Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
05/12/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Mick Antoniw i ofyn y cwestiwn brys. Mick Antoniw.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o gael trefniadau pwrpasol i Ogledd Iwerddon o ran ei ffin? (EAQ0001)
Wel, ni allwn ni ganiatáu i wahanol rannau o'r DU gael eu trin yn fwy ffafriol na rhannau eraill. Os yw un rhan o'r DU yn cael caniatâd i barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yna rydym ni'n bendant yn disgwyl cael yr un cynnig. Fodd bynnag, ymddengys bod pethau wedi datblygu. Roedd yn amlwg bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dod i gytundeb â'r UE ddoe, ond cafodd y cytundeb hynny ei chwalu gan y DUP, ac mae hynny'n peri i ni ofyn pam mae gan blaid fach o Ogledd Iwerddon y gallu i atal yr hyn sydd o fudd i'r DU o ran negodiadau â'r UE. Mae fy nghyd-Aelod o'r tu ôl yn dweud, 'Nid yw hynny'n gadarn a sefydlog'. Cytunaf yn llwyr ag ef. Ond, mewn gwirionedd, y cwestiwn yw hyn: a yw'r Prif Weinidog mewn gwirionedd yn rheoli'r DU, neu a yw'r DU yn cael ei rheoli gan 10 Aelod Seneddol o Ogledd Iwerddon?
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Efallai eich bod chi, fel finnau, dan gamargraff ein bod yn byw mewn democratiaeth seneddol, bod y Senedd yno i gynrychioli holl fuddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac rydym ni'n gweld yn awr, Prif Weinidog, ei bod yn ymddangos ei bod yn cael ei rheoli a'i llywio gan 10 person yn unig, sydd â safbwyntiau adain dde a homoffobig cryf, cysylltiadau hanesyddol â therfysgaeth, ac sydd hyd yn oed yn gwrthwynebu penderfyniad y mwyafrif o bobl Gogledd Iwerddon o ran yr Undeb Ewropeaidd. Felly, pan gafodd pobl Cymru eu hannog i adael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd y byddai'r Senedd yn sofran unwaith eto, a ydych chi'n credu mai dyma oedd ganddyn nhw mewn golwg?
'Na' yw'r ateb. Nid wyf yn credu eu bod wedi rhagweld sefyllfa pryd, yn gyntaf oll, y gellid perswadio Llywodraeth y DU i dalu £1.67 biliwn am gefnogaeth, ac, yn ail, sefyllfa pan na fyddai Llywodraeth y DU yn gallu negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd oherwydd feto gan nifer fach o Aelodau Seneddol. Dwi ddim yn credu mai dyna a oedd gan bobl mewn golwg o gwbl, pan wnaethon nhw bleidleisio y llynedd.
Yn amlwg, fel y gŵyr Llywodraethau blaenorol Cymru, wrth weithio mewn clymbleidiau, yr ydych chi'n bennaeth de facto ohonynt, ac rydym ni wedi cael dwy Lywodraeth flaenorol mewn clymblaid, dyna yw realiti Llywodraeth glymblaid. Ond neithiwr, dywedodd y Taoiseach, 'Nid ydym ni eisiau ffin ym Môr Iwerddon.' Yn ystod amser cinio heddiw, dywedodd David Davis yn Nhŷ’r Cyffredin, eu bod nhw bellach yn agos at gwblhau cam cyntaf y negodiadau, gan symud ymlaen at drafodaethau masnach, ac nid yw'r Llywodraeth eisiau gweld ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod uniondeb marchnad sengl yr UE, ond hefyd uniondeb ffiniau'r DU, ac na fyddan nhw yn trin unrhyw ran o'r DU mewn ffordd wahanol. Nododd hefyd fod Canghellor yr Wrthblaid Llafur, John McDonnell, wedi dweud y byddai aros yn y farchnad sengl yn cael ei ddehongli fel amharchu'r refferendwm.
Gan nodi, felly, yr wythnos diwethaf, bod Bertie Ahern, cyn Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, wedi datgan y byddai technoleg yn ateb rhannol i reoli symudiadau ar draws ffin Iwerddon ar ôl Brexit, a'r cynifer o weithiau yr ydych chi wedi codi'r pwynt hwn yn ddilornus, pa waith ymchwil mewn gwirionedd y mae eich Llywodraeth wedi ei gyflawni ar y technolegau sy'n cael eu defnyddio mewn nifer o rannau o'r byd, sy'n rheoli nwyddau ac yn eu cludo ar draws ffiniau ar yr union sail hon?
Nid wyf yn siŵr os mai ein cyfrifoldeb ni yw gwneud hynny, a dweud y gwir, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud dro ar ôl tro ei bod yn archwilio'r dechnoleg. Mewn geiriau eraill, nid oes ganddi unrhyw syniad pa dechnoleg y gellid ei defnyddio. A gaf i ddweud wrth yr Aelod, bod un enghraifft lle y ceir endid sydd y tu allan i'r undeb tollau, sydd â ffin gydag endid sydd o fewn yr Undeb Tollau, a Gibraltar yw honno, ac mae'r ffin honno yn galed iawn, iawn. Mae'n bell o fod yn ffin feddal. Mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn darllen datganiad y dylen nhw fod wedi ei gyflwyno brynhawn ddoe, a hynny yw bod Llywodraeth y DU yn agos iawn at ddod i gytundeb gyda'r UE. Wel, yn amlwg, nid dyna yw'r achos ar ôl i ni weld y trafodaethau yn chwalu neithiwr. Rwy'n synnu clywed bod y DUP mewn gwirionedd mewn clymblaid gyda'r Llywodraeth Geidwadol. Nid oeddwn i'n ymwybodol eu bod nhw mewn gwirionedd mewn clymblaid a bod gannddyn nhw Weinidogion mewn clymblaid.
Ond, nid dyma yw'r pwynt: bod gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau cytundeb sydd yn dda i'r DU gyfan? Roedd yn eithaf clir ddoe—yn eithaf clir ddoe—eu bod nhw'n ceisio gwneud trefnu bargen arbennig neu statws arbennig ar gyfer Gogledd Iwerddon. Dyna oedd sefyllfa Llywodraeth y DU amser cinio ddoe. Mae Arlene Foster yn codi'r ffôn ac yn dweud 'Theresa, mae'n flin gen i, nid ydym ni yn mynd i ganiatáu i chi wneud hyn' ac yna mae Theresa May yn ildio. Onid oes perygl y bydd y DU gyfan a'i buddiannau yn ddarostyngedig i farn y blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon—gwir—ond nid plaid sy'n cynrychioli'r mwyafrif o bobl yng Ngogledd Iwerddon? Onid yw'r Aelod yn gallu gweld bod peryglon yn hynny?
Yn ystod y 24 awr diwethaf, rydym wedi gweld y posibilrwydd o un rhan o'r DU yn cael bargen unigryw, a dywedaf eto ein bod ni ym Mhlaid Cymru eisiau i Gymru hefyd elwa ar unrhyw fath o drefniadau penodol neu arbennig a fyddai'n caniatáu i ninnau hefyd fod yn rhan o'r farchnad sengl a'r Undeb Tollau. Ac ni fyddai unrhyw un yn ei iawn bwyll yn dymuno gweld ffin galed ar Iwerddon—gwn fod y Prif Weinidog yn cytuno â mi ynglŷn â hynny. Ond nid yw symud y ffin galed tua'r dwyrain yn ateb a fyddai'n gweithio i Gymru, ac yn sicr nid i'm hetholwyr i a phorthladd Caergybi.
Mae yna oblygiadau difrifol iawn, iawn, iawn i fy etholaeth i, a'r 1,000 o bobl sy'n gweithio yn uniongyrchol, neu'n anuniongyrchol, ym mhorthladd Caergybi, o weld ffin galed yng Nghaergybi. Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf ym Mhrydain o ran fferis yn cario nwyddau. Mae masnach yn gwbl ddibynnol ar lif rhwydd o nwyddau, ac mi fydd masnach yn chwilio am lwybrau haws. Mae yna dystiolaeth yn barod o chwilio am ffyrdd mwy uniongyrchol i fynd â llongau o gyfandir Ewrop i borthladd Caergybi.
Rŵan, mae'n rhaid ystyried pob opsiwn erbyn hyn. Aros yn y farchnad sengl rydym ni yn y fan hyn yn ei ffafrio. Pa ystyriaeth, er enghraifft, os methwn ni â chael y nod honno, sy'n cael ei rhoi i greu ardal masnach rydd yng Nghaergybi, neu yn Ynys Môn gyfan, neu mae yna ardaloedd porthladdoedd eraill yng Nghymru, fel ffordd ymlaen? Rydw i angen sicrwydd bod y Llywodraeth yma yn mynd i fod yn edrych ar bob opsiwn, yn cynnwys hynny. Ac a gaf i hefyd sicrwydd y bydd ffawd ein porthladdoedd ni yn gwbl ganolog rŵan i waith Llywodraeth Cymru o drio dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i ddangos eu bod nhw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i'n buddiannau ni fel cenedl, achos, ar hyn o bryd nid ydw i'n gweld tystiolaeth o hynny o gwbl?
Wel, mae llawer o beth ddywedodd yr Aelod yn iawn. Rydym ni wedi gweud sawl gwaith bod 70 y cant o'r masnach rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon yn mynd drwy borthladdoedd Cymru. Byddai unrhyw beth sydd yn stopio hynny, neu'n pwyso ar hynny, yn rhywbeth sy'n mynd i gostio i Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, ynglŷn â swyddi ac ynglŷn â masnach. Beth yw'r ateb? Mae'r ateb i fi yn gwbl glir, sef y dylai'r Deyrnas Unedig aros yn y farchnad sengl a hefyd wrth gwrs aros yn yr undeb tollau. Felly, wrth gwrs, ni fyddai eisiau cael unrhyw fath o ffin ynglŷn â thollau rhwng Prydain ac Iwerddon, neu rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Dyna beth yw'r ateb, a dyna beth, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ei ddweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig—nad oes yn rhaid dehongli canlyniad y llynedd fel canlyniad sydd yn ganlyniad i gael y Brexit mwyaf caled sydd yn bosib. Mae'n bosib i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn ffordd sydd ddim yn peryglu swyddi yng Nghymru ac sy'n sicrhau ein bod ni'n gallu gwerthu yn y farchnad sengl, a bod yn rhan o'r undeb tollau.
Yr unig beth yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r llanast a ddigwyddodd ar y penwythnos yw nad yw Theresa May yn dda iawn am wleidyddiaeth, ac roeddem ni'n gwybod hynny beth bynnag ar ôl canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf. Byddai'n amhosibl i'r DUP fyth ystyried y math o fargen yr ydym yn darllen amdano, lle y byddai bargen arbennig o ran masnach, ar gyfer Gogledd Iwerddon, oherwydd byddai hynny yn peryglu uniondeb y Deyrnas Unedig, sef prif ddiben bodolaeth y DUP. Felly, ni fu hynny erioed yn bosibl. Mae 85 y cant o fasnach Gogledd Iwerddon gydag Ynysoedd Prydain yn eu cyfanrwydd, yn cael ei gwneud gyda'r Deyrnas Unedig, ac nid â Gweriniaeth Iwerddon, felly nid yw hyd yn oed o fudd economaidd i Iwerddon gael y math o gytundeb y byddai'r UE yn dymuno ei gael. Ond rwy'n credu mai'r wers arall yr ydym yn ei dysgu o ganlyniad i ddigwyddiadau'r penwythnos, yw bod gan lond dwrn o Aelodau Seneddol Gogledd Iwerddon lawer mwy o ddylanwad ar Lywodraeth Prydain nag sydd gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n adlewyrchiad gwael ar Lywodraeth Cymru yn hytrach nag ar y DUP.
[Anghlywadwy.]—y Blaid Geidwadol, a gwendid y Prif Weinidog. Mae'n destun pryder mawr clywed arweinydd UKIP yn dweud, 'Wel, nid yw'r Prif Weinidog yn arbennig o dda am wleidyddiaeth'—efallai nad hynny fyddai'r nodwedd orau i berson feddu arni pan ei fod, mewn gwirionedd, yn Brif Weinidog.
Ceir dau ddewis yma. Naill ai, yn gyntaf oll, ni ofynnwyd am farn y DUP, ac wedyn fe wnaethon nhw fynegi eu barn yn glir iawn, iawn, neu gofynnwyd am eu barn ac yna fe wnaethon nhw gefnu ar ryw fath o gytundeb gyda Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw ddewisiadau eraill posibl yn y sefyllfa hon. Boed hynny y naill ffordd neu'r llall, mae'n arwydd o gamreolaeth gan Lywodraeth y DU o'r sefyllfa. Roeddwn i'n credu bod yr hyn a gafodd ei gynnig ddoe yn rhywbeth diddorol, o ran datrysiad. Nid oes neb eisiau gweld ffin gadarn—mae'n amhosibl cael ffin gadarn, mewn gwirionedd, ar yr ynys honno. Rwy'n adnabod yr ardal honno yn dda. Mae'n amhosibl; ni ellir ei wneud, ac roeddwn i'n credu bod ffyrdd o chwilio am ddatrysiad. Ond yr hyn y mae'n ymddangos ein bod ni'n ei wynebu erbyn hyn yw bod gan un blaid feto, plaid sy'n cynrychioli tua 37, 38 y cant o'r boblogaeth yng Ngogledd Iwerddon, o ran beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a does bosib bod honno'n sefyllfa gynaliadwy cyn belled ag y mae'r dyfodol yn y cwestiwn. A byddwn i'n disgwyl y byddai Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r mater hwn gyda'r DUP ymlaen llaw er mwyn cael cefnogaeth y DUP. Mae'n ymddangos i mi, naill ai na ddigwyddodd hynny neu, fod hynny wedi digwydd a bod y DUP wedi newid eu meddwl. Pa ddewis arall allai fod?
Diolch i'r Prif Weinidog.
Y cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog sydd ar yr agenda ac, felly, cwestiwn 1, Darren Millar.
1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau'r broses ar gyfer ymdrin â chwynion nad yw'r Prif Weinidog wedi cadw at god y gweinidogion? OAQ51393
Gwnaf. Dylid cyflwyno unrhyw gwynion ynghylch cadw at god y gweinidogion i mi fel Prif Weinidog.
Fel y byddwch yn gwybod o'n trafodaeth yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio darparu tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol sy'n ystyried yr honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Cynulliad hwn, i deulu Carl Sargeant ac i eraill y bydd unrhyw AC sydd â gwybodaeth yn cael cyfrannu heb fod ofn dial ac y bydd y cyd-gyfrifoldeb, sy'n rhwymo aelodau Llywodraeth Cymru fel rheol, yn cael ei hepgor at ddibenion yr holl ymchwiliadau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi?
Wel, gall pob Aelod ddarparu'r dystiolaeth y credant sydd ganddynt. Mater i'r cynghorydd yn y pen draw, wrth gwrs, yw penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r broses wedyn.
Mae adran 2.9 cod y gweinidogion yn nodi mai'r Prif Weinidog a'r Prif Weinidog yn unig sydd â chyfrifoldeb am gynghorwyr arbennig, ac adlewyrchwyd hynny yng nghofnod y Prif Weinidog yn y rhestr o gyfrifoldebau'r gweinidogion, lle ceir cyfeiriad penodol at gynghorwyr arbennig. Dyma fu'n wir hyd at y fersiwn ddiwygiedig o gyfrifoldebau'r gweinidogion, sydd o dan gofnod y Prif Weinidog erbyn hyn yn hepgor y cyfeiriad hwnnw at gynghorwyr arbennig. Pam mae hynny, Prif Weinidog? A ydych chi'n ceisio cuddio neu osgoi eich cyfrifoldebau?
Nac ydw, wrth gwrs nad ydw i. Lol yw hynny. Mae'n ymwneud â sefyllfa uwch weision sifil. Nid wyf i'n gyfrifol am uwch weision sifil nac unrhyw ran arall o—. Mae'n ddrwg gen i, nid uwch weision sifil; y rheini nad ydynt yn uwch weision sifil. Nid wyf yn gyfrifol am y gwasanaeth sifil. Rwy'n penodi cynghorwyr arbennig. Mae rheolwr llinell cynghorwyr arbennig yn rhywun gwahanol o ran ei dâl a'i amodau, ond fi sy'n eu penodi a bydd hynny'n parhau i fod yn wir yn y dyfodol.
Prif Weinidog, rydych chi wedi atgyfeirio eich hun ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion o'r diwedd. Rwyf i wedi bod yn gofyn i chi wneud hynny ers misoedd, ar dri gwahanol achlysur pan fy mod yn credu eich bod chi wedi camarwain y Senedd hon. Rydych chi naill ai wedi anwybyddu'r galwadau neu, yn hytrach, wedi taflu baw ataf i. Nawr, mae cod y gweinidogion yn eglur: os ydych chi'n camarwain y Cynulliad yn fwriadol, bydd disgwyl i chi ymddiswyddo. Os canfyddir eich bod chi wedi camarwain y Cynulliad hwn, a wnewch chi ymddiswyddo? Ac a wnewch chi atgyfeirio eich hun nawr ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion ar y materion eraill yr wyf i wedi eu codi yn y gorffennol?
Na wnaf, oherwydd y cwbl y mae'r Aelod yn ei godi yw lol wamal, fel y mae'n gwybod yn iawn, ac heb unrhyw sail mewn gwirionedd o gwbl. Mae'r cynghorydd yno. Rwyf i wedi dweud y gwnaf atgyfeirio fy hun at y cynghorydd o ran achos arfaethedig o fethu â chadw at god y gweinidogion, a dyna'n union fydd yn digwydd.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio athrawon yng Nghanol De Cymru? OAQ51417
Gwnaf. Rydym ni eisiau i addysgu yng Nghymru fod yn broffesiwn dewis cyntaf fel y gallwn ni ddenu'r goreuon. Yn ogystal â'n cymhellion, rydym ni'n gweithio gyda'r sector, gan gynnwys y consortia rhanbarthol, i hyrwyddo'r proffesiwn yn ymarferol, i recriwtio'r unigolion gorau a mwyaf disglair i faes addysgu.
Prif Weinidog, rwy'n falch o ddweud, yn rhanbarth Canol De Cymru, bod dau enillydd gwobr aur ac enillydd gwobr arian yng ngwobrau addysgu Pearson a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Mae'r rhain yn wobrau uchel iawn eu parch, fel y gwyddoch. Fodd bynnag, er gwaethaf yr enghreifftiau rhagorol hyn o arfer gorau, mae ffigurau diweddar Llywodraeth Cymru wedi dangos, ers 2007, bod nifer yr hysbysebion swyddi ledled Cymru ar gyfer athrawon wedi cynyddu 9.4 y cant, tra bod nifer y ceisiadau wedi gostwng gan bron i 19 y cant. A ydych chi'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae o ran tynnu sylw at faint o foddhad y mae addysgu yn ei gynnig fel proffesiwn a faint o arfer gorau sydd i'w gael yn rhai o'n hysgolion?
Ydw, mi ydwyf, a, dim ond i roi rhyw syniad i'r Aelod o'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud: rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i hyrwyddo cynnig recriwtio a chadw i gynorthwyo gwaith recriwtio i addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru; mae £20,000 ar gael i raddedigion â gradd gyntaf neu ôl-raddedig sy'n ymgymryd â rhaglenni ITE ôl-raddedig eilaidd ym mhynciau mathemateg, y Gymraeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, ffiseg a chemeg; mae £15,000 ar gael ar gyfer y rheini sy'n fyfyrwyr ieithoedd modern sy'n bodloni'r un meini prawf. Yng Nghymru, rydym ni wedi gweld cynnydd o 3.9 y cant i geisiadau UCAS ar gyfer darparwyr ITE Cymru yn 2016 o'i chymharu â 2015. Felly, mae hynny'n newyddion calonogol ac yn dangos bod y cymhellion yr wyf i wedi eu crybwyll, ynghyd â'r pethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud, yn ddeniadol i ddarpar athrawon.
Byddwch yn ymwybodol o'r ddadl am athrawon cyflenwi, ac mae rhai o'n hathrawon mwyaf profiadol yn ennill cyflogau gwael oherwydd y sefyllfa lle mae asiantaethau yn cymryd cyfran fawr o'r cyflog sydd ar gael iddyn nhw gan ysgolion. Yn Nenmarc, mae yn erbyn y gyfraith i wneud elw o addysg, Prif Weinidog. Byddai deddfwriaeth o'r fath yma yn datrys y broblem o ran athrawon cyflenwi. Fel mater o egwyddor, a fyddech chi'n agored i ddeddfwriaeth o'r fath yma yng Nghymru?
Rwy'n meddwl bod hynny mynd gam yn rhy bell, efallai. Yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo yw'r hyn y gallwn ni ei wneud pan fydd cyflog ac amodau wedi eu datganoli, sydd wedi bod yn broblem i ni, sut gallwn ni wella amodau athrawon cyflenwi hefyd wedyn. Yn y cyfamser, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet, ar 5 Hydref, wedi cyhoeddi £2.7 miliwn yn y cyfarfod llawn i gefnogi trefniant clwstwr cyflenwi wedi ei leoli mewn ysgolion. Bydd hynny'n arwain at athrawon sydd newydd gymhwyso, a allai ganfod eu hunain mewn swyddi cyflenwi fel arall, yn cael eu cyflogi mewn ysgolion a gynhelir ar sail ychwanegol ac yn cael eu talu ar sail cyfraddau cyflog cenedlaethol. Ond, ydy, mae'n iawn i ddweud, pan fyddwn ni'n gweld cyflog ac amodau yn cael eu datganoli, y bydd cyfle wedyn i ystyried eto pa un a yw'r trefniadau presennol ar gyfer athrawon cyflenwi yn ddigonol.
Bu problemau o ran cadw cynorthwywyr addysgu. Yn aml, mae cynorthwywyr addysgu yn gymwys fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch, ond yn canfod nad ydynt yn cael y cyflog na'r cyfrifoldebau sy'n briodol i'r lefel newydd. Mae hyn wedi cyfrannu at lawer yn gadael y proffesiwn. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys y broblem hon?
Mae'n fater i ysgolion, wrth gwrs, o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae rheoli ysgolion yn lleol yn golygu bod gan ysgolion lefel benodol o ymreolaeth o ran sut y maen nhw'n cyflogi pobl, ond mae'n amlwg er budd ysgolion i sicrhau eu bod yn darparu'r telerau ac amodau priodol er mwyn cadw'r cynorthwywyr addysgu sydd eu hangen arnynt.
Prif Weinidog, ailymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn y Siambr ar 24 Hydref genhadaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysgu yng Nghymru fel proffesiwn statws uchel, hyblyg, a werthfawrogir. Gwn yn bersonol, fel cyn-athrawes a darlithydd gwadd, pa mor anodd a heriol, yn ogystal â chyffrous a llawn boddhad, y gall y proffesiwn addysgu fod.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi cyhoeddi, fel y dywedasoch, cymorth o £2.7 miliwn ar draws y blynyddoedd academaidd presennol a nesaf i ariannu 15 o awdurdodau lleol i gefnogi trefniadau clwstwr cyflenwi wedi eu lleoli mewn ysgolion ar draws 86 o ysgolion a hynny mewn cyfnod o gyni cyllidol. Bydd hynny'n galluogi penodi tua 50 o athrawon newydd gymhwyso ar sail ychwanegol i weithio ar draws clystyrau ysgolion, fel cymorth wrth gefn pan fydd athrawon yn absennol a chan sicrhau lefel uchel o addysgu lleol.
Hefyd, bydd arbedion yn cael eu cyflawni o gyllidebau cyflenwi ysgolion. Prif Weinidog, sut felly y gwnaiff Llywodraeth Cymru fesur llwyddiant y dull hynod arloesol hwn a pha bosibilrwydd fydd yna i'w gyflwyniad gynnwys fy etholaeth i yn Islwyn, fel bod y manteision yn cael eu teimlo gan bob ysgol yng nghymoedd Gwent?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'r ffordd angerddol y mae hi'n cynrychioli ei hetholaeth a'r bobl sy'n byw ynddi? Gallaf ddweud wrthi bod yr ymateb gan ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y prosiect clwstwr cyflenwi gwerth £2.7 miliwn, neu'r treial, yn hytrach, wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae trefniadau ar waith i fonitro'r fenter yn agos a'i gwerthuso, gan gynnwys comisiynu prosiect ymchwil ffurfiol i ddangos manteision y treial fel catalydd ac i ystyried modelau cyflenwi amgen eraill ar gyfer y dyfodol.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar 13 Tachwedd, cyflwynodd Adam Price gwestiwn ysgrifenedig, a ofynnodd i'r Prif Weinidog a
yw'n dal i fod yn gyfrifol am staffio gan gynnwys telerau ac amodau Cynghorwyr Arbennig.
Daeth yr ateb 10 diwrnod yn ddiweddarach:
Rwy'n cadw diddordeb agos mewn staffio ond yr Ysgrifennydd Parhaol sy'n gyfrifol.
Ond mae'r cod ymddygiad ar gyfer cynghorwyr arbennig yn dweud rhywbeth sy'n gwbl groes i hynny:
'Cyfrifoldeb y Prif Weinidog a wnaeth y penodiad yw rheoli cynghorwyr arbennig a'u hymddygiad, gan gynnwys disgyblaeth.'
Felly, sut mae'r Prif Weinidog yn cysoni'r hyn a ddywedodd hynny ar bapur gyda'r hyn y mae newydd ei ddweud wrth Adam Price?
Nid wyf i'n gyfrifol am y gwasanaeth sifil mewn unrhyw ffordd o gwbl; rwy'n gyfrifol am gynghorwyr arbennig ac am eu penodi. O ran eu cyflog a'u hamodau fel rheolwr llinell, cyfrifoldeb rhywun arall yw hynny.
Ymddygiad.
Ymddygiad, ie, fi sy'n gyfrifol am ymddygiad cynghorwyr arbennig.
Da iawn. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau felly bod yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal, un o blith llawer—diwrnod arall, ymchwiliad arall heddiw—gan James Hamilton yn cynnwys, hefyd, ymchwiliad i ymddygiad cynghorwyr arbennig, gan eu bod nhw'n atebol yn benodol iddo fe, y Prif Weinidog, yn y pen draw, am eu hymddygiad gwleidyddol?
Na. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa un a wyf i wedi torri cod y gweinidogion o ran yr atebion a roddais ym mis Tachwedd 2014 ac ym mis Tachwedd 2017.
Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud na fydd ymddygiad cynghorwyr arbennig yn rhan o delerau ymchwiliad James Hamilton?
Wel, rwyf i wedi atgyfeirio fy hun, o dan god y gweinidogion, i'r cynghorydd. Bydd yn fater i'r cynghorydd annibynnol benderfynu sut, wedyn, i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Prif Weinidog, fel y dywedasoch yn gynharach, chwalwyd ymgais y DU i symud ymlaen i'r cam nesaf yn y trafodaethau Brexit gan y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, a'r ffin yn Iwerddon yw'r maen tramgwydd. Nid oes yr un ohonom ni eisiau dychwelyd i ffin galed, ond nid ydym ychwaith eisiau gweld rhwystrau rhwng Cymru a'n cymdogion agosaf. Bydd rhwystrau yn newyddion drwg i borthladd Caergybi, fel y clywsom yn gynharach, i Stena Line, i Irish Ferries, i swyddi, ac yn newyddion drwg i borthladdoedd eraill yng Nghymru hefyd. Bydd oediadau i fusnes, a thagfeydd i deithwyr yw'r risg. Rydym ni i gyd yn gwybod faint o ddylanwad sydd gan y DUP. Pa ddylanwad allwch chi ei ddefnyddio i ddiogelu porthladd Caergybi rhag ffin galed newydd?
Wel, rydym ni wedi siarad gyda Llywodraeth Iwerddon am hyn ac wedi eu hysbysu nhw, wrth gwrs, am ein pryderon ac maen nhw'n rhannu ein pryderon. Y peth olaf y maen nhw eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Cymru ac Iwerddon fel ffin arforol, ac rydym ni'n gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.
Prif Weinidog, defnyddiais y gair 'dylanwad' ar bwrpas. Gellir gwarchod ein budd cenedlaethol Cymru dim ond os bydd ein ASau yn pleidleisio y ffordd iawn ar raniadau Brexit hollbwysig. Ateb Plaid Cymru i broblem y ffin, fel y byddwch yn ymwybodol, yw i'r DU aros yn yr undeb tollau. Plaid Lafur y DU yw'r wrthblaid swyddogol yn San Steffan i fod. Rydych chi newydd ddweud, yn gynharach, eich bod chi eisiau i Gymru aros yn y farchnad sengl ac mai aelodaeth o'r undeb tollau yw'r ateb i'r broblem hon. Clywsom yn gynharach, hefyd, am bwysigrwydd democratiaeth seneddol. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pam y gwnaeth ASau Llafur bleidleisio yn erbyn aelodaeth y DU o'r undeb tollau mor ddiweddar â'r ugeinfed o Dachwedd?
Yn gyntaf oll, mae'n braf gweld bod ASau Llafur a Phlaid Cymru wedi cydweithio er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio cael ein gwelliannau trwy Dŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ac rwyf i'n croesawu hynny yn fawr iawn. Bydd hi'n gwybod fy marn i, sef fy mod i'n credu y dylai fod gennym ni fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Rydym ni wedi cytuno ar yr un safbwynt. Credaf hefyd mai'r dewis gorau i'r DU yw aros yn yr undeb tollau. Bydd gwahanol safbwyntiau yn fy mhlaid i yn Llundain, ac mae'r safbwyntiau hynny yn hysbys, gan fod rhai Aelodau wedi eu mynegi. Ond fy marn i, fel Prif Weinidog, yw mai'r dewis gorau i ni yw aros yn yr undeb tollau a chael y mynediad hwnnw at y farchnad sengl.
Y broblem yma yw bod gennym ni nifer o safbwyntiau Llafur. Nid oes gennym ni eglurder ynghylch beth yw safbwynt y Blaid Lafur, a bu methiant gan ASau Llafur i ddiogelu ein buddiannau yma yng Nghymru, drwy'r ffordd y maen nhw'n pleidleisio. Rydym ni'n wynebu Llywodraeth Dorïaidd wan a rhanedig, ond caniatawyd i gonsensws gael ei ddatblygu ynghylch gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Rydych chi wedi dweud os caiff cytundeb ar wahân ei gynnig i wlad arall yn y DU, eich bod yn disgwyl i hwnnw gael ei gynnig i Gymru. Efallai fy mod i'n ymddiried llawer llai yn San Steffan nag yr ydych chi, Prif Weinidog, ond fel mae pethau'n sefyll, rwy'n disgwyl i San Steffan beidio â chynnig cytundeb o'r fath i ni. Ond gallwn newid y sefyllfa honno os ydym ni eisiau. Yn absenoldeb unrhyw weithredu neu flaengarwch gan Blaid Lafur y DU, gall y Cynulliad hwn leisio ei farn. Mae'r grym gennych chi i sicrhau nad yw Cymru'n setlo am ail orau yn y fan yma. Fel Prif Weinidog y wlad hon, a wnewch chi sicrhau, pan ddaw'r amser, y bydd ASau Llafur yn San Steffan yn cefnogi cytundeb ar wahân i Gymru?
Wel, rwy'n meddwl eu bod nhw wedi dangos hynny trwy eu gweithredoedd neithiwr, er tegwch.
Nac ydyn, dydyn nhw ddim.
Nid yw fel pe nad ydynt wedi bod yn gefnogol o'r gwelliannau yr ydym ni wedi eu cyflwyno. Ond dyma'r safbwynt sydd gen i: rwyf i eisiau gweld cytundeb da i'r DU gyfan. Rwy'n credu mai dyna'r ateb hawddaf o bell ffordd. Mae cael cytundeb penodol i Gymru yn fwy anodd; nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n fwy anodd. Nid yw'n amhosibl; mae'n yn sicr yn fwy anodd. Hoffwn weld y DU yn ei chyfanrwydd yn aros yn yr undeb tollau, yn cael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd busnesau Cymru yn gallu cael mynediad at farchnad y DU, sy'n bwysig dros ben iddyn nhw, a marchnad yr UE ar yr un pryd. Nid wyf i'n gweld bod angen unrhyw fath o gystadleuaeth rhwng y ddau nod hynny.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, a wnaeth Leighton Andrews gŵyn o unrhyw fath yn 2014 ynghylch ymddygiad aelodau o staff yn Llywodraeth Cymru neu yn eich Swyddfa chi?
Naddo.
Prif Weinidog, pam ydych chi felly, wedi hynny, pan yr ydym ni wedi wedi bod yn eich holi chi yn y Siambr hon, wedi dweud y tynnwyd eich sylw at faterion gan yr unigolyn a enwais ac eraill, a'ch bod chi wedi ymdrin â'r materion hynny ar yr adeg honno? Oherwydd mae'n gwbl eglur bod dwy stori ar y gweill yn y fan yma, ac mae'n anodd i'r sylwedydd diduedd geisio cael at wirionedd yr hyn y mae pobl eisiau ei glywed, sef beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd yn 2014 a pha gamau a gymerwyd gennych chi. Felly, a allwch chi egluro pwy sy'n dweud y gwir: Leighton Andrews neu chi?
Rwyf i newydd ateb eich cwestiwn. Ni fu unrhyw honiadau o fwlio.
Felly, rydych chi'n dweud, yn yr atebion a roesoch chi i'r Siambr hon dros yr wythnosau diwethaf, pan wnaethoch chi nodi—a'ch geiriau chi oedd y rhain—y rhoddwyd sylw i faterion ac y cymerwyd camau, nad oedd y materion hynny yn ymwneud ag ymddygiad o'r natur a ddisgrifiwyd gan Leighton Andrews, gan y cynghorydd arbennig neu gan unigolion eraill sydd wedi mynd at y wasg i ddweud bod awyrgylch o'r fath yn bodoli ar y pumed llawr, ac y tynnwyd eich sylw atynt. A dywedasoch, yn y Siambr hon, y cymerwyd camau gennych chi. Felly, pa gamau wnaethoch chi eu cymryd, a beth oedd y materion yr oeddech chi'n cyfeirio atynt yn eich atebion blaenorol?
Materion nad oeddent yn ymwneud â bwlio. Rwyf i wedi dweud na wnaed unrhyw honiad gan Leighton Andrews i mi o ran bwlio. A oedd materion a gododd? Oedd, byddai achosion o wrthdaro rhwng pobl nawr ac yn y man—anghydfodau ynghylch teitlau Biliau, er enghraifft. Pan fo gennych chi dîm o bobl ddawnus, byddant yn gwrthdaro weithiau.
Gadewch i mi wneud un peth yn eglur: y naratif, y naratif gwleidyddol y mae'n ceisio ei lunio yw bod y Llywodraeth rywsut—[Torri ar draws.] O, nid yw'n gwneud hynny, nag yw? Bod y Llywodraeth, yn 2014, mewn anhrefn rywsut a bod hynny'n wir byth ers hynny. Rydym ni wedi cyflawni pob un o'n haddewidion maniffesto rhwng 2011 a 2016. Llwyddasom i fynd yn ôl i mewn i rym yn 2016. Ymddiriedodd pobl Cymru ynom i wneud hynny. Ymhell o fod yn aneffeithiol, ymhell o fod yn Llywodraeth lle'r oedd pobl yn treulio eu hamser yn dadlau gyda'i gilydd drwy'r amser, rydym ni'n Llywodraeth a gyflawnodd dros bobl Cymru ac a gyflawnodd ein maniffesto fel yr addawyd gennym.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ford gron Llywodraeth Cymru ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ51414
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig sy'n cadeirio bord gron Brexit ar gyfer ei phortffolio. Mae'r bwrdd wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd ers Gorffennaf 2016, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trafod y trefniadau pontio Ewropeaidd gan randdeiliaid ym mhob maes polisi.
Diolch. Mae'n bwysig, wrth gwrs, yng nghyd-destun beth rydym ni wedi bod yn ei drafod y prynhawn yma yn barod fod y Llywodraeth ar bob lefel yn ymwneud ym mhob ffordd bosibl â gwarchod buddiannau Cymru. Rydw i'n gwybod, ym Mhwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar 20 Tachwedd, mi wnaeth yr Ysgrifennydd cyllid sôn am drefniadau bord gron yr Ysgrifennydd dros amaeth. Mi gyfeiriodd at grŵp gweithio yr Ysgrifennydd addysg ar Brexit. Mi gyfeiriodd at y grŵp y mae Ysgrifennydd yr economi yn ei gadeirio ar Brexit. Maes arall fydd yn sensitif iawn i'n hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd ydy maes iechyd a gwasanaethau a gofal cymdeithasol. Mewn staffio, mi fydd angen gwthio am visas ar gyfer gallu denu staff i weithio yng Nghymru yn benodol. Mae yna bryderon yn sgil colli'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, am sut y gallai Cymru greu cytundebau bilateral efo'r asiantaeth newydd yn Ewrop er mwyn parhau i wneud profion ar feddyginiaethau yng Nghymru, ac ati. Mae yna ystod eang o feysydd a fydd angen edrych arnyn nhw.
Pa waith, allech chi ddweud wrthym ni, y mae'r Ysgrifennydd iechyd yn ei wneud o ran arwain tîm gweithredol ar Brexit? Oherwydd mae yna bryder o fewn y maes iechyd yng Nghymru fod hwn yn un maes sy'n cael ei esgeuluso rhywfaint ar hyn o bryd, ac ni allwn ni, yn syml iawn, fforddio hynny.
Rydym yn gweithio yn agos iawn ar hyn o bryd gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn inni ddeall beth yw impact gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac fel eu bod nhw hefyd yn deall beth yw'r impact arnyn nhw, a'u bod nhw'n deall ym mha ffordd y gallwn ni drafod hynny. Ers y refferendwm ei hun, mae'r Llywodraeth wedi gweithio gyda chyrff iechyd a gofal er mwyn ystyried pa rannau sy'n mynd i gael eu heffeithio gan Brexit. Mae yna weithdai hefyd wedi cymryd lle rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i ystyried yr impact cyfreithiol a hefyd gweithredol o adael yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â sawl peth. So, mae yna sawl peth wedi digwydd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn ystyried pa broblemau a allith godi o achos Brexit, yn enwedig Brexit caled.
Yn ei lythyr ddoe at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Senedd y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cynnal nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru—gan gynnwys nifer o drafodaethau dwyochrog gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
ond
Ceir cytundeb rhwng Llywodraethau'r Alban, Cymru a'r DU y bydd fframweithiau cyffredin yn angenrheidiol mewn rhai meysydd ac rydym wedi cytuno gyda'n gilydd ar gyfres o egwyddorion a fydd yn sail i'n gwaith.
Ac
Rydym ni wedi cytuno ar raglen o drafodaethau dwys gyda Llywodraeth Cymru, dan arweiniad y Prif Ysgrifennydd Gwladol, i fwrw ymlaen â hyn.
A allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni o ran beth yw'r rhaglen honno o drafodaethau a sut y byddwch chi'n hysbysu'r Cynulliad hwn am y datblygiadau sy'n deillio ohonynt?
Nid yw'r trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn benodol, ond y gwahanol Ysgrifenyddion Gwladol sydd â chyfrifoldebau portffolio yn Whitehall. Fe'u gelwir yn 'deep dives', am resymau nad wyf i'n eu cofio ar hyn o bryd, a dweud y gwir, ond yr hyn y maen nhw'n ceisio ei wneud yw gweld lle mae angen—yn gyntaf oll, a oes angen fframwaith cyffredin, yn ail, sut dylai'r fframwaith cyffredin hwnnw edrych. Ond yn allweddol i hyn oll, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i unrhyw fframwaith cyffredin mewn unrhyw faes gael ei gytuno ac nid ei orfodi gan Lywodraeth y DU.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw o fewn Llywodraeth Cymru? OAQ51403
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau cymaint â phosibl o dryloywder a natur agored drwy ein cynllun cyhoeddi.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, bu'n gyfnod ofnadwy ym myd gwleidyddiaeth yn y misoedd diwethaf, a chredaf fod y parch yr ydym ni'n ei fwynhau yn dioddef. Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl i ni fod yn llawer mwy agored a thryloyw yn y dyfodol. Cefais ateb yn ddiweddar i gwestiwn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant sy'n gwrthddweud cwestiwn a oedd bron yn union yr un fath a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod David Melding lai na dau fis yn gynharach. Beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod eich Llywodraeth yn darparu gwybodaeth gyson i gwestiynau a gyflwynir gan Aelodau'r Cynulliad? Y cwbl yw hyn yw ein hymdrech ni i wneud gwaith craffu priodol, sef ein dyletswydd ar ran y cyhoedd, yr ydym ni'n gynrychiolwyr etholedig iddynt.
Mae'r Aelod yn fy rhoi dan anfantais. Nid wyf yn gwybod beth oedd y cwestiynau na beth oedd yr atebion, ond os gwnaiff hi ddarparu'r cwestiynau hynny i mi byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio.
Wrth chwilio am yr ateb mwyaf tryloyw posibl i rai o'r materion sydd fwyaf pwysig i'r Cynulliad heddiw, rydw i'n mynd yn ôl at yr hyn a ofynnwyd gan Andrew R.T. Davies, achos pan wnaethoch chi ateb Andrew Davies fe wnaethoch chi ddweud yn glir iawn nad ydych chi'n delio ag unrhyw gyhuddiadau o fwlian, ond fe ofynnwyd cwestiwn llawer mwy eang i chi. Felly, a gaf i ofyn y cwestiwn eto? A dderbynioch chi unrhyw gwyn neu sylw gan Leighton Andrews o gwmpas Hydref 2014 a oedd yn ymwneud ag ymddygiad—nid jest bwlian, ond ymddygiad yn gyffredinol—unrhyw aelod o'ch staff neu o'r Llywodraeth? Ac a wnaethoch chi, wrth ddelio â cwyn neu sylw gan Leighton Andrews, addo iddo fe y byddai rhywun yn edrych i mewn i'r sylwadau hynny?
Wel, mae pethau'n symud nawr, achos roedd yna gwynion yn cael eu gwneud gan bawb, weithiau. Roedd pobl yn dweud, 'Fi'n moyn cael fy ngwrando arno; nid ydw i'n hapus â hyn'. Mae hynny'n rhywbeth hollol naturiol. Mae e'n gyfarwydd â hyn—mae ef yn gyfarwydd ag e, fel rhywun a oedd yn ymgynghorydd yn y Llywodraeth cyn hynny. Wedyn, wrth gwrs, roedd yna lot fawr o drafod tu fewn i'r Llywodraeth honno ynglŷn â rhai o'r problemau a oedd yn codi, ynglŷn â pobl yn dweud, 'Wel, dylai hwn ddigwydd', 'Dylai hyn ddigwydd yn lle hynny.' Mae hynny'n rhywbeth hollol naturiol ynglŷn â'r ffordd mae Llywodraeth yn cael ei rhedeg. A fel bydd pobl yn mesur Llywodraeth? Wel, yn ôl sut mae'r Llywodraeth yn gweithredu, ac ar hynny mae record da gyda ni. Ynglŷn ag a oedd yna unrhyw fath o gyhuddiad—achos hwn oedd y cwestiwn ar y dechrau, mae'n rhaid inni gofio—o fwlio gan Leighton Andrews, yr ateb yw 'na'.
Prif Weinidog, rydych chi'n ymchwilio nawr i ddatgeliad cyfrinachau posibl ar ôl yr honiad bod llawer o bobl yn gwybod am ad-drefniant eich Cabinet cyn iddo ddigwydd. Ymddengys hefyd bod llawer o bobl yma sy'n gwybod pwy yw'r achwynwyr yn erbyn Carl Sargeant a natur y cwynion. Ni ellir ei godi yma oherwydd cyfreithiau diogelu data. Erbyn dydd Gwener roedd—. Ar ddydd Llun yr wythnos dan sylw, dywedasoch nad oeddech chi wedi cael unrhyw gwynion dros y misoedd diwethaf yn erbyn eich ACau. Erbyn dydd Gwener, dywedasoch eich bod wedi cael tri. Felly, hoffwn i chi ddatgan ar y cofnod pa un a ydych chi'n ymwybodol ai peidio o'r cwynion hynny'n cael eu cydgysylltu mewn unrhyw ffordd.
Mae hwnna'n awgrym rhyfeddol, mae'n rhaid i mi ddweud. Rwy'n gobeithio bod ganddo dystiolaeth o hynny. Yn gyntaf oll, nid wyf yn siŵr am beth y mae'n sôn ar y dydd Llun—nid yw'n eglur ynghylch hynny. Os yw'n dweud, pe na byddai wedi bod am ddiogelu data, y byddai'n enwi achwynwyr, yna mae angen iddo edrych yn ofalus iawn ar ei gymeriad ei hun.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru? OAQ51401
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi llesiant meddyliol cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Yn ogystal â datblygu timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru ers 2015, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal i gleifion mewnol yng Nghymru yn rhan o gytundeb y gyllideb ddrafft.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y soniodd, oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewnol yn dychwelyd yn y wlad hon. Disgwyliwyd, fodd bynnag, y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi dod yn ôl gydag adroddiad erbyn hyn ar sut y gellid darparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewnol. Tybed a allai amlinellu'r rhesymau am yr oedi hwn, ac ymhelaethu efallai ar ba amserlen y mae'n disgwyl iddi gael ei dilyn yn y flwyddyn newydd.
Rydym ni wedi buddsoddi £1.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn ers 2015-16 i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae gan bob bwrdd iechyd wasanaeth cymunedol ar waith erbyn hyn, gyda mwy na 2,300 o fenywod yn cael eu gweld ledled Cymru ers dechrau'r flwyddyn diwethaf. Mae'r timau newydd hynny'n helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl amenedigol i famau newydd, yn ogystal â'u babanod a'u teuluoedd. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu gofal cleifion mewnol arbenigol yng Nghymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 a 2019-20, a gofynnwyd i grŵp llywio Cymru gyfan ar iechyd meddwl amenedigol lunio dewisiadau ar gyfer gofal cleifion mewnol yng Nghymru erbyn diwedd mis Ionawr.
O gofio bod hyd at un o bob pump o fenywod yn dioddef salwch meddwl amenedigol, safbwynt—mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud y bu diffyg gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru erioed, ac mae hynny'n peri pryder. Nododd adroddiad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, nad oedd bwrdd Betsi wedi llenwi'r rhan fwyaf o swyddi yn ei dimau gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol newydd o hyd, er gwaethaf y ffaith fod cyllid wedi ei ddarparu iddyn nhw ar gyfer hynny, ac roedd hynny yn ystod yr un mis, mewn gwirionedd, ag y gwnaethoch chi ei wneud yn destun mesurau arbennig. A allwch chi gadarnhau nawr, Prif Weinidog, a yw'r bwrdd hwn, ar ôl 30 mis o ymyrraeth eich Llywodraeth, wedi cwblhau'r gwaith o recriwtio i'r gwasanaeth hwn erbyn hyn, a'i fod bellach yn gwbl weithredol?
Roedd y sail dystiolaeth yn awgrymu na fyddai digon o alw i ddarparu uned yn y gogledd yn unig. Gofynnwyd i WHSSC, mae'n iawn i ddweud, weithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i ystyried dewisiadau yn y gogledd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i sefydlu rhwydwaith clinigol a reolir o dan arweiniad clinigwyr er mwyn helpu i fwrw ymlaen â gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.
Prif Weinidog, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau deublyg o alw cynyddol a phrinder staff. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, tynnodd bron i bob bwrdd iechyd lleol sylw at y ffaith fod diffyg seicolegwyr clinigol digonol yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i famau newydd. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gynyddu nifer y seicolegwyr clinigol yng Nghymru? Diolch.
Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y cwestiwn o ran yr arian a gyflwynwyd gennym. Gallaf ddweud, yn dilyn sefydliad timau cymunedol ledled Cymru, ein bod ni mewn sefyllfa dda i nodi salwch meddwl ôl-enedigol difrifol. Y consensws yw bod digon o alw erbyn hyn i ailsefydlu gofal arbenigol cleifion mewnol yn y de, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf mewn ymateb i'w ymchwiliad diweddar i iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod y cyfanwerthwr Palmer a Harvey wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? OAQ51438
Fe'm hysbyswyd bod y cyfanwerthwr Palmer and Harvey wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cyfarwyddyd a chymorth ar gael i unrhyw fusnes yng Nghymru sy'n cael ei effeithio gan y cyhoeddiad trwy wasanaeth Busnes Cymru.
Diolch. Cysylltwyd â mi yr wythnos diwethaf gan etholwr a oedd yn hynod bryderus am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei fusnes teuluol bach. Palmer and Harvey yw'r prif gyflenwr, ac mae hynny'n wir i gannoedd o siopau mewn ardaloedd gwledig. Fe'm hysbyswyd gan yr etholwr bod gan gwsmeriaid Palmer and Harvey gyfrifon â thelerau a gytunwyd sy'n galluogi siopau i dalu naill ai bob mis neu bob pythefnos. Felly, hyd yn oed os oes gan gyflenwr arall y stoc i gyflenwi busnesau a effeithiwyd, maen nhw'n pryderu y gallai gymryd amser i roi archwiliadau ariannol a thrwydded angenrheidiol ar waith i ganiatáu i gyfrifon newydd gael eu hagor, yn sicr cyn y Nadolig. Felly, mae'n wir mai'r unig ddewis fyddai ar gael i fusnesau fyddai prynu gydag arian parod, ac ni fydd llawer ohonynt yn gallu gwneud hynny. Felly, mae fy etholwyr yn ofni na fydd siopau talu a chario lleol iddyn nhw yn gallu trefnu amserlenni dosbarthu ar gyfer gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion yn y byrdymor ac, yn sgil hynny, anghenion yr etholwyr lleol hynny. Felly, Prif Weinidog, a yw'n bosibl mewn unrhyw ffordd i Lywodraeth Cymru wneud ymholiadau a rhoi pob sicrwydd posibl i fusnesau ac unigolion sy'n cael eu heffeithio yn y canolbarth a'r gorllewin ac mewn mannau eraill ar hyn o bryd?
Gallaf ddweud bod Busnes Cymru ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a chymorth i unrhyw fusnes sy'n cael ei effeithio gan y cyhoeddiad, a byddwn yn eu hannog i gysylltu. Mae Busnes Cymru yn cynghori ac yn cynorthwyo busnesau ar bob agwedd ar eu gweithrediad, gan gynnwys gwerthuso eu cadwyni cyflenwi i nodi cyflenwyr amgen, sy'n cynnwys cwmnïau o Gymru. A bydd cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi a chlystyrau lleol fel bod mwy o werth economaidd a chyflogaeth yn cael eu cadw'n lleol yn rhan o'r model datblygu economaidd newydd â phwyslais rhanbarthol, y byddwn yn ei gyflwyno yn y cynllun gweithredu economaidd.
Prif Weinidog, aeth 10,000 o gwmnïau i'r wal yng Nghymru y llynedd. Dim ond 43 y cant yw nifer y cwmnïau sydd dal mewn busnes ar ôl pum mlynedd, sy'n is na chyfartaledd y DU. Nawr, yn ddealladwy, bydd rhai cwmnïau yn mynd i'r wal oherwydd newidiadau yn y farchnad ac am resymau eraill, ond a gaf i ofyn beth yw eich esboniad chi o pam mae busnesau yn fwy tebygol o fynd i'r wal yng Nghymru, ac a gaf i ofyn hefyd sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r duedd hon?
O ran pam mae busnesau yng Nghymru, rhai busnesau, yn methu, rydym ni'n gwybod y bydd hynny'n digwydd o bryd i'w gilydd, yn anffodus. Nod cam diweddaraf Busnes Cymru yw creu 10,000 o fusnesau newydd, 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth er mwyn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ac mae'r gwasanaeth hwnnw'n darparu cymorth ar draws Cymru gyfan i ddarpar entrepreneuriaid, busnesau newydd a microfusnesau a busnesau bach a chanolig sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys mentrau cymdeithasol.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ51439
Rwy'n bryderus iawn am yr amser y mae hawlwyr yn gorfod aros am eu taliad cyntaf, a'r ffaith fod llawer o'n pobl fwyaf agored i niwed yn Nhorfaen ac mewn mannau eraill yn cael trafferth i ymdopi â chymhlethdodau credyd cynhwysol, ac rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar y cyflwyniad.
Diolch, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ym mis Gorffennaf, Torfaen oedd yr ail ran o Gymru lle'r rhoddwyd credyd cynhwysol ar waith yn llawn, ac ar ôl dim ond dau fis roedd ein prif ddarparwr tai, Tai Cymunedol Bron Afon Cyfyngedig, wedi cofnodi gwerth £27,000 o ôl-ddyledion, gyda 300 o denantiaid mewn ôl-ddyledion. Mae Cyngor ar Bopeth Torfaen yn monitro'r effaith leol yn ofalus, sydd, fel yr ydych chi wedi ei nodi, wedi cynnwys oedi ac anawsterau o ran cael mynediad at daliadau, a phroblemau arbennig i bobl ifanc. Nawr, rydym ni'n ffodus yn Nhorfaen gan fod yr awdurdod lleol, Cyngor ar Bopeth a darparwyr tai i gyd yn cydweithio mewn partneriaeth i gynorthwyo pobl drwy'r anawsterau hyn, ond, gan fod Llywodraeth y DU yn benderfynol i barhau â'r cyflwyniad byrbwyll hwn o gredyd cynhwysol, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod trefniadau tebyg yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y gwaith cynllunio hwnnw ar waith ledled Cymru i sicrhau bod pob cymuned yn cael eu cynorthwyo drwy'r broses hon?
Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth yn gofyn am fwy o fanylion o ran newidiadau cyllideb yr hydref y DU, yn enwedig pan fo hawlwyr cynhwysol yn derbyn costau tai, i ddeall sut y bydd y trefniadau cymorth newydd yn gweithio i hawlwyr o ran y credyd cynhwysol. Mae'r Gweinidog hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cynnig cymorth ariannol i hawlwyr credyd cynhwysol dros gyfnod y Nadolig. Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, mae £5.97 miliwn o gyllid grant ar gael eleni i ddarparu cyngor ar faterion lles cymdeithasol, sydd wedi ei ddarparu trwy dri phrosiect.
Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n cefnogi egwyddor credyd cynhwysol, a nod credyd cynhwysol a diwygiadau lles ehangach Llywodraeth y DU yw helpu pobl i gael cyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth. O gofio bod diweithdra yn Nhorfaen yn hanesyddol o isel ac wedi gostwng ymhellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, onid yw hynny'n rhywbeth y dylech chi fod yn ei gefnogi'n adeiladol ac yn ceisio gweithio arno gyda Llywodraeth y DU?
Wel, nid yw'n gweithio; dyna'r broblem. Ni waeth beth yw'r egwyddor, mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Bydd pobl yn cael eu gadael yn ddiamddiffyn heb unrhyw arian. Rydym ni'n gwybod ei fod yn llanast. Rydym ni'n gwybod bod Aelodau ei blaid ei hun—wel, nid wyf yn gwybod a yw e'n aelod o'r Blaid Geidwadol ai peidio—bod aelodau sy'n eistedd yn yr un blaid ar yr ochr honno yn San Steffan sydd wedi gwneud yr un pwyntiau i Lywodraeth y DU. Y pwynt yw bod hwn yn llanast a grëwyd gan Lywodraeth y DU ei hun, ac mae pobl gyffredin yn dioddef.
8. A yw'r Prif Weinidog wedi ceisio cyngor cyfreithiol ar y cyfamod sy'n bodoli ar y tir ym mharc diwydiannol Baglan y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno adeiladu carchar newydd arno? OAQ51428
Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud â gwybodaeth gyfreithiol sy'n freintiedig, felly ni allaf ymateb iddo ar y pwynt yna.
Prif Weinidog, gofynnais yr un math o gwestiwn i'ch Cwnsler Cyffredinol tua pythefnos yn ôl, a chefais ateb cyfreithiwr nodweddiadol, neu ateb Cwnsler Cyffredinol nodweddiadol efallai. Mae fy etholwyr eisiau eglurder. Ceir dadl brynhawn yfory yn y Siambr hon am y carchar hwnnw, ac maen nhw'n gofyn am yr eglurder hwnnw, yn enwedig ynghylch safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar ei chyfrifoldebau o dan y cyfamod. A all y Prif Weinidog sicrhau fy etholwyr i nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid y cyfamod ac y bydd yn ceisio glynu wrth ei egwyddorion o gadw'r defnydd o dir at ddibenion diwydiannol, ac i osgoi niwsans i gymdogion, a fyddai'n golygu dweud 'na' wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder pan fyddant yn dymuno prynu neu brydlesu'r tir ar gyfer datblygu carchar, nad yw, yn fy nhyb i, yn cynrychioli datblygiad diwydiannol?
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: nid yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn i Lywodraeth Cymru werthu'r tir ar y safle ym Maglan iddyn nhw, ac nid oes unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y safle wedi ei wneud. Gallaf ddweud bod llythyr wedi ei ysgrifennu gan Carl Sargeant i David Lidington, yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, ar 26 Hydref 2017. Roedd y llythyr yn gofyn am gadarnhad o ba un ai'r bwriad o hyd yw y byddai'r carchar arfaethedig ym Maglan yn sefydliad categori C neu a oes cynlluniau i roi carcharorion eraill yn y carchar arfaethedig. Hefyd, gofynnodd y llythyr am gadarnhad o'r effaith y byddai carchar newydd yn ne Cymru yn ei chael ar garchardai Caerdydd ac Abertawe. Nid ydym wedi derbyn ymateb i'r llythyr hwnnw. Ac ni fydd unrhyw weithredu pellach gan Lywodraeth Cymru tan i'r ymateb hwnnw gael ei dderbyn.
Mae hwnna'n ateb diddorol iawn, Prif Weinidog. Credaf, fodd bynnag, ei bod yn bosibl y gallwch chi ddweud wrthym—gan ei fod yn fater o gofnod cyhoeddus—pa bartïon fyddai â hawl i orfodi'r cyfamod sydd yn y dogfennau ar hyn o bryd. A allwch chi ddweud wrthym, hefyd, sawl datganiad o ddiddordeb sydd wedi ei wneud ar gyfer y tir hwnnw yn ystod cyfnod perchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac sydd cael eu hatal gan fodolaeth y cyfamod?
Mae'n anodd iawn cynnig safbwynt ar ba un a yw datganiad o ddiddordeb wedi cael ei atal, oherwydd, wrth gwrs, ni fyddech chi'n gwybod am y datganiad o ddiddordeb yn y lle cyntaf. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw mai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder—y mai ei phlaid hi, wrth gwrs, yn gyfrifol amdani—sydd eisiau adeiladu ar y tir hwn. O'n safbwynt ni, rydym ni'n gwbl eglur na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach o ran y tir hwn tan i ni dderbyn yr eglurhad yr ydym ni'n dymuno ei gael. Byddwn yn ystyried yn ofalus ai'r tir hwn, mewn gwirionedd, yw'r lle cywir i garchar gael ei leoli.
Mae cyngor cyfreithiol yr wyf i wedi ei dderbyn, ac rwy'n dyfynnu, yn dweud: O dybio bod hyn yn gywir, mae cyfamod yn bodoli ac mae'r cyfamod hwnnw yn ddilys yn gyfreithiol. Mae'n golygu bod y safle yn cael ei effeithio gan rwymedigaeth o blaid trydydd parti yn cyfyngu ei ddefnydd i barc diwydiannol yn unig. O dan yr amgylchiadau hynny, gallai adeiladu carchar ar y safle fod yn ddiffyg cydymffurfiad â'r cyfamod. Mewn achos o ddiffyg cydymffurfiad, gallai'r parti â'r fantais o gyfamod gymryd camau i'w orfodi, e.e. trwy geisio gwaharddeb yn atal y datblygiad a/neu'n hawlio iawndal.
Felly, o'r cyngor cyfreithiol hwn, sy'n dangos yn eglur bod llawer o ddulliau ar gael i Lywodraeth Cymru atal y carchar arfaethedig a gorfodi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i brynu gorfodol, a'r unig reswm i beidio â gwneud hyn, cyn belled ag y gallwn i ddeall, fyddai bod Llywodraeth Cymru eisiau'r carchar hwn ym Maglan. A wnewch chi geisio ymrwymiad yma heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu rhyddhau'r tir hwn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel na fydd gofyn y cwestiwn i Lywodraeth y DU, felly, yn angenrheidiol mwyach yn y dyfodol?
Rydym ni'n aros am yr ymateb gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn dweud yn gwbl eglur wrth yr Aelod na fydd unrhyw weithredu ar y pwynt hwn os na cheir ymateb boddhaol i'r llythyr hwnnw, a hyd yn oed wedyn, byddwn yn ystyried ai'r tir hwn, mewn gwirionedd, yw'r lle cywir ar gyfer carchar.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Pwynt o drefn yn deillio o'r cwestiynau. Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Gofynnaf am eich cyngor chi cymaint ag unrhyw un arall ynghylch pa un a all Rheolau Sefydlog ein helpu ni i gael yr atebion cywir i gwestiynau yn y Siambr hon mewn gwirionedd. Byddwch wedi clywed bod fy nghwestiwn yn benodol iawn i'r Prif Weinidog ynghylch pa un a oedd wedi cael unrhyw sylwadau am ymddygiad ei staff gan Leighton Andrews, ac ni wnaeth roi unrhyw ateb—[Torri ar draws.]
Rwy'n gwrando ar y pwynt o drefn hwn er mwyn penderfynu a yw'n bwynt o drefn ai peidio.
Diolch. Rwy'n credu y gwnawn ni wrando ar y Llywydd presennol yn hyn o beth, os cawn ni. Yn y 15 munud diwethaf, mae Leighton Andrews wedi cyhoeddi ei ddatganiad ei hun yn dweud fel a ganlyn:
Ym mis Tachwedd 2014, dywedais wrth y Prif Weinidog wyneb yn wyneb fy mod i o'r farn y bu diffyg cydymffurfiad â Chod y Cynghorwyr Arbennig. Gofynnais iddo gynnal ymchwiliad ffurfiol. Dywedodd y byddai'n gwneud hynny.
Dywedodd y byddai'n gwneud hynny. A allwn ni gysoni'r ddau gwestiwn trwy roi cyfle i'r Prif Weinidog ychwanegu at yr hyn a ddywedodd wrthyf i, Angela Burns ac Andrew Davies?
Mae'r Aelod yn gwybod na chawn ni ddefnyddio pwyntiau o drefn, dim ond er mwyn ymestyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae eich sylwadau, neu sylwadau cyn-Aelodau'r Cynulliad, yn awr ar y Cofnod y prynhawn yma.
Symudwn ymlaen yn awr at y cwestiynau busnes. Arweinydd y Tŷ — Julie James.
Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon, yw'r amseroedd ar gyfer cwestiynau llafar y Cynulliad yfory. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd y mis diwethaf? Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth ledled y pedair gwlad i greu'r amodau sy'n golygu y gall busnesau llwyddiannus ddatblygu a thyfu i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni swyddi â chyflog uchel a medrus iawn y dyfodol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn fodlon ymgysylltu mewn modd adeiladol â San Steffan i fodloni nodau'r strategaeth ddiwydiannol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Roeddwn i'n falch iawn o weld y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd. Roedd yn cynnwys nifer o bethau sydd o ddiddordeb mawr i Lywodraeth Cymru, yn enwedig y pwyslais ar y maes digidol a data, a chroesewir hynny'n fawr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r seilwaith, nad yw'n bresennol heddiw i glywed eich cwestiwn, yn cyflwyno ei gynllun gweithredu economaidd ei hun, a fydd wrth gwrs yn cynnwys y manylion ynghylch sut y mae'n cydweddu â strategaeth ddiwydiannol y DU, ymhlith nifer o bethau eraill.
Rwyf wedi clywed llawer iawn o sylwadau gan rieni yn ardal Port Talbot, lle y maen nhw'n datgan bod darpariaeth arbenigol o gylch chwarae ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Gweithredu dros Blant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, o dan fygythiad, ac efallai y bydd yn cael ei gau. Maen nhw hefyd wedi dweud wrthyf fod y gweithiwr cymorth i deuluoedd awtistiaeth o dan fygythiad o golli ei swydd. Mae'r cynllun hwn yn amlwg yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Teuluoedd yn Gyntaf, ac fe ddaeth hyn i'r amlwg o'r blaen ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae un rhiant wedi dweud wrthyf, a dyfynnaf: ' Roedd gwasanaethau Gweithredu dros Blant yn elfen bwysig iawn i ni ar adeg pan gawsom ni ein taflu i fyd anghyfarwydd, gan wynebu ansicrwydd o ran y broses diagnosis a'r dasg o ddysgu cyfres newydd o sgiliau. Roedd y gwahaniaeth a wnaeth y darpariaeth hon i ni yn sylweddol ac yn angenrheidiol i ni.'
A fyddai modd i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn roi datganiad i Aelodau'r Cynulliad fel mater o frys, i ni ddeall pa un a yw'n cau, a dyna ben arni, neu a fydd darparwr arall yn dod yn ei le? Yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, yw bod y meini prawf ar gyfer y broses ymgeisio wedi newid, felly mae'n bosibl na fydd yn diflannu yn gyfan gwbl, ond yn hytrach bod rhywun arall yn dod yn ei le i'w ddarparu. Beth bynnag sy'n digwydd, mae angen inni wybod, oherwydd mae pobl yn yr ardal yn pryderu ynghylch pa ddarpariaeth a gaiff ei darparu ar gyfer eu plant yn yr ysbyty. Byddai unrhyw gyngor neu unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi yn ddefnyddiol iawn.
Rwyf yn gyfarwydd iawn â'r cynllun, fel y mae'n digwydd, ac mae'n gynllun da iawn yn wir. Gwn fod nifer fawr o rieni sydd wedi dibynnu'n helaeth iawn ar y cynllun yn y gorffennol, ac rwyf innau wedi cael sylwadau tebyg i'r Aelod gan bobl am fudd y cynllun i deuluoedd. Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb yn bresennol ac mae wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich sylwadau. Rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu cyflwyno rhywbeth maes o law a bydd yn tawelu ofnau pobl.
Arweinydd y Tŷ, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd ynghylch cymhlethdod y broses ymgeisio ar gyfer grantiau datblygu gwledig drwy gyfrwng gwefan WEFO ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector y mae cyllid wedi ei neilltuo iddynt yn y rownd bresennol. A all Llywodraeth Cymru roi sicrwydd imi bod y pryderon hyn yn cael sylw er mwyn hwyluso cael gafael ar grantiau datblygu gwledig ar gyfer prosiectau lleol megis Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiwn yna. Nid yw'r system bresennol yn newydd; defnyddiwyd WEFO Ar-lein i reoli prosiectau a ariennir gan yr UE yn llwyddiannus, ers 2008. Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi cwblhau'r broses hawliadau ar-lein yn llwyddiannus gyda'r arweiniad a'r cymorth presennol. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol bod rhai ymgeiswyr yn cael trafferth wrth gyflwyno eu hawliadau ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda hwy fesul achos. Mae'r canllawiau yn esbonio bod y broses hawliadau yn cael ei hadolygu gan swyddogion mewn ymateb i adborth gan ymgeiswyr i'r perwyl hwnnw. Nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw ymgeiswyr mewn gwirionedd wedi rhoi'r ffidil yn y to oherwydd y broses honno, ond o ran Aberogwr, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â'r ymddiriedolwyr ddydd Iau diwethaf i'w cynorthwyo i gyflwyno eu cais.
Saib dramatig. Suzy Davies.
Cwestiynau dramatig. Diolch, Llywydd. Tybed a allwn ni gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar y strategaeth dementia drafft, gan ei fod bellach wedi cael amser i glywed pryderon a godwyd yn y grŵp trawsbleidiol gan gynrychiolwyr dementia. Nid yw wedi'i chyhoeddi eto, wrth gwrs, ond codwyd rhai pryderon nad oedd efallai mor arloesol ag yr oedden nhw'n ei ddisgwyl neu ei bod yn rhy glinigol o ran ei model. Roeddwn i'n meddwl tybed—rwy'n gweld eich bod yn bresennol—a allech chi gytuno i wneud hynny yn weddol fuan.
Yn ail, ym mis Medi, yn dilyn rhywfaint o bwysau gan fy mhlaid, ymrwymodd y Llywodraeth i adolygu'r ffordd y cafodd gwrthdaro buddiannau posibl ei reoli yn achos cyn was sifil gyda chysylltiadau â chwmni cynhyrchu ffilmiau, a gafodd wedyn fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru. Ar 1 Tachwedd, sef dau fis yn ddiweddarach, dywedwyd wrthyf fod yr adolygiad yn cael ei gwblhau, ac, hyd yn oed heddiw, nid wyf yn siŵr o hyd beth oedd canlyniad hynny ac os yw wedi ei gwblhau. Credaf mai adolygiad syml iawn oedd hwn fwy na thebyg, ond mae o hyd—. Rwy'n credu y byddai'n rhaid ichi gytuno ei bod yn annerbyniol, nid yn unig o ran tryloywder, ond o ran ansicrwydd ar gyfer yr unigolyn a oedd yn destun yr adolygiad hwnnw, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi drefnu diweddariad brys i'r Cynulliad ynghylch hynny, os gwelwch yn dda.
Yn olaf, tybed a gaf i ofyn am eich cymorth fel rheolwr busnes, mewn gwirionedd. Ar 29 Medi a 4 Hydref , fe wnes i gyflwyno cyfanswm o 16 o gwestiynau ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch polisi ffilm a'r broses o'i gyflawni, ac o'r cwestiynau hynny, atebwyd dau ohonynt. Rwyf wedi clywed mwy nag unwaith y byddaf yn cael cyfres gyfan o atebion i'r cwestiynau eraill, ond nid wyf wedi cael hynny. Gwrthodwyd yr ymgais i ailgyflwyno rhai o'r cwestiynau hynny drwy gais rhyddid gwybodaeth, ar y sail bod arnynt angen esboniadau nad ydynt ar gael ar ffurf cofnod, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol pan eu bod yn ymwneud, ymhlith pethau eraill, â gwrthdaro buddiannau a rheoli hynny, y dylid, wrth gwrs, ei gofnodi. Tybed a allech chi ymchwilio, os gwelwch yn dda, pam nad wyf i wedi cael ateb i'r cwestiynau hynny.
O ran y strategaeth dementia, rwyf i fy hun wedi cael sawl cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Iechyd ynghylch y strategaeth dementia, ac rwy'n ymwybodol iawn ei fod ef wedi rhoi sylw i nifer fawr o'r materion a godwyd gydag ef gan y gwahanol grwpiau, gan gynnwys grwpiau o bobl sydd â dementia eu hunain, a'i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi strategaeth newydd, gan gymryd i ystyriaeth yr holl sylwadau hynny, yn y flwyddyn newydd. Gwelaf ei fod yn siglo'i ben i gytuno â mi, felly dyna'r sefyllfa o hyd.
O ran gwrthdaro buddiannau, nid wyf yn gwybod pa un a yw hynny'n gysylltiedig â'r ail un ai peidio, ond mae'n amlwg mai'r un pwnc ydyw—[Torri ar draws.] Pynciau gwahanol, yr un testun. Rwy'n credu mai'r peth gorau i ni ei wneud yw ei drafod y tu allan mewn gwirionedd ac rwy'n addo y byddaf yn trefnu i'r aelod i gael cyfarfodydd gyda'r gwahanol bobl y mae hi wedi sôn amdanynt, i weld os gallwn ni gael ateb boddhaol.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y newyddion ddoe bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, AGGCC, wedi disgrifio 14 o gartrefi gofal yng Nghymru fel gwasanaethau sy'n peri pryder, sy'n golygu ei bod yn bosibl y bydd gwasanaeth yn cael ei atal dros dro neu, yn wir, gellid dileu'r cofrestriad? Rwyf yn arbennig o bryderus ynghylch natur anghymesur neu wasgariad y cartrefi hynny, gan fod 10 o'r 14 o'r cartrefi hynny wedi eu lleoli yn y gogledd, sef, wrth gwrs, ardal yr wyf i yn ei chynrychioli. Fe wnes i alw yn flaenorol am ehangu cylch gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned, i gynnwys gofal cymdeithasol, yn hytrach na chael gwared arnynt, sef cynnig y Llywodraeth ar hyn o bryd. Bwriad y Llywodraeth yw, wrth gwrs, creu yr hyn a allai fod yn gorff cenedlaethol o bell, a fydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd yn ôl pob tebyg. Fy nghwestiwn i yw: pam na allan nhw ddefnyddio y bobl hynny y mae Cynghorau Iechyd Cymuned eisoes yn eu defnyddio ar lawr gwlad, ac yn eu defnyddio, yn sicr yn y gogledd, yn effeithiol iawn, iawn i graffu ar y gwasanaeth? Beth am i ni ymestyn hynny i gynnwys craffu ar gartrefi gofal, fel y gallwn godi eu safonau yn y pen draw.
Papurau Newydd Gogledd Cymru oedd un o'r cwmnïau papur newydd annibynnol mwyaf a oedd yn dal yn bodoli, cyn i Newsquest, sy'n cyflogi tua 250 o weithwyr, ac yn cyhoeddi 13 o bapurau newydd, gan gynnwys y Leader dyddiol yn y gogledd-ddwyrain, gymryd drosodd yn ddiweddar. Mae Newsquest wedi cyhoeddi erbyn hyn y bydd 20 o swyddi yn cael eu colli, a bod yr adran gynhyrchu gyfan yn cael ei lleoli'n allanol yn Rhydychen. Mae nifer yn ofni, wrth gwrs, y bydd adrannau eraill yn dilyn, yn debyg i'r hyn yr ydym eisoes wedi'i weld pan fo Newsquest wedi cymryd papurau newydd eraill drosodd. Mae Newsquest a Trinity Mirror gyda'i gilydd, bellach â rheolaeth lwyr o bob un o'r chwe phapur newydd dyddiol sydd gennym ni yma yng Nghymru ac oddeutu 60 y cant o'n papurau newydd lleol. Rydym wedi bod yn dadlau yma i gael mwy o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru i adlewyrchu ein bywydau yn well mewn cyd-destun datganoledig, felly sut y gall hynny ddigwydd, pan fo swyddi yn cael eu rhoi ar gontract yn allanol i Rydychen gan Newsquest, a gallai'r gadwyn papurau newydd fwyaf yn y gogledd gael ei gadael â nifer fach iawn o staff mewn gwirionedd? Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog perthnasol, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu'r swyddi hyn sydd yn amlwg mewn perygl erbyn hyn, i sicrhau ein bod yn amddiffyn y sylw newyddion lleol sydd gennym ledled Cymru, a hefyd i sicrhau nad yw'r luosogrwydd cyfyngedig sydd gennym o hyd yng Nghymru, yn dirywio ymhellach.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn pwysig iawn yna. O ran y cynghorau iechyd cymuned a'u swyddogaeth mewn gofal cymdeithasol, roedd y Gweinidog yn gwrando'n astud drwy gydol yr amser. Fe wnaeth yr Aelod nodweddu'r ymgynghoriad nid yn union yn yr un modd ag yr wyf i yn ei ddeall, a chredaf bod angen i ni adael i'r ymgynghoriad fynd rhagddo a gweld beth fydd ein cam nesaf ar ôl hynny. Mae'n ymgynghoriad sy'n ymwneud â dyfodol cynghorau iechyd cymuned, ac rwyf yn siŵr bod yr Aelod, fel finnau, wedi cwrdd â'r cyngor iechyd cymuned yn ei ardal, ac wedi cael nifer o sylwadau. Mae angen inni adael yr ymgynghoriad hwnnw fynd rhagddo.
O ran y manylion am gartrefi gofal, mae arnaf ofn nad wyf i'n gwybod llawer iawn am hynny o gwbl, ond roedd yr Ysgrifennydd iechyd yma yn gwrando arnoch, fel yr oedd y Gweinidog, ac rwyf yn siŵr, rhyngddynt, y byddan nhw'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r pryderon yr ydych chi'n eu codi.
O ran problem y newyddion, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch y diffyg amrywiaeth o ran newyddion lleol, ac mae rhywbeth tebyg wedi digwydd gyda fy mhapur newydd lleol i, a'r orsaf radio, fel mae'n digwydd. Credaf y byddai'n briodol iawn i'r Gweinidog dan sylw ystyried hyn ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad maes o law, pan fydd ganddi rywbeth defnyddiol i'w ddweud wrthym ni ar y pwnc hwnnw.
Mae gennyf i ddwy eitem yr wyf eisiau eu codi gydag arweinydd y tŷ. Yn ystod y penwythnos, fe wnaethom ni i gyd glywed y newyddion gan y Royal Bank of Scotland y bydd llawer mwy o fanciau yn cael eu cau, ac rwy'n credi mai 20 fydd yn cau yng Nghymru. Mae dau ohonyn nhw yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, yn yr Eglwys Newydd ac yn Ysbyty Mynydd Bychan, ac mae pobl eisoes wedi cysylltu â mi, ac rwyf yn siŵr bod pobl wedi cysylltu ag aelodau eraill hefyd, ynghylch cymaint o golled yw hyn i'r gymuned. Gwn fod RBS yn dweud bod llai o bobl yn defnyddio canghennau banc, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir, ond, ar gyfer yr henoed a phobl anabl, mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw fanc i fynd iddo. Ac wrth gwrs, mae'r hyn y mae'n ei gyfrannu at y stryd fawr yn fater i'w ystyried, a pha mor bwysig yr ydyw i fusnesau lleol. Felly, tybed allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch y cam niweidiol arall hwn, gan ein bod wedi trafod hyn yn y Cynulliad sawl gwaith o'r blaen, ond mae'n ymddangos nad yw gwerth y banciau hyn i'r gymuned yn cael ei gydnabod o gwbl. Felly, dyna oedd un datganiad yr oeddwn i ei eisiau.
Ac yna, y mater arall yw, ddydd Sadwrn, ymwelais ag Organicafé, yn rhan o Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Mae'n gaffi arloesol, organig iawn yn Llwyn Bedw yn fy etholaeth i, sydd newydd ennill gwobr y Caffi Gorau yng Ngwobrau Eidalaidd Cymru. Yn wir, dim ond dwy flynedd yn ôl y daeth y perchnogion o'r Eidal, ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn yno, felly roeddwn i'n falch iawn o ymweld â'r caffi ac i dynnu sylw at eu cyflawniadau. Ond gwnaeth imi feddwl ein bod wedi gweld twf mawr mewn diwylliant caffi, a tybed a fyddai'n werth ystyried gwerth diwylliant caffi i'n heconomi hefyd.
Ni allaf beidio ag ateb y cwestiwn yna yn gyntaf, gan fy mod i'n gyfarwydd â'r caffi, a hoffwn eu llongyfarch ar eu gwobr—mae'n gwbl haeddiannol. Fy mab ddywedodd wrthyf am y caffi, ac yn wir mae'n lle bach gwych, i'r rhai hynny nad ydynt wedi ymweld ag ef hyd yma. Mae caffis Eidalaidd wedi chwarae rhan enfawr yn nhwf diwylliant caffi yng Nghymru am gyfnod hir iawn, mewn gwirionedd, ac yn sicr yn y pentref lle cefais i fy magu, yng ngogledd Abertawe, roedd y Moruzzis yn rhan allweddol o feithrin fy hoffter o hufen iâ, nad yw o bosibl mor dda i mi ag y gallai fod wedi bod, ac rwyf yn parhau i'w gael, a hefyd, mewn gwirionedd, yn rhan o hyrwyddo diwylliant caffi yn gyffredinol fel lle i gyfarfod ac yn aml i drafod gwleidyddiaeth flaengar iawn. Felly, rwyf yn ddiolchgar iddyn nhw am hynny hefyd. A chredaf eu bod nhw'n gwneud cyfraniad mawr i'n heconomi, ac rwyf yn siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn ystyried hynny pan fydd yn llunio ei gynllun gweithredu yn y dyfodol.
O ran bancio, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch cau canghennau banc. Rwyf i wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda nifer o'r banciau mawr ynghylch eu polisi cau. Maen nhw yn cynhyrchu ystadegau am y defnydd o fancio cangen ac ati, ac mae gan nifer ohonynt bolisïau da o ran cysylltu â phobl hŷn a phobl sydd â phroblemau penodol gyda symudedd ac ati, am eu bancio. Mae trefniant ar waith gyda gwasanaeth cownteri Swyddfa'r Post, mewn gwirionedd, i wneud peth bancio, ac rydym wedi gwneud sylwadau iddyn nhw, mi wn, yn fy swydd flaenorol, ynghylch sicrhau bod staff cownteri Swyddfa'r Post yn cael yr hyfforddiant cywir a bod yna safle priodol ar gyfer cynnal yr hyn a allai fod yn drafodiad eithaf personol mewn rhai achosion ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud trosglwyddiadau banc yn y fan honno. Ond nid wyf yn gweld unrhyw reswm o gwbl pam na allwn ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi fynegi pryderon y Cynulliad hwn unwaith eto.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y sefyllfa a wynebir gan adrannau achosion brys yn y gogledd? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol y bu adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod y penwythnos am negeseuon trydar gan yr adran achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, a oedd yn honni bod rhai pobl yn treulio hyd at ddau ddiwrnod neu fwy yn yr adran achosion brys, wrth aros am welyau meddygol. Nawr, gwyddom fod problem mewn ysbytai eraill yn y gogledd. Yr ysbyty sy'n perfformio waethaf o ran y targed pedair awr yn yr adrannau achosion brys yng Nghymru gyfan, yw Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Ymddengys bod hyn yn broblem sylweddol yn y gogledd, sydd, yn amlwg, yn broblem y bydd pobl eisiau iddi gael ei ddatrys, cyn i'r tywydd oer iawn y gallwn ni ei gael yn ystod y gaeaf gyrraedd. Nawr, clywsom ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a rhoddodd yr argraff fod popeth yn iawn. Wel, yn amlwg nid yw popeth yn iawn yn y gogledd. Mae angen inni wybod yn union pa gymorth ychwanegol sydd am gael ei roi ar waith i sicrhau bod cleifion, mewn argyfwng, yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi, yn amlwg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi gwneud nifer o gyfraniadau yn y lle hwn o ran parodrwydd ar gyfer y gaeaf, ac yn wir o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, a nifer o broblemau eraill sy'n effeithio ar restrau aros, ac ati, yn y gogledd. Roedd ef yma yn gwrando ar eich pwynt ac rwy'n siŵr y bydd ef yn ystyried hynny y tro nesaf y bydd ef yn ein hannerch ar y pwnc.
Rwyf yn edrych ar ddau ddatganiad gan arweinydd y Siambr. Mae'r Llywodraeth yn ddigon teg wedi cyhoeddi datganiadau am erchyllterau terfysgol yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae gennym ni gymuned o bobl o'r Yemen yng Nghaerdydd, ac yng Nghymru, ac mae dinasyddion yn yr Yemen yn cael eu bomio ac yn cael eu llwgu i farwolaeth bob un dydd. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, a'r terfysg dyddiol—terfysg a gefnogir gan Saudi Arabia—y mae poblogaeth sifil yr Yemen yn gorfod ei wynebu bob dydd.
Mae'r ail un yn ymwneud â mewnblaniadau rhwyll. Rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau rhwyll hyn yng Nghymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf, a hefyd nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau hynny heb roi eu cydsyniad mewn gwirionedd, ac sydd yn dioddef llawer o boen erbyn hyn. Ys gwn i hefyd pa gymorth sydd ar gael i'r bobl hynny a pha driniaeth y gellir ei gynnig iddynt i'w helpu â'u symptomau cronig.
Wel, o ran y ail un, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno datganiad ar fewnblaniadau rhwyll, y bydd —mae'n siglo'i ben i gytuno â mi—rwy'n siŵr, yn ei wneud yn fuan iawn.
O ran gwahanol sefyllfaoedd rhyfel ac erchyllterau eraill, ledled y byd, yn amlwg mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich pryder bod pobl yn gorfod byw mewn sefyllfaoedd mor ofnadwy. Nid oes gennym, yn amlwg, bwerau polisi tramor yn y fan yma. Yr hyn sydd gennym, er hynny, yw polisi sy'n croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, lle gallwn ddarparu lloches iddyn nhw. Ac rwyf yn falch iawn ein bod ni'n genedl sy'n gallu gwneud hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar fudd y cyhoedd a Chymru ffynnianus—yr ymateb i'r ymgynghoriad. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud y datganiad—Kirsty Williams.
Llywydd, yn ystod yr haf, fe wnes i gyhoeddi Papur Gwyn ar ddiwygio system hyfforddiant addysg ôl-orfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Hydref, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar y cynnydd a chyhoeddi ein bod yn symud ymlaen i ymgynghoriad technegol.
Yn y Papur Gwyn, rwy'n nodi cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio, sy'n cwmpasu addysg uwch ac addysg bellach, ymchwil ac arloesi, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac fe wnaethom geisio barn ynghylch y ffordd ymlaen. Wrth wraidd y cynnig ar gyfer system ddiwygiedig mae corff newydd: y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol ar gyfer Cymru. Byddai hwn nid yn unig yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ond byddai hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfres ehangach o swyddogaethau, y mae llawer ohonynt yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, byddai'r Comisiwn newydd yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector cyfan.
Yn ystod y misoedd diwethaf, cynhaliodd swyddogion nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ledled y wlad. Rhoddodd hyn gyfle pwrpasol ar gyfer trafodaethau manwl ar y cynigion. Hefyd, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghoriad ar wahân yn y gogledd a'r de, a chynhaliwyd ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc hefyd, gan mai'r grŵp hwn fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y newidiadau arfaethedig.
Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am rannu eu safbwyntiau â ni, a'n helpu i lunio cam nesaf ein cynigion. Er nad oes gobaith i mi allu gwneud cyfiawnder â manylder cyfoethog yr ymatebion yma heddiw, rwyf yn falch o ddweud bod y cynigion wedi cael cefnogaeth eang. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion ar wefan y Llywodraeth.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Roedd croeso i swyddogaeth y comisiwn arfaethedig o ran cynllunio strategol. Cafwyd cytundeb y dylai cyllid gan y comisiwn i ddarparwyr addysg a hyfforddiant fod yn ddibynnol mewn rhyw ffordd ar gytundeb Gweinidogion Cymru i'w gynllun strategol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr y tu allan i'r sector addysg uwch yn cefnogi mewn egwyddor gyflwyniad cytundebau canlyniadau ond yn eiddgar i gael mwy o fanylion am eu gweithrediad. Byddwn yn datblygu rhagor o fanylion am y dull hwn i'w hystyried gan y rhanddeiliaid. Roedd ymatebwyr yn gweld swyddogaeth i'r comisiwn arfaethedig o ran cefnogi myfyrwyr i newid cyrsiau a darparwyr, ac amddiffyn myfyrwyr yn achos methiant y darparwr. Cytunodd mwyafrif hefyd fod ehangu'r hygyrchedd i grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol yn broblem o hyd, fel y mae'r diffyg cyfleoedd i astudio'n rhan-amser. Bydd yr Aelodau yn gwybod fod y rhain yn egwyddorion ysgogol i'n diwygiadau ni o ran cymorth i fyfyrwyr.
Gan droi at ansawdd y ddarpariaeth, roedd mwyafrif llethol y rhanddeiliaid yn gefnogol i swyddogaeth i'r comisiwn o ran gwella ansawdd. Roedd gwahaniaeth barn, er hynny, ynghylch a fyddai un fframwaith cyffredin i sicrhau ansawdd y system Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn ei chyfanrwydd yn ffordd gywir o fwrw ymlaen. Mae'n amlwg fod angen gwaith eto yn hyn o beth, a bydd yr adolygiad ategol gan yr Athro Harvey Weingarten yn cyfrannu llawer i ddatblygiad y cynigion hyn wrth inni symud ymlaen.
Cwestiwn penodol a gafodd ei ofyn yn yr ymgynghoriad oedd a ddylai fod gan y comisiwn arfaethedig gyfrifoldeb dros y chweched dosbarth neu beidio . Eto, mae hwn yn faes y byddwn yn gwneud rhagor o waith arno, ond dylid dweud bod mwyafrif yr ymatebwyr o'r farn y dylai'r chweched dosbarth gael ei drin fel pe bai'n rhan o'r system PCET. Teimlai rhai ymatebwyr y dylid cyflwyno'r chweched dosbarth yn raddol yn ddiweddarach yn hytrach na bod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn o'r dechrau. Rwy'n diolch i'r ymatebwyr am godi hynny a materion eraill y byddwn yn eu hystyried ymhellach wrth inni ddatblygu ein cynigion ar gyfer cam nesaf yr ymgynghoriad.
Yn ogystal â'r hyn y mae rhanddeiliaid wedi ei dweud wrthym ni yn eu hymateb i'r Papur Gwyn, mae angen hefyd inni ystyried yr adolygiad diweddar o ddatblygiadau eraill a'u heffaith ar ein cynigion ar gyfer diwygio PCET. Argymhellodd yr adolygiad diweddar o weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei fod yn ehangu ei gylch gwaith o fod yn cwmpasu addysg uwch i gwmpasu'r sector PCET yn ei gyfanrwydd. Rwyf wrth fy modd am fod hyn yn cyd-fynd â'n cynigion i ddiwygio PCET, a bydd y berthynas rhwng y comisiwn arfaethedig a'r Coleg yn ystyriaeth allweddol wrth i ni fwrw ymlaen.
Bydd y cynigion i wneud Ymchwil ac Arloesi Cymru yn bwyllgor statudol y comisiwn yn amlwg yn cael eu dylanwadu gan ymatebion y rhanddeiliaid ond hefyd ganlyniadau adolygiad Reid. Bydd hwn yn adrodd yn fuan yn y flwyddyn newydd a byddwn wrth gwrs yn cymryd barn yr Athro Reid i ystyriaeth wrth inni symud ymlaen. Yng ngoleuni'r ymatebion i'r cynigion cychwynnol yn ein Papur Gwyn, rwy'n bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghoriad technegol pellach yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn nodi'n fwy manwl sut yr ydym yn rhagweld y gallasai'r comisiwn newydd weithio. Rydym yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i wrando ac rwy'n cydnabod efallai y bydd materion yn dod i'r amlwg eto na fydd yr ymgynghoriad technegol yn ymdrin â nhw. Rwyf i, felly, wedi fy ymrwymo i barhau i ymgysylltu yn agos â rhanddeiliaid ac ar draws y Siambr wrth inni symud ymlaen gyda'n diwygiadau.
Yng ngoleuni ein cynigion i ddiwygio'r system PCET, mae'n codi fy nghalon i fod rhanddeiliaid o'r gwahanol sectorau eisoes yn chwilio am ffyrdd o weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd mewn partneriaeth, ac mae hynny'n argoeli'n dda iawn i'r dyfodol. Yn ein Llywodraeth rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer trosglwyddo yn llyfn i system PCET sydd wedi ei gweddnewid. Rydym yn cymryd cam cyntaf pwysig tuag at y cyfnod pontio hwnnw drwy wneud cyfres o benodiadau newydd i gyngor cyfredol CCAUC. Ymunodd aelodau newydd cyntaf y Cyngor ar 1 Rhagfyr, a bydd aelodau newydd eraill yn dechrau yn eu swyddi yn gynnar yn 2018 fel y bydd yr aelodau presennol yn rhoi'r gorau iddi.
Bydd y penodiadau hyn am dair blynedd yn y lle cyntaf a byddant yn helpu i ehangu cyrhaeddiad a gwelediad y Cyngor. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu denu unigolion o'r fath safon uchel i'r swyddi hyn, a fydd yn hanfodol i helpu inni wireddu ein huchelgais ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil a hyfforddiant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi teyrnged i Aelodau Cyngor CCAUC, a fydd yn ymadael â'u swyddi o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg uwch yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.
Dirprwy Lywydd, ni ellir amau ehangder ein huchelgais nac ehangder y diwygiadau hyn. Rwy'n croesawu'r consensws eang sy'n bodoli, a'n bod yn cytuno hefyd nad yw cadw pethau fel ag y maen nhw yn ddewis ymarferol. Nid ydyw'n ddewis ymarferol ar gyfer dysgwyr, nac ar gyfer darparwyr na'r genedl gyfan. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn iawn a sicrhau system PCET a fydd yn diwallu anghenion pawb ac yn helpu i saernïo Cymru sy'n fwy llewyrchus a llwyddiannus.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw ac am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwnnw, ac, yn wir, i bob un o'r unigolion a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn?
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cynnig i sefydlu Comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol i Gymru yn un y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei lwyr gefnogi. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi'r hysbysiad fod y Llywodraeth bellach yn mynd i symud ymlaen at ymgynghoriad technegol, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn egluro ein bod yn wynebu heriau difrifol yn y sector addysg ôl-orfodol ar hyn o bryd, a'i bod yn rhaid inni symud tuag at wella'r sefyllfa honno cyn gynted ag y bo'r modd.
Felly, mae'r diwygiadau hyn, yn fy marn i, yn rhoi cyfle hollbwysig i greu'r system addysg a hyfforddiant hyblyg ac ystwyth yr ydym ni i gyd yn awyddus i'w gweld, a chyfeiriwyd at hynny ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth.
Tybed, er hynny, a fyddai modd ichi roi amserlen glir inni ar gyfer dod â'r ymgynghoriad technegol i ben a phryd yr ydych yn disgwyl y gallwch weithredu ar unrhyw argymhellion sy'n deillio o hynny, ar ôl ichi ystyried yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, er mwyn inni allu cyrraedd y man sy'n ddymunol inni i gyd mor fuan â phosibl.
Ni wnaethoch gyfeirio at lwybrau galwedigaethol yn eich datganiad heddiw, ac fe wnaethoch chi sôn yn fyr am astudiaeth ran-amser, ond ddim ond yn fyr iawn oedd hynny. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiwn newydd, yn fy marn i, yn gyfle cyffrous i hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol ac, yn wir, astudiaeth ran-amser. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael tipyn o wefus-wasanaeth yn y gorffennol, credaf ei bod yn ddigon teg dweud hynny, gan rai o'ch rhagflaenwyr—nid y chi, rwy'n prysuro i ychwanegu—ond bydd angen rhai newidiadau mentrus yn y system addysg ôl-orfodol os ydym yn awyddus i wireddu'r uchelgais sydd gennym ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac, yn wir, ar gyfer dysgwyr galwedigaethol hefyd.
Felly, tybed a allech chi amlinellu a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i sicrhau bod y comisiwn newydd yn rhoi'r un flaenoriaeth i addysg alwedigaethol a rhan-amser, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r comisiwn newydd hwnnw yn gorbwysleisio addysg uwch sydd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, wedi bodoli, o bosibl, yn y gorffennol.
Roeddech chi hefyd yn sôn am ehangu'r hygyrchedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol—rhywbeth arall yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Un o'r pethau hynny sydd weithiau yn faen tramgwydd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yw hyblygrwydd y cyrsiau a'r ariannu sydd ei angen weithiau i helpu pobl i gael mynd ar y cyrsiau hynny. Felly, rwy'n credu bod angen amlwg inni weld rhywfaint o newid o ran hygyrchedd a'r modd y caiff cyrsiau addysg eu cyflwyno. Rhai o'r grwpiau sy'n wynebu'r rhwystrau hynny, wrth gwrs, yw grwpiau Sipsiwn a Theithwyr, grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac, yn wir, blant sy'n derbyn gofal—nid yw'r rhain yn cael eu cynrychioli'n ddigonol o bell ffordd mewn addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth yn union yr ydych yn mynd i'w wneud, yn arbennig i gefnogi'r grwpiau hynny, a beth fyddwch chi yn eu rhoi yn dasgau i'r comisiwn newydd o ran gwella hygyrchedd i addysg ôl-orfodol ar gyfer yr unigolion hynny.
Yn ogystal â hynny, o ran ariannu a threfniadau hyblygrwydd, mae angen amlwg fod angen inni edrych ar sut y mae pobl yn defnyddio'r cyrsiau a sut y gall pobl newid, efallai, o un cwrs i un arall pe bai eu hamgylchiadau'n newid. Weithiau, mae pobl yn cael eu taflu allan o'r system am fod ganddyn nhw angen iechyd am gyfnod, ac yn amlwg mae'n bwysig fod cyfle iddynt allu ailafael yn eu hastudiaethau. Weithiau, mae pobl yn symud o un rhan o'r wlad i ran arall ar ganol eu cwrs ac mae'n bwysig eu bod yn gallu cymryd y credydau hynny gyda nhw o'r cyrsiau y maen nhw wedi eu dechrau. Ac eto i gyd, mae'r rhain yn faterion mawr nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn cael eu datrys yn hawdd yn y system bresennol o addysg ôl-orfodol. Felly, tybed a fydd y rhain yn faterion penodol y byddwch chi'n awyddus i'r comisiwn ganolbwyntio arnyn nhw.
Y peth arall na chlywais i chi'n cyfeirio ato heddiw oedd rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn sail i holl bwrpas y diwygiad hwn, sef gyrfaoedd. Gwyddom ein bod eisiau paru pobl â gyrfa briodol y gallan nhw ei mwynhau a chael bywyd bodlon ynddi hi, ond gwyddom hefyd fod prinder cyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gael i bobl yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd y tu hwnt i oedran addysg orfodol. Felly, sôn yr wyf am oedolion sydd o bosibl yn ddiweddarach yn eu bywyd yn gobeithio dychwelyd i'r gweithlu, neu sydd wedi cael eu diswyddo neu, oherwydd amgylchiadau, sy'n gorfod newid gyrfa ac efallai y bydd angen cymorth, cyngor a chanllawiau i'w rhoi ar ben y ffordd. Felly, eto, tybed a allai'r comisiwn gael swyddogaeth yn hyn o beth ac a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn awyddus iddyn nhw edrych arno.
Ac yn olaf, os y caf i, ar fater yr iaith Gymraeg, rwy'n gwybod bod darn o waith ar wahân yn cael ei wneud o ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'i swyddogaeth, ond a wnewch chi sicrhau y bydd swyddogaeth y coleg yn rhan annatod, yn wir, o'r ffordd y mae'r comisiwn hwn yn gweithredu, fel y gall pob un sicrhau bod yna ymdrech ar y cyd, ledled yr holl sector addysg, i gefnogi'r uchelgais sydd gennym ni yn y Siambr hon, hynny yw, gweld yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg hynny o fewn yr amserlen a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 2050? Diolch.
A gaf i ddiolch i Darren Millar am y gyfres hon o gwestiynau, ac am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda o ddiwygio sydd gennym ni gerbron? Mae Darren, fel finnau, yn deall nad yw'r sefyllfa sydd ohoni yn ddewis o gwbl, ac un o'r ffactorau sydd wedi ysgogi'r diwygio yw rhai o'r problemau a'r sylwadau y mae Darren newydd eu gwneud am rai o'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr.
Mae angen inni gael system sy'n gwrando'n wirioneddol ar lais y myfyrwyr, sy'n cydnabod nad yw'n gymwys bellach ystyried myfyriwr fel rhywun sy'n gadael ysgol yn draddodiadol yn 18 mlwydd oed. Mae angen inni ddatblygu system addysg ôl-orfodol sy'n cydnabod bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o addysg gydol eu hoes a'u gyrfaoedd wrth inni addasu i economi sy'n newid yn barhaus. Bydd angen hyblygrwydd ar fyfyrwyr i allu astudio, weithiau'n amser llawn neu weithiau'n rhan amser, yn gyfochrog â'r gwaith neu, efallai, gyfrifoldebau gofalu. Mae'r holl ganolbwyntio ar greu un corff i oruchwylio'r sector cyfan hwn yn rhoi cyfle inni allu sefydlu system o'r fath, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i hynny.
Os caf i droi at rai o'r materion penodol sy'n cael eu codi ganddo, Darren, fel chithau, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni gydnabod, er gwaethaf llawer o'r dadleuon yn y Siambr hon a llawer o areithiau gan Weinidogion, Ysgrifenyddion y Cabinet ac, yn wir, wleidyddion y gwrthbleidiau, nad yw llwybrau academaidd a galwedigaethol drwy addysg yn cael eu hystyried yr un mor werthfawr â'i gilydd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ofid mawr i mi. Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw dysgwyr—dysgwyr ifanc, yn arbennig—na'u rhieni bob amser yn cael yr wybodaeth na'r cyngor gorau i'w tywys nhw tuag at y dewisiadau addysg a gyrfa mwyaf priodol iddyn nhw. Dyna oedd un o'r negeseuon cryfaf a gawsom ni o ganlyniad i'n hymgynghoriad â dysgwr: mae pobl ifanc yn dweud, 'Nid ydym yn cael y cyngor sydd ei angen arnom i wneud y dewisiadau hynny.' Eto i gyd, un o'r seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn yw dweud bod y cyrsiau hyn, y llwybrau hyn i gyflogaeth, i addysg ac astudiaeth, o'r un gwerth â'i gilydd. Gan ddibynnu ar eich dyheadau, eich uchelgeisiau gyrfaol, yna nid un ffordd gywir neu anghywir, neu un ffordd well neu waeth, sydd o gyflawni hynny. Eto i gyd, dyna un o seiliau rhesymegol y tu ôl i'r diwygio hwn.
Ond mae'n rhaid inni gael yr wybodaeth yn iawn; mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn ar gyfer pobl ifanc, a rhaid inni ei chael yn iawn ar gyfer pobl hŷn sydd efallai yn wynebu newidiadau yn eu gyrfa neu efallai eu bod yn chwilio am gyfleoedd newydd o ganlyniad i golli eu swyddi neu newid yn amgylchiadau eu bywyd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, efallai, nad ydym wedi datblygu hyn i'r graddau y byddem wedi ei hoffi, ac mae'n rhywbeth sy'n ffynhonnell gyson o drafodaeth rhyngof i a'r Gweinidog, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, wrth inni edrych ar raglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yn gyffredinol. Bydd angen inni wneud rhagor o waith yn y maes hwn i wneud y cynnig iawn, oherwydd os gwrandawn ni ar fyfyrwyr a phobl ifanc, nid ydyn nhw'n cael hynny ar hyn o bryd. Mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny, fel arall nid oes unrhyw bwynt inni gynnal yr ymgynghoriad os nad ydym yn barod i ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.
Mae hygyrchedd, wrth gwrs, wrth wraidd y diwygiadau cymorth i fyfyrwyr. Dyna pam y byddwn ni'n unigryw yn y DU pan fyddwn yn cynnig cymorth pro rata ar gyfer dysgwyr rhan-amser mewn addysg uwch. I'r rhai sydd yn y maes addysg bellach, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc o gefndir tlotach gael cymorth ariannol yn y sector addysg bellach. Bydd plant sy'n derbyn gofal, wrth gwrs, yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth cynhaliaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig: dros £9,000 i'w galluogi i astudio ar lefel addysg uwch. Yr her fwy i ni, rwy'n credu, yw sicrhau bod mwy o blant sy'n derbyn gofal yn cael cyfle i wneud cais am y grant cynhaliaeth. Mae hynny'n mynd yn ôl at y camau gweithredu ar draws yr adran addysg i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn eu haddysg, oherwydd rwy'n awyddus bod mwy ohonyn nhw'n gallu cael gafael ar y grant cynhaliaeth hwnnw. Mae gennym hefyd system cymorth i fyfyrwyr anabl, a adolygwyd yn annibynnol yn ddiweddar, a chanfu'r adolygiad hwnnw ei fod yn gynllun llwyddiannus iawn sy'n helpu'r bobl hynny ag anableddau i fynd ymlaen i addysg uwch.
O ganlyniad i'r diwygiadau hyn, fy mwriad i yw y dylai fod yn haws i fyfyrwyr allu newid cyrsiau, cario credydau ymlaen, a chael dull cyfunol o astudio—rhan-amser, amser llawn, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. O ran y coleg, fel y gwyddoch, rwyf i o'r farn fod y coleg Cymraeg yn gwneud gwaith rhagorol yn ehangu hygyrchedd i gyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Credaf fod yr egwyddor o ymestyn hynny i addysg bellach ac addysg sy'n seiliedig ar waith, fel bod cyfle i bobl gael eu haddysg a chael eu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, yn arbennig o hanfodol mewn rhai sectorau lle mae prinder gweithwyr proffesiynol. Dim ond yn ddiweddar, yn y ddadl ar anghenion dysgu ychwanegol, roeddem yn sôn am lu o weithwyr proffesiynol y mae angen sgiliau iaith Gymraeg arnyn nhw ar hyn o bryd nad oes gennym ar hyn o bryd. Mae'n gwbl hanfodol inni ddatblygu swyddogaeth y coleg yn unol â'n diwygiadau PCET ac rwy'n credu eu bod mewn cytgord.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn ddiolchgar iawn am y modd y mae Darren Millar wedi chwarae ei ran yn hyn. Fel finnau, mae ganddo uchelgais mawr ar gyfer y rhan arbennig hon o'n sector addysg a hyfforddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Darren ar yr ymgynghoriad technegol, a fydd yn cael ei ryddhau yn y flwyddyn newydd. Gweinidog wyf i sy'n awyddus i fwrw ymlaen â phethau, a byddwn yn ceisio gwneud cynnydd cyn gynted ag y bo modd, ond gan gydnabod mai cyfres sylweddol o ddiwygiadau yw hon ac mae angen inni eu cael nhw'n iawn.
A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y broses yma dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ar hyd yr un llinellau ag sydd eisoes wedi cael eu mynegi. Yn sicr, mae hi yn daith sy'n mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'n debyg, efallai, y byddwn ni angen trafod ymhellach pan ddaw'r glo mân i'r amlwg ond, yn sicr, rydym ni'n gefnogol i'r bwriad yn y pen draw. A gaf i ddiolch hefyd i'r Ysgrifennydd am ei datganiad ei bod hi'n ymrwymo i ymwneud agos â budd-ddeiliad ac i ymwneud ar draws y Siambr, hefyd, wrth i'r diwygiadau yma symud yn eu blaenau?
Gofynnodd yr holwr blaenorol yn benodol am amserlen yr ymgynghoriad technegol. Mae gennyf ddiddordeb yn eich cadarnhad, efallai, ei bod yn dal yn fwriad gennych y bydd y ddeddfwriaeth hon wedi cwblhau ei thaith drwy'r Cynulliad hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn. Efallai y gallech nodi rhai cerrig milltir allweddol i ni ar y daith honno os oes modd, fel y gallwn gael yr amserlen fras honno ychydig yn fwy eglur yn ein meddyliau, gan fod yna nifer o gychod yn y dŵr yma, mewn gwirionedd. Roeddech chi'n sôn am nifer o adolygiadau: yr ymgynghoriad technegol ei hunan, wrth gwrs; adolygiad Reid, a fydd yn bwydo i mewn i hwnnw; ac adolygiad Weingarten, hefyd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut yr ydych chi'n credu y bydd y rhain i gyd yn dod at ei gilydd mewn gwirionedd ac yn cyd-fynd â'i gilydd yn effeithiol i sicrhau y byddant i gyd yn cael eu hystyried yn llawn.
Rwyf i wedi codi'r cwestiwn am y chweched dosbarth gyda chi o'r blaen, ac roedd yn y Papur Gwyn, ac yn gwbl briodol felly. Rydych chi'n dweud bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o blaid cynnwys y chweched dosbarth yn y system arfaethedig, er bod rhai wedi dadlau'r achos, os mynnwch chi, dros ei gyflwyno'n ddiweddarach gam wrth gam. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa wybodaeth neu drafodaethau sydd eu hangen arnoch chi eto ar gyfer dod i benderfyniad a sut y gallai hynny o bosibl effeithio ar yr amserlen. A fyddai hynny'n gofyn am ddeddfwriaeth yn ddiweddarach? Neu a fyddech chi'n ymgorffori hynny yn eich deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer rhywbeth sydd yn mynd i gael ei gyflwyno'n ddiweddarach? Oherwydd, yn amlwg, mae llawer ohonom yn gobeithio y bydd hwn yn ddiwygio cydlynol a chynhwysfawr o ran y sector. Os byddwn yn dechrau dosrannu darnau ohono y perygl yw y bydd yn dameidiog. Rwy'n deall yr anawsterau ynglŷn â'r mater penodol hwnnw, ond hoffwn i glywed ychydig rhagor am eich syniadau chi i'r perwyl hwn.
Roeddech chi'n sôn am ddysgu oedolion yn y gymuned—clywsom ei enw gennych chi—ar ddechrau eich datganiad. Nid oes llawer mwy i'w gael ac, yn amlwg, rydym clywed un neu ddau o bethau gennych yn eich ymateb diwethaf. Yn amlwg, mae'r gostyngiad mewn darpariaeth addysg ran-amser i oedolion yn peri pryder mawr, ac mae rhai pobl yn teimlo bod dysgu cymunedol i oedolion ar ei liniau i raddau helaeth iawn ar hyn o bryd. Felly, mae'r sector yn dweud wrthyf i na all aros am y newidiadau hyn, er mai ychydig iawn oedd, mewn gwirionedd, yn y Papur Gwyn am addysg i oedolion yn y gymuned. Mae 'na berygl y byddwn yn sôn gormod am golegau chweched dosbarth, prifysgolion—mae angen inni eu trafod nhw, wrth gwrs, ond rwyf i o'r farn fod angen inni gael y cydbwysedd iawn. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed ychydig yn fwy am sut y gallwn mewn gwirionedd ymgorffori llais y sector yn y trafodaethau o hyn ymlaen, a pheidio â syrthio i fagl gwefus-wasanaeth—credaf mai dyna'r ail dro y defnyddiwyd yr ymadrodd hwnnw—a sut y bydd y llais hwnnw yn cael ei glywed yn swyddogaeth y comisiwn, gan ein bod yn dod yn ôl at yr egwyddor hon o barch cydradd yr ydym ni i gyd yn ei geisio, a byddai'n dda o beth cael mwy o eglurder, eto, ar hynny.
Roeddech chi'n cyffwrdd ag ymestyn swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ailadrodd bod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r swyddogaeth hon yn cael ei herydu mewn unrhyw ffordd, a'i bod yn cadw ei chyfrifoldeb presennol, ei chyfrifoldeb ychwanegol a'i swyddogaeth unigryw yn y dirwedd newydd. Efallai y gallech chi gydnabod—neu a fyddech chi'n cydnabod—bod yn rhaid i gyfrifoldebau ychwanegol olygu adnoddau ychwanegol hefyd, er ein bod mewn cyfnod anodd iawn yn hynny o beth. Ond byddai rhywun yn disgwyl fod yn rhaid i un ddilyn y llall.
Ar y pwynt hwnnw, mae'n debyg ei bod yn rhy gynnar inni ddechrau siarad am gyllidebau a phethau o'r fath ar gyfer y corff newydd arfaethedig. Ond cofiaf yn iawn, pan gafwyd trafodaethau am sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mai un o'r rhesymau a gyflwynwyd oedd y byddai'n creu arbedion effeithlonrwydd. Nid wyf i'n siŵr a yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth chi neu i ba raddau y gallai fod yn tywys peth o'r hyn sy'n cael ei chwarae i'r diwedd nawr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydych chi'n rhagweld unrhyw fath o arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn sgil y trefniant newydd—neu efallai nad yw hynny'n rhan o'ch ystyriaeth o gwbl? Byddai'n ddiddorol cael gwybod, mewn gwirionedd, ar ba bwynt y credwch chi y daw hynny'n fwy eglur.
Rydym wedi crybwyll mynd i'r afael â'r rhwystrau i addysg ôl-orfodol a hyfforddiant, a'r toriadau sydd wedi cael effaith anghymesur ar nifer o grwpiau. Rwy'n tybio y byddai'r cytundebau canlyniad yr ydych yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn bwriadu mynd i'r afael â rhai o'r rheini i sicrhau y bydd pobl â chyfrifoldebau gofal, neu'r rheini sydd angen mathau penodol o gymorth, yn cael cynnig hynny. Rydych chi'n dweud ei bod yn egwyddor ysgogol ar gyfer eich diwygiadau cymorth i fyfyrwyr i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hyn, a dim ond ceisio cadarnhad yr wyf i y bydd yn rhan annatod o gylch gwaith y comisiwn.
A gaf i ddiolch i Llŷr eto am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r agenda ddiwygio hon? Mae'r consensws yr ymddengys sydd gennym yn y Siambr heddiw yn adlewyrchu'r consensws ledled Cymru o ran yr angen i symud ymlaen yn hyn o beth, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn yr ymgynghoriad.
O ran amserlenni, yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu dros y 18 mis diwethaf yw bod yn ochelgar iawn wrth ymrwymo i amserlenni penodol. Yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu hefyd yw fod y pethau hyn yn cymryd llawer mwy o amser nag y byddech chi'n ei ragweld yn wreiddiol yn y Llywodraeth. Ond fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad technegol yn y flwyddyn newydd, a'm bwriad pendant o hyd yw cyflwyno deddfwriaeth, a chyda chydweithrediad y Siambr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth gychwyn. Ond, eisoes, wrth ddechrau pennu cwmpas y ddeddfwriaeth a allai ddeillio o hyn—ac rydym ar gam cynnar iawn. Mae eisoes yn edrych fel y gallai hwn fod y darn mwyaf oll o ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi gorfod ymdrin ag ef, ar adeg pan fo llawer o ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad. Ond fy mwriad pendant i a'm gobaith yw y gallwn gyrraedd y diwedd cyn tymor y Cynulliad.
O ran cyllid, caiff y costau eu hystyried yn llawn yn rhan o'r broses datblygu polisi ac yn y pen draw, wrth gwrs, bydd angen eu nodi, fel y mae'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog, yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth gwrs, caiff y costau eu pennu gan bwerau a swyddogaethau'r corff yr ydym yn bwriadu ei sefydlu, a chan ein bod ni'n dal wrthi'n penderfynu ar hynny, nid wyf yn ystod y cam hwn yn gallu rhoi llawer iawn o fanylion i'r Aelod. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw fy mod yn gobeithio cyhoeddi asesiad rheoleiddiol rhannol, gan nodi'r fethodoleg ar gyfer pennu costau, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad technegol. Felly, dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud, er mwyn rhoi cyfle i'r Aelodau weld sut y bydd y Llywodraeth yn y pen draw yn cyrraedd yr ystyriaethau cyllideb sy'n gysylltiedig â hyn. Rwy'n gobeithio y caiff hynny groeso gan Aelodau o bob ochr ac y bydd yn cynorthwyo Aelodau yn y swyddogaeth graffu sydd ganddyn nhw yma.
I egluro, bydd adolygiad Reid, sy'n edrych ar ymchwil ac arloesedd, yn cael ei gyhoeddi yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd, ac mae hynny'n rhan annatod o'n meddylfryd o ran sut y gallwn ni ddatblygu'r darn pwysig iawn hwnnw o'r hyn y bydd y comisiwn yn gyfrifol amdano. Mae adolygiad Weingarten yn edrych yn benodol ar fater cytundebau canlyniadau. Fel y dywedais yn fy natganiad, nid oes consensws ar hyn o bryd ynghylch a oes modd i un—wyddoch chi, sut yn union fyddai'r cytundebau canlyniadau yn gweithio, o ystyried cymhlethdod a natur amrywiol y sector. Ac felly bydd adolygiad Weingarten, gan ŵr enwog iawn wrth gwrs yn y maes hwn yng Nghanada a systemau ledled y byd, yn hollbwysig i'n helpu ni i roi mwy o fanylion a gwell golwg ar sut y bydd y cytundebau canlyniadau hynny'n gweithio'n ymarferol.
Y chweched dosbarth—wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yr Aelod wedi dweud ei fod o blaid cynnwys y chweched dosbarth. Nodaf nad oedd wedi nodi hynny'n ysgrifenedig yn yr ymgynghoriad, ond credaf ei fod yn awgrymu mai dyna yw ei ddewis. Nid dyna ddewis y rhan fwyaf yn sicr o'r bobl a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad, ond, wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn groes i argymhelliad Ellen Hazelkorn, nad oedd mewn gwirionedd yn argymell y ffordd honno ymlaen ac a ddangosodd, mewn systemau rhyngwladol eraill y bu hi'n edrych arnyn nhw, nad oedd y chweched dosbarth yn rhan o'r system honno. A dyna pam y mae angen inni, unwaith eto, roi gryn ystyriaeth i fanteision ac anfanteision ei gynnwys.
Yr hyn sy'n wir ei ddweud o'r ymgynghoriad yw bod pobl i raddau helaeth iawn o'r farn, os ydym i chwalu'r rhaniad artiffisial hwn a'r gwahaniaeth ymddangosiadol hwn o ran parch cydradd rhwng y galwedigaethol a'r academaidd, ei bod yn bwysig iawn fod y chweched dosbarth yn cael ei gynnwys. Ond gallai fod yn wir, o ystyried y bydd gan y Comisiwn hwn dasg mor fawr, bod modd inni ddeddfu mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r chweched dosbarth gael ei gynnwys yn y comisiwn yn ddiweddarach—heb angen deddfwriaeth sylfaenol ychwanegol, ond i greu amgylchiadau yn y ddeddfwriaeth wreiddiol a fyddai'n caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiweddarach. Ond mae angen inni, unwaith eto, gael trafodaethau ystyriol iawn â rhanddeiliaid ynghylch manteision ac anfanteision y cynigion penodol hynny.
Rwy'n credu bod hynny wedi mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r materion. O ran oedolion a rhan-amser, mae hynny'n un o'r rhesymau dros groesawu Aelodau newydd ar Fwrdd CCAUC, oherwydd ni allwn eistedd yn ôl ac aros nes i'r comisiwn newydd gael ei sefydlu; mae angen inni fod yn datblygu syniadau nawr yn y maes hwn. Mae angen inni gael CCAUC a rhanddeiliaid eraill yn gweithio tuag at yr agenda hon ar hyn o bryd. Dyna pam yr wyf i'n falch iawn o ddweud y bydd gennym arbenigwyr yn y maes addysg seiliedig ar waith yn ymuno â CCAUC o 1 Rhagfyr, a bydd gennym hefyd arbenigwyr ym maes addysg oedolion ac addysg ran-amser yn ymuno â bwrdd CCAUC yn ddiweddarach eleni pan fydd swydd yn dod yn wag.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad a'ch cyhoeddiad am ddiddymu'r CCAUC a chreu comisiwn newydd. Byddai'n dda gennyf wybod sut yr yr ydych yn rhagweld y modd y penodir y comisiynwyr hyn. A gaiff ei roi i dendr agored, gan hysbysebu am ymgeiswyr, neu a fydd, yn y bôn, yn apwyntiad mewnol drwy adran y comisiynwyr? Rydym wedi gweld canlyniadau byrddau a benodwyd yn sgil y methiannau o ran gofal yn ardal Betsi Cadwaladr yn y Gogledd, felly sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd y Comisiwn yn briodol atebol?
Cafwyd ymgysylltiad â rhanddeiliaid, ac rwy'n nodi bod amrywiaeth o sefydliadau addysgol, sefydliadau a dysgwyr wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys y digwyddiadau i randdeiliaid. Mae cynyddu hygyrchedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth ddigonol a diffyg y cyfleoedd ar gyfer astudio rhan-amser yn faterion o bwys i'r ymatebwyr, fel y dywedwyd gennych yn eich datganiad, ond mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd Cabinet, nad wyf mewn gwirionedd yn gweld unrhyw arwyddion eich bod chi'n ymdrin â'r broblem hyd yn hyn.
Yn ôl yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ofn mynd i ddyled oedd yn cael ei ystyried yn rhwystr pennaf i ymgymryd ag addysg ôl-orfodol, ac rydym wedi cael trafodaethau am hynny o'r blaen. Mae'n amlwg y bydd hyn yn fwy o rwystr i bobl hŷn sy'n dymuno newid gyrfa neu ailgydio yn eu haddysg yn ddiweddarach yn eu hoes, ond mae'n ddrwg gennyf i, nid ydych chi wedi gwneud dim i gael gwared ar y rhwystr hwn. Yn wir, rydych chi'n gwneud pethau'n waeth. Mae gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad—mae ganddyn nhw safbwyntiau mor ddilys am y system ac maen nhw i'w canmol am eu gwaith yn cyfrannu at yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, byddwn i'n awgrymu, os ydych yn awyddus i gynyddu hygyrchedd addysg, y bobl y mae angen i chi siarad â nhw mewn gwirionedd yw'r rhai nad ydyn nhw'n cymryd rhan yn y system addysg ar hyn o bryd. Mae gan y bobl hynny sydd eisoes yn cymryd rhan yn y system addysg lawer iawn o wybodaeth a phrofiad a all gyfrannu'n amlwg at eich penderfyniadau am y sector hwnnw. Ond mewn gwirionedd nid yw'n eich hysbysu gyda manylder enfawr, o safbwynt personol iawn, am yr hyn sy'n gwneud i bobl ddigalonni a methu ag ailgydio yn eu haddysg ac uwchsgilio neu wella eu sgiliau mewn ffyrdd eraill pan fyddan nhw wedi gadael addysg orfodol ac mae'r syniad hwnnw sydd ganddynt o ddilyn addysg ôl-orfodol wedi dod i ben. Felly, hoffwn eich gweld chi'n ymgynghori gyda'r bobl hynny nad ydyn nhw'n ymgysylltu ar hyn o bryd â'r system addysg i ymchwilio i beth allai eu hannog i gymryd rhan yn y system addysg.
Nid wyf wedi fy synnu bod y cyngor a'r cymorth a roddir i ddysgwyr yn bryder allweddol, ac, o ystyried penderfyniad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet i lethu myfyrwyr Cymru â dyledion, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cael hyn yn iawn. Rwy'n sylweddoli na fydd cymaint o fanylion ar gael yma ar hyn o bryd, yn anochel, oherwydd y cam yr ydych arni yn y broses, felly—. Rwy'n gweld eich bod wedi cyhoeddi ymgynghoriad manwl ar sut y bydd y comisiwn yn gweithio mewn gwirionedd ac rwyf i wir yn edrych ymlaen at weld yr ymgynghoriad hwnnw a'r ymatebion iddo hefyd. Diolch.
O ran sefydlu'r comisiwn, fel y dywedais i, byddwn yn cynnal ymgynghoriad technegol. Fy mwriad i yw y bydd bwrdd gweithredol y comisiwn hwnnw'n cael ei benodi gan ddilyn gweithdrefnau arferol cystadleuaeth agored. O ran aelodau'r comisiwn, byddan nhw'n ddarostyngedig i'r broses penodiadau cyhoeddus sydd gennym ni yma yng Nghymru, proses yr ymgymerwyd â hi'n ddiweddar ar gyfer recriwtio aelodau newydd i fwrdd y CCAUC, bwrdd sydd wedi gwneud gwaith ardderchog yn cefnogi addysg uwch yng Nghymru, gwaith yr wyf i'n ddiolchgar iawn, iawn amdano. Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu denu ymgeiswyr o safon uchel i gymryd swyddi newydd ar fwrdd CCAUC, pobl o Gymru a thu draw i'r ffin sydd yn dymuno rhoi o'u hamser ac yn awyddus i fod yn rhan o'r cyfnod cyffrous hwn o ddiwygio addysg yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, mae'n ymddangos i mi nad oes fawr o bwynt i mi egluro unwaith eto i'r Aelod egwyddorion diwygio Diamond. I fod yn gwbl glir i'r Aelod unwaith eto: ni fydd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig a fydd yn rhoi cymorth—gan gynnwys cymorth cynhaliaeth nad yw'n ad-daladwy—i fyfyrwyr rhan-amser. Ni fydd hyn yn digwydd yn yr Alban, nac yn digwydd yn Lloegr, nac yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Yn wir, mae'r gwledydd hynny a'r rhannau hynny o'r sector sy'n gweithio y tu allan i Gymru yn edrych yn genfigennus ar y ffordd yr ydym yn mynd i gefnogi'r sector rhan-amser, oherwydd rydym ni, yn y Llywodraeth hon, yn cydnabod bod astudio'n rhan-amser yn hollbwysig, nid yn unig i'r unigolion hynny, ond i gyfoeth economaidd y wlad. Un o broblemau Cymru yw cynhyrchiant ac rydych yn gwella cynhyrchiant nid yn unig drwy fuddsoddi mewn offer a pheiriannau—ond drwy fuddsoddi yn eich gweithlu, a byddwn yn helpu i greu'r amgylchedd fydd yn galluogi pobl i astudio yn rhan-amser. Fy her i i'r sector busnes fydd ymgysylltu â llawer o gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i roi cymorth i hyfforddi eu gweithwyr ar gyfer lefelau uwch o sgiliau fel y gallwn ni godi economi Cymru. Ond rwyf wedi esbonio hyn i'r Aelod dro ar ôl tro. Ymddengys yn benderfynol i beidio â chydnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud. [Torri ar draws.]
Yn eich blaen. Yn eich blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.
Rwy'n sylweddoli nad yw'r Aelod yn cytuno â hyn. Yr hyn sy'n bwysicach i mi yw bod Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn cytuno â hyn, mae'r sector addysg uwch yng Nghymru yn cytuno â hyn, ac mae arbenigwyr addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig yn dweud yn gyson, 'os oes gennych chi ddiddordeb mewn polisi blaengar ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, yna edrychwch tuag at Gymru.' Oherwydd ni, a dim ond ni, sy'n gwneud rhywbeth diddorol yn y maes. Gyda phob dyledus barch, yn fy marn i, y lleisiau hynny yw'r rhai y mae angen inni wrando arnyn nhw fel Llywodraeth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 ar yr ein hagenda yw dadl Cyfnod 4 ar Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM6607 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol. Rwy'n falch o gyflwyno'r pedwerydd cam, sef cam olaf Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), gerbron y Cynulliad heddiw. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu gwaith craffu cadarn ar y Bil ac am eu cefnogaeth, sydd wedi sicrhau ei hynt drwodd i Gyfnod 4. Yn benodol, hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Deddfwriaethol ac i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu trylwyr ac ystyriol ar y Bil drwy gyfnodau 1 a 2. Hoffwn i hefyd gydnabod yr holl randdeiliaid a roddodd dystiolaeth yn ystod y broses graffu a diolch iddynt am eu cyfraniad i'r broses ddeddfwriaethol. Hoffwn ddiolch hefyd i staff Comisiwn y Cynulliad a swyddogion Llywodraeth Cymru am eu cymorth drwy gydol proses y Bil. Hoffwn hefyd ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil yn cyrraedd y cam terfynol. Bu'n frwdfrydig iawn dros ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf, a gweithiodd yn eithriadol o galed i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rwyf wrth fy modd yn gallu ei llywio drwy ei chamau terfynol ac ar y llyfr statud i Gymru.
Mae'r Mesur hwn yn ffurfio rhan allweddol o bolisi tai'r Llywodraeth, ac roedd yn ymrwymiad maniffesto yn 2016. Mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymo i roi terfyn ar yr hawl i brynu ac i ddiogelu ein tai cymdeithasol ar gyfer y rheini sydd eu hangen fwyaf. Bydd rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yn rhoi i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yr hyder i fuddsoddi mewn datblygiadau newydd ac yn helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn nodwedd o dai cymdeithasol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae hyn wedi arwain at golli nifer sylweddol o gartrefi—mwy na 139,000 rhwng 1981 a 2016. Yn y blynyddoedd diweddar, er bod gwerthiannau tai cymdeithasol wedi arafu, mae'r stoc o dai cymdeithasol yn dal yn cael ei cholli ar adeg o gryn bwysau ar gyflenwi tai. Roedd mesurau a gymerwyd gan y Llywodraeth Cymru flaenorol i fynd i'r afael ag effaith colli cartrefi drwy'r cynllun hawl i brynu, a'r pwysau parhaus ar dai cymdeithasol, yn cynnwys cyflwyno Mesur Tai (Cymru) 2011. Roedd hyn yn galluogi'r awdurdod lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn ei ardal. Er bod yr hawl i brynu wedi ei atal mewn rhai rhannau o Gymru, mae pwysau oherwydd prinder tai sylweddol yn parhau i fod yn bresennol ledled y wlad.
Cyflwynwyd y Bil hwn ym mis Mawrth yn dilyn ymgynghoriad Papur Gwyn yn 2015 i fynd i'r afael â phwysau parhaus ar dai a sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu diogelu ledled Cymru ar sail barhaol. Mae'r Bil yn diddymu'r holl amrywiadau o ran yr hawl i brynu, gan gynnwys yr hawl i brynu a gadwyd a'r hawl i gaffael. Mae'r darpariaethau yn y Bil hefyd yn caniatáu o leiaf blwyddyn ar ôl Cydsyniad Brenhinol cyn diddymu'n derfynol eiddo sydd eisoes yn bodoli. Ond, er mwyn annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, daw'r hawliau i ben ar gyfer cartrefi sy'n newydd i'r stoc tai cymdeithasol ac, felly, nad oes tenantiaid ynddynt, ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae un flwyddyn yn gyfnod o amser teg a rhesymol i denantiaid benderfynu a ydynt yn dymuno arfer eu hawliau ac i gael cyngor cyfreithiol ac ariannol priodol. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod pob tenant yn cael gwybodaeth o fewn dau fis i Gydsyniad Brenhinol, a bod yr wybodaeth hon yn cael ei darparu ar y fformat mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau y bydd pob tenant yn gwbl ymwybodol o effaith y ddeddfwriaeth cyn iddi ddod i rym.
Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i alluogi perchentyaeth i'r rhai sy'n dymuno cael mynediad i'r farchnad eiddo. Rydym ar y ffordd i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto o 20,000 o gartrefi ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Cafodd cynlluniau'r Llywodraeth, megis Cymorth i Brynu, Cymorth Prynu a Rhent i Brynu, eu creu i helpu pobl ar incwm cymedrol i allu fod yn berchen ar eu cartrefi, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol. Mae rhoi terfyn ar yr hawl i brynu yn sicrhau ein bod yn diogelu'r buddsoddiad a wnaed mewn tai cymdeithasol dros nifer o genedlaethau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.
Bu'r polisi hawl i brynu yn hynod lwyddiannus ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, oherwydd ei fod yn ymateb i ddyheadau pobl ar incwm is i brynu eu cartrefi eu hunain. Fel yr wyf wedi dadlau yn gyson, mae problemau gyda'r farchnad dai wedi codi oherwydd diffyg cyflenwad tai, ac yn arbennig yng Nghymru—nid oherwydd y 300 neu 400 o gartrefi sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwerthu bob blwyddyn o dan y cynlluniau hawl i brynu. Gwerthwyd rhyw 139,000 o gartrefi cyngor a chartrefi chymdeithasau tai yng Nghymru ers cyflwyno'r hawl i brynu yn 1980 o dan Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher —139,000 o gartrefi yng Nghymru; polisi hynod o lwyddiannus. Sut y gellid cael gwell prawf o berthnasedd a llwyddiant polisi?
Ceisiodd y Ceidwadwyr Cymreig, Dirprwy Lywydd, gynnig syniadau synhwyrol i ddiwygio'r polisi poblogaidd hwn fel y gellid osgoi diddymu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn fodlon gwrando, er mawr ofid inni. Gwnaethom wedyn geisio gwneud diddymu'r Bil hawl i brynu hwn yn decach. Gwnaethom geisio darparu canlyniad tecach ar gyfer y tenantiaid hynny yn yr ardaloedd sydd wedi eu hatal ar hyn o bryd, er mwyn iddyn nhw, hefyd, gael cyfle olaf i brynu eu heiddo—a wrthodwyd iddynt.
Fe wnaethom hefyd gynnig gwelliant gyda'r bwriad o gyfyngu gweithrediad y Ddeddf i 10 mlynedd, ac ar ôl hynny caiff Gweinidogion Cymru osod rheoliadau yn cynnig bod y bwriad i diddymu'n cael ei wneud yn barhaol. Gwnaethom hyn oherwydd i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir yn y Pwyllgor nad oedd yn erbyn yr hawl i brynu mewn egwyddor. Felly, profais y pwynt hwn—ond yn anffodus, unwaith eto, gwrthodwyd. Ni chafwyd ymateb.
Gwrthodwyd gwelliant arall a fyddai wedi sicrhau na fyddai diddymu'r hawl i brynu a'r hawliau cysylltiedig wedi dod i rym tan o leiaf ddwy flynedd yn dilyn Cydsyniad Brenhinol i'r Bil er gwaethaf y ffaith mai dyna a ddigwyddodd yn yr Alban i ganiatáu cyfnod pontio didrafferth. Gosodwyd y gwelliannau hyn mewn ymateb i farn tenantiaid ledled Cymru sydd eisiau i ragor o dai gael eu hadeiladu a byddai'n well iddyn nhw weld atebion amgen i ddiddymu parhaol. Yn hytrach, mae'r Bil hwn yn bwriadu cymryd eu dyhead i fod yn berchen ar dŷ oddi arnynt am byth.
Dirprwy Lywydd, pe byddem ni'n cael y cyfle, nod y Ceidwadwyr Cymreig fydd ailgyflwyno'r polisi hawl i brynu gyda strwythur diwygiedig ar gyfer y sefyllfa tai cyfoes. Byddai'r diwygiadau hyn yn cynnwys clustnodi derbyniadau hawl i brynu er mwyn eu hailfuddsoddi mewn stoc tai cymdeithasol newydd a chael gwared ar berthnasedd hawl i brynu i stoc tai newydd hyd nes y bydd wedi ei rhentu gan denant cymdeithasol am nifer penodol o flynyddoedd.
I gloi, nid yw'r Bil hwn yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda. Mae'n gwasanaethu yn hytrach ideoleg adain chwith gul, sy'n anwybyddu'r holl dystiolaeth a degawdau o lwyddiant wrth weithredu'r polisi. Byddwn ni'n parhau i adlewyrchu dyheadau llawer o denantiaid. Hyd yn oed ar y cam hwn, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y Bil hwn.
Gair byr iawn gen i wrth i'r Bil gyrraedd diwedd ei daith yma yn y Cynulliad. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r Bil yn llawn ar hyd yr amser ac wedi helpu i'w wella drwy'r broses graffu. Mae dileu'r hawl i brynu wedi bod yn bolisi gan ein plaid ni ers degawdau. Roedden ni'n grediniol y byddai'r hawl i brynu'n gweithio yn erbyn y rhai sy'n methu â fforddio prynu tŷ, yn gweithio yn erbyn y rhai sy'n ddibynnol ar rentu yn y sector cymdeithasol er mwyn cael to uwch eu pennau. Ac yn anffodus, dyna sydd wedi digwydd. Mae'r nifer o dai cymdeithasol wedi haneru, bron, yng Nghymru, sydd wedi arwain at restrau aros maith, wedi arwain at ormod o bobl yn byw dan yr un to, wedi arwain at bobl yn byw mewn tai anaddas ac wedi arwain at gynnydd mewn digartrefedd. Gyda phasio'r Bil, mae'n bryd rŵan i'r Llywodraeth hon roi ffocws clir ar yr angen i adeiladu mwy o dai cymdeithasol a rhoi ffocws yr un mor glir i'r ymdrechion i ddileu tlodi ac anghyfartaledd—ffocws sydd ar goll ar hyn o bryd.
Ni fyddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Gofynnais yn y Siambr hon beth sydd o'i le ar werthu tŷ cyngor cyhyd ag y defnyddir yr arian i adeiladu rhai newydd, ac nid wyf wedi cael ateb boddhaol. Nid wyf yn barod i bleidleisio i gael gwared ar opsiwn i bobl dosbarth gweithiol fod yn berchen ar eu cartref eu hunain heb gyflwyno unrhyw ffyrdd newydd iddyn nhw brynu tŷ. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhan o duedd afiach o gadw pobl yn ddibynnol ar y wladwriaeth ac atgyfnerthu anghydraddoldeb.
Felly, dyma rai awgrymiadau ynghylch lle y byddai'n well i'r Llywodraeth ddefnyddio ei hymdrechion. Rhwng 2012 a 2016, ni wnaeth Cyngor Caerdydd, a gaiff ei weithredu gan y Blaid Lafur, adeiladu unrhyw dai cyngor—dim un. Dyna oedd eu dewis. Mae cynghorau eraill yn llwyddo i wneud hynny. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud dim i fynd i'r afael â hynny. Dylem ni sicrhau mai pobl leol yw'r flaenoriaeth lwyr ar gyfer rhestrau dai, a dylid defnyddio stoc tai cymdeithasol yng Nghymru i ddarparu ar gyfer galw lleol. Rwy'n gobeithio bod hynny'n egwyddor y gallwn ni i gyd ei gefnogi.
Mae angen inni adeiladu llawer mwy o dai fforddiadwy, ac mae hynny'n golygu gwirioneddol fforddiadwy. Gallai gwell cyfreithiau cynllunio orfodi cwmnïau adeiladu i adeiladu cyfran uwch o dai gwirioneddol fforddiadwy, ond rydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle ceir ychydig iawn o ddatblygwyr yn rheoli'r sector tai, gan arwain at gynlluniau datblygu gwael lle caiff caeau gwyrdd eu dinistrio, a diwylliant lleol ei anwybyddu. Peth da, heb os, yw cael diwydiant lle mae cwmnïau adeiladu lleol llai yn adeiladu tai yn seiliedig ar angen lleol a nodweddion lleol, ond mae cost uchel tir ynghyd â chymhlethdod deddfau cynllunio y Blaid Lafur yn atal hyn.
Os ydym ni o ddifrif yn dymuno gwneud rhywbeth o ran y frwydr yn erbyn yr argyfwng tai, gadewch inni wneud rhywbeth am y 23,000 o eiddo sy'n wag yn hirdymor yng Nghymru. Maen nhw'n eistedd yn wag ac maen nhw'n staen ar ein cymunedau. Pe byddai'r tai hynny'n cael eu defnyddio gan ddau berson ar gyfartaledd, yna byddem yn rhoi cartref i 50,000 o bobl yn gyflym iawn.
Nawr, dylid rhoi clod pan fo clod yn ddyledus, oherwydd llwyddodd Cyngor Tor-faen ddod â thraean o eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd y llynedd, ond llwyddodd Cyngor Caerdydd i wneud hyn gyda dim ond 0.8 y cant, ond mae'n caniatáu i ddatblygwyr cyfoethog adeiladu tai nad ydynt yn fforddiadwy ym mhobman ar gaeau gwyrdd yn lle hynny. Felly, pam nad yw'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar bob cyngor yng Nghymru, a chael teuluoedd yn y tai gwag hyn?
Mae perchentyaeth yn rhan o freuddwyd Cymru. Bydd rhai yma yn dweud mai obsesiwn y DU yw perchentyaeth. Ni welaf ddim o'i le ar hynny. Mae'n rhan o'n diwylliant, ac rwyf i eisiau ei annog. Dyna pam na allaf i gefnogi'r Bil hwn.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y Bil a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwyf bob amser yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin lle y mae'n bosibl, a chredaf fod rhywfaint o dir cyffredin o ran dyheadau ehangach ar gyfer tai. Er enghraifft, nid oes dadl gan Lywodraeth Cymru pa mor bwysig yw adeiladu cartrefi, helpu pobl i brynu cartref, sicrhau mwy o dai fforddiadwy a throi tai gwag yn gartrefi hefyd, ond mae anghytundeb sylfaenol rhwng ein hunain a'r Ceidwadwyr ac eraill ynghylch a yw colli 139,000 o dai o'r stoc tai cymdeithasol yn achos ddathlu mewn gwirionedd neu beidio, oherwydd nad yw hi ar y meinciau yma , yn sicr.
Yr hyn sy'n achos i ddathlu yw'r ffaith ein bod yn cymryd y cam pwysig hwn i ddiogelu stoc tai cymdeithasol ar gyfer y dyfodol ar gyfer y bobl sydd ei hangen fwyaf, a hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am esbonio pam mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd hyn ymlaen , ac rwy'n achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Blaid Cymru ar gyfer y ffordd adeiladol yr ydych chi wedi ymgysylltu â ni yn ystod pasio'r Bil hwn. Ac felly, hoffwn i ofyn i Aelodau gefnogi'r cynnig i basio'r Bil. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50 C, mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion cyfnod 4, ac felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef y ddadl ar y gyllideb ddrafft. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM6603 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-2019 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 3 a 24 Hydref 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, mae'r gyllideb hon yn garreg filltir o bwys yn naith datganoli Cymru. Dyma'r tro cyntaf i ni allu nodi ein cynlluniau ar gyfer trethi datganoledig ac ein cynigion benthyca. Hon yw hefyd y gyllideb gyntaf i gael ei ddwyn ymlaen o dan y fframwaith cyllidol newydd a chyda gweithredu cronfa Cymru newydd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Gan gydnabod y cyfrifoldebau cyllidol newydd sydd wedi eu datganoli i ni, cytunodd y Cynulliad ar broses gyllideb newydd. Am y tro cyntaf, cyhoeddwyd ein cynigion cyllidebol mewn dau gam. Amlinellwyd prif elfennau'r gyllideb ar 3 Hydref, gan adlewyrchu'r cyfrifoldebau cyllidol newydd hynny, gan ddangos o ble y daw'r arian a sut y bwriedir ei ddyrannu ar draws adrannau. I helpu i ddeall hyn yn well, cyhoeddwyd cyfres o ddogfennau ochr yn ochr â'r gyllideb, gan gynnwys adroddiad y prif economegydd, adroddiad polisi treth Cymru, a'r adroddiad annibynnol gan Brifysgol Bangor. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am ei holl waith mewn cysylltiad â'r gyllideb hon, ac yn falch o weld yn eu hadroddiad iddyn nhw ddweud eu bod yn fodlon â'r manylder a gafwyd ochr yn ochr â'r gyllideb amlinellol. Edrychaf ymlaen at fynd ati mewn modd cadarnhaol i geisio cyflawni'r argymhellion pellach a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Ar 24 Hydref, Dirprwy Lywydd, darparwyd mwy o fanylion ynglŷn â gwariant y gyllideb nag erioed o'r blaen. Mae hwn yn gam y galwodd cyd-Aelodau yn y Siambr amdano y llynedd, a gobeithio iddo fod yn ddefnyddiol o ran cefnogi'r gwaith craffu'n ystyrlon fesul adran. Mae'r sesiynau craffu a gynhaliwyd gan y pwyllgorau pwnc unigol wedi bod o ddiddordeb mawr i mi, a hoffwn roi ar gofnod fy niolch i'r holl Aelodau sydd wedi chwarae eu rhan yn ein proses gyllideb sy'n esblygu. Fy marn i ar hyn o bryd yw bod y broses dau gam wedi gweithio'n unol â'r bwriadau a arweiniodd at ei greu, ond edrychaf ymlaen, wrth gwrs, i glywed profiadau pobl eraill yn hyn o beth yn ystod y prynhawn.
Yr hyn sy'n fwy heriol, Llywydd, yw'r anhwylustod anochel a achosir gan gyllideb y DU yn cael ei llunio yn hwyr yn ein proses gyllideb ddrafft ni ein hunain. Mae'r anhwylustod hwnnw yn amlwg yn y ddadl heddiw, wrth inni drafod cyllideb ddrafft a gafodd ei pharatoi cyn inni dderbyn y dyraniadau pellach a wnaed ar 22 Tachwedd. Rwy'n bwriadu defnyddio'r rhan fwyaf o'r amser sydd ar gael imi y prynhawn yma i nodi sut y bwriadaf alinio'r adnoddau a ddyranwyd inni yng nghyllideb y DU gyda phrosesau cyllideb ein hunain. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, gadewch imi ymdrin yn fyr â'r cyd-destun macro-economaidd a ddatgelir gan gyllideb y DU. Roedd y diwygiadau negyddol a fu i'r rhagolygon economaidd, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn cadarnhau twf economaidd gwannach, refeniw treth is, a mwy byth o bwysau ar safonau byw. Mae'r cyd-destun hwnnw yn effeithio'n uniongyrchol ar ein cyllideb yma yng Nghymru oherwydd mae'r rhagolygon newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn helpu i lunio'r adnoddau a fydd ar gael i Gymru drwy gyfrwng fframwaith cyllidol.
Paratowyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 gan ddefnyddio gwybodaeth economaidd o gyllideb wanwyn y DU, gan gynnwys rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Bydd ein rhagolygon ein hunain o ran refeniw treth, sy'n defnyddio nifer o nodweddion economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn cael eu diwygio nawr i adlewyrchu'r wybodaeth newydd a ryddhawyd ochr â chyllideb mis Tachwedd. Fel rhan o'u gwaith, bydd Prifysgol Bangor yn craffu ar y rhagolygon diwygiedig hyn ac yn sicrhau eu bod yn gywir, ac rwy'n hapus i gadarnhau y prynhawn yma, Llywydd, y byddaf yn cyhoeddi adroddiad cryno o waith craffu Prifysgol Bangor ochr yn ochr â'n cyllideb derfynol ar 19 Rhagfyr. Hoffwn ddiolch i'r tîm o Fangor am eu gwaith rhagorol hyd yn hyn. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau eu bod nhw wedi cytuno i ymestyn eu contract presennol i ymgymryd â gwaith craffu annibynnol a rhoi sicrwydd ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, gan adeiladu ar yr arbenigedd y maen nhw wedi ei ddatblygu eleni. Bydd y trefniant hwn yn parhau wrth inni sefydlu trefniadau parhaol ar gyfer llunio rhagolygon refeniw treth annibynnol i Gymru. Mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn parhau ar hynny, a byddaf yn diweddaru'r Aelodau wrth inni wneud cynnydd pellach.
Llywydd, gadewch imi ddychwelyd at y ffordd y caiff penderfyniadau am ein cyllideb eu gwneud mewn cysylltiad â phenderfyniadau Llywodraeth y DU. O ran refeniw, dros yr wythnos nesaf, byddaf yn parhau i gynnal trafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet, ynghylch y symiau canlyniadol gwerth £215 miliwn o gyllideb y DU fydd ar gael i Gymru dros gyfnod o bedair blynedd. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno y ceir cyflwyno papur i'r cyfarfod Cabinet llawn nesaf, ar 12 Rhagfyr, pryd y byddaf yn cyflwyno cyfres o gynigion i'w trafod. Ar yr un pryd, yn unol â'n cytundeb blaenorol, byddaf yn trafod materion o ddiddordeb cyffredin gyda Phlaid Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i Steffan Lewis am wneud amser eisoes i ddechrau ar y trafodaethau hynny.
Llywydd, fy mwriad i yw y bydd canlyniad y trafodaethau hyn ar oblygiadau refeniw cyllideb 22 Tachwedd yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol, y mae'n rhaid imi ei chyflwyno gerbron y Cynulliad hwn ar 19 Rhagfyr. Bwriadaf wneud hynny oherwydd credaf ei bod hi'n arbennig o bwysig rhoi cymaint o sicrwydd ag y bo modd i'n partneriaid o'r gwasanaethau cyhoeddus o ran yr adnoddau a fydd ar gael iddyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu dros y ddwy flynedd nesaf.
Yna bwriadaf droi i drafod ymhellach y symiau cyfalaf canlyniadol o gyllideb y DU, gan gynnwys cyfalaf trafodion ariannol. Gobeithiaf gynnal y trafodaethau hynny dros gyfnod y gwyliau. Rwy'n addo y prynhawn yma, Llywydd, y caiff unrhyw benderfyniadau cynnar ynglŷn â blaenoriaethau cyfalaf uniongyrchol y mae'n bosibl cytuno arnynt, cyn inni drafod y gyllideb derfynol ar 16 Ionawr, eu hegluro i'r Aelodau cyn y ddadl honno ar 16 Ionawr fel y bydd Aelodau yn gwybod amdanyn nhw cyn inni gymryd y bleidlais derfynol. Ni chaiff y dyraniadau cyfalaf hynny eu hadlewyrchu yn y gyllideb derfynol; ni allaf ei wneud hynny mewn pryd. Ond byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr Aelodau yn cael cymaint o wybodaeth ag y gallaf i ei rhoi iddyn nhw, ac y bydd gwybodaeth yn cynnwys unrhyw symiau cyfalaf canlyniadol ychwanegol yr wyf yn gallu cytuno arnynt gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'n trafodaethau gyda nhw.
Llywydd, mae trydedd elfen y mae'n rhaid inni ymdrin â hi o ganlyniad i gyllideb y DU. Cyhoeddodd y Canghellor benderfyniad i roi eithriad newdd i brynwr tro cyntaf o ran treth tir y doll stamp fel rhan o'i gyllideb. Gwnaeth hynny, fel y gŵyr yr Aelodau, er gwaethaf cyngor clir iawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y byddai eithriad o'r fath yn fwy tebygol o fod o fudd i werthwyr, drwy godi prisiau, yn hytrach na phrynwyr, ac y bydd yr eithriad yn agored iawn i gam-fanteisio. Golyga'r newid a gyflwynwyd gan Ganghellor y Trysorlys na fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf, yn Lloegr, yn talu unrhyw dreth stamp o gwbl. Bydd y cynigion a wnaed gennyf ar 3 Hydref, er mwyn pennu man cychwyn treth trafodiadau tir ar £150,000 ar gyfer Cymru o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, eisoes yn golygu y bydd 70 y cant o'r holl brynwyr tro cyntaf yng Nghymru wedi eu heithrio o'r dreth honno.
Mae penderfyniad y Canghellor, fodd bynnag, yn arwain at rywfaint o arian ychwanegol i Gymru drwy addasiad i'r lleihad yn y grant bloc. Mae'r arian hwnnw felly yn ychwanegol at y symiau refeniw canlyniadol o £215 miliwn, fel yr eglurais yn gynharach. Rwy'n dal i ystyried sut orau y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwnnw yng Nghymru, ac rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad ar fy mhenderfyniadau yn y maes hwnnw cyn diwedd y tymor hwn.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
Wrth gwrs.
Ynglŷn â'r pwynt hwnnw, dim ond er mwyn deall yr addasiad hwn yn iawn, ai addasiad yn benodol o dan y fframwaith cyllidol yw hynny er mwyn ystyried effaith cyflwyno'r dreth hon ar sail Cymru-a-Lloegr, cyn i chi gael cyfle i addasu o ran y pwerau datganoledig newydd fis Ebrill nesaf?
Llywydd, dyna'n union ydyw. Mae'n ganlyniad un-tro o'r amserlenni'n gwrthdaro eleni ond ni fyddant yn gwrthdaro yn y dyfodol. Mae'n golygu bod yr addasiad i'r grant bloc yn symud fymryn o'n plaid. Rwyf yn edrych i weld beth y gellid ei wneud gyda'r adnodd hwnnw. Ac, fel y dywedaf, Llywydd, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn ymwybodol o ganlyniad yr ystyriaeth honno cyn diwedd y tymor.
Llywydd, rwyf yn sylweddoli nad yw rhoi gwybodaeth i'r Aelodau yn y ffordd ddigyswllt anorfod hon yn gwbl dderbyniol. Mae'n ganlyniad y gwrthdaro rhwng amserlen ein cyllideb ni ac un Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y cynllun a amlinellais i y prynhawn yma wedi ei lunio i roi cymaint o wybodaeth â phosib i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn y cynhelir pleidlais derfynol ar ein cynigion cyllideb. Y dewis arall, fel y dywedais yn y Pwyllgor Cyllid, yw mabwysiadu'r model a gytunwyd gan Senedd yr Alban, lle mae Aelodau Senedd yr Alban yn gweld y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf ar 14 Rhagfyr, pan na fydd cyfle i drafod neu graffu hyd nes y bydd ystyriaeth wedi'i rhoi i'n cyllideb derfynol ni yma. Yn ei adroddiad, mae ein Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gael cyllideb sydd â dyddiad amhenodol yn yr Hydref yn ei chael ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant cyllidol a pholisi treth. Yr ochr arall i'r geiniog, fodd bynnag, yw'r budd sylweddol i'r GIG, llywodraeth leol a phartneriaid darparu eraill o ran cyhoeddi ein cynlluniau busnes ym mis Hydref. Ar y cyfan, roedd aelodau'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod yn well ganddynt y trefniant sydd gennym ar waith yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddant yn cytuno y dylem barhau i gadw golwg ar y prosesau sydd gennym wrth i'n cyfrifoldebau cyllidol ddatblygu tra byddwn yn parhau i wneud pethau yn y ffordd honno.
Llywydd, i gloi, fe wnaethom gytuno y byddai proses y gyllideb newydd yr ydym ni wedi dechrau arni eleni yn bennod newydd ac y byddai gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn arbennig o ddefnyddiol o ran nodi meysydd lle mae angen gwneud cynnydd pellach ac, fel y dywedais yn y Pwyllgor, rwyf wastad yn fodlon ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r wybodaeth yr ydym ni yn ei darparu a mynd ati i gyflawni ein cyfrifoldebau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Rwy'n diolch i'r Pwyllgor unwaith eto am eu hargymhellion, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw arnynt a chlywed barn yr Aelodau y prynhawn yma.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd, ac fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid newydd amlinellu, dyma'r tro cyntaf yr ydym wedi edrych ar gyllideb yn y modd yma—ffordd gyllidebol newydd gan y Llywodraeth a ffordd newydd o graffu ar y gyllideb hefyd—oherwydd bod Deddf Cymru 2014 wedi datganoli cyllid i Gymru ymhellach sy'n golygu taw ein rôl ni yn y Cynulliad bellach yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, nid yn unig am gynlluniau gwariant, ond hefyd am y ffordd mae'r Llywodraeth yn codi arian drwy fenthyca a thrwy drethi ar eiddo a gwastraff tirlenwi ac, wrth gwrs, treth incwm maes o law yn ogystal. Gyda hynny, cytunwyd i newid y broses o graffu ar y gyllideb i sicrhau bod y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle i drafod cynigion lefel uchel y Llywodraeth o flaenoriaethau gwariant a refeniw ac, wrth gwrs, fod pob pwyllgor arall yn edrych ar y cyllidebau unigol sy'n perthyn i adrannau'r Llywodraeth. Dyna beth sydd gyda chi fel Cynulliad yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau'r pwyllgorau eraill heddiw.
Un o'n prif ystyriaethau ni ar y Pwyllgor Cyllid oedd y pwerau newydd ynghylch trethiant, a sut y bydd y pwerau cyllidol newydd yn cael eu defnyddio. Rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ddarparu manylion am ei gyfraddau treth arfaethedig ochr yn ochr â dogfennaeth y gyllideb ddrafft. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynigion amlinellol ar gyfer y gyllideb yn cynnwys adroddiad y prif economegydd, adroddiad polisi treth Cymru a'r adroddiad gan Brifysgol Bangor. Fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod, ar y cyfan daethom i'r casgliad bod y wybodaeth a ddarparwyd yn gynhwysfawr ac o gymorth mawr wrth edrych ar y gyllideb. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gadarnhau munudau yn ôl fod Prifysgol Bangor yn parhau â'r gwaith gan ddiweddaru'r gwaith nawr yn wyneb cyllideb y Deyrnas Gyfunol sydd newydd ei chyhoeddi. Roedd o help mawr i'r pwyllgor i graffu ar y materion lefel uchel hyn.
Mynegwyd rhai pryderon hefyd ynghylch tryloywder y cyllid cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol cyn cyhoeddi'r setliad. Yn y dyfodol hoffem weld yr asesiad effaith integredig strategol yn egluro mwy o ran sut cafodd penderfyniadau eu blaenoriaethu a'u gwneud. Hefyd, mater sy'n thema barhaus o'n gwaith craffu llynedd yw'r wybodaeth sydd ar gael yn y gyllideb ddrafft am sut y caiff ymrwymiadau'r Llywodraeth eu blaenoriaethu a'u bwydo i mewn i ddyraniadau yn y gyllideb. Daethom i'r casgliad yr hoffem weld cysylltiadau cliriach rhwng y gyllideb ddrafft, rhaglen y Llywodraeth a'r strategaeth 'Ffyniant i Bawb'—hyn i gyd, wrth gwrs, yn gorwedd o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bondigrybwyll yna.
Nid yw'n ddelfrydol y cyhoeddwyd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yng nghanol ein gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft. Rydym newydd gael amlinelliad o'r problemau o du'r Llywodraeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ond fel pwyllgor rydym yn dal i gredu ei fod yn ddefnyddiol cael y manylion ynghylch bwriadau Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses. Roeddem hefyd yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol cael ffigurau dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac er ein bod yn derbyn y gallai hyn fod yn anodd gan ddibynnu ar yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, mae'n ddefnyddiol cael y manylion hyn lle bo hynny'n bosibl ac, wrth gwrs, mae wedi digwydd yn y gorffennol.
Yn sgil y newidiadau i gyfraddau’r dreth stamp a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n ystyried newidiadau i’r cyfraddau arfaethedig yng Nghymru. Roeddwn i'n hanner meddwl efallai y cawn i gyhoeddiad ganddo fe heddiw, ond ddim cweit. Cawn ni glywed maes o law, mae'n debyg. Beth sydd yn bwysig yw ein bod ni'n rhoi'r craffu priodol i'r argymhellion terfynol gan y Llywodraeth. Gwnaethom ni hefyd adrodd yn ein hadroddiad y gallai'r newidiadau hyn ar lefel y Deyrnas Gyfunol arwain at bwysau i gwblhau trafodion ar frys yng Nghymru, gan arwain at ddigolledu Llywodraeth Cymru. Rŷm ni newydd glywed cadarnhad gan Ysgrifennydd y Cabinet bod y digolledu o du y fframwaith cyllidol wedi digwydd. Fel y dywedodd ef, one-off ydy hwn, ac nid ydym yn disgwyl ei weld e yn y blynyddoedd i ddod.
Wrth ystyried cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer trethiant yn ystod y 12 mis nesaf, gwnaethom drafod y rhagolygon a ddefnyddiwyd i ragweld lefel yr incwm o drethi yng Nghymru. Mae tystiolaeth wedi dangos bod diffyg data yn gysylltiedig â Chymru yn benodol, ac roedd tystiolaeth gymysg o ran pa mor hanfodol yw hwn i sicrhau rhagolygon cywir. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod achos dros sicrhau bod gwybodaeth am Gymru yn benodol ar gael pan fo'n briodol ac yn rhoi gwerth ychwanegol.
Dyrannwyd cyllid ychwanegol i Gymru fel rhan o gyllideb y Deyrnas Gyfunol, ond roedd llawer iawn o’r cyllid hwn mewn gwirionedd ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol—dyna'r tro cyntaf i'r geiriau yna gael eu defnyddio yn Gymraeg; financial transactions capital, mae'n debyg, ydy hynny. Cyfalaf trafodion ariannol: dyma rhywbeth y bydd y pwyllgor yn edrych mewn iddo fe yn ystod y flwyddyn i ddod i weld pa mor effeithiol ydyw ac i weld faint o ddefnydd ydyw, gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi awgrymu bod y math yma o gyllid yn gallu bod yn gyfyngedig ei ddefnydd yng Nghymru.
Mae dwy thema a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein gwaith craffu y llynedd wedi codi eto eleni. Yn gyntaf, mae cyllid ar gyfer iechyd yn parhau i gael ei flaenoriaethu, er nad yw’n ymddangos bod y cyllid hwn yn helpu i wella gwasanaethau na gwaith cynllunio ariannol. Yn aml, mae blaenoriaethu iechyd yn digwydd ar draul meysydd eraill—llywodraeth leol yn benodol. Diddorol oedd nodi bod yr adroddiadau gan y pwyllgor iechyd a’r pwyllgor llywodraeth leol ill dau wedi codi materion tebyg.
Mae’r thema arall yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Y llynedd, gwnaethom ganfod taw ychydig o gynnydd oedd wedi’i wneud wrth ddangos sut mae’r Ddeddf wedi’i hymgorffori yn y gyllideb ddrafft, a chlywsom gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut roedd y Llywodraeth wedi ceisio alinio’r gyllideb ddrafft â’r Ddeddf yn ystod y broses eleni hefyd. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd yn cymryd amser i ymgorffori’r dull hwn yn llawn. Fodd bynnag, cawsom ein siomi nad oedd yna ragor o dystiolaeth o’r gwelliannau yr oeddem wedi gobeithio eu gweld. Ond, gallwn weld bod ymdrechion yn cael eu gwneud, yn enwedig drwy weithio gyda'r comisiynydd—Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru hynny yw—ym meysydd caffael, datgarboneiddio a chyllidebu cyfranogol, ac rydym yn gobeithio gweld rhagor o welliant yn y dyfodol.
Gwnaethom hefyd drafod y paratoadau ariannol sydd ar y gweill o ran Brexit. Rydym yn pryderu bod ansicrwydd ynghylch Brexit yn effeithio ar benderfyniadau busnesau ar hyn o bryd o ran buddsoddi. Rydym yn awyddus i weld mwy o waith yn cael ei wneud ar barodrwydd ariannol ar gyfer Brexit yng Nghymru a byddwn yn ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater hwn yn y dyfodol. Mae hefyd yn faes, wrth gwrs, lle y mae'r Llywodraeth newydd amlinellu rhywfaint o'r arian sydd wedi dod yn y gyllideb sy'n gallu bod yn flaenoriaeth, o bosib, i baratoi'r economi a'r gymuned yng Nghymru ar gyfer Brexit.
Yn olaf, gwnaethom edrych yn fyr ar gynigion ar gyfer trethi newydd a chredwn fod hwn yn gam newydd cyffrous o ran datganoli cyllidol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet yn ystod y flwyddyn nesaf wrth gyflwyno treth ddatganoledig newydd, ac rydym yn cytuno y dylai rôl Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrth drafod trethi newydd gael ei chyfyngu i faterion cymhwysedd a’r effaith ar refeniw’r Deyrnas Gyfunol yn unig. Fel pwyllgor, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y bydd y broses newydd yn gweithio, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn iddo ymgynghori â ni ynghylch y gweithdrefnau newydd ar gyfer cyflwyno trethi newydd yng Nghymru.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i’n gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ganolbwyntio ar y manylion strategol, tra bod y pwyllgorau polisi wedi adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar eu meysydd penodol nhw. Cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol, byddwn yn trafod yr adroddiadau hynny, ac rwy’n gobeithio trafod y broses newydd gydag Aelodau eraill hefyd i ystyried a ellir gwneud gwelliannau ar gyfer y flwyddyn newydd. Byddwn i'n croesawu unrhyw sylwadau gan Aelodau ynglŷn â'r ffordd rŷm ni wedi craffu ar y gyllideb eleni a'r ffordd o wella at y dyfodol.
Ac, yn olaf, wrth gwrs, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu eleni, ac, fel pwyllgor, rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl bobl sy’n cyfrannu at waith y pwyllgor ac sydd wedi’n cynorthwyo ni i lunio ein canfyddiadau, sydd yn sail i’ch trafodion chi prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Nick Ramsay.
Gwelliant 1 Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-2019 yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd. Credaf mai'r cwestiwn sylfaenol, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hoffwn i ei ofyn ar ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma yw: beth mae'r gyllideb hon yn ceisio ei gyflawni? A yw hi'n ceisio gwneud dim mwy na dyrannu arian i gyllidebau gwahanol—a oedd yn berffaith dderbyniol ar un adeg yn y gorffennol? Neu a yw hi'n ceisio gwneud mwy na hynny, yn ceisio mynd i'r afael â heriau mwy hirdymor ac yn ceisio trawsnewid economi Cymru yn sylfaenol? Rwy'n tybio, o ystyried y newidiadau refeniw a ddaeth i'r lle hwn a dyfodiad pwerau trethi i'r Cynulliad hwn, mai'r dewis olaf fyddai'r hoff ddewis.
A gaf i yn gyntaf gytuno â nifer o'r materion y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi eu codi? Rwyf wedi treulio oriau lawer ochr yn ochr ag ef ar y Pwyllgor hwnnw yn ystyried llawer o'r materion cymhleth hyn—wel, o rai materion cymhleth i rai materion amhosibl, rwy'n credu. Bu'n amser diddorol iawn, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud ein gorau—pob aelod o'r Pwyllgor o bob plaid—i graffu ar y gyllideb orau y gallwn.
Mae argymhelliad 1 adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn galw am roi mwy o sylw i'r ffordd y caiff ymrwymiadau eu blaenoriaethu, ac rwy'n sicr yn cytuno â hynny. Mae'n allweddol bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion pobl Cymru, ac, fel y dywedais o'r blaen, yr anghenion hynny yn y tymor canolig.
Mae'n bosibl croesawu nifer o ddyraniadau gwariant yn y gyllideb hon, ond mae'n dal yn llai nag amlwg faint o'r dyraniadau gwariant presennol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau'r rhaglen lywodraethu, neu yn wir i ba raddau y cyfeiriwyd o gwbl at y rhaglen lywodraethu, neu o ran hynny at ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Ymddengys bod nifer o'r strategaethau hyn yn wych mewn egwyddor ac ar yr adeg y cânt eu llunio'n strategaeth, ond maent yn cael eu gwaredu'n gyfleus neu o leiaf eu rhoi o'r neilltu wrth ddechrau pennu'r gyllideb a'r broses
Gwyddom fod rhai llinellau cyllideb yn diflannu fel rhan o broses ehangach o uno a symleiddio llinellau gwariant y gyllideb yn y gyllideb hon. Mae hyn wedi bod yn destun pryder cyson drwy gydol y dystiolaeth a glywyd gan bwyllgorau'r Cynulliad, ac, fel y clywsom, roedd yr holl bwyllgorau yn rhan o'r broses gyllideb y tro hwn, nid y Pwyllgor Cyllid yn unig.
O 2019-20, bydd un grant ar gyfer nifer o brosiectau, gan gynnwys Dechrau'n Deg a Chefnogi Pobl: y grant ar gyfer ymyrraeth gynnar, atal a chefnogaeth. Roedd Cymorth Cymru yn arbennig o gryf yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y byddai diflaniad llinell gyllideb benodol yn golygu na fydd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif bellach ynglŷn â faint y maen nhw'n ei wario ar Gefnogi Pobl. Pwysleisiwyd hefyd ei bod yn aneglur pa wasanaethau a gaiff eu torri o fewn y gyllideb gyfunol oherwydd y £30 miliwn o arbedion fydd yn dod yn sgil y penderfyniad.
Yn y maes iechyd, bu newid yn llinellau'r gyllideb hefyd, felly nid yw mor hawdd yn y fan honno chwaith i graffu ar wariant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod o sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yw ei bod yn edrych yn debygol y bu cytundeb arall gyda Phlaid Cymru eleni— wel, cyn diddymiad terfynol y Compact. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud
'bod y Fargen yn sicrhau ein holl Gyllideb ac yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda phleidiau eraill i gyflawni blaenoriaethau ar y cyd er budd pobl Cymru'.
Eich geiriau chi, rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, nid fy rhai i. Ond mae'n rhaid gofyn cwestiynau, rwy'n credu, ynghylch addasrwydd y mathau hyn o gytundebau tymor byr o ran rhoi Cymru ar dir cadarnach sy'n fwy cynaliadwy yn economaidd, ac nid yw honno'n feirniadaeth o'r fargen bosibl hon nac o weithredoedd Plaid Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i gytundebau gyda phleidiau eraill hefyd. Byddwch yn gwybod y bûm i'n llafar iawn am y fargen a wnaed rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llywodraeth Lafur Cymru yn y Cynulliad diwethaf, a'n harweiniodd—[torri ar draws.]—a'n harweiniodd ar siwrnai seithug ar hyd un darn o ffordd gyswllt Dwyrain y Bae, lle nad oes unrhyw arwyddion eto o'r ail ddarn yn cael ei adeiladu. Ewch amdani, Mike.
Roeddwn yn mynd i ofyn: a yw hynny'n wir hefyd am y fargen rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP?
Dim ond ceisio tynnu fy sylw yr ydych chi, onid e, oddi ar fy nadl ar y gyllideb. [Chwerthin.] Fe wna i siarad â chi yn yr ystafell de.
Aelodau'r Cynulliad: Gadewch i ni glywed yr ateb.
Yr ateb yw mai'r Llywodraeth Cymru hon sy'n gyfrifol am redeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid wyf yn amddiffyn popeth y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—nid wyf erioed wedi gwneud hynny. Rwy'n siwr nad ydych chi'n amddiffyn popeth a wnaeth Plaid Lafur y DU —. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n amddiffyn popeth a wnaeth Plaid Lafur y DU. [Chwerthin.] Felly, taw piau hi rhyngom ni fwy na thebyg ynglŷn â hynny. Ond mae hyn yn ymwneud â'r gyllideb ar gyfer Cymru ac mae rhai dulliau nad ydynt wrth law gennym i wella'r sefyllfa economaidd yng Nghymru, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor canolig a hir, hefyd.
Os caf i symud ymlaen, rydym ni wedi siarad llawer am y broses, rwy'n ymwybodol o hynny, ac rwy'n deall bod hynny oherwydd y newid yn y ffordd y mae'r Cynulliad yn ymdrin â'i phwerau. Ond mae'n bwysig troi at rai o'r dyraniadau cyllid yn fwy manwl, ac, yn gyntaf, y gwasanaeth iechyd, y soniodd Simon Thomas amdano.
Wrth gwrs, byddai pob un ohonom yn croesawu unrhyw arian ychwanegol ar gyfer y GIG. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn arbennig yn y Cynulliad diwethaf, yn ystod y toriadau gwirioneddol a wnaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd, cyn iddyn nhw weld eu camgymeriad. Mae'n rhaid ichi ofyn— fel y gwnaeth Simon Thomas—: faint o'r arian hwn sy'n cael ei ddefnyddio i wneud iawn am golledion y Bwrdd Iechyd? Nid y rheini oedd eich union eiriau chi, Simon, ond rwy'n credu fy mod wedi deall yr hyn yr oeddech chi'n ei awgrymu. Mae'n rhaid ichi edrych ar ble mae'r arian hwnnw'n mynd. A yw'n gwneud iawn am ddiffyg cynllunio ariannol tymor canolig cynaliadwy, ac, os yw hynny'n wir, mae'n rhaid gwneud iawn am y colledion hynny; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod y prosesau ariannol y mae'r byrddau iechyd yn eu gweithredu yn gynaliadwy yn y tymor hwy, oherwydd, fel y dywed Mike Hedges yn aml yn y Pwyllgor, ni allwch chi roi mwy a mwy o arian i'r GIG—neu i unrhyw beth yng Nghymru — heb wneud yn siŵr bod trefniadau ar waith i gadw cydbwysedd a sicrhau y gwneir y defnydd gorau o'r arian.
Nid yw atal wedi ei grybwyll eto, o leiaf nid wyf yn credu hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar atal, mae hynny'n ddealladwy, er nad yw'n ymddangos bod yna diffiniad pendant o'r hyn a olygir mewn gwirionedd gan 'atal'. Rydym ni wedi ceisio dirnad hynny yn yn y Pwyllgor; ni chawsom ni fawr o hwyl arni chwaith. Ond byddwn yn dweud bod hynny wedi arwain at gynnwys chwaraeon gyda'r portffolio iechyd yn gynharach yn y Cynulliad hwn, ond, ar yr un pryd, bydd toriadau i chwaraeon ac asedau cymunedol, o ganlyniad i doriadau i gyllidebau Llywodraeth Leol, yn anochel yn niweidio'r nod hwnnw. Felly, ymddengys, ar y naill law, ein bod yn dweud pethau da iawn am atal, ond, ar y llaw arall, nid yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn mynd i ddwyn ffrwyth yn llwyr. Yn wir, dywedodd arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bod y gyllideb y maen nhw'n ei ymrwymo i'w canolfannau hamdden a phyllau nofio yn hanner yr hyn ydoedd chwe blynedd yn ôl, ac nid yw hynny'n wir am Ben-y-bont yn unig; mae honno'n thema gyffredin ar draws llywodraeth leol. Yn wir, soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y toriadau i Lywodraeth Leol—gostyngiad arian parod o tua 0.5 y cant yn 2018-19 rwy'n credu.
Mae addysg, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau—. Ildiaf
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am wneud y sylwadau penodol hynny am y toriadau ac ati y cyfeiriodd Pen-y-bont ar Ogwr atynt. A ydych chi'n cytuno â mi, felly, bod angen dybryd rhoi terfyn ar raglen gyni Llywodraeth y DU?
Wel, mae'n drueni i'r Llywodraeth Lafur flaenorol orwario ar yr adeg y gwnaeth, ac efallai—[torri ar draws.]—efallai—. Ewch ymlaen felly; rwy'n teimlo'n hael.
Wel, dim ond eisiau rhoi gwybodaeth ychwanegol ichi yr oeddwn i oherwydd, welwch i, roedd dyled genedlaethol y DU pan gymerodd y Toriaid yr awenau dros 50 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Erbyn hyn mae'n 88 y cant, felly, yn amlwg, ni all cynni fod yn gweithio.
Ond, wrth gwrs, byddai wedi bod yn uwch o lawer pe na bai polisïau'r Ceidwadwyr wedi eu gweithredu, oherwydd ni allwch newid cwrs llong—[torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i adael i chi gael ymyriad arall; rwyf wedi bod yn hael iawn. Ni allwch chi newid cwrs llong yn llwyr dros nos, ac mae'r diffyg wedi gostwng, efallai nid cymaint ag y byddem wedi ei ddymuno, rwy'n cyfaddefaf hynny, ond dyna ni, nid oes neb yn berffaith, ond, pan rydych chi'n teithio yn y cyfeiriad cywir, rydych chi'n teithio yno, onid ydych?
Wrth gwrs, mae addysg yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau, ac rydym yn cefnogi rhaglenni fel rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a gyflwynwyd ledled Cymru mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol. Mae hynny i'w groesawu, ond, ar yr un pryd, os edrychwch chi ar y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhan-amser, os edrychwch chi ar y toriadau i'r cyllidebau addysg bellach, yna does dim modd croesawu hynny, ac mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod cyllid grant wedi gostwng 13 y cant, mewn termau real, rhwng 2011 a 2016-17, i addysg bellach, felly nid yw hynny'n dda.
A gaf i ddweud, cyn cloi, Llywydd—ie, Llywydd—nid ydym wedi sôn am—? [Torri ar draws.] Dim ond eisiau gwneud yn siŵr yr oeddwn i. Nid ydym wedi sôn am gaffael. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhyddhau dau adroddiad sy'n feirniadol o ddulliau caffael Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y ffaith y bu'n rhaid iddo ariannu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, nad yw'r sector cyhoeddus yn defnyddio digon arno. Credaf, yn y gorffennol, na chyfeiriwyd yn ddigonol at gaffael a chredaf ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg, os ydym eisiau datblygu economi Cymru, yna mewn gwirionedd mae caffael yng Nghymru gymaint ag y gallwn ni yn bwysig iawn, ac yn manteisio i'r eithaf ar bob punt Gymreig sy'n cael ei gwario. Felly, hoffwn i weld mwy o bwyslais ar hynny yn y dyfodol.
Roeddwn i'n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at y sefyllfa o ran cyllid gan Lywodraeth y DU. Wnaethoch chi ddim cnoi cil gormod drosto, i fod yn deg, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais, rwy'n credu, er ein bod mewn sefyllfa anodd ar lefel y DU, sydd yn cyfrannu at y wasgfa ar eich cyllideb yma—credaf ein bod ni i gyd yn sylweddoli—ar yr un pryd, fod angen inni fynd i'r afael â beth y gallwn ei wneud yma i wella'r sefyllfa.
Fe wnaethoch chi sôn yr wythnos diwethaf am—rwy'n credu fy mod i wedi cael hyn yn gywir—y trafodion cyfalaf ariannol. Rydych chi'n fwy cyfarwydd â'r term na fi. Rwyf wedi edrych ar rai o'r manylion hyn, ac rwy'n credu eich bod yn bryderus nad oedd y £1.2 biliwn gan Lywodraeth y DU yn union fel yr ymddangosai, oherwydd nad oedd modd defnyddio'r cyfalaf hwnnw ar bob agwedd, ond rwyf yn credu bod rhai prosiectau yng Nghymru wedi manteisio ar hynny. Rwy'n credu bod Cymorth i Brynu yn un o'r rhai hynny ac, fel y dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog, yn gwbl gywir, yn 2015, mae hynny'n hwb mawr i ddiwydiant adeiladu Cymru. Felly, er bod y sefyllfa economaidd yn anodd, ac nad oes cymaint o arian yma ag y buasem yn hoffi ei gael, rwyf yn credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth gydnabod bod yr arian sy'n dod gan Lywodraeth y DU i'w groesawu.
I gloi, yn olaf, Llywydd, credaf fod agweddau ar y gyllideb hon y byddem yn eu croesawu, ond ar y cyfan, nid wyf yn credu ei bod yn rhoi digon o sylw i'r tymor canolig a hir. Nid wyf yn credu ei bod, yn y tymor hir, yn gosod economi Cymru ar y sail honno y byddem yn hoffi ei gweld—yn ddiogel, cynaliadwy a chystadleuol, a dyna pam na fyddwn ni'n cefnogi'r gyllideb hon.
Hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw a hefyd diolch iddo fe am y ffordd mae e wedi ymgymryd â'r broses o negodi rhwng ein dwy blaid, a hefyd diolch i'm ffrind Adam Price am arwain y negodi ar ran fy mhlaid i. Mae'n wir, wrth gwrs, fod yna nifer o bethau nad oedd yn bosib i'r Llywodraeth a Phlaid Cymru gytuno arnynt, ond rwy'n hyderus y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol y byddwn ni'n cario ymlaen i graffu ar y Llywodraeth ar y nifer o bwyntiau o anghytundeb cyllidol, ond, wrth gwrs, craffu hefyd ar weithrediad yn y meysydd lle roedd yna gytundeb rhyngom ni.
Drwy gydol y Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru wedi defnyddio ein rôl ni fel gwrthblaid mewn modd aeddfed ac adeiladol er budd pobl Cymru. Fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi llwyddo i sicrhau dros £210 miliwn o wariant ychwanegol, sydd yn golygu ein bod wedi sicrhau bron i £0.5 biliwn o enillion ers dechrau'r Cynulliad yma, enillion a fydd yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobl Cymru ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy ffyniannus i'n cenedl.
Mae'r cytundeb yma yn cynnwys £40 miliwn ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl amenedigol, buddsoddiad newydd mewn addysg feddygol yn y gogledd, nyrsys ychwanegol a buddsoddi mewn cysylltu ein cenedl trwy welliannau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de. Yn bwysig iawn hefyd, mae addewid i gymryd camau yn sgil Brexit, yn enwedig portal a fydd yn cefnogi busnesau wrth iddyn nhw geisio ymdopi â'r llanast sydd i ddod a'r llanast sydd eisoes ohoni.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau heddiw yn ei gyfraniad ein bod ni mewn trafodaethau pellach gyda'r Llywodraeth er mwyn trafod yr arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i hefyd eisiau gwybod, fel mae Nick Ramsay eisoes wedi sôn, ynglŷn â'r financial transactional capital. Mae hyn yn elfen sydd ddim yn newydd, ond mae maint yr elfen o arian ychwanegol sy'n deillio o hyn yn weddol newydd, a byddwn i'n gwerthfawrogi mwy o esboniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â natur yr arian yma.
Y gwirionedd, wrth gwrs, yn nhermau'r sefyllfa fiscal ehangach, yw bod Llywodraeth Cymru wedi gweld toriad bob blwyddyn—flwyddyn ar ôl blwyddyn—yn ei chyllid ers 2010. Mae'n debyg bod rhagor o doriadau er eu ffordd o Lundain. Wythnos diwethaf, cawsom ni gyfle i ddadlau cynnwys cyllideb y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd. Nid wyf i am ddefnyddio fy holl amser heddiw i aildrafod cynnwys y gyllideb honno, ond mae'n bwysig deall y cyd-destun economaidd a fiscal ehangach a gafodd y gyllideb honno ei chreu ynddo a'i effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae economi'r DU yn tyfu yn arafach na'i holl gystadleuwyr economaidd o blith y gwledydd gyda'r economïau datblygedig. Drwy gymharu rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyda rhagolygon y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar gyfer economïau eraill gwledydd y G7, mae'r ffaith bod cynhyrchiant wedi arafu wedi cyfyngu ar dwf, pwyso ar safonau byw, a rhoi y DU tu ôl i'r rhan fwyaf o'i chyd-wledydd yn y grŵp G7 o economïau diwydiannol mwyaf blaenllaw. Bydd economi Prydain hefyd ar waelod ardal yr ewro ar gyfer pob un o'r tair blynedd nesaf o leiaf, wrth i'w dwf ddisgyn i waelod y rhestr o 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhagolygon y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer 2018 a 2019 hyd yn oed yn is na'r amcangyfrif israddedig a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a hefyd yn amlygu sut mae'r sefydliad yn credu y bydd Brexit yn pwyso'n drwm ar ddyfodol y wladwriaeth—[ Torri ar draws.] Na wnaf, ni ildiaf—o ran perfformiad economaidd.
Mae hefyd yn bwysig rhoi ar gofnod y dylai pob un ohonom ystyried rhagolygon economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fel y sefyllfa orau bosibl. Maen nhw'n ymgorffori effaith unrhyw fesurau treth a gwariant a gyhoeddodd Canghellor y DU yn y datganiad cyllideb a'r effaith ar dwf economaidd ar gyfer blynyddoedd dilynol. Fodd bynnag, mae'r rhagolygon yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol o ran y berthynas fasnachu y mae'r DU yn ei mwynhau ar hyn o bryd gyda gwahanol farchnadoedd ledled y byd. Gwyddom y bydd y berthynas fasnachu bresennol yr ydym ni'n ei mwynhau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn newid. Ni allwn, wrth gwrs, fod yn siŵr heddiw beth fydd natur y newid hwnnw, ond rwy'n credu bod profiad y 48 awr diwethaf yn awgrymu na fydd y berthynas fasnachu yr ydym ni'n ei mwynhau ar hyn o bryd yn ymestyn i'r dyfodol. Bydd unrhyw newidiadau yn y berthynas honno drwy'r tollau ychwanegol a'r rhwystrau di-dariff a osodir ar allforion y DU yn golygu y caiff y rhagolygon hynny yn anochel eu hisraddio ymhellach oherwydd yr effaith negyddol y byddai hynny yn ei chael ar gydbwysedd fasnach y DU.
Ond yn hollbwysig, Llywydd, gan roi y dimensiwn Brexit o'r neilltu, yr hyn sydd wedi dod yn gwbl amlwg, a'r hyn a gafodd ei gadarnhau yng nghyllideb y Deyrnas Unedig, yw bod crebachu cyllidol eithafol—cynni—yn hunandrechol. Dywedodd Canghellor diwethaf y Trysorlys, Mr Osborne, wrthym y byddai'r gyllideb yn cydbwyso neu y byddai arian dros ben ar ôl pum mlynedd o grebachu cyllidol sylweddol. Dywed y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wrthym na allwn ddisgwyl gweld arian dros ben yn y gyllideb yn awr tan ganol y degawd nesaf. Felly, bydd dinasyddion ym mhobman yn gofyn yn gwbl briodol beth ar y ddaear oedd diben yr holl boen hwn. Pam mae ein cymunedau wedi cael eu hysbeilio o'u hasedau? Pam mae gwasanaethau hanfodol wedi cael eu torri hyd at yr asgwrn? Pam mae'r rheini sydd â'r lleiaf wedi talu'r pris am gamgymeriadau yr ychydig ar y brig? Mae hefyd yn werth ailadrodd mai rhan o'r rheswm dros fethiant y DU i gynhyrchu twf economaidd hirdymor a chynaliadwy sy'n ailgydbwyso'r economi ac sy'n cael ei ledaenu y tu allan i ddinas wladwriaeth Llundain yw oherwydd bod Llywodraeth y DU yn gwrthod ailstrwythuro economi'r DU o blaid ail-ddiwydiannu a ffyniant i bob rhan o'r DU. Nid yn unig y mae'r DU yn ddiffygiol yn gyfansoddiadol; unwaith eto, fel y gwelsom yn y 24 awr diwethaf, mae'n sylfaenol ddiffygiol fel adeiledd economaidd hefyd.
Cyn i mi orffen, hoffwn i droi tuag at un pwynt a gododd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ei gyfraniad ef. Nid yw gweithredoedd y Llywodraeth yn cyd-fynd bob tro gyda'i rhethreg o fod eisiau rhedeg gwasanaeth iechyd mewn ffordd strategol a chynaliadwy. Rydym yn gwario, am resymau da iawn, gyfran enfawr o'r gyllideb genedlaethol ar y gwasanaethau iechyd—yn aml iawn i gost, fel sydd wedi cael ei ddweud, llywodraeth leol. Ac mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r gyfran o gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei dderbyn godi 56 y cant os bydd Gweinidogion yn canfod yr arian sydd ei angen i gadw at y twf a ragwelir yn y galw. Mae'n rhaid, felly, mynd i'r afael â'r problemau strwythurol sydd yn bodoli yn y gwasanaeth iechyd, megis diffyg cynllunio yn y gweithlu.
Ond i gloi, Llywydd, fy nghanfyddiad i yw bod rhaid i ni fynd ati yn ddifrifol i edrych ar ddulliau newydd o allu codi arian ein hunain o fewn Cymru. Mae'r wlad yma wedi ailddechrau ar y siwrnai o fod yn endid fiscal, ond mae peth pellter i fynd eto. Bydd angen i ni fynd ati nawr er mwyn amddiffyn ein dinasyddion, ond hefyd er mwyn cyflawni potensial ein gwlad.
Rwy'n croesawu cyllideb Llafur-Plaid Cymru, a rhoddodd Steffan Lewis restr o'r newidiadau y dywed ef sy'n ganlyniad dylanwad Plaid Cymru. Mae'r DUP yng Ngogledd Iwerddon wedi cael £1 biliwn yn ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon oherwydd eu cymorth i Lywodraeth San Steffan, ac mae Plaid Cymru wedi llwyddo i ailgyfeirio £500 miliwn o'r £15 biliwn sydd gan y Llywodraeth Lafur yma i'w wario. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i unrhyw un o'r newidiadau a wnaed, oherwydd dyna natur trefniadau clymbleidiol eu naws. Ac felly, ni all neb gwyno am y ffordd y mae'r DUP wedi defnyddio ei sefyllfa yn San Steffan, oherwydd mae'n digwydd yma yng Nghaerdydd yn yr un modd. Beth fyddai'n eithaf diddorol cael gwybod yw, wrth gwrs, ar beth fyddai'r Llywodraeth wedi gwario'r £500 miliwn ychwanegol pe na bai hi'n wystl i Blaid Cymru. Yna byddai modd inni gael dadl briodol ar flaenoriaethau, sef yr hyn a argymhellodd y Pwyllgor Cyllid.
Mae angen inni wybod llawer mwy am flaenoriaethau'r Llywodraeth a sut maen nhw'n cydymffurfio â'r cynlluniau gwariant a gyhoeddwyd ganddynt. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—sy'n siarad drosof yn hyn o beth os nad mewn unrhyw beth arall—am y ffordd ardderchog y mae wedi cadeirio'r Pwyllgor, ac yn wir am gwrteisi di-ball yr Ysgrifennydd Cyllid tuag at bob Aelod wrth iddo ymddangos ger ein bron.
Mae awyrgylch penodol o ddiffyg realiti am y dadleuon hyn ynglŷn â'r gyllideb, fel y dywedais yn fy araith ar y gyllideb ddrafft, oherwydd mae'n anorfod bod yr Ysgrifennydd Cyllid wedi ei gyfyngu gan y gwariant. Mae maint y gwariant dewisol mewn gwirionedd yn eithaf bach, er y dylai hynny gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni ddechrau arfer ein pŵer dros drethi datganoledig a hefyd ein pŵer cymharol gyfyngedig ond pwysig serch hynny i fenthyca ar gyfer gwariant ar gyfalaf prosiectau. Ond yr hyn sydd wedi digwydd yn y gyllideb hon, ar y cyfan, yw bod y gyllideb iechyd wedi'i chynyddu ar draul popeth arall. Mae hynny, mae'n debyg, mewn ffordd, yn anochel hefyd oherwydd, fel y gwyddom, chwyddiant iechyd yn fwy na'r gyfradd chwyddiant yn gyffredinol. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio ac, oherwydd datblygiadau mewn meddygaeth, mae modd trin mwy o gyflyrau, ac mae pobl yn byw'n hirach, felly mae'n anochel y bydd cynnydd anferth yn y gyllideb iechyd ar lefel y DU ac yng nghyllideb Cymru.
Felly, mae gennyf gydymdeimlad mawr â'r Ysgrifennydd Cyllid yn ei swyddogaeth anodd o orfod cydbwyso'r holl hawliadau. Ond mae'n ddiddorol bod rhai cyllidebau wedi'u torri'n fwy o lawer nag eraill. Mae cyllideb yr Amgylchedd wedi cael ergyd arbennig o drom, tua 15 y cant mewn termau real, tra bod y gyllideb iechyd wedi gweld cynnydd o swm bach yn unig o safbwynt canran, ond serch hynny, fel rhan o gyllideb fawr iawn, o swm sylweddol—£166 miliwn ychwanegol.
Mae hynny i gyd i'w groesawu'n fawr, ond yr hyn sy'n peri gofid am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw nid cymaint faint o arian yr ydym ni'n ei wario arno, ond afradlonedd rhai o'r byrddau iechyd o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud gyda'r arian a gânt. Rydym yn gwybod am y problemau o ran y diffygion ariannol sy'n bodoli ar y funud, yn enwedig ym Myrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr. Mae Betsi Cadwaladr yn hercian yn ei blaen; ddwy flynedd yn ôl roedd diffyg sylweddol, gwelwyd gostyngiad, ac eleni mae'n edrych fel petai'n codi eto. Felly, ymddengys nad ydym yn gwneud rhyw lawer o gynnydd yn hynny o beth, a hyd nes y cawn ni reolaeth briodol dros broblemau'r byrddau iechyd sydd mewn mesurau arbennig neu'n derbyn ymyrraeth wedi'i thargedu, mae hyn yn mynd i fod yn broblem anhydrin i'r Ysgrifennydd Cyllid.
Mae materion eraill y credaf y dylem ni droi ein sylw atynt. Roedd edrych ar faint o arian sy'n cael ei wario ar ardaloedd menter o ddiddordeb arbennig imi. Rwy'n credu bod ardaloedd menter yn syniad da iawn, ac mae ganddyn nhw'r gallu i roi hwb i'r economi mewn ardaloedd sydd â phroblemau hirdymor sylweddol fel arall. Ond pan rydych chi'n edrych ar faint o swyddi sydd wedi eu creu neu eu diogelu mewn gwirionedd o'i gymharu â faint o arian sydd wedi'i wario arnynt, mae'n rhaid inni ofyn inni ein hunain a yw hynny yn werth am arian. Nid yw hynny'n golygu fy mod eisiau gweld y symiau hyn y cael eu diddymu, ond hoffwn i weld ein bod yn cael mwy o werth am ein harian.
Os edrychwn ni ar ardal fenter Glynebwy, er enghraifft, gan anwybyddu costau anferthol datblygiad ffordd Blaenau'r Cymoedd, a fyddai wedi ei gynnwys yn y gwariant yn y maes hwnnw. Os edrychwch yn ôl i'r sefyllfa cyn 2016, cafodd cyfanswm o tua 400 o swyddi eu creu neu eu diogelu yng Nglyn Ebwy ar gost o bron £20 miliwn. Nawr, nid wyf i'n credu bod hynny'n werth da iawn am arian. Os ewch chi drwy weddill y parthau menter hefyd, mae rhai yn gwneud yn llawer gwell nag eraill, ac mae costau creu swyddi yn well o lawer mewn rhai nag eraill. Felly, credaf fod gwir angen inni edrych yn fanylach ar a ydym ni'n cael gwerth am arian o'r prosiectau hyn, oherwydd er bod y syniad y tu ôl iddyn nhw yn sicr yn ganmoladwy, mae angen inni ofyn i ni ein hunain a ydyn nhw mewn gwirionedd yn perfformio i ni.
Roedd un elfen arall yn y gyllideb, y cyfeiriodd Nick Ramsay ati funud yn ôl, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag atal, ac wrth gwrs mae pwysau aruthrol i wario ar anghenion presennol. Ond os ydym yn mynd i dorri costau neu wella perfformiad yn y tymor hirach, rhaid inni ystyried pethau'n fwy hirdymor. Buom yn trafod hyn gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd i'r Ysgrifennydd Cyllid—rwyf yn ymwybodol o'r anawsterau sydd ganddo i'w datrys—ond mae angen inni wario mwy ar edrych ymlaen at broblemau'r dyfodol a'u rhagweld, a thrwy hynny leihau'r costau sy'n mynd i ddod ar ein gwarthaf yn y dyfodol.
Rydym ni wedi clywed y cwynion arferol am y cynni honedig, wrth gwrs, ac rwyf wedi ymateb i hyn yn y Siambr lawer gwaith. Gyda'r ddyled genedlaethol bellach yn agosáu at £2 triliwn o'i gymharu ag £1 triliwn fel yr oedd hi bum mlynedd yn ôl, gall neb ddweud gydag unrhyw hygrededd fod Llywodraeth San Steffan wedi gwneud unrhyw beth heblaw am chwistrellu arian at yr economi. Y broblem yw, yn aml iawn, ei fod yn cael ei wario ar y pethau anghywir. Unwaith eto, rwyf wedi traethu ynghylch hynny yn y gorffennol ac nid wyf yn bwriadu ailadrodd fy hun heddiw.
Ond, mae'r gofyniad benthyca eleni bron yn £50 biliwn o'i gymharu â £83 biliwn y llynedd. Mae'r ddyled genedlaethol yn 85.6 y cant o'r cynnyrch domestig gros eleni—sef 3 y cant yn fwy nag ydoedd yn 2015-16. Mae'r ddyled genedlaethol yn dal i godi, ac yn codi fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros, ac mae hynny'n golygu, wrth edrych ymlaen at genedlaethau'r dyfodol, bod hyn yn faen melin am wddf ein plant a'n hwyrion a thu hwnt. Wrth gwrs, mae benthyca yn mynd i fyny ac i lawr wrth i'r rhod droi, ond rydym bellach yn y ddegfed flwyddyn ers argyfwng ariannol 2008 ac fe ddylen ni mewn gwirionedd fod wedi gwneud llawer iawn mwy o gynnydd yn torri benthyca nag yr ydym ni wedi'i wneud, oherwydd ni allwch chi fenthyca am byth.
Mae Venezuela yn awr yn darganfod hyn, fel y mae Zimbabwe a llawer o wledydd eraill ledled y byd, ac yn wir roedd Prydain wedi darganfod hynny yn y 1970au. Yn wir, ar ôl pob Llywodraeth Lafur, gwelir fel arfer bod problem economaidd sylweddol y mae'n rhaid ei datrys. Nid wyf yn esgusodi'r Llywodraeth Geidwadol o rywfaint o'r bai yma, ond y gwir amdani yw, fel y nododd Nick Ramsay wrth ymateb i Mick Antoniw yn gynharach, ar ôl 13 blynedd o Lywodraeth Lafur hyd at 2010, roedden nhw wedi gwastraffu'r gwaddol a adawyd gan Kenneth Clarke; ar ôl gweinyddiaeth gyntaf Blair, fe wnaethon nhw ryddhau'r ffrwyn ar wariant, a'r canlyniad oedd, yn hytrach na thrwsio'r to pan oedd yr haul yn tywynnu, canfuwyd fod tyllau mawr ynddo ar adeg pan oedd y glaw yn arllwys yn ddidrugaredd ar ôl—[torri ar draws .] Gwnaf, yn sicr.
Mae'r pwynt hwnnw yn ffeithiol anghywir. Canran gwirioneddol benthyca o'i gymharu â chynnyrch domestig gros ar adeg yr argyfwng ariannol oedd 37.2 y cant—tua 0.2 y cant yn uwch nag yr oedd pan ddaeth Llafur i Lywodraeth yn y lle cyntaf. Yr unig wahaniaeth oedd y cynnydd i 50 y cant, sef y camau a gymerwyd gan Gordon Brown i achub economi'r DU mewn gwirionedd rhag dymchwel. Yr hyn sydd gennych chi bellach, o ganlyniad i fesurau cyni o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon a'r toriadau mewn buddsoddiad cyfalaf, yw'r ffaith bod y ganran bellach yn 88 y cant.
Credaf, os yw'r aelod yn edrych ar y cofnod, y bydd yn canfod, o dan Lywodraeth cyntaf Blair, y gwnaethon nhw leihau cyfran y ddyled mewn cynnyrch domestig gros hyd at 2001, a rhwng 2001 a 2010 fe gododd yn raddol bob blwyddyn tan y ffrwydrad ar ôl 2008. Nid yw'r ffigurau gyda mi heddiw, ond rwyf yn fodlon eu hanfon. Daw o hyd iddyn nhw yn y papur ymchwil yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, sy'n rhoi'r ffigurau. Felly, dyna realiti'r cefndir i'r gyllideb.
Ni allwn ni ddefnyddio hudlath i wneud i'r problemau macro-economaidd y mae'r DU yn eu hwynebu ddiflannu. Os ydym ni'n ceisio gwneud hynny, yna byddwn yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth i ni yn y dyfodol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw tyfu'r economi. Yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn, mae cynlluniau i ostwng y dreth gorfforaeth yn sylweddol. Adlewyrchir hyn yn Ffrainc, yn yr Almaen, yn yr Eidal, yn y Swistir, a dyma'r hyn sydd ei angen ar gyfer Prydain. Rwyf i o blaid datganoli'r dreth gorfforaeth i Gymru fel y gallwn ni lunio ein llwybr ein hunain yn hyn o beth hefyd. Ond rwy'n sylweddoli bod hynny'n ddadl ar gyfer diwrnod arall. Felly, er fy mod i'n croesawu'r gyllideb, rwy'n cydnabod y cyfyngiadau sy'n llyffetheirio'r Ysgrifennydd Cyllid, ac rwy'n credu bod yna bethau y gallwn ni eu gwneud i addasu pethau ar y cyrion, ond ni all wneud fawr mwy na hynny.
Er fy mod i yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cydnabod bod y cyllid yn annigonol ar gyfer anghenion Cymru. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar yr Ysgrifennydd Cyllid na chwaith ar Lywodraeth Cymru; mae hyn oherwydd y grant bloc annigonol gan y Torïaid yn San Steffan. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi—ac rydym wedi clywed rhywfaint ohono eisoes—rwy'n disgwyl clywed y Torïaid yn galw am 'Fwy o arian ar gyfer iechyd', 'Mwy o arian ar gyfer addysg' ac yna i wrthwynebu unrhyw doriad sy'n cael ei orfodi ar awdurdodau lleol gan y gostyngiad yn eu grantiau bloc sydd hefyd yn wynebu angen cynyddol am ofal cymdeithasol a gwasanaethau plant.
Mae cynni yn methu fel polisi economaidd. Dylai hynny beri syndod i neb oherwydd methu fu ei hanes erioed; rhoddwyd sawl cynnig arni ac mae wedi methu bob tro. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid polisi economaidd mohono, mae'n ideoleg: crebachu'r wladwriaeth; cwtogi gwariant cyhoeddus; cwtogi gwasanaethau cyhoeddus; gwneud i bobl sy'n gallu fforddio hynny'n ariannol ddefnyddio'r sector preifat.
Mae methu â gwahaniaethu rhwng gwariant cyfalaf a gwariant refeniw yn broblem fawr arall. I roi hynny mewn termau y bydd y Ceidwadwyr yn ei ddeall: mae refeniw yn cyfateb i fenthyca ar gyfer bwyd ac ynni, a byddai hynny'n broblem i unrhyw deulu. Cyfalaf yw benthyca i brynu car a thŷ: cyhyd ag y bo'n fforddiadwy, mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom wedi ei wneud ac yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae rhyddhau arian ar gyfer cyfalaf yn wych o ran eich economi: mae'n rhoi gwynt yn ôl yn hwyliau'r economi; mae'n fodd i bobl ddychwelyd i waith llawn amser. Mae pawb yn elwa, ac mae'n rhyddhau benthyca ar gyfer pethau fel codi tai a phrosiectau adeiladu eraill sy'n codi refeniw. Adeiladu pethau a chael yr arian am eu hadeiladu: mae'n gweithio, mae wastad wedi gweithio. Yn anffodus, yn hytrach nag adeiladu pethau i'w defnyddio, rydym wedi bod yn adeiladu peiriannau rhyfel yn y gorffennol er mwyn ailchwyddo ein heconomi ar ddiwedd cyfnod o gynni. Yn ffodus, nid ydym yn byw yn y math hwnnw o fyd bellach, felly gadewch i ni ddysgu o'r gorffennol ac ailchwyddo'r economi.
Ynglŷn â'r manylion am gyllideb Cymru: arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gostyngiadau ar gyfer pawb arall. Mae iechyd yn parhau i hawlio cyfran gynyddol o gyllideb Cymru. Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid, nododd Michael Trickey o'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru pryd y byddai'n cael 60 y cant o gyfanswm y gwariant yng Nghymru. Nid oedd yn barod—er imi ofyn iddo—i ymhelaethu ynghylch pryd y byddai'n cyrraedd 100 y cant o gyllideb Cymru.
Wrth gwrs, ymddengys bod 'Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai', yn gred gyffredin, a bod mwy o bobl yn cael eu trin yn yr ysbyty yn arwydd o lwyddiant. Rwy'n anghytuno â'r gred honno. Mae angen inni leihau'r galw am wasanaethau ysbyty—mae hynny'n rhywbeth a ddywedwyd gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol— drwy hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw cadarnhaol: dim ysmygu; mwy o ymarfer corff; lleihau lefelau gordewdra a chymryd cyffuriau. Hefyd, ansawdd tai gwell, deiet gwell a mwy o ofal cymdeithasol. Mae pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty dim ond oherwydd na ddiwallwyd eu hanghenion cymdeithasol, ac fel y cyfryw, maen nhw'n mynd yn sâl. Yr hyn sydd angen ei wneud yw sicrhau bod llai o bobl yn mynd i'r ysbyty.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at rai materion allweddol a nodwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Er mwyn dangos sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dylanwadu ar broses y gyllideb, dylai Llywodraeth Cymru gynnwys, yn ei broses asesu effaith, asesiad yn erbyn ei amcanion llesiant. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth drafod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, barhau i adolygu gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau. Credaf fod hyn yn un o'r pethau—allwch chi ddim dal ati i gymryd arian oddi ar sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru a dal i ddisgwyl iddyn nhw gyflawni'r un peth a mwy. Os ydyn nhw'n mynd i gael llai o arian, mae'n rhaid iddyn nhw gael llai o bethau i'w gwneud. Mae disgwyl iddyn nhw wneud mwy gyda llai yn mynd i arwain yn y pen draw at sefyllfa lle nad oes llawer o bethau'n cael eu gwneud yn dda iawn a bydd pethau'n cael eu hesgeuluso.
Mae craffu ar gyfrifoldebau a swyddogaethau statudol cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi ei wneud, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Parciau Cenedlaethol i ystyried sut y gallan nhw godi refeniw. Dylai hyn gynnwys cymorth i ddatblygu cynlluniau i wireddu eu potensial o ran cynhyrchu incwm. Yn rhy aml o lawer, ymddengys fod rhannau o'r sector cyhoeddus yn credu bod cynhyrchu incwm yn rhywbeth na ddylai ddigwydd, y dylai popeth gael ei fodloni gan grantiau'r Llywodraeth. Nid ydym yn byw mewn byd o'r fath bellach. Mae angen i bobl edrych ar sut y gallan nhw godi arian o'r hyn y maen nhw yn ei wneud. Beth allan nhw ei wneud i godi mwy o arian? Beth allan nhw godi tâl amdano? Pa daliadau y gallan nhw eu cynyddu? Nid yw taliadau uwch byth yn boblogaidd. Ond rwy'n credu os ydych eisiau cadw gwasanaeth i fynd, yna os yw'r arian sy'n dod i mewn o'r grantiau yn lleihau, yr unig beth y gallwch ei wneud yw codi mwy o dâl am y gwasanaeth. Pan mae pethau'n anodd, mae angen gwneud penderfyniadau anodd.
Gan mai dim ond 28 eiliad sydd ar ôl gennyf, a gaf i wneud apêli? Mae llawer o blant yng Nghymru yn cael brecwast am ddim a phrydau ysgol am ddim yn ystod tymor yr ysgol. Yn anffodus, pan ddaw gwyliau'r haf, maen ganddyn nhw chwe wythnos heb frecwast am ddim a heb brydau ysgol am ddim. Mae hyn yn achosi straen enfawr ar lawer o deuluoedd yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr mewn llawer o etholaethau eraill. Hoffwn weld ymgais i ymestyn y prydau am ddim hyn ar gyfer disgyblion y tu hwnt i amser tymor yr ysgolion, yn enwedig yn ystod y gwyliau haf hir, gan ei fod yn peri cymaint o loes i gymaint o rieni.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu cyfraniad y Pwyllgorau Sefydlog yn y ffordd y creffir ar gyllideb Llywodraeth Cymru, er mae'n rhain dweud bod olrhain yr arian wedi profi, fel erioed, yn her, oherwydd mae arian wedi bod yn symud o'r naill ddyraniad cyllideb i'r llall, ac, mewn rhai achosion, wedi gwneud cymariaethau uniongyrchol flwyddyn ar ôl blwyddyn yn eithriadol o anodd.
Hoffwn ei gwneud hi'n glir fy mod yn deall bod y gyllideb yn gyfyngedig, ac rwyf hefyd yn sylwi bod y cyllid a ddyrennir i'r GIG wedi cynyddu mewn 0.5 y cant mewn termau real o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ar ystod a graddfa bresennol y gwasanaeth, dim ond digon yw hyn i'w chynnal. Mae fy mhryderon ynglŷn â sut y defnyddir yr arian o fewn Prif Grŵp Gwariant y gwasanaeth iechyd, ac a yw'r defnydd hwnnw yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn unol â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Mae gennyf dri maes penodol yr hoffwn i ddwyn i'ch sylw. Mae a wnelo fy mhryder cyntaf â meddygfeydd teulu. Byddwch yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd yn rhoi pwyslais enfawr ar ymdrin ag iechyd gwael ar lefel gymunedol—mae'n adlewyrchu'r hyn mae Mike Hedges newydd fod yn ei ddweud— er mwyn atal cyfeiriadau i ofal eilaidd, lle mae costau yn tueddu i godi fwyfwy. Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â'r canfyddiadau a amlygwyd yn yr adroddiad interim sy'n deillio o'r arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n arwydd da o'r argymhellion tebygol y byddant yn eu gwneud.
Mae manteision defnyddio meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, nyrsys cyflyrau cronig ac arbenigwyr iechyd meddwl yn y gymuned yn fwy na rhai ariannol. Rydym yn gwybod ei bod hi'n fuddiol i'r claf gael ei gweld yn lleol, ei drin yn lleol a bod y dilyniant yn lleol, ac eto nid yw cyllideb Llywodraeth Cymru ar unrhyw gyfrif yn rhoi digon o adnoddau i gefnogi gofal sylfaenol. Meddygon Teulu Cymru sy'n cael y canran lleiaf o gyllideb y GIG o unrhyw un o'r gwledydd cartref. Yn 2015-16, derbyniodd meddygfeydd teulu dim ond 7.24 y cant o wariant y GIG yn gwario, ond disgwylir iddyn nhw wneud y rhan fwyaf o'r gwaith caib a rhaw o ran atal iechyd gwael a rheoli cyflyrau lluosog.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydnabod bod gan lawer o feddygfeydd gyfleusterau annigonol a'u bod yn ei chael hi'n anodd iawn cynnig llu o glinigau a gwasanaethau mewn amgylchiadau sydd naill ai'n hynafol neu yn rhy fach ar gyfer y galw sy'n eu hwynebu. Yn fy etholaeth fy hun, mae gennyf feddygfeydd sy'n dweud na allan nhw gynnig rhai o'r clinigau gofal ataliol hanfodol sydd eu hangen oherwydd does ganddyn nhw mo'r lle na'r staff. Mae Ystadau Iechyd Cymru angen cymorth ariannol fel ei fod yn cyfateb â gofynion cyfoes, ac mae hyn yn bwynt y sylwodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon arno wrth inni graffu ar y gyllideb. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym ni os gwelwch yn dda sut mae meddygon teulu yn mynd i allu cynnig gwasanaethau trawsnewidiol o'r fath gyda chyfran mor fach o adnoddau'r GIG?
Daw hynny â mi at yr ail faes sy'n peri pryder imi. Rydym ni i gyd wedi gwneud ymrwymiad gwleidyddol i alluogi'r Arolwg Seneddol i ystyried yn ddwys beth sydd angen ei wneud i drawsnewid ein GIG yn un sy'n gallu wynebu heriau'r dyfodol, ond nid wyf yn gweld sut mae'r gyllideb yn darparu ar gyfer y costau hyn wrth symud ymlaen. Yn wir, wrth adolygu tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a gennych chithau, roedd hi'n amlwg iawn bod y cynnydd o 0.5 y cant yn darparu prin ddigon i gadw'r olwynion yn troi, felly sut y gallwch chi ddisgwyl i fyrddau iechyd a meddygfeydd i drawsnewid y ffordd maen nhw'n gweithio heb ffrydiau ariannu clir i alluogi a chefnogi'r rhaglen drawsnewidiol honno? Mae argymhellion 1 a 2 adroddiad y Pwyllgor Iechyd yn glir iawn ynglŷn â hyn.
Y trydydd maes yr hoffwn i gyfeirio ato'n fyr yw'r arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, a fydd yn cynyddu tua £20 miliwn yn 2018-19. Fodd bynnag, er gwaethaf cael ei glustnodi ers 2008, mae'r ffyrdd y mae byrddau iechyd wedi dehongli'r clustnodi hwnnw yn destun pryder, gyda thriniaethau rheolaidd yn llyncu arian gwerthfawr. Er enghraifft, os oes rhywun â phroblem iechyd meddwl angen clun newydd, daw hynny allan o'r gyllideb iechyd meddwl, ac ni allaf weld y rhesymeg na'r tegwch yn hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i adolygu'r holl feysydd lle mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei glustnodi i weld a ydynt nhw'n dal yn gwbl berthnasol ac yn gwneud yr hyn yr oeddent i fod i'w wneud yn y lle cyntaf.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pwynt cyffredinol o ran diffygion ariannol byrddau iechyd. Mae pob un o'r uchod yn amhosibl os bydd y diffygion ariannol hyn yn y Byrddau Iechyd yn parhau. Mewn atebion i gwestiynau ysgrifenedig rydych wedi dweud nad oes unrhyw arian i achub croen byrddau iechyd, ac eto, y gwir amdani yw bod angen inni edrych ar sut mae'r byrddau iechyd hynny yn cael eu hariannu oherwydd nid wyf i, ac rwyf eisiau gwneud hyn yn gwbl glir, nid wy'n gofyn am fwy o arian ar gyfer y GIG o gyllideb Llywodraeth Cymru, ond yr hyn yr wyf yn ei gwestiynu'r yw defnyddio'r cyllid presennol, gan gynnwys y cynnydd o 0.5 y cant, a pha un ai a oes angen i ni wneud, neu a oes angen i chi wneud ac angen i'ch cyd-Aelodau wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch o ble mae angen inni symud arian dros dro er mwyn i'r newid trawsffurfiol hwnnw ddigwydd. Fel arall, ni fydd gennym ni wasanaeth iechyd sy'n gallu cadw dau ben llinyn ynghyd a pharhau i weithio ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19. Mae hwn yn nodi cyfnod newydd ar gyfer y Cynulliad hwn o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau gyda'r fframwaith cyllidol newydd, ac mae'n dda gweld hyn o'r diwedd yn cynnwys canlyniad diwygio fformiwla Barnett fel y mae'n gymwys i Gymru, gan arwain at £69 miliwn ychwanegol dros gyfnod y gyllideb ddrafft hon. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi croesawu'r cyfrifoldebau cyllidol newydd gyda'i sgiliau nodweddiadol, ond rwy'n bennaf gefnogol oherwydd y ffordd gadarn yr aeth ati i sicrhau bod ymrwymiadau Llafur Cymru yn cael eu blaenoriaethu yn y gyllideb. Yn ategu'r dull hwn o weithredu y mae ei ymrwymiad i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o galedi a thoriadau.
Mae wedi bod yn llafar ac yn gyson yn ei wrthwynebiad i galedi, ond nid ef yw'r unig un yn hyn o beth. Y llynedd, rhybuddiodd economegwyr o'r Gronfa Ariannol Ryngwladol y gall polisïau llymder wneud mwy o niwed nag o les, ac fe wnaethon nhw rybuddiodd bod mwy o anghydraddoldeb yn andwyol i lefel a chynaliadwyedd twf—ac roedden nhw yn llygaid eu lle, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn israddio twf dros y blynyddoedd nesaf.
Mae effaith ariannol negyddol cynni yn glir. Torrwyd ein cyllideb yma yn Llywodraeth Cymru 7 y cant dros y degawd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae ein Ysgrifennydd Cabinet wedi llunio cyllideb sy'n sicrhau ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru ar iechyd, tai, gofal cymdeithasol ac addysg, a negododd gytundeb cyllideb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru, gyda manteision economaidd a chymdeithasol i Gymru.
Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft hon defnyddiwyd proses gyllidebol fwy trylwyr, gan arwain at adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid, yr wyf yn falch bellach o fod yn aelod ohono, sy'n deg ac yn gadarn, ac mae'n dda gweld nifer o flaenoriaethau ar y cyd yn dod i'r amlwg sy'n cyd-fynd â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn i ganolbwyntio ar ddau faes o flaenoriaethau ar y cyd, sef gofal cymdeithasol a thai.
Roeddwn yn synnu nad oedd cyfeiriad at ofal cymdeithasol yng nghyllideb y DU, er ei fod yn fater allweddol yn eu datganiad ym mis Mawrth pan wnaeth Llywodraeth y DU mewn gwirionedd roi'r baich ar Lywodraeth Leol yn Lloegr i godi treth y cyngor i lenwi'r bylchau cynyddol ym maes gofal cymdeithasol. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyson ei chefnogaeth i ofal cymdeithasol dros yr wyth mlynedd diwethaf o galedi a lleihau cyllidebau. Mae'r ffigurau diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn dangos bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 8 y cant yn uwch nag yn Lloegr ac yn tyfu'n gyflymach nag yn unrhyw ran arall o'r DU yn 2016-17. Ac, yn y gyllideb ddrafft yr ydym yn ei thrafod, bydd gofal cymdeithasol yn cael swm ychwanegol o £42 miliwn yn 2018-19, gan godi i £73 miliwn yn 2019-20. Mae hynny i'w groesawu, ond rwy'n ymwybodol o ddau faes datblygu polisi sy'n berthnasol: yn gyntaf, y cyfle i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a gweithredu ar ganfyddiadau'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol y disgwylir ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud hyn yn argymhelliad allweddol yn adroddiad y gyllideb ddrafft, ac yn galw am gynlluniau wedi eu prisio'n llawn er mwyn creu newidiadau a fydd yn trawsffurfio iechyd a gofal cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am ddatganiad mis Mawrth pan wnaeth Llywodraeth y DU, wrth gwrs, neilltuo£2 biliwn tuag at ofal cymdeithasol, ac, wrth gwrs, bydd y lle hwn yn elwa ar y goblygiadau fydd yn deillio o hynny drwy'r fformiwla Barnett. Hoffech chi weld hynny'n cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer yr agenda integreiddio neu ryw agwedd arall ar ofal cymdeithasol?
Roeddwn yn mynd i ddweud mai cyfrwng pwysig iawn ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yw, wrth gwrs, ein cronfa gofal integredig. Ac, mewn gwirionedd, i fynd yn ôl at y sylw am bleidiau yn cydweithio, cafodd hynny ei ddyfeisio gan dair plaid yn y Cynulliad yn y pedwerydd sesiwn—Llafur gyda Phlaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—pan roeddem ni'n negodi cytundeb y gyllideb. Arweiniodd hynny at gronfa bwrpasol i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai, a gwnaed hynny dros y pedair blynedd diwethaf, gan arwain at fanteision ledled Cymru, sy'n gyfwerth â £50 miliwn yn y gyllideb hon. Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni ystyried pwy sy'n talu am ofal cymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at roi sylw i ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i gost gofal cymdeithasol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.
Yn olaf, hoffwn i ddweud bod Mark Drakeford hefyd wedi canolbwyntio ar dai. Yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni ddadl drylwyr, ac eto y prynhawn yma, o ran ein hymrwymiad i ddiddymu'r hawl i brynu. Ond roedd cydnabyddiaeth o bob rhan o'r Siambr hon fod angen mynd i'r afael â'r angen am dai fel blaenoriaeth. Gadewch inni gyferbynnu'r ddwy gyllideb sy'n effeithio arnom ni heddiw. Ni wnaeth cyllideb Philip Hammond unrhyw beth ar gyfer tai cymdeithasol, ond mae Mark Drakeford wedi rhyddhau cyfalaf fel rhan o fuddsoddiad o £1.4 biliwn tuag at adeiladu 20,000 o gartrefi, ac yn hollbwysig, mae wedi ymrwymo £10 miliwn ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd ym mhob blwyddyn. Rwy'n croesawu hynny, fel y gwnaeth Shelter Cymru pan ddaethon nhw i'm hetholaeth i drafod anghenion tai yn lleol. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod bod y gyllideb ddrafft hon yn mynd i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, sicrhau arian gan Lywodraeth y DU i godi'r bwlch cyflog, diogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru a rhoi hwb i'r economi drwy fuddsoddi yn ein seilwaith, yn enwedig mewn tai cymdeithasol.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda ryw jest dros 49 y cant o holl gyllideb y Cynulliad yn disgyn yn y maes iechyd—rhyw £7.3 biliwn allan o gyllideb o £15 biliwn—yn naturiol, bu i aelodau'r pwyllgor iechyd fynd ati i graffu gyda brwdfrydedd heintus ar yr holl arian yna sydd yn cael ei wario yn y maes o dan y drefn newydd rydym ni wedi clywed amdani. A allaf i ddiolch i fy nghyd-Aelodau am eu gwaith a hefyd i'r clercod a'r ymchwilwyr am eu cefnogaeth?
Cafwyd proses casglu tystiolaeth sylweddol o fis Mehefin ymlaen—craffu ariannol o dan adain Ysgrifennydd y Cabinet, ac wedyn, drwy fis Medi a'r Hydref, tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Yn Hydref, cawsom Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol o'n blaenau yn y pwyllgor, a hefyd, ym mis Tachwedd, tystiolaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant hefyd o'n blaenau ni.
Sawl prif thema: newid trawsffuriol ydy'r prif thema. Mae trawsnewid y gwasanaeth yn sylweddol yn ganolog i lwyddiant hirdymor gwasanaeth iechyd sy'n ariannol hyfyw, ochr yn ochr â chyllid i alluogi'r newid yma. Os na fydd hyn yn digwydd, byddwn yn parhau mewn sefyllfa lle mae symiau ychwanegol o arian Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnal y modelau cyflawni presennol yn unig, heb ddim newid trawsffurfiol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym am y buddsoddiad ychwanegol o ryw £450 miliwn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Rhaid defnyddio'r dyraniadau hyn i'r gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi newid hirdymor.
Argymhelliad y pwyllgor ydy y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, ar ôl cyhoeddi’r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Ionawr flwyddyn nesaf, ei bod yn prisio’n llawn gynlluniau i ddatblygu newid trawsffurfiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG fod yn seiliedig ar gyflawni newid. Dylai Llywodraeth Cymru ymhellach nodi ffyrdd y mae trawsnewid a chyllid ar gyfer trawsnewid yn cael ei flaenoriaethu ac ar gael i sefydliadau'r gwasanaeth iechyd o gyllidebau presennol.
Yn troi at gyllid y byrddau iechyd, gwyddom fod y gyfran fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymru yn mynd yn uniongyrchol i fyrddau iechyd, a cheisiodd y pwyllgor edrych yn fanwl ar eu sefyllfa ariannol bresennol. Eleni, rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar fyrddau iechyd. Rydym yn nodi nad yw uchelgeisiau Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi cael eu gwireddu'n llawn gan holl gyrff y gwasanaeth iechyd. Mae'n siomedig bod pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi nodi diffyg yn un o leiaf o'r tair blynedd flaenorol. Mae'n destun pryder, yn benodol, bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd Hywel Dda wedi nodi diffyg bob blwyddyn o 2014 ymlaen.
Dylai Llywodraeth Cymru, felly, adolygu'r dull presennol o bennu cyllidebau byrddau iechyd a chyhoeddi ei chanfyddiadau. Gwyddom fod y Sefydliad Iechyd wedi dweud bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu'r cyfnod mwyaf ariannol heriol yn ei hanes ac felly yn edrych am arbedion o ryw £700 miliwn, fel sydd wedi cael ei sôn o’r blaen. Dylai Llywodraeth ddatblygu rhaglen effeithlonrwydd Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod arferion da lleol yn cael eu troi yn newid ar draws yr holl wasanaethau ledled Cymru.
Arian ar gyfer gofal cymdeithasol: yn hanfodol bwysig dylid darparu gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o safon. Rydym ni’n sôn mewn argymhelliad bod angen dull gweithredu system gyfan o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid iddi gynllunio i sicrhau bod arian ychwanegol ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a’i fod yn ddigonol i fodloni gofynion cynyddol. Bydd colli gofal cymdeithasol yn golygu colli’r gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl.
Troi at chwaraeon, roedd y pwyllgor yn synnu gweld y newid diweddaraf i bortffolios Llywodraeth Cymru—nid oes gyda fi amser i fynd i mewn i’r manylion, dim ond nodi bod hyn wedi symud o un portffolio i’r llall. Dylem ni, fel sydd wedi cael ei sôn eisoes, flaenoriaethu cyllid cyfalaf ar gyfer gofal sylfaenol yn y gymuned, a sicrhau ei bod yn gwella'r gallu yn nhermau adeiladau yn y gymuned ar gyfer gweithio'n amlddisgyblaethol ac yn hyrwyddo modelau gofal newydd. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gynnal adolygiad pellach o'r arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl, i asesu a yw wedi arwain at wariant effeithiol a phriodol ar iechyd meddwl ac ar sicrhau canlyniadau gwell i gleifion. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ariannu iechyd carcharorion, achos nid ydym ni'n derbyn hanner digon o bres.
Ac i orffen, felly, mae angen ystyried y swm sylweddol y mae gwasanaeth iechyd Cymru yn ei wario ar staff asiantaeth, a dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o'r holl anghysonderau a’r cymhellion gwrthnysig ar draws y trefniadau asiantaeth.
Felly, hoffwn feddwl bod y craffu mwyaf manwl erioed ar y gyllideb iechyd yn mynd i esgor ar y newidiadau angenrheidiol yn y gwariant ar y gyllideb yna er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Fel y nododd cyhoeddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ym mis Ionawr 2009, 'The public finances under Labour',
Daeth Llafur i’r argyfwng presennol gydag un o'r diffygion cyllideb strwythurol mwyaf yn y byd diwydiannol a dyled fwy na'r rhan fwyaf o wledydd OECD, ar ôl gwneud llai i leihau dyled ac—yn arbennig—benthyca na'r rhan fwyaf ers 1997.
O ran Keynesiaeth felly, nhw a dorrodd y cylch economaidd. Yn 2010, etifeddodd y glymblaid dan arweiniad y Ceidwadwyr y diffyg cyllideb mwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig mewn cyfnod o heddwch. Ond, fel mae pob dyledwr yn ei wybod, allwch chi ddim lleihau'r ddyled nes bod gwariant yn is nag incwm. Daeth y gwledydd hynny â diffygion uchel a wrthododd cyni i ddeall hynny’n llawn. Diolch i waith caled pobl ledled y DU, fodd bynnag, mae'r diffyg yma i lawr dros ddwy ran o dair, ac wedi gostwng i lefel nad ydym wedi’i gweld ers cyn yr argyfwng ariannol diwethaf. Ond mae angen inni leihau ein dyled o hyd—nid am ryw reswm ideolegol ond oherwydd bod gormod o ddyled yn tanseilio ein diogelwch economaidd, gan ein gadael yn fregus i siociau.
Fel y rhybuddiodd un o uwch swyddogion Banc Lloegr yr wythnos diwethaf,
All Prydain ddim fforddio benthyca mwy heb beryglu sefydlogrwydd ariannol y wlad.
Bellach, er bod £1.2 biliwn yn fwy yn dod i Lywodraeth Cymru gan Drysorlys y DU, nid yw cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gymunedau sydd ar ei hôl hi wedi dwyn ffrwyth. Fel mae’r adroddiad a ryddhaodd Sefydliad Joseph Rowntree ddoe yn ei nodi:
Ar draws pedair gwlad y DU, Cymru sydd wedi bod â’r mwyaf o dlodi yn gyson.
Ar ôl i’r Groes Goch nodi bod angen sicrhau darpariaeth ariannol ar gyfer gwasanaethau ataliol, rhywbeth y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, ato yn gynharach, gofynnais i'r Ysgrifennydd Cyllid ym mis Hydref pa ystyriaeth yr oedd wedi’i rhoi i ddarpariaeth ariannol yn y cyd-destun y bydd datblygiad cymunedol ar lefel awdurdodau lleol i ysgogi unigolion, cymdeithasau a sefydliadau i ddod at ei gilydd ac adeiladu ar eu hasedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, gan eu rhoi wrth wraidd penderfyniadau, yn atal anghenion gofal rhag mynd yn mwy difrifol ac felly’n arbed arian i awdurdodau cyhoeddus. Mewn ymateb, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet â mi ynghylch yr angen i bob gwasanaeth cyhoeddus
sicrhau, pan fydd pobl yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, nad ydynt yn cael eu gweld fel problemau i'w datrys, ond fel cyfranogwyr ar y cyd yn y busnes o greu gwelliant.
Dyna oedd dyfyniad yr Ysgrifennydd. Ychwanegodd:
mae awdurdodau lleol sy'n ceisio ymgysylltu â’u dinasyddion yn y ffordd gadarnhaol honno’n debygol o allu cael effaith fwy gyda'r cyllidebau sydd ganddynt, yn enwedig mewn modd ataliol.
Fodd bynnag, mae llawer wedi mynegi pryderon bod y gyllideb hon yn mynd â ni i’r cyfeiriad arall. Yn eich bargen cyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, gwnaethoch chi gytuno i neilltuo arian Cefnogi Pobl a’i gynyddu £10 miliwn bob blwyddyn am ddwy flynedd. Ond datgelodd llythyr dilynol at brif weithredwyr awdurdodau lleol y byddai awdurdodau lleol yn cael hyblygrwydd gwariant ar draws Cefnogi Pobl a phedwar grant arall nad ydyn nhw'n gysylltiedig â thai, sy’n golygu nad oes sicrwydd y bydd cyllid Cefnogi Pobl wedi’i ddiogelu. Os yw Llywodraeth Cymru nawr yn dadneilltuo’r cyllid ac yn uno’r grant Cefnogi Pobl â grantiau eraill nad ydyn nhw'n ymwneud â thai, ni fyddem mwyach yn gallu deall faint sy'n cael ei wario ar wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yng Nghymru, na dwyn Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyfrif am hyn.
Felly, mae Hafan Cymru, sy’n cynrychioli cymdeithasau tai a darparwyr y trydydd sector, wedi galw am adfer y neilltuo a diogelu cyllid Cefnogi Pobl. Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn dweud ei bod yn debygol iawn y bydd y cynlluniau yn y gyllideb hon i roi’r gorau i neilltuo grantiau ar gyfer Cefnogi Pobl a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arwain at chwalu ein rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau arbenigol y trydydd sector sy'n darparu cymorth sy’n achub bywydau ac yn newid bywydau.
Er mwyn mynediad a chynhwysiant, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi galw am ddod a chylchoedd ariannu tymor byr i ben, sy'n atal gweithredwyr elusennol rhag cynllunio ar gyfer y dyfodol, am adolygiad o'r fformiwla tocynnau teithio rhatach i atal colledion ariannol iddynt, ac am gymorth cyllideb ar gyfer gwaith trawsadrannol, sy'n cydnabod eu bod yn darparu mwy a mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, nid dim ond cludiant.
Yn y ddadl hon y llynedd, rhybuddiais yn erbyn toriad o £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i'r elusen Cronfa'r Teulu a'r effaith a gâi hyn ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phlant anabl. Yng nghyflwyniad Cronfa'r Teulu yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, gwnaethant ddweud wrthym bod nifer y grantiau a roddwyd i deuluoedd wedi gostwng o £5,429 yn 2015-16 i ddim ond £875 eleni, a bod y rhan fwyaf o deuluoedd heb gymorth grant wedi dweud nad oedd dim cymorth arall ar gael iddynt. Wel, mae hyn yn foesol ac yn ariannol anghyfrifol, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried.
Gwrandewais yn gynharach ar gwestiwn Nick Ramsay, sef: beth mae’r gyllideb hon yn ceisio ei gyflawni? Ac rwy’n meddwl bod y cwestiwn wedi cael ei ateb, yn sicr gan y meinciau hyn, a gan y meinciau ar yr ochr hon i'r Siambr, wrth gyflawni rhaglen Llywodraeth Cymru. Ond hefyd, byddwn yn dweud mai’r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni hefyd yw cyfyngu ar effeithiau niweidiol ei Lywodraeth ef yn San Steffan. Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.
Rwy’n siarad ar ôl bod yn gynghorydd am 10 mlynedd ac ar ôl eistedd drwy lawer o gyllidebau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Drwy ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd, gallwch gael syniad o ble i dorri, ond serch hynny, mae'n anhygoel o anodd eistedd drwy restr o doriadau nad oes gennych unrhyw reolaeth drostynt. Ond, un o'r pethau y gallwch ei ddweud wrthych eich hun, fel cynghorydd yng Nghymru, yw ei bod yn waeth o lawer bod yn gynghorydd yn Lloegr. Rwy’n meddwl mai dyna un o’r pethau da am Lywodraeth Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cyfle euraid. Rwy’n byw mewn byd gwleidyddol gwahanol i Neil Hamilton; dydw i ddim yn deall ei safbwynt ef. Ac roedd yn ymddangos bod Mark Isherwood wedi gwrthddweud ei hun drwy ganu clodydd cyni ar y naill law, a galw am fwy o wariant wedi'i dargedu ar y llaw arall. Ond mae Llywodraeth y DU—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Oeddech chi ddim yn gwrando? Wnaethoch chi ddim fy nghlywed yn dweud y byddai’r hyn yr oeddwn i'n ei gynnig yn arbed mwy o arian i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau lleol—arian a ddylai fod yn helpu'r bobl sydd wir ei angen?
Does dim pwynt mynd yn ddig am y peth. Clywais i'r hyn a ddywedodd, ac rwy'n meddwl y dylid cyfeirio rhywfaint o'r hyn a ddywedodd at Lywodraeth y DU, a dweud y gwir. Rwy’n meddwl bod rhai o'r pethau a ddywedodd Nick Ramsay yn adlewyrchu hynny, hefyd. Er mwyn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud, a'r hyn yr hoffem ei wneud, rhaid inni gael yr adnoddau gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn dweud wrth Mark Isherwood: dewch am dro o amgylch Caerffili; dewch i weld effeithiau toriadau Llywodraeth y DU a gweld y pethau hynny y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i leihau effaith y toriadau hynny.
Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr, Sheila Jones yn enwedig, sydd wedi erfyn ar ACau i beidio â phasio cyllideb sy'n gwneud rhagor o doriadau i wariant cyhoeddus. Ond rhaid ichi ymddwyn yn gyfrifol. Rwy’n deall rhwystredigaeth fy etholwyr gyda llymder parhaus, ond ni allwn—ni allwn—feio’r Llywodraeth hon am hynny. Rwy’n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud yn wych i ymdrin â’r adnoddau sydd ar gael iddo.
Ar y pethau eraill—ac rwyf eto’n dychwelyd at Mark Isherwood—efallai y gall y ffordd o wneud pethau fod yn well o fewn cyllideb gyfyngedig. Mae credyd cynhwysol, er enghraifft, yn bolisi sydd ddim wedi'i ddatganoli, ond mae carbwl Llywodraeth Dorïaidd y DU wrth ei gyflwyno’n effeithio ar ein cymunedau mewn modd sy'n peri pryder mawr. Mae angen i Lywodraeth y DU gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol er mwyn osgoi cosbau annheg dros y Nadolig, ond, yn wahanol i rai pobl sydd am ddatganoli er mwyn datganoli, nid wyf yn credu mai lle Llywodraeth Cymru yw defnyddio ei chyllideb i lanhau’r llanastr mae Llywodraeth y DU wedi’i greu. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb gweinyddol dros bolisi lles a budd-daliadau heb yr arian ychwanegol sydd ei angen gan Whitehall, gallai hynny waethygu'r sefyllfa drwy osod beichiau ariannol newydd—[Torri ar draws.]—ar Lywodraeth Cymru sydd eisoes dan bwysau a chreu disgwyliadau afrealistig o ran taliadau mwy hael yng Nghymru.
Diolch am ildio. Rwy’n ceisio deall yr hyn y gwnaethoch ei ddweud ychydig funudau’n ôl. Mae’n ymddangos eich bod wedi bod yn dweud wrth eich etholwr eich bod yn meddwl ei bod yn iawn na ddylai Llywodraeth Cymru wario arian nad oes ganddynt a’u bod, felly, yn ymddwyn yn gyfrifol, ond rydych chi'n ddigon hapus i Lywodraeth y DU fenthyca cymaint ag yr hoffent, cyn belled â bod yr arian yn dod i lawr y lein i chi. Dydy honno ddim yn swnio fel dadl gyfrifol i mi.
Wel, dydy hynny ddim yn gynrychiolaeth gyfrifol o'r hyn a ddywedais, a dyma’r hyn a ddywedais: rydym yn gweithredu o fewn cyd-destun cyllideb Llywodraeth y DU sydd wedi gwneud toriadau didrugaredd, ac mae’r toriadau didrugaredd hynny wedi bwydo’n ôl i Lywodraeth Cymru. Rwy’n meddwl bod Nick Ramsay yn gwybod yn iawn mai dyna'n union beth yr wyf newydd ei ddweud.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb hon y prynhawn yma, oherwydd mae gennyf bob hyder yn Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r gyllideb y mae wedi’i rhoi at ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn yn driw i werthoedd Llafur Cymru ac yn adlewyrchu’r rhaglen lywodraethu, ac yn gwneud popeth a all i leihau effeithiau strategaeth Llywodraeth y DU. Mae'r cytundeb cyllideb hwn â Phlaid Cymru yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol i Gymru dros y ddwy flynedd nesaf, rhywbeth sydd ei angen yn ddirfawr, o ystyried y cyni parhaus, ac am y rhesymau hyn byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb heddiw.
Os caf i ymateb yn gyntaf i Steffan Lewis, a ddewisodd beidio â chymryd ymyriad gennyf yn gynharach. Pan oeddwn i'n gwrando arno, roedd yn siarad yn hyderus iawn am beth fydd yn digwydd yn 2020, neu beth fydd yn anochel yn digwydd yn 2021. Rwy’n meddwl bod angen iddo ystyried y ffaith ei fod yn cyfeirio at ragolygon, a does dim ots pa mor fawreddog yw’r cyrff hynny, y Trysorlys neu’r OECD neu’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, dim ond rhagolygon ydyn nhw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eu hunain yn cyfaddef mai dim ond 90 y cant yw eu sicrwydd y bydd twf ar yr adeg honno rywle rhwng 1 y cant a 4 y cant, a dywedodd yr OECD a'r Trysorlys y mae’n eu dyfynnu, wrth gwrs, wrthym y byddai dirwasgiad difrifol ar unwaith pe byddem yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hynny wedi digwydd.
Fodd bynnag, byddwn yn ei longyfarch ef a Phlaid Cymru am allu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i’r fath raddau drwy ddefnyddio eu rhifau yma. Yr unig drueni yw nad ydynt wedi defnyddio eu rhifau yn San Steffan i roi cymorth i Lywodraeth y DU yno yn gyfnewid am arian ychwanegol i Cymru; rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddai wedi cael croeso ar draws y Siambr hon.
Rwyf hefyd yn nodi, pan mae'n sôn am oblygiadau’r posibilrwydd o adael y farchnad sengl i’r gyllideb, y byddai ei farn ef a'm barn i’n wahanol iawn, ond yr hyn nad oeddwn i wedi’i ystyried yw bod barn y Prif Weinidog yn wahanol iawn yn y sesiwn gynharach. Unwaith eto, ar y pwnc hwn, mae wedi ei wrth-ddweud ei hun wrth ateb cwestiynau. Wrth ymateb i Leanne Wood, cadwodd at ei ffurf arferol—ac roedd yn ymateb yn Saesneg—ei fod eisiau mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, yr ymadrodd hwnnw y mae wedi’i saernïo a’i ddatblygu'n ofalus iawn. Nid wyf erioed wedi ei glywed yn dweud yn Saesneg ei fod eisiau aros yn y farchnad sengl. Mae wedi bod yn ofalus iawn i beidio â dweud hynny. Eto, wrth ateb Rhun ap Iorwerth yn y Gymraeg, roedd y cyfieithiad a glywais i yn fy nghlustffonau ar y pryd, ac rwyf wedi cadarnhau hyn gyda'r cyfieithwyr ers hynny, yn glir iawn. Dywedodd:
'Beth yw'r ateb? Wel, mae'n eithaf clir: dylai'r Deyrnas Unedig aros o fewn y farchnad sengl'.
Yna aeth yn ei flaen i ddweud ei fod am adael yr UE mewn ffordd
'sy’n ein cadw yn y farchnad sengl'.
Pam mae’r Prif Weinidog yn dweud un peth yn Gymraeg a rhywbeth arall yn Saesneg? Ai oherwydd ei fod am guddio i ba raddau nad yw’n parchu canlyniad y refferendwm? Dim ond wrth inni ystyried y gyllideb heddiw, mae’r Prif Weinidog yn dweud, 'Rydym yn parchu canlyniad y refferendwm, ond—.' Heddiw mae wedi gollwng y gath o'r cwd ac wedi datgelu mai gwir safbwynt y Blaid Lafur yw yr hoffen nhw aros o fewn y farchnad sengl, er gwaethaf canlyniad y refferendwm hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, dyma'r gyllideb gyntaf lle mae gennych bwerau i drethu a newid trethi, ac rwyf am ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar y trefniadau trethu i Gymru yr ydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw. Rydych chi wedi pwysleisio'r egwyddorion blaengar sydd gennych a sut yr ydych yn cymhwyso’r rhain drwy’r dreth trafodiadau tir—drwy’r trothwyon a'r cyfraddau preswyl ond hefyd, byddwn yn pwysleisio, drwy roi mwy o faich ar brynu eiddo masnachol ar y gyfradd uwch nag sy’n digwydd yn Lloegr nac yn yr Alban. Gan fod strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn dibynnu cymaint ar y bargeinion dinesig ac ardaloedd menter, mae angen lefel benodol o fuddsoddiad preifat, yn aml o’r tu allan i Gymru, ac felly rwy’n bryderus bod egwyddorion Ysgrifennydd y Cabinet yn groes i strategaeth economaidd ehangach y Llywodraeth. Nid yw pennu cyfradd eiddo masnachol band uwch 1 y cant yn uwch nag yn Lloegr ac 1.5 y cant yn uwch nag yn yr Alban yn mynd i’n helpu i sicrhau buddsoddiad sector preifat. Gallai droi'r penderfyniad i fuddsoddi yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet hwn am dagu’r twf mewn eiddo masnachol yng Nghaerdydd y mae ei gyfaill Ken Skates yn ceisio ei gefnogi gydag ardal fenter? Mae’n ymddangos bod yma ddiffyg meddwl cydgysylltiedig rhwng y ddwy adran, ac o bosibl bod eu strategaethau’n gwrthwynebu ei gilydd yn uniongyrchol.
Nawr, heddiw synhwyrais wahaniaeth, o leiaf o ran tôn Ysgrifennydd y Cabinet, i’w ymatebion blaenorol imi ar fater treth stamp a phrynwyr tro cyntaf. Cyn hyn, roeddwn o dan yr argraff ei fod yn ystyried sut ac i ba raddau y gallai ymateb i gyhoeddiad y DU ynglŷn â phrynwyr am y tro cyntaf ac, yn benodol, a fyddai'n caniatáu consesiwn tebyg, o bosibl—efallai ddim mor fawr, ond consesiwn serch hynny—o fewn Cymru. Ac fel yr wyf wedi’i ddweud, unwaith eto, mae hwn yn fater penodol i brynwyr am y tro cyntaf yn Sir Fynwy, sy'n agos at y ffin. A wnaiff e' egluro ei safbwynt ar hynny, neu a yw, yn y bôn, wedi penderfynu ei fod yn dymuno cadw’r cyfraddau treth trafodiadau tir a oedd ganddo cynt?
Mae’n nodi’n briodol y bydd swm y grant bloc yn cael ei addasu a’i gywiro ar gyfer unrhyw gynnydd posibl yn nifer y prynwyr tro cyntaf sy’n cael eu hannog yng Nghymru drwy hyn, a thybed beth y bydd yn ei wneud â’r arian ychwanegol y gallai ei gael ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n gofyn iddo o leiaf ystyried eto y cynnydd hwnnw i 6 y cant yn y gyfradd treth stamp masnachol honno, dim ond oherwydd yr hyn y gallai hynny ei wneud i anghymell buddsoddi mewnol yng Nghymru. Y perygl mwyaf, efallai, fodd bynnag, yw pe byddai Cymru yn dangos agwedd debyg at dreth incwm yn y dyfodol, mae arnaf ofn bod y bydd egwyddorion blaengar Ysgrifennydd y Cabinet yn golygu y bydd yn caniatáu, i gadw ei ddwylo ar y llyw, cynnydd mewn trethiant o ganlyniad i hynny, a fyddai'n tanseilio cystadleurwydd Cymru ac yn ein cadw yn y lôn araf economaidd.
Fe wnaf fy ngorau i osgoi ailadrodd unrhyw bwyntiau sydd eisoes wedi cael sylw. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei adroddiad a'r cyflwyniad sobr iddo, sy'n cydnabod effaith ddifrifol toriadau’r DU ar ein cyllideb? Ym mharagraff 1.5, rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau parhaus a difrifol i gyllideb Cymru o ganlyniad i agenda cyni niweidiol Llywodraeth y DU, wedi parhau i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf cyni.
Yn eich amlinelliad, gwnaethoch chi hefyd gyfeirio at rai o'r amgylchiadau a oedd yn cael effaith arbennig ar economi Cymru fel rhan o economi'r DU: mae cyflogau’n gostwng ac yn is nawr nag yn 2010, mae twf cyflogau yr isaf yn Ewrop heblaw yng Ngwlad Groeg, mae twf a chynhyrchiant economaidd ar eu gwaethaf ers canrif, mae buddsoddiad y DU yn is na phob economi fawr arall ar wahân i Bortiwgal a Gwlad Groeg, ac mae llanastr Brexit yn achosi ansicrwydd i fusnesau a phobl. Ac yn ddiweddar rydym wedi trafod traed moch llwyr mater y DUP.
A gaf i gyferbynnu eich adroddiad ag adroddiad Trysorlys ei Mawrhydi, sydd, yn y cyd-destun economaidd, yn cadarnhau'r rhan fwyaf o'r pwyntiau hynny ynghylch yr adroddiadau economaidd digalon parhaus, hirdymor yr ydym wedi’u gweld? Ond yna, cymharwch hynny â chyflwyniad llai na sobr yr adroddiad, sy'n dweud,
Mae dyfodol disglair gan y Deyrnas Unedig. Bydd cryfderau sylfaenol economi’r DU yn cefnogi twf yn y tymor hir
a
bydd y Gyllideb yn sicrhau y gall pob cenhedlaeth edrych ymlaen at safon byw well na’r un o’i blaen.
Mae'n gwneud ichi feddwl tybed a gafodd yr adroddiad hwnnw ei ysgrifennu mewn dwy ran—y rhan gyntaf gan y Canghellor a'r ail ran gan bobl a oedd wir yn gwybod rhywbeth am yr hyn a oedd yn digwydd yn yr economi.
Un o'r pwyntiau yr oeddwn i wir eisiau siarad amdanyn nhw, fodd bynnag, oedd yr effaith ar y sector cyhoeddus a chap cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar fy etholaeth i, sef Pontypridd, oherwydd mae gennym ni oddeutu 15,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yn fy etholaeth i, ac nid yw’r mwyafrif llethol ohonynt wedi cael codiad cyflog o unrhyw bwys o gwbl ers tua degawd. Yr effaith net yw, erbyn 2022, o ganlyniad i raglen cyni Llywodraeth y DU, y bydd nyrsys a diffoddwyr tân yn cael £3,400 y flwyddyn yn llai mewn termau real, llyfrgellwyr £2,100, parafeddygon a dietegwyr £3,800, yr heddlu £450 y flwyddyn yn llai, a swyddogion carchar £980 y flwyddyn yn llai. Mae un o'm hetholwyr, Shirley Nicholls, nyrs GIG Cymru ers 30 mlynedd, yn dweud hyn:
'Rwy’n teimlo ein bod yn cael ein gwasgu flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gyni. Ni all llawer gael deupen llinyn ynghyd. Mae llawer yn gadael. Mae morâl yn isel. Mae'n ymddangos mai dim ond y bobl dlotaf sy’n gorfod talu am gyni. Mae arnaf ofn, os nad yw San Steffan yn dod a'r cap cyflog i ben ac yn rhoi terfyn ar gyni, na wnaiff ein GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus oroesi.'
Byddwn yn gofyn ichi ystyried, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes mwy y gallwn ni ei wneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud dyfarniadau cyrff tâl statudol yn rhwymol, oherwydd mae’n ymddangos i mi mai dyna’r gwendid sylfaenol—ein bod yn gosod corff i bennu cyflog, ond bod Llywodraeth y DU yna’n gwrthod talu hynny mewn gwirionedd.
A gaf i wedyn gyfeirio at nifer o faterion yng Nghyllideb Cymru yr hoffwn i roi rhywfaint o ystyriaeth iddyn nhw? Y cyntaf yw’r rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy’n croesawu’n fawr y £6 miliwn ychwanegol a’r cynyddiadau pellach yn y blynyddoedd dilynol i'r rhaglen hon. Mae'n rhaglen sydd wedi cael effaith sylweddol yn fy etholaeth, gyda'r prosiect chwaraeon Glowyr Cwm Elái a'r Eglwys Bywyd Newydd, sy'n darparu amrywiaeth eang o raglenni cymorth cymunedol. Mae’n ymddangos bod y rhain i gyd, sydd wedi ysgogi arian arall, yn ffordd effeithiol iawn o ddefnyddio blaenoriaethau trechu tlodi Llywodraeth Cymru, ac rwyf wir yn meddwl tybed, pe gellid rhoi ystyriaeth bellach i unrhyw arian ychwanegol, sut y gallai hynny ddigwydd mewn gwirionedd.
Mae’r ail bwynt yr wyf yn gofyn ichi ei ystyried, a dweud y gwir, yn ymwneud â’r adran sydd gennych yn yr adroddiad ar y metro, a sut y gallai hynny effeithio ar yr arian Ewropeaidd sydd ar gael, ond hefyd y benthyca sydd ar gael gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a sut y gallai hyn effeithio ar rai o'r prosiectau sydd eu heisiau arnom yn y metro, fel y llinell newydd arfaethedig i Lantrisant yn fy etholaeth i.
A gaf i wneud un pwynt olaf arall, ynglŷn ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i groesawu'r buddsoddiad £1.4 biliwn? Ond a dweud y gwir mae i longyfarch cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd eisoes wedi buddsoddi £200 miliwn o dan y rhaglen hon, ac sy’n cynllunio buddsoddi £300 miliwn arall, gan drawsnewid strwythur cyfleusterau addysg yn sylweddol o ganlyniad i hyn. Bydd yn golygu, mewn degawd yn Rhondda Cynon Taf, y bydd y cyngor wedi buddsoddi bron i £0.5 biliwn mewn cyfleusterau addysgol. Mae hynny'n llwyddiant anhygoel, rwy'n meddwl, a dylid cydnabod hynny.
Un pwynt olaf, wedyn, am drethi newydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allai fod cyfle nawr, wrth ichi ystyried eitemau ar gyfer trethi newydd, i ystyried atgyfodi'r Bil asbestos?
Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio o blaid y gyllideb ddrafft hon. Dydw i ddim yn mynd i ymatal. Rwy’n mynd i bleidleisio yn erbyn. Mae'r gyllideb hon yn ddrwg.
Mae Cymru'n dal i wynebu ffioedd dysgu o £9,000. Ydyn ni i fod i fod yn ddiolchgar am hynny? Nid yw'n ddigon da o bell ffordd. Mae pobl yng Nghymru yn dal i gael eu troi allan o'u cartrefi oherwydd y dreth ystafell wely; y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn cael eu taflu allan o'u cartrefi am y trosedd o fod ag ystafell wely ychwanegol. Does dim eiddo i’r bobl hyn symud i mewn iddo, hyd yn oed. Mae’r rhieni hynny sydd â phlant yn byw gyda hwy am ran o'r wythnos, neu ran o'r amser, yn gorfod colli’r ystafell wely ychwanegol, ac o ganlyniad, o dan rai amgylchiadau, maent yn colli cyswllt gyda'u plant oherwydd y dreth honno. Does dim byd yn y gyllideb hon i unioni hynny.
Ond wyddoch chi beth? Mae arian ar gael bob amser i gyfeillion Llafur yn y Bae; mae’n ymddangos eu bod nhw’n ennill eu bywoliaeth o anffawd pobl eraill.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Na wnaf. Mae’r swm o arian sydd hefyd yn cael ei wastraffu yn syfrdanol—syfrdanol. Degau o filiynau o bunnoedd ar gytundebau tir amheus, cymorth amheus i fusnesau—dyna ble mae'r arian yn mynd. Ac, rwyf wedi blino ar y diwylliant o ddibyniaeth yng Nghymru. Hoffwn weld cyllideb sy'n gofyn inni sefyll ar ein traed ein hunain. Hoffwn weld cyllideb sy'n arwain at bobl yn cael eu grymuso i fyw eu bywydau eu hunain. Gyda Senedd sofran, gallem wneud llawer mwy, ond dydy’r Llywodraeth hon ddim wir eisiau pwerau ychwanegol i newid pethau go iawn.
Mae Cymru yn wlad wych ac rydym yn haeddu Llywodraeth wych, ond nid dyna beth sydd gennym. Mae gennym Brif Weinidog sy’n destun archwiliad a’i ddyfodol yn ansicr, ac nid oes prin ddim deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno. Mae Plaid Cymru wedi cyfrannu at y gyllideb ac wedi gwneud gwelliannau, ond dim ond ffracsiwn bach ohono; mae 99 y cant o'r gyllideb hon i gyd gan Lafur, ac mae hynny i’w weld yn glir.
Byddaf hefyd yn pleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr oherwydd, gyda phob parch, nid ganddynt goes i sefyll arni. Maent wedi llwgrwobrwyo gogledd Iwerddon â £1 biliwn, a chanslo prosiectau fel trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru. A hyd yn oed ar ôl anfon yr holl arian hwnnw iddynt, maen nhw'n gadael i blaid o eithafwyr crefyddol benderfynu ar ein dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Cymru’n llawn talent, ond does dim byd difrifol yn y gyllideb hon i atal pobl rhag gorfod gadael ein gwlad i wneud eu dyfodol yn rhywle arall. Mae wedi bod yn glir ers blynyddoedd, ond mae’r gyllideb hon yn ei ddangos yn gliriach fyth: yr unig ffordd o symud Cymru ymlaen yw drwy symud Llafur allan o'r ffordd.
Llywydd, mae Cymru yn wynebu prinder sgiliau. Mae gennym ormod o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'n ffaith drist bod pobl yng Nghymru’n fwy tebygol o fod heb gymwysterau na phobl yn yr Alban nac yn Lloegr. Mae cyfran is o bobl yng Nghymru wedi cael gradd nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr, heblaw am y gogledd-ddwyrain. Mae cyrhaeddiad addysgol yn 16 oed yng Nghymru wedi bod yn waeth nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir yn rhyngwladol, ers tro. Mae gan Gymru lefel uwch o anllythrennedd ymarferol na Lloegr, ac mae tua hanner oedolion Cymru heb sgiliau rhifedd swyddogaethol.
Mae angen inni wella addysg a hyfforddiant yng Nghymru i’n pobl ifanc, a hefyd ymestyn y cyfleoedd a gynigir i oedolion, ein lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Mae pobl o gefndir lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o fethu â chyflawni llythrennedd a rhifedd swyddogaethol o gymharu â’r gymuned gynhenid o'u hamgylch. Mae cyfran uwch o bobl heb gymwysterau ymhlith y rhai sy'n anabl. Mae pobl ag anableddau dysgu’n llawer mwy tebygol o fod heb lythrennedd a rhifedd sylfaenol o gymharu â gweddill y boblogaeth y Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai eu nod yw rhoi brwdfrydedd i bawb i ddysgu drwy gydol eu bywydau, a’u hysbrydoli gydag uchelgais i fod cystal â phosibl, ac eto bydd y gyllideb dysgu oedolion yn y gymuned yn lleihau £400,000 yn 2018-19 a 2019-20. Bydd y gyllideb ar gyfer darpariaeth addysg bellach hefyd yn lleihau dros yr un cyfnod.
Llywydd, cafodd bron i chwarter yr holl swyddi a oedd yn agored yn 2015 eu gadael yn wag oherwydd na allai cyflogwyr ddod o hyd i bobl â’r sgiliau iawn a'r galluoedd iawn i'w llenwi. Mae hynny'n sefyllfa drist sy’n ein hwynebu oherwydd polisïau'r Llywodraeth hon yn y sector addysg a sgiliau yng Nghymru. Dylem fod yn gwneud mwy yn awr, yn enwedig yn y senario Brexit hwn. Mae angen mwy na 2 filiwn o reolwyr arnom ni—rheolwyr busnes—yn y Deyrnas Unedig yn y saith mlynedd nesaf. Felly, dylem fod yn ymbaratoi: dylai fod gan ein sector prentisiaethau, sgiliau a hyfforddiant ddigonedd o uwch gynghorwyr a swyddogion i addysgu a dysgu sgiliau arwain a rheoli yng Nghymru i lenwi’r swyddi gwag yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn rhai meysydd fel trafnidiaeth, addysg a’r sector amaethyddol, sydd wedi'u datganoli, a lle ceir prinder enfawr o sgiliau.
Mae'n rhaid inni osod targedau er mwyn cyflawni ein nodau. Weinidog, rwy’n meddwl—dydw i ddim yn amau eich gallu, ond rwy’n meddwl bod rhyw ddiffyg uchelgais a rhyw fath o anogaeth—. Dydw i ddim yn gallu deall. Clywais fy siaradwr blaenorol ar nifer o feysydd yr oedd yn eu creu ei hun yn y fath fodd nad yw Llafur yn helpu’r wlad hon o gwbl. Nid wyf yn cytuno â’r hyn a ddywedodd o gwbl, ond y ffaith yw bod rhaid i Lafur fuddsoddi mewn addysgu a hyfforddi ein plant ifanc a’n pobl ifanc, yn abl, yn anabl, ac yn lleiafrifoedd ethnig, ac mae angen hynny er mwyn gwneud yn siŵr mai nhw sy’n creu’r economi ac arian yn y dyfodol; rydym i gyd yn dweud hynny. A chlywais bawb yn sôn am fesurau cyni a hyn a'r llall. Y ffaith wir yw bod y gyllideb wedi cael ei lleihau 1c yn y £1. Os na allwch chi oroesi ar £1, dydy 99c ddim yn gwneud gwahaniaeth, ond rhaid ichi ddysgu mewn bywyd. Rhaid ichi addasu. Daeth Brexit yn ddirybudd, a'r ffaith yw nad ydym yn barod yma. Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, mae angen inni fuddsoddi yn ein sector addysg, sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru a dylai ein cenhedlaeth nesaf fod yn ffyniannus gyda dim ond yr agwedd honno; fel arall, nid yw’r gyllideb hon yn mynd i gyflawni ein huchelgais. Diolch.
Rydym wedi cael rhai cyfraniadau diddorol iawn yma y prynhawn yma, ac rwyf wedi gwrando ar y rhan fwyaf ohonynt; rhai, rhaid imi ddweud, â diddordeb, ac eraill ag anghrediniaeth, ac nid wyf am wneud dim sylwadau pellach ynglŷn â pha rai yw pa rai. Ond un peth a ddywedaf yw bod hon yn gyllideb ar y cyd, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cytuno arni, ac mae Plaid wedi dod at y bwrdd a chyflwyno pethau y gallem ni gytuno â nhw fel y gallem gynhyrchu cyllideb heddiw, yn hytrach na beirniadu o’r ymylon fel eraill.
Rwy’n meddwl mai’r hyn y mae gwir angen inni ei wneud wrth edrych ar gyllideb ar gyfer y dyfodol rhagweladwy mewn gwirionedd yw cyfuno’r pethau hynny neu uno polisïau a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Rhaid imi longyfarch y Llywodraeth Dorïaidd am gynhyrchu diwydiant twf mewn dau faes: un yw banciau bwyd a'r llall yw digartrefedd, oherwydd mae eu polisïau wedi cynhyrchu, am y tro cyntaf i mi allu ei gofio, cynnydd aruthrol mewn banciau bwyd. Rwy’n siŵr y bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod wedi bod ar y blaned hon ers cryn amser, ac nid wyf erioed wedi gweld dim byd tebyg i’r apeliadau hynny ym mhob man yr ydych chi'n troi, boed hynny mewn archfarchnad neu yn y wasg leol, ar Facebook neu Twitter, am roddion i helpu i fwydo pobl, nid pobl sydd allan o waith, ond pobl sydd mewn gwaith. Dyna gost cyni, ac rwy’n meddwl bod hynny’n hollol warthus.
A dewch inni fod yn glir ynghylch beth yw cyni mewn gwirionedd: dewis gwleidyddol i roi llai o arian i’r sector cyhoeddus. Pan maen nhw'n sôn am ideoleg—maen nhw'n aml iawn yn sôn am ideoleg—mae’n rhaid i ninnau sôn am y dewis ideolegol a wnaeth y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i dorri gwariant yn y maes cyhoeddus. Felly beth mae hynny'n ei olygu a sut y dylem gysylltu hynny gyda'i gilydd? Wel, mae'n weddol amlwg, os ydych chi'n lleihau gwariant cyhoeddus mewn ardaloedd fel Sir Benfro, lle mae 25 y cant o'r boblogaeth wedi’u cyflogi yn y sector cyhoeddus, rydych chi hefyd yn mynd i leihau'r gallu i adfywio'r ardal honno drwy wariant lleol. Mae'n ffaith, os nad yw pobl yn gweithio, neu os yw eu cyflogau wedi’u ffrwyno oherwydd cap cyflog, y bydd yr ardal honno’n mynd yn fwy a mwy tlawd, ac eto bydd y cynrychiolwyr Ceidwadol yn dod yma dro ar ôl tro i ofyn inni wario mwy o arian nad yw gennym yn yr ardaloedd hynny.
Y peth arall sy'n weddol glir yw, os ydych chi'n cyflwyno credyd cynhwysol yn y fath fodd fel bod gan bobl yn y pen draw symiau enfawr o ôl-ddyledion rhent, y bydd hefyd yn effeithio ar allu’r darparwyr tai hynny pan fyddan nhw eisiau benthyca arian—maen nhw'n dod yn fwy o risg. Wn i ddim, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny, ond mae'n wir mai’r mwyaf o risg yr ydych chi i fenthyciwr, yr uchaf fydd cost benthyca yn ei erbyn. Felly, pan fyddwn yn clywed y Ceidwadwyr yn dweud wrthym, 'Mae'n rhaid ichi adeiladu mwy o dai' neu 'Mae'n rhaid ichi sicrhau bod y stoc tai yn cynyddu'—os yw credyd cynhwysol, rhywbeth y mae’n ymddangos eu bod o’i blaid, oherwydd dydw i heb glywed llawer ohonyn nhw'n siarad yn ei erbyn, yn cynhyrchu effaith negyddol ar y meysydd polisi hynny y maen nhw'n gyson yn gofyn inni wneud rhywbeth amdanynt, bydd angen iddyn nhw ddechrau uno pethau. Oherwydd nid yw'r gyllideb yn sefyll ar wahân, ac mae Cymru’n teimlo effaith y cyni sy’n llifo o Lywodraeth San Steffan. Pan fyddwn yn sôn am ddiogelu pethau, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn hefyd yn gofyn ichi, fel y mae eraill wedi sôn amdano yma heddiw—pan fyddwn yn edrych ar y gronfa Cefnogi Pobl, a'r ffaith, yn ôl yr hyn a ddeallaf, eich bod wedi dweud yn glir iawn eich bod yn mynd i roi’r arian i gyd i lawr i lywodraeth leol i wneud penderfyniadau lleol i arbed arian ar fiwrocratiaeth, gofynnaf hefyd ichi fonitro’r gwariant o amgylch Cefnogi Pobl, yn enwedig ym maes rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, i sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer y rhai á'r angen mwyaf.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i bron bob un o'r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac ymddiheuro ymlaen llaw am y ffaith na fyddaf yn gallu ymateb i rai pwyntiau difrifol a wnaethpwyd?
A gaf i ddechrau drwy ddweud diolch i Simon Thomas am beth ddywedodd e? Rwy'n cydnabod y pwyntiau yr oedd ef yn eu gwneud am y pethau yr ŷm ni eisiau eu gwneud am y flwyddyn nesaf yn well—tryloywder, bod yn glir am y blaenoriaethau a'r berthynas rhwng y blaenoriaethau a'r rhaglen lywodraethu, diffyg data a phethau fel yna. Mae nifer o bethau yr ŷm ni eisiau gweithio arnyn nhw, ac rwy'n cydnabod hynny ar ddechrau fy ymateb.
A gaf i ddweud hefyd fy mod i yn edrych ymlaen at raglen waith y pwyllgor? Roedd lot o'r pethau yr oedd Cadeirydd y pwyllgor wedi'u hamlinellu y prynhawn yma lle fydd y Llywodraeth yn croesawu'r gwaith yna ac yn cymryd diddordeb yn y gwaith—y gwaith y mae'r pwyllgor yn mynd i'w wneud ar financial transaction capital, effaith Brexit ar ein cyllid ni, a threthi newydd datganoledig. Rwy'n siŵr y bydd Cadeirydd y pwyllgor wedi clywed beth ddywedodd Mick Antoniw ar asbestos yng nghyd-destun hynny.
Hefyd, wrth gwrs, ar y broses newydd o graffu sydd gyda ni, rydw i'n gwybod bod y Pwyllgor yn mynd i fynd ar ôl hynny a'n helpu ni i ailfeddwl pethau lle y gallwn ni wneud pethau'n well yn y dyfodol.
Nick Ramsay, Llywydd—dylwn i fod wedi dweud yn fy araith ragarweiniol; wrth gwrs, rydym ni ar drothwy tymor y Nadolig, ac, yn unol â diddordeb y Blaid Geidwadol mewn traddodiad, mae Mr Ramsay unwaith eto wedi tynnu’r llwch oddi ar y gwelliant y mae’r Blaid Geidwadol wedi’i gynnig yn y ddadl hon dros nifer o flynyddoedd bellach. Cyhuddais ef y llynedd o ailgylchu’r gwelliant heb ei newid o gwbl, a gwadodd hynny. Yn wir, eleni, mae ei welliant yn dod â sarhad ychwanegol ar ffurf berfenw hollt, rhywbeth y llwyddodd i’w osgoi y llynedd. [Chwerthin.] Ond yn anffodus—
Dim ond gair o gyngor, os ydych chi'n gwrthwynebu berfenwau hollt yn gryf, peidiwch byth â darllen Shakespeare na Beibl y Brenin Iago. [Aelodau'r Cynulliad: 'O'.]
Mae wedi ymddangos i mi erioed, Llywydd, y byddai gan ddarllenwyr Conrad fwy o grap ar arddulleg Saesneg na hynny. Fodd bynnag, dewch imi ddweud bod dwy thema fawr, rwy’n meddwl, wedi rhedeg drwy'r ddadl y prynhawn yma. Hoffwn ddweud rhywbeth yn fyr am y ddwy ohonynt.
Mae'r ddadl sylfaenol ar draws y Cynulliad yn seiliedig ar bolisi macro-economaidd. Ar un ochr i’r ddadl, rydym wedi clywed gan gyfres o siaradwyr darbwyllol—Hefin David, Mick Antoniw, Joyce Watson, Mike Hedges, Jane Hutt—pob un ohonyn nhw wedi’u lleoli rhwng y cynnig a nododd Steffan Lewis yn gynharach yn y ddadl am natur hunandrechol cyni. Ar yr ochr arall i’r ddadl, mae gennym ymagwedd ychydig yn fwy cynnil. Mae gennym ymagwedd Nick Ramsay, sef gresynu wrth reidrwydd cyni. Felly, mae'n ei ystyried yn anghenraid, ond mae'n gresynu hynny ac yna’n mynd ymlaen i roi cyfres o gyngor imi am fannau lle gallwn wario arian nad oes gennym o ganlyniad i Lywodraeth y DU. Mae gwir lais cyni yn llawer agosach at yr hyn a ddywedodd Mr Hamilton a’i adlais ar yr ochr arall i’r Siambr, Mark Reckless. Roedd ei ddynwarediad o ysbryd Marley wrth iddo gloncian ei ffordd ar draws y Siambr y prynhawn yma, roeddwn yn meddwl, yn rhyfeddol.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Tybed a wnaiff gadarnhau ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai’r Deyrnas Unedig aros o fewn y farchnad sengl, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Gymraeg yn gynharach?
Brwdfrydedd deongliadol y ffanatig Brexit i bigo dros eiriau unigol yn Gymraeg ac yn Saesneg—o leiaf mae’n dod â rhywfaint o amrywiaeth i’w wledd. Ailadroddodd y Prif Weinidog y safbwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fabwysiadu ers y cychwyn cyntaf, sef y byddai cyfranogi’n llawn a dilyffethair yn y farchnad sengl a pharhau i gyfranogi mewn undeb tollau o fudd enfawr i economi Cymru, ac y byddai Llywodraeth y DU synhwyrol a oedd â diddordeb mewn rhoi anghenion ein heconomi yn gyntaf yn ymestyn y manteision hynny i Gymru, gan ei bod yn ymddangos ddoe ei bod yn fodlon eu hymestyn i ynys Iwerddon.
Yna, aeth Mr Reckless yn ei flaen i wrthwynebu’r ffaith ein bod yn bwriadu codi nifer bach o filoedd o bunnoedd ar drafodion sy’n werth niferoedd mawr o filiynau o bunnoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod 90 y cant o drafodion masnachol yng Nghymru naill ai’n talu dim treth o gwbl, neu’n talu dim mwy o dreth nag y maen nhw heddiw. Mae hynny oherwydd ei fod yn rhannu barn sylfaenol Neil Hamilton am economeg, sef mai’r unig ffordd o wneud i bobl gyfoethog weithio'n galetach yw eu gwneud yn gyfoethocach fyth, ac mai’r unig ffordd o wneud i bobl dlawd weithio'n galetach yw gwneud yn siŵr nad oes ganddyn nhw ddigon i ymdopi, fel na fyddan nhw'n ymlacio ar daliadau’r dôl.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
A ydych chi wedi darganfod erioed ble mae’r pwynt croesi?
Naddo, Mike; rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yn ymddangos yn un o adroddiadau’r Pwyllgor Cyllid er mwyn imi allu ei ddilyn yn y ffordd honno.
Mae’r ail ddadl fawr ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma wedi ymwneud â pholisi iechyd, ac eto mae amrywiaeth o safbwyntiau yma. Ni wnaf ymddiheuro o gwbl am y ffaith bod y Llywodraeth Lafur hon yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd bob blwyddyn, ein bod yn llenwi'r bwlch Nuffield, ein bod yn gwneud yn siŵr bod gan ein gwasanaeth iechyd yr adnoddau sydd eu hangen arno. Dewch imi dorri'r arfer a chytuno â rhywbeth a ddywedodd Mr Hamilton yma, oherwydd roedd yn iawn pan ddywedodd fod costau newydd yn y gwasanaeth iechyd bob blwyddyn na allwn ddianc rhagddyn nhw. Ni waeth faint yr hoffem i’r gwasanaeth iechyd symud i gyfeiriad atal, ni waeth faint yr hoffem fod yn benderfynol y dylai'r gwasanaeth iechyd leihau costau lle bynnag y gall, mae’r ffaith bod gennym boblogaeth sy'n heneiddio, a’r ffaith bod mwy o bethau bob blwyddyn y mae'r gwasanaeth iechyd yn gallu eu gwneud, yn golygu bod costau ychwanegol yn annatod yn y gwasanaeth iechyd, ac rydym yn wynebu’r rheini yma yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth hon yn eu hwynebu drwy geisio gwneud yn siŵr ein bod yn darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaeth iechyd i dalu’r costau hynny.
Roeddwn yn cytuno â llawer iawn o’r hyn a ddywedodd Angela Burns; gwnaeth ei chyfraniad meddylgar nodweddiadol. Wrth gwrs, hoffai fy nghyd-Aelod Vaughan Gething wneud yn siŵr ein bod yn symud deial y gwasanaeth iechyd o blaid ymarfer cyffredinol: dyna pam mae gennym gronfa fuddsoddi £40 miliwn newydd yn yr ystâd gofal sylfaenol. Ond bydd hi'n gwybod—bydd hi'n gwybod o’i phrofiad uniongyrchol ei hun—pa mor anodd yw hi yn y gwasanaeth iechyd, pa mor anodd yw perswadio’r cyhoedd i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yn hytrach na gwasanaeth ysbyty. Soniwch am y gair 'Llwyn Helyg' yn Sir Benfro, a bydd pobl yn dod allan ar y strydoedd oherwydd eu bod yn meddwl bod yna rywbeth i’w amddiffyn. Soniwch am y term 'gofal sylfaenol', sef lle daw 90 y cant o’u cysylltiadau, ac mae'n llawer, llawer anoddach perswadio pobl i deimlo’r un— [Torri ar draws.] Gwnaf. Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n derbyn yn llwyr y dybiaeth yr ydych chi newydd ei hamlinellu, ond dyna pam mae’n rhaid inni edrych ar ryw ffordd o gael arian sefydlu. Oherwydd os gallwn sicrhau bod y gwasanaethau cymunedol lleol hynny’n gweithio ac yn gweithio'n dda—lleoedd fel Stryd Argyle; rwy’n siŵr bod enghreifftiau eraill ledled Cymru—bydd gan y cyhoedd lawer mwy o ffydd nad oes angen iddyn nhw ruthro i'r ysbyty bob tro y mae ganddyn nhw broblem.
Wel, ni wnaf anghytuno â hynny, Llywydd, pan allwn ni wneud hynny. Doeddwn i ddim yn anghytuno â’r hyn a ddywedodd Mark Isherwood am yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y dinesydd yn bartner yn y broses honno, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda dinasyddion yn y broses o newid. Mae'n anoddach gwneud hynny, rydym yn gwybod, yn ymarferol yn hytrach na'i ddweud.
Felly, ar y ddau bwynt mawr hynny, Llywydd, gallwch weld bod gwahaniaeth barn ar draws y Siambr. Yn y cytundeb sydd gennym â Phlaid Cymru, gadewch imi fod yn glir: dydw i ddim yn gweld hyn fel cytundeb tymor byr fel y dywedodd Nick Ramsay. Rwy’n ei weld fel cytundeb sylweddol sy’n para am dros ddwy flynedd lle nad ydym yn cytuno ynghylch popeth—wrth gwrs nad ydym ni—ond mae yna gyfres gyffredin o ddibenion.
Wrth sôn am y tymor hwy, rwy’n golygu mwy na dwy flynedd, ac rwy’n gwybod y byddech chithau, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddelfrydol, yn hoffi meddwl am gyfnod hwy na dwy flynedd hefyd ond mae eich dwylo wedi'u clymu gan y fargen hon yr ydych chi wedi gorfod ei tharo. Ac mae'n ddrwg gennyf nad ydych chi'n hoffi fy ngwelliant, ond rwy’n ddilynwr Star Trek erioed felly rwy'n hoff o hollti ambell i ferfenw.
Wel, rydych chi wedi mynd ati’n fentrus, unwaith eto, wrth osod eich gwelliant, mi wn. Llywydd, mae fy nwylo wedi’u clymu, nid oherwydd ein cytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ond oherwydd y ffaith nad oes gennym adolygiad cynhwysfawr o wariant gan ei Lywodraeth ef, felly does gen i ddim cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru am fwy na dwy flynedd ymlaen. Dyna pam nad wyf yn gallu gwneud dim byd y tu hwnt i hynny.
Cafodd cyfres, Llywydd, o bethau penodol iawn eu codi yn y ddadl. Rwy’n gwybod bod Mike Hedges yn frwd dros y rhaglen SHEP a’r hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud gyda’r £0.5 miliwn yr ydym ni wedi ei neilltuo ym mhob blwyddyn o'r gyllideb i helpu teuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud mwy. Rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud mwy yn Abertawe.
A gaf i egluro un pwynt sydd wedi'i godi gan nifer o Aelodau ac yna byddaf yn gorffen, Cadeirydd, sef Cefnogi Pobl? Oherwydd rwy’n gwybod y bu pryderon amdano. Gadewch imi ddarllen dwy frawddeg ichi o lythyr a anfonwyd gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, at Bethan Jenkins i egluro’r mater hwn. Yn gyntaf oll, mae'r Gweinidog yn nodi'n glir nad oes dim penderfyniadau wedi'u gwneud hyd yma ynghylch creu grant ymyrraeth gynnar ac atal yn 2019-20. Mae'r Gweinidog yn disgwyl am y dystiolaeth o'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes cyn dod i'r casgliad hwnnw. Pan fydd hi’n gwneud penderfyniadau ar hynny, meddai yn y llythyr, waeth beth fo'r gwaith hwnnw, 'hoffwn ailadrodd, o ganlyniad i gytundeb cyllideb a drefnwyd â Phlaid Cymru, na fydd toriadau cyllid ar gael ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn 2018-19 nac yn 2019-20’, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau hynny sydd wedi teimlo pryderon y prynhawn yma yn cymryd cysur yn y datganiad clir iawn hwnnw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 5 yn enw Paul Davies.
Dyma ni'n cyrraedd yr eitem ar y ddadl ar ansawdd aer. Rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6602 Julie James
Cefnogwyd gan Jayne Bryant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru
2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:
a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau lleol, lle’r bo’r angen;
b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â nhw;
c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;
d) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae gwella ansawdd yr aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', ac yn yr un modd mae'n flaenoriaeth portffolio allweddol i mi. Mae cymryd camau i wella ansawdd yr aer yn cyfrannu'n sylweddol at y rhan fwyaf o'r nodau llesiant yn ein deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac rwyf wedi ymrwymo'n gadarn i weithredu yn y maes hwn. Nid dim ond mater o gydymffurfio â’r gyfraith yw’r angen am weithredu brys; mae'n hollbwysig a dyna’r peth iawn i'w wneud o ran iechyd a lles ein pobl a'n cymunedau. Does dim un ateb syml i'r her, ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd ac mae gan y Llywodraeth ar bob lefel ran i’w chwarae—yn lleol, yn y DU ac yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio defnyddio dadl heddiw i ddatblygu'r drafodaeth am y camau gweithredu traws-lywodraethol sydd eu hangen i wella ansawdd yr aer yng Nghymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Heddiw, mae gennym ni aer glanach yng Nghymru nag yn y degawdau diwethaf, ond fel bob amser, rydym ni'n gwybod bod mwy inni ei wneud. Fy nod yw i ni fod yn arweinydd wrth ddarparu atebion arloesol ac effeithiol i fynd i'r afael â llygredd aer, gan sicrhau aer glân i bawb. Rwyf felly'n cymryd camau ar unwaith, drwy raglen waith traws-Lywodraethol gynhwysfawr, i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyhoeddi cynllun aer glân ar gyfer Cymru yn 2018. Bydd y cynllun yn cynnwys gwelliannau i brosesau adrodd awdurdodau lleol ar broblemau ansawdd yr aer a'u cynlluniau i ymdrin â nhw, fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru i sicrhau sefydlu parthau aer glân yn gyson ac yn effeithiol gan awdurdodau lleol, lle bynnag y mae eu hangen, sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd yr aer genedlaethol ar gyfer Cymru, a chyflawni cyfathrebu ac ymyraethau traws-Lywodraethol parhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael.
Bydd y fframwaith parthau aer glân yn nodi ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru a'n disgwyliadau o ran sut y dylid eu sefydlu a beth y dylent ei gyflawni, gyda phwyslais clir ar ganlyniadau iechyd. Parth aer glân yw ardal lle y cymerir camau gweithredu wedi'u targedu i wella ansawdd yr aer. Y nod yw lleihau pob math o lygredd aer, gan gynnwys nitrogen deuocsid a gronynnau. Mae'r parthau yn benodol i ardal, felly ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn un ddinas neu le o reidrwydd yn cael yr un effaith neu effeithiolrwydd mewn mannau eraill. Yn ogystal â sicrhau gweithredu cyson ac effeithiol, bydd y fframwaith yn helpu i wneud yn siŵr bod disgwyliad clir gan fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd o beth yw parth a sut y gallai effeithio arnyn nhw.
Yn ogystal â hyn, bydd datblygu gwelliannau i drefniadau adrodd ar ansawdd aer awdurdodau lleol yn rhyddhau eu hamser i ganolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i ymdrin â'r problemau y maen nhw'n eu nodi. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynllunio a sefydlu canolfan genedlaethol i asesu a monitro ansawdd yr aer. Bydd y ganolfan yn gam pwysig i sicrhau'r wybodaeth fyw a'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau prydlon, cydlynol ac effeithiol ar faterion ansawdd aer ar lefel leol ac ar lefel Llywodraeth genedlaethol. Bydd y ganolfan hon yn rhoi pwyslais parhaus ar sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol ac ardaloedd penodol lle ceir problemau, gan leihau amlygiad i lygredd yn fwy eang, a bydd yn helpu i dargedu camau gweithredu er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf o ran iechyd a lles y cyhoedd .
Bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gweddill Llywodraeth Cymru i gydgynllunio a chyflwyno camau cyson wedi'u cydgysylltu'n dda i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd aer a'i effeithiau ar iechyd. Y nod fydd helpu dinasyddion i leihau eu hallyriadau a'u hamlygiad eu hunain i lygredd. Yn rhan o'r gwaith hwn, gallaf gyhoeddi heddiw ail-lansio ein gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y wefan ar ei newydd wedd yn cynnwys gwell gallu i ragweld ansawdd aer, adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd. Bydd cynlluniwr llwybr llygredd newydd yn cael ei ychwanegu at y wefan cyn bo hir i lywio teithio iachach ar draws canolfannau trefol.
Ym mis Gorffennaf eleni, er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer, ymrwymodd Llywodraeth y DU i roi terfyn ar werthu pob car a fan petrol a diesel confensiynol newydd erbyn 2040. Mae hwn yn gam angenrheidiol a chadarnhaol i gyflawni ein dyheadau, ond mae 2040 yn parhau i fod ymhell i ffwrdd, felly rwyf yn gofyn i bawb yn y lle hwn ymuno gyda'i gilydd i gefnogi a galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu, gyda'n cefnogaeth a'n cydweithrediad ni, amserlenni clir ar gyfer pontio blaengar i drafnidiaeth ffyrdd di-allyriadau.
Heddiw, hoffwn dynnu sylw at waith arall sy'n cael ei wneud i gyflawni'r hyn yr hoffem ni ei weld yn ein symud ymlaen at uchelgeisiau cynllun aer glân ar gyfer aer glanach yng Nghymru. Mae rheoliadau wedi'u gosod yn y Cynulliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaeth cyhoeddus ystyried adroddiadau ar gynnydd ansawdd aer gan awdurdodau lleol wrth lunio'r asesiadau llesiant lleol. Mae hyn bellach yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhagor o waith cydweithredol ar ansawdd aer rhwng cyrff cyhoeddus. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda swyddogion iechyd yr amgylchedd ac awdurdodau lleol i gryfhau'r darpariaethau ansawdd aer a seinwedd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae fy adran i'n sicrhau bod arian ar gael ar gyfer grant refeniw sengl i awdurdodau lleol i gefnogi camau gweithredu lleol ar ansawdd aer. Yn ogystal â hyn, bydd ein cynllun gweithredu cenedlaethol newydd ar sŵn, a fydd yn dod y flwyddyn nesaf, yn integreiddio polisïau ansawdd aer a sŵn yng Nghymru ymhellach.
Mae'n amlwg nad yw'n ddigon i ddatblygu cynllun ar gyfer ansawdd aer mewn un maes yn unig. Rwyf i'n dymuno gweld ansawdd aer yn dod yn rhan annatod o bolisïau cynllunio, seilwaith, trafnidiaeth, teithio llesol ac iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob cyfeiriad, o'r cynlluniau cenedlaethol a lleol a chamau trafnidiaeth i gynllunio trefol a phlannu coed a gwrychoedd mewn modd sydd wedi'i gynllunio'n dda. Fe allwn ni, wrth gwrs, geisio cryfhau'r mesurau deddfwriaethol a rheoliadol, ac rwy'n hollol barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Gellir priodoli rhan fawr o'r her a wynebwn gydag ansawdd ein haer i allyriadau trafnidiaeth, ond mae rhai mathau o gynhyrchu ynni a phrosesau diwydiannol, ffermio ac arferion busnes eraill, a rhai o'r ffyrdd y mae pobl yn eu defnyddio i wresogi eu cartrefi, i gyd yn ffactorau cyfrannol. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw drwy ymdrech ar y cyd ar draws y Llywodraeth gan ddefnyddio'r holl arfau sydd gennym.
Mae llygredd aer yn aml iawn yn tarddu o'r un gweithgareddau ag sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Felly, mae'n rhaid i'n hymdrechion fynd i'r afael â'r ddau fod wedi'u hintegreiddio'n llwyr, ac felly bydd datgarboneiddio yn gysylltiedig â chynhyrchu pŵer a diwydiannau mawr yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at aer glanach yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni yng Nghymru i weithredu ac i helpu i wneud gwelliannau gwirioneddol a pharhaol i ansawdd yr aer yr ydym ni i gyd yn ei anadlu. Gydag ewyllys ac ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu'r gwelliannau hyn a'r cyfleoedd y maen nhw'n eu darparu ar gyfer Cymru iachach, mwy llewyrchus a mwy cyfartal. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau y prynhawn yma ynghylch ble'r ydym ni, ble dylem ni fod yn mynd, a beth arall y bydden nhw'n hoffi eu gweld o ran ansawdd aer yn ystod gweddill y tymor hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Simon.
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.
Gwelliant 4 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.
Gwelliant 6 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 6.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw Plaid Cymru, wrth gynnig y gwelliannau hyn, yn gwrthwynebu'r cynnig gwreiddiol, na chwaith y rhan fwyaf o gynnwys Gweinidog yr Amgylchedd yn ei haraith gyntaf, rydw i'n meddwl, yn y Siambr o dan ei dyletswyddau newydd. Ond beth rydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi ffocws ar lle'r ydym ni'n credu bod angen gweithredu ar frys er mwyn mynd i'r afael â'r broblem iechyd cyhoeddus hon.
Mae ein gwelliannau ni yn ffocysu ar yr angen i symud oedd wrth gynllun i rywbeth llawer mwy statudol, lle mae yna oblygiadau a dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i fonitro a gweithredu ar lygredd awyr. Gan ein bod ni'n rhannu hen anrhegion Nadolig o'r llynedd, nid wyf i'n mynd i ymddiheuro bod y cynigion hyn yn seiliedig ar y gwelliannau gwnaethom ni drio eu gwneud fel Plaid Cymru i'r Bil iechyd cyhoeddus ryw chwe mis yn ôl. Rydym ni'n aildwymo'r cawl yna achos rydym ni'n meddwl ei fod e'n berthnasol ac angen ei weithredu arno fe.
Ac er fy mod i'n cytuno â'r rhan fwyaf o beth ddywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol, ni wnaeth hi sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yn wynebu achos llys nawr gan ClientEarth am fethiannau o ran darparu awyr glân yng Nghymru. Er bod yna ryw ymgais yn yr hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud i fwrw bai ar San Steffan, mae'r maes yma wedi ei ddatganoli yn llwyr, ac mae'r gallu i fynd i'r afael â llygredd awyr yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Felly, rwy'n credu, wrth gymryd hyn wir o ddifrif, bod angen inni symud o fyd o gynlluniau a byd o uchelgais i un o gyflawni statudol gwirioneddol ac un lle y gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nid oes unrhyw amheuaeth mai llygredd aer yw pob un o'r problemau amgylcheddol sydd wedi'u disgrifio, ond mae hefyd yn broblem iechyd cyhoeddus wirioneddol. Hwn yw'r ail achos o farwolaeth gynamserol yng Nghymru. Yn ail dim ond i ysmygu, y gallech chi ddweud ei fod yn broblem llygredd aer ei hun, felly maen nhw'n gysylltiedig. Ond mae'n achosi problemau mawr i blant a phobl oedrannus sydd â salwch cronig sy'n bodoli eisoes.
Mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni wir ei ystyried o ddifrif yn y fan yma. Mae'r effaith fwyaf i'w gweld yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Nid yw'r bobl gyfoethocaf yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd â phroblemau ansawdd aer. Maen nhw'n byw yn agos i fannau agored gyda choed a pharciau gyda rhywfaint o brysgwydd naturiol, fel petai. Er enghraifft, mae 10 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig â lefelau pum gwaith yn uwch o lygredd aer carsinogenig. Mae'n amlwg iawn yn fater iechyd y cyhoedd ac yn fater cyfiawnder cymdeithasol. Os edrychwn ni ar y trefi a'r dinasoedd hynny, ac, yn enwog, ffordd Hafod-yr-Ynys yng Nghrymlyn yng Nghaerffili, sydd yn un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yn y DU, heb sôn am Gymru, rydym ni'n gweld yn glir iawn y cysylltiad rhwng problemau ansawdd aer a chymunedau difreintiedig a chymunedau sy'n cael trafferth i ymdopi yn economaidd hefyd. Felly, nid yw pobl yn gallu symud allan o'r cymunedau hynny a gwneud eu dewisiadau eu hunain.
Rwy'n credu, wrth ymdrin â hyn, nad ydym ni ddim ond eisiau clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i nodi; rydym ni eisiau clywed mwy am ba dargedau yn union a gaiff eu pennu a pha waith monitro statudol fydd yn cael ei wneud. Roeddwn i'n falch bod y Gweinidog wedi sôn am goed a llwyni, ond rwy'n credu bod angen inni glywed ychydig mwy am gynllun penodol i blannu coed—y math iawn o goed, oherwydd mewn gwirionedd mae'n dibynnu pa fath o goed yr ydych chi'n eu plannu ym mha ardaloedd, yn ôl yr hyn a ddeallaf—i sicrhau bod gennym ni ffordd naturiol o geisio glanhau ein haer. Ond mae angen inni hefyd gael mwy o bwyslais, ie, ar y problemau a grëwyd gan y seilwaith trafnidiaeth sydd gennym, ond ar y cyfleoedd hefyd i ddatgarboneiddio hynny yn y ffordd symlaf bosibl, sef ei gwneud yn haws i gerdded a beicio—dim ond ei gwneud yn haws i fynd o gwmpas.
Mae Sustrans—[torri ar draws.] Clywais 'Clywch, clywch' gan gyn berson Sustrans yn y fan yna, rwy'n credu. Mae Sustrans, dim ond yn yr ychydig wythnosau diwethaf, wedi archwilio'r cynlluniau cerdded a beicio ar gyfer Lloegr a'r Alban—ni allwn ddod o hyd i'r un ar gyfer Cymru; Dydw i ddim yn gwybod os gwnaethon nhw un ar gyfer Cymru ai peidio, ond yn sicr fe wnaethon nhw un ar gyfer yr Alban a Lloegr—a oedd yn dweud, dim ond pe byddai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu, heb ofyn am fwy nag y mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud eu bod yn mynd i'w wneud beth bynnag, y byddai'n lleihau marwolaethau o ganlyniad i lygredd aer gan fwy na 13,000 yn y ddwy wlad honno dros y 10 mlynedd nesaf ac y byddai'n arbed bron i £10 biliwn. Felly, mae gwir angen inni integreiddio mesurau llygredd aer—a mesurau aer glân, i fod yn fwy cadarnhaol—yn y ffordd yr ydym yn strwythuro ein system drafnidiaeth, yn y ffordd yr ydym yn adeiladu ein hysgolion, a lle'r ydym yn adeiladu ein hysgolion. Mae'n rhaid inni gael, fel mesur dros dro, yn sicr, gyfrifoldeb statudol i fonitro ansawdd yr aer y tu allan i'n hysgolion, oherwydd bod plant sy'n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fod â datblygiad ysgyfaint gwael ac yn fwy tueddol o gael heintiau.
Felly, mae hyn i gyd, i mi, yn golygu nad yw llygredd aer wedi cael y sylw y mae'n ei haeddu gan y Llywodraeth hyd yma, na gennym ninnau fel Aelodau Cynulliad. Mae hynny wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi dechrau siarad mwy am y peth; rydym ni wedi dechrau ei gymryd yn fwy o ddifrif. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud tuag at gynllun gweithredu, ond nid wyf yn credu y byddwn yn ymdrin â hyn yn llawn tan y byddwn wedi ei roi ar ein llyfr statud a bod gennym ymagwedd statudol wirioneddol i aer glân yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 5 Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040—ac yn galw am fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y DU a chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig iechyd y cyhoedd.
Cynigiwyd gwelliant 5.
Cynigiaf y gwelliant, Dirprwy Lywydd. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ansawdd amgylchynol yr aer yn y DU ar y cyfan, wedi gwella'n gyson dros y degawdau diweddar, yn bennaf o ganlyniad i leihad mewn allyriadau diwydiannol a gwell rheoleiddio a datblygiadau technolegol mewn tanwydd cerbydau glân a pheiriannau mwy effeithlon. Ond mae'n drasiedi fawr, mewn gwirionedd, o ystyried bod ansawdd aer yn gwella ar y cyfan, bod gennym ni broblemau gwirioneddol o hyd, ac mae llawer o'r enillion yn cael eu gwrthbwyso gan y nifer gynyddol o gerbydau ar y ffyrdd, ac maen nhw yn aml yn crynhoi mewn ardaloedd difreintiedig iawn, fel y mae Simon newydd ei amlinellu. Rwy'n credu felly bod angen inni ddychwelyd at hyn a chael dull wedi'i dargedu, ymagwedd leol iawn, ac i sylweddoli pa mor integredig yw hyn â rhai o'r ffactorau ehangach fel amddifadedd—a hefyd y materion iechyd, sy'n amlwg iawn, yn fy marn i, ac ni wnaf eu hailadrodd, gan fod Simon wedi nodi hynny. Ond dim ond i ddweud, yn ogystal â'r costau unigol ofnadwy, mae'r costau cymdeithasol a amcangyfrifwyd gan DEFRA yn sylweddol iawn, sef cyfanswm bob blwyddyn o rywbeth fel £27.5 biliwn. Amcangyfrifir bod gronynnau ar eu pennau eu hunain yn £16 biliwn y flwyddyn, felly mae'n amlwg bod angen inni gymryd camau yn y fan yma mewn modd grymus iawn.
A gaf i ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr, yn fy marn i, yn angenrheidiol? Dim ond oherwydd bod pwynt 3 y cynnig hwn, yn fy marn i, ychydig yn anfoddog ac yn anghydweithredol o ran ei nod. Felly, rwy'n ceisio unioni hynny, oherwydd bod angen ymdrech gydgysylltiedig arnom ar draws y pleidiau ac ar draws y Llywodraeth, yr oedd, er tegwch i'r Gweinidog, tôn ei haraith yn ei adlewyrchu. Byddem yn croesawu'r prif fesurau yn fawr fel cael gwared ar geir a faniau petrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2040. Dylem ni fod yn annog partneriaeth gyda hynny, gan sicrhau ei fod yn cael ei orfodi yn effeithiol ac, o bosibl, wrth i'r farn gyhoeddus efallai ddod yn fwy grymus hefyd a heriol, yna gallem ni hyd yn oed wneud ychydig yn well na'r targedau. Felly, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen inni adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud mewn ffordd arloesol iawn gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu mai hi yw'r cyntaf i gyhoeddi'r targedau hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r math o weledigaeth y dylem ni fod yn ei hailadrodd yn y meysydd sydd o dan ein rheolaeth.
Yn gyffredinol, rwy'n croesawu gwelliannau Plaid Cymru, ar wahân i'r gwelliant olaf, a byddwn ni'n ymatal ar hwnnw oherwydd ei dôn hunanglodforus, gan nad ydym yn arbennig eisiau bod felly—[torri ar draws.] Roeddwn i o'r farn bod y gwelliannau eraill yn eithaf adeiladol; gwelliant 1 yn ailadrodd y pwyntiau hynny ynghylch yr agweddau ar iechyd y cyhoedd. Roeddwn i'n meddwl yn arbennig bod gwelliant 4 yn ddefnyddiol, o ran rheoli ansawdd aer o amgylch ysgolion. Os edrychwch chi ar amlygiad plant i lygredd aer difrifol ac effeithiau hynny, mae'n codi cryn bryder. Rwy'n gwybod bod cais rhyddid gwybodaeth diweddar a gyflwynwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i awdurdodau lleol wedi canfod nad oedd 57 y cant ohonyn nhw'n monitro llygredd aer o fewn 10m i ysgolion. Nawr, mae honno'n broblem ledled y DU—rwy'n derbyn nad dim ond yng Nghymru y mae hyn. Ond rwy'n credu bod hynny'n arwydd clir iawn o'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud, mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod ni'n gwella safonau ac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn benodol.
Cyn imi gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i sôn yn gyflym am swyddogaeth trefi a dinasoedd yn yr ymdrechion hyn? Mae ardaloedd trefol Cymru yn rheng flaen y frwydr i leihau allyriadau ac i wella ansawdd aer. Rwyf wedi cydnabod hyn ers amser maith ac wedi galw am fesurau mwy sylweddol i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n falch bod hyn yn llawer uwch ar yr agenda erbyn hyn. Roedd dadl leiafrifol Geidwadol ar hyn yn gynnar iawn yn y Cynulliad hwn, yn ystod haf 2016, gan nad oedd wedi ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu—ansawdd aer—ac roeddem ni'n bryderus iawn am hynny. Felly, fe wnaethom godi'r mater bryd hynny. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi rhoi mwy o sylw iddo, ond rwy'n credu bod rhai pwyntiau perthnasol iawn sydd eisoes wedi'u gwneud gan Simon am yr angen i sefydlu targedau nawr.
Adroddodd pum tref a dinas yng Nghymru—Port Talbot, Cas-gwent, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer yn 2016, ac nid yw hi'n anodd gweld pam, a'r math o gamau y mae eu hangen arnom o ran lleihau'r defnydd o geir a mwy o gynlluniau teithio llesol. Mae'r broblem sydd gennym o allyriadau cerbydau yn fater tra phwysig, a dyma sy'n gyfrifol am tua 70 y cant o'r llygryddion yn yr aer. Rwy'n falch o weld un neu ddau o ddatganiadau barn ar hyn, ac rwyf i wedi gosod un yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynllun treialu parth aer glân yng Nghaerdydd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Hyd yma, mae swyddogaeth arweiniol awdurdodau lleol wedi bod yn rhan amlwg o'r polisi ansawdd aer, ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr angen am arweiniad cenedlaethol. Rydym ni wedi gweld hynny gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod angen inni weld mwy erbyn hyn gan Lywodraeth Cymru, ond byddant yn cael ein cydweithrediad pan fyddant yn gwneud y peth iawn.
Er ein bod wedi gwella'r cynnig, rwy'n siŵr y byddwn yn cefnogi beth bynnag y bydd y Cynulliad yn ei fabwysiadu y prynhawn yma yn y ddadl bwysig hon. Diolch.
Mae ansawdd yr aer yn sicr yn fater pwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd, a hefyd ar gyfer yr amgylchedd. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed rhai themâu pwysig iawn y mae angen mynd i'r afael â nhw yn llawn os ydym ni am wneud y math o gynnydd yr wyf yn siŵr yr hoffai pawb ohonom ei weld.
Ydy, mae'n her fawr mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, yn ein dinasoedd a'n trefi, yn ogystal â mewn mannau eraill. O ran y trefi a'r dinasoedd, mae Casnewydd yn un o'r dinasoedd sydd â heriau sylweddol, ac rwy'n credu bod y math o faterion sydd eisoes wedi eu codi heddiw wrth wraidd gwneud y cynnydd angenrheidiol yr hoffwn i ei weld yng Nghasnewydd ac yn wir ei weld ledled Cymru.
Rwyf i'n credu bod ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gyfle pwysig i wneud cynnydd angenrheidiol. Mae gennym awdurdodau lleol yn cyflwyno eu mapiau llwybrau integredig ar hyn o bryd, ac mae angen i ni ymgysylltu â'r ddeddfwriaeth honno, y Ddeddf ei hun, ac yn wir y cynlluniau gweithredu, gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Os byddwn yn gwneud hynny'n effeithiol, Dirprwy Lywydd, byddwn yn cymryd camau bras i fynd i'r afael â'r defnydd o gerbydau, sydd wrth wraidd llawer o'r problemau ansawdd aer gwael hyn.
Gwyddom, yn y blynyddoedd i ddod, y gallem ni weld datblygiadau pwysig a fydd yn ein helpu o ran yr agenda hon—er enghraifft, cerbydau trydan. Ond nid dyna'r stori gyfan, gan fod llawer o'r problemau o ran mater gronynnol 2.5, sy'n llai na lled blewyn dynol, yn dod o frêcs a theiars cerbydau. Gellid ymdrin â nhw drwy newid technolegol, ond mae hynny yn rhan o'r ddadl ynghylch cerbydau trydan.
Felly, mae angen inni ostwng y defnydd o gerbydau, a cheir cyfle pwysig i wneud hynny drwy'r ddeddfwriaeth teithio llesol. Felly, wyddoch chi, mae gwir angen inni weld ymrwymiad a brwdfrydedd parhaus wedi'i ailfywiogi gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a phawb yng Nghymru ar yr agenda honno.
Credaf hefyd, unwaith eto, fel y crybwyllwyd eisoes, y gallasem ni wneud llawer mwy o ran gwyrddu amgylcheddau trefol. Rwy'n cytuno â Simon Thomas bod hyn hefyd am y math iawn o goed, oherwydd ein bod wedi gweld enghreifftiau pan fo coed wedi'u plannu mewn ardaloedd trefol a'u bod wedi creu problemau nas rhagwelwyd, neu os y'u rhagwelwyd ni chymerwyd camau ar eu cyfer, ac yna flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r coed hynny wedi eu tynnu oddi yno. Mae angen inni wneud hyn mewn modd cynaliadwy ac mae angen inni wneud ein gwaith cartref ymlaen llaw.
Fflydoedd tacsi—rwy'n credu fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen, a gwn bod eraill wedi gwneud hynny hefyd—mae'n enghraifft ymarferol iawn o rywbeth y gellid ei wneud. Maen nhw'n cyfrannu'n sylweddol at y problemau cerbydau trafnidiaeth ffyrdd yn ein hamgylchedd trefol. Os, er enghraifft, y byddai fflydoedd tacsi yn cael eu trosi i LPG, gyda costau y gellid eu hadennill ar gyfartaledd o fewn dwy flynedd, gallai hynny, yn y tymor byr, cyn inni gael cerbydau trydan a datblygiadau eraill defnyddiol, helpu i fynd i'r afael â'r problemau llygredd trefol hyn o gerbydau. Gallem weithredu menter ymarferol yn hynny o beth a fyddai'n talu ar ei ganfed.
Ac yn ehangach wrth gwrs, mae angen inni symud yn gyflymach ac yn fwy effeithiol o ran trafnidiaeth integredig. I mi, yn y de, mae llawer o hyn yn ymwneud â'r system metro, ac mae dewisiadau pwysig i'w gwneud yn hynny o beth o ran y buddsoddiad a allai wneud hynny yn llwyddiant yn gyflymach ac yn fwy helaeth o'i gymharu â mathau eraill o ddefnydd o arian cyfalaf sydd ar gael.
Felly, rwy'n cytuno â llawer o'r themâu y mae'r Aelodau eisoes wedi tynnu sylw atynt yn y datganiad hwn heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod ffiniau'r ddadl hon a'r camau a allai ddigwydd yn eithaf hysbys ac mae'n debyg bod consensws eithaf cryf y tu ôl i'r hyn y mae llawer ohonom ni'n gredu y dylai ddigwydd yng Nghymru. Yr her yn amlwg yw bwrw ymlaen a gwneud hynny, i gymryd y camau ymarferol hyn. A pan fyddwch yn ystyried y materion iechyd cyhoeddus a'n hamgylchedd, mae brys gwirioneddol y tu ôl iddo, ac rwyf yn meddwl bod angen i ni weld y mesurau ymarferol hynny yn digwydd mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.
Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn. Fel y dywedais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, mae ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r aer butraf yn y DU, lle mae mater gronynnol 10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel, ac mewn ysgolion yn fy rhanbarth i rydym ni wedi cael sawl diwrnod yn yr ychydig fisoedd diwethaf pan yr oeddent ddwywaith yn uwch na'r terfyn dyddiol diogel.
Llygryddion aer sydd ar fai am farwolaethau o leiaf pump o bobl bob dydd yng Nghymru, a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, mae nifer y gronynnau a nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer wedi cynyddu'n sylweddol. Er tegwch, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ceisio gwrthdroi'r polisi hwn ac wedi cyflwyno system dreth cerbyd newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd, sydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i symud i ddyfodol â cherbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar bob injan tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040. Rwy'n croesawu'r symudiadau hyn a byddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae angen i'r cam hwn gan Lywodraeth y DU gael ei ategu gan gamau gan Lywodraeth Cymru. Fel y clywsom y bore yma, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i'r Llys am ei diffyg gweithredu ar fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n bryd iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gallen nhw ddechrau drwy gymryd camau i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar dagfeydd traffig.
Bydd UKIP yn cefnogi y rhan fwyaf o welliannau Plaid Cymru. Rydym wedi dweud o'r dechrau bod llygredd aer yn fater iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw blaid—pob plaid—er mwyn i ni allu helpu i sicrhau strategaeth i helpu ym maes llygredd aer.
Rydym ni'n cytuno bod angen system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael, ond dylai hyn gael ei wneud ar lefel genedlaethol ac nid ei adael i fyrddau iechyd lleol. Gellid defnyddio datblygiadau newydd fel y lloeren Sentinel Five P a wnaethpwyd ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol er mwyn gwella'r modd o ragweld lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd ynghylch digwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau'r tywydd yn cynnwys lefel y paill. Mae angen i Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar fyrder. Mae lefelau uchel o lygredd yn lladd. Byddwn, felly, yn ymatal ar welliant 3 ond byddwn yn cefnogi holl welliannau eraill Plaid Cymru.
Mae buddsoddi mewn gwefru trydan i'w groesawu, ond mae'n rhaid inni ystyried yr heriau seilwaith enfawr sy'n cyd-fynd â thrydaneiddio trafnidiaeth. Sut gallwn ni ddarparu mannau gwefru i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n ddigon ffodus i gael dreif neu garej? Byddwn yn annog y Llywodraethau yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi mewn datblygu modd o wefru cerbyd yn ddi-wifr. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth hefyd sicrhau nad yw'r system gynllunio yn amharu ar gyflwyno gwefru cerbydau trydan. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r her fawr iechyd y cyhoedd hon yn uniongyrchol. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i wella ansawdd yr aer. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau aer glân Llywodraeth Cymru ac yn gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau na fydd unrhyw un yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Diolch.
Mae perygl bod y consensws ymddangosiadol hwn yn rhoi'r argraff bod hyn yn mynd i fod yn hawdd, ond hoffwn eich atgoffa bod y lobi ceir yn bwerus iawn, ac os ydym ni'n mynd i wneud unrhyw beth ynglŷn â hyn, bydd yn rhaid i ni wynebu'r lobi ceir. Rwy'n croesawu'n fawr yr egni—a, gobeithio, y trylwyredd—a ddangosir gan y Gweinidog newydd dros yr amgylchedd wrth fynd ar drywydd y mater pwysig hwn, a bellach mae angen gweithredu arnom, nid geiriau.
Os edrychwn ni ar sut y mae pob math arall o drafnidiaeth wedi ei dagu gan oruchafiaeth y car: yn y 1950au cynnar, roedd 42 y cant o bob taith ar y bws, ac mae hynny i lawr i bump y cant heddiw, er mai hwn yn amlwg yw'r unig fodd o drafnidiaeth ar gyfer y rhan fwyaf o'n dinasyddion tlotaf. Seiclo: 11 y cant yn 1952; 1 y cant heddiw. Ac yn y car: 27 y cant yn y 1950au cynnar, a bellach mae mwy na 80 y cant o deithiau mewn car. Felly, mae gennym ni broblem enfawr sy'n cael ei hybu gan bolisïau cyllidol a thrafnidiaeth sydd wedi bod yn digwydd ers cenedlaethau. Mae cost car yn dod yn rhatach ac yn rhatach, ond mae prisiau tocynnau trên a bws yn parhau i gynyddu a chynyddu. Yn y pum mlynedd diwethaf yn unig, mae tocynnau trên wedi codi 15 y cant, prisiau bysiau a thacsis wedi codi 14 y cant, ac mae'r gost o redeg car wedi gostwng gan 5 y cant. Does fawr o obaith o newid gan Lywodraeth y DU, gan fod Canghellor y Trysorlys unwaith eto wedi rhewi y dreth tanwydd newid yn yr hinsawdd, a heddiw clywsom y bydd prisiau tocynnau trên y flwyddyn nesaf yn gweld y cynnydd mwyaf mewn pum mlynedd. A hyn i gyd tra bod cyflogau yn ddisymud, felly ni all fod yn syndod, mewn gwirionedd, bod pedwar o bob pump cymudwyr i mewn i Gaerdydd—dros 60,000 o bobl bob dydd—yn teithio i'r gwaith mewn car.
Mae adeiladu mwy o ffyrdd yn golygu bod mwy o bobl yn newid i gymudo mewn ceir. Felly, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus well, cynyddu capasiti ein rheilffyrdd, cyflawni ar y metro, a darparu bysiau gwell a mwy ohonyn nhw yn y cyfamser, sy'n gorfod mynd law yn llaw â mesurau llym i ddatrys y broblem hon ymhell cyn 2040. Oherwydd, mae'n rhaid inni gydnabod mai'r rheswm y mae hon yn broblem iechyd cyhoeddus mor enfawr yw bod un o bob pump o'r holl achosion o fabanod â phwysau geni isel oherwydd llygredd aer yn sgil traffig, a'r niwed mwyaf yn digwydd yn ystod beichiogrwydd cynnar, cyn bod menywod yn sylweddoli eu bod yn feichiog hyd yn oed. Rydym ni'n credu bod amlygiad mamau i benso[a]pyren, a gynhyrchir gan injan ddiesel, yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl mewn plant ac oedi niwrowybyddol. Mae lefel nitrogen deuocsid mewn ardaloedd preswyl yng Nghaerdydd a'r Fro yr uchaf yng Nghymru—rydym yn gwybod bod hynny'n gysylltiedig â mwy o risg o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.
Yn anad dim, mae angen inni gyfleu i rieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol bod angen inni wrando ar yr Athro Syr David King, cyn brif gynghorydd gwyddonol y llywodraeth, sy'n dweud bod
plant sy'n eistedd yn sedd gefn cerbydau yn fwy tebygol o fod yn agored i lefelau peryglus o lygredd aer. Pe byddai mwy o yrwyr yn ymwybodol o'r difrod y gallent fod yn ei wneud i'w plant, rwy'n credu y bydden nhw'n meddwl ddwywaith am fynd yn y car.
Nid yw pobl yn clywed y neges hon ar hyn o bryd, a gallwn weld y dystiolaeth yn llenwi'r lle o amgylch bron pob un o'n hysgolion cynradd, ac mae'r bobl hyn yn amlwg yn byw o fewn pellter cerdded i'r ysgol oherwydd, fel arall, ni fyddai modd i'r plant fynd i'r ysgol honno.
Gwyddom pa mor fuddiol yw ymarfer corff o ran gwella gallu pobl i ganolbwyntio yn yr ysgol, ac eto mae'r sefyllfa sydd gennym yn dal gennym. Nid plant sydd angen eu perswadio, ond yr oedolion. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae chwarter yr holl oedolion yn anactif, yn ôl cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd; hynny yw, maen nhw'n gwneud llai na hanner awr o ymarfer corff yr wythnos—dim ond symud oddi ar y soffa i'r car i'r ddesg ac yn ôl eto.
Felly, mae angen ymgyrch addysg gyhoeddus enfawr i berswadio pobl i wneud teithiau byr o lai na 2 km—ychydig dros filltir—ar droed neu ar feic. Mae angen inni fod yn llym gydag awdurdodau lleol sy'n methu â gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Does dim angen rhagor o ddeddfwriaeth arnom ni—dim ond angen inni weithredu'r ddeddfwriaeth sydd gennym.
Rydym ni'n gwybod bod gosod parthau tagfeydd—er enghraifft, yn Llundain—wedi arwain at gynnydd o 80 y cant mewn pobl yn defnyddio beiciau. Felly, rwy'n credu bod hwn yn ddangosydd clir iawn o'r hyn y mae angen inni ei wneud. Mae angen inni fwrw ymlaen a gwneud hynny.
Rwy'n falch iawn ein bod yn trafod ansawdd aer yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, a hoffwn fynd â ni o'r cyffredinol i'r penodol, a thaith i lawr Heol Sandy yn Llanelli. Dyma'r ffordd, i'r rhai hynny ohonoch chi nad ydych chi'n gyfarwydd â'r ardal, sy'n arwain allan o Lanelli tuag at Borth Tywyn a Chydweli. Ar hyd y ffordd honno ceir dwy ysgol—Coleg Sir Gâr ac Ysgol y Strade—ac wrth ei hymyl ceir ysgol arall i fyny Denham Avenue, Ysgol Gymraeg Ffwrnes. Hon yw'r brif dramwyfa allan o Lanelli, ym Mhorth Tywyn mae datblygiadau tai parhaus a mae'r datblygiad tai Parc y Strade newydd anferth ar safle hen gae rygbi'r Scarlets yng nghanol y ffordd.
Mae hon yn ardal sydd eisoes â lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid, ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu. Mae'n ardal rheoli ansawdd aer, ac mae'r trigolion yn gynyddol bryderus am y tagfeydd traffig yn yr ardal hon. Mae'n lle annymunol i gerdded, mae'n lle annymunol i fyw a, drwy wneud yr un peth dro ar ôl tro, rydym ni'n gwaethygu'r broblem yn hytrach na'i lliniaru.
I mi, mae Heol Sandy yn astudiaeth achos glasurol yn y cyfyng-gyngor polisi a wynebwn, y dull digyswllt yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer y prosiect hwn, blaenoriaethu anghenion tymor byr a diffyg meddwl hirdymor—yn union beth y gwnaethom gynllunio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fynd i'r afael ag ef. Mae hyn yn enghraifft o lle mae gwir angen meddwl am y dyfodol, oherwydd pe byddai hynny wedi digwydd yn y gorffennol, ni fyddem ni yn y sefyllfa hon nawr.
Rwy'n teimlo trueni enbyd dros bobl ar Heol Sandy, ac rwy'n deall eu rhwystredigaeth—rwy'n deall hefyd eu bod yn ceisio meddwl am atebion. Yn anffodus, rwy'n ofni na fydd llawer o'r atebion ond yn ychwanegu at y broblem yr ydym ni wedi bod yn ei thrafod yma y prynhawn yma.
Mae Ray Jones, sy'n byw ar Heol Sandy, yn ymgyrchydd pybyr ar y materion hyn, ac mae ef wedi nodi effaith dim ond creu yr Ysgol Gymraeg Ffwrnes newydd heb fesurau priodol i annog pobl i beidio â defnyddio'u ceir i hebrwng eu plant. Mae ef wedi nodi digwyddiad yn ddiweddar lle y gwnaeth car daro i mewn i bram, oherwydd, fel y gwyddom o'r holl ysgolion yn ein hetholaethau, ceir tagfeydd y tu allan i ysgolion yn y bore. Ei ateb ef, ac ateb bron i 2,000 o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, yw creu ffordd osgoi ar hyd Heol Sandy. Unwaith eto, i'r rhai ohonoch chi nad ydych chi'n gwybod, byddai'r llwybr a awgrymir yn mynd dros y datblygiad tai Parc Dŵr Sandy, sydd ddim ond rhyw 300 metr o'r brif ffordd, ac sydd yn un o'r ardaloedd mwyaf tawel yn yr ardal gyda natur hyfryd ac yn agos at y lle y cynhaliwyd dwy Eisteddfod Genedlaethol, y'i canmolwyd yn briodol fel lle hyfryd i gynnal yr ŵyl yn Llanelli.
Felly, er fy mod yn deall yr awydd i liniaru'r tagfeydd yr ydym wedi'u creu ar Heol Sandy, nid wyf i o'r farn y bydd creu ffordd ddrud—rydym ni'n gwybod bod ffyrdd ar gyfartaledd yn costio £20 miliwn y filltir—dros ardal o lonyddwch lle ceir eisoes ddatblygiad tai, yn datrys y broblem; ni fyddai ond yn ei symud. Gwn o siarad ag arbenigwyr ansawdd aer ym Mhrifysgol Abertawe—maen nhw o'r farn, o ystyried lleoliad tebygol y ffordd newydd hon mor agos at dai a lle y byddai'r gwynt yn debygol o chwythu'r gronynnau yn ôl tuag at Heol Sandy, na fyddai hyn yn datrys y broblem ansawdd aer ychwaith.
Ond dyma'r math o fesurau enbyd y caiff pobl eu gorfodi i'w hystyried, gan nad ydym ni'n cynnig unrhyw ddewis arall iddyn nhw. A dyma'r broblem yr wyf i'n ei hwynebu wrth siarad â Ray Jones, a thrigolion eraill yn yr ardaloedd. Rwy'n deall y broblem. Nid wyf i'n credu y byddai'n ateb tymor byr hwn yn datrys hyn, ond beth arall ydym ni'n ei gynnig i bobl yn y sefyllfa hon? A bod yn onest, nid ydynt yn credu'r addewidion hyn ynghylch gwell cludiant cyhoeddus yn y tymor hwy; nid ydynt yn credu y caiff ei gyflawni. Ac yn union fel yr ydym ni wedi clywed yr achos a wnaed ar gyfer ffordd osgoi yn Llandeilo yn ddiweddar ar sail ansawdd aer, mae ar bobl eisiau rhywbeth gwirioneddol sy'n mynd i ddatrys y broblem yn y tymor byr.
Dyma'r cyfyng-gyngor arweinyddiaeth wleidyddol a wynebwn yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae'r ateb cyflym yn haws na'r ateb tymor hir. Mae digon o dystiolaeth yn dangos bod angen inni wneud y newid hwn, ac mae Jenny Rathbone o fy mlaen i wedi cyffwrdd ar lawer o hynny. Mae angen newid ymddygiad arnom ni ac mae angen inni fuddsoddi mewn dulliau amgen i ddefnyddio ceir, a rhoi'r gorau i adeiladu tai mewn ardaloedd lle mae'r cludiant cyhoeddus yn wael, a chyflwyno gwelliannau yn rhan o hynny. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio cynllun ardal rheoli ansawdd aer sydd ond yn sôn am y posibiliadau; nid ydyn nhw'n sôn am gamau gweithredu. Rydym ni'n gohirio'r broblem yn gyson, gan ei gadael i genedlaethau'r dyfodol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog ddweud wrthym, tra ein bod yn gofyn i'r awdurdodau hyn lunio'r cynlluniau hyn, beth yw'r canlyniadau ar gyfer torri lefelau llygredd niweidiol.
Mae'n bryd i ni fynd i'r afael â'r achosion, nid y canlyniadau. Mae angen adolygiad ar raddfa eang i'r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill yn y DU a thramor i wella ansawdd yr aer, ac mae'n rhaid, rhaid inni roi'r gorau i fonitro methiant a dechrau modelu llwyddiant. Diolch.
'Nid oes unrhyw un heddiw a fyddai’n amau bod llygredd aer yn ddrwg cymdeithasol ac, o fod yn ddrwg cymdeithasol, y dylid delio ag ef ar unwaith ac yn sylweddol.'
Dyna eiriau Gordon Macdonald, cyn-löwr, AS a Llywodraethwr Newfoundland a aned yn Sir y Fflint. Roedd Macdonald yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond roedd yn gwneud hynny yn 1955. Fel y dengys ei eiriau, nid yw cydnabod peryglon llygredd aer yn beth newydd. Yn bennaf ymhlith y peryglon hyn mae effaith llygredd aer ar ein hiechyd corfforol, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn drwy gysylltu'r ddau fater yn ei strategaeth genedlaethol.
Efallai y bydd Aelodau wedi gweld y papur briffio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru sy'n cynnwys y gwir plaen am y peth. Mae llygredd aer yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint, a gweithrediad yr ysgyfaint salach i bobl ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiadau wedi'u gwneud rhwng llygredd aer a chlefyd cardiofasgwlaidd, dirywiad gwybyddol a diabetes math 2. Mae plant yn arbennig yn wynebu risg, gan fod llygredd yn yr aer yn effeithio ar ddatblygiad ac ymwrthedd i heintiau.
Gellir priodoli bron i 1,300 o farwolaethau cynnar y flwyddyn yng Nghymru i lygredd aer. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio hyn fel argyfwng iechyd cyhoeddus, yn ail dim ond i ysmygu ac sy'n achosi mwy o bryder na gordewdra na alcohol. Mae gennym ymwybyddiaeth gyhoeddus dda o'r peryglon hyn, gan eu bod wedi'u hategu gan ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus o'r radd flaenaf. Mae'n rhaid i lygredd aer fod yn flaenoriaeth debyg, ac rwy'n croesawu pwynt 2(d) y cynnig, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Croesawaf hefyd welliant 3 Plaid Cymru, gan fod gan fyrddau iechyd swyddogaeth allweddol i'w chyflawni o ran hyn yn lleol.
Hefyd, mae elfen cyfiawnder cymdeithasol pwysig i'r mater hwn, gan mai'r cymunedau tlotaf sy'n dioddef fwyaf o lygredd aer. Yn wir, mae'r 10 y cant o'r rhannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan bum gwaith cymaint o allyriadau carsinogenig na'r 10 y cant lleiaf difreintiedig. Daeth astudiaeth yn y Journal of Public Health yn 2016 a ddyfynnwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i'r casgliad bod amddifadedd, anghydraddoldebau iechyd a llygredd aer yn gysylltiedig, a bod llygredd aer yn dwysáu cysylltiadau rhwng amddifadedd ac iechyd.
Unwaith eto, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Os awn ni yn ôl at araith Gordon Macdonald, cyfeiriodd at y daith i gymoedd de Cymru. Disgrifiodd gwm cul, yn cynnwys dwy ffordd gyfochrog a rheilffordd. Mewn ardal 2 erw, nododd
saith simdde dal yn gollwng mwg trwchus. Ar y rheilffordd roedd tair injan rheilffordd yn cystadlu â'i gilydd, yn ceisio gollwng mwy o fwg na'r saith simdde; ac roedd y cannoedd o dai glowyr yn curo'r ddau o ran gollwng mwg i mewn i'r cwm cul hwn.
Bydd hon yn ddelwedd gyfarwydd i unrhyw un a fagwyd mewn rhannau diwydiannol o Gymru. Yng Nghwm Cynon, troseddwr penodol oedd y gwaith glo caled yn Abercwmboi. Yn ei anterth, roedd yn cynhyrchu 1 filiwn o frics o lo di-fwg bob blwyddyn. Roedd glo stêm Cymru yn cael ei wasgu a'i gyfuno â thar a gâi wedyn ei gynhesu i waredu'r rhan fwyaf o'r mwg.
Er i'r cymunedau mwy cefnog hynny mewn mannau eraill o'r DU, a allai ei fforddio, elwa ar y glo caled, cafodd effaith ofnadwy ar y gymuned leol. Nhw a ddioddefodd o'r llwch, y mwg a'r mygdarth a ollyngwyd i'r atmosffer. Mae llawer o'm hetholwyr i a oedd yn gweithio yno yn parhau i deimlo effeithiau'r afiechyd sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r diwydiant trwm a oedd wedi'i gysylltu'n fwyaf agos â'r llygredd aer hwn wedi diflannu i raddau helaeth erbyn hyn. Mae ei absenoldeb wedi arwain at welliannau amgylcheddol; mae'r gwyrddni toreithiog trwy ran helaeth o'r Cymoedd yn dyst i hyn. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi rhoi mwy o bwys ar ddiogelu ein hamgylchedd. Cynorthwywyd hyn gan ddatblygu deddfwriaeth fwy aeddfed ac empathig gan bob lefel o lywodraeth. Ond mae ffactorau niweidiol o hyd y mae'n rhaid inni roi sylw iddyn nhw.
Cyflwynais ddatganiad barn ar hyn ychydig wythnosau yn ôl. Ynddo, roeddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhwydwaith o barthau aer glân ar draws ardaloedd mwyaf llygredig Cymru. Rwy'n falch bod rhan 2(a) o'r cynnig yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i hyn. Edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad ar y fframwaith a fydd yn sail i'r cynllun aer glân pan fydd ar gael y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid inni hefyd gydnabod bod hwn yn fater lle na all ein pryderon a'n hymyrraeth ddod i ben ar ein ffiniau. Mae llawer o'r offerynnau angenrheidiol i wella ein haer mewn mannau eraill, mewn gwirionedd. Roedd fy natganiad barn yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r galwadau ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun sgrapio diesel. Mae'n dda bod pwynt 3 y cynnig yn ymdrin â hyn, ac mewn gwirionedd yn mynd y tu hwnt iddo wrth alw am system o gerrig milltir er mwyn i ni allu monitro cynnydd.
Ni allwn anghofio bod gennym lawer o gynnydd i'w wneud o hyd. Mae llygredd aer yn y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn, a channoedd o fywydau yng Nghymru yn unig. Mae deddfwriaeth arloesol fel Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cynnig fframwaith cryf, cadarnhaol. Ond wrth i ni dynnu allan o Ewrop a'r swyddogaeth sylweddol a fu gan Ewrop yn y maes hwn dros y degawdau diwethaf, ni all ein penderfynoldeb wanhau ac mae'n rhaid inni ymdrechu i wneud gwelliannau parhaus.
Diolch. A gaf i nawr alw ar Weinidog yr Amgylchedd i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gallwch chi ddweud fy mod i'n dal yn ddibrofiad gan nad oeddwn i'n barod am hynna nawr.
Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac rwy'n croesawu'r consensws ar y mater hwn ac rwy'n credu bod consensws yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn i ni i gyd fynd i'r afael ag ef, ac mae'n un y dylid rhoi sylw iddo mewn modd cydweithredol ac ar y cyd. Roedd Simon Thomas yn iawn oherwydd hon yw fy araith gyntaf—oedd fy araith gyntaf fel Gweinidog yn y Siambr hon, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan ei syniad o beth yw anrheg Nadolig ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Diolch am hynna. Fe wnaethoch chi nodi fy mod i'n rhoi bai ar San Steffan, ond yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei bwysleisio, mewn gwirionedd, yw bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom—ar bob lefel o lywodraeth ac ym mhob rhan o'r Gymdeithas i weithredu ar hyn. Roedd yr Aelod yn iawn i ddweud bod gwella ein hansawdd aer yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, fel rwy'n credu y cydnabu'r Aelod dros Gwm Cynon—mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn.
Fe wnaethoch chi sôn am yr angen i blannu coed ac rydych chi yn llygaid eich lle bod yn rhaid cael y coed iawn yn y lleoedd iawn. Rwy'n deall bod potensial i awdurdodau lleol yn y dyfodol ddefnyddio'r hyn a elwir y feddalwedd i-Tree i'w helpu i allu gwneud hynny ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod ymhellach, yn arbennig yr wythnos nesaf yn y Siambr, wrth edrych ar ein polisi plannu coed yn gyffredinol.
O ran ymagwedd statudol, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau statudol eisoes, ond fel y dywedais yn fy araith agoriadol, rwy'n fodlon rhoi rhagor o ystyriaeth i fesurau deddfwriaethol pan ystyrir bod eu hangen.
Hoffwn i ddiolch i David Melding am ei eiriau caredig a'i gyfraniad i'r ddadl hon. Rydych chi'n hollol iawn y dylai'r dôn ymestyn ar draws y Llywodraeth ac ar draws yr holl wahanol lefelau o Lywodraeth hefyd, oherwydd ei bod yn iawn nad oes un ateb ac nad oes un actor yn hyn a all ddatrys y problemau yr ydym yn eu hwynebu. Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am drefi a swyddogaeth trefi a dinasoedd. Caerdydd: o ran y fframwaith parthau aer glân, bydd y fframwaith parthau aer glân yn gallu llywio a hwyluso'r gwaith o sefydlu parthau aer glân lle bernir bod eu hangen, ac mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda swyddogion yng Nghaerdydd oherwydd eu bod wedi nodi'r ddinas lle gallai parth aer glân gyflymu'r cydymffurfio â gwerthoedd terfyn yr UE.
Fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, diolch i chi am eich cyfraniad i'r ddadl hon. Gwn fod hwn yn fater yr ydych chi'n teimlo'n angerddol amdano, a gwn eich bod yn angerddol iawn ynghylch sut yr ydym yn cyflawni newid moddol o ran y drafnidiaeth yr ydym yn ei defnyddio a sut yr ydym yn annog y newid hwnnw mewn ymddygiad hefyd. Mae'r materion a godwyd gennych ynghylch yr angen i edrych ar ddatblygiad y metro a bysiau yn bethau yr wyf i eisoes wedi ystyried eu dwyn ymlaen. Rwy'n bwriadu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod yr union faterion hynny a sut yr ydym yn cydweithio ar y rheini, ac wrth ystyried y buddsoddiad mewn seilwaith a thrafnidiaeth, ein bod yn rhoi ystyriaeth i'r pethau hyn wrth wneud hynny.
Fy nghyd-Aelod, Lee Waters, diolch i chi am eich cyfraniad. Mae'r problemau a godwyd gennych yn dangos maint yr her yr ydym yn ei hwynebu ac rydych chi'n iawn bod angen inni dynnu'r holl elfennau ynghyd a mabwysiadu agwedd tymor hwy o edrych ar bethau o ran sicrhau newid mewn ymddygiad. Rwy'n disgwyl y bydd y mentrau sydd ar y gweill o ran y newid mewn ymddygiad yr ydym yn gobeithio ei gyflawni yn rhan o'r cynlluniau ansawdd aer, yn clymu i mewn i'n strategaeth teithio llesol hefyd, er mwyn i ni sicrhau ein bod ni mewn gwirionedd yn dwyn y pethau hyn ynghyd ar draws y Llywodraeth, ar draws cymunedau. Fel y dywedais, ni allwn wneud hyn drwy ddefnyddio un dull ac un agwedd yn unig.
Vikki Howells, rydych chi'n iawn i ddweud bod ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig ar hyn o bryd, a dyna un o'r pethau y dylem ni edrych arnyn nhw unwaith eto, ar draws y Llywodraeth, i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i'r holl ffactorau hyn a'r rhwydwaith o—. Fe wnes i nodi eich cynnig a chyflwyniad rhwydwaith o barthau aer glân. Yr ymgynghoriad, rwy'n gobeithio y byddwch yn annog pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y fframwaith hwn ac yn cyflwyno eich syniadau chi a syniadau y bobl yr ydych chi wedi gweithio gyda nhw ar hynny. Rydych chi'n hollol gywir: mae gennym ni gynnydd. Mae cynnydd wedi'i wneud. Mae gennym ni aer glanach na fu gennym yn y gorffennol, mae pobl yn fwy ymwybodol o'r risgiau, ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ond gallaf eich sicrhau fy mod i'n hollol ymrwymedig yn y swydd hon i barhau i gyflwyno'r gwaith hwnnw ac, mewn gwirionedd, nid dim ond llunio cynllun, ond gweld camau gweithredu yn digwydd mewn gwirionedd.
Gall y cynllun hwn a'r gweithredu hwn, wrth symud ymlaen, fod yn beth bynnag y dymunwn, ac nid yw wedi'i gyfyngu mewn unrhyw fodd i'r mentrau y gwnes i eu cyhoeddi yn gynharach a byddwn i'n croesawu cyfraniadau yr holl Aelodau ar beth arall y dylid ei ystyried, a byddaf i'n ystyried pob dewis wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 1.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio. Byddwn yn gohirio'r holl bleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cynigiaf symud i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Mae tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Iawn. Byddwn yn canu'r gloch, felly. Diolch.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Rydym ni wedi aros pum munud fel sy'n ofynnol ar gyfer canu'r gloch, ac felly symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Felly, rydym yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
NDM6607 - Dadl: Cyfnod 4 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): O blaid: 35, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr i bleidlais ar y gyllideb ddrafft, a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yn methu.
NDM6603 - Gwelliant 1: O blaid: 18, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, wyth yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.
NDM6603 - Dadl: Cyllideb Ddrafft 2018-19: O blaid: 27, Yn erbyn: 19, Ymatal: 8
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at bleidlais ar y ddadl ar ansawdd aer. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Ac mae'r gwelliant yn methu.
NDM6602 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 49, pump yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.
NDM6602 - Gwelliant 3: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 5
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, fy mhleidlais fwrw i yw pleidleisio yn erbyn y gwelliant, ac ni dderbynnir y gwelliant.
NDM6602 - Gwelliant 4: O blaid: 27, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 5. Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 5.
NDM6602 - Gwelliant 5: O blaid: 18, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 41, 13 yn ymatal. Felly, derbynnir y gwelliant.
NDM6602 - Gwelliant 6: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6602 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.
4. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:
a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau, lleol, lle’r bo’r angen;
b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â nhw;
c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;
ch) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.
6. Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.
Agorwch y bleidlais. Caewch bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM6602 - Dadl: Ansawdd Aer (wedi'i ddiwygio): O blaid: 54, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:29.