Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

18/10/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a’r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.

Y Diwydiant Ffermio

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant ffermio yng Nghymru? (OAQ51203)

Diolch. Rwy’n awyddus i weld sector amaethyddol mwy cadarn, proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n cynorthwyo ein ffermwyr i gyflawni hyn drwy ddefnydd arloesol o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant busnes i ffermydd, y fenter strategol ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros yr haf, roeddwn yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad o £4.2 miliwn, gyda £3 miliwn ohono’n dod o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, ar gyfer canolfan filfeddygol arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n fuddsoddiad sydd i’w groesawu’n fawr ar gyfer canolbarth Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd yn helpu i’w rhoi ar y map. Bydd yr ymchwil pwysig a wneir yn y datblygiad newydd hwnnw o fudd nid yn unig i’r ffermwyr, ond i ddiwydiannau eraill hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi unrhyw syniad inni ynglŷn â phryd y mae’n debygol y bydd y ganolfan filfeddygol newydd yn gwbl weithredol?

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cronfeydd yr UE wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o fuddsoddiad ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond yn amlwg, ledled Cymru. Bydd £3 miliwn o gyllid cronfa gymdeithasol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cyfleuster newydd y ganolfan filfeddygol yn Aberystwyth, a bydd yn darparu labordai a swyddfeydd modern wedi’u cyfarparu’n llawn. Fe’i defnyddir nid yn unig i hybu iechyd a lles anifeiliaid, ond iechyd pobl hefyd. Ac roeddwn yn falch iawn o allu lansio’r ganolfan filfeddygol dros yr haf yn Sioe Frenhinol Cymru.

O ran yr amserlen ar ei chyfer, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y flwyddyn nesaf fydd hynny, yn 2018, ond nid oes gennyf fis penodol, er enghraifft, ond yn sicr, gallaf roi gwybod i’r Aelod.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae problemau’n bodoli o hyd ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltu adeiladol, weithiau, rhwng asiantaethau taliadau Cymru a Lloegr. Mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol, a gadeiriais yn gynharach eleni, ymrwymodd prif weithredwyr yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Taliadau Gwledig Cymru i gynnal cyfarfodydd ar y cyd gyda’r undebau ffermio yn rheolaidd er mwyn trafod unrhyw faterion heb eu datrys a hyrwyddo gwell cydweithio. A ydych yn ymwybodol a yw hyn wedi digwydd, a pha baratoadau y gellir eu gwneud i sicrhau na fydd unrhyw oedi cyn gwneud taliadau i ffermwyr trawsffiniol eleni?

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, gan y credaf fod y mwyafrif o’r taliadau hwyr y llynedd yn deillio o’r mater hwn ynghylch ffermydd trawsffiniol a’r diffyg ymgysylltiad, gadewch inni ddweud, gan Taliadau Gwledig Lloegr. Nid wyf yn ymwybodol a gynhaliwyd cyfarfodydd penodol gyda Taliadau Gwledig Cymru a Taliadau Gwledig Lloegr ac undebau’r ffermwyr—mater i undebau’r ffermwyr yw hwnnw—ond yn sicr, gwn fod fy swyddogion wedi bod yn cael cyfarfodydd i sicrhau ein bod, eleni, yn gallu talu cymaint o daliadau cyn gynted â phosibl mewn perthynas â’r taliadau trawsffiniol hynny.

Pa gynlluniau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod yr hawl i bysgota oddi ar arfordir y gorllewin yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer pysgotwyr Cymru yn hytrach na chychod a gofrestrwyd yng Nghymru yn unig ar ôl Brexit?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r gwaith ymgysylltu helaeth sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Byddwch yn gwybod am fy nghyfarfodydd gweinidogol o amgylch y bwrdd, sy’n cynnwys aelodau o’r diwydiant pysgota, yn amlwg. Mae’n amlwg y bydd hwn yn fater sy’n codi wrth i ni gyflwyno Bil pysgodfeydd. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y bydd gennym Fil pysgodfeydd Cymru, felly mae’r trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â’r ymgysylltiad hwnnw. Ond nid yw’r gwaith wedi cyrraedd y lefel honno o fanylder eto.

Cynhyrchu a Dosbarthu Ynni

2. Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhagweld ar gyfer awdurdodau lleol yn y broses o gynhyrchu a dosbarthu ynni yng Nghymru? (OAQ51212)

Diolch. Rwyf wedi gosod targedau ynni adnewyddadwy uchelgeisiol ac wedi galw am sicrhau bod y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae gan awdurdodau lleol rôl arweiniol bwysig yn cefnogi’r broses o ddatgarboneiddio ynni yn eu cymunedau drwy gynlluniau ardaloedd a chyflawni prosiectau sy’n cadw incwm a buddion ehangach yn lleol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae rôl cynghorau lleol yn cyflenwi ynni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, yn amrywio o gwmnïau gwasanaethau ynni, neu gwmnïau cyflenwi ynni, i’r rheini sydd â threfniadau cyflenwi llawnach, fel Robin Hood Energy, wrth gwrs, yn Nottingham, sy’n honni bod eu biliau’n llai, cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon is. Bu datblygiadau hefyd ym Mryste, yng Nghaerlŷr a’r Liverpool Energy Community Company yn Lerpwl. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r twf yn hyn o beth wedi bod dros y ffin. Beth yw ei dadansoddiad o’r rheswm pam nad yw hyn wedi llwyddo yng Nghymru, ac yn sgil ei datganiad diweddar am gynyddu ymwneud lleol mewn prosiectau adnewyddadwy, a yw’n teimlo bod hyn yn rhywbeth yr hoffai ei weld yn tyfu yng Nghymru?

Credaf eich bod yn iawn. Mae angen inni weld mwy o waith a chynnydd yn y meysydd hynny. Rwy’n ymwybodol fod nifer o sefydliadau cyhoeddus yn Lloegr a’r Alban wedi cyhoeddi cwmnïau ynni. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â’r sefydliadau hyn fel rhan o’r gwaith a wnaethom pan fuom yn ystyried a ddylem gael cwmni cyflenwi ynni yng Nghymru, ac fe fyddwch yn gwybod am y datganiad a wneuthum ynglŷn â pham nad ydym yn mynd ar drywydd hynny ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol fod yr Alban wedi cyhoeddi hyn yn ddiweddar, ond ni fyddant yn ei wneud tan 2021. Ond byddaf yn trafod gyda fy swyddogion cyfatebol i weld sut y byddant yn datblygu eu cynigion. Nid wyf wedi cau’r drws yn llwyr ar hyn. Credaf fod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol hefyd. Mae angen inni eu cynorthwyo i edrych ar y cyfleoedd a allai fod ar gael a sut y byddent yn cynllunio i ddatblygu’r rheini.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r heriau a wynebai cynllun ynni cymunedol Ynni’r Fro oedd yr anhawster i gael caniatâd cynllunio a chydsyniad pan oedd awydd i greu prosiectau ynni cymunedol o’r fath. Sut yr aethoch i’r afael â hyn ar ôl yr adroddiad ar gynllun cymunedol Ynni’r Fro, ac oni fyddai hynny’n un o’r rhesymau allweddol pam na all cymaint o’r prosiectau ynni cymunedol hyn fynd rhagddynt, mewn gwirionedd, oherwydd cyfranogiad cynghorau lleol a’r ymgysylltiad â hwy?

Yn sicr, credaf fod hynny’n rhwystr, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio i edrych ar—. Rwyf wedi gwneud datganiad ynglŷn â sut rwy’n awyddus i weld perchnogaeth leol, er enghraifft, mewn perthynas â’n targedau ynni, a bydd yn rhaid symud yn gyflym os ydym am gyflawni’r targedau hynny erbyn 2030. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych ar y rhwystrau a pham y ceir yr anawsterau hyn gyda’r broses gynllunio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym pam y cynhaliwyd ymgynghoriad gennych ar 56 o gynigion gwahanol ar reoli adnoddau naturiol dros yr haf?

Cyflwynais yr ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gan y credaf ei bod yn arbennig o bwysig, yn sgil Brexit, ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid ynglŷn â pha ddeddfwriaeth a rheoliadau y bydd angen inni eu hystyried, yn enwedig dros y flwyddyn nesaf cyn ein cyfnod pontio Ewropeaidd.

Nid amrywiadau Heinz yn hollol, ond bron â bod. [Chwerthin.] Un arall a byddech wedi’i gwneud hi. Awgrymodd llawer o bobl fod hyn yn edrych fel clirio’r desgiau cyn Brexit. A gaf fi awgrymu y byddai’n siŵr o fod yn well cyflawni mewn perthynas ag ymgynghoriadau blaenorol cyn agor rhai newydd? Er enghraifft, yr hydref diwethaf, fe ymgynghoroch chi ar barthau perygl nitradau, a ddeng mis yn ddiweddarach, nid ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Sut y gallwn fod o ddifrif ynglŷn ag ymgynghoriad pan fo’n cymryd blwyddyn iddo ddod i unrhyw gasgliad?

O ran y parthau perygl nitradau, rwyf wedi dweud sawl tro ein bod wedi cael nifer sylweddol o ymatebion a chredaf fod llawer o’r syniadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r parthau perygl nitradau yn haeddu cael eu hystyried yn fanwl iawn. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae gennyf gyfarfod gyda swyddogion yn ddiweddarach heddiw ynglŷn â pharthau perygl nitradau.

O ran pam y cawsom ymgynghoriad arall, credaf fy mod wedi egluro hynny yn fy ateb gwreiddiol i chi, a gwn y bu llawer o sôn am yr ymgynghoriad hwn. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn yr oedd y rhanddeiliaid yn ei ddweud. Ymestynnais yr ymgynghoriad hyd at ddiwedd mis Medi. Rydym wedi cael 15,000 o ymatebion, a byddwn yn dweud bod oddeutu 1,000 ohonynt yn annibynnol a bod 14,000 ohonynt yn ymgyrchwyr ac ati, mae’n debyg. Unwaith eto, bydd yn rhaid edrych yn ofalus iawn ar yr ymatebion hynny. Mae angen inni fod mewn sefyllfa i allu cyhoeddi deddfwriaeth yn gyflym iawn, o bosibl. Dyna’r broblem, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y rhanddeiliaid wedi bod yn dda iawn o ran cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Credaf eu bod wedi cymryd rhan am eu bod yn bryderus, i fod yn onest, eich bod yn awgrymu cymaint o newidiadau mewn cyfnod mor fyr. Nid yw hyn yn feirniadaeth o rai o’r syniadau unigol yn rhai o’r ymgynghoriadau hyn; mae’n ymwneud â’r ffordd y mae eich Llywodraeth yn ymgymryd ag ymgynghori bellach—ffrwd gyson o gynlluniau newydd heb unrhyw arwydd o gyflawni’r rhai blaenorol. Felly, gadewch i ni edrych ar un yr ydych newydd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. O’r diwedd, fe gyhoeddoch chi’r nodyn cyngor technegol 20 newydd, sy’n ymwneud â chynllunio a’r iaith Gymraeg. Cymerodd hynny flwyddyn a hanner. Felly, tybed pa mor hir y bydd 56 o ymgynghoriadau gyda 15,000 o ymatebion yn ei gymryd. Ond fe gawsom nodyn cyngor technegol 20 yr wythnos diwethaf. Yn nodyn cyngor technegol 20, dywedwch eich bod yn awyddus i gael system a arweinir gan gynlluniau datblygu lleol, a dywed nodyn cyngor technegol 20 yn ei dro mai’r ffordd orau o asesu effeithiau cronnol posibl datblygiadau ar yr iaith Gymraeg ar draws ardal y cynllun datblygu lleol yw ystyried y defnydd o’r iaith Gymraeg wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol ei hun. Felly, rydych eisiau system a arweinir gan y cynllun datblygu lleol a dywedwch mai’r ffordd orau o ystyried yr iaith Gymraeg a’r effaith ar yr iaith Gymraeg yw wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol. Os felly, pam nad yw ystyried yr iaith Gymraeg yn rhan orfodol o baratoi ac adolygu’r cynllun datblygu lleol yn ei gyfanrwydd, ac yn un o’r gwahanol asesiadau?

Rwy’n credu ei bod yn siomedig ein bod yn cael ein beirniadu am ymgynghori. Yn sicr, nid dyna y mae’r rhanddeiliaid yn ei ddweud. Rwy’n derbyn eu bod wedi cael llawer iawn o waith i’w wneud dros yr haf a dyna pam yr ymestynnais y cyfnod ymgynghori, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymgynghori. Rwy’n credu y byddem yn cael ein beirniadu pe na baem yn gwneud hynny, felly mae arnaf ofn, ar y sail na allwch blesio pawb drwy’r amser, fy mod yn fwy na pharod i ymgynghori. Rwyf hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet sy’n mynnu cymaint â phosibl ein bod yn cael yr amser llawn ar gyfer ymgynghori; credaf fod 12 wythnos yn wirioneddol bwysig.

Mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20, rydych yn llygad eich lle. Cyhoeddais nodyn cyngor technegol 20 wedi ei ddiweddaru yr wythnos diwethaf i ddarparu eglurder i awdurdodau cynllunio, datblygwyr a chymunedau lleol ynglŷn â sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu’r iaith Gymraeg. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr iaith fel rhan o werthusiad cynaliadwyedd cynlluniau datblygu lleol, a chredaf y bydd nodyn cyngor technegol 20 yn eu cynorthwyo gyda’r dasg honno.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt rywfaint o berthnasedd o hyd ym mhroses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau?

Ni fyddwn byth yn ymddwyn felly gyda Phlaid Cymru, David Melding. O ran y dreth ar blastig, cawsom ddadl dda iawn ddoe ynglŷn â’r economi gylchol. Crybwyllais sawl pwynt ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb estynedig o gyfrifoldeb cynhyrchwyr sydd ar y gweill gennyf. Siaradodd sawl Aelod am gynllun dychwelyd blaendal, ac yn amlwg, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 3 Hydref rwy’n credu, y posibilrwydd, o bedair o’r trethi, y gallai treth ar blastig fod yn un ohonynt. Byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda swyddogion a chydag Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy’n ffyddiog y byddwch yn cynnal asesiad llawn, oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi dweud bod angen i gynllun dychwelyd blaendal asesu goblygiadau hynny i filiau’r cartref o ddydd i ddydd, ac a allwch roi sicrwydd inni, mewn unrhyw dreth newydd y gallech fod yn ei hystyried, unwaith eto, y byddai’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar filiau’r cartref yn cael ei hystyried yn llawn?

Gallaf, yn sicr. Soniais ddoe fy mod yn un o blant y 1960au ac rwy’n cofio cynlluniau dychwelyd blaendal, ond credaf fod pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny, ac yng Nghymru, rydym yn ailgylchu 75 y cant o’n poteli plastig. Mae ein gwasanaethau ailgylchu ar garreg y drws yn rhagorol, felly mae’n rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw effeithiau neu ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas â chael cynllun dychwelyd blaendal. Ond yn sicr, mae’n rhaid i’r gost i’r cartref fod yn rhan o’r dadansoddiad ynglŷn ag a ddylem fwrw ymlaen â hyn.

Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un y byddai’r meinciau Torïaidd hyn yn fwy na pharod i’w gefnogi, os gallwch ddod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny, sef gwahardd rhai o’r deunyddiau hyn. Dyna y maent yn ei wneud yn yr Unol Daleithiau bellach. Felly, os gallant hwy ei wneud heb ei ystyried yn ymosodiad ofnadwy ar y farchnad rydd, efallai y dylem ninnau ei wneud hefyd. Mae’n llawer symlach i’r cyhoedd ei ddeall hefyd.

Rwyf o blaid polisïau radical, felly rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth a fydd yn ein helpu i leihau sbwriel plastig, yn enwedig. Cafwyd ymgyrch yn ddiweddar ynghylch sbwriel plastig yn ein cefnforoedd, a chredaf fod hynny’n hollol ofnadwy, felly unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu—. Felly, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw bolisi radical, ac os hoffai’r Aelod gyfarfod â mi i’w drafod ymhellach, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu cynhadledd NFU Cymru mewn pythefnos, ac rwy’n siŵr y bydd wedi gweld y datganiad i’r wasg ymlaen llaw gan John Mercer, cyfarwyddwr NFU Cymru, lle y mae’n dweud hyn:

Cred yr Undeb yn gryf y gallwn sicrhau bod Brexit yn llwyddiant os canolbwyntiwn gyda’n gilydd ar gynorthwyo ein diwydiant i oresgyn yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu â bwyd diogel, safonol a fforddiadwy.

Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod gan ffermwyr Cymru syniad cadarn o beth fydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amaethyddiaeth wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly, mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau fframwaith beth bynnag, cyn gynted â phosibl, a’i bod yn eu cyhoeddi. Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru, fel y dywed John Mercer. A all Ysgrifennydd Cabinet roi syniad cadarn o’r amser y bydd yn ei gymryd iddi ddatblygu o leiaf polisi fframwaith amaethyddol y gall ei gyhoeddi?

Diolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn. Yn sicr, byddaf yn mynychu cynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Credaf ei bod yn gynnar ym mis Tachwedd neu ddiwedd mis Tachwedd—

Dyna ni. Felly, rwy’n edrych ymlaen at hynny’n fawr iawn. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi gweld y datganiad i’r wasg y cyfeiriwch ato, ond yn sicr, rwy’n ymgysylltu’n aml ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwy’n ymwybodol iawn o’u safbwyntiau ar gyfleoedd yn ogystal â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae fy swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â fframweithiau, deddfwriaeth bosibl yn ogystal â thrafodaethau gyda’u swyddogion cyfatebol. Felly, gwn fod yr holl uwch swyddogion o’r pedair gwlad wedi cyfarfod yma yng Nghaerdydd ddydd Mercher diwethaf. Fe fyddwch yn gwybod am yr ymgysylltiad gweinidogol rwy’n ei gael. Bellach, mae gennym ddyddiad arall ar gyfer ein cyfarfodydd misol—yn anffodus, ni chawsom un ym mis Hydref—gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond byddwn yn cyfarfod eto, yn Llundain unwaith eto yn anffodus, ar 6 Tachwedd. Ond mae’n bwysig iawn fod y trafodaethau hynny’n parhau.

O ran amserlen, buaswn yn dychmygu y gallwn ddechrau cyhoeddi hynny’n gynnar y flwyddyn nesaf, ond unwaith eto, mae llawer iawn o waith manwl yn cael ei wneud am gyfnod.

Rwy’n deall hynny’n llwyr. Nid oes unrhyw un yn bychanu maint enfawr y prosiect hwn, ond mae’n hanfodol bwysig i ni a Llywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ym Mrwsel ar hyn o bryd hefyd, oherwydd, os ydym am gael y fargen orau sydd ar gael gan yr UE, mae angen iddynt wybod ein bod yn hollol barod am ddim bargen. Ac felly, yn fy marn i, bydd po fwyaf y gallwn ei gyhoeddi ymlaen llaw yn ein helpu i sicrhau bargen resymol gan yr UE os ydynt yn synhwyrol yn ei gylch.

Sail sylfaenol y drefn bresennol yw cynllun y taliad sylfaenol, a pholisi UKIP yw parhau ag amrywiad o hwnnw, ond gyda chap o £120,000 ar y taliadau, er mwyn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu o blaid ffermwyr a busnesau amaethyddol mwy o faint a rhoi mwy o gefnogaeth i fentrau llai. Credwn hefyd y dylid rhoi codiad o 25 y cant i ffermydd organig. O gofio bod natur amaethyddiaeth yng Nghymru yn wahanol iawn i Loegr—nid oes gennym beithdiroedd helaeth fel Swydd Lincoln ac yn y blaen—ni ddylai fod yn anodd i Lywodraeth Cymru ddod i gasgliadau gweddol debyg. Felly, tybed a all roi unrhyw syniad inni ynglŷn â sail polisi amaethyddol yn y dyfodol, o leiaf.

Credaf i chi godi pwynt pwysig iawn ar ddechrau’ch cyfraniad ynglŷn â sicrhau y ceir y wybodaeth orau bosibl. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhannu gwybodaeth hefyd, ac yn sicr, rwy’n fwy na pharod i rannu gwybodaeth gyda gweinidogion cyfatebol. Credaf ein bod yn dechrau gweld mwy o hynny.

O ran bod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’, wel, nid wyf yn gwybod sut y gallwch fod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’. Mewn gwirionedd, nid wyf yn deall sut y gallwch gael ‘dim bargen’, oherwydd mae gadael yr UE, yn fy marn i, fel ysgariad. Nawr, ni allwch gael ‘dim bargen’ gydag ysgariad. Mae’n rhaid ichi gael bargen o ryw fath; mae’n rhaid ichi gael bargen. Felly, mae’r holl sôn am ddim bargen—rwyf mewn penbleth llwyr ynglŷn â sut y gallwch gael ‘dim bargen’. Credaf yn bendant y dylai fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y DU eu bod yn sicrhau’r fargen orau bosibl, ac rydym yn pwyso am hynny ar gyfer pobl Cymru.

O ran eich cynigion, unwaith eto, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar beth yw cynigion UKIP ar gyfer ffermio yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Wel, yn amlwg, mae pob un ohonom yn awyddus i gael bargen os oes un ar gael, ond mae dwy ochr i hyn, ac os nad yw’r UE yn barod i daro bargen, ac os nad ydynt yn barod i barhau i siarad, hyd nes ein bod yn talu’r pridwerth, dyna sut beth fydd ‘dim bargen’. Nid hynny oedd diben fy nghwestiwn heddiw. Y bwriad oedd edrych ar ddyfodol ffermio a physgota yng Nghymru.

Yn dilyn cwestiwn Michelle Brown yn gynharach, yr hyn yr hoffai UKIP ei weld er mwyn adfer bywyd i’n cymunedau pysgota a chymunedau ein harfordir yw parth economaidd cyfyngedig o amgylch y Deyrnas Unedig, ac yn amlwg, yn nyfroedd Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn atal pysgotwyr Ewropeaidd rhag cael mynediad cyfartal i’r dyfroedd hyn, cael parthau lle na chaniateir pysgota i gynorthwyo’r broses o silio ac ailgyflenwi stociau pysgod—efallai y gallai llongau pysgota tramor gael mynediad i’n dyfroedd, ond gyda thrwyddedau—a sicrhau bod yr holl bysgod sy’n cael eu dal yn nyfroedd y DU, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dal gan longau tramor sy’n gweithredu o dan drwydded, yn cael eu glanio a’u gwerthu yn y DU i helpu i ariannu a denu buddsoddiad mewn diwydiant pysgota sy’n datblygu o’r newydd.

Felly, gobeithiaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y ddadl hon mewn ffordd amhleidiol. Credaf fod lle i wneud hynny gyda phob plaid yn y Cynulliad hwn.

Oes, yn sicr. Rwyf newydd ddweud wrth David Melding fy mod yn fwy na pharod i edrych ar syniadau unrhyw un, wrth gwrs, ac yn sicr, rwy’n awyddus i gael polisi pysgota a physgodfeydd cadarnhaol iawn. O siarad â’r diwydiant pysgota—ac rydym newydd ddechrau paratoi ein trafodaethau yn awr cyn y cyngor pysgodfeydd ym mis Rhagfyr—rwy’n credu eu bod yn teimlo bod yr UE wedi gwneud tro gwael â hwy. Nid oes amheuaeth am hynny, yn sicr wrth siarad â diwydiant pysgota Cymru. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cael y polisi pysgodfeydd yn gywir. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw syniadau yr hoffech eu cyflwyno.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion pellach am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu ar flaenoriaethau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig? (OAQ51185)

Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu cynllun morol cenedlaethol i Gymru. Mae yna swyddogaeth statudol sy’n rhaid inni ei chyflawni, a byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn ceisio barn y grŵp hwn ynglŷn â chynllun rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Yn ôl ym mis Awst, fel y gŵyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, o dan yr enw bachog, ‘Y Llanw’n troi?’, a bwysleisiai cymaint y dylem ymfalchïo yn ein hamgylchedd morol ac arfordirol yng Nghymru, a photensial ardaloedd morol gwarchodedig i helpu i gefnogi moroedd iach, pysgodfeydd cynaliadwy a llawer mwy.

Soniai argymhelliad 1 am y brys i ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Soniai argymhelliad 3 am yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd dryloyw ac effeithlon, gan sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu’n llawn â’r broses o ddatblygu strategaeth yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gadarnhaol i’r argymhellion, fodd bynnag, yn hytrach nag ymrwymo i ddatblygu strategaeth ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, yn ôl argymhelliad y pwyllgor, ymrwymodd yn hytrach i gwblhau cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig, a chytuno drwy hynny ar gyfeiriad strategol drwy weithio gyda grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig. Ond yn anffodus, nid yw rhanddeiliaid morol sy’n gweithio yn y sector preifat na chyrff anllywodraethol yn rhan o grŵp llywio’r ardaloedd morol gwarchodedig, sy’n gyfyngedig i awdurdodau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig megis Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Felly, a gaf fi ofyn, mewn ffordd adeiladol iawn, i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hyn eto—gwn y bydd yn awyddus i ddefnyddio holl arbenigedd y sector morol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu a’r strategaeth forol—a chyda chymorth ei swyddogion, i archwilio ffyrdd o sicrhau ymgysylltiad llawn â’r holl randdeiliaid cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae fy adran yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a grŵp llywio rheoli’r ardaloedd morol gwarchodedig i gwblhau’r cynllun gweithredu blaenoriaethau rheoli ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig. Ar ôl hynny, wrth gwrs, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid morol drwy’r grŵp cynghori a gweithredu ar faterion morol.

Ysgrifennydd y Cabinet, oni ddylid sicrhau er hynny fod yr ymgysylltiad hwnnw’n digwydd cyn i’r cynllun gael ei gwblhau? Mae adnoddau eich adran yn gyfyngedig; rydych yn wynebu gorfod gwneud rhagor o arbedion. Mae heriau eithriadol ynghlwm wrth yr ardaloedd morol gwarchodedig hyn; ni wyddom fawr ddim ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar waelod y môr, ac mae casglu gwybodaeth yn ddrud iawn. Pam na wnewch chi gynnwys y rhanddeiliaid yn gynharach yn y broses fel y gallwch ddefnyddio’u hadnoddau a’u harbenigedd i’ch cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun hwn?

Pan ddechreuwyd ar y broses o greu cynlluniau morol, aethom ati i gyhoeddi datganiad cyfranogiad y cyhoedd a nodai sut y gallai rhanddeiliaid gyfrannu at y cynllun o’r cychwyn cyntaf, ac yna wrth iddo ddatblygu. Felly, mae gennym yr ymgynghoriad hwnnw a’r cytundeb hwnnw gyda’r rhanddeiliaid; nid yw’n fater o beidio â’u cynnwys—fe wnaethom hynny. Mae gennym hefyd grŵp cyfeirio’r rhanddeiliaid ar gyfer y cynlluniau morol. Mae hwnnw’n cynnwys ystod eang o gyrff anllywodraethol, cynrychiolwyr diwydiant a fforymau arfordirol. Mae’n cynnwys Ystâd y Goron, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg, yn ogystal â Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu. Maent wedi bod yn cyfrannu drwy gydol y broses. Felly, credaf ei bod yn anghywir dweud na chawsant eu cynnwys; roeddent yno o’r cychwyn cyntaf.

Mynediad i Ddyfrffyrdd

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision sy'n dod i Gymru o ganlyniad i fynediad i ddyfrffyrdd? (OAQ51188)

Yn ychwanegol at ystyried adroddiadau a strategaethau ar gymryd rhan mewn twristiaeth gweithgareddau a hamdden, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn o ymgysylltu â’r cyhoedd. Daeth oddeutu 15,000 o ymatebion i law yn sgil yr ymgynghoriad diweddar ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae pob un yn dangos gwerth a photensial gweithgareddau hamdden dŵr fel pysgota a rhwyfo a pham fod angen datrys anghytundebau cyfredol.

Diolch. Ym mis Medi 2017, canfu diweddariad i’r adroddiad ‘The value to the Welsh economy of angling on inland fisheries in Wales’, a gynhyrchwyd gan Ymgyrch Mynediad Cynaliadwy Cymru, fod genweirio ar bysgodfeydd mewndirol o dan y trefniant presennol ar gyfer mynediad i afonydd Cymru yn cynnal oddeutu 1,500 o swyddi yng Nghymru a £45 miliwn mewn incwm aelwydydd bob blwyddyn. Mae deiliaid trwyddedau yn treulio 1.7 miliwn o ddyddiau yn pysgota ar bysgodfeydd mewndirol yng Nghymru, gan gynhyrchu £104 miliwn y flwyddyn, ac mae’n rhaid bod cyfraniad genweirio ar bysgodfeydd mewndirol i economi Cymru yn fwy na £125 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw, sut yr ymatebwch i’r pryder a fynegwyd gan Salmon and Trout Conservation Cymru na fyddai newid i fynediad dirwystr o dan yr estyniadau arfaethedig i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o fudd i gyfanrwydd ecolegol cynefinoedd o’r fath, a bod diogelu’r amgylchedd yn hollbwysig wrth ystyried cynyddu lefel y mynediad at adnoddau naturiol Cymru, yn enwedig yr ecosystemau bregus mewn afonydd a llynnoedd a gerllaw?

Credaf fod eich cwestiwn yn rhoi cyfle i mi ddweud ei bod hi’n bwysig sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn, ac yn sicr, dyna pam yr ydym wedi ymgynghori ar fater mor bwysig. Rydych yn llygad eich lle, mae twristiaeth pysgota, o ran ymweliadau domestig ac ymweliadau undydd â Chymru, yn bwysig iawn. Credaf ei fod oddeutu £38 miliwn yn 2015. Fe gyfeirioch at adroddiad yn 2017, ond gwn ei fod oddeutu £38 miliwn y flwyddyn yn 2015. Credaf ei fod hefyd yn dangos pwysigrwydd datblygu fframwaith fel y gallwn hwyluso cyfleoedd mynediad cyfrifol yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr ynglŷn â’r mater hwn yn benodol, ac fel y dywedoch, rwy’n credu bod angen i’r ddau grŵp ddod at ei gilydd i’w ddatrys. Nawr, rydych newydd sôn am dwristiaeth pysgota, ond mae llawer o’n dinasyddion yn mwynhau pysgota fel gweithgaredd hamdden mewn gwirionedd, ac felly’n mwynhau’r gweithgareddau y maent yn eu gwneud, nid fel gweithgareddau twristaidd, ond fel rhan o’u hamser hamdden. A ydych yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o ddatrys hyn, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod y sefydliadau’n dod at ei gilydd ac yn dod i gytundeb o’u gwirfodd, yn hytrach na chael rhywbeth wedi’i orfodi arnynt?

Ydw, rwy’n cytuno, ond rwy’n credu—. Wyddoch chi, pan oeddwn ar y meinciau cefn, roedd hwn yn bwnc dadleuol iawn, a chredaf fod yr ymgynghoriad wedi dangos y gall fod yn hynod gynhennus ac yn hynod begynol, felly mae’n ymwneud â dod o hyd i ateb. Rydym yn awyddus i weld hynny gan ei fod yn hanfodol i’n twristiaeth. Felly, ar ôl dadansoddi’r ymgynghoriadau a phan fyddwn yn cyflwyno atebion, gobeithiaf y gallwn ymgysylltu â’r holl randdeiliaid i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd orau bosibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn y sylwadau a wnaed yn gynharach, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r perygl o wrthdaro y gallai mynediad dirwystr i ddyfrffyrdd Cymru ei greu rhwng pobl sy’n eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol, yn enwedig pysgotwyr a chanŵ-wyr. Buaswn yn dweud bod David Rees yn llygad ei le mai’r ffordd orau ymlaen fyddai cael rhywfaint o ymgynghori rhwng y ddau grŵp hyn. Yn anffodus, yn ôl yr adborth a gaf gan y cymdeithasau genweirio, nid yw’n ymddangos bod y canŵ-wyr yn awyddus i siarad.

Mae nifer o gymdeithasau pysgota wedi cysylltu â mi, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gydag Isca a Gelli Gandryll, un ar afon Wysg a’r llall ar afon Gwy. Mynegwyd cryn bryder ganddynt ynglŷn â gweithgaredd canŵio ar yr afonydd gan nad yw’n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd. Un ffactor pwysig a nodwyd oedd nad oes unrhyw ddull adnabod ar ganŵod, felly ni ellir adnabod unrhyw ganŵiwr sy’n cyflawni troseddau neu’n peri niwsans. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i wneud cofrestru, a thrwy hynny, ddulliau adnabod, yn ofyniad gorfodol? A oes unrhyw gynlluniau i godi ffi ar ganŵ-wyr am fynediad i’n dyfrffyrdd, fel sy’n rhaid i enweirwyr ei thalu, wrth gwrs, drwy drwyddedau pysgota a/neu ffioedd cymdeithasau?

Soniais yn fy ateb i David Rees fod hwn yn fater hynod gynhennus, ac mae’n fater cynhennus sydd wedi bodoli ers peth amser. Fodd bynnag, credaf mai dyma ein cyfle bellach i wneud hyn yn iawn. Buaswn yn sicr yn awyddus i ddod â’r holl grwpiau at ei gilydd. Nid wyf am ochri ag unrhyw grŵp, ond os gallwn hwyluso’r broses o ddod â’r grwpiau at ei gilydd, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Mewn perthynas â’ch cwestiynau polisi penodol ynghylch dulliau adnabod a ffioedd, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i ni ei ystyried wedi’r ymgynghoriad.

Tirweddau Dynodedig

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru? (OAQ51197)

Diolch. Mae’r adolygiad diweddar wedi rhoi cyfle i ailddatgan pa mor bwysig yw ein tirweddau dynodedig i Gymru. Byddaf yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen wedi i mi ystyried yr amrywiaeth eang o sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ‘Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy’.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar ymateb y Gynghrair dros Dirluniau Dynodedig Cymru i’r adolygiad. Mae’r gynghrair wedi galw am ailysgrifennu’r adroddiad i ddarparu olrheiniadwyedd o adroddiad Marsden, gan iddo gael ei gomisiynu, wrth gwrs—rwy’n edrych ar Dafydd; mae’n ddrwg gennyf, Dafydd—ar sail argymhellion yr adroddiad hwnnw.

Ni ddywedodd unrhyw beth, gallwch barhau. [Chwerthin.] Dim eto, dim eto. [Chwerthin.]

Maent hefyd—dyma a ddywedasant yn awr. Maent hefyd wedi galw am ailddatganiad clir o egwyddor Sandford. A wnewch chi ymrwymo i’r cynigion hyn heddiw?

Yn sicr, ni fyddaf yn gofyn i unrhyw un ailysgrifennu unrhyw adroddiad. Gwnaed penderfyniad gan grŵp, cyflwynwyd yr adroddiad ac rwyf wedi ei dderbyn. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas—nad oes ond angen iddo edrych, yn amlwg—am y gwaith a wnaeth gyda’r grŵp. Mewn perthynas ag egwyddor Sandford, rwy’n fwy na pharod i ddweud, unwaith eto: ni fyddaf yn cyflwyno unrhyw gynigion ar gyfer diwygio a fyddai’n peryglu harddwch naturiol a rhinweddau arbennig yr ardaloedd o harddwch cenedlaethol a pharciau cenedlaethol. Rwy’n credu bod llawer o greu helynt wedi digwydd, ac rwy’n fwy na pharod i gadarnhau hynny eto yn y Siambr.

Rhywogaethau Goresgynnol Estron

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broblem o rywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru? (OAQ51178)

Diolch. Mae rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio i’w lleihau drwy weithredu rheoliad rhywogaethau goresgynnol estron yr UE a thrwy gydweithio gyda’n partneriaid i hybu ymwybyddiaeth, rhannu arferion gorau a data, a gweithredu er mwyn rheoli neu ddileu’r rhywogaethau hyn.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O’r holl rywogaethau estron sydd gennym yn Abertawe, yr un sy’n achosi’r broblem fwyaf inni yw clymog Japan, sy’n oresgynnol iawn, yn anodd iawn ei dileu ac yn arwain at fethu gwerthu tai a difrod i ddraeniau, a gall danseilio sylfeini tai. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â defnydd o’r profion ysglyfaethwyr naturiol yn ogystal â gwell triniaeth gemegol i gael gwared ar y rhywogaeth hynod beryglus a goresgynnol hon?

Diolch. Roedd gennym ddull gwell o gyflwyno, ac mae hynny wedi arwain at gyfraddau goroesi gwell ymhlith y llyslau, sy’n ddatblygiad allweddol wrth fynd i’r afael â chlymog Japan. Cawsom ollyngiadau pellach yn gynharach eleni. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi canlyniadau’r treialon rheolaeth gemegol ar wahân, y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi eu cefnogi—treial dwy flynedd gan Brifysgol Abertawe. Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen eu hadroddiad.

A dweud y gwir, roeddwn am eich holi ychydig ymhellach ynglŷn â rheolaeth gemegol ar gyfer clymog Japan, ond rwyf newydd glywed eich ateb. A fu unrhyw ganfyddiadau cychwynnol y gallai Prifysgol Abertawe eu rhyddhau, neu unrhyw dreialon ychwanegol a allai fod wedi cael eu cynnal ar ganfyddiadau interim? Fel y gwyddoch, mae ein cynllun datblygu lleol yn golygu y bydd cryn dipyn o dir yn cael ei symud o ganlyniad i adeiladau newydd, a chredaf y byddai’n eithaf defnyddiol pe gallai datblygwyr gael syniad cynnar o unrhyw beth a all fod o gymorth, neu o ddim cymorth, efallai—mae’n dibynnu ar beth yn union ydyw—wrth iddynt benderfynu a ydynt yn mynd i ddatblygu darn penodol o dir.

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim. Gwn fod y data’n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau interim, nac unrhyw adroddiad bychan y maent wedi’i wneud, ond rwy’n sicr o holi ynglŷn â hynny. Os bydd, rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod. Ond gwyddoch fod y treial wedi archwilio gwahanol gyfuniadau o driniaethau chwynladdol a chamau mecanyddol. Roedd yn dreial trylwyr iawn, a gobeithiaf y gallwn ddod o hyd i’r dull rheoli mwyaf effeithiol.

Ydy, mae clymog Japan yn gur pen go iawn i ddeiliaid tai. Mae gennym hefyd rywogaethau goresgynnol ym myd yr anifeiliaid a all fod yn fygythiad gwirioneddol, megis y ferdysen reibus. Daethpwyd o hyd i’r rhywogaeth hon mewn dyfroedd ger Bae Caerdydd ac yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ym Mhort Talbot yn 2010. Nawr, mae’r sector bioddiogelwch wedi bod yn monitro’r sefyllfa ers hynny. Tybed a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn â lefel gyfredol y bygythiad y mae berdys rheibus yn ei achosi.

Nag oes, mae arnaf ofn, a bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod.

Tlodi Tanwydd y Gaeaf

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael i amddiffyn yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn? (OAQ51209)

Diolch. Mae cymorth ar gael drwy Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ein cynlluniau Nyth ac Arbed. Mae Nyth yn cynnig cyngor a chymorth diduedd rhad ac am ddim i gynorthwyo pobl i leihau biliau ynni yn y cartref, ac mae’n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ddi-dâl i aelwydydd cymwys er mwyn eu cynorthwyo i gadw’n gynnes am gost fwy fforddiadwy.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roeddwn yn falch o weld yn adroddiad blynyddol Nyth y bydd gosod pecyn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a ariennir gan y Llywodraeth yn arwain, ar gyfartaledd, at arbediad o £410 y flwyddyn ar fil ynni bob cartref. Dengys y ffigurau hyn yn glir fod y cynllun yn cyflawni’n well na’r disgwyl ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gartrefi tlawd o ran tanwydd. Hoffwn holi, fodd bynnag, ynglŷn ag ôl-osod preswyl, gan fod sicrhau bod cartrefi sy’n bodoli eisoes yng Nghymru yn defnyddio ynni’n effeithlon yn rhan allweddol o drechu tlodi tanwydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gynlluniau sydd gennych i gynyddu gweithgarwch Llywodraeth Cymru o ran ôl-osod preswyl?

Diolch. Rwy’n cydweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag ôl-osod. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddatgarboneiddio gyda dau arall o fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet, felly bydd hynny’n sbardun mawr i weithredu traws-Lywodraethol. Roeddwn am helpu i gyflwyno cynigion i gyflawni ein hymrwymiadau heriol o ran carbon hefyd. Felly, er y byddwn yn parhau i edrych ar raddfa ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni ein hunain, mae angen i ni edrych ar ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio. Ni ellir eu cyflawni drwy gyllid y Llywodraeth yn unig, felly rydym yn mynd i sicrhau bod gennym ddull llawer mwy cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth ac ar draws pob sector, mewn gwirionedd, i’n cynorthwyo i gyflawni mewn perthynas â’r agenda hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu’r cap ar brisiau ynni a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn ogystal â’r broses barhaus o gyflwyno mesuryddion deallus. Credaf fod gan fesuryddion deallus rôl enfawr i’w chwarae yn rhoi mwy o reolaeth i berchnogion tai dros faint o ynni y maent yn ei ddefnyddio, a’u hannog hefyd i newid darparwr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o amharodrwydd wedi bod ymysg rhai perchnogion tai i osod y mesuryddion deallus, ac roeddwn yn meddwl tybed pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i hybu’r broses o ddarparu mesuryddion deallus i bob cartref yng Nghymru.

Rwy’n credu eich bod yn iawn, mae yna ychydig o faterion yn codi mewn perthynas â mesuryddion deallus, rwy’n credu. O siarad â grŵp o ddefnyddwyr ynglŷn â pham na fuasent eisiau mesurydd deallus, roeddent yn dweud mai’r rheswm oedd, wyddoch chi, fod eu cymdogion wedi cael problemau ag ef ac yn y blaen. Felly, rwy’n credu bod angen gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar draws pob sector i annog pobl i osod mesuryddion deallus, ac rydym yn gweithio gyda’r cwmnïau cyfleustodau, er enghraifft, i wneud hynny.

Wrth benderfynu ar gynllun newydd i ddisodli’r cynllun Nyth, a allwch ddweud wrthym a fuasech yn barod i edrych ar reolau cymhwysedd mewn perthynas â gwneud cais am welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref? Rwy’n credu bod gan becyn cymorth ynni cyfatebol yr Alban feini prawf llai llym, ac mae ar gael i’r rhai sydd ar incwm isel ac sy’n feichiog, er enghraifft, neu i rai cartrefi â phlant. Yng Nghymru, mae rheolau cyfredol yn eithrio llawer o bobl sy’n wynebu tlodi o ran tanwydd, yn enwedig pobl ifanc, felly gyda’r cynllun newydd a fydd, o bosibl, yn cael ei roi ar waith, gobeithio, ar ôl i’r un cyfredol ddod i ben, tybed a fuasech yn ystyried newid y meini prawf hynny.

Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth y gallwn edrych arno. Rwy’n credu ein bod ar fin cychwyn ar y broses gaffael, felly’n amlwg mae hyn yn rhywbeth y gallwn edrych arno wrth inni gyflwyno’r cynllun newydd y flwyddyn nesaf.

Y Diwydiant Amaethyddol yng Ngorllewin Cymru

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru? (OAQ51180)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo’r diwydiant ffermio yn Sir Benfro a gorllewin Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy a chadarn, ac i ganolbwyntio mwy ar fusnes. Mae dros 1,400 o bobl yn Sir Benfro wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy am wella proffidioldeb, cystadleurwydd a pherfformiad amgylcheddol eu busnesau.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Nawr, yn gynharach yn y sesiwn hon, mewn ymateb i Simon Thomas, fe ymrwymoch i wneud penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn ac y byddwch, yn nes ymlaen heddiw, yn trafod y mater gyda’ch swyddogion. O ystyried yr effaith aruthrol y gallai cyflwyno parthau perygl nitradau ei chael ar ffermwyr yn fy etholaeth, a wnewch chi ymrwymo i ystyried edrych ar fesurau gwirfoddol cyn gosod parthau perygl nitradau, ac a allwch gadarnhau a ydych yn barod i drafod mesurau gwirfoddol gyda’ch swyddogion yn nes ymlaen y prynhawn yma ?

Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau parhaus gyda swyddogion dros y misoedd diwethaf—wel, yn ôl pob tebyg, dros y flwyddyn ddiwethaf—mewn perthynas â hyn, ac fel y dywedais, mae gennyf gyfarfod arall y prynhawn yma. Nid wyf yn diystyru unrhyw beth; cawsom nifer sylweddol o ymatebion, ac fe ddywedais yn fy ateb i Simon Thomas yn gynharach fod yna rai cynigion ac awgrymiadau da iawn ymhlith yr ymatebion hynny. Dyna pam ei bod yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl, rwy’n credu, i’w dadansoddi ac i edrych ar lefel y manylder sydd wedi’i gynnwys ar y ffurflenni. Ond rwy’n ymrwymo, ac rwyf wedi ymrwymo ers y dechrau, i wneud cyhoeddiad ar ddiwedd y flwyddyn.

Rwyf hefyd yn awyddus iawn i weithio gyda ffermwyr a chyda’u rhanddeiliaid a’r undebau ffermio er mwyn i ni allu datblygu atebion.

Pobl Ifanc yn y Diwydiant Ffermio

9. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i annog pobl ifanc i mewn i'r diwydiant ffermio? (OAQ51191)[W]

Diolch. Mae’r Llywodraeth hon yn cefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc i amaethyddiaeth drwy nifer o fesurau pwysig. Yn y setliad cyllidebol diweddar, neilltuwyd £6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc yr ydym yn y broses o’i ddatblygu ac sy’n ategu ein pecyn cymorth ehangach. Ac wrth gwrs rydym yn cyfarfod y prynhawn yma i’w drafod ymhellach.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen at drafod manylion y cytundeb rhyngom ni i sefydlu cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc o ryw £6 miliwn. Y tro diwethaf yr oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun o’r fath, roedd yna ryw £7 miliwn o arian yn y cynllun hwnnw, ac roedd e wedi helpu 520 o bobl ifanc i mewn i ddiwydiant amaeth. Efallai fod rhywun sy’n bresennol yn cofio’r cynllun hwnnw, Llywydd.

Wrth fynd ymlaen â’r cynllun yma, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n gyrru neges gref i ffermwyr ifanc ein bod ni’n moyn iddyn nhw fod yn rhan o lywio’r cynllun a’u bod nhw’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ystyried pa rôl y mae clybiau ffermwyr ifanc yn gallu ei chwarae yn hyn, wrth hysbysebu cynllun o’r fath, wrth rannu a dysgu, ac, wrth gwrs, wrth roi cefnogaeth a mentora uniongyrchol i ffermwyr ifanc?

Gwnaf, yn sicr; rwy’n siŵr fod y Llywydd yn cofio’r cynllun yn dda iawn. Rwy’n credu, wrth edrych yn ôl ar gemau blaenorol, fy mod yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael newydd-ddyfodiaid o hyn; nid pobl sy’n olynu, er enghraifft. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn ymgysylltu â—fe sonioch am glybiau ffermwyr ifanc. Rwy’n sicr yn hapus i wneud hynny, oherwydd rydym eisiau cael y bobl ifanc hyn cyn iddynt ddechrau ffermio fel busnes. Yn sicr, yr hyn sy’n mynd drwy fy meddwl ar hyn o bryd yw colegau addysg bellach ac addysg uwch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad â’r myfyrwyr ac yn cael eu barn. Ond fel rwy’n dweud, rwy’n siŵr y gallwn drafod hyn ymhellach pan fyddwn yn cyfarfod.

Roeddwn wrth fy modd yn eich clywed yn dweud ‘newydd-ddyfodiaid’ i’r cynlluniau ffermio yn awr, oherwydd credaf fod y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc yn gam i’w groesawu’n fawr ac rydym yn gefnogol iawn ohono. Fodd bynnag, mae gennyf nifer o bobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hynny yn fy etholaeth. Mae teuluoedd wedi newid, mae pobl yn gweithio’n hwy, ac mae dynameg teuluoedd yn wahanol iawn. Mae gennych bobl sydd wedi gadael ac sy’n dychwelyd wedyn ac yn cymryd meddiant ar fferm deuluol—un fach efallai, ond serch hynny maent yn dal i fod yno, yn dal i geisio ychwanegu bywyd i’n treftadaeth wledig.

Maent yn ei chael hi’n anodd iawn cael cymorth, oherwydd dylent fod yn gwybod y cyfan, oherwydd nid ydynt yn perthyn i’r categori ‘ifanc’. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ystyried, pan fyddwch yn edrych ar hyn, rhoi mwy o bwyslais ar ‘newydd-ddyfodiaid’, neu gadw llygad ar y ‘newydd-ddyfodiaid’, ac y gallech ystyried sefydlu rhyw fath o gynllun mentora. Wyddoch chi, rwyf wedi tynnu sylw pobl at sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, ond nid yw hynny yr un fath â chael rhywun a all eich helpu go iawn a mynd gyda chi drwy’r blynyddoedd cyntaf hanfodol hynny wrth i chi ddod i arfer, nid yn unig â’r modd yr ydych yn rhedeg y busnes, ond mewn gwirionedd, â’r gwaith papur, â’r cynlluniau amrywiol y gallwch berthyn iddynt—dyna’r pethau y mae pobl yn ei chael yn anodd iawn ymdopi â hwy.

Ie, rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt perthnasol iawn, ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, cyn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi bod yn edrych ar sut y gallwn annog mwy o bobl, a phobl ifanc a newydd-ddyfodiaid yn arbennig, oherwydd rwy’n credu, wrth edrych yn ôl ar y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid, tua 10 y cant yn unig oedd yn newydd-ddyfodiaid. Rwy’n credu bod y gweddill yn rhan o’r olyniaeth honno i mewn i fusnesau sy’n bodoli eisoes. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn ddenu newydd-ddyfodiaid. Crybwyllais fy mod yn meddwl am golegau addysg bellach a gweithio gyda myfyrwyr a cholegau addysg uwch. Rwy’n credu bod mentora’n bwysig iawn, felly os ydych yn meddwl am gynllun arall sydd gennym, y cynllun Mentro, lle’r ydym yn edrych ar bobl ifanc unwaith eto gyda phobl sydd efallai’n dymuno ymddeol, credaf fod hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lefel wahanol, ond mae’n ymwneud â chasglu’r holl ddarnau gorau a dod â’r cyfan at ei gilydd i ffurfio cynllun newydd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn.

Cymunedau yn Gyntaf

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i weithwyr Cymunedau yn Gyntaf? (OAQ51205)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu i gynorthwyo cyrff cyflawni arweiniol Cymunedau yn Gyntaf gyda chynllunio a chynghori staff. Cafwyd trafodaethau parhaus gyda staff awdurdod lleol a staff ac undebau’r trydydd sector. Mae gan gyrff cyflawni arweiniol gynlluniau pontio ar waith i lywio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen yn ystod 2017-18.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n codi’r mater hwn fel Aelod Cynulliad sy’n gwasanaethu rhai o weithwyr y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac fel undebwr llafur—gyda’r ddwy het. Rwy’n siŵr y byddwch yn deall y dylai’r gweithlu gael y gefnogaeth a’r ystyriaeth y maent yn eu haeddu. Fe ddywedoch ei fod yn mynd drwy gyfnod pontio ar hyn o bryd, ac mae hynny’n amlwg yn digwydd yn Sir y Fflint, fel mewn mannau eraill yn y wlad. Mae llawer o’r staff yn Sir y Fflint wedi gweithio ar y prosiectau Cymunedau yn Gyntaf hyn ers iddynt gael eu sefydlu yn 2002, gan wasanaethu ar draws ein cymunedau ar nifer amrywiol o brosiectau sy’n galluogi pobl i fod yn barod am waith, ac i’w cynorthwyo i ddod o hyd i waith. Ar ôl cyfarfod â’r tîm Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint, gwn eu bod yn parhau i weithio’n galed, fel y byddwch chi’n ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, a’u bod o dan lawer o bwysau i sicrhau cyfnod pontio llyfn i bob gweithiwr. Rwy’n credu eu bod yn awyddus yn awr i ganolbwyntio symud ymlaen. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y prosiectau Cymunedau yn Gyntaf a gefnogir gan y gronfa dreftadaeth yn darparu cyfleoedd newydd i weithwyr presennol, ac y bydd llesiant y gweithlu ymroddedig a’u teuluoedd yn cael blaenoriaeth yn ystod y cyfnod pontio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai cefnogi ein gweithwyr Cymunedau yn Gyntaf a darparu sicrwydd ar gyfer eu dyfodol fod yn flaenoriaeth drwy’r cyfnod pontio hwn, a pha neges o sicrwydd y gallwch ei rhoi iddynt heddiw?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll hyn, ac mae llawer o Aelodau eraill hefyd wedi gwneud hynny. Diolch i chi am hynny. Rwy’n cytuno mai un o’r blaenoriaethau yw sicrhau bod staff Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu cefnogi drwy’r cyfnod pontio hwn, ac mae’n flaenoriaeth bwysig. Rwy’n ymwybodol fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyflawni arweiniol i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, gan gynnwys cysylltu â chynrychiolwyr undeb yn ôl yr angen. Gwn y bydd llawer o’r staff Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint a ledled Cymru eisiau parhau i weithio i gefnogi ein cymunedau mewn rhaglenni pwysig eraill, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt gyda hynny hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cymaint o ddryswch erbyn hyn ynglŷn â dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn ein cymunedau fel bod nifer o swyddi gwag parhaol yn dal i gael eu hysbysebu ar-lein. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar brosesau recriwtio pellach ar gyfer cynllun yr ydych, yn dechnegol, yn ei ddirwyn i ben?

Wel, mae’n ymddangos mai’r unig berson sydd wedi drysu yma yw chi. Mae’r cyrff cyflawni arweiniol mewn cysylltiad rheolaidd ac yn cael eu hannog i siarad â fy swyddogion. Os oes unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â’r cyfnod pontio neu faterion staffio cysylltiedig, maent yn fwy na hapus i siarad â fy nhîm yn y broses honno, ond mae’r Aelod wedi cael ei chamarwain o ran ei safbwyntiau heddiw.

Effaith Diwygiadau Lles ar Dde-ddwyrain Cymru

2. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar dde-ddwyrain Cymru? (OAQ51201)

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod ac yn bryderus iawn am yr effaith ddinistriol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig teuluoedd â phlant. Amcangyfrifir bod y colledion blynyddol cyfartalog oddeutu £600 y cartref yn yr is-ranbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli, o’i gymharu â £300 y cartref yn yr is-ranbarthau yr effeithiwyd arnynt leiaf yng Nghymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach eleni, mewn ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, darganfuwyd bod ôl-ddyledion rhent cyfartalog tenantiaid sy’n hawlio credyd cynhwysol yn £449.97. Bydd y cyfnod aros o chwe wythnos am y taliadau cyntaf yn golygu y bydd taliad cyntaf credyd cynhwysol ar gyfer pobl yng Nghasnewydd ar 27 o Ragfyr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, annog Llywodraeth y DU i ailystyried y cyfnod aros o chwe wythnos ar gyfer y polisi diffygiol hwn, a fydd yn gwthio mwy byth o bobl i mewn i dlodi a dyled, yn ogystal â chefnogi galwadau’r sector tai i fynd ati ar unwaith i gyflwyno’r porth landlordiaid a’r statws partner dibynadwy sy’n fawr eu hangen, fel bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn cael eu trin yr un fath â’r rhai yn Lloegr?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am godi’r mater hwnnw gyda mi heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt roi stop ar gyflwyno’r credyd cynhwysol. Nid oedd egwyddor y rhaglen credyd cynhwysol yn anghywir, ond nid yw’n gweithio’n iawn ac mae pobl yn cael eu heffeithio a’u trawmateiddio yn y ffordd y maent yn byw eu bywydau. Yn wir, mae aros am chwe wythnos—. Darllenais erthygl heddiw am berson ifanc iawn yn Wirral yng Nglannau Mersi a oedd yn gorfod aros am chwe wythnos ac a oedd yn hunanladdol ac yn byw ar ddŵr dros y cyfnod hwnnw o amser. Nid yw’n iawn, mae angen ei stopio ac mae angen ei ailasesu yn awr.

Mae’r gyfradd ddiweithdra yn ne-ddwyrain Cymru wedi gostwng i 3.5 y cant eleni; mae’r gyfradd gyflogaeth yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin wedi codi o 70.2 y cant i 72.5 y cant. O gofio bod diwygiadau lles y Llywodraeth yn San Steffan wedi’u cynllunio o leiaf yn rhannol i helpu pobl i ddod o hyd i waith, a bod Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn dweud ei fod yn cefnogi egwyddor credyd cynhwysol, oni ddylai fod yn croesawu’r rhain ac yn gweithio gyda’r Llywodraeth i’w gweithredu?

Yn sicr nid wyf yn croesawu cyflwyno’r credyd cynhwysol fel y mae, ac rwyf wedi mynegi hynny mewn llythyr cryf at y Gweinidog yn San Steffan. Mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd a phlant ledled Cymru. Mae’n angen ei stopio yn awr a’i ailasesu o ran sut y dylid ei gyflwyno yn y dyfodol.

Mae’r Aelod dros Orllewin Casnewydd wedi crybwyll lefelau dyled bersonol a’r ffaith eu bod yn un o effeithiau go iawn y diwygiadau lles erchyll sy’n cael eu gorfodi arnom gan y wladwriaeth Brydeinig. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi dangos mai lefelau dyled bersonol yn ardal cod post Casnewydd oedd yr uchaf yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig, maent yn awr yn cyrraedd lefelau nas gwelwyd ers cyn y dirwasgiad. Rwy’n meddwl tybed pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu hystyried yng ngoleuni’r ymchwil newydd hwn i dargedu cymorth ariannol moesegol yn yr ardaloedd sydd â’r lefel uchaf o ddyled bersonol, a hefyd yr ardaloedd sy’n colli gwasanaethau ariannol gan y banciau traddodiadol, gan mai’r peth olaf yr ydym ei eisiau yw i’r bobl hyn sydd eisoes o dan warchae’r wladwriaeth i fod o dan warchae benthycwyr twyllodrus hefyd.

Ie, mae’r Aelod yn iawn i nodi’r pwynt hwn, ac rwyf wedi gweithio gyda Bethan Jenkins mewn perthynas â llythrennedd ariannol; mae’n bwynt pwysig iawn. Ond problem llawer o’r bobl hyn sy’n rhan o broses y credyd cynhwysol yw nad oes ganddynt unrhyw arian. Y broblem yw bod meddu ar gynilion neu rywbeth arall yn foethusrwydd. Mae’r rhaglen hon yn ddiffygiol. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod yn hyn o beth, ond mewn gwirionedd mae’n rhaid i ni, gyda’n gilydd, feddwl am sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae cyflwyno’r credyd cynhwysol yn ei chael ar gymunedau. Ac er ein bod wedi cael dwy ardal brawf yng Nghymru, roedd llawer o dystiolaeth y tu ôl i hynny’n sôn am yr effaith ddinistriol y mae’n ei chael ar y teuluoedd yn yr ardaloedd hynny. Nid ydym ond newydd ddechrau’r broses o gyflwyno’r rhaglen hon, ond mae’n ddiffygiol ac mae angen ei stopio.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Fel y byddwch yn gwybod, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r mis y buasai £10 biliwn yn ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu, er mwyn ysgogi adeiladu cartrefi newydd a chymell 135,000 yn fwy o bobl i fynd ar yr ysgol dai, gyda manylion y cynlluniau llawn i’w cynnwys yng nghyllideb y DU ar 22 Tachwedd. O ystyried bod Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi lansio ei fersiwn ei hun o’r rhaglen hon tua 18 mis ar ôl i’r DU wneud cyhoeddiad tebyg, gyda chyllid benthyciadau ailgylchadwy, sut y credwch y gallai Cymru gael ei heffeithio neu sut y gallai elwa ar hyn, a pha ymgysylltiad a gawsoch neu y byddwch yn ei gael gyda Llywodraeth y DU yn unol â hynny?

Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd o unrhyw gyllid ychwanegol yn dod i Gymru ar y pwynt penodol hwnnw.

Wel, rwy’n siomedig, yn amlwg, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd ar drywydd hynny, o ystyried nad arian bloc arferol yw hwn ond cyllid benthyciadau ailgylchadwy—os bydd yn cael ei gyllido ar yr un sail; wrth gwrs, nid ydym yn gwybod eto.

Gan symud ymlaen o dai i gymorth sy’n gysylltiedig â thai, wrth gwrs, ar ddiwedd y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £10 miliwn y flwyddyn, am ddwy flynedd, yn cael ei adfer i’r rhaglen Cefnogi Pobl. Wrth gwrs, cafodd ei groesawu’n fawr, a bydd £4 miliwn o hwnnw’n mynd drwy eich cyllideb adrannol chi. Croesawyd hyn gan y sector, ond roeddent yn galw am sicrwydd y byddai’r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer cymdeithasau tai a darparwyr y trydydd sector. Ai felly y bydd hi, neu pa sicrwydd y gallwch ei roi, gan weithio gyda hwy, y bydd yr arian hwn yn cyrraedd lle y mae angen iddo fynd?

Gallai’r Aelod fod wedi bod ychydig yn fwy hael yn ei sylwadau. Nid arian a gafodd ei roi’n ôl i mewn i’r system oedd hwn; roedd hwn yn arian ychwanegol. Mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd—£6 miliwn o hwnnw i’r grant cynnal refeniw a £4 miliwn i fy llinell wariant i. Ni allaf warantu sut y bydd hynny’n gweithio, oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda’r sector a sefydliadau i gael y gwerth gorau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â digartrefedd, ac rwyf eisoes mewn trafodaethau gydag asiantaethau ynglŷn â sut y bydd hynny’n edrych o ran y ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, roedd yn fater o adfer arian a gymerwyd o’r gyllideb ers 2013, a chafodd hynny ei groesawu, ond mae angen i ni wybod a fydd yn cael ei neilltuo oherwydd mae’n ymwneud â gweithio gyda phobl, er enghraifft, drwy’r Rhaglen Pobl a Lleoedd a ariennir gan y Loteri Fawr, sy’n gorfod cyllido prosiectau i fod yn rhai wedi’u harwain gan y bobl, ac yn seiliedig ar gryfderau a chefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd ganddynt eisoes. Unwaith eto, sut y byddwch yn sicrhau felly fod hyn yn cyd-fynd â’r mathau hynny o raglenni, ac yn galluogi pobl i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwelliannau yn eu bywydau eu hunain?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar y Llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau y tu allan i’r sector cyhoeddus yn y trydydd sector. Mae Llamau, Wallich a sefydliadau eraill yn awyddus iawn i ddeall sut y dylem ddefnyddio’r arian hwn yn y ffordd orau. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn, ond maent hwy, ac rwyf eisiau gweithio gyda hwy i sicrhau ein bod yn cyfeirio ein cyllid cyfyngedig i’r lleoedd cywir er mwyn helpu pobl mewn angen ar draws ein cymunedau.

Diolch, Llywydd. Heddiw, roeddwn eisiau tynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau mewn mannau cyhoeddus yn arbennig. Rydym wedi cael sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar sy’n ymwneud â defnyddwyr cyffuriau yn chwistrellu heroin, yn weddol agored, yn ardal Butetown yng Nghaerdydd. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at broblem gysylltiedig nodwyddau, a all fod yn berygl gwirioneddol i blant, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau hefyd. Mae hon yn broblem nad yw wedi ei chyfyngu i Gaerdydd yn unig; mae hefyd yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro mewn llawer o’n trefi yn y Cymoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych yn cydnabod bod hon yn broblem fawr, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu’r awdurdodau perthnasol i fynd i’r afael â hi?

Mae’r defnydd o gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau ar gynnydd, ond rydym yn gweld un o effeithiau diwygio lles yn cael effaith ar unigolion sy’n symud i mewn i’r gofod hwnnw. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl sy’n dioddef o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sylweddau yn fodau dynol hefyd. Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y gallwn eu cefnogi trwy wneud yn siŵr ein bod yn gallu gweithredu’n briodol i’w cynorthwyo i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’u rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at lwyddiant. Mae’n peri gofid i mi pan fyddaf yn gweld pobl yn ein cymunedau yn cymryd cyffuriau a’r cyfarpar arall a ddefnyddir i wneud eu hunain yn agored i risg. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu pawb yn ein cymunedau, ni waeth beth yw eu safle mewn bywyd neu ble y maent.

Ie, ac rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedwch. Mae’r rhain yn fodau dynol—nid oes neb yn gwadu hynny—ac mae angen i ni helpu’r bobl hyn cyn belled ag y gallwn i roi’r gorau i’w harferion. Ond o ran sut i ddelio â’r broblem fel mater o drefn gyhoeddus, efallai, beth yw eich barn ar stopio a chwilio a pha mor effeithiol ydyw i helpu i ddarparu amgylchedd trefol diogel?

Mae’r materion yn ymwneud â stopio a chwilio yn fater i Lywodraeth y DU a phlismona, ond mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod stopio a chwilio ynddo’i hun yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd angen cael eu cefnogi. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl, ynghyd â’n polisi ar gamddefnyddio sylweddau, wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddychwelyd i’r hyn a fuasai’n cael ei ystyried yn ffordd o fyw normal, beth bynnag y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae mynd â hwy oddi wrth y risg y maent yn ei chreu iddynt eu hunain ac eraill yn rhywbeth y dylem weithio arno’n ofalus.

Ie, a Cefnogi Pobl, wrth gwrs, rydym yn aros i glywed beth fydd y cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb sydd i ddod, felly rwy’n falch eich bod wedi crybwyll Cefnogi Pobl. Ond ar fater cysylltiedig ar thema cyffuriau, a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn ag ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i’r hyn a elwir yn fannau chwistrellu diogel, lle y gall defnyddwyr cyffuriau chwistrellu mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth feddygol, ac a oes gennych unrhyw syniadau eich hun ar y mater sy’n cynnig ffordd bosibl o gael gwared ar nodwyddau oddi ar y strydoedd?

Cafwyd rhai trafodaethau gydag awdurdodau, ond mae hwn yn fater i Weinidog gwahanol. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog priodol ysgrifennu at yr Aelod.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau’r cwestiynau canlynol? A wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig safle Rhosydd Baglan ar gyfer y carchar, pan oedd y safle, ar yr adeg y cafodd ei gynnig ym mis Mai 2016, wedi’i gategoreiddio fel parth perygl llifogydd C2 ac yn mynd yn erbyn nodyn cyngor technegol 15 eich canllawiau cynllunio eich hun? A allwch chi hefyd egluro a oedd y cyfamod ar y tir yn golygu na ellid ond ei ddefnyddio at ddibenion economaidd yn gydnaws â pharc diwydiannol?

Ni allaf roi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i hynny, gan fod llawer o gwestiynau, ond os bydd yr Aelod yn amyneddgar gyda mi—. Roedd y tir y mae’r Aelod yn sôn amdano yn rhan o restr hir o diroedd sydd ar gael i unrhyw ddatblygwr, boed o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder neu unrhyw weithrediad masnachol arall, ac nid yw’n anarferol i ni wneud hynny. A oes cyfamod ar y tir? Rwy’n credu bod cyfamod ar y tir.

Iawn. Nid wyf yn credu eich bod wedi ateb y cwestiwn cyntaf, ond gallaf ddod yn ôl ato eto. Rwyf eisiau ceisio ymchwilio ymhellach i hynny’n benodol. Pam na chafodd y categori perygl llifogydd ei ddiweddaru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru hyd nes fis Mawrth 2017? Dyna’r mis y daeth y newyddion am y safle—. Cafodd y dewis a ffafrid ar gyfer carchar newydd ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o gyfathrebiad drwy ein cynghorydd, Nigel Hunt, ni soniodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am y newid i’r categori perygl llifogydd hyd nes fis Chwefror, ychydig wythnosau cyn i’r safle gael ei ddewis yn gyhoeddus. Pam y digwyddodd hyn? A allwch gadarnhau pryd y dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthych chi, neu unrhyw un arall yn Llywodraeth Cymru, y buasai categori perygl llifogydd y tir yn newid, gan ei wneud yn ddewis posibl ar gyfer datblygiad mawr fel y carchar? Gan dybio y buasai wedi cymryd peth amser i lunio rhestr o safleoedd addas ar gyfer carchar o’r maint hwn, roedd hynny cyn i’r categori perygl llifogydd gael ei newid.

Nid oes gennyf y manylion ynglŷn â phryd y digwyddodd yr ohebiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru neu fel arall. Ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod y manylion hynny. Ond dylai’r Aelod fod yn ymwybodol hefyd, oherwydd bod y tir hwn wedi’i gynllunio gyda pherygl llifogydd, mae yna gyfleoedd i ddatblygwyr liniaru yn erbyn hynny. Felly, mae’r Aelod yn cyfeirio at y ffaith y gallai perygl llifogydd fod wedi’i osod ar y tir, ond mewn gwirionedd, gellir ystyried lliniaru gan unrhyw fusnesau mewn proses gynllunio arferol.

Y pwynt yw, fodd bynnag, ei fod wedi cael ei newid, fod hynny wedi ei wneud yn lleoliad posibl, felly, i’r carchar hwn allu cael ei adeiladu. Yn y gorffennol, nid oedd mor bosibl i ddiwydiannau geisio’r tir hwnnw, ac rwy’n ceisio deall pam oedd hynny a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, ac nid wyf yn clywed hynny gennych yma heddiw. O ran y cyfamod, a’r hyn rwy’n ei ddeall, fel chi, fel rydym wedi clywed, yw bod cyfamod ar waith, rwyf wedi cael cyngor cyfreithiol, sy’n dweud, ac rwy’n dyfynnu, ‘Gan dybio bod y cyfamod yn gyfreithiol ddilys, mae’n golygu bod y safle’n cael ei effeithio gan rwymedigaeth o blaid trydydd parti sy’n cyfyngu ei ddefnydd i barc diwydiannol yn unig. Yn yr amgylchiadau hynny, gallai adeiladu carchar ar y safle dorri’r cyfamod.’

Sut y bwriadwch oresgyn hyn, gan dybio y byddwch yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU a pharhau i gynnig y tir hwn ar gyfer y carchar? Y gwir amdani, wrth gwrs, yw ein bod yn deall y bydd pethau, o bosibl, yn newid mewn perthynas â llifogydd a chategoreiddio, ac mae’r cyfamod bellach yn sicrhau y dylai fod at ddefnydd diwydiannol. A wnewch chi, felly, ddweud wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ‘Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn cydweithio mewn perthynas â’r darn hwn o dir mwyach, ac ni fyddwn, felly, yn darparu Rhosydd Baglan fel safle carchar’?

Rwy’n siomedig iawn ynglŷn â thôn y cwestiwn gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, a llawer o Aelodau eraill, gan gynnwys Dai Rees, yr Aelod lleol—[Torri ar draws.] Pe bai’r Aelodau’n hoffi gwrando, buaswn yn fwy na hapus i ateb y cwestiwn. Y ffaith amdani yw bod hwn yn fater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni, fel bob amser, a chyda’n proses dir, yn cynnig tir sy’n briodol ar gyfer datblygu. Os ydynt yn dymuno edrych ar y cyfamod, neu drefniadau eraill mewn perthynas â’r tir, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hwnnw, nid i Lywodraeth Cymru.

Safon Ansawdd Tai Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyrraedd safon ansawdd tai Cymru? (OAQ51196)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae pob landlord cymdeithasol ar y trywydd cywir i gyrraedd y safon erbyn 2020. Mae’r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos, ar 31 Mawrth 2017, fod 192,302—86 y cant—o dai cymdeithasol bellach yn cyrraedd y safon, o gymharu â 79 y cant ar gyfer y flwyddyn gynt. Mae dros 15,000 o aelwydydd bellach yn byw mewn tai o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn flaenorol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ffigurau a ryddhawyd, fel y dywedoch, yn gynharach y mis hwn, yn dangos bod 86 y cant o’r holl dai cymdeithasol wedi bodloni safon ansawdd tai Cymru erbyn 31 Mawrth, sef cynnydd o saith pwynt canran, yn wahanol i Loegr lle y bu dadfuddsoddi. Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol, ac yn trawsnewid bywydau yn wir. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gallwn sicrhau bod y cynnydd hwn yn cael ei gynnal a’i wella ledled Cymru?

Llywydd, mae hon yn stori newyddion dda i ni gan fod ansawdd cartrefi mor bwysig i lesiant bobl. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni llawer o’n nodau eraill fel Llywodraeth, gan gynnwys gwella iechyd a llesiant y genedl. Mae gan fuddsoddi mewn gwella ac adeiladu cartrefi botensial enfawr i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn ardaloedd fel etholaeth Rhianon Passmore, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau’r gefnogaeth honno i sefydliadau sy’n datblygu safonau ansawdd tai.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ymwelais â’r tŷ Solcer ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o waith y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac roeddwn yn frwdfrydig iawn i weld y posibilrwydd o adeiladu cartrefi sydd erbyn hyn yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nawr, mae’r tŷ hwnnw’n costio tua dwywaith cymaint â thŷ wedi ei adeiladu yn y ffordd arferol, ond nid yw wedi cael ei wneud ar y raddfa gywir eto, ac rwy’n deall bod tai cymdeithasol yn cynnig cyfle i ddatblygu’r cynhyrchion hyn ar y raddfa gywir, ac maent yn ddeniadol ac yn effeithlon iawn ac yn cynnig manteision enfawr i bobl, yn enwedig rhai a allai fod mewn tlodi o ran tanwydd hefyd.

Rwy’n cytuno â’r Aelod—mae braidd yn anarferol, ond o ran y pwynt hwn, mae’n hollol gywir i wneud yn siŵr fod—. Mewn gwirionedd, mae hwn yn fuddsoddiad clyfar ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy ond mae’n fuddsoddiad ar gyfer biliau ynni is neu ddatgarboneiddio; mae’n ticio’r holl flychau hynny. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar y cynlluniau tai arloesol ac mae’n fater o wylio’r gofod hwn.

Rwy’n cefnogi’r amcan o uwchraddio tai cymdeithasol, yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond hoffwn ofyn pa ddadansoddiad a wnaethoch o’r gost i landlordiaid cymdeithasol o uwchraddio’r tai a’r tebygolrwydd y caiff y gost honno ei throsglwyddo i denantiaid yn y dyfodol drwy godiadau rhent?

Caiff hyn oll ei fesur yn y cynlluniau busnes ar gyfer cymdeithasau ac awdurdodau lleol. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau nad ydynt yn waeth eu byd. Ond mae’n ymwneud â sicrhau bod tai yn addas ar gyfer y dyfodol a bod llawer o aelwydydd ar draws ein holl etholaethau yn elwa ar y buddsoddiad hwn gan y Llywodraeth a chan y sector ei hun.

Adsefydlu Troseddwyr

4. Beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o adsefydlu troseddwyr yng Nghymru? (OAQ51179)

Er bod adsefydlu troseddwyr yng Nghymru yn fater i Lywodraeth y DU, rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Prawf a Charchardai Ei Mawrhydi, er enghraifft, drwy ein cefnogaeth i raglen ddargyfeirio’r cynllun braenaru ar gyfer menywod.

Diolch. Wel, o ystyried yr ymateb hwnnw, ac wrth gwrs, eich cyfrifoldebau ar y lefel ddatganoledig dros bolisi troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, sut yr ydych yn ymgysylltu neu sut y byddwch yn ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gyfiawnder yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ar ddechrau’r mis hwn ynglŷn â buddsoddiad o £64 miliwn mewn dalfeydd ieuenctid i wella staffio ac addysg ar gyfer pobl ifanc a thasglu cenedlaethol—h.y. tasglu cenedlaethol y DU, mae’n debyg—i helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith, a fydd yn targedu cyflogwyr er mwyn gwerthu manteision cyflogi cyn-droseddwyr, yn ogystal â chynghori llywodraethwyr ar hyfforddiant i’w roi i gyn-garcharorion i gynyddu eu cyfleoedd i ddod o hyd i waith?

Rwy’n credu bod yn rhaid inni beidio ag anghofio, mewn llawer o’r sefydliadau hyn, mae yna garcharorion o Gymru ac mae’n rhaid inni feddwl am eu hintegreiddio yn ôl i mewn i’n cymdeithas hefyd. Mae llawer o’r gwasanaethau sy’n ymwneud â charchardai yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli. Felly, mae iechyd, addysg, ac yn y blaen, yn wasanaethau sydd wedi’u datganoli ac rydym yn cael trafodaethau rheolaidd am gyfraniad y Llywodraeth o ran eu gallu i helpu i strwythuro ymagwedd newydd at y gwasanaethau prawf ac adsefydlu yn ein cymunedau.

Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn adsefydlu’r rhai sy’n gadael y carchar yn effeithiol mae’n bwysig iawn fod ganddynt do uwch eu pennau. Golygai Deddf Tai (Cymru) 2014 nad oedd pobl a oedd yn gadael y carchar bellach yn cael eu categoreiddio’n awtomatig fel rhai ag angen blaenoriaethol am dai. Cafwyd gwerthusiad ôl-weithredol o’r ddeddfwriaeth honno yn 2017, a oedd yn datgan bod pobl sy’n gadael y carchar ymhlith y grwpiau nad yw eu hanghenion tai yn cael eu bodloni. O ystyried y ffeithiau hynny, a wnewch chi roi ystyriaeth bellach yn awr i amddiffyn a chategoreiddio pobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas â digartrefedd ac anghenion tai?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater, ond creais weithgor i edrych ar bobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas ag atebion tai. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y grŵp a chanlyniadau hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adsefydlu a lleihau aildroseddu yn bethau y mae pawb ohonom am geisio eu cyflawni. Rwyf am roi un awgrym i chi yn awr: mae’n bosibl y bydd atal carchardai mawr yn helpu rywfaint yn hynny o beth mewn gwirionedd, ac felly mae’n bosibl y bydd atal yr un ym Maglan yn eich helpu rywfaint. Ond yn yr ystyr o sut y gallwn helpu i’w hadsefydlu, mae gwasanaethau cymorth yn hollbwysig a bydd y gwasanaethau cymorth yn defnyddio llawer iawn o adnoddau ein gwasanaethau. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau eu bod yn cyllido’r gwasanaethau hynny fel y gallwn sicrhau, pan fyddwn yn adsefydlu a phan fyddwn yn lleihau aildroseddu, y byddwn yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn ein helpu ni mewn gwirionedd ac nad ydym yn ei wneud ar eu traul?

Fel gyda phob ystâd garchardai ar draws Cymru, ceir cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran asesiad o anghenion a chostau gwasanaethau ychwanegol sy’n angenrheidiol. Gallaf sicrhau’r Aelod, heb ystyried os a phryd y bydd carchar yn ymddangos yn unrhyw le yng Nghymru, fod yna drafodaeth gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym y nifer gywir o wasanaethau a’r swm cywir o arian i ymdrin â’r materion sy’n gysylltiedig ag unrhyw garchar.

Cyn-filwyr

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru, yn dilyn ei drafodaethau gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog? (OAQ51192)

Diolch. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy’n diwallu anghenion mewn meysydd fel iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o’r rhain yw’r llwybr tai a’r gwaith y mae GIG Cymru y Cyn-filwyr yn ei wneud ar gyflwyno treialon ymchwil i leddfu problemau iechyd meddwl megis anhwylder straen wedi trawma.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno ein bod ni yng Nghymru yn falch o’n lluoedd arfog a’r gwaith y maent yn ei wneud ar ein rhan. Mae’n rhaid i ni gofio mai gwleidyddion a’u gyrrodd i faes y gad, felly dyletswydd gwleidyddion yw sicrhau eu bod yn cael gofal pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Hyd yn oed o ystyried yr holl ymyriadau y gwn fod Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud, ac maent i’w canmol am hynny, rydym yn dal i weld bod yna rai sy’n llithro drwy’r rhwyd ac yn dal i gysgu ar ein strydoedd. A oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â’r bobl hynny?

Yr hyn y ceisiwn ei sefydlu yma yw ateb cenedlaethol i’r problemau, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Rydym yn ceisio nodi pobl sy’n gadael y lluoedd arfog sydd eisiau cymorth a chynnig llwybr iddynt tuag at newid. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, o ran sut y maent yn ymdrin â chyn-filwyr—ac rwyf wedi dwyn hyn i sylw Gweinidogion ar sawl achlysur mewn perthynas â’u cyfrifoldebau moesol, pan fydd pobl yn mynd i ymladd, o ran sut y maent yn ymdrin â hwy ac yn eu cefnogi ar ôl iddynt ddychwelyd. Mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i’w wneud a byddaf yn gweithio gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog ar hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno mai un gwasanaeth cymorth lefel isel yw mudiad Siediau Cyn-filwyr, y sefydlwyd y gyntaf ohonynt, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, ac sydd bellach yn fodel sy’n cael ei gopïo mewn rhannau eraill o’r wlad, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU yn ogystal, ac mae hynny’n rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei gefnogi? Gwn fod eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, pan oedd hi’n gyfrifol am bortffolio’r lluoedd arfog, wedi ymweld â’r Sied Cyn-filwyr ym Mae Colwyn a bod yr hyn y maent yn ei gyflawni wedi creu argraff fawr arni. Ond pa adnoddau y gallai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod ar gael i gefnogi rhwydwaith Siediau Cyn-filwyr Cymru fel y gall wella bywydau cyn-filwyr eraill mewn rhannau eraill o Gymru lle nad ydynt ar gael ar hyn o bryd?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod ac yn diolch iddo am y gwaith y mae’n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog hefyd. Ni allaf ymrwymo i gyfraniad ariannol ar gyfer y grŵp hwn. Rwy’n cydnabod y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwy’n credu mai’r hyn yr ydym yn edrych arno fel corff Llywodraeth yw’r ymyriadau lefel uchel y gallwn eu cefnogi—mae’r ymyriad lefel is, ond ystyrlon, y mae’r Aelod yn sôn amdano yn un pwysig. Mae’n rhaid i ni weld pa lwybr at gyllid y gallant gael mynediad ato, ond nid wyf yn hollol siŵr ei fod ar lefel y Llywodraeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml, gall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd, er gwaethaf y cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy sydd ganddynt, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r sylw y mae’r mater hwn wedi’i gael yn y cyfryngau yn ddiweddar. Yn eich ateb i David Rowlands, fe gyfeirioch at gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn y maes hwn. Tybed a allech chi ymhelaethu ar hynny, os gwelwch yn dda.

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod, cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y symudwn o swydd yn y lluoedd arfog i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n gallu bod yn drawsnewidiad anodd iawn i rai. Rydym yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfa pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau. Yn wir, rwyf hefyd wedi cyfarfod ag un o gyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth yn etholaeth Dawn Bowden, a oedd wedi symud o fod yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog i fod yn aelod rhagorol o staff mewn cwmni contractio lleol. Mae yna bethau y gallwn eu dysgu yn y fan honno ynglŷn â’r mecanweithiau cymorth y gallai rhai pobl fod eu hangen yn ychwanegol at sgiliau gwaith a hyfforddiant a sut y dysgwn o brofiad. Mae’n rhywbeth y mae fy nhîm a grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn edrych arno ac yn rhoi cyngor i mi yn ei gylch yn rheolaidd.

Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ51199] yn ôl. Felly, cwestiwn 7, Lynne Neagle.

Technegau Rhianta Cadarnhaol

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i alluogi rhieni i ddatblygu technegau rhianta cadarnhaol? (OAQ51208)

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod dros Dorfaen. Mae rhianta cadarnhaol yn hanfodol i’n blaenoriaeth drawsbynciol i’r blynyddoedd cynnar yn ‘Ffyniant i Bawb’. Rydym yn cynorthwyo pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu ystod o gymorth rhianta sy’n cwmpasu gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i bawb. Mae grwpiau rhianta ac ymyrraeth gynnar ddwys wedi’i dargedu drwy Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu hymgyrch rhianta cadarnhaol newydd, Take 5, sy’n ceisio annog rhieni i oedi ac ymateb yn ddigynnwrf wrth wynebu sefyllfa rianta sy’n heriol. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu gyda rhieni yng Nghymru ac mae’n darparu cyngor sy’n hawdd ei gofio i’w helpu i beidio â chynhyrfu. Mae’n annog pobl i gymryd hoe—i oedi, i anadlu ac i ymateb yn ddigynnwrf wrth ymdrin â strancio, ymddygiad anodd neu sefyllfaoedd rhianta heriol eraill, megis amser bwyd a gwisgo—ac mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’r cyngor a’r rhaglenni rhianta cadarnhaol sydd eisoes ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ategu fy nghroeso i ymgyrch y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, sy’n ceisio rhoi hyder i rieni wneud penderfyniadau mwy gwybodus i’w galluogi i feithrin perthynas gadarnhaol ac iach gyda’u plentyn?

Gwnaf. Yn wir, cyfarfûm â’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a chefais sesiwn friffio ar yr ymgyrch y maent wedi’i lansio. Ac rydych yn llygad eich lle, mae’n ategu ymgyrch TrafodMaguPlant a lansiwyd gennym fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd yn rhagweithiol i gefnogi rhieni ar draws ein cymunedau, ac rwy’n ddiolchgar fod yr Aelod wedi crybwyll hyn heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn cytuno â mi fod datrys problemau sy’n ymwneud ag ymlyniad yn gwbl hanfodol i sicrhau y gall pobl ifanc neu blant ifanc dyfu i fyny i fod yn unigolion cyflawn. Yn y Cynulliad diwethaf, lluniodd y pwyllgor plant a phobl ifanc adroddiad cryf iawn ar gymorth mabwysiadu a chymorth ar ôl mabwysiadu. Mae llawer o blant sy’n cael eu mabwysiadu neu ar fin cael eu mabwysiadu yn dioddef o broblemau ymlyniad, ac eto, rydym yn dal i glywed gan fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd iawn cael mynediad at hyfforddiant i’w helpu i ddysgu sut i rianta plant sydd ag anhwylder ymlyniad difrifol. Os ydym eisiau i’r plant hyn gael lle parhaol mewn cartrefi sefydlog a chariadus, mae’n rhaid inni helpu’r rhai sydd eisiau estyn allan at y plant hynny. Pryd y bydd eich Llywodraeth—. Neu beth y gall eich Llywodraeth ei wneud i helpu’r rhieni hyn ac i ddarparu’r hyfforddiant y maent ei angen i wneud yn siŵr eu bod, nid yn unig yn gallu mabwysiadu’r plant hyn, ond, pan fyddant yn eu mabwysiadu, fod y mabwysiadau hynny’n gadarn ac nad ydynt yn methu, fel y gwelais yn rhy aml gydag etholwyr yn fy etholaeth i?

Rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda David Melding, sy’n cadeirio grŵp cynghori i edrych ar ba mor eithriadol o agored i niwed yw pobl ifanc sydd wedi cael eu rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu, ac rydym yn chwilio am gyngor ar beth arall y gallwn ei wneud i helpu gyda hyn. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud ag arian, gyda llaw. Mae hyn yn aml yn ymwneud â systemau cymorth—cyrff trydydd sector weithiau, neu gyrff sector cyhoeddus—yn gwneud yr hyn y maent yn ei ddweud ar y tun mewn gwirionedd, gan wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod bod y bobl ifanc hyn yn hynod agored i niwed a gwneud gwaith dilynol ar y broses honno hefyd. Nid yw’n ymwneud â lleoliad yn unig; mae’n ymwneud â lleoliad a chymorth, ac mae’n rhywbeth rwy’n ymwybodol iawn ohono.

Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 yng Nghymru? (OAQ51195)

Nid ydym yn casglu data penodol ar hysbysiadau adran 21. Fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno gofynion newydd o ran eu defnydd, ac mae’n rhaid i landlordiaid fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Yn ogystal, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn darparu amddiffyniad ychwanegol i ddeiliaid contractau ar ddefnydd o hysbysiadau landlordiaid.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y byddwch yn ymwybodol, gellir cyflwyno hysbysiadau adran 21—yr hyn a elwir yn hysbysiadau troi allan ‘dim bai’—ar unrhyw adeg yn erbyn tenant nad yw wedi cael ei ddiogelu gan gontract cyfnod penodol. Gellir cyflwyno’r hysbysiad heb roi unrhyw reswm na phrawf a gall roi terfyn sydyn ar denantiaethau ac aflonyddu’n fawr ar fywydau tenantiaid. Nid yw’n syndod fod y cynnydd yn y defnydd o hysbysiadau adran 21 yn peri pryder i Shelter a sefydliadau tai a digartrefedd eraill. Gan fod hon yn ddeddfwriaeth ers cyn datganoli sy’n parhau’n gymwys yng Nghymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fuasai’n ystyried adolygu gweithrediad adran 21 o Ddeddf Tai 1988, ac os bydd angen, yn datgymhwyso ei ddarpariaeth yng Nghymru er mwyn cael gwared ar yr annhegwch a darparu mwy o ddiogelwch i denantiaid o’r fath?

Roedd hyn yn destun trafodaeth hir wrth i ni arwain Deddf Tai (Cymru) 2014 drwy’r Cynulliad yn y tymor blaenorol. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wrth gadw’r gallu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis, yn cynnig mwy o amddiffyniad i ddeiliaid contractau drwy broses y Ddeddf ar gyfer troi allan er mwyn dial? Felly, mae yna ran o’r Ddeddf sy’n amddiffyn tenantiaid hefyd. Ond rwyf wedi clywed yr Aelod ac rwyf wedi clywed ei barn gref, a byddaf yn ystyried hynny ymhellach gyda fy nhîm.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â’r Aelod sydd newydd ofyn y cwestiwn fod angen edrych yn ofalus ar amddiffyn tenantiaid. Yn Lloegr, o ganlyniad i Ddeddf Dadreoleiddio 2015, ni all landlordiaid gyflwyno hysbysiadau adran 21 i breswylwyr os yw’r adeilad o safon wael ac os nad yw’n bodloni safonau deddfwriaethol. Ymddengys efallai fod hon yn ffordd briodol yn awr o reoleiddio’r maes hwn yng Nghymru hefyd.

Dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd, gyda’r ymgynghoriad ar y person cymwys a phriodol a’r ymgynghoriad llety cymwys a phriodol sydd ar y gweill gennym.

Tlodi Ymysg Plant

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymysg plant? (OAQ51207)[W]

Diolch. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi ein hamcanion ar gyfer trechu tlodi plant. Rydym wedi ymrwymo i ddull Llywodraeth gyfan o drechu tlodi plant ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi codi dros 500 y cant, gyda thraean o’r defnyddwyr yn blant. Mae 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi, ac mae yna 10 gwaith yn fwy o bobl yn derbyn sancsiynau ar hyn o bryd, â thystiolaeth bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn uniongyrchol gysylltiedig efo sancsiynau a materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol. A ydych chi’n cytuno bod angen trosglwyddo rheolaeth weinyddol dros fudd-daliadau o Loegr i Gymru? Rheolaeth weinyddol—nid y gallu i amrywio’r lefel na’r mathau o fudd-daliadau, ond y gallu i ddod â’r diwylliant o sancsiynau creulon i ben a’r gallu i greu cyfundrefn fwy trugarog a dynol yma yng Nghymru.

Nid wyf yn anghytuno’n llwyr â’r Aelod o ran dod â’r weinyddiaeth i Gymru. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri pryder i mi yw anallu Llywodraeth y DU i gynnal hynny gyda’r cyllid priodol y tu ôl iddo. Rwy’n credu y buaswn yn awyddus iawn i gael trafodaethau pellach. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwerau’n dod i’r Cynulliad heb gyllid i’w cefnogi. Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ac mae hi’n gywir i ddweud fy mod yn credu mai credyd cynhwysol yw un o’r pethau sy’n gwthio pobl i mewn i dlodi yn ein cymunedau.

Dylai pob un o gynghorwyr ein hawdurdodau lleol, wrth gwrs, ystyried cyfiawnder cymdeithasol wrth wneud unrhyw benderfyniadau, ond tybed a yw’n debygol y byddwch yn croesawu penodiad penodol yr hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yng Nghyngor Sir Fynwy. Dyma unigolyn sydd wedi cael y gwaith o sicrhau bod y cysyniad cyfan yn drawsbynciol drwy’r holl broses o wneud penderfyniadau. Fy hun, buaswn yn fwy na balch pe bai’n ystyried hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan o’i gwaith. Rwy’n meddwl tybed a ydych yn credu bod yr amser wedi dod yn awr i wneud yn siŵr fod erthygl 12 yn benodol, ond pob agwedd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn orfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol.

Wel, mae hwnnw, unwaith eto, yn destun trafodaeth hirsefydlog arall yn y Cynulliad hwn. Buaswn yn eithaf awyddus i drafod y mater ymhellach gyda’r Aelod ac eraill i wneud yn siŵr mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Yr hyn sy’n fy mhryderu am hyrwyddwyr mewn sefydliadau yw mai bathodyn neu deitl ydyw yn aml. A dweud y gwir, yr hyn rwy’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau bod yr hyrwyddwyr hynny’n troi eu dyletswydd yn gamau gweithredu. Rydym yn gweld hynny mewn sawl ffordd, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan bwynt yr Aelod ynglŷn â’r cyngor penodol y mae’n ei grybwyll, gyda hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol yn y sefydliad hwnnw. Rwy’n dymuno’n dda iddi.

Credyd Cynhwysol

10. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? (OAQ51186)

Rwy’n bryderus iawn am effaith ddinistriol y credyd cynhwysol ar y rhai sy’n aros am chwe wythnos neu fwy am eu taliadau cyntaf. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn galw arno i oedi cyn cyflwyno gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac mae’n dilyn ymlaen o ateb a roddodd i’r Aelod dros Arfon y prynhawn yma. Gwn y bydd yn cytuno’n llwyr fod credyd cynhwysol yn fwy na llanast gwleidyddol yn unig; mae’n greulon ac mae’n achosi caledi go iawn. Mae cost ffonio llinellau cymorth wedi cael sylw yn rheolaidd, fel y mae mater allweddol amlder taliadau. Nawr, nid wyf yn amau didwylledd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wrthwynebiad i ddiwygio lles yn fwy cyffredinol. Gwn ei fod yn gwirioneddol wrthwynebu’r drefn gosbi greulon yn ogystal, ond ni allaf ddeall yn fy myw, felly, pam na wnaiff gymryd cam arall ymlaen, o leiaf, ac edrych ar ddichonoldeb sefydlu cronfa cydsefyll cymdeithasol yng Nghymru a allai ddechrau cyllido mesurau lliniaru, ac ystyried model gweinyddu lles datganoledig ar yr un pryd—oherwydd gadewch i ni gofio, ni yw’r unig wlad ar yr ynysoedd hyn lle nad yw gweinyddu lles wedi’i ddatganoli—fel y gallwn wneud iddo weithio ar gyfer Cymru, ac yn hytrach na gorfod protestio wrthynt yn Llundain i newid eu ffyrdd, gallwn wneud rhywbeth mwy dynol dros ein dinasyddion yma.

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Rwy’n wirioneddol—. Pan fyddaf yn cael cwestiynau, mae’r Aelod yn codi’r mater hwn yn rheolaidd, ac mae hynny’n galonogol o ran ei ymrwymiad hefyd. Y ffaith amdani yw ein bod yn gwneud llawer o bethau sy’n lliniaru’r problemau a’r effeithiau sy’n digwydd o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan, ond fel y dywedais yn gynharach, mae gwneud yn siŵr fod gennym y cyllid i gefnogi gweinyddiaeth y broses hon yn bwysig. Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod cymryd cyfrifoldeb yn gredadwy, drwy ein bod yn gallu gweithredu’n gadarnhaol i gefnogi’r unigolion y mae hyn yn effeithio arnynt. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ac rydym yn dweud yn glir iawn nad yw’r broses credyd cynhwysol yn gweithio i bobl a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu’n beryglus.

Caethwasiaeth Fodern

11. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o raddfa a chwmpas chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ51200)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Heddiw yw Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth, ac mae digwyddiadau a gweithgareddau gwrth-gaethwasiaeth yn digwydd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o hyn. Drwy godi ymwybyddiaeth a gwella lefelau adrodd gellir dwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ac yn hollbwysig, gellir cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cod ymarfer ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth moesegol ymhlith busnesau sy’n cael cyllid cyhoeddus yn cynnig nodau clir ar gyfer sut y gall y sector preifat helpu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben. Nawr, mae busnesau fel y Co-operative Group yn arwain y frwydr drwy gynnig lleoliadau gwaith â thâl i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern drwy eu rhaglen ‘Bright Future’ a sicrhau nad oes lle i weithwyr wedi’u masnachu yn eu cadwyni cyflenwi. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn fwy cyffredinol i sicrhau bod y cod yn cael ei ddilyn gan fusnesau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus, a pha waith sy’n cael ei wneud i annog Llywodraeth San Steffan i ddilyn ein hesiampl?

Wel, mae’r Aelod yn iawn: mae’r cod yn torri tir newydd i Gymru, ynghyd â llawer o bethau eraill, ac yn torri tir newydd i’r DU. Gyda’r canllawiau atodol, mae’n darparu modd ymarferol i fynd i’r afael ag arferion annheg, anfoesol ac anghyfreithlon, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, yr Aelod arweiniol ar hyn yw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda manylion penodol yn ymwneud â’r cod a’i weithrediad.

Mynegwyd pryderon wrthyf fod masnachu pobl drwy borthladd Caergybi yn gwaethygu, ond nad oes digon o’r dioddefwyr sy’n daer eisiau cael eu canfod yn cael eu canfod, ac er gwaethaf hyn, mae wedi bod yn amhosibl cael y chwe chynrychiolydd sirol yng ngogledd Cymru o gwmpas y bwrdd hyd yn hyn. Sut yr ydych yn ymateb felly i ganfyddiadau adroddiad proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru ar gaethwasiaeth fodern sy’n dweud bod yna dystiolaeth o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn gweithredu yng ngogledd Cymru drwy fasnachu dioddefwyr drwy borthladd Caergybi i Iwerddon neu gyflogi dioddefwyr mewn salonau ewinedd neu buteindai dros dro, a thystiolaeth o grwpiau yng ngogledd Cymru, wedi’u clymu gan gysylltiadau teuluol, sy’n targedu dynion agored i niwed ar gyfer gwaith llaw a chanfasio?

O, credwch fi, mae masnachu pobl yn fyw yn y DU, a ni yw’r unig ran o’r wlad sydd â chydgysylltydd atal masnachu pobl. Mae fy nhîm yn gweithio’n hynod o galed gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i sicrhau ein bod yn ceisio cadw golwg ar y mater hwn, ond rydym yn rhan o ynys fwy o faint. Buaswn yn annog yr Aelod ac Aelodau eraill i siarad â rhannau eraill o weinyddiaethau’r DU i ddod ynghyd a chreu cydgysylltwyr atal masnachu pobl ar hyd a lled y DU er mwyn sicrhau y gallwn fynd i’r afael â’r problemau y mae’r Aelod yn gywir yn eu codi mewn perthynas â masnachu pobl.

Ddoe, cawsom gyfarfod o amgylch y bwrdd, ac roedd yr ystafell yn llawn o arbenigwyr ym maes rhoi diwedd ar fasnachu pobl neu gaethwasiaeth yng Nghymru. Un o’r materion a gododd dro ar ôl tro oedd y cyfnod o 45 diwrnod sydd gan ddioddefwyr i brofi eu hachos a chwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol a’r awydd i wneud hwnnw’n gyfnod llawer hwy, yn 60 diwrnod fan lleiaf. Gwn mai gan Lywodraeth y DU y mae’r pwerau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae cais clir gan yr holl arbenigwyr yng Nghymru i chi ofyn i Lywodraeth y DU ystyried ymestyn hwnnw, oherwydd ni chynigir unrhyw help na chymorth o gwbl i unigolion nes eu bod wedi cwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mater i’r cyrff anllywodraethol yw cynnig unrhyw loches, unrhyw help, unrhyw gymorth o gwbl ar ôl y 45 diwrnod.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ddwyn y mater i fy sylw. Byddaf yn gofyn i fy nghydgysylltydd atal masnachu pobl gyfarfod â’r Aelod er mwyn iddi egluro hynny iddo, a byddaf yn gweithredu’n unol â’i gyngor.

Llwybr Tai Cenedlaethol ar Gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog

12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog? (OAQ51183)

Diolch i’r Aelod dros Ogwr am ei gwestiynau. Lansiais y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog ym mis Tachwedd 2016. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r dull drwy gyhoeddi taflenni, posteri a chardiau cyngor yn ddiweddar, fel y gall unrhyw un sydd angen llety gael mynediad at y cymorth y maent ei angen.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth lansio’r llwybr hwn, sy’n engraifft wych o arloesedd, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet lawer o bwyslais ar yr angen am gydweithio effeithiol gyda chonsortia tai, gyda’r awdurdodau lleol, pwyllgorau cydweithredol rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac asiantaethau darparu eraill. Felly, cyn belled â hyn ar hyd y llwybr, a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha mor effeithiol yw’r cydweithio hwnnw ac a yw’n gweld cysondeb da o ran cydweithredu ledled Cymru, yn hytrach nag amrywio ar sail cod post?

Rwy’n credu mai’r hyn a welwn yw ein bod yn dysgu o brofiad. Dywedais wrth Vikki Howells yn gynnar ynglŷn ag ymdrin â chyn-aelodau’r lluoedd arfog—mae’n broses amrywiol am fod anghenion pawb yn wahanol. Mae’n rhaid inni ddeall hynny’n well. Yr hyn yr ydym yn falch iawn ohono gyda’r llwybr tai yw bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai’n wynebu’r her yn hyn o beth ac yn gweithio’n dda iawn i helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr gyda’u hanghenion, yn ogystal ag anghenion teuluoedd aelodau’r lluoedd arfog hefyd. Felly, rwy’n gweld canlyniadau gwych a chadarnhaol ar draws Cymru. Rwyf wedi ymweld â rhai o’r sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog hefyd.

3. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

A’r eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf—Angela Burns.

Yswiriant Meddygol Meddygon Teulu

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru?(TAQ0053)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn parhau i gael sgwrs adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru ynglŷn â chost uchel yswiriant indemniad. Rydym wedi cytuno â hwy i adolygu sut y mae’r farchnad yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn helpu i lywio ein hopsiynau ar gyfer camu ymlaen. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau’n ymrwymedig i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i feddygon teulu yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn amau eich ymrwymiad i ddod o hyd i ateb. Y drafferth yw eich bod wedi bod yn chwilio am yr ateb hwnnw ers dros ddwy flynedd, os nad mwy. Nid ydych yn cynnig unrhyw linell amser, unrhyw derfyn amser nac unrhyw ymrwymiad i ateb wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth nac unrhyw atebion. Y mater dan sylw yw bod yn rhaid i feddygon teulu dalu am ddwy elfen o yswiriant. Ceir cyfradd osod gymharol sefydlog am gyngor a chymorth proffesiynol a chyfradd newidiol ar wahân ar gyfer yswiriant esgeuluster meddygol clinigol. Mae newidiadau i’r model yswiriant esgeulustod clinigol wedi gwneud yr yswiriant hwn yn hynod o ddrud ac mae’n rhwystro llawer o feddygon teulu sydd dan gontract rhag cynyddu eu horiau ar adegau o angen megis yn ystod pwysau’r gaeaf neu gamu i mewn i helpu practis arall pan fydd meddyg teulu wedi ymddiswyddo, wedi marw neu wedi ymddeol. Mae cronfa risg Cymru’n gwrthbwyso yswiriant ar gyfer practisau a reolir, locymau a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Ysgrifennydd y Cabinet, er bod hwn yn gam i’w groesawu, trwy wneud hanner y gwaith yn unig drwy fynd i’r afael â hanner y gweithlu, rydych mewn perygl o ansefydlogi ymarfer meddygol. Rwy’n derbyn ei fod yn ganlyniad anfwriadol, ond rwy’n credu bod hyn yn amlygu pam y mae angen i chi weithredu’n gyflym, oherwydd mae’n gwneud gyrfa fel meddyg teulu mewn practis yn llawer llai deniadol.

Byddai’r cyhoeddiad diweddar gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr—cyhoeddiad a gafodd ei groesawu—y bydd meddygon teulu yn Lloegr yn cael eu diogelu gan ateb wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth yn gallu arwain at ddenu mwy o feddygon teulu o Gymru. O ystyried y gwahaniaeth rhwng enillion meddygon teulu yng Nghymru ac enillion meddygon teulu yn Lloegr, mae’n bosibl mai dyma fydd yr hoelen olaf yn yr arch. Felly, mae gennym sefyllfa yng Nghymru lle’r ydych wedi bod yn chwilio am ateb; rydych wedi bod yn chwilio ers amser hir iawn. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym pryd y byddwch yn cyflwyno rhyw fath o gynnig os gwelwch yn dda, fel y gallwn geisio sicrhau nad ydym yn colli’r meddygon teulu yr ymdrechwyd mor galed i’w cael? Mae angen inni sicrhau eu bod yn aros gyda ni. Mae angen i ni gael gwared ar y gwahaniaeth rhwng bod yn feddyg teulu mewn practis a bod yn feddyg teulu sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd, sy’n locwm neu sy’n gweithio i’r gwasanaethau y tu allan i oriau, ac mae angen inni sicrhau nad ydynt yn llithro ar draws y ffin. Rwy’n credu y gallai hyn ddadwneud llawer iawn o’r gwaith da y gwn eich bod wedi ceisio’i wneud ar recriwtio a chadw meddygon teulu yn y wlad hon.

Mae nifer o bwyntiau i ymateb iddynt yn y fan honno. Mae’n werth atgoffa ein hunain fod yswiriant indemniad yn broblem gyffredinol ar draws y DU, ac mae wedi bod yn broblem ers peth amser. Mae’r angen i wneud rhywbeth yn ei gylch wedi cael ei brysuro gan y cyhoeddiad a wnaed gan yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd ar gyfradd ddisgownt niwed personol. Mae yna wahaniaeth rhwng y bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd a rôl cronfa risg Cymru, a’r rhai sy’n gweithio fel contractwyr annibynnol, ac mae angen i ni gydnabod hynny. Felly, nid yw hwn yn rhywbeth lle y mae yna ateb hawdd ac y bydd mynnu cynnydd yn awr yn darparu’r ateb. Wrth ymrwymo i linell amser ar gyfer ein sefyllfa, rydym yn cyflawni dadansoddiad priodol o’r farchnad mewn gwirionedd. Rydym wedi cytuno i benodi rhywun i wneud hynny ar ein rhan. Rwy’n disgwyl y bydd adroddiad yn cyrraedd y Llywodraeth erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, a bydd hynny wedyn yn caniatáu i ni gael sgwrs fanylach am opsiynau wrth symud ymlaen.

Gwn eich bod wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pheidio ag ymrwymo i ateb a gefnogir gan y wladwriaeth. Y rheswm am hynny yw nad wyf mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae’r cyhoeddiad a wnaeth Jeremy Hunt ar ateb a gefnogir gan y wladwriaeth yn un na chafodd ei weithio allan yn llawn. Mae’r cyhoeddiad wedi’i wneud gyda 12 i 18 mis i ddeall beth y mae hynny’n ei olygu, ac nid ydym yn gwybod beth y mae hynny’n ei olygu i ni yng Nghymru, nac yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon, gan nad ydym wedi cael y cyfleuster i ddeall yr hyn y mae hynny’n ei olygu o ran ‘ateb a gefnogir gan y wladwriaeth’; nid oes gennym y pŵer i wneud hynny yma. Os yw’n mynd i fod yn ateb a gefnogir gan y wladwriaeth a fydd yn darparu adnoddau gyda’r wladwriaeth yn sefyll y tu ôl i feddygon teulu yn Lloegr, mae angen i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau hynny ar gael ym mhob gwlad ddatganoledig. Ac wrth gwrs, ers y cyhoeddiad cyntaf mae hefyd wedi bod yn amlwg y gallai fod angen i feddygon teulu ychwanegu at eu premiymau eu hunain beth bynnag. Felly, nid oes sefyllfa benodol fel sy’n bodoli yn Lloegr, ond un sy’n ansicr yma yng Nghymru’n unig. Dros yr amser y byddwn yn gweithio ar hyn, rwy’n disgwyl i ni gael ateb o ran pa opsiynau sy’n bodoli yng Nghymru dros yr un amserlen yn union ag y bydd pobl yn symud o fewn Lloegr, ac mae’n bwysig fod meddygon teulu yn deall y neges honno. Dyna pam rwy’n falch i ailadrodd ein bod wedi gweithio ac yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Ysgrifennais atynt ar adeg y cyhoeddiad, ac wrth gwrs, byddaf yn dod yn ôl i roi gwybod i’r Aelodau pan fydd cynnydd go iawn i’w adrodd. Ond mae hwn yn fater rwyf o ddifrif yn ei gylch, ac rwy’n cydnabod yr amserlenni ar gyfer gweithredu.

Mae’r cyhoeddiad a wnaed ddydd Iau diwethaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â threfniadau indemniad ar gyfer meddygon teulu yn Lloegr yn creu her bosibl i Gymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn bwriadu cyflwyno cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer ymarfer meddygol yn Lloegr, ac mae hefyd wedi datgan bod y trefniadau indemniad yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Felly, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wedi cyflwyno’r posibilrwydd y bydd trefniadau indemniad gwahanol iawn i feddygon teulu yn Lloegr o gymharu â Chymru. Felly, yng ngoleuni’r prinder meddygon teulu ar hyn o bryd, mae hwn yn newyddion sy’n peri pryder mewn gwirionedd.

Os yw trefniadau indemniad meddygon teulu yn y dyfodol yn fwy deniadol yn Lloegr nag yng Nghymru, gallai darpariaeth meddygon teulu yng Nghymru wynebu sawl her. Un her fyddai’r posibilrwydd y byddai meddygon teulu sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn symud i ymarfer yn Lloegr. A fyddai graddedigion hefyd yn teimlo bod ymarfer yn Lloegr yn gynnig mwy deniadol? Yn ei ddatganiad ddydd Iau diwethaf, dywedodd y byddai ei adran yn parhau i gysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig ynglŷn â darpariaeth indemniad meddygon teulu. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi sicrhau bod yr addewid hwn yn cael ei gadw, ac a wnewch chi dynnu sylw at yr heriau penodol sy’n ein hwynebu yng Nghymru? Ar ben hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr meddygon teulu, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ynglŷn â’r heriau penodol a wynebwn mewn perthynas â chynlluniau indemniad meddygon teulu yng Nghymru, y broblem recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru, ac yng ngoleuni’r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth sy’n cael ei gynnig yn Lloegr, a fydd, rwy’n credu, yn gwaethygu’r problemau sydd gennym yng Nghymru? Diolch.

Rwy’n hapus i ailadrodd ein bod, wrth gwrs, yn ymgysylltu â Chymdeithas Feddygol Prydain, drwy eu pwyllgor ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â hwy mewn trafodaeth ystyrlon cyn y cyhoeddiad hwn. Ac wrth gwrs, bydd trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y DU. Ond gyda phob parch i’r sylwadau a wnaed am y posibilrwydd fod meddygon teulu yn Lloegr mewn sefyllfa fwy manteisiol, neu’r cwestiynau a’r sylwadau blaenorol ynglŷn â bod eglurder yn Lloegr, nid yw hynny’n wir. Yn sicr nid oes eglurder yno. Mae hwn yn gyhoeddiad ynghylch cyfeiriad teithio a dweud y gellid cael cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth. Nid yw manylion yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd wedi cael eu gweithio allan ac nid ydynt yn glir i gynrychiolwyr meddygon teulu yn Lloegr nac yn unrhyw un o’r gwledydd datganoledig.

Ac nid yw’r her hon ynglŷn â beth yn union a olygir wrth gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn glir o gwbl. Os yw’r wladwriaeth, y DU, yn mynd i gefnogi cynllun yn Lloegr, ond nid yn y gwledydd datganoledig, byddai honno’n broblem fawr iawn, ac nid wyf yn credu am eiliad y byddai Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymrwymo i gynllun sy’n rhoi mantais i ymarferwyr yn Lloegr yn unig ond nid eu haelodau yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Gymru. Mae angen cael sgwrs aeddfed ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu, beth yw ein hopsiynau yma yng Nghymru, sut y mae pa ateb bynnag sydd gennym yn cyd-fynd ag anghenion ein hymarferwyr yma yng Nghymru a’r cyhoedd a wasanaethir ganddynt, ond sicrhau i’r un graddau na ddefnyddir y wladwriaeth i roi mantais benodol i un rhan o’r Deyrnas Unedig dros y rhannau eraill. A byddwn wedi meddwl y byddai pobl ym mhob plaid yn cydnabod mai dyna yw’r safbwynt i ni ei fabwysiadu a’i ddisgwyl er mwyn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif—mai dyna’n sicr yw safbwynt meddygon teulu eu hunain ym mhob gwlad ar draws y DU.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Mae’r cwestiwn nesaf gan Simon Thomas.

Diogelu Plant ym Mhowys

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys? (TAQ0054)

Rhaid i ddiogelu plant fod yn flaenoriaeth uchaf i gyrff cyhoeddus. Amlygodd adroddiad AGGCC bryderon difrifol, ac rwyf wedi cyhoeddi hysbysiad rhybuddio i Gyngor Sir Powys. Cafodd ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ddoe, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Rwy’n disgwyl gwelliant cyflym, neu fe roddir camau ymyrryd mwy uniongyrchol ar waith.

Diolch i’r Gweinidog am yr ateb ac am y cyfle i drafod y materion hyn gyda hi ddoe. Ers i’r datganiad gael ei wneud ddoe, a’r cwestiynau gen i hefyd i’r Prif Weinidog, mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi yn ymateb Powys i’r sefyllfa yma. A gaf i ofyn yn gyntaf, felly, yn benodol, pa gamau y mae’r Llywodraeth naill ai’n eu cymryd, neu’n diogelu sy’n cael eu cymryd, i sicrhau bod y gwasanaethau yn ddiogel yn ystod yr 20 diwrnod nesaf? Rwy’n gwybod eich bod chi’n disgwyl ac yn erfyn gweld cynllun gweithredu o fewn 20 diwrnod, ond beth sy’n cael ei wneud nawr gan fod yr adroddiad yn dweud bod yna berygl i blant ym Mhowys? Ac felly, beth sy’n cael ei wneud yn yr 20 diwrnod nesaf?

Yr ail beth, os caf i jest ofyn: neithiwr, ar y cyfryngau, roedd Cyngor Sir Powys yn ymateb i’r sefyllfa gan ddweud bod y ffigurau a oedd gyda nhw o ran rheoli’r gwasanaethau o bosibl wedi cael eu ffugio a’u bod nhw wedi trafod hyn â’r heddlu. A oes gyda chi unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhannu â’r Cynulliad ynglŷn ag a ydy’r ffigurau yma yn rhai cywir, yn seiliedig ar y gwasanaethau, a pha gwestiynau y mae hyn yn eu gofyn ynglŷn â gwasanaethau ehangach ym Mhowys? Os oes yna honiad fod ffigurau gwasanaethau cymdeithasol plant yn cael eu ffugio, beth y mae hynny’n ei ddweud am wasanaethau i oedolion ac i’r henoed? Ac felly, yn y cyd-destun yna, pa gamau ydych chi’n eu cymryd fel Gweinidog i sicrhau diogelwch yn y gwasanaethau cymdeithasol ehangach ym Mhowys?

Ac yn olaf, roedd Powys hefyd yn datgan yn gyhoeddus y byddai mynd i’r afael â’r broblem yma yn costio £4 miliwn iddyn nhw. A ydych chi’n ddiogel eich meddwl bod gyda nhw’r arian a’r adnoddau digonol i wneud hyn?

Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny, a hefyd am y cyfle i ddod â’r mater hwn i lawr y Cynulliad heddiw. Fel y dywedwch, rhaid i ddiogelu plant sy’n agored i niwed fod yn brif flaenoriaeth, ac roedd yn sicr yn flaenoriaeth i mi pan ddeuthum yn ymwybodol o’r sefyllfa gyntaf, a hynny wedi i nodyn cyfrinachol gael ei gyflwyno, mewn gwirionedd, gan brif arolygydd AGGCC, ac mae’n sicr yn adlewyrchu difrifoldeb yr adroddiad arolygu. Mae’n anarferol iawn, yn sicr yn ddigynsail yn fy amser yn y swydd hon, i gamau gweithredu o’r fath gael eu rhoi ar waith. Felly roedd yn sicr yn flaenoriaeth i fodloni fy hun, hyd yn oed cyn i’r adroddiad gael ei dderbyn yn ffurfiol gan Bowys, fod plant ym Mhowys yn ddiogel, a mynnais fod camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, mae Powys wedi ymateb drwy archwilio achosion a chofnodion a rhaglen sicrwydd yn seiliedig ar risg mewn perthynas â diogelu, ac maent wedi dod â chwmni allanol i mewn i wneud y gwaith hwnnw.

Maent hefyd wedi cynyddu eu hadnoddau staff a rhoi rhaglen arweinyddiaeth ac ymddygiadau ar waith, ac mae holl aelodau’r cabinet yn awr ar y pwyllgor rhianta corfforaethol. Felly, maent wedi rhoi rhai camau cynnar ar waith, ond ar bob cam rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y prif weithredwr ac arweinydd y cyngor fod plant ym Mhowys yn ddiogel yn eu barn hwy, a rhoesant y sicrwydd hwnnw i mi’n fwyaf diweddar pan gyfarfûm â hwy ddydd Gwener diwethaf i roi rhybudd ymlaen llaw iddynt am y camau y byddem yn eu cymryd mewn perthynas â’r hysbysiad rhybuddio.

Fe sonioch fod Powys wedi cyfeirio mater posibl yn ymwneud â cham-drin rheoli perfformiad i’r heddlu. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad wyf fi nac AGGCC wedi cael unrhyw rybudd blaenorol ynglŷn â’r mater hwn gan Gyngor Sir Powys, felly roeddwn yn siomedig ac yn synnu clywed am hynny yn y cyfryngau. Mater i Gyngor Sir Powys ei ystyried yw hwn, ac wrth gwrs, mae’n fater i’r heddlu yn awr, felly ni fuasai’n briodol i mi wneud unrhyw sylw pellach ar hynny ar hyn o bryd, ond fe wnaf ddweud, wrth gwrs, ein bod yn ystyried y goblygiadau o ran yr ystadegau a gyhoeddir gennym a’r rhai sydd i’w cyhoeddi gennym yn dilyn y cyhoeddiad ddoe fod yr heddlu’n ymchwilio i’r materion posibl yn ymwneud â cham-drin data ym Mhowys.

O ran gwasanaethau yn ehangach, rwy’n deall bod gan Estyn rywfaint o bryderon ynglŷn ag addysg, a bod Powys yn ddarostyngedig i’r broses gynhadledd achos sydd ganddynt. Yn wyneb y pryderon sydd gennyf am wasanaethau plant ym Mhowys, rwyf wedi gofyn i AGGCC gynnal eu harolwg o wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn gynt. Roedd i fod i’w gynnal yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, ond rwyf wedi gofyn iddynt ei gynnal cyn hynny, a bydd Powys yn cael chwe wythnos o rybudd ynglŷn â pha bryd y bydd hynny’n digwydd.

Rwy’n deall hefyd fod Cyngor Sir Powys wedi awgrymu y bydd gwelliannau i wasanaethau plant yn costio tua £4 miliwn, ac rwy’n deall y bydd arian a dynnwyd yn flaenorol o’r gyllideb gwasanaethau plant yn cael ei adfer o gronfeydd wrth gefn y cyngor i dalu’r arian hwnnw.

Buaswn yn cytuno â chi, Weinidog, fod adroddiad AGGCC ar wasanaethau plant ym Mhowys yn fater difrifol tu hwnt. Mae’n adroddiad damniol ac yn anghysurus i’w ddarllen, ac mae’n tynnu sylw at nifer o fethiannau hanesyddol sydd wedi golygu bod diogelwch a lles plant wedi cael eu peryglu.

Mae’r adroddiad yn codi nifer o bryderon difrifol iawn am adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys, ac mae’n yn dweud bod yr adran wedi gosod plant mewn perygl o niwed. Nodaf eich bod wedi dweud heddiw eich bod wedi cael sicrwydd eich hun gan brif weithredwr ac arweinyddiaeth y cyngor sir fod plant yn ddiogel yn awr, ond a gaf fi ofyn: a ydych chi eich hun yn fodlon fod plant yn ddiogel ar hyn o bryd?

Os oes gan deuluoedd sydd wedi ymwneud ag adran gwasanaethau plant y cyngor bryderon i’w lleisio yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ddoe, pa gamau y buasech chi’n awgrymu eu bod yn eu cymryd? A ddylent godi hyn yn uniongyrchol gydag AGGCC, neu gyda Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, neu drwy Aelodau’r Cynulliad, neu’n wir drwy Gyngor Sir Powys? Os oes mecanwaith i roi gwybod am unrhyw faterion drwy Gyngor Sir Powys, a fuasech yn cytuno â mi na fyddai’n briodol iddynt fynegi pryderon drwy’r gwasanaeth plant ei hun? Nid yw’r adroddiad yn awgrymu bod unrhyw broblemau cyllido neu doriadau o fewn y maes gwasanaeth yn sgil ei fethiannau, ond rwy’n gweld yr adroddiad heddiw hefyd am £4 miliwn o arian ychwanegol a ryddhawyd. A gaf fi ofyn: a oes unrhyw ymrwymiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud mewn perthynas â chefnogaeth ariannol i’r gwasanaeth arbennig hwnnw gan Lywodraeth Cymru?

Roeddwn innau hefyd yn siomedig o glywed nad oedd y cyngor wedi dwyn unrhyw drafodaethau a gafodd gyda’r heddlu i’ch sylw. Fel y gwelsom mewn adroddiadau heddiw, nodaf fod y wybodaeth yr adroddwyd yn ei chylch yn dweud bod Cyngor Sir Powys wedi siarad â’r heddlu. Nid yw’n dweud bod yr heddlu’n ymchwilio i unrhyw fater. Gweinidog, a gaf fi ofyn i chi gyflwyno sylwadau ffurfiol i’r cyngor sir—yn sicr, byddaf yn ei wneud fy hun fel Aelod Cynulliad lleol, ond yn ffurfiol, chi eich hun, fel Gweinidog—i ofyn i’r cyngor sir beth yn union y maent yn siarad â’r heddlu yn ei gylch a chael gwybod a oes ymchwiliad ffurfiol ar y gweill ai peidio? Fy marn i, yn sicr, yw y dylai’r gwasanaeth gael ei adeiladu o’r newydd, a bydd arweinyddiaeth yn allweddol yn hynny. A oes gennych unrhyw asesiad o brofiad y cyfarwyddwr dros dro newydd sydd wedi ei benodi? A oes unrhyw drefniadau ar waith i annog staff sydd â phryderon i ddod ymlaen heb ofni unrhyw ganlyniad negyddol? Ac yn olaf, er bod yr adroddiad yn hynod feirniadol o arweinyddiaeth adrannau’r cyngor, dylid nodi hefyd fod yr adroddiad wedi canmol ymroddiad y staff sydd wedi dangos cadernid a phroffesiynoldeb mewn amgylchiadau heriol—dyna y mae’r adroddiad yn ei nodi. Yn aml, bydd sylwadau’n cael eu colli, wrth gwrs, pan fo’r cyfryngau’n adrodd ar faterion sy’n peri’r fath bryder. Felly, beth yw eich neges i’r aelodau penodol hynny o staff?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, ac rydych yn iawn, mae’r adroddiad yn glir iawn fod yr arolygwyr wedi nodi bod yna ymrwymiad gwirioneddol wedi’i ddangos ymhlith y staff a ddangosodd gadernid a phroffesiynoldeb go iawn mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod hwn, ond fe gododd materion perfformiad difrifol ac roedd hynny, ym marn yr adroddiad, yn deillio o ansefydlogrwydd o ran rheoli, cyfarwyddyd gwael a dryslyd a llywodraethu gwan. Ac yn sicr, pan gefais drafodaethau gyda’r prif arolygydd fy hun, mae hi wedi gwneud ymdrech fawr i bwysleisio’r pwynt fod yr adroddiad yn fwriadol yn nodi’n glir mewn gwirionedd y dylem gydnabod ymrwymiad y staff rheng flaen a oedd yn dymuno gwneud gwaith da, ond, fodd bynnag, fod y strwythurau a’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth ac yn y blaen o’u hamgylch yn eu hatal rhag gwneud y gwaith gwell y gallent fod wedi’i wneud i’r plant ym Mhowys.

O ran mater yr heddlu, fel y dywedais, deuthum i wybod amdano drwy’r cyfryngau, fel pawb arall, felly byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny i weld yn union beth yw’r problemau a’r hyn y mae’r heddlu’n bwriadu ei wneud am y peth. Yn amlwg, ni fuasech yn disgwyl i mi wneud sylw pellach, gan mai ychydig iawn o wybodaeth a gefais amdano fy hun. Fodd bynnag, byddaf yn sicr o archwilio’r mater.

Mae’r bwrdd gwella yn mynd i fod yn hanfodol o ran gyrru gwelliannau, fel y gallwch ddychmygu, ac mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi galw’r bwrdd gwella hwnnw ynghyd; roedd hynny’n un o’r amodau yn yr hysbysiad rhybuddio. Gallaf ddweud wrthych fod aelodau’r bwrdd yn cynnwys Jack Straw, cyn-brif weithredwr Abertawe, a ymddeolodd o’r cyngor yn yr awdurdod lleol yn 2016; Phil Hodgson, cyn-gyfarwyddwr gofal cymdeithasol ym Mlaenau Gwent; a Geoff Burrows, a oedd, tan fis Mai 2017, yn aelod Ceidwadol o Gyngor Sir Fynwy. A bydd y rhain, gyda Phil Evans, sef cyn-gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Bro Morgannwg, sydd bellach yn dod yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol dros dro Powys, yn gweithio fel tîm cryf er mwyn hybu gwelliannau. A byddant yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru yn fisol wrth inni fynd drwy’r cyfnod hwn, ond fel y gallwch ddychmygu, ers i’r pryderon gael eu lleisio gyntaf, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod mewn cysylltiad agos a chyson iawn â Phowys ar y materion hyn.

Rwy’n deall bod yr aelodau hynny o’r bwrdd eisoes wedi bod yn cynnal trafodaethau ynghyd ag AGGCC am waith y bwrdd a’r hyn y bydd angen iddynt ei wneud o ran symud ymlaen. Mater i Gyngor Sir Powys yn bendant yw gwneud yn siŵr eu bod yn darparu cyllid sylweddol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Fel y dywedais, roedd arian wedi cael ei symud yn flaenorol o wasanaethau plant, ac rwy’n deall y doir o hyd i arian o’r cronfeydd wrth gefn i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau plant er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau a welwyd yn adroddiad yr arolygiad. Nid yw rhai o’r materion hyn yn galw am gyllid, wrth gwrs. Roedd rhai o’r prif faterion yn ymwneud â diffyg cyfeiriad strategol a chynllunio a diffyg parhauster yn rhai o’r rolau uwch-reolwyr a rheolwyr canol, diwylliant o fwrw bai—. Wyddoch chi, mae rhai o’r pethau hyn yn ymwneud â diwylliant y gweithle a diffyg arweinyddiaeth yn hytrach na buddsoddi a chapasiti ac yn y blaen o reidrwydd.

Rwyf wedi bod yn darllen gyda diddordeb y bore yma am rai o’r honiadau a wnaed ynglŷn â darpariaeth—neu ddiffyg darpariaeth, i fod yn fanwl gywir—gwasanaethau plant ym Mhowys. Rwy’n ei chael hi braidd yn syfrdanol i glywed eich bod chi, yn yr un modd, Gweinidog, wedi darganfod hyn am y tro cyntaf trwy ddarllen pethau ar-lein neu wrando ar y newyddion, ym mha bynnag ffurf y daw. Ac mae’n ymddangos yn glir iawn i mi mai’r hyn sydd wedi bod ar goll yw arweinyddiaeth, rheolaeth, ffocws a chyllid. Ac oni bai bod gennych y pedair elfen gyfansoddol hon yn gweithio gyda’i gilydd, yna nid oes dim yn mynd i wella mewn gwirionedd.

Ond un peth sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw eich bod yn sôn am blant penodol a allai fod yn agored i niwed ym mhob un achos y siaradwn amdano, ac rydych yn siarad am adolygiadau achos lle y bydd y plant hynny wedi cael eu nodi, yn amrywio o risg isel, i risg canolig, i risg uchel. Ac rydym yn cael gwybod drwy’r eitemau newyddion heddiw fod yna bosibilrwydd fod rhai o’r achosion, neu beth o’r wybodaeth, o bosibl, ynglŷn â’r achosion hynny, wedi cael ei chamliwio—mewn geiriau eraill, fod rhywun wedi ymyrryd â hi. Nawr, rwy’n ystyried mai dyna sy’n peri fwyaf o bryder. Felly, fy nghwestiwn, yn amlwg, yw: maent mewn llanast, ymddengys nad oes amheuaeth am hynny, eu bod mewn llanast llwyr a bod gennych staff yno sydd wedi bod yn ymdrechu’n galed tu hwnt i wneud eu gorau; mae’n ymddangos yn glir nad oedd proses chwythu’r chwiban dryloyw neu agored neu ddibynadwy ar waith, gan y buasai’r staff hynny wedi bod yn dweud wrth rywun yn rhywle am eu pryderon, a naill ai ei fod wedi ei fygu neu eu bod yn rhy ofnus i ddweud amdano—ac rwyf wedi gweld hyn mewn man arall mewn awdurdod arall lle’r oeddwn yn arfer bod yn gynghorydd sir. Ac os oes gennych ddiwylliant nad yw’n caniatáu i bethau ddod yn agored, mae angen archwilio’r diwylliant hwnnw’n fanwl. Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: mae ganddynt 20 diwrnod i roi eu darnau o bapur at ei gilydd, ond nid yw’n mynd i fod yn 20 diwrnod a fydd yn newid y diwylliant, felly gofynnaf i chi, Gweinidog, a fyddwch yn edrych ar y diwylliant fel nad yw’n ddiwylliant sy’n edrych tuag at i mewn gydag ymladd mewnol, o bosibl, ac o natur gyfrinachol sy’n gosod y plant hyn mewn perygl mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr iawn am y pwyntiau a wnaethoch, ac yn sicr bydd y bwrdd gweithredu yn edrych yn fanwl iawn ar y diwylliant yn y sefydliad ac yn ystyried pob un o’r holl sylwadau a wnaed yn yr adroddiad arolygu hefyd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i Gyngor Sir Powys geisio chwilio am gymorth gan gymheiriaid yn awr ac edrych ar arferion da awdurdodau lleol eraill sydd â hanes blaenorol da a chryf mewn perthynas â gwasanaethau plant, a hefyd gwn fod y bwrdd rhanbarthol diogelu plant yn yr ardal hefyd yn awyddus iawn i gynnig cyngor a chefnogaeth, ac mae’r cadeirydd, Jake Morgan, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerfyrddin, eisoes wedi siarad â phrif weithredwr Powys i gynnig ei gefnogaeth. Felly, buaswn yn disgwyl i’r awdurdod lleol fod yn chwilio am, ac yn cael cefnogaeth gref gan yr ardaloedd hynny sydd â phrofiad cryfach o wasanaethau plant.

O ran y cwestiwn a ofynnwyd gennych ynglŷn â chwythu’r chwiban, credaf ei fod yn un hynod o bwysig ac mae’n un y byddaf yn ymrwymo i edrych i weld yn union beth a ddigwyddodd ym Mhowys a byddaf yn ymateb i chi drwy lythyr gyda sylwadau pellach ar hynny.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiadau 90 eiliad, a’r cyntaf—Hefin David.

Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, mynychais y gwasanaeth blynyddol wrth gofeb lofaol genedlaethol Cymru yn Senghennydd, sydd yn ward Cwm Aber yn fy etholaeth, a chefais y fraint o osod torch ar y gofeb. Cynhelir y gwasanaeth bob blwyddyn ar neu o gwmpas pen-blwydd trychineb Glofa Universal 1913—digwyddiad trasig a hawliodd fywydau 440 o ddynion a bechgyn. O ran y niferoedd a gollwyd dyma oedd—ac mae’n parhau i fod—y trychineb gwaethaf yn hanes Cymru a Phrydain. Agorwyd cofeb lofaol genedlaethol Cymru, sy’n sefyll ar y safle, yn swyddogol ar ganmlwyddiant y trychineb, ym mis Hydref 2013. Yn wir, mynychodd y Prif Weinidog ei hun y digwyddiad i ddadorchuddio’r cerflun efydd o weithiwr achub yn cynorthwyo glöwr.

Cafodd y syniad o gofeb lofaol genedlaethol Gymreig ei wireddu diolch, i raddau helaeth, i ymdrechion aruthrol Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, band bychan o wirfoddolwyr a roddodd o’u hamser eu hunain i fynd ati i gasglu rhoddion er mwyn i’r syniad hwn allu dwyn ffrwyth. Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian cyfatebol tuag at yr apêl codi arian, a chafwyd cyfraniadau hefyd o ffynonellau eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Noddwr Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yw’r darlledwr adnabyddus o Gymro, Roy Noble. Gwnaeth Roy lawer o waith da yn ystod yr apêl i godi arian, ac fel bob amser, roedd yn bresennol i siarad yn y gwasanaeth blynyddol ddydd Gwener diwethaf. Roedd llawer o blant ysgol lleol o Gwm Aber yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Gwener hefyd, a sylweddolais pa mor bwysig yw hi fod ein cenhedlaeth iau’n dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol eu hardal, a’r pris eithaf a dalwyd gan y rhai a fentrodd allan un diwrnod i wneud eu gwaith.

Roedd Hydref 1917 yn fis a adawodd ei ôl ar y byd. Yma yn y DU, mae’n 100 mlynedd ers i’r mudiad cydweithredol benderfynu gyntaf ei fod am roi mynegiant i’w werthoedd drwy’r llwybr seneddol yn San Steffan, drwy ffurfio’r Blaid Gydweithredol. Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn ei chynhadledd yn Abertawe—a oedd yn addas, o ystyried y rôl yr oedd Cymru wedi ei chwarae yn hanes y mudiad cydweithredol. Ers hynny, mae datganoli wedi rhoi seneddau eraill i’r Blaid Gydweithredol ymgyrchu drwyddynt dros ei gweledigaeth o fyd cydweithredol. Yn wir, mae’r syniad o ddatganoli’n adleisio cymaint o werthoedd cydweithredol—democratiaeth, cyfranogi gweithredol, a chymuned. Y penwythnos diwethaf yn ein cynhadledd i nodi’r canmlwyddiant, siaradodd y Prif Weinidog am y ffyrdd y mae’r sefydliad hwn, a Chymru’n fwy cyffredinol, yn cefnogi ac yn meithrin y ddelfryd gydweithredol.

Wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant mae gennym gydweithredwyr yn holl seneddau’r DU, ac mae gennym grŵp ffyniannus y Blaid Gydweithredol yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wyf yn falch i fod yn gadeirydd arno. Mae’r pumed Cynulliad hwn yn cynnwys y nifer fwyaf o aelodau’r blaid gydweithredol ers datganoli. Yn wir, mae 25 y cant o Aelodau’r Cynulliad bellach yn perthyn i’r Blaid Gydweithredol. Trwy 100 mlynedd o newid, mae’r Blaid Gydweithredol wedi bod yn hyrwyddwr democratiaeth, dinasyddiaeth weithredol, cyd-gymorth, tegwch, cymuned a chynaladwyedd—egwyddorion cydweithredu. Ac wrth i ni wynebu’r 100 mlynedd nesaf, mae’r egwyddorion hynny’n parhau i fod mor berthnasol ag yr oeddent pan sefydlwyd y blaid 100 mlynedd yn ôl.

Hoffwn wneud datganiad i nodi mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol yr Undebau Credyd. Mae ‘Nid er credyd, nid er elusen, ond er gwasanaeth’ yn arwyddair undebau credyd. Rydym yn aml yn anghofio nad busnes yn unig yw diben bancio, ond angen cymdeithasol. Wrth inni weld miloedd o fanciau bach manwerthu a lleol yn cael eu cau a’u caffael dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf, a phan ystyriwn fod y banciau sydd gennym bellach yn diflannu’n gyflym o’r stryd fawr a threfi llai, yn awr yn fwy nag erioed, mae angen dewis arall. Ynghyd â mwy o addysg am gynhwysiant ariannol, mater y bu’n bleser gennyf weithio arno, mae angen gwneud mwy i hyrwyddo undebau credyd fel rhan o addysg ariannol well a threchu anghydraddoldeb a thlodi.

Yn y DU, yn anffodus, mae Cymru yn dal i lusgo ar ôl yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran aelodaeth o undebau credyd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod Cymru yn un o’r ardaloedd yn y DU sy’n wynebu’r heriau mwyaf o ran cael mynediad at gredyd ac o ran y modd y mae pobl yn rheoli eu harian. Yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon, roedd gan yr Alban 0.33 miliwn o aelodau sy’n oedolion, roedd gan Ogledd Iwerddon dros 0.5 miliwn, a 66,000 yn unig o aelodau undebau credyd oedd gan Gymru. Mae angen i hyn newid.

Ddydd Gwener, roeddwn yn falch o helpu i agor cangen newydd o undeb credyd Celtic yng nghanol dinas Abertawe. Dyma’r math o ddatblygiad yn y sector y dylem ei groesawu, a buaswn yn annog pob Aelod yma i gysylltu â’u hundebau credyd lleol, eu cefnogi a helpu i hyrwyddo dewis arall mwy diogel, cynhwysol yn ariannol a chymdeithasol gyfrifol i bobl Cymru.

The next item on the agenda is the motions to elect Members to committees. In accordance with Standing Order 12.24, I propose that the motions to elect Members to committee are grouped for debate, but with separate votes.

5. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Galwaf felly ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6541 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NDM6542 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NDM6543 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. A gaf fi, o’r cychwyn, ei gwneud hi’n gwbl glir nad oes gennym ni ar yr ochr hon i’r Siambr unrhyw broblem gyda Phlaid Cymru yn llenwi’r seddi gwag ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Deisebau? Nid oes gennym unrhyw broblem ychwaith gyda Neil McEvoy yn cael lle ar y Pwyllgor Deisebau fel Aelod ychwanegol. Yn wir, rydym yn credu y dylai gael y lle hwnnw. Fodd bynnag, credwn na ddylai’r newidiadau hyn ddigwydd heb newid dyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau hefyd.

O ystyried bod cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad wedi newid unwaith eto, mae hi hyd yn oed yn gliriach mai grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw’r grŵp gwrthbleidiol mwyaf. Felly, rwyf am gofnodi unwaith eto y prynhawn yma fy siom llwyr fod dyraniad presennol y Cadeiryddion pwyllgorau yn parhau i fethu adlewyrchu maint cymharol pob un o grwpiau’r pleidiau’n gywir. Gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yr ail grŵp mwyaf yn y lle hwn, nid yw ond yn iawn fod hynny’n cael ei adlewyrchu yn nyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau. Yn wir, mae’r Llywydd hefyd wedi dod i’r casgliad fod yn rhaid i reolwyr busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod dyraniad Cadeiryddion pwyllgorau’n wleidyddol gytbwys. Fel y mae adroddiad y Pwyllgor Busnes yn ei nodi, ac rwy’n dyfynnu:

‘Er bod y Llywydd yn fodlon bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o’r gofyniad hwnnw yn ystod eu trafodaethau, nid yw’n cytuno â barn y mwyafrif ar y Pwyllgor fod y dyraniad presennol yn dderbyniol o safbwynt cyflawni’r gofyniad hwnnw.’

Felly, fy safbwynt i yw y dylai’r Cynulliad anrhydeddu a pharchu penderfyniad y Llywydd gan y byddai unrhyw beth arall, yn fy marn i, yn amharchu’r Gadair. Mae’r Llywydd yn ei gwneud yn gwbl glir fod sefyllfa lle y mae gan grŵp Plaid Cymru fwy o Gadeiryddion na’r grwp Ceidwadol yn amlwg yn afreolaidd, ac felly dylai’r Pwyllgor Busnes gadw at hynny. Wrth gwrs, mae nifer presennol yr Aelodau bellach yn 12 i’r Ceidwadwyr Cymreig a 10 i Blaid Cymru, ac eto mae gan Blaid Cymru fwy o Gadeiryddion pwyllgorau a mwy o seddi ar bwyllgorau na’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, ni fydd yn syndod i’r Aelodau glywed nad yw fy marn wedi newid ers i ni drafod y mater hwn yn y Siambr hon ddiwethaf. Credaf fod hyn yn annerbyniol, yn hynod o annemocrataidd ac yn destun pryder a bod yn onest fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i weithredu yn y modd hwn. O ganlyniad, byddwn ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn gwrthwynebu’r cynigion hyn fel mater o egwyddor, o ystyried bod y newidiadau penodol hyn wedi digwydd heb newid y Cadeiryddion pwyllgorau, o ystyried cydbwysedd gwleidyddol presennol y Cynulliad.

Rwy’n siomedig nad oedd rheolwyr busnes o bleidiau eraill yn argyhoeddedig fod angen gwneud newid ar y sail y dylai Cadeiryddion pwyllgorau gael sicrwydd daliadaeth. Nid rôl y Pwyllgor Busnes yw cadw Cadeiryddion yn eu swyddi doed a ddêl, ond yn hytrach, adlewyrchu tirlun gwleidyddol y Cynulliad sy’n newid yn gyson. Mae cadeirio pwyllgor yn fraint, nid yn rhywbeth i’w gymryd yn ganiataol, ac os bydd y dirwedd wleidyddol yn newid, yn sicr mae’n rhaid i’r Aelodau i gyd barchu hynny a bod yn ddigon aeddfed i adlewyrchu unrhyw gydbwysedd gwleidyddol newydd.

Yn yr adroddiad, mae rheolwr busnes y Blaid Lafur wedi gofyn cwestiwn ynghylch parhauster y cydbwysedd presennol, o gofio bod Neil McEvoy wedi ei atal ar hyn o bryd yn hytrach na’i ddiarddel o grŵp Plaid Cymru, ac wrth gwrs, mater i Blaid Cymru ei benderfynu yw hynny yn y pen draw. Ei barn hi yw bod yna bosibilrwydd y gall fod angen i’r Pwyllgor Busnes ailedrych ar ddyraniad y Cadeiryddion eto. Ydy, mae hynny’n wir, ond pam y gwnawn newidiadau eraill os nad yw’r sefyllfa’n barhaol? Yn sicr, o ddilyn y rhesymeg honno, ni ddylem fod yn gwneud unrhyw newidiadau o gwbl? A beth bynnag, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw Neil McEvoy yn aelod o grŵp Plaid Cymru ac y dylai’r sefydliad hwn barchu’r penderfyniad hwnnw.

Nid yw’n iawn fod gan wrthblaid yn y sefydliad hwn sydd â llai o Aelodau na gwrthblaid arall fwy o Gadeiryddion pwyllgorau, a gallai hyn greu goblygiadau difrifol yn y dyfodol i’r sefydliad hwn. Ym mlwyddyn ugeinfed pen-blwydd datganoli, ai dyma’r neges y mae’r Cynulliad yn awyddus i’w hanfon at bobl Cymru mewn gwirionedd? Os caniateir i’r sefyllfa barhau, daeth yn amlwg nad yw’r rhan fwyaf o’r Cynulliad hwn yn cefnogi Cynulliad cytbwys sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol ei Aelodau mwyach. Felly, Llywydd, rwy’n credu bod hwn yn ddiwrnod trist arall eto i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i weithrediadau, ac yn ddiwrnod trist i’n cyfansoddiad.

Gan symud ymlaen, rwy’n mawr obeithio y bydd y Cynulliad hwn yn y pen draw yn cyflwyno canlyniad sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y sefydliad hwn wrth gydlynu busnes y Cynulliad, fel y gall pobl Cymru fod yn gwbl hyderus fod y Cynulliad yn gweithio mewn modd cwbl agored, tryloyw a democrataidd.

A gaf fi ofyn i rywun egluro sefyllfa Mark Reckless o fewn y Blaid Geidwadol? Diolch.

Wel, nid wyf yn credu bod—. Oes, mae yna rywun sydd eisiau egluro. Mark Reckless.

Rwy’n hapus iawn i egluro. Ysgrifennodd y Llywydd at Andrew R.T. Davies ac ataf fi i gadarnhau y dylwn gael fy ystyried yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr at holl ddibenion y Cynulliad hwn, yn union fel y mae wedi dyfarnu y dylid symud Cadeiryddion pwyllgorau er mwyn adlewyrchu cydbwysedd grwpiau’r pleidiau. Nid yw’n iawn nad yw’r sefydliad hwn, sy’n dymuno cael ei ystyried yn Senedd, yn dilyn ei Lywydd ei hun hyd yn oed nac yn dilyn ei Reolau Sefydlog ei hun yn unol â’r hyn y dylai unrhyw sefydliad democrataidd rhesymol ei wneud. Dylech fod â chywilydd ohonoch eich hunain.

Diolch. Nid oes siaradwyr eraill yn y ddadl hon. Mae’r holl Aelodau sydd wedi nodi eu bod yn dymuno siarad wedi siarad. Ar gyfer y cofnod, fy marn i ar y mater—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl y buaswn yn awgrymu eich bod i gyd yn dawel, gan fy mod ar fin dweud rhywbeth, ac nid wyf yn ei ddweud yn aml iawn. Mae fy safbwyntiau i ar y mater hwn wedi eu nodi yn yr adroddiad a gyflwynwyd gyda’r cynnig hwn. Rwy’n awgrymu bod pawb ohonoch yn ei ddarllen. Mae’n ddiddorol ynddo’i hun ac mae barn pob rheolwr busnes o bob plaid wleidyddol yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad hwnnw hefyd. Rydym wedi trafod y mater dros nifer o wythnosau ac rwy’n fodlon, a heb fy amharchu, gan y ffaith bod y Pwyllgor Busnes wedi bod drwy’r broses sy’n ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog wrth ystyried y mater hwn a bod ganddo bob hawl i wneud y penderfyniad y mae wedi ei wneud. Mewn sefyllfa fel hon, mae Rheol Sefydlog 17.13 yn rhoi’r dewis i’r Pwyllgor Busnes adolygu dyraniad y Cadeiryddion, ond ar yr achlysur hwn barn y mwyafrif oedd nad oedd yn briodol gwneud hynny. Mae’n amlwg fod tensiwn, mewn sawl ffordd, rhwng gwahanol ddarpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ac mae cyfres ddigynsail o ddigwyddiadau wedi arwain at y sefyllfa afreolaidd bresennol. Dyna pam y byddaf yn gofyn i’r Pwyllgor Busnes adolygu’r gofynion ynglŷn â dyrannu ac ethol Cadeiryddion.

The proposal is to agree the motion to elect Neil McEvoy to the Petitions Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.

The proposal is to agree the motion to elect Rhun ap Iorwerth to the Petitions Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this motion until voting time.

The proposal is to agree the motion to elect Adam Price to the Public Accounts Committee. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting again on this motion until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

The next item is the motions to elect Members to committees. In accordance with Standing Orders 12.24 and 12.40, I propose that the motions to elect members to committees are grouped for debate and for voting.

Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6544 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6545 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynigion yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 5. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau’r Cynulliad. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6535 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B—Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2017; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dulliau Trafnidiaeth yn y Dyfodol

Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Rheol Sefydlog 11.21(iv). Rwy’n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.

Cynnig NDM6527 Jenny Rathbone, Suzy Davies, Dafydd Elis-Thomas, Dai Lloyd, David Melding, Eluned Morgan

Cefnogwyd gan Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.

2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:

a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a

b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae Chris Blake, y bydd llawer ohonoch yn ei adnabod fel aelod anweithredol o Cyfoeth Naturiol Cymru ac un sydd, mewn sawl modd, yn lladmerydd dros ynni cynaliadwy, adnewyddadwy, wedi buddsoddi mewn car trydan, ynghyd â thyrbin gwynt a phaneli solar ar ei dŷ, er mwyn sicrhau bod ei gerbyd yn cael ei bweru gan ynni glân yn unig. Ond ei rwystredigaeth yw na all ddefnyddio’r car trydan i gyrraedd pob rhan o Gymru. Fel arloeswyr eraill gyda cheir trydan, mae’n gallu mynd o Gaerfyrddin i Nottingham neu Lundain ac yn ôl mewn car trydan, ond ni all gyrraedd Gwynedd neu Ynys Môn, yn syml oherwydd nad oes pwyntiau gwefru trydan yn bodoli.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â’r ddadl hon; mae Simon Thomas hefyd yn dweud wrthym am ei boen nad yw’n gallu defnyddio car trydan i fynd o Aberystwyth i deithio o amgylch ei ranbarth, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru. Felly, roeddwn wrth fy modd yn clywed bod cynnig yn y gyllideb eleni i fuddsoddi £2 filiwn ar gyfer datblygu mwy o bwyntiau gwefru trydan fel nad ydynt ond ar gael ar yr M4 yn unig a rhannau dwyreiniol yr A55. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod gan Simon Thomas rywbeth i’w wneud gyda hyn, ond credaf nad yw’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ond yn ddechrau ar sut y gwelwn y trawsnewid hwn yn digwydd, gan na allwn weld hon fel her i adeiladu gorsaf bŵer arall eto maint Hinkley Point, fel yr awgrymodd y Grid Cenedlaethol, a ddywedodd fod hynny’n ddigonol i fodloni’r galw brig gyda’r nos pe bai cerbydau trydan yn dod yn boblogaidd ac yn dod yn norm. Mae’n rhaid inni weld hyn fel cyfle i wasgaru ein dull o gynhyrchu a chyflenwi trydan, ac mae pwyntiau gwefru trydan yn ffordd ddelfrydol o gicdanio’r broses honno.

Felly, sut y gallwn wneud hyn? Yr ynni adnewyddadwy y mae gennym ddigonedd ohono yw gwynt; ni yw’r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop. Felly, yn hytrach na chael Brigands Inn ar yr A470 i osod pwynt gwefru trydan wedi ei gysylltu â’r grid, gallent fod yn cynhyrchu eu hynni gwynt a solar eu hunain, yn union fel y mae Chris Blake eisoes yn ei wneud. Yn wir, os ydynt yn gosod pwynt gwefru trydan gan ddefnyddio ynni confensiynol o’r grid, rwy’n cynnig y byddant yn gyflym yn colli eu mantais yn y farchnad heb fod yn rhy hir, wrth i bwyntiau gwefru trydan rhatach wedi eu tanio gan ynni adnewyddadwy ymddangos. Gallai hyn roi hwb mawr i gynlluniau ynni cymunedol na fyddant yn gorfod ysgwyddo costau cysylltu drud â’r grid os oes ganddynt incwm cyson o gerbydau trydan sydd angen gwefru ar gyfer trafnidiaeth leol ac ar gyfer teithiau pellach. Bydd hyn hefyd wedyn yn creu cyfle ychwanegol i bobl allu cynhyrchu eu hynni eu hunain ar gyfer cynhesu eu cartrefi.

Ond un cog yn unig yn y chwyldro sydd ei angen i wireddu ein dyfodol mwy cynaliadwy yw pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yr wythnos diwethaf, enillwyd Her Solar y Byd, a gynhaliwyd yn Awstralia, gan gar o’r Iseldiroedd a bwerir gan yr haul yn unig. Er bod gennym lai o haul nag yn Awstralia, mae cerbydau sydd wedi eu pweru o leiaf yn rhannol gan yr haul yn rhywbeth y bydd angen i ni ei ystyried hefyd. Nid yw cerbydau trydan yn newydd i Gymru. Cynhyrchwyd y fflôt laeth ym Merthyr rhwng y 1930au a’r 1980au, ac mae’r Eco Travel Network eisoes yn gweithredu ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnig cerbydau trydanol i’w llogi o’u fflyd o Renault Twizys. Maent wedi datblygu rhwydwaith gwefru 13 amp anffurfiol gyda busnesau twristiaeth fel bod ymwelwyr yn cael dewis diddorol o atyniadau i ymweld â hwy, gweithgareddau i roi cynnig arnynt, a llefydd i fwyta ac yfed.

Ond nid at ddefnydd unigolion neu hamdden yn unig y mae cerbydau trydan. Maent yn un o’r ffyrdd allweddol y gallwn lanhau ein system trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n rhaid i ni wneud hyn oherwydd ein hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd. Nid dadl ynglŷn ag a fyddwn yn newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân—nid yw’n ymwneud ag a wnawn ni hynny, ond yn hytrach â sut y gwnawn hynny wrth newid o ddiesel budr i systemau trafnidiaeth gyhoeddus glân. Rydym wedi gweld yn barod fod Llundain, Milton Keynes a Nottingham i gyd wedi comisiynu cerbydau trydan, ac mae llawer ohonynt eisoes yn weithredol. Bydd yn rhaid i ddinasoedd eraill ddilyn. Felly, y cwestiwn yw: a all Cymru adeiladu’r cerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus dorfol, nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, er mwyn cadw’r arbenigedd sydd gennym eisoes o amgylch ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ffatri injans Toyota ar Lannau Dyfrdwy, y bydd eu gweithgareddau presennol yn dod i ben o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod ag injans motor tanio petrol a diesel i ben erbyn 2040, ac yn llawer cynt na hynny mae’n debyg o ganlyniad i hynny? A allwn ni adeiladu diwydiant cerbydau amgen i ganolbwyntio ar uchelgeisiau di-garbon i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r arbenigedd sydd gennym ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nglannau Dyfrdwy? Sut y gallwn fanteisio, er enghraifft, ar gynhyrchu tacsis Llundain ysgafn trydan, sydd bellach yn digwydd yng Nghaerffili, i wyrddu ein fflyd o dacsis ein hunain er enghraifft?

Nawr, y dewis arall yn lle cerbydau trydan yw hydrogen. Dyfeisiwyd y gell danwydd hydrogen gan William Grove o Abertawe yn y 1840au. Ddeuddeng mlynedd yn ôl—. Ond nid ydym wedi ei ddatblygu’n iawn hyd yn hyn. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roedd gan WalesOnline stori o dan y pennawd ‘Hydrogen Valley to put Wales on Green Map’. Ar yr adeg honno, roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn bwriadu datblygu microeconomi yn ne Cymru yn seiliedig ar dechnoleg hydro. Disgrifiodd y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth ar y pryd, Andrew Davies, y dyffryn hydrogen fel cyfle unigryw i ddefnyddio seilwaith hydrogen presennol i harneisio arbenigedd yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. O fewn 10 mlynedd, roedd yn rhagweld y byddai yna orsafoedd tanwydd hydrogen, rhwydweithiau trafnidiaeth integredig heb allyriadau, tacsis dŵr yn rhedeg ar hydrogen a chanolfannau lle y gall cerbydau nwyddau trwm drosglwyddo nwyddau ar gerbydau trydan ar gyfer eu dosbarthu.

Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn gymedrol. Mae canolfan hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan wedi datblygu gorsaf danwydd hydrogen gyntaf Cymru gan ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir yn adnewyddadwy, ond mae gorsafoedd tanwydd hydrogen wedi eu cyfyngu i ddau safle Prifysgol De Cymru, ym Maglan ac ym Mhontypridd. Maent yn gweithio gyda chwmni bach yn Llandudno sy’n bwriadu adeiladu ceir hydrogen ar gyfer eu llogi i gychwyn y flwyddyn nesaf. Ond mae’n amlwg nad yw hyn ar y raddfa fawr y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.

Fy mhwynt olaf sydd angen i ni feddwl amdano yw systemau sydd eisoes ar waith ar gyfer cyfathrebu di-wifr rhwng cerbydau a’r systemau tagfeydd y mae angen i ni eu rheoli. Hynny yw, maent eisoes yn eu lle; rydym eisoes yn gallu eu gweld ar waith pan edrychwn i weld sut y mae mynd o A i B ar Google. Ond yn y dyfodol, byddant yn cael eu defnyddio fel cyfrwng ar gyfer rheoli ceir di-yrrwr, ac mae’n ymddangos i mi’n gwbl hanfodol ein bod yn ymladd i wrthsefyll preifateiddio’r rhwydwaith 5G, a fydd yn llwyfan i hyn allu digwydd. Mae angen i hwn fod yn wasanaeth cyhoeddus, nid yn wasanaeth er elw wedi ei breifateiddio na all neb ond pobl ag arian ei weithredu. Felly, mae honno’n ystyriaeth fawr i mi ei gadael gyda chi am y tro.

Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon gan Aelodau unigol. Rhyfeddai Tim Peake y gofodwr, wrth syllu ar y Ddaear o’r gofod, at ymddangosiad ysblennydd ein planed. Ac mewn byd lle’r ydym yn siarad mewn miliynau o filltiroedd, biliynau o gilometrau a blynyddoedd golau i ffwrdd, nododd ymddangosiad ysblennydd ein hatmosffer, nad yw ond yn 16 km o uchder—haen denau, lachar sydd angen ei gwarchod, sydd mor hanfodol bwysig. Ac fe’i trawyd ef ar y pryd gan freuder posibl ein bodolaeth. Mae’n 16 km o ddyfnder, yr atmosffer yr ydym yn byw ac yn anadlu ynddo, hynny’n unig, a dyna sut y down at y drafodaeth angenrheidiol iawn hon ar roi’r gorau i’r motor tanio traddodiadol, am yr holl resymau y mae Jenny eisoes wedi cyfeirio atynt, a chyflwyno ceir trydan, ceir hydrogen, ceir awtomataidd di-yrrwr, faniau, bysiau a phopeth arall.

Oherwydd mae llawer o arloesi enfawr yn digwydd. O ran cerbydau trydan, sydd, yn amlwg, eisoes ar ein ffyrdd, rydym yn gweld camau arwyddocaol yn cael eu gwneud, gyda rhai ceir yn gallu cyrraedd 300 milltir cyn ailwefru a chynhyrchu amseroedd 0 i 60 milltir yr awr i gystadlu â cheir cyflym. Mae angen cynllunio ar gyfer y cynnydd hwn yn niferoedd ceir trydan, yn ogystal â’r defnydd o geir hybrid a’r rhai a bwerir gan gelloedd tanwydd hydrogen y mae Jenny, unwaith eto, wedi cyfeirio atynt, o’r dechrau gyda William Grove gyda chelloedd hydrogen a chelloedd ffotofoltäig a ddyfeisiwyd yn Abertawe yn ôl yn oes Fictoria, ac a ddefnyddiwyd gan NASA cyn hyn. Mae angen i ni wneud llawer mwy o ddefnydd ohonynt ar lawr gwlad hefyd, oherwydd nid oes angen trydan o’r prif gyflenwad arnynt, y ceir hybrid na’r ceir tanwydd hydrogen. Ond mae angen i gynllunio ar gyfer cynnydd o ran cynhyrchu a chyflenwi trydan ddigwydd yn awr gyda’r cynnydd a ragwelir yn y galw amser brig am drydan o rhwng 15 y cant a 40 y cant. Mae angen i ni ddatblygu atebion Cymreig i’r her gynhyrchu trydan hon. Ac yn amlwg, gyda môr-lynnoedd llanw yn enghreifftiau amlwg, dylid cefnogi hynny yn awr.

Yn ogystal, mae angen rhwydwaith cenedlaethol o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan. Mae angen inni wybod beth y mae Llywodraeth yn ei wneud ar y cyd â’r diwydiant i ehangu’r rhwydwaith hwn i ateb y galw a ragwelir.

Diolch i’r Aelod. Ar y pwynt am rwydwaith cenedlaethol, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio bod Shell heddiw, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i osod pwyntiau gwefru trydan cyflym yn rhai o’u gorsafoedd petrol. Ond maent yn canolbwyntio ar dde-ddwyrain Lloegr, a dyma pam ei bod yn bwysig cael seilwaith cenedlaethol yma yng Nghymru, fel nad yw mannau yng Nghymru yn cael eu hepgor.

Yn hollol, oherwydd mae angen inni gael y rhwydwaith cenedlaethol hwnnw o bwyntiau gwefru. Gan droi at geir di-yrrwr, sef un o’r datblygiadau technolegol mwyaf ers y llinell gydosod, mae cwmnïau fel Tesla, Audi, Nissan a Google yn gwario miliynau i gael ceir di-yrrwr ar y ffordd. Rydych yn mynd i mewn, yn nodi eich cyrchfan ac mae’r electroneg yn gwneud y gweddill—ac ychydig flynyddoedd yn unig sydd yna cyn y bydd hyn yn digwydd. Un o fanteision mwyaf ceir di-yrrwr fydd rhoi modd o symud i bobl nad ydynt yn gallu gyrru ar hyn o bryd, gyda manteision cymdeithasol amlwg o ran trechu unigrwydd ac unigedd yn ogystal.

Ond rwy’n dychwelyd at y ffaith bod angen inni gynllunio ar gyfer hyn oll—sut y talwn am geir di-yrrwr, bysiau, faniau dosbarthu a’r gweddill. Buaswn yn dadlau y dylent fod yn wasanaeth cyhoeddus—rwy’n cytuno â Jenny yn hynny o beth. Ac yn union pa rôl y mae’r sector cyhoeddus yn ei chwarae’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth wirioneddol integredig—. A beth am yr holl lonydd gwledig cul a throellog a geir yng Nghymru? Her arbennig, yn wir, ar gyfer cerbydau di-yrrwr. Wel, nid yn unig cerbydau di-yrrwr, ond her i gerbydau di-yrrwr yn arbennig.

Felly, i orffen, mae llawer i fyfyrio yn ei gylch, ond mae’r cyfeiriad teithio, fel petai, yn glir: er mwyn amddiffyn y dyfnder bregus o 16 km o atmosffer yr ydym i gyd yn dibynnu arno, cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

Mae’n bleser cael cefnogi’r cynnig hwn ac rwy’n falch fod y dadleuon Aelodau unigol yn parhau i ddod â syniadau diddorol iawn i’r Cynulliad, a syniadau sydd at ei gilydd yn cael cefnogaeth drawsbleidiol.

Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r cysylltiadau agos rhwng lefelau uchel o dagfeydd a llygredd aer, ac rwy’n credu y bydd cerbydau trydan yn cynnig ffordd i liniaru’r broblem. Ond fel y mae Jenny eisoes wedi amlinellu, mae’r diffyg seilwaith ar hyn o bryd yn wirioneddol rwystredig, er y buaswn yn dweud, yn yr etholiad diwethaf, rwy’n meddwl, fy mod wedi gweld, am y tro cyntaf, nifer o bwyntiau gwefru wedi eu hadeiladu, yn naturiol, i mewn i seilwaith tai newydd. Yn hytrach na chebl hir yn arwain i’r cefn yn rhywle neu drwy’r garej, erbyn hyn mae yna bwyntiau gwefru wedi eu cynllunio’n briodol o flaen rhai tai.

Felly, mae’r byd yn newid ac mae angen inni weld y cynnydd hwn yn gyflym iawn. Rwy’n credu y gall y sector cyhoeddus arwain, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a buaswn yn cynnwys annog tacsis i newid i gerbydau trydan. Nawr, bydd hynny, yn amlwg, yn galw am argaeledd pwyntiau gwefru o amgylch y ddinas, a rhai cymhellion eraill hefyd efallai. Hefyd, rwy’n meddwl, wrth i ardaloedd trefol gyfyngu ar y defnydd o gerbydau preifat, yn enwedig cerbydau gyrrwr yn unig, gallwn weld llawer mwy o deithio trefol mewnol yn cael ei wneud mewn cerbydau trydan. Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n faes pwysig hefyd. Ond oni bai eich bod yn cael y seilwaith yn iawn, ni fyddwch yn gallu gweld y trawsnewidiad hwn. Maent wedi ymdrechu’n galed iawn—roedd hi’n ddiddorol nodi—yn Hong Kong. Maent wedi bod yn ymdrechu’n galed iawn i sicrhau newid yno, gyda’u cronfa trafnidiaeth werdd, ond maent wedi dod i’r casgliad mai costau cynhyrchu uchel, hyd oes gwasanaeth cyfyngedig, amseroedd gwefru hir a dwysedd ynni isel batris e-gerbydau yw’r cyfyngiadau allweddol o ran gallu cerbydau trydan i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth masnachol. Felly, mae’n eithaf amlwg fod yn rhaid inni gael ymagwedd gyfannol at gael trefn ar y seilwaith ac yna darparu pa gymhellion bynnag sydd eu hangen ar ben hynny i weld y newid moddol hwn, neu o leiaf y newid yn y dull o redeg y cerbydau hyn. Os edrychwch ar Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn arbennig, rwy’n credu bod ansawdd yr aer yn aml yn wael, ac os ydym eisiau parthau aer glân yn y dinasoedd hyn, ac rwy’n siŵr bod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei fynnu, yna rydym yn mynd i orfod gweld y math yma o newid.

A gaf fi siarad ychydig am integreiddio dulliau trafnidiaeth? Oherwydd, unwaith eto, rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn. Nawr, fel arfer clywn fod angen i chi ddod oddi ar y trên ac ar fws neu fel arall, ac mae hynny’n bwysig iawn, ond rwy’n meddwl bod y cyfleusterau ar gyfer pobl sydd efallai’n gyrru rhan o’u taith, efallai i faes parcio lloeren ar ymyl dinas, ac yna’n newid i fws neu drên, yn wir, ond hefyd, efallai, yn cerdded neu’n beicio, a chael y gwahanol rwydweithiau wedi eu cysylltu â’r pwyntiau lloeren hyn—credaf fod hynny’n bwysig tu hwnt, yn enwedig os ydych yn gwneud taith ychydig yn hwy, efallai o Flaenau’r Cymoedd, ac yn gyrru i ymyl Casnewydd, Caerdydd, neu Abertawe yn wir, os edrychwch ar y Cymoedd gorllewinol. Rwy’n credu bod hyn yn cynnig llawer o gyfle yn ogystal, ac rwy’n credu bod angen inni edrych ar ein seilwaith sydd yno ar hyn o bryd a meddwl sut y gellir ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.

Sylwaf fod strategaeth drafnidiaeth ddrafft maer Llundain yn gynharach eleni’n awgrymu y gellid cau Oxford Street i gerbydau domestig a’i gwneud yn stryd ar gyfer beicio a cherdded yn unig, a dyna’r math o feddwl sydd ei angen arnom. Mae llawer o lwybrau yno ar hyn o bryd; nid oes angen inni adeiladu rhai newydd o reidrwydd. Rwy’n credu bod llawer i’w gynnig o ganolbwyntio ar gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd fwy integredig, a’r defnydd preifat o geir yn yr ardaloedd sy’n debygol o gael llai o dagfeydd, felly ar gyrion y dref a mannau o’r fath—ond mewn partneriaeth â modurwyr fel nad ydym ond yn eu llesteirio â llawer o gyfyngiadau.

A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn meddwl fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth ddelfrydol i geisio cydlynu’r dulliau hyn? Felly, rwy’n meddwl y bydd hynny’n brawf allweddol o’r Ddeddf yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Hoffwn longyfarch yr ACau y cyflwynwyd y ddadl hon yn eu henwau heddiw. Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio fy sylwadau at ail ran y cynnig sy’n ymwneud â cherbydau trydan. Mae nifer y cerbydau trydan a hybrid ar ffyrdd Cymru wedi codi’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd 25 gwaith drosodd yn y pedair blynedd rhwng 2012 a 2016. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Rydym yn gwybod bod allyriadau o gerbydau modur yn cyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn gysylltiedig â degau o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau mwy o ddefnydd ar gerbydau trydan, mae angen inni sicrhau bod y seilwaith cywir yn ei le fel y gellir eu defnyddio mewn bywyd bob dydd, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone wedi ei grybwyll eisoes.

Sylwais gyda diddordeb mawr ar yr ymrwymiad yn y gyllideb ychydig wythnosau’n ôl i roi £2 filiwn ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Rwy’n credu bod hwn yn gam gwirioneddol synhwyrol i wneud yn siŵr fod Cymru yn gallu datblygu’r rhwydwaith o bwyntiau cyflenwi sydd ei angen arni, ond mae angen inni sicrhau rhwydwaith, nid yn unig o bwyntiau gwefru, ond o bwyntiau gwefru gyflym. Unedau gwefru yw’r rhain sy’n gallu gwefru 80 y cant mewn oddeutu 30 munud, o gymharu â’r unedau sy’n cymryd tair i bedair awr i wefru cerbyd yn llawn. Y pellter y gall cerbyd trydan ei deithio cyn ailwefru yw oddeutu 80 milltir ar gyfartaledd, ac ar gyfer llawer o deithiau, bydd angen i ddefnyddwyr aros ac ailwefru eu cerbyd eto, ac nid yw’n ymarferol inni gael unedau gwefru lle y byddai’n rhaid i bobl aros am dair i bedair awr. Dyma’r math o bethau sy’n datgymell pobl rhag bod yn berchen ar gerbydau trydan, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio’r buddsoddiad hwn i gael y pwyntiau gwefru cyflym, yn hytrach na’r rhai confensiynol.

Ar wahân i oddeutu dwsin o bwyntiau gwefru cyflym sydd wedi eu cyfyngu i raddau helaeth i goridorau’r M4 neu’r A55, mae hyn o ddifrif yn rhywbeth sy’n galw am ddatblygiad pellach, a buaswn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymuned frwdfrydig ac ymroddgar y defnyddwyr cerbydau trydan yn gynnar yn y broses er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau ar wario’r arian hwn yn gywir ac yn effeithlon. Mae’n bwynt sylfaenol, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau gwefru hyn wedi eu lleoli yn y mannau cywir a’u bod yn hygyrch 24 awr y dydd hefyd.

Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer heddiw, roedd yr adroddiad gan y grŵp arbenigol ar gerbydau carbon isel a gynhyrchwyd ar gyfer y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth blaenorol yn arbennig o ddefnyddiol. Mae’r adroddiad yn cynnig awgrymiadau synhwyrol ar sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo rhwydwaith gwefru cyflym ar draws ystâd y sector cyhoeddus a datblygu fflyd well o gerbydau nwyddau. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd hyrwyddo ffynonellau tanwydd amgen i gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Fel y noda’r adroddiad, mae cryfder sylfaen fodurol Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ddatblygu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cerbydau carbon isel, ac mae hyn, yn ei dro, yn cynnig cyfleoedd newydd inni ysgogi twf ac elwa ar ei fanteision economaidd. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw.

Diolch i’r gwahanol Aelodau am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi’r cynnig yn fras, er bod angen gwneud rhai sylwadau ynglŷn â datblygiad cerbydau di-yrrwr a cherbydau trydan. Nawr, rwy’n derbyn ein bod yn mynd i symud ymlaen â’r dechnoleg hon, felly efallai na fydd y problemau sydd gennym yn awr yn broblemau mewn rhai blynyddoedd, ond rwy’n awyddus i ddilyn arweiniad Vikki Howells drwy dynnu sylw at rai o’r problemau sydd gennym ar hyn o bryd.

O ran ceir di-yrrwr, nid wyf yn siŵr iawn a ydynt yn mynd i fod yn ddatblygiad cadarnhaol, gan ei bod yn ymddangos i mi fod yna risg real iawn, pe bai ceir di-yrrwr yn dod yn gynnyrch masnachol hyfyw, gallai arwain at fwy o geir ar y ffordd yn y pen draw. A fyddwch angen trwydded draddodiadol i’w gyrru? Os na, gallech gael pobl sy’n rhy hen i yrru’n mynd yn ôl i mewn i gar, yn ogystal â phobl sy’n rhy ifanc. Nawr, fel y dywedodd Dai Lloyd, gallai hyn ddwyn manteision cymdeithasol yn ei sgil. Fodd bynnag, gallem weld cynnydd enfawr yn nifer y cerbydau ar y ffordd, a gallai’r ffyrdd wynebu mwy o dagfeydd nag a geir yn awr hyd yn oed. Mae’n rhaid inni gofio bod pob gwelliant mawr a gawsom erioed i’r system ffyrdd o gychwyn y traffyrdd yn y 1950au ymlaen wedi arwain at fwy o dagfeydd traffig—

Diolch am ildio, Gareth. Gwnaethoch rai pwyntiau diddorol yno. Wrth gwrs, mae yna ochr arall i hynny: os oes gennych geir di-yrrwr sy’n cyfathrebu â’i gilydd trwy gyfrwng cyfrifiadur, Wi-Fi, neu beth bynnag ydyw, mewn gwirionedd gallwch gael pellteroedd stopio byrrach, am nad ydych yn dibynnu ar ymateb dynol, felly gallwch gael llawer mwy o gynhwysedd ar y rhwydwaith ffyrdd presennol.

Ie. Rwy’n ymwybodol o’r cysyniad, ond yr hyn sy’n fy mhoeni gyda’r cysyniad hwn yw’r cyfnod trosiannol, pan fydd gennych geir di-yrrwr ar y ffordd ac mae gennych geir yn cael eu gyrru gan deithwyr ar y ffordd. Sut y byddant yn rhyngweithio â’i gilydd? Mae gennyf ddiddordeb yn y goblygiadau o ran tagfeydd a ffactorau eraill ar y ffyrdd gyda rhyngweithio o’r fath, ond mae’n dda eich bod yn codi’r mater hwnnw.

Y materion eraill sy’n ymwneud â cheir di-yrrwr: os yw’n ei gwneud hi’n haws i bobl fynd i mewn i gerbydau preifat i wneud taith, gallai hyn effeithio’n negyddol ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn ceisio annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Beth am ei effaith ar deithio llesol? Gallai ceir di-yrrwr ei gwneud yn haws byth i blant gyrraedd yr ysgol mewn car preifat, gan na fyddai’n rhaid i’r car hwnnw gael ei yrru gan rieni heb lawer o amser. Felly, rwy’n meddwl bod y rhain yn bethau y mae’n rhaid inni eu cadw mewn cof wrth inni symud ymlaen i ystyried ceir di-yrrwr.

Ceir trydan yw’r peth arall y buom yn ei drafod, ac nid oes arnaf eisiau ailbobi pob un o’r pwyntiau dilys ac ymarferol iawn y mae Vikki Howells newydd eu gwneud. Soniodd am yr un mesuriadau ag a welais wedi eu dyfynnu. Gwahaniaethodd rhwng y ddau fath gwahanol o bwyntiau gwefru, ac rydym angen y pwyntiau gwefru cyflym, ond hyd yn oed wedyn, ar hyn o bryd, rydym yn sôn am hanner awr i ailwefru 80 y cant. Sut y mae hynny’n cymharu â llenwi tanc o betrol? Ychydig funudau. Felly, mae yna wahaniaeth mawr o hyd, a bydd yn gwneud llawer o deithiau’n anymarferol o fewn ffrâm amser benodol, teithiau y gallwch eu gwneud ar hyn o bryd.

Mae yna faterion eraill hefyd yn codi mewn perthynas â cheir trydan. Sut y gallwn gael gwared ar yr holl fatris ar ôl i ni eu defnyddio ac o ble y daw’r rhannau i’w gwneud yn y lle cyntaf? O ystyried mai dwy o’r rhannau a ddefnyddir yw lithiwm, y daw peth ohono o Zimbabwe, a chobalt, y daw peth ohono o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo, gall hyn greu problemau ynglŷn ag amodau gwaith yn y gweithfeydd yn y gwledydd hynny.

Problem arall yw bod cerbydau trydan hefyd yn dawel iawn; ni allwch eu clywed yn dod. Felly, un peth y gallem ei gael, os cawn fwy o geir trydan ar y ffordd, yw mwy o farwolaethau ymhlith cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur. Felly, er fy mod yn cytuno â byrdwn cyffredinol eich cynnig, ac mae’n rhywbeth sydd angen inni ei archwilio, rwy’n credu bod yn rhaid inni gadw mewn cof ein bod yn mynd i ddyfroedd dieithr a gallai fod peryglon o’n blaenau. Diolch.

Mi wnaf i gyfraniad byr. Rydw i eisiau gwneud hynny oherwydd fy mod i’n teimlo’n wirioneddol angerddol ynglŷn â’r mater yma. Rydw i’n licio ceir. Rydw i wastad wedi licio ceir; roeddwn i’n mynd i’r ‘motor shows’ pan oeddwn i’n hogyn bach, efo fy rhieni. Rydw i’n ystyried moduron i fod yn ddarnau o gelf, ac mae rhywun yn gallu edrych ar gar o unrhyw gyfnod a dysgu llawer am y cyfnod hwnnw oddi wrth y car sydd o’ch blaen chi. Bydd, mi fydd y ceir sydd ar ein ffyrdd ni yng Nghymru yn y dyfodol yn arwydd o beth fydd ffasiynau a ffyrdd o fyw Cymru yn y dyfodol.

Mae fy niddordeb i mewn ceir yn eu gyriant nhw hefyd, sydd hefyd wedi dilyn ffasiynau ac wedi dilyn ‘trends’ byd eang. Rydym ni’n gwybod yn barod, wrth gwrs, bod gyriant wedi newid dros y blynyddoedd, wrth i anghenion a dyheadau a disgwyliadau pobl newid. Ond mae arferion pobl o ran eu dewis nhw o gar yn gallu cael eu newid, ac mae yna nifer o ddylanwadau yn gallu dod i mewn i hyn: consyrn amgylcheddol, wrth gwrs, ac mae hynny diolch byth yn dod yn fwy amlwg; perfformiad car, o bosib; a’r gost hefyd.

Rydym ni yng Nghymru rŵan yng nghanol neu, o bosib, ar ddechrau’r newid mawr nesaf o ran gyriant ceir, sef y newid i gerbydau llwyr drydanol, ond mae o’n newid graddol iawn, iawn, ac nid ydw i’n gweld y gwir gymhelliad yna eto i gyflymu’r newid yna. Mae pwynt 1 yn y cynnig heddiw yn nodi cyflymder y chwyldro mewn technoleg trafnidiaeth, ond nid ydy strategaeth Llywodraeth a pholisi cyhoeddus yn dod yn agos at ddal i fyny efo’r chwyldro technolegol hwnnw.

Rydw i yn wirioneddol yn credu bod yna gyfle i ni yng Nghymru i greu enw i’n hunain yn y maes yma, a thrwy hynny i yrru a chyflymu newid yn arferion defnyddwyr yng Nghymru. Felly dyma i chi ambell i syniad: pam ddim newid canllawiau cynllunio i dai newydd er mwyn ei gwneud hi’n orfodol i osod pwyntiau gwefru y tu allan iddyn nhw? Lle mae’r strategaeth ar draws y sector cyhoeddus i osod pwyntiau gwefru? A oes rhaid cael pwyntiau gwefru mewn meddygfeydd neu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Mae angen gweithredu ar hyn. Lle mae’r rheoliadau i’w gwneud hi’n angenrheidiol i fflyd cerbydau’r sector cyhoeddus—cynghorau, yr NHS ac ati—fod yn sero allyriadau neu’n drydanol? Mae yna un rheolwr NHS yn fy etholaeth i sydd wedi bod yn trio sicrhau bod nyrsys ardal a nyrsys ysgol yn gallu cael ceir trydan ar gyfer eu hymweliadau nhw, ond yn methu oherwydd bod y contract a oedd gan yr NHS efo cwmni a oedd yn methu â darparu ceir trydan. Dyma newid a allai gael ei gyflwyno drwy newid polisi.

Beth am rwydwaith wedi’i farchnata o ran ei apêl dwristaidd? ‘Dewch i Gymru ac mi wnawn ni sicrhau bod eich amgueddfeydd chi a’ch atyniadau twristiaeth a’ch gwestai chi yn llefydd lle y gallwch chi wefru eich car.’ Nid ydw i’n gwybod os mai’r dacteg ydy gadael i bethau ddigwydd yn organig, gadael pethau i siawns, ond nid oes rhaid i chi ond edrych ar fapiau Tesla o bwyntiau gwefru ar draws Ewrop i weld bod Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl. Rydw i’n sôn am bwyntiau gwefru cyflym; dim ond ar goridorau’r A55 a’r M4 y maen nhw yng Nghymru. I fi, sy’n hollti fy mol eisiau cael car trydan, nid ydy’r rhwystrau yn rhai rydw i’n gallu eu goresgyn mewn ffordd sy’n economaidd synhwyrol ar hyn o bryd.

As someone who is unashamedly a fan of the motor car for its artistic and mechanical and technological merits—and before I’m criticised, I’m as eager as anybody to make sure as many people as possible leave their motorcars behind and use public transport. But, as a car fan, I want Wales to embrace and to accelerate the electric vehicle revolution, to normalise electric vehicles. So, let’s try to build a reputation for Wales as an EV-friendly country. And knowing that investment and culture change doesn’t happen overnight, I think even a declaration of real intent, a declaration of ambition to build that reputation, could be a good way to get the ball rolling on this.

Finally, I was discussing recently with an electric vehicle enthusiast in my constituency who, incidentally, has installed a high voltage charger at his business in Llangefni, because of the lack of charging points elsewhere. I said, ‘I don’t want Wales to just follow others in this.’ His response: ‘At the moment, we’re not even following; we’re looking at our feet and shuffling’, and we really need to move ahead from that.

Diolch yn fawr iawn am gymryd rhan yn y ddadl yma.

I’m glad to have had this opportunity. I’m thankful to those who have put forward this motion today and, with a pun fully intended, let’s use this debate as a spark to Government putting a positive electric vehicle vision forward for Wales.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi hefyd ychwanegu fy niolch i’r Aelodau a gyflwynodd y ddadl bwysig hon ac am yr holl gyfraniadau meddylgar gan bob Aelod yn y Siambr heddiw? Rwyf fi, hefyd, yn eithaf brwd ynglŷn â cheir. Mae pawb sy’n fy adnabod yn dda yn gwybod fy mod yn adfer hen geir Mini fel ffordd o ymlacio ar y penwythnosau. Ac rwyf fi hefyd yn teimlo y dylai Cymru fod ar frig y don, pa gyfatebiaeth bynnag a fynnwch, ar gyfer datblygu hyn.

Rwy’n teimlo rheidrwydd, yn anffodus, i fynd i’r afael â chyfraniad braidd yn ddigalon Gareth Bennett gyda hanesyn adnabyddus am yr adeg y cyflwynwyd cerbydau modur yn y lle cyntaf, pan groesawyd y cerbyd modur gan lawer o wledydd ar draws Ewrop, ond rhoddodd Prydain ddeddfwriaeth ar waith i wneud i ddyn gyda baner goch gerdded o’u blaenau. O ganlyniad, roedd bron bob un o gwmnïau modurol mawr, llwyddiannus yr ugeinfed ganrif yn yr Almaen a Ffrainc, ac roeddem ni’n llusgo ar ôl yn ofnadwy. Mae gwers y Ludiaid yn glir: ni allwch atal llanw technoleg; ni allwch ond ei groesawu a’i fowldio yn ôl eich uchelgais eich hun. A dyna rydym eisiau ei wneud yma yng Nghymru fel rhan o strategaeth ein Llywodraeth i gofleidio a chynnwys ein hunain yn y newid hwn sydd i’w groesawu’n fawr, yn fy marn i, wrth i’r dechnoleg ddatblygu.

Gwnawn hynny drwy gael strwythur trithroed i sefyll arno, sef drwy gael polisi sy’n croesawu’r newid ac sy’n hyblyg, drwy gael polisi seilwaith i fynd gyda’r polisi trosfwaol sy’n ein galluogi i fowldio ein buddsoddiad i sicrhau bod y gofynion newydd ar gyfer y seilwaith hwnnw yn eu lle, a hefyd fod gennym bolisi sgiliau sy’n cynhyrchu’r bobl angenrheidiol i gynhyrchu’r seilwaith ac yn wir, y cerbydau ac yn y blaen sy’n teithio ar y seilwaith yn y dyfodol. Ac nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai Cymru fod ar flaen y gad ym mhob un o’r pethau hynny.

Mae’r angen i weithredu yn hynod o glir, nid yn unig oherwydd bod y dechnoleg wedi cyrraedd pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio—yn wir, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n gweld fy mod yn ei hoffi’n fawr iawn—ond hefyd, mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn ein galluogi i osod llwybr clir ar gyfer Cymru o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni adnewyddadwy gwirioneddol dda ar yr un pryd.

Mae’n rhaid i ni fod ar y blaen yn y gêm hon. Mae’n rhaid i ni ddeall systemau trafnidiaeth deallus, integreiddio gwybodaeth—

Diolch am ildio, Julie. Rydych wedi bod yn eithriadol o dda ac yn ddiwyd yn ymweld â mannau gwan band eang ar draws fy etholaeth ac ar draws rhannau mwyaf anghysbell ac anghyfannedd Cymru dros y misoedd diwethaf. A ydych chi wir yn barod i fynd i’r afael â hyn? Efallai y cewch wahoddiad i bob math o rannau o Gymru i archwilio pwyntiau gwefru trydan sy’n fannau gwan yn ogystal. [Chwerthin.]

Rwy’n edrych ymlaen at hynny’n barod. [Chwerthin.] Wel, y rheswm y bûm yn ymweld â’r holl leoedd hynny oedd am fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yn fawr o’r dechnoleg wrth iddi ein cyrraedd.

Fel roeddwn ar fin dweud, mae deall systemau trafnidiaeth deallus, integreiddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gyda seilwaith trafnidiaeth, cerbydau a defnyddwyr yn un o’r heriau pwysig hyn. Felly, wrth inni fabwysiadu’r technolegau newydd hyn—allyriadau isel, cerbydau awtonomaidd cysylltiedig ac yn y blaen—mae angen inni wneud yn siŵr fod ein cwmnïau yng Nghymru a’n seilwaith mewn sefyllfa i fanteisio arnynt. Mae gennym gyfres gyfan o gynhyrchwyr sydd eisoes â diddordeb mewn dod i Gymru neu sydd eisoes yng Nghymru, ac sydd â diddordeb mewn addasu eu gwaith i gynnwys hyn, ac mae hynny’n rhan o’r rheswm pam ein bod yn mynd i fuddsoddi £100 miliwn yn y parc modurol ym Mlaenau Gwent. Bydd hwnnw—nid af i ailadrodd y metrics ar gyfer hynny gan fod pawb ohonoch yn ymwybodol ohonynt.

Mynychais ginio ar ôl Digidol 2017 yn ddiweddar gyda chyfres o entrepreneuriaid modurol a digidol gyda golwg ar ddod â hwy at ei gilydd i siarad am eu syniadau. Roedd hwnnw’n ginio addysgiadol iawn, gan ei fod yn gwneud i chi ddeall o ddifrif beth yw rhai o’r elfennau integreiddio ar gyfer hyn. Felly, mae’n rhaid i ni integreiddio ein rôl mewn datblygu a gweithgynhyrchu batris, a phwyntiau gwefru trydan a’u dosbarthiad ar draws Cymru—mannau gwefru trydan cyflym; rwy’n derbyn y pwynt hwnnw’n llwyr. Mae’n rhaid inni gael gweithgynhyrchu cerbydau trydan at ddibenion arbennig ar raddfa lai, gweithgynhyrchu cyfansawdd, mae angen inni gael cwmnïau annibynnol cystadleuol iawn yng Nghymru, ond mae’n rhaid inni gael seilwaith cyhoeddus da iddynt allu eu defnyddio, ar gyfer mannau prawf y ddwy flynedd nesaf, ac yna ar gyfer ceir y dyfodol, wrth i hynny gael ei gyflwyno.

Rwy’n credu ei bod yn werth edrych am funud ar ychydig o’r pethau y bydd angen i ni eu trafod ar hyd y ffordd. Bydd yr Aelodau’n gwybod ein bod wedi cyhoeddi cynllun gweithredu symudol yn ddiweddar, sy’n sôn am barodrwydd, ymhlith pethau eraill, ar gyfer profion pumed genhedlaeth ac atebion arloesol eraill yng Nghymru. Hoffwn i’r Aelodau feddwl ychydig ynglŷn â sut y gallai cerbyd awtonomaidd deithio ar hyd ffordd. Bydd y ffordd honno’n wifrog. Bydd ganddi bibell band eang ffibr tetrabeit yn rhedeg ar ei hyd, a bydd nodau arni bob hyn a hyn i siarad â’r cerbydau uwch ei phen. Ond ni fydd y car yn gwthio sbigyn i’r ffordd. Bydd yn rhaid iddo gael rhyw fath o sbectrwm—Wi-Fi neu sbectrwm radio—i siarad â’r ffordd honno, ac â’r car o’i flaen. Os yw’r Llywodraeth yn gwerthu’r sbectrwm radio 5G, sy’n adnodd cyfyngedig—cofiwch nad yw’n beth diddiwedd—yn y ffordd y mae wedi gwerthu sbectra eraill, yna bydd beth fydd gennym, i bob pwrpas, yn cyfateb i fancio tir. Felly, bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn nad yw’r bedwaredd genhedlaeth ar gael ledled Cymru, ond mae 4G wedi cael ei werthu, ac nid yw’r cwmnïau sy’n berchen arno yn ei ddefnyddio mewn ardaloedd nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i feddwl o ddifrif am y ffordd y mae’n ymwneud â gwerthu sbectra y tro nesaf, nid fel buchod arian parod, ond fel ffyrdd o wneud yn siŵr y gellir defnyddio’r seilwaith hwn yn gynhyrchiol i wneud i’r dechnoleg hon ddigwydd yn y ffordd iawn. Felly, er enghraifft, yn bersonol ni fyddwn eisiau gyrru mewn cerbyd awtonomaidd yng nghanol Powys i ddarganfod bod fy nghysylltiad symudol yn torri i ffwrdd oherwydd bod cwmni sector preifat wedi dod i gytundeb ysgeler yn rhywle arall yn y byd ac wedi mynd yn fethdalwr. Buaswn yn hoffi iddo fod yn seilwaith cyhoeddus, ac rwyf angen iddo fod yn ddibynadwy ac yn wydn. Felly, rwy’n meddwl bod gwir angen meddwl drwy’r pethau hyn wrth inni symud ymlaen i’r dyfodol. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi hynny.

Ar yr un pryd, mae angen inni groesawu newid o ran batris a thechnoleg, er enghraifft, fel bod yr ystod yn mynd yn fwy ac yn well, a’n bod yn mynd i’r afael â rhai o’r materion a nododd Gareth Bennett ynglŷn â chynhyrchu deunyddiau prin ac yn y blaen. Yn ddiweddar, cefais bleser mawr o fynychu canolfan ymchwil catalysis arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd i edrych ar beth o’r arbrofi sy’n digwydd yno ar ddatblygu celloedd tanwydd gwahanol a defnyddio gwahanol gatalyddion i gynhyrchu gwahanol fathau o dechnoleg tanwydd. Rwy’n cyfaddef, er fy mod wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthyf ar y pryd, nid wyf yn rhy siŵr y gallwn ei ailadrodd yn awr yn ei holl ogoniant cemegol amryliw. Ond roedd yn drawiadol iawn yn wir, ac wrth gwrs mae’r Llywodraeth wedi rhoi llawer iawn o adnoddau i bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio adnoddau o’r fath gyda chwmnïau priodol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus mewn perthynas â’r gwaith ymchwil hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr fod y masnacheiddio ar gyfer y math hwnnw o beth yn digwydd yma yng Nghymru. Mae fy amser yn mynd i ddod i ben—fel arall buaswn yn darllen rhestr hir o gwmnïau sy’n rhan fawr o hynny i chi.

Fel y nododd Vikki Howells, rydym wedi darparu £2 filiwn yn y gyllideb i helpu i sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru, ac yn ogystal, rydym yn gosod 10 pwynt gwefru cyflym yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru i wasanaethu fel rhwydwaith i weithwyr ac ymwelwyr wrth inni ei gyflwyno. Rydym yn cysylltu â Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel y DU, sy’n gweinyddu cyllid y DU ar y potensial i gynnal digwyddiadau tebyg i sioeau teithiol yng Nghymru ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac mae fy nhîm arloesi wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mewn partneriaeth ag Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfleoedd i ariannu systemau trafnidiaeth integredig fel rhan o’n seilwaith, systemau awtonomaidd cysylltiedig a chyflymu arloesedd mewn systemau rheilffyrdd.

Dirprwy Lywydd, mae gennyf 12 neu fwy o dudalennau eraill am yr holl bethau y gallem eu gwneud mewn perthynas â rheilffyrdd a thrydan—

[Yn parhau.]—nad wyf am foddio fy hun yn eu darllen i gyd. Ond rwy’n meddwl ei bod yn werth—ac fe faddeuwch i mi am wneud hynny—crybwyll yr angen i hyrwyddo meddylfryd polisi ar bob lefel o lywodraeth yn y DU. Mae’r mater o gynhyrchu trydan er mwyn cynnal y technolegau newydd hyn yn un mawr. Felly, rwy’n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn yn ddiedifar i ofyn i Lywodraeth y DU wneud y penderfyniad ar y morlyn llanw yn Abertawe yn y ffordd y dylid ei wneud—fel y gwyddom y mae pawb yng Nghymru am iddo gael ei wneud, oherwydd credaf nad yw’n dderbyniol mewn gwirionedd eu bod yn llusgo’u traed ar hynny—ac i ffieiddio at fethiant i drydaneiddio’r brif reilffordd draw i Abertawe, nid yn lleiaf oherwydd ein bod angen seilwaith ar gyfer cyflwyno rhai o’r rhaglenni eraill. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud. Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau ein bod eisiau systemau trafnidiaeth integredig yng Nghymru i ddod â chymunedau yn agosach, i gysylltu ein pobl â chyfleoedd swyddi, hamdden a thwristiaeth, ac i ddatblygu ein heconomi. Ond yn fwy na dim byd arall, rydym yn awyddus i gael ein cario ar frig y don, i groesawu hyn, a’i wneud yn gyfraniad Cymru i’r dyfodol wrth inni symud ymlaen. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone a phawb arall a gefnogodd y ddadl hon, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dechrau edrych at y dyfodol. Pan fyddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd, mae’n rhaid i hyn fod yn rhan sylfaenol ohoni, ac rwy’n falch iawn mai Julie James yw’r person sy’n ymateb i hyn gan fod ganddi ddealltwriaeth wirioneddol o’r dechnoleg hon a’r angen a’r potensial i hyn newid y ffordd yr ydym yn byw. Nid wyf yn ei weld fel rhywbeth negyddol, rwy’n ei weld yn cynnig cyfleoedd newydd go iawn yn enwedig i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Gwn fod General Motors yr wythnos hon wedi cyhoeddi y byddai’n cynnal profion gyrru cerbydau hunan-yrru yn ninas Efrog Newydd. Felly, y pwynt yw: mae hyn yn digwydd yn awr, nid yw hwn yn chwyldro sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, nid ffuglen wyddonol ar gyfer ein hwyrion yw hyn—mae hyn yn digwydd yn awr ac mae angen inni ddal i fyny, ac mae angen i ni greu’r seilwaith a rhoi hwnnw ar waith. Yn wir, mae Elon Musk, sef gwrw’r dechnoleg newydd hon, wedi dweud ei fod eisiau cael cerbyd cwbl awtonomaidd ar y ffordd erbyn 2018: y flwyddyn nesaf yw hynny. Cerbyd masnachol yw hynny. Felly, mae pethau’n newid: rwyf newydd ddychwelyd o Frwsel ddoe, a gallech weld ceir yn cael eu gwefru ar y stryd ym Mrwsel. Mae pobl eraill yn ei wneud, mae angen inni ddal i fyny.

Mae disgwyl y bydd y dechnoleg newydd hon, mewn amser, yn arwain at ostyngiad o 90 y cant mewn damweiniau, gostyngiad o 40 y cant mewn tagfeydd, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau, a gostyngiad o 50 y cant yn y gofod parcio a gaiff ei arbed. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hollol gywir na ddylem gyfyngu hyn, fel y dywedodd Jenny, i gerbydau trydan. Mae cyfle i gerbydau hydrogen gyfrannu at hyn hefyd. Yn fy etholaeth, yn Llandrindod, gwn fod y car Riversimple—maent ar fin dechrau cynllun peilot newydd sy’n mynd i fod yn digwydd o’r Fenni. Felly, mae hyn yn digwydd—rydym yn rhan o hyn, ond mae angen inni fynd ymhellach.

Un o’r pethau mwyaf diddorol i mi mewn gwirionedd yw bod y potensial i fod yn berchen ar gar newydd yn debygol o newid. Nawr, mae KPMG wedi awgrymu bod 59 y cant o benaethiaid diwydiant yn credu na fydd mwy na hanner yr holl berchnogion ceir heddiw am fod yn berchen ar gar erbyn 2025: wyth mlynedd o nawr yw hynny. Wel, nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond mae hynny’n golygu fy mod wedi prynu fy nghar olaf. [Chwerthin.] Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod yr economi gylchol hon, fod y ffordd newydd o fod yn berchen ar geir hefyd yn mynd i newid ein perthynas â’r ffordd yr ydym yn teithio o gwmpas mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe fydd rhai’n dioddef. Fe fydd rhai’n dioddef: mae’n debyg na fydd gyrwyr tacsi yn hapus iawn ynglŷn â hyn; mae’n debyg na fydd y bobl sy’n adeiladu motorau tanio yn gyffrous iawn ynglŷn â hyn. Ond dyna pam y mae’n rhaid i ni symud gydag ef a chreu swyddi newydd. Nid wyf yn un o’r proffwydi gwae. Nid wyf yn credu y gallwn wthio bys i’r morglawdd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ei groesawu a’n bod yn rhedeg gydag ef.

Mae’n rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd economaidd hynny. Mae’r Boston Consulting Group yn dweud bod y farchnad hon yn mynd i fod yn werth $77 biliwn erbyn 2035. Nawr, hyd yn oed pe bai gennym ffracsiwn o hynny yng Nghymru byddai’n gam mawr. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, pan fyddant yn datblygu’r strategaeth economaidd newydd hon, yn meddwl—fel y maent, rwy’n siŵr—y tu hwnt i’r presennol. Mae gwrando ar Julie wedi fy nghalonogi’n fawr, a gwybod eu bod yn cadw llygad ar hyn mewn gwirionedd, fod potensial ar ei gyfer, ond hefyd i wrando ar y problemau real sydd gennym mewn gwirionedd. Wyddoch chi, os oes gennym y Wi-Fi 5G yn mynd allan i’r sector masnachol, heb fod unrhyw reolaeth arno, yna gallai hynny, o bosibl, rewi’r system go iawn mewn rhai ardaloedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd—. Clywsom am gynllunio—siaradodd llawer o bobl am gynllunio—ac rwy’n meddwl bod Rhun yn llygad ei le yn sôn nid yn unig am system wefru’r seilwaith yr awgrymodd Vikki ei bod yn wirioneddol bwysig—y system wefru cyflym honno. Mae yna wefru cyrchfannau hefyd. Gallwch yrru i rywle a’i adael i wefru dros nos. Mae angen inni wneud yn siŵr y gall hynny ddigwydd, ac mae’n digwydd mewn rhai mannau yng Nghymru eisoes. Ond rwy’n credu bod cyfle inni feddwl. Ac rwy’n gobeithio y byddwn yn adeiladu hyn i mewn i bethau pan fyddwn yn asesu beth fydd yr effaith os ydym yn mynd ati i newid yr M4, a beth fydd yr effaith pan fyddwn yn ailgynllunio ein trefi a’n dinasoedd. Mae angen adeiladu pob un o’r pethau hyn i mewn i’r syniadau cynllunio hynny yn awr, fel yr awgrymodd Rhun.

Gwn fod llawer o bobl yn y Siambr hon wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, a hoffwn ofyn i bobl roi ystyriaeth arbennig i sut y gallai’r dechnoleg hon fod yn fuddiol iawn mewn rhannau o’r Gymru wledig, lle y mae angen i bethau fod ychydig yn fwy hyblyg, lle na allwn gael bysiau mawr a phethau yn yr un ffordd ag y gallwch mewn dinasoedd. Ac mae’r potensial sydd yno, rwy’n meddwl, yn enwedig ar gyfer helpu poblogaeth sy’n heneiddio, yn wirioneddol wych ac unwaith eto, mae angen inni feddwl am hynny.

Soniodd Dai Lloyd am yr anhawster gyda lonydd gwledig cul. Wel, un o’r pethau a ddysgais o siarad â Tesla yw bod yn rhaid i chi beintio streipiau gwyn ar ymyl ffyrdd, ond yn hanner ein hardaloedd gwledig, nid oes unrhyw streipiau gwyn i’r cerbydau awtonomaidd hyn eu darllen. Felly, unwaith eto, beth y mae awdurdodau lleol yn ei wneud? A ydynt yn cynnwys hynny yn eu strategaethau economaidd?

Felly, mae angen inni feddwl sut y gwnawn hyn, mae angen inni feddwl sut y gallwn addasu ein gridiau—nid y gridiau seilwaith mawr yn unig, ond a allem gael gridiau mwy lleol? A allwn wneud mwy gydag ynni adnewyddadwy, sy’n hollol hanfodol? Ni fyddwn yn gallu parhau os cawn y chwyldro hwn at gerbydau trydan gyda’r seilwaith pŵer sydd gennym yn awr. Felly, gadewch inni gofio bod y chwyldro cerbydau trydan ar ein gwarthaf. Rwy’n credu bod angen inni symud yn gyflym iawn i wneud yn siŵr nad ydym yn cael ein gadael ar ôl, ac rwy’n gobeithio y gallwn arwain gyda’r dechnoleg hon a chroesawu’r dechnoleg hon, gan fy mod yn credu ei fod yn gyfle go iawn i ni yng Nghymru arloesi ac arwain.

Thank you very much for the debate.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Teithio Rhatach ar Fws a Thrên i Bobl Ifanc

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

We now move on to the next item on the agenda, which is the Welsh Conservative debate on concessionary bus and rail travel for young people, and I call on Russell George to move the motion.

Cynnig NDM6534 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a

b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies sy’n galw ar y Cynulliad i ymestyn y cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim a breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn addas iawn fod ein dadl y prynhawn yma’n dilyn ymlaen o’r ddadl flaenorol.

Fel y bydd yr Aelodau’n derbyn, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru sy’n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn dilyn yr ôl troed wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a diwygio’r cynllun fyngherdynteithio—cynllun nad yw wedi cyrraedd ei botensial cychwynnol mewn gwirionedd er bod miliynau wedi ei fuddsoddi ynddo, a chafodd ei ddisgrifio fel un siomedig o ran y niferoedd a fanteisiodd arno.

Nod y cynnig hwn, Dirprwy Lywydd, yw helpu i ryddhau pobl ifanc o’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni trwy gyflwyno cynllun a luniwyd i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a sicrhau mwy o chwarae teg i bobl iau. Oedolion ifanc sy’n tueddu i fod â’r cyflogau isaf, y premiymau yswiriant car uchaf, hwy sy’n dioddef fwyaf o argyfwng tai Cymru, a hwy hefyd sydd wedi dioddef yr ansicrwydd o beidio â gwybod a fydd eu ffioedd dysgu’n codi unwaith eto—ac mae hyn, wrth gwrs, wedi gwaethygu pryderon pobl ifanc ynglŷn â chostau addysg uwch. Felly, gallai’r cynllun cerdyn gwyrdd a gynigiwn gael gwared ar y rhwystr i gael mynediad at addysg a hyfforddiant ar gyfer swyddi i lawer o bobl yng Nghymru.

Yn wir, mae hon yn broblem sy’n wynebu llawer o bobl ifanc yn fy etholaeth i, lle y mae cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr mawr i lawer o oedolion ifanc wrth iddynt geisio cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Yn sgil y ffaith bod ysgolion a cholegau mewn rhai rhannau o ganolbarth Cymru yn darparu cyrsiau mwyfwy cyfyngedig, mae’r cyfyngiadau ariannol a’r anhawster mawr i gael mynediad at addysg bellach mewn mannau eraill yn golygu bod pobl ifanc naill ai’n dewis peidio â dilyn eu dewis cyntaf o bwnc, neu’n peidio â chamu ymlaen i addysg bellach o gwbl. Felly, buaswn yn awgrymu bod yn rhaid i ni weithredu. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld sut y gall strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru gael ei gwireddu heb roi mesurau digonol ar waith i leihau cost trafnidiaeth gyhoeddus i bobl iau.

Deillia’r cyfiawnhad dros y cynnig hwn o’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw. Bellach, gweithwyr Cymru sy’n cael y cyflogau wythnosol isaf yn y DU. Mae’n arswydus fod pecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £43 yr wythnos yn fwy na gweithwyr Cymru. O ganlyniad i hyn, mae pobl iau yn wynebu rhagolygon llwm o ran eu gallu i ennill arian. Credaf y bydd darparu gwasanaeth bws am ddim a cherdyn rheilffordd yn chwarae rhan yn galluogi pobl iau i fynd ar drywydd cyflogaeth neu addysg bellach, yn enwedig gan fod pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed yn fwy tebygol o ddefnyddio bws nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae ein pobl ifanc yn dibynnu’n drwm ar y rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith ac addysg, felly rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylent gael eu cefnogi yn hynny.

Hoffwn nodi bod ein cynnig wedi denu adborth cadarnhaol iawn gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a oedd yn hynod falch o ymdrechion y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi’r defnydd o fysiau gan bobl iau. Rydym wedi argymell dwy fenter wedi eu costio’n llawn y credwn y byddent yn lleihau’r baich ariannol sy’n wynebu pobl iau yng Nghymru. Felly, er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i grŵp oedran sy’n ei chael yn anodd, a bydd ein cynllun teithiau bws am ddim hefyd yn creu manteision amgylcheddol sylweddol sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision uniongyrchol i bobl ifanc eu hunain, gan annog pobl i newid o foduro preifat i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn, wrth gwrs, yn gyson ag amcanion Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau cerbydau, a bydd hefyd yn adfywio’r diwydiant bysiau.

Fel y dywedais mewn cyfraniad yr wythnos diwethaf, os yw pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, mae’n amlwg eu bod yn dal ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, rwy’n credu bod ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth am ddim yn ddigyfyngiad i bobl rhwng 16 a 24 oed yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud y gorau o’u potensial, gan adeiladu uchelgais ac annog dysgu, fel y mae strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ceisio ei gyflawni. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.

2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.

3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.

4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel y mae Russell George wedi dweud, mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol ar gyfer pobl iau yng Nghymru sy’n dibynnu ar fysiau a threnau i gael mynediad at ddosbarthiadau addysg, swyddi penwythnos, clybiau ar ôl ysgol a chwaraeon—mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae mynediad at y cyfleoedd a’r gweithgareddau hyn yn rhan annatod o ddatblygiad y genhedlaeth nesaf, sy’n parhau i’w gwneud yn glir eu bod am weld gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai fod yr Aelodau’n cofio bod Senedd Ieuenctid y DU wedi pleidleisio dros wneud trafnidiaeth gyhoeddus ratach, well a mwy hygyrch yn brif ymgyrch ar gyfer 2012. Deilliodd yr ymgyrch hon yn y DU o arolwg barn cenedlaethol o 65,000 o bobl ifanc, a nodai’r pum prif fater sy’n peri pryder i bobl ifanc, ac roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg iawn ar frig yr agenda honno. Felly, mae’n bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn dangos eu bod yn gwrando ar farn pobl ifanc wrth ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth.

Wrth gwrs, mae’n bwysig hefyd fod y diwydiant rheilffyrdd a bysiau’n gwrando ac yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan fod pobl ifanc yn farchnad bwysig ar gyfer teithio cyhoeddus. Yn wir, yn aml iawn, ni fydd gan bobl ifanc unrhyw ddewis ond defnyddio gwasanaethau bws a thrên cyn iddynt ddysgu gyrru. Felly, rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol o deithio’n gyhoeddus er mwyn eu hannog i barhau i ddefnyddio bysiau a threnau pan fyddant yn oedolion, hyd yn oed os ydynt yn dysgu gyrru neu’n prynu car.

Rydym yn byw mewn oes lle y mae’n cymryd eiliadau i anfon trydariad neu ddiweddaru statws ar Facebook, ac felly mae’n amlwg y gall pobl ifanc fod yn ddylanwad mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n feirniadol iawn ohoni, ac mae hynny’n rhywbeth nad yw’r diwydiant bysiau a threnau wedi bod o ddifrif yn ei gylch yn y gorffennol. Felly, efallai fod yna gyfle yn y fan hon i weithredwyr gwasanaethau bws a thrên ymgysylltu mwy â phobl iau wrth ddatblygu gwasanaethau a hyd yn oed ymgyrchoedd yn y dyfodol, drwy ddefnyddio’r llwyfannau digidol hyn lawer mwy nag y maent wedi ei wneud yn y gorffennol i gyfathrebu â phobl ifanc.

Felly, o ystyried pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, mae’r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi camau i gyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad at deithiau bws am ddim yn ddigyfyngiad a theithio ar y trên am bris gostyngol i’r holl bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu bod y cynllun hwn yn anfon neges glir i bobl ifanc ledled Cymru ein bod yn cydnabod y pryderon sydd ganddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, a’n bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu cefnogi’n well.

Bydd y polisi hwn hefyd yn helpu i gryfhau a chefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru drwy annog mwy a mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny ddiogelu’r gwasanaethau bws hynny ar gyfer y dyfodol, sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a’r etholaeth a gynrychiolaf. Bydd cynllun fel hwn yn ddi-os yn gwneud rhai gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn llawer mwy cynaliadwy.

Wrth gwrs, gall y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod hyd yn oed yn fwy o rwystr i bobl ifanc ag anawsterau dysgu sy’n eithaf aml yn teimlo bod y system drafnidiaeth gyhoeddus yn gymhleth a bygythiol. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu i ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn syml iawn yw cynyddu dealltwriaeth a goddefgarwch o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ag anawsterau dysgu. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan grwpiau megis Pembrokeshire People First, a dylwn ddatgan buddiant fel eu llywydd. Mae grwpiau fel Pembrokeshire People First yn parhau i ddadlau dros bolisïau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu, ac un o’u galwadau yw hawl i deithio ar fysiau’n rhad ac am ddim. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn helpu mewn rhyw ffordd drwy annog mwy o bobl ifanc ag anawsterau dysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny feithrin eu hyder a’u hannog i fyw’n fwy annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned ehangach.

Yn sicr, mae pwysigrwydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus dda yn sicr i’w deimlo mewn ardaloedd gwledig, lle y ceir llai o wasanaethau a chostau uwch. Ar gyfer pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro, nid yw’r ddaearyddiaeth mor gydgysylltiedig â rhannau eraill o Gymru. Felly, credaf fod achos yma dros wneud gwell defnydd o’r fflyd drafnidiaeth bresennol yn ardaloedd gwledig yr awdurdodau lleol trwy ddatblygu mwy o ddull partneriaeth gyda’r rhai sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn golygu dwyn ystod o asiantaethau a rhanddeiliaid ynghyd, yn ogystal ag adrannau awdurdodau lleol, i gydlynu’n ganolog a threfnu trafnidiaeth gyhoeddus, trwy ystyried cynhwysedd y rhwydwaith prif ffrwd a dod o hyd i fylchau, gobeithio, yn y ddarpariaeth drafnidiaeth lle y gellir darganfod atebion ar y cyd. Gyda chyllid yn dynn i lawer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig, mae angen dewisiadau amgen i gefnogi argaeledd trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc, ac efallai fod ymagwedd gydweithredol a all gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd effeithiol ymlaen.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth galon y ddadl hon mae’r awydd i ddarparu mwy o gymorth ac annibyniaeth i bobl iau. I wneud hyn, credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a phobl ifanc eu hunain weithio gyda’i gilydd i wneud gwasanaethau’n fwy fforddiadwy, hygyrch a derbyniol. Nod ein cynigion yw rhoi annibyniaeth i bobl ifanc deithio’n fwy rhydd o amgylch Cymru trwy gynnig teithiau bws am ddim a theithiau ar y trên am bris gostyngol i bobl ifanc, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.

Heddiw, pan fyddwch yn siarad ag unrhyw berson ifanc am y math o bethau y maent am eu gweld o wleidyddiaeth, mae trafnidiaeth gyhoeddus, o ran ei argaeledd a’i gost, bob amser yn eithaf agos at frig y rhestr. Drwy fforwm economaidd ardal Castell-nedd, clywsom stori am ddyn ifanc a oedd wedi colli hyder am fod cyfle lleoliad gwaith wedi methu, a hynny am ei fod yn gorfod dibynnu ar gludiant bws o ben cwm Nedd i mewn i Gastell-nedd ac ymlaen i Gaerdydd. Roedd yr anhawster o wneud i’r daith honno weithio iddo ef wedi arwain at golli ei swydd a’i adael ar ôl, mewn gwirionedd, ar y ffordd i gyflogaeth gynaliadwy. Felly, yn bendant mae angen i bobl ifanc gael bargen newydd ar gyfer defnyddwyr bysiau ac un sy’n caniatáu iddynt deithio am ddim neu’n rhad, ond sydd hefyd yn gwella amseroedd teithio a phrofiad. Ac mae hynny’n ymwneud â blaenoriaethu bysiau, materion cynllunio a thechnoleg, fel sydd wedi ei drafod gennym sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon.

Ar gost teithio, croesawaf ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ymestyn oedran teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed, a buaswn yn annog pobl ifanc ledled Cymru i ymateb i’r ymgynghoriad gyda’u safbwyntiau fel y gallwn glywed beth sy’n bwysig iddynt hwy. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn iawn y dylai Llywodraeth Cymru gadw’r opsiwn, os oes angen, o gynllun gorfodol i adeiladu ar y trefniadau gwirfoddol os gwelir bod angen gwneud hynny. Ond nid yw’r ddadl heddiw ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud â’r pethau hynny; mae’r cynnig yn ailadrodd y polisi y mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn pwyso amdano yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n gyson os nad yw’n fawr ddim arall.

Maent yn honni bod cynnig teithiau bws am ddim a thraean oddi ar docynnau trên yn costio £25 miliwn. Gadewch inni edrych ar hynny. Ar hyn o bryd ceir oddeutu 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hynny, gallwch gymryd yn ganiataol y buasai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl ifanc. Gan gymryd bod tocyn bws i oedolion yn costio tua £2 ac y byddai oddeutu 350,000 o bobl yn gymwys o bosibl, byddai’r pris am gynnig y Ceidwadwyr yn agosach at £70 miliwn na £25 miliwn mae’n debyg—ac ar gyfer yr elfen bws yn unig y mae hynny, heb sôn am y gostyngiad trên. Nawr, mae gennyf gyfrifiannell os oes unrhyw un am ei benthyg.

Ond maent yn dweud wrthym eu bod am gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg er mwyn talu am ran ohono, yn union fel y gwnaeth eu cymheiriaid Torïaidd yn San Steffan—y lwfans cynhaliaeth addysg, sydd, gyda llaw, yn cynorthwyo 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg. Nawr, os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny—ac rydym wedi clywed llawer am gyfleoedd addysg o’r fainc gyferbyn heddiw—os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny byddai cynllun y Ceidwadwyr yn mynd â mwy na £1,500 y flwyddyn oddi wrthych. Mae Russell George wedi dweud bod costau trafnidiaeth yn rhwystr mawr i addysg ac rwy’n cytuno, ond beth ar y ddaear ydych chi’n galw colli £1,500? Rwy’n galw hynny’n rhwystr enfawr hefyd.

Ac os nad yw polisi bws y Torïaid yn ddigon o benbleth, mae eu polisi o draean oddi ar docynnau trên eisoes yn bolisi rheilffyrdd cenedlaethol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynnig y Torïaid heddiw gan nad yw’n helpu pobl ifanc ac nid yw’n gwneud synnwyr. Rwy’n annog pobl ifanc i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac i ddweud wrthym beth y maent ei eisiau o ran teithiau bws am ddim er mwyn iddynt gael polisi sy’n gweithio iddynt.

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma’r prynhawn yma. Nawr, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, oherwydd, mewn egwyddor, mi ydym ni’n gefnogol o’r syniad o ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws a rheilffordd am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Os ydych chi’n gofyn i bobl ifanc os ydyn nhw eisiau talu i fynd ar y bws, neu fynd am ddim, mynd am ddim sy’n ei chael hi bob tro. Ond mae’n rhaid i’r gyllideb fod ar gael er mwyn gwireddu hynny. Felly, mi fuasem yn galw ar y Llywodraeth i edrych ar gynigion y Ceidwadwyr am hyn, ac i beidio â diystyru a phardduo unrhyw gynigion polisi gan wrthbleidiau heb hyd yn oed eu hystyried nhw’n gyntaf. Mi fuasai gwneud unrhyw beth i’r gwrthwyneb i hynny yn sicr yn anaeddfed ar ran y Llywodraeth ac yn or-blwyfol heb reswm. Oherwydd, o edrych ar welliannau’r Llywodraeth, yn ogystal â dogfen ymgynghori’r Llywodraeth, mae’n edrych yn debyg y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno rhywbeth tebyg dros y blynyddoedd nesaf, ta beth. Felly, mi oedd ymateb y Llywodraeth i’r cyhoeddiad yma gan y Ceidwadwyr yn hollol ddiangen.

Ond mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, pam yr ydym yn ystyried ehangu’r manteision hyn i fwy o bobl ifanc. Yn amlwg, mi fuasai sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dod â nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, fel rydym ni wedi clywed eisoes yn y drafodaeth yma. Ond, mewn rhannau helaeth o Gymru ble mae dreifio yn fwy cyfleus, mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn brin. Mae angen ehangu darpariaeth gwasanaethau bysys, ac yn y pen draw i’w ddod ag ef nôl i fod yn wasanaeth cyhoeddus.

Ond, mewn sefyllfaoedd a lleoliadau ble mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, yna mae’n angenrheidiol i ni ddarganfod ffyrdd arloesol er mwyn newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen cael bysys a threnau sydd yn ddibynadwy, sydd yn cyrraedd ar amser bob tro, sydd yn lân, sydd yn cydlynu efo gwasanaethau eraill, ac yn cydgysylltu efo'i gilydd, a hynny’n digwydd yn rheolaidd, fel nad oes angen treulio rhan sylweddol o bob dydd yn teithio.

Mae’r cynigion yr ydym yn eu dadlau heddiw’n werth eu hystyried fel un ffordd amlwg o gyrraedd at y nod o newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o blaid rhyddhau a’i gwneud hi’n haws i’n pobl ifanc gael swydd yn y lle cyntaf a chadw’r swydd honno pan fyddan nhw wedi ei chael hi. Felly, edrychaf ymlaen at dderbyn rhagor o wybodaeth am y posibiliadau hyn gan y Llywodraeth ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Diolch yn fawr.

Rhaid i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn agos at frig agenda unrhyw Lywodraeth. Mae’r manteision i’r amgylchedd, yr economi, iechyd y cyhoedd, yn ddiymwad. Yn ogystal, mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn hanfodol i dwf a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Mae ein dadl heddiw—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:50:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Nid wyf ond newydd ddechrau, mae’n ddrwg gennyf. Mae ein dadl heddiw yn amlinellu polisi realistig, cadarnhaol wedi’i gostio. Yn wir, efallai y byddai disgwyl yn realistig i Lywodraeth Cymru gefnogi hyn, o ystyried ei bod yn mynd mor bell tuag at fodloni amcanion pobl ifanc, fel sydd wedi ei amlinellu yn eu dogfen, ‘Ffyniant i Bawb’, ac mae’n ddewis amgen credadwy yn lle’r system bresennol.

Nid oes ond 15,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed wedi gwneud cais am fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, o gyfanswm o 113,000. Nawr, maddeuwch i mi am feddwl bod rhywbeth o’i le ar hynny. Mae’r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun yn dweud nad yw eu neges yn cael ei chlywed. Dyma gyfradd defnydd o 13 y cant yn unig, ac eto mae ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru yn methu gofyn y cwestiwn hyd yn oed ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â’r cynllun. Mae’n bryder go iawn, oherwydd gwyddom fod 23 y cant o yrwyr sy’n cael damweiniau mewn cerbyd modur a 21 y cant o’r rhai sy’n cael damweiniau difrifol neu angheuol yn 24 oed neu’n iau. Felly, mae angen inni fynd ati i annog opsiynau trafnidiaeth amgen a mwy gwyrdd lle y bo’n bosibl.

Ein cynigion i ymestyn hawl i deithio am ddim ar fysiau i bawb sydd rhwng 16 a 24 oed yw’r opsiwn symlaf, mwyaf agored a hygyrch. Dylai cymhwysedd cyffredinol annog pobl i fanteisio ar y cynnig, ac yn yr ardaloedd lle y ceir ein ffyrdd prysuraf, dylai weithio i leihau tagfeydd a damweiniau. Yn ogystal, bydd lleddfu baich costau trafnidiaeth yn lleihau’r heriau economaidd mwy cyffredinol sy’n wynebu ein pobl ifanc yma yng Nghymru heddiw. Arbedion o ran petrol, yswiriant, prynu car yn y lle cyntaf: mewn gwirionedd maent yn ffigur tebyg i flaendal am dŷ o fewn ychydig flynyddoedd i rai pobl ifanc. Mae cost yswiriant car ar gyfartaledd i rywun 17 oed, er enghraifft, yn swm anhygoel o £2,272 y flwyddyn bellach. Yn ogystal â hyn, gweithwyr Cymru sydd â’r cyflog mynd adref isaf o holl wledydd y DU, gyda chyflogau canolrifol wythnosol i rai rhwng 18 a 21 oed yn 40 y cant yn unig o gyflogau rhai rhwng 40 a 49 oed. Ymhellach, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith rhai rhwng 16 a 24 oed gryn dipyn yn is yma nag yn Lloegr a’r Alban, a chaiff 57,400 o bobl rhwng 16 a 24 oed eu categoreiddio fel NEET—rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.

Nawr, o ystyried bod bron 40 y cant o’r rhai sy’n chwilio am waith yn dweud bod eu hymdrech i ddod o hyd i waith wedi ei chyfyngu oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â hynny, mae’n amlwg fod mynediad drwy gyfrwng teithiau bysiau am ddim yn gallu gwneud gwahaniaeth hynod o gadarnhaol yn hyn o beth. Ddeunaw mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad hwn, mae Llafur Cymru, gyda chymorth achlysurol gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu mynd i’r afael ag anghenion ein pobl ifanc, sy’n wynebu rhai o’r cyfleoedd cyflogaeth gwaethaf yn y DU. Mae’r polisi hwn yn glir a gellid ei roi ar waith ar unwaith, ac rwy’n annog y pleidiau o bob rhan o’r Siambr hon i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

Dychmygwch fy syndod o weld bod y ddadl hon gan y Torïaid gerbron y Senedd yn cynnig haelfrydedd tybiedig—yr un grŵp o Aelodau gyferbyn sy’n cefnogi’r polisi cyni ideolegol, obsesiynol y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei orfodi ar ddioddefwyr yn ddidrugaredd: er enghraifft, diddymu budd-dal tai ar gyfer rhai 16 a 17 oed, a lle y maent mewn grym, fel yn Lloegr, cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i’r bobl ifanc hyn yn yr un modd ag y maent yn argymell yn awr y dylid cael gwared arno i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae cyfleoedd bywyd—mae rhai rhwng 16 a 24 oed yn genhedlaeth sy’n dioddef yn enbyd. O’r cyni parhaus i gontractau dim oriau yn y sector preifat ac i Lywodraeth Dorïaidd yn Lloegr sy’n methu darparu tai mwy fforddiadwy, mae pobl ifanc ar draws y DU yn parhau i dalu’r pris am esgeulustod a methiant y Torïaid. Dychmygwch fy syndod pan glywaf eich bod yn dymuno helpu’r genhedlaeth iau i gyrraedd eu potensial trwy ddiddymu eu lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw’n syndod bod gweld rhywun ifanc sy’n pleidleisio dros y Torïaid bron mor anodd â dod o hyd i Aelod Cynulliad o blith y Ceidwadwyr Cymreig sy’n credu y bydd Theresa May yn eu harwain i mewn i’r etholiad nesaf.

Ond gadewch i ni edrych yn fanylach ar y cynigion hyn. Beth ydynt? Wel, mae’r athrawon economaidd gyferbyn sy’n pregethu wrthym ynglŷn â drygau gwariant yn honni eu bod yn cynnig teithiau bws am ddim a gostyngiad o draean ar docynnau trên, fel y mae Jeremy Miles eisoes wedi dweud, ar gyfer yr holl bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gost o £25 miliwn. Rwy’n siŵr eu bod yn credu y bydd hyn yn gwneud deunydd darllen hyfryd a chreadigol fel datganiad i’r wasg, ond buaswn yn dweud hefyd fod yn rhaid inni edrych ar y print mân, gan fod y diafol bob amser yn y manylion. Daw’r cyllid arfaethedig hwn, fel y dywedais, o gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg—sy’n helpu mwy na 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg amser llawn yng Nghymru ac sydd, peidiwch ag anghofio, yn achubiaeth i’n pobl ifanc fwyaf agored i niwed sydd mewn perygl o adael addysg yn gyfan gwbl. Mae’n help enfawr i’w cyfleoedd mewn bywyd a byddai cael ei wared yn cael effaith ddinistriol yng Nghymru pe bai’n cael ei ganiatáu, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.

Yn wir, a ydynt wedi ymgysylltu â myfyrwyr a phobl ifanc mewn gwirionedd? Pe bawn yn dweud wrthych, ‘jam am ddim yfory,’ rwy’n credu y buasem ei eisiau, ond pe bawn i’n dweud, ‘jam am ddim yfory, ond fe fyddwch yn colli eich mynediad at addysg,’ mae’r ymateb yn wahanol. Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y posibilrwydd o ymestyn yr oedran ar gyfer teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed. Mae’n ymarfer ymgynghori eang, fel y dywedwyd, a’i nod yw ymgysylltu â phobl ifanc, ysgolion, colegau, sefydliadau a chwmnïau bysiau er mwyn datblygu cynllun sy’n ddeniadol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan 4 Ionawr, 2018 ac yn edrych ar amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys pa gategorïau o deithiau, lle y mae oedran cymhwysedd a maint y gostyngiad, a dulliau talu amgen yn cynnwys cyfraniadau sefydlog fesul taith neu docyn misol/blynyddol ar gyfer teithio am ddim adeg ei ddefnyddio. Felly, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru gydag ymgynghoriad pwrpasol ar y gweill nad yw i gael ei gwblhau tan fis Ionawr, ac eto, am ryw reswm, dyma gyflwyno’r hyn na ellir ond ei weld fel ymgais sinigaidd gan y blaid gyferbyn i achub y blaen arno neu i ddilyn yn ei sgil.

Felly, gadewch inni edrych ar y ffigurau hynny: ar hyn o bryd, 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud oddeutu 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hyn, gellir cymryd yn ganiataol yn rhesymol y byddai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl. Gan ragdybio bod pris tocyn bws i oedolion yn £2 ac y gallai oddeutu 350,000 o bobl fod yn gymwys, gallai cynnig y Torïaid gostio tua £70 miliwn o ran ad-dalu teithiau bws yn unig. Mae hynny bron dair gwaith y gost a gyhoeddwyd gan y Torïaid—tair gwaith £25 miliwn. Nid yw’r ffigur hwn ond yn cynnwys y rhan o’r cynllun sy’n ymwneud â theithiau bws am ddim ac nid yw’n ystyried y gost ychwanegol sylweddol o ad-dalu cwmnïau trenau am ddarparu gostyngiad o draean oddi ar gostau teithio ar y trên i rai rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Felly, sut y byddai’r Torïaid Cymreig yn pontio’r bwlch ariannu enfawr hwn rhwng y £25 miliwn a gyhoeddwyd ganddynt a’r £70 miliwn a mwy y byddai’r cynllun hwn yn ei gostio mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ddinistriol y mae cyni parhaus eu plaid yn parhau i’w gael ar gyllidebau? Mae’r Torïaid Cymreig yn dadlau dros gynllun gydag anghydlynedd economaidd damniol a fyddai’n peri i ‘spreadsheet Phil’ gochi. Eto maent yn parhau i bregethu i’r gweddill ohonom eu bod yn feistri o ran eu cymhwyster economaidd. Ni fyddai Alec Douglas-Home hyd yn oed, gyda’i goesau matsis, yn gallu cynhyrchu’r ffigurau hyn gan y Torïaid Cymreig. Felly, fel y cyfryw, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag economeg anhygoel a ffantasïol y Torïaid Cymreig. Diolch.

A wnewch chi faddau i mi am ddechrau trwy ddweud bod ‘ymgynghori pwrpasol’ ychydig bach yn hwyr efallai i Lywodraeth y methodd ei chynllun diwethaf mor drawiadol ac sydd, wrth gwrs, wedi effeithio ar fy etholaeth i? Y peth cyntaf yr hoffwn siarad yn ei gylch yw’r etholwyr hynny. Mae fy rhanbarth yn dilyn ffiniau hen awdurdod Gorllewin Morgannwg i bob pwrpas, a gyflwynodd, yn ôl yn niwloedd amser ac mewn tystiolaeth a dogfennau sydd yn ôl pob golwg yn llawer rhy ddrud i’r awdurdod lleol eu datgelu y dyddiau hyn, bolisi addysg coleg trydyddol sy’n parhau i fod yn ddylanwadol hyd heddiw. Mae cyngor bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ddilyn y polisi hwnnw. Gyda dau eithriad, yn seiliedig ar iaith a chrefydd, darparir addysg ôl-16 gan lond llaw o golegau addysg bellach, ac mae uno gydag addysg bellach Powys heb fod mor bell â hynny’n ôl yn golygu bod peth o’r cynnig hwnnw bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffin yr awdurdod lleol. Gallai hynny olygu bod gan bobl ifanc ddewis da o addysg ôl-16 o bosibl, ond mae’n cael ei ddarparu mewn nifer fach o gampysau canolog, sy’n ymestyn i mewn i ganolbarth Cymru ac sydd wedi eu gwahanu gan bellter sylweddol. Felly, trwy ddiffiniad, nid yw’r rhain yn lleol i’r rhan fwyaf o bobl, ac yn fy mhrofiad i, mae codi’n gynnar i deithio cryn bellter yn gynnig go anneniadol i rai pobl ifanc, os yw fy nhŷ i’n llinyn mesur o fath yn y byd, ac mae hyd yn oed yn fwy anneniadol os nad cost y bws i’r coleg yw’r gwariant blaenoriaethol o’r lwfans cynhaliaeth addysg os ydynt yn ei gael, neu arian arall yn wir os nad ydynt yn ei gael. Roedd colegau’n dweud wrthym, heb fod mor bell â hynny’n ôl, fod eu cronfeydd caledi’n cael eu llyncu—a hyn yn ystod cyfnod y lwfans cynhaliaeth addysg—gan gostau gofal plant a theithio, gan adael dim ar ôl ar gyfer ateb gofynion eraill, ac os mai’r cyfeiriad y mae Cymru’n mynd iddo yw canoli darpariaeth colegau addysg bellach, yna byddai ein polisi cerdyn gwyrdd yn lliniaru’r ddwy elfen gysylltiedig honno sy’n creu pwysau.

Mae fy ail bwynt yn ymwneud â darpariaeth iaith Gymraeg ôl-16 yng Nghymru, ac eto rwy’n edrych ar Gastell-nedd Port Talbot: un chweched dosbarth iaith Gymraeg, a leolir ar ben uchaf cwm Tawe, filltiroedd o’r prif ardaloedd poblogaeth. Rwy’n credu y buasai’n rhaid i chi fod yn ymroddedig iawn i gyrraedd yno os ydych yn byw yn rhywle fel Port Talbot, ac nid yw cymorth ar gyfer teithio wedi ei warantu’n arbennig o dda. Nid yw’r colegau trydyddol yn agos at fod yn barod eto ar gyfer darparu amgylchedd ymdrwythol ar gyfer y Gymraeg. Rwy’n credu y gallai ein cerdyn gwyrdd helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy beidio â thagu’r cyflenwad i’r chweched dosbarth hwnnw, drwy beidio â gwneud cost yn rheswm i berson ifanc ddewis coleg a all fod yn agosach, a thrwy beidio â’i gwneud yn haws i adael eich Cymraeg ar ôl.

Mae fy nhrydydd pwynt yn ymwneud â’r modd y mae pobl ifanc yn edrych arnynt eu hunain, ac rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn. Dechreuodd David Melding siarad am y peth yn y ddadl ddiwethaf, mewn gwirionedd. Afraid dweud, rwy’n credu, y bydd defnydd y boblogaeth o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig lleihau diesel, yn arwain at lai o lygredd aer a sŵn, yn ogystal â chreu llai o dagfeydd ar y ffyrdd. Er y byddai llawer o’n pobl ifanc, yn enwedig y rhai 16 oed, yn cael budd o’n cerdyn gwyrdd—. Wel, nid ydynt yn gyrru eto. Felly, mae eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o fysiau a threnau yn helpu i ymgorffori’r syniad nad oes angen iddynt ddibynnu ar geir drud yn y dyfodol. Mae tagfeydd yn mynd i arafu eu teithiau ar y ffordd os ydynt yn estyn am allweddi eu ceir beth bynnag, felly mae annog poblogaeth sy’n hoff o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddefnydd o’r cerdyn gwyrdd yn gweithio ar ddwy lefel o iechyd, gyda’r cyntaf yn ymwneud ag ansawdd aer gyda llai o geir, neu lai o geir yn segura—yr un peth ydyw mewn gwirionedd.

Ond yr ail bwynt, a’r un llai amlwg efallai yw eich bod, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio mwy. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gerdded at ben draw eich stryd i ddal bws, mae hynny’n bellach na cherdded at y car sydd wedi’i barcio tu allan i’ch tŷ. Yn 2009, canfu Sefydliad Iechyd y Byd mai un o’r ffyrdd gorau o annog mwy o weithgarwch corfforol yn gyffredinol oedd trwy bolisi trafnidiaeth, ac mae cerdyn gwyrdd y Ceidwadwyr Cymreig yn bwydo i mewn i hynny mewn ffordd amlwg iawn, gan y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn galw am rywfaint o deithio ar droed neu feicio, ar un pen i’r daith o leiaf. Mewn gwledydd lle y mae’r boblogaeth yn gwneud cyfran uwch o deithiau trwy gerdded, seiclo neu drafnidiaeth gyhoeddus—rwy’n siŵr ein bod wedi clywed hyn o’r blaen—ceir cyfraddau is o ordewdra. A hefyd—er nad dyma fydd y ddadl gryfaf yng Nghymru, rwy’n tybio—mae golau’r haul yn rhoi fitamin D i ni, sydd, yn ei dro, yn arwain at risg is o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.

Wedyn, i orffen, ym maes iechyd, ond yn bwysicach, llesiant ehangach, mae sut y mae pobl ifanc yn dod yn hyderus a sut nad ydynt yn cyfyngu eu gorwelion eu hunain yn bwysig. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobl ifanc brynu cerdyn trên i deithio’n rhatach, neu efallai eu bod yn cael bargen pan fyddant yn mynd i brifysgol wrth agor cyfrif banc i fyfyrwyr. Bûm yn holi o gwmpas yn gyflym yn lleol yr wythnos diwethaf cyn y ddadl hon, a gwelais nad ar gyfer mynd adref yn unig y mae myfyrwyr Abertawe’n defnyddio’u cardiau. Maent yn manteisio ar y cyfle i fynd i lefydd a gwneud cysylltiadau, sy’n arwain at gyfleoedd gwaith, rhwydweithiau newydd, teithiau na fyddai rhai ohonynt wedi eu hystyried heb y gostyngiad. Gwelodd Coleg Prifysgol Llundain hefyd nad oedd pobl bob amser yn defnyddio cardiau teithio am bris gostyngol gan fod un taliad hyd yn oed yn gallu bod yn anfforddiadwy ar y pryd. Felly, dyna un rhwystr bach sy’n cau’r holl gyfle hwnnw i’r rhai sydd eisoes yn y sefyllfa orau i fanteisio arno. Rwy’n credu bod pawb o’n pobl angen y cyfle hwnnw—nid myfyrwyr yn unig—ac mae ein cerdyn gwyrdd rhad ac am ddim yn ei gwneud ychydig bach yn haws manteisio ar y cyfle hwnnw.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau yn y Siambr am eu cyfraniadau heddiw yn yr hyn sy’n dod yn gyfres o ddadleuon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Cyn i mi ymateb i sylwadau penodol am wasanaethau bws, hoffwn ychwanegu fy enw at y rhestr o rai sydd â diddordeb mewn ceir a dweud bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar dechnolegau newydd, yn enwedig ym maes pwerwaith trydan a hydrogen. Yn wir, mae gennyf ddiddordeb mewn ceir clasurol, ac rwy’n falch o ddweud ei bod hi bellach yn bosibl troi eich car clasurol sy’n cael ei yrru ar betrol yn un â phwerwaith trydan, diolch i wasanaeth sy’n bodoli yma yng Nghymru mewn gwirionedd, Dragon Electric Vehicles, ac sydd ar flaen y gad ym maes datblygu injans trydan ar gyfer cerbydau sy’n bodoli eisoes. Rydym ar y blaen o ran ymchwil a datblygu a gweithredu ffyrdd newydd o bweru cerbydau.

Gan symud yn ôl at wasanaethau bws, a gwasanaethau bws i bobl ifanc yn enwedig, rwy’n credu ei bod yn gwbl eglur o’r ddadl hon ein bod i gyd am weld mwy o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau bws lleol. Rydym am i bobl eu defnyddio’n fwy rheolaidd, nid yn unig o ran manteision amgylcheddol, ond hefyd, fel y nododd Suzy Davies, er budd cymdeithasol a llesiant ehangach, er mwyn cysylltu cymunedau’n well ac yn hollbwysig, er mwyn galluogi pobl i gysylltu’n well â bodau dynol eraill. Ac felly, mae’n nod i’r Llywodraeth hon, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn awyddus i’w annog er lles cenedlaethau’r presennol, a’r dyfodol yn wir.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ers mis Ebrill eleni, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio a heddiw, mae yna dros 17,000 o ddeiliaid tocynnau. Rwy’n derbyn nad yw’r gyfran honno, y nifer sy’n eu defnyddio, mor uchel ag y byddem yn dymuno iddi fod, ac felly, yr her yw annog mwy byth o bobl ifanc i wneud yr un peth, er mwyn gwella ein cynllun teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl iau, a’i gwneud yn haws i genhedlaeth gyfan deithio ar y bws. Yr wythnos diwethaf, roeddwn wrth fy modd yn gwireddu ein haddewid i ymgynghori ar y ffordd orau i gynllun newydd Llywodraeth Cymru sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf annog mwy o bobl ifanc i ddod ar ein bysiau. A hoffwn bwysleisio’r pwynt a nododd Jeremy Miles, ei bod yn gwbl hanfodol fod y rhai sydd â fwyaf i’w ennill o unrhyw gynllun teithio am bris gostyngol yn ganolog i unrhyw benderfyniad a wnawn. Mae’r ymgynghoriad ar deithio ar fysiau am bris gostyngol ar gyfer pobl iau yng Nghymru yn anelu i gasglu safbwyntiau pobl ifanc, ysgolion, grwpiau cymunedol, colegau, a chwmnïau bysiau ar gynllun sy’n ddeniadol ac yn fforddiadwy—un a all gynnal pobl yn ymarferol yn eu bywydau, yn eu gwaith ac wrth iddynt astudio.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau ar gynnal y ddarpariaeth bresennol neu ymestyn cwmpas y cynllun presennol i gynnwys, o bosibl, codi’r terfyn oedran uchaf, cynyddu lefel y gostyngiad, disodli’r trefniant ad-dalu presennol gan dâl am bob taith, sef rhywbeth a welwn mewn sawl rhan o Ewrop, yn ogystal â chyflwyno ffi fisol neu flynyddol er mwyn cadw teithiau am ddim adeg eu defnyddio. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried ymestyn y cynllun i gynnwys prentisiaid, nad oes ond rhai ohonynt yn gymwys o dan y trefniadau presennol. Mae hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i gynnwys gwirfoddolwyr, gofalwyr, pobl sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg, a’r holl bobl ifanc mewn addysg bellach. Ac rwy’n cydnabod manteision cynllun o’r fath i lawer o bobl eraill sy’n cyfrannu’n weithredol yn y gymdeithas neu sydd angen cymorth wrth gychwyn ar yrfa newydd ond sydd heb eu cynnwys o fewn yr oedran cymhwysedd. Dyna pam rwy’n arbennig o awyddus i archwilio faint o archwaeth sydd yna i ymestyn yr oedran teithio am bris gostyngol i 24 oed, gan ein galluogi o bosibl i helpu mwy o bobl ifanc i wneud y gorau o deithio ar fws ledled Cymru. Bydd y cynllun, sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill 2018, yn un sy’n adlewyrchu orau beth yw anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac yn helpu i roi hwb pellach i deithio ar fws fel opsiwn. Mae hynny’n hanfodol os ydym i greu rhwydwaith bysiau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym wedi neilltuo hyd at £1 filiwn i gefnogi’r cynllun gostyngiad o draean. Gellir disgwyl i unrhyw welliant ar y cynllun arwain at fwy o gostau ar gyfer digolledu gweithredwyr bysiau dan yr hyn a fyddai’n parhau i fod yn drefniant gwirfoddol. Fodd bynnag, rhaid i weithredwyr sydd am fod yn gymwys i gael arian grant cynnal gwasanaethau bws gynnig y gostyngiad. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol, wrth gwrs, yn golygu na allwn wneud cynllun teithio ar fws am bris gostyngol i bobl ifanc yn orfodol, ac eithrio ar gyfer rhai rhwng 16 a 18 oed mewn addysg amser llawn, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â’r pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles mewn perthynas â’r mater hwn.

Rwyf hefyd yn croesawu cynnig Jeremy Miles o gyfrifiannell i’r Aelodau sy’n meddu ar abacws toredig. Rwy’n credu bod ei ddadansoddiad fforensig ef a Rhiannon Passmore o gynigion y Ceidwadwyr yn dangos bod twll anferthol yn y ffigurau. Fe amlinellaf eto y rhesymau pam nad yw’r ffigurau hynny’n dal dŵr. Ar sail 50 y cant o ddefnydd ar draws y cohort 16 i 24 oed, byddai’r gost yn fwy tebygol o fod yn £78 miliwn neu fwy. Mae hynny’n seiliedig ar 50 y cant o ddefnydd. Nawr, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr yn cefnogi ein barn y dylai fod mwy o bobl ifanc ar y bysiau, felly gan dybio defnydd, efallai, o 100 y cant, yr hoffai pawb ohonom ei weld, rwy’n siŵr, byddai’r ffigur hwnnw’n codi i dros £150 miliwn. Eto byddai eu cyllideb o £25 miliwn yn caniatáu ar gyfer defnydd o 16 y cant yn unig o bobl rhwng 16 a 24 oed. Yn ei dro, byddai hynny’n cyfateb i oddeutu 17,700 o rai rhwng 16 a 18 oed; yn eironig, yr union ffigur defnydd ag yr oedd y Ceidwadwyr mor feirniadol ohono.

Fodd bynnag, rwy’n llongyfarch y Ceidwadwyr am ymroi i’r ddadl hon mewn modd hynod o gydweithredol. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eu bod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn bwriadu ei wneud i gefnogi pobl ifanc ar draws ein holl gymunedau. Fodd bynnag, rwy’n credu y buasai pawb yn y Siambr hon yn derbyn bod disgwyl i bob person ifanc gael ei amddifadu o fanteision car ar gyfer ei holl deithiau yn afrealistig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n gwbl realistig, Llywydd, i lawer o bobl ifanc ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau, ac rwy’n gobeithio y bydd nifer o bobl ifanc y mae eu profiad o deithio ar fysiau wedi ei gyfyngu i’r daith ddyddiol i’r ysgol ac oddi yno yn manteisio ar y cynllun newydd i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws am resymau eraill, ac ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw’n gynnig deniadol mewn gwirionedd.

Tra bo lleihau cost teithio ar gyfer pobl ifanc yn flaenoriaeth i annog defnydd, rwy’n derbyn mai rhan o’r ateb yn unig ydyw. Mae darparu cynnyrch bws sy’n ddeniadol a hefyd yn effeithlon yr un mor hanfodol, a bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio bws yn ddiweddar, rwy’n credu, yn cydnabod bod y mwyafrif helaeth o gerbydau ar ein ffyrdd yn cynnig amgylchedd glân, cyfforddus ac wedi ei gyfarparu’n dda. Eto i gyd, yn anffodus, ceir argraff anghywir o hyd fod bysiau rywsut yn berthynas dlawd i’r car modur preifat. Os bu hyn erioed yn wir, yn bendant iawn, nid yw’n wir mwyach.

Rwyf wedi gofyn i’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau, ddatblygu cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i rwydwaith bysiau heddiw, ac yn amodol ar eu cynigion, buaswn yn gobeithio rhoi arian cyfatebol tuag at eu cyfraniad ariannol i unrhyw ymgyrch o’r fath er mwyn rhoi hwb i nawdd. Bydd y cynllun newydd y bwriadaf ei gyflwyno ym mis Ebrill yn ffordd well a mwy deniadol o annog pobl ifanc i ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau. Mae’r cynllun presennol wedi dechrau’n dda, ond mae angen inni wneud rhagor os ydym am newid agweddau.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais ym mis Ionawr, ac rwy’n falch o ddweud bod nifer o weithdai’n digwydd yn yr hydref i ystyried y ffordd orau o wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr; sut y gallwn hefyd ddatblygu atebion ariannu sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru; a sut y gallwn ddarparu system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma ein huchelgais, a dyma y dymunwn ei gyflawni. Diolch.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu, ar y cyfan, yn ddadl dda a gweddus iawn ar bob ochr i’r Siambr. Rydym yn cyflwyno’r cynigion hyn heddiw am ein bod yn credu eu bod yn cynnig cyfle cyffrous i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru na chafodd ei wneud mewn unrhyw ran arall o’r DU, sef cynnig cyfle i’n pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed deithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim, ar ein rhwydwaith bysiau. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, rydym yn cynnig y breintiau hynny i rai dros 60 oed ac i grwpiau sy’n agored i niwed a grwpiau arbennig eraill fel aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi cael anaf, a gwyddom fod hynny wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae wedi bod yn rhywbeth a gafodd ei gefnogi gan bob plaid wleidyddol. Rwyf am estyn breintiau tebyg i’n pobl ifanc, oherwydd credaf eu bod hwy hefyd yn haeddu bargen deg. Mae ein cynigion cerdyn gwyrdd yn dda i bobl ifanc. Fel y clywsoch eisoes gan y siaradwyr yn y ddadl hon, maent yn dda i’r amgylchedd, maent yn dda i drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle y gwelsom wasanaethau bysiau yn cael eu torri oherwydd diffyg hyfywedd masnachol; maent yn dda ar gyfer iechyd y cyhoedd, ac maent yn dda i les cymdeithasol pobl.

Fe egluraf ble rwyf fi gyda chostio mewn eiliad, os gwnewch chi eistedd os gwelwch yn dda, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn mai’r un gwrthwynebiad arwyddocaol a oedd gan rai o’r Aelodau, mae’n ymddangos, oedd ynglŷn â’r cyllid. Felly, gadewch i mi fanylu ychydig ar ein cyllid a sut yr ydym wedi costio’r cynigion hyn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod eich awgrym chi, Rhianon Passmore, am y ffaith y byddai inni gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg yn cynyddu nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn anghywir, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan Gymru gyfradd uwch o bobl ifanc NEET na Lloegr, nad oes ganddi lwfans cynhaliaeth addysg o gwbl? Fe sonioch chi, Jeremy Miles, am y ffaith bod 26,000 o bobl yn elwa o’r lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd, ac rydych yn hollol gywir, ond byddai ein cynigion o fudd i 360,000, nid i 26,000 yn unig, ac fel y gwyddoch o siarad ag unigolion yn eich etholaeth eich hun, gall dyfarniadau’r lwfans cynhaliaeth addysg fod yn hynod o gynhennus ymhlith pobl ifanc mewn sefydliadau addysgol, ac mae yna raniad rhwng y rhai sy’n ei gael a’r rhai nad ydynt yn ei gael.

Felly, gadewch i mi egluro pam y credaf fod hwn yn bolisi fforddiadwy. Mae eich costau, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi eu seilio ar y cynllun fyngherdynteithio sy’n gweithredu ar hyn o bryd, ac sydd, a dweud y gwir, yn gynllun hynod o ddrud. Ni allaf weld sut y mae’n costio cymaint o arian i drethdalwyr Cymru. O ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ariannol hyd at 2017, roedd 15,000—. Roedd 9,000—gadewch i mi gael y ffigyrau fan hyn—roedd 9,250 yn elwa ar y cynllun hwnnw ar gost o £9.743 miliwn. Golyga hynny fod cost fyngherdynteithio fesul buddiolwr yn £1,053 y flwyddyn. Nawr, ym meddwl unrhyw un, mae hynny’n hynod o ddrud. £1,053 y flwyddyn i gael traean oddi ar eich tocynnau bws pan allwch brynu tocyn bws am flwyddyn gyfan yn fy ardal i mewn gwirionedd am £490 y flwyddyn am bris masnachol. Rwy’n credu bod hwnnw’n gynllun hynod o ddrud ac rwyf eto i weld unrhyw esboniad ynglŷn â pham y mae’n costio cymaint â hynny i drethdalwyr Cymru. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus iawn i dderbyn ymyriad.

Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae’n seiliedig ar senario ‘dim gwell, dim gwaeth’, ac felly mae’r ad-daliad yn seiliedig ar faint o deithiau y bydd person ifanc yn eu gwneud. Nawr, mae’n debyg na fyddai eich cynllun fel rydych wedi ei argymell ond yn costio £25 miliwn, ac eto byddai’n gymwys ar gyfer 350,000 o bobl. Hynny yw, ni fyddai cost y pen am y flwyddyn ond yn £71. Nid wyf yn siŵr faint o deithiau y byddai hynny’n eu prynu ar gyfradd ddydd i oedolion, ond nid wyf yn credu ei fod yn llawer, ac mae’n sicr yn llai na’r 200 o deithiau y disgwylir iddynt gael eu gwneud yn sgil cyflwyno cynllun o’r fath.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am egluro pam y mae ei gynllun mor ddrud, oherwydd yr hyn y bydd hefyd yn ei wybod yw bod y cynllun arall sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, y cynllun tocyn teithio rhatach, yn llawer llai costus—yn llawer iawn llai drud yn wir. Mewn gwirionedd, mae’n llai na £100 y buddiolwr ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu tocynnau bws am ddim. Ac rwy’n deall yr anhawster y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i geisio cyfiawnhau gwario £1,000 y buddiolwr ar draean oddi ar docyn bws, pan allwch eu prynu dros y cownter mewn gwirionedd am £490—a byddech yn well eich byd yn rhoi grant yn uniongyrchol i’r unigolion dan sylw, a dweud y gwir, gan y byddai’n costio llawer iawn llai i chi—ond y gwir yw, os gallwn fforddio hyn ar gyfer pobl hŷn, gallwn ei fforddio ar gyfer ein pobl ifanc hefyd. Yn sicr, maent yr un mor werthfawr i gymdeithas â phobl hŷn.

Nawr, rydym wedi seilio ein ffigurau ar gostau’r cynllun tocyn teithio rhatach presennol, a’r gwariant presennol o fewn y cynllun hwnnw. Mae cost y pen buddiolwyr, fel y dywedais eisoes, gryn dipyn yn is na £100 y flwyddyn, ac os ydym yn ymestyn y cynllun i gynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, gwyddom nad yw pob un o’r rheini sydd rhwng 16 a 24 oed yn mynd i fanteisio ar y cyfle, fel sy’n wir gyda phobl hŷn. Felly, ar hyn o bryd, mae pawb sydd dros 60 yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun tocyn teithio rhatach, ond nid oes ond oddeutu 70 y cant o bobl yn manteisio ar y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Rydym yn credu y buasai pobl iau’n dewis: buasai rhai pobl yn dymuno manteisio ar y cyfle i gael eu tocynnau bws am ddim, ni fuasai pobl eraill yn gwneud hynny. Ac mewn gwirionedd rydym yn disgwyl oddeutu dwy ran o dair o’r gyfradd o bobl hŷn sy’n manteisio ar y cynnig, felly byddai ychydig dros hanner y bobl ifanc yn gymwys. Felly, dyna sut yr ydym wedi costio’r cynllun. Rydym hefyd yn gwybod y gallwch brynu cardiau rheilffordd cenedlaethol am bris masnachol ar gyfer pobl ifanc, cerdyn rheilffordd person ifanc am lai na £15 ar sail reolaidd: gwelais hwy’n cael eu hysbysebu am £14.99—£15—yr wythnos diwethaf. Y pris arferol yw £30, ond mae gostyngiad arnynt yn rheolaidd. Nawr, buaswn yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei grym gwario i 360,000 o rai rhwng 16 a 24 oed gael rhyw fath o ostyngiad ychwanegol ar y pris hwnnw er mwyn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd am bris gostyngol. Felly dyna ble y cawsom ein ffigurau, ac rwy’n hapus i’w rhannu gyda chi yn yr un ffordd ag y gwneuthum yn awr. Rydym wedi taflu ychydig i mewn hyd yn oed—ar ben ariannu’r tocynnau bws ac ar ben cyllid y gostyngiad cerdyn rheilffordd, rydym wedi taflu ychydig i mewn ar gyfer hyrwyddo, am nad ydych wedi gwneud digon i hyrwyddo eich cynllun presennol yn awr, a dyna pam nad oes gennym fwy na 15 y cant pitw—15 y cant—o rai rhwng 16 a 18 oed yn derbyn ac yn cymryd rhan yn y cynllun fyngherdynteithio mewn gwirionedd.

Nawr, rydych eisoes wedi clywed bod hwn yn fater pwysig i bobl ifanc. Mae’n un o’r prif flaenoriaethau, fel y cydnabu Paul Davies a Jeremy Miles. Mae cost trafnidiaeth yn rhwystr i bobl rhag gallu mynd i’w lleoliad addysg, mae’n rhwystr iddynt rhag cyrraedd cyfweliad am swydd, heb sôn am gyrraedd y gwaith a dod adref. Felly mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Rydym wedi dod o hyd i ateb, rydym wedi cyflwyno’r ateb hwnnw, rydym yn ceisio ei wneud mewn ffordd amhleidiol, ac mae’n drueni fod rhai pobl sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi ceisio ei gwneud yn ddadl bleidiol iawn a hynny’n gwbl ddiangen. Felly, mae gennym ateb realistig, wedi ei gostio’n llawn i drafferthion teithio pobl ifanc ar draws Cymru, ac rydym am eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu’r cynlluniau hyn, oherwydd rwy’n dweud wrthych, byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae fy merch wedi pasio ei phrawf gyrru—rwy’n falch iawn ohoni. Mae hi wedi pasio ei phrawf gyrru y tro cyntaf, yn wahanol i’w thad, ac mae cost ei hyswiriant yn gwbl afresymol—dros £1,600 y flwyddyn. A gadewch i mi ddweud wrthych, nid yw’n gyrru car swanc; car bach cyfyng ydyw. Felly pan fyddwch yn ystyried y gost i bobl ifanc o allu bod yn fodurwyr ar hyn o bryd, gallwch weld pam y byddai ein cynnig yn rhoi dewis arall iddynt. Byddai’n eu hannog i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn helpu’r llwybrau bysiau i aros yn gynaliadwy, yn eu hannog i fynd allan a gweld eu ffrindiau ac i weld peth o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, a byddai’n eu galluogi i fynd yn ôl ac ymlaen i’w lleoliad addysg neu waith.

Diolch. Fel y nodwyd, o ran gwella cyfleoedd bywyd, lles a photensial pobl ifanc, sut rydych yn gweld ffactoreiddio’r ochr i’r geiniog lle’r ydych yn mynd i gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i dalu am y polisi arfaethedig bendigedig hwn?

Wel, rwy’n meddwl fy mod wedi nodi’n hynny, ond i ailadrodd fy hun, gan ei bod yn amlwg nad oeddech yn gwrando: nid yw’r lwfans cynhaliaeth addysg yn cyflawni ei nodau datganedig. Cafodd y lwfans cynhaliaeth addysg ei ddiddymu yn Lloegr ac mae ganddynt lefelau is o rai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant—lefelau is nag erioed o’r blaen o rai NEET mewn gwirionedd—yn Lloegr, tra bo cyfradd Cymru lawer yn uwch, yn gyfrannol, o rai rhwng 16 a 18 oed. Fel y dywedais, rwy’n credu bod defnyddio’r arian hwnnw—mae’n ymrannol iawn hefyd. Mae defnyddio’r arian a rhoi cyfle i 360,000 o bobl ifanc, yn hytrach na 26,000, gael budd yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr, a dyna pam rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn bwrw ymlaen â’n cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 8. Dadl Plaid Cymru: Economi Gogledd Cymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar economi y gogledd, ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6536 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.

2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:

a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;

b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;

c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;

d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;

e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;

g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser gen i arwain y ddadl yma yn enw Plaid Cymru heddiw ar economi gogledd Cymru ac, yn wir, yn ehangach ar yr angen i Lywodraeth Cymru i roi mwy o chwarae teg i’r gogledd—rhywbeth mae nifer o bobl yn teimlo y maen nhw wedi methu yn glir ei wneud ers blynyddoedd erbyn hyn.

Nawr, mae’r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn cael ei chydnabod ac yn cael ei hadnabod fel gwladwriaeth anghyfartal—un o’r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn Ewrop, lle mae buddsoddiad, wrth gwrs, yn cael ei ganolbwyntio mewn un cornel bychan o’r wladwriaeth ar draul y gweddill. Yn wir, rydym ni’n byw yn y wladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd lle mae gennym ni’r ardal gyfoethocaf yn Ewrop, yn ogystal, wrth gwrs, â rhai o’r ardaloedd tlotaf, a hynny yn sgil methiannau Llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig o bob lliw, a hynny, wrth gwrs, yn destun siom a rhwystredigaeth i nifer ohonom ni. Ond mae yna berig hefyd fod Cymru yn disgyn i’r un trap, a’n bod ni yn mynd lawr yr un llwybr anffodus hwnnw. Pan enillwyd y refferendwm i sefydlu’r Cynulliad hwn 20 mlynedd yn ôl, ac mae yna lawer o edrych yn ôl ar hynny wedi bod yn y misoedd diwethaf, mi oedd yna gryn dipyn o obaith ledled Cymru y gallem ni fel cenedl, nid yn unig dechrau gwneud penderfyniadau dros ein hunain ond, wrth gwrs, i wneud pethau yn wahanol. Ond nid oes ond angen edrych ar ffigurau’r Llywodraeth eu hunain ar gyfer gwariant cyfalaf y pen fesul rhanbarth ar draws Cymru er mwyn gweld yr anghyfartaledd sydd yna mewn buddsoddiad. Ers 2013, mae trigolion y gogledd wedi derbyn dros £360 yn llai y pen na thrigolion de-ddwyrain Cymru, er enghraifft. Ac mae trigolion canolbarth a gorllewin Cymru mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth, lle maen nhw wedi methu allan ar dros £520 y pen mewn cymhariaeth.

Nawr, mae’n rhaid pwysleisio—rwy’n siŵr y bydd rhai pobl yn trio portreadu y peth fel hyn—nad ein bwriad ni heddiw, nag ar unrhyw adeg arall pan rydym ni yn amlygu methiannau’r Llywodraeth i wasgaru cyfoeth a buddsoddiad yn gyfartal ar draws y wlad, yw i greu rhyw fath o raniadau a rhwygiadau rhwng rhanbarthau gwahanol yng Nghymru. Rwyf i yn sicr ddim yn dannod buddsoddiad yng Nghaerdydd, ar hyd coridor yr M4, nag yn unrhyw le arall, ond mae yna rwystredigaeth pan nad ydw i’n gweld buddsoddiad cyfatebol, neu weithiau hyd yn oed lled gyfatebol, yn y gogledd. Ein bwriad ni yn y ddadl yma yw tanlinellu’r angen i uno’n cenedl ni drwy sicrhau bod gennym ni wlad sy’n rhannu manteision datganoli yn fwy cyfartal. Ac mae’n rhaid imi ddweud: yr argraff rwy’n ei chael yw bod yr ymdeimlad yma yn y gogledd bod popeth yn mynd i Gaerdydd erioed wedi bod yn gryfach; yn sicr, dyna rwy’n ei glywed ar draws y rhanbarth rwy’n ei chynrychioli. Ac nid wyf yn meddwl bod hyn yn unigryw i’r sefyllfa genedlaethol. Mae yna ‘microcosms’ o hynny yn bodoli mewn awdurdodau lleol ar hyd a lled y wlad. Rwy’n byw yn sir Ddinbych ac rwy’n clywed pobl yn cwyno yn ddyddiol, ‘O, mae’r arian i gyd yn mynd i’r Rhyl ac mae’r ardal wledig yn ne’r sir yn colli mas.’ Rwy’n ddigon eangfrydig i dderbyn bod yna elfen o ganfyddiad yn perthyn i’r ffenomen yma, ond rwyf hefyd yn gorfod cydnabod bod yna fwy nag elfen o realiti yn bodoli hefyd yn y cyd-destun yma ar lefel genedlaethol, ac mae angen newid hynny. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid sicrhau bod buddsoddiad yn cyrraedd pob cornel o Gymru, er mwyn gosod y seilwaith yn ei le er mwyn i Gymru gyfan fedru ffynnu.

Ers y chwyldro diwydiannol, mae gogledd Cymru wedi bod yn bwerdy economaidd llwyddiannus. Mae gennym ni weithlu medrus yn y gogledd, a gweithlu cynhyrchiol gydag arbenigeddau megis y meysydd awyrofod, peirianneg, bwyd a’r amgylchedd, a’r cyfan yn dod at ei gilydd ac yn cydweithio’n effeithiol gyda’n colegau a’n prifysgolion ardderchog ni. Mae’r sector dwristiaeth yn un sydd wedi newid yn sylweddol yn y gogledd dros y blynyddoedd; mae’n rhaid cydnabod hynny. Bellach, mae gogledd Cymru wedi goddiweddyd ardaloedd a gwledydd eraill, megis Ardal y Llynnoedd a Chernyw, ac mae’r rhain i gyd yn ddatblygiadau cyffrous ac sydd yn dangos arloesedd y gogledd, a’r potensial sydd yna i wireddu y potensial hwnnw. Mae gan ogledd Cymru gyfleoedd gwych i dyfu’r economi, ac mae’r cynhwysion oll i’w cael yna ar gyfer economi fywiog ac amrywiol, ond er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen i ddatgloi y potensial hwnnw yn llawn.

Siaradwch chi ag unrhyw un o gwmnïau’r rhanbarth neu unrhyw un sector yn arbennig, ac mi glywch chi thema gyson o safbwynt y gŵyn sy’n dod yn ôl, sef gwendid sylfaenol ein hisadeiledd ni yn y rhanbarth yn y gogledd. Mae gallu ein rhwydwaith ffyrdd ni i ymdopi yn wael, ac roeddwn yn clywed bod yna giwiau o hyd at chwe milltir ar yr A55 y prynhawn yma ddiwethaf—prif ffordd y gogledd ac un o’r llwybrau traws-Ewropeaidd pwysig, wrth gwrs, ar stop am gyfnod yn ystod y dydd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus, o fysiau i drenau, yn wan, a dweud y lleiaf, ac mae safon derbyniad signal 4G, heb sôn am unrhyw ‘G’ arall, yn echrydus o wael mewn nifer o ardaloedd. Mae band llydan hefyd yn boenus o araf ac o wan mewn rhannau helaeth o’r gogledd, ac fe allaf i siarad o brofiad personol ynglŷn â hynny.

Mae cyflwr ein ffyrdd ni yn golygu nad yw hi’n hawdd i gynhyrchwyr gael eu cynnyrch i’r farchnad, ac roeddwn yn sôn gynnau am dwristiaeth. Mae gennym ni yn y gogledd, wrth gwrs, Zip World, Bounce Below, Surf Snowdonia, beicio mynydd o’r safon orau yn y byd, canŵio dŵr gwyn heb ei ail, ac mae pob un ohonyn nhw yn tynnu arian da i’w hardaloedd, ond trïwch chi deithio o un i’r llall ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mi ddywedaf i wrthych chi ei bod hi bron iawn yn amhosib i wneud hynny.

This is where investment by an ambitious Government that looks to boost the whole of Wales can, of course, make a key difference. A Cardiff-centric approach to Government has seen new institutions created along the M4 corridor at the expense of other parts of Wales. The new Welsh Revenue Authority was a prime example, if you ask me, of an opportunity missed. The Government decided, of course, for it to be located at Treforest and, you know, all well and good for the people of Treforest, but there was a palpable feeling in Wrexham that there was a missed opportunity. We know that HMRC are closing their tax office in Wrexham—over 300 employees are likely to lose their jobs there. They had many of the relevant skills, and the question that people there are asking is, ‘Well, why didn’t it come here when this opportunity offered itself?’

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwrando gyda diddordeb mawr ar eich cyfraniad. Roeddwn yn y cyfarfod y bore yma ar gyfer rhaglansiad Banc Datblygu Cymru, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wrth fy modd, fel Aelod Cynulliad yn ne Cymru, eu bod wedi dewis pencadlys yng ngogledd Cymru, a staffio’n fwy cymesur o gwmpas canolbarth Cymru a gogledd Cymru yn ogystal â chael pencadlys yng ngogledd Cymru. Mae honno’n ffordd dda ymlaen, byddai’n rhaid iddo gytuno, ac mae’n debyg fod angen inni wneud mwy ohono, ond nid yw hynny’n feirniadaeth ar ranbarthau eraill sy’n ceisio cael buddsoddiad i’w hardal hefyd.

Rwy’n cytuno, a diolch am hynny oherwydd rydych yn gwneud fy araith drosof, i bob pwrpas. [Chwerthin.] Gallaf neidio tudalen yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.]

Ie, ond pan feddyliwch fod y Llywodraeth yn ei gael yn iawn—. Fel y dywedwch, mae’r Banc Datblygu Cymru newydd yn mynd i gael ei bencadlys yn Wrecsam, ond wedyn, wrth gwrs, fe glywn na fydd y prif weithredwr wedi ei leoli yno, clywn y bydd swyddogion arweiniol ac aelodau’r bwrdd wedi eu lleoli mewn mannau eraill, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym y byddai’n fwy na dim ond plât pres ar y drws. Wel, wyddoch chi, rwy’n derbyn ei bod yn gadarnhaol ei fod yn mynd i gael ei leoli yno, ond wyddoch chi, mae’n dal i adael rhywfaint o gwestiwn pa un a fyddant â’u pencadlys yno go iawn neu nad yw hynny’n wir mewn gwirionedd.

Mae Plaid Cymru wedi mynnu’n gyson fod arnom angen cyllid cydradd ar gyfer pob rhan o’r wlad yn ogystal â datganoli go iawn i sefydliadau cenedlaethol sy’n bodoli eisoes a sefydlu rhai newydd, megis Awdurdod Cyllid Cymru, a’r banc datblygu, a’r amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn ogystal, wrth gwrs, a fydd, gobeithio, os daw i fodolaeth, yn bwysig yn ddiwylliannol ac yn ysgogiad economaidd pwysig i ogledd Cymru yn ogystal. Yn ein cytundeb cyllidebol yn ddiweddar, llwyddasom i sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys arian posibl ar gyfer yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol y soniais amdani yn awr, buddsoddiad mewn cysylltiadau gogledd-de, hyfforddiant meddygol ar gyfer y gogledd, gwaith ar drydedd groesfan y Fenai ac yn y blaen, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gadarnhaol.

Ond ceir pryder yng Ngogledd Cymru fod economi gogledd Cymru—. Mae yna deimlad ei bod braidd—. Neu mae perygl, yn sicr, ei bod yn mynd yn ôl-ystyriaeth braidd. Mae’n ychwanegiad neu’n atodiad i Bwerdy Gogledd Lloegr. Clywaf hynny gan nifer gynyddol o bobl yn y sector, ac mae perygl yn ogystal ei bod yn syrthio rhwng dwy stôl Pwerdy Gogledd Lloegr a’r dinas-ranbarthau yn ne Cymru. Mae angen inni warchod yn erbyn hynny ac mae angen inni sicrhau bod gogledd Cymru’n dod yn bwerdy economaidd yn ei hawl ei hun fel rhan o strategaeth economaidd genedlaethol ehangach ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, mae gweledigaeth economaidd ar gyfer Cymru gyfan, fel un Plaid Cymru, yn hanfodol os ydym i ledaenu ffyniant a chyfle ledled y wlad.

Hoffwn nodi yma hefyd y gronfa ffyniant a rennir y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei chael yn lle cronfeydd rhanbarthol yr UE y mae Cymru yn eu derbyn ar hyn o bryd, ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit. Mae cronfeydd rhanbarthol yr UE ar gael, wrth gwrs, ar gyfer gorllewin Cymru a’r Cymoedd, os edrychwch ar rai agweddau ar y cyllid hwnnw. Os yw’r gronfa ffyniant a rennir ar gyfer Cymru gyfan—ac mae trafodaeth i’w chael, wyddoch chi, ynglŷn â sut y defnyddiwn yr arian hwnnw—rwyf eisoes yn clywed pobl yn mynegi pryderon ei bod yn mynd i gael ei sianelu i feysydd sydd eisoes yn cael y gyfran fwyaf o’r buddsoddiad. Nid wyf yn dweud bod hynny’n mynd i ddigwydd, ond mae gwir angen inni gofio bod yna risg yno na fydd rhai o’r ardaloedd yng ngogledd Cymru, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn cael mynediad at gymaint o arian ag y maent wedi gallu ei gael yn flaenorol o bosibl.

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru hefyd yn allweddol yn hyn i gyd, mae un o’r gwelliannau ger ein bron yn hollol iawn i gydnabod eu rôl, mae eu gweledigaeth ar gyfer twf yn sicr yn cynnig cyfeiriad teithio i ni, ac mae eu gwaith yn ddiweddar ar amlygu’r anghenion sgiliau yng ngogledd Cymru yn nodi her glir i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU, ac mae’n her y mae angen mynd i’r afael â hi’n iawn.

Ochr yn ochr â hyn i gyd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru eisiau cyflwyno Bil adnewyddu rhanbarthol a fydd yn ymgorffori, mewn cyfraith, y gofyniad i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad o fantais i bob rhan o’n cenedl ac yn hybu cynhyrchiant ym mhob rhan o Gymru. Bydd yn trawsnewid y modd y caiff penderfyniadau buddsoddi eu gwneud yng Nghymru, yn ogystal â sut y cânt eu cyflawni. A thrwy ddeddfwriaeth, buasem yn sefydlu asiantaethau datblygu rhanbarthol, yn ogystal â chomisiwn seilwaith cenedlaethol gyda phwerau statudol, ac yn ei lythyr cylch gwaith bydd dyletswydd i ledaenu buddsoddiad ar draws Cymru. Mae angen inni flaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer buddsoddi er mwyn adfer cydbwysedd yr economi, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau nad oes unrhyw gymuned nac unrhyw ran o Gymru yn cael ei gadael ar ôl wrth iddo geisio creu’r swyddi, y twf a’r cyfleoedd y mae pawb ohonom yn eu haeddu.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:

a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod ‘gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd’ ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Llywydd. Fel y mae’r cynnig hwn yn ei nodi, mae angen inni gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru ac rydym yn gresynu at danariannu hanesyddol gogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru. Rydym hefyd, fodd bynnag, yn gresynu at rôl Plaid Cymru yn hyn pan oedd mewn clymblaid â Llywodraeth Lafur Cymru ac yn ei chytundebau cyllidebol â hwy yn y gorffennol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi lansio pedair strategaeth economaidd ers 1999, ac eto mae perfformiad economaidd Cymru wedi parhau i aros yn ei unfan. Yn 1999, roedd gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchwyd fesul y pen o’r boblogaeth, neu’r gwerth ychwanegol gros, yng Nghymru yn 72.4 y cant o gyfartaledd y DU; yn 2015, roedd wedi crebachu i 71 y cant. Mae is-ranbarth gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnwys pedair o siroedd gogledd Cymru, yn dal i fod ar y gwaelod ar draws y DU, ar 64 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Gwelodd Sir y Fflint a Wrecsam hyd yn oed eu gwerth ychwanegol gros yn disgyn o bron 100 y cant o lefel y DU i 84 y cant yn unig, tra bo gwerth ychwanegol gros ar Ynys Môn wedi disgyn i 54 y cant yn unig—y lefel isaf yn y DU. Eto i gyd, nid yw Llywodraeth Lafur Cymru ond yn rhoi’r unfed lefel ar ddeg uchaf o gyllid refeniw llywodraeth leol fesul y pen o’r boblogaeth i Ynys Môn—rhan dlotaf y DU—allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda Chonwy’n bymthegfed; Wrecsam yn ddeunawfed; a Sir y Fflint yn bedwerydd ar bymtheg.

Mae bwrdd iechyd lleol gogledd Cymru yn destun mesurau arbennig ac wedi gorwario, gan fod Llafur Llywodraeth Cymru wedi diystyru ein rhybuddion ar ran cleifion a staff dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru sy’n honni ei bod wedi chwarae rôl arweiniol yn drawsffiniol wrth ddatblygu cynigion gyda phartneriaid ar gyfer bargen dwf yng ngogledd Cymru yn chwerthinllyd. Yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru, a byddai’n disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw fargen yn y dyfodol. O leiaf mae Llywodraeth y DU â’r cwrteisi i ddweud bod ei swyddogion ei hun a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu’r weledigaeth a deall sut y byddai bargen dwf yn rhan ohoni.

Anogodd Llywodraeth y DU bartneriaid lleol i flaenoriaethu eu cynigion, sef yr un peth yn union ag y gwnaeth y weledigaeth ar gyfer twf yr economi yng ngogledd Cymru pan alwodd am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan ddweud y byddai hyn yn hybu’r economi, swyddi a chynhyrchiant, gan greu o leiaf 120,000 o swyddi a rhoi hwb i werth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035. Golyga ‘trethi’ yma gyflawni prosiectau drwy fenthyca cyllid drwy gynyddrannau treth, wedi ei ariannu gan gynnydd yn y dyfodol yn y derbyniadau ardrethi busnes yn deillio o brosiectau’r fargen dwf.

Mae pobl yng ngogledd Cymru’n edrych tua’r de ac yn dod i’r casgliad fod gwahanol setiau o reolau’n cael eu cymhwyso i wahanol rannau o Gymru. Fel y nododd cadeirydd siambr fasnach gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio gormod ar Gaerdydd, a gallai gogledd Cymru wneud yn well pe bai’n gallu sicrhau ei ffurf ei hun ar fargen ddatganoli gyda Llywodraeth Cymru, fel y gall ymateb yn llawer cyflymach ac mewn modd mwy deallus i ddatblygiadau parhaus yn y rhanbarth ac ar draws y ffin.

Wel, ie, mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb. Mae wedi dod i gytundeb gyda’r diafol gwleidyddol yn gyfnewid am ychydig friwsion o’r bwrdd uchaf. Ac i’r ymynyswyr hynny a fyddai’n tanseilio’r fargen dwf, rwy’n dweud hyn, ‘Peidiwch â bradychu pobl y gororau, y tiroedd canol, neu diroedd gorllewinol gogledd Cymru a allai fod fwyaf ar eu colled.’

Felly rwy’n cynnig gwelliannau 2 a 3, sy’n argymell y dylai’r Cynulliad hwn nodi bod dogfen ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’ Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn dod i’r casgliad fod gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i gael ystod o gyfrifoldebau newydd a’n bod yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru.

Roedd newyddion mis Ebrill ynghylch datblygiad cais twf gogledd Cymru’n datgan bod uchelgeisiau ar gyfer rhoi hyblygrwydd a phwerau datganoledig i’r rhanbarth yn cynnwys swyddogaethau trafnidiaeth, cynlluniau strategol defnydd tir, arloesedd busnes a swyddogaethau cynghori, cyngor gyrfaoedd a phwerau trethu, ac roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i fargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru yn datgan

Mae angen i Gymru fel ffurflywodraeth sicrhau y gall Gogledd Cymru gystadlu â Gogledd-orllewin Lloegr a chymryd rhan effeithiol yn y gwaith o gynllunio ar gyfer twf yng Ngogledd Lloegr trwy Bwerdy Gogledd Lloegr.

Roeddent hefyd yn dweud

Mae datganoli swyddogaethau i Ogledd Cymru sy’n cyfateb i rai rhanbarthau cyfagos Lloegr yn anghenraid amddiffynnol ac yn alluogydd twf i’w groesawu.

Dyna’r realiti economaidd a chymdeithasol y mae’r bobl yn y gogledd-ddwyrain yn byw ynddo. Dyma hefyd yw’r ffordd o ledaenu ffyniant i’r rhanbarthau canol a gorllewinol hynny sy’n dal i ddihoeni ar y gwaelod, nid yn unig yn nhabl Cymru, ond yn nhabl y DU, ar ôl 18 mlynedd o ddatganoli.

Diolch am gael gwneud cyfraniad i’r ddadl yma. A gaf i osod un cafeat yn y fan hyn, fel y gwnaeth Llyr hefyd? Mae’n gyffredin iawn yn y gogledd i glywed pobl yn dweud bod popeth yn mynd i’r de, ond wir, nid oes gen i lawer o ddiddordeb mewn bwydo rhaniadau. Uno’r genedl ydy fy niddordeb i, ond—ac mae hyn yn bwysig iawn—lle mae yna dystiolaeth o ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth i ledaenu llewyrch yn deg i sicrhau bod pob rhanbarth yn cael y cyfle gorau posib i gael y gwasanaethau cyhoeddus mwyaf cynaliadwy, fod buddsoddiad, trafnidiaeth neu ddatblygu economaidd ddim yn ymddangos yn hafal ar draws y wlad, mae’n bwysig sefyll i fyny dros y rhanbarthau hynny, lle bynnag y maen nhw. Lle mae yna syniadau—. Rydw i’n hapus iawn i ildio i Alun Davies, sydd fel arfer yn siarad yn—[Anhyglyw.]

Nid yw’r Gweinidog eisiau cyfrannu i’r ddadl, er mae’n gwneud llawer gormod o gyfraniadau ar ei eistedd, os caf i ddweud. Felly, os gwnaiff y Gweinidog ganiatáu i Aelodau siarad ac i gyfrannu i’r ddadl yn llawn. Diolch.

Nid ydy’r Gweinidog byth eisiau gwneud cyfraniad i ddadleuon, Llywydd, ond mae’n hapus iawn i’w lais gael ei glywed yma yn Siambr tra mae o ar ei eistedd. Mi wnaf i barhau.

Lle mae yna syniadau neu gynlluniau, fel sydd gennym ni ym Mhlaid Cymru, fel rydym ni’n eu hamlinellu y prynhawn yma, i gryfhau’r gogledd, i annog buddsoddiad, cael gwared ar ddiffyg cydbwysedd rhanbarthol mewn nifer o feysydd, gwneud ein gwaith ar ran ein hetholwyr ydym ni, a dal y Llywodraeth i gyfrif.Rydw i am edrych ar ddau faes roesom ni sylw iddyn nhw yn ein trafodaethau ni ar gyfer ein cytundeb ni efo Llywodraeth Cymru cyn y gyllideb.

Trafnidiaeth yn gyntaf. Mae deuoli’r Britannia yn rhywbeth rydw i wedi galw amdano’n gyson ers cael fy ethol. Nid dim ond ymateb i oedi mewn oriau brig ydy hyn, er mor rwystredig ydy hynny i deithwyr ac i’r rhai sy’n defnyddio’r bont am resymau masnachol, yn hytrach, cam ydy hyn i adeiladu gwytnwch i’r cysylltiadau rhwng y tir mawr a Môn yn yr hir dymor. Dim ond yr wythnos yma mi gafodd pont Britannia ei chau oherwydd gwynt, efo pont Menai yr unig gyswllt ar agor—pont fydd yn dathlu dau ganmlwyddiant o fewn y degawd nesaf. Y bont yw’r bont hyfrytaf gewch chi, ond tynnu’r pwysau oddi arni hi, nid ychwanegu pwysau arni hi, dylem ni fod yn ei wneud yn y dyfodol. Mae yna gyfle yma i sicrhau cysylltiad fydd yn sicrhau llif traffig, rhoi’r sicrwydd i’r gwasanaethau brys mae’n nhw’n gofyn i fi bwyso amdano fo, cyfle i roi sicrwydd i fasnach, a hefyd cyfle rŵan i chwilio am fuddsoddiad y Grid Cenedlaethol ar gyfer cludo gwifrau trydan foltedd uchel ar draws y Fenai. Yn hytrach na gwario efallai £150 miliwn ar wneud twnnel, mi allan nhw wneud cyfraniad a chael arian wrth gefn i fuddsoddi mewn tanddaearu gwifrau ar draws Ynys Môn. Mae pob Aelod etholedig yn Ynys Môn yn cefnogi hynny, ar wahân i Aelod rhanbarthol UKIP. Dyna pam yr oeddem ni’n falch o weld cytundeb y gyllideb yn neilltuo arian i ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer y croesiad ymhellach.

Tra’r ydw i ym maes trafnidiaeth, gadewch imi gyfeirio at gysylltiadau’r gogledd efo rhannau eraill o Gymru. Mae Prydain gyfan yn dioddef o’r canoli—pob ffordd, pob rheilffordd yn arwain i Lundain, a gorllewin-dwyrain o hyd ydy’r prif wythiennau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf rhwng gogledd Cymru a Llundain, mae’n bwysig bod yna gysylltiadau cryf trawsffiniol, ond gadewch i ni gofio hefyd am yr angen i fuddsoddi yn y cysylltiadau trafnidiaeth yna a fydd yn helpu cryfhau economi gynhenid Gymreig, y math o economi, fel y dywedodd Llyr, a fydd yn gallu bod yn bartner efo’r ‘Northern Powerhouse’ ac yn bartner efo’n partneriaid ni hefyd i’r gorllewin yn Iwerddon.

Mi ddefnyddiaf i’r munud sydd gen i ar ôl i dynnu sylw at un maes arall, sef y prinder affwysol o weithwyr iechyd sydd gennym ni yn y gogledd, yn benodol meddygon. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig a allai helpu mynd i’r afael â hyn, sef sefydlu canolfan addysg feddygol ym Mangor. Rydym ni’n gwybod bod yna batrwm o feddygon yn tueddu setlo i weithio lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Rywsut, rydym ni angen darparu mwy o feddygon sydd wedi eu gwreiddio yn y Gymru wledig, wedi datblygu arbenigedd efallai mewn meddygaeth wledig, ac sy’n ymroddedig i weithio yn y Gymru wledig ac yn y gogledd yn benodol hefyd. Mae yna gyfle, rydw i’n meddwl, drwy’r ganolfan addysg newydd yma, i ddarparu hynny mewn partneriaeth, rydw i’n gobeithio, efo Caerdydd ac Abertawe. Mae yna sôn am symud mwy o fyfyrwyr o Gaerdydd ac Abertawe. Rydym ni’n gwybod bod rhai dan hyfforddiant yn mynd ar ‘rotations’ o gwmpas Cymru, ond mae’n rhwystr i bobl sydd ddim yn dymuno gwneud y teithio de-gogledd yna. Mae’n rhwystr iddyn nhw i ddod i astudio o fewn y gyfundrefn Gymreig. Felly, beth am gryfhau’r addysg feddygol sydd yna yn y gogledd?

Felly, mewn addysg feddygol, mewn trafnidiaeth, mewn datblygu economaidd, nid yn unig y mae angen tegwch, mae angen sicrhau cydraddoldeb cyfle ac mae’n rhaid i bobl y gogledd allu gweld mai dyna’r realiti.

Rwy’n croesawu’r cyfle i gael y ddadl hon heddiw ac i allu cyfrannu, gan fy mod yn falch o wasanaethu’r gymuned a’m ffurfiodd ac ers cael fy ethol ychydig dros flwyddyn yn ôl, rwyf wedi dweud yn glir mai yma’n unig wyf fi i fod yn llais cryf ac i sefyll dros fy etholwyr yn Nelyn, ond hefyd dros ogledd Cymru ac ardal gogledd-ddwyrain Cymru yn gyffredinol. Fel llawer o bobl eraill o’r ardal, rwy’n ymwybodol iawn o’r hyn y tueddaf i’w alw’n ddatgysylltiad datganoli yn yr ardal y dof ohoni, yn anad dim oherwydd, o fy etholaeth i, mae’n gyflymach i gyrraedd Caerdydd—yn gyflymach i gyrraedd Llundain, mae’n ddrwg gennyf, ar y trên, o’r Fflint, nag yw hi i gyrraedd Caerdydd. Mae yna amrywiaeth eang o bethau y gallwn eu gwneud i fynd i’r afael â hynny, a dyna un o’r rhesymau pam rwy’n edrych ymlaen at weld Senedd@ yn dod i Delyn fis nesaf a defnyddio hwnnw mewn gwirionedd i gynnwys mwy o bobl yn yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y mae’n effeithio ar eu bywydau.

Ond hefyd mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn dod â mwy o fanteision economaidd datganoli i’r rhanbarth, ac rwy’n falch o weld bod rhywfaint o fuddsoddiad o’r fath ar y gweill, gan gynnwys y banc datblygu a gafodd ei lansio heddiw, ac a fydd wedi ei leoli yn Wrecsam. Rwyf hefyd yn cefnogi’r cynlluniau i gael amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, ond buaswn yn gofyn, efallai, a all Plaid Cymru egluro a fydd honno’n rhan o’r amgueddfa genedlaethol neu’n amgueddfa annibynnol. O fy safbwynt personol innau hefyd, buaswn yn awyddus i wybod hefyd a fyddai’r amgueddfa yn cynnwys yr enwogion Cymreig hynny, megis Neville Southall, y diweddar Gary Speed, a oedd hefyd yn chwarae i’r tîm Rhif 1 i bobl gogledd Cymru ei gefnogi, sef Everton. Dylwn nodi mai dyma’r unig dro y byddaf yn cefnogi’r tîm mewn glas.

Dros y haf—

A gaf fi wneud ymyriad? Mae’n werth nodi bod Neville Southall wedi dod allan o blaid annibyniaeth dros yr wythnosau diwethaf.

Mae ymddangos bod gan bawb stori am Neville Southall; fe’i gadawaf yn y fan honno. [Chwerthin.]

Treuliais lawer o’r haf yn cynnal arolwg o etholwyr, yn mynd o ddrws i ddrws, yn curo ar ddrysau, ac un o’r prif bethau a ddaeth yn ôl oedd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig. Mae yna lawer o gwestiynau’n codi mewn perthynas ag amserlenni bysiau a threnau ac integreiddio yn y rhanbarth, ac rwy’n meddwl bod yna bethau y mae angen i fetro gogledd-ddwyrain Cymru fynd i’r afael â hwy. Mae’r £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu metro gogledd-ddwyrain Cymru yn gynnig mawr a allai greu budd economaidd enfawr, ond wrth i’r gwaith tuag at y metro gyflymu, rwy’n meddwl bod angen inni ystyried hefyd pa mor bwysig yw gallu pobl i gael mynediad at waith gweddus yn agosach at adref a darparu ysgogiad i fusnesau fuddsoddi ac ehangu. Rwy’n meddwl y buasai’r cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac Airbus ym Mrychdyn i hwyluso teithio i Airbus a’r sefydliad gweithgynhyrchu uwch newydd yn arfogi ein rhanbarth yn well gyda chysylltiadau trafnidiaeth i ateb galw gwaith. Fodd bynnag, credaf na ddylai’r uchelgais orffen gyda hynny. Rwy’n credu bod angen inni edrych ar orsafoedd ychwanegol ac yn enwedig o fy safbwynt i yn fy etholaeth, rwy’n meddwl bod gwerth mewn edrych ar orsaf ychwanegol yn ardal Maes-glas, Treffynnon, a fyddai nid yn unig yn cysylltu’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain â’r sector ynni yn y gogledd-orllewin a Maes-glas a dociau Mostyn, ond hefyd gallai gysylltu â pheth o dwristiaeth a threftadaeth Abaty Dinas Basing a Ffynnon Gwenffrewi yn yr ardal.

Rydym eisoes wedi crybwyll sut y mae system drafnidiaeth integredig yn hanfodol, nid yn unig i’n cysylltu o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de, ond hefyd ar draws y ffin â gogledd-orllewin Lloegr. Felly, gwyddom fod bron 23,000 o bobl yn cymudo o ogledd Cymru yn ddyddiol i ogledd-orllewin Lloegr, ac mae bron 31,000 yn teithio i’r cyfeiriad arall i ogledd Cymru. Mae hyn wedi creu pwysau hirsefydlog ar ein seilwaith trafnidiaeth, ac mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef. Gwyddom fod y coridor M56-A55 hwnnw’n werth £35 biliwn ac mae dros 2 filiwn o bobl yn byw o fewn pellter cymudo 30 munud i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan wneud buddsoddiad pellach yn ein seilwaith yn fwy arwyddocaol byth, a dyna pam y mae gwelliannau i’r A55 ac edrych ar groesfannau’r Fenai, llwybrau ychwanegol, gan ledu lle y gallwn, yr astudiaeth gydnerthedd i edrych ar fannau cyfyng i weld sut y gallwn fynd i’r afael â’r heriau hynny, oll yn anhygoel o bwysig, fel y mae’r porth i ogledd Cymru hefyd a’r holl dwristiaeth a’r atyniadau anhygoel sydd gennym yno. Ac felly mae angen i’r seilwaith fod yn ei le er mwyn gwneud y gorau o’n heconomi ymwelwyr.

Rydym wedi siarad am—. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru—rydym wedi siarad ynglŷn â strategaeth dwf a bargen dwf ar gyfer gogledd Cymru, a buaswn yn gofyn beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn ac yn gobeithio gweld rhywbeth mwy na geiriau caredig yn unig yn natganiad yr hydref, a bod rhywfaint o arian yn dilyn mewn gwirionedd—arian lle mae eu ceg, yn llythrennol—fel y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Ond mae angen i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a’r holl wleidyddion ar draws y rhanbarth weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a chydweithio er mwyn cyflawni’r fargen dwf hon ar gyfer gogledd Cymru.

Rwy’n credu bod pobl eraill wedi cydnabod, pan fyddwn yn sôn am economi gogledd Cymru, na allwn anwybyddu’r ffaith ein bod yn gysylltiedig yn hanesyddol ac yn gorfforol ac yn economaidd â’n cymdogion yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ac er fy mod o’r farn fod gweithio trawsffiniol yn creu set unigryw o heriau, gallai hefyd sicrhau cyfleoedd sylweddol, ond mae angen inni sicrhau bod y cyfleoedd hynny’n gwneud cymaint â phosibl i ni yng ngogledd Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn olaf, hoffwn groesawu gwelliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, sy’n ymrwymo i gefnogaeth barhaus ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys gwaith dur Shotton yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Nid wyf yn ymatal rhag dadlau achos gwaith dur Shotton dro ar ôl tro pan fyddwn yn sôn am y diwydiant dur yng Nghymru. Mae’n olau disglair yn y sector sy’n cynhyrchu cynhyrchion proffidiol ac unigryw gyda gweithlu medrus ac ymroddedig, ac nid yw ond yn un enghraifft o’r sector gweithgynhyrchu uwch, sef conglfaen ein cyfoeth rhanbarthol a’n cyfoeth ehangach yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn wir—

Ydw. Yn wir, rwy’n credu bod potensial mawr ar y ffordd i ogledd Cymru—potensial sydd wedi cael ei gydnabod yn awr gan y Llywodraeth yma—ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae’n rhaid inni adeiladu ar hyn a sicrhau bod lleisiau pobl gogledd Cymru yn cael eu clywed yn glir wrth ddatblygu ein rhanbarth, os ydym yn mynd i lwyddo i bontio’r bwlch rhwng gogledd a de a chael cyfran deg o’r difidendau datganoli.

Mae’n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl hollbwysig yma heddiw, ac, fel gog o’r gorllewin, rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i drafod y gogledd orllewin yn benodol. Un o fy hoff arferion i fel yr Aelod Cynulliad dros Arfon ydy sgwrsio efo chynifer o bobl â phosib ar draws yr etholaeth. A’r un peth sy’n cael ei godi efo fi—minnau hefyd, yn debyg i Llyr a Rhun. Dro ar ôl tro, beth sy’n cael ei godi efo fi ydy’r ymdeimlad yma fod Llywodraeth San Steffan, ac yn gynyddol Llywodraeth Cymru, yn gadael ein cymunedau ni ar ôl. Ond mae o’n fwy nag ymdeimlad; yn anffodus, mae o’n realiti hefyd. Mae Llyr Gruffydd wedi sôn am y ffaith bod trigolion y gogledd wedi derbyn dros £350 yn llai y pen, o’u cymharu â thrigolion de-ddwyrain Cymru ers 2013. Efo’r posibilrwydd o ddefnyddio holl bwerau benthyg y Llywodraeth ar ariannu prosiect drudfawr llwybr du’r M4 yn fuan, mae’n debyg mai dal i ddisgwyl am chwarae teg y bydd trigolion y gogledd, a hynny am flynyddoedd lawer i ddod, os nad oes yna newid cyfeiriad sylweddol.

Mae gorfodi’r Llywodraeth i fuddsoddi yn sylweddol yn ein cornel ni o Gymru yn aml yn teimlo fel trio gwasgu gwaed o garreg. Fel mae cynlluniau ar gyfer y ffordd osgoi yn y Bontnewydd yn dangos, mae buddsoddiadau sylweddol o’r math yma ond yn dod oherwydd ymgyrchu diflino gan Blaid Cymru dros nifer o flynyddoedd.

Mae angen buddsoddi yn isadeiledd y gogledd, ond hefyd fuddsoddi mewn swyddi. Yn fan hyn, mae yna gyfle i’r Llywodraeth ddangos eu hymrwymiad nhw i ddosbarthu cyfoeth drwy sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol yn cael eu dosbarthu ledled Cymru. Ond hyd yn oed ar ôl cyhoeddi'r strategaeth lleoli, gyda’r amcan o gynnal a chreu swyddi mewn ardaloedd y tu allan i goridor yr M4, methwyd â mynd â’r maen i’r wal, yn enwedig yn y gogledd-orllewin.

Yn 2010, roedd 127 o swyddi wedi’u lleoli yn nhref Caernarfon. Erbyn hyn, 82 o swyddi sydd yna yng Nghaernarfon, ac mae yna fwy o ansicrwydd ar y gorwel ar gyfer gweithwyr yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn y dref. Mae’r Llywodraeth yn mynd i werthu’r safle presennol er mwyn lesu rhan o adeilad llai mewn rhan arall o’r dref—lesu, nid prynu adeilad newydd, efo’r hawl i ddiweddu’r les ar ôl pum mlynedd. Mae hyn, i mi, yn codi cwestiynau mawr am sicrwydd y swyddi yng Nghaernarfon yn yr hirdymor.

Roeddwn i’n falch iawn pan gytunodd Llywodraeth Cymru i alwadau Plaid Cymru i gynnwys £2 filiwn er mwyn hyrwyddo cydweithio rhwng pedair sir y gorllewin fel rhan o gytundeb y gyllideb. Mae gennym ni gyfle rŵan ar draws y gorllewin i rannu arfer da, gyfle i weithio yn strategol, a chyfle i gychwyn denu buddsoddiad newydd i’r gorllewin, oherwydd mi fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fath o ddêl yn ddim llai na thrychineb i’r ardal wledig, dlawd, orllewinol, Gymraeg yma. Mae’n rhaid inni felly ddyblu ein hymdrechion dros yr ardal, ac un cam clir y mae’n rhaid i’r siroedd gorllewinol hyn ei gymryd ydy gweithio gyda’i gilydd er mwyn denu buddsoddiad ar gyfer isadeiledd modern a swyddi o ansawdd i’r ardaloedd difreintiedig yma.

Pryder pobl yn fy etholaeth i yw na fydd manteision bargen twf y gogledd yn ymestyn i’r gogledd-orllewin. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weld rhanbarth newydd, grymus yn dod i’r amlwg yn y gorllewin er mwyn gweithio yn erbyn methiannau Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig i fuddsoddi mewn talp mawr o’n gwlad. Efallai wedyn y gallwn ni greu cenedl lle mae pob cwr o’r wlad yn cael cyfle i ffynnu.

Rwy’n cefnogi’r teimladau a fynegwyd ym mhwyntiau 1, 2 a 4 o gynnig Plaid Cymru. Mae’n berffaith wir fod angen cryfhau perfformiad yr economi yng ngogledd Cymru. Yn benodol, mae angen inni adeiladu economi yng ngogledd Cymru sy’n caniatáu i’w phobl ennill mwy gan ganiatáu iddynt gadw mwy o’u harian eu hunain. Rwyf hefyd yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru, fel y mae cymaint o bobl eraill yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, er bod Plaid Cymru’n gwneud y synau cywir, o ran gweithredu maent yn gwneud y gwrthwyneb ac yn cefnogi cyllideb Lafur a Llywodraeth Lafur sydd wedi gwneud cam â gogledd Cymru yn y gorffennol a bydd yn gwneud cam â gogledd Cymru yn y dyfodol. Gellid bod wedi cyflawni cymaint mwy dros ogledd Cymru pe bai Plaid Cymru wedi aros yn ffyddlon i ddymuniadau eu pleidleiswyr ac wedi helpu i gael gwared ar y gyllideb honno. Ond yn awr maent yn disgwyl inni eu cymeradwyo am gardota’n llwyddiannus am y briwsion a adawyd ar ôl wedi i Gaerdydd a gweddill y de gymryd y gyfran fwyaf unwaith eto gan y Llywodraeth hon sy’n canolbwyntio ar y de.

Mae’n debyg y gellid cytuno â gweddill y cynnig, ond unwaith eto, mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd yn dod gan Blaid Cymru o ystyried eu hanes blaenorol. Maent yn sôn am y briwsion ychwanegol y mae bradychu pleidleiswyr Plaid Cymru wedi eu sicrhau ar gyfer Croeso Cymru, ond rywsut, maent yn anghofio sôn am y dreth dwristiaeth y maent naill ai’n ei chefnogi, neu’n ddi-rym neu’n amharod i’w hatal, a fydd yn gwneud pethau hyd yn oed yn anos i’r rhai sy’n rhedeg busnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru. Ers dyfodiad gwyliau tramor rhad, mae angen i fusnesau twristiaeth yng Nghymru gael pob cymorth y gallant ei gael, nid newidiadau a fydd yn cynyddu costau a gorbenion, yn enwedig o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr. Nid treth ar fusnesau twristiaeth yn unig yw hon, ond ar bob un o’r busnesau nad ydynt yn fusnesau twristiaeth sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi neu sy’n elwa ar sector twristiaeth iach a’r gwaith y mae’n ei gynnal. Felly, ardoll ar holl fusnesau lleol gogledd Cymru yw’r cynnig i bob pwrpas. Ond mae i’r dreth dwristiaeth un swyddogaeth ddefnyddiol: mae’n helpu pleidleiswyr i weld beth sy’n digwydd pan fyddwch yn datganoli pwerau trethu i Lafur a’u cefnogwyr, Plaid Cymru—maent yn eu codi. Maent yn ceisio dod o hyd i unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth ac yn bachu’r hyn a allant tra gallant heb ystyried yr effeithiau hirdymor.

Ni allwn gefnogi pwynt 3 o gynnig Plaid Cymru, lle y mae Plaid Cymru’n ceisio curo’i chefn ei hun am negodi consesiynau a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru yn gyfnewid am gynnal Llywodraeth Cymru unwaith eto, gan esgus gwrthwynebu’r Llywodraeth ar yr un pryd. O ganlyniad—

Rydych wedi gweld y rhestr a amlinellwyd gennym yn ein cynnig. Pa rai rydych chi’n anghytuno â hwy, felly?

Pwynt 3.

Felly, o ganlyniad, bydd UKIP yn cefnogi gwelliant 2. O ran y gwelliannau eraill i’r cynnig, mewn perthynas â gwelliant 1 gan Lafur, nodaf y bydd Llafur Cymru yn awr yn gwario rhywfaint o arian yng ngogledd Cymru—o leiaf maent wedi addo gwneud hynny, ac fe welwn a fydd y cynlluniau hynny’n digwydd—ond nid wyf yn credu bod gan Lafur Cymru unrhyw beth i ymffrostio yn ei gylch, er hynny. Oes, mae arian yn cael ei addo i ogledd Cymru mewn rhai ffyrdd cyfyngedig, ond diferyn mewn pwll yw hynny o’i gymharu â’r arian sy’n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn ne Cymru. Mae manteision y gwelliant honedig i goridor yr A55/A494 i’r economi leol eto i’w gweld. Rwyf fi a llawer o rai eraill yn credu na fydd y penderfyniad i weithredu’r llwybr coch ond yn symud y problemau traffig a geir ar hyn o bryd yn Queensferry ymhellach i’r gorllewin, na fydd yn helpu neb ac yn sicr ni fydd yn helpu’r gymuned ehangach. Felly, byddaf yn atgoffa pleidleiswyr y bydd eu bywyd a’u bywoliaeth yn cael eu niweidio gan benderfyniadau Llafur Cymru ynglŷn â gogledd Cymru a’i hesgeulustod ohoni, nid yn unig y dylent roi’r bai ar y Blaid Lafur, ond hefyd ar Blaid Cymru sydd yr un mor euog.

Gan droi at y gwelliannau eraill a gynigiwyd gan Lafur, o ran croesfan ychwanegol dros afon Menai, pryd fydd y cynlluniau hyn yn gweld golau dydd mewn gwirionedd, a phryd fydd gwaith adeiladu yn dechrau? Pa mor fuan y gall pobl ar Ynys Môn ddisgwyl y drydedd groesfan? Pryd fydd y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn dechrau dangos ei fudd? Ni ellir teimlo unrhyw fanteision economaidd hyd nes y bydd y cynlluniau’n dwyn ffrwyth, felly pryd fyddwn ni’n gweld gwelliannau yn y byd go iawn? Rwy’n cydnabod y byddai angen datganoli rhai o’r pwerau y mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn galw amdanynt gan Lywodraeth y DU yn gyntaf. Fodd bynnag, mae cynigion Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddiddorol iawn a dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried, ond rwy’n ofni na chânt eu hystyried. Byddai’n gwneud synnwyr i benderfyniadau o’r fath gael eu gwneud gan y rhai y maent yn effeithio arnynt agosaf a chan bobl sy’n deall yr ardal ac yn rhoi gogledd Cymru yn gyntaf.

Dylid datganoli pwerau i’r lefel isaf o lywodraeth sy’n ymarferol, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 3. Pe bai penderfyniadau buddsoddi wedi eu gwneud yn hanesyddol gan y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf, efallai na fyddem yn cwyno’n awr am y modd y cafodd gogledd Cymru ei hesgeuluso o gymharu â rhanbarthau eraill o Gymru.

Felly, yn gryno, er fy mod yn cefnogi’r teimladau a fynegwyd yng nghynnig Plaid Cymru, rwy’n eu hystyried braidd yn syfrdanol yn dod gan blaid sydd wedi cynnal Llywodraeth Lafur ers blynyddoedd, sydd wedi trin gogledd Cymru fel perthynas dlawd ac anghysbell, ac sy’n parhau i wneud hynny. Diolch.

Mae’n rhaid i mi ddweud, mewn dadleuon fel hyn, rydw i’n ffeindio fy hun ar dir haniaethol. Weithiau, rydw i’n tybio lle mae gogledd Cymru yn dechrau a lle mae’n bennu, ond y tro yma, rwyf newydd ddilyn sgwrs lle roeddwn i’n tybio ym mha fyd ac ym mha Gymru rydw i’n byw ynddo, achos roedd hynny yn gyfan gwbl afreal wrth gymharu â’r byd rydym ni’n byw ynddo fe—yn enwedig trafod treth nad yw’n bodoli eto, nad yw wedi cael ei chynnig yn ffurfiol, a lle mae Llywodraeth San Steffan yn gallu dweud ‘na’ wrth y dreth yna unrhyw bryd o gwbl.

Beth sydd yn digwydd yng ngogledd Cymru, wrth gwrs: mae twristiaeth yn hynod o bwysig i’r arfordir a’r ardaloedd gwledig, a beth fyddai’n gwneud byd o wahaniaeth yn fanna fyddai torri treth ar werth i 5 y cant, fel mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu amdano yn gyson. Mae’r Ceidwadwyr, sydd wedi bod mor huawdl ynglŷn â thwristiaeth yn ystod y pythefnos diwethaf, ond wedi cadw treth ar werth ar 17.5 y cant, ac wedyn codi treth ar werth i 20 y cant ar fusnesau twristiaeth, ar ôl addo mewn etholiad na fyddan nhw byth yn gwneud y fath beth i ogledd Cymru a gweddill Cymru. Dyna’r gwir am y blaid honno.

Ond mae yna un peth sy’n gallu cael ei weld fel llinyn sy’n cysylltu’r gogledd, lle bynnag rydych chi’n teimlo mae’r gogledd yn dechrau—byddai rhai yn teimlo bod yr iaith yn dechrau newid rhywbryd uwchben Aberystwyth, a rhai eraill yn teimlo bod yn rhaid i chi fynd heibio Dolgellau; nid ydw i cweit yn siŵr lle yn union mae’r gogledd yn dechrau. Ond rydw i yn gwybod bod yna rywbeth cyffredin yn yr ardaloedd hynny, sef cefn gwlad, ffermio ac amaeth, ac adnoddau naturiol, yn enwedig y gwynt a’r glaw. Rydw i jest eisiau siarad yn fras iawn am y cyfleoedd y dylem ni drio manteisio arnyn nhw nawr i sefydlu economi cryfach gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn yr ardaloedd hynny i sicrhau dyfodol llewyrchus i gefn gwlad.

Mae Sian Gwenllian wedi cyffwrdd ar hyn, ond gobeithio y bydd hi’n maddau i mi jest ddweud ychydig mwy am y ffaith bod gyda ni erbyn hyn adroddiadau arbenigol iawn am y gwahanol senarios gall ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, neu gyda chytundeb o fath arbennig, neu gyda pharhad ar, i bob bwrpas, y farchnad sengl a’r undeb tollau. O’r holl senarios yna, nid oes dim dwywaith bod gogledd Cymru’n mynd i fod yn dioddef yn wael iawn oni bai bod gyda ni rhyw fath o gytundeb sydd yn cadw mynediad at, neu rhywbeth reit tebyg i aros yn, y farchnad sengl a’r undeb tollau. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod, rydw i’n meddwl, bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod yn rhaid i ni aros yn y farchnad sengl a’r undeb tollau, a bod yr NFU heb sôn yn benodol am y farchnad sengl ond wedi sôn yn benodol am aros yn yr undeb tollau, o leiaf am y tro, er mwyn sicrhau bod y masnachu yna’n digwydd. Mae un o’r senarios sydd wedi cael ei grybwyll gan adroddiad yr Agriculture and Horticulture Development Board yn dweud yn glir iawn bod yr ardaloedd hynny sydd yn llai ffafriol, sef y rhan fwyaf o amaeth yng ngogledd Cymru, yn mynd i fod nid yn unig yn colli arian ond, a dweud y gwir, yn mynd i fod mewn sefyllfa negyddol pe bai y cytundeb yna yn digwydd.

Mae yn bwysig, felly, ac nid ydym ni’n mynd i ymddiheuro i neb am roi mewn cynnig Plaid Cymru ar ddadl Plaid Cymru rai o’r pethau rydym ni wedi llwyddo eu sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Yn eu plith nhw mae £6 miliwn ar gyfer ffermwyr newydd, ar gyfer pobl newydd i mewn i fyd amaeth, a chefnogaeth, rydw i’n gobeithio, drwy drafod gyda Llywodraeth Cymru, y byddwn ni’n cael gweld cynllun llewyrchus i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r neges iawn i bobl. Wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mae yna gyfleoedd i waed newydd yn y diwydiant, mae yna gyfleoedd i bobl newydd ddod i mewn i’r diwydiant, ac yn fwy na dim byd arall, mae yna gyfleoedd i syniadau newydd ddod i mewn i amaeth, ac mae angen y chwyldro yna, wrth gwrs, er mwyn delio â her y dyfodol.

Ac, wrth gwrs, mae gyda ni lwyddiant wrth geisio lliniaru rhai o’r problemau sydd wedi deillio o newid trethi busnes a’r effaith ar gynlluniau ynni dŵr. Rydym ni wedi llwyddo cael rhyddhad treth ar gyfer cwmnïau cymunedol. Mae yna ddadl dros gael rhyddhad treth ar gyfer pob math o gwmni sydd yn gwneud ynni o’r dŵr. Rydym ni wedi pwsio’r Llywodraeth mor bell â gallan nhw yn y cytundeb yma. Mae yna oblygiadau tymor hir i drethi busnes. Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth ddim yn moyn gweld trethi busnes yn lladd busnes llewyrchus ym maes ynni adnewyddo—rydw i’n siŵr nad ydyn nhw eisiau gweld hynny—ond dyna beth yw sgil effeithiau’r newid sydd wedi bod mewn trethi busnes, ac mae rhaid i unrhyw adolygiad nawr sicrhau bod yna lwyddiant a ffyniant. Rydw i’n gweld, er enghraifft, bod Llywodraeth San Steffan yn edrych ar ryddhad ar y dreth stamp, y dreth prynu tai ac eiddo, ar gyfer y tai ac eiddo sydd yn defnyddio ynni adnewyddol. Wel, gallem ni wneud yr un peth yn rhwydd fan hyn yng Nghymru. A dweud y gwir, roedd Plaid Cymru wedi cynnig hynny wrth edrych ar y dreth yn mynd trwy’r pwyllgor, ond nid oedd y Llywodraeth yn barod i dderbyn e ar y pryd.

Felly, jest i gloi ar nodyn o obaith, rydw i’n meddwl bod yna gyfleoedd di-ri i dyfu economi gogledd Cymru os rydym ni’n meddu ar ein hadnoddau ein hunain ac ar ein dyfodol ein hunain, ac mae hynny’n golygu mwy o rym i Gymru gyfan.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw. Rwy’n hynod o falch o ogledd Cymru a’r economi ddynamig, flaengar sydd ganddi: canolfannau gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru, sector twristiaeth ffyniannus, sector bwyd a diod llwyddiannus, darparwyr sgiliau rhagorol; maent i gyd yn cyfrannu at ran hynod ffyniannus o Gymru, un yr ydym am ei gweld yn cael ei datblygu yn y blynyddoedd i ddod, ond un sydd wedi ei hadeiladu ar gryfderau a galluoedd sy’n bodoli’n barod.

Gyda llaw, rwy’n meddwl y dylwn dynnu sylw at y ffaith bod WorldSkills yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn y dwyrain canol. Ceir oddeutu 30 o gystadleuwyr o’r DU yno ac rwy’n falch o ddweud bod dau ohonynt yn dod o Gymru: mae dau ohonynt yn dod o Goleg Cambria yng ngogledd Cymru. Mae’r ddau’n cynrychioli galwedigaethau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Mae un yn byw ym Manceinion, un yn byw yng Nghymru ac mae’r ddau’n gweithio yng ngogledd Cymru, gan gyfrannu at y sector ac at yr economi ranbarthol. Rwy’n falch o ddweud hefyd fod allbwn economaidd ac incwm aelwydydd yng ngogledd Cymru yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru. Mae hyn yn dangos bod economi’r rhanbarth yn fywiog, yn gryf, ond nid ydym yn dymuno gorffwys ar ein rhwyfau a byddwn yn buddsoddi’n drwm yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd i ddod.

O Wylfa i Airbus, o Zip World i Chetwood Financial, mae gennym rai o’r gweithwyr medrus gorau, mae gennym rai o’r atyniadau mwyaf a’r rhagolygon mwyaf disglair yn y DU. Ac rwy’n dweud hyn i gyd oherwydd fy mod yn credu ei bod yn rhy hawdd mewn dadleuon fel hon i ganolbwyntio ar y pethau negyddol. Rydym yn canolbwyntio’n briodol ar yr hyn y gallwn ei wneud yn well, ond anaml y byddwn yn rhoi eiliad i fyfyrio mewn gwirionedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda iawn. Ac felly hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy sôn am y pethau cadarnhaol, ac rwy’n meddwl bod hanfodion economi gogledd Cymru yn gryf. Ein tasg yn awr yw edrych ymlaen ac adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth, hyrwyddo gogledd Cymru a chryfhau ei hyder, yn hytrach na throi’r gogledd yn erbyn rhannau eraill o’n gwlad.

Rwy’n falch o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gefnogi llwyddiant gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae portffolio buddsoddi ein rhaglen lywodraethu yng ngogledd Cymru yn hynod uchelgeisiol—yn llawer iawn mwy uchelgeisiol nag yn ystod y cyfnod y daliai Aelod o Blaid Cymru liferi’r economi a’r seilwaith. Ar draws y rhanbarth, mae gennym gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn 78 o gynlluniau, cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru. Yn sicr, nid arian bach yw hwnnw. Rydym yn buddsoddi £0.25 biliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy, neu goridor Sir y Fflint fel y mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn yn gywir i’w alw, i fynd i’r afael â’r tagfeydd cronig—tagfeydd cronig a waethygodd, rwy’n ofni, pan benderfynodd Gweinidog blaenorol ganslo’r prosiect. Rydym yn creu sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil i ddarparu cefnogaeth weddnewidiol i gwmnïau gweithgynhyrchu allweddol, a allai greu cynnydd o £4 biliwn yn yr economi ranbarthol. Ac rydym yn buddsoddi £50 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â cham cyntaf metro gogledd-ddwyrain Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn creu M-SParc yn y gogledd-orllewin, rydym yn lleoli pencadlys Banc Datblygu Cymru yn y gogledd-ddwyrain, ac mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cysylltiadau rheolaidd a hygyrch o HS2 i mewn i ogledd Cymru er mwyn cefnogi’r economi, a byddwn yn gofyn i Aelodau’r gwrthbleidiau a ydynt wedi gwneud fel y gwnaethom ni, sef annog Llywodraeth y DU i gefnogi senario 3.

Fel yr amlinellais ym mis Mawrth, rydym yn symud ymlaen i ddatblygu trydedd groesfan dros afon Menai, ac rwy’n credu, fel y dywedodd Hannah Blythyn, fod angen edrych yn aeddfed ar sefyllfa economi gogledd Cymru a datblygu agenda strategol ar gyfer y rhanbarth sy’n datblygu’r cyfleoedd trawsffiniol sylweddol sydd gennym i sicrhau bod y rhanbarth yn chwarae rhan fwy ym Mhwerdy Canolbarth Lloegr a Phwerdy Gogledd Lloegr. Mae’n ffaith bod gwerth ychwanegol gros gogledd Cymru a rhanbarth y Mersi a’r Ddyfrdwy yn fwy na hanner economi Cymru gyfan. Roedd Hannah Blythyn yn gywir i ddweud ei bod hi’n anodd teithio o Ddelyn i Gaerdydd mewn llai o amser nag y cymer i deithio o Ddelyn i Lundain, ond y gwir amdani yw ei bod yn cymryd llai nag awr bellach i deithio o Ddelyn i Lerpwl, o Ddelyn i Fanceinion, neu o Ddelyn i Gaer, ac mae’n rhaid cydweithio’n drawsffiniol, ac mae’n sicr yn ddymunol ar gyfer gwella ein lles economaidd. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw, gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ac ar y ddwy ochr i’r ffin, yn datblygu cynigion ar gyfer bargen dwf gogledd Cymru. Mae’n cael budd ychwanegol o fargeinion sy’n cael eu ffurfio dros y ffin yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i unrhyw gytundeb twf gael ei ddefnyddio i ddod â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru at ei gilydd gyda diben a rennir i fanteisio ar botensial strategol y rhanbarth, gyda ffocws di-baid ar wella cynhyrchiant, gwella sgiliau a gwella seilwaith, gyda gofynion Growth Track 360 yn ganolog i unrhyw fargen. Er mor adeiladol y gallai cyfraniad Mark Isherwood fod wedi bod heddiw, rwy’n credu bod cael ei feistri gwleidyddol yn Llundain i fynd i’r afael â thanariannu cywilyddus—cywilyddus—ein rheilffyrdd yn llawer mwy buddiol i ogledd Cymru.

Er mor wych yw gogledd Cymru, fodd bynnag, rydym wedi wynebu heriau yn y cyfnod diweddar. Y llynedd, fe wnaethom ymyrryd i gefnogi ein diwydiant dur, gan gynnwys y gwaith pwysig yn Shotton, drwy sicrhau bod dros £60 miliwn o gymorth ar gael i Tata i gadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yma yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad yn helpu’r gwaith yn Shotton i ddatblygu dyfodol cynaliadwy ac yn ei dro, mae’n helpu’r gymuned i wneud cyfraniad hanfodol a bywiog i’r economi leol.

Ond wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf sylweddol yng ngogledd Cymru—yng Nghymru gyfan yn wir—yn y blynyddoedd sydd i ddod fydd prosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd. Dyma’r buddsoddiad sector preifat mwyaf ers dechrau datganoli, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y prosiect hwn—yn amodol ar y caniatadau angenrheidiol wrth gwrs—yn sicrhau etifeddiaeth barhaol i Ynys Môn, ac i wneud yn siŵr fod y datblygiad hwn yn cael ei adlewyrchu’n llawn ac yn gyfan gwbl yn y fargen dwf.

Dirprwy Lywydd, fe fyddwch yn falch o glywed bod penodiadau wedi eu gwneud yr wythnos diwethaf i’n hunedau datblygu economaidd newydd sydd â ffocws rhanbarthol, gyda phenodi Gwenllian Roberts yn ddirprwy gyfarwyddwr i ranbarth gogledd Cymru. Bydd ein model datblygu economaidd sydd â ffocws rhanbarthol yn adeiladu ar y gwaith y buom yn ei wneud gyda’n partneriaid yng ngogledd Cymru ar ddatblygu strwythurau cydweithio newydd. Ac felly, i orffen, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n bosibl i gefnogi swyddi a thwf ar draws gogledd Cymru, o Fae Cemaes i Saltney Ferry, ac yn wir i bob rhan o Gymru.

A gaf i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl yma? Mae’n debyg fy mod i wedi siarad gormod ar y dechrau i allu ymateb i bob pwynt sydd wedi cael ei wneud wrth gloi fel hyn.

I’ll pick up on one or two of the contributions, and thank you for making those contributions. The Member for Delyn, of course, mentioned concerns about the devolution disconnect and she was asking about clarity around the proposed national football museum. My wish, certainly, is that it would be part of the network of national museums that we have in Wales. Certainly, when you look at the map, there is a gaping hole in north-east Wales in terms of having national museums in all parts of our country. There has been reference to the lack of national institutions in north-east Wales generally, and I think maybe that over the years has fed a little bit of the devolution disconnect that some people feel. So, that’s my response to your point there.

And I have to say, the contribution that we had from the UKIP Member for north Wales—you confirmed to me that you don’t support the third point of our motion today. That means that you don’t support better links between north and south Wales, you don’t support improvements to the Menai crossing, you don’t support additional support for young farmers in your region, more medical training in your region, business rate relief for community hydro schemes in your region, additional funding for Visit Wales in your region. You heard it here first, and that tells us all we need to know, I think, about your party.

Can I thank Simon Thomas for his contribution as well? Certainly, there’s a lot that we can build on in terms of the rural economy, but also the point that was made about tourism. Clearly, if parties in this Assembly want to do something to support the tourism sector in Wales, then certainly they can start with VAT and the Tory Chancellor of the Exchequer can start next month in his budget. I look forward to seeing Conservative Members of Parliament voting his budget down if he doesn’t walk the walk, or even supporting Plaid Cymru amendments, and I trust that there will be amendments to that effect in relation to VAT. In the meantime, this party is getting on with being an effective opposition, securing millions of pounds of additional investment for Visit Wales last year, millions of pounds of additional investment next year as well; that’s what effective opposition is about.

Just to address some of the amendments, which was something that I didn’t do in my opening remarks, I see that the Welsh Government has once again opted for one of its ‘delete all and replace with’ amendments in an attempt to highlight some of their successes, many of which, of course, I support. I just wonder how long the list would be for other parts of the country when I look at that list. We won’t be supporting the second amendment from the Conservatives, which, again, seeks to delete recognition of the numerous victories that we’ve secured in this budget, and, indeed, victories for some of the people who you represent as a party as well. The third amendment we’re happy to support in favour of devolving beyond Cardiff. You could argue that, of course, if we had a Government that truly did represent the whole of Wales and ensured equity of investment to all parts of the country, you might not need that amendment, but we are happy to support it.

So, with those comments and having been told I have three minutes and 25 seconds to sum up, I thank you all for contributing.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon yn awr tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. 9. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, pleidleisiwn yn gyntaf ar gynigion i ethol Aelodau ar bwyllgorau. A gaf fi roi gwybod ichi fod y tair pleidlais gyntaf a gawn yn galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i gael eu derbyn? Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig cyntaf i ethol Neil McEvoy i’r Pwyllgor Deisebau. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 39, Yn erbyn 0, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6541.

Mae’r cynnig i ethol Rhun ap Iorwerth i’r Pwyllgor Deisebau unwaith eto’n galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i gael ei dderbyn. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 39, Yn erbyn 0, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6542.

Mae’r cynnig i ethol Adam Price i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eto’n galw am bleidlais o ddwy ran o dair i gael ei dderbyn. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 40, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 0, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6543.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar deithiau bws a theithio rhatach ar gyfer pobl ifanc, a galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 24, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 26. Felly, gwrthodwyd y cynnig hwnnw—[Torri ar draws.] A gawn ni rywfaint o dawelwch tra byddwn yn pleidleisio? [Aelod Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’] A’r person sy’n dweud ‘Clywch, clywch’ mae’n debyg, yw’r un mwyaf swnllyd yn y Siambr. Diolch. Felly, roedd 24 o blaid y cynnig, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 26. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 24, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6534.

Trown yn awr at bleidlais ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, roedd 8 yn ymatal, 16 o bleidleisiau yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 16, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6534.

Cynnig NDM6534 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.

2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.

3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.

4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, roedd 1 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6534 fel y’i diwygiwyd: O blaid 49, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6534 fel y diwygiwyd.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar economi gogledd Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 8, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 8, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6536.

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Trown yn awr at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 24, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6536.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly derbyniwyd gwelliant 3.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6536.

Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd. Agorwch y bleidlais.

Cynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:

a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.

8. Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod ‘gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd’ ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 28, roedd 8 yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd: O blaid 28, Yn erbyn 14, Ymatal 8.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6536 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n dawel ac yn gyflym, os gwelwch yn dda?

12. 10. Dadl Fer: Diogelu a Hawliau Cleifion yn y GIG yng Nghymru—Cynorthwyo'r Dioddefwr

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Jenkins—[Torri ar draws.] Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Os nad ydych yn gadael, eisteddwch. Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, Bethan. Galwaf yn awr ar Bethan Jenkins i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. Bethan.

Diolch. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns.

Wrth nesáu at y ddadl hon, a meddwl am y materion y mae’n eu codi, gan gynnwys hawliau cleifion, sut yr ydym yn cefnogi ac yn credu gair pobl sydd wedi dioddef troseddau neu gam-drin yn y GIG, sut yr ydym yn diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol, a sut y mae’r GIG yn ymdrin â phroblemau a digwyddiadau mawr pan fyddant yn codi, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig defnyddio digwyddiadau cyfredol fel prism ar gyfer edrych ar y problemau hyn.

Mae achos Kris Wade, wrth gwrs, yn un y bydd pobl yma’n gwybod fod gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, nid yn unig oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn fy rhanbarth i, ond mae gennyf ddiddordeb ynddo am fod yr achos wedi dangos yn glir, er gwaethaf yr adolygiad a’r addewidion a’r sicrwydd, fod Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa lle y mae bwrdd iechyd mawr unwaith eto wedi methu cyflawni’r disgwyliadau sydd gan bobl o’u GIG, ac yn fwy sylfaenol, mae menywod wedi cael cam—dioddefwyr cam-drin rhywiol—drwy gael rheibiwr rhywiol mewn amgylchedd honedig ddiogel.

Mae’n rhaid i mi gofnodi’r achos hwn, cael trafodaeth briodol am y peth, ac asesu beth a aeth o’i le a’r materion sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Roedd y ‘Desktop Review Lessons Learned Report’, a gyhoeddwyd gan PABM ym mis Awst, yn croesddweud ei hun braidd. Rwy’n credu y byddem yn cytuno, er mwyn i adolygiad priodol o ddigwyddiad mawr fod yn drylwyr, ac i ddangos bod gwersi wedi cael eu dysgu mewn gwirionedd, buasai adolygiad o’r fath yn cydnabod difrifoldeb sefyllfa fel yr un sy’n cael ei thrafod cyn unrhyw beth arall. Ond mewn gwirionedd, yr hyn a welsom oedd rhywbeth hollol wahanol. Roedd yr adroddiad ei hun yn hwyr ac ni chafwyd esboniad am hynny. Cawsom ein hysbysu i gychwyn y byddai’r adolygiad yn barod ym mis Ionawr. Ni chafodd ei gyhoeddi tan fis Awst. Ni roddwyd unrhyw eglurhad am hyn. Ni chafwyd yr adolygiad dan arweiniad y prif weithredwr blaenorol, Paul Roberts, ac yn lle hynny cyhoeddwyd adolygiad bwrdd gwaith gyda gwaith awduron wedi’i olygu—yn wahanol iawn i’r broses drylwyr ac eang yr oedd y mater yn ei haeddu ac a oedd yn ddisgwyliedig. Cefais wybod bod sawl cais gan feddyg ymgynghorol a chyn-gyfarwyddwr clinigol i roi tystiolaeth i’r adolygiad bwrdd gwaith wedi cael eu gwrthod dro ar ôl tro. Daeth yr adroddiad i gasgliadau heb unrhyw sail iddynt, fel yr honiad nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y methiant i erlyn neu ddiswyddo Mr Wade a llofruddiaeth Christine James. Mae hyn yn rhywbeth y mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ei ailadrodd yn anffodus. Sut y gellir gwneud yr honiad hwn yn bendant pan fo Mr Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod agored i niwed, gweithredoedd ymosodol a gydnabyddir yn aml fel ymddygiadau sy’n rhagflaenu troseddau mwy difrifol? Ym marn llawer, gan gynnwys rhai safbwyntiau o fyd y gyfraith, ceir cyswllt achosol rhwng methiant i erlyn a’r ffaith nad oedd Mr Wade wedi wynebu unrhyw gamau cyfreithiol ar yr adeg y llofruddiodd Christine James.

Ychydig iawn o wybodaeth a oedd ar gael ynglŷn â sut y daeth Mr Wade i gael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth iechyd, gan weithio gyda phobl agored i niwed, yn y lle cyntaf. Dechreuodd Mr Wade gyda’r awdurdod rhagflaenol, Bro Morgannwg, fel technegydd technoleg gwybodaeth. Nid oedd yn ddarostyngedig i unrhyw wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol uwch ychwaith, sy’n ofyniad ar gyfer y rôl yr oedd yn gyflogedig ynddi’n ddiweddarach, ac yn arswydus, mae PABM wedi dweud wrth fy staff, a staff ACau eraill hefyd, fod ganddynt wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol eraill heb eu gwneud ar staff presennol.

Mae’r adroddiad yn osgoi sôn am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn sgil nepotiaeth ymhlith rheolwyr PABM. Mae’n dweud yn syml nad yw’r pwynt nac yma nac acw. Methodd ddod i gasgliadau y naill ffordd neu’r llall. Nid oedd hyn yn fy nharo i’n ddigon da ar y pryd, ac mae’n agwedd ar hyn sy’n haeddu mwy o sylw. Câi Kris Wade ei gyflogi, wedi’r cyfan, fel gweithiwr cymorth iechyd yn y gwasanaeth anableddau dysgu heb y gwiriadau gorfodol, pan oedd ei dad, Steven Wade, yn gyfarwyddwr clinigol gyda chyfrifoldeb am y gwasanaeth. Un o rannau mwyaf allweddol yr achos hwn, ac un na roddwyd fawr o sylw iddi o gwbl yn yr adolygiad, oedd pam na chafodd Mr Wade ei ddiswyddo’n gynt. Pam fod cymaint o oedi a gwrandawiadau disgyblu ynglŷn â’i weithredoedd pan oedd honiadau wedi dod gan dri o bobl? Cyfrifoldeb uniongyrchol PABM yw hyn, ac mae cyfrifoldeb clir i’w gymryd a gwersi i’w deall o ran diogelu wrth inni symud ymlaen.

Er ei fod yn frawychus, mae yna risg sydd wedi ei chydnabod o fewn y GIG o gam-drin pobl sy’n agored i niwed, yn enwedig menywod. Yn wir, mae Rowan House ar safle Ysbyty Trelái, lle y cynhaliwyd yr ymchwiliad i fethiannau i ofalu am gleifion mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu yn 1969. Digwyddodd achos Kris Wade o dan y bwrdd iechyd lle’r oedd safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi bod yn destun ymchwiliad annibynnol ac adroddiad Andrews, ‘Ymddiried mewn gofal’, yn sgil hynny ac roedd digwyddiadau tebyg wedi digwydd yn ei wasanaethau iechyd meddwl. Mae PABM wedi cydnabod ei fethiannau i ofalu am bobl ag anableddau dysgu yn achos trasig Paul Ridd. Hyd yn oed heb yr enghreifftiau lleol, dylai’r methiannau a’r cam-drin a welwyd mewn byrddau iechyd eraill ledled y DU ac mewn cyfleusterau gofal fod wedi bod yn rhybudd clir i’r bwrdd iechyd fod o ddifrif ynghylch honiadau o’r math hwn, fod yn rhaid pwyso a mesur cyflogaeth mewn achosion o’r math hwn, yn erbyn risg, ac roedd risg glir a phatrwm yn datblygu gyda’r achos hwn.

Roedd y problemau llywodraethu yn PABM wedi eu hepgor o’r adolygiad hefyd. Dywedodd cyn-feddyg ymgynghorol o PABM y cyfarfûm ag ef wrthyf, ‘Roeddwn i’n bersonol wedi mynegi pryderon wrth y cyfarwyddwr meddygol yn 2012 yn dilyn yr ail honiad o gamdriniaeth a’i oblygiadau wedi’u cydnabod. Cafodd pryderon ynglŷn â llywodraethiant ac arweinyddiaeth y cyfarwyddwr eu hamlygu mewn adolygiadau mewnol o lywodraethiant a pherfformiad, ond ni weithredwyd arnynt. A chafodd ystod gynhwysfawr o bryderon a godwyd gennyf fi ac eraill am fethiannau llywodraethu a gweithredoedd y cyfarwyddwr clinigol naill ai eu hanwybyddu neu, yn fwy gweithredol, eu mygu gan weithrediaeth y bwrdd iechyd.’ Mae’n amlwg fod cyhuddiadau mawr i’w gwneud yma, ac ni chafodd y rheini sylw yn yr adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, i raddau helaeth oherwydd bod ei geisiadau i gyflwyno tystiolaeth wedi cael eu gwrthod. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, ‘Roedd y diwylliant o fewn bwrdd iechyd PABM yn rhoi rhwydd hynt i’r cyfarwyddwr clinigol redeg gwasanaeth ynysig, heb oruchwyliaeth briodol, a oedd yn gweithredu heb arferion llywodraethu safonol.’ Ni all hyn fod yn dderbyniol.

Yn amlwg, er nad oedd yn rhan o’r adolygiad bwrdd gwaith, mae llywodraethu yn y bwrdd iechyd yn fater allweddol yma. Ni fu unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb clir gan y rheolwyr am yr hyn a ddigwyddodd ac ni chafwyd ymddiheuriad ffurfiol. Bu’n rhaid i ddioddefwyr Kris Wade gael gwybod oddi ar y teledu fod yr adroddiad bwrdd gwaith wedi ei ryddhau hyd yn oed. Mae’n ymddygiad ofnadwy ar ran PABM. Yn ddiweddar, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain na ddylai’r bwrdd iechyd gael yr hawl i adolygu eu hunain, ac rwy’n meddwl bod Angela Burns wedi dweud rhywbeth tebyg, ac rwy’n dyfynnu,

Disgrifiodd Adroddiad Francis yr effeithiau trychinebus yn glir pan nad ymdrinnir â phryderon yn effeithiol, ac ar ôl Francis, credwn ei bod yn annerbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio pryderon difrifol ynglŷn â’i hunan.

Daw’n hollol glir o’r achos hwn, ac o’r adolygiad bwrdd gwaith, fod angen cael fframwaith gwell a mwy cadarn ar waith er mwyn goruchwylio rheolwyr y byrddau iechyd. Pe bai meddyg yn gwneud camgymeriad difrifol neu nifer ohonynt, ceir cyrff disgyblu proffesiynol a fyddai ag awdurdod i ymdrin ag unrhyw un o’r achosion hyn, ond nid oes unrhyw gorff o’r fath yn bodoli yn achos methiannau’n ymwneud â chyfrifoldeb ar ran rheolwyr. Ni all y byrddau barhau i osgoi cael eu cosbi am hyn. Rhaid eu dwyn i gyfrif. Er na allwn ddweud yn bendant na fydd yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade byth yn digwydd eto, yn anffodus, mae’n debygol y ceir honiadau o gam-drin a throseddau a gyflawnir yn erbyn cleifion yn y dyfodol. Felly, mae’n rhaid inni baratoi byrddau iechyd a’r GIG i ymdrin â digwyddiadau’n fwy effeithiol ac yn fwy amserol na’r hyn a ddaeth yn amlwg yn ystod y digwyddiadau diweddar.

Rwy’n credu bod yn rhaid i’r heddlu ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade. Nid yw’n fater i Ysgrifennydd y Cabinet, ond dylai fod ymchwiliad mor drylwyr â phosibl yn yr asesiad sydd ar y ffordd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â pham na chafwyd cyhuddiad gan yr heddlu ar y cychwyn mewn perthynas â’r honiad cyntaf, a pham na chafwyd cyhuddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas â honiad diweddarach. Mae cwestiwn i’w ateb hefyd ynglŷn â pham, yn un o’r honiadau, y cofnododd yr heddlu fod trosedd wedi cael ei chyflawni, ac eto ni chafwyd cyhuddiad mewn perthynas â hi.

Dywedodd Alan Collins, cyfreithiwr a gynrychiolai un o’r dioddefwyr yn achos Wade, wrthyf: ‘Mae diffyg gweithredu ar ran yr heddlu yn bryder ynddo’i hun. Nid wyf o reidrwydd yn beirniadu’r heddlu, oherwydd nid oes yr un ohonom yn gwybod mewn gwirionedd pam na chafodd Wade ei erlyn am y tri ymosodiad rhywiol, a hynny am nad yw’r wybodaeth yn gyhoeddus.’ Ar ben hynny, roedd awduron yr adolygiad yn y tywyllwch hefyd. Y ffaith yw bod tri o gleifion agored i niwed wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan ddyn a oedd yn peri risg ddifrifol i fenywod. Aeth yn ei flaen i ladd. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod pam na chafodd y dyn hwn ei erlyn am y tri ymosodiad. Yn amlwg, ar yr olwg gyntaf, credai’r heddlu fod troseddau wedi cael eu cyflawni. Mae gan y dioddefwyr a’r cyhoedd hawl i wybod pam y cafodd y dyn peryglus hwn—gan mai dyna ydoedd—ei gyflogi mewn gwasanaeth cyhoeddus a pham na chafodd ei erlyn. Mae gennym hawl i ofyn hefyd: a oes gwersi i’w dysgu o’r hyn a wyddom? Er enghraifft, a fyddai’r heddlu’n trin yr achosion hyn yn wahanol pe baent yn cael gwybod amdanynt heddiw?

Buaswn yn gobeithio y cefnogwch fy ngalwad ar AGIC i ymchwilio’r mater hwn sy’n ymwneud â’r heddlu yn drylwyr, a’u bod yn cydweithredu’n llawn. Bydd adroddiad AGIC yn ganolog wrth gwrs, a bydd yn sefyll fel prawf ynglŷn ag a allwn fod â ffydd yn yr adolygiad a’r prosesau goruchwylio sydd gennym ar hyn o bryd ai peidio. Rwyf wedi cyfarfod ag AGIC, a chefais fy sicrhau, i raddau, yr edrychir ar yr achos yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, mae i ba raddau y gellir galw tystion a mynnu tystiolaeth o’r tu allan i’r bwrdd iechyd, neu gan rai nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG, yn parhau i fod yn ansicr, a buaswn yn gadael yn agored yr opsiwn i alw am ymchwiliad annibynnol llawn o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn y dyfodol os bydd angen.

Yn fwy cyffredinol, buaswn yn gobeithio gweld ymddiheuriad priodol a gostyngedig gan y byrddau iechyd ar ôl y digwyddiadau hyn. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC yn ymchwilio i strwythurau rheoli’r byrddau iechyd yn llawn a sut y maent yn gweithio ar draws Cymru, yn enwedig atebolrwydd a phwy sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb pan fo’n amlwg fod digwyddiad i fod yn gyfrifol amdano; sut y mae byrddau iechyd yn ymdopi â digwyddiadau mawr; a beth sy’n digwydd os nad yw gweithdrefnau diogelu’n cael eu dilyn, neu eu bod wedi methu. Mae angen gwneud ymchwiliadau ynglŷn â sut y cawn well trosolwg o strwythurau rheoli’r GIG, gan gydnabod nad meddygon yn unig sy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith real a pharhaol ar glaf neu ddefnyddiwr y GIG.

I mi, un o’r agweddau mwyaf negyddol a ddaeth yn glir o ganlyniad i’r achos hwn yw ei bod yn amlwg fod diwylliant o gyfrinachedd mewn rhai rhannau o’r GIG lle y mae angen taflu goleuni arnynt. Ceir tuedd anffodus mewn rhai rhannau o’r GIG i ymateb i ddigwyddiad mawr, neu nifer ohonynt, drwy godi’r baricadau a chuddio, yn hytrach nag agor drysau a phenderfynu darganfod beth aeth o’i le mewn modd agored a thryloyw. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd yn ddiwyd i symud ymlaen i ddatrys y problemau hyn unwaith ac am byth.

Hoffwn orffen gyda dyfyniad gan feddyg ymgynghorol o PABM a ddywedodd wrthyf, a dyfynnaf: ‘Mae’r gwersi sydd i’w dysgu yn berthnasol nid yn unig i PABM, ond i bob bwrdd iechyd arall. Yn gryno, ni ellir dysgu gwersi os yw’r GIG yng Nghymru yn gwrthod mynd i’r dosbarth.’ Rwy’n gobeithio, wrth symud ymlaen, nad dyma fel y bydd hi ac y bydd dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am gyflwyno’r ddadl hon ar ddiogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru. A’r rheswm pam rwy’n awyddus i gyfrannu oedd fy mod wedi cyflwyno dadl fer ym mis Ionawr 2012 ag iddi’r teitl ‘A oes cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r chwiban ym mhob agwedd ar fywyd?’ Oherwydd un o’r digwyddiadau—ac fe siaradoch yn benodol am achos Kris Wade—yw bod pobl yno a oedd yn ceisio chwythu’r chwiban, ac ni allent ac ni wnaethant. Y cwestiwn yw: pam?

Pan godais hyn o’r blaen, sicrhaodd y Gweinidog a ymatebodd i mi ar y pryd, sy’n arweinydd y tŷ bellach, fod yna ganllawiau ysgrifenedig wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i ymddiriedolaethau’r GIG yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ddatblygu ei pholisi chwythu’r chwiban ei hun a bod asesiad strwythuredig o gyrff y GIG wedi cael ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, i geisio sicrwydd ar lefel uchel fod polisïau chwythu’r chwiban a chanllawiau i staff ar waith. Y rheswm y teimlaf mor gryf am hyn yw’r ffaith na weithiodd chwythu’r chwiban yn yr achos hwn. Ym Mhowys, fel y soniwyd gennym yn gynharach, fe geisiodd pobl chwythu’r chwiban, ac ni weithiodd hynny. Ac ar hyn o bryd, rwy’n cael fy ngheryddu gan fwrdd iechyd mawr oherwydd bod rhywun wedi ceisio chwythu’r chwiban, wedi cael eu rhoi yn eu lle gan y bwrdd iechyd, cyn dod ataf fi wedyn, ac rwyf wedi mynegi’r pryderon hynny. Mae gennyf lythyr—ac fe’i rhannaf, nid wyf am godi cywilydd arnynt yn gyhoeddus, ond rwy’n hapus i’w rannu gyda chi, Gweinidog—sy’n dweud wrthyf, yn y bôn, am nad ydynt wedi mynd drwy’r polisi, y weithdrefn, yna hen dro ond dyna ni. Y rheswm na all pobl chwythu’r chwiban yw oherwydd eu bod yn ofni gwneud hynny. Y rheswm nad ydynt yn chwythu’r chwiban yw bod arnynt ofn eu bod yn mynd i golli eu swyddi neu fod eu bywydau’n mynd i gael eu gwneud yn artaith. A phan fydd pobl dda yn cerdded heibio a gwneud dim, mae’n caniatáu i bethau fel digwyddiad Kris Wade i basio, i ddigwydd heb gael cosb briodol.

Mae’n rhaid i ni ddechrau cael system gadarn yn ei lle y bydd pawb yn y GIG a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill yn glynu ati’n llwyr o ran gallu tynnu sylw at rywbeth y maent yn teimlo ei fod yn foesol neu’n ffeithiol anghywir, a bod ganddynt reolwr sydd y tu allan i’r system honno, yn edrych arno ac yn ei archwilio, ac yn anad dim, rhywun—ac rwy’n gwybod fy mod yn diystyru’r holl bobl faleisus, ac nid oes llawer ohonynt—

Ac rydych yn mynd i ddirwyn i ben yn awr, gan eich bod wedi mynd ymhell dros eich munud.

Ond dylai’r bobl hyn gael yr hawl honno, oherwydd hebddynt hwy i gadw llygad ar ein gwasanaethau cyhoeddus, bydd gennym fwy o’r achosion ofnadwy hyn yn y dyfodol.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw, sydd wrth gwrs yn fater pwysig a difrifol yn gyffredinol i’r holl Aelodau ym mhob plaid a phob un o’r etholwyr yr ydym yma i’w gwasanaethu.

Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol ddilys i sicrhau bod pob claf sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cael gofal diogel o ansawdd uchel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei drafod yn y lle hwn yn ymwneud â phan nad yw hynny’n digwydd. Wrth gwrs natur ein busnes yw ein bod yn llai tebygol o siarad am bethau pan fo pethau’n mynd yn iawn, ond i siarad mewn gwirionedd am y pethau sydd wedi mynd o’i le a cheisio deall pam.

I gleifion, dyna pam yr ydym wedi rhoi’r broses Gweithio i Wella ar waith, i integreiddio’r rheini, i geisio sicrhau y caiff y materion hynny eu harchwilio a’u hunioni. Rydym am weld un dull integredig i’w gwneud yn haws i bobl leisio pryderon a darparu canlyniadau teg i unigolion a’i fod yn gyson o ran y ffordd y caiff pobl eu trin. Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gwneud y defnydd gorau o’n hamser a’n hadnoddau, a sicrhau bod pobl o ddifrif yn dysgu gwersi lle y mae pethau’n mynd o chwith.

Gallai a dylai pryderon a chwynion gael eu lleisio gan gleifion, staff ac aelodau o’r cyhoedd, a dylai pawb sy’n eu lleisio gael cymorth yn ystod y broses. Beth bynnag yw’r broses sydd gennym ar waith, rwy’n cydnabod y bydd yna bob amser elfen o gamgymeriad dynol yn rhan o hynny. O fewn y GIG yng Nghymru, dylai staff gael eu trin ag urddas a pharch, yn unol â’n polisïau sefydledig. Mae’n rhaid i holl sefydliadau’r GIG, fel cyflogwyr, roi camau ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a godir gan staff mewn modd prydlon ac amserol. Ceir gweithdrefn Cymru gyfan i staff y GIG allu lleisio pryderon, fel y cytunwyd mewn partneriaeth â fforwm partneriaeth Cymru, a chaiff ei hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.

Ni ddylwn ymateb yn uniongyrchol i rai o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns oherwydd yn fy mywyd blaenorol, pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth, ceir her i’r hawliau sydd gan bobl mewn theori ac yn y gyfraith ac mewn gwirionedd y rhan wirioneddol anodd o sut yr ydych yn mynnu’r hawliau hynny yn ymarferol. Oherwydd hyd yn oed mewn sefydliad fel y GIG, ac mae’n fraint i godi ar fy nhraed a bod yn Weinidog y gwasanaeth iechyd, ond ymysg yr oddeutu 76,000 o staff, credwn fod yna amherffeithrwydd. Mae yna adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau ac mae yna adegau pan fydd pobl nid yn unig yn gwneud camgymeriadau, ond mewn gwirionedd mae ychydig yn fwy bwriadol. Nid yw hynny’n ymosodiad ar y gwasanaeth; mae’n fater o gydnabod, mewn gwasanaeth dynol, y bydd hynny’n digwydd.

Ein her go iawn yw sut y cefnogwn bobl yn ymarferol, oherwydd rydym yn gofyn i bobl godi eu pennau uwchben y parapet, ac nid yw hynny bob amser yn hawdd. Mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn deall pan fydd rhywun yn mynegi pryder neu gŵyn, efallai na fydd bob amser yn rhywbeth lle y ceir ymchwiliad llawn, ond ni ddylent ddioddef niwed o wneud hynny. Mae honno’n her sy’n ymwneud â’r rhan ddiwylliannol a’r weledigaeth a’r gwerthoedd. Dyna pam y gwnaethom lawer o waith gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar y weledigaeth a’r gwerthoedd ar gyfer y gwasanaeth, ac mae hynny’n dal i fod mor berthnasol yn awr â phan gyflwynwyd ac y cytunwyd ar y gwaith hwnnw gennym mewn gwirionedd.

I blant ac oedolion sy’n agored i niwed, mae’r GIG wedi bod wrthi’n gwella ei ddulliau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r tîm diogelu cenedlaethol yn gweithio ar draws y GIG yng Nghymru gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i helpu gyda’r ddarpariaeth leol mewn byrddau iechyd, yn ogystal, wrth gwrs, â’n byrddau rhanbarthol diogelu plant ac oedolion, lle y mae gweithwyr proffesiynol dynodedig yn darparu ffynhonnell o gyngor iechyd annibynnol, arbenigol o bersbectif Cymru gyfan. Yn ogystal, ceir rhwydwaith diogelu GIG Cymru sy’n cysylltu sefydliadau ar draws GIG Cymru i geisio creu amgylchedd cydweithredol er mwyn adnabod materion cyffredin, datblygu atebion, a chyrraedd safonau gofal iechyd sy’n diogelu lles plant ac oedolion mewn perygl yn well. Yn ganolog iddo mae’r gwerthusiad o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ac ymyriadau diogelu plant ac oedolion, yn ogystal â cheisio lleihau amrywiadau mewn ymarfer yn y GIG. Enghreifftiau o’r hyn y mae’r rhwydwaith wedi ei wneud eisoes yw fframwaith ansawdd a chanlyniadau GIG Cymru ar gyfer diogelu plant, strategaeth atal camfanteisio’n rhywiol ar blant a’r cynllun gweithredu ar gyfer GIG Cymru, a safonau ansawdd ar gyfer rolau cynghorwyr meddygol ym maes mabwysiadu a maethu, a hefyd mae gennym lwybr clinigol ar gyfer Cymru gyfan ar anffurfio organau cenhedlu benywod, gan feddwl am yr ystod o feysydd lle y daeth pobl i mewn i’n gwasanaeth. Ac wrth gwrs, rhan allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, oedd sefydlu bwrdd diogelu cenedlaethol annibynnol newydd, sy’n cael ei gadeirio bellach gan Dr Margaret Flynn. A’u gwaith fel bwrdd yw cynghori Gweinidogion Cymru ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu ar draws Cymru. Nid wyf yn credu y byddwn byth mewn sefyllfa lle y gallwn ddweud bod popeth yn berffaith. Bydd angen adolygu ein gweithdrefnau a’n harferion bob amser, er mwyn deall a oes gennym y system orau sy’n bosibl ar waith, ac yn yr un modd, a oes gennym bobl yn eu lle i wneud hynny.

Dof at y pwyntiau a nododd Bethan Jenkins yn benodol am yr achos unigol dan sylw. Ac nid her mewn perthynas â chwythu’r chwiban yn unig sydd yma, ond yn yr achos penodol hwn, gyda’r tri honiad blaenorol, yn anffodus mae’n ymddangos ei bod yn wir na chafodd yr achwynwyr hynny eu hystyried yn ddibynadwy. Ac mae honno’n broblem fawr inni yn ein system. Ni ddylai fod yn wir fod pobl agored i niwed, boed yn blant neu’n oedolion, yn cael eu gweld fel rhai sy’n gynhenid annibynadwy. Ac mae honno’n broblem. Ond fe gyfeiriodd y bwrdd iechyd yr honiadau’n ddiymdroi at y system cyfiawnder troseddol er hynny. Fe ymchwiliodd yr heddlu. Ac ar bob un o’r achlysuron hynny, penderfynodd y system cyfiawnder troseddol beidio â bwrw ymlaen. Mae honno’n broblem i ni ei deall. Ond yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid oes ganddynt bwerau i fynd i ymchwilio i’r hyn a wnaeth y system cyfiawnder troseddol. Yr hyn sydd angen i ni sicrhau ein hunain yn ei gylch, gyda’n cyfrifoldebau, o ran y camau gweithredu a roddwyd ar waith, yw pa wersi sydd yno i’w dysgu, ac edrych i’r dyfodol mewn perthynas â beth arall sydd angen ei ddysgu ar gyfer pobl eraill. Bydd yna bobl yn ein gwasanaeth, yn anffodus, sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt wedi ymddwyn fel y byddem wedi dymuno iddynt wneud o gwmpas pobl yn eu gofal. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni gael adolygiad AGIC annibynnol yn ei gylch, ond wrth gwrs, rwy’n disgwyl iddynt gael sgwrs gyda’r system cyfiawnder troseddol am yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn, ac yn bendant mae gwersi i’w dysgu gan y system cyfiawnder troseddol o achos Kris Wade hefyd.

Ond rwy’n anghytuno â Bethan Jenkins a nifer o bobl eraill ar y farn eglur na ddylai byrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol. Rwy’n credu bod yn rhaid i fyrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol lle y mae ganddynt gyfrifoldeb. Bydd yna bob amser her ynglŷn â phryd y mae’n briodol, felly, i gael adolygiad annibynnol yn ogystal, gan ein bod yn disgwyl i’r byrddau iechyd edrych ar bryderon difrifol, ac maent eisoes yn gwneud hynny. Cawn adroddiadau ombwdsmyn yn rheolaidd, ble y maent yn edrych ar yr hyn y mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud, ac mewn rhai o’r rheini, nid ydynt bob amser yn cael pethau’n iawn. Maent yn dal i fod angen y broses hon ynglŷn â deall yr hyn y maent wedi ei wneud, a dysgu a gwella’n briodol. Ac yn yr achos hwn, rydym wedi penderfynu y dylid cynnal adolygiad annibynnol, a dyna pam yr ydym wedi gofyn i AGIC gynnal yr adolygiad hwnnw.

Ar yr adroddiad penodol hwn, fodd bynnag, cafodd yr awduron eu golygu. Rydym yn cael adolygiad mewnol ac nid ydym yn gwybod pwy sydd wedi ei ysgrifennu mewn gwirionedd. Felly, mae’n anodd iawn bod â ffydd mewn system lle na allwn graffu’n iawn arni, a lle na chymerodd yr adroddiad hwnnw dystiolaeth gan y rhai a oedd am roi tystiolaeth. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd, os yw byrddau iechyd yn ymchwilio eu hunain?

Rwy’n deall y pwyntiau a godwyd am bobl a ble y cymerwyd y dystiolaeth, gan mai adolygiad bwrdd gwaith ydoedd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf hefyd, cyn cwblhau’r adroddiad hwnnw, cafwyd sgwrs gydag un o’r bobl a oedd yn chwythwr chwiban. Ond fe awn drwy hynny gydag adolygiad AGIC, ac os oes angen edrych ar ein proses eto, gyda’r gwersi a fydd yn deillio o hyn, byddwn am ddysgu’r rheini. Dyna’r pwynt am fod yn agored ac yn fodlon derbyn—nad ydym yn dechrau’r adolygiad AGIC o’r pwynt fod hyn yn ymwneud ag amddiffyn y gwasanaeth. Mewn gwirionedd mae’n ymwneud â deall yr hyn sydd wedi digwydd, a deall beth y gallem ac y dylem ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae amryw o honiadau difrifol wedi eu gwneud heddiw wrth agor y ddadl hon, a’r datganiad fod Kris Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud a yw hynny’n wir. Dyna ran o’r her ynghylch rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol, a’u cyfle i ymchwilio i hynny ac i ddeall beth sydd wedi digwydd. Bydd yr adolygiad AGIC yn edrych ar yr ystod o faterion drwy’r broses gyfan. Mae gennyf ddiddordeb yn yr oedi cyn datrys y materion cyflogaeth ar ôl atal o’r gwaith. Mae gennyf ddiddordeb yn y rhyngweithio rhwng gwahanol gynrychiolwyr—a oes esgus da, ai peidio—a deall beth arall y gallwn ac y dylem ei wneud. Oherwydd, o bryd i’w gilydd, pan fydd gennych rywun yn cael eu hatal o’r gwaith am amser hir, nid yw’n dda i’r sefydliad, nid yw’n dda i’r unigolion, neu’r bobl sy’n ymwneud â hynny o bosibl fel tystion.

Rydym wedi trafod achos Kris Wade o’r blaen. Rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny eto. Rwyf am ddweud yn glir, mewn ymateb i rai o’r pwyntiau eraill a godwyd mewn heriau eraill ynglŷn â’r bwrdd iechyd hwn, fy mod yn meddwl fod methiant gofal Paul Ridd yn enghraifft ddiddorol iawn, lle y mae’r teulu wedi ailymgysylltu â’r bwrdd iechyd i geisio gwella’r sefyllfa ar ôl i’r bwrdd gael ei feirniadu, ac ar ôl i ddyfarniad anffafriol difrifol gael ei wneud yn ei erbyn. Mae’n arwydd o’r ffaith bod nyrs y flwyddyn eleni’n gweithio yn y gwasanaeth anabledd dysgu o fewn y bwrdd iechyd. Mae llawer o’i gwaith mewn perthynas â’r wobr a gafodd yn deillio o’r ffaith ei bod hi wedi ymgysylltu â’r teulu hwnnw ac wedi gwrando arnynt ac mae’r bwrdd iechyd hwnnw wedi newid y ffordd y maent yn ymddwyn, yn enwedig mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu. Dyna enghraifft o’r natur agored yr ydym am ei hannog. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, rydym yn awyddus i gael system lle’r ydym yn cael gwared ar y cyfle i fethiannau ddigwydd yn y lle cyntaf, ond mae’n hynod bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu, ac yna i weithredu wedi hynny i wella’r ansawdd gofal iechyd y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r holl bobl yr ydym yn eu cynrychioli.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:51.