Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Ar y cychwyn, hoffwn groesawu Mariam Jack-Denton, Llefarydd Cynulliad Cenedlaethol y Gambia, sy'n arwain cynrychiolwyr ar ymweliad â'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Felly, croeso, Llefarydd, a'ch dirprwyaeth.

Cwestiwn Brys: Carillion

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiwn brys rwyf wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ymateb i effeithiau diddymu Carillion? (EAQ0002)

Er nad ydym yn disgwyl mai ond ychydig o effaith uniongyrchol y bydd diddymiad Carillion yn ei godi yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu gweithwyr Carillion yr effeithir arnynt yma. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu unrhyw ganlyniadau pellach, mewn sefyllfa sy'n parhau i ddatblygu'n gyflym.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gael ychydig bach mwy o fanylion ynglŷn â rhai o'r projectau penodol.

A yw'n bosibl iddo ddweud pa un a oedd unrhyw un o gontractau Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i Carillion wedi'u dyfarnu ar ôl mis Gorffennaf, sef yr adeg pan roddwyd y rhybudd cyntaf am elw gan y cwmni? Ar ôl yr ail a'r trydydd rhybudd am elw, ym mis Medi a mis Tachwedd y llynedd, a wnaeth y Llywodraeth drafod trefniadau wrth gefn ag Abellio, ynghylch swyddogaeth Carillion fel y contractwr penodedig yn rhan o'i gynnig am y fasnachfraint rheilffyrdd? Ac a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ni hefyd a oes perygl gwirioneddol erbyn hyn bod cynnig Abellio i bob pwrpas yn ddi-rym, gan ei fod mewn gwirionedd yn enwi contractwr penodedig nad yw'n bodoli mwyach, ac felly mae'n ei wneud yn agored i her gyfreithiol? Yn olaf, a yw'r holl brofiad â Carillion, sydd wedi gadael cymaint o isgontractwyr llai a'u cyflogeion i ysgwyddo, i bob pwrpas, canlyniadau camreoli cwmni mawr ac, yn wir, gorelwa diofal, yn rheswm i ni ystyried ein gorddibyniaeth, o hyd, ar gontractau gyda chwmnïau amryfath, a berchnogir yn allanol, ar gyfer gwaith peirianneg sifil? Mae'n rhaid bod ffordd well o wneud hyn yn y dyfodol.

Diolch i'r Aelod am yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn dri phrif gwestiwn. O ran contractau sydd gan Lywodraeth Cymru, mae un contract—y contract sy'n gysylltiedig â cham dylunio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, a ddyfarnwyd ar ôl y rhybudd gwreiddiol am Carillion ym mis Gorffennaf y llynedd. Ar yr adeg pan gyhoeddwyd y rhybudd hwnnw, cafodd y broses gaffael ei hoedi dros dro, a cheisiwyd rhagor o sicrwydd gan y cwmni. Cafwyd y sicrwydd hwnnw, a lliniarwyd risgiau a allai fod wedi chwarae rhan yn hynny o beth. Nid oes unrhyw gontract arall wedi'i ddyfarnu ers mis Gorffennaf y llynedd. 

O ran Abellio a'r trefniadau masnachfraint, credaf fod nifer o sylwadau y dylwn i eu gwneud. Yn gyntaf oll, mewn ymateb uniongyrchol i gwestiwn Adam Price, mae Trafnidiaeth Cymru, ar ôl gweld y datblygiadau ym mis Gorffennaf ac yn ystod yr hydref, wedi bod yn rhan o broses i sicrhau bod sylfaen ariannol angenrheidiol y cynigion yn ddibynadwy, ac maen nhw wedi bod yn trafod ag Abellio ar y sail honno. Yn union ar ôl y digwyddiadau yn gynharach yr wythnos hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyngor cyfreithiol fel ein bod yn glir ynghylch a oes unrhyw effeithiau o'r datblygiadau hyn ar y broses fasnachfraint. Mae'r cwmni ei hun yn cymryd camau i wneud yn siŵr ei fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chynnig, os yw'n dewis gwneud hynny. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau canlyniad terfynol yn y broses dendro a fydd yn arwain at wella gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dymuno eu gweld yn cael eu sicrhau.

Y trydydd cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi yw'r un ehangaf, wrth gwrs. Bydd ef wedi gweld, rwy'n siŵr, darn yn y Financial Times heddiw o'r enw 'The Problem of Bigness', lle mae'r awdur yn trafod yr anawsterau sy'n digwydd i sefydliadau contractio cyhoeddus mewn marchnad lle y bu cryn gyfuno ac nad yw nifer y cwmnïau yn y maes yn arwain o reidrwydd at gystadleuaeth wirioneddol. Felly, mae hynny yn dod i'r amlwg yn anochel yn y profiad gyda Carillion, ac mae e'n iawn i dynnu sylw at y ffaith y bydd pob awdurdod cyhoeddus sy'n ymwneud â sicrhau gwasanaethau angenrheidiol drwy gontractio allan eisiau adolygu'r profiad hwn, dysgu'r gwersi oddi wrtho a gwneud yn siŵr na chaiff arian cyhoeddus ei beryglu yn ddiangen yn y dyfodol.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi am unrhyw waith yr ydych chi wedi'i wneud neu yr ydych chi'n bwriadu ei gomisiynu ar ganlyniadau y cwmni hwn yn mynd i'r wal o ran amodau economaidd ehangach y bydd hyn yn eu hachosi i economi Cymru, ac yn enwedig i fusnesau bach? Mae Adam Price wedi codi cwestiynau am y fasnachfraint rheilffyrdd, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig mwy am y prosiectau y gallai hyn effeithio arnyn nhw yng Nghymru? Fe wnaethoch chi ddweud na fyddai fawr ddim effaith ar brosiectau yng Nghymru, ond a gaf i bwyso arnoch chi ychydig bach mwy ar hynny am rywfaint o eglurhad pellach ar ba brosiectau y gallai hyn effeithio arnyn nhw? A gaf i ofyn hefyd am brosiectau yng Nghymru sydd efallai ar fin dechrau neu sydd wrthi'n cael eu hadeiladu sydd efallai yn cael eu gweithredu neu eu rheoli nid gan Carillion ond gan gwmni arall? Rwy'n cyfeirio at ffordd osgoi'r Drenewydd yn fy etholaeth i, er enghraifft. Mae'n cael ei rheoli gan gontractwyr Alun Griffiths ond mae'n debygol eu bod yn dibynnu ar gyflenwyr am ddur ar gyfer pontydd neu fod yna ganlyniadau eraill o ran rheoli prosiect hefyd. A pha sgyrsiau ydych chi efallai wedi eu cael â nhw o ran sut y gallai hyn effeithio ar brosiectau yng Nghymru neu eu gohirio o bosibl? 

Wel, mae'r Aelod yn iawn, er nad oes risg uniongyrchol o bwys i wasanaeth cyhoeddus Cymru oherwydd Carillion, nid yw hynny'n golygu nad oes busnesau ac isgontractwyr yng Nghymru a allai, ar agweddau eraill o waith Carillion, fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i gwymp Carillion. Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwaith angenrheidiol i geisio nodi lle gallai'r anawsterau hyn fod. Rydym ni'n trafod hynny â'r Ffederasiwn Busnesau Bach a Chydffederasiwn Diwydiant Busnes ac yn defnyddio'r rhwydweithiau sydd gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru, er mwyn bod yn ymwybodol, os oes anawsterau o'r math y mae'r aelod wedi eu nod yn dod i'r amlwg, ein bod yn gallu cynnig cymaint o gymorth ag y gallwn o dan yr amgylchiadau hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg bod materion moesegol ac ymarferol iawn yn y fan yma, a hoffwn i fynd i'r afael â nhw. Rydym ni'n gwybod am hanes Carillion. Rydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon o ran ei wrthwynebiad i undebau llafur, ei gosbrestru a'i ymosodiadau ar delerau ac amodau gweithwyr, ac mae hwnnw'n fodel sydd yn amlwg wedi cyfrannu at ei gwymp presennol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei fod yn arwydd i'w groesawu fod Llywodraeth y DU bellach yn ymchwilio i gyfarwyddwyr Carillion. Rwy'n siŵr eich bod chi hefyd yn cytuno â mi bod angen i'r ymchwiliad hwnnw fynd ymhellach, i'r bancwyr sydd wedi mentro cefnogi'r cwmni ac, yn wir, Gweinidogion y Llywodraeth sydd wedi bod mor awyddus i lenwi pocedi'r cyfranddalwyr a'r cyfarwyddwyr ag amcanion a chontractau pan oedd rhybuddion clir wedi dod i'r amlwg. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r peth pwysicaf yw hyn: mae gennym ni nifer o gwmnïau yng Nghymru, llawer ohonyn nhw mewn gwirionedd yn masnachu yn Lloegr hefyd, y mae'n bosibl nawr na fyddan nhw'n cael eu talu ac efallai y byddan nhw mewn perygl o fynd i'r wal, a bod gweithwyr y mae eu cronfeydd pensiwn wedi eu dwyn oddi arnynt, a bod angen inni archwilio effaith y cwmnïau penodol hynny ar economi Cymru ac yn enwedig pa gymorth y gallwn ni ei roi?

Ond o ran y cwestiwn moesegol, onid yw'n ffaith bod gennym ni fodel economaidd sydd yn y bôn yn cyfyngu'r elw i'r ychydig, drwy ddwyn cronfeydd pensiwn y gweithwyr a bod disgwyl i'r cyhoedd, yn y pen draw, eu hachub, a'n bod ni'n gallu bod mor ddiolchgar nad yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn y trywydd arbennig hwnnw?

Wel, Llywydd, nid oedd Llywodraethau Cymru olynol yn fodlon dilyn y model a amlinellwyd gan Mick Antoniw. Rydym ni bob amser wedi bod yn ymwybodol o beryglon y ffordd o wneud busnes lle mae elw yn cael ei breifateiddio a risg yn gymdeithasol, a dyna'n union beth yr ydych chi wedi ei weld yn yr enghraifft hon. Dyma gwmni sydd, gan ddefnyddio arian cyhoeddus, wedi rhoi difidendau i'w gyfranddalwyr, ac sy'n fodlon parhau i dalu ei uwch weithredwyr ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle'r oedd hynny yn cynrychioli camau synhwyrol i'w cymryd. A phan fydd pethau'n mynd o chwith, pan fydd eu ffrindiau draw acw wedi mynd ar gyfeiliorn, beth sy'n digwydd? Beth sy'n digwydd wedyn? Rydych chi'n disgwyl i'r pwrs cyhoeddus gamu i mewn. Rydych chi'n disgwyl i'r cyhoedd dalu am eich camgymeriadau, ac yng Nghymru—[Torri ar draws.] Yng Nghymru, mae honno'n ffordd o weithredu nad ydym ni erioed wedi bod yn fodlon ei dilyn. Dyna pam nad oes gennym ni, ac na fydd gennym ni yng Nghymru y math o drosglwyddo gwasanaethau cyhoeddus i'r sector preifat y dylid eu darparu yn gyhoeddus ac y dylid talu amdanyn nhw yn gyhoeddus. Dyna pam nad oes gennym ni staff y gwasanaeth tân yn darparu prydau bwyd i ysgolion yng Nghymru heddiw. Oes, mae yna wersi yn codi o achos Carillion. Yn ffodus, yng Nghymru, roeddem ni wedi eu dysgu ymhell ar y blaen i'r blaid gyferbyn.

13:40

Yn ôl i'm hetholaeth hyfryd Aberconwy, a diolch ichi am gyfeirio at gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 ac am gael gwared ar y cylchfannau. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gwneud y gwaith hwnnw ers cryn amser, felly mae'n ddealladwy bellach, gan fod Carillion wedi mynd yn fethdalwr, bod llawer o'm hetholwyr yn gofyn i mi beth fydd yn digwydd i'r gwaith hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gobaith y gallaf i fynd yn ôl i'm hetholaeth a dweud wrth fy nhrigolion, ein modurwyr a'n hymwelwyr y byddwch chi mewn gwirionedd yn ceisio parhau â'r gwaith hwn, ac, efallai, pam na wnawn ni ystyried caffael yn fwy lleol? Ni allaf weld pam na ellid bod wedi gwneud y gwaith hwnnw. Mae gennym ni gwmnïau lleol yn ein hardal ni a allai fod wedi gwneud y gwaith hwn, ond, os gwelwch yn dda, a wnewch chi fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, oherwydd mae'r oedi ar yr A55 a'r problemau ofnadwy sydd gennym ni—. Mae Carillion wedi mynd i'r wal bellach, ond mae'r sefyllfa honno ar yr A55, sy'n effeithio'n fawr ar ein modurwyr a'n trigolion, yn dal i fod gennym ni, felly byddem yn gwerthfawrogi yn fawr iawn unrhyw beth y gallech chi ei wneud. Diolch.

Wel, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr y sylwadau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu gwneud. Roedd Carillion wedi ei gontractio ar gyfer y cam dylunio yn unig, hyd yma, o gyffyrdd 15 ac 16 o'r A55, a byddai tua 12 mis o'r gwaith dylunio hwnnw ar ôl i'w wneud. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gweld a oes ffyrdd y gallwn ni ymateb i'r anawsterau hyn mewn modd na fydd yn arwain at ymestyn yr amserlen honno. Dyddiau cynnar iawn yw'r rhain, ond dim ond i roi enghraifft iddi o'r math o gamau y bwriadwn ni eu hystyried, mae isgontractwyr yn y contract hwnnw sydd mewn gwirionedd yn gwneud y gwaith. Efallai y bydd hi'n bosibl i un o'r is-gontractwyr hynny i fod y prif gontractwr, i barhau â'r gwaith hwnnw a chwblhau'r datblygiadau pwysig ar y gyffordd honno, sydd, rwy'n gwybod, yn bwysig i'w hetholwyr ac i eraill sy'n defnyddio'r rhan honno o'r A55, heb oedi pellach.

Llywydd, dylwn i ymddiheuro i Russell George am fethu ag ateb rhan gyntaf ei gwestiwn. Os gallaf i ddweud wrtho'n fyr iawn, mae gennym ni ddau gontract arall. Mae'r contract yn rhan Llanddewi Brefi o'r A40, lle mae'r cyfnod dylunio fwy neu lai wedi'i gwblhau a lle bydd yn rhaid i ni nawr ystyried sut i fwrw ymlaen ag ail gam y contract tri cham. Yna, roedd rhan 3 o'r A465, sydd wedi ei gwblhau, ac sydd eisoes ar agor, lle ceir contract tirlunio ar raddfa fach a fyddai wedi para am bum mlynedd gyda Carillion ar ôl agor rhan 3 ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydym ni hanner ffordd drwy'r cyfnod hwnnw o bum mlynedd. Bydd yn rhaid inni nawr ddod o hyd i fodd arall o gyflawni'r ddwy flynedd a hanner sy'n weddill. Ond dyna hyd a lled effaith Carillion ar Lywodraeth Cymru o ran y contractau y soniodd yr Aelod amdanyn nhw.

Diolch am y datganiad a'r ateb i'r cwestiynnau heddiw, ond mae'n rhaid dweud fy mod i'n synnu clywed bod yna gontract wedi ei osod yn y gogledd ar yr A55 ar ôl ichi sylweddoli a chlywed am y newyddion ym mis Gorffennaf am statws y cwmni yma, achos dyna, wrth gwrs, yn union beth oedd  Jon Trickett yn beirniadu'r Blaid Geidwadol amdano yn hallt iawn ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin—gosod contractau ar ôl canfod y problemau neu glywed am y problemau ar dudalennau busnes y Financial Times a llefydd eraill. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, rydw i'n meddwl, ailystyried y ffordd y maen nhw'n ymwneud nawr â gweddillion Carillion, ac yn enwedig beth sydd ymhlyg yn hwn o ran y fasnachfraint a chais Abellio i fynd i'r afael â'r fasnachfraint reilffordd.

Ond i droi yn benodol at y cwestiwn rydych chi newid cyfeirio ato, sef gwella'r A40 yn—. Wel, fe wnawn ni beidio â chymysgu'r gwahanol Llanddewi—. Penblewin, fe wnawn ni ddweud. Mae Carillion i fod i ddechrau ar y gwaith yna yr haf yma, fel roeddwn i'n deall pethau. A fydd yna oedi nawr yn y cynllun yma, a beth yw'r camau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud nawr, i sicrhau na fydd gwaith pwysig, sydd yn ei dro, wrth gwrs, yn arwain at ddigwyddiadau economaidd yn yr ardaloedd hynny, yn cael ei oedi gormod, er lles y teithwyr ond hefyd er lles datblygu economaidd Cymru?

13:45

Diolch i Simon Thomas am y cwestiynau eraill yna.

Dim ond i fod yn eglur o ran cyffyrdd 15 ac 16 yr A55, roedd yr holl fusnes o ddyfarnu contract wedi ei gwblhau cyn y rhybudd elw ar 10 Gorffennaf, ond nid oedd llythyrau contract wedi eu hanfon i'r cwmni. Felly, ar yr adeg honno, gohiriwyd y cam o anfon llythyrau dyfarnu allan, a chynhaliwyd cyfres arall o ymchwiliadau gyda Carillion ccc i benderfynu a oeddent yn risgiau yr oedd angen eu nodi. Felly, cafwyd cyfnod arall o ddiwydrwydd dyledus, pan ofynnwyd am sicrwydd ffurfiol gan y cwmni a  derbyniwyd hynny. Roedd swyddogion a oedd yn gyfrifol am gynnal yr asesiad hwnnw yn credu bod y sicrwydd angenrheidiol wedi ei dderbyn. Roedd risg gyfartal neu wahanol, pe na byddai'r dyfarniad wedi ei wneud, y byddai'r cwmni ei hun wedi ceisio cael adolygu'r penderfyniad hwnnw, gan fod y prosesau arferol wedi eu cwblhau'n briodol a'i fod wedi ennill y contract. Felly, roedd risg y bydden nhw eu hunain wedi ceisio cymryd camau, gan arwain at gyfres arall o oediadau o'r math a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders yn gynharach ac, wrth reswm, y byddai dinasyddion lleol wedi bod yn awyddus i'w hosgoi. Felly, roedd cydbwysedd o risg i'w lunio. Ymchwiliwyd iddo mewn modd pwrpasol a thrwyadl iawn.

Gan droi at ei bwynt am y rhan o'r A40 rhwng Llanddewi Felffre â Phenblewin, mae hwnnw'n gontract tri cham. Mae'r cam cyntaf wedi'i gwblhau mwy neu lai. Bydd dewisiadau i'w gwneud, y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn dymuno eu pwyso a'u mesur nawr. Yn yr achos hwn hefyd, mae is-gontractwyr sylweddol sy'n rhan o'r cynllun, ac mae'n bosibl y gallai un ohonyn nhw fod mewn sefyllfa i fod y prif gontractwr, a mantais hynny yn sicr yw y byddai'n lleihau oedi. Ond mae'r cyfle yno, os yw'n well gan Ysgrifennydd y Cabinet, i fynd allan i dendr ar gyfer cam nesaf y contract hwnnw, i weld yr hyn sydd gan y farchnad i'w gynnig ac i sicrhau'r gwerth gorau am wariant cyhoeddus Cymru. Anfantais hynny yw ei fod yn golygu oedi anochel. Yn y cyfnod byr iawn o amser ers cwymp Carillion, mae swyddogion wedi bod yn nodi dewisiadau, ac yn sicr yn cynnig cyngor i Weinidogion, a bydd y Gweinidogion yn penderfynu rhyngddynt wedyn.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac a gaf i ymddiheuro i'r Ysgrifennydd Cabinet os roeddwn i'n orawyddus, ar un pwynt, i alw'r cwestiwn nesaf? Roedd hynny'n gwbl anfwriadol ar fy rhan i, ac mae'n ddrwg gen i am dorri ar eich traws chi yn eich atebion y prynhawn yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau

1. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru? OAQ51560

Yn ystod cwestiynau busnes yr wythnos diwethaf, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar arddangosion anifeiliaid symudol, gan gynnwys syrcasau, cyn toriad hanner tymor y gwanwyn.

Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod holl sylwedd fy nghwestiwn yn arwain i chi gredu fy mod i'n meddwl y dylem ni wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ac edrychaf ymlaen i ni gyflwyno hynny. Mae'n wir, wrth gwrs, bod Lloegr wedi cyhoeddi eu bod nhw'n symud i'r cyfeiriad hwn. Newydd gyhoeddi symudiad i'r cyfeiriad hwn maen nhw—ni ddylem ni orgynhyrfu—ond ar yr un pryd, mae'r Alban wedi symud i'r cyfeiriad hwn mewn gwirionedd. Felly, rwy'n annog y Llywodraeth i anfon neges gwbl eglur i syrcasau teithio—oherwydd nid oes gennym ni unrhyw syrcasau preswyl yng Nghymru—os ydynt yn cludo anifeiliaid gwyllt, nad oes croeso iddyn nhw yng Nghymru a'i fod yn arfer hen-ffasiwn y mae angen rhoi terfyn arno. Felly, tra ein bod ni'n mynd drwy'r broses—ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad hwn—ar yr un pryd, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n anfon y neges honno yn y cyfamser.

13:50

Wel, mae'n eglur, yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar drwyddedu arddangosion anifeiliaid symudol, bod cefnogaeth eang i waharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ac mae swyddogion yn ystyried sut i fynd i'r afael â'r mater hwn. Afraid dweud bod y ffordd yr ydym ni'n trin ein hanifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 9 Hydref, a gwn fod y Gweinidog yn mynd ati nawr i ystyried y ffordd orau o symud ymlaen.

Brif Weinidog, mae yna bryderon gwirioneddol bod y diffiniad arfaethedig o arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid yn ymgynghoriad diweddar y Llywodraeth yn rhy eang ac yn peri risg i unrhyw system drwyddedu neu gofrestru fod yn anymarferol neu'n anghymesur. Felly, a allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, fel bod unrhyw gynnydd ar y mater hwn yn gymesur ac yn wirioneddol arwain at waharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru? Oherwydd dyna, rydw i'n credu, beth y mae pobl yng Nghymru eisiau ei weld.

Wel, bydd hynny'n rhan o'r ystyriaeth sydd yn cael ei rhoi i'r mater hwn gan y Gweinidog dros yr wythnosau nesaf. Rydym ni'n moyn, wrth gwrs, sicrhau cynllun sydd yn cael impact parhaol ar safonau lles anifeiliaid er mwyn, wrth gwrs, sicrhau ein bod ni'n gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid yma yng Nghymru.

Yr hyn sy'n fy mhoeni i efo hwn ydy y gallai Cymru droi yn hafan ar gyfer syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt. Mae'r Alban wedi gwahardd, mae San Steffan efallai yn mynd i wahardd, ond mae Cymru ar ei hôl hi yn y fan hyn, er gwaethaf y ffaith bod arweinydd Prydeinig eich plaid chi o blaid gwaharddiad. Felly, beth yn union sydd yn eich dal chi nôl, ac onid camgymeriad oedd cymysgu dau beth yn yr ymgynghoriad? Onid yw hi'n fater syml o ddod â gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau i mewn, ac wedyn edrych ar beth sydd angen ei wneud o ran yr arddangosfeydd mewn ardaloedd gwledig ac yn y blaen?

Na. Rwy'n credu bod beth sydd wedi cael ei wneud yn yr ymgynghoriad yn iawn, ac wrth gwrs, rydym ni'n moyn symud ymlaen. Nid ydym ni ddim yn moyn bod yn hafan. A gaf i jest ddweud hynny wrth yr Aelod? Nid ydym ni'n moyn bod yn hafan lle mae anifeiliaid gwyllt yn gallu dod i Gymru er bod yna waharddiad yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed Gweriniaeth Iwerddon. Felly, nid hynny yw'r bwriad. Beth rydym ni'n ei ystyried nawr yw beth yw'r ffordd orau ymlaen er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid hyn.

Y GIG yn Sir Fynwy

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Sir Fynwy? OAQ51581

Gwnaf. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y GIG yn Sir Fynwy yr un fath ag y maen nhw ar gyfer Cymru gyfan. Byddwn yn parhau i ddiogelu buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd a chyflawni'r ystod o ymrwymiadau a nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.

Prif Weinidog, os gallaf eich holi am ofal dementia, ceir pryder mawr yng Nghas-gwent a'r cyffiniau ynghylch y bwriad i gau'r ward dementia bwrpasol yn Ysbyty Cymuned Cas-gwent ac adleoli gwasanaethau i Ysbyty Gwynllyw yng Nghasnewydd. Mae bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan wedi nodi prinder staff fel un o'r rhesymau am hyn. Mae hyn ar y cam ymgynghori ar hyn o bryd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn golygu colli ddarpariaeth gyfan dementia cleifion mewnol Sir Fynwy, a gostyngiad cyfunol i'r ddarpariaeth yng Nghasnewydd a Sir Fynwy o 29 i 14 o welyau. A wnewch chi annog y bwrdd iechyd i ailystyried y cynlluniau diffygiol hyn i ddiogelu adnoddau gwerthfawr ysbyty Cas-gwent ac i ddod o hyd i ateb mwy cynaliadwy i'r broblem y mae'r bwrdd iechyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd?

Rwy'n ymwybodol o'r newidiadau sydd wedi eu gwneud. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 12 wythnos. Mae hwnnw'n dal yn agored, a byddwn yn annog i bob safbwynt gael ei gyfrannu i'r ymgynghoriad hwnnw. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi trafod dewisiadau ar gyfer datblygu Ysbyty Cymuned Cas-gwent yn y dyfodol ac wedi sefydlu gweithgor i ddatblygu cynigion ar gyfer dyfodol y cyfleusterau lleol ardderchog, ac rwyf hefyd yn deall bod y bwrdd iechyd yn disgwyl i adroddiad cychwynnol gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.

13:55
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP—Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn ddymunol, er mwyn sicrhau gwerth am arian mewn contractau cyhoeddus, y dylai fod amrywiaeth resymol o ymgeiswyr credadwy. Nid oedd yn gwbl eglur i mi o'r ateb a roddodd yr Ysgrifennydd dros gyllid i Adam Price yn gynharach beth fydd effaith cyfreithiol methiant Carillion o ran cynnig Abellio. Dim ond tri o gynigwyr sydd yn yr ornest ar hyn o bryd. Os caiff Abellio ei dynnu ohoni, mae hynny'n golygu, wrth gwrs, mai dim ond dau gais sydd gennym. Beth yw goblygiadau hyn i'r egwyddor gyffredinol honno o sicrhau gwerth am arian trwy gael cystadleuaeth gredadwy am y contractau mawr hyn? Mae hwn yn gontract sy'n effeithio nid yn unig ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, ond hefyd ar drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn rhan o'r prosiect metro, a bydd y contract hwn yn cael ei osod am 15 mlynedd. Felly, mae iddo ganlyniadau hirdymor. Tybed a allai'r Prif Weinidog roi ychydig mwy o eglurhad i ni ar y pwynt hwn.

Nid yw'n gyfrinach mai'r sefyllfa ddelfrydol o'n safbwynt ni fyddai wedi bod gallu rhedeg rheilffyrdd Cymru trwy fusnes dielw, hyd braich a fyddai'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond fe'n rhwystrwyd rhag gwneud hynny gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Maen nhw'n hapus i ganiatáu i'r Alban wneud hynny, ond cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, dydyn nhw ddim yn hapus i ganiatáu—[Torri ar draws.] Mae'n ochneidio yn ddi-baid, arweinydd yr wrthblaid, unwaith eto, ddim yn cefnogi hyn, wrth gwrs—ond y gwir yw ein bod ni wedi ein rhwystro rhag gwneud hynny. Ond, serch hynny, dyna oedd y dewis a ffafriwyd. Fe'n rhwystrwyd rhag gwneud hynny.

Gofynnodd y cwestiwn am Abellio. Mae gan Trafnidiaeth Cymru yr arbenigedd priodol ar gael i ymdrin â hyn. Rydym ni mewn trafodaethau gydag Abellio Rail Cymru am y sefyllfa gymhleth—ac mae'n gymhleth—sy'n deillio o'r cyhoeddiad. Er bod yr anawsterau a gafwyd gan ran o un o'r cynigwyr consortiwm yn siomedig, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y gwerthusiad i gadw caffael ar y trywydd iawn. Gallaf ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i werthuso'r cynigion cystadleuol a dderbyniwyd a sicrhau triniaeth gyfartal i'r cynigwyr yn unol â chyfraith caffael.

Wel, gyda'r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon, er na ellid bod wedi ei ragweld yn hyderus, roedd yn amlwg bod posibilrwydd uchel bod Carillion yn mynd i fynd i drafferthion na allai gael ei hun allan ohonynt. Wedi'r cyfan, cawsom ni'r rhybudd elw cyntaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, gostyngodd y cyfranddaliadau yn Carillion 60 y cant mewn dau ddiwrnod. Dair wythnos wedi hynny, roedd rhybudd elw arall. Ar 17 Tachwedd, rhybuddiodd Carillion ei fod yn mynd i fynd yn groes i'w gyfamodau bancio, ac mae'n rhaid bod hynny wedi mynd i galon hygrededd y rhan honno o gynnig Abellio, ac o ystyried mai nhw oedd y partner adeiladu a ffafriwyd, roedd hyn yn amlwg yn arwain at oblygiadau aruthrol i hygrededd y cynnig hwnnw.

A gymerwyd unrhyw gamau gan Trafnidiaeth Cymru, neu unrhyw gyfranogiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod ar ôl mis Gorffennaf i geisio diogelu'r broses ymgeisio rhag y posibilrwydd o fethiant cynnig Abellio? Oherwydd, pe byddai Abellio wedi gallu cael gafael ar ryw bartner adeiladu eraill, neu gadw un wrth gefn yn y cyfamser, efallai y byddai hynny wedi gallu achub yr elfen hon o'r broses ymgeisio.

Rwy'n credu bod peryglon o ran Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu yn y modd hwnnw gyda chynigiwr. Mae'n rhaid cael pellter rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r cynigwyr eu hunain. Mater i Abellio Rail Cymru yw rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n hyderus y gall eu cynnig symud ymlaen, a bydd y trafodaethau yn parhau ar y sail honno o ran sut y gellir gwneud hynny. Rydym ni'n gwybod bod rhybudd elw ym mis Gorffennaf. Mae'r gallu i edrych yn ôl yn beth gwych, ond nid wyf i'n credu y gallai neb, heb sôn am Lywodraeth y DU, fod wedi bod yn ymwybodol o faint y problemau o fewn Carillion. Yn amlwg, nid oeddent yn barod, ac rwy'n credu y byddai llawer wedi canfod eu hunain yn y sefyllfa honno. Rwy'n credu efallai mai'r teimlad oedd bod Carillion yn rhy fawr i fethu, ond, yn anffodus, rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Serch hynny, rydym ni'n sôn am ran o un o'r cynigwyr consortiwm. Mae'n fater nawr o weld a ellir llenwi'r rhan honno.

Wel, mae'n amlwg mai'r ateb i fy nghwestiwn yw bod y Llywodraeth a Thrafnidiaeth Cymru wedi eistedd ar eu dwylo yn ystod y cyfnod hwnnw, ond byddaf yn ei gadael hi yn y fan yna.

A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy nifyrrwch bod Philip Green, Cadeirydd Carillion ers 2014, yn gynghorydd ar gyfrifoldeb corfforaethol i David Cameron a Theresa May fel Prif Weinidog, ac y caniatawyd i Brif Weithredwr blaenorol Carillion, Richard Howson, adael y cwmni ychydig fisoedd yn ôl gyda chytundeb 12 mis o £660,000 mewn cyflog a £28,000 mewn budd-daliadau tra bod y cwmni wedi bod yn gwneud i gwmnïau bach aros hyd at 120 diwrnod am daliad ar eu contractau? Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi ar gyfrifoldeb cymdeithasol gyda'r cwmnïau sy'n contractio â hi. Does bosib bod talu'n brydlon yn un o'r elfennau hanfodol yn hynny. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi o dalu pob anfoneb yn brydlon, a phan fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ceisiadau gan fusnesau ar gyfer contractau mawr y mae'n mynd i'w dyfarnu, neu asiantaethau fel Trafnidiaeth Cymru, pa ddiogelwch sy'n mynd i gael ei roi i gwmnïau bach sydd wedi eu gadael nawr, fel yn yr achos hwn, mae'n debyg, ar y clwt, a bydd llawer ohonyn nhw na fyddant yn cael eu talu? Gallai hynny fod yn hollbwysig o ran y cwestiwn o ba un a allai busnesau bach eu hunain, fel sgil-effaith o fethiant Carillion, fynd allan o fusnes hefyd.

14:00

Llif arian yw popeth i fusnes bach. Nid yw'n eglur eto beth fydd effaith methiant Carillion ar fusnesau bach yng Nghymru. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cael gafael ar wybodaeth am hynny, ond yr hyn na allwn ei wneud, wrth gwrs, yw rheoli'r ffordd y mae busnesau mawr yn ariannu eu hunain. Ceir llawer o faterion yn y fan yna y mae arweinydd UKIP wedi eu hamlygu'n a hynny'n briodol—materion moesol. Mae'n ymddangos i mi yn aml iawn, mewn rhai busnesau—nid pob un, wrth gwrs, ac nid y mwyafrif hyd yn oed—bod taliadau bonws yn cael eu gwneud beth bynnag fo'r perfformiad, a hefyd bod pobl yn derbyn taliadau ymadael sy'n symiau sylweddol o arian er mwyn mynd i ffwrdd hyd yn oed pan fo perfformiad yn llawer is na'r safon a ddisgwylir. Mae problemau yn hynny o beth.

Ceir problemau o ran faint rym sydd gan cyfranddalwyr. Maen nhw'n dwyn y bwrdd i gyfrif, wrth gwrs, ond o ran gwybodaeth ac arbenigedd, nid yw mor hawdd â hynny. Rwy'n credu, o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan Carillion, bod gwersi i'w dysgu o ran edrych unwaith eto ar gyfraith cwmnïau a'r ffordd y mae cwmnïau yn llywodraethu eu hunain. A oes llywodraethu digonol mewn cwmnïau mawr i sicrhau nad yw'r math yma o sefyllfa yn digwydd? Rydym ni wedi gweld drwy Carillion mai'r ateb i hynny yw 'nac oes'.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae adroddiad annibynnol heddiw ar iechyd a gofal cymdeithasol yn amlygu pwysigrwydd llesiant staff ac yn dweud y dylai fod pwyslais pendant ar ymgysylltiad a llesiant staff. Nawr, mae pob plaid wleidyddol yn canmol staff y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny'n gwbl briodol. Mae'n haeddiannol, oherwydd hebddyn nhw ni fyddai'r GIG yn ddim. A ydych chi'n meddwl bod digon yn cael ei wneud i gynorthwyo llesiant staff y GIG?

Materion i'r byrddau iechyd lleol yw'r rhain yn bennaf, ond, unwaith eto, ymunaf ag arweinydd Plaid Cymru i gynnig teyrnged i'r gwaith anhygoel o galed hwnnw a wneir gan aelodau staff. Gwn fod y cyfarwyddwr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod o gwmpas y gwahanol adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, yn gwrando ar eu profiadau. Rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa'n gwella o'i chymharu â sut yr oedd ychydig wythnosau yn ôl, ond, byddem, byddem ni'n annog byrddau iechyd lleol, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod y dulliau cywir ar waith i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo y tu hwnt i'r geiriau yr ydym ni'n eu mynegi fel gwleidyddion.

Prif Weinidog, gwnaed datgeliadau i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf gan weithwyr yn ein GIG am broblemau difrifol o ran ysbryd a llesiant staff. Mae pobl sy'n gwasanaethu yn y rheng flaen yn honni eu bod ar ben eu tennyn o ganlyniad i rai o'r pwysau sy'n cael eu rhoi arnyn nhw. Nawr, dim ond at un o'r datgeliadau hyn yr wyf i wedi cael caniatâd i gyfeirio ato hyd yma, ond mae'r person wedi gofyn i mi yn benodol i'w godi gyda chi yn y Llywodraeth.

Prif Weinidog, mae honiad difrifol yn cael ei wneud bod blaenoriaethu'r gwasanaeth ambiwlans yn rhoi pobl mewn perygl ar adegau o alw uchel. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, honnir y bu'n rhaid i gleifion sydd wedi eu categoreiddio fel rhai sy'n addas ar gyfer ymateb 20 munud aros am hyd at chwe awr am ambiwlans. Dywedir wrthyf fod y rhain yn cynnwys cleifion sydd wedi cael strôc, trawiad ar y galon a phroblemau anadlu. Mae'r sawl a ddatgelodd y wybodaeth hon i mi yn absennol o'r gwaith oherwydd straen ar hyn o bryd ac ni all siarad am ei swydd heb fynd yn ddagreuol. Prif Weinidog, sut gellir amddiffyn y sefyllfa hon, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hyn?

Mae'n anodd rhoi ateb heddiw heb wybod y ffeithiau llawn, ond mae digon yno i mi ymchwilio, yn fy marn i, a byddaf yn ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru, gan gyfleu'r hyn y mae hi wedi ei ddweud heddiw i'r ymddiriedolaeth ambiwlans, a phan fyddaf yn cael ymateb ganddyn nhw, byddaf wrth gwrs yn ei rannu â hi.

Diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Byddwn yn eich annog chi hefyd i ofyn i'ch Ysgrifennydd dros iechyd asesu llesiant staff yn y GIG, gan fod y llythyr a dderbyniais i yn sôn y bu'n rhaid dod â chwnselwyr o elusen i mewn i siarad gyda staff rheoli ambiwlansys, cymaint yw lefel y straen hwnnw. Os yw hynny'n wir, mae hon yn sefyllfa wirioneddol syfrdanol ac mae'n argyfwng yn ein gwasanaethau cyhoeddus. A allwch chi gadarnhau bod cwnsela wedi cael ei gynnig i staff y GIG? Ac o ran adnoddau ambiwlans, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd blaenoriaethu yn destun adolygiad ac nad yw ymateb i alwadau coch yn rhoi unrhyw un sydd wedi ei gategoreiddio fel galwad ambr mewn perygl o farwolaeth neu anaf pellach?

14:05

Unwaith eto, mae angen ymchwilio ymhellach i hynny. Gyda chaniatâd arweinydd Plaid Cymru, byddaf yn ymchwilio i'r materion ychwanegol hynny hefyd, a phan geir ymateb, byddaf wrth gwrs yn ei rannu â hi.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth, cyn y Nadolig, ei chynllun gweithredu economaidd newydd, 'Ffyniant i Bawb'. Dyma'r pedwerydd cynllun gweithredu y mae'r Blaid Lafur wedi ei gyhoeddi ers dechrau datganoli. 'Cymru'n Ennill' oedd y cyntaf ym 1999, 'Cymru: Economi yn Ffynnu' yn 2005, a 'Cyfeiriad newydd' yn 2009. Os edrychwch chi ar y ddogfen mewn gwirionedd, nid yw'n cynnig llawer o obaith o ran sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i gynyddu cyflogau yma yng Nghymru, sy'n sylweddol is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yn yr 20 mlynedd yr ydych chi wedi bod mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, neu'r bron i 20 mlynedd yr ydych chi wedi bod mewn Llywodraeth yng Nghymru, mae gwerth ychwanegol gros wedi cynyddu gan hanner o 1 y cant yn unig. Nid yw'n cynnig llawer o obaith o ran sut yn union yr ydych chi'n mynd i gael momentwm gwirioneddol y tu ôl i werth ychwanegol crynswth yma yng Nghymru. Sut gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y ddogfen hon yn wahanol mewn unrhyw ffordd i'r tri rhagflaenydd oedd ganddi?

Yn gyntaf oll, os edrychwn ni ar ddiweithdra, mae diweithdra yn isel yng Nghymru, ac mae'n aml yn is na chyfartaledd y DU. Byddai wedi bod yn wamal honni hynny ym 1999. Roeddem ni'n uwch na chyfartaledd y DU yn barhaus, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n dangos llwyddiant yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i annog busnes a buddsoddiad.

Yn ail, ceir her o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros y pen. Sut mae gwneud hynny? I mi, mae dwy ffordd. Yn gyntaf oll, rydych chi'n sicrhau, pan eich bod chi'n ceisio sicrhau buddsoddiad, ei fod yn fuddsoddiad sy'n talu'n uchel. Ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au, y polisi a ddilynwyd gan ei blaid ef oedd disodli swyddi â chyflogau da ym meysydd glo a dur gyda swyddi heb sgiliau a oedd yn talu'n wael. Felly, er na wnaeth y gyfradd ddiweithdra gynyddu o reidrwydd, gostyngodd gwerth ychwanegol gros gan nad oedd y swyddi'n talu cymaint. Gwelsom, ar ddiwedd y 1990au a rhan gyntaf y degawd diwethaf, lawer o'r busnesau hynny yn gadael Cymru gan eu bod yn mynd i rywle lle'r oedd cyfraddau cyflog hyd yn oed yn is.

Nid ydym ni fel Llywodraeth yn fodlon gwerthu ein hunain i weddill y byd ar y sail ein bod ni'n economi cyflog rhad—sef yr hyn a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ddechrau'r 1990au, ar sail 'Dewch i Gymru gan ei bod yn rhad'—dim mwy. Rydym ni'n gweld ffrwyth hynny. Rydym ni'n gweld, wrth gwrs, y buddsoddiad gan gwmnïau fel Aston Martin, rydym ni'n gweld y buddsoddiad ychwanegol yn Airbus yn y gogledd, rydym ni wedi gweld buddsoddiadau'n cael eu hadennill yn Sir Benfro o gwmpas porthladd Aberdaugleddau, sydd i gyd yn talu'n well o lawer na swyddi a oedd yn dod yma ers talwm. Mae hynny'n un rhan o'r peth.

Hyfforddiant yw'r ail ran. Y cwestiwn a ofynnir i ni yn amlach nag unrhyw un arall pan fyddwn ni'n siarad â busnesau sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru yw: 'A oes gennych chi'r bobl sydd â'r sgiliau y mae eu hangen arnom?' Nid oes diddordeb ganddyn nhw yn y gost, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn sgiliau. Yn gynyddol, gallwn ateb y cwestiwn hwnnw'n gadarnhaol. Felly, mae'n golygu gweithio gyda cholegau addysg bellach, o ran prentisiaethau, ac mae gennym ni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau pob oedran yn ystod y Cynulliad hwn. Trwy godi lefelau sgiliau pobl y gallwn ni wneud yn siŵr y gallant roi mwy o arian yn eu pocedi, a chynyddu gwerth ychwanegol gros trwy hynny.

Prif Weinidog, rydych chi'n codi'r mater am gyflogau. Os cymerwch chi'r Alban fel enghraifft, yn ôl ym 1999, roedd gweithiwr yng Nghymru a gweithiwr yn yr Alban yn mynd â'r un cyflog adref. Heddiw, mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yn fwy adref yn ei becyn cyflog bob wythnos nag y mae gweithiwr yng Nghymru. Mae hynny'n ffaith. Yn y ddogfen hon, dim ond dwywaith y cyfeirir at gyflogau. Cyfeirir at drethi, trethi busnes, unwaith yn unig mewn 17,000 o eiriau. Prin y sonnir am awtomeiddio, sef yr her enfawr yr ydym ni'n ei hwynebu, lle mae'n bosibl y gallai 35 y cant o'r gweithlu golli eu swyddi neu gael ailfodelu eu swyddi dros y 29 mlynedd nesaf, yn y ddogfen hon. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw atebion o ran yr heriau gwirioneddol yr ydym ni'n eu hwynebu yn y degawd neu ddau nesaf.

Y ddogfen hon, rwy'n tybio, yw'r sbardun ar gyfer polisi economaidd sy'n dod allan o'r Llywodraeth ar gyfer y pedair i bum mlynedd nesaf o leiaf, yn dibynnu ar y mandad, ac unwaith eto rwy'n dychwelyd at y pwynt yma—dyma'r bedwaredd ddogfen sydd wedi dod allan o Blaid Lafur Cymru mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, ac amlygais y tlodi o ran cyflogau yma yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid yw'r ddogfen hon yn cynnig yr ateb hwnnw. Rhowch rywfaint o ysbrydoliaeth i ni o ran yr hyn y gallwn ni edrych arno yn 2021 o ran cyflogau, o ran cyfoeth yma yng Nghymru, ac yn anad dim, o ran cwmnïau yn ailsefydlu eu hunain yma yng Nghymru.

Wel, mae eisoes yn wir ein bod ni'n gwybod bod heriau o ran awtomeiddio. Yn wir, mae gan fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rwy'n credu, ddadl gryno ar hyn yfory, ar awtomeiddio. Mae e'n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol, fel y'i disgrifir, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn ohono.

Gobaith—y gobaith yw hyn: bod Cymru yn lle, yn gyrchfan lle y mae cwmnïau o bedwar ban byd eisiau dod; bod Cymru yn lle y gwelir bod pobl yn arloesol, yn entrepreneuraidd; lle y mae gan bobl y sgiliau sydd eu hangen i oroesi, nid yn unig yn ystod y pump neu 10 mlynedd nesaf, ond y tu hwnt, i ymateb i heriau awtomeiddio; man lle nad oes system addysg dameidiog, ond un sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn meddu ar y sgiliau hynny sydd eu hangen; gwlad lle ceir Llywodraeth sy'n gweithio'n agos â busnesau, sy'n mynd allan i wahanol wledydd ac yn annog busnesau i ddod i Gymru ac i fuddsoddi yng Nghymru—dyna pam mae gennym ni'r ffigur uchaf ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd—ond hefyd Llywodraeth sy'n deall nad yw'n gwestiwn o sicrhau buddsoddiad tramor, ond yn gwestiwn o sicrhau bod ein busnesau bach a chanolig yn parhau i gael eu sefydlu a thyfu.

Un o'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu yn economi Cymru yw bod gormod o'n BBaChau yn tyfu i lefel benodol ac yna'n gwerthu—mae'r perchnogion yn gwerthu i gwmni mwy. Bu'r broblem honno yno erioed o sut yr ydym ni'n annog y bobl hynny i dyfu'n fwy, i gael mwy o gwmnïau wedi eu rhestru ar gyfnewidfa stoc Llundain, wedi eu rhestru ar y farchnad fuddsoddi amgen, oherwydd rydym ni wedi ein tangynrychioli arnyn nhw ac rydym ni eisiau iddyn nhw dyfu yn hytrach na dweud, 'Wel, rwyf i wedi gwneud fy rhan i nawr. Rwy'n mynd i werthu'r busnes.' Mae'r entrepreneuriaid gennym ni, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Rwy'n ei weld gyda phobl iau: mae ganddyn nhw frwdfrydedd a hyder nad oedd gennym ni, oherwydd roeddem ni'n cael ein darbwyllo yn ei erbyn yn ymarferol pan roeddwn i yn yr ysgol. Harneisio'r bobl hynny, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad at gymorth a chyngor busnes, gwneud yn siwr bod ganddyn nhw fynediad at gymorth drwy Cyllid Cymru, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y dyfodol—dyna sy'n allweddol o ran y dyfodol economaidd i Gymru yr wyf i eisiau ei weld ac rwy'n credu y mae pobl Cymru eisiau ei weld.

14:10

Awgrymwyd i mi mai dyna'r gyfatebiaeth 'ladybook' o'r hyn yr ydych chi ei eisiau ar gyfer y dyfodol economaidd, Prif Weinidog, oherwydd, er tegwch, mae 17,000 o eiriau yn y ddogfen hon. Roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi rhoi rhywbeth cadarn i ni, map ffordd, a fyddai'n codi cyflogau Cymru. Fel yr wyf i wedi ei amlygu, dros yr 20 mlynedd, mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yn fwy adref yn ei becyn cyflog nag y mae gweithiwr yng Nghymru yn ei gael i fynd adref, ac mae gwerth ychwanegol gros wedi cynyddu hanner o 1 y cant dros yr 20 mlynedd. Prin bod hwnnw'n hanes i fod yn falch ohono. Rwyf i eisiau gweld Cymru yn ffynnu'n economaidd yn union fel y darlun yr ydych chi newydd ei gyflwyno, ond roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi tynnu rhywbeth allan o'r ddogfen hon a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd dyma'r glasbrint yr ydych chi'n seilio eich model economaidd arno, ac nid yw'n cynnig llawer o obaith pan sonnir am drethi unwaith, pan sonnir am gyflogau ddwywaith, ac y sonnir am awtomeiddio ddim ond chwe gwaith.

Ac os caf ofyn i chi am drethi yn benodol: a ydych chi'n credu y bydd yr amgylchedd trethi y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn gwneud Cymru yn amgylchedd trethi mwy cystadleuol i ddenu busnesau i Gymru? Gwnaed sylwadau i mi gan fusnesau ar y dreth trafodiadau tir sy'n dangos y bydd Cymru o dan anfantais yn y pen draw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyfarfod ag arweinyddion diwydiant ar y mater hwn—sy'n bryderus iawn am y dibrisiant y mae busnesau yn mynd i orfod ei roi yn eu mantolenni oherwydd yr amgylchedd trethi uwch y mae eich Llywodraeth yn ei gynnig. Felly, a ydych chi'n credu y bydd yr amgylchedd trethi y byddwch chi'n ei greu yma yng Nghymru yn rhoi Cymru o dan fantais o ran denu rhai o'r swyddi newydd a'r mentrau newydd hyn a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r genhedlaeth awtomeiddio sydd ar ei ffordd?

Wel, rwy'n credu ei fod yn e'n golygu llyfr 'Ladybird', yn hytrach na 'ladybook'. Hyderaf mai dyna mae'n ei feddwl.

Ond mae'n gofyn y cwestiwn: 'A ydw i'n hyderus yn y dreth trafodiadau tir a'r amgylchedd trethi y mae'n ei greu?' Yr ateb i hynny yw 'ydw'. A ydw i'n hyderus bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn addasu—. Soniasoch am y ffaith fod pedwar gwahanol gynllun—wel, wrth gwrs bod yna. Pe byddai gennym ni'r un cynllun o 1999 yna byddem wedi ymgaregu yn y gorffennol. Ym 1999, rwy'n cofio Dr Phil Williams yn sefyll ar ei draed yn y Siambr flaenorol ac yn dweud popeth am fand eang wrthym, ac nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod am beth yr oedd e'n sôn, a cydnabuwyd hynny ganddo, er tegwch iddo, ond roedd ar y blaen i ni. Roedd ar y blaen i ni. Nid oedd neb yn siarad am fand eang ym 1999. Nawr, wrth gwrs, mae'n un o ffeithiau bywyd.

Felly, mae'n rhaid i ni addasu, ac mae'r ffaith y bu gennym ni wahanol ddulliau gweithredu dros yr 20 mlynedd diwethaf yn arwydd ein bod ni wedi addasu i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â'r gwahanol amgylchiadau y mae'r byd yn eu taflu atom ni, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n fwy na pharod i amddiffyn ein hanes fel Llywodraeth o ran yr economi, i amddiffyn ein syniadau, i amddiffyn y ffaith ein bod ni'n Llywodraeth ragweithiol. Rydym ni'n cymryd cyfranddaliadau mewn busnesau pan fyddwn ni'n credu bod busnesau yn mynd i fod yn llwyddiannus. Rydym ni'n rhoi ein harian ar ein gair. Ble mae ei syniadau ef? Ble mae syniadau'r Ceidwadwyr Cymreig? Nid oes gen i unrhyw syniad o gwbl beth yw eu polisi economaidd, ac o farnu ar sail y wynebau sydd draw yn y fan yna—mae eu pennau nhw i gyd i lawr—nid wyf i'n credu eu bod hwythau'n gwybod ychwaith. Ar bob cyfrif, gadewch i ni gael dadl ar syniadau economaidd, ond gadewch i ni glywed beth yw eich rhai chi yn gyntaf.

14:15
Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y gall byrddau iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd effeithiol a chydgysylltiedig? OAQ51576

Y ffordd orau o godi safonau yw pan fydd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Eleni, darparwyd £60 miliwn drwy'r gronfa gofal integredig i gefnogi gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau integredig mewn ymateb i'w hasesiadau poblogaeth.

Gyda'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol mewn golwg, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i godi pryderon ynghylch parhad gofal ar gyfer plant sydd ar fin bod yn oedolion. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gweithio gyda'u pum partner awdurdod lleol yn eu hardal i geisio symud tuag at ddarparu gwasanaeth integredig cyfun, ond mae hyn wedi bod yn her, yn rhannol oherwydd yr amrywiaeth o gyrff, ond hefyd oherwydd y cyfnod pontio i fod yn oedolyn sy'n aml yn anodd i blant sydd angen parhad gofal.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno felly i gynnal adolygiad o ganllawiau parhad gofal plant a phobl ifanc 2012, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n credu bod angen eu diweddaru yng ngoleuni gofal cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, ac felly, gallwn wneud yn siŵr wedyn bod gan y rheini sy'n symud i fod yn oedolion siawns dda o barhad gofal.

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod am y cwestiwn? Yn gyntaf oll, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf yn edrych ar yr achos unigol yn agosach. Yn ail, gofynnodd yn benodol am y canllawiau. Gallaf ddweud bod y broses wedi cychwyn. Rydym ni'n sefydlu grŵp i ystyried y ddarpariaeth o ofal parhaus i blant a phobl ifanc, ac i geisio llunio canllawiau newydd i ddisodli'r canllawiau presennol, gan gymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, datblygiadau ers hynny.

Prif Weinidog, un o ganfyddiadau allweddol yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol oedd bod llu o fyrddau cenedlaethol yn goruchwylio rhaglenni gwaith y tu allan i strwythurau sefydliadol, ac un argymhelliad eglur oedd y dylid symleiddio'r byrddau hyn er mwyn sicrhau darpariaeth fwy effeithiol o wasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf y newidiadau a allai fod yn dod i wasanaethau iechyd a chymdeithasol, mae hwn yn bryder sydd wedi codi mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus: ceir llawer iawn o adrodd, dim cymaint o wneud.

A wnewch chi ystyried edrych ar adolygiad i symleiddio'r byrddau sydd gennym ni ar draws y sector cyhoeddus cyfan, i sicrhau bod y byrddau cydweithredu sydd gennym ni ar waith, a'r byrddau rhaglen sydd gennym ni ar waith, yn effeithiol ac yn gweithio gyda'i gilydd yn dda iawn, ac i gael gwared ar y rheini nad ydynt, fel y gallwn ni wir ganolbwyntio ar gyflawni'r gweddnewidiad y mae taer angen i ni ei weld?

A gaf i ddweud fy mod i'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr adolygiad ei hun yn adolygiad trawsbleidiol? Ac rwy'n credu bod yr adolygiad yn haeddu ystyriaeth lawn gan yr holl bleidiau, gydag ymateb llawn. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthi, fodd bynnag yw hyn: mae hi'n gwneud y pwynt, yn amlwg yn synhwyrol, ein bod ni eisiau gweld ffiniau yn cael eu dileu. Gwn fod yr adolygiad yn cyflwyno gweledigaeth o iechyd a gofal di-dor heb ffiniau artiffisial rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn yr ydym ni oll eisiau ei weld hefyd. Felly, cyflawni hynny yw'r cam nesaf o ran ystyried yr hyn y mae'r adolygiad wedi ei ganfod.

Mi dynnais i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar at y broblem o dacsis ambiwlans yn cael eu canslo, yn aml ar y funud olaf—wrth gwrs, rhywbeth sy'n achosi loes i gleifion sydd wedi bod yn aros tro i fynd i'r ysbyty. Mewn ateb a dderbyniais i ar 8 Ionawr, mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod o'n siomedig i glywed am y pryderon yma, a bod rhaglen drawsnewid yn cael ei gweithredu i wella'r maes yma, a bod cydweithio efo llywodraeth leol yn rhan o'r ateb. Ond, pryd allaf i ddweud wrth fy etholwyr i y gallant ddisgwyl gweld y rhan bwysig yma o'r gwasanaeth iechyd yn cael ei sefydlogi achos, hyd yma, er gwaethaf y rhaglen weithredol, mae'n amlwg nad ydy o'n gweithio?

Wel, mi wnaf ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ysgrifennu ato fe er mwyn sicrhau bod ymateb llawn yn cael ei roi.FootnoteLink

Prif Weinidog, yn anffodus rydym ni'n gweld y canlyniadau pan fydd ein byrddau iechyd a'n hawdurdodau lleol yn methu â gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol: cleifion yn cael eu gorfodi i aros yn yr ysbyty yn hirach na'r angen, neu gleifion yn cael eu rhyddhau heb fod pecyn gofal ar waith. Prif Weinidog, mae nifer o gleifion hŷn wedi cysylltu â mi, a adawyd i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Beth mae eich Llywodraeth chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan bawb sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty ofal priodol ar waith yn ystod y cyfnod pan fyddant yn adfer?

14:20

Ni ddylai hynny ddigwydd, wrth gwrs. Mater i bob awdurdod lleol yw sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nod y gronfa gofal integredig yw sicrhau bod y rhwystrau sy'n atal pobl sy'n gadael yr ysbyty er mwyn dychwelyd adref yn lleihau, ac yn cael eu dileu, yn wir.

Gallaf ddweud bod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar oedi wrth drosglwyddo gofal yn cofnodi gostyngiad o 0.7 y cant i nifer yr achosion o oedi ledled Cymru, o'i gymharu â chyfnod mis Hydref 2017—ac roedd y cyfanswm hwnnw 6 y cant yn is na'r un cyfnod y llynedd—ac yn is na'r cyfansymiau a adroddwyd yn y cyfnod cyfatebol yn y ddwy flynedd flaenorol. I mi, mae hynny'n arwydd bod y gronfa gofal integredig a'r arian yr ydym ni wedi ei fuddsoddi yn honno yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o bobl.

Band Eang Cyflym Iawn

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfathrebu â phobl sy’n aros am wasanaeth band eang cyflym iawn? OAQ51582

Mae gwybodaeth ar gyflwyno band eang cyflym iawn o dan project Cyflymu Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd darparu gwybodaeth effeithiol ar gyflwyno hyn hefyd yn ofyniad allweddol o unrhyw broject olynol.

Mi gysylltodd etholwr o Dalwrn efo fi yn ddiweddar, nid ei fod o'n flin oherwydd nad oedd ganddo fand eang cyflym iawn, ond ei fod o rŵan wedi ffeindio allan ei fod o ar gael iddo fe ers rhai misoedd, ond nad oedd e’n gwybod am y peth. A digwydd bod, rydw i yn yr un sefyllfa, lle dywedodd cymydog wrthyf ein bod ni'n gallu cael cysylltiad band eang cyflym ers cwpl o fisoedd.

Mae hyn yn rhwystredig iawn i bobl sydd wedi aros yn hir, ac mae o’n rhan, rydw i’n meddwl, o’r diffyg cyfathrebu affwysol sydd wedi bod rhwng Openreach a’r cyhoedd ynglŷn â roll-out band eang llydan. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i bwyso eto ar Openreach i roi gwybod i bobl pan fo cysylltiad ar gael? Achos mae disgwyl am y cysylltiad yn ddigon hir, a phan rydych yn ffeindio ei fod o wedi bod ar gael a chithau ddim yn gwybod, mae e’n hynod rwystredig.

Nid ydyw wedi bod yn ddigonol. Mi oedd yna ymgyrch dros y tair blynedd lan at y flwyddyn nesaf er mwyn hybu defnydd o fand eang cyflym iawn, ond rydym yn ailystyried ym mha ffordd y gallwn ni wella’r cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl sydd â’r gwasanaeth yn gallu ei dderbyn ac yn gwybod ei fod e yna. Wrth gwrs, mae’n un peth i sicrhau bod y strwythur yna, mae’n beth arall i sicrhau bod pobl yn gwybod eu bod nhw’n gallu ei ddefnyddio. So, mae hwn yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthym hefyd, ac rydym yn moyn ailystyried y ffordd rydym yn cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod.

Prif Weinidog, a gaf i ddweud fy mod i'n credu bod rhaglen Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb cyfathrebu cyhoeddus? Yn sicr addawyd band eang ffibr i'm hetholwyr dro ar ôl tro dim ond i gael eu hysbysu bod yr uwchraddio wedi ei oedi, ar sawl achlysur. Ac maen nhw'n canfod nawr eu bod nhw wedi cael eu gadael mewn twll gan fod Openreach wedi rhedeg allan o amser. Mewn llythyr i mi ar 11 Ionawr, dywedodd arweinydd y tŷ, a dyfynnaf yn y llythyr: Ni chafodd y ddarpariaeth o gysylltiad band eang cyflym iawn, o dan brosiect Cyflymu Cymru, ei addo i unrhyw ardal na chymuned erioed, dim ond ei drefnu.

Mae hynny, i mi, yn osgoi cyfrifoldeb yn llwyr. Addawyd i aelwydydd dro ar ôl tro y bydden nhw'n cael uwchraddiad erbyn diwedd 2017. Felly, a gaf i ofyn beth yw eich neges chi i'r aelwydydd hyn? Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu, ac a allwch chi roi unrhyw sicrwydd bod safleoedd a oedd yn rhan o'r cwmpas gynt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynllun olynol nawr?

Yn gyntaf oll, rydym ni yn nwylo BT o ran y gwaith ffisegol sy'n cael ei wneud. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i'n deall bod pobl sy'n teimlo nawr, gan fod y contract wedi dod i ben, na fydd unrhyw beth arall yn digwydd. A gaf i ddweud wrth yr Aelod ein bod ni'n ystyried pa gamau pellach y gallwn ni eu cymryd nawr? Rwy'n deall. Rwyf i wedi clywed straeon ledled Cymru bod adeiledd, yn llythrennol, wedi ei adael wedi hanner ei orffen oherwydd i'r contract ddod i ben. Rwy'n gwbl ymwybodol o hynny. Byddai'n drueni mawr pe byddai hynny'n digwydd. Felly, a gaf i ddweud wrtho fe a'i etholwyr ein bod ni'n mynd ati i ystyried sut orau i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu cysylltu, ac rydym ni'n edrych eto ar sut y gallwn ni helpu i gysylltu llawer mwy o gymunedau ac aelwydydd y tu hwnt i ddiwedd y contract ddiwedd y llynedd.

Prif Weinidog, oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid oes unrhyw amheuaeth bod gan filoedd o gartrefi ar draws etholaeth Llanelli fynediad at fand eang cyflym iawn erbyn hyn. Ond yng nghymuned y Bynie, ar gyrion Llanelli, maen nhw wedi cael eu trin yn hynod wael gan BT Openreach. Dywedwyd wrthynt y byddai ganddyn nhw fynediad erbyn diwedd y flwyddyn, maen ganddyn nhw gyflymderau gwarthus, ac fe'u hysbyswyd ychydig cyn y Nadolig y byddai'n rhaid iddyn nhw aros tan unrhyw gynllun olynol yn y dyfodol oherwydd eu bod wedi cyrraedd eu targed. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon da.

Cynhaliodd fy nghyd-Aelod, Nia Griffith, gyfarfod â thrigolion a chyda BT  fore Sadwrn, a dywedwyd wrthynt y byddai'n rhaid iddyn nhw baratoi cais cymunedol nawr. Mae hyn wedi peri rhwystredigaeth mawr iddyn nhw, felly a all Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr, wrth iddi gyfathrebu'r cyfnod nesaf, bod y grwpiau hyn a adawyd ar ôl yn cael eu cyrraedd nawr, ac yn cael eu cyrraedd yn gyflym?

14:25

Wel, gallaf ddychmygu'n iawn y pryder, os nad y dicter, y mae pobl yn y Bynie yn ei deimlo. Rwy'n credu, o dôn yr Aelod, bod hyn yn rhan o'r contract Cyflymu Cymru yn hytrach na chontract masnachol, nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto, wrth gwrs, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag ef gyda BT gyda'r nod o edrych eto ar gymunedau yr addawyd, neu y mae'n ymddangos yr addawyd, gwasanaethau iddynt, ond na ddarparwyd y gwasanaethau hynny iddynt, gyda'r nod o ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn y bydd cymunedau a safleoedd ledled Cymru sy'n teimlo y dylen nhw fod wedi gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn nad ydynt wedi ei dderbyn eto, ac rydym ni'n edrych nawr ar ffyrdd o geisio sicrhau eu bod nhw'n ei dderbyn yn y dyfodol.

Sicrwydd Ariannol

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru wella sicrwydd ariannol ar gyfer pobl yng Nghymru? OAQ51579

Mae ein cynllun cyflenwi ar gyfer cynhwysiant ariannol yn amlinellu ein gwaith gyda sefydliadau partner. Mae hwn yn gwella mynediad at gredyd fforddiadwy, gwasanaethau a gwybodaeth ariannol, ac yn gwella galluedd ariannol yng Nghymru.

Diolch. Mae marchnad fwy eang ar gyfer undebau credyd mewn gwledydd datblygedig eraill. Rŷm ni'n edrych ar Iwerddon: 77 y cant y flwyddyn diwethaf; a 50 y cant yn yr Unol Daleithiau. Mae'r ffigurau i Gymru o ran aelodaeth undebau credyd: 69,000 o aelodau yma, ond 561,000 yng Ngogledd Iwerddon ynddo'i hun. Tybed a fedrai Llywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso datblygiad undebau credyd yng Nghymru, o feddwl bod banciau mawr yn tynnu eu hunain allan o gymunedau lleol? A oes modd creu rhwydwaith cenedlaethol o undebau credyd  llwyddiannus a fyddai'n gallu cymryd lle y ffaith bod y banciau yn tynnu yn ôl o'n cymunedau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yno o hyd iddyn nhw?

Rwy'n cydymdeimlo'n fawr iawn gyda beth sydd gan yr Aelod i'w ddweud. A gaf i dalu teyrnged iddi hi am y gwaith y mae hi wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei eisiau arnynt—

—a ddim, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod benthyg arian oddi wrth bobl sy'n mynd i tsiarjo lot fawr o arian iddyn nhw i fenthyg yr arian hwnnw?

Mae yna mwy o botensial, rwy'n credu, ynglŷn ag undebau credyd. Mae'n wir i ddweud, yn Iwerddon—er eu bod wedi bod yn Iwerddon llawer yn hirach nag yng Nghymru—fod undebau credyd yn gallu benthyg arian mawr, o gymharu ag undebau credyd Cymru. Mae pobl yn cael morgeisi, er enghraifft, gan undebau credyd yn Iwerddon. Ynglŷn â chael rhwydwaith o undebau credyd, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu sy'n werth ei ystyried. Byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn cyfathrebu gyda hi er mwyn sicrhau ym mha ffordd y gallwn ni gryfhau presenoldeb undebau credyd yng nghymunedau Cymru, o gofio'r ffaith bod banciau yn gadael siẁd gymaint o gymunedau, er mwyn rhoi cyfle i bobl reoli eu bywydau ariannol mewn ffordd sy'n dda iddyn nhw.FootnoteLink

Er bod plant sy'n ennill profiad o gyllidebu, gwario a chynilo o oedran cynnar yn fwy tebygol o allu rheoli eu harian wrth iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldebau ariannol pan fyddan nhw'n tyfu'n hŷn, canfu gwaith ymchwil gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar allu ariannol plant, pobl ifanc a rhieni yng Nghymru, a lansiwyd yn ystod Wythnos Gallu Ariannol fis Tachwedd diwethaf, nad yw llawer o bobl ifanc sydd ar fin troi'n 18 oed yng Nghymru wedi eu paratoi'n ddigonol ar gyfer ymdrin â chyfrifoldebau ariannol oedolion. Dim ond 35 y cant o blant rhwng saith a 17 oed oedd wedi dysgu am reoli arian yn yr ysgol a dim ond 7 y cant oedd wedi trafod arian gyda'u hathrawon.

A wnewch chi annog eich Llywodraeth felly i ailystyried argymhellion adroddiad 2010 y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar gynhwysiant ariannol ac effaith addysg ariannol, a wnaeth argymhellion eglur yn y meysydd hyn? A allwch chi hefyd gadarnhau pa swyddogaeth, os o gwbl, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflawni yng nghynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun cyfle i anadlu, i gynnig hyd at 6 wythnos i unigolion mewn dyled yn rhydd o ffioedd llog a gorfodaeth i roi amser iddyn nhw gael cyngor ariannol, gobeithio—ac rwy'n datgan buddiant—gan gyrff trydydd sector annibynnol, fel y rhai y mae dwy o'm merched yn gweithio iddynt, yn darparu'r cyngor diduedd hwn i bobl?

Yn gyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr angen i bobl ifanc gael addysg ariannol. Rwy'n credu mai rhan o'r broblem yw ei bod hi'n ymddangos bod arian, er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd yn 2008, yn dal i fod ar gael yn rhwydd mewn ffordd nad oedd pan oeddwn i'n iau, pan nad oedd benthyciadau ar gael mor rhwydd ag y maen nhw nawr. Yn y dyddiau pan—wel, roedd gan fy menthyciad car cyntaf gyfradd llog o 29 y cant; rwy'n cofio hynny'n eglur iawn, ac yn boenus. I lawer o bobl, roedden nhw'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi—nid oedd neb wedi dangos iddyn nhw sut i ymdopi; weithiau mae pobl yn dysgu trwy eu teuluoedd, weithiau nid yw'r gallu hwnnw i ddysgu gan bobl, ac nid oes ganddyn nhw esiampl y gallan nhw ei dilyn. Mae'n rhan, rwy'n deall, o'r cwricwlwm, y cwricwlwm newydd, felly bydd yno, i alluogi pobl ifanc i reoli eu—i'w helpu nhw i reoli eu—cyllid yn y dyfodol. Oherwydd mae'r pwynt yn cael ei wneud yn dda: sut ydych chi fel person ifanc yn ymdopi â'r holl—? Yn aml iawn, mae arian yn cael ei daflu atoch chi—neu ddyledion yn cael eu taflu atoch chi, i lawer iawn o bobl—heb unrhyw fath o gymorth ar gael i chi. Mae'r pwynt hwnnw wedi ei wneud yn dda, ac mae wedi ei gynnwys yn y cwricwlwm.

O ran cyfle i anadlu, gwn fod hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei godi. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried, o ran sut yr ydym ni'n—os edrychwn ni ar fwrw ymlaen ag ef, sut i fwrw ymlaen ag ef, boed ar sail Cymru neu'n gweithio gyda gwledydd eraill yn y DU. Ond, yn fy marn i, mae'n rhaid i unrhyw beth sy'n galluogi pobl i gael seibiant o ddyled, a dyled barhaus yn arbennig, y mae pobl yn aml yn canfod eu bod yn ei hysgwyddo, fod yn rhywbeth i'w groesawu.

14:30

Diolch. Prif Weinidog, yn dilyn cyllideb wag Llywodraeth Dorïaidd y DU ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn is unwaith eto, mewn termau real, yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynegi dro ar ôl tro, er mwyn i economi Cymru dyfu, a fydd o ganlyniad yn gwella diogelwch ariannol i bobl Cymru, ei bod hi'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth y DU yn ymrwymo i brosiectau seilwaith pwysig yng Nghymru. Prif Weinidog, pa sylwadau mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud a pha gamau y mae wedi eu cymryd i sicrhau bod prosiectau fel morlyn llanw bae Abertawe, trydaneiddio'r rheilffordd o Lundain Paddington i Abertawe, a'r buddsoddiad pellach y mae wir ei angen yn ein seilwaith rheilffyrdd, yn dod yn realiti?

Wel, rydym ni wedi gwneud sylwadau cryf iawn. Rydym ni'n cael 1.5 y cant o fuddsoddiad seilwaith rheilffordd—1.5 y cant. Byddai dros 6 y cant ar sail cyfran gytbwys, ond nid dyna yr ydym ni'n ei gael. Ac fe wnaeth Llywodraeth y DU barhau i wrthod datganoli seilwaith rheilffyrdd yn ogystal â chyfran Barnett o'r gwariant hwnnw i ni. Nid ydym ni wedi cael unrhyw benderfyniad am y morlyn llanw o hyd. Gwnaed y pwynt gennym yr wythnos diwethaf. Rydym ni wedi rhoi ein cardiau ar y bwrdd fel Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi dweud ein bod ni'n barod i wneud cyfraniad ariannol, i gymryd cyfran yn y morlyn. Nid ydym yn ymddiheuro am hynny. Distawrwydd cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, distawrwydd o feinciau'r Ceidwadwyr—distawrwydd o feinciau'r Ceidwadwyr. Mae hwn yn brosiect mawr—[Torri ar draws.] Mae hwn yn brosiect mawr, sydd angen penderfyniad. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cychwyn yr adolygiad i asesu pa un a ddylai'r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Mae wedi dweud y dylai'r prosiect fynd yn ei flaen; ac eto rydym ni'n dal i fod heb gael unrhyw ymateb o gwbl. [Torri ar draws.] O, mae Darren Millar yn dweud wrthyf nad yw fy agwedd i'n helpu, fel pe byddwn i'n fachgen ysgol. Fi yw Prif Weinidog Cymru; mae gen i bob cyfle a hawl i gynrychioli pobl Cymru o ran Llywodraeth y DU, ac nid yw Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw gynnydd mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, rydym ni wedi cael 12 mis o resymoldeb, ac ni ddarparwyd dim. Mae'n hen bryd i ni weld yr ymrwymiad gan Lywodraeth y DU y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ac ymrwymiad a wneir i greu hyd at 1,000 o swyddi yng Nghymru a sector ynni gwyrdd cynaliadwy. Rydym ni'n sefyll yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, ond rydym ni angen i Lywodraeth y DU, a Phlaid Geidwadol Cymru, i fod yn uchel eu cloch o ran cefnogi'r morlyn.

Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ51571

Wel, mater i awdurdodau lleol yw gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd o dan reolaeth Lafur yn ceisio diwygio ei orchymyn gwarchod mannau cyhoeddus i gynnwys cyfyngiad 'dim cardota' cynhwysfawr, yn rhan o ymgyrch yn erbyn cardota ymosodol neu fygythiol. Mae'r elusen digartrefedd Wallich o'r farn bod cardota ymosodol eisoes wedi ei wahardd gan y GGMC presennol ac y bydd symud cardota oddi ar y strydoedd ddim ond yn ei gwneud yn fwy anodd i ddarparu cymorth i'r bobl hynny sydd angen cymorth gyda gwasanaethau digartrefedd. Er bod dwylo Llywodraeth Cymru wedi eu rhwymo o ran atal awdurdodau lleol rhag gorfodi'r cyfyngiadau hyn, a allwch chi roi eich barn chi ar waharddiadau cynhwysfawr o'r fath ar gardota, ac a allwch chi gyflwyno canllawiau i awdurdodau lleol, yn eu hannog i geisio ymateb llawer mwy trugarog?

Un o'r pethau y sylwais arnynt ddiwedd y 1980au, pan euthum i Lundain gyntaf, oedd bod pobl yn cardota ar y strydoedd—llawer ohonynt. Ac rwy'n cofio meddwl, 'O, hoffwn i ddim gweld hyn yng Nghymru.' Ond digwyddodd, yn y 1990au, ac mae'n dal i fod yno nawr, fel y gwyddom. Ar ddiwedd yr ail ryfel byd, diflannodd cardota o strydoedd y DU i raddau helaeth. Daeth yn ôl i'r amlwg o dan Lywodraeth Dorïaidd yn y 1980au a'r 1990au.

O'm safbwynt i, rwy'n credu bod dau fater yn y fan yma: yn gyntaf oll, nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer o bobl o'r farn bod cardota ymosodol yn fygythiol, ond nid yr ateb yw dweud yn syml, 'Wel, dim ond cael gwared arnyn nhw sydd angen a dyna ddiwedd arni', oherwydd mae'n rhaid cael dull dau lwybr. Nac ydy, dydy pobl ddim eisiau—. Mae llawer o bobl yn teimlo nad ydyn nhw eisiau gweld pobl yn cardota ar y stryd, ond mae'n rhaid bod dewis amgen lle gall pobl fynd, lle nad yw pobl yn teimlo bod rhaid iddyn nhw gardota, lle mae pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, lle maen nhw'n cael to uwch eu pennau ac maen nhw'n cael y cymorth hwnnw. Nid ydym ni yn nyddiau Deddf Cardota 1824, pan oedd pobl yn cael eu gwneud yn droseddwyr i bob pwrpas oherwydd eu bod yn ddigartref. Mae angen dull trugarog, mae hi'n iawn, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod lleoedd y gall pobl fynd iddyn nhw fel eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw wneud hynny yn y lle cyntaf, pan geir cynlluniau i ymdrin â'r mater o gardota ar y strydoedd.

14:35

Prif Weinidog, am y rhesymau yr ydych chi wedi sôn amdanynt ac eraill, mae gennym ni lefel sy'n peri gofid o gysgu ar y stryd a chardota ar ein strydoedd ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn amlwg ac yn hawdd sylwi arno i bob un ohonom ni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae angen ymatebion adeiladol arnom. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi bod ardal buddsoddiad busnes Casnewydd, sy'n cynrychioli masnachwyr a busnesau canol y ddinas yng Nghasnewydd, ynghyd â phartneriaid fel Cyngor Dinas Casnewydd, yn darparu'r mathau hynny o syniadau i ystyried cynllun rhoi wedi ei arallgyfeirio, sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd, a fyddai'n golygu pobl yn rhoi i siopau sy'n cymryd rhan yn hytrach na rhoi i'r rhai sy'n cardota ar y strydoedd, gyda'r arian hwnnw yn mynd at ddarparu gwasanaethau a chymorth ychwanegol i bobl wedyn. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r fenter arfaethedig honno yng Nghasnewydd fel ffordd o ymdrin â'r materion ymarferol iawn a gwneud yn siŵr bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu cefnogi'n well.

Wel, mae'n enghraifft o'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud. Diolch i fy nghyfaill am y cwestiwn. Mae'n enghraifft o'r hyn a ddywedais yn gynharach. Nid yw hwn yn fater o Gasnewydd yn dweud, 'Rydym ni'n mynd i gael gwared ar gardotwyr', mae'n fater o ddweud, 'Edrychwch, a oes ffordd well, ffordd fwy trugarog, o helpu pobl?' Dyna'n union yr hyn a ddywedasoch: pobl yn rhoi arian i sefydliadau, fel y Wallich hefyd rwy'n credu, i helpu pobl ddigartref i greu cronfa o arian ar gyfer sefydliadau sy'n gallu helpu unigolion. Mae hynny i mi yn cynrychioli ffordd effeithiol iawn o ymdrin â'r hyn a all fod yn bryderon cyhoeddus—fe'u mynegwyd i mi—ond hefyd o ymdrin ag unigolion sydd mewn perygl mewn ffordd ddyngarol.

Datblygiadau Tai Newydd

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o dir ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru i ateb y galw ar gyfer datblygiadau tai newydd? OAQ51558

Mae'r system gynllunio yn chwarae rhan hanfodol yn y ddarpariaeth o gartrefi newydd trwy nodi'r tir sydd ei angen i fodloni gofynion tai cymunedau, a benderfynir gan awdurdodau cynllunio lleol yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal cyflenwad tir dros bum mlynedd ar gyfer tai i fodloni'r galw lleol am dai ac i fonitro hyn yn flynyddol. Fodd bynnag, mae cynllun datblygu lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â sicrhau bod digon o dir ar gael i ddiwallu'r anghenion y mae wedi eu nodi ar gyfer ei gymunedau lleol. Mae sefyllfa cyflenwad tir tai Caerffili yn cael ei amharu gan y methiant i wneud cynnydd o ran disodli ei CDLl yn dilyn adolygiad, a ddechreuodd yn 2013. Pa gamau wnaiff y Prif Weinidog eu cymryd i sicrhau bod cyngor Caerffili yn bodloni'r gofynion o ran cyflenwad tir ar gyfer tai a bennwyd gan ei Lywodraeth ei hun?

Wel, yn gyntaf oll, mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol gyflenwad pum mlynedd o dir. Yn ail, mae'n bwysig cael CDLl cyfredol, oherwydd y dewis arall yw trefniant cwbl benagored ac mae hynny'n rhywbeth y bydd pob awdurdod lleol yn dymuno ei osgoi. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n bwysig dros ben bod Caerffili ac awdurdodau eraill yn gallu gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno cynlluniau datblygu strategol, oherwydd mae'n rhaniad artiffisial i ddweud, 'Wel, wyddoch chi, mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau byw yng Nghaerffili weithio yng Nghaerffili' neu rywsut nad yw pobl yn gweithio yng Nghaerdydd o Rondda Cynon Taf neu i'r gwrthwyneb. Y gwir amdani yw nad yw'r galw hwnnw am dai yn cael ei bennu gan ffiniau awdurdodau lleol. Felly, rwyf i eisiau gweld—a gwn ei fod yn rhywbeth a deimlir yn gryf gan Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau lle ceir pwysau ar dai—awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dweud, 'Edrychwch, y gwir yw bod Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf', dim ond i roi rhai enghreifftiau, 'maen nhw'n rhan o ardal drefol debyg'. Bydd galw am dai yr un fath ym mhob awdurdod lleol, felly mae'n gwneud synnwyr wedyn i gydweithio i gynnig ateb strategol i'r galw am dai yn hytrach nag edrych yn syml, fel y bu'n wir yn hanesyddol, ar alw mewn un ardal awdurdod lleol. Nid yw hynny'n cynrychioli realiti economaidd ac mae'n eithriadol o bwysig y rhoddir yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol, fel y rhoddwyd iddynt yn y Ddeddf cynllunio, i weithio gyda'i gilydd i ddarparu atebion tai y tu allan i'w ffiniau eu hunain.

14:40
Rhaglen Fuddsoddi Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ51549

Mae awdurdod lleol Merthyr Tudful wedi clustnodi £19 miliwn ar gyfer band A y Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn ystod y pum mlynedd hyd at 2019. Mae gan awdurdod Caerffili, yr awdurdod y mae hi, wrth gwrs, yn cynrychioli rhan ohono, £56.5 miliwn, ac mae dros £8 miliwn ohono wedi'i glustnodi ar gyfer Rhymni. Bwriedir buddsoddi mwy ar ôl 2019 pan fydd band B yn dechrau.

Diolch ichi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Cefais y pleser o agor yn swyddogol adeiladau newydd Ysgol Afon Taf, sydd wedi'u hadnewyddu, yn fy etholaeth i yn ddiweddar a gwelais yn uniongyrchol, fanteision  buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn nyfodol y dysgwyr ifanc yno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod datblygiad o'r fath yn dangos manteision amlwg ein buddsoddiad cyfalaf mewn addysg. Felly a fyddech chi'n cytuno â mi, bod y weinyddiaeth newydd yng nghyngor Merthyr Tudful angen adeiladu ar y llwyddiant hwn a bod angen gwneud penderfyniad pendant a gwrthrychol ynghylch y buddsoddiad newydd arfaethedig mewn ysgolion ar gyfer Ysgol y Graig yng Nghefn Coed fel nad yw'r cyllid ar gyfer y project hwn yn y dyfodol yn cael ei beryglu?

Mae gwaith da iawn wedi ei gyflawni ym Merthyr Tudful o ran—mae'n sôn am, wrth gwrs, Ysgol Afon Taf. Roeddwn innau yno hefyd, wrth gwrs, i agor y coleg newydd ym Merthyr Tudful—sy'n welliant sylweddol o'i gymharu â'r adeilad gwreiddiol. Mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn parhau â'r momentwm a sefydlwyd i weld ysgolion yn cael eu disodli a'u hadnewyddu ledled Cymru, ac, unwaith eto, mae'n hynod o bwysig bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn brydlon fel nad yw'r cyllid yn cael ei beryglu. Ni fyddai o fudd i neb pe byddai hynny'n digwydd

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud y datganiad—Julie James.

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch, arweinydd y tŷ. A gaf i ofyn am ddau beth heddiw, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, fe wnes i sôn wrthych am y mater ynghylch trigolion a oedd yn wynebu problemau traffig yn eu hardal o amgylch y ffordd fynediad ogleddol yn Sain Tathan, ac fe wnaethoch chi nodi'n garedig y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cysylltu â'm swyddfa i, a hefyd yn ymgysylltu â'r trigolion lleol. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi  amserlen i mi ar gyfer pryd y bydd yr ymgysylltu hwnnw yn dechrau, oherwydd mae hwn yn fater pwysig i'r trigolion yn arbennig, sydd â phryderon difrifol am y mynediad i'w safle. Yn anffodus, yn dilyn datganiad busnes yr wythnos diwethaf, nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth eto gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n sylweddoli bod gan Ysgrifennydd y Cabinet yr ewyllys da i wneud hynny—sylwad yw hynny—a byddai'n fuddiol pe byddwn i'n gallu cael rhyw syniad o'r llinell amser.

Yn ail, cefais ateb ysgrifenedig yn ôl gan Rebecca Evans, y Gweinidog, o ran y Gronfa Buddsoddi mewn Adfywio ar gyfer Cymru a'r ymchwiliadau parhaus ar gyfer gwerthu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Mae'n dweud y bydd hi'n gwneud datganiad cyn bo hir ar y cynnydd ynghylch y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd. Byddwn i'n ddiolchgar—fel arweinydd y tŷ, a ydych chi'n ymwybodol pryd y bydd y datganiad hwnnw yn cael ei wneud efallai, oherwydd y mae gan y cyhoedd diddordeb sylweddol yn y mater penodol hwn? Bu cryn amser, bellach, ers i amryw o bwyllgorau'r Cynulliad hwn archwilio'r mater penodol hwn, ac yn sicr bydd y wybodaeth ddiweddaraf, fel y mae'r Gweinidog wedi nodi y mae hi'n fodlon ei rhoi, yn cael ei groesawu yn sicr, ond byddai llinell amser ynghylch pryd y bydd hynny'n digwydd yn rhoi gwell gwybodaeth i ni allu archwilio'r cynnydd ar adfer arian trethdalwyr Cymru o'r gwerthiant hwn, os gellir adennill yr arian hwnnw, a hefyd y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru eu cymryd yn yr achos penodol hwn.

Diolch i chi am y ddau cwestiwn yna. O ran yr un cyntaf, yn sicr, byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicrhau y bydd ef yn cysylltu â chi ac yn rhoi llinell amser i chi ar gyfer hynny. Mae'r Gweinidog yma i glywed eich sylwadau ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu dweud wrthych chi cyn gynted â phosibl pryd y bydd hi'n cyflwyno'r datganiad hwnnw. Nid yw hynny yn yr amserlen busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf.

Tybed a allem ni gael datganiad o ran y cynnig gofal plant. Rwyf wedi clywed—nid gan etholwyr; yn fy swydd fel deiliad y portffolio—bod canllawiau ariannu Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig gofal plant bellach wedi newid i adlewyrchu'r rhai yn Lloegr, sy'n golygu na fydd gwarchodwyr plant cofrestredig mwyach yn gallu cynnig lleoedd gofal plant a ariennir, i berthynas. Roedd y rheoliadau blaenorol yn nodi, cyhyd â bod y gofal ar gyfer y rhai o dan 12 oed yn bennaf neu'n gyfan gwbl yn cael ei gyflawni y tu allan i'r cartref, gallai perthynas, fel gwarchodwr plant, ddarparu'r gofal hwnnw. Mae'n golygu bod teuluoedd sydd â threfniadau gofal plant preifat hirdymor gyda gofalwyr plant yn gorfod gwneud trefniadau gwahanol, a allai fod yn gost sylweddol ac a allai amharu ar ddilyniant gofal. Mae'r gwaharddiad ar blant sy'n perthyn yng Nghymru yn unigryw i warchodwyr plant. Mae unigolion sy'n gweithio neu sy'n berchen ar feithrinfa yn dal i allu hawlio ar gyfer plant sy'n perthyn, fel af y mae'r rhai sy'n derbyn budd-dal plant. Felly, pe gallem ni gael datganiad gan y Gweinidog am hynny, byddai hynny'n wych.

Mae'r ail gais sydd gennyf, yn ymwneud â'r ymateb a roddodd y Prif Weinidog i David Rees ynghylch y llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch carchar Baglan. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac, oherwydd nad yw wedi cael ymateb boddhaol, nid oedd Llywodraeth Cymru o blaid gwerthu'r tir ar hyn o bryd. Roeddwn i'n meddwl tybed a allai Llywodraeth Cymru rannu'r llythyr hwnnw â phob Aelod Cynulliad fel y gallem ni i gyd ei weld a deall rhesymeg y Prif Weinidog wrth ddweud hynny.

14:45

Diolch i chi am y ddau bwynt pwysig yna. O ran yr un cyntaf, roedd y Gweinidog yma yn gwrando ar eich sylwadau. Rwy'n credu os byddech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog ac yn ei holi am y pwyntiau penodol hynny, rwy'n siŵr y byddai'n gallu ateb y cwestiynau hynny, ac efallai y byddech chi'n gallu dweud yn y llythyr hwnnw pa un a oes unrhyw ddiddordeb ehangach yn gyffredinol, heblaw am yr achosion yr ydych chi'n sôn amdanynt.

O ran yr ymateb i'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, unwaith eto, rwyf yn gofyn ichi ysgrifennu at y Prif Weinidog gan ofyn iddo rannu'r llythyr hwnnw. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n fater ar gyfer datganiad, ond rwyf yn siŵr os oes ganddo fwriad o wneud hynny, y byddai'n rhoi gwybod i chi.

Rwyf yn galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a fyddai'n bosibl cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol ynghylch sut y mae Deddf Hela 2004 yn cael ei gorfodi yng Nghymru? Rwy'n credu bod bron i 13 mlynedd ers i'r Ddeddf hon ddod i rym, ac rwy'n falch iawn bod Prif Weinidog y DU yn awr, o'r diwedd, wedi rhoi gorau i'r cynlluniau i'w diddymu. Fodd bynnag, mae llwynogod yn parhau i gael eu lladd yn rheolaidd ar lwybrau hela honedig, ac mae cŵn hela yn aml heb fod o dan reolaeth yn gyhoeddus, weithiau ar brif ffyrdd a rheilffyrdd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi galwadau gan y League Against Cruel Sports ac eraill, i'r gwaharddiad gael ei orfodi'n fwy llym? Dyna oedd y datganiad cyntaf.

O ran yr ail ddatganiad, rwy'n cyfeirio yn ôl eto at ddioddefwyr y sgandal gwaed halogedig. A fyddai'n bosibl gofyn i'r Gweinidog Iechyd i wneud datganiad ar ba un a yw wedi cael unrhyw wybodaeth ychwanegol o gwbl gan yr adran iechyd yn San Steffan, oherwydd cafodd dioddefwyr y sgandal addewid y byddai archwiliad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf gan Theresa May ac addawyd y byddai Cadeirydd yn cael ei benodi erbyn y Nadolig? Rydym ni'n dal heb glywed pwy fydd y Cadeirydd ac, yn y cyfamser, mae'r rhai yr effeithir arnynt yn dal i aros ac, wrth gwrs, mae rhai ohonyn nhw'n marw.

Wel, diolch yn fawr iawn am godi'r ddau bwynt pwysig iawn yna. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn nad yw'r Ddeddf hela yn fater datganoledig, ac mai mater i'r heddlu yw gorfodi'r ddeddf. Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod y rhan fwyaf o bobl yn credu bod hela llwynogod yn ffiaidd ac yn eithriadol o greulon. Rydym ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried hynny wrth orfodi'r ddeddf. Ond rwy'n credu mai'r ffordd gywir o weithredu yw sicrhau bod comisiynydd yr heddlu lleol yn gwneud yn siŵr bod gorfodi'r Ddeddf bresennol yn brif flaenoriaeth ar gyfer yr heddlu, a byddwn i'n barod iawn i gynorthwyo'r Aelod i gael siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet am ymgysylltu â chomisiynwyr yr heddlu ar y pwynt pwysig hwnnw.

O ran mater y gwaed halogedig, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r Cadeirydd wedi ei benodi eto. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau ei ddisgwyliadau ar gyfer yr ymchwiliad, i'r Cadeirydd cyn gynted ag y caiff y Cadeirydd ei benodi. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, os na fydd y Cadeirydd wedi ei benodi yn y dyfodol agos iawn, yn dangos ei anfodlonrwydd yn amlwg iawn ynghylch pa mor hwyr yw'r penodiad hwnnw.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng ngoleuni'r ddau ymgynghoriad nad ydynt wedi cael sylw, y cyntaf oedd yr ymgynghoriad ar y cylchlythyr drafft ar gyfer cynllunio safleoedd Sipsiwn/Teithwyr a phobl sioe, a ddaeth i ben, rwy'n credu, ar 23 Mai, bron i wyth mis yn ôl; a'r ail, y cylchlythyr drafft ar alluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a ddaeth i ben ar 22 Rhagfyr, ychydig cyn y Nadolig. Roedd y Sipsiwn a'u cefnogwyr a'u ffrindiau y cyfarfum â nhw yng Nghonwy ddydd Gwener diwethaf, wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru y byddai adroddiad terfynol ymgynghoriad cyntaf yr ymgynghoriadau hynny yn cael ei gyhoeddi cyn Nadolig 2017. Dywedasant wrthyf, oni bai bod gan awdurdod lleol ganiatâd cynllunio ar gyfer safle penodol, ni chaiff wneud cais am gyllid grant, ond nad oes unrhyw awdurdod lleol yn y gogledd ar hyn o bryd mewn sefyllfa o barodrwydd a chaniatâd cynllunio ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid grant. Dywedasant wrthyf hefyd, pan gyfarfuon nhw â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, roedden nhw'n ansicr ynghylch pa gamau y gallai Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd yn erbyn awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno cymeradwyaethau cynllunio a cheisiadau grant ar gyfer safleoedd, a'u barn nhw ar hyn o bryd yw mai prin yw dylanwad Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n gallu, neu os gallai Llywodraeth Cymru, wneud datganiad sy'n adlewyrchu'r ddau ymgynghoriad hyn a'r pryderon a fynegir, un sicr i mi ddydd Gwener diwethaf, gan aelodau o'r gymuned yn y gogledd.

Yn ail ac yn olaf, a gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau bws lleol? Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad ar 16 Rhagfyr, dydd Sadwrn, bod y cwmni bysiau, D. Jones a'i Fab, a leolir yn Acrefair, yn rhoi'r gorau i fasnachu, ddeufis ar ôl bod yn destun craffu gan ymchwiliad cyhoeddus Comisiynydd Traffig Cymru. Fel Aelodau eraill yn sicr, cefais bryderon gan y trigolion yr effeithiwyd arnynt a oedd wedi colli gwasanaethau bws lleol, yn gofyn am gymorth ynghylch cael cysylltiadau bysiau newydd. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet ddeuddydd yn ddiweddarach, ar y dydd Llun canlynol. Rwy'n dal i aros am ateb i'r cwestiwn hwnnw. Cysylltais hefyd ag aelod arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a ddywedodd wrthyf fod swyddogion yn parhau i edrych ar wahanol ddewisiadau; a bod hyn yn anodd, oherwydd bod nifer o weithredwyr bysiau wedi rhoi'r gorau i weithredu ledled y rhanbarth; ac er gwaethaf uwchgynhadledd bysiau Ysgrifennydd y Cabinet, nid oedden nhw wedi gweld unrhyw ddatblygiad sylweddol yn digwydd; ac ar ôl bod mewn dau o'r tri gweithdy bysiau, roedd hwn yn sicr yn fater ehangach ledled Cymru. Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet ei uwchgynhadledd bysiau flwyddyn yn ôl, ym mis Ionawr 2017, gan ddweud mai ei bwrpas oedd atal tranc y diwydiant, yn dilyn cwymp cwmni bysiau GHA o Riwabon, yn ystod yr haf blaenorol. Felly, gan ystyried y pryderon sy'n cael eu codi nid yn unig gan drigolion yr effeithir arnynt, sydd yn aml ar lwybrau masnachol yn hytrach nag ar lwybrau a gomisiynir, a gan ystyried y pryderon sy'n cael eu mynegi ynghylch y ffaith nad oes unrhyw gamau sylweddol yn dod o'r uwchgynhadledd bysiau a gweithdai dilynol, byddwn i'n croesawu datganiad sy'n adlewyrchu eu pryderon gan obeithio rhoi rhywfaint o sicrwydd iddyn nhw bod rhywun yn gwrando arnynt.

14:50

Diolch am y ddau gwestiwn yna. O ran yr un cyntaf, y fi yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad i'r Senedd cyn gwyliau'r Pasg er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am fy sefyllfa ers imi gymryd rheolaeth dros y portffolio ar nifer o faterion. Fodd bynnag, soniodd yr Aelod am rai materion penodol iawn ynghylch safleoedd penodol y mae ganddo ddiddordeb ynddynt, a byddwn i'n fwy na pharod i gwrdd â'r aelod i drafod rhai o'r materion penodol iawn hynny. Rwyf wedi gwneud trefniadau i ymweld â rhai o safleoedd dan sylw hefyd, felly byddai'n ddelfrydol pe byddai'r aelod yn trefnu i drafod y materion penodol iawn â mi. Ond, o ran y pwyntiau mwy cyffredinol, byddaf yn cyflwyno datganiad yn y dyfodol agos.

O ran y gwasanaethau bws lleol, mae'n codi pwynt pwysig iawn. Dywedodd ei fod yn aros am ateb i'w gwestiynau ysgrifenedig, a byddwn i'n awgrymu bod yr Aelod yn aros i weld beth yw'r ateb i'r cwestiwn ysgrifenedig, ac os oes pwynt mwy cyffredinol y mae ef yn dymuno ei godi wedyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet a fydd o fudd i'r Senedd gyfan, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny, gan fod blwyddyn ers y cynhaliwyd yr uwchgynhadledd bysiau.

A allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ar bolisi'r Llywodraeth ar ddadleuon cynnig y gwrthbleidiau? Mae'n debyg nad oes yn rhaid i mi atgoffa arweinydd y tŷ fod y Llywodraeth, yr wythnos diwethaf, wedi colli pleidlais am y tro cyntaf yn y Cynulliad. Nawr, mewn ymateb i hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, a dyfynnaf,

Mae'r Diwrnod pleidleisio i'r gwrthbleidiau yn... ddiystyr. Nid ydyn nhw'n orfodol ac nid ydynt nhw'n cael unrhyw effaith ar bolisi na chyflawniad y Llywodraeth.

Nawr, pan wnaeth Llywodraeth San Steffan sylwadau yr un mor drahaus yn ddiweddar, dywedodd arweinydd y tŷ yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, bod y sylwadau hynny yn gwneud y Senedd yn destun sbort. Nawr, onid yw hi'n cytuno bod y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf yn gwneud y Senedd yn gyff gwawd? Maen nhw'n ddiraddiol i'r sefydliad hwn. Maen nhw'n amharchus i'r holl bobl sydd wedi brwydro yn galed iawn i greu democratiaeth yng Nghymru lle, yn wahanol i gyfnod y Swyddfa Gymreig, mae'r Llywodraeth yn gorfod ildio ei hun i atebolrwydd Senedd etholedig, ni waeth pa mor gwbl anghyfleus y gall hynny deimlo weithiau.

Wel, diolch am godi'r pwynt pwysig iawn yna. Nid wyf yn credu o gwbl bod hynny'n rhywbeth addas i'w gyflwyno ar gyfer dadl y Llywodraeth yn amser y Llywodraeth. Rwyf yn credu ei bod yn drueni mawr bod y ffordd gydsyniol y mae'r Cynulliad hwn bob amser wedi gweithredu, gan gynnwys caniatáu y Llywodraeth i baru, er enghraifft, i gynnal busnes pwysig y Llywodraeth, wedi dirywio, ac rwy'n credu y ceir canlyniadau amlwg ar gyfer y ffordd yr ydym ni'n cynnal y Llywodraeth o ganlyniad. Mae'n fater pwysig y mae angen ei ystyried yn ofalus, ac ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth ofalus iddo.

14:55

A gaf i ofyn am ddatganiad ar effaith toriadau heddlu y Torïaidd ar droseddu yn ein cymunedau? Rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant ers y llynedd mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddu â chyllyll yn y de, ond cynnydd o 25 y cant mewn troseddu â chyllyll ledled Cymru gyfan, cynnydd i 84,000 o droseddau heb eu datrys, sy'n fwy na'r ddwy flynedd flaenorol, ac, ers 2010, mae Cymru wedi colli 682 o swyddogion. Nawr, efallai nad yw plismona wedi'i ddatganoli eto, ond yn sicr mae'r toriadau heddlu hynny wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau, ac mae'n ymddangos i mi y byddai'n briodol i'r Llywodraeth, yn ei hamser ei hun, gael dadl ar effaith toriadau heddlu y Torïaid.

Wel, diolch am godi'r pwynt pwysig iawn yna. Mae diogelwch cymunedol, wrth gwrs, yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'r Aelod yn amlwg yn ymwybodol nad yw plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli, er gwaethaf y sylwadau amrywiol sydd wedi'u gwneud i San Steffan ar y pwynt hwnnw.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus setliad dros dro yr heddlu ar 19 Rhagfyr 2017, ac, yn debyg i flynyddoedd diweddar, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu eto i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn sicrhau y gall yr holl heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael setliad arian gwastad ar gyfer 2018-19 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18. Bydd cyfanswm y cymorth ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn £349.9 miliwn. O fewn y swm hwn, cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2018-19 yw £140.9 miliwn.

Rydym wedi cytuno hefyd i amddiffyn y gyllideb ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ar gyfer 2018-19. Mae hynny'n £16.8 miliwn sydd wedi’i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i barhau i ddarparu'r ymrwymiad pwysig hwnnw.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymedig iawn i weithio gyda'r heddlu a chomisiynwyr troseddu a'r prif gwnstabliaid i sicrhau bod y toriadau yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Bydd ef, ynghyd â'i swyddogion, yn fodlon iawn i gyfarfod â'r holl gyrff plismona i drafod cyllid a materion eraill i sicrhau bod y materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu cynnwys yn briodol.

Mae wedi bod yn anodd iawn gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn, gan gofio'r pwysau ar gyllidebau. Rwyf wedi gweld rhai pethau da iawn, yn ystod fy nghyfnod byr yn y portffolio hwn, o ran peth o'r gwaith aml-asiantaeth y mae'r heddlu wedi'i gyflawni er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ganddynt ar lawr gwlad, ond mae'r Aelod yn iawn, mae'n fater pwysig, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gael dadl yn y dyfodol agos iawn ynglŷn â phwysigrwydd y mater hwnnw i Gymru.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar daliadau gan ymddiriedolaethau GIG Cymru am iawndal a ffioedd cyfreithiol oherwydd esgeulustod meddygol? Yn ôl gwaith ymchwil, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi talu dros £200 miliwn. Mae'n ffigur trawiadol, Gweinidog, ac, yn y bôn, gellid defnyddio hyn i drechu tlodi plant, digartrefedd a banciau bwyd yng Nghymru. Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan dalodd y swm uchaf, sef £67 miliwn, yn ystod y cyfnod, er bod £2 filiwn ar gyfer camgymeriadau hanesyddol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau cyn 1997. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba gamau y mae ef yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r symiau enfawr hyn oherwydd esgeulustod meddygol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Wel, mae hwnnw'n fater pwysig iawn mewn gwirionedd, a gan ei fod yn fater mor bwysig, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y ffigurau hynny. Rwy'n siŵr ei fod ef wedi clywed eich sylwadau heddiw ac y bydd yn rhoi ystyriaeth iddynt yn ei adroddiad nesaf ar y pwnc.

Roedd arweinydd y tŷ yn hael iawn yr wythnos diwethaf wrth ateb ceisiadau gennyf i. Gobeithio y bydd hi yr un mor hael yr wythnos yma. A gaf i ddechrau gan groesawu'r ffaith bod datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog y bore yma ynglŷn â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn dweud, oni bai bod rhywbeth yn digwydd erbyn diwedd y mis, ei bod hi'n fwriad gan y Llywodraeth gyflwyno ei Bil parhad ei hun? Rwy'n croesawu hynny, ond rwy'n gofyn i arweinydd y tŷ jest i fynd dau gam ymhellach heddiw, os oes modd. Fe fydd fy nghydweithiwr, Steffan Lewis, yma yfory i gynnig ei Fil parhad ei hun, yn y slot y mae ef wedi'i gael fel Aelod mainc gefn. A wnaiff ysgrifennydd y tŷ, fel prif chwip, ddatgan y bydd y Llywodraeth yn cefnogi, mewn egwyddor, gais Steffan Lewis yfory? Mae’n siŵr y byddai’n licio clywed hynny heddiw, os caiff e. Yn ail, a fyddai nawr, felly, yn gam positif i gyhoeddi’r Bil ar ffurf ddrafft, fel bod modd inni i gyd weld beth sydd gan y Llywodraeth mewn golwg? Nid ei gyflwyno yn ffurfiol, ond ar ffurf ddrafft, inni weld hynny a’i ddefnyddio fel ffordd o grisialu’r angen i gael y gwelliannau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu gweld yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn. 

Yr ail beth y byddwn i’n hoffi, yn benodol, ei glywed yw: a oes modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd yn egluro’r sefyllfa yng Nghaerdydd ac yn enwedig Nant Lleucu a Pharc y Rhath? Nid yw hi yn fy rhanbarth i, ond mae sawl un wedi cysylltu â fi dros yr wythnosau diwethaf yn poeni yn arw am y ffordd y mae’r ymgynghoriad wedi digwydd yn ardal Parc y Rhath a’r gwaith sydd nawr yn bwrw ymlaen yn y fan honno. Rwy’n poeni bod rhai o’r ffigurau a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad yn ddiffygiol, ac rwyf hefyd eisiau gofyn a oes yna wersi i’w dysgu fan hyn ar lefel genedlaethol. Rwy’n meddwl y byddai’n braf iawn cael datganiad yn egluro beth sydd wedi digwydd, beth yw gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyngor a dderbyniodd y Llywodraeth, a pham y mae’r gwaith wedi gorfod bwrw ymlaen yn y ffordd y mae. Mae'n sicr wedi bod yn loes calon i nifer o bobl yn yr ardal honno.

Y peth olaf, os caf i—a dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod os yw hwn yn rhywbeth ar gyfer y rheolwr busnes mewn gwirionedd, efallai ar gyfer y Llywydd o bosibl, efallai i ni i gyd fel Cynulliad o bosibl, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei godi. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi ceisio am yr ail flwyddyn yn olynol i gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i'r Pwyllgor Cyllid i roi, mewn sesiwn agored, gyhoeddus, ei farn ef ar sut y mae pwerau treth yn cael eu datganoli yng Nghymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yno yr wythnos diwethaf, mae Trysorlys Cymru wedi bod yno, bydd yr awdurdod cyllid yno yr wythnos hon, ac rwy'n credu, fel cyd-ddeiliaid datganoli treth fel a nodir yn Neddf Cymru—mae wedi'i ddiffinio'n glir mai cyfrifoldeb Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru fydd llunio adroddiadau blynyddol ar sut y gweithredir datganoli treth, ac felly, y nhw yw cyd-randdeiliaid a deiliaid y broses ddatganoli hon—hoffwn weld yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi o'i amser i bwyllgor o'r Cynulliad hwn i esbonio sut y mae hyn yn digwydd. Mae wedi beio, ar ddau achlysur nawr, ymrwymiadau eraill yn ei ddyddiadur. Yr wythnos diwethaf—oherwydd bod y cyfryngau cymdeithasol yn beth gwych—wrth i ni gyfarfod, gwelais y byddai'n rhaid bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi mynd heibio i ni er mwyn cyrraedd ei apwyntiadau yn Abertawe. Byddem wedi gwneud pob trefniant, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol, rheolwr busnes, i'w groesawu ar ei ffordd i Abertawe. Felly, credaf fod yna neges yma y byddem yn hoffi gweld, pan fo hynny'n briodol a gan ei fod yn gyfrifol yn gyfansoddiadol am y camau hyn, yr Ysgrifennydd Gwladol yn sicrhau ei fod ar gael i bwyllgor y Cynulliad hwn.

15:00

Wel, diolch i chi am y tri phwynt pwysig iawn hynny. Ar y Bil Parhau, rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddadl Steffan Lewis yfory. Mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi ac mae pleidlais rydd i Aelodau'r meinciau cefn. Rydym ni yn bendant o'r farn y byddai'n well pe byddai Llywodraeth y DU yn rhoi'r safbwynt cywir yn ei Bil ei hun ac yn gwneud y gwelliannau cywir ac yn cymryd y gyfres gywir o gamau gweithredu, ond, yn absenoldeb hynny, rydym ni'n ei gwneud yn glir iawn—ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn codi yn y ddadl yfory—ein bod yn barod i wneud hynny yn eu lle ac i gydlynu â gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth wneud hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod o'r un farn yn union ac rydym ni'n edrych ymlaen at y ddadl honno yfory.

Ar fater Parc y Rhath, mae hwn yn fater a godwyd gan nifer fawr o bobl dros gyfnod y cynllun atal llifogydd. Bydd y Gweinidog yn ateb cwestiynau yn rhan o amser holi Ysgrifennydd y Cabinet yfory, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn manteisio ar hynny. Ac os oes ganddo bethau manwl penodol iawn yr hoffai ofyn iddi, efallai y byddai cystal ag ysgrifennu ati i nodi rhai o'r pethau penodol iawn hynny. Mae hi yma, yn gwrando ar rai o'i bryderon ar hyn o bryd.

O ran yr Ysgrifennydd Gwladol, rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod ohono. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn fater i mi, mewn gwirionedd, ond mae'n amlwg yn wir bod angen i'r Pwyllgor Cyllid gael y dystiolaeth orau bosibl a deall yn llwyr y naill ochr a'r llall o'r setliad datganoli. Felly, os yw o ryw werth, rwy'n cytuno y byddai'n dda iawn pe byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddigon caredig i ganiatáu i ni fanteisio ar ei bresenoldeb yma. Ac mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n siŵr, Llywydd, y gwnewch chi faddau imi am wneud hyn—ond y tro nesaf y bydd ef yn Abertawe, efallai y bydd gystal â chyhoeddi ymrwymiad ariannol y morlyn llanw ar yr un pryd.

A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, os gwelwch yn dda? Adroddwyd yn helaeth yn y cyfryngau ddoe bod athrawon o 16 o'r 22 o awdurdodau lleol, y llynedd, wedi adrodd achosion o hiliaeth. Rwy'n siŵr eich bod yn bryderus iawn am hynny, arweinydd y tŷ. Hefyd, bu cynnydd eithaf sydyn, wrth gwrs, mewn troseddau casineb crefyddol a gofnodwyd yng Nghymru. Credaf fod llawer o ysgolion yn ceisio gwneud gwaith da o ran addysgu pobl ifanc am wahanol grwpiau ethnig a chrefyddau, ond wrth gwrs, yn amlwg dydyn ni ddim yn ymdrin â'r broblem mor effeithiol ag y gallem ni. Rwy'n gwybod bod rhai gwersi treialu yn cael eu cynnal mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn, a meddwl oeddwn i tybed pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi'i wneud o ffurf y cwricwlwm newydd sydd ar y gorwel, a pha un a yw hwnnw wedi'u lywio gan yr wybodaeth gywir am y tueddiadau diweddaraf hyn, er mwyn i ni allu gwneud unrhyw newidiadau a allai fod yn angenrheidiol. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw.

A gaf i hefyd wneud cais am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gydnerthedd ar-lein a'r cymorth a roddir i bobl ifanc mewn ysgolion? Cyhoeddwyd adroddiad eithaf brawychus gan y comisiynydd plant yn Lloegr yn y flwyddyn newydd a oedd yn dangos bod pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer plant hŷn ac oedolion, ac o ganlyniad i hynny, mae llawer, yn arbennig pan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol uwchradd, yn neidio o gyfnod pontio lle maen nhw'n bennaf yn chwarae gemau ar eu dyfeisiau i fod wedi'u trochi yn sydyn mewn awyrgylch cymdeithasol dwys iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, lle maen nhw'n chwilio am ddilysiad cymdeithasol drwy nifer y bobl sy'n hoffi ac yn ymateb i rai o'r pethau y maen nhw'n eu postio mewn ffordd nad yw'n iach, ac yn aml mae ganddyn nhw ddelwedd nad yw'n iach o'r byd, yn arbennig os ydyn nhw'n dilyn llawer o enwogion ac yn ceisio cadw wyneb. Mae'n eithaf amlwg i mi fod y duedd hon yn tyfu, mae'n dod yn broblem gynyddol yn ein hysgolion, a chlywsom yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am hunan-niwed, gorbryder a phroblemau iechyd meddwl—a bod llawer ohonyn nhw â'u gwreiddiau yn rhai o'r cyfryngau cymdeithasol y mae pobl ifanc yn eu defnyddio. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariad ar rywfaint o'r gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn ei wneud ledled Cymru i annog ysgolion i roi trefn ar y sefyllfa cydnerthedd ar-lein er mwyn gallu amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag y niweidiau posibl hyn.

15:05

Mae'r Aelod yn codi dau bwynt eithriadol o bwysig, ac mae'r ddau ohonyn nhw, fel mae'n digwydd, yn gorgyffwrdd â'm portffolio fy hun, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg arnyn nhw. Felly, yr un cyntaf, o ran adrodd am droseddau casineb ar sail hil, troseddau casineb ar sail crefydd ac ati, rwy'n credu mewn gwirionedd mai fi fydd yn cyflwyno datganiad ar hynny maes o law. Does gen i ddim amserlen ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ond rydym ni wrthi'n trafod, Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, rai o'r materion pwysig sy'n ymwneud â hynny, a phan fydd gennym rywbeth i'w adrodd yn ôl ar y pwnc pwysig hwn—. Rwy'n credu mai fi fydd yn gwneud hynny, dydw i ddim yn hollol siŵr, ond fe fydd un ohonom ni yn cyflwyno datganiad i ddweud ble'r ydym ni ar hynny. Bydd hynny'n cynnwys nifer o bethau, nid y cwricwlwm a materion athrawon yn unig, ond y mater ehangach yng Nghymru, sy'n bwysig iawn. Ac, wrth gwrs, mae'r sector addysg yn rhan o'r sector ehangach hwnnw ac mae'n ddylanwadol iawn ynddo. Felly byddwn yn edrych ar y ddau ohonyn nhw.

O ran cydnerthedd ar-lein, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn y fan hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith mewn ysgolion cynradd, mewn gwirionedd, gyda'r ceidwaid rhyngrwyd, rwy'n credu mai dyna beth yr ydym ni'n eu galw nhw, mewn rhai ysgolion. Ceir gwarcheidwaid rhyngrwyd—dyna yr oedden nhw yn eu galw nhw mewn un ysgol gynradd yr ymwelais â hi. Yn y bôn, maen nhw'n blant oed ysgol gynradd sy'n cynorthwyo ei gilydd i ddeall beth fydd yr effaith, yn arbennig ym mlwyddyn 6 ac yn y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd. Oherwydd, mae'r Aelod yn llygad ei le; mae'n nodi'r newid mewn tôn ac ati yn y fan honno, a gwn fod hynny'n rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac mae'n rhan fawr o'r adnoddau Hwb yr ydym wedi eu rhoi ar waith hefyd. Unwaith eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd ar sut yr ydym yn gwneud hynny wrth inni fwrw ymlaen i'r oes ddigidol yn rhan o'm portffolio: sut yr ydym yn gwneud yn siŵr, unwaith eto, nid yn unig o ran plant ysgol—er ei bod yn bwysig iawn i blant ysgol—ond mewn gwirionedd hefyd pethau fel mentrau bach a chanolig ac entrepreneuriaid, pobl sy'n rhedeg busnesau bach gwledig ac ati, eu bod nhw yn aros yn ddiogel ar-lein, yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd y rhyngrwyd, ond hefyd yn gwneud pethau fel amddiffyn eu heiddo deallusol, trefnu bod ganddyn nhw y gydnerthedd gywir, cydnerthedd seiberddiogelwch, ac ati. Mae'n rhan o'r un darlun wrth inni fwrw ymlaen. Felly gobeithio y bydd yr Aelod yn dawel ei feddwl o wybod ein bod yn trafod hyn, ac eto, maes o law, pan fydd gennym rywbeth i'w adrodd yn ôl ynghylch ble'r ydym ni ar hyn, fe fyddwn ni'n  gwneud hynny.

15:10

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r effaith y bydd torri cyllideb y rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, neu SchoolBeat, yn ei gael ar y gwaith pwysig y mae'r rhaglen honno yn ei ddelifro? Rydw i'n gwybod, yng ngogledd Cymru, ei fod yn cyflogi 16 o swyddogion sydd yn ymweld â phob ysgol ac sydd yn cyfleu negeseuon pwysig i'r plant, o'r ieuengaf yn bedair oed lan i 16 oed, ar faterion megis dysgu am beryglon cyffuriau, camddefnyddio sylweddau, diogewlch ar y we—rydym ni newydd gyfeirio at hynny, wrth gwrs—secstio, trais yn y cartref ac yn y blaen. Mi fyddai torri'r gyllideb honno, wrth gwrs, o beth rydw i'n ei ddeall, yn golygu y gallai'r gwasanaeth fod yn cael ei adael â dim ond wyth o swyddogion yn y gogledd, ac yn golygu y byddai dim ond yn ymweld ag ysgolion uwchradd. Nawr, o gofio pwyslais y Llywodraeth, a nifer ohonom ni, wrth gwrs, ar yr angen i daclo profiadau plentyndod niweidiol—adverse childhood experiences—oni fyddai hyn, a thorri'r gwasanaeth yma, yn gam yn ôl o safbwynt mynd i'r afael â rhai o'r problemau yna? Ac, wrth gwrs, byddai'n tanseilio cyfrwng pwysig i gyfleu negeseuon pwysig iawn yn uniongyrchol i'r bobl ifanc a allai gael eu heffeithio ganddyn nhw. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar hynny.

Rydw i hefyd am ofyn am ddatganiad arall. A gaf i fod efallai yn un o'r cyntaf i groesawu'r datganiad ysgrifenedig sydd wedi'i ryddhau o fewn yr awr ac ychydig ddiwethaf ynglŷn ag arian cyfalaf ychwanegol gan y Llywodraeth, yn arbennig, wrth gwrs, yr elfen ychwanegol o safbwynt ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Rydym ni fel plaid wedi bod yn awyddus i weld elfen benodol ar gyfer annog addysg Gymraeg, ac rydw i'n cydnabod y ffaith bod y Llywodraeth wedi clustnodi £30 miliwn eleni, ac, yn wir, £30 miliwn bob blwyddyn am y blynyddoedd nesaf, ac yn datgan yn y datganiad hefyd bod hynny nawr yn flaenoriaeth rydych chi'n ei rannu gyda ni ym Mhlaid Cymru. A gawn ni felly, yn sgil hynny, ddatganiad buan gan Weinidog y Gymraeg er mwyn amlinellu'r criteria y bydd hi'n awyddus i'w ddefnyddio ar gyfer dosbarthu a dosrannu yr arian ychwanegol yna? Ac hefyd i ategu y ffaith, wrth gwrs, na ddylem ni weld y £30 miliwn ychwanegol yma fel y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg, ond bod yna bwyslais clir ynglŷn ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ei chyfanrwydd yn dal i orfod bod yn gweithredu'n gwbl rhagweithiol i hyrwyddo addysg Gymraeg, a bod y £30 miliwn yma yn ychwanegol ac yn cynnig ychwanegolrwydd—additionality—i hynny hefyd. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig nad yw'r neges yna ddim yn cael ei golli.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Wel, diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hynny'n bwysig iawn. O ran yr un cyntaf, mae gennym ni nifer fawr o benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud o ran darparu adnoddau ac ati, ond un o'r pethau sy'n wirioneddol dda ynghylch lle yr ydym ym maes cydnerthedd ysgolion yw'r ffaith ein bod bellach wedi cyflwyno Hwb i bob un ysgol a disgybl ledled Cymru. Ac er nad yw yr un fath â chlywed rhywun wyneb yn wyneb, erbyn hyn gallwn ni gael llawer o'r adnoddau hynny ar Hwb a gwneud yn siŵr bod gan bob ysgol, mewn gwirionedd, fynediad at rywfaint o'r deunydd hwnnw. Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar hynny'n ofalus iawn, ac os hoffai Llyr ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ac amlinellu rhai o'r pryderon penodol iawn hynny, rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu mynd i'r afael â hynny gan ystyried rhai o'r datblygiadau yr ydym wedi'u gweld. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, pan fo hynny'n gorgyffwrdd â fy mhortffolio fy hun, sut y gallwn ddefnyddio'r adnoddau hynny yn y modd hwnnw i wneud yn siŵr bod pob ysgol yn elwa ar rai o'r pethau pan nad yw'n bosibl mynd i bob un ohonyn nhw'n unigol.

O ran y cyllid ychwanegol i'r Gymraeg, dywedir wrthyf ei bod yn rhyddhau'r £13 miliwn ychwanegol ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, felly dylai'r Aelod fod yn dawel ei feddwl ynghylch hynny. Ac, unwaith eto, o ran y materion penodol iawn, rwy'n credu bod y Gweinidog yn ystyried y rhai hynny, ac mae disgwyl iddi gyflwyno datganiad. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth yw'r amserlen ar gyfer hynny, ond rwy'n gwybod y bydd yn cyflwyno datganiad ar y sefyllfa o ran rhai o'r diwygiadau i'r polisi iaith Gymraeg, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ystyried hynny pan fydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw maes o law.

Arweinydd y tŷ, roeddwn yn falch iawn o gynnal arddangosfa yn y Pierhead y prynhawn yma i goffáu hanner can mlynedd ers pasio Deddf Erthylu 1967, ond rwy'n credu bod yr Aelodau Cynulliad a oedd yn bresennol i gyd yn syfrdanu braidd o glywed cyn lleied o gynnydd sydd wedi bod yn yr hanner canrif diwethaf hwn wrth ymdrin ag anghydraddoldebau yn y mynediad at erthyliad yng Nghymru. Oherwydd, mae'n ymddangos ein bod mewn sefyllfa lawer gwaeth nag mewn rhannau eraill o Brydain, ac, o ganlyniad, mae oedi artiffisial i allu menywod i gael erthyliad gan fod yn rhaid iddyn nhw weld eu meddyg teulu cyn y gallan nhw gael y gwasanaethau gynaecoleg sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae llawer o'r rhai hynny sy'n cael eu hatgyfeirio at y sector gwirfoddol yn gorfod talu £600 eu hunain oherwydd yr oedi hyn, a hefyd maen nhw'n gorfod cael erthyliad llawfeddygol oherwydd ei bod yn rhy hwyr iddyn nhw gael erthyliad meddygol, sy'n amlwg yn llawer llai ymyrrol. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallai ef fynd i'r afael â hyn. Rwy'n credu bod un eithriad, Gwent, sy'n dda iawn am atgyfeirio pobl na allan nhw ddarparu ar eu cyfer eu hunain i'r British Pregnancy Advisory Service, ond nid oes gan fyrddau iechyd eraill hanes da o wneud hynny. Rwy'n credu, ar draws y Siambr, y dylai fod braw ynghylch hyn ac mae angen inni wybod sut yr ydym ni'n mynd i fynd i'r afael a hyn yn y dyfodol.

15:15

Wel, diolch ichi am godi'r mater pwysig iawn hwnnw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma i wrando ar eich pryderon ac rwy’n credu ei fod yn nodi y byddai'n croesawu cyfarfod â chi i drafod y pryderon hynny ymhellach ac i weld beth y gallwn ei wneud ynglŷn â nhw.

Arweinydd y tŷ, rwy’n falch iawn o gyhoeddi i'r Siambr bod yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw wedi fy mhenodi’n hyrwyddwr rhywogaeth newydd y Cynulliad dros y fisglen berlog dŵr croyw yn rhan o'u hymgyrch #ShowTheLove, ac rwy’n siŵr y gwnaf fwynhau’r swyddogaeth honno. Byddaf yn gofyn llawer o gwestiynau am warchod y rhywogaeth honno i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl setlo yn y swyddogaeth—ar wely'r môr. [Chwerthin.]

Yn y cyfamser, ar fater ehangach yr amgylchedd morol, rhywbeth sydd yn y newyddion ar hyn o bryd yw, wrth gwrs, problem llygredd plastig. Gwyddom fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd—. Mae archfarchnadoedd fel Iceland, yn benodol, wedi dweud eu bod yn bwriadu dileu deunydd pacio plastig o'u holl frandiau erbyn 2023, rwy’n meddwl. Tybed a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, neu ddadl hyd yn oed, ynglŷn â sut yr ydych yn bwriadu cefnogi camau fel hyn.

Rwy’n credu bod archfarchnadoedd fel Iceland, wrth gymryd y camau beiddgar hyn, yn haeddu cefnogaeth. Rwy’n credu y byddai'n beth da pe gallem ni annog ymddygiad fel hyn gan bawb er mwyn gallu glanhau’r llygredd plastig ofnadwy hwn o’n hamgylchedd morol cyn gynted â phosibl, fel y gall rhywogaethau eraill heblaw am y fisglen berlog dŵr croyw werthfawrogi cefnforoedd glân, moroedd glân a’r amgylchedd dyfrol y maen nhw'n ei haeddu.

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig, ac ni allaf beidio ag achub ar y cyfle i ddweud mai fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y wystrysen frodorol, fel mae'n digwydd. Rwy’n gweld bod ganddo ef a mi farn debyg iawn ynghylch rhywogaethau blasus i’w hyrwyddo. Yn ddiweddar, cafodd bae Abertawe ei ailhadu â’r wystrysen frodorol, felly mae llygredd plastig yn ein hamgylchedd morol yn fater hynod o bwysig.

Wrth gwrs, mae Cymru wedi gwneud yn dda iawn o ran ailgylchu. Dim ond yr Almaen sydd wedi gwneud yn well. Rwy’n siŵr mai uchelgais Ysgrifennydd y Cabinet yw bod y gorau hefyd. Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn—nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy. Mae'n bwynt pwysig iawn ac mae’n fater difrifol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gwneud yn dda iawn i'w godi. Ond gallwn ni fod yn falch yma yng Nghymru o’r ailgylchu yr ydym eisoes wedi ei wneud ac o ba mor galonogol yw’r camau unigol a gymerwyd gan gwmnïau o Gymru fel Iceland a hefyd gan unigolion o Gymru sy'n cymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb personol am geisio cyfyngu ar ddefnyddio plastigion untro ac ati.

Dirprwy Lywydd, maddeuwch i mi am achub ar y cyfle hwn, ond os gallaf argymell i’r Aelodau eu bod i gyd yn ystyried defnyddio brwshys dannedd bambŵ a pheidio â defnyddio gwelltyn plastig yn eu diod, yna byddwn i'n meddwl bod y datganiad busnes hwn wedi cael canlyniad da iawn.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd sefydlu'r adolygiad seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ond wrth gwrs daeth hyn o gytundeb cynnar gyda Phlaid Cymru i sefydlu’r adolygiad. Cafodd yr ymrwymiad hwnnw ei bwysleisio ymhellach yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.

Cyhoeddais sefydlu panel annibynnol o arbenigwyr ym mis Tachwedd 2016. Daeth hynny ar ôl cytundeb trawsbleidiol, ynglŷn â’r cylch gorchwyl ac aelodaeth y panel annibynnol. Cyhoeddwyd eu hadroddiad interim ar 11 Gorffennaf y llynedd. Mae’r panel wedi cael 12 mis i ystyried tystiolaeth a defnyddio eu harbenigedd i lunio eu hargymhellion. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol, gyda'r argymhellion hynny gan y panel, yn gynharach heddiw.

Cadeirydd y panel adolygu annibynnol oedd Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae wedi cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, yn wir, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i Ruth a’i chyd aelodau o’r panel, ac ar ben hynny bawb sydd wedi gweithio gyda’r panel a rhoi tystiolaeth iddynt am eu hamser a'u hymroddiad i lunio'r adroddiad pwysig hwn.

Roedd cylch gorchwyl a chwmpas yr adolygiad a’i amserlen yn heriol. Ond, fel y gwyddom, mae angen rhoi sylw brys i'r heriau sy'n ein hwynebu. Gofynnwyd i'r panel ddarparu adroddiad ac argymhellion ynglŷn â: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; sut i leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o'r boblogaeth; a'r ffordd orau o alluogi’r holl system iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn gynaliadwy dros y pum i 10 mlynedd nesaf.

Cefnogwyd yr adolygiad hwn gan bob plaid drwy gydol y cyfnod. Rwy’n gwybod bod y cadeirydd ac aelodau'r panel wedi parhau i ymgysylltu â llefarwyr y gwrthbleidiau, ac â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drwy gydol yr adolygiad. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad ac aeddfedrwydd yr ymgysylltiad adeiladol rhwng pob plaid a’r panel.

Nodwyd yr achos o blaid newid yn glir iawn yn yr adroddiad interim. Nid wyf wedi clywed neb yn anghytuno â’r angen am newid er mwyn ateb yr heriau sy'n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi clywed brwdfrydedd ynglŷn â gwneud cynnydd i ymdrin â’r cyfuniad o faterion sy'n ein hwynebu. Yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod angen newid arnom a bod angen inni ddechrau gwneud y newid hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae angen system arnom ni sy'n diwallu anghenion ein poblogaeth yn y dyfodol, ac un sy’n ariannol gynaliadwy.

Mae'r panel wedi ymgysylltu â’r ystod eang honno o randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, clinigwyr, y cyhoedd a'r trydydd sector. Bu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, paneli dinasyddion, grwpiau ffocws, tystiolaeth ysgrifenedig, cyfarfodydd â grwpiau penodol o bobl—er enghraifft, grwpiau pobl hŷn—a chwestiynau ac atebion uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r panel.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod staff rheng flaen a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eisiau symud ymlaen a gwneud newidiadau sy'n gwella ansawdd profiadau a chanlyniadau pobl. Mae hefyd yn cydnabod bod llawer o enghreifftiau o waith da mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cydweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth di-dor i bobl. Efallai mai’r peth pwysicaf yw bod yr adroddiad hefyd yn dweud bod gennym botensial go iawn yng Nghymru i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu. A'r heriau sy'n ein hwynebu yw’r rhai yr wyf i ac eraill wedi sôn amdanyn nhw eisoes: ariannu, cyflymder newid gwasanaethau a pherfformiad gwasanaethau, gan gynnwys fy nymuniad i i ddatblygu mesurau canlyniadau newydd â sail glinigol.

Mae'r panel arbenigol wedi amlinellu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaeth di-dor i ddinasyddion, gan gynnwys modelau gofal newydd sy’n seiliedig ar nod pedwarplyg newydd. Y nodau hynny yw: gwella iechyd a lles y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar atal; gwella profiad gofal ac ansawdd gofal i unigolion a theuluoedd; cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a chynyddu’r gwerth a geir o ariannu iechyd a gofal drwy wella, arloesi, defnyddio arfer gorau, ac, wrth gwrs, dileu gwastraff.

Mae nodau’r nod pedwarplyg hwnnw’n gydnaws â, ac yn gweithio ochr yn ochr â, nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae'r panel yn argymell y dylai pob un o'r pedwar nod hynny gael ei ddilyn ar yr un pryd. Mae’r modelau newydd a gynigir yn yr adroddiad yn seiliedig ar nodweddion a bennir yn genedlaethol, a ddarperir yn lleol, gan ystyried barn y dinasyddion yn eu gofal, a gan ddefnyddio technoleg i wella mynediad at wasanaethau.

Mae safonau cenedlaethol, wrth gwrs, yn bwysig, yn ogystal â gwneud penderfyniadau lleol cydgysylltiedig i ddiwallu anghenion penodol poblogaethau lleol, gan ystyried, er enghraifft, y Gymraeg neu wledigrwydd fel enghreifftiau o ffactorau. Mae'r adroddiad ei hun yn gwneud 10 o argymhellion lefel uchel allweddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r argymhellion hynny’n ymwneud â phobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, systemau, arloesedd a thechnoleg; arweinyddiaeth, dysgu, diwylliant ac ymddygiad; ac, wrth gwrs, cynnydd a chyflymder wrth wraidd system y dyfodol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol, y sector tai a'r trydydd sector ymateb yn gyflym a gweithredu. Wrth gwrs, bydd dewisiadau anodd yn ogystal â chyfleoedd go iawn dros y misoedd nesaf i drawsnewid y system sydd gennym ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod hwn yn gyfle i lunio’r system iechyd a gofal am flynyddoedd a degawdau i ddod. Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio ar draws gwasanaethau, ar draws sectorau, ac, wrth gwrs, ar draws pleidiau i sicrhau dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.

Rwy’n croesawu’r adroddiad gan y panel adolygu, ac wrth gwrs byddaf yn ystyried yr argymhellion yn fanylach dros yr wythnosau nesaf. Ac yn y gwanwyn byddaf yn cyhoeddi cynllun hirdymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.

15:20

Hoffwn innau groesawu'r adroddiad hwn heddiw. Roedd yn adroddiad grymusol ac addysgiadol i’w ddarllen, a hoffwn ddiolch i Dr Ruth Hussey ac aelodau ei thîm am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud, ond hefyd am gynnig ymgysylltu â mi a'm cyd-Aelodau Ceidwadol Cymru wrth gyflwyno syniadau a meddyliau, ac argymell pobl i fynd i siarad â nhw i gael y gwir am y mater.

Does dim amheuaeth bod iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau enfawr dros y blynyddoedd nesaf hyn—mwy o alw, cyffuriau a thechnoleg newydd a datblygu dealltwriaeth well a mwy cyfannol o beth yw lles, ac mae’n rhaid inni ymdrin â hynny i gyd yn wyneb disgwyliadau cynyddol gan y cyhoedd. Mae’r achos dros newid yn gymhellol, ac mae croeso mawr i’r dadansoddiad hwn o'r heriau sy’n ein hwynebu. Mae'n gwbl onest ac mae’n galw am ddiwygio cyflym, ac rwy’n meddwl mai un o'r rhesymau pam mae angen inni wneud y diwygiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw fy mod yn meddwl ei bod yn glir iawn nad oes gennym weledigaeth ar gyfer y GIG ar hyn o bryd, ac na fu digon o sylw i sut i gyflawni’r weledigaeth honno, sut i newid pethau a sut i wneud arferion gorau yn arferion cyffredin.

Rwy’n nodi eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynllun hirdymor yn y gwanwyn, a byddwn yn eich annog yn gryf i beidio â chael eich arwain ar gyfeiliorn gan yr hyn yr wyf i’n ei alw’n 'stwff lefel isel' a’r lobïo yr wyf yn siŵr y byddwch yn dechrau ei weld, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol. A fyddech chi'n gallu dweud wrthym pa mor hir ar ôl cyhoeddi'r cynllun yr ydych yn bwriadu cychwyn rhaglen o drawsnewid? Bydd unrhyw un sydd wedi ymwneud ag unrhyw fath o newid busnes yn gwybod na all newid bara am rhy hir. Mae angen gwthio rhaglenni trawsnewid ar gyflymder. A wnewch chi ymrwymo yn y cynllun i adolygu’r cyfnodau efallai bob blwyddyn, bob dwy flynedd, bob pum mlynedd, i wneud yn siŵr ein bod ar y trywydd iawn ac yn gwneud yr hyn y mae angen inni ei wneud?

Rwy'n meddwl bod yr adroddiad yn rhoi sylw i gymhwysedd, ac rwy’n meddwl bod pryder gwirioneddol yn dod i'r amlwg ar y panel ac ymysg rhanddeiliaid eraill nad oes gennym ddigon o bobl â’r profiad a’r sgiliau perthnasol i gynnal rhaglen newid mor uchelgeisiol. Sut ydych chi'n bwriadu unioni hyn, Ysgrifennydd y Cabinet? A fyddwch chi'n dechrau recriwtio’r bobl hynny cyn bo hir? Fel arall, bydd unrhyw rhaglen newid y gallech ei chyflwyno yn y gwanwyn yn cymryd mwy fyth o amser i’w chychwyn.

Ym maes iechyd, mae gennym sector annibynnol, sef meddygon teulu. Ym maes gofal cymdeithasol, mae gennym sector annibynnol, sef ein darparwyr cartrefi gofal gwerthfawr. Rydym yn gweld y tensiwn heddiw rhwng y sector cyhoeddus a'r sectorau annibynnol hynny. Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu ymdrin â hynny wrth lunio eich cynllun strategol a sicrhau cefnogaeth y bobl hynny i sicrhau bod hwn yn ymgysylltu â’r GIG cyfan a’r sector gofal iechyd cyfan?

Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau cefnogaeth y cyhoedd? Roedd Dr Ruth Hussey yn sôn llawer am y cyhoedd yn yr adolygiad hwn, a hoffwn ddeall pa mor bwysig yw hynny i chi.

Mae bwrw ymlaen yn gyflym yn mynd i fod yn anodd. Mae angen inni sicrhau cefnogaeth y staff iechyd a gofal. Mae angen inni sicrhau bod gennym hyfforddiant a llwybr clir ymlaen i’r bobl hynny i ddeall sut y byddan nhw'n cymryd rhan yn y broses o adeiladu eu GIG nhw a’n GIG ni. A ydych chi'n bwriadu sefydlu—mae'n ddrwg gennyf, dyma fy nghwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd—a ydych chi'n bwriadu sefydlu tîm trawsnewid strategol o unigolion profiadol â sgiliau trawsbynciol a chydweithredol, a rhoi iddyn nhw'r awdurdod i arwain y gwaith trawsnewid ar draws pob un o'n byrddau iechyd, ac a fyddan nhw hefyd yn y pen draw yn gallu edrych ar y cwestiwn hollbwysig—yr eliffant yn yr ystafell na all neb sôn amdano neu nad oes neb wedi sôn amdano—sef sut y byddwn ni'n ariannu hyn i gyd, gan fod yr arian yn eithriadol o bwysig? Rwy’n deall nad oedd yn rhan o'r adolygiad, ond heb ddeall faint o arian sydd gennym i'w wario yn y dyfodol ar iechyd a gofal cymdeithasol, gallai fod yn anodd iawn cyflawni rhai o'r amcanion rhagorol hyn.

Adolygiad da, Ysgrifennydd y Cabinet; peidiwch â gadael iddo eistedd ar silff yn rhywle yn Llywodraeth Cymru heb fynd i unman, oherwydd mae hwn yn stwff da iawn. Rwy’n falch iawn o’i weld.

15:25

Diolch ichi am yr ymateb; gwnaf geisio ymateb yn gryno i bob un o'r wyth maes cwestiynau yr ydych wedi’u codi. Ac, wrth gwrs, ar y dechrau gwnaethom gytuno i beidio â chyhoeddi gweledigaeth newydd i gymryd lle 'Law yn Llaw at Iechyd', oherwydd ein bod yn mynd i gael adolygiad. Byddai wedi bod yn rhyfedd pe bawn wedi dweud, 'Dyma ein barn am ddyfodol y gwasanaeth iechyd, ac yna dewch inni gael yr adolygiad seneddol.' Mae hynny’n golygu cyfaddawd. Ac ar y cychwyn, nodais y byddai'n rhaid inni fwrw ymlaen â rhai pethau cyn yr adolygiad, ac y byddai angen i bethau eraill aros am yr adolygiad. Rwy’n meddwl mai dyna’r pwynt cyntaf hwnnw ynghylch pryd fydd rhaglen trawsnewid yn dechrau. Mae rhai pethau eisoes yn digwydd, ond mae'r adolygiad ei hun wedi cydnabod yr hoffai weld mwy o—. Felly, mae rhywfaint o’r trawsnewid hwnnw wedi dechrau. Yr her yw efallai cyflymder a maint y trawsnewid hwnnw. Ac fel y byddwch yn ei wybod ar ôl cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, maen nhw'n argymell sefydlu tîm trawsnewid am o leiaf flwyddyn, i geisio sbarduno'r newid hwnnw.

O ran pryd y byddwn yn adolygu hynny, wel rwy’n disgwyl adolygu’r adroddiad, wrth adeiladu’r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yr wyf wedi dweud ein bod yn disgwyl gallu ei gyhoeddi ar ddiwedd y gwanwyn. Mae hynny'n amserlen eithaf tyn, ond rwy’n meddwl bod angen inni gadw’r momentwm, fel na fydd yn eistedd ar silff o fewn y Llywodraeth, neu yn llyfrgelloedd pobl eraill. A bydd angen inni feddwl, wrth inni gyhoeddi'r cynllun, ynghylch pa amserlenni y byddwn yn eu defnyddio wedyn i fesur ein cynnydd. Un amlwg fydd ymhen blwyddyn, a gwnawn feddwl am adegau eraill i archwilio ein cynnydd. Mae hynny'n mynd at eich pwynt am recriwtio pobl i ymdrin â thrawsnewid, ac am sefydlu tîm trawsnewid strategol.

Bydd angen inni edrych ar y sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd, yn ganolog, yma o fewn y gwasanaeth sifil, ac yn ganolog, tîm arweinyddiaeth yn y gwasanaeth iechyd, ond yn y system gofal cymdeithasol hefyd. Wrth feddwl am y bobl sydd gennym ar hyn o bryd, a sut i ysgogi'r trawsnewid hwnnw, os ydym yn derbyn yr argymhelliad ynghylch sefydlu tîm, pwy yw'r bobl hynny, o ble y byddan nhw'n dod, ac o ble y mae’r costau’n dod i dalu’r bobl hynny i wneud y gwaith, a'u hawdurdod i ymgysylltu'n briodol â’r gwasanaeth i ysgogi gwelliant? Mae'r rheini’n faterion go iawn inni eu hystyried, wrth inni gyflwyno cynllun, ac yna geisio bwrw ymlaen ag ef.

Rwy’n cymryd o ddifrif eich pwynt am ymgysylltiad staff iechyd a gofal, ac am eu hyfforddiant. Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Arloesi a gwella—wel, yn sicr, mae’r gweithgaredd gwella yn aml yn dod o hyfforddiant, o gydnabod bod angen i arfer gorau fod yn arfer safonol a chyffredin, a sut yr ydym yn ceisio creu amgylchedd dysgu, ac amgylchedd dysgu cyfoethog. Ac mae hynny’n dod i mewn i un o argymhellion allweddol yr adroddiad hefyd.

O ran ymgysylltiad cyhoeddus, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Lee Waters, ac eraill, ynghylch p'un a fyddai'r cyhoedd wir yn cymryd rhan yn yr adolygiad. A gwnaethant gymryd hynny o ddifrif: roedd ganddynt baneli dinasyddion a gwnaethant achub ar y cyfle i wrando ar y cyhoedd a siarad â nhw. Rhan o'n her ni yw sut yr ydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sgwrs fwy rheolaidd am iechyd a gofal yn gyffredinol, ac o ran rhai o’r pethau hyn, mae’r sector gofal cymdeithasol ar y blaen i’r gwasanaeth iechyd, ac mae pobl yn ymwneud mwy â’u dewisiadau. Mae rhywbeth ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn dal i fyny â hynny, a hefyd ynglŷn â sut y cawn drafodaeth fwy cyffredinol ynghylch iechyd a gofal, heb ddibynnu ar argyfwng nac ar bwynt o bryder a dadlau gwirioneddol yn lleol. Mae llawer wedi bod yn ymgysylltu naill ai â’u gwasanaeth lleol neu â gwasanaeth ysbyty ynghylch rhywbeth y maent yn anghytuno ag ef neu’n bryderus amdano. Mae angen inni ymgysylltu’n ehangach ac yn ddyfnach. I fod yn deg, mae rhai o’n byrddau iechyd yng Nghymru’n well am wneud hynny’n rheolaidd nag eraill. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n bwynt allweddol o ran dysgu ac ysgogi, neu mae’n annhebygol y bydd y dinesydd yn bartner mwy cyfartal o ran gwneud dewisiadau iechyd a gofal, heb sôn am gynllunio gwasanaethau.

Ac rwy’n meddwl fy mod wedi ceisio rhoi sylw i'ch pwynt am hyfforddi staff ac ymgysylltu. Hoffwn ddod yn ôl at eich pwynt olaf am arian. Cytunwyd ar draws y pleidiau, yn y telerau, i beidio â chynnwys arian yn yr adolygiad hwn. Oherwydd, pe byddem wedi gwneud hynny, byddai wedi bod yn hawdd inni dreulio blwyddyn gyfan dim ond yn edrych ar sut i ariannu a beth i'w ariannu. Mae’r rhain yn ddewisiadau dadleuol, ac mae gennym i gyd safbwyntiau gwahanol ynghylch sut i ariannu pethau o fewn sylfaen adnoddau sy’n lleihau, sy’n wrthrychol wir. Mae sylfaen adnoddau’r Llywodraeth yn lleihau mewn termau real. Mae canran y gwariant ar iechyd a gofal yn parhau i godi, fel yn ein pleidlais ar y gyllideb yn ddiweddarach heddiw, sy'n rhoi mwy o arian i’r gwasanaeth iechyd. Dyma’r her y mae’n rhaid inni ei hateb: beth fydd y setliad ariannu hirdymor, a beth yw'r gofyniad i wneud hynny? Mae dadl wahanol i’w chael yno, ynghylch yr hyn y mae unigolion yn ei wneud i gyfrannu at ofal cymdeithasol, er enghraifft, ariannu gofal cymdeithasol, y gwaith yr oedd Gerry Holtham yn ei wneud gyda Mark Drakeford, fy adran i, Huw Irranca, wrth edrych ar y cyllid hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, ni allaf ohirio'r cwestiynau hynny.

Yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yw dod o hyd i bwynt olaf yn yr adolygiad a’r nod pedwarplyg: sut y gallwn ni, serch hynny, gael mwy o werth am bunt gyhoeddus Cymru i’w fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn? Ond, bydd yn rhaid inni ddal i ddadlau am ariannu, yr hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni o hynny, a’r hyn yr ydym yn barod i’w wneud wrth beidio â gwario'r arian hwnnw mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, os ydym ni'n dewis buddsoddi mwy o'n cronfeydd yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

15:30

Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Ruth Hussey a'i thîm am y ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad hwn. Ac rwy’n meddwl ei fod wedi rhoi golwg amserol iawn ar gyflwr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn dweud hynny, gan fod Plaid Cymru wedi gwthio’r agenda o ran cynnal yr adolygiad seneddol hwn, ac rydym wedi bod yn falch iawn o chwarae ein rhan a bod yn rhan o banel trafod, bob hyn a hyn, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, i gyrraedd y pwynt lle mae gennym nawr yr adroddiad hwn, sy’n achos meddwl. Ac rwy’n mynd i gadw fy nghwestiynau’n eithaf byr. Ni wnaf ofyn rhestr hir o gwestiynau heddiw, oherwydd rwy’n meddwl bod cyhoeddi'r adroddiad adolygiad seneddol hwn yn ddechrau proses. Nawr bod gennym ffrwyth llafur Ruth Hussey a'i thîm, mae gennym bethau a ffyn mesur y gallwn eu defnyddio i farnu sut y mae'r Llywodraeth yn ymateb.

Rwy’n meddwl mai cryfder ganolog yr hyn sydd gennym yma yw’r datganiad hwnnw yn yr adroddiad hwn nad oes gennym weledigaeth ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac nid gorwneud pwynt gwleidyddol yw dweud ei fod yn ymhlyg, bod hynny’n gondemniad o'r blaid sy’n llywodraethu ac sydd wedi rheoli’r GIG yng Nghymru ers bron i 19 mlynedd ac sy’n dal i fod heb weledigaeth. Mae’r amserlen y mae Ruth Hussey wedi’i nodi ar gyfer ymateb gan y Llywodraeth yn dangos y brys. Mae hi eisiau gweld ymgynghoriad nawr a chyhoeddi gweledigaeth o fewn mater o dri mis.

Felly, y cwestiwn cyntaf yw: a wnewch chi roi syniad inni o lefel yr ymgynghori y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio er mwyn llunio’r weledigaeth honno? Ceir rhai elfennau penodol lle mae Ruth Hussey yn dweud yr hoffai weld llais y claf yn cael ei glywed yn llawer cliriach mewn penderfyniadau am ddyfodol gofal iechyd. Yr ail gwestiwn: sut y mae hynny a'r syniad bod yn rhaid mesur profiad y claf yn dda iawn, iawn ac yn ofalus yn cyd-fynd â chynigion y Llywodraeth i ddiddymu cynghorau iechyd cymuned, sef y corff sy'n mesur profiad y claf yn benodol? A wnewch chi, felly, roi’r cynlluniau hynny ar y silff, oherwydd bod yr adroddiad hwn yn rhoi awgrym clir, clir bod yn rhaid dal i fesur profiad y claf yn y dyfodol?

O ran gweithlu, gwnaf y sylw, er ein bod ni yma wedi galw am weledigaeth newydd, y bydd y weledigaeth newydd honno’n cynnwys gwneud pethau y mae llawer ohonom wedi galw amdanyn nhw ers amser, er enghraifft, gwneud yn siŵr ein bod yn hyfforddi digon o feddygon yn ddigonol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau ynghylch a fyddwch chi nawr yn cyflymu symudiadau, er enghraifft, tuag at sefydlu canolfan hyfforddiant meddygol ym Mangor, oherwydd mae’r adroddiad hwn yn pwysleisio’r angen i wneud yn siŵr bod gennym ddigon o weithwyr a’u bod wedi'u hyfforddi'n dda.

O ran arian, iawn, doedd ariannu’r GIG ddim yn rhan o’r cylch gwaith, ond rwy’n cofio Plaid Cymru yn cael eu gwawdio cyn yr etholiad diwethaf am awgrymu y gellid arbed gwerth £300 miliwn, os mynnwch chi, drwy ddefnyddio technoleg ac arloesedd yn well o fewn y GIG er mwyn ail-fuddsoddi mewn gwario'r arian hwnnw’n well o fewn y gwasanaeth iechyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau ar hynny.

Felly, mae hwn yn fan cychwyn, ac rwy’n edrych ymlaen at gael gwybod hefyd gan y Llywodraeth sut y gallwn ni fesur a yw'r Llywodraeth yn llwyddo i ymateb i'r adroddiad pwysig hwn. Sut y caiff llwyddiant ei fesur?

15:35

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Cwpl o sylwadau, ac yna gwnaf geisio ymdrin, rwy’n meddwl, â’ch pum maes penodol o gwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod, wrth gwrs, cyfraniad Plaid Cymru at fodolaeth yr adolygiad hwn. Gwnaethom geisio, cyn yr etholiad diwethaf, gael cytundeb trawsbleidiol ar adolygiad iechyd a gofal ac mae rhywbeth ynghylch amseru yn hyn oll a chydnabod amseru, oherwydd a dweud y gwir o fewn blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf, roedd yn anodd perswadio pleidiau i gytuno i’w wneud. Ac mae'n ddealladwy pam. Does dim beirniadaeth i bleidiau unigol, ond flwyddyn cyn yr etholiad mae'n anodd argyhoeddi pobl i ddweud, 'Dewch inni fod yn drawsbleidiol a gweithio gyda'n gilydd.' Rydym ni wedi achub ar y cyfle hwnnw ar ddechrau'r tymor hwn i ddechrau’r broses hon o gynnal adolygiad annibynnol, cytuno ar y telerau a chytuno ar yr aelodaeth. Nawr mae angen inni wneud dewisiadau gyda'n gilydd hefyd.

Yr her i bob un ohonom, yn y Llywodraeth, wrth gwrs, hefyd—. Rwy'n eithaf mwynhau’r cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth ac mae gennyf gyfrifoldeb i wneud dewisiadau nawr ac yn y dyfodol hefyd. Ond un her ganolog i bob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol yw’r hyn yr ydym yn dewis ei wneud a sut i gynnal y ddadl a sut i wneud dewisiadau gyda'n gilydd ynglŷn â’r dyfodol, oherwydd os ydym ni'n rhwystro dewisiadau rhag cael eu gwneud mae hynny’n ddewis ynddo'i hun, ac mae’r adroddiad yn dweud wrthym, mewn sawl ffordd, mai dyna’r perygl mwyaf i ddyfodol iechyd a gofal. Rhaid inni gael y lle, y weledigaeth, y gallu a'r parodrwydd i wneud dewisiadau anodd am y dyfodol, ac roedd hynny’n ddewis a wnaethom ar y dechrau, ond nid, fel y dywedais wrth Angela Burns—. Ni wnaethom ddisodli 'Law yn Llaw at Iechyd' ar ddechrau'r tymor hwn, oherwydd roeddem yn mynd i gynnal yr adolygiad hwn yn lle hynny, a dyna oedd y dewis cywir i’w wneud a dyna’r sylw y mae’r panel yn ei wneud am fod â gweledigaeth. Mae angen y weledigaeth honno arnom—dyna’r cynllun hirdymor yr wyf wedi sôn amdano ar gyfer iechyd a gofal—erbyn diwedd y gwanwyn. Dyna'r hyn yr hoffem ei ddarparu, y weledigaeth honno ar gyfer y dyfodol, i fwrw ymlaen â’r adolygiad ac nid, fel y mae Angela wedi’i awgrymu, ei adael ar silff yn y Llywodraeth.

Ac am wn i, ar y pwynt hwnnw am ymgysylltu cyn y cynllun hirdymor—eich cwestiwn cyntaf—rydym yn disgwyl ymgysylltu’n agored â rhanddeiliaid, o fewn y gwasanaeth iechyd, â gwahanol grwpiau o staff a gwahanol gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol hefyd. Mae'n ddiddorol sut y mae’r colegau brenhinol eu hunain yn groesawgar ac yn galw am fwy o newid hefyd. Gall hynny fod yn anodd iddyn nhw ac i rai o’u haelodau, ac i’n cydweithwyr ehangach mewn undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, ond yn llawer mwy na hynny wrth gwrs, ein partneriaid mewn llywodraeth leol a thu hwnt. Roedd hwn, yn fwriadol, yn adolygiad o iechyd a gofal cymdeithasol. Nid dim ond y gwasanaeth iechyd sydd dan sylw yma; mae'n ymwneud â sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan o system ehangach, gan gynnwys cydweithwyr o’r sector tai hefyd. Rwy’n disgwyl iddyn nhw i gyd ddangos diddordeb yn y cynllun hwnnw i’r dyfodol ac, wrth gwrs, y cyhoedd hefyd. Hoffem i’r cyhoedd gael ymgysylltiad cyhoeddus a llais yn y cynllun hirdymor hwnnw ar gyfer y dyfodol.

O ran eich pwynt am fesur profiad cleifion, unwaith eto, mae'n bwysig, wrth gwrs, yn rhan o'r nod pedwarplyg i ddeall sut yr ydym yn mesur profiad cleifion ac yn ei wella a’i werthfawrogi. Mae angen inni ganfod mesurau sy'n ddefnyddiol i ychwanegu gwir werth at yr hyn yr ydym yn ei fesur. Fel arall, y perygl yw mai dim ond mesur rhifau yr ydym, ac mae hynny bob amser yn eich arwain yn ôl at weithgarwch, swm y gweithgarwch, yr amser mae’n ei gymryd i wneud rhywbeth yn hytrach nag ansawdd yr hyn sy’n cael ei wneud a phrofiad rhywun, ac mae hynny ychydig yn anoddach. Ond rwy’n meddwl ei bod yn fwy gwerthfawr gwneud hynny hefyd.

Byddwn yn anghytuno'n gwrtais â chi am beidio â diddymu cynghorau iechyd cymuned. Os ydym ni eisiau i ddinasyddion gael llais, ac eiriolaeth ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, mae arnom angen sylfaen ddeddfwriaethol newydd i’r grŵp hwnnw. Ni allwch ei wneud â chyfansoddiad presennol cynghorau iechyd cymuned, felly mae'n rhaid ichi ddod o hyd i ffordd newydd o gyfansoddi corff newydd. Mae’r drafodaeth yn sôn am pa bwerau a pha gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw yn y system newydd. Gallwch chi ei gyfleu fel diddymu, ond bydd corff newydd yn cymryd eu lle i weithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, ac rwy’n meddwl mai dyna'r peth iawn i’w wneud. Yn wir, mae Bwrdd cenedlaethol y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud hefyd.

O ran gweithlu, rydym wedi bod yn glir o'r blaen yn ein hymateb ynglŷn â’ch pwyntiau penodol am hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a byddaf wrth gwrs yn cyflwyno datganiad am y gwaith y mae’r tair prifysgol eisoes yn ei wneud o ran sut yr ydym yn arfogi mwy o bobl yn fwy cyffredinol ledled y wlad i gael gyrfa mewn meddygaeth ac yn benodol sut yr ydym ni'n darparu mwy o hyfforddiant meddygol yn y gogledd.

O ran arloesi a arweinir gan dechnoleg a’r ffigurau, unwaith eto, mae amrywiaeth o bobl, o fewn y Siambr hon a'r tu allan, sydd yn cydnabod potensial go iawn ac, yn wir, y gwir angen i fanteisio mwy ar dechnoleg i ddarparu arloesedd a gwelliant a fydd yn darparu gwerth go iawn. Nid dim ond mater o arbed ychydig o bunnoedd yw hyn, ond cydnabod yn wir sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn gwneud dewisiadau. A dweud y gwir, mae angen i’r gwasanaeth iechyd ddal i fyny â hynny. Unwaith eto, mewn rhai rhannau o ofal cymdeithasol, mae angen inni weithio gyda'n gilydd i lunio systemau sydd wir yn gweithio gyda'i gilydd ac yn gallu siarad â'i gilydd, eto i’w gwneud yn haws i ddinasyddion. Ni ddylem ddisgwyl i bobl ag anghenion iechyd a gofal lywio eu ffordd drwy system gymhleth. Mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws iddyn nhw wneud hynny.

Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt am fesurau, rwyf wedi nodi bod angen inni gymryd yr adolygiad o ddifrif ac ymateb iddo’n briodol, ond bydd angen, ac rwy’n cydnabod hynny nawr, dod yn ôl, o leiaf o fewn blwyddyn, i edrych ar y cynnydd y byddwn wedi’i wneud, yn ogystal â bod yn agored i graffu, nid dim ond yn y ffordd arferol yn y Siambr a drwy’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ond o safbwynt Llywodraeth i feddwl o ddifrif am yr argymhelliad yn yr adolygiad ein bod, bob blwyddyn, yn rhoi diweddariad blynyddol gan y Llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd a'r system gofal cymdeithasol am ble rydym yn meddwl yr ydym, pa heriau sydd gennym o hyd a beth arall y mae angen inni ei wneud. Rwy’n meddwl bod hynny'n awgrym buddiol y mae angen inni ei ystyried o ddifrif, oherwydd rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o’r eglurder yr ydych chi eich hun wedi awgrymu y dylem geisio ei roi.

15:40

Yn gyntaf oll a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad am yr adroddiad pwysig iawn hwn? Mae’r rheini ohonom sydd wedi gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol am nifer o flynyddoedd, a gyda’r system, yn croesawu’r argymhellion. Hoffwn i hefyd ychwanegu fy niolch i Ruth Hussey a'i thîm am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud i lunio’r adroddiad. Rwy’n mynd i geisio peidio ag ailadrodd nifer o'r pwyntiau a wnaed gan eraill. Hoffwn i wneud dau bwynt cryno.

Yn gyntaf, mae argymhellion yr adolygiad hwn, heb amheuaeth, wedi rhoi cyfrifoldeb enfawr ar y Cynulliad hwn i gyd i ymateb i'r her a osodwyd. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir beth yw maint yr heriau y mae angen inni eu hwynebu. A dweud y gwir, mae'n gyfrifoldeb brawychus, oherwydd mae pob aelod o'r Cynulliad hwn yn deall, neu dylent ddeall, bod angen newidiadau i’r gwasanaeth, ond gall fod yn anodd ceisio gwneud y newidiadau hynny pan fo gwrthwynebiad lleol i'r newidiadau a phan fo oportiwnistiaeth wleidyddol yn drech nag ystyriaeth wrthrychol. Rydym ni eisoes wedi clywed rhai ergydion gwleidyddol annheg yn y ddadl hon. Rhaid imi ddweud, Rhun, nad oeddwn yn meddwl bod angen hynny o ran y ffordd gydsyniol yr oeddem yn ceisio cael trafodaeth a dadl am yr adroddiad penodol hwn.

Ond mae angen newidiadau ac mae eu hangen yn erbyn cefndir o bwysau ariannol parhaus, felly mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau y darperir y gwasanaethau’n fwy effeithiol ac o bosibl mewn ffordd wahanol iawn.

Cododd Angela y pwynt ynghylch y cyllid ar gyfer hyn i gyd, ond rwy’n meddwl bod angen inni fod yn glir iawn nad oes dim mwy o arian yn dod o hyn. Does dim mwy o arian yn dod o San Steffan inni dalu am y gwasanaethau sydd gennym na’r gwasanaethau yr hoffem eu cael, ar gyfer y dyfodol, ond ni allwn barhau—ni allwn fforddio parhau, mae'n ddrwg gennyf—i fuddsoddi mewn modelau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn ymateb i anghenion y dyfodol sydd wedi bod yn hysbys ac yn ddealladwy ers amser hir iawn.

Fy ail bwynt —

15:45

[Anghlywadwy.]—cwestiynau. Datganiad ydyw ac felly dylai fod cwestiynau.

Iawn. Wel, mae fy ail bwynt yn ymwneud â’r broses o negodi newid angenrheidiol a'r angen i gynnwys y staff yn hynny. Rwy’n gwybod o'm profiad fy hun bod y newid hwnnw’n golygu bod angen amynedd a pherswâd a chyfathrebu, ond, yn bennaf oll, mae'n golygu mynd â phobl gyda chi, oherwydd mae gwrthsefyll newid yn arwain at ddiffyg cynnydd, i’r bobl y mae’n rhaid i’r gwasanaeth ddarparu ar eu cyfer ac i’r bobl sy'n gweithio ynddo.

Yr hyn y byddwn yn ei ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd rydym ni wedi clywed llawer am y weledigaeth yn yr adroddiad hwn, a byddwn yn dweud mai’r adroddiad, a dweud y gwir, yw’r weledigaeth, mae'n amlinellu’r weledigaeth, felly a fyddech chi'n cytuno bod angen inni i gyd fod yn glir mai dyma ein gweledigaeth a’n cyfeiriad teithio a bod yn rhaid inni ymrwymo’n ddiysgog i hynny? Ac a fyddech chi'n cytuno hefyd, os ydym i gyrraedd y nod pedwarplyg i bawb, fel y'i nodir yn argymhellion yr adroddiad, bod yn rhaid i staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth fod yn rhan o’r newid a bod yn rhaid gwrando ar eu lleisiau os ydym ni am gyflawni amcanion yr adolygiad?

Diolch ichi am y pwyntiau hynny. Rwy’n adnabod rhywun a oedd yn arfer bod ar yr ochr arall i’r bwrdd fel cyn-bennaeth iechyd Unsain—wrth gwrs, mae undebau llafur eraill ar gael yn y gwasanaeth iechyd. Ond roeddech chi'n iawn bod hyn yn her i bob un ohonom, i bob un ohonom yn y lle hwn. Oherwydd, fel y dywedais, mae dewis peidio â gwneud rhywbeth yn dal i fod yn ddewis, ac rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig iawn y mae’r adroddiad wir yn tynnu sylw ato ac yn ei ddilyn o'r achos dros newid, a dywedasoch eich hun fod hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau’n wahanol ac weithiau darparu gwasanaethau gwahanol. Ac i wneud hynny, ni allwch chi fuddsoddi ym mhopeth a wnawn yn awr, fel y dywedasoch chi. Mae hynny’n golygu bod angen inni wneud pethau'n wahanol, ac mae hynny'n anodd, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau gallu ychwanegu at bethau yn hytrach na dweud, 'Rhaid i chi benderfynu, o fewn yr amlen ariannol, beth nad ydym yn mynd i’w wneud, yn ogystal â beth yr ydym yn mynd i ddewis ei wneud ac i wella'r hyn a wnawn yn y dyfodol.' Bydd hynny'n anodd ac mae angen inni ddeall bod hynny’n anodd i bobl yn y gwasanaethau, yn anodd i rai cymunedau lleol sydd ynghlwm wrth wasanaethau—mae pobl yn mynd yn hoff iawn o frics a morter. Er eu bod yn dweud nad ydyn nhw, y realiti yw bod pobl yn gwneud hynny. Gallwch chi ddeall rhywfaint o’r ymlyniad emosiynol hwnnw â gwasanaethau sy’n bodoli ers amser ac â phobl y maent yn ymddiried ynddyn nhw, ond os na allwn ni sicrhau rhaglen ar gyfer newid a thrawsnewid fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, byddwn yn rheoli gwasanaeth sy’n dirywio, ac ni all hynny fod yn dderbyniol i neb ohonom mewn unrhyw blaid.

Ar eich pwyntiau penodol am y cyfeiriad teithio a’r nod pedwarplyg a staff, rwy’n meddwl bod yr adroddiad yn gosod cyfeiriad teithio inni ac mae’n fater o sut y byddwn yn cyflawni hynny a sut y byddwn yn dewis blaenoriaethau o fewn y Llywodraeth, gyda'r gwasanaeth, gyda phartneriaid llywodraeth leol ac eraill yn ogystal, i gyflawni yn erbyn yr heriau go iawn a’r cyfeiriad y mae'r adroddiad yn ei nodi. Mae'n hanfodol, wrth wneud hynny, ein bod yn cymryd o ddifrif y rhan o'r nod pedwarplyg sy’n ymwneud ag ymgysylltu a chyfoethogi’r ffordd y mae staff yn gwneud eu swyddi. Mae pobl sy'n mwynhau eu swyddi’n tueddu i ddarparu gwell gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau a sectorau eraill hefyd. Ac nid yw hynny'n hawdd, o ystyried y pwysau ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig—anaml y byddwn yn sôn am hyn, ond mae gweithwyr gofal cymdeithasol, sydd ddim yn cael eu talu’n dda iawn am wneud swyddi sy’n anodd, yn heriol ac yn gorfforol iawn, yn aml, a’r gred yr ydym yn ei rhoi i’r bobl hynny, a'r ffordd nad ydym bron byth yn siarad amdanynt—. A phan fyddwn yn gwneud hynny, a dweud y gwir, mae llawer o stigma o gwmpas y sector gofal cymdeithasol o hyd hefyd, felly mae’r gwaith y dechreuodd Rebecca Evans ei arwain, ac sydd nawr o dan arweiniad Huw Irranca-Davies, i godi hunan-barch pobl o fewn y sector hwnnw, yn hanfodol i gyflawni'r nodau yn yr adroddiad hwn ac, yn benodol, y pwynt a wnewch am y nod pedwarplyg ac ymgysylltu â staff yn nyfodol y gwasanaeth cyfan.

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi’i wneud ar gyfer eu hadroddiad a’u hargymhellion. Mae'r adroddiad yn nodi mewn du a gwyn y camau y mae angen inni eu cymryd os ydym ni am ddarparu iechyd a gofal cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Mae Dr Hussey a'i thîm wedi gwneud eu gwaith yn gampus. Mae'n bryd bellach i ni wneud ein gwaith ni. Rydym ni'n gwybod yr heriau, ac amlinellodd yr arolwg seneddol y cyfeiriad teithio, felly, mae'n rhaid inni wneud y newidiadau angenrheidiol. Ni fydd yn hawdd—dydy newid byth yn hawdd—ond ni allwn barhau i ddarparu gwasanaethau'r GIG yn yr un modd ag y gwnaethom 70 mlynedd yn ôl. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen newid. Tasg pob un ohonom yma yn y Siambr hon yw cael sgwrs aeddfed â'n hetholwyr am yr angen i newid, bwrw ymlaen ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, a chefnogi newidiadau i wasanaethau a arweinir yn glinigol. Ysgrifennydd y Cabinet, eich gwaith chi yw sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud mewn gwirionedd ar lawr gwlad. Mae’r angen i newid yn glir, ac ni all y GIG fforddio aros pum, 10, 15 mlynedd i’r newidiadau hyn ddigwydd. Mae angen i’r GIG a gofal cymdeithasol addasu nawr os bydd gennym unrhyw obaith o fodloni’r galw am wasanaethau yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, buddsoddi mewn staff yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, yn enwedig os ydym am ganolbwyntio ar ddarparu gofal lleol. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gynyddu'r gweithlu gofal sylfaenol, yn enwedig nifer y mannau hyfforddi meddygon teulu yn y dyfodol agos?

Bydd gan dechnoleg ddigidol ran allweddol i'w chwarae yng nghynlluniau cyflawni’r dyfodol. Sut ydych chi'n bwriadu trawsnewid y ffordd y caiff TG ei ddarparu i'r GIG? Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein GIG wir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Felly, mae’n rhaid inni gael gwared ar wastraff, ac yr wythnos hon rydym ni wedi dysgu am y lefel anhygoel o dwyll sy'n digwydd gyda'r cardiau yswiriant iechyd Ewropeaidd, lle mae dinasyddion eraill yr UE wedi hawlio gofal iechyd am ddim gan ddefnyddio cardiau EHIC ffug. Heddiw, clywsom am lefel yr iawndal a’r ffioedd cyfreithiol a dalwyd gan ymddiriedolaethau'r GIG am esgeulustod dros y pum mlynedd diwethaf. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddileu twyll yn ein GIG a lleihau lefel yr esgeulustod meddygol?

Rwy’n edrych ymlaen at eich cynllun newydd hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac at weithio gyda chi i ddarparu GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Diolch.

15:50

Diolch i'r Aelod am y rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd. Roedd rhai pwyntiau lle y byddai'n rhaid inni anghytuno. A dweud y gwir, nid wyf yn meddwl bod twyll yn gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd a chardiau EHIC yn fater mawr a fydd yn tanseilio dyfodol y gwasanaeth. Nid wyf yn meddwl bod yr her sy'n ein hwynebu o ran angen a galw, o ran y boblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, o ran heriau dros arian, yn rhai lle gallwn ddweud bod dinasyddion Ewropeaidd, yn gyfreithlon neu fel arall, yn mynd i danseilio dyfodol y gwasanaeth. Nid yw’n cael sylw yn yr adroddiad, nid yw wedi bod yn destun rhyw lawer o ddiddordeb, ond, wrth gwrs, ni fyddwn am i neb gymryd mantais ar y gwasanaeth. Mae gwahaniaeth rhwng dweud, 'Does dim ots gen i; caiff pobl wneud fel a fynnant,' a dweud mai dyna yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu. Felly, rwy’n disgwyl iddyn nhw chwarae yn ôl y rheolau. Os nad yw pobl yn gwneud hynny, rwy’n disgwyl i’r camau priodol gael eu cymryd.

O ran eich pwynt am esgeulustod meddygol, wel, mae hyn yn her gyson i unrhyw wasanaeth iechyd—pob un ohonynt. A dweud y gwir, yr ymateb yw sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a ddarperir, sut y mae’r camau gwella hynny’n rhan go iawn o beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud ac nid dim ond deilen ffigys. Dyna pam mae angen inni edrych eto ar ein rhaglenni gwella ein hunain—mae 1000 o Fywydau wedi gwneud gwaith sylweddol i wella ansawdd gofal a phenderfyniadau ar draws y gwasanaeth iechyd. Mae angen inni edrych eto ar hynny fel rhaglen wella, yr her y mae’r adroddiad yn ei gosod inni, a’r nod pedwarplyg, ac edrych ar ddarparu mwy o werth. Felly, yn sicr mae angen inni wneud y pethau hynny.

O ran eich pwynt am drawsnewid darpariaeth TG, rwy’n meddwl bod hwnnw wedi cael sylw mewn sylwadau a chwestiynau eraill. Mae'n her allweddol i’r system iechyd a gofal, sut y gallwn fanteisio mwy ar yr hyn y mae technoleg yn caniatáu inni ei wneud a dal i fyny go iawn â’r ffordd y mae dinasyddion yn byw eu bywydau ar hyn o bryd.

Ac o ran eich pwynt olaf ynglŷn â chynyddu gweithlu gofal sylfaenol—rydym mewn sefyllfa well na rhannau eraill o’r DU, mewn rhai ffyrdd, oherwydd rydym wedi cyrraedd ein niferoedd ac wedi gorlenwi’r lleoedd a oedd gennym o ran niferoedd hyfforddiant meddygon teulu, rhywbeth y gwnaethoch chi sôn amdano’n benodol. Yr her nawr yw deall beth arall sydd ei angen arnom, ac nid dim ond mater i’r Llywodraeth yw hynny. Mae hefyd yn rhan o'r rheswm pam y gwnaethom sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru—i geisio cael dealltwriaeth ar sail ehangach o gynllunio ar gyfer gweithlu yn y dyfodol, gwneud yn siŵr bod gennym y lleoedd ar gael, ac yna’r dewisiadau anodd am arian. Oherwydd, pe byddai gennyf y cyfle a'r gallu, byddwn yn buddsoddi mwy o arian yn nyfodol y gweithlu iechyd a gofal. Ond mae’n rhaid imi fyw o fewn y modd y mae’r Cynulliad hwn yn pleidleisio er mwyn imi allu gwneud hynny, yn y gyllideb y bydd y lle hwn, gobeithio, yn dewis ei phasio yn nes ymlaen heddiw. Felly, mae arian bob amser yn her, ond ni allwn osgoi’r realiti: mae angen inni ddarparu mwy o werth na'r adnoddau a rown i mewn i’n system gyfan.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhywfaint o ddadansoddi lefel uchel defnyddiol iawn yn yr adroddiad, ond rwy’n meddwl mai’r peth mwyaf defnyddiol yw'r argymhellion manwl yn adran yr atodiad, yn enwedig argymhelliad 7, ar arloesedd, technoleg a seilwaith. Roeddwn yn falch iawn o weld digidol yn cael sylw drwy gydol yr adroddiad, a'i botensial i ryddhau adnoddau a gwella profiad cleifion. Fy nghwestiwn yw, ar ôl darllen adroddiad yr wythnos diwethaf gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd ag adroddiad heddiw, ceir cyfres o feirniadaethau uniongyrchol ac anuniongyrchol i Wasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, NWIS, ac mae gennyf amheuon go iawn ynghylch eu gallu, o ran capasiti a gallu, i gyflawni’r agenda radical hon—yn enwedig y canfyddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi bod yn bleidiol ac yn rhy gadarnhaol wrth adrodd am gynnydd i Lywodraeth Cymru. Felly, hoffwn i ofyn am eich sylwadau am natur y beirniadaethau yn y ddau adroddiad, ac a allwch fod yn hyderus nawr yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ai peidio, fel y mae wedi’i gyfansoddi ar hyn o bryd, i gyflawni'r agenda hon, a beth y gallwch ei roi ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial digidol.

15:55

Diolch ichi am y sylwadau. Rydych chi wedi dangos diddordeb cyson yn y maes hwn, yn ffurfiol ac yn anffurfiol mewn sgyrsiau a gawsom. Rwy’n meddwl mai’r pwynt cyntaf y byddwn yn ei wneud yw, er yr holl feirniadaeth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, eu bod wedi cyflawni nifer o bethau yr ydym yn falch iawn ohonynt. Os ydych chi'n meddwl am yr ymateb o ran diogelwch, y gwahaniaeth lle rydym wedi buddsoddi mewn system a ddarparwyd ganddyn nhw, os ydych yn meddwl am Dewis Fferyllfa, eu bod wedi creu hynny ac yna ei ddarparu mewn partneriaeth â’r gwasanaeth, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac, a dweud y gwir, bydd yn yr union le hwn o ddefnyddio gwybodaeth yn well rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a newid y pwynt ffocws lle gall pobl fynd a chael y cyngor hwnnw a chefnogaeth hefyd.

Felly, hyd yn oed gyda’r pethau cadarnhaol y maen nhw wedi’u gwneud, mae'n deg adlewyrchu ar fannau lle rydym yn credu y gallen nhw wneud yn well. Rwy’n cydnabod y sylwadau sydd yn yr adroddiad ac yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac mewn awgrymiadau eraill hefyd, ynghylch a oes ganddyn nhw'r gallu a'r capasiti, fel y'u cyfansoddir ar hyn o bryd, i wneud popeth y mae arnom angen iddyn nhw ei wneud. Wel, nid wyf yn meddwl y byddai'n deg dweud bod ganddyn nhw, oherwydd byddai hynny’n rhoi disgwyliadau annheg, rwy’n meddwl, ar Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fel y mae ar hyn o bryd, i wneud popeth yr hoffem iddyn nhw ei wneud o ran buddsoddi mewn TG a rhyddhau ei allu i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau a’r ffordd y mae dinasyddion eu hunain yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal.

Ac rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau ynghylch llywodraethu a meddwl eto ynghylch a yw yn y lle iawn, a allem wneud mwy, a meddwl am sut i ryddhau’r llywodraethu hwnnw. Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn bwriadu gwneud hyn, ac yn ddefnyddiol nid yw'r adroddiad wedi dweud bod angen inni wneud rhywbeth gwahanol; mae angen inni barhau i edrych ar y gallu, y capasiti hwnnw, a ble y mae: faint ddylai fod yn fewnol o fewn NWIS, faint ddylai fod yn gweithio gyda phartneriaid eraill, a faint ddylai fod yn bartneriaeth ffurfiol. Oherwydd ni allwn esgus y gallwn wneud hynny i gyd mewn un lle. Os ceisiwn wneud hynny, rwy’n meddwl y byddwn yn methu. Mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wahanol, ac rydym yn mynd i orfod gosod yr uchelgeisiau hynny a gosod blaenoriaeth i ni ein hunain, a gallai hynny olygu bod angen inni edrych eto ar ddarparu adnoddau i’r maes hwn, yn ogystal, wrth gwrs, â’r llywodraethu a’r goruchwylio, ar gyfer Aelodau, pobl yn y gwasanaeth iechyd, yn y system gofal, ac wrth gwrs yma yn y Llywodraeth hefyd.

4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw’r ddadl ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2018-19, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6614 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 19 Rhagfyr 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 ymlaen, fel y gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Rhagfyr. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau'r Pwyllgor Cyllid, a'r Cadeirydd, Simon Thomas, am eu gwaith gofalus wrth graffu ar y gyllideb hon. Dyma'r tro cyntaf ers sawl canrif i ni yng Nghymru ysgwyddo cyfrifoldeb dros godi cyfran o'r arian rydym ni'n ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb ddoe i adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft, a gallu derbyn bron pob un o'u hargymhellion yn llwyr.

Er gwaethaf yr heriau a gododd yn sgil y gwrthdaro rhwng amserlen ein cyllideb ni a chyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n credu bod y prosesau newydd a gafodd eu cytuno a'u dilyn eleni wedi bod yn llwyddiannus ac wedi bod yn addas ar gyfer craffu ar ein defnydd o'n cyfrifoldebau ariannol newydd. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r pwyllgor i weld sut y gellid gwella'r prosesau hyn ymhellach yn y dyfodol.

A allaf ddiolch hefyd i'r pwyllgorau eraill hynny sydd wedi cyhoeddi adroddiadau craffu ar y gyllideb yn eu meysydd eu hunain? Hoffwn i ddiolch yn swyddogol i Steffan Lewis am roi ei amser i gyfarfod ac ystyried y gyllideb derfynol, ac i Adam Price am barhau â'r trafodaethau hynny yn fwy diweddar.

Dirprwy Lywydd, mae'r cyd-destun ehangach ar gyfer y gyllideb yn gwbl hysbys. Wrth i economïau ardal yr ewro a'r Unol Daleithiau symud yn ôl tuag at lefelau twf hanesyddol, mae economi'r Deyrnas Unedig yn parhau i gael ei niweidio gan bolisïau cyni ffôl—polisïau sydd wedi methu. Wrth i eraill dyfu, mae rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yma yn dangos economi sy'n arafu, nid yn unig y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, ond y tu hwnt i hynny i'r dyfodol: llai o dwf mewn cynhyrchiant, llai o fuddsoddiad mewn busnesau, llai o dwf mewn cynnyrch domestig gros, llai o dwf mewn cyflogau, a llai o dderbyniadau treth. Y Canghellor, Philip Hammond ei hun, a ddywedodd hynny yn ei araith ar y gyllideb ar 22 Tachwedd.

Dirprwy Lywydd, yn sicr ni ddaeth y gyllideb honno ag arian annisgwyl i Gymru yn ei sgil, ac ni lwyddodd i unioni wyth mlynedd o brinder adnoddau. Mae ein cyllideb ni, heb gynnwys cyllid cyfalaf trafodion ariannol, yn parhau i fod 7 y cant yn is mewn termau gwirioneddol nag yr oedd ddegawd yn ôl. Gwaith y Llywodraeth hon yw defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael inni er mwyn amddiffyn ein dinasyddion a'n gwasanaethau rhag y difrod hwnnw a ddaw gyda chaledi, a buddsoddi, lle bynnag y gallwn ni, drwy greu'r amodau ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Dyna pam, yn y gyllideb derfynol hon, y gwelwch am y tro cyntaf luosydd 105 y cant Barnett wedi ei negodi yn y fframwaith cyllidol rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Mae'n ychwanegu bron £70 miliwn na fyddai ar gael inni fel arall.

Rhagwelir y bydd y defnydd blaengar ond cymesur a wnaethom ni o'r ddwy dreth newydd—y dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir—yn ychwanegu £30 miliwn arall at ein adnoddau refeniw dros gyfnod y gyllideb hon. Dyna £100 miliwn i'n helpu ni gyda blaenoriaethau hollbwysig buddsoddi yn ein hysgolion a'n colegau, creu gwasanaeth iechyd y dyfodol, ac adeiladu economi gyda'r diben cymdeithasol gwirioneddol o gyflenwi ffyniant i bawb.

16:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio? Rwy'n ddiolchgar am yr hyn y mae newydd ei ddweud ac, wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf yr ydym wedi edrych ar gyllideb sydd â chynhyrchiad incwm yn ogystal â gwariant yn rhan ohoni—a newid cadarnhaol yw hynny i ddatblygiad y lle hwn. Ond a yw ef wedi gwneud unrhyw amcangyfrif o beth fyddai wedi digwydd o du'r gwariant pe na fyddem wedi cael y saith mlynedd hynny o galedi ers etholiad y Llywodraeth glymblaid yn ôl yn 2010, a pha fath o ffurf fyddai ar gyllideb Cymru pe na fyddai hynny wedi digwydd?

Wel, gallaf gynnig dau amcangyfrif i'r Aelod. Pe byddai ein cyllideb ni wedi aros yr un fath mewn termau gwirioneddol, heddiw fel ag yr oedd bron ddegawd yn ôl, heb unrhyw gynnydd o gwbl yn yr adnoddau i ni, byddai gennym £1.1 biliwn yn ychwanegol i'w fuddsoddi yn y gyllideb hon na'r hyn a welwn heddiw. Roedd ein cyllideb wedi tyfu yn unol â thwf yn yr economi—rhywbeth y llwyddodd pob Llywodraeth i'w gyflawni o 1945 hyd 2010, drwy'r holl flynyddoedd hynny o Mrs Thatcher, pryd na welwyd cwymp yn nhwf y gwasanaethau cyhoeddus yn is na'r twf yn yr economi gyfan. Mae twf yr economi wedi rhewi'n gorn ers 2010—rwy'n credu y byddai gennym ni rywbeth rhwng £3 biliwn a £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru heddiw na'r hyn y gall y gyllideb hon ei ddarparu.

Llywydd, rwy'n awyddus i amlinellu'n fras ar gyfer yr Aelodau y newidiadau hynny sydd o fewn y gyllideb derfynol, o'u cymharu â'r gyllideb ddrafft yr oeddwn yn gallu ei gosod ym mis Hydref y llynedd. Mae cyllideb derfynol 19 Rhagfyr yn dangos, dros ben y £230 miliwn ychwanegol yn 2018-19 a'r £220 miliwn dros ben hynny yn 2019-20, y bydd gan y GIG yng Nghymru £100 miliwn arall, £50 miliwn ym mhob blwyddyn, i gefnogi gwaith fy nghydweithiwr Vaughan Gething wrth iddo roi argymhellion yr arolwg seneddol ar waith, sydd newydd eu trafod yma. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos hefyd ddyraniadau ychwanegol o £20 miliwn yn 2018-19 a £40 miliwn yn ychwaneg yn 2019-20 i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn adeiladu ar yr £20 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer digartrefedd yn y gyllideb ddrafft drwy roi £10 miliwn ychwanegol sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddigartrefedd yr ifanc yn 2019-20. Mae £36 miliwn ymhellach wedi ei ddyranu i weinyddiaethau i gefnogi ymrwymiadau 'Ffyniant i bawb', ac mae Gweinidogion yn gweithio ar hyn o bryd ar gyfeirio'r cyllid hwn i'r mannau y bydd yn gwneud  y gwahaniaeth mwyaf.

Drwy gydol y craffu ar y gyllideb ddrafft, Dirprwy Lywydd, mae'r Aelodau wedi mynegi pryder am effaith Brexit. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar gronfa bontio Undeb Ewropeaidd gwerth £50 miliwn sy'n adeiladu ymhellach ar y £5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft i fod yn barod am Brexit fel rhan o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys £10 miliwn o gyllid refeniw dros ddwy flynedd fel buddsoddiad cychwynnol ychwanegol yn y gronfa hon. Bydd y gronfa yn rhedeg o fis Ebrill 2018 a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni cymorth manwl sy'n cynnwys ystod o ymyriadau.

Llywydd, rwyf eisiau troi i drafod cyfalaf nawr. Rwyf wedi bod yn trafod arian canlyniadol cyfalaf, gan gynnwys trafodion ariannol, ymhellach gyda Gweinidogion. Rwyf hefyd wedi parhau i drafod materion o ddiddordeb cyffredin gyda Phlaid Cymru. Heddiw, byddwn yn hoffi nodi rhai penderfyniadau cynnar ar flaenoriaethau cyfalaf disyfyd a gaiff eu ffurfioli mewn cyllidebau atodol. Dyrennir tri deg miliwn o bunnoedd eleni yn yr ail gyllideb atodol i raglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Defnyddir yr arian hwn i gefnogi ein huchelgais gyffredin ledled gwahanol rannau'r Siambr hon i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2015. Mae'n golygu y gellir rhyddhau £30 miliwn o arian cyfatebol o'r rhaglen yn y dyfodol i gefnogi prosiectau cyfalaf a neilltuwyd i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg. Ar ben hynny, ac er mwyn cyflymu gwaith hynod lwyddiannus band B rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddaf yn dyrannu £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf mewn cyfalaf ychwanegol i Brif Grŵp Gwariant fy nghydweithwraig, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, fel y gall lywio'r rhaglen honno ymhellach ac yn gyflymach nag y byddai wedi gallu gwneud fel arall.

Mae saith deg miliwn o bunnoedd mewn cyfalaf ychwanegol yn mynd at y GIG drwy gydol 2018-19 a 2019-20 i ganiatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fwrw ymlaen â'i ystyriaeth o'i amrywiaeth o flaenoriaethau clinigol, gan gynnwys y cymorth parhaus i'r Ganolfan Ganser newydd yn Felindre a buddsoddi yn y gwasanaethau i'r newyddanedig yn ysbytai Glangwili a Singleton. Llywydd, yng nghyllideb yr Hydref, fe wnaethom ni dderbyn £14.6 miliwn ar gyfer 2018-19 a 2020-21 ar gyfer ansawdd aer. Rwyf i wedi dyrannu refeniw ychwanegol eisoes ar gyfer ansawdd aer yn y gyllideb derfynol. Heddiw, gallaf ddweud y byddwn yn defnyddio'r £14.6 miliwn hwnnw fel gwariant cyfalaf i gynorthwyo Ysgrifennydd i Cabinet gyda chyfrifoldeb am y maes hynod bwysig hwn yng Nghymru. Rwyf hefyd yn trafod cynigion ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd o hyd at £30 miliwn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn rhoi buddsoddiad newydd hanfodol yn ein ffyrdd lleol.

Llywydd, byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ochr yn ochr â chyhoeddi fersiwn newydd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Bydd hyn yn cynnwys cyllid, sy'n cefnogi 'Ffyniant i Bawb', ar gyfer canolfan economaidd y Cymoedd fel rhan allweddol o gynllun tasglu'r Cymoedd, rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau â Plaid Cymru. Llywydd, wrth wraidd y gyllideb derfynol hon y mae'r gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n rhoi buddsoddiad ychwanegol yn ein gwasanaeth iechyd ac mewn Llywodraeth Leol. Mae'n ymwneud yn uniongyrchol â'r heriau yr ydym yn eu wynebu heddiw o ran digartrefedd a gwella ansawdd aer. Mae'n creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol drwy fuddsoddi mewn addysg ac yn ein heconomi. Mae'n gwneud hynny drwy reoli ein hadnoddau yn fanwl ac yn ofalus, drwy weithio gydag eraill i nodi tir cyffredin, a mynd ar drywydd y blaenoriaethau blaengar hynny sy'n ysgogi'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.

16:05

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am ei ddatganiad, a hefyd am ei gydweithrediad yn ystod y broses o lunio cyllideb â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac aelodau'r pwyllgor hwnnw a chyda minnau hefyd?

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael eich araith yn gymysgedd ryfedd braidd, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddwn yn dweud ei bod ychydig fel y gyllideb, yn dda mewn ambell i fan ond heb fod cystal mewn mannau eraill. Rydych wedi sôn am yr effaith negyddol y mae Llywodraeth y DU a'i rhaglen, yn eich barn chi, wedi ei chael ar gyllideb Cymru. Ac er fy mod yn derbyn bod toriadau wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf—wnawn ni ddim mynd ar ôl pam a sut y daeth y toriadau hynny—mae gennyf i yma ddatganiad ysgrifenedig o'r eiddoch chi, wedi ei gyhoeddi heddiw, rwy'n credu, yn trafod y canlyniadau hynny sydd wedi dod gerbron Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r gyllideb honno. Mae'r rhain yn cynyddu gwariant ychwanegol yng Nghymru, ac mae'r gyllideb wedi ei dyrannu gennych mewn ffordd y byddech yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gwneud. Felly, rwyf i o'r farn mai gwleidyddol yn ôl pob tebyg oedd naws negyddol eich cyfraniad yn hytrach na realistig. Ond gan ein bod mewn Siambr wleidyddol mae'n siŵr y byddech yn disgwyl hynny.

Nawr, nid wyf yn awyddus i fynd dros ormod o dir a nodais i yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Er hynny, yn ôl ym mis Rhagfyr, gofynnais i'r cwestiwn sylfaenol, 'Beth mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni?' A yw'n ceisio dyrannu arian i wahanol gyllidebau neu a yw'n ceisio gwneud mwy na hynny i fynd i'r afael â heriau hirdymor a cheisio newid economaidd sylfaenol i'r economi? Nawr, o ystyried y pwerau cyllidol newydd y soniodd Simon Thomas eu bod ar fin dod i Lywodraeth Cymru—benthyca, ac, yn wir, ddatganoli grym i drethu—byddwn i o'r farn mai'r olaf  ddylai fod yn nod i ni, ac rwy'n credu mai dyna farn Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn anffodus, rwy'n credu bod y gyllideb hon yn ddiffygiol yn hyn o beth. Nawr, rwy'n sylweddoli eu bod yn dyddiau cynnar o hyd ac mae'r pwerau hynny yn aros yn y broses drosglwyddo. Ond byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn edrych ar ffyrdd y gellir defnyddio'r pwerau hynny, ac o ystyried y bydd gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru bwerau ariannol ychwanegol sylweddol erbyn amser y gyllideb nesaf, credaf fod y gyllideb hon yn brin o wneud defnydd o'r rheini.

Os caf i gyfeirio'n unig at rai o'r pwyntiau a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, cafwyd pryderon parhaus am dryloywder, ac mae'r rhain yn allweddol i rai o'n pryderon ni. Nid yw'r cysylltiadau rhwng dyraniadau'r gyllideb a'r rhaglen lywodraethu yn ddigon cryf. O 2019 i 2020, rydym yn gwybod y bydd un grant ar gyfer nifer o brosiectau, gan gynnwys Dechrau'n Deg a Chefnogi Pobl, ac fe gymerodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan nifer o sefydliadau. Rwy'n credu mai Cymorth Cymru oedd gryfaf yn eu pryderon wrth ddweud ei bod yn fwyfwy anodd olrhain y cyllid sy'n dod ar hyn o bryd drwy Gefnogi Pobl dan y drefn newydd, ac mae hynny'n peri pryder. Ymddengys bod pethau yn mynd tuag yn ôl mewn rhai ardaloedd o ran tryloywder, yn hytrach nag ymlaen.

Os caf i droi at ran fawr cyllideb Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd, yr oeddech chi'n sôn am arian ychwanegol ar ei gyfer—o ganlyniad i symiau canlyniadol Llywodraeth y DU—yn eich datganiad ysgrifenedig heddiw. Wrth gwrs, rydym i gyd yn croesawu unrhyw arian ychwanegol i'r GIG. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, wedi galw am hynny ers amser maith—mewn gwirionedd yn ôl yn yr adeg pan oedd rhai toriadau gwirioneddol yn cael eu gwneud i gyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y Cynulliad diwethaf. Serch hynny, nid wyf i'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges ac eraill fod yn rhaid cynllunio'n strategol i ble'r aiff yr arian hwnnw a'r math o fanteision yr ydych yn mynd i gael yn ei sgil. Ac nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod ymdeimlad, o leiaf, yn sicr fod arian wedi ei sianelu i'r GIG dros y misoedd diwethaf a'r flwyddyn yn fras—a yw hwnnw'n mynd i ddatblygu newid trawsnewidiol priodol o fewn y GIG mewn gwirionedd, neu a yw'n mynd i gael ei lyncu gan rai o'r toraidau mewn cyllideb y mae ein byrddau iechyd wedi dioddef ohonynt. Rwyf i o'r farn mai'r consensws cyffredinol ar hyn o bryd yw mai'r olaf sydd fwyaf tebygol o fod yn wir. Felly, ni fydd hynny'n arwain at y math o newid trawsnewidiol yr ydym yn eiddgar i'w weld.

Nid oes sôn wedi bod am atal, ac eto caiff hyn ei grybwyll mewn llawer dadl a gawn yn y lle hwn am y gwasanaeth iechyd. Os ydych chi'n dweud, ar yr un pryd, fod atal yn rhan bwysig iawn o gadw costau iechyd i lawr yn y dyfodol, nid yw'n ymddangos ei bod yn gwneud synnwyr fod Llywodraeth Leol yn wynebu toriadau difrifol, a fydd wedyn yn effeithio ar ganolfannau hamdden ac yn effeithio ar chwaraeon, rhan arall o'r briff iechyd, a fydd, yn y pen draw, yn arwain at broblem gydag hyrwyddo atal—ni fydd yn ei wella. Felly, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad—

16:10

A fyddech hefyd yn cytuno y bydd dileu'r clustnodi ar gyfer pethau fel Cefnogi Pobl a Grant Byw Annibynnol Cymru hefyd yn risg pellach i beryglu atal ac ymyrryd?

Byddwn, ydw. Rwyf i o'r farn fod llawer o'r pethau y mae cyllideb Cymru yn anelu at eu gwneud nhw, ac yn mynegi ei bod yn awyddus i'w gwneud, yn rhagorol, ond pan edrychwch ar y manylion ehangach, nid ydynt yno mewn gwirionedd.

Rwy'n sylweddoli fy mod yn rhedeg allan o amser, Llywydd, ond ar ddechrau fy nghyfraniad dywedais fy mod yn credu y dylai'r gyllideb hon fod yn un sy'n edrych ar greu newid trawsnewidiol. Credaf fod eisiau rhywbeth cadarnhaol arnom, sydd yn creu sefyllfa economaidd fywiog wrth symud ymlaen, ac sydd yn gwneud y cysylltiadau priodol hynny rhwng pwerau cyllidol newydd Llywodraeth Cymru a'r gallu i ddatblygu'r economi mewn ffordd sydd yn angenrheidiol i ni, yn benodol gyda'r heriau a fydd yn ein hwynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Nid wyf i o'r farn fod y gyllideb hon yn bodloni'r meini prawf hynny, ac nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu hynny chwaith. Dyna pam na fydd o unrhyw syndod i Ysgrifennydd y Cabinet nad ydym ni am gefnogi'r gyllideb hon.

16:15

Mae'n ofyniad, wrth gwrs, mewn Senedd lle nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif—mae hynny'n wir, wrth gwrs, am ran fwyaf y cyfnod yr oeddem ni'n ei drafod—i ddod i gytundeb. Mae hynny yn gofyn am elfen o wyleidd-dra ar ran y Llywodraeth. Mae hefyd yn gofyn am agwedd adeiladol, a dweud y gwir, o ran y gwrthbleidiau. Mae hynny yn rhan o broses ddemocrataidd gref mewn Senedd aeddfed. Rydw i wedi bod yn falch iawn i wneud fy nghyfraniad i at y broses yna, ond hefyd a gaf i roi diolch i Steffan Lewis, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud yn barod, ar gyfer ei gyfraniad e?

A gaf i ddyfynnu cwpl o enghreifftiau o'r amrediad o bolisïau positif, arloesol yr oedd y blaid wedi llwyddo i'w cael nawr fel rhan o raglen y Llywodraeth trwy'r math yna o gyd-drafod? Mae'r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi sôn am y gronfa baratoi ar gyfer Brexit, ac roedd Steffan wedi bod yn pwsio hynny ers meitin ar ôl gweld yr effaith yr oedd yr un math o gynllun yn cael yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r Llywodraeth erbyn hyn, wrth gwrs, wedi penderfynu adeiladu ar y seiliau a oedd wedi'u gosod yn y cytundeb drafft gyda chynllun llawer mwy uchelgeisiol.

Mi oedd Steffan hefyd wedi bod yn pledio'r achos ers tipyn dros greu clinig arbenigol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol, perinatal, ac wedi llwyddo, trwy gyfrwng y cytundeb a thrafodaethau cyllideb, mewn gwirionedd, i newid polisi, i newid meddwl. Onid yw hynny hefyd yn enghraifft o wleidyddiaeth bositif, adeiladol?

Ar ddiwedd y dydd, pam ydym ni i gyd yn dod mewn i'r lle yma? I wneud Cymru tipyn bach yn well na'r cyflwr yr oedd hi ynddo cyn inni ddod yma. Dyna'r gwir, yntefe? Wrth gwrs, mae yna rôl ar gyfer gwrthwynebu. Gwnes i fy nghyfran o hynny am naw mlynedd lawr yn San Steffan, ac roedd yna lawer o bethau pwysig i'w gwrthwynebu. Y rheswm y des i i'r lle yma yn hytrach oedd i adeiladu, yntefe? Nid dim ond i wrthwynebu, ond i adeiladu, ac mae hynny'n golygu bod gwrthbleidiau, wedyn, yn ymddwyn yn gyfrifol, a'u bod, lle mae yna dir cyffredin, yn ceisio adeiladu ar y tir cyffredin hynny. Nid yw hynny'n golygu nad ydych chi'n dweud yn glir ac yn groyw lle mae'r Llywodraeth yn anghywir. Mae yna bethau yn y gyllideb nad ydym ni'n cytuno â nhw, a dyna pam rŷm ni'n ymatal. Ond trwy'r trafodaethau, rydym ni wedi medru, er enghraifft, cael y buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi heddiw yr arian—dau tranche of £30 miliwn—ar gyfer ysgolion, £20 miliwn o arian refeniw hefyd yn y gyllideb ddrafft: y buddsoddiad mwyaf erioed er mwyn cyrraedd y nod, wrth gwrs, gyda'r uchelgais hynny erbyn canol y ganrif hon.

Pethau lleol, pethau rhanbarthol—cael gwared â'r tollau ar bont Cleddau, sy'n bwysig iawn i'r ardal yna. Trafnidiaeth—cael y commitment cyntaf o ran metro ar gyfer bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin; ymestyn y metro yn ne Cymru i ardaloedd fel y Rhondda Fach, sydd heb drafnidiaeth gyhoeddus a modern ar hyn o bryd; ac, wrth gwrs, buddsoddi yn ein heolydd ni hefyd, sydd yn bwysig: er enghraifft yr A487 a’r A470. Rydym yn gweld buddsoddiad ym mhob rhan o Gymru. Hynny yw, pan oeddwn i'n gweld y cyhoeddiad ddoe ynglŷn â hub trafnidiaeth £180 miliwn i Gaerdydd—byddai sawl ardal yng Nghymru yn lico gweld y math yna o fuddsoddiad. Mae’n rhaid inni gael buddsoddiad trwy Gymru gyfan, buddsoddiad mewn sefydliadau cenedlaethol—hynny yw, yr amgueddfa bêl-droed ar gyfer Wrecsam, sef rhan o Gymru sydd heb sefydliad diwylliannol cenedlaethol. Nid oes un wedi bod, a dweud y gwir, ers pan oedd Edward Owen, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf am rai blynyddoedd, yn rhedeg y comisiwn henebion o’i gartref yn Wrecsam. Ers hynny, nid oes sefydliad diwylliannol cenedlaethol wedi bod yn y gogledd-ddwyrain, ac nid yw hynny’n iach i’n cenedl ni. Rwy’n falch o weld y commitment o ran cyfalaf i’r amgueddfa bêl-droed fel ein bod ni'n gallu rhoi neges glir i bob rhan o Gymru: Cymry un genedl ydym ni, ac mae angen, wrth gwrs, adlewyrchu hynny yn ein blaenoriaethau.

16:20

Nid wyf yn gwarafun o gwbl y cyfle sydd gan Blaid Cymru i fawrygu eu dylanwad nhw ar y penderfyniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd dros gyllid. Rwy'n cytuno'n llwyr â datganiad Adam Price, pan all rhywun gytuno â phleidiau eraill, ei bod yn ddymunol iawn gwneud hynny. Ac, wrth gwrs, rwyf wedi treulio cyfran deg o'm blynyddoedd mewn gwleidyddiaeth yn gwrthwynebu'n daer bolisïau Plaid Cymru a'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond rwy'n hapus iawn i gydweithio ar bethau amrywiol hefyd, a pheth da yw hynny.

Hon yw'r gyllideb gyntaf i ddechrau llunio'r cyswllt, gan hynny, rhwng codi refeniw a gwariant, a bydd hynny'n arwain, rwy'n gobeithio, at Lywodraeth fwy cyfrifol ac yn gloywi enw da'r Cynulliad hwn. Rwy'n cefnogi'n gryf waith fy nghyfeillion ym Mhlaid Cymru dros y blynyddoedd i sicrhau mwy o ddatganoli trethi yng Nghymru. Rwyf o blaid hynny'n fawr iawn gan ei fod yn rhoi inni, felly, y cyfle i gael dadleuon cyllideb gwirioneddol yn y lle hwn pan fydd blaenoriaethau'r gwahanol bleidiau yn gwahaniaethu â'i gilydd.

Bu holl ddadleuon y gorffennol yn ymdrin â sut yr ydym yn gwario'r arian yr ydym yn ei gael. Ni allwn ddylanwadu ar faint y gyfran ariannol i ddechrau. Yn y dyfodol bydd polisi trethiant yn llywio'r dadleuon hyn yn gynyddol, sydd yn beth ardderchog. Dywedais yn y ddadl ddiwethaf, mewn gwirionedd, mai'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma heddiw yw cyfran fechan o gyfanswm y gyllideb, gan nad yw'r rhan fwyaf o'r gyllideb yn ddewisol, y mae'n rhaid iddi gael ei gwario ar iechyd, addysg ac eitemau mawr o gyllideb. Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau eu blaenoriaethau nhw ar gyfer tua £500 miliwn ohoni, ac rwy'n cefnogi'n fawr iawn y pethau y maen nhw'n awyddus i wario'r arian arnyn nhw, yn enwedig yr iaith Gymraeg. Credaf fod hynny'n rheidrwydd hanfodol i helpu i gyflawni amcan y Llywodraeth o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ond mae rhyw naws afreal ynghylch y dadleuon cyllideb hyn ac maer Ysgrifennydd dros Gyllid yn parhau â hyn heddiw eto gan ddechrau trwy sôn am galedi. Buasai rhywun yn credu bod y Llywodraeth yn San Steffan mewn gwirionedd wedi torri ar swm gwariant y Llywodraeth yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ond y gwir amdani yw fod gwariant y Llywodraeth wedi dyblu yn ei gyfanswm yn y saith mlynedd diwethaf. Mae'r ddyled genedlaethol bellach yn nesáu at £2 triliwn. Rwy'n gobeithio y bydd gan Ganghellor y Trysorlys yr arian i'w roi inni ar gyfer cynnal parti mawr iawn i ni gyd pan fyddwn mewn gwirionedd yn cyrraedd y ffigur hwnnw o £2 triliwn. Byddai hynny'n golygu y gallai pob un ohonom ni ddathlu gydag ef. Mae'r syniad fod y Llywodraeth Geidwadol hon wedi dilyn polisi o galedi yn nonsens llwyr. Mae'r Canghellor yn ddiweddar wedi gohirio'r dyddiad eto pryd y bydd yn anelu at gael cyllideb sy'n cydbwyso. Rhwng nawr a 2021-2, bydd gwariant y Llywodraeth yn codi i £30 biliwn dros ben y cynlluniau a gafodd eu cyflwyno ychydig flynyddoedd yn ôl.

Wrth gwrs, gallem ni oll ddilyn polisïau Llywodraethau Zimbabwe a Venezuela, drwy gymryd y ffrwynau oddi ar wariant yn gyfan gwbl a gwario fel pe nad yw yfory'n bodoli. Ond y drafferth gyda sosialaeth yw eich bod chi, yn y pen draw, yn rhedeg allan o arian pobl eraill i'w wario, a dyna fu esgus Llywodraeth Wilson yn y 1960au a'r 1970au a Llywodraeth Callaghan—[Torri ar draws.] Rwy'n ildio, wrth gwrs, i Mike Hedges.

Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud, wrth gwrs, yw fod Franklin Delano Roosevelt wedi gwneud yn union felly: y Fargen Newydd ddaeth ag America allan o'r dirwasgiad.

Ie, wel, yr hyn ddaeth ag America allan o'r dirwasgiad mewn gwirionedd oedd, wrth gwrs, y rhyfel. Ceir ffyrdd amrywiol o godi gweithgarwch economaidd, ond nid wyf i o'r farn mai rhyfel o reidrwydd yw'r dewis mwyaf deniadol.

Ond fe ddaw yfory yn anochel. Rydym yn gwario £50 i £60 biliwn y flwyddyn ar log ar ddyledion yn y DU. Os cymerwn ni gyfran Cymru o hynny, efallai fod hynny'n £2 biliwn y flwyddyn. A fyddai'n well gennym ni wario £2 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd neu ar ddeiliaid y ddyled genedlaethol? Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yw gwladoli rhan fawr o'r ddyled genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd mae Banc Lloegr mewn gwirionedd wedi bod yn prynu bondiau oddi wrth y sector preifat. Ni all pennu gwerth ariannol y ddyled genedlaethol barhau am gyfnod amhenodol heb yr un fath o oblygiadau i chwyddiant sydd wedi llethu gwledydd fel Zimbabwe neu Venezuela.

Er fy mod o'r farn fod y Llywodraeth yn mynd ar gyfeiliorn yn genedlaethol yn San Steffan o ran llawer o'i blaenoriaethau, bu ei pholisi cyffredinol ar wariant cyhoeddus, yn fy marn i, yn llac ac nid yn llym, ac mae wedi creu problemau i'r dyfodol. Rydym yn gwneud môr a mynydd yn y lle hwn o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Ac rwy'n credu ei fod yn beth da iawn, mewn egwyddor, inni feddwl am effaith ein penderfyniadau heddiw ar y cenedlaethau sydd i ddod. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw gwthio cost ad-dalu'r dyledion yr ydym yn eu cronni heddiw ar genedlaethau'r dyfodol, ac nid wyf i o'r farn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch inni am hynny. Ond, wrth gwrs, nid oes pleidleisiau ganddyn nhw heddiw, felly nid oes angen inni ofidio am y peth, ac ni fyddwn ni yma pan fyddan nhw'n pleidleisio—o leiaf, ni fyddaf i yma; mae hynny'n annhebygol

Rwyf i o'r farn mai naws o gyfrifoldeb ddylai fod gennym ni ar unrhyw ddadl o ran cyllideb. Yn drist, rwy'n ofidus am y dyfodol os mai dyma'r math ar araith a wnaeth yr Ysgrifennydd dros Gyllid heddiw. Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi trethi a gwneud penderfyniadau ar wariant a gwneud penderfyniadau ar fenthyca mewn maes ehangach o lawer, ac mae'r pŵer ganddi i wneud hynny bellach, oherwydd fel hynny, yn fy marn i, y daw'r math ar ddistryw economaidd sydd wedi llesteirio cymaint o Lywodraethau Llafur yn ystod fy oes i.

16:25

Rwy'n siarad heddiw o blaid y gyllideb derfynol a bennwyd gan yr Ysgrifennydd dros Gyllid fis diwethaf. Mae'r gyllideb hon yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae cymunedau ledled Cymru yn dibynnu arnyn nhw. Gwelir y cyflawniad hwn ar wedd sydd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth inni ystyried effaith niweidiol polisïau Llywodraeth bresennol y DU. Mae obsesiwn y Torïaid gyda'u hagenda llymder, a oedd yn fethiant, wedi cael ei ategu gan eu camreoli economaidd a'u dull dryslyd o gael Brexit wedi achosi niwed sy'n parhau i'n heconomi. Canlyniad hyn fu degawd o ostyngiadau yn yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae penderfyniadau torïaidd yn San Steffan yn golygu bod hyn wedi gostwng mewn termau real o 7 y cant rhwng 2010-11 a 2019-20. Mae hynny dros £1 biliwn yn llai ar gyfer ysgolion, ysbytai a chymunedau. Os ydym yn archwilio manylion y gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyferbyniad yn cael ei atgyfnerthu ymhellach.

Fel cyn athrawes, mae gwariant ar addysg yn bwysig yn fy ngolwg i. Rwy'n croesawu cynhaliaeth y grant datblygu disgyblion, a gwn o brofiad ei fod yn cryfhau ymyriadau i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn gwireddu ei haddewidion, nid dim ond yn trafod safonau ysgolion ond yn clustnodi £50 miliwn i wthio hynny yn ei flaen. Mae'r £40 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif hefyd yn arwydd pwysig o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bobl ifanc. Rwy'n falch mai Cwm Cynon yw'r etholaeth sydd wedi elwa fwyaf hyd yn hyn o'r polisi hwn, gyda gwelliannau pellgyrhaeddol i ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys llawer o adeiladau newydd a champws coleg addysg bellach newydd sbon hefyd. Efallai fod rhai yn dweud mai dim ond adeiladau o frics a morter yw ysgolion, ond mae amgylchedd dysgu mewn gwirionedd yn effeithio ar gyflawniad, a bydd yn cynnig cyfle i'n pobl ifanc anelu at wneud eu gorau. Rwy'n siŵr nad oes raid imi atgoffa'r Aelodau o'r difrod a achoswyd yn Lloegr gan Michael Gove pan ddiddymodd Adeiladu Ysgolion i'r Dyfodol. Dau lwybr gwahanol gan Lywodraeth, dwy stori wahanol am fuddsoddi mewn addysg.

Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian ychwanegol i wneud gwelliannau i seilwaith a chael polisïau a fydd yn cryfhau ein heconomi ac yn sicrhau y gall Cymru gystadlu yn y blynyddoedd i ddod. Mae £173 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer metro de Cymru yn cynnig y posibilrwydd o drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae creu Banc Datblygu Cymru a buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyflymu Cymru hefyd yn hollbwysig i'n perfformiad economaidd. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Torïaid San Steffan unwaith eto yn siomi Cymru, fel y dangosir, er enghraifft, yn eu hanweithgarwch gyda morlyn llanw Bae Abertawe a thorri eu haddewid gyda thrydaneiddio'r rheilffordd.

Rwyf hefyd yn awyddus i dreulio munud yn siarad am yr ymyriadau sydd wedi'u cynnwys yng nghyllideb Cymru ar gyfer Cefnogi Pobl. Rwy'n gwybod fod llawer o drafod wedi bod am y grant hwn, felly rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â'r cyllid hwn. Cwrddais i â grŵp o ddefnyddwyr y gwasanaeth ddoe ddiwethaf, mewn cyfarfod a gafodd ei drefnu gan fwrdd cynghori cenedlaethol Cefnogi Pobl ac rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau yn fy etholaeth i, felly rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw'r llinell hon o gyllid.

16:30

A fyddai'r Aelod yn ildio ar y pwynt hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn, ac yn cytuno â hi; rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â phrosiectau Cefnogi Pobl, ac rwy'n credu ein bod yn rhannu gwerth cyffelyb wrth sicrhau bod yr arian ar gael. Bydd hi'n ymwybodol o'r dryswch neu'r drafodaeth, o leiaf, sydd wedi bod o ran sut y caiff yr arian ei wario. A fyddai hi o leiaf yn cytuno bod angen inni fonitro ar hyn o bryd sut y caiff yr arian ei wario i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â'r materion gwirioneddol hyn yn ein cymunedau?

Wel, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth ateb hynny fyddai ein bod ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rydym wedi cael tystiolaeth gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n dweud y bydd cael gwared ar y clustnodi hwn mewn gwirionedd yn caniatáu ar gyfer lefelau mwy hyblyg o gymorth. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw golwg arno mewn gwirionedd, ond nid wyf i'n credu bod achos i bryderu'n fawr ar y cam hwn.

Fan arall, mae ymyriadau o ran digartrefedd, trais domestig a gofal plant yn bolisïau cymdeithasol pwysig. Mae effaith anallu economaidd Llywodraeth y DU a dideimladrwydd bwriadol, a achoswyd gan bolisïau fel y credyd cynhwysol a'r cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, wedi arwain at broblemau cymdeithasol fel y cynnydd sydyn yn y defnydd o fanciau bwyd. Unwaith yn rhagor, mae Llywodraeth Cymru a Llafur Cymru yn dewis gwneud pethau'n wahanol.

I gloi, hoffwn wneud sylwadau am yr hyn yr wyf yn teimlo sy'n rhai o elfennau mwyaf cyffrous y gyllideb. Y trethi newydd ar drafodion tir a gwarediadau tirlenwi yw'r rhain. Gyda'r ddeubeth, mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio ei galluoedd datganoledig newydd. Yn benodol, mae cynigion sy'n golygu na fydd 65 y cant o'r holl brynwyr tai yng Nghymru yn talu unrhyw dreth trafodiad tir yn fendith wirioneddol i gymunedau dosbarth gweithiol ledled y wlad. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith manwl yn y dyfodol gan yr Ysgrifennydd dros Gyllid ar gynigion trethiant ychwanegol dros y cyfnod sydd i ddod.

Mae Llywodraeth Cymru, wrth ddatblygu'r cynigion hyn, wedi amlygu ei hymrwymiad i gael y fargen orau i Gymru, i gefnogi dinasyddion Cymru, a gwasanaethau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n llawn balchder wrth gefnogi'r gyllideb hon heddiw.

Er fy mod yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cydnabod mai annigonol yw'r gyllideb ar gyfer anghenion Cymru. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ei araith, mae rhwng £1.1 biliwn a £4 biliwn yn llai o wariant gennym nag a ddylai fod gennym pe byddem hyd yn oed wedi aros ar y gwastad yn unig, ar y naill law o ran arian parod, ac ar y llaw arall o ran cynnydd termau real yn unol a symudiad yr economi. Felly, gallwn naill ai symud gyda'r economi, neu gallwn symud yn y ffordd y mae pethau'n mynd rhagddynt. Ni wnaethom hynny ac rydym yn brin o'r arian hwnnw. Byddai'n gyllideb hollol wahanol heddiw pe byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet rywbeth rhwng £1.1 biliwn a £4 biliwn i'w ddyrannu.

Byddai gennym ddadl well oherwydd byddem yn dweud fel hyn, 'A ddylem ni roi mwy i iechyd neu a ddylem roi mwy i addysg, neu a ddylem roi mwy i'r gwasanaethau cymdeithasol?'. Byddem i gyd yn mwynhau cael y ddadl honno yn hytrach na dweud fel hyn 'Wel, rydym yn mynd i roi mwy o arian i iechyd felly bydd yn rhaid inni gymryd arian oddi ar lywodraeth leol.'

Wrth gwrs, rwy'n deall pam mae Aelodau'r gwrthbleidiau yn gwneud y pwynt hwn—efallai eich bod yn iawn i wneud hynny, ac yn sicr mae pob hawl ganddyn nhw i —. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i —breuddwyd gwrach. Ac yn sicr, mae gan Blaid Cymru bob hawl i'w wneud. Ond, wyddoch chi, ymladdodd Llafur dros faniffesto 2010 ar yr un rhagamcanion ariannol fwy neu lai â'r rhai a gaiff eu derbyn gan y Blaid Geidwadol. Fe wnaethoch chi ymladd etholiad 2015 ar sail ychydig yn wahanol, ond nid yn gwbl wahanol o ran y swm sydd wedi ei wario. Nawr, yn 2017, mae'n amlwg, eich bod wedi ymladd mewn dull gwahanol iawn. Ond, wyddoch chi, ni fyddem mewn sefyllfa wahanol iawn pe byddai Llywodraeth Lafur wedi cael ei hailethol yn y DU yn 2010. Felly, yn fy marn i, mae hwn yn bwynt rhyfedd braidd.

Wel, pe byddem wedi gweld ethol Jeremy Corbyn a John McDonnell yn 2017, nid wyf yn credu bod yna unrhyw un yn yr ystafell hon nad yw o'r farn y byddai gennym gyllideb hollol wahanol.

Mae'r grant bloc gan y Torïaid yn San Steffan yn annigonol. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, rwy'n disgwyl gweld y Ceidwadwyr yn galw am fwy o arian ar gyfer iechyd, mwy o arian ar gyfer addysg, ac yn gwrthwynebu unrhyw doriadau yn cael eu gorfodi ar awdurdodau lleol oherwydd y gostyngiad yn eu grantiau bloc, gan wynebu'r angen cynyddol am ofal cymdeithasol a gwasanaethau plant. Mae cyni wedi methu fel polisi economaidd. Mae wedi yn methu yn wastadol fel polisi economaidd. Rhoddwyd cynnig arno lawer gwaith; fe fethodd bob tro.

Rydym yn trafod hanes—dyna wnaeth Neil Hamilton. Gadewch inni drafod yr hyn a ddigwyddodd yn Chile pan welsom ni'r Llywodraeth adain dde eithafol yno. Beth wnaethon nhw? Fe ddilynon nhw ysgol Chicago. Fe wnaethon nhw'r union beth a ddywedason nhw o ran cwtogi, ac fe wnaeth eu heconomi bron â diflannu'n llwyr. Ideoleg o grebachu sector y wladwriaeth yw hon, lleihau gwariant cyhoeddus, lleihau gwasanaethau cyhoeddus a gorfodi pobl sydd â'r modd ariannol i ddefnyddio'r sector preifat.

Unwaith eto, nid ydym yn gwahaniaethu rhwng cyfalaf a refeniw. Mae gwariant cyfalaf yn beth rhagorol. Mae'n rhagorol i'r economi, ac mae'n rhywbeth y mae pobl yn ei wneud yn eu bywydau eu hunain. Dyna un o'r materion yr arferai Margaret Thatcher sôn amdano: mae'n rhaid gofalu am yr economi fel y gwna gwraig y tŷ. Wel, mae pobl yn gwneud hynny: maen nhw'n cael benthyg arian i brynu ceir, maen nhw'n cael benthyg arian i dalu eu morgeisi ar sail yr arian y gallan nhw fforddio ei dalu yn ôl. Pam nad oes gennym ni, yn Llywodraeth Cymru, yr un galluoedd â'r rheini sy'n bodoli ym mhob awdurdod lleol ym Mhrydain, gan gynnwys Rutland, i fenthyca'n ofalus—. Caiff ein terfyn ariannol ni ei osod gan y Canghellor. Mae'r rheolau sydd gennym ni'n fwy llym na'r rhai sydd gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.

Rwyf i o'r farn fod angen arian ychwanegol arnom ni. Mae angen arian ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd. Ond mae'n parhau i gael arian ychwanegol ac oherwydd nad oes gennym ragor o arian yn y system—. Nododd Michael Trickey o Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn ddiweddar pryd y bydd yn cyrraedd 60 y cant o gyfanswm y gwariant yng Nghymru. Holais i ef a fyddai'n dweud wrthym pryd fyddai'n cyrraedd 100 y cant. Ni chafwyd ateb, ond oddeutu 2050 fydd hynny'n digwydd.

Ystyrir bod mwy o bobl yn cael eu trin mewn ysbytai yn arwydd o lwyddiant. Lleihau'r galw sydd ei angen. Mae angen inni hyrwyddo dewisiadau cadarnhaol o ran ffordd o fyw: dim ysmygu, mwy o ymarfer corff, cyfraddau llai o ordewdra a chymryd cyffuriau. Mae angen inni hefyd wella ansawdd tai, gwella deiet a chael mwy o ofal cymdeithasol. Byddai hynny o gymorth. Rhoddaf sylw i un peth fel diabetes math 2. Un o'i brif achosion yw bod yn rhy drwm neu'n ordew. Mae angen ymgyrch arnom ni dan arweiniad gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol i geisio cael pobl i fynd ar ddeiet os oes ganddyn nhw ddiabetes math 2 fel bod modd gostwng eu pwysau a gwella ohono.

Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw at un peth: Cyfoeth Naturiol Cymru—a yw'n cael ei gyllido'n iawn? A gaiff ei ariannu'n ddigonol i allu cyflawni'r holl swyddogaethau y gofynnir iddo'u cyflawni? Os na yw'r ateb, yna mae gennym ddau ddewis: rhoi mwy o arian iddo neu ofyn iddo wneud llai o waith.

16:35

Llywydd, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, cymeradwyais gymorth Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol dros yr wyth mlynedd diwethaf o gyni a lleihau cyllidebau, ac rwy'n falch o ddechrau drwy ganolbwyntio ar y flaenoriaeth honno eto heddiw. Credaf ei bod hi'n werth cofnodi eto heddiw, ac atgoffa'r Aelodau, fod gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 8 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Credaf yng nghyd-destun y ddadl gyllideb derfynol hon heddiw, y bu hi'n ddefnyddiol cael yr adroddiad a'r datganiad ar yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n dangos cyfleoedd ar gyfer trawsnewid ein darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Braf oedd clywed y sylwadau cadarnhaol gan y tîm adolygu. Mae pethau da yn digwydd yng Nghymru: er enghraifft, gofal iechyd darbodus a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Rwyf wedi siarad am fy nghefnogaeth i'r gronfa gofal integredig, a luniwyd mewn gwirionedd gan bleidiau o bob rhan—yn sicr tair plaid yn y Siambr hon. Mae £50 yn y Gronfa Gofal Integredig. Caiff ei chynnal yn y gyllideb hon gyda chynnydd mewn cyfalaf. Credaf, mewn gwirionedd, fod y gronfa hon yn helpu i gynnig y ddarpariaeth ddi-dor y mae ei hangen wrth ddefnyddio gwasanaethau, y mae'r adolygiad, wrth gwrs, yn sôn amdani.

Rwyf eisiau sôn am ymrwymiad y trydydd sector wrth ddarparu'r gronfa gofal integredig, sy'n amlwg yn cyfrannu at yr agenda ataliol, fel y dangosir yng Ngwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.

Diolch, Jane, am ildio. Cytunaf gyda'r hyn a ddywedwch chi am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Credaf, mewn egwyddor, ei bod hi'n ddarn gwych o ddeddfwriaeth, ond cafodd y Pwyllgor Cyllid broblemau mawr yn profi sut, mewn gwirionedd, yr oedd y gyllideb mewn difrif yn cael ei heffeithio gan ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac fel arall. Rwy'n gwybod, pe byddai Steffan Lewis yma, y byddai fwy na thebyg yn gwneud y pwynt hwnnw, felly fe wnaf i'r pwynt ar ei ran, ond a ydych chi'n cytuno â mi bod angen gwella hynny?

Wel, roedd hi'n ddefnyddiol iawn, pan gawsom ni gyfarfod gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ei bod hi wedi edrych ar enghreifftiau ymarferol iawn o, er enghraifft, yr agenda ataliol, a thynnu sylw at y ffaith bod y gronfa gofal integredig, yn rhan o hynny, yn gweddu'n dda iawn i nodau Deddf cenedlaethau'r dyfodol.

Ond rwy'n parhau i ddweud, o ganlyniad i ymgysylltiad y trydydd sector, mae gennym ni wasanaeth trydydd sector sy'n rhannu lleoliad gyda Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn Ysbyty'r Barri, ac mae hynny'n arwain at symleiddio atgyfeiriadau a rhagnodi cymdeithasol. Wrth gwrs, dyma'r enghreifftiau y mae angen inni eu rhoi, a fydd hefyd yn helpu i ymateb i'r adolygiad.

Mae'n bwysig iawn inni roi sylw i'r cwestiwn o bwy sy'n talu am ofal cymdeithasol, ac roeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys cynnig yr Athro Gerry Holtham i archwilio'r posibilrwydd o gael ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol yn rhan o'r pedwar syniad treth newydd. Gobeithiaf yr eir ar drywydd hyn, hyd yn oed os nad yw'n opsiwn treth newydd fydd yn cael ei brofi gyda Llywodraeth y DU. Soniodd Gerry, wrth gwrs, yn ddiweddar am hyn yng nghyd-destun gwariant cynyddol ar y GIG a'r pwysau.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud tai yn flaenoriaeth yn ei gynlluniau cyllideb drafft, a gymeradwywyd gan y Cynulliad, wrth gwrs. Ac yn y gyllideb ddrafft, roedd cyfalaf ychwanegol a buddsoddiad refeniw wrth gwrs, gan gynnwys £20 miliwn i fynd i'r afael â digartrefedd, ac rwy'n croesawu'r £10 miliwn ychwanegol i dargedu digartrefedd ymysg pobl ifanc. Unwaith eto, blaenoriaeth glir Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'r gyllideb hon yn ymwneud â blaenoriaethau ac egwyddorion ac fi hoffwn i ganmol yr Ysgrifennydd Cyllid ynglŷn â sut yr aeth ati i ymdrin â'n pwerau cyllidol newydd. Mae'n braf dysgu y bydd effaith y pwerau cyllidol newydd hyn yn darparu refeniw ychwanegol o £17 miliwn o ganlyniad i arian gwaelodol parhaol, a £30 miliwn o ganlyniad i benderfyniadau a wneir o ran incwm o drethi datganoledig. Bydd gwariant cyfalaf hefyd yn cael hwb o ganlyniad i'n pwerau benthyca estynedig a hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni'r cyhoeddiad derbyniol hwnnw heddiw ynglŷn â'r chwistrelliad cyfalaf. 

Pan gawsom ni dystiolaeth gan gyfarwyddwr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Robert Chote, yn y Pwyllgor Cyllid ym mis Rhagfyr, gwnaeth ef sylwadau cadarnhaol ynglŷn â sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i osod cyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir newydd. Wrth gwrs, yn dilyn y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd mwy o brynwyr tai yn elwa o'i newidiadau i'r dreth trafodiadau tir gyda phobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £180,000 yn talu dim treth o dan y newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a'r trethi a ddatganolir ym mis Ebrill, soniodd Robert Chote am Gymru yn gwthio'r system i gyfeiriad mwy blaengar. Mae hyn yn gyson â nod Ysgrifennydd y Cabinet i wneud treth yn decach a chyfrannu at Gymru sy'n fwy cyfartal, a chroesawaf y dystiolaeth hon o roi egwyddorion ar waith gyda'n pwerau cyllidol treth newydd pwysig yng Nghymru.

Felly, fe hoffwn i orffen drwy ychwanegu at y datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet a chyd-Aelodau heddiw ar effeithiau cyllidol cyni. Pobl anabl, rhieni sengl a menywod sydd wedi bod ymhlith y rhai sydd fwyaf ar eu colled o dan saith mlynedd o gyni. Ac ers i'r Llywodraeth glymblaid orfodi cyni yn 2010, wrth gwrs, fe wnaethom ni wrthwynebu'r toriadau cynnar iawn hynny, ond mae'r toriadau hynny wedi cynyddu i dros £1 biliwn dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth bresenol Cymru wedi codi tarian yng Nghymru i liniaru yn erbyn y cyni a'r toriadau. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cyllideb newydd ar gyfer Cymru, sy'n adlewyrchu pwerau treth a benthyca newydd Llywodraeth Cymru. Mae'n defnyddio'r pwerau newydd hyn i gyflawni blaenoriaethau a fydd o fantais i iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai, ac yn ategu'r economi mewn ffordd deg a chadarn, ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb hon.

16:40

Rwyf eisoes wedi egluro fy mod yn pleidleisio yn erbyn cyllideb ddiffygiol y Blaid Lafur. Mae hon yn gyllideb gan blaid sydd wedi colli cysylltiad ac y mae angen rhoi terfyn ar ei Llywodraeth.

Rydym ni i gyd wedi gweld, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, y math o blaid yr ydych chi. Mae ein gwlad falch yn cael ei llusgo drwy eich llanast chi ac mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Rydych chi'n ceisio argyhoeddi pobl eich bod chi'n blaid fwy caredig, mwy hynaws ei gwleidyddiaeth, ond beth y gofynnir i mi bleidleisio drosto yma? Mwy o gaeau gwyrdd o amgylch Caerdydd i gael eu llurgunio; mwy o goed i gael eu llifio yn Nant y Rhath mewn camau atal llifogydd diangen; mwy o safleoedd amgylcheddol o amgylch Casnewydd i gael eu tarmacio; a mwy o filiynau yn cael eu colli ar gytundebau tir a busnes amheus—amheus iawn.

Gyda'r gyllideb hon, a allwn ni fynd at bobl ym Mlaenau Gwent, Gwynedd, Merthyr a'r Rhondda a dweud bod hwn yn gynllun dilys ac o ddifrif i wella safonau byw? Ymddengys fod pawb arall wedi anghofio'r ardaloedd hynny ers i'r Ceidwadwyr dynnu'r carped o dan eu traed. Ydym ni o'r diwedd yn mynd i wneud rhywbeth yn ei gylch gyda'r gyllideb hon? Allwn ni fynd â'r gyllideb hon i gymunedau Cymraeg eu hiaith a dweud bod hon yn mynd i ddathlu a diogelu ein hiaith yn briodol? Allwn ni fynd â'r gyllideb hon at entrepreneuriaid a dweud, 'Byddwch yn greadigol, gwnewch i'ch syniad da ddigwydd, tyfwch i fod yn gwmni llwyddiannus'? Yr ateb yw 'na'.

Mae hon yn gyllideb ddiffygiol gan Lywodraeth ddiffygiol. Nid yw'n unioni'r problemau gwirioneddol sydd gan bobl. Ni fydd yn arwain at roi terfyn ar yr argyfwng tai. Ni fydd yn rhoi bwyd ar fyrddau pobl. Ni fydd yn rhoi terfyn ar bobl ddawnus yn gorfod gadael Cymru i wneud eu ffortiwn. Pe bai gennym ni senedd sofran, gallem gael Llywodraeth yn deddfu ym mhob maes ar gyfer Cymru ac er budd pawb yng Nghymru. Dyna'r ateb go iawn— Senedd Sofran i Gymru yn deddfu er budd Cenedlaethol Cymru. Pan ddaw'r diwrnod hwnnw, byddwn mewn gwirionedd yn gweld newid. Diolch yn fawr.

16:45

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, mae dadleuon cyllideb bob amser yn ddiddorol oherwydd y ffordd y maen nhw'n datgelu gwahaniaethau ideolegol ar draws llawr y Siambr. Credaf y byddwn ni'n cofio cyfraniad Neil Hamilton, dyn sy'n credu nad yw cyni wedi mynd yn agos at fod yn ddigon pell, sydd yn ystyried bod Llywodraeth y DU yn llwfr ac yn byw mewn oes o orwario enbyd, a lle mae pob buddsoddiad y gall y Llywodraeth ei wneud yn dreth ar genedlaethau'r dyfodol. Hoffwn pe gallai fod wedi cyfarfod y bensiynwraig a ddaeth i'm cymhorthfa yn Nhrelái ychydig cyn y Nadolig i egluro i mi fod y tŷ yr oedd hi'n byw ynddo wedi'i adeiladu 100 mlynedd yn ôl gan Lywodraeth ar ôl y rhyfel byd cyntaf oedd yn benderfynol o adeiladu cartrefi i arwyr fyw ynddynt, fod y ffordd a ddefnyddiai i fynd yn ôl a 'mlaen arni yn ffordd a grëwyd drwy wariant cyhoeddus, bod y trydan, y nwy a'r dŵr y dibynnai arnynt ddim ond yno oherwydd bod cenedlaethau cynharach wedi penderfynu buddsoddi yn y seilwaith sy'n caniatáu iddi fynd o gwmpas ei bywyd bob dydd, ei bod, pan gafodd ei tharo'n wael cyn y Nadolig, wedi cael ei thrin mewn ysbyty yr oedd cenedlaethau cynharach wedi ei hadeiladu, ei bod, pan adawodd yr ysbyty ac wedi deall y byddai'n rhaid iddi wneud ymarfer corff, roedd hi'n gallu mynd i ganolfan hamdden a adeiladwyd gan gyngor Llafur yma yng Nghaerdydd 30 mlynedd yn ôl, a, phan aiff ei hŵyr i ysgol uwchradd yn Nhrelái, bydd hynny i ysgol uwchradd newydd a grewyd gan y Llywodraeth hon. Am y pethau hynny i gyd, bydd dyfodol ei phlant yn bwysig. I Mr Hamilton, roedd pob un o'r pethau hynny yn wastraff ac yn rhywbeth sy'n dreth.

Os yw'r Ysgrifennydd Cyllid yn ildio, mae hynny'n wyrdroad llwyr o'r ddadl a wneuthum yn fy araith. Nid nad oes angen unrhyw un o'r pethau hynny, mae'n golygu bod yn rhaid inni fyw o fewn ein modd yn y byd go iawn, ac na allwch chi fenthyca am byth i dalu am bethau na allwch chi eu fforddio.

Ond, Llywydd, crëwyd popeth a grybwyllais drwy fenthyca. Roedd pob un o'r pethau hynny yn dibynnu ar barodrwydd cenedlaethau blaenorol i fenthyca er mwyn buddsoddi yn y dyfodol sydd gennym ni heddiw, ac mae gennym ni ymrwymiad tebyg i wneud hynny ar gyfer y bobl sy'n dod ar ein holau.

Nawr, nid wyf yn credu fod Nick Ramsay, am funud, yn cytuno â'r dadleuon a gyflwynwyd gan Mr Hamilton, ond nid yw'n gwybod sut i ymateb i'r buddsoddiad mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn y gwasanaeth iechyd. Ni all benderfynu a hoffai ei groesawu, neu a hoffai ddweud nad yw'r arian yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth. Mae arno eisiau cwyno am y toriadau difrifol i lywodraeth leol yng Nghymru, pan fo cyllidebau mewn llywodraeth leol mewn gwirionedd yn cynyddu o dan y gyllideb sydd gerbron y Cynulliad hwn y prynhawn yma. Mae'n gofyn inni ddathlu'r buddsoddiadau a wnaed gan y Canghellor ar 22 Tachwedd, ac, wrth gwrs, rydym ni'n benderfynol o ddefnyddio pob ceiniog a gawn ni gan y Canghellor mor ddoeth ag y gallwn ni. Ond nid yw'r arian cyfalaf a gawsom ni ar 22 Tachwedd ond yn ein gadael 20 y cant yn is nag yr oeddem ni ddeng mlynedd yn ôl, yn hytrach na thraean yn is nag yr oeddem ni cyn iddo sefyll.

16:50

Diolch i chi am ildio. Croesawaf yr arian sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, fel y gwnaethoch chi eich hun yn eich datganiad ysgrifenedig. Felly, dim ond nodi yr oeddwn i fod eich araith yn rhy negyddol. Rwyf yn hollol o blaid ymdeimlad o gydbwysedd, a gwn y byddwch yn cytuno â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hefyd rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cydnabod y gwahaniaeth rhwng cynnydd mewn termau real a chynnydd mewn termau arian parod; maen nhw'n eithaf gwahanol.

Wrth gwrs, Llywydd, rwy'n  croesawu'r ffaith nad ydym ni ond 20 y cant yn waeth ein byd yn hytrach na 30 y cant yn waeth ein byd, a dyna pam ein bod ni'n benderfynol o wneud y defnydd gorau y gallwn ni o bob ceiniog sydd gennym.

Ar ochr arall y Siambr, wrth gwrs, rydw i'n croesawu beth a ddywedodd Adam Price. Wrth gwrs rŷm ni yma i weithio gyda'n gilydd mewn ysbryd adeiladol pan rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd y mae pobl gyda syniadau am y dyfodol yn gallu dod at ei gilydd, pan rydym ni'n gallu gweithio ar bethau lle rydym ni'n gallu gweld yr effaith maen nhw'n mynd i gael yn y dyfodol. Rydw i'n edrych ymlaen at drafod, yn y dyfodol, gyda Steffan Lewis, y manylion am y gronfa i baratoi am Brexit, a gweithio gyda'n gilydd i weld sut rydym ni'n gallu defnyddio'r arian yna mewn ffordd fwy effeithiol.

A gaf i hefyd groesawu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd Vikki Howells, Mike Hedges a Jane Hutt, pob un ohonyn nhw'n dangos y ffaith bod yr hyn y mae'r gyllideb hon yn ceisio ei chyflawni yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau bob dydd pobl ym mhob rhan o Gymru? Mae'n gyllideb, fel y dywedodd Jane Hutt, ar gyfer blaenoriaethau ac egwyddorion: egwyddorion blaengar y Llywodraeth hon, blaenoriaethau pobl yma yng Nghymru. Mae'n gyllideb y gobeithiaf y bydd y Cynulliad hwn yn ei chymeradwyo'r prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

Yr eitem nesaf yw'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6622 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 04/01/2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018. Mae'r Gorchymyn yn gosod y lluosydd ardrethu annomestig at ddibenion 2018-19. Rwyf yn cydnabod y bu amser cyfyngedig i Aelodau ystyried y Gorchymyn. Roedd hyn yn angenrheidiol oherwydd amseriad cyhoeddiad y Canghellor yng nghyllideb yr hydref i gyflymu ei gynlluniau i gynyddu'r lluosydd yn Lloegr gan ddefnyddio mynegai prisiau defnyddwyr, CPI, yn hytrach na mynegai prisiau manwerthu, RPI.

Llywydd, yn flaenorol roedd Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yn Lloegr o'r RPI i'r CPI o 1 Ebrill 2020. Cafodd y cynlluniau hyn eu dwyn ymlaen i 1 Ebrill 2018 yng nghyllideb yr Hydref. Ni chafodd Llywodraeth Cymru wybod am y newid hwn yn y cynllun cyn y cyhoeddiad, ac rydym ni wedi gorfod ystyried yn llawn y costau a'r goblygiadau o fabwysiadu dull tebyg ar gyfer Cymru cyn gwneud penderfyniad i newid y sail ar gyfer cyfrifo'r lluosydd yng Nghymru, gan baratoi offeryn angenrheidiol a dod ag ef gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.

Mae angen cymeradwyo'r Gorchymyn cyn y gellir cael pleidlais ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol, ac roedd y ddadl ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol eisoes wedi'i threfnu ar gyfer heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am roi ystyriaeth gynnar i'r Gorchymyn lluosydd, sydd wedi ein galluogi i'w drafod heddiw. Nododd y Pwyllgor yr amserlen fer i ystyried y gorchymyn, ond nododd hefyd ei fod yn eithaf byr a syml. Pe bawn i wedi gallu osgoi'r amserlenni tynn, Llywydd, byddwn yn sicr wedi dymuno gwneud hynny.

Cododd y Pwyllgor hefyd bwynt o ragoriaeth sy'n ymwneud â ffigur a nodwyd yn y nodyn esboniadol i'r Gorchymyn a'r Gorchymyn na chyfeirir ato yn y Memorandwm Esboniadol. Rwy'n ymddiheuro, wrth gwrs, am hepgor hyn, ac yn derbyn barn y Pwyllgor y byddai esboniad llawnach wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddisgrifio effeithiau cyffredinol y Gorchymyn. Byddai oedi, fodd bynnag, wrth gymeradwyo'r Gorchymyn, yn golygu gohirio'r ystyriaeth o adroddiad cyllid llywodraeth leol, gyda chanlyniadau amlwg ar gyfer cynllunio cyllidebau awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn arwain at ansicrwydd diangen ar gyfer talwyr ardrethi annomestig yng Nghymru, gan roi llai o amser i baratoi ar gyfer eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn gosod y lluosydd ar gyfer 2018-19, gan ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu yn sail ar gyfer cyfrifo'r lluosydd. Effaith hyn fydd cyfyngu cynnydd yn yr holl filiau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd busnesau yng Nghymru yn elwa o £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, a £22 miliwn yn 2019-20, gan y bwriadwn fabwysiadu'r un dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, gan gyflwyno Gorchymyn i'r Cynulliad ei ystyried yn 2019-20.

Llywydd, mae ardrethi annomestig wedi'u datganoli i raddau helaeth. Daw hyn â chyfleoedd a chyfrifoldebau. Fel arall, byddai defnyddio CPI yn hytrach nag RPI i gyfrifo'r lluosydd yn cyfyngu ar y cynnydd mewn biliau y byddai trethdalwyr yn eu hwynebu fel arall. Bydd y newid yn helpu busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru tra'n cynnal llif sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol. Caiff y newid ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw effaith ar y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol o ganlyniad i'r biliau is ar gyfer eiddo annomestig. Rwyf felly'n gofyn i'r Aelodau gytuno i gymeradwyo'r Gorchymyn heddiw.

16:55

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Bu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystyried yr offeryn hwn yn ein cyfarfod ar 8 Ionawr. Adroddwyd am ddau bwynt rhagoriaeth a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.3.

Y pwynt cyntaf a ystyriwyd gan y Pwyllgor yw bod y Gorchymyn wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad ar 4 Ionawr 2018. Fel arfer, mae gan y Pwyllgor 20 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r adroddiad ar yr offerynnau statudol. Gofynnwyd i'r Pwyllgor, mewn gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet, i adrodd ar y Gorchymyn cyn heddiw i ganiatáu i'r Gorchymyn gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Cynulliad ystyried yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi adrodd amdano.

Mewn gwirionedd, oherwydd amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor, roedd hyn yn golygu mai dim ond pedwar diwrnod oedd gennym ni ar ôl cyflwyno'r Gorchymyn i ystyried yr offeryn hwn. Rydym ni, yn bwysig, yn cydnabod y pwysau amser ar Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r oedi a fu gyda datganiad yr Hydref a'r camau sydd eu hangen i gyrraedd y pwynt hwn cyn i'r Cynulliad allu cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol erbyn y dyddiad cau gofynnol. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r canlyniadau difrifol os nad yw hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu amserlen lawer tynnach i'r pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar yr offeryn hwn. Gan fod y Gorchymyn yn gymharol fyr a syml, roeddem yn gallu bodloni cais Llywodraeth Cymru. Serch hynny, rwy'n annog y Llywodraeth i roi cymaint o rybudd â phosibl i'r Pwyllgor os yw hi'n dymuno inni graffu ar offerynnau statudol o fewn terfyn amser byrrach na'r hyn y darperir ar eu cyfer yn y Rheolau Sefydlog.

Yn ail, mae'r Gorchymyn yn pennu'r ffigur lluosydd newydd, ac fe'i hesbonnir yn y nodyn esboniadol. Fodd bynnag, ni chyfeirir at y rhif hwn o gwbl yn y memorandwm esboniadol, sydd yn ddogfen ar wahân a fwriadwyd i egluro bwriadau'r offeryn. O ystyried bod y ffigur hwn mor hanfodol, rydym ni o'r farn y gallai'r memorandwm esboniadol sy'n mynd gyda'r Gorchymyn hwn fod wedi bod yn fwy defnyddiol wrth egluro effaith y Gorchymyn.

Mae Plaid Cymru yn cydymdeimlo gyda chynnwys technegol y Gorchymyn hwn i raddau helaeth, sef y bwriad i newid y mesur chwyddiannol sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo lluosydd ardrethi busnes—hynny yw, newid i CPI yn hytrach nag RPI. Rydym ni wedi bod yn galw am hynny ers peth amser. Ond, o edrych ar y darlun ehangach, pan rŷm ni'n edrych ar y memorandwm esboniadol—sydd, am wn i, yn uniaith Saesneg, gyda llaw—rŷch chi'n esbonio mai pwrpas y Gorchymyn hwn yw cefnogi twf economaidd a lleihau'r baich trethiannol ar fusnesau a threthdalwyr annomestig eraill yng Nghymru. Rŷch chi hefyd yn dweud eich bod chi'n anelu i sicrhau nad ydy busnesau yng Nghymru o dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Wel, y sefyllfa yw bod busnesau bach yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig oherwydd pa bynnag gyfrannau mesur chwyddiant sydd yn cael eu defnyddio yng Nghymru, mae bodolaeth un lluosydd ar gyfer pob busnes, mawr neu fach, yn golygu bod busnesau bach o dan anfantais. Yn yr Alban a Lloegr, mae lluosydd gwahanol ar gael ar gyfer ardrethi busnesau mawr a bach, ac mae hwnnw’n golygu wedyn bod yna fodd sicrhau elfen fwy o degwch yn y system ardrethu. Felly, oherwydd hynny, mi fyddwn ni, yn symbolaidd, felly, yn pleidleisio yn erbyn y Gorchymyn hwn.

Rŷm ni’n teimlo rhwystredigaeth gynyddol gyda chyflymdra’r newid polisi yn y maes yma. Rydym ni byth a beunydd fel Aelodau Cynulliad yn ymwybodol o’r rhwystredigaeth sydd yn y gymuned fusnes gyda’r dreth sydd yn dyddio yn ôl canrifoedd ac sydd ddim, a dweud y gwir, yn gymwys ar gyfer yr oes sydd ohoni. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau â thrafodaethau adeiladol â’r Ysgrifennydd Cabinet mewn fforymau eraill i edrych ar ddiwygio ar lefel radical, gan gynnwys hyd yn oed ddiddymu’r dreth yma ac edrych ar opsiynau amgen. Ond, tra ein bod ni yn dal yn trafod y fframwaith fel y mae, sydd yn annigonol, mae arnaf i ofn, yn yr achos yma, y bydd yn rhaid i Blaid Cymru wrthwynebu’r Gorchymyn yma fel pleidlais symbolaidd.

17:00

Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, oherwydd, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r offeryn hwn. Fodd bynnag, rwyf wedi cael fy ysbrydoli i wneud hynny gan y sylwadau a wnaed gan Adam Price. Er bod gennyf beth cydymdeimlad â'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud, Adam, o ran eich ymrwymiad hirhoedlog i newid y system ardrethi busnes yng Nghymru a'r awydd i wneud rhywbeth gwahanol yma, rwyf yn teimlo ein bod ni lle'r ydym ni o ran y system gyfredol, ac os, fel y deallaf yn iawn, ein bod yn sôn am ddilyn y model ar draws y ffin a symud o'r mynegai prisiau manwerthu i'r CPI yn yr un modd ag sy'n digwydd yno, ni allaf weld sut—. Os ydych chi'n osgoi gwneud hynny, rydych chi'n anochel yn mynd i achosi anfantais i fusnesau yma. Dim ond oherwydd y teimlwch chi y gallan nhw fod o dan anfantais ar hyn o bryd, Adam Price, nid yw hynny felly'n golygu na fyddent yn wynebu mwy o anfantais tan fyddai'r system yn cael ei newid. Felly, ar y sail honno, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych chi gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn hyn o beth. Ond rwyf ar yr un pryd yn eich annog chi i edrych ymhellach ar fesurau mwy—

Mae gennyf ddau air yn fwy i'w dweud, ond ewch amdani.

Mae hwn yn achos rhyfedd o wrthdroi swyddogaethau, o ystyried y safbwyntiau yn y ddadl gynharach. Ond, siawns, beth fyddai'n digwydd, pe bai'r Llywodraeth yn colli'r bleidlais hon, yw y byddai'n rhaid iddynt fynd â hi i ffwrdd, gwrando ar y sylwadau a dod â hi yn ôl, a mynd i'r afael â mater penodol y lluosydd hollt y cyfeiriais ato.

Na, credaf ein bod ni'n camddeall ein gilydd yma. Credaf o ran y mater ehangach o ardrethi busnes a'r annhegwch sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, mae gennym ni sefyllfa o newid ar draws y ffin. Bydd, rwy'n credu, swm canlyniadol Barnett sy'n mynd i ddod yma— Wel, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud beth fydd y swm canlyniadol hwnnw a fydd yn dod yma—a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru i gefnogi busnesau. Rwy'n meddwl mai dyna'r sefyllfa, ac mae hynny'n sicr yn un y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei chefnogi. Fodd bynnag, roeddwn i'n mynd i orffen, cyn eich ymyriad, Adam, drwy ddweud fy mod i'n gobeithio nad yw hyn yn eich atal rhag edrych ar y mater ehangach o ardrethi busnes a mwy o ffyrdd y gallwch chi gefnogi busnesau yng Nghymru, a hefyd, wrth ystyried safbwyntiau Plaid Cymru y gallwch chi efallai, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ystyried meddwl am system wahanol iawn. Ond, yn y cyfamser, rwyf eisiau gweld y cymorth ariannol hwnnw drwy swm canlyniadol Barnett yn dod i gefnogi busnesau Cymru yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai busnesau yn dymuno hynny hefyd. 

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl. 

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ailadrodd fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei waith? Rydym ni wedi derbyn y pwyntiau rhagoriaeth a wnaed yn ei adroddiad, ac rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am gydnabod y pwysau amser, nad ydym ni'n gyfrifol amdano, ac sy'n ganlyniad uniongyrchol yr anhwylustod a drafodwyd yn ystod y ddadl ar y gyllideb derfynol o gael digwyddiad cyllidol mawr yn y DU hanner ffordd drwy brosesau llunio ein cyllideb ein hunain.

Wrth gwrs, cytunaf ag Adam Price ei bod hi'n bwysig edrych yn fwy sylfaenol ar y ffordd y caiff arian ei godi yn y rhan hon o'n cyllideb, a bydd yn gwybod, oherwydd rydym ni wedi trafod y mater, bod gwaith ar y gweill o fewn Llywodraeth Cymru i brofi mewn ffordd ymarferol a oes ffyrdd eraill o godi refeniw o'r math hwn yng nghyd-destun Cymru. A yw hynny'n golygu ei bod hi'n iawn pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig ger bron y Cynulliad y prynhawn yma? Wel, nid wyf yn credu hynny, wrth gwrs. Fy nghred i yw, os collir y bleidlais, yr effaith yw y bydd busnesau yng Nghymru'r flwyddyn nesaf yn gweld eu biliau'n codi'n unol â mynegai RPI, nid CPI, oherwydd mae'n rhaid inni fwrw ati a llunio'r gyllideb lywodraeth leol. Fyddwn ni ddim yn gallu dod yn ôl â chynigion amgen mewn pryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. A fyddwn i'n cael fy nhemtio i ddod yn ôl â chynigion amgen yn cynnwys lluosydd hollt? Ni chredaf y byddwn, Llywydd. Dyna un o fanteision ein system, mae busnesau yn dweud wrthym ni, nad oes ganddyn nhw gymhlethdod lluosyddion hollt, yn arbennig pan fyddai lluosydd hollt yn berthnasol i nifer fach iawn o fusnesau mawr ac na fyddai, rwy'n credu, yn codi'r math o refeniw a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i eraill.

Yr hyn y bwriadwn ni ei wneud, a'r hyn yr ydym ni wedi'i gynnig i'r Cynulliad Cenedlaethol, yw nad ydym ni'n rhoi busnesau Cymru mewn sefyllfa wahanol i fusnesau ar draws ein ffin a fydd yn gweld eu biliau yn y maes hwn yn tyfu'n arafach nag y byddent yng Nghymru os nad yw'r bleidlais heddiw yn cael ei chefnogi. Cadarnhaf i Nick Ramsay fod symiau canlyniadol yng nghyllideb yr Hydref a ddaw i Gymru. Byddwn yn defnyddio'r swm canlyniadol hwnnw i dalu am y newid yr ydym ni'n ei gynnig i chi heddiw. Bydd busnesau yng Nghymru sy'n defnyddio'r swm canlyniadol hwnnw £9 miliwn yn well eu byd y flwyddyn nesaf nag a fydden nhw fel arall, a £22 miliwn yn well eu byd y flwyddyn ganlynol nag a fydden nhw fel arall. Gallwch bleidleisio'n symbolaidd os hoffech chi, ond i fusnesau Cymru, pris eich symbol yw bod £30 miliwn yn waeth eu byd nag a fydden nhw fel arall.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2018-19

Sy'n dod â ni at eitem 6, sef y ddadl ar setliad llywodraeth leol 2018-19, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol i wneud y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6623 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 17:07:51
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr, Llywydd. Fe hoffwn i barhau yn yr un cywair ac yn yr un modd ag yr oedd  Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ymdrin â'r dadleuon y prynhawn yma wrth wreiddio ein cyllideb ar gyfer llywodraeth leol yn ein gwerthoedd, ein hegwyddorion, y sefyllfa yr ydym ni ynddi a'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu mynd ati. Llywydd, mae hon yn gyllideb sy'n seiliedig ar ffydd mewn llywodraeth leol. Mae'n seiliedig ar y gred bod llywodraeth leol yn cael ei gwerthfawrogi gan y Llywodraeth hon a phobl ledled Cymru. Rydym ni eisiau gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol er mwyn diogelu a gwella gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn gwerthfawrogi gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, ac i sicrhau bod lle llywodraeth leol yn ein cyllidebau yn adlewyrchu'r gwerthoedd a'r egwyddorion hyn. Amlinellodd yr Ysgrifennydd Cyllid, wrth gyflwyno cyllideb y Llywodraeth yn gynharach y prynhawn yma, sut mae cyni wedi tanseilio ein gallu i amddiffyn y gwasanaethau hyn, ond yn y cyd-destun hwn byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn llywodraeth leol ac mewn gwasanaethau lleol.

Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael dros £4.2 biliwn mewn cyllid refeniw cyffredinol. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol bresennol, a dyma'r ail gynnydd yn y setliad i Lywodraeth Leol mewn tair blynedd. Llywydd, rydym ni'n credu bod hwn yn setliad realistig a fydd yn parhau i ddiogelu gwasanaethau lleol rhag toriadau sylweddol mewn sefyllfa pan geir llai o arian. Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw'r setliad hwn yn wahanol. O ganlyniad, mae'r gwariant cyfredol ar wasanaethau lleol yng Nghymru wedi cynyddu dros 4 y cant rhwng 2010-11 a 2017-18, o ran arian parod. Yn Lloegr, mae wedi gostwng 12 y cant, ac mae hynny'n enghraifft wirioneddol o sut mae'r Llywodraeth hon yn ceisio gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus, gwerthfawrogi gweision cyhoeddus a gwerthfawrogi llywodraeth leol.

Mae'r dosbarthiad yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol, ar sail toreth o wybodaeth ynglŷn â nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a ddaeth i law ynglŷn â'r ymgynghoriad ynghylch y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 21 Tachwedd. Mae'r setliad hwn yn rhoi sail gadarn i gynghorau ar gyfer cynllunio ariannol y flwyddyn ariannol nesaf. O'i gymharu â'r cyhoeddiad ynglŷn â'r setliad dros dro, mae'r setliad terfynol yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb terfynol Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae'r setliad terfynol yn cynnwys £7 miliwn ychwanegol i gefnogi'r cynnydd yn y terfyn cyfalaf o ran codi tâl am ofal preswyl, a fydd yn codi i £40,000 ym mis Ebrill 2018. Yn ogystal â hyn, mae'r setliad terfynol yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn ôl eu doethineb er mwyn rhoi cymorth penodol i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf o gymorth ychwanegol. 

Yn y setliad, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol. Er nad yw unrhyw elfen benodol o'r setliad wedi ei glustnodi, rwyf yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion, drwy roi £62 miliwn yn 2018-19 a £46 miliwn pellach yn 2019-20 yn y setliad er mwyn darparu a chynnal cyfraniad Llywodraeth Cymru a galluogi awdurdodau i gynnal gwariant craidd ar ysgolion ar y lefelau presennol yn y ddwy flynedd hynny. Felly hefyd ofal cymdeithasol, lle'r wyf yn  blaenoriaethu cyllid, drwy roi £42 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf a £31 miliwn pellach yn 2019-20 yn y setliad, i gynnal cyfraniad Llywodraeth Cymru ac er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gadw gwariant craidd ar ofal cymdeithasol ar y lefelau presennol yn y ddwy flynedd hynny. Mae hyn yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth o'r angen i fuddsoddi ac i barhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.

Yn ogystal â'r cyllid y cyfeiriais ato eisoes, mae'r setliad hwn yn rhoi £6 miliwn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol er mwyn bodloni dyletswyddau atal digartrefedd, yn ychwanegol at y £6 miliwn a ymgorfforwyd yn y setliad yn y flwyddyn ariannol sydd ohoni. Ochr yn ochr â'r setliad, rydym ni'n darparu £600,000 i gefnogi llywodraeth leol i roi'r gorau i godi tâl am gladdu plant. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar y camau cadarnhaol y mae llawer o gynghorau yng Nghymru eisoes wedi eu cymryd ac yn sefydlu trefn deg a chyson ledled Cymru. Yn olaf, mae mwy nag £800,000 o arian yn ychwanegol at y setliad wedi'i gynnwys er mwyn sicrhau nad yw unrhyw awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 0.5 y cant o'i gymharu â'r dyraniad cyllid refeniw cyffredinol presennol. Mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn yn barhaus am glustnodi grantiau penodol ac, yn unol â meddylfryd Gweinidogion blaenorol, rwyf wedi ceisio parhau â'r duedd hon a byddaf yn ystyried trosglwyddo mwy o arian i'r setliad yn y dyfodol.

Mae'r setliad yn adlewyrchu gwerth dros £92 miliwn o drosglwyddiadau i'r llinell sylfaen a dalwyd yn flaenorol i awdurdodau lleol drwy grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys £35 miliwn o elfen wastraff y grant refeniw sengl, £27 miliwn o gyllid a ddarperid gynt drwy Grant Byw'n Annibynnol Cymru, £19 miliwn i gefnogi'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, £8 miliwn i gyflawni'r rhaglen plant sy'n derbyn gofal, £3 miliwn ar gyfer grant gofal seibiant i ofalwyr, a £391,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i garcharorion mewn sefydliadau diogel.

17:10

Rwy'n ddiolchgar. Fe wnaethoch chi sôn am y grant trosglwyddo gwastraff. Wrth gwrs, fe'i tynnwyd o bortffolio ei gyd-Ysgrifennydd Cabinet a'i roi yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Gellid dweud y bu hynny yn un o grantiau uniongyrchol mwyaf llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ran gosod  targedau ailgylchu uchel iawn, ac fe'i canmolwyd yn gwbl briodol gan y Llywodraeth ei hun fel un o'r llwyddiannau mawr yn y maes hwn. Beth y mae'n bwriadu ei wneud i sicrhau, er y cefnir ar yr egwyddor o glustnodi cyllid, bod y llwyddiannau hyn yn parhau? Oherwydd ymddengys fod rhywfaint o waith i'w wneud gyda rhai cynghorau.

Rwy'n gyfarwydd â'r pwynt hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: bu'n llwyddiant oherwydd mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd. Credaf, mewn sawl ffordd, bod hyn wedi dangos grym partneriaeth sy'n bartneriaeth gydweithredol yng ngwir ystyr y gair - o ran cyllid, ond hefyd o ran gweithio gyda'n gilydd i edrych am atebion gwahanol i sicrhau ein bod ni'n parhau i gyrraedd y targedau ailgylchu yr ydym ni wedi eu gosod i'n hunain. Ni welaf unrhyw reswm dros beidio â pharhau â'r bartneriaeth honno. Ni ddylai'r ffaith ein bod ni'n darparu cyllid mewn ffordd wahanol effeithio ar ganlyniadau'r bartneriaeth honno, a dylai alluogi inni barhau i weithio, ond i wneud hynny mewn ffordd sydd hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar lywodraeth leol. Bydd yr Aelod yn gwybod am fy ymrwymiad personol i ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i'r materion hyn, a byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau y cyrhaeddir y targedau hynny yn y dyfodol. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw ichi heddiw. Ond byddwn hefyd yn sicrhau bod y cyfanswm cyllid blynyddol o dros £285 miliwn wedi'i drosglwyddo i'r setliad ers 2011-12.

Ochr yn ochr â'r setliad, Llywydd, rwyf wedi cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi eu cynllunio ar gyfer 2018-19. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rhyddhawyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid cyfalaf awdurdodau lleol hefyd. Yn gyffredinol ar gyfer y flwyddyn nesaf, bu gostyngiad unwaith eto i'r cyllid cyfalaf cyffredinol, sy'n parhau i fod yn £143 miliwn. Er mai'r setliad heb ei glustnodi yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o gyllid sydd ar gael i awdurdodau, nid dyma'r unig un. Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau cyllido sydd ar gael, ac ystyried sut i sicrhau'r gwerth gorau i drethdalwyr Cymru drwy ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon. 

Rydym yn cynnig hyblygrwydd sylweddol i awdurdodau arfer annibyniaeth a chyfrifoldeb wrth reoli eu materion ariannol. Mae hwn yn setliad teg i Lywodraeth Leol mewn amgylchiadau heriol iawn, ac mewn cyd-destun sydd weithiau'n anodd. Mae'r Ysgrifennydd Cyllid y prynhawn yma, rwy'n credu, wedi mynegi ei rwystredigaeth ei hun gyda'r sefyllfa y cawn ein hunain ynddi, ac nid yw'r Llywodraeth yn rhannu'r safbwyntiau a fynegwyd gan arweinydd UKIP y prynhawn yma nad yw cyni wedi mynd yn ddigon pell na chyflawni ei holl uchelgeisiau. I ni, mae gwerth yn yr ystad gyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr cyhoeddus. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl ledled Cymru, lle bynnag y maen nhw'n byw. Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny drwy barchu ein gilydd, ac mewn ffordd sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd heddiw ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, wrth eu boddau yn ddiweddar yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd £31.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cyllid refeniw llywodraeth leol Cymru yn 2018-19, a £61.7 miliwn yn 2019-20 yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Geidwadol y DU o £1.2 biliwn yn ychwanegol i Gymru dros y pedair blynedd nesaf. Mae Cymru hefyd yn elwa, wrth gwrs, o newidiadau i'r fframwaith cyllidol, sy'n golygu am bob £1 a werir yn Lloegr, y caiff o leiaf £1.20 bellach ei wario yng Nghymru, rhywbeth nad yw 13 blynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan erioed wedi ei gyflawni. 

Fodd bynnag, rydym wedi gweld yr un pwysau ar dalwyr y dreth gyngor ac ar gyllidebau cyfyngedig llywodraeth leol, sydd bellach yn wynebu pryderon gwirioneddol am y diffyg eglurder ynglŷn â nifer o ffrydiau ariannu. Mae adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y gyllideb ddrafft wedi galw am fwy o dryloywder wrth gyflwyno cyllid. Mae honiadau Llywodraeth Cymru o gynyddu'r gyllideb gofal cymdeithasol i £42 miliwn yn 2018-19, gan godi i £73 miliwn yn 2019-20, ac, yn ôl y sôn, £62 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ysgolion, yn cynyddu i £108 miliwn, wedi cael eu herio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n dweud bod hyn yn bodoli eisoes yn y setliad, er bod yr asesiadau o wariant safonol wedi codi £35 miliwn yn unig—rhethreg a gorliwio pur gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Ymhellach, datgelodd y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc fod y £62 miliwn honedig ychwanegol mewn gwirionedd yn cyfateb i ddim ond £1.5 miliwn wrth ystyried y cyfrifiad cychwynnol ar gyfer 2018-19, a'r ffigur terfynol a neilltuwyd.

Mae ein Pwyllgor ni, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu monitro'r gwariant a'r canlyniadau mewn meysydd oedd yn arfer cael cyllid grant, ond sydd bellach wedi'i ymgorffori yn y grant cymorth refeniw. Mae gostyngiadau o tua £70 miliwn yn y gost o weinyddu grantiau damcaniaethol i'w groesawu ac, i fod yn deg, ar y meinciau hyn, buom yn galw am ddull llai cymhleth a llai biwrocrataidd o ariannu llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae Cymorth Cymru wedi lleisio pryderon nad oes modd, heb linell gyllideb benodol, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros faint mewn gwirionedd a gaiff ei wario ar y rhaglen Cefnogi Pobl. Yn yr un modd, mae Cymorth i Ferched Bangor a'r Cylch wedi dweud, heb gyllid wedi ei glustnodi, na fyddant yn gwybod faint a werir ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn amlwg, mae angen cael cydbwysedd rhwng faint o gyllid a glustnodir a chael trywydd archwilio tryloyw. Felly, o ganlyniad, mae gennyf ddiddordeb i glywed syniadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff gwybodaeth ei chasglu drwy gyfrwng cyfres o ffurflenni gwariant at ddibenion tryloywder, craffu ac atebolrwydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud pryd a ble y cyhoeddir y data hyn a sut y byddwch yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar hyn—. 

Ers 2013-14, mae awdurdodau lleol wedi gweld toriadau o bron £0.5 biliwn mewn termau real. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi dweud o'r blaen na welsoch chi erioed fformiwla ariannu amgen, ac eto i gyd buom yn galw ers blynyddoedd am adolygiad sylfaenol ac am roi gwell ystyriaeth i nifer o feysydd penodol. Demograffeg: yn enwedig anghenion pobl hŷn, o ystyried y pryderon a godwyd gan y Sefydliad Iechyd o ran pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol, a'r angen am gynnydd o 4 y cant mewn termau real bob blwyddyn yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion i ymdrin â hyn. Awdurdodau gwledig: eto, siomwyd ein hawdurdodau gwledig. Pam nad yw'r Llywodraeth Lafur yn barod i helpu ein hawdurdodau gwledig? Y nhw, unwaith eto, sydd wedi profi'r gwaethaf o'ch toriadau, gyda cholledion mewn termau real o 14.5 y cant i Gyngor Powys hyd yn oed cyn setliad arfaethedig heddiw. Dim ond yn rhannol y mae'r ffactor presennol o deneurwydd poblogaeth yn mynd i'r afael ag arwahanrwydd gwledig a hwylustra gwasanaethau. Felly, rydym ni, unwaith eto, yn galw am roi mwy o sylw i'r elfen hon yn y fformiwla hefyd.

Yn olaf, mae angen inni edrych ar sut mae awdurdodau lleol mewn gwirionedd yn rheoli eu cyllid. Ni allwn ddweud wrthyn nhw sut i gyllidebu, ond mae modd inni alluogi gwell craffu cyhoeddus a democrataidd ar wariant awdurdodau lleol ac ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn. Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi galw am adolygiad ynghylch sut y gweithredir y canllawiau ar y cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn. Yn siomedig iawn, gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Cymru. Mae ein trigolion yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda hynny o bosib yn 12.5 y cant yn Sir Benfro, a chynnydd mawr ledled Cymru, ac mae'r cronfeydd wrth gefn wedi codi 7 y cant ers 2012 ac yn cynrychioli 86 y cant o gyfanswm y cronfeydd wrth gefn sydd gyda'i gilydd yn fwy nag 1.4 biliwn. Ond mae anghysondeb amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod gennych chi rywfaint o gydymdeimlad â'm barn i ynglŷn â hynny.

Yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gobeithio y byddwch chi nawr yn dod â rhywfaint o synnwyr i'r sefyllfa hurt hon. Mae gan Rondda Cynon Taf ar ei phen ei hun gronfeydd wrth gefn o bron £150 miliwn y gellid eu defnyddio. Mae cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer ein trigolion o 187 y cant ers i Lafur ddod i rym yng Nghymru yn dangos bod Llafur Cymru yn fwy na pharod i roi beichiau ar ysgwyddau ein deiliaid tai, lawer ohonynt ar incwm sefydlog, yn hytrach na chydbwyso eu cyllidebau eu hunain yma ym Mae Caerdydd.

17:20

Ers 2010 mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn gweithio mewn hinsawdd ariannol hynod o anodd o ganlyniad i bolisi dinistriol llymder y Torïaid. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau lleol wedi cael eu colli, a'r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o'r cytundeb ar gyfer y gyllideb flwyddyn ddiwethaf, mi wnaeth Plaid Cymru sicrhau £25 miliwn ychwanegol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i'r cytundeb yma, yn 2017-18, mi wnaeth nifer o awdurdodau lleol Cymru weld cynnydd ariannol yn eu cyllidebau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd. Ond er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol hynny, yn dilyn ffactorau eraill fel chwyddiant a phwysau sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol, mi oedd y setliad hwnnw yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol.

A dyna'r gwirionedd ar gyfer y flwyddyn yma hefyd. Mae'r setliad terfynol yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol, gyda naw awdurdod yn wynebu toriad, ac 13 o awdurdodau yn gweld cynnydd o ryw fath mewn termau ariannol. Mae awdurdodau lleol wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder yn 2010. Ond, mewn gwirionedd, nid ydy'r setliad yma dal ddim yn rhoi arian digonol i gynghorau ar gyfer nifer o flaenoriaethau'r Llywodraeth, gan gynnwys codiad cyflog i weithwyr cyhoeddus o fewn awdurdodau lleol, ac mae hyn yn golygu y bydd hi'n anoddach i gyflogi yn y sector gofal ac mewn gwasanaethau ar draws y bwrdd.

Felly, er bod y setliad yma yn llai niweidiol i awdurdodau na rhai blynyddoedd yn ôl, mae'n rhaid i'r Llywodraeth edrych i'r dyfodol a meddwl am adeiladu dycnwch, gwydnwch a system fwy cynaliadwy yn y ffordd y maen nhw’n ariannu llywodraeth leol. Er enghraifft, fe gyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf reoliadau cynlluniau gostyngiadau treth gyngor, sydd yn werth £244 miliwn bob blwyddyn. Mae cynlluniau gostyngiadau y dreth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fregus Cymru, wrth gwrs, ond drwy gyflwyno system decach o drethiant yn y lle cyntaf, hynny yw, gallwn fod mewn sefyllfa lle na fyddai angen cynllun gostyngiadau y dreth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Petasem ni'n gallu cyflwyno system decach o drethiant, byddem ni’n gallu bod yn arbed arian yn y maes yma. Gall hyn ryddhau mwy o arian a all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen o fewn ein cynghorau lleol ni.

Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi yn fan hyn bod y rhain yn wasanaethau hollbwysig ac rydym ni hefyd yn cydnabod y gwaith diflino sydd yn digwydd gan staff y cynghorau lleol. Rydym ni yn aml yn fan hyn yn brolio staff yr NHS, ac yn amlwg mae eisiau gwneud hynny, ond mae'n rhaid cydnabod hefyd fod gweithwyr yn y sector gofal ac mewn sectorau eraill hefyd o fewn ein cynghorau lleol ni hefyd yn gweithio dan gyfyngiadau parhaus, ac mae’r gwaith diflino maen nhw’n ei wneud i’w ganmol. Mae eu hymrwymiad nhw i’r gwasanaethau maen nhw’n ceisio eu cyflenwi i bobl Cymru yn cael ei werthfawrogi gennym ni i gyd. Mae gweld y pwysau cynyddol yma sydd ar y staff yn dorcalonnus, ond mae hefyd yn dorcalonnus o ystyried mai’r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymdeithas ni sy’n ddibynnol ar y gwasanaethau yma, a nhw, yn y pen draw, sy’n cael eu heffeithio waethaf gan hyn i gyd. 

Oes, mae eisiau rhoi terfyn ar lymder—wrth gwrs bod eisiau cael terfyn ar lymder erbyn hyn. Mae’n hollol amlwg nad ydy o’n gweithio, yn un peth, heblaw am yr holl effaith mae o’n ei gael ar ein cymunedau ni. Ond hefyd, mae angen i’r Llywodraeth yma gymryd cyfrifoldeb a derbyn cyfrifoldeb ar weithio ar ffyrdd newydd o greu systemau sydd yn gytbwys ac yn gynaliadwy i’r dyfodol. Diolch.

17:25

Rwy'n cytuno â Siân Gwenllian bod angen inni edrych ar ffyrdd newydd o ymdrin â'r gyllideb gyni y mae Llywodraeth y DU yn ei chyflwyno i ni, ond hoffwn i ganolbwyntio ar y problemau penodol y mae Caerdydd yn eu hwynebu o ganlyniad i'r ffordd y mae'r grant gwella addysg wedi'i lyncu i'r grant cynnal ardrethi cyffredinol.

Mae ein hawdurdodau lleol yn gorfod ymdopi â gostyngiad o 11 y cant yn y grant gwella addysg, ond yn fwy na hynny, mae'n destun pryder mawr i mi fod yr arian yr arferai'r awdurdod lleol hwn ac awdurdodau lleol eraill ei gael, er enghraifft, Abertawe a Chasnewydd, ar gyfer disgyblion teithwyr a lleiafrifoedd ethnig, wedi diflannu ar amrantiad. Mae hynny'n peri pryder mawr, oherwydd mae Caerdydd yn ganolfan wasgaru i ffoaduriaid. Felly yn amlwg, rydym yn falch iawn o dderbyn nifer sylweddol o blant sydd â dim Saesneg o gwbl pan maen nhw'n cyrraedd, ond yn amlwg mae angen inni sefydlu gwasanaethau i'w hintegreiddio i'n hysgolion prif ffrwd.

Felly, mae'r hyn oedd yn gynnydd bychan o 0.9 y cant yn y grant gwella addysg, o gofio bod gennym boblogaeth gynyddol o bobl ifanc yng Nghaerdydd, wedi troi yn ostyngiad bach yn y grant gwella addysg yn ei gyfanrwydd, o ystyried y cynnydd sydd gennym yn niferoedd y plant ysgol. Mae hynny'n gyfystyr â bwlch enfawr o £4 miliwn yng nghyllideb addysg Caerdydd, ac mewn un ysgol arbennig, yn Fitzalan yn etholaeth Mark Drakeford, collir £400,000. Mewn ysgolion eraill, bydd yn 6 y cant neu'n 7 y cant o gyfanswm eu grantiau ysgol. Felly, rwy'n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol roi rhywfaint o sicrwydd inni y bydd yr arian hwn ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny sydd mewn gwirionedd yn addysgu plant o leiafrifoedd ethnig, nid ar gyfer awdurdodau lleol lle ceir bron dim plant o leiafrifoedd ethnig a phlant teithwyr. Felly, byddwn yn falch o gael eglurhad am hynny.

17:30

O, diolch, Llywydd. [Chwerthin.] Roedd hynny'n dipyn o syndod. 

Dau o brif feysydd gwariant Llywodraeth Cymru yw iechyd a llywodraeth leol. Yr anfantais o roi arian ychwanegol ar gyfer iechyd, mae'n amlwg, yw llai o arian ar gyfer llywodraeth leol. Mae cyllid llywodraeth leol o dan bwysau. Mae cynghorau lleol wedi bod yn flaengar ac yn arloesol wrth ymdrin â thoriadau mewn termau real i'w cyllidebau, a chynghorau o dan arweiniad pob plaid wahanol yn hynny o beth: maen nhw wedi gorfod gweithio'n galed i ymdrin â sefyllfaoedd ariannol enbyd.

Er bod gostyngiadau mewn termau real yng Nghymru wedi bod yn sylweddol llai nag yn yr Alban a Lloegr, maen nhw wedi creu penderfyniadau anodd ar gyfer y cynghorau. Fel y dywedais dro ar ôl tro, mae gofal cymdeithasol dan fwy o bwysau nag iechyd o ran cyllid. Heb ofal cymdeithasol digonol, bydd gennym gleifion na ellir eu rhyddhau o ysbytai. Gwelwn hynny yn Lloegr, lle nodwyd, ar un adeg, fod gan un ysbyty fwy o gleifion yn aros i gael eu rhyddhau na Chymru gyfan. Hefyd, yn Lloegr, rydym wedi gweld cau llyfrgelloedd rif y gwlith. Mae'r system addysg yn Lloegr bellach yn dameidiog ac anhrefnus.

Rydym ni yng Nghymru wedi osgoi hyn. Yn y setliad dros dro, roedd Llywodraeth Cymru yn gwarantu na fyddai unrhyw awdurdod lleol yn gorfod ymdopi â gostyngiad o fwy nag 1 y cant. Mae'r setliad terfynol yn well ac yn sicrhau na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld toriad o fwy na 0.5 y cant mewn termau arian parod, er, wrth gwrs, os yw hynny'n 0.5 y cant yn nhermau arian parod, bydd yn doriad mwy o lawer mewn termau real.

Mae'r setliad terfynol yn cynrychioli £28.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru o'i gymharu â'r setliad llywodraeth leol dros dro. Mae'n rhaid inni fod yn fodlon â hynny. Rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir: mae £20 miliwn ohono ar gyfer defnydd cyffredinol a £7 miliwn yn ymrwymiad maniffesto i gynyddu'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl a chynyddu hynny i £40,000, gan ddechrau ym mis Ebrill 2018. Tybed faint o bobl fydd yn pleidleisio yn erbyn cynyddu'r terfyn ar gyfer codi tâl i £40,000. Trwy bleidleisio yn erbyn hyn, dyna fyddwch chi'n ei wneud mewn gwirionedd. Yna, byd £1.3 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn ôl eu doethineb i roi cymorth penodol i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa o gael cefnogaeth ychwanegol.

Mater y bu fy AS lleol Carolyn Harris yn ymgyrchu yn ei gylch dros y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd diwethaf yw claddu plant am ddim, ac mae £600,000 ar gael ar gyfer hynny, sydd wedi galluogi cynghorau i wneud hynny. Nid yw'n swm enfawr o arian, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac ni fydd y bobl hynny sydd wedi cael y trallod ofnadwy o golli plentyn yn wynebu'r gost ariannol enfawr a ddaw law yn llaw â'r dagrau a'r loes o golli plentyn. Mae marwolaeth plentyn yn ddigon difrifol i deulu, ac yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio, neu efallai hyd yn oed bob un ohonom yn gobeithio, na fydd byth yn digwydd i unrhyw un yr ydym ni'n eu hadnabod nac i unrhyw aelod o'n teulu. Pan fydd hynny wedi digwydd i rywun, mae'n rhoi pwysau ariannol arnyn nhw hefyd, rwy'n credu, yn—. Mae rhoi terfyn ar hynny yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn haeddu canmoliaeth yn ei gylch.

Gellir newid y fformiwla llywodraeth leol yn hawdd. Y cwbl sydd angen ichi ei wneud yw newid y ffigyrau canran. Ond heb arian ychwanegol, bydd pob awdurdod lleol sy'n cael mwy o arian yn golygu y bydd rhai awdurdodau lleol eraill yn cael llai o arian. Ac er bod angen o bosib i'r fformiwla—

Sut allwch chi gyfiawnhau sefyllfa, er enghraifft, lle mae Sir y Fflint, yn y bedwaredd safle ar bymtheg, yn cael £368 yn llai y pen mewn refeniw llywodraeth leol na'r awdurdod sy'n cael ei gyllido orau? Mae Wrecsam yn y ddeunawfed safle. Mae Conwy yn bymthegfed, er mai ganddi hi y mae'r boblogaeth fwyaf o bobl hŷn yng Nghymru. Mae hyd yn oed Ynys Môn, y rhan dlotaf neu leiaf poblog o Gymru, yn unfed ar ddeg ar y rhestr. Mae hynny'n fformiwla anghynaladwy, onid yw? 

Os yw Mark Isherwood yn gofyn, 'Allwn ni roi'r un faint yn union o gyllid y pen i bob awdurdod lleol?', ar ran Abertawe, rwy'n dweud, 'Gallwch, os gwelwch yn dda.' Ac rwy'n credu y byddai pobl yng Nghaerdydd yn gorfoleddu yn ei gylch, ond byddai problemau mewn rhannau eraill o Gymru lle byddai pobl yn llai hapus.

Mae'r fformiwla yn golygu ei fod yn seiliedig ar boblogaeth a demograffeg poblogaeth, gydag arian ychwanegol i ardaloedd gwasgaredig eu poblogaeth ac ardaloedd o amddifadedd. Un o'r problemau gyda rhai o'r awdurdodau lleol sydd wedi bod yn colli arian yw bod gostyngiad wedi bod yn eu poblogaeth, o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae Caerdydd yn gwneud yn dda eleni gan fod ei phoblogaeth yn cynyddu o'i chymharu â gweddill Cymru. A'r holl bobl hynny sy'n dweud, 'Dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw adeiladu yn ein hardal ni; dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw ddatblygu', wel, rydych chi yn mynd i weld canlyniad hynny, sef na chewch chi gymaint o arian mewn dyraniadau llywodraeth leol.

A gaf i ddweud nad yw Caerdydd ac Abertawe yn cael ceiniog am y gwasanaethau rhanbarthol y maen nhw'n eu darparu? Bydd y setliad yn gadael awdurdodau lleol gyda phenderfyniadau anodd. A gaf i—? Terfynaf gyda dau gais. Mae un cais i Lywodraeth Cymru, sef: a all roi rhyddid i awdurdodau lleol bennu ffioedd eu hunain ar gyfer ceisiadau cynllunio? Mae hyn yn rhywbeth y penderfynir arno yn ganolog. Byddai rhai awdurdodau lleol yn awyddus i godi mwy, byddai rhai eisiau codi llai a rhai eisiau gwneud cynllunio yn faes lle mae cydbwysedd rhwng incwm a gwariant. Y cais arall yw hyn: a wnaiff pobl yn y Siambr roi'r gorau i gwyno pan fydd awdurdodau lleol yn gwneud y toriadau yr ydym ni'n eu gorfodi arnyn nhw wrth inni dorri ar eu gwariant mewn termau real, pan mae ganddyn nhw'r pwysau enfawr sydd ganddyn nhw ar eu cyllidebau, yn enwedig gofal cymdeithasol? Mae pobl yn mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb heddiw, ond faint fydd yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd eu bod yn credu y dylai llywodraeth leol gael mwy o arian ac y dylai iechyd gael llai?

17:35

Yn lled ddiweddar, cafodd fy nghanolfan ieuenctid leol ei chau gan Gyngor Llafur Caerdydd. Felly, yn awr, os cerddwch o gwmpas fy ardal i, byddwch yn gweld —[Torri ar draws.] Mae rhai pobl ar fy llaw dde yn y grŵp Llafur mewn gwirionedd yn chwerthin ar y datganiad hwnnw, ac mae hynny'n gywilyddus. Os ydych yn dod —. Gwnaf  ddatgan buddiant; rwy'n gynghorydd yng Nghyngor Caerdydd. Os cerddwch o amgylch fy nghymuned i, erbyn hyn byddwch yn gweld pobl ifanc ar y strydoedd. Ar adegau eraill, yn y gorffennol, byddent yn y ganolfan ieuenctid, a gafodd ei chau gan y Blaid Lafur.

Os cerddwch o amgylch canol y ddinas, byddwch yn gweld mwy a mwy o bobl ddigartref—mwy a mwy. Cyflwynodd y weinyddiaeth yr oeddwn yn ddirprwy arweinydd arni farsialiaid tacsis oherwydd y nifer o sefyllfaoedd ymfflamychol ac o wrthdaro treisgar sy'n deillio o anghydfodau dros safleoedd tacsis. Rydym yn clywed, yr wythnos hon, yn y ddinas hon yn awr, fod marsialiaid tacsi yn cael eu diddymu. Felly bydd canol y ddinas yn lle llai diogel, a bydd yn arbennig o anodd i bobl o wahanol alluoedd corfforol gael tacsi, ac maen nhw eisoes yn cael amser anodd iawn, iawn.

Caiff gwasanaethau eu gwasgu fwy a mwy, a beth sydd ar gael? Mwy o'r un peth. Mwy o'r un peth— flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid yw llywodraeth leol yn cael digon o barch, ac yn sicr nid yw'n cael digon o gyllid. Rwy'n gwrando ar y dadleuon hyn yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ar sut y mae'r Llywodraeth yn gwario ei harian. Y llwybrau du, gwneud ymgynghorwyr yn gyfoethog, bron, gyda'r nifer a gyflogir. Mae, a bu, gwastraff y Llywodraeth hon yn enfawr. Ac eto, bydd y cynghorau'n dioddef.

Nid ydym yn dweud bod cynghorau yn gwbl ddi-fai chwaith. Os edrychwch ar nifer o'r cynghorau yng Nghymru, maen nhw'n talu cyflogau enfawr o dros £100,000 i swyddogion. Edrychwch ar gomisiynwyr yng Nghymru. Llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft. Mae'r adran gyfan honno yn gwario miliynau. Ar beth? Nid wyf yn credu bod unrhyw un yn gwybod mewn gwirionedd. Ac mae gan y Blaid Lafur ymgyrch fawr i drefnu contractau allanol—yn enwedig i elusennau preifat—a hithau'n gwrthod ariannu llywodraeth leol, gyda chynghorwyr sy'n atebol yn ddemocrataidd. Bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth hon yn condemnio'r cynghorau ar hyd a lled Cymru, ac nid yw hynny'n iawn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl.

Member
Alun Davies 17:39:31
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Rwy'n ddiolchgar ichi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae bob amser yn bwysig ystyried sut yr ydym yn strwythuro cyllid ac yn ariannu llywodraeth leol, a hefyd y flaenoriaeth gymharol a roddir i lywodraeth leol yng nghyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd. 

A gaf i ddweud hyn yn unig? Mae mwy na dim ond parch a chyd-barch at lywodraeth leol yn Llywodraeth Cymru—ac, rwy'n credu, ar draws y Siambr, mewn gwirionedd—mae dymuniad ac awydd hefyd i gydweithio, i gyd-dynnu, i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth wirioneddol, nid un ffuantus. Roedd a wnelo cwestiwn Simon Thomas yn ystod fy sylwadau agoriadol i â maes y cawsom lwyddiant wrth gyflawni ein dyheadau. Buom yn llwyddiannus, nid oherwydd bod llywodraeth leol wedi llwyddo neu oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo, ond gan ein bod ni wedi llwyddo gyda'n gilydd ac wedi cydweithio. Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld heddiw ac yn y dyfodol.

A gaf i ddweud, Llywydd, rwyf yn gwrando, yn enwedig, ar lefarwyr Ceidwadol yn sôn am y fformiwla, ac yn sôn am ei gwendidau cymharol. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae Mike Hedges yn hollol gywir yn ei ddadansoddiad; gellir newid y fformiwla. Mae modd ei newid. Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd. Wyddoch chi, dywedaf wrth lefarydd y Ceidwadwyr, cawsom gyfarfod o'r is-grŵp cyllid ar 14 Rhagfyr, lle cawsom gyfarfod â llywodraeth leol i drafod y setliad hwn a'r fformiwla honno, ac nid oedden nhw'n cynnig newidiadau iddo. Rhof gyfle i'r Aelod nawr. Mae gennym  gyfarfod yr wythnos nesaf. Os yw hi'n dymuno i'r Blaid Geidwadol gynnig newidiadau i'r fformiwla, mae gennych chi gyfarfod yr wythnos nesaf —dydd Mercher neu ddydd Iau rwy'n credu: cynigiwch chi'r newidiadau hynny. Gadewch inni weld beth fydd y newidiadau. Gadewch i ni weld beth ydych chi eisiau ei weld. Gadewch i ni weld sut y credwch chi y dylid dosbarthu'r cyllid. Ac yna gadewch i ni weld a allwch chi ganfod cynghorydd Ceidwadol i'w gynnig. Oherwydd pan rwy'n siarad â chynghorwyr Ceidwadol, yr hyn nad ydyn nhw'n sôn amdano yw newid y fformiwla. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n ddiolchgar iawn nad yw eu cynghorwyr yng Nghymru yn gynghorwyr yn Lloegr, lle maen nhw wedi gweld eu Llywodraeth eu hunain nid yn unig yn diystyru llywodraeth leol yn ddirmygus, ond yn mynd ati i ddatgymalu llywodraeth leol yn llwyr. [Torri ar draws.] Ildiaf i arweinydd yr wrthblaid os yw'n dymuno imi wneud hynny. Ildiaf i arweinydd yr wrthblaid.

17:40

A ydych chi'n sefyll yn y fan yna ac yn teimlo cywilydd am y cynnydd mwyaf erioed yn y dreth gyngor a fu ers dechrau datganoli yma yng Nghymru, a'r cymorth pitw yr ydych chi wedi ei roi, i awdurdodau gwledig yn enwedig, i fodloni'r gofynion yr ydych chi wedi eu rhoi arnyn nhw o ran gwasanaethau ychwanegol?

Edrychaf ymlaen at dderbyn llythyr arweinydd yr wrthblaid yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf gyda'r newidiadau y mae'n eu cynnig i'r fformiwla. [Torri ar draws.] Fe'i rhoddaf yn y llyfrgell, gyda'i ganiatâd. Ond rhoddais gyfle iddo i amddiffyn llywodraeth leol ac i ddweud pa mor bwysig yw llywodraeth leol. Yr hyn a wnaeth oedd ymosod ar benderfyniadau llywodraeth leol ac ymosod ar benderfyniadau cynghorwyr etholedig lleol.

Roedd un o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges yn ei gyfraniad ynglŷn â'r anawsterau sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth geisio cydbwyso'r gyllideb a darparu gwasanaethau a rhagoriaeth. Gadewch imi ddweud hyn: Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth yn y cyfraniad hwnnw. Mae bod yn gynghorydd lleol ac yn arweinydd awdurdod lleol heddiw yw un o'r swyddi caletaf ac anoddaf o ran llywodraethu yng Nghymru, a dylem fod yn ddiolchgar i arweinwyr llywodraeth leol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ac nid yn eu collfarnu, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, am y penderfyniadau a wnânt.

Mae gennym ni hanes rhagorol o gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru a, Llywydd, rwy'n gobeithio, ac yn ffyddiog, y bydd hynny'n parhau. Rydym yn gwybod, ers 2010-11, yn Lloegr, mewn termau real, torrwyd ar lywodraeth leol 22 y cant. Yn nhermau arian parod, mae  llywodraeth leol yn Lloegr wedi gweld toriadau o 12 y cant. Yn nhermau arian parod, dros yr un cyfnod, rydym ni wedi gweld cynnydd o 4.4 y cant yng Nghymru. Gwyddom fod gwariant y pen yng Nghymru £527 y pen yn fwy nag yn Lloegr. Gwyddom ein bod yn buddsoddi mewn llywodraeth leol, a gwyddom ein bod yn ceisio amddiffyn llywodraeth leol.

Ond mae'r pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian yn hollol gywir. Mae'n argyfwng o ran cyllid cyhoeddus yn y wlad hon. Caiff ei achosi gan brosiect cyni methedig a sefydlwyd er mwyn talu'r diffyg, ond mae wedi dyblu'r diffyg. Fe'i sefydlwyd er mwyn talu'r ddyled. Ni lwyddodd i wneud hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw arwain at chwalu llywodraeth leol yn Lloegr ac at leihau'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddwn i byth yn falch ohono.  

Gadewch imi ddweud hyn wrth yr Aelodau eraill a gymerodd ran yn y ddadl: roedd yn briodol iawn i Jenny Rathbone, rwy'n credu, wneud y sylwadau a wnaeth. Rwy'n dweud wrth Jenny: soniodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, am y materion hyn wrthyf i yr wythnos diwethaf, ac rwyf hefyd yn ymwybodol bod arweinydd Abertawe wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i arweinydd Abertawe, ac rydym ni wedi gofyn i'n swyddogion weithio gydag arweinwyr y cynghorau yr ydych chi wedi eu henwi, ond hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i geisio datrys y materion y soniasoch chi amdanynt. Mae'n hollol deg ac yn gywir ac yn briodol ein bod ni'n crybwyll y materion hynny.

Ond a gaf i ddweud hyn wrth gloi, Llywydd: y peth hawsaf yn y byd yw dod i'r Siambr hon a thraddodi araith. Gallwch gollfarnu penderfyniadau'r Llywodraeth hon neu gollfarnu penderfyniadau llywodraeth leol, ac mae amryw o bobl wedi achub ar y cyfle i wneud hynny y prynhawn yma. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae hon yn Llywodraeth sy'n parchu llywodraeth leol. Mae'n Llywodraeth sy'n awyddus i weithio gyda llywodraeth leol. Mae'n Llywodraeth a fydd yn ceisio amddiffyn llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Dyna beth yr ydym ni'n ei wneud y prynhawn yma, a gofynnaf i'r Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon gefnogi'r Llywodraeth i wneud hynny heddiw. Diolch.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, ryw'n symud yn syth i'r bleidlais, a'r bleidlais gyntaf ar y gyllideb derfynnol. [Torri ar draws.] O, ocê. Galw—.

Tri aelod? Iawn, o'r gorau. O, tri yn bendant.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

17:50

Rydym ni'n cyrraedd y bleidlais, felly, a'r bleidlais gyntaf ar y gyllideb derfynol 2018-19. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, wyth yn ymatal, 18 yn erbyn ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6614 - Cyllideb Derfynol 2018-19: O blaid: 28, Yn erbyn: 18, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar y Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018: galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. [Torri ar draws.] A yw'n dangos nawr? [Torri ar draws.] Ydych. Rŷch chi wedi pleidleisio, Dafydd. Ni wnawn ni ddweud ym mha ffordd y pleidleisioch chi. [Chwerthin.] Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, wyth yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

NDM6622 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018: O blaid: 45, Yn erbyn: 8, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

A'r bleidlais nesaf, felly, ar y setliad llywodraeth leol 2018-19, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, wyth yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6623 - Setliad Llywodraeth Leol 2018-19: O blaid: 33, Yn erbyn: 13, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 17:53.