Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/11/2017Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. A'r cwestiwn cyntaf, Hefin David.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i safleoedd treftadaeth a gynhelir gan Cadw ar gyfer pobl yn eu hardaloedd lleol? OAQ51325
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, yn ymdrechu i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu’n dda. Yn ogystal â’r pàs newydd gwell ar gyfer trigolion lleol, byddant yn cyflwyno cynlluniau newydd i hyrwyddo mynediad i'w henebion ymhellach, er mwyn atal prisiau mynediad rhag bod yn rhwystr i drigolion Cymru a chynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Diolch yn fawr. A hoffwn groesawu'r Gweinidog i'w swydd—Gweinidog dros ledaenu llawenydd o gwmpas y genedl. [Chwerthin.] A phwy well?
Yn gynharach eleni, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd yn gyfrifol, ynglŷn â chynllun Cadw ar gyfer trigolion lleol, a grybwyllwyd gennych yn awr. Roedd hynny oherwydd nad oedd trigolion Caerffili yn gallu cael mynediad i safleoedd Cadw am resymau'n ymwneud â ffiniau daearyddol, yn gysylltiedig â ffiniau hen cyngor dosbarth trefol Caerffili. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet ataf ar 28 Gorffennaf, gan ddweud y byddai cynllun aelodaeth gyfyngedig yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n negyddu'r angen am y ffiniau hynafol hyn. Ac roeddwn yn gobeithio, bellach, am newyddion ar weithrediad y cynllun, sef y cynllun y cyfeirioch ato yn awr, rwy’n cymryd. A fyddai ar gael bellach i drigolion yn fy etholaeth?
Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael yr holl wybodaeth ynglŷn â chynllun presennol Cadw ar gyfer pasys trigolion lleol, ac yn benodol ynglŷn â’r problemau yng Nghaerffili mewn perthynas â'r ffiniau lleol, fel y disgrifiwch, lle nad oedd rhai trigolion sy'n byw ger yr heneb yn gallu gwneud cais am bàs. Rwy’n falch o ddweud bod yr adolygiad hwn y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, ato sef pàs ar gyfer trigolion lleol ledled Cymru wedi cael ei gyflawni dros yr haf, ac o ganlyniad i hynny, bydd cynnig aelodaeth newydd a mwy cynhwysol yn disodli'r pàs blaenorol, gan roi mynediad rheolaidd i un safle penodedig. Felly, mae'r materion ffiniau a grybwyllwyd gennych bellach yn cael eu cywiro, a bydd trefniadau newydd yn disodli'r pàs blaenorol, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Yn amlwg, os oes unrhyw anawsterau pellach, rwy'n siŵr y bydd gennych chi, ynghyd â fy nheulu fy hun yng Nghaernarfon sy'n byw o fewn waliau’r dref, gryn ddiddordeb yn yr hyn fydd gan y Gweinidog i’w ddweud.
Mae’n rhaid i minnau groesawu'r Gweinidog newydd i'w rôl newydd. Roeddwn am gyfeirio atoch fel y Gweinidog hwyl, ond efallai fod y Gweinidog dros lawenydd, fel y cawsoch eich disgrifio gan Hefin David, yn fwy addas. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol, Weinidog.
Fel y gwyddoch, o bosibl, mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, yn adnabyddus, wrth gwrs, am ei gastell trawiadol, a gynhelir gan Cadw. Ac mae trigolion y pentref yn cael ymweld â’r castell yn rhad ac am ddim gyda phàs trigolion, ac wedi cael gwneud hynny ers 1938, pan drosglwyddwyd perchnogaeth am y tro cyntaf, gan y degfed Dug Beaufort, rwy’n credu, i’r Comisiynydd Gweithfeydd, fel oedd hi bryd hynny.
Mae'r cynllun wedi gweithio'n dda iawn i'r y bobl sy'n gwybod ei fod yn bodoli, ond nid oedd llawer o newydd-ddyfodiaid i'r pentref yn ymwybodol ohono. Felly, yn ogystal â rhai o'r newidiadau rydych yn eu cynllunio fel rhan o'r adolygiad o'r pàs newydd gwell i drigolion, a allwch sicrhau hefyd fod pobl sy'n byw gerllaw safleoedd megis castell Rhaglan, a safleoedd Cadw eraill ledled Cymru, yn gwbl ymwybodol o’u hawliau o ran cefnogi ac ymweld â’r safleoedd hynny?
Wel, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod pawb sy'n gallu elwa o’r cynllun diwygiedig yn gallu gwneud hynny. Ac yn sicr, mae cysylltiad cryf rhwng hyn a'r datganiad a wneuthum ddoe, lle roedd y pwyslais ar Cadw yn parhau i fod yn rhan o’r Llywodraeth, ond gan ddod yn sefydliad hyd yn oed yn fwy masnachol nag ydyw eisoes. Ac fel yr awgrymais ddoe, mae Cadw wedi cynhyrchu refeniw sylweddol. Rwy'n sicr, ar ôl clywed y ddadl hon heddiw, y byddant yn awyddus i fynd ar drywydd eu marchnata uniongyrchol ar gyfer buddiolwyr y cynllun newydd cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Ac yn sicr, pe bai hynny o gymorth i’r Aelod dros Fynwy, buaswn yn fwy na pharod i ymweld â'i gastell yn Rhaglan i weld yr adeilad ardderchog a basiais sawl tro er nad wyf wedi ymweld ag ef yn ddiweddar, a buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â rhai o’r trigolion a allai fod yn bobl sy’n elwa o’r pàs hwn, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn sicrhau bod eu hawliau’n cael eu bodloni.
2. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella'r economi yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru? OAQ51332
Rydym yn cymryd amrywiaeth eang o gamau i gefnogi busnes, i sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyflogaeth ac i fuddsoddi mewn seilwaith o safon.
Daeth manylion pellach i'r amlwg yr wythnos hon ynglŷn ag ymdrechion eich Llywodraeth i drawsnewid hen ardaloedd diwydiannol de Cymru, a chredaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod esgeuluso'r hen ardaloedd diwydiannol ledled y wlad hon wedi deifio Llywodraethau yn San Steffan a gwahanol Lywodraethau Llafur yma. Er y gwn nad yw prosiect tasglu'r Cymoedd yn benodol o dan eich awdurdodaeth uniongyrchol, dylai ffyniant economaidd Cymru gyfan fod yn fater hollbwysig i chi. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn tybio eto fyth a oes gan Lywodraeth Cymru fap diffygiol nad yw’n cynnwys y Rhondda. Gwn nad ni yw’r unig ardal sydd wedi cael cam ac wedi'i hesgeuluso, felly a allwch egluro inni pa gynlluniau sydd gennych, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, i gyflwyno newidiadau economaidd parhaol i'r llefydd sydd eu hangen fwyaf, y tu hwnt i gynlluniau parcio a theithio mwy o faint a threnau cyflymach i Gaerdydd?
Lywydd, gallwn wneud sylwadau pleidiol hawdd mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod, o gofio mai aelod o Blaid Cymru a oedd yn gyfrifol am bortffolio’r economi a thrafnidiaeth am flynyddoedd lawer, ond nid wyf am wneud hynny. Yn lle hynny, rwyf am ddweud bod yna benderfyniad absoliwt i fuddsoddi ledled Cymru gyfan. Ac mae'r Aelod yn iawn i gyfeirio at y dyheadau a'r targedau sy’n rhan o waith tasglu’r Cymoedd, sy’n anelu at greu swyddi i 7,000 o bobl nad ydynt yn cael cyfle ar hyn o bryd i sicrhau gwaith o safon sy'n talu'n dda. Ond nid yw'r Aelod yn iawn i awgrymu bod ei rhan hi o Gymru wedi cael ei hamddifadu mewn perthynas â chyfleoedd a buddsoddiad. Yn ddiweddar, mae dros 1,000 o swyddi wedi cael eu creu o ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hen ardaloedd diwydiannol y Cymoedd. Gallaf restru nifer o gwmnïau y gallasom eu cefnogi'n uniongyrchol. Ar gyfer cwm Rhondda, gallaf gynnwys SPC, er enghraifft. Yn fwy eang, lle byddai cyfle i bobl o'r Rhondda gael gwaith, crëwyd swyddi yn Code Serve Ltd, yn Monitize, yn Tenneco-Walker. Mae swyddi'n cael eu creu yn TVR, General Dynamics UK.
Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, a dyna pam rydym yn rhoi’r cynllun gweithredu sy'n deillio o waith tasglu'r Cymoedd ar waith. Dyna pam rydym wedi ad-drefnu fy adran i sicrhau ein bod yn cynnwys dull sy’n seiliedig ar leoedd yn ganolog i ddatblygu economaidd. Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw ein bod wedi penodi dirprwy gyfarwyddwr rhanbarthol newydd ar gyfer y rhanbarth i sicrhau ein bod yn rhannu'r cyfoeth yn decach ledled Cymru. Gyda 'Ffyniant i Bawb', mae gennym ddau amcan ar gyfer y Llywodraeth hon: dull trawslywodraethol gyda’r bwriad o geisio codi lefelau cyfoeth a llesiant yn gyffredinol, ond hefyd, lleihau anghydraddoldeb mewn perthynas â chyfoeth a llesiant.
Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer rhaglen fuddsoddi wedi’i thargedu a arweinir gan adfywio, sy'n werth oddeutu £100 miliwn. Tybed pa effaith economaidd rydych yn disgwyl i'r rhaglen hon a dargedir ei chael yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru, fel cymoedd Morgannwg?
Wel, credaf fod gan fuddsoddiad adfywio a dargedir ran hollbwysig i'w chwarae wrth ehangu ffyniant a datblygu cymunedau cryf ledled Cymru, ac roeddwn yn falch fod fy nghyd-Aelod wedi cyhoeddi rhaglen dair blynedd newydd yn ddiweddar ar gyfer buddsoddiad adfywio a dargedir gwerth cyfanswm o £100 miliwn fel y dywed yr Aelod. Bydd yr arian hwn yn sicrhau ein bod yn gweld y math o seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf economaidd a busnesau newydd, a bydd yn sicrhau bod gennym leoedd o ansawdd gwell. Gwyddom fod adeiladu lleoedd yn hollbwysig wrth ddatblygu twf economaidd cadarn a chynaliadwy. Bydd y £100 miliwn hwn yn cyflawni hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf 18 mlynedd o bolisïau economaidd eich Llywodraeth, mae hen ardaloedd diwydiannol Cymru, yn enwedig y rhai yn fy rhanbarth, yn parhau i fod ymhlith y tlotaf yn Ewrop—ac mae hynny'n syfrdanol o ystyried bod yr UE wedi ehangu i gynnwys cyn-wledydd dibynnol Sofietaidd. Nid yw arian strwythurol yr UE wedi gweithio. Nid yw'r polisïau wedi gweithio. Mae gennym gyfle ar ôl Brexit i roi rhaglenni cyllido strwythurol sy'n gweithio i Gymru ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â rhaglenni cyllido strwythurol ar gyfer pan fyddwn yn gadael yr UE yn y pen draw? Diolch.
Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae'n rhywbeth yr aethpwyd i’r afael ag ef gan Weinidogion y Llywodraeth ar draws adrannau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud y dylai'r Aelod, wrth nodi record ar gyfer y Llywodraeth Lafur hon sy'n rhychwantu 18 mlynedd, ystyried y ffaith mai record yw’r record: y diweithdra isel sydd gennym bellach yng Nghymru—yn is ar gyfartaledd na'r DU—a'r lefel uchaf erioed o gyflogaeth gyda chyfradd is o anweithgarwch economaidd. Unwaith eto, hoffwn ddweud bod mwy i'w wneud, ond yn ddiweddar rydym wedi gweld gwerth ychwanegol gros yn codi'n gyflymach na chyfartaledd y DU. Rydym ar y rhedfa. Fy nod yn awr yw sicrhau ein bod yn esgyn gyda dull newydd o ddatblygu economaidd, gan ganolbwyntio ar ranbarthau a grymuso rhanbarthau, nodi cryfderau allweddol ar draws pob un o'r rhanbarthau a sicrhau contract newydd rhwng busnesau a'r Llywodraeth sy’n sicrhau ein bod yn cynhyrchu ffyniant i bawb.
Buaswn yn dweud, hefyd, o ran rhai o'r ardaloedd diwydiannol eraill—rwy'n ymwybodol fod y cwestiynau hyd yn hyn wedi'u cyfyngu i dde Cymru—y credaf ei bod yn bwysig dweud bod ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill yng Nghymru yn elwa o fuddsoddiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn ychwanegol at y 100 o swyddi newydd sy'n cael eu creu yn Ipsen yn Wrecsam, heb fod ymhell o hen safle Sharp—safle enfawr—rydym yn helpu i greu o leiaf 250 o swyddi newydd gyda sefydlu pencadlys cwmni mawr byd-eang.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n derbyn yn llwyr fod yr hen ardaloedd diwydiannol yn ne Cymru wedi dioddef yn enbyd dros y blynyddoedd, ond mae llawer ohonynt—yn wir, llawer o hen gymunedau glo—yn troi yn at dwristiaeth bellach fel agenda, i edrych ar yr economi dwristiaeth, ond maent yn ei chael hi'n anodd cael cymorth i'r busnesau twristiaeth hynny.
Mae cwm Rhondda a chwm Afan wedi dod at ei gilydd ar fater twnnel Rhondda, a gwn eich bod wedi cefnogi'r prosiect hwnnw, ond mae unigolion a sefydliadau yn wynebu anawsterau i gael y cymorth hwnnw. Beth y gallwch ei wneud i'w cynorthwyo, yn enwedig gan fod cynghorau'n wynebu anawsterau am eu bod yn brin o arian?
Credaf fod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn, sef bod twristiaeth yn chwarae rhan hollbwysig, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig ac nid yn unig yn ein dinasoedd ac mewn economïau blaengar, ond hefyd mewn ardaloedd o Gymru sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddirywiad diwydiannol. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod newydd ardderchog, y Gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth, yn canolbwyntio'n fanwl, yn union fel y gwneuthum innau, ar sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf mewn perthynas â'r economi ymwelwyr ar draws pob cymuned.
O ran rhai ardaloedd diwydiannol, rydym wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yma yn ne-ddwyrain Cymru yn ddiweddar wrth hyrwyddo'r ardal drwy ganolbwyntio'n ddiflino ar dwristiaeth antur a gweithgareddau awyr agored fel cyrchfan antur ar draws Ewrop, ac mae buddsoddi yn y sector beicio mynydd yn enwedig wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac wedi creu enillion.
Fodd bynnag, law yn llaw â hynny, ceir mentrau eraill megis y gronfa ymgysylltu ranbarthol. Hefyd, ceir y gronfa arloesi cynnyrch sydd wedi'i chynllunio i wobrwyo'r entrepreneuriaid sy'n cyflwyno syniadau creadigol a fydd yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru. Hoffwn gyfeirio at enghraifft ardderchog o ardal ôl-ddiwydiannol lle mae hynny'n llwyddiant ysgubol—y gronfa honno—sef Blaenau Ffestiniog, lle mae gennym un o gyfleusterau weiren wib mwyaf y byd, sydd wedi adfywio'r gymuned gyfan. Rwy'n awyddus, fel Llywodraeth ac fel adran, ein bod yn parhau i gefnogi cymunedau diwydiannol yn y ffordd rydym wedi cefnogi cymunedau diwydiannol megis Blaenau Ffestiniog ac ardaloedd eraill yn y gogledd-orllewin yn ogystal â rhannau o Gymoedd de-ddwyrain Cymru.
Cwestiynau y nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Fel y gwyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, tynnodd un o'r pedwar cwmni a wnaeth gais am fasnachfraint Cymru a'r gororau allan o'r broses yn sydyn ac yn annisgwyl ar 30 Hydref. Gofynnais i chi mewn cwestiwn ysgrifenedig beth oedd y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a dywedasoch mewn datganiad ysgrifenedig ar 9 Tachwedd eu bod wedi gwneud hynny oherwydd eu dadansoddiad masnachol eu hunain o'r contract. Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Trenau Arriva Cymru, datganiad a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru rwy'n credu, credaf eu bod hefyd yn cyfeirio at broffil risg nad oedd yn ddeniadol iddynt. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa risgiau a ganfuwyd gan Trenau Arriva Cymru a olygai fod eu cyfreithwyr wedi eu cynghori i beidio â bwrw ymlaen â'r broses o wneud ceisiadau?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, ond mater i Arriva eu hunain yw hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, dadansoddodd Arriva y cydbwysedd risg a budd. Rydym wedi dweud yn glir iawn drwy gydol y broses hon ein bod yn disgwyl i unrhyw elw ychwanegol gael ei ailgyfeirio i'r seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ac nid ydym cilio rhag gwneud hynny. Bellach, mae gennym dri chynigydd o safon fyd-eang a fydd yn cyflwyno eu ceisiadau terfynol erbyn 21 Rhagfyr. Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol ac rwy'n benderfynol o'i chyflawni, ac rwy'n hyderus y bydd y ceisiadau hynny gan y tri chwmni o safon fyd-eang yn hynod o uchelgeisiol hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid y gwir reswm pam fod Arriva wedi tynnu allan yw bod gormod o ffactorau anhysbys ynghlwm wrth y fasnachfraint hon? Mae'n anodd inni ffurfio barn ynghylch hynny gan fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi rhoi'r gorau i'r arfer safonol o gyhoeddi'r gwahoddiad i dendro, ond gwyddom, wrth gwrs, fod yna ffactorau anhysbys ynglŷn ag union natur datganoli pŵer a chyfrifoldeb, ac ansicrwydd ynghylch trefniadau ariannol y fasnachfraint. Gwyddom hynny am fod Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth wedi anfon llythyr atoch. Nawr, a gawn ni ychydig o eglurder o leiaf ynglŷn â rhai o'r materion hynny a godwyd? A allwch ddweud pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb gweithredwr adran 30 a phan fetha popeth arall? A ydych wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ar y cyllid masnachfraint o £1 biliwn y gofynasoch amdano, ac y dywedasoch y buasai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer uwchraddio? A oes gennych wybodaeth arolwg manwl gan Network Rail ynglŷn â'r seilwaith rheilffyrdd rydych ar fin cymryd cyfrifoldeb amdano?
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli na allaf ddatgelu rhai o'r manylion ar hyn o bryd gan fod y broses gaffael yn dal i fynd rhagddi, a gallai gwneud hynny ddenu camau gweithredu gan un neu fwy o'r cynigwyr wedi i'r broses ddod i ben. Ond hoffwn ddweud bod gwaith arolygu wedi'i wneud ac yn parhau i fynd rhagddo ar yr ased, ond mae trafodaethau ynglŷn ag ariannu yn parhau i fynd rhagddynt gyda Thrysorlys y DU. Cydnabyddir bod tanwariant wedi bod yn y gorffennol ar seilwaith ar ein rheilffyrdd yng Nghymru, a chydnabyddir bod angen mynd i'r afael â chostau twf hanesyddol. Ond hefyd, wrth i'r broses hon agosáu at ei therfyn, fel y dywedaf, rwy'n hyderus, gyda cheisiadau gan dri gweithredwr o safon fyd-eang, y bydd gennym weithredwr ar gyfer y fasnachfraint nesaf a fydd yn darparu newid sylweddol yn y gwasanaethau sydd ar gael i bobl. Ac er ein bod yn mynd ar drywydd proses newydd mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd, nid yw'n broses newydd yn ei chyfanrwydd. Yn wir, fe ddefnyddiom ni'r broses hon ar gyfer caffael Cyflymu Cymru, a gan fod gennym bellach fwy na 650,000 eiddo wedi'u cysylltu â band eang cyflym iawn, neu â'r potensial i fod yn gysylltiedig â band eang cyflym iawn, mae hynny wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Wel, yn y ddadl y byddwn yn ei chael yn ddiweddarach ar seilwaith digidol, bydd yr Aelodau'n ffurfio eu barn eu hunain ynglŷn ag a ddylid ystyried rhaglen Cyflymu Cymru yn batrwm enghreifftiol o'r hyn rydym am ei gyflawni gyda'r broses gontractio hon. A gaf fi aralleirio'r atebion a roddodd i mi yn awr? Felly, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb terfynol ynglŷn â chyllido'r fasnachfraint gyda Llywodraeth y DU. Nid oes gennych wybodaeth gyflawn ynglŷn â sefyllfa'r seilwaith rheilffyrdd yn ei chyfanrwydd; dywedoch eich bod yn parhau â hynny. Ac ni roesoch ateb inni mewn perthynas â gweithredwr â chyfrifoldebau pan fetha popeth arall.
Dywedasoch fod y tîm Trafnidiaeth Cymru sy'n rheoli'r broses gaffael yn dweud bod y cynigwyr eraill yn parhau i gymryd rhan lawn yn y broses. Rwy'n tybio eich bod yn meddwl hynny nes i chi gael yr alwad ffôn am 5 p.m. ar 27 Hydref mewn perthynas ag Arriva Cymru. Pa effaith y credwch y bydd y ffaith bod y gweithredwr presennol wedi tynnu allan—yr un cynigydd â mwy o wybodaeth na'r tri arall—yn ei chael ar y tri chynigydd arall? A fydd y cyfrif risg wedi codi iddynt bellach? A fydd pris y cais y byddant yn ei gyflwyno yn codi i adlewyrchu hynny? A allwch ddweud â sicrwydd nad oes unrhyw gynigwyr eraill ar fin tynnu allan? Beth am y ffaith bod Costain—wrth gwrs, fel y partneriaid gydag Arriva—wedi tynnu allan o'r cyrsiau adeiladu metro yn ogystal? Pa effaith a gaiff hynny?
Ac yn olaf, er mwyn profi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa mor dda yw eich antenâu a pha mor dda yw antenâu eich tîm yn Trafnidiaeth Cymru, a allwch gadarnhau a oeddech yn ymwybodol fod un o'r cynigwyr eraill wedi atal eu tîm rhag bwrw ymlaen am fis cyfan dros yr haf o ganlyniad i'r oedi ym mhroses y fasnachfraint?
Roeddwn yn hynod o siomedig ynglŷn â'r oedi hwnnw ym mhroses y fasnachfraint. Daethom dros hynny. Bellach, mae gennym dri chynigydd—tri chynigydd—a fydd yn cyflwyno eu tendrau erbyn 21 Rhagfyr, ac mae pob un o'r tri o safon fyd-eang. Y dewis arall yn lle'r risgiau a nododd yr Aelod fuasai bod wedi gwneud dim a pharhau â'r trefniadau masnachfraint presennol ar y telerau presennol. A allech ddadlau y buasai hynny er lles gorau'r teithwyr sy'n gorfod defnyddio gwasanaethau heddiw? Oherwydd ni chredaf y buasai llawer o'r bobl sy'n eistedd o'ch cwmpas yn dadlau bod hynny'n wir. Rydym yn cyflawni newid sylweddol drwy'r fasnachfraint newydd. Byddwn yn cyflawni hynny gyda chynigydd o safon fyd-eang.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael y wybodaeth hon gennych, rydych o'r diwedd wedi darparu dadansoddiad o niferoedd y swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynhelir gan wyth ardal fenter Cymru, a diolch ichi am y ffigurau hynny. Mae'r ardaloedd menter wedi dangos mai dim ond—mae'r ffigurau gennyf yma—2,998 o swyddi newydd a grëwyd ers i'r ardaloedd gael eu sefydlu. Mae hynny er gwaethaf y £221 miliwn o arian cyhoeddus a ddyrannwyd i'r ardaloedd dros y pum mlynedd diwethaf. Golyga hyn fod cost gyfartalog creu un swydd newydd yn yr ardaloedd menter ychydig dros £73,000. Mae hynny'n gyfwerth â busnes yn cyflogi gweithiwr amser llawn am ychydig o dan dair blynedd a hanner. A ydych yn credu bod gwario dros £73,000 i greu un swydd yn sicrhau gwerth da i drethdalwyr Cymru?
Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn cyfrifo ar sail cynnal swyddi hefyd, a diogelu swyddi. Er enghraifft, ym Mhort Talbot, un o lwyddiannau pwysicaf y Llywodraeth hon dros y blynyddoedd diwethaf fu sicrhau dyfodol eu gwaith dur yn yr ardal fenter. Gall sicrhau ein bod yn diogelu swyddi fod cyn bwysiced â chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd. Yr hyn a wnaethom gydag ardaloedd menter—a graddau amrywiol o lwyddiant a gafwyd; buaswn yn cyfaddef hynny—ond yr hyn a wnaethom gydag ardaloedd menter yw cynnig lleoedd deniadol i fuddsoddwyr, yn ogystal â chymhellion deniadol i fusnesau sy'n bodoli eisoes barhau i weithredu'n llwyddiannus.
Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd o ran bod y darlun yn gymysg mewn perthynas ag ardaloedd menter. Rwy'n cydnabod hefyd ei bod yn bwysig diogelu swyddi, er bod yn rhaid i mi ddweud, mewn dogfen gennych yma, mae'n dweud,
'Nod yr Ardaloedd Menter yw: meithrin twf yn yr economi leol a darparu swyddi newydd'.
Felly, dengys y data fod llai na thraean o'r swyddi a gefnogwyd gan ardaloedd menter yn swyddi newydd. A yw'n wir fod uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter wedi lleihau dros amser, i gyd-fynd â'r methiant i greu cyflogaeth newydd, ac nad yw'r ardaloedd newydd bellach yn ddim mwy na chasgliad o ffermydd cymhorthdal sy'n methu creu cyfleoedd cyflogaeth yn y cymunedau lle maent i fod wedi'u lleoli?
Nid wyf yn siŵr a fuaswn yn defnyddio'r term 'ffermydd cymhorthdal' yng ngŵydd unrhyw un o'r busnesau sydd wedi elwa o statws ardal fenter. Yr hyn a ddywedwn, fodd bynnag, yw ein bod wedi dioddef, yn enwedig yn ddiweddar, o ganlyniad i gryn ansicrwydd o ran sefyllfa'r economi yn y dyfodol wedi canlyniad y refferendwm. Unwaith eto, nid ydym yn ymddiheuro am fuddsoddi mewn ardaloedd menter fel un o nifer o ddulliau i ddiogelu cyflogaeth bresennol ac i sicrhau ein bod yn parhau i dyfu cyfleoedd cyflogaeth. Mae'r Aelod yn llygad ei le ynglŷn â'r uchelgais hirdymor i ardaloedd menter ddenu a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd, ond rwy'n dal i ddadlau bod diogelu swyddi, mewn sawl rhan o Gymru, yr un mor bwysig â chreu cyfleoedd newydd.
Er y cannoedd o filiynau o bunnoedd a fuddsoddwyd yn yr ardaloedd, mae economi Cymru, yn fy marn i, yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o rannau eraill y DU. Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 2015 yn £18,000, ar waelod tabl cynghrair y gwledydd cartref o ran gwerth ychwanegol gros y pen, ac mae wedi bod ar waelod y tabl hwnnw am 20 mlynedd yn olynol. Yn ogystal, mae enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru £43 yn is nag yn yr Alban, er eu bod yn yr un lle'n union 20 mlynedd yn ôl. Felly, a gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych yn derbyn bod y data economaidd ar berfformiad economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf yn tanlinellu methiant yr ardaloedd menter ymhellach gan fod y data'n dangos yn glir fod yr ardaloedd wedi methu hybu perfformiad economi Cymru?
Wel, buaswn yn dweud bod cryn dipyn o lwyddiant wedi bod mewn llawer o ardaloedd menter. Glannau Dyfrdwy, er enghraifft: mae nifer enfawr o swyddi newydd wedi cael eu creu yno a llawer iawn mwy wedi'u diogelu. Mae'r un peth yn wir am Gaerdydd. Mae cynllun yr ardaloedd menter wedi bod yn llwyddiant, ond nid yw hynny'n golygu na ddylid ei ddiwygio a'i newid ymhellach lle bo angen. Rwy'n sicr yn edrych ar hynny.
Ond rwyf am ddweud, ar ôl i'r Aelod grybwyll enillion wythnosol cyfartalog, y buaswn yn ei wahodd i gefnogi uchelgais y Llywodraeth Lafur hon i gyflwyno arferion gwaith teg ar draws ein heconomi, i wella safonau gwaith, i wella cyflogau, i sicrhau ein bod yn lleihau'r bwlch yn yr enillion cyfartalog wythnosol. Hefyd, buaswn yn gobeithio y byddai'r Aelod yn cefnogi ein galwad i roi terfyn ar doriadau lles mewn gwaith ac i sicrhau bod pobl yn gallu ennill cyflog gweddus am ddiwrnod da o waith.
Credaf ei bod yn bwysig dweud hefyd, fel y soniais yn gynharach, o ran gwerth ychwanegol gros y pen, ei fod wedi bod yn tyfu'n gyflymach ar gyfartaledd yn ddiweddar yng Nghymru nag ar draws y DU. Fel y dywedais yn gynharach, rydym ar y rhedfa honno, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y ffordd iawn er mwyn esgyn. A dyna pam rydym yn ad-drefnu'r adran er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio mwy ar gryfderau rhanbarthol, fel y gallwn dyfu'r economïau y tu hwnt i'r ardaloedd mwy trefol.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn clywed yn gyson gan y Prif Weinidog fod angen inni aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. A ydych yn cytuno gyda'r safbwynt, er y marchnadoedd llewyrchus y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, fod hynny'n wir?
Rwyf eto i gael fy argyhoeddi y bydd sefydlu cytundebau masnach â gwledydd y tu allan i'r UE yn gwneud iawn am y canlyniadau a fuasai'n deillio o Brexit caled neu 'ddim bargen'. Credaf yn gryf, yn seiliedig ar y dystiolaeth a welais a diffyg tystiolaeth i'r gwrthwyneb, fod yn rhaid sicrhau trefniant pontio, ac yn y pen draw, fod yn rhaid sicrhau bargen nad yw'n niweidio rhagolygon economaidd y wlad yn y tymor hir.
Clywais lawer o sôn yn ddiweddar am baratoadau ar gyfer senario 'dim bargen', fel pe bai modd paratoi ar gyfer senario 'dim bargen' yn yr un ffordd ag y gallech baratoi ar gyfer Brexit meddal. Nid yw hyn yn wir; ni allwch baratoi ar gyfer senario 'dim bargen' i'r graddau fod ei heffeithiau'n cael eu lliniaru'n gyfan gwbl. Credaf fod paratoi ar gyfer senario 'dim bargen' fel paratoi i nofio drwy lafa; bydd yn brofiad peryglus i'r economi ac ni fydd modd inni wneud iawn am hynny drwy sefydlu cytundebau masnach â gwledydd eraill y tu allan i'r UE.
Wel, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y sylwadau hynny. A gallaf weld bod yr UE yn farchnad bwysig iawn ar gyfer cynnyrch Prydain a Chymru. Ond y ffaith amdani yw bod ein masnach ag Ewrop yn prysur leihau, tra bod ein masnach â gweddill y byd yn prysur gynyddu. Felly, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai rhyddhau ein hunain o rwymau deddfwriaeth yr UE, a gallu masnachu â gweddill y byd yn ôl ein telerau ein hunain ehangu ein masnach y tu allan i'r UE yn sylweddol?
Ond mae'n dal yn wir fod—. Dywed yr Aelod ei fod wedi lleihau yn sylweddol; nid yw wedi lleihau'n sylweddol mewn perthynas ag allforion i'r UE—o ychydig dros 60 y cant i ychydig o dan 60 y cant. Felly, buasai canlyniadau gadael heb unrhyw fargen ar waith yn eithaf trychinebus i economi Cymru, ac ni fyddai sefydlu cytundebau mewn mannau eraill ledled y byd gyda thrydydd partïon yn gwneud iawn am hynny. Ni fydd yn gwneud iawn am hynny o gwbl. Yr hyn sydd arnom ei angen yw sicrwydd ar gyfer y gymuned fusnes a bargen nad yw'n niweidio ein rhagolygon economaidd hirdymor.
Wel, gadewch i ni gael trafodaeth onest ac agored am yr Undeb Ewropeaidd hwn a'n dibyniaeth arno.
Dengys ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 80 y cant o'n henillion tramor yn dod o'r sector gwasanaethau, sydd oddi allan i gytundebau masnachol. Felly, hyd yn oed pe bai'r UE yn torri eu trwyn i ddial ar eu hwyneb ac yn dewis gweithredu tariffau ar nwyddau'r DU, buasai'r gost gyffredinol i economi'r DU yn gyfyngedig—yn llai o lawer na'r hyn a ragwelwyd gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros aros.
Os edrychwn yn fanylach ar hyn, buasai'n rhaid inni, wrth gwrs, gydymffurfio â rheolau Sefydliad Masnach y Byd, a allai arwain at dariff o 5 y cant ar nwyddau, o Ewrop ac i Ewrop. Pe bai hyn yn digwydd, oherwydd ein diffyg masnach ag Ewrop, buasai'n arwain at elw net o £4 biliwn i economi'r DU. Oni fuasech yn cytuno y byddai hynny'n hen ddigon o arian, nid yn unig i ddigolledu ffermwyr a busnesau Cymru am golli unrhyw fasnach, ond y rhan fwyaf o ddiwydiant ffermio'r DU hefyd?
Roeddwn yn Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa yn ddiweddar. Cyfarfûm â gwahanol arbenigwyr a deuthum oddi yno wedi dysgu llawer am ddatblygiad economaidd, datblygu cynaliadwy a datblygu cynhwysol, ond dysgais hefyd y gallai'r canlyniadau tebygol a fyddai'n deillio o ddychwelyd at reolau Sefydliad Masnach y Byd olygu bod economi'r DU yn crebachu rhwng 8 a 10 y cant. Ni fuasai hynny'n fuddiol i'r sector gwasanaethau, ac yn sicr ni fuasai'n fuddiol i'r sector gweithgynhyrchu.
Er bod yr Aelod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector gwasanaethau i economi'r DU, mewn gwirionedd, mae gweithgynhyrchu yng Nghymru yn hollbwysig. Mae'n cynnig cyfran fwy o'r economi yn ei chyfanrwydd nag y mae'n ei wneud ar draws y DU a gwyddom y gallai tariffau neu rwystrau technegol sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu nwyddau yn y DU fod yn niweidiol iawn i economïau'r DU a Chymru. Felly, unwaith eto, buaswn yn dweud y byddai senario 'dim bargen' yn senario ddifrifol i economïau Cymru a'r DU yn hytrach na rhywbeth y dylid ei gymeradwyo, ac yn sicr nid yw'n rhywbeth y gellid paratoi ar ei gyfer fel pe bai'n rhyw fath o senario Brexit meddal.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51329
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn ddogfen fyw ac yn cynnwys rhaglen uchelgeisiol o ymyriadau sydd ar wahanol gamau o'u datblygiad ar gyfer de-ddwyrain Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gwaith ar gyffordd 28 a chylchfannau Forge Lane yn fy etholaeth wedi arwain at gryn dipyn o broblemau i deithiau dyddiol cymudwyr o Dŷ-du, Basaleg a Rhiwderin ers misoedd lawer. Yn yr amser hwnnw, mae trigolion a chymudwyr wedi bod yn anhygoel o amyneddgar a goddefgar. Fodd bynnag, wrth i'r gwaith ar gylchfan Forge Lane ddod i ben, nid yw'r profiad wedi bodloni'r disgwyliadau hyd yn hyn. Mae system oleuadau traffig newydd wedi'i gosod yn ddiweddar ac wedi achosi mwy byth o darfu a thagfeydd hwy ar adegau prysur. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu'r sefyllfa ar frys, ond a all Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut y mae llif y traffig yn cael ei reoli a rhoi sicrwydd i mi, i fy etholwyr ac i gymudwyr y bydd yn gwella o ganlyniad i hynny?
Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod am ei diddordeb brwd yn y mater hwn ac am gynrychioli ei hetholwyr yn rymus mewn perthynas ag ef. Rwy'n cydnabod bod y gwaith wedi arwain at darfu, ond rydym yn ceisio sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Roeddwn yn falch iawn fod yr Aelod wedi gallu cyfarfod â fy nhîm prosiect, ac rwy'n ymwybodol fod y tîm hwnnw bellach yn paratoi adroddiad ar gyfer Jayne Bryant, a chredaf y dylai'r adroddiad hwnnw fod yn barod ac ar gael yr wythnos hon. Byddwn yn rhannu'r adroddiad hwnnw gyda chi, a gallaf eich sicrhau ein bod wedi cyfathrebu ac y byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda'r holl randdeiliaid ynghylch prosiect i gynorthwyo i leihau problemau teithio i bobl Casnewydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe gyhoeddoch chi adolygiad o'r prosiect i ddeuoli'r A465 ar gyfer ffordd Blaenau'r Cymoedd gan fod y prosiect £220 miliwn dros y gyllideb ac yn hwyr. Roedd y gwaith ar y rhan hon o'r ffordd i fod i gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2019, ond mae'n debygol y bydd ar ei hôl hi, gan arwain at gostau ychwanegol, nid yn unig i arian cyhoeddus, ond hefyd i gwmnïau lleol, ac efallai y bydd yn rhaid i rai ohonynt roi'r gorau i fasnachu yn yr ardal er bod arnom eu hangen yn daer. Pryd y byddwch yn gwneud datganiad yn y Siambr hon ynglŷn â'r prosiect hwn, a pha gynlluniau sydd gennych i ddigolledu'r busnesau sydd wedi cael eu niweidio gan yr oedi wrth gwblhau'r llwybr pwysig hwn? Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i wahodd i ofyn i unrhyw gwmnïau yn y rhanbarth sy'n credu eu bod yn dioddef o ganlyniad i'r gwaith ffordd gysylltu â fy adran ar unwaith? Efallai y bydd modd inni eu cynorthwyo, ac os gallwn, byddwn yn sicr o wneud hynny. Ond mae topograffi'r safle, yr union ardal sydd wedi achosi'r oedi—mae'r gofynion rheoli traffig yn yr ardal honno a chyflwr cymhleth y ddaear wedi golygu bod y prosiect wedi bod yn llawer anos i'r contractwyr ei gyflawni na'r hyn roeddent wedi'i ragweld ar y cychwyn, nac wedi cynllunio ar ei gyfer, yn wir. Am y rheswm hwnnw, gofynnais am adolygiad cynhwysfawr o'r prosiect masnachol, ac rwy'n disgwyl canlyniad yr adolygiad hwnnw cyn bo hir. Cyn gynted ag y bydd yr adolygiad wedi dod i law, byddaf yn gwneud datganiad pellach.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ffiasgo cylchfan Pwll-y-Pant yng Nghaerffili, ac rwy'n ymwybodol nad yw hon yn un o ffyrdd Llywodraeth Cymru, ond mae'n ffordd ranbarthol bwysig, ac mae'n cael cryn effaith ar fusnesau lleol a bywydau bob dydd pobl. A gaf fi ofyn a yw ef, neu ei adran, wedi ymgysylltu â'r awdurdod lleol o ran edrych ar natur y contract rhwng yr awdurdod lleol a'r contractwyr? A yw'n edrych ar opsiynau eraill ar gyfer y gwelliannau ffordd o gwmpas Pwll-y-Pant, efallai drwy gyflwyno sifftiau cyfandirol, er enghraifft? Oherwydd ni all pobl leol fforddio 12 mis o darfu o'r natur hon. Mae'n rhaid bod ffordd well o wella'r ffyrdd o gwmpas Pwll-y-Pant.
Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywed yr Aelod. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda swyddogion yr awdurdod lleol i nodi ffyrdd o leihau'r anghyfleustra i etholwyr fy nghyd-Aelod. Credaf ei bod yn bwysig, pan fo gwaith ffordd yn mynd rhagddo, ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl gyda chyn lleied o darfu â phosibl i'r rhai sy'n defnyddio'r ffyrdd. Felly, byddaf yn gofyn i fy swyddogion ymgysylltu'n uniongyrchol â'r awdurdod lleol i nodi ffyrdd o leihau tarfu ac i gwblhau'r gwaith cyn gynted â phosibl.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51328
Gwnaf. Rydym yn datblygu nifer o brosiectau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, sy'n cynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi'r buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth, seilwaith a gwasanaethau o 2015 i 2020, ar draws pob rhan o Gymru.
Diolch am hynny ac rwy'n gweld yr arwyddion ar hyd y ffordd. Un maes y tynnwyd fy sylw ato—maes sy'n peri pryder—yw'r galw gan drigolion yng Nghwm Abergwaun am welliannau mewn perthynas â mynediad i gerddwyr. Oherwydd—rwy'n siŵr eich bod yn adnabod yr ardal, ond mae yno fan cyfyng iawn ac mae'r heol benodol honno'n culhau mewn man lle mae cerddwyr a thraffig yn cwrdd â'i gilydd, ac ystyrir ei fod yn hynod anaddas ac anniogel. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe dderbynioch chi ddeiseb a lofnodwyd gan 98 o bobl yn ôl ym mis Medi, ac fe ddywedoch fod eich swyddogion yn ystyried opsiynau eraill a chynigion ar gyfer pont droed i wella diogelwch cerddwyr, a chroesewir hynny'n fawr. A gaf fi ofyn a fu unrhyw gynnydd pellach yn hynny o beth?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac unwaith eto, am ei diddordeb brwd yn y mater hwn yn Abergwaun? Rwy'n ymwybodol o'r ardal, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y byddaf yn ystyried y ddeiseb yn ofalus, ond yr hyn y geilw amdano yw ateb yn y tymor canolig i'r tymor hwy i broblem sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, lle'r hoffwn weld camau'n cael eu cymryd yn y tymor byr hefyd, i ddatrys y broblem. Felly, mae fy swyddogion yn edrych ar opsiynau ac yn adolygu cynigion ar hyn o bryd ar gyfer pont droed yng Nghwm Abergwaun i wella diogelwch cerddwyr. Mae'r gwaith adolygu yn mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda'r bwriad y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i mi ynghyd ag argymhelliad ynglŷn â'r ffordd orau o fwrw ymlaen. Rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod cerbydau nwyddau trwm wedi eu gwahardd rhag defnyddio'r rhan hon o'r A487, ac mae'n anodd i gerbydau o'r fath yrru drwy'r ardal gul hon heb ddod yn agos at gerddwyr, felly mae Heddlu Dyfed-Powys yn gorfodi cyfyngiadau ar hyd a lled cerbydau yng Nghwm Abergwaun. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelod unwaith eto ein bod yn edrych ar atebion nid yn unig ar gyfer y tymor canolig a hir, ond hefyd am ateb ar gyfer yn awr.
Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd tystiolaeth a roddwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru fod cysylltedd â phorthladdoedd Cymru yn hanfodol i'w llwyddiant. Nawr, yn wir, dywed casgliad 12 yn yr adroddiad hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru wneud
'ymrwymiadau clir ar ddatblygu seilwaith y dyfodol y mae'n gyfrifol amdano, gan gynnwys priffyrdd.'
Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â deuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai nid yn unig yn cael effaith fuddiol iawn ar y ddau borthladd yn fy etholaeth, ond hefyd ar fusnesau a chymunedau lleol yn wir ledled Sir Benfro?
Hoffwn gyhoeddi datganiad ynghylch yr A40 a dweud y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rôl hollbwysig yn asesu'r mathau gorau o seilwaith cysylltiedig sy'n cysylltu porthladdoedd a chyfleusterau eraill ledled Cymru. Bydd yr hysbysebion ar gyfer rôl cadeirydd y comisiwn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a chredaf, yn enwedig mewn amgylchedd ôl-Brexit, y bydd rôl ein porthladdoedd yn cynhyrchu twf a ffyniant yn dod hyd yn oed yn bwysicach. Felly, mae angen inni sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu tuag at sicrhau eu bod yn fwy cysylltiedig a'u bod yn cysylltu'n well â chanolfannau trefol.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Wrth iddo fe baratoi—. Mae un o'r cynlluniau mwyaf cyffroes rydw i wedi ei weld ar gyfer gweddnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth yw ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Rydw i'n credu bod hwn yn fuddsoddiad sydd yn newid agweddau pobl yn sylweddol iawn yn y gorllewin, sydd yn cadw cymunedau at ei gilydd a denu buddsoddiad. Rydym ni i gyd yn gwybod, ac mae e'n gwybod yn arbennig: lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ar rheilffyrdd yn Nghymru, mae llwyddiant a ffyniant wedi dilyn yn sgil hynny.
A fedrwch chi ein diweddaru ni ar y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda'r astudiaeth dichonoldeb ar y rheilffordd yma? A fedrwch chi hefyd ddweud a ydych chi wedi dechrau trafod gyda Network Rail—yn y ffordd mwyaf amlinellol, rydw i'n gwybod, ond dechrau trafod gyda nhw—y posibiliad o'r cynllun yma yn mynd i mewn i'r fframwaith nesaf o fuddsoddiad, gan fy mod i o'r farn, nes bod popeth wedi cael ei ddatganoli, wrth gwrs, bod angen cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn y cynllun hwn?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod y gwaith dichonoldeb yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Credaf y bydd yn cael ei gwblhau yn y flwyddyn newydd. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n gyfrifol o hyd, yn anffodus, am ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb, ar ôl iddi gael ei chwblhau, yn cael ei defnyddio i lywio proses gynllunio Network Rail, a Llywodraeth y DU yn wir, ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd, ac rwy'n falch fy mod wedi gallu cefnogi'r astudiaeth ddichonoldeb hon. Tynna'r Aelod sylw at nifer o fanteision a fyddai'n deillio o uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi hwb i'r economi wledig? OAQ51323
Wel, mae gan Gymru wledig gyfleoedd penodol, yn ogystal â heriau penodol sy'n rhaid eu hwynebu, ac maent wedi dod yn fwy amlwg o ganlyniad i Brexit. Rydym yn ystyried pob dull sydd ar gael i ni, ar draws pob portffolio gweinidogol, ar gyfer llunio a dylanwadu ar agenda o ffyniant i bawb.
Wel, nid yw hynny'n swnio fel fawr ddim, a bod yn onest gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Os ydym am greu economi nad yw'n gadael unrhyw un ar ôl, mae'n rhaid inni sicrhau y ceir chwarae teg. Pan edrychwch ar y seilwaith trafnidiaeth, cyflymderau band eang—pethau sy'n hanfodol i lawer o fusnesau er mwyn llwyddo—ceir anghysondeb enfawr yn y ddarpariaeth, ac mae cwmnïau dan anfantais gystadleuol. Yn ddiweddar bûm yn ymweld â melin goed yn Ngheredigion, gyda fy nghyd-Aelod, Simon Thomas a Ben Lake, ac mae arnynt angen band eang â chyflymder digonol i fonitro'r offer, ac nid yw'r cyflymder hwnnw ganddynt y rhan fwyaf o'r amser. Fel mae'n digwydd, mae'r system honno'n gweithio'n iawn yn y rhan fwyaf o'r gwledydd eraill ledled y byd sy'n defnyddio'r un peiriannau. Nawr, gwn nad yw band eang yn un o'ch cyfrifoldebau uniongyrchol, ond beth a wnewch o fewn eich awdurdodaeth i sicrhau bod cymunedau a busnesau sydd wedi'u lleoli y tu allan i ardaloedd trefol y wlad hon yn cael eu cynorthwyo yn hytrach na'u llesteirio mewn perthynas â'u datblygiad economaidd ?
Wel, mae'r Aelod yn anghywir i awgrymu bod Cymru wledig yn ei chael hi'n llawer gwaeth nag ardaloedd trefol Cymru o ran—
Ewch i siarad â pherchnogion y felin goed.
—cysylltedd band eang cyflym iawn. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn gyfrifol am sgiliau a thechnoleg, ein bod wedi dewis Gwynedd fel ardal fraenaru i fusnesau fanteisio ar Cyflymu Cymru. Os edrychwch ar rai ardaloedd o'r Gymru wledig, maent ymhlith yr ardaloedd mwyaf cysylltiedig yn y DU. Mae Cyflymu Cymru—[Torri ar draws.] Mae Cyflymu Cymru wedi darparu band eang cyflym iawn yn gyflymach ac yn gynt na sawl man arall yn y DU. Oes, mae yna ardaloedd. Rwy'n cyfaddef bod yna ardaloedd yng Nghymru sydd heb eu cysylltu o hyd, ond bydd hynny'n digwydd yn y cyfnod nesaf—yr ardaloedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Rydym yn darparu'r atebion. Gwn eich bod chi'n darparu sawl beirniadaeth, ond rydym ni'n darparu'r atebion i her fyd-eang. Ychydig o wledydd yn unig ar y blaned hon sydd â chyfraddau mynediad o 100 y cant at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd. Heddiw, o ganlyniad i ymyriadau uniongyrchol Llywodraeth Lafur Cymru, mae Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf cysylltiedig, ond byddwn yn parhau i wneud mwy ac i gysylltu busnesau ac anheddau ledled y wlad â band eang cyflym iawn.
Weinidog, un o'r pethau allweddol y mae'r economi wledig eu hangen, yn amlwg, yw i bobl allu cael eu cynnyrch i'r farchnad a'i werthu am y pris gorau posibl. Mae llawer o fy etholwyr, yn rhan ogleddol y rhanbarth, yn mynychu marchnad da byw Rhaglan, gan ddefnyddio ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rydych eisoes wedi ateb rhan o'r cwestiwn pan ofynnodd Mohammad Asghar, yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, y cwestiwn i chi, ond tybed: a allwch roi unrhyw eglurder o gwbl inni ynghylch yr amserlenni sy'n weithredol bellach ar gyfer gorffen rhan ddwyreiniol y gwaith uwchraddio, ac yn bwysicach, pa gostau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn debygol o fynd iddynt? Mae'n hanfodol ein bod yn deall hynny, gan fod nifer o fy etholwyr wedi rhoi'r gorau i fynychu marchnad da byw Rhaglan bellach oherwydd yr anhrefn y maent wedi'i hwynebu, naill ai drwy orfod oedi yn gynnar yn y bore wrth fynd yno, neu ar eu ffordd yn ôl.
Hoffwn fynd i'r afael â'r union fater hwnnw, os caf, ar ran yr etholwyr y mae'r Aelod wedi siarad â hwy, a byddaf yn gofyn i fy swyddfa gysylltu â hwy'n uniongyrchol, os yw hynny'n iawn, fel y gallwn drafod y problemau y mae'r busnesau hynny yn eu hwynebu. Dylai'r adolygiad fod gennyf cyn bo hir, ac rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach cyn gynted ag y bydd hwnnw ar gael. Dylai'r datganiad hwnnw ddarparu manylion ynglŷn â'r amserlen sydd wedi gor-redeg, yn ogystal â chostau unrhyw orwariant. Mae hwn, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, yn brosiect hynod o uchelgeisiol, gyda llawer iawn o heriau, yn enwedig y ffaith ei fod yn cynnwys gwaith drwy geunant cul iawn sydd wedi'i warchod. Fodd bynnag, rydym yn cyflawni'r prosiect, mae'r contractwyr yn cyflawni'r prosiect, a bydd yn arwain at well cysylltedd ar gyfer y rhanbarth yn y tymor hir.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch priffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru? OAQ51310
Gwnaf. Mae fframwaith diogelwch ar y ffyrdd Cymru yn nodi'r camau rydym ni a'n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni ein targedau o ran lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu a'u lladd mewn damweiniau ffyrdd.
Un o'r mannau lle mae damweiniau'n tueddu i ddigwydd yn fy etholaeth dros y blynyddoedd diwethaf yw cefnffordd yr A494, yn arbennig yn yr ardal rhwng Loggerheads ac ardal Clwyd Gate ger Llanbedr Dyffryn Clwyd. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am sicrhau bod ei swyddogion ar gael i fynychu cyfarfod ar y safle ar hyd y rhan honno o'r ffordd ddiwedd mis Hydref, a hefyd am yr ohebiaeth ddilynol a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dilyn y cyfarfod hwnnw. A allwch ddweud wrthyf beth yw'r amserlenni ar gyfer y gwelliannau a nodwyd yn eich llythyr, a pha gamau pellach y gellid eu cymryd i leihau cyflymder y traffig, ar y ffordd brysur hon yn benodol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am ddangos diddordeb yn y rhan hon o Gymru? Buaswn yn cytuno bod yr ardal hon yn fan peryglus o ran damweiniau traffig ar y ffordd. Gall fod yn anniogel i gerddwyr hefyd ar brydiau, ac rwy'n benderfynol o sicrhau ei bod yn cael ei gwella o ran diogelwch. Mae'r Aelod wedi crybwyll dwy ran o'r A494 wrthyf yn ddiweddar a chredaf fod angen rhoi camau ar waith yn eu cylch. Yn gyntaf, o ran y rhan o'r A494 yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, gallaf ddweud wrth yr Aelod y bydd gorchmynion traffig drafft yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr, a gobeithiaf weld y gwaith yn dechrau ar hynny cyn gynted â phosibl. O ran yr A494 yn Loggerheads tuag at Clwyd Gate, mae'r goleuadau ambr ar yr arwyddion rhybudd y gwn fod yr Aelod wedi bod yn bryderus yn eu cylch ar y ffyrdd sy'n arwain at ganolfan Colomendy wedi cael eu hatgyweirio, a bydd arwyddion sy'n cael eu cynnau gan gerbydau yn cael eu gosod yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
O ran ymestyn y terfyn cyflymder 40 mya i'r gorllewin o Loggerheads, cyn i orchymyn drafft gael ei gyhoeddi, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddiddymu'r ymestyniad arfaethedig i'r terfyn cyflymder 40 mya i'r gorllewin o Loggerheads y tu hwnt i gyffordd Tafarn-y-Gelyn, fel y gallwn sicrhau bod y gorchmynion yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd gywir. Bydd gwelededd rhwng cyffordd y B5430 i'r dwyrain ar hyd yr A494 hefyd yn cael ei wirio, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y ceir gwared ar unrhyw lystyfiant rhwystrol o fewn ffiniau'r briffordd. Bydd adolygiad o'r llinellau gwyn ar y troeon i'r dwyrain o Clwyd Gate yn cael ei gynnal, a bydd mesurau arwyddo a llinellu hefyd yn cael eu harchwilio mewn perthynas â diogelwch cerddwyr sy'n croesi yn Clwyd Gate. Gobeithiaf y bydd y mesurau hyn yn bodloni'r Aelod a'i etholwyr, ond os bydd angen ymweld â'r safle eto, buaswn yn fwy na pharod i fynychu gyda fy swyddogion.
O fis Chwefror, Ysgrifennydd Cabinet, bydd cyfrifoldeb swyddogion traffig asiantaeth cefnffyrdd gogledd Cymru yn cael ei ehangu i gynnwys yr A483 o ochrau Caer—y Posthouse—i lawr i'r Waun, a hefyd rhannau o'r A55 ar Ynys Môn. Nawr, mae ymestyn y gwasanaeth heb ychwanegu at yr adnoddau yn golygu y bydd y gwasanaeth yn cael ei wasgaru'n deneuach. Mae yna oblygiadau, byddai rhywun yn tybio, neu risg, beth bynnag, i ansawdd y gwasanaeth yn sgil hynny. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, gan fod yna ychwanegu i'r cyfrifoldeb yn digwydd—oni ddylai fod yna ychwanegu o safbwynt adnoddau hefyd?
Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac mae gweithwyr wedi eu dwyn i fy sylw innau hefyd. Credaf ei bod yn bwysig fod unrhyw bryderon ynghylch diogelwch swyddogion yn cael eu cydnabod a'u datrys ar unwaith. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar yr adnoddau ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwnnw er mwyn sicrhau bod digon o bobl wrth law i allu ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau. Rwyf hefyd wedi gofyn i gyflogau gael eu harchwilio hefyd, gyda'r bwriad o sicrhau y gellir mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch anghyfartalwch.
Ac yn olaf, cwestiwn 7—Steffan Lewis.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rheilffordd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ51305
Gwnaf. Bydd penodi gweithredwr a phartner datblygu i ddarparu'r gwasanaethau rheilffyrdd nesaf ar gyfer Cymru a'r gororau a'r metro yn arwain at newid sylweddol yn y gwasanaethau a'r cysylltedd yn ne-ddwyrain Cymru, ynghyd â gweddill Cymru a'r gororau.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddwyd y byddai rheilffordd Glyn Ebwy yn cael ei deuoli fel rhan o fenter £40 miliwn a fyddai'n darparu gwasanaeth bob hanner awr. Cafwyd cryn dipyn o ffanffer ynglŷn â hyn. Cafwyd digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus a llawer iawn o sylw yn y cyfryngau a dywedwyd y byddai'r broses o ddeuoli'r rheilffordd wedi'i chwblhau erbyn y gaeaf canlynol, ac y byddai platfformau newydd a signalau newydd yn dilyn yn fuan wedyn. Mae llythyr a gefais gan Network Rail yn dweud bod yr holl waith ffisegol wedi ei ohirio ym mis Rhagfyr 2016 wrth i Lywodraeth Cymru gychwyn cyfnod o oedi ac adolygu, ac rydym bellach yn agosáu at aeaf 2017 heb wasanaeth bob hanner awr, ac mae'r gwaith yn dal i fod heb ei gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymddiheuro, os gwelwch yn dda, i bobl cwm Ebwy am yr oedi hwn? A wnaiff roi esboniad llawn iddynt, ac a wnaiff roi dyddiad cwblhau newydd iddynt?
Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod fy swyddogion yn gweithio gyda Network Rail i adolygu'r cynllun, fel y dywedodd—i adolygu'r amcanion, i adolygu'r cynllun cyflawni ac amcangyfrifon o'r costau er mwyn darparu'r ateb seilwaith mwyaf effeithiol i wella amlder gwasanaethau ar hyd rheilffordd Ebwy. Rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y cymunedau ar hyd y rheilffordd honno yn cael eu cysylltu'n well. O ran y prosiect metro, dylid ystyried cynyddu capasiti rheilffordd Ebwy i bedwar trên yr awr yn rhan o gamau'r metro, ac rwyf wedi gofyn a oes modd inni ganolbwyntio yn y cyfamser ar ysgogi effeithlonrwydd er mwyn darparu'r gwerth gorau am arian.
Bydd canlyniad yr adolygiad a gomisiynwyd gennyf yn llywio'r fethodoleg fwyaf costeffeithiol ar gyfer cwblhau'r gwaith seilwaith. Mae'n waith rydym wedi ymrwymo iddo, a buaswn yn dweud wrth etholwyr yr Aelod ein bod yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cyflawni newid sylweddol yn y gwasanaeth a gânt, ein bod yn benderfynol o gysylltu'r cymunedau hyn â'i gilydd yn well, ac y byddwn yn gwneud hynny am y gost leiaf sy'n bosibl i'r trethdalwr.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol, a’r cwestiwn cyntaf—Mark Reckless.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ei chael ar faint y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51315
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, fel y gŵyr, a bydd y comisiwn hwnnw'n ystyried y materion hyn. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru yn ymgysylltu'n llawn â gwaith y comisiwn.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar ei benodiad yn Gwnsler Cyffredinol? Mae'n bleser arbennig gennyf wneud hynny yn bersonol gan fy mod wedi bod yn y brifysgol gydag ef oddeutu chwarter canrif yn ôl bellach. Fel cyfreithwyr, gallem ei ystyried yn beth da pe bai maint y proffesiwn cyfreithiol yn ehangu, ond tybed: wrth siarad ar ran y Llywodraeth, a oes ganddo farn ynglŷn ag a fyddai proffesiwn cyfreithiol mwy o faint o ganlyniad i ddatganoli, ac awdurdodaeth neilltuol o bosibl, yn beth da i Gymru? A yw'n gweld unrhyw berygl o gael gwahaniaeth mwy eglur rhwng ein system gyfreithiol ni ac un Lloegr, efallai i fusnesau a allai fod angen talu am y cyfreithwyr hynny?
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfle i fynd i'r afael â fy nghwestiwn cyntaf ar fater awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân? Mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i fy rhagflaenydd am ei waith mewn perthynas â'r mater hwnnw, fel Cwnsler Cyffredinol a chyn hynny ar y meinciau cefn. Bydd gwaith y comisiwn yn sicrhau y ceir dadansoddiad cyfannol o'r holl faterion sy'n berthnasol i fater awdurdodaeth a goblygiadau hynny, gan gynnwys i'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Mae'r proffesiwn cyfreithiol yn sector pwysig i economi Cymru. Mae'n cyflogi miloedd o bobl ac yn cyfrannu cannoedd o filiynau i economi Cymru, ac mae cylch gorchwyl y comisiwn yn cynnwys cyfeiriad penodol at hybu cryfder a chynaliadwyedd sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru a sicrhau ei fod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i ffyniant Cymru.
Nid yw'r awdurdodaeth ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr bellach yn adlewyrchu realiti datganoli a'r gwahaniaethau cynyddol rhwng y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei safbwynt ar sawl achlysur. Mae ei gwestiwn yn ymwneud ag awdurdodaeth ar wahân, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnig awdurdodaeth neilltuol a fuasai'n golygu y byddai Cymru a Lloegr yn dod yn diriogaethau cyfreithiol neilltuol, ac yn bwysig, byddai'n caniatáu i gyfreithwyr a bargyfreithwyr ymarfer yn ddirwystr yn y ddwy awdurdodaeth. Ymddengys i mi nad oes rheswm pam fod hynny'n anghydnaws ag awdurdodaeth neilltuol neu ar wahân, ac mewn gwirionedd, gallai ymagwedd newydd tuag at awdurdodaeth greu cyfleoedd newydd a gwaith a strwythurau gyrfa newydd. Edrychwn ymlaen at syniadau'r comisiwn ynglŷn â hynny.
A gaf i groesawu Jeremy Miles i’w swydd newydd, er fy mod i wedi trio yn daer iawn ei rwystro fe rhag cymryd yr awenau yr wythnos diwethaf? Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda fe ar y materion hyn, ac yn sicr mae Plaid Cymru â diddordeb mawr yn yr hyn y mae e newydd amlinellu.
A wnaiff e jest esbonio, gan fod y Prif Weinidog wedi sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, pa rôl fydd gydag e nawr bellach fel y Cwnsler Cyffredinol newydd i hyrwyddo gwaith y comisiwn yma a gwaith y proffesiwn ehangach? Mae'n rhywbeth yr oedd Mick Antoniw yn ymddiddori yn fawr ynddo, rwy'n gwybod, ac rwyf hefyd yn talu teyrnged i'r gwaith yr oedd e wedi ei wneud yn y Cynulliad hwn dros y materion yna.
Yn benodol, wrth edrych ar waith y comisiwn, a ydy e o'r farn y bydd y comisiwn yma yn rhannu ei waith gyda'r cyhoedd yn fwy eang yng Nghymru, gan gyhoeddi papurau a chyhoeddi'r gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen, ac ati? Ac a fydd felly cyfle i ni fel Aelodau Cynulliad a phawb sy'n ymddiddori yn hwn i ddilyn ffrwyth y comisiwn a'r syniadau a'r athroniaeth sydd y tu ôl iddo fe, ac wrth gwrs wedyn gweld sut rydym ni'n gallu cydweithio gyda chanfyddiadau'r comisiwn?
Un o fanteision sefydlu comisiwn o'r math yma, yn fy marn i, yw'r gallu i wyntyllu'r math yma o syniadau ynglŷn ag awdurdodaeth a'r proffesiwn ac ati mewn ffordd sydd yn gallu ysgogi'r cyhoedd i ymwneud â chwestiynau sydd yn gallu bod yn rhai eithaf dyrys ac eithaf technegol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig i'r comisiwn allu chwarae, ac rwy'n gobeithio taw dyna y gwnaiff e maes o law.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl hawliau dynol yn neddfwriaeth Cymru? OAQ51334
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ei hymgorffori'n elfen sylfaenol o'r setliad datganoli, drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac o ganlyniad, mae'n effeithio ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad a chan Weinidogion Cymru.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, a gaf fi eich llongyfarch, yn amlwg, ar eich penodiad yn Gwnsler Cyffredinol, a dymuno'n dda i chi gyda'ch gwaith yn y dyfodol?
Gwyddom fod gan Gymru hanes balch o ymgorffori hawliau dynol yn ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n gweithredoedd, ond rydym yn wynebu cryn ansicrwydd wrth i'r DU negodi i adael yr Undeb Ewropeaidd. A wnewch chi ystyried pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod hawliau dynol yn parhau i fod yn ganolog yng nghyfraith Cymru?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pellach, ac am hyrwyddo materion hawliau dynol yn gyffredinol. Fel y gŵyr, mae'r Ddeddf hawliau dynol yn effeithio ar Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn dwy ffordd uniongyrchol iawn. Yn gyntaf, maent yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf, sy'n golygu na allant weithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â hawliau'r confensiwn, ac mae Bil Cynulliad y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol os yw'n anghydnaws â'r hawliau hynny. Mae'r Cynulliad, o bryd i'w gilydd, wedi deddfu'n rhagweithiol i adlewyrchu hawliau dynol, gan gynnwys mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae'n holi ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn. Dywedodd y Prif Weinidog yn glir iawn, yn ei gyngor i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar yr UE yn 2015, a dyma yw barn y Llywodraeth o hyd, ei bod yn llwyr wrthwynebu unrhyw ddiddymiad a argymhellwyd yn flaenorol o'r Ddeddf hawliau dynol. Soniodd Llywodraeth y DU yn fyr ei bod yn rhoi'r cwestiwn hwnnw i'r naill ochr nes ei bod yn gliriach beth oedd yn digwydd o ran gadael yr EU, ond dywedasant y byddent yn dychwelyd at y cwestiwn bryd hynny.
Yng nghyd-destun Brexit, sef yr hyn y cyfeiria ei chwestiwn ato'n benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir o ran ei safbwynt na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr UE arwain, mewn unrhyw ffordd, at wanhau'r amddiffyniadau i hawliau dynol. Am y rheswm hwnnw, ceir pryder fod y Bil ymadael â'r UE yn gwneud darpariaethau i atal siarter hawliau sylfaenol yr UE rhag bod â grym cyfreithiol yn y DU. Mae'r siarter yn darparu amddiffyniadau i hawliau dynol o fewn cwmpas cyfraith yr UE, a'n safbwynt cyson ni yw y dylai Bil y DU gadw hynny'n rhan o'r corff o gyfreithiau sy'n deillio o'r DU a ddaw i rym yn y wlad hon wrth adael.
Dylem fod yn falch o'n cefnogaeth i hawliau dynol yn y lle hwn. Dylem fod yn falch o gyfraniad y DU i'r gwaith o adeiladu seilwaith hawliau dynol yn rhyngwladol, ac yn benodol, y cyfraniad a wnaed gan gyfreithwyr Cymru wrth sefydlu'r confensiwn pan y'i crëwyd.
3. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phroses Brexit? OAQ51333
Mae'r cwestiwn hwn, unwaith eto, yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n weithredol i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Mae'r gwaith wedi cynnwys cymryd rhan ym mecanweithiau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, cynnig gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE er mwyn ymdrin â phryderon ynghylch materion datganoledig, a chyhoeddi polisi clir ar faterion sy'n ymwneud â Brexit.
Gwnsler Cyffredinol, rwyf wedi cael fy siomi'n fawr gan y ffordd y mae'r Blaid Lafur wedi bod yn pleidleisio yn San Steffan dros yr wythnosau diwethaf ar bleidleisiau hollbwysig yn ymwneud â phroses Brexit. Mae un o'r pleidleisiau hynny yn arbennig o berthnasol i chi, yn rhinwedd eich swydd fel Cwnsler Cyffredinol. Ni chefnogodd eich plaid yn San Steffan welliant Plaid Cymru a fuasai wedi rhwymo mewn cyfraith unrhyw gynigion cydsyniad deddfwriaethol a wneid yn y lle hwn mewn perthynas â Brexit. Yn y cyfamser, cefnogwyd ein gwelliant gan blaid Llywodraeth yr Alban, yn ogystal â'r Democratiaid Rhyddfrydol—dwy blaid rydych yn gweithio gyda hwy yn y Llywodraeth hon yma—ac nid oeddent yn gweld unrhyw broblem gydag ef. Yn wir, roedd yna un aelod Llafur o Gymru hefyd nad oedd yn gweld unrhyw broblem, a thorrodd y chwip a chefnogi ein gwelliant. A allwch egluro i'r Siambr hon pa un a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i sicrhau bod gan Gymru lais mewn perthynas â sut y mae proses Brexit yn mynd rhagddi? Ac a allwch egluro pam nad yw'r gwaith hwnnw'n cael ei adlewyrchu yng ngweithredoedd ASau'r Blaid Lafur?
Wel, mae gwaith helaeth ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n dylanwad o fewn y DU, ac yn dylanwadu ar drafodaethau ffurfiol yr UE, i gyflawni ein hamcanion. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ddiweddar, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ddoe wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â datblygu fframweithiau cyffredin yn benodol. Ac mae safbwynt cyffredinol Llywodraeth Cymru ar adael yr UE wedi'i nodi yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru', wrth gwrs, safbwynt y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru.
Mae gennym bryderon penodol mewn perthynas â Bil ymadael â'r UE, fel y mae'n gwybod, ac rydym wedi gweithio ar y cyd â Llywodraeth yr Alban i gyflwyno gwelliannau i ymdrin â diffygion y Bil hwnnw, yn enwedig mewn perthynas â materion datganoledig. Ac rydym yn parhau i fod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
Rydym wedi penderfynu gweithredu ar y cyd â Llywodraeth yr Alban i gyflwyno cyfres o welliannau i'r Bil i fynd i'r afael â diffygion mewn perthynas â datganoli yn benodol. Y dull y mae'r Llywodraeth wedi'i fabwysiadu yw ceisio cael y gefnogaeth drawsbleidiol ehangaf sy'n bosibl yn y Senedd i'r gwelliannau hynny. Ac mae'r Prif Weinidog wedi nodi wrth gwrs ei fod eisiau i'r Cynulliad hwn gael llais ynglŷn â'r cytundeb ymadael, pan fydd ei delerau'n glir.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r sail gyfreithiol i'r cyfnod trosiannol a fydd yn bodoli ar ôl i Erthygl 50 ddod i rym? OAQ51318
Wel, fel un o'r Aelodau sydd wedi bod fwyaf diwyd yn holi'r Cwnsler Cyffredinol, bydd yr Aelod yn gwybod bod confensiwn swyddogion y gyfraith unwaith eto yn gymwys i'r cwestiwn hwn. Fodd bynnag, gallaf i ddweud y byddai angen i unrhyw gyfnod gweithredu gael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gallwn ni ddim rhagdybio y bydd yna gyfnod o'r fath, na beth fyddai ei delerau. Tan fod hynny'n glir, mae'r sail gyfreithiol hefyd ddim yn glir.
Wel, diolch am yr ateb yna. Roedd e'n ateb cyflawn o ystyried eich bod chi'n dweud eich bod chi ddim yn gallu ateb. Ac rwy'n ddiolchgar am hynny, achos mae yna gwestiwn sydd yn effeithio ar y penderfyniadau yn y lle hwn, yn enwedig ym maes amaeth a'r amgylchedd, sef nad oes yna sicrwydd ar hyn o bryd fod y cyfnod trosiannol yma, y mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol a fydd yn digwydd ar ôl i erthygl 50 ddod i rym, yn mynd i fod ar sail ddilys gyfreithiol gref, er mwyn bod yn gynsail i'r penderfyniadau, yn eu tro, y bydd y Cynulliad yma yn eu gwneud.
A gaf i ofyn, felly, pa gamau pellach y gall y Llywodraeth eu cymryd, ac yntau yn ei rôl fel Cwnsler Cyffredinol yn cefnogi hynny, i sicrhau bod y sail gyfreithiol yna yn glir, cyn inni wneud rhai o'r penderfyniadau mwyaf pwysig yn hanes y Cynulliad hwn tuag at gymorth ar gyfer ein cymunedau cefn gwlad a'r amgylchedd?
Wel, mae safbwynt Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, sef y dylai fod cyfnod gweithredu, yn gydnabyddiaeth o'r realiti cyfreithiol a gwleidyddol—bod angen mwy o amser, fel petai, i gytuno'r telerau yn y tymor hir. Ond nid mater jest i'r Deyrnas Unedig yw e, fel sonies i, ac mae amryw o gwestiynau pwysig yn agored ar hyn o bryd y bydd yn rhaid cael atebion iddyn nhw cyn bod y sefyllfa gyfreithiol yn gliriach. Er enghraifft, awdurdodaeth y Llys Ewropeaidd, y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig ac unrhyw gyfraith newydd a ddaw mewn wrth yr Undeb Ewropeaidd, a gallu'r Deyrnas Unedig i negodi cytundebau masnach. A'r gwir yw ein bod ni ar hyn o bryd mewn cyfnod cynnar iawn, yn anffodus, yn y sefyllfa hynny, ac mae hynny'n fater o bryder.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bodolaeth y math yna o gyfnod, cyhyd â'i fod e'n cefnogi'r economi a swyddi yng Nghymru, a'r economi yn gyffredinol. Ond mae'n rhaid hefyd gofio bod angen sicrhau perthynas hirdymor, sydd dros fuddiannau Cymru, nid jest yn y cyfnod gweithredu.
5. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud mewn perthynas â'r cyfamod ar dir ym mharc diwydiannol Baglan? OAQ51327
Wel, unwaith eto, mae arnaf ofn fod y cwestiwn hwn yn ymwneud â chonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond deallaf nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle. A phe bai pethau'n datblygu i gaffael y safle, buasai'n rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod.
Wel, a gaf fi ymuno ag eraill i'ch croesawu i'ch swydd, Gwnsler Cyffredinol, ac a gaf fi hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad i'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol am y gwaith a wnaeth hefyd?
Gwnsler Cyffredinol, mae'r ateb a roesoch i mi yn amlwg yn siomedig. Rwy'n derbyn yr ochr gyfreithiol, ond mae gan y cyfamod amserlen sy'n tynnu sylw at faterion yn ymwneud â defnydd tir, ac ym mharagraff 2 mae'n datgan:
Peidio â defnyddio'r eiddo y cyfeirir ato yma nac unrhyw ran ohono fel unrhyw beth ar wahân i barc diwydiannol yn unol â'r caniatadau cynllunio a roddwyd.
Ac mae paragraff 3 yn datgan:
peidio â defnyddio (mangre a lesiwyd, eiddo) na chaniatáu i'r cyfryw gael ei ddefnyddio ar gyfer masnachu tramgwyddus, swnllyd neu beryglus, gweithgynhyrchu busnes neu ei feddiannu ar gyfer unrhyw ddiben neu mewn modd a allai achosi niwsans i'r Asiantaeth neu berchnogion neu feddianwyr mangreoedd cyfagos.
Nawr, mae hynny'n amlwg yn rhoi cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, fel y tirfeddianwyr, i sicrhau na ddylai unrhyw ddatblygu ar y tir hwn gael effaith niweidiol ar feddianwyr eiddo cyffiniol neu gyfagos y mae llawer ohonynt yn eiddo preswyl. Onid yw'n bryd i chi gynghori Llywodraeth Cymru i beidio â derbyn y canlyniadau a allai ddilyn, ac i ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddant yn sicr yn creu niwsans drwy barhau â'r datblygiad arfaethedig, ac o bosibl, yn cynnwys senarios a allai fod yn beryglus, fel y gwelsom ar ystadau carchar ledled y DU? Fel arall, credaf eich bod yn paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer llawer iawn o achosion cyfreithiol, gan y bydd fy etholwyr yn chwilio am atebolrwydd.
Wel, mae'r Aelod wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y Siambr hon, ac mae'n fy nhemtio i gamu y tu hwnt i ffiniau fy awdurdod i faes polisi. Yn anffodus, rwyf am ei siomi yn hynny o beth ac ymwrthod â hynny. Mae arnaf ofn fod y cwestiwn y mae'n ei ofyn yn bendant o fewn mater y cyfamod, felly nid wyf yn gallu ymhelaethu ymhellach ar yr hyn a ddywedais, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol wedi clywed ei sylwadau.
Gwnsler Cyffredinol, yn amlwg, mae'r cyfamod cyfyngol ar y safle o ran defnydd diwydiannol, fel y nodwyd, yn cael ei atgyfnerthu yn y cyd-destun cynllunio lleol, drwy gyfrwng cynllun datblygu lleol Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth yw eich barn, o ran cyfreithlondeb mewn perthynas â'r gwrthdaro rhwng datblygiad carchar arfaethedig a'r dyraniad defnydd tir yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer defnydd economaidd? Ac a ydych yn cytuno fod y posibilrwydd hwnnw'n tanseilio deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r angen statudol i sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gadarn?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedaf, nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle, a bydd yn rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod maes o law pe bai hwnnw'n bwrw ymlaen. Ond y tu hwnt i hynny, ni allaf ymhelaethu ar fy ateb i'w gwestiwn.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o allu'r Cynulliad i ddeddfu o dan Ddeddf Cymru 2017 er mwyn gwahardd ffracio? OAQ51319
Nid wyf yn gallu datgelu cyngor cyfreithiol, ond, o dan y setliad newydd, bydd cynllunio wedi ei ddatganoli o hyd. Mae olew a nwy yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ond mae rhoi a rheoleiddio trwyddedau petroliwm, a mynediad i dir yng Nghymru at ddibenion trwyddedu o'r fath, yn eithriad i hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gadarnhau'r sefyllfa gyfreithiol. Gofynnais gwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe. Ni wnaethon ni ei gyrraedd ar y rhestr, ond fe atebodd y Prif Weinidog i fi ei fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru, gyda'r pwerau hyn, i edrych ar bolisi cynllunio er mwyn gwahardd ffracio yng Nghymru. A gaf i ddweud wrth y Cwnsler Cyffredinol a'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn copi o farn gyfreithiol, wedi'i baratoi gan Paul Brown QC, ar gais Cyfeillion y Ddaear? Mae'r bargyfreithiwr hwnnw yn mynd drwy'r opsiynau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwahardd ffracio yng Nghymru, ac mae'n dod i'r casgliad, fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe, fod modd defnyddio polisi cynllunio. Ond mae hefyd yn dod i'r casgliad bod modd i'r Cynulliad hwn basio Deddf benodol, ac mi wnaf ddyfynnu o'r Saesneg:
Gwahardd rhoi trwyddedau newydd i chwilio a thyllu a chael petrolewm ar dir Cymru drwy gyfrwng ffracio a methan gwely glo.
Felly, mae'n glir i fi fod opsiynau gyda'r Llywodraeth fan hyn o ran polisi cynllunio yn erbyn ffracio, neu, yn wir, Ddeddf gyfreithiol. A fydd y Cwnsler Cyffredinol, felly, yn cydweithio â'r Prif Weinidog i sicrhau bod gyda ni'r opsiynau yna erbyn diwedd y flwyddyn gyfreithiol newydd, fel petai, pan ddaw'r gyfraith yma i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, fel bod y Cynulliad yn gallu cymryd y camau penodol i wahardd ffracio yng Nghymru?
Rwy'n cydnabod ymrwymiad yr Aelod i'r cwestiwn cyffredinol hwn. Fe wnes i ddilyn gyda diddordeb y ddadl a gynhaliodd e ddiwedd mis Hydref, lle cefnogwyd y cynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd.
Rwy'n ymwybodol o fodolaeth y farn gyfreithiol honno. Mae hi gyda swyddogion ac maen nhw'n ystyried ei chynnwys. Ni fyddai'n addas i fi dresbasu ar yr elfen bolisi sydd o fewn remit Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n deall, ddiwedd y llynedd, i'r Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad ar bolisi ynni yn gyffredinol, a oedd yn sôn am y lleihau yn nibyniaeth ar danwydd ffosil. Eto, mis Medi eleni, gosodwyd targedau uchelgeisiol ar gyfer hynny, sydd yn beth positif.
Mae llythyron wedi mynd at uwch-swyddogion cynllunio yn ddiweddar i ni eu hysbysu nhw o'r bwriad i ymgynghori ar gynlluniau i gryfhau'r system bolisi cynllunio, yn benodol yng nghyd-destun tanwydd ffosil.
A gaf fi hefyd longyfarch y Cwnsler Cyffredinol newydd ar ei benodiad? Mae Simon Thomas yn canolbwyntio unwaith eto ar wahardd ffracio. Nid yw Simon Thomas a minnau'n anghytuno ar lawer o bethau mewn perthynas â hyn, ond rwy'n credu bod cael pŵer i wahardd drilio prawf yn llawer pwysicach. Fel y gwyddoch yn iawn, mewn ardal yn agos at lle roeddech yn arfer byw ac yn agos at lle rwy'n byw, mae drilio prawf sylweddol ar y gweill, ac fel rwyf wedi'i ddweud ar fwy nag un achlysur, nid yw pobl yn drilio prawf oherwydd eu bod wedi diflasu ac yn chwilio am rywbeth i'w wneud, maent yn drilio prawf oherwydd eu bod yn credu y byddant yn cael cyfle i allu ffracio yn y dyfodol agos. O ganlyniad, os ydym yn rhwystro'r drilio prawf, bydd yn cael effaith bwysig iawn arnynt o ran gwybod lle mae'n werth ffracio. Felly, a fydd gennych bŵer, neu a fydd gan Lywodraeth Cymru bŵer, i wahardd drilio prawf pan fydd y Ddeddf yn cael ei phasio—o dan y Ddeddf newydd, mae'n ddrwg gennyf?
Mae yna fframwaith cynllunio rhagofalus eisoes, sy'n bodoli mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol. Nid yw cyfarwyddeb cynllunio gwlad a thref 2015 yn cynnwys tyllau turio archwiliol, fel y dywedodd, sydd weithiau'n rhan o waith peirianyddol cyffredinol.
7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OAQ51336
Mae effaith gynyddol toriadau Llywodraeth y DU i gymorth cyfreithiol, cynnydd mewn ffioedd llys a chau adeiladau llys lleol yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn manteisio ar bob cyfle i ddwyn ein barn ar y materion hyn i sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran pobl Cymru.
Mae effaith gynyddol y toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU, cynnydd mewn ffioedd llys a chau adeiladau llys lleol yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn manteisio ar bob cyfle i ddwyn ein barn ar y materion hyn i sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran pobl Cymru.
Diolch Gwnsler Cyffredinol. Hoffwn ymuno ag eraill i'ch llongyfarch a'ch croesawu i'ch rôl newydd.
Fel y dywedasoch yn eich ateb, gallaf weld eich bod yn deall bod cyflwyno ffioedd tribiwnlys a'r cynnydd parhaus mewn ffioedd llys wedi dychryn llawer o weithwyr proffesiynol yn y sector. Ochr yn ochr â hyn, mae canolfannau cynghori, sy'n darparu cyngor uniongyrchol i bobl, wedi cau ledled y wlad. A ydych yn cytuno, Gwnsler Cyffredinol, fod mynediad dinasyddion at gyfiawnder yn hawl sylfaenol ac yn un na ddylai gael ei chyfyngu gan incwm na daearyddiaeth. Pa gamau y gellir eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod mynediad at gyfiawnder ar gael i bawb?
Rwy'n cytuno bod mynediad at gyfiawnder yn hawl sylfaenol ac rwy'n poeni mai safbwynt Llywodraeth y DU yw symud at fodel lle y telir am gyfiawnder gan ddefnyddwyr system y llysoedd. Fy marn i, a barn Llywodraeth Cymru, yw bod cyfiawnder yn nwydd cyhoeddus hanfodol, ac mae'n ddyletswydd ar y wladwriaeth i'w ddarparu, yn hytrach na disgwyl i unigolion dalu am yr eitem ddisgresiynol.
Mynegodd Gweinidogion Cymru, gan gynnwys fy rhagflaenydd a Carl Sargeant hefyd, os caf ddweud, ein barn fel Llywodraeth yn gryf i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sawl achlysur, gan gynnwys mewn perthynas â Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a chau llysoedd, ac yn wir, y materion yn ymwneud â ffioedd llys y mae hi newydd dynnu sylw atynt.
Soniasoch am yr achos ffioedd tribiwnlys. Canfu y Goruchaf Lys yno fod y Gorchymyn a gyflwynwyd gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn anghyfreithlon yn ôl cyfraith y wlad hon a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd, gan gadarnhau nifer o'r pwyntiau roedd Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud eisoes.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes mewn cysylltiad â'r tîm yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am gynnal adolygiad ôl-weithredol o'r Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr, a bydd yr adolygiad hwnnw yn hollbwysig wrth ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer edrych ar effaith newidiadau i gymorth cyfreithiol yng Nghymru.
Mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid sylweddol i wasanaethau cynghori ledled Cymru, gyda'r nod o ddarparu gwasanaethau lles cymdeithasol i wneud iawn, i ryw raddau, am y toriadau rydych newydd dynnu sylw atynt.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau amserol, a'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar.
3. Yn dilyn adroddiadau ynghylch gwariant ar siaradwyr enwog gan GwE, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y trefniadau atebolrwydd ar gyfer consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru? 66
Diolch i chi, Darren. Mae consortia rhanbarthol yn derbyn cyllid gan eu hawdurdodau lleol cyfansoddol, eu hincwm masnachu a grant gan Lywodraeth Cymru. Maent yn briodol atebol i'w cydbwyllgorau llywodraethu, sy'n cynnwys aelodau etholedig lleol, i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Rwyf hefyd yn eu herio drwy gyfarfodydd herio ac adolygu rheolaidd.
Rwy'n siŵr eich bod chi, fel pawb arall yn y Siambr hon, yn synnu at y datgeliadau a ymddangosodd yn y cyfryngau yr wythnos ddiwethaf mewn perthynas â thalu o leiaf £10,000 i Syr Clive Woodward am sgwrs awr o hyd mewn digwyddiad, ac yn gweld y rheini yn eithaf rhyfeddol, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol y mae llawer o ysgolion yn ei hwynebu, ac yn gorfod diswyddo staff mewn rhai achosion, yn anffodus. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn sarhad braidd i lawer o'r arwyr di-glod yn ein hysgolion—y nifer o athrawon a phenaethiaid ysbrydoledig a allai'n hawdd fod wedi rhoi araith ysbrydoledig, a hynny am ddim yn ôl pob tebyg, pe bai'r consortia addysgol wedi cysylltu â hwy.
Yn ôl yn 2015, mynegodd Swyddfa Archwilio Cymru bryderon am y consortia rhanbarthol, a dywedasant nad oedd digon o ffocws o fewn y consortia ar werth am arian. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch am y trefniadau llywodraethu rhwng y partneriaid sy'n buddsoddi yn y consortia addysg rhanbarthol, ond rydych chi'n un o'r partneriaid hynny fel Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw strwythur deddfwriaethol na sail ar gyfer y consortia rhanbarthol. Nid yw'r rhain yn sefydliadau sy'n destun craffu, archwilio ac arolygu priodol yn yr un modd gan Estyn neu Swyddfa Archwilio Cymru, er y gall y swyddfa archwilio ddilyn yr arian wrth gwrs. Mae Estyn, wrth gwrs, yn arolygu, ond mae yna fylchau yn y gyfundrefn arolygu sy'n golygu y gallai'r consortia rhanbarthol wrthod arolygiad pe baent yn dymuno gwneud hynny. Felly, pa gamau y bwriadwch eu cymryd i edrych ar y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer sefydlu'r consortia rhanbarthol i weld a allwn gael trefniadau llywodraethu gwell sy'n fwy cyson ledled Cymru, fel y gallwn atal gwastraffu arian y trethdalwyr yn y ffordd hon yn y dyfodol a gwneud yn siŵr fod mwy o arian a fwriadwyd ar gyfer gwella addysg yn gwneud gwahaniaeth yn y rheng flaen mewn gwirionedd?
Diolch i chi, Darren. A gaf fi ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y consortia rhanbarthol wedi gwrthod unrhyw arolygiad? Yn wir—[Torri ar draws.] Wel, rydych newydd ddweud eu bod wedi gwrthod.
Naddo.
Rwyf am ei gwneud yn gwbl glir—rwyf am ei gwneud yn gwbl glir—nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y consortia rhanbarthol wedi ceisio gwrthod arolygiad. Yn wir, mae GwE newydd gael arolygiad arall gan arolygiaeth Estyn. Felly, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â hynny.
Ond wedi dweud hynny, Darren, rwy'n rhannu eich pryderon fod swm mor fawr o arian wedi cael ei ddefnyddio yn y ffordd a gofnodwyd, ac a dweud y gwir, nid wyf am sefyll yma a gwneud esgusodion dros GwE. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r consortia i fynegi fy mhryder am eu gwariant, a byddaf yn codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r rheolwr gyfarwyddwr yn fy sesiwn herio ac adolygu, sy'n cael ei gynnal yfory yn Llandudno mewn gwirionedd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf, Adam Price.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun i ehangu ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn dilyn adroddiadau y gallai cost hirdymor y prosiect saethu i fyny o £428 miliwn i fwy na £1.2 biliwn? 68
Diolch, Lywydd. Amcangyfrifir mai gwerth cyfalaf y cynllun ar hyn o bryd, fel y dywedodd yr Aelod, yw tua £400 miliwn. Mae'r achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd ei fanylion yn pennu cost derfynol y prosiect.
Roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'r pwynt allweddol yn y cwestiwn, sef y pryder ynglŷn â'r gost gynyddol bosibl. Er tryloywder, mae'n wir, onid yw, mai cynllun cyllid preifat wedi'i addasu yw hwn i bob pwrpas gyda chyfran ecwiti sector cyhoeddus, ond roedd y ffurflen safonol a ddefnyddir yn seiliedig yn wreiddiol ar ffurflen safonol model menter cyllid preifat yr Adran Iechyd, a ddefnyddiwyd wedyn ar gyfer cynllun dosbarthu dielw yr Alban a gafodd ei alw'n fenter cyllid preifat dan enw arall gan ei gyd-Aelodau yn yr Alban. A yw'n gallu dweud a fydd y rôl weithredu a chynnal a chadw ar gyfer y ffordd yn cynnwys yr adrannau hynny a adeiladwyd o dan gontract y model buddsoddi cydfuddiannol yn unig neu a fyddant hefyd yn cynnwys yr adrannau arian cyfalaf yn ogystal? A oes yna opsiynau eraill ar gael i ni? A allai Llywodraeth Cymru—nid oes ganddi bŵer ar hyn o bryd i gyhoeddi bondiau ei hun, ond mae gan awdurdodau lleol—gefnogi bond awdurdod lleol ar y cyd, dyweder, nid wyf yn gwybod, ar 2.5 y cant o log gyda rhywfaint o fynegeio chwyddiant, wedi'i farchnata ar gyfer cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus? Ac onid yw hynny efallai yn ddewis gwell na chynllun cyllid preifat, er ei fod yn un wedi'i addasu fel yr argymhellir ar hyn o bryd?
Yn gyntaf oll, Lywydd, gadewch i mi ddweud nad wyf yn cydnabod y ffigurau a ddyfynnwyd yn y cwestiwn gwreiddiol. Nid wyf yn credu eu bod—prin eu bod yn ddyfaliadau, heb sôn am unrhyw beth y dylai unrhyw un geisio dibynnu arnynt.
Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol, a groesawyd gan yr Aelod pan wneuthum ddatganiad arno ar 28 Chwefror, yn fodel a wnaed yng Nghymru. Mae'n cadw rhai elfennau craidd o fodel dosbarthu dielw yr Alban, ond mae'n cynnwys cyfres o elfennau newydd eraill i wneud yn siŵr ei fod yn gwarchod buddiannau'r cyhoedd yng Nghymru.
Rwy'n edrych ar bob cynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i weld a fuasai unrhyw ffordd fwy effeithlon yn ariannol o gyllido'r buddsoddiad angenrheidiol hwnnw, ac yn sicr rydym wedi edrych ar y syniad o gyhoeddi bondiau. Hyd yma, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol sy'n awgrymu i mi y buasai ariannu trwy fondiau yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol i gwblhau gwaith deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, ond yn sicr gallaf sicrhau'r Aelod fod yr amrywiaeth o bosibiliadau sydd ar gael i ni bob amser yn cael eu hystyried a phe bai ffordd o wneud hyn a fuasai'n darparu gwell gwerth i drethdalwyr Cymru, ni fuasem mewn unrhyw ffordd yn gyndyn i'w hystyried.
Os caf sôn am elfen olaf eich ateb yno, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â gwerth, mae Adam Price wedi canolbwyntio llawer iawn ar gost gyffredinol y cynllun. Rwyf wedi cael rhywfaint o brofiad yn ddiweddar yn fy etholaeth o gost rhan cwm Clydach o'r cynllun, o Gilwern hyd at Fryn-mawr, a mynychais gyfarfod o drigolion a chynghorwyr lleol, ac er eu bod yn cefnogi'r prosiect yn gyffredinol ac yn edrych ymlaen at y nod terfynol lle bydd ganddynt ffordd newydd wych, maent yn pryderu am—roeddent yn ei ddisgrifio fel llacrwydd mewn perthynas â gweinyddiaeth ariannol y prosiect.
Yr argraff leol yw bod ffyrdd yn cau—weithiau'n angenrheidiol—heb yr hysbysiad statudol sy'n ofynnol gan y gyfraith. Mae addasiadau'n cael eu gwneud i ddyluniad y cynllun heb y broses ymgynghori arferol. Un enghraifft yw bod trosffordd bwysig yng Ngilwern ar ei hôl hi oherwydd problem gyda'r prif bibell ddŵr ac mae pobl leol yn credu y dylai'r mater fod wedi cael sylw amser maith yn ôl ac mae eto i'w ddatrys.
Ysgrifennydd y Cabinet, ceir llithriant yn aml, yn arbennig mewn prosiectau ffyrdd. Rydym yn derbyn hynny ac rydym yn derbyn yr angen am y prosiect hwn yn y tymor hir, ond a allwch edrych ar y trosolwg ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gynllun Blaenau'r Cymoedd, a rhan cwm Clydach yn benodol ond gweddill y cynllun yn ogystal, i wneud yn siŵr eich bod yn cyflawni eich nod o sicrhau gwerth am arian? Ar hyn o bryd, y canfyddiad, yn fy etholaeth yn lleol o leiaf, yw bod yna lithriant y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol ac nad yw gwerth am arian yn cael ei sicrhau.
Diolch i Nick Ramsay am dynnu fy sylw at y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i edrych arnynt. Mewn perthynas â'r rhan o'r ffordd a grybwyllwyd yn y cwestiwn gwreiddiol, rwyf am fod yn glir ein bod yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny i gyd mewn ffordd sy'n gyson â'r caniatadau cyfreithiol angenrheidiol—mae Gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol ar gyfer yr adran wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, ac rydym bron â sicrhau'r caniatadau statudol angenrheidiol, a fuasai'n arwain at y pwerau i adeiladu'r ffordd a chwblhau'r gwaith deuoli ar yr A465. Felly, ar yr elfen honno, gallaf ei sicrhau ein bod yn benderfynol o wneud popeth yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Mewn perthynas â rheolaeth ariannol o'r agweddau eraill ar y gwaith deuoli, byddaf yn ystyried y pwyntiau y mae wedi'u nodi y prynhawn yma'n ofalus.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid funud yn ôl nad oedd yn cydnabod y ffigurau a gynhyrchwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. A yw'n gallu dweud wrthym felly pa ffigur y buasai'n ei gydnabod yn y cyd-destun hwn?
Ac o ran gwerth am arian, pan gynhaliwyd astudiaeth o fanteision y gwaith deuoli ar yr A465 gan yr Adran Drafnidiaeth sawl blwyddyn yn ôl, roeddent yn awgrymu eu bod yn cynnig £1.52 o fudd am bob £1 a wariwyd. Os bydd cynnydd sylweddol yng nghost y prosiect, wrth gwrs, bydd y berthynas honno'n gwaethygu'n sylweddol. Mae'r Adran Drafnidiaeth yn aml yn ystyried bod cynlluniau'n cynnig lefel isel o werth am arian os yw'r budd yn is na £1.50 am bob £1 a fuddsoddwyd. Felly, onid ydym mewn perygl, os nad yw costau'n cael eu ffrwyno yn y prosiect hwn, o wynebu ffiasgo eliffant gwyn arall yn y pen draw, ac onid yw hwnnw'n arian a allasai fod wedi cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill er budd pobl Cymru?
Wel, y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yw'r un amlwg—sef y bydd y dadansoddiad cost a budd yn newid os yw'r costau'n codi. A wyf fi'n credu bod cwblhau ffordd yr A465 fel y gall gynnig y manteision economaidd angenrheidiol i'r rhan honno o Gymru yn eliffant gwyn? Na, yn sicr nid wyf yn credu hynny. Mae'n rhan bwysig iawn o'r seilwaith y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o'i roi i'r rhannau o gymunedau'r Cymoedd lle mae cysylltedd yn gysylltiedig iawn â ffyniant economaidd yn y dyfodol.
O ran y cwestiwn ynglŷn â'r ffigur rwy'n ei gydnabod, dyna'r ffigur a roddais yn fy ateb, sef mai gwerth cyfalaf amcangyfrifedig y cynllun ar hyn o bryd yw tua £400 miliwn.
Fel y crybwyllodd Nick Ramsay, rhagwelir gorwariant sylweddol ar ochr ddwyreiniol ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rydym wedi gweld ffigurau sy'n amlwg wedi dynodi cost sylweddol yn gysylltiedig â'r adran olaf ar yr ochr orllewinol. Credaf fod pawb yn cefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd, yn gyffredinol, byddant yn hybu gweithgarwch economaidd ar hyd Blaenau'r Cymoedd, ond yr hyn sy'n peri pryder mawr yw'r effeithiau canlyniadol posibl ar brosiectau cyfalaf eraill os bydd rhai o'r ffigurau hyn yn dod yn realiti y siaredir amdano ar gyfer y ddau brosiect: yr un ar y pen dwyreiniol, sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, a'r gwaith deuoli terfynol arfaethedig ar y pen gorllewinol.
Fel Ysgrifennydd Cyllid, a ydych wedi ymrwymo i wneud iawn am y diffyg hwnnw a allai wynebu'r adran ei hun, gyda'r gorwariant sylweddol hwn, fel na fydd effaith andwyol ar yr arian sydd ar gael i brosiectau cyfalaf eraill ledled Cymru a'r amserlen ar gyfer cyflawni'r prosiectau trafnidiaeth pwysig hynny ledled Cymru?
A gaf fi ddechrau, Lywydd, drwy ddiolch i Andrew R.T. Davies am fynegi ei gefnogaeth i'r cynllun yn ei gyfanrwydd? A gadewch i mi ddweud wrtho fy mod, fel yr Ysgrifennydd cyllid, yn cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet drwy'r amser, i wneud yn siŵr eu bod yn darparu'r rhaglenni cyfalaf rwyf wedi cytuno â hwy yn eu cylch yn unol â'r costau a nodwyd yn wreiddiol.
Yn sicr nid wyf yn ysgrifennu sieciau gwag i unrhyw un ar gyfer talu unrhyw gostau ychwanegol, ond rwyf bob amser yn barod i siarad â chyd-Aelodau yn y Cabinet am flaenoriaethau pwysig Llywodraeth Cymru a gwneud yn siŵr ein bod yn rheoli ein rhaglen gyfalaf mewn ffordd sy'n sicrhau'r effaith fwyaf bosibl ar gyfer dinasyddion Cymru mewn trafnidiaeth, iechyd, addysg a'r holl gyfrifoldebau pwysig rydym yn eu hysgwyddo.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn olaf, Leanne Wood.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb y DU ar gyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? 70
Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap cyflog ac i ddarparu'r cyllid ychwanegol sydd ei angen i wneud hynny. Nid oes unrhyw symiau o arian at y diben hwnnw yn llifo i Gymru yn y ffigurau a gyhoeddwyd yn y gyllideb heddiw.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yng nghyhoeddiad cyllideb y DU heddiw, dywedodd y Canghellor y gallai adrannau Llywodraeth y DU ddechrau cael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, yn dibynnu ar benderfyniad y cyrff adolygu cyflogau. Mae'r nodyn ar gyflogau'r sector cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Trysorlys heddiw yn dweud yn yr achos hwn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yw cyflogau. Maent yn disgwyl i chi wneud penderfyniad ar hyn.
Nawr, rwyf wedi gofyn o'r blaen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu mewn perthynas â'r cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, naill ai drwy gael gwared arno'n gyfan gwbl neu ddechrau yn y GIG, a hyd yma, mae eich Llywodraeth wedi gwrthod gwneud hynny, gan ddweud ei bod yn well ganddynt aros i Lywodraeth Geidwadol y DU weithredu, fel rydych newydd ei ddweud. Mae'r diffyg gweithredu hwn ar eich rhan yn golygu ei bod yn bosibl mai Cymru, o dan y Blaid Lafur, fydd yr unig genedl ddatganoledig a fydd wedi ymrwymo i gadw'r cap cyflog i'n nyrsys, staff y GIG a gweithwyr y sector cyhoeddus. Bydd hyn, mewn gwirionedd, yn cadw nyrsys mewn tlodi, yn cadw cyflogau'n isel ac yn niweidio morâl.
Ym mis Rhagfyr 2016, dywedasoch fod gan Gymru, a dyfynnaf, 'gyllid hirdymor, teg' erbyn hyn drwy'r fframwaith cyllidol. Felly, gofynnaf i chi heddiw: pryd y byddwch yn cysylltu â'r cyrff adolygu cyflogau fel yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y cap cyflog, ac a wnewch chi ddilyn cynnig Plaid Cymru drwy gyhoeddi cynlluniau i ddechrau gweithredu codiadau cyflog sy'n uwch na chwyddiant yn y sector cyhoeddus, gan ddechrau ym mis Ebrill 2018?
Lywydd, gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym wedi ymrwymo i godi'r cap cyflog, ac rwyf wedi dweud hynny dro ar ôl tro. Byddaf yn dilyn cynigion Plaid Cymru yn agos iawn, a byddaf yn eu dilyn gyda mwy o sylw pan fydd arweinydd Plaid Cymru yn gallu dweud o ble y bydd hi'n mynd â'r arian er mwyn gweithredu'r polisi y mae hi'n glynu ato. Oherwydd heb arian yn dod o—[Torri ar draws.] Heb arian yn dod o Drysorlys y DU i godi'r cap cyflog y maent yn gyfrifol amdano, yr unig ffordd y gellid ei ariannu yng Nghymru yw drwy fynd ag arian o wasanaethau cyhoeddus eraill. Nid wyf yn credu bod hwnnw'n gam a gefnogir yma yng Nghymru. Byddwn yn cael gwared ar y cap cyflog cyn gynted ag y bydd yr arian i wneud hynny'n llifo i Gymru yn y ffordd y dylai er mwyn ein galluogi i wneud hynny, ac rydym wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus, ac rwy'n ei ailadrodd y prynhawn yma, y bydd pob ceiniog a ddaw i Gymru ar gyfer cael gwared ar y cap cyflog yn cael ei wario at y diben hwnnw.
Mae gan y bobl sy'n credu y dylid gwario arian Cymru at y diben hwnnw, yn hytrach nag arian y DU, sef yr hyn a ddylai gael ei wario arno, gyfrifoldeb i beidio â dweud pethau'n gyffredinol, ond yn hytrach i ddweud wrth bobl Cymru yn gwbl benodol o ble y buasent yn mynd â'r arian hwnnw—
Nyrsys yn cael eu talu yw hyn, arian nyrsys.
—o ble y buasent yn mynd â'r arian hwnnw, o ba ysbyty y byddant yn ei gymryd, o ba ysgol y byddant yn ei gymryd, o ba ran o sector cyhoeddus Cymru y bydd yr arian hwnnw'n dod. Pan fyddwch yn barod i ateb y cwestiwn hwnnw, bydd gennych hawl i gael eich cymryd o ddifrif.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd.
Heddiw, cafodd y byd glywed dyfarniad hirddisgwyliedig achos y Cadfridog Ratko Mladić. Mae'r dyfarniad a'r ddedfryd gerbron y llys troseddau rhyfel Iwgoslafaidd yn yr Hâg yn nodi penllanw achos sydd wedi para dros 22 mlynedd. Cafwyd Mladić yn euog o 10 cyhuddiad, gan gynnwys hil-laddiad, troseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth, gyda phob un ohonynt wedi'u cyflawni yn ystod y gwrthdaro a hawliodd 100,000 o fywydau a gadael 2.2 miliwn o bobl eraill yn ddigartref. Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.
Mae rhai ohonom wedi ymgyrchu ar y cyrion i geisio cyfiawnder rhyngwladol, ond i'r rhai sydd wedi colli gwŷr a meibion 20 mlynedd yn ôl, yn ystod cyflafan Srebrenica a throseddau rhyfel eraill, mae'r clwyfau'n ffres iawn o hyd. Collodd un ddynes ei gŵr a'i dau fab yn Srebrenica. Dywedodd,
Rydym wedi cael ein dedfrydu heb dreial. Cafodd ein plant eu dedfrydu i farwolaeth a'u diarddel, a chawsom ni'r goroeswyr ein dedfrydu i barhau i fyw yn uffern.
Lywydd, yn 2014, cefais y fraint o arwain dirprwyaeth ar ran Comisiwn y Cynulliad i Fosnia, a Srebrenica yn benodol. Yn dilyn hyn, cafwyd digwyddiad coffa yn y Senedd a arweiniwyd gan Mr Howard Tucker, y ditectif o Gymru a drawsnewidiodd waith Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr hen Iwgoslafia. Gwasanaethodd Howard fel pennaeth swyddfa Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol Iwgoslafia ym Mosnia-Herzegovina am wyth mlynedd ar anterth ei weithgarwch. Heb ei arweiniad rhagorol, ni fuasai rhai o'r troseddwyr rhyfel mwyaf ers yr ail ryfel byd wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell. Roedd sgil plismona cymunedol yn ganolog i'w ddull o weithredu. Roedd yn rhaid i dystion gael eu nodi a'u cefnogi. I ddechrau, roedd llawer o'r tystion mewn gormod o arswyd i siarad.
I gloi, Lywydd, rydym heddiw'n nodi diwedd pennod erchyll yn hanes y byd, ond mae'n rhaid i ni gofio a dysgu gwersi o Srebrenica a mynd i'r afael â chasineb yn ein cymdeithasau ein hunain. Mae'n rhaid i ni barhau i gofio ei pherthnasedd wrth wrthsefyll anoddefgarwch a gwahaniaethu yn y DU ac mewn mannau eraill, ac wrth hyrwyddo cymunedau cryfach a mwy cydlynol. Mae'n rhaid i ni gofio Srebrenica a'i gwersi, a'u dysgu i genedlaethau'r dyfodol fel y gallant fyw mewn cymdeithas heddychlon a chynhwysol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau ac, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol.
Cynnig NDM6575 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Huw Irranca-Davies (Llafur).
Cynnig NDM6582 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Eluned Morgan (Llafur).
Cynnig NDM6583 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jeremy Miles (Llafur).
Cynnig NDM6584 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Eluned Morgan (Llafur).
Cynnig NDM6585 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dawn Bowden (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Jenny Rathbone (Llafur).
Cynnig NDM6586 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Joyce Watson (Llafur).
Cynnig NDM6587 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Huw Irranca-Davies (Llafur).
Cynnig NDM6588 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Hannah Blythyn (Llafur).
Cynnig NDM6589 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Jeremy Miles (Llafur).
Cynnig NDM6590 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lee Waters (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Hannah Blythyn (Llafur).
Cynnig NDM6591 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dawn Bowden (Llafur).
Cynnig NDM6592 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jeremy Miles (Llafur).
Cynigiwyd y cynigion.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Seilwaith Digidol Cymru'. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM6558 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Seilwaith Digidol Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â seilwaith digidol yng Nghymru. I lawer o bobl, nid rhywbeth 'braf i'w gael' yw cysylltedd mwyach ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r busnesau y siaradwyd â hwy fel rhan o'n hymchwiliad. Caiff ei ystyried yn wasanaeth hanfodol fel dŵr neu drydan bellach— hyd yn oed mewn rhai lleoedd eithaf annhebygol. I lansio'r adroddiad hwn, ymwelais â Mead Farm yng Nghil-y-coed, busnes bwyd sy'n dibynnu ar seilwaith digidol i olrhain lleoliad, iechyd a llesiant ei wartheg ac i farchnata ei gynnyrch brecwast ffres yn yr ardal leol.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o bobl yn cael cysylltiad mwyfwy cyflym, ac mae hyn yn newyddion da, ond o ganlyniad i'r gwelliant hwn ceir rhwystredigaeth ac ymdeimlad o anghyfiawnder cynyddol yn y rheini sy'n cael eu gadael ar ôl. Mae'r rhai sydd â chysylltedd araf yn eiddigeddus o'r rhai sy'n gallu cael cysylltiad cyflymach, a'r rhai heb gysylltedd o gwbl sydd fwyaf rhwystredig. Er bod cynllun Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â BT, wedi cysylltu niferoedd mawr o bobl—pan fydd wedi'i gwblhau, bydd tua 96 y cant o fangreoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad ato, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym—ceir ardaloedd o hyd na fydd yn eu cyrraedd, ac mae cyflwyno signal ffonau symudol yn dilyn patrwm tebyg.
Derbyniais lythyr fis diwethaf gan Mrs James yng Nglandŵr, ger Hendy-gwyn ar Daf, a oedd yn rhoi'r problemau yn eu cyd-destun mewn ffordd huawdl, felly rwyf am ddarllen rhan o'i llythyr:
Mae gennym fand eang araf, sy'n golygu bod lawrlwytho neu wylio eitemau megis BBC Three bron yn amhosibl. Ar lefel bersonol mae ffermio'n dibynnu fwyfwy ar gyflwyno ffurflenni ar-lein, ac mae diffyg signal ffôn symudol tra'n gweithio yn y caeau am oriau yn arwain at golli amser yn ceisio cysylltu â chydweithwyr ac mae'r elfen iechyd a diogelwch yn peri pryder mawr gydag un farwolaeth yr wythnos ym myd amaeth ar hyn o bryd. Mae'r bysiau ysgol sy'n teithio ar hyd y dyffryn yn bryderus na allent adael y bws gyda 70 o ddisgyblion arno pe baent yn torri i lawr i fynd i chwilio am help. Mae pentrefwyr wedi ceisio cael mesuryddion deallus wedi'u gosod ond ni allant wneud hynny heb y signal mwyaf sylfaenol.
Rwy'n derbyn cwynion tebyg yn fy etholaeth fy hun bob wythnos, ac rwy'n sicr nad yw hi'n wahanol iawn ar Aelodau eraill. Fel pwyllgor, rydym eisiau gweld bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd ar gyflymder da, boed ar gyfer gwaith neu adloniant, ond mae angen i ni hefyd adeiladu strwythur sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r galw am fand eang wedi tyfu'n aruthrol, ac mae'n debygol o barhau i wneud hynny. Lle nad oedd ond angen digon arnom i anfon rhai negeseuon e-bost neu i edrych ar wefan ar un adeg, rydym bellach yn edrych ar raglenni teledu a ffilmiau ar amryw o ddyfeisiau'n rheolaidd, gartref ac yn y gwaith.
Rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion i helpu Cymru i ddatblygu seilwaith digidol sydd mor gyflym a dibynadwy â'r rhai y gellir eu mwynhau mewn mannau eraill yn y DU, ond mae daearyddiaeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa anodd. Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, wrth y pwyllgor fod angen 67 o fastiau i bob miliwn o'r boblogaeth i ddarlledu teledu daearol. Y nifer yn Lloegr yw 12. Ac er bod gennym fwy o fastiau, nid oes gennym yr un lefel o signal o hyd. Felly, i gael signal ffonau symudol ar yr un lefel â Lloegr, bydd angen nifer fwy o fastiau yng Nghymru, ac er mwyn i hynny ddigwydd, bydd yn rhaid i ni ei gwneud yn haws i hynny ddigwydd. Fan lleiaf, mae gofyn llenwi'r bylchau fel bod pawb yn cael gwasanaeth da. Gellir gwneud mwy i helpu pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny pan fyddant ar gael, ac i gymryd camau a allai fod yn ddadleuol i sicrhau bod y cysylltedd y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ar gael i bawb.
Mae angen i ni hefyd sicrhau bod capasiti yno. Ceir gormod o enghreifftiau lle mae strydoedd wedi cael eu 'galluogi'—dywedaf hynny mewn dyfynodau—i gael band eang cyflym iawn, ond ni all unigolion fanteisio arno oherwydd diffyg capasiti'r cabinet neu'r gyfnewidfa. Yn amlwg, nid oes pwynt cael y seilwaith ar lawr gwlad os na all trigolion gael budd ohono.
Ymhellach, mor gynnar â'r wythnos ddiwethaf, bydd yr Aelodau wedi clywed bod safleoedd yn eu hetholaethau eto i gael eu huwchraddio ar gyfer band eang ffeibr erbyn diwedd 2017. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud—a dyfynnaf yma—fod cytundeb Cyflymu Cymru gyda BT yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2017, ac na fydd y costau o fynd i'r afael ag unrhyw safleoedd a fydd yn dioddef oedi y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy'r cytundeb hwn. Buasai'r pwyllgor yn ddiolchgar am eglurhad pellach ar y pwynt hwn, yn enwedig gan fod gwefan Cyflymu Cymru wedi newid yn ddiweddar. Mae'r rhai a gafodd eu rhestru'n flaenorol fel rhai o fewn cyrraedd ar gyfer cysylltu ac sydd i fod i gael eu huwchraddio cyn diwedd y flwyddyn wedi cael gwybod bellach y dylent wirio statws eu safle ar ôl y dyddiad hwn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. Buaswn hefyd yn hoffi eglurhad ar ran ugeiniau—os nad cannoedd—o fy etholwyr sydd bellach wedi cael gwybod, 'Bydd popeth wedi'i wneud erbyn diwedd y flwyddyn hon', ac sy'n dal i aros am gadarnhad o hynny. A yw'n gallu rhannu gyda'r Siambr pa un a oedd y pwyllgor yn gallu dweud faint o gytundebau gohiriedig sydd yn y sefyllfa honno, ac a oedd hi'n debygol y buasai'r cytundeb cyfan yn cael ei gyflawni ai peidio?
Wel, yn sicr, rydym wedi cael cadarnhad gan BT eu bod yn credu y bydd y cytundeb yn cael ei gyflawni, yn ôl y cytundeb, a byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau cyfathrebu rydych wedi'u nodi tuag at ddiwedd fy nghyfraniad mewn gwirionedd.
Rwy'n credu bod yr hyn y mae Simon Thomas hefyd wedi'i ddweud yn peri pryder i lawer o Aelodau eraill yn ogystal, oherwydd mae'r perygl y bydd safleoedd, wrth gwrs, yn cael eu gadael ar ôl, neu eu gadael mewn twll, yn cynyddu'n sylweddol ar ôl y dyddiad terfynol fel y'i gelwir ar ddiwedd 31 Rhagfyr, oni bai bod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn bwriadu codi'r baton eto fel rhan o'i chynllun olynol. Buaswn yn ddiolchgar, wrth gwrs, am eglurder gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe glywodd Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau Simon Thomas mewn perthynas â hyn yn ogystal.
Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn pob un o'r 12 argymhelliad—tri mewn egwyddor. Fodd bynnag, gyda rhai, nid yw cytuno yr un fath â gweithredu, wrth gwrs. Cafodd cynllun gweithredu ffonau symudol y Llywodraeth ei dynnu o'r awyr cyn i'r Gweinidog ymddangos i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, dylwn ddweud. Ond mae'r cynnydd ers hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi bod yn araf, ac mae Cymru eisoes wedi bod yn ceisio dal i fyny gyda'r Alban. Mae'r cynllun gweithredu angen rhywfaint mwy o weithredu, buaswn yn ei ddweud. Mae angen iddo symud ar gyflymder lanlwytho cyflymach.
Mae cynllun Cyflymu Cymru yn prysur ddirwyn i ben y mis nesaf. Mewn llawer o ffyrdd, mae'n deg dweud, rwy'n credu, fod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus, ac wedi darparu rhyngrwyd cyflymder uchel i nifer o ardaloedd na fuasai wedi'i gael fel arall yn gynt. Daw hyn a mi at bwynt Simon Thomas. Nid dyma'r ymchwiliad cyntaf i dynnu sylw at y problemau cyfathrebu sydd wedi bod yn bla yn y rhaglen. Bydd angen i gynlluniau yn y dyfodol fynd i'r afael â hyn, a chredwn y dylid ymgorffori hynny i gytundebau yn y dyfodol. Rwy'n falch o weld bod y Gweinidog yn edrych fel pe bai'n nodio mewn ymateb i hynny.
Un peth olaf: mae'r pwyllgor wedi derbyn rhywfaint o dystiolaeth gan bobl sy'n pryderu am orsensitifrwydd trydanol, lle mae pobl yn dioddef o adwaith i signalau diwifr neu ffonau symudol. Er bod hyn y tu hwnt i'n cylch gorchwyl, rwyf wedi cael rhywfaint o ohebiaeth bellach ar hyn, a chan ein bod yn trafod hyn heddiw, buaswn yn gofyn i'r Gweinidog a ystyriwyd y mater hwn o gwbl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at glywed sylwadau gan Aelodau eraill.
Rydw i yn meddwl, wrth i ni edrych, rwy'n credu, ar y maes yma o bolisi—mae yn gwneud i chi deimlo'n arbennig o isel oherwydd dyma oedd y dechnoleg a oedd â'r potensial, a dweud y gwir, i ni wrthwneud anfanteision, yntefe, bod yn ddaearyddol ymylol neu gael eich safleoli mewn sefyllfa wledig. Hynny yw, y dechnoleg yma sy'n cynnig yr ateb, a dweud y gwir, i fusnesau yng nghefn gwlad. Ond, oherwydd y diffyg llwyddiant a'r diffyg cynnydd sydd wedi bod, wrth gwrs, rŷm ni'n dal mewn sefyllfa anfanteisiol o'i gymharu â phrif ganolfannau poblogaeth ddinesig yn Lloegr, ac yn y blaen. Felly, mae'n rhaid i ni gael gwell arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'r system sydd gyda ni, neu'r ymagwedd neu'r dynesiad polisi sydd gyda ni, yn amlwg yn delifro. Felly, peidiwch byth â meddwl—. Wrth gwrs, mae'r dechnoleg yn symud ymlaen o hyd ac o hyd. Byddwn ni'n sôn cyn bo hir am terabit, yntefe. Os ydy Llywodraeth Cymru wir eisiau i Gymru fod yn gyrchfan—yn test bed—ar gyfer technoleg ceir di-yrrwr, er enghraifft, mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ymlaen. Felly, nid drwy gael cytundeb gyda chwmni fel BT, y buaswn yn awgrymu, yw'r ffordd inni wneud hynny.
Os ŷm ni'n edrych ar y ffigurau, rydym ni'n clywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud, 'Wel, mae Cymru ymhell ar y blaen.' Pa blaned y mae ef arno? Allwn ni ddim gael sgwrs polisi call os nad ŷm ni'n derbyn y gwir sefyllfa. Mae llyfrgell Tŷ'r Cyffredin wedi dangos bod saith mas o'r 10 ward cyngor sydd â'r cysylltiad arafaf ym Mhrydain yng Nghymru—chwech ohonynt, wrth gwrs, yn rhanbarth y gorllewin a'r canolbarth, ac un ohonyn nhw, Llanfihangel Aberbythych, yn fy etholaeth i. Roeddwn i'n gweld bod yna gais rhyddid gwybodaeth wedi cael ei gyhoeddi wythnos diwethaf gan Lywodraeth Cymru—hynny yw, mae'r wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi ganddyn nhw—sy'n dangos ble'r ŷm ni o ran y siroedd, o ran yr ardaloedd sydd wedi cael eu cysylltu o dan Superfast. Ceredigion: 68 y cant yn unig, 68.9 y cant yn unig—eich ffigurau chi, a dweud y gwir, yr wythnos diwethaf. Rŷm ni'n gwybod bod y gyfartaledd ar draws Prydain yn rhywbeth fel 93, 94 y cant—ar gyfer Lloegr, hynny yw—a 95 y cant ar ddiwedd eleni, a 98 y cant, meddai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, erbyn diwedd y degawd yma. Chwe deg wyth y cant yng Ngheredigion—pa effaith y mae Llywodraeth Cymru'n meddwl y mae hwnnw'n ei chael ar hyfywedd yr economi yn yr ardaloedd hynny? Mae'n rhaid inni edrych ar fodel gwahanol.
Mae'n ddiddorol gweld y modelau amgen sydd yn llwyddo, er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, lle mae cannoedd o ddinasoedd, wrth gwrs, yn berchen ar eu cwmnïau telegyfathrebu eu hunain. Oherwydd mae sawl un ohonyn nhw, mewn ardaloedd fel Colorado a Kentucky ac yn y blaen, yn wynebu'r un broblem â'n hardaloedd gwledig ni ac wedi penderfynu, 'Digon yw digon. Nid ydym ni yn mynd i ddibynnu ar gwmnïau mawr monopoli. Rydym ni mynd i gymryd yr awenau ein hunain.' Mae rhai ohonyn nhw yn partneru gyda chwmnïau bychain yn lleol ac yn rhanbarthol. Mae rhai ohonyn nhw yn berchen ar eu cwmnïau eu hunain, yn debyg iawn, wrth gwrs, i hen fodel Kingston Communications a Hull, wrth gwrs, a oedd yn llwyddiannus iawn. Mae'n debyg iawn i beth oedd Llywodraeth Gwlad y Basg wedi gwneud yn ôl yn y 1990au, wedi wynebu’r un drafferth. Unwaith eto, roedd Llywodraeth Gwlad y Basg yn penderfynu, 'Wel, yn lle rhoi'r arian yma i ryw gwmni mawr monopoli sector preifat, beth am inni fuddsoddi ein harian mewn cwmni ein hunain?' Wrth gwrs, mae Euskaltel wedi profi bod y buddsoddiad hwnnw'n un call ar ei ganfed oherwydd eu bod nhw wedi medru symud ymlaen. Un o argymhellion y pwyllgor, wrth gwrs, yw i Lywodraeth Cymru edrych ar y modelau amgen ar bob lefel.
Roedd yna awgrym yn y Western Mail y mis diwethaf bod yna gyfle o ran yr is-strwythur terabit yma i greu buddsoddiad a fyddai’n golygu bod Cymru, am unwaith—am unwaith—ar flaen y gad.
Fel aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn gofnodi pa mor bwysig oedd yr adroddiad hwn yn fy marn i mewn gwirionedd. Rwy'n diolch i bawb a ddaeth i roi tystiolaeth i'n hymchwiliad.
Ers cael fy ethol, mae un o'r materion mwyaf anodd rwyf wedi gorfod ymdrin ag ef yn fy mag post yn ymwneud â darpariaeth rhyngrwyd mewn adeiladau domestig. Mae un enghraifft o'r fath yn ymwneud â phentref Penderyn yn fy etholaeth, ac roedd hwn yn bwnc a ddaeth gerbron y Pwyllgor Deisebau y llynedd. Ers hynny rwyf wedi dod ar draws enghreifftiau rhy fynych o eiddo ymddangosiadol ynysig yn cwympo drwy fylchau yn y ddarpariaeth, ond efallai mai'r hyn a'm synnodd fwyaf oedd achos ystâd newydd Coed Dyffryn yng Nghwm-bach. Adeiladwyd yr ystâd tua phedair blynedd yn ôl gan Persimmon, a byth ers hynny mae trigolion wedi cael eu dal mewn man gwan yn nhir neb. Wrth symud i'w heiddo newydd canfu'r trigolion fod ganddynt wasanaeth hynod o annigonol a oedd yn ei gwneud bron yn amhosibl gweithio, astudio neu siopa hyd yn oed. Dywedodd un etholwr wrthyf sut y byddai'n rhaid iddo yrru i archfarchnad leol er mwyn defnyddio eu Wi-Fi i redeg ei fusnes, ac nid oedd neb eisiau helpu. Roedd Persimmon yn beio BT. Mae BT yn beio Persimmon. Cynghorodd Llywodraeth y DU y preswylwyr i ddefnyddio cyllido torfol er mwyn dod o hyd i ateb.
Rwy'n falch o ddweud bod fy ymyrraeth wedi arwain at benderfyniad yn ôl pob golwg. Mae Openreach wedi cytuno i fuddsoddi'r cyfalaf sydd ei angen i gwblhau'r gwaith o gysylltu'r cabinet gwag yn rhwystredig o agos at y tai newydd. Dylai trigolion Coed Dyffryn allu elwa o'r diwedd o gyflymderau cyflym iawn cyn diwedd y flwyddyn. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y pryd am ei chefnogaeth i ddatrys yr achos hwn, a chofnodi pa mor falch wyf fi o'i gweld yn cadw'r cyfrifoldeb dros seilwaith digidol. Mae ei sylwadau rhagweithiol yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf mewn perthynas â galluogi ACau i wneud pethau'n iawn dros eu hetholwyr, i'w croesawu, ond yr hyn a wnaeth yr enghraifft hon yn arbennig o rwystredig oedd y ffaith nad ystâd o dai anghysbell oedd hon. Yn hytrach, ardal drefol oedd hi rhwng Aberdâr ac Aberpennar.
Yn erbyn y cefndir hwn o waith achos euthum ati i gynnal ymchwiliad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau i'r seilwaith digidol yng Nghymru. Fel y cawsom ein hatgoffa gan y Cadeirydd, er gwaethaf yr heriau daearyddol a demograffaidd neilltuol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod gan 24 o bob 25 eiddo yng Nghymru fynediad at Cyflymu Cymru. Mae hwn yn gyflawniad aruthrol, ond ni allwn anghofio am y pumed eiddo ar hugain. Roedd y rhwystredigaeth a brofodd fy etholwyr yn amlwg, ac mae hon yn ffenomen gyffredin ymhlith y rhai sydd ar eu colled.
Mae angen i ni weld atebion beiddgar i lenwi'r bylchau, a chredaf fod argymhelliad 2 yn bwysig iawn o ran hynny. Mae'n ymwneud â darparu cyllid i weithredwyr bach neu hybu modelau cyhoeddus o berchnogaeth hyd yn oed. Roeddwn yn credu bod y dystiolaeth o fforwm gymunedol Ger-y-Gors yn arbennig o ysbrydoledig, ac yn enghraifft o sut y gall y gymuned gywir gyda'r sgiliau cywir ddod ynghyd i ddarparu'r ateb cywir. Credaf fod yna lawer o wersi i ni eu dysgu o hyn. Mae'n dda fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ac rwy'n edrych ymlaen at eu harchwiliad o fodelau ariannu a pherchnogaeth yng nghyd-destun olynydd i Cyflymu Cymru.
Mae ychydig dros chwe blynedd ers i'r Cenhedloedd Unedig ddatgan fod mynediad at y rhyngrwyd yn hawl dynol sylfaenol. Fel y mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei nodi, yn ei allu i hyrwyddo hunanfynegiant, mae'r rhyngrwyd yn allweddol i amryw o hawliau dynol ac i ddatblygiad cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Yn yr un modd, mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi dadlau'r achos dros rôl technolegau digidol ar gyfer trechu tlodi. Unwaith eto, mae hyn yn cyfeirio at y ffyrdd y gall rymuso'r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas, yn ogystal â chynnig atebion ymarferol allan o dlodi. Gadewch i ni beidio ag anghofio'r canlyniadau i bobl sydd angen gwneud cais am gredyd cynhwysol ar-lein hefyd. Dyna pam y credaf fod argymhelliad 4 y pwyllgor yn sylfaenol bwysig. Mae gwella seilwaith digidol yn gallu ac yn gorfod mynd law yn llaw â grymuso cymunedau. Rhan o rwystredigaeth trigolion Coed Dyffryn oedd eu bod yn credu eu bod yn cael eu hanwybyddu. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cymunedau a'r unigolion sydd fwyaf anodd eu cyrraedd bellach yn rhan o'r broses o sicrhau y gellir teilwra atebion posibl i'w hanghenion. Ond mae'n rhaid i gymunedau fod wrth wraidd ein hymagwedd tuag at faterion fel cynllunio a seilwaith ffisegol hefyd. Gall rhannu mastiau neu eu lleoli yn y lle gorau ar gyfer trigolion lleol roi tawelwch meddwl i bobl mewn ardaloedd fel Bryntirion, sydd hefyd yng Nghwm Cynon. Gobeithiaf y gellir ystyried yr anghenion hyn wrth ddatblygu modelau ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.
A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi o fod wedi cymryd rhan yn y broses o gynhyrchu'r adroddiad hwn a thynnu sylw hefyd at y ffordd gymwys iawn y mae'r Cadeirydd wedi ein harwain drwy'r gweithdrefnau angenrheidiol? Mae adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar seilwaith digidol yn codi nifer o gwestiynau, ond yn gyntaf hoffwn gydnabod y cynnydd rhagorol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas ag ehangu lefelau cysylltedd ar raddfa fawr yng Nghymru gyda'i phrosiect band eang cyflym iawn. Ond dywedodd Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor economi a seilwaith—rwy'n dweud 'blaenorol'; mae gennyf ofn fy mod yn gweld eich bod yn dal i eistedd gyda ni ac y byddwch yn dal i ateb y cwestiynau, Weinidog.
Ond dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor economi a seilwaith fod posibilrwydd go iawn y gallai BT fethu ei derfyn amser ym mis Rhagfyr ar gyfer gweithredu ei gylch gwaith yn llawn, ac roedd hi'n ymddangos bod peth dryswch ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â gweithrediad y cytundeb i gael gwared ar y mannau gwan sydd ar ôl. Buasai o gymorth pe gallem gael eglurder llwyr ynglŷn â sut a phryd a pha ffurf fydd i'r broses gaffael hon.
Clywsom hefyd nad yw'r nifer sy'n manteisio ar fand eang cyflym, pan fo ar gael, cymaint â'r disgwyl. Daethpwyd i'r casgliad mai'r rheswm am hynny o bosibl yw diffyg gwybodaeth gan BT, a Llywodraeth Cymru i ryw raddau, am y manteision y gall band eang cyflym iawn eu cynnig i'r sector busnes. Unwaith eto, ymddengys bod llawer iawn o ddryswch wedi bod ynglŷn â phryd a ble yn union y mae band eang cyflym iawn ar gael. Roedd hyn yn arbennig o rwystredig i'r sector busnes. Buasai'n fuddiol gwybod a yw'r mater wedi cael sylw digonol bellach ac a oes tystiolaeth ar gael i ddangos bod niferoedd defnyddwyr wedi gwella dros y misoedd diwethaf.
Rydym yn nodi ac yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa ddatblygu, wedi'i dwyn ynghyd o nifer o ffynonellau ac wedi'i chynllunio i helpu busnesau i ymgysylltu â'r dechnoleg newydd hon a bydd yn ddiddorol gweld a fydd y gronfa'n cyflawni ei hamcanion. Ar ddiwedd y cytundeb rhwng Cyflymu Cymru a BT, amcangyfrifir y bydd tua 4 y cant o'r wlad heb fand eang cyflym iawn. Rydym yn cydnabod y bydd llenwi'r bwlch hwn yn ddrutach o lawer fesul cysylltiad nag o dan y cytundeb diwethaf, ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r cynnydd ardderchog y mae wedi'i wneud hyd yma a darparu band eang cyflym iawn drwy Gymru gyfan, ac wrth wneud hynny, sicrhau bod Cymru yn un o arweinwyr y byd mewn perthynas â mynediad ar-lein.
Gan droi at signal ffonau symudol, rydym unwaith eto'n cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond nodwyd nifer o rwystrau gan gyflenwyr ffonau symudol sy'n cyfeirio at bethau fel oedi ym maes cynllunio, mynediad i dir, anawsterau gyda chyflenwad trydan, a threfniadau angenrheidiol i darfu ar draffig. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau i liniaru'r rhwystrau hyn er mwyn i gefn gwlad Cymru hyd yn oed fod yn rhydd o boendod mannau gwan—sefyllfa sydd wedi cael ei nodi fel un o'r prif ffactorau sy'n rhwystro twf busnes yn ein cymunedau gwledig.
Unwaith eto, hoffem gydnabod y cynnydd rhagorol a wnaed yn y maes hwn gan Lywodraeth Cymru a chynnig ein cefnogaeth gyda'i weithredu ymhellach.
Mae arnaf ofn na allaf i rannu'r bodlonrwydd sydd gyda rhai gyda'r cynnydd o dan y contract yma, neu yn gyffredinol gyda band llydan yng Nghymru. Fe soniodd Vikki Howells mai dim ond un o bob 25 o dai sydd heb fynediad at fand llydan, ond mae'n ymddangos i fi, drwy'r llythyrau rydw i'n eu cael, fod pentrefi cyfan yn llawn o'r un o'r 25 o dai yma, felly, yn yr ardal rydw i'n ei chynrychioli. Erbyn hyn, mae'r llythyrau ynglŷn â mynediad at broadband wedi mynd—yn fy post bag i ac yn fy e-byst i—heibio iechyd. Mae gen i fwy o lythyrau ynglŷn â band llydan nac iechyd, ac nid ydw i erioed wedi gweld hynny fel Aelod Cynulliad nac Aelod Seneddol. Mae'n amlwg fod mynediad at fand llydan wedi prysuro dros yr adeg yma gan bod y cytundeb presennol yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, a chan bod nifer yn cwyno nad ydynt wedi gweld y mynediad y maen nhw wedi bod yn ei ddisgwyl. Roedd yna wefan yn dangos i bobl pryd oedd y pentref i fod i'w gael, a phryd roedd eu tŷ nhw i fod yn rhan ohono fe. Tynnwyd yr arian cyhoeddusrwydd allan o'r wefan yna, felly bellach nid yw pobl yn gwybod pryd mae'r cyflawniad yn mynd i ddigwydd. Ac, erbyn hyn, rwy'n ofni fy mod i mewn sefyllfa i deimlo, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, nad wyf yn siŵr ein bod ni wedi cael y gwasanaeth y byddem ni wedi disgwyl ei gael am wariant o dros £150 miliwn gan Openreach a BT. Nid wyf fi'n meddwl eu bod nhw wedi perfformio yn llawn i'r contract. Rwy'n dod i siarad mewn ychydig ynglŷn â beth y dylem ni ei wneud ynghylch hynny.
I'r ardaloedd rydw i'n eu cynrychioli, mae mynediad digonol at fand llydan bellach yn hollol hanfodol. Rydych chi'n sôn yn gyffredinol am 10 Mbps, fel roedd Adam Price yn sôn amdano; erbyn hyn, mae disgwyliadau pobl o sut y mae'n nhw'n gallu ymdrin â'r economi leol wedi mynd y tu hwnt i hynny. Nid ydym ni eisiau gweld pobl yn gorfod symud o gefn gwlad, symud o orllewin Cymru, er mwyn bod yn nes at y farchnad. Pan fo gyda chi farchnad electronig, dylai fod yn bosib i ymwneud â'r farchnad yma unrhyw le yng Nghymru.
Fe soniodd Adam am y ffaith bod astudiaeth gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin wedi canfod bod saith o'r 10 ward gyda'r band llydan mwyaf araf i'w cael yng Nghymru, a bod chwech ohonyn nhw yn etholaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ond mae'n waeth na hynny, achos pan edrychais i ar y ffigurau, roeddwn i'n synnu, a dweud y gwir, i weld y ffigurau a oedd gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Roedden nhw'n dweud bod y ffigurau yma yn wael. Er enghraifft: Trelech yng ngorllewin Caerfyrddin, 3.8 Mbps; Yscir, 4.2 Mbps; Llanfihangel Aberbythych, 4.2 Mbps.
Nawr, rydw i, dros yr haf diwethaf, wedi gwneud fy astudiaeth fy hunan, ym Meirion-Dwyfor, yng Ngheredigion, yn sir Benfro ac yn sir Gâr, o beth yw'r cyflymder y mae pobl yn ei gael go iawn yn eu tai nhw. Ac mae'r rheini mor isel â 0.2 Mbps; bydden nhw wrth eu boddau yn cael 4.1 Mbps neu 4.2 Mbps. Dydw i ddim yn gwybod o lle mae'r ffigurau yma yn dod—efallai o'r tŷ y drws nesaf i'r cabinet, neu rywbeth. Mae'r realiti o beth gewch chi 100 llath, neu fwy na 100 llath, i lawr y copper line o'r cabinet yng nghefn gwlad yn gwbl wahanol i'r ffigurau hyn. Mae taer angen edrych ar hynny gan y Llywodraeth.
Nawr, rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi cadw'r cyfrifoldeb dros hyn. Efallai bod yna ddarn o wifren gopr yn ei chadw hi, o amgylch ei fferau neu rywbeth, sy'n gwrthod gadael iddi fynd. Fe fydd yn gwybod, oherwydd mae hi wedi llofnodi sawl llythyr ataf, faint o ohebiaeth rydym wedi'i chael dros yr ychydig fisoedd diwethaf, wrth i ni ddod at ddiwedd y cyfnod hwn. Gallwn ysgrifennu ei llythyrau drosti bellach. Heb unrhyw amarch iddi, maent yn cynnwys yr un paragraffau, wedi'u trefnu fymryn yn wahanol, er mwyn torri ar y diflastod: 'Rydym mewn cysylltiad â BT'; 'Mae yna addewidion y bydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017'; 'Mae cytundeb y cwmni cyflymu yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2017, ac ni fyddwn yn talu rhagor ar ôl hynny.' Ac yna, y llinell glasurol hon: 'Rydym yn ei gwneud hi'n glir y bydd methiant i wneud hynny'n arwain at gosbau ariannol llym.' Hoffwn ddeall, pan fydd y Gweinidog yn ateb—Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—beth yw natur y cosbau hynny. Oherwydd nid wyf yn credu bod gan fy etholwyr ddiddordeb mewn cosbau—maent eisiau band eang. Maent eisiau i'r cytundeb hwn gael ei ddarparu ar eu cyfer, a'i ddarparu i wneud yr hyn a addawyd.
Ac i roi enghraifft, mae arnaf ofn, oherwydd mae'r mater hwn yn mynd gam ymhellach na BT yn unig a rhywfaint o'r agwedd braidd yn nawddoglyd, rwy'n credu, sydd gan rai pobl tuag at fusnesau mewn ardaloedd gwledig—rhyw syniad y dylech oddef gwasanaeth eilradd, yn syml oherwydd eich bod wedi dewis aros yn eich ardal—y llythyr y dyfynnais ohono yn awr yw un o'r llythyrau mwyaf diweddar a gefais gan y Gweinidog, ac roedd yn ymwneud â'r melinau llifio yng Nghenarth, a grybwyllwyd gan Leanne Wood yn y cwestiynau i Ken Skates yn gynharach. Unwaith eto, yr addewid oedd y buasent yn cyflwyno band eang cyflym iawn i'r melinau llifio hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr. Nawr, mae'r melinau llifio wedi buddsoddi sawl miliwn o bunnoedd mewn cyfarpar sy'n cael ei redeg yn rhyngwladol—yng Ngwlad Belg; dyna lle mae pencadlys y cyfarpar hwn. Os aiff rhywbeth o'i le gyda'r cyfarpar, maent yn mynd i lawr y lein i Wlad Belg er mwyn iddo gael ei drwsio. Gallem gael dadl ynglŷn ag a yw hynny'n beth da neu'n beth drwg, ond dyna beth y mae melinau llifio yn ei wneud; dyna beth y mae melinau llifio ledled y byd gorllewinol yn ei wneud. Ac nid wyf eisiau i'r felin lifio honno gael ei symud o Ddyffryn Teifi yn nes at Wlad Belg, neu'n nes at gysylltiad rhyngrwyd. Mae'n cyflogi 20 i 30 o bobl yn Nyffryn Teifi—Cymry Cymraeg yn ogystal. Mae'n fusnes teuluol, cynhenid sy'n eiddo i Gymry.
Dywed y llythyr gan y Gweinidog y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni hyn. Ond mae gennyf gopi o e-bost gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae arnaf ofn fod hwnnw'n wahanol iawn. Mae'r e-bost yn dweud, 'Nid wyf yn dweud bod y band eang yn ddigon da, ond efallai y dylai rheolwyr y felin lifio fod wedi gwirio hynny cyn gwario miliynau.' Dyna'r agwedd sy'n treiddio drwy'r broblem band eang yng nghefn gwlad Cymru, ac mae'n rhaid i ni oresgyn yr agwedd honno a rhoi sylw difrifol i ddarpariaeth band eang a hawl i fand eang.
Pan fyddaf yn ysgrifennu fy sgript ffilm ar gyfer Hollywood, byddaf yn defnyddio stori Ger-y-Gors fel enghraifft. Cawsom dystiolaeth ar 19 Ionawr gan Duncan a Ray Taylor, a dywedasant y stori wrthym sut y gwnaethant sefydlu mast i ddarparu band eang heb unrhyw brofiad telathrebu o gwbl. Rwyf wedi bod yn edrych ar eu gwefan, a'r hyn a wnaethant oedd negodi a chael gafael ar nifer o grantiau a oedd ar gael iddynt drwy Lywodraeth Cymru a chronfa amaethyddol Ewrop, sicrhau haelioni aelodau o'r gymuned er mwyn defnyddio a mynd ar eu tir, cael caniatâd cynllunio, adeiladu 600m o ffordd fynediad, comisiynu'r gwaith o osod llinell bŵer 1.5 milltir i'r safle, ac adeiladu mast telathrebu 25m yn ôl manylebau llawn gweithredwyr ffonau symudol. Ac ers mis Awst 2014, maent wedi bod yn darlledu band eang diwifr o'r mast sydd wedi'i leoli ger y chwarel yn Ystrad Meurig i unrhyw un sy'n dymuno tanysgrifio i'r gwasanaeth. Am stori ysbrydoledig. Cawsant anhawster hefyd i gael gafael ar fast, oherwydd eu bod yn cael eu gweld fel cystadleuaeth i gwmnïau mwy, sy'n hollol hurt, a chredaf fod y rhai hynny a roddodd dystiolaeth o'r cwmnïau hynny i'n pwyllgor wedi cydnabod bod hynny'n hurt.
Ni ddylent fod yn norm, ond dylai cymunedau allu gwneud hyn lle bo modd, a dyna pam fod argymhelliad 2, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cynllun ecwiti neu grant ad-daladwy i alluogi gweithredwyr bach i lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith, yn argymhelliad mor bwysig, a dyna pam ei bod hi'n dda ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Hefyd, buaswn yn dweud: nid wyf yn gwybod a yw Adam Price wedi bod yn siarad fel llefarydd ar yr economi neu fel aelod o'r pwyllgor, oherwydd mae'n gwisgo'r ddwy het; mae'n ymgorfforiad byw o'r angen am fwy o Aelodau Cynulliad, oherwydd weithiau nid yw'n gwybod pa het i'w gwisgo. Rwy'n credu bod ei araith yn cynnwys ychydig o'r ddwy, mewn gwirionedd; roedd ychydig o gynigion adeiladol ac ychydig o feirniadaeth wleidyddol, ond nid yw ddim gwaeth am hynny.
Ond buaswn yn dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet ac Arweinydd y Tŷ wedi bod yn arwrol yn y ffordd y mae wedi mynd i'r afael â'r materion hyn. Nid yw hi wedi rhoi'r ffidl yn y to. Mae hi wedi ymweld â fy etholaeth i gyfarfod â busnesau sydd wedi cael trafferth gyda'r materion hyn. Mae hi wedi fy nghyflwyno i weision sifil sydd wedi gwrando, ac rwyf wedi cael sicrwydd, yn enwedig mewn perthynas ag ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili y dylai'r materion hyn gael eu datrys erbyn y dyddiad terfynol, ac mae gennyf bob rheswm i gredu BT. Ar y pwynt hwn, serch hynny, os cawn ein siomi, yna fe fydd canlyniadau. Mae'n rhaid cael canlyniadau, a hoffwn i'r Gweinidog bwysleisio y bydd canlyniadau. Rwyf am roi hyd at fis Chwefror iddynt, mewn gwirionedd, ar ôl y dyddiad terfynol, i sicrhau bod y gweithredwyr band eang yn dod i ddarparu'r gwasanaethau. Ond mae BT wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw y bydd Openreach yn cysylltu'r ardaloedd hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd.
Ymwelodd y Gweinidog hefyd â busnesau sydd wedi'u lleoli ar ystâd ddiwydiannol Penallta, er enghraifft, ac nid ydynt wedi gallu cael mynediad at fand eang. Maent yn dibynnu ar Airband i ddarparu gwasanaethau, ond er hynny, nid yw'r gwasanaeth hwnnw wedi bod yn ardderchog ychwaith. Rydym yn gwybod, os yw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn mynd i weithio, bydd yn rhaid datrys y problemau gyda chysylltu'r ardaloedd hyn, y camau terfynol hyn, oherwydd fel arall bydd gennym ardaloedd sy'n dioddef yn y pen draw ac ni fyddwn yn cyflawni amcanion 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'.
Felly, er gwaethaf prosiect Ger-y-Gors, a oedd yn ysbrydoledig, rydym hefyd angen arweiniad y Llywodraeth, arweiniad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei ddarparu. Mae yna drigolion yn fy etholaeth nad ydynt yn byw yn Ystrad Meurig; maent yn byw hanner awr i ffwrdd o'r M4 ym mhen deheuol Caerffili. Mae'n rhaid iddynt gael mynediad at fand eang sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cynnwys cynllun gweithredu ar gyfer cyflawni hynny, a chredaf mai'r peth i'w wneud yn awr yw bwrw ymlaen a derbyn yr argymhellion hynny.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd ac aelodau o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hadroddiad a'u holl waith caled yn y maes hwn. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod rhai o'r pethau a ddywedodd yr Aelodau yn y Siambr. Rwyf wedi bod yn y rhan fwyaf o Gymru. Nid wyf yn credu fy mod wedi ymweld ag etholaethau rhai o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu mewn gwirionedd, ond rwyf am wneud y cynnig unwaith eto: rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Rwyf wedi mynychu nifer o gyfarfodydd mawr a bach ledled Cymru. Byddaf yn mynd i ogledd Cymru cyn bo hir i fynychu un neu ddau arall i fyny yno. Rydym wedi bod yn gwneud hynny oherwydd, yn gyntaf oll, rydym eisiau i bobl ddeall beth yw cynllun Cyflymu Cymru a pham ei fod wedi cael ei strwythuro yn y ffordd y mae wedi'i strwythuro, a byddaf yn sôn mwy am hynny mewn eiliad, ond hefyd, yn bwysicach, i ddeall beth y gallwn ei wneud gyda'r cynllun olynol i wneud yn siŵr fod yr holl gymunedau wedi'u cysylltu.
Rydym yn falch iawn o gydnabod y bydd yna nifer o atebion y bydd angen i ni edrych arnynt ar gyfer y prosiect olynol. Cafodd yr argymhelliad ei dderbyn mewn egwyddor yn unig oherwydd ein bod eisiau edrych ar amrywiaeth eang o atebion a allai fod ar gael, gan gynnwys pethau fel cwmnïau buddiannau cymunedol a mentrau cymdeithasol, ond hefyd pethau fel cyfuno grantiau mewn ffordd benodol, gan edrych ar gynlluniau Wi-Fi cymunedol. Ceir nifer o enghreifftiau o'r rhain ar hyd a lled Cymru eisoes.
Un o'r pethau rydym yn edrych arno hefyd yw sut y gallwn ddefnyddio strwythurau band eang a osodwyd yn gyhoeddus i roi Wi-Fi cymunedol ar waith, er enghraifft. Felly, y rheswm pam eu bod mewn egwyddor yn unig yw fel y gallwn eu harchwilio mor eang â phosibl.
A wnewch chi ildio ar hynny?
Gwnaf, yn sicr.
Nid wyf eisiau i ni ganolbwyntio gormod ar fanylion beth y gallai'r cynllun olynol fod, ond a yw'n awgrymu y gallai fod dewisiadau amgen i Openreach a BT? Ac yn ail, a yw hi hefyd yn edrych ar y mater hwn mewn ffordd annhechnolegol, os hoffech chi? Oherwydd rydym newydd gael cyhoeddiad yn y gyllideb heddiw, er enghraifft, ynglŷn â buddsoddi mewn 5G, ac mewn rhai ardaloedd rwy'n credu y gallem fod yn meddwl y tu hwnt i wifrau a cheblau i dai mewn gwirionedd.
Yn sicr—rwy'n derbyn y pwyntiau hynny i gyd. Fe soniaf am rai o gymhlethdodau darpariaeth symudol mewn munud, ond ers i'r cynllun hwn gychwyn, un o'r problemau, wrth gwrs, yw bod technoleg wedi datblygu'n sylweddol, ac mewn gwirionedd, er nad yw darpariaeth symudol wedi'i datganoli i Gymru, fel rwy'n parhau i'w ddweud, nid oes fawr o wahaniaeth rhwng mynediad at y rhyngrwyd a darpariaeth symudol mewn gwirionedd. Felly, band eang ffeibr yw band eang, fel rydym yn ei alw, ond mewn gwirionedd mae mynediad at 5G yr un mor dda os gallwch ei gael yno. Mae honno'n un o'r sgyrsiau parhaus â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ffiniau'r setliad datganoli, sy'n gwneud rhai o'r pethau hyn yn anodd wrth i dechnoleg ddatblygu, a byddaf yn dod at hynny.
O ran y ddarpariaeth, cafodd prosiect Cyflymu Cymru ei osod yn dilyn adolygiad marchnad agored i gydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol. Dywedodd yr adolygiad marchnad agored hwnnw lle roedd y cwmnïau telathrebu amrywiol ar y pryd yn bwriadu cyflwyno'n fasnachol. Ni chawn fynd i mewn i'r ardal ymyrryd yn unman lle y ceir cyflwyno masnachol. Felly, i raddau helaeth, mae'r prosiect hwn yn hollol wledig. Felly, nid oes gan fy etholaeth fy hun yn Abertawe unrhyw fand eang cyflym iawn o gwbl oherwydd, yn amlwg, mae yna fwriad i gyflwyno'n fasnachol. Ond gallaf sicrhau'r Aelodau nad yw hynny'n golygu bod gan bawb fand eang cyflym iawn ac ni allaf wneud unrhyw beth amdano mewn gwirionedd gan nad yw o fewn yr ardal ymyrryd. Un o'r pethau a amlygwyd gan Vikki Howells yw anhawster ystadau newydd a adeiladwyd ar ôl yr adolygiad marchnad agored. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod wedi cynnal adolygiad marchnad agored arall, a ddaeth â 42,000 o safleoedd eraill i mewn, gan fod cwmnïau telathrebu wedi penderfynu newid lle roeddent am fynd gyda'r cyflwyno masnachol.
Hefyd, er mwyn cael y nifer fwyaf o safleoedd ledled Cymru, nid oes ganddo duedd ddaearyddol o gwbl. Mae'n sgwrs a gefais gyda nifer fawr ohonoch, gan gynnwys y Llywydd, ar nifer o achlysuron, oherwydd yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw cyrraedd y nifer fwyaf o safleoedd yng Nghymru gyda'r arian sydd ar gael. Felly, nid ydym wedi dweud wrth Openreach a BT ble i fynd; maent yn mynd i'r ardaloedd lle y gallant gysylltu'r nifer fwyaf o safleoedd. Rydym yn niwtral o ran technoleg. Mater iddynt hwy yn llwyr yw ble maent yn mynd. Felly, hwy sy'n penderfynu ai ffeibr i'r cabinet neu ffeibr i'r safle fydd yn cysylltu'r nifer fwyaf o safleoedd. Mae gennym bocedi o bentrefi lle mae'r pentref cyfan wedi ei hepgor, oherwydd dyna beth y buasech yn ei ddisgwyl mewn gwirionedd. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod rhai pobl yn teimlo fod rhai safleoedd yn unig yn cael eu cysylltu er mwyn ticio rhyw fath o flwch. Gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n wir. Cânt eu talu am y safleoedd a basiwyd. Os ydynt yn gallu cysylltu pentref cyfan, yna yn amlwg mae'r pentref cyfan yn cyfrif fel safleoedd a basiwyd. Nid oes unrhyw fantais iddynt o gysylltu un rhan o rwydwaith.
Lle y defnyddir ffeibr i'r cabinet, mae yna rwystredigaeth, oherwydd os ydych tua chilomedr i ffwrdd, dyna yw'r torbwynt ar gyfer cyflymder cyflym iawn—tua 30 Mbps—a cheir cysgod sy'n cyrraedd 24 Mbps i rai pobl. Nid yw BT ond yn cael eu talu am safleoedd a basiwyd sy'n cyrraedd y trothwyon. Caniateir iddynt gael rhai safleoedd yn yr ardal gysgodol, ond mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o'r safleoedd gyrraedd dros 30 Mbps, ac mewn gwirionedd, mae bron bob un o'r safleoedd yn cyrraedd tua 80 Mbps i 100 Mbps wedi iddynt gael eu cysylltu.
Rydym wedi bod yn eu gwthio'n galed iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn a checrus iawn gyda hwy ynglŷn â lle maent arni a pha un a ydynt wedi dechrau adeiladu. Rwy'n llwyr dderbyn y pwynt a wnaeth y pwyllgor ynglyn â chyfathrebu ac mae nifer fawr o'r Aelodau wedi nodi hynny. Roedd BT yn hynod o optimistaidd wrth gyhoeddi lle roeddent am ei gyrraedd ac nid ydynt wedi bod cystal am roi gwybodaeth dda i bobl ynglŷn â pham na fydd hynny'n digwydd, ac rydym wedi cael llawer o sgyrsiau gyda hwy am beidio â bod yn optimistaidd, fel y maent yn ei ystyried, ac rwy'n llwyr gydnabod bod angen i ni wneud yn well o ran cyfathrebu mewn perthynas â phrosiect olynol Cyflymu Cymru 2.
Maent yn parhau i ddweud wrthym y byddant yn llwyddo; maent yn cysylltu mewn nifer aruthrol o safleoedd bob wythnos ar hyn o bryd—mwy nag y maent erioed wedi'i wneud o'r blaen yn y cytundeb oherwydd y pwysau rydym yn ei roi arnynt. Maent yn dweud wrthym y byddant yn llwyddo i'w wneud. Os nad fyddant yn llwyddo, bydd cosbau ariannol, ac nid wyf am eu datgelu yma am bob math o resymau masnachol, ond yn amlwg, bydd modd eu harchwilio yn y pen draw, a bydd yr holl arian yn mynd yn ôl i mewn i Cyflymu Cymru 2. Cytunwn yn llwyr nad ydym eisiau arian: rydym eisiau cysylltedd—yn bendant. Felly, rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn ymestyn y rhwydwaith cyn belled ag y bo modd gyda'r prosiect hwn fel y gallwn roi'r dechrau gorau posibl i Cyflymu Cymru 2. Rydym newydd gynnal adolygiad marchnad agored ar ymgynghori mewn perthynas â Cyflymu Cymru 2 ac rydym wrthi'n ei ddadansoddi.
Mae swyddogion yn bwriadu cychwyn yr ymarfer caffael hwnnw cyn bo hir, gyda golwg ar ddechrau'r prosiect newydd mor agos at ddechrau'r flwyddyn nesaf ag y gallwn oherwydd rydym am barhau â'r cyflwyno. Fodd bynnag, rwyf am wahodd unrhyw Aelod sydd â phroblem sy'n ymwneud â'r gymuned gyfan, neu unrhyw broblem o gwbl yn eu hardal, i estyn gwahoddiad i mi fynd yno i siarad â hwy. Hefyd, mae gennym dîm hyrwyddo busnes sy'n hapus iawn i ddod i siarad naill ai ag unigolion neu grwpiau cyfan o bobl ynglŷn â beth yw'r ateb gorau iddynt hwy, ac rydym yn bwriadu strwythuro'r broses gaffael fel y gallwn ymdrin â'r mathau hynny o bethau. Hefyd, fodd bynnag, bydd y broses gaffael eisiau cyrraedd y nifer fwyaf o bobl sy'n bosibl gyda'r swm o arian sydd gennym, felly mae'n rhaid i ni gydbwyso'r ddau beth, ac rwy'n bwriadu gwneud hynny.
Byddwn yn parhau â'n dau gynllun talebau. Hoffwn pe bai Simon Thomas yn dweud wrthyf pwy oedd y swyddog a anfonodd yr e-bost oherwydd hoffwn gofnodi nad wyf yn cytuno â'i safbwyntiau mewn unrhyw ffordd o gwbl. Mae fy—[Torri ar draws.] Wel, gobeithio y byddwch yn ei anfon ataf. [Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch am ildio. Rwy'n gwybod am eich taith o amgylch Cymru—fe ymweloch ag ardal yn fy etholaeth, a gwn eich bod wedi rhoi llawer o gymorth i etholwyr Trellech Grange. A fuasech yn derbyn mai rhan o'u rhwystredigaeth oedd bod pentref cyfagos Tyndyrn wedi'u cysylltu'n dda iawn, felly er eu bod mewn ardal wledig, mewn gwirionedd roeddent yn ffinio ag ardal a oedd wedi'i chysylltu'n dda iawn, ac eto roedd BT fel pe baent yn gollwng llen haearn ar bwynt penodol 100 llath yn unig i lawr y ffordd, a phe na bai hynny wedi digwydd, buasent wedi cael eu cysylltu amser maith yn ôl, ac mae angen mynd i'r afael â hynny wrth gyflwyno hyn yn y dyfodol?
Rwy'n derbyn bod hynny'n rhwystredig iawn a cheir rhywfaint o rwystredigaeth ynglŷn â'r ffordd y mae BT wedi ailstrwythuro ei rwydwaith copr, a chawsom sgwrs fywiog ynglŷn â beth oedd y gwifrau newydd ar y polyn, yn ôl yr hyn a gofiaf, pan ymwelais â chi. Rwyf wedi dod yn arbenigwr ar beth yw'r gwifrau ar bolion a sut y cânt eu cysylltu yn ddiweddar, sy'n sgil newydd nad oeddech chi'n meddu arni yn ôl yr hyn a glywaf. Rydym yn derbyn y rhwystredigaethau hynny, ond fel y dywedaf, nid yw'r contract yn ein galluogi i ddweud wrth BT ble i fynd, nid yw ond yn dweud wrthym sawl safle y byddant yn eu cysylltu, a'r rheswm am hynny oedd mai dyna'r ffordd rataf i gysylltu'r nifer fwyaf o safleoedd, er fy mod yn derbyn yn llwyr y rhwystrau cyfathrebu y mae hynny wedi eu hachosi. Nid dyna'r ffordd y byddwn yn cyflawni'r ail gam oherwydd byddwn am dargedu cymunedau sydd â phroblemau penodol. Trafodasom hynny yn eich etholaeth ac rwy'n hapus iawn i'w drafod mewn etholaethau eraill.
Rwyf am ddweud hyn, fodd bynnag, o ran y felin lifio, er enghraifft: un o'r rhwystredigaethau sydd gennym yw bod busnesau weithiau'n aros i fand eang cyflym iawn eu cyrraedd cyn darganfod wedyn, mewn gwirionedd, nad yw 100 Mbps yn ddigon, ac os ydynt yn cyfathrebu gyda phrif swyddfeydd mewn mannau eraill yn y byd, y dylent uwchraddio i wasanaeth gwibgyswllt mor gyflym â phosibl. Mae gennym dîm datblygu busnes: unigolion cymwynasgar iawn sy'n gallu dod i siarad â'r busnes ynglŷn ag ai dyna'r ffordd orau ymlaen, a buaswn yn sicr yn argymell hynny, a gallaf drefnu hynny os yw Simon Thomas yn dymuno anfon y manylion ataf. Buaswn yn ddiolchgar iawn am y manylion eraill hefyd ar y pwynt hwnnw, fodd bynnag.
Gan droi at dechnoleg symudol, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael trafodaeth o gwmpas y bwrdd ar gysylltiadau symudol a chynllun gweithredu symudol i ddilyn, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio—ymysg pethau eraill—ar fin cyhoeddi'r gwaith ymchwil ar gynllunio. Nododd Russell George nifer y mastiau sy'n angenrheidiol er mwyn cael y signal ar draws Cymru. Mae angen cydbwysedd rhwng gosod mastiau ar draws ein parciau cenedlaethol a chael pob un o'r signalau hyn wedi'u gwneud ac rydym yn siarad hefyd â'r Swyddfa Gartref ynglŷn â defnyddio'u rhwydwaith brys i alluogi eraill i hongian cyfarpar ar y rhwydwaith hwnnw, oherwydd yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn drueni mawr gorchuddio tirwedd hardd Cymru â llawer o fastiau er mwyn i wahanol gwmnïau gael seilweithiau gwahanol pan allent eu rhannu, mewn gwirionedd, a byddai pawb ohonom yn cael gwell gwasanaeth o lawer. Fodd bynnag, mae honno'n drafodaeth sy'n mynd rhagddi ac fel rwy'n dweud, nid yw wedi'i ddatganoli i Gymru mewn gwirionedd.
Ond hoffwn orffen drwy ddweud hyn, Lywydd: rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i gael cysylltiad band eang i bob eiddo yng Nghymru. Heb yr ymyrraeth gyflym iawn ddiwethaf hon, ni fuasai llawer o adeiladau yng Nghymru wledig erioed wedi cael unrhyw obaith o gwbl o gael band eang. Rhannaf rwystredigaeth y rhai sydd ar ôl, ond rydym yn benderfynol o'u cynnwys yn yr ail raglen, ac mewn ffordd mor arloesol a llawn dychymyg ag y gallwn. Diolch.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma. Carwn wneud sylw ar bob un o bosibl. Nawr, nododd Adam Price yn hollol gywir y gwahaniaeth rhwng cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru yn benodol, a soniodd hefyd am Geredigion, sy'n bendant yn llusgo ar ôl rhannau eraill o Gymru a'r DU mewn cymhariaeth. A soniodd Adam am atebion amgen ac wrth gwrs, clywodd y Gweinidog y rheini, a gobeithiaf y gellir eu ystyried fel rhan o gynllun olynol.
Soniodd Vikki Howells am enghreifftiau o gyfathrebu gwael. Mae'r enghreifftiau hyn yn gyfarwydd iawn i mi, rhaid dweud. A David Rowlands, diolch i chi am eich geiriau caredig amdanaf, a nododd David, wrth gwrs y materion sy'n codi ynglŷn â cheisio datrys problemau roedd y gweithredwyr ffonau symudol wedi'u dwyn i'n sylw. Fel Pwyllgor, credaf ein bod yn sicr yn awyddus i fynd i'r afael â'r hyn roedd y gweithredwyr ffonau symudol yn gofyn amdano, pe na bai ond i'w hatal rhag gwneud esgusodion pan ddônt yn eu holau yn y dyfodol. Gallwn ddweud, wyddoch chi, 'Rydym wedi cyflawni eich gofynion; pam mae'r problemau'n parhau?'
Siaradodd Simon hefyd, wrth gwrs, am ei arolwg ei hun, sy'n fy atgoffa fy mod wedi cynnal fy arolwg fy hun yn fy etholaeth mewn perthynas â chyflymder, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Simon nad yw pobl eisiau, ac nid ydynt yn hoffi clywed am BT yn cael eu dirwyo. Cysylltedd yw'r cyfan y maent ei eisiau. Dyna sy'n bwysig iddynt.
Rwy'n hynod o falch fod Hefin David wedi cyfeirio at Duncan a Ray Taylor a ddaeth i'r pwyllgor i roi tystiolaeth i ni. Mae'n fwy na thebyg mai dyna'r ateb hiraf a ganiatawyd mewn sesiwn bwyllgor—credaf i mi ofyn cwestiwn a 15 munud yn ddiweddarach roedd Mr Taylor yn dal i siarad.
Ac roedd pawb yn dal i wrando.
Ac roedd pawb yn dal i wrando ac nid oeddem eisiau ei dawelu. Nid oedd gan neb ddiddordeb mewn tawelu Mr Taylor am ei fod yn ysbrydoliaeth, ac roedd ei stori'n wych. Roedd yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n credu, fel pwyllgor, ein bod yn credu bod angen Mr Taylor ar bob cymunedol. [Torri ar draws.] A glywsoch chi Mr Taylor? [Chwerthin.]
Rhaid i mi ddweud fy mod yn gwyntyllu fy rhwystredigaethau wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn rheolaidd ar y modd y caiff y gwasanaeth ei gyflwyno, ac rwy'n meddwl yn aml fy mod yn ysgrifennu mwy o negeseuon e-bost at Ysgrifennydd y Cabinet na neb arall, ond mae gennyf deimlad y prynhawn yma fod llawer o Aelodau eraill yn yr un cwch hefyd. Ond rhaid imi ddweud fy mod yn falch fod Julie James wedi cadw cyfrifoldeb yn y maes hwn, oherwydd rhaid i mi ddweud bod ganddi wybodaeth helaeth yn y maes hwn ac yn amlwg, roedd hyn mewn golwg gan y Prif Weinidog pan aildrefnodd ei Gabinet; mae'n amlwg nad oedd eisiau mynd â'r cyfrifoldeb hwnnw oddi wrthi—ni allai ddod o hyd i unrhyw un arall a oedd yn barod i gymryd y cyfrifoldeb, efallai. [Chwerthin.] Ond rwy'n teimlo bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn agored iawn gyda ni hefyd. Yn aml mae'n dweud yn gyhoeddus—mae'n gwyntyllu ei rhwystredigaethau ei hun ynglŷn â BT, a gwn hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn brysur iawn yn teithio drwy Gymru benbaladr yn cyfarfod â chymunedau. Dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet, 'Faint y gallaf eu cael? Beth yw'r terfyn?', ac a bod yn deg, dywedodd, 'Faint bynnag y dymunwch. Mae hynny'n iawn—dowch â hwy i gyd o gwmpas y bwrdd.' Felly, gwneuthum yn siŵr fod gennyf y bwrdd mwyaf y gallwn ddod o hyd iddo. Rwy'n credu fy mod wedi llwyddo i gael 60 o bobl o amgylch y bwrdd, ond pob clod i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd yn barod i wynebu llond ystafell o bobl ddig.
Ond ydy, rwy'n credu bod cyfathrebu wedi bod yn gwbl warthus, rhaid i mi ddweud. Mae'n ofnadwy. Gwn ar adegau fy mod wedi bod yma fy hun yn sefyll yn y fan hon gyda dau lythyr gan y Gweinidog ar y pryd at yr un etholwr—un yn dweud un peth a'r llall, fis yn ddiweddarach, yn dweud rhywbeth arall. Mae'n rhwystredig iawn pan fydd pawb eisiau gwybod pryd fyddant yn cael eu cysylltu. Ac os nad ydynt yn mynd i i gael eu cysylltu, maent eisiau gwybod nad ydynt yn mynd i gael cysylltiad er mwyn iddynt allu edrych ar atebion eraill. Ond rwy'n ddiolchgar o leiaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn y mater hwnnw.
Diolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw ac Aelodau a gymerodd ran hefyd yn nhrafodaethau ein pwyllgor, ac mae rhai ohonynt bellach wedi gadael y pwyllgor ar ôl cael eu dyrchafu i'r Llywodraeth—diolch i chi am eich cyfraniad yn ogystal. Hefyd, os caf ddiolch hefyd i dîm clercio'r pwyllgor a'r tîm integredig gan fod hwn wedi bod yn waith anodd, oherwydd, cyn gynted ag y bydd y timau'n dechrau drafftio'r adroddiad hwnnw, yn seiliedig ar gyfarwyddyd y pwyllgor a'r Aelodau, yna mae pethau'n newid ac mae technoleg yn newid ac mae Gweinidogion yn gwneud datganiadau yn ystod y gwaith drafftio. Felly, mae wedi bod yn dasg anodd iddynt ac roedd yna gryn dipyn o faterion technegol a oedd yn ymddangos mewn manylder hefyd. Felly, dylid rhoi clod iddynt hwy yn ogystal yn hynny o beth.
Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan gawn ddadl yn y Siambr hon pan fyddwn yn dadlau ynglŷn â 100 y cant o Gymru yn gallu derbyn cysylltiad band eang cyflym iawn, cyflymder da a phawb yn gallu cael signal symudol da ar eu ffonau. Edrychaf ymlaen at y diwrnod hwnnw. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig—Mark Isherwood.
Cynnig NDM6571 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei Hymgyrch dros Anrhydeddu'r Cyfamod yn swyddogol yn Llundain ym mis Medi 2007 ac yng Nghymru cynhaliwyd digwyddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn y mis canlynol.
Ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae dynion a menywod wedi gwasanaethu ac ymladd dros eu gwlad dan delerau'r cyfamod milwrol, sy'n datgan na ddylai rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol a'u teuluoedd wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae'n dweud bod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi rhoi fwyaf, megis y rhai a anafwyd a'r rhai sydd mewn galar.
Ar ôl bod yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd flynyddol y Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhanbarth gogledd Cymru y penwythnos cynt, cyflwynais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 i gefnogi ymgyrch y lleng, a deuthum i'r casgliad fod rhaid ymladd dros hyn hyd nes y bydd wedi ei ennill a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i hybu hyn.
Cyhoeddwyd cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011, gan greu dyletswydd statudol o 2012 ymlaen i gyflwyno adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU sy'n ystyried effeithiau gwasanaeth ar filwyr rheolaidd a milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu teuluoedd a rhai sydd mewn galar a hefyd i archwilio meysydd lle y ceir anfantais bosibl a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle bo'n briodol. Llofnododd Llywodraeth Cymru a'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfamod a chydsynio i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion.
Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn 2017 i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn a ddilynodd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog 2016 yn nodi cynnydd yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, hyd yn hyn ni chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu'r cyfamod.
Ym mis Medi 2016, atebodd nifer o elusennau'r lluoedd arfog sy'n gweithio yng Nghymru alwad am gyflwyniadau i lywio blaenoriaethau i ddod ar gyfer Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad, gan nodi y byddai gwerth sylweddol mewn gweld y pwyllgor yn cynnal adolygiad o weithrediad cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru. Gan na chafwyd unrhyw arwydd a awgrymai fod bwriad i gynnal ymchwiliad, gwnaeth grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid benderfyniad i gynnal yr ymchwiliad sy'n destun y ddadl hon. Mae ein cynnig, felly, yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y grŵp trawsbleidiol, yn nodi ei argymhellion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion hynny.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law, gwnaeth yr adroddiad 23 o argymhellion mewn saith maes. Er mwyn cynnal y cyfamod, canfu'r adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru i wella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus am ddarparu cyfamod y lluoedd arfog. Dylai fod yn ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymlyniad wrth y cyfamod. Byddai comisiynydd yn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr, yn mynegi'r rhain i Lywodraeth Cymru ac yn craffu'n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i fonitro ymlyniad wrth y cyfamod; ategu ei menter Croeso i Gymru gydag un linell gymorth genedlaethol ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd; gweithio gyda grŵp arbenigol y Gweinidog i nodi prosiectau â blaenoriaeth a chydlynu cynigion cyllido ar lefel Cymru gyfan; a gweithio gyda'r trydydd sector i gyflwyno modiwl e-ddysgu gorfodol ar gyfer y sector cyhoeddus i gefnogi ymwybyddiaeth o gyfamod y lluoedd arfog.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y cwestiynau yng nghyfrifiad 2021 yn ddigonol i ganfod maint ac anghenion cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cerdyn braint i luoedd arfog Cymru. O gofio'r pryderon ynghylch capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr i ateb gofynion cleifion a'i amseroedd aros amrywiol, argymhellodd yr adroddiad y dylid adolygu a chynyddu cyllid ar gyfer y gwasanaeth; dylid sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a dylid cyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau'n rheolaidd. Mae rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum i chwe mis ar gyfartaledd mewn mannau eraill.
Er iddynt sicrhau cyllid ychwanegol am dair blynedd gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn i leihau rhestrau aros, maent yn disgwyl i amseroedd aros gynyddu eto heb fuddsoddiad ychwanegol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £100,000 o gyllid ychwanegol, dywedodd GIG Cymru i gyn-filwyr wrth y grŵp trawsbleidiol y llynedd fod arnynt angen £1 miliwn bob blwyddyn i ateb anghenion iechyd meddwl cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, a lleihau pwysau a chostau i wasanaethau eraill.
Pan gyfarfu Andrew R. T. Davies a minnau â grŵp o gyn-filwyr benywaidd yn gynharach eleni, lle'r oedd pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau wrth wasanaethu, a phob un ohonynt hefyd yn dweud eu bod yn ymdopi â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i'w gwasanaeth, dywedodd y cyn-filwyr wrthym ei bod bellach, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cymryd tri mis i gael apwyntiad gyda GIG Cymru i gyn-filwyr, a thri i chwe mis wedyn i weld arbenigwr, sydd ond yn gallu ymdrin â thrawma ysgafn i ganolig, am nad oes unrhyw wasanaethau acíwt.' Ac maent yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac yn dibynnu ar elusennau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff y gwasanaeth iechyd o driniaeth flaenoriaethol y GIG ar gyfer anafiadau a salwch sy'n gysylltiedig â gwasanaethu; sicrhau nad yw aelodau o deuluoedd y lluoedd arfog sy'n cael eu hanfon i Gymru ac sydd ar restr aros y GIG dan anfantais drwy orfod aros yn hwy am driniaeth nag y byddent cyn cael eu hanfon i Gymru; adolygu a diweddaru'r canllaw i wella iechyd a lles carcharorion yng Nghymru sy'n gyn-filwyr; a darparu cyllid craidd i bartneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid.
Er bod Change Step, sy'n cael ei arwain gan yr elusen Cais, wedi cael sicrwydd o gyllid am 12 mis gan Help for Heroes i ymgorffori mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn tynnu sylw at yr angen am arian ychwanegol i gadw'r mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban.
Yn 2007, roedd ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig eisoes wedi nodi bod angen i gyn-filwyr nad ydynt yn cael cymorth gan Combat Stress a gefnogir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu gan gorff arbenigol arall, allu cael mynediad at ofal iechyd meddwl a chael triniaeth flaenoriaethol. Gyda'r cyhoeddiad bod Combat Stress yn dileu gofal preswyl yn eu canolfan Audley Court yn swydd Amwythig, rhaid inni hefyd ymdrin â phryderon y bydd cyn-filwyr Cymru bellach yn gorfod teithio ar draws y DU i gael gofal preswyl, am nad oes unrhyw ddarpariaeth yng Nghymru.
Wrth gydnabod yr heriau penodol a wynebir gan blant teuluoedd y lluoedd arfog, ac er mwyn mynd i'r afael â'r anfantais o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, argymhellodd yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno premiwm disgybl lluoedd arfog. Fel y mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dweud, yn Lloegr, mae hwn wedi darparu cymorth ymarferol pwysig i blant y lluoedd arfog mewn addysg. Dylai ysgolion yng Nghymru gael mynediad at gronfa debyg ar gyfer yr oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar gonsortia addysg rhanbarthol i benodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog; hyblygrwydd i ysgolion uwchradd Cymru ganiatáu i blant aelodau'r lluoedd arfog gael eu cofrestru ar ganol tymor, fel sydd eisoes yn digwydd mewn dosbarthiadau babanod; a mwy o ysgolion i gymryd rhan yn rhaglen ehangu'r cadetiaid. Mae'r adroddiad yn argymell ymestyn y prosiect rhyfel byd cyntaf llwyddiannus, Cymru'n Cofio, er mwyn ei gwneud hi'n bosibl nodi penblwyddi milwrol pwysig eraill. Ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod holl gofebau rhyfel dinesig Cymru yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigon da, a chydag amgueddfeydd milwrol Cymru i sefydlu arddangosfeydd teithiol.
Mae'r adroddiad yn galw am ddatblygu partneriaethau pellach rhwng landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r trydydd sector i gefnogi tai â chymorth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr sy'n agored i niwed yng Nghymru, ac am i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hepgor gofynion am brawf cysylltiadau lleol i gyn-bartneriaid aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gadael llety i deuluoedd y lluoedd arfog.
Yn olaf, mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cyflogaeth i gynorthwyo pobl sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, a chefnogi partneriaid personél y lluoedd arfog wrth i'w partneriaid gael eu hanfon i Gymru. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn datblygu llwybr cyflogaeth, ond mae ffigurau GIG Cymru i gyn-filwyr yn dangos mai traean yn unig sy'n cael eu cyflogi. Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytundeb a arweiniodd at ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n rhaid i'r cyfamod hwn barhau.
Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Gwelliant 1 Julie James
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; a
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Steffan.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i gynnig yn ffurfiol y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Ar Sul y Cofio, bythefnos yn ôl, daeth pobl o bob cymuned at ei gilydd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ym mhob rhyfel, ac yn benodol, y rhai a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Yn ystod cyfnod y cofio, wrth gwrs, cawn gyfle i fyfyrio ar aberth pawb, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rydym yn diolch iddynt am yr hyn a wnânt ar ein rhan.
Yn gynharach eleni, nodwyd canmlwyddiant brwydr Passchendaele, un o ddigwyddiadau mwyaf gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf. Bu farw hanner miliwn o ddynion o'r ddwy ochr tra'n brwydro dros 5 milltir o dir yn unig. Roedd yn drasiedi ddisynnwyr na ellir mo'i dirnad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd rhagor o ganmlwyddiannau. Byddwn yn cofio erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r miliynau o bobl a gollodd eu bywydau. Byddwn hefyd yn cofio'r dynion a ddychwelodd o ryfel, wedi dioddef trawma, ac wedi'u dryllio, i ganfod cymdeithas heb ddigon o waith neu dai ac nad oedd eto'n deall yr effeithiau y byddai eu profiad yn eu cael arnynt.
Heddiw, gallwn wneud yn well i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ar ein rhan ac i gefnogi eu teuluoedd. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr iawn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, ac rwy'n talu teyrnged i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol am ei arweiniad a'r gwaith a wnaed. Mae'n galonogol gweld bod cynnydd da wedi'i wneud, ac mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion pwysig er mwyn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael ymhellach.
Mae'r llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn cyflawni rôl bwysig drwy ddarparu cymorth ychwanegol i gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Gall dod o hyd i dŷ, ar ôl blynyddoedd lawer efallai yn y lluoedd arfog ac mewn ardal anghyfarwydd, fod yn frawychus ac yn anodd, ond mae'n allweddol i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn cael sefydlogrwydd. Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru i'r ddadl heddiw yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r llwybr hwnnw. Gan ei fod bellach wedi'i gyhoeddi, mae'n bwysig ei fod yn creu rôl reolaidd a gweithredol yn y ddarpariaeth a gynigir i gyn-filwyr. Hefyd, mae'n rhy hawdd weithiau i Lywodraeth, i ddogfennau cyfarwyddyd y mae'n eu cyhoeddi aros mewn drôr a pheidio â bod yn nodwedd gyson sy'n llywio ymarfer staff ar y rheng flaen o ddydd i ddydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y broses o gyflwyno'r llwybr a'r gwaith y maent yn ei wneud ar fonitro ei effeithiolrwydd.
Mae data da am y galw am gymorth ychwanegol a llwyddiant yr hyn sydd eisoes ar gael yn hollbwysig. Mae'r ffaith fod yr arolwg cenedlaethol o nifer y bobl sy'n cysgu allan yn cynnwys cwestiwn am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn rhywbeth sydd i'w groesawu. Mae ail welliant Plaid Cymru felly yn galw heddiw am gyhoeddi'r data hwnnw, fel y gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth a sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill, i lywio'r gwaith y maent yn ei wneud. Os gallwn nodi'r cysylltiad rhwng digartrefedd a gwasanaeth yn y lluoedd arfog, gallwn ymdrin yn well ag achosion y problemau y mae'n eu creu.
Fel cenedl, rydym yn gwneud addewid ar y cyd i'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog y byddant hwy a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth inni gofio'r aberth y maent yn ei gwneud, mae gennym ddyletswydd hefyd i ystyried a ydym yn cynnal yr addewid hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn llawn ac yn ymdrechu'n gyson i wella'r cymorth y mae'n ei roi iddynt.
Eleni yw canmlwyddiant trydedd brwydr Ypres. Mae'r frwydr ofnadwy hon wedi tyfu'n symbol o'r erchyllterau sy'n gysylltiedig â'r rhyfel byd cyntaf. Caiff ei hadnabod yn aml yn ôl enw'r pentref lle y digwyddodd, Passchendaele. Er nad oes neb ar ôl yn fyw heddiw a wasanaethodd yn yr hyn a elwid yn 'rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel', mae'n ein hatgoffa o'r ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Amcangyfrifir y gallai fod cynifer â 230,000 o gyn-filwyr yng Nghymru'n unig.
Yn anffodus, mewn rhai achosion, mae'n amlwg nad ydym yn darparu gofal a chymorth haeddiannol i'n cyn-filwyr. Mae gadael y lluoedd arfog ar ôl cyfnod hir o wasanaeth yn creu llawer o heriau. Yn aml, mae'n golygu gorfod adleoli, dod o hyd i gartref newydd, gwaith newydd a newid ffordd o fyw—a newid enfawr yn y ffordd o fyw mewn rhai achosion. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, gall gwasanaethau i gymuned ein lluoedd arfog fod yn anghyson. Canlyniad uniongyrchol diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn ag ystyr cyfamod y lluoedd arfog o'i weithredu'n ymarferol yw hyn.
Credaf fod angen comisiynydd y lluoedd arfog yng Nghymru i gydlynu a darparu'r gefnogaeth y mae ein cyn-filwyr yn ei haeddu gan sefydliadau'r sector cyhoeddus. Byddai'r comisiynydd hwn yn gwella gwaith llinell gymorth y Porth Cyn-filwyr sy'n cael ei sefydlu yn Nantgarw, i ddarparu gwasanaeth newydd 24 awr y dydd i gyn-filwyr y lluoedd arfog ledled y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd at fywyd sifil. Yn aml, mae gwasanaethau tai ac iechyd a gwasanaethau eraill wedi methu diwallu eu hanghenion, a gall hyn arwain at ynysu cymdeithasol a llai o iechyd a llesiant hefyd.
Mae tai diogel yn hanfodol ar gyfer cyn-filwyr wrth iddynt ddychwelyd at fywyd sifil. Ceir nifer o gynlluniau yng Nghymru sy'n cydnabod hyn. Ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym yn credu y dylid darparu tai priodol yn gyflym a chynnal asesiad o anghenion cyn-filwyr cyn gynted â phosibl ac ar gam cynnar. Gallai hyn fod yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau a darparu tystiolaeth gadarn i gau unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Mae nifer o gyn-filwyr yn mynd yn ddigartref oherwydd anallu i ddod i delerau â'u profiadau trawmatig, i'r graddau eu bod yn tarfu ar dasgau bob dydd.
Mae anhwylder straen wedi trawma yn anhwylder gorbryder a achosir gan brofiad o ddigwyddiadau trallodus—yn ystod rhyfel ac ynddi. Mewn rhai achosion, gall arwain at gynnydd mewn camddefnydd o alcohol a chyffuriau. Mae angen cydnabod symptomau salwch meddwl yn gynnar, ac mae angen mwy o gymorth yn y maes hwn hefyd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i sicrhau cynnydd o 50 y cant yn nifer y sesiynau gan seiciatryddion ymgynghorol—mae hyn yn newyddion da iawn. Mae'n hanfodol fod yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwelliannau i'r gwasanaeth ledled Cymru. Ni ddylid gadael unrhyw gyn-filwr sydd angen cymorth arbenigol i ddihoeni ar restr aros.
Gall addysg plant y lluoedd arfog hefyd ddioddef oherwydd tarfu ar ffordd o fyw. Nid yw'r grant amddifadedd disgyblion ond ar gael i'r plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ddirprwy Lywydd, nid yw'r rhan fwyaf o blant aelodau'r lluoedd arfog yn bodloni'r meini prawf hyn. Yn Lloegr, ceir premiwm disgybl lluoedd arfog o £300,000 y plentyn, sy'n daladwy'n uniongyrchol i ysgolion. Nid oes unrhyw bremiwm o'r fath yn bodoli yng Nghymru, gan adael plant i aelodau o'r lluoedd arfog yma dan anfantais o'i gymharu â'r rheini sy'n byw yn Lloegr. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno premiwm disgybl lluoedd arfog i fynd i'r afael â hyn.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael profiad personol o hyn mewn bywyd: y lluoedd arfog, maent yno i wneud yr aberth eithaf ar ran y genedl. Ac nid i'r genedl hon yn unig y maent yn ei gwneud; cânt eu gwneud yn fyd-eang. Rwy'n enghraifft bersonol o hyn. Yn 1947, pan rannwyd India, swyddogion yr awyrlu brenhinol, y mae fy nheulu yn ddyledus iddynt am weddill ein plant a'n hwyrion—hwy a'n hedfanodd o Delhi i Peshawar, gyda fy mam a fy nhad a thri o blant, yn waglaw. Dyna oedd senario'r ail ryfel byd mewn gwirionedd, ac rwy'n credu—. Mae'r awyrlu brenhinol wedi rhoi, nid yn unig i'r wlad hon, ond i'r byd yn gyfan. Nid yw ein lluoedd arfog erioed wedi ein siomi. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cydnabod hyn trwy bleidleisio o blaid y cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc pwysig cyfamod y lluoedd arfog. Rydym yn cytuno, yn UKIP, y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i les pobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Rydym hefyd yn awyddus i weld gweithgarwch cadetiaid yn cael ei annog. Felly, yn gyffredinol rydym yn rhannu diddordeb grŵp y Ceidwadwyr yn y maes hwn, ac rydym yn cymeradwyo egni Darren Millar yn casglu grŵp o bobl wybodus iawn at ei gilydd fel ei gynghorwyr yn y grŵp trawsbleidiol y bu'n gysylltiedig â'i sefydlu. Gwn fod Mark Isherwood wedi bod yn weithgar iawn yn ogystal. Mae'r grŵp wedi llunio argymhellion cadarn, ac rydym yn eu cefnogi'n llwyr.
Rydym hefyd yn cydnabod bod cyfamod y lluoedd arfog wedi cael cefnogaeth dda yng Nghymru—i raddau mawr yn sgil ymdrechion Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n mynd i fod yn gefnogol o'u hymdrechion hwy yn ogystal heddiw. Nawr, rwy'n cofio Carl Sargeant, mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl ar fater tai, yn fy ngheryddu braidd am ei fod yn teimlo nad oeddwn i'n ddigon cefnogol o'r hyn roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwnnw. Nawr, roeddwn yn anghytuno braidd â Carl ar y pwynt hwnnw, fel y gwneuthum ar rai pwyntiau, yn wir, oherwydd fy mod yn teimlo mai dyna oedd fy ngwaith, fel aelod o'r wrthblaid, sef ei gwestiynu ynglŷn â phethau yn hytrach na chynnig geiriau o gefnogaeth yn unig. Ond rwy'n credu y cydnabyddir yn gyffredinol, ym maes cyfamod y lluoedd arfog, ein bod wedi gwneud cynnydd da yng Nghymru, a chredaf fod ymdrechion Carl yn ffactor mawr yn hynny. Felly, hoffwn gydnabod hynny heddiw.
Nawr, pwynt y grŵp trawsbleidiol yw sicrhau bod pethau'n parhau i wneud cynnydd, ein bod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau iawn mewn perthynas â materion cyn-filwyr a'r lluoedd arfog, a chytunwyd ar y blaenoriaethau hynny gan y grŵp trawsbleidiol mewn cydweithrediad agos â grwpiau sy'n cynrychioli'r lluoedd arfog a'r cyn-filwyr eu hunain. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ei grŵp arbenigwyr amlasiantaethol ei hun; felly, mae'n dda gweld bod pawb yn gweithio ar y cyd yn y maes hwn.
Mae tai'n ffactor rheolaidd mewn sawl un o'r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol. Mae gennym broblem gyda chyn-filwyr yn mynd yn ddigartref. Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod tua 7,000 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog yn ddigartref yn y DU. Nid ydym yn gwybod faint sydd yng Nghymru, a mynegwyd gobaith yn yr adroddiad y gallai nifer y bobl sy'n cysgu allan ddarparu manylion pwysig ynglŷn â hyn. Felly, gyda gobaith, gallwn ddefnyddio'r data hwn yn y dyfodol i gael gwybodaeth hanfodol yn y maes hwn.
Mae cwestiynau'n codi hefyd ynghylch y ddarpariaeth dai ar gyfer aelodau a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd, y cyfeiriwyd atynt yn gynharach. Mae'r rhain yn rhan o'r blaenoriaethau yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol, ac rydym yn cefnogi amcan yr adroddiad o'i gwneud yn haws i deuluoedd y lluoedd arfog gael tai da. Darpariaeth bwysig arall yw'r premiwm disgybl, a cheir heriau mawr ynghylch darpariaethau iechyd meddwl, a rhaid ymdrin â hynny, fel y cyfeiriodd Mark Isherwood yn gynharach.
O ran y gwelliannau a nodwyd heddiw, rydym yn hapus i gefnogi'r holl welliannau. Mae'r Llywodraeth yn nodi eu cynnydd eu hunain, ac rydym yn fodlon ei gydnabod. Mae Plaid Cymru wedi edrych ar fater digartrefedd yn arbennig, ac maent yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r llwybr tai cenedlaethol. Rydym ninnau hefyd yn cefnogi'r alwad honno. Hefyd, mae Plaid Cymru eisiau rhoi mesurau ar waith i gael data cadarn ar y ffigurau digartrefedd. Maent am i'r Llywodraeth gyhoeddi ffigurau a gasglwyd yn y cyfrif cenedlaethol o bobl sy'n cysgu allan. Unwaith eto, byddai hwnnw'n gam da ymlaen, ac rydym yn cefnogi'r alwad honno.
Felly, i grynhoi, rydym wedi gwneud cynnydd da ar weithredu cyfamod y lluoedd arfog yma yng Nghymru, a chredaf, ar lawer ystyr, ein bod yn cymharu'n dda â Lloegr, ond mae angen i ni ddal ati. Felly, mae'r adroddiad hwn i'w groesawu'n fawr, ac mae UKIP yn awyddus iawn i gefnogi argymhellion yr adroddiad.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, a chroesawaf y Gweinidog i'w swydd. Credaf mai hon yw'r ddadl gyntaf y bydd wedi cyfrannu ati ers mabwysiadu'r rôl honno. Ond mae hefyd yn gyfle da i dalu teyrnged i'r cyn-Weinidog, Carl Sargeant, a ysgwyddodd y cyfrifoldeb portffolio penodol hwn, rwy'n credu, ar ddau achlysur yn y Llywodraeth. Roedd yn gyfrifoldeb yr oedd yn falch iawn ohono ac yn amlwg, cafodd lawer o lwyddiant yn ogystal. Gallaf gofio sawl dadl a gyflwynwyd dros y blynyddoedd yr ymatebodd Carl iddynt. Mae'n braf gweld nifer o'r pwyntiau a gyflwynwyd yn y ddadl honno ar sail drawsbleidiol, megis gwell mynediad at ofal iechyd, gwelliannau mewn tai ac yn bwysig, trefniadau adrodd dilys i'r Cynulliad ar y mentrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu datblygu i geisio gwneud pethau cymaint â hynny'n well i'n lluoedd arfog pan fyddant yn dychwelyd i fywyd sifil. Oherwydd mae'n bwysig ystyried bod Cymru, fel gwlad, gydag oddeutu 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig, wedi darparu 10, 12 y cant o bersonél y lluoedd arfog yn hanesyddol ac yn ôl-troed y lluoedd arfog heddiw sy'n llawer llai, mae gennym ganran lawer mwy o hyd o bersonél o Gymru ym mhob agwedd ar y lluoedd arfog. Felly, mae'n bwysig, fel Senedd Cymru, ein bod yn gwylio beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, nodi lle y gallai'r Llywodraeth fod yn gwneud pethau'n anghywir, eu canmol lle maent yn gwneud cynnydd, ac mae'r adroddiad hwn yn gwneud llawer i geisio cynnig map o'r ffordd ymlaen, gyda chyfres o argymhellion i geisio sicrhau'r gwelliannau hynny.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ystyried gwaith y grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth fedrus iawn Darren Millar, wedi llwyddo i godi proffil y lluoedd arfog yma yn y Cynulliad, a hefyd, proffil y Cynulliad ymhlith cymuned y lluoedd arfog, oherwydd credaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid oes ond 12 mis ers i sawl aelod o'r sefydliad hwn ymlwybro i wersyll hyfforddi Pontsenni a gweld y rhaglen hyfforddiant ryfeddol a roddai'r fyddin ar waith i'w milwyr. Roedd rhai'n ymwneud yn llawer mwy parod nag eraill, gan wisgo dillad cuddliw a phaent wyneb. Credaf eu bod dyheu am fod yn filwyr eu hunain—roedd y cadeirydd, yn enwedig, yn ceisio gwneud hynny. Yn ddiweddar, ym mis Medi, yn amlwg roedd treulio rhywfaint o amser gyda'r awyrlu brenhinol yn y Fali, a gweld yr ôl-troed yng ngogledd Cymru a'r gwaith gwych—ac o ystyried ei bod yn nesu'n gyflym at ganmlwyddiant yr awyrlu brenhinol, roedd hi'n addas iawn i'r grŵp hollbleidiol fynychu RAF Fali a gweld cymaint o hwb economaidd gwych yw'r Fali i'r ynys. Oherwydd mae'r holl bersonél sy'n dod i'r ynys yn amlwg yn gadael gydag atgofion melys ac yn dychwelyd dros y blynyddoedd yn ogystal. Gwn fod ymrwymiad gan y llynges, yn amlwg, i wahodd y grŵp hollbleidiol ar ymweliad hefyd.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfraniad y prynhawn yma, yn rhoi sylw i'r adroddiad ac yn y pen draw yn mapio'r modd y byddai'n bwrw ymlaen â rhai—neu bob un, yn wir—o'r argymhellion ynddo. Oherwydd fe'u gwnaed gan gymuned y lluoedd arfog, oherwydd, o fod yn grŵp trawsbleidiol, yn amlwg, daeth y gymuned at ei gilydd wrth lunio'r adroddiad hwn. Mae'n werth nodi nad yw'r alwad am benodi comisiynydd i gefnogi gwaith y Llywodraeth ac i adrodd i'r Cynulliad wrth gwrs ar gynnydd yn rhai o'r meysydd lle mae angen cynnydd yr un fath â Chomisiynydd Plant Cymru neu Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n gomisiynydd hollol wahanol. Mae gan yr Alban fodel da iawn y gallem edrych arno, a gellir ei wneud heb lawer o arian ac ysgogi cynnydd yn y maes hwn. Credaf hefyd fod yr argymhellion yn yr adroddiad sy'n amlwg yn cynnwys, ar hyn o bryd, y digwyddiadau coffáu canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf yn deilwng o ystyriaeth, o ran sut y gellir datblygu'r digwyddiadau coffáu hynny wrth inni fwrw ymlaen. Oherwydd, yn amlwg, fel y nodwyd yn gynharach, nid oes cyn-filwyr ar ôl o'r brwydrau hynny bellach, ac mae'n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr fod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cofio, ac yn y pen draw, byth yn anghofio'r gwersi trasig yr oedd angen inni eu dysgu i amddiffyn ein democratiaeth a diogelu ein ffordd o fyw. Unwaith eto, rwy'n canmol y Llywodraeth am y ffordd y maent wedi rhoi'r digwyddiadau hynny gyda'i gilydd, ond rwy'n credu, fel y noda'r adroddiad, fod angen ystyried ymhellach yn awr beth a wnawn ar ôl y digwyddiadau coffáu a'r gyfres o ddigwyddiadau eraill i goffáu rhyfeloedd y cymerodd y lluoedd arfog ran ynddynt.
Roeddwn yn falch iawn o weld y fath sylw'n cael ei roi i'r cyfamod milwrol. Oherwydd rwy'n credu mai maer presennol Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles, pan oedd yn aelod o'r cabinet yn ôl yn 2009, a sicrhaodd mai Cyngor Bro Morgannwg oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i'r cyfamod milwrol. Nawr, rwy'n falch iawn o ddweud bod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i ymrwymiadau'r cyfamod hwnnw. Ond yn anad dim, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, rwy'n meddwl, yw canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol y gall y fyddin eu cynnig i berson ifanc sydd am gael gyrfa yn ein lluoedd arfog. Mae'n iawn inni ganolbwyntio ar y cymorth a roddwn ar waith ar gyfer pobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Ond os caf orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd, pan aiff pobl i mewn i'r gweithle wrth adael y lluoedd arfog, mae'n werth ystyried y ceir cydnabyddiaeth fawr i brofiad o weithio mewn timau ac arwain timau, hyblygrwydd a'r gallu i weithio mewn amgylcheddau anodd, prysur, deinamig, etheg gwaith gref a dibynadwy, arddangos gonestrwydd a ffyddlondeb, ac arbenigedd mewn amgylcheddau gwaith amrywiol yn ddiwylliannol a byd-eang. Mae'r rheini'n nodweddion y byddai unrhyw gyflogwr yn falch iawn o'u croesawu i'r tîm mewn bywyd sifil, fel petai, a chredaf weithiau fod angen hyrwyddo mwy ar y pethau cadarnhaol y gall y lluoedd arfog eu cynnig i bobl ifanc, o ble bynnag y dônt, ac yn enwedig gyda'r traddodiad gwych sydd gennym yma yng Nghymru o ddarparu nifer uwch o bersonél y lluoedd arfog na'n canran o boblogaeth y DU yn gyffredinol o bosibl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr yn cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw.
A gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod y grŵp trawsbleidiol wedi canmol y partneriaethau a ffurfiwyd gyda'r sector gwirfoddol, oherwydd gall y rhain arwain at rai o'r gwasanaethau mwyaf arloesol a pherthnasol sydd ar gael i'n cyn-filwyr? Hoffwn sôn am un enghraifft yn benodol, sef Woody's Lodge, sydd wedi'i leoli ar HMS Cambria yn Sili. Credaf fod nifer o bobl yn y Siambr hon wedi ymweld ag ef, ac yn wir maent wedi cynnal digwyddiad yma yn y Senedd, a noddwyd gan Jane Hutt, rwy'n credu.
Mae'n brosiect eithriadol, ac mae'n un sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd newydd adael, sy'n grŵp allweddol, rwy'n credu, a milwyr wrth gefn—mae llawer o bobl bellach yn gwasanaethu yn ein lluoedd wrth gefn, ac maent yn rhan o'r ymladd ac yna'n dychwelyd ac maent yn gweithio yn ein gwasanaethau brys neu'r GIG neu yn y sector preifat, beth bynnag. Credaf fod cymorth parhaus ar gyfer y bobl hynny'n bwysig iawn. Hefyd, mae Woody's Lodge wedi ymestyn ei wasanaethau i gynnwys gwasanaethau brys—y gwasanaethau mewn lifrai hynny sy'n aml yn wynebu trawma dwys wrth fynd i'r afael â'u dyletswyddau.
Fel y mae ei ddatganiad cenhadaeth ei hun yn ei ddweud, mae yno i ddarparu gofod i bobl ganfod eu hunain, a chredaf fod hynny'n eithriadol o bwysig—fod pobl, ar ôl profiadau caled, yn cael y gofod hwnnw, ond hefyd yn gallu, gyda llawer o bobl a fydd yn rhannu eu profiadau'n uniongyrchol, hel atgofion am y pethau cadarnhaol yn ogystal. Ac mae llawer o fanteision i'w cael, wyddoch chi, o wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
Mae'r tîm yn Woody's Lodge yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar sail un i un ac yn benodol yn darparu cymorth gyda budd-daliadau, materion iechyd a ffyrdd o adeiladu hyder a hunan-barch y bydd rhai pobl wedi'u colli, yn enwedig ar ôl gadael y math o awyrgylch a threfn ddyddiol y maent yn eu cael yn y lluoedd arfog, ac yna efallai na fyddant wedi ymaddasu i fywyd sifil yn effeithiol iawn, ac yna, flynyddoedd yn ddiweddarach byddant yn amddifad o hunan-barch neu hyder i fynd allan a dod o hyd i swydd.
Felly, credaf fod y rhain yn wasanaethau eithriadol o bwysig sy'n helpu, ac wrth gwrs, mae ganddynt amrywiaeth o bartneriaid allweddol i helpu yn y gwaith ardderchog hwn. Mae'n fodel o gydweithio gwirioneddol effeithiol. Maent yn gweithio gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol, Age Cymru, y GIG—Gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig—yr Adran Gwaith a Phensiynau, a llawer o gyrff eraill. Gan ein bod wedi bod yn sôn am y rhyfel byd cyntaf, hoffwn ddweud bod cyn-filwyr yr ail ryfel byd bellach yn hen iawn, dros eu 90. Mae prosiect arbennig ar y gweill yn Woody's Lodge, Project 360 Degrees, sef prosiect wedi'i anelu at gyn-filwyr hŷn, dan arweiniad Age Cymru ac sy'n cael ei ariannu gan gronfa'r cyn-filwyr hŷn. Yn fy marn i, mae'r gwaith y maent yn ei wneud yno'n rhagorol.
Ni fuasai Woody's Lodge yno oni bai am y grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi codi swm aruthrol o arian gan gyrff grantiau sector cyhoeddus, a'r sector preifat hefyd. Hoffwn ganmol gwaith Dr David Trotman yn y maes hwn, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn siarad am un mater arall—soniodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood amdano—sef bod angen gwell data am gyn-filwyr. Credaf ein bod oll yn ymwybodol o'r ymgyrch gan y Lleng Brydeinig i gael cwestiwn yn y cyfrifiad cenedlaethol ynglŷn â gwasanaeth yn y lluoedd arfog, ac roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r ymgyrch honno, fel y mae llawer iawn o Aelodau Cynulliad eraill wedi'i wneud yn ogystal, rwy'n gwybod. Ond credaf hefyd y dylid rhoi pwysau ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, i wella'r modd y caiff data ar gyn-filwyr ei gasglu lle y bo modd, oherwydd gyda data gwell buasem yn gallu llunio gwell gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr. Credaf fod hynny'n rhan bwysig iawn o'r cyfamod sydd gennym gyda hwy pan fyddant wedi cyflawni'r gwasanaethau hyn ar ein rhan. Am lawer iawn o resymau, gan gynnwys y rhesymau dyngarol y cyfeiriodd Mohammad Asghar atynt, maent yn haeddu'r gefnogaeth lawnaf y gallwn ei rhoi iddynt mewn gwirionedd, ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy roi teyrnged i waith Carl Sargeant, a wnaeth ysgogi yn ogystal ag arwain llawer o'r gwaith ar y maes hwn. Mae Aelodau ar bob ochr i'r Siambr wedi talu teyrnged i Carl a'i waith yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, ac mae'n dyst i'r gwaith a wnaeth fel deiliad portffolio a oedd yn gyfrifol am y gwaith ar y lluoedd arfog yng Nghymru ein bod wedi cyrraedd lle'r ydym heddiw. Credaf fod pob ohonom yn ddiolchgar i Carl Sargeant am y gwaith a wnaeth yn y maes hwn.
Ar yr un pryd, rwyf hefyd yn ddiolchgar i Darren Millar am y gwaith y mae'n ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, rwy'n credu fy mod yn un o'r aelodau a sefydlodd y grŵp hwnnw gryn dipyn o amser yn ôl. Mae'n dangos gwerth a phwysigrwydd grwpiau trawsbleidiol fod gennym adroddiad ger ein bron y prynhawn yma o'r ansawdd a welsom. Rwyf am ddweud bod Darren wedi ysgrifennu ataf fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol, yn fy ngwahodd i gyfarfod yn y dyfodol. Mae hwnnw'n wahoddiad rwy'n ddiolchgar iawn amdano a byddaf yn falch o'i dderbyn. Buaswn yn falch iawn o fynychu cyfarfod o'r grŵp i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion y maent wedi eu gwneud. Credaf fod yr holl argymhellion yn gadarn o ran y dadleuon a wnaed drostynt ac maent yn atgyfnerthu'r ddyled go iawn sydd arnom i'n lluoedd arfog.
Clywsom y prynhawn yma fod mis Tachwedd yn adeg ar gyfer coffáu. Mae'n adeg i fyfyrio ar gyfraniad y lluoedd arfog i'n gwlad a'r ddyled sydd arnom i bawb sydd wedi gwasanaethu. Rwy'n meddwl bod gennym gyfrifoldeb go iawn, wrth inni gofio'r digwyddiadau erchyll ganrif yn ôl, i gofio hefyd am y rhai sy'n byw yn ein cymunedau heddiw sydd wedi gwasanaethu mewn rhyfeloedd mwy diweddar. Mae gennym gyfrifoldeb llwyr i bawb sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a gobeithiaf fod y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud nid yn unig yn cyflawni geiriad y cyfamod hwnnw ond ei ysbryd yn ogystal.
Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn rai wythnosau yn ôl, ac yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw ceisiais amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog. Rydym yn gwneud cynnydd da ledled Cymru, fel y mae'r Aelodau wedi cydnabod, ac rwy'n hyderus y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy barhau â'r dull hwn o weithredu, a rhannu adnoddau ac arferion gorau. Mae'r cynnig yn gynnig y bydd y Llywodraeth hon yn ceisio'i ddiwygio a'i gefnogi. Byddwn hefyd yn cefnogi dau welliant Plaid Cymru.
Rwyf am edrych yn gadarnhaol ar holl argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac edrych ar sut y gallwn barhau i adeiladu ar y sylfeini a wnaethom. Rwy'n ystyried bod y cynnig a'r adroddiad yn adeiladu ar y gwaith da a gwblhawyd eisoes gan Lywodraeth Cymru ac yn ategu'r gwaith hwnnw. Rwy'n ystyried bod yr adroddiad hwn yn cyfrannu at weledigaeth gadarnhaol o'r dyfodol a fydd yn ein galluogi fel Llywodraeth Cymru, gyda chymuned y lluoedd arfog, i weithio i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned ein lluoedd arfog.
Rydym eisoes yn gwybod bod llawer o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd i wella'r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Cydnabuwyd y cynnydd hwn, a gobeithiaf fod ein gwelliant i'r cynnig hwn yn cydnabod hynny. Mae hefyd yn ceisio cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Gyda'i aelodaeth amlasiantaethol gref, bydd yn parhau i'n helpu i nodi'r materion sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog a gweithio i fynd i'r afael â'r holl faterion hynny. Rwy'n falch fod y grŵp er enghraifft yn ystyried y cysylltiadau rhwng rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn gynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i ddeall pam y mae aelodau o'r lluoedd arfog yn dewis gadael yn gynnar, ac rwy'n ymrwymo, Ddirprwy Lywydd, i rannu'r canfyddiadau gyda'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny.
Mae'r grŵp arbenigol eisoes wedi ystyried y syniad o gael comisiynydd y lluoedd arfog. Er nad wyf eto yn argyhoeddedig y byddai comisiynydd yn ychwanegu gwerth at y strwythurau sydd eisoes ar waith gennym, rwy'n agored i'r sgwrs honno. Nid yw'n ddrws rwyf am ei gau y prynhawn yma; mae'n sgwrs yr hoffwn ei chael ac yn sgwrs rwy'n ei chroesawu. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau i ganfod maint ac anghenion cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod rhan o'r grŵp arbenigol wedi ystyried y syniad o gerdyn adnabod i gyn-filwyr o'r blaen, ac wedi dod i'r casgliad mai cyfyngedig fuasai ei werth. Cytunwyd i roi cyhoeddusrwydd i'r cerdyn braint amddiffyn a'i hyrwyddo fel dewis cyntaf. Roedd hon yn ymgyrch hynod o lwyddiannus, gyda chynnydd yn yr aelodaeth o 89 y cant o gymharu â 39 y cant yng ngweddill y Deyrnas Unedig, gan alluogi aelodau'r cynllun i fanteisio ar ostyngiadau ar draws amrywiaeth eang o siopau.
Mae llawer iawn o gymorth ar gael i gymuned ein lluoedd arfog yng Nghymru. Fel y nodir yn ein gwelliant, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar gyfer personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr a'u teuluoedd. Rwy'n gobeithio y bydd ein polisïau sy'n datblygu yn parhau i adlewyrchu eu hanghenion newidiol, ac rwy'n rhoi addewid i'r Siambr—. Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr a fuasem yn parhau i adrodd yn ôl i'r Siambr; rwy'n rhoi'r addewid hwn y prynhawn yma y byddwn yn parhau i adrodd yn ôl i'r Siambr yn rheolaidd ar y cynnydd a wneir.
Ar yr un pryd, Ddirprwy Lywydd, mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn parhau i ddatblygu. Fe'i sefydlwyd yn 2010, ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn tua 2,900 o atgyfeiriadau hyd yn hyn. Mae ei ddulliau arloesol, megis therapïau siarad a thechnegau rhithwir, yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â thrawma personol o ganlyniad i brofiadau tra ar wasanaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cyhoeddi £100,000 blynyddol o gyllid ychwanegol i gynyddu capasiti GIG Cymru i gyn-filwyr, gan ddod â chyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru i bron £700,000 y flwyddyn. Rydym yn rhoi addewid y byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod hwn yn parhau i ddiwallu anghenion cyn-filwyr yn ein gwasanaeth iechyd. Hwn yw'r unig wasanaeth o'i fath yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn ymuno i ganmol ei lwyddiant.
Gwyddom hefyd y gall rhai cyn-filwyr gael trafferth dod o hyd i rywle i fyw. Mae gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu llwybr tai i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â'u hanghenion llety wrth ddychwelyd at fywyd sifil. Ar y sail hon, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru. Mae'r llwybr tai yn llwyddiant, a buaswn yn hapus i barhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Rwyf hefyd yn hapus i gefnogi gwelliant 3, a byddaf yn cynnwys y wybodaeth hon mewn sgyrsiau a dadleuon yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn amlinellu efallai y bydd rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'r lluoedd wrth gefn angen cymorth i sicrhau cyflogaeth. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn datblygu llwybr cyflogaeth gyda'n partneriaid allweddol. Wrth anelu at nodi dewisiadau cyflogaeth a chymorth sydd ar gael, bydd y llwybr yn darparu opsiynau ar gyfer y rhai sy'n chwilio am waith. Mae ein pecyn cymorth yn dangos yn glir ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â 'n partneriaid, ac mae'n cynnwys meysydd polisi Llywodraeth Cymru, mentrau allweddol a gwybodaeth gan sefydliadau cymorth eraill.
Rwy'n ymwybodol y gall plant aelodau'r lluoedd arfog wynebu heriau o ganlyniad i adleoli. Er nad wyf eto yn argyhoeddedig mai ein gwasanaeth premiwm disgybl fuasai'r ffordd orau ymlaen, rwy'n cydnabod hefyd fod hon yn sgwrs y gallwn barhau i'w chael. Mewn gohebiaeth at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, rydym wedi gofyn am roi ystyriaeth bellach i barhad y gronfa gymorth ar gyfer addysg plant y lluoedd arfog. Hoffwn ddweud hefyd, Ddirprwy Lywydd, ein bod wedi cyhoeddi pecyn 'Croeso i Gymru' wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ein lluoedd arfog a'u teuluoedd. Ni ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd cyflawni'r cyfamod i'r Llywodraeth hon yng Nghymru.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddweud pa mor falch wyf fi o'r hyn a gyflawnwyd gennym ni a'n partneriaid yn y lluoedd arfog wrth geisio cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom. Byddaf yn mynychu bwrdd gweinidogol y DU ar y cyfamod a chyn-filwyr sydd newydd gael ei sefydlu. Bydd ein presenoldeb yn helpu i ddatblygu gwaith y cyfamod mewn cydweithrediad â'n cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â'n grŵp arbenigol ein hunain ar y lluoedd arfog. Mae angen i bawb ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu arferion da.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl bod natur a chywair y ddadl y prynhawn yma wedi dangos pŵer undod ar bob ochr i'r Siambr hon. Mae arnom ddyled i'n lluoedd arfog na allwn byth mo'i had-dalu, ond mae'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad cyfan, yn sefyll ochr yn ochr â chymuned y lluoedd arfog, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob cyn-filwr a holl aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch pawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddadl bwysig iawn ar argymhellion gweddus a safonol iawn mewn adroddiad a oedd yn ganlyniad i waith sylweddol gan y grŵp trawsbleidiol? Credaf fod hwn yn adroddiad sydd â photensial i ychwanegu at y gwaith aruthrol sydd eisoes wedi'i wneud yma yng Nghymru i wella bywydau personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn ein gwlad. Fel y dywedodd nifer o bobl yn gwbl briodol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mwy o gynnydd, rwy'n credu, nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—ac mae honno'n record rwy'n falch o fod wedi cael rhan fach i chwarae ynddi fel Aelod Cynulliad yn gweithio ar y cyd â'r holl Aelodau ym mhob plaid yn y Cynulliad hwn i ddatblygu'r agenda honno.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd—fel y gwnaeth y Gweinidog ac fel y gwnaeth Andrew R.T. Davies—i waith Carl Sargeant fel deiliad blaenorol y portffolio. Roedd yn allweddol yn sicrhau bod rhai o'r gwelliannau sylweddol a welsom yn y blynyddoedd diwethaf wedi'u cyflawni. Un o rannau pwysicaf hynny oedd dod â chymuned y lluoedd arfog at ei gilydd mewn gwirionedd, yn enwedig y sector gwirfoddol, sy'n aml yn y gorffennol wedi bod yn wasgaredig, mewn seilos ac yn gweithio mewn ffyrdd nad oeddent yn gydweithredol. Mae'r ffordd y mae gennym gynhadledd flynyddol y lluoedd arfog bellach—un yn y de, un yn y gogledd—wedi helpu'n fawr i oresgyn rhai o'r rhwystrau hynny.
Yn gwbl briodol, mae nifer o sefydliadau'r trydydd sector wedi'u crybwyll yn y ddadl heddiw, o Woody's Lodge y cyfeiriodd David Melding ato, i sefydliadau mwy o faint fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA, Combat Stress ac eraill. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn aelodau partner o'r grŵp trawsbleidiol. Maent yn mynychu'n rheolaidd ac yn cyfrannu at ein gwaith ac yn helpu i lywio ein hagenda. Rwyf am gofnodi fy niolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad.
Na foed inni anghofio byth fod ein lluoedd arfog—lluoedd arfog Prydain—yn cyrraedd y tu hwnt i'n glannau. Fel y dywedodd Mohammad Asghar yn gwbl briodol, maent wedi bod â rôl enfawr i'w chwarae yn hanesyddol o amgylch y byd, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol ym mhob math o ffyrdd gwahanol i bob math o wledydd. Yn y flwyddyn hon pan ydym yn coffáu canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, tri deg pum mlynedd ers rhyfel y Falklands, ac yn y flwyddyn i ddod pan fyddwn yn nodi canmlwyddiant sefydlu'r Awyrlu Brenhinol, mae'n werth inni gofio bod ein lluoedd arfog yn symud yn gyson o un pen-blwydd i'r nesaf yn ddi-dor. Dyna pam y mae'n bwysig iawn adeiladu ar y llwyddiant a welsom o raglen ddigwyddiadau Cymru'n Cofio a drefnwyd gan Syr Deian Hopkin, a gwneud yn siŵr fod yr etifeddiaeth o goffáu yn parhau yn y dyfodol.
Nid wyf am fynd drwy bob un o'r argymhellion, ond y prif argymhelliad yn yr adroddiad oedd yr angen i gael comisiynydd y lluoedd arfog. Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych wedi cau'r drws ar y cynnig hwnnw, oherwydd rydym yn gwybod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau cyn-filwyr yn yr Alban, lle mae ganddynt gomisiynydd cyn-filwyr. Roedd y grŵp trawsbleidiol yn awyddus iawn i weld yr egwyddor honno'n cael ei hymestyn nid yn unig i gymuned y cyn-filwyr, ond i gael comisiynydd a fuasai'n gyfrifol am wella bywydau holl aelodau'r lluoedd arfog, a sicrhau bod egwyddorion y cyfamod y mae Cymru wedi cydsynio iddo yn cael eu cyflawni. Roeddwn yn falch iawn o'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weld pob un o'r 22 awdurdod lleol yn cydsynio i'r cyfamod, i weld ei Llywodraeth ei hun yn cydsynio i'r cyfamod ac i weld yr holl fyrddau iechyd yn cydsynio i'r cyfamod. Mae gennym hyrwyddwyr ym mhob un o'r lleoedd hyn, ond fel grŵp trawsbleidiol, credwn y buasai cael comisiynydd y lluoedd arfog sy'n gallu dwyn pob un o'r cyrff cyfansoddol i gyfrif am eu cyflawniad yn erbyn egwyddorion y cyfamod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gyflawni'n llawn. Felly, roeddwn yn falch o glywed eich bod yn cadw'r drws yn agored ar yr awgrym hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn rhinwedd eich swydd fel deiliad y portffolio—ac mae'n benodiad i'w groesawu'n fawr yn wir. Gwn am eich ymrwymiad a'ch ymroddiad i'r lluoedd arfog yn hanesyddol ac fel rydych yn nodi'n hollol gywir, roeddech yn un o sylfaenwyr y grŵp trawsbleidiol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni cynifer o'r argymhellion hyn â phosibl yn y dyfodol. Felly, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac edrychwn ymlaen at weld y trafodaethau'n parhau.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] Roedd hynny ychydig yn—. O'r gorau, iawn, felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Fe wnaethoch fy stopio ar ganol cymryd anadl yn y fan honno; roeddech yn ffodus iawn.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar drethi newydd yng Nghymru, a galwaf ar Neil Hamilton i wneud y cynnig—Neil.
Cynnig NDM6566 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) y bydd cyflwyno trethi newydd yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth arbrofol, yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; a
b) bod trethi y DU a Chymru yn ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu cyllidebau pobl sydd ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn hytrach, i ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da, na fyddant yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac yn cosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Carwn wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw ar yr agenda. Fel arfer, ymdrechwyd i'w ddiwygio gan bleidiau eraill trwy ddileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd a gosod eu cynnig eu hunain yn ei le. Ond rwy'n cytuno â rhannau o'r gwelliannau.
Rwy'n sicr yn cytuno â Phlaid Cymru ar ddatganoli trethi i Gymru, ac mae'n gyfle i wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru. Mae'n beth da iawn y dylent fod yn gyfrifol am godi'r arian y maent yn ei wario mor frwd. Cytunaf y dylid ymgynghori ar unrhyw drethi newydd y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno, ac yn sicr rwy'n cefnogi Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn wir yn eu hawydd i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, a'r dreth gorfforaeth i Gymru yn wir. Rwyf wedi cefnogi hyn yn gryf oherwydd byddai hynny'n ein galluogi i ddiddymu'r doll teithwyr awyr, lle y buaswn yn cytuno â Llywodraeth Cymru, ac i leihau'r dreth gorfforaeth, fel y dywedais lawer gwaith o'r blaen, er mwyn gwneud iawn am rai o'r cymhlethdodau ac anawsterau hanesyddol sy'n ein hwynebu yng Nghymru.
O ran gwelliannau'r Ceidwadwyr, unwaith eto, rwy'n derbyn y rhan fwyaf o'r rheini, er fy mod yn synnu braidd o weld y Blaid Geidwadol yn credu bod sail dreth gynhwysfawr yn annog mwy o ffyniant. Pan oeddwn yn y Blaid Geidwadol, roeddwn yn credu mai ni oedd plaid y trethi isel a oedd am leihau effaith trethiant ar yr economi oherwydd ei effaith ar gymhellion ac ati, ond mae'r amseroedd yn newid ac weithiau bydd pleidiau'n newid gyda hwy, yn amlwg. Felly roeddwn—
Dyna sylw direidus iawn. Credaf eich bod wedi camddeall ystyr yr hyn a olygem wrth 'cynhwysfawr'. Nid oeddem yn golygu sail dreth uwch, roeddem yn golygu sail dreth gynhwysfawr sy'n ystyried yr holl ffactorau ac yn darparu amgylchedd cystadleuol ar gyfer yr economi. Dyna a olygem.
Wel, ni allaf fod yn gyfrifol am aneglurder iaith y Ceidwadwyr, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad.
Yn y Pwyllgor Cyllid ychydig wythnosau yn ôl, pan roddodd yr Ysgrifennydd Cyllid dystiolaeth i ni, roedd yn ddiddorol clywed Eluned Morgan yn dweud mewn cywair gorawenus mai'r rhan fwyaf gyffrous o'i gyhoeddiad ynglŷn â threthi datganoledig ar ddechrau mis Hydref oedd bod gennym dreth newydd. Nawr, mae llawer o bethau'n fy nghyffroi, ond nid yw trethi newydd yn un ohonynt, ac mae'n debyg fod hynny'n dangos y gwahaniaeth rhwng meddylfryd y sosialydd ar y naill law a rhywun â greddfau libertaraidd fel finnau ar y llall.
Felly, rwy'n ystyried trethiant, wrth gwrs, yn anochel yn y gymdeithas fodern i dalu am y pethau sy'n cael eu darparu drwy'r Llywodraeth, ond serch hynny, rwy'n credu y dylem bob amser geisio creu system dreth nad yw'n amharu ar greu cyfoeth, ac nid wyf o'r farn, fel y dywed ein cynnig yn y paragraff olaf, y dylem roi beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau na chosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Economïau treth isel yn gyffredinol yw'r rhai mwyaf llwyddiannus yn tueddu i fod. Nawr, mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi fy meirniadu ar fwy nag un achlysur am grybwyll Singapôr. Y tro diwethaf i mi sôn am sefyllfa Singapôr, cyfeiriodd at fy ngweledigaeth ddystopaidd o Brydain fel economi debyg i Singapôr. Wel, buasai'n beth da iawn pe baem yn ailadrodd llwyddiant Singapôr yn y byd modern. Yn 1965, pan ddaeth Singapôr yn annibynnol, eu hincwm cyfartalog oedd $500 y flwyddyn; bellach mae'n $55,000 y flwyddyn—yr incwm cyfartalog yn Singapôr. Mae hynny wedi digwydd oherwydd diwylliant cefnogol i fusnes Llywodraeth Singapôr yn yr hanner canrif diwethaf.
Yn y cyfnod rhwng 1965 a 2015, cafwyd cynnydd o 3,700 y cant yn incwm cyfartalog pobl Singapôr, o'i gymharu â 300 y cant yn unig yn yr Unol Daleithiau. Ac os cymerwn y 15 mlynedd rhwng 2000 a 2015, roedd cynnydd o 35 y cant yn y safon byw yn Singapôr, o'i gymharu ag 8 y cant yn unig yn yr Unol Daleithiau. Maent i'w gweld yn deall sut i greu cyfoeth a ffyniant, felly efallai y gallwn ddysgu rhywbeth ganddynt. Mae 90 y cant o bobl Singapôr yn berchen-feddianwyr, ac nid oherwydd nad ydynt wedi cael addysg dda neu wasanaethau iechyd da ychwaith; ceir llawer o astudiaethau sy'n dangos bod gan Singapôr rai o'r safonau uchaf yn y byd.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddefnyddio ei rhyddid i osod trethi newydd ac i amrywio trethi er mwyn mynd i'r cyfeiriad anghywir yn gyfan gwbl yn fy marn i. Credaf fod y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth wedi'i gondemnio'n llwyr gan unrhyw un sydd ag unrhyw beth i'w wneud â'r diwydiant twristiaeth. Mae o bwys enfawr i economi Cymru, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, sef yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 5 y cant o boblogaeth y DU, a 3 y cant yn unig o dwristiaid y DU a 2 y cant yn unig o wariant ymwelwyr. Mae'n ymddangos i mi'n hollol gwicsotaidd i fod yn gosod trethi, neu'n cynnig gosod trethi ar dwristiaid, yn enwedig gan fod y Deyrnas Unedig, yn astudiaeth fforwm economaidd y byd o drethi ar dwristiaeth ledled y byd, wedi ei gosod yn safle 135 o 136 o wledydd o ran cystadleurwydd. Dylem fod yn gwneud popeth a allwn i annog, nid i anghymell, twristiaeth i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
Wrth gwrs, mae'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru wedi condemnio'r cynnig hwn yn llwyr. Mae Anthony Rosser, Gadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain yng Nghymru, a rheolwr gwesty Llyn Efyrnwy, yn dweud:
Mae gennym bryderon go iawn eisoes ynglŷn â'r crochan diweddar o gostau sydd wedi berwi drosodd yn y 18 mis diwethaf, gan gynnwys cynnydd mewn ardrethi busnes, codiadau cyflog, chwyddiant cynyddol a chostau bwyd ac ynni'n codi. Bydd cynyddu costau fel hyn, wrth gwrs, yn rhoi mantais annheg i'n cystadleuwyr yn Lloegr.
Felly, bydd fy mhlaid yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw gynnig i gyflwyno treth dwristiaeth os cyflwynir un i ni maes o law.
Nid yw'r cyhoeddiad diweddaraf yn dreth fel y cyfryw, ond mae'n cyfateb i dreth—y cynnig i gyflwyno isafbris am alcohol i Gymru. Y nod, mae'n debyg, yw datrys problemau yfed gormod o alcohol, ond ni all wneud hynny byth, o ystyried y llanast o dollau a threthi ar alcohol yn gyffredinol ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym y trethi alcohol uchaf yn Ewrop, yn gyffredinol—mae 77 y cant o bris potel o Scotch yn dreth—[Torri ar draws.] Iawn.
Felly, rydych yn dweud bod cost alcohol yn y wlad hon yn uwch oherwydd trethiant nag yn Sgandinafia.
Wel, rwyf fi yn dweud hynny, mewn gwirionedd. Rwy'n dweud bod cyfran y gost y mae defnyddwyr yn ei thalu'n uwch yn y Deyrnas Unedig nag yn unman arall yn Ewrop. Gallaf ddarparu ffigurau ar gyfer yr Aelod anrhydeddus os yw'n dymuno, ond gan mai tri munud yn unig sydd i fynd, nid wyf yn meddwl bod gennyf amser.
Ond gennym ni y mae'r gyfradd uchaf o doll ar gwrw yn Ewrop, sef 52.2c y peint. Mae hynny 13 gwaith maint y doll yn yr Almaen neu Sbaen. Beth sydd yna ynglŷn â Phrydain neu Gymru sy'n creu problem alcohol? Yn bendant nid bodolaeth alcohol rhad ydyw, ac felly rhaid inni edrych yn rhywle arall am ateb i'r problemau cymdeithasol y mae yfed gormod o alcohol gan leiafrif bach o bobl anghyfrifol yn eu creu.
Nid oes rheswm o fath yn y byd dros y tollau ar alcohol ym Mhrydain, gan fod toll alcohol yr uned ar gwrw yn 8c, ar gwrw cryf, mae'n 18c, ar seidr, mae'n 8c. Ond mewn gwirionedd caiff seidr cryf ei drethu ar gyfradd is na seidr cyffredin, ac mae seidr pefriol cryf bum gwaith y gyfradd ar seidr cyffredin. Mae gwin yn cael ei drethu ar 20c yr uned, a gwin pefriol ar 25c yr uned. Felly, nid oes unrhyw sail resymegol o gwbl dros y gwahaniaethau yn y ffordd y caiff alcohol ei brisio. Nid yw trethu cwrw cryfach drwy isafbris am alcohol ond yn debygol o arwain at newid o un math o alcohol i un arall, yn hytrach na lleihau'r problemau cymdeithasol y mae yfed gormodol yn eu hachosi.
Hefyd, ceir trethi eraill a allai fod yn yr arfaeth, fel treth ar siwgr. Mae'r rhan fwyaf o'r trethi hyn, wrth gwrs, yn mynd i osod y baich trymaf ar y rheini mewn cymdeithas sydd leiaf abl i ymdopi â baich treth ychwanegol. Mae 10 y cant o'r bobl dlotaf yn y Deyrnas Unedig yn gwario 20 y cant o'u hincwm gros ar gyfuniad o dollau a threth ar werth. Mae gennym system drethu atchweliadol iawn yn y wlad hon. Ni ddylem fod yn ceisio ei gwneud yn waeth nag ydyw.
Ond ceir egwyddor gyffredinol yma: y graddau y dylai'r wladwriaeth geisio dylanwadu ar ymddygiad pobl a sut y maent yn dewis byw eu bywydau drwy'r system dreth. Os oes problem trefn gyhoeddus yn cael ei chreu o ganlyniad i oryfed ar nos Sadwrn yng nghanol dinasoedd, gallwn ymdopi â hynny'n well trwy orfodi'r gyfraith am anhrefn gyhoeddus. Flynyddoedd yn ôl, arferai'r heddlu arestio pobl am ddisgyn yn feddw ar y stryd a chwydu yn y gwter. Bellach, mae bron yn ffurf ar adloniant poblogaidd i wylio hyn yn digwydd yng nghanol dinasoedd. Felly, nid pris alcohol yw'r broblem. Os yw pobl yn mynd i feddwi'n gaib ar nos Sadwrn, byddant yn gwneud hynny beth bynnag, waeth beth fo'r pris, oni bai eich bod yn mynd i gyflwyno cynnydd enfawr yn y tollau y tu hwnt i'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.
Felly, cyflwynwyd y ddadl hon heddiw fel math o apêl dros symud Cymru i gyfeiriad economi treth isel sy'n mynd i ymestyn y potensial ar gyfer creu cyfoeth i'r eithaf yn un o'r rhannau tlotaf o orllewin Ewrop. Nid yw honno'n anrhydedd rwyf am i Gymru barhau i'w chael. Ar hyn o bryd, fel y gwyddom, ni yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig, ymhlith yr holl genhedloedd a rhanbarthau Lloegr. Ugain mlynedd yn ôl, roeddem yn ail o'r gwaelod, bellach rydym ar y gwaelod. Onid ydym am wneud rhywbeth ynglŷn â hynny? Os cawn gyfle i ddefnyddio treth incwm fel modd o ddylanwadu ar yr economi, onid ddylem geisio gwneud Cymru yn rhyw fath o hafan dreth fewnol yn y Deyrnas Unedig. Nid am resymau libertaraidd o fod yn awyddus i bobl gadw cymaint â phosibl o'r arian y maent wedi'i ennill yn eu pocedi eu hunain rwy'n dweud hynny. Nid yw'r hyn rwy'n ei ennill a'r hyn rydych chi yn ei ennill a'r hyn y mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ennill yn perthyn i'r wladwriaeth. Felly, rwy'n credu, fel yr arferai Mr Gladstone ei roi, mewn arian yn ffrwytho ym mhocedi pobl. Os awn yn ôl at Adam Smith a The Wealth of Nations—hoffwn orffen fy araith gyda'r syniad hwn—lle mae'n dweud:
Digywilydd-dra a hyfdra o'r mwyaf... mewn brenhinoedd a gweinidogion, yw esgus gwarchod economi preifat pobl, a ffrwyno eu gwariant... Hwy eu hunain bob amser, ac yn ddieithriad, yw'r rhai sy'n gwario'n fwyaf afrad yn y gymdeithas. Gadewch iddynt edrych ar ôl eu gwariant eu hunain yn dda, a gallant ymddiried yn ddiogel mewn pobl breifat gyda'u gwariant hwy. Os nad yw eu hafradlonedd eu hunain yn difetha'r wladwriaeth, ni fydd afradlonedd eu deiliaid byth yn gwneud hynny.
Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Galwaf yn awr ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod datganoli treth i Gymru yn rhoi cyfle i wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.
2. Yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno treth arloesol i gefnogi amcanion polisi amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd.
3. Yn cefnogi cyflwyno treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a'r dreth gorfforaeth i Gymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, rwy'n anghytuno â bron pob un gair a wnaeth y siaradwr blaenorol ei ddweud, ond bydd yna ddim synnu am hynny. Ac, wrth gwrs, rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth.
Mae'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n sôn am bolisi trethiant yng Nghymru yn gam enfawr i ni fel cenedl ar ôl 800 o flynyddoedd heb yr hawl i godi trethi o gwbl. Ni fydd hi'n newyddion i lefarydd UKIP, ac rwy'n siŵr ei fod e ddim yn synnu erbyn hyn, ein bod ni bron a bod bob tro nawr yn cynnig gwelliant i'r cynnig gwreiddiol sydd yn dileu pob un gair yn y cynnig gwreiddiol. Ond mae hynny'n adlewyrchiad o'r ffaith ein bod ni'n dod o rannau gwahanol iawn o'r sbectrwm gwleidyddol a gyda delfrydau gwahanol gwleidyddol hefyd.
Yn y lle cyntaf, mae Plaid Cymru wedi bod o'r farn bod datganoli trethi yn cryfhau democratiaeth Cymru, oherwydd nawr mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried canlyniadau fiscal ac economaidd ei pholisïau ei hun a'i ddeddfwriaeth ei hun, gan fod yna nawr gyfrifoldeb ganddi dros rai o'r trethi sydd yn cael eu rhoi i bobl Cymru. Mae hyn o fudd i bobl Cymru ac yn gosod mwy o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y Llywodraeth yma.
Yn fwy cyffredinol, mae Plaid Cymru yn gweld polisi fiscal a threthu fel modd o greu amgylchedd busnes sydd yn sail i dwf economaidd cynaliadwy, yn ffordd o greu newid mewn ymddygiad personol, sydd yn dda ar gyfer pethau fel iechyd, a'n hymdrechion ni yn erbyn newid hinsawdd, ac yn bwysig iawn fel modd o godi arian er mwyn buddsoddi yn ein pobl ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac wrth gwrs i fi, fel rhywun sydd am weld Cymru yn wlad annibynnol, mae'n hollbwysig ein bod ni'n dod i'r afael ag iechyd fiscal ein gwlad ni ein hunain—nid dim ond, gyda llaw, oherwydd amcanion cyfansoddiadol, ond er mwyn creu cymunedau llewyrchus a gwasanaethau cyhoeddus modern.
Yn ein gwelliant ni heddiw, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi newydd a all gefnogi polisïau yn ymwneud â'r amgylchedd, iechyd a materion cymdeithasol. Rydym, wrth gwrs, yn enwedig yn croesawu'r ffaith bod yr ymgynghoriad yn ystyried treth ar blastig tafladwy—polisi maniffesto Plaid Cymru—ac rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cael ei chyflwyno yn y pen draw.
Wrth gwrs, rydym eisoes wedi cynnig treth ar ddiodydd siwgr—rhywbeth ar y pryd, gyda llaw, a oedd wedi wynebu gwrthwynebiad mawr gan nifer o bleidiau yn y Siambr yma, os ydw i'n cofio'n iawn, ond nawr yn rhywbeth sydd yn cael ei groesawu a'i gefnogi gan bawb, fel petai nhw wastad wedi ei gefnogi o'r lle cyntaf. Ond, beth bynnag, rydym ni'n falch bod yna gefnogaeth yn y pen draw.
Rydym hefyd yn ailadrodd ein galwad i ddatganoli treth gorfforaethol a tholl teithwyr awyr. Mae'r rhain yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru, ac nid oes rheswm pellach gan Lywodraeth San Steffan i wrthod eu trosglwyddiad i Gymru, yn enwedig wrth i ni ystyried pwerau fiscal y ddwy wlad ddatganoledig arall. Nid yw hi'n deg bod gan Lywodraeth San Steffan yr hawl i roi mantais fiscal a threthiant ac economaidd i wledydd wrth iddi ei gweld hi'n deilwng iddyn nhw eu cael nhw. Mae hi lan i bobl a Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru i benderfynu ar y pwerau rydym ni eu heisiau er mwyn gwella bywydau pobl yn y wlad yma.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i hefyd gymryd y cyfle yma i danlinellu pwysigrwydd y sefydliad yma a'r Llywodraeth yn sicrhau ymwybyddiaeth a diddordeb pobl Cymru ym materion fiscal y wlad. Gan ein bod ni nawr ar y trywydd o fod yn wlad fwy normal gyda phwerau trethiant, mae angen i ni newid sut rydym ni yn gwneud busnes yn y lle yma. Rydym ni wedi gweld heddiw gymaint o achlysur gwleidyddol ar y newyddion ydy diwrnod cyllid y wladwriaeth Brydeinig, gyda sgrwtini enfawr a gyda'r cyhoedd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y datganiad a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae angen i ni sicrhau proses cyllid cyffelyb yma, er mwyn codi ymwybyddiaeth dinasyddion Cymru am y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud—y penderfyniadau ariannol sy'n cael eu gwneud—a fydd yn effeithio arnyn nhw, ac er mwyn cyfleu'r lefel o bwysigrwydd, nawr, sydd yn bodoli yng nghyllideb genedlaethol Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2 Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017, sy'n datganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn rhoi mwy o atebolrwydd o ran gweithrediadau dydd i ddydd Llywodraeth Cymru.
2. Yn credu bod sail dreth gynhwysfawr yn annog mwy o ffyniant.
3. Yn gresynu at gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch. Rwy'n falch o gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Dyma un o'r dadleuon hynny, rwy'n teimlo, lle mae'r gwelliannau'n dweud y cyfan. Mae gwelliannau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Llywodraeth i gyd yn dweud 'dileu popeth', gan geisio dileu'r cynnig a dinistrio'i gilydd yn y broses. Roeddech yn hael iawn, Neil Hamilton, yn dweud y buasech yn derbyn y rhan fwyaf o'n gwelliant, o ystyried ei fod yn dileu'r rhan fwyaf o'ch cynnig—ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch yn yr ysbryd a fwriadwyd.
I fod yn deg â chynnig UKIP, mae'n gwneud rhai pwyntiau pwysig. Mae pwynt 2 yn gywir i ddweud y dylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar dwf economaidd a chreu swyddi sy'n talu'n dda. Dyna beth y byddech yn gobeithio amdano gan unrhyw Lywodraeth. Dylai'r Llywodraeth gefnogi'r mwyaf bregus mewn cymdeithas, ond rhaid i chi gynhyrchu'r cyfoeth cychwynnol er mwyn rhannu ei ddifidendau. A chyn i Steffan Lewis neidio ar ei draed a dweud fy mod yn sôn am economeg o'r brig i lawr o'r 1980au, nid dyna a wnaf; rwy'n sôn yn unig am bwysigrwydd cynhyrchu cyfoeth i unrhyw economi. Fodd bynnag, mae pwynt 1 y cynnig wedi'i lesteirio ychydig gan iaith braidd yn gyffroadol UKIP, megis defnyddio
'Cymru fel labordy treth arbrofol'.
Rhaid i mi ddweud, mae'n gwneud i Lywodraeth Cymru swnio ychydig fel Dr Bunsen a Beaker o The Muppet Show—roedd Mark Isherwood yn hoffi honna. Efallai fod hynny'n fwriadol gan UKIP. Mae rhywun yn amlwg wedi cael llawer o hwyl yn eich adran ymchwil. Edrychwch, rwy'n gweld safbwynt UKIP ar ran o hyn, ond a bod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae deddfwriaeth Bil Cymru 2016 yn galw am greu treth trafodiadau tir, treth stamp a threth gwarediadau tirlenwi newydd yng Nghymru trwy ddiffodd deddfwriaeth y DU sy'n cyfateb iddynt ar hyn o bryd yng Nghymru. Tu hwnt i hynny hefyd, mae datganoli treth incwm yn rhannol ym mis Ebrill 2019 yn deillio'n rhannol o'r ddeddfwriaeth DU honno, er fy mod yn deall ei fod yn rhan o drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Trysorlys ar ddarparu'r fframwaith cyllidol mawr ei angen.
Iawn, gan droi at y trethi newydd sydd wedi cael eu trafod yn helaeth: wel, unwaith eto, mae deddfwriaeth Bil Cymru yn caniatáu—byddai Llywodraeth Cymru yn dweud, 'annog' hyd yn oed—y Llywodraeth i edrych ar yr achos dros drethi newydd fel ffordd, ie, o godi refeniw, ond hefyd o gynyddu atebolrwydd. Bydd gan Aelodau a fu yn y lle hwn ers mwy o amser brofiad hwy o'r lle hwn fel awdurdod gwario'n unig, sef yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth newydd honno wedi ceisio ei newid. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn anghytuno â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r math o drethi y gellid eu hystyried yn rhan o'r broses honno. Mae ein gwelliant 2 yn nodi pwysigrwydd sail dreth gynhwysfawr, a grybwyllwyd yn gynharach. Wrth hynny, yr hyn a olygwn yw sail dryloyw, ddealladwy ac—yn fwyaf arbennig—un sy'n gystadleuol.
Rhaid i drethiant newydd yng Nghymru beidio â bod yn rhywbeth sy'n cael ei 'wneud i' bobl. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn chwerthin—gallai fod ynghylch rhywbeth arall; nid wyf yn siŵr. Yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud hyn ei hun yn y gorffennol: yn hytrach, dylai fod ymddiriedaeth, contract rhwng y Llywodraeth a'r bobl mewn perthynas â threthiant. Dylem feddwl ymhellach na, 'Iawn, sut y gallwn wasgu mwy o arian allan o'r sail dreth?' Ni waeth pa mor ddeniadol yw hynny i unrhyw Lywodraeth, yn naturiol, yn enwedig ar adeg pan fo cyfyngiadau economaidd yn dynn. Na, rhaid inni sicrhau bod anghenion yr economi'n flaenllaw—beth fydd yn helpu'r economi i feithrin busnesau a chreu'r amgylchedd treth a chyflogaeth cywir.
Ar fater y dreth dwristiaeth fel y'i gelwir, edrychwch, nid wyf yn bwriadu ailagor hyn heddiw. Credaf fod sylwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig—a'r pleidiau eraill, yn wir—mewn dadleuon blaenorol yn gwneud ein safbwynt ar hynny'n hollol glir. Yr hyn a ddywedwn yw bod Llywodraeth Cymru yn llwyr o fewn ei hawliau i ystyried trethi newydd, ond rhaid i'r broses honno neu'r mecanwaith hwnnw fod yn un sy'n cydnabod y cydbwysedd rhwng y niwed posibl a'r lles i'r economi, a gwneud yn siŵr nad yw'r ystyriaeth o drethi newydd ynddi ei hun yn fwy na'r manteision. Gwyddom sut y gall canfyddiadau dyfu, a gall pobl fod yn bryderus ynglŷn â'r awgrym hyd yn oed o newid system sy'n bodoli eisoes. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a'i ragflaenydd yn wir, na ddylid newid er mwyn newid yn unig. Roeddwn yn meddwl fod hwnnw'n ymadrodd da, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymadrodd da yn awr. Gwn ei fod yn un y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag ef. Felly, credaf y dylem fod yn glynu wrth hynny.
A gaf fi ddweud, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, nad oes unrhyw sôn am fenthyca yn y cynnig? Yn amlwg, un agwedd bwysig ar ddatganoli treth—mewn dadleuon yn y gorffennol yn y Siambr hon yn sicr—yw darparu ffrwd refeniw i gefnogi benthyca ar gyfer prosiectau cyfalaf—benthyca a fu'n brif ymborth i awdurdodau lleol ers amser maith, ac i gyrff eraill yng Nghymru, ond nid yw Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cymru wedi gallu cael mynediad ato. Felly, mae datganoli trethiant, os nad yw'n gwneud dim arall er lles—ac yn y tymor hwy, rhaid inni edrych ar effeithiau'r trethi—o leiaf mae'n caniatáu inni gael ffrwd fenthyca ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf pwysig. Yn gryno, Ddirprwy Lywydd, pa un a ydych yn ei hoffi ai peidio, mae datganoli trethi yn ffaith yn y tirlun gwleidyddol newydd a grëwyd gan Fil Cymru. Fel pob offeryn, gallwch ei ddefnyddio'n wael, neu gallwch ddefnyddio'r offeryn anghywir ar gyfer y gwaith anghywir, ond mae hynny'n fater i bob un ohonom yma.
Yn olaf, ar fater cydsyniad yr etholwyr, wel, wrth gwrs, nid refferendwm yn unig y mae hynny'n ei olygu; gall olygu etholiad cyffredinol y Cynulliad, a buaswn yn gobeithio, wrth symud ymlaen, y bydd pob plaid yma yn agored ynglŷn â'r cynigion treth yn eu maniffestos ac yn y cyfnod yn arwain at etholiadau Cynulliad yn y dyfodol.
Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych eto ar y ffordd y caiff deddfwriaeth newydd ei gweithredu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod Cymru yn y pen draw yn cael sail dreth gynaliadwy, gystadleuol a phoblogaidd—neu mor boblogaidd ag y bo modd—mewn blynyddoedd i ddod.
A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 3 Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Yn ffurfiol, Gadeirydd.
Diolch yn fawr iawn. Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae trethiant, er ei fod yn un o'r pynciau mwyaf ymrannol, yn un o'r ysgogiadau economaidd pwysicaf y gall Llywodraeth eu rheoli. Rydym i gyd yn cytuno â'r penderfyniad i roi pwerau i'r Cynulliad dros drethiant. Mae hyn yn dangos y newid o fod yn sefydliad sy'n gwario i un sydd bellach yn gyfrifol am godi rhywfaint o'r arian a wariwn ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae UKIP yn credu mewn economi treth isel. Hoffem weld trethi is ar fusnes er mwyn denu cyflogwyr mawr i Gymru—gostyngiad yn y dreth gorfforaeth efallai. Yn anffodus, mae aelodaeth o'r farchnad sengl yn gwahardd hyn. Mae'r UE ar hyn o bryd yn rhoi camau ar waith yn erbyn Iwerddon oherwydd eu cytundeb gydag Apple, ac yn erbyn Lwcsembwrg oherwydd eu cytundeb gydag Amazon. Yn dilyn Brexit, efallai y gallwn gymell Apple neu Amazon i leoli yng Nghymru gyda'i threthi isel, os gadawn y farchnad sengl. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn anghytuno â ni ynglŷn â'r penderfyniad hwn, ond rydym yn parchu penderfyniad pawb yma, ac mae gan bawb hawl i'w barn.
Hoffem weld treth incwm is hefyd. Rydym yn gwario llawer mwy y pen ar iechyd ac addysg nag a wnânt yn Lloegr. Yn wir, rydym yn gwario mwy y pen ar yr holl wasanaethau cyhoeddus. Yn Lloegr, maent yn gwario tua £8,800 y pen. Yma yng Nghymru, gwariwn ychydig dros £10,000 y pen—tua 10 y cant yn fwy na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, mae'r refeniw treth yn llawer llai, oddeutu £7,500 y person, a buasai unrhyw gynigion i ostwng treth incwm yng Nghymru yn cynyddu'r diffyg ariannol ac yn rhoi mwy o faich ar ein cymheiriaid yn Lloegr yn ogystal.
Felly, hoffai Llywodraeth Cymru gyflwyno llu o drethi newydd. Maent yn ystyried cyflwyno treth dwristiaeth, gan gyfeirio at yr ardoll fach ar dwristiaid a gyflwynwyd mewn mannau eraill yn y byd. Byddai treth dwristiaeth yn wael i dwristiaeth Cymru. Yn fy rhanbarth i yn unig, mae gennyf ddwy brif ardal dwristiaeth. Efallai na fydd ardoll fach yn atal twristiaid, ond byddai'r baich biwrocrataidd ac ariannol y buasai hyn yn ei osod ar ein busnesau twristiaeth yn niweidio'r economi dwristiaeth. Yr hyn nad yw cefnogwyr y dreth dwristiaeth yn ei ddweud wrthych yw bod y gwledydd sy'n mabwysiadu'r dreth hon yn cynnig cyfraddau TAW gostyngol i'r sector twristiaeth, sy'n helpu i wrthbwyso baich casglu a phrosesu treth.
Mae perygl i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag danseilio'r sector adeiladu tai bregus trwy wneud adeiladu tai yn ddrutach yng Nghymru. Ni allwn fforddio gweld y galw am adeiladu tai yng Nghymru yn arafu yn awr, ar yr adeg dyngedfennol hon, pan fo angen inni annog adeiladu tai fforddiadwy i alluogi cymaint o'n pobl ifanc i gael eu troed ar yr ysgol dai.
Mae cynigion i gyflwyno treth ar blastig tafladwy yn haeddu ystyriaeth bellach yn sicr, ond dylai fod ledled y DU os ydym i osgoi'r diwydiant deunydd pacio, sy'n gyflogwr mawr yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cyflwyno treth i bobl dalu am ofal cymdeithasol, ac mae pobl yn gofyn i beth y maent yn talu yswiriant gwladol a threthi, ac yn teimlo o bosibl mai dyblygu taliadau yw hyn.
Wrth gwrs, cafwyd mwy fyth o syniadau ar gyfer trethi newydd, a gellir eu harchwilio ymhellach: treth ar siwgr, treth ar welyau haul, treth ar ddŵr. Nid oes angen trethi newydd ar Gymru; nid oes arni angen cynyddu'r baich treth. Yr hyn y mae Cymru ei angen yw Llywodraeth Cymru sy'n gallu gwario'r trethi y mae'n eu cael yn ddoeth. Mae angen inni annog twf economaidd a dysgu o unrhyw gamgymeriadau a wnaed yn y gorffennol oherwydd mae camgymeriad yn gyfle, wedi'r cyfan, i ddysgu a'i wneud yn wahanol y tro nesaf. Fel person sy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â fy ngwlad, rwyf am weld Cymru'n cyrraedd ei photensial llawn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw blaid sydd am weld Cymru'n llwyddo. Diolch yn fawr.
Gyda chyllideb y DU heddiw, rwy'n credu bod rhai o oblygiadau datganoli treth, efallai, yn canu cloch yn fwy eglur nag o'r blaen, oherwydd mae'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniadau a wnaed ar y dreth nid yn unig yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu gwneud yn y Siambr hon, ond hefyd y rhai sy'n cael eu gwneud yn San Steffan. Roeddwn yn aelod o bwyllgor y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) wrth iddo gael ei basio a gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ers hynny, mae wedi cyhoeddi newidiadau ychydig wythnosau yn ôl i'r modd y bydd treth trafodiadau tir yn gymwys yma o gymharu â threth dir y dreth stamp yn Lloegr ar ôl mis Ebrill. Bydd llawer o bobl yn fy rhanbarth, yn enwedig yn y rhannau mawr lle mae prisiau tai'n gymharol isel, yn croesawu'r ffaith y byddant yn talu hyd at £500 yn llai o dreth stamp os yw'r tŷ rhwng £125,000 a £400,000 rwy'n meddwl—oni bai, wrth gwrs, eu bod yn brynwyr tro cyntaf.
Croesawn y toriad trawiadol hwn yn y dreth, a byddwn yn ei fwynhau efallai am ychydig dros bedwar mis yng Nghymru tan y bydd Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl yn cael gwared arno pan fydd y dreth honno'n cael ei datganoli ac yn dod yn dreth trafodiadau tir. Nawr, nid wyf yn gwybod ai dyna oedd ei fwriad. Nododd ei fwriadau ychydig wythnosau yn ôl, ac efallai y bydd yn eu hailystyried yn awr yng ngoleuni'r penderfyniad a wnaed yn San Steffan, oherwydd efallai y gwelwn hwb bach i brisiau tai yn Sir Fynwy dros yr wythnosau nesaf. Nid yn unig y mae tollau pontydd Hafren wedi'u diddymu, ond mae'n bosibl y bydd prynwyr tro cyntaf sy'n prynu tŷ gwerth mwy na £150,000 yn arbed hyd at £5,000 os ydynt yn symud ac yn llwyddo i gwblhau rhwng nawr a dechrau mis Ebrill, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mabwysiadu cyfrifoldeb am eu trethu. Yng nghyd-destun y ddadl hon, tybed a allai ddweud yn glir wrth y bobl hynny a yw'n gwneud synnwyr iddynt ruthro i brynu tŷ yn awr er mwyn ceisio osgoi ei gyfraddau uwch o fis Ebrill—neu a wnaiff ailystyried y cyfraddau hynny yng ngoleuni'r penderfyniad a wnaed heddiw?
Tybed hefyd a fydd yn ystyried bachu mwy o arian o'r prisiau uwch—nid prisiau tai yn unig, ond prisiau eiddo masnachol. Un o'r cyhoeddiadau arwyddocaol a wnaeth yw y byddwn yn codi cyfradd uwch o fis Ebrill ymlaen ar eiddo masnachol gwerth uwch, ac un peth y credaf fod Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn eithaf da yw'r hyn a wnaeth i gefnogi a datblygu'r farchnad swyddfeydd yng Nghaerdydd, ac efallai i geisio denu cyflogaeth, gan gynnwys llawer o bobl o fy rhanbarth. Ond os yw'r dreth trafodiadau'n codi o 5 y cant i 6 y cant ar yr eiddo masnachol hwnnw a'r datblygiadau swyddfeydd mawr hynny, tybed a fydd rhai o'r datblygwyr yn dewis canolbwyntio eu gweithgareddau ar Loegr yn hytrach na gwneud y pryniannau, ac mewn llawer o achosion, y datblygiadau, y byddent fel arall yn eu gwneud yng Nghymru o bosibl, yn enwedig os ydynt yn ofni mai dechrau'r ymdrech i fachu mwy o arian ganddynt yw hon.
Mae gennym sail dreth gynhwysfawr—dyna a ddywedwn yn adran 2, ac rwyf bob amser wedi deall bod y sail dreth wedi'i lluosi gyda chyfradd y dreth yn arwain at gyfanswm y derbyniadau treth. Rwy'n meddwl bod Nigel Lawson wedi egluro hyn yn dda iawn yn ei ddarlith Mais ym 1984, mai'r hyn yr oedd eisiau ei wneud oedd ehangu'r sail dreth ond gostwng y gyfradd dreth. Roedd yn ffordd lawer gwell o godi arian, felly rwy'n falch fod gennym hynny yn ein gwelliant i'r cynnig heddiw. Ond rwy'n meddwl tybed, wrth ddatblygu'r sail dreth gynhwysfawr honno yng Nghymru—. Rwy'n llongyfarch y Llywodraeth unwaith eto ar yr hyn y maent yn ei wneud ar y cynnig gofal plant, a'r ffocws ar roi hynny ar gyfer plant rhieni sy'n gweithio a cheisio helpu pobl i allu gweithio. Un o oblygiadau hynny, o bosibl—a bydd hyn o fis Medi 2020 ymlaen, heblaw am y cynlluniau peilot, a phan fydd gennym ddatganoli treth—yw y gallai beri i bobl dalu mwy o dreth incwm, os yw'r cynnig hwnnw'n helpu mewn gwirionedd i gynyddu cyflogaeth, neu efallai yr oriau y mae pobl yn eu gweithio. Am y tro cyntaf, buasai'r budd hwnnw, o ystyried y setliad datganoli o ran y dreth, yn llifo drwodd i Gymru a'r Trysorlys mewn ffordd nad oedd yn ei wneud cynt o bosibl. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y Llywodraeth yn cydweithredu'n fwy agos gyda Llywodraeth y DU ac yn edrych yn fanwl iawn am ffyrdd y gall leihau lefelau osgoi talu treth, gan ddefnyddio'r dulliau a'r pwerau sydd ganddi.
Rwy'n brin o amser yn awr, ac ni fyddwn yn elwa tan fis Ebrill 2019, ond mae gennyf rai syniadau ynglŷn â hynny y buaswn yn falch iawn o'u trafod ymhellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Ers cael fy ethol yn 2011, mae'r rhan fwyaf o'r trafodaethau a glywais yn y Senedd ynghylch trethiant wedi bod ynglŷn â'i leihau—er nad wyf mor eithafol â Neil Hamilton y prynhawn yma—yn hytrach na'r angen am drethiant i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Pan edrychwch ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi'r gwerth am arian a gawn o'n system drethiant mewn persbectif.
Caiff treth ei chodi er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn gael gwasanaethau cyhoeddus o'r un ansawdd â Sgandinafia a chael system drethu sy'n debycach i un Unol Daleithiau America. Nid ar hap neu drwy serendipedd y mae gan y gwledydd sydd â lefelau trethu uwch y gwasanaethau cyhoeddus gorau ac mai'r gwledydd sydd â lefelau trethu is sydd â'r gwasanaethau salaf. Oherwydd bod trethiant yn angenrheidiol ar gyfer codi arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom eu hangen—gwasanaethau megis y ffyrdd teithiais ar eu hyd i'r Cynulliad heddiw, diogelwch pobl mewn gwaith, diogelwch bwyd, addysg, y gwasanaeth iechyd rwyf fi a fy etholwyr yn dibynnu arno, a phlismona ein strydoedd. Mae cost ansawdd gwasanaethau cyhoeddus, boed yn iechyd, addysg neu'r seilwaith, yn sylweddol i'r pwrs cyhoeddus, a'r unig ffordd o dalu amdanynt yw drwy drethu. Gellir trethu incwm, elw, treuliant, gwariant neu werth tir ac eiddo, neu gyfuniad o bob un ohonynt. Ond os yw pobl eisiau gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd, dyma'r trethi sydd eu hangen i dalu amdanynt.
Er nad oes neb yn hoffi talu trethi a bod rhai unigolion cyfoethog a chwmnïau amlwladol yn arbenigwyr ar leihau eu taliadau treth, i gwmnïau amlwladol, mae'r dreth gorfforaeth yn daliad dewisol y gellir lleihau ei gwerth trwy bethau fel taliadau rhyng-gwmnïol am hawliau eiddo deallusol, neu drosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu sicrhau bod y man gwerthu nwyddau i bobl ym Mhrydain yn digwydd y tu allan i Brydain a bod elw'n digwydd oddi ar ei glannau. Mae pob un o'r pethau hyn wedi'u defnyddio gan rai o'r cwmnïau mwyaf er mwyn lleihau swm y dreth gorfforaeth a dalant ym Mhrydain.
Ar ddatganoli'r dreth gorfforaeth, er fy mod yn amau bod Plaid Cymru eisiau ei wneud er mwyn ei leihau, oni bai ei fod wedi ei leihau i bron ddim, ni fydd yn cystadlu â diffynwledydd alltraeth Prydeinig, megis Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, i gwmnïau amlwladol. Nid wyf yn meddwl bod llawer o fywyd ar ôl yn y dreth gorfforaeth. Ar ryw adeg, bydd yn rhaid cael rhywbeth yn ei lle gan mai cwmnïau llai o faint sy'n gweithredu yn y wlad y maent wedi'u lleoli ynddi'n unig sy'n ei thalu.
Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn golygu, os nad yw rhai pobl yn ei thalu, naill ai bydd gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef neu bydd yn rhaid i eraill wneud iawn am y diffyg. Bob tro y gwneir toriadau treth, cânt eu dangos fel rhywbeth buddiol ac maent yn ymddangos felly i'r rhai sy'n talu llai o dreth ac sydd â mwy o arian yn eu pocedi. Caiff effaith y gostyngiadau hyn yn incwm y Llywodraeth ar wariant cyhoeddus ar wasanaethau megis iechyd, llywodraeth leol ac addysg eu hanwybyddu'n llwyr hyd nes y bydd y toriadau'n dechrau effeithio ar bobl. Mae rhai o'r bobl sydd o blaid lleihau gwariant cyhoeddus ymhlith y cyntaf i wrthwynebu unrhyw doriadau mewn gwasanaethau.
Po fwyaf anodd yw treth i'w hosgoi, y mwyaf amhoblogaidd yw hi ymhlith y cyfoethog a'r pwerus. Y trethi anoddaf o lawer i'w hosgoi yw trethi eiddo—ardrethi annomestig, y dreth gyngor. Nid oes unrhyw driciau, megis defnyddio trafodion mewnol y cwmni neu statws cwmni nad yw wedi'i leoli yng Nghymru, er mwyn osgoi talu'r dreth. Nid yw'r adeiladau, pa un a ydynt yn adeiladau preswyl, gweithgynhyrchu, masnachol neu fanwerthu, yn symudol a daw treth yn daladwy ar yr eiddo ac mae'n rhaid ei thalu.
Hefyd, rwy'n croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno trethi arloesol a'r rhestr ardollau i gyllido gofal cymdeithasol, treth ar blastig tafladwy, treth—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch i chi am ildio. Rwy'n credu y byddwch yn cofio adroddiad Sefydliad Bevan, 'Tax for Good: New taxes for a better Wales', a gyhoeddwyd y llynedd ac a oedd yn cynnwys argymhelliad i drethu deunydd pacio bwyd ar glud. Ac wedyn, wrth gwrs, fel y dywedoch, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgynghori'n eang ar syniadau ar gyfer trethi newydd ac wedi cyhoeddi'r rhestr fer, gan gynnwys, wrth gwrs, y dreth ar blastig tafladwy. Heddiw, clywn fod y Canghellor yn dilyn arweiniad ein canghellor ni, Mark Drakeford, drwy ystyried treth o'r fath. Felly, a ydych yn cytuno bod Cymru ar y blaen yn ystyried treth o'r fath i warchod yr amgylchedd, fel roeddem gyda'r ardoll ar fagiau plastig?
Ydw, yn sicr. Ers amser hir iawn, rwyf wedi cefnogi treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy, yn arbennig y deunydd a ddefnyddir i bacio bwyd mewn bwytai tecawê.
Ar y dreth dwristiaeth, mae'n gyffredin ledled gweddill y byd. Mewn gwirionedd, talais dreth dwristiaeth pan oeddwn yn Dubrovnik; ond nid oeddwn yn gwybod fy mod yn ei thalu. Darganfûm hynny pan edrychais ar leoedd a oedd â threth dwristiaeth.
Os edrychwch ar gost ystafelloedd gwestai—am resymau personol, rwy'n treulio llawer o amser yn aros mewn Travelodges ym Mangor a Chaernarfon, a gall pris ystafell yno amrywio yn eithaf dramatig. Nid yw'n ddim i'w wneud â threthiant; mae'n ymwneud â chyflenwad a galw.
Os ydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus o safon, rhaid inni dalu amdanynt drwy drethiant. Nid dechrau ymgyrch dros drethi uwch yw hyn, ond cysylltu trethiant a gwariant. A gaf fi ddweud—? Rwyf am fyw mewn gwlad lle bydd yr ymatebwr cyntaf, pan fyddwch yn cael damwain, yn archwilio eich pwls, nid eich polisi yswiriant.
Diolch yn fawr iawn a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Lai na phum mis yn ôl, yn y Siambr hon, trafodasom y pŵer i greu trethi newydd yma yng Nghymru. Pleidleisiodd y Cynulliad yn unfrydol o blaid cynnig a oedd yn cydnabod yr angen i brofi'r mecanwaith newydd sydd wedi'i greu ar gyfer datblygu treth newydd a chroesawu'r ystod eang o syniadau posibl ar gyfer defnyddio'r pŵer hwn. Yn wir, yn ei gyfraniad i'r ddadl honno, dywedodd Neil Hamilton sut y byddai ef yn sicr yn cefnogi cynnig y Llywodraeth. Dywedodd sut roedd o blaid cynnal y cysylltiad rhwng penderfyniadau Llywodraeth ac atebolrwydd amdanynt drwy'r system godi trethi. Cytunodd hyd yn oed fod datganoli trethi yn rhoi cyfleoedd i ni.
Wel, lai na phum mis yn ddiweddarach, mae'r cyfleoedd hynny bellach wedi troi'n gwynion fod perygl y gallai arbrofion niweidio enw da'r sefydliad hwn—y math o arbrofion a welsom dros gyfnod datganoli ar ei hyd: yr arbrawf a roddodd deithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn a phobl anabl; yr arbrawf a waharddodd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig ac ymestyn hynny i geir sy'n cludo plant flwyddyn neu ddwy yn ôl; arbrawf yr ardoll ar fagiau plastig; arbrawf rhoi organau. Mae'r lle hwn yn seiliedig ar arbrofi. Dyna oedd datganoli i fod bob amser: labordy byw lle y gall gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig roi cynnig ar syniadau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, gweld beth sy'n effeithiol. Ac mae meddwl bod arbrofi yn rhywbeth sy'n arwain at niweidio enw da yn mynd yn groes i'r ffeithiau am y ffordd y mae datganoli wedi gwreiddio ym meddyliau pobl ac yn y lleoedd rydym yn byw. Ac rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny. Yn sicr rydym yn bwriadu parhau i'w wneud mewn perthynas ag isafbris uned—nid mesur treth, wrth gwrs, ond ffordd arall y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yma yng Nghymru drwy ddefnyddio dulliau polisi newydd ac arloesol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Nid wyf yn anghytuno â chi fod datganoli yn rhoi cyfle inni roi cynnig ar bethau newydd ac yn wir, fe restroch chi lawer o'r pethau rwyf wedi bod yn eu cefnogi'n frwd, ond a ydych yn derbyn weithiau pan fyddwch yn gwyntyllu'r posibilrwydd o dreth newydd, fod potensial i achosi niwed i enw da Llywodraeth neu wlad mewn perthynas â diwydiannau penodol a allai fod destun y dreth honno. Mae'n bosibl iawn fod hynny i'w weld yn digwydd gyda'r syniad o dreth dwristiaeth—y ffaith yn syml fod syniad wedi'i drafod ac nad yw'r drws wedi'i gau arno eto.
Wel, ni fuaswn yn cytuno ag ef am hynny, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn meddwl fod trafod syniadau'n niweidio enw da, hyd yn oed syniadau y gallem fod yn anghytuno yn eu cylch. Credaf ei bod hi'n bosibl cael dadl am syniadau sy'n cyfrannu at enw da'r sefydliad hwn yn hytrach na'i leihau, fel y mae'r cynnig yn awgrymu.
Bydd rhai o'r Aelodau yn y Siambr, rwy'n gwybod, yn cofio'r hanesydd enwog, Alan Taylor—A.J.P Taylor—ac yn cofio ei adolygiad o lyfr gan gyd-hanesydd, Hugh Trevor-Roper, pan ddywedodd Alan Taylor y buasai'r llyfr 'wedi niweidio enw da Trevor-Roper fel hanesydd difrifol pe bai un wedi bod ganddo erioed', ac ni allaf ond meddwl bod y cynnig yn gwneud yr un peth mewn perthynas ag enw da Plaid Annibyniaeth y DU. Nid yw'n ymwneud â niwed i enw da Llywodraeth Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallai fod wedi gwneud niwed i enw da Plaid Annibyniaeth y DU, pe bai wedi bod ganddi enw da i'w niweidio erioed.
Nawr, wedi troi ei gefn ar arbrofi, mae'r cynnig wedyn yn troi ei gefn ar drethiant ei hun. Roedd cyflwynydd y cynnig yn cynnig ei honiad arferol inni mai torri trethi yw'r ffordd i ffyniant. Gyda'r cyfuniad rhyfedd hwnnw o frwdfrydedd dros libertariaeth a Singapôr, dywedodd wrthym—mae'n anodd iawn cynnal y ddau beth yn eich meddwl ar yr un pryd, rwy'n cytuno—. Methodd dynnu unrhyw sylw at y ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth yn gyffredinol fod trethi is yn hybu twf, er y gall trethi wedi'u cynllunio'n wael ei lesteirio, ac yn wir, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi bod trethi a ddefnyddir yn effeithiol, er enghraifft, i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn cefnogi twf economaidd yn hytrach na'i rwystro. Mae iaith baich a chosb yn y cynnig yn adrodd ei stori ei hun, ac yn gosod y blaid a gynigiodd y cynnig ar wahân i'r pleidiau eraill yn y Siambr hon.
Mewn cyferbyniad, roedd Steffan Lewis, wrth gynnig gwelliant Plaid Cymru, yn cydnabod y cyfleoedd y mae datganoli trethi'n eu cynnig a synnwyr archwilio posibiliadau treth arloesol. Tynnodd sylw at ffurf benodol ar dreth ar blastigau ac ailddatganodd yr alwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Nid oes fawr ddim yn y gwelliant y buasem yn anghytuno ag ef, ac mae llawer rydym yn cytuno yn ei gylch. Bydd yr Aelodau'n deall bod y drefn y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma'n golygu y bydd yn rhaid inni wrthwynebu gwelliant Plaid Cymru er mwyn cyrraedd gwelliant y Llywodraeth, ond mater gweithdrefnol yw hynny yn hytrach na mater yn ymwneud â sylwedd yr hyn yr oedd y gwelliant yn ei ddweud. Yn wir, gallem fod wedi cefnogi dwy elfen o'r tair yng ngwelliant y Blaid Geidwadol. Fel Nick Ramsay, nid wyf am oedi dros y dreth dwristiaeth chwaith, dim ond dweud nad oes unrhyw gynnig i gyflwyno treth ar y diwydiant twristiaeth. Ceir dadl ar bedair treth newydd bosibl, ac nid oes yr un ohonynt ar y cam cynnig eto.
Fel y dywedodd Jane Hutt, ni allaf help ond sylwi, fodd bynnag, fod Canghellor y Trysorlys wedi mabwysiadu dau o'n pedwar syniad dros y dyddiau diwethaf. Heddiw, mae wedi argymell treth newydd ar blastigau a dros y penwythnos roedd hi'n amlwg fod treth ar dir gwag yn ei feddwl pan gwynodd am y ffordd nad yw'r rhai sydd â chaniatâd cynllunio yn Llundain yn manteisio arno, gan adael y tir yn wag yn hytrach na gwneud defnydd cynhyrchiol ohono.
Manteisiaf ar y cyfle i ymateb yn benodol i'r pwynt a nododd Mark Reckless am y dreth trafodiadau tir. Caf fy nhemtio i nodi ei bod yn ffodus i drethdalwyr Cymru fod y Llywodraeth wedi gwrthod ei welliannau yn ystod hynt y Bil hwnnw, gan y buasai hynny wedi ei gwneud hi'n ofynnol i mi fod wedi gosod rheoliadau bellach gerbron y Cynulliad hwn ar fandiau a chyfraddau treth. Gallaf weld bod Simon Thomas yn cofio'r ddadl pan ddywedais hynny. Buasai'n rhoi ymdeimlad ffug o sicrwydd i bobl yng Nghymru pe bawn yn cyflwyno'r rheoliadau hynny gerbron y Cynulliad hwn cyn i mi gael cyfle i ystyried effaith unrhyw newidiadau a wnaed yng nghyllideb y Canghellor ar y cyfraddau a'r bandiau a argymhellais. Gan nad yw'r rheoliadau hynny gerbron y Cynulliad, caf gyfle yn awr i ystyried y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw, ac yn sicr byddaf yn gwneud hynny. A bydd y rheoliadau y byddaf yn eu cyflwyno yn rhai a ddatblygir yng ngoleuni'r ffeithiau llawn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Mae'n sôn am beidio â meithrin ansicrwydd, ond y prynwyr tro cyntaf hynny, yn enwedig yn yr ardaloedd gwerth uwch, a allai fod yn rhuthro i mewn oherwydd eu bod yn ofni ei fod yn mynd i godi eu cyfradd dreth fis Ebrill nesaf, fel y dywedodd ynghynt—a fuasai'n ddoeth iddynt wneud hynny neu a ddylent ymatal rhag gwneud hynny?
Gadewch i mi o leiaf roi sicrwydd iddynt ynglŷn â hyn: ni fyddant yn cael eu bwrw drosodd yn y rhuthr, oherwydd mae nifer y prynwyr tro cyntaf yng Nghymru sy'n prynu tai gwerth £300,000 yn golygu y buasai'n berffaith bosibl ffurfio ciw trefnus er mwyn cael y cyngor y mae'r Aelod yn ei geisio. A byddaf yn gwneud fy ngorau i ddatrys yr ansicrwydd a grëwyd gan y Canghellor heddiw drwy gyflwyno argymhellion y gallaf fyfyrio arnynt yng ngoleuni'r cyhoeddiadau heddiw.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi nodi gerbron y Cynulliad o'r blaen pa ffordd y mae'r Llywodraeth hon am fynd mewn perthynas â'i chyfrifoldebau treth, nid yn yr hen ffordd o gynhyrchu triciau consurio allan o hetiau, fel rydym wedi clywed y prynhawn yma, ond mewn ffordd sy'n agored, yn gynhwysol ac yn annog y cyhoedd i fod yn rhan o'r ystyriaeth hon. Ym mis Gorffennaf, fe bleidleisiom yn unfrydol o blaid dull a oedd yn seiliedig ar y ffordd honno o wneud pethau. Rwy'n gobeithio y gallwn ailddatgan ein hymrwymiad i'r ffordd newydd hon o arfer ein cyfrifoldebau cyllidol yng Nghymru unwaith eto y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ddilyn y Gweinidog Cyllid. Rwyf bob amser yn mwynhau ei hiwmor athroaidd—a'i gyfeiriad at A.J.P. Taylor, hanesydd mawr. Roedd A.J.P. Taylor yn mynd ati'n lew i hyrwyddo pobl amhoblogaidd ac achosion amhoblogaidd, felly rwy'n siŵr y buasai wedi bod yn fwy cydymdeimladol tuag ataf fi na thuag at yr Ysgrifennydd cyllid. Mae ei lyfrau'n cynnwys llawer o wirioneddau mawr; rwy'n ei gofio'n dweud unwaith, pan ofynnwyd iddo beth oedd gan y dyfodol i'w gynnig, fod haneswyr yn cael digon o anhawster rhagweld y gorffennol heb sôn am ragweld y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn gorfod ei wneud, wrth gwrs, mewn perthynas ag effaith cyllideb y DU a'r newidiadau y gallai eu gwneud o ganlyniad iddi, os o gwbl.
Ond roedd pwynt Mark Reckless yn un diddorol, ac mae'n enghraifft ddiddorol o'r posibilrwydd o gystadleuaeth dreth o fewn y Deyrnas Unedig, a ddylai, yn fy marn i, arwain at wthio cyfraddau treth i lawr. A chredaf mai'r pwynt arall a wnaeth Mark Reckless sy'n werth ei gofio yw ymadrodd Lawson y dylem ganolbwyntio ar ehangu'r sail dreth ac yna ostwng cyfraddau treth. Yr hyn a brofwyd yn y 1980au yn sicr oedd cynnydd enfawr mewn refeniw cyhoeddus ar y naill law a gostyngiadau sylweddol yng nghyfraddau trethi, yn enwedig trethi personol. Felly, roedd y ffyniant mawr ar ddiwedd y 1980au, a ddrylliwyd gan fecanwaith cyfraddau cyfnewid, wrth gwrs, yn deillio'n llwyr, yn fy marn i—[Torri ar draws.]—o doriadau treth yng nghyllidebau Howe a Lawson yn y 1980au. Pe na bai Nigel Lawson wedi bod ag obsesiwn ar aelodaeth Prydain o'r mecanwaith cyfraddau cyfnewid, ni fuasai polisi economaidd y Llywodraeth ar yr adeg honno wedi cael ei danseilio.
Rydym wedi cael dadl ddiddorol. Cefais fy ngheryddu gan Nick Ramsay am iaith liwgar y cynnig, ond rwy'n cofio, heb fod mor bell yn ôl â hynny, Steffan Lewis yn ysgrifennu erthygl mewn papur newydd yn dweud sut roedd y Senedd yn rhy ddiflas, felly credaf y dylai ganmol fy iaith liwgar yn y cynnig heddiw mewn gwirionedd. I ddychwelyd at araith Nick Ramsay hefyd, ni ddywedais fy mod yn derbyn gwelliannau'r Ceidwadwyr; dywedais fy mod yn cytuno â hwy. Mae derbyn a chytuno'n ddau beth hollol wahanol, wrth gwrs.
Ond mae yna gytundeb cyffredinol o gwmpas y Cynulliad ar ddatganoli trethi. Yn bersonol, fel y dywedais o'r blaen, rwy'n gryf o'u plaid. Wrth gwrs, mae gennym gyfle i arbrofi—nid wyf yn erbyn arbrofi fel y cyfryw. Yr hyn rwy'n ei erbyn yw arbrofi gyda threthi sy'n debygol o niweidio economi Cymru a ffyniant ein cenedl. Felly, natur y defnydd a wneir o'r rhyddid sydd gennym yn awr, ac y gobeithiaf y bydd yn cael ei ymestyn maes o law, dyna yw hanfod y ddadl hon.
Gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau diddorol yn ei araith na allwn anghytuno â hwy. Wrth gwrs, os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd, rhaid i ni dalu amdanynt, ond gallwch gynllunio system dreth sy'n mynd i gynyddu refeniw cyhoeddus ar y naill law neu ei leihau ar y llaw arall, a'r hyn sydd ei angen arnom yw system dreth sy'n mynd i wneud hynny. Wrth gwrs, nid ydym yn sôn am breifateiddio'r gwasanaeth iechyd neu addysg, ac felly bydd yn rhaid iddynt gael eu hariannu drwy drethiant ar ryw ffurf neu'i gilydd. Ond os edrychwch ar hanes trethiant ym Mhrydain ers y rhyfel, er gwaethaf gwahaniaethau enfawr mewn polisïau treth o dan Lywodraethau olynol, mae derbyniadau treth fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros wedi aros yn rhyfeddol o gyson ar oddeutu 35 y cant, hyd yn oed yn y blynyddoedd o drethu uchel dan Lywodraethau Llafur, a threthu cymharol isel Llywodraethau Torïaidd. Dylai hynny ddweud rhywbeth wrthym—os ydym yn mynd i lwyddo i wneud y wlad yn fwy ffyniannus yn y dyfodol, dylem anelu at gael trethi symlach a threthi is.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.
Trown at y bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gymorth i'r lluoedd arfog. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 15, yn erbyn y cynnig 32, neb yn ymatal. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 2: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn erbyn, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 3: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6571 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.
3. Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; a
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
5. Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 47, neb yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar ddadl UKIP ar drethi newydd yng Nghymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 5, neb yn ymatal a 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 5, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 8, neb yn ymatal a 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant hwnnw.
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 1: O blaid: 8, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar welliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, roedd 8 yn ymatal a 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 2: O blaid: 10, Yn erbyn: 29, Ymatal: 8
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gwelliant 3: O blaid: 42, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6566 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 42, neb yn ymatal a 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM6566 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 42, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr at y gyntaf o'r dadleuon byr y prynhawn yma. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny. Os nad ydych yn gadael, eisteddwch os gwelwch yn dda. Symudaf ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Llyr.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i drafod mater y mae angen rhoi sylw iddo ar fyrder, yn fy marn i, sef yr ymateb diogelu ar gyfer plant sy'n mynd ar goll neu sydd mewn perygl o fynd ar goll. Edrychaf ymlaen, hefyd, at glywed cyfraniadau gan Dawn Bowden a David Melding yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Nawr, mae'n fater amserol i'w drafod, oherwydd mae protocol plant coll cyfredol Cymru yn cael ei adolygu fel rhan o'r broses o ddiweddaru gweithdrefnau amddiffyn plant Cymru gyfan. Mae'r adolygiad hwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae'n bwysig, wrth adolygu'r protocol, ein bod yn pwyso ar arbenigedd amrywiaeth o leisiau i lywio'r modd y gallwn ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal yn well.
Dau lais yr hoffwn eu dwyn i sylw'r Gweinidog yw Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru, sydd, yn gynharach eleni, wedi ysgrifennu adroddiad o'r enw 'Bwlch yn y Wybodaeth', a oedd yn archwilio'r ymateb diogelu ar gyfer plant coll yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys rhai argymhellion pendant a chyraeddadwy, a fuasai'n helpu i wella ein hymateb diogelu ar gyfer y plant hyn pe baent yn cael eu gweithredu.
Efallai y bydd llawer o bobl yn synnu faint o blant coll a geir yng Nghymru, a'r llynedd, aeth tua 4,500 o blant a phobl ifanc ar goll o'u cartrefi neu o ofal. Ac aeth y plant hyn ar goll fwy na 11,000 o weithiau i gyd. Yn yr ardal heddlu sy'n plismona fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, aeth dros 700 o blant ar goll bron 1,500 o weithiau yn ystod 2015-16.
Nawr, mae llawer o resymau pam y mae plant yn cael eu gorfodi, neu'n teimlo gorfodaeth i fynd ar goll. Efallai y bydd plentyn yn wynebu amrywiaeth o fathau o galedi yn y cartref, megis esgeulustod, cam-drin neu drais yn y cartref. Efallai fod plentyn mewn gofal yn anhapus ynglŷn â'i leoliad neu efallai ei fod wedi cael ei roi mewn gofal y tu allan i'w ardal leol, gan olygu nad yw'n gallu troi at rwydweithiau cymorth a bydd hynny'n aml yn peri iddynt fynd ar goll i'r lle maent yn ei adnabod fel eu cartref. Hefyd, mae'n bosibl fod pobl y credent eu bod yn ffrindiau neu'n gariadon yn meithrin perthynas amhriodol â phlant oddi cartref neu o ofal neu'n camfanteisio arnynt. Dyma rai o'r ffactorau gwthio a thynnu y mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu hwynebu sy'n eu cymell i fynd ar goll.
Yn anffodus, er efallai y bydd y plant hyn yn credu eu bod yn dianc o ffynhonnell o berygl neu anhapusrwydd, maent yn wynebu mwy o risg o niwed, wrth gwrs, tra'u bod ar goll. Mae plant coll yn wynebu risg o gamfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol neu fasnachu mewn pobl, ac yn ôl ymchwil Cymdeithas y Plant, mae 25 y cant o blant a oedd wedi diflannu dros nos naill ai wedi cael eu brifo neu eu niweidio neu wedi cysgu allan neu gyda rhywun roeddent newydd gyfarfod â hwy, neu wedi dwyn neu gardota er mwyn goroesi. Nawr, mae'r plant hyn yn wynebu risgiau cymhleth, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ymateb amlasiantaethol sy'n cadw'r plant yn ddiogel.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes sy'n pennu i raddau helaeth yr ymateb y bydd plant yn ei gael pan fyddant yn mynd ar goll, ac mae lle i wella'r ymateb presennol i blant coll. I wneud hyn, rwyf am strwythuro fy nghyfraniad y prynhawn yma ar y broses ddiogelu a ddilynir pan roddir gwybod bod plentyn ar goll.
Felly, yn gyntaf, rwyf am droi at rannu gwybodaeth. Pan roddir gwybod gyntaf fod plentyn ar goll, fel ymatebwyr cyntaf, wrth gwrs, bydd yr heddlu yn dechrau edrych am y plentyn ac yn hollbwysig, byddant yn penderfynu ar sbectrwm risg, pa mor anniogel y gallai plentyn fod a phennu eu hymateb yn unol â hynny. Nawr, er mwyn cynyddu'r gobaith o ddod o hyd i blentyn a'u cadw'n ddiogel, mae'r heddlu angen gwybodaeth ynglŷn â ble y gallai plentyn fod a chyda phwy y gallai fod. Heb ddarlun cyflawn gan amrywiaeth o asiantaethau o'r risgiau y mae'r plant hyn yn eu hwynebu, ni fydd swyddogion yr heddlu yn gallu asesu'n ddigonol y risgiau sy'n wynebu plant, gan adael y plant hynny mewn perygl wrth gwrs. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant sy'n wynebu risg o gamfanteisio neu fasnachu pobl.
Y ffordd fwyaf effeithiol o gael asesiad risg cadarn ar gyfer y plant hyn yw drwy weithio amlasiantaethol. Mae hyn yn golygu cael aelodau o'r heddlu, gwasanaethau iechyd, addysg a phlant, a'r trydydd sector i rannu gwybodaeth er mwyn adeiladu proffil cyfannol o blentyn sydd mewn perygl o fynd ar goll a defnyddio'r wybodaeth honno i ddarparu cymorth priodol i atal y plentyn rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Nawr, roedd tîm amlasiantaethol Gwent ar gyfer plant coll yn enghraifft o effeithiolrwydd hyn, gyda digwyddiadau yn yr ardal yn gostwng dros 30 y cant ers ei sefydlu, a gwn y byddwn yn clywed mwy am hynny yn nes ymlaen yn y ddadl hon.
Fodd bynnag, mae canfyddiadau o adroddiad ar y cyd Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos fod 12 awdurdod lleol o blith yr awdurdodau lleol sydd wedi darparu gwybodaeth, yn dweud nad ydynt yn rhannu asesiadau risg gyda'r heddlu ac nid oes ganddynt bartneriaeth amlasiantaethol ar waith i ganiatáu i asiantaethau rannu gwybodaeth. Nawr, mae hyn yn gwneud gwaith yr heddlu o geisio cael hyd i'r plentyn yn fwy anodd ac felly, gallai roi plentyn y gwyddys ei fod mewn perygl eisoes mewn mwy o berygl hyd yn oed. Rhaid bod ffordd i asiantaethau ledled Cymru allu rhannu gwybodaeth gyda'i gilydd. Nid yn unig y mae gwneud hynny'n gallu amddiffyn plentyn rhag risgiau, ac achub bywyd y plentyn mewn achosion eithafol, ond gall hefyd alluogi asiantaethau i dargedu eu hadnoddau'n well, a chreu arbedion yn sgil hynny yn y tymor canolig i'r tymor hwy wrth gwrs.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa ddata genedlaethol newydd ar gyfer unigolion coll a fydd yn galluogi heddluoedd i olrhain plant coll ar draws ffiniau. Gan nad yw plant, nac oedolion yn wir, sy'n mynd ar goll neu'n wynebu risgiau yn parchu ffiniau gweinyddol, wel, mae angen inni sicrhau nad yw'r ffiniau hyn yn atal gweithio agos a rhannu gwybodaeth i gadw'r plant hynny'n ddiogel. Un ffordd y gallwn symud ymlaen ar hyn yng Nghymru yw y dylai awdurdodau lleol, penaethiaid gwasanaethau plant Cymru gyfan a heddluoedd Cymru gytuno ar weithdrefn lle y gall awdurdodau lleol osod nodyn ar systemau heddlu i nodi'r risgiau i blant fel bod yr heddlu'n deall yn eglur pa risgiau sy'n wynebu plant pan fyddant yn mynd ar goll ac yna, gallant ymateb yn unol â hynny. Bydd hyn yn helpu'r heddlu i ddeall y risgiau i blant pan fyddant yn mynd ar goll ac yn helpu i'w cadw'n ddiogel.
Yn ail, rwyf am droi at ran hanfodol arall o'r jig-so ar gyfer cadw plant yn ddiogel. Pan yw plentyn yn cael ei ddarganfod neu'n dychwelyd o gyfnod o fod ar goll, dylai gael cynnig cyfle i ôl-drafod, y gellid ei alw hefyd yn gyfweliad dychwelyd adref. Nawr, mae ôl-drafod yn rhoi cyfle i blentyn siarad am y cyfnod pan oedd ar goll, sy'n gallu golygu trafod lle roedd y plentyn yn ystod y cyfnod a chyda phwy oedd ef neu hi. Mae cyfle i ôl-drafod hefyd yn galluogi ymarferwyr i ddeall y rhesymau pam y gallai plentyn fod wedi mynd ar goll.
Er na all cyfarfodydd ôl-drafod ohonynt eu hunain atal plant rhag mynd ar goll dro ar ôl tro, gallant fod yn adnodd diogelu effeithiol a allai helpu i roi cymorth i blentyn a fyddai'n helpu i'w atal rhag mynd ar goll eto. Os yw'r sawl sy'n darparu'r cyfweliad yn annibynnol ar y gwasanaethau statudol, fel y dylent fod, efallai y bydd plentyn yn ei chael hi'n haws ymddiried yn y sawl sy'n darparu'r cyfweliad a'r broses, ac felly, mae hyn yn cyflwyno'r plentyn i berson y gall ymddiried ynddo, yn hytrach na mynd ar goll yn y dyfodol. Fodd bynnag, o dan brotocol presennol Cymru gyfan ar gyfer plant coll, nid yw cynnig cyfle i blant coll ôl-drafod yn ofyniad statudol, er ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol yn Lloegr. Mae'r adroddiad 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn dangos canlyniadau'r diffyg gofyniad cyfreithiol hwn. Mae'r adroddiad yn dangos bod pedwar o'r 13 awdurdod lleol a roddodd wybodaeth yn darparu cyfarfodydd ôl-drafod ar sail achosion unigol, sy'n golygu nad oes sicrwydd y rhoddir cyfle i blant coll siarad am eu profiad na chymorth, o bosibl, i'w rhwystro rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Yng ngogledd Cymru, gwn fod y sefyllfa'n ddifrifol bellach. Ers i Lywodraeth y DU ddiddymu cronfa arloesedd yr heddlu, a dalai am ddarpariaeth ôl-drafod yng ngogledd Cymru, mae'n frawychus fod nifer gyfartalog y cyfarfodydd ôl-drafod a ddarparir bob chwarter wedi gostwng yn ddramatig. Felly, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn rhoi cyfle hollbwysig i wneud cyfarfodydd ôl-drafod yn ofyniad statudol ar draws Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog ar yr argymhelliad hwn yn benodol, yn nes ymlaen.
Yn olaf, roeddwn am droi at grŵp o blant sydd mewn perygl arbennig o fynd ar goll ac felly'n galw am ymateb penodol. Nawr, plant yw'r rhain sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ond cânt eu lleoli yn ardal awdurdod arall, a'u galw'n blant a leolir y tu allan i ardal wrth gwrs. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen lleoli plant sy'n derbyn gofal y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol cartref er mwyn eu diogelu rhag risgiau a nodwyd yn ardal eu cartref. Yn 2015-16, roedd tua 1,500 o blant yng Nghymru yn byw mewn lleoliadau y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol. Nawr, mae hyn yn cyfateb i tua 27 y cant o'r holl blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. A gwyddys bellach fod plant sydd wedi'u lleoli y tu allan i ardaloedd eu hawdurdodau lleol yn fwy tebygol o fynd ar goll—ac un o'r prif resymau am hyn yw y gallant geisio dychwelyd, wrth gwrs, at unrhyw rwydweithiau cefnogi a allai fod ganddynt yn ôl yn ardal eu cartref. Os yw plentyn sy'n cael ei leoli y tu allan i ardal wedi cael profiadau blaenorol o fynd ar goll, yna dylid nodi hyn mewn unrhyw asesiadau risg sy'n cael eu trosglwyddo oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn i'r awdurdod lleol sy'n derbyn y plentyn i'w ofal. Dylid rhannu'r wybodaeth hon hefyd gyda'r heddlu sy'n derbyn, a allai fod yr asiantaeth statudol gyntaf i godi'r plentyn pan fydd yn mynd ar goll gyntaf.
Yn anffodus, mae ymchwil Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos nad yw 13 o'r 14 o awdurdodau lleol a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn darparu asesiadau risg i heddluoedd ar gyfer plant a leolir yn eu hardaloedd, gan ddweud mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol sy'n lleoli fuasai gwneud hynny. Fodd bynnag, caiff hyn ei wrth-ddweud gan y ffaith mai pump yn unig o'r un 13 o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod hwy eu hunain yn rhannu asesiad risg gyda'r heddlu pan oeddent yn lleoli plentyn mewn ardal wahanol. Felly, mae'n amlwg fod yr heddlu'n hanfodol. Maent yn asiantaeth hanfodol wrth ddiogelu plant coll a dylid eu hysbysu pan fydd plentyn, a phlentyn sy'n wynebu risg uchel o fynd ar goll yn rhinwedd ei leoliad, yn cael ei leoli yn eu hardal. A buaswn yn ategu argymhelliad Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru y dylid ei wneud yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol hysbysu a rhannu asesiad risg gyda'r heddlu sy'n derbyn pan fyddant yn lleoli plentyn yn eu hardal.
Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hwn yn fater pwysig ac amserol. Mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn gyfle i unioni'r materion a nodwyd yn y ddadl hon ac yn ymdrech i ddarparu cymorth diogelu effeithiol ar gyfer holl blant coll Cymru. Mae gwaith da yn digwydd yng Nghymru i ddiogelu plant coll, ac mae'n ymdrech rydym yn ei rhannu, rwy'n siŵr, ar draws y pleidiau, er mwyn parhau i wella ein hymateb i'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed. Bellach mae gennym gyfle i ledaenu'r gwaith da ar draws y wlad, a buaswn yn annog y Llywodraeth, wrth ymateb i'r ddadl hon, i roi camau ar waith. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Llyr am y cyfle i wneud cyfraniad byr ar y mater pwysig hwn? Rwy'n ddiolchgar iddo am gyfeirio yn ei araith at waith prosiect plant coll Gwent, sy'n cwmpasu ochr Rhymni fy etholaeth. Gobeithio y gall fy nghyfraniad amlygu, mewn ychydig mwy o fanylder, rywfaint o'r gwaith defnyddiol sy'n digwydd yno. Buaswn yn sicr yn annog Aelodau o rannau eraill o Gymru sydd â diddordeb brwd yn y mater hwn i ymweld â phrosiect Gwent, oherwydd mae'n gweithredu fwy neu lai yn unol â'r ffordd y mae Llyr wedi nodi sy'n angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg. Mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid mewn un prosiect sy'n cynnig y budd amlwg o berthynas waith agos sy'n gallu gweithredu'n gyflym, ac yn fwyaf hanfodol, gweithredu gyda'n gilydd pan ddaw adroddiadau i law am blant coll.
Fel y dywedodd Llyr eisoes, yn aml daw'r heddlu i wybod am blant coll drwy'r alwad frys gychwynnol, ond dengys profiad y gallai partneriaid fod yn rhan o achos plentyn coll yn hawdd. Mae partneriaid yn gweld bod modd dod o hyd i atebion trwy gyfuno eu gwybodaeth a'u harbenigedd. Mae'r prosiect hefyd wedi caniatáu i fwy o waith ddatblygu mewn ymateb i gamfanteisio'n rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl. Yn bwysig, mae'r prosiect yn caniatáu i waith dilynol a gwaith cymorth ddigwydd ar gyfer pobl ifanc a'u teuluoedd, lle y bo'n briodol. Cafwyd adroddiad gwerthuso ar y prosiect y llynedd a dynnai sylw at y—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—gwersi a ddysgwyd hyd at y pwynt hwnnw. Ond gan mai prosiect Gwent yw'r unig un o'i fath yng Nghymru, a'i fod wedi dangos rhai manteision profedig wrth ymdrin â phlant coll a'r materion ehangach sy'n gysylltiedig â hyn, mae'n ymddangos ei bod hi'n amser priodol yn awr i heddluoedd ac asiantaethau eraill Cymru ystyried y model hwn er mwyn helpu fynd i'r afael â llawer o'r materion a grybwyllodd Llyr.
A gaf fi gymeradwyo Llyr am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon? Fel yntau, credaf fod 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn adroddiad hynod o bwysig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i Gymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o allu cynnal a chadeirio lansiad yr adroddiad yn y Senedd.
A gaf fi ddweud wrth Dawn ei bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn am yr ymarfer rhagorol yng Ngwent? Mae Heddlu De Cymru hefyd yn datblygu ymarfer da iawn, yn enwedig o ran casglu data a'r angen i gydweithio ac edrych ar faterion fel polisi ataliaeth. Mae llawer o blant yn mynd ar goll, ac rydym yn gwybod amdanynt am fod y staff a allai fod wedi ymyrryd yn teimlo na allant eu ffrwyno. Felly, mae yna lawer o haenau i'r broblem hon sy'n galw am ystyriaeth ofalus. Ond rwy'n canmol gwaith yr heddlu yn y maes hwn.
A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod gwaith Carl Sargeant yn bwysig iawn? Mae'r arweiniad a roddodd ar fater plant coll yn rhagorol, ac yn wir, ar ôl clywed y cyflwyniad gan Heddlu De Cymru, gofynnodd iddynt roi'r cyflwyniad hwnnw i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant a chafwyd trafodaeth lawn, gyda Heddlu Gwent yn bresennol hefyd. Roedd yn eithriadol o bwysig. Mae'r plant hyn yn agored iawn i niwed, fel y clywsom, ac mae yna rai ffyrdd ymarferol iawn bellach y gallem wella gwaith yn y maes hwn, ond mae'n rhywbeth sy'n galw am wyliadwriaeth a gweithredu cyflym, rwy'n credu, oherwydd mae'r canlyniadau i rai o'r plant hyn, pan fyddant i ffwrdd o lle y dylent fod, o ran eu hecsbloetio, yn droseddol neu beth bynnag—mae'n faes gwirioneddol hanfodol sydd angen sylw. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hefyd am amlinellu'r heriau sydd o'n blaenau, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ac am ei chyflwyno'n bwyllog ac yn ystyrlon, ond hefyd gydag angerdd ynglŷn â goresgyn yr heriau hyn mewn gwirionedd a cheisio gwelliannau yn y maes? Ac yn yr un modd, y pwyntiau a nododd fy nghyd-Aelodau: Dawn Bowden a gyfeiriodd at y gwaith amlasiantaethol da ar lawr gwlad yng Ngwent eisoes, a'r gwersi y gallwn eu dysgu o hynny, a byddaf yn dychwelyd at y rheini mewn eiliad; a hefyd David Melding, sydd, wrth gwrs, fel y gŵyr cyd-Aelodau, yn cadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Mae hwn yn faes y gwn fod y grŵp cynghori'n edrych arno hefyd, er mwyn cyflwyno'r gwelliannau y cyfeiriwyd atynt. Felly, a gaf fi ddiolch iddynt oll am gyflwyno'r ddadl hon gerbron y Siambr hon yma heddiw?
Gadewch i mi grybwyll rhai o'r materion sy'n codi. Rwy'n mynd i fynd yn fanwl hefyd drwy rai o'r ffyrdd y credwn eu bod yn ffyrdd ymlaen. Fel y soniodd David Melding, rwy'n camu i esgidiau go fawr yma, ar ôl arweinyddiaeth Carl Sargeant yn y maes.
Wel, yn gyntaf oll, fel y gwyddom, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym y llynedd. Yn ganolog i'r Ddeddf hon mae gweithio gyda phobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt—gwell defnydd o wasanaethau ataliol. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n caniatáu inni ddefnyddio'r adnoddau hynny i helpu mwy o bobl. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y mae'r Aelodau, fod pob achos o blentyn coll yn cynnwys y posibilrwydd y caiff plentyn ei niweidio'n difrifol mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhesymau pam y mae plant yn mynd ar goll yn amrywio, maent yn gymhleth, maent yn unigryw i bob sefyllfa a phob plentyn unigol, ond rydym yn gwybod, pan fydd plentyn yn mynd ar goll, y gallent fod yn agored i amrywiaeth o risgiau emosiynol, corfforol a rhywiol yn ogystal. Felly, mae'n bwysig iawn fod asiantaethau'n cydweithio pan fydd plentyn yn mynd ar goll, er mwyn rhannu gwybodaeth ac ymateb yn gyflym fel y gellir lleoli'r plentyn yn gyntaf a'i ddiogelu cyn gynted â phosibl.
Mae'r ffordd y byddwn yn ymateb i blant wedi iddynt fod ar goll hefyd yn bwysig iawn. Mae angen ymagwedd gymesur, a dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ym mhob achos o blentyn coll, dull sy'n ystyried eu hanghenion unigol ac a oes problemau o ran llesiant, gofal, cymorth, amddiffyn plant sydd angen mynd i'r afael â hwy. Rwy'n falch o ddweud bod fy swyddogion, o dan arweiniad fy rhagflaenydd, Carl Sargeant, wedi cael cyfnod o ymgysylltu gweithgar iawn â darparwyr gwasanaethau rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant coll. Mae'r gwaith wedi ein helpu i ddeall yn well y problemau go iawn ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau bod ein hymateb polisi yn un gwybodus sy'n deall y tirlun yn llawn fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, a beth y gallwn ei wneud yn well. Felly, rwyf wedi cytuno i ariannu gwaith i gasglu safbwyntiau plant eu hunain—mae hynny'n hollbwysig—fel bod eu profiad a'u barn am y penderfyniadau a wneir yn eu cylch yn llywio'r polisïau rydym yn eu datblygu bellach i'w cadw'n ddiogel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid i Fwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg i adolygu a datblygu gweithdrefnau diogelu cenedlaethol ar gyfer Cymru ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mewn ymgynghoriad â byrddau diogelu rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn drwy hwyluso gwaith gyda grwpiau amlasiantaethol i ddatblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol ar faterion diogelu penodol, i'w defnyddio ar y cyd â'r gweithdrefnau amddiffyn Cenedlaethol. Disgwylir i'r gwaith pwysig gael ei gwblhau'n llawn erbyn mis Rhagfyr 2018. Mae'n mynd rhagddo yn awr; nawr yw'r amser i fwydo syniadau i mewn i'r gwaith hwnnw.
Yn ganolog i'r gwaith hwn mae fy ymrwymiad i symud oddi wrth ddull o ddiogelu sy'n cael ei ysgogi gan broses a thicio blychau i ddull clir sy'n canolbwyntio ar unigolion yn unol â nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaethol, o dan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant, i ystyried dull gweithredu o'r fath mewn perthynas â phlant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal. Mae'r grŵp hwn yn datblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol, i'w defnyddio ar y cyd â gweithdrefnau amddiffyn cenedlaethol. Bydd y canllawiau ymarfer cenedlaethol ar blant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal yn cefnogi dull cyson a chymesur o weithredu mewn perthynas â phob plentyn sy'n mynd ar goll yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys trefniadau i ystyried angen pob plentyn am wybodaeth, cyngor a chymorth mewn ffordd gymesur sydd hefyd yn hyrwyddo eu llesiant.
Nawr, bydd rhai plant a theuluoedd yn elwa o wybodaeth a chyngor am wasanaethau ataliol. Efallai y bydd rhai plant angen cael eu hanghenion gofal a chymorth wedi eu hasesu, a bydd rhai plant angen cynllun amddiffyn plant cofleidiol hefyd. Efallai y bydd rhai sydd â chynlluniau ar hyn o bryd angen cael y rhain wedi'u hadolygu ar ôl bod ar goll. Gallwn gytuno fod angen mynd i'r afael â'r mater penodol hwn o fynd ar goll trwy gyfarfod strategaeth amlasiantaethol, lle y bo angen, i lywio asesiad, cynllun neu ymateb i adolygiad sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn ddibynnol ar anghenion llesiant a diogelu'r plentyn unigol. Rwy'n ymwybodol, fel y dywedodd yr Aelod, ei fod yn un o lofnodwyr llythyr gan Gymdeithas y Plant, sy'n tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud â phlant coll y carwn fynd i'r afael â hwy. Gyda llaw, rwy'n hapus i gyfarfod i'w drafod hefyd.
Ar fater rhannu data rhagweithiol gyda'r heddlu, rwy'n falch o ddweud bod Heddlu De Cymru, fel y soniodd David Melding eisoes, yn neilltuo amser, gan weithio mewn ymgynghoriad â'r tri heddlu arall yng Nghymru, i ddatblygu proses ar gyfer cofnodi a rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r heddlu asesu risg plant unigol mewn gofal os ânt ar goll. Caiff hyn ei ystyried yn rhan o waith y canllawiau ymarfer ar gyfer plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, fe ildiaf.
Fe luniais adroddiad cyfan ar hyn fy hun yn 2013, a rhoddwyd protocolau ar waith yn 2011. Roeddwn yn lansiad prosiect Gwent, a dyma ni, lle nad yw'n ddim ond prosiect. Pa mor gyflym y gall plant eraill, fel y plant yn fy ardal i, ddisgwyl gweld y gwasanaethau y maent yn eu haeddu, yn fy marn i, ac y bydd yr awdurdodau hynny y dywedwyd wrthynt yn 2011 i weithio gyda'i gilydd yn dechrau gwneud hynny?
Mae fy nghyfaill yn hollol gywir. Credaf y bu cydnabyddiaeth yma yn y Siambr heddiw o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ond nid yw'n digwydd ym mhobman. Dyna'r mater y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad at hynny sydd i'w groesawu. Ond mae'n wir ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio, a gallwn ei weld yn gweithio, a ni sydd wedi ariannu llawer ohono. Bellach mae angen inni ei weld yn cael ei gyflwyno'n well o lawer, ac rwyf am droi at rai o'r materion eraill. Ond rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n canmol fy nghyfaill, Joyce, ar yr ymrwymiad y mae wedi'i ddangos i hyn, gan wthio'r agenda hon ymlaen dros nifer o flynyddoedd.
Ar fater y ddyletswydd statudol, os caf droi at hynny, a darparu cyfweliadau ôl-drafod i blant coll sy'n cyfateb i'r darpariaethau presennol yn Lloegr—gyda llaw, mae'r dull o weithredu yn Lloegr yn wahanol iawn. Mae'n amlwg wahanol. Nid oes gan Loegr weithdrefnau cenedlaethol fel sydd gennym ni, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt gael protocolau unigol. Nid oes unrhyw weithdrefnau cenedlaethol. Rydym ar y blaen yma mewn gwirionedd, a chaiff hynny ei gydnabod.
Ond ar y mater hwnnw, rwy'n parhau'n bryderus nad yw hyn yn ffocws ohono'i hun ac efallai na fydd yn gwella ymatebion diogelu i blant unigol, ac yn wir, os caf dynnu sylw Llyr at adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a gyhoeddwyd y llynedd, roedd yn awgrymu bod gweithredu'r ddyletswydd statudol yn Lloegr yn anghyson, a hefyd—a dyfynnaf yn fyr—
er bod llawer o enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol a mentrau drwy weithio amlasiantaethol
—yn Lloegr mae hyn gyda llaw—
nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod gwasanaeth yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldebau am les plant yn deall y canlyniadau y mae hyn yn eu sicrhau i blant, neu'n defnyddio'r ddealltwriaeth hon i lywio eu harferion cynllunio a gweithredu.
Rhaid inni fod yn ymyrraeth ddeallus a'i wneud i weithio er mwyn y canlyniadau, nid er mwyn rhoi tic yn y blwch yn unig, 'rydym wedi'i wneud', wedi ôl-drafod, ac yn y blaen. Mae'r feirniadaeth yno. Nawr, ceir tystiolaeth dda, gyda llaw, ei fod yn gweithio mewn rhai mannau. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn cyfeirio at Gaerwrangon a mannau eraill. Ond ceir tystiolaeth hefyd ei fod yn amrywiol iawn, ac mae'n ymwneud â'r gallu yno i ddweud, 'Rydym wedi ei wneud. Da iawn. Wedi'i wneud'.
Rwy'n credu'n gryf fod dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar anghenion unigolion o fewn gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gefnogir yma yn y Cynulliad hwn, yn cynnig ymateb diogelu llawer mwy cadarn sy'n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Fe fyddwch yn gwybod hefyd, ac mae wedi'i grybwyll yn y Siambr heddiw, am arferion da sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, drwy wasanaethau, fel y soniodd Dawn, fel prosiect plant coll Gwent, ac fel y soniodd David, gwasanaeth eiriolaeth annibynnol de Cymru i blant coll, sy'n darparu gwasanaethau ôl-drafod a chymorth parhaus. Gwyddom fod arferion da i'w cael ar lawr gwlad. Mae'n darparu eiriolaeth ac maent yn atgyfeirio er mwyn sicrhau bod gan y plant sydd fwyaf mewn perygl gynlluniau diogelwch cadarn ar waith.
Ar fater plant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o leoliadau y tu allan i'r ardal, mae grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant yn cynnwys rhaglen waith sy'n edrych yn benodol ar ofal preswyl, gan gynnwys lleoli y tu allan i'r ardal. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar hysbysu, cynllunio lleoliadau a dewis lleoliadau. Mae'r rhaglen waith hon yn datblygu'n dda, ac mae adnoddau ar gael gan y Llywodraeth ganolog ar gyfer gwaith ymchwil a chwmpasu gwaith i lywio'r ffordd ymlaen, a byddwn yn sicrhau, gyda llaw, bod adroddiad Cymdeithas y Plant yn cael ei ystyried wrth i'r gwaith hwnnw ddatblygu.
Nid wyf yn siŵr a ymatebais i fy nghyfaill pan oedd hi'n gofyn am yr amserlen, ond fel yr eglurais yn fy sylwadau cynharach, erbyn 2018 rydym yn gobeithio cael y canlyniadau ar gyfer yr holl waith hwn fel y gallwn ddweud wedyn, 'Dyma'r ffordd ymlaen'.
Felly, hoffwn ddiolch i Gymdeithas y Plant am eu hadroddiad a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i lywio'r dystiolaeth y mae'n ei darparu fel rhan o'r dull gweithredu strategol hwn i wella canlyniadau real i holl blant Cymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod ehangder y camau y clywsom amdanynt heddiw ac a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth hon gyda phartneriaid ar lawr gwlad yn helpu plant ond hefyd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n ddiflino i'w helpu i gyflawni eu canlyniadau. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau unwaith eto—Llyr a phawb arall sydd wedi cyfrannu at hyn—a chredaf fod y nifer o'r Aelodau sydd yma ar ddiwedd y chwarae heddiw i glywed y ddadl hon yn dangos pa mor bwysig yw hyn, a sut y gallwn wneud pethau'n wahanol ac yn well yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ledaenu'r arferion da hyn ledled y tir. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn at yr ail ddadl fer y prynhawn yma, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Neil.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith am fod yma ar ddiwedd y diwrnod hwn—yn ffodus, nid yw'n rhy hwyr yn y dydd, oherwydd y gwaith rydym eisoes wedi ei gyflawni. Ond mae hwn yn fater pwysig, wrth gwrs. Mae allforion o bwys mawr i Gymru, ac mae allforion i'r UE yn fwy pwysig i Gymru o ran cyfran nag i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Roedd gwerth allforion Cymru yn £12.3 biliwn yn 2016, a chafodd dwy ran o dair o'r £12 biliwn hwnnw ei allforio i'r UE. Felly, wrth gwrs bod y berthynas fasnachol rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE yn y dyfodol yn hollbwysig i iechyd economi Cymru.
Mae arnaf ofn fy mod yn meddwl bod y Llywodraeth yn llawer rhy ddigalon ynglŷn â'r rhagolygon i Gymru ar ôl Brexit. Lle maent hwy'n gweld bygythiadau a pheryglon, gwelaf innau gyfleoedd. Wrth gwrs, mae unrhyw newid yn sicr o effeithio ar ddiwydiannau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol ac ar ôl oddeutu 40 o flynyddoedd oddi mewn i'r UE, mae'r broses bontio yn mynd i fod yn her i rai diwydiannau, ac ni ellir gwadu hynny. Ond credaf fod hyn, ar y cyfan, yn mynd i fod yn dda i'r Deyrnas Unedig. A bydd yr hyn sy'n dda i'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn dda i Gymru, er bod rhaid inni sicrhau wrth gwrs bod y rhai sy'n cael amser anos wrth ymdopi â'r broses bontio yn cael cymorth i wneud hynny.
Ond mae prosiect ofn yn dal i fod yn fyw ac yn iach mewn sawl rhan o'r wlad a llawer o ddiwydiannau. Profwyd bod yr holl ofnau a wyntyllwyd hyd yn hyn yn hollol ffug. Mae 18 mis wedi mynd heibio bellach ers refferendwm Brexit ac mae ymyl y clogwyn roeddem i fod i ddisgyn oddi arno yn dal i fod yno ac nid ydym wedi disgyn drosto. Mae rhai problemau penodol yn wynebu amaethyddiaeth os na wnawn fargen â'r UE ar fasnach rydd, ond mae hyd yn oed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud yn yr ychydig wythnosau diwethaf,
Er bod Brexit wedi arwain at un o'r heriau mwyaf a wynebodd ein diwydiant ers cenedlaethau, ni all fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i ni achub ar y cyfle a gyflwynwyd i ni i ddatblygu a thyfu ein diwydiant amaethyddol o'r radd flaenaf yng Nghymru. Mae'r Undeb yn credu'n gryf y gallwn sicrhau llwyddiant Brexit os yw ein ffocws cyfunol yn canolbwyntio ar gynorthwyo ein diwydiant i ateb yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy'n tyfu â bwyd diogel, safonol, fforddiadwy, ochr yn ochr â chynnal a gwella'r amgylchedd sydd mor annwyl i ni a chyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd.
Felly, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn croesawu'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig, a gwahoddaf Lywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl. Digwyddodd y refferendwm, rydym yn gadael yr UE, rhaid inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith. Nid yw proffwydo gwae, ar y cam hwn, o fudd i neb; ni fydd ond yn cryfhau'r UE yn y negodiadau gyda Llywodraeth y DU, ac ni fuasai neb yn ei iawn bwyll yn y DU eisiau hynny.
Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi cael tro pedol arall ym mhrosiect ofn, oherwydd mae Siemens, diwydiant gweithgynhyrchu mwyaf Ewrop, sy'n cyflogi 15,000 o bobl yn y DU, wedi newid ei safbwynt ar Brexit. Dywedodd prif weithredwr Siemens, Joe Kaeser, ddwy flynedd yn ôl,
Byddai Brexit yn amharu ar yr economi yn y tymor byr ac rydym yn credu y gallai'r ansicrwydd ynghylch dyfodol perthynas y DU â'r UE gael effeithiau hirdymor mwy sylweddol a negyddol
a allai
wneud y DU yn lle llai deniadol i wneud busnes a gall fod yn ffactor wrth i Siemens ystyried buddsoddi yma yn y dyfodol.
Wel, ychydig ddyddiau'n ôl yn unig, cyhoeddodd Siemens eu bod yn cael gwared ar 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 yn rhagor ar draws Ewrop ac yn cael gwared ar 2,000 o swyddi yn yr Unol Daleithiau, ond ar yr un pryd cyhoeddasant fuddsoddiad o €39 miliwn ym Mhrydain i ehangu ei ffatri fwyaf yn y DU, yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.
Felly, nid yw popeth yn ddiobaith. Ymhell o fod. Roedd Michael Bloomberg, a oedd hefyd yn cefnogi aros i'r carn er mai Americanwr ydyw, yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i agor pencadlys Ewropeaidd newydd Bloomberg yn y Ddinas, pencadlys sy'n 3.2 erw o faint—mae'n ddatblygiad gwirioneddol enfawr.
Rydym yn agor pencadlys Ewropeaidd newydd sbon yn Llundain—dau adeilad mawr, drud. A fuaswn wedi gwneud hynny pe gwyddwn eu bod yn mynd i adael? Rwyf wedi meddwl efallai y gallwn fod wedi gwneud hynny… ond… rydym yn mynd i fod yn hapus iawn.
Mae'n dweud,
Beth bynnag fydd perthynas Llundain a'r DU â'r UE, mae iaith Llundain, ei chylchfa amser, ei thalent, ei seilwaith a'i diwylliant oll yn ei rhoi mewn sefyllfa i dyfu fel prifddinas fyd-eang ar gyfer blynyddoedd i ddod. Rydym yn obeithiol iawn am ddyfodol Llundain ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono.
Felly, er nad yw Cymru'n chwarae rhan fawr mewn gwasanaethau ariannol, bydd effaith y diwydiant gwasanaethau ariannol yn Llundain yn treiddio allan i weddill y wlad.
Ac yn amlwg, ymhlith y rhai a oedd o blaid Brexit, fel Syr James Dyson, buasech yn disgwyl iddynt fod yn optimistaidd am y dyfodol. Mae ganddo fusnes gweithgynhyrchu anferth sy'n masnachu ledled y byd. Mae'n gwneud buddsoddiadau enfawr heb fod mor bell â hynny o Gaerdydd—60 milltir i ffwrdd, ar y ffin rhwng swydd Gaerloyw a Wiltshire—mae'n buddsoddi hyd at £3 biliwn mewn parc technoleg newydd i ddatblygu cerbydau trydan, yn y bôn, a thechnoleg y mae Prydain yn arwain y byd ynddi. Trueni na symudodd ychydig pellach i'r gorllewin—fel rwyf fi wedi'i wneud, gan arwain y ffordd—i Gymru, a gosod y cyfleuster gweithgynhyrchu ac ymchwil hwnnw'n nes at Gaerdydd. Mae'n dweud,
Mae yna ansicrwydd bob amser mewn busnes, ynglŷn â chyfraddau cyfnewid, cyflwr marchnadoedd, trychinebau naturiol... Credaf fod ansicrwydd yn gyfle, a'r cyfle yma mewn gwirionedd yw bod gweddill y byd yn tyfu ar raddfa fwy o lawer nag Ewrop, felly ceir cyfle i allforio i weddill y byd ac i fanteisio ar hynny.
Felly, credaf fod pob rheswm dros feddwl fod economi Cymru yn mynd i elwa o Brexit yn y tymor canolig a hwy—a hyd yn oed yn y tymor byr. Rydym wedi cael un o'r datganiadau mwyaf hurt a welais gan brosiect ofn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phrif weithredwr Aston Martin yn ddiweddar, a oedd yn rhagweld y byddai cynhyrchu ceir yn dod i ben yn llwyr yn Aston Martin os na chawn fargen gyda'r UE. Roedd hynny'n seiliedig ar ragfynegiad na fyddai cymeradwyaeth math i geir a wnaed ym Mhrydain yn yr UE ac i'r gwrthwyneb. Wel, allforiodd Aston Martin 600 o geir i'r UE y llynedd, ac os na allent werthu eu ceir i mewn i'r Almaen am bris o £160,000 yr un, ni fuasai'r Almaenwyr yn gallu gwerthu eu 820,000 o geir y flwyddyn i Brydain, sef 14 y cant o'u holl gynhyrchiant ceir teithwyr. Daw 18 y cant o allforion ceir teithwyr yr Almaen i Brydain. Rywsut neu'i gilydd, nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd. Ac felly, mae angen inni edrych ar y realiti yma: buasai effaith y math o ragfynegiadau a gawsom gan Aston Martin mor fawr a thrychinebus—hyd yn oed i economi bwerus o faint yr Almaen—fel y buasai'n amhosibl y byddai hyn yn cael ei ganiatáu i ddigwydd, yn arbennig yn awr fod gan y Canghellor Merkel broblemau mwy enbyd gartref yn ceisio ffurfio Llywodraeth: rhywbeth nad yw wedi digwydd yn yr Almaen ers blynyddoedd y Weriniaeth Weimar. Felly, mae pethau'n newid yn fawr. Mae yna ansicrwydd yn yr Almaen yn ogystal ag ym Mhrydain, a dylem ystyried hynny'n syml fel ffaith bywyd.
Nawr, yn amlwg, mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Gymru, ac rwyf am dreulio ychydig funudau yn sôn am hynny oherwydd ceir sectorau penodol o amaethyddiaeth y bydd Brexit yn her iddynt, oherwydd hyd yn oed os llwyddwn i wneud bargen fasnach gynhwysfawr gyda'r UE, efallai y bydd rhai crychau mewn perthynas â chynhyrchion amaethyddol oherwydd natur ddiffyndollol y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hyn yn rhywbeth na allwn gilio rhagddo, ac nid wyf erioed wedi gwadu hynny, ac yn enwedig mewn perthynas ag allforion cig oen, mae hyn yn mynd i fod yn her fawr i ni, ond rhaid inni weld hyn mewn persbectif, wyddoch chi. Mae'r farchnad ar gyfer y cynhyrchion hyn yn gymharol fach o'i chymharu â'r farchnad yn ei chyfanrwydd—. Wyddoch chi, rydym yn siarad am allforion gwerth £120 miliwn y flwyddyn o gig oen o Gymru: arian mân yw £120 miliwn yng nghyd-destun economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Os oes problemau dros dro a phroblemau trosiannol mewn perthynas ag allforio cig oen, yna bydd gennym yr adnoddau i ymdrin â hwy oherwydd £8 biliwn y flwyddyn net ein cyfraniad i'r UE na fyddwn yn ei dalu mwyach, a hefyd, wrth gwrs, mae cyfle enfawr gydag amnewid mewnforion: 66 y cant yn hunangynhaliol yn unig rydym ni o ran cynhyrchu cig oen. Felly, daw llawer o'r un rhan o dair o'r farchnad gig oen ar hyn o bryd o Seland Newydd yn wir, ond daw llawer ohono o fannau eraill hefyd. Mewn perthynas â chig eidion, dwy ran o dair yn hunangynhaliol rydym ni unwaith eto. Mewnforion porc, 40 y cant yn hunangynhaliol; a dofednod, 73 y cant yn hunangynhaliol. Felly, mae gennym farchnad gartref fawr y gallwn barhau i'w datblygu i gymryd beth bynnag na allwn ei allforio i'r UE.
Nid yw'n fater o'r cwbl neu ddim: mae yna gyfleoedd i ni yn ogystal â phroblemau. Ac i amaethyddiaeth Ewropeaidd, wrth gwrs, mae'n mynd i greu anawsterau enfawr yn ogystal, oherwydd ein bod ni'n—. Ac yn enwedig mewn cynhyrchion penodol, hynny yw, nid wyf yn meddwl bod ffermwyr Denmarc yn mynd i fod yn rhy awyddus i ddarganfod nad ydynt yn mynd i allu gwerthu porc a chig moch i ni mwyach, er enghraifft. A dyn a ŵyr pa fath o fargen y gallwn ei gwneud gyda Gweriniaeth Iwerddon o dan agwedd gyndyn bresennol Monsieur Barnier, ond mae o bwys enfawr i economi Iwerddon fod gennym ryw fath o fargen sy'n rhyddhau masnach rhyngom o ran cynhyrchion amaethyddol, gan fod mwyafrif llethol y mewnforion i'r wlad hon o gig eidion a chynnyrch llaeth yn dod o Weriniaeth Iwerddon, ac mae amaethyddiaeth yn gyfran lawer iawn mwy o werth economi Iwerddon nag ydyw o economi Prydain, a Chymru hyd yn oed.
Felly, credaf fod digon o le inni fod yn obeithiol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, chwarae ei rhan yn hyn hefyd, a dylai fod eisiau chwarae rhan gadarnhaol yn datblygu cysylltiadau masnach yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn aml yn mynd ar deithiau masnach ledled y byd, a bydd yn gwybod bod gweddill y byd, sef 85 y cant neu fwy o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE, yn gyfle enfawr i Gymru. Ond mae angen inni gael y seilwaith deddfwriaethol a'r seilwaith treth roeddem yn ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, sy'n mynd i hybu'r cyfleoedd hynny i'r eithaf.
Os defnyddiwn y rhyddid newydd a gawn drwy ailwladoli pwerau o Frwsel i Gaerdydd, yn ogystal ag o Frwsel i San Steffan—yn amlwg, bydd gennym reolaeth ar bolisi amaethyddol yma yng Nghaerdydd a'r polisi amgylcheddol yn ogystal—gallwn ailystyried llawer o'r ddeddfwriaeth a orfodwyd arnom yn y 40 mlynedd diwethaf, rhywbeth na chafodd ei drafod mewn unrhyw sefydliad seneddol. Roeddwn yn aelod o Gyngor y Gweinidogion yn yr UE a hefyd yn Weinidog yn Llywodraeth y DU yn San Steffan, ac roeddwn yn Aelod Seneddol am flynyddoedd lawer, yn derbyn offerynnau statudol a orfodai reoliadau arnom, a chaem ddadlau yn eu cylch, ond ni chaem eu diwygio ac yn sicr ni chaem bleidleisio yn eu herbyn. Felly, ni chafwyd unrhyw graffu deddfwriaethol ffurfiol ar lawer o'r ddeddfwriaeth hon erioed mewn gwirionedd.
Rhaid bod lle, yn enwedig lle mae deddfwriaeth wedi bod ar y llyfr statud am gyfnod mor hir heb ei ddiwygio, i ni addasu'r manylion mewn ffordd a fydd, heb beryglu lles y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd ac ati, yn ein galluogi i wneud bywyd yn haws i fusnesau bach yn arbennig, sy'n bwysig iawn yng Nghymru, yn enwedig mewn amaethyddiaeth, lle mae'r rhan fwyaf o hunangyflogaeth yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. Rhaid iddo roi ein cyfle i ni, rwy'n credu, i wneud bywyd yn haws, yn rhatach, ac felly i wneud y busnesau hyn yn fwy effeithlon a gallu ymdopi'n well â'r heriau sydd i ddod.
Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru: gadewch inni groesawu'r dyfodol; gadewch inni wynebu'r her, ond ei wneud mewn ffordd hyderus. Fe wnaethom greu ymerodraeth enfawr ledled y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ni oedd gweithdy'r byd. Mae Prydain wedi bod yn ffynhonnell arloesedd ac mae'n dal i fod. Os edrychwch ar nifer y gwobrau Nobel a enillwyd gennym, ceir mwy o enillwyr gwobr Nobel yn ystafell gyffredin Coleg y Drindod, Caergrawnt nag yn Ffrainc i gyd. Felly, rydym ni, fel cenedl, yn ddyfeisgar, yn arloesol ac yn fentrus, ac felly rwy'n gwahodd Llywodraeth Cymru i chwarae ei rhan i sicrhau bod gan Gymru ddyfodol llewyrchus.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r ddadl fer hon, a hoffwn ddiolch i Neil Hamilton am ei gyfraniad ac i aelodau o UKIP am aros yn y Siambr.
Rydym wedi gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i wrando ar yr Aelod yn amlinellu ei weledigaeth obeithiol o Gymru ar ôl Brexit a'r DU ar ôl Brexit, ond ein safbwynt ni o hyd yw bod cael mynediad llawn a dirwystr at farchnad sengl yr UE, nid yn unig ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ond hefyd ar gyfer cyfalaf, yn flaenoriaeth uchel er mwyn diogelu swyddi ac economi Cymru, oherwydd mae'n hollbwysig nad yw busnesau yng Nghymru dan anfantais yn sgil tariff diangen neu rwystrau di-dariff i fasnach.
Mae'r dadansoddiad economaidd sydd ohoni gan y sylwebyddion annibynnol mwyaf dibynadwy yn parhau i fod yn unol â'r dadansoddiad a geir yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ond rydym hefyd wedi comisiynu Ysgol Fusnes Caerdydd i gyflawni gwaith ymchwil i ymestyn ein dadansoddiad, gan bwyso ar drafodaethau gyda busnesau o amrywiaeth o sectorau. Mae'r adroddiad yn ystyried effeithiau posibl tariff Sefydliad Masnach y Byd a rhwystrau di-dariff ar draws 17 o sectorau, ynghyd â ffactorau risg eraill, megis pa mor agored yw sectorau gwahanol i risgiau'r farchnad lafur a chylchoedd buddsoddi corfforaethol. Ac mae canfyddiadau'r gwaith hwn yn dod â safbwynt Cymreig i'r ystod o adroddiadau a dadansoddiadau sy'n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd ar adael yr UE. Mae hefyd, rwy'n credu, yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol sy'n cyd-fynd yn dda gydag adroddiadau a gynhyrchir gan randdeiliaid, megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Byddwn yn cyhoeddi'r gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Rhan o'r dasg a roesom i Ysgol Fusnes Caerdydd oedd edrych ar y cyfleoedd, ond rhaid i mi ddweud bod llawer o'r busnesau rydym yn siarad â hwy wedi bod yn ei chael hi'n anodd cyfleu beth fyddai'r cyfleoedd hynny. Mae busnesau'n aml yn rhy brysur yn canolbwyntio ar sut y gallant reoli'r newidiadau sydd i ddod yn y ffordd orau a sut i gynllunio yn y cyfnod estynedig hwn o ansicrwydd dwfn, gyda llawer ohonynt yn dweud wrthym eu bod ar hyn o bryd yn cael eu gorfodi i gynllunio ar sail y senario waethaf sy'n bosibl.
Mae llawer o'r fargen yn y dyfodol, wrth gwrs, yn dal yn aneglur, ac mae hyn yn creu rhai heriau inni o ran nodi cyfleoedd a gallu eu cyfathrebu i fusnesau. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU eto wedi rhannu gyda Llywodraeth Cymru y set dybiedig o 58 o astudiaethau o'r effaith ar y sectorau, ac nid yw ychwaith wedi rhannu asesiad economaidd cyffredinol ar ôl y refferendwm o effaith Brexit ar Gymru gyda ni. Byddwn yn parhau i bwyso i sicrhau bod unrhyw ddadansoddiad perthnasol yn cael ei rannu gyda ni.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â busnesau ynglŷn â threfniadau pontio'r UE trwy ein mecanweithiau sefydledig, megis y cyngor datblygu economaidd, ac mae trefniadau pontio'r UE yn eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer y cyngor. Rydym hefyd wedi sefydlu is-grŵp i ymwneud â'r union fater hwn. Tra ydym yn disgwyl rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU ar sut y gallai'r fargen edrych yn y dyfodol, rydym yn parhau i ymgysylltu'n helaeth, nid yn unig â busnesau ledled Cymru, ond â sefydliadau allweddol a fydd yn hynod o bwysig i gysylltiadau masnachu yn y dyfodol, ac un o'r sefydliadau hynny, wrth gwrs, yw Sefydliad Masnach y Byd.
Ymwelais â Sefydliad Masnach y Byd ddiwedd mis Hydref gyda'r bwriad penodol o ddatblygu cysylltiadau rhwng Cymru a'r sefydliad. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Sefydliad Masnach y Byd. Mae'r Sefydliad yn gorff masnach hynod o bwysig sy'n hwyluso cysylltiadau masnach rhwng gwledydd, yn ogystal â darparu set o reolau masnachu i wledydd lynu wrthynt a lle iddynt ddatrys anghydfodau masnach. Bydd angen i'r DU ailsefydlu ei hun fel aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd pan fyddwn yn gadael yr UE, felly mae'n gwbl hanfodol fod buddiannau Cymru'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses o adael yr UE a dod yn aelod yn ei hawl ei hun unwaith eto o Sefydliad Masnach y Byd.
Yn absenoldeb ffeithiau clir ar y fargen Brexit, rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio rhai o'n hymdrechion ar roi cyngor i fusnesau bach a chanolig ar sut i gael cymorth a sut i ddechrau paratoi ar gyfer rhai o'r newidiadau, boed yn heriau neu fygythiadau, a allai fod o'u blaenau. Felly rydym yn ystyried darparu porth Brexit ar gyfer busnesau. Buasai hyn yn rhoi adnodd diagnostig digidol i fusnesau bach a chanolig a fydd yn cyfeirio at gymorth mewn meysydd allweddol, a'r camau y gall busnesau bach a chanolig eu cymryd i leihau'r risg ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd, lle bynnag y bônt. Byddai'r adnodd diagnostig yn cael ei ddiweddaru wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael.
Hefyd, mae hyrwyddo lle Cymru ar lwyfan cystadleuol byd-eang yn ganolog i'n strategaeth ryngwladol. Byddwn yn anelu i warchod ein cyfran o fasnach Ewropeaidd yn ystod y negodiadau Brexit, a thu hwnt yn wir, gan gynorthwyo busnesau sydd am fynd i mewn i farchnadoedd newydd sy'n ehangu o gwmpas y byd. Rydym yn wlad sy'n wynebu'r byd, ac wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol oddi allan i'r Undeb Ewropeaidd mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gwerthu Cymru i'r byd, ac yn cyfarfod â darpar fuddsoddwyr ledled y byd. Rydym yn croesawu'r byd a'i orwelion, a phan fydd cyfleoedd masnach newydd yn agor, byddwn yn gweithio gyda busnesau i helpu ein heconomi i ffynnu.
Lansiodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar fasnach i baratoi ar gyfer ein dogfen ar bolisi masnach y DU yn y dyfodol ym mis Hydref, ac ers hynny mae wedi cyhoeddi'r Bil masnach a'r Bil trethiant y mis hwn. Ond ar y cam hwn o'r trafodaethau UE-DU, mae'n dal i fod yn aneglur a yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o gynnal mynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE yn cyd-fynd yn llawn â dymuniad Llywodraeth y DU i gael polisi masnach annibynnol a chreu cytundebau masnach rydd newydd ar draws y byd.
Rydym yn arbennig o bryderus y buasai polisi masnach annibynnol yn ôl pob tebyg yn golygu gadael yr undeb tollau gyda'r UE, a buasai hyn yn debygol o arwain at rwystrau masnach ar y ffin, a phroblemau gyda'r ffin yng Ngogledd Iwerddon. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y pwyntiau hyn. Yn ogystal, fel y gŵyr pawb ohonom, gallai ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon greu problemau i borthladdoedd Cymru gan y gallai fod cymhelliant i gludo nwyddau drwy Ogledd Iwerddon.
Nid ydym yn argyhoeddedig y buasai gadael yr undeb tollau gyda'r UE o fudd i Gymru—yn y tymor byr o leiaf—ac eto nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth gan Lywodraeth y DU eto sy'n awgrymu fel arall. Mae mwy na 60 y cant o nwyddau y nodir eu bod o Gymru yn mynd i'r UE, ac ni fuasai'n hawdd sicrhau masnach yn lle'r lefel honno o fasnach. Felly, Ddirprwy Lywydd, ein safbwynt ni yw y dylai masnach gyda marchnadoedd newydd fod yn ychwanegol at fasnach gyda'r UE ac nid cymryd ei lle. Rydym yn parhau i ddweud yn glir, yn anad dim, na fuasai senario 'dim bargen' yn dderbyniol i ni.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:30.