Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/12/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a'r cwestiwn cyntaf, Mohammad Asghar.

Rhaglenni Cyflogadwyedd

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau agored i niwed yng Nghymru fynediad at raglenni cyflogadwyedd? OAQ51455

Wel, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau, yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ein bod yn cynnig cymorth wedi'i deilwra, a'n bod yn ymwneud llawer â'r cymunedau. Rydym yn rhoi cymorth i aelwydydd di-waith, i aelwydydd heb waith, i bobl sy'n anabl, wedi colli eu swyddi, ac wrth gwrs, i bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ac rydym yn mentora a chefnogi pobl i sicrhau eu bod yn gallu datblygu rhyw fath o gydnerthedd, ac i sicrhau eu bod yn barod, felly, i gael gwaith.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Ond nododd Mencap Cymru yn ddiweddar fod rhwystrau enfawr yn wynebu pobl ag anawsterau dysgu sy'n awyddus i weithio, yng Nghymru. Maent yn amcangyfrif, o'r 14,000 o bobl ag anableddau dysgu y gŵyr y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt, mai 800 ohonynt yn unig sydd mewn gwaith. Golyga hynny lai na 6 y cant, Weinidog, ac yn bendant, nid yw hynny'n dderbyniol. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu rhaglenni cyflogadwyedd i'r gweithlu posibl hwn nad yw'n cael ei ddefnyddio, i raddau helaeth, ac i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o fanteision cyflogi rhywun sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru?

Diolch. Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon. Yn y flwyddyn newydd, fe welwch y byddwn yn cyflwyno cynllun gweithredu cyflogadwyedd, a bydd rhan o'r cynllun gweithredu hwnnw yn ymwneud â sicrhau bod pobl—. Mae gennym raglen arbennig, Cymru'n Gweithio, a phan fydd pobl yn dod drwy borth penodol—bydd pawb yn dod drwy borth penodol, gan fod cymaint o wahanol raglenni ar hyn o bryd, mae'n anodd i bobl wybod ble i fynd—byddwn wedyn yn nodi beth yw eu hanghenion ac yn eu cyfeirio i'r mannau cywir. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae cymaint o wahanol grwpiau, rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu symleiddio er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl gael y mynediad a'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae pobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael trafferth arbennig i ganfod llwybr i waith neu yn ôl i waith ar ôl cyfnod o salwch. Un ffordd o hwyluso mynediad at waith ydy cynnig lleoliad, sy'n golygu nad oes angen mynd drwy'r broses draddodiadol o gyfweliad a'r pryder a'r straen mae hynny'n gallu ei olygu. Pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud i annog lleoliadau o'r math yma? A fyddwn ni'n gweld y math yna o beth yn y cynllun gweithredu cyflogaeth yr oeddech chi'n sôn amdano fo, achos mi fyddai hynny yn hwyluso a chefnogi unigolion â phroblemau iechyd meddwl i ailymuno â'r gweithle?

Diolch yn fawr. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar yr agwedd yma o salwch meddwl. Mae yna gymaint o hynny'n digwydd yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau ein bod ni'n gweithio i'r unigolyn a sicrhau ein bod ni'n newid pethau ar gyfer yr unigolyn. Beth rydym ni'n trio ei wneud yn y cynllun newydd yma yw sicrhau ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, byddwn ni'n gweithio gyda'r adran iechyd, lle yn amlwg mae'n rhaid i ni blethu'r pethau yma at ei gilydd. Mae'r syniad yma o leoliad yn syniad y byddaf i nawr yn ei gymryd mewn i ystyriaeth pan fyddwn ni'n meddwl am y cynllun newydd yma. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt yma. Diolch.

Diolch, Lywydd. Nawr, fe ddymunoch chi Nadolig llawen i mi ddoe, a hoffwn ddymuno'n dda i chi ac i'ch teulu heddiw. Nadolig llawen i chi i gyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth annerch Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, nad yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau bod pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth—addysg, iechyd, tai a chymunedau—yn cydweithio i gynorthwyo pobl i gael swyddi cynaliadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn ffordd gyfannol i sicrhau bod grwpiau agored i niwed yn elwa o fentrau polisi'r Llywodraeth? Weinidog.

Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Yn sicr. Rydym yn ceisio gweithio'n drawsadrannol. O ystyried bod gennym gyllideb o oddeutu £15 biliwn, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob ceiniog, ac mae gweithio'n drawsadrannol yn gwneud synnwyr llwyr. Yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud yw cyfarfod yn annibynnol ac yn unigol gyda gwahanol Weinidogion i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr agenda hon. Felly, cyfarfûm â fy nghyd-Aelod yma yr wythnos diwethaf i drafod sut y gallwn fod o gymorth, er enghraifft, mewn perthynas â gofal. Ni all llawer o bobl ddychwelyd i'r gwaith gan fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Felly, sut rydym yn plethu'r pethau hyn gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn gysylltiedig ac y gall pobl ddychwelyd i'r gwaith? Nid geiriau'n unig yw'r syniad hwn o waith trawsadrannol; rydym yn mynd i'r afael â'r manylion o ran sut y mae hynny'n digwydd yn ymarferol.

13:35
Cyllid Myfyrwyr Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gyllid Myfyrwyr Cymru? OAQ51459

Bydd y diwygiadau rydym yn eu rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn darparu system decach, fwy cynaliadwy o gymorth i fyfyrwyr. Rwy'n hyderus y gall y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, gyflawni'r newidiadau i'r system cyllid myfyrwyr ar gyfer ein cenedl.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. A yw'n ymwybodol o'r problemau sydd wedi cael eu creu i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio gradd ôl-raddedig yn y gyfraith mewn prifysgolion fel Prifysgol BPP ym Mryste, lle nad yw'r cyrsiau hyn wedi'u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr? Mae myfyrwyr wedi gorfod gohirio'r broses o gofrestru. Mae hyn yn annheg iawn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi beirniadu Llywodraeth y DU mewn perthynas â Brexit mewn un ystyr, gan ei bod yn ofni y bydd rhaglenni cyfnewid myfyrwyr yn dioddef o ganlyniad i hynny. Os nad eir i'r afael â chanlyniadau arafwch y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wrth ddynodi cyrsiau addas ym mhrifysgolion Lloegr, byddwn yn wynebu problem debyg yn y Deyrnas Unedig, ac ni fyddai'n iawn o gwbl pe bai myfyrwyr yn methu mynd i'r brifysgol a ddewisant i ddilyn y cwrs y maent yn dymuno'i wneud ac sydd ei angen arnynt ar gyfer eu bywydau proffesiynol yn y dyfodol yn syml am fod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, i bob pwrpas, yn eu hatal rhag defnyddio'r rhyddid sydd gan bawb arall yng Nghymru.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddynodi'r holl gyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr amgen cyn y gall myfyrwyr wneud cais am gymorth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ddull Llywodraeth Cymru o ddynodi cyrsiau penodol gan ddarparwyr nad ydynt yn cael eu rheoleiddio at ddibenion cyllid cymorth i fyfyrwyr. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn cytuno â mi mai er budd y myfyrwyr y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw ddarparwyr sy'n ceisio dynodiad ar gyfer cyrsiau penodol yn gallu bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud, er enghraifft, â safonau ariannol a safonau ansawdd. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai sefydliadau y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi'n awtomatig ddarparu addysg o ansawdd digonol sy'n ariannol hyfyw ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol parhaus i fudd y cyhoedd mewn perthynas â'r system addysg. Rydym wedi ceisio ymdrin ag unrhyw geisiadau ar gyfer dynodi cyrsiau penodol cyn gynted â phosibl, ond nid wyf yn bwriadu cyfyngu ar y trefniadau i ddiogelu'r myfyrwyr a phwrs y wlad yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaed cyhoeddiad gan Jo Johnson dros y penwythnos ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'n eu gwneud i gyrsiau prifysgol ac argaeledd cyrsiau dwy flynedd yn y system addysg uwch yn Lloegr. Yn amlwg, mae cyllid myfyrwyr a'r ddyled y mae myfyrwyr yn ei hysgwyddo yn peri cryn bryder i lawer o fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o hyfywedd cyrsiau gradd dwy flynedd a'r cyfleoedd y byddent yn eu creu i lawer o fyfyrwyr sy'n dymuno'u dilyn drwy sicrhau, efallai, bod y cyrsiau hynny ar gael yma yng Nghymru?

Buaswn yn cytuno, Andrew, fod llawer o fyfyrwyr yn pryderu ynglŷn â sut y byddant yn cynnal eu hunain yn ariannol wrth dreulio cyfnod yn astudio mewn addysg uwch, a dyna pam rydym yn rhoi adolygiad Diamond ar waith i sicrhau bod Cymru yn darparu'r cymorth mwyaf cynhwysfawr i fyfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o gefndir anhraddodiadol na fyddent, efallai, wedi bod ag awydd mynd i'r brifysgol yn y gorffennol. Rwyf wedi nodi'r araith gan Jo Johnson mewn perthynas â graddau dwy flynedd. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried y dystiolaeth ynglŷn ag a yw'r graddau dwy flynedd hynny o ansawdd digon da, a ydynt yn darparu'r dyfnder dysgu sydd ei angen ar fyfyrwyr, yn ogystal â'r goblygiadau o ran cost, gan fod peth tystiolaeth yn awgrymu, mewn perthynas â darparu cyrsiau dros gyfnod o ddwy flynedd, nad ydynt o reidrwydd yn rhatach ac y ceir problemau, weithiau, o ran yr ansawdd, ac ni fuaswn yn awyddus i fwrw ymlaen oni bai fy mod yn gwbl fodlon gyda'r dystiolaeth y byddai newid i raddau dwy flynedd o fudd i fyfyrwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd. 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi cymryd pedair blynedd i gyflwyno platfform rhith-ddysgu Hwb+ a sicrhau bod dros 80 y cant o ysgolion yn defnyddio'r platfform. Mae pob ysgol wedi cael eu hyfforddi i'w ddefnyddio ar ôl cryn dipyn o amser, ymdrech ac arian. Felly, a allwch egluro i ni pam eich bod o'r farn mai rhoi'r gorau i'r prosiect hwnnw bellach yw'r defnydd gorau o arian cyhoeddus?

13:40

Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, Llyr, yw ein bod yn dysgu o brofiad ymarferwyr sy'n defnyddio'r adnodd ar-lein hwn. Mae rhai rhannau o'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae lefelau uchel o ddefnydd ac adborth gan addysgwyr a myfyrwyr yn dweud ei fod yn werthfawr iawn. Fodd bynnag, nid yw rhai agweddau ar y platfform wedi cael cymaint o ddefnydd, ac wrth i ni ddiweddaru ein cynnig ar Hwb, mae angen ystyried yr adborth gan addysgwyr a datblygu cyfres o wasanaethau sydd ar gael i ysgolion ar-lein ac sy'n ddefnyddiol iddynt, yn enwedig y rhyngwyneb, i sicrhau bod yr adnoddau hynny'n hawdd i'w defnyddio.

Ond nid ar chwarae bach y mae symud o un math penodol o ddarpariaeth i un arall, nage? Fe ddywedoch ym mis Mehefin,

'O'r cychwyn—

ac rwy'n dyfynnu,

—'rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern'.

Ni fyddai neb yn amau hynny.

'Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd'.

Mae gennym sefyllfa lle mae'r consortia wedi cynghori ysgolion fod yr offer yn Hwb+ yn angenrheidiol ar gyfer cwricwlwm newydd a fframwaith cymhwysedd digidol y Llywodraeth. O ystyried maint y prosiect hwn, bydd y newid a fwriedir gennych yn arwain, heb os, at flwyddyn neu ddwy o darfu. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod newid y platfform hwn ar yr adeg allweddol hon yn gwella dysgu yn hytrach nag arwain at faich ychwanegol ar athrawon a fydd yn gorfod dechrau eto, ailhyfforddi ac ymgyfarwyddo â phlatfform newydd, ar adeg pan fo llawer o bobl yn dweud eu bod yn dal i ymgyfarwyddo â'r set gyfredol o offer?

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod yr Aelodau'n ymwybodol nad ydym yn dirwyn prosiect Hwb i ben. Rydym yn bwriadu adnewyddu rhan benodol o'r rhaglen honno, Hwb+, sy'n rhan o'r rhaglen nad yw wedi gweld lefelau uchel iawn o ddefnydd, ac mae'r adborth gan addysgwyr yn dynodi nad yw wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol. Bydd Hwb yn gyffredinol yn parhau, a byddwn yn gweithio gyda chwmnïau meddalwedd mawr i geisio darparu rhyngwyneb mwy defnyddiol.

Ond mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu ein sylw at bwysigrwydd sgiliau digidol yn y cwricwlwm newydd. Mae'n gwbl hanfodol fod ein pobl ifanc yn gadael addysg yng Nghymru yn llythrennog, yn rhifog ac yn meddu ar gymhwysedd digidol. Mae hynny'n golygu mwy na gallu defnyddio cyfrifiadur yn unig, mae'n ymwneud â gallu ymchwilio i wybodaeth a welant ar-lein, mae'n ymwneud â bod yn ddiogel ar-lein ac yn ddiogel wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac yn hollbwysig, fel rhan o'n cynllun 'Cracio'r Cod' a'i ymestyn i glybiau codio, mae'n ymwneud â deall sut y mae cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth yn gweithio, gan mai'r bobl sy'n gallu dylunio apiau, dylunio gwefannau a dylunio rhaglenni—. Gall hynny arwain at fudd economaidd sylweddol i'r myfyrwyr a'r bobl ifanc hynny.

Credaf ei bod yn ddiddorol eich bod yn dweud bod yr adborth gan addysgwyr wedi bod yn llai na chadarnhaol, gan fod gwerthusiad y Llywodraeth ei hun o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol ym mis Hydref y llynedd wedi nodi adborth cadarnhaol gan ysgolion mewn perthynas â Hwb+ ac wedi dod i'r casgliad,

'Byddai cefnu ar y prosiect yn siomi'n ddwys ac yn dieithrio'r athrawon sy'n frwd dros ddefnydd pellach o ddysgu digidol ac sydd wedi buddsoddi amser ac ymdrech helaeth i sefydlu gwefannau ysgol Hwb+ a'u hyrwyddo i'w cydweithwyr yn eu hysgol.'

Rydych wedi canmol Hwb+ am gyrraedd y rownd derfynol i gael ei enwi'n bartner addysg byd-eang y flwyddyn Microsoft eleni, felly mae hynny'n adborth cadarnhaol yn fy marn i. Hoffwn wybod o ble rydych yn cael yr adborth negyddol. Ond credaf hefyd fod arnom angen rhywfaint o eglurder ynghylch lefel y buddsoddiad a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth yn hyn. Yn ddiweddar, fe ddywedoch chi fod cost y prosiect Hwb ar sail y contract ar gyfer y platfform Hwb yn £2.53 miliwn. Mae hynny'n anghyson ag ateb y Llywodraeth yn 2015, a ddywedai fod gwerth y contract cyflenwi i ddarparu Hwb+—llwyfan dysgu Cymru gyfan—i bob ysgol yng Nghymru oddeutu £4.5 miliwn. Mae yna anghysondeb. Felly, a allwch ddweud wrthym beth oedd cyfanswm cost y prosiect? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gost ychwanegol a fydd yn deillio yn awr o'ch penderfyniad i wneud y newidiadau hyn?

Fel y dywedais, Llyr, mae'n gwbl hanfodol, oherwydd, mae'n rhaid i mi ddweud, rydych yn rhoi'r argraff fod Hwb ei hun yn dod i ben, ac nid yw hynny'n wir. Rydym yn newid rhan fechan iawn ohono am fod y contract yn dod i ben ac nid oes unrhyw opsiynau i adnewyddu yn y contract hwnnw. Ar sail gwerth cyhoeddus am arian, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r prosiect hwn mewn ffordd wahanol. Y ffigurau y gofynnodd yr Aelod amdanynt—byddaf yn ysgrifennu ato ac yn rhoi copi yn y llyfrgell.FootnoteLink

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae llai o fyfyrwyr o Gymru nag erioed o'r blaen yn mynd i brifysgolion Grŵp Russell. Gwyddom fod y ffigurau o Rydychen a Chaergrawnt yn awgrymu mai 2 y cant yn unig o'r rhai y cynigiwyd lleoedd iddynt y llynedd a oedd yn byw yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her hon ac i sicrhau bod mwy o'n plant mwyaf disglair yn llwyddo ac yn mynd i'r prifysgolion gorau hyn?

Rwy'n siŵr, Lywydd, fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o fuddsoddiad y Llywodraeth yn rhwydwaith Seren. Cyfeiriaf yr Aelod at ddata y soniais amdano wrth y Siambr heb fod yn hir yn ôl mewn perthynas â'r dyddiad cau pan fo'n rhaid i fyfyrwyr sefyll arholiadau mynediad unigol i brifysgol Rhydychen, nifer o ysgolion meddygol ac ysgolion milfeddygol—mae nifer y ceisiadau yn uwch.

Nid yw'n ymwneud â cheisiadau yn unig, fodd bynnag, nag ydyw? Mae'n ymwneud â faint o leoedd a gynigir i fyfyrwyr o Gymru. A allwch ddweud wrthym faint o fyfyrwyr sy'n rhan o rwydwaith Seren a gafodd gynnig lleoedd ym mhrifysgolion Grŵp Russell yn y blynyddoedd diwethaf?

Gyda phob parch, os mai nifer cyfyngedig o bobl sydd gennym yn gwneud ceisiadau i fynd i'r prifysgolion hynny, ni allwn obeithio codi'r nifer sy'n cael cynnig lle, ac yn ei dderbyn, gobeithio. Yr hyn sy'n bwysig iawn i mi yw codi dyheadau myfyrwyr Cymru fel eu bod yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud y ceisiadau hynny i Rydychen, Caergrawnt, i ysgolion meddygol, i ysgolion milfeddygol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gan nad yw'r union ffigurau gennyf wrth law. O ystyried ei ymrwymiad—hollol deg—i sicrhau bod atebion gweinidogol yn hollol gywir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigurau pendant.

Wel, rydych eisoes wedi ymateb i gwestiynau ar y mater hwn, ac wrth gwrs, nid ydych yn gallu darparu'r wybodaeth gan nad yw Llywodraeth Cymru yn ei chofnodi, sy'n eithaf syfrdanol o gofio eich bod yn gwneud cryn fuddsoddiad yn rhwydwaith Seren ac rydym yn awyddus i bobl allu llwyddo. Ond os nad ydych yn olrhain llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant rhwydwaith Seren o ran nifer y bobl ifanc sy'n cael cynnig lleoedd yn y prifysgolion gorau, sut y gallwn fod yn ffyddiog nad yw hon yn enghraifft arall o wastraffu arian trethdalwyr, gan nad ydych wedi llwyddo i ddangos gwerth am arian ar ei gyfer?

Fel y dywedais, rydym yn cadw llygad barcud ar nifer y ceisiadau y mae myfyrwyr yn eu gwneud i brifysgolion. Rwy'n ymwybodol iawn o'r cwestiynau a ofynnwyd gan y grŵp Ceidwadol; 61 cwestiwn unigol ar y pwnc penodol hwn mewn un diwrnod. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddangos y fath ddiddordeb yn y rhaglen hon a byddaf yn ceisio sicrhau bod Darren Millar yn cael y data y mae'n awyddus i'w gael.

Diolch, Lywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion unrhyw ddarpariaeth addysgol ychwanegol a wneir ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru i mi, os gwelwch yn dda?

Diolch i Michelle am ei chwestiwn. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod plant sy'n derbyn gofal yn gymwys ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Mae adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi addysg plant sy'n derbyn gofal, a bydd gan blant sy'n derbyn gofal ac sy'n dymuno mynychu'r brifysgol hawl i'r pecyn llawn o gymorth i fyfyrwyr o dan gynigion Diamond.

Iawn, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y rheswm y gofynnaf yw bod y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Mai a'r hyn rydych newydd ei ddweud—nid yw'n cynnwys llawer o fanylion ynglŷn â sut y byddai cymorth ychwanegol ar gyfer y grŵp hwn yn cael ei weithredu mewn gwirionedd. Er eich bod wedi cyhoeddi camau cadarnhaol yn y gorffennol, a ydych wedi ystyried sicrhau bod oriau addysgu ychwanegol ar gael i blant sy'n derbyn gofal? Dywed yr elusen Plant yng Nghymru fod y sector yn dal i weld canlyniadau addysgol gwaeth na'u cymheiriaid nad ydynt yn derbyn gofal. Os ydych wedi ystyried hyn, a ydych wedi ymrwymo i glustnodi cyllid ar gyfer ysgolion, neu sefydliadau eraill yn wir, i ddarparu ychydig o amser dysgu ychwanegol i blant sy'n derbyn gofal, naill ai wyneb yn wyneb neu mewn grŵp?

Wel, Michelle, gadewch i mi ddweud yn berffaith glir, nid yw plant sy'n cael profiad o ofal, ar hyn o bryd, yn cyflawni'r cymwysterau yn y niferoedd yr hoffwn eu gweld yn ei wneud. Cafwyd cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda nifer y plant sy'n derbyn gofal sy'n gadael yr ysgol gyda phum TGAU da, ond mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd i sicrhau bod y plant hynny'n cyflawni eu potensial.

Gofynna'r Aelod ynglŷn â chlustnodi adnoddau. Mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i glustnodi. Mae'n swm penodol o arian a ddarperir i'r consortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion gydag amrywiaeth o dechnegau—beth bynnag sydd orau ar gyfer y plant hynny yn yr ysgolion arbennig hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio ar draws adrannau, gyda fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, i ariannu ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rhwydwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwyddom fod llawer o blant sy'n derbyn gofal, oherwydd y ffaith eu bod yn derbyn gofal, wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a all effeithio'n negyddol ar eu haddysg. Mae'r ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynorthwyo ysgolion i edrych ar amrywiaeth o ymyriadau i gynorthwyo'r plant hynny sy'n derbyn gofal yn y ffordd orau.

13:50

Y rheswm rwy'n holi ynglŷn â hyn yw am fod plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol o dan anfantais yn barod oherwydd yr holl brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod y soniwch amdanynt—bydd hynny wedi cael effaith ar eu haddysg. Maent yn cael eu rhoi mewn gofal, sy'n effeithio ar eu haddysg. Yr hyn y gall y wladwriaeth ei wneud yw rhoi addysg ychwanegol iddynt er mwyn rhoi hwb iddynt—addysg na fyddai'n arbennig o ddrud i'w chynnig ar sail bob plentyn unigol mewn gwirionedd. Tybed a ydych yn barod i ystyried yr opsiwn hwnnw o gynnig trefniant ysgol haf i blant sy'n derbyn gofal o bosibl, gan fod eu haddysg yn dioddef o ganlyniad i'r profiadau niweidiol y maent wedi eu cael.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, yr haf hwn, wedi ariannu rhaglen gwella gwyliau’r haf, neu'r rhaglen bwyd a hwyl, a oedd wedi'i hanelu'n bennaf at blant difreintiedig fel y gallent gael mynediad at ddarpariaeth addysgol a phryd bwyd poeth yn ystod y gwyliau ysgol. Mae'r rhaglen honno wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn gobeithio gallu ariannu hyd yn oed mwy o awdurdodau lleol i allu cynnig y cyfleoedd hynny yr haf nesaf. Rydym yn parhau i gefnogi'r teuluoedd sy'n darparu gofal maeth drwy roi cyngor ychwanegol ynglŷn â sut y gallant gael effaith.

Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'w gofio—os gwrandewch ar blant sy'n derbyn gofal, yr hyn a ddywedant wrthych dro ar ôl tro yw nad oes arnynt eisiau cael eu stigmateiddio ac nad oes arnynt eisiau cael eu gweld yn cael eu trin yn wahanol i'w cyfoedion, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i'r plant hyn. Rydym yn eu cefnogi mewn addysg brif ffrwd—nid eu neilltuo, ond rhoi adnoddau ychwanegol i'r ysgolion i helpu addysg y plant hynny. Yn bwysig, rydym yn gweld canlyniadau, gan fod y canlyniadau yn gwella ar gyfer y grŵp hwnnw o ddysgwyr.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

3. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd y cod anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi? OAQ51471

Diolch, Angela. Ddydd Llun, cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer rhoi Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ar waith, sydd wrth wraidd ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid addysg a chymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Cynhelir ymgynghoriad ar y cod y flwyddyn nesaf, a bydd ar waith erbyn diwedd 2019.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cam 4 y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi cael ei basio ddoe, a nodais â diddordeb y datganiad a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon ar weithredu'r cod newydd. Fodd bynnag, hoffwn eglurhad ynglŷn â'r cyngor rydych yn ei ddarparu i awdurdodau addysg lleol ynghylch y mesurau dros dro sydd ar waith yn awr gan fod y Bil wedi cael ei basio. Rwyf wedi codi'r mater hwn o'r blaen gyda chyn-Ysgrifenyddion addysg, gan ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi nad yw'r awdurdodau'n awyddus i gyhoeddi datganiadau gan fod y system newydd ar y ffordd. O gofio nad yw'r cyfnod gweithredu i fod i gael ei gwblhau tan 2023, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cefnogaeth lawn yn parhau dros y blynyddoedd cyfamserol ac na fydd awdurdodau lleol yn cyfyngu ar y cymorth a ddarperir i'r plant hyn sy'n agored iawn i niwed?

Y bore yma, cyfarfûm ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd y broses o roi'r Bil anghenion dysgu ychwanegol ar waith yn eitem ar yr agenda honno. Yr hyn sy'n gwbl glir yw ein bod yn cyflwyno dull gweithredu fesul cam, fel y gallwn newid o un system i'r llall yn llwyddiannus. Ond rwyf wedi bod yn gwbl glir yn fy natganiad y dylid cynnwys plant newydd sy'n dod i mewn i'r system, neu sy'n cael eu nodi o'r newydd o fewn y system, yn y rhaglen newydd. Dylid eu cynnwys yn y rhaglen newydd, ac rydym yn ceisio trosglwyddo'r plant sydd â datganiad statudol o anghenion addysgol eisoes, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar blant sydd ar gamau pwysig iawn o'u haddysg, sef y newid, fel arfer, o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd neu o'r ysgol uwchradd i addysg bellach neu addysg uwch, a bydd honno'n rhaglen dreigl. Dylid cynnwys plant a nodir o'r newydd yn y dull newydd.

Mae'n debyg y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o Goleg Elidyr, sef coleg addysg bellach arbenigol yn fy etholaeth. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych eto ar ddiwygio'r derminoleg a ddefnyddir yn y cod drafft i ddisgrifio sefydliadau fel Coleg Elidyr, sy'n cyd-fynd yn well â'r hyn y byddai'r sector yn ei ffafrio, ond Estyn yn ogystal. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o fanylion, pe bai hynny o gymorth.

13:55

Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o fyfyrwyr i astudio yng Ngholeg Elidyr, a holl ddiben y broses wrth symud ymlaen yw y gallwn weithio ar y cyd i sicrhau bod y cod yn iawn, a buaswn yn barod iawn i gyfarfod â'r aelod i siarad am unrhyw bryderon sydd ganddo. Wrth gwrs, bydd y pwyllgor yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu'n llawn ar y cod a bydd y Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn pleidleisio arno. Dyna pam y byddwn yn ymgynghori er mwyn sicrhau bod y cod yn gywir, ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon penodol ynglŷn â geiriad, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater.

Plant sydd yn cael eu Haddysg Gartref

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am blant sydd yn cael eu haddysg gartref? OAQ51462

Diolch yn fawr, Llyr. Mae Llywodraeth Cymru yn parchu dewis rhai rhieni i addysgu eu plant gartref. Rwy'n ystyried sut y gallwn gryfhau'r cymorth sydd ar gael i'r gymuned addysgu yn y cartref, nid cymorth addysg a gwasanaethau yn unig, ond gwasanaethau cymorth cyffredinol ac arbenigol hefyd, lle bo hynny'n briodol.

Rydych yn dweud wrthym eich bod yn ei ystyried—mae arnaf ofn ei fod wedi cael ei ystyried ers amser hir bellach, a gwyddom fod adroddiad yr adolygiad ymarfer plant a gyhoeddwyd y llynedd mewn perthynas ag achos Dylan Seabridge wedi argymell yn gryf fod angen newid y ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i rieni gofrestru plant sy'n cael eu haddysg gartref gyda'r awdurdod lleol, a hefyd i sicrhau bod rhywun yn gweld ac yn siarad â'r plant hynny bob blwyddyn. Mae pob un ohonom yn ymwybodol fod Comisiynydd Plant Cymru wedi bod yn galw'n gyson hefyd am roi grym statudol i'r canllawiau presennol ac am iddynt gynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn sy'n cael eu haddysg gartref, gyda phwerau clir i awdurdodau lleol weld y plant hynny ac i siarad â hwy yn uniongyrchol ynglŷn â'u haddysg. Yn fwy diweddar, roedd adolygiad seiliedig ar dystiolaeth a gomisiynwyd gan y bwrdd diogelu plant cenedlaethol o'r risgiau i blant sy'n cael eu haddysg gartref yn feirniadol iawn o'r status quo, a galwodd am gofrestru plant sy'n cael eu haddysg gartref, a'u hasesu'n rheolaidd. Gwn fod awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn galw am hyn, ac fel rydych yn cydnabod, rydym ninnau'n cydnabod bod gan rieni hawl i ddewis addysgu eu plant gartref yn hytrach nag yn yr ysgol, ac nid yw addysg yn y cartref ynddo'i hun yn ffactor risg ar gyfer camdriniaeth neu esgeulustod. Rydych yn dweud eich bod yn ystyried y mater. Wel, onid ydych yn cytuno, tra bo unrhyw bosibilrwydd y gall plentyn fod yn anweledig ac y gallai fod Dylan Seabridge arall allan yno yn rhywle, fod arnom angen mwy o weithredu ac arweiniad gan y Llywodraeth hon? A allwch ddweud wrthym: pryd y byddwch yn rhoi camau pendant ar waith?

Diolch, Llyr. Credaf ei bod yn bwysig eich bod wedi dweud nad yw addysgu yn y cartref ynddo'i hun yn ddangosydd o risg neu gam-drin plant. Cyhoeddwyd canllawiau anstatudol diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr y llynedd, ond byddwch yn gwybod fy mod wedi derbyn mewn egwyddor argymhelliad Comisiynydd Plant Cymru ynglŷn â chofrestr statudol ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref. Mae swyddogion wrthi'n gweithio ar y manylion pellach o ran sut y gellir bwrw ymlaen â hynny. Ond mae'n rhaid i mi roi gair o rybudd: ni fyddai'r gofrestr honno ond yn cynnwys plant o oedran ysgol statudol, ac ni all fod ac ni fydd yn ateb mewn perthynas â'r plant nad yw'r system yn eu gweld, gan y byddai cyflwyno cofrestr, hyd yn oed, ond yn berthnasol i blant pum mlwydd oed a hŷn, ac o bosibl, gallai plant dreulio pum mlynedd gyntaf eu bywydau heb i'r gwasanaethau eu gweld. Ac yn fy marn i, er y gallwn symud ymlaen yn hyn o beth, rhaid i ni gofio nad dyma'r unig ateb o ran diogelu plant y mae eu rhieni, am ba reswm bynnag, yn benderfynol o'u cuddio rhag yr awdurdodau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch eich bod wedi dweud eich bod yn parchu penderfyniad rhieni sy'n dymuno addysgu eu plant gartref. Mae'n opsiwn cyfreithlon ac ymarferol sy'n gweithio'n dda iawn mewn nifer o achosion. Ond rydych hefyd yn iawn i nodi pryderon fod angen monitro plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn yr un modd â phlant a all ddiflannu o'r system pan fyddant o fewn yr hyn y byddech yn ei alw'n amgylchedd ysgol confensiynol. O gofio'r hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â'r ffordd y gallai cofrestr fethu rhai o'r plant hynny, pa botensial arall sydd yna i sicrhau nad yw plant—credaf mai o dan bump oed y dywedoch chi—yn llithro drwy'r bylchau, pa un a ydynt yn mewn ysgol gonfensiynol neu'n cael addysg yn y cartref, a'n bod yn edrych ar ôl ein holl blant?

Y rheswm y soniais am fylchau posibl yw oherwydd y byddai'r pwerau sydd gennym yn caniatáu—ac maent yn bwerau sy'n bodoli'n barod, dylid dweud hynny, i awdurdodau lleol fod yn sicr fod plant yn cael addysg ddigonol. Mae'r pwerau hynny yn bodoli eisoes, ac rwyf wedi darparu adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol gael gwell dealltwriaeth o lefel addysg ddewisol yn y cartref yn eu hardaloedd eu hunain a'r rhesymau pam fod rhieni yn dewis gwneud hynny. Yn amlwg, bydd yn rhaid i gyd-Aelodau eraill yn y Cabinet ymgymryd â mesurau i geisio diogelu'r plant sy'n iau na'r oedran addysg statudol, a dyna pam y cefais i a'r Gweinidog plant gyfarfod gyda'r bwrdd diogelu plant cenedlaethol yr wythnos diwethaf i drafod yr opsiynau mewn perthynas â phlant o dan yr oedran addysg statudol.

14:00
Cysylltiadau rhwng Prifysgolion ac Ysgolion yng Nghymru

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu cysylltiadau cryf rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru? OAQ51466

Diolch, Vikki. Rwyf wedi annog a byddaf yn parhau i annog ymgysylltiad cryf rhwng ysgolion a phrifysgolion. Dyma oedd prif thema'r uwchgynhadledd cenhadaeth ddinesig diweddar ym mis Hydref, ac fe'i hamlygwyd fel thema allweddol yn fy llythyr cylch gwaith i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn ddiddorol iawn darllen y ddwy ddogfen. O fy mhrofiad fy hun, roedd gan yr ysgol y bûm yn dysgu ynddi gysylltiadau cryf iawn gyda Phrifysgol De Cymru, cysylltiadau a oedd yn fuddiol iawn i'n disgyblion. Credaf hefyd fod gan rwydwaith Seren—a grybwyllwyd eisoes—er ei fod yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr mwyaf galluog a thalentog, fanteision ehangach i ysgolion hefyd. Ond credaf fod angen inni wneud mwy i integreiddio'r dulliau hyn yn fwy cyffredinol mewn ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd megis fy etholaeth i nad ydynt yn agos iawn at brifysgol. Sut y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn i sicrhau nad yw'r mathau hyn o fyfyrwyr ar eu colled?

Rwy'n cytuno, Vikki, fod angen inni wneud mwy i integreiddio dulliau fel Seren mewn ysgolion yng Nghymru. Rwy'n gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau eu bod yn gweithio ar gyflawni eu cenhadaeth ddinesig. Fel y dywedwch, mae hynny'n arbennig o bwysig mewn cymunedau nad oes ganddynt brifysgol ar garreg y drws o bosibl. Felly, er enghraifft, bydd y cynllun mentora ieithoedd tramor modern sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cael ei gynnig ar sail ddigidol i'r ysgolion lle nad yw'n bosibl inni sicrhau bod y graddedigion yn mynd i mewn i'r adeilad. Rwy'n falch o ddweud, mewn perthynas â'r dyddiad cau ar 27 Ionawr ar gyfer ceisiadau i ddechrau cyrsiau addysg uwch yn y flwyddyn academaidd hon, fod y cyfraddau ymgeisio ar gyfer pobl 18 oed yng Nghwm Cynon wedi cyrraedd 30 y cant, sef y gyfradd uchaf mewn mwy na degawd o'r data a gofnodwyd. Gobeithiaf weld cynnydd pellach yng Nghwm Cynon dros y blynyddoedd i ddod.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y cysylltiadau ymchwil rhwng prifysgolion ac ysgolion. Byddwch yn gyfarwydd, oherwydd eich ymweliad ag Ysgol Pen y Bryn, ym Mae Colwyn yn fy etholaeth, â'r cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol honno a Phrifysgol Bangor o ran ymchwil i ymwybyddiaeth ofalgar a datblygiad y cwricwlwm Paws b yno. Beth y gallwn ei wneud i sefydlu mwy o'r cysylltiadau hynny ledled Cymru, ac yn arbennig, ymchwil yn y dosbarth?

Rydych yn llygad eich lle, Darren. Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa ffodus iawn lle y ceir cysylltiadau cryf rhwng ysgolion unigol, y consortiwm rhanbarthol, GwE, a Phrifysgol Bangor, sy'n edrych ar ymarfer penodol yn y dosbarth a'r effaith a gaiff hynny ar blant. Mae GwE wedi cytuno i ysgwyddo rôl arweiniol ar draws y consortia eraill i ddatblygu rhaglenni tebyg o ran y cysylltiadau rhwng ymchwil ac ymarfer yn yr ysgol.

Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glasgow ac ysgolion o ran y gwaith ymchwil sy'n sail i'n cwricwlwm newydd. Byddai'n wych pe bai mwy o brifysgolion yn cymryd rhan mewn ymchwil o'r fath ac rwy'n gobeithio, drwy nodi hyn yn glir yng nghonsortiwm GwE a'u hannog i rannu arferion gorau ac i arwain ar hyn ar gyfer meysydd eraill, y byddwn yn gweld datblygiadau pellach, gan fod y gwaith yn gryf iawn ac yn werthfawr iawn i addysgwyr.

Yr Iaith Gymraeg

6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i gyfrannu at ei tharged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050? OAQ51477

Diolch yn fawr. Mae cynlluniau a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi’u cynnwys yn rhaglen waith 2017-21 strategaeth 'Cymraeg 2050'.

Mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, sef 'Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg' yn dweud fel hyn:

'Er bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd gofal plant i ddyfodol yr iaith, nid oes cynlluniau pendant a chadarn ynglŷn â sut y bwriedir integreiddio'r Cynllun 30 Awr a’r weledigaeth 2050.' 

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi pwysigrwydd cydweithio ar draws adrannau er mwyn gwireddu uchelgais y Llywodraeth. Onid ydy’r diffyg cydweithio dros y Gymraeg a gofal plant yn arwydd o fethiant llwyr eich Llywodraeth chi i ddwyn ynghyd dau o’ch prif feysydd polisi?

14:05

Wel, rŷm ni yn cydweithredu. Rydw i’n meddwl mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw bod yna ddealltwriaeth bod yn rhaid i chi ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar yna, ac mae’n deg i ddweud bod strategaeth gyda ni mewn lle ar gyfer gofal plant, ac mae’n bwysig, mae’n hanfodol—ar gyfer pob peth sy’n mynd trwy’r Llywodraeth nawr, mae e’n gofyn beth ŷch chi’n ei wneud i helpu’r iaith Gymraeg. Felly, fe fydd hynny yn rhan ganolog o’r hyn fydd yn rhaid i’r Gweinidog ei wneud. Felly, wrth gwrs, mae yna waith i’w wneud, ond rydw i’n meddwl hefyd bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar y blynyddoedd ar ôl hynny gydag ysgolion meithrin. Rydym ni’n mynd i gael 150 yn fwy o ysgolion meithrin yn y degawd nesaf, ac rydw i’n meddwl mai dyna’r ffordd i ni sicrhau ein bod ni’n gweld twf yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y cyn Weinidog y byddai’n fodlon edrych ar rôl busnesau bach eu hunain yn hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg. Credaf i ei fod yn syniad da i chwilio am unigolion allweddol mewn busnesau bach sydd wedi eu hysgogi i rannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu hyn fel rhan o ddysgu gydol oes, neu ddatblygu proffesiynol parhaus, neu ffordd arall addas i’r busnes bach. A ydych chi’n ystyried gosod targedau ar gyfer y nifer o fusnesau bach a hoffech chi eu gweld yn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a pha gymhellion a allai fod ar gael i ysbrydoli unigolion allweddol o’r fath?

Wel, rŷch chi’n eithaf reit. Un o’n targedau ni yw sicrhau bod pobl ddim jest yn gallu siarad Cymraeg, ond eu bod nhw actually yn defnyddio’r Gymraeg, ac felly mae e’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r cyfleoedd hynny. Mae busnesau bach—mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol eich bod chi’n gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddwch chi’n delio â busnes yn hollbwysig. Felly, mae yna strategaethau y byddwn ni yn eu datblygu ar gyfer sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ble mae yna bosibilrwydd.

Yn barod, mae lot ohonom ni’n gwisgo’r bathodynnau yma ac ati. Rydw i’n meddwl bod yn rhaid i ni sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod honno’n ffordd i bobl sicrhau eu bod nhw’n gwybod pwy sy’n gallu siarad Cymraeg. Ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach; mae’n rhaid i ni edrych ar dechnoleg ac ati. Mae lot o fusnesau nawr yn defnyddio technoleg ar gyfer gwerthu a phrynu nwyddau, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. Pan fyddaf i’n codi yn y bore, byddaf i’n gofyn i Alexa droi’r radio ymlaen. Allaf i ddim ei wneud e yn Gymraeg. Ond mae’n bwysig ein bod ni—ac rydym ni’n gwneud lot yn y maes yna.

Pobl Ifanc sy'n gadael Ysgol

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y bobl ifanc sy'n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51456

Wel, ers lansio ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid yn 2013, mae canran y bobl ifanc sy’n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru wedi gostwng o 4 y cant i 2.3 y cant. Mae ein hymrwymiad ni i’r fframwaith yna yn parhau, a dyna pam rŷm ni wedi buddsoddi £1.1 miliwn yn ychwanegol eleni ac rŷm ni’n dal i gefnogi llywodraeth leol i sicrhau eu bod nhw’n gwneud gwelliannau trwy’r amser yn y maes yma.

Diolch. Byddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol wedi nodi mai Castell-nedd Port Talbot yw'r sir waethaf yng Nghymru o ran symudedd cymdeithasol. Roedd Castell-nedd Port Talbot hefyd ar waelod y rhestr yn benodol o ran nifer y bobl ifanc yn y sir nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gyda chyfraddau o fwy na theirgwaith a hanner y cyfraddau mewn siroedd eraill yng Nghymru. Felly, o ystyried hynny, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn cymorth wedi'i dargedu i gynorthwyo Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i bartneriaid i fynd i'r afael â symudedd cymdeithasol yn y sir?

Credaf fod rhai o'r ffigurau hynny yn achos pryder mawr, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar y meysydd hynny lle y mae angen inni sicrhau y gallwn wella'r sefyllfa. Awgryma'r ymweliadau diweddar gan awdurdodau lleol fod cynnydd da'n cael ei wneud yn gyffredinol o ran pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn deall ble mae siroedd yn llwyddo a pham nad yw eraill yn gwneud cystal. Felly, mae rhannu'r wybodaeth werthfawr honno yn gwbl hanfodol, a chredaf y byddai rhannu'r arferion gorau hynny yn dda iawn er mwyn i'r awdurdod lleol ddeall beth yn union y mae siroedd eraill yn ei wneud. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r cyfraddau diweithdra yng Nghastell-nedd Port Talbot yn isel iawn, felly mae'n ymwneud yn benodol â phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.

14:10

Cynrychiolir y sector addysg ar fwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe gan brifysgolion. Bydd angen amrywiaeth o sgiliau, a allai, wrth gwrs, gynnwys rhai o'r unigolion rydym yn siarad amdanynt yn y cwestiwn hwn, yn y gweithlu os yw'r fargen am gyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl, sy'n codi cwestiwn ynghylch rôl colegau addysg bellach yn y fargen. Mae angen iddynt allu cefnogi uchelgeisiau'r fargen drwy gynllunio eu cyrsiau, wrth gwrs. Ar ran Llywodraeth Cymru, a wnewch chi holi'r bwrdd cysgodol i ganfod sut y gall colegau addysg bellach yn ardal y fargen gyfrannu at yr uchelgeisiau hynny ac elwa ohonynt, ond gyda ffocws penodol ar y rheini nad ydynt yn awyddus ar hyn o bryd i ymgymryd ag addysg bellach neu hyfforddiant, ond lle y gallem weld rhai cyfleoedd gyda'r fargen?

Diolch. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yn y cynllun gweithredu cyflogadwyedd yw sicrhau ein bod yn cysylltu â'r dull rhanbarthol newydd hwn. Felly, roedd yr hyn a glywsom ddoe gan Ysgrifennydd yr economi o ran, 'Iawn. Dyma'r flaenoriaeth. Rydym am ranbartholi'—gwyddom fod yna raglen ddatblygu economaidd, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r sgiliau gyd-fynd â'r rhaglen honno. Felly, gwn fod y cyrff addysg bellach yn ymwneud â'r bargeinion dinesig eisoes, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau cywir ar gyfer y mathau o ddatblygiadau economaidd rydym yn ceisio eu cyflawni gyda'r bargeinion hynny.

Swyddi Llywodraethwyr Ysgol

8. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i hyrwyddo swyddi llywodraethwyr ysgol a llenwi swyddi gwag llywodraethwyr o fewn y system addysg yng Nghymru? OAQ51469

Diolch, Andrew. Yr awdurdod lleol a'r ysgol, yn bennaf, sy'n gyfrifol am hyrwyddo swyddi llywodraethwyr ysgol. Rwy'n cydnabod ei bod yn anos recriwtio mewn rhai ardaloedd. Bydd fy niwygiadau arfaethedig i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer llywodraethu ysgolion yn galluogi ysgolion a chyrff llywodraethu i fod yn hyblyg yn unol â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb i'w heriau a'u hamgylchiadau penodol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn faes y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, gan y credaf mai un o'r cyfnodau mwyaf gwerth chweil i mi eu cael oedd y 13 blynedd a dreuliais yn llywodraethwr ysgol gynradd. Ond yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwnnw, deuthum yn ymwybodol o'r holl swyddi gwag a oedd yn bodoli ar y pryd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd yma drwy'r cwestiynau ysgrifenedig ac ati, credaf fod cyfraddau'r swyddi gwag hynny, yn anffodus, wedi cynyddu ledled Cymru.

Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch ynglŷn â'r ffaith mai awdurdodau lleol, fel yr awdurdod addysg lleol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am hyrwyddo swyddi o'r fath, ond gyda'r newid i'r agenda rydych yn ei gynnig fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, byddech yn derbyn bod gan lywodraethwyr ysgolion rôl hollbwysig yn cefnogi'r athrawon a gweddill teulu'r ysgol wrth hyrwyddo'r newidiadau hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ennyn diddordeb pobl yn y lle cyntaf mewn swyddi llywodraethwyr ysgol, ac yn llenwi'r swyddi gwag hynny. Pa mor hyderus ydych chi, wrth weithio gydag awdurdodau lleol, y gallwch arafu'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau swydd fel llywodraethwr ysgol?

Wel, Andrew, credaf fod hwn yn gyfle gwych i mi ddiolch i'r rheini sy'n ymgymryd â'r rôl o fod yn llywodraethwyr ysgolion ledled Cymru. Ceir oddeutu 22,000 o lywodraethwyr, sy'n golygu mai hwn yw'r corff mwyaf o wirfoddolwyr sydd gennym yn y wlad. Rwyf eto i ddod ar draws ysgol wych sy'n cael ei llywodraethu'n wael. Yn aml, pan fydd pethau'n mynd o chwith mewn ysgol, mae'n deillio o fethiant yn y gwaith o lywodraethu'r sefydliad hwnnw. Felly, rydych yn llygad eich lle: mae rôl hanfodol i'w chwarae yn hyn o beth.

Nid wyf am adael hynny i'r awdurdodau lleol yn unig, gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl yn ymgymryd â swyddi llywodraethu. Dyna pam y cyfarfûm, yn gynharach eleni, â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach i weld beth yn rhagor y gallem ei wneud i annog eu haelodau a phobl o'r gymuned fusnes i ddangos diddordeb mewn addysg yn eu hardaloedd. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn mynd i ddefnyddio eu cylchgrawn misol a'u dulliau cyfathrebu i annog eu haelodau i feddwl am y cyfleoedd a gynigir iddynt mewn perthynas â llywodraethu ysgolion, ac mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn trafod gydag adrannau adnoddau dynol sefydliadau eu haelodau fel ffordd y gallent ddatblygu sgiliau arwain o fewn eu gweithlu eu hunain, yn ogystal â chyfrannu at y genhadaeth genedlaethol o godi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad. Felly, nid ydym yn camu nôl a gadael i awdurdodau lleol wneud y gwaith; rydym yn ymchwilio i nifer o ffyrdd y gallwn gynyddu'r diddordeb a chael pobl i gydnabod y manteision sylweddol sy'n deillio o gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu ysgolion.

Addysg yn Sir Benfro

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro? OAQ51453

14:15

Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol yn cefnogi ysgolion yn Sir Benfro ar y cyd i wella addysg yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn ein cenhadaeth genedlaethol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae penaethiaid y siaradais â hwy yn Sir Benfro yn ddiweddar wedi mynegi pryderon eu bod yn teimlo y gall rhoi pwysau ar ddisgyblion ôl-16 i astudio bagloriaeth Cymru gael effaith andwyol ar ddyfodol disgyblion, o gofio nad yw rhai prifysgolion yn Lloegr yn cydnabod y cymhwyster o hyd. Nawr, rwy'n llwyr gefnogi bagloriaeth Cymru, ac wrth gwrs, nid yw'n orfodol o ran ei natur. A allwch gadarnhau pa ganllawiau a gyhoeddir i ysgolion i sicrhau bod athrawon yn hyrwyddo'r amrywiaeth lawn o opsiynau i ddisgyblion ôl-16 yn gyfartal, fel y gall myfyrwyr yn Sir Benfro, ac yn wir, ledled Cymru, gael yr addysg orau bosibl?

Diolch, Paul, a diolch am eich cefnogaeth i fagloriaeth Cymru. Mae'n bwysig cydnabod y gydnabyddiaeth gynyddol i fagloriaeth Cymru gan brifysgolion yng Nghymru a thu hwnt. Hyd yn oed pan nad yw prifysgol yn defnyddio'r pwyntiau sy'n gysylltiedig â bagloriaeth Cymru mewn cynnig, maent yn cydnabod bod y set estynedig o sgiliau y mae myfyrwyr yn ei datblygu wrth ymgymryd â bagloriaeth Cymru yn eu gwneud yn ymgeiswyr cyflawn a gwych i'w cael yn eu prifysgol. Rydym yn annog pob ysgol, lle bo hynny'n briodol ar gyfer y myfyriwr unigol, i ymgymryd â bagloriaeth Cymru, ond rydym yn cydnabod y pryderon hyn ac rydym yn awyddus i sicrhau bod y cymhwyster cystal ag y gall fod. Dyna pam fod Cymwysterau Cymru yn cynnal adolygiad annibynnol o fagloriaeth Cymru, a byddant yn cyflwyno'u hadroddiad cyn bo hir.

A gaf fi ddychwelyd at yr achos a nododd Llyr Gruffydd yn gynharach, ynglŷn â Dylan Seabridge a'r gwersi y mae angen inni eu dysgu o'r profiad hwnnw? Fe ddyfynnaf o'r adolygiad achos, a ddywedai'n benodol, 'Mae'n bosibl, pe bai gweithiwr gofal plant neu weithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld neu siarad â'r plentyn yn ystod cyfnodau diweddarach ei fywyd, y byddent wedi sylwi ar y ffaith bod ganddo rai problemau iechyd nad oedd y rhieni yn ceisio cymorth priodol ar eu cyfer.' Credaf fod hynny'n ymwneud â maes addysgu yn y cartref a'r gofrestr rydych wedi'i chrybwyll. Gwyddom hefyd fod Llywodraeth yr Alban wedi sôn am unigolyn a enwir ar gyfer pob plentyn, er mwyn sicrhau dilyniant o ran gofal ac i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal ac yn cael eu diogelu'n briodol. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef? Neu a all ychwanegu at yr hyn a ddywedodd wrth Llyr Gruffydd yn gynharach ynglŷn â sicrhau na chaiff achos Dylan Seabridge mo'i ailadrodd byth?

Diolch, Simon. Fel y dywedais, fy mhrif gyfrifoldeb ym maes addysg yw sicrhau bod yr awdurdodau lleol sydd â'r ddyletswydd bresennol i wybod a yw plentyn yn derbyn addysg ddigonol yn arfer y swyddogaethau hynny, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i arfer y swyddogaethau hynny'n ddigonol. Rwyf wedi derbyn argymhelliad y comisiynydd plant i gyflwyno cofrestr orfodol mewn egwyddor, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio ar sut y gellid ei sefydlu, ac yn hollbwysig, ei rhoi ar waith. Ond rwy'n cydnabod hefyd, i lawer o deuluoedd sy'n penderfynu addysgu yn y cartref, fod amrywiaeth o resymau dros hynny. Weithiau maent yn teimlo nad ydynt yn cael cymorth gan yr awdurdod addysg lleol, boed hynny mewn perthynas â sefyll arholiadau neu fynediad at Hwb, gan na chaniateir hynny ar hyn o bryd. A gweithio ar draws yr adran—gan fod yn rhaid cael ymagwedd drawsadrannol—ni all yr adran addysg ar ei phen ei hun ddiogelu pob plentyn, a chwestiynau sy'n ymwneud â'r berthynas ag addysg yn unig y gallwn eu gofyn. Ceir rhywfaint o ddadlau ynglŷn ag a ddylid cael y sgwrs honno yn y cartref, neu a allai'r sgwrs ddigwydd yn rhywle arall, a ddylai'r sgwrs ddigwydd yng ngŵydd y rhieni, neu a ddylid gweld y plentyn hwnnw ar ei ben ei hun. Mae'r rhain yn faterion cymhleth lle y mae'n rhaid inni sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau'r teulu a hawliau'r plant, a byddwn yn edrych ar arferion da ledled y Deyrnas Unedig—yn wir, ledled y byd—wrth i ni, ar draws y Llywodraeth, geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod na all cofrestr mewn perthynas ag addysg yn y cartref, ar ei phen ei hun, ddarparu'r holl ddiogelwch y gwn y buaswn innau a chithau'n dymuno ei weld ar gyfer ein plant.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Y cwestiwn cyntaf—Caroline Jones.

Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51478

Mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi rhagori ar y targed o wyth munud ar gyfer galwadau coch ym mhob un o'r 19 mis diwethaf. Ym mis Hydref, roedd yr amser ymateb arferol ar gyfer galwadau coch ychydig dros bum munud, ac am alwadau ambr, roedd yr amser ymateb arferol yn llai nag 20 munud.

14:20

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd wrth ddelio â galwadau lle y ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, ond heb fod mor dda mewn perthynas â galwadau ambr. Y mis diwethaf, arhosodd dros 35 y cant o alwadau ambr dros hanner awr am ymateb ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd yr amser aros hiraf yng Nghymru yn 23 awr, ac mae hynny'n syfrdanol. O gofio bod pobl y tybir eu bod wedi cael strôc yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr, ac y gall y cleifion hyn aros hyd at 10 awr, gallai hyn amharu ar eu hadferiad. Roedd y model ymateb newydd i fod i hidlo galwadau nad oedd arnynt angen ymateb golau glas er mwyn rhyddhau adnoddau i ymateb i'r galwadau a oedd eu hangen. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw cleifion yng Nghymru yn aros hyd at ddiwrnod am ambiwlans?

Wel, mae hyn yn amlwg yn destun pryder, nid yn unig i'r cyhoedd yn gyffredinol, ond i mi yn bersonol hefyd. Rwyf wedi gweld ac wedi nodi rhywfaint o bryder yn y gwerthusiad annibynnol o'r model ymateb clinigol newydd ynglŷn â ffiniau categoreiddio, rhwng coch ac ambr, fel un mater sy'n cael sylw gan y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys ac ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, yn ogystal â'r amseroedd aros hirach. Oherwydd, er bod ein hamseroedd ar gyfartaledd yn rhesymol, mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ceir enghreifftiau o bobl yn aros am gyfnodau hir iawn, felly rwyf eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wneud gwaith i ganfod pam fod hynny'n digwydd, ac yna hefyd i'n system gyfan edrych ar beth sydd angen ei newid er mwyn datrys hynny. Oherwydd yn gyffredinol, rydym yn darparu gwasanaeth da, a dylem fod yn falch o'r gwelliannau rydym wedi dewis eu gwneud. Derbyniodd 96 y cant o'r bobl y tybir eu bod wedi cael strôc y pecyn gofal priodol—gwelliant sylweddol o ran ansawdd y gofal a ddarperir. Mae'r ymateb cyfartalog i alwad strôc yn llai na 14 munud. Ond mae rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dylem fod yn onest am hynny, cydnabod hynny, a cheisio gwella hynny. Dyna'n union rwyf wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud.

Ysgrifennydd Cabinet, mae cyd-ymatebwyr yn rhan hanfodol o ddarpariaeth y gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae eu rôl hefyd i'w theimlo'n gynyddol oherwydd, pan fyddant yn ymateb i alwadau oren, neu wyrdd hyd yn oed, yr hyn a welant yw person yr oedd ei statws yn goch, neu fod eu statws wedi troi'n goch oherwydd yr oedi, a gallant naill ai ymdrin â hynny eu hunain neu ei uwchgyfeirio. A allwch gadarnhau bod y gwasanaeth ambiwlans wedi gofyn i chi drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ariannu'r gwasanaeth hanfodol hwn i'r byrddau iechyd, sydd eisoes yn gorwario, heblaw am un, a'u bod wedi gofyn i chi sicrhau mai ar gyfer galwadau coch yn unig y dylid anfon cyd-ymatebwyr, gan beryglu diogelwch y bobl y mae eu galwadau wedi cael eu categoreiddio'n anghywir, neu sydd wedi mynd yn fwy difrifol oherwydd yr oedi? Os ydych, ai 'na' fydd eich ateb i'r ddau gwestiwn hynny?

Nid oes unrhyw un wedi gofyn i mi wneud y dewisiadau hynny. Maent yn ddewisiadau gweithredol i'r gwasanaeth eu gwneud ynglŷn â'r ffordd gywir o ddefnyddio gwasanaethau. Os oes dewis i'w wneud ynglŷn â beth yw'r peth priodol i'w wneud o safbwynt clinigol, unwaith eto, nid yw hynny'n rhywbeth y credaf y dylwn ymyrryd ynddo fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Cyflwynasom fodel newydd yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol a chyngor i geisio rhoi terfyn ar ymyrraeth gan wleidyddion a thargedau nad ydynt o reidrwydd yn gwneud synnwyr. Mae'n rhaid cymhwyso hynny hefyd o ran sut y gwnawn y defnydd gorau o'n staff er mwyn darparu'r ymateb priodol. Mae cyd-ymatebwyr ac ymatebwyr cyntaf cymunedol yn rhan o'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl, yn enwedig i bobl sydd angen ymateb o fewn wyth munud. Felly, mae hyn yn ymwneud â deall sut i'w defnyddio'n briodol, sut i'w defnyddio'n effeithiol, ac mae gwaith i'w wneud unwaith eto ynghylch ceisio gwneud y defnydd gorau o bobl a deall o ble y dônt—a ydynt yno o wasanaethau cyhoeddus eraill neu o dîm yr ymatebwyr cyntaf cymunedol. Felly, mae'n faes y mae gennyf ddiddordeb ynddo, o ran gofyn cwestiynau ynglŷn â beth allai a beth ddylai ddigwydd, ond nid wyf am ymyrryd a rhoi cyfarwyddyd ynghylch materion gweithredol, na materion lle y dylai barn glinigol, yn wir, arwain y ffordd y mae'r gwasanaeth yn defnyddio ei adnoddau yn briodol.

Tynnwyd fy sylw at enghreifftiau diweddar yn Abertawe lle y bu'n rhaid i gleifion—wel, bu'n rhaid i un claf aros tair awr a hanner mewn sefyllfa frys am ambiwlans, a bu claf arall yn aros pedair awr ar ôl dioddef cnawdnychiant myocardaidd. Yn eu cartref, buont yn aros am bedair awr i'r ambiwlans gyrraedd. Bu claf arall yn aros am bum awr yn y gymuned i ambiwlans gyrraedd. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n ymwybodol o bobl sydd wedi gorfod aros ar drolïau am dros 20 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ar ôl cael trawiad ar y galon hefyd. Nawr, rwy'n derbyn popeth a ddywedwyd hyd yn hyn, fod hyn yn amlwg yn ymwneud â gwella llif cleifion drwy'r ysbytai, ac wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod llawer o waith da yn cael ei wneud, ac ym mhob un o'r achosion hyn a amlinellwyd gennyf, ni fu unrhyw beth ond y ganmoliaeth uchaf i'r nyrsys a'r meddygon a fu'n ymwneud â'r achosion. Ond mae'r amseroedd aros hynny yno o hyd. Felly, beth arall y gallwch ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn?

14:25

Credaf eich bod yn tynnu sylw at y pwynt roeddwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef mewn ymateb i gwestiwn atodol Caroline Jones, fod ein gwasanaeth, yn gyffredinol, yn dda. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn ymateb amserol sy'n diwallu'r angen gofal, a bellach, mae gennym well gobaith o gyrraedd y bobl â'r lefelau uchaf o angen gofal oherwydd y newidiadau rydym wedi'u gwneud. Ond cydnabyddir bod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Rydych wedi tynnu sylw at bedair enghraifft lle na fuaswn yn ceisio dweud wrthych fod popeth yn iawn. Byddai gennyf ddiddordeb, pe baech am ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion am y rheini, er mwyn i mi allu sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio'n iawn, ond mae hyn yn ymwneud â pheidio â sefyll yma a dweud bod popeth yn ofnadwy, ac yn yr un modd, ceisio peidio â sefyll yma a dweud, 'Mae popeth yn iawn, felly peidiwch â beirniadu.' Mae'n bwysig inni ddeall beth nad yw'n gweithio cystal, a cheisio mynd i'r afael â hynny mewn ffordd onest. Felly, os ydych am roi'r enghreifftiau unigol a nodwyd gennych i mi, byddaf yn ystyried a ydynt yn faterion unigol neu'n rhan o'r her i'r system gyfan rwyf eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans fynd i'r afael â hi ar ein rhan.

Mewnblaniadau Rhwyll

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio mewnblaniadau rhwyll yng Nghymru? OAQ51465

Yn sgil y pryderon sylweddol a godwyd mewn perthynas â'r mater hwn, sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i roi cyngor ar unrhyw gamau pellach y dylid eu cymryd yng Nghymru ar y defnydd o fewnblaniadau rhwyll i drin prolaps yr organau pelfig ac anymataliaeth. Bydd y grŵp hwnnw yn cyflwyno adroddiad i mi ym mis Ionawr 2018.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhestr o bobl sydd wedi goroesi mewnblaniadau rhwyll yn tyfu bob dydd, yn ogystal â'r ymgyrch yn erbyn eu defnyddio'n amhriodol. Mae Seland Newydd, i bob pwrpas, wedi rhoi terfyn ar y defnydd o fewnblaniadau rhwyll yn y wain ac mae cwestiynau ynghylch cydsyniad yn cynyddu drwy'r amser. Mae cyrff rhai pobl yn gwrthod y mewnblaniadau rhwyll hyn mewn ffordd boenus iawn, ond yn aml, ni roddir cyfle priodol iddynt wrthod cael y mewnblaniadau rhwyll wedi eu gosod yn y lle cyntaf. O ystyried y nifer cynyddol o bobl sydd wedi goroesi mewnblaniadau rhwyll, mae Lloegr wedi mabwysiadu timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n cynorthwyo cleifion sydd wedi cael problemau gyda'r rhwyll ac yn rhoi cyngor iddynt ynglŷn â thriniaethau. A yw'r timau amlddisgyblaethol hyn yn bodoli yng Nghymru, ac os felly, ymhle? Hoffwn gael ateb i'r cwestiwn hwnnw'n benodol. Felly, a oes timau amlddisgyblaethol yn bodoli yng Nghymru, ac ymhle?

Rwy'n fwy na pharod i ymateb. Mae hwn yn fater o gryn bryder cyhoeddus, ac mae hynny'n ddealladwy. Rwy'n llwyr gydnabod bod mewnblaniadau rhwyll wedi arwain at ganlyniadau sydd wedi newid bywydau nifer o bobl. Ac mae'n bwysig cydnabod hynny, fod hon yn broblem go iawn. Mae gennyf ddiddordeb mewn amgyffred union faint yr her a beth y gallem ac y dylem ei wneud amdani.

Rwy'n nodi'r hyn a ddywedasoch ynglŷn â'r ymgyrch yn erbyn eu defnyddio'n amhriodol. Mae rhan o'r her sy'n ein hwynebu, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffaith bod rhai pobl yn ymgyrchu dros waharddiad llwyr—gwaharddiad cyffredinol—ac mae eraill yn dweud bod angen inni ddeall sut y gellid neu y dylid defnyddio'r mewnblaniadau, a beth sy'n briodol. Dyna pam fod y cylch gorchwyl a roddais i'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ymwneud ag edrych ar arferion presennol, edrych ar arferion hanesyddol, ac yn benodol, roedd un o'r pwyntiau yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth gyflawn. Oherwydd rwy'n pryderu ynglŷn â llawer o'r straeon gan bobl sydd wedi cael mewnblaniadau rhwyll neu fewnblaniadau tâp sydd wedi mynd o chwith a pha un a gawsant broses o gydsyniad ar sail gwybodaeth gyflawn mewn gwirionedd. Felly, mae'n wirioneddol bwysig deall yr hyn rydym yn ei wneud. Yn ddiddorol, mae gostyngiad sylweddol wedi bod o ran y defnydd o fewnblaniadau rhwyll a thâp yn y triniaethau hyn yng Nghymru.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, oes, mae gennym dimau amlddisgyblaethol ynghlwm wrth bob triniaeth lawfeddygol. Credaf ei bod yn ddefnyddiol ceisio nodi, cyn i bobl gyrraedd y pwynt lle y maent yn cael llawdriniaeth, y dylai pob opsiwn arall am driniaeth fod wedi cael ei ystyried eisoes. Nid yw'n driniaeth gyntaf; golyga hynny bethau fel ffisiotherapi a mathau eraill o therapi yn gyntaf. Ac yn wir, yn y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n grŵp amlddisgyblaethol. Felly, nid llawfeddygon yn unig; mae ffisiotherapyddion ac eraill yn rhan ohono. Dylai'r timau hynny fodoli lle bynnag y bydd y llawdriniaeth yn digwydd. Felly, yn hytrach na gofyn, 'Ble maent?', a cheisio nodi lleoliadau, mae hynny'n dibynnu ar lle y digwyddodd y llawdriniaeth. Mae fy niddordeb i, fodd bynnag, yn ymwneud â'r rheoleiddiwr yn nodi a yw'r rhain yn ddyfeisiau priodol i glinigwyr eu defnyddio ai peidio, ac yna'r cyngor proffesiynol priodol ynglŷn â phryd y gellid ac y dylid eu defnyddio; ac unwaith eto, rôl gwleidyddion yn hyrwyddo tystiolaeth a chyngor clinigol a pheidio ag achub y blaen ar hynny. Felly, mae'n anodd.

Fel rhan o'r gwaith, rwy'n disgwyl cyfarfod â nifer o bobl yr effeithiwyd arnynt. Fel y dywedais, rwy'n disgwyl cael yr adroddiad ym mis Ionawr. Waeth beth fydd yn digwydd yng Nghymru, byddwn yn ystyried canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n cael eu diwygio, ac rwy'n llwyr fwriadu cyflawni'r ymrwymiad rwyf eisoes wedi'i wneud yn y lle hwn, drwy arweinydd y tŷ, i ddarparu datganiad i'r Aelodau. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd hwn yn parhau i fod yn fater o gryn bwys i bob un ohonom yn y Siambr hon.

Mae hon yn stori erchyll: cyfradd fethiant o 10 y cant ar gyfartaledd ledled y DU, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, ledled y byd. Un o'r pethau sy'n peri pryder go iawn i mi yw bod defnydd o'r dyfeisiau hyn wedi'i ganiatáu, oherwydd er nad oeddent wedi cael eu profi, roeddent wedi mynd drwy'r broses ddyfeisiau meddygol, o dan ryw fath o ganllaw megis tebygrwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a allech gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi gwybod inni sut y mae'r canllawiau ar gyfer dyfeisiau meddygol yn gweithio, a pha broses y byddai unrhyw ddyfais feddygol a fyddai'n cael ei osod yn ein cyrff—beth yw'r hyd defnydd arferol, beth yw'r prosesau arferol. Oherwydd mae gennyf bryder penodol ynglŷn â'r brand penodol hwn o dâp—a chafwyd cwestiynau yn y gorffennol ynglŷn â'r math o dâp a ddefnyddir i gynnal torgesti; mae rhai ohonynt wedi cael eu gwneud o ddeunyddiau tra synthetig, ac wedi achosi problemau. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr, a chredaf y byddai gan bob un ohonom ddiddordeb mawr mewn deall sut rydym yn caniatáu i'r dyfeisiau hyn gael eu defnyddio, a beth yw'r canllawiau, y prosesau, y gweithdrefnau ar gyfer y trefniadau diogelu i sicrhau mai pethau y cynhaliwyd profion trylwyr iawn arnynt yn unig rydym yn eu caniatáu yn GIG Cymru.

14:30

Pan fyddaf yn darparu'r datganiad ysgrifenedig—. Rwy'n disgwyl i'r grŵp adrodd yn ôl i mi ym mis Ionawr a byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn dilyn hynny. Felly, pan fyddaf yn gwneud hynny, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn cynnwys yr union bwynt rydych yn ei godi. Mewn gwirionedd, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar brolaps organau llawr y pelfis, yn hytrach na llawdriniaethau torgest. Bydd grŵp gwahanol o lawfeddygon yn cymryd rhan. Ond gwn hefyd fod rhai pobl wedi mynegi pryderon ynglŷn â llawdriniaethau torgest. Ac yn ddiddorol, yn y gyfradd fethiant, mae'n ymddangos bod y rhan honno o'n her yn ymwneud â'r data sydd gennym, a deall beth yw'r gyfradd fethiant, neu'r gyfradd gymhlethdodau, yng Nghymru. Mae'n ymddangos fel pe bai'n is; mae'n ymddangos, mewn gwirionedd, fel pe na bai gan y gymuned lawfeddygol yng Nghymru yr un brwdfrydedd ynglŷn â rhwyll a thâp â rhannau eraill o'r DU. Ond mae yna her o hyd o gwmpas y DU, a gadewch i ni beidio ag esgus, rywsut, nad oes unrhyw heriau yma, oherwydd rydym yn deall bod yna heriau. Ac rwyf eisiau bod mor dryloyw â phosibl wrth nodi'r cyngor y byddaf yn ei roi, yr hyn a fydd yn digwydd wedyn, a gwneud yn siŵr fod yr Aelodau ac etholwyr yn cael y wybodaeth briodol. Ac fel rwy'n dweud, byddaf yn gwneud yn siŵr fod eich pwynt ynglŷn â phrofi dyfeisiau yn cael ei gynnwys pan fyddwn yn gwneud datganiad mewn ymateb.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi mater rhwyll y pelfis yn GIG Cymru yn y Siambr hon o'r blaen. Cafodd y mater ei ddwyn i fy sylw gan un o fy etholwyr a siaradodd gyda mi ynglŷn â'i phrofiad torcalonnus. Ac mae fy etholwr ymysg miloedd o fenywod eraill ledled y DU sy'n wynebu amgylchiadau sy'n newid bywydau. Nawr, mae'r mater hwn yn cael cyhoeddusrwydd cynyddol, a chafwyd rhaglen Panorama ar y teledu yn gynharach yr wythnos hon a oedd yn tynnu sylw at y dioddefaint a achoswyd gan y mewnblaniadau hyn. Ac roedd yr ymchwiliad hefyd yn awgrymu nad oedd meddygon yn ymwybodol o beryglon mewnblaniadau rhwyll.

Fe sonioch chi am waith y grŵp gorchwyl a gorffen, ac edrychaf ymlaen, fel yr Aelodau eraill, at glywed am y cynnydd a wneir ganddo. Ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi, ac i fy etholwr, er mwyn sicrhau na fydd menywod fel hi'n gorfod dioddef profiadau trawmatig tebyg oherwydd rhwyll yn y dyfodol?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig i mi fod yn onest ynglŷn â'r hyn y gallaf ei wneud a'r hyn na allaf ei wneud, ac ni allaf warantu i neb na fydd triniaeth lawfeddygol yn mynd o chwith. Mae yna risg gynhenid, mewn llawfeddygaeth ymyrrol, na fydd yn gweithio fel y byddech yn dymuno iddo wneud o bosibl, ac fel y mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn awgrymu y dylai ei wneud. Yr hyn sydd hyd yn oed yn bwysicach yn yr achos hwn yw canlyniadau'r llawdriniaeth honno'n mynd o'i le, yr effaith sy'n newid bywyd, ac a gafwyd dealltwriaeth briodol, fel rwy'n dweud, o'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r llawdriniaeth o ran y manteision. Oherwydd mae'r rhan fwyaf o fenywod sy'n cyrraedd y pwynt hwn yn wynebu her sy'n newid bywyd yn y lle cyntaf, ond a ydynt wedyn yn deall yn iawn beth yw'r risgiau, sut a pham, ac a oes dewisiadau eraill gwell ar gael. Felly, bydd gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen, canllawiau NICE, yn bwysig iawn i ni ddeall beth yw'r ymateb gorau posibl ar gyfer a chan glinigwyr, beth yw rôl y Llywodraeth, a gwneud i rywbeth ddigwydd lle nad honno yw'r rôl, ond deall a yw'r dyfeisiau eu hunain yn parhau i fod ar gael i glinigwyr, ac ym mha amgylchiadau hefyd. Dyna pam rwy'n dweud fy mod eisiau cael eglurder ar gyfer rhoi ateb, pan ddaw'r adroddiad i law, ac i fod yn gwbl dryloyw gyda'r Aelodau ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd a'r hyn na fydd yn digwydd. Oherwydd, fel y dywedaf, rwy'n cydnabod ei fod wedi cael effaith sylweddol ac wedi newid bywydau nifer o'n hetholwyr ledled y wlad.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Rwy'n galw'n gyntaf ar lefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2009, cefnogodd Llywodraeth Cymru y safonau cenedlaethol ar gyfer clefyd llid y coluddyn, a oedd yn argymell isafswm o un a hanner nyrs clefyd llid y coluddyn amser llawn, neu gyfwerth ag amser llawn, i bob 250,000 o'r boblogaeth. A allech ddweud wrthyf lle rydych chi arni o ran cyrraedd y targed hwn os gwelwch yn dda?

Rwyf o dan anfantais, ac nid wyf am esgus bod gennyf y ffigurau wrth law.

14:35

Wel, yn anad dim arall, rwy'n eich canmol am eich gonestrwydd. Nawr, yn ôl ffigurau a gafwyd gan Crohn's & Colitis UK, yn 2016, nid oedd ond 16 o nyrsys clefyd llid y coluddyn arbenigol cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ledled Cymru. Nid oes ond un nyrs clefyd llid y coluddyn yn fy mwrdd iechyd fy hun, Hywel Dda, ac nid oes ond dwy ohonynt ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac mae'n rhaid iddynt ymdrin â rhanbarth helaeth. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg daearyddol hwn, sy'n arwain yn aml at gleifion yn gorfod teithio y tu allan i'w byrddau iechyd i gael triniaeth?

Hoffwn ddod yn ôl at sut y mae gennym y gwasanaeth mwyaf priodol posibl. Siaradais mewn digwyddiad ar lid y coluddyn yn Llundain yn y gorffennol, a drefnwyd gydag amrywiaeth o bobl o ledled y DU i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod fy mod yn gwybod nad oes gennym y nifer o nyrsys arbenigol y byddem yn dymuno eu cael. Ond mae'n parhau i ymwneud â deall faint o arbenigwyr y gallem, y dylem ac y byddwn yn eu cael, yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran canlyniadau i'r gweithlu mewn mannau eraill, a hyd yn oed os na allwn gael y nifer o nyrsys arbenigol y byddem yn dymuno eu cael yn ddelfrydol, sut rydym yn parhau, serch hynny, i ddarparu'r gofal gorau posibl. Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gysylltu â'r Aelod yn uniongyrchol mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol a pha gynlluniau gwella sydd ar waith o fewn y gwasanaeth yn ogystal.FootnoteLink

Diolch i chi am hynny. Credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd rydych chi fel Llywodraeth wedi cytuno i fodloni cyfres o safonau, a rai blynyddoedd yn ddiweddarach—gadewch i ni fod yn onest, wyth mlynedd yn ddiweddarach—nid yw'r safonau hynny yn agos at fod wedi'u bodloni. Yn hytrach nag 16 o nyrsys amser llawn, dylai fod gennym 30 o'r nyrsys amser llawn hynny mewn gwirionedd. Mae clefyd llid y coluddyn yn gyfres ofnadwy o gyflyrau. Mae'n fwrn ar bobl, mae'n eu gwneud yn sâl iawn ac maent wedi cael trafferth i wybod sut i ymdopi, oherwydd mae'n amlwg iawn—neu maent yn teimlo ei fod yn amlwg iawn—mae'n creu embaras mawr ac mae'n un o'r clefydau nad oes neb byth yn hoffi siarad amdano. Os gallwn edrych ar sut y gallwn hybu cymorth arbenigol ar gyfer y bobl hynny—un nyrs ar gyfer bob 0.25 miliwn o bobl—nid yw'n ymddangos yn ormod i'w ofyn. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn bwrw golwg drylwyr ar hyn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, gan fod 2009—roedd hwnnw'n addewid a wnaed amser maith yn ôl.

Wrth ymateb, os caf, hoffwn edrych nid yn unig ar nyrsys arbenigol, ond yn fwy cyffredinol ar sut rydym yn helpu pobl i reoli eu cyflwr, i ddeall nid yn unig yr ochr sy'n ymwneud â nyrsio, ond amrywiaeth o faterion eraill, er enghraifft, cymorth deiet a roddwn i bobl. Mae'n gyflwr cymharol gyffredin mewn gwirionedd ac mae nifer o bobl yn dioddef ar wahanol adegau yn eu bywydau, gan gynnwys staff yn ein gwasanaeth iechyd a fydd yn ei reoli. Rydych yn iawn: nid oes llawer o bobl eisiau siarad am y peth, gan eu bod yn teimlo stigma ac embaras ynglŷn â'r cyflwr. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod fel problem i'n gwasanaeth a sut rydym yn diwallu anghenion pobl sydd â'r cyflwr yn briodol. Felly, byddaf yn fwy na pharod i gysylltu â chi mewn perthynas â'r gwasanaeth cyfan, lle rydym arni ar hyn o bryd a beth yw ein disgwyliadau a'n dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Diolch, Lywydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf y ffaith fod ychydig dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, ymwelwyd â'n hadrannau damweiniau ac achosion brys dros 1 filiwn o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd o tua dwy ran o dair wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r cyfryngau wedi adrodd bod un meddyg uwch wedi gweld enghreifftiau o bobl yn aros am 80 awr. Yn aml, anawsterau i gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yw'r rheswm dros ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at feddygon teulu y tu allan i oriau a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella mynediad at ofal sylfaenol?

Rwy'n falch fod Caroline Jones wedi cydnabod bod hwn yn fater sy'n ymwneud â'r system gyfan. Nid yw'n ymwneud yn syml â dweud bod angen i adrannau damweiniau ac achosion brys weithio'n gyflymach neu'n fwy effeithlon a'i fod yn fater i'r ysbytai yn unig. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r llif yr holl ffordd drwy ein system gofal iechyd. Felly, mae'n ymwneud â sut rydym yn atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen, pa un a yw'n golygu mynd i uned mân anafiadau neu adran fawr. Mae'n ymwneud â pha un a oes angen i bobl fod yno, â pha mor gyflym y gellir eu gweld, eu trin a'u rhyddhau, neu, os oes angen eu monitro, mae'n ymwneud â bod hynny'n digwydd, ond hefyd y llif drwy'r ysbyty.

O ran ein defnydd o dechnoleg gwybodaeth, wel, mewn gwirionedd rydym newydd lansio A&E Waiting Times Live—cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol ynglŷn â helpu pobl i hunangyfeirio at y pwynt mwyaf priodol yn y system ac i roi syniad o amseroedd aros tebygol mewn gwahanol fannau. Ond yn fwy na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i edrych ar sut rydym yn rhagweld anghenion gofal drwy gydol y flwyddyn gyfan—nid yn unig yn ystod y gaeaf—wrth geisio cyfeirio pobl at y gwasanaeth mwyaf priodol. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau; mae'n ymwneud â'r gwasanaeth oriau rheolaidd yn ogystal. Ond mae gennyf hefyd ddiddordeb arbennig yn yr hyn a ddysgwn gan 111, gyda'r peilot cymharol lwyddiannus yn Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae hwnnw'n ymwneud yn rhannol â'r gwasanaeth y tu allan i oriau ond hefyd â chyfres ehangach o faterion, ac i'r un graddau, yr her gyson o geisio hysbysu a grymuso'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn â sut i gael gofal a'r lle mwyaf priodol i gael y gofal hwnnw.

14:40

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig dros 10 diwrnod, bydd y GIG unwaith eto yn profi gwyrth y Nadolig, lle mae'r wardiau'n wag ar noswyl Nadolig ond yn llenwi drachefn ar ddydd San Steffan. Os ydym am osgoi yr hyn a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol lle roedd ambiwlansys mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n rhaid i ni leihau'r galw ar ein system gofal brys dros gyfnod y Nadolig. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwn dynnu sylw pellach at yr ymgyrch Dewis Doeth ac annog y cyhoedd i ddefnyddio fferyllfeydd cymunedol ar gyfer mân anhwylderau, a sut y gallwn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau fferyllol dros gyfnod y Nadolig?

Diolch i chi am y cwestiynau. Unwaith eto, rhan o'r her sy'n ein hwynebu'n rheolaidd yw sut rydym yn lleihau ac yn ailgyfeirio'r galw. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo eisoes, ac nid ymgyrch dymhorol Dewis Doeth yn unig. Rhan o hynny eleni yw edrych ar gynllun Fy Iechyd y Gaeaf Hwn ar gyfer pobl sy'n arbennig o agored i niwed ac yn fwy tebygol o ymddangos yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys drwy gydol y gaeaf. Felly, mewn gwirionedd, mae Age Cymru wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, ac amryw o rai eraill, yn hyrwyddo'r syniad o gael cynllun ar gyfer yr unigolyn a'u gofal ac i ddeall beth yw eu hanghenion gofal. Mae hwnnw eisoes yn boblogaidd yn yr ystyr bod pobl yn deall sut y gallant helpu pobl i ddeall eu hanghenion gofal er mwyn eu cadw yn eu lle arferol, ond os oes angen iddynt fynd i ysbyty i gael gofal, faint yn gynt y gallent ddisgwyl cael eu rhyddhau ac i bobl allu deall y wybodaeth amdanynt.

Rwy'n cydnabod, ac rwy'n falch o dynnu sylw at y gwasanaethau ychwanegol rydym yn eu darparu drwy fferyllfeydd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i wario £0.75 miliwn ar ddatblygu'r platfform fferylliaeth Dewis Doeth—nid y cynllun mân anhwylderau yn unig, ond amrywiaeth o rai eraill—a bellach mae dros 60 y cant o fferyllfeydd yng Nghymru yn rhan o'r system Dewis Fferyllfa. Mae byrddau iechyd yn rheolaidd yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael mewn fferyllfeydd. Yr her bob amser, mewn môr o wybodaeth i bobl ei dewis a'i deall ac i wneud y penderfyniadau gwahanol hynny ynghylch gwasanaethau, yw na fydd un ymgyrch unigol yn gallu datrys hyn; bydd angen lefel gyson o wybodaeth, a gwybodaeth ar dafod leferydd mewn gwirionedd, wrth i bobl ddefnyddio gwasanaeth yn llwyddiannus eu hunain.

Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dewis yn ddoeth yn galw am gael y wybodaeth gywir wrth law. Mae gan Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth 111 rôl i'w chwarae yn darparu gwybodaeth o'r fath i gleifion, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Fy mwrdd iechyd lleol oedd yr ardal beilot ar gyfer y gwasanaeth 111, felly a allech chi roi'r newyddion diweddaraf am y cynllun peilot i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, a rhoi amserlen ar gyfer ei gyflwyno'n ehangach ledled Cymru?

Gwneuthum ddatganiad ar y gwasanaeth 111 rai misoedd yn ôl, a nodais y buaswn, drwy gydol y gaeaf, yn disgwyl rhagor ynglŷn â'r gwerthusiad o'r gwasanaeth 111 yn Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, ond y byddwn hefyd yn gwneud penderfyniadau drwy gydol y gwanwyn ynglŷn â'i gyflwyno drwy weddill y wlad. Felly, byddaf yn cael gwerthusiad ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i ddarparu datganiad cyhoeddus arall a diweddariad i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach ar sut a phryd y bydd hynny'n digwydd ac yn wir yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth ledled y wlad.

Diolch yn fawr iawn i chi. Ysgrifennydd Cabinet, yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ar gyllido llefydd hyfforddi i weithwyr proffesiynol iechyd dros y flwyddyn nesaf, ac, yn sicr, rwy'n croesawu llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd yn y datganiad: yr oedd 10 y cant o gynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi nyrsys a ffisiotherapi a therapyddion galwedigaethol, a chynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi i ymwelwyr iechyd ac yn y blaen. O ystyried, serch hynny, fod cyllidebau hyfforddiant yn Lloegr wedi cael eu torri, pa strwythurau fydd y Llywodraeth yn eu rhoi mewn lle i sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru ar gost Cymru yn aros yng Nghymru?

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae hyn yn mynd yn ôl at fwriad polisi'r Llywodraeth hon, fel rwyf wedi'i nodi eisoes, i gynnal bwrsariaeth y GIG. Nid ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn unig y mae'r fwrsariaeth; mae ystod o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn derbyn y fwrsariaeth. Mae parhad y fwrsariaeth mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr—penderfynodd Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu'r cymorth hwnnw—wedi bod yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr aeddfed aros yn y system ar y sail y bydd disgwyliad y bydd pobl wedyn yn gweithio i GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hyfforddiant. Credaf fod hwnnw'n setliad teg o ran cael rhywbeth yn ôl. Rydym yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o bobl sy'n dechrau fel myfyrwyr aeddfed gysylltiadau ag ardal leol eisoes, ac felly tra bod eu cymwysterau'n golygu eu bod yn symudol, mae ganddynt eisoes gysylltiadau a fydd yn eu cadw yn eu cymunedau beth bynnag sy'n digwydd. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ar lwyddiant ymarferol y fwrsariaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, wrth i bobl gwblhau eu hyfforddiant.

14:45

Mae yna rannau eraill o'r cyhoeddiad rwy'n sicr yn cytuno â hwy: cynnal y cynnydd o 40 y cant yn y lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gafwyd eleni, cynnal buddsoddiad yn y lleoedd hyfforddi ar gyfer rhannau allweddol eraill o'r gweithlu—gofal iechyd, gwyddonwyr, parafeddygon, hylenwyr deintyddol, therapyddion a radiograffwyr—i gyd yn newyddion da iawn. Serch hynny, methais ddod o hyd i'r darn am gynyddu lleoedd astudio meddygaeth israddedig neu leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu. A oedd hwnnw'n hepgoriad bwriadol neu'n gamgymeriad?

Na, mae'n deillio'n syml o'r ffaith ein bod yn gwneud y cyhoeddiadau hyn ar adegau gwahanol, fel rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi. Byddwn yn gwneud cyhoeddiadau gwahanol am feddygon a lleoedd hyfforddi ym maes meddygon teulu. Rydym newydd gyhoeddi, wrth gwrs, y gyfradd lenwi derfynol ar gyfer y flwyddyn hon—rydym wedi gorlenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu mewn gwirionedd. Gyda chreu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, bydd gennym system wahanol i ddeall faint o leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon a lleoedd iechyd a gofal proffesiynol eraill—. Ar yr adeg briodol o'r flwyddyn, byddwn yn gwneud y cyhoeddiad nesaf ynglŷn â hynny. Ond fe wyddoch wrth gwrs ein bod wedi cyhoeddi cymhelliant arall ym maes meddygon ar gyfer ein seicolegwyr yn 'Hyfforddi, Gweithio, Byw.'  Rydym yn cydnabod bod bwlch sylweddol wedi bod ledled y DU—felly help a chymorth ychwanegol a fydd, gobeithio, yn cymell mwy o bobl i gael lleoedd hyfforddiant yma yng Nghymru.

Rwy'n falch eich bod yn trafod meddygon heddiw. Roedd hi'n ymddangos, yn aml iawn yn ddiweddar, eich bod eisiau tynnu fy sylw oddi ar siarad am feddygon i siarad am rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, ond gwyddom fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae meddygon yn bwysig iawn hefyd.

Fodd bynnag, ni allaf roi gormod o bwyslais ar yr angen i gyflwyno ffigurau pendant a gweledigaeth ynglŷn â faint o feddygon rydym angen eu hyfforddi yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Rwyf wedi gweld rhai ffigurau yn ddiweddar a ddylai godi ofn ar bob un ohonom yma, mewn gwirionedd. Roedd y ffigurau a welais yn awgrymu, o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sy'n penderfynu eu bod eisiau dilyn gyrfa feddygol, fod 75 y cant ohonynt yn mynd i weithio i'r GIG yn Lloegr yn y pen draw. Nawr, ar wahân i'r ffaith ein bod angen meddygon ac angen i fwy o feddygon o Gymru aros yng Nghymru, yn ogystal â recriwtio o fannau eraill, yn gyffredinol, mae gennym ddraen dawn brawychus yng Nghymru. Mae'r rhain yn bobl ifanc ddisglair y mae angen i ni, am bob math o resymau, eu cadw yn ein cymunedau. Oni wnewch chi gydnabod bod angen penderfyniad cyflym, a phenderfyniad cadarnhaol, mewn perthynas â chynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc astudio meddygaeth yng Nghymru er mwyn i ni geisio mynd i'r afael â'r draen dawn hwnnw?

Nid yw'r Llywodraeth hon erioed wedi ceisio atal pobl ifanc o Gymru rhag cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru. Yr her sydd wedi ein hwynebu yw cael rhywbeth yn ôl gyda'n hysgolion meddygol a'n gallu i wneud hynny. Felly, mae gennym eisoes rywfaint o gynnydd yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n ennill lleoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Rwyf wedi bod yn glir, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod, os ydym am fuddsoddi mwy mewn hyfforddi meddygon yma yng Nghymru, mae angen i ni weld mwy o fudd o ran myfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Mae angen i ni hefyd fod yn well, a dweud y gwir, am ddenu pobl ifanc o Gymru sy'n mynd i astudio meddygaeth mewn gwahanol rannau o'r DU. Ni fuaswn yn beirniadu person ifanc o Ynys Môn, Caerdydd, Tyddewi neu'r Drenewydd am benderfynu eu bod eisiau astudio meddygaeth yn Lerpwl, Manceinion, Llundain neu rywle arall. Ein her mewn gwirionedd yw sut rydym yn perswadio'r bobl hynny i ddod yn ôl i Gymru i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn y tymor hwy.

Mewn gwirionedd, rydym yn gweld rhywfaint lwyddiant o ran bod mwy o bobl, yn arbennig gyda 'Hyfforddi, Gweithio, Byw', yn dewis dychwelyd i Gymru ar ôl treulio rhywfaint o'u gyrfa yn Lloegr. Felly, fel erioed, nid oes un ateb syml. Mae yna amrywiaeth o wahanol bethau y mae angen i ni eu cael yn iawn er mwyn sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr â phosibl o Gymru yn ymgymryd ag addysg a hyfforddiant meddygol yma yng Nghymru, yn ogystal â denu pobl o Gymru sydd wedi ymgymryd â'u haddysg a'u hyfforddiant meddygol mewn rhannau eraill o'r DU yn benodol.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ51479

Rydym wedi buddsoddi £8 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi rhaglen sylweddol o waith i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol mewn ymateb i'r cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae pob bwrdd iechyd lleol yn gweithio tuag at gyrraedd y targed 28 diwrnod yn gyson.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y 12 mis diwethaf ar leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n aros am apwyntiad CAMHS. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater hwn. O ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol, rydym wedi torri dros ddwy ran o dair oddi ar y nifer sy'n aros am driniaeth. Fodd bynnag, mae gennym dros 500 o blant a phobl ifanc sy'n aros rhwng pedair a 26 wythnos o hyd, ac mae llond llaw ohonynt yn aros yn hwy na hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio y dylai plant a phobl ifanc gael eu gweld o fewn 28 diwrnod, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw berson ifanc aros hyd at hanner blwyddyn?

14:50

Diolch i chi am y cwestiwn. Croesawaf y ffaith eich bod wedi cydnabod y cynnydd sylweddol sydd wedi cael ei wneud, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer i'w wneud eto. Cafwyd cryn dipyn o welliant i gyrraedd y targed 28 diwrnod ledled Cymru ym mis Mawrth eleni. Ers hynny, rydym wedi gweld cyflawniad yn llithro'n ôl, a bellach mae gennym rai pobl yn aros yn rhy hir unwaith eto. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld fod yr amser aros cyfartalog o dan wyth wythnos. O gofio bod pobl yn aros dros chwe mis yn rheolaidd ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae hwnnw'n gam arwyddocaol ymlaen.

Rwyf wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd, ar lefel cadeirydd ac is-gadeirydd, fy mod yn disgwyl wynebu craffu parhaus, ac mae hynny'n briodol, hyd nes y gwelwn welliant sylweddol yn cael ei gynnal, ond hefyd gallant ddisgwyl y byddaf yn ei ddwyn i'w sylw mewn fforymau atebolrwydd hyd nes y byddant yn cyflawni'r targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 28 diwrnod, a'u bod yn gallu cynnal y cyflawniad hwnnw hefyd mewn gwirionedd. Rydym wedi buddsoddi yn y staff y dywedasant y byddent eu hangen, ac rydym wedi buddsoddi £300,000 o arian ychwanegol i wneud yn siŵr ein bod yn ymdrin â'r ôl-groniad sy'n bodoli yn ystod y flwyddyn hon. Rwy'n llawn ddisgwyl, drwy gydol y flwyddyn nesaf, y bydd ein cyflawniad yn fwy cyson a chynaliadwy i wneud yn siŵr nad yw pobl yn aros yn rhy hir, naill ai am apwyntiadau CAMHS arbenigol neu i gael eu hatgyfeirio at rannau eraill o'n system iechyd a gofal os nad CAMHS yw'r lle priodol i ddiwallu eu hanghenion iechyd a gofal.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd dyraniad y gyllideb ar gyfer CAMHS yn cael ei glustnodi?

Rydym wedi bod yn glir iawn wrth fuddsoddi'r adnoddau ychwanegol ar gyfer CAMHS. Mae gennym yr arian rydym wedi'i glustnodi ym meysydd iechyd meddwl yn gyffredinol, ac mewn gwirionedd, gwyddom ein bod yn gwario mwy na'r arian a glustnodir ym maes iechyd meddwl ac ar wasanaethau CAMHS. Mae rhan o'r her yn ymwneud â gweld CAMHS fel rhan o system gyfan, oherwydd gwyddom mai rhan o'r her yw'r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, ac rydym yn dal i wynebu her sylweddol atgyfeirio amhriodol. Felly, yn ogystal â sicrhau buddsoddiad cywir yn CAMHS, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny, mae gennym hefyd y buddsoddiad mewn gwasanaethau eraill lle mae gan bobl anghenion cymorth iechyd a gofal gwirioneddol. Rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud y buddsoddiad cywir ac rwy'n hyderus fod yr arian hwnnw'n cael ei wario ar CAMHS fel roeddem wedi'i fwriadu, ac rwy'n llawn ddisgwyl y byddwn yn adrodd yn ôl ar y gwelliant. Os na fyddwn, byddaf yn wynebu eich cwestiynau, ac eraill, ynglŷn â pham nad oes gwelliant sylweddol wedi cael ei wneud a'i gynnal.

Rwyf wedi bod yn tynnu sylw at restrau aros CAMHS ers peth amser. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Prif Weinidog ataf yn esbonio'r rhesymau wrth wraidd y newidiadau yn y ffordd y câi'r rhestrau aros hyn eu mesur a'u cyhoeddi, gan egluro bod rhai byrddau iechyd lleol yn mynd ati'n amhriodol i gynnwys atgyfeiriadau plant a phobl ifanc at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn eu cyflwyniadau data CAMHS arbenigol, ac mae gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol hefyd darged o 28 diwrnod ar gyfer asesiadau ac ymyriadau, ond caiff hyn ei gofnodi a'i fesur ar wahân. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hollol gywir—nid oes modd dadansoddi'r data a gyhoeddwyd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn ôl grŵp oedran. Mae hyn yn golygu nad oes gennym syniad faint o amser y mae plant yn aros am y gwasanaethau hyn. A oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi'r data hwn er mwyn caniatáu mwy o graffu ar berfformiad y Llywodraeth hon mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc?

Rydym yn disgwyl gallu rhyddhau data cywir sydd wedi bod drwy'r broses graffu briodol fel ystadegau swyddogol, fel y gall pobl weld yn dryloyw pa un a yw'r gwasanaeth iechyd yn bodloni'r 80 y cant o blant a phobl ifanc sy'n cael eu gweld mewn gwasanaethau CAMHS o fewn 28 diwrnod. Ni allaf fod yn gliriach ynglŷn â fy nisgwyliadau nac ynglŷn â thryloywder y wybodaeth y bydd y cyhoedd a'r Aelodau yn ei chael.

Hyfforddi Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ51480

Diolch i chi am y cwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr hyfforddeion meddygon teulu ledled Cymru, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Mae ein cymhellion a dargedwyd wedi gwneud gwahaniaeth, gyda mwy na 100 y cant o swyddi yn cael eu llenwi yn y rhan fwyaf o gynlluniau hyfforddi meddygon teulu ar draws gogledd Cymru. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill i nodi camau ychwanegol a allai helpu.

Roeddwn yn gwrando â diddordeb, gyda llaw, ar yr atebion a roddoch chi'n gynharach i Rhun ap Iorwerth, ond rŷm ni'n gwybod mai dim ond 3.5 y cant o feddygon dan hyfforddiant y Deyrnas Unedig sydd yng Nghymru, er bod gennym ni, wrth gwrs, 5 y cant o'r boblogaeth ac, mi fuaswn yn dadlau, fod ein hanghenion ni hefyd o safbwynt iechyd yn uwch na hynny. Rwyf jest ddim yn teimlo bod y Llywodraeth yn dirnad lefel y broblem sydd gennym ni yng ngogledd Cymru. Mae niferoedd meddygon teulu dan hyfforddiant yn y gogledd yn tua dau i bob 100,000 o'r boblogaeth. Nawr, yng Nghaerdydd, mae tua chwech i bob 100,000 o'r boblogaeth, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda'r sefyllfa, felly, ar ei gwaethaf erbyn hyn yn y gogledd. Felly, a gaf i ofyn: pryd bydd y Llywodraeth yn cydnabod o ddifrif anghenion penodol y gogledd yn y cyd-destun yma er mwyn datrys y broblem unwaith ac am byth? 

14:55

Rwy'n hapus i ymateb ynglŷn â lle rydym arni eleni a'r dull y byddwn yn ei fabwysiadu mewn rowndiau o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn y dyfodol. Fel erioed, byddwn yn edrych ar y nifer gywir o leoedd, beth rydym ei eisiau a'r hyn y credwn y gallwn ei lenwi yn rhesymol. Dywedais ar ddechrau rownd y flwyddyn rydym newydd ei chwblhau y buaswn yn hapus i orlenwi os gallwn wneud hynny, a dyna'n union a wnaethom. Mae hynny'n cynnwys gogledd Cymru: cynigiwyd 24 o leoedd ond penodwyd 25 o ymgeiswyr mewn gwirionedd ar draws y tair ardal yng ngogledd Cymru lle mae hyfforddiant yn digwydd. Mae hynny'n dangos ein bod wedi cadw at ein gair.

Wrth inni fynd drwy'r flwyddyn hon, a chan ddychwelyd at gwestiwn blaenorol gan un o'ch cyd-Aelodau ynglŷn â'r ffordd rydym wedi cyhoeddi niferoedd hyfforddi meddygon, a meddygon teulu yn arbennig, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar nifer y bobl a lle byddant, mewn modd cwbl dryloyw, oherwydd nid oes unrhyw ran benodol o Gymru lle y gallech ddweud nad oes unrhyw her yn y maes hwn. Ac mae'n rhaid cael gonestrwydd ynglŷn â chydnabod bod hwn yn faes anodd a heriol ar gyfer pob rhan o'r DU, a'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yng Nghymru yw cael y nifer gywir o bobl a gwneud yn siŵr ein bod yn llenwi'r lleoedd hynny. Mae'n ymwneud â hyfforddiant o ansawdd uchel yn ogystal â chadw gweithwyr yn ein system gofal iechyd yma yng Nghymru—yng ngogledd Cymru, de, canolbarth a gorllewin Cymru—mae gan bob rhan o'r wlad her i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael â hi.

Rwyf bob amser yn teimlo ei bod yn hawdd i'r wrthblaid feddwl am atebion, ond pan fyddwch yn Llywodraeth, mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau, ac mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â lle'r gweithlu iechyd yn ei gymuned a gwahanol rannau o'r wlad. Yn hynny o beth, croesawaf y cynnydd a wnaed gan ein hymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' a'r buddsoddiad diweddar i gynyddu nifer y nyrsys, ffisiotherapyddion ac ymwelwyr iechyd galwedigaethol. Rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno â mi ein bod angen hyfforddi rhagor o feddygon—ac rwy'n derbyn hynny—ond er mwyn iddynt allu chwarae eu rhan mewn gweithlu pwysicach a mwy amlddisgyblaethol, fod angen i ni drin pobl yn nes at adref, ac mai un elfen yn unig yw meddygon mewn system gyfan?

Ie, rydych yn hollol gywir, Joyce: mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym y nifer gywir o feddygon teulu, fel arweinwyr gwirioneddol bwysig ym maes gofal iechyd lleol, ond i'r un graddau, eu bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach ar gyfer darparu gofal. Yn ddiweddar, yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol roedd yn galonogol gweld arweinwyr meddygon teulu, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill hefyd, yn cydnabod mai dyna'r peth cywir iddynt ei wneud. Ac mae angen i ni eu cefnogi, yn y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu hyfforddiant i'r gweithlu, sy'n egluro'r cynnydd o £12 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ac iddynt gael eu hyfforddi a gweithio gyda chydweithwyr sy'n feddygon teulu fel rhan o'r tîm hwnnw. Ac mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â darparu gofal gwell, a gofal gwell y byddai'n well gan yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny—meddygon teulu ac eraill—weithio ynddo mewn gwirionedd. Mae yna her oherwydd nad yw pawb wedi cyrraedd y fan honno, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod ei fod yn well i'r staff ac yn well i'r dinesydd yn ogystal. Rydym yn cael gwell gwerth ohono a gwell gofal hefyd yn y pen draw. Felly, bydd honno'n thema gyson yn y Llywodraeth hon, ac nid wyf am ymddiheuro am sôn am feddygon teulu ac eraill fel rhan o dîm gofal ehangach, ac nid wyf am wahanu un grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol oddi wrth un arall.

A allwch ddweud wrthym pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod hyfforddiant meddygon teulu yn ystyried y cyfleoedd gwych y mae technoleg newydd yn eu darparu ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yn y dyfodol? Fe fyddwch yn gwybod, rwy'n siŵr, fod yna apiau y gall pobl eu lawrlwytho bellach, ar eu ffonau symudol hyd yn oed, er mwyn cael ymgynghoriadau gyda meddyg teulu, ac mae angen i ni fod ar flaen y gad gyda hyn. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â'r datganiad hwnnw. Felly, beth yn benodol sy'n cael ei gynnwys yn y cynnig hyfforddiant cyfredol i wneud yn siŵr y bydd meddygon teulu yn gallu defnyddio'r mathau hyn o bethau yn y dyfodol?

Nid yw'r fframwaith cyfredol yn ymwneud â meddygon a hyfforddiant yn unig; mae  hefyd yn ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant sy'n digwydd drwy'r proffesiwn. Er enghraifft, yn y gynhadledd ddiweddar ar ddiogelwch meddygaeth gyda Chymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, cyhoeddais y byddwn yn cyflwyno treial i roi mwy o fynediad i fferyllwyr at gofnodion meddygon teulu, ac os yw hynny'n llwyddiannus, bydd yn cael ei gyflwyno i fferyllfeydd eraill sy'n rhan o'r rhwydwaith Dewis Fferyllfa yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Bydd angen hyfforddiant a dealltwriaeth o'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r fferyllydd yn ogystal â'r meddygon teulu eu hunain.

I fod yn deg, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yn cymryd rhan lawn yn y drafodaeth ynglŷn â sut y gellid gwneud gwell defnydd o dechnoleg gwybodaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â chyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma, i sôn am yr hyn rydym yn ei wneud eisoes a beth fydd angen i'n huchelgeisiau fod ar gyfer y dyfodol. Felly, nid yw'n fater syml o ddeall y cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gweithio mewn ffordd wahanol, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym yn gwneud hynny ar sail fwy olynol a disgwyl i feddygon teulu ac eraill allu addasu i wneud hynny yn ogystal. Ceir llawer o gyfleoedd, ond ein her fwyaf mewn llawer o ffyrdd yw sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn cadw i fyny gyda'r disgwyliad o sut y mae pobl eisoes yn byw eu bywydau heddiw. Nid ydym wedi cyrraedd lle mae angen inni fod; mae rhagor o gynnydd i'w wneud, ond rwy'n obeithiol ynglŷn â ble y byddwn wedi cyrraedd mewn ychydig flynyddoedd.

15:00
Gwasanaethau Iechyd Meddwl drwy Gyfrwng y Gymraeg

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ51458

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau unigolion. Mae ein fframwaith strategol 'Mwy na Geiriau' yn nodi ein hymrwymiad a'n camau gweithredu i gefnogi a chryfhau'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys, wrth gwrs, gwasanaethau iechyd meddwl.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae'n wir i ddweud bod yna bryder bod yna ddiffyg cefnogaeth a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i ymdrin ag iechyd meddwl yn genedlaethol yma yng Nghymru. Mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, fod unigolion sydd â salwch meddwl yn medru cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny yn yr iaith y maent fwyaf cyffyrddus yn ei defnyddio—rydych chi'n dod i ddiagnosis ynghynt ac yn gwella ansawdd y gofal yn gyffredinol. Felly, a wnewch chi gytuno i edrych ar yr hyn sydd ar gael—yn cynnwys y pecynnau meddalwedd ac electroneg sydd ar gael—er mwyn cefnogi pobl yn effeithiol, a sut y mae pethau i wella i'r dyfodol?

Gwnaf. Rwy'n hapus i ymrwymo i hynny ac rwy'n cydnabod bod hwn yn fater nad yw'n ymwneud â dewis mewn gofal, mae'n ymwneud ag angen mewn gofal; mae'r ddau yn wahanol ac mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth. Mae hefyd yn ymwneud â lle mae'r cynnig gweithredol yn digwydd, fel nad oes angen i bobl ddweud, 'Hoffwn allu cael gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg', ond bod cynnig gweithredol i bobl wneud hynny mewn gwirionedd, yn enwedig gyda gwasanaethau iechyd meddwl lle y ceir ystod o heriau sy'n rhaid i chi eu goresgyn er mwyn defnyddio gwasanaeth a chydnabod yr angen i gymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw yn ogystal. Mae eich pwynt ynglŷn â meddalwedd hefyd—mewn gwirionedd, mae gennyf waith ar y gweill eisoes ar hyn o bryd yn edrych ar y cyfleoedd ar gyfer meddalwedd, gan edrych ar yr hyn sy'n bodoli yn Saesneg ac yn Gymraeg, a cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn arfogi'r gwasanaeth iechyd a gofal yn briodol i wneud hynny. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth diweddaraf i chi ynglŷn â'n sefyllfa yn y dyfodol.FootnoteLink

Lleihau'r Risg o Strôc

6. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o bobl yng Nghymru yn dioddef strôc? OAQ51451

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer strôc yn darparu fframwaith ar gyfer camau gweithredu gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gweithio gyda'u partneriaid. Mae'n nodi disgwyliadau'r holl randdeiliaid ynghylch atal, gwneud diagnosis a thrin strôc mewn pobl o bob oed, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru a beth bynnag fo'u hamgylchiadau.

Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Y ffaith yw, yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae ffibriliad atrïaidd—mae'n fath o glefyd gyda churiad calon afreolaidd—yn gallu cynyddu'r risg o gael strôc hyd at bum gwaith. Mae'n hawdd gwneud diagnosis o ffibriliad atrïaidd ac mae triniaethau effeithiol yn bodoli i leihau'r risg o strôc. Fodd bynnag, mae nifer y bobl nad ydynt wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd ynghyd â'r nifer sydd wedi cael diagnosis ond sydd ar feddygaeth amhriodol yn golygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael strôc y gellid ei atal bob blwyddyn. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r gyfradd o achosion o ffibriliad atrïaidd a gaiff eu canfod yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael triniaeth briodol fel bod gostyngiad yn nifer y bobl sy'n wynebu'r risg o strôc yn ddiangen yng Nghymru? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod bod ffibriliad atrïaidd yn risg sylweddol mewn pobl sy'n cael strôc. Roedd archwiliad clinigol diweddaraf y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer sentinel strôc yn dangos bod gan 18 y cant o gleifion strôc Cymru ffibriliad atrïaidd cyn eu strôc. Mae gennym eisoes waith ar y gweill yn y maes hwn. Yn y datganiad blaenorol a wneuthum yn y lle hwn ar strôc a gwella strôc, crybwyllais y prosiect Atal Strôc a arweinir gan Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd hwnnw'n ymwneud yn benodol ag ymgynghorwyr yn gweithio gyda'r trydydd sector, Sefydliad Prydeinig y Galon, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar sut y mae gennych driniaeth briodol ar gyfer pobl sydd â ffibriliad atrïaidd i leihau eu risg o gael strôc, ond mae hefyd yn ymwneud â'r cynnig rhagweithiol i geisio darganfod pwy sydd â ffibriliad atrïaidd heb ei drin a heb ddiagnosis. Hyd yma, nid oedd 40 y cant o gleifion ffibriliad atrïaidd yn cael y driniaeth briodol a gallent fod wedi cael meddyginiaeth wrth-geulo i leihau eu risg o gael strôc.

Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill. Mae'r gwaith hwnnw yn awr, yn dilyn y cynllun peilot yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cael ei gyflwyno ledled y wlad. Dyma un o'r ffactorau risg y gallem ac y dylem ei reoli, ond wrth gwrs mae llawer o rai eraill. Mae'r heriau mawr sy'n wynebu iechyd cyhoeddus megis ysmygu, goryfed alcohol, ein deiet a diffyg ymarfer corff i gyd yn gallu cael effaith sylweddol ar ein risg o amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys strôc wrth gwrs. Os gallwn wneud mwy fel gwlad i newid ein hymddygiad, bydd gennym lai o bobl yn dioddef iechyd gwael yn y lle cyntaf mewn perthynas â strôc ac amrywiaeth o feysydd eraill.

15:05
Adnoddau Gofal Iechyd

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog symud adnoddau o ofal eilaidd i ofal iechyd sylfaenol? OAQ51452

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwyf newydd gyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddarparu 19 o ganolfannau iechyd a gofal integredig newydd ar draws Cymru erbyn 2021, i helpu i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl yn eu cymunedau. Rwyf wedi nodi hyd at £68 miliwn ar gyfer y canolfannau. Bydd gwaith adeiladu yn amodol ar gytuno achos busnes llwyddiannus. Y disgwyliad yw y bydd y cynlluniau hynny'n cael eu cyflwyno erbyn 2021 i wneud yn siŵr fod yr ystâd yn addas at y diben i ddarparu system iechyd a gofal integredig newydd.

Mae'r arian ar gyfer darparu ystâd gofal iechyd sylfaenol llawer mwy priodol yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ond rwyf eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn heddiw ar ddarparu gwasanaethau. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen adroddiad gan Gronfa'r Brenin ar lwyddiant Canterbury yn Seland Newydd yn cyfyngu ar y cynnydd yn y galw am wasanaethau brys oherwydd y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Roedd hyn yn cynnwys cael timau integredig, ac roedd pob un ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd yn cynnwys llawer gwell—llawer mwy o wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu 24 awr, gan gynnwys gwelyau arsylwi i sicrhau nad oedd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn amhriodol oherwydd nad oedd pobl yn siŵr a oeddent yn ddifrifol wael ai peidio, a gwasanaeth atal cwympiadau wedi'i dargedu, un o'r prif achosion pam fod pobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer triniaeth frys, fel y gwyddom. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn meddwl am wasanaeth Canterbury, Seland Newydd a'r modd y gallai ddylanwadu ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd gwn fod Caerdydd a'r Fro yn edrych yn agos iawn ar hyn. A ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth y dylai pob bwrdd iechyd edrych arno fel model ar gyfer gofal yn y dyfodol neu a ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth penodol iawn i Gaerdydd a'r Fro?

Na, nid wyf yn credu ei fod yn rhywbeth penodol i Gaerdydd a'r Fro. Credaf fod amrywiaeth o elfennau, yn y DU ac yn rhyngwladol, ynghlwm wrth y gofyniad i symud hyd yn oed yn fwy tuag at system a arweinir gan ofal sylfaenol, a symud nid yn unig o wasanaethau wedi'u lleoli mewn ysbytai at wasanaethau wedi'u lleoli yn y gymuned, ond mewn gwirionedd, symud adnoddau'n briodol er mwyn galluogi hynny i ddigwydd hefyd. Rydym wedi gweld rhywfaint o hynny'n digwydd eisoes yng Nghymru—ac mae cardioleg gymunedol yn enghraifft dda. Yr hyn rwy'n ei ystyried yn addysgiadol am Canterbury yw ei fod wedi cymryd penderfyniad a chysondeb. Mae'r hyn y mae Canterbury wedi'i gyflawni wedi digwydd dros ddegawd, ac mae yna rywbeth yno am yr her i bob un ohonom fel llunwyr polisi a gwneuthurwyr penderfyniadau, rhai sy'n craffu ac aelodau o'r Llywodraeth, sef bod deall yr her yn llawer haws na deall yr ateb, ac mewn gwirionedd, mae sut y cyrhaeddwn y pwynt hwnnw yn aml yn cymryd amser. Felly, mae'r ddegawd y mae Canterbury wedi'i gymryd—. Rydym eisoes wedi gwneud camau yng Nghymru, nid yn unig gyda fy rhagflaenydd uniongyrchol yn yr ystafell ond Gweinidogion iechyd eraill wrth geisio symud adnoddau i ofal sylfaenol a chael ffocws llawer gwell ar geisio troi cefn ar y syniad mai ysbytai'n unig yw'r gwasanaeth iechyd.

Dyna'r llwybr rydym wedi'i osod i ni'n hunain. Dyna pam rwyf wedi gwneud yn siŵr fod gofal sylfaenol yn cael sylw cenedlaethol. Dyna pam ein bod wedi cynnal cynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol. Ond mae'n dweud rhywbeth am yr amser y mae Gweinidogion yn barod i'w dreulio yn cyfarwyddo'r gwasanaeth a dweud, 'Dyma'r cyfeiriad y mae'n rhaid i ni ei ddilyn er mwyn cael mwy o ofal yn nes at adref', ac rwy'n llawn ddisgwyl y bydd yr arolwg seneddol, pan fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn dweud mwy am gael gwasanaeth a arweinir gan ofal sylfaenol ac mai integreiddio ar y lefel leol iawn honno yw'r llwybr sy'n rhaid inni ei ddilyn os ydym am wneud rhywbeth ynglŷn â datrys ein heriau iechyd cyhoeddus a hefyd os ydym am ddarparu gofal o'r ansawdd cywir ym mhob un o'n cymunedau ledled y wlad.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau amserol, â chwestiwn David Melding.

Catrefi Newydd yng Nghymru

1. O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? 87

Mae gennym duedd gadarnhaol hirdymor mewn perthynas ag adeiladu tai yng Nghymru, a'r realiti yw bod nifer yr anheddau newydd y dechreuwyd eu hadeiladu yng Nghymru wedi cynyddu 2 y cant yn 2016-17, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dyma'r ail nifer flynyddol uchaf a gofnodwyd ers dechrau'r dirwasgiad yn 2007.

O'r mawredd. [Chwerthin.] Weinidog, gadewch i ni atgoffa ein hunain, ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf, sef hyd at fis Medi 2017, sydd newydd fod, mai'r ffigur yw 6,830. Mae hwnnw'n ostyngiad ers y flwyddyn flaenorol, a oedd yn 6,900. Ond gadewch i mi atgoffa pawb yma: eich targed yw 8,700—8,700. Rydych bron â bod 2,000 yn is na hynny, ac mae 10 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth hon gyflawni ei tharged ar gyfer cartrefi newydd. Nid yw'n dderbyniol o gwbl. Mae gennych adroddiad Holmans, ac mae wedi gan y Llywodraeth ers nifer o flynyddoedd, sef un o'r adroddiadau mwyaf awdurdodol a gynhyrchwyd erioed ar yr angen am dai, a oedd yn dweud y dylai'r Llywodraeth hon ystyried mabwysiadu'r amcanestyniad amgen a gyfrifwyd gan yr Athro Holmans, sef 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru rhwng nawr a 2030—nid 8,700, ac rydych yn methu'n llwyr â chyrraedd y nod hwnnw beth bynnag, ond 12,000. Onid ydych yn cytuno ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru dderbyn yr amcanestyniad amgen, o leiaf, fel y gallwn ddechrau gwneud cynnydd mewn perthynas â'r argyfwng tai?

15:10

Wel, mae Llywodraeth Cymru, fel y byddwch yn gwybod yn iawn, wedi ymrwymo i fynd ar drywydd pob llwybr er mwyn creu ac adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy yn enwedig, gyda'n targed o 20,000 dros dymor y Cynulliad hwn, ond hefyd cartrefi i'w gwerthu yn y farchnad yn ogystal. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y bydd y sector busnesau bach a chanolig yn ei chwarae o ran cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y sector tai, felly yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer cronfa datblygu eiddo Cymru, a bydd hwnnw'n cynorthwyo datblygwyr bach a chanolig i adeiladu cartrefi, a gwyddom fod y sector hwnnw wedi cael ergyd arbennig o wael yn sgil y dirwasgiad. Mae hynny mewn gwirionedd yn golygu pedair gwaith y buddsoddiad cychwynnol yn y sector penodol hwnnw ac mae disgwyl y bydd yn darparu dros £270 miliwn o gymorth ar gyfer y sector dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae hynny yn ychwanegol at ein hymrwymiad i wario £1.4 biliwn ar dai yn ystod y Cynulliad hwn, felly nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru yn sicr yn rhoi ei hadnoddau ariannol y tu ôl i hyn ac yn gweithio gyda'r holl sectorau er mwyn adeiladu cartrefi, dysgu o'r hyn a wnaethom yn y Cynulliad blaenorol o ran y cytundeb cyflenwad tai a oedd gennym gyda Cartrefi Cymunedol Cymru. Bu hwnnw o gymorth i ni gyflawni ein targed o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae gennym gytundeb yn awr gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond hefyd mae gennym gytundeb gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ogystal, felly rydym yn gyson yn ceisio archwilio sut y gallwn weithio gyda phartneriaid newydd i gynyddu nifer y tai a gaiff eu hadeiladu ledled Cymru.

Y Dreth Trafodiadau TIr

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018? 92

Mae newidiadau diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dreth dir y dreth stamp wedi arwain at gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i mi wneud rhai newidiadau a fydd yn golygu bod tua 90 y cant o’r rhai sy’n prynu cartrefi yng Nghymru yn talu naill ai'r un faint neu lai o dreth na’r hyn y byddai wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith ei fod ef wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig dydd Llun ynglŷn â'r materion hyn, ond rydw i'n credu, wrth i ni edrych ar drethi sydd wedi'u datganoli i'r Cynulliad am y tro cyntaf, mae'n briodol ein bod ni'n cael cyfle cyn y Nadolig i rannu'r newyddion da neu ddrwg gyda phreswylwyr trwy Gymru ben baladr. Diolch am gadarnhau bod 90 y cant o brynwyr tro cyntaf, felly, heb gael eu heffeithio, neu, os ydynt yn cael eu heffeithio, maen nhw'n cael eu heffeithio mewn ffordd gadarnhaol gan y newid yma.

Os caf i ofyn i chi jest ddau gwestiwn penodol: a ydych chi wedi cael cyfle i wneud proffil o'r arian a fydd yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru oherwydd y newidiadau yma, ac a ydych chi, felly, o'r farn, pan fyddem ni'n dod i bleidleisio ar y gyllideb derfynol yn y flwyddyn newydd, na fydd angen newid dim byd yn y gyllideb honno? A ydych chi hefyd wedi manteisio ar y cyfle i fodelu effaith y newid yma ar brisoedd tai yng Nghymru? Byddwch chi'n cofio bod y Swyddfa ar gyfer Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud bod cyflwyno'r rhyddhad yma ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn codi prisoedd tai dros y Deyrnas Gyfunol, neu, yn hytrach, dros Gymru a Lloegr, ac rwy'n credu yr oedden nhw'n awgrymu hyd at 1 y cant o godiad mewn pris tai, sydd, wrth gwrs, yn gwneud tai hyd yn oed yn bellach i ffwrdd o rai prynwyr tro cyntaf. Gan nad ŷch chi'n gwneud hynny fan hyn, a ydych chi'n gallu modelu hynny ac effaith hynny ar brisoedd tai yng Nghymru ac a fydd yna adroddiad gan Brifysgol Bangor yn edrych ar hyn i ddiweddaru'r sefyllfa erbyn i ni bleidleisio ar y gyllideb?

Wel, diolch i Simon Thomas am y ddau gwestiwn ychwanegol hynny.

Lywydd, hoffwn ddweud y bydd y rhagdybiaethau sylfaenol sydd wrth wraidd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud mewn perthynas â threthi datganoledig yn destun craffu annibynnol gan Brifysgol Bangor yn y ffordd a awgrymodd Simon Thomas. Rwyf wedi ymrwymo. Dywedais wrth y Pwyllgor Cyllid y buaswn yn gwneud fy ngorau i sicrhau y byddwn, ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol ar 19 Rhagfyr, yn cyflwyno asesiadau diweddaredig Bangor, sy'n ystyried y newidiadau a wnaethom, a byddant yn profi'r rhagdybiaethau hynny fel bod Aelodau'r Cynulliad yn gweld y rhagdybiaethau a wnaethom a'u hystyriaeth annibynnol ohonynt.

Mae Simon Thomas yn gywir, wrth gwrs, i gyfeirio at yr hyn a ddywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â phenderfyniad y Canghellor i godi'r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yn Lloegr ar brisiau yn y farchnad. Mae yna dystiolaeth flaenorol, pan gafwyd cyfradd flaenorol ar gyfer prynwyr tro cyntaf, nad arweiniodd at filiau is i brynwyr ond yn hytrach at brisiau uwch i werthwyr. Byddwn yn cadw golwg ofalus ar hynny yma yng Nghymru. Mae fy mhenderfyniad i godi'r trothwy cychwynnol i unrhyw un sy'n prynu cartref yng Nghymru gwerth £180,000 neu lai o leiaf yn gwarantu nad yw pobl eraill y tu hwnt i brynwyr tro cyntaf yn cael eu cosbi ddwywaith—hynny yw yn sgil y ffaith nad oes rhyddhad ar gael iddynt ond eu bod yn gorfod talu'r prisiau uwch y gallai gwerthwyr ofyn amdanynt.

15:15

Hoffem ni, ar y meinciau hyn, groesawu'r cynnydd yn y swm di-dreth hyd at £180,000. Yn yr un modd, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r toriad treth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a sicrhaodd fod yr arian hwn ar gael iddo? A wnaiff ystyried a yw datganiad ysgrifenedig yn ddigon mewn gwirionedd i gyhoeddi newidiadau yn y cyfraddau treth, wrth iddo ystyried y gweithdrefnau ariannol sy'n esblygu yn y Cynulliad hwn?

A gaf fi hefyd ofyn a yw mewn cystadleuaeth dreth â Lloegr bellach? Credaf y gallai'r cynnydd hwn i £180,000 liniaru'r risg y bydd prynwyr tro cyntaf yn ystyried prynu dros y ffin o bosibl, ond mewn gwirionedd mae pobl sy'n prynu am yr ail dro neu fwy na hynny—a yw'n credu y bydd y gostyngiad o hyd at £1,100 ar gartref gwerth £180,000 yn ddigon i annog pobl i ddod i brynu yng Nghymru? Ac a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei groesawu?

A allai egluro hefyd: a yw hwn yn ddatganiad mawreddog o wleidyddiaeth flaengar, yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r dreth trafodion tir, neu a yw ond yn gyfliniad synhwyrol o'r cyfraddau treth ar lefel prisiau tai sy'n gyffredin yng Nghymru?

Yn olaf, yr wythnos diwethaf, dywedodd y byddai'r gyfradd fasnachol o 6 y cant yn arwain at godi ychydig o filoedd yn unig. Ar sail data gwahanol a gawsom gan ei adran, rydym yn cyfrifo y bydd yn £2.7 miliwn y flwyddyn fan lleiaf. A allai edrych eto ar ei gyfrifiadau, ac a allai barhau i adolygu'r gyfradd honno o 6 y cant o ystyried ei heffaith ar ddatblygu ledled Cymru?

Wel, Lywydd, gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i benderfyniad Canghellor y Trysorlys mewn perthynas â phrynwyr tro cyntaf yn Lloegr. Gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian hwnnw at yr un diben fwy neu lai yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r anhwylustod rydym yn ei wynebu gyda'n cyllideb ddrafft yn cael ei gosod ar ddechrau mis Hydref ac yna digwyddiad mawr ar lefel y DU hanner ffordd drwyddi. Fy uchelgais oedd gallu cyflwyno gwybodaeth gerbron y Cynulliad mor gynnar ag y gallwn. Datganiad ysgrifenedig oedd y ffordd ymarferol o wneud hynny. Ni fydd y rheoliadau a fydd yn rhoi hyn i gyd mewn grym yn ymddangos gerbron y Cynulliad hwn tan y flwyddyn newydd, a bydd cyfle llawn i'r Aelodau graffu ar y rheoliadau bryd hynny.

Rwy'n gwrthod y syniad ein bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dreth yn llwyr. Yr hyn y mae datganoli treth trafodion tir i Gymru yn ei wneud yw caniatáu i ni gynllunio'r dreth hon mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Deallaf fod Canghellor y Trysorlys, pan oedd yn rhaid iddo wneud penderfyniad ar sail Cymru a Lloegr, yn gorfod ystyried prisiau tai yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn ogystal â phrisiau tai ym Merthyr a Blaenau Gwent, yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddo fabwysiadu dull bras iawn felly lle nad yw rhai o'r ffigurau hynny'n berthnasol i'n hamgylchiadau. Mae cael y dreth yn ein dwylo ni yma yng Nghymru yn golygu fy mod wedi gallu gosod trothwyon sy'n adlewyrchu prisiau tai yma yng Nghymru. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yn Lloegr yn talu unrhyw dreth o gwbl o ganlyniad i benderfyniad y Canghellor. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o ganlyniad i'r trothwy a osodais yma yng Nghymru.

Nid yw'r penderfyniadau rwyf wedi'u gwneud yn rhan o ddatganiad mawreddog, Lywydd. Maent yn rhan o gyhoeddiad wedi'i lunio'n ofalus lle rwyf wedi ceisio glynu wrth yr ymrwymiadau a roesom y byddwn yn dechrau ar daith y trethi datganoledig mewn modd gofalus sy'n canolbwyntio ar wneud gwaith cymwys, ac sy'n caniatáu i'r bobl sy'n gorfod gwneud y gwaith ymarferol i gael system ar ôl 1 Ebrill y maent yn ei hadnabod cystal â'r un y maent yn ei defnyddio ar hyn o bryd, ond gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar roi'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

15:20
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Parhaol i Fusnesau Bach

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad ysgrifenedig? 93

Heddiw, cyhoeddais y bydd cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol yn cael ei gyflwyno o 1 Ebrill 2018, sy'n darparu sicrwydd a diogelwch ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Mae'r cynllun yn targedu cefnogaeth i fusnesau, yn cefnogi swyddi a thwf, a chyflawni manteision ehangach i'n cymunedau lleol. 

Ar adeg etholiad y Cynulliad, roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn addo,

'Byddwn yn cynnig toriad treth i bob busnes bach yng Nghymru'.

Rwy'n tybio mai hwn yw'r cyhoeddiad polisi sydd wedi'i gynllunio i roi effaith i'r addewid hwnnw. Nawr, gallai hynny fod wedi cael ei gyflawni mewn amryw o ffyrdd—drwy godi'r trothwyon isaf ac uchaf ar gyfer rhyddhad a chynyddu'r gyfradd, gan gyflwyno lluosydd hollt rhwng busnesau bach a mwy. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau nad yw wedi gwneud yr un o'r pethau hynny? Ac felly, i bob pwrpas, yn ôl fy nghyfrif i, bydd cyfran y busnesau bach a fydd yn elwa o'r rhyddhad y mae wedi'i gyhoeddi o gwmpas 70 y cant, ac nid pob busnes bach yng Nghymru, fel roedd yr addewid yn awgrymu.

O ran manylion yr hyn y mae wedi'i gyhoeddi, a allai roi ychydig mwy o fanylion am y cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cynlluniau ynni dŵr bach? Roeddwn yn falch iawn o weld hwnnw. Roedd yn rhan o gytundeb y gyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Ond a allem gael mwy o fanylion mewn perthynas â hwnnw? Rwy'n tybio bod y cyfeiriad at y cyflog byw yn gyfeiriad at y cyflog byw go iawn, nid y cyflog byw cenedlaethol. Ac o ran y flaenraglen waith, y syniadau ar gyfer archwilio yn y dyfodol, ymddengys bod awgrym y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn amodol yn y dyfodol. A yw'n rhagweld y bydd yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â rhai o'r meini prawf a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd ddoe o ran y cytundeb economaidd rhwng busnesau sy'n ceisio buddsoddiad a'r Llywodraeth?

Diolch i Adam Price am y cwestiynau ychwanegol hynny. Lywydd, 70 y cant o eiddo busnes yng Nghymru sy'n cael cymorth gyda'u biliau ardrethi, ac nid yw mwy na hanner y rheini yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Nid 70 y cant o fusnesau bach ydyw. Mae'n 70 y cant o bob busnes. Dyna pam fod y mwyafrif helaeth—buaswn yn dweud ei bod yn anodd dod o hyd i fusnesau bach nad ydynt yn elwa o'r cymorth a ddarperir yma yng Nghymru, a'r hyn rydym wedi'i gyhoeddi yma heddiw yw bod y cymorth hwnnw yn ffynhonnell o gymorth parhaol, nid cynllun, fel y bydd yr Aelodau yma'n gwybod, y bu'n rhaid ei gyflwyno gerbron y Cynulliad bob blwyddyn heb unrhyw sicrwydd y byddai ar gael y flwyddyn wedyn.

Mae'r Aelod yn gywir yn dweud nad wyf yn argymell newid y trothwyon yn y newidiadau rydym yn eu gwneud heddiw, nac yn wir yn argymell cyflwyno lluosydd hollt. Cafodd y syniad o luosydd hollt ei wrthwynebu yn eithaf cadarn yn yr ymgynghoriad a gawsom ar newid y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach. Roedd yna ymdeimlad cryf yn hynny o beth fod y ffaith bod gennym luosydd sengl yng Nghymru yn un o'r pethau sy'n ein helpu i ddenu pobl i sefydlu busnesau yma. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr y cytunasom arno â Phlaid Cymru y llynedd ar sail untro—ein bod yn gallu dod o hyd i £5 miliwn i ymestyn hwnnw am flwyddyn arall. Bydd yn hanner y swm y gallem ei gynnig yn ystod y flwyddyn hon, ond bydd yn caniatáu i fusnesau ar y stryd fawr gael cymorth pellach yn 2018-19. Rwy'n falch o gadarnhau hefyd y bydd y pecyn hwn yn ein galluogi i ddarparu cymorth ychwanegol ym maes cynlluniau ynni dŵr bach, ac mae trafodaethau manwl ar y gweill ar hyn o bryd rhwng swyddogion polisi a'r sector ar gynllunio'r cymorth hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Lywydd, mae Adam Price yn gywir yn nodi, yn y wybodaeth rydym wedi'i chyhoeddi heddiw, fy mod i hefyd wedi gosod cyfres o syniadau rydym am barhau i'w harchwilio. Ni ddylid drysu'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i gynllun parhaol—bydd yna bob amser gynllun—â chred na fydd y cynllun sydd gennym heddiw byth yn cael ei newid yn y dyfodol. Mae yna lawer o ffyrdd defnyddiol y credaf y gellid datblygu'r cynllun ymhellach. Ymhlith y syniadau—ac maent yn syniadau i'w trafod gyda'r sector—mae cyfres o syniadau sy'n deillio o adolygiad Barclay o ardrethi busnes a gynhaliwyd yn yr Alban eleni, a'r syniad, sydd wedi'i ddatblygu yn yr Alban eisoes er nad yw wedi cael ei roi ar waith yn llawn, o gysylltu'r cymorth y mae busnesau yn ei gael o bwrs y wlad ag amcanion allweddol polisi cyhoeddus. Sut y buasem yn gwneud hynny: yn sicr mae'r cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd ddoe yn cynnwys rhai ffyrdd y gallem wneud y cysylltiad hwnnw, a gallai'r gwaith y mae'r bwrdd gwaith teg yng Nghymru yn ei wneud ddarparu cyfres arall o ffyrdd inni allu cysylltu'r taliadau y mae cwmnïau'n eu cael o bwrs y wlad â bod yn hyderus eu bod yn cyflawni eu busnes mewn ffordd sy'n gyson â'n hamcanion polisi.

15:25

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf fi hefyd wedi bod yn bwrw golwg dros ddatganiad ysgrifenedig ddoe ac roedd angen dybryd am gynllun rhyddhad ardrethi busnes parhaol o'r math rydych wedi'i nodi, felly rydym yn croesawu sefydlogrwydd y cynllun newydd. Dros y misoedd diwethaf—a blynyddoedd, mae'n debyg, bellach—rwyf wedi codi rhai o'r problemau y mae busnesau bach, a busnesau ar y stryd fawr yn enwedig yn fy etholaeth ym Mynwy a Chas-Gwent, wedi bod yn eu hwynebu yn sgil peth o'r cynnydd rhyfeddol a welsant mewn ardrethi busnes. Gwn fod hynny y tu hwnt i'ch rheolaeth chi mewn llawer o ffyrdd, ond mae'r cynllun rhyddhad rydych yn ei weithredu o fewn eich rheolaeth.

Fel y dywedoch chi wrth ateb y cwestiwn diwethaf, rydych yn gallu llunio hwnnw fel ei fod yn diwallu anghenion Cymru a'r cyd-destun Cymreig. Rwy'n rhannu pryder Adam Price nad yw'r cynllun newydd hwn yn ticio'r blychau i gyd ac y bydd yna fannau gwan, fel petai, mewn trefi a strydoedd mawr, yn enwedig yn fy etholaeth i, ac mewn rhai mannau eraill. A wnewch chi o leiaf ymrwymo y byddwch yn parhau i adolygu'r system newydd, fel y bydd yn barhaol, ond fel na fydd yn anhyblyg, ac yn y dyfodol, os byddwch yn cael cyngor sy'n dweud bod angen ei newid a'i ddiwygio, y byddwch yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl?

Rwy'n hapus iawn yn wir i roi'r sicrwydd hwnnw. Rwyf eisiau i'r cynllun fod yn ddatblygiadol. Rwyf eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd lle y gallwn ei wella ymhellach yn y dyfodol. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda Changhellor y Trysorlys mewn perthynas â'r cyhoeddiad a wnaeth yn y gyllideb ynglŷn ag ailasesiadau amlach, fel nad ydym yn cael y newidiadau mawr hyn mewn rhai rhannau o'r wlad pan fo ailbrisio ond yn digwydd unwaith bob pum mlynedd. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith y bydd y cymorth ychwanegol rydym yn gallu ei gynnig drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr bellach yn parhau yn 2018-19 i gynorthwyo'r lleoedd hynny a welodd gynnydd mawr yn eu hardrethi busnes i ymdopi â hynny dros gyfnod hwy o amser.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi mai arwydd o dreth wael, yn gyffredinol, yw gorfod darparu nifer fawr o ostyngiadau ac eithriadau? Er bod y mesurau a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn rhai i'w croesawu'n fawr, nid ydynt yn mynd at  wraidd y broblem mewn gwirionedd. Mae cymorth ychwanegol ar gyfer y sector gofal plant yn effeithio ar 100 o fusnesau o bron i 4,400, ac i awdurdodau lleol, mae £1.3 miliwn wedi'i rannu rhwng 22 yn golygu llai na £60,000 i bob awdurdod. Fel y dywedodd Nick Ramsay eiliad yn ôl, bydd llawer o fusnesau bach yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i'r system gyfredol, ac mae unrhyw dreth nad yw'n gysylltiedig â'r gallu i dalu yn sicr o gynhyrchu'r mathau hyn o anghysonderau. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag adolygiad Barclay yn yr Alban a ffyrdd lle y gallwn addasu'r system gyfredol, ond mae'n rhaid i ni naill ai gael system lle rydym yn eithrio nifer lawer mwy o fusnesau neu gynllunio treth hollol newydd sy'n cael gwared ar rai o elfennau mwy annerbyniol y dreth gyfredol. Rwy'n sylweddoli bod hwnnw'n ateb hirdymor i'r broblem, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet o leiaf yn ymrwymo i edrych ar y posibilrwydd o gael math gwell o dreth i drethu busnesau, sy'n fwy cysylltiedig â'r gallu i dalu na'r model cyfredol, sydd, fel y gwyddom, wedi bodoli ers amser hir iawn, ac sy'n cynhyrchu'r problemau y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â hwy heddiw yn rheolaidd?

15:30

Wel, Lywydd, nid wyf yn credu bod llawer o ysbryd y Nadolig yng nghwestiwn yr Aelod, oherwydd credaf fod y cymorth ychwanegol ar gyfer darparwyr gofal plant wedi'i groesawu gan y sector hwnnw, ac mae'n gyson â pholisi'r Llywodraeth hon o allu darparu lefel estynedig o gymorth gofal plant i rieni sy'n gweithio. Rhoddir yr arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i barhau i ddefnyddio eu pwerau disgresiwn. Rydym yn gwybod bod eu cyllidebau o dan bwysau, ac mae rhai o'r meysydd lle mae ganddynt ddisgresiwn i gynnig rhyddhad wedi dod o dan bwysau o ganlyniad i hynny. Bydd yr arian ychwanegol hwnnw yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol, lle mae angen y cymorth hwnnw fwyaf.

Credaf y dylwn fod wedi crybwyll hefyd, Lywydd, fy mod, yn y cyhoeddiad, wedi'i gwneud yn glir fy mod wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd wedi dod i Gymru yn y gyllideb i newid y ffordd y caiff trethi busnes eu cyfrifo yng Nghymru drwy'r cynnydd blynyddol—ei symud o'r mynegai prisiau manwerthu i fynegai prisiau defnyddwyr. Bydd hynny ynddo'i hun yn werth £9 miliwn i fusnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a £22 miliwn i fusnesau yn y flwyddyn wedyn, ac mae hwnnw'n gymorth ychwanegol sylweddol iawn i fusnesau yma yng Nghymru.

O ran y pwynt cyffredinol y mae Mr Hamilton yn ei godi, fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud ein bod eisoes wedi ymrwymo i fwrw golwg mwy sylfaenol ar y dull o godi trethi yn y maes hwn. Mae pa un a fyddwn yn gallu ei wneud mewn ffordd sy'n cysylltu'r gallu i dalu â threthi a delir yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno. Ond o ran trethiant gwerth tir, dadleuir yn aml y byddai'n well i chi, yn ymarferol, geisio ei gyflwyno ym maes ardrethi annomestig, yn hytrach na cheisio ei wneud ym maes ardrethi domestig, yn y lle cyntaf—rydym yn bendant wedi ymrwymo i ymchwil a fydd yn edrych ar y materion ymarferol y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hwy, pe bai'r ffordd honno o godi arian yn well na'r system sydd gennym ar hyn o bryd.

Pwynt o Drefn

Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau codi pwynt o drefn mewn perthynas â'r ffrwd warthus o rethreg homoffobig a ddaeth o enau Gareth Bennett yn y Siambr hon ddoe, wrth sôn am—yn eironig—y ddadl ar adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. A siaradodd am hawliau lleiafrifoedd fel hawliau sy'n perthyn i un unigolyn yn cael eu gwrthod i un arall, sy'n tanseilio hawliau dynol. Ond mae wedi achosi dicter, ac rwyf wedi cael galwadau ffôn a negeseuon y bore yma gan y gymuned drawsryweddol. Mae wedi achosi camddealltwriaeth pellach, ac yn ôl y gymuned honno, mae, o bosibl, wedi hybu casineb pellach yn erbyn yr unigolion hynny.

Felly, rwyf eisiau gofyn iddo ddod i'r Siambr hon, ac ystyried y geiriau y mae wedi'u dweud, ac ymddiheuro amdanynt. Ac rwyf eisiau gofyn i UKIP sicrhau na fydd yn rhaid i ni eistedd yma a gwrando ar rethreg o'r fath byth eto yn y Siambr hon, sydd mewn gwirionedd yn ymfalchïo yn ei hagwedd at gydraddoldeb. Teimlaf ei bod yn bwysig fy mod, fel Comisiynydd y Cynulliad dros gydraddoldeb a phobl, yn anfon neges glir iawn at y gymuned ehangach, os ydynt yn dod yma i weithio, neu i helpu mewn unrhyw ffordd o gwbl, y byddant yn cael eu croesawu a'u trin ag urddas a pharch llwyr.

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am godi hyn fel pwynt o drefn. Rwyf wedi cael y cyfle fy hun i edrych eto ar y cyfraniad a wnaed ddoe gan Gareth Bennett, ac roedd rhai o'r sylwadau yn arbennig o gas tuag at y gymuned drawsryweddol. Nid yw'r Siambr hon yn blatfform i ddifrïo dinasyddion Cymru, ac mae pawb yn haeddu ein parch a'n dealltwriaeth.

Cawsoch wybod y byddai'r pwynt o drefn hwn yn cael ei wneud, Gareth Bennett, a hoffwn roi'r cyfle i chi dynnu'r sylwadau a wnaethoch ddoe yn ôl ac ymddiheuro i'r Siambr hon ac i'r rheini sydd wedi eu cythruddo.

15:35

Diolch i chi, Lywydd. Ni fydd unrhyw ymddiheuriad. Ni fyddaf yn tynnu fy sylwadau yn ôl.

Ymhellach i'r pwynt hwnnw o drefn, Lywydd, rwy'n pryderu am eich dyfarniad heddiw, oherwydd rwyf wedi darllen yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett ddoe—nid oeddwn yn y Siambr ar gyfer yr araith—ac mae'n ymddangos i mi mai pwynt dadl yw hwn yn hytrach na phwynt o drefn. Mae'r sylwadau a wnaed gan Gareth ddoe i'w gweld yn gysylltiedig â Bil arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin, y Bil cydnabod rhywedd, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, mae'n debyg, erbyn tymor yr hydref y flwyddyn nesaf. Os na allwn ddadlau ynghylch y materion sy'n cael eu cynnwys mewn Bil y bwriedir iddo gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, yna credaf fod hynny'n cyfyngu ar hawliau democrataidd y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cynrychioli gan y rhai y maent yn eu hethol i'r lle hwn. Nawr, mae'n bosibl iawn fod yr hyn y mae Aelodau yn ei ddweud mewn areithiau yn gallu achosi dicter mewn rhai rhannau o'r gymuned, ond dyna beth y mae dadl ddemocrataidd yn aml yn ei olygu.

Hoffwn i chi, os gwnewch chi, nodi beth yn union a ddywedodd Gareth yn ei araith ddoe, pa eiriau'n union, rydych yn eu gwrthwynebu mewn perthynas â Rheolau Sefydlog y Cynulliad.

Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Byddwch yn gwybod na wneuthum ymyrryd ddoe. Rwy'n cymryd hawl Aelodau Cynulliad i wneud sylwadau yn y Siambr hon nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n llwyr gan Aelodau eraill yn ddifrifol iawn. Ond ar ôl myfyrio'n ofalus ynghylch y geiriau hynny a ynganwyd ddoe, nid oes gennyf amheuaeth yn fy meddwl fy hun eu bod yn arbennig o gas tuag at bobl drawsryweddol, gan gyfeirio'n benodol at 'wyro oddi wrth y norm'. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar hyn. Rwyf wedi gofyn i'r Aelod ymddiheuro ac i dynnu ei sylwadau yn ôl. Mae wedi dweud na fydd yn gwneud hynny. Ni fydd yr Aelod yn cael ei alw yn y Siambr hon yn 2018 hyd nes y bydd wedi gwneud hynny.

Felly, rydym yn symud ymlaen at y datganiadau 90 eiliad—

Na, nid wyf yn derbyn pwyntiau pellach o drefn ar hyn heddiw—

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad. Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd.

Mae'r gylfinir yn arbennig. Mae'n un o'n rhydyddion mwyaf gyda chri swynol hardd, ond mae'r rhywogaeth hon o adar mewn trafferthion difrifol ar draws rhannau helaeth o Brydain. Rhwng 1994 a 2016, cafwyd gostyngiad o 68 y cant ym mhoblogaeth y gylfinir yng Nghymru. Mae'r DU yn cynnal hyd at chwarter y boblogaeth fyd-eang o ylfinirod ac ystyrir bellach mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth bwysicaf mewn perthynas â chadwraeth adar yn y DU. Mewn ymateb, mae'r RSPB wedi cychwyn prosiect rheoli arbrofol ar gyfer y gylfinir i brofi a all pecyn cyfunol o reoli cynefinoedd a rheoli ysglyfaethwyr adfer poblogaethau o ylfinirod ar eu tiroedd nythu. Mae hyn yn cynnwys chwe maes astudiaeth yn y DU, gan gynnwys yr un yn ucheldiroedd gogledd Cymru y bûm yn ymweld ag ef y llynedd.

Yn ogystal â bod yn hyrwyddwr rhywogaeth dros y gylfinir, yn ddiweddar hefyd mynychais gyflwyniad y cynllun Curlew Country yn swydd Amwythig, sef prosiect tir isel i adfer gylfinirod yn Sir Amwythig a'r Gororau, lle rydym wedi gweld gostyngiad o 30 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn hefyd wedi pwysleisio'r angen i reoli ysglyfaethwyr, lle mae llwynogod a moch daear yn bennaf gyfrifol am ddifa wyau.

Maent yn galw am fwy o fonitro a monitro gwell o ylfinirod sy'n nythu, y defnydd o ffensys trydan i amddiffyn nythod, cymorth drwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol i ffermwyr sydd â gylfinirod yn nythu ar eu tir, a magu cywion mewn caethiwed cyn eu rhyddhau i'r gwyllt.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges.  

Cynnig NDM6611 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ein hymchwiliad i bolisïau coetiroedd yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor, Mark Reckless, a chyn-aelodau'r pwyllgor, Vikki Howells, Siân Gwenllian a Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn, a chafodd y rhan fwyaf ohono ei wneud cyn i mi ddod yn Gadeirydd y pwyllgor.

Mae ein hadroddiad yn seiliedig ar farn arbenigol gan randdeiliaid o'r diwydiant a grwpiau amgylcheddol. Hefyd, ymwelodd y pwyllgor â Choetir Ysbryd Llynfi ym Maesteg, lle buont yn siarad â phobl sy'n trefnu cyfranogiad cymunedol mewn coetiroedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu tuag at yr ymchwiliad hwn.

Yn gyffredinol, canfu'r ymchwiliad fod rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfeiriad polisi strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' Llywodraeth Cymru yn briodol. Fodd bynnag, roeddent i gyd yn galw am ei adnewyddu ar frys er mwyn cynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.

Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig ynglŷn â gohebiaeth ddilynol â'r Gweinidog amgylchedd. Ysgrifennodd y pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet yn gynnar ym mis Hydref i ofyn am eglurhad ar yr ymatebion i nifer o'r argymhellion cyn y ddadl hon. Ysgrifennodd y pwyllgor am yr eildro i bwysleisio pwysigrwydd cael eglurhad ar yr ymatebion cyn y ddadl hon. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n ymateb yn llawn i'r materion a godwyd yn ystod y ddadl.

Gan droi'n ôl at ein hadroddiad, daw argymhellion y pwyllgor o dan dair thema gyffredinol: cynyddu plannu ac ehangu'r sector coedwigaeth fasnachol; cynyddu mynediad at goetiroedd a manteision cymunedol coetiroedd; a manteisio i'r eithaf ar y manteision amgylcheddol sy'n deillio o gael mwy o goed.

O ran plannu mwy, yr angen i gynyddu cyfraddau plannu yn sylweddol oedd y flaenoriaeth allweddol ar gyfer pob un o'n rhanddeiliaid. Yn 2010, roedd strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn galw am gyfradd blannu gyfartalog o 5,000 hectar bob blwyddyn. Erbyn 2015, nid oedd cyfanswm y plannu newydd ond wedi cyrraedd 3,200 hectar. Achosodd y diffyg enfawr hwn i'r corff diwydiant ddweud wrthym fod creu coetiroedd yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus.

Beth yw'r rhwystrau i blannu? Yn ôl y sector coedwigaeth fasnachol, y rhwystr mwyaf i blannu coetiroedd oedd yr hyn a ddisgrifient fel gorfodaeth rhy drylwyr o'r rheoliadau ynghylch asesiadau o'r effaith amgylcheddol. Roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod bod hon yn broblem, ac roeddem yn argymell y dylid gwneud cynnydd fel mater o frys.

Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod yn cael eu rhwystro rhag plannu coetir oherwydd bod cynlluniau coetiroedd Glastir yn rhy gymhleth a chyfarwyddol ac oherwydd bod y taliadau yn isel o'u cymharu â'r taliadau a geir am dir amaethyddol. Credwn fod cyfle yn y dyfodol i ailystyried y dull o dalu, gan gynnwys taliadau am wasanaethau ecosystemau—gallai arloesedd o'r fath gymell plannu.

Ceir nifer o elfennau cadarnhaol: mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir, sy'n dangos yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd newydd, yn fan cychwyn da. Mae ganddo botensial i gael ei ddatblygu'n offeryn gwneud penderfyniadau. Os gellir ei gyflinio â'r broses reoleiddio a phroses gynllunio awdurdodau lleol, gallai alluogi coetiroedd i gael eu creu ar lawr gwlad. Un enghraifft o hyn fyddai pe bai modd llacio rhwystrau rheoleiddiol ar gyfer ardaloedd a nodwyd gan y map fel yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd. Rhywbeth arall a allai fod yn fuddiol o bosibl, pan fydd gennym gynlluniau datblygu lleol, yw y gallent nodi tir o fewn y cynllun datblygu lleol a fyddai'n addas ar gyfer plannu coedwigoedd mewn gwirionedd. Er nad yw'n angenrheidiol ar gyfer plannu coedwigoedd yno, i bobl sy'n dymuno plannu coedwigoedd, bydd yn nodi ardaloedd a ystyrir yn addas, heb orfod mynd i chwilio drwy amrywiaeth o ddarnau eraill o wybodaeth—i gyd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Cadwch bethau'n syml: edrychwch ar un peth a dod o hyd iddo a bydd hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir yn cynnig cyfleoedd aruthrol.

Gan droi at y sector masnachol, clywsom am y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil cyfraddau plannu ac ailblannu isel. Roeddem yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith hyn ar ddyfodol melinau coed yng Nghymru ac ar gymunedau gwledig. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod mai un o wendidau economi cefn gwlad Cymru yw nad ydym yn cael digon o brosesu gwerth uchel o'n deunyddiau crai. Rydym yn datblygu'r deunyddiau crai ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ond caiff yr arian mawr ei wneud gan y bobl sy'n gwneud y gwaith prosesu. Ymhellach ymlaen, caiff y gwaith hwnnw ei wneud ymhell y tu allan i gymunedau gwledig Cymru, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ymhell y tu allan i Gymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector coedwigaeth fasnachol yng Nghymru i gyflawni ei botensial llawn. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried newid rheoliadau adeiladu i hyrwyddo'r defnydd o goed ym maes adeiladu.

Manteision cymdeithasol yw’r ail thema a archwilir yn adroddiad y pwyllgor. Mae gan goetiroedd rôl sylweddol i'w chwarae yn adfywio hen ardaloedd diwydiannol. Gwelodd y pwyllgor hyn yn uniongyrchol ar ymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi ym Maesteg. Mae’r prosiect hwn yn ysbrydoliaeth go iawn: mae'n dangos beth sy’n gallu digwydd pan fydd gwirfoddolwyr ymroddedig yn cael cymorth ac arian gan wneuthurwyr penderfyniadau lleol a chenedlaethol i drawsnewid yr hyn a oedd unwaith yn dir gwastraff halogedig. Mae gennym lawer iawn o dir gwastraff halogedig yng Nghymru, felly mae'r cyfleoedd hyn yn bodoli ar draws rhan helaeth o'r ardaloedd diwydiannol hŷn yng Nghymru. Maent hefyd wedi elwa o gyllid sector preifat gan Ford. Rydym eisiau adeiladu ar hyn ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn asesu potensial datblygu cwmni coedwigaeth cenedlaethol i adfywio Cymoedd de Cymru.

Mae gan goed ac ardaloedd trefol fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae angen gwneud mwy i gynyddu gorchudd canopi. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun i sicrhau gorchudd coed o 20 y cant fan lleiaf erbyn 2030. Yn anffodus, mae'r argymhelliad hwn wedi'i wrthod, felly bydd yn ddiddorol clywed cynllun amgen y Gweinidog ar gyfer cynyddu gorchudd canopi yn yr ardaloedd hyn.

Yn olaf, ar fanteision amgylcheddol, y thema olaf yw creu mwy o goetiroedd. Mae’r manteision yn amlwg a dylai fod yn y prif sbardun i’n hymdrechion i blannu rhagor, o ystyried ein cyfrifoldeb statudol dros gynaliadwyedd. Gall coed liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ddal carbon mewn coed y gellir eu defnyddio. Maent hefyd yn lleihau’r perygl o lifogydd o ganlyniad i law gormodol. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymell plannu i fyny'r afon o ardaloedd sy'n tueddu i ddioddef llifogydd.

Credaf na fydd llawer o Aelodau'r Cynulliad na fyddant yn gwybod am ardaloedd a oedd yn arfer bod wedi eu gorchuddio gan goed a bod rhywun wedi penderfynu torri’r coed, naill ai i adeiladu neu i wneud i’r ardal edrych yn well neu i gael gardd well, ac yna ni allant ddeall pam fod llifogydd yn digwydd pan nad oes llifogydd wedi bod yn ystod y 100 mlynedd flaenorol. Mae coed yn wych am amsugno dŵr ac atal llifogydd rhag digwydd.

Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu cyfeirio arian tuag at weithgarwch mwy cynaliadwy gan berchnogion tir, gan gynnwys plannu mwy o goed. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai cyllid yn y dyfodol fod yn seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Byddai’r pwyllgor yn hoffi diweddariad ar drafodaethau Ysgrifennydd y Cabinet gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu system ar gyfer cyllido newidiadau cadarnhaol ar gyfer bywyd gwyllt, ansawdd dŵr, lleihau perygl llifogydd, iechyd a llesiant.

I gloi, mae yna fanteision sylweddol i goetiroedd, ac nid ydym yn eu gwireddu’n llawn. Nid ydym yn sylweddoli beth yw'r enillion amgylcheddol a geir o liniaru newid yn yr hinsawdd, atal llifogydd, a chynyddu argaeledd coed cynaliadwy. Rydym hefyd yn colli manteision cymdeithasol coetiroedd i iechyd a llesiant y rhai sy'n byw wrth eu hymyl. Nid ydym yn sicrhau y bydd y manteision hynny ar gael i bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol, lle mae fwyaf o angen coed a lle y cânt eu gwerthfawrogi fwyaf. Gwyddom y gall coetiroedd adfywio ein Cymoedd ac y gallai cael mynediad atynt ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a gweithgareddau hamdden. Ond ni fydd dim o hyn yn bosibl os ydym yn parhau fel rydym yn ei wneud. Mae angen i bolisi coetiroedd fod yn llawer mwy uchelgeisiol.

Ers 2010, un rhan o ddeg o'r targed ar gyfer creu coetiroedd yn unig sydd wedi'i gyrraedd. Mae angen i iteriad nesaf y strategaeth ‘Coetiroedd i Gymru’ nodi’r newid radical yn y ffordd o feddwl y mae rhanddeiliaid yn galw amdano. Ni all fod yn ddiweddariad syml o'r polisi cyfredol sy’n gwneud dim mwy nag ystyried newidiadau deddfwriaethol diweddar, ond yn hytrach, mae’n rhaid iddo gael targedau heriol, cyraeddadwy.

Mae coed yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymdeithas. Mae ffyrdd sydd â choed bob ochr iddynt yn edrych yn llawer gwell na ffyrdd heb goed bob ochr iddynt. Mae coed ar fryniau uwchben tai yn helpu i atal llifogydd, a gall coed mewn ardaloedd o amddifadedd trefol wneud i’r ardal edrych yn llawer gwell mewn gwirionedd. Os oes un peth y gallwn ei wneud heb lawer o anhawster, rwy'n credu mai cael mwy o goed yng Nghymru yw hynny, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn dweud mai dyna'n union y mae hi’n bwriadu ei wneud.

15:45

A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf ymwneud â'r adroddiad hwn? Credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Gwelsom beth ymarfer rhagorol, ond yn gyffredinol, mae'n faes polisi cyhoeddus sydd angen ei wella. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y sector coedwigaeth, oherwydd credaf fod ei bwysigrwydd yn aml yn cael ei anghofio, ar ychydig dros £0.5 biliwn bob blwyddyn.

Mae coed yn gyffredinol—gyda llawer ohonynt yn y sector coedwigaeth, yn hytrach na choetiroedd gwasgaredig neu goetiroedd trefol neu beth bynnag—yn amsugno llawer iawn o lygredd carbon. Unwaith eto, mae hynny o fudd mawr, yn ogystal â'r budd masnachol, ac o ran cynefinoedd ar gyfer miloedd o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, yn enwedig pan fo coedwigoedd wedi eu cynllunio i ganiatáu ar gyfer cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau, gall greu llawer iawn o fanteision. Mae hefyd yn dda ar gyfer rheoli llifogydd pan welwn goedwigo i fyny'r afon.

Eisoes, gwelsom dwf yn yr hamdden a thwristiaeth y mae coedwigaeth a choetiroedd yn eu darparu, ac mae mwy o botensial hyd. Mae dros 10,000 o swyddi yng Nghymru mewn coedwigaeth, mae'n rhan hanfodol o'r economi wledig, ac mae hefyd yn cynnig ffordd ymarferol i lawer o ffermwyr arallgyfeirio. Felly, dyna rai o'r manteision amlwg a dylid eu datblygu.

Felly, mae braidd yn siomedig, fel y soniodd y Cadeirydd, nad yw Cymru ers 2010 ond wedi llwyddo i blannu un rhan o ddeg yn unig o'i tharged o 35,000 hectar. Mae'r perfformiad hwn yn waeth o lawer, dywedwch, na'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Yn gyffredinol yn y DU, rwy'n credu y dylem fod yn plannu rhagor, ond mewn gwirionedd mae'n faes lle rydym ymhell o dan y cyfartaledd Ewropeaidd mewn cymhariaeth. Felly, buaswn yn annog y Llywodraeth i edrych ar ei thargedau a gweld sut y gellir eu cyrraedd yn fwy effeithiol, neu o leiaf, sut y gallwn wella'r gyfradd, fel y gallwn ar ryw adeg yn y fframwaith cyfredol o 2010 i 2030 ddweud o ddifrif y gallem gyrraedd 100,000 hectar.

A gaf fi edrych ar un neu ddau o'r argymhellion eraill? Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fy mod wedi sylwi yn y Cynulliad fod y Llywodraeth yn fwyfwy parod i dderbyn argymhellion mewn egwyddor. Gall fod yn anodd iawn i bwyllgor i fynd i wraidd—heb fwriadu chwarae ar eiriau—yr hyn y mae'r cyfyngiad hwn yn ei olygu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar ohebiaeth fywiog gyda'r pwyllgor ynglŷn â'r hyn a olygai 'mewn egwyddor', ac nid yw ond wedi dweud y bydd yn amlinellu rhai o'r rhesymau yn y ddadl heddiw. Rwy'n falch eu bod yn gwneud hynny mewn fforwm cyhoeddus, ond rydym wedi bod ar ôl yr atebion hyn ers rhai misoedd, felly rwy'n bryderus ynglŷn â hyn, fel rwyf fi ynglŷn â'r egwyddor gyffredinol, yn hytrach na derbyn neu wrthod, o gael ffrwd ganol o amwysedd dwys fel hyn.

Rwy'n arbennig o bryderus hefyd ynglŷn â'r ffaith fod argymhelliad 4 wedi'i wrthod yn llwyr, ond o leiaf mae hynny'n ein galluogi i ymgysylltu a thrafod a cheisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth i newid ei meddwl. Ond, beth bynnag, argymhelliad yw hwn ynghylch sicrhau isafswm o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol—unwaith eto, cyfeiriodd ein Cadeirydd at hyn. Y targed a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer sefydlu coedwigoedd trefol—fod gorchudd canopi gan 20 y cant o'ch tir trefol. Credaf o ddifrif fod hwnnw'n ddyhead a ddylai fod gennym ar gyfer ein hardaloedd trefol, neu yn sicr y rhan fwyaf ohonynt, yng Nghymru. Ni chawsom resymau argyhoeddiadol iawn gan y Llywodraeth yn fy marn i pam na ddylai hyn ddigwydd. Roeddent yn dweud, 'Wel, byddai'n tanseilio penderfyniadau lleol'—wel, mawredd, os mai dyna'r prawf y maent yn mynd i'w ddefnyddio drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyd, mae arnaf ofn nad ydym yn mynd i weld y math o gynnydd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn edrych amdano. Unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddant yn archwilio hynny. Dylwn ddweud, Lywydd, fod gorchudd canopi coed trefol yng Nghymru yn lleihau; rydym ar hyn o bryd ar 16.3 y cant, felly rwy'n credu ei bod yn bryd i ni gynyddu ein lefel a mabwysiadu'r 20 y cant.

Roeddwn yn mynd i siarad am y dimensiwn Glastir ar gyfer cynlluniau coetir; credaf fod y Cadeirydd wedi trafod hynny. A gaf fi ddweud i gloi, Lywydd, o ran y polisi coetiroedd, unwaith eto rwy'n meddwl bod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol? Mae Cymru'n ardal naturiol ar gyfer coedwig law dymherus. Gallem weld rhagor o blannu ac annog y sector i dyfu. Yn aml, mae'n dda iawn i gymunedau lleol gymryd perchenogaeth neu gael cynlluniau. Rwy'n meddwl bod llawer ohonom a ymwelodd â Maesteg a gweld Coetir Ysbryd Llynfi wedi cael ein hysbrydoli'n fawr, ac rwy'n annog y Llywodraeth i ddilyn yr esiampl honno a chodi ei golygon.

15:50

Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon ac wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r adroddiad yn ogystal. Cawn ein cyhuddo weithiau o lunio polisi wrth fynd yn ein blaenau—mewn gwirionedd, yn hyn o beth fe luniasom bolisi ar ein traed, wrth gerdded drwy goetiroedd Cymru, a chredaf mai dyna'r ffordd orau o fod wedi'i wneud. Roedd yn arwydd da iawn o'r hyn y gall coedwigaeth ei wneud i Gymru—mae'n dda i'n hiechyd, yn dda i'r amgylchedd ac yn dda o ran y cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn ei sgil yn ogystal. Mae iddo fanteision go iawn o ran dal a storio carbon, lliniaru llifogydd, lleihau llygredd aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, a chyfleoedd hamdden ac iechyd go iawn ac ar gyfer twf economaidd.

Cafodd hyn ei gadarnhau'n bendant yn yr ymchwiliad, ond hefyd mewn ymweliad â James Davies Limited yng Nghenarth, sef melin lifio sy'n prosesu coed yn Nyffryn Teifi, y cefais y pleser o ailymweld â hi, fel mae'n digwydd bod, ond maent wedi gwneud buddsoddiad sylweddol ers i mi fod yno ddiwethaf, a gweld bod hon yn rhan wirioneddol ffyniannus o ddatblygu gwledig yng Nghymru hefyd. Felly, mae yna gyfleoedd go iawn ar gyfer datblygu coetiroedd yng Nghymru, ac wrth gwrs, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rhan o ystâd coetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys 40 y cant o'r holl goetir yng Nghymru, rwy'n meddwl bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddangos arweiniad clir iawn.

Hoffwn rannu siom David Melding ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb i adroddiadau pwyllgor fwyfwy yn y modd 'derbyn mewn egwyddor' hwn. Ac ar yr achlysur hwn fel pwyllgor fe ddywedasom, 'Wel, gadewch i ni weld beth y mae "mewn egwyddor" yn ei olygu felly', a dywedwyd wrthym, 'Wel, arhoswch i weld', i bob pwrpas. Credaf fod angen inni—. Wyddoch chi, byddai'n fwy gonest dweud, 'Nid ydym yn derbyn yr argymhelliad hwn', a chael dadl iawn am y pethau hynny.

15:55

I'ch helpu ar y pwynt hwn, ysgrifennodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at yr Ysgrifennydd Parhaol ar yr union bwynt hwn yn ddiweddar, yn gofyn am onestrwydd deallusol gan y Llywodraeth—pan fyddant o ddifrif yn anghytuno â'r pwynt, y dylent ddweud hynny a rhoi'r rhesymau pam. Ac rydym wedi cael llythyr yn ôl yr wythnos hon gan yr Ysgrifennydd Parhaol i ddweud y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny, felly mae angen inni gadw llygad ar hynny.

Buaswn yn croesawu hynny oherwydd credaf ei bod yn fwy gonest ac yn ein galluogi efallai i gael y ddeialog honno a thensiwn creadigol weithiau a fyddai'n ymddangos mewn ffordd wahanol ymlaen efallai, ond mae ein gwyngalchu, os hoffech, neu daflu llwch i'n llygaid ein bod yn cael ein cefnogi pan nad ydym yn llai buddiol yn fy marn i. Felly, gadewch inni gadw llygad ar hynny.

Credaf mai un o'r pethau sy'n rhaid i ni eu cydnabod yng Nghymru yw nad oes digon o goed gennym, os caf ei roi felly. Mae gennym gyfleoedd mawr ar gyfer datblygu mwy o goetiroedd, ac rydym wedi methu cyrraedd ein targedau, fel y crybwyllwyd eisoes, ers cryn amser bellach. Ond credaf mai un o'r pethau a'm synnodd o ddifrif yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd y teimlad cryf a'r ymateb gan fuddsoddwyr fod Cymru wedi cau'r drws ar ddatblygu coetiroedd, yn enwedig ar yr ochr fasnachol. Nid oeddwn am inni gyfleu'r neges honno ac nid oeddwn yn meddwl ein bod yn cyfleu'r neges honno, a bod yn onest, ond yn ymarferol dyna oedd pobl yn ei ddweud, a dyna pam rydym yn gwneud yr argymhelliad yn y pwyllgor y gallwch efallai, o fewn system fapio—ar gyfer mapio sensitifrwydd amgylcheddol wrth gwrs—gael rhagdybiaeth o blaid datblygu sy'n llawer cryfach. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddai addasu cynllun ansawdd coetiroedd y DU yn ehangach yn rhoi rhyw sicrwydd amgylcheddol yn hynny ac yn caniatáu i ddatblygu masnachol—y math o ddatblygiad masnachol cymysg a welwn y dyddiau hyn—allu digwydd.

Ychydig iawn o arian sydd gan Glastir, fel rwy'n siŵr y byddai unrhyw Weinidog yn ei ddweud, ond mae hefyd yn dioddef yn sgil peth oedi ar hyn o bryd. Y bore yma, cysylltodd Hugh Wheeldon & Co, cwmni prosesu coed yn Sir Gaerfyrddin â mi, yn dweud bod ganddynt nifer o geisiadau Glastir ac maent yn credu y bydd yn rhaid eu tynnu'n ôl bellach oherwydd yr oedi difrifol yn y broses honno. Felly, pan fyddwn yn edrych ar y manylion, rwy'n credu y byddwn yn gweld nad yw'r Llywodraeth ychwaith, drwy ei gwaith, yn sylweddoli beth yw manteision go iawn datblygu coetiroedd yng Nghymru.

Rwy'n meddwl bod angen i ni weithio'n galed iawn, yn amlwg, ar y Llywodraeth ynglŷn â'r 20 y cant o orchudd canopi trefol; rwy'n meddwl y bydd hynny'n hynod o fuddiol i'n lles a hefyd ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd, gan fod rhai o'n trefi a'n dinasoedd—rhywbeth sy'n anodd ei gredu heddiw, rwy'n gwybod, ond gall rhai o'n trefi a'n dinasoedd fod yn boeth ac yn ddiflas iawn yn yr haf y dyddiau hyn, ac mae gorchudd coed yn fuddiol iawn i'n dinasyddion.

A'r peth olaf y credaf fod angen i ni edrych arno yw beth fyddai cynigion parhaus y Llywodraeth ar gyfer rheoli tir. Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn dod i ben, yn draddodiadol nid yw coedwigaeth wedi'i chefnogi yn y modd hwnnw, ond os ydym yn mynd i edrych yn fwy cydlynol a chydgysylltiedig yn awr ar sut y dylid rheoli tir, a beth y dylai'r manteision fod, mewn termau masnachol ac amgylcheddol, gallwn weld cyfleoedd yma efallai i gefnogi datblygu coetiroedd, rheoli coetiroedd, diogelu coetiroedd hynafol, yn sicr, ond yn amlwg rwyf hefyd o'r farn y bydd rhannau o Gymru yn gweld defnydd tir yn newid bellach. Ceir rhannau o Gymru sy'n dir defaid ymylol neu'n ffridd ymylol a allai droi'n ôl yn goetir; cawsant eu clirio ar ddiwedd oes yr iâ mae'n debyg, ac efallai y byddant yn dod yn eu holau eto. Byddwn yn gweld newidiadau yn ein tirwedd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn i'r rheini fod yn newidiadau buddiol sy'n helpu ein heconomi ac yn helpu ein hamgylchedd yn fwy eang, a chredaf fod datblygu coetiroedd yn un o'r pethau amlwg y gallwn eu cefnogi yn hynny o beth.

A gaf fi ategu rhai o'r sylwadau ar gytrefi a wnaed gan yr Aelodau yma? Os sefwch ar fryn uwchlaw Cwmbrân a Chasnewydd, mae'r gytref ei hun yn aml wedi ei chuddio gan orchudd coed, a byddai'n wych gweld hynny'n cael ei adleisio mewn dinasoedd eraill ledled Cymru.

Mae coetiroedd yn asedau amgylcheddol a masnachol unigryw, felly, o ystyried amgylchedd targedau a Deddfau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf, mae'n eithaf rhyfeddol sut y mae wedi esgeuluso'r adnodd cenedlaethol hollbwysig hwn. Mae arnaf ofn ei bod yn enghraifft arall o Lywodraeth Cymru'n siarad llawer ac eto'n methu â chyflawni'r agendâu a chyrraedd y targedau y mae hi ei hun yn eu gosod.

Ers cyhoeddi ei strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' yn 2001, a oedd, ymhlith pethau eraill, i fod i annog plannu coed yn gynaliadwy ac ehangu'r diwydiant coedwigaeth, mewn gwirionedd rydym wedi colli 14,000 hectar o goetir ac mae gennym ddiffyg o 31,000 hectar o goed. O dan ei strategaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 2,000 o hectarau'n unig o goed newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd 50 mlynedd gyfan i gyrraedd y nod a oedd ganddi unwaith o 100,000 hectar o goetir newydd—a phrin fod hwnnw'n ymrwymiad sylweddol ar gyfer y diwydiant coedwigaeth.

Mae'n ymddangos yn anhygoel fod yr adnodd hwn, a allai roi manteision mor amrywiol â thwf economaidd, lleihau mewnforion, lleihau carbon, atal llifogydd, heb sôn am hybu iechyd a thwristiaeth, wedi ei esgeuluso i'r fath raddau gan y Llywodraeth hon ers cyhyd. Does bosibl nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac ymrwymo hefyd i strategaeth wirioneddol uchelgeisiol er mwyn ehangu'r diwydiant hwn yn fawr a gadael i Gymru fod yn arweinydd byd sy'n gwneud y gorau o'r ased naturiol hanfodol hwn. Er gwaethaf y sylwadau uchod, gallaf gadarnhau y bydd UKIP yn cefnogi'r adroddiad hwn.

16:00

Fel y mae'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ein hatgoffa, caiff 15 y cant o Gymru ei gorchuddio gan goedwigaeth. Mae ein coetiroedd yn ecosystem bwysig; yn arf amgylcheddol hollbwysig, yn gyfle ar gyfer hamdden iach ac yn adnodd economaidd gwerthfawr. Mae sut rydym yn eu rheoli yn hanfodol i'r math o Gymru rydym am ei chreu.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Croesewais y cyfle i gyfrannu at ddechrau'r ymchwiliad hwn a chymeradwyaf y pwyllgor a'u clercod ar adroddiad defnyddiol iawn. Bwriadaf gyfeirio'r rhan fwyaf o fy sylwadau heddiw at argymhelliad 5 ar y ffordd y gall coetiroedd ein gwasanaethu fel arf effeithiol ar gyfer adfywio ac ar gyfer ymgysylltu â chymunedau lleol. Credaf fod hyn yn allweddol. Mae hefyd yn adleisio elfen bwysig o waith tasglu'r Cymoedd, gyda'u prif ffocws ar ddatblygu parc tirlun y Cymoedd. Fel y mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei hymateb i argymhelliad y pwyllgor, bydd y parc tirlun hwn yn helpu'r cymunedau yng Nghymoedd de Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i sicrhau cymaint â phosibl o fanteision lleol cynaliadwy o adnoddau naturiol eu hardal. Mae coetir yn elfen allweddol o hyn, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, gan greu swyddi a seilwaith gwyrdd a phren o ffynonellau lleol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai modern.

Ar fy ymweliad â Garwnant pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, clywais am y ffyrdd y mae coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru yno'n cynnig manteision economaidd a chymunedol. Un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous y soniwyd wrthyf amdanynt oedd y cynlluniau i ddatblygu'r cyfleuster Welsh Forest Holidays cyntaf ar y safle. Mae hon yn enghraifft dda iawn o arallgyfeirio'r gweithgarwch ar y safle'n sympathetig, gan hybu ei botensial i greu enillion a'i gyfraniad economaidd lleol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys buddsoddiad o £5 miliwn yn y safle na fyddai'n galw am gymhorthdal cyhoeddus, gan greu tua 40 o swyddi a chyfleoedd newydd i fusnesau lleol. Gallai cael mwy o ymwneud cymunedol yn ein coedwigoedd hybu iechyd a lles hefyd. Rwyf am ddefnyddio dau ystadegyn yn unig i ddangos pam y mae angen inni wneud hyn. Yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, mae dros un o bob pedwar plentyn wedi'i effeithio gan ordewdra ymhlith plant. Yn ardal fy mwrdd iechyd lleol, Cwm Taf, mae un o bob chwech o bobl yn wynebu heriau iechyd meddwl. Mae'r ddau ystadegyn yn uwch na'r cyfartaledd, ond gellid eu lleihau drwy annog pobl i mewn i'r coetir sydd bron ar garreg eu drws. Yn fwy arbennig, ceir cyfleoedd yng nghyd-destun addysg awyr agored ac rwy'n falch fod hyn yn cael sylw penodol yn yr argymhelliad.

Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy nadl fer ym mis Mehefin y llynedd ar y thema hon. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn fy etholaeth yn gartref i grŵp rhieni a phlant bach yn seiliedig ar natur sydd wedi dysgu gan fudiad byd-eang Skogsmulle. Canfuwyd bod plant sydd wedi elwa ar yr addysg awyr agored hon yn gallu canolbwyntio ddwywaith cystal â'u cyfoedion a bod ganddynt sgiliau echddygol bras a llesiant mwy datblygedig. Cydnabyddir y manteision hefyd yn yr elfennau o ddysgu awyr agored a ymgorfforwyd yn y cwricwlwm cenedlaethol, ond rwy'n meddwl ein bod yn colli cyfle os na roddir camau ar waith i integreiddio hyn ymhellach. Enghraifft arall yr hoffwn ei chymeradwyo yw Partneriaeth Adfywio Ynysybwl, sydd wedi sicrhau bron i £1.3 miliwn gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect cymunedol saith mlynedd. Mae coedwigaeth gymunedol yn chwarae rhan fawr yn eu gweledigaeth. Yn rhan o hyn, bydd £200,000 yn cael ei ddyrannu i'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd ar gyfer adeiladu cyfleusterau a chanolfan ymwelwyr yng nghanolfan gweithgareddau awyr agored Daerwynno, a bydd £65,000 yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu llwybrau drwy'r goedwig leol.

Yn yr amser sy'n weddill gennyf, hoffwn wneud ychydig o sylwadau ar rai o'r argymhellion eraill. Mae argymhelliad 1 yn bwysig iawn: nid yw'n dda ein bod mor bell ar ôl gwledydd eraill o ran cyfraddau plannu. Credaf fod hyn yn cysylltu ag argymhelliad 9, gyda'r manteision economaidd y gallem eu sicrhau drwy roi hwb i gynhyrchu coed. Rwy'n meddwl am y cyfleoedd tai sy'n cael eu harddangos ym Mhentre Solar yn Sir Benfro er enghraifft. Mae argymhellion 3 ac 8 yn bwysig iawn hefyd. Gall coedwigo leihau'r perygl o lifogydd, a chyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gynharach eleni sut roeddent yn datblygu coedwigoedd yn ardal y Llynnoedd mewn ymateb i lifogydd yno. Gallai rhaglen o'r fath helpu ffermwyr mewn ardaloedd ymylol hefyd, yn yr ucheldiroedd sy'n anodd eu ffermio'n gynhyrchiol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar sut y gellir teilwra cymorth i'w hannog i wneud hynny. Yn olaf, o ran argymhelliad 4, rhannaf y siom fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, yn enwedig o ystyried ein trafodaethau ar lygredd aer yr wythnos diwethaf. Edrychodd astudiaeth wyddonol gan EarthSense Systems ar sut y gellid lleihau llygredd ar Stryd Oxford yn Llundain, a daeth i'r casgliad fod plannu coed yn effeithiol ar gyfer lleihau lefelau llygryddion a'u bod yn gwneud hynny hyd at 100 gwaith yn rhatach na strategaethau eraill.

16:05

Mae'n ddrwg gennyf, mae fy nyfais clywed yn sownd—rwy'n cael fy nhagu fan hyn.

Fe wnaf hebddo.

Mae'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pwyllgor hwn yn datgan:

'Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, adnewyddu ei strategaeth coetir gyda'r nod o gynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.'

A dywed ei argymhelliad olaf:

'rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y drefn ariannu yn y dyfodol yn cael ei seilio ar ganlyniadau cynaliadwy.'

Fodd bynnag, mae'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn datgan, er bod coedwigoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli yn ôl safon coedwigaeth y DU, sy'n diffinio rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy fel y sail ar gyfer strategaeth 'Coetiroedd i Gymru', yn aml, caiff plannu coed ei ystyried mewn goleuni negyddol, mae asiantaethau Llywodraeth, asiantaethau anllywodraethol a chymdeithas yn gwrthwynebu newid defnydd tir, gan arwain at ragdybiaeth yn erbyn creu coetiroedd a cholli manteision coedwigaeth fodern gymysg i bobl a'r amgylchedd.

Felly maent yn galw am dderbyn newid mewn defnydd tir ar raddfa fawr, Llywodraeth sy'n barod i hyrwyddo coedwigoedd, ac ymgyrch genedlaethol dros goedwigaeth a choed Cymru, gan ddatgan y bydd Cymru'n elwa oherwydd bod coedwigaeth fodern yn gweithredu safon cynaliadwyedd byd-eang sy'n gadael sectorau eraill ymhell ar ei hôl hi ac yn cynhyrchu deunydd naturiol, hyblyg a chwbl adnewyddadwy, gan greu lleoedd bywiog ar gyfer hamdden a bioamrywiaeth yn y broses. Ond dywedant hefyd, yn ogystal â chynhyrchu pren, fod yn rhaid cynllunio coedwigoedd i liniaru llifogydd a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Fel y dywedais yn fy natganiad 90 eiliad yn gynharach, mae'r gylfinir yn arbennig. Mae'n un o'n rhydyddion mwyaf gyda chân hardd, swynol, ond mae'r rhywogaeth adar hon mewn trafferthion difrifol ar draws rhannau helaeth o Brydain. Rhwng 1994 a 2016, gostyngodd poblogaeth gylfinirod 68 y cant yng Nghymru. Fel y dywedodd hyrwyddwr rhywogaeth Cymru ar ran y gylfinir, aderyn yr effeithiwyd arno'n ddifrifol yn hanesyddol yn sgil plannu coedwigoedd mewn lleoliadau amhriodol yn yr ucheldiroedd, rwy'n awyddus i sicrhau, er bod gan ehangu coetiroedd yng Nghymru botensial i wneud cyfraniad sylweddol tuag at sicrhau ecosystemau coetiroedd gwydn, fod yn rhaid eu lleoli'n briodol. Nodwyd bod ehangu coetiroedd yn amhriodol yn fygythiad allweddol i gynefinoedd yr ucheldir a'r rhywogaethau a welir yno. Mae hyn yn cynnwys y gylfinir, sydd angen ardaloedd mawr o gynefin agored ar gyfer nythu. Mae lleoli coetiroedd newydd ar neu wrth ymyl ardaloedd mynyddig sensitif yn arwain at golli cynefin a newidiadau mewn llystyfiant, gan leihau'r nifer o safleoedd nythu addas sydd ar gael ar gyfer yr adar hyn sy'n nythu ar y ddaear.

Fel y dywed yr RSPB, mae ehangu coetiroedd mewn lleoliadau priodol ac wedi'u cynllunio'n dda yn gallu cyfrannu'n sylweddol at adfer a gwella bioamrywiaeth coetiroedd yng Nghymru. Bydd canolbwyntio ehangu coetiroedd ar glustogi a chysylltu coetiroedd presennol yn gwella gwydnwch ecosystemau coetiroedd, a rhaid cynllunio coetiroedd newydd i ddarparu'r pecyn llawn o ofynion rhywogaethau—lleoedd i nythu, ffynonellau bwyd i gywion ac adar llawndwf yn ystod y tymor nythu a bwyd gaeaf ar gyfer adar llawndwf. Os ydym am ddarparu manteision bioamrywiaeth go iawn yn ogystal â chynyddu arwynebedd coetiroedd ardystiedig, mae angen monitro priodol i sicrhau bod coetiroedd ardystiedig yn cyflawni ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Mae methiant i fonitro'r effeithiau yn creu risg y bydd creu coetiroedd yn effeithio'n negyddol ar gynefinoedd a rhywogaethau.

Er mwyn sicrhau bod ehangu coetiroedd yng Nghymru yn darparu'r amrywiaeth lawnaf bosibl o fanteision gan gyfyngu ar yr effeithiau negyddol posibl, rhaid i'r data a ddefnyddir i lywio'r gwaith o ehangu coetiroedd fod yn addas i'r diben. Os ydym am sicrhau bod ehangu coetiroedd yn osgoi effeithiau negyddol ar rywogaethau cynefinoedd agored, rhaid diweddaru'r data sylfaenol a'i adolygu'n rheolaidd, a rhaid iddo gynnwys yr amrywiaeth lawn o rywogaethau yr effeithir arnynt. Rhaid i gynlluniau coedwigoedd fod yn seiliedig ar gyflawni amcanion dymunol, a lle bo'n bosibl, wedi eu cynllunio i sicrhau'r budd mwyaf posibl. Dylai cynlluniau cynhyrchu pren anelu i gyflawni ystod o fanteision gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, llif dŵr ac ansawdd, a chyfleoedd hamdden ochr yn ochr â chynhyrchiant coed cynaliadwy.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ehangu coetiroedd yng Nghymru wedi'i gyfyngu i greu coetiroedd bach niferus, gyda llawer ohonynt wedi eu lleoli ar ffermydd, drwy gynllun creu coetir Glastir a chynllun grantiau bach Glastir. Mae llawer o'r coetiroedd hyn wedi cynnwys plannu'r ardaloedd diwethaf o gynefin lled-naturiol sydd ar ôl yn y dirwedd, ac mae colli'r llochesi diwethaf hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol ar fywyd gwyllt y fferm. Bydd sicrhau bod effeithiau ehangu coetiroedd wedi eu deall yn llawn yn hanfodol er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol, ac ni ellir cyflawni hyn heb fonitro priodol. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o ymarfer coedwigaeth wael yn hanesyddol. Os ydym am ddiogelu ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae sicrhau bod y gwaith o ehangu coetiroedd yn osgoi effeithio'n negyddol ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd sy'n sylfaen i'n hadnoddau naturiol yn hanfodol.

16:10

Gall y weithred syml o blannu coed arwain at lawer o fanteision yn ei sgil, o dwristiaeth i economi coetir sy'n egino, o reoli llifogydd i fywyd gwyllt sy'n ffynnu, o wella iechyd a lles i adeiladu tai a swyddi. Ceir llawer ohonom nad ydym yn sylweddoli'r effaith gadarnhaol y gall coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru ei chael ar ein bywydau. Fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, hoffwn bwysleisio manteision cymdeithasol coetiroedd—yr ail brif thema a archwiliwyd yn yr adroddiad 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater'.

Fel y dywedodd ein Cadeirydd, Mike Hedges, ar ein hymweliad â choetir gwych Ysbryd Llynfi ym Maesteg, gwelodd pawb ohonom drosom ein hunain pa mor fuddiol y gall coetiroedd fod i'r gymuned leol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r cymunedau yng nghwm Llynfi uchaf i adfer hen bwll glo Coegnant a safleoedd golchfeydd Maesteg yn goetir cymunedol. Mae trigolion lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion oll wedi cymryd rhan, o blannu coed, perllannau cymunedol, traciau beicio a chynllunio llwybrau cŵn. Ar ein hymweliad â Maesteg, awgrymodd un o'r cyfranwyr fod angen inni wneud coetiroedd yn cŵl. Gall ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i ymweld â choetir gyda'r teulu neu drwy'r ysgol ennyn cariad gydol oes tuag at yr awyr agored. Yn ogystal ag ymgorffori addysg coetiroedd yn ein hysgolion, fel y mae'r adroddiad yn awgrymu, byddai'n werth archwilio ffyrdd y gallai Bagloriaeth Cymru weithio gyda grwpiau coetiroedd cymunedol yn y dyfodol.

Gwyddom i gyd nad ydym yn manteisio digon ar y pethau sydd ar garreg ein drws, ond mae cael mynediad i goetiroedd a mannau gwyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mor fuddiol i iechyd a lles pobl, ac rwy'n cytuno gydag Aelodau eraill ynghylch pwysigrwydd cynyddu ein gorchudd canopi, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol hynny. Mae'r manteision posibl i'n cymunedau yn sylweddol. Wrth drafod y mater gyda chynrychiolwyr o Coed Cadw ar fy ymweliad â choedwig Wentwood, dywedasant wrthyf am eu prosiect Wandering in the Woods. Cynhaliwyd y prosiect hwn yn Essex, Dwyrain Sussex a Wiltshire gyda'r nod o ailgysylltu pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal â natur ac yn benodol, â choetiroedd. Dangosodd y prosiect fod manteision sylweddol iawn yn bosibl yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o ymweld â choetiroedd, a buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych ar y prosiect hwnnw.

Yn fy etholaeth i, Gorllewin Casnewydd, mae Coed Cadw Cymuned Basaleg yn gweithio'n galed i ddiogelu eu hamgylchedd coetir naturiol lleol. Nod y grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr yw creu parc coetir sy'n hygyrch, wedi'i reoli'n dda ac yn ddeniadol i bawb ei fwynhau. Mae rhannu gwybodaeth ac arferion da ledled Cymru yn hanfodol. Mae Llais y Goedwig yn cefnogi'r holl grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae dod â'r grwpiau hyn at ei gilydd a rhannu cyngor ymarferol yn ffordd bwysig o helpu gwirfoddolwyr i ddod at ei gilydd i edrych ar ôl a rheoli coetiroedd cymunedol.

Rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer grwpiau coetiroedd cymunedol bach ledled y wlad. Mae coetiroedd cymunedol yn lleoedd gwerthfawr sy'n galluogi ymwelwyr i wneud y gorau o'r awyr agored ac i gyfrannu at iechyd a lles trigolion lleol. Rhaid inni ymdrechu i gefnogi grwpiau coetiroedd cymunedol lleol, gan ei gwneud yn haws i bobl reoli a gwarchod coetiroedd er budd a mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw fel cyfle i drafod yr hyn sydd, mae'n debyg, yn ddyheadau a rennir ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o'r argymhellion, ac rwy'n gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau gweithredu arnynt. Mae cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu ataf, yn gofyn am eglurhad ynghylch ymateb y Llywodraeth, ond teimlwn y byddai'n ddefnyddiol clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelodau yn y ddadl hon cyn ymateb i'r llythyr a gwaith y Pwyllgor. Ac wrth gwrs buaswn yn croesawu trafodaeth barhaus ar y mater hwn.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad sydd wedi bod yn ddefnyddiol ac sy'n cynnwys argymhellion deallus. Mae wedi helpu i ganolbwyntio fy meddwl a chryfhau fy marn y byddai gwella ac ehangu coetiroedd Cymru ymhlith fy mhrif flaenoriaethau fel Gweinidog yr amgylchedd. I'r perwyl hwnnw, roedd un o fy nghyfarfodydd cyntaf fel Gweinidog gyda'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Gwnaeth rhanddeiliaid hi'n glir yn y cyfarfod hwn fod angen inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i'r sector coedwigaeth, ac ystyried y rôl y gall coedwigaeth a choedwigwyr eu chwarae yn ein dull o reoli tir yn y dyfodol.

Mae newid yn y defnydd tir yn anochel, a chredaf fod yn rhaid i ni ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym, o ran polisi, arian a rheoleiddio, i wneud yn siŵr fod y newidiadau hyn er gwell. Rydym am ddefnyddio ein tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus ychwanegol, ac mae hyn yn hollbwysig os ydym i gyflawni ein hymrwymiad i ecosystemau gwydn a datgarboneiddio yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rwyf am fynd i'r afael â nifer o'r materion allweddol a godwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad, mewn gohebiaeth ac yn ystod y ddadl heddiw—gan gynnwys plannu o'r newydd, gwydnwch coetiroedd, y cyflenwad pren, rôl cymunedau a datgarboneiddio.

Yn amlwg, mae angen inni ddechrau gyda phlannu newydd, a gofynnodd y pwyllgor beth yn benodol y dylem ei wneud yn wahanol. Rwy'n ymwybodol iawn nad oes digon o goed yn cael eu plannu. Mae angen cymysgedd o goetiroedd ar Gymru. Dylai ein coedwigoedd fod yn gyfuniad o'r mawr a'r bach, a chynnwys conwydd a rhywogaethau dail llydan, a chymysgedd o goedwigaeth fasnachol ac amgylcheddau tawel, bioamrywiol, naturiol. Ond rwy'n cydnabod y gall gwrthdaro ddigwydd rhwng yr amcanion hyn, ac rwy'n awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall y problemau ac i ganfod ffordd o'u datrys. Mae hyn yn debygol o olygu mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar leoedd, gan nad yw pob math o goetir yn iawn ar gyfer pob rhan o Gymru, ac nid drwy Glastir neu'r Llywodraeth yn unig y mae cyflawni'r gwaith o greu coetiroedd. Mae creu coetiroedd ar raddfa fawr yn galw am gydweithredu, cydweithio, arloesedd a chynnwys amrywiaeth o bartïon â diddordeb. Dyma pam rydym wedi sefydlu cynllun cynllunio coedwigoedd cydweithredol i gefnogi dulliau strategol a symbylir gan randdeiliaid er mwyn dod o hyd i'r mannau cywir i blannu coetiroedd newydd a beth i'w blannu yno. Rwy'n cydnabod y bydd yna heriau, ond mae cam cyntaf y cydweithredu wedi cychwyn, ac rwy'n annog cyfranogwyr i barhau gyda'r ymdrechion hyn.

Hefyd hoffwn archwilio rôl reoleiddio fel rhwystr. Rydym wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru edrych yn ofalus ar y ffordd y maent yn gweithio fel y gallant gael gwared ar gymhlethdod a nodi cyfleoedd ar gyfer plannu coetiroedd newydd. Roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y syniadau a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys y posibilrwydd o ragdybiaeth o blaid cymeradwyo coetiroedd mewn ardaloedd penodol. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r canllawiau ar y map cyfleoedd coetiroedd, gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr ynglŷn â'r lleoedd y gall creu coetiroedd wneud y lles mwyaf. Rhaid inni hefyd ystyried y rhyngweithio rhwng coedwigaeth a'n systemau cymorth amaethyddol. Rydym wedi talu dros £2 filiwn drwy Glastir i greu coetiroedd hyd yma. Mae ffermwyr sy'n plannu coed yn cael taliadau blynyddol ac yn parhau i dderbyn taliad sylfaenol am oddeutu 12 mlynedd ar ôl plannu, ond rydym yn chwilio'n gyson am ffyrdd newydd i wella'r broses ymgeisio ar gyfer Glastir, a byddwn yn adeiladu ar y gwersi o ran cynllunio mecanweithiau cymorth yn y dyfodol. Mae Brexit yn dod â heriau i Gymru yn gyffredinol, ond mae hefyd yn dod â chyfle i ailgynllunio systemau cymorth er mwyn dileu rhagfarnau yn erbyn coedwigaeth. Mae'n amlwg y gallwn wneud mwy, a bwriadaf ymweld â'r Alban yn y flwyddyn newydd i ddysgu mwy o'r llwyddiant cymharol a gawsant yn creu coetiroedd newydd yno.

Os edrychwn yn awr ar iechyd coed a gwydnwch, mae'r strategaeth coetiroedd yn annog arallgyfeirio coetiroedd drwy wella gwydnwch. Gwers yr achosion o phytophthora ramorum mewn coed llarwydd a chlefyd coed ynn yw na allwn fforddio dibynnu ar ychydig o rywogaethau coed yn unig. Rydym eisiau i'n coetiroedd fod yn fwy amrywiol a gwydn, ac mae cyfoeth o gyngor a hyfforddiant ar gael i berchnogion coetiroedd gan Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Cyswllt Ffermio. Ond rydym hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn mynd ati'n gyflym i adfer coetiroedd pan fyddant wedi cael eu niweidio, a'n bod yn cefnogi'r gwaith o reoli coetiroedd wedi'u heintio drwy gynllun adfer coetiroedd Glastir.

Gan droi at gynhyrchu coed, dylem hefyd roi camau ar waith i sicrhau bod coetiroedd presennol yn fwy cynhyrchiol. Yn rhan bwysig o hyn, gellir cynnwys adfer rheolaeth ar goetiroedd nad ydynt yn cael eu rheoli, cynyddu cynhyrchiant coed defnyddiadwy a chefnogi datblygiad busnesau lleol. Rwy'n awyddus i weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a rhanddeiliaid i adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy ar gyfer pren a chynyddu'r galw am gynnyrch coed a biomas o Gymru, gan alluogi cwmnïau o Gymru i fasnachu'n rhydd, cael y gwerth gorau am eu cynnyrch gwyrdd a chefnogi swyddi gwyrdd.

Rydym wedi cymryd camau i hyrwyddo pren drwy'r rhaglen tai arloesol a grŵp newydd trawslywodraethol i astudio cadwyni cyflenwi. Fel rhan o hyn, mae arnaf eisiau archwilio'r achos dros egwyddor pren yn gyntaf ar gyfer tai ac adeiladau eraill yng Nghymru. Ac rwyf eisoes wedi siarad â'r Gweinidog tai am hyn, a bydd yna grŵp gweinidogol newydd ar gyfer symud pethau ymlaen.

Tu hwnt i economeg, rhaid inni beidio ag anghofio am y gwerth y gall cymunedau ei gael o'n coetiroedd. Dylai ein cymunedau gael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o reoli eu coetiroedd lleol. Clywais rai enghreifftiau arbennig o dda heddiw gan fy nghyd-Aelodau Vikki Howells a Jayne Bryant, a buaswn wrth fy modd yn clywed mwy amdanynt, i weld sut y gallwn rannu'r arferion gorau hynny fel rhan o'n strategaeth yn y dyfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cefnogi Llais y Goedwig, rhwydwaith o grwpiau coetir cymunedol ledled Cymru sy'n helpu cymunedau i ymwneud â rheoli coetiroedd.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y pwyllgor i osod un targed ar gyfer plannu coed trefol ar draws yr holl awdurdodau lleol. Yn lle hynny, rydym am weld targedau lleol yn cael eu diwygio drwy ehangu'r defnydd o offeryn eco i-Tree ar gyfer monitro coed a choetiroedd trefol, gan sicrhau bod yr atebion cywir yn digwydd yn y mannau cywir.

Yn olaf, gall coedwigaeth chwarae rôl bwysig hefyd yn cyflawni ein nodau datgarboneiddio. Yn 2015 llwyddodd y sector coedwigaeth i gael gwared ar oddeutu 1 y cant o allyriadau Cymru, gan weithredu fel dalfa garbon. Mae cynyddu storfeydd carbon mewn coetiroedd yn cynnig ateb yn seiliedig ar natur i leihau allyriadau, atal llifogydd, gwella ansawdd aer a darparu—

16:20

A wnaiff y Gweinidog ildio? Ar y pwynt am ddatgarboneiddio, credaf hefyd fod angen inni gadw mewn cof ein bod yn mewnforio cryn dipyn o bren. Rwy'n credu bod 80 y cant o'r pren a ddefnyddiwn yn cael ei fewnforio mewn gwirionedd, ac mae ffordd enfawr y gallwn gyflawni ein hamcanion o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol drwy dyfu rhagor o'n pren ein hunain yma a defnyddio hwnnw—rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi ynghylch tai, er enghraifft—yn y ffordd honno. Byddai gennym ddatgarboneiddio dwbl yn digwydd wedyn, oherwydd byddem yn lleihau teithio ar gyfer mewnforion a byddem hefyd, wrth gwrs, yn defnyddio ffordd garbon-gyfeillgar o greu ein pren ein hunain.

Yn hollol. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn yno.

Rydym am adeiladu ar fentrau fel y cod carbon coetiroedd, lle y telir y rhai sy'n creu coetiroedd newydd am ddal a storio carbon, a hefyd mae'n galonogol gweld datblygiad cynnar y cod mawndiroedd, sy'n cefnogi'r ecosystemau gwerthfawr hyn.

I gloi, credaf y gallai fod yn adeg gyffrous ar goedwigaeth yng Nghymru. Yng nghanol llawer o heriau difrifol Brexit, mae potensial gan y diwydiant hwn i droi'r cyfleoedd yn heriau, ac rwy'n credu bod y ddadl heddiw'n dangos bod consensws cryf o blaid gweithredu ar hyn. Nodaf yr hyn a ddywed yr Aelodau ar draws y llawr o ran yr ymateb 'derbyn mewn egwyddor', ond hoffwn gofnodi heddiw nad oes unrhyw amwysedd yn fy ymrwymiad i ddatblygu'r mater hwn. Bydd yn un o fy mhrif flaenoriaethau fel y Gweinidog yr amgylchedd.

Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith 'pren-digedig' y pwyllgor ar yr adroddiad hwn. [Torri ar draws.] Mae'n Nadolig, dewch. [Chwerthin.] Ni allwn beidio. [Torri ar draws.] Credaf y dylwn symud ymlaen yn gyflym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o argymhellion y pwyllgor, a bellach rydym wedi ymroi'n llawn i sicrhau bod ein dyheadau'n tyfu'n weithgarwch, ac yn gwreiddio er mwyn sicrhau'r canlyniadau cywir. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, David Rowlands, Vikki Howells, Jayne Bryant, Mark Isherwood ac i'r Gweinidog am gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn bwysicaf oll, rwy'n credu, am y ffordd gadarnhaol a chydsyniol rydym wedi ei symud yn ei blaen? Credaf y gallwn eistedd yn awr a dweud, 'Wel, rydym i gyd yn cytuno, onid ydym?' Ond mae yna nifer o bethau y credaf fod angen eu dweud. Credaf mai'r cyntaf yw: nid oes gennyf broblem gyda thargedau lleol, ond a oes rhywun yn mynd i gyfrif yr holl dargedau lleol a chyhoeddi beth yw'r targedau lleol hynny? A ydym yn mynd i ddarganfod sut y mae pobl yn gwneud yn erbyn y targedau lleol hynny? Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda thargedau lleol, ond os yw adio'r holl dargedau lleol yn gwneud 2,000 o goed, mae rhywbeth o'i le. Ac os daw'n fwy nag yr oeddem yn ei ddisgwyl, rydym yn symud yn bendant iawn i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd fod pobl yn cyrraedd y targedau hynny. Mae targedau'n bethau gwych, ond os oes gennych lawer o dargedau lleol, mae angen i rywun ei gydlynu, a buaswn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn adrodd yn ôl i'n pwyllgor yn flynyddol—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn flynyddol—ar sut y maent yn gwneud yn erbyn y targedau hynny.

I symud ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi dweud pethau tebyg iawn, a phrin fod hynny'n syndod. Roedd y pwyllgor yn cytuno'n llwyr. Mae pethau fel ei fanteision economaidd, ei fanteision amgylcheddol, ystod ehangach o rywogaethau, a nifer y swyddi a grëir. Credaf fod Vikki Howells wedi amlygu gwaith pwysig iawn a wnaed yn ei hardal nad oedd yn galw am unrhyw arian gan y Llywodraeth ychwaith, sy'n anarferol—bob tro y bydd gan rywun brosiect, maent eisiau gwybod faint y byddant yn ei gael naill ai mewn nawdd neu mewn arian gan y Llywodraeth i'w gyflawni. Credaf fod modd o wneud hyn a all fod yn economaidd hyfyw a gall pobl wneud arian ohono.

Siaradodd pobl am amrywiaeth eang o brosiectau da iawn. Credaf mai un o'r pethau sy'n destun tristwch i'r rhan fwyaf ohonom yw mai dyma'r unig enghreifftiau prin o brosiectau ledled Cymru. Ceir prosiect Llynfi, y gwn fod Huw Irranca-Davies yn falch iawn ohono, yr hyn sy'n digwydd ym Masaleg, a'r hyn sy'n digwydd yng nghwm Cynon, ond dylem fod yn siarad am beth sy'n digwydd ym mhob tref, bob dinas a phob cwm. Nid, 'Fe ddown o hyd i rai arferion da.' Pan arferai pobl ymweld â Gogledd Corea, byddent yn cael eu tywys i weld un ardal, sef eu hardal ar gyfer ei dangos i ymwelwyr. Nid ydym eisiau hynny. Rydym am weld a yw'n digwydd ym mhobman, fel y gallwch ddewis ble yng Nghymru yr ewch chi i weld coedwigoedd yn tyfu.

Mae'n hynod economaidd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwyno nad oes ganddynt arian—neu maent yn cwyno wrth y pwyllgor nad oes ganddynt arian. Wel, mae ganddynt goedwigoedd mawr; dylent fod yn gwneud arian o'u pren. Mae datblygwyr masnachol yn gwneud symiau sylweddol o arian o'u pren. Dylem fod yn troi atynt hwy i ddangos arweiniad ar hyn hefyd.

Mae Mark Isherwood yn sôn am gynyddu cyfraddau plannu a chanlyniadau cynaliadwy, ond ynglŷn â'r diffyg cefnogaeth cyffredinol i goedwigaeth, rwy'n meddwl bod yr hyn y mae'n ei ddweud am hynny'n hollol iawn. Nid ydym yn siarad am goedwigaeth yma'n aml iawn. Cymharwch faint o weithiau y buom yn siarad am goedwigaeth yma â faint o weithiau y buom yn siarad am amaethyddiaeth. Credaf fod coedwigaeth yn colli'n ddramatig iawn yn erbyn hynny.

Rydym eisiau canlyniadau cynaliadwy, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yna fanteision enfawr i goed. Hynny yw, maent o fudd i'r amgylchedd. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gydag ansawdd aer. Wel, plannwch goed. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gyda llifogydd. Plannwch goed. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gydag ardaloedd trefol yn edrych yn annymunol. Plannwch goed. Siaradwn am esgeuluso ymhlith rhai o'n cymunedau hŷn. Gwn fod pobl yn defnyddio'r geiriau 'cymunedau'r Cymoedd', wel, a gaf fi eu croesawu i ardaloedd fel Dwyrain Abertawe, er enghraifft, nad yw'n cael ei hystyried yn gymuned y Cymoedd efallai, ond mae ganddi ardaloedd o amddifadedd economaidd ac mae ganddi un o'r cynlluniau plannu coed mwyaf yn Ewrop yn digwydd ynddi, i adfer cwm Tawe isaf? Cafodd Mynydd Cilfái ei orchuddio â choed. Fe ellir gwneud hyn. Mae wedi cael ei wneud o'r blaen.

Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar sicrhau ein bod yn cynyddu faint o orchudd coed sydd gennym, ein bod yn gweithio ar sicrhau y gwelir coedwigaeth fel rhan bwysig o economi Cymru, y caiff ei weld fel maes pwysig. Pe bai unrhyw faes arall yn cynhyrchu 10,000 o swyddi, byddem yn sôn amdano fel cyflogwr mawr a pha mor bwysig ydoedd. Mae 10,000 o swyddi mewn coedwigaeth, ond oherwydd nad ydynt oll mewn un ffatri—. Pe bai rhywun yn creu ffatri gyda 10,000 o swyddi, byddai gennym lu o bobl yma'n rhuthro—Gweinidogion, llefarwyr y gwrthbleidiau—i fynd i'w weld ac yn dweud, 'Onid yw'n wych fod y lle hwn yn creu 10,000 o swyddi?' Ond oherwydd eu bod wedi eu dosbarthu ledled Cymru, rydym yn llai tebygol o'i ystyried o bosibl. Ond mae llawer ohonynt mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o ddiweithdra ac yn aml mae cyflogau'r gwaith sydd ganddynt yn isel iawn. Felly, mae coedwigaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardaloedd hynny.

Rwyf eisiau dweud mewn gwirionedd fy mod yn credu ein bod i gyd ar yr un ochr. Credaf fod y Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol iawn ac fe orffennaf drwy ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach: a gawn ni adroddiad i'r pwyllgor, neu i'r Siambr yma, yn flynyddol ar sut rydym yn gwneud yn erbyn y targedau lleol hynny? Oherwydd credaf fod hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth y mae llawer iawn ohonom am ei weld. Mae targedau lleol yn iawn, ond a fyddai modd eu hadio at ei gilydd a'u cyflwyno i ni? Diolch.

16:25

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:30

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus

Symudwn ymlaen at y ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, a galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig—Lee.

Cynnig NDM6572 Lee Waters, Mick Antoniw, David Melding, Nick Ramsay, Hefin David, Suzy Davies, Mike Hedges, David Rees, Jenny Rathbone, Julie Morgan

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig—gan gynnwys teithio llesol—i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.

4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf.

5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu—gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro—er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Cynulliad y rhagwelir y bydd galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn tyfu 150 y cant yn y 13 blynedd nesaf. Os yw hynny'n wir, mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn awr er mwyn sicrhau bod yna ddewis amgen deniadol yn lle defnyddio ceir.

Y dystiolaeth o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus y byd, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffynnu, yw y bydd pobl yn defnyddio bysiau a threnau os ydynt yn hawdd i'w defnyddio. Mae angen i deithwyr allu teithio heb drefnu ymlaen llaw. Ond mewn llawer o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, mae profiad pobl o drafnidiaeth gyhoeddus yn wahanol iawn. Daw pobl yno, ac mae'r bws neu'r trên wedi mynd. Mae gennym wasanaethau bysiau fel yr L1 o Forfa i Lanelli, sy'n dod i ben am 4 p.m. Os ydych yn byw yng Nghydweli a Thrimsaran, tri gwasanaeth bws y diwrnod sydd yna i Lanelli, ac mae'r bws olaf o'r Tymbl yn gadael am 6.30 p.m. Pedwar trên y diwrnod yn unig sydd yna o Fynie i Abertawe, ac os daliwch fws rhif 16 yn lle hynny, bydd yn cymryd bron i ddwy awr i chi—taith y gallwch ei gwneud yn y car mewn 30 munud.

Mae fy etholwyr wedi bod yn dweud wrthyf, pan fyddant yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n aml yn hwyr, bydd y gwres wedi torri neu bydd y bysiau ond yn cymryd arian union. Rwy'n derbyn efallai nad dyna fydd profiad y rhan fwyaf o bobl, ond mae tystiolaeth anecdotaidd fel hyn yn cael ei nodi'n aml gan bobl sy'n gyrru fel rheswm dros beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac os gellir eu darbwyllo i roi cynnig arni, nid yw ond yn cymryd un neu ddau o brofiadau gwael i'w hatal rhag rhoi cynnig arall arni.

Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i adeiladu systemau metro. Mae ein cynnig heddiw yn croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu metro Caerdydd a'r Cymoedd, yr addewid i ddatblygu un yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac astudiaeth o un ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy'n cynnal cyfarfod â busnesau yn Nhŷ Llanelly ddydd Gwener i adeiladu cefnogaeth ar gyfer y metro yn fy rhanbarth ac i gael syniadau ynglŷn â sut i'w gynllunio er mwyn gwneud pethau'n well ar gyfer y cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Mae arnom angen glasbrintiau manwl ar fyrder bellach ar gyfer y tri phrosiect metro, ac i'r rhain fod yn uchelgeisiol—i fod yn wasanaethau da ar gyfer y prif drefi a dinasoedd, a hefyd i estyn allan a chysylltu cymunedau anghysbell. Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn cynllunio'r metro gyda'r daith gyfan mewn cof, o ddrws i ddrws. Felly, yn ogystal â bysiau a threnau, mae angen inni feddwl ynglŷn â sut y mae'n cysylltu â cherdded a beicio ar gyfer teithiau i ac o orsafoedd a'u cynnwys yn ein cynlluniau. Fel arall, gallem fod yn gwastraffu pentwr anferth o arian ar gyfres o feysydd parcio anferth ym mhob gorsaf.

Felly—mae hyn i gyd yn gyfarwydd. Ond diben y ddadl heddiw, rwy'n gobeithio, yw ein bod yn edrych ar fetros yn wahanol, ac yn edrych y tu hwnt i beth yw eu budd o ran trafnidiaeth i'w budd o ran adfywio ehangach hefyd. Drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth ag aneddiadau allweddol, rydym yn agor y posibilrwydd o ddod â manteision eraill i'r ardaloedd hynny yn ogystal. Pan fydd gwasanaeth yn gwella, neu pan fydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu, mae gwerth tir gerllaw yn tueddu i godi wrth iddo ddod yn lle mwy deniadol i adeiladu. Caiff busnesau eu denu i mewn, nid yn unig i'r orsaf fetro unigol, ond i'r canolfannau trefol mawr sy'n dod o fewn cyrraedd hawdd i ben draw'r rheilffordd, gan gynyddu eu cronfa dalent ar ei ganfed. Ac mae'n helpu'r di-waith a'r rhai ar y cyflogau isaf hefyd drwy wneud swyddi'n fwy hygyrch pa un a oes ganddynt gar ai peidio. Gwyddom y gall rhai sydd â'r incwm isaf wario chwarter eu hincwm ar redeg car i gyrraedd y gwaith. Gall trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy helpu i ddileu'r rhwystr hwnnw i gyflogaeth.

Mae'r manteision posibl hyn, Ddirprwy Lywydd, wedi'u hen sefydlu, ond rydym wedi camddarllen y potensial hwn fel pe bai'n anochel. Gyda'r systemau metro newydd hyn, yn ogystal â chael y mecanwaith yn iawn, mae angen inni wneud yn siŵr, o'r cychwyn cyntaf, ein bod yn cynnwys y dulliau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau, wrth inni uwchraddio'r system drafnidiaeth, ein bod yn cynnwys y buddiannau ehangach y bydd y buddsoddiad newydd hwn yn eu creu. Er mwyn i bobl fanteisio ar y swyddi newydd a fydd ar gael iddynt, mae angen i ni sicrhau bod ganddynt drafnidiaeth i gael mynediad at y swyddi newydd hyn, ond mae angen i ni sicrhau hefyd fod ganddynt y cymwysterau hefyd. Rhaid i hyn olygu targedu yn hytrach na dull cyffredinol o weithredu. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae'r dadansoddiad o ba swyddi newydd a fydd ar gael a pha gyflogwyr newydd penodol a allai gael eu denu at y cymunedau hyn o ganlyniad i orsaf fetro newydd? Ni allwn weld ble mae'r bylchau sgiliau heb y dadansoddiad hwn na sut y gellir cynorthwyo'r boblogaeth bresennol i gau'r bylchau sgiliau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud mwy na mewnforio talent, ond yn hytrach ein bod yn ei datblygu.

Ar brisiau tir, os ydym i atal elw rhag mynd i ddwylo landlordiaid preifat a pherchnogion tai yn unig, rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu, gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro fel y gallant ddenu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro. Ac o ran denu busnesau newydd, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod busnesau newydd yn cynyddu'r gwerth cymdeithasol, nid yn unig y gwerth i randdeiliaid? A fydd ymddangosiad Tesco Metro newydd, er enghraifft, yn peryglu busnesau lleol sy'n bodoli eisoes? A allai dulliau gweithredu amgen hybu, yn hytrach na thanseilio, economïau sylfaenol presennol? Rhaid i hyn i gyd gael ei ystyried a'i gynnwys yn y cynlluniau.

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod gan Trafnidiaeth Cymru yr holl offer a'r cyfarwyddyd i ddylunio systemau metro sydd nid yn unig yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ond yn newid cyfleoedd bywyd y bobl yn yr ardaloedd rydym yn eu cynrychioli. Nid prosiect i beirianwyr chwarae gyda bysiau a threnau yn unig yw hwn, a rhaid i Weinidogion wneud yn siŵr fod y portffolios gwahanol yn dod at ei gilydd i fanteisio ar y cyfle hwn. Diolch.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gallu cefnogi a chyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Mae prif elfen y ddadl hon, fel y crybwyllodd Lee Waters, yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar ein rhwydwaith ffyrdd. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddadleuol. Wel, yn sicr ni ddylai fod. Mae'n ymddangos mai synnwyr cyffredin ydyw, ond pa mor aml dros y degawdau diwethaf rydym wedi colli golwg ar drafnidiaeth? Bu hon yn broblem ers tro, nid yn unig gydag un Llywodraeth, ond i lawer o Lywodraethau dros nifer o flynyddoedd a nifer o ddegawdau.

Mae'n rhesymol meddwl, os gallwn gael mwy o bobl ar fysiau a threnau—a thramiau, yn wir—y bydd mwy o le ar ein ffyrdd ar gyfer modurwyr sydd wir angen eu defnyddio. Wrth gwrs, ar yr un pryd, dylai creu ceir awtonomaidd, a drafodwyd gennym yn y Siambr hon yn ddiweddar, gynyddu capasiti ffyrdd ymhellach gan fod technoleg gyfrifiadurol yn lleihau'r pellteroedd stopio sydd ei angen ar ein ffyrdd, ac felly gallwn gynyddu'r capasiti yno, ond mae hynny'n rhywbeth ar gyfer dadl arall.

Hoffwn bwysleisio nad wyf yn gweld hyn fel rhywbeth sy'n ymwneud â chosbi'r modurwr, a chredaf fod yna deithiau pan oedd y car yn frenin ac y bydd yn frenin, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle mae hi bob amser yn anodd cau rhai o'r bylchau hyn. Ond yn syml iawn, ni wnaed digon i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd a'r degawdau yn dilyn yr ail ryfel byd hyd heddiw. Felly, rydym yn croesawu'n frwd unrhyw gynlluniau i ddatblygu metro de Cymru, sydd yn y cynnig—cam cyntaf, beth bynnag—a hefyd metro gogledd Cymru, sydd hefyd wedi'i grybwyll yng ngeiriad y cynnig. Ond mae angen inni symud ymlaen o'r cysyniad i brosiectau parod, a bwrw ymlaen gyda'r gwaith.

Yn amlwg, bydd rhannau o fap y metro yn haws i'w cyflawni nag eraill—er enghraifft, cyswllt tram, y siaredir yn aml amdano, o ganol dinas Caerdydd i fae Caerdydd, adfer rheilffyrdd tram eraill ar draws y brifddinas efallai, a defnyddio rheilffyrdd presennol y Cymoedd, gan fod y seilwaith yno eisoes. Mae tramiau'n wych, wrth gwrs, oherwydd gallant redeg ar reilffyrdd a ffyrdd, ac maent yn hollol lân o ran yr allyriadau trefol na chânt eu rhyddhau, yn wahanol i fysiau a mathau eraill o drafnidiaeth.

Wrth gwrs, mae gwir angen gwell seilwaith arnom yn yr ardaloedd gwledig a grybwyllais yn gynharach, lle y ceir gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus anghyson iawn ar hyn o bryd. Gwyddom yn iawn pa mor ddrud y gallai adfer y seilwaith rheilffyrdd fod—llawer drutach yn y tymor byr na gwasanaethau bysiau. Gwn fod rhywfaint o waith wedi'i wneud dros y blynyddoedd ar adfer rheilffordd dyffryn Gwy yn fy ardal i o Gas-gwent i Drefynwy, ond byddai'n afresymol o ddrud, fel y byddai rhai cynlluniau rheilffyrdd eraill.

Rwy'n aml yn cellwair y gallech deithio yn 1950 o fy mhentref yn Rhaglan i Gaerdydd ar y trên yn rhwydd—cymaint yr hiraethwn am y dyddiau hynny. Rydym yn sôn am gynnydd—mewn rhai ffyrdd, nid yw'n ymddangos ein bod wedi symud ymlaen. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r gwasanaeth hwnnw yno, ac roedd yn haws o lawer i'w wneud. Heddiw, yn fy etholaeth, mewn gwirionedd mae'n hawdd iawn cymudo i Gaerdydd yn y bore o Drefynwy ar fysiau a threnau, ond fel y dywedodd Lee Waters, y broblem yw cyrraedd yn ôl mewn gwirionedd—nid yw hynny mor syml. Credaf fod y bws olaf o Gasnewydd yn mynd tua 5.30 p.m., efallai ychydig ar ôl hynny, a'r un pryd yn y Fenni. Felly, mae ar ben arnoch wedyn; nid yw'n rhoi digon o amser i chi fynd o'ch man gwaith i Heol y Frenhines Caerdydd, i orsaf Caerdydd Canolog, i Gasnewydd mewn pryd ar gyfer y cysylltiad, felly rydych wedyn yn ddibynnol ar dacsis, bodio neu bas gan ffrindiau, felly nid yw hynny'n ddigon da.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen datrys y problemau hyn er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyfyw fel y mae pawb ohonom am iddi fod. Nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi gweld datblygiadau cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai gorsafoedd newydd ac eraill ar y gorwel—gorsaf newydd wedi ei haddo ym Magwyr. Rwyf wedi crybwyll y posibilrwydd wrthych o hyb yn y Celtic Manor ger y ganolfan gynadledda arfaethedig, a pho fwyaf y meddyliaf am hyn, y mwyaf y credaf ei fod yn ateb i nifer o'n problemau yn ne-ddwyrain Cymru. Gwn eich bod yn agored i hyn. Byddai'n fater wedyn o gludo teithwyr o Gasnewydd i'r hyb a phoeni wedyn am ail gam eu taith o'r hyb ymlaen i ardaloedd gwledig a thu hwnt ar ôl hynny. Felly, byddai o bosibl yn chwalu'r rhwystrau presennol sydd yno.

Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na'r drafnidiaeth yn unig—mae tocynnau'n hollbwysig hefyd, a greal sanctaidd tocynnau integredig a di-dor, syniad gwych yn ymarferol ond peth cythreulig o anodd ei gyflawni, fel y dywedodd yr Athro Stuart Cole yn gofiadwy pan oeddem yn ystyried y mater yn y pwyllgor economi a thrafnidiaeth yn y Cynulliad diwethaf. Gall y dechnoleg ddiweddaraf chwarae rhan bwysig yn helpu i gyflawni'r amcanion hyn. Mae apiau ar ffonau yn fwy tebygol o roi'r wybodaeth ddiweddaraf na'r amserlenni bysiau confensiynol, sydd fel arfer ddyddiau neu wythnosau allan ohoni o ran y dyddiad, os nad yn waeth. A beth fydd yn digwydd os na weithredwn ni? Wel, rydym wedi gweld y problemau ar yr M4. Rwy'n meddwl bod fy nhawedogrwydd ynglŷn â'r M4 newydd yn hysbys. Heb ystyried y materion amgylcheddol, rwy'n credu bod y gorffennol wedi dangos os ydym yn dibynnu ar adeiladu ffyrdd heb ddatblygu trafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd, byddwn yn wynebu trafferthion difrifol yn y pen draw.

Ddirprwy Lywydd, credaf fod paragraff olaf y cynnig yn hollbwysig. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael pŵer, rhaid iddo gael dannedd fel y nododd Lee Waters, i lwyddo ac nid i fod yn siop siarad yn unig, a chredaf fod datganoli Comisiynydd Traffig i Gymru yn ddechrau da iawn. Ond gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith a darparu system drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol y gall Cymru fod yn falch ohoni.

16:40

Efallai y bydd angen i'r car deyrnasu mewn ardaloedd gwledig, ond mewn ardaloedd trefol yng nghanol dinasoedd fel Caerdydd mae'n rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn opsiwn diofyn i'r rhai sy'n anfodlon neu'n analluog i gerdded neu feicio. Mae pobl yng Nghaerdydd yn dechrau gwisgo mygydau wyneb fel y gwnânt yn Beijing. Dyma ganlyniad yr ymagwedd gwneud dim i 80,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd a Chasnewydd o awdurdodau cyfagos drwy ddefnyddio ceir. Mae tagfeydd ar ffyrdd yr holl ranbarth ar adegau brig. Os yw Llywodraeth Cymru yn methu gweithredu ynghylch y lefelau llygredd aer anghyfreithlon, byddant yn gorfod wynebu'r llysoedd, a bydd hynny'n costio swm enfawr o arian y gallem fod yn ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae pobl eisiau gwneud y peth iawn. Tyfodd y galw am reilffyrdd o 20 miliwn o deithiau gan deithwyr i 30 miliwn yn ystod y degawd diwethaf. Ar reilffyrdd y Cymoedd yn  unig oedd hynny. Mae'n amhosibl ysgogi mwy o bobl allan o'u ceir ac ar wasanaethau trên heb gynyddu'r capasiti, felly un o'r pethau y mae angen i ni ei wybod yw: ar ba bwynt yn y contract ar gyfer darparwr masnachfraint newydd y rheilffyrdd y ceir mwy o gapasiti a thocynnau trosglwyddadwy er mwyn galluogi mwy o bobl i wneud y peth iawn?

Mae'r cynnig hwn yn croesawu'r ymrwymiad i gamau cyntaf metro de Cymru, ond rwyf am ofyn: ble mae'r gweddill? Mae'n bum mlynedd ers adroddiad Mark Barry, 'A Metro for Wales' Capital City Region', a dwy flynedd ers i fwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd nodi y gallai system drafnidiaeth integredig, i gyd-fynd â chynllunio defnydd tir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. Ac wrth wraidd y dyhead hwn mae'r weledigaeth fetro am rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern amlfodd integredig o ansawdd uchel.

Disgwylir i ardal fenter Canol Caerdydd ddenu miloedd o swyddi i Gymru, ond cysylltiad metro cyflym yn unig a fydd yn galluogi pobl Cymoedd de  Cymru i gyrraedd y swyddi hyn. Addawyd mynediad i fewnfuddsoddwyr at 1.5 miliwn o bobl a allai gymudo o fewn 30 munud, ac ni ellir cyflawni hynny heb y metro. Cysylltiad metro cyflym yn unig a all ddarparu ar gyfer y degau o filoedd o deithiau byr rhagweladwy y mae pobl yn eu gwneud bob dydd i ac o'r gwaith a'r ysgol.

Felly, mae'r consensws yno, ond ble mae'r arian? Gwyddom fod £734 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer metro de Cymru, a daw £250 miliwn ohono gan Lywodraeth Cymru a £375 miliwn gan Lywodraeth y DU, sy'n cynnwys £150 miliwn ar gyfer trydaneiddio. Wedyn, ceir oddeutu £120 miliwn a £130 miliwn o arian Ewropeaidd. Felly, yn y £375 miliwn hwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei addo, ceir swm amodol o £125 miliwn i drydaneiddio rheilffordd y Cymoedd, os yw Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi o leiaf £325 miliwn tuag at drydaneiddio. Os nad yw'n gwneud hynny, gallai'r £125 miliwn gan Lywodraeth y DU gael ei dynnu'n ôl. Felly, rwy'n pryderu ein bod yn mynd i roi o leiaf £450 miliwn o'r £734 miliwn tuag at drydaneiddio, ac nad yw'n gosteffeithiol.

Mae topograffeg a nifer yr arosfannau ar reilffyrdd y Cymoedd yn golygu na fydd trenau trydan trwm byth yn cyrraedd cyflymder uwch na 50 milltir yr awr a gall tramiau gyflawni hynny. Fel Nick Ramsay, rwy'n frwd o blaid y tram. Mae'n ddewis llawer rhatach. Mae'n golygu, o Bontypridd, yn hytrach na chwech neu saith trên yr awr wedi eu trydaneiddio, y gallwch gael 10 i 12 o dramiau cyflym. O Ferthyr Tudful, gallech gael tri neu bedwar tram yr awr yn lle dau drên yr awr. Ni fyddwch yn gallu lleihau'r amser teithio o Ferthyr Tudful i 40 munud hyd nes y gwnewch hynny—ni allwch wneud hynny â cherbydau trwm—oherwydd gallwch redeg trenau ysgafn yn llawer nes at ei gilydd ac maent yn stopio'n gyflymach o lawer.

Felly, beth os yw cynigydd llwyddiannus y fasnachfraint reilffyrdd yn dweud bod trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn wastraff arian ac mai dull llawer mwy costeffeithiol yw rheilffyrdd ysgafn ar bob un neu bron bob un o reilffyrdd y Cymoedd? A fydd yn rhaid i Lundain ddweud wrthym beth i'w wneud a bwrw ymlaen â dull llai effeithiol, sy'n fwy costus? Beth y mae hynny'n ei ddweud am awydd Llywodraeth Cymru i weld y diwydiant yn darparu'r ateb o ran pa fath o drafnidiaeth a fydd yn gweithio orau drwy brofi'r farchnad a phrosesau cynigion caffael yn y pen draw? Rwyf am sicrhau ein bod yn gallu gwneud y peth iawn fel bod gennym ddigon o arian i gael gweddill y weledigaeth fetro ynghylch rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda system docynnau ganoledig, a'i gwneud yn gosteffeithiol. Er mwyn cael gweddill yr arian, punt am bunt, rydym yn gwybod bod milltir o gostau buddsoddi yn y rheilffyrdd yn costio tua'r un faint â milltir o draffordd ond mae'n sicrhau budd i hyd at 20 gwaith yn fwy o bobl. Rhaid inni roi'r gorau i chwilio am fuddsoddiad car-ganolog a buddsoddi mewn system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig os ydym am ddarparu dewis amgen ymarferol.

Dyma'r newid—

16:45

Ydw, rwy'n dirwyn i ben—y mae gofynion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn galw amdano a'r targedau lleihau carbon y mae Deddf yr amgylchedd yn galw amdanynt. Yn ninas-ranbarth Caerdydd, mae hynny'n golygu'r metro.

Yng Nghymru, mae trafnidiaeth wedi tueddu i fod yn rhywbeth sydd wedi ei wneud i ni, nid ar ein cyfer ac yn sicr nid er ein mwyn ein hunain. Mae ein seilwaith trafnidiaeth yn aml wedi adlewyrchu'r dynameg pŵer sydd ohoni, yr economeg sydd ohoni, yn hytrach na chael ei ddefnyddio yn y modd y credaf fod Lee Waters yn ei awgrymu, a Jenny Rathbone yn wir—fel offeryn creadigol, os mynnwch, ar gyfer ailddyfeisio ein gwlad a'n tirlun economaidd a chymdeithasol. Yr hyn a olygaf, yn fwy penodol, yw: os edrychwch ar fap trafnidiaeth Cymru, yn y bôn mae iddo holl nodweddion economi gwlad a wladychwyd. Yn eu hanfod, mae'r prif lwybrau yn dal i fod o'r gweithfeydd i'r arfordir neu o'r fferm i'r brif farchnad. Ac rydym yn dal i ymgiprys â hynny. Dyna hanfod y broblem a wynebwn fel cenedl: ein bod wedi ein datgysylltu. Mae angen ymdrech arwrol deilwng o Odysews i fynd o'r de i Aberystwyth ar y trên, neu hyd yn oed yn fwy felly i ogledd Cymru. Ar raddfa lai, ar y lefel feicro, ceisiwch groesi'r Cymoedd yn ardal yr hen faes glo—boed yn y gorllewin, y canol neu yn y dwyrain—nid oes unrhyw gysylltiad. Felly, sut y gallwn greu swyddi gwell yn nes at adref pan na allwch gyrraedd yno? Ni allwch gael swydd a allai fod wyth neu naw milltir i ffwrdd hyd yn oed oherwydd mae hi yn y cwm nesaf.

Rwy'n ofni, er bod llawer sy'n dda yn y cynnig, mae'n ddiddorol beth y mae'n ei hepgor. Mae'n cyfeirio at y meysydd allweddol y mae Llywodraeth Cymru'n edrych arnynt, sef metros: metros ar gyfer tri rhanbarth metropolitanaidd. Ac rwy'n cael hynny'n rhyfedd mewn gwlad a ddiffinnir gan y ffaith nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn dinasoedd mewn gwirionedd. Rydym yn genedl lai fetropolitanaidd nag unrhyw wlad arall bron. Pe bai'r 700,000 o bobl sy'n byw yn yr hen faes glo yn ddinas, byddent yn ddinas fawr, ond pentrefi ôl-ddiwydiannol yw'r rheini. Tybed a ydym yn ein polisi trafnidiaeth wedi cael ein hudo braidd gan olew nadroedd rhanbartholdeb dinesig, sydd wedi dod yn—. Wyddoch chi, theori economïau clystyru: 'Pe baem yn gallu dyblu maint Caerdydd, byddai popeth yn iawn' yw'r syniad sylfaenol sy'n sail i ranbartholdeb dinesig. Rwy'n gwybod, oherwydd rwyf wedi astudio o dan rai o awduron y syniad o ddinas-ranbarthau. Darllenwch y llyfr Triumph of the City ac yn y blaen. Mae hwn yn syniad cwbl anghywir ac yn wir, mae rhanbartholdeb dinesig ledled y byd erbyn hyn—rwy'n credu bod beirniaid ac amheuwyr yn dod i'r blaen, oherwydd nid yw wedi cyflawni'r hyn y mae'n dweud y gall ei wneud mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

16:50

Oni allwch dderbyn bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ne Cymru yn ymwneud â chysylltu cymunedau gwahanol, nid â gorfodi pawb i symud i mewn i Gaerdydd? Byddai honno'n senario hunllefus.

Gall fod yn hynny, ond mae yna densiwn. Er enghraifft, yn y fersiynau a'r drafodaeth rwyf wedi ei chlywed, mae'r pwyslais bron bob amser i'w weld yn y bôn—i symleiddio, ond yn y bôn—ar ei ddefnyddio fel gwasanaeth cymudo i gael pobl o'r gefnwlad i weithio mewn swyddi yng Nghaerdydd. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr economaidd i ni. Ni chaiff ei gyflawni. Rwy'n cytuno gyda'r Aelod fod angen cyflwyno gweledigaeth wahanol mewn gwirionedd. Roedd rhai o'r syniadau gwreiddiol, peth o'r gwaith a wnaeth Roger Tanner ar ddinas y Cymoedd, yn weledigaeth lawer mwy cyffrous mewn gwirionedd, ac roedd iddi ymdeimlad o ranbarth lluosganolog, a oedd mewn gwirionedd yn mynd i'r afael yn nhermau trafnidiaeth â phroblem go iawn cysylltiadau ar draws, yn hytrach na'r dull llinol iawn hwn, sydd mewn gwirionedd, unwaith eto, yn adlewyrchu ein hanes economaidd ac nid wyf yn meddwl ei fod yn lasbrint ar gyfer ein dyfodol economaidd.

Hefyd nid yw'r cynnig yn cyfeirio at y gorllewin a'r de-orllewin nac at fater—mater mawr yn fy marn i—y cyfle mawr i greu coridor rheilffordd, coridor rheilffordd cenedlaethol, gan ddechrau gyda Chaerfyrddin i Aberystwyth. Mae hwnnw'n syniad cyffrous a dychmygus y credaf y bydd yn ysbrydoli pobl ac yn newid siâp ein cenedl a siâp ein dyfodol.

Diolch i'r Aelodau sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr, er nad wyf yn siŵr, wrth ddilyn y datganiadau Cabinet ddoe a'r ymatebion a ddilynodd, fod llawer i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd o'r blaen. Ond yn nhraddodiad gwych gwleidyddion, ni adawaf i hynny fy atal. Derbynnir yn gyffredinol fod taer angen i Gymru gael system drafnidiaeth integredig fodern, a dylai fod yn un sy'n gosod Cymru ar y blaen o ran yr hyn sy'n gwneud rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus blaenllaw. Ni fyddwn yn gallu symud oddi wrth seilwaith ffyrdd a thagfeydd traffig, wedi ei waethygu gan ein gorddibyniaeth ar y car heb weithredu system o'r fath.

Rhaid i ni gydnabod bod topograffeg Cymru yn rhwystr i sicrhau system drafnidiaeth ddi-dor, ond o ystyried y strategaeth gywir a'r ymrwymiad ariannol, wrth gwrs, nid oes unrhyw reswm pam na ellir cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru. Nid oes amheuaeth fod system drafnidiaeth wedi'i hintegreiddio'n dda yn creu manteision enfawr, yn economaidd ac yn gymdeithasol, felly mae'n hanfodol fod y system fetro a gynlluniwyd, yng ngogledd a de Cymru yn cael ei gweithredu gydag amserlen bendant ac amserol.

Er bod y defnydd o drenau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n dal yn wir mai bysiau sy'n cludo 80 y cant o'r bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n hanfodol fod y gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg mewn modd mor integredig ac effeithlon ag sy'n bosibl. Lle y gwelir bod gweithredwyr bysiau a ddadreoleiddiwyd yn canolbwyntio ar elw yn hytrach na boddhad cwsmeriaid, dylid rhoi pwerau i Trafnidiaeth Cymru gynllunio a phennu'r rhwydwaith yn unol ag egwyddorion arweiniol darparu ar gyfer anghenion wedi'u targedu a lleihau tagfeydd.

Mae'r rhan fwyaf o Gymru yn wledig, ac mae llawer o'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod yna system drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, wedi'i hintegreiddio'n dda gyda chysylltedd da rhwng gwasanaethau trên a bws fel nad yw ein cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl yn y symudiad hwn tuag at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd gwell. Soniais yn gynharach am ddiffygion posibl diwydiant bysiau wedi ei ddadreoleiddio. Felly, cytunaf â'r cynnig y dylai Trafnidiaeth Cymru gael pwerau i weithredu fel asiantaeth ddatblygu, fel y gall ymyrryd pan nad yw gwasanaethau'n cael eu gweithredu mewn modd integredig neu effeithlon.

Er mwyn cael economi fodern lwyddiannus, rydym i gyd yn cydnabod bod y gallu i warantu bod nwyddau a phobl yn cael eu cludo'n llyfn ac yn effeithlon yn ofyniad sylfaenol. Methiant i gyflawni hyn yw'r bygythiad mwyaf i gystadleurwydd busnesau Cymru. Edrychwn ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn darparu'r system drafnidiaeth y mae Cymru ei hangen mor ddybryd.

16:55

Rwy'n falch iawn o noddi ac o gael siarad am y cynnig hwn, ac rwy'n awyddus iawn i weld cynlluniau'r metro'n dwyn ffrwyth ac i weld llai o ddefnydd o'r car. Mae'r cynnig yn nodi, fel y dywedodd sawl siaradwr eisoes, fod angen system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig, gan gynnwys teithio llesol, er mwyn cynnig dewis amgen ymarferol a deniadol yn lle defnyddio'r car.

Hoffwn ddyfynnu o e-bost a gefais gan etholwr y bore yma, sy'n crynhoi ein problemau trafnidiaeth trên yng Nghaerdydd yn gryno, rwy'n credu, fel y mae fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone eisoes wedi sôn. Mae fy etholwr yn dweud,

Neithiwr aeth 3 thrên heibio cyn i mi allu gwasgu i mewn i 4ydd. Nid oedd digon o gerbydau ar yr un ohonynt. Rwy'n feichiog iawn ar hyn o bryd ac mae'n mynd yn anos defnyddio'r trên am ei fod mor llawn. Ac mae'n fy ngwneud i'n hwyr yn nôl fy mab er fy mod yn gadael 40 munud ar gyfer taith 4 munud. Cyn hir byddaf yn mynd ôl i ddefnyddio fy nghar—rhywbeth nad wyf eisiau ei wneud o gwbl. Hefyd rwy'n methu manteisio ar y gofal plant rhatach sydd ar gael i mi yng nghanol y ddinas (sy'n cael ei ddarparu gan fy ngwaith) am nad wyf yn fodlon rhoi fy mhlentyn dwy oed drwy'r profiad o fynd ar y trenau o dan yr amodau hynny. Nid oes unrhyw ffordd y gallai neb oedrannus neu rywun ag anableddau penodol ymdopi ychwaith (rwy'n amau a fyddai lle i gadair olwyn).

Felly, credaf fod yr e-bost hwnnw'n dangos beth y mae cymudwyr yn ei brofi, ond mae hefyd yn dangos sut y mae blaenoriaethau gwahanol sy'n bwysig iawn i ni yn y Cynulliad hwn ac yn bwysig i'r Llywodraeth, fel gofal plant rhatach—neu rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o ofal plant rhad ac am ddim ar gael—yn ddibynnol ar drafnidiaeth i'ch cludo yno. Felly, mae'r holl rannau gwahanol o'r Llywodraeth wedi'u cydgysylltu, a chredaf fod yr e-bost yn dangos hynny.

Cefais e-bost arall y bore yma hefyd yn dweud,

Mae'r trenau'n hen, yn ddrewllyd, yn annibynadwy, yn llethol o boeth ac fel arfer yn orlawn tu hwnt. Symudais i'r ardal yn ddiweddar a dechreuais fy swydd newydd yng nghanol y ddinas tua 3 wythnos yn ôl. Rwyf eisoes wedi bod yn hwyr oherwydd y trenau ar 4 achlysur. Gallwch ddychmygu nad yw hyn yn creu argraff dda ar fy mòs newydd ond mae fy opsiynau eraill ar gyfer cymudo yn gyfyngedig iawn—yn sicr nid oes angen ychwanegu at y traffig i mewn i'r dref. Beth bynnag, prynais fy eiddo ar y sail ei fod yn agos at yr orsaf drenau!

Mae hynny'n dilyn ymlaen yn bendant o'r pwynt a wnaeth Lee Waters—fod pobl eisiau symud i fyw yn agos at orsafoedd trên. Bydd gwerth tir yn codi, ac rwy'n sicr yn cefnogi'r cynnig ynghylch manteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir, ond yn amlwg, rhaid i ni gael y systemau trafnidiaeth i weithio.

Croesawaf y cynlluniau ar gyfer y metro, ond mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei hintegreiddio'n llawn a theithio llesol yn ei gwneud yn ofynnol inni feddwl, fel y dywedodd Lee Waters hefyd, ynglŷn â sut y mae pobl yn cyrraedd y gorsafoedd trên presennol a hefyd y gorsafoedd trên arfaethedig yn y cynllun metro. A rhaid trafod hyrwyddo cerdded a beicio i ganolfannau trafnidiaeth, a rhoi blaenoriaeth i hynny yn y drafodaeth. Rhaid inni ei osod ar y blaen, ac mae'n hanfodol fod yna gyfleusterau parcio beiciau ym mhob gorsaf, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, wrth gwrs.

Mae hyn yn arbennig o bwysig, gan ein bod yn gwybod bod nifer y teithiau byr o dan filltir sy'n cael eu gwneud yn y car yn cynyddu. Dengys yr ystadegau diweddaraf ar gyfer teithio llesol mai 5 y cant yn unig o oedolion oedd yn beicio o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, fod 61 y cant o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a bod pobl mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o gerdded dair gwaith neu fwy na hynny yr wythnos, o'u cymharu â phobl mewn ardaloedd gwledig. Credaf fod yna broblem benodol gydag ardaloedd gwledig, a chrybwyllwyd hynny. Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn seilwaith cerdded yn ogystal â lonydd beicio.

Rwy'n trefnu digwyddiad yn fy etholaeth ym mis Ionawr i hybu beicio ar gyfer teithiau byr—cymudo i'r gwaith, mynd i siopa a mynd â phlant i'r ysgol. Rydym yn mynd i gael trafodaethau am fynd ar eich beic, ac annog pobl hŷn yn enwedig, a mwy o fenywod i feicio, oherwydd mae angen i ni fynd i'r afael â phryderon go iawn pobl ynghylch beicio mewn traffig, a byddwn yn rhoi cymorth ymarferol iddynt wneud pethau fel trwsio olwyn fflat neu eu cynghori ynglŷn â beicio yn y tywyllwch. Byddwn hefyd yn siarad am feiciau trydan, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni hyrwyddo beicio ar gyfer y teithiau byr hyn, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw beicio'n rhywbeth ar gyfer dynion canol oed mewn lycra, fel y dywedodd rhywun. Rydym am iddo fod ar gyfer y gymuned gyfan, ac rydym am i bawb, yn enwedig menywod, i gymryd mwy o ran mewn beicio. Diolch.

17:00

Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y dywedodd llawer o'r Aelodau eisoes, mae gwella ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol i ddyheadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein gwlad. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod llawer iawn yn yr hyn a ddywedodd Lee Waters wrth agor y ddadl hon rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn eu cylch. Amlinellodd Lee faint yr her sydd o'n blaenau yn gywir, er enghraifft. Mae twf trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn arwyddocaol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n debygol o gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Fel yr amlinellodd Lee, ac fel y mae eraill wedi amlinellu yn eu hardaloedd eu hunain, mae'n anhygoel o anodd i bobl mewn llawer o gymunedau, a chymunedau gwledig yn arbennig, gysylltu â chymunedau eraill ar amser cyfleus a thrwy ddefnyddio gwasanaethau rheolaidd, gweddus, o ansawdd uchel. Dangosodd Lee, ac eraill, yn glir fod cysylltedd gwell yn hanfodol ar gyfer cefnogi twf economaidd a thwf yn y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru. Rhannodd Aelodau eraill, fel Julie, astudiaethau achos penodol yn ymwneud â'r defnydd a'r angen am well trafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i hintegreiddio'n well. A bydd y prosiectau metro rydym yn eu datblygu yn y gogledd-ddwyrain ac yn ne Cymru yn rhai aml-foddol. Byddant yn rhwydweithiau teithio cyflym integredig, gyda gwasanaethau bws, trên a theithio llesol gwell yn ganolog iddynt.

Fel yr amlinellodd Julie, Jenny ac eraill, mae hefyd yn bwysig fod gan deithwyr hyder yn ansawdd gwasanaethau a bod safonau'n cael eu gosod yn gyffredinol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus leol, ar draws Cymru gyfan. Fel y dywedodd Adam Price yn gywir, ni ddylai safon y gwasanaeth a ddarperir yn rhannau mwy gwledig ein gwlad fod o ansawdd is na'r rhai a ddarperir o fewn y metro neu rannau mwy trefol o'r wlad.

Nawr, ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud rhywbeth am hygyrchedd, sy'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn hanfodol bwysig wrth gynllunio trafnidiaeth. Mae'n ofynnol i fysiau bellach gynnig seddau â blaenoriaeth, lloriau is a mannau ar gyfer cadeiriau olwyn. Mewn perthynas â chyhoeddi rhestrau tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn gan awdurdodau trwyddedu, gall teithwyr gael gwell gwybodaeth bellach ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn sy'n gweithredu yn eu hardaloedd. Ac wrth gwrs, o Ionawr 2020 hefyd bydd yn ofynnol i'r holl drenau sy'n gweithredu ar ein rheilffyrdd fodloni safonau hygyrchedd a osodir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU. Nawr, er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, heb amheuaeth, mae'n dal i fod angen gwneud rhagor er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cynhwysol ac yn fwy hygyrch. Mae'n rhywbeth rwyf eisiau help gan yr Aelodau yn y Siambr hon i'w wneud wrth inni symud ymlaen gyda'n system trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Un o'r rhwystrau allweddol i hygyrchedd a nodwyd gan lawer o bobl anabl, Ddirprwy Lywydd, yw diffyg cysondeb o ran y ffordd y darperir gwasanaethau a chyfleusterau. Yn ganolog i hyn, mae'r angen i drawsnewid y ddealltwriaeth o hygyrchedd a chynllunio cynhwysol ymhlith gweithwyr proffesiynol sy'n cynllunio, dylunio, adeiladu a gweithredu seilwaith trafnidiaeth a chyfnewidfeydd, gwasanaethau a strydluniau.

Mae'r amcanion hygyrchedd newydd a ddatblygwyd gennym a'r gweithgarwch sy'n sail iddynt wedi cael eu cynllunio gan fy mhanel trafnidiaeth hygyrch, sy'n cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a grwpiau cydraddoldeb. Nawr, fel y dywedodd yr Aelodau, mae trafnidiaeth yn chwarae rôl ganolog wrth wella ffyniant, a ddoe lansiwyd y cynllun gweithredu economaidd, sy'n nodi pa mor bwysig yw seilwaith trafnidiaeth effeithiol ac integredig i ni allu cyrraedd ein nod o ffyniant i bawb. Mae un o'r newidiadau pwysig o ran dull o weithredu yn y ddogfen yn ymwneud â'r pwynt a wnaeth sawl un o'r Aelodau yn ystod y ddadl hon, sef yr angen i ddefnyddio prosiectau mawr megis y metro ar gyfer ymgymryd â chynlluniau mawr ym maes tai, defnydd tir, sgiliau a datblygu economaidd. Nid wyf yn gweld Trafnidiaeth Cymru ei hun yn dod yn asiantaeth ddatblygu annibynnol ar gyfer cyflawni hyn, ond byddaf yn disgwyl iddo weithio'n agos iawn gyda phartneriaid er mwyn cyflawni'r cynllunio cydgysylltiedig hwnnw y galwodd Lee ac eraill amdano, er mwyn manteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd defnydd tir wedi'i ysgogi gan fuddsoddiad mewn trafnidiaeth, ac i sicrhau ein bod yn datblygu tai a gwasanaethau yn y mannau cywir, gan gysylltu â buddsoddiadau trafnidiaeth.

Ddirprwy Lywydd, siaradodd nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Lee Waters a Nick Ramsay am yr angen i fynd i'r afael â methiannau dadreoleiddio bysiau yn 1986, a byddwn yn gwneud hyn drwy gyfrwng diwygiadau radical y byddwn yn ymgynghori yn eu cylch yn y gwanwyn. Mae rhwydwaith bysiau Cymru yn cludo mwy na 100 miliwn o deithwyr y flwyddyn, ac rwy'n benderfynol y dylai'r nifer hon nid yn unig aros ar y lefel hon, ond y dylai gynyddu os ydym i fynd i'r afael â llygredd a thagfeydd ar y ffyrdd fel y disgrifiodd Jenny Rathbone. Hefyd mae gwasanaeth rheilffyrdd effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i'r broses hon, ac rwy'n disgwyl i fasnachfraint newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau gyflawni hyn.

Mae hon yn adeg gyffrous i'r rheilffyrdd yng Nghymru yn fy marn i. Mae llawer iawn o weithgarwch yn mynd rhagddo i ddod o hyd i weithredwr a phartner datblygu i weithredu gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau o fis Hydref y flwyddyn nesaf, ac i ddarparu metro de Cymru o 2023. Yn wir, yr ymarfer caffael hwn rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd yw'r broses gaffael unigol fwyaf a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed. Bydd y gwasanaethau trên newydd yn sicrhau newid sylweddol yn ansawdd teithio ar y rheilffyrdd ledled Cymru.

Nawr, bydd metro de Cymru yn darparu'r model y gallwn ei gyflwyno ar draws gweddill y wlad, a hefyd rydym eisoes wedi cyllido gwaith datblygu ar y cysyniad amlinellol o fetro ar gyfer de-orllewin Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Cyngor Sir Abertawe yn cydlynu'r gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill, ac mae'r prosiect yn mynd rhagddo'n dda, gydag ymgynghorwyr wedi eu penodi ar gyfer datblygu'r cysyniad. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol a gweithdy rhanbarthol, a bydd cyngor Abertawe yn parhau i ddatblygu'r cysyniad yn y flwyddyn ariannol nesaf, pan wneir gwaith i gymhwyso asesiad a phrawf mwy trylwyr o'r cysyniad drwy achos busnes amlinellol strategol. Bydd ein metros yn darparu llawer mwy na rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwell. Bydd yn darparu gwasanaethau amlach, gan ganiatáu i deithwyr deithio heb drefnu ymlaen llaw.

17:05

A wnewch chi ymdrin â'r pwynt penodol ynglŷn â'r angen i rymuso Trafnidiaeth Cymru â phwerau corfforaeth ddatblygu i ddenu'r gwerth ychwanegol a gaiff ei greu?

Dylwn ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gynllunio fel grŵp arbenigol i allu cynnig cyngor a rheoli gwasanaethau rheilffyrdd. Credaf y bydd angen mwy na Trafnidiaeth Cymru yn unig i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i dir a chynlluniau defnydd tir fel yr amlinellodd yr Aelod ac eraill. Nid wyf yn gweld hon fel rôl ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn unig, ond ar gyfer llu mawr o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio ar gynnydd mewn gwerthoedd tir a chyfleoedd ar gyfer datblygu. O ran gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, er enghraifft, mae honno bellach yn anhygoel o brysur. Mae chwe gwaith yn brysurach nag unrhyw orsaf arall yng Nghymru, ond rwy'n falch o gyhoeddi bod gennym weledigaeth ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog fel canolfan drafnidiaeth o'r radd flaenaf, a heddiw gallaf gyhoeddi ein bwriad i ymrwymo i fenter ffurfiol ar y cyd gyda chyngor Caerdydd a'u datblygwr partner i ddatblygu'r weledigaeth hon. Byddwn yn dechrau drwy ganolbwyntio ar ddatblygu gorsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd. Ein nod yw i'r fenter ar y cyd gyflawni ein holl uchelgeisiau ar gyfer y gyfnewidfa.

Ond nid Caerdydd yn unig sy'n mynd i elwa o'n gweledigaeth. Yfory, byddaf yn amlinellu arian ychwanegol ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth mewn rhan arall o Gymru wrth i ni geisio cyflwyno metro gogledd Cymru, gan ledaenu ffyniant a chyfle unwaith eto ar draws y wlad. Amlinellwyd ein gweledigaeth am system drafnidiaeth integredig wedi'i thrawsnewid sy'n sicrhau twf economaidd ac yn sicrhau manteision o ran iechyd, diwylliant, cymdeithas a'r amgylchedd. Mae'n ymwneud â gwella seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau i leihau tagfeydd a gwella amseroedd teithio, y cydnabyddir eu bod yn hanfodol i sicrhau economïau ffyniannus ac amgylcheddau cynaliadwy.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwch ddweud beth y dymunwch am Lee Waters, a gadewch i ni ei wynebu, mae llawer o bobl yn gwneud, ond mae wedi defnyddio'r ddadl hon a arweiniodd i sefyll dros ei etholwyr ac i hyrwyddo newid polisi a newid diwylliannol ar yr un pryd. Nid wyf yn gwybod pa mor llwyddiannus y bu, ac efallai y down yn ôl at hynny wrth i mi orffen crynhoi.

Nid y'n mynd i newid sut rwy'n mynd i bleidleisio. Ond yn sicr mae wedi arwain at rywfaint o ystyried yn y Siambr hon ac ystyriaeth ddifrifol yn y Siambr hon, sy'n beth pwysig.

Rydym yn sôn am dopograffeg—soniodd Adam Price amdano—Cymoedd de Cymru. Roedd Adam Price yn cysylltu hynny ag adeiladu cenedl, fel y byddech yn ei ddisgwyl ac fel y mae'n ei wneud yn aml mor effeithiol. Ond nid wyf yn credu bod llawer y gallwch ei wneud am ein daearyddiaeth; mae'r hyn ydyw. Ond mae'r sbôcs sy'n bwydo i mewn i Gaerdydd wedi llesteirio ein gallu i gysylltu. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: os ydych yn byw yng Nghaerffili, os ydych yn byw yng nghwm Rhymni, anaml iawn y byddech yn meddwl am neb sy'n bodoli yng nghwm Rhondda neu ym Mlaenau Gwent. Prin iawn y byddech yn meddwl am y peth, ac rwyf wedi dweud hynny o'r blaen yn y Siambr hon.

Felly, mae'n rhaid i ni gysylltu ein trafnidiaeth â pholisi economaidd, fel y dywedodd Lee Waters. Credaf ei bod hi'n iawn i ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ychydig rhagor o fanylion ynghylch rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol, yn y flwyddyn newydd, i weld sut y gallwn glymu ein polisi economaidd mor agos â phosibl wrth y polisïau trafnidiaeth.

Crybwyllodd Nick Ramsay—roeddwn i'n gwybod y byddai'n codi ei ben pan ddywedwn ei enw—na ddylid cosbi'r modurwr mewn araith nad oedd yn cynnwys llawer iawn o wleidyddiaeth plaid—wedi'r cyfan, mae hi bron yn Nadolig. Dywedodd na ddylid cosbi'r modurwr, ond troediodd linell denau iawn yno a siarad am yr angen i ddod â thrafnidiaeth i'r economi wledig. Buaswn yn dweud fod ganddo—a gwn fod ganddo—gefnogwyr i hynny yn y Llywodraeth yn awr, sy'n teimlo'n gryf iawn am drafnidiaeth gynaliadwy yn yr economi wledig, ac mae ganddo ddrws agored yno os yw'n parhau i wthio mor adeiladol ag y gwnaeth yn ei araith. Credaf fod hynny'n eithaf pwysig.

Pwysleisiodd eraill, gan gynnwys Jenny Rathbone, effaith amgylcheddol ein gorddibyniaeth ar y car. Cytunaf yn llwyr â hynny. Unwaith eto, credaf eich bod yn fwy beiddgar na Nick Ramsay, Jenny Rathbone; credaf y byddech yn dod i sefyll ar gylchfan Pwll-y-Pant gyda mi ac y byddech yn dweud wrth bobl am adael eu ceir a mynd ar y trên. Yn hollol. Wel, mewn gwirionedd, ni fuaswn yn dweud 'gyda mi' oherwydd ni fuaswn i yno; byddech ar eich pen eich hun. [Chwerthin.] Ond yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw cael pobl allan o'r ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond fel y dywedasoch yn gwbl briodol, a'r frwydr rwy'n ei chael yw bod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus allu sicrhau capasiti ac mae'n rhaid iddo fod yn ddigon da. Dyna sgwrs a gefais gyda Trenau Arriva ac mae'n her a roesoch i Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ofynnoch chi i Ysgrifennydd y Cabinet, 'Sut rydych yn bwriadu ymdrin â thrydaneiddio a'r ansicrwydd ynghylch ariannu?' Nid wyf yn argyhoeddedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi eich ateb yn y Siambr hon, ond buaswn yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'r materion hyn yn nes ymlaen yn y dyfodol, yn enwedig y materion ariannu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn chwilio am atebion yn y maes hwnnw.

Adam Price eto—rwy'n mynd i ddod yn ôl eto. Pe bawn i'n dymuno gwneud hynny buaswn yn rhoi gwobr am yr araith orau, ond nid wyf am wneud hynny oherwydd credaf mai fy un i fydd honno. [Chwerthin.] Rwy'n tynnu coes. Yr hyn rwyf am ei wneud yw dweud wrth Adam Price ei fod wedi defnyddio ymadrodd cofiadwy a oedd yn dda iawn: 'offeryn creadigol'. Gallwn ddefnyddio'r polisi hwn fel offeryn creadigol i ailddyfeisio ein gwlad ddatgysylltiedig. Credaf fod honno'n weledigaeth fawr ar gyfer yr hyn y dylai ein polisi trafnidiaeth fod, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei fod eisoes wedi cael ei ategu yn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio ei wneud.

Mewn gwirionedd mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'ch beirniadaeth o'r dinas-ranbarthau hefyd. 'Olew nadroedd rhanbartholdeb dinesig', oedd yr hyn a ddywedoch chi. Rwy'n ysgrifennu'r troeon ymadrodd hyn gan fy mod yn gwneud fideos bob yn awr ac yn y man ac rwy'n tueddu i'w cynnwys ac maent yn dda iawn. Ond rydych yn llygad eich lle wrth sôn am gysylltu rhannau gogleddol cymunedau'r Cymoedd â'i gilydd, ar draws de-ddwyrain Cymru, a chysylltu de Cymru â'r gogledd. Credaf fod honno'n her aruthrol y mae'n rhaid inni roi sylw iddi. Rydym wedi siarad o'r blaen am ardd-drefi newydd yn cynnig atebion o'r fath o bosibl. Mae hwnnw'n syniad diddorol yr hoffwn ei archwilio yn y dyfodol o bosibl. Rwy'n credu bod ymyriad yn dod.

A wnaiff yr Aelod ildio? Diolch. O ran y cysylltiadau ar draws y Cymoedd, mae'n rhan annatod o feddylfryd y metro ein bod yn cynnwys teithio llesol, oherwydd mae hen rwydwaith o dwneli rheilffordd—twnnel Rhondda yw'r un y siaredir fwyaf amdano, ond ceir rhwydwaith cyfan o'r rhain ar draws y Cymoedd, a allai, ar gyfer teithio llesol yn benodol, wneud teithiau o un Cwm i'r llall yn opsiwn ymarferol.

Ie, ac rwy'n ymwybodol iawn fod ACau dros etholaethau unigol ar y meinciau hyn wedi dwyn y materion hyn i sylw'r Llywodraeth. Credaf fod angen i'r drafodaeth barhau, a buaswn yn disgwyl bod y Llywodraeth yn ymateb i'r materion hyn eisoes. Gwn fod y ddeialog honno yn digwydd, felly rydych yn gwneud pwynt perthnasol iawn.

Soniodd David Rowlands am orddibyniaeth ar y car hefyd, felly bydd yn ymuno â Jenny Rathbone ar gylchfan Pant yn gofyn i bobl adael eu ceir. Mae yna her go iawn yno, fodd bynnag, oherwydd rydych yn sôn am newid diwylliannol. Rydych yn ceisio newid y diwylliant mewn ffordd a fydd yn newid ymddygiad pobl. Nid yw gwleidyddion yn dweud wrth bobl newid eu hymddygiad yn beth poblogaidd. Felly, mae i UKIP hyrwyddo rhywbeth sydd mor bell o fod yn boblyddol yn rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr mewn gwirionedd, ac edrychaf ymlaen at gael cymorth os af fi i'r cyfeiriad hwnnw hefyd.

Soniodd Julie Morgan am lawer o straeon ynglŷn â phroblemau ei hetholwyr. Mae hyn yn swnio fel chwarae ar eiriau braidd, ond dywedodd fod angen i ni lunio polisi sy'n mynd i'r cyfeiriad y mae ein hetholwyr am i ni fynd. Mae honno'n her pan fo gwahanol ofynion gan wahanol ardaloedd. Efallai fod gan y ddinas ofynion gwahanol i gymunedau'r Cymoedd. Bydd ateb yr her honno, rwy'n meddwl, yn galw ar bawb ohonom fel gwleidyddion o bob plaid i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda'n gilydd.

Yn olaf, dof at Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaeth rai datganiadau i'w croesawu'n fawr, ac roeddwn yn falch iawn o weld ei gynllun economaidd ddoe. Credaf fod llawer o'r atebion i'w cael ynddo, ond mae arnom angen manylion pellach. Ond o ran pwynt 5 y cynnig, ac mae pwynt 5 y cynnig yn dweud ein bod yn credu

'bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu—gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro—er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro',

Mae gennyf deimlad fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi 'na' cwrtais a serchus i ni. Nid oes capasiti gan Trafnidiaeth Cymru i wneud hynny oedd ei ymateb. Gallwn herio hynny yn y ffordd y byddwn yn pleidleisio yn nes ymlaen efallai, ond yn sicr roedd yr ateb yn galonogol yn yr ystyr ei fod wedi dweud y byddai'n gofyn ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i Trafnidiaeth Cymru weithio gyda phartneriaid i sicrhau'r math o newid rydym am ei weld. Felly, mae am iddo fod yn ehangach, ac rwy'n derbyn hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n derbyn yr ateb hwnnw heddiw.

Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl hynod adeiladol ac rwy'n croesawu pob cyfraniad. Nid wyf am ddewis enillydd, gan na chredaf y byddai'n deg gwneud hynny. Rwy'n credu bod yr holl gyfraniadau'n ardderchog. Gadewch i ni ddewis ymadrodd gan Aelod nad yw yn y Siambr ar hyn o bryd, ond mae'n addas ar yr achlysur hwn, 'Gadewch inni ei gael wedi ei wneud'.

17:15

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, os oes unrhyw un yn mynd i gynnig gwobrau ar ddiwedd y tymor am areithiau, fi fydd honno, ac efallai na fyddwch yn hoffi fy newisiadau. Felly, fe symudwn ymlaen yn gyflym iawn.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl UKIP ar dai modiwlar a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig. David.

Cynnig NDM6612 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;

b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac

c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried y sefyllfa sydd ohoni, fe gyflwynaf ran agoriadol y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Cynulliad.

Mae'r ddadl heddiw ar yr angen am dai a sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd gennym yn y Cynulliad i ddiwallu'r anghenion hynny. Mae angen amrywiaeth o wahanol fathau o dai i fod o fudd i holl boblogaeth Cymru. Nid ydym ni yn UKIP yn ceisio cynnig unrhyw ateb cyflawn i'r broblem dai—mae'n her gymhleth a fydd yn galw am ateb amlweddog. Mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar un agwedd ar dai, sef tai modiwlar.

Yn ein barn ni, mae gan dai modiwlar rôl bwysig i'w chwarae yn darparu ar gyfer anghenion tai presennol a dyfodol Cymru. I fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod hynny ac maent wedi clustnodi arian ar gyfer darparu'r tai modiwlar hyn. Felly, rydym wedi sefydlu bod hwn yn faes lle y gallwn gytuno â Llywodraeth Cymru i ryw raddau. A heddiw, am unwaith, nid ydynt wedi rhoi gwelliant inni sy'n dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Dyna a wnânt fel arfer gyda chynigion UKIP. Yn wir, mae gan Ross, ein hymchwilydd dibynadwy, allbrint ar ei ddesg yn dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Felly, heddiw, nid yw'r Blaid Lafur yn dileu popeth sydd gennym i'w ddweud—mae hynny'n destun cryn ddifyrrwch i ni, fel y gallwch ddychmygu.

Mae Llafur wedi anghytuno â phrif gorff ein cynigion penodol. Yn ddealladwy, mae'r Llywodraeth am dynnu sylw at y cynnydd y maent hwy eu hunain wedi ei wneud ym maes tai modiwlar. Roedd ein cynigion penodol yn galw am adolygu'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a'i gwneud yn haws i bobl sy'n dymuno adeiladu eu cartref eu hunain. Roeddem hefyd am annog datblygu safleoedd tir llwyd, ac rydym wedi argymell sefydlu corfforaeth datblygu tai i helpu i gaffael y safleoedd hyn a defnyddio gorchmynion prynu gorfodol, os oes angen, i ysgogi adeiladu tai ar y safleoedd hynny. Yn olaf, rydym am sefydlu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau ar raddfa lai.

Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr, yn eu gwelliant, yn cytuno â thema gyffredinol ein cynnig, ond maent hefyd wedi dilyn llwybr gwahanol i ni ar rai o'r cynigion penodol, yn benodol ar yr angen am y gorfforaeth datblygu tai. Mae'n well ganddynt gymell cynghorau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu rhywbeth newydd. Byddaf yn archwilio'r mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn y ddadl.

Un peth y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch mae'n debyg yw'r angen i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru. Ar yr angen go iawn am dai yng Nghymru, gwnaed ymchwil arwyddocaol gan y diweddar Dr Alan Holmans. Ef oedd pennaeth Canolfan Ymchwil Tai a Chynllunio prifysgol Caergrawnt, a chyn-uwch-gynghorydd i Lywodraeth y DU, ac fe'i hystyrid gan lawer fel yr arbenigwr mwyaf blaenllaw ar ragweld yr angen a'r galw am dai yn y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad gan Dr Holmans ychydig wedi ei farwolaeth yn 2015 yn dweud y gallai Cymru fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd fforddiadwy y flwyddyn. Deillia hyn o amryw o ffactorau, gan gynnwys cynnydd annisgwyl yn nifer yr aelwydydd un person. I grynhoi, rydym wedi nodi amryw o ffactorau, ac un ohonynt yn unig yw mewnfudo. Felly, er y byddwn bob amser yn UKIP yn cyfeirio at effaith mewnfudo torfol heb reolaeth ar y farchnad dai, nid ydym ar unrhyw gyfrif yn dweud mai dyna'r unig effaith.

Rwyf wedi defnyddio'r ymadrodd 'tai fforddiadwy', felly mae'n well i mi egluro beth a olygaf wrth hynny. Mae'n cyfeirio at dai cymdeithasol neu dai yn y sector rhentu preifat sy'n fforddiadwy i bobl nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad dai breifat arferol. Ni ddylai rhent misol cartrefi fforddiadwy gostio mwy na 80 y cant o rent cyfartalog y farchnad leol. Ffigur Dr Holmans oedd 12,000 o gartrefi fforddiadwy newydd y flwyddyn; mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond caiff hwn ei wasgaru dros dymor Cynulliad cyfan. I bob pwrpas, bydd hyn yn golygu 4,000 y flwyddyn, ac mae ymhell o gyrraedd ffigur Dr Holmans; mewn gwirionedd, nid yw ond traean yr angen a ragwelwyd.

Yn 2014-15, adeiladwyd ychydig dros 6,000 o gartrefi newydd yng Nghymru, a rhaid i ni roi'r ffigur hwn mewn cyd-destun. Hanner can mlynedd yn ôl, yn y 1960au, roedd y diwydiant adeiladu yn adeiladu tua 20,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru. Felly, rydym bellach yn adeiladu niferoedd llai o lawer o dai, ac mae'r cydbwysedd rhwng tai preifat a thai cyngor hefyd wedi newid. Yn 1955, adeiladwyd dros 70 y cant o'r holl gartrefi newydd gan y sector cyhoeddus ar ffurf tai cyngor. Heddiw, mae'r sefyllfa honno wedi ei throi ar ei phen, ac erbyn hyn mae dros 80 y cant o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat.

Mae gan lawer o gynghorau restrau aros mawr, a byddai llawer o bobl yn dweud bod hyn yn golygu ein bod yn wynebu prinder tai, neu argyfwng tai o bosibl hyd yn oed. Wrth gwrs, rydym wedi gweld prinder tai cyn hyn yn y DU, ac rydym wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r prinder hwnnw. Cafwyd prinder cartrefi o ansawdd gweddus yn syth ar ôl y rhyfel byd cyntaf ac eto ar ôl yr ail ryfel byd. Y pryd hwnnw, yr ateb oedd tai parod, neu fel y mae pawb ohonom yn eu hadnabod, tai pri-ffab.

Yn y chwe blynedd ar ôl y rhyfel, adeiladwyd 150,000 o dai parod. Fel ateb dros dro yn unig y cawsant eu cynllunio, gydag oes arfaethedig o 10-15 mlynedd yn unig. Parhaodd llawer o'r tai parod hyn yn llawer hwy na'u hoes arfaethedig; mae rhai yn dal i sefyll a phobl yn dal i fyw ynddynt, a rhaid eu bod yn 65 oed o leiaf. Roedd llawer o'r bobl a oedd yn byw mewn tai parod yn meddwl y byd ohonynt ac yn datgan eu bod lawn cystal ag unrhyw fath arall o dŷ.

Gyda'r tai parod hyn, gwelwyd troi cefn ar frics, a defnyddio fframiau pren, fframiau dur a fframiau alwminiwm yn lle hynny. Yn wir, mae rhai pethau'n debyg rhwng y tai parod wedi'r rhyfel a'r cartrefi modiwlar sy'n cael eu codi heddiw, er bod y niferoedd yn fach. Adeiladir cartrefi modiwlar mewn rhannau yn y ffatri a'u cludo i'r safle. Yno, cânt eu gosod ar sylfaen a wnaed yn barod, eu cysylltu a'u cwblhau gan yr adeiladwr.

Gyda thai modiwlar, mae canran sylweddol ohonynt wedi'u creu o ffrâm bren ar sylfaen goncrid. Maent yn eithaf unigryw, a gall prynwyr ofyn am ymgorffori nodweddion ychwanegol yn y cynllun, megis cydrannau plastr a gwydr. Y syniad yw y gellir bolltio'r rhannau at ei gilydd. Daw'r cydrannau yng nghefn lori a chânt eu rhoi at ei gilydd ar y safle. Mae'n debyg i dŷ pecyn fflat mawr.

Gellir adeiladu cartrefi modiwlar yn gyflym ac yn effeithlon, a gellir ychwanegu at yr eiddo yn ddiweddarach. Gan fod yr adeiladau yn cynnwys ynni ymgorfforedig, sydd wedi'i gloi yn y gwead o ganlyniad i'r broses adeiladu, maent yn ffurf hynod gynaliadwy o adeiladu. Yn achos adeiladau traddodiadol, caiff yr egni hwn ei golli pan gaiff tŷ ei ddymchwel. Yn achos adeiladau modiwlar, fodd bynnag, caiff yr ynni ymgorfforedig ei gadw pan fydd yr adeilad yn cael ei symud i safle arall, gan leihau effaith tirlenwi.

Ceir gwahanol fathau o gartrefi modiwlar. Gallant gynnwys cartrefi di-garbon, er enghraifft, sef anheddau heb unrhyw allyriadau carbon net o'u defnydd ynni. Gellir cyflawni hyn drwy leihau eu defnydd o ynni gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy, neu gyfuniad o'r ddau. Felly, gallai'r nodweddion gynnwys toeon â phaneli solar a phaneli inswleiddio arbennig. Fel y nodais yn gynharach, mae'r rhan fwyaf o gartrefi modiwlar yn debygol o fod yn defnyddio ynni'n effeithlon beth bynnag, oherwydd y deunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir i'w hadeiladu. Ond byddai ymgorffori rhai o'r nodweddion eraill hyn yn golygu y gallech gael cartrefi modiwlar a fyddai hefyd yn gartrefi di-garbon. Yn ddamcaniaethol, gallai rhai o'r rhain gynhyrchu mwy o ynni nag y byddant yn defnyddio mewn gwirionedd, a gallent allforio ynni i'r grid cenedlaethol yn y pen draw. Mae rhai o'r Aelodau sydd yma heddiw wedi gweld hyn ar waith yn rhan o brosiect Tŷ SOLCER, a adeiladwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, sef tŷ ynni clyfar cost isel cyntaf Cymru.

Syniad cymharol newydd arall yw'r cartref a wneir o gynhwysydd llongau. Gellir comisiynu'r rhain yn gyflym iawn gyda gwneuthurwyr yn honni y gellir eu darparu o fewn llai na phedair wythnos i dderbyn yr archeb. Mae'r unedau'n fodiwlar a gellir eu gosod un ar ben y llall neu ochr yn ochr, neu gefn wrth gefn, naill ai i ymestyn y gofod byw neu i greu blociau o unedau. Ym Mryste, mae prosiect wedi bod ar waith ers tua blwyddyn i helpu 40 o bobl ddigartref drwy ddarparu cartrefi o gynwysyddion llongau. Mae Cyngor Dinas Bryste wedi rhoi llain o dir iddynt er mwyn sicrhau dyfodol y prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi eu bod yn teimlo y gallai'r syniad o greu cartrefi o gynwysyddion llongau helpu gyda phroblem ddigartrefedd yn y tymor byr.

Math arall o gartref modiwlar yw'r cartref hunanadeiladu. Awgrymodd arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu yn 2011 fod 53 y cant o bobl, mwy na hanner y boblogaeth, yn ystyried adeiladu eu cartref eu hunain pe baent yn cael cyfle. Ar un o brif wefannau'r DU ar gyfer dod o hyd i leiniau tir, ceir hysbysebion ar gyfer 60 o gartrefi hunanadeiladu yng Nghymru. Ceir lefelau llawer is o hunanadeiladu yn y DU na'r hyn a welir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae llai na 10 y cant o adeiladau newydd yn y sector hunanadeiladu, er bod tua 80 y cant o dai a gwblhawyd yn Awstria yn gartrefi hunanadeiladu. Yn Ffrainc, mae'r lefel yn agos at 60 y cant, ac mae'r un peth yn wir yn yr Almaen ac Iwerddon. Yn UDA, mae'n 45 y cant. Yr Iseldiroedd sydd agosaf at y DU yng ngorllewin Ewrop, ond hyd yn oed yn yr Iseldiroedd mae'r cyfanswm yn agos at 30 y cant.

Yn Lloegr, o dan Ddeddf Tai a Chynllunio 2016, mae cynghorau lleol yn gorfod ystyried sut y gallant gefnogi hunanadeiladu yn y ffordd orau. Nid oes unrhyw rwymedigaeth o'r fath ar gynghorau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn 2013, nododd adroddiad gan Brifysgol Caerefrog gyfres o heriau i brosiectau hunanadeiladu. Mae'r rhain yn cynnwys cyflenwad tir a chaffael tir, mynediad at gyllid, y broses gynllunio a rheoleiddio cyffredinol a biwrocratiaeth. Ar fater pwysig cyllid, mae benthycwyr yn tueddu'n gyffredinol i weld benthyciadau hunanadeiladu fel risg uwch. Nid oes unrhyw grant ar gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i bobl sydd eisiau hunanadeiladu.

Llaciodd Llywodraeth Cymru rai o'r gofynion cynllunio er mwyn galluogi datblygiad Lammas, eco-bentref gwledig yng ngogledd Sir Benfro, felly cafwyd rhywfaint o hyblygrwydd yn y maes hwn.

Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai arloesol. Nid ydym yn ceisio lladd ar eu hymdrechion. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw; rydym yn gwyntyllu'r syniad o rai argymhellion penodol a allai helpu i gyflawni'r nodau y mae pawb ohonom yn eu rhannu o ddarparu mwy o dai fforddiadwy gwell yng Nghymru.

Rydym am adolygu'r broses gynllunio fel y gallwn gael gwared ar beth o'r fiwrocratiaeth. Felly, yn ddelfrydol hoffem ymestyn yr hyn a wnaethant yng ngogledd Sir Benfro i Gymru gyfan. Byddem yn gofyn am yr un rhwymedigaeth ar gynghorau lleol i ddyrannu tir ar gyfer prosiectau hunanadeiladu ag sydd ganddynt yn Lloegr, felly byddai dyletswydd ar gynghorau i neilltuo lleiniau o dir ar gyfer hunanadeiladu yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Mae bancio tir yn broblem a gafodd ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyflwyno'r syniad y gellid defnyddio pwerau trethiant i fynd i'r afael â phroblem bancio tir ar ffurf treth ar dir gwag. Nawr, dyna argymhelliad treth a allai'n hawdd ddenu cefnogaeth gan UKIP, oherwydd rydym eisiau sicrhau bod datblygu'n digwydd mewn cyfnod eithaf byr o amser lle y cafodd tir ei brynu. Ond fe arhoswn i weld yr argymhellion treth penodol gan Mark Drakeford ac nid ydym wedi cynnwys unrhyw beth yn y cynnig heddiw ar y mater hwnnw.

Yr hyn rydym wedi galw amdano yw corfforaeth datblygu tai fel y gellir prynu safleoedd tir llwyd yn gyflym ac yn gosteffeithiol. Credwn y gall sefydliad gydag arbenigedd penodol ym maes eiddo helpu i hwyluso adeiladu ar safleoedd tir llwyd. Gellid defnyddio gorchmynion prynu gorfodol i gaffael y safleoedd hyn os na cheir unrhyw ddatblygiad o fewn cyfnod o dair blynedd. Felly, gallai hwnnw fod yn ddewis amgen yn lle'r syniad o drethu safleoedd gwag, neu gallent weithio gyda'i gilydd o bosibl.

Mae angen corff i nodi'r safleoedd hyn yn y lle cyntaf, felly mae ein cynnig olaf yn galw ar y gorfforaeth datblygu tai hefyd i lunio cofrestr o safleoedd tir llwyd perthnasol y gellid eu datblygu yng Nghymru. Felly, dyna ein cynigion ac rydym yn awyddus i glywed beth yw barn yr Aelodau eraill yn eu cylch, felly rydym yn aros yn eiddgar am eich ymatebion.

17:30

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2. Paul Davies

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le:

'archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu'.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon? Credaf ei fod yn bwnc pwysig iawn mewn gwirionedd ac yn ffordd o fynd i'r afael â'r her dai yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ein bod yn datblygu lefel o gonsensws y tu hwnt i'n dulliau confensiynol traddodiadol arferol o adeiladu tai.

Roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o sylwi bod hyd yn oed Llywodraeth Cymru i'w gweld yn symud ychydig yn y maes hwn. Yn y datganiad ym mis Hydref a gyflwynai'r rhaglen tai arloesol, un elfen a gafodd ei chynnwys oedd tai modiwlar. Felly, credaf ein bod yn gwthio yn erbyn drws sy'n agored, i ddefnyddio ymadrodd priodol.

Yn fy ymateb i'r datganiad hwnnw, siaradais ynglŷn â sut y gobeithiwn y byddai Llywodraeth Cymru yn adeiladu rhagor o dai modiwlar. Rwy'n falch o weld bod UKIP wedi nodi hyn hefyd ac yn rhannu gweledigaeth ar gyfer ei ddefnyddio'n fwy eang, yn enwedig yn rhai o'r amgylchiadau newidiol a'r cymunedau trefol rydym bellach yn eu gweld yn datblygu, yn rhannol mewn ymateb i'r math newydd o dai sydd eu hangen arnom.

Fel y nodwyd eisoes—. Yn gyffredinol, roeddwn am fod mor adeiladol â phosibl gyda'r cynnig, felly nid wyf ond wedi ei ddiwygio lle rydym yn anghytuno'n bendant, sef yr argymhelliad ynghylch corfforaeth dai, gyda'r nod o gynnwys llawer mwy o safleoedd tir llwyd. Rwy'n rhannu'r amcan yn llwyr, ond rwy'n meddwl bod hon yn ffordd braidd yn fiwrocrataidd o'i wneud a chredaf fod digon o ddulliau ar gael i'r Llywodraeth wneud hyn ac mae angen iddynt fynd ati i sicrhau canlyniadau gwell, rwy'n credu, o ran y cyflenwad tir. Ac nid yw'n ymwneud yn unig â safleoedd tir llwyd, ond maent yn ffynhonnell bwysig.

Mae angen inni adeiladu ar—. Yn amlwg, mae angen inni ryddhau mwy o dir os ydym am weld mwy o adeiladu tai. Mae'n bwysig iawn inni edrych o gwmpas a bod yn greadigol ac edrych ar y sector cyhoeddus. Mae llawer o dir yn weddol segur neu gellid ei ddefnyddio mewn ffordd fwy arloesol ac yn fwy economaidd, gan ryddhau tir ar gyfer datblygu. Felly, dyna pam rydym wedi diwygio'r cynnig.

Fel y dywedodd David, mae gan dai modiwlar, neu'r hyn yr arferem eu galw'n dai parod, hanes ardderchog. Roeddent yn rhan ganolog o ddatrys yr argyfwng ym maes adeiladu tai ar ôl y rhyfel. Roedd yr her a wynebent y tu hwnt i unrhyw beth a brofodd y genedl cyn hynny yn sgil dinistr yr ail ryfel byd. Adeiladwyd niferoedd helaeth, fel y disgrifiodd David. Pan edrychwn ar y cyfleoedd heddiw, credaf y dylem ystyried y rôl a chwaraeent y pryd hwnnw. Roedd llawer o'r unedau tai a adeiladwyd yn arloesol ar y pryd, ac roeddent yn boblogaidd—pwynt a wnaeth David. Rwy'n cofio ymgyrchu, yn erbyn Jane Hutt dylwn ddweud, mewn stryd gyfan o dai parod a oedd wedi goroesi yn y Barri, ac roedd y trigolion yn hapus iawn gyda'r ffordd honno o fyw. Roedd yn gynllun cyfleus iawn. Cefais fy nhywys o amgylch. Nid wyf yn siŵr a bleidleisiodd y person i mi, ond dyna ni. [Chwerthin.] Nid oeddwn yn llwyddiannus yn yr un o'r ddwy etholiad a ymladdais yno. Ond mae'n dangos y gall y dulliau hyn yn sicr fod yn rhai sy'n arwain y sector, a hyd yn oed yn fwy felly heddiw o ran cyflymder adeiladu a chost—oddeutu dwywaith mor gyflym a hanner mor ddrud. Ceir llawer o syniadau arloesol yn ogystal—deunyddiau newydd, sy'n dibynnu llai ar ynni, a gallant hefyd arwain at arbrawf anhygoel SOLCER, lle rydych yn cynhyrchu ynni mewn gwirionedd o'r tŷ yn hytrach na'i ddefnyddio. Felly, mae yna lawer o gyfleoedd yn hynny o beth.

Rwy'n meddwl ei fod hefyd yn caniatáu inni edrych ar y posibilrwydd o ddatblygiadau dwysedd uwch—nid adeiladau uchel iawn—lle y ceir mwy o rannu cyfleusterau, er enghraifft. Nid pawb sydd am ardd i'w chynnal. Rwy'n dweud yn aml wrth bobl pan ewch i ardaloedd crand yn Llundain, fel Belgravia, mae gan bawb allwedd i'r ardd ganolog; nid oes ganddynt ardd eu hunain. Ystyrir bod cael mynediad i'r gerddi hynny'n fantais gymdeithasol fawr. Felly, mae yna ffyrdd o adeiladu tai digon mawr i deulu yn effeithlon iawn a dileu tlodi tanwydd o bosibl oherwydd byddech yn cael arian yn ôl o'ch cartref mewn gwirionedd. 

A gaf fi ddweud i orffen, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu bod busnesau bach a chanolig mewn sefyllfa dda iawn i fanteisio yn y sector hwn? Hefyd, byddai'r diffyg sydd gennym o ran rhai sgiliau adeiladu yn cael ei ddatrys yn gyflymach yn y sector hwn. Ceir llawer o gyfleoedd yno. Credaf eu bod wedi bod heb eu caru yn rhy hir, a dylem weld ei bod hi'n bryd cael dadeni ym maes adeiladu modiwlar. Unwaith eto, diolch i UKIP.

17:35

Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw un o'r rhesymau allweddol pam y dechreuais ymhél â gwleidyddiaeth. Mor ddiweddar â nos Lun, pan fynychais ddigwyddiad yng Nghaerdydd, deuthum wyneb yn wyneb â sefyllfa drist dau ŵr digartref a oedd angen paned o goffi. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae digartrefedd yn rhywbeth i resynu ato'n foesol. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer o ddynion ifanc a oedd yn cyflawni troseddau er mwyn cael to uwch eu pennau a phrydau poeth wedi eu gweini iddynt, tra oedd trueiniaid eraill wedi cael eu harestio am gardota.

Er bod llawer o bethau'n achosi digartrefedd, diffyg tai yw'r prif gyfrannwr. Yn syml iawn, nid ydym yn adeiladu digon o dai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Mae arbenigwyr yn rhagweld bod angen inni adeiladu tua 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, eto i gyd, llai na hanner y nifer hwnnw sy'n cael eu hadeiladu. Mae'r diffyg tai wedi arwain at 2,652 o aelwydydd yn mynd yn ddigartref rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, a bron 2,000 arall yn wynebu bygythiad o fynd yn ddigartref o fewn wyth wythnos. Ceir oddeutu 2,000 o aelwydydd mewn llety dros dro, ac mae dros 200 o'r rhain mewn llety gwely a brecwast. Roedd 13 y cant o'r rhai mewn llety gwely a brecwast yn deuluoedd â phlant. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol neu fforddiadwy i ddiwallu'r angen hwnnw.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm hwnnw'n unig a adeiladwyd y llynedd ac maent yn dibynnu ar y sector preifat i adeiladu dros draean o'r tai fforddiadwy yng Nghymru drwy gytundebau adran 106.

Mae datblygwyr preifat yn dweud wrthym eu bod yn cael eu rhwystro rhag adeiladu rhagor o gartrefi oherwydd biwrocratiaeth a system gynllunio sy'n rhy fiwrocrataidd. Maent yn dweud hefyd nad oes cyflenwad digonol o dir, a bod costau ychwanegol yn deillio o'r rheoliadau adeiladu a'r dull o ddarparu tai fforddiadwy ar ddatblygiadau newydd. Yn syml, mae Cymru yn lle llai deniadol ar gyfer adeiladu tai oherwydd hyn. Rhaid i hyn newid os ydym i roi diwedd ar ddigartrefedd; rhaid inni ei gwneud yn haws i adeiladu cartrefi, nid yn anos.

Yn Lloegr, mae'r Llywodraeth wedi dechrau edrych ar ddefnyddio tai parod i ateb y galw. Dyma fu polisi UKIP ers amser hir. Mae tai parod, modiwlar yn ateb cyflym a rhad i fynd i'r afael â phrinder tai. Y defnydd o dai parod a helpodd i fynd i'r afael â phrinder tai yn dilyn yr ail ryfel byd. Roedd llawer o bobl yn feirniadol o'r tai parod ar ôl y rhyfel, ond gallaf eich sicrhau, fel rhywun a oedd yn byw mewn un ohonynt tra oeddwn yn tyfu fyny, roedd pawb a oedd yn eu galw'n gartref yn dwli arnynt.

Mae tai parod modiwlar modern yn llawer mwy datblygedig na thai parod y gorffennol. Gellir eu hadeiladu o ddeunyddiau ecogyfeillgar ac maent yn defnyddio ynni'n effeithlon dros ben, gan arbed arian ar gostau trydan a gwresogi i berchnogion tai. Maent yn hyblyg, gan y gellir eu teilwra'n llwyr yn ôl anghenion y perchennog a gellir ailgyflunio rhai mathau o gartrefi modiwlar i ddiwallu angen yn y dyfodol. Ond yn anad dim, maent yn rhatach ac yn gyflymach nag adeiladu traddodiadol. Gellir adeiladu cartref dwy ystafell wely am oddeutu £50,000 a'i godi mewn dyddiau—ymhell islaw costau adeiladu eiddo traddodiadol a all gymryd hyd at flwyddyn i gael ei adeiladu.

Mae digon o gwmnïau'n cynnig tai parod modiwlar. Y rhwystr yw dod o hyd i dir i adeiladu arno a hyd yr amser y mae'n ei gymryd i gael caniatâd cynllunio. Os ydym i ddatrys prinder tai yng Nghymru, yna rhaid inni edrych ar gartrefi pecyn fflat a'i gwneud yn haws ailddefnyddio safleoedd tir llwyd ar gyfer tai modiwlar.

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ger eich bron heddiw ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddechrau chwyldro tai parod yng Nghymru, lle y gall pobl nid yn unig fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond chwarae rhan hefyd yn y gwaith o'u cynllunio a'u hadeiladu. Mae arnom angen atebion a fydd yn rhoi diwedd ar yr angen i osod teuluoedd mewn llety dros dro; rhoi diwedd ar blant yn treulio'r Nadolig mewn llety gwely a brecwast cyfyng.

Dyma ran o'r ateb hwnnw a gofynnaf i chi ei gefnogi. Diolch. Diolch yn fawr.

17:40

A gaf i ddweud ar y cychwyn pa mor gwbl wrthun oedd sylwadau UKIP ddoe ynglŷn â hawliau lleiafrifoedd? Mae gan aelodau o grwpiau lleiafrifol hawl digwestiwn i gael eu trin yn gyfartal, waeth beth fo'u hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, lliw eu croen, crefydd, anabledd neu unrhyw beth arall. Nid oeddwn i erioed yn meddwl—[Torri ar draws.]

—y byddwn yn clywed barn mor afiach yn ein Senedd cenedlaethol.

Mae'n flin gennyf. A gaf fi ofyn i chi—? Rhaid i chi aros ar yr hyn sydd ar y papur trefn ar gyfer y ddadl.

Na, mae'n ddrwg gennyf, fi sy'n dyfarnu. Nid oes angen unrhyw help arnaf gan neb, diolch yn fawr iawn. Felly, a gaf fi ofyn i chi aros gyda thai modiwlar a pheidio â chrwydro oddi wrth hynny, neu byddwch yn tramgwyddo yn erbyn y Rheolau Sefydlog?

Rydw i'n symud at y pwnc dan sylw. Mae sut i ddarparu tai fforddiadwy, cost-isel yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Llywodraeth yma. Yn sicr, fe all tai modiwlaidd fod yn erfyn defnyddiol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai yng Nghymru, ac mae safleoedd tir brown yn addas ar gyfer datblygiadau tai.

Ond, gair o rybudd ynglŷn ag ambell agwedd o hyn: yn hanesyddol, mae tai modiwlaidd wedi cael eu gweld fel tai o ansawdd gwael, efo gwerth cyfyngedig o ran ailwerthu. Fe all hyn, felly, greu problemau i brynwyr tro cyntaf gyda blaendaliadau isel a phroblemau o gael mynediad i gyllid. Mae’r diwydiant y ceisio newid y canfyddiad hwnnw, ond mae’n dangos bod angen rhoi ystyriaeth lawn i sut yr ydym yn helpu pobl i gyllido prynu’r math yma o gartrefi. Mae pryder hefyd am oes y math yma o dai ac, unwaith eto, mae angen sicrhau bod hyn wedi cael ystyriaeth yn y trefniadau cyllid.

Yn ail, mae angen i ni wylio rhag datblygiadau tai o'r math yma: gwylio rhag ofn mai dim ond un math arbennig o dŷ a fydd yn cael ei godi—math a fyddai'n addas ar gyfer rhai trigolion yn unig. Mae cymunedau cymysg, lle mae teuluoedd o incwm amrywiol yn byw efo'i gilydd, yn cynnig gwell deilliannau cymdeithasol. Mae yna lawer o dystiolaeth o hynny. Mae angen meddwl am hynny wrth gynllunio ystadau tai newydd, a dyluniad yr ystadau rheini. Yn ychwanegol at hynny, mae angen i wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys anghenion teithio llesol, fod yn rhan o unrhyw ddatblygiadau—ond nid dyna sydd yn digwydd, yn aml. Rydw i'n ymwybodol o un datblygiad tai sydd drws nesaf i ysgol, ac eto mae'r ysgol honno yn llawn, felly mae yna her yn wynebu'r teuluoedd sy'n symud yno i fyw.

Fe all tai modiwlaidd fod yn rhan o'r jigso sydd ei angen er mwyn ateb y galw am dai. Rhaid sôn am rannau eraill y jigso yma: i ddechrau, tai eco, er nid ydw i'n siŵr a fyddai'r blaid sy'n gwadu newid hinsawdd yn rhannu'n brwdfrydedd ni ym Mhlaid Cymru am dai eco. Yn amlwg, mae tai eco cyfeillgar efo biliau ynni isel yn ffitio categori tai fforddiadwy, ac yn ffitio categori tai o ansawdd uchel, yn ogystal â chyfrannu i leihau'r ôl troed carbon. Yn ail, mae angen tai gofal ychwanegol er mwyn ateb anghenion gofal cymdeithasol. Nid oes digon o'r math yma o dai yn cael eu codi, ac eto maen nhw'n angenrheidiol er mwyn helpu pobl sydd efo anghenion gofal i fyw yn annibynnol. 

Ac, yn olaf, mae angen cydnabod beth ydy 'fforddiadwy' mewn gwirionedd, a chydnabod bod fforddiadwyedd yn ymwneud ag incwm. Yn amlwg, mae patrymau gwaith ansefydlog, ynghyd ag incwm isel, yn ei gwneud hi'n anodd i gartrefi rhoi arian o'r neilltu ar gyfer prynu tŷ. Mae beth sy'n fforddiadwy mewn un ardal yn sicr yn wahanol iawn i beth sy'n fforddiadwy mewn ardal arall. Mae gen i aelod o'r teulu sydd yn byw yn Abersoch—mae tŷ fforddiadwy fanna ymhell tu hwnt i beth fyddai tŷ fforddiadwy mewn ardal, efallai, yn Nyffryn Nantlle yn Arfon, ac eto y tu hwnt o bob rheswm i fod yn cael ei alw'n 'fforddiadwy' mewn gwirionedd. Y brif broblem efo fforddiadwyedd ydy'r ffaith bod cyfran pobl ifanc o incwm cenedlaethol cyfartalog wedi gostwng, ac na fydd yna fawr o gynnydd gwirioneddol mewn cyflogau real, tra, ar yr un pryd, mae cyfran mwy o gyflogau yn mynd ar dalu rhent. 

Ac mae hyn yn arwain at y rhybudd olaf: os rydym ni am weld adeiladu mwy o dai modiwlaidd, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael eu prynu gan landlordiaid prynu i rentu. Mae hynny, hefyd, yn gallu creu problemau di-rif. Yn gryno, felly, oes, mae yna le i dai o'r math yma, yn sicr—ond ddim ond fel rhan o becyn cynhwysfawr o wahanol fathau o dai fforddiadwy.

17:45

Diolch. Rwy'n credu bod y ddadl hon wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac yn gadarnhaol iawn, ac rwy'n gobeithio ymateb mewn modd defnyddiol a chadarnhaol tebyg. Rwy'n wirioneddol falch o gael y cyfle hwn i siarad am y gwaith cyffrous rydym yn ei wneud i ddod o hyd i atebion newydd a chreadigol i'r angen difrifol am dai yng Nghymru. Mae ein rhaglen tai arloesol wedi'i chynllunio i brofi ffyrdd newydd o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a'u hadeiladu'n gynt, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau eu costau rhedeg ar yr un pryd.

Mewn datganiad i'r Cynulliad ar 24 Hydref, cyhoeddodd Carl Sargeant y 22 o gynlluniau sydd i gael eu hariannu o dan gam cyntaf y rhaglen. Rydym yn gwybod bod tai fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles pobl, ac ni allwn dderbyn y dylai pobl yng Nghymru heddiw orfod penderfynu a ydynt yn gwresogi eu cartrefi neu'n bwyta. Mae canfod modelau tai newydd sy'n lleihau gwresogi'n sylweddol yn flaenoriaeth, ac mae cartrefi sydd hefyd yn gallu creu incwm o ynni dros ben yn bosibilrwydd go iawn bellach. Ac yn wir, mae cynlluniau a gyllidir eleni yn cynnwys y cynllun cartrefi gweithredol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n ymwneud â defnyddio cartrefi fel gorsafoedd pŵer, ac mae'r cynllun hwnnw'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chymdeithas dai Pobl.

Rwyf am ddatblygu dulliau newydd o adeiladu sy'n cynyddu cyflenwad ac yn cyflymu cyflawniad. Rwyf am weld cartrefi fforddiadwy, o ansawdd rhagorol sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd—ac wrth wrando ar y ddadl yma heddiw, credaf ein bod yn rhannu'r weledigaeth honno. Rwy'n cytuno bod cartrefi modiwlar yn edrych yn addawol iawn, ac i'w gweld yn cynnig y math o fanteision y mae pawb ohonom yn chwilio amdanynt. Mae saith cynllun modiwlar yn cael eu hariannu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, gan ddarparu 91 o gartrefi a byddwn yn parhau i ariannu amrywiaeth o fodelau newydd yn 2018-19 a 2019-20.

Mae'r cynnig heddiw'n canolbwyntio ar y defnydd posibl o dai modiwlar gan unigolion sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain. Efallai mai dyna un agwedd ar ei botensial, ond mae canolbwyntio ar hynny'n unig yn anwybyddu'r angen am raddfa a'r cyfleoedd ehangach a geir o harneisio'r dull hwn o weithredu. Mae adeiladu modiwlar yn arbennig o gosteffeithiol pan gaiff ei gynhyrchu ar raddfa fawr, a gallai, o'i gyfuno â'n buddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd, ddarparu cyfle i ddatblygu diwydiant newydd llewyrchus gyda chyfres o gyfleusterau gweithgynhyrchu a swyddi newydd ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle i adfywio'r gadwyn gyflenwi tai mewn ffordd strategol, a dyna pam rwyf am brofi nifer fawr o wahanol fathau o adeiladu modiwlar dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—fel y gallwn fod yn sicr ein bod yn dod o hyd i'r atebion cywir ar gyfer Cymru. Rwy'n falch iawn o ddweud bod cyllideb y rhaglen tai arloesol bellach yn £90 miliwn ar gyfer y tair blynedd rhwng 2017-18 a 2019-20—£70 miliwn yn fwy nag a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror.

Hefyd mae deunyddiau crai yn rhan allweddol o'r gadwyn gyflenwi, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut y gallem ddefnyddio mwy o bren a dur Cymru mewn tai modiwlar. Mae gennym lawer o'r ddau ddeunydd, felly mae cyfleoedd gwirioneddol yma i ni yng Nghymru. Wrth ystyried y ddadl a gawsom yn gynharach y prynhawn yma, rwy'n synhwyro hefyd fod yna archwaeth go iawn i weld hyn yn digwydd.

Gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sicr yn awyddus i helpu i ddarparu tir ar gyfer tai a dod o hyd i ffyrdd o alluogi hunanadeiladwyr a datblygwyr bach i wneud rhagor. Ond nid ydym yn derbyn yr argymhellion penodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig UKIP. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gymhellion i nodi safleoedd tir llwyd cynaliadwy. Rwyf wrthi'n edrych ar sut y gallwn helpu i ryddhau safleoedd segur ledled Cymru, a gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan iawn.

Gall Banc Datblygu Cymru chwarae rôl allweddol yn datgloi safleoedd segur a dod â busnesau bach a chanolig Cymru yn ôl i mewn i'r farchnad. Dyma ddau faes arbennig rwyf wedi bod â diddordeb mawr ynddynt yn gynnar yn fy amser yn y portffolio hwn. Felly, rwyf wedi dyrannu £30 miliwn ychwanegol o arian benthyg i'r banc drwy'r gronfa datblygu eiddo. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn, byddwn yn ailgylchu ac yn ailfuddsoddi'r arian hwn dros 15 mlynedd, gan olygu y gellir cyflawni gwerth cyfanswm o £310 miliwn.

Mae gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at safleoedd tir a'u defnydd i helpu i fynd i'r afael ag angen tai. Rydym yn datblygu cofrestr o'r holl dir cyhoeddus yng Nghymru ac mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn llunio rhestrau o safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer hunanadeiladwyr. Felly, rydym yn ystyried pob opsiwn. Er enghraifft, rydym yn edrych ar safleoedd lle y paratowyd y tir ymlaen llaw ar gyfer datblygu, ac mae caniatâd cynllunio yn ei le. Gall y dull hwn ganiatáu i bobl ddewis math, steil a chost y cartrefi y maent eu heisiau drwy ddewis o'r cynlluniau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Dyma un o nifer o syniadau sy'n cael eu harchwilio, ac mae'n dal ar gam ffurfiannol, ond rwy'n credu ei fod yn dangos y meddwl dwys a'r creadigrwydd rydym yn eu cyflwyno i'r her hon.

Rwy'n falch iawn, er gwaethaf y gwahaniaethau amlwg rhwng ein dulliau o weithredu, ein bod yn rhannu cydnabyddiaeth glir iawn o'r angen i ddefnyddio dulliau newydd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o archwilio amrywiaeth eang o ddulliau. Nid wyf yn credu mai yn awr yw'r amser i ddewis un dechneg neu nodi hunanadeiladu yn unig fel y ffordd ymlaen. Rhaid inni fod yn fwy beiddgar na hynny, a mwy agored i ystod o syniadau newydd, gan ddysgu o arloesi a mireinio ein dull o weithredu wrth inni symud ymlaen. Diolch i chi.

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl ac yn croesawu areithiau David Melding, Siân Gwenllian—95 y cant ohoni, beth bynnag—a Caroline Jones, ac yn wir yr araith gadarnhaol gan y Gweinidog. Oherwydd rydym yn derbyn bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau defnyddiol i helpu i ddatrys y prinder tai, ond o gofio y bydd gan y Deyrnas Unedig 15 miliwn arall o bobl o fewn y 35 mlynedd nesaf yn ôl tueddiadau presennol y boblogaeth, yn amlwg rydym yn mynd i wynebu problem enfawr os na chynyddwn nifer y tai a adeiladir yn sylweddol ar draws y wlad, ac mae hynny'n berthnasol i Gymru lawn cymaint ag unrhyw le arall.

Pan oeddwn yn fachgen bach iawn roedd fy rhieni a minnau'n byw mewn tŷ parod, ac roedd fy mam yn dweud bob amser, hyd at ddiwedd ei oes, mai dyna oedd ei ffefryn o'r holl dai roedd hi wedi byw ynddynt. Felly, fel y nododd David Melding, rwy'n credu bod y dyfodol, ar un ystyr, yn gorwedd yn y gorffennol ar hyn. A chredaf fod y nodyn o gonsensws a gawsom yn ystod y ddadl i'w groesawu'n fawr—ac nid yw hynny'n rhywbeth a gysylltir â fy mhlaid. Ond rwy'n falch fod Gareth Bennett wedi agor y ddadl mewn geiriau, er nad ei lais ef ydoedd. Ei araith ef oedd hi.

17:55

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio. Rwy'n bwriadu symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Pawb yn hapus? O'r gorau.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl yr Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd gan nifer o Aelodau'r Cynulliad. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, 7 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6572 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 39, Yn erbyn: 1, Ymatal: 7

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar dai modiwlar. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 5, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6612 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 5, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 31, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

NDM6612 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 1: O blaid: 31, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM6612 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6612 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 42, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Y diwydiant adeiladu yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges. Fe arhoswn ni, Mike, nes y bydd pobl yn symud.

Os ydych yn mynd, a wnewch chi fynd o'r Siambr yn gyflym os gwelwch yn dda?

Nid yw'n beth da cael eich dewis ar gyfer yr wythnos olaf o'r tymor.

Iawn. O'r gorau, symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Mike Hedges i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis. Mike.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n gobeithio dangos pwysigrwydd y diwydiant adeiladu, pwysigrwydd prentisiaethau a chael gweithlu adeiladu medrus, pwysigrwydd cefnogi a thyfu cwmnïau adeiladu yng Nghymru a hefyd, pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe. Pe bawn wedi bod yn gwneud yr araith hon ddwy flynedd yn ôl, y peth trist yw y buaswn yn dal i fod wedi dweud 'pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe' y pryd hwnnw hefyd. Credaf mai un o'r pethau tristaf yw bod gennym lawer o brosiectau mawr iawn yng Nghymru sydd i'w gweld yn cymryd llawer gormod o amser i ddigwydd.

Arferai cydweithiwr i mi ar y cyngor sir ddweud mai llwyddiant yw cael llawer o graeniau ar y gorwel. Yr hyn a olygai oedd bod yr economi'n ffynnu pan fo adeiladu'n ffynnu. Mae gennyf ddiddordeb yn y cwmnïau adeiladu lleol ac ymwelais â Dawnus, Hygrove ac RDM Electricals, ymhlith eraill, yn ystod y misoedd diwethaf. Er bod gennym nifer fawr o gwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint gyda llawer ohonynt yn is-gontractio ar brosiectau mawr, un o'n gwendidau yng Nghymru yw mai'r hyn sy'n brin gennym ar hyn o bryd yw cwmnïau adeiladu mawr. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud dros ein heconomi yw tyfu rhai o'r cwmnïau adeiladu canolig eu maint hyn yn gwmnïau adeiladu mawr.

Mae adeiladu yn hynod o bwysig. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, ym Mhrydain, fod dros 2 filiwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Yng Nghymru, mae yna dros 90,000, sef bron un o bob pump o'r gweithlu. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn tyfu'n gyflym—yn gyflymach nag unman arall ym Mhrydain hyd at 2020. Yn ôl gwaith ymchwil manwl gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, rhagwelir y bydd y sector yng Nghymru yn cael cyfradd dwf gyfartalog flynyddol o 7.1 y cant mewn allbwn, o gymharu â 2.5 y cant ar gyfer gweddill y DU rhwng 2016 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir y bydd nifer y rhai a gyflogir yn y sector yn codi dros 120,000. Rhagwelir mai Llundain, de-orllewin a gogledd-orllewin Lloegr yn unig a fydd yn gweld mwy o gynnydd na hynny. Mae cyflogaeth yn y sector adeiladu yn debygol o gyrraedd ei uchafbwynt yn 2008 yn ystod y flwyddyn nesaf a rhagori arno o 5 y cant erbyn 2020 yn ôl adroddiad rhagolwg y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu mewn cydweithrediad ag Experian ar gyfer 2016-2020.

Bydd yr ehangu hwn yn cael ei ysgogi gan amrywiaeth o brosiectau seilwaith mawr. Mae bron fel pe baem yn aros amdanynt, onid yw? Prosiectau seilwaith fel Wylfa—rydym yn dal i aros. Y morlyn llanw—rydym yn aros. Mae'r gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ar ysgolion a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ac wedi cael cefnogaeth enfawr ar draws y Siambr, wedi gwneud gwahaniaeth o ran cyflogaeth, a gwnaeth wahaniaeth o ran ansawdd yr ysgolion y mae disgyblion yn mynd iddynt. Rwy'n cofio unwaith, pan oeddwn gyda'r cyngor sir, arferem ddweud, yn realistig, ein bod bellach yn disgwyl i'n hysgolion bara ychydig yn hirach na chestyll canoloesol, oherwydd yn ôl y gyfradd roeddem yn adeiladu rhai newydd roedd hi'n mynd i gymryd tua 700 mlynedd i gael ysgolion newydd yn lle'r holl ysgolion yn Abertawe. Yr unig ffordd o gael ysgol newydd oedd pe bai'r hen un yn llosgi'n ulw. Roedd penaethiaid yn weddol falch pan welent fod eu hysgol wedi llosgi'n ulw, oherwydd fe wyddent eu bod am gael un newydd, ac nid dyna'r cyfeiriad y dymunwn fynd iddo mewn gwirionedd.

Felly, rydym wedi cael y prosiectau mawr hyn. Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Gaerfyrddin a chyngor Abertawe, ymhlith eraill, yn ymroi i adeiladu nifer fawr o dai cyngor unwaith eto, ac rwy'n falch iawn o weld hyn yn digwydd. Rydym yn sôn am brinder tai yn eithaf rheolaidd, gan gynnwys y prynhawn yma, a chredaf fod adeiladu, adeiladu tai, yn hynod o bwysig. Mae rhagolygon twf cryf ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru, wedi ei ysgogi gan y prosiectau seilwaith, gan ysgolion, gan dai. Mae adeiladu'n chwarae rhan hanfodol yn sicrhau economi fywiog ac amgylchedd o ansawdd. Gyda'r amcangyfrif o wariant ar gyfer y sector yn fwy na £2.3 biliwn y flwyddyn, mae'r sector yn cyfrannu tua 10 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae yna fwy na 12,000 o gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r sector, gan gyflogi mwy na 100,000 o bobl, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol megis cynllunwyr, penseiri, syrfewyr a pheirianwyr adeiladu yn ogystal â'r cwmnïau adeiladu traddodiadol sy'n gyfrifol am adeiladu newydd a gwaith cynnal a chadw ar ein hadeiladau hanesyddol ac adeiladau treftadaeth.

Credaf efallai mai dyna un o'r problemau sydd gennym yw bod pobl yn meddwl am adeiladu ac yn meddwl am bobl yn rhoi un fricsen ar ben y llall. Maent yn anghofio am y swyddi medrus iawn sy'n bodoli yr holl ffordd drwodd. Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio adeiladu wal yn gwybod bod rhoi un fricsen ar ben y llall a chael wal aros i fyny yn anhygoel o anodd. Ond mae yna swyddi proffesiynol medrus hefyd—penseiri neu syrfewyr meintiau. Mae'n fusnes medrus iawn, a chredaf y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn yr ystafell hon, mae'n debyg, pe baem yn ceisio adeiladu tŷ, fwy na thebyg yn ei weld yn disgyn i lawr wedi i ni gyrraedd y llawr cyntaf, pe baem yn cyrraedd mor bell â hynny. Felly, mae tai'n eithriadol o bwysig i bob un ohonom.

Mae her newid hinsawdd yn galw am ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at ddatblygu. Mae Cymru wedi ymrwymo i leihau ei hôl troed carbon. Mae'r newidiadau hyn yn creu heriau newydd i fusnesau cynhenid sy'n ymwneud â datblygu, cynnal ac adnewyddu tai ac adeiladau eraill. Roeddwn yn ffodus iawn i gael ymweld gyda chydaelodau eraill o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, â'r adeilad SOLCER ychydig y tu allan i'r Pîl, i weld sut y gallwch gael adeilad sy'n darparu ynni i'r grid mewn gwirionedd yn hytrach na'i gymryd ohono. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwaith rhagorol a wneir gan gyngor Abertawe yn eu datblygiad newydd yn ardal Portmead a Blaen-y-maes. Mae cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r technolegau arloesol sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r heriau hyn yn eu creu. Mae Llywodraeth Cymru a'r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r atebion amgylcheddol a charbon isel y mae cleientiaid eu heisiau yn awr ac yn y dyfodol, gan alluogi adfywio cymdeithasol a chymunedol drwy hyn yn ogystal â chystadleurwydd busnes.

Dengys ymchwil gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig fod prinder sgiliau yn parhau i fod yn broblem, gyda syrfewyr meintiau yn benodol yn brin, a nododd 51 y cant o'r ymatebwyr anawsterau o ran recriwtio syrfewyr meintiau. Y peth allweddol yw bod angen inni gefnogi ein busnesau bach a chanolig. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n siarad yn ei gylch o hyd wrth y Gweinidog, yn gyhoeddus ac yn breifat. Mae maint y contractau a roddir allan gan Lywodraeth Cymru yn bwysig. Mae contractau mawr iawn yn golygu bod cwmnïau maint canolig yng Nghymru yn cael eu heithrio. Er bod rhannu contractau mewn meintiau digon bach i gwmnïau o Gymru allu cynnig amdanynt yn ychwanegu gweinyddiaeth ychwanegol, mae'n cynyddu cystadleuaeth ac mae'r manteision i economi Cymru yn gwrthbwyso hynny gryn dipyn. Hefyd mae benthyciadau yn erbyn incwm a gwarantau yn caniatáu i gwmnïau llai gynnig amdanynt. Os ydym o ddifrif ynglŷn â thyfu cwmnïau adeiladu bach, mae angen inni gael strategaeth o ran sut y gallwn eu cynorthwyo i fod yn brif gontractwyr, nid is-gontractwyr yn unig, pan fyddant yn is-gontractio gyda'r holl elw, neu'r rhan fwyaf o'r elw, yn gwneud ei ffordd i'r cwmni adeiladu mawr sy'n is-gontractio iddynt.

A gaf fi siarad am y morlyn llanw? Byddai wedi gallu bod yn bwnc y 15 munud cyfan. Mae'n brosiect enfawr. Mae'n hynod o bwysig i Abertawe. Mae'n hynod o bwysig i Gymru. Mae'n gynllun braenaru ar gyfer y sector. Os caiff Abertawe y morlyn llanw—gallwn ddweud 'Pan gaiff Abertawe y morlyn llanw', oherwydd mae'n anochel ei fod yn mynd i ddod. Os mai ni yw'r morlyn llanw cyntaf, byddwn yn adeiladu'r set sgiliau, byddwn yn adeiladu'r gallu cynllunio, byddwn yn adeiladu'r cwmnïau sy'n gallu bod yn rhan o'r gwaith adeiladu. Bydd yn eithaf tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn Aarhus yn Nenmarc, lle roeddent ymhlith y rhai cyntaf i ddatblygu tyrbinau gwynt. Yn sydyn, maent bellach yn anfon eu tyrbinau gwynt ledled y byd, am mai hwy yw'r bobl sy'n gallu gwneud hynny, hwy yw'r rhai sydd â'r sylfaen wybodaeth, y rhai sydd â'r gadwyn gyflenwi. Mae'n gweithio mor anhygoel o dda. Os mai ni fydd y degfed, ni fydd yn ei brynu i mewn. Mae'n hynod o bwysig i ni fod yn gyntaf.

Rwyf am ddweud hyn: adolygiad Hendry, y credai llawer ohonom sy'n besimistaidd ei fod yn ei wthio i'r naill ochr, yw'r mwyaf cadarnhaol a glywais erioed. Rwy'n dyfynnu:

'mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, yn fy marn i, bod môr-lynnoedd llanw yn gallu bod yn rhan gost-effeithiol o gymysgedd ynni'r Deyrnas Unedig.'

Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn wynebu

'[p]enderfyniad strategol, gymaint ag y mae'n benderfyniad economaidd.'

Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru ym mae Abertawe, mor fuan ag sy'n ymarferol yn rhesymol yn 'bolisi diedifar.'

Credaf y gallwn gymryd na fyddai Calder Hall, Windscale neu Sellafield erioed wedi cael eu hadeiladu pe bai'r un rheolau'n bodoli yn y 1950au ag sy'n bodoli yn awr. Rydym wedi cael newidiadau technolegol—mae rhai wedi gweithio ac mae rhai heb weithio. Mae llawer o bobl yn cofio'r dadleuon dros Betamax yn erbyn VHS—mae honno'n hen ddadl sydd wedi diflannu—a hofranlongau oedd cerbyd y dyfodol yn mynd i fod. Ond rhaid i chi roi cynnig arni, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn wedi gweithio mewn gwirionedd. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn rhoi cynnig arni. Ni all wneud unrhyw niwed. Ar y gwaethaf, yr hyn fydd gennych yn y pen draw fydd amddiffyniad rhag llifogydd yn Abertawe.

Mae'n fuddsoddiad cyfalaf o £1.3 biliwn; maent yn targedu 50 y cant o'r gwariant yng Nghymru; allbwn pŵer net dibynadwy o dros 530 GWh, digon i ddiwallu galw 90 y cant o'r cartrefi ym mae Abertawe am drydan blynyddol am 120 o flynyddoedd; gwaith uniongyrchol i dros 2,000 o bobl yn y diwydiant adeiladu; £316 miliwn o werth ychwanegol gros drwy adeiladu; yr allwedd yw buddsoddi mewn tri chyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru—un ar gyfer peiriannu a gwaith gosod y tyrbinau ymlaen llaw, un ar gyfer cynhyrchu cydrannau dur trwm, ac un ar gyfer castio cydrannau concrid ymlaen llaw; proses 12 mis o symud i'r cam negodi terfynol gyda Llywodraeth y DU i ddechrau adeiladu. Nid yw'n ymwneud â swyddi adeiladu yn unig, sy'n dda iawn ynddynt eu hunain, ond y ffaith y byddwch yn creu diwydiant newydd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y morlyn llanw ar gyfer Abertawe. Efallai y gallaf ddefnyddio'r term y mae pobl yn aml yn ei ddefnyddio pan fydd datblygiadau'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru: bydd yn dda i Gymru. Efallai na fydd pobl yn y Rhyl yn siarad amdano, ond mae'n mynd i fynd i fyny i Fae Colwyn a'r Rhyl, mae'n mynd i fynd i bob cwr o Gymru. Rydym yn braenaru, bydd gweddill Cymru'n dilyn.

Tai yw bara menyn y diwydiant adeiladu. Mae wedi newid llawer yn y 50 mlynedd diwethaf, nid o reidrwydd er gwell i gyd. Cafwyd cynnydd mawr mewn eiddo gwag, ac mae hynny'n anffodus. Unwaith eto, rwy'n rhoi clod i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn eu dull deublyg o roi benthyciadau i bobl ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, a hefyd y cyfle i gynyddu'r dreth gyngor ar eiddo gwag. Mae yna bobl sy'n gadael eiddo'n wag, eiddo braf iawn yn aml, am eu rhesymau eu hunain, ond mae'n cyfyngu ar faint o dai sydd ar gael yn y gymuned. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person a'r nifer o aelwydydd pensiynwyr. Rydym wedi gweld newid yn ôl i rentu'n breifat. Mae lefelau tai cyngor wedi gostwng. Cafwyd twf sylweddol mewn cymdeithasau tai. Bellach, mae'r sector rhentu preifat wedi cynyddu'n enfawr er ei bod yn ymddangos ei fod bron â diflannu yn y 1960au a'r 1970au—ar wahân i fyfyrwyr.

Mae gwaith adeiladu'n bwysig. Mae angen inni adeiladu tai. Mae angen inni adeiladu tai ar gyfer pobl. Rydym newydd gael dadl ar dai, ac nid oeddwn yn gwybod ei bod hi'n mynd i ddigwydd pan gyflwynais y ddadl hon. Mae'n ymwneud ag adeiladu tai ac adeiladu ystadau newydd. Pa fath o dai y mae pobl eu heisiau? Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn hynod uchelgeisiol. Byddent yn eithaf hapus, fel fi, i fyw mewn tŷ pâr tair ystafell wely, pa un a yw'n cael ei ddarparu gan gymdeithas dai, y cyngor, neu pa un a ydym yn berchen arno ein hunain. Dyna beth y maent ei eisiau—cael hynny wedi ei wneud mewn gwirionedd. A gaf fi ddweud pa mor hapus wyf fi ynghylch datblygiad Hygrove ar hen safle bysiau Morris Brothers yn Abertawe? Mae'n adeiladu dros 200 o dai, mae 20 ohonynt ar gyfer y gymdeithas dai, a'r gweddill i'w gwerthu. Mae'n ddatblygiad sydd wedi dod â safle tir llwyd yn ôl i ddefnydd. Mae'n cynhyrchu tai o ansawdd da. Sut y gwn eu bod yn gartrefi o ansawdd da? Oherwydd maent wedi cynhyrchu tua 60 neu 70 bellach ac nid oes arwydd 'ar werth' wrth unrhyw un ohonynt. Nid ydych yn gweld hynny'n aml mewn ystadau newydd.

O ran prentisiaethau, mae adeiladu angen gweithwyr medrus. Mae angen prentisiaid i ddod drwodd yn lle crefftwyr sy'n ymddeol. Aethom drwy gyfnod o amser heb ddigon o brentisiaid. Mae angen datrys hyn. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan CITB, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda chyflogwyr. Mae pob prentisiaeth yn cynnwys cymhwyster cymhwysedd priodol i lefel 2 o leiaf, cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, cymhwyster gwybodaeth dechnegol, neu gymwysterau neu ofynion eraill, fel y nodwyd gan yr alwedigaeth benodol. Ond un o'r anawsterau mawr yw cael cwmnïau i gyflogi pobl. Credaf fod hynny'n broblem yn y sector adeiladu oherwydd bod gennym gynifer o gwmnïau adeiladu bach iawn nad ydynt yn gallu cynnig prentisiaethau. A dyna pam, os gallwn ddechrau tyfu rhai o'r cwmnïau hyn, y gallwch sicrhau system dda iawn. Mae cwmnïau'n tyfu, maent yn dechrau cael contractau mwy, maent yn cyflogi prentisiaid, ac mae pawb yn elwa. Mae economi Cymru'n elwa, mae'r bobl sy'n cyflogi'n elwa, ac rydym ni fel cymdeithas yn elwa.

Mae adeiladu yn ganolog i economi Cymru. Rydym i gyd yn dibynnu arno. Mae angen inni dyfu. Ond a gaf fi ddweud, fel rwy'n ei wneud bob amser—? Rwyf bob amser yn ceisio gorffen, fel yr arferwn ei wneud pan oeddwn yn dysgu, ar y pethau y credaf eu bod yn wirioneddol bwysig yn fy marn i. Mae angen inni dyfu mwy o gwmnïau adeiladu mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae angen inni eu cefnogi gyda chontractau sy'n mynd allan—yn enwedig contractau Llywodraeth Cymru—sy'n golygu y gallant wneud cynnig. Os oes gennych gontract adeiladu i adeiladu chwe ysgol am £70 miliwn, ni fydd gennych gwmni adeiladu o Gymru yn gallu cynnig am y gwaith. Torrwch ef yn chwe ysgol am £10 miliwn yr un, bydd gennych gwmnïau adeiladu yng Nghymru sy'n gallu cynnig am y gwaith. Mae gennym brosiectau mawr ar y ffordd, ond ni allwn ddibynnu'n unig ar brosiectau mawr, er mor bwysig ydynt. Mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu medrus, fod gennym gyfle i ddatblygu sgiliau adeiladu ac yn bwysicaf oll, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y tai sydd eu hangen ar ein pobl. Diolch.

18:10

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Ken Skates fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am alw'r ddadl hon, ac mae'n bleser gennyf ymateb iddo. Rwy'n hynod o falch o weld bod y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, yn eu rhagolwg diweddaraf, yn rhagweld y bydd Cymru'n gweld twf na welwyd ei debyg yn y sector adeiladu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r rhagolygon hyn yn adlewyrchiad, rwy'n credu, o'n hymrwymiad parhaus i gynllunio seilwaith hirdymor a buddsoddi yma yng Nghymru. Ein bwriad, fel Llywodraeth, yw darparu llif clir o brosiectau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant, ac mae'n amlwg eu bod yn gyfleoedd enfawr i'r sector adeiladu ar bob lefel, a'n bwriad yw gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y cyfleoedd niferus hyn.

Mae datblygu a darparu polisi caffael arloesol wedi creu manteision clir ac uniongyrchol i Gymru a'i heconomi. Mae cymhwyso manteision cymunedol wedi arwain at filoedd o swyddi a lleoedd hyfforddi ar gyfer unigolion ar draws Cymru, ac mae wedi helpu busnesau bach a chanolig yn ein cadwyn gyflenwi i dyfu ac i ehangu. Mae cynhyrchu ynni carbon isel yn un maes sy'n cynnig cyfleoedd economaidd enfawr dros y blynyddoedd i ddod, a dyna pam rydym yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a pham rydym wedi cefnogi'r morlyn llanw ym mae Abertawe ac yn parhau i wneud hynny.

Mae gwella a buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth yn faes twf allweddol arall yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd, y metros yn ne Cymru, a hefyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn ein helpu i dyfu'r economi. Mae hefyd, fodd bynnag, yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, ac er gwaethaf yr hanes cryf sydd gennym o adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, mae gennym ormod o bobl ifanc o hyd na allant gael troed ar yr ysgol dai. A dyna pam rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a pham rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn i gefnogi'r sector tai dros y tymor Cynulliad hwn.

Rydym yn arbennig o awyddus i weld mwy o adeiladwyr tai sy'n fusnesau bach a chanolig eu maint yn mynd i mewn i'r sector adeiladu i arallgyfeirio'r farchnad a hyrwyddo arloesi. Bydd cronfa datblygu eiddo Cymru sy'n werth £30 miliwn, a gaiff ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, yn parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig nad ydynt yn gallu cael cyllid fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol. Gall dulliau modern o adeiladu helpu hefyd i adeiladu cartrefi'n gyflymach ac yn fwy effeithlon, ac rydym wedi lansio ein rhaglen tai arloesol gwerth £20 miliwn yn benodol er mwyn cefnogi dulliau newydd ac amgen. Mae'n hollbwysig, o ystyried y lefel nas gwelwyd o'r blaen o ddatblygu seilwaith, fod gwaith adeiladu'n cael ei gydnabod fel dewis gyrfaol deniadol.

Mae'r sector adeiladu wedi dod at ei gilydd i ddatblygu Am Adeiladu—y porth gyrfaoedd rhyngweithiol cyntaf ar gyfer y diwydiant cyfan sy'n arddangos amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant adeiladu a'r llwybrau gorau i mewn. Fel y dywedodd Mike Hedges eisoes, mae prentisiaethau wedi profi pa mor effeithiol ydynt yn y farchnad a chânt eu gwerthfawrogi'n fawr iawn gan gyflogwyr a'r prentisiaid eu hunain. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i rai o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Nawr, rhaid inni adeiladu'n ddeallus a chynaliadwy os ydym am i'r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud yn awr fod yn werth chweil yn y tymor hir, a dyna pam rydym wedi rhoi datblygu cynaliadwy a datgarboneiddio ynghanol pob dim a wnawn fel Llywodraeth, a dyna pam rydym yn sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Fel rwy'n dweud, rwyf am weld cymaint â phosibl o'r buddsoddiad a wnaed yng Nghymru yn aros yma yng Nghymru, gan ein helpu i greu swyddi gwell yn nes at adref.

Mae ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn canolbwyntio sylw'r Llywodraeth gyfan ar nifer o feysydd i gyflawni effeithiau go iawn, a ddoe, cyhoeddais y cynllun gweithredu economaidd a fydd yn ein helpu i weithio gyda'r gymuned fusnes i ymateb i'r heriau allweddol hynny. Mae'r cynllun yn amlinellu fy nod i ddarparu seilwaith cysylltiedig a modern i ateb her cynhyrchiant a hefyd i sbarduno twf economaidd cynaliadwy wrth i ni adeiladu fel na wnaethom erioed o'r blaen.

18:15

Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.