Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. A chwestiwn 1, David Rees.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn asesu’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn perthynas â darparu bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51240)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo gyda dinas-ranbarth bae Abertawe a Llywodraeth y DU i ddatblygu a chytuno ar gynllun gweithredu, monitro a gwerthuso i oruchwylio manylion y fargen.

Wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, y mis diwethaf, mewn ateb i Jeremy Miles, fe bwysleisioch chi, cyn belled â bod yr 11 prosiect wrthi’n cael eu paratoi, nad oedd yn rhaid i bob achos busnes gael eu paratoi cyn y gallent ddechrau gweithio. Ond mae problem o hyd gydag agweddau llywodraethu’r fargen ddinesig. Nawr, yn gynharach y mis hwn—ar 4 Hydref—mewn papur i bwyllgor craffu cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, tynnwyd sylw at y pryderon ynglŷn â’r materion llywodraethu. Beth yw ein sefyllfa mewn perthynas â’r materion llywodraethu, a phryd y byddwch yn gosod terfyn amser iddynt ar gyfer datrys y materion llywodraethu, gan fod rhai prosiectau yn barod i gychwyn, maent yn aros i’r broses hon gyrraedd pwynt lle y mae trefniadau llywodraethu ar waith ac y gallwn sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn iawn?

Wel, diolch i David Rees am y cwestiwn. Dirprwy Lywydd, hoffwn gadarnhau, yn dilyn fy nghwestiynau diwethaf, fod swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu ar y cyd at awdurdodau cyfansoddol y fargen ddinesig, yn cadarnhau ar 12 Hydref na fydd unrhyw un o’r Llywodraethau yn ei gwneud yn ofynnol i’r 11 achos busnes gael eu cymeradwyo cyn y gall yr arian lifo. Fodd bynnag, mae angen rhoi cyfres o gamau ar waith er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Maent yn gymharol syml eu natur, ond ar gyfer y cofnod, fe soniaf amdanynt yn gryno, Dirprwy Lywydd.

Y peth cyntaf yw bod angen i gynghorau llawn y pedwar awdurdod gytuno ar ddogfennau llywodraethu, ac yna bydd angen i’r ddwy Lywodraeth gytuno arnynt hefyd. Bydd hynny’n caniatáu i’r cyd-bwyllgor presennol ddod allan o’i ffurf gysgodol a chael ei benodi’n llawn fel cyd-bwyllgor sy’n gyfrifol am gyllid, staffio a phenderfyniadau cyfreithiol wrth gyflawni’r fargen. Bydd hynny’n caniatáu i achosion busnes gael eu cyflwyno, ac i’r arian lifo wedi iddynt gael eu cymeradwyo. Rwy’n awyddus iawn i’r fargen symud ymlaen o siarad am y fargen ei hun i’r cyfnod cyflawni. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor cysgodol, arweinwyr y pedwar awdurdod yn cyfarfod ar 16 Hydref, yn galonogol iawn, pan ddywedasant eu bod yn fwy penderfynol nag erioed i weld y fargen yn cael ei throi’n gamau gweithredu ymarferol ar lawr gwlad, a bod proses glir wedi’i nodi bellach iddynt allu sicrhau bod hynny’n digwydd.

Wel, mae’r llywodraethu a’r oedi sydd efallai’n deillio o’r ansicrwydd yn ei gylch ar hyn o bryd yn peri pryder i mi. Ac roedd eich sylwadau y llynedd yn galonogol iawn, pan ddywedoch wrthyf, unwaith y cytunir ar y fargen ac y sicrheir yr arian—ac rydych newydd gadarnhau hynny yn awr—y dylai’r bwrdd gynrychioli busnesau yn y rhanbarth. A rhoesoch sicrwydd i mi y byddech yn cynnwys y gofyniad pwysig hwn yn y trafodaethau rydych yn eu cael gyda’r bwrdd. Nawr, gwn ei bod yn ymddangos bod hynny ychydig yn agosach na ble’r oeddem y tro diwethaf inni siarad, ond mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd nad yw mentrau preifat yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y bwrdd cysgodol, ac rwy’n meddwl tybed sut y mae’ch sylwadau i’r bwrdd ar y pwynt pwysig hwn wedi symud pethau yn eu blaen.

Wel, diolch i Suzy Davies am hynny. Er mwyn rhoi ychydig mwy o fanylder, felly, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd trefniadau llywodraethu yn golygu cabinet ar y cyd o’r pedwar arweinydd. Yn y pen draw, gan fod hwn yn arian cyhoeddus sy’n perthyn i awdurdodau lleol yn ogystal â’r ddwy Lywodraeth, mae’n rhaid i unigolion etholedig wneud y penderfyniadau hynny. Ond rwyf wedi cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y dylid cael bwrdd strategaeth economaidd a fydd yn rhoi cyngor uniongyrchol i’r cabinet hwnnw. Bydd cynrychiolydd busnes o’r sector preifat yn cadeirio’r bwrdd strategaeth economaidd, ac rydym yn trafod â swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol sut y gallwn sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael ei benodi, a’r bobl a fydd yn eu cefnogi gyda’r gwaith hwnnw.

Yn ychwanegol at y materion llywodraethu, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ynglŷn â chyfraniadau ariannol ac elw mewn perthynas â’r pedwar awdurdod? Efallai y bydd yn rhaid i gynghorau fenthyca oddeutu £360 miliwn, sy’n her fawr mewn cyfnod o gyni. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â hynny? A hefyd, o ran y fargen ddinesig, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â’r angen i weithio ar draws sectorau, gyda llywodraeth leol, ac nid gyda’r sector preifat yn unig ond hefyd, yn enwedig, gyda’r sector iechyd, gan fod arloesi sylweddol ym maes iechyd yn digwydd yn lleol, a hoffem weld y ddau sector yn siarad â’i gilydd?

Dirprwy Lywydd, i fynd ar drywydd yr ail bwynt yn gyntaf, gan fod Dai Lloyd yn llygad ei le—mae’n bwysig iawn fod yr ystod o fuddiannau sydd â chyfraniad uniongyrchol i’w wneud at y fargen ddinesig yn cael eu cynrychioli o amgylch y bwrdd pan fydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud. Mae hynny’n amlwg yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain a’u partneriaid yn y sector preifat, ond mae gan y brifysgol rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hyn o beth—ac mae hynny wedi bod yn wir o’r cychwyn cyntaf—yn ogystal â bwrdd iechyd y brifysgol. A rhan o’r rheswm pam ei bod weithiau’n cymryd peth amser i gytuno ar drefniadau llywodraethu yw bod yn rhaid inni sicrhau bod yr holl ddarnau cydrannol hynny gennym ar waith a bod pob rhan yn hyderus y gall wneud y cyfraniad y mae’n awyddus i’w wneud.

O ran y trefniadau ariannol, fe’u cadarnhawyd yn nogfen wreiddiol y fargen. Bydd gwerth £1.3 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn dod i ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe o ganlyniad i’r fargen. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £125 miliwn o gyfalaf. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu £115 miliwn. Yna ceir cyfraniadau gan awdurdodau lleol ac o fuddiannau sector preifat hefyd. Mae’n bwysig fod awdurdodau lleol yn deall y bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio eu pwerau benthyca mewn rhai achosion er mwyn gwneud eu cyfraniad, ond credaf fod pawb, Dirprwy Lywydd, yn deall hynny’n iawn pan gytunwyd ar y fargen yn wreiddiol ym mis Mawrth.

Pobl sy’n Agored i Niwed

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae gwahanol elfennau o’r gyllideb ddrafft yn helpu’r grwpiau o bobl fwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful a Rhymni? (OAQ51237)

Diolch i Dawn Bowden am hynny. Wel, Dirprwy Lywydd, mae cadw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor gwerth £244 miliwn, £1 miliwn ychwanegol i roi hwb i’r gronfa cymorth dewisol ac £20 miliwn ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd ymhlith yr elfennau cyllidebol sy’n cynorthwyo’r grwpiau mwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful, Rhymni a thu hwnt.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn cytuno bod y gefnogaeth a gynigir i bobl sy’n agored i niwed yng nghyllideb ddrafft Cymru yn gwrthgyferbynnu’n llwyr ag anhrefn ffiaidd cynllun credyd cynhwysol y Torïaid. Mae diwygio lles, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mynd â biliynau o bunnoedd—ie, biliynau o bunnoedd—oddi ar gymunedau ein Cymoedd, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni, ac mae hyn, yn ei dro, yn gwneud bywydau gormod o bobl yn dlotach. Ac rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw gwaith banciau bwyd yn galonogol, fel y’u disgrifir gan Dorïaid blaenllaw, ond yn hytrach eu bod yn feirniadaeth drist o Brydain yr unfed ganrif ar hugain. Felly, er gwaethaf toriadau’r Torïaid i’n cyllideb yng Nghymru, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar ddarparu’r cartrefi cynnes a diogel sydd eu hangen ar ein pobl, y cymorth a’r cyngor ariannol y maent yn eu haeddu, ac yn estyn llaw y gall fod ei hangen ar bob un ohonom mewn cyfnod anodd, fel y gall pobl yng Nghymru wybod, o leiaf, ar ochr pwy rydym yn sefyll?

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r pwynt a wnaeth Dawn Bowden wrth agor ei chwestiwn atodol. Mynychais gyfarfod yn gynnar heddiw gyda chymdeithasau tai, y trydydd sector, undebau credyd—pob un ohonynt yn mynegi pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r effaith y mae’r newidiadau i gredyd cynhwysol eisoes yn ei chael mewn rhannau o Gymru. Mae rhai ohonom yn cofio’r adeg pan oedd gennym yr hyn a elwir yn system nawdd cymdeithasol, a’r hyn sydd gennym bellach yw gwrthwyneb hynny’n llwyr, system sy’n meithrin ansicrwydd ym mywydau’r bobl sydd leiaf abl i ymdopi â’r ansicrwydd hwnnw, a’r canlyniad yw bod costau’n cael eu creu ac yn cael eu dadleoli i rannau eraill o’r system. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi nodi bod y defnydd o fanciau bwyd mewn ardaloedd lle y rhoddwyd credyd cynhwysol ar waith yn llawn wedi cynyddu mwy na dwywaith y gyfradd mewn rhannau eraill o’r DU lle nad yw wedi’i roi ar waith. Ond fe’i gwelwn hefyd drwy’r cynnydd mewn ôl-ddyledion, achosion o droi allan, yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl, ac yn y blaen. Gwn fod Aelodau wedi gofyn i mi yn y gorffennol ynglŷn â’r ffordd y gellir defnyddio cyllidebau Llywodraeth Cymru i warchod gwead cymdeithasol ein cymdeithas ar adeg pan fo cymaint o bwysau arno, a lle y mae angen i unigolion ddibynnu arno gymaint â hynny’n fwy. Ac mae’r pwyntiau a wnaeth Dawn Bowden ynglŷn â’r hyn y ceisiwn ei wneud ym maes tai, o ran cefnogi’r bobl â’r angen mwyaf, yn rhan o’n hymdrechion parhaus i geisio defnyddio’r cyllidebau sydd gennym i warchod y gwead cymdeithasol hwnnw, gan y gwyddom cymaint y mae ei angen yma yng Nghymru.

Diolch, Gweinidog, am ateb cwestiwn Dawn Bowden gyda chymaint o fanylder. Ond credaf fod ochr arall i’r geiniog. Mae pobl sy’n agored i niwed ac ar incwm isel wedi cael ergyd drom gan fethiant y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio’r arian sydd ganddi i rewi’r dreth gyngor yng Nghymru, gyda’r canlyniad fod Cyngor ar Bopeth wedi labelu dyled y dreth gyngor fel ‘problem ddyled fwyaf Cymru’. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gynghorau godi—

[Yn parhau.]—y dreth gyngor 5 y cant o ganlyniad i gynigion yn y gyllideb ddrafft. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i liniaru problem dyledion y dreth gyngor a achosir gan godiadau cyson uwchben chwyddiant, ac i leddfu’r baich ar aelwydydd o dan bwysau ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yng Nghymru?

Dirprwy Lywydd, rwy’n gwrthod yr awgrym sydd wrth wraidd y cwestiwn hwnnw’n llwyr, sef y buasai pobl rywsut yn well eu byd pe baem wedi rhewi’r dreth gyngor yng Nghymru. Heb y gallu i godi’r dreth gyngor, yr hyn a wyddom yw y buasai gallu’r awdurdodau lleol i barhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt wedi ei beryglu hyd yn oed ymhellach. Mae polisi ei blaid o geisio rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr mewn anhrefn llwyr. Ychydig iawn o gynghorau sy’n derbyn y cynnig hwnnw bellach, ac mewn gwirionedd, cododd y dreth gyngor yn Lloegr ar gyfradd uwch nag yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yr hyn a wnawn, yn wahanol iawn i gynghorau a reolir gan ei blaid, yw parhau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag effaith y dreth gyngor—roedd y gyllideb a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn gynharach y mis hwn yn cynnwys £344 miliwn i sicrhau nad yw’r unigolion a’r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl yma yng Nghymru. Ar gyfartaledd, mae pobl ar y budd-daliadau hynny yn Lloegr yn talu £181 o dreth gyngor, ac mewn llawer o awdurdodau Torïaidd, maent yn talu dros ddwywaith y swm hwnnw. Mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn gorfod dod o hyd i arian bob wythnos o fudd-daliadau sydd wedi’u rhewi i dalu treth nad oes unrhyw un sydd yn yr amgylchiadau hynny yng Nghymru yn ei thalu o gwbl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn. Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion ei chyllideb ddrafft, gan gynnwys tablau manwl o linellau gwariant y gyllideb ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi mynegi pryder ynglŷn â llinell gyllideb Cefnogi Pobl o ystyried bod y llinell gyllideb benodol honno’n diflannu yn nhabl y gyllideb ar gyfer 2019-20. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn deall y pryderon hynod ddilys hyn gan ei fod yn rhan ganolog o’n cytundeb cyllidebol â Llywodraeth Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet fanteisio ar y cyfle hwn i egluro statws y grant Cefnogi Pobl am y ddwy flynedd ariannol, ac a all ymhelaethu’n benodol ar y berthynas rhwng y grant Cefnogi Pobl a grant cynnal refeniw llywodraeth leol ar gyfer y ddwy flynedd ariannol, o ystyried na fydd arian wedi’i neilltuo?

Well, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr am y cwestiwn a llongyfarchiadau mawr i ddechrau i Steffan Lewis am y cyfrifoldebau newydd yma yn y Siambr.

I’m very pleased to have the chance to answer that question. Let me begin, Dirprwy Lywydd, by just making it clear there are no cuts to the Supporting People programme in either year of the budget laid in front of this Assembly, and that is the result of the agreement that I reached with Plaid Cymru in the run up to it. Next year, Supporting People remains a separate single grant identifiable in the tables published yesterday. There is a proposal, which will be discussed and worked through with local authorities and the sector, to bring a number of grants together in the second year. The amount of money available for Supporting People in that second year is as it has been agreed. It has no cuts in it. The case for bringing related strands together is that they will allow for greater professional discretion in using money at the front line and in reducing the amount of money used up in the grant for administration. However, I know that the Cabinet Secretary for Communities and Children recognises the need to be able to go on demonstrating how the money is to be used, and he will be discussing ways to make that happen as part of his engagement with the sector, picking up from discussions in which this was explicitly discussed at the Supporting People national advisory board on 21 September.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Felly, er eglurder, ni fydd cael gwared ar glustnodi arian—a bydd hyn yn cael ei dreialu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yn ôl yr hyn a ddeallaf—a’r disgresiwn mewn ardaloedd peilot yn caniatáu i awdurdodau lleol danwario, fel petai, ar y grant Cefnogi Pobl. A all egluro a chadarnhau y bydd uno gyda ffrydiau grant eraill, fel petai, yn ategol yn hytrach na chystadleuol, ac yn yr achos hwnnw, y bydd pob ceiniog a ddyrennir ac a warentir ar gyfer y grant Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a’r flwyddyn ariannol wedyn yn cael ei gwario ar brosiectau Cefnogi Pobl?

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn yn y ffordd y mae’n ei roi, fod y grantiau’n cael eu dwyn ynghyd am eu bod yn ategu ei gilydd. Mae pob un ohonynt yn gweithredu ym maes atal ac ymyrraeth gynnar. Dirprwy Lywydd, dylwn fod wedi ateb y pwynt a wnaeth Steffan Lewis yn ei gwestiwn cyntaf i mi: nid cynnig i roi’r grant Cefnogi Pobl yn y grant cynnal refeniw yw hwn. Ni fydd yn mynd i mewn i’r rhan o’r setliad sydd heb ei neilltuo; bydd yn parhau i fod mewn grant sydd wedi’i neilltuo, lle y datblygir mecanweithiau’r modd y bydd y grant hwnnw’n gweithredu yn y dyfodol drwy ymgysylltu â’r sector ei hun, lle y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau cyflawni a lle y gwneir ôl-daliadau grant, yn amodol ar y ddarpariaeth honno. Felly, bydd mecanwaith clir ar gyfer yr arian rydym wedi’i gytuno ac a fydd yno dros y ddwy flynedd—bydd mecanwaith clir iawn i’w olrhain ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriedir.

Mae hwnnw’n bwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Rwy’n falch o glywed yr eglurhad y bydd y neilltuo’n parhau ar ryw ffurf. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn diflannu yn yr ail flwyddyn yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gallwn graffu’n briodol ac yn gywir fel cynrychiolwyr etholedig, ond hefyd o ran y sector yn ei gyfanrwydd, fod yr arian hwnnw, sy’n cael ei ddyrannu a’i warchod oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael ei wario ar yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod wedi egluro na fydd uno â grantiau eraill yn arwain at swm gostyngol i brosiectau Cefnogi Pobl a’i fod yn fath o neilltuo, er y byddai’n digwydd drwy ffurf wahanol ar gyfrifo, fel petai, a all ddweud ar gyfer y cofnod ac egluro y byddwn yn gallu craffu i sicrhau mai dyna sy’n cael ei gyflawni ar lawr gwlad mewn gwirionedd, hyd yn oed yn absenoldeb llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn llyfrau Llywodraeth Cymru?

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, os yw Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol yn penderfynu uno’r grantiau mewn un ffrwd grant, bydd hi’n bwysig gallu monitro’r camau sy’n llifo o’r ffrwd grant honno—y gall yr adran eu monitro’n fewnol, y gall y grŵp prosiect eu monitro ac y gellir eu cofnodi mewn ffordd sy’n caniatáu i Aelodau’r Cynulliad yma weld sut y caiff arian a ddyrennir drwy gytundebau a wnawn yma ei roi ar waith ar lawr gwlad, a manylion ynglŷn â sut y bydd mecanweithiau’r grant yn gweithredu yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, yn awyddus i sicrhau bod y mecanweithiau hynny’n cael eu cytuno gyda’r sector a chyda llywodraeth leol fel y gellir sicrhau eu tryloywder.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y buasech yn cytuno â mi—mewn gwirionedd, rydych wedi dweud hyn sawl tro yma yn y Senedd—fod natur agored a thryloywder ac ymddygiad da cynghorwyr yn allweddol i ymgysylltiad â’n democratiaeth wleidyddol ac i ddenu pobl i fod â ffydd yn ein system wleidyddol, gan ein helpu, yn y pen draw, i ddenu rhagor o bobl i sefyll fel ymgeiswyr. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gennyf e-bost yma, a anfonwyd gan gynghorydd Llafur Abertawe, Mark Child, i gyd-aelodau eich Plaid Lafur, ac fe’i hanfonwyd o’i gyfeiriad e-bost cyngor. Byddaf yn anfon copi o’r e-bost hwnnw atoch, ond rwyf am ddarllen darn byr iawn ohono:

Helo David et al, Bydd y cyfarfod llawn nesaf ar ddydd Iau 26 Hydref... Mae cyfle i ofyn cwestiynau o’r oriel gyhoeddus yn y cyfarfod llawn.

Mae’n mynd yn ei flaen i ofyn i gyd-aelodau o’i blaid helpu i ddod o hyd i aelodau o’r cyhoedd i ofyn amrywiaeth o gwestiynau ar eu rhan. Mewn perthynas ag un cwestiwn ynglŷn â llwybrau beiciau, mae’r cynghorydd yn gofyn,

A all rhywun ofyn syniad pwy oedd hwn er mwyn i ni allu ateb "cynigion Llafur ydoedd ar gyfer Llandeilo Ferwallt"‘.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 13:50:00

Ai hwn yw’ch cwestiwn mewn gwirionedd?

A ydych chi’n credu bod y math hwn o beth yn help i’r cyhoedd fod â hyder mewn llywodraeth leol? Fel yr aelod Cabinet—[Torri ar draws.]—sydd â chyfrifoldeb am lywodraeth leol, a wnewch chi ymchwilio i’r achos amlwg hwn o ddiffyg parch tuag at y drefn briodol ac o ddwyn anfri ar y cwestiynau cyhoeddus sydd ar gael mewn rhai awdurdodau lleol?

Wel, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at weld yr e-bost yn llawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf wedi gwrando arno, clywaf unigolyn a etholwyd yn gyhoeddus yn annog y syniad y gallai aelodau o’r cyhoedd ddod i ofyn cwestiynau mewn un o gyfarfodydd cyhoeddus y cyngor. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld, hyd yn hyn, beth sydd o’i le gyda hynny, ac rwy’n hollol sicr fod yr holl bleidiau gwleidyddol yma’n sicrhau bod eu haelodau’n cael gwybod am bethau, a phan fo materion sydd o ddiddordeb iddynt yn cael eu trafod, eu bod yn gallu dod i gymryd rhan mewn fforymau democrataidd.

Mae’n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf yn meddwl eich bod yn deall trafodion llywodraeth leol. Amser yw hwn sy’n cael ei neilltuo ar gyfer aelodau o’r cyhoedd a all ddod i graffu ar yr hyn y mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynddo. Nid y bwriad yw bod plaid wleidyddol, o unrhyw liw, yn bwydo cwestiynau i bobl wneud hynny fel y gallant sgorio pwyntiau gwleidyddol. Yn onest—ac mae’r ffaith eich bod yn chwerthin am hyn, credaf fod hynny’n gywilydd arnoch fel Ysgrifennydd y Cabinet, a ddylai fod, mewn gwirionedd, yn croesawu ac yn annog gwir ddemocratiaeth leol. Mae hyn yn ffolineb llwyr. Nawr, mae’n amlwg fod y Blaid Lafur yn ceisio camddefnyddio cyfarfodydd llawn y cyngor drwy wahodd gweision bach i ofyn cwestiynau wedi’u plannu. Gobeithiaf yn wir y byddwch o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn. Ni ddylent fod yn defnyddio eu swyddfa a ariennir yn gyhoeddus er budd eu plaid, ac oni fuasech yn cytuno bod hyn, mewn gwirionedd, yn torri rheolau ymddygiad cynghorwyr ac y dylid cyfeirio’r mater at y pwyllgor safonau? Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. A wnewch chi ofyn i’ch cyd-Aelod, hyd yn oed y Prif Weinidog, os nad ydych chi’n barod i wneud hynny, ymchwilio i’r ymddygiad hwn? Ond a wnewch chi, o leiaf, gondemnio, mor gryf â phosibl, unrhyw gyngor yng Nghymru, neu unrhyw blaid wleidyddol sydd â chynghorwyr etholedig yng Nghymru, sy’n tanseilio prosesau craffu priodol yn y modd hwn?

Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn fod pob dinesydd yng Nghymru sydd â diddordeb yn nhrafodion cyrff democrataidd yn gallu cymryd rhan i’r graddau mwyaf sydd ar gael yng ngwaith y cyrff hynny, drwy ofyn cwestiynau a chraffu ar bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Os yw’r Aelod o’r farn fod achos o dramgwyddo yn erbyn y drefn briodol wedi digwydd, byddai ei diddordeb gofalus mewn gweithdrefnau wedi ei harwain i ddod i’r casgliad mai’r peth cywir i’w wneud yw tynnu sylw’r awdurdodau sy’n gyfrifol am eu monitro at yr achosion hynny o dorri’r rheolau, yn hytrach na lledaenu awgrymiadau y dylai pobl heb unrhyw gyfrifoldeb o’r fath fynd i’r afael â hwy. Felly, os oes ganddi gŵyn, ac mae’n credu bod ganddi un, dylai roi gwybod amdani yn y ffordd briodol, a sicrhau ei bod yn cael ei hymchwilio yn y ffordd briodol. Fel y dywedais, hyd yn hyn, o’r hyn y’i clywais yn ei ddarllen y prynhawn yma, yr hyn y’i clywais yn ei ddarllen yw bod aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddod i gymryd rhan mewn dadl ddemocrataidd.

Wel, i mi, mae hynny’n dweud eich bod wedi diystyru eich cyfrifoldeb fel Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r materion hyn—[Torri ar draws.] Mae’r materion hyn yn esbonio’n rhannol y diffyg ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, ac rwy’n awyddus i’ch holi ynglŷn ag ymgeisyddiaeth yng Nghymru yn awr, sy’n wynebu argyfwng. Ym mis Medi, dywedodd y Comisiwn Etholiadol fod 7 y cant—7 y cant—o’r holl seddi sirol a bwrdeistrefol wedi eu cadw’n ddiwrthwynebiad yn yr etholiadau ym mis Mai. Nawr, roedd 100 y cant o’r seddi cyngor tref a chymuned yn ein prifddinas, Caerdydd, yn ddiwrthwynebiad neu’n wag yn yr etholiadau eleni. Ni fydd gobeithio y gellir cynyddu diddordeb mewn ymgeisyddiaeth trwy ddiwygio llywodraeth leol yn ddigon. Dyma ble na safodd unrhyw un a lle na chafodd neb eu hannog i ymgeisio am sedd mewn etholiad democrataidd ym mis Mai. Credaf, unwaith eto, fod hyn yn fethiant ar ran Llywodraeth Lafur Cymru. A wnewch chi ymrwymo’ch Llywodraeth, yn y dyfodol, i gymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â’r argyfwng democrataidd hwn—? Ac wrth bawb sy’n mwmian ar y meinciau cefn: yn y pen draw, fel rwyf wedi’i ddweud droeon, nid ydym wedi cael cyfle eto i arwain ar rai o bortffolios Aelodau Llafur Cymru yma, ond gallaf ddweud wrthych yn awr, pe bai’r Ceidwadwyr Cymreig yn arwain llywodraeth leol yng Nghymru, gallaf sicrhau’r cyhoedd y buasai mwy o dryloywder, democratiaeth ac atebolrwydd democrataidd.

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â nifer y seddi diwrthwynebiad mewn cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn etholiadau mis Mai. Rwy’n awyddus i ni wneud mwy fel Llywodraeth, ond nid cyfrifoldeb llywodraethau’n unig yw cymryd camau yn hynny o beth. Yn ein prif etholiadau cyngor, cafwyd mwy o ymgeiswyr nag erioed o’r blaen, ac mae hynny’n arwydd y gall ymdrechion i ddenu mwy o bobl i sefyll etholiad fod yn llwyddiannus. Rwy’n falch iawn o fod yn aelod o blaid a gyflwynodd gannoedd yn fwy o ymgeiswyr nag y gwnaeth ei phlaid hi yn yr etholiadau hynny. Fe ddywedaf wrthi, yn union fel y mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau bod swyddi cynghorwyr tref a chymuned yn ddeniadol ac yn cael eu hysbysebu’n eang, mae gan bob un ohonom ninnau, fel pleidiau gwleidyddol ar wahân, gyfrifoldeb i geisio annog pobl i sefyll etholiadau, ac mae’r ffaith nad etholwyd unrhyw un i gynghorau tref a chymuned Caerdydd yn adlewyrchu anallu ei phlaid hi lawn cymaint ag unrhyw blaid wleidyddol arall i ddod o hyd i bobl i ymgeisio am y swyddi hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd gennym banel o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma, Gweinidog, yn trafod materion yn ymwneud â’r gyllideb ddrafft. Gŵyr pob un ohonom fod hwn yn gyfnod anodd ar gyllid llywodraeth leol, ond un peth a fuasai’n helpu cynghorau i wneud penderfyniadau yw rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â lefelau cyllid ar gyfer y dyfodol. Gwn eich bod wedi darparu cyllideb ddangosol ar gyfer 2019-20, felly rydym wedi symud i gylch dwy flynedd. Yn yr Alban, mae ganddynt gylch tair blynedd i bob pwrpas. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw am setliad aml-flwyddyn ac yn dweud y buasai setliad tair blynedd yn help mawr iddynt allu blaen-gynllunio. Beth yw eich ymateb i hynny?

Wel, dywedaf hyn wrth yr Aelod: rwy’n rhannu uchelgais Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gylch tair blynedd—carwn pe bawn mewn sefyllfa i wneud hynny drostynt—ond nid oes gennym gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer trydedd flwyddyn y cylch hwn am na chynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o wariant gan y Llywodraeth newydd a etholwyd ym mis Mehefin eleni, ac mewn amgylchiadau lle nad wyf yn gwybod faint o arian a fydd ar gael inni ei ddefnyddio ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Cymru, ni allaf roi cyllideb ddangosol synhwyrol a dibynadwy i lywodraeth leol ar gyfer y drydedd flwyddyn honno. Carwn pe bawn mewn sefyllfa i wneud hynny, gan fy mod yn deall y pwyntiau a wnaethant i chi ac a wnaethoch y prynhawn yma ynglŷn â’r modd y gallai hynny eu helpu i allu cynllunio.

Dirprwy Lywydd, deuthum i’r casgliad ei bod yn bosibl darparu cyllideb gadarn ar gyfer y flwyddyn nesaf a chyllideb ddangosol ddibynadwy ar gyfer yr ail flwyddyn yn y gyllideb a gyflwynais ar 3 Hydref. Heb y ffigurau sydd eu hangen arnaf gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pha siâp fydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn y drydedd flwyddyn, nid oedd gennyf wybodaeth ddigon dibynadwy i roi ffigurau y gallai llywodraeth leol eu defnyddio i gynllunio’n briodol.

Ie, diolch am yr eglurhad. Wrth gwrs, byddai diffyg gwybodaeth yn gwneud hynny’n anodd iawn, felly rwy’n cymryd bod y sefyllfa o ran Llywodraeth y DU a’r Alban yn wahanol, felly, i sefyllfa Llywodraeth y DU a chyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Gan barhau â thema ariannu llywodraeth leol, yn y gorffennol rydych wedi pwysleisio’r angen i chwilio am ffynonellau incwm gwahanol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod hyn yn haws i gynghorau yn Lloegr ei gyflawni ar hyn o bryd oherwydd eu pŵer cymhwysedd cyffredinol. Clywsom heddiw fod cynghorau yn Lloegr wedi buddsoddi mewn gorsafoedd petrol, mewn archfarchnadoedd, ac yn Llundain, maent hyd yn oed yn berchen ar eu canolfannau siopa eu hunain. Pe bai gan gynghorau yng Nghymru bŵer cymhwysedd cyffredinol, a fuasai’r llwybr mwy entrepreneuraidd hwn yn llwybr da iddynt ei ddilyn, yn eich barn chi, neu a fuasai gormod o anfanteision posibl?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n awyddus i roi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd hynny’n rhan o’r Bil drafft a gyhoeddwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad ac fe’i croesawyd yn eang gan awdurdodau lleol. Mae’n un o’r rhesymau pam rwy’n awyddus i fwrw ymlaen â diwygio llywodraeth leol fel y gallwn gyflwyno Bil gerbron y Cynulliad hwn a fydd yn rhoi’r union allu hwnnw i awdurdodau lleol yng Nghymru. Credaf y byddant yn awyddus i edrych yn ofalus ar rai o’r ffyrdd y mae’r pwerau hynny wedi cael eu defnyddio dros y ffin. Credaf fod rhai gwersi cadarnhaol y gellir eu dysgu o bethau y gallai’r awdurdodau lleol yno fod wedi gallu eu gwneud. Mae rhai o’r buddsoddiadau mwy mentrus a wnaed, o’r math a amlinellodd Mr Bennett, yn achosi rhai pryderon mewn rhai rhannau o Loegr ynglŷn ag a yw arian y trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi’n ddibynadwy ac a fydd yn darparu enillion priodol i drethdalwyr lleol. Weithiau, mae’n lwcus i fod yr ail i wneud rhywbeth gan y gallwch ddysgu o brofiad y rheini a aeth yn gyntaf. Dyma faes lle y credaf y gall llywodraeth leol yng Nghymru ystyried y profiad dros y ffin, a defnyddio’r pŵer newydd rydym yn awyddus i’w roi iddynt lle y gallant ei ddefnyddio er mantais, ond heb gael eu denu efallai i rai meysydd gweithgaredd lle na fuasai mor hawdd gwarantu’r enillion priodol a’r lefelau uniondeb y buasem yn eu disgwyl.

Ie, diolch. Mae hynny, wrth gwrs—. Credaf fod angen i chi feddwl am yr anfanteision posibl, ac fe’u hamlinellwyd gennych, felly credaf fod hwnnw’n ateb synhwyrol.

Nawr, datblygiad arall yn Lloegr—[Torri ar draws.] Datblygiad arall yn Lloegr yw bod o leiaf un cyngor wedi llwyddo i sefydlu cwmni ynni dielw. Robin Hood Energy yn Nottingham yw’r cwmni hwnnw. Nawr, pe bai’r pwerau cymhwysedd cyffredinol hyn yn dod i Gymru, a ydych yn credu y buasai hwnnw’n syniad y gallai rhai cynghorau lleol fynd ar ei drywydd yn effeithiol yma?

Wel, Dirprwy Lywydd, mae gennym hanes hir a balch iawn yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl dros nifer o flynyddoedd—ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd—o sosialaeth ddinesig, lle’r oedd awdurdodau lleol yn wir yn gyflenwyr uniongyrchol i wasanaethau cyfleustodau fel dŵr ac ynni. Nawr, rwy’n awyddus i weld rhywfaint o’r ysbryd hwnnw’n cael ei ailddyfeisio yn y cyfnod modern. Ni allwch wneud pethau’n union fel y caent eu gwneud bryd hynny, ond mae dod o hyd i ffyrdd newydd y gall awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau, gan sicrhau eu bod—ac onid yw hyn yn wir am y cynllun yn Swydd Nottingham? Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw’r rhai sydd leiaf abl i dalu biliau o dan anfantais bellach wrth gael eu denu at y mathau drytaf o dariff. Drwy drefnu pethau ar sail gyhoeddus ac ar sail dosbarthu dielw, mae’n fwy posibl sicrhau bod tariffau ar gael sy’n diogelu’r rheini sydd angen eu diogelu fwyaf. Rwy’n siŵr y bydd rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn awyddus i edrych ar y profiad hwnnw a gweld a allant wneud mwy o’r math hwnnw o beth yma yng Nghymru.

Y Cap ar Gyflogau’r Sector Cyhoeddus

3. A wnaiff Llywodraeth Cymru gael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus? (OAQ51243)

Dirprwy Lywydd, dylai’r cap cyflog a osodwyd gan Lywodraeth y DU ddod i ben, a rhaid i Lywodraeth y DU, nid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ddod o hyd i’r arian i wneud hynny.

Wel, y mis diwethaf ymrwymodd Llywodraeth yr Alban, yn ei rhaglen lywodraethu, i gael gwared ar y cap cyflog ar gyfer staff y GIG, ar gyfer athrawon, ar gyfer gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus sy’n ei chael yn anodd. Wrth ymateb i hyn, dywedodd arweinydd dros dro’r Blaid Lafur yn yr Alban, Alex Rowley:

Mae’n hen bryd i’r SNP wneud y tro pedol hwn, ac mae’n braf gweld bod

yr ysgrifennydd cyllid

Derek Mackay wedi dilyn arweiniad Llafur wrth gael gwared ar y cap cyflog o’r diwedd.

Nawr, mae Llafur yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cap cyflog. Maent yn canmol Llywodraeth yr Alban am gael gwared ar y cap cyflog. Ond mae’r unig Lywodraeth a allai gael gwared arno eu hunain yn gwrthod gwneud hynny. Onid rhagrith o’r math gwaethaf yw hyn?

Adlewyrchiad yw hyn, Dirprwy Lywydd, o’r gwahanol ddulliau sydd ar gael i Lywodraethau gwahanol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig. Rwy’n cyfarfod â Derek Mackay yfory. Edrychaf ymlaen at drafod gydag ef pa mor bell y mae wedi mynd gyda’i gynlluniau. Nid oes gennym lawer o fanylion eto ynglŷn ag i ba raddau y gellir cael gwared ar y cap cyflog yn yr Alban, na sut y mae’n bwriadu talu am hynny, ond mae ei allu i godi arian yn wahanol iawn i’n gallu ninnau, ac nid oes yn rhaid iddo wneud rhai o’r dadleuon sy’n rhaid i mi eu gwneud ynglŷn ag effaith Llywodraeth y DU ar ein cyllideb. Felly, edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gydag ef, ond nid yw’r gwahaniaeth yn ymwneud â’r hyn a amlinellodd Adam Price, ond yn hytrach, mae’n ymwneud â’r set wahanol o offer a galluoedd sydd gan wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i roi camau gweithredu ar waith yn y maes hwn.

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu codiad cyflog. Mae angen codiad cyflog ar weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn dal i dalu’r pris am y bancwyr casino cyfalafol a aeth â ni i mewn i argyfwng economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen i San Steffan ddod â chyni i ben a chynyddu’r dyraniad cyllidebol i Gymru fel y gallwn roi’r codiad cyflog haeddiannol y dylai gweithwyr yng Nghymru ei gael?

Dirprwy Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd Mike Hedges. Wrth gwrs, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu cael eu talu’n iawn am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mae’n llygad ei le wrth nodi’r ffaith bod pobl sy’n ymdrechu i ymdopi ar gyflogau nad ydynt wedi codi o un flwyddyn i’r llall yn gofyn sut mai hwy oedd yn gyfrifol am yr argyfwng bancio ddegawd yn ôl, tra bo’r rhai a oedd yn gyfrifol amdano i’w gweld yn gorfod ysgwyddo llawer iawn llai o’r baich hwnnw. Mae Mike yn llygad ei le hefyd, Dirprwy Lywydd, yn dweud, yn union fel y dylid cael gwared ar y cap cyflog yng Nghymru, fod yn rhaid i’r cyfrifoldeb am dalu i gael gwared ar y cap hwnnw, am y polisi hwnnw yn y lle cyntaf, ddod gan y rhai sy’n gyfrifol amdano. Rhaid iddynt hwy ddarparu’r arian. Os ceir gwared ar y cap yng nghyllideb mis Tachwedd a bod yr arian yn llifo i Gymru er mwyn cael gwared ar y cap hwnnw, mae’r Prif Weinidog wedi gwarantu y bydd pob ceiniog ohono’n cael ei neilltuo at y diben hwnnw.

Er ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yn rhaid cael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac y dylid talu pob gweithiwr, nid ychydig o rai dethol yn unig, yn gymesur â’u graddfeydd gwaith, rydym hefyd yn credu bod cyfleoedd enfawr i osgoi’r lefelau uchel o wastraff mewn rhai rhannau o’r sector cyhoeddus. Mae biwrocratiaeth a gwastraff yn gyffredin o hyd yn y GIG, ac mewn rhai achosion, gellid dweud eu bod ar lefelau epidemig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai trwy leihau’r lefelau enfawr o staffio biwrocrataidd sy’n endemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn unig y gallwn ariannu’r staff sydd ar y rheng flaen go iawn, gyda chyflogau sy’n gymesur â’u cyfrifoldebau, a gwneud hynny ar sail gynaliadwy?

Nid wyf yn cytuno â phwynt yr Aelod yn y ffordd y mae’n ei wneud. Buaswn wedi cytuno gydag ef pe bai ond wedi dweud bod yna bob amser arbedion effeithlonrwydd y gellir eu gwneud ac y dylid eu gwneud mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n sicr yn wir. Serch hynny, mae bwrw ymlaen i wneud honiad llawer mwy eithafol fod gwasanaethau cyhoeddus yn fiwrocratiaethau chwyddedig yn mynd yn groes i’r hyn y gwyddom amdanynt. Mae llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus wedi eu diberfeddu i raddau helaeth, ac maent wedi lleihau eu gallu yn y canol i redeg sefydliadau mawr a chymhleth iawn ar yr hyn yr ystyriaf yn lefel isaf i allu bod yn gynaliadwy. A yw hynny’n golygu na ddylent barhau i geisio sicrhau bod arian yn cael ei wasgu allan a’i roi i’r rheng flaen? Nac ydy. A ddylai’r arian hwnnw fynd i’r bobl sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen? Dylai. A ddylai’r arian hwnnw gael ei gyfeirio at rai pobl ddethol, fel y mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi awgrymu? Na ddylai.

Awdurdodau Lleol a’u Dyletswyddau Atal

4. Pa ddarpariaeth ariannol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gwneud ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau atal? (OAQ51227)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cyfran fawr o wariant llywodraeth leol yn helpu i atal anawsterau rhag digwydd, neu i atal yr anawsterau hynny rhag dirywio ymhellach. Er mwyn cynorthwyo pob awdurdod lleol gyda’r ymdrechion hyn, rwyf wedi penderfynu darparu £1.77 miliwn yn ychwanegol at y setliad llywodraeth leol i sicrhau na fydd cyllideb unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gostwng fwy nag 1 y cant o gymharu â’r flwyddyn gyfredol.

Diolch. Wel, mewn gwirionedd, y Groes Goch a dynnodd fy sylw at y cwestiwn hwn, ac ar ôl hynny, ysgrifennais atoch gyda chwestiwn ysgrifenedig, ac roedd eich ateb yn cydnabod bod llywodraeth leol yn gyfrifol am ystod o wasanaethau ataliol, ond yn yr un modd, wedyn, fe ymateboch chi gan gyfeirio at gyllid llywodraeth leol yn gyffredinol. Pa ystyriaeth a roesoch, felly, i ddarpariaeth ariannol yn y cyd-destun y bydd datblygiadau cynaliadwy dan arweiniad y gymuned ar lefel awdurdodau lleol sy’n ysgogi unigolion, cymdeithasau a sefydliadau i ddod at ei gilydd ac adeiladu ar eu hasedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, gan sicrhau eu bod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau, yn atal anghenion gofal rhag dod yn fwy difrifol, ac felly’n arbed arian i awdurdodau lleol ar adegau pan fo’r gyllideb yn lleihau ac fel arall?

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n cytuno’n rheolaidd â’r hyn y dywed Mark Isherwood ynglŷn â’r angen i’r holl wasanaethau cyhoeddus ystyried eu defnyddwyr fel asedau, er mwyn sicrhau, pan fo pobl yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, nad ydynt yn cael eu hystyried yn broblemau i’w datrys, ond yn gyd-gyfranogwyr yn y gwaith o sicrhau gwelliant. Mae’r ymdeimlad hwnnw o gydgynhyrchu’n arbennig o bwysig mewn gwasanaethau ataliol. Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru fod ein trydydd sector mor fywiog ac yn helpu i ysgogi dinasyddion yn yr union ffordd honno, ac rwyf bob amser wedi credu bod awdurdodau lleol sy’n ceisio ymgysylltu â’u dinasyddion yn y ffordd gadarnhaol honno yn debygol o allu cael mwy o effaith gyda’r cyllidebau sydd ganddynt, yn enwedig mewn perthynas ag atal.

Trethi Newydd

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr egwyddorion sy’n llywio ystyriaeth Llywodraeth Cymru o drethi newydd? (OAQ51244)[W]

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae’r pump egwyddor sy’n sail i bolisi trethi Cymru, fel y maent wedi’u nodi yn y fframwaith polisi trethi, yn llywio ein hystyriaeth o drethi newydd.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb. Ond o gofio bod y trethi newydd, wrth gwrs—unrhyw dreth newydd sy’n cael ei chyflwyno—yn gorfod cael cydsyniad Llywodraeth San Steffan yn ogystal, ac o edrych ar y pedair treth sydd nawr o dan ystyriaeth, pob un gyda rhinweddau ac anfanteision sy’n amrywio o’i gwmpas, pa mor bwysig yw e i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet bod o leiaf un o’r trethi yna, y dreth yn ymwneud â gwaredu plastig, yn newid ymddygiad pobl yn hytrach na chael ei gweld fel dreth sy’n codi arian oddi ar bobl? A ydy hwnnw’n awgrymu bod treth o’r math yna, fel gyda bagiau plastig o’r blaen, yn yr archfarchnadoedd ac ati, yn dreth sydd yn debyg o ennill cefnogaeth nid yn unig yn San Steffan, ond hefyd gan drwch y boblogaeth yma yng Nghymru?

Wel, Dirprwy Lywydd, jest i ddweud bod un o’r trethi newydd sydd gyda ni yn barod—y dreth gwarediadau tirlenwi, wrth gwrs—yn enghraifft o dreth sy’n trio cael effaith ar ymddygiad pobl mwy na chodi arian. So, rydw i’n cydnabod yr egwyddor y mae Simon Thomas wedi’i hawgrymu. Mae’r trethi newydd, pan fyddem ni’n eu hystyried nhw, pan fyddem ni’n gwneud yr achos y bydd yn rhaid i ni ei wneud pan fyddem ni’n mynd i San Steffan—mae mwy nag un peth rŷm ni’n gallu rhoi i mewn i’r asesiad yna, a’r effaith ar ymddygiad, gydag un neu ddau o bethau, yw un o’r pethau pwysig rŷm ni’n gallu gweithio lan a rhoi mewn i’r penderfyniad y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn y flwyddyn newydd, pan fyddem ni’n dod i ddewis un o’r posibiliadau i’w roi ymlaen i brofi’r posibiliadau newydd sydd gyda ni dan y Ddeddf Cymru 2014.

Neithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, mynychais gyfarfod grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, ac roedd llawer o weithredwyr twristiaeth yno a oedd yn bryderus iawn ynglŷn â’ch awgrym y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i weithredu treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’r genie, wrth gwrs, wedi dianc o’r botel, a hyd yn oed os ydych yn diystyru hyn yn gynnar, ac rwy’n mawr obeithio y gwnewch, bydd bwgan y posibilrwydd o dreth dwristiaeth rydych wedi caniatáu iddo fod ym meddyliau pobl yn peri pryder iddynt. Maent eisoes wedi dweud hyn yn y cyfarfod. Nawr, o ystyried y ffaith—[Torri ar draws.] O ystyried y ffaith bod hyn wedi cael ymateb mor negyddol gan y diwydiant twristiaeth fel ei fod yn achosi i lawer o fusnesau twristiaeth oedi rhag buddsoddi yn eu cyfleusterau eu hunain, a ydych yn derbyn bod hyd yn oed crybwyll awgrymiadau ar gyfer treth dwristiaeth wedi bod yn gamgymeriad enfawr, ac a fyddwch yn awr yn diystyru hyn am y tymor Cynulliad hwn o leiaf?

Mae’r Aelod, fel bob amser, yn gorliwio’i achos i’r fath raddau nes ei fod yn colli unrhyw effaith y gallai fod wedi’i chael. Hoffwn glywed am ei gyfarfod neithiwr. Rwy’n gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill—[Torri ar draws.]

Rydych wedi gofyn y cwestiwn. A wnewch chi wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, heb dorri ar draws? Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwyf ond yn dweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill o’i blaid i fynychu’r cyfarfod hwnnw a gofyn cwestiynau. Fel arall, bydd yr Aelod y tu ôl iddo—bydd mewn cryn drafferth gyda hi yn sgil hynny.

Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yr hyn rydym wedi’i wneud yw cynnig pedwar syniad posibl—pob un ohonynt yn syniadau hollol brif ffrwd, pob un ohonynt yn syniadau sydd wedi’u profi mewn rhannau eraill o’r byd. Mae pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Nid ydynt yn ddim mwy na phosibiliadau a bydd pob un ohonynt yn cael ei ddadansoddi’n ofalus.

Yr hyn sy’n siom go iawn i mi ynglŷn â chyfraniad yr Aelod, Dirprwy Lywydd, yw ei fod eisiau cau’r caead ar y ddadl cyn iddi ddechrau hyd yn oed, yn hytrach na defnyddio’r cyfle newydd sydd gennym yma yng Nghymru i gael trafodaeth agored ynglŷn â’r pethau hyn ac i glywed y dystiolaeth a chlywed gan bobl sydd â safbwyntiau gwahanol a phwyso a mesur wedyn yn y ffordd briodol. Credaf fod honno’n ffordd siomedig o feddwl sut y dylai ein democratiaeth weithio yma yng Nghymru.

I ddilyn y cwestiwn hwnnw—rwy’n deall na fydd yr Ysgrifennydd cyllid, yn amlwg, yn gallu ystyried na diystyru unrhyw un o’r trethi hyn ar hyn o bryd—a wnaiff gofio, wrth iddo wneud ei benderfyniad, adroddiad Fforwm Economaidd y Byd ar deithio, sydd wedi gosod y Deyrnas Unedig yn safle 140 o 141 o wledydd yn y byd mewn perthynas â chystadleurwydd o ran cost yn y diwydiant twristiaeth? Un wlad yn unig yn y byd sydd â threthi twristiaeth uwch na ni eisoes, os ydych yn cynnwys pethau fel y doll teithwyr awyr a TAW, a dylai cynnal cystadleurwydd economi Cymru, yn enwedig ar gyfer twristiaeth ryngwladol, fod yn un o’r egwyddorion pwysig sy’n sail i unrhyw benderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynglŷn â threthi.

Credaf fod yr holl dystiolaeth o unrhyw fan yn y byd yn werth ei hystyried yn rhan o’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynglŷn â pha rai o’r trethi hyn sy’n werth bwrw ymlaen â hwy. Mae llawer o enghreifftiau o drethi twristiaeth mewn mannau eraill. Mae angen inni ystyried beth yw eu manteision a lle y nodwyd anfanteision. Gellir ystyried y dystiolaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati y prynhawn yma yn rhan o’r ddadl ehangach honno.

Yn dilyn cwestiwn Simon ynglŷn â’r egwyddorion sy’n sail i drethi neu ardollau newydd, a gaf fi ofyn i ba raddau y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r egwyddorion sy’n sail iddi wedi eu hymgorffori yn y cynigion newydd? Gwyddom y bydd y gyfran o bobl hŷn y rhagwelir y bydd angen gofal preswyl arnynt yn codi dros 80 y cant erbyn 2035, mewn llai nag 20 mlynedd, ynghyd â chynnydd o bron i 70 y cant yn y gyfran sydd angen gofal dibreswyl.

Mae Gerald Holtham a Tegid Roberts wedi awgrymu y gallai ardoll fach wedi’i neilltuo, o dan arweiniad ymddiriedolwyr i fynd i gronfa, cronfa yswiriant cymdeithasol estynedig yng Nghymru, ariannu gofal cymdeithasol digonol yng Nghymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Oni fuasai hon yn enghraifft wych o ddefnyddio’r egwyddorion a ymgorfforir yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i arwain datblygiad trethi ac ardollau yng Nghymru ac i wella bywydau dinasyddion Cymru?

Diolch i Huw Irranca-Davies. Mae tri o’r pedwar posibilrwydd gwahanol ar ein rhestr bellach wedi cael eu crybwyll y prynhawn yma. Credaf fod hynny’n arwydd da iawn o’n gallu i gael trafodaeth briodol ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio pwerau sydd wedi dod i Gymru.

Mae gwaith Gerry Holtham a Tegid Roberts yn ddifrifol iawn. Gwn eu bod wedi cyfarfod yn ddiweddar â’m cyd-Aelod Rebecca Evans ac wedi sôn am fwy o waith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu ar y posibilrwydd hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud wedyn, Dirprwy Lywydd, fel rwyf wedi egluro yn y Siambr o’r blaen, yw treialu’r mecanweithiau newydd a nodir yn Neddf 2014. Byddaf yn trafod hynny gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan fyddaf yn cyfarfod â hi yfory. Ceir cyfres o brofion y bydd angen i ni allu eu hateb ar lefel y DU yma pan fydd Llywodraeth yn penderfynu pa geisiadau i’w cyflwyno, os o gwbl. Yna, byddai cysondeb ag egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn sicr yn rhywbeth y byddai unrhyw Weinidog yn disgwyl i Aelodau eraill graffu arno a’i brofi.

Trethi yn ystod y Pumed Cynulliad

6. Pa astudiaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal ynghylch effaith bosibl unrhyw drethi y mae’n ystyried eu cyflwyno yn ystod y pumed Cynulliad? (OAQ51236)

Diolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Fel y gŵyr, rwyf wedi cyhoeddi pedwar cynnig treth posibl, i gael eu hystyried yn ystod yr hydref. Byddwn yn parhau i ofyn am farn a thystiolaeth er mwyn llywio’r penderfyniad ynglŷn â pha un o’r pedwar posibilrwydd y dylid bwrw ymlaen ag ef i’r cam nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb. Ar dudalen 23 o adroddiad polisi trethi Llywodraeth Cymru, ceir ymffrost eu bod wedi cael cryn dipyn o ymateb gan y cyhoedd i’r alwad am syniadau am gynigion ar gyfer trethi newydd. Dengys ffigurau yn yr un adroddiad eich bod wedi cael cyfanswm o 305 o ymatebion, sy’n 0.009 y cant o boblogaeth Cymru. Gellid dadlau eich bod wedi gorliwio pethau i raddau. A allwch ddweud wrthyf faint o’r ymatebion hyn a gafwyd gan unigolion preifat yn hytrach na grwpiau lobïo, a sawl un a awgrymodd mai ardoll dwristiaeth oedd y ffordd orau ymlaen?

Wel, mae fy marn i ynglŷn â’r ffaith bod 300 o ymatebion wedi dod i law i ddatganiad a wnaed yma yn y Cynulliad yn wahanol i farn yr Aelod. Nid oedd yn ymarfer ymgynghori swyddogol hyd yn oed. Rwy’n cofio dweud yma yn ystod y datganiad fy mod, am yr unig dro yn fy mhrofiad, yn cael negeseuon e-bost yn y Siambr gan aelodau o’r cyhoedd fel rhan o’r ddadl honno. Credaf fod y ffaith bod 300 o bobl wedi penderfynu bod hon yn drafodaeth roeddent yn awyddus i fod yn rhan ohoni, a bod 60 o syniadau gwahanol wedi dod i’r amlwg o ganlyniad iddi—credaf fod hynny, yn fy marn i, yn arwydd eithaf amlwg fod pobl yn awyddus i ddangos diddordeb ac yn awyddus i wneud cyfraniad i set newydd o bosibiliadau nad ydym erioed wedi eu cael yma o’r blaen. Rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i roi syniad iddi o ble y doi pobl, ond—heb wirio, gadewch i mi ddweud hynny—yr argraff a gefais o’r llythyrau a welais a’r negeseuon e-bost a gefais yw mai dinasyddion unigol oedd y rhain i raddau helaeth, sydd â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn y Siambr hon ac sy’n awyddus i wneud eu cyfraniad yn hynny o beth.

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Eitem 2 ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a byddant yn cael eu hateb y prynhawn yma gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Bethan Jenkins.

Gwerthwyr Preifat

1. A wnaiff y Comisiwn amlinellu’r rheolau sy’n ymwneud â gwerthwyr preifat, fel y Big Issue, ar neu y tu allan i ystâd y Cynulliad? (OAQ51228)

Mae’n rhaid i unrhyw weithgaredd yn ardaloedd cyhoeddus ystâd y Cynulliad gael ei noddi gan Aelod Cynulliad. Ni chaiff Aelodau’r Cynulliad ddefnyddio digwyddiadau o’r fath i gynnal gweithgareddau a fyddai o fudd ariannol, gan gynnwys gweithgareddau codi arian. Os yw Aelodau’r Cynulliad eisiau newid y rheolau hyn, yna mae rhwydd hynt i chi anfon sylwadau at Gomisiwn y Cynulliad, a byddwn yn ystyried pob agwedd ar y polisi.

Roeddwn yn gofyn mewn perthynas â thrafodaethau a gefais gyda ‘The Big Issue’ pan oeddwn yn gwerthu copïau gyda hwy yng Nghaerdydd. Roeddent yn dweud eu bod yn cael eu gwasgu allan gan bobl a oedd yn cardota yng Nghaerdydd fel na allent werthu eu cylchgronau yn dda iawn yno. Felly, tybed a oes capasiti yn yr ystad i rai o werthwyr ‘The Big Issue’ ddod i werthu i’r rhai sy’n gweithio yn y Cynulliad neu o gwmpas ystad y Cynulliad, o ystyried bod hwn yn achos da a fydd yn cynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, o fod yn ddigartref i gael gwaith, o bosibl. Felly, tybed—. Yn amlwg, os oes angen i mi ysgrifennu, gallaf ysgrifennu, ond tybed a oes unrhyw hyblygrwydd yn y system fel y gallwn gael sicrwydd ein bod wedi ceisio annog pobl i brynu ‘The Big Issue’ yn ystad y Cynulliad a’r cyffiniau.

Mae gwerthu ‘The Big Issue’, wrth gwrs, yn gyfraniad gwerthfawr iawn i fod o gefnogaeth i bobl sydd yn ddigartref ac i hyrwyddo’r achos i fynd i daclo digartrefedd. Mae polisi y Cynulliad, wrth gwrs, ar hyn o bryd yn golygu na fedrir caniatáu codi arian ar ystâd y Cynulliad. Mae hynny’n wir am bob achos da y gallai unrhyw Aelod Cynulliad fan hyn ei gynnig fel syniad. Ond mae’n wir i ddweud hefyd y gallech chi ysgrifennu at y Comisiwn a gofyn am eithriad posib, ond fe fyddwn ni’n gorfod codi’r mater unwaith eto. Unwaith mae rhywun yn caniatáu un eithriad, yna fe allaf i warantu y bydd pob un ohonoch chi fel Aelodau eisiau cyflwyno eithriadau eraill, a’r rheini i gyd hefyd yn achosion da, mae’n siŵr.

Hyrwyddo Addysg Wleidyddol

2. Pa ymdrechion y mae’r Comisiwn yn eu gwneud i hyrwyddo addysg wleidyddol? (OAQ51233)

Mae’r Cynulliad wedi darparu gweithgareddau addysgol ar gyfer cannoedd o filoedd o blant a phobl ifanc ar yr ystâd mewn ysgolion, colegau a lleoliadau y tu allan i’r ysgol ar draws Cymru. Ers ei sefydlu yn y flwyddyn 2000, mae’r tîm wedi darparu gweithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol cynradd ac uwchradd a myfyrwyr colegau gan alinio ei wasanaethau gydag anghenion y cwricwlwm.

Comisiynydd—mae’n ddrwg gennyf, Llywydd—mae democratiaeth iach yn golygu dinasyddion gwybodus sy’n cymryd rhan ac rwyf wedi bod yn codi mater addysg wleidyddol a democrataidd mewn ysgolion ers peth amser, ond mae gennym ddiffyg gwybodaeth ddemocrataidd ymhlith oedolion hefyd. Yn 2016 a 2017, mae arolygon cynhwysfawr wedi awgrymu nad yw dros draean o bleidleiswyr Cymru yn gwybod bod iechyd yn fater wedi’i ddatganoli, ac yn credu bod y GIG yng Nghymru yn cael ei redeg gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

O ran addysg, mae canran yr ymatebwyr nad ydynt yn ymwybodol fod addysg wedi’i datganoli yn uwch byth. Mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y gall diffyg gwybodaeth ar lefelau mor anarferol o uchel â’r hyn ydynt yng Nghymru effeithio ar ganlyniadau etholiadau a refferenda—mae’n fater difrifol. A wnaiff Comisiwn y Cynulliad weithio naill ai gyda Llywodraeth Cymru neu ar ei ben ei hun i roi camau ar waith i wella addysg, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth wleidyddol yng Nghymru, ac a ydych yn derbyn bod yr hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn annigonol?

Wel, mae’r arolygon y cyfeirioch atynt yn siomedig o ran lefel y wybodaeth sydd gan bobl Cymru ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar feysydd cymhwysedd sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli. Gwyddom, fel Cynulliad, fod y sylw a roddir i’n gwaith yma yn gyfyngedig o ran sut y mae’n cyrraedd pobl Cymru drwy ffynonellau traddodiadol y cyfryngau a’r wasg. Dyna pam y sefydlodd y Comisiwn y tasglu digidol, a roddodd argymhellion i ni ynglŷn â sut y gallwn wella cyfathrebu uniongyrchol â phobl Cymru, yn enwedig trwy ffynonellau cyfryngau newydd. Felly, bydd y Comisiwn yn edrych ar sut rydym yn rhoi’r argymhellion hynny gan y tasglu digidol ar waith.

Ond mae’n gyfrifoldeb i bawb ohonom yma, fel Aelodau Cynulliad, neu Aelodau Seneddol mewn man arall, i ddweud yn glir wrth ein hetholwyr pwy sy’n gyfrifol am feysydd gwaith sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli wrth wneud ein gwaith etholaethol, ond hefyd pan fyddwn yn gwneud y gwaith etholiadol sy’n ymddangos ar y gorwel o bryd i’w gilydd.

Gall ymweliad â’r Senedd hefyd fod yn rhan werthfawr o addysg wleidyddol, ac eto dangosodd ymweliad gan un o fy etholwyr sy’n fyddar rai wythnosau’n ôl fod yn rhaid inni ymdrechu o hyd i wella’r profiad o ymweld â’r lle hwn ar gyfer pobl fyddar. Yn anffodus, er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yma, nid oedd unrhyw un ar gael. Roeddwn yn ddiolchgar i staff y Comisiwn am eu cymorth yn tywys fy etholwr, ond pan oedd fy etholwr yn gwylio’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, gwelsant nad oedd is-deitlau ar gael ar y sgriniau yn yr oriel gyhoeddus. A gawn ni sicrhau bod is-deitlau’n cael eu dangos yn yr oriel gyhoeddus i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i arwain y ffordd mewn deddfwrfa hygyrch?

Mae’n ddrwg gennyf glywed am brofiad eich etholwr yma. Rydym yn awyddus i’r hyn a wnawn yma fod ar gael ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Bydd angen i mi edrych ar y mater a nodwch, ond fel Comisiwn, byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud ac y dylem ei wneud mewn perthynas â hyn.

Llywydd, hoffwn grybwyll un pwynt penodol o ran hynny. Mae’r addysg yn dechrau yma gyda phobl ifanc ac ysgolion yn dod i ymweld ac mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith gwych yn annog ysgolion i ddod i’r Cynulliad i’w weld. Cefais ymweliad y bore yma gan ysgol Awel y Môr; daethant â 90 o ddisgyblion—dau fws llawn—a bu’n rhaid i mi archebu dau slot ar eu cyfer. Gan eu bod wedi archebu dau slot awr o hyd, cawsant wybod na allent gael cymorth, gan fod y cymorth yn cael ei ddarparu mewn slot dwy awr, yn hytrach na dau slot awr o hyd. A wnewch chi edrych ar hyn fel y gallwn gynorthwyo ysgolion i ddod yma, hyd yn oed os yw hynny ond am slotiau un awr yn unig, fel y gallant ddod i ddeall beth a wnawn yma, a chael y newyddion ar gyfer dinasyddiaeth?

Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Credaf ei bod yn wych fod 90 o bobl ifanc o’ch etholaeth eisiau dod yma i weld democratiaeth ar waith. Ac nid wyf am i unrhyw beth a wnawn, yn y rheolau sydd gennym, ei gwneud yn anos i bobl ifanc, o bob rhan o Gymru, ddod i weld ein gwaith yma.

Dyrannu Costau Diogelwch

3. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am sut y dyrennir costau diogelwch yn y Cynulliad? (OAQ51247)[W]

Mae diogelwch yn flaenoriaeth uchel i’r comisiwn. Rydym yn buddsoddi mewn ystod o fesurau diogelwch ar sail cyngor proffesiynol a natur newidiol y bygythiad diogelwch.

Diolch am yr ateb. Wrth i ni edrych ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad, fe ddaeth yn amlwg bod llawer o gostau diogelwch heddlu yn cael eu talu drwy gytundeb rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru. O gofio nad yw’r heddlu wedi ei ddatganoli, ac o gofio ein bod ni’n ddeddfwrfa sydd y tu fewn i’r gyfundrefn Brydeinig ar hyn o bryd ac nad senedd gwlad annibynnol mo Senedd Cymru, ac o gofio bod nifer o heriau rydym yn eu hwynebu yn deillio o derfysgaeth ryngwladol—ymosodiadau a bygythiadau o’r math yna—a ydy hi’n fwriad gan y comisiwn i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, a’r Swyddfa Gartref yn benodol, i weld oni ddylen nhw hefyd ysgwyddo rhan o’r baich am gadw’r lle yma, y Senedd hon, yn lle diogel i staff, Aelodau ac ymwelwyr?

Wel, y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw sicrhau yr hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, sef diogelwch y cyhoedd a diogelwch y ddemocratiaeth sydd ar waith yma. Mae hynny’n wir pa un ai ydy heddlua wedi ei ddatganoli ai peidio. Yr arferiad, wrth gwrs, a’r hyn sy’n digwydd yw ein bod ni yn ysgwyddo y cyfrifoldeb ariannol o ariannu Heddlu De Cymru i ddarparu’r gwasanaeth yna i ni. Mae hynny, mae’n wir, yn bolisi cyffredin. Mae Tŷ’r Cyffredin yn gwneud yr un fath, a Senedd yr Alban hefyd yn gwneud yr un fath, ac yn ariannu’n ychwanegol y gofynion ychwanegol sydd gan senedd-dai o’r math yma.

Rwy’n derbyn y pwynt rydych chi wedi ei godi yn y Pwyllgor Cyllid, sef nad yw heddlua wedi ei ddatganoli, ac o bosibl bod angen edrych yn wahanol o safbwynt y Comisiwn yma a’r Senedd yma. Ond, ar hyn o bryd, y sefyllfa yw ein bod ni yn gweld hynny yn gyfrifoldeb arnom ni, a dyna’r sefyllfa yr ydym ni’n ei derbyn ar hyn o bryd.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Eitem 3, felly, yw’r cwestiynau amserol. Ac mae’r cwestiwn amserol cyntaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a Mark Isherwood.

Y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017? (TAQ0056)

Ddydd Gwener diwethaf, Llywydd, cyhoeddais raglen targedu buddsoddiad adfywio newydd i Gymru. Nod y rhaglen yw cefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd, gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolion a’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, gan gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy ehangach.

Wel, fel y dywedodd eich datganiad ysgrifenedig, mae gan fuddsoddiad adfywio ran allweddol i’w chwarae yn hybu ffyniant ac adeiladu cymunedau cryf, ac nid oes unrhyw un yn anghytuno â hynny. Mae hefyd yn dweud eich bod yn gwahodd ceisiadau gan awdurdodau lleol, ynghyd â sefydliadau partner. Sut y byddwch yn sicrhau bod y rhaglenni a ddarperir drwy hyn yn gwneud pethau gyda phobl yn hytrach nag iddynt, neu ar eu rhan, lle y mae gennym flynyddoedd o dystiolaeth gadarn bellach sy’n dangos yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac nad yw’r cynlluniau a ddarperir o’r brig i lawr yn arwain at fanteision hirdymor cynaliadwy, tra bo’r cynlluniau sy’n cael gwared ar y rhwystr rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau—ac rwyf wedi rhoi sawl enghraifft i chi dros y misoedd diwethaf—yn dangos gwelliannau mesuradwy ac amlwg?

Mae’r canllawiau a ddarparwyd i awdurdodau lleol a phartneriaid yn glir iawn ynglŷn â’r modd y mae’r egwyddorion a ddatblygwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gweithio gyda’i gilydd. Bydd mater asiantaethau partneriaeth yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol yn cael cefnogaeth gan y tîm a fydd yn asesu’r ceisiadau a gyflwynir drwy’r rhaglen. Byddant yn ennill mwy o bwyntiau am weithio gydag asiantaethau partner yn hytrach na gweithio ar eu liwt eu hunain.

Diolch yn fawr. Ac mae’r ail gwestiwn amserol i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Darren Millar.

Myfyrwyr a Dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y Llynedd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n dangos bod myfyrwyr o Gymru yn cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd? (TAQ0057)

Mae myfyrwyr o Gymru yn haeddu mynediad teg ar sail teilyngdod at leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt. Er bod rhwydwaith Seren yng Nghymru yn helpu i arfogi a pharatoi ein pobl ifanc mwyaf disglair yn academaidd ar gyfer y prifysgolion gorau, megis Rhydychen a Chaergrawnt, mae’n rhaid i’r prifysgolion hynny ddangos bellach eu bod yn herio’r rhagfarnau yn eu prosesau derbyn eu hunain.

Diolch am ymateb i’r cwestiwn hwn heddiw, Gweinidog, yn absenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet. Gobeithiaf eich bod yn cael cyfran o’i chyflog.

Gostyngodd nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU bron i 10 y cant yn y tair blynedd hyd at 2016. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi gweld ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn a ddangosai mai 2 y cant yn unig o’r rhai a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd oedd yn fyfyrwyr o Gymru. Gwyddom o’r wybodaeth sy’n cael ei bwydo’n ôl i ni yn ein hetholaethau fod y targed o sicrhau bod 100 y cant o’n disgyblion yn ymgymryd â diploma uwch Bagloriaeth Cymru yn cyfrannu at y broblem hon. Mae’n arwain at rai ysgolion yn gorfodi myfyrwyr i ymgymryd â chymhwyster sy’n ychwanegu at eu llwyth gwaith, ac mae hynny’n eu hatal ac yn gosod rhwystrau yn eu ffordd rhag gallu cael y tair gradd A sydd eu hangen arnynt er mwyn cael eu derbyn i’n prifysgolion elitaidd yn y DU, ac mae’n anfantais sylweddol iddynt.

Yn ychwanegol at hynny, gwyddom nad yw llawer o brifysgolion Grŵp Russell yn cydnabod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster sy’n cyfateb i gymhwyster Safon Uwch traddodiadol. Ac wrth gwrs, nid fi yn unig sy’n codi’r pryderon hyn. Mae’r pryderon hyn yn cael eu codi gan benaethiaid, gan fyfyrwyr a chan eu rhieni. Yn wir, mae Paul Murphy, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru—yr Arglwydd Murphy—wedi mynegi pryderon, gan ddweud ei fod wedi clywed athrawon yn lleisio pryderon dro ar ôl tro nad yw Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd yn ateb anghenion academaidd myfyrwyr mwy abl a thalentog a’i bod yn mynd ag amser prin yn eu hamserlen. O ystyried y pryderon hyn, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am waith rhwydwaith Seren, ond o ystyried y pryderon hyn, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i roi’r gorau i’r targed a osodwyd o sicrhau bod 100 y cant o’n disgyblion yn ymgymryd â diploma uwch Bagloriaeth Cymru, a beth fyddwch yn ei wneud i adolygu gwaith rhwydwaith Seren i sicrhau ei fod yn gweithio mewn gwirionedd i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael eu derbyn i’r prifysgolion gorau hyn, yn hytrach na’r gostyngiad a welsom dros y blynyddoedd diwethaf?

O ystyried y cwestiwn hwnnw, buaswn yn dweud, ar sail ar eich gwaith cartref, Darren, nid wyf yn credu y buasech yn dod yn agos at gael eich derbyn i unrhyw un o’r prifysgolion hyn. Credaf fod angen i chi ddeall cyd-destun yr hyn sy’n digwydd yma yn ogystal â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac mae angen i chi edrych nid yn unig ar rai ffigurau, ond mae angen i chi ddarllen gweddill y dudalen, wedyn troi’r dudalen a deall y darlun llawn, ac nid ydych yn gwneud hynny. Gadewch i mi ddweud hyn: mae’n berffaith wir fod Rhydychen a Chaergrawnt yn gweithio’n dda gyda rhwydwaith Seren, ac rwy’n talu teyrnged i’r prifysgolion hynny am y gwaith y maent wedi ei wneud gyda rhwydwaith Seren dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn benodol, rwy’n croesawu gwaith Coleg yr Iesu Rhydychen, a aeth â grŵp o fyfyrwyr o Gymru i—[Torri ar draws.] Os nad ydych am i mi ateb y cwestiwn, fe eisteddaf.

Fe ddywedaf hyn wrth yr Aelod: aeth Coleg yr Iesu Rhydychen â grŵp o fyfyrwyr o Gymru i Rydychen dros yr haf, i ysgol haf, a threuliwyd cryn dipyn o amser yn siarad â hwy. Mae dros 2,000 o bobl bellach yn rhan o rwydwaith Seren ac yn elwa ar yr holl fanteision y mae hynny wedi ei roi iddynt. Mae’n eu galluogi i ddeall y prosesau angenrheidiol ar gyfer gwneud cais am le a chael lle yn un o’r colegau hyn. A gadewch i mi ddweud hyn hefyd: mae Rhydychen a Chaergrawnt yn cymryd rhan weithredol yn hynny, ac nid oes unrhyw un o’r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma wedi cael eu codi gan y prifysgolion hynny o ran eu cyfranogiad. Fodd bynnag, mae yna gyd-destun i hyn. Mae’n amlwg, os ydych yn wyn, os ydych yn ddosbarth canol, os ydych wedi cael eich addysgu’n breifat ac o dde-ddwyrain Lloegr, fod gennych well cyfle i astudio yn y prifysgolion hyn. Ac mae hynny’n annheg ac yn anghywir. Mae’n deillio o’r rhagfarnau sydd ynghlwm wrth dderbyn a phrosesau o fewn y system, ac mae’n rhaid i hynny newid. Nid damwain, Dirprwy Lywydd, yw bod 10 o golegau yn Rhydychen, yn 2015, heb dderbyn unrhyw fyfyriwr Prydeinig du—dim un—ond yn Harvard mae dros hanner y myfyrwyr sy’n cael eu derbyn heddiw o gefndir heb fod yn wyn.

Mae prif gwestiwn Darren Millar yn eithaf amserol i mi. Mae gennyf etholwr sydd yn y chweched dosbarth. Mae’n 18 oed, a’i freuddwyd yw mynd i Rydychen a’r cyfan y mae’n dymuno ei wneud yw sefyll y prawf derbyn. Nid yn unig y mae ei wybodaeth gysyniadol yn rhagorol, ond fe ragwelodd Trump, fe ragwelodd Brexit, fe ragwelodd yr ymchwydd ym mhoblogrwydd Corbyn a gall roi esboniadau demograffig manwl ynglŷn â pham y digwyddodd y pethau hyn. Yn anffodus, oherwydd dryswch gweinyddol, mae’n colli’r cyfle i sefyll y prawf. Pan ffoniais Rydychen, dywedwyd wrthyf fod yn rhaid iddynt drin pawb yn deg, ac roeddwn yn credu bod hynny’n hollol hurt, o ystyried ei fod yn fyfyriwr mewn ysgol wladol, a chredaf, yn yr achos hwn, y dylent lacio’r fiwrocratiaeth i ganiatáu iddo astudio. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen i golegau Rhydychen a Chaergrawnt fod yn fwy hyblyg a chymwynasgar, yn arbennig gyda myfyrwyr o ysgolion gwladol, er mwyn cynyddu niferoedd derbyn myfyrwyr fel yr etholwr y soniais amdano heddiw?

Buaswn yn sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i fynd i’r afael ag achos yr etholwr y cyfeiriodd yr Aelod ato, ac efallai fod hynny’n rhywbeth y gallwn ei drafod yn dilyn y cwestiwn hwn heddiw. Ond o ran y mater ehangach, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen i’r prifysgolion fod yn fwy hyblyg; nid oes ond angen iddynt fod yn deg. Nid oes ond angen iddynt fod yn deg, ac mae angen iddynt sicrhau bod y ffordd y maent yn recriwtio myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a mannau eraill yn seiliedig ar degwch a gallu, ac nid ar sail rhagfarn sydd i’w gweld yn gweithio yn erbyn mwyafrif helaeth y bobl yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffigurau derbyn yn hysbys iawn. Mae’r dadansoddiad o’r ffigurau hynny wedi ei ddeall yn dda. Mae’n gyson, mae’n digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn; nid damwain mohono. Mae’n deillio o’r ffordd y mae’r materion hyn yn gweithredu. Mae angen ac mae’n rhaid i hynny newid.

Wyddoch chi, rwy’n teimlo weithiau fod angen inni roi’r gorau i’r obsesiwn gyda Rhydychen a Chaergrawnt hefyd? Mae sefydliadau ardderchog eraill—Grŵp Russell ac eraill hefyd—y dylem annog ein pobl ifanc i anelu atynt, ac nid yn y DU yn unig ychwaith. Mae angen inni edrych y tu hwnt i hynny o ran ehangu gorwelion ein pobl ifanc i ystyried Harvard, Yale, y Sorbonne ac eraill. Pam na ddylem wneud hynny? Mewn gwirionedd, un o argymhellion adolygiad Diamond oedd y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y pecyn cymorth i fyfyrwyr y tu hwnt i’r DU. Roedd hynny ym maniffesto Plaid Cymru hefyd. A ydych yn mynd i gymeradwyo hynny hefyd? Wel, dim ots. [Chwerthin.] Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y dylem ei annog. Dywedodd y Llywodraeth, a bod yn deg, eu bod wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac y byddent yn datblygu cynllun peilot. Felly, tybed a yw’r Gweinidog mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â ble rydych arni gyda’r gwaith o ddatblygu cynllun peilot o’r fath.

Rwy’n gobeithio nad yw’r Aelod yn fy meirniadu am geisio ateb y cwestiwn a ofynnwyd ar yr achlysur hwn. Ond rwy’n derbyn y gallai ei weld fel digwyddiad prin iawn. Rwy’n derbyn y pwynt y mae’n ei wneud ac nid wyf yn ei wrthod. Rwy’n credu ei fod yn bwynt hollol ddilys a theg. O ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn cael ei dwnelu drwy’r Rhwydwaith Seren. Buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelodau ar bob ochr i’r Siambr yn amlinellu’r hyn sy’n digwydd gyda Seren ar hyn o bryd. Rwy’n credu ei fod wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwyf wedi siarad mewn nifer o ddigwyddiadau Seren, gan gynnwys eu cynhadledd genedlaethol y llynedd, ac mae’n rhaid i mi ddweud mai anaml rwyf wedi siarad â grŵp mor fawr o bobl ifanc brwdfrydig a llawn ysgogiad sy’n awyddus i gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae Seren yn eu darparu, ac yna i lwyddo ym mha faes bynnag neu ba fodd bynnag y maent yn ei ddewis. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod bod nifer o fyfyrwyr rwyf wedi siarad â hwy, yn ogystal ag ystyried mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, wedi gwneud cais am le—a gwn fod o leiaf ddau ohonynt wedi llwyddo i gael lle—ym mhrifysgolion yr Ivy League hefyd.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiadau 90 eiliad a’r datganiad 90 eiliad cyntaf heddiw yw Darren Millar.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dydd Mawrth nesaf, 31 Hydref yn nodi pum canmlwyddiant genedigaeth y diwygiad Protestannaidd, y dydd pan hoeliodd Martin Luther, mynach Awstinaidd, y 95 pwnc sydd bellach yn enwog at ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg. Er mai protest yn erbyn rhai o gredoau a gormodedd yr Eglwys Gatholig ar y pryd oeddent yn bennaf, daeth y pynciau’n gatalydd i’r mudiad a newidiodd y byd, a buasai’r anghydffurfiaeth a hyrwyddai yn lledaenu fel tân gwyllt trwy Gymru yn y pen draw. Cadarnhaodd y diwygiad y syniad y dylai’r Beibl fod ar gael mewn iaith bob dydd ac nid Lladin yn unig. Roedd yn hyrwyddo rhyddid cred grefyddol drwy herio awdurdod arweinwyr eglwysig llygredig, a hyrwyddai’r gred mai’r unig ffordd o gael achubiaeth oedd drwy ffydd unigolyn yn Iesu Grist, nid drwy weithredoedd da, penyd nac ymyrraeth clerigwr crefyddol.

Nid oedd popeth yn rhwydd. Mae rhai o gredoau Luther, a bod yn onest, yn ffiaidd a dychwelodd llawer o’r diwygwyr cynnar at arferion a oedd yr un mor llygredig â’r rhai roeddent yn protestio yn eu herbyn. Eto i gyd, er gwaethaf hyn, mae’n amhosibl lleihau’r effaith gadarnhaol a gafodd gweithredoedd Luther 500 mlynedd yn ôl a’r effaith a gawsant ac y maent yn parhau i’w chael yng Wittenberg, Cymru a’r byd.

Rwyf am gloi gyda geiriau’r Athro Sarah Williams o Goleg Regent yn Llundain:

Os ydym yn credu bod pob bod dynol yn cael eu creu’n gyfartal, eu bod yn rhydd i weithredu yn ôl cydwybod, i siarad yn rhydd, i gael eu trin yn deg gerbron y gyfraith; os ydym yn credu y dylai rheolwyr ufuddhau i’r un deddfau â’u dinasyddion, y dylid gwrthwynebu gormes; y dylai arweinwyr gael eu dwyn i gyfrif, y dylid goddef gwahaniaethau mewn cymdeithas sifil—yna mae’r Diwygiad Protestannaidd yn rhywbeth sy’n rhaid i ni ei ddathlu.

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn wrth fy modd yn cael mynychu canolfan ddinesig Merthyr Tudful ar gyfer ailgysegru’r plac sy’n anrhydeddu gwirfoddolwyr o’r dref a ymunodd â’r brigadau rhyngwladol i ymladd ffasgiaeth yn Sbaen—brwydr y gobeithient y buasai’n achub democratiaeth Sbaeneg ac yn osgoi rhyfel byd. Mynychwyd y digwyddiad gan berthnasau i’r gwirfoddolwyr ac roedd yn deimladwy i wrando ar eu straeon am yr ymrwymiad a wnaed gan aelodau o’u teuluoedd ac i glywed am y risgiau a’r peryglon a wynebai’r gwirfoddolwyr wrth iddynt deithio i’r rheng flaen ar gyfer y frwydr yn erbyn Franco a’r ffasgwyr. Ni ddychwelodd rhai ohonynt.

Yn dilyn yr ailgysegriad cafwyd darlith goffa flynyddol S.O. Davies, a drefnwyd gan Gyngor Undebau Llafur Merthyr Tudful. Cyflwynwyd y ddarlith gan hanesydd lleol, Huw Williams. Roedd darlith Huw yn ein hatgoffa o’r gwreiddiau dwfn, rhyngwladol a geir mewn cymunedau ar draws Merthyr Tudful. Roedd hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl o dras Sbaeneg a oedd wedi dod i Ferthyr Tudful i weithio pan oedd cyflogaeth ar ei anterth—a dychwelodd rhai ohonynt i Sbaen yn ddiweddarach i ymladd ochr yn ochr â’r brigadau rhyngwladol. Felly, mae’r plac hwn yn cysylltu un rhan o dreftadaeth wleidyddol gyfoethog Merthyr Tudful â digwyddiadau yn Sbaen yn y gorffennol, ac yn wir, yn y presennol. Mae’n ein hatgoffa ni i gyd na ddylem byth anghofio ein hanes.

Heddiw, mae pennau doeth yn Sbaen a Chatalonia yn meddwl yn ofalus am eu hanes ar hyn o bryd, ac felly, rwy’n gobeithio ein bod yn cofio’r rhan bwysig hon yn ein hanes drwy gydnabod aberth y rhai hynny o Ferthyr Tudful ac ar draws Cymoedd y de a wirfoddolodd ar gyfer y brigadau rhyngwladol i ymladd dros ddemocratiaeth ac yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen. ‘No pasarán.’

Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Lysiau ar yr un pryd ddoe yn yr Alban, Lloegr ac yma yng Nghymru yn y Pierhead. Ei nod yw newid ein system fwyd gamweithredol. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am 5 y dydd, ond ychydig mewn gwirionedd sy’n ei gyflawni. Dylai llysiau fod yn un rhan o bump o’n siopa; rydym yn prynu llai na hanner hynny. Mae bwydydd sy’n llawn siwgr, braster, a halen yn cael eu pentyrru’n uchel a’u gwerthu’n rhad, tra bo rhai cymunedau heb ffrwythau a llysiau’n agos iddynt. Mae’r diwydiant hysbysebu yn ceisio targedu plant gyda grawnfwydydd, diodydd a bisgedi sy’n llawn siwgr ac 1.2 y cant yn unig o hysbysebu sy’n cael ei wario ar hyrwyddo llysiau. Nid yw’n syndod nad yw bron i 80 y cant o blant pump i 10 oed yn bwyta digon o lysiau i gadw’n iach, ac mae’r ffigur yn codi i 95 y cant ymhlith plant 11 i 16 oed. Mae hynny’n cynyddu’r tebygolrwydd o ordewdra, diabetes, clefyd y galon a chanser.

Mae’r addewidion a wnaed ddoe yn cynnwys gwneud cynghorau Birmingham, Brighton, Redbridge a Chaerdydd yn arloeswyr llysiau fel bod tyfu a bwyta llawer o lysiau yn weithgaredd normal. Mae Lantra a Puffin Produce yn gweithio ar gynllun i gynyddu cynhyrchiant llysiau Cymru 50 y cant erbyn 2020. Mae Castell Howell yn hybu gwerthiannau llysiau ac yn rhoi mwy o lysiau yn eu prydau parod. Mae Lidl, Tesco, Sainsbury a Co-op i gyd am roi dau lysieuyn yn eu prif brydau i gyd, a bydd Greggs yn rhoi llysiau ym mhob cawl sydd ganddynt ac o leiaf hanner eu brechdanau. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnwys dau lysieuyn yn hytrach nag un yn ei ffreuturau heb gost ychwanegol, a bydd Charlton House yn treialu llysiau rhad ac am ddim i fyny’r grisiau ar ddydd Gwener. Fy ngweledigaeth Pys Plîs i Gymru yw llysiau blasus, hygyrch a fforddiadwy, lle y mae bwyta llawer ohonynt yn normal.

5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Eitem 5 ar ein hagenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6350 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n addasu’r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r cynnig deddfwriaethol rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei gefnogi heddiw yn galw am Fil i ddiwygio’r system gynllunio fel bod yna ragdybiaeth yn erbyn caniatâd cynllunio ar gyfer hollti hydrolig neu ffracio. Diben hwn yw diogelu iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a thirwedd Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y sefyllfa ar hyn o bryd, yn dilyn cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ym mis Chwefror 2015, yw bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu moratoriwm yn erbyn cynllunio ar gyfer ffracio. Mae llawer yn dadlau bod y sefyllfa hon yn agored i her gyfreithiol ond bydd hynny’n newid yn fuan beth bynnag, oherwydd o dan Ddeddf Cymru 2017, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru bwerau mewn perthynas â phetrolewm. Yn bwysig, mae petrolewm wedi’i ddiffinio yn adran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 i gynnwys

nwy naturiol sydd yn ei gyflwr naturiol mewn strata,

megis nwy siâl, a gaiff ei echdynnu drwy ffracio.

Mae’r sefyllfa anfoddhaol sydd gennym ar hyn o bryd, fodd bynnag, wedi ei thanlinellu gan y ffaith bod drilio prawf yn parhau i ddigwydd. Cafodd cais cynllunio i ddrilio prawf am nwy siâl ger Pont-rhyd-y-fen, ger Port Talbot, ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ym mis Ionawr 2016. Rydym—. Mae’n ddrwg gennyf, Mike Hedges. Rwy’n fodlon ildio.

Onid yw’n bwysicach, i ddechrau, i wahardd drilio prawf? Oherwydd nid yw pobl yn drilio prawf oherwydd eu bod wedi diflasu neu’n chwilio am rywbeth i’w wneud; maent yn drilio prawf oherwydd eu bod yn credu y byddant yn gallu ffracio ar ryw adeg yn y dyfodol.

Mae hwnnw’n bwynt pwysig, a gwn fod caniatáu drilio prawf yn yr Alban, lle y maent yn erbyn ffracio, yn golygu bod achosion cyfreithiol ar y ffordd yn awr, ac ni ddylech roi anogaeth i bobl, os mynnwch, neu wario arian, fel bod ganddynt fodd o roi camau cyfreithiol ar waith yn eich erbyn wedyn. Mae’n well gwahardd yn gyfan gwbl, ac rwy’n derbyn y pwynt hwnnw.

Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi gwneud ein safiad yn erbyn ffracio’n gwbl glir, ac wedi gwneud hynny’n gyson. Mae hwn, yn awr, yn gyfle gwirioneddol i’n Cynulliad Cenedlaethol anfon neges glir cyn ennill y pwerau llawn fis Ebrill nesaf. Nid ydym eisiau ffracio yng Nghymru, nid ydym angen ffracio yng Nghymru, ac ni ddylem ganiatáu ffracio yng Nghymru.

Yn ogystal â bod yn hynod amhoblogaidd, mae yna bryderon y gallai ffracio gael effaith andwyol ar iechyd dynol a’r amgylchedd. O dan amgylchiadau o’r fath, buaswn yn dadlau y gellid ac y dylid cymhwyso’r egwyddor ragofalus yn llawn. Rydym bellach yn deall effaith llygredd aer ar iechyd cyhoeddus yn well—rhywbeth y nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn argyfwng iechyd cyhoeddus—ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau i losgi a defnyddio tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â hynny.

O’r cemegau a ddefnyddir wrth ffracio, gall 75 y cant ohonynt effeithio ar y croen, y llygaid, organau synhwyraidd eraill, y system anadlol, y system gastroberfeddol a’r afu. Mae mwy na hanner y cemegau yn dangos effeithiau ar yr ymennydd a’r system nerfol. Gall mwy na 25 y cant o’r cemegau achosi canser a chellwyriadau. Nid oes rhyfedd fod y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau yn yr Unol Daleithiau wedi adrodd yn ddiweddar, er bod cyfraddau canser y fron yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn gostwng yn araf am flynyddoedd lawer, eu bod ar gynnydd eto mewn nifer o siroedd lle y mae echdynnu nwy naturiol yn digwydd. Rwy’n ildio i’r Aelod.

A gaf fi ganmol yr Aelod am gyflwyno’r ddadl hon ar y cynnig deddfwriaethol hwn? Yn yr Unol Daleithiau lle’r roeddent yn edrych ar y dechnoleg hon fesul talaith, a fuasai’n nodi bod y rhai a ganiataodd iddo ddatblygu i fod yn ffyniant wedi gorfod lleihau a chyfyngu ar eu deddfwriaeth amgylcheddol er mwyn gwneud i hynny ddigwydd? Cawsant wared ar amddiffyniadau i wneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, a chafodd hynny effaith ar iechyd y cyhoedd hefyd.

Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gywir, ac rydym yn wynebu’r her hon o adael yr Undeb Ewropeaidd a chadw ein safonau amgylcheddol uchel, ac rwy’n credu bod honno’n her i wlad sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel canolbwynt i’w deddfwriaeth.

O ran gwarchod yr amgylchedd, ni fydd ffracio yn ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd na’n rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Mae nwy siâl yn newyddion drwg ofnadwy i’n hinsawdd. Bydd ffracio’n creu mwy o nwyon sy’n newid yr hinsawdd, nid yw’n gydnaws â’n targedau newid hinsawdd, a bydd nwy siâl yn cynnal ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn tynnu ein sylw oddi ar atebion go iawn y dyfodol: defnydd effeithlon o ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn awgrymu y buasai caniatáu ffracio yng Nghymru yn nacáu’r cyhoeddiad diweddar am darged y Llywodraeth i sicrhau bod 70 y cant o’n trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

Mae perygl hefyd y gallai ffracio halogi dŵr. Mae Asiantaeth Amgylchedd y DU wedi canfod bod yr hylif gwrthlifol o nwy siâl Swydd Gaerhirfryn yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu,

lefelau arbennig o uchel o sodiwm, clorid, bromid a haearn, yn ogystal â lefelau uwch o blwm.

Buasai’r effaith ar ein tirwedd yn enfawr. Er mwyn i ffracio gael ei ddatblygu’n llawn, gallem weld 10,000 i 20,000 o ffynhonnau’n cael eu gwasgaru o amgylch y wlad mewn clystyrau o chwech i saith ar yr hyn a elwir yn badiau drilio. Rwy’n nodi, gydag eironi dwfn, mai cefnogwyr cryfaf ffracio sy’n tueddu i wrthwynebu ffermydd gwynt yn y modd cryfaf posibl hefyd.

Gall hefyd fod yn wir na fuasai daeareg y DU yn cynnal ffracio. Ym mis Awst 2017 dywedodd yr Athro John Underhill, prif wyddonydd Prifysgol Heriot-Watt:

Nid yw cymhlethdod cynhenid y basnau gwaddodol wedi cael ei werthfawrogi na’i ddiffinio’n llawn ac o ganlyniad mae’r cyfle wedi cael ei orliwio.

Rhybuddiodd yn erbyn dibynnu ar nwy siâl, ac rwy’n dyfynnu,

i ddiwallu anghenion y DU am nwy a darganfod ein bod 55 miliwn o flynyddoedd yn rhy hwyr.

Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, ac mae hyn yn cynnwys gwahardd ffracio’n llwyr. Rydym yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth, ac mae angen i ni ddatgarboneiddio ein sector ynni. Ein huchelgais o hyd yw cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae ffracio’n tynnu sylw’r sector ynni, ac o bosibl, yn dargyfeirio cyllid cyhoeddus hefyd oddi wrth ffynonellau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy. Yn hytrach na buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy lân. Mae gan forlyn llanw bae Abertawe botensial enfawr i economi Cymru a gallai greu mwy o swyddi heb y peryglon i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd ehangach.

Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw fel ymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau, pan fyddant yn dod i rym fis Ebrill nesaf, i wahardd ffracio yng Nghymru. Yn lle hynny, dylem ymroi i ddiwygio deddfwriaeth cynllunio defnydd tir i gyflymu cynlluniau ynni sy’n eiddo i gymunedau ac sy’n eiddo i ffermwyr, gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu. Buasem wedyn yn trawsnewid ein polisi ynni i sicrhau bod buddiannau cymunedau Cymru yn ganolog i bopeth a wnawn.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), nid wyf wedi dethol y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. David Melding.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn hapus i nodi’r cynnig heb ei gymeradwyo o reidrwydd? Mae gennyf safbwynt amodol ar hyn. Hefyd, mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, sef, yn ei hanfod, moratoriwm ar geisiadau hyd nes y bydd y maes wedi’i ddatganoli, yn rhywbeth y credwn ei fod yn briodol fel bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn, i bob pwrpas, yn cael eu caniatáu i ddatblygu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gennyf rai amheuon ynglŷn â dull sy’n dweud y dylid ei wahardd yn eang ar bob sail oherwydd credaf fod tystiolaeth fel arfer yn galw am ddefnydd ychydig yn fwy cynnil na hynny, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn datblygu ein polisïau cyhoeddus yn ôl y dystiolaeth.

Mae rhywfaint o fanteision posibl—o leiaf, mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn sôn amdanynt: defnyddio nwy yn hytrach na glo, os yw hynny’n ein hatal rhag troi at ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y dymunwn, gallaf weld sut y mae’n tynnu sylw, ond mae’n fwy caredig na glo, rydym yn gwybod hynny; a’r incwm a’r buddsoddiad posibl mewn hen gymunedau glofaol, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r pethau hyn i’r naill ochr. Fodd bynnag, mae llawer o wrthwynebiad cyhoeddus, ac mae’n ymyriad aflonyddol iawn—neu mae’n ymddangos felly, beth bynnag—ac mae’n cael effaith fawr ar ein tirwedd. Felly, nid wyf yn credu y gellir rhoi’r ffactorau hynny i’r naill ochr yn hawdd iawn, ac maent yn sicr yn peri pryder i gymunedau ledled Cymru.

Ond rwy’n dod yn ôl at yr angen am ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae angen i ni wneud asesiad teg o’r dechnoleg hon i weld a ellir manteisio arni i ryw raddau. Gwn fod llawer o ddadleuon wedi bod, o ddaeargrynfeydd i dapiau fflamllyd, ac os ydynt yno, a’i bod yn ffaith gadarn eu bod yn berygl go iawn, yna mae’n rhaid i ni, yn amlwg, roi sylw i hynny a gweithredu arno. Ond rwy’n credu bod rhai o’r ystod o straeon a glywch yn ei gwneud yn ofynnol i ni, beth bynnag, edrych—

[Yn parhau.]—yn drylwyr ar yr honiadau hynny. Rwy’n fodlon ildio.

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwy’n deall y sylfaen dystiolaeth rydych yn gofyn amdani, ond mae hefyd yn broblem nad oes unrhyw sylfaen dystiolaeth i gefnogi—i ddadansoddi’r effeithiau ar yr amgylchedd. Dyna beth rydym ei angen. Mae angen i ni edrych ar yr effeithiau ar yr amgylchedd, ac yn anffodus, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno eto, felly nid oes gennym hynny, ond nid oes gennym y problemau a ddangoswyd chwaith.

Rwy’n credu y dylem symud ymlaen mewn ffordd sy’n deg i bob technoleg, yn y bôn. Felly, rwy’n credu mai dyna beth sydd angen i ni ei gofio pan fyddwn yn edrych ar ddatblygu ffynonellau ynni, ein bod yn defnyddio’r un meini prawf.

Rwy’n credu mai un o’r cwestiynau mawr y buasai’n rhaid i ffracio ei wynebu yw pa un a ellir ei gysoni o gwbl â’n hamcanion strategol ehangach, yn enwedig yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Nawr, rwy’n derbyn bod hwnnw’n bwynt perthnasol iawn. Rwyf hefyd yn derbyn y gallai’r modd y gwnaed defnydd o’r dechnoleg hon ym Mhrydain fod wedi ei or-ddweud. Rwy’n credu, yn gyffredinol, ei fod yn fwy dichonadwy mewn ardaloedd sy’n bell o’r boblogaeth ac mewn ardal ehangach. Rydym yn siarad am safleoedd gweddol gyfyngedig, felly mae’r rheini’n ffactorau mawr iawn.

Felly, rwy’n falch o nodi hyn ac yn edrych ymlaen at ddull llawn a phriodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn. Rwy’n amau y buasai pobl Cymru yn disgwyl—neu angen, beth bynnag—llawer o sicrwydd pe bai’r math hwn o dechnoleg yn cael ei defnyddio ar unrhyw raddfa o gwbl.

I mi, nid yw hyn yn ymwneud â thapiau fflamllyd na daeargrynfeydd. Mae’r rhain yn amlwg yn faterion y buasai angen eu datrys pe bai ffracio byth yn cael ei ganiatáu, ond rwy’n credu bod yna bwynt llawer ehangach y mae’r ddadl hon yn ei wneud sy’n torri drwy, rwy’n credu, rhai o’r dadleuon ystumiedig y mae David Melding newydd eu gwneud.

Mae ein ffordd o fyw, ers yr ail chwyldro diwydiannol, wedi cael ei adeiladu ar fynediad at ynni sy’n deillio o danwyddau ffosil, ac rydym wedi adeiladu cymdeithas ffyniannus yn faterol ar hynny. Fodd bynnag, fel mater o resymeg, os yw’n seiliedig ar adnoddau naturiol cyfyngedig, yna yn sicr fe ddaw amser pan fydd hwnnw’n dod i ben.

Nawr, nid wyf yn wrth-dechnoleg—o bell ffordd. Rwy’n agored iawn i’r syniad fod arloesedd yn gallu ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella ein ffordd o fyw sy’n gyson â pharchu ffiniau’r blaned, ond rwy’n poeni bod y rhan fwyaf ohonom yn gwadu’r effaith y mae ymddygiad dynol wedi’i chael ar ein hamgylchedd a’m modd y mae wedi effeithio ar ei allu i’n cynnal yn y ffordd o fyw rydym bellach yn ei hystyried yn hawl. Yn hytrach na derbyn yr awgrym ein bod yn cyrraedd y pen o ran ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, fy mhroblem gyda ffracio yw ein bod yn ceisio chwythu’r darn olaf o nwy o’r ddaear er mwyn cynnal ffordd ddiwydiannol o fyw, yn hytrach na wynebu’r ffaith bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau.

Nawr, mae’n bosibl nad yw’r nwy a gynhyrchir drwy ffracio ond yn allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo, ond nid yw hyn yn ystyried y gollyngiadau methan a nwyon tŷ gwydr eraill yn ystod y broses. Wrth ychwanegu’r rhain, mae astudiaethau’n dangos y gall nwy siâl greu mwy o lygredd na glo hyd yn oed, ac nid wyf yn gweld sut y mae rhyddhau nwyon niweidiol iawn i’r aer sy’n cyfrannu’n sylweddol tuag at nwyon tŷ gwydr a’r cynnydd mewn tymheredd yn gyson â’n polisi datganedig o leihau allyriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Clywais David Melding yn galw am gynildeb a pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wel, mae’r dystiolaeth ar newid yn yr hinsawdd yn sylfaenol glir ac nid oes lle i gynildeb o’i gwmpas. Mae hwn yn fygythiad i’n ffordd o fyw ac i ffordd o fyw cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gydag eglurder nad yw’n caniatáu ar gyfer cynildeb. Felly, nid wyf yn gweld sut y gallwn gymeradwyo sancsiynu ffracio yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw rwy’n cefnogi’r Bil.

Buaswn yn dweud, Llywydd, bod angen i ni roi’r gorau i geisio dod o hyd i ffordd o gwmpas hyn i blesio buddiannau corfforaethol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein heconomi mewn ffordd sy’n parchu anghenion a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dylai ein ffocws fod ar leihau faint o ynni rydym ei angen drwy arloesi ac adeiladu ein capasiti ynni adnewyddadwy fel ei fod yn gallu darparu ynni gwyrdd y gallwn ei werthu a’i allforio yn ogystal â diwallu ein hanghenion ynni. Gadewch i ni roi diwedd ar gysylltiad Cymru ag egni budr a’n gwneud yn arweinwyr mewn ynni glân.

Gadewch i mi ddweud yn gyntaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, buaswn yn bryderus iawn o weld unrhyw ffracio yng Nghymru. Nid oes neb wedi profi ei fod yn ddiogel, ond nid oes neb ychwaith wedi profi na ellir ei wneud yn ddiogel. Rwyf hefyd yn cytuno â llawer o’r hyn y mae Simon Thomas a Lee Waters wedi’i ddweud ynglŷn â pheryglon ffracio, a dyna pam fod y cysyniad o ffracio yng Nghymru yn fy mhoeni’n fawr. Cyn caniatáu ffynonellau ynni fel ffracio a allai effeithio ar yr amgylchedd ecolegol neu ddaearyddol, mae angen i ni gael gwybodaeth a sicrwydd am ei ganlyniadau i’n hamgylchedd a phobl sy’n byw yn agos ato.

Mae’r rhai sydd o blaid ffracio yn dweud bod ffracio’n caniatáu i gwmnïau ddrilio er mwyn cael mynediad at ffynonellau olew a nwy sy’n anodd eu cyrraedd. Rwy’n siŵr fod hynny’n wir. Yn yr Unol Daleithiau, mae wedi rhoi hwb sylweddol i gynhyrchiant olew domestig ac wedi gostwng prisiau nwy. Amcangyfrifir ei fod wedi cynnig diogelwch nwy i’r Unol Daleithiau a Chanada am tua 100 mlynedd, ac mae wedi darparu cyfle i gynhyrchu trydan sy’n allyrru hanner cymaint o garbon deuocsid â glo. Mae’r diwydiant yn awgrymu y gallai ffracio nwy siâl gyfrannu’n sylweddol tuag at anghenion ynni’r DU yn y dyfodol, ac mae’r tasglu ar nwy siâl, corff a ariennir gan y diwydiant, wedi dweud bod angen i’r DU ddechrau ffracio er mwyn sefydlu effaith economaidd bosibl nwy siâl, gan ddweud y gallai greu miloedd o swyddi. Fodd bynnag, mae’r rhai sydd yn erbyn ffracio yn nodi rhai pryderon amgylcheddol sydd at ei gilydd heb eu hateb.

Mae ffracio’n defnyddio llawer iawn o ddŵr sy’n rhaid ei gludo i’r safle ffracio ar gost amgylcheddol sylweddol. Mae amgylcheddwyr yn dweud bod cemegau carsinogenaidd posibl a ddefnyddir yn gallu dianc a halogi dŵr daear o gwmpas y safle ffracio. Mae’r diwydiant ei hun yn awgrymu bod digwyddiadau llygru yn deillio o arferion gwael yn hytrach na thechneg sy’n gynhenid beryglus. Ond er ei bod yn bosibl y gallai arferion da atal llygredd, mae’n rhaid i ni gofio, pan fo elw a cholled yn rhan o bethau, gallai’r demtasiwn i dorri corneli fod yn un hollbwysig. Ceir pryderon hefyd y gall y broses o ffracio achosi tirgryniadau bach, fel y digwyddodd ger Blackpool yn 2011.

Mae gwrthwynebwyr hefyd yn nodi bod ffracio yn tynnu sylw cwmnïau ynni a Llywodraethau rhag buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ac annog dibyniaeth barhaus ar danwyddau ffosil, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll y prynhawn yma. Ond er y gall hynny fod yn wir, rwy’n credu y dylai unrhyw gyfyngiadau neu reolaethau ar ffracio fod yn seiliedig ar ddiogelwch a chynaliadwyedd y broses yn unig, yn hytrach na ffordd o annog pobl i archwilio ffynonellau ynni amgen. Wrth gwrs, dylem archwilio ynni adnewyddadwy, ac rydym yn gwneud hynny. Ond buasai’n synhwyrol ac yn ddoeth cael cymysgedd iach o ffynonellau ynni, ac mae’n ddigon posibl y gallai ffracio fod yn rhan ddiogel a derbyniol o’r gymysgedd honno.

Felly, gan droi at y cynnig, rwy’n credu ei bod yn bosibl y daw adeg pan allai fod yn briodol cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn ffracio. Fodd bynnag, mae’r cynnig hwn yn achub y blaen ar ganfyddiad na all ffracio fod yn ddiogel. Gŵyr pawb ohonom fod dod o hyd i ffynonellau ynni’n dod ar draul yr amgylchedd i ryw raddau, boed yn danwyddau ffosil neu ddatblygu neu osodiadau ynni adnewyddadwy. Felly, ni allwn ddisgwyl na fydd unrhyw broblem gyda ffracio neu unrhyw ffynhonnell ynni arall. Ond ein dyletswydd i bobl Cymru yw darganfod, i’r graddau mwyaf posibl, beth yw goblygiadau ffracio, a pha un a all ffracio fod yn ddiogel ai peidio. Credaf fod angen i ni gasglu ac astudio’r dystiolaeth yn ofalus ac yn briodol, efallai drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a allai ddod yn ôl i’r lle hwn i gyflwyno canfyddiadau gwrthrychol ac argymhelliad dysgedig yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn ag a ddylem ragdybio o blaid neu yn erbyn cymeradwyo ffracio. Mae’n ddigon posibl y byddwn yn canfod y dylem ragdybio yn erbyn cymeradwyo, ac nid oes gennyf broblem gyda chefnogi’r safbwynt hwnnw os yw’r dystiolaeth yn pwyntio i’r cyfeiriad hwnnw. Ond hyd nes y byddwn wedi cael yr astudiaeth briodol honno, rydym yn dibynnu ar ddarnau o wybodaeth gan y lobi o blaid neu’r lobi yn erbyn, ac mae’n bosibl fod gan eu haelodau fuddiannau breintiedig.

Felly, yn gryno, nid wyf yn dweud na ddylem ragdybio yn erbyn. Rwy’n dweud ei bod yn gwbl bosibl y dylem ragdybio yn erbyn. Ond nid oes gennym ddigon o wybodaeth o ffynonellau dibynadwy a gwrthrychol i ffurfio’r farn honno ar hyn o bryd. Pan fyddwn wedi penderfynu a ddylid rhagdybio y naill ffordd neu’r llall, polisi UKIP o hyd yw y dylai unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud gan y bobl sy’n byw yn yr ardal leol drwy refferendwm. Er y gall rhai geisio tanseilio’r polisi hwn drwy gwyno am gost refferendwm lleol, dylem roi llais cryfach i bobl leol ar faterion mor bwysig yn eu hardal. Gallai costau pleidlais o’r fath fod yn rhan o gost ceisiadau’r cwmnïau rhyngwladol a fuasai’n chwilio am ffrac dda. Diolch.

Rwy’n cefnogi Bil Simon Thomas am yr holl resymau sydd eisoes wedi’u hamlinellu ar sail amgylcheddol, ac mae angen i ni symud oddi wrth y tanwyddau ffosil ac at ynni adnewyddadwy. Mae yna un agwedd yr hoffwn holi Simon Thomas yn ei chylch, sef sut rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Oherwydd mae’n rhaid i ni gadw mewn cof fod Centrica, sef y cyflenwr ynni mwyaf yn y DU, eisoes wedi buddsoddi £40 miliwn mewn cyfran 25 y cant o drwydded fforio Bowland. Felly, sut y buasech yn fframio eich deddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, er eu bod yn credu ein bod mewn gwlad lle nad oes ffracio’n digwydd, os ydym yn ei fewnforio gan gyflenwr ynni arall sy’n ffracio dros y ffin neu yn rhywle arall, ein bod yn llosgi’r carbon y dylem fod yn ymdrechu i’w arbed? Felly, credaf fod hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Rwy’n pryderu bod Centrica yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Oherwydd mae’n honni ei fod yn arweinydd byd o ran technolegau newydd a glanhau’r byd, ond mewn gwirionedd, mae’n un o’r rhoddwyr mwyaf i rywbeth a elwir yn Texas Public Policy Foundation, sy’n swnio’n ddiniwed iawn, ond lobi tanwydd ffosil ydyw sy’n gwadu newid yn yr hinsawdd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu mynd i’r afael â hynny yn eich ymateb.

A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno hwn heddiw? Oherwydd rwy’n credu ei fod yn cyflwyno cynnig pwysig, a chymerais ran yn y ddadl ar ffracio ym mis Chwefror 2015. Mae Michelle Brown wedi amlinellu bod angen cymysgedd o ffyrdd o gynhyrchu ynni ac rwy’n cytuno â hi. Mae pawb ohonom yn derbyn hynny. Ond mae hefyd yn bwysig, pan fyddwn yn gwneud hynny, ein bod yn cydbwyso hynny â diogelwch yr amgylchedd. Felly, mae’n rhaid i ni edrych ar yr ystyriaethau hynny, ac rwy’n gwyro tuag at y diffyg tystiolaeth o blaid ffracio diogel ar y pwynt hwn, ac mae hynny’n arbennig o bwysig, oherwydd dyna rydym yn siarad amdano, hollti hydrolig—ffracio, fel rydym i gyd yn ei adnabod—a goblygiadau hynny. Ar draws y byd, mae grwpiau amgylcheddol wedi cynnal nifer sylweddol o brotestiadau yn erbyn ffracio, gan nodi’r ffaith y gallai’r effaith amgylcheddol niweidiol y gall echdynnu nwy siâl ei chael fod yn sylweddol. A dyna ni: nid ydym yn gwybod, a buasai’n well gennyf fod yn or-ofalus.

Nid oes amheuaeth fod yna bryder cyhoeddus sylweddol ynglŷn â ffracio a’r prosesau diwydiannol cysylltiedig. Fel y nododd Simon Thomas, mae yna un cais sydd o bosibl yn aros i ddod i mewn, o fewn—. Nid ym Mhont-rhyd-y-fen y mae mewn gwirionedd; mae yng Nghwmafan, yn dechnegol, oherwydd mae wedi’i leoli yn fy ward fy hun—ond mae’n bryder. Ac mae tyllau turio wedi cael eu cymeradwyo, gan nad oes rheolaeth ar dyllau turio. Felly, dylem edrych ar—. Os ydych am edrych arno, ehangwch, edrychwch y tu hwnt i’r ffracio ei hun; edrychwch ymlaen llaw ar y tyllau turio a’r prosesau a all arwain at bryderon cymunedau, nid ceisio deall y broses gyfan. Torrwch ef yn syth, a byddwn yn well ein byd.

Dirprwy Lywydd—Llywydd, sori—mae llawer o fylchau yn y llenyddiaeth wyddonol mewn perthynas â’r effeithiau hyn ac o ganlyniad mae trafodaeth gyhoeddus yn aml yn dibynnu ar wybodaeth a ffynonellau anecdotaidd. Mae angen i ni gael y dystiolaeth. Roedd David Melding yn llygad ei le: mae tystiolaeth yn bwysig. Ond mae angen inni gael tystiolaeth o ddiogelwch neu ddiffyg diogelwch, ac nid yw hwnnw yno. A dadansoddi strwythurau daearegol—fel y dywedodd Simon Thomas, mae ein strata’n wahanol yma yng Nghymru o gymharu â—Bro Morgannwg, efallai, o’i gymharu â Blackpool. Mae angen i ni gael yr ymchwiliad hwnnw. Mae gwyddonwyr o Global Responsibility a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n adolygu’r dystiolaeth gyfredol, ac mae pob un yn cyhoeddi’r ffaith bod yna bryderon.

Mae’r amryw o beryglon amgylcheddol eisoes wedi cael eu crybwyll—nid wyf am grybwyll pob un. Ond rydym hefyd yn sôn am agweddau iechyd a diogelwch. Rydym yn anghofio weithiau fod gweithwyr ar y safleoedd hyn, ac mae Prifysgol Cornell yn yr Unol Daleithiau wedi gwneud gwaith ymchwil a ddangosai fod dod i gysylltiad â gweithgarwch drilio nwy yn chwarae rhan fawr mewn effeithiau difrifol ar iechyd pobl ac anifeiliaid. A rhyddhaodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol rybudd perygl ar ddata a gasglwyd y gallai gweithwyr ddod i gysylltiad â llwch gyda lefelau uchel o silica crisialog anadladwy—silicon deuocsid—yn ystod y broses o ffracio. Felly, mae goblygiadau iechyd difrifol i weithwyr. Gall y rhain gael eu trosglwyddo i bobl o gwmpas y cymunedau oherwydd, yn wahanol i America, mae gennym ofodau cyfyngedig. Ac yn wahanol i America, mae gennym gyfle yn awr, o bosibl, i wneud pethau.

Cafodd ei grybwyll gan Huw Irranca-Davies fod mannau yn America yn newid cyfreithiau Americanaidd. Ond mae talaith Efrog Newydd wedi gwahardd ffracio. Mae Maryland wedi gwahardd ffracio. Mae yna wledydd a rhanbarthau sydd wedi gwahardd ffracio, ac er nad ni fydd yn arwain y tro hwn, rwy’n credu’n bendant y dylem ddilyn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno’r cynnig hwn. Ac rwy’n nodi telerau’r cynnig ac yn cydnabod y pryderon y mae nifer o’r Aelodau wedi’u codi yn y Siambr heddiw mewn perthynas â ffracio.

Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, gwneuthum ddatganiad ar ein polisi a oedd yn datblygu ar ynni. Nodais dair blaenoriaeth: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil, a hybu’r newid ynni i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Y mis diwethaf, cyhoeddais dargedau ymestynnol ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy’n cynnwys cael Cymru i gynhyrchu 70 y cant o’r trydan y mae’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Bydd hyn yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein system ynni. Er mwyn gallu symud tuag at ynni glân mae gofyn i ni weithredu er mwyn newid o barhau i echdynnu tanwyddau ffosil, yn ogystal â gwneud gwaith pellach i annog a chymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, roedd yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru i barhau ein gwrthwynebiad cadarn a diamwys i ffracio. Felly, rwy’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos yn glir ein bod yn cefnogi’r teimladau sy’n sail i’r cynnig.

Mae’n adeg dda i gymryd camau i atal Cymru rhag cael ei chlymu i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis siâl neu fethan gwely glo. Mae gennym eisoes fframwaith cynllunio rhagofalus drwy ddau hysbysiad cyfarwyddo a gyhoeddwyd mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy. Rwyf eisoes wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â bwriadau ein nodau llesiant yn y ffordd orau bosibl a’i fod yn cefnogi cynnydd o ran ein hagenda datgarboneiddio. Fel rhan o’r adolygiad hwn o bolisi cynllunio cenedlaethol, byddaf yn cryfhau polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, a byddaf yn ymgynghori ar newidiadau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwyf wedi ysgrifennu at brif swyddogion cynllunio yn rhoi gwybod iddynt fy mod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau o’r fath. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau rwy’n bwriadu ymgynghori arnynt drwy fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cyflawni amcanion y cynnig heb fod angen newidiadau i’r gyfraith ar unwaith. Fodd bynnag, nid wyf yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth rywbryd yn y dyfodol os bydd yn rhaid gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roeddwn i ar fin ymyrryd ar y Gweinidog yn fanna pan wnaeth hi bennu ei sylwadau. Fe wna i ddweud beth roeddwn i’n mynd i’w ddweud fanna nawr. Rydw i’n ddiolchgar ei bod hi newydd gadarnhau ei bod hi am gadw’r moratoriwm presennol, ond hefyd ei bod hi’n cydnabod pan fydd y pwerau pellach yn dod atom ni yn y Cynulliad y bydd modd i’r Llywodraeth, os oes angen, gymryd camau cyfreithiol, statudol pellach i sicrhau bod y sefyllfa bresennol yn parhau. Nid ydw i’n meddwl ei bod hi’n delio â rhai o bryderon pobl eraill ynglŷn â’r profi ac ynglŷn â’r tyllu, ac rydw i’n meddwl efallai dyna lle y bydd angen i’r Llywodraeth edrych yn y dyfodol.

A gaf i jest ymateb i’r ddadl yn fwy eang drwy ddweud fy mod i’n ddiolchgar i bob Aelod a wnaeth gymryd rhan yn y ddadl? Rydw i’n synhwyro bod mwyafrif yma o blaid gwahardd ffracio yng Nghymru yn llwyr, am y rhesymau sydd wedi cael eu gosod yn glir iawn gan bobl fel David Rees a Lee Waters yn benodol, a Jenny Rathbone yn ogystal. Rydw i’n cydnabod y dilema sydd gan David Melding, mae’n rhaid i mi fod yn onest, achos roedd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn 2016 yn dweud y dylid cadw at y moratoriwm ar ffracio, ac wrth gwrs blwyddyn wedyn, yn etholiad cyffredinol eleni, roedd y Blaid Geidwadol Brydeinig yn dweud:

We will develop the shale industry in Britain.’

Rydw i’n credu bod David Melding wedi gwneud gwyrth o ran llwyddo i ddadlau yn y ffordd roedd e wedi’i wneud, ond rydw i’n dweud wrtho fe, a hefyd wrth bobl eraill yma, bod y teimlad ymysg pobl mor gryf yn erbyn ffracio bod hwn yn gyfle. Rydw i’n ei ddweud mewn ffordd bositif. Mae’n gyfle i ni ailddatgan y ffordd rŷm ni’n gallu datblygu technoleg amgen a thechnoleg adnewyddol yn lle ffracio yng Nghymru. Yn hynny o beth, rydw i’n sefyll gyda Lee Waters. Nid ydym ni yn erbyn technoleg newydd. A dweud y gwir, rydw i eisiau gweld datblygiad technoleg newydd yng Nghymru, er enghraifft yn y modd lle mae yna £100 miliwn o arian Ewropeaidd ac arian Llywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi nawr o gwmpas moroedd Cymru i ddatblygu ynni o’r môr. Dyma lle rydym ni eisiau gweld y diwydiant a gwaith a buddsoddiad yn mynd yng Nghymru, ac nid o dan ddaear ar gyfer ffracio mewn daeareg, os caf i ddweud, sydd, yn fwyfwy clir, yn anaddas ar gyfer y math yma o ddatblygiadau—boed nhw wedi’u gweld yn yr Unol Daleithiau a Canada neu beidio. Nid yw ein daeareg ni na’n cymunedau ni yn addas ar gyfer y math yna o reibio’r nwy sydd dan ddaear.

Y pwynt olaf rydw i eisiau ei ateb yw’r pwynt a godwyd gan Jenny Rathbone. Nid yw’n bosibl i ni ddatgysylltu ein hunain yn llwyr oddi wrth ffracio. Fe wna i ateb y cwestiwn drwy ofyn cwestiwn arall, mewn ffordd, os caf i. Mae yna nwy yn dod mewn i Aberdaugleddau nawr, heddiw. Mi fydd yna tancer enfawr yn aros tu fas i Aberdaugleddau. LPG yw hwnnw. Ond mae ble mae’r LPG yn mynd yn dibynnu ar bris y nwy wedi’i ffracio yn yr Unol Daleithiau. Er nad ydym ni’n mewnforio’r nwy yna yn uniongyrchol, mae pris y nwy, a ble mae’r nwy yn mynd—ac a ydy e’n mynd o ynysoedd y gorllewin atom ni, neu a ydy e’n mynd o Qatar, neu Dde Korea—mae hynny i gyd yn dibynnu ar bris rhyngwladol y nwy. Nid ydym ni’n gallu datgysylltu o hynny.

Ond rydw i yn cloi gan ategu geiriau David Rees, rydw i’n meddwl: er nad ni fyddai’r cyntaf i fanio ffracio, mae mor glir, gyda’r hanes sydd gyda ni o nwy neu ynni dan ddaear, bod modd i ni gydio yn yr hanes yna a gwneud safiad, a’i wneud yn glir iawn: nid yw Cymru yn wlad lle mae ffracio yn cael ei ganiatáu.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Cymunedau yn Gyntaf—Yr Hyn a Ddysgwyd'

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Cymunedau yn Gyntaf. Rydw i’n galw Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6547 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—yr hyn a ddysgwyd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw, a hoffwn yn gyntaf ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i’r ymchwiliad hwn, yn ogystal â’r staff a’r defnyddwyr gwasanaethau rydym wedi’u cyfarfod ar ein hymweliadau, a chofnodi ein cydnabyddiaeth o’r gwaith sylweddol a phwysig sydd wedi cael ei gyflwyno gan brosiectau Cymunedau yn Gyntaf a staff ar draws Cymru dros y 16 mlynedd diwethaf. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion, effaith sydd wedi newid bywydau mewn llawer o achosion, fel gyda nifer o bobl ifanc yn fy etholaeth i sydd bellach yn gweithio ym maes datblygu cymunedol eu hunain ac sy’n helpu i sicrhau newid cadarnhaol pellach yn eu cymunedau.

Yn dilyn y cyhoeddiad fod y rhaglen yn dirwyn i ben, penderfynwyd cynnal ymchwiliad byr a oedd yn canolbwyntio ar dri pheth: cryfderau a gwendidau Cymunedau yn Gyntaf, trefniadau pontio a’r effaith ar raglenni cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd ein canfyddiadau cychwynnol ym mis Gorffennaf, ac yn dilyn hyn, cyhoeddwyd adroddiad manylach yr wythnos diwethaf. Gwnaethom 11 o argymhellion. Derbyniodd y Llywodraeth chwech ohonynt, derbyniodd dri mewn egwyddor a gwrthododd ddau.

Rydym yn argymell yn gryf y dylid cyhoeddi strategaeth trechu tlodi. Gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, gan ddweud y buasai ei pholisi yn cael ei nodi yn ‘Ffyniant i Bawb’, ei strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd wedyn ym mis Medi, a’i bod yn awyddus i fabwysiadu dull mwy cyfannol o ymateb i’r heriau hirdymor.

Er ein bod yn croesawu ymateb trawsadrannol, rydym yn dal i gredu bod strategaeth trechu tlodi yn hanfodol. Byddai’n dangos sut y mae’r dull traws-Lywodraethol yn gweithio a byddai’n galluogi’r Cynulliad i graffu ar ei effeithiolrwydd. Nid ydym yn credu bod dull cyfannol yn rhwystro strategaeth a chynllun gweithredu o’r fath. Felly, buaswn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried y materion hyn.

Gan symud ymlaen at y trefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, roedd Llywodraeth Cymru yn dweud yn y canllawiau y dylai cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, ac yn ein hadroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw wedi cael ei gyhoeddi o hyd. Mae hyn wedi ei gwneud yn anos i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau pontio, ac i ni fel pwyllgor ddeall effaith lawn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Buasem yn annog Llywodraeth Cymru i’w gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.

Symudwn ymlaen at rymuso. Dywedodd awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill wrthym nad oeddent yn glir ynglŷn â beth oedd hyn yn ei olygu yn ymarferol. Felly, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro hyn, a chafodd hynny ei dderbyn mewn egwyddor. Mae canllawiau pontio’n diffinio grymuso fel hyn:

‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’

Nid ydym yn credu bod y diffiniad hwn yn darparu’r eglurder angenrheidiol a buasem yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu rhai enghreifftiau penodol o’r hyn a olygir yn ymarferol.

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o wahanol brosiectau ledled Cymru. Gallai rhai o’r rhain, fodd bynnag—neu, fel y buasai rhai yn dadlau, dylai rhai o’r rhain—gael eu darparu gan wasanaethau statudol. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn nodi rhaglenni o’r fath a bod y rhai sy’n llwyddiannus ac sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau yn cael eu trosglwyddo i gyrff statudol perthnasol. Buasai hyn wedyn yn ei gwneud hi’n bosibl cyfeirio cyllid etifeddol cyfyngedig tuag at y prosiectau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud orau.

Mae’r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi amlinellu sut y maent yn bwrw ymlaen â hyn. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud ym maes iechyd ac ym maes addysg, buasem yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth ynglŷn â pha gefnogaeth a gynigir i brosiectau y tu hwnt i’r meysydd hyn. Yn ogystal, ni fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys unrhyw brosiectau a ddaeth i ben o ganlyniad uniongyrchol i’r cyhoeddiad fod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei dirwyn i ben. Hoffwn felly gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o nifer a manylion prosiectau o’r fath, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn cyflogadwyedd, y blynyddoedd cynnar a grymuso.

Yn ystod y dystiolaeth lafar, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet y buasai cyllid etifeddol ar gael ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf. Ychwanegodd hefyd fod posibilrwydd o ddarpariaeth am ddwy flynedd arall. Rydym wedi galw am eglurder. Yna cadarnhaodd y Llywodraeth yr ymrwymiad i gyllid am y ddwy flynedd nesaf, ond unwaith eto ni wnaethant egluro’r sefyllfa y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw o amser. Buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu’r eglurder hwnnw heddiw, ac os na all wneud hynny, hoffwn pe bai’n ymrwymo i wneud hynny cyn cyhoeddi cyllideb derfynol 2018-19.

Llywydd, i gloi, hoffwn ailadrodd fy sylwadau yn canmol y gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, ond gan fod y penderfyniad wedi’i wneud bellach i ddod a’r rhaglen i ben, mae’n hanfodol fod y trefniadau pontio a’r ddarpariaeth barhaus yn gadarn ac yn helpu i ddiogelu elfennau mwyaf effeithiol y rhaglen. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn chwarae rhan yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau’r Aelodau. Diolch yn fawr.

Diolch i’r Cadeirydd am y sylwadau hynny ac am y gwaith y mae’r pwyllgor a phawb wedi’i wneud ar hyn. Clywsom gan nifer fawr o dystion drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy’n credu mai’r hyn sydd wedi bod yn fwyaf amlwg ohono yw’r diffyg cysondeb llwyr a brofwyd ar draws Cymunedau yn Gyntaf o ran canlyniadau, partneriaethau gwaith a rheolaeth. Fe glywsom adroddiadau cadarnhaol gan rai, ac wrth gwrs, mae hynny’n wych. Roedd rhai’n sôn am ymgysylltiad go iawn â’r rhai a oedd wedi ymddieithrio fwyaf ac am fywydau rhai unigolion yn cael eu gwella’n amlwg gan ymroddiad a gwaith caled aelodau penodol o staff. Ond gan rai eraill—ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud y rhan fwyaf—buaswn yn dweud bod pryderon gwirioneddol wedi cael eu mynegi. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, er bod y rhaglen wedi bod ar waith am dros 15 mlynedd, ac ar gost o dros £432 miliwn i’r trethdalwr, mae’n parhau i fod yn aneglur ar y gorau a fydd y rhaglen hon wedi cael llawer o effaith gynaliadwy o gwbl. Clywsom bryderon gan nifer o dystion mewn perthynas â’r dull sy’n seiliedig ar leoedd a fabwysiadwyd, gyda Sefydliad Bevan yn honni nad yw’r math hwn o ymyriad yn gweithio, a rhagdybiai mai’r unigolyn yw’r broblem ac y dylid trin yr unigolyn, gan adael cwestiynau pellach yn agored am broblemau posibl eraill gyda pharhau i weithredu mentrau eraill sy’n seiliedig ar leoedd tra bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben.

Felly, o ystyried y canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad, buasai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych ar unrhyw addasiad posibl i’r rhaglenni mewn perthynas â Dechrau’n Deg, Cymunedau am Waith ac Esgyn. O ran rheolaeth a phartneriaethau gwaith, siomedig eithriadol oedd nodi nad oedd fframweithiau rheoli perfformiad yn cydgysylltu, a bod agwedd amddiffynnol a/neu feddylfryd seilo wedi arwain at ddiffyg siarad. Gwyddom sut y gall hynny fod yn berygl go iawn mewn sefydliadau a grwpiau eraill, yn enwedig o ran y dyblygu a achosir gan amharodrwydd i ymgymryd â gweithio mewn partneriaeth go iawn. Nid yw’r mathau hyn o agweddau yn dderbyniol lle y defnyddir adnoddau cyhoeddus, a phan fo dyfodol bywydau unigolion yn gallu cael eu heffeithio mewn modd mor ddramatig a phersonol.

Wrth gwrs, roedd methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi eu cynllun cyflogadwyedd yn ei gwneud yn anodd i’r pwyllgor asesu effaith lawn y penderfyniad i ddod a Cymunedau yn Gyntaf i ben. A bod yn onest, nid yw hyn yn dderbyniol, ac rydym yn gobeithio gweld y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod gwaith craffu priodol yn cael ei wneud yn erbyn y sbardun polisi allweddol hwn.

Felly, yn seiliedig ar ein hymchwiliad, rwy’n credu fan lleiaf fod angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar ganfyddiadau’r adroddiad a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol, ar ba ffurf bynnag y bydd. Wrth symud ymlaen, buaswn yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw golwg dda arni ei hun, ac yn wir, yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam y caniatawyd i’r rhaglen hon barhau cyhyd pan fo problemau mor fawr wedi bod mewn rhai ardaloedd. Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn credu mai

yr hyn y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi’i wneud yw ei fod wedi gallu rhwystro cymunedau rhag mynd yn dlotach yn ôl pob tebyg.

Nid yw hyn yn ddigon da. Mae’n rhaid inni ddangos llawer mwy o uchelgais na hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith pellach yn y maes hwn, eu gweld yn dangos amcanion llawer mwy cadarn, ymarferol a phendant i leihau tlodi ledled Cymru. O’m rhan i, rwy’n credu y dylid dod a Cymunedau yn Gyntaf i ben mewn gwirionedd. Mae wedi methu fel prosiect, a buaswn yn sicr yn edrych ar ein cenedlaethau yn y dyfodol, a’r goblygiadau o ran hynny, a darparu cynaliadwyedd ar gyfer ein cymunedau mwyaf agored i niwed. A buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y mae’n gweithio gyda’n cydgysylltydd lles y dyfodol i gyflwyno rhaglen well, fel y gallwn weld canlyniadau real a chynaliadwy. Diolch.

Erbyn hyn 18 mis yn unig sydd i fynd nes y daw Cymunedau yn Gyntaf i ben yn gyfan gwbl. Ac o ran trosglwyddo darpariaeth a chyllid etifeddol, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus fod y cyrff statudol a fydd yn cymryd rheolaeth dros gyflawni prosiectau cyfredol yn cael y cyllid sydd ei angen i gyflawni’r prosiectau hynny, a bod arian yn cael ei glustnodi yn unol â hynny. Rwy’n dweud hynny heddiw oherwydd bod rhai cwestiynau wedi codi mewn perthynas ag uno rhai ffrydiau cyllido sy’n gysylltiedig â Cefnogi Pobl, a gallai rhai ohonynt gynnwys agweddau ar gynlluniau cyfredol Cymunedau yn Gyntaf. Felly, mae angen i mi ddeall yma heddiw a fydd y broses o ddyrannu’r gyllideb sydd ar y gweill yn awr yn cynnwys gostyngiad cyffredinol yn y swm sy’n cael ei wario ar Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd. A fyddwch yn bendant yn diystyru hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet?

Mae yna nodyn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r pwyllgor sy’n dweud na fydd unrhyw oblygiadau ariannol, gan na fydd gwariant ar raglenni yn y dyfodol yn dod o gyllidebau presennol, ond nid yw’n dweud pa gyllidebau, nac yn dweud a fydd y cyllidebau y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei uno â hwy yn cael cynnydd cyfatebol o ran arian. Rwy’n credu bod angen egluro hynny. Mae’n dweud mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor y bydd strategaethau unigol ar gyfer agweddau penodol ar dlodi yn cael eu gwrthod gan y Llywodraeth yn y dyfodol. Wrth gwrs, rydym yn deall fel plaid fod angen cael dull gweithredu trawsbynciol, gan dalu sylw i sut y mae gwahanol agweddau yn cael eu cysylltu, ond beth am ddull gweithredu ar wahân ar gyfer tlodi plant?

Rwyf fi a Sian Gwenllian, fy nghyd-Aelod, wedi codi’r mater droeon—yn y pwyllgor, ac yma yn y Siambr—y dylid ystyried strategaeth tlodi plant bwrpasol, fel sydd gan lawer o wledydd eraill, gan fod agweddau ar dlodi plant yn drawsbynciol y tu hwnt i faterion economaidd, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol a thai, er enghraifft, ac addysg, cydraddoldebau addysg, ac ymyrraeth ar gyfer plant mewn argyfwng, er enghraifft. Felly, nid ydym yn fodlon nad oes angen y strategaeth unigol honno mewn perthynas â thlodi plant.

Mewn perthynas â Dechrau’n Deg, rydym yn cydnabod bod yna loteri cod post i’r rhaglen hon, ac mae’r Llywodraeth yn derbyn nad yw hyn yn ddelfrydol. Fodd bynnag, er bod yna opsiynau ar gyfer hyblygrwydd, ni allaf weld, o ymateb y Llywodraeth, i ba raddau y manteisir arnynt—rwy’n credu mai’r term yw ‘allgymorth’—faint o ardaloedd lleol sy’n manteisio ar y cyfle allgymorth hwnnw i ymhelaethu ar Dechrau’n Deg, a pha gyfleoedd sydd ar y gweill.

Rwy’n deall—ac rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o’r blaen hefyd—fod angen gwella monitro ac adrodd gydag unrhyw arian newydd yn y dyfodol sy’n deillio o Cymunedau yn Gyntaf. Rydym wedi cael tystiolaeth sy’n dangos, pan fydd rhywun yn dechrau mewn swydd, fod diffyg gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir y byddant yn aros yn y swydd honno, a’r hyn sy’n dilyn mewn perthynas â chymorth i’r unigolyn dan sylw. Mae gennyf bryder personol hefyd fod Cymunedau am Waith yn cael ei sefydlu’n amlwg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Os mai dyna yw un o’r atebion i ddisodli Cymunedau yn Gyntaf, drwy liferi economaidd Ewropeaidd cyfredol, sut y bydd hwnnw’n cael ei ymestyn yn y dyfodol, o ystyried ei fod, ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer ardal ddaearyddol lai?

Roedd ein rhwystredigaeth fel pwyllgor hefyd—a na, ni allaf siarad ar ran pawb ar y pwyllgor—yn deillio o’r ffaith bod llawer o bwyslais yn cael ei roi ar y cynllun cyflogadwyedd, y strategaeth gyflogadwyedd, wrth symud ymlaen, sydd yn nwylo Julie James AC rwy’n credu, ond mae’n anodd iawn dadansoddi sut y buasai hwnnw’n ymateb i Cymunedau yn Gyntaf, pan nad ydym wedi gweld y manylion o gwbl, ac mae wedi cael ei addo i ni dro ar ôl tro. Felly, ar hyn o bryd, ni allwn fod yn sicr y gall hwnnw fod yn ateb hollgynhwysol i Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i mewn i ffrydiau ariannu eraill, gan nad oes gennym y wybodaeth a’r manylion o’n blaenau.

Yn y pen draw, nid wyf wedi deall yn union beth yw’r sail resymegol ynddi ei hun dros ddod a Cymunedau yn Gyntaf i ben. Gallai fod yn fuddiol inni gael sgwrs agored am y ffaith mai’r rheswm, o bosibl, yw oherwydd ei fod, yn y pen draw, wedi methu cyflawni yr hyn roedd wedi bwriadu ei gyflawni. Ni allwn wastraffu arian fel hyn yn y dyfodol, oherwydd mae’n llawer o arian sydd wedi mynd tuag at rywbeth nad yw wedi bod yn llwyddiant. Er ei bod yn bosibl fod prosiectau unigol wedi bod yn llwyddiannus, ni lwyddodd fel cysyniad. Felly, mae angen sicrwydd, nid yn unig fel pwyllgor, ond fel Aelodau Cynulliad, y bydd unrhyw gynlluniau yn y dyfodol yn mynd ati i wneud yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud ac y gellir cynnwys pobl leol gymaint ag sy’n bosibl.

Nid oes gennyf lawer o amser ar ôl, ond fy nghasbeth arall oedd yr holl gysyniad hwn o rymuso. Mae’n dweud eich bod yn diffinio grymuso, ac rwy’n dyfynnu, fel

‘sicrhau bod cymunedau’n cymryd diddordeb ac yn cael eu grymuso i fynegi eu llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.’

Nid yw hynny’n dweud llawer. Nid yw’n dweud sut y byddant yn dangos diddordeb, sut y byddant yn cymryd rhan yn y broses. Gallwn daflu’r geiriau hyn o gwmpas gymaint ag y mynnwn—fel y gwnaethom gyda ‘phlygu rhaglenni’ am ba hyd bynnag pan gefais fy ethol yn gyntaf—ond mae angen trawsnewid geiriau’n weithredoedd. Gobeithiaf y byddwch yn gwrando ar y sylw hwnnw ac yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gyfansoddiad yn y dyfodol mewn ffordd ragweithiol ac ystyrlon wrth feddwl am y dyfodol o ran helpu’r rhai mewn ardaloedd tlawd yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad, ac yn wir, am onestrwydd ei adroddiad? Yn 2001, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth adfywio ar gyfer Cymoedd de Cymru. Ymysg y mentrau niferus a ragwelwyd, y cynnig blaenllaw oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hwn, fel yr awgryma’r enw, i fod yn gyfres o ymyriadau yn seiliedig ar gymunedau a gynlluniwyd i drechu tlodi ar draws yr hyn a arferai gael ei alw’n faes glo de Cymru. 16 mlynedd yn ddiweddarach, a chyda £432 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y prosiect, mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi penderfynu o’r diwedd fod ei effaith wedi bod yn ddibwys. Pam? Oherwydd bod y Cymoedd yn parhau ar frig y tablau cynghrair o ran anghydraddoldebau tlodi, iechyd ac addysg.

Er bod y prosiect hwn i fod i gael ei lywio gan y gymuned, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol oedd yn rheoli’r cyllid. Mewn llawer o achosion, roedd y byrddau llywodraethu a sefydlwyd i weinyddu’r rhaglenni o dan y cynllun yn cynnwys cynghorwyr lleol i raddau helaeth, a olygai fod llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn ôl agendâu pleidiau gwleidyddol. Roedd hyn felly’n lleihau’r ymgysylltiad â’r gymuned yn helaeth. Mae’n rhaid cydnabod bod yna enghreifftiau o arferion da a rhai llwyddiannau sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ond roedd y rhain yn anghyson ac yn sicr nid oeddent yn gyffredinol.

Mae’n rhaid ystyried methiant cyffredinol Cymunedau yn Gyntaf yng nghyd-destun oddeutu £1.2 biliwn o’r hyn a elwir yn gyllid Ewropeaidd a wariwyd ar fentrau eraill yn y Cymoedd. ‘Partneriaethau strategol’, ‘cynyddu capasiti’, ‘meddwl cydgysylltiedig’ a ‘chynlluniau gweithredu lleol’ oedd geiriau allweddol y cyfnod—a’r cyfan yn rhethreg gymhellgar, ond yn brin o gyflawniad. Mae’r gallu i edrych yn ôl, wrth gwrs, yn offeryn pwerus, ond mae llawer am y prosiect Cymunedau yn Gyntaf y dylid bod wedi gweld na allai gyflawni’r nodau gofynnol. Efallai y gellid bod wedi osgoi methiannau’r cynllun drwy gychwyn prosiect peilot ar ei ben ei hun i werthuso ei ganlyniadau posibl, y gellid bod wedi ei gyflwyno wedyn mewn ffordd fwy cydlynol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camgymeriadau sylweddol yn y strategaethau adfywio—gyda Cymunedau yn Gyntaf ymhlith y rhai mwyaf amlwg. Ond mae’n galondid mawr i weld ei bod yn ymddangos ei bod wedi dysgu o’r methiannau hyn a’i bod bellach i’w gweld yn cofleidio ideoleg newydd sbon mewn perthynas â threchu tlodi. Ymddengys bod yna sylweddoliad go iawn o fewn Llywodraeth Cymru mai’r unig ffordd y gellir trechu tlodi yw drwy economi gref sy’n seiliedig ar ddiwydiant. Y gwir amdani yw mai swyddi da sy’n talu’n dda yw’r unig ffordd o gyrraedd y nod o drechu tlodi a dyna pam y byddwn ni yn UKIP yn cefnogi unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth i adeiladu economi ddiwydiannol gref a gwydn yng Nghymoedd de Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi rhai o’r elfennau cynnil yn y ddadl hon heddiw. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rôl yn fy ardal i ac nid wyf yn cydnabod iaith methiant, gan y bydd llawer o bobl yn fy nghymuned yn dweud nad yw Cymunedau yn Gyntaf wedi methu, ond ei fod mewn gwirionedd wedi darparu llawer iawn o hwb i bobl sy’n byw yn fy nghymuned. Rwyf wedi gweld y dystiolaeth sy’n dangos y cryfderau yn yr adroddiad. Mae’n cynnwys llawer sy’n ymwneud â gwerth ymgysylltiad ac ymgysylltu â phobl na fuasai wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel arall. Rwyf wedi gweld pobl yn mynd o nerth i nerth. Un enghraifft fach iawn yn fy etholaeth: yn fy ward gyngor, pan oeddwn yn gynghorydd, roeddwn yn rhan o’r gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu canolfan gymunedol leol ac fe gawsom £400,000 gan y Loteri Fawr. Rwy’n dweud yn bendant, yn sicr, fod yna bobl yn rhan o’r prosiect hwnnw na fuasai wedi chwarae cymaint o ran ynddo pe na baent wedi datblygu’r sgiliau a gawsant trwy Cymunedau yn Gyntaf. Felly, roedd yna fudd pendant, hyd yn oed os nad oedd y budd yn union fel y bwriadai’r prosiect iddo fod bob tro. Felly, rwy’n credu ei bod yn anghywir inni ddefnyddio iaith methiant. Rwyf wedi gweld llefydd fel Cwm Aber, Bargoed, Cefn Hengoed, Graig-y-Rhacca a Pharc Lansbury, i gyd yn elwa o Cymunedau yn Gyntaf.

Gan edrych ar dri argymhelliad a oedd o ddiddordeb i mi a rhai o fy etholwyr: argymhelliad 11, argymhelliad 5 ac argymhelliad 6. Mae argymhelliad 11 yn edrych ar y ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben a’r effaith ar raglenni eraill Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad. Yng Nghwm Aber yn fy etholaeth i, ceir dau gorff a oedd yn ddibynnol ar gyllid Cymunedau yn Gyntaf; sef y Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, a grybwyllais o’r blaen, ac YMCA Cwm Aber. Cymerodd y rhain ran mewn prosiectau Cymunedau yn Gyntaf, ond yn anffodus, nid yw’r corff cyflawni arweiniol wedi eu cynnwys yn y targedau ar gyfer cyllid etifeddol. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau chwarae rôl gyfyngedig yn y meysydd hyn, ond pa gyfleoedd ar gyfer apelio a fyddai ar gael i’r ardaloedd nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y cyllid etifeddol gan y corff cyflawni arweiniol, ar wahân i droi at eu Haelod Cynulliad lleol a gofyn iddynt godi’r materion yma yn y Siambr? Rwy’n credu bod hwnnw’n gwestiwn eithaf pwysig i fynd i’r afael ag ef.

Yr argymhelliad arall yw argymhelliad 5, sy’n mynd i’r afael â chyflogadwyedd. Mae’r argymhelliad yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflogadwyedd yn ei ystyr ehangaf. Ddoe, soniais am lansio adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar hunangyflogaeth. Gyda Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, teimlaf na ddylem edrych ar gyflogadwyedd yn unig, ond ar hunangyflogadwyedd a’r rôl y gall hunangyflogadwyedd ei chwarae yn y rhaglen gyflogadwyedd. Ceir 8.7 y cant o weithwyr hunangyflogedig yng nghymunedau’r Cymoedd, sy’n cynnwys Caerffili. Sut y gallwn sicrhau felly fod y nifer hwnnw’n tyfu fel bod y bobl sydd eisiau bod yn hunangyflogedig, yn enwedig menywod, yn gallu dod yn hunangyflogedig? Buasai hynny’n golygu ymgysylltu â cholegau addysg bellach, ysgolion lleol a phobl a fyddai’n gweithredu’n llwyddiannus trwy Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardaloedd clwstwr blaenorol.

Yn olaf, ar gyfer fy nghyfraniad, argymhelliad 6. Rydym yn gwybod bod ardaloedd cynnyrch ehangach haen is yn tueddu i eithrio pobl a allai fod yn byw mewn tlodi y tu hwnt i’r ardaloedd hynny ac mae’r cysyniad o allgymorth i’w groesawu’n fawr. Mae Bethan Jenkins eisoes wedi sôn efallai fod angen ehangu rhywfaint ar ein dealltwriaeth o allgymorth, wrth i’r rhaglen ddirwyn i ben. Rhoddodd y comisiynydd plant dystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, lle y dywedodd y buasai’n hoffi gweld y cynnig gofal plant yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni nad ydynt yn gweithio. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i chi roi diwedd ar gyni i bob pwrpas a buaswn yn deall barn Ysgrifennydd y Cabinet pe bai’n dweud y byddai hynny’n hynod o anodd o fewn cyllidebau presennol—bron yn amhosibl. Fodd bynnag, deallais, o fy nhrafodaeth gyda’r comisiynydd plant, a’r cwestiynau a holais iddi, mai’r hyn y cyfeiriai ato oedd estyn Dechrau’n Deg i bawb, ac unwaith eto, byddai hynny bron yn amhosibl. Fodd bynnag, gan edrych ar faterion allgymorth, ble y gallwn ni fod yn gliriach ynglŷn â sut y gellir cyflwyno allgymorth o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet archwilio hynny mewn cymaint o fanylder ag y bo modd. Felly, rwy’n falch ei fod, unwaith eto, wedi derbyn yr argymhellion hynny.

Rwy’n credu y dylid croesawu’r adroddiad hwn. Rwy’n credu ei fod yn gyfraniad gwerthfawr, trawsbleidiol, annibynnol i’r drafodaeth ar Cymunedau yn Gyntaf ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi edrych ar hyn mewn ffordd hynod o glir a gonest a chyda meddwl agored, ac edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau rwyf wedi’u hawgrymu, ac y mae Aelodau eraill wedi’u hawgrymu, yn cael eu derbyn gan y Llywodraeth, ac rwy’n gwirioneddol gredu y gwnânt hynny.

Ni allaf ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at y gwersi allweddol a ddysgwyd gan Cymunedau yn Gyntaf ar faterion allweddol fel plygu rhaglenni, cyrff sy’n derbyn grantiau, adroddiadau damniol Swyddfa Archwilio Cymru a’r cynigion a wrthodwyd i fwrw ymlaen â Cymunedau yn Gyntaf o 2012 ymlaen. Fel llawer, rhoddais fy nghefnogaeth i’r rhaglen pan gafodd ei lansio oherwydd dywedwyd wrthym ei bod yn ymwneud â pherchnogaeth a grymuso cymunedol go iawn. Dechreuais bryderu yn gyntaf pan dynnwyd fy sylw at honiadau a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn newid y ffiniau, yn ystumio ffiniau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn ennill mantais wleidyddol yn ardaloedd gwledig gogledd Sir y Fflint. Roedd y dystiolaeth gynyddol nad oedd y rhaglen yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ychwanegu at y pryder, gyda lefelau uchel o anweithgarwch a dibyniaeth ar fudd-daliadau a lefelau ffyniant isel yn parhau. Ond pan fyddem yn herio Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn yn ystod yr ail a’r trydydd Cynulliad, roeddent yn dweud wrthym fod Cymunedau yn Gyntaf yn ymwneud â phlygu rhaglenni yn lle hynny, gan anwybyddu, yn gyfleus, y ffaith mai cyflawni gwell canlyniadau oedd diben plygu rhaglenni i fod.

Wel, rydym wedi clywed bod y rhaglen, rhwng 2001 a 2017, wedi gwario bron i £0.5 biliwn. Wel, ni chanfu gwerthusiad interim 2006 Cymunedau yn Gyntaf

‘fawr ddim tystiolaeth o fonitro a gwerthuso trylwyr’

a bod

‘camau mawr i’w cymryd cyn y bydd Cymunedau yn Gyntaf yn cyflawni’r canlyniadau mewn perthynas ag adfywio a oedd... yn brif amcanion y rhaglen.’

Fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn yr ail Gynulliad, gelwais yn llwyddiannus am gynnwys ymchwiliad ar Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen waith Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad canlynol gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009, yn dangos methiant sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru, gan nodi bod gwendidau difrifol yn y cynllunio ariannol a’r prosesau o gyllido’r rhaglen wedi arwain at amrywiad eang yn y cyllid heb unrhyw sail resymegol glir i benderfyniadau cyllido, fod adnoddau dynol a chynllunio ariannol sylfaenol yn absennol, fod monitro’n wan, ac nad oedd unrhyw dystiolaeth fod unrhyw beth yn cael ei wneud gyda’r adborth.

Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2008, ‘Grymuso cymunedau ar waith: gwersi o’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf’ yn dangos methiant cyffredinol i arfer dylanwad cymunedol dros aelodau statudol o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ac

‘nid oedd unrhyw dystiolaeth o gamau arwyddocaol i ‘blygu rhaglenni’ prif-ffrwd lle roedd asiantaethau statudol yn blaenoriaethu camau gweithredu a gwariant yn ardal y bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf.’

Gofynnodd chwythwr chwiban Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc am fy help gan ei bod wedi rhannu ei phryderon yn briodol â Llywodraeth Cymru ond yn hytrach na gweld camau’n cael eu cymryd yn erbyn yr unigolion euog yn sgil hynny, dioddefodd honiadau ffug yn ei herbyn. Nid tan i mi gyfeirio’r mater hwn at Swyddfa Archwilio Cymru, a chyda chefnogaeth Aelod o Blaid Cymru ac Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru lunio adroddiad yn cadarnhau

diffyg rheolaeth ariannol a llywodraethu sylfaenol

y cymerwyd camau a arweiniodd at gyhuddo’r cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf.

Yna cafodd honiadau ffug o natur debyg eu gwneud yn erbyn cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Shotton Uchaf ôl iddi chwythu’r chwiban yn erbyn Cyngor Sir y Fflint, un o’r ychydig awdurdodau lleol a oedd yn derbyn grant Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru ar y pryd, gan ddweud eu bod yn cymryd rheolaeth ar y rhaglenni yn anghywir ac yn dargyfeirio cyllid y tu hwnt i ardal Cymunedau yn Gyntaf. Roedd cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf arall yn Sir y Fflint wedi ymddiswyddo o dan bwysau tebyg.

Roedd y papur a gyhoeddwyd ar y cyd yn 2011 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru a Datblygu Cymunedol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen’, yn dangos bod cynllun gwreiddiol y rhaglen yn ddiffygiol ac mai’r ddolen goll o ran cyflawni perchnogaeth gymunedol oedd diffyg gweledigaeth fwy hirdymor yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a fyddai, ac rwy’n dyfynnu, yn ‘symud y tu hwnt i ddibyniaeth ar raglenni a’r Llywodraeth ac yn darparu’r dimensiwn cymunedol sy’n aml yn nod ond prin yn cael ei wireddu yn y gwaith o greu Cymru well.’

Gwrthodwyd hyn gan y Gweinidog ar y pryd a’r Ysgrifennydd Cabinet yn awr, a chyflwynodd fodel clwstwr 2012 yn lle hynny ac anwybyddu’r gwersi o Sir y Fflint, a gwnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gyrff derbyn grant Cymunedau yn Gyntaf, gan alluogi gormod ohonynt i ymyrryd â chyflawniad rhaglenni a dirymu’r cymunedau eu hunain.

Ym mis Chwefror, datgelodd yr Ysgrifennydd Cabinet Carl Sargeant y byddai’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dirwyn i ben fesul cam erbyn mis Mawrth 2018, ac ym mis Mehefin, dywedodd wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol na fyddai’r rhaglen yn cael ei hadnewyddu, fod hanes ei gwaith yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi bod yn gymysg ac nad yw’r ffigurau’n symud. Am gyfaddefiad o fethiant. A hyn holl oherwydd bod y Napoleons bach wedi methu deall bod gan ein cymunedau mwyaf ymylol asedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, yn ogystal ag anghenion a phroblemau, a bod nodi a chrynhoi’r rhain yn gallu eu helpu i oresgyn yr her sy’n eu hwynebu, ac y dylid gweld dinasyddion a chymunedau fel cydgynhyrchwyr iechyd a llesiant yn hytrach na derbynwyr gwasanaethau yn unig.

A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fod unrhyw un a oedd yn credu y buasai rhaglen gwerth £30 miliwn y flwyddyn yn trechu tlodi braidd yn orobeithiol a dryslyd? Caiff hyn ei ategu gan dystiolaeth cyngor Caerffili. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn trechu tlodi cenedlaethau ag un rhaglen wrthdlodi. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda rhai pethau, a heb fod mor llwyddiannus mewn perthynas â phethau eraill, ond mewn gwirionedd, ymwneud ag economeg y mae tlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrthdlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth yn iawn, ond oni bai bod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn ei drechu.

Rydym hefyd yn gwybod mai’r peth cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw mewn ardal gwbl dlawd yn ei wneud, pan fyddant yn cynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud—maent yn symud i ardal fwy cefnog. Rwy’n credu y bydd y Cadeirydd yn gallu dweud wrthym ynglŷn â hynny. Ond rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael; niferoedd uchel o bobl ar fudd-daliadau; y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau ar gyflogau isel ac yn gweithio oriau afreolaidd; cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol; fawr o lyfrau yn y cartref; ac i lawer, ymdeimlad na all pethau wella. Lle y mae gennych ardal sy’n ddifreintiedig, felly, ac rwy’n dyfynnu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,

os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn:

Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw.

I ddyfynnu cyngor Abertawe:

Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall.

Gan droi at argymhelliad 1, y credaf ei fod yn hynod o bwysig, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r hyn sydd wedi’i wneud? Rwy’n credu nad oes ots os ydych yn ei alw yn Cymunedau yn Gyntaf neu os ydych yn ei alw’n ‘Abertawe yn Gyntaf’ neu os ydych yn ei alw’n ‘Gwella cymuned’. Nid yw o bwys, y teitl—yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n mynd i ddigwydd i’r cynlluniau.

Mae llwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe yn cynnwys—ac fe siaradaf am iechyd yn gyntaf—rhaglenni colli pwysau, gwella deiet, rhaglenni rhoi’r gorau i ysmygu, rhaglenni ymarfer corff. A wnaiff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg neu Gwella Iechyd Cymru fabwysiadu’r rhain? Oherwydd mae’r rhain yn wirioneddol bwysig, yn fy marn i. Yn llawer rhy aml ym maes iechyd, rydym yn meddwl mai ymwneud â’r ysbytai y mae—mae angen mwy o arian mewn ysbytai; mae angen inni wneud mwy mewn ysbytai. Credaf fod angen i ni wneud mwy i gael pobl yn ffit ac yn iach fel nad ydynt yn gorfod mynd i’r ysbyty. Rwy’n gwybod sut y gall disgwyliad oes mewn rhai o’n hardaloedd tlotaf fod hyd at 10 mlynedd yn llai nag yn rhai o’n hardaloedd mwy cyfoethog. Mae’n rhaid i chi wella ffordd o fyw.

O ran tlodi: prosiect a oedd yn ymdrechu i helpu pobl i leihau eu biliau cyfleustodau; prosiect siop ddillad, a oedd yn ailgylchu dillad diangen; prosiect a oedd yn hyrwyddo’r undeb credyd lleol a chael pobl i roi’r gorau i ddefnyddio benthycwyr carreg y drws, un o’r problemau mwyaf sy’n digwydd yn rhai o’n cymunedau tlotaf. Y benthycwyr carreg y drws hyn, mae rhai ohonynt i fod yn gwmnïau cenedlaethol, ond yn sicr maent yn achosi problemau enfawr ac mae pobl yn gorfod talu cyfraddau llog enfawr, rhai o’n pobl dlotaf. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu prosiectau fel hyn?

Mae cyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau’n blaenoriaethu gwell cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion yn ôl i addysg. Câi prosiectau dysgu fel teulu eu gweithredu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol. Roedd sesiynau clybiau gwaith cartref yn targedu plant a rhieni nad oes ganddynt gyfleusterau TGCh a rhyngrwyd yn y cartref gan gynorthwyo pobl ifanc gyda’u haddysg. Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi fy magu ar adeg pan nad oeddwn yn ddifreintiedig, am nad oedd gan unrhyw aelwyd fwy o lyfrau nag y gallwn eu cael o’r llyfrgell leol. Erbyn hyn, mae yna rai sy’n gyfoethog mewn TGCh a rhai sy’n dlawd mewn TGCh, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyrhaeddiad addysgol llawer iawn o blant. Rwy’n credu mai un o fy ofnau mwyaf ar hyn o bryd yw eich bod yn mynd i fod dan anfantais yn blentyn bellach os ydych yn dlawd yn awr ac nad oes gennych fynediad at yr holl gyfarpar TGCh. Roedd grŵp rhieni a phlant bach yn anelu at wella datblygiad a dysgu plant cyn ysgol. Roedd clwb gwaith cartref yn darparu cymorth i blant gyda’u gwaith cartref ac yn bwysicach, cyfleusterau TGCh iddynt allu gwneud hynny. Roedd yna gynllun hefyd a anogai amgylchedd dysgu yn y cartref teuluol. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu’r rhain?

Ar Dechrau’n Deg, mae’r hyn a welodd Cadeirydd y pwyllgor yng Nghasnewydd yn cael ei ailadrodd yn Nwyrain Abertawe, lle y mae ardaloedd cymharol gefnog yn ystumio’r data, felly nid yw’r ardaloedd tlotaf yn Abertawe—Plas-marl, terasau Plas-marl—yn cael Dechrau’n Deg. Eto i gyd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae gennyf dai sengl mawr mewn ardal Dechrau’n Deg am eu bod yn agos at ystâd dai cyngor dlawd iawn. Ni all hyn fod yn iawn, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau bod Dechrau’n Deg yn targedu unigolion ac nad yw’n seiliedig ar fod rhywun sy’n byw 10 stryd i ffwrdd yn gyfoethog.

Mae yna lawer o bethau y gallwn eu dysgu gan Cymunedau yn Gyntaf. Rwy’n credu bod methiant wedi bod yn ôl yn 2001 i sefydlu mecanwaith gwerthuso cadarn a allai fod wedi amlygu rhaglenni gwael yn llawer mwy systematig ac yn llawer cyflymach, oherwydd, oni bai bod gennych ryw drefniant monitro effeithiol, mae’n amhosibl i Lywodraeth Cymru, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, nodi meysydd pryder hyd nes y byddant yn argyfwng.

Credaf fod rhai o’r pethau a ddigwyddodd yn ystod y rhaglenni cynnar hefyd yn dangos methiant i ddwyn cyrff cyflawni i gyfrif, oherwydd yn y pen draw, er mai rhaglen o’r gwaelod i fyny oedd hi a’i gwnâi’n ofynnol i’r gymuned lunio’r ffordd y câi gwasanaethau eu darparu, serch hynny roedd yn rhaid cael corff cyflawni yno bob amser i sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud yn briodol a bod trefniadau llywodraethu ar waith. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un o’r cyrff cyflawni wedi cael eu dwyn i gyfrif a chael eu gorfodi i ad-dalu’r Llywodraeth ganolog lle’r aeth pethau o chwith yn ddifrifol.

Rhoddodd y newid pwyslais yn 2002 well pwrpas canolog i’r rhaglen—mynd i’r afael â chyflogadwyedd pobl a chael mwy o bobl i mewn i waith—a dylai hynny fod wedi bod yno o’r cychwyn yn ôl pob tebyg, oherwydd ni fuasai wedi atal yr holl ymyriadau meddal sydd wedi gwella lles cymunedau a gwneud pobl yn barotach yn emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol i gael gwaith, ond byddai wedi rhoi’r ffocws ysgogol canolog hwnnw i chi. Rwy’n credu ei bod yn siomedig nad ydym wedi cael unrhyw werthusiad annibynnol o lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ers y newid pwyslais yn 2012, gan y credaf ei fod yn ei gwneud yn anos i ni wybod beth sy’n gweithio go iawn a beth nad yw’n gweithio o ran ceisio ailfywiogi cymunedau sydd angen buddsoddiad cyhoeddus i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.

Un o’r problemau—neu nid problemau, un o’r pethau lle rwy’n anghytuno â llawer o gyd-Aelodau o bosibl yw bod ffocws daearyddol, yn fy marn i, yn bwysig iawn, gan fod rhaid i chi neilltuo’r maes rydych am ei dargedu mewn rhyw fodd, oherwydd fel arall mae bob amser yn hawdd i bobl sy’n cyflwyno rhaglenni osgoi’r problemau mwyaf heriol a mynd am yr enillion hawdd. Felly, credaf fod ffocws daearyddol yn hynod o bwysig—y dull seiliedig ar leoedd—ond mae defnyddio ardaloedd cynnyrch ehangach yn fecanwaith cyfleus, gan y ceir llinellau ar fapiau, ceir ystadegau sy’n cael eu casglu am lu o resymau, sy’n ei gwneud yn haws monitro’r cyflawniadau o ran niferoedd. Ond yn amlwg, mae ardaloedd cynnyrch ehangach yn offeryn di-fin iawn yn yr ystyr eu bod, mewn nifer o achosion, yn torri ar draws strydoedd, maent yn torri ar draws ystadau cyfan, sy’n amlwg yn cynhyrchu anghysonderau o ran anghyfiawnder. Ond rwy’n credu nad oedd rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf yn mynd ati’n ddigon creadigol i ddod o hyd i ffyrdd y gallent oresgyn hynny drwy ymgysylltu â rhaglenni eraill a fyddai’n eu galluogi i gynorthwyo unigolion a oedd angen cymorth ond nad oeddent yn y dalgylch, ac rwy’n falch fod hwnnw’n argymhelliad a ddaeth o’n hadroddiad.

Nid oes unrhyw un o’r rhaglenni adfywio hyn yn mynd i bara am byth, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl wedi cydnabod hynny o’r cychwyn, gan mai holl bwynt y rhaglenni hyn yw treialu ffyrdd arloesol o weithio gyda materion cymhleth iawn yn ymwneud â thlodi. Mae’n wirioneddol gymhleth ac roedd angen inni gadw hyn mewn cof bob amser ar gyfer llywio ac ail-lunio gwasanaethau statudol fel y gallem eu cyflawni’n well, ac rwy’n pryderu, os yw pob Gweinidog yn gyfrifol am drechu tlodi, na fydd yn gyfrifoldeb i neb yn y pen draw. Felly, rwy’n teimlo bod angen rheoli’r broses o’i ddirwyn i ben yn gadarn er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol, sef y cyrff cyflawni at ei gilydd, yn mynd ati o ddifrif i ddadansoddi beth yw’r agweddau ar y rhaglen sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus ac sydd angen eu hymgorffori yn eu rhaglenni cyflawni prif ffrwd, oherwydd, fel arall, rwy’n teimlo y gallai holl wersi a chyflawniadau Cymunedau yn Gyntaf fynd ar goll.

Yn gyntaf, fel eraill, a gaf fi ddiolch i’r pwyllgor am y deunydd darllen cynhwysfawr, os anghysurus weithiau, a gafwyd yn yr adroddiad? Nid wyf yn mynd i ymdrin yn benodol ag unrhyw un o’r argymhellion yn yr adroddiad, ond roeddwn am dynnu sylw at dri mater allweddol gan ganolbwyntio ar y dyfodol a’r camau sy’n dal i fod angen eu cymryd, a byddwn yn dysgu gwersi o’r adroddiad ar gyfer bwrw ymlaen â hwy. Bydd fy sylwadau, fel y byddwch yn deall, yn cael eu gwneud yng nghyd-destun ardaloedd fel fy etholaeth i. I mi, rhaid iddo ymwneud â’r hyn y darparwn yn y dyfodol, drwy’r cyfnod pontio cyfredol a thu hwnt.

Felly, yn gyntaf, mae’r adroddiad yn cynnwys y sylweddoliad anochel fod ymdrechion y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn wynebu her gynyddol i oresgyn hanes o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd mewn gormod o’n cymunedau yn y Cymoedd, yn y cyd-destun y dof ohono. Daeth y dasg honno bron yn amhosibl wrth inni wynebu Llywodraeth y DU a ddewisodd ddilyn polisi cyni, cyni a adeiladwyd o gwmpas rhaglen o’r hyn a elwid yn ddiwygio lles. Os cyfeiriaf yn ôl at fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Sheffield Hallam, mae’r rhaglen ddiwygio honno’n mynd i arwain at amddifadu cymunedau’r Cymoedd o £0.5 biliwn y flwyddyn. Bydd y rhaglen diwygio lles, pan fydd wedi ei gweithredu’n llawn, yn mynd â mwy na hynny o’r Cymoedd bob tair blynedd. Dyna dros £1 biliwn bob tair blynedd.

Mae’r ymosodiad hwnnw ar gymuned y Cymoedd yn mynd rhagddo, ac yng ngoleuni’r ymosodiad a’r tlodi sy’n gysylltiedig â’n cymunedau, roedd Cymunedau yn Gyntaf yn wynebu bod yn blastr nad oedd byth yn mynd i fod yn ateb cyfan. Fel y dywedodd Hefin, er bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud peth gwaith rhagorol sy’n newid bywydau, ynddi ei hun, ni allai godi miloedd lawer o bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig allan o dlodi, gan na châi ei chefnogi gan bolisïau Llywodraeth y DU a oedd ymhlith yr ysgogiadau allweddol wrth fynd ati i drechu tlodi. Felly, nid bai Cymunedau yn Gyntaf oedd hynny.

Yn ail, rhaid inni sicrhau bod y rhannau gorau o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf a’r gwersi cysylltiedig yn cael eu parhau—mae llawer o gyd-Aelodau eraill wedi gwneud y pwynt hwnnw, hefyd—drwy’r cyfnod pontio hwn, oherwydd fel y clywsom eisoes, mae cymaint o dda wedi dod ohonynt. Fe ddefnyddiaf un enghraifft o fy etholaeth i. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o’r prosiect ieuenctid Forsythia, a oedd yn brosiect gwych—ac mae’n dal i fod yn brosiect gwych—sy’n darparu cymorth ac arweiniad i bobl ifanc. Mae’n darparu ymyrraeth gynnar, cymorth mentora a modelau rôl, ac mae wedi newid bywydau llawer o bobl ifanc ym Merthyr Tudful. Mae llwyddiant y prosiect wedi cael ei gydnabod gan gymaint o bartneriaid, ar lefel leol a chenedlaethol. Byddai’n drosedd—yn drosedd, mewn gwirionedd, yn erbyn ein pobl ifanc—pe bai prosiectau fel hyn yn cael eu colli oherwydd y newidiadau i’r rhaglen. Felly, mae’n rhaid i’r gorau o Cymunedau yn Gyntaf, yn amlwg, gael ei barhau, a hoffwn rywfaint o sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod ei is-adran bontio yn gweld yn glir pa brosiectau hanfodol sydd angen eu hachub.

Yn drydydd, rhaid inni gofio’r gwerth parhaus y gall polisïau sy’n seiliedig ar leoedd ei sicrhau. Yn wir, yn y dyfodol agos, rwy’n edrych ymlaen at roi croeso i gyhoeddi gwaith tasglu’r Cymoedd, i gydnabod y Cymoedd fel lle y mae angen iddo gael sylw trawsbynciol pellach gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i symud ein cymunedau ymlaen. Yn fy etholaeth i, rwy’n gweld rhai enghreifftiau gwych o adfywio sydd wedi ennill gwobrau ym Merthyr Tudful. Gyda llaw, mae Merthyr Tudful yn dref sy’n tyfu; mae’n ganolbwynt bywiog yn y Cymoedd. A gaf fi ddweud nad dyna’r dref a gafodd ei phortreadu mor negyddol, unwaith eto, yn ‘Valley Cops’ ar ein teledu yn ddiweddar? Ond mae’r gwaith ym Merthyr Tudful ymhell o fod yn gyflawn, ac mae’r newid yn Cymunedau yn Gyntaf wedi arwain at dorri’r gyllideb benodol hon, rwy’n credu, o £1.6 miliwn i oddeutu £370,000. Felly, rydym yn mynd i fod yn wynebu newidiadau sylweddol.

Rwyf hefyd yn edrych ar gymunedau fel Rhymni sydd angen gofal a chymorth ychwanegol i’w helpu i wynebu’r dyfodol. Nid ydynt wedi elwa’n strategol, fel Merthyr Tudful, ac ni allant dynnu sylw at yr un lefelau o fuddsoddiad ac adfywiad â’u cymdogion, naill ai ar draws y dyffryn ym Merthyr Tudful neu i lawr y cwm yng Nghaerffili. Felly, mae yna leoedd sy’n rhaid iddynt gael ein sylw fel rhan o’r strategaethau newydd rydym yn eu cyhoeddi ar hyn o bryd, boed yn ‘Ffyniant i Bawb’, boed yn waith tasglu’r Cymoedd, boed yn ddewisiadau cyllideb Cymru a setliadau llywodraeth leol. Erys lleoedd a chymunedau, fel y rhai yn fy etholaeth i, sy’n rhaid inni eu cefnogi os ydym am gyflawni ein hamcanion. Mae ein hymrwymiad parhaus yn hanfodol wrth iddynt wynebu’r posibilrwydd o golli biliynau o bunnoedd o gymorth gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd nesaf.

Felly, wrth i ni symud oddi wrth Cymunedau yn Gyntaf ac wrth i’r cyfnod pontio i gyfnod newydd fynd rhagddo, rhaid inni gofio bod achosion a symptomau tlodi yn parhau i gael eu herio a’u goresgyn, ac ni ellir cyflawni hyn drwy Lywodraeth Cymru yn unig, gan nad yw’r holl ddulliau economaidd yn eu dwylo hi. Ond rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y bydd trechu tlodi, drwy ganolbwyntio yn awr ar gymunedau cryf, yn parhau i fod yn amcan allweddol i Lywodraeth Cymru.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Llywydd, am y cyfle i ymateb i adroddiad y pwyllgor. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am eu hadroddiad, ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Er bod gwahaniaethau o ran dehongliad a phwyslais, roedd y Llywodraeth yn gallu derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor, fel y nododd y Cadeirydd.

Llywydd, roedd y penderfyniad i gau Cymunedau yn Gyntaf yn un anodd, ond ar ôl ystyried yn ofalus, roeddwn o’r farn, er bod y rhaglen wedi gwneud llawer i unigolion, fod lefelau tlodi’n gyffredinol yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, ac na ellid disgwyl i un rhaglen ar ei phen ei hun gywiro hyn. Roedd hi’n amser i newid cyfeiriad yn sylfaenol, ac fel y cyfeiriodd Mike Hedges, mae hyn yn ymwneud â jig-so, cyfres o adnoddau sy’n gallu amddiffyn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgyrch draws-Lywodraethol i greu ffyniant i bawb, ac fel y dywedais ym mis Chwefror, rydym yn benderfynol o adeiladu cymunedau cryf drwy ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso. Mae ein strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’, wedi nodi ein cynlluniau i fuddsoddi yn ffyniant a llesiant cymunedau ac unigolion ar draws Cymru.

Mae llawer o’r rhai a ymatebodd yn ystod ein hymarfer ymgysylltu helaeth yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddodd y rhaglen i unigolion a gwaith y staff, ond cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i’r angen am agwedd newydd yn seiliedig ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a gweithio gyda phobl leol i ganolbwyntio’r ymdrech honno mor effeithiol â phosibl.

Fel Hefin David, rwy’n gwaredu at y defnydd o’r gair ‘methiannau’ ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, gan ein bod wedi gweld gwaith gwych yn digwydd yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae Janet Finch-Saunders a Mark Isherwood yn gwadu hyn, ond eu Llywodraeth hwy sydd wedi rhoi pwysau ar Gymru, sy’n effeithio’n enfawr ar faterion trechu tlodi—[Torri ar draws.] Gallant chwerthin, ond y gwir amdani yw, mae gennych chi lawn cymaint i fod yn gyfrifol amdano ag unrhyw un arall. Llywydd—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn ildio ar hyn o bryd. Efallai y byddaf yn ildio mewn ychydig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i waith traws-Lywodraethol, fel y dywedais yn gynharach.

Nid yw newid byth yn hawdd, Llywydd, ond nid wyf yn ymddiheuro am wynebu cwestiynau anodd a heriau anodd. Rwy’n talu teyrnged i bawb sydd wedi ymuno â ni i weithio drwy’r dewisiadau anodd sydd gennym, a’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r atebion. Fis Hydref diwethaf, cyhoeddais fy mod yn bwriadu dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol. Yn dilyn hynny, cynhaliais ymgynghoriad eang, a daeth miloedd lawer o ymatebion i law. Ym mis Chwefror, cyhoeddais y byddwn yn gorffen y rhaglen a nodais ein dull newydd o adeiladu cymunedau cryf. Rhoesom amser i wrando ar bobl cyn gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae dirwyn y rhaglen i ben yn raddol yn hytrach na dewis dod i ben yn sydyn, ynghyd â’r mesurau lliniaru rwy’n eu rhoi ar waith, yn darparu cyfleoedd ar gyfer adleoli staff a pharhad rhai o brosiectau mwyaf effeithiol Cymunedau yn Gyntaf, fel y nododd Dawn Bowden.

Mae’r gwaith ar ddatblygu ein dull newydd yn mynd rhagddo’n dda. Mae ein strategaeth, ‘Ffyniant i Bawb’, yn nodi sut rydym yn crynhoi holl egni Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o adeiladu cymunedau cryf ledled Cymru. Bydd y gweithgareddau allweddol ar draws fy mhortffolio yn ategu’r rhai a gyflawnir gan fy nghyd-Aelodau, a byddwn yn cyflawni mewn ffyrdd sy’n cynnwys ac yn grymuso ein cymunedau, gan eu cynnwys o’r cychwyn.

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i nodi’r pethau sydd angen eu rhoi ar waith i gefnogi’r gwaith o rymuso ein cymunedau, a bydd y cyd-archwiliad hwn yn llunio’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cryfder y cymunedau hynny.

Llywydd, cynlluniwyd y flwyddyn bontio i wneud y gorau o’r gefnogaeth i’r rhai sydd ei hangen ac a fyddai’n teimlo effeithiau newid, ac mae tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf yn cynnig y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen ar gyrff cyflawni arweiniol a staff ar lawr gwlad. Gwn fod llawer o Aelodau wedi dod â materion lleol i fy sylw ac rwyf wedi gallu cyfeirio at fy nhîm cyflawni a’r tîm pontio am eu cefnogaeth. Maent wedi sicrhau bod cymorth pwrpasol wedi bod ar gael yn gyflym, yn ôl yr angen, yn ychwanegol at gyfarfodydd dwyochrog rheolaidd a chyfarfodydd deufisol y rhwydwaith o gyrff cyflawni arweiniol.

Un agwedd allweddol o rôl y tîm eleni yw cefnogi gweithgareddau prif ffrydio, sy’n effeithiol ac yn cael eu gwerthfawrogi’n lleol. Mae cyrff cyflawni arweiniol gyda chefnogaeth y tîm pontio wedi gwneud gwaith rhagorol eisoes yn sicrhau dyfodol rhai o brosiectau mwyaf llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf. Fodd bynnag, Llywydd, mae’n rhaid i mi ddweud yn glir nad yw hyn yn ymwneud â phrif ffrydio popeth. Nid yw popeth yn gweithio ym mhob ardal. Dyna pam y gofynnais i’r ffocws—edrych ar y darnau gorau, fel y mae rhai o’r Aelodau wedi ei ddweud, a gwneud yn siŵr fod hon yn rhaglen sy’n diwallu anghenion cymunedol go iawn. Dawn, roedd un o’ch cwestiynau’n gofyn sut y gwnawn yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y penderfyniadau hyn. Penderfyniadau gan y cyrff cyflawni lleol fydd y rhain. Nid yw’n benderfyniad i mi ei wneud. Rydym yn bell o’r cymunedau hynny. Mae’n bwysig fod yna ddylanwad lleol a gwneud yn siŵr eu bod yn deall hynny’n well.

Yn Sir Benfro, er enghraifft, mae’r corff cyflawni arweiniol wedi ymgysylltu’n agos â’r bwrdd iechyd i ymgorffori dull gweithredu Cymunedau yn Gyntaf mewn perthynas â bwyta’n iach yn rhan o ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y bwrdd. Mae meddyg teulu lleol bellach yn hwyluso gwaith y grŵp gweithredu sy’n cynorthwyo pobl ag anghenion ychwanegol i fyw yn y gymuned. Mae hyn yn dangos sut y gall y darnau gorau o brosiectau a gyflwynid yn flaenorol gan Cymunedau yn Gyntaf barhau a ffynnu mewn cyd-destun newydd. Yng Nghasnewydd, mae llawer o brosiectau Cymunedau yn Gyntaf blaenorol yn cael eu cyflwyno gan ddarparwr, rhaglen neu dîm gwahanol. Mae’r Prosiect Taclo yn cael ei gyflwyno bellach gan y Dreigiau. Mae nifer o brosiectau wedi cael eu trosglwyddo i’r tîm cymorth llesiant a gwasanaethau ieuenctid Casnewydd hefyd.

Mae ein gwaith i fwrw ymlaen â’r pethau gorau yn Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys y gronfa etifeddiaeth a’r grant cyflogadwyedd, ac mae’r rhain yn cael eu datblygu ar y cyd â’r grwpiau trefnu a chyda chydweithwyr mewn ardaloedd awdurdodau lleol. Gwrandewais ar bwynt Hefin ynglŷn â’r hunangyflogedig, sy’n un pwysig iawn. Byddaf yn gofyn i fy nhîm weld sut y mae hwnnw’n gweithredu. Mae’r cwestiwn ehangach yn ymwneud â’r cynllun cyflogadwyedd gyda Julie James a bydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Rydym yn cwblhau manylion hynny ar hyn o bryd. Mae cyflogadwyedd yn flaenoriaeth allweddol, ac mae grant cyflogadwyedd o £12 miliwn yn cefnogi’r gwaith hwnnw. Mae’r gronfa etifeddiaeth yn galluogi awdurdodau lleol i barhau prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau yn eu hardal. Mae’n rhaglen etifeddiaeth ddwy flynedd. Ar ôl dwy flynedd, byddaf yn siarad â’r Gweinidog Cyllid i weld sut y bydd yn mynd i ddarpariaeth y grant cynnal refeniw er mwyn parhau’r gefnogaeth.

Lle y ceir egni a phenderfyniad lleol, Llywydd, gall rhai o agweddau gorau Cymunedau yn Gyntaf barhau mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Rwy’n llongyfarch pawb sy’n gweithio gyda chymorth fy swyddogion i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ffynnu’n arbennig ar y prosiectau hynny yn y dyfodol. Mae rhai pobl yn dal i ofyn i mi pa bryd y byddaf yn datgelu rhaglen i olynu Cymunedau yn Gyntaf. Fy ateb yw nad yw’r heriau o greu ffyniant i bawb yn fater i un rhaglen benodol mwyach. Dyma genhadaeth ganolog a diffiniol y Llywodraeth hon yn ei chyfanrwydd.

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch yn fawr iawn i’r Aelodau am eu lefel o ddiddordeb ac yn wir, eu lefel o angerdd ynghylch y materion hyn, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor? Rwy’n credu bod eu cyfraniadau’n werthfawr iawn, mewn gwirionedd, o ran darparu cydbwysedd mewn perthynas â phrofiad o Cymunedau yn Gyntaf. Roedd yn dda iawn clywed gan Hefin David, Dawn Bowden a Mike Hedges er enghraifft—nid oes yr un ohonynt yn aelodau o’r pwyllgor—ynghylch llwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn eu hardaloedd ac ynglŷn â sut y mae rhai o’r llwyddiannau hynny o ran datblygu capasiti cymunedol, fel y dywedodd Hefin, yn sicrhau manteision pwysig mewn perthynas â phrosiectau eraill, gan fod y capasiti yn cael ei ddefnyddio i alluogi’r prosiectau eraill hynny i ddigwydd ac yn wir, i lwyddo. Felly, credaf fod hynny’n rhoi cydbwysedd angenrheidiol, ac rwy’n gobeithio bod ein hadroddiad wedi gwneud hynny beth bynnag—edrych ar rai o’r diffygion, ond hefyd yr holl waith da a ddigwyddodd. Rwy’n credu ein bod wedi ceisio sicrhau’r cydbwysedd hwnnw yn ein hadroddiad, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi gwneud hynny’n effeithiol.

Credaf fod llawer o’r pwyntiau a wnaed gan Aelodau’r Cynulliad, Llywydd, wedi canolbwyntio—ac o reidrwydd rwy’n meddwl—ar y sylfaen dystiolaeth, gwerthuso, a rheoli perfformiad, gan fod ein hadroddiad yn wir yn ymdrin â’r materion hynny i raddau eithaf helaeth ac yn wir, maent yn ymddangos mewn nifer o’r argymhellion. Mae argymhelliad 4, wrth siarad am y strategaeth trechu tlodi, yn sôn am ddangosyddion perfformiad, rheoli perfformiad effeithiol, a gosod sylfaen dystiolaeth ehangach. Mae argymhelliad 8 yn sôn am sicrhau bod dangosyddion perfformiad yn gyson ar draws Cymru gyfan, ar gael i’r cyhoedd, fesul awdurdod lleol, ac ar gael i’r pwyllgor i gynorthwyo’r broses o graffu. Argymhelliad 9 yw’r dangosfwrdd o ddangosyddion tlodi, gan gynnwys sefydliadau megis Sefydliad Bevan neu Joseph Rowntree efallai, a soniwn am astudiaeth hydredol ar dlodi yng Nghymru yn argymhelliad 10. Felly, credaf ei bod yn amlwg fod y pwyllgor wedi nodi’r materion sy’n ymwneud â gwerthuso, rheoli perfformiad a sylfaen dystiolaeth yn gadarn iawn, ac rwy’n falch fod hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y cyfraniadau heddiw, gan fod yr angen i fod yn seiliedig ar dystiolaeth wedi dod yn fantra i Lywodraeth Cymru, ac mae angen i ni weld hynny ar waith yn ymarferol mewn rhaglenni pwysig fel y rhai sy’n mynd i’r afael â thlodi.

Mae nifer o’r Aelodau wedi siarad am bwysigrwydd yr economi, Llywydd, ac rwy’n meddwl y buasai pawb ohonom yn cydnabod hynny. Mae’r ymadrodd fod llanw sy’n codi yn codi pob cwch yn bwysig iawn mewn perthynas â threchu tlodi, ac rydym am weld yr economi’n cryfhau yng Nghymru, ond rydym hefyd, ochr yn ochr â hynny, am weld rhaglenni a mentrau pwrpasol ar gyfer trechu tlodi, gan gynnwys y rhai sy’n seiliedig ar leoedd, unwaith eto, fel y mae nifer o’r Aelodau wedi ei grybwyll. Rwy’n credu ei bod yn iawn y dylem gael cydbwysedd rhwng y rhai sydd ar gael yn gyffredinol a’r mentrau, y prosiectau, sy’n ddaearyddol benodol.

Llywydd, rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cael eglurder ynglŷn â chyllid etifeddol, ac os yw hwnnw’n mynd i’r grant cynnal refeniw, yna edrychwn ymlaen at gael mwy o fanylion ynglŷn â sut yn union y mae hynny’n mynd i ddigwydd a pha reolaeth a pha baramedrau a gaiff eu gosod o gwmpas hynny er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cael yr effaith a ddymunir wrth fynd i’r afael â’r materion hyn. Rwy’n meddwl bod y tîm pontio’n bwysig, ac rydym yn awyddus i weld hynny’n parhau o ran y cymorth i gyrff arweiniol a gallu Aelodau’r Cynulliad i gyflwyno materion i Ysgrifennydd y Cabinet, ac i’r rhieni gael eu trin gan y tîm pontio.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig fod yna ddull gweithredu traws-Lywodraethol ac unwaith eto, rydym yn cydnabod hynny, Llywydd. Ond yr hyn rydym am ei weld o ran y cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi—ac roedd hwn, wyddoch chi, yn bendant yn argymhelliad pwysig—yw bod hwnnw, o’i osod mewn strategaeth, yn ei gwneud hi’n bosibl craffu, ac yn cynnwys yr holl ddangosyddion rheoli perfformiad a pherfformiad y soniais amdanynt ar y cychwyn. Rwy’n meddwl bod hwnnw’n ofyniad allweddol i’r pwyllgor, ac rydym yn awyddus i’w weld yn cael ei ddatblygu.

Yn olaf, fel y crybwyllodd yr Aelodau, o ran yr arferion da a’r llwyddiannau, mae’n bwysig tu hwnt eu bod yn cael eu cadw. Mae argymhelliad 1 yn cyfeirio at gyrff statudol yn cydnabod y llwyddiant hwnnw ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb, ac rydym am sicrhau bod hynny’n rhan bwysig o’r hyn sy’n mynd i gael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol, a dyna pam ei fod yn argymhelliad cyntaf.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth Dwristiaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf felly yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y dreth dwristiaeth, ac rwy’n galw ar Nick Ramsay i wneud y cynnig. Nick Ramsay.

Cynnig NDM6546 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae’r cynnig heddiw yn glir iawn: yn syml iawn, nid ydym eisiau gweld treth dwristiaeth ar waith yng Nghymru. Rwy’n dychmygu y bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi sylweddoli hynny erbyn hyn. [Chwerthin.] Mae’r Aelodau’n ymwybodol fod gan Gymru bwerau codi trethi sylweddol bellach o dan Ddeddfau Cymru 2014 a 2017, ac yn gynharach eleni, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgyngori ar ddulliau trethiant newydd arfaethedig. Arweiniodd yr ymgynghoriad hwnnw at gynigion i gyflwyno pedair treth newydd—treth dwristiaeth, ardoll ar ofal cymdeithasol, treth tir gwag, a threth ar blastigau tafladwy. Roeddwn yn mynd i sôn am y 305 ymateb a dderbyniwyd i’r alwad gan y Llywodraeth am syniadau am gynigion ar gyfer trethi newydd, ond cafodd hynny ei grybwyll gan Aelodau yn gynharach. A chlywais ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r cwestiynau hynny, ac roedd yn ymddangos eich bod yn meddwl bod hynny’n fwy o ymatebion nag yr oeddech yn ei ddisgwyl ar y cychwyn. Felly, gadawaf hynny i fod am y tro.

Mae’r ddadl heddiw yn canolbwyntio’n unig ar yr effaith a’r pryderon y gallai gweithredu’r dreth dwristiaeth arwain atynt, mewn rhyw ddull neu fodd, hyd yn oed os nad yw’r gwelliannau i’r cynnig hwn yn adlewyrchu hynny’n llwyr. Os caf droi at y gwelliannau’n fyr, nid yw’n syndod na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Blaid Lafur sy’n dileu ein cynnig cyfan. Er bod llawer o’r gwelliant hwnnw’n ffeithiol, ni allwn gytuno â rhannau eraill ohono. Ond rhaid i mi ddweud o leiaf fod gwelliant 1 yn berthnasol i’r cynnig o’i gymharu â’r gwelliant 2 anhygoel a ddarparwyd gan Blaid Cymru, nad oes ganddo ddim i’w wneud â’n cynnig o gwbl. Mae rhaid i mi ddweud fy mod yn ei hystyried hi’n eironig nad yw’r blaid sydd, yn ôl pob tebyg, wedi bod eisiau datganoli trethi’n hwy nag unrhyw un arall yma yn y Siambr hon yn dymuno siarad am gynnig treth pwysig, megis treth dwristiaeth, pan fo’r grŵp hwn wedi cyflwyno dadl am y dreth hon ac am y cynnig hwn.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. A allai ddweud wrthyf beth yw ei weledigaeth gyllidol ar gyfer Cymru?

A dyna ni. Fe wnaiff Aelodau Plaid Cymru unrhyw beth i dynnu sylw oddi ar siarad am dreth dwristiaeth. Gweledigaeth gyllidol ar gyfer Cymru, treth tirlenwi—fe siaradwch am unrhyw beth, ond nid ydych eisiau siarad am hyn.

Nawr, i fod yn deg â’r Aelod—nid yr Aelod a wnaeth yr ymyriad, ond Adam Price—roedd yn fwy na pharod i drafod a chymeradwyo treth dwristiaeth yn y datganiad ar y gyllideb ddrafft ychydig wythnosau’n ôl yn unig, hyd nes iddo gael ei dawelu gan aelodau eraill o’i grŵp sy’n amlwg yn meddwl ei fod yn syniad hurt. Erbyn hyn, mae yna ddau ddewis yma. Mae Plaid Cymru naill ai’n fodlon â threth dwristiaeth—[Torri ar draws.] Dai Lloyd, nid wyf yn siwr ar ba ochr i’r ffens rydych chi’n eistedd ar hyn, pa un a ydych ar ochr Adam Price neu ochr arall eich grŵp. Mae Plaid Cymru naill ai’n fodlon â threth dwristiaeth neu fel arall. Rwy’n amau mai’r gwir amdani, fel sy’n eithaf amlwg, yw ei fod yn dibynnu ar bwy y siaradwch ym Mhlaid Cymru. Yn sicr cafwyd synau gwahanol o wahanol barthau dros yr ychydig wythnosau diwethaf. [Torri ar draws.] Beth bynnag, gallwch rwgnach. Rwy’n meddwl bod pobl Cymru’n haeddu cael gwybod ble mae Plaid Cymru’n sefyll ar y mater hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd gennych i’w ddweud am dreth dwristiaeth pan fyddwch yn cyfrannu, fel rwy’n dychmygu y byddwch yn ei wneud yn nes ymlaen.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Felly, yn ôl at y dreth dwristiaeth. Nid yw amheuaeth wedi ei gyfyngu i Aelodau’r Cynulliad. Mae hyd yn oed Sefydliad Bevan, sydd wedi cefnogi’r dreth yn gyhoeddus, i fod yn deg iddynt, o leiaf ar ei ffurf embryonig, wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth fyddai effaith treth dwristiaeth yng Nghymru. Rwy’n siwr y byddai hyd yn oed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ar hyn o bryd nad oes gennym asesiad o beth fyddai’r effaith honno. Mae’r argymhelliad hwn wedi cael ei feirniadu’n helaeth gan y sector twristiaeth yng Nghymru. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi nodi’n glir eu gwrthwynebiad i’r dreth, gan ddadlau

Er nad yw Cynghrair Twristiaeth Cymru’n gwrthwynebu trethiant teg, mae’n gwrthwynebu Treth Dwristiaeth ar y sail y byddai’n niweidio’r sector lletygarwch a thwristiaeth ac yn syml iawn, nid yw’n dreth deg.

Rydym yn credu bod Cynghrair Twristiaeth Cymru yn iawn: nid yw treth dwristiaeth yn dreth deg, ac fel sail i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi newydd yng Nghymru, dywedwyd wrthym yn y gorffennol mai tegwch, cydraddoldeb a blaengaredd oedd wrth galon eu strategaeth. Nid yw hynny’n ymddangos yn y cynigion ar gyfer y dreth hon.

Gallai treth dwristiaeth olygu y bydd yn rhaid i’r busnesau hyn gynyddu cost eu cyfleusterau i wneud iawn am unrhyw godiadau, a gallai effeithio’n niweidiol ar economïau lleol ledled Cymru. Gwyddom fod y sector twristiaeth yng Nghymru yn cyfrannu’n enfawr i economi Cymru, ac rwy’n siŵr, drwy gydol y ddadl hon, y bydd Aelodau o wahanol rannau o Gymru yn tynnu sylw at y cyfraniad real iawn y mae twristiaeth yn ei wneud i’w hetholaethau a’u rhanbarthau. Rwyf wedi cael fy ngohebiaeth fy hun, fel y gwn fod Aelodau Cynulliad eraill wedi cael. Mae un e-bost yma gan berchennog parc carafannau yn fy etholaeth sy’n bryderus iawn am yr effeithiau y byddai treth a weithredir yma’n ei chael ar fusnesau ar y ffin, a’r ffordd y gallai twristiaid a fyddai fel arall yn dod i Gymru aros yr ochr arall i’r ffin. Rydym yn gwybod bod ffin fân-dyllog hir rhwng Cymru a Lloegr—mae’n dra gwahanol i’r ffin rhwng yr Alban a Lloegr—ac ni fuasem am weld unrhyw beth yn cael ei weithredu ar yr ochr hon i’r ffin a fuasai’n annog pobl i beidio â dod yma i wario’u harian ar fusnesau Cymru a’r sector twristiaeth yng Nghymru.

Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru felly yn diogelu ac yn cefnogi sector twristiaeth Cymru fel ei fod yn parhau i wneud cyfraniad iach i’n heconomi. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y diwydiant twristiaeth yn farchnad gystadleuol ac mae busnesau yng Nghymru’n cystadlu ar lefel ddomestig gyda’n cymheiriaid ar draws gweddill y DU yn ogystal ag ar lefel fyd-eang. Os yw Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen i gyflwyno treth dwristiaeth ar unrhyw ffurf, bydd yn gwneud lleoedd eraill yn y DU yn gynnig mwy deniadol o ran cost na dod ar wyliau yma i Gymru.

Mewn llefydd fel fy etholaeth fy hun, sydd, fel y dywedais, yn agos yn ddaearyddol at y ffin â Lloegr, gallai gael goblygiadau difrifol os yw pobl yn dewis aros yr ochr arall i’r ffin yn y dyfodol. Wrth asesu potensial treth dwristiaeth ymddengys na chafwyd unrhyw asesiad o gwbl o’r effaith ar etholaethau’r ffin, ac a dweud y gwir, mae’n destun pryder fod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r cynigion hyn gael eu hystyried ymhellach.

Ac wrth gwrs nid gwestai a darparwyr llety’n unig a allai deimlo gwasgfa’r dreth newydd hon. Gwlad fach yw Cymru a chanddi gadwyni cyflenwi cymhleth, yn enwedig ym maes lletygarwch a thwristiaeth. Mae tafarndai, clybiau, caffis a siopau i gyd yn fusnesau a allai deimlo’r effaith pe bai’r cynigion hyn yn mynd yn eu blaen. Gallai treth dwristiaeth fod yn hynod o niweidiol o ran niferoedd ymwelwyr â llawer o’r busnesau hyn ledled Cymru, gyda llawer ohonynt yn dibynnu ar incwm twristiaeth i aros mewn busnes.

Fel y dywedaf, nid Aelodau Cynulliad yn unig sydd wedi bod yn mynegi’r pryderon hyn, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd wedi cyflwyno eu safbwyntiau eu hunain a chytunaf yn llwyr â barn y Ffederasiwn Busnesau Bach y dylai Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dyfynnu,

osgoi cefnogi unrhyw ardoll sy’n cael ei thargedu bron yn llwyr at fusnesau bach.

Yr ardaloedd o Gymru sydd fwyaf dibynnol ar dwristiaeth i gefnogi’r economi leol yw’r ardaloedd sydd â’r economïau lleiaf amrywiol hefyd yn aml, ac mae’n rhaid inni fod yn ofalus fod effaith lawn bosibl ardoll newydd ar fusnesau twristiaeth bach yn cael ei deall.

Rydym yn ofni na fu unrhyw asesiad o anghydraddoldebau rhanbarthol a rôl y diwydiannau twristiaeth lleol, na dealltwriaeth o effaith bosibl hyn ar y diwydiant yn ei gyfanrwydd. Yn sicr, ni fydd y dreth, ynghyd ag effaith ailbrisio ardrethi yn ddiweddar ar rai busnesau, a’r ffaith bod y diwydiant eisoes yn talu 20 y cant mewn treth ar werth, yn gwneud dim i helpu’r diwydiant—[Torri ar draws.] Rwy’n clywed rhai sylwadau gan yr Aelodau sy’n eistedd gyferbyn ar sut y gallwn wrthwynebu hyn. Wel, yn amlwg nid ydych yn poeni am ei heffaith neu buasech o bosib wedi cyflwyno gwelliant a oedd hyd yn oed yn crybwyll y pwnc y mae’r cynnig hwn yn sôn amdano.

Os ydych o ddifrif am gefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, mae un ffordd hawdd y gallai eich plaid wneud hynny. Rydym yn sôn am drethiant—beth am dreth ar werth? Beth am TAW? Beth am leihau TAW? Gallech wneud hynny mewn mater o wythnosau yn y gyllideb, os ydych o ddifrif am gefnogi’r diwydiant twristiaeth.

Rydym wedi cael treth ar werth, rydym wedi cael treth ar blastigau—unwaith eto, mae’r blaid gyferbyn yn awyddus i siarad am unrhyw dreth, ond nid yw am siarad am y dreth dwristiaeth. Nid wyf wedi ei chlywed yn cael ei chrybwyll eto hyd yn oed. Ond fel y dywedais, edrychaf ymlaen at eich cyfraniad yn nes ymlaen.

Felly naw wfft i groeso i wlad y bryniau. A fydd cyflwyno treth dwristiaeth yn anfon y neges gywir o groeso i ymwelwyr? Nid ydym yn teimlo y bydd. Na, rydym yn ofni y bydd yn anfon y neges groes i hynny, ac mae’n anfon neges i fusnesau fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wasgu ein busnesau bach cymaint ag y gall drwy weithredu treth fel hon.

Rwy’n gobeithio’n fawr na fydd y dreth hon yn mynd yn ei blaen ac na chaiff ei gweithredu. Mae amser o hyd i Lywodraeth Cymru edrych eto ar hyn ac ailystyried. Yng ngoleuni hynny, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn ac anfon datganiad clir i’n diwydiant twristiaeth heddiw ein bod ar eich ochr, ac rydym am barhau i weithio gyda chi i greu Cymru sy’n agored, yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;

b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;

c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth bosib wedi’i nodi fel cynnig i’w ystyried; a

d) nad oes penderfyniad wedi’i wneud i gyflwyno treth newydd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf yn awr ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Steffan.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid gweithredu treth ar blastigau tafladwy yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn naïf efallai yn edrych ymlaen at drafodaeth aeddfed y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd. Roedd distawrwydd yr Aelod dros Fynwy yn siarad cyfrolau yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma pan glywsom dystiolaeth gan arbenigwyr ar yr ardoll dwristiaeth arfaethedig. Mae’n drueni nad yw tystiolaeth yn rhywbeth y mae am ei chynnwys yn ei gyfraniadau yn y Siambr hon. Hoffwn egluro nad yw cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru yn bolisi Plaid Cymru. Nid yw’n bolisi Plaid Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu—.

Andrew R.T. Davies a gododd—

Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen, ond rwy’n hapus i ildio yn nes ymlaen. [Torri ar draws.] Nid yw’n bolisi Plaid Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno pedwar syniad ar gyfer ymchwil pellach a phrofi pellach, oherwydd yr hyn a oedd yn gwrth-ddweud ei hun yng nghyfraniad yr Aelod dros Fynwy oedd na chawsom unrhyw dystiolaeth er mwyn gwneud penderfyniad pendant. Holl bwynt y broses a gyhoeddwyd yn y gyllideb yw ein bod yn casglu’r dystiolaeth i wneud penderfyniad pendant. Rwy’n hapus i ildio i arweinydd yr wrthblaid, os hoffai—.

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Mae’r gwrth-ddweud yn eich sylwadau agoriadol wedi ei amlygu’n helaeth, wrth gwrs, gan Adam Price, fel sylwadau a ddaeth yn natganiad y gyllideb, pan ddywedodd fod yna rinwedd mewn edrych ar dreth dwristiaeth a chyflwyno treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Felly, roedd yn siarad yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd Plaid Cymru, does bosibl nad dyna y mae’n siarad amdano: polisi Plaid Cymru.

Efallai nad yw offer cyfieithu’r Aelod yn gweithio neu rywbeth—.

Na, na. Siaradodd yn Saesneg gan mai fy ymyriad i ydoedd.

Nid polisi Plaid Cymru yw cyflwyno treth dwristiaeth. Rydym yn croesawu camau i archwilio pedair treth, fel yr amlinellodd Llywodraeth Cymru, i gasglu tystiolaeth am ein bod yn blaid â meddwl agored, yn barod i edrych ar syniadau newydd arloesol, oherwydd gadewch i ni ei wynebu, Dirprwy Lywydd, pryd bynnag y ceir syniad newydd mewn gwleidyddiaeth ar yr ynysoedd hyn, mae’r Blaid Geidwadol bob amser ar yr ochr anghywir. Ni fyddem yn eistedd yn y Siambr hon heddiw pe baent wedi cael eu ffordd eu hunain am eu bod bob amser ar yr ochr anghywir i hanes, ac mae hynny’n wir am eu polisi ar drethiant.

Fel cyflogwr mwyaf ond un Cymru, twristiaeth yw asgwrn cefn yr economi mewn sawl rhan o’n gwlad; mae’n cefnogi, fel y dywedodd yr Aelod dros Fynwy, 120,000 o swyddi ac mae’n hanfodol bwysig i bob rhan o’n gwlad. Ar hyn o bryd, mae’r diwydiant twristiaeth yn y Deyrnas Unedig yn wynebu baich treth anghymesur o uchel o gymharu â’n diwydiannau allweddol eraill a gwledydd eraill yn Ewrop. Y Swistir yn unig sy’n gosod baich treth mwy na’r Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.]—ar ei diwydiant twristiaeth. Mae’n ddrwg gennyf, rwy’n meddwl fy mod wedi bod yn eithaf hael; hoffwn fwrw ymlaen. Mae 16 allan o 19 o wledydd yn ardal yr ewro â chyfradd TAW ar gyfer gwasanaethau twristiaeth sy’n is na 10 y cant. Mae ein cymydog agosaf, ac mewn sawl ffordd, y wlad sy’n cystadlu’n uniongyrchol â ni, Iwerddon, wedi gostwng y gyfradd TAW i 9 y cant yn 2011: crëwyd 57,000 o swyddi ychwanegol o ganlyniad. Mewn marchnad fyd-eang a mwyfwy cystadleuol, mae ar Gymru angen pob mantais bosibl i werthu ein hunain fel cyrchfan i dwristiaid.

Mae ein system dreth, a oruchwylir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ar hyn o bryd yn rhoi Cymru a’r nifer o fusnesau bach sy’n sylfaen i’n diwydiant twristiaeth dan anfantais. Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am dorri TAW ar wasanaethau i dwristiaid o 20 y cant i 5 y cant. Amcangyfrifir—. Mae tystiolaeth yn awgrymu y byddai’r gostyngiad yn creu dros 5,500 o swyddi yng Nghymru, gan chwistrellu £166 miliwn i mewn i economi Cymru. O ystyried pwysigrwydd strategol twristiaeth fel diwydiant i’n cenedl, gallai Cymru ddod yn fan treialu toriad TAW i dwristiaeth pe bai’r Ceidwadwyr eisiau i hynny ddigwydd.

Mae diddordeb newydd y Ceidwadwyr yn iechyd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru i’w groesawu’n fawr iawn. Ac rwy’n tybio, felly, o ystyried eu pryder am y baich treth ar y sector twristiaeth yng Nghymru, fod plaid y Ceidwadwyr Cymreig wedi llwyddo i berswadio Philip Hammond i gyflwyno toriad yn y TAW i dwristiaeth pan fydd yn datgelu ei gyllideb ymhen ychydig wythnosau. Dyna bolisi Plaid Cymru ar dwristiaeth a threthiant yng Nghymru, a byddwn yn cyflwyno gwelliant i gyllideb y DU—

—[Parhau.]—er mwyn ei gyflawni. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Os ydym yn mynd i gyrraedd y targed i sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2050—gan ddod at welliant Plaid Cymru—byddwn angen newidiadau radical i’n hymddygiad, i’r nwyddau a ddefnyddiwn, a’u deunydd pacio. Ac o’r pedair treth y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflawni gwaith archwilio pellach arnynt, polisi Plaid Cymru yw’r dreth ar blastigau tafladwy, a chafodd sylw yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau 2016. Roedd Cymru’n arloesi wrth gyflwyno’r tâl am fagiau plastig yn 2011, a gwelsom ostyngiad o 71 y cant yn y defnydd o fagiau plastig o ganlyniad i hynny. Treth ar blastig tafladwy yw’r cam nesaf ymlaen i anghymell y defnydd o blastigau eraill na ellir eu hailgylchu, fel blychau prydau parod a chwpanau coffi, ac i annog busnesau i ddod o hyd i ddewisiadau eraill y gellir eu hailgylchu.

Yn ogystal â hynny, ac i gloi—. Ar y cyd â chynlluniau eraill fel cynlluniau dychwelyd blaendal ar ganiau a gwydr, gall Cymru barhau i arwain y byd o ran cyrraedd ein targedau ailgylchu a lleihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu i’w losgi. Erbyn hyn mae gennym bwerau i lunio ein system dreth neilltuol ein hunain. Wrth i ni wneud hynny, mae gennym gyfle i fabwysiadu ymagwedd hyblyg ac arloesol tuag at drethiant sy’n cydbwyso’r angen i godi arian ar gyfer y pwrs cyhoeddus gyda dealltwriaeth o’r pŵer a allai fod gan drethi i newid ymddygiad, ac edrychaf ymlaen at weld pob plaid yn cyfrannu at y cyfle hanesyddol sydd gan y wlad i lunio ei pholisïau cyllidol ei hun yn y blynyddoedd i ddod.

Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yn yr ychydig wythnosau ers i’r syniad hwn gael ei wyntyllu gan Lywodraeth Cymru, rwyf i’n bersonol wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan fusnesau, unigolion a sefydliadau masnach sydd, yn ddieithriad, yn erbyn y syniad hwn. Gadewch imi fod yn glir: rwy’n falch fod gan y Cynulliad rywfaint o gyfrifoldeb am ei threthi bellach, ond os yw trethi’n mynd i gael eu gosod, yna mae’n rhaid iddynt fod, nid yn unig yn deg, ond hefyd yn cael yr effaith a fwriadwyd wrth eu cynllunio. Y math gwaethaf o dreth yw un sy’n effeithio ar fusnesau unigol ac sy’n lleihau incwm ac felly derbyniadau treth, ac o’r hyn a welaf, treth felly yw’r dreth dwristiaeth arfaethedig hon. Nid oes unrhyw dystiolaeth ei bod yn gweithio. Nid oes unrhyw dystiolaeth y byddai ei gweithredu’n gyffredinol ledled Cymru yn effeithiol. Ac mewn gwlad lle’r ydym yn rhannu ffin mor hir ar y tir â Lloegr ac yn cystadlu gyda Lloegr am lawer o dwristiaid, mae’n argoeli i fod yn wrthgynhyrchiol.

Rwy’n cynrychioli etholaeth sy’n cynnwys dwy sir lle y mae’r diwydiant twristiaeth yn allweddol i’n ffyniant economaidd. Yn Sir Benfro, mae twristiaeth yn werth £585 miliwn y flwyddyn, ac yn Sir Gaerfyrddin mae’n werth £370 miliwn y flwyddyn. Mae’r diwydiant twristiaeth yn creu’r hyn sy’n cyfateb i 5,683 o swyddi amser llawn yn Sir Gaerfyrddin yn unig. Er nad wyf yn honni y buasai’r diwydiant cyfan yn cael ei roi dan fygythiad, ni ellir gwadu y byddai treth dwristiaeth yn cael effaith ddifrifol ar nifer yr ymwelwyr a gwariant defnyddwyr.

Rwyf wedi edrych ar sut y mae treth neu ardoll feddiannaeth neu dreth wely o’r fath yn gweithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Mae angen inni gofio er hynny, yn draddodiadol, fod cyfraddau meddiannaeth yn llawer uwch nag yn y DU, ac felly efallai na fyddwn yn cymharu tebyg at ei debyg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn i chi fynd i’r afael ag ef mewn gwirionedd. Er enghraifft, yn yr Almaen, mae teithwyr busnes yn cael eu heithrio. Mae Gwlad Belg yn gostwng y TAW i holl westai a bwytai’r wlad o 21 y cant i 6 y cant, ond mae ganddi dreth dinas ar ben hynny wedyn. Rwy’n chwerthin braidd ar Blaid Cymru’n dweud eu bod am fod yn gyfrifol am eu pwerau cyllidol a’u bod yn edrych ymlaen at hynny. Wel, hwrê, rwy’n cytuno â hynny, heblaw’r ffaith eich bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’ch dadl yn siarad am dreth nad oes gennym unrhyw gyfrifoldeb drosti mewn gwirionedd nac unrhyw ffordd o bwyso arni, sef y gyfradd TAW. Nid yw Portiwgal—[Torri ar draws.] Nid yw Portiwgal ond yn cymhwyso’r dreth ar y saith diwrnod cyntaf o deithio. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddeall, Ysgrifennydd y Cabinet, yw pa fath o fodelau y buasech yn edrych arnynt, sut y buasech yn eu harchwilio a sut y buasech yn eu gwerthuso yn erbyn y cefndir presennol sydd gennym yn y Deyrnas Unedig, oherwydd pa un ai Llafur neu’r Ceidwadwyr sydd yn San Steffan, mae TAW wedi bod ar y lefel hon ers peth amser ac nid wyf yn ei weld yn newid yn fuan ac mae angen inni ddeall hynny er mwyn gwneud yn siŵr nad ydym yn gordrethu ein pobl ein hunain.

Y sector twristiaeth yng Nghymru yw’r gyfran uchaf o weithlu unrhyw un o wledydd y DU: 12.7 y cant o gyfanswm y gweithlu, o’i gymharu â 10 y cant yn yr Alban, 8 y cant yn Lloegr a 4 y cant yn unig yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae twristiaeth yn hynod o bwysig i’n gwlad ac i’n heconomi. Mae 25 y cant o’r holl fusnesau a gofrestrwyd ar gyfer TAW yng Nghymru yn yr economi ymwelwyr.

O ran Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, rwy’n poeni y bydd yn taro pobl leol lawn cymaint â thwristiaid. Bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith am gael noson i ffwrdd mewn gwesty lleol, aros dros mewn priodas neu wyliau mewn rhannau cyfagos o Gymru. Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar fusnesau lleol eraill. Yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, rydym wedi annog llawer iawn o ffermwyr i arallgyfeirio, a gwelwyd rhai llwyddiannau gwirioneddol ardderchog. Ond sut y bydd y dreth hon yn effeithio ar y busnesau sydd wedi arallgyfeirio?

Er mai’r tymor gwyliau mawr yw’r prif enillydd incwm ar gyfer y sector twristiaeth yng Nghymru, gwelwn hefyd fod y tymor rhwng y tymor brig a’r tymor allfrig yn gyfnod pwysig i’r diwydiant. Fodd bynnag, denu ymwelwyr o’r DU a wna hyn yn bennaf ac rwy’n pryderu ynglŷn â sut y bydd treth dwristiaeth yn effeithio ar y farchnad benodol honno. Byddwn yn llai deniadol nag Cernyw.

Ar hyn o bryd mae’r DU yn safle 140 allan o 141 o wledydd o ran cystadleurwydd pris, yn bennaf oherwydd lefel y dreth y mae ymwelwyr eisoes yn ei thalu. Mae’r DU yn codi cyfradd TAW lawn ar bob un o’r tair cydran o wariant ymwelwyr: llety, prydau bwytai ac atyniadau. Nid yw rhannau eraill o Ewrop yn gwneud hynny. Hefyd, mae ein TAW ddwywaith y cyfartaledd Ewropeaidd. Drwy ychwanegu treth bellach, bydd hyn wedyn yn gwneud Cymru hyd yn oed yn waeth ei byd ac rwy’n pryderu mai treth arall yw hon ar gyfer cyllideb gydgrynhöol Llywodraeth Cymru. A fydd yr arian hwn yn cael ei glustnodi? Pwy fydd yn ei gasglu? Sut y caiff ei ailfuddsoddi mewn twristiaeth? Ac yn wahanol i’r dreth ar fagiau plastig, a gynlluniwyd i newid diwylliant ac ymddygiad, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon i’w gweld i mi yn dreth ar gyfoeth a hamdden yn unig, a hoffwn wybod faint y byddai’n costio i’w gweithredu a’r canlyniadau parhaus.

Roeddwn yn credu mai sail y ddadl heddiw oedd—. Mae’n ymddangos i mi nad yw’r Torïaid eisiau cael dadl o gwbl mewn gwirionedd; maent wedi galw am ddadl, ond yr hyn nad ydynt ei eisiau yw dadl. A buaswn wedi meddwl—yn naïf efallai—y buasai gwleidyddion, waeth beth y bo’u lliw, yn awyddus i gael sgwrs genedlaethol am faterion sylfaenol yn ymwneud â sut rydym yn codi ac yn gwario trethi. Dylai’r ffaith bod hwn yn dir newydd i ni fel gwlad, ar ôl bron i 800 mlynedd, ac fel sefydliad, olygu ein bod yn agored i syniadau arloesol, uchelgeisiol ac, ie, dadleuol. Ac mae’r ardoll dwristiaeth yn perthyn i’r meini prawf hynny yn bendant.

Mae hefyd yn werth ailadrodd nad oes dim wedi’i benderfynu eto. Yn hytrach, dadl yw hon ynglŷn ag a ddylem drafod y materion hynny. Nid yw’r dreth dwristiaeth—ac rwy’n atgoffa’r Torïaid eto—ond yn un o bedwar cynnig ar y rhestr fer a ddewiswyd o blith cannoedd o awgrymiadau a gyflwynwyd gan wahanol rannau o gymdeithas Cymru. Felly, o’r fan honno y daeth y syniadau. Maent wedi dod o gymdeithas Cymru—

Nid yn awr. Nid wyf ond newydd ddechrau. Cawsoch ddweud eich dweud yn gynharach.

Ac mae gan y pedwar syniad—ardoll i gyllido gofal cymdeithasol, treth ar ddeunydd pacio, treth tir gwag a’r ardoll dwristiaeth—botensial enfawr i wneud daioni, ac mae peryglon ynghlwm wrthynt hefyd. Dyna pam y mae’r broses hon mor gymhellol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn profi pob un o’r pedwar cynnig cyn cyflwyno un ohonynt i Lywodraeth y DU yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae hynny, i mi, i’w weld yn gwbl synhwyrol. Ond yr hyn nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl yw dweud ‘na’ yn awr; cau’r caead ar y ddadl cyn iddi ddechrau hyd yn oed, a dyna’n union y mae’r Ceidwadwyr yn ceisio ei wneud. A oeddech eisiau ymyrryd?

Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A gaf fi ofyn: sawl busnes twristiaeth yn eich etholaeth rydych wedi trafod hyn â hwy? Oherwydd, yn y pen draw, bydd eich economi’n dioddef llawer iawn o ganlyniad i dreth dwristiaeth, ac ni allaf ddeall pam eich bod yn meddwl ei fod yn beth cadarnhaol ein bod hyd yn oed yn trafod y posibilrwydd o dreth ar dwristiaeth yma yng Nghymru, pan nad oes unrhyw drafodaeth o’r fath—

[Yn parhau.]—yn digwydd dros y ffin yn Lloegr, a buasem yn wynebu llawer o anfantais o ganlyniad.

Y pwynt yw—ac rydych wedi ei wneud eto—rydych wedi cau’r caead ar y ddadl; nid yw’n ymddangos eich bod yn deall yr angen i gael dadl am hyn. Rwy’n gwybod yn iawn faint o weithredwyr twristiaeth sydd yn fy ardal, a byddaf yn cyflwyno sylwadau ar ran y rhai rwyf eisoes wedi eu hateb, sy’n dod i gysylltiad â mi, yn ddi-os. Oherwydd, pe baech wedi gallu ymatal tamaid bach, roeddwn yn mynd i symud ymlaen o’r rhinweddau i’r peryglon.

Un o rinweddau ardoll dwristiaeth a’r cynnig sydd wedi’i gyflwyno a’i grybwyll gan Sefydliad Bevan yw ei bod yn dreth er daioni. Mae yna enghreifftiau—ac mae rhai pobl wedi eu crybwyll yma heddiw—o gwmpas y byd lle y cafodd ei defnyddio’n llwyddiannus iawn: mewn rhannau o Ffrainc, Catalonia, Slofenia, Berlin, San Francisco. Prin eu bod yn llefydd heb lawer o dwristiaeth. Yn San Francisco, deallaf ei bod yn dreth barthol, ychydig fel rheilffordd danddaearol Llundain—felly, gyda thâl ganrannol uwch po agosaf yr arhoswch at ganol y ddinas—ac yn Berlin mae’n gyfradd safonol. Manylion yw’r rhain. Yr hyn sydd efallai’n fwy perthnasol i heddiw yw’r effaith a fu, da neu ddrwg. O’r enghreifftiau rhyngwladol, rydym yn gwybod bod y dreth yn cael ei hailfuddsoddi at ei gilydd mewn twristiaeth, ar hyrwyddo’r ardal a darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Gallai hynny gynnwys, fel sy’n digwydd yn Ffrainc, defnyddio’r arian a godir i dalu am y gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â nifer fawr o dwristiaid, o brosiectau seilwaith i lanhau traethau. Y pwynt yw ei bod yn dreth a delir gan bobl sy’n byw y tu allan i ardal i leddfu’r baich ariannol ar y bobl sy’n rhoi llety iddynt.

Ar ôl saith mlynedd o doriadau Torïaidd a’r pot o arian yma yn lleihau o hyd, mae’n bosibl y gall codi trethi lleol helpu i ysgafnhau’r baich ar y trethdalwr lleol, a fydd yn gorfod talu am roi llety i unigolion yn eu rhannau cyfansoddol. Ond mae yna beryglon hefyd, a rhaid inni graffu ar y rhain yn ofalus iawn. Fe wyddom, ac rwyf wedi ei ddweud ac rwy’n gwbl ymwybodol ohono, fod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ffynnu ar eu diwydiant twristiaeth, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac mae’n anadl einioes i’r ardaloedd hynny. Felly, beth bynnag fydd yn digwydd, pa un a fydd gennym ardoll ai peidio, yr hyn sy’n bendant yn rhaid inni ei wneud yw cael dadl.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i siarad yn erbyn cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru. Rwy’n gwneud hynny oherwydd fy mod yn credu y buasai treth dwristiaeth yn cael effaith ddifrifol ac andwyol ar economi fy rhanbarth. Mae de-ddwyrain Cymru yn gyrchfan o bwys i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig ac o dramor. Chwe blynedd yn ôl, cyflwynwyd Bil Menter (Cymru) yn y Siambr hon, ac roeddem yn pwysleisio’n gryf iawn yr angen i wella ein twristiaeth, a hefyd, ers 2010, mae Cwpan Ryder, NATO, a hefyd ein tîm pêl-droed a FIFA, wedi gwella’n aruthrol nifer yr ymwelwyr o dramor ac o’r ochr arall i’r sianel sy’n dod i mewn.

Yn wir, yn 2014, de-ddwyrain Cymru oedd yr ail gyrchfan fwyaf poblogaidd ar gyfer teithiau domestig dros nos yng Nghymru. Roedd gwariant ar y teithiau domestig dros nos hyn yn £361 miliwn y flwyddyn. Yn 2014, roedd yna 441,000 o ymweliadau rhyngwladol hefyd. Roedd hanner yr holl ymweliadau rhyngwladol â Chymru rhwng 2012 a 2014 yn Nwyrain De Cymru. Cafodd 47 y cant o’r holl wariant ar ymweliadau tramor â Chymru ei wario yn fy rhanbarth. Mae ymweliadau dydd hefyd yn boblogaidd yno. Cafwyd 39 miliwn o ymweliadau dydd â Chymru yn 2014, sef dros 40 y cant o’r holl ymweliadau dydd â Chymru.

Dirprwy Lywydd, mae de-ddwyrain Cymru yn cynnwys rhai o’r cymunedau tlotaf yn y Deyrnas Unedig. Mae diweithdra ac amddifadedd yn parhau’n ystyfnig o uchel. Mae tua un o bob 11 o swyddi yn y rhanbarth yn y sector twristiaeth. Rwy’n credu y buasai’r sector twristiaeth yn cael ei daro’n galed drwy gyflwyno treth dwristiaeth gan y Llywodraeth hon.

Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd tollau ar bont Hafren rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu dileu erbyn 2018. Mae astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai cael gwared ar dollau’n rhoi hwb o £100 miliwn i economi Cymru. Nid yw’n syndod fod busnesau Cymreig yn y sector twristiaeth eisoes wedi mynegi pryder y gallai treth dwristiaeth gael effaith ddifrodus ar eu diwydiant ac atal ymwelwyr rhag dod i Gymru. Mae hynny heb ystyried yr effaith ganlyniadol ar dafarndai, siopau, caffis ac atyniadau ymwelwyr mewn gwahanol lefydd, gan gynnwys ein heglwysi hardd a golygfeydd hardd ym mhob man. Maent yn dibynnu ar y fasnach hon. Mae hefyd yn tanseilio ymgyrch gan Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.

Ond nid dyma’r unig strategaeth gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei llesteirio o gymeradwyo hyn. ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yw strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau newid go iawn i Gymoedd Dwyrain De Cymru. Un o’i blaenoriaethau yw gwneud mwy gydag amgylchedd naturiol y Cymoedd, eu diwylliant a’u treftadaeth, fel y gellir eu mwynhau’n fwy eang gan bobl leol a phobl sy’n byw ymhellach i ffwrdd. Mae’n mynd ymlaen i ddweud:

‘Bydd y Cymoedd yn gyrchfan gydnabyddedig i dwristiaid, a fydd yn denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, y DU a thu hwnt.’

Gofynnaf i Lywodraeth Cymru, yn onest, a fydd treth dwristiaeth yn helpu neu’n rhwystro nodau’r strategaeth hon rhag cael eu cyflawni—eu holl strategaethau. Cyflwynwyd treth dwristiaeth yn Ibiza a Majorca yn 2016. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ganlyniadau hynny. Condemniodd Thomas Cook y ffaith iddi gael ei chyflwyno, ac yn ôl y sôn, codir ‘swm ychwanegol sylweddol’ ar wyliau teuluol. Byddai hynny’n perswadio llawer o deuluoedd i fynd ar eu gwyliau i rywle arall, nid i Gymru. Dywedodd Ffederasiwn Gwestywyr Majorca y byddai’r dreth yn arwain at ‘filiynau mewn colledion’ i economi’r ynys. Ni all Cymru fforddio cynyddu’r baich ar ein diwydiant twristiaeth ac atal pobl rhag dod yma. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn meddwl eto ac eto, ac yn tynnu’r dreth niweidiol hon, a allai fod yn drychinebus, yn ôl.

Rwy’n credu ei bod yn hen bryd inni ddeall nad oes pwynt inni gynyddu trethi er mwyn cynyddu ein heconomi. Ceir meysydd eraill y mae’r Llywodraeth yn edrych arnynt, a chyfeiriwyd at bedwar maes: treth ddŵr, treth siwgr, treth gwerth tir, ac mae meysydd eraill i edrych arnynt, ac rwy’n meddwl, os gofynnwch i’r cyhoedd, byddent yn rhoi meysydd penodol i chi lle y gellir codi treth, nid ar dwristiaeth. Diolch.

Rwy’n falch iawn o gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Gallaf hefyd ddweud fy mod yn gallu cefnogi gwelliant y Llywodraeth iddo, yn y bôn oherwydd nad yw’n dweud unrhyw beth mewn gwirionedd. Ond mae llawer ohonom yn bresennol yma heddiw, ar yr ochr hon i’r Siambr o leiaf. Wrth gwrs, ceir yr hyn y gallem ei alw’n wacter poenus o’n blaenau ar fy ochr chwith, ar wahân i’r ychydig o warchodwyr sosialaeth sydd wedi dod i wylio’r trafodion ac adrodd yn ôl.

Y peth cyntaf rwyf am ei wneud yw ymateb i’r her a roddodd Steffan Lewis yn gynharach i Nick Ramsay ynglŷn â beth yw ein gweledigaeth ar gyfer Cymru mewn perthynas â threthi datganoledig. Rwy’n fawr iawn o blaid trethi datganoledig, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni yng Nghymru ychwanegu at ein manteision naturiol, yn enwedig o ran y diwydiant twristiaeth. Rwy’n cefnogi galwad Plaid Cymru am gyfraddau TAW gwahaniaethol yn gryf. Mae’n rhoi cyfle inni leihau’r baich treth yng Nghymru o’i gymharu â’n cymdogion, ac felly, efallai y bydd yn helpu i gywiro’r anghydbwysedd sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac a ddisgrifiwyd yn huawdl iawn lawer gwaith yn y Siambr hon gan Adam Price, am dlodi Cymru o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a sut y mae angen i ni wneud rhywbeth gwirioneddol ddramatig i gywiro hynny. Fy ngrym ysgogol mewn gwleidyddiaeth ar hyd fy oes yw egwyddor hynafol Gladstone o ganiatáu i arian ffrwytho ym mhocedi’r bobl. Felly, at ei gilydd rwyf bob amser wedi gwrthwynebu camau i gyflwyno trethi newydd ac wedi galw am ostyngiad yn y baich treth presennol. Ac rwy’n meddwl bod yn rhaid inni gydnabod y cefndir economaidd y buasai’n rhaid mesur unrhyw gynnig i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn ei erbyn. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cynhyrchu ffigurau yn ddiweddar i ddangos ein bod bellach, ym Mhrydain, yn wynebu’r baich treth uchaf a gawsom ers 1986. Mae gwerth £17 biliwn o godiadau treth i ddilyn ar gyfer gweddill y Senedd hon, ac os yw’r Llywodraeth yn glynu at ei hamcan datganedig o ddileu’r diffyg erbyn 2025, mae hynny’n golygu £34 biliwn yn ychwanegol o drethi. Fe ildiaf, yn sicr.

Os caf ofyn i chi: pwy oedd yn Llywodraeth yn 1986?

Wel, yn wir. Ni oedd, wrth gwrs, yn clirio’r llanast a adawyd i ni yn 1979. [Torri ar draws.] Mae yna lawer o’r Aelodau yn y Cynulliad hwn, wrth gwrs, nad ydynt yn ddigon hen i gofio dyddiau tywyll y 1970au, ond mae gan rai ohonom atgofion hir iawn yn wir. Ond mae hon yn ddadl bwysig gan fod twristiaeth yn aruthrol o bwysig i Gymru, ac fel un o’r Aelodau dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru—wrth gwrs, mae gennym yr holl ddarnau gorau o’r diwydiant twristiaeth—mae’n golygu ei bod yn bwysicach fyth i ni.

Rwy’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol iawn inni gyflwyno rhai o’r ystadegau cefndirol i hyn, a buasai’n rhaid mesur unrhyw gynnig newydd ar gyfer treth yn erbyn y rhain. Mae cyfran Cymru o ymweliadau twristiaid â’r DU oddeutu 3 y cant, ac o’r rheini, 43 y cant sy’n ymweld â Chymru’n unig. Yr arhosiad cyfartalog yng Nghymru yw chwe noson, ac mae’r gwariant ar gyfartaledd yn £363 y pen. Dyna £61 y noson ar gyfartaledd ac mae hynny’n llawer llai na’r gwariant cyfartalog yn y DU, sef £100. Nawr, nid ydym yn gwybod ar ba gyfradd y byddai unrhyw dreth dwristiaeth yn cael ei gosod, ond mae Sefydliad Bevan wedi awgrymu £1. Wel, efallai nad yw £1 ar £61 i’w weld yn llawer, ond o gofio’r ffeithiau a grybwyllais yn gynharach yn y cwestiynau i’r Ysgrifennydd cyllid mewn perthynas â phris cystadleurwydd Prydain ym marchnadoedd y byd—. Fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn gynharach, os gallaf ddod o hyd i fy sbectol. Mae Prydain bron ar waelod tabl cynghrair y byd o ran cystadleurwydd pris: ar safle 135 allan o 136 o wledydd. Gwae ni os gwnawn y sefyllfa honno’n waeth hyd yn oed, ac er nad yw’n ymddangos yn llawer iawn efallai—£1 neu £2 neu beth bynnag—mae’n bosibl mai dyna fydd y gwelltyn sy’n torri cefn y camel i lawer o bobl, ac ni all unrhyw beth sy’n gwneud Cymru yn lle llai deniadol i ymwelwyr o ran gwerth am arian fod yn dda i’r diwydiant twristiaeth.

Oes, mae yna enghreifftiau o amgylch y byd o drethi twristiaeth yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus. Maent yn tueddu i weithio lle y mae’r galw ar ran twristiaid yn eithaf anhyblyg. Mae Caerfaddon ar hyn o bryd, rwy’n credu, yn ystyried cyflwyno rhyw fath o dreth dwristiaeth. Wel, mae symud o amgylch Caerfaddon yn ystod y tymor twristiaeth yn aml yn anodd iawn. Mae Fenis yn enghraifft arall o hyn, neu hyd yn oed Efrog Newydd neu San Francisco, fel y crybwyllodd Joyce Watson yn gynharach. Mae’r rhain i gyd yn lleoliadau rhyngwladol sydd â galw cymharol anhyblyg o ran ymweliadau. Pa un a fyddai hynny’n wir am Gymru neu Gymru gyfan yn fater hollol wahanol ac yn erbyn y cefndir o anhawster economaidd rydym wedi byw ynddo ac wedi brwydro yn ei erbyn ers blynyddoedd lawer, rwy’n meddwl y buasem yn cymryd risg fawr iawn yn wir pe baem yn ychwanegu ymhellach at y baich treth, a allai dueddu i’w wneud yn lle llai deniadol i dramorwyr yn enwedig ymweld ag ef.

A gaf fi atgoffa’r Aelodau am y buddiant rwyf wedi ei ddatgan am fod fy ngŵr yn bartner mewn busnes twristiaeth? Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dal i obeithio mai cocyn hitio braidd yw’r dreth wely a’i bod wedi ei chynnwys yn y rhestr o drethi Llywodraeth Cymru sy’n cael eu hystyried er mwyn i chi gael eich gweld fel Llywodraeth sy’n gwrando pan fyddwch yn troi cefn ar y syniad. Ar hyn o bryd, mae ychydig fel bygwth plentyn gyda sbigoglys i frecwast am ei fod yn dda iddynt, a honni wedyn eich bod yn drugarog pan na fyddwch yn cyflawni’r bygythiad hwnnw. Yr holl amser, wrth gwrs, mae’r plentyn druan yn ystyried y bygythiad fel cosb am ryw ddrygioni anhysbys nad yw’n ei haeddu, a dyna sut y mae’r sector twristiaeth yn teimlo ar hyn o bryd.

Mae aelodau o’r grŵp twristiaeth trawsbleidiol, a oedd yno ar fy ngwahoddiad fel cadeirydd, nid oherwydd bod Darren Millar yn eu hannog, aelodau sy’n cynrychioli mwy—llawer iawn mwy—na 305 o bobl ac sy’n cynrychioli pob rhan o economi ymwelwyr Cymru, yn nerfus iawn am y ffaith bod hyn yn cael ei ystyried hyd yn oed. Mae cynghorau yn Lloegr ar y ffin â Chymru’n gofyn: a fydd yn dda iddynt, neu a fyddant yn colli busnes oherwydd bod eu cynnig marchnata’n croesi’r ffin? Maent i gyd wedi gweld dinasoedd sy’n gyrchfannau byd-eang fel Caeredin a Chaerfaddon, a hyd yn oed cymunedau fel Camden, yn tynnu’n ôl yn eithaf cyflym pan welsant y goblygiadau ehangach a gofyn,’Pam fod Cymru’n meddwl am hyn?’ Nid oes neb am agor y llifddorau i’r DU godi treth wely pan fo’r gwelyau hynny eisoes yn amlwg yn ddrutach na rhai cyfatebol mewn gwledydd eraill. Ac ydw, rwy’n gwybod mai mater i Lywodraeth y DU yw TAW, ac fel chi ac Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys fy mhlaid fy hun, rydym yn credu bod yna ddadl gref dros leihau TAW, ond ni allwn wneud y penderfyniad hwnnw yn y Siambr hon. Yr hyn y gallwn ei wneud yma yw cytuno i beidio â gosod trethi pellach ar ein twristiaid.

Hoffwn ddefnyddio fy esiampl fy hun i ddangos pam y mae TAW uchel yn gwrth-ddweud y pwynt a wnaed gan lawer nad ydym ond yn sôn am ychydig bunnoedd ac na fydd neb yn sylwi. Mae Rhufain yn gyrchfan fyd-eang, a bydd pobl yn bendant yn talu mwy i fynd yno. Rydych yn talu treth wely ar ben eich TAW o 10 y cant, ond os nad yw’n cael ei hysbysebu’n eang, gall fod yn dipyn o syndod i ymwelwyr. Ac roedd yn syndod o 12.5 y cant i fy nheulu pan aethom ym mis Chwefror, ar gyllideb, i weld y rygbi. Rydych yn sylwi ar €35 ychwanegol pan na fyddwch ond yn bwriadu gwario €280. A fyddai’n fy rhwystro rhag mynd i Rufain yn hytrach nag i Lundain? Nid wyf yn credu y byddai. A fyddai’n fy rhwystro rhag mynd i Aberystwyth yn hytrach nag i Whitby? Wel, mae’n bosibl, wyddoch chi. Gadewch i ni gofio, ar hyn o bryd, fod y rhan fwyaf o ymwelwyr â Chymru yn dod o’r tu mewn i’r DU ac maent eisoes yn wynebu’r baich treth trymaf, yn gyffredinol, o gymharu â’n cymheiriaid Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae cyllideb ar gyfer y gwyliau yn nodwedd ym mhenderfyniadau pawb, ac nid ydym am i drethi gwely sy’n gymedrol hyd yn oed effeithio ar y penderfyniadau hynny a gwrthdroi’r tueddiadau da iawn mewn twristiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.

Rwyf am sôn yn benodol am Barcelona, a pham y cyflwynwyd y dreth dwristiaeth yno. Dyma rywbeth a drafodais yn uniongyrchol gydag asiantaeth dwristiaeth Catalonia a thwristiaeth Barcelona pan ymwelais â hwy’n fuan ar ôl i’r dreth gael ei chyflwyno. Roedd dau reswm yno. Y rheswm cyntaf oedd mai twristiaeth, yn sgil yr argyfwng ariannol, oedd y cyfan a oedd ganddynt ar ôl, yn y bôn, a oedd yn gwneud arian—y cyfan a oedd ar ôl ganddynt i’w drethu. Cyflwynwyd y dreth wely i gynorthwyo adferiad economaidd y rhanbarth, gyda 25 y cant o’r derbyniadau hynny’n mynd at iechyd ac addysg. Âi’r arian a oedd yn weddill i gronfa datblygu twristiaeth, ac roedd y sector ei hun yn talu arian ychwanegol i mewn iddi’n uniongyrchol drwy ei siambrau masnach. Defnyddiwyd yr arian hwnnw i gefnogi cynnig twristiaeth o safon, ond cafodd ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu twristiaeth yn y fath fodd fel ei fod yn cydbwyso’n well â phrofiad byw trigolion.

Dyna oedd yr ail reswm: roedd trigolion y rhanbarth yn dechrau gwrthwynebu’r ffordd y câi eu safon byw ei effeithio gan gwymp economaidd sectorau ar y naill law, a’r ffordd yr effeithid ar ansawdd eu bywydau gan y nifer fawr iawn o dwristiaid yn eu gofod, yn gwthio costau nwyddau a gwasanaethau i fyny. I’r gynulleidfa benodol honno, cafodd y dreth wely ei defnyddio fel rhwystr a ffordd o gydbwyso niferoedd. Beth bynnag, rwy’n credu ei bod yn werth nodi, mae’n debyg, nad oedd mwyafrif Senedd Catalonia yn cefnogi cyflwyno’r dreth, a’r unig reswm y cafodd ei phasio oedd o ganlyniad i nifer sylweddol a ataliodd eu pleidlais. Rhan o’r rheswm am hynny oedd bod Ryanair yn derbyn cymorthdaliadau enfawr i ddod â thwristiaid teithiau rhad i feysydd awyr llai yn y rhanbarth. Tybed ai’r math hwn o gefnogaeth ddryslyd ac anghyson i’r sector yw’r hyn sydd gan gefnogwyr y dreth dwristiaeth mewn golwg. Diolch.

Rwy’n synnu ein bod yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd nid oedd unrhyw sôn am dreth dwristiaeth ym maniffesto Llafur Cymru 2016—maniffesto y cawsant eu hethol arni fel y blaid fwyaf i’r Cynulliad hwn. Pan gafodd Llywodraeth Lafur ei hethol hefyd ar lefel y DU, cafwyd addewid i beidio â chodi rhai trethi, ond cafodd yr addewid hwn ei dorri a chyflwynwyd llu o drethi llechwraidd eraill pan ddaethoch i rym. Daeth cynnydd mewn yswiriant gwladol a’r dreth gyngor i fod yn norm. Nid wyf am weld yr ymddygiad hwn yn y gorffennol yn cael ei ailadrodd neu ei normaleiddio yng Nghymru. Apeliaf ar y Blaid Lafur yng Nghymru a Llywodraeth Lafur Cymru, felly, i beidio â rhoi blaenoriaeth i archwilio treth dwristiaeth, ond yn hytrach i ganolbwyntio ar weithredu’r rhannau o’u maniffesto sy’n annog twf economaidd a chreu swyddi sy’n talu’n dda—y rhannau o’r maniffesto sy’n gadarnhaol i Gymru.

Mae’r ardaloedd twristaidd yn fy rhanbarth, megis Gŵyr a Phorthcawl, yn ceisio hyrwyddo’r wlad brydferth, unigryw sydd gennym, ac rwyf am weld y diwydiant twristiaeth yng Nghymru’n ffynnu. Bydd ymarfer Llywodraeth Cymru ar y dreth dwristiaeth yn parhau i ddargyfeirio adnoddau oddi wrth gyflogeion Llywodraeth, cynghorwyr arbennig ac yn y blaen rhag gweithredu blaenoriaethau’r maniffesto er mwyn archwilio treth nad yw’n ymrwymiad maniffesto. O ganlyniad, rwy’n cefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Yn fy marn bendant i dylem bob amser ymdrechu am drethiant isel, gan roi cyfle i unigolion wario a buddsoddi yng Nghymru. Nawr, mae’n bosibl gwneud achos dros dreth dwristiaeth, ond mewn gwledydd sydd eisoes â sector twristiaeth ffyniannus a lefelau trethiant twristiaeth isel yn unig. Bydd gwledydd o’r fath yn ffynnu pa un a oes treth dwristiaeth ai peidio. Mae hyn oherwydd eu bod eisoes wedi saernïo’r amgylchedd gorau ar gyfer twristiaid a busnesau yn yr ardaloedd y tu allan i unrhyw dreth dwristiaeth. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir yng Nghymru. Nid yw Cymru, a’r DU, yn amgylchedd treth isel i neb mwyach, yn enwedig i dwristiaid. Am oddeutu 20 mlynedd, mae cyfradd TAW y DU i’r sector lletygarwch a thwristiaeth wedi aros ymhlith yr uchaf yn Ewrop—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf? A oedd rhywun eisiau ymyrryd?

Iawn. Yn ôl adroddiad yn 2014 gan Geoff Ranson o’r grŵp ymgyrchu Cut Tourism VAT—mae’n dweud, yn benodol:

Y DU yw’r uchaf o gymharu â’r gwledydd eraill ac mae bron i 3% yn uwch na’r Almaen a thros 5.5% o gymharu ag Iwerddon sef yr isaf o’r gwledydd cymharol, a gafodd wared ar dreth maes awyr i dwristiaid ar 1 Ebrill 2014.

Ystyriwch yr adroddiad hwn, ynghyd â datganiad a wnaeth Cymdeithas Lletygarwch Prydain eleni fod nifer yr ymwelwyr Ewropeaidd â’r DU eisoes i lawr oherwydd y bygythiad cynyddol o derfysgaeth. Byddai unrhyw awgrym y gallwch wella twristiaeth Cymru â threth a allai gynyddu prisiau i dwristiaid yn ymddangos yn annhebygol. Yn ôl Llywodraeth Cymru, yn 2016, gwariodd twristiaid tua £14 miliwn y dydd tra oeddent yng Nghymru, sef cyfanswm o £5.1 biliwn y flwyddyn, a dywedodd yr Athro Annette Pritchard, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, wrth siarad â rhaglen ‘Week In Week Out’ BBC Wales am dwristiaeth yng Nghymru, ac rwy’n dyfynnu:

Nid ydym yn gwneud cystal yn rhyngwladol â’n cystadleuwyr, rydym yn cael tua 3 y cant o’r ymwelwyr a thua 2 y cant o’r gwariant.

Mae hyn yn cyferbynnu â’r ffaith bod gennym oddeutu 5 y cant yn fras o’r boblogaeth. Felly, mae hyn yn awgrymu bod Cymru eisoes yn tangyflawni ar dwristiaeth. Mae gan Gymru lawer i’w gynnig i’r rhai sy’n dymuno mwynhau ein cefn gwlad ac arfordiroedd ysblennydd. Felly, mae unrhyw dreth sy’n cynyddu’r gost o ymweld â Chymru yn debygol o leihau twristiaeth mewn sector sydd eisoes yn tangyflawni ac sydd mewn amgylchedd trethi uchel yn gyffredinol. Os ystyriwn arferion gwario defnyddwyr, mae pris a chost fel arfer, os nad bob amser, yn ffactor o ran a yw rhywun yn gwneud pryniant, ac nid yw twristiaeth yn wahanol yn hyn o beth. Rhaid diogelu’r diwydiant hanfodol bwysig hwn, a’i annog i dyfu, a’i annog i wella ei berfformiad. Ni ddylid ei wasgu â rhagor o dreth.

Dywedodd Anthony Rosser, cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain yng Nghymru a rheolwr gwesty yng Nghymru, mewn cyfweliad diweddar am unrhyw dreth arfaethedig,

Byddai’n gam pendant tuag at yn ôl... Mae gennym... bryderon gwirioneddol ynglŷn â’r crochan diweddar o gostau sydd wedi berwi drosodd yn y 18 mis diwethaf, gan gynnwys cynnydd mewn ardrethi busnes... chwyddiant cynyddol a phrisiau bwyd ac ynni’n codi. Bydd costau cynyddol fel hyn... yn rhoi mantais annheg i’n cystadleuwyr.

Yn olaf, gellid dweud y gellid gosod y dreth dwristiaeth ar lefel isel iawn, £1 y noson efallai. Yn wir, gwnaeth Sefydliad Bevan, nad yw’n rhan o Lywodraeth Cymru, yr awgrym hwn mewn blog diweddar ac adroddiadau eraill, ac roeddent yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru gapio ardoll o’r fath. Fy mhryder ynglŷn â hyn yw ei fod yn gadael drws yn gilagored y gellid ei wthio’n llydan agored gan y Llywodraeth.

Ydw, diolch, Dirprwy Lywydd.

Ni ddylid llyffetheirio ein diwydiant twristiaeth gan dreth dwristiaeth, heb sôn am dreth sy’n cynyddu’n barhaus o fewn amgylchedd treth uchel y DU a Chymru. Felly, rwy’n gobeithio bod yr ystyriaethau a gyflwynais heddiw, yn annibynnol ar fodelau unrhyw economegydd Llywodraeth Cymru, yn dangos nad yw diwydiant twristiaeth Cymru angen y dreth, nid yw eisiau’r dreth, ac mae’n haeddu llawer gwell.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Diprwy Lywydd. Roeddwn am ddechrau drwy atgoffa’r Aelodau pam ein bod yn cael y ddadl hon o gwbl. Rydym yn ei chael oherwydd bod Deddf Cymru 2014 yn darparu pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf i gynnig trethi newydd arbennig i Gymru. Nid yw’r broses wedi ei phrofi, ond rwyf bob amser wedi credu, ers dod yn Weinidog cyllid, ei fod yn bosibilrwydd y dylem ei archwilio er mwyn gweld y potensial y gallai’r pŵer hwn ei ddwyn i Gymru. Y cwestiwn, Dirprwy Lywydd, yw sut i roi’r broses ar waith. Rydym yn gwybod yn iawn am y traddodiad a etifeddwn gan San Steffan. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, pan fyddaf yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yfory, y bydd yn egluro i mi a fy Ngweinidog cyllid cyfatebol o’r Alban fod cyfrinachedd ynglŷn â’r gyllideb a’r purdah cyllidebol yn golygu mai ychydig iawn y gall ei rannu gyda ni. Yn wir, ni fydd aelodau Cabinet y DU yn clywed beth fydd yn y gyllideb tan fore’r 22 o Dachwedd. Mae canlyniadau’r ffordd gaeëdig a chyfrinachol hon o gyflawni busnes yn aml yn anfoddhaol iawn. Os yw adroddiadau papur newydd i’w credu, clywodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU am y dreth siwgr am y tro cyntaf pan oedd yn gwrando ar araith y Canghellor ar lawr Tŷ’r Cyffredin. Yn sicr, mewn maes sydd wedi’i ddatganoli yn gyfan gwbl i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oedd unrhyw drafodaethau blaenorol o unrhyw fath gydag unrhyw weinyddiaeth ddatganoledig cyn y cyhoeddiad hwnnw. Canlyniad hynny yw bod canlyniadau’r cyhoeddiad hwnnw’n dal i fod yn aneglur fisoedd lawer yn ddiweddarach.

Mae’r ardoll brentisiaethau, a daflwyd at ddiwydiant a phawb arall, wedi bod yn fwy niweidiol hyd yn oed o ran ei heffaith. Mae ffigurau Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn yn dangos bod nifer y bobl a ddechreuodd brentisiaethau yn Lloegr rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni wedi gostwng 61 y cant o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Bydd trethiant a ddatblygir heb drafodaeth a heb ymgysylltu priodol yn anochel yn agored i ganlyniadau annisgwyl ac anfwriadol, ac oherwydd yr hanes hynod anfoddhaol hwnnw rydym wedi ceisio dechrau ar ein posibiliadau cyllidol newydd mewn ffordd wahanol iawn. Rydym wedi cyhoeddi ein hegwyddorion treth a’n cynlluniau gwaith ar drethiant i bawb eu gweld. Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddais y dull y bwriadwn ei ddefnyddio gyda’r pwerau newydd i argymell trethi newydd ar gyfer Cymru yn unig. Dywedais bryd hynny y buaswn yn cyhoeddi yn fy natganiad ar y gyllideb ar 3 Hydref y rhestr fer a luniwyd ar gyfer yr hyn y gobeithiwn y byddai’n ymchwiliad difrifol a phwyllog yn ystod yr hydref.

Y rheswm pam y mae’r ddadl heddiw mor siomedig yw ei bod yn ceisio gwrthsefyll ymdrechion i ddatblygu ymagwedd newydd. Ymhell o fod eisiau agor posibiliadau ar gyfer dinasyddion Cymru a llunio polisïau yng Nghymru, mae’r Blaid Geidwadol yn ceisio cau’r caead ar y posibiliadau hynny. Ymhell o fod eisiau archwiliad agored o’r dystiolaeth lle y gallai unrhyw un sydd â diddordeb wneud cyfraniad, maent yn awyddus i ddod â’r ddadl i ben wrth iddi ddechrau. Nawr, wrth gwrs mae ganddynt hawl i’w barn nad yw treth dwristiaeth yn rhywbeth y byddent yn dymuno ei gweld yn cael ei datblygu yng Nghymru, a phe bai’r cynnig ar y papur trefn yn gofyn i ni nodi polisi’r Blaid Geidwadol, ni fuasai unrhyw wrthwynebiad i hynny. Ond nid dyna y gofynnir i ni ei nodi. Gofynnir i ni gytuno y dylid gorfodi barn y mae un blaid wleidyddol wedi dod iddi ar y gweddill ohonom heb gyfle i gael dadl briodol o unrhyw fath.

Roedd Steffan Lewis yn llygad ei le yn ei gyfraniad gwreiddiol pan ddywedodd mai’r hyn roedd ei blaid yn ei ffafrio oedd yr hyn a ddywedodd Adam Price yn ôl ym mis Gorffennaf: fod rhinwedd mewn edrych ar y cynnig. A dyna’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Nid ydym ond yn dweud bod treth dwristiaeth yn syniad sy’n werth ei archwilio’n briodol, ac rydym yn dweud hynny oherwydd, fel y mae’r Aelodau eraill yma eisoes wedi ei nodi, mae’n syniad sy’n gyffredin mewn sawl rhan o’r byd, mewn dinasoedd y bydd llawer ohonom wedi ymweld â hwy: Paris, Brwsel, Rhufain, Efrog Newydd, Berlin, Barcelona ac yn y blaen, ac mewn mannau sy’n gyrchfannau rheolaidd i Gymry sy’n mynd ar wyliau tramor. Mae treth dwristiaeth yn Ffrainc, ym Majorca ac ym Mhortiwgal—

Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n meddwl, wrth benderfynu ar ddewis y pedwar, a oedd yn cynnwys y dreth dwristiaeth, ar gyfer eich rhestr, faint o dystiolaeth a gawsoch o’r rhannau hynny o’r byd sydd wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â threth dwristiaeth.

Wrth ddweud, Dirprwy Lywydd, fod treth dwristiaeth yn syniad sy’n werth ei ystyried o ddifrif, fe edrychwyd, wrth gwrs, ar dystiolaeth o rannau eraill o’r byd, a gwelsom felly fod trethi twristiaeth yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol lefelau. Gwelsom eu bod bron bob amser yn cael eu gwrthwynebu gan y diwydiant ei hun, ac yn rheolaidd, yn wir, nid yw’r rhagfynegiadau o ganlyniadau difrifol yn cael eu gwireddu. Edrychais ar yr hyn a ddywedodd pennaeth y sefydliad twristiaeth yn Barcelona wrth wrthwynebu camau i gyflwyno treth dwristiaeth, ar yr union adeg y cododd niferoedd ymwelwyr â Barcelona yn gryfach nag y gwnaethant erioed o’r blaen. Edrychais ar yr hyn a ddywedodd y sefydliad twristiaeth ym Majorca, yn union cyn i’r dreth brofi mor llwyddiannus fel eu bod yn bwriadu defnyddio rhagor arni hyd yn oed y flwyddyn nesaf.

Nid wyf yn dweud bod y ddadl wedi ei setlo mewn unrhyw ffordd. Roeddwn yn meddwl bod araith Angela Burns y prynhawn yma yn araith gwbl briodol i’w gwneud mewn dadl ynglŷn ag a yw treth yn syniad da ai peidio. Roeddwn yn meddwl bod y cwestiynau a ofynnodd yn gwestiynau hollol briodol, y math o gwestiynau y byddem am eu harchwilio, a rhai a ddylai gael eu hateb. Yr hyn rwy’n anghytuno â hi a’i phlaid yn ei gylch yw credu mai yn awr yw’r adeg y dylech geisio cau’r caead ar yr holl ddadl honno.

Fel arfer, rwy’n gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn sydd gan yr Aelod dros Fynwy i’w ddweud. Rwy’n meddwl mai dau bwynt yn unig y gallaf eu cymryd o’i gyfraniad y prynhawn yma. Gwrthwynebai’r syniad o dreth dwristiaeth ar sail tegwch—hyn gan blaid sy’n cyflwyno’r dreth ystafell wely ym mhob rhan o Gymru. Mae pob Aelod ar y fainc honno’n barod i ddweud wrth bobl sy’n byw yn eu hetholaethau ei bod yn berffaith deg iddynt dalu £15 yr wythnos am wely yn eu cartref eu hunain, ond mae’n debyg ei bod yn gwbl warthus i awgrymu y gallai rhywun sy’n dod i briodas yn Sir Benfro dalu £1 y noson i aros yng Nghymru fel rhan o’r ymweliad hwnnw.

Yn hytrach, byddant yn cyrraedd pont Hafren sydd newydd ei rhyddhau, yn gwasgu’r brêc ac yn dweud, ‘Roeddwn yn mynd i fynd i briodas yn Sir Benfro, ond gan y bydd yn costio £1 rwy’n credu yr af i un yn Henffordd yn lle hynny.’ Hynny yw, mae’n hurt. Mae’n hollol hurt ac mae’n rhaid iddynt wybod hynny.

Ond nid yn unig eu bod yn poeni am degwch, ond maent yn poeni am y ffin. Gwyddom eu bod yn poeni am y ffin gan fod Torïaid bob amser wedi ystyried mai prif fantais Cymru yw ein bod yn rhad. Dyna oedd holl sail eu polisi economaidd yn y 1980au—[Torri ar draws.]

Holl sail eich polisi economaidd drwy gydol y 1980au oedd y buasai’n rhaid i Gymru ennill ei lle yn y byd drwy fod y lle rhataf y gallech gyflogi rhywun, ac maent am i’n diwydiant twristiaeth fod yr un fath. O leiaf pan fydd Mr Hamilton yn codi mae’n rhannu â ni ei farn ddystopaidd wythnosol arferol ynglŷn â Chymru fel y Singapôr newydd, rhywle lle y byddwn i gyd yn medru mwynhau arian yn ffrwytho yn ein pocedi wrth i ni anelu tua’r tloty.

Nawr, pwrpas y ddadl, Dirprwy Lywydd, a phwrpas safbwynt Llywodraeth Cymru yn syml yw hyn: credwn fod treth dwristiaeth yn syniad sy’n werth ei archwilio. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru fod treth ar blastigau’n syniad gwerth ei archwilio hefyd. Byddwn yn awyddus i wneud hynny mewn ffordd sy’n bwyllog a synhwyrol a byddwn yn archwilio rhai o’r cwestiynau priodol y mae pobl wedi eu gofyn y prynhawn yma, a gwnawn hynny drwy siarad â rhanddeiliaid—rhown gyfle iddynt gyfrannu at ein ffordd o feddwl a byddwn yn ystyried y dystiolaeth mewn manylder priodol. A phan fyddwn wedi gwneud hynny, a phan fyddwn wedi gwneud hynny gyda’r holl bosibiliadau eraill sydd yn ein prosbectws, dof yn ôl at y Cynulliad yn y flwyddyn newydd a rhoi gwybod i chi pa un o’r pedwar syniad y credwn y bydd yn fwyaf tebygol o allu profi’r peirianwaith newydd sydd gennym ar gael i ni.

Rydym am wneud hynny mewn modd sy’n agored, yn gynhwysol, yn creu hinsawdd wahanol ar gyfer polisi treth yma yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at roi’r holl wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad a’r Pwyllgor Cyllid am ein cynnydd wrth i ni gyflawni gwaith yn y ffordd honno.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma. Wrth agor, amlinellodd fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, yn gynhwysfawr pam y buasai’r cynnig annoeth hwn yn amhriodol ar gyfer Cymru, ac wrth gwrs, buasai’r diwydiant twristiaeth yn cael ei effeithio’n sylweddol, fel y clywsom mewn cyfraniadau heddiw gan Aelodau ar yr ochr hon i’r Siambr. Nawr, fel y dywedodd ef a chyd-Aelodau eraill—Angela Burns, Mohammad Asghar a Suzy Davies—yn gywir yn ystod y ddadl hon, buasai cyflwyno treth dwristiaeth yn peryglu’r cynnydd a wnaed ar hybu economi ymwelwyr Cymru a bydd yn tanseilio buddsoddiadau busnes a chyfleoedd cyflogaeth yn y sector twristiaeth ac yn gosod Cymru dan anfantais o gymharu â lleoliadau eraill yn y DU. Nid oes amheuaeth am hynny.

Rhaid i mi ddweud, gwnaeth Caroline Jones gyfraniad teg iawn a dynnai sylw wrth gwrs at y ffaith nad oedd y dreth hon ym maniffesto’r Blaid Lafur cyn etholiadau llynedd. Nawr, gallwn i gyd gytuno ar un peth y prynhawn yma: gallwn gytuno bod y sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad enfawr i economi Cymru. Mae ffigurau o arolwg twristiaeth Prydain Fawr yn dangos y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan y sector twristiaeth yng Nghymru gyda niferoedd ymwelwyr a gwariant ymwelwyr yn dangos gwelliant sylweddol—rhywbeth y mae angen i ni adeiladu arno ac nid ei beryglu.

Nawr rwy’n dod at gyfraniad Joyce Watson. Wrth gwrs, mae Joyce Watson yn dweud, ‘Nid oes dim wedi cael ei benderfynu eto.’

Wel gadewch i ni edrych—. [Chwerthin.] Gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud. Felly, dywedodd y Prif Weinidog, wrth siarad am dreth dwristiaeth—. Dyma a ddywedodd y Prif Weinidog ar 10 Hydref:

‘Credwn fod honno’n ffordd o rannu’r baich. Credwn fod honno’n ffordd dda o sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer twristiaeth.’

Ac wrth ymateb i Darren Millar, mae’n dweud

‘byddwn wedi meddwl y byddai’n croesawu unrhyw beth a fyddai’n sicrhau bod ymwelwyr yn talu ychydig mwy i gyfrannu at yr economi leol.’

Wel, mae’n edrych yn debyg fod y Prif Weinidog yn eithaf caeth i’w farn. Dywedodd Joyce Watson hefyd fod angen dadl ynglŷn â hyn. Wel, dyna rydym yn ei wneud y prynhawn yma, Joyce Watson. Oherwydd yr hyn sydd angen i Joyce Watson ei wneud yw cael trafodaeth gyda’i hetholwyr ledled ei ranbarth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Fel y mae Neil Hamilton yn nodi, mae llawer o’r busnesau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth a’r fasnach dwristiaeth. Felly efallai y gall Joyce Watson adael i mi wybod sut hwyl y mae’n ei gael ar ôl iddi drafod y mater gydag etholwyr yn ei rhanbarth ei hun. [Torri ar draws.] Na, na, na.

Rydych yn hael iawn, diolch yn fawr iawn. Y pwynt yw y byddaf yn cael trafodaeth gyda phobl. Yr hyn rydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd yw cau’r caead ar y drafodaeth. Oni allwch weld hynny?

Na, ni allaf weld hynny; rydym yn cael y drafodaeth hon y prynhawn yma, Joyce Watson.

Nododd Caroline Jones hefyd fod cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain sydd hefyd yn digwydd bod yn rheolwr gyfarwyddwr Lake Vyrnwy Hotel and Spa yn fy etholaeth i, wedi mynegi ei farn y bydd treth dwristiaeth yn rhoi mantais annheg i’n cystadleuwyr yn Lloegr, ac mae hyn, wrth gwrs, wedi cael ei adleisio gan nifer o rai eraill—Cynghrair Twristiaeth Cymru a MWT Cymru, sydd hefyd wedi dweud y bydd y rhagolygon o gyflwyno treth dwristiaeth yn niweidio cystadleurwydd Cymru ac yn cadw pwysau ychwanegol ar ddiwydiant sydd eisoes yn talu TAW. Nawr, i’r Aelodau sydd wedi dweud na ddylai Cymru ofni dilyn esiampl gwledydd eraill yn Ewrop, dylid cofio bod y rhan fwyaf o’r gwledydd Ewropeaidd sy’n gweithredu ardoll dwristiaeth, ac eithrio Slofacia, yn gweithredu cyfradd TAW ostyngol ar brif gydrannau gwariant ymwelwyr.

Nawr, gan droi at gyfraniad Plaid Cymru, mae’n siomedig, wrth gwrs, eu bod wedi diwygio ein cynnig ac wedi anwybyddu prif sail ein dadl y prynhawn yma yn llwyr gan ei bod yn well ganddynt siarad am dreth ar blastigau tafladwy. Ac mae hwnnw’n fater teilwng i’w drafod—rwy’n credu bod honno’n ddadl arall ynddi ei hun y gellid ei thrafod—ond nid oedd testun ein cynnig gwreiddiol yno hyd yn oed. Nawr, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, wrth gwrs—nid wyf eisiau camddyfynnu unrhyw un yma—nododd Adam Price ei gefnogaeth i’r dreth dwristiaeth. Dyma a ddywedodd:

‘credaf fod hwn yn syniad sy’n haeddu cael ei archwilio.’

Ac aeth ymlaen i ddweud, wrth siarad am y dreth dwristiaeth:

‘Buddsoddi yn nyfodol eich gwlad yw hyn’

Nawr, mae Steffan Lewis yn dweud—

Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor rwy’n aelod ohono. Rwyf wedi ysgrifennu ato ac wedi nodi eich bod wedi camliwio’r hyn a ddywedais ar gyfres gyfan o achlysuron. Rydych newydd ddarllen y dyfyniad—beth oedd yn ei ddweud? Archwiliwch: yr un peth yn union ag y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, felly rhowch y gorau i ddychmygu pethau drwy ddweud ein bod yn ei gefnogi. Rydym yn dweud bod gennym feddyliau agored. Gadewch i ni edrych ar fanteision ac anfanteision pob syniad. Mae’r ateb yn yr hyn a ddywedais, nid yr hyn y dywedwch chi fy mod wedi ei ddweud.

Dirprwy Lywydd, rwy’n mynd i gytuno â Steffan Lewis y prynhawn yma. Mae Steffan Lewis wedi dweud y buasai treth dwristiaeth yn faich ychwanegol ac nid yn rhywbeth y gall Plaid Cymru ei gefnogi ar hyn o bryd. Felly, rwy’n cytuno â sylwadau Steffan Lewis. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sylwadau y prynhawn yma ar ein dadl. Hoffwn ddweud mai un peth rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud yw y bydd yn gwneud penderfyniad yn y flwyddyn newydd: rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn, oherwydd rwy’n credu o ddifrif fod hyd yn oed awgrym o dreth dwristiaeth yn achosi niwed mawr i’r diwydiant. Yn wir, mae eisoes yn achosi niwed. Mae eisoes yn achosi niwed. Felly, gorau po gyntaf y cawn ddatganiad clir y bydd hyn yn cael ei dynnu’n ôl. A dylwn ddweud hefyd, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud ei benderfyniad, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn dweud hefyd—[Torri ar draws.] Bydd yn dweud hefyd—

[Yn parhau.]—y bydd hyn yn cael ei dynnu’n ôl am weddill y tymor Cynulliad hwn.

Diolch i chi, Llywydd. Rwyf wedi ceisio fy ngorau dros y funud olaf i gyfrannu at y ddadl hon, ond ceisiwyd rhoi taw arnaf, ond diolch i chi, Llywydd.

Wel, parhewch os oes gennych unrhyw beth arall i’w ddweud. Neu eisteddwch.

Pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, rwy’n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn cael ei dynnu’n ôl. Yr hyn y buaswn yn galw arno i wneud yw gofyn iddo sicrhau bod y cynnig hwn yn cael ei dynnu’n ôl dros weddill y tymor Cynulliad hwn, oherwydd dyna yw’r sicrwydd sydd ei angen ar y sector twristiaeth a busnesau ledled Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn—[Torri ar draws.] A wnaiff yr Aelodau ymdawelu a rhoi’r gorau i wneud sylwadau ar eich eistedd a ninnau’n symud ymlaen mewn gwirionedd? Y cynnig yw derbyn y cynnig—[Aelodau o’r Cynulliad: Clywch, clywch.] Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6549 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â’r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Hoffwn agor y ddadl drwy gofnodi barn Plaid Cymru ar y polisi hwn yn gadarn o’r cychwyn. Mae credyd cynhwysol yn bolisi dinistriol a chreulon a luniwyd yng nghorneli mwyaf anghyfannedd y blaid Dorïaidd fel pwdin ‘Eton mess’ wedi troi i gosbi’r rhai sy’n chwilio am waith. Mae’n ffaith hysbys fod rhai elfennau o’r Blaid Geidwadol a’r rhai yn UKIP a arferai fod yn Dorïaid ar un adeg wedi dirmygu pobl sy’n dlawd neu heb waith. Mae elfennau ar y dde wedi bod yn gwthio ers amser hir i sefydlu’r syniad hwn o’r tlawd haeddiannol a’r tlawd anhaeddiannol, ymateb syml du a gwyn i faterion cymhleth tlodi, amddifadedd a diweithdra nad yw’n gweithio yn y byd go iawn.

Os yw credyd cynhwysol i fod i gymell pobl i weithio, mae’n awgrymu nad oedd unrhyw gymhelliant cyn y credyd cynhwysol. A all unrhyw un ddweud wrthyf gydag unrhyw ddifrifoldeb fod y gyfundrefn cyn y credyd cynhwysol yn hael neu’n rhodd i’r di-waith neu’r tlawd? Os oes unrhyw un yn credu hynny, mae’n amlwg nad ydynt erioed wedi bod ar fudd-daliadau neu o bosibl erioed wedi cael sgwrs iawn gydag unrhyw un arall sydd wedi bod ar fudd-daliadau hyd yn oed cyn y camau cyfredol i gyflwyno’r credyd cynhwysol. Os yw’r polisi hwn yn ymwneud â chael pobl i weithio a chreu mwy o gyfrifoldeb i hawlwyr a’u grymuso drwy daliad misol, gan gynnwys yr elfen dai, pam yr oedi mympwyol dibwynt a chrintachlyd o chwe wythnos cyn talu? A all unrhyw un sy’n cynrychioli’r Blaid Geidwadol ddweud wrthyf pam y bydd yn rhaid i hawlydd newydd yn Aberafan, er enghraifft, aros am amser mor hir am daliad cyntaf os yw’r person hwnnw wedi cael ei ddiswyddo’n annisgwyl? Pwy fydd yn esbonio i rywun pam y gallent fod yn hwyr yn talu biliau a mynd i ddyled na ellir ei rheoli? Pa sail resymegol sydd gan Lywodraeth y DU dros hyn? Neu, fel rwy’n amau, nid oes rheswm go iawn dros wneud hyn, fel y dywedodd Angela Burns mewn e-bost a ddatgelwyd yn answyddogol ddoe, ac rwy’n dyfynnu:

Rwy’n credu nad oes modd amddiffyn y safbwynt hwn ac os caf fy herio byddaf yn dweud hynny. Ar fy myw ni allaf ddeall pam y bernir bod bwlch o 6 neu 4 wythnos yn dderbyniol. Dylai bontio’n ddi-dor ac nid yw y tu hwnt i allu dyn i’w wneud yn ddi-dor... mae’r agwedd drahaus hon y gall y tlotaf stryffaglo drwyddi yn ddideimlad ar y gorau ac yn hollol greulon ar y gwaethaf. Mae gennyf gywilydd o fy Llywodraeth.

Wel, rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr ag Angela Burns yn y fan hon. Hoffwn ganolbwyntio’n benodol ar yr elfen dai ychydig yn fwy, oherwydd mae’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol, ymhell o fod yn cymell pobl i weithio ac ysgwyddo cyfrifoldeb, yn rhoi to dros bennau’r di-waith sydd mewn perygl mewn gwirionedd.

Gadewch i ni ddechrau gydag un ffaith ddamniol. Mae bron i hanner yr holl denantiaid cyngor yn y—.

Wel, gallwch ddod i mewn os ydych am wneud ymyriad. Rwy’n hapus i chi gadarnhau eich safbwyntiau yn yr e-bost hwnnw.

Os gwnaiff yr Aelodau barhau i siarad, fe benderfynaf pwy sy’n mynd i gael codi i siarad, ac os gallech gadw’n ddistaw i wrando, yn ogystal.

Gadewch i ni ddechrau gydag un ffaith ddamniol. Mae bron i hanner y tenantiaid cyngor yn y 105 o awdurdodau lleol sy’n cael elfen dai y credyd cynhwysol mewn mis o ddyled. Mae bron i draean mewn dau fis o ddyled, ac mae’r rhai sy’n dal ar fudd-dal tai—10 y cant o denantiaid cyngor yn unig—mewn mis o ddyled, a llai na 5 y cant o’r grŵp hwnnw sydd mewn dau fis neu fwy o ddyled. Felly, dywedwch wrthyf unwaith eto sut y mae’r credyd cynhwysol yn helpu yn hyn o beth. Pan fo’r budd-dal cyffredinol ei hun yn aml yn cael ei dorri a Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r rhai sydd ar y credyd i stryffaglo drwyddi, cynhwyswch yr holl oedi anesboniadwy ac mae gennych rysáit ar gyfer trychineb—gorchmynion troi allan, achosion llys, costau llys a throbwll o ddyled a thaliadau sy’n mynd yn ormod i lawer ei oddef. Wedyn, wrth gwrs, mae yna ergyd derfynol. Pan fydd angen i rywun mewn sefyllfa anodd ffonio i holi am y budd-dal a pham y ceir oedi neu sancsiwn neu daliad hwyr, byddant yn wynebu cost o hyd at 55c y funud. Diolch byth, mae’r gosb benodol honno i’r tlawd a’r difreintiedig bellach yn cael ei dirwyn i ben yn raddol, ond yr unig reswm pam y mae hynny’n digwydd yw oherwydd pwysau cyhoeddus.

Mae’r costau gweinyddol hefyd wedi cael eu rheoli’n wael ar y gorau. Buasai rheolaeth weinyddol o fudd i ni yma yng Nghymru ac yn gwneud bywydau hawlwyr yn well er mwyn cymell pobl i weithio yn briodol, heb gondemnio pobl i dlodi yn y broses. O ran y credyd cynhwysol, mae’r SNP wedi defnyddio eu pwerau cyfyngedig i gynnig taliadau amlach—ddwywaith y mis—i ganiatáu i bobl gael y gydran dai wedi ei thalu’n uniongyrchol i landlordiaid. Fodd bynnag, nid oes ganddynt allu i atal y diwylliant o sancsiynau, mewn egwyddor. Mae’r Bil nawdd cymdeithasol newydd hefyd yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion yr Alban i roi cymorth, sy’n golygu y gallent lunio systemau taliadau tai disgresiynol i liniaru sancsiynau.

Mae’n rhaid i ni gael rheolaeth ar fudd-daliadau wedi ei datganoli i Gymru, fel y gellir rhoi atebion a luniwyd ar gyfer ein gwlad ar waith fel sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r DU. Pe bai Llafur o ddifrif am newid y gyfundrefn fudd-daliadau a chymorth tai bresennol, buasent yn cefnogi datganoli gwariant a pholisi budd-daliadau, gan gynnwys y credyd cynhwysol. Rwy’n ofni, fodd bynnag, fel y gwelsom gyda’r dreth ystafell wely a chontractau dim oriau yn y gorffennol, y buasai’n well ganddynt wneud areithiau twymgalon, fel y byddwch yn clywed heddiw o bosibl, yn condemnio’r Ceidwadwyr ar lefel y DU, ond heb wneud na mynnu’r pwerau yma yng Nghymru inni allu bod yn feistri ar ein tynged ein hunain. Rydym wedi cael problemau tebyg gydag achosion tebyg lle y mae gennym y penderfyniadau, mae gennym y pwerau yn ein rheolaeth i allu arwain ar yr agenda hon.

Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn cefnogi datganoli budd-daliadau’n llawn, fel sydd ei angen ar ein pobl yn amlwg, a buaswn yn gobeithio y gall y Ceidwadwyr Cymreig ddilyn arweiniad rhai o’u cyd-Aelodau yma a dweud wrth Lywodraeth y DU i wneud newidiadau, neu ddiddymu’r gyfundrefn fympwyol a dinistriol hon. Os cytunwn, fel pleidiau—neu os gwnaiff ACau eraill gytuno—fod hwn yn bolisi sy’n niweidio pobl dlawd, yna dylem ddefnyddio pob pŵer sydd gennym, hyd yn oed os mai pŵer egwyddorol a moesol fydd hwnnw, i ddweud wrth Lywodraeth y DU y dylent ddiddymu’r gyfundrefn gredyd cynhwysol benodol hon.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pryder sy’n bodoli ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

2. Yn croesawu’r egwyddorion y tu ôl i’r credyd cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan fwyaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw’n ysgogi cyflogaeth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rwy’n cynnig ein cynnig fel y’i diwygiwyd. Fel y mae’n dweud, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod y pryder ynglŷn â’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol. Bythefnos yn ôl, ysgrifennais at Ysgrifennydd y DU dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chost y llinell gymorth credyd cynhwysol, yn erfyn arno i archwilio ar unwaith ac ystyried opsiynau amgen, mewn sefyllfa lle y codwyd tâl o hyd at 55c y funud ar rai pobl i drafod eu cais unigol yn Saesneg, gan greu rhwystrau pellach a llawer o ofid, tra bo’r llinell gymorth Gymraeg yn rhad ac am ddim. Roeddem yn falch felly o glywed y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y byddai’r gost hon yn cael ei dileu. Rydym hefyd yn croesawu adroddiadau y gallai Gweinidogion y DU leihau’r amser aros am daliadau credyd cynhwysol o chwe wythnos. Fel y dywedodd yr AS dros Stevenage ddydd Sadwrn,

ar y mater penodol hwnnw rwy’n meddwl ein bod yn agos tu hwnt at gael ateb.

Mewn gwirionedd, mae’n wych gweld aelodau o feinciau cefn plaid y Llywodraeth yn gwneud eu gwaith yn ddemocrataidd a bod eu Llywodraeth yn gwrando, ac mae’n drueni nad ydym wedi gweld yr un peth yma gan aelodau o feinciau cefn Llafur ar faterion yn amrywio o rybuddion dros ddegawd yn ôl y byddai toriadau tai cymdeithasol enfawr Llafur yn creu argyfwng o ran y cyflenwad tai, i’w methiant i siarad yn gyhoeddus yn awr i gefnogi ymgyrchwyr anabl sy’n ymladd cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r grant byw’n annibynnol yng Nghymru.

Mae ein cynnig fel y’i diwygiwyd hefyd yn croesawu’r egwyddorion sy’n sail i’r credyd cynhwysol. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cymunedau ei hun yma yr wythnos diwethaf,

‘nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir.’

Pan ragwelodd y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â dau Aelod Llafur ar eu bwrdd, y credyd cynhwysol, gwelsant fod y rhan fwyaf o’r bobl sy’n hawlio budd-daliadau eisiau gweithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad oedd yn cymell cyflogaeth. Er gwaethaf rhaglen ailddosbarthu enfawr, gwelsant fod bod heb waith magu gwraidd mewn sawl rhan o’r DU. Fodd bynnag, dangosodd ymchwil fod hawlwyr credyd cynhwysol yn y camau cychwynnol o’i gyflwyno 13 y cant yn fwy tebygol o fod wedi bod mewn gwaith na’r rhai ar lwfans ceisio gwaith ac yn ennill mwy o arian na’r rhai ar lwfans ceisio gwaith.

Mae tystiolaeth heddiw’n dangos bod pobl yn cael gwaith yn gyflymach ac yn aros yn hirach yn eu swydd o ganlyniad i gredyd cynhwysol. Ni fydd angen mwyach i hawlwyr fynd drwy’r fiwrocratiaeth o newid eu cais am fudd-dal wrth iddynt ddechrau gweithio, gan fod y credyd cynhwysol yn aros gyda hwy. Mae taliadau ymlaen llaw ar gael i unrhyw un sydd eu hangen, ac mae tua hanner y bobl yn manteisio ar hyn. I’r rhai nad ydynt yn gallu aros nes eu taliad llawn cyntaf, mae blaendaliadau budd-dal di-log ar gael o fewn pum diwrnod gwaith, ac os bydd rhywun ei angen ar frys, gellir gwneud hyn ar yr un diwrnod. Mae dros 50 y cant o hawlwyr newydd wedi gwneud defnydd o’r taliadau hyn.

Ar ddechrau’r flwyddyn hon, nid oedd 55 y cant o bobl ar gredyd cynhwysol yn cael eu taliad cyntaf ar amser, ond erbyn hyn mae dros 80 y cant yn cael y swm cywir ar amser y tro cyntaf, gyda’r 20 y cant arall â gwybodaeth ar goll. Ni fydd y cam diweddaraf i ehangu ond yn mynd â’r gyfran o’r boblogaeth o hawlwyr credyd cynhwysol a ragwelwyd o 8 y cant ar hyn o bryd i 10 y cant erbyn diwedd mis Ionawr, gydag amser i ymdrin â materion wrth iddynt godi a’u hymgorffori yn yr amserlen gyflwyno. Roedd gan dros dri chwarter y tenantiaid ôl-ddyledion rhent eisoes cyn iddynt ddechrau hawlio credyd cynhwysol, ond ar ôl pedwar mis ar gredyd cynhwysol, gwelwyd gostyngiad o draean yn y nifer hon.

Clywais yr hyn y mae newydd ei ddweud am y modd y bydd y broses o gyflwyno’n galluogi’r materion hyn i gael eu datrys, wrth symud ymlaen. A all ddeall, felly, pam rydym wedi ei dreialu yn Nhorfaen a Sir y Fflint yma yng Nghymru, a heddiw, mewn gwirionedd, yn y 10 munud diwethaf, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud, ar sail y treialon hynny, y dylid ei atal am y tro yng Nghymru ar gyfer ystyried?

Wrth weld pwy yw’r llofnodwr, rwy’n amau bod rhywfaint o gymhelliad gwleidyddol yno, i gyd-daro â’r ddadl hon.

Fodd bynnag, fel y dywedais, ceir traean yn llai o ôl-ddyledion ymhlith y rhai ar gredyd cynhwysol ar ôl pedwar mis. Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o bobl ar incwm isel yn rheoli eu harian ac eisiau gwneud hynny, cydnabuwyd o’r cychwyn y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai, a dyna pam y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae hyn yn sicrhau bod hawlwyr nad ydynt yn barod eto i gyllidebu drostynt eu hunain yn fisol neu sy’n methu defnyddio’r rhyngrwyd yn cael eu diogelu a’u cynorthwyo i ddod yn rhan o’r system newydd. Ond bydd hawlwyr sydd â phroblemau dyled neu anawsterau eraill, megis sgiliau rhifedd gwael, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl, yn cael cymorth ymarferol ar ddechrau eu cais drwy rwydwaith o wasanaethau lleol, a bydd trefniadau talu amgen ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol, gan dalu costau tai yn uniongyrchol i’r landlordiaid, gwneud taliadau’n amlach na thaliadau misol i helpu gyda chyllidebu, a rhannu taliadau rhwng partneriaid lle y ceir cam-drin ariannol. Dyna y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ymrwymo iddo, am bedair blynedd a hanner yn ôl pob sôn, ac mae hyn bellach yn dod o dan faner cymorth cynhwysol.

Fel y nodais yn y Siambr hon bedair blynedd yn ôl, mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda’r holl weinyddiaethau datganoledig ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno’r credyd cynhwysol, ochr yn ochr â’r fframwaith gyda llywodraeth leol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac felly mae’n rhaid inni ofyn i Lywodraeth Cymru pam nad yw cymorth cynhwysol yn gweithredu’n well yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd:

Yn nodi’r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy’n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno’r credyd cynhwysol sy’n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a’r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno’r credyd cynhwysol a mynd i’r afael â’r pryderon sylfaenol sy’n cael eu codi.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Diolch, Llywydd. Mae dadl Plaid Cymru heddiw yn mynd i’r afael ag un o brif faterion cymdeithasol ein cyfnod. Mae bellach y tu hwnt i amheuaeth fod y broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn achosi mwy o galedi, ac mae’r ffaith bod credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno ochr yn ochr â thoriadau llym i les wedi gwneud y problemau cynhenid yn y cynllun hyd yn oed yn waeth. Mae Cyngor ar Bopeth wedi sefydlu bod y rhai sy’n cael credyd cynhwysol yn fwy tebygol o fod mewn dyled ar filiau rhent, treth gyngor a dŵr. Mae dyled, troi allan a defnydd o fanciau bwyd i gyd wedi cynyddu i rai sy’n cael cymorth yn y cynlluniau peilot. Rydym yn gwybod bod digartrefedd yn uwch eisoes, ac eto, yn nes ymlaen, bydd hyn yn golygu mwy o risg o fod yn ddigartref eto, yn ogystal â mwy o gostau i’r GIG, llywodraeth leol a gwasanaethau cymdeithasol.

Nawr, y celwydd mwyaf sydd wrth wraidd y credyd cynhwysol, a’r anghyfiawnder mwyaf, yw’r syniad fod hyn rywsut yn ymwneud yn llwyr â chymell pobl i weithio. Mae defnyddio’r system nawdd cymdeithasol i gael pobl i weithio yn nod canmoladwy na fyddai fawr iawn o bobl yn anghytuno ag ef. Ond y ffordd o gyflawni hyn yw drwy wneud i waith dalu mwy na’r budd-daliadau, nid trwy gosbi pobl a’u gorfodi i gymryd swyddi am gyflog isel neu swyddi ansicr, neu drwy ddefnyddio sancsiynau. Yn wir, mae asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun o gredyd cynhwysol yn awgrymu y bydd 2.1 miliwn o bobl sy’n ei dderbyn yn gweld cyfraddau eu didyniadau’n cynyddu. Golyga hyn nad yw’n wir i ddweud bod credyd cynhwysol yn gwneud i waith dalu; i’r gwrthwyneb i 2.1 miliwn o bobl weithgar.

Mae hyn yn golygu bod y system newydd, mewn gwirionedd, yn cael gwared ar gymhellion ariannol i bobl weithio a oedd yn bodoli o dan y system flaenorol i nifer sylweddol o bobl. I roi halen ar y briw, mae credyd cynhwysol yn sefydlu diwylliant o sancsiynau ac yn ymestyn y diwylliant hwnnw i gynnwys gweithwyr rhan-amser, fel pe bai gweithwyr rhan-amser bellach yn bobl sy’n byw oddi ar eraill fel y byddai’r Torïaid yn eu galw.

Mae cyfradd sancsiynau’n uwch na’r system flaenorol a gellir eu defnyddio yn erbyn pobl sydd mewn gwaith cyflogedig. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu bwrw ymlaen â chredyd cynhwysol, ceir model sydd eisoes yn bodoli o fewn y DU i Gymru allu addasu a lliniaru ei effeithiau gwaethaf. Buasai datganoli rheolaeth weinyddol ar les yn caniatáu i Lywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, rhoi diwedd ar y diwylliant o sancsiynau ac amseroedd aros hir, a sicrhau y gallai taliadau fynd i unigolion yn hytrach nag i aelwydydd. Mae’r model ar gyfer hyn, wrth gwrs, yn yr Alban lle y gwnaed y defnydd cyntaf o bwerau datganoledig gan Lywodraeth yr Alban i newid amlder y taliadau o fod yn fisol i bob pythefnos yn dilyn adborth. Gwnaethant hi’n bosibl hefyd i’r cydrannau tai gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid. Mae’r cyfreithiau newydd yn yr Alban hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i gynorthwyo pobl sy’n ei hawlio. Mae hyn yn golygu y gellir cymryd camau gweithredu yn awr y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r diwylliant sancsiynau.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae mesurau tebyg i liniaru credyd cynhwysol eisoes wedi eu cytuno a byddant yn cael eu gweithredu pan ailddechreuir rhannu grym.

Mae’r lefel hon o ddatganoli wedi gwneud agenda nawdd cymdeithasol ddatganoledig ehangach yn bosibl hefyd, gan gynnwys polisïau helaeth i liniaru effeithiau toriadau lles San Steffan a sefydlu asiantaeth nawdd cymdeithasol. Mae datganoli’r agweddau hynny ar nawdd cymdeithasol yn cael ei gefnogi nid yn unig gan yr SNP, ond ar sail drawsbleidiol, sy’n cynnwys y Blaid Lafur yn yr Alban. Mae angen consensws o’r fath yma yng Nghymru, yma yn y Cynulliad hwn. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw’r Llywodraeth yn cytuno. Ble mae eu strategaeth wrthdlodi? Beth y maent yn ei wneud i liniaru’r diwygiadau lles creulon hyn? Os gellir gweithredu’r gwasanaeth iechyd gwladol gan y gwahanol wledydd, yna nid oes unrhyw reswm pam na all agweddau eraill ar y wladwriaeth les ar ôl y rhyfel gael eu gweithredu felly yn ogystal. Mae’n rhaid i ni roi datganoli lles ar yr agenda. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr inni ddal ati i ladd ar y Torïaid ynglŷn â hyn pan allem fod yn gwneud pethau’n wahanol yma yng Nghymru. Fel Aelodau’r Cynulliad, rydym mewn perygl o fod yn ddim mwy na sylwebwyr ar hyn—

Carl Sargeant a gododd—

[Yn parhau.]—yn cwyno ar y cyrion heb unrhyw allu i liniaru, i addasu neu newid polisïau. Ildiaf i Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch. Er eglurder yn unig, a ydych yn ymwybodol faint y mae’n ei gostio i Lywodraeth yr Alban weithredu proses weinyddu hyn yn unig; nid y pen budd-daliadau ohono—y weinyddiaeth yn unig, sy’n darparu’r gallu i wneud hyn?

Nid oes gennyf ffigur wrth law. A hoffech chi ddweud wrthyf?

Maent yn talu £200 miliwn ymlaen llaw a £66 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y costau gweinyddol yn unig a delir i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dyna’r broblem sydd gennyf gyda’r broses weinyddu yma. Dylem fod yn gwneud rhywbeth gwahanol iawn. Dylent fod yn gwneud hyn yn awtomatig, nid codi tâl ar yr Alban neu arnom ni i wneud hynny. Dyna’r her sy’n ein hwynebu.

Ond y pwynt yw’r egwyddor, onid e? Tra bo San Steffan—[Torri ar draws.]. Tra bo San Steffan yn gwneud—. Tra bo San Steffan yn gwneud penderfyniadau sy’n cynyddu digartrefedd ac yn gwthio’r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt i galedi, mae hyn yn rhywbeth y dylech fod yn barod i’w ystyried.

Yn lle ffordd San Steffan—[Torri ar draws.]

Yn lle ffordd San Steffan, sy’n gwneud cam â chymaint o’n dinasyddion, dylem fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb ein hunain, a dylai’r Cynulliad gefnogi ffordd Gymreig ar fater lles. Byddai ffordd Gymreig yn seiliedig ar dystiolaeth, ar ddyngarwch ac ar gyfiawnder. Byddai hynny’n creu rhwyd ddiogelwch sy’n cefnogi’r rhai sydd mewn angen: urddas yn hytrach na dyled, gobaith yn hytrach na newyn—pam ddim?

Hoffwn ddechrau fy ymyriad gyda dyfyniad gan etholwr i mi yng Nghaerfyrddin:

Mae bod yn fam sengl yn fy nychryn. Cefais lythyr heddiw yn rhoi gwybod i mi faint o gredyd cynhwysol y bydd gennyf hawl iddo, ac rwy’n mynd i fod £210 y mis yn waeth fy myd. Rwy’n gweithio 16 awr yr wythnos ac rwy’n llwyddo o drwch blewyn i ddal dau ben llinyn ynghyd yn awr. Mae’n gas gennyf feddwl beth fydd fy sefyllfa pan fyddaf yn newid i gredyd cynhwysol yn y pen draw. Am bob £1 rwy’n ei hennill yn ychwanegol at fy lwfans gwaith, eir â 65c oddi arnaf. Sut y mae hyn i fod i annog a helpu pobl i weithio?

Dyna un yn unig o’r 20,000 o bobl yn Sir Benfro yn unig yr effeithir arnynt gan y newidiadau i’r credyd cynhwysol, ac er ei bod yn wir i ddweud y bydd rhai ar eu hennill, y ffaith amdani yw y bydd y rhan fwyaf, oherwydd bod Llywodraeth y DU yn mynnu dilyn trywydd mesurau cyni, yn llawer gwaeth eu byd. Y peth rhyfeddaf oll am y polisi hwn, fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu, yw ei fod yn cael ei weithredu a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu, mewn llawer o achosion, yn tanseilio’r ysgogiad ariannol i weithio.

Mae rhieni sengl gyda phlant dibynnol yn cael eu taro’n arbennig o galed, a byddant yn cael £3,100 y flwyddyn yn llai nag y maent yn ei gael gyda chredyd treth: ergyd enfawr i unrhyw gyllideb deuluol. Ac mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati’n fwriadol i gyflwyno’r credyd cynhwysol yn raddol fel y gall pawb ohonom ddysgu gwersi, ond yn Wigan, mae pedwar o bob pump o’r rhai sy’n hawlio credyd cynhwysol, neu dros 80 y cant o bobl, wedi mynd i ddyled gyda’u rhent. Rhaid i mi ofyn, os mai dyna yw tystiolaeth y gwersi, pam nad ydym yn oedi i ailfeddwl sut y gallwn wneud y system yn haws i rai o’r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymunedau?

Mae mwy na hanner y bobl sy’n cael y credyd cynhwysol yn gweithio. Maent yn gwneud y peth iawn iddynt eu hunain ac i’r gymdeithas ehangach, ond maent yn cael eu cosbi yn awr. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn hyrwyddo’r ffaith y dylem barhau â’r system bresennol, sy’n hynod gymhleth, ond mae’r ffordd y caiff y system ei chyflwyno yn gwbl wrthgynhyrchiol.

Ceir problem benodol sy’n deillio o’r pwynt ynglŷn â bod arian yn cael ei ôl-dalu, ac ar hyn o bryd mae’n rhaid aros 42 diwrnod am y taliad cyntaf ac mae eraill, fe glywoch, yn gorfod aros 60 diwrnod am ôl-daliad. Mae tua hanner y rhai sy’n derbyn credyd cynhwysol hyd yn hyn wedi gallu cael taliadau ymlaen llaw, ond mae’n anodd iawn i bobl sy’n agored i niwed sydd â sgiliau darllen ac ysgrifennu gwael brofi eu bod angen arian i dalu am filiau neu i dalu am fwyd. Ac yn anffodus, mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn credu bod yr oedi hwn cyn talu yn dderbyniol rywsut ac yn bosibl i bobl sy’n aml yn byw bywydau caotig, yn tanlinellu pa mor allan o gysylltiad yn llwyr y maent â’u hetholwyr. Ac ar ben hynny, dychmygwch sut y mae hi i rywun sy’n gaeth—i gamblo, alcohol neu gyffuriau efallai—neu bobl ag anawsterau dysgu i reoli’r hyn a allai ymddangos fel llawer iawn o arian yn eu cyrraedd i gyd ar unwaith wedyn.

Mae’n ddiddorol nodi bod y cyd-bwyllgor hawliau dynol wedi rhybuddio y gallai’r broses o gyflwyno’r budd-dal credyd cynhwysol wneud menywod yn agored i gael eu cam-drin am fod y budd-dal yn cael ei dalu i gyplau trwy gyfrif ar y cyd. Dylem fod yn bryderus y gall rhai dynion gyfyngu ar fynediad eu partneriaid at arian a gorfodi menywod i aros mewn perthynas dreisgar.

Yn y cynlluniau peilot a welsom, rydym wedi gweld cynnydd anferth mewn ôl-ddyledion rhent, sydd â goblygiadau i landlordiaid tai cymdeithasol a landlordiaid tai cyngor. Rydym wedi clywed eisoes fod llawer o bobl bellach yn ddigartref o ganlyniad. Rydym wedi gweld y cynnydd enfawr yn y galw mewn banciau bwyd. Mae llawer wedi cael eu gyrru i freichiau benthycwyr arian didostur, ac maent yn codi cyfraddau llog gormodol ar bobl sydd am fwydo eu plant. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi—sefyllfa gywilyddus mewn gwlad sydd yn bumed wlad gyfoethocaf y byd, a lle y bydd Llywodraeth y DU wedi gwneud gwerth £80 biliwn o doriadau treth, gan gynnwys gwerth £22 biliwn o doriadau treth incwm, erbyn 2021. Rwy’n credu ei bod yn bryd chwistrellu rhywfaint o gyfiawnder i mewn i’r system hon, er mwyn ailgydbwyso’r anghydraddoldeb yn y wlad hon, ac i wneud yn siŵr fod pawb yn cael ei gymell i gyfrannu ac i weithio.

Rwy’n ofni fy mod yn anghytuno â’r cynnig y dylid datganoli rheolaeth dros les. Nid wyf yn credu bod unrhyw obaith y bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau’r arian ar gyfer lles gan ildio rheolaeth weinyddol. [Torri ar draws.]

Na, nid wyf yn meddwl y gallwch ildio oherwydd mae eich amser eich hun wedi dod i ben. Felly, os gallwch ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Wel, rwy’n meddwl ei bod yn werth tanlinellu’r swm enfawr o arian sy’n dod i Gymru yn ychwanegol at y grant bloc o ganlyniad i fudd-daliadau lles. Rwy’n meddwl y buasem yn mynd ar drywydd peryglus iawn pe baem yn dilyn y llwybr cynhennus hwnnw.

Un o brif broblemau credyd cyffredinol ydy ei fod o’n cael ei dalu i gartrefi yn hytrach nag unigolion, ac rwy’n mynd i ganolbwyntio ar yr agwedd yna am ychydig. Dim ond un person fydd yn cael derbyn yr arian ar ran y cartref, felly mae yna gwestiynau o gydraddoldeb yn codi yn syth efo hynny, oherwydd mae’n debygol mai’r dyn fydd yn ei dderbyn yn y rhan fwyaf o achosion—nid bob tro o bell ffordd, ond yn y mwyafrif o achosion, mae’n bur debyg. Bydd hyn yn cynyddu dibyniaeth ariannol merched ar ddynion ac yn milwrio yn erbyn y ffaith bod dynion a merched yn gydradd. Mae hawl merched i annibyniaeth ariannol yn hawl sylfaenol—hawl sy’n cael ei danseilio efo credyd cyffredinol. Mae o felly’n gam sylweddol yn ôl yn yr ymdrech i gael cydraddoldeb llawn rhwng dynion a merched—ymdrech y mae rhai ohonom ni yn rhan ohono fo ers 40 mlynedd a mwy erbyn hyn. Mae’r daith tuag at gydraddoldeb llawn yn boenus o araf fel y mae hi. Mae unrhyw gam yn ôl—a dyna beth ydy hwn—angen ei gollfarnu gan y Cynulliad hwn, ac yn bwysicach na hynny, mae angen ei newid o, a defnyddio’r hawliau y gallem ni eu cael yn fan hyn i newid o. Mae angen i fudd-dal gael ei dalu i unigolion, nid i gartrefi.

Mae un agwedd ar hyn yn peri pryder mawr. Mae talu’r budd-dal i un person mewn cartref yn gallu golygu byddai rhai merched yn cael eu dal mewn perthynas o gamdriniaeth. Gyda’r dyn yn derbyn yr arian, y dyn sydd â’r pŵer, ac os ydy’r dyn hwnnw hefyd yn euog o gam-drin ei wraig neu ei bartner, mae’r sefyllfa yn anodd iawn i’r ferch. Mae rhai sydd o blaid credyd cyffredinol yn dadlau bod yna fecanwaith ar gyfer gweithio yn erbyn hynny, ond mae hynny’n safbwynt naïf iawn yn fy marn i. Mae hanner y merched sy’n cael eu cam-drin yn methu â gadael y berthynas oherwydd camdriniaeth ariannol. Efallai bod y ferch yn aros mewn perthynas niweidiol am ei bod yn poeni y byddai yna oblygiadau ariannol difrifol iddi hi petai hi’n gadael.

Mae’r arian ei hun yn cynyddu camdriniaeth. Gall un partner gadw arian yn ôl o’r llall gan ddefnyddio grym ariannol mewn ffordd hollol annerbyniol. O dan credyd cyffredinol, os ydy cwpl yn gwahanu, mae’n rhaid i un person rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Nid yw’r person sydd yn derbyn y budd-dal yn mynd i fod yn barod i wneud yr hysbysiad. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, eto, y merched fydd yn gorfod gwneud hynny ac yn cael eu dal allan yn y broses, ar adegau. Mae’n rhaid gwneud cais newydd, a fydd yn cymryd o leiaf pum wythnos i’w brosesu. I ddynes sydd heb arian ac, o bosib, plant i ofalu amdanyn nhw, mae amser fel aur. Nid ydy gwneud cais newydd bob tro ddim yn flaenoriaeth pan fyddwch chi’n ffoi am eich bywyd neu’n poeni am ddiogelwch eich plant. Petai’r budd-dal yn cael ei dalu i bob unigolyn, yna ni fyddai angen mynd drwy’r broses fiwrocrataidd o gofrestru pan fo dau unigolyn yn gwahanu.

Rŵan, wrth gwrs, petai gennym ni’r hawl i weinyddu ein budd-daliadau ein hunain yng Nghymru, fe allem ni newid hynny. Gweinyddu yr ydym ni’n sôn amdano fo yn y fan yma, cofiwch, nid derbyn yr hawl i greu budd-daliadau newydd, nid sôn am ariannu, ond y gweinyddu. Ac mi fyddai cael gafael ar hynny’n medru bod yn ffordd o greu system deg. Ie?

Diolch i’r Aelod am ildio, ac mae hwnnw’n bwynt pwysig, oherwydd, wrth gwrs, buasai datganoli cyllideb ar gyfer yr holl system les yn her enfawr i ni, o ystyried cyfyngiadau cyllidol y wlad. Ond mae gweinyddu lles yn fater arall, ac wrth gwrs, nododd Ysgrifennydd y Cabinet y costau gweinyddol yn gynharach. Addaswyd y grant bloc yn yr Alban yn y flwyddyn cyn datganoli gweinyddu cyfiawnder fel bod swm ychwanegol i’r grant bloc yn yr Alban ar gyfer costau gweinyddu, y costau cychwynnol. Felly, nid mater o ddechrau o linell sylfaen ydyw’n llwyr. Fodd bynnag, mae hynny’n arwain at gwestiynau difrifol wrth gwrs.

Ond bydd awdurdodau lleol Cymru’n talu’r pris beth bynnag am ddiwygio lles Torïaidd, felly buasem yn talu’r gost un ffordd neu’r llall beth bynnag.

Diolch yn fawr iawn am esbonio hynny. Hynny yw, yn yr Alban, pan ddatganolwyd rhai pwerau lles, fe ddaru Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithio allan faint i’w ychwanegu at y ‘block grant’ ac fe grëwyd gwaelodlin. Felly, mae yna ffordd o gwmpas y problemau ariannol, a sôn yr ydym ni am y gweinyddu—ac mae’n rhaid pwysleisio hynny dro ar ôl tro. A dyna ydy’r pwynt: petaem ni yn medru cael gafael ar y gweinyddu, mi fyddem ni’n gallu newid rhai elfennau o’r system fudd-daliadau. Mae’n rhy hawdd lluchio’r bai at y Torïaid yn Llundain. Oes, mae eisiau pwyntio allan bod hyn yn rhan o grwsâd ideolegol y diwygio lles, ond mae eisiau gwneud mwy na hynny, ac mae eisiau cynnig atebion, ac dyma un ateb yn cael ei gynnig yn fan hyn heddiw: rhowch y gweinyddu i ni yng Nghymru, fel ein bod ni’n gallu creu system deg. Ac, os ydych chi’n coelio mewn creu system deg yng Nghymru, wel, os nad ydych chi’n cael eich perswadio heddiw yma, edrychwch i mewn iddi a dewch efo ni i edrych am ffyrdd inni fedru symud ymlaen i greu system sydd ddim yn milwrio yn erbyn pobl fwyaf gwan ein cymdeithas ni.

Mi ddylai pawb sy’n deisyfu gwell gyfundrefn weithio tuag at hyn. Rydych chi wedi clywed am greu tarian i warchod Cymru rhag eithafion y Ceidwadwyr a’r wladwriaeth Brydeinig. Wel, byddai gweinyddu rhannau o’r system fudd-daliadau ein hunain yn darian yn erbyn rhai o eithafion credyd cynhwysol a system hollol anhrugarog.

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae system newydd y credyd cynhwysol yn peri pryder mawr ymhlith y rhai a fydd yn cael eu heffeithio ganddi. Rydym yn gweld hyn o ganlyniadau’r broses o’i gyflwyno hyd yn hyn. Felly, yn UKIP, rydym yn rhannu’r pryderon. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru i’r graddau hynny, ac rydym yn meddwl bod Plaid Cymru’n iawn i gyflwyno hyn fel pwnc ar gyfer dadl, er nad ydym yn cefnogi uchelgais Plaid Cymru y dylai lles gael ei ddatganoli i Gymru. Yn hynny o beth, rydym yn cefnogi Llafur ar yr achlysur hwn mewn gwirionedd, gan nad ydym yn credu bod datganoli’r system les i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ateb ymarferol i’r problemau sy’n wynebu Cymru, a gallai wneud pethau’n llawer gwaeth mewn gwirionedd, am y rhesymau a glywsom, fod Cymru’n dderbynnydd net o ran lles a’r anallu i wybod a fyddwn yn cael yr un lefel o gyllid pe bai lles wedi’i ddatganoli. Rwy’n derbyn efallai fod Steffan Lewis wedi codi pwynt sydd angen ei archwilio ymhellach, ond dyna ein safbwynt fel y mae ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr i ryw raddau, y gallai’r egwyddorion sy’n sail i’r credyd cynhwysol fod wedi bod yn ganmoladwy o ran helpu pobl yn ôl i’r gwaith fel cysyniad. Ond mae’r ffordd y mae’r drefn newydd wedi ei llunio mor ddiffygiol fel ei bod yn ein rhoi mewn gwaeth sefyllfa nag o’r blaen yn ôl pob tebyg.

Clywsom dystiolaeth ar y pwnc yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cawsom academyddion o unedau polisi cymdeithasol yn dod i mewn a oedd wedi cyfweld llawer o hawlwyr a oedd yn rhan o’r broses o gyflwyno’r credyd a gofynnwyd i sampl o’r hawlwyr beth oedd eu barn am y cynllun newydd. Ar y cyfan, nid oedd croeso i’r system newydd. Roedd y prif broblemau’n cynnwys mynediad at y system yn y lle cyntaf, oedi gyda thaliadau, problemau ynglŷn â ble y bydd y taliad yn mynd lle y ceir ceisiadau ar y cyd, a sancsiynau.

Un agwedd ar y system newydd yw’r anhawster i wneud y cais yn y lle cyntaf. Nawr, ychydig flynyddoedd yn ôl cawsom newid o system lle y byddai’r rhan fwyaf o hawlwyr newydd am fudd-daliadau’n gwneud apwyntiad i weld rhywun, person go iawn, mewn canolfan waith neu swyddfa debyg, i system lle y câi’r rhan fwyaf o geisiadau newydd eu gwneud dros y ffôn. Felly, roedd hynny’n codi un lefel o anhawster. Nawr, gyda chredyd cynhwysol, rydym yn symud ymlaen at lefel newydd o anhawster, oherwydd erbyn hyn caiff y ceisiadau cychwynnol eu gwneud ar-lein. Felly, mae hyn yn codi’r mater nad yw rhai hawlwyr ar-lein ac ni allant wneud pethau ar-lein, a’r perygl yw y gallai llawer o’r bobl hynny ddisgyn trwy’r craciau.

Ar ôl i chi gael eich cais wedi ei brosesu, y broblem nesaf yw’r oedi dros daliadau. Wel, rydym wedi clywed llawer am y pwnc hwnnw heddiw. Manylodd Bethan Jenkins ar hynny yn ei chyfraniad agoriadol wrth iddi dynnu sylw at y risg y bydd hawlwyr yn mynd i fwy o ddyled oherwydd yr oedi. Ceir risg hefyd o fynd i ddyled gyda’r rhent, rhywbeth arall y clywsom lawer amdano, oherwydd y system lle y telir y rhent i’r hawlwyr eu hunain mewn cyfandaliad mawr, ac ni chaiff ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord mewn gwirionedd. Yn anffodus, mae’r dull hwn yn cynyddu’r perygl y bydd pobl yn mynd i ddyled a landlordiaid yn methu cael eu rhent. Amlygodd Eluned Morgan y problemau gyda cheisiadau ar y cyd, a phwy sy’n cael y taliad, a’r ffaith nad oes unrhyw amddiffyniad go iawn wedi’i gynnwys yn y system ar gyfer menywod a phlant, er nad y fenyw sy’n cael y taliad bob amser wrth gwrs, ond yn gyffredinol mae hwnnw’n bwynt sydd angen inni ei ystyried.

Pan fyddwch yn y system ac yn cael eich taliad, mae bygythiad hollbresennol o sancsiynau, a grybwyllwyd gan Leanne Wood. Nawr, o dan gredyd cynhwysol, mae cyfundrefnau’r sancsiynau’n llymach, ac wrth gwrs, fel mewn unrhyw fiwrocratiaeth—ac mae’r system les yn fiwrocratiaeth enfawr—gall sancsiynau gael eu gosod ar gam. Dyma enghraifft. Mae’r system credyd cynhwysol yn gorfod ymdrin nid yn unig â phobl nad ydynt yn gweithio, ond hefyd â phobl sy’n gweithio, ond mewn swyddi ar gyflogau isel. Mae hyn oherwydd ei fod hefyd yn cymryd lle credydau treth gwaith. Y broblem yw y gallech chi, o dan yr hen system, hawlio credydau treth gwaith heb ymweld â’r ganolfan waith, gan eu bod yn cael eu hawlio drwy’r system dreth. Nawr, os oes gennych swydd, ond bod y cyflog yn isel, mae’n rhaid i chi fynd i’r ganolfan waith i hawlio eich taliadau ychwanegol. Felly, rydych yn gweithio, efallai mewn swydd reolaidd amser llawn, naw tan bump, ond mae’n rhaid i chi hefyd fynd i’r ganolfan waith yn rheolaidd. Tybed a allwch weld i ble rydym yn mynd gyda hyn: ie, pobl sydd â swyddi’n cael apwyntiadau yn y ganolfan waith sy’n gwrthdaro â’u horiau gwaith. Maent yn methu’r cyfweliadau hyn, yn ddealladwy, ac yna’n wynebu sancsiynau gan y ganolfan waith am fethu dod i’r apwyntiadau hynny. Os caiff rhywun ei ddal yn y math hwn o drap, mae’n camu i fyd Kafkaidd o frwydro yn erbyn biwrocratiaeth ddi-hid, ac anaml iawn y bydd yr unigolyn yn ennill y frwydr honno.

Hyd yn oed os oes gennych swydd sy’n mynd â 10 awr, dyweder, byddwch yn cael eich annog—eich blacmelio mewn geiriau eraill—i gymryd swydd arall am 15 awr. Mae’r ymagwedd anhyblyg hon yn arwain at sefyllfaoedd hurt fel dweud wrth fenyw dros 60 oed â thair swydd ganddi am gyfanswm o 21 awr am gael swydd arall. Gall sancsiynau ddod ar hap, a gallant ddigwydd chwe mis ar ôl y camymddwyn honedig. Mae’r broblem gyda hyn yn ddeublyg. Un broblem yw na fydd yr unigolyn sy’n cael ei sancsiynu yn cofio’r rheswm drosto yn ôl pob tebyg, felly ni fydd yn gallu apelio’n effeithiol. Problem arall yw y bydd yn annisgwyl i raddau helaeth, felly unwaith eto mae’n creu risg y bydd yr hawliwr yn mynd i ddyled neu ôl-ddyled gyda’r rhent—

Ydw. Felly, yn gyffredinol, rydym yn cytuno bod hon yn broblem enfawr. Y broblem arall nad oes neb wedi siarad amdani, ac nad oes gennyf amser i’w thrafod, yw nad oes unrhyw ffordd ystyrlon o ailhyfforddi pobl drwy’r system ar hyn o bryd, a dyna’r elfen hanfodol. Os ydych yn mynd i gael pobl i weithio, pam nad oes unrhyw bwyslais go iawn ar eu hailhyfforddi a’u cael i mewn i gyflogaeth ystyrlon? Diolch yn fawr iawn.

Nawr, fel y clywsom, pan gynigiwyd y credyd cynhwysol yn gyntaf, croesawodd llawer o bobl agweddau arno fel symleiddiad o’r hyn a oedd wedi mynd yn system chwerthinllyd o gymhleth. Fodd bynnag, trwy ddawn brin Iain Duncan Smith AS cafodd y methiant hwnnw ei achub ar y funud olaf o enau unrhyw ganlyniad cadarnhaol bach posibl.

Ac mae problemau gyda’r system fudd-daliadau yn codi eu pennau’n aml yn fy meddygfa. Mae hynny bob amser wedi bod yn wir. Mae problemau gyda thlodi a budd-daliadau’n codi eu pennau’n aml yn y maes meddygol oherwydd y tlodi a’r straen a’r pryder a’r iselder sy’n deillio o gamreolaeth lwyr ar y modd nad yw pobl sydd angen arian yn gallu cael yr hyn a oedd—fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet—yn nawdd cymdeithasol. Rydym wedi anghofio’r rhan honno, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod ein pobl sydd ei angen yn cael nawdd.

Cafwyd pryderon mawr ynglŷn ag agweddau ar sut y cynlluniwyd y credyd cynhwysol o’r cychwyn, fel y clywsom gan Bethan Jenkins ac eraill: y taliadau misol, y gyfradd tapr uchel, y cosbau i ail enillwyr ac yn y blaen. Ac yn amlwg rydym wedi gweld hefyd, mewn ardaloedd lle y cyflwynwyd y credyd cynhwysol, fod y defnydd o fanciau bwyd wedi cyrraedd lefelau epidemig. Mae’r sefyllfa bresennol, yn amlwg, yn gwbl annerbyniol.

Ond mae’r pryderon ynglŷn â chredyd cynhwysol, y taliadau misol, y cosbau i ail enillwyr ac yn y blaen, wyddoch chi, gallwch fynd i’r afael â hwy, fel y clywsom, yn syml iawn—rydych yn newid y taliadau i bob pythefnos neu bob wythnos, rydych yn caniatáu i’r cydrannau tai gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid, os mai dyna y mae pobl ei eisiau, er mwyn osgoi ôl-ddyledion, rydych yn talu unigolion nid aelwydydd, nid ydych yn codi tâl ar bobl sy’n ffonio’r llinell gymorth ac yn caniatáu dewisiadau eraill yn lle rhyngweithio ar-lein i’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, ac rydych yn rhoi diwedd ar ddiwylliant o sancsiynau i’r bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mae’r camau lliniaru hyn eisoes ar waith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan eu bod eisoes wedi eu datganoli yno. Felly, byddai datganoli rheolaeth weinyddol i Gymru yn ein galluogi i wneud taliadau bob pythefnos nid yn fisol, i wneud taliadau i unigolion nid aelwydydd, i dalu’r cydrannau tai’n uniongyrchol i landlordiaid er mwyn atal ôl-ddyledion a throi allan, i fod yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol staff yr Adran Gwaith a Phensiynau, a fydd yn caniatáu llawer mwy o hyblygrwydd ar gyfer lleihau sancsiynau os nad eu dileu’n gyfan gwbl mewn gwirionedd, a gallai cysylltu cynlluniau’r Adran Gwaith a Phensiynau â chynlluniau sgiliau sydd eisoes yn bodoli greu bargen newydd i Gymru ac ailhyfforddiant.

Nawr, fel y dywedais, ac mae wedi cael ei ddweud, mae lles eisoes wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gofelir am gostau rheoli gweinyddol gan fod lefel y budd-daliadau a’r cyllid yn parhau i gael eu gosod gan y Trysorlys. Mae Llafur yn cefnogi datganoli’r system fudd-daliadau yn yr Alban. Yn wir, mae bob amser yn gwthio’r Llywodraeth SNP i fynd ymhellach. Nid oes unrhyw broblem yno ynglŷn â pheidio â bod eisiau i fudd-daliadau fod wedi’u datganoli yn yr Alban o safbwynt Llafur; maent am i’r SNP weithio hyd yn oed yn galetach ar hynny.

Felly, bydd newid amlder y taliadau’n atal pobl rhag cael eu troi allan a digartrefedd, sy’n creu cost sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ogystal, wrth iddynt orfod wynebu canlyniadau troi allan a digartrefedd, heb sôn am leihad enfawr yn y defnydd o fanciau bwyd. Mae’n rhaid inni weinyddu’r system bwdr hon yn well: rhowch yr offer inni wneud hynny, fel y mae Llafur yn gwthio’r SNP yn yr Alban. Mae Llafur yn cefnogi datganoli lles cymdeithasol o San Steffan i Holyrood ac mae unrhyw arian sydd ei angen i’w weinyddu wedi ei sicrhau yn amlwg. Felly, mae cefnogi datganoli budd-daliadau yn yr Alban yn ddigon teg i Lafur. Ei gefnogi yng Nghymru—nid yw ar yr agenda. Cefnogwch gynnig Plaid Cymru er mwyn lliniaru canlyniad trychinebus credyd cynhwysol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chanolfan waith lle y cyfarfûm â thîm o bobl a oedd yn cyflwyno’r credyd cynhwysol. Mae’r unigolion y cyfarfûm â hwy yn gwneud yr hyn a allant i gefnogi eu hawlwyr, ond mae eu system weithredu wedi torri, system a gynlluniwyd heb ystyried bywydau hawlwyr, un a gynlluniwyd ar gyfer sut y mae’r Llywodraeth yn teimlo y dylai pobl fyw, nid y ffordd y mae pobl yn byw—heb ystyriaeth i realiti, straen, a chymhlethdod pur ymdopi ar incwm isel iawn.

Mae pobl sy’n ceisio dod i ben o wythnos i wythnos yn gorfod aros am chwe wythnos am eu budd-daliadau. Pwy sydd ddim yn mynd i gael trafferth heb incwm am chwe wythnos? Bydd llawer o bobl yn cael eu gadael mewn anobaith, ac mae pawb ohonom wedi clywed straeon personol erchyll am galedi go iawn, am amseroedd aros o chwe wythnos, am ôl-daliadau, am gael trafferth i lwyddo i dalu’r rhent a rhoi bwyd ar y bwrdd.

Nawr, clywn fod rhai’n cael eu rhoi ymlaen llaw ac mae rhai yn cael cynnig taliadau bob pythefnos, ond mae oedi’n llawer mwy nodweddiadol, ac eithriadau yw’r disgresiynau hynny, lle y maent yn bodoli, sy’n dibynnu ar benderfyniadau unigol y bobl sy’n trin achosion. Ni ddylai’r penderfyniadau hynny fod yn seiliedig ar ddisgresiwn unigolion. Dylent ddigwydd fel mater o drefn. Rwy’n sicr y byddai Llywodraeth Cymru â phwerau dros y ffordd y caiff credyd cynhwysol ei weithredu a’i weinyddu yn gwneud pethau’n wahanol: taliadau cyflymach ac amlach i adlewyrchu realiti bywydau pobl ac nid y bywydau y byddem yn dymuno iddynt eu cael. Ond gadewch inni fod yn hollol glir: nid y broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn unig yw’r broblem; mae’r holl ffordd y cafodd ei gynllunio yn ddiffygiol iawn. Y bwriad oedd gwneud i waith dalu, ond ni fydd yn gwneud i waith dalu tra byddwch yn colli 63c o fudd-dal am bob £1 ychwanegol a enillwch, ac i’r rhai sydd heb waith, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Nid yw credyd cynhwysol hyd yn oed yn dechrau talu unrhyw gostau byw realistig, gan gynnwys cost tai, ac rydym i gyd yn gwybod bod hyn yn anghymell landlordiaid rhag cymryd tenantiaid credyd cynhwysol.

Os ydych chi’n ddi-waith yn eich 20au cynnar, rydych ar £58 yr wythnos. Mewn economi lle y mae costau byw’n parhau i godi, pwy ar y ddaear sy’n gallu ymdopi ar hynny? Cymharwch hynny â’r cymorth y mae’r wladwriaeth yn ei roi i bobl mewn gwaith: mae’r lwfans treth personol yn werth £220 yr wythnos. Mae’r gyfran o’n cyfoeth cenedlaethol sy’n mynd at y lwfans treth personol yn codi, ac mae’r gyfran o’n cyfoeth cenedlaethol sy’n mynd ar fudd-daliadau credyd cynhwysol yn disgyn. Mae hynny’n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod. Mae budd-dal a oedd yn honni ei bod yn ymwneud â gwneud i waith dalu mewn gwirionedd yn gwneud i hawlwyr dalu. Ac wrth i’r credyd cynhwysol gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwrw yn ei blaen heb boeni dim am y trallod y mae’n ei achosi, heb falio am y bobl y mae’n eu brifo, yn rhy wan i weld y diffygion yn ei chynllun, yn rhy wan i roi’r gorau iddi ac ailfeddwl.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon. Rwy’n rhannu pryder yr Aelodau ynglŷn â’r effaith ddinistriol y mae’r broses o gyflwyno credyd cynhwysol yn ei chael ar bobl agored i niwed yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn bryderus iawn am doriadau lles di-baid Llywodraeth y DU a sut y maent yn effeithio ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rwyf wedi mynegi dro ar ôl tro ein pryderon wrth Lywodraeth y DU, ac wedi ysgrifennu yn galw am oedi’r broses o gyflwyno’r credyd cynhwysol.

Llywydd, rwy’n croesawu’r penderfyniad hwyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wythnos diwethaf i wneud y llinell gymorth credyd cynhwysol yn ddi-dâl o fis nesaf ymlaen. Mae’r amser y mae pobl yn gorfod aros cyn derbyn eu taliad credyd cynhwysol cyntaf—oddeutu chwe wythnos neu fwy—yn un o’r materion mwyaf sy’n effeithio ar bobl sy’n symud ymlaen at gredyd cynhwysol, ac rwy’n ddiolchgar am gyfraniad Angela Burns ddoe; mae hi’n hollol onest ac yn gywir yn yr hyn a ysgrifennodd. Yr hyn sy’n peri fwyaf o bryder, yw na fydd nifer o’r rhai sy’n hawlio credyd cynhwysol o’r newydd ac sy’n ceisio cael cymorth hanfodol tuag at eu costau tai yn gallu fforddio talu eu rhent i’w landlord hyd nes y daw’r taliad cyntaf i law. Mae awdurdodau lleol lle y mae gwasanaethau credyd cynhwysol llawn eisoes yn weithredol yn gweld cynnydd yn y rhent i nifer o denantiaid, ac mae hyn yn achosi, neu’n gwaethygu, problemau dyled i’r rhai sydd fwyaf o angen cymorth, ac yn arwain at ganlyniadau difrifol, Llywydd, i lawer o bobl sy’n wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i’r ffaith nad oes ganddynt arian i dalu eu rhent. Rydym yn clywed gan Lywodraeth y DU y gall hawlwyr ofyn am drefniant talu amgen i sicrhau bod eu costau tai cyntaf yn cael eu talu’n uniongyrchol i’w landlordiaid. Nid wyf yn argyhoeddedig fod y prosesau presennol yn ddigon cadarn, fodd bynnag, na’n ddigon hyblyg i sicrhau bod hyn yn digwydd i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o beidio â thalu eu costau tai, gyda’r risg o gael eu troi allan a digartrefedd. Dyfynnodd Mark Isherwood yn huawdl ran o’r hyn a ddywedais am egwyddorion cyffredinol y ffordd y mae hyn yn gweithredu. Nid oedd cyflwyno’r credyd cynhwysol yn anghywir—mae’n iawn i ddweud hynny—ond ni orffennodd yr hyn a ddywedais ynglŷn â bod yr egwyddorion cyffredinol yn iawn, ond mewn gwirionedd, mae’r system yn ddiffygiol, nid yw’n gweithio, ac mae’n effeithio’n enbyd ar ein cymunedau, a dyna pam y mae angen i ni ei hatal.

Mae ein pobl fwyaf agored i niwed, sydd eisoes yn ceisio ymdopi ag amgylchiadau anodd a chymhleth yn eu bywydau, bellach yn gorfod mynd drwy’r rhwystr ychwanegol o gael mynediad at y cymorth brys hwn drwy gredyd cynhwysol. Addawodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar 2 Hydref y byddai’r amser aros yn cael ei leihau i bobl wrth wneud cais am gredyd cynhwysol drwy ofyn am daliadau ar unwaith ar yr un diwrnod ar gyfer peth o’r arian neu ofyn am daliad ymlaen llaw o 50 y cant. Nid wyf yn ystyried bod yr ateb cyflym hwn yn gynaliadwy fel ateb parhaol i hawlwyr sy’n agored i niwed a allai fod eisoes mewn dyled yn awr, a gallai benthyca fel hyn eu gwthio ymhellach dros y dibyn i ddyled yn hawdd. Nid yw’n gweithio. Mae angen ei atal. Fel mater o frys, mae angen i Lywodraeth y DU leihau’r amser aros am y taliad cyntaf yn sylweddol, cael gwared ar y cyfnod aros o saith niwrnod a newid y sefyllfa ddiofyn i’r rhai sydd â chostau tai i’w talu’n uniongyrchol i’r landlord. Mae angen iddynt adfer taliadau pythefnosol hefyd i’r rhai sydd angen taliadau mwy rheolaidd.

Gwrandewais ar gyfraniad Aelodau Plaid Cymru. Y ffaith amdani yma yw y gall Llywodraeth y DU wneud hyn. Gallant leihau’r amser aros. Gallant adfer y taliadau pythefnosol. Yr un system yn union sy’n gweithredu yn yr Alban ag sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr. Clicied ar y peiriant ydyw, dyna i gyd. [Torri ar draws.] Fe ildiaf, wrth gwrs.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Mae’n gwneud y pwynt hollol briodol. Trasiedi hyn—. Ceir trychinebau dynol ac rydym yn eu gweld yn datblygu yn awr ac mae’n mynd i fynd yn llawer gwaeth, ond trasiedi lywodraethol hyn yw ei fod wedi cael ei dreialu. Mae’r dystiolaeth wedi bod yn glir, nid ers y chwe wythnos neu’r chwe mis diwethaf, ond yn y blynyddoedd y cafodd hyn ei dreialu o’r dechrau un, fod y cynllun yn anghywir, a gallant ei wneud yn iawn. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, mai’r hyn y mae’r Aelodau’n ei feddwl—gan gynnwys rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol ac yn cynnwys rhai ar y meinciau yma hefyd, rhaid i mi ddweud—yw’r trugaredd sy’n dweud, ‘Gadewch inni wneud i’r polisi weithio. Ei gyweirio ar y pen hwnnw fel ei fod yn ei gwneud hi’n werth mynd i’r gwaith go iawn ac y bydd gwaith yn talu.’ Gellir ei wneud a dylent ei wneud yn awr, a gallent ei wneud.

Mae’r Aelod yn iawn yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn y gofod hwnnw. Yr hyn a wyddom yw bod methiant i—[Torri ar draws.]

Esgusodwch fi, a gawn ni ymatal rhag cael trafodaethau rhwng y meinciau, os gwelwch yn dda? Rydym am wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet. Nid wyf am ddweud wrth unrhyw un am fod yn dawel, ond rydych yn fy ngwthio heddiw ac am ei bod ddiwedd tymor, rwy’n siwr. Felly, fe wrandawn ar Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda.

Diolch, Llywydd. Yr hyn nad ydym yn ei gydnabod yma, mewn gwirionedd, yw bod hawlydd sy’n methu mynd i un o’r cyfarfodydd, am ba reswm bynnag—salwch, neu fynd i weithio, fel y dywedodd yr Aelod yn gynharach—yn cael ei sancsiynu mewn gwirionedd. Wel, efallai y dylem ddechrau’r sancsiynau hynny gyda’r ASau na fynychodd y Senedd, yr ASau Torïaidd na bleidleisiodd yn y ddadl ar y credyd cynhwysol. Dyna ble y dylem ddechrau efallai.

Rwy’n ddiolchgar am gyfraniadau’r Aelodau yma, ond roeddwn yn synnu braidd at gyfraniad arweinydd Plaid Cymru o ran y broses o gyflwyno’r budd-dal i Gymru. Pan ofynnais iddi am gost hyn, nid oedd gan yr Aelod syniad o gwbl. A dweud y gwir, egwyddor yr hyn y mae’n ceisio ei gyflawni yw—. Nid wyf yn anghytuno â hi, ond mewn gwirionedd, nid ydych wedi gwneud y gwaith cartref am Lywodraeth yr Alban yn talu £200 miliwn ymlaen llaw ac yna £66 miliwn y flwyddyn i weinyddu hyn yn unig—dim i’w wneud â’r system fudd-daliadau o gwbl—pan ddylai Llywodraeth y DU, os mai dyna’r peth iawn i’w wneud, fod yn ei wneud yn y lle cyntaf.

Y pwynt a wneuthum wrth ymyrryd yn gynharach oedd bod Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i negodi fframwaith cyllidol a oedd yn caniatáu addasiad i’r bloc Barnett er mwyn gweinyddu lles yn yr Alban. A yw’n dweud nad oes ganddo hyder i fynd i Lundain i negodi setliad ar gyfer Cymru er mwyn iddo allu gweinyddu lles yma a dod â’r anghyfiawnder i ben yn awr?

Gadewch i mi ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Llundain ac rwyf wedi siarad â’r Arglwydd Freud am yr union faterion a grybwyllodd eich cyd-Aelod, yn enwedig ynglŷn â materion menywod a’r ffordd y caiff ceisiadau eu gwneud. Ond yr hyn y dylai’r Aelod ei ystyried go iawn—[Torri ar draws.] Yr hyn y dylai arweinydd yr wrthblaid—. Yr hyn y dylai arweinydd Plaid Cymru, dylwn ddweud, ei ystyried yw bod ei chyfraniad, mewn gwirionedd, yn un gwan pan nad oedd hi hyd yn oed yn gwybod y ffigurau. Felly, gallwn ei adael yn y fan honno.

Gadewch i mi nodi ymyriad yr Aelod sydd, mewn gwirionedd, os yw’n credu ei bod yn iawn talu £266 miliwn yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer costau gweinyddu pan all Llywodraeth y DU wneud hyn drwy godi beiro neu drwy ddweud wrth y cyfrifiadur, ‘Dyma sut rydym am i’r system weithredu’, a phan allem ddefnyddio’r arian hwnnw’n fwy gofalus ar gyfer ymyrraeth gyda chefnogaeth, mae ffordd hir gan yr Aelod i ystyried yr ymyriad ar hyn.

Nid wyf yn mynd i dderbyn rhagor o ymyriadau gan Aelodau oherwydd—[Torri ar draws.] Wel—

Y mater yn y fan hon, Llywydd, yw gwneud yn siŵr fod yr hyn a wnawn yma’n addas i’r diben, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Plaid Cymru yn amlwg wedi cyflwyno ystyriaeth feddylgar i’r Siambr—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

[Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi ystyried y broses honno’n llawn, yn enwedig costau gwneud hyn.

Diolch yn fawr iawn. Yn anad dim arall, rwy’n credu ein bod wedi cael dadl fywiog arall, ac rwy’n credu bod hynny’n dda i ddemocratiaeth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni ddechrau ar y costau gweinyddol y mae Steffan Lewis wedi ymyrryd arnynt ddwywaith. Mae cytundeb y fframwaith cyllidol—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn 2016 yn datgan y bydd fformiwla sylfaenol Barnett—nid yw’n gwrando arnaf hyd yn oed—yn cael ei haddasu i adlewyrchu’r cyfrifoldeb dros les, gan gynnwys costau a gweinyddiaeth—gan gynnwys costau a gweinyddiaeth. Mae’n dweud ym mhwynt 31, a dyfynnaf,

Mae’r ddwy Lywodraeth wedi cytuno y bydd y llywodraeth y DU yn darparu £200 miliwn i Lywodraeth yr Alban i gefnogi’r broses o weithredu pwerau newydd. Trosglwyddiad untro fydd hwn (heb linell sylfaen) i ychwanegu at y grant bloc, i gefnogi’r swyddogaethau a drosglwyddir. Mae proffil y trosglwyddiad hwn i’w gytuno gan Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd.

Felly, mae’n gwbl bosibl mynd i Lundain, os yw Llywodraeth Cymru eisiau gwneud hynny, a galw am y mathau hynny o sgyrsiau. Mae’r ffaith na fyddwch hyd yn oed yn trafferthu mynd i ofyn yn dyst i’ch arweinyddiaeth, nid i arweinyddiaeth Leanne Wood am wneud araith, a’ch penderfyniad i ofyn cwestiwn iddi. Mae’n dyst i’ch arweinyddiaeth, fel Ysgrifennydd y Cabinet yn hyn o beth. Ac nid ni’n unig sy’n credu y dylem, o bosibl, ddatganoli rhai o’r pwerau hynny—fe ddywedodd Jeremy Miles hynny heddiw. Ac ar y pwyllgor cydraddoldeb yn ddiweddar, cawsom academyddion i lawr o’r Alban a ddywedodd wrthym, lle y mae 15 y cant o fudd-daliadau anabledd wedi cael eu datganoli i’r Alban, maent wedi ei wneud mewn ffordd drugarog, egwyddorol, a byddwn yn mynd ati i edrych ar y cynigion hynny fel pwyllgor—[Torri ar draws.] Mae’n rhyfeddol yn awr na wrandewir arnaf, pan fo gennym—

[Yn parhau.]—syniadau adeiladol i adeiladu ein system les bosibl ein hunain ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, fel na fydd yn rhaid i ni, o bosibl, osod sancsiynau ar bobl, ac y gallwn weinyddu taliadau gyda pharch i’r unigolion. Pam na all Llywodraeth Cymru ystyried hynny? Nid ydym yn clywed yr ateb hwnnw yma heddiw.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Torïaid yn hyn o beth. Melin drafod Dorïaidd yw’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol y tynnodd Mark Isherwood sylw ati, gyda’r enw mwyaf paradocsaidd a grëwyd erioed ar gyfer melin drafod. Mae gennyf ddwy—.

Yr unig reswm rwy’n gwneud yr ymyriad hwn yw er mwyn cofnodi bod y fainc flaen yn chwerthin ar hyn, sy’n fater difrifol—[Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—bleidlais i’w cymryd. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais—

Mark Isherwood a gododd—

Eisteddwch, Mark, os gwelwch yn dda. Rwyf wedi gofyn yn gwrtais i bawb ohonoch wrando. Nid mewn maes chwarae rydym ni. Rydym yn ceisio cael dadl synhwyrol mewn gwirionedd. Nid wyf am i bobl ddweud wrthyf pryd i weiddi, ‘Trefn’, gan fod y bobl hynny’n gweiddi lawn cymaint ag eraill. Felly, os caiff pawb ohonom wrando yn awr ar yr hyn sydd gan Bethan Jenkins i’w ddweud mewn ymateb i’r ddadl. Peidiwch â chwifio eich breichiau arnaf, peidiwch â phwyntio at unrhyw un a gallwn fynd drwy hyn, cyn i mi alw ar rywun i roi’r bleidlais. Nid wyf am wneud hynny ar chwarae bach, ond fe’i gwnaf, gan nad ydym yn cyrraedd unman. Bethan Jenkins.

Diolch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod o ddifrif ynglŷn â’r ddadl hon gan ein bod wedi gweld ar feinciau San Steffan yn flaenorol pan fydd pobl yn rhy ffwdd-â-hi ynglŷn â hyn, ac nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd. Nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd os yw pobl yn gweld pobl yn chwerthin yn y Siambr.

Y pwynt roeddwn am ei roi i Mark Isherwood yw bod hyn wedi cael ei sefydlu gan Iain Duncan Smith, a gyfaddefodd wedyn mewn gwirionedd fod eu polisïau eu hunain yn anghywir mewn perthynas â’r system fudd-daliadau. Felly, sut y gallwn fod o ddifrif am y felin drafod honno?

Do, cafodd ei sefydlu gan Iain Duncan Smith. Dyna ddatgan ffaith, ond aeth ati’n fwriadol i ddod â phrif weithredwr i mewn nad oedd yn aelod o’r blaid. A dweud y gwir, roedd yn gyn-gomiwnydd—yn sicr, ymhell i’r chwith o’r Blaid Geidwadol. Aeth ati’n fwriadol i boblogi’r canol â rhai nad oeddent yn Geidwadwyr, ac mae ganddo ASau Llafur a chyn-aelodau seneddol ar ei fwrdd rheoli yn fwriadol.

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Efallai eich bod wedi sylweddoli bod fy llais yn diflannu; nid oes gennyf Strepsils fel Theresa May, ac felly nid wyf yn dymuno siarad am lawer rhagor. Ond rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod wedi cael y ddadl, rydym wedi gwyntyllu pryderon, ond rydym bob amser yn disgrifio’r broblem yma yn y Siambr hon. Rydym yn ei disgrifio am ei bod yn wael, ond yn hytrach na pharhau i ddisgrifio’r broblem, rwy’n meddwl y gallem ddod o hyd i atebion go iawn yma yng Nghymru, gan alw am y pwerau hynny yma yng Nghymru, edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud mewn rhannau eraill o’r DU, a chreu ein dyfodol ein hunain yn hyn o beth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn hyn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Cyfnod Pleidleisio

Rydym yn galw am bleidlais ar y cynnig ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

Nid yw o bwys yn y bleidlais hon, ond nid yw fy un i’n dangos ar y sgrin. A yw’n dangos gyda chi ai peidio, nid wyf yn gwybod. Nid yw o bwys yn y bleidlais hon, ond rwy’n meddwl efallai y bydd o bwys mewn rhai eraill.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 18:26:00

Nac ar fy un i, chwaith.

Rydych wedi pleidleisio. [Torri ar draws.] Wel, mae’r ddau Aelod a ddywedodd nad oeddent yn gwybod a ydynt wedi pleidleisio wedi pleidleisio, felly rwy’n cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 46, roedd 6 yn ymatal, felly derbyniwyd y gwelliant—y cynnig, mae’n ddrwg gennyf.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 46, Yn erbyn 0, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6350.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dreth dwristiaeth. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6546.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6546.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM6546 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;

b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;

c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth bosib wedi’i nodi fel cynnig i’w ystyried; a

d) nad oes penderfyniad wedi’i wneud i gyflwyno treth newydd yng Nghymru.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 27, roedd 9 yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6546 fel y’i diwygiwyd: O blaid 27, Yn erbyn 17, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6546 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn ymlaen at ddadl Plaid Cymru ar gredyd cynhwysol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 9, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 9, Yn erbyn 44, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6549.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 17, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 17, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6549.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 32, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 32, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6549.

Cynnig NDM6549 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.

2. Yn nodi’r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy’n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno’r credyd cynhwysol sy’n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.

3. Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a’r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno’r credyd cynhwysol a mynd i’r afael â’r pryderon sylfaenol sy’n cael eu codi.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 32, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6549 fel y’i diwygiwyd: O blaid 32, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6549 fel y’i diwygiwyd.

Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda?

10. 10. Dadl Fer: Darparu Gofal Sylfaenol yn Llanidloes: Dull Arloesol o Leddfu'r Pwysau ar Feddygon Teulu

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Russell George i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis—Russell George.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr argyfwng sy’n ein hwynebu o ran recriwtio meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiadau yn y cyfryngau nad ymgeisiodd unrhyw un am swydd wag i weithio fel meddyg teulu mewn meddygfa yn Sir Benfro yn y naw mis diwethaf. Ceir digon o enghreifftiau pellach o fy etholaeth o swyddi’n cael eu hysbysebu a heb gael eu llenwi am flynyddoedd. Felly, rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl fer hon i dynnu sylw at ddull arloesol o ddarparu gofal iechyd sy’n lleddfu pwysau ar feddygon teulu yn fy etholaeth. Mae’n gynnig arloesol iawn, sydd, hyd y gwelaf a chyn belled ag y gwn, yn unigryw i Gymru, ac yn Llanidloes yn unig y rhoddir y dull hwn ar waith. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr hyn rwyf ar fin ei ddweud heddiw’n arddangos arfer a allai drawsnewid gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru.

Mae canlyniadau fy arolwg iechyd fy hun ar draws Sir Drefaldwyn y llynedd yn dangos, er bod cleifion yn fodlon ar y cyfan â’u meddyg teulu, fod yna bryder penodol ynglŷn â pha mor hir y mae’n rhaid i gleifion aros i gael apwyntiad. Felly, ddiwedd y mis diwethaf, roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad i Aelodau’r Cynulliad yma yn y Senedd, lle y clywsom gan Dylan Jones, prif fferyllydd yn fferyllfa Dudley Taylor yn Llanidloes, i ddysgu mwy ynglŷn â sut y mae model newydd o ddarparu gofal iechyd wedi mynd i’r afael â’r mater hwn, gan edrych ar bwysau llwyth gwaith ar bractisau meddygon teulu, sydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn wynebu’r argyfwng meddygon teulu y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohono, a chaniatáu i ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol, a chynyddu capasiti hefyd, wrth gwrs, a lleihau costau.

Mae practisau meddygon teulu yn profi cynnydd digynsail yn y galw, ac mae gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hefyd o dan bwysau difrifol. Yn wir, mae naw o bob 10 meddyg teulu’n dweud bod eu llwyth gwaith wedi cael effaith andwyol ar ansawdd y gofal i gleifion, gyda phedwar o bob pum meddyg teulu yn pryderu hefyd ynglŷn â chynaliadwyedd eu practis. Felly, o ystyried yr anawsterau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mewn practisau, buaswn yn awgrymu y byddai buddsoddiad parhaus mewn presgripsiynwyr annibynnol mewn fferylliaeth gymunedol yn ddefnydd gwerthfawr o adnoddau’r GIG.

Gyda nifer y meddygon teulu yn lleihau a phractisau’n aml yn cael eu rhedeg gan feddygon locwm, buaswn yn dweud bod fferyllfeydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu, sy’n ymdrin â 57 miliwn o ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol bob blwyddyn ar draws y DU, a gallai 18 miliwn o’r rhain gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol. Yn wir, mae’n rhaid i chi feddwl tybed pam yr ymdrinnir â rhai o’r cyflyrau hyn gan y meddyg teulu o gwbl, gyda fferyllfeydd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â dolur gwddf, heintiau ar y frest, anhwylderau’r glust ac yn y blaen. Felly, ar y cyd â’r practis meddygol yn Llanidloes, mae fferyllfa Dylan Jones a Dudley Taylor yn Llanidloes wedi arloesi gyda gwasanaeth presgripsiynu annibynnol, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ledled y DU yn ddiweddar yng ngwobrau mawreddog C+D. Mae’n bwysig nodi hefyd fod fferyllfa Dudley Taylor, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys a Dylan Jones wedi cymryd risg fawr, ac rwy’n credu y dylid eu llongyfarch am yr ymrwymiad y maent wedi ei ddangos wrth wneud y llwyddiant hwn yn realiti.

Gyda chefnogaeth y bwrdd iechyd, a’r meddyg teulu presgripsiynu arweiniol yn y practis meddygol, Dr Raynsford, mae Dylan wedi cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol a dechreuodd y gwasanaeth presgripsiynu annibynnol newydd yn y fferyllfa fis Rhagfyr diwethaf, gan alluogi fferyllfa Dudley Taylor i drin cleifion â salwch acíwt o fewn y fferyllfa a lleihau’r angen i ymweld â meddyg teulu.

Felly, mae’n amlwg fod cydweithio agos rhwng yr holl bartïon yn allweddol i gael y gwasanaeth hwn ar ei draed. Fel arweinydd presgripsiynu yn y practis meddygol yn Llanidloes, mae Dr Raynsford wedi bod yn rhan annatod o’r treial, gan gytuno i brotocolau cadarn o’r cychwyn cyntaf ar gyfer rhannu gwybodaeth ac atgyfeirio, sydd hefyd wedi caniatáu i’r gwasanaeth newydd sicrhau mynediad at gofnodion iechyd cleifion meddygon teulu o’r tu mewn i’r fferyllfa. Mae cyfathrebu rhwng y fferyllfa a’r practis mewn perthynas ag argaeledd a chapasiti yn effeithiol, ac mae’r berthynas waith agos wedi sicrhau gwelliannau mawr yn y gofal i gleifion.

Mae’r gwasanaeth y mae fferyllfa Dudley Taylor a’r practis meddygol yn ei ddarparu yn sicrhau bod triniaeth gofal sylfaenol a chyngor ar gael yn gyflym i bobl leol o’r fferyllfa gymunedol ar y stryd fawr, gan leddfu’r pwysau ar feddygon teulu, wrth gwrs, a darparu gwasanaeth mwy cyfleus i gleifion, a helpu i ddarparu mwy o ddewis i gleifion, yn enwedig gan fod y fferyllfa’n gallu cynnig gwasanaeth presgripsiynu ar ddydd Sadwrn, pan na fydd y practis meddyg teulu ar agor—gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cleifion. Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at y darparwr mwyaf priodol yn gynt, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu a chynyddu argaeledd meddygon teulu ar gyfer cleifion mwy priodol, wrth hybu nifer yr ymwelwyr, wrth gwrs, a chefnogi hyfywedd fferyllfeydd lleol.

Mae’r gwasanaeth newydd yn Llanidloes hefyd wedi arwain at ostyngiad cyson yn nifer y cleifion sy’n defnyddio apwyntiadau brys yn y practis meddyg teulu. Ar gyfartaledd, bu gostyngiad o 23 y cant mewn apwyntiadau meddygon teulu o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, ac wrth ystyried yr effaith y mae’r gwasanaeth wedi ei chael ar lwyth gwaith meddygon teulu, a’r pwysau yn y feddygfa, mae Dr Raynsford yn credu bod meddygfeydd gyda’r nos yn arbennig wedi bod yn llawer llai prysur o ganlyniad. Mae hyn wedi caniatáu i’r practis ystyried ymestyn nifer neu gynyddu hyd apwyntiadau rheolaidd, ac mae hefyd yn dyrannu mwy o amser ar gyfer darparu gofal y tu allan i’r feddygfa, megis ymweliadau cartref i gleifion lliniarol, er enghraifft. Felly, trwy gynnig dewis arall i gleifion yn lle apwyntiad traddodiadol gyda meddyg teulu, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y gwasanaeth fferylliaeth yn hwyluso defnydd mwy priodol o amser meddygon teulu ac yn caniatáu ar gyfer mwy o ffocws ar gleifion ag anghenion gofal cymhleth. Yn hyn o beth, cred Dr Raynsford fod y gwasanaeth fferyllol wedi bod yn llwyddiant digamsyniol wrth gyflawni ei amcanion cychwynnol, ac yn un o’r datblygiadau pwysicaf ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae adborth gan gleifion hefyd wedi arwain at foddhad cyffredinol gyda’r gwasanaeth ac ansawdd y gofal y maent wedi’i gael. Nododd yr holl ymatebwyr y byddent yn argymell y gwasanaeth i aelod o’r teulu, ac mae’r fferyllfa hefyd wedi cael adborth gan gleifion sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddweud ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt hwy fel cleifion.

Mae’r ffigurau hefyd yn siarad drostynt eu hunain. Mae 90 y cant o gleifion i bob pwrpas wedi ystyried neu eisoes wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa, a byddai 65 y cant wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa pe na bai gwasanaeth y fferyllfa ar gael. Mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei ystyried yn rhan annatod o’r gwasanaeth gofal sylfaenol lleol yn Llanidloes, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol. Mae’r gwasanaeth newydd hefyd wedi cael effaith ar ganfyddiad cleifion o wasanaethau fferyllol, gyda pherthynas gynyddol gadarnhaol yn profi’n werth chweil yn broffesiynol.

O ganlyniad i’r llwyddiant yn Llanidloes, buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai’n ymuno â mi ar ymweliad â’r fferyllfa a’r practis meddyg teulu i weld a chlywed am y gwasanaeth yn uniongyrchol, i weld a fyddai’n bosibl datblygu’r model hwn ymhellach, i ddarparu’r un mynediad, ond hefyd ar gyfer ystod ehangach o anhwylderau, mewn ffordd sy’n integreiddio’r meddygfeydd yn iawn i allu cynnig triniaeth, gofal a chyngor mwy hygyrch.

Fodd bynnag, er mwyn i’r holl gynlluniau newydd lwyddo, bydd angen ymrwymiad gan y Llywodraeth ganolog ynglŷn ag a fyddwch chi a’ch adran yn cefnogi ein fferyllwyr cymunedol yn ariannol i fynd ar drywydd hyfforddiant ychwanegol i ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol. O ystyried bod y manteision cymunedol yn ymestyn y tu hwnt i’r fferyllfa, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n teimlo bod potensial i’r math hwn o wasanaeth gael ei ddyrannu o bot o arian ar wahân drwy’r gronfa arloesi gofal sylfaenol, felly nad yw’r manteision wedi eu cyfyngu gan faint cyllideb fferyllfa unigol, a hefyd fel nad yw’r gwasanaeth newydd yn cael ei frigdorri o’r gyllideb bresennol ar gyfer fferyllfeydd neu feddygon teulu.

Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy’n credu’n gryf fod gan hyn botensial i dalu amdano’i hun drosodd a throsodd, a byddai’n trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Bydd darparu gofal iechyd costeffeithiol o ansawdd uchel ar gyfer y darparwr mwyaf priodol o fudd i’r GIG cyfan, ac edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a’r potensial ar gyfer cyflwyno hyn ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch i Russell George am gyflwyno’r pwnc arbennig hwn i’r Siambr heddiw, ac mae’n un o’r achlysuron hynny lle’r ydym yn cytuno’n gyffredinol. Yn wir, nodaf eich bod wedi cael cyflwyniad gan Dylan Jones, a oedd, drwy gyd-ddigwyddiad—ac rwyf am gofnodi fy llongyfarchiadau iddo, yn hwyr, wedi iddo gael ei gydnabod yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru yn gyd-enillydd fferyllydd cymunedol y flwyddyn. Bydd y Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, â diddordeb mewn cael ei hatgoffa mai’r cyd-enillydd arall oedd Jacqui Campbell o Brestatyn, a Pritchards ym Mhrestatyn lle y lansiais y sticeri GIG Cymru ac mewn amryw o ddarparwyr gofal iechyd eraill. Mae rhywbeth yma eto am ddeall pwy sy’n rhan o’r tîm gofal iechyd, beth yw’r timau gofal iechyd lleol hynny yn awr a’r hyn y gallent ac y dylent fod yn y dyfodol. Mae Llanidloes yn un o’r enghreifftiau hynny o ble y credwn y dylai gweddill y darparwyr gofal iechyd edrych yn fwyfwy tebyg iddynt, am ei fod yn cyd-fynd â chyfeiriad teithio’r Llywodraeth hon eisoes, a’r mathau o newidiadau rydym eisiau eu cefnogi i helpu i gynnal a gwella gofal iechyd lleol yn ogystal. Mae’n deg dweud nad yw pob newid yn y cyfeiriad hwn yn cael eu cefnogi’n arbennig yn lleol ar y pryd, ac mae Llanidloes yn enghraifft dda lle nad oedd pawb o blaid y mathau o newidiadau sy’n cael eu gwneud yn awr. Rwy’n falch o weld bod yna newid go iawn wedi bod, a hynny ar draws y pleidiau yn ogystal, a chan feddwl am y mathau o dimau y siaradwn amdanynt, mae’r dull yn Llanidloes yn gyson â’r un a nodwyd yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol. Rwy’n meddwl am rywbeth a ddywedodd Lee Waters yn y Siambr hefyd am y dull a ddefnyddir yng Nghydweli, lle y mae gwahaniaeth yn y model gofal wedi bod yn hynod o bwysig o ran cynnal gofal iechyd lleol yn hytrach na’i weld yn methu, gyda ffocws yn unig ar wasanaethau meddygon teulu lleol.

Rwy’n credu ei bod yn deg inni dynnu sylw at rai o’r egwyddorion sylfaenol o fewn y rhaglen lwyddiannus yn Llanidloes. Y gyntaf yw cydweithio, oherwydd mae’r bwrdd iechyd, y meddygon teulu a’r fferyllfeydd wedi bod â rolau llawn a chyfartal yn datblygu’r gwasanaeth newydd yn Llanidloes. Mae rhywbeth yno am randdeiliaid lleol yn dod at ei gilydd, nid yn unig y pŵer i gytuno, ond mewn gwirionedd, cydnabyddiaeth ar y cyd o’r risgiau o beidio â chytuno ar sut y gallai ac y dylai’r dyfodol edrych, ac mae’r rhain yn bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu bron bob amser. Felly, mae yna ddiddordeb uniongyrchol go iawn mewn gweld y gwasanaethau’n parhau i fod yn llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod cleifion yn fodlon ar y gwasanaeth. Cânt eu gweld yn gyflym ac maent yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn effeithlon. Crëwyd gofod i feddygon teulu dreulio mwy o amser yn gwneud yr hyn na all ac na ddylai neb ond hwy ei wneud yn ogystal, yn enwedig gweld pobl sydd ag anghenion cymhleth. Ond hefyd mae’r fferyllwyr cymunedol yn cydnabod ei fod yn werth chweil yn broffesiynol. Mae yna gydnabyddiaeth gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fod mwy y gall fferylliaeth gymunedol ei wneud hefyd.

Hoffwn wneud dau bwynt arall. Mae un am rannu gwybodaeth, a’r hyn y gallasom ei wneud i alluogi’r system ehangach i rannu gwybodaeth yn ddiogel, drwy fod fferyllfeydd cymunedol penodol yn cymryd rhan mewn rhwydwaith lle y gallant weld fersiwn o’r cofnod meddyg teulu. Mae hynny’n bwysig iawn, ac rwy’n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi rhagori ar ble rydym eisiau bod gyda Dewis Fferyllfa yn y broses o gyflwyno fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Nodais fy mod yn disgwyl y byddai hanner ein fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ar-lein erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Rydym eisoes dros hanner ffordd ar hyn o bryd, felly rydym bump i chwe mis o flaen lle’r oeddem yn disgwyl bod. Mae honno’n stori lwyddiant go iawn, gan fod pobl yn cydnabod mewn enghreifftiau fel Llanidloes a chymunedau eraill yng Nghymru ei fod wedi bod o fudd mawr i bawb o fewn y gymuned gofal iechyd yn lleol, ond o fudd go iawn i ddinasyddion lleol yn benodol. Ac ydy, mae’r rhan arall yn cynnwys presgripsiynu annibynnol ac wrth gwrs, ceir amrywiaeth o fferyllfeydd cymunedol sydd eisoes yn bresgripsiynwyr annibynnol. Rydym yn ceisio annog amrywiaeth o bobl eraill yn ogystal â meddygon i gael y gallu i fod yn bresgripsiynwyr annibynnol, gan ddefnyddio eu sgiliau clinigol i wneud hynny. Mae yna amrywiaeth o nyrsys sy’n gallu gwneud hynny ac ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill—fferyllwyr, therapyddion ac eraill—i gyd o fewn eu cymhwysedd clinigol eu hunain. Felly, mae yna ddull cydweithredol ac amlddisgyblaethol i’w weithredu. Dyna un o nodweddion allweddol, nid yn unig yr hyn sydd wedi digwydd yn Llanidloes, ond yn fwy cyffredinol yn y rhaglen bennu cyfeiriad genedlaethol ar gyfer gofal iechyd lleol. Ac wrth gwrs, fe’i cefnogir gan gronfa o £43 miliwn, gan gynnwys £4 miliwn sydd yn y rhaglen bennu cyfeiriad genedlaethol honno, a cheir llawer o enghreifftiau eraill ledled Cymru o sut beth ydyw, naill ai o fewn y rhaglen neu y tu allan iddi. Rhan o fy her a fy optimistiaeth am y gwasanaeth yw bod gennym enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio, gan wella gofal iechyd lleol i’r bobl sy’n gweithio yn y timau gofal iechyd lleol hynny, ond yn hanfodol, i’r dinesydd yn ogystal. Ac er yr holl heriau sy’n ein hwynebu, yn ogystal â gwledydd eraill yn y DU, mae gennym enghreifftiau da a gallwn ddweud, ‘Mae hyn yn gweithio yng Nghymru eisoes.’ Mae yna enghraifft yn y Gymru wledig sy’n gweithio, ac yn sicr dylem allu cyflwyno hynny mewn gwahanol rannau o’r Gymru wledig. Yr un peth gyda Chymoedd Cymru, y Gymru drefol yn ogystal. Ac mewn gwirionedd, mae yna lawer o wersi i’w dysgu’n barod. Ein her gyson yw pa mor gyflym a pha mor gyson y gallwn wneud hynny ar draws y wlad.

A soniais yn gynharach am y platfform Dewis Fferyllfa. Roedd hwnnw’n ddewis bwriadol i’w wneud. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn aml yn cael ei ddifrïo, ond fe wnaethant helpu i ddatblygu’r platfform TG newydd, ac yna buddsoddodd Llywodraeth Cymru bron i £800,000 i sicrhau ei fod ar gael. Yn ogystal â hynny, mae gennym systemau yn yr ysbytai sy’n caniatáu i wybodaeth wedi’i moderneiddio am gleifion gael ei throsglwyddo rhwng y meddyg teulu a’r ysbyty yn ogystal. Felly, rydym o ddifrif yn gwneud mwy i rannu gwybodaeth, ond rydym yn dal i fod yn awyddus i wneud rhagor, rydym yn dal yn awyddus i symud yn gyflymach nag y gwnawn ar hyn o bryd.

Cefais ymweliad diddorol â fferyllfa gymunedol ym Mhorth Tywyn yr wythnos o’r blaen, ac roeddwn yn siomedig nad oedd system gyfrifiadurol y fferyllydd yn siarad â’r system gyfrifiadurol y mae gweddill y GIG yn ei defnyddio, ac mae’r mathau hyn o rwystrau digidol yn rhwystro’r potensial sydd gan y model hwn.

Yn wir. Mae mwy i ni ei wneud ynglŷn â sicrhau bod gennym system sydd wedi’i chydgysylltu’n llawn. Ac mae rhywbeth am gael platfform i ganiatáu i gofnod gael ei rannu, ac yna i’r hyn sy’n fusnesau annibynnol ar hyn o bryd gael eu platfformau eu hunain a all siarad yn gyson â hwy mewn gwirionedd. Wrth i ni barhau i ddatblygu ein platfform digidol o fewn y gwasanaeth iechyd, mae angen i ni wneud yn siŵr fod gennym bethau sy’n gyson rhwng gwahanol rannau ein system. Nid yw’n her hawdd, ond mae’n rhywbeth rydym yn ei ddisgwyl fel rhan o’r hyn rydym am ei gyflawni. Ac yn yr un modd, gwn eich bod chi, Lee, wedi gwneud pwyntiau o’r blaen am ddal i fyny gyda disgwyliadau’r cyhoedd, gan fod y rhan fwyaf o’r cyhoedd eisoes yn disgwyl i fferylliaeth a’u meddygfa leol allu siarad â’i gilydd ar blatfform digidol. Maent yn disgwyl i’r system ysbytai a’u system gofal iechyd leol fod wedi eu cydgysylltu yn ogystal. Felly, mae gennym lawer i’w wneud i ddal i fyny. Ac rwy’n cydnabod y pwynt. A dweud y gwir, cyfarfûm â fferyllwyr o Borth Tywyn mewn diwrnod yn ddiweddar gyda’r bwrdd iechyd, a chyda’r brifysgol, ynghylch yr hyn roeddent wedi llwyddo i’w wneud eisoes a’r arloesi pellach roeddent am ei weld yn digwydd hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae gweld yr arloesedd hwnnw’n digwydd, a’i weld yn llwyddo, yn rhan o’r hyn sy’n rhoi anogaeth go iawn i mi ynglŷn â’r dyfodol. Mae pethau’n digwydd, a byddai’n well gennyf gael yr her o, ‘Sut rydym yn gwneud hynny’n fwy llwyddiannus ar draws y wlad?’ yn hytrach na, ‘Nid oes gennym unrhyw syniadau ac nid ydym yn gwybod beth i’w wneud.’

Wrth gwrs, ceir cyfleoedd i fferyllwyr cymunedol hyfforddi presgripsiynwyr annibynnol, fel y gofynnodd Russell George, ac rwy’n hapus i weld hynny’n cael ei gefnogi’n fwy cyffredinol, yn ogystal â gweld mwy o gyfraniad yn cael ei wneud gan fferyllwyr cymunedol, a meddwl sut y gwnawn hynny gyda staff, gyda’r bobl, gyda’r gweithlu ac wrth gwrs, y platfform i ganiatáu iddynt wneud hynny mor effeithiol â phosibl.

Mae’r gwasanaeth mân anhwylderau, sydd bellach yn cael ei gyflwyno ar blatfform Dewis Fferyllfa, yn bwysig ynddo’i hun. Mae’n cymryd pwysau oddi ar feddygon teulu, yn rhoi mwy o ddewisiadau i’r dinesydd, a dylai hynny olygu wedyn fod gennym bethau eraill y gallwn eu gwneud, gan gynnwys rheoli cyflyrau cronig ac eraill yn ogystal. Felly, rwy’n ei weld fel dechrau cael platfform dibynadwy i’w gyflwyno, ac yna mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud, ac rwyf wedi gwneud y sylwadau hynny o’r blaen yn y Siambr hon a thu hwnt.

Rwyf eisiau mynd yn ôl at eich pwynt am barhau i fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. Ac rwy’n hapus iawn ac yn falch o’r hyn rydym wedi gallu ei wneud yng Nghymru. Mae pawb yn gwybod ein bod yn wynebu dewisiadau anodd, ac ni wnaf bwyntiau gwleidyddol am y Ceidwadwyr Cymreig o leiaf, ond mae yna ddewisiadau anodd i’w gwneud. Rydym yn gwybod bod llai o arian cyhoeddus ar gael. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb lai mewn termau real, ac nid ydym yn disgwyl i hynny newid mewn gwirionedd yn y cylch cyllidebol a ddisgwyliwn ym mis Tachwedd. Felly, mae’r dewisiadau a wnawn yn fwy pwysig byth. A gwneuthum ddewis bwriadol i barhau i fuddsoddi £144 miliwn bob blwyddyn mewn fferylliaeth gymunedol. Ar draws ein ffin, yn Lloegr, cafwyd toriadau o 7 y cant i’r tîm fferylliaeth gymunedol. Nawr, mae hwnnw’n ddewis gwahanol. Mae hynny’n rhan o ddatganoli’n bod yn wahanol, ond rhan o’r rheswm pam y dewisais wneud hynny oedd fy mod yn meddwl bod mwy y gallwn ei gael o’r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol. Ac rwyf am weld y rhwydwaith yn cael ei gynnal, a’i weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol. Ac os na all gynnal y buddsoddiad yn y gwasanaeth, efallai y byddwn yn gweld rhai fferyllfeydd yn peidio â bod mwyach, nid oherwydd bod yna ddadl ynghylch ansawdd, nid oherwydd bod crynhoad defnyddiol o fferyllfeydd lleol yn darparu gwasanaeth gwell a mwy cadarn, ond yn syml oherwydd na fyddai’r arian yno i hynny ddigwydd.

A dyna pam y mae cyflwyno’r platfform yn bwysig, ond hefyd mae rhywbeth am rywbeth yn hyn hefyd. Ar ôl gwneud dewis bwriadol i beidio â thorri’r buddsoddiad yn y system fferyllfeydd cymunedol yma yng Nghymru, mae yna ddisgwyliad ein bod yn gweld mwy o ansawdd yn yr hyn sy’n cael ei ddarparu, ac nid taliad yn ôl cyfaint trwy bresgripsiynu a thrwy ddarparu cyffuriau, ond taliad yn y gallu i ddarparu mwy o ansawdd yn y gofal y mae fferyllwyr cymunedol yn ei ddarparu mewn gwirionedd. A dylai hynny ei wneud yn lle mwy diddorol iddynt weithio ynddo. Mewn rhai ffyrdd, nid yw’n annhebyg i’r sgwrs gydag optometryddion stryd fawr sydd am allu gwneud pethau gwahanol. Ac mae’r ffordd rydym wedi cyflwyno gwasanaethau ar gyfer optometryddion y stryd fawr wedi gwneud y swydd yn fwy diddorol i’r bobl hynny, ac mae’n ddefnydd gwell o’n hadnoddau ar draws y system—yn well i feddygon teulu beidio â chael pobl yn dod atynt gyda phroblemau gofal llygaid pan nad hwy yw’r bobl iawn i’w gweld, swydd well i’r optometryddion ei gwneud eu hunain, ac mewn gwirionedd, i’r dinesydd, mynediad cyflymach at y gofal iechyd proffesiynol cywir yn eu cymuned leol. A dyna fwy o’r hyn rwy’n disgwyl ei weld yn ein system ar draws y wlad.

Hefyd, dyna pam, o’r mis hwn, rwyf wedi rhyddhau £1.5 miliwn yn benodol i fynd i mewn i’r rhaglen ansawdd fferylliaeth honno, a bydd yn cefnogi gwaith cydweithredol rhwng fferyllfeydd a darparwyr gofal iechyd lleol eraill i sicrhau bod y manteision sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu gwireddu. Felly, dyna’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth hon yn ei osod a dyna’r amgylchedd rydym eisiau darparu gofal iechyd lleol ynddo. Rwy’n credu bod Llanidloes yn enghraifft dda o’r hyn y gallem ac y dylem weld mwy ohono yn y dyfodol, a mwy y gallwn ei ddysgu am yr hyn sydd i’w gael yn iawn ac i’r un graddau, y pethau na fydd yn mynd yn iawn a chamgymeriadau na ddylem eu hailadrodd mewn rhannau eraill o’n system.

Felly, mae llawer y gallwn fod yn falch ohono a llawer rwy’n falch ohono yn ein system yma hefyd. Ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â fferylliaeth gymunedol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl, hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau presennol y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod yn gweithredu ynddynt.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.