Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/02/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad Personol

Ar ran yr holl Aelodau, hoffwn groesawu Jack Sargeant i'r Senedd a'i longyfarch—[Cymeradwyaeth.]—ar ei llwyddiant yn yr is-etholiad diweddar. Rydych chi'n dilyn traddodiad o gynrychiolwyr balch Alun a Glannau Dyfrdwy yn y lle hwn, ac rydym ni i gyd yn dymuno'n dda i chi. Jack Sargeant.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i chi yn gyntaf am ganiatáu i mi wneud y datganiad hwn heddiw? Mae wir yn golygu llawer iawn i mi. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl Aelodau ar draws y Siambr hon am eu  llongyfarchiadau yn dilyn yr is-etholiad diweddar yn Alun a Glannau Dyfrdwy. O aelodau'r tîm diogelwch, y staff arlwyo, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, heb anghofio'r gyrwyr, mae'r geiriau caredig o longyfarchiadau wedi bod yn wirioneddol anhygoel.

Mae'n arferol, wrth gwrs, yn eich datganiad cyntaf, i dalu teyrnged i'ch rhagflaenydd. Fodd bynnag, nid yn aml y mae'n digwydd o dan yr amgylchiadau hynny yr wyf i'n canfod fy hun ynddynt heddiw, gan fy mod i nid yn unig yn talu teyrnged i rywun a oedd yn caru ei etholaeth, ac a oedd yn caru Cymru, ac a frwydrodd yn ddiflino ar draws ei etholaeth ac ar draws Cymru dros y rheini a oedd yn llai abl i sefyll drostynt eu hunain, ond rwyf i hefyd yn talu teyrnged i'r dyn yr oeddwn i'n ei adnabod fel dad, y dyn yr oeddwn i wrth fy modd yn mynd am beint gydag ef, y dyn a wnaeth fy helpu gyda fy arholiadau, y dyn a safodd wrth fy ochr yr holl ffordd drwy fywyd, ac a safodd mor falch pan wnes i raddio, y dyn a oedd y glud ar gyfer fy nheulu ac a wnaeth ein dal at ei gilydd lawer, lawer gwaith. Ond ef hefyd oedd y dyn a ddangosodd i mi nad bod y math iawn o wleidydd yn Siambr y Cynulliad oedd bod y math iawn o wleidydd. Roedd yn rhywbeth yr oeddech chi'n ei wneud ym mhob sgwrs gyda phob unigolyn, waeth pwy oedden nhw na beth oedd eu sefyllfa. Roedd yn bwysig iddo ef bod rhywun yn gwrando ar eu problemau a'u pryderon ac yn eu deall. Ac er ein bod ni'n gwybod mai un felly oedd fy nhad, rwyf i wedi cael fy nghyffwrdd a'm cysuro gan y llif o gefnogaeth ac undod yr ydym ni wedi ei weld gan bobl o bob cwr o Alun a Glannau Dyfrdwy, o bob cwr o Gymru, ac o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Ac yma, yn y Cynulliad, gwn eich bod i gyd yn ei adnabod fel fy nhad i hefyd.

Rydym ni, wrth gwrs, wedi cael ysgytwad y tu hwnt i eiriau, a gwyddom y bydd ein galar yn parhau i gael ei rannu gan bawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu, a llawer o ddieithriaid eraill na chawsant y cyfle i gwrdd ag ef. A hoffwn ddweud hefyd pa mor falch yr wyf i o gael ffrindiau a theulu yma yn yr oriel heddiw, yn fy ngwylio yn fy sesiwn gyntaf. Felly, diolch i bob un ohonoch chi sydd yma heddiw a holl aelodau'r teulu a ffrindiau ar draws Alun a Glannau Dyfrdwy a thu hwnt. Roedd fy nhad yn wirioneddol boblogaidd yn ei gymuned ac ymhlith pobl arbennig Alun a Glannau Dyfrdwy. Roedd wrth ei fodd â'r ymdeimlad o undod ac roedd problemau ein cymuned yn broblemau i bawb. Mae hynny'n eglur o'r ffordd y mae pobl leol yn dod at ei gilydd pan fydd pethau'n anodd.

Mae Alun a Glannau Dyfrdwy wedi bod drwy sawl cyfnod anodd, ond rydym ni fel teulu wedi gweld yr ymdeimlad hwnnw o gymuned a gofalu am ein gilydd yn fwy nag erioed yn y misoedd diwethaf. Fel llawer o'r gogledd-ddwyrain, mae iddi sail weithgynhyrchu helaeth. Mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd mor falch ohono, ac rydym ni hefyd mor falch nid yn unig ei fod yn cadw i fynd lle'r ydym ni nawr, ond ein bod ni hefyd yn symud i flaen y gad yn y diwydiant gweithgynhyrchu ac yn croesawu'r dechnoleg newydd i greu swyddi ar gyfer y dyfodol—swyddi gwych ar gyfer y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni barhau, ac mae'n rhaid i ni wneud mwy, i adeiladu i roi cyfleoedd gwell i'n pobl ifanc, a'n cenhedlaeth bresennol hefyd, i sicrhau bod gan ein cymunedau y seilwaith a'r gwasanaethau iawn ar gyfer y dyfodol.

Mae ffatri Airbus ym Mrychdyn yn cyflogi 7,000 o bobl ac yn cefnogi busnesau yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar hyd a lled y rhanbarth, ac ymhellach i ogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae'r gwaith yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu adenydd a'r Beluga mawreddog, sy'n cludo'r adenydd hynny, ar ôl iddyn nhw gael eu cwblhau, i bob cwr o Ewrop. Roeddwn i'n falch o gyfarfod â stiwardiaid siop Unite yn ystod yr ymgyrch, ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd yno'n fuan i drafod beth arall y gallwn ni ei wneud.

Mae fy etholiaeth yn gartref i Goleg Glannau Dyfrdwy hefyd—Coleg Cambria, sydd â myfyrwyr ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a swydd Gaer gyfan. Llwyddais yn fy mhrentisiaeth peirianneg yno, yr wyf i'n falch iawn o hynny. Rwyf i eisiau ei weld yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac rwyf i eisiau gweld bod pobl ifanc yn elwa ar y cyfleoedd yr ydym ni a'r coleg yn eu cynnig iddyn nhw—cyfleoedd a allai, os byddwn ni'n ei wneud yn iawn, roi Cymru ar flaen y gad yn ein chwyldro diwydiannol.

Ac i'r rheini sy'n frwd dros chwaraeon, ceir treftadaeth leol gref yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Prif stadiwm Coleg Glannau Dyfrdwy yw cartref Nomadiaid Cei Conna Gap, y cefais y pleser o ymweld â nhw yn ystod yr ymgyrch hefyd, gyda Tom Watson, ac roedd hynny'n wych. Nid yn unig hynny, rydym ni wedi cael rhai pêl-droedwyr ardderchog o'r etholaeth—Michael Owen, y diweddar Gary Speed, ac roedd yn wych cyfarfod â Roger Speed ddydd Sul ddiwethaf; gŵr bonheddig yn wir. Ond ni fyddwn i byth yn cael maddeuant pe na fyddwn yn diolch a sôn am fy nhîm lleol fy hun, CPD Nomadiaid Cei Conna, a chadeirydd y clwb, Bernie Attridge. Felly, rwyf wir eisiau dweud diolch am bopeth y mae wedi ei wneud, a byddwn yn cadw'r gefnogaeth honno i fynd. Pob lwc ar y penwythnos, fechgyn.

Dywedais yr wythnos diwethaf bod yr is-etholiad hwn yn is-etholiad nad oedd neb eisiau ei weld. Ac nid fi yw'r unig berson yn y Siambr hon sydd eisiau cyfiawnder i fy nhad. Gwn o'r ymgyrch yr ydym ni newydd ei chynnal bod y teimlad hwn yn cael ei rannu gan yr etholwyr a'r gymuned, ond ymhellach i ffwrdd yng Nghymru ac yn y DU hefyd. Ac ochr yn ochr â'm gwaith gwleidyddol yn y Siambr hon, byddaf hefyd yn gweithio i sicrhau y bydd yr ymchwiliadau sydd ar y gweill yn archwilio'r ffordd y cafodd fy nhad ei drin yn y cyfnod cyn ei farwolaeth. Mae fy nheulu, fy ffrindiau, fy etholwyr, ac, yn anad neb, fy nhad, yn haeddu hynny.

Yn olaf, Llywydd, roedd yn fraint ac yn anrhydedd i mi gael fy ethol yn AC Llafur newydd yr ardal—ein hardal wych—yr wythnos diwethaf. A hoffwn ddiolch i'r holl aelodau Llafur lleol, ac eraill, am eu gwaith yn ystod yr ymgyrch, yn ystod yr eira, pan aethom ni allan ar y garreg drws yna. Ac rwyf i hefyd eisiau diolch i'r holl gyd-Aelodau o'r Cynulliad a ddaeth i fyny i'm helpu i â hynny, ar ddydd Mawrth o eira ym mis Chwefror. Felly diolch bawb. Ond, yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i bleidleiswyr Alun a Glannau Dyfrdwy am roi eu ffydd ynof i.

Rwyf i yn y lle hwn i fod yn llais cryf sy'n cynrychioli'r buddiannau, gan adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd gan fy nhad: swyddi a sgiliau; ceisio rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc; gweithio i roi terfyn ar yr epidemig o drais yn y cartref, cam-drin domestig; gweithio i sicrhau bod y Llywodraeth hon yn gwrando ar bobl—pobl go iawn o'm hetholaeth i, ac o bob rhan o'r gogledd a Chymru gyfan—a gweithio i ddarparu'r polisïau a fydd yn gweithio ar eu cyfer nhw. Ac nid oes unrhyw deyrnged fwy y gallwn i ei thalu i fy nhad na pharhau ei etifeddiaeth a'i waith, a'r holl wasanaeth a roddodd i'n pobl arbennig i fyny yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Dyna'r hyn yr wyf i'n bwriadu ei wneud, ac rwy'n gobeithio, fel cynrychiolydd o'r genhedlaeth newydd yn y Cynulliad, y gallaf wneud rhywbeth i adeiladu gwleidyddiaeth well a mwy caredig ar gyfer y dyfodol. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

13:35
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

A'r eitem gyntaf, felly—yr eitem nesaf—yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Caroline Jones.

Tlodi yng Ngorllewin De Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51777

Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut y byddwn ni'n cynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig i wireddu eu potensial a byw bywydau bodlon. Ac rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol ein plant ac yn tyfu ein heconomi. Bydd tasglu gweinidogol y Cymoedd yn gwella canlyniadau hefyd, wrth gwrs, i gymoedd Gorllewin De Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Mae fy rhanbarth i yn un o ranbarthau tlotaf y DU erbyn hyn. Mae ganddi'r gyfradd cyflogaeth isaf yng Nghymru, lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, a pheth o'r incwm gwario gros isaf yn y DU ymhlith ei haelwydydd. Ar ôl bron i 20 mlynedd o gynlluniau economaidd Llafur, mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Nid tincran economaidd sydd ei angen ar fy rhanbarth i, fel y canolfannau Technium trychinebus, nac ardaloedd menter gwag. Mae angen economi treth isel, ystyriol o fusnes i annog busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth. Mae llwyfan cyfrifiadura bach mwyaf llwyddiannus y byd—

13:40

—gallaf—eisoes yn cael ei gynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Dylem ni fod yn adeiladu clwstwr uwch-dechnoleg o gwmpas Pen-coed, a threth is yw'r catalydd sydd ei angen arnom ni. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros gyllid am efelychu Iwerddon ac annog busnesau uwch-dechnoleg fel Intel ac Apple i sefydlu yng Nghymru trwy gynnig cymhellion treth iddynt pan fyddwn ni'n rhydd o reolau cymorth gwladwriaethol yr UE?

Nawr, gadewch i mi geisio deall y pwynt yma, os gallaf i. Yr wythnos diwethaf, roedd UKIP yn dadlau nad oedden nhw eisiau gweld trethi newydd, ac nawr maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau gweld trethi busnes, nad ydynt wedi eu datganoli—. Rydych chi eisiau gweld trethi busnes yn cael eu datganoli i'r Cynulliad hwn—ai dyna ydych chi'n ei ddweud? Oherwydd dyna ganlyniad rhesymegol yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud.

Ac yna mae gennym ni'r cwestiwn nesaf: sut ydych chi'n talu, wedyn, am wasanaethau cyhoeddus, os oes bwlch yn y dreth gyhoeddus a dderbynnir? Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi gwrth-ddweud ei hun yn ystod y cwestiwn yna. Dywedodd bod Gorllewin De Cymru yn un o ardaloedd tlotaf Cymru, yna aeth ymlaen i enwi rhai o'r llwyddiannau—un ohonynt yn fy etholaeth i—yr ydym ni wedi eu gweld o ganlyniad i waith Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad i Gymru. Beth yw cynllun economaidd UKIP? Ein gwahanu oddi wrth ein marchnad agosaf a phwysicaf, lle mae 60 y cant o'n hallforion yn mynd, lle mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd. Nid yw hwnnw'n gynllun economaidd a fydd yn gweithio ar gyfer y dyfodol. A gallaf ddweud, cyn belled ag y mae ffigurau gwerth ychwanegol gros yn y cwestiwn, ein bod ni'n gwybod mai Cymru yw'r wlad sy'n tyfu gyflymaf yn y DU o ran gwerth ychwanegol gros, gyda gwerth ychwanegol gros yn cynyddu i bron i £60 biliwn yn 2016, ac rydym ni'n gwybod bod ein cyfradd cyflogaeth yn parhau i dyfu. Mae hynny oherwydd y gwaith caled yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod gennym ni swyddi i'n pobl.

Mae llawer o bwyslais Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru yn seiliedig ar greu dwy ganolfan strategol yng Nghastell-nedd ac yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o dasglu'r Cymoedd, fel yr wyf yn siŵr y gwyddoch, ac un elfen allweddol o hynny yw rhyddhau tir cyflogaeth ar gyfer defnydd diwydiannol. Nawr, o gofio bod hynny hefyd yn wir am y rhan fwyaf o ganolfannau strategol ar draws gweddill Cymoedd y de, a ydych chi'n cytuno bod perygl, oni bai fod sectorau a chwmnïau penodol yn cael eu targedu mewn ffordd systemig, y bydd eich Llywodraeth yn gorlenwi'r farchnad trwy ryddhau tir na fydd unrhyw bosibilrwydd i chi ei lenwi?

Hen fodel Awdurdod Datblygu Cymru yw hwnnw, lle mae gennych chi dir, rydych chi'n adeiladu llawer o adeiladau gwag ac yna nid yw'r adeiladau hynny'n cael eu llenwi. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, cyn belled ag y mae galw yn y cwestiwn, ei fod yn cael ei gyfateb yn agos i gyflenwad, ac, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar ardaloedd o Gymru lle ceir y sylfaen sgiliau i ddenu rhagor o fuddsoddiad. Dyna'n union, wrth gwrs, pam mae gennym ni gynllun gweithredu economaidd sydd â'r angen, wrth ei wraidd, i dargedu rhannau o Gymru yn ôl eu cryfderau.

Prif Weinidog, dywedwyd wrthym mewn sesiwn dystiolaeth pwyllgor yn ddiweddar ynglŷn â digartrefedd mai un o brif achosion digartrefedd erbyn hyn yw rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU. A ydych chi'n cytuno, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, nad yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU i atal cyflwyniad y rhaglen credyd cynhwysol drychinebus hon?

Ydw, yn sicr, ond dydyn nhw ddim yn gwrando, nac ydyn? Fe es i ymweld â phobl a oedd yn ddigartref cyn y Nadolig, a byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr i wneud yr un peth; efallai y bydden nhw'n dysgu rhywbeth. Ond y gwir amdani yw nad oes ots ganddyn nhw am ddioddefaint pobl sy'n ddigartref. Nid oes ots ganddyn nhw am y broblem o gysgu ar y stryd. Mae arweinydd yr wrthblaid yn eistedd yn y fan yna, o'i ystâd wledig, ac yn condemnio pobl am fod yn ddigartref. Dyna realiti ei safbwynt. Rydym ni, fel plaid, wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn brifo. Gwn ei fod yn eich brifo, ac nad ydych chi'n hoffi'r gwir—rwy'n deall hynny. Rydym ni wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn ar bla digartrefedd ymhlith pobl ifanc tra bod y Ceidwadwyr wedi eistedd a gwneud dim.

Y Rhagolwg Economaidd ar ôl Brexit

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y rhagolwg economaidd i Gymru ar ôl Brexit? OAQ51773

Rwyf i wedi codi dro ar ôl tro ac yn gyson gyda Phrif Weinidog y DU a Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU y niwed economaidd difrifol posibl i Gymru yn deillio o Brexit, ac mae hynny'n cynnwys tynnu sylw at y dadansoddiad a gyhoeddwyd gennym yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y llynedd, ac yn ein dogfen polisi masnach ddiweddar.

Wel, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod y gath o'r cwd erbyn hyn bod tystiolaeth wirioneddol y Llywodraeth ynghylch effaith Brexit heb fynediad at y farchnad sengl yn rhywbeth sy'n mynd i achosi niwed sylweddol i economi Cymru. Mae'n ymddangos mai dim ond ACau yng Nghymru sy'n cael gweld y dogfennau hyn, cyn belled â'n bod ni'n gwneud hynny yn unol ag amodau cyfyngedig penodol. Nid yw aelodau'r cyhoedd, ein hetholwyr, yn cael rhannu'r wybodaeth hon. Ond canlyniad y dystiolaeth honno, i bob pwrpas, yn dibynnu ar ba lefel o fynediad y gallem ni ei gael at y farchnad Ewropeaidd, yw y byddwn yn dioddef ergyd economaidd o tua 1.5 y cant, neu hyd at 9.5 y cant, i'n heconomi. Pe byddem ni'n cael ergyd o 9 y cant i'n heconomi yng Nghymru, beth fyddai'r goblygiadau yng Nghymru i swyddi a safon byw pobl Cymru?

13:45

Byddwn yn colli swyddi a bydd incwm yn gostwng. Ni allaf ddeall pam mae Llywodraeth y DU wedi bod mor gyfrinachgar ynghylch y dadansoddiadau hyn a heb eu rhannu'n ehangach â phobl. Nid yw'n swnio i mi fel bod Llywodraeth y DU yn Whitehall yn arfer llawer iawn o dryloywder, yn sicr. A gaf i ddweud—? Yr un peth nad oes gennym ni yma yw bod y rheini sy'n dweud y byddem ni'n well ein byd y tu allan i'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond ni chyflwynwyd un sgrap o dystiolaeth i gefnogi hynny. Dim un sgrap o dystiolaeth. Y gwur yw ei bod hi'n hen bryd i'r Torïaid symud oddi wrth breuddwydion gwrach, gan ddweud, 'Ie, bydd popeth yn iawn, peidiwch â phoeni am y peth. Peidiwch â phoeni am yr arbenigwyr. Peidiwch â phoeni am y dadansoddiadau. Peidiwch â phoeni am yr adroddiadau; maen nhw i gyd yn anghywir', a bod yn onest gyda phobl Prydain a dweud, 'Wel, a dweud y gwir, pan ddywedasom ein bod ni eisiau gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, roeddem ni'n anghywir', gan fod pawb arall yn gallu gweld mai dyna'n union beth sy'n digwydd nawr.

Ar ôl Brexit, Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwybodaeth economaidd Cymru yn sylweddol er mwyn gwella gwaith cynllunio a darparu polisi cyhoeddus yng Nghymru?

Wel, mae gennym ni Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs, ond rydym ni hefyd yn ceisio cynyddu nifer y swyddfeydd mewn marchnadoedd allweddol dramor, gan weithio, wrth gwrs, gydag adrannau priodol Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud yn ystod eleni. Rydym ni'n canfod eu bod nhw'n eithriadol o bwysig o ran dod o hyd i fuddsoddiad posibl a dod o hyd i farchnadoedd posibl ar gyfer cynnyrch Cymreig. Gwn pa mor bwysig oedd ein swyddfa yn Dubai i ni pan gawsom ni gig oen Cymru i mewn i'r Emiradau Arabaidd Unedig. Felly, mae chwilio am farchnadoedd newydd yn rhan bwysig o'r cynllun sydd gennym ni i ymdrin â Brexit.

Mae hi dros flwyddyn ers ichi gyhoeddi’r Papur Gwyn yn gwneud yr achos i Gymru aros o fewn y farchnad sengl a’r undeb tollau. Nid ydych chi wedi medru perswadio Theresa May o’r polisi hwnnw, ac efallai bod modd maddau i chi am hynny, ond pam nad ydych chi wedi medru perswadio Jeremy Corbyn?

Wel, nid ydw i’n gyfrifol am beth sy’n digwydd yn Llundain, ond rwy'n gwybod fy mod i wedi trafod hwn yn fanwl gyda Keir Starmer, ac rwy'n gwybod hefyd, wrth gwrs, bod y sefyllfa yn y Blaid Lafur yn newid wrth edrych ar yr amgylchiadau. A gaf i ddweud, yn blwmp ac yn blaen, o ran ein safbwynt ni, mai'r ffordd orau i Gymru i sicrhau bod yna ddyfodol disglair economaidd gyda ni yw sefyll yn y farchnad sengl a sefyll yn yr undeb tollau?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Gyda'ch caniatâd, a gaf i groesawu'r aelod newydd dros Alun a Glannau Dyfrdwy ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, a dymuno'n dda iddo yn ei yrfa wleidyddol?

Prif Weinidog, cyhoeddodd Hywel Dda ddiffyg rhagamcanol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o tua £70 miliwn yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn adeiladu ar ddau diffyg blaenorol o £47 miliwn a £32 miliwn yn y ddwy flynedd flaenorol. Ym mis Hydref 2016, gwnaed y bwrdd iechyd hwn yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, a threfnwyd yr ymyrraeth wedi'i thargedu honno gan Lywodraeth Cymru i greu sylfaen ariannol gadarn. Beth sydd wedi mynd o'i le?

Dylwn innau fod wedi croesawu ein Haelod newydd hefyd—ein Haelod ieuengaf. Rwyf i wedi ei wneud yn bersonol, ac ymunaf ag arweinydd yr wrthblaid i wneud hynny.

A gaf i ddweud bod yr Ysgrifennydd dros iechyd wedi ei gwneud yn glir i fwrdd Hywel Dda bod lefel y diffyg yn annerbyniol? Mae hefyd wedi bod yn eglurglir bod angen gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd yn Hywel Dda yn y dyfodol. Rhoddwyd targed eglur i'r bwrdd beidio â mynd y tu hwnt i'w ddiffyg arfaethedig o £58.9 miliwn, ond roedd hi'n fis Rhagfyr erbyn iddyn nhw ddweud y bydden nhw'n methu'r targed hwn. Ceir pryderon sylweddol o hyd ynghylch rheolaeth ariannol a chyflwyno adroddiadau yn y bwrdd, yr ydym ni'n gwneud gwaith dilynol manwl arnynt gyda nhw, ac rydym ni'n hyderus y bydd y bwrdd iechyd yn dal i fantoli'r cyfrifon yn gyffredinol yn y flwyddyn gyfredol, hyd yn oed gyda'r diffyg mwy hwn yn Hywel Dda.

Prif Weinidog, fy nghwestiwn i oedd: beth sydd wedi mynd o'i le? Mae hwn yn fwrdd iechyd a wnaed yn destun—rwy'n meddwl mai'r geiriau yw— 'ymyrraeth wedi'i thargedu' tua 18 mis yn ôl, ynghyd â thri bwrdd iechyd arall, a bwrdd iechyd mesurau arbennig Betsi i fyny yn y gogledd, wrth gwrs. Felly, mae pedwar o'n byrddau iechyd yn destun rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae'r cynnydd hwn i'r diffyg o hyd at £70 miliwn, gan adeiladu ar ddau diffyg sylweddol blaenorol, yn dangos yn eglur nad yw'r oruchwyliaeth ariannol honno—ac roedd yn benodol i oruchwyliaeth ariannol, y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymyrryd—yn gweithio yn y bwrdd iechyd hwn. Nawr, rydym ni'n gwybod bod ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn Hywel Dda. Rydym ni'n gwybod, o'r ymddiheuriad a roesoch yr wythnos diwethaf, nad ydych chi'n rhoi ymddiheuriadau mor hawdd â hynny, er tegwch, yn dod i'r Siambr hon oherwydd yr wybodaeth anghywir a roddwyd i chi gan y bwrdd iechyd hwnnw. Mewn difrif, sut gall unrhyw un fod ag unrhyw ffydd yng ngallu'r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin i fwy na 10 y cant o boblogaeth Cymru? Diffyg o £70 miliwn—sut ar y ddaear y mae'r diffyg hwnnw yn mynd i ddod yn ôl o dan reolaeth a chynnal gwasanaethau a chael rheolaeth dros restrau aros ar yr un pryd?

13:50

Dylwn i fod wedi egluro ein bod ni'n hyderus y bydd y gyllideb iechyd yn dal i fantoli yn gyffredinol, yn hytrach na chyllideb y bwrdd iechyd—dim ond i wneud hynny'n eglur. Edrychwch, mae gan yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru ddyletswydd i sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw gynnig awgrymiadau o ran sut y bydd hynny'n cael ei wneud. Apeliaf ar yr Aelodau i beidio â dim ond gwrthwynebu unrhyw newidiadau wrth iddyn nhw godi, gan fod cwestiynau anodd yn y fan yma. Er tegwch, mae'r adolygiad seneddol wedi ymchwilio i sut yr ydym ni am wneud y system iechyd yng Nghymru a'r system gofal cymdeithasol yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Mae angen i ni gael archwiliad difrifol o'r hyn y dylid ei ddarparu lle—wrth gwrs, mae gwasanaethau mor agos i'r cartref â phosibl, ond gallai hynny olygu newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae'r rhain yn faterion y mae angen eu hystyried yn ddiduedd ac yn synhwyrol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am Aelodau yn edrych ar newidiadau. Mae un o'ch Gweinidogion eich hun wedi dweud y byddai hi'n pleidleisio yn erbyn unrhyw newidiadau a fyddai'n cael eu cynnig o'r ymgynghoriad. Felly, mae pobl yn lladd ar y broses ymgynghori o fewn eich Llywodraeth chi. Rwyf i wedi crybwyll i chi ddwywaith nawr y gwaethygiad i'r sefyllfa diffyg y mae Hywel Dda yn ei wynebu: £70 miliwn, £148 miliwn o ddiffyg dros dair blynedd. Nid yw'n afresymol i bobl yn y gorllewin—fel y dywedais, dros 10 y cant o boblogaeth Cymru—ddibynnu ar y bwrdd iechyd lleol hwnnw i ddarparu gwasanaethau iechyd mewn lleoliadau gwledig. Byddwn wir yn gwerthfawrogi—fel yr wyf yn siŵr y byddai llawer o Aelodau yn y sefydliad hwn, ynghyd ag aelodau cymunedau i lawr yn y gorllewin—rhyw fath o fap ffordd y gallai fod gan Lywodraeth Cymru i achub y sefyllfa hon. Mae'r diffyg yn gwaethygu. Mae amseroedd aros yn gwaethygu. Nid yw'r gallu i ddenu staff i lenwi swyddi gwag yn llwyddo. A dweud y gwir, mae gwaith cynllunio'r gweithlu yn druenus o annigonol yn y rhan honno o Gymru, fel y gwyddom. Felly, y trydydd cwestiwn: a allwch chi roi map ffordd i ni o'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r bwrdd iechyd i ddod â'r diffyg hwn o dan reolaeth, fel y gall pobl fod yn hyderus y bydd ganddynt wasanaeth iechyd yn y rhan hon o Gymru?

Yn gyntaf, nid yw'n gywir o ran yr hyn y mae wedi ei ddyfynnu y dywedodd y Gweinidog. Yn ail, mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad, sy'n cynnwys gwahanol ddewisiadau—anodd, rhai ohonyn nhw; nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw cyflwyno cynigion, a dyna'n union y mae wedi ei wneud. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid: rydym ni wedi gweld, ers wyth mlynedd, toriadau i gyllideb Cymru. Gallem ni fod £4 biliwn yn well allan, yn ôl un amcangyfrif, pe byddai wedi gwneud sylwadau i'w Lywodraeth yn Llundain, ond mae wedi eistedd yn y fan yna a gwneud dim. Mae Ruth Davidson yn aelod o Gabinet y DU. Nid yw ef yn cael mynd drwy'r drws. Rhoddwyd £1 biliwn i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, os cofiaf yn iawn, ar gyfer iechyd, neu gannoedd o filiynau o bunnoedd yn sicr. Chafodd Cymru ddim. Nid oedd dim arian canlyniadol. Nid oedd unrhyw arian ychwanegol i Gymru a'r Alban. A gaf i awgrymu, tra ein  bod ni'n didoli peirianwaith sut mae ein byrddau iechyd yn gweithio, ei fod yn gwneud rhywbeth—ei fod yn gwneud yr hyn y mae ei gydweithiwr yn yr Alban yn ei wneud a sefyll dros ei wlad ei hun?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dywedasoch fis Medi diwethaf eich bod chi eisiau gweld system gyfiawnder—a dyfynnaf—a oedd

yn gwbl gynrychioliadol o anghenion Cymru.

Y blaenoriaethau yw gwella mynediad at gyfiawnder, lleihau trosedd a hyrwyddo adsefydlu. Rydym ni'n gwybod y disgwylir i'ch comisiwn adrodd yn ôl yn 2019, ond mae hynny braidd yn hwyr i sicrhau y gellir datganoli polisi cyfiawnder mewn modd pendant ac eglur yn barod ar gyfer Senedd nesaf Cymru. A ydych chi'n hyderus y bydd yr achos dros system gyfiawnder unigryw i Gymru yn cael ei gryfhau gan eich comisiwn ac y gellir gwneud cynnydd cyflym os bydd yn adrodd yn ôl gyda thystiolaeth gymhellol ar gyfer newid?

O ran y newid yn gyflym, mater i Lywodraeth y DU yw hwnnw, wrth gwrs, ond byddem ni'n eu hannog i ddilyn yr argymhellion yn yr adroddiad. Rydym ni wedi tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn y byddai hyn yn ei olygu i'r llysoedd, y gwasanaeth prawf a hefyd, wrth gwrs, y mater o awdurdodaeth, a drafodwyd yn drwyadl yn y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, os edrychwn ni ar y system gyfiawnder, mae'n rhaid i ni ddatblygu polisi cosbi ar gyfer Cymru—rhywbeth nad ydym ni erioed wedi ei gael o'r blaen a rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ei ddechrau o'r dechrau. Felly, mae'n rhaid archwilio'r holl bethau hyn yn ofalus wrth i ni edrych ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder.

Mae'r pwynt awdurdodaeth, i mi, yn ddiymwad. Dyma'r unig awdurdodaeth mewn unrhyw le yn y byd—awdurdodaeth cyfraith gyffredin—lle ceir dwy deddfwrfa yn yr un awdurdodaeth. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Gwn nad yw pobl allan yna yn achosi terfysg ar y strydoedd ynghylch y mater hwn, ond nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o safbwynt cyfreithiol. Mae'n golygu bod pobl yn cael eu camarwain pan fyddant yn edrych ar y gyfraith. Mae rhai pobl yn credu, pan fo teitl y Bil yn dweud—a thynnodd Simon Thomas sylw'r Siambr at hyn ychydig fisoedd yn ôl—'dyma gyfraith Cymru a Lloegr'—. Ond nid yw'n berthnasol yng Nghymru. Mae'n peri dryswch, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr, a bu bob amser yn wir pan fo deddfwrfa yn caffael pwerau sylfaenol, bod yr awdurdodaeth bob amser yn dilyn. Dyna un mater, ond wedyn, wrth gwrs, rydym ni'n symud ymlaen i, 'Sut dylai polisi cosbi i Gymru edrych yn y dyfodol?'

13:55

Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog, a dyna pam mae'n drueni bod y cyfle wedi'i golli pan roedd y Bil Cymru diwethaf yn cael ei gyflwyno.

Ceir un achos sy'n dangos i mi mewn ffordd drawiadol iawn pam mae'n rhaid i ni gael rheolaeth dros ein system cyfiawnder troseddol, a pham mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn fuan. Dangosodd achos Conner Marshall o'r Barri ddiffygion enfawr yn y system brawf. Fe'i llofruddiwyd yn greulon gan rywun a oedd allan ar brawf ac nad oedd yn cael ei oruchwylio'n ddigonol o dan y system a breifateiddiwyd ers 2014. Methodd llofrudd Conner â dod i wyth o apwyntiadau prawf. Nawr, mae cysylltiad eglur rhwng preifateiddio'r gwasanaeth prawf, mynd ar drywydd elw a pherfformiad gwael o ran goruchwylio a monitro. Ni fu unrhyw welliant i ganlyniadau prawf ers i breifateiddio ddechrau. Mae niferoedd staff wedi gostwng gan 30 y cant ac mae cyfraddau aildroseddu wedi cynyddu.

Prif Weinidog, nid yw gadael gwasanaethau prawf Cymru yn nwylo San Steffan wedi gweithio. Mae achos Conner Marshall yn dangos nad yw'r cyhoedd yn ddiogel o dan y system hon. A wnewch chi gefnogi galwad teulu Conner Marshall am ymchwiliad i weithredoedd Working Links yn yr achos hwn? A phan fydd Cymru yn cael cyfrifoldeb dros bolisi cyfiawnder troseddol, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid dod â gwasanaethau prawf yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus?

Nid wyf i'n gyfarwydd â'r achos, ond byddaf yn edrych arno ac yn ysgrifennu yn ôl. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd briodol o ymdrin â'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi gofyn amdano.

Rydym ni'n cytuno ar lawer o bethau y prynhawn yma. Ni allwn gytuno mwy â'r hyn a ddywedodd. Pam fyddech chi'n cymryd gwasanaeth sydd wedi ei gynllunio i adsefydlu troseddwyr a cheisio gwneud elw allan ohono? Nid oes unrhyw synnwyr yn hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr—rwy'n dweud' gobeithio, pan' ac nid 'os'—pan fyddwn ni'n cael rheolaeth dros y gwasanaeth prawf, gallwn gael gwasanaeth prawf yn y dyfodol sy'n gweithio'n iawn, yn cael ei redeg yn gyhoeddus ac sy'n atebol, nid yr hyn sydd gennym ni nawr. Oherwydd yn amlwg, yn fy marn i, nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffaith nad yw'r achos wedi ei wneud dros wasanaeth prawf sy'n cael ei redeg yn breifat, ond y ffaith nad yw wedi bod yn rhywbeth nad wyf yn credu sydd wedi bod yn llwyddiant mawr—ac mae hi'n rhywun, gyda'i chefndir hi, sy'n angerddol am y gwasanaeth prawf a'r angen i adsefydlu troseddwyr.

Nid yw'n gwneud unrhyw ddaioni o gwbl i gymdeithas os nad yw'r modd a'r gallu ganddynt i ddod o hyd i ffordd o adsefydlu eu hunain ac atal eu hunain rhag bod yn niwsans neu'n beryglus i'r cyhoedd. Yn y dyfodol, hoffwn weld sefyllfa pan fo'r gwasanaeth prawf yng Nghymru yn cael ei ffurfio yn y Siambr hon, a thrwy Lywodraeth Cymru wrth gwrs.

Unwaith eto, Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi fynegi fy edifeirwch i chi na chawsom ni'r drafodaeth hon yn gynharach; gallem fod wedi atal preifateiddio'r gwasanaeth prawf.

Nawr, fodd bynnag, hoffwn droi at y cwestiwn o uwch-garchardai. Rwyf wedi dychryn o weld carchardai yn cael eu harddel fel offeryn ar gyfer datblygu economaidd pan mai eu prif swyddogaeth yw adsefydlu trwy ddedfrydau o garchar. Mae carcharorion nad ydynt yn dod o Gymru yn cael eu symud i Gymru erbyn hyn, i gyflawni eu dedfrydau o garchar, ac mae hynny'n golygu eu bod nhw'n cael eu symud yn bellach i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth, ac, fel y gwyddoch, mae bod yn agos at eich teulu a'ch rhwydwaith cymorth yn agwedd bwysig iawn ar adsefydlu.

Mae ffigurau yr wythnos hon yn dangos amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n peri pryder yng Ngharchar Ei Mawrhydi Berwyn yn ystod ei flwyddyn gyntaf o weithredu, sy'n sicr yn codi cwestiynau am yr angen am uwch-garchar arall ym Mhort Talbot. Pe byddem ni'n datblygu system gyfiawnder i Gymru, ni fyddai angen uwch-garchar newydd arnom ni. Er nad yw gwasanaethau carchar wedi eu datganoli, gallwch wneud y penderfyniad ynghylch gwerthu tir Llywodraeth Cymru ar gyfer uwch-garchar Port Talbot. A wnewch chi ymrwymo nawr i ddefnyddio'r tir hwnnw ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy ac nid carchar? Ac a wnewch chi ymrwymiad na wnewch chi hwyluso uwch-garchar nad yw'n diwallu anghenion Cymru?

Rydym ni wedi gofyn cwestiynau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder nad ydym wedi cael atebion boddhaol iddynt eto. Nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniad am werthu'r tir. Rwy'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud. Mewn rhai ffyrdd, mae'r mater ynghlwm â'r comisiwn cyfiawnder, yn yr ystyr o sut y dylai polisi cosbi Cymru, neu bolisi dedfrydu Cymru hefyd, edrych yn y dyfodol. Mae'n iawn i ddweud bod carcharorion o Gymru sy'n cyflawni dedfrydau ymhell oddi cartref yn Lloegr—yn y carchardai categori A yn Lloegr. Sut ydym ni'n datrys y sefyllfa honno er mwyn sicrhau y gall pobl gyflawni eu dedfrydau yn nes at adref, yn sicr tuag at ddiwedd eu dedfrydau pan fyddant yn agosach at gael eu rhyddhau a, gobeithio, at gael eu hadsefydlu? Ond fel y dywedaf, cyn belled ag y mae Baglan yn y cwestiwn, nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud. Nid ydym ni mewn sefyllfa eto lle'r ydym ni'n teimlo'n hyderus y gallwn ni wneud penderfyniad gan nad yw'r wybodaeth lawn wedi ei darparu.

14:00

Diolch, Llywydd. Gyda chaniatâd, hoffwn innau hefyd groesawu Jack Sargeant i'r Cynulliad, ac i'w longyfarch ar aeddfedrwydd ei araith agoriadol, a gyflwynwyd yn hyderus iawn, ac edrychwn ymlaen at glywed llawer mwy ganddo.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod llawer o bobl yn y gogledd yn meddwl bod y llythyrau NHS yn sefyll am 'national health shambles'. Ers 2010, mae'r GIG wedi torri nifer y gwelyau yng Nghymru gan 18 y cant, ond maen nhw wedi cael eu torri fwy fyth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, i lawr 21 y cant. Ddeg niwrnod yn ôl, cyfarfu staff uwch Betsi Cadwaladr gyda chynghorwyr Dinbych i esbonio pam maen nhw'n torri 10 gwely yn ysbyty Dinbych ond yn agor dim ond pump yn Rhuthun. Yr wythnos diwethaf, adroddodd y Daily Post bod penaethiaid iechyd yn rhoi'r bai ar bwysau parhaus anarferol bod cleifion yn cysgu mewn ystafelloedd offer ac mewn coridorau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno oherwydd diffyg gwelyau ysbyty. Dywedodd Margaret Cowan, a oedd yn ymweld â'i thad yn yr ysbyty hwnnw:

Roedd 12 o wardiau yn arfer bod yn Llandudno, dim ond tair sydd gennym ni ar ôl erbyn hyn, mae pobl y dref hon yn haeddu cael gwybod beth sy'n digwydd.'

A all y Prif Weinidog ddweud wrth bobl Cymru beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru?

Wel, ei ariannu, ac ar lefel uwch nag yn Lloegr. Dyna sy'n digwydd gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gwneud yn siwr bod yr arian ar gael ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni'n gweld gofal cymdeithasol yn chwalu yn Lloegr. Rydym ni'n gweld cynghorau—cynghorau Torïaidd—yn datgan eu hunain yn fethdalwyr yn Lloegr. Felly, gwneud yn siŵr bod yr arian yno.

Oes, mae heriau, ac rydym ni'n gwybod hynny, a bydd angen i'r byrddau iechyd ymateb i'r heriau hynny yn uniongyrchol. Ond mae'n dweud 'national health shambles'. Efallai yr hoffai ddweud hynny wrth y meddygon a'r nyrsys sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, yn y gogledd ac mewn mannau eraill. A gadewch i mi ei atgoffa—ac efallai yr af i ag ef yno, pan fydd wedi ei adeiladu—am y ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd, buddsoddiad mawr—buddsoddiad mawr—yn Ysbyty Glan Clwyd—penderfyniad buddsoddi a wnaed gen i ar adeg pan yr oedd yn cael ei awgrymu y dylai'r gwasanaethau hynny symud dros y ffin. Fe wnes i'n siŵr y daethpwyd â grŵp o arbenigwyr annibynnol at ei gilydd a gwnaed achos i sicrhau ei bod yn cael ei hadeiladu yn Ysbyty Glan Clwyd.

Felly, byddwn yn sicrhau, lle gellir rhoi'r gwasanaethau hynny ar gael i bobl y gogledd, eu bod yn cael eu rhoi ar gael, ac mae'r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig yn enghraifft o hynny.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod llu o fethiannau ar gyfer pob llwyddiant. Mae pedwar o'r byrddau iechyd allan o saith yn destun mesurau arbennig neu ymyraethau wedi'u targedu, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn gynharach. Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cadeirio cyfarfodydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn a chyhoeddwyd datganiad ar 1 Chwefror yn dweud:

'Mae Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau nad yw gwasanaethau a chleifion yn cael eu heffeithio'n negyddol gan yr angen i wella rheolaeth ariannol.'

Rydym ni'n gwybod, fodd bynnag, o'r adroddiad a luniwyd gan Deloitte ar y grŵp adfer ariannol yn Betsi bod y strwythur llywodraethu wedi ei ddiffinio'n wael ac yn cael ei gamddeall gan aelodau'r bwrdd eu hunain. Mae'r grŵp adfer ariannol hwn yn cyfarfod yn breifat, nid yw'n cyhoeddi yr un o'i bapurau, nid yw'n cyhoeddi unrhyw gofnodion. Ceir adolygiad adfer ariannol cyfrinachol sy'n cael ei guddio oddi wrth aelodau'r cyhoedd. Pam na wnaiff y Prif Weinidog gymryd mesurau arbennig ei hun i sicrhau y gellir cynyddu ffydd y cyhoedd trwy fod yn fwy agored a thryloyw, yn union fel y cawsom ni broblemau yn Hywel Dda dim ond tua pythefnos yn ôl oherwydd datgelu adroddiadau? Pam nad oes gennym ni system iechyd fwy agored a thryloyw? Pam na wnawn ni ei gwneud yn fwy democrataidd?

Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynyddu'r oruchwyliaeth gennym ni ar gamau i leihau'r rhagolwg o ran y cyllid, ac i sicrhau

'nad yw gwasanaethau a chleifion yn cael eu heffeithio'n andwyol gan yr angen i wella rheolaeth ariannol'.

Rydym ni wedi dweud hynny. Rydym ni'n disgwyl i gamau adfer ariannol olygu y bydd y bwrdd iechyd yn bodloni'r rhagolwg diwygiedig hyd at ddiwedd y flwyddyn. Comisiynwyd yr adroddiad Deloitte gennym er mwyn cynorthwyo'r bwrdd a'n hunain o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol, a disgwylir i'r bwrdd ddangos cynnydd o ran y camau yn yr adroddiad hwnnw i fodloni'r argymhellion a nodwyd erbyn mis Ebrill eleni.

Bydd y Prif Weinidog yn cofio fy mod wedi nodi yr wythnos diwethaf, yn fy nghwestiwn ar yr agenda, bod adroddiad Deloitte yn dweud bod cynllunio ariannol a strategol yn y bwrdd iechyd yn or-syml, gyda chyllidebau'n cael eu dwyn ymlaen i'r flwyddyn nesaf fel arfer. Unwaith eto, cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid at berfformiad ariannol trychinebus y byrddau hyn. Roedd rhan o'r adroddiad Deloitte hwn hefyd yn dweud mai prin yw'r wybodaeth am sut y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i adfer y sefyllfa ariannol yn y pen draw, a bod diffyg amlwg o ran holi eilaidd gan aelodau'r bwrdd i hwyluso dadl a thrafodaeth fanwl ar draws meysydd allweddol o risg, ac mae angen gwella gallu a chapasiti arweinyddiaeth ar lefel weithredol.

Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, ers 1999. A yw e'n derbyn cyfrifoldeb personol am lywyddu gwasanaeth iechyd nad yw ond yn deilwng o'r trydydd byd mewn llawer o rannau o'r wlad?

14:05

Mae hwnnw'n sylw cwbl warthus. Gadewch i mi ei addysgu ychydig fel ei fod yn edrych y tu hwnt i'w drwyn ei hun. Mae'r trydydd byd yn ddisgrifiad hen ffasiwn a gwahaniaethol beth bynnag. Rydym ni'n sôn am y byd datblygol y dyddiau hyn. Gadewch i mi ddweud wrthych chi, roedd ysbyty yn Uganda yn Mbale yn gwasanaethu sawl miliwn o bobl—saith meddyg ymgynghorol oedd yn gwasanaethu'r holl bobl hynny. Gallech chi gael endosgopi yno ond os oedd yr endosgopi yn canfod rhyw broblem yr oedd yn rhaid ei datrys, pa un a oedd yn wlser stumog efallai, neu waeth, nid oedd unrhyw driniaeth. Roedd pobl yn marw o ganser y stumog gan nad oeddent yn gallu fforddio'r driniaeth. Roedd hanner y cleifion a oedd yn mynd i'r ysbyty hwnnw yn mynd yno â malaria, yr oedd y meddygon yn ei chael hi'n anodd iawn ei drin. Oedden, roedden nhw'n gallu cyflawni gwyrthiau wrth ymdrin â damweiniau ac achosion brys, ond roedd llawer iawn o bobl yn marw o afiechydon y gellid eu hatal. Ac mae e'n sefyll yn y fan yna ac yn cymharu gwasanaeth iechyd Cymru, â 1,000 o feddygon ymgynghorol ar gyfer tair miliwn o bobl, gyda'r amodau hynny a welais yn Mbale. Mae'n bychanu pobl Mbale ac Uganda gyda'i sylwadau gwarthus.

Y Diwydiant Amaethyddiaeth

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pryderon Llywodraeth Cymru am ddyfodol y diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru yn sgil Brexit? OAQ51748

Ers degawdau, mae fframweithiau polisi'r UE wedi dylanwadu ar reolaeth ein tir, wedi bod yn sail i batrymau cynhyrchu bwyd, ac wedi ategu incwm ffermydd. Ar ôl Brexit, bydd ein prif gynhyrchwyr yn fwy agored i farchnadoedd byd-eang a bydd mwy o wrthdaro mewn systemau masnachu gan arwain at ganlyniadau negyddol sylweddol, i'r sector cig dafad yn benodol.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog, ond a ydych chi wir yn credu bod yr UE a chyfundrefn y polisi amaethyddol cyffredin wedi bod yn hanes o lwyddiant digamsyniol i ddiwydiant ffermio Cymru? Oherwydd os felly, efallai y gallwch chi a'r rheini sy'n cefnogi ein presenoldeb yn yr Undeb Ewropeaidd esbonio i mi pa mor effeithiol yw gweld ein ffermwyr mynydd yn cael eu hymostwng i lefel gynhaliaeth ar £12,000 y flwyddyn tra bod rhai ffermwyr yn ne-ddwyrain Lloegr wedi dod yn filiwnyddion o dan y drefn anghyfiawn hon. Mae'r ffermwyr mynydd hyn yn symbol o ddiwydiant balch ar un adeg sydd bellach ar ei liniau fel economi powlen gardod o grantiau a rheoliadau. Ychwanegwch at hyn y ffaith bod y polisi amaethyddol cyffredin yn cael ei dderbyn gan bawb fel trychineb amgylcheddol. Does bosib nad oes rhaid i'r Prif Weinidog gytuno ein bod ni'n well allan ohoni.

Wel, rwy'n siŵr y byddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â phob gair y mae'r Aelod UKIP wedi ei ddweud—[Torri ar draws.] Rwy'n amau hynny rywsut. Y PAC yw'r dull a ddefnyddiwyd gennym i sicrhau bod ffermwyr yn gallu goroesi. Mae wedi cefnogi ffermwyr a chefnogi economïau gwledig a'u datblygiad cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac ieithyddol ers blynyddoedd maith. A yw e'n dweud nawr nad yw eisiau gweld unrhyw fath o gymorth i ffermwyr yn y dyfodol? Oherwydd gallaf ddweud wrtho, cyn belled ag y mae cynlluniau amgylcheddol yn y cwestiwn, roedd gennym ni Tir Cynnal, roedd gennym ni Tir Gofal, roedd gennym ni Glastir, mae gennym ni gynlluniau sy'n helpu i gefnogi'r amgylchedd. Mae dros £200 miliwn y flwyddyn yn dod i Gymru mewn cymorthdaliadau Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw sicrwydd, y tu hwnt i flwyddyn benodol, y byddwn ni'n cael yr un geiniog o arian o gwbl. Rwy'n ei wahodd i fynd i unrhyw fferm fynydd yng Nghymru a mynegi ei farn bod y ffermwyr hynny'n dal powlen gardod allan a gweld pa ymateb a gaiff.

Prif Weinidog, pan es i â phwyllgor Cynulliad i Ddulyn a chyfarfod y Taoiseach, dysgais sut mae Iwerddon yn elwa ar £2 biliwn oherwydd mynediad breintiedig at ein marchnadoedd cig eidion a chynhyrchion llaeth yn yr undeb tollau, gyda chwarter ein cig eidion yn dod o Iwerddon. Onid yw'n wir mai ein dewis ni y tu allan i undeb tollau fyddai masnachu'n rhydd a phrynu cig eidion yn rhatach o rywle arall, neu, os byddai'n well gennym ni dariffau, prynu cig eidion gan ffermwyr yng Nghymru a'r DU yn hytrach?

Cod ar gyfer tanseilio ffermio Prydeinig yw bwyd rhad. Dyna'r hyn y mae'n ei olygu, oherwydd os nad ydych chi'n barod i gefnogi'r diwydiant ffermio, hyd yn oed gyda thariffau, yna byddwch chi'n cael y mewnforion rhataf yn dod i mewn ac yn rhoi diwedd ar ein diwydiant ffermio. Dyna fydd yn digwydd. Mae'n economeg syml ac yn rhywbeth nad yw wedi cael ei esbonio'n iawn gan y rheini sy'n dweud, 'Byddwn ni'n cael bwyd rhad ac yn ei brynu o bedwar ban byd, ni waeth o le y daw, a beth yw'r ots am ein ffermwyr ein hunain, yn enwedig y ffermwyr hynny a fydd yn colli'r mynediad breintiedig sydd ganddynt at y farchnad Ewropeaidd. Ni all ein ffermwyr defaid oroesi os byddant yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle mae rhwystrau ychwanegol ar waith o ran gallu cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd. Dyna eu marchnad fwyaf; mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd yno. Byddem ni'n llythrennol wallgof pe byddem ni'n anwybyddu'r ffaith bod angen i ni ddatrys mynediad at y farchnad sengl Ewropeaidd honno yn gyntaf cyn dilyn ffantasïau mewn mannau eraill.

14:10

Mae yna un fendith, Brif Weinidog—nid oes gan yr un ffarmwr amser ganol ddydd i wylio hyn. Pan oeddech chi draw yn Iwerddon yn ddiweddar, nid wyf yn gwybod a gawsoch chi gyfle i brynu unrhyw beth mewn siop yn Iwerddon, ond os gwnaethoch chi byddech chi wedi derbyn derbynneb, ac ar y dderbynneb fe fyddai wedi dweud faint o ganran o'r cynnyrch bwyd a diod a oedd wedi ei gynhyrchu yn Iwerddon, a faint roeddech chi wedi'i brynu. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau ein bod ni dal yn gallu gwerthu bwyd o Gymru a diod o Gymru dros y ffin fel bwyd a diod o Gymru o dan stamp Cymreig, a beth ydych chi'n wneud i sicrhau ein bod ni'n cadw statws PGI, protected geographical indication, sydd wedi cynyddu allforion cig oen gan 25 y cant ers inni ennill y statws hwnnw?   

Mae hynny'n iawn. Mae yna gwestiwn ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r PGI a'r PDO, protected designation of origin, ac a fydd yna system Brydeinig. A fydd y system honno ar yr un telerau â'r system Ewropeaidd? A fydd hi'n cael ei hadnabod yn yr un ffordd â'r system Ewropeaidd? Mae e'n hollbwysig ein bod ni'n gallu gwarchod y ffaith bod gyda ni gig oen, er enghraifft, sydd o'r safon uchaf. Mae cig oen Cymreig yn cael ei dderbyn mewn sawl marchnad ar draws y byd, yr un peth â chig eidion o Gymru a sawl math o gynnyrch arall. Beth nad ydym yn moyn ei weld yw sefyllfa lle mae'r rheini sydd yn moyn cystadlu yn ein herbyn ni yn gallu mynd mewn i'r farchnad Ewropeaidd ar lefel sydd yn well na'r lefel a fyddai gyda ni yn y pen draw. Rydym yn gwybod ar hyn o bryd fod yna ffermwyr mewn gwledydd fel Ffrainc a Sbaen yn gweld nawr fod yna wahoddiad iddyn nhw, os yw cig oen o Gymru yn mynd yn ddrutach yn y farchnad Ewropeaidd—felly, mae yna gyfle iddyn nhw fanteisio ar hynny, ac nid yw hynny o les i ffermwyr Cymru. Nid oes yna ffordd o ddadlau—ac nid yw'r Aelod yn dadlau hyn—o gwbl y bydd ffermwyr cig oen Cymru yn well tu fas i'r farchnad sengl. Heb y farchnad honno, bydd y dyfodol i sawl un o'n ffermydd ni yn un tywyll dros ben. 

Porthladd Caergybi

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladd Caergybi? OAQ51781

Rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau nad yw porthladdoedd Cymru, gan gynnwys Caergybi, yn mynd i fod o dan anfantais yn sgil Brexit. Fe wnes i drafod hyn gyda busnesau yn Iwerddon ddoe. Mae'n hollbwysig bod nwyddau yn gallu cael eu symud yn effeithiol o hyd, a rhaid i'r trefniadau tollau di-dor barhau. 

Diolch am yr ymateb yna. Mae'n werth atgoffa pobl fod masnach drwy borthladd Caergybi wedi cynyddu bron iawn i 700 y cant ers dechrau y farchnad sengl. Allwn ni ddim fforddio gweld Cymru a phorthladd Caergybi ddim yn rhan o undeb tollau a ddim yn rhan o farchnad sengl. Rwy'n poeni am oblygiadau tariffs ar fasnach. Mi fyddai llwybrau newydd yn cael eu datblygu, yn sicr, rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop. Nid oes lle yn gorfforol ym mhorthladd Caergybi i ddelio efo'r checks ar lorris ac yn y blaen. Rŵan, yn wahanol i arweinydd eich plaid chi, Jeremy Corbyn, rwy'n falch o'ch clywed chi yn dweud eich bod chi'n credu mewn aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl, ond beth ydych chi'n fodlon wneud am y peth? Pa mor bell ydych chi'n fodlon gwthio hyn? Mae Seneddau is-wladwriaethol eraill yn Ewrop yn gallu cael gwir ddylanwad—feto, hyd yn oed, mewn rhai enghreifftiau—dros benderfyniad y wladwriaeth. Pa mor bell ydych chi yn dymuno gweld dylanwad Cymru yn mynd o ran penderfynu ar ein llais ni a grymoedd Cymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd? 

Mae dau beth yn y fanna. Un o'r pethau a gafodd ei ddweud wrthyf i ddoe yw ei bod yn hollbwysig, wrth gwrs, nad oes yna unrhyw fath o arafu yng Nghaergybi na Doc Penfro nag Abergwaun, ond ei bod hefyd yn hollbwysig i Iwerddon fod yna ddim arafu yn Dover. Mae siwd gymaint o nwyddau yn mynd trwy Gymru a thrwy Loegr ac wedyn i Ffrainc o Dover. A'r ofn sydd gyda nhw yw y bydd yna arafu yn y ddau borthladd. Fe roddwyd enghraifft i fi lle oedd yna lorïau gyda physgod yn mynd ar draws y môr. Roedd y fferi wedi bod yn hwyr yn croesi Môr Iwerddon ac o achos hynny fe gollodd y lorïau hynny y fferi yn Portsmouth. O achos hynny, roedd popeth wedi ei strywo. A'r ofn sydd gyda nhw yw y bydd hynny yn rhywbeth arferol yn y pen draw. Mae'n iawn i ddweud nad oes yna ddim strwythur o gwbl yng Nghaergybi, na hyd yn oed yn Dover ar hyn o bryd. Mae'n amhosibl i siecio  pob lorri o ran tollau ta beth, er yr enghraifft sydd wedi cael ei rhoi. 

A'r ail gwestiwn. Rydw i wedi dweud yn blwmp ac yn blaen: dylai unrhyw gytundeb gael ei roi o flaen y Cynulliad cyn, a’r Alban a Gogledd Iwerddon—rydym ni’n gobeithio, cyn bo hir, wrth gwrs—ac, wrth gwrs, San Steffan, a dylai fod yna bleidlais i gytuno y cytundeb hwnnw gan bob Senedd, ac nid dim ond un. Yn fy marn i, heb hynny, ni fyddai unrhyw fath o gytundeb yn parhau.

14:15

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi casglu tystiolaeth gan bobl fel conswl Canada ym Mrwsel, Llywodraeth Iwerddon ac eraill, gan roi enghreifftiau i ni o sut mae masnachu ffrithiant isel yn digwydd ar draws ffiniau a thrwy borthladdoedd. Gwyddom fod Irish Ferries wedi cadarnhau fis diwethaf eu harcheb ar gyfer yr hyn fydd y fferi fwyaf—€165.2 miliwn—yn y byd o ran capasiti cerbydau, i hwylio rhwng Dulyn a Chaergybi. Ddydd Iau diwethaf, clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth ar Ynys Môn gan fwrdd ardal fenter Ynys Môn ar gynllun ehangu porthladd Caergybi, sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer Brexit. Pa ystyriaeth, felly, ydych chi wedi ei rhoi i'r adroddiad gan Senedd Ewrop, 'Avoiding a hard border on the island of Ireland for Customs control and the free movement of persons', sy'n ystyried nifer o atebion technolegol ac yn dod i gasgliad cadarnhaol ynghylch sut i greu ffin ffrithiant isel? Mae hynny gan Senedd Ewrop ei hun.

Wel, cefais gyfarfod gydag Irish Ferries ddoe, felly trafodais eu cynlluniau gyda nhw, ac mae'n dda, fel y dywedais yn gynharach, eu bod nhw'n bwriadu buddsoddi mewn llongau newydd. Ond mae Cymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd Iwerddon yn bryderus dros ben am y posibilrwydd o oedi. Nid ydyn nhw'n gweld rheolaethau ffin o ran cael rheolaethau pasbort, ond eu pryderon yw: (a) a fydd archwiliadau tollau; a (b) a fyddant yn gynhwysfawr neu ar hap? Nid oedden nhw erioed yn gynhwysfawr yn y gorffennol; roedden nhw bob amser ar hap. Ac, mewn gwirionedd, nid oes unrhyw ffordd arall o gynnal archwiliadau tollau heb gael milltiroedd ar filltiroedd o draffig yn ciwio.

Dyma fy nadl i: rwyf i eisiau gweld ffin agored rhwng gogledd a de Iwerddon. Rwy'n adnabod y ffin honno'n arbennig o dda, a gwn ei bod hi'n amhosibl ei gweld, os mai dyna'r gair yr ydych chi eisiau ei ddefnyddio, beth bynnag. Yn nyddiau'r helyntion, ffrwydrwyd ffyrdd bach gan Fyddin Prydain ac roedd mannau croesi ar wahanol brif ffyrdd. Roedd hynny cyn i draffordd gael ei hadeiladu ar draws y ffin. Felly, mewn gwirionedd, mae'n amhosibl plismona'r ffin honno o safbwynt tollau.

Iawn—os canfyddir ffordd o wneud hynny, nid oes gen i ddadl, ond dyma fy nadl i: mae'n rhaid i'r un trefniadau fod yn berthnasol i'r ffin forol rhwng Iwerddon a Chymru. Ni allwn fforddio bod mewn sefyllfa pan ystyrir bod y ffin forol yn fwy anodd, yn fwy biwrocrataidd ac yn fwy trafferthus i weithredwyr cludo nwyddau na'r ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon. Pam? Ceir cymhelliad i nwyddau symud trwy Ogledd Iwerddon i borthladdoedd yr Alban ac i Lerpwl ac i osgoi porthladdoedd Cymru, os ystyrir bod y ffin honno'n peri mwy o broblemau. Os yw'n berthnasol i un, mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i'r cwbl.

Awtomeiddio

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddadansoddiad Centre for Cities y gallai 112,000 o weithwyr wynebu colli eu swyddi yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn unig, o ganlyniad i awtomeiddio? OAQ51741

Wel, nid yw rhagfynegiadau o'r math hwn byth yn syml, ond rydym ni'n gwybod y bydd rhai swyddi'n cael eu dileu gan dechnoleg newydd—mae'n rhaid i ni dderbyn hynny. Y cwestiwn, wrth gwrs, wedyn yw: a allwn ni fod yn grëwr net o swyddi wedyn trwy ddatblygiadau i dechnolegau? Mae mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd a gyflwynir gan awtomeiddio a digido yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd.

Diolch. Mae'r arwyddion yn cyd-fynd â dadansoddiadau eraill. Cyhoeddodd Tsieina gynlluniau yn ddiweddar ar gyfer parc ymchwil gwerth £1.5 biliwn wedi'i neilltuo i ddatblygu deallusrwydd artiffisial. Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig wedi penodi Gweinidog Deallusrwydd Artiffisial ac wedi cyhoeddi strategaeth traws-Lywodraeth. Mae eu prif weinidog, y Sheikh Mohammed, wedi dweud,

Rydym ni eisiau i'r Emiraethau Arabaidd Unedig fod y wlad fwyaf parod yn y byd ar gyfer deallusrwydd artiffisial.

Mae gwledydd ledled y byd yn paratoi i wynebu heriau a manteisio ar y cyfleoedd y mae awtomeiddio yn eu cyflwyno, ac mae angen i Gymru weithredu'n gyflym i fod yn luniwr ac nid dim ond mabwysiadwr o dechnolegau newydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen gweithredu traws-Lywodraeth arnom ni, ac a wnaiff ef ymrwymo i sefydlu uned i baratoi Cymru ar gyfer awtomeiddio?

Mae angen gweithredu traws-Lywodraeth arnom ni, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Talaf deyrnged i'r Aelod a'i ddiddordeb enfawr yn hyn, ac mae wedi tynnu sylw at fater, her, y mae'n rhaid i ni ei hwynebu yn y dyfodol. Gallaf ddweud bod grwpiau ar draws Llywodraeth Cymru eisoes yn archwilio effaith technoleg a data ar y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. Rydym ni'n amlwg yn gweithio gyda busnesau.

Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried creu grŵp gorchwyl a gorffen FinTech i ystyried y technolegau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gan adeiladu ar y cynllun gweithredu digidol sy'n cyflwyno ein hymrwymiadau ein hunain i wella ein gwasanaethau digidol ein hunain, ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU hefyd. Rydym ni'n gweithio gyda rhwydweithiau trosglwyddo gwybodaeth y DU a lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer mentrau gweithgynhyrchu, sydd â'r nod o wireddu—a byddwch chi'n adnabod yr ymadrodd, wrth gwrs—y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac mae'r tîm hwnnw yn archwilio ffyrdd o wneud y defnydd gorau posibl o'r rhaglen honno yng Nghymru.

Ceir rhaglenni eraill yr ydym ni wedi eu datblygu, ond gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gwybod bod yr her yno ac rydym ni'n bwriadu ymateb i'r her honno.

14:20

Prif Weinidog, mae Lee Waters newydd gyfeirio'n briodol at ganolfannau trefol y de fel y mannau mwyaf agored i niwed, yn y lle cyntaf, oherwydd effaith awtomeiddio, ac roedd y ffigurau a ddyfynnwyd gan Lee Waters yn syfrdanol. Roeddwn i'n cytuno â'ch ateb bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio bod ar flaen y gad o ran cystadlu â gwledydd eraill yn hyn o beth, a gwneud yn siŵr yr ymdrinnir â'r heriau a berir gan deallusrwydd artiffisial. Ond ni chlywais eich ateb. A allwch chi roi rhai enghreifftiau pendant i ni o sut yr ydych chi'n mynd i ail-ganolbwyntio polisïau economaidd Llywodraeth Cymru i wynebu'r heriau hyn sydd o'n blaenau, i wneud yn siŵr y bydd ardaloedd fel Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal ag ardaloedd trefol eraill Cymru, a'r ardaloedd dinas-ranbarth y maen nhw yn eu cefnogi ac sy'n eu cefnogi nhw yn gallu ymateb i her y dyfodol a bod ar flaen y gad, y mae wir ei angen arnom ni?

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi'n eglur yr heriau awtomeiddio a digideiddio yr ydym ni'n eu hwynebu—yr heriau a'r cyfleoedd strategol allweddol. Dim ond i adeiladu ar yr ateb a roddais i'r Aelod dros Lanelli, byddwn yn lansio ein cymorth busnes arloesedd clyfar gwell ym mis Ebrill 2018 ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu a dylunio, a bydd hwnnw'n cynnwys cymorth i fusnesau ar gyfer cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithredu technolegau sy'n gysylltiedig â'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Diwydiant Cymru wedi cyflenwi nifer o adroddiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar y risgiau a'r cyfleoedd a fydd yn deillio i economi Cymru o awtomeiddio.

Llywodraethau Rhyngwladol a Gweinyddiaethau Is-ranbarthol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru â llywodraethau rhyngwladol a gweinyddiaethau is-ranbarthol? OAQ51766

Gwnaf. Mae gennym ni gysylltiadau â llawer o Lywodraethau a Llywodraethau is-ranbarthol, ar lawer o wahanol lefelau a thrwy wahanol sianeli, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ddechrau'r flwyddyn, cyhoeddodd Open Doors ei restr gwylio byd-eang blynyddol, sy'n rhestr o wledydd erlid gwaethaf y byd i Gristnogion fod yn byw ynddynt. Ac mae llawer o'r gwledydd sy'n cael eu crybwyll ar y rhestr honno yn wledydd y mae gan Lywodraeth Cymru berthynas â nhw—Pacistan, India, Qatar a Fietnam fel enghreifftiau. Nawr, yn amlwg, lle mae gan Lywodraeth Cymru berthynas, mae ganddi ddeialog â'r Llywodraethau hynny ac rwy'n meddwl tybed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, neu y gallai eu cymryd, i drafod y diffyg cydymffurfiad ag erthygl 18 y datganiad cyffredinol o hawliau dynol ar gyfer Cristnogion sy'n byw yn y gwledydd hynny lle nad yw eu hawl i newid eu crefydd a'u hawl i ymarfer eu crefydd yn cael eu gwireddu.

Rwy'n cefnogi'n llwyr, wrth gwrs, hawl unigolyn i ryddid cydwybod. Rwyf i wedi codi materion hawliau dynol yn y gorffennol mewn rhai gwledydd yr wyf i wedi bod ynddynt—nid wyf wedi osgoi hynny. Wrth gwrs, rydym ni'n cymryd cyngor gan y Swyddfa Dramor; mae'n hynod bwysig, gyda'u rhwydwaith o lysgenadaethau a'u mynediad at wybodaeth, ein bod ni'n cymryd cyngor ganddyn nhw, ond ni allai neb, wrth gwrs, gymeradwyo sefyllfa lle nad yw rhyddid cydwybod yn cael ei barchu.

Mae gan rai Llywodraethau rhanbarthol, fel Fflandrys, er enghraifft, fel yr oedd Rhun ap Iorwerth yn pwyntio mas, feto dros dermau terfynol cytundeb Brexit, nad oes gan Gymru ar hyn o bryd. Wrth gwrs, fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae cysylltiad hanesyddol agos iawn rhwng Cymru a Fflandrys. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried arwain dirprwyaeth i Fflandrys i apelio iddyn nhw, os oes yn rhaid, i ddefnyddio'r grym sydd ganddyn nhw i helpu Cymru, yn ein hawr ni o angen, fel y gwnaeth Cymry yn eu miloedd, can mlynedd yn ôl, drostyn nhw?

Rwyf i wedi bod i Fflandrys sawl gwaith, wrth gwrs, ac fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, mae yna gysylltiad hanesyddol a hefyd trist dros ben rhwng Cymru a Fflandrys. Wel, i fi, beth rwyf i'n moyn sicrhau yw ein bod ni'n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gyntaf i roi rhyw fath o sôn ynglŷn â beth yn gymwys yw eu cynlluniau nhw, achos nid oes clem gan neb ar hyn o bryd beth yn gymwys maen nhw'n moyn gweld ar ddiwedd y broses hon, ac rŷm ni'n moyn sicrhau, trwy'r trafod sy'n cymryd lle ar hyn o bryd, yn gyntaf, wrth gwrs, y bydd y Bil a fydd yn ein tynnu ni mas o Ewrop yn cael ei newid mewn ffordd a fydd yn dderbyniol i Gymru a hefyd i'r Alban, a hefyd, wrth gwrs, i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cytundeb ar ddiwedd y dydd a fydd o les i Gymru a hefyd i Brydain Fawr.

Pa waith mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud ers y refferendwm gyda Llywodraethau rhyngwladol y tu allan i'r UE i annog buddsoddiad yng Nghymru?

14:25

Llawer o bethau. Rwyf wedi bod i lawer o wledydd. Yr Unol Daleithiau, wrth gwrs, yw ein gwlad buddsoddi rhyngwladol fwyaf, rwyf i wedi bod yno. Roeddwn i yn Iwerddon ddoe, ac mae Iwerddon yn un o'r pum gwlad sy'n buddsoddi fwyaf yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym ni'n edrych ar farchnadoedd o'r tu allan i Ewrop. Un o'r pethau a wnes i pan oeddwn i'n Weinidog materion gwledig oedd cael cig oen Cymru i Dubai, gan edrych ar farchnad newydd y tu hwnt i'r farchnad draddodiadol de Ewrop. Serch hynny, ni allwn ddweud ar y naill law, 'Mae angen i ni edrych ar farchnadoedd newydd,' rydym yn derbyn hyn, ond dweud ar y llaw arall, 'Mae'n rhaid i ni anwybyddu ein marchnad sengl bresennol bwysicaf, sef Ewrop.' Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau ein marchnad bwysicaf yn gyntaf, ac wedyn, wrth gwrs, gwneud yn siŵr ein bod yn edrych am fwy o gyfleoedd mewn mannau eraill.

Lles Cŵn a Chŵn Bach

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles cŵn a chŵn bach yng Nghymru? OAQ51776

Rydym yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac yn disgwyl i eraill wneud hynny hefyd. Cyflwynodd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn)(Cymru) 2014 feini prawf llymach ar gyfer bridwyr cŵn bach trwyddedig. Fe wnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar god ymarfer diwygiedig ar gyfer lles cŵn. Mae'r cod yn atgoffa perchnogion o'u cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau.

Diolch am y mentrau blaenorol. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn edrych ar gyflwyno rheoliadau llymach ar gyfer bridio cŵn yn Lloegr. Yng ngoleuni hynny, a yw'n bosibl y gallai fod yn rhaid i ni edrych ar reoliadau tynnach eto yng Nghymru, o ystyried achosion diweddar, fel cyfraith Lucy?

Mae'n rhaid imi ddweud bod yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi ein dilyn ni. Mewn gwirionedd, ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheoliadau o'r math hyn, ac mae DEFRA erbyn hyn yn gwneud hynny hefyd. Rydym yn nodi'r ffaith bod DEFRA wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar wahardd gwerthu trydydd parti, a byddwn yn ystyried ein sefyllfa ein hunain maes o law, ond mae hon yn sicr yn sefyllfa lle yr oeddem ni ar flaen y gad ac mae eraill yn dilyn.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae gwerthiant cŵn a chŵn bach wedi symud i werthu ar-lein, ac mae llawer o anifeiliaid sâl wedi'u gwerthu i bobl ddiarwybod. Yn aml iawn, nid oes gan y gwerthwyr hynny drwydded i fridio ac yn sicr nid lles yr anifeiliaid sydd bwysicaf iddyn nhw, ond elw. Mae elusen The Blue Cross yn galw am system gofrestru a thrwyddedu ar gyfer unrhyw un sy'n bridio neu'n gwerthu anifeiliaid drwy unrhyw ddull o gwbl, felly boed hynny o'u cartref neu o sefydliadau bridio ar raddfa fawr, gan gynnwys gwerthwyr ar-lein. A ydych chi'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallem ni ystyried ei wneud yma yn Llywodraeth Cymru?

Rwy'n credu bod dau fater yn y fan yma: yn gyntaf, i archwilio pa un a oes angen mwy o ddeddfwriaeth, ac, yn ail, sicrhau bod prosesau gorfodi cystal ag y byddem yn dymuno ac yn disgwyl iddyn nhw fod. Gwn fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cynnal arolwg casglu data yn ddiweddar ar safleoedd bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru, ac mae'r ymarfer hwnnw wedi bod yn gyfle i asesu'r safonau sy'n berthnasol i fridwyr cŵn yng Nghymru ar hyn o bryd, i nodi ac ymchwilio i enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio, arfer gorau, ac i wella deallusrwydd i lywio ymyrraeth gorfodi gan awdurdodau lleol yn well. Felly, mae'r gorfodi, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y gyfraith bresennol.

Cyfleusterau Addysgol yn Islwyn

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau addysgol yn Islwyn? OAQ51782

Bydd Band A y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn golygu buddsoddiad o dros £58 miliwn mewn ysgolion ym mwrdeistref sirol Caerffili, a bydd dros £28 miliwn yn cael ei wario yn etholaeth Islwyn. Mae amlen ariannu o dros £110 miliwn ar gyfer Caerffili ym mand B, sy'n dechrau yn 2019, wedi'i gymeradwyo mewn egwyddor.

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dyraniad o £73 miliwn ychwanegol i raglen addysg ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn cynyddu'r cyfanswm a fuddsoddwyd i £3.8 biliwn. Prif Weinidog, fel y gwelsoch chi eich hun pan wnaethoch agor Ysgol Uwchradd Islwyn yn swyddogol, mae seilwaith ysgolion Cymru yn cael ei ail-lunio a'i ailadeiladu i wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol. Sut felly, y gellir cynnal y fenter radical, drawsnewidiol hon yn y blynyddoedd i ddod, fel na fydd Cymru byth yn gweld adeiladau ysgolion yn dadfeilio fel yn oes Thatcher a Major, pan oedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am bolisi Llywodraeth addysgol yng Nghymru ddiwethaf?

Roedd llawer ohonom ni yn yr ysgol yn yr 1980au, ac er gwaethaf ymdrechion gorau ein hathrawon, cawsom ein haddysgu mewn adeiladau a oedd yn dadfeilio, cabanau — rwy'n cofio un caban lle'r oedd eiddew yn tyfu i fyny'r wal y tu mewn oherwydd bod bwlch rhwng y llawr a'r wal. Gwelais systemau gwresogi nad oeddent yn gweithio. Ni welais unrhyw ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu. Cymharwch hynny â nawr. Cymharwch hynny â heddiw, pan fo gennym ni dros 150 o ysgolion a cholegau yng Nghymru a fydd yn cael eu hadnewyddu neu y bydd ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn eu lle yn y pum mlynedd hyd at 2019. Mae hynny'n 150 o ysgolion a cholegau a fyddai, o dan y Torïaid, wedi eu gadael i ddirywio.

14:30

Diolch i chi, Llywydd. Yn ychwanegol at y cwestiwn yna, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud pryd y cyhoeddir y manylion am ba ysgolion a cholegau yn y de-ddwyrain fydd yn cael eu moderneiddio o dan fand B rhaglen addysg ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a sut y bydd y cynlluniau adeiladu hyn yn rhoi sylw i'r twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn fy rhanbarth i yn arbennig?

Wel, gallaf ddweud, cyn belled ag y mae Caerffili yn y cwestiwn, bod campws Y Gwyndy yn gyflawn, mae Ysgol Uwchradd Islwyn wedi agor, o ran ysgolion newydd ar gyfer Pontlotyn ac Abertyswg — mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau yno — ac, wrth gwrs, ceir yr ysgol gynradd Idris Davies newydd a fydd yn cael ei hadeiladu hefyd, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynharach, mae gan y Torïaid wyneb i ddweud, 'Wel, rhowch enghraifft i ni o ysgolion sy'n cael eu hadeiladu' pan na fydden nhw wedi adeiladu dim byd; fydden nhw ddim wedi adeiladu dim byd o gwbl. Mae cant a hanner o ysgolion a cholegau wedi'u hailadeiladu, eu hadeiladu neu eu hadnewyddu gan Lafur Cymru na fyddai'r Torïaid byth wedi cyffwrdd â nhw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan arweinydd y tŷ? Un ar y broses a ddilynir gan Weinidogion o ran apeliadau i'r arolygiaeth gynllunio: Mae llawer o fy etholwyr yn ardal Nantglyn, Sir Ddinbych, wedi cysylltu â mi yn pryderu am benderfyniad i gymeradwyo fferm tyrbin gwynt Pant y Maen yn yr ardal honno gan Weinidogion Cymru, yn groes i gyngor yr arolygiaeth gynllunio ac yn groes i ddemocratiaeth leol, a wnaeth, wrth gwrs, wrthod y cais yn y lle cyntaf. Prin fu'r esboniad, a dweud y gwir, gan Weinidogion Cymru ynghylch pam yr oeddent yn caniatáu i'r datblygiad penodol hwn fynd yn ei flaen, ac rwy'n credu bod fy etholwyr yn haeddu eglurhad ynghylch pam yn union na ddilynwyd argymhelliad yr arolygwyr i'r Gweinidogion, ac rwy'n credu y byddai rhoi rhywfaint o oleuni ar hyn drwy ddatganiad yn ddefnyddiol iawn i'w cynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am fwyd a diod ar gymorth i'r diwydiant tafarndai? Un o'r —. Unwaith eto, pryder arall a godwyd yn ddiweddar mewn cymorthfeydd yn fy etholaeth i yw'r dull o gyfrifo ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a sut y mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar hyfywedd ariannol rhai tafarndai ledled Cymru, yn enwedig oherwydd, wrth gwrs, bod yr ardrethi busnes yn seiliedig ar elw a throsiant rhagamcanol yn hytrach nag ar allu'r busnesau hynny i dalu o reidrwydd, neu, yn wir, troedfeddi sgwâr y safle, sydd, wrth gwrs, y rheswm am ardrethi busnes ychwanegol. A tybed a gawn ni ryw fath o ddatganiad ar gymorth i dafarndai i weld beth arall a allai fod ar gael i gefnogi'r busnesau hynny, ac mae llawer ohonynt, wrth gwrs, mewn rhannau gwledig o Gymru ac yn ei chael hi'n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd. Rydym ni wedi gweld cannoedd o dafarndai yn cau dros y blynyddoedd diwethaf ledled y wlad, ac rwyf i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn taflu rhaff i'r tafarndai hyn fel y gallant barhau i ffynnu a bod yn ganolbwynt i'w cymunedau lleol. Diolch.

Ar y pwynt cyntaf y mae Darren Millar yn ei godi, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol o gwbl cael datganiad am fater cynllunio unigol, felly rwy'n awgrymu'n gryf iawn ei fod yn ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol i gael yr ateb y mae'n ei geisio ar gyfer ei etholwyr.

Ar yr ail bwynt, rwy'n credu bod cymorth ar gyfer ein tafarndai traddodiadol yng Nghymru yn fater pwysig iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld adfywiad y grŵp trawsbleidiol ar gymorth i dafarndai. Rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi dynnu sylw ein cyd-Aelodau o UKIP fy mod i fy hun wedi fy ngweld mewn tafarn yn ddiweddar, nid dim ond mewn siopau coffi, fel yr awgrymodd y dylai rhai menywod sy'n Aelodau Cynulliad gyfyngu eu hunain iddynt. Felly, hoffwn ei gwneud yn glir bod pobl wedi fy ngweld i mewn tafarn, a fydd yn eich syfrdanu. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn a byddaf yn sicr yn trafod gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch yr hyn y gallwn ei ddweud am barhau i roi cymorth i'n tafarndai.

A gaf i ofyn am un neu ddau o bethau gan y rheolwr busnes? Yn gyntaf, a yw'n bosibl cael datganiad neu o leiaf awgrym o amserlen y cyhoeddiad ynghylch prosiect ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg? Dyma'r prosiect y mae merch ifanc o'r enw Elly wedi bod yn codi arian ar ei gyfer—apêl baner Elly. Rwyf i wedi rhoi datganiad 90 eiliad ar ei hapêl yma, ac rwy'n credu y bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gwybod amdani. Rwyf i ar ddeall bod y bwrdd iechyd wedi cyflwyno'r cynllun busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu'r ward hon. Wrth gwrs, cafwyd cyhoeddiadau ers hynny ynghylch ymgynghoriadau posibl ar wasanaethau Hywel Dda, ac rwy'n glir iawn nad wyf i eisiau gweld y cynllun penodol hwn yn cael ei lyncu gan hynny. Roedd disgwyl cael penderfyniad rywbryd yn y flwyddyn newydd, felly byddai'n dda clywed gan Lywodraeth Cymru naill ai datganiad neu arwydd o pryd y gellid disgwyl cyhoeddiad o'r fath.

Yn ail, a gaf i ofyn am ddadl ynghylch ffracio? Rydym ni wedi siarad am y pwerau sy'n dod i'r Cynulliad hwn, ac, yn eu tro, i Lywodraeth Cymru, a'r oedi o ran y pwerau hynny—mae hynny'n rhywbeth y gwnawn ni anghytuno ynglŷn ag ef. Ond mae'r mater o ffracio wedi dod yn ôl i'r amlwg yn ddiweddar yn sgil rhyddhau papurau Llywodraeth y DU sy'n awgrymu nad yw ffracio, mewn gwirionedd, yn ateb i'n problemau ynni fel y rhagwelwyd. Yn wir, nid yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn disgwyl i ffracio ddatblygu, er ei bod cefnogi ffracio yn swyddogol, mor gyflym â'r disgwyl na llenwi'r bwlch ynni. Mae hynny'n caniatáu i ni ailystyried sut yr ydym ni'n defnyddio ein hadnoddau naturiol, sef gwynt, mewn gwirionedd Darren Millar, ac adnoddau eraill—sut i'w defnyddio yn y modd gorau. Ac rwy'n credu efallai y gall dadl ar ynni a ffracio fod yn gyfle i Aelodau eraill godi eu materion unigol eu hunain hefyd. Ond rwy'n credu ei bod yn amserol ein bod yn edrych yn iawn ar hyn, gan fod nifer o bobl yn gofyn am ailasesiad gwirioneddol. Mae hyd yn oed y rhai hynny sydd efallai'n cefnogi'r dechnoleg yn ailfeddwl ymarferoldeb a chost hyn.

A'r peth olaf yr hoffwn i ofyn amdano yw dadl, os cawn ni — rydym ni wedi sôn am Brexit heddiw, ond rwy'n credu bod angen i ni siarad am Brexit ac am bysgota yn arbennig. Pysgota yw'r un maes lle, fel cefnogwr brwd i'r achos dros aros, y byddwn i'n dweud nad yw'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn iawn bob tro, mae'n rhaid imi ddweud. Felly, rwy'n eithaf bodlon cael dadl ynghylch hynny, ac yn enwedig gan feddwl o'r newydd am beth y gallwn ni ei wneud yng Nghymru gyda fflyd pysgota y glannau a diwydiant pysgod cregyn cryf iawn yma—pysgod cregyn yw 90 y cant o'r pysgod yr ydym yn eu dal  mewn gwirionedd. Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi llunio adroddiad ar bysgota a Brexit. Rwy'n credu y byddai hynny'n sylfaen dda ar gyfer dadl yn y Llywodraeth, yn amser y Llywodraeth, ar bysgota, a'r posibiliadau a'r gallu efallai, mewn ffordd amgylcheddol gadarn, ond hefyd mewn ffordd sy'n cefnogi ein cymunedau morol, i geisio ffyrdd newydd o gefnogi'r diwydiant pysgota ac i weld y diwydiant hwnnw'n datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Rwy'n credu y byddai sawl un o'r Aelodau yn ymddiddori'n frwd mewn dadl o'r fath.

14:35

Wel, diolch i chi am y tri mater pwysig yna. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am y ddadl ynghylch ward 10, ac rwy'n credu iddo dderbyn eich pwynt am beidio â'i cholli yn rhan o'r peth cyffredinol. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth adrodd yn ôl i'r Cynulliad maes o law.

O ran ffracio, rwy'n rhannu asesiad yr Aelod nad yw ffracio yn ateb  i bob problem. Mae'r Llywodraeth hon wedi ei gwneud yn gwbl glir ein bod yn pryderu'n fawr ynghylch cyfeiriad teithio ffracio—ai hynny yw'r ffordd iawn o'i ddweud—mewn mannau eraill yn y DU. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi gweld yr hyn y byddwn i'n ei ystyried yn rhywfaint o synnwyr drwy arwain y polisi ynni i gyfeiriad ychydig yn wahanol. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn ddiweddar ar 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gyffredinol, a gwn y bydd hi'n cyflwyno cyfres o ddiweddariadau i'r Cynulliad hwn pan fydd yr ymgynghoriad ar ben, ac yn y blaen. A byddaf yn gwneud yn siŵr ei bod yn rhoi ystyriaeth i'r materion ynni sy'n rhan hanfodol o'r adolygiad hwnnw, fel yr awgrymodd yr Aelod, gan fy mod i'n credu ei fod yn fater pwysig iawn.

O ran y ddadl ynghylch pysgota a Brexit, nid wyf yn gwybod os yw'n gallu cofio, ond rwy'n meddwl yn ôl at fy nghyfnod, yn y pedwerydd Cynulliad, ar bwyllgor yr amgylchedd—rwy'n credu ei fod ef a minnau ar yr un daith yn edrych ar y diwydiant pysgota. A gwnaed argraff fawr arnaf i, hyd yn oed bryd hynny, cyn i ni hyd yn oed wybod am unrhyw fath o Brexit, o ran pa mor fregus yr oedd fflyd pysgota y glannau, ac mewn gwirionedd pa mor gynaliadwy ydyw a pha mor bwysig ydyw i Gymru ein bod yn ei chynnal. Gwnaed pwynt diddorol iawn ar y radio y bore yma am rai o'r pysgotwyr, a helynt y—y mater o ran cwotâu, ac ati. Felly, unwaith eto, byddaf yn gwneud yn siŵr—mae gennym ni nifer fawr o drefniadau eisoes, Llywydd, ar gyfer adrodd materion Brexit i'r Siambr, felly nid wyf yn credu y bydd cyflwyno un arall yn briodol, ond byddaf yn sicrhau bod pysgota yn destun un o'r adroddiadau yn y dyfodol.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, y cyntaf yw datganiad gan y Llywodraeth ar gyfalaf trafodion ariannol, gan gynnwys rheolau ar gyfer ei wariant ac am ei dalu yn ôl? Ceir dryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch y defnydd o'r arian hwn, a byddai datganiad yn egluro sut y ceir ei ddefnyddio ac, yn bwysicach, lle na cheir ei ddefnyddio, oherwydd ymddengys bod cred gyffredinol ei fod yn union yr un fath â chyfalaf arall ac y gellir ei ddefnyddio i adeiladu ysgolion ac adeiladu ysbytai, pan nad yw hynny'n wir yn bendant.

Yn ail, datganiad gan y Llywodraeth ar gymorth ar gyfer iaith arwyddion Prydain a hybu hyfforddiant i'w defnyddio a chymorth gan y Llywodraeth i gynyddu ei defnydd gan bobl fyddar a phobl nad ydynt yn fyddar—fel y cofiwch, mae'n debyg, roeddech chi a mi, ynghyd â Rebecca Evans mewn cyfarfod â Deffo!, sefydliad yn Abertawe sy'n cynrychioli pobl yn y gymuned fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion, ac fe godwyd nifer o bwyntiau ganddynt am ei gwneud—hi yw trydedd iaith Cymru—yn fwy hygyrch a darparu mwy o gymorth ar ei chyfer a'i thrin fel iaith lawer mwy o ddifrif a phwysig nag a wneir ar hyn o bryd.

14:40

Ie, diolch i chi am y rheina. Mae'n bwynt pwysig iawn, iawn. Ymdriniaf â nhw gan weithio yn ôl, os nad oes ots gan yr Aelod. o ran iaith arwyddion Prydain, roeddem ni mewn cyfarfod pwysig iawn, y tri ohonom, a gwnaed argraff arnaf i gan gryfder y teimlad yno ynghylch y diffyg cyfle a'r gwahaniaethu unionyrchol yr oedd rhai teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad priodol at iaith arwyddion Prydain—er enghraifft, mewn apwyntiadau â'r meddyg ac ati, a dim ond mynediad cyffredinol at addysg hefyd. Felly, byddaf i'n dwyn hynny ymlaen gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym ni ar hyn o bryd yn ystyried cyfres gyfan o faterion yn ymwneud ag addysg i oedolion, er enghraifft, a'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ac ati. Felly, byddaf i'n sicr yn dwyn hynny ymlaen. Ond byddaf i hefyd yn ymrwymo i ddod â datganiad yn ôl yn fy mhortffolio fy hun yn fy swyddogaeth gydraddoldeb, yn dweud, ar draws y Llywodraeth gyfan, beth yr ydym ni'n ei wneud ar gyfer iaith arwyddion Prydain a'r hyn y gallwn ei wneud i'w gwella. Felly, rwyf i'n sicr yn hapus iawn i ddweud y byddaf yn gwneud hynny.

Gofynnodd yr Aelod hefyd gwestiwn pwysig iawn—ac, mae'n rhaid i mi ddweud, technegol iawn—ynghylch trafodion ariannol cyfalaf, y byddwch yn synnu, Llywydd, nad wyf i yn ystyried fy hun yn unrhyw fath o arbenigwr arno. Gwn fod fy nghyd-Aelod yn y Cabinet wedi mynegi ei siom bod ein gwariant cyfalaf wedi'i gyfyngu yn y modd hwn, ond mae Llywodraeth Cymru, mi wn, wedi gwneud defnydd da o'r trafodion ariannol cyfalaf er gwaethaf y cyfyngiadau. Gwn, fodd bynnag, ei fod ef wedi mynegi'n gryf i Lywodraeth y DU nad ydym yn gweld pam y dylem ni gael ein cyfyngu yn y modd hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yn manteisio ar y cyfle i wneud hynny wrth i'r trafodaethau hynny barhau yn y dyfodol.

A gaf i alw am un datganiad, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â dystonia, cyflwr niwrolegol a all effeithio ar unrhyw ran o'r corff? Wrth ymateb i ddatganiad yr Ysgrifennydd dros iechyd yn y fan yma fis Medi diwethaf ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflyrau niwrolegol, nodais fod nifer y bobl sy'n byw â'r cyflwr wedi dyblu yng Nghymru i 5,000 ers i'r cynllun ddechrau yn 2014, ac, er gwaethaf y twf yn y galw, yn enwedig ar gyfer chwistrelliadau Botox, ni fu unrhyw gynllun i wneud triniaeth dystonia yn gynaliadwy yng Nghymru. Ymatebodd yr Ysgrifennydd dros iechyd drwy ddweud ei fod yn cydnabod y pryderon gwirioneddol a'i fod wedi trefnu i gysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Wel, ar y penwythnos, gwelsom ddarllediadau BBC Wales o gleifion dystonia yng Nghaerdydd yn gofidio dros ganslo clinigau Botox, a sylfaenydd Dystonia Cymru, Graham Findlay, yn dweud bod sefyllfa wael iawn yn datblygu oherwydd canslo llu o apwyntiadau.

Gwelsom hefyd BBC Wales yn dangos Ann Pierce-Jones o Wynedd yn dweud mwy neu lai yr un peth am y gogledd. Pan gynrychiolais i hi y llynedd, cododd bryderon gyda mi ynglŷn â gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n dioddef o dystonia ceg y groth, neu pengemi, yn y gogledd a dywedodd ei bod yn amlwg nad yw cleifion, gan gynnwys hi ei hun, yn cael triniaeth reolaidd a safon gofal sy'n eu galluogi i gael ansawdd bywyd gwell o bosibl, a bod y diffyg cymorth a thriniaeth rheolaidd yn effeithio ar ei bywyd mewn modd negyddol—ac afraid dweud poenus—iawn. O gofio bod yr Ysgrifennydd dros iechyd wedi rhoi'r ymateb fis Medi diwethaf, ond bod y pryderon hyn wedi eu codi dros y Sul ar BBC Wales, byddwn i'n fwy na chroesawu—byddwn i'n annog—Llywodraeth Cymru i ymateb i'r pryderon sy'n cael eu mynegi gan bobl â dystonia yn y gogledd a'r de a chyflwyno datganiad yn unol â hynny.

Diolch i chi am godi'r pwynt pwysig iawn yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi y bydd yn ysgrifennu at yr Aelodau, i nodi beth yw ein polisi ar drin dystonia mewn gwirionedd, a bydd yr Aelod, rwy'n siŵr, yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mater wedyn.

Arweinydd y tŷ, hoffwn ddilyn lan ar yr ymateb wnaethoch chi rhoi i mi yr wythnos diwethaf wrth sôn am broblemau diogelwch a llif y drafnidiaeth ar draffordd yr M4 o amgylch Abertawe. Nawr, yn yr wythnos diwethaf yn unig, mae pum damwain arall wedi bod ar y rhan yma o'r M4, gyda phedwar unigolyn yn gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac un yn gorfod cael ei dorri allan o'i gar gan y gwasanaethau brys. Wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ymateb wrth ddweud bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar amrywiaeth o opsiynau a'i fod e'n mynd i ddiweddaru'r Siambr ar y mater. Yn dilyn y damweiniau cynyddol yma, mae'n amlwg bod angen gweithredu yn gynt. Felly, a allwch chi roi cadarnhad o bryd yn union y cawn ni gyfle i ddadlau'r mater yma yn y Siambr? Diolch yn fawr.

14:45

Rwy'n rhannu pryder Dai Lloyd am y rhan honno o'r M4. Rwy'n gyrru yno'n aml iawn fy hun, ac mae'n amlwg bod problemau. Fel y dywedais yn y Siambr pan gododd y mater yr wythnos diwethaf—nid yw'n llai pwysig y tro hwn— byddaf yn gwneud yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn diweddaru'r Siambr. Yn anffodus nid oes gennyf ateb manwl, ond byddaf yn dweud wrtho pa mor argyfyngus yw'r sefyllfa.

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod EMIS, y system glinigol sy'n darparu gofal iechyd integredig ac sy'n cael ei defnyddio gan hanner meddygfeydd Cymru? Mae pobl wedi dweud wrthyf i eu bod yn bryderus na fu unrhyw ymgynghori gyda'r meddygfeydd ac na roddwyd rheswm iddyn nhw dros y penderfyniad hwn, heblaw bod EMIS 'wedi methu â chyrraedd y safonau'. Dyna'r dyfyniad. Bydd gorfodi meddygfeydd i newid eu system glinigol yn tarfu mewn modd pur sylweddol ac yn ychwanegu at y pwysau aruthrol sydd eisoes arnyn nhw yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad ynglŷn â'r mater hwn sy'n rhoi sylw i bryderon meddygfeydd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Diolch ichi am grybwyll hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sylw i hyn sawl gwaith eisoes yn y Siambr. Rwy'n siŵr, os oes gan yr Aelod agweddau penodol iawn yr hoffai eu trafod, gall wneud hynny yn unigol. Rwyf hefyd, gyda fy mhortffolio digidol, wedi cael sgwrs hir gydag ef ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen gyda hyn mewn golwg, ac i ddweud y gwir byddaf yn mynd i gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon am hyn. Ond os oes gennych chi faterion penodol iawn, awgrymaf eich bod yn eu trafod yn unigol.

Roedd dau fater yr oedd arnaf eisiau holi arweinydd y tŷ yn eu cylch. Yn gyntaf oll, unwaith eto yr ymchwiliad cyhoeddus i waed halogedig, ac rwy'n credu bod y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw ac Aelodau eraill o'r gymuned yn croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth San Steffan wedi ymateb mewn difrif i alwadau y Gymdeithas Hemoffilia yng Nghymru ac i ni Aelodau ein bod yn cael ymchwiliad cyhoeddus llawn dan arweiniad uwch farnwr. Felly, mae hynny'n gynnydd mawr, ond, yn amlwg, cymerodd amser hir i wireddu hyn. Ond y cwestiwn nesaf, mewn gwirionedd, yw sut y caiff lleisiau pobl Cymru eu clywed yn ystod proses yr ymchwiliad hwn. Tybed a fyddai modd cael diweddariad ynglŷn ag unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

A'r ail fater yw hwnnw ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol a'r problemau y mae hyn yn mynd i'w achosi i denantiaid yn benodol. Dim ond yn ddiweddar y cefais ar ddeall y bydd y system newydd yn golygu y byddai modd gosod cyfradd talu ôl-ddyledion ar 20 y cant o gyfanswm lwfans personol yr hawlydd, heb unrhyw ymgynghori o gwbl gyda'r tenantiaid. Felly, tybed a fyddai'n bosib gwyntyllu hyn gyda'r Gweinidog dros dai i weld a allwn ni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.

Ynglŷn â'r mater cyntaf, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn croesawu'r cynnydd o ran yr ymchwiliad, a hoffwn i dalu teyrnged i Julie Morgan am ei hymgyrchu diflino yn y cyswllt hwn ar ran ei hetholwyr, ac mae pob un ohonom yn falch iawn bod uwch farnwr wedi ei benodi ac y bydd ymchwiliad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu fy sylw i—. Mae'n fy atgoffa, mewn gwirionedd, am rywbeth y dylwn i ei wybod, sef ei fod yn gwneud datganiad am hyn yr wythnos yr ydym ni'n dychwelyd ar ôl y gwyliau hanner tymor, felly mae hynny ar fin digwydd.

O ran credyd cynhwysol, rwy'n credu bod sawl agwedd frawychus iawn ynghylch cyflwyno'r credyd cynhwysol. Ymwelais â chanolfan byd gwaith yn Abertawe ddydd Gwener diwethaf, ac roeddwn i'n wir wedi dychryn o glywed rhai o'r straeon. Felly, rwy'n credu ei bod yn fater ychydig bach yn ehangach. Rwy'n credu y byddwn yn trafod gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch cynnal dadl ar hynny, oherwydd rwy'n credu bod yna fater ehangach o lawer na'r mater tai yn unig, ond roedd yr Aelod yn iawn i gyfeirio at hynny.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gynllun gwaith polisi treth 2018, gan gynnwys trethi newydd, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

14:50

Llywydd, diolch yn fawr. Mewn ychydig dros fis, fel y bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers cannoedd o flynyddoedd yn dechrau cael eu casglu wrth i’r dreth traddodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu gweithredu. Fodd bynnag, mae datganoli trethi yn golygu mwy na dim ond disodli un system dreth ag un arall. Mae cyfrifoldeb arnom i feddwl yn fwy dyfeisgar am drethi, am sut y mae trethi’n gweithredu, am eu heffaith ar bobl, busnesau a chymunedau, a’r ffordd y maent yn gweithio â'n hamcanion polisi ehangach.

Mae cynllun gwaith polisi trethi 2018, a gyhoeddais heddiw, yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni. Mae’n cynnwys cymysgedd o flaenoriaethau tymor byr a hirdymor yn y meysydd canlynol: cyfraddau trethi, polisi trethi, gwelliannau trethiant lleol, gweinyddu trethi ac ymchwil hirdymor. Fel rhan o gynllun gwaith y llynedd, amlinellais fwriad y Llywodraeth i brofi pwerau Deddf Cymru 2014. Mae’r Ddeddf yn galluogi Cymru i gynnig trethi newydd mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.

Llywydd, cyhoeddais restr fer o bedwar syniad am drethi ym mis Hydref: treth ar dir gwag, treth ar blastig untro, ardoll ar gyfer gofal cymdeithasol, a threth ar dwristiaeth. Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried yr achos dros y pedwar syniad hyn yn fanylach, gan gynnwys eu heffaith ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal pleidlais anffurfiol ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r syniadau hyn ac i gael amcan o gefnogaeth y cyhoedd iddynt. Cyhoeddais ganlyniad y bleidlais yn gynharach heddiw.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai proses syml a gafodd ei hamlinellu yn Neddf Cymru a’i dogfennau cysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i drafod hyn â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a chytuno ar broses i ddatganoli pwerau trethi newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys dau gyfnod penodol. Yn gyntaf, bydd angen i ddau dŷ’r Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol gytuno i ddatganoli’r cymhwysedd, ac, yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r polisi a'r anghenion deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae disgrifiad o’r broses honno wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan yn gynharach heddiw.

Llywydd, rwyf wedi dod i’r casgliad fod gan bob un o’r syniadau ar y rhestr fer rinweddau pwysig. Rwyf o’r farn, wrth brofi system am y tro cyntaf, ei bod yn bwysig symleiddio sefyllfa drwy gynnig un dreth yn unig i ddechrau. Nid yw hynny’n golygu, fodd bynnag, na fydd gwaith yn parhau ar bob syniad ar y rhestr fer. Gadewch i mi fod yn glir hefyd am ystyr hyn i gyd. Mae gan y cynnig am dreth yr wyf yn bwriadu ei ddefnyddio i brofi system Deddf Cymru 2014 y potensial i helpu i gyflawni ein hagenda polisi yma yng Nghymru. Nid yw’n golygu ein bod wedi ymrwymo’n ddi-droi'n-ôl i gyflwyno treth o’r fath. Os caiff y pŵer i gyflwyno treth benodol i Gymru yn unig ei ychwanegu at gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol, yna bydd gwaith polisi manwl a thrafodaethau â rhanddeiliaid yn dilyn. Os caiff deddfwriaeth ei chynnig, bydd yn destun holl drefniadau craffu arferol y Cynulliad.

Dyma edrych ar bob syniad yn ei dro.

Llywydd, rwy'n troi yn gyntaf at y dreth ar blastig tafladwy. Cafwyd cryn ddiddordeb a chefnogaeth i dreth ar blastig tafladwy yng Nghymru, ac mae nifer o Aelodau Cynulliad wedi cyflwyno dadleuon argyhoeddiadol iawn ar gyfer gwneud treth ar blastigion yn brif flaenoriaeth yn yr ymarferiad hwn. Ers cyhoeddi'r rhestr fer wreiddiol, fodd bynnag, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys yng nghyllideb yr hydref y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau casglu tystiolaeth ar sut y bydd yn ymdrin â phroblem plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth. Beth bynnag fo'i rinweddau, mae'r cyhoeddiad hwnnw, rwy'n credu, yn creu rhwystr ar lwybr unrhyw gynnig ar gyfer Cymru yn unig. Mae gormod o risg, rwy'n credu, y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb i gynnig ynglŷn â chael treth blastig ar gyfer Cymru yn unig drwy ddweud na allai ystyried hynny hyd nes y bydd y broses o gasglu tystiolaeth wedi dod i ben.  

Yn fwy cadarnhaol, Llywydd, rwyf wedi llwyddo i drafod y cais am dystiolaeth gyda Gweinidogion Trysorlys y DU ac, o ganlyniad, rydym wedi sicrhau bod Cymru wedi bod yn rhan o'r broses honno. Byddwn yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i'r cais yng Nghymru, er mwyn sicrhau cymaint o ymrwymiad yma ag y bo modd. Byddwn yn cyfrannu at y gwaith o ddadansoddi'r canfyddiadau yn dilyn y cais am dystiolaeth, ac rwyf wedi cytuno i gwrdd ag Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod cynnydd ar yr adeg honno a rhannu safbwyntiau Cymru ynglŷn â datblygu dewisiadau polisi.

Cyfradd ailgylchu Cymru yw'r drydedd orau yn y byd. Rydym ar flaen y gad gyda'r agenda wastraff ac mae gennym lawer i'w gynnig drwy ein galluoedd ymchwil a phrofiad helaeth. Serch hynny, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn yn parhau'n ddewis a bydd yn seiliedig ar ganlyniadau'r astudiaeth estynedig ynglŷn â chyfrifoldeb y cynhyrchydd, y mae Llywodraeth Cymru i fod i adrodd yn ôl arni cyn bo hir.

Rwy'n troi at fater yr ardoll gofal cymdeithasol. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn arwain at gynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol a'r gost am hynny. Mae talu am ofal yn parhau'n her sydd heb ei datrys ledled y Deyrnas Unedig, ac mae trethu yn un ateb posib. Byddwn yn parhau i weithio drwy gydol 2018 i archwilio a ellid defnyddio trethi i ariannu gofal cymdeithasol yn fwy hirdymor yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad economaidd dangosol yr Athro Gerry Holtham o system yswiriant cymdeithasol gwell, y disgwylir iddo fod ar gael inni ym mis Mai. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y bydd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, yn cadeirio grŵp rhyng-weinidogol i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn.

Llywydd, cyn belled ag y mae treth dwristiaeth yn y cwestiwn, mae'r gwaith a wnaed dros y chwe mis diwethaf wedi dangos pa mor amrywiol yw twristiaeth ledled Cymru. Deuthum i'r casgliad na fyddai treth genedlaethol ar dwristiaeth yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwn orau o ran amgylchiadau lleol. Byddwn nawr yn ystyried ffyrdd y gellid rhoi grymoedd caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth dwristiaeth leol. Wrth wneud y gwaith hwnnw, byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r sector twristiaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phobl a mudiadau â buddiant er mwyn gwneud hyn.

Rwy'n troi yn olaf at y dreth ar dir gwag. Rwyf wedi dod i'r casgliad y bydd defnyddio treth ar dir gwag yn fodd o roi prawf ar ba mor effeithiol yw Deddf Cymru 2014. Mae tai yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gallai treth ar dir gwag helpu i gymell datblygiad mwy amserol drwy ei gwneud hi'n ddrutach dal gafael ar dir sydd wedi ei glustnodi fel tir sy'n addas ar gyfer ei ddatblygu.

Mae ardoll safleoedd tir gwag Gweriniaeth Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol o ran sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. Yn unol â'r model hwn, mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio sefydlu cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd. Os yw safle cofrestredig wedi bod yn wag am flwyddyn, mae'r ardoll yn berthnasol a chaiff ei gasglu yn flynyddol gan yr awdurdod cynllunio. Pennir y gyfradd gan Lywodraeth Iwerddon fel canran o werth y safle.

Mae bodolaeth model o'r fath a phwyslais cymharol gyfyngedig y dreth yn golygu mai hwn yw'r syniad mwyaf addas o bedwar sydd ar y rhestr fer i roi prawf ar y peirianwaith newydd. Byddwn bellach yn gwneud cais ffurfiol i geisio trosglwyddo cymhwysedd i'r Cynulliad Cenedlaethol, a byddaf yn ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddechrau ar y broses hon. 

Llywydd, dyma ddechrau'r broses o ddatblygu treth newydd. Os cyflwynir achos llwyddiannus o ran datganoli'r grym i Gymru, byddwn yn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynigion newydd yma yng Nghymru ac yn y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n edrych ymlaen at hysbysu'r Aelodau yn llawn wrth i'r broses yr ydym ni wedi cychwyn arni ddatblygu.

15:00

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw? Rwy'n siŵr y byddech yn disgwyl imi groesawu'r newyddion bod synnwyr cyffredin wedi cario'r dydd a bod cynigion dadleuol iawn Llywodraeth Cymru ynglŷn â threth dwristiaeth genedlaethol, fel y mae wedi'i hailenwi bellach, wedi cael ergyd farwol, ac nid cyn pryd. Oni fuoch chi'n byw ar blaned Mawrth dros yr ychydig fisoedd diwethaf, byddwch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu'r dreth hon ers y cafodd ei chrybwyll gyntaf gan Lywodraeth Cymru fel un o'r posibiliadau. Gwn nad oedd Plaid Cymru yn ei chefnogi, ond nid oeddem ninnau o'r dechrau chwaith. Rydym wedi rhannu pryderon y sector twristiaeth am effeithiau posib treth o'r fath ar fusnesau twristiaeth ledled Cymru a'r rhagdybiaethau y byddai hyn o bosib yn ei greu ynghylch cost gwyliau yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu y rhoddwyd sylw effeithiol i'r pryderon hyn erioed, hyd yn oed ar bwynt yn ystod y broses lle y gallesid fod wedi gwneud hynny.

Nawr, wrth gwrs, roedd amryfusedd yng nglo mân cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, pan gyhoeddwyd y bydd gwaith yn mynd rhagddo, o leiaf mewn egwyddor, ar ddatblygu trethi twristiaeth lleol. Mae hynny'n swnio fel dihangfa o sefyllfa anodd i mi, ond dyna ni, mae angen hynny ar bob un ohonom ni yn achlysurol. Rwy'n sylweddoli mai ystyr hyn yw caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu eu trethi twristiaeth lleol eu hunain. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â ffurf bosib y trethi hyn yn lleol? Oherwydd rwyf i eisoes wedi cael e-byst pryderus gan y sector ynglŷn â'r cwestiynau y mae hyn yn eu codi. Yn benodol, a ydych chi'n rhagweld y bydd canllawiau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol wrth lunio'r trethi hynny? Pa mor drwyadl fyddai'r canllawiau hynny? A fyddai unrhyw fath o uchafswm, er enghraifft, ar y symiau a godir, neu ar y mathau o drethi lleol y gellid eu datblygu?

Mewn egwyddor, rwy'n credu mewn democratiaeth leol, ac rwy'n credu bod rhinwedd mewn datblygu trethi lleol. A fyddai'r arian a godir yn lleol o'r trethi hyn yn cael ei glustnodi ar gyfer twristiaeth yn y sector hwnnw? A fyddai hynny yn gyfan gwbl yn nwylo'r awdurdodau lleol? A fydden nhw'n cael eu hailddosbarthu? A roddwyd unrhyw ystyriaeth hyd yma i sut y byddai hynny'n digwydd? Go brin, rwy'n dychmygu, ond amser a ddengys, felly edrychaf ymlaen at rywfaint o arweiniad. Pa sicrwydd, yn bwysig—[Torri ar draws.] Yn dilyn ail-ymgysylltu, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sector na fydd hyn yn annog twristiaid i beidio â dod i Gymru? Oherwydd yn y pen draw rydym ni i gyd eisiau osgoi hynny yn y lle hwn.

Os caf i gyfeirio'n gryno at 'y dewis un', y dreth ar dir gwag, yn amlwg mae rhai rhinweddau i hyn—rwy'n cytuno â chi ar hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—yn arbennig yn ein nod o ddarparu mwy o dai. Fel y gwyddom ni i gyd mae diffyg hynny ar hyn o bryd yng Nghymru, ac mae unrhyw beth a all liniaru'r broblem honno a symud rhywfaint o'r rhwystrau rhag datblygu tai i'w groesawu. Rydych chi wedi cyfeirio at yr enghraifft o Weriniaeth Iwerddon. Nid wyf yn rhy gyfarwydd â'r sefyllfa yno, ond gwn fod cefnogaeth i hynny. Nid oes gennyf wrthwynebiad i dreth ar dir gwag mewn egwyddor, ond, unwaith eto, mae nifer o gwestiynau heb eu hateb, ac rydym wedi gweld sut mae'r cwestiynau hyn sydd heb eu hateb wedi effeithio ar feysydd eraill drwy gydol y broses hon pan rydych chi'n ystyried rhai o'r trethi eraill sydd bellach wedi'u rhoi o'r neilltu.

Nid  fy mhryderon i yn unig yw'r rhain, ond hefyd rai o bryderon y sector tai—cwestiynau megis faint y bydd y dreth yn ei godi. Amser a ddengys faint y byddai treth ar dir gwag yn ei godi. A sut y byddwch chi'n ymdrin â phryderon Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, er enghraifft, sy'n credu y gallai treth ar dir gwag, os caiff ei ffurfio yn y ffordd anghywir, mewn gwirionedd gosbi cwmnïau adeiladu llai o faint yng Nghymru, er budd y cwmnïau adeiladu mwy o faint? Rwy'n siŵr ein bod ni'n awyddus i osgoi hynny.

A gaf i ddweud yn olaf, gan fynd yn ôl i ddechrau eich datganiad, fy mod i'n ategu'r pryderon yr ydych chi wedi eu mynegi yn y gorffennol ac y mae eraill wedi eu mynegi ynghylch yr holl broses hon? Mae peryg y bydd y broses ddwy-haen o geisio'r caniatâd yn gyntaf gan Lywodraeth y DU ac yna ddatblygu trethi wedyn—mae'n ymddangos braidd fel y system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol fondigrybwyll a oedd gennym ni rai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn anhydrin iawn, yn aneffeithlon ac yn eithaf costus yn y pen draw. Felly, rwy'n cydnabod bod yn rhaid ichi weithio o fewn cyfyngiadau'r system honno, ond rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n gytûn, yn y dyfodol, nad yw, mae'n debyg, yn ddelfrydol.

15:05

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd, yn enwedig tuag at ddiwedd ei gyfraniad. Rwyf yr un mor bryderus ag yntau ein bod yn dylunio'r ffordd y gellir datganoli grymoedd i Gymru ar gyfer y dibenion newydd hyn—ac y gwneir hynny mewn ffordd sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y cyfrifoldebau a weithredir yn briodol gan Lywodraeth y DU ac yna gyfrifoldebau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwy'n gobeithio pan fydd yr Aelodau yn gweld yr amlinelliad a gyhoeddwyd gennym ni heddiw, sy'n egluro sut y bydd hyn yn gweithio, y bydd yr Aelodau yn gweld ein bod wedi llwyddo i ddod i gytundeb gyda'r Trysorlys ac y bydd y Trysorlys yn canolbwyntio ar y materion hynny y credaf sy'n ddilys i Lywodraeth y DU.

Rwy'n credu ei bod hi'n deg eu bod nhw eisiau bod yn argyhoeddedig bod y dreth arfaethedig yn bendant o fewn cymhwysedd datganoledig. Rwy'n credu ei bod hi'n deg bod arnyn nhw eisiau bod yn siŵr nad ydym ni'n cynnig rhywbeth a fyddai'n casglu arian yng Nghymru ond a fyddai'n cael effaith ar gasglu arian y maen nhw'n dibynnu arno yn y DU yn ei chyfanrwydd, er enghraifft. Ond pan drosglwyddir y grym i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyfrifoldeb y Cynulliad hwn wedyn yw craffu ar y defnydd o'r grymoedd hynny. Cyfrifoldeb y Cynulliad hwn yw penderfynu a yw o'r farn bod unrhyw syniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i ddeddfu arnynt yn llwyddo yn y broses graffu, ac mae'r cwestiynau manwl mewn gwirionedd yn perthyn i'r rhan honno o'r broses. Nid oes diben o gwbl i Lywodraeth Cymru ymrwymo cyfran enfawr o amser ac adnoddau i ddylunio cynnig treth mewn manylder hyd nes y gwyddom fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y gallu i gyflwyno'r dreth honno.

O ran y sylwadau a wnaeth yr Aelod ynghylch y cyhoeddiad heddiw, sef datblygu treth ar dir gwag, wrth gwrs nid oes unrhyw un yn dymuno cynllunio treth a ffurfiwyd yn y ffordd anghywir. Mae yna faterion pwysig y byddai angen rhoi sylw iddyn nhw er mwyn gwneud yn siŵr y byddai treth ar dir gwag yn berthnasol i dir gwag pan na wneir unrhyw ymdrech i'w ddefnyddio'n bwrpasol, ac nid, wrth gwrs, i geisio cosbi pobl sy'n gweithio'n galed i weithredu'r caniatâd a roddwyd, neu'r dynodiadau a amlinellwyd, a'u bod yn teimlo'n rhwystredig ei bod hi'n anodd gwneud hynny am resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth weithiau. Rydych chi'n dylunio'r meini prawf ar gyfer sut y caiff tir ei gofrestru fel tir gwag ar y gofrestr i gynnwys y pethau hynny yr ydych eisiau eu cynnwys ac i wneud yn siŵr bod y rhai nad yw'r dreth hon yn berthnasol iddynt yn cael eu heithrio ohoni.

Faint fyddai'r dreth yn ei godi? Mae'n rhy gynnar, wrth gwrs, i roi ateb priodol i'r cwestiwn hwnnw. Yng Ngweriniaeth Iwerddon gosodir treth ar 3 y cant o werth y tir yn y flwyddyn gyntaf, sy'n codi i 7 y cant o werth y tir yn yr ail flwyddyn pan na chaiff ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Mae'r Weriniaeth yn credu y byddai hynny'n ddigon o leiaf i dalu am y system newydd, a byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei neilltuo at ddibenion adfywio.

O ran treth dwristiaeth leol, fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am y mater hwn ar lefel weinidogaethol er mwyn datblygu'r sgwrs. Holl ddiben y dreth dwristiaeth erioed, er gwaethaf y cam-ystumio a fu ar y syniad gan rai Aelodau yn y Siambr hon, yw dod o hyd i ffyrdd gwell o fuddsoddi mewn twristiaeth, fel ein bod yn denu mwy o bobl i fod yn rhan o'r diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Os ydym ni'n bwriadu datblygu'r syniad ar sail rhyddid lleol, byddai hynny yn amlwg ar y sail y cai arian a godir yn y ffordd honno ei ddefnyddio i ymateb i'r gofynion priodol gan dwristiaid am gyfleusterau priodol a gwasanaethau ar lawr gwlad, ac i wneud y gwasanaethau hynny hyd yn oed yn well fel bod pobl sy'n dod i Gymru eisiau ymweld droeon eto yn y dyfodol.

Os caf i groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw gan ddweud fy mod i'n siomedig braidd, wrth gwrs, nad yw e wedi dewis y dreth plastig untro, ond rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn mynd i ddefnyddio'r broses newydd yma i arbrofi gyda threth newydd—cawn ni ei alw fe'n 'taxco', efallai, i gyd-fynd â'r LCO. Ond rydym ni, yn fan hyn, yn cefnogi'r ffaith bod y broses yma yn mynd i gael ei phrofi. Fel mae e yn ei ddatganiad wedi dweud, nid ydym ni'n mynd i ymrwymo yn ddi-droi'n-ôl at y dreth tir gwag yma. Rydym ni eisiau gweld sut fydd yn cael ei datblygu a beth yn union fydd pwrpas a defnydd y dreth a rhychwant ac ystod y dreth yma yng Nghymru. Ond, rydym ni'n sicr yn cefnogi’r egwyddor o ddefnyddio'r broses yma o lunio trethi newydd.

Un cwestiwn yn benodol ar y dreth tir gwag sydd yn bosibl i'w ofyn nawr yw: i bwy y bydd y dreth yn gymwys? Mae'r datganiad yn sôn am ddatblygwyr tir, pobl sy'n dal—gallwch chi feddwl am archfarchnadoedd sydd yn enwog am eistedd ar dir am gyfnodau hir iawn. Ond, y ffaith amdani yw bod lot o dir yng Nghymru yn cael ei berchen gan y sector cyhoeddus, gan y Llywodraeth ei hunan, a gan awdurdodau lleol, a'r sector cyhoeddus yn yr ystyr ehangach, megis prifysgolion, megis colegau, megis cymdeithasau tai, sydd yn dal yn y sector cyhoeddus oni bai ein bod ni'n pasio'r Ddeddf sydd yn cael ei thrafod yn nes ymlaen heddiw. Felly, rwyf eisiau deall: a yw'n gwestiwn y bydd treth o'r fath hefyd yn mynd i fod yn trethu'r sector cyhoeddus am eu bod nhw'n eistedd ar dir gwag? Achos mae braidd yn od i Lywodraeth drethu rhan arall o'r Llywodraeth, fel petai. Nid wyf yn siŵr beth fydd pwrpas hynny. Mae gan y Llywodraeth arfau polisi eraill i fynd i'r afael â'r broblem, yn hytrach na threthu. Dyna'r cwestiwn sydd gyda fi ar hyn o bryd.

Os gwnaf droi at y datganiad yn ehangach, ac os caf i hefyd ddweud bod y datganiad ar lafar heddiw wrth gwrs yn cyd-fynd â datganiad ysgrifenedig a datganiad hirfaith o ddatganiad polisi treth ar gyfer 2018 y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gosod allan, sy'n llawer rhy hir i gael trafodaeth heddiw amdano, ond mae yna gwpwl o bethau sy'n deillio o hynny y liciwn i ofyn heddiw yn ogystal. Yn y polisi treth rydych chi wedi datgan heddiw, un o'r pethau rydych chi'n dweud yw mai amcanion eich polisi chi yw defnyddio trethi er mwyn dylanwadu ar ymddygiad—nid yn unig i godi arian ond i ddylanwadu ar ymddygiad. Yn y cyd destun hwnnw, roedd y dreth ar blastig untro yn edrych yn ddeniadol iawn. Rwy'n deall beth rydych chi'n dweud ynglŷn â datblygiadau ar lefel y Deyrnas Gyfunol, ond a fedrwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni nawr am yr ymwneud fydd gyda chi gyda Llywodraeth San Steffan ar ddatblygu treth plastig untro? Rydych chi'n sôn am fod yn rhan o gasglu tystiolaeth, ond a ydych chi hefyd am fod yn rhan o ffurfio polisi, dylanwadu ar y polisi, a gwneud yn siŵr, os bydd yna dreth plastig untro, drwy'r dulliau hynny, eu bod nhw'n gymwys ar gyfer hynny?

Un o'r cwestiynau sydd wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Cynulliad yma wrth inni drafod y syniad yw bod rhaid iddo gyd-fynd â'r ailgylchu uchel sydd gyda ni yng Nghymru, ac mae ailgylchu o fath wahanol mewn rhannau eraill o Brydain. Nid yw pob treth yn mynd i fod yn addas i ni o dro i dro. Un o'r pethau amlwg, felly, os daw treth blastig drwy ddulliau San Steffan, yw y dylai fod rhyw fath o ddylanwad neu rhyw fath o hawl gan y Llywodraeth fan hyn ar lefel y dreth honno. Fel arall, nid oes modd i chi gymhwyso'r dreth ar gyfer y sefyllfa sydd gyda ni yma. 

Dau gwestiwn i gloi sy'n codi o'r cyd-destun ehangach rŷch chi wedi cyhoeddi heddiw. Yn y polisi treth rŷch chi'n sôn am drethi lleol a'r egwyddor o sut mae'r rhain yn cydweithio gyda'i gilydd. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, eich bod chi'n adolygu trethi busnes, ac rydym ni'n wynebu treth cyngor gyda rhai codiadau uchel iawn o bosib eleni. Mae gyda chi arian craidd o'r Llywodraeth ganolog sy'n mynd i awdurdodau lleol sydd hefyd yn lleihau. Yn Lloegr, mae'n glir erbyn hyn ei bod yn fwriad gan Lywodraeth Lloegr i dorri nôl yn sylweddol ar yr arian sy'n dod o ffynonellau canolog ac i felly annog trethi cyngor a threth busnes i gynyddu er mwyn gwneud i fyny am hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw ddatganiad o fwriad na pholisi gan Lywodraeth bresennol Cymru ynglŷn â'r materion yna. A fedrwch chi roi rhyw fath o syniad i ni o ble rydych chi'n gweld trethi lleol yn mynd dros y blynyddoedd nesaf?

Ac yn olaf, rydym ni'n gweld datganoli treth incwm ar y gorwel. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol nad yw'n bolisi'r Llywodraeth yma i newid treth incwm yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. A fedrwch chi ailgadarnhau wrth y Cynulliad heddiw mai dyna sy'n aros fel eich polisi chi?

15:10

Diolch yn fawr, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. Diolch am beth ddywedodd e am gefnogaeth Plaid Cymru i brofi'r system newydd sydd gyda ni, ac i gadw llygad ar y dreth tir gwag a sut rydym ni'n defnyddio honno i brofi y system newydd. Ar yr un cwestiwn roedd Simon Thomas yn codi ar y dreth honno, yn Iwerddon, mae'r dreth yn mynd i bob person a phob awdurdod sy'n gyfrifol am y tir gwag—y tir gwag sydd yn nwylo'r Llywodraeth ei hunan ac awdurdodau lleol ac unrhyw beth arall yn y sector cyhoeddus, achos beth maen nhw'n ddweud yw, os nad yw'r awdurdod lleol, er enghraifft, yn gwneud y gwaith i ddefnyddio'r tir, lle maen nhw wedi cael y permissions ac yn y blaen i ddatblygu'r tir, wel, maen nhw yn yr un sefyllfa ag unrhyw berson arall. Nawr, rwy'n mynd i Iwerddon, gobeithio, yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd cyfle i fi gwrdd gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y dreth yna unwaith eto a mynd yn fwy manwl gyda nhw ar y pethau, fel y pethau yn y cwestiwn y mae Simon Thomas wedi'i godi y prynhawn yma. 

A throi at y cwestiynau ar y datganiad ysgrifenedig, wrth gwrs, mae lot o'r trethi rydym yn siarad amdanynt yn mynd i gael effaith ar ymddygiad yn fwy na chodi arian. Mae hynny'n wir am dreth ar dir gwag. Beth maen nhw'n ei ddweud yn Iwerddon yw nad ydyn nhw'n disgwyl codi lot o arian, ond maen nhw eisiau newid ymddygiad pobl sy'n jest sefyll ar dir a ddim yn defnyddio y tir am bwrpasau pwysig yn yr Iwerddon.    

Faint o ran fydd gennym ni yng ngwaith Llywodraeth y DU o ran y cais am dystiolaeth? Wel, roeddwn yn falch iawn o gael sgwrs faith gydag Ysgrifennydd y Trysorlys. Rwy'n credu ein bod ni wedi sicrhau llais i Gymru yn y cais am dystiolaeth ac y byddwn ni'n gallu dylanwadu ar hynny yma yng Nghymru i wneud yn siŵr y rhoddir ystyriaeth ddyledus i farn Cymru yn y broses honno, a lle mae materion Cymreig yn y fantol byddwn yn gallu tynnu sylw at y rheini yn rhan o'r dadansoddiad. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Trysorlys yn y rhan honno o'r broses cyn y dywedir unrhyw beth yn gyhoeddus.

Felly, mae hynny i gyd rwy'n credu yn rheswm dros fod yn gadarnhaol. A yw hynny'n golygu fy mod i'n teimlo y gallwn ni fforddio'n syml i ddibynnu'n llwyr ar yr hyn y bydd ymarferiad y DU o bosib yn esgor arno? Nid wyf yn credu y gallwn ni. Rwyf yn credu bod angen inni barhau i lunio ein syniadau ein hunain. Ac os nad yw'r hyn a ddeilliodd o ymarferiad y DU yn cyd-fynd ag anghenion ac amgylchiadau Cymru yn y ffordd y crybwyllodd Simon Thomas, heb ystyried y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru, ac y byddai'n dal yn well pe baem yn cyflwyno ein treth plastig untro ein hunain, byddem mewn sefyllfa i wneud cais am y pŵer hwnnw. Os gallwn ni wneud hynny ar sail y DU, yna rwy'n credu fy mod i wedi fy argyhoeddi y gallai'r dreth fod yn fwy effeithiol ac y gallai wneud mwy byth i geisio gwireddu'r dyheadau sydd gan bobl sydd o blaid y dreth hon ar ei chyfer, ond byddai'n rhaid inni fod yn hyderus y caiff hynny ei wneud yn y ffordd honno.

Mae Simon Thomas yn llygad ei le yn dweud bod gan Lywodraeth y DU, cyn belled ag y mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn y cwestiwn, bolisi clir a manwl o ddiddymu'n llwyr yr arian a gaiff awdurdodau lleol gan y Llywodraeth ganolog, a chaniatáu iddyn nhw godi'r holl arian y maen nhw'n ei ddefnyddio drwy drethiant lleol, gan gynnwys trethi busnes. Mae'n llanast ofnadwy, y polisi hwnnw, oherwydd maen nhw'n darganfod, wrth gwrs, bod y lleoedd hynny sydd â'r angen mwyaf yn codi'r lleiaf o drethi lleol. Bu'n rhaid iddyn nhw ddatblygu pob math o ffyrdd cymhleth o geisio unioni'r system i'r perwyl hwnnw. Nid oes gennym ni unrhyw fwriad i wneud hynny yma yng Nghymru. Mae gennym ni system gyfun ar gyfer ardrethi busnes. Mae deunaw o awdurdodau lleol yng Nghymru yn elwa ohono, mae pedwar yn cyfrannu at y Gronfa, ond mae hynny'n iawn os oes ddiddordeb gennych mewn paru gwariant â'r angen, yn hytrach na rhyw uchelgais eraill.

15:15

Rwyf yn y sefyllfa braf o allu rhoi croeso gwresog i ddatganiad yr Ysgrifennydd cyllid heddiw, ac rwy'n canmol ei ymdriniaeth bwyllog a gofalus o'r maes polisi pwysig hwn. Mae wedi dewis yr hyn y credaf o bosib yw'r lleiaf niweidiol o'r dewisiadau yr oedd yn eu cyflwyno i ni, ac rwy'n croesawu llawer o fanylion y datganiad.

Rwy'n falch fod gwaith yn mynd rhagddo ar ardoll gofal cymdeithasol. Rydym wedi cyfeirio at hyn yn y Siambr o'r blaen. Mae'n rhaid inni wynebu'r problemau cyllid tymor hir yn y maes hwn; byddai'n sicr yn anghyfrifol i bob un ohonom ni yn y lle hwn i beidio â chydnabod bod angen inni godi symiau mawr o arian yn y dyfodol i alluogi pobl i fyw bywyd urddasol mewn henaint a llesgedd. Rwy'n falch iawn, iawn, felly, o weld Huw Irranca-Davies yn cael ei benodi i gadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol ar y pwnc hwn. Rwyf bob amser wedi ei ystyried yn rhywun teg ei farn a deallus, os nad yw'n cymryd hynny'n sarhad—[Chwerthin.] Mae'n fater dyrys y bydd angen llawer iawn o waith penodedig arno, ac rwy'n credu bod y penodiad cywir wedi'i wneud.

Yn naturiol, rwy'n falch y cefnwyd ar y syniad o dreth dwristiaeth genedlaethol. Nid wyf yn gwrthwynebu rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol, os ydyn nhw'n awyddus i gyflwyno rhyw fath o ardoll. Rwy'n credu y byddent yn ffôl i wneud hynny, ond fel rhywun sy'n credu mewn datganoli y tu hwnt i'r Cynulliad, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth nad yw o reidrwydd yn beth drwg ynddo'i hun. Rwy'n llawn ddeall ac yn cefnogi'r rhesymau dros beidio â pharhau ar hyn o bryd gyda gwaith ar dreth plastig tafladwy. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol gywir yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy'n sylwi, o ran y dreth ar dir gwag, nad yw'r Llywodraeth yn ymrwymedig mewn gwirionedd i'w chyflwyno os, maes o law, nad yw'n barnu mai doeth fyddai gwneud hynny. Felly, ar un ystyr, ymddengys mai ymarferiad academaidd braidd yw'r hyn yr ydym ni'n yn rhan ohono. Ond rwyf yn cytuno bod angen inni roi prawf ar y pwerau yn Neddf Cymru a deall sut mae'r gweithdrefnau'n gweithio a nodi unrhyw ddiffygion a gwendidau posib ynddi. 

O ran treth ar dir gwag, rwy'n credu bod anawsterau sylweddol yn hyn o beth. Yn ôl a ddeallaf, yng Ngweriniaeth Iwerddon, amcangyfrifwyd bod y swm a godir gan eu hardoll dim ond yn ddigon i dalu costau casglu, sydd, mae'n debyg, yr hyn sy'n cyfateb mewn treth i balu tyllau dim ond i'w llenwi eto. Wrth gwrs, os mai diben y dreth yw newid ymddygiad yna gallaf ddeall y symbyliad y tu ôl i hynny, ond mae problemau. Sut ydych chi'n gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng tir wedi ei neilltuo am ba reswm bynnag—cyfeiriodd Simon Thomas at archfarchnadoedd yn neilltuo tir am gyfnodau hir o amser —? Sut mae gwahaniaethu rhwng banciau tir o'r math hwnnw ar y naill law a thir nad yw wedi ei ddatblygu am resymau y tu hwnt i reolaeth y datblygwr? Bydd hyn yn bwysig, yn arbennig pan rydych mewn cyfnod o gyni economaidd. Bryd hynny, yn aml mae prosiectau a oedd yn ymddangos yn fasnachol bosib ar yr adeg y prynwyd y tir yn mynd yn anhyfyw ac nid oes dewis arall ond aros nes bod modd datblygu. Rwy'n meddwl am brosiectau mawr fel Cylchffordd Cymru, er enghraifft, lle byddai symiau mawr o dir i bob pwrpas wedi eu troi'n anghyfannedd gan amheuaeth ac oedi oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y datblygwyr arfaethedig yno. Gallai gael effaith andwyol sylweddol iawn ar gwmnïau adeiladu yn yr amgylchiadau hynny.

Ac mae'r hyn sy'n gyfystyr â dechrau datblygu yn bwynt diddorol arall. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfreithiwr cynllunio y gallai gwneud dim amgenach na phalu rhaw yn y pridd fod yn gyfystyr â datblygu, neu gallai hyd yn oed dim ond nodi clwt o dir drwy godi ffens o'i amgylch fod yn gyfystyr â dechrau datblygu at ddibenion cynllunio. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd, gan fod gennym ni dir sy'n ffinio â Lloegr, os nad oes unrhyw dreth ar dir gwag yn Lloegr, y gall adeiladwyr tai fod yn llai tebygol o fuddsoddi mewn datblygiadau tai yng Nghymru nag yn Lloegr. Fel y dywed Andrew Whitaker o Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai:

Gydag adeiladwyr tai cenedlaethol yn amlwg mae gennych chi gystadleuaeth rhwng buddsoddi eich arian yng Nghymru a buddsoddi eich arian yn Lloegr.

A dyna un o'r pryderon sydd ganddyn nhw.  

Mae John McCartney, y cyfarwyddwr gwaith ymchwil ar gyfer Savills yn Iwerddon, wedi dweud mai canlyniad yr ardoll sydd wedi'i gyflwyno yn Iwerddon yw

na fydd unrhyw ddatblygwr bellach yn bancio tir pan fo'r farchnad yn wan. Mae hyn yn golygu pan ddaw adferiad, y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn paratoi'r safleoedd yn hytrach nag adeiladu tai y gallent ac y dylent fod yn ei wneud.

Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad oes canlyniadau anfwriadol. Rwy'n falch bod Simon Thomas wedi holi am dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth, boed hynny'n Llywodraeth Leol neu'n Llywodraeth Genedlaethol, oherwydd mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen ar ardaloedd helaeth o dir y gellid ei ddatblygu mewn modd defnyddiol, a bu hynny'n sgandal mawr, rwy'n credu, ers blynyddoedd maith, maith. Mae unrhyw beth a allai helpu i ryddhau tir o'r sector cyhoeddus nad yw'n mynd i gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben ymarferol yn beth da yn fy marn i.

Mae llawer o'r problemau o ran eiddo gwag, wrth gwrs, yn berthnasol i dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes—adeiladau gweigion, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, y caniateir iddyn nhw ddirywio ac sy'n boendod i'r rheini sy'n gymdogion gan eu bod yn hyll ac yn broblem i awdurdodau lleol sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a grëir gan y pethau hyn.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn troedio'n ofalus gyda'r pwyll canmoladwy y mae wedi ei ddangos gyda'r datganiad hwn. Ond rwy'n falch iawn, fel y dywedais ar ddechrau fy ymateb i'r datganiad heddiw, o allu croesawu'r hyn rwy'n credu sy'n gyfraniad meddylgar at ddadl bwysig.

15:25

Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Mae ef a minnau wedi cytuno o'r blaen yn y Siambr fod talu am ofal cymdeithasol yn un o'r materion hynny y mae Llywodraethau olynol wedi methu mynd i'r afael â nhw, ac i lunio polisi llwyddiannus yn ganlyniad. Bydd llawer ohonom yn cofio ein cyd-Aelod, Gwenda Thomas, yn llunio papur gwyrdd ar dalu am ofal cymdeithasol bron ddegawd yn ôl yma yn y Cynulliad hwn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am gytuno y bydd Huw Irranca-Davies yn cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol hwn i wneud yn siŵr ein bod yn cydlynu ein holl ddadleuon. Ond bydd gan y grŵp hefyd berthynas bwysig â Llywodraeth y DU, oherwydd un o'r pethau heriol ynglŷn â deddfu ynghylch gofal cymdeithasol yng Nghymru yw bod y cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd yn uniongyrchol â rhai'r Trysorlys, rhai'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a rhai yn yr adran Gwaith a Phensiynau. Ac er mwyn dylunio treth lwyddiannus i Gymru yn y maes hwn byddai angen bod yn sicr y llwyddwyd i ddatrys yr agweddau pwysig iawn hynny sy'n gorgyffwrdd. 

Rwy'n cydnabod y sylw a wnaeth yr Aelod am ei gefnogaeth i roi pwerau caniataol i awdurdodau lleol. Roedd yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith imi wneud ymdrech arbennig yn fy natganiad i egluro bod a wnelo hyn â cheisio cael grymoedd i Gymru. Nid yw hyn yn warant, pe bai'r pwerau hynny yn dod yma a phetaem ni'n gwneud y gwaith manwl ac yn cynnal yr amrywiol ymgynghoriadau, y byddem yn dod i gasgliad ynghylch yr hyn a wnaem ni wedyn, yn wyneb yr wybodaeth helaethach honno. Roedd nifer o'r cwestiynau a holodd yr Aelod yn union y mathau o bethau y byddech yn dymuno eu harchwilio'n briodol yn y cyfnod hwnnw i wneud yn siŵr bod y canlyniadau anfwriadol wedi cael sylw pwrpasol.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon, maen nhw'n credu bod ganddyn nhw atebion ymarferol i lawer o'r pwyntiau a godwyd. Ond byddai'n rhaid inni fod yn ffyddiog ein bod wedi ystyried y materion hynny yng nghyd-destun Cymru ac wedi dod i'n casgliadau ein hunain.

A gaf i gloi drwy gyfeirio at sylw a wnaeth Neil Hamilton tuag at y diwedd? Mae'r ddadl ynghylch treth ar dir gwag yn tueddu i ganolbwyntio ar faterion tai. Ond yn y Weriniaeth, roedden nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthyf eu bod yn ei ystyried yn fodd i ymdrin â dadfeiliad trefol cymaint ag y maen nhw'n ei ystyried yn offeryn ar gyfer datblygu tir ar gyfer tai. Ac mewn rhannau o ardaloedd trefol lle prynir tai ond ni wneir dim â nhw, lle mae gennych chi effaith negyddol ar ardal gyfan sy'n llyffethair i'w hadfywio, maen nhw'n ystyried hyn yn offeryn—offeryn grymus—sydd ganddyn nhw er mwyn ceisio ymyrryd yn yr amgylchiadau hynny. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud unwaith eto bod tai yn bolisi targed pwysig iawn ar gyfer treth ar dir gwag, ond mae adfywio a mynd i'r afael â dadfeiliad yn ddibenion yr un mor bwysig. 

Mae trethiant yn bodoli er mwyn codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a newid ymddygiad—y ddau os oes modd. Dim trethiant: dim gwasanaethau cyhoeddus. Mae dwy dreth wedi eu datganoli ar hyn o bryd ac i'w casglu yn fuan. Mae treth trafodiadau tir yn bodoli er mwyn codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac, o ran y ffordd y mae wedi ei weithredu, i roi mwy o gostau ar y rheini sy'n gallu ei fforddio fwyaf. Mae hynny yn rhywbeth yr wyf yn ei gymeradwyo. Mae treth gwarediadau tirlenwi yn dreth ymddygiad—hebddi, ni fyddai unrhyw fudd ariannol mewn ailgylchu, ac mae wedi bod yn hynod o effeithiol yn ei nod o gynyddu ailgylchu, sydd wedi gwthio Cymru i fyny i'r drydedd safle orau ledled y byd.

O ran y trethi sy'n cael eu hystyried, y dreth dwristiaeth, mae pris ystafelloedd gwesty ac aros mewn meysydd carafanau yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn. Sylweddolais imi dalu treth dwristiaeth ar fy ystafell pan oeddwn ar wyliau y llynedd—nid cyn i mi fynd ar fy ngwyliau, ond pan edrychais ar y gwledydd a'r dinasoedd sy'n codi'r dreth honno, ac am y tro cyntaf roeddwn yn gwybod fy mod wedi ei thalu mewn gwirionedd.

O ran y dreth ar blastig tafladwy, sy'n rhywbeth rwy'n credu y mae'n rhaid ei gyflwyno, nid yw o bwys i mi a wneir hynny gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen hynny arnom ni. Yn wir, pan rwy'n dweud 'angen', rwy'n credu bod ar y byd ei angen er mwyn ceisio atal gwaredu'r holl blastig hwn sy'n achosi problemau enfawr ledled Prydain, ond mewn gwirionedd ledled y byd. Ymddengys fod yr hen syniad y gallwch chi daflu pethau yn y môr ac y byddan nhw, drwy ryw hud a lledrith, yn diflannu, yn dal yn bodoli o ran y safbwyntiau sydd gan bobl ynglŷn â phlastig. Felly, os na fydd Llywodraeth San Steffan yn llunio unrhyw beth sy'n dderbyniol, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo ei hun i gyflwyno rhywbeth yma, fel y gallwn ni symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu bod cefnogaeth i hyn ym mhob rhan o'r Siambr er mwyn ymdrin â'r hyn sy'n broblem enfawr?

Mae treth ar dir gwag yn ddiddorol. Mae dau beth y gellir ei ddweud am dir: does dim modd ei symud a dydyn nhw ddim yn gwneud mwy ohono. Rwy'n credu mai dyna'r pethau pwysig. Ni all pobl benderfynu ei godi a mynd ag ef i Loegr, oni bai eu bod yn symud y ffin, felly mae'n bwysig. Mae ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn enghraifft o sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. Gyda'r model hwn, mae awdurdodau cynllunio yn llunio cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd. Pan fydd safle ar y gofrestr wedi bod yn wag am flwyddyn, mae'r ardoll yn berthnasol a chaiff ei chasglu'n flynyddol gan yr awdurdod cynllunio. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd dwy fantais i hyn? Un: mae'n atal bancio tir, sy'n aml yn rhwystro datblygwyr eraill—pobl yn prynu tir er mwyn atal datblygwyr eraill rhag gallu ei ddatblygu; a bydd hefyd yn atal y duedd sydd gan bobl o geisio cael pethau mewn cynllun datblygu lleol yn y gobaith ymhen peth amser yn y dyfodol y byddant yn gallu ei ddatblygu. Ar ôl iddyn nhw ei roi yn y math hwnnw o fanc tir, bydd yn rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd ddechrau rhoi rhywfaint o ystyriaeth i—os gallaf ddefnyddio term o'r byd rygbi, 'defnyddiwch ef neu fe gollwch ef'— ac os nad ydyn nhw'n dechrau datblygu, mae'n mynd i ddechrau costio llawer iawn o arian iddyn nhw yn gyflym iawn, iawn.

15:30

Wel, Llywydd, hoffwn i ddiolch i Mike Hedges, am ei gefnogaeth gyson a chryf i'r dull gweithredu yr ydym ni wedi ei fabwysiadu ar gyfer y ddwy dreth a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, ond hefyd am yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma. Mae trethi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd. Rydym ni'n gwybod bod diddordeb cynyddol ynddynt dros y ffin, yn Birmingham ac yng Nghaerfaddon, a'r hyn yr wyf i wedi'i ddweud y prynhawn yma—fel yr wyf wedi ceisio'i ddweud yn eglur—yw nad  ydym ni'n troi ein cefn ar y syniad hwn, yn hytrach, rydym ni'n ceisio bwrw ymlaen ag ef yn y ffordd fwyaf addas i Gymru.

Mae gen i deimlad bod yr Aelod yn iawn bod treth plastigau ar y gorwel. Cafodd 125 miliwn o gwpanau untro eu taflu yng Nghymru y llynedd. Un cant a phum miliwn ar hugain ohonyn nhw yng Nghymru yn unig. Mae hon yn broblem y mae taer angen i lywodraethau fynd i'r afael â hi, ac mae'r cyhoedd, fel erioed, ar y blaen inni yn hyn o beth. Maen nhw'n disgwyl i gamau gael eu cymryd. Os na fydd camau yn cael eu cymryd ar lefel y DU yn y ffordd yr ydym ni'n gobeithio, ac mewn rhai ffyrdd y byddai'n well gennym ni ei weld, yna yn sicr byddwn i'n dychwelyd i'r syniad yma yng Nghymru, a byddwn ni'n gwneud y gwaith yn y cyfamser a fydd yn caniatáu inni wneud hynny. Rwy'n credu y bydd rhoi prawf ar y system gyda threth ar dir gwag yn ei gwneud yn haws i allu mynd ar ôl y trywydd hwnnw gyda syniadau eraill, syniadau mwy arwyddocaol weithiau, yn y dyfodol.

O ran y dreth ar dir gwag, mae yn llygad ei le. Rwy'n credu mai Mark Twain a atebodd rywun a oedd wedi gofyn iddo am gyngor ar le y gallai fuddsoddi ei arian, gan ddweud, 'Pryna dir, dydyn nhw ddim yn ei gynhyrchu mwyach.' Ac mae hwn yn faes lle mae angen i ni wneud mwy er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnodd sydd gennym ni. Mae bancio tir yn digwydd er mwyn atal rhywun arall rhag gwneud defnydd da a cynhyrchiol o'r tir hwnnw. Ac mae yna bobl sydd, mewn ffordd hapfasnachol, yn ceisio ac yn cael caniatâd i ddefnyddio tir at ddibenion penodol. Mae'r ymdrech a wnaed gan y cyhoedd, o ran rhoi'r caniatâd hynny, yn caniatáu i werth y tir hwnnw godi. Nid yw'r bobl sy'n eistedd arno wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl eu hunain, i beri hynny i ddigwydd, ac maent yn gobeithio y byddant yn gwneud elw gan gymryd yr holl fuddion ohono ar ôl i'r cyhoedd ysgwyddo'r holl gostau. Ac mae treth ar dir gwag yn un ffordd bosibl o wneud y posibilrwydd hwnnw yn llai deniadol.

15:35

Mae ein hamser ni bron ar ben ar y datganiad hwn, ond rwyf eisiau galw ychydig o siaradwyr eraill, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod angen cwestiynau cryno nawr. Mark Reckless.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd dros gyllid bod bendant angen i ni edrych yn fanylach ar y dreth dir gwag hon. Mae'n dweud y byddai'r dreth dir gwag yn gymwys i dir sydd eisoes wedi'i nodi fel tir sy'n addas i'w ddatblygu. Ai goblygiadau hynny felly yw ei fod yn dir sydd wedi ei nodi yn y CDLl, ac os felly, a yw'n briodol mewn gwirionedd, o ran y rhagolwg 15, 20 mlynedd sydd gan hynny, i gyflwyno treth lle byddwch yn talu 7 y cant yn yr ail flwyddyn os nad ydych chi wedi mynd ati i'w ddatblygu? Rwy'n tybio nad ydym ni eisiau i'r holl dir yn y CDLl gael ei ddatblygu ar unwaith. Neu a yw hyn wedi'i seilio ar ganiatâd cynllunio? Os felly, mae yna risg sylweddol y byddai pobl yn oedi cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, onid oes? A bydd nifer y ceisiadau am ganiatâd cynllunio sy'n dod drwodd yn gostwng oherwydd yr ofn y byddai'r dreth hon yn dod i mewn? Mae'n dweud bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sefydlu cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd nhw. A yw hynny wedyn yn awgrymu ein bod yn sôn am rywbeth gwahanol i leoedd yn y CDLl neu leoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio? A sut ar y ddaear y mae'n mynd i gysoni'r tri chysyniad hyn?

Soniodd, wrth ymateb i Simon Thomas, ei fod eisiau i hwn fod yn gymwys i dir y sector cyhoeddus, a bod hynny'n bwysig. Os yw'r awdurdod lleol yn gyfrifol am lunio cofrestr tir gwag, pam y byddai'n disgwyl i'r awdurdod lleol hwnnw nodi ei dir ei hun fel y gall talu llawer o drethi ychwanegol iddo ef, a helpu Llywodraeth Cymru? Hefyd rydym ni'n sôn o bosibl am tua bron—. Mae'n ddrwg gennyf, fe adawaf y pwynt hwnnw, er mwyn bod ychydig yn gyflymach. Ond sut y byddwch yn pennu'r gwerth? Ai dyma'r gwerth gyda chaniatâd cynllunio? Ai dyma'r gwerth pan fo'r dreth yn gymwys ai peidio? Yn ôl pob tebyg, mae gorfod talu'r dreth hon yn mynd i leihau gwerth y tir ar gyfer y sawl sy'n berchen arno. Ac a oes yna hefyd berygl, ar y cyd â'i daerineb i ddatblygwyr dalu 6 y cant yn hytrach na'r 5 y cant sydd yn Lloegr pan fyddant yn datblygu, dyweder, tir, gan gynnwys y rhan fwyaf o swyddfeydd dros £1 miliwn, os bydd ef wedyn yn ychwanegu at hynny y dreth ychwanegol hon ar dir gwag, onid oes risg y bydd datblygwyr, yn arbennig y rhai hynny o Loegr, yn edrych dros y ffin ar Gymru dan Lywodraeth Lafur a gweld dim ond trethi yn codi, mwy o drethi newydd yn dod i mewn, ac yn penderfynu peidio â buddsoddi yma o gwbl?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, mae bron pob cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi yn briodol, ond roedd yn iawn yn y dechrau eu bod yn briodol ar gyfer pwynt yn y broses pan fydd y pŵer ar gael i ni yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac nid ar adeg pan na allem ni wneud unrhyw beth yn y maes hwn, pa un a allem ateb y cwestiynau hynny i gyd ai peidio. Rwy'n gwneud tri phwynt mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd yr Aelod.

Yn gyntaf oll, rwy'n rhannu pryderon Canghellor y Trysorlys, a gododd yn ystod ei araith ar y gyllideb, pan gyfeiriodd at y miloedd o geisiadau datblygu tai sydd wedi eu caniatáu yn Llundain, ond heb eu defnyddio. A dyna pam y mae wedi gofyn i Syr Oliver Letwin lunio adroddiad ar y mater hwnnw, a byddwn ni'n edrych yn ofalus ar yr hyn y bydd gan yr adroddiad i'w ddweud.

Yn ail, gofynnodd pam y dylai awdurdod lleol roi ei dir gwag ei hun ar gofrestr os yw'n mynd i gael ei drethu arno. Un o'r pethau a ddywedwyd wrthyf yng Ngweriniaeth Iwerddon, Dirprwy Lywydd, oedd pa mor llwyddiannus a phoblogaidd oedd y syniad hwn, gydag aelodau o'r cyhoedd yn ffonio'r awdurdod lleol, i ddweud, 'Pam nad yw'r darn hwnnw o dir gwag ar ddiwedd fy stryd ar eich cofrestr?' Felly, nid yw hwn yn fater lle mae'r awdurdod lleol yn farnwr ac yn rheithgor yn ei achos ei hun. Bydd yna feini prawf, a bydd dinasyddion ymhlith y rhai hynny a fydd yn goruchwylio'r polisi hwn i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddo.

Ac, yn olaf, ac yn drydydd, gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod nad yw rhai ohonom ni yn y fan yma bob amser yn credu, gan fod rhywbeth gwahanol yn digwydd ar un ochr y ffin, ei bod yn anochel mai ar ochr Lloegr bydd y datblygiad gwell, ac y bydd Cymru bob amser o dan anfantais. Rydym ni'n gwneud pethau oherwydd ein bod yn credu ein bod yn eu gwneud yn well yn y fan yma, a dyna beth yr ydym ni yma i'w wneud.

A gaf i groesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i roi prawf ar y pŵer newydd gyda'r dreth tir gwag? Mae'n ddefnyddiol gwybod bod ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig man cychwyn defnyddiol ar gyfer treth o'r fath yng Nghymru. A fyddai'n cytuno y gallai treth o'r fath wneud rhywbeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cynyddol mewn cyfoeth, a'r ffordd y caiff ei ddosbarthu, ac mae'r anghydraddoldeb hynny i'w weld yn glir yn y mater o fancio tir? Rwy'n deall, wrth gwrs, mai'r cam cyntaf yw sicrhau pŵer gan San Steffan. Meddwl ydw i, tybed a yw'r trafodaethau wedi digwydd ar lefel swyddogol neu weinidogol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y pedwar cynnig treth, gan gynnwys y dreth dir gwag, i baratoi'r ffordd er mwyn ar y cyhoeddiad heddiw. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod y bydd treth tir gwag yn helpu i roi sylw i'r angen i sicrhau tir gwag ar gyfer tai. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei groesawu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sy'n ceisio diwallu anghenion tai lleol. A yw unrhyw waith mapio neu samplu tir gwag wedi ei gynnal, ar sail peilot neu ehangach yng Nghymru, i nodi cwmpas a maint y tir a allai fod yn ddarostyngedig i'r dreth hon?

Rwy'n croesawu hefyd ei ymrwymiad i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol yng Nghymru. Rwy'n gwybod yn sicr y caiff hon ei chroesawu gan Jones Dairies yn fy etholaeth i, sydd eisoes wedi cofleidio neges Blue Planet, ac wedi gweld cynnydd o 500 yn nifer y poteli llaeth a archebwyd dros yr wythnos ddiwethaf, i'w dosbarthu gan y lorïau llaeth sy'n dod lawr fy stryd i yn dawel fach yn gynnar yn y bore. Mae'n bwysig iawn ein bod yn darparu mwy o wybodaeth—fel y dywedwch, mae'r cyhoedd wedi croesawu'r neges hon—fel y gall yr alwad am dystiolaeth gynnwys y rhai sydd eisiau cymryd rhan, fel Chris Jones o'r llaethdy yn fy etholaeth.

Yn olaf, a gaf i groesawu ei ymrwymiad i edrych ar y rhagolygon ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol? A wnaiff ymrwymo ei hun neu, yn wir, y Gweinidog Huw Irranca-Davies i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar y model yswiriant cymdeithasol gwell hwn? Rwy'n deall y disgwylir adroddiad ym mis Mai. Rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gall bwrw ymlaen â hynny fod yn ymateb pwysig iawn i'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â'i dreth tir gwag arfaethedig ac, yn wir, ei waith ar dreth plastig tafladwy, rwy'n credu y bydd hyn i gyd yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran diwygio cymdeithasol blaengar.

15:40

A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y cwestiynau hynny i gyd? Dechreuodd llawer o'r trafodaethau hyn pan oedd ganddi hi'r cyfrifoldeb fel Gweinidog cyllid yma yn y Cynulliad, ac rwy'n gwybod pa mor gyfarwydd fydd hi â nhw.

Gallaf ei sicrhau fy mod wedi trafod pob un o'r pedwar cynnig treth â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y dreth gofal cymdeithasol, i sicrhau bod drysau'n agor i ni gael trafod y syniad hwn â rhannau eraill o Whitehall, ac o ran y dreth plastigau, i wneud yn siŵr bod Cymru yn ymgysylltu cymaint ag y gallwn yn yr alwad am dystiolaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno. Bydd y ffaith ein bod wedi cynnig helpu i wneud yn siŵr bod yr alwad honno am dystiolaeth yn cael cyhoeddusrwydd eang yng Nghymru, gobeithio, yn agor drysau i'w hetholwyr ac eraill i gymryd rhan ynddi. Mae hi yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith bod y cyhoedd ar y blaen o ran y ddadl hon, a'u bod eisoes yn cymryd camau yn eu bywydau eu hunain i fynd i'r afael â'r niwed y gall plastigau ei wneud ar yr amgylchedd sydd i bawb ei fwynhau.

O ran unrhyw fapio neu gynlluniau peilot, gallaf ddweud hyn, mewn arolwg sampl o dir a nodir mewn cynlluniau datblygu lleol at ddibenion datblygu tai, daeth i'r amlwg nad oes unrhyw weithgarwch o gwbl yn digwydd ar 25 y cant o'r holl safleoedd hynny. Arolwg bach ydyw, ac mae'n arolwg sampl, felly ni fyddwn i eisiau rhoi gormodedd o bwysau arno, ond mae'n arwydd, rwy'n credu, o raddfa'r mater hwn.

Datblygiad arall i'w nodi: cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar brosiect yn defnyddio cyfalaf trafodion ariannol gwerth £32 miliwn ac £8 miliwn o gyfalaf confensiynol ar gronfa o safleoedd sydd wedi arafu, i ddwyn safleoedd yn eu blaenau fel y gellir eu defnyddio at ddibenion cyhoeddus priodol. Mae dros 400 o safleoedd yng Nghymru wedi'u nodi a allai elwa ar y gronfa honno.

Jest cwpwl o gwestiynau ar y cynllun gwaith o ran trethi lleol. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu dweud a ydy'r gwaith y mae e'n sôn amdano fe o ran adolygu'r dreth gyngor ar y raddfa radical o ran unioni'r baich trethiannol i'w wneud e'n decach, er enghraifft, ar y math o linellau mae fy mhlaid i wedi eu cynnig yn y gorffennol, a hefyd yr Athro Gerry Holham? Pryd mae'r gwaith yna yn mynd i gael ei gyhoeddi ac a yw e'n fwriad i ddod ag argymhellion gerbron yn ystod y Senedd hon?

O ran y gwaith treth gwerth tir a'r gwaith cysylltiedig yn yr un modd, hynny yw, a oes yna ymchwil wedi cael ei gomisiynu a phryd mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu cyhoeddi neu ymgynghori ar hynny? Ac a yw e hefyd yn bwriadu dod ag argymhellion gerbron yn ystod y Senedd hon? Ac, yn olaf, mae yna gyfeiriad at yr ymrwymiad i adolygu’r trethi datganoledig presennol o fewn tair i bum mlynedd o fis Ebrill eleni. Wel, pa un o’r rheini fydd e? Hynny yw, o fewn tair neu o fewn pump? A ydy’r Llywodraeth wedi gwneud penderfyniad eto?

15:45

Diolch i Adam Price am bob un o'r cwestiynau hynny. Nid ydym wedi penderfynu ar y cwestiwn olaf oherwydd ei bod yn rhy gynnar, rydym ni'n credu, yn y broses.

O ran yr atodiad ail gartrefi yn y dreth trafodiadau tir, mae yna ddwy ran o'r rhaglen waith sydd wedi'u cytuno â Phlaid Cymru. Fe wnaethom ni addo gwneud dadansoddiad rhanbarthol o hynny, ar ôl i Awdurdod Cyllid Cymru gael ei sefydlu a dechrau gweithredu, i weld a ellir graddnodi treth i lefel leol, ac rwyf wedi cymryd o ddifrif y pwyntiau hynny y mae Siân Gwenllian wedi eu gwneud yn rheolaidd yn y Siambr hon am y ffordd y gall trethu ail gartrefi arwain at ganlyniad anfwriadol o berchnogion ail gartrefi yn newid o drethi domestig, gan hawlio eu bod yn fusnesau, a bod awdurdodau lleol yn colli ffrwd incwm bosibl yn y ffordd honno, ac mae hynny'n rhan o'r rhaglen waith erbyn hyn.

O ystyried dyfodol trethiant lleol yn ei chyfanrwydd, rwy'n gobeithio sefylll ar y pen radicalaidd. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr o'r blaen, Dirprwy Lywydd, yw fy mod i wedi paratoi darn o waith yn y tymor Cynulliad hwn a fydd yn edrych yn fanwl ymarferol ar ba un a fyddai ffurfiau amgen o drethiant lleol megis treth gwerth tir yn well na'r math o drethiant sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwyf eisiau i'r Cynulliad fod mewn sefyllfa i ddod i gasgliad ar y ddadl honno, nid ar rinweddau haniaethol gwahanol syniadau polisi, ond ar beth y byddai'n ei gymryd i wireddu ffyrdd amgen o wneud pethau yng Nghymru. Beth fyddai angen inni ei wneud? A fyddai gennym ni'r hyder y byddai hon yn system well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd? Nid ydym ni yn y sefyllfa lle mae gennym yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad cytbwys am hynny; rwy'n gobeithio y byddwn ni yn y sefyllfa honno, yn sgil y gwaith a wneir yn y tymor Cynulliad hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod yn gyhoeddiad cyffrous iawn. Mae bancio tir yn sicr yn broblem sy'n—cael ei mynegi'n gryf iawn ar lawr gwlad yng Nghwm Cynon, ac roedd fy nghwestiwn cyntaf i yn y Siambr ar ôl i mi gael fy ethol yn ymwneud â bancio tir.

Mae fy nghwestiwn yn canolbwyntio ar y datganiad a wnaethoch yn gynharach, pan ddywedasoch, yn Iwerddon, maen nhw'n gweld hwn yn ddull o ymdrin â thir diffaith trefol, a dyna'n sicr sut y caiff ei weld yn fy etholaeth i, bod bancio tir yn arwain at ddiffeithwch trefol. A dweud y gwir, cynhaliais ddigwyddiad ar fynediad at fannau cymunedol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Tir ychydig wythnosau yn ôl, ac fe wnaethant dynnu sylw at y ffyrdd y mae safleoedd sydd wedi eu gadael mewn cyflwr gwael yn effeithio ar eu hardal leol. Rhai o'r pethau a ddywedasant oedd y gall hynny gyfrannu at salwch meddyliol a chorfforol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chwalu cymunedol i'r rhai sy'n byw o amgylch safleoedd o'r fath.

Fy nghwestiwn i chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a yw'r rhain yn ddadleuon yr ydych chi'n eu hystyried, ac a ydyn nhw'n ddadleuon y byddech yn ceisio mynd ar eu trywydd wrth i chi ddatblygu'r cynnig ac efallai yn eu cysylltu â nodau cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru?

Dirprwy Lywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn fawr iawn, os byddwn ni'n cael y pŵer i gyflwyno treth dir gwag, oherwydd y diddordeb hirdymor y mae wedi'i gael yn y mater hwn.

Rwy'n falch ein bod yn gorffen y drafodaeth hon drwy fynd yn ôl i ddefnyddioldeb o gael treth dir gwag yn yr ardal o adfeiliedigrwydd trefol a safleoedd sydd wedi eu gadael yn wag. Gall pawb ohonom ni ddychmygu sut y mae'n teimlo gorfod byw yn rhywle lle mae, o'ch cwmpas chi, adeiladau heb eu meddiannu, lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, a lle nad oes teimlad o gwbl fod cariad at y lle yr ydych yn byw ynddo na dyfodol cadarnhaol. Ac felly, os ydym ni'n gallu defnyddio treth dir gwag i drechu, nid pobl sydd wedi caffael tir oherwydd bod ganddyn nhw gynllun ar ei gyfer ac maen nhw ysgogi'r ynni angenrheidiol a'r ymdrech i wneud y cynllun hwnnw ddigwydd, ond pobl sy'n brynu lleoedd ar hap ac yn dibynnu ar y farchnad heb unrhyw ymdrech ganddyn nhw eu hunain i weld y prisiau godi, gwneud arian ohoni, a gadael ar eu hôl malltod ar fywydau i'r rhai hynny sydd wedi talu pris am eu gweithredoedd, ac os gallwn ni ddefnyddio treth dir gwag fel rhan o'r arfogaeth polisi sydd gennym ni i atal hynny rhag digwydd mewn rhannau o Gymru, yna bydd yr holl ymdrech hwn wedi bod yn werth chweil.

15:50
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—pwysau'r gaeaf. Vaughan Gething.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Ledled Cymru, mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi wynebu pwysau sylweddol y gaeaf hwn. Nid yw unrhyw un o'r heriau yr ydym ni yn eu hwynebu yng Nghymru yn unigryw i ni; mae'r un heriau yn bodoli ledled y DU. Mae'n dyst i dosturi ac ymrwymiad ein staff bod y mwyafrif helaeth o bobl yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd tosturiol, proffesiynol ac amserol, ac fe hoffwn i, unwaith eto, ddiolch a thalu teyrnged i'n staff sy'n gweithio mor galed am yr ymroddiad y maen nhw wedi ei ddangos wrth reoli ac ymdopi â'r pwysau ym mhob maes o'n system iechyd a gofal dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr bod pawb yma o'r un farn â fi.

Er gwaethaf paratoi trwyadl ym mhob rhan o'r system, bu adegau pan fu ein gwasanaethau yn brysur eithriadol, y tu hwnt i'r hyn y byddai wedi bod yn bosibl ei ragweld yn rhesymol. Mae meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol, o fewn a'r tu allan i oriau swyddfa, wedi bod yn brysurach nag arfer, gyda dwywaith cymaint o gleifion yn cael eu gweld a'u trin yn dilyn cyfnod y Nadolig. Felly, i gefnogi meddygon teulu, rwyf eisoes wedi llacio yr elfen honno yng nghytundeb meddygon teulu sy'n ymwneud â'r fframwaith ansawdd a chanlyniadau tan ddiwedd mis Mawrth. Bydd hyn yn helpu meddygon teulu a'u timau i barhau i ganolbwyntio ar eu cleifion sydd â'r anhwylderau mwyaf cronig a'r rhai mwyaf agored i niwed.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi rhagori ar y targed o ymateb i 65 y cant o alwadau coch bob mis ar amser ers cyflwyno'r model ymateb clinigol. Roedd mis Rhagfyr 2017 yn fwy na 70 y cant ar gyfer yr unfed mis ar hugain yn olynol, er gwaethaf derbyn y nifer mwyaf a gofnodwyd o alwadau coch. Rhagfyr 2017 oedd hefyd y mis Rhagfyr prysuraf ar gofnod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, gyda 136 yn fwy o gleifion bob dydd o'i gymharu â'r mis hwnnw y llynedd. Cafodd mwy o gleifion eu trin, eu derbyn neu eu rhyddhau o fewn pedair awr nag yn unrhyw un o'r tri mis Rhagfyr blaenorol, ac mae hynny'n adlewyrchu gwaith caled y staff, sydd wedi cynnal yr amser aros nodweddiadol o ychydig dros ddwy awr cyn y derbyniwyd cleifion neu eu rhyddhau. Ym mis Rhagfyr hefyd gwelwyd y nifer mwyaf o gleifion 85 a hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty o adrannau damweiniau ac achosion brys. Fel y gwyddom ni, mae gan bobl hŷn yn aml anghenion mwy cymhleth, sy'n gofyn am gyfnodau hwy o asesiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac, os awn nhw i'r ysbyty, maent yn fwy tebygol o aros yno'n hirach.

Mae ymdrin â phwysau yn ein system yn her trwy gydol y flwyddyn. Rydym ni'n gweld mwy o brysurdeb yn yr haf, ond y gyfran uchaf o bobl, ac, yn benodol, pobl sy'n agored i niwed, sydd angen gofal yn y gaeaf. Fodd bynnag, roedd y perfformiad pedair awr misol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn 2017 yn well yn ystod bob mis nag yn 2016, ac eithrio mis Rhagfyr anodd iawn.

Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rwyf wedi ymweld â nifer o adrannau damweiniau ac achosion brys a siarad â chlinigwyr yn yr wythnosau diwethaf er mwyn gweld yr heriau y mae staff rheng flaen yn eu hwynebu drosof fy hun. Mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi bod yn siarad â staff ar lawr gwlad, a bydd y ddau ohonom ni'n gwneud mwy o hyn ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Ychwanegwyd at y galw anhygoel eleni gyda chynnydd yn nifer y cleifion sy'n dioddef o ffliw, norofeirws a salwch anadlol yn mynd at eu meddygon teulu ac i adrannau damweiniau a gofal brys. Mae'r tymor ffliw hwn wedi gweld y cyfraddau uchaf o salwch ers 2010-11, ac fe wnaed hyn yn waeth gan y cyfnod oer a fu drwy'r DU gyfan yn gynnar ym mis Rhagfyr. Ymddengys fod cyfraddau ffliw wedi cyrraedd y brig, ond maen nhw'n parhau'n uchel a bydd y tymor ffliw yn parhau am nifer o wythnosau eto.

Fodd bynnag, mae rhannau o'n system wedi gwella er gwaethaf y pwysau diweddar. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 7 y cant mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Rhagfyr, sy'n cadarnhau mai cyfanswm nifer yr achosion o oedi yn ystod 2017 oedd yr isaf ers dechrau ein cofnodion 12 mlynedd yn ôl. Mae amseroedd aros wedi sefydlogi o ran atgyfeirio i driniaeth a chael diagnosis, ac rydym ni'n disgwyl gwelliannau sylweddol wrth i fis Mawrth dynnu tua'i derfyn. Mae gan y byrddau iechyd broffiliau clir ar waith i gyflawni hyn. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi darparu £50 miliwn yn ychwanegol i helpu byrddau iechyd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf, i leihau, erbyn diwedd mis Mawrth, nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, y rhai sy'n aros dros wyth wythnos i gael diagnosis a'r rhai sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi.

Rydym ni'n parhau i ddarparu bron i £43 miliwn i gefnogi ein gwasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y gronfa gofal sylfaenol, ac mae ein cronfa gofal integredig £60 miliwn yn cael ei defnyddio i ddarparu gofal a chymorth yn agosach i gartref, i gadw pobl allan o'r ysbyty, ac i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Er enghraifft, mae model gofal ychwanegol Môn yn Ynys Môn yn darparu gofal yn y cartref ar gyfer cleifion oedrannus sydd â salwch acíwt. Mae'r gwasanaeth Byw yn Dda Gartref yng Nghwm Taf yn defnyddio tîm amlddisgyblaethol yn yr ysbytai i gynnal asesiadau a chomisiynu gwasanaethau cefnogi er mwyn atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen, ac yn wir i helpu pobl i fynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain yn y lle cyntaf.

Yn ddiweddar rydym ni wedi darparu £10 miliwn ychwanegol er mwyn cefnogi gwasanaethau rheng flaen i fynd ati ar unwaith i wella gofal. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi ymestyn oriau agor meddygfeydd teulu yn ystod penwythnosau er mwyn cefnogi gwasanaeth y tu allan i oriau, ac mae arwyddion cynnar bod hyn yn helpu cleifion i osgoi mynd i'r adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynyddu faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer therapi, gweithwyr cymdeithasol a meddygon ymgynghorol er mwyn helpu gyda rhyddhau cleifion ar y penwythnosau, ac mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi comisiynu rhagor o welyau adsefydlu er mwyn cefnogi cleifion gyda'u hanghenion gofal parhaus. Mae'r wybodaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yn dangos bod gan 69 y cant o gleifion sy'n cael eu trosglwyddo i'r uned lai o anghenion gofal o'r adeg y cawn nhw derbyn i'r adeg pan gawn nhw eu rhyddhau.

Mae gan y sector gofal cymdeithasol a staff y sector hwnnw ran yr un mor bwysig wrth ddarparu gofal ac wedi wynebu'r un pwysau sylweddol y gaeaf hwn. I gydnabod hynny, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi darparu £10 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol fel y gallan nhw ymdrin â'u blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol yn y maes hwn. Yn sgil trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i nodi'r blaenoriaethau hynny, caiff yr arian ychwanegol hwn ei ddefnyddio i ddarparu pecynnau gofal cartref a gwasanaethau gofal a thrwsio i alluogi pobl i gael eu rhyddhau ynghynt o'r ysbyty a byw yn annibynnol gartref, ac ar gyfer gofal preswyl tymor byr a gofal llai dwys.

Er bod paratoi ar gyfer y gaeaf wedi arwain at system gadarnach yn ei chyfanrwydd, bu adegau lle bu pobl yn aros yn hirach na sy'n dderbyniol. Nododd y gwerthusiad cenedlaethol o gynllunio a darparu ar gyfer y gaeaf diwethaf bod angen canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr ac yn syth ar ôl y Nadolig. Felly, fe wnaeth byrddau iechyd gyflwyno mentrau y gaeaf hwn oedd yn canolbwyntio ar gydweithio a bod yn rhagweithiol drwy uwchgyfeirio cleifion er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau hynny yn gyflym a gwella llif cleifion. Mae peth amrywiaeth rhwng y gwahanol rannau o Gymru, ond mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod hyn wedi cynyddu gwydnwch, sy'n golygu bod mwy o gleifion yn cael eu hanfon gartref yn gynharach yn y dydd, mae wedi lleihau faint mae cleifion yn aros ar gyfartaledd, a fyddent fel arfer yn aros yn yr ysbyty mewn gwely am fwy nag wythnos, a bydd disgwyl i fyrddau iechyd a'u partneriaid werthuso eu gwaith a rhannu dysg ar draws Cymru.

Mae rhannau o'r system lle mae'r galw eithriadol wedi golygu, heb gynllunio camau gweithredu ychwanegol, y byddai'r pwysau wedi cynyddu nes bod yn argyfyngus. Rydym ni wedi darparu bron i £700,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru i gynyddu nifer y clinigwyr yn eu canolfannau cyswllt i 30. Mae hyn wedi caniatáu i gleifion gael eu trin yn ddiogel dros y ffôn neu gael eu dargyfeirio i wasanaethau eraill, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn teithiau ambiwlans diangen i ysbytai. Ond gall pob un ohonom ni wneud ein rhan wrth gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae angen inni wneud y dewisiadau cywir ar gyfer ein hunain, ond hefyd annog ein hetholwyr i ddewis y cyngor neu'r gwasanaeth priodol pan fyddan nhw'n sâl neu wedi'u hanafu.

Fe ddof i ben drwy ddweud nad yw'r gaeaf drosodd eto. Rwyf wedi gweld rhai pobl yn awgrymu bod y gaeaf yn gorffen ddiwedd mis Chwefror. Dylem ni atgoffa ein hunain, y llynedd—roedd mis Mawrth yn eithriadol o oer y llynedd. Felly, nid yw'r gaeaf yn dod i ben yn daclus ar ddiwedd mis Chwefror. Mae pwysau yn dal i fod yn ein system ar hyn o bryd, ac mae'n anochel y bydd mwy o ddyddiau anodd ar y gorwel. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n staff, yn y gwasanaethau iechyd a gofal yn eu cyfanrwydd, i sicrhau'r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein pobl drwy ddarparu'r gofal priodol ar yr adeg briodol ac yn y lle priodol.

15:55

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Gallwn i ddim yn cytuno yn fwy â'ch paragraff agoriadol. Hoffwn i hefyd ychwanegu fy niolch a'm cydnabyddiaeth i'r gwaith caled y mae, nid yn unig staff y GIG yn ei wneud, ond hefyd bawb sy'n gweithio o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac o fewn y sector gofal, i'n helpu i symud drwy'r hyn sydd yn draddodiadol yn amser anodd iawn, iawn o'r flwyddyn. Croesawaf y gwelliannau yr ydych chi'n cyfeirio atynt yn eich datganiad. Mae'r enghreifftiau cadarnhaol hynny yn ysgogol iawn. Fodd bynnag, nid yw'n fêl i gyd, ac rwy'n meddwl bod cwestiynau difrifol yn parhau dros y ffordd y cynlluniwyd gwasanaethau ar gyfer y gaeaf hwn. Buom yn aros tan yr haf am adolygiad o wrthsefyll pwysau'r gaeaf y llynedd, a oedd yn amlwg yn rhy hwyr, rwy'n meddwl, i ddysgu gwersi a datblygu cynlluniau cadarn, ac fe glywodd y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol hyn yn gyson—tyst ar ôl tyst ar ôl tyst, yn cynrychioli sefydliadau, grwpiau a phractisau meddygon teulu ac ymgynghorwyr unigol ledled Cymru, yn dweud nad oedden nhw wedi ymwneud â phwysau'r gaeaf.

Pan fydd gennych chi 46 o ymgynghorwyr Damweiniau ac Achosion Brys sydd wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog, yn dweud bod risgiau diogelwch yn annerbyniol, yna dylem ni fod yn feirniadol iawn ynghylch sut yr ydym ni'n ymdrin â'r gaeaf. Pan oedd gennych chi, yn ystod anterth y galw dros y gaeaf, yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, gynorthwywyr personol, staff TG a rheolwyr yn cael eu galw i fynd ar drywydd canlyniadau sganio a meddyginiaeth hyd yn oed i helpu i leihau oedi, mae'n rhaid inni holi sut y gwnaethom ni y gaeaf hwn. Cawsom y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dweud y bu rhai cleifion yng Nghymru yn aros mwy na 80 o oriau mewn adrannau achosion brys.

Felly, mae pedwar cwestiwn yr hoffwn i ofyn i chi, a'r cyntaf ynglŷn â defnyddio gwelyau. Flwyddyn ddiwethaf yn unig, cafwyd gostyngiad o 8 y cant mewn gwelyau adsefydlu, 6 y cant mewn seiciatreg, 6 y cant mewn llawdriniaeth gyffredinol a bron i 6 y cant mewn meddygaeth geriatrig. Dywedasoch chi fod byrddau iechyd wedi cael eu cefnogi i agor gwelyau ychwanegol y gaeaf hwn, ond mae'n amlwg na wnaeth fawr ddim i leddfu'r galw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed os gallech ddweud wrthym beth aeth o'i le â hynny—pam yr oedd gan Ysbyty Tywysog Philip ddefnydd gwelyau o 103 y cant dros y bythefnos honno o'r gaeaf, Llwynhelyg yn 98, Bronglais yn 100 y cant, Ysbyty Brenhinol Gwent yn 98, Ysbyty Nevill Hall yn 98. Maen nhw'n anhygoel o uchel, a hoffwn ddeall sut y mae'r £50 miliwn a roddwyd gennych yn gynharach y llynedd, £10 miliwn a roesoch chi yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau rheng flaen—ac rwy'n croesawu'r £10 miliwn yr ydych chi wedi'i gyhoeddi yn y datganiad hwn heddiw ar gyfer y sector gofal cymdeithasol—. Ond, wyddoch chi, nid yw'n cyrraedd lle mae ei angen. Mae defnydd gwelyau yn broblem fawr.

Fy ail bryder oedd ynghylch gofal y tu allan i oriau. Ymddengys fod natur 4-3-4 y bythefnos honno dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd mewn gwirionedd wedi dal pobl ar y gamfa. Yn Aneurin Bevan, dim ond 20 o feddygon oedd gennym ar sifft pan y mae angen 20 arnom, mewn gwirionedd. Caerdydd a'r Fro—dim ond 92 awr meddygon teulu gafodd eu gweithio er bod angen 192. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Roedd gennym feddygon teulu yn methu â chyflenwi'r gwasanaeth tu allan i oriau, fel bod pobl wrth gwrs wedyn yn mynd i'r ysbytai ac yn rhoi'r pwysau ar ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Gan droi at ddamweiniau ac achosion brys, dros y cyfnod hwnnw o bythefnos—nid wyf am eich diflasu ag ystadegau; maen nhw i gyd gen i yma—faint o gleifion oedd yn aros ymhell dros 12 awr? Ond, pan fyddwch chi'n meddwl bod Ysbyty Athrofaol Cymru wedi gallu cynllunio ar gyfer rownd derfynol Cwpan UEFA drwy ddweud wrth bob ward sengl, 'Mae'n rhaid ichi wagio dau wely er mwyn i ni allu rheoli unrhyw fewnlifiad allai fod gennym'—ni wnaeth y lefel honno o gynllunio manwl ddigwydd ar gyfer pwysau'r gaeaf. Os edrychwch chi ar Ysbyty Athrofaol Cymru, roedd ganddyn nhw bron i ddwy ward yn llawn o bobl yn aros am drosglwyddiad gofal i adael yr ysbyty, a chredaf fod yn rhaid bod hynny wedi ychwanegu yn aruthrol at y pwysau hwnnw.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â ffliw. Roedd y gyfradd ymgynghori â meddyg teulu ar gyfer ffliw ymhell uwchlaw'r trothwy epidemig symudol. Golyga hynny ein bod yn cyrraedd—neu wedi cyrraedd—pwynt argyfwng. Bu cynnydd enfawr mewn ffliw, a hoffwn ddeall, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gallwch chi ei wneud i wella'r niferoedd sy'n cael y brechiad rhag y ffliw. Pan fyddwn ni'n meddwl mai dim ond 51 y cant o staff y GIG gafodd frechiad rhag y ffliw, a dim ond 53 y cant o staff y GIG a oedd yn y rheng flaen a oedd wedi cael brechiad rhag y ffliw, yna gallwn weld mewn gwirionedd bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn.

Yn olaf, ar y canllawiau NICE, y brechlyn eleni oedd y brechlyn trifalent £5, ac nid oedd hwnnw'n cynnwys ffliw B, sydd wedi achosi dros 50 y cant o dderbyniadau i'r ysbyty. Byddai'r brechlyn arall hwnnw wedi costio £8. Felly, hoffwn eich sylwadau ar pa un ag ydych chi o'r farn mai'r wers ar gyfer y dyfodol yw y dylem ni geisio cael brechlyn mwy cynhwysfawr ar gael er mwyn ei atal. Ffliw, yn enwedig yn yr ifanc a'r henoed, sy'n achosi cymaint o bwysau ar ein hadran ddamweiniau ac achosion brys. Mae llawer iawn mwy i'w ddweud am bwysau'r gaeaf, ac rwy'n cydnabod yr egin gwyrdd o lwyddiant a amlygwyd gennych. Sut i'w gwneud yn gyson a sut i'w defnyddio'n gyffredinol ar draws y GIG yw'r her yr ydych chi'n ei hwynebu, ond mae'n rhaid i chi fod yn fforensig wrth ddeall pam ac ym mha faes na wnaethom ni lwyddo eleni.

16:05

Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau, ac yn arbennig eich agoriad ac am gydnabod cyfraniad ein staff yn yr hyn sy'n dal i fod yr amser mwyaf anodd o'r flwyddyn.

Byddaf yn dechrau â'ch pwyntiau terfynol ar y tymor ffliw. Ar y brechlyn, rydym ni bob amser yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y DU wrth geisio archebu a chytuno ar y ffurf fwyaf priodol o frechlyn ar gyfer y rhywogaeth fwyaf tebygol. Gyda'r rhywogaethau gwahanol sy'n bodoli yn ystod y tymor ffliw bob blwyddyn, ceir bob amser elfen o geisio deall yr hyn y dylai hynny fod, ond rydym ni'n gwneud y dewisiadau hynny yn synhwyrol ac yn ofalus fel systemau gofal iechyd—nid oes gwahaniaeth penodol, fel petai, rhwng gwahanol genhedloedd. Ac mae'n dal yn wir mai'r brechlyn ffliw yw'r amddiffyniad mwyaf effeithiol sydd gan bobl rhag y ffliw cyn y tymor ffliw, ac, mewn gwirionedd, rhan o'm pryder, bob blwyddyn, yw bod rhywun yn dweud nad yw'r brechlyn ffliw yn effeithiol o gwbl.

Felly, mae angen i ni annog mwy o bobl i fanteisio ar y brechiad, sy'n mynd yn ôl at eich pwynt am annog mwy o fanteisio ar y brechiad ymhlith staff iechyd a gofal yn y rheng flaen, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd sydd mewn perygl. Oherwydd fy mod i wedi cael cyflwr arennau yn flaenorol, rwyf i mewn grŵp risg fy hun, felly rwy'n cael y brechiad rhag y ffliw bob blwyddyn. Felly, nid wyf i'n cael rhywun yn rhoi nodwydd yn fy mraich mewn fferyllfa gymunedol dim ond er mwyn cael cyfle i dynnu fy llun; mae wir angen y pigiad arnaf i hefyd. Ac mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud mewn swyddogaeth fach, gan ddangos rhywfaint o arweiniad. Ond, eleni, mewn gwirionedd, gwnaethom ni ddechrau gydag ymgyrch gafodd ei harwain gan y Gweinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd. Rydym ni mewn gwirionedd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n manteisio ar draws staff iechyd a gofal, felly edrychaf ymlaen at weld beth yw'r ffigurau terfynol, ac yna i weld pa welliannau eraill y mae angen i ni eu gwneud, oherwydd nid oes unrhyw gymryd arnom o gwbl bod ein sefyllfa o ran niferoedd staff yn arbennig yn ddigonol neu yr hoffem ni ddweud bod y sefyllfa wedi'i datrys, oherwydd yn sicr nid ydyw. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr achosion o gau wardiau a'r gostyngiad mewn capasiti y mae'r achosion o ffliw wedi'u golygu. Pan oeddwn i yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddar, roedden nhw'n cau un ardal oherwydd bod ganddyn nhw dri achos o ffliw wedi'u cadarnhau yno. Felly, mae'n effeithio ar allu gwirioneddol o fewn y gwasanaeth, ac mae effaith ganlyniadol i hynny drwy'r drws ffrynt a'r cefn hefyd.

Mae'n debyg bod hyn yn fy arwain at eich pwynt am drosglwyddiadau gofal, felly, hefyd. Oherwydd rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud yw meddwl am sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn cael pobl allan o ran yr ysbyty o'r system pan nad oes angen iddyn nhw fod yno mwyach. Dyna pam fod y rhan ragweledol o'r modelau hynny o ofal yn cyfrif. Mae model Ynys Môn yn bwysig mewn gwirionedd, gan fod llawer o hynny yn ymwneud â chadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, yn ogystal â'u cael nhw allan. Dyna pam ei bod yn beth da, yn y flwyddyn ddiwethaf, ein bod wedi cael record dda ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ond mae llawer mwy i'w wneud eto. Ond dylai'r £10 miliwn a gyhoeddwyd gennyf heddiw i fynd i mewn i'r system gofal cymdeithasol ein helpu i gael pobl allan o system yr ysbyty ac i bwynt mwy addas i'w gofal ddigwydd, oherwydd rydym yn cydnabod, ar unrhyw adeg, rydym wedi cael 300 i 400 o bobl yn feddygol iach ar draws y system. Ac, mewn gwirionedd, pe gallech chi ryddhau'r bobl hynny i fynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain, lle bydd angen cymorth arnyn nhw, yna mewn gwirionedd byddai gennym ni lawer mwy o gapasiti ar gyfer pobl sydd angen gwely ysbyty. Byddai'n lleihau amseroedd aros, byddai'n ffordd fwy priodol i ddarparu gofal, ac yn sicrhau urddas a phriodoldeb, ac rydym ni'n debygol o weld canlyniadau gwell hefyd. Felly, mae angen inni fod yn edrych ar fuddsoddi mewn gwahanol rannau o'n system ar bwyntiau mewn amser, a dyna hefyd pam y mae'r timau yr wyf i wedi sôn amdanynt—os hoffech chi, y timau adsefydlu cymunedol a'r timau adnoddau cymunedol—yn rhan bwysig iawn o hynny hefyd.

Ar y gwasanaeth tu allan i oriau, ceir darlun cymysg. Mae wedi bod yn fregus mewn gwahanol rannau o'r wlad ar bwyntiau gwahanol o amser, ac, unwaith eto, nid oes unrhyw bwynt mewn honni ei fod yn fater sydd wedi'i ddatrys. Credaf fod 111 yn dal i roi'r model gorau inni ar gyfer y dyfodol i helpu i ddatrys rhywfaint o'r her tu allan i oriau honno ledled y wlad, ac mae rhywbeth yno am hynny yn helpu i reoli ac ategu'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn hytrach na'i ddisodli'n gyfan gwbl. Ac os edrychwch chi ar yr hyn a ddigwyddodd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot ac, yn wir, Sir Gaerfyrddin, rydym ni wedi gweld gwelliant gwirioneddol yno hefyd. Felly, bydd mwy i ddod, a byddaf yn gwbl dryloyw â'r Siambr eto wrth i ni gael y gwerthuso hwnnw a'r cam ymlaen mewn 111 a'i gyflwyno ymhellach.

Ar eich pwynt am y gwerthusiad gaeaf ac, yn benodol, rwy'n meddwl, ynglŷn â nifer y gwelyau, wel, rydym ni wedi cyflwyno tua 400 o welyau ychwanegol ar draws ein system—felly, os hoffech chi, maint ysbyty cyffredinol dosbarth o faint arferol. Ac eto, rydym ni'n dal i gydnabod heriau gwirioneddol mewn capasiti ar draws y system gyfan. Felly, yn y gwerthusiad o'r gaeaf y byddwn ni'n ei wneud gyda'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ac eraill, bydd angen inni edrych eto ar beth sydd wedi digwydd y gaeaf hwn, pa mor llwyddiannus y mae hwnnw wedi bod a heb fod ar adegau gwahanol mewn amser ac, rwy'n meddwl, yn lle mae angen inni gael capasiti ychwanegol ar draws ein system, boed hwnnw'n gapasiti ychwanegol yn rhan ysbyty y system gyda'r staff y mae angen inni eu cael i wneud hynny, neu p'un a, mewn gwirionedd, pe bai gennym ni welyau ychwanegol, byddem ni ond yn eu llenwi â mwy o bobl a ddim yn gwella llif ar draws ein system hefyd. Dyna lle mae angen inni feddwl am ddewisiadau buddsoddi deallus, naill ai i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain neu i'w cael nhw allan o'r ysbyty, ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt cyntaf i fynd iddo. Mewn gwirionedd, dyna oedd y pwynt cyntaf o weithredu yn y llythyr gan yr ymgynghorwyr yn y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ynghylch buddsoddi mwy mewn gofal cymdeithasol. I'n helpu i wneud hynny, i arwain rhywfaint o'r consensws clinigol hwnnw, rydym wedi penodi Jo Mower fel Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu. Mae Jo yn ymgynghorydd adran achosion brys yng Nghaerdydd, a rhan o'i swyddogaeth fydd rhywfaint o'r arweiniad hwnnw ac edrych ar systemau arweiniad cenedlaethol ac arferion lleol ledled y wlad. Credaf y bydd yn cael ei derbyn yn dda gan ei chymheiriaid mewn adrannau achosion brys ledled y wlad fel un rhan o'n hymateb i'r her system gyfan hon.

16:10

Fe wnaf i gadw fy sylwadau yn eithaf byr. Nid wyf wedi bod yma mor hir â hynny, ond eisoes mae teimlad o 'groundhog' pan ddaw at drafod pwysau'r gaeaf. Nid oes unrhyw amheuaeth y bu rhai achosion rhyfeddol o bwysau cynyddol dros y gaeaf hwn, a hoffwn dalu teyrnged i aelodau syfrdanol o ymroddedig o staff ar draws ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru sydd wedi ceisio ymdrin â'r sefyllfa sydd wedi eu hwynebu dros y misoedd diwethaf. Rydych chi'n hollol iawn eu bod yn parhau i'w wynebu tuag at ddiwedd y gaeaf. Ond cwestiynau sylfaenol: ydym ni'n credu y bydd gaeaf y flwyddyn nesaf? Credaf y bydd. Beth felly, gan dybio y bydd un, yw'r symudiadau sylfaenol y gallwn ni edrych am arwyddion ohonyn nhw gan y Llywodraeth hon a fydd yn rhoi'r GIG yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach er mwyn ymdrin â'r pwysau hwnnw pan fydd yn dod yn anochel? Oherwydd mae yn dod.

Roeddwn i yn Ysbyty Gwynedd rhyw 10 diwrnod yn ôl, yn cael y cipolwg diweddaraf ar y sefyllfa yno: bron i 100 y cant o'r gwelyau yn cael eu defnyddio, os nad oedd yn 100 y cant. Rwy'n credu y diwrnod yr oeddwn i yno eu bod yn disgwyl 50 o gleifion i mewn. Roedd 54 o gleifion mewn gwelyau yn Ysbyty Gwynedd nad oedd angen iddyn nhw fod yno. Gallwch chi weld lle mae'r broblem. Bob yn ail a thrydydd diwrnod rwy'n clywed straeon am gleifion sy'n cael llawdriniaeth ddewisol wedi'i chanslo. Dyma beth sy'n digwydd. Mae hyn yn peri gofid difesur i'r cleifion hynny a'u teuluoedd, ac mae'n achosi oedi i driniaeth a fydd yn cael effaith na all neb ei dirnad ar eu hadferiad o'r salwch y maen nhw'n ei wynebu—[torri ar draws.] Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad—

—ond gan mai datganiad yw hwn, rwy'n siŵr y gallwch chi wneud eich pwynt yn y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddarach.

Felly eto: pryd ydym ni'n mynd i weld y newid sylfaenol hwnnw tuag system iechyd a gofal cynaliadwy yng Nghymru all ymdrin â gaeaf 2018-19, a gaeaf 2019-20 a thu hwnt? Dyna'r cyfan y mae cleifion Cymru yn gofyn amdano.

Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar, fel yr wyf i'n siŵr y mae'r staff, am y deyrnged a dalwyd unwaith eto gan lefarydd Plaid Cymru i'r modd y mae staff yn ymateb i bwysau a galw eithriadol ar adegau yr ydym ni'n eu cydnabod o fewn y system.

Gan droi at eich cwestiynau, y gaeaf hwn, fel y gaeaf diwethaf a'r gaeaf cynt, rydym yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol yn dod at ei gilydd i gynllunio ar gyfer y gaeaf. Felly, nid yw hyn yn ymarfer o reolaeth y Llywodraeth ganolog. Rydym ni'n helpu i gynnal y cylch gyda phobl yn dod at ei gilydd, ac maen nhw'n ystyried ac yn cynllunio gyda'i gilydd yn eu hamgylchiadau lleol. Mewn gwirionedd bu hynny'n ddefnyddiol, gyda gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydnabod eu bod wir angen ei gilydd. Efallai fod hynny'n swnio yn amlwg, dweud hynny yn uchel, ond nid yw cael gwahanol rannau o'r gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd amser i ffwrdd ac yn cynllunio gyda'i gilydd bob amser yn beth syml a hawdd i'w wneud. Mae'n gyson â'n cyfeiriad polisi ac yn wir gyda'r hyn a ddywedodd yr arolwg seneddol, ac mewn gwirionedd mae rhywbeth ynghylch parhau i wneud mwy ac i wneud yn well gyda'r cyd-gynllunio hwnnw ar draws ein system.

Mae'n her i system, oherwydd eich pwynt am gleifion sy'n iach yn feddygol, a'r ffaith eu bod yn dal yn aml mewn gwely ysbyty pan fyddan nhw'n gwybod bod mwy yn dod i mewn—wel, mae hynny'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Bydd angen i rai o'r bobl hynny fod mewn rhan wahanol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer rhan nesaf eu gofal a'u triniaeth. Gellid cefnogi rhai ohonyn nhw yn eu cartref eu hunain, boed hynny mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, neu, os mynnwch chi, gartref preifat traddodiadol, ond byddan nhw angen gofal cymdeithasol a chymorth i gyrraedd yno. Dyna pam, yn fy natganiad, y nodais rai o'r pethau sy'n digwydd eisoes, a'r pethau y gallem ni ymdrin â nhw, a byddem ni'n dymuno cael nid yn unig ysgogiadau polisi, ond cymhellion ymarferol i wneud hynny hefyd. Mae'r gronfa gofal integredig yn un o'r rheini, ond credwn y bydd angen inni wneud mwy.

Nid dim ond barn y Llywodraeth yw hon, wrth gwrs, ond dyna hefyd farn yr arolwg seneddol. Pan oedden nhw'n galw am system ofal ddi-dor, maen nhw'n edrych fwy a mwy ar enghreifftiau o beth sy'n llwyddiannus ac yn ein hannog ni fel gwleidyddion yn y Llywodraeth a thu hwnt i edrych ar sut yr ydym ni wir yn helpu gofal iechyd a gofal cymdeithasol i adeiladu ar sail fwy cyson. Oherwydd yr ydym ni bob amser yn gwybod y bydd gaeaf bob tro, bob blwyddyn. Gwyddom y gall amrywio o ran maint a'r pwysau, ond bydd pwysau ychwanegol bob amser, oherwydd ar wahân i unrhyw beth arall gallwn ddisgwyl y flwyddyn nesaf y bydd hyd yn oed mwy o bobl dros 85 oed yn dod i'n hysbytai. Gwyddom fod hwnnw'n realiti y byddwn ni'n ei wynebu. Mae'n ymwneud â pha mor gyflym y gall ein system symud i ddal i fyny gyda her y galw a welwn a pha mor gyflym y gallwn ni mewn gwirionedd symud y tu allan i'r ysbyty, yn hollbwysig, i reoli rhywfaint ar y galw hwnnw.

Hoffwn ymateb yn uniongyrchol i'r pwynt a wnaethoch chi am driniaethau dewisol. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud â'r gwrthgyferbyniad rhwng y system yma ac ar draws ein ffin. Yn Lloegr, cyhoeddwyd gwaharddiad ar driniaethau dewisol i helpu i ymdopi drwy'r gaeaf. Felly, gwaharddiad llwyr drwy Loegr. Wnaethom ni ddim gwneud hynny yng Nghymru. Yn anffodus rydym ni wedi gweld tarfu ar ofal rhai pobl, ond credaf o hyd, er bod pobl yn teimlo'n rhwystredig, os ydynt yn cael eu triniaeth ddewisol wedi'i chanslo neu ei gohirio, mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall bod hynny'n digwydd oherwydd bod argyfwng yn y system lle mae rhywun sydd angen gofal mwy brys.

Serch hynny, mae 22,000 o bobl wedi cael eu triniaethau dewisol drwy fis Rhagfyr. Mae cryn dipyn o weithgarwch yn digwydd. Yr hyn y mae angen i ni allu ei wneud ar draws ein system gyfan, wrth gydbwyso derbyniadau dewisol a brys, yw meddwl am ba mor gyflym y gallwn ni gael y bobl hynny sydd wedi cael triniaethau dewisol wedi'i gohirio yn ôl i gael y driniaeth honno, yr ydym ni'n deall sydd ei hangen arnynt.

Mae'n rhan o'r her o redeg system ddeinamig a dealltwriaeth, er ein bod wedi lleihau nifer y derbyniadau dewisol i ymdopi â'r gaeaf, ar adegau o bwysau eithafol, bydd angen i'r system wneud dewisiadau, a hynny'n aml yn ymwneud â gohirio triniaethau dewisol oherwydd yr argyfwng sydd wrth y drws. Gwn beth yr hoffwn pe bai hynny'n fi neu'n aelod o'm teulu. Gwn sut fyddwn i'n teimlo hefyd os mai fy nhriniaeth ddewisol i fyddai'n cael ei gohirio. Felly, mae angen i fod yn synhwyrol ac aeddfed am ein system ac i feddwl am sut yr ydym ni'n gwella hynny eto, os yn bosibl, ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dyna'n sicr ein disgwyliad yn y Llywodraeth.

16:15

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a gaf i ymuno ag eraill wrth ddiolch am ymroddiad ac ymrwymiad ein holl staff y GIG a gofal ledled Cymru? Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad dros bob aelod yn y Siambr hon wrth roi'r diolch hwnnw, oherwydd maen nhw wedi rhoi gwasanaeth y tu hwnt i'r hyn y bydden nhw'n ei wneud fel arfer beth bynnag, a bob amser yn gwneud hynny, ac nid ydynt ond yn ei wneud yn ystod pwysau'r gaeaf, maen nhw'n gwneud hynny drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn atgoffa'r Aelodau yn y Siambr bod fy ngwraig yn aelod o'r GIG ac felly yn y gwasanaethau rheng flaen, felly rwyf am gofnodi hynny? Gaf i hefyd groesawu buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol i wella'r pecynnau gofal sydd ar gael i gael pobl allan o'r ysbyty? Oherwydd ein bod i gyd yn cytuno bod hynny'n un o'r problemau—pobl ddim yn mynd allan drwy'r system yn ddigon cyflym i sicrhau bod gwelyau ar gael wrth i bobl dod i mewn i'r rheng flaen. Mae'n hollbwysig ein bod yn ymdrin â hynny.

Fodd bynnag, mae gennym ni'r problemau hynny yn y rheng flaen o hyd. Yn eich datganiad, nodoch chi bod 65 y cant o'r targed galwadau coch yn cael eu bodloni. Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond y realiti yw bod hynny'n un o bob tri nad ydynt yn cael y targed galwadau coch mewn amser. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny oherwydd wedyn maen nhw'n effeithio ar y galwadau oren, sy'n cael eu hoedi. Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar am aros 14 i 15 awr am ambiwlans ac yn clywed, 'Peidiwch â symud y claf os yw wedi cael codwm', a chlaf oedrannus sy'n agored i niwed sydd wedi cael codwm yn eistedd ar y llawr yn aros am ambiwlans. Mae'r alwad oren honno yn dod yn alwad goch yr hiraf y maen nhw'n aros. Felly, mae angen i ni ymdrin â hynny.

Rwy'n gwerthfawrogi'r heriau o fuddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod yr ambiwlansys hynny'n cyrraedd yno ar amser ac yn cael y cleifion i'r ysbyty ar amser, fel nad yw'r galwadau oren yn dod yn rhai coch ac nad yw claf yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy na'r hyn sy'n angenrheidiol. Mewn un achos, cefais glaf fu raid aros yn yr ysbyty am ddau neu dri diwrnod tra'r oedd yn sefydlogi cyn y gallai gael llawdriniaeth ar y glun yr oedd wedi'i thorri. Felly, mae'n bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r materion hynny. Felly, rwy'n gofyn cwestiwn ynglŷn â sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau bod y broses honno'n digwydd yn gyflym fel nad ydym yn cael mwy o alwadau oren yn dod yn goch a chleifion yn aros am yr oriau hynny.

Gaf i hefyd dynnu sylw at—soniasoch yn gynharach mewn ateb fod y system 111 ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cael ei threialu. Mae'n gweithio mewn gwirionedd, cyfeiriwyd hi atom ni yr wythnos diwethaf mewn cyfarfod briffio a gefais, ac mae'n cynnig llawer o ddewisiadau i gleifion ac i'r perthnasau sy'n ffonio'r gwasanaeth 111 a chael atebion gwahanol ac efallai felly na fydd angen ambiwlans ond maent yn cael gwell gwasanaeth. Ond yn y sefyllfaoedd pan y mae angen ambiwlans arnoch chi, gaf i amlygu'r pwynt hwn? Ffoniais y pencadlys ambiwlans yr wythnos diwethaf, eisiau cael gafael ar rywun i gael ambiwlans i glaf. Cefais rif a dywedwyd wrthyf—roedd hyn ar ôl oriau—'Ffoniwch y ganolfan gyswllt.' Deirgwaith y gwnes i ffonio'r pencadlys a gwirio'r rhif hwnnw, oherwydd daeth yr ateb yn ôl bum gwaith, 'nid adnabyddir y rhif hwn'.  Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni ymdrin â hynny, fel pan fydd rhywun angen cael gafael arnyn nhw, y gallan nhw gael gafael arnynt. Felly, gawn ni fynd i'r afael â hynny?

Soniodd Rhun ap Iorwerth am driniaethau dewisol, ac rwy'n gwerthfawrogi beth oedd eich sylwadau ar y triniaethau dewisol hynny, ac rwy'n deall y daw argyfyngau i mewn ac mae'r argyfyngau hynny yn cael blaenoriaeth. Rwy'n deall hynny. Ond mae llawer o gleifion yn cael eu canslo. Allwch chi roi imi efallai—? Rwy'n hapus i wneud hynny yn ysgrifenedig, mewn llythyr, ond faint a ohiriwyd? Sawl un a ganslwyd dros y cyfnod yr ydym ni'n sôn amdano, nid dim ond mis Rhagfyr, ond o ddechrau'r gaeaf—mis Tachwedd ddywedwn ni—efallai hyd at ddiwedd Chwefror bellach, a gweld faint o gleifion—? Oherwydd y mae hynny'n cael effaith ganlyniadol hefyd, ac mae'n bwysig inni roi sylw i effaith ganlyniadol y triniaethau dewisol hynny yn cael eu gohirio a'u hoedi, oherwydd, unwaith eto, rydym ni wedi gweld sefyllfaoedd yn yr haf sydd felly yn golygu y cawn bwysau yn yr haf.

A allwch chi hefyd ddweud wrthyf am y buddsoddiad yn y system gofal sylfaenol—? Rwy'n croesawu hynny, yn ei groesawu'n llwyr, yn enwedig gan ein bod yn deall yr anawsterau o ran meddygon teulu'n cael eu recriwtio i gyflenwi sesiynau y tu allan i oriau, a dyna un o'r problemau sydd gennym, felly mae'r gwasanaeth cymunedol ehangach yn bwysig. Ond a allwch chi ddweud wrthyf faint o arian gafodd ei roi mewn gwirionedd i nyrsys ardal, oherwydd mae nyrsys ardal yn wynebu heriau difrifol iawn, ac a ydych chi yn benodol wedi'i neilltuo rhywfaint o'r arian hwnnw ar gyfer nyrsys ardal? Os na, a fyddwch chi'n edrych ar sut y mae cyllid ar gyfer nyrsys ardal yn cael ei gymhwyso ar draws y byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau yn y gymuned, sy'n cymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu, sydd wedyn yn cymryd y pwysau oddi ar adrannau damweiniau ac achosion brys, felly mae canlyniad gwirioneddol—?

A byddaf yn ei gadael ar hynny, oherwydd gallaf weld y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf i eistedd i lawr.

16:20

Diolch. Roeddwn yn meddwl am y gair yr oeddwn yn mynd i'w ddefnyddio i ddweud yn gwrtais, 'A allech chi ddirwyn i ben?', ond diolch yn fawr iawn . Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch. A diolch ichi, David Rees, am y gyfres o gwestiynau, ac rydych chi'n iawn i dynnu sylw nid yn unig at allu proffesiynol ac ymrwymiad ein staff, ond at y ffaith bod y gwasanaeth yn rhedeg ar ewyllys da'r aelodau hynny o staff hefyd.

Rwyf am i geisio ymdrin â'ch pwynt olaf ynghylch materion teleffoni a gohiriadau triniaethau dewisol a chyllidebau nyrsys ardal hefyd. Credaf ei bod yn well, o ystyried eich bod wedi gofyn imi am wybodaeth am ohiriadau dewisol o fis Tachwedd hyd at fis Chwefror, fy mod yn ysgrifennu atoch chi ar ddiwedd cyfnod mis Chwefror. Mae gennyf nifer o alluoedd, ond nid yw bod yn feistrolgar o ran canfyddiad allsynhwyraidd yn un ohonyn nhw. Ni allaf ragweld y dyfodol yn y modd hwnnw, felly byddaf yn ysgrifennu atoch chi rywbryd ym mis Mawrth pan fydd y ffigurau ar gael.

Mae'n werth nodi, fodd bynnag, oherwydd fy mod wedi ateb cwestiwn ysgrifenedig gan Angela Burns ar hyn yn ddiweddar, o'r gohiriadau ym mis Rhagfyr ar gyfer triniaethau dewisol, fod dros eu hanner wedi eu gohirio gan y claf, ac felly ceir her yno am weithio ar draws y system gyfan er mwyn ceisio gwneud i'r system gyfan weithio'n well. Nid oes a wnelo hynny â beio pobl sydd wedi gohirio; mewn gwirionedd mae'n ymwneud â sut yr ydym yn trefnu ein system gyfan yn well.

O ran eich pwynt arall am becynnau gofal i helpu pobl allan o'r ysbyty, dyna'n union pam yr ydym wedi ceisio helpu i gyfeirio'r £10 miliwn gyda chyngor a chymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, unwaith eto yn edrych arni fel system gyfan. Credaf ei fod yn dod yn ôl at eich pwynt am amseroedd aros hir am ambiwlans, oherwydd mai'r peth hawdd a syml i'w ddweud, wrth gwrs, yw dydw i ddim eisiau, ac nid oes unrhyw berson yn yr ystafell hon eisiau i bobl aros yn rhy hir am ambiwlans, p'un a yw'n alwad goch, oren neu hyd yn oed yn alwad wyrdd. Yr her wedyn yw beth a wnawn ynghylch deall y materion sydd wrth wraidd rhai o'r amseroedd aros ambiwlans hir hynny, ac nid yw hynny ond yn bosibl i'w weld os ydym ni'n edrych ar y system gyfan. Ar gyfer yr ambiwlansys hynny sy'n cael eu hoedi y tu allan i adran achosion brys tra eu bod yn aros i gael eu rhyddhau, er bod risg yn y gymuned sy'n dal i orfod cael ei rheoli, ceir gwahaniaethau ac amrywiadau mewn arferion ar draws y wlad am pa mor gyflym y mae hynny'n digwydd, ond nid dim ond hynny—mae'n ymwneud â chydnabod bod her wrth y drws ffrynt, ond hefyd wedyn i lifo drwy'r ysbyty fel bod gweddill y system ysbytai yn gweld y drws ffrynt fel eu her nhw yn ogystal, ac nid yn unig yn fater ar gyfer yr adran achosion brys ei hun. Fel gyda'r pecyn gofal, mae problem yn codi ynghylch lleihau'r ôl-groniad i gael pobl allan o'r ysbyty pan maen nhw'n ddigon iach yn feddygol, felly i roi iddynt y gefnogaeth y byddan nhw ei hangen i wneud hynny. Rhaid i hynny fod yn her y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chydnabod y maen nhw'n berchen arni ar y cyd ar gyfer y dinesydd unigol hwnnw.

Mae hefyd yn edrych ar y defnydd o ofal iechyd lleol yn ogystal â sut yr ydym ni'n helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir a sut yr ydym ni'n eu cefnogi i wneud hynny, a sut hefyd yr ydym ni'n ymdrin â rhywfaint o'r defnydd o'r gwasanaeth ambiwlans ei hun. Bu gwaith arloesol mewn gwirionedd gan Gaerdydd a'r Fro am y bobl hynny sy'n camddefnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd, ond mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â deall pa iechyd a gofal sydd eu hangen arnyn nhw hyd yn oed os nad yw'n ambiwlans brys. Mae hynny ynddo'i hun yn rhyddhau llawer o gapasiti ychwanegol ar gyfer ein criwiau ambiwlans.

Felly, mae a wnelo pob un o'r pwyntiau hynny â chydnabod eto beth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud ym mhob rhan ohonyn nhw i geisio ymdrin â'r amseroedd aros hirach hynny, ac nid dim ond dweud, 'Dyma'r broblem gydag Ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru ei hun', ond sut fel system gyfan y gwelwn y cyfleoedd i wella.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r holl staff ymroddedig am y ffordd y maen nhw wedi trin pwysau'r gaeaf hwn.

Mae'r gwanwyn rownd y gornel, ond mae ein GIG yn parhau i fod yn nyfnderoedd argyfwng gaeaf, gyda llawer o ganslo llawdriniaethau, ac felly ni allwn symud ymlaen. Dylwn aralleirio hynny, oherwydd bod y term 'pwysau gaeaf' yn rhoi'r argraff bod y pwysau sydd ar y GIG yn ystod y gaeaf yn unigryw; yn anffodus, dydyn nhw ddim. Mae ein GIG yn wynebu cynnydd yn y galw gydol y flwyddyn, yn aml yn cael ei wneud yn waeth gan yr ôl-groniad a grëwyd o ganlyniad i ymdrin â phwysau gaeaf. Yr unig beth sy'n wahanol am fisoedd y gaeaf yw'r cynnydd mewn afiechydon anadlol ac efallai gynnydd sydyn mewn baglu a chwympo oherwydd eira a rhew.

Hyd yma, mae gaeaf 2017-18 wedi bod yn llawer mwy mwyn na 2010-11 ac mae cyfraddau ffliw wedi bod yn is, felly pam, ar ôl cymaint o gynllunio a buddsoddi, y mae'r GIG yn ei chael yn fwy anodd eleni? Ar y cam hwn yn 2010-11, roedd ymgynghoriadau ar gyfer afiechydon tebyg i'r ffliw bron dwbl beth ydyn nhw heddiw ac roedd 86 y cant o gleifion a oedd yn cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu rhyddhau o fewn y targed pedair awr. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu bod y ffaith bod gennym 2,000 yn fwy o welyau a chyfraddau meddiannaeth is na 85 y cant yn galluogi'r GIG i ymdopi'n well bryd hynny?

A hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, er bod cyfraddau ymgynghori ar gyfer afiechydon tebyg i'r ffliw yn llawer is nag yn 2010-11, maen nhw'n dal yn llawer uwch na'r cyfartaledd tymhorol. Felly, ydych chi'n cytuno bod y penderfyniad i gynnig y brechlyn trifalent rhatach, nad yw'n ein hamddiffyn rhag y rhywogaeth B mwyaf cyffredin, y ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at y cynnydd sydyn mewn achosion o'r ffliw ac a fyddwch chi bellach yn dewis y brechlyn 'quadravalent' ychydig yn ddrutach, sy'n amddiffyn rhag B-Yamagata, neu ffliw Japan, y rhywogaeth B mwyaf cyffredin y gaeaf hwn?

Mae'n amlwg na allwn ni fforddio parhau i ymdrin â phwysau tymhorol yn yr un modd. Ac er ein bod yn edrych ymlaen at eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein GIG, mae'r gaeaf hwn yn ei gwneud yn gwbl glir: mae arnom angen newidiadau radical yn awr.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet mae ein GIG angen cyfeirio gwell ar gyfer cleifion, ac er bod yr ymgyrch Dewis Doeth yn gam i'r cyfeiriad cywir, nid yw'n cael yr effaith gyflawn a ddymunir o hyd. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i ehangu'r gwasanaeth 111 i gwmpasu Cymru gyfan ac i weithredu fel porth i wasanaethau, cyfeirio cleifion at yr adnodd mwyaf priodol, boed yn fferyllfa, tîm gofal sylfaenol neu adran damweiniau ac achosion brys?

Roeddwn i hefyd yn bryderus o glywed drwy gyfarfod bod y rhai hynny sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu—dim ond 30 y cant i 40 y cant sydd wedi datgan eu bod yn barod i weithio y tu allan i oriau. Mae hyn yn bryder mawr i mi ac i bobl eraill.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu atgyfnerthu adnoddau'r GIG fel nad ydym ni'n cael yr union sgwrs hon ymhen tri mis, chwe mis, ac unwaith eto ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf? Diolch yn fawr iawn.

16:25

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Hoffwn pe byddai'r gwanwyn ar ddod mewn gwirionedd, ond, fel y dywedais yn gynharach, ni all fod unrhyw sicrwydd bod y gaeaf yn dod i ben yn daclus ar ddydd Gŵyl Dewi.

Byddwn i'n dweud bod y gaeaf mewn gwirionedd yn wahanol. A dydw i ddim yn meddwl ei bod yn gywir i ddweud bod y pwysau drwy gydol y flwyddyn ac nad yw'n ddim gwahanol yn y gaeaf dim ond bod gennym ychydig mwy o salwch anadlol. Wrth fynd o amgylch adrannau achosion brys ar draws y wlad, mae wedi bod yn thema gyson iawn a ategir mewn ffeithiau a ffigurau ar y nifer o rai 85 oed yn ein hadrannau achosion brys mewn ysbytai a gwelyau ysbyty, ac felly y mae hi, yn y gaeaf, rydym ni'n gweld nifer fwy o bobl sâl iawn, fregus iawn a phobl llawer hŷn yn aml. A dyna beth sy'n creu pwysau, oherwydd mae'r niferoedd yn mynd i lawr ond mewn gwirionedd mae'r her a'r galw am gapasiti ysbytai ar gyfer pobl sâl iawn y mae angen iddyn nhw fod mewn gwely ysbyty yn mynd i fyny. A bydd mwy o'r bobl hynny'n treulio mwy o amser yn ein hunedau damweiniau ac achosion brys ac yn ein gwelyau mewn ysbytai, a dyna beth sy'n creu llawer o'r pwysau, ac yn wir y pwysau ym maes gofal iechyd lleol. Dyna pam y cyhoeddais ymlacio'r fframwaith ansawdd a chanlyniadau hefyd. Unwaith eto, mae llawer o'n sgwrs fel arall yn ymwneud ag ambiwlans ac ysbytai yn y pen draw.

O ran nifer y gwelyau a ffliw, credaf fy mod wedi ymdrin â'r pwyntiau hynny wrth ateb y set gyntaf o gwestiynau gan Angela Burns. Byddwn wrth gwrs yn gwrando ar dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, tystiolaeth eu gwyliadwriaeth ar y cylchrediad o ffliw, y math a beth y dylid ei wneud ar gyfer y flwyddyn nesaf.

O ran 111, eto mewn ymateb i gwestiwn Angela Burns, nodais y byddem ni'n cael rhywbeth ar gyflwyno cenedlaethol ar gyfer 111 dros y blynyddoedd nesaf. Ac ar fferylliaeth, rwy'n falch eich bod wedi crybwyll nifer o bethau y gallem ni eu gwneud mewn ffordd wahanol gyda Dewis Doeth—Dewis Fferyllfa yn un rhan o hynny. Y tro diwethaf y rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, roedd gan 60 y cant o fferyllfeydd yn y wlad y system Dewis Fferyllfa; bellach mae'n 66 y cant o fferyllfeydd cymunedol sydd â mynediad at Dewis Fferyllfa. Dyna stori lwyddiant go iawn, ac rydym ni'n treialu cyflwyno mynediad pellach at gofnod y meddygon teulu mewn fferyllfeydd cymunedol—byddwn yn gwybod mwy am hynny ar ddiwedd mis Mawrth—i wneud dewis gwahanol. Ac yn hynny o beth, rydym ar y blaen i Loegr a'r Alban mewn cael y mynediad gwell ar gyfer ein fferyllfeydd cymunedol mewn gwirionedd. Felly, rydym ni'n buddsoddi mewn gwahanol rannau o'n system i roi cyfleoedd i bobl gael cyngor a chymorth ym mhob cymuned, yn haws o lawer.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i eisiau rhoi teyrnged arbennig i Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maria Battle, y digwyddais ei gweld ar goridorau Ysbyty Athrofaol Cymru yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig. Roedd hi'n amlwg yn mynd o gwmpas, bob dydd o'r wythnos, i sicrhau bod pob aelod o'i staff yn cael eu trin yn briodol, ac yn ymdrin â materion penodol wrth iddyn nhw godi. Dyna beth yw arweiniad gwirioneddol. Felly, ymunaf â phawb arall wrth ddweud pa mor ddiolchgar yr ydym fod gennym nyrsys, meddygon a staff ategol ymroddedig o'r fath sydd, gyda'i gilydd, yn darparu'r glud i ddarparu'r math o ofal sydd ei angen ar bobl sy'n agored iawn i niwed.

Cyfartaledd oed pobl yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw 85. Felly, mae'n amlwg yn gymhleth iawn, iawn pan fydd rhywun yn cael eu derbyn am fater meddygol i'w cael adref unwaith eto, gan ail-fyw eu bywydau annibynnol, ar ôl digwyddiad meddygol. Felly, rwy'n falch iawn o ddarllen am y gwelyau adsefydlu ychwanegol y mae Caerdydd a'r Fro wedi'u trefnu, oherwydd mae hynny'n sicrhau bod pobl yn cael eu galluogi i fynd yn ôl adref a bwrw ymlaen â gweddill eu bywydau yn briodol.

Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddech chi'n sôn amdano am Cwm Taf wedi ymestyn oriau meddygon teulu ar y penwythnos, ac mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg bod hyn mewn gwirionedd yn lleihau'r galw ar adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd mae hynny'n awgrymu i mi fod bobl yn amhriodol yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys dim ond gan nad ydyn nhw'n gallu aros i weld eu meddyg teulu yn y gymuned.

Mae'n debyg mai'r ddau beth arall yr oeddwn i eisiau sôn amdanyn nhw yw'r pwysigrwydd o gael cyfleusterau arlwyo 24 awr ar gyfer pobl yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw weithio 24 awr—rydym ni am sicrhau bod pobl yn cael bwyd poeth pan maen nhw'n gweithio drwy'r nos; a hefyd ein bod yn briodol yn edrych ar y canllaw tywydd er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod pan fydd cynnydd sydyn yn y galw. Tybed a wnewch chi ddweud p'un a yw hynny'n digwydd yn ein byrddau iechyd i gyd.

Diolch ichi am hynny. Mewn gwirionedd, ar eich pwynt olaf, mae'n rhywbeth y mae'r gwasanaeth yn bendant yn ei ystyried, oherwydd ar ôl cyfnod oer, gallwch chi ddisgwyl o tua pump i saith diwrnod wedi hynny, y byddwch yn gweld mewnlifiad o gleifion o ganlyniad i'r cyfnod oer hwnnw. Mae hynny'n rhan o'r gwaethygu ychwanegol ar y pwysau ym mis Ionawr, oherwydd cyfnod oer mis Rhagfyr. Ond, yn yr un modd, mae rhai cyfnodau oer eraill a gawsom drwy weddill y gaeaf hwn wedi gweld llif ychwanegol yn ein hadrannau achosion brys. Mae'n sicr yn rhan o ble yr ydym ni, ac mae cael digon o hyblygrwydd yn ein gallu i gynllunio ar gyfer capasiti o ran staff a nifer y gwelyau yn rhan o'n her go iawn mewn rheoli a rhedeg y gwasanaeth.

Rwy'n derbyn eich pwynt chi ynghylch bwyd poeth, ac fe ddof yn ôl atoch chi ar y pwynt penodol hwnnw, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am staff. Mae hynny'n wir am eich sylwadau agoriadol sydd i'w croesawu'n fawr  am Maria Battle. Credaf fod holl gadeiryddion y byrddau iechyd yn cymryd o ddifrif y fraint y maen nhw'n ei theimlo am gael gwneud y gwaith hwn o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol a chydnabod, yn ogystal â herio arweinyddiaeth y bwrdd iechyd i gael strategaeth a llwyddiant ar gyfer y dyfodol, mewn gwirionedd, eu bod yn dymuno bod yno i gefnogi staff. A byddwch chi'n gweld llawer o gadeiryddion ac is-gadeiryddion sy'n manteisio ar y cyfle i fynd o amgylch a rhyngweithio gyda'r staff. Mae bron bob amser yn cael ei groesawu gan bobl sydd fel arall efallai heb wybod pwy yw cadeirydd y bwrdd iechyd, ac eithrio efallai am ddarlun mewn mynedfa y maen nhw efallai wedi rhoi'r gorau i edrych arno beth amser yn ôl. Felly, mae'n enghraifft dda iawn o'r ymrwymiad ar draws y system gofal iechyd.

Hoffwn ymdrin â'ch pwynt olaf am dderbyniadau a chydnabod oed. Fe ddown yn ôl at yr her hon o beth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer ein system, oherwydd os ydych chi'n derbyn rhywun am fod ganddyn nhw un peth penodol sydd wedi mynd o'i le gyda nhw sy'n achosi iddyn nhw gael eu derbyn, rydych chi'n aml yn canfod bod ganddyn nhw heriau gofal iechyd eraill hefyd. Y perygl yw os ydych chi'n dweud, 'Byddaf bellach yn trin yr holl bethau hynny tra eich bod mewn ysbyty', o bosibl rydych chi'n cadw'r person hwnnw yno am gyfnod hirach yn y pen draw. Mae rhywbeth, wedyn, am yr hyn y mae hynny'n ei wneud i'r person hwnnw, oherwydd os ydyn nhw wedi bod yn rheoli'r heriau eraill yn gymharol llwyddiannus, ac maen nhw yn hapus i ymdrin â'r risg honno yn eu cartref eu hunain, mae rhywbeth am ba mor dadol y gall ein system fod o bosibl, lle'r ydym yn dweud wrth bobl, 'Ni chewch chi reoli'r risg hon yn eich cartref eich hun', yn hytrach na, 'Sut ydym ni'n eich helpu ac yn eich cefnogi chi i reoli'r risg hon yn eich cartref eich hun, yr ydych chi wedi'i wneud yn llwyddiannus hyd yn hyn?' Nid yw hynny'n golygu na ddylai pobl sydd â chyflyrau heb gael diagnosis ohonyn nhw y gellid ac y dylid eu helpu gyda nhw gael hynny, ond mae'n dal i fod yn ymwneud â sgwrs gyda'r person hwnnw, ac mae hwnnw yn mynd i wraidd cael perthynas fwy cyfartal rhwng y darparwr gofal iechyd a'r dinesydd. Beth yw'r her? Beth yw'r broblem? A sut allwn ni siarad am hyn a chytuno ar ffordd ymlaen? Ynddo'i hun, byddai hynny'n helpu i ryddhau rhywfaint o amser a chapasiti, gan fod ysbyty yn lle gwych i fod ynddo os ydych chi'n sâl iawn ac mae angen gwasanaeth arnoch chi ac angen rhywfaint o ofal brys, yn arbennig. Ond, mewn gwirionedd, yn arbennig pan fyddwch chi'n hŷn, os ydych chi yno ac rydych chi'n cael eich oedi ac ni allwch chi fynd allan, mae'n dechrau achosi her wahanol i chi gyda diffyg symudedd a'r potensial ar gyfer risgiau eraill hefyd o fod yn system yr ysbyty. Felly, mae er budd pawb i gael y llif gwell hwnnw allan o'n system os nad oes angen iddyn nhw fod yno mwyach, a sut yr ydym yn helpu a chefnogi pobl i gael cymaint o ofal â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

16:35

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

Yr eitemau nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoleiddio ac Arolygu Rheoliadau Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018, yn ogystal â Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol)(Cofrestru)(Diwygio) 2018. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy'n cynnig bod y ddau gynnig canlynol o dan eitemau 5 a 6 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Da iawn.

5. & 6. Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 a Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i gynnig y cynigion. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM6653 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  18 Ionawr 2018.

Cynnig NDM6652 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2018.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion, ac, am resymau amlwg, rwy'n annog yr Aelodau i roi sylw penodol i bob gair a ddywedaf, gan fy mod i'n colli fy llais.

Yn gyntaf, mae Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn ceisio newid rheoliadau presennol i agor cofrestr y gweithlu i weithwyr gofal cartref o fis Ebrill 2018. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i gofrestru o'u gwirfodd â rheoleiddiwr y gweithlu, sef Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfnod arweiniol rhesymol o ddwy flynedd i'r sector, pan fydd Gofal Cymdeithasol Cymru, gweithwyr gofal cartref a'u cyflogwyr yn cydweithio i baratoi ar gyfer y broses gofrestru a'i rheoli cyn y cofrestru gorfodol yn 2020.

Cofrestru gweithwyr gofal cartref yw'r cam nesaf yn fy ymrwymiad i broffesiynoli a chodi proffil y rhai hynny sy'n gweithio o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae gweithwyr gofal cartref yn darparu cymorth hanfodol ledled Cymru. Ond mae'r disgwyliadau sydd arnyn nhw yn cynyddu ac maen nhw'n wynebu anghenion cymhleth yn gynyddol—clywsom am rai ohonyn nhw yn y ddadl nawr. Rwy'n credu'n gryf eu bod nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth a ddaw oddi wrth Lywodraeth Cymru, y rheoleiddiwr a chyflogwyr yn sgil y broses gofrestru. Hefyd, mae'n iawn ein bod ni'n annog y gweithwyr hyn i gofrestru, gan eu bod nhw'n darparu rhai o'r gwasanaethau rheng flaen mwyaf anodd a heriol. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y gwasanaethau hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl bob dydd, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn yn briodol rhag niwed. Rwy'n credu ei bod hi'r un mor bwysig darparu sicrwydd i'r cyhoedd bod gan y rheini sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl y sgiliau a'r cymwysterau priodol i wneud hynny a'u bod yn atebol pe byddai pryderon neu fethiannau yn digwydd. Felly, er nad yw cofrestriad yn ei hun yn gwarantu rhag arferion gwael, mae'n darparu dull cymesur ar gyfer atebolrwydd.

Rwyf nawr yn symud at Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018—a diolch ichi, Dirprwy Lywydd, am eu rhoi at ei gilydd—sydd hefyd ger ein bron y prynhawn yma. Mae'r rhain, i raddau helaeth, yn gwneud newidiadau technegol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol mewn cysylltiad â dod â darpariaethau i rym o fewn Rhan 1 o'r Ddeddf ar 2 Ebrill. Yn y bôn, o fewn deddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae'r derminoleg yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy'n disodli Deddf Safonau Gofal 2000, yn disodli'r derminoleg yn y Ddeddf honno hefyd. Felly, mae'r gwelliannau yn angenrheidiol i ddarparu eglurder a sicrhau cysondeb y gyfraith.

Yn y drefn honno, mae'r rheoliadau hyn yn hanfodol i fwrw ymlaen gyda rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol ac, yn ei dro, i wella ansawdd y gofal a ddarperir a chwblhau'r fframwaith statudol gofynnol yng Ngham 2 o weithredu'r Ddeddf hon. Fel y cyfryw, fe'u cymeradwyaf i'r Aelodau.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl, felly y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, cytunir ar y cynnig o dan eitem 5.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, cytunir ar y cynnig o dan eitem 6.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Rydym ni nawr yn symud ymlaen at eitem 7, sef y cynnig am gydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Canllawiau Ariannol a Hawliadau, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6651 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol, sy'n ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

16:40

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y materion hyn yn y memorandwm gwreiddiol a'r memorandwm atodol, ac rwy'n cydnabod eu casgliadau.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau ar 22 Mehefin 2017. Sefydlodd y darpariaethau perthnasol yn rhan 1 y Bil gorff canllawiau ariannol unigol, neu'r SFGB yn fyr. Mae hwn yn dwyn ynghyd dri gwasanaeth gwahanol a ariennir yn gyhoeddus: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Yn y dyfodol, bydd yn haws i bobl gael gafael ar ganllawiau ar bensiynau, arian a dyled yn rhad ac am ddim ac o un ffynhonnell.

Mae'r Bil hefyd yn darparu bod cyllid ar gyfer cyngor ar ddyled yn cael ei drosglwyddo i'r gweinyddiaethau datganoledig, gan alluogi gwasanaethau a gaiff eu comisiynu yn lleol i helpu unigolion i reoli eu dyledion. Mae hyn i'w groesawu gan ei fod yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull strategol ac integredig o gomisiynu gwasanaethau cyngor ar ddyledion yng Nghymru ochr yn ochr â meysydd eraill ar gyfer gwasanaethau cynghori ar les cymdeithasol, gan gynnwys tai, budd-daliadau lles, cyflogaeth a gwahaniaethu. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd ag amcanion 'Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol' Llywodraeth Cymru a'r cynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016 a oedd yn annog datblygu model ariannu ar gyfer cyngor lles cymdeithasol a fyddai'n uno ymyriadau i ddatrys problemau â gweithgareddau sy'n anelu at helpu pobl i ddod yn fwy cydnerth i atal problemau tebyg rhag digwydd eto.

Mae'r Bil hefyd yn darparu bod yr SFG yn darparu canllawiau ar arian drwy'r DU gyfan, a'i bod yn ddyletswydd ar y SFGB i weithio'n glòs gyda'r gweinyddiaethau datganoledig o ran rhoi canllawiau ar arian a phensiynau. Wrth ddatblygu a chydlynu strategaeth genedlaethol sy'n ymdrin â chapasiti ariannol, dyled ac addysg ariannol, mae'n ofynnod hefyd i'r SFGB weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n hanfodol fod hyn yn digwydd. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio i ffurfioli'r trefniadau, fel y bydd gwasanaethau canllawiau ar arian a chapasiti ariannol yn gallu gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau cyngor ar ddyledion i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru yn llawn.

Yn gysylltiedig â hyn, mae adrannau Llywodraeth y DU yn cydnabod bod addysg wedi cael ei ddatganoli, ac y bydd agweddau ar swyddogaethau'r SFGB sy'n ymwneud â chymorth a chydlyniant addysg ariannol, yn ymarferol, yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Er hynny, gall gweithgareddau'r SFGB ategu gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes pwysig hwn, yn debyg i'r modd y mae'r gwasanaeth cynghori ariannol yn cefnogi capasiti ariannol ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyllgorau craffu ar bwysigrwydd hanfodol addysg ariannol i blant a phobl ifanc. Rwy'n falch eu bod yn cydnabod y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm newydd.

Gwelliant sylweddol i'r Bil, sydd wedi ei godi gan nifer o Aelodau yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, yw'r ymrwymiad i archwilio ymhellach i seibiant rhag dyled—y cynllun seibiant. Mae hyn i'w groesawu am mai'r nod yw cynnig amddiffyniad statudol i bobl sydd â dyledion anodd oherwydd taliadau llog ychwanegol neu eu bod yn wynebu camau gorfodi. Mae ffordd bell i fynd, ond byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r SFGB, pan gaiff ei sefydlu, yn ogystal â darparwyr cyngor a rhanddeiliaid eraill, i ddylanwadu ar ddatblygiad unrhyw gynllun a phenderfynu a yw'n diwallu anghenion Cymru.

Fy marn i yw bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau yn y Bil DU hwn ac ystyriaf ei bod yn synhwyrol bod cylch gwaith corff ar draws y DU yn cael ei gynnwys mewn un darn o ddeddfwriaeth y DU. Felly rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn bod y Cynulliad yn cytuno â'r cynnig cysyniad deddfwriaethol.

Diolch. Nid oes siaradwyr i'r ddadl, felly y cwestiwn yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan hynny, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar setliad terfynol yr heddlu 2018-19. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud y cynnig. Alun Davies.

Cynnig NDM6649 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 16:44:55
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Cynulliad eu cymeradwyo fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2018 i 2019. Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn lluoedd ein heddlu, a gobeithio y bydd rhai ar bob ochr i'r Siambr yn ymuno â mi i roi teyrnged i'r gwaith a wneir gan heddluoedd ledled Cymru, wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, a chadw at y safonau uchaf o ddyletswydd ac ymroddiad, ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad i'r lle hwn.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod cyllid craidd i'r heddlu yng Nghymru yn cael ei gyflwyno drwy drefniant tri chyfeiriad sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a thrwy'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli hyd yn hyn, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei bennu a'i weithredu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o hynny felly yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 31 Ionawr, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo i'r gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2018-19 yw £350 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn drwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu yw ychydig dros £140 miliwn, a'r arian hwn, Dirprwy Lywydd, y gofynnir ichi ei gymeradwyo heddiw.

Fel yn y blynyddoedd a fu, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu y bydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gyd yn derbyn setliad  gwastad ar gyfer 2018-19 o'i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant atodol, sef cyfanswm o £3.7 miliwn, i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd lefel y llawr. Mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn hynod siomedig yn hyn o beth. Nid ydym wedi gweld yr un geiniog ychwanegol i'n heddluoedd, ac mae hyn yn golygu toriadau mewn termau gwirioneddol yng ngwasanaethau heddlu ledled Cymru. Credaf y bydd llawer ohonom sy'n gweithio ochr yn ochr â'r heddlu ac yn edmygu gwaith yr heddluoedd ledled Cymru yn siomedig gan nad yw'r Swyddfa Gartref, er ei bod yn llawn addewidion melys, yn addo nac yn rhoi darpariaeth o gyllid ychwanegol ar gyfer heddluoedd na Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu. Credaf y byddai pobl ar bob ochr i'r Siambr hon yn awyddus i weld ein heddluoedd yn cael eu hariannu ar lefel briodol. Bydd y setliad ar gyfer 2018-19 yn rhoi cyllid craidd canolog ar yr un lefel â'r flwyddyn gyfredol. Bydd gan gomisiynwyr heddlu a throseddu y gallu i godi arian ychwanegol drwy eu harcheb dreth gyngor, ac rydym wedi gweld, unwaith eto, Lywodraeth Geidwadol y DU yn symud oddi wrth eu cyfrifoldeb nhw eu hunain o ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhoi mwy o faich ar drethdalwyr ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld hyn. Rydym yn awyddus i weld ein heddluoedd yn cael eu hariannu ar y lefel briodol.

Cyfrifoldeb y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw pennu eu harchebion. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor ac nid ydyn nhw'n ddarostyngedig i'r terfynau sy'n bodoli yn Lloegr. Wrth osod eu helfen nhw o'r dreth gyngor, byddwn yn disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd rhesymol er mwyn ystyried y pwysau ar aelwydydd dan straen. Rydym yn deall bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ei hun ar gyfer 2018-19, wedi gwneud darpariaeth am ddwy flynedd o gyllid eto ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan y rhaglen flaenorol o ymrwymiad y Llywodraeth. Dirprwy Lywydd, mae cyfanswm o £17 miliwn wedi ei glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i barhau â'r ymrwymiad hwn. Mae'r cyflenwad llawn o swyddogion wedi cael eu defnyddio ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Rhan hanfodol o'u swyddogaeth yw mynd ati i ymgysylltu â phartneriaid a sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol cysylltiedig, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad pwysig at wariant ataliol. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â'r pedwar heddlu yng Nghymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wedi cyflwyno'r adnodd ychwanegol hwn, sy'n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru.

Gan droi yn ôl at ddiben y ddadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi ei osod gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn galluogi'r comisiynwyr i gadarnhau eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond byddwn yn hoffi gwneud y pwynt hefyd, Dirprwy Lywydd, nad wyf i'n credu bod gennym setliad boddhaol ar y materion hyn. Fy mwriad i yw symud ymlaen i greu polisi a threfniadau gweithio newydd yng Nghymru, gyda'n heddluoedd, symud ymlaen gyda phlismona a pholisi diogelwch cymunedol a chyfiawnder.

Gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr gyfan yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr gyfan yn deall hefyd y pwysau mawr sydd yn wynebu ein heddluoedd. A gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr hefyd yn fy nghefnogi i wrth imi ddweud wrth Lywodraeth Geidwadol y DU bod ein holl heddluoedd yn haeddu gwell na hyn.

16:50

Wel, gyda chyllidebau heddluoedd Cymru yn cael eu hariannu, fel y clywsom, gan y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, byddwn yn cefnogi'r cynnig.

Etifeddodd Llywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr a etholwyd yn 2010 werth £545 miliwn o doriadau i'r heddlu yn sgil cyllideb derfynol y Blaid Lafur, i'w gwneud erbyn 2014. Byddai cynlluniau Llafur i leihau'r diffyg ariannol a gwariant dan Mr Miliband wedi golygu cyllidebau cyfatebol i'r rhai a roddwyd ar waith gan Lywodraeth glymblaid y DU cyn 2015. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai swm yr arian a gaiff yr heddlu gan y Llywodraeth yn cynyddu bob blwyddyn, yn unol â chwyddiant, ar gyfer y pum mlynedd i ddilyn. Mae rhan o'r arian ychwanegol dros y blynyddoedd hyn i fynd at feysydd penodol o blismona, megis seiberdroseddu a mynd i'r afael â chamfanteisio yn rhywiol ar blant. Gan yr ymdrinnir â'r rhain yn aml yn rhanbarthol, ni fyddai pob heddlu unigol yn gweld mantais i'r codiad hwn. Rhoddir mynediad hefyd i gronfa drawsnewid yr heddlu sy'n werth £175 miliwn.

Mae setliad yr heddlu gan Lywodraeth y DU yn cynyddu cyfanswm y cyllid ar draws y system heddlu yng Nghymru a Lloegr hyd at £450 miliwn yn 2018-19—cynnydd o dros £1 biliwn ers 2015-16. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau grantiau heddlu i heddluoedd yn nhermau arian parod. Pe byddai'r comisiynwyr heddlu a throseddu a etholwyd yn lleol wedi codi'r cyfraniadau archebol o dreth gyngor £1 y mis am bod aelwyd, byddai hynny wedi caniatáu, yn ôl y Swyddfa Gartref, £3 miliwn yn ychwanegol yng Ngwent, £3.1 miliwn yn Nyfed-Powys, £4 miliwn yng Ngogledd Cymru a £6.7 miliwn yn Ne Cymru. Ond, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl briodol, mae'r Comisiynwyr yn rhydd i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar ôl ymgynghoriad, ac mae'r comisiynwyr wedi cyhoeddi cynnydd archeb o 7 y cant ar gyfer De Cymru, 5 y cant ar gyfer Dyfed-Powys, 4.49 y cant ar gyfer Gwent—er y rhoddwyd feto ar hynny gan eu panel heddlu a throseddu—a 3.58 y cant yng Ngogledd Cymru. Ac, er nad yw Gogledd Cymru wedi cynyddu ei gyfran dreth i'r eithaf, mae De Cymru yn talu llai o hyd gan ei fod yn ceisio dal i fyny.

Mae cyfanswm y troseddau a gofnodir gan yr heddlu ledled Cymru wedi codi 12 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2016—wedi codi 14 y cant yng Ngwent, 13.7 y cant yng Ngogledd Cymru, 13 y cant yn Nyfed-Powys a 10.9 y cant yn Ne Cymru. Fodd bynnag, mae heddluoedd Cymru eu hunain wedi priodoli llawer o hynny i newidiadau i'r cofnodi yn 2014, a mwy o hyder ymysg y cyhoedd o safbwynt adrodd am droseddau. Pwysleisiodd Heddlu Gogledd Cymru hefyd fod gwell dealltwriaeth yn awr, a chan hynny gydnabyddiaeth, o gamfanteisio yn rhywiol ar blant, trais rhywiol, seiberdroseddu a throseddu difrifol a chyfundrefnol. Ar ben hynny, mae Awdurdod Ystadegau'r DU wedi dweud bod yr arolwg troseddu i Gymru a Lloegr yn rhoi mesur sy'n fwy dibynadwy, ac mae hyn yn dangos bod troseddu ledled Cymru a Lloegr wedi gostwng 9 y cant yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2017, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd arolwg troseddu 2016-17 ar gyfer Cymru a Lloegr wedi canfod bod 63 y cant o bobl Cymru o'r farn bod yr heddlu yn gwneud gwaith rhagorol neu dda, a Heddlu Gogledd Cymru sydd bedwerydd o'r brig ledled Cymru a Lloegr o ran hyder y cyhoedd.

Er bod nifer y swyddogion heddlu yng Nghymru wedi codi 1 y cant rhwng 2016 a 2017, mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a'r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru wedi rhybuddio y gallai eu hanallu i gael gafael ar y £2 filiwn y maen nhw'n ei dalu i'r ardoll prentisiaeth arwain at lai o swyddogion heddlu yn y dyfodol, a recriwtiaid posibl yn dewis ymuno â lluoedd Lloegr. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru i'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth y DU wedi ariannu Llywodraeth Cymru yn llawn ar gyfer hyn, ar ôl gwarchod y swm a dalwyd yn ardoll gan gyflogwyr sector cyhoeddus yng Nghymru a'r gostyngiad bloc Barnett canlyniadol. Mae Heddluoedd Cymru eisiau gweld yr arian hwn yn mynd tuag at goleg yr heddlu. Maen nhw wedi dweud wrthyf i bod hynny'n cael ei gydnabod gan y Swyddfa Gartref, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r ystafell ymgynghori gyda'r Swyddfa Gartref, a datrys hyn un waith am byth.

Crëwyd Ymgyrch Tarian yn wreiddiol yn 2002 i ddarparu gorfodi gwybodus, cydgysylltiedig o'r gyfraith drwy integreiddio gwasanaethau heddluoedd Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent i fynd i'r afael â throseddu â chyffuriau. Yn 2004, lansiwyd Ymgyrch Tarian Plws i gydlynu ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Er ei bod yn llai o broblem i Ogledd Cymru, sy'n gweithio gyda heddlu swydd Caer ar hyn, ceir pryderon fod Llywodraeth Cymru am dorri ei chyfraniad. Ceir hefyd bryderon fod Llywodraeth Cymru o 2019 ymlaen yn bwriadu cael gwared yn raddol ar ei chyfraniad blynyddol o £1.98 miliwn at raglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, wrth i'r arian ddiflannu i'r cwricwlwm newydd i ysgolion. Ac mae'r perygl sydd ymhlyg yn y galwadau am ddatganoli'r heddlu yn amlwg yn nhystiolaeth cynigion i fachu'r grym oddi ar ein pedwar comisiynydd heddlu a throseddu sy'n atebol yn lleol a chanoli'r grym hwnnw gyda chomisiynydd sy'n wleidyddol atebol i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

16:55

Mae'r setliad rydym ni'n ei drafod heddiw ar gyfer y gwasanaethau heddlu yn dangos yn gwbl glir, unwaith eto, pam bod angen datganoli plismona i Gymru fel mater o frys. Gwaethygu'r problemau ariannu a wynebir gan yr heddlu yng Nghymru mae'r setliad yma yn ei wneud. Tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni bod y setliad yn rhoi hwb o £450 miliwn i gyllidebau'r heddlu, mewn gwirionedd, mae £270 miliwn o'r ffigur yn dod yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi caniatâd i luoedd godi prisiau uwch ar drethdalwyr, tra bod £180 miliwn—yr arian sy'n weddill—yn dod yn sgil y Swyddfa Gartref yn cynyddu gwariant canolog ac yn 'top-slice-io'.

Felly, wrth grafu'r wyneb, fe ddaw'n amlwg bod setliad cyllid heddlu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl gamarweiniol. Mae'r setliad hwn yn golygu y bydd heddluoedd yn gorfod dewis rhwng cynyddu'r dreth gyngor o hyd at £12 i bob cartref, gan roi straen ychwanegol ar gyllidebau personol, neu, ar y llaw arall, mae'n rhaid iddyn nhw glustnodi toriadau pellach, a hynny yn ei dro yn peryglu diogelwch ein cymunedau ni. Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu toriad mewn termau real o £2.1 miliwn i Heddlu Gogledd Cymru.

Mae gan gyllideb Llywodraeth Cymru oblygiadau i Heddlu Gogledd Cymru hefyd. Rydym ni wedi sôn—roedd Mark Isherwood yn trafod y rhaglen swyddogion cyswllt ysgolion. Rhaglen effeithiol ydy hon, ond mae hi dan fygythiad rŵan oherwydd, yng nghyllideb 2019-20 Llywodraeth Cymru, mae yna doriad sylweddol. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd i ddisgyblion yn ysgolion cynradd ac uwchradd y gogledd i wella eu dealltwriaeth, eu hagwedd a'u hymddygiad at bynciau pwysig fel cyffuriau, alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherthnasau iach. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru, ond mi fydd y toriad o 44 y cant yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru i'r rhaglen yma yn peryglu dyfodol y rhaglen yn ei chyfanrwydd, sydd yn destun pryder.

Mae'r achos o blaid datganoli plismona o San Steffan i'n Senedd Gymreig yn un hollol glir, a dyma'r amser i wneud hynny. Os ydy'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y pwerau yma, a Manceinion yn cael rhai cyfrifoldebau dros blismona, pam nad ydy Cymru yn eu cael nhw hefyd? Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn trawsbleidiol Silk argymell datganoli plismona, ond rydym ni'n dal yn ddim agosach at wireddu hynny. Mae ffigurau gan Heddlu Dyfed-Powys yn dangos pe bai plismona wedi'i ddatganoli a'i gyllido yn ôl pob pen o'r boblogaeth yna fyddai heddluoedd Cymru yn elwa o £25 miliwn y flwyddyn. Mi fyddai rhoi rheolaeth i Gymru dros ein heddluoedd ein hunain yn sicrhau gwell setliad cyllidol, a hefyd yn sicrhau bod un o'n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf yn cael ei reoli mor agos â phosibl at y cymunedau y mae'n eu gwarchod.

Yn gyntaf oll, hoffwn roi ar gofnod y gwaith aruthrol, er enghraifft, y mae swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ei wneud, a'r gwahaniaeth sylweddol y mae'r 500 o swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gan Llywodraeth Cymru wedi ei wneud mewn gwirionedd i'n cymunedau. Mae'r rhai hynny ohonom ni sydd wedi cerdded o amgylch ein cymunedau gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau a'r adnodd ychwanegol y maen nhw'n ei gynrychioli mewn gwirionedd. A hefyd mae'r un peth yn wir am yr heddlu, sy'n gweithio dan yr amgylchiadau anoddaf a phwysau sylweddol.

Y cefndir i'r hyn sy'n digwydd gyda'r tangyllido a'r toriadau—y toriadau gwirioneddol—sydd wedi'u gwneud i blismona yng Nghymru yw hyn: mae niferoedd yr heddlu yn awr yn is nag y buon nhw ers 30 mlynedd, mae gan Gymru 680 yn llai o swyddogion heddlu nag a fu, mae troseddau treisgar yn y 12 mis diwethaf wedi codi 20 y cant, mae troseddu â chyllyll i fyny 26 y cant ac mae troseddau sydd heb ei datrys wedi codi o 74,000 i 86,000. Ni ellir gwadu'r cysylltiad rhwng hynny â'r tanariannu a'r toriadau i blismona.

Yn 2015, dywedodd Gweinidog y Llywodraeth Karen Bradley nad oedd y Ceidwadwyr yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Ac rwyf wedi gwrando ar yr hyn y mae llefarydd yr wrthblaid wedi ei ddweud mewn gwirionedd—yr hyn a gredaf sy'n set o ffigyrau o wlad y tylwyth teg, drwy gyfrwystra llaw. Wrth gwrs, pan wnaeth Karen Bradley y datganiad hwnnw, ceir sefydliad o'r enw Full Fact, sydd mewn gwirionedd yn gwirio'r datganiadau gwirioneddol sydd wedi eu gwneud ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac yn eu gwirio gyferbyn ag ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a dyma'r hyn a ddywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn gwirionedd:

Mae cyllid yr heddlu wedi syrthio 18% rhwng 2010/11 a 2015/16... gan ystyried chwyddiant.

Maen nhw'n dweud hefyd:

Mae hynny'n cymharu â chynnydd mewn cyllid o 31% rhwng 2000/01 a 2010/11.

Blynyddoedd Llafur oedd y rheini. Felly, yr hyn sy'n eglur iawn, clywsom yn gynharach heddiw—[torri ar draws.] Gwnaf, fe gymeraf i ymyriad.

17:00

A wnewch chi gydnabod y ffaith fod y gyllideb Lafur ddiwethaf wedi torri £548 miliwn oddi ar gyllid yr heddlu hyd at 2014 ac y byddai toriadau pellach wedi dilyn yn sgil y cyhoeddiadau economaidd dilynol a wnaed gan Weinidogion y gwrthbleidiau bryd hynny yn Llywodraeth y DU?

Wel, rydych chi'n dethol eich ffeithiau yn dda. Yr hyn y mae ystadegau'r ONS yn glir iawn yn ei gylch yw mai ar ôl i'r Torïaid ddod i rym, ers 2010, yr ydych chi wedi cwtogi 18 y cant ar blismona mewn termau gwirioneddol. O dan y Llywodraeth Lafur, gan fynd yn ôl hyd at 2001, cafwyd cynnydd o 31 y cant i'r gwariant ar yr heddlu mewn termau real. Ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini. Ac, fel y clywsom yn gynharach, un peth sy'n glir iawn, sef yr hyn sy'n digwydd pan fo Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan: mae tlodi yn cynyddu, mae digartrefedd yn cynyddu, ac mae Torïaid yn cynyddu torcyfraith hefyd.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad blynyddol yr heddlu. Byddem ni yn UKIP yn awyddus hefyd i ymuno â'r Gweinidog yn ei deyrnged i swyddogion yr heddlu. Hoffwn nodi ar y dechrau ein bod ni yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rydym yn croesawu'r gefnogaeth ariannol gynyddol, er mai cynnydd bychan ydyw o gyllid allanol agregedig, sef cyfran Llywodraeth Cymru o setliad yr heddlu.

Gan symud ymlaen at faterion a godwyd heddiw, rwy'n nodi bod Mark Isherwood wedi codi'r problemau o ran yr ardoll prentisiaeth. Sylwais wrth ddarllen trawsgrifiadau o ddadl y llynedd ei fod wedi codi hynny y llynedd hefyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog i hyn, oherwydd ymddengys bod y mater hwn yn dal i barhau.

Mater arall a gaiff ei godi yn aml yw datganoli plismona, ac mae Siân Gwenllian wedi ei godi heddiw. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson wrth ddadlau'r achos dros hynny.  Nid ydym ni yn UKIP yn cefnogi hynny mewn gwirionedd. Ond, unwaith eto, byddai gennyf ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae Llafur wedi dangos ei fod o'i blaid ar adegau arbennig yn y gorffennol. Gan gyfeirio'n ôl unwaith eto at drawsgrifiad o'r ddadl y llynedd, sylwais fod Jane Hutt, a oedd yn cynnig setliad yr heddlu i'r Llywodraeth ar yr achlysur hwnnw, yn ymddangos ei bod yn cefnogi datganoli plismona, ond pan ofynnodd Andrew R.T. Davies i Jane, mewn ymyriad, ai hynny mewn gwirionedd oedd polisi Plaid Lafur y DU yn San Steffan, ni chafodd ef ateb clir mewn gwirionedd i hynny. Ac o edrych ar—

17:05

Wel, roeddwn innau'n holi pam tybed, a dyna pam y codais y mater.

O edrych ar faniffesto Llafur, maniffesto'r DU o'r llynedd, nid oedd unrhyw sôn mewn gwirionedd am ddatganoli plismona, felly byddai'n dda inni glywed heddiw, Gweinidog, beth yw eich agwedd chi tuag at ddatganoli plismona, a sut y credwch chi y mae hynny'n cyd-fynd ag agwedd Plaid Lafur San Steffan?

Beth fydden ni yn UKIP yn hoffi eu gweld yn flaenoriaethau ar gyfer cyllid yr heddlu? Wel, yn gyffredinol rydym yn cefnogi'r egwyddor o fwy o blismyn ar y strydoedd. Rydym yn nodi i chi wneud ymrwymiad i 500 o swyddogion cymorth cymunedol. Ydym, rydym ni o'r farn mai da o beth yw hynny. Dywedasom hynny y llynedd. Rydyn ni'n credu y bydd mwy o amlygrwydd i swyddogion yr heddlu neu, os nad yw hynny i fod, i swyddogion cymorth cymunedol, yn cael effaith ataliol ar dorcyfraith ac yn arwain at gymunedau'n teimlo'n fwy diogel a mwy cydlynus mewn gwirionedd. I'r perwyl hwnnw, byddem yn cefnogi unrhyw gamau a fyddai'n tynnu swyddogion yr heddlu oddi wrth waith waith papur a'u cael nhw allan yn y gymuned. Roeddech chi eich hun yn sôn am ddiogelwch cymunedol, felly rydym yn cytuno â chi yn hynny o beth.

Mae Gweinidogion Llafur yn y Cynulliad wedi tueddu yn y gorffennol i siarad llawer am gymryd camau i droi pobl ifanc oddi wrth dorcyfraith ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydym ninnau'n cefnogi'r dull hwn o ymdrin â'r mater yn gyffredinol. Os gellir cael ymyriadau cynnar i atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf, yna mae hynny'n ffordd gost-effeithiol o ddefnyddio'r gyllideb. I fod yn fwy penodol, pa droseddau a welwn yng Nghymru ar hyn o bryd yr ymddengys eu bod ar gynnydd neu eu bod yn broblem arbennig o ddyrys? Wel, i edrych ar Ganol De Cymru yn gyntaf, rydym wedi gweld problemau gyda beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd, tanau gwair bwriadol a phroblemau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyffuriau ar y stryd. Rwyf i wedi codi'r materion hyn mewn cwestiynnau amrywiol yn y Siambr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan symud i ffwrdd o'r De, cafwyd problem benodol, sy'n ymddangos ei bod yn effeithio ar Gasnewydd yn benodol, sef anelu taflegrau at gerbydau argyfwng a gweithwyr achosion brys. Rydym yn gwybod am rai ardaloedd o Gasnewydd lle, yn ddiweddar, mae gyrwyr tacsi wedi bod yn amharod i fynd iddynt. Nid mater o ladd ar Gasnewydd gennyf i yw hyn, gyda llaw; ond cydnabod yn syml fod problemau gwrthgymdeithasol i'w cael yno.

Felly, byddai'n ddiddorol ystyried sut y gallem ni ymgeisio i ymdrin â hyn wrth ei wraidd a cheisio deall pam mae hyn yn digwydd a pha fesurau cymunedol y gallem ni eu cyflwyno mewn ymgais i rwystro'r gweithredoedd eithaf disynnwyr hyn rhag digwydd. Wrth gwrs, nid dim ond yng Nghasnewydd y mae hyn yn digwydd. Mae gan Chris Bryant, AS Llafur dros y Rhondda, Fil Aelod preifat yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, ac mae ei Fil yn galw am gosbau llymach yn erbyn troseddwyr sy'n ymosod ar weithwyr argyfwng. Mae ymosodiadau ar weithwyr o'r fath wedi codi i 275 bob dydd, sy'n syfrdanol, er mai ffigwr i'r DU yw hynny wrth gwrs. Ond rwy'n credu bod angen inni gyfuno cosbau llymach gyda dealltwriaeth o'r rhesymau pam mae pethau o'r fath yn digwydd yn y lle cyntaf.

Dyna ddigon gennyf i ar setliad heddiw. Fel  dywedais, rydym yn cefnogi eich cynnig. Diolch.

A gaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes penodol yn unig, y cyntaf yw'r mater ynglŷn â'r ardoll prentisiaeth? Byddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, mai barn Llywodraeth y DU yw ei bod wedi datganoli adnoddau i Lywodraeth Cymru i ganiatáu i'r arian hwn fod ar gael i heddluoedd Cymru er mwyn elwa ar y manteision hynny y gallasai'r ardoll prentisiaeth eu rhoi iddyn nhw ac aelodau eu gweithlu. Wrth gwrs, nid swm bach yw hwn yn achos Heddlu Gogledd Cymru. Er enghraifft, maen nhw wedi awgrymu i mi ei fod yn £423,000 o incwm yn flynyddol y maen nhw ar hyn o bryd yn ei ildio oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gael rhyw fath o gytundeb gyda Llywodraeth y DU am argaeledd yr arian hwnnw. Mae hwn yn arian parod sydd yn eich pocedi chi eisoes, felly rwy'n credu ein bod yn haeddu eglurhad pam nad yw'r arian hwnnw'n cael ei ryddhau i Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd eraill yng Nghymru i'w galluogi i wella sgiliau eu gweithluoedd.

Yn ail, rwyf hefyd am godi'r pwynt am swyddogion cyswllt ysgolion. Mae wedi ei wneud mewn sawl ffordd yn barod. Erbyn hyn, barn Llywodraeth Cymru yw y bydd y cwricwlwm newydd yn y dyfodol yn gallu parhau â'r gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion cyswllt ysgolion, ond fel y dywedodd Siân Gwenllian yn gwbl briodol, nid camddefnyddio sylweddau yw'r unig beth y mae'r swyddogion hyn yn ymdrin ag ef; mae perthynas iach, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion sy'n ymwneud â diogelwch personol yn faterion eraill hefyd. Eto, yn achos Heddlu Gogledd Cymru yn unig, rydym yn sôn am £388,000 y flwyddyn y bydd yr heddlu hwn yn amddifad ohono oherwydd penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio’r arian hwnnw i'r gyllideb addysg ac oddi wrth ein heddlu. Tybed, pan fyddwch yn ychwanegu at hynny gost yr hyn y maen nhw'n ei ildio o ran yr ardoll prentisiaeth, sut ydych chi'n disgwyl i ddim ond yr un heddlu hwnnw wneud iawn am £800,000 yn y blynyddoedd ariannol i ddod, nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn ei dderbyn o ganlyniad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i rannu ei grant bloc.

Gwrandewais yn astud ar y sylwadau ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Rwy'n gwir werthfawrogi gwaith y swyddogion cymorth cymunedol yn fy etholaeth i. Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol, yn enwedig o ran ymgysylltu â'r cymunedau lleol lle y maen nhw'n gweithio. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu tua 500 o'r rhain, ac mae 101 o'r rheini yn y Gogledd ar hyn o bryd. Ac rwyf yn gofyn i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi ymrwymiad parhaol i ariannu'r swyddogion cymunedol hynny, oherwydd y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud . Nid wyf i'n credu bod unrhyw ymrwymiad wedi ei wneud y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf, ond byddai'n ddiddorol cael clywed beth yw eich barn chi am hynny. Rwyf i yn sicr yn dymuno eu gweld yn parhau am gyfnod llawn y Cynulliad hwn, a chredaf y byddai rhywfaint o sicrwydd ynghylch hynny yn rhywbeth defnyddiol dros ben.

Ac yn olaf i gyd, os caf i, hoffwn roi fy marn ar y gwaith partneriaeth y mae'r heddlu yn ei wneud gydag awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd yn y Gogledd yn benodol, ac yn wir rai o'r gwasanaethau argyfwng eraill. Mae llawer o'r problemau y mae'r bwrdd iechyd yn eu creu i'r heddlu yn dod â chostau ychwanegol yn eu sgil. Felly, er enghraifft, mae oedi wrth aros am ambiwlans i gyrraedd y man pan fydd swyddog yr heddlu wedi galw amdano yn broblem a nodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru fel un sy'n achos cryn bryder ar eu rhan. Mae'n tynnu swyddogion oddi wrth ddyletswyddau ymateb eraill pan fydd yn rhaid aros am oriau cyn i ambiwlans gyrraedd. A dweud y gwir, pe byddai swyddog yr heddlu yn galw am ambiwlans, neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall fel meddyg neu swyddog heddlu, dylen nhw fod â'r gallu i wneud i'r ambiwlans hwnnw ymateb yn gyflymach o lawer oherwydd y pwysau ychwanegol y mae'n ei osod ar eu gwasanaethau nhw.

Yn ogystal â hynny, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud hefyd eu bod nhw'n cael problemau wrth geisio cael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymgysylltu ar faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Eto, nid yw hynny'n fy synnu i oherwydd y problemau sy'n bodoli yn y Bwrdd Iechyd hwnnw. Ond rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ychwanegu at rywfaint o'r pwysau a wynebir gan ein heddluoedd. Ni wn beth yw'r sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru, ond yn sicr yn y Gogledd mae'r diffyg ymgysylltu gan y bwrdd iechyd a'r diffyg ymgysylltu gan y gwasanaeth ambiwlans o ran darparu ymatebion yn arwain at gostau ychwanegol.

Felly, mae hynny, ynghyd â'r diffyg hwn o ran buddsoddiad yn yr ardoll prentisiaeth, a'r diffyg adnoddau o ran y swyddogion cyswllt ysgolion yn y blynyddoedd i ddod, yn achosi cryn bryder. Rwyf yn gobeithio y gallwch roi rhywfaint o gysur inni o ran y pethau hynny ac y byddwch yn edrych ar y materion hyn yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adnoddau yn mynd trwyddo.

17:10

Diolch am y cyfle i gyfrannu'n fyr at y drafodaeth ac i ategu'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud eisoes ynglŷn â'r rhaglen cyswllt ysgolion, oherwydd mae'n wasanaeth ataliol pwysig iawn. Mae'n llenwi bwlch yn sicr o safbwynt y ddarpariaeth addysg i blant—bwlch na fyddai'n cael ei lenwi'n aml iawn oni bai bod yr heddlu yn darparu'r gwasanaeth yna. Maen nhw'n edrych ar ddiogelwch ar y we, camddefnydd sylweddau, trais yn y cartref—mae yna wers hyd yn oed i blant pump oed i ddechrau trafod materion yn ymwneud â thrais yn y cartref. Hebddo, mi fyddai yna fwlch difrifol. Ac os ydy'r toriadau arfaethedig yn dod i rym, yna mi fydd y gwasanaethau yn crebachu ac mae'n debyg y bydd ond yn digwydd mewn ysgolion uwchradd. Mae'r Llywodraeth yn sôn am yr ACEs a'r angen i daclo'r profiadau difrifol yma y mae rhai plant yn eu cael—wel, erbyn hynny, yn aml iawn, mae'n rhy hwyr.

Un o naratifau y Llywodraeth yma yw bod angen mwy o bwyslais ar lesiant pobl ifanc o fewn y gwasanaeth addysg, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y diwygiadau yn y cwricwlwm. Naratif arall wrth gwrs yw bod angen mwy o fuddsoddiad ataliol. Wel, dyma i chi wasanaeth sy'n cyflawni'r ddau beth yna: bron i 10,000 o wersi y llynedd ar draws Cymru, a 230,000 o blant yn cael budd uniongyrchol o'r ddarpariaeth yma, ac wrth gwrs mae'r toriad o bosibl yn mynd i olygu ein bod ni'n colli llawer iawn ohono fe. Rwy'n gwybod fod y comisiynydd plant yn awyddus iawn i weld y gwasanaeth yma'n parhau. Rwy'n siŵr hefyd y bydd y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd â barn ynglŷn â hyn, oherwydd dyma'r union math o beth y dylem ni fod yn ei hyrwyddo a'i amddiffyn.

Felly, dim ond i ategu'r negeseuon, mewn gwirionedd, i chi wneud beth y gallwch chi i amddiffyn y gyllideb yma, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod, yn y pen draw, os na fyddwn ni'n gwneud hynny, yna mi fydd yn costio'n fwy, nid yn unig i'r Llywodraeth, ond i gymdeithas yn ehangach.

17:15

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Alun Davies. 

Member
Alun Davies 17:15:09
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma ar faterion o fewn y gyllideb, ac rwy'n ymrwymo i'r Aelodau y byddaf yn ystyried yr holl faterion hynny ac y byddaf yn gwneud datganiadau pellach arnynt yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Ond gallaf anghytuno â Llŷr Gruffydd yn ei sylwadau terfynol oherwydd mai materion yw'r rhain sydd yn eu hanfod yn ganlyniad i bolisi Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a'r polisi y mae'r Swyddfa Gartref yn ei ddilyn wrth achosi toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real i'n heddluoedd—[Torri ar draws.] Rwy'n barod i gymryd ymyriad, ond caniatewch imi orffen fy mrawddeg yn gyntaf. Byddwn yn ddiolchgar. Byddaf yn mynd i'r afael â—. Roedd coma yno, nid atalnod llawn. Byddaf yn mynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd, ond, yn y bôn, mae'r rhain yn faterion sy'n ganlyniad i'r gostyngiadau mewn cyllidebau i'r heddluoedd o ganlyniad i'r polisi o galedi sy'n fethiant ac a arweinir gan ideoleg. Ildiaf.

Rydych chi'n ceisio pentyrru’r bai am y setliadau cyllideb pitw hyn i gyd ar Lywodraeth y DU, ond y gwirionedd yw, fel y dywedais yn gynharach, fod yr ardoll prentisiaeth eisoes wedi cael ei ddatganoli i chi. Mae'r arian gennych chi ar gyfer yr ardoll prentisiaeth—oddeutu £400,000—ac yna, yn ogystal â hynny, swyddogion cyswllt ysgolion—mae gennych chi £388,000 yr ydych yn bwriadu ei dynnu'n sydyn oddi ar Heddlu Gogledd Cymru yn 2019. Eich penderfyniad chi yw hwnnw, nid un Llywodraeth y DU.

Ildiaf i Darren Millar yn y gobaith ofer—byddech wedi meddwl y buaswn wedi dysgu fy ngwers ar ôl degawd o wneud hynny—y byddai ef mewn gwirionedd yn ysbrydoli'r ddadl ac y byddai'n ysbrydoli'r Aelodau, yn hytrach na pharhau i fynd ar ôl dadl sydd wedi methu, na lwyddodd i'w wneud yn ei sylwadau sylweddol a methodd â gwneud hynny eto yn y fan hon. Ond os yw eisiau ymuno â mi i gefnogi datganoli cyllideb plismona a chyfrifoldeb am blismona—byddwn yn ildio eto pe byddai'n dymuno. Nid yw'n dymuno hynny.

Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth ymateb i'r ddadl: rwyf i yn cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan Siân Gwenllian ar fater cyllidebau ac ar ddatganoli heddluoedd hefyd. Gallaf sicrhau Gareth Bennett mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r materion hyn gael eu datganoli i Gymru, ac mae'n bolisi gan y Blaid Lafur a'r mudiad Llafur fod y pethau hyn i'w datganoli i'r lle hwn ac i'r wlad hon. Ac roedd y pwyntiau a wnaed gan Mick Antoniw, credaf, yn drawiadol tu hwnt. Ond mae'r pwyntiau a wnaed am swyddogion cymorth cymunedol a'r swyddogaeth sydd ganddynt mewn cymunedau wrth helpu i'w cadw'n  ddiogel yn gwbl sylfaenol i fynd i'r afael â materion torcyfraith a materion diogelwch cymunedol. Byddwn yn parhau i amddiffyn y gyllideb honno, ac yn sicr rwy'n awyddus i weld cyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at swyddogion cymorth cymunedol yn cael ei gynnal yn y tymor hwy, ac nid yn unig dros y flwyddyn ariannol gyfredol bresennol ac i ddod.

Ond mae'r pwynt sylfaenol a gododd Mick Antoniw am 18 y cant o doriadau yn hytrach na chynnydd o 30 y cant yn y gyllideb yn sylfaenol i holl rannau eraill y ddadl a gawsom ni'r prynhawn yma. Yn y pen draw, rydym wedi clywed geiriau caredig am yr heddluoedd gan Ysgrifenyddion Cartref a Gweinidogion plismona olynol yn Llundain, ond yr hyn na welsom ni fu arian i gynnal a chefnogi'r polisïau hynny.

A gadewch imi ddweud hyn, Dirprwy Lywydd: roedd Mark Isherwood, mewn cyfraniad braidd yn rhyfedd, yn ymddangos ei fod yn dadlau ar un adeg fod gan yr heddlu lawer gormod o arian, os unrhyw beth, ac yna roedd yn ymddangos ei fod yn rhoi'r bai ar ddioddefwyr bron am nifer y troseddau, ac rwyf yn cael honno'n ddadl ryfedd i'w gwneud. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth Mark Isherwood, oherwydd gwn fod ganddo rai pryderon gwirioneddol ym mhob un o'r materion hyn: yn y bôn, mae gennym ddau fater yn ein hwynebu yma. Mae gennym setliad diffygiol sy'n cyflwyno polisïau a gafodd eu gwneud yn wael, ac mae gennym resymeg ddiffygiol yn y Trysorlys nad yw'n rhoi digon o arian i'n gwasanaethau cyhoeddus craidd, ac rwy'n cynnwys yr heddlu yn hynny o beth.

Gadewch i mi ddweud hyn: roeddwn yn ymweld â charchar Abertawe fore dydd Iau diwethaf a bûm yn siarad â rheolwyr y carchar a rheolwyr y gwasanaeth carchardai ar y pryd. Mae'n amlwg i mi oni allwn ganolbwyntio a gosod cyd-destun ein polisi cosbau o fewn cyd-destun adsefydlu, o fewn cyd-destun y gwasanaeth prawf a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn ystod y sesiwn cwestiynau yn gynharach heddiw, o fewn cyd-destun y gwasanaethau iechyd a ddarperir gan y byrddau iechyd lleol, o fewn cyd-destun darparwyr addysg lleol yn darparu addysg ar gyfer pobl sydd yn y carchardai, heb gyd-destun yr heddlu yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau golau glas eraill, heb gyd-destun y gallu i gydgysylltu gwasanaethau a chyflawni dull cydlynol wrth lunio polisi, nid ydym yn mynd i lwyddo i gyflawni polisi cydlynol mewn unrhyw elfen o faes cyfiawnder. Ac rwy'n credu mai trychineb yw hynny. Mae'n drychineb i bobl Cymru nad ydyw Llywodraethau olynol y DU wedi gallu sefydlu polisi plismona a chyfiawnder sydd wedi sicrhau setliad i'r lle hwn sy'n angenrheidiol ac yn foddhaol. Mae honno'n drychineb lwyr, a gobeithio y gwelwn newidiadau sylweddol yn y setliad yma a fydd yn ein galluogi i gael y cydlyniad hwnnw yn y dyfodol.

Gadewch i mi ddweud hyn—ac roedd Siân Gwenllian yn llygad ei lle yn y pwyntiau a wnaeth hi: na fydd cydlyniad polisi yn trosi'n blismona mwy effeithiol, ni fydd yn golygu darpariaeth fwy effeithiol o ran diogelwch yn ein cymunedau, na darpariaeth o'r amddiffyniad sydd ei angen ar ein dinasyddion ac y maent yn ei haeddu ac yn gofyn amdano, oni bai fod digon o arian i wasanaethau plismona er mwyn cyflawni hynny. Ac yn y bôn mae'r Trysorlys a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi methu â darparu arian parod ar sail y geiriau y maen nhw—

17:20

Aelod Cynulliad a gododd—

Ni fyddaf yn cymryd rhagor o ymyriadau. Ceisiais i yn gynharach. Ni weithiodd yn dda. Cawsom fwy o wres na golau, rwy'n ofni, ac ni fyddaf yn cymryd unrhyw ymyriadau yn y dyfodol o feinciau'r Ceidwadwyr. Yr hyn y byddaf yn ei dderbyn o feinciau'r Ceidwadwyr yw os ydynt yn barod i roi eu gair inni y byddan nhw'n ymuno â'r holl bleidiau gwleidyddol eraill yn y lle hwn a dadlau o blaid cyllid digonol ar gyfer yr heddlu, yna byddwn yn hapus i gymryd ymyriad o'r tu ôl i mi, ond rwy'n amau a fyddaf yn gweld hynny.

Wrth geisio cefnogaeth y prynhawn yma a chymeradwyo'r setliad i'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud hyn: mae angen setliad ar Gymru sy'n gweithio i bobl Cymru ac un y mae'n ei haeddu; mae'r gwasanaethau plismona a'r heddluoedd ledled Cymru gyfan yn haeddu cael ein cefnogaeth barhaus, a byddwn yn darparu'r cymorth parhaus hwnnw; bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ei swyddogaeth o weithio ochr yn ochr â'n heddluoedd; byddaf yn ceisio bwrw ymlaen â pholisi a threfniadau gweithio newydd yng Nghymru i ddod â'n heddluoedd ni at ei gilydd fel y gallwn ddarparu ymatebion Cymreig i broblemau Cymreig; rwyf eisiau bwrw ymlaen â pholisi diogelwch a chyfiawnder cymunedol; ac rwyf eisiau, a byddaf yn parhau i ddadlau â Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig am, gyllid digonol ar gyfer ein heddluoedd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Eitem 9 ar ein hagenda yw dadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6655 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus ym mis Medi 2016. Pan gyflwynodd Carl Sargeant y Bil fis Hydref diwethaf, eglurodd fod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn diogelu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, diogel o ansawdd da yng Nghymru. Yn Symud Cymru Ymlaen, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi ymrwymo i gyflenwi o leiaf 12,500 o'r cartrefi hynny ac, er mwyn gwneud hyn, bydd angen iddynt gael benthyg tua £1 biliwn o'r sector preifat i ychwanegu at gyllid Llywodraeth Cymru.

Yn ymarferol, mae'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus yn dod â benthyciadau preifat landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r cyfrifon cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai gynyddu'r gwariant ar dai cymdeithasol o ryw £1 biliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a fyddai'n effeithio'n ddifrifol ar ein hymrwymiadau gwario presennol, neu dderbyn y byddai 5,000 yn llai o gartrefi yn y rhaglen, gan na fyddai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gallu benthyg er mwyn buddsoddi.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:25

Y cyfan y mae'r Bil hwn yn ei gynnig yw'r newidiadau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â rheolaethau'r Llywodraeth a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel bod modd adolygu'r penderfyniad dosbarthu, gan reoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn drylwyr ac effeithiol. Ers ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ym mis Medi 2016, mae'r holl bleidiau gwleidyddol wedi cytuno bod angen i ni weithredu er mwyn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i adolygu'r dosbarthiad, ac mae rhanddeiliaid a'r pwyllgorau yn cefnogi hyn hefyd. Cafwyd 19 o argymhellion gan y pwyllgorau fu'n craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd pob pwyllgor i ymateb i'r argymhellion maes o law, ond rwy'n falch o amlinellu fy syniadau cychwynnol heddiw.

Rwy'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol Ychwanegol y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru geisio eglurhad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â sefyllfa cynghorwyr a benodir i fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn swyddogaethau eraill. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor cyn gynted ag y bydd un ar gael, ond mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau eto y byddai'r Bil, os caiff ei weithredu fel y'i drafftiwyd, yn caniatáu iddyn nhw ailddosbarthu'r sector.

Mae hawliau a buddiannau tenantiaid wedi bod yn ganolog i'r broses graffu, a hynny'n gwbl briodol, ac rwy'n pwysleisio bod tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio ac nid yw'r Bil hwn yn newid hynny. Mae'r disgwyliadau o ran ymgynghori â thenantiaid a'r angen i fyrddau ystyried barn tenantiaid wedi'u nodi'n glir yn y fframwaith rheoleiddio a'r canllawiau. Ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff y canllawiau hyn eu diweddaru a'u cyhoeddi fel canllawiau statudol. Gallai methu â dilyn canllawiau statudol gael ei adlewyrchu yn y dyfarniad rheoleiddio ac fe ellid ystyried camau i orfodi rheoleiddio. Mae'r disgwyliadau rheoleiddio ynghylch ymgynghori yn glir, fel y mae'r goblygiadau rheoleiddio posib os nad yw byrddau o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau i denantiaid. Nid wyf wedi fy argyhoeddi felly bod angen cyflwyno unrhyw fesurau eraill ar ymgynghori â thenantiaid yn y Bil hwn, ond byddaf yn sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu pwysigrwydd y materion hyn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliant i egluro mai unig ddiben y pwerau rheoleiddio yn adran 19 o'r Bil yw gwneud diwygiadau canlyniadol. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn datblygu gwelliant gyda'r bwriad o nodi hyn yn fwy eglur.

Mae argymhelliad olaf y pwyllgor hwn ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, ond os bydd y Cynulliad yn penderfynu craffu ar y Bil ar ôl ei basio, bydd Llywodraeth Cymru wrth gwrs, yn dymuno cynorthwyo. Yn sail i'r argymhelliad hwn y mae'r angen i ddiogelu asedau tai cymdeithasol a hawliau tenantiaid. Mae'r rhain yn egwyddorion reoleiddio allweddol a gallaf eich sicrhau y bydd goruchwylio rheoleiddiol cadarn yn parhau.

Mae'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â gweithredu'r Bil a monitro perfformiad ariannol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ganlyniad i arallgyfeirio. Rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion hyn. Bydd fy swyddogion yn egluro'r strategaeth i fonitro perfformiad ariannol a risg o ganlyniad i arallgyfeirio yn y cyhoeddiad sydd ar y gweill sy'n rhoi trosolwg o'r peryglon sy'n wynebu'r sector. Rwy'n argyhoeddedig bod digon o adnoddau wedi'u dyrannu i'r Bil cyfathrebu a'i ddiben, ond mae'r materion hyn eisoes yn cael eu hadolygu'n gyson.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi argymell fy mod yn esbonio'r rhesymau dros gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth bresennol y DU yn hytrach nag un sydd wedi ei gydgrynhoi ac sy'n annibynnol. Bydd angen ystyried pa un ai a oes angen cydgrynhoi ai peidio un Bil ar y tro bob amser, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael a ffactorau eraill fel pwysau amser. Gofynnodd y pwyllgor a fyddem ni wedi gallu dechrau gweithio ar y prosiect hwn ym mis Hydref 2015, pan benderfynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylid ailddosbarthu cymdeithasau tai Lloegr. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth wahanol i'r rhai yn Lloegr, a dim ond ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi ei hadolygiad o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ym mis Medi 2016 y gallem ni sefydlu gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn union pa newidiadau deddfwriaethol yr oedd eu hangen.

Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu y gallem ni efallai fod wedi cael cyfnod hirach ar gyfer ymgynghori, gan ddibynnu ar sicrwydd y Trysorlys y gallen nhw ymestyn eu datgymhwyso dros dro o'r rheolaethau cyfrifyddu y tu hwnt i fis Mawrth 2018, ar yr amod ein bod ni wedi gwneud digon o gynnydd gyda'n deddfwriaeth ni. Byddai cydgrynhoi wedi arafu'r cynnydd hwnnw yn sylweddol a byddai wedi bod yn amhriodol i obeithio bod y Trysorlys yn barod i roi estyniad ar gyfer y broses hirach hon. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried o ddifrif bwrw ymlaen â chydgrynhoi deddfau datganoledig Cymru. Rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i egluro'r weithdrefn ar gyfer cael gwared â phobl sydd wedi eu penodi gan awdurdodau lleol o fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i drafod y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol.

17:30

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) ar ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cyn troi at y mater perthnasol dan sylw, rwyf am gofnodi fy niolch i'r is-bwyllgor a sefydlwyd am ei waith o gasglu tystiolaeth yn rhan o broses Cyfnod 1. Yn benodol, rwyf eisiau diolch i Eluned Morgan am gadeirio cam cynnar gwaith yr is-bwyllgor cyn cael ei phenodi i Lywodraeth Cymru, i David Melding am gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth a'i ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth honno, a chofnodi cyfraniad Steffan Lewis i'r gwaith.

Llywydd, mae'r angen am y ddeddfwriaeth hon yn glir; nid ydym yn herio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud. Mae'n hollbwysig inni wrthdroi penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu a sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu hystyried yn gyrff sector preifat at ddibenion cyfrifyddu. At hynny, rydym ni'n cydnabod y risgiau i allu landlord cymdeithasol cofrestredig i fenthyg arian os na fydd ailddosbarthu yn digwydd. Fodd bynnag, rydym ni'n glir yn ein hadroddiad, er yr ystyrir yn briodol bod y Bil hwn er budd y cyhoedd, y dylid ei ystyried yn gam tuag at ddadreoleiddio'r sector—ni allwn ni anwybyddu'r ffaith honno—ac y bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli risg a monitro effeithiolrwydd yn ddyfal.

I lywio casgliadau ac argymhellion ein pwyllgor, clywsom gan randdeiliaid allweddol yn y sector ac fe gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o chwech o'r 19 o argymhellion y nododd y Gweinidog. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ein gwaith.

Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn un eithaf syml, sef argymell derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, oherwydd byddai methu â phasio'r ddeddfwriaeth hon, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, yn golygu gostyngiad o fwy na 5,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac mae hynny'n annerbyniol.

Roedd argymhelliad 2 yn edrych ar yr agwedd o ddylanwad awdurdodau lleol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chlywsom negeseuon croes gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Llywodraeth ynghylch statws cynghorwyr lleol sy'n aelodau annibynnol o'r bwrdd. Rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud y bydd yn derbyn hyn ac yn egluro'r sefyllfa er mwyn sicrhau nad yw unigolion sydd yno fel unigolion yn cael eu gosod yno a'u hystyried yn gynrychiolwyr i'r awdurdodau lleol.

Yn ystod ein gwaith, fe wnaethom ni ddarganfod y byddai'r fframwaith rheoleiddio yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig o ran plismona landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, pan fyddai'r newidiadau deddfwriaethol a wneir gan y Bil hwn yn dod i rym. Er ein bod yn croesawu'r adolygiad o'r fframwaith rheoleiddio a'r safonau perfformiad cysylltiedig, rydym ni yn argymell gwella'r Bil i sicrhau bod cydnabyddiaeth glir ar wyneb y Bil bod methu â chydymffurfio â'r fframwaith rheoleiddio yn cael ei gyfrif yn benodol yn fethiant i gydymffurfio â gofynion deddf. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi datgan ei bod yn credu mai rheoleiddio sydd fwyaf addas ar gyfer hyn, ond hoffwn bwysleisio y byddai dyletswydd i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny yn rhoi grym ychwanegol.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â swyddogaeth tenantiaid ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn cydnabod mai bwriad y Bil yw cyflwyno cyn lleied o newidiadau â phosib er mwyn ymateb i faterion sy'n ymwneud â'r ailddosbarthu a wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond rydym ni yn credu ein bod yn colli cyfle i atgyfnerthu swyddogaeth tenantiaid yn nhrefniadau llywodraethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O ganlyniad, rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y peth mewn gwirionedd a chyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â hyn. Achubwch ar y cyfle y mae hyn yn ei gyflwyno i chi a chryfhewch swyddogaeth tenantiaid cyn i newidiadau cyfansoddiadol ac uniadau penodol gael eu hystyried.

Gan droi at y pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 18 o'r Bil, clywsom gan randdeiliaid y bu pryderon ynglŷn ag ehangder y pwerau hynny. Mewn tystiolaeth lafar, fe wnaeth y Gweinidog gydnabod y pryderon hynny, ond pwysleisiodd y gellid defnyddio'r pwerau yn y Bil ar gyfer gwelliannau canlyniadol yn unig. Roeddem ni o'r farn, yn argymhelliad 5 o'n heiddo, y dylai Llywodraeth Cymru egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn adran 18 yno i wneud diwygiadau canlyniadol yn unig, ac rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, fel y dywedodd hi.

Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru y mae ein chweched argymhelliad, sef yr olaf, mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, ond ar gyfer y Cynulliad hwn. Yn aml iawn, rydym yn trafod Bil ynglŷn â pholisi, ond heddiw rydym yn trafod Bil sydd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i benderfyniad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae angen inni felly edrych ar oblygiadau'r Bil hwnnw ar bolisïau a sut y caiff ei weithredu. O ystyried y newidiadau fydd yn dod yn sgil y Bil hwn, rydym ni o'r farn y dylem ni fod yn ofalus nad oes yna ganlyniadau anfwriadol ac annisgwyl. Felly, rydym ni wedi argymell bod pwyllgor o'r Cynulliad hwn yn gwneud gwaith craffu ar y Bil hwn ar ôl ei basio, pe byddai'n dod yn Ddeddf. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd, rydym ni wedi gwneud hyn o'r blaen gyda Biliau eraill ac rydym yn credu y dylai'r gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ystyried a yw hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu'n briodol, ac y dylai hefyd sicrhau nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwared ar dir ac asedau mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ragweld, mewn geiriau eraill, nad yw'r pryderon y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw yn troi'n broblemau go iawn. Rydym ni'n gofyn i'r Cynulliad felly fynd i'r afael â'r agwedd honno.

I gloi, Llywydd, rydym ni'n credu y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r Bil hwn, ond mae angen mynd i'r afael, rydym ni'n credu, â'r pryderon hynny a nodwyd gennym ni yn ein hadroddiad. Rwyf i wedi clywed sylwadau agoriadol y Gweinidog, rwy'n gobeithio hefyd ei bod hi wedi clywed ein pryderon a'n dyheadau ni, nid yn unig yn ein hadroddiad ond drwy'r drafodaeth y prynhawn yma, fel bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei safbwynt ar rai o'r pwyntiau hynny ac yn cyflwyno gwelliannau i gryfhau'r Bil, i gryfhau hawliau tenantiaid a rhoi'r llais iddyn nhw y credwn ni y dylen nhw ei gael.

17:35

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni gyflwyno adroddiad ar y Bil hwn ar 2 Chwefror a gwneud 10 argymhelliad i'r Gweinidog. Yn rhan o'n hystyriaeth arferol, fe wnaethom ni ystyried y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i ymdrin ag ef drwy is-ddeddfwriaeth, ac roeddem yn fodlon â'r cydbwysedd. Yn benodol, roedd y pwyllgor yn dymuno cymeradwyo sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i roi sylw i'r mater o reolaeth llywodraeth leol. Mae'r pwyllgor hwn wedi bod o'r farn ers amser bod yn rhaid i'r cyhoedd wybod beth a ddisgwylir ohonyn nhw er mwyn i gyfraith fod yn effeithiol, ac mae'r modd yr aethpwyd i'r afael â'r mater hwn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn hytrach na rheoliadau yn rhoi lefel dda o dryloywder, sydd i'w groesawu. Rydym ni'n gobeithio y bydd y Gweinidog a'i chyd-Aelodau yn defnyddio yn ymdrin â deddfwriaeth mewn modd tebyg yn y dyfodol.

Felly, gan droi yn awr at sylwadau penodol y pwyllgor ar y Bil: mae adrannau 6 ac 8 o'r Bil yn diwygio'r sail y gall Gweinidogion Cymru benodi swyddogion neu reolwr landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn sicrhau cydymffurfio â gofyniad a osodir gan, neu o dan, ddeddf. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'n bosibl y gallai landlord cymdeithasol cofrestredig fod yn gweithredu'n ddigonol gyda swyddog neu reolwr penodedig yn dal i fod yn ei swydd. Felly rydym yn argymell gwella'r Bil i osod terfyn amser ar unrhyw benodiadau a wneir pan  gydymffurfir â'r gofyniad perthnasol a hynny er boddhad Gweinidogion Cymru.

Mae Atodlen 2 i'r Bil yn nodi'r mân welliannau a'r gwelliannau canlyniadol y bydd angen eu gwneud i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i'r darpariaethau eraill a nodir yn y Bil hwn. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i adolygu pob un o'r darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 i sicrhau cysondeb â'r ddeddfwriaeth hon. Byddem yn disgwyl i'r Gweinidog gynnal yr adolygiad hwn ar y cyfle cyntaf. At ddibenion eglurder, rydym yn argymell hefyd diwygio Atodlen 2 y Bil fel bod union ddiffiniad 'hysbysu' yn cael ei fewnosod yn adran 63 o Ddeddf Tai 1996.

O ran y pwerau yn y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth, fe wnaethom ni edrych yn ofalus ar adrannau 5 a 14. Mae'r adrannau hyn yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch yr agweddau technegol ac ymarferol ar unrhyw hysbysiadau a gyflwynir gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i Weinidogion Cymru ynghylch newidiadau cyfansoddiadol a strwythurol a gwarediadau tir penodol. Gan y byddai methu â chydymffurfio yn arwain at orfodi neu hysbysiad cosb posibl, rydym yn argymell y dylid cyflwyno unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud hynny. O ystyried pwysigrwydd y cyfarwyddiadau hyn, ac i hybu tryloywder, rydym yn credu y dylai hyn hefyd gynnwys datganiad ysgrifenedig i esbonio pwrpas y cyfarwyddiadau.

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y pwyllgor hwn yn cymryd diddordeb arbennig ym mhwerau Harri'r VIII, ac rydym yn monitro'r defnydd o'r darpariaethau hyn yn ofalus. Rydym ni felly yn croesawu adran 18(4) o'r Bil, sy'n nodi, pan fo rheoliadau yn gwella deddfwriaeth sylfaenol, y byddant yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Hefyd, o ran adran 18, os yw'r rheoliadau, fel y nododd y Gweinidog yn ei thystiolaeth i ni, yn ymdrin â phwerau canlyniadol yn unig, credwn y dylid gwella geiriad adran 18(1) o'r Bil i ddarparu ar gyfer yr hyn sydd ei angen yn unig. Mae argymhellion 8 a 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i'r afael â'r pryder hwn a sicrhau bod y pwerau a ddarperir gan y darpariaethau yn adran 18 yn dod i ben pan ceir cadarnhad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u hailddosbarthu yn gorfforaethau anariannol preifat.

Wrth ystyried Atodlen 1 i'r Bil, sy'n cyflwyno adran 7C newydd i Ddeddf Tai 1996 er mwyn ymdrin ag aelodaeth byrddau awdurdodau lleol, nid ydym yn gweld pam mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig aros deufis cyn cael gwared ar benodai o'i fwrdd ar ôl cael ei hysbysu pa rai y mae angen cael gwared arnynt. Credwn y gallai hyn achosi oedi diangen ac ansicrwydd; felly rydym ni'n argymell bod y Gweinidog yn diwygio adran 7C(3) o Atodlen 1 i'w fewnosod yn Neddf Tai 1996 i roi sylw i'r mater hwn.

Roeddem yn pryderu'n benodol am adran 13 o'r Bil, sy'n diddymu adran 81 o Ddeddf Tai 1988, sy'n  berthnasol i Gymru a Lloegr. Yn ôl a wyddom ni, mae adran 81 o Ddeddf Tai 1988 yn dal i gynnwys cyfeiriadau at Loegr. Mae ein hadroddiad yn gwneud dau argymhelliad i'r Gweinidog er mwyn egluro bod adran 13 y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, drwy nodi'n glir bod adran 81 o Ddeddf Tai 1988 dim ond yn cael ei diddymu pan fo hi'n gysylltiedig â Chymru.

I gloi, mae yna rai sylwadau yr hoffwn i eu gwneud ynghylch cydgrynhoi deddfwriaeth yn y maes hwn. Rydym ni'n cydnabod y cyfyngiadau amser ar gyfer cynhyrchu'r ddeddfwriaeth hon a'r angen clir i fodloni'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, ein rhagdybiaeth yw bod Llywodraeth Cymru yn gwybod am y mater perthnasol a oedd i'w drafod yn 2015. O gofio bod Llywodraeth y DU, yn gweithredu dros Loegr, wedi dod yn ymwybodol o'r mater hwn ar y pryd, amlygir hyn ym mhapur ymgynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â diwygio'r ffordd y caiff landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu rheoleiddio. Rydym ni wedi nodi hefyd y posibilrwydd y bydd estyniad posibl i'r rhanddirymiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, fel y cyfeiriwyd ato yn y dystiolaeth i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Felly, rwy'n gwahodd y Gweinidog i egluro'n llawn y rhesymau dros gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth bresennol y DU, yn hytrach na deddfwriaeth sydd wedi'i chydgrynhoi ac sy'n annibynnol.

17:40

Byddwch chi'n cofio, Llywydd, i Carl Sargeant a minnau anghytuno'n aml ar yr hawl i brynu—ac, mae'n rhaid dweud, ar rai materion eraill yn ymwneud â thai hefyd—ond ar hyn, roeddem ni'n cytuno. Ac a gaf i groesawu ei fab, Jack, i'r Siambr y prynhawn yma? Roedd gennym ni ar yr ochr hon i'r Siambr feddwl mawr o'ch tad a pharch tuag ato. Roedd yn wrthwynebydd gwirioneddol deilwng a grymus. Mae'n debyg y dylwn i gynnig gair o ymddiheuriad i chi, oherwydd roedd fy mhum awr ar y ffonau—. Roedden nhw'n ffonau yn swyddfa ganolog y Torïaid, Llywydd, cyn i chi feddwl bod yn rhaid i chi fy anfon i at y pwyllgor safonau. Beth bynnag, ni chefais lawer o lwyddiant o fy mhum awr ar y ffonau yn annog pobl i bleidleisio dros eich gwrthwynebydd, er i mi ddarganfod bod etholwyr Llafur yn Alun a Glannau Dyfrdwy ymhlith y bobl fwyaf cwrtais yn yr etholaeth y cefais y fraint o sgwrsio â nhw erioed.

Er gwaethaf y ffaith fy mod i'n credu y bydd y Bil hwn yn cael cefnogaeth unfrydol yn y Cynulliad, ar hyn o bryd ac ar gyfnodau yn y dyfodol, roedd yna rai meysydd, rwy'n credu, pan fu'r pwyllgor yn ei ystyried, a achosodd rhywfaint o bryder ac y mae angen rhywfaint o waith neu addasu pellach. Ni wnaf ailadrodd y cyflwyniad medrus y mae Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees, newydd ei wneud, ond gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon ac yn myfyrio ar rai o'r amheuon yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw mewn ymateb i'r adroddiad. Yn amlwg, rydym ni'n croesawu eich bod wedi dweud eich y byddwch yn gweithredu argymhellion mewn rhai meysydd.

Fel y mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn datgan, diben y ddeddfwriaeth hon yw, a dyfynnaf, yw

'i weithredu'r diwygiadau rheoleiddio, dileu rheolaethau llywodraeth ganolog a lleol gan ganiatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu dosbarthiad y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y pennir ar hyn o bryd eu bod yn sefydliadau sector cyhoeddus at ddibenion cyfrifo.'

Er nad oes unrhyw amheuaeth ei bod hi er budd y cyhoedd, o ystyried y farn honno gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ein bod yn ymateb i'r pryderon, dylai pob un ohonom ni gydnabod bod y Bil hwn yn weithred sylweddol o ddadreoleiddio o fewn y sector ac, o ganlyniad, fel y nodwyd gennym ni yn yr is-bwyllgor, bydd angen rheoli risg yn ofalus a monitro'n effeithiol, fel bod buddiannau benthycwyr a thenantiaid, yn benodol, yn cael eu diogelu'n briodol. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd David am graffu ar ôl deddfu, a gobeithiaf y bydd y Comisiwn yn cefnogi hynny hefyd. Gall fod yn bwysig i ni edrych eto ar y ffordd y mae hyn, pe bai'n dod yn Ddeddf, wedi'i weithredu yn ymarferol.

Rwyf yn credu bod angen i ni ddatgan, a dweud y gwir, mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r ddeddfwrfa yma, a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol—. Yn amlwg, mae eu barn nhw'n hollbwysig, ond rwyf braidd yn bryderus pan mae Llywodraeth Cymru yn dweud, 'A, mae'r Bil, fel y mae wedi'i gyflwyno ar hyn o bryd, eisoes wedi'i basio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn addas at ei ddiben', a'r neges gudd, rwy'n meddwl, yw 'Gwae chi os byddwch yn ymyrryd â hynny'. Rwyf wedi bod yn eithaf siomedig, mewn gwirionedd, gyda'r trafodaethau rhwng y pwyllgor a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol pan yr ydym wedi nodi meysydd lle'r ydym yn credu y gellid cryfhau'r Bil gan ofyn a fydden nhw'n rhoi barn ar rai o'r materion hyn ac maen nhw'n amharod i wneud hynny. Ond rwy'n credu bod angen iddyn nhw fyfyrio ar eu gweithdrefnau, a gallai unrhyw gyrff eraill yn y dyfodol sy'n rhyngweithio â deddfwrfeydd gadw hyn mewn cof, oherwydd mae'n rhaid inni fod yn hollol o ddifrif ynglŷn â'n deddfu, ac ni yw'r ddeddfwrfa yng Nghymru.

Wedi dweud hynny, mae'r materion y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu codi, yn y bôn, yn rhai sy'n ymwneud ag arferion cyfrifyddu rhyngwladol, ac ni allwn ni eu hanwybyddu, ac rwy'n credu mai dyna'r brif farn. Ond rwyf yn credu y dylem ni edrych ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr ac yn yr Alban a chymharu'r mesurau yno gyda'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Ac, yn benodol, rwy'n ffafrio'r llais cryfach i denantiaid a fydd yn rhan annatod o ddeddfwriaeth yr Alban.

Nid wyf yn credu bod angen inni ddweud, fel y gwnânt yn yr Alban, y byddai angen i denantiaid gytuno i newidiadau cyfansoddiadol penodol, ond rwy'n credu y dylai ddweud ar wyneb y Bil y dylid ymgynghori â thenantiaid. Mae'n un peth i'r Gweinidog ddweud, 'Ie, wel, rydym ni'n mynd i ymdrin â hynny i gyd yn y rheoliadau', ond, Llywydd, beth sy'n fwy pwerus na rhoi datganiad o'r fath ar wyneb ein deddfwriaeth ac a chael pleidlais yn y Cynulliad hwn i wneud hynny? Hwn yw'r safon uchaf ac rwy'n annog y Gweinidog i fyfyrio ar hynny. Mae gennym ni, rwy'n credu, gyfle i wneud hynny, a'n dyletswydd ni yw ceisio gwella a chryfhau'r Bil ac, fel y dywedais i, yn benodol, yn gysylltiedig â thenantiaid.

Gwnaeth David y pwynt am y fframwaith rheoleiddiol yn fedrus iawn, rwy'n credu, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ceisio'i ddiwygio, os oes angen, os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno ei gwelliannau ei hun i sicrhau bod methiant o dan y fframwaith yn cael ei ystyried yn fethiant i ddilyn gofynion deddf. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi llawer iawn o sicrwydd.

Rwyf yn annog y Gweinidog i fod mor hyblyg â phosibl. Rwy'n credu ein bod wedi cyflawni rhywbeth y prynhawn yma gyda'i hymateb. Mae'n galonogol eich bod yn edrych ar y fframwaith, ac y bydd yn cael ei ddiweddaru. Ac, wrth gwrs, bydd yn gweithio gyda'r Bil hwn i ddarparu fframwaith rheoleiddio priodol, ond rwy'n dal i feddwl bod yna rai pethau yn yr ymwneud hwn y mae angen eu harchwilio yn ofalus iawn, iawn.

Wedi dweud hynny, rwy'n gweld nad oes amser ar ôl. Byddaf yn—

17:45

Mae'n debygol y byddaf yn gwneud rhai diwygiadau, yn y bôn sy'n adlewyrchu'r hyn a ddywedodd y ddau bwyllgor, ac rwy'n aelod pwyllgor materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol hefyd, ond ni fyddwn mewn unrhyw ffordd—wel, ar ochr hon y tŷ—yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn ni'n gallu gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Oherwydd byddai unrhyw gyfyngiad ar gapasiti benthyca cymdeithasau tai yn ergyd wirioneddol i'r targedau sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy. Felly, byddwn ni'n gweithio mewn ffordd adeiladol iawn i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant, ac rwy'n annog pawb i'w dderbyn ar hyn o bryd fel egwyddor y dylem ni ei chefnogi. Diolch.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw yma gan ein bod ni yn derbyn bod yna resymau cwbl bragmataidd a chyllidol cadarn dros yr angen am y ddeddfwriaeth yma. Mae categoreiddio cymdeithasau tai fel corfforaethau cyhoeddus yn golygu mai fel cyrff cyhoeddus maen nhw’n cael eu trin o safbwynt cyfrifon cyhoeddus, ac mae gan hynny, wrth gwrs, oblygiadau mawr wrth i fenthyciadau gan y cymdeithasau tai gael eu cyfrif yn erbyn nenfwd benthyca Llywodraeth Cymru. Yn ei dro, mi allai hynny gael effaith andwyol ar allu’r sector i adeiladu tai, a hynny ar yr union adeg pan fo prinder dybryd o dai cymdeithasol, sy’n creu argyfwng gwirioneddol mewn sawl rhan o Gymru. Ond—ac mae yna 'ond', ac 'ond' gweddol fawr y prynhawn yma—mae gen i bryderon y gallai dadreoleiddio, a dyna'r ydym ni'n sôn amdano fan hyn, dadreoleiddio, arwain at ganlyniadau sydd ddim wedi cael eu rhagweld yn llawn, a chanlyniadau a allai filwrio yn erbyn rhai o egwyddorion craidd cymdeithasau tai fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, cofio nad cerbyd sector preifat creu elw ydy cymdeithas dai, ond, yn hytrach, strwythur ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

Rydym ni wedi clywed heddiw gan ddau bwyllgor sydd—wel, rydym ni wedi clywed gan un, ond yn mynd i glywed gan y llall yn nes ymlaen—wedi cael cyfle i graffu ar yr egwyddorion cyffredinol sydd gerbron heddiw. Ond fy nghwestiwn i ydy: tybed a ydy'r craffu yna wedi bod yn rhy gul ac yn gyfyngedig, o gofio mai materion cyllidol a materion cyfansoddiadol sydd wedi bod o dan sylw yn bennaf. Rydw i'n meddwl bod angen golwg ehangach er mwyn tawelu rhai o'r pryderon sydd gen i. Buaswn i yn licio gweld y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cael cyfle i graffu ar y mater yma—nid y Bil ei hun, ond craffu ar beth allai'r newidiadau yn sgil dadreoleiddio, beth allai hynny, golygu i ddyfodol y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae yna rai cwestiynau mae angen inni chwilio atebion ar eu cyfer nhw. A fydd dadreoleiddio yn golygu newid mewn blaenoriaethau strategol gan gymdeithasau tai? A fydd o'n golygu mwy o bwyslais ar greu elw, ac a fydd hynny yn golygu, er enghraifft, fod ardaloedd gwledig yn colli allan? Achos rydym ni i gyd yn gwybod ei bod yn rhatach i adeiladu ystadau mawr mewn ardaloedd trefol nag ydy hi i adeiladu clystyrau o dai mewn ardaloedd gwledig, ond mae mawr angen y math yna o dai mewn ardaloedd gwledig. A ydym ni'n mynd i weld llai o adeiladu mewn ardaloedd gwledig, a hynny wedyn yn cyfrannu at all-boblogi a dirywiad yr iaith Gymraeg?

Rydym ni wedi sôn yn fan hyn am y pryder arall yn barod, sef colli atebolrwydd a democratiaeth. Rydym ni wedi sôn am lais y tenantiaid, ond mae llais cynghorwyr i'w glywed yn glir mewn byrddau rheoli ar hyn o bryd. Gyda gostyngiad yn y ganran, mae perig i'r lleisiau yma—lleisiau cynghorwyr a lleisiau tenantiaid—gael llai o ddylanwad, ac, yn ei dro, arwain at lai o atebolrwydd, ac, efallai, rydym ni'n ôl eto at y syniad yma y gall y byrddau rheoli newid cyfeiriad strategol, yn groes i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni yn y maes yma.

Rhaid inni gofio bod y stoc tai wedi cael ei drosglwyddo o ddwylo cynghorau lleol i ddwylo cymdeithasau tai mewn sawl achos ar draws Cymru. Fe ellid dadlau bod y symudiad hwnnw wedi arwain at bellhau atebolrwydd yn barod. Mae yna bryder y gall y cam nesaf sydd o dan sylw'r Bil yma arwain at golli hyd yn oed mwy o atebolrwydd ac at y newid cyfeiriad strategol a allai weithio yn erbyn holl bwrpas cymdeithasau tai.

Felly, rydw i'n teimlo bod yn rhaid inni symud yn ofalus iawn o'r cam yma, gan sicrhau gwelliannau a fydd yn cryfhau'r llais democrataidd, ond hefyd yn diogelu pwrpas craidd y cymdeithasau tai: i mi, adeiladu'r math cywir o dai ar gyfer y bobl sydd eu hangen—ie, hynny—ond hefyd eu hadeiladu nhw yn y llefydd lle mae eu hangen nhw, nid lle mae'r farchnad yn gyrru'r datblygiadau. Felly, mae eisiau bod yn gwbl effro i beryglon dadreoleiddio ac ystyried pa gamau sydd eu hangen i ateb rhai o'r pryderon yr ydw i wedi’u codi heddiw. Rydw i'n awgrymu y byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gallu cyfrannu at y drafodaeth yna. Diolch.

17:50

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rydym ni'n cytuno â'r angen i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac felly rydym ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd bod angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, gyda 12,500 ohonyn nhw i gael eu hadeiladu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fodd bynnag, mae yna ymchwil hefyd, yn arbennig gan y diweddar Dr Alan Holmans, sy'n awgrymu y gallai Cymru fod angen cymaint â 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd disgwyliedig yn nifer yr aelwydydd un person. Felly, rydym ni'n wynebu problemau ar y gorwel o ran ateb y galw am dai, a thai fforddiadwy yn enwedig.

Pan gawsom ni ddadl ynglŷn â deddfwriaeth flaenorol gan Lywodraeth Cymru, sef diddymu'r hawl i brynu, gwnaethom sôn am hynny yn y grŵp UKIP a daethom i'n casgliad ein hunain ein bod ni'n meddwl nad oedd yn mynd i fod yn ddigon, oherwydd y nifer gymharol fach o dai cymdeithasol a oedd yn mynd i'r sector preifat o ganlyniad i'r hawl i brynu. Ond os nad oedd y Bil hwnnw'n mynd i fod yn ddigon yna mae'r Bil hwn efallai yn gwneud gormod, oherwydd mae'r risg o ran cyllid ar gyfer tai cymdeithasol fforddiadwy yn ddifrifol iawn. Os na weithredwn ni, bydd canlyniadau difrifol o ran cyllid, fel mae cyfranwyr blaenorol heddiw wedi ei amlinellu, ac ni fyddai’n bosibl darparu cartrefi newydd yn y niferoedd y mae ar Gymru eu hangen.

Byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac, fel y mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y manylion technegol, mewn gwirionedd, yn cefnogi amcanion y ddeddfwriaeth, sef sicrhau bod dyled cymdeithasau tai yn cael ei dynnu oddi ar ffigurau benthyca'r sector cyhoeddus.

Rwy'n sylwi, yn sgil pasio rheoliadau cyfatebol yn Lloegr, bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi cwblhau asesiad o'r sector cymdeithasau tai yno, a chanlyniad hynny yw bod y sefyllfa wedi'i wrthdroi, a darparwyr cofrestredig tai cymdeithasol yn Lloegr wedi'u hailddosbarthu yn gynhyrchwyr marchnad breifat. Ac, wrth gwrs, mae hynny—. Gallai hynny fod yn gam tuag at ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad dai, sef yr hyn yr ydym ni ei eisiau yma yng Nghymru.

Mae'r Bil o bosibl yn caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu os yw o'r farn nad yw cymdeithas dai yn gweithredu yn unol â'r gyfraith—mae hyn yn ymdrin â'r mater o ddadreoleiddio, y mae llawer wedi sôn amdano. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod tenantiaid yn parhau i fynegi eu barn ynglŷn â sut y caiff cymdeithas dai ei rhedeg. Wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi codi'r mater o lais y tenant heddiw, ac mae David Melding wedi gwneud achos cryf dros ei gynnwys ar wyneb y Bil, y byddem ni yn sicr yn ei ystyried, ac mae'n bosibl iawn y byddwn yn cefnogi unrhyw welliant y gallai ef ei gyflwyno i'r perwyl hwnnw os na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gyngor, ond gwneud hynny fyddai'r peth gorau i Lywodraeth Cymru, efallai.

Bydd y newidiadau yn arbennig o bwysig i denantiaid a allai gael eu heffeithio gan drosglwyddiadau stoc o awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ymchwilio i hyn drwy waith y Pwyllgor craffu, ond byddai'n ddiddorol pe gallai'r Gweinidog ychwanegu unrhyw beth at hynny heddiw.

Rydym ni hefyd yn ymddiddori yn y ffordd y bydd cymdeithasau tai yn parhau i gael eu hariannu yn y dyfodol ac mae angen inni, wrth gwrs, barhau i ddod o hyd i fodelau cyllido newydd ac arloesol i barhau i ddarparu'r llif o dai fforddiadwy.

Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni yn UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym ni o'r farn mai dyma'r ffordd briodol o weithredu, er bod yn rhaid inni gadw mewn cof na fydd hyn ynddo'i hun yn datrys y prinder tai sydd ar y gorwel. Rydym ni'n edrych ymlaen at barhau i glywed yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ynglŷn â hyn ac, ac o bosib, i graffu, yn y pwyllgor llywodraeth leol, neu mewn unrhyw bwyllgor perthnasol arall, ar y cynlluniau sydd ganddyn nhw yn y dyfodol i ddarparu'r tai y mae eu dirfawr angen ar Gymru. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl. 

Diolch. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, o ran craffu ar y Bil hyd yn hyn, rwy'n meddwl bod y gwaith ymgysylltu wedi bod yn adeiladol iawn, iawn yn wir. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, efallai, os y gwnaf i nodi rhai sylwadau ar yr hyn nad yw'r Bil hwn yn ymwneud ag ef. Nid oes dim yn y Bil hwn a fyddai, er enghraifft, yn diddymu nodau craidd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran eu gwaith o ddarparu tai fforddiadwy, o ansawdd da ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Yn wir, maen nhw'n ymroddedig iawn i'r agenda honno ac yn ddiweddar maen nhw wedi cyhoeddi cynllun sy'n edrych ymlaen mor bell â 2035 o ran nodi sut y byddan nhw'n parhau i fynd ati i wneud hynny, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n symud tuag at agenda di-garbon, sy'n ceisio cynnal cymaint o werth y buddsoddiad yma yng Nghymru, ac sydd hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd da a gwella ansawdd bob amser.

Does dim yn y Bil, hefyd, sy'n lleihau cadernid y gyfundrefn reoleiddio sydd gennym yng Nghymru, ac nid yw'n effeithio ar unrhyw un o'r ymrwymiadau sylfaenol, ychwaith, a wnaed i denantiaid ar yr adeg trosglwyddo. Felly, er enghraifft, bydd y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy'n trosglwyddo'n wirfoddol ar raddfa fawr yn dal i orfod cyflawni a chynnal safon ansawdd Cymru. Felly, mae llawer o fathau o faterion yr ydym wedi eu hystyried yn ystod hynt y Bil hyd yma, ond mae rhai hanfodion na fyddan nhw'n newid o ganlyniad i'r Bil hwn, sydd, fel yr ydym wedi trafod, yn eithaf cyfyngedig o ran ei gwmpas a'i ddiben.

David Melding—

18:00

Er eich bod yn dweud nad yw hyn ar y Bil, beth am y canlyniadau anfwriadol a godais, nid o reidrwydd yn y ddeddfwriaeth ei hun, ond y sgil-effeithiau?

Drwy'r dyfarniadau a'r safonau y mae'n rhaid i'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lynu atynt yng Nghymru, maen nhw'n glir iawn ynghylch eu diben o ran cynnal pwyslais cryf ar ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer y bobl sydd fwyaf eu hangen—tai cymdeithasol o ansawdd da. Hefyd, drwy ein fframwaith rheoleiddio, mae gennym gyfle i ymchwilio i ba raddau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn buddsoddi eu hymdrechion a'u hadnoddau mewn busnes y byddem ni o'r farn nad yw y busnes craidd. Mae'r rhain yn drafodaethau y byddem ni'n eu cael ar gam cynnar iawn gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, dylent ddod i lefel a oedd yn peri pryder i ni.

Byddwn i hefyd yn dweud bod David Melding yn gywir yn yr ystyr bod y trafodaethau gawsom hefyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol am y ffaith nad oeddynt yn barod i gynnal trafodaeth ar ffurf deialog gyda ni o ran y syniadau a'r pryderon ac ati a ddygwyd ymlaen—. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cynnwys y mater hwnnw o eglurder o ran swyddogaeth, neu statws, ddylwn i ddweud, cynghorwyr awdurdodau lleol ar y bwrdd, ac rydym yn dal i geisio cael rhywfaint o eglurder gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a chyn gynted ag y cawn yr eglurder hwnnw, byddwn yn ei rannu gyda'r pwyllgorau.

Hoffwn droi at y tenantiaid, a hawliau tenantiaid ac ymgysylltu â thenantiaid a'u llais, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sy'n amlwg wedi bod o bryder i aelodau'r pwyllgor, yn y ddadl heddiw ac i eraill drwy gydol hynt y Bil hyd yma. Mae'n werth myfyrio ar y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y broses graffu gan gadeirydd Tai Cymunedol Cymru, a ddywedodd,

Rwy'n credu mai'r niwed gwirioneddol i denantiaid, i fod yn hollol onest, fyddai pe na byddem yn cael y Bil hwn drwyddo i'n galluogi i gael ein hailddosbarthu,

a gwn fod Tai Cymunedol Cymru heddiw wedi anfon neges e-bost at holl Aelodau'r Cynulliad â gwybodaeth fanwl, yn nodi'r pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch swyddogaeth tenantiaid mewn newidiadau cyfansoddiadol penodol a chytuno bod gan denantiaid swyddogaeth hanfodol o ran craffu ar y landlordiaid. Fel busnesau annibynnol, mae gan gymdeithasau tai amrywiaeth o ffyrdd y maen nhw'n cynnwys tenantiaid yn y prosesau craffu a llywodraethu, maen nhw'n dweud wrthym, ac maen nhw'n gweithio'n barhaus i wella yn y maes hwn. Ond mae Tai Cymunedol Cymru heddiw wedi bod yn glir iawn eu bod yn credu nad oes angen newidiadau i'r ddeddfwriaeth i wella yn y maes hwn, ac y gellir cyflawni hyn drwy gyd-ddatblygu canllawiau statudol rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cymdeithasau tai a chyrff tenantiaid sy'n sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau neu newidiadau cyfansoddiadol. Dyna'n sicr y modd y byddwn—[torri ar draws.]

Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd yn sefyll yn gyntaf. Rwy'n credu mai Mark oedd yn gyntaf.

Diolch. Yn fy 12 mlynedd fel aelod gwirfoddol, di-dâl o fwrdd cymdeithas tai rwyf wedi dysgu y gall cymdeithas sy'n cael ei rhedeg yn dda, cymdeithas ddi-elw, fod y cyfrwng mwyaf effeithiol ar gyfer darparu cymdeithasol tai a grymuso tenantiaid. A ydych chi'n cydnabod yr hyn a ddysgwyd gennym—bod ymgysylltu â thenantiaid o'r top i lawr, ymgynghori o'r top i lawr, yn aneffeithiol, ac mai mynd i'r gwaelod, o'r gwaelod i fyny, ymgysylltu â thenantiaid, dod i adnabod tenantiaid, gwrando ar denantiaid, mewn gwirionedd, yw'r ffordd o sbarduno ymgysylltu effeithiol i sicrhau bod barn tenantiaid yn cael ei glywed a'n bod yn gweithredu ar hynny?

Rwy'n cytuno'n llwyr fod ymgysylltu'n llawn ac yn wirioneddol â thenantiaid ar y cyfle cynharaf posibl yn gwbl hanfodol, a dyma un o'r rhesymau pam yr wyf i'n falch bod bwrdd rheoleiddiol Cymru wedi penderfynu comisiynu adolygiad o'r ymgysylltiad â thenantiaid yng Nghymru, a nod hyn wedyn fydd nodi gweledigaeth ar gyfer cyfranogiad tenantiaid yn y dyfodol a cheisio deall beth y mae tenantiaid ei eisiau gan eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad. Mae'r adolygiad hwn, rwy'n deall, yn debygol o ddechrau ym mis Ebrill, a gwn y byddai bwrdd rheoleiddiol Cymru yn croesawu ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad a'u cynnwys yn y broses honno. Gwn y bydd gan Aelodau'r Cynulliad farn yn seiliedig ar eu profiadau lleol o ran ansawdd a phrydlondeb ymgysylltu â thenantiaid, ac rwy'n siŵr y byddai croeso mawr i'ch barn chi, ynghyd ag eraill, yn y broses honno.

Diolch i chi am ildio. Yn ogystal â'r broses craffu ar y Bil, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad hir i gymdeithasau tai yng Nghymru. Ar y pwynt hwn, gwelsom, yn gyfnewid am y rhyddid ychwanegol yr oeddynt yn ei gael drwy'r mesur hwn, fod cyfrifoldeb ar gymdeithasau tai eu hunain i fynd ati'n rhagweithiol i annog craffu gan eu tenantiaid. Felly, a all hi ein sicrhau ni, wrth i'r canllawiau statudol gael eu datblygu, bod y cyfrifoldeb hwnnw yn cael ei roi ar gymdeithasau tai er mwyn codi'r safon?

18:05

Yn sicr, byddaf yn ystyried y mater hwnnw o ran sut y gallwn annog, drwy'r canllawiau, a ddaw yn statudol, y pwysigrwydd o sicrhau bod tenantiaid yn fedrus a bod ganddyn nhw'r gallu a'r hyder i herio aelodau bwrdd. Rwy'n awyddus iawn, ym mhob amgylchiad, bod aelodau bwrdd yn deall mai eu swyddogaeth nhw, i raddau helaeth, yw herio a chraffu, a dylen nhw bob amser gael eu galluogi i fod â'r sgiliau hynny er mwyn cynnal y math hwnnw o swyddogaeth mewn modd cadarn a thrylwyr.

Hoffwn i hefyd ychwanegu bod un o'r safonau perfformiad, y mae'n rhaid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lynu wrthyn nhw yn benodol, yn eu gorfodi i ddangos ymgysylltiad effeithiol a phriodol gyda thenantiaid, a gwasanaethau gwell o safon uchel i denantiaid. Mae TPAS Cymru, drwy glywed llais tenantiaid wrth reoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru, yn casglu barn a phryderon gan denantiaid ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth y mae TPAS yn ei darparu wedyn i Lywodraeth Cymru yn gwirio mewn ffordd, ar ein cyfer ni, a yw'r hyn y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ei ddweud wrthym yn ystyrlon o ran sut maen nhw’n ymgysylltu â thenantiaid ac yn ystyried eu barn.

Dywedwyd ar ran TPAS Cymru, wrth roi tystiolaeth,

ei fod yn credu bod un o'r risgiau yma yn ymwneud â'r angen i sicrhau bod tenantiaid yn cymryd rhan a bod eu lleisiau'n cael eu clywed drwy gydol y broses o ran sut y mae sefydliadau yn gweithredu, a dyna un o'r safonau rheoleiddio newydd. Disgwylir i denantiaid bellach fod yn rhan o'r cynllunio strwythurol ar gyfer cymdeithasau tai.

Maen nhw'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w groesawu i raddau helaeth, fel y gwnaf i. Felly, yn ddi-os, bydd pwyntiau manwl y bydd angen inni eu hystyried yn ddyfnach wrth inni symud i Gyfnod 2 y broses, ond heddiw rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM6656 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol, a hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu. Byddaf yn ysgrifennu'n ffurfiol at y Pwyllgor i amlinellu fy ymateb i'r tri argymhelliad yn fanwl, er i fi nodi fy syniadau cychwynnol yn fy ymateb blaenorol.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gan fod y ddadl flaenorol eisoes wedi cael dau Gadeirydd yn adrodd yn ôl, roeddwn i'n meddwl amrywio pethau tipyn bach drwy adrodd ar y penderfyniad ariannol yn hytrach na'r brif ddadl, fel na wnaethoch chi gael tri Chadeirydd o'r bron, gan alluogi mwy o Aelodau eraill i  gymryd rhan. Rwy'n ddiolchgar am beth mae'r Gweinidog newydd osod allan ac y bydd hi'n cysylltu'n uniongyrchol mewn ymateb i'r tri o'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid sydd yn ffocysu'n gyfyng iawn ar oblygiadau ariannol y Bil presennol.

Mae'r pwyllgor yn cytuno bod y darpariaethau yn y Bil yn angenrheidiol. Rydym ni hefyd yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu dosbarthu fel sefydliadau sector preifat os ydym am osgoi i’w benthyciadau gyfrif fel tâl yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae cynsail y Bil yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Cyllid. Ond mae yna dri argymhelliad, ac mae'n rhaid tynnu sylw pawb at hyn.

Credwn fod risgiau eithaf sylweddol, a dweud y gwir, ynglŷn â’r diwygio rheoleiddiol a amlinellir yn y Bil ac rydym wedi nodi rhai pryderon yn yr adroddiad sydd gyda ni. Rydym wedi gwneud tri argymhelliad, fel y dywedais i, a phe byddent yn cael eu rhoi ar waith, rydym ni o'r farn y bydden nhw'n helpu i liniaru ein pryderon. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym y bydd fframwaith rheoleiddio cadarn ar waith, nid yw'r pwyllgor wedi ei argyhoeddi y bydd hwn yn arf mwy pwerus i ddylanwadu ar ymddygiad landlordiaid cymdeithasol o'i gymharu â'r rheolaeth ddeddfwriaethol bresennol sydd gan Lywodraeth Cymru.

Rydym eisoes yn ymwybodol bod rhai landlordiaid cymdeithasol yn arallgyfeirio oddi ar eu busnes craidd i feysydd newydd, ac mae posibilrwydd go iawn y gallai hyn ddwysáu gyda dadreoleiddio o dan y Bil hwn. Rydym yn pryderu, felly, nad yw arallgyfeirio pellach heb risg ariannol ac am y risgiau y gallai hyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a fydd, mewn gwirionedd, os cawn ni fod yn onest, yn fenthyciwr pan fetha popeth arall—a lender of last resort, mewn geiriau eraill. Bydd yn hanfodol felly i Lywodraeth Cymru fonitro rheolaeth ariannol landlordiaid cymdeithasol, ac rydym wedi argymell ei bod yn amlinellu strategaeth ar gyfer sut y bydd yn monitro gweithgareddau gan landlordiaid cymdeithasol a allai gynyddu'r risg o anawsterau ariannol.

Mae'n bwysig nad yw lleisiau tenantiaid chwaith yn cael eu colli, fel y clywsom ni yn y ddadl flaenorol. Clywsom fod Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn cyfleu'r newidiadau, ond rydym yn bryderus nad oes adnoddau ychwanegol wedi'u dyrannu ar gyfer y dasg hon. Felly, fe wnaethom argymell bod yr arian angenrheidiol yn cael ei neilltuo.

Fe wnaethom hefyd argymell bod digon o adnoddau yn cael eu dyrannu i gynhyrchu canllawiau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau dull cyson o weithredu y drefn newydd. Diolch yn fawr.

18:10

Nid oes siaradwyr eraill, felly galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl os yw'n dymuno.  

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n achub ar y cyfle hwn i ddweud unwaith eto fy mod i'n bwriadu ymateb yn gadarnhaol i bob un o dri argymhelliad y Pwyllgor Cyllid. Diolch.

Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Nid oes pleidleisio, felly dyma ni'n dod at ddiwedd ein trafodion am y dydd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.