Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
23/01/2018Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. A'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru? OAQ51601
Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn rhan o gynllun cytbwys a chynaliadwy ar gyfer buddsoddiad mewn trafnidiaeth ledled Cymru.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un peth y mae llawer o bobl yn y gogledd yn clochdar yn eu gylch yw'r gwahaniaeth rhwng y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth yn y de a'r hyn a welir yn y gogledd. Rydych chi'n gwario £1.4 biliwn ar ffordd liniaru i'r M4, £400 miliwn yn fwy nag yr oeddech chi'n ei ddisgwyl ddim yn bell iawn yn ôl. Cyhoeddwyd £180 miliwn gennych ar gyfer y prosiect metro canolog yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw o fewn, wrth gwrs, pecyn gwerth £2 biliwn ar gyfer system metro de Cymru. Nawr, nid wyf i'n bychanu'r buddsoddiadau hynny, ond pryd mae'r gogledd yn mynd i gael ei gyfran deg? Mae gennym ni seilwaith eithriadol o wael ar yr A55, lle ceir tagfeydd rheolaidd, mae gennym ni broblemau gyda'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mae mynediad at fand eang, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn gwbl annerbyniol.
Wel, mae'r A55, wrth gwrs, yn llwybr strategol allweddol yn y gogledd. Y llynedd, cwblhawyd rhaglen £42 miliwn gennym i sicrhau bod twneli Conwy, Penmaen-bach a Phen-y-clip yn cyd-fynd â'r safonau presennol. Rydym ni hefyd yn buddsoddi tua £40 miliwn i uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, a £200 miliwn yg nghoridor Glannau Dyfrdwy. Hefyd, cwblhawyd y cynllun draenio rhwng Abergwyngregyn â Thai'r Meibion dros yr haf, a chyhoeddwyd y gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol ar brif gynllun gwella Abergwyngregyn i Dai'r Meibion yr A55 gennym. Nawr, mae gwaith arall yn y gogledd yn cynnwys cyflymu'r dyddiad cwblhau ar gyfer trydydd croesfan dros afon Menai, a allai agor yn 2022 erbyn hyn, a datblygu ffordd osgoi arfaethedig Caernarfon a Bontnewydd, sy'n cynrychioli mwy o fuddsoddiad o dros £125 miliwn yn y rhwydwaith—ac i'r ffyrdd yn unig mae hynny.
Rwy'n edrych ar fap o fy mlaen i yn y fan hyn o'r pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Prydain. Ac rydym yn gweld ar draws gogledd Cymru mor dila ydy'r ddarpariaeth o fannau pwyntiau gwefru cyflym. Rydw i'n edrych ymlaen am y chwyldro mewn defnydd o geir trydan, ond nid ydy'r chwyldro yna am allu digwydd heb fod y Llywodraeth wirioneddol yn dangos uchelgais ac yn rhoi strategaeth mewn lle er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi'r isadeiledd ar gyfer y chwyldro yna. Lle mae'r arwyddion gan y Llywodraeth eich bod chi'n cymryd hyn o ddifrif?
Wel, rydym ni yn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid sicrhau bod y strwythur yna. Un o'r problemau yw'r ffaith bod siẁd amrywiaeth ynglŷn â'r gwahanol ffyrdd y mae ceir yn gallu cael eu tsiarjo. Mae yna o leiaf dri gwahanol soced y gallaf i feddwl amdanyn nhw, fel un sy'n dreifo hybrid fy hunan. Beth sydd ei eisiau yw i'r cynhyrchwyr ystyried ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau taw dim ond un modd o tsiarjo sydd ar gael, a bydd hynny'n rhwyddach wedyn i Lywodraeth sicrhau ein bod ni'n gallu helpu i weld mwy o lefydd tsiarjo yn y pen draw. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs: beth sy'n dod yn gyntaf—ceir neu'r rhwydwaith? Rydym ni'n moyn sicrhau bod rhwydwaith ar draws Cymru, ac mae hwn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y Gweinidog.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51634
Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd cynyddol cyfathrebu symudol mewn ardaloedd gwledig. Ac mae ein cynllun gweithredu symudol yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu gweithio gyda'r diwydiant a'r rheoleiddiwr i wella cysylltedd symudol ledled y wlad.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, a gwn fod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth uchel i wella cysylltedd yng nghefn gwlad. Ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Ceir problem sylweddol o bosib gyda diffyg signal ffôn symudol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i o Lan-non yng Ngheredigion, sydd â phedwar bws yn unig i Aberaeron ar ddydd Sul, i ddweud ei fod yn aros am y bws 11:27 yn ddiweddar, ac na chyrhaeddodd. Ar y wefan, rydych chi'n cael eich annog, wrth gwrs, i edrych ar y wefan i ganfod newidiadau i amserlenni ac oediadau, ond ni allai wneud hynny, oherwydd—
Gymaint ag y mae gen i ddiddordeb mewn amseroedd bysiau yn Llan-non, mae'r cwestiwn hwn am signal ffôn symudol.
Ydy, cywir. Ond mae pobl â ffonau symudol yn cael eu hannog i edrych ar y wefan i ganfod oediadau i'r gwasanaeth, na ellid ei wneud yn yr achos penodol hwn gan nad oedd unrhyw signal ffôn symudol ar y safle bws lle'r oedd yn aros am y bws.
Wel, nid oes neb yn mynd i esgus bod signal ffôn symudol yn hollol gyffredinol, mewn llawer o rannau o Gymru. Rwy'n byw yng nghanol tref ac ni allaf gael signal ffôn symudol yn fy nhŷ i. Felly, rydym ni'n gwybod bod her i'r diwydiant—nid yw hyn wedi ei ddatganoli wrth gwrs—i wneud yn siŵr ei fod yn ymestyn cwmpas y signal, fel mewn gwledydd eraill erbyn hyn. Beth ydym ni'n ei wneud fel y Llywodraeth? Wel, mae'r cynllun gweithredu symudol wedi hen gychwyn, ac mae cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd i ddiffinio cymhwysedd ar gyfer cymorth ardrethi busnes ar gyfer safleoedd mastiau newydd, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penodi Pwynt Arloesi i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o gronfa her profion a threialon Llywodraeth y DU.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Swyddfa Gyfathrebu wedi canfod na all 12 y cant o fas tir Cymru gael unrhyw signal ffôn symudol, ac o gofio, er enghraifft, yn y chwe mis diwethaf, y difrod storm ofnadwy yr ydym ni wedi ei gael a'r sefyllfaoedd brys, roeddwn i'n meddwl tybed a yw eich Llywodraeth wedi siarad â rhai o'r arloeswyr, neu a fyddai'n ystyried siarad â nhw—cwmnïau fel EE—am ddefnyddio technoleg drôn neu'r system helikite, sy'n gweithio oddi ar falŵn heliwm, a fydd yn cynnig signal ffôn symudol dros dro yn ystod cyfnodau brys. Wrth gwrs, nid yn unig y byddai'n helpu i gydgysylltu gwasanaethau brys ond yn gadael i bobl wybod eu bod nhw mewn sefyllfa enbyd neu eu bod nhw angen cymorth.
Mae'n sicr yn syniad diddorol. Fe'm hysbysir bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant er mwyn trafod hyn. Mae'n bwysig dros ben, lle mae gennym ni argyfyngau, bod rhwydwaith cyfathrebu digon cadarn ar waith er mwyn ymdrin â'r argyfyngau hynny. Fel rwy'n dweud, cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar i drafod yr union bwynt hwnnw.
Er eich bod chi’n sôn am ba mor bwysig yw argaeledd ffonau symudol, dim ond newydd gyrraedd Pen Llŷn a Mynydd Rhiw y mae 4G, er enghraifft. Mae rhai ardaloedd ar ei hôl hi yn ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Un o’r pethau sy’n cael ei anghofio amdano yn aml iawn yw pa mor bwysig fydd y ffôn symudol ar gyfer awtomeiddio ar ffermydd a robotics. Mae’n dod nawr eich bod chi’n gallu rheoli peirianwaith ar fferm, a phethau megis teilwra a phethau felly, drwy system ffôn a signal ffôn—nid y ffôn symudol ei hunan ond y signal ffôn yna. A ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, felly, fod hynny ar gael wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd—bod y dechnoleg orau ar gael ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig ar gyfer ein hamaethwyr ni?
Mae’n rhaid i ni sicrhau hynny. Un o’r pethau yr wyf i jyst wedi sylwi, mewn gwledydd eraill—. Er enghraifft, roeddwn i yn Uganda dair blynedd yn ôl, ac roedd y rhwydwaith ffonau symudol yno lawer yn well nag yn y Deyrnas Unedig—llawer yn well. Roeddwn i mewn ardaloedd gwledig iawn a oedd yn anodd eu cyrraedd ar yr hewl, ond pan oeddech chi’n cyrraedd yno, roedd pump bar o 4G. Pam? Wel, wrth gwrs, nid oedd buddsoddiad o gwbl o ran llinellau tir, felly dyna’i gyd sydd gan bobl yw ffonau symudol, a dyna lle mae’r buddsoddiad wedi mynd. Ond, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw hynny yn esgus—bod yna rwydwaith o linellau yno’n barod, sydd wedi bod yno ers blynyddoedd mawr—rhag peidio â symud ymlaen gyda rhwydwaith cryfach ar gyfer ffonau symudol. Rŷm ni'n moyn gweld sefyllfa lle mae yna lot mwy o lefydd yng Nghyrmu yn gallu cael signal. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n wir, mewn ardaloedd gwledig, ei bod hi'n anodd, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol. Er enghraifft, mae pobl yn cwyno wrthyf fi—nid wyf i'n gwybod, nid wyf i'n byw yno—am ardal Pontcanna, er enghraifft. Nid oes signal ffôn o gwbl yng nghanol dinas Caerdydd. Felly, mae lot o waith i’w wneud mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae dogfennau a ddatgelwyd yn awgrymu bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ystyried dyfodol ysbytai yn ei ardal. Nawr, dim ond rhyw dair blynedd sydd ers yr ad-drefnu diwethaf, a oedd i fod i gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy, ac eto mae pobl yn wynebu mwy o gynigion bellach, gan gynnwys cau ysbytai. A oedd y Bwrdd Iechyd yn bod yn onest am ei ad-drefnu diwethaf?
Wel, gallai'r Bwrdd Iechyd ei hun ateb hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam nad oedden nhw'n bod yn onest. Ceir heriau bob amser. Mae'r arolwg seneddol, y mae'r holl bleidiau wedi ymrwymo iddo, wedi dweud y bydd penderfyniadau anodd yn y dyfodol. Nawr, fel Llywodraeth, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn. Nid dyma ein polisi. Mae'r rhain yn ddewisiadau y mae'r bwrdd iechyd wedi bwrw ymlaen â nhw. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw bod beth bynnag y mae'r bwrdd iechyd yn ei ystyried yn cael ei ddatblygu gydag ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Wel, Prif Weinidog, mae'n rhaid i chi fod yn gyfrifol ac yn atebol am iechyd yn y pen draw. Mae iechyd yn gwbl ddatganoledig ac yn gyfrifol i chi. Nawr, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw eisiau i bobl gael eu trin yn agosach i'w cartrefi ac yn y gymuned, ond nid yw'n ymddangos mai dyna y mae'r cynigion yn y ddogfen a ddatgelwyd yn ymwneud ag ef. Un agwedd a allai ategu gwasanaethau ysbyty presennol yw creu canolfannau cymunedol â gwelyau, neu'n fwy cywir efallai, 'Ni allaf gredu nad yw'n ysbyty cymuned'. Roedd cau ysbytai cymuned yn bolisi Llywodraeth Lafur ar un adeg, ac mae wedi arwain at leihau nifer y gwelyau, ac mae wedi bod yn gamgymeriad mawr. Ni ddylid defnyddio gwasanaethau cymunedol fel esgus i gau ysbytai cyffredinol dosbarth. Gyda defnydd o welyau ar draws y GIG yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant am y saith mlynedd diwethaf, a ydych chi'n derbyn bod y GIG angen mwy o welyau i'w alluogi i ymdopi â phwysau ychwanegol y gaeaf?
Rwy'n credu bod angen i ni ganolbwyntio nid yn unig ar y mater o welyau, ond ar y mater o gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n golygu, os edrychwch chi ar oedi wrth drosglwyddo gofal, bod ein ffigurau yn llawer gwell o fis i fis, ac wedi gwella'n fawr ers y llynedd. Nid ydym ni eisiau pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd angen iddyn nhw fod yno.
Ond, wrth gwrs, y pwynt arall y mae'n rhaid i ni ei ddeall yw ein bod ni angen GIG sy'n gynaliadwy. Ymrwymodd yr holl bleidiau i hynny yn rhan o'r adolygiad seneddol. Mae'n aruthrol o bwysig ein bod ni, wrth gwrs, yn cytuno â'r egwyddor y dylai pobl gael eu trin mor agos i gartref â phosibl, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynigion a wnaed gan Hywel Dda i Hywel Dda eu hystyried ar hyn o bryd, i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae'n wir dweud efallai y daw adeg pan fydd angen penderfyniad gan y Llywodraeth, ond nid yw'r adeg honno wedi cyrraedd eto.
Y pwynt yw, Prif Weinidog, bod pobl angen system iechyd integredig a gwasanaethau cymunedol sy'n ategu ysbytai cyffredinol dosbarth, nid eu disodli. Mae pobl yn y gorllewin yn dal yn mynd i fod angen triniaeth frys. Bydd dal i fod angen llawdriniaeth arnynt, byddant yn dal i fod angen aros dros nos ac adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Nawr, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer ein cymunedau gwledig. Mae hynny'n golygu adran damweiniau ac achosion brys i Fronglais a Glangwili, a chadw Llwynhelyg ar agor.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn eich rhybuddio chi ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn am yr angen i hyfforddi mwy o feddygon. A wnewch chi weithio gydag ysgol feddygol Abertawe ar ei chynigion i gynyddu nifer y meddygon yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? A allwch chi sicrhau pobl allan yna, a'r Aelodau yma heddiw, na fyddwch chi'n cadarnhau unrhyw benderfyniad i gael gwared ar adrannau damweiniau ac achosion brys o Bronglais na Glangwili? A wnewch chi hefyd gadarnhau na fydd Llywodraeth Lafur yn cymeradwyo unrhyw benderfyniad i gau ysbyty Llwynhelyg na chael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o'r ysbyty hwnnw?
Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n ddibwrpas cael unrhyw fath o ymgynghoriad. Nawr, nid oes gennym ni unrhyw farn ar hyn ar hyn o bryd, ac mae rhesymau dros hynny. [Torri ar draws.] Mae Simon Thomas yn gwybod hyn yn iawn: y rheswm pam na allwn ni gynnig barn ar hyn o bryd yw oherwydd bod ymgynghoriad agored yn digwydd. Ni allwn ni ddod â'r ymgynghoriad i ben ar hyn o bryd. Ceir materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hynny, i ddechrau.
Mae'n wir i ddweud y daw adeg, neu efallai y daw adeg, pan fydd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniad, a dyna'r adeg, heb os, y bydd Gweinidogion yn cael eu holi ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Ond ni allwch chi ar y naill llaw ddweud, 'Rydym ni wedi ymrwymo i adolygiad seneddol sy'n ystyried creu GIG sy'n gynaliadwy' ac yna dweud, 'Dyma fydd y dewisiadau—' [Torri ar draws.] Na, na, na. Ac yna dweud, 'Ceir rhai dewisiadau a fydd yn cael eu diystyru'n llwyr bob amser'. Nid dyna'r ffordd y mae'r pethau hyn yn gweithio. Yr wythnos diwethaf, roedd yr adolygiad seneddol yn cael ei gefnogi gan bob plaid yn y Siambr hon. Y cwestiwn yw: a yw'r pleidiau hynny'n cefnu ar yr adolygiad hwnnw nawr? Mae hwnnw'n gwestiwn y credaf bod angen ei ateb.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n dal i gredu na fydd y dewis du a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 yn costio unrhyw swm yn agos i £1 biliwn ac y bydd yn llawer is na'r ffigur a ragwelwyd gennych chi yn ôl yn 2015?
Wel, mae'r ffigur yn sicr wedi codi gan y bu mwy o oedi na'r disgwyl. Ond rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr yr ymdrinnir â'r mater o dagfeydd ar yr M4. Tybed beth yw barn ei blaid ef.
Prif Weinidog, cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r sesiwn hon, a dyna pam mai ni sy'n gofyn cwestiynau i chi ac yn chwilio am atebion gennych chi. Nid yw'n ymddangos ein bod ni'n cael llawer o atebion o wythnos i wythnos.
Ond, yr wythnos diwethaf, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd yr uwch was sifil a oedd yn ymdrin â hyn yn adran Ysgrifennydd y Cabinet fod cost y prosiect oddeutu £1.4 biliwn i £1.5 biliwn. Ond £1.3 biliwn i £1.4 biliwn yw'r ffigurau gwirioneddol a gyflwynwyd i'r ymchwiliad. Mae'r ffigurau hynny wedi eu cyflwyno i'r ymchwiliad, y ffigurau hynny. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n datgan nad oedd yn mynd i fod unrhyw beth yn agos at £1 biliwn ac y byddai gryn dipyn yn llai na'r ffigur hwnnw. Roedd cant a thrigain o weision sifil ar yr adeg honno, fel y dywedwyd wrthym gan y Gweinidog, ynghlwm i'r prosiect penodol hwn. Gofynnaf ichi eto: beth sydd wedi mynd o'i le? Mae hwn yn brosiect seilwaith allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn herio i'w gyflawni. Mae costau'r prosiect, os oedd eich amcangyfrifon ar yr adeg honno i'w credu, wedi dyblu bron, ar sail ffigurau'r gwasanaeth sifil ei hun a gyflwynwyd ganddo i'r ymchwiliad ac a nodwyd hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor hwnnw.
Wel, yn gyntaf oll, chwyddiant—mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r ffigurau; ac, yn ail, mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Mae Llywodraeth y DU yn codi TAW. Dyma her iddo: pam na wnaiff ef fynd yn ôl at ei blaid a dweud, 'Peidiwch â chodi TAW ar y prosiect hwn'? Byddai hynny'n arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i ni.
Mae hynna'n ofnadwy, Prif Weinidog. Hwn yw eich prosiect seilwaith mwyaf. Mae'r trafodaethau ynghylch TAW yn parhau. Heb TAW—a geiriau eich gwas sifil eich hun yn y pwyllgor hwnnw yw'r rhain—mae costau'r prosiect hwn oddeutu £1.3 biliwn i £1.4 biliwn. Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n ceisio argyhoeddi pobl bod y prosiect hwn yn mynd i gostio £800 miliwn. Gofynnais i chi am gael gweld yr wybodaeth honno fel y gallem ni fod yn hyderus eich bod chi'n adeiladu prosiect ar sail cyllid cadarn. Mae hyn i gyd wedi ei ddadwneud. A allwch chi ymrwymo heddiw bod terfyn uchaf lle mae'r prosiect hwn yn ddichonadwy, ac os nad oes y terfyn uchaf hwnnw, a fyddwch chi'n chwipio aelodau eich meinciau cefn ac yn cael cyfrifoldeb Cabinet i bleidleisio dros y prosiect hwn, beth bynnag fo'r gost?
Doedd e ddim yn gwybod am y TAW, oedd e? Roedd hwnnw'n un o'r materion sy'n newyddion iddo.
Mae'r trafodaethau hynny'n parhau.
Rwy'n synnu nad yw arweinydd yr Wrthblaid yn ymwybodol o'r mater TAW, ac nad yw wedi dweud dim yn gyhoeddus i gefnogi Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru. Un peth yw dweud bod trafodaethau yn parhau, ond pam nad yw e'n sefyll ar ei draed ac yn dweud wrth y Blaid Geidwadol—Plaid Geidwadol a gymerodd gyllid oddi wrth trydaneiddio'r rheilffyrdd i'w wario y tu allan i Gymru; Plaid Geidwadol sy'n ceisio cynyddu pris prosiect yr M4; Plaid Geidwadol a honnodd ei bod yn lleihau'r tollau ar bont Hafren pan mai'r cwbl yr oedd yn ei wneud oedd cael gwared ar TAW nad oedd yn gallu ei godi'n gyfreithlon yn y lle cyntaf. Hynny yw, rydym ni'n sôn am sbinio, ond mae gennym ni dderfis chwyrlïol yma. Byddwn yn darparu prosiectau trafnidiaeth ar gyfer pobl Cymru yn nannedd gwrthwynebiad gan y Ceidwadwyr.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae meddygon ymgynghorol ysbyty brys yng Nghymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ddiweddar yn honni bod diogelwch yn cael ei beryglu i raddau annerbyniol. Mae Coleg Brenhinol meddygaeth frys wedi disgrifio unedau damweiniau ac achosion brys fel meysydd cad. Mae Dr Tim Rogerson, meddyg ymgynghorol ym maes meddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi dweud am y darlun ledled Cymru,
Rydym ni ar ein gliniau cyn belled ag y mae gofal brys [yn y cwestiwn]. Mae gennym ni gleifion sy'n dod i adrannau achosion brys sydd eisoes yn llawn.
Mae'r meddygon ymgynghorol wedi gofyn i'r Prif Weinidog adolygu fel mater o frys nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfer gofal acíwt, ac am gynnydd sylweddol i gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. A yw e'n mynd i gytuno i'r cais hwnnw?
Yn gyntaf oll, rwy'n ymwybodol o'r pwysau a fu ar staff brys, ac rwy'n diolch iddyn nhw am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud. Mae wedi bod yn anodd iawn, o ystyried achosion o gynnydd sydyn i alw—cynnydd sydyn i alw na ellid ei ragweld ar ddiwrnodau penodol yn ystod cyfnod y gwyliau. Byddem ni wrth ein boddau—wrth ein boddau—gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol pe byddai Canghellor y Trysorlys yn gollwng y brêcs. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid dim ond yr wythnos diwethaf y gallem ni fod hyd at £4 biliwn yn well ein byd pe byddai tueddiadau blaenorol wedi cael eu dilyn. Mae hynny'n fuddsoddiad sylweddol y gallem ni ei wneud yn y gwasanaeth iechyd.
Felly, ydym, rydym ni'n cytuno â'r meddygon ymgynghorol ein bod ni eisiau gwario mwy o arian ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ble'r ydym ni'n mynd i'w gymryd? Ysgolion? Oherwydd dyna'r unig le y gallwn ni fynd. Cynyddu'r dreth gyngor? Oherwydd dyna fydd yn digwydd os byddwn ni'n cymryd arian oddi ar lywodraeth leol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU—. Boris Johnson heddiw, yn dweud bod £100 miliwn yr wythnos ar gael ar gyfer y GIG yn Lloegr. Byddai hynny'n golygu £300 miliwn yn fwy ar gael yng Nghymru. Ar hynny, os dim byd arall, rwy'n cefnogi Boris Johnson.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd mwy o arian i'w wario ar y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru—. Yr amseru sy'n bwysig. Wrth ateb arweinydd Plaid Cymru yn gynharach, dywedodd nad yw gwelyau'n bwysig mewn gwirionedd; pa mor gyflym yr ydych chi'n symud pobl allan ohonyn nhw sy'n bwysig. Ond y gwir amdani yw bu gostyngiad sylweddol iawn i nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ledled Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf—tua 20 y cant i 25 y cant yn dibynnu ar y bwrdd iechyd—ond prin y mae cyfradd defnydd y gwelyau hynny wedi newid, ac mae'n uwch nag y bu, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru, uwchlaw'r lefel ddiogel o 85 y cant ers saith mlynedd erbyn hyn. Yn sicr, o fewn y blaenoriaethau'r gwasanaeth iechyd y mae'r Prif Weinidog yn gyfrifol amdanynt, nid Boris Johnson, dylai fod rhyw fath o newid i sicrhau bod diogelwch mewn ysbytai yn cael ei gymryd o ddifrif gan y Llywodraeth hon.
Mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o welyau ar gael. Nid yw'n iawn i ddweud fy mod i wedi dweud nad oedd gwelyau'n bwysig: dywedais mai dim ond rhan o'r darlun ydyn nhw. Os edrychwch chi, er enghraifft, yn Lloegr, lle mae gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cael ei daro'n galed, mae Lloegr yn medi'r hyn a heuodd erbyn hyn. Rydym ni wedi sicrhau drwy, er enghraifft, y gronfa gofal integredig, y gall mwy o bobl adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Rydym ni'n gweld achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn gostwng, tra bod gofal cymdeithasol yn Lloegr, wrth gwrs, ar fin chwalu. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar arweinwyr cynghorau—arweinwyr cynghorau Ceidwadol—yn Lloegr, sy'n dweud yn union hynny.
Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn i'n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi gorffen gan fod cymaint o sŵn yn dod o rannau eraill y Siambr. Nid oedd holl bwynt fy nghwestiwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol, ond â gwelyau mewn ysbytai a gofal ysbyty. Dywedodd y meddygon ymgynghorol a ysgrifennodd at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf bod adrannau achosion brys yng Nghymru, mewn rhai ffyrdd, yn waeth nag yn Lloegr. Mae staff yn cyrraedd y gwaith i ganfod cleifion yn yr adran achosion brys a oedd yno y diwrnod cynt, ac mae sawl aelod o staff mewn dagrau gan eu bod yn teimlo na allant ddarparu'r gofal sydd ei angen ar gleifion. Mae'r meddygon ymgynghorol hefyd yn honni bod y ffigurau targed o bedair awr ar gyfer yr ysbytai sy'n perfformio orau yng Nghymru yn debyg i rai o'r ysbytai sy'n perfformio waethaf yn Lloegr. Yn sicr, mae hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
Ceir marciau cwestiwn ynghylch ffigurau Lloegr i ddechrau. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, y pwysau sydd wedi bod ar wasanaethau brys yng Nghymru, ac yn sicr nid wyf yn ceisio bychanu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Ond y cwestiwn yw hwn: a ddylech chi wahanu'r mater o iechyd a gofal cymdeithasol, fel y mae e'n ceisio ei wneud gyda'i drydydd cwestiwn? Yr ateb yw, 'Na, allwch chi ddim.' Mae'r ddau wedi eu hintegreiddio, mae'r ddau yr un fath, maen nhw'n integredig o ran y gwasanaeth y maen nhw'n ceisio ei ddarparu i bobl ac rydym ni wedi cyfrannu arian at hynny drwy'r gronfa gofal integredig, gan wneud yn siŵr y gall pobl adael yr ysbyty pan eu bod yn gallu.
Yr hyn a wnaeth Lloegr oedd ceisio gwario'r arian ar iechyd ac amddifadu gofal cymdeithasol o arian, gan gymryd oddi wrth gofal cymdeithasol a rhoi i iechyd i bob pwrpas, ac mae Lloegr yn dioddef effeithiau hynny erbyn hyn. Roeddem ni o'r farn erioed bod yn rhaid i iechyd a gofal cymdeithasol gael eu hystyried fel un a bod y naill wedi ei gysylltu'n gryf â'r llall.
Os edrychwn ni, er enghraifft, ychydig y tu hwnt i hynny at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru); mae hwnnw'n ystyried dod â'r ddarpariaeth addysg ac iechyd ar gyfer pobl ifanc ynghyd hefyd. Felly, rydym ni wedi sicrhau, pan ddaw i wariant, bod gwariant yng Nghymru yn uwch fesul pen nag yn Lloegr ar iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr nad ydym yn siomi ein pobl fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yn Lloegr.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu systemau talu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol? OAQ51615
Ceir llawer o fanteision i ysgolion sy'n defnyddio systemau talu heb ddefnyddio arian parod: helpu ysgolion i fodloni'r gofyniad i ddiogelu manylion adnabod dysgwyr, er enghraifft, sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, ac atal y sefyllfa o blant yn colli eu harian cinio rhag codi.
Ceir tystiolaeth, wrth gwrs, bod cysylltiad rhwng systemau talu heb ddefnyddio arian parod a niferoedd uwch yn manteisio ar brydau ysgol am ddim, a dyna pam yr wyf i wedi cefnogi ac ymgyrchu dros eu cyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae Powys wedi gwneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl wych, ond mae gennym ni sefyllfa nawr lle na fydd plant y mae eu rhieni yn talu am ginio ac nad ydynt wedi ychwanegu arian at eu cardiau yn gallu cael unrhyw fwyd mwyach. Rwy'n deall safbwynt y Cyngor yn hyn o beth, ond ni all fod yn iawn, yn fy marn i, bod plentyn yn llwgu yn yr ysgol oherwydd bod rhywun, rywbryd wedi anghofio neu ddim yn gallu fforddio talu am yr arian cinio yr wythnos benodol honno.
Rwy'n arbennig o awyddus i hyn gael ei ddatrys cyn cyflwyno credyd cynhwysol, sy'n mynd i ddigwydd ym Mhowys ym mis Mehefin. Rydym ni i gyd yn gwybod am yr oedi y mae pobl yn ei ddioddef cyn cael eu harian ac rwy'n bryderus dros ben y gallai olygu, yn y system hon, methiant llwyr i'r bobl hynny sy'n disgwyl i'r arian hwnnw fod ar gael ac i'w plant gael eu bwydo, ac na fydd yn digwydd. Gofynnaf gyda pharch i chi felly, Prif Weinidog, a allech chi gael gair gyda'ch dau Ysgrifennydd y Cabinet i geisio datrys hyn. Mae brys iddo gael ei wneud cyn mis Mehefin.
Gallaf. Rwy'n fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny. Cyflwynodd ysgol fy mab fy hun daliadau heb ddefnyddio arian parod y tymor hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny wedi osgoi gorfod chwilota am ddarnau punt bob wythnos, sef yr hyn a oedd yn tueddu i ddigwydd yn ein tŷ ni. Y pwynt pwysig yw hwn: nid wyf i'n credu y byddai'n iawn, os nad oes unrhyw gredyd yng nghyfrif plentyn, fel petai, na ddylai'r plentyn hwnnw gael pryd o fwyd o ganlyniad i hynny. Dylai fod system ar waith lle mae rhieni yn cael eu hatgoffa yn brydlon o'r balans ar y cyfrif hwnnw ac nid dod i wybod amdano pan na fydd unrhyw beth yn y cyfrif. Yn sicr, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fynd i'r afael â hyn ac ateb fy ffrind a'm cydweithiwr yn fwy manwl.FootnoteLink
O'r hyn a ddeallaf, Prif Weinidog, mae gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru yn defnyddio gwahanol ddulliau talu, sydd weithiau'n achosi problem pan fo plant yn newid ysgol. Tybed a ydych chi'n credu bod sail resymegol i safoni dulliau talu ar draws Cymru.
Rwy'n credu bod sail resymegol i hynny. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr cael system safonol ar draws ardal awdurdod addysg lleol. Wrth gwrs, mae gennym ni reolaeth leol o ysgolion, ond byddai'n ymddangos yn rhyfedd i rieni, pe byddai plentyn yn symud ysgolion rywsut y byddai problem wedyn gyda chael gwahanol gyfrif â gwahanol falans ynddo neu beidio â chael system heb arian parod. Rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud y dylem ni symud tuag at system safonol yn y dyfodol.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddisodli Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2012? OAQ51636
Gwnaf. Rydym ni'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth a fydd yn ymgynghori ar ganllawiau gofal parhaus diwygiedig ar gyfer plant a phobl ifanc, ac yn eu cynhyrchu, erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Rwy'n falch iawn bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu. Dyma'r ddogfen. Mae Aelodau Cynulliad etholaethol, ac Aelodau Cynulliad rhanbarthol rwy'n siŵr, yn cael llawer o bobl sy'n pryderu am y cyfnod pontio o fod yn blentyn i fod yn oedolyn i'r plant hynny sydd angen gofal iechyd parhaus. Mae'r ddogfen hon yn gyfrifol am ganllawiau i blant. Mae'r ddogfen hon, dogfen ar wahân, yn gyfrifol am ganllawiau ar fod yn oedolyn. Mae'r ddogfen i blant yn dweud y dylai cymhwysedd ar gyfer GIP oedolion yn 17 oed gael ei benderfynu gan dimau amlasiantaeth, amlddisgyblaeth, tra bod y ddogfen hon yn dweud y dylai'r un peth gael ei gymeradwyo gan fyrddau iechyd lleol. Felly, ceir anghysondebau amlwg rhwng y ddwy ddogfen, ac nid dyna'r unig un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nid yn unig bod y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu, ond hefyd y canllawiau hyn, ar y cyd, a bod rhanddeiliaid eraill y tu hwnt i'r byrddau iechyd yn cymryd rhan, gan gynnwys y comisiynydd plant.
Ie, rwy'n cytuno. Fy nealltwriaeth i yw bod gwasanaethau cynghorau iechyd cymunedol i oedolion—mae'n rhaid i'r cyfnod pontio i'r gwasanaethau hynny ddechrau pan fydd unigolyn yn 14 oed. Mae gan fyrddau iechyd lleol gyfrifoldeb i lunio polisi pontio lleol cadarn gydag asiantaethau partner. Mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol. Bydd rhai materion a fydd y tua allan i gwmpas y bwrdd iechyd lleol—er enghraifft, y cyfrifoldeb am ddiwallu unrhyw anghenion addysgol parhaus. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud, wrth i ni geisio diwygio'r canllawiau ar gyfer pobl ifanc, ei bod hi'n aruthrol o bwysig, wrth i'r canllawiau hynny gael eu diwygio, yna bod cyfnod pontio di-dor i fod yn oedolyn, fel bod y math honno o broblem, pan na all pobl gael mynediad at wasanaethau yn yr un ffordd neu fod rhwystr na allant ei oresgyn, fel bod y rhwystrau hynny'n cael eu dileu.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i bobl Powys.
Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth i'm hetholwyr bod gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau rhagorol. Caiff y gwasanaeth y tu allan i oriau presennol ei redeg gan Shropdoc, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod eisiau rhoi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw a'r contract gyda Shropdoc a'i ddisodli gyda'r gwasanaeth y tu allan i oriau 111 erbyn y gwanwyn hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fy hun na all y bwrdd iechyd nac unrhyw sefydliad arall ddarparu'r un lefel o gymorth y mae Shropdoc yn ei darparu ar hyn o bryd. Mae Shropdoc hefyd yn darparu gwasanaethau i feddygfeydd teulu, ac rwy'n credu bod risg sylweddol gwirioneddol yma y gallai rhai meddygfeydd teulu fynd i'r wal os nad yw'r gwasanaethau hynny ar gael mwyach. Mae'n ymddangos nad yw'r bwrdd iechyd wedi ymgynghori'n briodol ar y cynigion hyn nac wedi ymgynghori â meddygon teulu yn briodol.
Felly, a gaf i ofyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi arfer unrhyw ddylanwad dros y bwrdd iechyd i newid i fodel 111? A allwch chi roi unrhyw sicrwydd i'm hetholwyr na fyddai unrhyw newid yn niweidiol iddyn nhw? Ac, os na allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw, a wnewch chi ymchwilio i'r sefyllfa hon ym Mhowys?
Wel, mae'r sefyllfa wedi codi gan fod Shropdoc ei hun wedi wynebu heriau ariannol yn ystod 2017. Mae'r heriau hynny yn parhau. O ganlyniad, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda Shropdoc a grwpiau comisiynu clinigol Lloegr i'w cynorthwyo tra eu bod yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi sefydlu tasglu i asesu a darparu atebion amgen posibl ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau y tu allan i oriau ym Mhowys. Mae'r tasglu hwnnw wedi datblygu cynlluniau tymor byr a chanolig. Mae'r contract presennol gyda Shropdoc yn dod i ben, rwy'n deall, yn y gwanwyn, felly ceir cyfle nawr i weithio ar fodelau newydd a gweithio gyda Shropdoc ei hun. Mae hon yn sefyllfa na ddewisiwyd gan y bwrdd iechyd, ond bu heriau a roddwyd o'u blaenau o ganlyniad i sefyllfa ariannol Shropdoc ei hun, yr ydym yn gobeithio y gellir eu datrys.
Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae llawer o drigolion Powys yn ddibynnol ar wasanaethau sydd naill ai’n cael eu darparu o Loegr neu sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Gyda’r newyddion rwy’n clywed bod gohirio ynglŷn â phenderfyniad ar leoliad a newydd-deb yr ysbyty cyffredinol ar gyfer gorllewin swydd Shropshire, lle bynnag y mae honno'n mynd i fod ac i gael ei lleoli—mae'r ddadl rhwng Telford a'r Amwythig ei hun, wrth gwrs, yn parhau ac nid oes arian gan Lywodraeth San Steffan eto i fuddsoddi yn hynny—pa drafodaethau a ydych chi yn eu cael fel Llywodraeth—achos mae e tu hwnt i'r bwrdd iechyd, i fod yn onest—gyda'r Llywodraeth yn Lloegr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny'n parhau ac nad oes bwlch yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ym Mhowys?
Wel, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn siarad gyda sir Amwythig a hefyd Telford a Wrekin er mwyn gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau newydd, os taw hynny sydd yn gorfod digwydd, ac i weithio gyda nhw i weld ym mha ffordd y gallan nhw gefnogi Shropdoc i fod yn gynaliadwy yn y pendraw. So, mae'r trafodaethau hynny wedi cymryd lle rhwng y bwrdd iechyd a hefyd y cyrff yn Lloegr.
Prif Weinidog, mae Shropdoc wedi darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i Bowys ers 22 mlynedd, ond, fel pob rhan o'r GIG, maen nhw hefyd wedi wynebu pwysau ariannol. Mae'r penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r contract yn hynod siomedig, gan fod Shropdoc wedi darparu un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau gorau yn y wlad gan ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Siambr hon nad oedd cymhelliad ariannol yn sail i'r penderfyniad i roi terfyn ar gontract Shropdoc ac a allwch chi sicrhau pobl Powys y bydd y gwasanaeth newydd gystal, os nad yn well, na'r gwasanaeth y tu allan i oriau a ddarparwyd gan Shropdoc?
Dyna rydym ni eisiau ei wneud, ond mae gan Shropdoc, cofiwch, ei broblemau ariannol ei hun, a dyna'r rheswm pam mae'r sefyllfa hon wedi codi. Un o'r pryderon hefyd yw y bydd y ddau grŵp comisiynu clinigol o Loegr sy'n comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd yn aildendro yn ystod 2018 ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod y ddwy ochr i'r ffin yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn comisiynu gwasanaethau newydd. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle mae'r bwrdd iechyd wedi dewis bod mewn sefyllfa lle maen nhw eisiau cael gwared ar Shropdoc, os gallaf ei roi felly. Oherwydd heriau ariannol Shropdoc y mae'r sefyllfa wedi codi. Ond mae pawb eisiau bod mewn sefyllfa lle mae'r gwasanaeth o leiaf gystal â'r gwasanaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd.
6. A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio? OAQ51639
Wel, mae awtomeiddio, arloesi a digideiddio yn un o gonglfeini'r cynllun gweithredu economaidd, ac rydym ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad i gynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer heriau yfory a diogelu ein heconomi a'n gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn cynnwys, fel un o'r meini prawf ar gyfer cynorthwyo busnesau newydd, addasu i awtomeiddio, ond mae goblygiadau awtomeiddio yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Amcangyfrifir bod tua 700,000 o swyddi mewn perygl, ac maen nhw'n taro ar bob un portffolio. Felly, a wnewch chi ystyried nawr sut y gallwch chi gydgysylltu ymdrechion trwy sefydlu uned i archwilio cyfleoedd fel y gallwn ni gynorthwyo'r bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio gan awtomeiddio ac i archwilio'r cyfleoedd i Gymru hefyd?
Ie, mae'n un anodd onid yw e? A fydd adeg yn dod pan fo awtomeiddio mor gynhwysfawr nad oes digon o bobl ag arian yn eu pocedi i brynu'r hyn y mae'r robotiaid yn ei wneud? Pryd mae'r adeg honno'n dod? Ni wyr neb; nid ydym ni wedi bod yn y sefyllfa o'r blaen. Ond mae'n gofyn cwestiwn pwysig: sut ydym ni'n ceisio ymdopi ac ymdrin â'r newidiadau a fydd yn dod yn y dyfodol a ffynnu yn eu sgil? Wel, rydym ni eisoes yn archwilio effaith technoleg a data ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus—er enghraifft, mae grŵp digidol a data yn cynnig fforwm ar gyfer rhannu arfer gorau yn hynny o beth. Mae'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd ac rydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau a rhanddeiliaid i drafod effaith a chyfleoedd posibl technolegau digidol. Os edrychwn ni ar dechnoleg arloesol, wel, wrth gwrs, rydym ni eisoes yn ystyried cyfleoedd deallusrwydd artiffisial: agorodd M7 Managed Services, mewn partneriaeth â IBM, ganolfan cymhwysedd deallusrwydd artiffisial fis Rhagfyr diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ganolfan rhagoriaeth technoleg symudol a newydd ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio gyda busnesau i weld sut y gall busnesau elwa o heriau'r dyfodol, ymateb i'r heriau hynny, ac, wrth gwrs, parhau i ddarparu swyddi i bobl.
Prif Weinidog, rwy'n credu i Lee Waters wneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'ch ateb yno. Ddoe, bûm yn uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor. Ystyriodd yr uwchgynhadledd ffyrdd o ddatblygu economi'r de-ddwyrain, yn enwedig nawr yng ngoleuni'r gostyngiad cyntaf i dollau Pont Hafren, a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Prif Weinidog, ceir teimlad aruthrol o optimistiaeth ynghylch rhai o'r newidiadau hyn sydd ar fin digwydd a cheir awydd gwirioneddol hefyd i'w ddefnyddio fel sbardun i ddatblygu economi uwch-dechnoleg yn y de-ddwyrain o'r ffin i Gaerdydd, a, gobeithio, ymhellach. O ran yr uned honno y cyfeiriwyd ati gan Lee Waters, a wnewch chi ystyried lleoli honno yn yr ardal honno o bosibl er mwyn sicrhau, pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd i'r rhwydwaith ffyrdd a newidiadau i bont Hafren, er enghraifft, bod gwir—bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel sbardun i wneud yn siŵr bod yr economi yn cael ei datblygu yn y dyfodol mewn ffordd sy'n datblygu'r sector uwch-dechnoleg a'r ardaloedd y cyfeiriodd Lee Waters atynt?
Wel, rydw i eisoes wedi crybwyll dwy enghraifft yn y fan yna o ganolfannau sydd wedi cael eu sefydlu i ymateb i heriau'r dyfodol a'u datrys, ac, wrth gwrs, bydd llawer o hyn yn cael ei lywio gan y sector addysg uwch, felly, bydd llawer o'r canolfannau hyn, yn y dyfodol, yn cael eu rhedeg ganddyn nhw. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod ni eisiau annog gweithio economaidd trawsffiniol. Mae'n digwydd ym mhobman arall yn y byd, felly pam na fyddai'n digwydd rhwng Cymru a Lloegr? Os bydd hynny'n arwain at ffyniant ar y cyd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, yna da iawn. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes gan dde-orllewin Lloegr gorff y gallwn siarad ag ef yn yr un modd ag y gallwn siarad â'r Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn sicr, mae hwnnw'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol.
Ydy, mae'n dda bod y mater hwn yn cael sylw ar lefel lywodraethol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ddiweddar bod cwmnïau fel Tesco yn colli llawer mwy o arian o ddwyn o siopau ers cyflwyno awtomeiddio ar ffurf peiriannau hunan-sganio. A oes achos nawr i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r cwmnïau hynny i geisio symud oddi wrth awtomeiddio diangen a mynd yn ôl tuag at gyflogi pobl go iawn i wneud swyddi?
Wel, hynny yw—. Mewn gwirionedd, cynyddodd achosion o ddwyn o siopau pan gyflwynwyd hunanwasanaeth i archfarchnadoedd tua 17 mlynedd yn ôl, mae'n debyg. Maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o—. Hynny yw, maen nhw'n amlwg yn ceisio dal lladron, ond maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o'u modelau busnes. Rwy'n credu y dylai amrywiaeth o ddewisiadau fod ar gael i bobl. I rai pobl, maen nhw eisiau mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol, i eraill, maen nhw eisiau talu'n awtomatig ar y diwedd, i eraill, maen nhw eisiau mynd o gwmpas gyda sganiwr. Mae cael y dewisiadau hynny'n bwysig i bobl, yn enwedig ar adegau prysur pan fo gwasanaethau awtomatig yn cymryd llawer o bwysau oddi ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio pan fyddan nhw'n mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? OAQ51608
Rwy'n bryderus iawn am y problemau difrifol gyda chredyd cynhwysol, fel effaith y newidiadau ar dalu cymhorthdal tai, a'r effaith y maen nhw'n ei chael ar ôl-ddyledion rhent. Rydym ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal y broses o gyflwyno credyd cynhwysol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae pobl anabl a rhieni sengl a menywod wedi bod ymhlith y rheini sydd fwyaf ar eu colled o dan saith mlynedd o gynni cyllidol, yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan sefyll i golli tua 10 y cant o'u hincwm erbyn 2022 oherwydd newidiadau i drethi a budd-daliadau ers 2010. Mae cyflwyno'r credyd cynhwysol diffygiol, gyda'i oediadau talu annerbyniol, fel yr ydych chi wedi dweud, wedi gwthio llawer o bobl i ddyled, ôl-ddyledion rhent ac i gael eu troi allan. Wrth gwrs, mae'r Aelod dros Torfaen, Lynne Neagle, wedi bwydo yn ôl ar brofiad Torfaen. Hefyd, mae pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed ar eu colled hefyd yn sgil credyd cynhwysol, wrth i fudd-dal tai gael ei ddiddymu. Nid wyf i'n gwybod a yw'r Aelodau'n ymwybodol bod Cymdeithas y Plant wedi tynnu sylw at gynigion Llywodraeth y DU i gyflwyno trothwy enillion ar gyfer cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim o dan gredyd cynhwysol, gan gyfyngu prydau ysgol am ddim i deuluoedd ag enillion net o lai na £7,400 y flwyddyn. Gyda'r credyd cynhwysol yn debygol o gael ei gyflwyno'n llawn eleni ym Mro Morgannwg a rhannau eraill o Gymru, pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'n gwasanaethau cyngor, fel Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, a fydd yn ysgwyddo'r baich o gynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio'n andwyol gan gredyd cynhwysol?
Rydym ni wedi darparu £5.97 miliwn o gyllid grant ar gyfer eleni. Bydd y cyllid hwnnw'n parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae ar gyfer tri phrosiect: gwasanaethau cyngor rheng flaen, Cyngor Da, Byw'n Dda, a phrosiectau rhannu canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf. Maen nhw'n sicrhau mynediad am ddim ac annibynnol at gyngor lles cymdeithasol ledled Cymru ac, fel y dywedais, bydd hynny'n parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Yn ei gyllideb fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys newidiadau i'r system credyd cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar y saith niwrnod aros cyn y gall hawlydd wneud cais am gredyd cynhwysol, gwelliant sylweddol i'r system taliadau ymlaen llaw, gan gynnwys cynyddu'r swm sydd ar gael, a newidiadau i gynorthwyo pobl â'u taliadau rhent wrth symud o fudd-dal tai. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â phrif weithredwr y canolfannau Cyngor ar Bopeth a ddywedodd bod y newidiadau hyn yn gam i'w groesawu ac y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru?
Wel, ni ddylid bod wedi gwneud smonach ohono yn y lle cyntaf, na ddylai? Dyna gyfaddefiad nad oedd yr hyn a roddwyd ar waith i gychwyn wedi ei ystyried yn ddigonol ac arweiniodd hynny at roi llawer o bobl mewn dyled. Mae gennym ni dystiolaeth gan gymdeithasau tai i Cyngor ar Bopeth sy'n dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dal i fod yn broblem i bobl ar gredyd cynhwysol. Ceir materion eraill hefyd sy'n gysylltiedig â gweithredu credyd cynhwysol, fel diffyg ymwybyddiaeth ynghylch trefniadau talu amgen a mynediad at daliadau ymlaen llaw. Felly, mae'r problemau hynny yn parhau.
Prif Weinidog, bydd Llywodraeth yr Alban, yn rhan o Gomisiwn Smith, yn gweld mwy o bwerau eto dros les yn cael eu datganoli i'w Llywodraeth. Yn y gorffennol, mae eich Llywodraeth wedi dweud nad ydych chi eisiau cael pwerau dros les oherwydd y goblygiadau cost, ond, fel rydym ni wedi wedi ei ailadrodd dro ar ôl tro mewn dadleuon yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fe'n harweiniwyd i ddeall y bydd y fframwaith cyllidol ar gyfer y pwerau hynny yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth yr Alban, ac felly bydd y gost o weinyddu'r budd-daliadau lles hynny gael ei throsglwyddo, ochr yn ochr â'r pwerau. A wnewch chi newid eich meddwl ynghylch hyn felly? Gallwn sefyll yma a chwyno am sut y bydd lles yn effeithio ar ein dinasyddion, ac rwy'n cytuno â chi am hynny, ond allwn ni gymryd cyfrifoldeb yma yng Nghymru am y pwerau lles hynny os ydym ni'n well am ei wneud na San Steffan?
Wel, yr ateb i'r cwestiwn yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i degwch, i gyfiawnder cymdeithasol ac i gyfleoedd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran gwahanu ein hunain oddi wrth y system les sy'n bodoli ar draws Prydain Fawr. Pam? Gan ein bod ni'n fuddiolwyr net. Yn y pen draw, os ydym ni'n cael ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni ariannu ein system les ein hunain, byddwn yn waeth ein byd o ran yr arian sydd ar gael.
Ond nid dyna ddywedais i.
Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus peidio â symud ar hyd y llwybr hwnnw a bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am bwerau nad yw'r arian gennym ni i'w hariannu wedyn. Mater i ni yw hynny. Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth y DU hanes o gytuno i drosglwyddo pwerau heb drosglwyddo'r cyllid, a dyna'r cwestiwn y mae angen i ni ei ateb.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru? OAQ51635
Rydym ni'n gweithio gyda'r diwydiant ac eraill i ddatblygu cynaliadwyedd hirdymor trwy ddatblygu rhwydweithiau integredig fel y metro yn y gogledd a'r de. Byddwn yn edrych, pan gaiff y pwerau eu datganoli, ar strwythur gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Mae fy etholwyr yn edrych ymlaen at y tramiau a systemau rheilffyrdd ysgafn a ddaw yn sgil y metro, ond yn y cyfamser mae pobl yn dibynnu ar fysiau i gael eu hunain i'r gwaith ac i'r ysgol. Bws Caerdydd yw'r gwasanaeth bws trefol ac mae'n nhw'n destun ymosodiadau bygythiol gan gwmnïau preifat sy'n dewis y llwybrau mwyaf proffidiol. Nid yw Deddf Trafnidiaeth 1985 yn caniatáu darparu croes-gymhorthdal i un llwybr o refeniw un arall, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd rhwydwaith o wasanaethau cynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt gar, a pha fodel darparu sydd ei angen arnom a pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom.
Ni allwn barhau gyda system lle, oni bai fod cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau, y gellir eu newid neu gael gwared arnynt yn ddirybudd bron. Rwy'n cofio, nid mor hir yn ôl, yng Ngheredigion, pan roddodd Arriva y gorau i ddarparu gwasanaethau bws yno yn fyr-rybudd iawn, ac yna fe'i gadawyd i weithredwyr preifat eraill gamu i mewn a llenwi'r bwlch. Nid yw honno'n ffordd gynaliadwy o redeg gwasanaethau bysiau. Ac nid yw'n iawn chwaith, mewn sawl rhan o Gymru, bod un darparwr yn unig, a bod y darparwr hwnnw'n ddarparwr preifat sy'n gallu codi yr hyn y mae'n dymuno, i bob bwrpas. Mae hwn yn un arall o'r anwireddau hynny a hysbysebwyd gan y Toraid yn y 1980au a thu hwnt: y gellir cael cystadleuaeth ym maes trafnidiaeth. Wel, i lawer o bobl yng Nghymru nid oes unrhyw gystadleuaeth pan ddaw i fysiau. Yn sicr nid oes cystadleuaeth pan ddaw i drenau. Mae pobl yn talu mwy nag y dylent am fonopolïau preifat. Ni all y sefyllfa honno barhau, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a'r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o sicrhau, yn y dyfodol, bod gennym ni rwydwaith bysiau a gefnogir yn gyhoeddus, yn ariannol a chan bobl Cymru, ac nid un sy'n dameidiog lle mae'r prisiau'n rhy uchel.
Brif Weinidog, rydw i wedi derbyn sylwadau gan weithredwr bysiau lleol yn sir Benfro sydd wedi ehangu ei weithrediadau yn dilyn cau cwmni bysus arall yn y sir, ond, yn anffodus, mae’n ei chael hi’n anodd i uwchraddio ei seilwaith. Wrth gwrs, rydw i’n derbyn bod cyllidebau awdurdodau lleol yn dynn, ond, o ystyried y gwasanaeth pwysig y mae mwy a mwy o gwmnïau bysiau yn eu cynnig ar draws Cymru, a’r ffaith eu bod yn darparu swyddi yn lleol hefyd, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gwmnïau bysiau fel hyn i ddiogelu eu hyfywedd yn y dyfodol ac, felly, sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?
Faint o gwmnïau ŷm ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd sydd yn cwympo drosodd? Sawl un. Sawl un. Mae'n rhaid i ni ailystyried y strwythur o wasanaethau bysiau. Mae hynny'n meddwl, er enghraifft, a oes yna fodd i gael system o franchises—nid yw e'n gweithio ar lefel awdurdodau lleol; maen nhw'n rhy fach, yn fy marn i, i hynny ddigwydd—er mwyn sicrhau bod cwmni yn gorfod sicrhau gwasanaeth ar y pris sydd wedi cael ei gytuno, a sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn parhau dros y blynyddoedd. Mae'n rhaid i ni symud bant o'r strwythur sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef un lle, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae un cwmni yn rhedeg gwasanaethau, ac mae hi lan iddyn nhw i redeg y gwasanaethau y maen nhw'n credu sy'n mynd i weithio, heb unrhyw fath o input na chaniatâd gan bobl leol. Mae'n rhaid i hynny newid. Mae'n rhaid i ni ystyried nad oes cystadleuaeth o gwbl yn y rhan fwyaf o Gymru ynglŷn â bysiau, a symud i system, felly, sy'n llawer mwy cynaliadwy, a system sy'n sicrhau nad ydym ni'n gweld gwasanaethau jest yn cwympo wrth ei gilydd, yn aml iawn, fel rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf.
A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol nad oes unrhyw fysiau yn ystod yr oriau prysur, o ystad ddiwydiannol Wrecsam—un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop—i ganol tref Wrecsam? Mae miloedd o weithwyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trafnidiaeth. Mae'n rhaid ichi naill ai gadael y gwaith yn gynnar, neu mae'n rhaid i chi aros am awr i ddal y bws adref. Nawr, gallwch chi sôn cymaint ag y mynnoch am eich uwchgynadleddau bysiau achlysurol. Gallwch chi ddangos mapiau ffansi i ni o system drafnidiaeth metro gogledd Cymru, fel y'i gelwir, neu, wrth gwrs, gallwch chi ddweud wrthym eich bod o ddifrif am hyn. A yw hyn yn dderbyniol? Oherwydd mae pobl yn dweud wrthyf i nad yw'n dderbyniol. Rwy'n siŵr y byddai pawb yma yn credu nad yw'n dderbyniol. Pam mae Wrecsam yn dioddef gwasanaethau sy'n is na'r safon yn hyn o beth? A pham nad oes gan yr ystad ddiwydiannol fwyaf, neu un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop, yr hyn sy'n wasanaeth sylfaenol?
Pam nad yw e'n codi'r mater gyda'r cynghorau? Y cynghorau sy'n gyfrifol am roi cymorthdal i wasanaethau bysiau. Ac mae e'n iawn; a ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? [Torri ar draws.] A ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? Nac ydw, dydw i ddim; rwy'n credu ei fod ef yn iawn. Ond y gwir yw, fel y gŵyr ef yn iawn, nid oes gennym reolaeth dros y bysiau eto. Nawr, does dim diben esgus—[Torri ar draws.] Nid yw arweinydd yr wrthblaid hyd yn oed yn gwybod, mae'n debyg, ar sail y sylw y mae ef newydd ei roi—nad oes gennym gyfrifoldeb dros y bysiau eto. Rwyf i eisiau gweld, ar gyfer pobl Wrecsam a'r rhai hynny sy'n cymudo i ystad ddiwydiannol Wrecsam, wasanaeth trafnidiaeth priodol, integredig, cynaliadwy, drwy fetro y gogledd-ddwyrain, gan ddefnyddio trenau, gan ddefnyddio bysiau, i sicrhau na fydd y sefyllfa y mae ef wedi ei disgrifio—nad yw'n dderbyniol—yn parhau yn y dyfodol fel sydd wedi digwydd, ar ôl 30 mlynedd o gamreoli trafnidiaeth gan y Torïaid.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w cael ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, mae Chwarae Teg wedi amlygu mai Gwlad yr Iâ yw'r wlad gyntaf yn y byd i orfodi'n gyfreithlon gyflog cyfartal i ddynion a menywod. A wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog syfrdanol rhwng y rhywiau, sydd wedi ymestyn 23 y cant yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ôl adroddiad yr wythnos hon, yn ogystal â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menter 'FairPlay Employer' Chwarae Teg?
Diolch ichi am hynny. Mae'n hollol wych gweld bod Gwlad yr Iâ yn wir wedi deddfu i sicrhau cyflog cyfartal. Wrth gwrs, mae Deddf cyflog cyfartal wedi bod ar waith yn y Deyrnas Unedig ers cryn amser, a gwyddom nad yw hynny wedi arwain at y cydraddoldeb cyflog yr hoffem ni ei weld. Yng Nghymru, rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn anffodus, nid oes gennym y pŵer i wneud hynny yn y sector preifat. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheoliadau ar lunio adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cyflogwyr mawr yn y sectorau preifat a gwirfoddol ledled Prydain Fawr—sydd â 250 o weithwyr neu fwy, rwy'n deall—ac mewn gwirionedd, rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn ni gael cytundeb gwirfoddol yma, mewn partneriaeth gymdeithasol â'n busnesau, i weld os gallwn ni ymestyn hynny yn is i lawr y strwythurau yng Nghymru, oherwydd mae nifer fawr o'r cwmnïau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, wrth gwrs. Rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn archwilio ffyrdd o wneud hynny gan ddefnyddio ein pwerau caffael hefyd, ers cryn amser.
Mae menter Chwarae Teg yn un diddorol iawn mewn gwirionedd. Rwy'n gadeirydd y bwrdd gwaith teg, ac rydym ni'n chwilio am ffyrdd o gyflwyno enghreifftiau tebyg. Byddwn yn gwneud argymhellion cyn hir ynghylch comisiwn gwaith teg yng Nghymru, a gwn y caiff cynigion Chwarae Teg eu hystyried yn ddifrifol iawn yno fel ffordd o ymestyn y gwasanaeth. Hoffwn i hefyd argymell rhaglenni megis y prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir gan Chwarae Teg. Rwyf i'n bersonol wedi bod i weld yr effaith ar fenywod sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hynny. Rwy'n credu mai tua £3,000 yw'r codiad cyflog cyfartalog ar gyfer y menywod sydd wedi cwblhau'r rhaglen honno, sy'n wych, ac mae'n dangos yr hyn y gallwch chi ei gyflawni pan fyddwch chi'n cynyddu pwerau pobl i ddeall beth yw eu hawliau yn y gweithle. Ond does dim amheuaeth bod hynny'n broblem barhaus. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn arwain y ffordd, trwy esiampl a thrwy ein pŵer gwario, yn waith pwysig iawn, i weld beth arall y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru tra bod Llywodraeth y DU yn methu â gweithredu.
Arweinydd y tŷ, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf yn ymwneud â chynigion newid gwasanaeth newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd wedi codi eisoes yn y Siambr hon y prynhawn yma. Nawr, gallai rhai o'r cynigion hyn achosi i wasanaethau gael eu canoli ymhellach i ffwrdd o sir Benfro, a gallai rhai o'r cynigion hyn hyd yn oed arwain at gau Ysbyty Llwynhelyg yn gyfan gwbl yn y dyfodol. Bydd Aelodau'n gwybod fy mod i wedi codi'r mater hwn yn gyson yn y gorffennol, gan dynnu sylw at effeithiau canoli gwasanaethau ar adrannau eraill, sydd, yn eu tro, yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa waeth yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi cael fy nghyhuddo'n aml o godi bwganod, ac mae'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma heddiw eto wrth godi sgil-effeithiau canoli gwasanaethau ar ysbytai yn y gorllewin. Mae'n ymddangos bod y pryderon hynny yn gyflym ddod yn realiti, gan gofio bod rhai o'r dewisiadau a ystyriwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn golygu y byddai ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau yn gyfan gwbl. Nawr, ni ddylid hyd yn oed ystyried cau'r ysbyty, yn fy marn i, a bydd gwneud hynny yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae'n bwysig nawr inni glywed gan Lywodraeth Cymru beth yw ei safbwynt ar y mater difrifol hwn.
Gwrandewais yn ofalus ar atebion y Prif Weinidog yn gynharach, a oedd yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru farn o gwbl. Llywodraeth Cymru, yn sicr, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru, ac rwy'n bryderus iawn bod y Llywodraeth yn gwrthod ymateb i wasanaethau iechyd yn y gorllewin. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, nid oedd cau ysbyty Llwynhelyg yn rhan o bolisi'r blaid sy'n llywodraethu. Felly, mae ond yn rhesymol bod y Llywodraeth bellach yn dweud wrth y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli beth yw ei barn ar ddyfodol ysbyty Llwynhelyg. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad brys ynglŷn â dyfodol darpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, ac yn arbennig yn sir Benfro, cyn gynted ag y bo modd? Oherwydd dylai Llywodraeth Cymru nodi ei safbwynt ar y mater difrifol hwn.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddatganiad ar strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol yn y gorllewin? Mae Meddygfa St Clement yn Neyland, yn fy etholaeth i, wedi cyflwyno cais i'r bwrdd iechyd lleol i gau'r feddygfa, yn rhannol, yn sgil prinder staff, gan amlygu unwaith eto pam mae angen gwneud mwy i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol i swyddi yn y gorllewin. Mae hwn yn fater difrifol iawn i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli, gan gofio ein bod wedi gweld problemau eraill wrth recriwtio meddygon teulu yn Wdig, yng ngogledd fy etholaeth. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad yn amlinellu strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]—fel nad yw meddygfeydd eraill fel hyn yn cau, o ganlyniad i brinder staff, yn y dyfodol?
Llywydd, gallaf glywed rhai Aelodau Llafur yn chwerthin am y materion ddifrifol iawn hyn. [Torri ar draws.] Dylai fod cywilydd arnyn nhw.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna, a oedd yn debycach i areithiau. Rwy'n credu mai dyna oedd yr Aelodau Llafur yn gwneud sylwadau yn ei gylch. [Torri ar draws.] O ran yr un cyntaf, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma i glywed eich datganiad neu gwestiwn eto i mi, ond mae'n amlwg bod proses briodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad. Rwy'n synnu bod yr Aelod yn credu y dylwn ni fod â barn ar yr ymgynghoriad ar hyn o bryd, cyn diwedd yr ymgynghoriad. Rydym yn ystyried ymgynghoriadau yn hynod ddifrifol. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben a'n bod wedi dilyn proses briodol i edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno canlyniadau'r ymgynghoriad ac ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad hwnnw ar yr adeg honno.
O ran eich ail bwynt, fe wnaethoch chi sôn am hynny yn gynharach ac rydych chi wedi sôn amdano eto nawr. Dydw i ddim yn credu mai cwestiwn oedd ef mewn gwirionedd. Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet y pwyntiau a wnaethoch chi, fel y gwnaeth pawb arall.
A gaf i ddechrau gan ofyn am ddiweddariad ar ddiogelwch ffyrdd, yn benodol ar yr A487? Efallai bod arweinydd y tŷ yn cofio, tua phythefnos yn ôl, roedd damwain angheuol rhwng Gellilydan a Maentwrog, pan fu farw baban a'i modryb mewn car. Mae cydymdeimladau gen i tuag at y teulu a'r gymuned leol, sydd yn galaru dros y ddamwain honno. Ond yn benodol, o edrych ar y ffigyrau, mae yna 26 o ddamweiniau wedi bod ar yr un darn o hewl, sef, i'r rhai sy'n ei nabod e, y troadau yn mynd lawr y bryn rhwng Gellilydan a Maentwrog. Mae 26 wedi bod mewn blwyddyn yn unig—yn y flwyddyn lawn ddiweddaraf. Felly, er mwyn osgoi'r posibiliadau, neu o leiaf lleihau'r posibiliadau, o ddamweiniau difrifol ar y darn yna o'r hewl, rydw i'n gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar edrych i mewn i ddiogelwch y ffordd. Yn benodol, mae'r bobl leol yn gofyn am ostwng y cyflymder dros dro tra eu bod nhw'n edrych i mewn i ffordd arall o wneud y ffordd yn fwy diogel. Mae'n werth cofio bod rhannau eraill o'r ffordd yma rhwng de a gogledd Cymru wedi'u gwneud yn fwy saff yn ddiweddar drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r darn yma yn aros fel roedd e yn nyddiau'r goetsh, a dweud y gwir, ac mae angen edrych, yn sicr, ar ddiogelwch y ffordd yna.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw diolch ar goedd i'r llawer o bobl a wnaeth weithio yn ystod y penwythnos. Cawsom lifogydd, unwaith eto, yn llawer o rannau o orllewin Cymru. Cafodd Ceredigion yn arbennig ei effeithio'n wael. Yn sicr nid oedd modd i mi fy hunan gwblhau taith ddydd Sul, oherwydd cefais fy nhroi'n ôl gan yr heddlu, a gwn fod problemau llifogydd difrifol yn Ninbych y Pysgod, hefyd, ar y ffordd ddwyreiniol allan o'r dref. Mae'r pethau hyn yn digwydd. Mae gennym broblemau mawr â dŵr wyneb yng Nghymru, ond weithiau gellir ymdrin â'r problemau hyn drwy well peirianneg a gwell dealltwriaeth o sut i wneud ychydig o beirianneg meddal wrth i ni ymdopi â llifogydd. Felly, wrth i ni ddiolch i bobl am eu gwaith caled—staff a swyddogion y cyngor a'r heddlu hefyd—byddai'n dda, yn fy marn i, efallai nid ar unwaith, ond o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, i gael cyfle i fyfyrio fel Cynulliad, naill ai drwy ddatganiad neu drwy ddadl, ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i ddelio â llifogydd, ac atal rhai o effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn rhan o hynny, a beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i cynllunio ar gyfer helpu rhai cymunedau i nodi problemau a cheisio mynd i'r afael â nhw.
O ran yr A487, hoffwn hefyd estyn ein cydymdeimladau i'r teulu. Cydymdeimlwn yn fawr â phob un a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad traffig ofnadwy hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo'n gryf iawn am ei ymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd ac i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Nid wyf wedi cael cyfle eto i drafod ag ef ynghylch gostwng y terfynau cyflymder. Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu hynny yn benodol. Rwy'n siŵr y bydd yn cymryd hynny o ddifri, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Roedd yn ddigwyddiad difrifol iawn.
O ran llifogydd, yn wir roedd yna lifogydd. Roedd yn arllwys y glaw, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, ddydd Sul, ac roedd llifogydd ym mhobman. Torrodd y llifogydd ar draws fy nhaith i hefyd. Unwaith eto, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ystyried hynny'n ddifrifol iawn, a byddwn ni'n ystyried ffordd o ddod â hynny i lawr y Cynulliad, oherwydd mae'n fater difrifol iawn i nifer fawr ohonom yng Nghymru.
Arweinydd y tŷ, rydym wedi clywed bod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym wasanaeth bysiau cynaliadwy, a gefnogir gan y cyhoedd yng Nghymru, ond rydym wedi clywed hefyd, mewn nifer o rannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd, fod y system bysiau bresennol yn dirywio'n gynyddol. Cwblhaodd y Llywodraeth ei hymgynghoriad bysiau yn ôl ym mis Mai. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n aros i Lywodraeth y DU drosglwyddo'r pwerau sydd eu hangen arnom ni i gomisiynu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ond yn y cyfamser, a yw'n bosibl cael dadl ynghylch modelau posibl ar gyfer y system bysiau yn y dyfodol, boed hynny drwy greu masnachfraint ar gyfer cymunedau cyfan neu drwy systemau o ddarparu gwasanaethau bysiau a gefnogir yn gyhoeddus neu'n gymunedol?
Mae'r Aelod yn hollol iawn; daeth ein hymgynghoriad i ben ar 31 Mai y llynedd. Roedd yn hwnnw nifer o gynigion amlinellol i wella sut y caiff gwasanaethau bysiau lleol eu cynllunio a'u darparu. Roedd saith deg pump y cant o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad hwnnw yn dweud eu bod nhw'n hoffi i'n diwygiadau alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno rhyw fath o fasnachfreintiau bysiau yn eu hardaloedd er mwyn diwallu anghenion lleol yn well. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall, y tro hwn ar y cynigion manwl a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyntaf, ynghyd â rhai eraill, gan gynnwys rhai o'r pethau y mae'r Aelod newydd eu codi. A chredaf mai ei fwriad yw cyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn y Siambr bryd hynny. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei gyflwyno.
Mae'n werth atgoffa ein hunain, fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach hefyd, fod gan awdurdodau lleol amryw o bwerau eisoes i gael mwy o ddylanwad ar y gwasanaethau bysiau. Er enghraifft, gallant greu cynlluniau tocynnau; yn fy awdurdod lleol, mae tocynnau o-un-pen-i'r-llall wedi bod yn broblem fawr, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau o Abertawe a'r Gŵyr. Hefyd, mae cytundebau gwirfoddol y gellir eu gwneud â gweithredwyr bysiau i gydgysylltu buddsoddiad mewn cynlluniau gwahanol, ac i lunio cynlluniau partneriaeth ansawdd bysiau y gellir eu gorfodi'n statudol. Felly, nid ydym ni heb unrhyw bwerau ar lefel yr awdurdod lleol, ond fe fyddwn ni'n ymgynghori ar bwerau ychwanegol, wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo i ni maes o law.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysylltiadau agosach rhwng de-ddwyrain Cymru a Bryste a gorllewin Lloegr? Ddoe, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd twf Hafren yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni ddatblygu cysylltiadau economaidd, gan adeiladu ar ostwng y tollau ar bont Hafren, cyn iddyn nhw gael eu diddymu. A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cysylltiadau er mwyn gwella safonau byw a'r rhagolygon am swyddi yn y de-ddwyrain?
Ac mae'r cais am ail ddatganiad, gan yr un Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gofyn—mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud rhai cynlluniau, ond roedd un sefydliad pwysig iawn o'r enw Defnyddwyr Bysiau Cymru nad oedd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hyd yn oed. Mae gan y sefydliad hwnnw safbwyntiau mewn gwirionedd, mae ganddo bryderon, mae ganddo strategaethau, ac mae ganddo faterion technegol i'w trafod. A llynedd, fe wnaethon nhw gyflwyno mwy na 430 o gwynion, ac maen nhw i gyd wedi cael sylw—y rhan fwyaf ohonynt. Felly, mae eu cyfraniad yn hanfodol iawn ar gyfer ein defnyddwyr bysiau, yn enwedig ar gyfer ein dinasyddion hŷn, a phobl anabl. Felly, byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad ar Ddefnyddwyr Bysiau Cymru yn y Siambr hon, os gwelwch yn dda.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyfres helaeth o gyfarfodydd ynghylch ardal Hafren, a diddymu'r tollau ac ati. Gwn fod ganddo nifer fawr o faterion yn mynd rhagddynt yr ardal benodol honno. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r pwynt am ymgynghori â Defnyddwyr Bysiau Cymru. Rwyf yn awgrymu i'r Aelod ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gan dynnu sylw at y mater hwnnw. Nid wyf yn credu ei fod yn fater ar gyfer datganiad yn y Tŷ, ond rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i ymholiad ynghylch, os ydynt wedi eu hepgor o'r ymgynghoriad, pam y digwyddodd hynny ac ati. Yn anffodus, nid wyf yn gwybod yr ateb penodol i hynny.
Fel y dywedais mewn ymateb i Jenny Rathbone, bydd ymgynghori ymhellach ynghylch y sefyllfa o ran bysiau, a bydd hynny'n rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig, ac, yn amlwg, mae yn effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth integredig hefyd. Ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth iddo gyflwyno ymgynghoriad ar agweddau penodol o'r rhwydwaith bysiau.
Cawsom ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ar gaffael dur, ac rwy'n croesawu hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar elfennau eraill y cytundeb â Phlaid Cymru a wnaethom o ran y diwydiant dur, yn benodol ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer? Rwy'n awyddus i wybod beth yw'r sefyllfa ynglŷn â hyn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym wedi gweld materion o ran problemau â chyngor pensiwn, ac roeddwn i am fod yn sicr, a sicrhau bod y gweithwyr yn sicr, nad yw'r newidiadau yn eu pensiynau yn ofer. Ac felly, diweddariad ar y gwaith pŵer, a chroesawir hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a datblygu.
Fy ail gais yw gofyn am ddiweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar geiswyr lloches a ffoaduriaid. Yfory, rwy'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar bwnc Cymru fel noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac yn yr adroddiad hwnnw fe wnaethom ni argymell bod Cymru'n dod yn genedl noddfa. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adroddiad hwnnw, gan ystyried bod llawer o ddiddordeb yn hyn gan y sector hwnnw, a llawer o frwdfrydedd, mewn gwirionedd, gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru.
Rwyf am ateb y cwestiynau gan ddechrau â'r olaf yn gyntaf, gan fod yr un hwnnw yn rhan o'm cyfrifoldeb portffolio. Fe wnes i gyfarfod â nifer o'r grwpiau dan sylw yn yr adroddiad hwnnw yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio picio i mewn i'ch digwyddiad yfory, ac rydym yn edrych yn ffafriol iawn ar hynny, a byddaf yn adrodd yn fuan ar ein hymateb i'r adroddiad hwnnw. Cawsom gyfarfod da iawn â nifer fawr o'r grwpiau, sefydliadau ymbarél ac ati. Felly, byddaf yn cyflwyno ymateb ar hynny cyn bo hir. Byddaf yn galw heibio i weld digwyddiad coffa Holocost Julie Morgan ar risiau'r Senedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yfory hefyd, ond rwy'n gobeithio mynd i'r ddau ddigwyddiad. Mae'n wych gweld dau ddigwyddiad mawr o'r fath yn y Senedd yfory.
O ran y gwaith ymchwil a datblygu dur, ma'r trafodaethau hynny ar y gweill. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno—a bod yn onest, dwi ddim yn siŵr os bydd yn ddatganiad neu'n ddadl—ond byddwn yn cyflwyno rhywbeth cyn bo hir i ddiweddaru Aelodau ar hynny a beth yw ein sefyllfa, a phwysigrwydd hynny i'r gweithwyr. Yn sicr, mae David Rees bob amser yn fy holi i ynghylch pa gyfeiriad yr ydym yn mynd â hynny, a'r Aelod hefyd, felly byddwn yn gwneud hynny'n fuan iawn hefyd.
Fel y byddwch yn ymwybodol, arweinydd y tŷ, mae Brexit ar ddechrau cyfnod arbennig o ddwys. Mae Nigel Farage wedi bod yn galw am ail refferendwm. Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, hyd yn oed, wedi dweud ar y radio os bydd y ffeithiau'n newid, y bydd yn rhaid i chi bleidleisio eto, er rwy'n credu yr oedd yn cyfeirio at arweinyddiaeth UKIP. Ond o gofio'r cyfnod yr ydym ar fin mynd iddo nawr, a fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru gael, er enghraifft, datganiadau bob pythefnos ar gyflwr presennol Brexit? Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a bod trafodaeth barhaus yn cael ei chynnal gan fod pethau'n datblygu'n gyflym iawn, iawn, ac mae'r materion hyn yn hanfodol bwysig i'r Cynulliad hwn ac i'r DU yn ei chyfanrwydd.
Ie, mae'r Aelod yn llygad ei le—mae'n eithriadol o bwysig. Rwyf i fy hun mewn sefyllfa braidd yn anghyfforddus gan fy mod i'n cytuno â Nigel Farage, ond dyna ni—nid yw hynny'n sefyllfa y byddwch chi'n dymuno bod ynddi yn aml. Mae Llywodraeth Cymru yn eithriadol o awyddus i adeiladu ar ein gwaith ardderchog, yn fy marn i, o ran rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ddatblygiadau diweddaraf Brexit. Ers canlyniad y refferendwm, rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rhagweithiol i'r Cynulliad, er enghraifft, drwy ddatganiadau ysgrifenedig a llafar, yn dilyn cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a digwyddiadau arwyddocaol neu ddatblygiadau. Er enghraifft, cawsom dri datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnos cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr ar wahanol agweddau ar bolisi a thrafodiadau'r Undeb Ewropeaidd—ar y cytundeb cam 1, ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 12 Rhagfyr ac ar lansio ein dogfen bolisi ranbarthol. Hefyd, mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn adrodd yn ôl yn rheolaidd ar y cynnydd, i system bwyllgor y Cynulliad.
Wrth inni symud ymlaen at gam nesaf y trafodaethau, byddwn yn parhau i adeiladu ar y dulliau sefydledig hyn o ddiweddaru'r Cynulliad. Fodd bynnag, bydd yr Aelod yn gwybod bod angen inni weld cynigion pendant mewn gwirionedd gan Lywodraeth y DU ar lefel ymgysylltiad Llywodraeth Cymru yn ystod yr ail gam o drafodaethau cyn i ni allu amlinellu yn fanwl sut y gallwn sicrhau bod cyfres o drefniadau sy'n addas at eu diben ar waith, lle gellir adrodd y datblygiadau diweddaraf a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y ddwy lefel. Ac rydym wedi gwneud yr achos i Lywodraeth y DU y dylai'r model ar gyfer yr ail gam ddilyn y strwythur sydd gan y DU eisoes wrth gyflawni busnes yr UE ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd Llywodraeth y DU yn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn wrth ddatblygu safbwyntiau polisi y DU ar faterion yr UE, fel y gallwn sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn briodol.
Arweinydd y tŷ, soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fy mod i wedi mynd i uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor, sy'n edrych ar ffyrdd o adeiladu ar newidiadau megis diddymu tollau Pont Hafren yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut yr ydych chi hefyd yn bwriadu, fel Llywodraeth, i weithio i ddatblygu economi'r de-ddwyrain yng ngoleuni'r newidiadau hyn, a hefyd edrych ar y materion trawsffiniol a grybwyllodd y Prif Weinidog? Mae'n bwysig, yn fy marn i, ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn yng ngoleuni'r newidiadau hyn i ddatblygu economi'r rhan hon o Gymru sy'n symud i ochr arall y ffin.
Yn ail, ar hyn o bryd rwyf yn noddi arddangosfa o gwiltiau coffa'r Rhyfel Byd cyntaf yn adeilad y Pierhead; efallai bod rhai ohonoch chi wedi'u gweld nhw eisoes. Mae yna ddau ohonynt; maen nhw'n anhygoel. Cawson nhw eu creu, eu gwnïo a'u brodio gan blant ysgol o bum ysgol yn fy etholaeth, ac maen nhw wir yn werth eu gweld. Cawson nhw eu creu i ddathlu 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel byd cyntaf, ac yr ydym bellach—nid yw'n teimlo fel amser maith ers inni goffáu dechrau'r rhyfel mawr—bellach rydym yn coffáu y diwedd. Felly, rwy'n apelio ar yr Aelodau Cynulliad, os nad ydyn nhw wedi bod eto, i fynd i weld rhai o'r cwiltiau hyn am weddill yr wythnos hon, ond hefyd os gallai Llywodraeth Cymru egluro'n union sut yr ydych chi am i ni ddathlu diwedd y rhyfel mawr. Yn amlwg, roedd yn rhan sylweddol a phwysig iawn o'n hanes ac yn rhyfel lle gollodd llawer o bobl Cymru eu bywydau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o arweiniad o ran pa gyfeiriad yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer dathlu diwedd y rhyfel hwnnw.
Ie, dau bwynt pwysig iawn. O ran ardal twf Hafren, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar yn gynharach, ceir nifer o gyfarfodydd ynghylch hyn—mae'n bwynt pwysig iawn. Gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet nifer o faterion heb eu datrys yno, a'i bod mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad wrth i'r trafodaethau hynny fynd rhagddynt. Os oes gan yr Aelod unrhyw beth penodol iawn a ddaeth yn sgil y gynhadledd yr aeth iddi, byddai'n ddefnyddiol iawn i wybod beth yw'r pwyntiau penodol hynny er mwyn gallu ymdrin â nhw.
O ran y cwiltiau coffa, rwy'n gobeithio mynd i'w gweld nhw hefyd. Credaf fod hynny'n fenter wych iawn, ac rwy'n canmol yr Aelod am ei noddi. Nid wyf wedi gallu mynd draw i'w gweld eto ond rwyf wir yn gobeithio y caf y cyfle i fynd. Mae'n ffordd dda iawn o wneud hynny. Byddwn yn cyflwyno rhai digwyddiadau coffa ac ati maes o law, oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le—bu llawer iawn o Gymry yn ymladd yn ddewr, a rhai wedi aberthu eu bywydau, wrth gwrs, yn y rhyfel mawr. Mae'n bwysig iawn inni goffáu'r bobl hynny, ond hefyd ein bod yn addysgu ein pobl ifanc am effeithiau rhyfel byd-eang o'r fath a'r goblygiadau, gartref a thramor, o'r fath bethau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater pwysig yna.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth cynhwysiant ariannol i Gymru? Cefais adroddiad defnyddiol iawn yn ddiweddar gan fy nghanolfan Cyngor ar Bopeth leol am yr effeithiau ar gymuned Aberpennar yn sgil cau banc olaf y dref. Gan fod Aberdâr hefyd wedi gweld yr effaith gyda thri banc mawr yn cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—gan gynnwys y Banc Cydweithredol, a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf y bydd yn cau—credaf fod hwn yn gyfle da inni fyfyrio ar y strategaeth, gan fod llawer o gymunedau eraill, fe wn, yn gweld yn union yr un peth yn digwydd. Ond mae hefyd yn caniatáu inni ystyried yr ymyriadau sy'n fwyaf priodol i sicrhau y gall holl aelodau ein cymuned ddefnyddio'r gwasanaethau bancio hynny a oedd yn arfer bod ar gael iddynt ar y stryd fawr leol.
Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol ac mae'n flaenoriaeth allweddol i raddau helaeth iawn gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, roedd gan Bethan Jenkins ran fawr wrth gyflwyno'r mater hwnnw hefyd. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda sefydliadau partner drwy gyfrwng y grŵp llywio cynhwysiant ariannol i ddatblygu ystod eang o gamau gweithredu yn y cynllun cyflawni a byddwn yn adrodd yn ôl ar gynnydd yn ystod y misoedd nesaf.
O ran cau banciau, mae'r Aelod yn llygad ei lle. Rydym i gyd wedi bod yn trafod cau banciau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau etholaethol ein hunain, ac mae nifer mawr ohonom wedi codi'r problemau gyda rheolwyr banc lleol pan fo banciau wedi'u clustnodi i'w cau. Mae rhai o'r ymatebion a gewch am y cymunedau yr effeithir arnyn nhw ac ati yn wirioneddol siomedig. Mae'n werth nodi bod gwasanaeth cownteri Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaethau bancio mewn rhai ardaloedd, mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i fy hun ac yn y ddwy arall, etholaethau Dwyrain Abertawe a Gŵyr, ac rydym wedi cael rhai cyfarfodydd sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ynghylch sut i ymdrin â hynny. Ond rydym yn parhau i fod yn siomedig iawn ynglŷn â'r mater.
Un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud hefyd yw ceisio sicrhau bod ein cynllun cynhwysiant digidol yn cynnwys bancio ar-lein, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a allai fod wedi eu heithrio o'r gwasanaethau ar-lein sydd yn cael eu defnyddio i gymryd lle gwasanaethau'r stryd fawr i raddau helaeth. Nid wyf i'n awgrymu am funud bod hwn yn newid cywir, a gwn fod yr Aelod wedi pwyso'n galed i gadw rhai o'r banciau yn agored yn ei hardal, fel yr ydym ni i gyd wedi gwneud. Ond mae'n bwysig, lle mae cwtogi ar y gwasanaethau, fod pobl yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r dechnoleg sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i fancio o'u cartrefi, os mai dyna'r broblem, er nad yw hynny'n helpu busnesau bach sy'n awyddus i allu bancio arian parod ac ati, sy'n broblem enfawr.
Mae problem hefyd o ran gwneud i ffwrdd â pheiriannau ATM. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod yn ymwybodol ohoni. Mae problem yn codi o ran faint o arian a delir i bobl i gynnal peiriant ATM a sut mae'n cael ei leoli. Felly mae'n rhaid inni edrych ar hynny hefyd i weld a allwn ni wneud unrhyw beth i helpu, o ran y darpariaeth o beiriannau ATM. Mae yna nifer o fannau ledled Cymru erbyn hyn lle mae'n rhaid ichi deithio'n bell er mwyn cael arian parod, a phroblem fawr yw honno.
Felly, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pwynt pwysig hwnnw. Rydym ni'n cael trafodaeth ar sut y gallwn leddfu rhai o effeithiau cau'r banciau.
A gaf i alw am ddau ddatganiad gan arweinydd y tŷ, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar berfformiad adrannau achosion brys ledled Cymru? Mae'r ffigurau diweddaraf, wrth gwrs, yn sobor o wael, yn wir ichi. Yn anffodus, unwaith yn rhagor, y bwrdd iechyd a gaiff ei redeg ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru sy'n perfformio waethaf o'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn erbyn y targed pedair awr. Mewn gwirionedd, dim ond pedair siawns o bob 10 sydd gennych o fynd i mewn ac allan o'r adran honno dros y targed pedair awr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol i'r cannoedd o gleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill o'r gogledd sy'n gorfod dioddef y cyfnodau hirfaith hynny mewn adrannau achosion brys prysur iawn. Felly, rwy'n credu ei bod yn angenrheidiol inni gael datganiad ar berfformiad adrannau achosion brys, yn arbennig o ystyried y sefyllfa, yr argyfwng, sy'n amlwg yn datblygu mewn rhai o'n hysbytai.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad, gennych chi, mae'n debyg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gymunedau ffydd? Yn amlwg, clywais eich sylwadau ynglŷn â Diwrnod Cofio'r Holocost. Cefais y fraint o fod yn bresennol mewn digwyddiad yn Llandudno i goffáu'r Holocost dros y penwythnos a gwrando ar Dr Martin Stern, un a wnaeth oroesi'r Holocost. Roedd ganddo stori rymus ac ysgytiol iawn i'w rhannu wrth iddo draddodi ei brofiadau yn ystod yr Holocost a phrofiadau rhai o blith ei deulu. Yn amlwg, mae goroeswyr yr Holocost yn lleihau yn eu nifer. Rwy'n arbennig o awyddus i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hysbysu cymaint o bobl ifanc â phosibl am yr hanesion uniongyrchol hynny gan oroeswyr yr Holocost tra bod gennym bobl gyda ni o hyd sydd yn gallu dweud eu hanesion yn uniongyrchol wrthym. Gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud gwaith da ar hyn yn y gorffennol ac wedi cefnogi pobl ifanc i ymweld â mannau fel Auschwitz a chymryd rhan mewn digwyddiadau i goffáu'r Holocost. Ond nid oes dim byd yn debyg i gyfarfod â rhywun sydd wedi goroesi'r Holocost a gwrando ar ei hanesion yn uniongyrchol i drawsnewid ffordd o feddwl pobl am yr Holocost ac i ymdrin â'r broblem gynyddol sydd gennym drwy'r byd gyda'r rhai sy'n gwadu'r Holocost.
O ran y datganiad iechyd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar y GIG dros gyfnod y gaeaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn cynnwys rhai o'r materion yr ydych chi wedi eu codi. Mae'n nodio ei ben i ddangos y bydd yn gwneud hynny, felly bydd yn gwneud hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf.
O ran cymunedau ffydd a mater coffáu'r Holocost, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod nad oes dim byd tebyg i gael yr hanes yn uniongyrchol, ond mewn gwirionedd weithiau, yn fy etholaeth i fy hunan, er enghraifft, mae merch un o'r rhai a wnaeth oroesi'r Holocost—a roddodd dystiolaeth rymus ei hunan lawer tro, ond yn drist iawn sydd wedi ymadael â ni oddi ar hynny—yn ddadleuwraig daer iawn, os hoffech, dros yr hyn yr aeth ei mam drwyddo ac wedi ei magu, yn amlwg iawn, gyda'r wybodaeth honno. Felly, mae ffyrdd ar gael o drosglwyddo'r wybodaeth. Ond cytunaf yn llwyr â chi ei bod yn hanfodol inni wneud yn siŵr fod pawb yn deall yr hyn a ddigwyddodd a pham y digwyddodd hynny a sut y mae'n rhaid inni wneud yn siŵr na fydd hynny'n digwydd byth eto.
Nid wyf i wedi ystyried cyflwyno datganiad, ond fe wnaf i ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod yn myfyrio'n wastadol ar hynny. Mae yna nifer o weithgareddau yn yr arfaeth, a byddwn yn hapus iawn i ddiweddaru'r Senedd, naill ai drwy ddatganiad neu ddull arall, pan fyddwn ni wedi cael trefn arnyn nhw.
Arweinydd y tŷ, dau fater oedd gennyf i i'w codi. Yr wythnos diwethaf, helpais i lansio comic o'r enw Anturiaethau Ada ym Myd Gwyddoniaeth i blant pump a chwe blwydd oed er mwyn annog mwy ohonyn nhw, yn enwedig merched, i astudio gwyddoniaeth—pwnc sy'n agos at galon Ysgrifennydd y Cabinet, mi wn. Daeth y syniad hwn gan un o'm hetholwyr, Dr Edward Gomez, sydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. A fyddai'n bosibl inni gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i lenwi'r bwlch a geir yng Nghymru o ran nifer y bobl ifanc sydd yn mynd ymlaen i astudio pynciau STEM, yn arbennig i lefel A, gan fod lleihad mawr yn digwydd ar ôl TGAU yn nifer y rhai sy'n dilyn gyrfaoedd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth?
Dyna oedd y cyntaf. Yr ail yw hwn. Ddydd Sadwrn, cynhaliais ddigwyddiad yn fy etholaeth i annog pobl i ddechrau seiclo wrth fynd ar deithiau beunyddiol, teithiau byr. Cawsom ymateb hollol wych gan y gymuned. Daeth llawer o faterion i'r amlwg, fel llwybrau beicio di-gar a lle i gael cawod ar ôl cyrraedd y gwaith. Wrth gwrs, yng Nghaerdydd, mae gennym ni ddau gyflogwr mawr yn symud i ganol Caerdydd—Cyllid a Thollau EM a'r BBC. Gobeithio y bydd llawer o'u staff yn seiclo i'r gwaith. Gan hynnny, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyflogwyr i hybu seiclo i'r gwaith a darparu cyfleusterau ar gyfer beicwyr, fel lle i gadw beiciau a chael cawod?
O ran y cwestiwn cyntaf a ofynnodd Julie Morgan, rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â Dr Edward Gomez, ac mae e'n astroffisegwr brwdfrydig iawn. Mae'r llyfrau comic yn rhagorol a byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y gallwn wneud defnydd gwell o gyfleusterau o'r fath, naill ai yn bersonol neu drwy Hwb, sydd bellach yn ymestyn allan i tua 70 y cant o ysgolion Cymru. Cefais gyfarfod brwdfrydig iawn gydag ef ynghylch sut y gallem ddatblygu hynny, ac maen nhw'n adnoddau gwych yn wir.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'n rhaid inni gael ffordd o ddenu mwy o blant i gael diddordeb mewn gyrfa o'r fath ym myd gwyddoniaeth, yn enwedig merched. Mae gennym amrywiaeth o bethau ar waith, ond mae gan Dr Gomez y gallu arbennig i danio brwdfrydedd plant iau a gwneud pwnc cymhleth iawn yn gwbl dryloyw ac yn wirioneddol ddiddorol. Felly, roeddwn i o'r farn fod ei ddull ef o wneud hynny'n wirioneddol ardderchog a bydd yn sicr yn dwyn hynny'n ei flaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Rwy'n dal i gadeirio Bwrdd menywod yn STEM ar gyfer Llywodraeth Cymru, felly byddaf yn edrych ar y mater yno o ran sut mae modd ennyn diddordeb merched mewn rhai o'r pynciau gwyddoniaeth sy'n fwy damcaniaethol hefyd. Mae e'n ddyn diddorol iawn i'r rhai ohonoch chi sydd efallai heb gwrdd ag ef; mae ganddo sgwrs ddiddorol.
O ran y teithio llesol, mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd. Mae'r holl fater ynghylch seiclo yn fodd o deithio yn hytrach na defnydd hamdden yn eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn codi pwyntiau da iawn am barodrwydd y sefydliadau mwy o faint hynny o ran cyfleusterau i gadw beiciau yn ddiogel a hefyd gyfleusterau newid ac ati a bod yn barod i'r gwaith. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i wella teithio llesol drwy gyllid buddsoddi cyfalaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiad maes o law am ganlyniad rhai o'r trafodaethau hynny a'r buddsoddiad hwnnw, gyda'r union bwynt y mae'r Aelod yn ei godi dan sylw. Nid oes a wnelo hyn â seiclo am hwyl; mae'n ymwneud â beicio fel modd o deithio o un lle i'r llall mewn ffordd iach a chynaliadwy. Ac mae'n arbennig o bwysig yn ein dinasoedd mawr ein bod yn annog hynny o ran y ddadl ansawdd aer yr ydym wedi bod yn ei chael yn ddiweddar hefyd.
Roeddwn am godi un pwynt arall, sef bod problem wirioneddol ynghylch anabledd ar gyfer beicio hefyd. Mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hunan, os gwnaiff y Llywydd faddau i mi, o'r enw BikeAbility. Mae'n gyfleuster ardderchog iawn ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a fydd hefyd yn gallu bod yn egnïol ar eu beiciau, ac mae'n bwysig fod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i hyn hefyd wrth ddylunio'r cynlluniau hyn.
Arweinydd y tŷ, byddwch fwy na thebyg wedi clywed rhai o'r sylwadau yn y cyfryngau heddiw am bryderon Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am brofiad pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, rai blynyddoedd wedi iddi wneud ei hargymhellion gwreiddiol. Er ei bod hi'n gwneud rhai sylwadau cadarnhaol iawn am y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ers hynny, yn ogystal â'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, roedd hi'n dweud bod rhai pethau sylfaenol iawn fel rheoli ymataliaeth ac—ni allaf gofio beth arall oedd ganddi, erbyn hyn—atal codymau, yn mynd ar goll. Tybed a oes modd inni gael diweddariad ar gynnydd gan y Llywodraeth yn erbyn yr argymhellion, gan ganolbwyntio'n benodol ar y pethau sy'n mynd ar goll. Diolch.
Mae'r Gweinidog yn bresennol i glywed hyn. Fe'i clywais ar Radio Wales y bore yma gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru—fe gawson nhw ddadl dda ar y pwnc. Mae'n rhoi arwydd i mi y byddwn ni'n cyflwyno rhywbeth i ymateb i hynny o fewn 28 diwrnod.
Arweinydd y Siambr, ar 22 Mawrth 2016, ar ôl yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n hoffi mynegi ei gydymdeimlad a'i gydsafiad â phobl Gwlad Belg. Aeth yn ei flaen i ddweud ei bod yn rhaid gwrthwynebu pla terfysgaeth ym mhobman a'i bod yn rhaid inni wrthsefyll y bygythiad i'n ffordd o fyw.
Rwy'n codi'r datganiad hwnnw heddiw oherwydd ei fod yn dangos yn eglur gynsail i'r Llywodraeth wrth fynd i'r afael â materion tramor. Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar yr ymosodiad ciaidd yn erbyn y Cwrdiaid ac eraill yn Afrin yng ngogledd Syria. Mae'r Cwrdiaid wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ymladd yn erbyn y bygythiad o derfysgaeth y maen nhw'n ei wynebu yn Syria, ac maen nhw wedi dangos, dro ar ôl tro, eu bod yn gynghreiriad i Gymru yn y dwyrain canol, ac yn eu cannoedd, roeddent y tu allan i'r Cynulliad heddiw. Mae gan y Cwrdiaid hawl i fyw mewn heddwch a'r Cynulliad hwn yw llais etholedig pobl Cymru. A wnaiff ef ddatganiad gan y Llywodraeth i gondemnio terfysgaeth gwladwriaeth Twrci yn Syria a Cwrdistan, ac a fyddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar y trais yn ddiplomataidd?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ond mae'n ymwybodol iawn nad yw materion tramor wedi cael eu datganoli i ni. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o'i gydymdeimlad â phobl gwlad Belg ac rwy'n siŵr y buasai'n gwneud rhywbeth tebyg i bob un drwy'r byd yr effeithir arno gan derfysgaeth. Mae'r Aelod wedi gwneud ei bwynt yn huawdl iawn, ac rwy'n siŵr fod y Cynulliad wedi'i glywed.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i'r cwestiwn brys ynghylch cwymp Carillion. Byddai llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn adleisio'r ffordd angerddol y pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwendid ym mholisi caffael Llywodraeth y DU sydd wedi cyfrannu at y llanastr presennol y bydd yn rhaid i'r sector cyhoeddus erbyn hyn, i raddau helaeth, ymdrin ag ef. A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a fyddai modd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wneud datganiad manylach ar y gwersi sydd i'w dysgu o ansolfedd Carillion, yn enwedig y gwersi y gallwn eu dysgu yma yng Nghymru ynglŷn â'r modd yr ydym yn caffael gwasanaethau, a'r cyfleoedd a allai fodoli ar gyfer adfer rhywfaint o reolaeth ddemocrataidd drwy gyfrwng sefydliadau llafur uniongyrchol neu drwy fodelau cydweithredol o weithio?
A gaf i hefyd ofyn y bydd methiant Carillion yn cael ei archwilio er mwyn inni ddysgu mwy am risgiau gweithgareddau caffael ar raddfa mor fawr a sut y gallai hynny ein harwain i fyfyrio ar y gwaith caffael yr ydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd? Credaf y byddai'r Cynulliad cyfan yn elwa ar drafod datganiad o'r fath, ac efallai y byddai hynny'n arwain at gonsensws newydd ar y ffordd ymlaen fel y gall busnesau Cymru a threthdalwyr Cymru elwa fel ei gilydd.
Wel, diolch ichi am y pwynt pwysig iawn hwnnw. Yn wir, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei bwyntiau yn angerddol iawn am y rheswm pam nad ydym yn rhoi gwaith y gwasanaethau cyhoeddus allan i gwmnïau eraill ac effaith rhoi contractau allanol i'r sector preifat—yr effeithiau anfwriadol all ddod yn sgil hynny. Yn ffodus, yma yng Nghymru, nid effeithiwyd arnom ni gan Carillion fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal adolygiad o brosesau caffael ledled Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd yn adrodd hynny'n ôl i'r Cynulliad ac yn dwyn y materion hyn i gyfrif yn rhan o hynny.
Arweinydd y Tŷ, tua 12 mis yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd ei fod mewn gwirionedd yn tynnu cyllid Cymunedau yn Gyntaf oddi wrth NSA Afan oherwydd adroddiad archwilio yr oedd wedi ei dderbyn. Aeth ymlaen i ddweud y byddai ymchwiliad ariannol pellach yn cael ei gynnal. Nid ydym hyd yma wedi clywed unrhyw beth ers y dyddiad hwnnw, ac rwy'n deall bod hynny bellach wedi cael ei drosglwyddo i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gynnydd a wnaed o ran yr ymchwiliad hwnnw, oherwydd mae gan NSA Afan, yn amlwg, lawer o weithgareddau yn digwydd yn fy etholaeth i a llawer o ganolfannau cymunedol a fyddai'n cael trafferth pe byddai anawsterau gan NSA Afan?
A'r ail bwynt, fe'i codwyd yn y Siambr hon o'r blaen—am gyflwr y parth llifogydd ar y safle lle bydd carchar Baglan yn cael ei adeiladu. Y penwythnos hwn, fel y nododd Simon Thomas, cafwyd glaw trwm. Rydym wedi gweld llifogydd ym mhob cwr, gan gynnwys ar y safle arbennig hwnnw. Nawr, nid yw hynny'n unig oherwydd y glaw trwm a gafwyd ar un diwrnod; mae'n dangos bod y lefelau dŵr a bod y lefel trwythiad yn uchel, ac, fel y cyfryw, mae angen mynd i'r afael â nhw. Nawr, rydym yn deall bod y parth llifogydd wedi ei symud o C2 i C1 oherwydd ailasesiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru—rwy'n deall hynny—ond, yn seiliedig ar ddigwyddiadau'r penwythnos, mae'n amlwg fod angen asesiad arall. Galwyd am hynny o'r blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd i ddweud sut y mae ailasesiadau yn cael eu gwneud a phryd y cânt eu hailwneud oherwydd amgylchiadau?
O ran y pwynt cyntaf, rwy'n deall bod hynny bellach gerbron yr heddlu, ac felly ni fyddwn ni'n gwneud sylwadau pellach ar hynny. Credaf fod yr Aelod yn ymgymryd â hynny cyn hir yn ei etholaeth ei hunan. Rwy'n siŵr y bydd yn gallu ein hysbysu am hynt y cyfarfod hwnnw, a byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod y mater yn gwneud cynnydd.
O ran y llifogydd a'r asesiad o hynny, yn ffodus roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol i glywed eich pwynt ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi rhoi ystyriaeth iddo yn ei thrafodaethau ynghylch ailasesiad o berygl llifogydd. Mae llifogydd wedi codi sawl gwaith yn y Siambr hon heddiw, ac mae'n fater sy'n agos at ein calonnau, felly rwy'n sicr y bydd yn ystyried hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn ichi.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cynnydd ar y gronfa driniaeth newydd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r datganiad—Vaughan Gething.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, lansiais gronfa driniaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n werth £80 miliwn. Roedd hyn, wrth gwrs, yn un o'r addewidion allweddol i bobl Cymru yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad. Mae fy natganiad heddiw yn tynnu sylw at sut mae'r gronfa driniaeth newydd wedi sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Mae hyn yn dynodi blwyddyn weithredol lawn gyntaf cronfa lwyddiannus iawn.
Mae'r buddsoddiad newydd sylweddol hwn yn GIG Cymru yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau diweddaraf a argymhellir yn gyflym, ni waeth ym mhle y maen nhw'n byw yng Nghymru. Egwyddor sylfaenol y gronfa driniaeth newydd yw fod yn rhaid i'r holl feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, neu NICE, a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gyfan, neu AWMSG, fod ar gael i gleifion, lle y bo'n glinigol briodol, heb fod yn hwyrach na deufis o gyhoeddiad yr argymhelliad. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o draean i amserlen ofynnol y gweithrediad.
Mae argymhelliad cadarnhaol gan NICE neu AWMSG yn cadarnhau bod y feddyginiaeth wedi pasio prawf trylwyr clinigol a chost-effeithiolrwydd fel ei gilydd: mae manteision clinigol y feddyginiaeth yn cydbwyso â'r gost y bydd y gwneuthurwr yn ei godi ar y GIG. Mae hyn yn sicrhau gwerth da am arian i'r cyhoedd ac, wrth gwrs, i'n GIG.
Mae'r gronfa driniaeth newydd yn rhoi £16 miliwn y flwyddyn i fyrddau iechyd yng Nghymru er mwyn cefnogi'r ddarpariaeth gyflymach a mwy cyson honno. Hyd yma, rhoddwyd £28 miliwn i fyrddau iechyd ac i Ymddiriedolaeth GIG Felindre i gefnogi'r gwaith o gyflwyno dros 80 o feddyginiaethau newydd.
Wrth gwrs, cymeradwywyd y meddyginiaethau hyn gan NICE neu AWMSG i drin amrywiaeth eang o glefydau. Mae'r rhestr a chwmpas y meysydd therapiwtig yn rhy hir i mi eu rhestru yma, ond mae'n cynnwys meddyginiaethau ar gyfer amrywiaeth eang o driniaethau, gan gynnwys arthritis, sglerosis ymledol, epilepsi, asthma a chyflyrau prin fel clefyd Fabry.
Mae ychydig dros 40 y cant o'r meddyginiaethau a argymhellir yn trin mathau amrywiol o ganser. Nodwyd bod 30 o'r meddyginiaethau a argymhellwyd wrth arfarnu yn cynnig dewis o driniaeth newydd, fwy effeithiol i gleifion, neu'n mynd i'r afael ag angen clinigol nas diwallwyd. Roedd hyn yn cynnwys triniaethau newydd ar gyfer canser, clefyd difrifol sy'n bygwth y golwg, anhwylderau genetig sy'n bygwth bywyd a chlefyd cronig yr ysgyfaint.
Mae'r rhain yn dangos ehangder a chwmpas y gronfa driniaeth newydd. Maen nhw hefyd yn amlygu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar sicrhau bod yr holl feddyginiaethau a argymhellir ar gyfer pob cyflwr ar gael yn gyflym. Nid hwnnw yw'r dull a ddefnyddir ar draws y ffin yn Lloegr. Mae'r holl glefydau neu gyflyrau yr wyf newydd sôn amdanyn nhw yn cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd yr unigolyn a'i anwyliaid. Dyna pam, yng Nghymru, rydym yn sicrhau bod y gronfa driniaeth newydd yn trin pob clefyd yn gyfartal ac nid yw'n blaenoriaethu cyllid ar gyfer un clefyd yn hytrach na'r llall. Cyhoeddir y rhestr lawn o'r meddyginiaethau a argymhellir ar wefan AWMSG ac mae'r ddolen wedi ei darparu i'r Aelodau.
Disgwyliaf y bydd cydymffurfiaeth lawn yn cael ei chynnal gydol cyfnod pum mlynedd y Gronfa. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r holl feddyginiaethau a argymhellir fod ar gael heb fod yn hwyrach na dau fis ar ôl cyhoeddi argymhelliad AWMSG neu NICE. Pan adroddais ar y cynnydd cychwynnol ym mis Gorffennaf, rhoddais wybod bod rhywfaint o amrywiad wedi bod o ran argaeledd rhai o'r meddyginiaethau a argymhellwyd yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y Gronfa. Ers y materion cynnar hynny ynghylch amrywiad, rwy'n falch o adrodd bod ein GIG wedi gwneud cynnydd cyflym a llawer mwy cyson.
Cyn cyflwyno'r gronfa driniaeth newydd, roedd disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau a argymhellwyd ar gael heb fod yn hwyrach na thri mis neu 90 diwrnod o gyhoeddiad penderfyniad NICE neu AWMSG. Yn y chwe mis cyntaf o lansio'r gronfa driniaeth newydd, rydym wedi gostwng yr amser a gymerir i feddyginiaethau fod ar gael 81 y cant. Mewn termau real, golygai hynny mai'r amser cyfartalog a gymerwyd gan fyrddau iechyd ledled Cymru i ddarparu meddyginiaethau oedd 17 diwrnod yn ystod chwe mis cyntaf y gronfa driniaeth newydd. Rydym wedi gweld gwelliannau pellach hyd yn oed yn ystod ail gyfnod chwe mis y Gronfa. Mae'r amser a gymerir i sicrhau bod meddyginiaeth ar gael bellach wedi gostwng i 10 diwrnod ar gyfartaledd ledled Cymru. Mae hynny'n cynrychioli gostyngiad o bron 90 y cant ledled Cymru. Bellach dylai meddyginiaeth fod ar gael i'w rhagnodi o fewn cyfnod o ddau fis lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Ein nod yw sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael cyn gynted â phosibl. Rwy'n falch o nodi bod bron 83 y cant o feddyginiaethau a argymhellwyd wedi bod ar gael ar draws Cymru o fewn 30 diwrnod.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu ymdrech a chyflawniad ein GIG wrth wireddu ein hymrwymiad i gleifion ledled Cymru. Mae prif weithredwyr a chadeiryddion y byrddau iechyd yn eglur mai'r disgwyliad yw y byddan nhw'n parhau i ddarparu'n gyson a pharhaus gydymffurfiaeth lawn â gofynion y gronfa driniaeth newydd. Nid yw dinasyddion Cymru yn haeddu llai na hyn. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i graffu ar berfformiad y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau o ran cyflawni eu rhwymedigaethau o dan y gronfa driniaeth ac yn dal prif weithredwyr a chadeiryddion i gyfrif am eu cyflawniad.
Mae sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael i gleifion yn gofyn am gynllunio manwl o ran seilwaith a llwybr gofal, a gall hynny fod yn heriol yn ariannol, yn arbennig yn y 12 mis cyntaf. Nod y gronfa driniaeth newydd yw cefnogi byrddau iechyd wrth baratoi cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Mae diogelwch, wrth gwrs, yn ystyriaeth hollbwysig wrth gyflwyno pob meddyginiaeth newydd. Gall hynny olygu newidiadau angenrheidiol i'r ffordd y mae gwasanaethau clinigol yn gweithredu: er enghraifft, efallai y bydd angen rhagor o fonitro ar gleifion neu eu monitro'n wahanol; efallai y bydd angen profi cleifion, er enghraifft, ar gyfer eu haddasrwydd clinigol. Mae'n hanfodol deall holl ofynion cyflwyno meddyginiaeth yn ddiogel ac yn effeithiol ar gam cynnar, ac mae'nn ganolog i sicrhau argaeledd cyflym a pharhaus.
Ers imi lansio'r gronfa ym mis Ionawr y llynedd, rwyf wedi siarad yn gyson am yr angen i'r diwydiant gweithgynhyrchu fferyllol a GIG Cymru gydweithio'n agosach ar yr agenda hon. Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru yn parhau i fod yn gefnogol o'n dull ni o weithredu'r agenda feddyginiaethau ac yn benodol, egwyddorion ein cronfa driniaeth newydd. Croesawaf y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda rhanddeiliaid GIG Cymru i wella lefel ac amseriad yr wybodaeth a ddarperir gan weithgynhyrchwyr am feddyginiaethau newydd. Mae atgyfnerthu'r rhagolygon ariannol a'r seilwaith cynllunio yn gwneud synnwyr perffaith i bawb. Bydd y diwydiant yn elwa pan gaiff ei gynhyrchion eu mabwysiadu'n gyflym, ac yn bwysicaf oll, bydd cleifion yn elwa o'u cael yn gyflymach.
Mae sefydlu'r gronfa driniaeth newydd yn amcan penodol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'. Yn y flwyddyn lawn gyntaf y bu'r gronfa driniaeth newydd ar waith, rydym wedi llwyddo i leihau'n sylweddol yr amser a gymerir i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael hyd at 85 y cant. Gwnaethom addewid i bobl Cymru y byddai ein cronfa driniaeth newydd yn sicrhau y byddai meddyginiaethau newydd, a all newid bywydau ar gyfer pobl cyflwr, ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Rydym wedi cadw at ein haddewid, ac mae pob rhan o Gymru nawr yn gweld y budd.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o weld bod y gronfa driniaeth newydd yn gwneud cystal. Mae rhaid ei bod yn erchyll i fod yn rhywun sy'n dioddef o gyflwr ofnadwy y mae taer angen triniaethau arloesol a radical ar ei gyfer, a gorfod poeni a yw ar gael i chi neu beidio drwy eich bwrdd iechyd. Ymddengys bod hyn yn llenwi'r bwlch yn y broses gynllunio, ac rwy'n ei wirioneddol groesawu. Mae gennyf ychydig o gwestiynau, a byddwn yn gofyn ichi yn yr ysbryd, efallai, y gallwch fynd ar eu trywydd rywbryd eto a sicrhau ein bod yn cael y gorau posibl o'r gronfa hon.
Rwy'n nodi bod adroddiadau gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gyfan a'r gronfa driniaeth newydd yn dangos, yn ystod y 12 mis diwethaf, fod nifer y meddyginiaethau a argymhellir wedi disgyn o 24 gydag wyth meddyginiaeth wedi'u disodli yn 2016, i 21 o feddyginiaethau gyda dwy wedi'u disodli yn 2017. Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi amlinellu'r rhesymau dros hyn? Ai'r rheswm yw bod nifer y meddyginiaethau yn y gronfa driniaeth newydd yn llai er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn gyflymach? Neu, a yw'n fwy oherwydd, unwaith y byddan nhw yn y system, fod y feddyginiaeth honno'n dod oddi ar y llyfrau ac, yn sgil hynny, fod yna obaith disgwyliedig y bydd y rheini sy'n ymgeisio am driniaethau o'r gronfa yn edwino i niferoedd llai o lawer? Ai dyma'r feddylfryd y tu ôl i wneud gronfa driniaeth newydd wirioneddol yn rhaglen bum mlynedd?
Ysgrifennydd y Cabinet, yr ydych yn dweud yn eich datganiad bod £16 miliwn y flwyddyn yn cefnogi meddyginiaethau sydd i fod ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson. Byddai'n ddiddorol, er hynny, i weld data'r cleifion ac argaeledd, i benderfynu pa mor eang y mae byrddau iechyd yn defnyddio'r meddyginiaethau newydd sydd ar gael. Yr wybodaeth fwyaf sylfaenol a roddwyd y tro diwethaf ar ddata argaeledd oedd nad oedd pob Bwrdd Iechyd yn cymryd yr 17 o feddyginiaethau—17 oedd y rhif bryd hynny—sydd ar gael o'r newydd, ond o ran cyrraedd y claf nid oedd manylion i'w cael. Credaf y byddai hynny'n helpu gyda'n dealltwriaeth ni o ran sicrhau bod y meddyginiaethau ar gael yn gyson i bawb ledled Cymru, ni waeth ble maen nhw'n digwydd byw yn ein gwlad.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr ymrwymiad i ragweld trwyddedu a mabwysiadu triniaethau arloesol, a ydych yn hyderus y bydd byrddau iechyd yn gallu edrych tua'r gorwel yn effeithiol, a thrwy hynny wella cynlluniau seilwaith fel y bydd modd manteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau arloesol newydd, ac y bydd cymorth priodol a gwasanaethau hefyd yn eu lle? Nodais hynny yn eich sylwadau am yr ABPI. Eto i gyd, er enghraifft, mae achos dan sylw yn ymwneud â chyffuriau newydd i drin hepatitis C, sydd bellach ar gael drwy'r gronfa driniaeth newydd—fe'i croesawyd yn fawr iawn gan gleifion a lobïwyr fel ei gilydd. Serch hynny, o gofio mai dileu hepatitis C oedd y nod, ac o ystyried nad oes unrhyw strategaeth hepatitis C ar waith, a dim ond canllawiau newydd ar gael, a ddylid mabwysiadu dulliau arloesol, fel—rwy'n gobeithio fy mod wedi ynganu hyn yn iawn—glecaprevir, yn rhan o'r fath strategaeth? Oherwydd—mae hyn ynghlwm wrth fy nghwestiwn cynharach am argaeledd meddyginiaethau i gleifion—mae'n anodd iawn cyrraedd rhai pobl, ond gyda'r cyffuriau newydd hyn, gallwn wneud cynnydd syfrdanol i wella ansawdd bywydau pobl. Ond nid mater o gyffur yn unig yw hi yn achos rhywbeth fel y cyffur hep C; mewn gwirionedd mae angen y gwasanaethau cymorth, cwnsela, allgymorth a newidiadau i ffordd o fyw er mwyn gwneud y gwahaniaeth sylweddol hwnnw. Rhan o hynny'n unig yw'r cyffur. Felly, tybed a wnewch chi roi ychydig sylwadau ar hynny hefyd, diolch.
Gwnaf. Ar y pwynt diwethaf yna am ddileu hepatitis C, nid wyf i'n credu mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â'r cyffuriau sydd ar gael. Rydym yn hynod ffodus yng Nghymru fod gennym strategaeth genedlaethol, ac o fewn y gymuned glinigol, mae'r grŵp o glinigwyr yn falch iawn o gael dull gweithredu cenedlaethol. Dim ond oherwydd bod y ganolfan yng Nghaerdydd—. Mae'n ddull gwirioneddol genedlaethol y mae pobl yn buddsoddi ynddo, ac i fod yn deg, mae clinigwyr ar draws y ffin o'r farn ein bod ni'n iawn hefyd. Nid ydych yn clywed hynny'n yn aml, ond mewn gwirionedd, mae pobl yn Lloegr yn edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud, sut yr ydym wedi gwneud hynny a pham—ac yn wir, ni fu cynnydd arwyddocaol mewn costau. Ond nid yw'r pwynt am ddileu yn ymwneud â'r cyffuriau sydd ar gael yn awr. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â chyrraedd y bobl sy'n fwy anodd eu cyrraedd ac nad ydyn nhw bob amser yn defnyddio'r gwasanaethau. Felly, rydym yn cydnabod mai'r bobl sy'n dal i ddioddef o hepatitis C yw'r bobl hynny sy'n llai tebygol o ddefnyddio'r gwasanaethau iechyd fel y cyfryw. Mewn gwirionedd mae a wnelo hyn â'r allgymorth, yn hytrach na'r arloesi a'r cyffuriau newydd.
Rwy'n falch o glywed eich bod yn croesawu ein dull ni o ymdrin â meddyginiaethau cymeradwy, sy'n ddull a arweinir gan dystiolaeth. Nid oes unrhyw gwtogi ar feddyginiaethau newydd y mae'r gronfa driniaeth newydd yn eu darparu neu'n eu hawgrymu mewn gwirionedd. Yn wir, mae'n ymwneud â sut a phryd y caiff meddyginiaethau eu datblygu. Felly, mae a wnelo â'r datblygiad dan arweiniad y diwydiant. Rwy'n mynd i ymdrin nesaf â'ch pwynt chi am edrych tua'r gorwel. Dyna rai o'r pethau'r ydym—. Mewn gwirionedd rydym wedi llwyddo i sicrhau gwelliant o ran cysylltiadau ymarferol. Rydw i wedi cyfarfod ag ABPI Cymru i gael sgwrs gyda nhw am ddull gweithredu'r diwydiant ac, fel yr eglurais, mae'n rhaid inni weld ymgysylltu gwell â'r system gofal iechyd yng Nghymru. Felly, mewn gwirionedd, mae sgyrsiau gwell wedi digwydd â'r diwydiant am sicrhau gwybodaeth gynharach am y meddyginiaethau hynny y mae'n debygol—neu'n fwy tebygol—y byddant yn dod i'r farchnad ac yn mynd i broses arfarnu, a bydd cyfle cynharach i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer potensial eu gweithredu.
Yn wir, dyna un o'r pwyntiau y mae'r ABPI eu hunain yn eu gwneud yn eu datganiad i'r wasg heddiw, sy'n croesawu'r gronfa, y sefydliad ac, yn wir, y pwynt penodol hwnnw am allu cydweithio yn aeddfetach gyda'r gwasanaeth iechyd. Unwaith eto, mae'n tynnu sylw at y ffaith o gael dull gweithredu a arweinir gan dystiolaeth, ac yna'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod y gronfa hon yn cwmpasu pob cyflwr, yn hytrach na dim ond un parsel o amodau yn cael eu cynnwys o fewn cyllideb a bod meddyginiaethau ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson.
Gallaf ddweud wrthych pa mor eang yw'r defnydd: diben y gronfa driniaeth newydd yw bod y triniaethau ar gael lle maen nhw'n glinigol briodol, ac yna mae'n fater o benderfyniad priodol a wneir rhwng y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a'r claf am yr hyn sydd ar gael. Felly, o'r 82 o feddyginiaethau sydd ar gael, fy nealltwriaeth i yw bod tua 4,000 o bobl yng Nghymru wedi llwyddo i'w cael yn gyflymach. Felly, rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl i'r Siambr neu i'r pwyllgor yn y dyfodol i drafod nifer y meddyginiaethau ac ehangder a chyrhaeddiad y gronfa driniaeth newydd. Wrth inni gael mwy o ddata, rwy'n hapus iawn i'r data hynny fod ar gael i'r Aelodau a'r cyhoedd.
Yn gyntaf, dylid croesawu unrhyw dystiolaeth fod pobl yn ei chael hi'n haws erbyn hyn i gael cyffuriau y mae ganddyn nhw'r hawl iddynt, ond dyma ychydig o gefndir: efallai y cofiwch chi, yn 2014, fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi polisi o geisio cael cronfa driniaeth newydd a'i bwriad yn benodol oedd ariannu cyffuriau a gafwyd drwy geisiadau cyllido cleifion unigol. Rwy'n falch iawn ein bod gam ymlaen bellach, o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar ddileu eithriadoldeb. Rwy'n falch bod hynny wedi digwydd. Yna, yn 2016, cyhoeddodd Llafur ei chronfa driniaeth newydd, a oedd y wahanol. Roeddem ni o'r farn—ac mae'n bwysig inni nodi hyn—na ddylai fod angen cronfa i gymell byrddau iechyd lleol i wneud y pethau y dylen nhw eu gwneud beth bynnag dan y gyfraith, ni waeth pa mor dderbyniol fo'r cronfeydd ychwanegol.
Felly, y cwestiwn cyntaf i chi yw hyn: yn y cyfryngau y bore yma, fe adroddwyd, yn flaenorol, fod swyddogion yn awgrymu y gallai gymryd mwy na 100 niwrnod i gyflwyno meddyginiaeth gymeradwy. A yw hynny'n gyfaddefiad fod y canllawiau gweinidogol cynharach, sef y dylai triniaethau fod ar gael o fewn tri mis i'w cymeradwyo, yn cael eu hanwybyddu? Ac, oes, mae arian yn dod drwy'r gronfa driniaeth newydd i fyrddau iechyd lleol ar gyfer talu am driniaethau ychwanegol, ond mae'n werth inni ofyn hyn hefyd: a ydych chi'n credu bod perygl, yn sgil y polisi hwn, y bydd byrddau iechyd lleol yn disgwyl cael arian ychwanegol i weithredu'r cyfarwyddiadau gweinidogol eraill y dylen nhw fod yn glynu atynt beth bynnag o dan y gyfraith?
Gan symud ymlaen at yr hyn yr oeddech yn cyfeirio atyn nhw fel cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd, efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig ar hynny; sef, sut yr ydych am sicrhau bod y cynllunio hwn yn digwydd, ac nad yw cleifion yn cael eu gadael yn y sefyllfa lle nad yw'r cyffur ar gael iddynt yn y dyfodol?
Ac yn olaf —mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i godi sawl tro yn y gorffennol—nid meddyginiaethau yn unig sy'n gwella canlyniadau i gleifion. Gall technolegau iechyd eraill a newidiadau syml i ganllawiau ar sut i ddefnyddio meddyginiaethau wneud gwahaniaeth i gleifion. Gall hyd yn oed godi ymwybyddiaeth o gyflwr arwain at ganlyniadau gwell, a cheir rhwystrau yma i'r defnydd o arfer gorau ledled y GIG; er enghraifft, y diffyg amser ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn mynd i'r afael ag ef hefyd?
Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf. Yn ddiweddar, lansiais Dechnoleg Iechyd Cymru, sydd yn ffordd o edrych ar feddyginiaethau nad ydynt yn gyffuriau ar gyfer edrych ar dechnoleg o fewn y gwasanaeth iechyd ac ar gyfer ei fabwysiadu'n gyflymach. Mae gennym wahanol ffyrdd o geisio gwneud hynny yn y gorffennol—mae'r rhaglen effeithlonrwydd trwy dechnoleg wedi bod yn llwyddiannus o fod ag amrywiaeth o bethau ar fyrder a graddau ledled ein gwasanaeth. Mae mwy o hynny i ddod yn y dull gweithredu bras. Ond ffordd yw Technoleg Iechyd Cymru o arfarnu technoleg newydd a rhoi dealltwriaeth inni o'r hyn y dylem ei wneud wedyn, a sut y dylem geisio gweld hynny'n cael ei ddarparu ledled y gwasanaeth. Bydd gennyf ragor i'w ddweud ar Dechnoleg Iechyd Cymru gan y bydd gennym fwy o amser i ddeall pam ei fod wedi dod i fodolaeth, ac yna ei effaith ledled y system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, dyna un o'r heriau a osodwyd i ni gan yr arolwg seneddol, ar sut yr ydym yn darparu rhagor o arloesi ar gyflymder ac ar raddfa eang.
Mae rhywbeth yn y fan hon am y gronfa driniaeth newydd, ac mae'n werth atgoffa pob un ohonom mai busnes yw gwleidyddiaeth lle dylai fod gennym rai egwyddorion a rhai gwerthoedd a daliadau, ond hefyd, yn y pen draw, mae'n fusnes ymarferol. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am gydnabod y man lle'r oeddem ni, pan nad oedd rhai meddyginiaethau a argymhellwyd yn cael eu cyflwyno mor gyflym nac mor gyson ag y dylent. Gallem fod wedi dweud naill ai, 'Byddwn yn mynd ar ôl y byrddau iechyd ac yn ceisio disgyblu pobl, ac yn mynd ar eu holau nhw', neu, 'Sut mae gwneud yn siŵr ein bod y meddyginiaethau hyn ar gael yn gyflymach?' Rydym wedi penderfynu gwneud nifer o bethau mewn gwirionedd, ac mae'r gronfa driniaeth newydd yn amlwg yn rhan o hynny. Mae hefyd wedi bod yn rhan o newid yn y ffordd y mae'r byrddau iechyd yn cynllunio ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Rhan o'r rheswm y cawson nhw anhawster oedd y gallu i wneud dewis ariannol yn y flwyddyn gyntaf o gyflwyno triniaeth newydd. Mewn gwirionedd, ar ôl y flwyddyn gyntaf honno, mae'n llawer haws wedyn i barhau i gyflawni o fewn y fframwaith cyllidebol. Felly, mae hyn yn cydnabod y man cyfyng sy'n bodoli wrth ddechrau sicrhau bod meddyginiaeth newydd ar gael, a pham hefyd—mae'r pwynt a godais wrth ymateb i Angela Burns am y berthynas well gyda'r diwydiant ei hun yn bwysig iawn i ni hefyd. Mae pob un o'r pethau hynny'n cyfrif yn yr hyn yr ydym wedi'i wneud, ac rwy'n falch iawn fod yr addewid a wnaethom i'r bobl wedi'i chadw. Roedd hon yn addewid maniffesto a wnaeth fy mhlaid i, a da o beth yw ein bod yn gallu dweud bod yna adegau pan mae'r gwleidyddion yn gwireddu eu haddewidion. Ac, yn wir, cadwyd at ein haddewid yn ein cytundeb gyda Phlaid Cymru, ond hefyd yr ymgysylltiad trawsbleidiol, ar geisiadau cyllido cleifion unigol. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y meysydd hyn, ac rwy'n gobeithio, gyda diwygiadau ehangach yn y gwasanaethau iechyd a'r cyfleoedd i wneud gwahaniaeth, y gallwn ni barhau i ddefnyddio'r dull aeddfed hwnnw o wleidydda wrth wneud hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais i pan wnaethoch chi ei chyhoeddi, mae'r gronfa driniaeth newydd yn ychwanegiad i'r GIG sydd i'w groesawu'n fawr iawn gan ei bod yn gallu cyflymu'r triniaethau hanfodol sydd ar gael i bob claf, ac nid dim ond pobl sy'n dioddef diagnosis o ganser. Rwy'n croesawu'r newyddion bod rhai meddyginiaethau wedi cymryd 17 diwrnod yn unig i fod ar gael o dan y gronfa driniaeth newydd, ac mae hyn yn newyddion gwych i gleifion. Er hynny, fel gyda chynlluniau o'r fath, mae'r cythraul yn y manylion. Nid yw'r cyflawni byth yn cyfateb i'r dylunio. Nid yw pob bwrdd iechyd lleol mor effeithlon â'i gilydd wrth gyflwyno triniaethau newydd, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gennych i fonitro cydymffurfiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein diweddaru ar sut y mae pob bwrdd iechyd lleol yn cydymffurfio â'r gofyniad i roi triniaethau o fewn yr amserlenni gofynnol?
Croesawaf y ffaith fod 82 o gyffuriau newydd ar gael bellach o dan y cynllun, yn trin popeth o arthritis i acromegali. Mae'n rhaid imi gyfaddef y bu raid i mi fynd i chwilio am ystyr y cyflwr hwnnw, ond newyddion gwych yw bod pobl sy'n dioddef o'r anhwylder gwanychol hormonaidd hwn bellach yn gallu cael eu trin yng Nghymru. Mae hyn yn amlygu'r gwelliant enfawr yn y gronfa driniaeth newydd o'i chymharu â'r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr. Gall y cynllun hwn fod o fudd i bob claf yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n dioddef o ganser. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu nifer y cleifion sydd wedi elwa ar y gronfa yn ystod y 12 mis diwethaf.
Wrth gwrs, mae'r gronfa driniaeth newydd ond yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd am y 12 mis cyntaf. Rhaid i'r byrddau iechyd ddarparu ar gyfer y driniaeth barhaus o fewn eu cyllidebau presennol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar sut y mae byrddau iechyd yn cynllunio i ddarparu ar gyfer y gwariant ychwanegol ar y triniaethau newydd hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?
Croesawaf hefyd y newyddion bod eich Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r diwydiant fferyllol a'ch bod yn gweithio gydag ABPI Cymru ar y gronfa driniaeth newydd. Byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech amlinellu'r hyn sy'n cael ei wneud i wella'r gwaith o sganio'r gorwel o fewn y GIG fel ein bod yn fwy parod i fanteisio i'r eithaf ar driniaethau yn y dyfodol.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cronfa driniaeth yw hon, ac er fy mod yn croesawu 82 o feddyginiaethau newydd yn fawr iawn, nid yw'r gronfa'n gyfyngedig i ymyriadau fferyllol. Felly, a gawn ni edrych ymlaen at weld y gronfa yn cael ei defnyddio i gyflwyno ymyriadau therapiwtig newydd yn y 12 mis nesaf?
Croesawaf eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r newyddion y gall cleifion yng Nghymru dderbyn triniaethau gwell yn gynharach, weithiau ddyddiau'n unig ar ôl eu cymeradwyo. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y 12 mis nesaf i sicrhau bod y triniaethau newydd hyn ar gael i bob claf sydd eu hangen, ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw. Diolch yn fawr.
Diolch am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau. Fe geisiaf fod mor fyr â phosibl, gan gynnwys y pwyntiau hynny yr wyf yn credu fy mod i wedi ceisio eu hateb yn y cwestiynau blaenorol.
Rwy’n croesau’r gydnabyddiaeth gan y tair plaid arall yn y Siambr bod y gronfa triniaeth newydd wedi cyflawni gwelliant sylweddol o ran mynediad. Yn y chwe mis cyntaf roedd yr amser ar gyfartaledd yn 17 diwrnod—dim ond i nodi, yn yr ail chwe mis, ei fod wedi dod i lawr i 10 diwrnod ar gyfartaledd i ddarparu triniaethau newydd.
Fel y dywedais wrth Angela Burns, rydym yn meddwl bod yr 82 meddyginiaeth a ddarparwyd o ganlyniad i ddyfodiad y gronfa triniaethau newydd o fudd i tua 4,000 o gleifion, a nodais hefyd mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth fod hyn, a dweud y gwir, yn fater o ddeall yr her yr oeddem yn gwybod ei bod yn bodoli yn y 12 mis cyntaf o gynllunio meddyginiaethau newydd a’u darparu, ac, ers hynny, bod gan fyrddau iechyd hanes llawer gwell o reoli o fewn eu cyllideb adnoddau ar gyfer cyffuriau.
Fe’i gwnes yn glir yn fy ymateb i Angela Burns—o leiaf ceisiais i—bod sganio'r gorwel wedi gwella ac mae datganiad Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ei hun wedi cydnabod hynny, ac mae hynny'n waith i barhau i adeiladu arno hefyd; dydw i ddim yn meddwl bod y gwaith hwnnw wedi’i orffen. Yn ogystal â hynny, fe'i gwnes yn glir i Rhun ap Iorwerth bod Technoleg Iechyd Cymru yno i’n helpu i ddeall sut i fanteisio ar driniaethau newydd nad ydynt yn feddyginiaethau hefyd.
Ond, o ran eich pwynt ynghylch cydymffurfio, ceir system fonitro fisol. Mae fy swyddogion, ynghyd â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, yn monitro pa mor gyflym mae byrddau iechyd yn rhoi triniaethau newydd ar eu ffurflen, a fydd yn golygu eu bod ar gael i glinigwyr eu rhagnodi. Mae hwnnw'n faes y byddwn yn parhau i edrych arno i weld a yw’r cydymffurfiad hwnnw’n cael ei gynnal drwy’r gronfa i gyd. Mae hwnnw’n ddisgwyliad clir iawn gennyf fi a’r Llywodraeth o’r gronfa triniaethau newydd—nid yw yma i gyflawni yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn unig; mae yma i gyflawni drwy gydol tymor y Llywodraeth hon.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am nifer o ddatblygiadau gyda Thrafnidiaeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni perchnogaeth lwyr, dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Fy nyhead i, fodd bynnag, ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yw y dylai ddatblygu a chymryd amrywiaeth lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn debyg o ran ei natur i weithrediadau Transport for London.
Yn draddodiadol, mae gwahanol fathau o drafnidiaeth wedi cael eu hystyried ar wahân, â pholisïau ar wahân, cyllid ar wahân a darparwyr ar wahân. Er bod hyn yn adlewyrchu, o bosibl, sut mae'r diwydiant yn gweithredu, nid yw'n adlewyrchu’r ffordd y mae pobl yn meddwl am eu teithiau. Wrth gynllunio sut i gymudo i'r gwaith neu fynd ar daith hir, mae pobl yn meddwl am gost, cyfleustra a chymhlethdod y daith gyfan o ddrws i ddrws.
I gynnal a gwella gwasanaethau mewn byd sy'n newid, lle mae’r blaenoriaethau’n heriol, mae angen ystyried trefniadau cyflawni arloesol ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth, gan gynnwys rhai a allai gynhyrchu ffrydiau incwm allanol. Mae 'Symud Cymru Ymlaen', 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi bod angen sbarduno newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn deall, y ffordd yr ydym yn cynllunio, a'r ffordd yr ydym yn defnyddio trafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddo yma yng Nghymru.
Ynghyd â’r gwell setliad datganoledig a gynigiwyd drwy Ddeddf Cymru 2017, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth a all wella ansawdd y rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb, a darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig â llai o allyriadau carbon. Drwy ddefnyddio'r pwerau newydd ar gyfer y rheilffyrdd sydd hefyd yn cael eu datganoli, mae nawr yn haws nag erioed inni sicrhau bod pobl yn ganolog i bolisïau trafnidiaeth yma yng Nghymru, fel y gallwn ddarparu system drafnidiaeth ddiogel, effeithlon, cost-effeithiol a chynaliadwy er budd y wlad gyfan.
Mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol newydd, a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, sy'n cynnwys y rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Gan ddilyn model llwyddiannus caffael Maes Awyr Caerdydd, ein nod yw y bydd mwy o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eiddo i Drafnidiaeth Cymru, neu’n cael ei weithredu ganddynt, yn uniongyrchol.
Am y tro cyntaf, rydym wedi ymrwymo i raglen pum mlynedd o arian cyfalaf i drafnidiaeth drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw trafnidiaeth a phrosiectau newydd. Bydd hyn yn sicrhau y cyflawnir y prosiectau hyn yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol, a’r prif darged fydd cynyddu effeithlonrwydd 15 y cant i 20 y cant ar draws y portffolio buddsoddi pum mlynedd ar gyfer prosiectau newydd, sy'n golygu y gallwn wneud i’n cyllid gyflawni mwy fyth. Bydd hyn hefyd yn galluogi’r gadwyn gyflenwi adeiladu i fuddsoddi'n hyderus yn y dyfodol o ran cyfalaf a sgiliau. At hynny, lle bynnag y gellir gwneud achos busnes derbyniol, mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyfnerthu’r trefniadau cyflenwi presennol yn uniongyrchol i mewn i Trafnidiaeth Cymru.
O ran gwasanaeth rheilffordd newydd Cymru a'r gororau, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda Llywodraeth y DU ers yr haf diwethaf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a mi wedi trafod y ffordd ymlaen a dod i gytundeb ar nifer o faterion ac rwy’n falch bod swyddogion yn gwneud cynnydd da. Y prif fater yma oedd goblygiad ariannol cyd-destun datganoli cymhleth ar gyfer y rheilffyrdd. Mae trafodaethau rhwng swyddogion, gan gynnwys o Drysorlys ei Mawrhydi, yn parhau ac mae'r broses o drosglwyddo ased graidd rheilffordd y Cymoedd wedi dechrau.
O ganlyniad i’r rhaglen weithgarwch y cytunwyd arni, mae’r broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth newydd wedi parhau’n gyflym ac yn unol â'n cynlluniau. Gadawodd Trenau Arriva Cymru y broses gynnig yn ôl ym mis Hydref. Fel y nodwyd ar y pryd, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr am brosiectau mawr dynnu’n ôl yn ystod y broses dendro ac roedd Arriva yn glir eu bod wedi tynnu'n ôl am eu rhesymau masnachol eu hunain. Mae’r mater Carillion diweddar wedi cael ei drafod yn y Siambr hon a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Ionawr.
Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn tri chynnig i weithredu a datblygu gwasanaeth rheilffyrdd a metro nesaf Cymru a'r gororau ar 21 Rhagfyr y llynedd. Byddant yn parhau i werthuso’r cynigion hyn dros y misoedd nesaf. Erbyn diwedd mis Mai eleni, bydd ein proses yn dod i ben drwy ddyfarnu'r contract cyntaf ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd sydd wedi’i wneud yma yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn gwerthuso dwys a thrafodaethau ar ôl tendro, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod y contract yn cynnwys y gwasanaeth o safon a’r ymrwymiadau a gynigiwyd yn y tendr terfynol.
Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn barod i gyflawni erbyn y dyddiadau hyn, gan ganiatáu amser priodol i bontio i weithredwr newydd a ffordd newydd o weithredu drwy Trafnidiaeth Cymru ym mis Hydref. Fodd bynnag, mae'n rhaid cofio, nes i’r pwerau gael eu trosglwyddo’n llawn, bydd angen cymeradwyaeth amserol Llywodraeth y DU i ganiatáu inni gyrraedd y cam cynigydd a ffefrir ac i ddyfarnu'r contract.
Bwriad Llywodraeth y DU yw gosod Gorchymyn yn Senedd y DU cyn bo hir i drosglwyddo swyddogaethau rheilffyrdd i Weinidogion Cymru, ac, fel dewis wrth gefn, rydym hefyd wedi cytuno ar ddull gweithredu i roi rhagor o gytundebau cyfrwng cyfreithiol ar waith i'n galluogi i ddyfarnu, rheoli a darparu gwasanaeth rheilffordd nesaf Cymru a'r gororau. Mae'n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio’n gyflym gyda ni i gyflawni’r rhaglen y cytunwyd arni.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyn bo hir ar y broses o benodi partneriaid cyflawni seilwaith a fydd yn gweithio gyda’r gweithredwr a’r partner datblygu i gyflawni mewn meysydd fel gwella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro de Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fentrau bach a chanolig lleol ac i fentrau trydydd sector. Maent eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth â chynulleidfaoedd mawr i ymwneud yn benodol â chaffael partneriaid cyflawn seilwaith, yn fwyaf diweddar yn Wrecsam yn gynharach y mis hwn. Mae hyn yn un enghraifft o sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyfnod newydd o symudiadau fel y gallant fynd ati'n rhagweithiol i reoli'r gwasanaeth rheilffordd newydd a’r gwahanol gynlluniau metro.
Mae James Price wedi cael swydd fel prif swyddog gweithredol; mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o weithredu a chyflawni ar lefel uwch. Hefyd, yn ddiweddar rydym wedi penodi Martin Dorchester a Nick Gregg yn gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol ar y tîm, fel ymateb i argymhellion a wnaethpwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Martin Dorchester yn swyddog gweithredol profiadol; mae wedi bod yn Brif Weithredwr grŵp ar un o'r cwmnïau logisteg mwyaf yn yr Alban, ac mae Nick Gregg wedi cael ei benodi’n Gadeirydd bwrdd Trafnidiaeth Cymru, am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Mae gan Nick y sgiliau sydd eu hangen i fod yn Gadeirydd llwyddiannus iawn, ac mae’n dod â llawer o brofiad busnes i'r bwrdd. Cyn bo hir bydd Trafnidiaeth Cymru yn hysbysebu am ddau gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol arall i ymuno â’r bwrdd, a bydd hyn yn sicrhau amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau.
Rwy’n gwybod bod angen gwneud yn siŵr y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni'n effeithiol dros Gymru gyfan, ac, ar ôl fy nghyhoeddiad y mis diwethaf am y bwriad i sefydlu uned fusnes i Drafnidiaeth Cymru yn y gogledd, bellach, rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddwyn cynigion gerbron ar gyfer swyddfa yn y gogledd, ac rwy’n disgwyl i hyn gael ei wneud yn gyflym hefyd. Yn y cyfamser, yn y de, mae cynnydd da yn cael ei wneud tuag at adeiladu swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf—rydym yn parhau i weithio'n agos iawn â nhw. Wrth edrych ymlaen, cyn gynted ag y bydd y partner gweithredu a datblygu newydd wedi'i benodi, byddwn yn mynd i gyfnod o baratoi’r gwasanaeth newydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r cynigydd llwyddiannus i helpu i sicrhau pontio di-dor o'r fasnachfraint bresennol i'r trefniadau newydd, er budd teithwyr a staff. Ni ddylai’r cyhoedd sy'n teithio weld dim tarfu ar wasanaethau ym mis Hydref pan mae’r partner gweithredu a datblygu newydd yn dechrau. Wedyn, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r partner gweithredu a datblygu i weddnewid y rhwydwaith trafnidiaeth, gan sicrhau bod teithwyr yn ganolog i’w cynlluniau.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rheoli’r broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a’r gororau. Goruchwylio’r broses o ddyfarnu’r contract hwn, byddwn yn dadlau, yw’r prosiect trafnidiaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i reoli hyd yma.
Wrth symud ymlaen, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol i ehangu gwaith Trafnidiaeth Cymru, fel yr amlinellodd yn 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd. Nawr, byddwn yn cefnogi ehangu Trafnidiaeth Cymru, dros amser. Rwy’n meddwl bod angen gofyn rhai cwestiynau difrifol ar unwaith ynghylch lefel bresennol y capasiti sydd ar gael i Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â hyn, ond heb y capasiti a'r sgiliau cywir, mae Trafnidiaeth Cymru wrth gwrs mewn perygl gwirioneddol a difrifol o beidio â gallu rheoli eu cylch gwaith presennol yn effeithiol, nac unrhyw swyddogaeth estynedig. Felly, ar y wedd honno, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet efallai amlinellu ychydig o'r capasiti staffio, faint o gyflogeion amser llawn presennol y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cyflogi ar hyn o bryd, faint o’r unigolion hyn sydd â chontractau amser llawn ar hyn o bryd, a faint o ymgynghorwyr allanol sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac sy'n cael eu cyflogi ganddynt?
Tybed a wnewch chi hefyd ymhelaethu ar eich cynlluniau ar gyfer gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol? Pa amserlenni sydd gennych yn gysylltiedig â staff ychwanegol yn ymuno â Trafnidiaeth Cymru, ac a ydych yn disgwyl i’r ehangu hwn ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod hefyd? Rydych chi hefyd wedi dweud bod Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg, wedi'i benodi am gyfnod cychwynnol o 12 mis. A allwch chi ymrwymo i wrandawiad cyn penodi, cyn i Mr Gregg, neu unrhyw ymgeisydd arall, gael ei wneud yn gadeirydd parhaol Trafnidiaeth Cymru, efallai drwy un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn?
Ac yn olaf, mae hyder y cyhoedd, wrth gwrs, yn Trafnidiaeth Cymru yn gwbl hanfodol os yw'r sefydliad yn mynd i lwyddo yn y dyfodol. Nawr, ychydig cyn ichi sefyll i roi eich datganiad, fe wnes i chwilio ar Google am 'Trafnidiaeth Cymru', a sylwi bod manylion cyswllt uniongyrchol nawr ar wefan y Llywodraeth ar gyfer Trafnidiaeth Cymru; doedd hyn ddim yno o'r blaen. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai roi manylion a rhoi cadarnhad bod gan Trafnidiaeth Cymru nawr swyddogaeth sy’n wynebu’r cyhoedd, nad oedd ganddynt o'r blaen. Efallai y gallech chi gadarnhau hefyd a yw cyswllt i Aelodau'r Cynulliad drwoch chi, neu a all Aelodau'r Cynulliad gysylltu â staff Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol a chwrdd â nhw yn uniongyrchol, yn hytrach, wrth gwrs, na mynd drwoch chi.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Fe wnaf roi sylw i’r cwestiwn olaf yn gyntaf. A dweud y gwir, rwyf wedi gofyn heddiw i swyddogion Trafnidiaeth Cymru gynnig sesiwn briffio i Aelodau'r Cynulliad a sesiwn ymgyfarwyddo hefyd fel y gallwch gysylltu’n uniongyrchol ag unigolion sy'n gyfrifol am wahanol feysydd cyflawni yn y sefydliad. Mae nawr yn wynebu'r cyhoedd, mae ganddo’r logo, mae elfen staffio Trafnidiaeth Cymru’n cael ei hadeiladu, a darperir cynllun cyfan Trafnidiaeth Cymru gyda'r bwriad o gynnig ystwythder a hyblygrwydd llawn i uwchraddio neu, yn wir, israddio i ddiwallu anghenion prosiectau. Dylai fod gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar y galw, a bydd hyn yn cynnwys recriwtio’r sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad yn gyflym, yn sydyn, a bydd yn adnodd anhygoel i Lywodraeth Cymru allu galw arno. Mae’r ffordd yr ydym wedi ffurfweddu Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru gymryd dull pwrpasol wrth drosglwyddo rheolaeth a risg gan ddibynnu ar y prosiect penodol, yr arbenigedd penodol sydd ei angen, yr amserlenni, a hefyd y canlyniad a ddymunir.
Rwy’n sicr yn croesawu cefnogaeth yr Aelod i’r syniad o ehangu swyddogaeth a chylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod. A dweud y gwir, mae achos busnes yn cael ei ddatblygu nawr i benderfynu pa gyfleoedd y gallai Trafnidiaeth Cymru eu cynnig i Weinidogion Cymru o ran darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys buddiannau costau i drethdalwyr ein gwlad. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau bysiau, gallai gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd, adeiladu trafnidiaeth gyfalaf a gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio. Gallai gynnwys prosiectau cyfalaf ar gyfer rheilffyrdd ac, wrth gwrs, ar gyfer ffyrdd hefyd. Gallai hefyd, fodd bynnag, gynnwys brandio a marchnata gwasanaethau, a gwn o fy amser ar y meinciau cefn fod hyn yn sicr yn rhywbeth y byddai teithwyr yn ei werthfawrogi. Mae llu o ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth, ac mae gan bob un ei logo, ei wefan a’i dudalennau gwybodaeth ei hun. Gallai Trafnidiaeth Cymru gynnig un brand ac un pwynt cyswllt ac adnoddau, ac rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhywbeth y byddai teithwyr ar hyd a lled Cymru’n ei groesawu.
O ran y contract am y fasnachfraint, mae'n enfawr, fel y dywed yr Aelod. Hwn yw’r prosiect caffael mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers datganoli, ac mae angen tîm da o swyddogion gweithredol medrus. Mae gan James Price brofiad a deallusrwydd aruthrol, a chaiff ei gefnogi gan fwrdd sy'n fedrus ac yn brofiadol. Mae'r Aelod yn iawn; penodwyd Nicholas Gregg am un flwyddyn i ddechrau er mwyn caniatáu amser i gwblhau’r broses o recriwtio cadeirydd newydd mewn modd amserol. Nawr, er nad yw penodiadau i fwrdd Trafnidiaeth Cymru yn benodiadau cyhoeddus sydd wedi’u rheoleiddio o dan y cod llywodraethu, o ystyried proffil Trafnidiaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol i’r broses a’r deunyddiau recriwtio gydymffurfio â chod llywodraethu penodiadau cyhoeddus.
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Ynddo, dywedasoch chi fod Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod gorchymyn i drosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Weinidogion Cymru yn fuan. A wnewch chi ddweud ychydig am—pa mor fuan yw buan? A’r dewis wrth gefn yr ydych chi'n cyfeirio ato os na chaiff y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo—o dan ba amgylchiadau y gallwch chi ragweld hwnnw’n gorfod cael ei ddefnyddio? Ai o dan amgylchiad lle na allwch ddod i gytundeb terfynol ar rai o'r materion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad lle mae gwaith yn mynd rhagddo, ac, yn wir, rhai o'r materion pellach a gafodd sylw yn y llythyr gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU atoch chi ym mis Awst? A wnewch chi roi ychydig mwy o oleuni ar ba mor bell yr ydych chi o ddod i gytundeb?
Gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen, sy’n gallu golygu nifer o bethau, ond yn benodol, a ydych chi wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am y gweithredwr dewis olaf adran 30? A ydych wedi dod i gytundeb ar y cwantwm o arian yr oeddech yn sôn amdano yn eich datganiad, y bu rhywfaint o anghytuno â Llywodraeth y DU amdano, neu sut y gellir cyfrifo’r ffigur hwnnw? A ydych chi wedi dod i gytundeb ar brotocol ar gyfer sut y bydd Llywodraeth Cymru yn arfer pwerau dros orsafoedd rheilffordd Lloegr a wasanaethir gan y fasnachfraint?
Yn olaf, soniasoch chi am y ffaith mai eich dyhead yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am gymaint â phosibl o’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel corff sector cyhoeddus. A wnewch chi ddweud pa sylwadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ddiwygio Deddf Rheilffyrdd 1993, sydd wedi'i diwygio yn achos yr Alban, i roi pwerau iddyn nhw i gael gweithredwr masnachfraint sector cyhoeddus, i bob diben? Nid yw hynny wedi digwydd yng Nghymru. A ydych chi wedi gwneud sylwadau penodol am hynny i Lywodraeth y DU?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud i ddechrau ein bod wedi bod yn gwbl gyson wrth alw am wneud gwelliannau i’r Ddeddf rheilffyrdd? Rwy’n credu bod hynny hefyd yn rhan o faniffesto Plaid Lafur y DU a fyddai'n ein galluogi i weld cyrff cyhoeddus yn ymgeisio am gyfleoedd masnachfraint presennol a chyfleoedd masnachfraint yn y dyfodol hefyd. Gwrthodwyd y galw cyson hwnnw gan y Llywodraeth, ond rydym yn parhau i bwyso am ddiwygio’r Ddeddf.
Cynhaliwyd trafodaethau adeiladol am ystod gyfan o fesurau y mae angen cytuno arnynt cyn gosod y Gorchymyn swyddogaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi gohirio darparu’r Gorchymyn hwnnw—cyflwyno’r Gorchymyn hwnnw—mewn modd amserol, ond rydym wedi cael sicrwydd y bydd hynny'n digwydd erbyn mis Mai, yn dilyn y cytundebau y dylid eu cwblhau fis nesaf ynglŷn â chyllid y fasnachfraint, a hefyd ynglŷn â throsglwyddo pŵer dros yr asedau. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o gytundebau sydd cyn hyn wedi bod yn ein rhwystro rhag gwneud cynnydd, ond fel y dywedais i, mae cynnydd amserol yn cael ei wneud erbyn hyn.
O ran gwasanaethau trawsffiniol, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn arbennig o awyddus i sicrhau y gallwn ei ddatrys yn gyfeillgar, ac rwyf i a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gallu cytuno ar ffyrdd a fydd yn sicrhau bod teithwyr ar ochr Lloegr y ffin yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael profiad cyfartal o ran eu teithiau ar y trenau yn y fasnachfraint nesaf, fel na fydd neb o dan anfantais o dan y fasnachfraint nesaf. Mae hyn yn rhywbeth sy'n arbennig o berthnasol o ystyried yr holl deithiau trên sy'n dod i mewn ac allan o Gymru ar draws y ffin.
Byddwn i'n hapus i gyflwyno, ar ôl diwedd y trafodaethau â Llywodraeth y DU ym mis Chwefror, y materion fforddiadwyedd a gyflwynir o ganlyniad i’r trafodaethau sy'n digwydd. Rydym wedi ymgysylltu â Thrysorlys y DU, rydym hefyd wedi ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ein trafodaethau, ac rwy’n ffyddiog y byddwn, erbyn diwedd mis Chwefror, wedi cwblhau’r trafodaethau hynny mewn modd boddhaol.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am y datganiad—gobeithio, y cyntaf o lawer mwy. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn brysur iawn nid yn unig â’r fasnachfraint rheilffyrdd ond hefyd â’r metro; yn wir, mae nhw'n cyd-fynd â’i gilydd i raddau helaeth. A gaf i yn gyntaf groesawu lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf eisoes yn gatalydd arwyddocaol i adfywio'r ardal. Ceir hefyd y cynigion a allai arwain at swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau o ran cynnal a chadw cerbydau mewn mannau fel Ffynnon Taf, a hefyd y gwaith o ddatblygu prentisiaethau a chyllid Llywodraeth Cymru ar eu cyfer yng Ngholeg y Cymoedd mewn cysylltiad â pheirianneg rheilffyrdd.
Ond a gaf i ddweud o’ch adroddiad bod nifer o bethau yr hoffwn ichi eu hystyried sy’n peri pryder imi, i ryw raddau? Un yw’r arian cyfalaf pum mlynedd y cyfeirir ato. Pe gallech, efallai, roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd yn amlwg mae hwn yn destun pryder sylweddol. Yn ail, yr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant—beth yn union mae hynny'n ei olygu. Rydym yn gwybod, pan mae’r Torïaid yn sôn am arbedion effeithlonrwydd, eu bod yn sôn am doriadau. Beth yn union yw ystyr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant? Yn sicr, mae Chris Grayling wedi dweud wrthym yn y bôn nid yn unig na fyddwn yn cael trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a'r rheilffordd i Abertawe, ond y dylem fod yn falch iawn nad ydym yn cael hynny gan y bydd mewn gwirionedd yn llawer gwell heb drydaneiddio. Beth yw goblygiadau hynny o ran y cynllunio a'r rhaglen cyfalaf pum mlynedd oherwydd y materion sy’n ymwneud â threnau a’r mathau o gerbydau trên a fydd gennym?
Fy mhedwerydd pwynt, a dweud y gwir, yw hyn: rhan hanfodol o hyn oll yw ymestyn y rheilffyrdd, ymestyn i ardaloedd, torri gafael haearnaidd traffig, galluogi datblygiad trafnidiaeth gyhoeddus a phobl i deithio ar draws, o gwmpas, drwy’r Cymoedd i ble bynnag y bo heb fynd ar y ffyrdd. Wrth gwrs, rwyf wedi sôn wrthych lawer gwaith am y rheilffordd o Creigiau i Lantrisant a’i phwysigrwydd, ac eto ychydig iawn o eglurder sydd gennym o hyd ynghylch ble y gallai hynny ffitio o fewn y rhaglen gyfalaf, ac yn wir a fydd yn y cyfnod hwn, a fydd yn y cyfnod nesaf neu beth bynnag. Rwy’n meddwl mai’r pwynt yw bod diddordeb cynyddol ym mhwysigrwydd hyn oll i ddatblygu economi a chymdeithas y de, cyn belled ag y mae fy etholaeth i dan sylw—Taf Elái. Ond mae angen llawer mwy o eglurder. Pryd y byddwn yn gallu cael yr eglurder hwnnw a’r math o fanylder yr hoffai pobl ei weld?
A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau amrywiol ac am y ffaith ei fod wedi croesawu lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae'r Aelod yn llygad ei le; mae potensial enfawr i bencadlys Trafnidiaeth Cymru weithredu fel catalydd i adfywio Pontypridd. Fel y gwnaeth ymyriadau ym Merthyr, rwy’n gweld lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd fel ychydig o fagnet i dynnu busnesau eraill a buddsoddiadau eraill i mewn i'r gymuned. Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r awdurdod lleol; rhaid imi eu llongyfarch am eu ffordd ragweithiol o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu'r safle hwn. Does dim amheuaeth, er mwyn datblygu economi, bod yn rhaid ichi sefydlu’r seilwaith cywir. Hefyd, mae angen i’r sgiliau cywir fod ar gael yn ogystal â’r math cywir o gefnogaeth ranbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, drwy greu Trafnidiaeth Cymru, drwy fuddsoddiad digyffelyb mewn trafnidiaeth a drwy gynllun cyflogadwyedd a gyflawnir gan gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, rwy’n siŵr ac rwy’n ffyddiog ein bod yn rhoi sylw i’r tri angen allweddol hynny yn yr economi.
O ran y gyllideb bum mlynedd, rwy’n fwy na pharod i rannu ag Aelodau yr adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011, a edrychodd ar hyn. Daeth i'r casgliad bod creu sicrwydd cyllid dros gyfnod o bum mlynedd a datblygu cynlluniau tymor hir ar gyfer ffyrdd drwy ymrwymiad cyllideb pum mlynedd, yn rhywbeth a allai gyflawni arbedion 15 i 20 y cant. Felly, mae troi at gyllideb bum mlynedd yn gwneud synnwyr, ond mae hefyd yn gam mawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos, ac mae angen inni fod yn glir mai dim ond ar gynlluniau newydd y bydd arbedion yn bosibl, ac nid ar rai a gontractiwyd eisoes.
Nawr, o ran y swm gwirioneddol y gellid ei arbed, gan gymryd y ffigurau cyllideb drafft a gyhoeddwyd ar gyfer 2018-19 ar gyfer cyfalaf trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf fel cyfartaledd gwariant blynyddol, dros gyfnod o 10 mlynedd gallai hynny fod oddeutu £630 miliwn—arbediad enfawr a all wedyn arwain at fwy o fuddsoddi i wella ein seilwaith trafnidiaeth a darparu gwasanaethau. Ond, fel y dywedaf, rwy’n fwy na pharod i allu darparu’r adroddiad hwnnw i Aelodau fel y gallant graffu ar sut yn union y gellir cyflawni arbedion mor fawr.
O ran trydaneiddio, wel, gwnaethpwyd yr achos o blaid trydaneiddio hyd at Abertawe ar y cyd â’r achos o blaid trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Digwyddodd yn ôl pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog yn 2014, ac o dan delerau'r cytundeb hwn byddai Llywodraeth y DU yn ariannu cost lawn trydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe, yn darparu £125 miliwn ar gyfer cynllun trydaneiddio a moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd ac, yn gyfnewid am hynny, byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau rheilffyrdd y Cymoedd. Nawr, roedd y cytundeb yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru i optimeiddio cynllun moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn unol â Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Ar y pryd, aseswyd bod y buddsoddiad i drydaneiddio’r brif reilffordd gan ddefnyddio fflyd trenau trydan i gyd yn opsiwn mwy cost-effeithiol na chaffael fflyd gymysg o drenau trydan a deufodd. Roedd y fflyd o drenau trydan i gyd hefyd, wrth gwrs, yn darparu manteision amgylcheddol sylweddol.
Nid fy unig bryder ynghylch peidio â thrydaneiddio prosiect y brif reilffordd hyd at Abertawe yw y bydd yn gadael teithwyr o bosibl yn waeth eu byd nag y gellid bod wedi’i ddisgwyl gyda thrydaneiddio; mae hefyd yn peri risg i enw da Abertawe ei hun. Mae llawer o economïau mwyaf blaengar y byd yn cymryd yn ganiataol y bydd eu gwasanaethau rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, ac, eto, mae hyn yn rhywbeth a gaiff ei wrthod ar hyd de Cymru. Rydym nawr yn canolbwyntio, fel Llywodraeth, ar sicrhau bod y cynlluniau a amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol, ac yr ymrwymodd iddynt, yn cael eu datblygu yn sgil canslo’r trydaneiddio, a’u bod yn cael eu datblygu mewn modd amserol. Maent yn cynnwys, wrth gwrs, gwella amseroedd teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a hefyd rhwng de Cymru, Bryste a Llundain. Mae'n cynnwys rhoi ymrwymiadau i ardal Abertawe o ran gwella rheilffyrdd a gorsafoedd, yn ogystal â gwella amseroedd teithio a chysylltiadau ar draws gogledd Cymru.
Rydym yn disgwyl i Lywodraeth DU, ar ôl canslo trydaneiddio prif reilffordd y de, beidio â chanslo dim ymrwymiadau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno â nhw ers hynny.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr a llawn? Rwy'n cymryd y cyfle hwn i gydnabod y bydd mis Mai eleni yn sicr yn ddyddiad hanesyddol, pan ddyfernir y contract cyntaf erioed â label 'gwnaethpwyd yng Nghymru' arno.
Mae eich gweledigaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylai Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â swyddogaeth debyg i Transport for London yn un a gefnogaf yn llwyr. Mae model Transport for London yn cael ei ystyried yn esiampl o ffordd effeithlon a chost-effeithiol o ddarparu system drafnidiaeth fodern. Mae'n gysur gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych ar arfer gorau lle bynnag y mae'n digwydd, a’i roi ar waith. Mae un cwestiwn yn codi yn dilyn dyfarnu'r contract rheilffyrdd, sef: Pa fath o oedi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ragweld cyn penodi’r gweithredwr a’r partner datblygu, ac i ddilyn hynny, y partneriaid datblygu seilwaith a fydd gweithio gyda’r partner gweithredu a datblygu i sicrhau bod y seilwaith yn cael ei uwchraddio a’i wella’n sylweddol, fel y bydd ei angen i ddarparu’r system drafnidiaeth a ragwelwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ddefnyddio busnesau bach a chanolig lleol i ddarparu cymaint o'r gwasanaethau a'r seilwaith â phosibl ac rwy’n croesawu’r ffaith bod ymgynghoriad wedi’i ddechrau gyda chwmnïau sydd am gymryd rhan yn y broses. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog bod y sgiliau a'r cymwyseddau gofynnol yn bresennol yn y diwydiant lleol?
Fel y cyfeiriodd Adam Price ato yn gynharach, rydych chi wedi dweud bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y DU am drosglwyddo pwerau llawn i Gymru, ac rwy’n siŵr y gwnaiff pob aelod yn y Siambr hon ymuno â mi i alw ar yr Adran Drafnidiaeth i hwyluso’r trosglwyddiad hwn fel mater o'r brys mwyaf.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, braf iawn yw gweld eich ymagwedd gyfannol tuag at ddarparu’r system drafnidiaeth gwbl integredig y mae ei hangen yn daer ar Gymru.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Mae David yn llygad ei le: yn fuan iawn byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir Aston Martin, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir TVR, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac o bosibl, yn y tymor hwy, ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws ein gwlad.
Ni fydd dim oedi cyn penodi’r partner gweithredu a datblygu, ac mae cynghorwyr Busnes Cymru eisoes yn gweithio gyda phartner cyflenwi seilwaith posibl i sicrhau bod gan gwmnïau bach a chanolig, ar hyd a lled Cymru, y gallu, y capasiti a'r sgiliau i allu sicrhau prosiectau pwysig ac, mewn llawer o achosion, prosiectau hanfodol fel rhan o'r fasnachfraint nesaf. Mae hon yn rhaglen anferth o ran y gwariant cyfalaf a gaiff ei fuddsoddi ym metro’r de ac a gaiff ei fuddsoddi hefyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau, ac wrth gwrs yn natblygiad metro’r gogledd-ddwyrain.
Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod cynghorwyr Busnes Cymru yn gwneud mwy na rhoi cymorth ynglŷn â sut i ennill contractau, ond eu bod hefyd yn rhoi cefnogaeth i sicrhau bod busnesau bach yn cyflogi’r bobl iawn â’r sgiliau iawn i allu cyflawni prosiectau a fydd yn trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau, gyda rhanddeiliaid, gyda’r partner gweithredu a datblygu, ac rwyf hefyd yn credu gyda llywodraeth leol ar lefel ranbarthol, i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth ac i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sydd o fudd nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau ar hyd a lled Cymru.
Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob un o'r pleidiau nawr, felly, i’r set nesaf o siaradwyr, a gaf i ofyn ichi am gyflwyniad byr iawn i'ch un cwestiwn? Diolch. John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod bod llawer o broblemau â’r gwasanaethau rheilffyrdd o amgylch Casnewydd. Mae cymudwyr yn aml ar drenau gorlawn iawn yn teithio i Fryste, er enghraifft. Mae gofyn i bobl sefyll mewn toiledau i ganiatáu i fwy o bobl ddod ymlaen, pobl yn llewygu, pobl yn cael eu gadael ar y platfform, problemau â dibynadwyedd ac, yn wir, â fforddiadwyedd—mae prisiau wedi codi’n sylweddol, rwy’n meddwl, tua thraean dros 10 mlynedd, heb welliant cymesur i ansawdd y gwasanaeth. Yn ddealladwy, mae pobl yn aml yn flin iawn, os nad yn digalonni. Mae grwpiau fel grŵp gweithredu twnnel Hafren a’r bobl sy'n ymgyrchu am orsaf ym Magwyr wedi cynnal arolygon sy’n dangos yn glir pa mor anfodlon yw teithwyr a diffyg ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu profi.
Felly, yn y cyd-destun hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn gobeithio’n fawr y bydd masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn cynnwys y gwasanaethau trawsffiniol hynny, er enghraifft i Fryste. Hoffent glywed gennych y byddwch yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnwys y gwasanaethau hynny yn y fasnachfraint, a hoffent hefyd glywed gennych, os caiff y rheini eu cynnwys, y bydd y problemau hyn â gorlenwi, dibynadwyedd a fforddiadwyedd yn cael sylw effeithiol o fewn masnachfraint newydd Cymru a'r gororau.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei sylwadau a’i gwestiynau? Roedd yn esgeulus imi beidio â dweud hefyd y bydd gennym cyn bo hir stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar drenau CAF, fel y mae gennym stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar adenydd Airbus, ar gynhyrchion Raytheon. Bydd gennym 'gwnaethpwyd yng Nghymru' wedi’i stampio ar drenau, awyrennau a cheir ar gyfer y farchnad fyd-eang yn fuan iawn. Rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig o ran datblygu hunaniaeth i Gymru fel man sy’n cymryd gweithgynhyrchu gwerth uchel o ddifrif.
Mae'n annerbyniol bod gorlenwi i'r fath raddau ag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ar y rhwydwaith trenau. Mae'n gwbl ofnadwy, yn ystod oriau brig yn enwedig, ar lawer o wasanaethau—ar y rhai y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, ond hefyd ar wasanaethau yr wyf yn siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn eu defnyddio’n dyddiol neu’n wythnosol. Yn ystod y fasnachfraint nesaf, ein safbwynt penderfynol yw sicrhau bod ansawdd yn gwella, bod prydlondeb yn gwella, bod amlder teithiau trenau’n gwella, bod capasiti, yn sicr, yn gwella’n glir, a bod datrysiadau technolegol hefyd yn gwella. Yn wir, rydym yn cymell ac yn annog yr ymgeiswyr i ddefnyddio technolegau newydd i sicrhau bod teithwyr mor gysurus â phosibl.
O ran y gwasanaethau trawsffiniol hynny y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, nodais yn ddiweddar fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn credu y gallai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o reolaeth dros y gwasanaethau trawsffiniol penodol hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gofyn amdano, ac mae'n rhywbeth y byddem yn sicr yn ei groesawu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy, wrth inni geisio gwella, yn amlwg, gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru ac ar sail drawsffiniol.
Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Yn y cyd-destun hwn, byddwch yn ymwybodol o'r cais bargen twf o'r gogledd a gyflwynwyd mewn rhai dyddiau cyn y Nadolig, ac y dylai’r trafodaethau ddechrau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gynnar eleni. Beth, felly, yw’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer y trafodaethau hynny?
O ystyried eich cyfarwyddyd, yn eich datganiad, i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer swyddfa yn y gogledd, sut yr ydych yn ymateb i wahoddiad y cais twf i Lywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol i ymgymryd â chynllunio a phrosiectau trafnidiaeth strategol yn y gogledd, ar sail rhanbarth cyfan, a phwerau wedi’u dirprwyo i'r corff gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddo weithredu mewn capasiti gweithredol, â chronfa trafnidiaeth ranbarthol o £150 miliwn dros 10 mlynedd, gan gynnwys y £50 miliwn presennol gan Lywodraeth Cymru i ymrwymiad metro’r gogledd?
A wnewch chi hefyd ddweud wrthyf i pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael sgwrs â Defnyddwyr Bysiau Cymru ynghylch integreiddio rheilffyrdd a bysiau? Beth mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i gynrychioli teithwyr bws, yn ogystal ag ymgysylltu â darparwyr yn y sector?
Yn amlwg, byddwch yn gwybod bod D Jones a'i fab, gweithredwyr bysiau yn Acrefair, wedi rhoi'r gorau i weithredu cyn y Nadolig, yn dilyn tranc Bysiau GHA yn 2016. Codwyd pryderon gan Llyr yn gynharach ynghylch yr effaith ar barc busnes neu ddiwydiannol Wrecsam, a’r ffaith na allai gweithwyr gyrraedd adref rhwng 5 a 6 y nos. Sut, felly, yr ydych yn ymateb i bryder a godwyd gyda mi, gyda chi yn ysgrifenedig, gan yr aelod arweiniol ar gyfer trafnidiaeth yn Wrecsam, ond hefyd gan gynrychiolwyr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Defnyddwyr Bysiau Cymru, Traveline Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, na fyddai dim camau gweithredu na chanlyniadau pendant yn dod allan o'r uwchgynhadledd bysiau ym mis Ionawr 2016 a’r gweithdai a ddilynodd hynny?
Ac, yn olaf, cwestiwn gan un o drigolion Sir y Fflint ac etholwr sy'n teithio’n drawsffiniol, ac yng nghyd-destun darpariaeth drawsffiniol: pa gamau yr ydych yn cynnig eu cymryd lle mae’r unig gyswllt rhwng cytref integredig Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi yw 'cefnffordd lôn sengl, heb oleuadau, â ffordd yr A550 wedi’i blocio neu’n dagfa bob dydd' wrth i bobl o'r gogledd deithio rhwng Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, yn y gogledd a Chilgwri a Glannau Mersi? Diolch.
Roedd sawl cwestiwn yn y fan yna, er imi ofyn am un yn unig nawr, ond pa ots.
Oedd, nifer sylweddol o gwestiynau, ond gwnaf i geisio ateb pob un ohonyn nhw. Yn gyntaf oll, o ran y cais twf, wrth gwrs byddwn yn craffu ar bob un o'r cynigion yn ystod y cyfnod trafod. Byddwn yn sicr yn croesawu, fel y dywedais yn fy natganiad, creu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau bod gennym drafnidiaeth integredig wedi'i chynllunio’n rhanbarthol ac—yn achos y gogledd—yn drawsffiniol. Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio’r gogledd a metro’r gogledd-ddwyrain ac maen nhw'n datblygu rhaglen waith i lunio pecyn o ymyriadau sy'n adlewyrchu gwelliannau nid yn unig yn lleol ond hefyd yn rhanbarthol. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwelliannau trawsffiniol a bydd y pwyslais ar greu canolfannau trafnidiaeth integredig ar safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac, wrth gwrs, ledled ardal Mersi a Dyfrdwy. Mae'n fater o well cysylltiadau, nid yn unig yn y canolfannau, ond hefyd i fynd atyn nhw, oddi wrthyn nhw a rhyngddyn nhw.
O ran Defnyddwyr Bysiau Cymru, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dweud hynny, o gofio ein bod yn cael deialog reolaidd gyda nhw ac o gofio bod gennym ymgynghoriad yn digwydd ar hyn o bryd ar drafnidiaeth bysiau, a’n bod wedi cynnal dau ymgynghoriad yn y 12 mis diwethaf. Bydd ymgynghoriad arall yn digwydd y gwanwyn hwn ynghylch y cynigion manwl ar gyfer deddfwriaeth y dyfodol ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld Defnyddwyr Bysiau Cymru yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw.
O ran pa mor fregus yw'r gwasanaethau bws lleol, rhaid i'r Aelod, siawns, gydnabod bod y dadreoleiddio yn 1986 yn rheswm mawr dros hyn, ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn cymryd eu swyddogaeth a'u cyfrifoldeb o ddifrif. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod Cyngor Wrecsam, o dan reolaeth annibynwyr a'r Ceidwadwyr, credaf, wedi gostwng eu cefnogaeth i wasanaethau bysiau anfasnachol, rwy'n credu, i sero; mae hynny’n wrthgyferbyniad llwyr i’r £25 miliwn yr ydym ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi ei gynnal dros lawer o flynyddoedd.
Yn ogystal â hynny, fe wnes i ddarparu £300,000 i’r rhanbarth, i’r gogledd-ddwyrain, i allu ymdrin â chwymp GHA a pha mor fregus yw'r rhwydwaith bysiau lleol. Mae gofyn i’r tri awdurdod lleol hynny—Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint—weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol, ar y cyd ac yn unigol, i sicrhau eu bod yn gwasanaethu cymunedau. Ac o ran yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd y llynedd, un o brif fanteision yr uwchgynhadledd honno oedd—roedd yn rhan o’r cynllun pum pwynt—cyflwyno cwmnïau bysiau, yn enwedig y cwmnïau bysiau bach a bregus hynny, i gynghorwyr a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru. O ganlyniad, mae nifer o gwmnïau wedi cael cyngor ymarferol ynghylch sut i oroesi'r storm o galedi a bregusrwydd yn y system ddadreoleiddiedig. Ond, yn fwy hirdymor, rhaid rhoi sylw i’r system ddadreoledig honno, a bydd hynny’n digwydd, drwy ddeddfwriaeth, a byddwn yn ymgynghori am hynny yn y misoedd nesaf.
Roeddwn yn synnu o glywed, hefyd, beirniadaeth ynghylch diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd trawsffiniol yn y gogledd-ddwyrain, o ystyried ein bod wedi ymrwymo dros £200 miliwn i goridor Sir y Fflint, sy'n cynnig un o'r llwybrau pwysicaf. Caiff ei uwchraddio’n sylweddol i liniaru tagfeydd rhwng Sir y Fflint a Chilgwri.
Beth sy'n bod ar Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud mor anodd iddyn nhw wneud penderfyniadau amserol ynglŷn â Chymru? Nid wyf yn disgwyl ichi ateb hynny, ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn barod am hyn, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r pwerau i'n galluogi i ddyfarnu statws cynigydd a ffefrir, cytuno ar y contract, a dal i allu trosglwyddo gwasanaeth newydd yn ddi-dor erbyn mis Hydref.
Mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith eich bod yn sôn am wella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro’r de, ond rwyf fi’n fwy awyddus i glywed am dramiau, rheilffyrdd ysgafn a thocynnau integredig; mae’n ymddangos i mi mai’r rheini yw’r materion allweddol, yn hytrach na mynd i ormod o ffwdan ynglŷn â thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Mae angen atebion llawer mwy effeithiol arnom er mwyn cynhyrchu’r canlyniadau sydd eu hangen. Tybed a allech ddweud am hynny.
Ydw, rwyf wedi bod â llawer o ddiddordeb yng nghynlluniau Mersey Travel a’r ffordd y maen nhw'n integreiddio tocynnau ac yn sicrhau ffordd dryloyw a chadarn iawn o dalu am wasanaethau. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau tocynnau integredig a thrafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch i bawb, a chyfundrefn brisiau sydd hefyd yn deg.
Byddwn yn cytuno â’r cwestiwn rhethregol ac â sail y cwestiwn rhethregol. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU wir yn ei chael yn anodd cefnogi llawer o rannau o Gymru o ran seilwaith rheilffyrdd. Dim ond tuag 1 i 1.5 y cant o fuddsoddiad yr ydym wedi’i gael yn y llwybr Cymru a'r gororau yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad, ac mae hynny er ei fod yn fwy na 5 y cant o holl rwydwaith y DU. Rydym hefyd wedi gweld Llywodraeth y DU yn methu, hyd yma, â chefnogi morlyn Abertawe, trydaneiddio, a rhaid imi ddweud fy mod yn falch nad nhw sy’n gyfrifol am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, oherwydd pe baen nhw, dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw obaith iddyn nhw aros yn yr uwch gynghrair.
Diolch. Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac o barch tuag atoch chi, byddaf yn gryno a gofyn un cwestiwn yn unig. Rwy’n falch o weld yn y datganiad eich bod yn dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar y daith gyfan o ddrws i ddrws. Rwy'n cymryd felly fod hynny'n cynnwys teithio llesol fel y cysylltiadau allweddol hynny ar ddau ben y daith. A allwch chi gadarnhau mai dyna yw'r bwriad, oherwydd nid oes sôn amdano yn y datganiad? Ac os felly, a fyddwch chi'n gwneud yn siŵr bod y sgiliau a’r capasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru yn bodoli i allu gweithredu ar deithio llesol, oherwydd mae hynny’n amlwg ar goll ar lefel llywodraeth ganolog a lleol ar hyn o bryd? Diolch.
Ie. A gaf i ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn a dweud, byddai, o bosibl, byddai teithio llesol o fewn cwmpas Trafnidiaeth Cymru, ond byddai angen sgiliau ychwanegol hefyd i wneud yn siŵr bod datrysiadau teithio llesol yn addas at y diben a hefyd yn ystyried natur o ddrws i ddrws llawer o’r teithiau y mae pobl yn eu gwneud?
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sylwadau bod pobl yn ganolog i gyflawni polisi trafnidiaeth. Yn fy etholaeth i, ceir dadl ynghylch pa un a cysylltiadau bws neu trên fyddai’n gwasanaethu un gymuned leol orau o dan unrhyw gynllun metro yn y dyfodol. Pa fecanweithiau a fydd wedi’u cynnwys er mwyn ymgynghori â chymunedau, fel y gellir llunio gwasanaethau i fodloni anghenion a gofynion pobl leol?
Wel, mae’r cynigwyr i gyd wedi cael eu gwahodd i gynnig yr atebion gorau, nid dim ond o ran gwerth am arian, ond yr atebion gorau o ran gallu cysylltu cymunedau a chysylltu canolfannau cyflogaeth. Gallai’r atebion gyfuno gwahanol fathau o deithio, ond mae'n hanfodol, wrth i’r broses o gynllunio’r metro gychwyn, bod cymunedau a rhanddeiliaid yn rhan o ddull partneriaeth, fel bod yr atebion a ddewisir yn y pen draw yn rhai sy'n cael eu cefnogi gan y bobl a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau yn y pen draw.
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â'r diwydiant bwyd a diod, a galwaf ar Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ers y tro diwethaf imi annerch y cyfarfod llawn, ym mis Tachwedd 2016, mae trosiant gwerthiant y diwydiant wedi cynyddu'n sylweddol o £6.1 biliwn i £6.9 biliwn. Rydym ni ar drothwy'r targed o £7 biliwn yn 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', y cynllun gweithredu bwyd a diod a bennwyd yn 2014, i'w gyrraedd erbyn 2020. Mae hyn yn gynnydd aruthrol. Mae'n adlewyrchu'r gwaith caled a'r ymdrech gan fusnesau ledled Cymru, yn fawr ac yn fach. Mae'n ganlyniad strategaeth flaengar a chamau pendant i'w chyflawni. Mae'n ganlyniad sy'n seiliedig ar bartneriaeth, gweithio'n uniongyrchol gyda busnesau, ein canolfannau technoleg bwyd arbenigol, a bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru.
Dros y 12 mis diwethaf, bu llawer o lwyddiannau. BlasCymru/TasteWales oedd digwyddiad masnach ryngwladol cyntaf Cymru. Rhoddodd Gymru ar y map o ran ein dyhead i fod yn genedl bwyd. Rhagwelir y bydd gwerth y busnes a gynhyrchwyd yn cyrraedd dros £22 miliwn. BlasCymru/TasteWales fydd ein harddangosfa arbennig i ddod â Chymru i'r byd, a hefyd y byd i Gymru, ac mae'r digwyddiad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2019.
Fis Tachwedd diwethaf, cynhaliwyd dathliad o'n henillwyr yn y gwobrau Great Taste a'n cynhyrchion ag enwau bwyd gwarchodedig. Unwaith eto, mae'r diwydiant wedi gwneud yn hynod o dda, a chafwyd 165 o enillwyr Great Taste yng ngwobrau y DU yn 2017. Mae ein cyfanswm o gynhyrchion ag enwau bwyd gwarchodedig wedi cynyddu i 14, ac enillodd chwech y statws Ewropeaidd hwn yn 2017. Mae enwau bwyd gwarchodedig yn gydnabyddiaeth fyd-eang o ddilysrwydd a gwreiddioldeb. Gyda'i gilydd, mae'r enillwyr hyn yn datblygu ein henw da a'n brand, gan ein rhoi ar lwyfan byd-eang.
Mae ein llwyddiannau yn seiliedig ar gymorth a chyfeiriad penodol, sy'n creu hyder ac sy'n fodd i fusnesau wneud mwy. Mae ein pecynnau cymorth busnes wedi buddsoddi mewn arloesi, mewn marchnata ac yn ein pobl. Mae'r buddsoddiad a gymeradwywyd drwy'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd bellach yn agos i £30 miliwn, a hynny wedi'i gymeradwyo ar gyfer 34 o fusnesau sy'n ehangu. Mae Project Helix yn annog diwylliant o arloesi ac entrepreneuriaeth, a, gyda buddsoddiad o £21 miliwn, mae cymorth ymarferol yn darparu cynhyrchion a phrosesau newydd i ddiwallu'r galw yn y farchnad ac i sicrhau'r gwerth gorau.
Mae ein rhaglen clwstwr busnes yn seiliedig ar ryw chwe chlwstwr a grŵp diddordeb arbennig allweddol, sy'n cynnwys 410 o fusnesau sy'n cymryd rhan weithredol ym meysydd busnes pwysig y cynllun gweithredu bwyd a diod. Fel grwpiau diddordeb cyffredin, mae clystyrau yn fodd grymus o ysgogi twf, cynnig cyfleoedd newydd, ychwanegu gwerth a chreu cadwyni cyflenwi cryfach.
Fodd bynnag, rydym ni'n son am fwy na dim ond rhifau. Mae bwyd yn ymwneud â phobl—eu hiechyd a'u lles. Ar lawr gwlad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi darparu £0.5 miliwn i gefnogi menter gwrth-newyn yn ystod y gwyliau ysgol ar gyfer ysgolion cynradd. Ar lefel strategol, mae gwaith yn dechrau ar strategaeth gordewdra ar gyfer Cymru.
Wrth gwrs, mae Brexit yn dal i fod yn her enfawr. Rhaid inni groesawu newid mewn meddylfryd, prosesau a strwythurau. Mae Brexit yn achosi ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddaw yn y blynyddoedd nesaf, ac mae'r ansicrwydd hynny'n peri pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon mawr ynglŷn â safbwynt Llywodraeth y DU. Bydd y penderfyniadau anghywir a bargen Brexit wael yn cael effaith hirdymor a phellgyrhaeddol.
Rwyf yn wynebu'r her ac yn ymateb drwy gynyddu cyflymder a dwysedd ymdrech a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi dyrannu buddsoddiad ychwanegol o £2.8 miliwn ar gyfer rhaglen parodrwydd sector sy'n addas ar gyfer y farchnad, a gwaith paratoi hanfodol ar gyfer cyflawni mentrau newydd ac ehangu mentrau cymorth sydd eisoes ar waith. Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi ac yn helpu i ddiogelu'r cynllun gweithredu bwyd a diod ac yn cefnogi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl.
Yn yr hydref es i Buddsoddi mewn Sgiliau, Buddsoddi mewn Twf, y gynhadledd sgiliau bwyd a diod gyntaf yng Nghymru. Gwrandewais ar yr hyn yr oedd y diwydiant yn ei ddweud wrthyf, ac mae'n glir: mae bylchau sgiliau sylweddol, a allai wneud Brexit yn waeth yn sgil yr ansicrwydd y mae ein gweithwyr mudol gwerthfawr o'r UE yn ei wynebu. Mae fy neges yn glir iddyn nhw: rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad ac rydym ni yn dymuno i chi aros yng Nghymru. Cyhoeddais yr angen i ddatblygu cynllun cyflogadwyedd a sgiliau ar gyfer y diwydiant, a bydd y bwrdd yn gwahodd trafodaeth ar fesurau drafft mewn cynhadledd ddilynol fis nesaf.
Mae presenoldeb rhyngwladol cryf yn ganolog i hyrwyddo'n hunain ac i wireddu ein gweledigaeth o roi Cymru mewn sefyllfa lle mae hi'n genedl fwyd sy'n gallu cyflenwi y DU a marchnadoedd rhyngwladol. Yn Anuga, ffair fasnach bwyd a diod fyd-eang Cologne, cyhoeddais £1.5 miliwn ychwanegol ar gyfer ein hasiantaeth partner cig coch Hybu Cig Cymru i sicrhau rhaglen datblygu allforio well, yn benodol ar gyfer mynediad i farchnadoedd newydd ac amddiffyn y sefyllfa bresennol. Er bod allforio wedi cynyddu i £436 miliwn yn 2016, ein marchnad bwysicaf yw'r DU, lle'r ydym ni'n masnachu'r lefel uchaf o gynnyrch. Yn sgil Brexit mae angen ad-drefnu cadwyni cyflenwi'r diwydiant bwyd yn sylweddol. Byddwn yn adeiladu ar gyfleoedd mewnforio ac yn ceisio cyflenwi cynhyrchion bwyd a diod Cymru yn lle. Rydym yn gweithio gyda manwerthwyr a busnesau gwasanaeth bwyd, Consortiwm Manwerthu Cymru a bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru i gyflawni hyn
Ni fu erioed mwy o ddiddordeb yn ein bwyd a diod rhagorol o Gymru. Caiff ansawdd, gwasanaeth a gwreiddioldeb yr hyn y mae Cymru yn ei gynnig ei gydnabod ledled y byd. Rydym ni'n gwybod bod diddordeb defnyddwyr mewn cynnyrch Cymreig yn cynyddu ar draws y DU, ac mae pobl yn gweld gwerth cynhenid Cymreictod. Byddwn yn adeiladu ar y gwerthoedd hyn i gefnogi brand Cymru.
Rydym ni hanner ffordd tuag at gyflawni 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', ein cynllun gweithredu cynyddol lwyddiannus hyd at 2020, ac rydym yn agos at gyrraedd ein prif darged. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ased enfawr. Mae'n cyfrannu fwyfwy at ein heconomi ac yn awr yn cael ei gydnabod yn briodol yn sector sylfaenol gyda statws blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb', yng nghynllun gweithredu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Mae'n cynhyrchu cyfoeth ac yn cryfhau'r economi yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae'n creu swyddi a gyrfaoedd lle mae sgiliau yn bwysig. Mae'n ychwanegu gwerth at ein cynnyrch amaethyddol ac yn sicrhau bri ar gyfer ein cenedl, gydag amlygrwydd cynyddol ac enw da ledled y byd.
Drwy roi pwyslais parhaus ar yr hyn sy'n gweithio, a thrwy barodrwydd mewnol ac allanol ar gyfer Brexit, byddwn yn gwbl addas ar gyfer y farchnad, gyda'r strwythurau diwydiant gorau o ran perfformiad. Rwyf yn ffyddiog iawn y byddwn yn parhau i lwyddo, a, gydag arweiniad a chefnogaeth sgiliau da, yn gwneud y gorau o Brexit ac yn cyflawni ar gyfer Cymru.
Diolch, Paul Davies.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad hwn yn arbennig o amserol oherwydd y bore 'ma cynhaliais frecwast ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn y Pierhead, a roddodd gyfle gwych i Aelodau flasu brecwast Cymreig sylweddol a thrafod rhai o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu sector bwyd a diod Cymru.
Nawr, rydym ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn rhannu uchelgais Ysgrifennydd y Cabinet i dyfu'r sector wrth 30 y cant erbyn 2020, ac mae'n braf gweld yn natganiad heddiw fod y sector yn parhau i dyfu. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn golygu, fel y mae Prydain yn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ei bod hi'n gwbl hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn cydweithio i flaenoriaethu ein diwydiant bwyd a diod a sicrhau bod ein marchnad ddomestig yn dal yn gryf.
Rwy'n sylweddoli y bu Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chefnogaeth allforio i fusnesau bwyd a diod Cymru, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o fanylion i ni ynglŷn â gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor, fel y gallwn ni ddeall yn well amcanion strategol y Llywodraeth. Mae'n hollbwysig bod cynhyrchwyr yng Nghymru yn cyrraedd marchnadoedd newydd, ac mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at BlasCymru, sydd wedi bod yn llwyddiant. Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â sut mae BlasCymru wedi nodi datblygiadau technolegol yn y diwydiant bwyd a diod a phontio busnesau Cymru â sefydliadau academaidd a darparwyr ymchwil gyda'i gilydd.
Nawr, rwy'n siŵr y byddai pob aelod yn cytuno ei bod hi'n bwysig y gellid ac y dylid gwneud mwy i hyrwyddo cynnyrch o Gymru, nid yn unig dramor, ond yma gartref hefyd, gan mai ein marchnad fwyaf pwysig yw'r DU. Yn wir, mae ymchwil a gynhaliwyd gan Bwyd a Diod Cymru yn dangos bod gwerth Cymreictod yn cynyddu ac y byddai'n well gan fwy a mwy o bobl ledled Cymru brynu mwy o gynnyrch Cymreig, ond maent yn cael eu rhwystro gan argaeledd. Yng ngoleuni'r adroddiad 'Gwerth Cymreictod' diweddar, a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa ymagweddau newydd sy'n cael eu hystyried i sicrhau y gwneir cynnyrch o Gymru ar gael yn haws i ddefnyddwyr cartref? A allai hi ddweud wrthym ni hefyd pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag archfarchnadoedd a manwerthwyr ynglŷn â ffyrdd y gallan nhw helpu i hybu cynnyrch Cymru yn fwy lleol?
Nawr, un o gamau gweithredu allweddol y cynllun gweithredu bwyd a diod yw mynd i'r afael â bylchau sgiliau ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd drwy ddyfeisio ac adolygu'r rhaglen gyfredol hyfforddiant a sgiliau. Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd a sgiliau ar gyfer y diwydiant, a sylwaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwahodd trafodaeth ynglŷn â mesurau drafft mewn cynhadledd ddilynol y mis nesaf. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol eisoes, rwyf ers amser wedi cefnogi'r angen i ddangos canlyniadau mesuradwy yn y maes hwn, felly efallai y gwnaiff ymrwymo yn awr i gyhoeddi'r ystadegau creu gwaith ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun penodol hwn.
Erbyn hyn, mae'n hanfodol bod pob rhan o Gymru yn cael arian ar gyfer prosiectau bwyd a diod, ac nad yw arian yn cael ei groni mewn rhannau penodol o Gymru—rhaid i brosiectau a chynhyrchwyr o bob cwr o Gymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Felly, gan hynny, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi faint o arian Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i'r diwydiant bwyd a diod fesul awdurdod lleol, fel y gall Aelodau fod yn hyderus bod yr holl ffrydiau ariannu yn dryloyw a bod pob rhan o Gymru yn cael ei chyfran deg o unrhyw gyllid Llywodraeth Cymru?
Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod bod strategaeth fwyd gref yn rhan annatod o amcanion iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi darparu arian ychwanegol yn y maes penodol hwn. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu diwylliant bwyta ffordd o fyw a bwyta'n iach mewn ysgolion, gan gynnwys prosiectau sy'n ymwneud â thyfu, paratoi a choginio bwyd, yn ogystal â dysgu am gydbwyso deiet ac ymarfer corff. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni ychydig mwy am yr ymdrechion a wnaed i gyflawni'r amcan penodol hwn, fel y gallwn ddeall cynnydd Llywodraeth Cymru yn well yn y maes hwn.
Ac, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn bod y cynllun bwyd a diod wedi cynnig y dylid datblygu cymdeithas gŵyl fwyd, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb yn amlinellu mwy am y camau penodol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â gwaith y gymdeithas gŵyl fwyd.
Felly, wrth gloi, a gaf i unwaith eto ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cynaliadwyedd sector bwyd a diod Cymru yn y tymor byr a'r tymor hwy. Diolch i chi.
Diolch, Paul Davies, am y gyfres o gwestiynau, ac roeddwn yn falch iawn o siarad ym mrecwast Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma yr oedd Paul yn cyfeirio ato, a noddwyd ganddo. Yn anffodus, ni chefais ddim brecwast, ond yn aml mae hynny'n broblem pan ewch i'r digwyddiadau hyn ac rydych chi'n cael eich rhuthro heibio'r bwyd. Ond roedd yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn mwynhau cynnyrch Cymreig ar ei orau, ac yn cysylltu ein sector amaethyddol gyda'n bwyd a diod, y collir y cysylltiad weithiau yn anffodus, rwy'n credu.
Rydych chi'n hollol iawn bod y targed uchelgeisiol iawn hwnnw—. Cofiaf eistedd yn y Cabinet pan gyhoeddodd rhagflaenydd fy rhagflaenydd, Alun Davies, y targed hwn o gynyddu ein diwydiant bwyd a diod i £7 biliwn erbyn 2020 a meddwl na fyddem ni byth yn cyflawni hynny, felly i gyflawni—. Rwy'n siŵr pan ymddengys data 2017 y byddwn yn sicr wedi cyflawni hynny, ond mae cyrraedd £6.9 biliwn erbyn 2016 yn gyflawniad aruthrol, ac, fel y dywedaf, mae'n ganlyniad gwaith caled cymaint o'n busnesau.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at gymorth allforio ac, yn sicr, mae heriau Brexit yn golygu bod angen inni edrych ar farchnadoedd newydd, a dyna pam ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol i'r rhaglenni allforio, er enghraifft, er mwyn annog ein cwmnïau i'w ystyried. Roeddwn yn dymuno rhoi rhai ffigurau diweddar ynglŷn ag allforio, oherwydd mae'n dangos bod allforion bwyd a diod Cymru wedi cynyddu bron 20 y cant, o £264 miliwn yn 2015 i £337 miliwn yn—. Mae'n ddrwg gennyf, 2015, ac mae hynny hyd at 2016-17. Aiff saith deg dau y cant o allforion i'r Undeb Ewropeaidd, felly fe allwch chi weld faint o ansicrwydd sy'n cael ei greu a pham bod angen inni edrych am farchnadoedd newydd. Mae hynny'n cymharu mewn gwirionedd â 9.5 y cant ar gyfer y DU gyfan, felly fe allwch chi weld pa mor llwyddiannus yr ydym ni yng Nghymru. A soniais fy mod i wedi rhoi cyllid pellach o £1.5 miliwn i Hybu Cig Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref yn Anuga yn Cologne i ddatblygu rhaglen datblygu allforio well. Yn sicr, fy nhrafodaeth gyntaf â HCC yw fy mod wedi dweud wrthyn nhw am fod mor uchelgeisiol â phosib i gyflawni hynny, ond byddai'n wych pe gallan nhw ragori ar hynny, a gobeithiaf y byddant.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at Blas Cymru. Roedd hwnnw'n yn llwyddiant mawr ac, unwaith eto, fy rhagflaenydd, Carl Sargeant, ei syniad ef oedd dod â'r byd i Gymru, a chredaf ei fod wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Gwn ein bod, hyd yma, wedi cael cynnydd o £7 miliwn o fusnes ychwanegol ohono ond, unwaith eto, y gobaith yw y gallem ni gael hyd at £22 miliwn o bosib. Byddwn wedi hoffi gwneud un bob blwyddyn, ond mae'n ddigwyddiad enfawr felly rydym ni'n mynd i'w gynnal yn awr ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Unwaith eto, bydd yn ddigwyddiad llawer mwy.
Fe wnaethoch chi sôn am werth Cymreictod ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt perthnasol iawn. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda nifer o archfarchnadoedd, ac, os ewch chi i rywle fel Morrisons er enghraifft, rydych chi'n gweld Blas Cymru o'ch etholaeth eich hun, ac rydych chi'n gweld pobl yn chwilio am y label hwnnw. Credaf fod angen inni edrych ar ein holl archfarchnadoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cynyddu'r brand. Ac, fel y dywedaf, rwyf wedi cael trafodaethau gyda—ni allaf feddwl am unrhyw archfarchnad nad wyf wedi cael trafodaeth gyda nhw ac maen nhw'n sicr yn teimlo'n fwy parod a galluog i gymryd ein cynnyrch.
Mae sgiliau yn amlwg yn fater pwysig iawn, a soniais am y gynhadledd a gynhaliodd bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru yma yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Mae'r un nesaf yn Llandudno, rwy'n credu, y mis nesaf—yn sicr yn y Gogledd. Dywedwyd wrthyf am y bylchau. Mae'n destun pryder, os nad ydym ni'n gallu cael mewnfudwyr o'r UE yn gweithio yn y ffordd y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ni fydd y bylchau hynny'n cael eu llenwi. Felly, mae'n hollol briodol bod angen inni sicrhau bod ein busnesau wedi'u harfogi'n llawn gyda'r sgiliau a'r cymorth hyfforddiant priodol.
Fe wnaethoch chi ofyn i mi a fyddwn yn cyhoeddi ystadegau creu swyddi. Yn sicr, os yw'r rheini gennyf i, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hwyrach y bydd ar sail Cymru gyfan ond byddaf yn sicr yn amcanu at wneud hynny.FootnoteLink
Mae arian yn bwysig iawn ac rydych chi'n iawn, ni allwn ni ond rhoi arian i wahanol gorneli o Gymru yn unig. Ond, yn sicr—wyddoch chi, rwy'n teithio ledled Cymru. Roeddwn i yn y Gogledd—ymwelais â dau gwmni bwyd ddydd Iau diwethaf. Un ohonyn nhw oedd Siwgr a Sbeis—bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol o'u cacennau, ac maen nhw wedi cael rhywfaint o arian gennym ni. Yna, ddoe, roeddwn i lawr yn y gorllewin yn ymweld â chwmnïau. Felly, credaf yn sicr ei fod yno. Unwaith eto, nid wyf yn siŵr a ydym ni'n cadw'r wybodaeth honno ar sail awdurdod lleol ond, yn sicr, os ydym ni yn ei chadw hi ar sail rhanbarth, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.
Mae iechyd cyhoeddus yn amlwg yn bwysig iawn a byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth gordewdra. Credaf bellach y caiff hi ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf, yn 2019, ac, yn amlwg, os gallwn ni helpu ein plant i fwyta yn iach heddiw, yn amlwg rydym ni'n creu oedolion iach. Credaf felly, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ymdrin ag iechyd y cyhoedd.
Mae gwyliau bwyd, unwaith eto, rwy'n credu yn llwyddiant mawr ac rwyf wedi bod yn ffodus i fynychu llawer ledled Cymru. Yr un diwethaf a fynychais rwy'n credu oedd yn Llangollen yn etholaeth Ken Skates, ond gwn ein bod wedi sicrhau unwaith eto bod cyllid yn cael ei ledaenu ar draws Cymru.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a nodi, gyda diolchiadau i bawb a dweud y gwir, fod y diwydiant wedi llwyddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod y cynnydd yn dal yno tuag at y targed sydd yn y cynllun bwyd a diod?
Hoffwn i ddechrau drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ble mae hi bellach, wrth ystyried gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â brandio bwyd o Gymru, yn benodol o safbwynt gwreiddiad bwyd, fel petai, lles anifeiliaid a'r safonau amgylcheddol yn ogystal. Roedd y datganiad ganddi hi yn sôn am PGI yn benodol ac rŷm ni'n gwybod pa mor llwyddiannus mae hynny wedi bod yn codi tyfiant allforio cig oen er enghraifft ers ennill y statws yna. Mae'n bwysig—bydd hi'n cytuno mae'n siŵr—i gadw'r statws, ond hefyd mae'n bwysig bod bwyd o Gymru yn cael ei gydnabod fel bwyd o Gymru wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na chael ei orchuddio â jac yr undeb neu gael ei gydnabod fel bwyd o rywle annelwig iawn o'r enw Prydain. Mae cadw'r brand yna yn bwysig, felly beth ydy hi'n ei wneud yn benodol ynglŷn â hynny? Yn benodol, er ei bod hi'n dweud ei bod hi'n trafod gydag archfarchnadoedd, a ydy hi'n trafod y pwynt yma gydag archfarchnadoedd—ar ôl Brexit, bod brandio Cymreig nid yn unig yn aros ond bod yr archfarchnadoedd yn coleddu hynny ac yn hyrwyddo hynny?
Er bod llwyddiannau megis y digwyddiadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio atynt, rydw i'n un o'r bobl sydd yn gresynu ein bod ni wedi colli gwobrau penodol Gwir Flas neu rywbeth tebyg—gwobrau a oedd yn cydnabod bwyd o Gymru ac yn dathlu hwnnw ac yn ffordd o ddysgu oddi wrth ein gilydd. Rydw i hefyd yn gofyn a oes bwriad gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ailystyried yr agwedd yna ar farchnata a brandio, eto yn wyneb yr heriadau sy'n ein hwynebu ni.
Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn benodol yn yr adroddiad am gynllun Helix. Mae hwn yn gynllun, rwy’n deall, ar gyfer blaengarwch yn y maes. Byddwn i’n gwerthfawrogi pe bai yna enghraifft y medrwch chi ei roi i ni o’r math o ddigwyddiad neu’r math o flaengarwch sy’n cael ei hyrwyddo a’i gefnogi gan y cynllun yma. Mae’n dros £20 miliwn, ac fe fyddwn i’n licio gweld at beth mae hynny’n mynd erbyn hyn.
A allaf i jest roi cwpwl o bethau at ei gilydd? Mae’r arian ychwanegol ar gyfer Hybu Cig Cymru, ac mae’r ffaith fod y gyllideb derfynol yn cynnwys arian ar gyfer cronfa i ymateb i Brexit. Rwyf jest eisiau deall a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddigon o adnoddau nawr i ddelio â Brexit, i ddelio â'r heriadau sydd ynghlwm wrth hynny, ac i helpu busnesau, yn benodol y busnesau sy’n allforio, i ddelio â chyfraddau llog sy’n amrywiol iawn, ac i ddelio â phosibiliadau o broblemau wrth adael yr undeb tollau ac ati. A ydy hi’n hyderus bod digon o adnoddau wedi’u neilltuo yn hynny o beth? Beth yn benodol mae hi’n gofyn i Hybu Cig Cymru ei wneud erbyn hyn? Achos mae gan Hybu Cig Cymru swyddogaethau pwysig iawn, wrth gwrs, yn hyrwyddo’r holl sector bwyd, gan gynnwys cig oen o’r mynyddoedd a chig oen llai o faint o’r mynyddoedd.
Rwyf jest eisiau bennu gyda chwestiwn ynglŷn â llaeth mewn ysgolion, achos bydd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gweld bod rhai yn cwestiynu parhad y cynllun llaeth mewn ysgolion. Mae’n ffordd dda o gynefino plant ysgol â chynnyrch gorau Cymru, ac mae’n llesol ac yn iachus iddyn nhw yn ogystal. Mae wedi cael ei gefnogi gan arian o Ewrop ac arian Llywodraeth Cymru, ond wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae eisiau gofyn o ba le mae’r gefnogaeth yn dod ac a fydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r cynllun llaeth mewn ysgolion. Rwy’n gobeithio eich bod chi’n gallu rhoi sicrwydd i ni y bydd hynny yn parhau, beth bynnag yw’r penderfyniad wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch i Simon Thomas am ei restr o gwestiynau ac am groesawu'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch tîm Cymru, brand Cymru a sicrhau bod pobl yn deall o ble y daw'r bwyd. Yn sicr, rwyf yn cael trafodaethau ynglŷn â labelu. Byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed mewn cynnyrch, y gallech chi gael rhai cynhwysion wedi eu mewnforio hefyd, felly mae'n bwysig iawn bod labelu yn glir iawn a bod pobl yn deall yr hyn a wnaethant. Gwelais enghraifft wirioneddol annymunol yn un o'r ffeiriau haf y llynedd pan gredai gwraig ei bod hi wedi prynu cig moch a oedd o Gymru, ond mewn gwirionedd doedd o ddim. Wyddoch chi, roedd y ddraig arno, ond oddi tano roedd o'n dweud nad oedd rhan ohono i gyd o Gymru, ac roedd hi'n hynod o flin am y peth ac fe ddaeth hi ataf i a dweud wrthyf i pa mor flin yr oedd hi. Felly, credaf ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Ac efallai mai dyna un o'r cyfleoedd a gawn ni wrth ymadael ag Ewrop.
Fe wnaethoch chi sôn am enwau bwyd wedi'u hamddiffyn, a soniais yn fy sylwadau agoriadol fod y teulu PFN yn tyfu'n gyflym. Rwyf wedi bod yn falch iawn bod hyd yn oed y rhai nad oedden nhw yn yr arfaeth—mae'r UE yn eu trin yn union fel y byddent wedi gwneud pe na baem ni'n gadael yr UE, felly credaf ei bod hi'n dda iawn. Maen nhw'n bwyntiau gwerthu gwych. Yn sicr mae'r cynhyrchwyr hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn meddwl ei fod yn fantais ac yn bwynt gwerthu unigryw iawn. Eto, credaf ei bod hi'n bwysig iawn, ar ôl i ni adael yr UE, ein bod ni'n ceisio gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod yr EU yn anrhydeddu unrhyw gynlluniau ar y gweill hyd at eu cwblhau. Hefyd, cwmnïau a chynhyrchwyr bwyd sydd â PFN ar hyn o bryd, rwy'n credu y dymunant gadw hynny. Yn sicr, ceir enghreifftiau o wledydd y tu allan i'r UE sydd wedi cofrestru cynhyrchion, felly nid wyf yn gweld fod hynny o reidrwydd yn rhwystr. Felly, credaf fod cynsail cryf i drafod ein rhan barhaus yn y cynllun, ac mae'r rheini'n drafodaethau sydd ar y gweill.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am archfarchnadoedd a sicrhau eu bod yn parhau i werthu cynnyrch Cymreig. Un llwyddiant mawr, rwy'n meddwl, oedd Asda yn gwerthu cig oen Cymru. Unwaith eto, fe wnaethon nhw arbrofi gyda hynny mewn rhai archfarchnadoedd, ond maen nhw'n bwriadu cynyddu'r nifer hwnnw, a chredaf y bydd hynny'n fuddiol, yn amlwg, ar gyfer cig oen Cymru.
Yn sicr roedd Blas Cymru yn llwyddiannus iawn. Gwn fod ychydig o bobl wedi dweud wrthyf i nad oedden nhw'n hapus fod y gwobrau Gwir Flas wedi dod i ben. Rhaid imi ddweud bod y rhan fwyaf o gwmnïau yr wyf yn siarad â nhw wrth eu boddau gyda gwobrau Great Taste y DU, ond mae'n rhywbeth yr wyf i'n hapus iawn i'w ystyried yn y dyfodol—cael ein gwobrau ein hunain.
Fe wnaethoch chi ofyn ynglŷn â Phrosiect Helics. Caiff hynny ei gyflawni gan y tair canolfan fwyd rhagoriaeth, fel y gwyddoch chi, y ganolfan diwydiant bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb yng Ngheredigion a'r Ganolfan Dechnoleg Bwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Nod Helics yw ysgogi'r arloesi hwnnw a chefnogi datblygu cynnyrch newydd sydd o fudd, yn amlwg, i bob un o'n cwmnïau bwyd a diod, gan gydweithio i ddiwallu eu hanghenion. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Fe'i lansiwyd yn Blas Cymru ym mis Mawrth ac fe gafodd £21.2 miliwn o gyllid Cynllun Datblygu Gwledig. Yr hyn y mae'n ei wneud yw gweithio gyda chwmnïau sy'n ymwneud â dros 400 o fusnesau bwyd a diod, ac mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu bob dydd. Rwy'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod os yr hoffai enghraifft benodol o beth mae'r prosiect yn ei wneud, ond disgwylir, dros oes y cynllun, iddo gynhyrchu tua £100 miliwn i economi Cymru a hefyd ddiogelu miloedd o swyddi.
Fe wnaethoch chi sôn am y cyllid a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog—cronfa bontio yr UE i helpu ein busnesau. Yn ein cyfarfod bord gron Brexit ddoe yn Aberystwyth, roedd croeso brwd iddo. Mae llawer o'n cwmnïau yn bryderus iawn ynglŷn â gwneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy ac, yn sicr, bydd y £50 miliwn—ac rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid—dyna'r cyllid cychwynnol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd mwy. Rydych chi'n gofyn a oes gen i ddigon o arian. Mae'n amlwg nad oes gennych chi fyth ddigon o arian, nag oes? Ond rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi clywed fy mhle. Ond, yn sicr, credaf y bydd y cyllid mewn gwirionedd yn helpu cwmnïau i baratoi ar gyfer Brexit, ac maen nhw'n dweud wrthym ni mai dyna beth y maen nhw'n ei ddymuno. Felly, byddwn yn aros i weld, yn amlwg, ar y diwedd, os bydd angen mwy arnom.
Fe wnaethoch chi holi ynglŷn â Hybu Cig Cymru, a soniais am y cyllid ychwanegol a gyhoeddais ar eu cyfer. Maen nhw'n mynd i ddatblygu a chyflwyno rhaglen ddatblygu allforio well ar gyfer cig coch Cymru. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn inni geisio cynyddu gwerthiant. Mae'n amlwg y bydd gwerthiant allforio yn elfen allweddol o hynny, a soniais fy mod i wedi dweud wrthyn nhw i fod mor uchelgeisiol â phosib yn y cyfarfod, ac os gallant ragori arno, byddai hynny'n fuddiol, yn amlwg, i bawb.
Ni allaf weld adeg pan na fyddwn ni'n cyflwyno llaeth mewn ysgolion, ac, yn sicr, mae'r ffermwyr yn dweud wrthyf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i wneud hynny. Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol, ond byddaf yn gwneud yn siŵr y byddaf yn rhoi hynny ar yr agenda.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y dylem ni i gyd groesawu, ers mis Tachwedd 2016, fod trosiant gwerthiant y diwydiant wedi cynyddu o £6.1 biliwn i £6.9 biliwn, ac rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn falch iawn ein bod ni'n sefyll ar drothwy'r targed £7 biliwn tuag at dwf cynaliadwy yn y cynllun gweithredu bwyd a diod, a bennwyd yn 2014, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac ymddengys y byddwn yn ei gyflawni'n gynnar.
Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, mae'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i fwyd a diod yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn rhan o hynny, roeddwn yn siarad â chynhyrchwyr o Gymru yn Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cefais fy nghyfareddu gan ba mor hawdd oedd hi, meddai'r cwmnïau wrthyf, i gael yr archfarchnadoedd i hyrwyddo eu cynnyrch Cymreig yng Nghymru gyfan. Erbyn hyn, meddent, yr anhawster oedd cael eu cynnyrch ar draws y ffin. Roedd hyn yn cynnwys cwmnïau a oedd yn seiliedig yn Sir y Fflint sy'n ei chael hi'n haws cael archfarchnad i roi eu cynnyrch yn eu hadran Gymreig yn Abertawe nag i'w roi yng Nghaer a chael adran Gymreig yng Nghaer. A soniwyd am hyn wrth Ysgrifennydd y Cabinet, ac os nad, a all Ysgrifennydd y Cabinet, efallai, siarad â rhai pobl sy'n prosesu bwyd yng Nghymru i weld a yw honno'n broblem gyffredinol?
Fel y gŵyr pobl, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rhannau o Ewrop megis Aarhus. Mae gan Aarhus dri phrosesydd bwyd mawr: Arla, Lurpak a Castello. Beth fyddwn i'n ei weld pe byddwn yn mynd i archfarchnad yn Nenmarc—beth fyddai'n cyfateb i hynny yng Nghymru? Credaf, os mai dim yw'r ateb, y credaf mai dyna ydyw yn fwy na thebyg, mai dyna mewn gwirionedd yw ein her, ynte? Un o'r meysydd twf mewn bwyd a diod fu micro fragdai, megis West by Three a Boss yn Nwyrain Abertawe, yn ogystal â bragdai annibynnol bach sy'n tyfu fel Tomos Watkin, hefyd yn Nwyrain Abertawe, a Tiny Rebel yng Nghasnewydd. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r diwydiant hwn, sydd mewn gwirionedd wedi bod yn ddiwydiant twf yn economi Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwbl argyhoeddedig y byddwn yn sicr yn cyrraedd y targed hwnnw o £7 biliwn pan fydd data 2017 gennym, ac yna bydd yn rhaid i ni benderfynu ble'r ydym yn gosod y targed nesaf. Fe wnaethoch chi gyfeirio yn benodol at Gaer, ac, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn ffinio â Swydd Gaer—[Torri ar draws.] Rwy'n dyfalu mai dyna pam yr ydych chi wedi sôn amdano. Ni allaf feddwl am unrhyw un mewn gwirionedd sydd wedi sôn wrthyf i am hynny. Roeddwn yn eithaf siomedig i ganfod, pan ddeuthum i'r swydd, nad oedd gennym ni, mewn gwirionedd, yr ystadegau ar gyfer cynnyrch yr ydym ni'n ei allforio i Loegr—yn niffyg gair gwell—ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, oherwydd yn sicr mae angen inni sicrhau ein bod yn gweld cynnydd yn ein cynnyrch bwyd a diod o Gymru sy'n mynd i Loegr. Rwy'n ymwybodol iawn o'r Pwyllgor y mae Mike Hedges yn ei gadeirio, ac o'r adolygiad, ac rwy'n wirioneddol edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad.FootnoteLink
Mae'r agenda bwyd a diod yn eang iawn, ond mae'n gwbl hanfodol bwysig i Gymru, a dyna pam yr oeddwn i mor falch o'i gweld yn flaenoriaeth a'i bod wedi dod yn sector sy'n sylfaen ar gyfer ein heconomi. Yn sicr, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda'm cyd-Aelod, Ken Skates, ynghylch twristiaeth bwyd, er enghraifft. Ceir bylchau yno y gallwn ni ymdrin â nhw yn y dyfodol. O ran micro fragdai, yn sicr, rwyf wedi bod yn ffodus i ymweld â rhai fy hun. Rwyf wedi ymweld â Tiny Rebel yng Nghasnewydd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf—. Mae'n gwmni gwych wedi'i ddechrau gan gwpl ifanc, arloesol iawn, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf yn sicr eu bod nid yn unig yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant—nid dim ond cymorth ariannol, ond y cyngor busnes gan swyddogion—ac eto, mae'n wych eu gweld yn mynd o nerth i nerth.
Rwyf innau, hefyd, yn croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n stori newyddion da, ac rwy'n croesawu ymdrechion y Llywodraeth i gynyddu cwmpas brandio Cymru a hefyd y cwmpas ar gyfer allforio ein cynhyrchion. Disgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun i mi un tro fel rhywun gwydr hanner llawn yn hytrach na rhywun gwydr hanner gwag, ac rwy'n falch o glywed, felly, y tinc cadarnhaol sydd i'w datganiad—ar ôl y cyfeiriad defodol at ansicrwydd Brexit ac ati—ond serch hynny, yn edrych ymlaen at adeiladu ar gyfleoedd mewnforio sy'n ceisio cystadlu â chynhyrchion bwyd a diod Cymru, oherwydd bydd gennym ni gyfle i fanteisio ar y rhyddid newydd a fydd gennym ni ar ôl Brexit.
Ym mhob sector bron o gynnyrch amaethyddol yn y DU—nid wyf wedi gallu dod o hyd i ystadegau Cymru a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet eiliad yn ôl at yr angen i fireinio sylfaen ystadegol ein gwybodaeth ynglŷn â chynhyrchu a gwerthiannau Cymru—ond yn y DU yn ei chyfanrwydd, rydym ni mewn diffyg sylweddol ym mhob maes o gynhyrchu amaethyddol bron a bod, ac mewn rhai achosion yn sylweddol felly. Mewnforion cynhyrchion llaeth ac wyau, er enghraifft—. Mae'n ddrwg gennyf, byddai'n well i mi wisgo fy sbectol. Mae £2.8 miliwn mewn mewnforion o'i gymharu â £1.2 miliwn o allforion. Ac mewn cig, unwaith eto, mae'n £6.1 miliwn—. Na, mae'n ddrwg gennyf—. Nid wyf yn gwisgo fy sbectol, felly ni allaf ddarllen popeth. Ond beth bynnag, y canlyniad yw ein bod yn allforio llawer llai nag yr ydym yn ei fewnforio. Felly, mae hyn yn rhoi'r cyfle inni fanteisio ar y gwerthiannau ychwanegol.
Rydym ni mewn sefyllfa ffodus lle mae poblogaeth y byd yn dal i dyfu'n gyflym, ac yn y rhannau hynny o'r byd—y gwledydd mwyaf poblog, fel Tsieina ac India—maen nhw hefyd yn dod yn llawer mwy cyfoethog bob blwyddyn, felly mae hynny'n golygu y byddant yn datblygu chwaeth foethus. Felly, mae'n rhaid i'r dyfodol ar gyfer cynnyrch ac allforion Cymru fod yn y sector moethus ac o ansawdd, sy'n newyddion da i ni, oherwydd rydym ni'n cynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, ac felly dim ond cwestiwn o farchnata yn yr economi fyd-eang ydyw. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed i'r marchnadoedd ar gyfer cig oen, lle y gwyddom ni y bydd gennym ni broblem sylweddol os nad oes cytundeb masnach synhwyrol gyda'r UE. Ac er bod y rhan fwyaf o'n mewnforion o Seland newydd, nid o rannau eraill o'r byd, mae gennym ni ddiffyg masnach hyd yn oed mewn cig oen. Felly, mae digonedd o gyfleoedd i ni bledio'r achos dros fwy o allforion. Ac wrth ystyried bod gwerth allforion, fel y dywedwyd yma, yn £436 miliwn yn 2016, mewn economi sy'n werth tua £60 biliwn, mae hynny'n dal yn swm bach iawn o arian.
Felly, rhaid bod posibiliadau enfawr, rwy'n credu, ar gyfer ffermwyr a chynhyrchwyr a phroseswyr bwyd Cymru i fanteisio ar economi'r byd sy'n cynyddu ac economi fyd-eang sy'n dod yn fwy a mwy ffyniannus. Felly, credaf fod pob plaid yn y siambr hon yn dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn yr ymdrechion y mae'n dechrau arnynt, er bod y byd bob amser yn ansicr, ni waeth beth yw ein trefniadau masnachu, ac yn sicr mae ffermwyr wedi gweld, yn y 30 neu 40 mlynedd diwethaf, ansicrwydd enfawr hyd yn oed o fewn yr UE. Credaf fod pob rheswm dros fod yn gadarnhaol bod ein brand, y brand Cymreig, yn cael ei gydnabod bellach ar draws y byd, a hyd yn oed er bod llawer mwy i'w wneud, mae llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny, ac rwy'n dal i lwyddo i gadw fy agwedd gwydr hanner llawn er gwaethaf yr holl ansicrwydd. Dywedwch fy mod yn sôn yn ddefodol am ansicrwydd Brexit, ond rwy'n siŵr, yn eich sgyrsiau, wrth i chi fynd o amgylch eich rhanbarth chi, rhaid bod cynhyrchwyr amaethyddol y sector bwyd a diod yn dweud wrthych chi, oni chawn y Brexit mwyaf meddal, ceir llawer iawn o ansicrwydd.
Yr un peth am y diwydiant bwyd a diod sydd wedi fy nharo yw'r ymdeimlad hwnnw o egni ac uchelgais sydd ganddo, ac mae hynny wedi ei gyplysu â diddordeb pobl yn ein cynnyrch, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu cyrraedd ein targed yn llawer cynharach nag a gynlluniwyd. Ac rydych chi'n iawn, mae cymaint o gyfleoedd, ac rwy'n ei chael hi'n hawdd gwerthu, os mynnwch chi—. Lle bynnag yr af, mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn bwyd o Gymru. Fe wnaethoch chi sôn am gig oen yn arbennig, ac rydym ni'n adnabyddus am ein cig oen, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond credaf, hyd yn oed dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl yn dechrau dysgu mwy am ein cynnyrch.
Fe wnaethoch chi holi ynglŷn ag allforion a chyfeirio at allforion a sut y gallem ni fod yn gwneud llawer mwy, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Credaf fod ein presenoldeb mewn lleoedd fel Anuga yn Gulfood yn Dubai, yn SIAL ym Mharis, yn hanfodol bwysig. Rhain yw ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf y byd ac rydym wedi cefnogi presenoldeb Cymreig sylweddol yn y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau y cânt y cyfle i gael y fasnach ychwanegol honno o dramor. Unwaith eto, Hybu Cig Cymru—mae'n bwysig iawn, fel sefydliad, eu bod yno, yn chwifio'r faner ar ran bwyd a diod Cymru.
Rydym ni'n gwybod bod diwydiant cig coch Cymru yn arbennig o ddibynnol ar y marchnadoedd allforio i allu cyflawni'r prisiau premiwm hynny, felly mae galw tramor mawr yn cynyddu'r prisiau wrth giât y fferm ac yn helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw, ac mae hynny wedyn yn sicrhau mwy o elw ar gyfer y cadwyni cyflenwi.
Ceir cyfleoedd, wrth inni ddod allan o Ewrop, wrth gwrs, ac mae'n hollbwysig inni eu cael, ond ar hyn o bryd mae gennym ni fynediad digyfyngiad at 500 miliwn o gwsmeriaid posib, ac mae Brexit yn peryglu hynny—ni allwn ni ddianc rhag hynny. Felly, mae'r rhyddid hwnnw o'r rhwystrau gwahaniaethu ar sail tariff a dim tariff yn golygu bod ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd eraill yr UE yn llawer haws. Ond rwy'n gwneud popeth y gallaf i gynorthwyo cwmnïau i gyrraedd marchnadoedd newydd, ac yn amlwg, yn fy holl drafodaethau, yn arbennig gyda Llywodraeth y DU, ni allaf ailadrodd yn ddigon aml sut y mae bargen fasnach synhwyrol mor bwysig ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod.
Hoffwn groesawu'r adroddiad heddiw. Mae'n weddol amlwg bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod bob ffordd y gall hi gan hybu'r cynnyrch, y gweithgynhyrchu a chefnogi staff. Ond rwyf eisiau gofyn i chi yn arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet, a allem ni wneud llawer mwy i hyrwyddo cynnyrch bwyd Cymru ac ar yr un pryd cael llai o wastraff mewn bagiau plastig untro.
Credaf fod chwant mawr—chwarae ar eiriau bwriadol—am leihau gwastraff mewn cynhyrchu bwyd. A chredaf mai dyma'r adeg ac rwy'n credu bod gwir angen inni achub ar y cyfle. Mae mentrau ar waith i hyrwyddo Cymru fel gwlad lle'r ydym ni eisiau lleihau gwastraff, ac mae un o'r rhai sy'n dod i'r amlwg yn eithaf trawiadol, ac mae hynny yn Aber-porth yng Ngheredigion, lle maent yn eithaf penderfynol o leihau'r holl blastig yn eu cynhyrchion bwyd, oherwydd mae'r gwastraff plastig untro yn deillio gan amlaf o'r diwydiant bwyd. Gofynnais ichi, yr wythnos diwethaf oedd hi, rwy'n credu, gwestiwn ynglŷn â'r cyfleoedd y gallem ni fanteisio arnyn nhw, oherwydd nid yw Japan yn mynd i gymryd y swm enfawr o wastraff mwyach—credaf ei fod yn fwy na 4,000 tunnell y flwyddyn o Gymru mewn deunydd ailgylchadwy. Felly, gwelaf od cyfle lle gallai Cymru nid yn unig arwain y ffordd, fel y mae hi gydag ailgylchu, ond hefyd o ran manteisio ar hynny fel cyfle i gysylltu hynny gyda, fel rwy'n dweud, ymdrech wirioneddol i leihau plastig untro yn y diwydiant bwyd. Credaf y byddai o fantais enfawr i bawb pe gallech chi, rywsut, pan rydych chi'n rhoi'r arian i hybu cynhyrchu bwyd, hefyd, ar yr un pryd, gynnig rhai cymhellion i hybu llai o ddeunydd pacio yn y dyfodol. Oherwydd nid ydym yn allforio popeth yr ydym yn ei gynhyrchu; rydym yn defnyddio symiau sylweddol yma yng Nghymru. Rwyf yn wirioneddol gredu bod hwn yn gyfle y dylem ni fanteisio arni ar unwaith.
Credaf, pan rydym ni'n darllen am—rwy'n siŵr fod pobl yma wedi—yr ymgyrch 'cael gwared ar y gwelltyn', sy'n ymwneud â chael gwared ar wellt plastig—. Mae hynny'n deillio ac yn tarddu o fachgen naw mlwydd oed o'r Unol Daleithiau yn ymgyrchu dros hynny. Credaf y byddai hi'n dda iawn pe byddem ni i gyd yn dilyn yr esiampl honno.
Yn olaf, credaf y byddai hi'n fanteisiol pe gallech chi ddylanwadu mewn unrhyw fodd ar archfarchnadoedd, lle maen nhw'n gwerthu cynnyrch Cymru, i beidio â rhoi'r bagiau plastig untro cynnyrch ffres gerllaw, ond efallai i ystyried cynnig bagiau papur y gallai pobl roi cynnyrch ffres ynddyn nhw, os ydyn nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw, gan felly, ar unwaith, helpu i roi'r ddau beth hynny gyda'i gilydd.
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiynau perthnasol iawn ynghylch y defnydd o blastig a deunydd pacio. Credaf eich bod yn iawn, dyma'r amser. Credaf fod gan bobl wir ddiddordeb yn hyn, ac, yn amlwg, gyda fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, byddwn yn cyflwyno strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, fydd yn rhoi sylw i leihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf fod hynny hefyd—. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli faint o fwyd sy'n cael ei daflu, a chredaf fod cyfle gennym ni yma i leihau faint o fwyd a wastraffwn. Credaf fod yn rhaid inni. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae llawer o gyfleoedd i leihau ac atal gwastraff ac arbed arian.
Mae gwaith wedi dechrau i ystyried sut y gellir lleihau gwastraff deunydd pacio bwyd, ac rydym ni'n gwybod bod plastig, yn benodol, yn broblem fawr. Credaf fod angen inni gael y drafodaeth honno gyda'r archfarchnadoedd—gwn yn union beth a olygwch chi am fagiau plastig untro ochr yn ochr â chynnyrch—i geisio lleihau'r nifer sy'n cael eu defnyddio. Mae'r fenter gwellt plastig mor syml, ond mae'n bwysig. Pan oeddwn i yn Dubai yn Gulfood y llynedd, ymwelais â ffatri oedd yn gwneud gwellt plastig. Roedd yn erchyll gweld y niferoedd a gânt eu cynhyrchu, ac roedd yn hollol anghredadwy. Felly, gallai pethau bach fel newid o blastig i bapur—oherwydd rydym ni'n gwybod fod pobl yn awyddus i ddefnyddio gwellt—gallai arbed cymaint.
Felly, fel y dywedaf, mae hon yn agwedd o waith a gaiff ei datblygu gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, a byddaf yn amlwg yn cefnogi hi gyda hynny. Rwy'n hapus iawn i gael sgwrs gyda hi i geisio lleihau gwastraff bwyd yn ogystal, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y ddau, ochr yn ochr.
Gweinidog, yn dilyn y cwestiwn a ofynnodd Joyce Watson i chi yn gynharach, a fydd Prosiect Helics yn cael ei ddefnyddio i roi adnoddau i weithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig fel y gallan nhw newid rhai o'u prosesau? Gan fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y mae pobl wedi sôn amdanynt hyd yma yn bethau y mae cwmnïau fel Coca-Cola, Waitrose, Wetherspoon, Iceland, McDonald's wedi eu gwneud—cwmnïau mawr iawn gyda'r adnoddau sydd eu hangen i newid rhai o'r prosesau a'r trefniadau ar gyfer eu deunydd pacio yn weddol gyflym. Rwy'n cytuno— fe allem ni farchnata Cymru fel rhywle eco-gyfeillgar iawn o ran ei chynhyrchion bwyd a diod, ond credaf y bydd angen help ar rai yn y sector busnesau bach a chanolig, felly maes allweddol ar gyfer Prosiect Helics, byddwn yn ei ddweud.
Rwy'n credu bod hwnna'n awgrym da iawn, alla i ddim gweld pam na allen nhw. Fe soniais i o'r blaen mai eu cenhadaeth yw ysgogi arloesedd a chefnogi datblygiadau prosiect newydd a fyddai o fudd i'n cwmnïau bwyd a diod, felly dwi ddim yn gweld pam na allai hynny fod yn rhan ohono. Rydym ni wedi arwain y ffordd o ran ailgylchu; pam na allwn ni arwain y ffordd mewn gwneud hynny? Mae'n arbennig ar gyfer busnesau bach a chanolig, felly un o'r pethau y maen nhw'n ei wneud yw ymateb, er enghraifft, i ymholiadau technegol, felly rwy'n credu y gallai hyn weddu i'r dim.
Wrth gwrs, y rhybudd mwyaf ar blastigau yw ein bod ni erbyn hyn yn gweld plastig yn ein pysgod o ganlyniad i lygredd y moroedd.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll bod bwyd yn ymwneud â phobl, eu hiechyd a'u lles, ac nid â chywion ieir wedi'u llygru yn cael eu golchi gyda chlorin neu foch wedi eu pesgi'n artiffisial a gwartheg wedi eu tewhau nes bod eu cefnau'n torri.
Rwy'n cymeradwyo'n llwyr y cynlluniau gwyliau bwyd a hwyl sydd ar waith i fynd i'r afael â diffyg maeth ymhlith plant, ac rwy'n edrych ymlaen at fwy o fanylion am eich strategaeth ar ordewdra. Mae'r ardystiad Bwyd am Oes sy'n cael ei gynnig gan Gymdeithas y Pridd yn arbennig o berthnasol i'r bwyd yr ydym ni'n ei weini yn ein hysgolion. Mae nhw angen cyflenwyr bwyd lleol i wneud hynny weithio, felly pan ein bod ni'n buddsoddi mewn sgiliau, mae angen i ni wybod ble yng Nghymru y gallwch chi ddilyn cyrsiau garddwriaeth, gan fod gennym ni ddigon o gig—mae gennym ni gryn waddol yn hynny o beth—ac mewn cynhyrchion llaeth a chaws, ond mae angen amrywio ein deiet er budd ein hiechyd a'n lles. Ble yng Nghymru y gallwch chi brynu cennin Cymreig—y symbol hwnnw o'n gwlad? Efallai na allwch chi ateb hynny heddiw, ond byddai gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn cael yr ateb.
Wel, gallaf ddweud yn bendant bod Morrisons yn eu gwerthu, oherwydd yn rhan o gynllun BlasCymru—. O Sir Benfro, Puffin Produce—maen nhw'n gwerthu cennin Cymreig, ac rwy'n gwybod yn sicr bod Morrisons yn un o'r archfarchnadoedd sy'n eu cymryd. Ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn, mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble i gael gafael ar hyfforddiant sgiliau garddwriaethol, a gwn yn sicr—. Mewn gwirionedd, yn etholaeth Gweinidog yr Amgylchedd, mae coleg yno sy'n ei gynnig. Felly, mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw. Ond, unwaith eto, rwyf wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau dechrau ym maes garddwriaeth, yn sicr yn fy etholaeth fy hun, felly rwy'n credu bod yn rhaid i'r sgiliau hynny fod yno, ac yn rhan o'r gynhadledd sgiliau yr ydym ni'n ei chynnal a'r trafodaethau â chwmnïau yw gwneud yn siŵr bod bob math o sgil y maen nhw ei angen ar gael iddyn nhw.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gyflwyno'r cynnig hwnnw—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6629 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1.
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch o gyflwyno Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
A gaf i roi ar y cofnod fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn ystyried y rheoliadau hyn? Cânt eu gwneud o dan adrannau 17, 54 a 93 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, ac mae'r ddau yn ymwneud â gweinyddu'r dreth honno.
Mae'r rheoliadau yn cwmpasu dau brif faes. Mae rhan 2 yn nodi'r gofynion ychwanegol i'r rhai hynny sydd yn y Ddeddf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i ronynnau gwastraff mân fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is. Darnau bach o ddeunydd sy'n cael eu cynhyrchu gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol yw gronynnau gwastraff mân. Mae gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau yn cynnwys cynnal prawf colled wrth danio ar ronynnau gwastraff mân, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer gwneud hynny. Maen nhw'n rhoi pwerau i alluogi Awdurdod Refeniw Cymru i nodi manylion y gofynion hyn mewn hysbysiad y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, ac os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma, byddan nhw'n helpu gweithredwyr tirlenwi i benderfynu ar y swm cywir o dreth daladwy.
Mae rhan 3 yn nodi credyd ansolfedd cwsmeriaid. Mae hyn yn rhoi hawl i gredyd treth i weithredwyr safleoedd tirlenwi pan fo eu cwsmeriaid yn mynd yn fethdalwyr cyn talu'r gweithredwr am gynnal gwarediad trethadwy. Bydd aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn cofio, o'u hystyriaethau, fod hwn yn fater dadleuol iawn yn ystod hynt y Ddeddf, gyda gwahanol ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn hyrwyddo agweddau gwahanol iawn: rhai yn dadlau o blaid diddymu'r credyd treth yn llwyr, ac eraill o blaid lefel hael iawn o gadwraeth.
Fel y mae hi, mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn dilyn yn fras y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban. Maen nhw'n cadw credyd treth yn y maes hwn, ond yn cyfyngu'r amodau sy'n arwain at yr hawl. Dim ond pan fo cwsmeriaid y gweithredwr yn mynd yn fethdalwyr y mae'r credyd ar gael o dan y rheoliadau hyn. Prif nod y rheoliadau yw diogelu refeniw, ac yna darparu sefydlogrwydd i weithredwyr.
Gofynnaf i Aelodau gefnogi’r rheoliadau y prynhawn yma.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Simon Thomas.
Diolch, Llywydd, ond nid oes gen i sylwadau pellach gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ateb popeth a oedd wedi cael ei godi gan y Pwyllgor Cyllid, a gan bobl eraill.
Waw. Jane Hutt.
Llywydd, rwy'n croesawu'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018 hyn, a chefnogaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiamod, fel aelod erbyn hyn o'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch iawn o weld y dreth gyntaf mewn 800 mlynedd, nid ar y llyfr statud yn unig, ond yn barod i'w gweithredu o fis Ebrill 2018. Rwy'n falch fy mod i wedi gallu chwarae fy rhan fel Gweinidog i baratoi'r ffordd ar gyfer y diwrnod newydd hwn i Gymru, gan gyflwyno Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn 2016.
Ond ar gyfer y cofnod, ym mlwyddyn canmlwyddiant hawl menywod i bleidleisio, rwy'n ymwybodol o'r rhan y mae menywod wedi ei chwarae yn y Cynulliad hwn—yn y Llywodraeth fel Gweinidogion cyllid, Edwina Hart a Sue Essex, cyn fy nhymor i o chwe blynedd yn y swydd, ac yn y Cynulliad, Jocelyn Davies, fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a wnaeth y gwaith craffu ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Rwy'n falch iawn bod Awdurdod Cyllid Cymru, a fydd yn casglu'r dreth trafodiadau tir a'r dreth hon, yn cael ei gadeirio gan fenyw, Kathryn Bishop. Yn 1918, cafodd menywod hawl rhannol i bleidlais, a dyna pryd y chwalwyd y Gynghrair Menywod dros Wrthwynebu Trethi, a oedd â'r slogan, 'Dim pleidlais, dim trethi', gan fod menywod wedi cael yr hawl i bleidleisio o'r diwedd. Felly, gadewch i ni ddathlu'r diwrnod hanesyddol hwn, yn ysbryd Hywel Dda, i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ddatganoli, gan gynnwys darparu a rheoli ein trethi newydd yng Nghymru.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Jane Hutt fy mod i'n cytuno'n llwyr â hi ar y rhan sylweddol iawn y mae Aelodau'r Cynulliad hwn sy'n fenywod wedi'i chwarae wrth ddatblygu'r cyfrifoldebau newydd hyn? Bydd ganddi ddiddordeb mewn gwybod, gan y gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi gerbron y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar iawn, bod, yn Awdurdod Refeniw Cymru, dros hanner y penodiadau a wnaethpwyd i'r awdurdod bellach yn fenywod, a bod menywod yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o gyfrifoldeb o fewn y corff newydd hwn, gan barhau felly y gwaith y mae hi ac eraill wedi ei arloesi yn y maes hwn.
A gaf i ddiolch i Simon Thomas am gydnabod fy mod wedi gallu ymateb i'r pwyntiau yr oedd gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb ynddynt? Er eu bod yn dechnegol eu natur, Llywydd, nod y rheoliadau yw darparu casgliad o ofynion sy'n gyson, clir a theg y gall trethdalwyr eu dilyn er mwyn nodi pryd y bydd y gyfradd dreth is yn gymwys ar gyfer cymysgeddau o fân ddeunyddiau, a hefyd wrth benderfynu ar eu hawl i gredyd ansolfedd cwsmeriaid. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo y gallan nhw eu cefnogi y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6628 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Edrychaf ymlaen at drafod y rheoliadau hyn, a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig i wella ansawdd aer a lleihau llygredd diwydiannol.
Yn y ddadl ar ansawdd aer ar 5 Rhagfyr, amlinellais ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau i ansawdd yr aer yng Nghymru. Yn ystod y ddadl hon, eglurais y camau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n hamgylchedd.
Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn gweithredu'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig, gan helpu i fynd i'r afael â'r her ansawdd aer drwy ymestyn a chryfhau ein rheolaethau presennol ar allyriadau sylweddau llygru i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi. Defnyddir gweithfeydd hylosgi canolig â chapasiti rhwng 1MW thermol a 50MW thermol ar gyfer amrywiaeth eang o weithrediadau. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchu gwres ar gyfer adeiladau mawr megis swyddfeydd, gwestai, ysbytai ac ysgolion, a darparu gwres a stêm ar gyfer prosesau diwydiannol a chynhyrchu trydan.
Bydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn rhoi grym i derfynau uchaf y Gyfarwyddeb ar allyriadau nitradau ocsid, sylffwr deuocsid a gronynnau i'r atmosffer o weithfeydd hylosgi canolig. Mae'r rhain yn llygryddion atmosfferig allweddol. Mae gweithfeydd â capasiti thermol dros 20MW eisoes yn destun rheolaethau amgylcheddol o dan ein cyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, gan gynnwys y gofyniad bod y technegau gorau sydd ar gael yn cael eu rhoi ar waith i atal llygredd ac na achosir llygredd sylweddol. Mae'r rheolaethau hyn yn parhau i fod ar waith ochr yn ochr â'r gofynion a weithredir o'r newydd drwy'r Gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig.
Bydd y rheoliadau hefyd yn cyflwyno rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu i fynd i'r afael â llygredd o weithfeydd hylosgi sy'n is na 50MW thermol a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld twf sylweddol yn niferoedd y gweithfeydd hylosgi sy'n llosgi diesel i gynhyrchu trydan yn ystod cyfnodau byr o alw uchel. Gall y gweithfeydd hyn gynhyrchu dros chwe gwaith mwy o nitrogenau ocsid na'r dewisiadau amgen sy'n llosgi nwy. Mae angen y rheolaethau a gaiff eu cyflwyno gan y rheoliadau er mwyn sicrhau nad yw'r gweithfeydd cynhyrchu trydan hyn yn effeithio ar ansawdd yr aer ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd sy'n weithredol gael trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y trwyddedau yn nodi'r gofynion gweithredu manwl sydd eu hangen i sicrhau bod ansawdd yr aer yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys gwerthoedd terfyn ar gyfer allyriadau llygryddion allweddol, gofynion monitro a rhwymedigaethau adrodd. Bydd y gofynion hyn yn cael eu gweinyddu a'u gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru am oes pob trwydded, ac ysgwyddir costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno trwydded a gwirio cydymffurfiad gan y gweithredwr o dan y darpariaethau adennill costau presennol ar gyfer trwyddedu amgylcheddol.
Gofynnaf am eich cefnogaeth heddiw ar gyfer gweithredu Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Bydd rhwymedigaethau'r gyfarwyddeb, a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, ynghyd â'r rheolaethau ychwanegol wedi eu targedu ar weithfeydd sy'n cynhyrchu trydan, yn gwneud cyfraniad pwysig at wella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn unol â nodau llesiant Llywodraeth Cymru a'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.
Diolch i'r Gweinidog am egluro'r angen ar gyfer y rheoliadau hyn. Rydym ni yn cefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, a chyfres o reoliadau ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr yw'r rhain, wrth gwrs, mewn ymateb i gyfarwyddeb yr UE.
Mae gennyf i un neu ddau gwestiwn, os caf i. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n croesawu hyn, bod y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn cael eu trosi yn hwyr, a'r tu hwnt i'r amserlen a nodwyd gan yr UE, sydd, yn fy marn i, yn sefyllfa anffodus, a hoffwn i ddeall sut y digwyddodd hyn? Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw eu bod, fel y deallaf y rheoliadau hyn, bellach yn cynnwys rhai o weithfeydd pŵer y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw, nad oedden nhw wedi'u cynnwys o dan gyfarwyddebau fel hyn yn y gorffennol. Mae hwn yn gam pwysig iawn o ran cynnal ansawdd aer da a gwell ansawdd aer yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod y goblygiadau i iechyd y cyhoedd oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym mewn llawer o fannau yng Nghymru.
Mae'r broses drwyddedu, fodd bynnag, o'r hyn rwy'n ei ddeall, hefyd yn caniatáu i'r gweithfeydd hŷn, felly, mewn gwirionedd, y rhai sy'n llygru fwyaf, gael mwy o amser i wella'n ddigonol. A hoffwn i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth orau yr ydym ni'n ei chael a gwaith gorau Cyfoeth Naturiol Cymru i geisio cyflymu'r broses honno mewn gwirionedd. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, bron fel y dylem ni ei wneud y ffordd arall, yn hytrach na rhoi mwy o amser i'r gweithfeydd hŷn. Efallai fod materion yn y fan yma yn ymwneud â chostau ac effeithiolrwydd, ond dyma'r rhai sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu at yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Hannah Blythyn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad yn y ddadl hon? Roedd eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â throsi'r gyfarwyddeb gweithfeydd hylosgi canolig yn hwyr. Mae'r oedi o ran trosi wedi ei achosi gan yr oedi wrth gwblhau elfennau o'r rheoliadau sy'n ymwneud â chydadwaith â rheolaethau amgylcheddol diwydiannol presennol. Ar ôl i'r rheoliadau gael eu cwblhau roedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy gyfnod tri mis o hysbysu i'r Comisiwn Ewropeaidd, ac nid oedd yn bosibl symud ymlaen â'r rheoliadau yn y cyfnod hwnnw. Daeth y cyfnod hysbysu i ben ar 8 Rhagfyr, a chyflwynwyd y rheoliadau gerbron y Cynulliad y diwrnod gwaith canlynol gennym ni, sef 11 Rhagfyr. Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno yn y Senedd ar yr un diwrnod. Rwy'n siŵr na fydd yr oedi o ran y trosi yn effeithio ar gyflwyno gofynion y gyfarwyddeb yn brydlon, ac mae'n rhaid cymhwyso'r cyntaf ohonyn nhw erbyn 20 Rhagfyr eleni.
O ran y dull cyflwyno graddol ar gyfer rhai o'r gweithfeydd hŷn, sef nifer fawr o'r gweithfeydd hylosgi hyn yr effeithir arnynt—hyd at 30,000 yng Nghymru a Lloegr—mewn llawer o achosion ni fydd gweithredwyr y gweithfeydd hyn wedi dod ar draws y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, felly mae angen codi ymwybyddiaeth a rhoi amser i'r trwyddedu hwnnw ddigwydd. Bydd y cyfnod cyflwyno graddol, gobeithir, hefyd yn helpu i annog cwmnïau i fuddsoddi mewn technoleg newydd, lanach yn hytrach nag ôl-ffitio hen weithfeydd gyda chyfarpar lleihau llygredd.
Diolch unwaith eto am eich cyfraniad. Mae hwn yn welliant technegol iawn yn y ddadl heddiw, ond mae'n un pwysig gan ei fod yn ein helpu ni i weithio tuag at ein huchelgeisiau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i wneud y cynnig. Dafydd Elis-Thomas.
Cynnig NDM6627 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru—National Museum Wales.
2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff.
3. Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hi'n fraint ac yn bleser arbennig i mi i agor trafodaeth ar fater o fewn fy nghyfrifoldebau diwylliannol, ac wrth wneud hynny, defnyddio amser y Llywodraeth yn y Cynulliad i ddathlu datblygiad ein sefydliadau diwylliannol pwysig, a hefyd i roi cyfle i Aelodau Cynulliad ac i'r cyhoedd, yn dilyn cyhoeddi yr adroddiad, i drafod ei gynnwys ymhellach, a helpu ni yn y broses, fel Llywodraeth, o gydweithio â'r amgueddfa yn cryfhau ein sefydliadau cenedlaethol.
Mae sefydliadau cenedlaethol sy'n ymwneud â threftadaeth a hanes yn sefydliadau ble mae, heb siarad yn rhy genedlaetholgar na rhamantaidd, curiad y galon i'w glywed, oherwydd y mae'r sefydliadau yma yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr â Chymru, ac yn cynnig ymdeimlad o falchder mewn lle i gymunedau Cymru. Maen nhw'n sefydliadau sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i groesawu newydd-ddyfodiaid i esbonio hanes a dyheadau pobl Cymru dros y canrifoedd, a hefyd i gynnig ar yr un pryd brofiadau o hanes a thystiolaeth i bawb o bob cenhedlaeth.
Mae gan Amgueddfa Cymru, fel y gwyddoch chi, saith o leoliadau ledled Cymru, ac mae'r sefydliadau yma yn rhan allweddol o'r gwaith o ddarparu profiadau diwylliannol ar garreg drws pobl bron, fel petai, a'r gwaith o ddarparu profiadau sydd ar yr un pryd yn gofalu am dreftadaeth. Ar wahân i bedwar ymweliad â Llandudno, y lle rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o amser ynddo fo o ran un lleoliad ers imi gael y swydd yma yw Sain Ffagan, ac mae'r cyfle i ailymweld â'r lle yna yn weddol aml yn ddiweddar wedi helpu imi sylweddoli gymaint o ddatblygiad ac ailddatblygiad sydd wedi ei wneud, gan gefnogi buddsoddiad o dros £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fe ges i argraff gref iawn o'r cyfleusterau newydd yna, ac mae'n amlwg bod yna hanes hir o waith caled a chwbl ymroddedig gan bawb o'r uned adeiladau hanesyddol grefftus iawn sydd yno, drwodd i'r cyfarwyddwr cyffredinol a'r holl staff sydd mor frwd.
Ond, wrth gwrs, fe fu yna yn hanes y sefydliad yna, fel ym mhob sefydliad, broblemau ac mae yna o hyd heriadau. Mewn ymateb i heriadau ac ar gais gan Amgueddfa Cymru ei hun, comisiynodd fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi a Seilwaith, Ken Skates, yr adolygiad annibynnol yma rydym yn ei drafod heddiw yn 2016. A'r awydd oedd i geisio darganfod ffordd y gallai Llywodraeth Cymru a'r amgueddfa gydweithio yn fwy effeithiol.
Rwy'n ddiolchgar i Dr Simon Thurley—rwy'n gyfarwydd â'i waith o yn English Heritage ers blynyddoedd. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y cyfrifoldeb gymerodd o am yr adolygiad, a'r modd darllenadwy y cafodd o ei ysgrifennu—yn wir, anarferol o ddarllenadwy yn fy mhrofiad i o ddarllen adroddiadau cyhoeddus, hyd yn oed ym maes diwylliant. Mae'r adroddiad wedi llwyddo i bwyso a mesur y cryfderau a'r gwendidau, i nodi'r problemau, i ystyried cyfleoedd a chyflwyno syniadau i ni am sut y gall yr amgueddfa symud ymlaen mewn nifer o'r meysydd yma.
Fel y gwelwch chi o ddarllen yr adroddiad, mae yna 17 o argymhellion. Nid wyf am drafod pob un yn unigol, ond mi groesawaf sylwadau fan hyn ar lafar neu yn uniongyrchol eto.
Rydw i’n credu bod yna dri phrif faes o argymhellion ac fe geisiaf i gyfeirio at y rhain yn eu tro. Maen nhw’n cynnwys yr angen i'r amgueddfa greu mwy o incwm er mwyn gwella cynaliadwyedd a lleihau’r ddibyniaeth sylweddol iawn ar arian cyhoeddus, datblygu a gwella cysylltiadau, yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, a datblygu’r cynnig dehongli yn yr amgueddfeydd ar draws y sefydliad cyfan.
Mae sawl argymhelliad yn nodi bod angen i Amgueddfa Cymru weithio’n wahanol er mwyn manteisio’n llawn ar ei photensial i greu incwm. Rydw i’n deall nad ydy’n hawdd i sefydliad mawr a chymhleth newid ei fodel busnes, ond mae'n bwysig fod hynny yn digwydd, ac, yn y trafodaethau sylweddol rydw i wedi'u cael yn barod efo Amgueddfa Cymru, mae'n amlwg fod yna barodrwydd i dderbyn a chofleidio'r angen am newid.
Yn ogystal â hynny, mae’r amgueddfa bellach yn rhan o bartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi y cydweithrediad rhwng gwahanol agweddau o waith treftadaeth, yn arbennig gwaith Cadw, sydd yn parhau—fel y byddwch chi'n cofio o ddatganiad blaenorol y gwnes i yma—yn rhan o'r Llywodraeth o hyd, er gyda mwy o annibyniaeth ar gyfer ei waith a'i reolaeth. Felly, rydw i'n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach yn y bartneriaeth a chydweithio closiach rhwng y sefydliadau ym mhartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd yr undebau i gymryd rhan yn y trafodaethau, a'r sicrwydd y medraf i ei roi yma'n gyhoeddus bod safbwyntiau staff yn rhan hanfodol o’r broses o wneud penderfyniadau.
Mae gan Amgueddfa Cymru gyfle da i ystyried y gwelliant rhagorol a wnaed gan Cadw o ran creu incwm, ac i ddysgu gwersi perthnasol. Er bod angen talu i gael mynediad i lawer o safleoedd Cadw, mae'r adroddiad yma'n cyfeirio at sefydliadau cenedlaethol eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig mynediad am ddim i’w horielau parhaol ond hefyd yn codi tâl i weld arddangosfeydd arbennig a chael gwasanaethau ychwanegol. Felly, fe garwn i bwysleisio fod Amgueddfa Cymru yn ystyried cyfleoedd eraill hefyd, gan gynnwys gwasanaethau parcio ceir a bysiau, gwella’r cynnig arlwyo, edrych ar yr oriau agor ac ystyried a fyddai’n bosibl i rai safleoedd agor ar adegau penodol.
Mae'r argymhelliad sydd wedi cael ei wneud yn yr adroddiad yma hefyd, yn allweddol iawn, yn argymell penodi cyfarwyddwr masnachol profiadol. Mae’r Amgueddfa yn ei thrafodaethau, yn sicr efo fi, wedi derbyn y syniad yna yn llawen, oherwydd y byddai'r sgiliau a fyddai'n cael eu cynnig gan benodiad fel yna yn hyrwyddo newid a gwelliant ar draws y sefydliad.
A gaf i gyfeirio yma eto at lwyddiant arbennig Sain Ffagan? Mae'r amgueddfa wedi codi dros £30 miliwn i roi’r prosiectau newydd yn Sain Ffagan ar waith. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid yma wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ond mae gweddill yr arian—sy’n swm sylweddol—wedi’i godi diolch i waith dygn ymddiriedolwyr a staff yr amgueddfa. Mae’r arian yma wedi dod o ffynonellau amrywiol, sy’n dangos bod yr amgueddfa yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau. Er bod y broses hon wedi llwyddo, mae’n bwysig fy mod i'n cydnabod yma heddiw ei bod hi wedi cymryd cryn amser ac ymdrech a fy mod i'n gwerthfawrogi hynny.
Fe fydd angen sicrhau cydbwysedd o hyd rhwng ein polisi hynod lwyddiannus, sydd wedi’i hen ymsefydlu, o gynnig mynediad am ddim a’r angen i fod yn fwy masnachol. Rydw i'n awyddus i glywed barn Aelodau ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau'r cydbwysedd yna.
Mae'r ail gyfres o argymhellion y cyfeiriais i atyn nhw gan Dr Simon Thurley yn ymwneud â chysylltiadau, yn enwedig y cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru â'r amgueddfa. Mae'r adroddiad yn codi pryderon ynglŷn â’r hyn y mae’n ei ystyried yn lefel ddiangen o reolaeth. Rydw i'n deall y pryderon yna, ac, fel un sydd wedi ymwneud â nifer o sefydliadau cyhoeddus dros y blynyddoedd, rydw i’n meddwl ei bod hi yn bwysig ar yr un pryd i gael prosesau craffu llymach ar sefydliadau ac ar wariant, yn ogystal ag i sicrhau bod modd, wrth wneud hynny hefyd, edrych ar sefydliadau eraill o fewn y Deyrnas Unedig sydd yn fodlon manteisio ar bosibiliadau o greu incwm ychwanegol. Nid oes gwrthwynebiad mewn egwyddor i’r incwm ychwanegol yma gael ei greu, cyhyd â bod hynny’n gallu eistedd gydag egwyddor sylfaenol mynediad di-dâl yn gyffredinol i’r sefydliadau.
Rydw i’n gobeithio felly y bydd yr argymhellion yma yn cael eu hystyried ymhellach ac rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth lawnach ar hynny yn y fan yma. Ond fe garwn i ddweud un peth cyn i mi gloi'r sylwadau agoriadol yma. Mae yna gyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad, a oedd yn ddarllen poenus iawn i mi, ynglŷn â thorri lawr mewn perthynas rhwng timau uwch reoli a’r undebau’n cynrychioli'r gweithlu. Yn amlwg, nid yw hwn yn sefyllfa iach i unrhyw gorff cyhoeddus nag yn wir i gwmni masnachol na phartneriaeth fod ynddi hi. Ond nid ydw i am wneud unrhyw sylwadau penodol ar faterion rheolaeth yma heddiw. Ni fyddai hynny’n briodol. Rydw i’n parchu’r egwyddor hyd braich mewn sefydliadau diwylliannol ac rydw i’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’r pellter hwnnw er mwyn gallu bod yn effeithiol yn y gwaith o graffu ar gyrff cyhoeddus yr ydym ni’n eu cyllido. Rwy’n annog cydweithrediad, gan gynnwys gwasanaethau cyflafareddi gan Acas ac eraill os oes angen, a hefyd yn y sefyllfa yna gobeithio y gallwn ni hyderu na fyddwn ni’n syrthio i hanes eto a fydd yn ailadrodd anghytundeb a methu cyd-ddeall.
Mae’r trydydd maes yr ydw i wedi cyfeirio ato yn y sylwadau agoriadol yma yn cyfleu’n arbennig y pwysigrwydd o ddatblygu cynnig arbennig yr amgueddfeydd. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y sylwadau manwl a gofalus sydd wedi cael eu gwneud ar yr holl leoliadau, ond yn arbennig ar Amgueddfa Lechi Cymru, amgueddfa sydd yn annwyl iawn yn fy nhyb i, wrth gwrs, oherwydd y cysylltiad teuluol â’r diwydiant, a hefyd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, y ces i’r pleser pur o ymweld â hi yng Nghaerllion ddoe. Eto, mae enghraifft Sain Ffagan o’m mlaen i, ac mae hynny’n dangos sut y gall yr amgueddfeydd llai yma fanteisio ar brofiad Sain Ffagan a phrofiad Cadw i ddatblygu eu cynnig, gan ddangos yn glir nad corff sydd yn aros yn llonydd yw amgueddfa ond corff sydd yn parhau i dyfu fel y mae’r ddealltwriaeth o hanes y genedl yn tyfu.
Fel rydw i’n dweud, rydw i wedi cyfarfod swyddogion yr amgueddfa sawl tro i drafod yr adroddiad yma a’r argymhellion, ac rwy’n parhau i edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw, ac rydw i’n awyddus prynhawn yma, ac ar ôl heddiw hefyd, i glywed eich cyfraniad chi fel y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ein sefydliadau cenedlaethol yn y broses o’i diwygio nhw. Diolch yn fawr i chi am eich gwrandawiad.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ddod â’r adolygiad i’r Siambr heddiw?
Mae'n adolygiad eithaf bachog, rwy'n credu, er bod angen ystyried ei argymhellion, rwy'n credu, ochr yn ochr â chasgliadau'r grŵp dan gadeiryddiaeth Justin Albert ynglŷn â ffurf bosibl Cymru Hanesyddol ac, wrth gwrs, eich penderfyniad diweddar y byddai Cadw yn parhau yn gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth. Hoffwn siarad yn fyr iawn am y rhan honno o'r adroddiad sy'n cyfeirio at yr anghydfod diwydiannol a effeithiodd ar weithgareddau yn ystod hanes diweddar yr amgueddfa. Nid wyf eisiau pendroni'n ormodol yn ei gylch, ond rwy'n tueddu i gytuno nad yw hwn yn fater i'r Llywodraeth ymyrryd yn uniongyrchol ag ef, o ran cysylltiadau diwydiannol corff anllywodraethol. Ond credaf ei bod hi'n briodol i'r ddwy ochr hysbysu'r Aelodau Cynulliad o'u barn, gan fod pawb sy'n ymwneud â hyn yn etholwr i rywun, ac fe allwn ni, eu cynrychiolwyr, ddwyn sylw at y safbwyntiau hynny i'r graddau y maen nhw'n dwyn pwysau. Ond nid yw hynny yn gyfystyr â'r Weithrediaeth yn ymyrryd a dylanwadu arnynt.
Ni allaf ddweud mewn gwirionedd a yw Dr Thurley wedi cynrychioli'r berthynas rhwng staff, rheolwyr a hyd yn oed y Llywodraeth yn ddigonol neu yn gywir. Ond ni chredaf ei bod yn ddewis rhwng naill ai yr angen i foderneiddio'r amgueddfa genedlaethol mewn modd realistig neu roi'r gydnabyddiaeth briodol i arbenigedd, ymrwymiad a hyblygrwydd staff ar y llall. Mae'r ffaith bod hyn wedi codi yn enghraifft o thema sydd wedi deillio o'r trafodaethau am yr amgueddfa yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. A'r mater hwnnw yw swyddogaeth y Llywodraeth a'i pherthynas ag annibyniaeth yr amgueddfa.
O ran manylder y craffu diweddar, nid yn lleiaf yn yr adroddiad hwn, roedd yn rhaid i'r amgueddfa wynebu beirniadaeth am ei gallu i reoli pryderon y gweithlu yn briodol, ac, wrth gwrs, reoli'r newidiadau yn ei hamgylchiadau ariannol a'r cymorth ariannol y mae'n ei gael. Nawr, o'm rhan i fy hun, mae a wnelo hynny â bylchau mewn sgiliau rheoli y gellir ac y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw, ac nid yw'n rheswm i'r Llywodraeth ymyrryd yn llechwraidd ag annibynniaeth yr amgueddfa.
Roedd y posibilrwydd hwnnw ar y gorwel o gyfuno swyddogaethau masnachol gyda Llywodraeth Cymru yn brosiect llwyddiannus iawn o ran bod yn gyfrwng i'r amgueddfa allu gweld a dechrau cynllunio i oresgyn ei diffygion, yn enwedig yng nghyswllt ei gweithgareddau masnachol, a manteisio ar y gweithgareddau masnachol posib hynny sydd wrth wraidd adolygiad Thurley, wedi'r cyfan. Nawr, does gennyf ddim problem o gwbl gyda'r amgueddfa yn cydweithio gyda Cadw i wella cyfleoedd masnachol, neu, yn wir, unrhyw gyfleoedd eraill, ond dim ond un berthynas yw honno a fydd yn gwella ei rhagolygon.
Ac rwyf eisiau bod yn glir, gan ein bod wedi cael cadarnhad y bydd Cadw yn parhau'n gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth, na allaf weld fy mhlaid yn cefnogi unrhyw integreiddio agosach rhwng y ddau gorff. Er y dylai pob un gydweithio er budd y naill a'r llall—. Mewn gwirionedd, mae Cadw a Croeso Cymru wedi cael eu crybwyll yn yr adolygiad hwn ac yn adroddiad Justin Albert. Un peth yw hynny, ond rwy'n wirioneddol gredu bod angen i'r Llywodraeth gadw hyd braich oddi wrth unrhyw beth sy'n rhoi'r arlliw lleiaf o ymyrraeth weithredol, neu hyd yn oed o'r elfennau hynny o strategaeth yr amgueddfa nad ydyn nhw'n berthnasol i'r llythyr cylch gwaith neu i'r ffrydiau gwaith ar y cyd.
Roedd yr adolygiad yn afieithus iawn ynglŷn â chynnig presennol yr amgueddfa a hyd yn oed yn fwy afieithus ynghylch y cynnig posib, a chredaf y byddai'n anodd anghytuno â hynny. Ers ei deffroad sydyn, mae'r amgueddfa eisoes wedi codi £10.3 miliwn drwy incwm a enillir—bron ddwywaith gymaint ag unrhyw sefydliad diwylliannol cenedlaethol arall—a thorri'r ddibyniaeth ar incwm Llywodraeth i ddwy ran o dair mewn dim ond blwyddyn, felly mae modd iddi wneud hynny. Ac mae hi bellach yn chwilio'n eiddgar am gyfarwyddwr masnachol, er efallai yr hoffai roi ystyriaeth eto i arbenigedd ynglŷn â chysylltiadau staff.
Gweinidog, rwyf bob amser braidd yn amheus ynghylch gwneud cymariaethau â sefydliadau yn Llundain pan rydym yn sôn am ariannu ein cynigion o ran ein diwylliant a'n treftadaeth. Ond gobeithio y bydd y cyfarwyddwr masnachol newydd yn ystyried hyd yn oed y syniadau mwyaf dadleuol a gyflwynwyd gan Thurley, dim ond i gnoi cil drostyn nhw ac i ystyried mewn difrif a oes unrhyw beth y gall Cymru ei ddysgu oddi wrthynt. Byddwn yn dweud, o du'r Ceidwadwyr Cymreig, ein bod ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol o ganiatáu mynediad am ddim i gasgliadau craidd, ond rydym hefyd yn cefnogi'r egwyddor o godi tâl am weld arddangosfeydd neilltuol os yw'r amgueddfa yn dewis gwneud hynny, gan fod tystiolaeth yn dangos bod y ddwy ffordd yn gweithio i ddenu ymwelwyr, a chredaf y gellir goresgyn rhai agweddau ar hynny drwy gael hyblygrwydd mewn cynlluniau codi tâl, er enghraifft. Ond dylai'r penderfyniad i godi tâl fod yn un i'r amgueddfa ac nid i'r Llywodraeth, ac ni ddylai'r naill gorff na'r llall ddefnyddio hynny i ddadlau am doriadau neu am arian ychwanegol o'r pwrs cyhoeddus.
Gweinidog, rydych wedi dweud llawer iawn ynglŷn â'r hyn sy'n drawiadol am yr amgueddfa eisoes. Roeddwn i eisiau gwneud sylw ynghylch rhywbeth y dywedodd Dr Thurley am newidiadau i rai o'r safleoedd a lle y gellid gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i incwm posib yr amgueddfa, ond cydlyniad y stori, ac rwy'n credu bod honno'n stori y mae angen i'r amgueddfa benderfynu arni, ac nid y Llywodraeth, ac nid, yn wir, Thurley. Dyma pam mae annibyniaeth fasnachol yn hanfodol i'r amgueddfa a'i gallu i osod mwy o flaenoriaethau iddi hi ei hun. Nid yw hynny'n lleihau pwysigrwydd llythyr cylch gwaith y Llywodraeth a'i blaenoriaethau, ac, wrth gwrs, y cyllid, sy'n ddibynol, i raddau, ar fodloni'r blaenoriaethau hynny. Ond mae angen iddi fod yn rhydd i chwyddo ei chyllid y tu hwnt i'r berthynas â'r Llywodraeth heb y risg mai toriadau i gefnogaeth gyhoeddus yw'r prif reswm dros bennu blaenoriaethau. Diolch.
Mae'n bleser gen i hefyd i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adolygiad Thurley. Fel y mae Suzy wedi cyfeirio, wrth gwrs, mae hyn yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, ac, wrth gwrs, y hanes trwblus, braidd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nawr, wrth gwrs, rydym ni yn falch iawn o amgueddfa Cymru. Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan siarter frenhinol nôl yn 1907. Hyrwyddo addysg y cyhoedd oedd bwriad y siarter ac mae’n wir i ddweud bod yr amgueddfa wedi cyflawni hynny, yn glodwiw, dros y blynyddoedd. Addysgu’r byd am Gymru ac addysgu’r Cymry am yr hen wlad oedd un o’r gosodiadau gwreiddiol o 1912. Hynny yw, addysgu’r byd am Gymru ac addysgu pobl Cymru am eu gwlad eu hunain. Mae pobl yn dal i ddarganfod pethau am eu gwlad eu hunain—pobl sydd wedi byw yma erioed yn dweud, 'Wel, jiw, I never knew that.' Dyna beth ydy pwysigrwydd ymweld â gwahanol safleoedd amgueddfa genedlaethol Cymru. Mae yna ffeithiau hanesyddol ac ati sy'n parhau i'ch synnu chi am yr hen wlad yma.
Yn y dyddiau du yna cyn datganoli, roedd yr amgueddfa genedlaethol yn biler o ysbrydoliaeth ac o Gymreictod cadarn ac yn oleuni llachar yn cynrychioli Cymru pan nad oedd strwythurau tebyg i fynegi ein cenedligrwydd, ein hanes a'n traddodiadau, a rhoi asgwrn cefn i bob cenedlaetholwr o fri. Dyna bwysigrwydd annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol: i ddweud stori Cymru heb gael ei handwyo gan unrhyw ddylanwadau o'r tu allan, ac felly'n annibynnol, gyfan gwbl, o unrhyw Lywodraeth. Fel rydym ni wedi clywed, rydym ni wedi cael yr holl drafodaethau ynglŷn â Cymru Hanesyddol, gyda'r bwriad gwreiddiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet o geisio uno ein sefydliadau celfyddydol. Gwych o beth bod y syniad gwirion, hurt yna wedi mynd o'r agenda erbyn hyn, ond byddai cadarnhad nad oes bwriad i uno'n sefydliadau cenedlaethol celfyddydol yn arwydd clir, eto, fod Llywodraeth Cymru yn cymryd annibyniaeth y sector o ddifrif.
A throi at elfen arall, mae ariannu yn allweddol bwysig. Ers 2012, bu toriadau sylweddol yng nghyllid Amgueddfa Cymru o tua 11 y cant. Esgorodd hyn ar ddadl rhwng yr amgueddfa ac undebau—rydym ni wedi clywed amdani hi droeon—ynglŷn â chyflogau, tâl, telerau, a bu streicio. Bu yn amser anodd, du. Nid ydym ni eisio mynd nôl i fanna chwaith, ond, yn rhannol, roedd hynny achos toriadau ariannol. Rydym ni wedi clywed hefyd am y llwyddiannau masnachol diweddar gan yr amgueddfa a hefyd dylid cydnabod cytundeb rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru y bydd yr amgueddfa yn derbyn hwb ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddai'n dda derbyn sicrwydd gan y Gweinidog y prynhawn yma am sicrwydd ariannol i'r dyfodol ar ôl hynny i Amgueddfa Cymru.
Mae adroddiad Thurley yn taro nodyn cadarnhaol, fel mae Suzy wedi cyfeirio ato, gyda chanmoliaeth i safon yr amgueddfa genedlaethol ac ansawdd ac ymroddiad y gwaith a wneir gan y staff. Ond, wrth gwrs, mae yna rhai llefydd i wella hefyd, fel sydd wedi cael ei nodi, ac mae'r rheini hefyd yn yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o amgueddfeydd mawr Prydain. Nid mater cul, Cymreig yn unig sydd gyda ni yn fan hyn, achos, ac rydw i'n dyfynnu o'r adroddiad,
'Yn ei chasgliadau, yn arbenigedd a gwybodaeth ei staff, yn ei chefnogaeth i ddatblygiad cymdeithasol a chymunedol ac yn ei chyfraniad i wybodaeth am hanes a diwylliant Cymru, mae wedi cyflawni’n eithriadol.'
'Clywch, clywch', ddywedwn i. Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysbrydoli cenedlaetholwyr heddiw, ac yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn yr hyn sydd yn fy marn i yn ddadl bwysig iawn heddiw. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy wneud tri datganiad nad ydyn nhw, yn fy marn i, yn ddadleuol: mae amgueddfeydd yn asedau pwysig i'n cymunedau; mae amgueddfeydd cenedlaethol yn bwysig iawn i bob gwlad, ac nid yw Cymru'n eithriad; i'w gwneud yn llwyddiannus, mae angen inni gael staff ymroddgar sydd ar gyflogau da ac sydd wedi ymrwymo i wasanaeth Amgueddfa Cymru.
Rydym wedi trafod pwy ddylai ei rheoli, ond a gaf i ofyn y cwestiwn hwn? Nid wyf yn gwybod beth yw dosbarthiad OCS amgueddfeydd Cymru. Byddwn yn disgwyl eu gweld wedi eu rhestru o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Cywirwch fi ar bob cyfrif os mynnwch chi. Credaf petai nhw'n fusnesau, y byddent yn cael eu disgrifio'n is-gwmnïau sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf i dderbyn ymyriad.
Holl ddiben strwythur yr amgueddfa, fel y clywsom ni yn gynharach, yw bod ei hanes yn seiliedig i raddau helaeth ar ei hannibyniaeth ei hunan, wedi ei warantu yn achos y— [Torri ar draws.] Wedi ei warantu gan y siarter frenhinol pan gafodd ei sefydlu. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cynnal ei strwythur annibynnol, yn union fel mae cyngor y celfyddydau yn cadw strwythur annibynnol drwy'r model hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ar y model hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Credaf fod peth dryswch yma rhwng y ddau ohonom. Roeddwn i'n siarad mewn termau ariannol. Gofynnaf y cwestiwn hwn: petai Llywodraeth Cymru yn terfynu'r cyllid yfory, a fyddai'r amgueddfeydd yn parhau, neu a fydden nhw'n cael eu gorfodi i gau eu drysau? Os ydyn nhw'n dibynnu'n llwyr, neu'n dibynnu’n sylweddol, ar Lywodraeth Cymru yn weithredol, mae'r OCS rwy'n siŵr yn eu dosbarthu'n gyrff o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Un o'r pethau yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn drwy gydol fy amser yn y Cynulliad yw contractau camfanteisiol: contractau dim oriau, contractau hyblyg oriau bychain, oriau blynyddol, staff asiantaeth—nid oes diwedd ar ffyrdd o drin pobl yn wael. Rwy'n credu hefyd y dylid talu'r cyflog byw i bawb. Mae staff yr amgueddfa yn haeddu peidio â bod ar drugaredd yr arferion cyflogaeth hyn. Rwy'n falch bod Mr Thurley yn cydnabod ansawdd uchel safleoedd yr amgueddfa ac effaith llawer ohonyn nhw ar eu cymunedau, o ran presenoldeb amgueddfa yn yr ardal a darparu ffynhonnell reolaidd o waith mewn ardaloedd lle mae gwaith yn aml yn brin.
Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd wedi bod yn bolisi hirhoedlog gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Peidiwch ag eithrio pobl rhag dysgu am eu hanes oherwydd pris. O ran codi tâl, nid wyf yn gwrthwynebu codi tâl am arddangosfeydd penodol, gydag amodau bod yn rhaid i unrhyw beth sy'n ymwneud â Chymru fod yn rhad ac am ddim. Nid wyf yn credu y dylai pobl Cymru orfod talu i weld eu hanes eu hunain. Hefyd, ni ddylai fod yn ffordd lechwraidd o godi tâl am fynd i mewn i'r amgueddfa. Credaf fod yr adroddiad yn gywir yn yr adran olaf sy'n rhoi sylw i'r angen am sefydlogrwydd ariannol i'r amgueddfa ac eglurder ynglŷn â'i sefyllfa ariannu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at y meysydd a amlinellwyd, rwyf hefyd yn ychwanegu bod yr amgueddfa yn dal wrthi'n trafod cynnig tâl 2017-19 gyda'r undebau llafur. Mae angen i unrhyw setliad ariannol ystyried y costau sy'n gysylltiedig â hyn a sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y dyfodol.
Mae'r amgueddfa mewn adeg dyngedfennol lle gall symud ymlaen gyda model wedi'i ariannu'n dda sy'n ceisio trafod â'i staff a'u hundebau llafur cydnabyddedig, a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf gan bobl broffesiynol a brwdfrydig, sy'n gallu cyflawni ar gyfer cymunedau a phobl Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp llywio Cymru Hanesyddol wedi datblygu syniadau a rhaglenni y mae'n gobeithio y byddant yn adeiladu ac yn datblygu model o'r fath, sy'n cynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig yn y broses. Credaf y dylid ystyried unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn ac na ddylai'r adroddiad fod yn faen tramgwydd i'r gwaith. Credaf ei bod yn bwysig, ac rwy'n mawr obeithio, er lles dyfodol y staff a'r sector diwylliannol yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru a rheolwyr yr amgueddfa yn ystyried y dewis hwnnw fel ffordd o'i ddatblygu.
Os caf i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n sôn yn gynharach amdano ynglŷn â'r agwedd ariannol, hwyrach fod gennych chi pa reolau bynnag sydd gennych chi, a pha siarteri bynnag sydd gennych chi, ond o ble mae'r arian yn dod? Mae yna lawer o sefydliadau ledled Cymru—maen nhw eisiau arian gan y sector cyhoeddus, ond maen nhw eisiau rhedeg eu sefydliadau fel petaen nhw'n rhan o'r sector preifat. Dyna un o'r pethau—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, ie.
Credaf mai rhan o bwrpas adolygiad Thurley oedd gweld sut y gallai'r sector amgueddfeydd—wel, yn sicr sector yr amgueddfa genedlaethol yn ei chyfanrwydd—godi mwy o incwm fel y byddai'r cydbwysedd hwnnw rhwng cyllid cyhoeddus a chyllid nad yw'n gyllid y Llywodraeth yn newid.
Nid oes gennyf broblem gyda sefydliadau yn codi arian. Y pwynt rwy'n ceisio'i gyfleu—ac rwy'n amlwg yn methu â gwneud hyny—yw bod y sefydliadau hyn yn gyfan gwbl ddibynnol ar arian y Llywodraeth. Os yw'r Llywodraeth yn diddymu'r arian hwn, mae'r sefydliadau hyn yn cau. Mae hynny'n allweddol i hyn. Felly, ni allant smalio eu bod nhw'n sefydliadau sector preifat er eu budd eu hunain. Maen nhw'n dibynnu ar arian y Llywodraeth, maen nhw'n dibynnu ar y sector cyhoeddus, maen nhw'n dibynnu ar arian gan drethdalwyr Cymru, ac, fel y cyfryw, fe ddylen nhw fod yn atebol iddynt.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf eto wedi cael unrhyw gyswllt ffurfiol gyda'r Gweinidog newydd, naill ai yn y Siambr nac mewn Pwyllgor, felly hoffwn ei groesawu i'w swydd newydd yn swyddogol. Credaf ein bod ni i gyd yn teimlo, yn sicr yn yr adran hon o'r Siambr—ac wrth hynny rwy'n golygu seddi UKIP—ei fod yn argoeli'n addawol iawn, ac rwy'n credu y gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i dîm gweinidogol y Llywodraeth. Rwyf yn sicr yn rhagweld dyfodol disglair iddo yn y Llywodraeth.
Ymlaen i faterion heddiw. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y cyfranwyr eraill, ond rwyf eisiau mynd ychydig ymhellach nag adolygiad Thurley a chyflwyno syniad mwy dadleuol. Rwy'n sylweddoli y bu gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i'r egwyddor o fynediad am ddim i rwydwaith yr amgueddfa genedlaethol. Nid wyf eisiau cyfyngu ar fynediad pobl yn ormodol i'r amgueddfeydd hyn, ond credaf fod modd ystyried ymestyn yr egwyddor hon ryw ychydig fel y gall Amgueddfa Cymru gynhyrchu rhywfaint o incwm a gweithredu'n fwy effeithiol. Ni fyddai tâl sefydlog o £1 i oedolyn gael mynediad i amgueddfa, gyda'r plant yn mynd am ddim, yn rhwystr, rwy'n credu, i rieni sy'n ystyried ymweld ag amgueddfa yn rhan o ddiwrnod allan i'r teulu. Wrth gwrs, gellid dadlau, wedyn, beth fydd yn atal i'r tâl hwn o £1 gynyddu a chynyddu nes iddo fod yn grocbris. Wel, oherwydd bod amgueddfeydd yn gyfleusterau cyhoeddus—ac y byddant yn dal i gael eu hariannu'n gyhoeddus yn bennaf, a grant Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn brif ffynhonnell incwm—yna, siawns y gallai'r Llywodraeth lunio telerau y gallai'r tâl gynyddu bob blwyddyn dim ond yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, y mesur chwyddiant sy'n tueddu i gynyddu ar gyfradd is na'r mynegai prisiau manwerthu.
Ceir hefyd y mater o arddangosfeydd arbennig. Bydd denu llawer o'r arddangosfeydd hyn i Gymru yn golygu cryn ymdrech o ran amser a chost, felly teimlaf y dylai Amgueddfa Cymru allu ceisio adennill rhywfaint o'r gost hon drwy godi tâl ychwanegol am fynediad i'r arddangosfeydd hyn, neu o leiaf i rai penodol. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd Suzy yn gynharach—nad oedd hi eisiau edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Llundain—
Wel, nid dyna yn union a ddywedais i.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Efallai fy mod i wedi symleiddio'r hyn a ddywedasoch chi. Beth bynnag, rwy'n mynd i sôn am yr hyn sy'n digwydd yn Llundain.
Nid oes tâl i fynd i mewn i Amgueddfa Victoria ac Albert, ond mae mynediad i arddangosfeydd arbennig—ac mae yna wastad nifer o arddangosfeydd arbennig yn y V&A—ar hyn o bryd yn amrywio o £8 i £19. Nawr, mae'n rhaid inni gofio bod mynediad i arddangosfeydd cyffredinol y V&A yn rhad ac am ddim. Felly, efallai fod yn rhaid iddyn nhw godi symiau pur sylweddol ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig, o leiaf yn rhannol, i allu caniatáu mynediad am ddim i weddill yr amgueddfa. Nawr, pe byddai gennych chi'r tâl sylfaenol hwnnw o £1, hwyrach na fyddai'n rhaid ichi wneud hynny. Fe allech chi fod â model ariannol gwahanol ac fe allech chi o bosib godi £5 ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig. Fe allech chi godi arian mewn ffyrdd eraill hefyd.
Mae'r amgueddfa yn Sain Ffagan, a byddaf yn parhau i'w galw yn amgueddfa werin genedlaethol Cymru, wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar—
Pam?
Wel, af ymlaen at hynny wedyn, Lee. Dywedaf wrthych wedyn.
Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys prif adeilad newydd, gweithdy crefft a chyfleusterau eraill. Mae'r adeilad newydd yn cynnwys caffi estynedig, mannau gweithgareddau a digwyddiadau, y gellir llogi rhai ohonyn nhw i grwpiau, a siop anrhegion fwy o faint. Bydd hyn, gobeithio, yn helpu amgueddfa Sain Ffagan i godi mwy o arian, ac mae felly yn ddatblygiad i'w groesawu ac yn un y gallai amgueddfeydd eraill ei efelychu o dan ymbarél Amgueddfa Cymru.
Nawr, i ateb cwestiwn Lee, soniais am hen enw amgueddfa Sain Ffagan, sef yr enw yr adwaenwn hi yn ystod fy mebyd. Ers hynny cafodd ei galw yn 'the Museum of Welsh Life', a bellach, gwelaf mai ei henw yw 'St Fagans National Museum of History'— nid yw'r un ohonyn nhw mor hudolus â'r enw gwreiddiol, yn fy marn i. A gaf i felly apelio ar yr amgueddfeydd i gadw eu henwau hudolus, gwreiddiol? Oherwydd sylwais hefyd—
Fel y Ffrynt Cenedlaethol.
Na, nid hynny. Mae'r amgueddfa forol, fel y'i gelwid, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cyn hir, fe welwn ni'r Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn newid ei enw i'r 'Amgueddfa Diwydiant Cenedlaethol' neu ryw deitl diddychymyg tebyg. Rwy'n pendroni weithiau tybed pwy sy'n dyfeisio'r enwau newydd hyn. Bob tro rydych chi'n newid enw, rydych chi'n colli cwsmeriaid posib oherwydd rydych chi'n newid brand adnabyddus. Rwy'n credu bod achos masnachol cryf dros gadw at yr enw sydd eisoes yn gyfarwydd i lawer o bobl. Fodd bynnag, gallwch weld nad wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. [Torri ar draws.] Wel, ydw. Dylai cyfarwyddwr masnachol neu rywun cyffelyb, yn sicr, fod yn gyfrifol am oruchwylio penderfyniadau o'r fath. Gwelaf fod adolygiad Thurley yn galw ar Amgueddfa Cymru i benodi cyfarwyddwr masnachol, ac rwy'n cefnogi'r alwad honno'n llwyr. Diolch yn fawr iawn.
Pleser o'r mwyaf yw cymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon. Y peth cyntaf yr hoffwn i ei ddweud, mewn gwirionedd, yw fy mod i'n falch bod hyn yn gymhelliant inni sôn am Amgueddfa Cymru oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni fel cenedl ac mae angen inni adrodd ein hanes i'n plant yma yng Nghymru yn ogystal ag i ymwelwyr sy'n dod yma. Ac rwy'n cytuno y dylai Cymru ddweud ei stori i'r byd o ran sut mae cenedl fach wedi cael effaith mor enfawr, yn arbennig o ran y chwyldro diwydiannol.
Mae'r adroddiad hwn gan Simon Thurley yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o'r amgueddfeydd pwysicaf yn y DU, ac rwy'n arbennig o falch ei fod yn canmol arbenigedd a gwybodaeth y staff sy'n gweithio yno. Credaf fod y profiad sydd gennym ni o'r staff, a'r staff rheng flaen yn benodol, y bobl sy'n eich croesawu pan fyddwch chi'n mynd yno, a sgiliau'r crefftwyr, y bobl sy'n hollti'r llechi, a'r holl grefftwyr yn Sain Ffagan — credaf ei bod yn wirioneddol wych iddyn nhw gael eu cydnabod. Mae'r adroddiad hefyd yn canmol y cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, a gynyddodd 34 y cant rhwng 2010 a 2015, i bron 0.5 miliwn y flwyddyn.
Yn amlwg, o ran hyfywedd masnachol, mae'n amlwg bod yr adroddiad yn rhoi llawer o bwyslais ar hynny, ac mae rhai o'i argymhellion yn gwneud synnwyr i mi, megis gofyn i ymwelwyr am gyfraniadau. Nid yw cyfraniad o 20 ceiniog yr un yn anfforddiadwy, ac mae'r adroddiad yn dweud bod hyn wedi codi £300,000 y flwyddyn. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau o gwbl gyda gofyn am gyfraniad bach, ac yn amlwg, weithiau mae amgueddfeydd eraill yn llawer mwy di-flewyn-ar-dafod yn gofyn am arian. Nid wyf yn gweld problem o ran codi tâl am arddangosfeydd arbennig, a chredaf y byddai'n dderbyniol cael cynllun aelodau, a fyddai hefyd yn helpu i godi arian. Credaf y dylid ymchwilio i'r posibiliadau hyn, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cadw'r mynediad am ddim. Mae'n un o lwyddiannau mawr y Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru, fod mynediad am ddim fel y gall pawb, faint bynnag o fodd sydd ganddyn nhw, elwa o'r amgueddfeydd. A chredaf fod y cynnydd enfawr hwn mewn niferoedd yn uniongyrchol gysylltiedig â natur agored yr amgueddfa—y ffaith y gall pobl fynd yno heb orfod poeni am dalu. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod unrhyw rwystr, ac nid wyf yn cefnogi cynnig Gareth Bennett o £1 i fynd i mewn. Rwy'n credu bod rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim.
Roeddwn i eisiau sôn am y berthynas yn yr amgueddfa. Credaf fod hon yn adeg dyngedfennol. Dyma gyfle i wella'r berthynas rhwng yr undebau a'r rheolwyr. Mae'r adroddiad yn gywir wrth ddweud y bu cryn sylw cyhoeddus i'r anawsterau yn y berthynas rhwng staff a rheolwyr, a chan fy mod i'n gadeirydd grŵp trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, rwy'n ymwybodol iawn o'r holl anawsterau hyn. Mae'r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o'r problemau hynny, ond yr hyn nad yw yn ei ddweud yw mai'r rheswm am y problemau oedd bod yr amgueddfeydd yn ceisio torri cyflogau staff oedd ar y cyflogau lleiaf, tra bod cyflogau'r uwch reolwyr yn cael eu cynyddu. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, fe wnaeth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol mewn gwirionedd roi pleidlais i'w aelodau bedair gwaith, ac roeddwn i, ynghyd ag aelodau eraill o'r Cynulliad hwn, yno yn siarad mewn ralïau i gefnogi staff. Ac mae'n bwysig dweud y gwnaeth Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd helpu i gyfryngu a datrys yr anghydfod hwn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod—. Er fy mod i'n cefnogi'r syniad o annibyniaeth y cyrff, pan na allan nhw reoli pethau'n iawn, credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gallu troi at Lywodraeth Cymru.
Dim ond eisiau sôn yr wyf i am rai o'r problemau yn yr amgueddfa. Ceir contractau dim oriau y mae Mike Hedges wedi eu crybwyll eisoes. Mae'n annerbyniol cael y contractau dim oriau hyn, ac, yn sicr, dylai fod cytundeb ffurfiol ynglŷn â sut y defnyddir nhw, os dylid eu defnyddio o gwbl. Credaf y dylid cyfyngu ar y defnydd o gontractau cyfnod penodol. Dyma gyfle gwirioneddol nawr, ar sail yr adroddiad hwn, i adfer perthnasau da yn yr amgueddfa, oherwydd credaf fod pob un ohonom ni'n teimlo bod y staff yn allweddol i lwyddiant yr amgueddfa, a siawns y dylai eu telerau ac amodau a'u cyflogau fod yn gydnaws ag adrannau Llywodraeth Cymru. Yn sicr, dylai staff gael eu rhyddhau i wneud gwaith undeb llafur.
Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi dweud bod barn staff yn hollbwysig. Soniodd hefyd y byddai rhai amgueddfeydd, efallai, yn cau ar gyfer rhai cyfnodau o'r flwyddyn. Wel, yn amlwg, bydd hynny'n gwneud i'r aelodau staff sy'n gweithio'n barhaol yn yr amgueddfeydd hynny bob awr o'r flwyddyn—bydd eu calonnau'n suddo pan fyddan nhw'n darllen hynny. Felly, rwy'n credu bod angen ystyried y materion hyn pan wneir cynigion ynghylch sut y mae hyn yn mynd i effeithio ar staff, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs, fel bod y berthynas yn un dda.
Felly, credaf fod hwn yn gyfle gwych i roi cynnig arni o'r newydd. Gadewch inni gydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r staff yn ei wneud, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs hon.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl, ac am y croeso cyffredinol sydd wedi cael ei roi i'r argymhellion? Fe gawsom ni sylwadau agoriadol gan Suzy Jenkins a oedd yn pwysleisio ei bod hi'n—Suzy Jenkins? Suzy Davies. Mae'n rhaid fy mod i'n meddwl am rywun arall, Suzy Davies. Fe gawsom ni sylwadau am bwysigrwydd Aelodau Cynulliad yn mynegi barn, a dyna oedd pwynt cynnal y ddadl yma heddiw ac rydw i'n ddiolchgar am hynny. Rydw i'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i annibyniaeth a'r pwysigrwydd o dyfu capasiti o fewn y sefydliad. Rydw i'n hyderus, a buaswn i ddim yn dweud hyn heblaw ei fod o ar sail y trafodaethau rydw i wedi eu cael ac rydw i'n mynd i'w cael eto.
Fel y pwysleisiwyd yn barod, mae annibyniaeth yr amgueddfa yn bwysig, ond hefyd, fel y dywedodd Julie Morgan, mae dylanwad y Llywodraeth fel awdurdod a chorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol am yr amgueddfa yn rhan o'r cyfrifoldeb yna sydd gyda ni fel Llywodraeth a Chynulliad. Felly, mae'r ddwy elfen yna yn gorfod cydweithio â'i gilydd. Mater o gael pwysigrwydd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw'n glir yw'r hyn sydd yn bwysig. Medraf roi sicrwydd iddi hefyd y byddaf yn ceisio cyd-ddrafftio'r llythyr cylch gorchwyl fel y gallwn ni drafod â'n gilydd sut rydym ni am osod y rhaglen am y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y rhaglen gyllidol. Rydym ni'n cael ein cyfyngu gan y drefn gyllidol bresennol o San Steffan ynglŷn â pha mor bell y gallwn ni fynd mewn blynyddoedd i baratoi sicrwydd. Ond yr amcan ydy ceisio sicrhau hynny.
Rydw i'n ddiolchgar hefyd i Dai Lloyd am ei ddarlith hanesyddol addas iawn ynglŷn â datblygiad yr amgueddfa ac am y pwyslais ar y rôl addysgol. A gaf i ei sicrhau o nad oes unrhyw fwriad gan y Gweinidog hwn i uno sefydliadau cenedlaethol? Mae annibyniaeth ddiwylliannol, os nad annibyniaeth lwyr gyfansoddiadol i'r genedl sydd yn berchen ar yr amgueddfa, yn rhan hanfodol o agenda'r Gweinidog diwylliant. Mae natur ddatganoledig yr amgueddfa yng Nghymru hefyd yn rhan hanfodol o'i diddordeb hi a'i gwahaniaeth hi, fel rydw i wedi gweld wrth ymweld â'r sefydliadau yma yn ddiweddar. Rydw i yn cydnabod pwysigrwydd y cytundeb a wnaed â Phlaid Cymru. Roedd hyn yn rhan o'r drafodaeth roeddwn i'n ei chael â swyddogion yr amgueddfa, a'r bwriad ydy y byddwn ni'n parhau yn yr ysbryd yna o gytundeb dros y blynyddoedd nesaf ynglŷn â'r cyllid.
Diolch yn fawr i Mike Hedges, sydd bob amser yn gallu dweud gwirionedd gyda difyrrwch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am roi gwersi inni mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a hynny mewn ffordd mor ddeniadol a diddorol, ac mae hynny i fod yn air o ganmoliaeth.
Rydym yn sicr yn anelu at sefydlogrwydd ariannol ac, yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ein bod yn ceisio sicrhau gallu ariannol priodol, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys diwallu'r angen am gydnabyddiaeth ariannol effeithiol. Byddwn yn dweud, o ran egwyddor, fy mod i'n cytuno â tharged mwy hirdymor o gael cyfatebiaeth rhwng cyflog ac amodau y bobl sy'n gweithio i ni yn y sector amgueddfeydd a'r rhai sy'n gweithio i ni mewn meysydd eraill o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gareth Bennett am ei sylwadau hael, a gallaf ei sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddechrau codi tâl ar oedolion ac nid codi tâl ar ddinasyddion iau. Mae angen inni ystyried teuluoedd sy'n ymweld â'r amgueddfa yn uned gyfan.
O ran enwau, roedd 'Welsh folk museum' wastad yn fy atgoffa i o rywbeth mwy gwerinol na hyd yn oed yr enw 'amgueddfa werin', er y gwelaf, wrth imi deithio o amgylch y rhan honno o orllewin Caerdydd, mai'n araf deg y bydd yr arwyddion brown yn arddel yr enw diweddaraf. Heb os, bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.
A gaf i nawr ddiolch yn gyhoeddus i Julie Morgan am ei swyddogaeth, yr wyf bellach wedi dysgu mwy amdani, yn sicrhau gwell perthynas gyda'r Llywodraeth a gwell perthynas rhwng y Cynulliad hwn, drwy ei grŵp trawsbleidiol PCS, a'r undebau llafur, ac, yn wir, gyda rheolwyr amgueddfeydd pan oedd yr anawsterau yr ydym ni i gyd wedi cyfeirio atyn nhw yn bodoli? Yn wir, fy nymuniad i, cymaint â'i un hithau, yw nad ydym yn gweld hynny'n cael ei ailadrodd.
Fel y dywedaf, rydym yn ceisio sicrhau bod lefel gyson o gyllid ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sicr y bydd graddau'r gefnogaeth a welir yn y ddadl hon heddiw yn cryfhau ein perthynas â'r amgueddfa.
Diolch yn fawr i chi gyd am eich cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gan hynny, nid oes yna bleidlais ar ddiwedd y cyfarfod yma, a dyna ddiwedd ein trafodion am y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.