddfau dehongli yn yr Alban, ac efallai na fydd hwn yn anhawster anorchfygol, ond mae'n hanfodol bwysig, oherwydd bod y gyfraith yng Nghymru, yn anochel, yn gwyro oddi wrth cyfraith Lloegr—ac mae'r broses ddatganoli a gadael yr UE yn arbennig, yn mynd i gyflymu hyn ac ehangu'r broses hon—y dylem ni o leiaf o ran dehongli, i'r graddau y gallwn ni, gysoni'r canonau o ddeunydd dehongli a'r ffordd y maen nhw'n gweithredu mewn modd sy'n gyson ledled y Deyrnas Unedig. Fel arall, yn y modd hwnnw, ceid hyd yn oed mwy o ddryswch. Felly, gobeithiaf y gall y Cwnsler Cyffredinol o leiaf ar y pwynt hwnnw fy modloni i yn ei ymateb heddiw.

18:05

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Yn eu tro, soniodd am y newidiadau i'r corpws o gyfraith a'r gwelliannau a allai ddod yn rhan o'r gwaith cydgrynhoi. Mae'n bwysig iawn pwysleisio'r ffaith nad yw ymarfer cydgrynhoi yn ymwneud â diwygio'r gyfraith, ac, yn y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda Chomisiwn y Cynulliad ynghylch y gofynion gweithdrefnol y mae ymarfer cydgrynhoi yn eu cynnwys, mae wedi bod yn gwbl glir mai'r hyn nad ydym ni'n sôn amdano yw newid polisi; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n well, os mynnwch chi. Ac, a dweud y gwir, mae'n sôn am y pwynt ynghylch awdurdodaeth—wyddoch chi, nid dyna yw prif nod yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Hoffwn i adleisio ei bwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â'r defnydd ymarferol o'r gyfraith, ei gwneud yn fwy dealladwy a'i gwneud yn fwy hygyrch yn yr ystyr o ddydd i ddydd. Dyna yw prif amcan fy nghynnig yn yr ymgynghoriad hwn.

O ran mater y Ddeddf Dehongli, y gwir amdani yw bod Deddf 1978 yn cynnwys llawer o ddeunydd nad yw'n berthnasol i ddeddfwriaeth a wneir yn y lle hwn drwy gyfrwng y setliad datganoli, ac, wrth gwrs, dim ond yn Saesneg y mae hi, ac felly mae corff cyfan o gyfraith awdurdodol yr ydym ni'n ei phasio yn y fan yma nad oes ganddi ei Deddf Dehongli ei hun, sef fersiwn Gymraeg o bob Deddf sy'n cael ei phasio gennym. Ac felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r ddwy agwedd hynny ac mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer hynny.

Rwy'n credu, o ran y mater o wrthdaro, yn fy marn i, y peth pwysicaf yw bod gennym ni Ddeddf Dehongli sy'n gweithio ar gyfer y setliad datganoli yng Nghymru a'i bod yn glir iawn pan fo'r Ddeddf honno yn berthnasol a phan fo Deddf Dehongli 1978 yn berthnasol er mwyn i gyfreithwyr ac aelodau o'r cyhoedd allu mynd at ddeddfwriaeth gan ddeall yn glir lle y dylen nhw fynd i ddeall y gyfraith.

Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol. Diolch. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:07.