Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Jenny Rathbone.

Llygredd Aer

1. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0592(FM)

Rydym ni’n mynd i'r afael â llygredd aer mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ansawdd aer lleol, rheoleiddio diwydiant, y drefn gynllunio a hybu teithio llesol.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rydym ni’n gwybod bod llygredd aer yn lladd mwy o bobl na’r nifer sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd, ac mae hyd yn oed Llywodraeth y DU yn cyfaddef mai dyma’r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU. Fe’i galwyd yn argyfwng iechyd y cyhoedd gan grŵp trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'r ardaloedd rheoli ansawdd aer hyn yn cynnwys ardal o Heol Casnewydd, lle mae gennyf ddim llai na thair ysgol gynradd ar ei hyd, ac maen nhw’n mewnanadlu lefelau gwenwynig o aer ar hyn o bryd. Nid yw’r cynllun diweddaraf gan y Torïaid a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn yn ddim mwy na phapur dewisiadau. Nid oes unrhyw beth ynddo hyd sydd hyd yn oed yn debyg i strategaeth. Un o'r dewisiadau yw cael parthau aer glân y mae'n rhaid i gerbydau sy'n llygru dalu i fynd i mewn iddynt. Yn amlwg, dyma’r peth a fyddai'n cael yr effaith fwyaf ar leihau llygredd, ond mae'r Torïaid wedi trosglwyddo’r baich i awdurdodau lleol, gan gynnwys rhwystrau. Nid ydyn nhw’n cael gwneud unrhyw beth o’r fath tan, er enghraifft, y bydd yr holl fysiau wedi cael eu trosi o ddiesel i ynni glanach. Roeddwn i’n meddwl tybed—

[Yn parhau.]—beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddehongli o'r cynllun hwn a beth mae'n ei weld fel ei chyfrifoldeb i sicrhau bod cymunedau fel fy un i yn cael eu rhyddhau o’r peth ofnadwy hwn.

Wel, mae'n bwysig nodi nad yw rhai o'r dulliau ar gyfer gwella ansawdd aer, fel mesurau cyllidol sy'n ymwneud â cherbydau diesel, wedi'u datganoli. Mae lefel yr ymrwymiad i gymryd camau ar lefel Llywodraeth y DU yn aneglur ar hyn o bryd, ond, fel tystiolaeth o'n hymrwymiad i wneud popeth y gallwn i wella ansawdd aer ar lefel genedlaethol Cymru, rydym ni wedi dweud yng nghynllun y DU y byddwn, o fewn 12 mis, yn ymgynghori ar fanylion cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru.

Wel, rwy’n cymeradwyo'r astudiaeth honno, oherwydd, os edrychwch chi ar yr Almaen, mae parthau aer glân wedi bod yn hynod lwyddiannus yn eu dinasoedd nhw, gan leihau allyriadau huddygl o bibellau gwacau o fwy na 50 y cant yn Berlin, er enghraifft. Ond mae’r polisïau hyn yn gofyn am newid ymddygiad, annog beicio ac ati, mynediad at ardaloedd o ddinasoedd a pharcio am ddim i gerbydau glanach, a gwell defnydd o seilwaith presennol, h.y. ail-ddynodi rhai o'n llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ac, yn wir, rwy’n meddwl y dylem ni fod â’r uchelgais i ddatgan bod Caerdydd yn barth aer glân, felly rwy'n eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Wel, wrth gwrs, rydym ni’n annog awdurdodau lleol i greu mwy o lwybrau beicio. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn dystiolaeth o hynny, ac, wrth gwrs, y cynnig ar gyfer metro, a fydd yn arwain at deithiau gwell a chyflymach ar gludiant cyhoeddus, gan gymryd pobl allan o'u ceir, tra bydd y metro ei hun wrth gwrs yn lleihau allyriadau o'r cerbydau diesel i gyd presennol. Gallaf ddweud, pan fydd tystiolaeth yn y dyfodol yn dangos yn eglur y byddai parthau aer glân yn arwain at gydymffurfiad cyn mesurau eraill, ac yn yr amser byrraf posibl, y byddwn yn nodi sut i sicrhau cyflwyniad parthau o'r fath yn effeithiol.

A wnewch chi, felly, gadarnhau y bydd yn fwriad gan Lywodraeth Cymru bod y parthau awyr glân yma yn gostwng llygredd awyr, yn arbennig ymysg y gronynnau mân iawn, y PM10s, sydd yn mynd yn ddwfn i’r ysgyfaint, ac sy’n arbennig o beryglus i blant a phobl ifanc sydd yn cerdded, er enghraifft, neu’n seiclo i’r ysgol? Ac a fydd, felly, dargedau penodol y tu fewn i’ch cynlluniau chi ar gyfer parthau awyr glân?

Wel, mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, ynglŷn â pharthau awyr glân, a bydd hynny’n rhan o’r ymgynghoriad a fydd yn cymryd lle, fel sydd wedi cael ei nodi yn y cynllun Prydeinig.

Chwaraeon Proffesiynol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol i Gymru? OAQ(5)0597(FM)

Mae chwaraeon proffesiynol yn dod â nifer o fanteision pwysig i Gymru, yn enwedig i Abertawe. Wrth gwrs, gwn ei bod yn sicr y bydd yr Aelod yn gofyn am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’u hymgyrch lwyddiannus eleni i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod chwaraeon proffesiynol yn gatalydd nid yn unig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon, ond gall hefyd godi ysbryd pobl mewn dinasoedd a gwledydd, ac, wrth gwrs, roedd pencampwriaeth Ewrop y llynedd yn enghraifft o sut y gall hynny ddigwydd yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? A gaf i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol o ran hyrwyddo hunaniaeth ardal a chreu cyfoeth yn yr economi? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd Dinas Abertawe yn aros yn uwch gynghrair Lloegr, i economi dinas-ranbarth Bae Abertawe, i dwristiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, ac i adnabod enw Abertawe. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe ar aros yn yr uwch gynghrair, sydd o fudd i Gymru gyfan?

Gwnaf, mi wnaf. Mae'n hynod bwysig bod gennym ni dîm sydd nid yn unig yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, ond yn aros yno. Mae hefyd yn bwysig nodi, wrth gwrs, yr ymgyrch lwyddiannus gan glwb Casnewydd i aros yng Nghynghrair 2 Lloegr. Gwelsom i gyd y golygfeydd pan sgoriwyd y gôl olaf, funud cyn diwedd y cyfnod arferol. Gallaf weld yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd—a’r Aelod dros Orllewin Casnewydd hefyd rwy’n siŵr—yn wên o glust i glust wrth i mi sôn am hynny. Ond, mae'n wir i ddweud bod chwaraeon proffesiynol yn gatalydd economaidd hynod bwysig. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, bod presenoldeb Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi bod yn hynod bwysig o ran creu twristiaeth yn yr ardal, o ran gwella cyfradd ymwelwyr â gwestai ac, wrth gwrs, o ran gwella gwariant gan ymwelwyr â'r ddinas, a thu hwnt.

Prif Weinidog, mae hyfforddiant ar lawr gwlad mewn pêl-droed, mor aml yn hanfodol i ddatblygu chwaraewyr ifanc i lefel fwy proffesiynol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae tri o'n pedwar heddlu yng Nghymru yn ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol hanesyddol ar y lefel hon, gyda chadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Clarke, yn cyfeirio at hwn fel yr argyfwng mwyaf ym myd pêl-droed. Prif Weinidog, yn y gogledd, ceir sawl cyhuddiad o natur hanesyddol y teimlir y mae’n rhaid ymchwilio iddynt. Mae Steve Walters o’r Offside Trust, ac, yn wir, un o fy etholwyr fy hun, y Cwnstabl Mike Smith, y mae’r ddau ohonynt wedi dioddef, yn arwain galwadau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru lansio ymchwiliad llawn i'r mater hwn. A wnewch chi weithio gyda'ch Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi'r galwadau hynny a, thrwy wneud hynny, darparu amgylchedd lle gall plant sy'n ceisio cyflawni eu huchelgeisiau yn y gamp, i lefel fwy proffesiynol, wneud hynny'n ddiogel?

Rydym ni’n gwybod bod amgylchedd diogel yn hanfodol i blant a phobl ifanc os ydynt am fwynhau chwaraeon. Rydym ni’n gwybod bod safonau ar un adeg yn llawer mwy llac nag y maen nhw erbyn hyn. Materion i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac i'r heddlu yw’r rhain yn bennaf. Ond mae'n hynod bwysig y gellir rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl, y bydd unrhyw honiadau yn y gorffennol neu, yn wir, y presennol, yn cael eu hymchwilio’n llawn, fel y gallwn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i gael amgylchedd mwy diogel nawr ac yn y dyfodol.

Ro’n i’n falch iawn bod y Cynulliad yma’n unfrydol yr wythnos diwethaf wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a fydd yn golygu y bydd cael strategaeth gan y Llywodraeth i daclo gordewdra rŵan ar wyneb y Bil hwnnw. Ac rwy’n ddiolchgar i Aelodau pob plaid a’r Llywodraeth am gefnogi hynny. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i’n clybiau a’n sefydliadau chwaraeon proffesiynol ni, yn ogystal â chwaraeon llawr gwlad, allu bwydo mewn rŵan i greu y strategaeth yna, er mwyn sicrhau bod gennym ni strategaeth a all yn wirioneddol fynd i’r afael â’r broblem fwyaf, o bosib, sy’n ein hwynebu ni o ran iechyd y cyhoedd?

Mae hynny’n iawn, achos, wrth gwrs, er bod chwaraeon yn y gymuned yn hollbwysig, er mwyn sicrhau bod pobl yn actif yn y gymuned, hefyd wrth gwrs mae timau proffesiynol yn gallu rhoi enghraifft, yn enwedig i bobl ifanc. Maen nhw’n gweld eu harwyr, wrth gwrs, yn dod i siarad â nhw ac yn dweud pa mor bwysig yw hi i fyw yn iach. Ac, felly, mae yna rôl hollbwysig i glybiau proffesiynol ynglŷn â sicrhau ein bod ni’n dod i afael ar ordewdra.

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Pêl-droed Casnewydd ill dau yn ganolbwynt pwysig yn eu cymunedau. A bydd ysbryd cymunedol yn cynyddu yn y lleoedd hynny o ganlyniad i lwyddiant y timau hynny. Y broblem sydd gennym ni weithiau gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol yw eu bod yn tueddu i fod mewn perchnogaeth dramor erbyn hyn. Mae dau o'r tri chlwb pêl-droed yng nghynghrair Lloegr—[Torri ar draws.] Wel, na, nid yw’n mynd i fod yn beth UE. Weithiau, maen nhw’n ymbellhau o’u sylfaen cefnogwyr, tra, ar yr un pryd, maen nhw hefyd yn asedau pwysig yn y gymuned. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i'w cadw yn eu swyddogaeth fel asedau yn y gymuned.

Wel, gwnaeth Abertawe hynny yn llwyddiannus, wrth gwrs. Caerdydd, a grybwyllwyd, rydym ni eisiau eu gweld yn ôl yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf. Cyn bo hir, bydd yn rhaid i mi fynd o gwmpas Cymru a chrybwyll sawl clwb, a dymuno llwyddiant iddyn nhw i gyd. Wrecsam—ie, a phob clwb pêl-droed arall yng Nghymru, ac, yn wir, unrhyw glybiau chwaraeon, sy’n chwarae ar unrhyw lefel, pob lwc ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ond mae'n iawn ei bod yn hynod bwysig bod cefnogwyr yn cael y cyfle i fod yn berchen ar eu clybiau. Mae Bayern Munich, os cofiaf yn iawn, yn eiddo i'r cefnogwyr. Mae'n fodel sy'n cael ei ddefnyddio’n eithaf rheolaidd yn yr Almaen. Ac rwy’n poeni, lle ceir diffyg ymrwymiad gan rai perchnogion—nid wyf yn sôn am Gaerdydd; mae’r berchnogaeth yno wedi bod yn sefydlog ers cryn amser—ond, mewn rhai clybiau, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, a yw’r perchnogion wedi ymrwymo’n ddigonol i'r clybiau yn y ffordd y gallai cefnogwyr wneud hynny? Gwelsom yn Ninas Abertawe atgyfodiad y clwb hwnnw oherwydd ymroddiad ac arian cefnogwyr a oedd yn fodlon cyfrannu’r arian hwnnw, ac, o ganlyniad, wrth gwrs, mae’r clwb hwnnw wedi’i wreiddio’n gryf iawn yn ei gymuned.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yr wyf yn falch o’i gweld yn ôl yn y Siambr? Dymunaf yn dda i chi, gobeithio, wrth wella o’r godwm a gawsoch yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet.

Prif Weinidog, dywedasoch ddiwedd mis Ebrill fod angen i Jeremy Corbyn brofi ei hun os oedd eisiau dod yn Brif Weinidog y DU ar ddiwedd yr etholiad cyffredinol hwn. Mae'r berthynas rhwng Prif Weinidog Cymru neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon a Phrif Weinidog y DU yn berthynas bwysig iawn, ac, yn wir, yn berthynas rhynglywodraethol hefyd. Yr wythnos diwethaf, yn lansiad yr ymgyrch, ni wnaethoch grybwyll ei enw. Yr wythnos diwethaf, pan ryddhawyd y maniffesto i'r wasg, gwnaed datganiad i’r wasg gennych i ddweud—[Torri ar draws.] Gwnaed datganiad i’r wasg gennych i ddweud nad eich maniffesto chi oedd hwn. Yna, o fewn awr neu ddwy, cafodd ei olygu a’i newid. A ydych chi’n credu mai Jeremy Corbyn fydd Prif Weinidog y DU ar 9 Mehefin?

Dyna’r wyf i eisiau ei weld. Rwyf wedi ymdrin â Theresa May; ni welaf unrhyw dystiolaeth o gwbl o arweinyddiaeth gref ganddi hi. Ni all ateb cwestiwn plaen. Mae arweinyddiaeth yn cynnwys cymryd rhan mewn dadleuon arweinyddion. Mae nifer ohonom ni sy'n gwybod hynny yn y Siambr hon. Arweinyddiaeth yw mynd allan a siarad â phobl, yn hytrach na mynd i ddigwyddiadau wedi’u rheoli a chwestiynau wedi’u rheoli. Dyna beth yw arweinyddiaeth go iawn, a cheir sawl un ohonom ni yn y Siambr hon sydd wedi cael profiad o hynny ac sy’n gwybod mai dyna beth yw arweinyddiaeth. Rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rywun sy'n barod i ymgysylltu â'r cyhoedd, nid rhywun sy'n cau ei hun i ffwrdd oddi wrth y cyhoedd.

Mae’n debyg, Prif Weinidog, nad rhoi ateb plaen yw’r ddadl gryfaf o’ch safbwynt chi, i fod yn deg, fel y bydd unrhyw un sydd wedi gofyn cwestiwn i chi yn y Siambr hon yn dyst iddo. Ond, yn y maniffesto a gyhoeddwyd gan y Blaid Lafur heddiw, mae'n sôn am ddiddymu ffioedd dysgu, ac eto dywedodd eich Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yr wythnos diwethaf nad ffioedd dysgu yw’r broblem mewn gwirionedd, ond costau byw. Dywedodd hefyd, trwy lefarydd y wasg, nad Jeremy Corbyn fyddai Prif Weinidog y DU. Sut ar y ddaear allwch chi gael unrhyw syniadau cydgysylltiedig yn eich Llywodraeth pan fo gennych chi ddiffyg cysylltiad o'r fath rhwng y neges sydd yn y maniffesto a'r ymrwymiadau gwario yr ydych chi’n eu llofnodi bob un dydd? Onid yw'n wir, os bydd pobl yn pleidleisio dros Jeremy Corbyn ar 8 Mehefin, y bydd gennych chi glymblaid o anhrefn yn hytrach nag arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May?

Wel, rwy’n meddwl tybed a yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod Theresa May yn arweinydd cryf, o ystyried y sibrydion yr ydym ni wedi eu clywed am ei ddadethol, a dadethol gweddill ei grŵp [Chwerthin.] Pan ofynnwyd iddi ar y radio a oedd yn ei gefnogi ef a'i swydd, dywedodd mai Andrew R.T. Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Wel, syfrdanol o wir fel ffaith, ond heb ddangos fawr o hyder ynddo. Rydym ni’n falch o'r maniffesto yr ydym ni’n sefyll ar ei sail. Mae'n cynnig gobaith mawr i’n pobl. Un peth yr ydym ni yn ei wybod yw bod adolygiad Diamond wedi rhoi myfyrwyr yng Nghymru o flaen y rhai yn Lloegr, a'r hyn yr ydym ni’n ei wybod, wrth gwrs, os bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad cyffredinol, wrth gwrs, yw y bydd myfyrwyr yn cael eu taro yn galetach fyth. Byddan nhw’n cael eu gorfodi i dalu hyd yn oed mwy. Felly, un peth yr ydym ni’n ei wybod yw na fydd myfyrwyr byth mewn sefyllfa lle y byddan nhw’n well eu byd o dan y Ceidwadwyr.

Yn yn ôl yr arfer, rydych chi’n teilwra’r dyfyniad, ac aeth yn ei blaen i ddweud gwaith pa mor dda yr wyf yn ei wneud [Chwerthin.] Ond, os edrychwch chi ar y cynnig ar 8 Mehefin, mae'n gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw i ddiddymu tollau pont Hafren a rhoi hwb mawr o £100 miliwn i economi Cymru. £100 miliwn yn erbyn yr anllythrennedd cyllidol yr ydym ni’n ei weld gan y Blaid Lafur y sylwais na wnaeth y Prif Weinidog gytuno ag ef nac ymrwymo iddo heddiw, ac eto eisteddodd yng nghyfarfod y weithrediaeth genedlaethol yr wythnos diwethaf a chododd ei law i wario biliynau o bunnoedd nad oes gan y wlad hon mohonynt. Mae'n ffaith, os ydych chi eisiau cael gwared ar dollau pontydd Hafren a rhoi £100 miliwn i economi Cymru, bod angen i chi bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig, o dan arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May, yn wahanol i'r glymblaid o anhrefn y bydd Jeremy Corbyn yn ei harwain.

Rwy’n hael tuag at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n awyddus iddo aros fel eu harweinydd—rwy’n awyddus iddo aros fel eu harweinydd; nid yw Theresa May. Felly rwyf yn cynnig hynny iddo. Mae'n iawn, rwyf eisiau iddo aros, ond nid yw Theresa May, ac mae hynny'n anhrefn i chi. Mae'n sefyll yno gyda'r hyfdra—rwy’n credu yw’r gair—i honni mai ei syniad ef a syniad ei blaid ef oedd diddymu tollau pont Hafren. Sawl blwyddyn ydym ni wedi sefyll yn y Siambr hon yn gofyn am derfyn ar dollau pont Hafren? Ers blynyddoedd, dywedodd ei blaid ef wrthym ei fod yn rhy ddrud. Gwelsom amcangyfrifon rhwng £20 miliwn a £120 ond £7 miliwn ydyw erbyn hyn. Rwy'n croesawu eu troedigaeth—rwy’n croesawu eu troedigaeth—ond, yn y pen draw, gadewch i ni fod yn onest, ni fyddai'r Ceidwadwyr wedi diddymu tollau pont Hafren oni bai am y camau cryf a’r safbwynt cryf a gymerwyd gan y Llywodraeth Cymru hon.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, yng Nghymru ychydig ddyddiau yn ôl ac rwy’n gweld o ddatganiad i'r wasg gan Llafur Cymru ei fod wedi dweud bod trafodaethau Brexit Ceidwadol yn peryglu’r ymgyrch hynod lwyddiannus i recriwtio mwy o feddygon yng Nghymru. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym faint o feddygon ychwanegol o’r UE y mae’r ymgyrch hon wedi llwyddo i’w recriwtio?

Rydym ni’n gwybod bod 5.8 y cant o'n staff meddygol yn dod o'r UE. Rydym ni’n gwybod bod diddordeb o’r DU a thramor. Y gwir yw bod pob un system iechyd yn unrhyw fan yn y byd yn cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Mae'n ffolineb meddwl, rywsut, y gall y DU hyfforddi a recriwtio ei holl feddygon ei hun o fewn y DU. Ac felly nid oes neb yn dweud wrthyf i ar garreg y drws, nac wrtho yntau, "Yr hyn sydd ei angen arnom ni, rydych chi’n gweld, yw llai o feddygon a nyrsys o dramor.' Ni ddywedodd neb hynny. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n dal i gael ein gweld fel lle croesawgar i gael y gorau a'r mwyaf disglair i weithio yn ein gwasanaeth iechyd.

Rwy’n cytuno â hynny. Y ffigur gwirioneddol yw y recriwtiwyd saith o feddygon ychwanegol eleni, o'i gymharu â'r un ffigur y llynedd—ac ni fydd pob un ohonynt, neu efallai yr un ohonynt, yn wir, wedi dod o'r UE. Felly, mae’n ymddangos bod hyn yn amherthnasol braidd i'r holl gwestiwn o'r trafodaethau Brexit. Ond yr hyn yr oedd yn ymddangos yr oedd Syr Keir Starmer yn ceisio ei wneud oedd meithrin rhyw fath o ofn ym meddyliau'r rhai a allai fod yn agored i’w eiriau, ein bod ni’n mynd i droi meddygon a nyrsys posibl i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwybod, yn ei galon, bod hwn yn syniad hurt a bod gan Awstralia, er enghraifft, system fewnfudo lem iawn yn seiliedig ar bwyntiau, sy'n cael eu dyfarnu er mwyn llenwi gwahanol fylchau sgiliau yn eu heconomi, a bydd y Deyrnas Unedig yn union yr un fath. Felly, pam na wnaiff y Prif Weinidog gefnogi’r trafodaethau Brexit a cheisio cael llwyddiant, yn hytrach na cheisio bod yn rhwystr i gynnydd drwy'r amser?

Onid yw’n gallu gweld, o ymdrin â’r sefyllfa’n wael, y bydd meddygon a nyrsys yn cael yr argraff nad yw'r DU eu heisiau? Mae yno eisoes. Mae yno eisoes oherwydd nad ymdriniwyd â’r mater o gyd-gydnabod hawliau preswyl eto. Nid oes neb—neb—eisiau gweld pobl ddim yn cael aros yn y DU, na dinasyddion y DU ddim yn cael aros yng ngweddill yr UE. Nid oes neb eisiau hynny, ond nid oes cytundeb arno eto, ac mae'n hynod bwysig bod hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosibl, yn fy marn i, cyn y prif drafodaethau ynghylch Brexit. Ond mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gallu recriwtio o dramor. Fy ofn mawr i yw y bydd gennym ni gap ar fewnfudo bob blwyddyn yn y pen draw, bod cap ym mhob sector, bod dinas Llundain yn cael y gyfran helaeth er mwyn diogelu bancio a chyllid, ac na fyddwn ni, yn y pen draw, oherwydd y cap, yn gallu recriwtio meddygon a nyrsys i Gymru. Rwy’n credu y byddai hynny’n ffordd ffôl o ymdrin â'r mater hwn.

Mae'n annirnadwy y bydd unrhyw gap a gyflwynir yn gweithio yn y fath fodd ag i atal y GIG rhag llenwi bylchau sgiliau, yn enwedig o ran pobl broffesiynol. Ond—[Torri ar draws.] Ond bydd y Prif Weinidog hefyd yn gwybod, ddwy flynedd yn ôl, bod Banc Lloegr wedi cynnal astudiaeth fanwl o effaith mudo ar lefelau cyflogau ar ben isaf y raddfa incwm—pobl fel glanhawyr a gweithwyr gofal a staff gweini yn y gwasanaeth iechyd—a daeth i'r casgliad bod gweithwyr heb sgiliau a lled-grefftus o’r UE a rhannau eraill o'r byd yn mewnfudo heb gyfyngiad yn lleihau cyflogau o ffactor o 2 y cant o’i gymharu â chynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr yn y sectorau hynny. Felly, yr hyn sy'n digwydd yma mewn gwirionedd yw bod lefelau cyflog yn cael eu cywasgu ar gyfer y bobl sy'n gallu ei fforddio leiaf, er nad oes unrhyw berygl mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r trafodaethau Brexit, i nifer y meddygon a’r nyrsys sy’n cael eu recriwtio o'r tu allan i'r DU.

Wel, na—os oes cap i fod, cap yw cap. Ni allwch chi ddweud, 'Wel, nid yw'r cap yn bodoli ar gyfer proffesiynau penodol.' Ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni, yn fy marn i, ei osgoi. Mae gennym ni 80,000 o ddinasyddion yr UE yng Nghymru, o 3 miliwn o bobl, felly mae'n gyfran fechan iawn o'r boblogaeth. Rwy'n derbyn ei bwynt bod llawer o oedd yn teimlo bod cyflogau wedi cael eu gostwng o ganlyniad. Mae rhan o hynny oherwydd y ffaith y bu methiant llwyr i erlyn ar sail deddfwriaeth isafswm cyflog—dim erlyniadau o gwbl, cyn belled ag y gwn i. Mae'n rhaid i mi ei atgoffa, yn ei blaid flaenorol, iddyn nhw wrthwynebu’r isafswm cyflog, ac, o ganlyniad i hynny, byddai hynny wedi gyrru cyflogau i lawr hyd yn oed ymhellach na nawr. Ceir achosion o gam-fanteisio. Rwyf i wedi clywed hanesion o gam-fanteisio ar ddinasyddion yr UE sy'n dod i Gymru. Mae angen atal hynny ac mae angen ei erlyn, yn yr un modd y dylid erlyn y rheini sy'n ceisio cyflogi pobl islaw’r isafswm cyflog, y bobl hynny sy'n ceisio osgoi deddfwriaeth cyflogaeth, yn ôl y gyfraith, a dylid cryfhau’r gyfraith i sicrhau nad oes neb yn dioddef cam-fanteisio yn y dyfodol. Dyna’n union y byddai Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn San Steffan.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, lansiodd ymgyrch lwyddiannus Amser i Newid gynllun arbrofol mewn naw ysgol i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stigma iechyd meddwl. Os bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus, dylem weld mwy o bobl ifanc yn dod ymlaen i gael cymorth ar gyfer y problemau a allai fod ganddynt. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa arian ychwanegol yr ydych chi wedi ei roi ar gael ar gyfer cwnselwyr ysgol ac ar gyfer hyfforddiant i athrawon ymdrin â’r galw ychwanegol hwn?

Wel, mae gan bob ysgol, wrth gwrs, gwnselydd ysgol, a bydd hi’n gwybod ein bod ni wedi neilltuo arian ar gyfer iechyd a rhoi, rwy’n meddwl, £8.6 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ac rydym ni wedi gweld gostyngiad enfawr i’r amseroedd aros o ran cael apwyntiad o fewn 28 diwrnod.

Nid ydym wedi gweld gostyngiad enfawr i amseroedd aros, Prif Weinidog. Gallwch ddweud yn deg bod amseroedd aros yn ddim gwaeth nag yr oeddent o'r blaen, ond ni allwch ddweud eu bod yn well. Nid yw'n eglur o gwbl beth yw’r canlyniadau gwell hynny o’r gwariant ychwanegol hwn, ond yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw bod nifer y plant sydd angen cwnsela yn cynyddu, ac mae hynny'n beth da, oherwydd, gobeithio, mae’n golygu y gall problemau gael eu hatal cyn iddynt droi’n ddifrifol a bod angen cymorth arbenigol. Fodd bynnag, gwyddom nad oes gan lawer o ysgolion ddigon o gwnselwyr neu athrawon sydd wedi eu hyfforddi i helpu'r disgyblion hynny a allai fod angen cymorth. Hefyd, rydym ni wedi gweld gostyngiad i weithwyr ieuenctid awdurdod lleol—canran syfrdanol o 40 y cant yn y gweithlu hwnnw fel gostyngiad. Mae hyn yn amlwg yn mynd i gael effaith ar ba un a yw’r plant sy'n dioddef problemau iechyd meddwl lefel isel yn mynd i allu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn enwedig gan fod eich Llywodraeth wedi codi’r trothwy ar gyfer cael mynediad at CAMHS arbenigol. Siaradais yn ddiweddar â rhywun sy'n gweithio gyda’r rhai sy'n gadael gofal, a ddywedodd wrthyf nad ydynt ond yn gallu atgyfeirio pobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Nid oes ganddynt unrhyw allu yn y system i weithio ar atal iechyd meddwl. A yw’r sefyllfa honno’n dderbyniol i chi, Prif Weinidog? Pa bryd y gwelwn ni wasanaeth ymyrraeth gynnar, y mae angen mor daer amdano?

Wel, fel y dywedais wrthi o'r blaen, mae cwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae byrddau iechyd wedi ymrwymo i gyrraedd y targed 28 diwrnod erbyn diwedd mis Mawrth. Maen nhw wedi cymryd camau breision i leihau'r nifer sy'n aros yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf. Un enghraifft: yn Betsi Cadwaladr, rydym ni wedi gweld y ganran o atgyfeiriadau CAMHS sy’n cael eu gweld o fewn 28 diwrnod yn mynd o 21 y cant ym mis Ebrill y llynedd i 84.5 y cant ym mis Chwefror eleni. Mae hynny’n welliant enfawr yn yr amser sydd ei angen i gael apwyntiad cyntaf. Felly, mae'r arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn—yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i mewn—i CAMHS, ynghyd â'r cwnsela sydd ar gael mewn ysgolion, yn dwyn ffrwyth.

Rydych chi’n rhoi'r argraff anghywir, Prif Weinidog, oherwydd mae’n wir i ddweud nad yw’r rhestrau aros yn ddim gwaeth nag o'r blaen, ac, ar y cyfan, ni allwch ddweud—. Ni allwch hawlio, yn gyffredinol, ledled Cymru, eu bod nhw’n well. Nawr, mae’n 10 mlynedd—10 mlynedd—ar gyfartaledd cyn i blant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl gael cymorth arbenigol. Dyma'r bobl sy'n debygol o fod y rhai mwyaf sâl, ac sydd hefyd yn costio’r mwyaf o arian i’n gwasanaethau. Nid oedd yn rhaid i bethau ddigwydd fel hyn, bod gennym ni’r math o gynllun ymyrraeth gynnar iechyd meddwl i bobl yn eu harddegau—nad oes gennym ni—y mae ei hangen arnom yn daer. Rydym ni’n gwybod, onid ydym, mai hunan-niweidio yw'r lladdwr mwyaf o ferched yn eu harddegau yn fyd-eang. A ydym ni’n mynd i orfod aros i bobl 16 oed gael y bleidlais cyn i iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc gael y flaenoriaeth briodol y mae'n ei haeddu?

Wel, mae gan rai ohonom ni blant, ac mae gen i ferch 16 oed, felly rwy'n gwybod y pwysau sy'n bodoli ar bobl ifanc, yn enwedig trwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hynny'n rhywbeth nad oedd yn bodoli pan oeddwn i’n 16 oed, ac felly roedd unrhyw fwlio yn aros wrth gatiau'r ysgol ac nid oedd yn tueddu i symud y tu hwnt i hynny. Gwn am rai o'r pethau sy'n cael eu dweud ar-lein, a gwn, pan fo pobl ifanc fwyaf agored i niwed o ran eu hyder, y gallant gael eu heffeithio'n ddwfn iawn gan hynny. Ond mae hi’n rhoi’r—. Ni wnaeth hi wrando ar y ffigurau a roddais iddi. Soniais am Betsi a dywedais, 'Edrychwch, mae canran y CAMHS—

Wel, gall hi weiddi cymaint ag y mae’n dymuno. Mae hi wedi cael tri chwestiwn eisoes, do. Unwaith eto, mae Betsi yn enghraifft o'r hyn sydd wedi digwydd ledled Cymru. Yn Betsi, mae lefel yr atgyfeiriadau CAMHS a welwyd o fewn 28 diwrnod wedi mynd o 21 y cant i 84.5 y cant ym mis Chwefror. Ni all hi wadu hynny, neu mae hi'n dweud bod y ffigurau'n anghywir. Roedd angen iddyn nhw wella. Roeddem ni’n gwybod bod angen rhoi mwy o arian i mewn, oherwydd y galw ar y gwasanaeth. Dyna'n union yr hyn a wnaethom, ac rydym ni’n cyflawni dros ein pobl ifanc.

Gofal Preswyl

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi’r uchafswm cyfalaf ar gyfer y rhai a gaiff eu derbyn i ofal preswyl? OAQ(5)0598(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n cyflawni’r ymrwymiad ‘Symud Cymru Ymlaen’ hwn, sy’n un o’r chwech uchaf. Mae cyflwyniad fesul cam ar y gweill, a chyflwynwyd y cynnydd cyntaf i £30,000 ym mis Ebrill. Rydym ni wedi darparu £4.5 miliwn i awdurdodau lleol yn 2017-18 i gyflawni'r cynnydd hwnnw.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna ac rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am gymryd camau cynnar iawn i gyflawni’r addewid hwn i godi'r terfyn cyfalaf i fwy na dwbl yn ystod oes y tymor Cynulliad hwn, i £50,000. Rydym ni’n gwybod yn aml iawn mai'r unig ased sydd gan lawer o'n hetholwyr yw cartref, felly mae mwy na’i ddyblu yn cael budd anghymesur o fawr i’r hyn y gallant ei drosglwyddo i’w perthnasau ar ryw adeg.

Felly, ynghyd â hyn, bydd diystyriaeth lawn i gyflwyno’r pensiwn anabledd rhyfel yng Nghymru, sy'n golygu nad oes rhaid i gyn-filwyr Cymru ddefnyddio unrhyw ran o hwn i dalu am y gofal sydd ei angen arnynt mwyach. Mae hyn yn rhan o ni yn cadw ein cyfamod i'r rheini a roddodd eu bywydau mewn perygl dros eu gwlad. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a oes ganddo unrhyw syniad, nawr, pa fath o rifau y gallem ni fod yn sôn amdanynt o ran y rhai a allai elwa ar y polisi ardderchog hwn?

Wel, bydd tua 250 o bobl yn elwa ar y cynnydd cychwynnol i £30,000. Bydd hyd at 1,000 yn elwa ar y cynnydd i £50,000. Mae hyn yn gyfanswm o 4,000 o breswylwyr cartrefi gofal sy’n talu cost lawn eu gofal preswyl, felly canran sylweddol.

Prif Weinidog, rydym ni’n cefnogi'r gwelliant i’r polisi hwn, wrth gwrs, yn enwedig y rhan sy'n ymwneud â diystyriaeth y cyn-filwyr, ond ai’r cap cynilion hwn mewn gwirionedd yw’r gorau y gallwch chi ei wneud i bobl sydd wedi ymdrechu’n galed dros bren, ar draul bersonol aberthau personol o ran gwario yn aml iawn, fel eu bod yn cynilo mwy? Nawr, mae Jeremy Corbyn wedi dweud yn ddiweddar nad yw’n gyfoethog, er ei fod yn ennill mwy na £138,000 y flwyddyn, ac mae prisiau tai yng Nghymru yn £175,000 y flwyddyn ar gyfartaledd. Felly, onid ydych chi’n cytuno bod yr addewid £100,000, y cap a addawyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn ôl pob tebyg yn adlewyrchiad mwy realistig o'r gwaith caled y mae pobl wedi ei wneud i ennill yr arian hwn yn ystod eu bywydau?

Wel, nid yw’r addewid a oedd gan y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei gostio'n gywir a cheir cost i faint y byddai polisi o'r fath yn ei gostio. Gwyddom y bydd 25 y cant, yn fras, o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru yn elwa ar y polisi hwn, ac mae'n enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn cadw ei haddewidion, fel yr ydym ni wedi ei wneud dros y chwe blynedd diwethaf.

Y Strategaeth Economaidd a Diwydiannol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud o ran strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0602(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n bwriadu cyhoeddi ein dull strategol o greu ffyniant i bawb cyn toriad yr haf.

Wel, diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd diwydiannau gweithgynhyrchu a pheirianneg, eu cryfderau o fewn economi Cymru. Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn cydnabod yr un peth, trwy roi dur tua gwaelod eu blaenoriaethau. Edrychaf ymlaen at strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod dur ar y brig. Ond mae angen i ni ddenu mwy o weithgynhyrchu, fel Aston Martin a TVR, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud a dweud y gwir, ac mae angen i ni ddarparu mwy o safleoedd ag ôl troed mwy—25,000 troedfedd sgwâr a mwy—i sicrhau bod y ffatrïoedd hynny yno iddyn nhw ddod i mewn iddynt. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod nifer digonol o adeiladau sy'n cynnig yr ôl troed mawr hwnnw i ddenu mewnfuddsoddiad ym maes gweithgynhyrchu, ond hefyd i ganiatáu i ddiwydiannau presennol ehangu?

Wel, rydym ni’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ac eraill i edrych ar adeiladau wrth iddynt ddod ar gael. Gydag Aston Martin, wrth gwrs, yn digwydd bod, roedd yr awyrendy yno, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn o ran gallu eu denu, ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda phob busnes i asesu eu hanghenion o ran ehangu yn y dyfodol. Pan eu bod nhw’n ceisio gwneud hynny, rydym ni wedi gallu gweithio gyda nhw fel rheol er mwyn dod o hyd i adeiladau lle y gallant ehangu.

Prif Weinidog, mae Jeremy Corbyn wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer ymyrraeth ysgubol gan y Llywodraeth yn ein diwydiant, gan gynnwys cymryd rhannau o ddiwydiant ynni Prydain yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus ochr yn ochr â'r rheilffyrdd a'r Post Brenhinol. Dyna'r ymyrraeth fwyaf gan y wladwriaeth yn ein heconomi ers degawdau. A gaf i ofyn a ydych chi’n cefnogi dull Jeremy Corbyn, yr wyf i’n credu’n sicr y byddai'n mynd â Chymru yn ôl i'r 1970au, ac a ydych chi’n cytuno ag arweinydd eich plaid pan ddywed na ellir ymddiried mewn gweithredwyr trafnidiaeth preifat i sicrhau bod budd pennaf teithwyr flaenaf yn eu meddyliau?

Wel, mae’r cwmnïau ynni—mae’n rhaid bod unrhyw un sy'n dweud bod y farchnad ynni rywsut o les i ddefnyddwyr yn byw mewn gwahanol fydysawd i'r gweddill ohonom ni. Dro ar ôl tro, mae Llywodraethau wedi cydnabod nad yw'r system bresennol yn gweithio. Mae'n sôn am y 1970au—roedd ynni’n rhatach yn y 1970au, yn gymesur, a chawsom fuddsoddiadau mawr hefyd, fel Dinorwig, pan, gyda'r morlyn llanw, y mae ei blaid ef yn dal her ar y morlyn llanw. Byddai wedi cael ei adeiladu pe byddai hyn wedi bod yn y 1970au. Mae'n sôn am y rheilffyrdd. Digwyddodd y buddsoddiad mawr diwethaf yn intercity ym 1977, gyda chyflwyniad yr 125 o dan Lywodraeth Lafur—o dan Lywodraeth Lafur. Ers hynny, nid ydym wedi cael unrhyw fuddsoddiad mawr yn y brif reilffordd. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio—ble mae hynny wedi mynd—i Gaerdydd. Rydym ni’n dal i aros amdano. Rydym ni’n dal i aros am drydaneiddio i Abertawe. Ble mae hynny wedi mynd? Dau addewid a wnaed gan y blaid gyferbyn na chyflawnwyd. Rydym ni’n dal i aros i weld ymrwymiad i drydaneiddio rheilffyrdd y gogledd—dim arwydd o hynny eto gan y Ceidwadwyr. Ni allai neb o bosibl ddadlau bod y rheilffyrdd, fel y maent wedi eu cyfansoddi ar hyn o bryd, yn cynnig gwerth am arian; maen nhw’n costio mwy i'r trethdalwr nawr nag yr oeddent pan yr oeddent wedi eu gwladoli, oherwydd y ffordd y cafodd ei wneud. Na, mae angen mwy o realiti cyn belled ag y mae'r Ceidwadwyr yn y cwestiwn, ond yn anad dim arall, mae angen iddyn nhw gyflawni eu haddewidion ar gyfer ynni a rheilffyrdd, ac, yn yr ystyr hwnnw, maen nhw wedi bod yn fethiant llwyr.

Wel, mae angen syniadau newydd arnom yn sicr pan ddaw i’n strategaeth economaidd, oherwydd nid yw’r hen syniadau wedi gweithio, ydyn nhw? Hynny yw, rydym ni’n dlotach nawr, o gymharu â gweddill y DU, na phan gymerodd Llafur drosodd gyntaf ym 1997 yn San Steffan ac yma yn y Cynulliad yn 1999. Felly, a allai’r Prif Weinidog esbonio pa syniadau newydd sydd gan Lafur i weddnewid ein heconomi? Ac, o ystyried y ffaith eich bod chi wedi bod mewn grym yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, ac am gyfran helaeth o'r amser yn San Steffan hefyd, beth sy'n eich dal chi’n ôl? Lle mae’r wedi syniadau gweddnewidiol hynny wedi bod tan nawr?

Ble oedd ei blaid ef pan, am bedair blynedd, roedd ei blaid yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru? Mae'n anghofio hynny’n gyfleus, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Nid ydyn nhw’n hoffi clywed hynny, oherwydd mae’n rhywbeth y byddai’n well ganddynt anghofio amdano, ond mae'n cael ei anghofio’n gyfleus. Wel, holodd am syniadau newydd. Mae tasglu’r Cymoedd yn symud ymlaen gyda syniadau newydd ar gyfer y Cymoedd. Rydym ni’n edrych ar sut yr ydym ni’n datblygu ein hunain o ran presenoldeb rhyngwladol, unwaith eto, gan ein bod ni’n gwybod bod yn rhaid i ni edrych y tu allan, i wledydd newydd, am fuddsoddiad. Mae'r cyswllt awyr i Qatar yn rhan hynod bwysig o ddatblygu ein ffenestr i’r byd. Rydym ni wedi gweld diweithdra yn gostwng i lefel is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a buddsoddiad mawr fel Aston Martin, fel General Dynamics ac fel Tenneco yn dod i Gymru.

Yr her nesaf, wrth gwrs, yw gwella GYC. Mae'n iawn am hynny, ond, yn sicr, cyn belled ag y mae creu swyddi yn y cwestiwn, cyn belled ag y mae ymestyn allan i'r byd yn y cwestiwn, cyn belled ag y mae cael buddsoddiad yn y cwestiwn—ar ôl cael y ffigurau buddsoddiad tramor gorau ers 30 mlynedd y llynedd—mae’r Llywodraeth Cymru hon yn cyflawni.

Prosiectau Seilwaith Cyfalaf

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cyfalaf ledled Cymru? OAQ(5)0600(FM)

Mae pwyslais ar wneud y gorau o’r adnoddau sydd gennym ar gael wrth wraidd ein hagwedd at fuddsoddiad cyfalaf, a thargedu hyn ar y meysydd lle gallant gael yr effaith fwyaf o ran rhoi hwb i'r economi, cefnogi ein cymunedau a chysylltu pob rhan o Gymru.

Prif Weinidog, roedd yn newyddion da bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi datgan y bydd model buddsoddi cydfuddiannol gwerth £1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys seilwaith cymdeithasol, fel canolfan gofal canser Felindre, a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain hefyd, ond hefyd y cam terfynol o ddeuoli'r A465, sydd mor hanfodol i’m hetholaeth fy hun. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio dulliau arloesol tebyg i fuddsoddi mewn seilwaith a bod o fudd i bobl Cymru yn y dyfodol?

Wel, rydym ni’n parhau i wynebu heriau digynsail i gyllid cyhoeddus, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n datgloi pob cyfle i hybu buddsoddiad mewn seilwaith. Yn ogystal â'r £1 biliwn o fuddsoddiad seilwaith cyfalaf, rydym ni wedi ymrwymo i gyflawni drwy'r model cyllid arloesol, gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol, rydym ni hefyd yn defnyddio ffyrdd arloesol o ariannu buddsoddiad cyfalaf drwy'r estyniad £250 miliwn i'r grant cyllid tai a’r rhaglen rheoli risg arfordirol £150 miliwn, ac mae’r cynlluniau hynny yn ogystal â gwerth £1 biliwn o fenthyg cyfalaf uniongyrchol o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2014.

Prif Weinidog, rhoddodd cyllideb y DU y llynedd hwb gwerthfawr i wariant seilwaith cyfalaf yng Nghymru ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd. A ydych chi’n cytuno â mi bod y prosiectau a grybwyllwyd gennych, y cytundeb i’w groesawu o ran cytundeb dinas Caerdydd, a chyhoeddiad heddiw ar ddiddymu tollau pont Hafren, yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni a bod Llywodraeth Cymru a chithau yn cael mwy o fudd o lawer o weithio gyda Theresa May na gyda Jeremy Corbyn?

Mae cryn hyfdra yn y cwestiwn yna, ac rwy’n rhoi clod iddo am hynny, ond mae'r ateb yn eithaf syml: na fyddai, byddai'n well gen i weithio gyda Jeremy Corbyn, yn blwmp ac yn blaen, os ydych chi eisiau’r ateb i'r cwestiwn yna. Ond, yn ail, ydw, rwy’n meddwl ei bod hi’n iawn, ar adeg pan nad oes etholiad, bod Llywodraethau Cymru a'r DU yn gallu gweithio gyda'i gilydd. Roedd y cytundeb dinas yn enghraifft o hynny. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan ddaw i dollau pont Hafren, rydym ni wedi bod yn pwyso am hyn ers blynyddoedd lawer. Nawr, os mai enghraifft o gydweithio yw, 'Rydym ni wedi gwneud yr achos a, haleliwia, mae Llywodraeth y DU wedi cael tröedigaeth', yna rwy’n croesawu hynny hefyd. Ond mae'n dangos pa mor bwysig yw hi i gael tîm cryf yma yn Llywodraeth Cymru i barhau i wthio ar Lywodraethau Torïaidd fel eu bod yn cyflawni pethau fel rhoi terfyn ar dollau pont Hafren, yr ydym ni wedi galw amdano ers blynyddoedd.

O ran y broses tri cham newydd ar gyfer asesu cynigion ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd yng Nghymru, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod rhai ymgyrchwyr sy’n galw am ailagor gorsafoedd penodol a fethodd â chyrraedd yr ail gam yn teimlo'n ddig, ac mae'r rhain yn cynnwys aelodau o grŵp gweithredu gorsaf Carno. Nawr, yng ngoleuni hynny, ac er budd tryloywder, a fydd eich Llywodraeth yn barod i rannu canlyniadau'r dadansoddiad cost a budd o ran symud o gam 1 i gam 2? Diolch yn fawr.

Ni welaf unrhyw anhawster o ran gwneud hynny. Mae'n hynod bwysig bod y dadansoddiad cost a budd yn cael ei rannu fel y gall pobl weld beth yw'r fethodoleg.

Ysgol Uwchradd Aberhonddu

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu? OAQ(5)0608(FM)

Yn anffodus, ni allaf wneud sylwadau pellach ar y cynigion hynny ar gyfer newid oherwydd, wrth gwrs, ceir swyddogaeth bosibl i Lywodraeth Cymru, ac ni ellir rhagfarnu’r safbwynt hwnnw.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwyf yn ei ddeall, wrth gwrs. Mae hyn i’r gwrthwyneb o'r sefyllfa a wynebwyd gennym ni yn Llangennech, lle ceir gwrthwynebiad gan rieni i newid statws yr ysgol i ysgol cyfrwng Cymraeg. Ceir teimlad yn yr ardal leol yn Aberhonddu bod y cynnig hwn i gau wedi troi’n dipyn o broffwydoliaeth hunangyflawnol oherwydd bod y cyngor wedi, ers nifer o flynyddoedd, cael cynnig i gau’r ysgol, ac maen nhw wedi darparu cludiant am ddim i ysgolion eraill i rieni, felly nid yw'n syndod bod rhieni sydd eisiau i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn edrych ar gyfleoedd eraill nawr, gyda'r canlyniad fod cofrestrau’r ysgol wedi bod yn gostwng i lefelau anghynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cytuno fy mod i’n ceisio bod yn amhleidiol ac o gymorth ar y mater hwn, os nad ar unrhyw fater arall, felly yr hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw: yn ogystal â pholisi cydnabyddedig, y credaf sy’n gywir, y Gweinidog dros Addysg Gydol Oes o ran y sefyllfa yn Llangennech—o ddarbwyllo a pherswadio, gan ddod â rhieni gyda ni a mynd gyda'r graen—onid yw'n wir, lle mae rhieni yn dymuno i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, y dylech chi ei gwneud mor hawdd â phosibl iddyn nhw wneud hynny? Felly, nid yw ei gwneud yn ofynnol i blant fynd ar daith bws o dros awr ym mhob cyfeiriad bob dydd yn debygol o ddod â mwy o rieni i mewn i'r rhwyd ​​o fod eisiau i'w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly rwy'n meddwl tybed beth, heb, efallai, wneud sylwadau ar yr achos unigol hwn, y gall y Prif Weinidog ei wneud i'w gwneud yn haws i rieni yn y sefyllfa yr ydym ni’n ei gweld yn Aberhonddu i fodloni eu dymuniadau.

Wel, os caf i siarad yn gyffredinol, mae arweinydd UKIP yn gywir o’r safbwynt, mewn sawl rhan o Gymru, bod hyd yr amser teithio i gyrraedd ysgol cyfrwng Cymraeg yn troi rhai rhieni i ffwrdd. Mae'n arbennig o wir mewn rhai rhannau o Gymru lle ceir ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ond mae tipyn o ffordd i'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae Sir Fynwy yn enghraifft sy'n dod i'r meddwl—Ysgol y Ffin, Ysgol y Fenni—mae'n ffordd bell i Ysgol Gyfun Gwynllyw o’r fan honno, ac mae’n rhaid cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad at addysg uwchradd, yn enwedig yn fwy lleol. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Rydym ni’n edrych ar y cynlluniau hynny ac, os byddwn yn barnu eu bod yn annigonol, yna nid ydym yn cymeradwyo’r cynlluniau hynny. Mater i awdurdodau lleol ledled Cymru yw dangos eu bod yn darparu mynediad digonol at addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn i'r cynlluniau hynny fod yn effeithiol.

Mae gan Lywodraeth Cymru amcan i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod yna, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael cymaint o blant â phosibl yn dechrau eu haddysg nhw trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rŷch chi wedi’i ddweud, mae’n anodd ichi drafod y mater uniongyrchol yma, ond jest fel mater o egwyddor, a ydych chi’n cydnabod yn yr ardaloedd cefn gwlad hynny ei bod hi’n costio mwy i gael y plant i fynd i’r ysgolion yna? A oes yna gydnabyddiaeth tu fewn i’r Llywodraeth, fel ei bod hi yn bosibl? Achos, os ydym ni eisiau cyrraedd y nod yna, fel yr ydych chi’n ei ddweud, mae’n rhaid i ni ei wneud e mor syml â phosibl fel bod y rhieni yna ddim yn gweld rhyw rwystredigaethau yn eu ffordd nhw.

Yn gyffredinol, wrth gwrs, y mwyaf y mae plant yn gorfod teithio er mwyn cael eu haddysg, y mwyaf yw’r rhwystr sydd yn eu cadw nhw rhag mynd i ysgolion cynradd a hefyd ysgolion cyfun. Wrth gwrs, mae hynny’n rhan o’r ystyriaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’r cynlluniau strategol sydd gan awdurdodau lleol.

Ynglŷn â’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fyddaf i ddim yn y swydd hon bryd hynny—fe gaf i ddweud hynny. Bydd y ddogfen derfynol yn ystyried y berthynas rhwng yr iaith a hefyd datblygu economaidd, a bydd hynny’n rhywbeth sy’n cael ei gyhoeddi'r flwyddyn hon, ac wrth gwrs bydd y sefyllfa addysg yn cael ei hystyried yn fanwl fel rhan o’r broses honno.

Rydw i wedi codi’r materion hyn mewn gohebiaeth gyda’r Gweinidog tua mis yn ôl. Nid ydw i ddim wedi cael ateb eto, ond rwy’n gobeithio yn fawr iawn y caf i ateb yn fuan. Mae materion ynglŷn â theitho wedi cael eu codi, ond un peth sydd yn broblematig os ŷch chi’n ceisio trefnu addysg ddwyieithog mewn ardaloedd cefn gwlad yw sut ŷch chi’n cynnal digwyddiadau y tu allan i oriau ysgol a gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth ar gael ar gyfer cynnal digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon, ac ati. Beth sydd gan y Llywodraeth i ddweud yn gyffredinol am yr anhawster hynny i sicrhau bod dewis teg wrth ddewis addysg Gymraeg?

Un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o weithgareddau ar gael, er enghraifft, yw sicrhau bod mwy o ganghennau actif o’r Urdd. Er enghraifft, yn fy ardal i, mae yna un ysgol gyfun Gymraeg ac mae yng Ngwm Llynfi. Nid yw’n ganolog iawn i’r sir, ond mae pob plentyn yn y sir yn mynd yno, hyd yn oed y rhai sy’n dod o Gwm Ogwr, sy’n gorfod teithio dros ddau gwm i fynd yno. Ond, mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau sydd yn sicrhau nad yw pobl yn gorfod teithio i Langynwyd bob tro—maen nhw’n gallu mynd i Ben-y-bont a Phorthcawl. Mae hynny’n un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod plant yn cael mynediad mewn i awyrgylch Cymraeg y tu fas i’r ysgol heb orfod teithio gormod.

Aelodau'r Lluoedd Arfog

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0593(FM)

Er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bersonél presennol y lluoedd arfog, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur yn ein rhaglen lywodraethu ein hymrwymiad i gefnogi personél presennol a'u teuluoedd fel nad ydynt dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.

Diolch. Mae fy nghwestiwn arall yn ymwneud mwy â’r gymuned lluoedd arfog ehangach. Yn gynharach eleni, ar eu cais nhw, cefais i, ac Andrew R.T. Davies, gyfarfod gyda grŵp o gyn-filwyr benywaidd, pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau wrth wasanaethu, a phob un ohonynt yn dweud wrthym eu bod hefyd yn ymdopi â materion iechyd meddwl o ganlyniad i'w gwasanaeth. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder a fynegwyd ganddynt i ni—ac rwy'n eu dyfynnu—'gyda mwy a mwy o gyn-filwyr yn dychwelyd o Irac ac Affganistan mae’n cymryd tri mis erbyn hyn i gael apwyntiad gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, wedyn tri i chwe mis i weld arbenigwr ac yna dim ond ymdrin â thrawma ysgafn i ganolig y maen nhw’n gallu ei wneud gan nad oes unrhyw wasanaethau acíwt, ac maen nhw’n gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl ac yn dibynnu ar elusennau?

Os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion am hynny, byddaf wrth gwrs yn ymchwilio. Ond yn gyffredinol, rydym ni wedi cynhyrchu llyfryn 'Croeso i Gymru', yn benodol ar gyfer personél y lluoedd arfog a'u teuluoedd tra eu bod yn byw yng Nghymru. Mae'n rhoi gwybodaeth am y cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael mewn un man. Maen nhw’n cynnwys nofio am ddim, wrth gwrs, ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol, llwybr atgyfeirio carlam ar gyfer gofal iechyd arbenigol, cynnig gofal plant hyblyg gwell, a mynediad at addysg wrth gwrs. Rydym ni’n gweithio'n eithaf agos gyda sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r hyn y maen nhw’n ei haeddu i’r cyn-filwyr sydd wedi rhoi cymaint, pan eu bod yn byw yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae plant personél lluoedd arfog sydd wedi eu hanfon dramor mewn perygl o dderbyn addysg anghyson. Mewn lleoliadau lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ysgol swyddogol, mae'r plant hyn yn cael eu hanfon i ysgolion rhyngwladol, efallai na fydd yn dilyn cwricwlwm penodol. O ganlyniad, efallai y bydd y plant ar y blaen mewn rhai meysydd ac ar ei hôl hi mewn eraill. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod plant personél lluoedd arfog sydd wedi mynychu ysgolion rhyngwladol yn cael eu hasesu'n llawn ac yn derbyn cymorth ychwanegol os oes angen?

Mae'r prosiect Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg o fewn CLlLC wedi ei ariannu trwy gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2014 i liniaru problemau symudedd a lleoliad. Mae'r prosiect wedi llunio canllaw i rieni plant y lluoedd arfog ar y system addysg yng Nghymru, ac ar gyfer athrawon ar gefnogi plant y lluoedd arfog. Yr adnodd diweddaraf i gael ei lunio gan y prosiect hwn yw'r adnodd straeon digidol, a lansiwyd ddiwedd y flwyddyn diwethaf. Hefyd, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gweithredu’r gronfa cymorth addysg, er ein bod ni’n deall y bydd y cyllid hwnnw’n dod i ben y flwyddyn nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gofyn iddynt esbonio’r sefyllfa honno.

Llwyddiant ym Maes Chwaraeon

8. Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i annog a chefnogi llwyddiant ym maes chwaraeon yng Nghymru? OAQ(5)0596(FM)

Mae ein polisïau ar chwaraeon yn cael eu gosod yng nghyd-destun 'Symud Cymru Ymlaen' a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ein buddsoddiad mewn chwaraeon, drwy Chwaraeon Cymru, yn canolbwyntio ar annog cyfranogiad ymhlith pob oedran a sicrhau bod seilwaith chwaraeon ar waith fel bod athletwyr a chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd talentog yn gwireddu eu potensial.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Credaf ei bod yn bwysig iawn, am resymau yr wyf yn credu y byddai pob Aelod yma yn eu cydnabod, Prif Weinidog, ein bod ni’n cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lefel elitaidd a llawr gwlad yng Nghymru. Felly, hoffwn ddychwelyd yn fyr at lwyddiant Clwb Pêl-droed Casnewydd, gan fy mod i’n credu ei fod yn bwysig iawn ar y ddau lefel. Cawsom fachgen lleol, Michael Flynn, fel rheolwr, yn cymryd y tîm drosodd 11 pwynt ar ei hôl hi ar waelod y tabl, yn agos at ddiwedd y tymor, gan weddnewid y sefyllfa’n llwyr gyda gôl ddramatig i ennill y gêm yn 89fed munud gêm olaf y tymor i gadw pêl-droed proffesiynol yng Nghasnewydd ar gyfer y tymor nesaf, gan ddangos pwysigrwydd, rwy’n credu, mewnbwn lleol i’r tîm, ac wrth gwrs mae'n ymddiriedolaeth cefnogwyr.

Byddwn yn cael cyllid Uwch Gynghrair Lloegr nawr ar gyfer gweithgarwch cymunedol a chwaraeon llawr gwlad o amgylch pêl-droed yn y dyfodol—ymhell i'r dyfodol, rwy'n gobeithio—ac ar yr un pryd, rydym ni wedi gweld cyfranddalwyr clwb rygbi Casnewydd yn pleidleisio i Undeb Rygbi Cymru eu cymryd drosodd, a fydd yn cadw rygbi rhanbarthol yng Nghasnewydd, a hefyd yn meithrin y gêm ar lefel llawr gwlad lleol. Felly, rwy’n credu bod chwaraeon proffesiynol a chwaraeon llawr gwlad yn edrych yn gryf yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, Prif Weinidog, ac roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r holl bobl sy'n rhan o wireddu hynny, ac yn enwedig y cymorth ar lawr gwlad.

Yn sicr. Gwelais i'r golygfeydd ar ddiwedd y gêm, y golygfeydd o lawenydd, pan aeth yr ail gôl i mewn yn erbyn Notts County. Yn wir, trydarais ar y pryd. Rwy'n fwy na pharod i longyfarch Clwb Pêl-droed Casnewydd. Rwy'n meddwl bod gan y Dreigiau ddyfodol disglair hefyd—mae angen mwy o sefydlogrwydd ariannol arnynt, ond mae’n ymddangos bod hynny’n dod at ei gilydd. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd datblygu chwaraeon. Mae'r ganolfan bêl-droed genedlaethol yng Nghasnewydd, wrth gwrs; mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei gweddnewid fel sefydliad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ganddi erbyn hyn, wrth gwrs, gyfleuster hyfforddi ar waith lle nad oedd un o'r blaen. Ac, wrth gwrs, o ran pwysigrwydd gweithgarwch corfforol unigol, gwn pa mor bwysig yw hyn, a gwn, yn wir, bod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi treulio'r 18 mlynedd diwethaf yn dweud wrthyf pa mor bwysig ydyw, ac rwyf wedi methu â dilyn ei gyngor.

Y Diwydiant Gweithgynhyrchu

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant gweithgynhyrchu? OAQ(5)0606(FM)

Rydym ni’n parhau i gymryd ystod eang o gamau i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod allbwn diwydiannol y DU wedi lleihau am y trydydd mis yn olynol, gyda'r sector gweithgynhyrchu yn gostwng 0.6 y cant, a diffyg masnachu’r DU yn dyblu i fwy na £10.5 biliwn. Fel gwlad yma yng Nghymru â gorffennol diwydiannol a gweithgynhyrchu balch, mae'n drist bod cyfran y prentisiaethau yn y diwydiant gweithgynhyrchu wedi gostwng o 6 y cant yn 2006 i 2 y cant llwm yn 2014. Ffigurau StatsCymru yw’r rheini, rhag ofn bod y Prif Weinidog eisiau fy nghyhuddo unwaith eto o gamliwio’r ffeithiau.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn annerbyniol petruso am dros flwyddyn gyda chynllun economaidd a diwydiannol newydd ar gyfer y wlad hon? Pa obaith sydd yna am ddyfodol mewn diwydiant i Gymru ar lefel fyd-eang pan nad ydym yn darparu'r sgiliau er mwyn i’r genhedlaeth nesaf allu cyflawni?

Wel, a gaf i ei atgoffa ei fod yn un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon y byddwn yn ariannu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rhywbeth yr ydym yn credu sy’n hynod bwysig? Mae'n iawn i nodi bod gweithgynhyrchu yn bwysicach i economi Cymru nag ydyw i’r DU yn ei chyfanrwydd. Mae tua 10.8 y cant o weithlu Cymru ym maes gweithgynhyrchu o’i gymharu â 7.6 y cant ar gyfer y DU. Nid wyf yn derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud am betruso: daethom ag Aston Martin i Gymru; daethom â Qatar Airways i Gymru. Ar hyn o bryd, mae'r tîm sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch yn gweithio gydag 88 o gwmnïau sy'n dymuno lleoli neu ehangu yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, ymhell o betruso, rydym ni wedi bod yn hynod weithgar ac mae'r ffigurau buddsoddi yn siarad drostynt eu hunain.

Cyflymu Cymru yn Sir Drefaldwyn

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno rhaglen Cyflymu Cymru yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0594(FM)

Mae cynllun Cyflymu Cymru, hyd yn hyn, wedi hwyluso’r broses o gyflwyno mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 46,500 o gartrefi a busnesau ledled Powys, gan gynnwys, wrth gwrs, Sir Drefaldwyn, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o 87 Mbps a buddsoddiad o dros £13.3 miliwn.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rydym ni wyth mis i ffwrdd bellach o'r dyddiad terfynol, pan fydd y prosiect Cyflymu Cymru—. Mae'n ymddangos bod ganddo broblem cam-gyfathrebu parhaus â thrigolion. Cysylltwyd â mi, er enghraifft, gan un etholwr o Adfa sydd wedi cwyno, er iddo gael cadarnhad o fand eang cyflym iawn trwy dechnoleg ffibr i'r adeilad ym mis Chwefror eleni—a gadarnhawyd i mi yn ysgrifenedig gan y Gweinidog hefyd—ei fod wedi cael ei hysbysu erbyn hyn bod y sefyllfa wedi newid, ac mai ffibr i'r cabinet yw’r dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio, a’i fod bellach yn rhy bell i ffwrdd o’r cabinet i elwa ar yr uwchraddio. Felly, mae'r sefyllfa yma, rwy’n credu, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno, yn annerbyniol: un funud mae’n cael ei hysbysu ei fod yn mynd i dderbyn hyd at 330 MB, ac yna mae’r rheolau’n cael eu newid i ddarganfod nad yw’n mynd i elwa o gwbl . Nawr, yn ôl ym mis Chwefror, efallai fod atebion eraill y gallai fod wedi bwrw ymlaen â nhw trwy dechnolegau eraill, nad ydynt ar gael mwyach. A fyddech chi’n cytuno â mi ei bod yn bwysig bod pobl yn cael y wybodaeth gywir yn y lle cyntaf?

Yn sicr. Efallai, pe gallai'r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion problem ei etholwr, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn syth ar ôl y datganiad busnes er mwyn caniatáu cynnal dadl fer yfory ar ôl pleidleisio heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Ysgrifennydd y Cabinet, es i weld fy meddyg teulu’n ddiweddar. Roedd yn rhaid i mi fynd yn fore iawn—apwyntiad am 08:00—ac roedd yr hyn a welais y tu hwnt i bob rheswm. Roedd yn rhaid i mi basio trwy un neu ddwy o feddygfeydd, ac roedd rhai yn aros y tu allan o 7.30 a.m. tan 8 o'r gloch yn y fath dywydd, ddiwrnod neu ddau yn ôl, gyda’u plant—pobl abl, pobl fethedig a’r henoed i gyd, wrth gwrs, yn sâl. Mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad i weld y meddyg cyn 08:00, ac nid yw drws y feddygfa byth yn agored. Mae hynny'n syndod yn yr unfed ganrif ar hugain—pobl yn sefyll y tu allan, heb gael mynd i mewn yn y fath dywydd yn gynnar yn y bore tra bod staff y feddygfa yn yr adeilad eisoes.

Felly, a fyddech mor garedig â gwneud datganiad am apwyntiadau meddygon teulu yng Nghymru? Bydd yn siŵr o helpu llawer o feddygfeydd yn y wlad hon a phawb sy’n sefyll y tu allan heb le i gysgodi rhag tywydd fel hwn. Does bosibl nad oes modd dyfeisio rhyw ffordd o ganiatáu i’r cleifion hyn gael aros y tu mewn i'r meddygfeydd, drwy ddefnyddio tocyn neu rif o ryw fath efallai, fel eu bod yn derbyn rhifau ar gyfer gweld y nyrsys, neu fod y rhai sydd tu mewn yn gallu trefnu apwyntiadau i’r meddygon? Rwy'n credu y byddai o help mawr i’r bobl sâl, yn hen ac ifanc, wneud yn siŵr bod datganiad yn cael ei wneud am apwyntiadau meddyg ym meddygfeydd Cymru. Diolch.

Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig. Mae'n rhoi’r cyfle i mi ddweud bod ein meddygon teulu yng Nghymru yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Cymru. Yn wir, mae'r arolwg cenedlaethol yn parhau i ddangos lefelau uchel iawn o foddhad—dros 90 y cant o gleifion yn fodlon gyda gwasanaethau meddygon teulu. I helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel, rydym yn parhau i fuddsoddi arian newydd mewn gofal sylfaenol—£42.6 y flwyddyn ariannol hon yn unig. Hefyd, yn bwysig iawn, o ran practisau meddygon teulu yn gweithio gyda'i gilydd ar y cyd, rydym yn buddsoddi mewn 64 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn golygu, o ran mynediad at wasanaethau meddygon teulu, nid yn unig bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn buddsoddi a chefnogi ond bod y cleifion hefyd yn fwy bodlon ar y gwasanaethau hynny.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar bwysigrwydd prifysgolion yn sbarduno’r economi, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector prifysgolion a chynhyrchu parciau gwyddoniaeth tebyg i Gaergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, sydd wedi bod yn bwysig iawn yn llwyddiant economaidd y ddwy ardal hynny?

Mike Hedges, fel y dywedwch chi, mae pwysigrwydd y prifysgolion yn sbarduno’r economi yn gwbl amlwg. Mae'r sector addysg uwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru. Mae’r prifysgolion yng Nghymru yn cyfrannu mwy na £3 biliwn y flwyddyn mewn gwariant gros at economi Cymru, yn cyflogi dros 20,000 o bobl, yn cael trosiant blynyddol o fwy na £1.5 biliwn ac, wrth gwrs, yn cyfrannu at dwf economaidd cynaliadwy mewn sawl ffordd—wrth i gread gwybodaeth ddatblygu gweithlu hynod fedrus a thrwy ymgysylltu â chymunedau lleol. Mae’n amlwg fod enghreifftiau pwysig i’w cael dros y byd y gall y sector prifysgolion ddysgu ohonyn nhw. Ond credaf fod gennym gyfleoedd gwirioneddol, fel y mae adolygiad Diamond yn ei gydnabod, fod buddsoddi mewn addysg uwch yn dod â’r manteision hynny i’r economi.

A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Mae’r un cyntaf yn ddigon syml—rŷm ni newydd gyhoeddi, wrth gwrs, erbyn hyn fod pob un plaid yng Nghymru o blaid diddymu tollau pont Hafren. Rwy’n croesawu hynny—rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato fe—ond mae’n gadael un bont ac un bont yn unig yng Nghymru gyda thollau arni hi, a phont Cleddau yw honno. Mae pont Cleddau yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru: hynny yw mae sir Benfro yn berchen arni ar hyn o bryd, ond mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i ‘trunk-o’ y ffordd dros bont Cleddau—mae hynny wedi’i ddatgan gan y cyn-Weinidog, Edwina Hart, ac wedi’i ailddatgan mewn egwyddor gan Ken Skates, hefyd. Felly, beth yw’r bwriad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pont Hafren—i ddiddymu’r tollau oddi ar y bont honno, yr un bont lle mae tollau yn mynd o un rhan o barth menter i ran arall? A gawn ni wneud yn siŵr bod Cymru yn wlad sy’n rhydd o dollau a bod breuddwyd Merched Beca yn dod yn fyw o’r diwedd?

Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano gan y Llywodraeth—bach yn fwy cymhleth—mae’n ymwneud â chais cynllunio ar gyfer maes gwyliau cabanau ym Meddgelert. Nid wyf yn disgwyl i’r Llywodraeth wneud datganiad ynglŷn â’r cais cynllunio o gwbl ond mae’r maes pebyll ym Meddgelert yn cael ei chwalu ac mae cais cynllunio ar gyfer maes cabanau gwyliau yn ei le, sy’n cynnwys ‘hot tubs’ a phob math o bethau felly, gan gynnwys siop a chanolfan a phethau felly.

Mae’r cynllun y tu ôl i hwn yn rhan o rywbeth sy’n deillio o’r hen Gomisiwn Coedwigaeth. Hoffwn i, felly, ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cais yma. Yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel etifedd i’r hen Gomisiwn Coedwigaeth, gyfranddaliad o 20 y cant yn y cynllun yma, ac os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, ac yn llwyddiannus o ran cael caniatâd cynllunio, fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael £48,000 y flwyddyn mewn rhent ar gyfer 16 o gabanau gwyliau, sef £3,000 fesul caban. Wrth gwrs, y broblem fan hyn yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoleiddiwr ar gyfer y safle, ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddiwr y safle wedi codi’r un gwrthwynebiad ynglŷn â’r datblygiad. Mae gennych, felly, gorff llywodraethol sy’n rheoleiddio ac yn gyfrifol hefyd fel buddsoddwr. Byddwn i’n licio clywed gan Lywodraeth Cymru sut yn union maen nhw’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru unioni’r sefyllfa yma a chadw’r fantolen yn syth fel bod y bobl leol yn gallu bod yn gallu bod yn saff eu bod nhw’n gwneud eu priod waith yn diogelu’r amgylchfyd lleol.

Diolch, Simon Thomas. Yn wir, mae’n garreg filltir fod Llywodraeth Lafur Cymru ac, yn wir, chi eich hunain wedi galw am ddiddymu’r tollau i groesi pont Hafren, ac mae’r Torïaid bellach yn ymateb i'n galwadau yma gan Lywodraeth Cymru a chan bleidiau yn y Siambr hon. Mae'n bwysig iawn, felly, ein bod yn edrych ar sut y gellir symud hyn ymlaen, ond mae eich pwynt ynglŷn â phont Cleddau wedi ei fynegi’n dda ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny.

Rwy'n credu bod eich ail gwestiwn yn tynnu sylw at ystod eang o faterion, sy'n cyffwrdd â swyddogaeth, pwerau a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond rwy’n credu eich bod wedi ei roi ar gofnod yn awr o ran y cais hwn, sy’n drawsdoriad o faterion sy’n ymwneud â thwristiaeth, coedwigaeth a chynllunio, y mae’n rhaid, wrth gwrs, i Weinidogion Cymru atal eu sylwadau arnynt. Ond rydych wedi ei roi ar gofnod.

A gaf i alw am ddau ddatganiad: yn gyntaf, am fater y codais i ac eraill gyda chi gyntaf 14 mlynedd yn ôl, ac o bosib yn gynharach yn y Cynulliad Cyntaf pan nad oeddwn i yma, sef mater disgyblion ysgolion byddar yng Nghymru? Yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod y DU 2017, mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod disgyblion ysgolion byddar yng Nghymru yn tangyflawni ym mhob cyfnod allweddol, gyda Chymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru yn dweud bod y disgyblion hyn yn wynebu cael eu gadael ar ôl, heb weithredu ar fyrder. Mae'r ffigurau sy'n awgrymu bod y bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau dros dro unwaith eto wedi ehangu ar lefel TGAU.

Ar ôl lansio’r ddeiseb 'Cau'r Bwlch' o ganlyniad i gyfres wael o ganlyniadau bedair blynedd yn ôl, dywedodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar fod y ffigurau diweddaraf yn annerbyniol. Wel, nid yw byddardod yn anabledd dysgu nac yn anhawster dysgu, ac nid oes rheswm pam y dylai’r disgyblion hyn fod yn tangyflawni oni bai i’r gefnogaeth briodol beidio â bod ar gael iddyn nhw. Fel y galwyd amdano 14 mlynedd yn ôl, mae hynny'n golygu codi ymwybyddiaeth o fyddardod, gwella acwsteg yn yr ystafelloedd dosbarth a sicrhau bod plant byddar a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi o'r dechrau. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb gyda datganiad am y mater difrifol iawn hwn, ar ôl rhoi ystyriaeth ddofn a difrifol iddo, ac yn ystyried sut y gallem symud ymlaen nawr.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad gan yr ysgrifennydd iechyd ar gyflyrau prin yng Nghymru, ar ôl iddo ddarllen rhifyn gwanwyn 2017 o gylchgrawn Fasgwlitis y DU, a’r erthygl ynddo o'r enw, What’s up with Wales? Mae'r erthygl hon, What’s up with Wales? yn dweud:

Mae gennym ni, yn Fasgwlitis y DU, berthynas dda iawn gyda holl weithwyr meddygol proffesiynol fasgwlitis blaenllaw yn Lloegr.... Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’n sefyllfa wahanol.

Wedi derbyn diagnosis a chynllun triniaeth gan arbenigwr blaenllaw ar draws y byd yn Lloegr

ymddengys bod cyngor yr arbenigwyr "dros y ffin" yn destun dicter ac yn cael ei anwybyddu

pan ddown yn ôl i Gymru.

Mae amryw o broblemau naturiol yng Nghymru gan bobl sydd â chlefydau prin .... Ymddengys bod yr agwedd yng Nghymru yn perthyn i’r ganrif ddiwethaf

ac

Ymddengys hefyd fod diwylliant cyffredinol o hierarchaeth a rhengoedd wedi eu cau.

Nawr, hyd yn oed os nad yw hynny 100 y cant yn gywir, mae'r ffaith fod y bobl hyn o’r farn honno, ar sail eu profiad nhw o driniaeth yng Nghymru, ac wedi rhoi hynny mewn cylchgrawn yn y DU, yn siŵr o fod yn haeddu sylw, ac rwy’n gobeithio y bydd yn cyfiawnhau datganiad yn unol â hynny.

Rwy'n ddiolchgar bod Mark Isherwood wedi cadw’r ffydd fel y mae, gyda'r materion pwysig iawn hyn, a gododd ef gyda mi, rwy'n siŵr, nid 14 mlynedd yn ôl yn unig. Mae'n fater nid yn unig i Weinidogion iechyd a'u cyfrifoldebau, ond hefyd yn fater i Weinidogion addysg a'u cyfrifoldebau hefyd. Ein cenhadaeth yn genedlaethol yw codi safonau a pharhau i wella cyrhaeddiad pob dysgwr, ac wrth gwrs mae lefelau cyrhaeddiad plant byddar yn hanfodol. Rydym yn anelu at gyflawni hyn trwy ystod o ddiwygiadau addysgol sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol uchelgeisiol, os caiff ei basio, yn gweddnewid yn llwyr y system ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr sydd â nam ar eu clyw. A bydd pecyn gwerth £20 miliwn o gyllid yn cefnogi’r Bil a'n cynlluniau ehangach, gan gynnwys datblygu'r gweithlu. Ond mae gen i gof eto—ac rwy'n siŵr y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hyn—am y ffyrdd yr oeddem yn sicrhau, yn ein rhaglen buddsoddi cyfalaf, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddem yn edrych ar y materion hyn pan oeddem yn datblygu'r rhaglen uchelgeisiol honno, i sicrhau y gallem ystyried hyn o ran sut y gallai’r adeiladau hynny fod o gymorth. Ac mae hynny’n rhan fawr o godi ymwybyddiaeth o fyddardod ymhlith gwneuthurwyr polisi, yn ogystal ag ymhlith y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau.

Ar eich ail bwynt o ran cyflyrau prin, wel, yn sicr, rwyf wedi cyfarfod, dros y blynyddoedd, â grwpiau, fel y byddwch wedi ei wneud yma, ac yn wir â gweithwyr proffesiynol sy'n cyflawni gwaith i fynd i'r afael ag anghenion pobl â chyflyrau prin. Nid wyf yn cydnabod y datganiad hwnnw a wnaed, ond gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i sut y byddwn yn symud ymlaen i ddiwallu’r anghenion hynny.

Tua chwe wythnos yn ôl, ysgrifennodd Julie Morgan a minnau at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a chynllunio am y bygythiad i'r lleoliad cerddoriaeth fyw mwyaf bywiog yng Nghaerdydd, yn Stryd Womanby, oherwydd y bygythiad o geisiadau cynllunio ar gyfer gwesty a rhai unedau preswyl hefyd. Rwyf wrth fy modd o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a chynllunio yn ôl gyda ni nawr ar ôl anaf difrifol, a allai fod wedi newid cwrs ei bywyd, a ddioddefodd o ganlyniad i ddamwain. Ond, nawr ei bod hi yn ei hôl, rwy’n gofyn tybed a allai'r Llywodraeth wneud datganiad ynglŷn â’i gallu i gyflwyno canllawiau cynllunio newydd er mwyn sicrhau ei bod yn gwbl glir i unrhyw ddatblygwyr bod yn rhaid i asiant y newid mewn unrhyw ddatblygiad gyfarfod â’r sawl sydd wedi gwneud y cais. Oherwydd o dan y deddfau cynllunio presennol, gallai busnesau Stryd Womanby fynd i’r wal yn gyfan gwbl os yw'r ymgeiswyr hyn yn llwyddiannus, a gallen nhw wedyn fynnu bod y lleoliad cerddoriaeth fyw yn gorfod talu am fesurau seinglosio ac ati, sy’n annhebygol o fod yn effeithiol beth bynnag gan fod pobl ar y stryd yn gwneud sŵn os ydyn nhw y tu mewn neu’r tu allan i'r lleoliad. Mae bron 1,000 o swyddi mewn perygl yma, yn ogystal â miliynau o bunnoedd yn sgil twristiaeth cerddoriaeth. Felly, rwy’n holi tybed a fyddai modd inni ragweld datganiad cynnar ar sut y gallwn newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn ei gwneud yn glir y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu am gostau unrhyw liniaru sy'n deillio o ddatblygiad newydd.

Diolch i Jenny Rathbone am godi'r mater pwysig iawn hwn eto—yr ymgyrch bwysig hon a gododd Julie Morgan hefyd gyda chi. Mae Lesley Griffiths yn ôl wrth ei gwaith, ac mae hi’n dymuno cwrdd â chi i drafod y mater hwn yn sicr. Mae hi'n awyddus iawn wrth gwrs i sicrhau bod yr egwyddor o wneud asiant y newid yn gyfrifol am reoli effeithiau datblygiadau newydd yn cael ei gwneud yn eglur iawn mewn unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol i 'Bolisi Cynllunio Cymru'. Mae yno’n barod, mae wedi ei gynnwys ym 'Mholisi Cynllunio Cymru' yn barod, ond mae’n amlwg bod angen iddo fod yn gliriach. Ac rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn barod i gwrdd â chi i drafod sut y gellir datblygu hynny.

Roeddwn i’n falch iawn, rai dyddiau nôl, o weld Llywodraeth Cymru yn nodi gorsaf Llangefni fel un a allai gael ei hailagor yn y dyfodol. Mae hyn yn deillio, wrth gwrs, yn uniongyrchol o’r gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, fel Gweinidog trafnidiaeth, yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar y potensial o ailagor y lein o Gaerwen, drwy Langefni, i Amlwch—rhywbeth rwy’n gwybod a fyddai’n dod â budd economaidd mawr iawn i Ynys Môn. Rwy’n gwybod y byddwn i a Ieuan yn hapus iawn i drafod ymhellach y mater yma efo’r Llywodraeth. Ond a fyddai’n bosib cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â’r gwaith ychwanegol sydd angen cael ei wneud rŵan er mwyn gallu troi y syniad cyffrous yma yn realiti?

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydych wedi ei gydnabod, wedi cyhoeddi yn ddiweddar y flaenoriaeth fydd i 12 o orsafoedd rheilffordd newydd ledled Cymru. Gwnaed y penderfyniad hwnnw, gan asesu nifer o gynigion yn gyfochrog ag amcanion lles, fel yr eglurir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac yn amlwg nawr, mae'n ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol, partneriaid, a phawb a all symud ymlaen y cynigion ar gyfer y gorsafoedd hynny, gan gynnwys yr orsaf yn eich etholaeth chi, gyda golwg ar ystyriaeth i’r dyfodol. Felly, rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater hwn.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un yn gysylltiedig â rheoleiddio dronau ac awyrennau ysgafn? Rwyf wedi cael nifer o gwynion yn ddiweddar gan drigolion yn fy etholaeth i am ddefnydd dronau mewn ardaloedd preswyl, sy’n hofran dros erddi cefn pobl, yn ffilmio trigolion lleol, ac yn amharu ar eu preifatrwydd. Ac, yn wir, ar ben hynny, bu rhai cwynion am y defnydd o awyrennau ysgafn ar draethau sydd reit wrth ymyl y seilwaith rheilffyrdd, ac yn wir y rhwydwaith cefnffyrdd. Ac, wrth gwrs, pe byddai unrhyw un o’r awyrennau ysgafn iawn hynny yn cael damwain, yna gallai achosi problem ddifrifol ar y darnau penodol hynny o seilwaith. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd priodol y Cabinet am y ffordd y gallwn reoleiddio’r rhain orau, gan barhau i ganiatáu pobl i’w defnyddio at ddibenion hamdden.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad am yr hawl i weld meddygon teulu? Gwn fod fy nghydaelod Mohammad Asghar hefyd wedi codi’r mater hwn, ond cyhoeddodd Cynhadledd Genedlaethol Pensiynwyr Cymru adroddiad yn ddiweddar ar yr hawl i dderbyn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru, a chanfuwyd bod problemau sylweddol o ran gallu cael apwyntiad mewn rhai meddygfeydd.  Roedd hyn yn bennaf oherwydd anghysondeb yn y trefniadau gwneud apwyntiad. Yn ôl yr adroddiad, er bod rhai meddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar y diwrnod yn unig, roedd eraill yn caniatáu i bobl wneud apwyntiadau ymlaen llaw, ac yn cynnig dull mwy hyblyg, a oedd yn ymddangos yn llawer mwy hwylus i gleifion, o ran eu profiadau yn gleifion. Felly, rwy’n credu ei bod yn hen bryd inni gael datganiad am hawl i weld meddygon teulu, a sut mae gwella hynny ar y cyfan, a byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai un yn cael ei drefnu.

O ran pwysigrwydd yr hawl i gael apwyntiad â meddyg teulu, rwy’n credu fy mod eisoes wedi sôn am hynny wrth ymateb i gwestiwn cynharach. Ond rwy'n credu bod y newidiadau i gontract y meddygon teulu am 2017-18 yn bwysig, o ran y ffyrdd y gallen nhw ddarparu ar gyfer gwasanaethau newydd, gwell, a hefyd i ddatblygu'r fframwaith ansawdd a chanlyniadau, sef lle y mae angen gweld cysondeb o ran darpariaeth.  Mae hynny, wyddoch chi, yn mynd i ryddhau amser i weld meddygon teulu, a hefyd yn rhoi mwy o gyfle i weld nyrsys practis, sydd, mae'n rhaid i ni gofio, yr un mor bwysig o ran y tîm gofal sylfaenol a'r gwasanaethau a ddarperir. Hefyd, mae'n golygu y gall cleifion gael eu trin gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i’w hanghenion. Felly, mae'r rhain yn faterion yr ydym yn mynd i’r afael â nhw o ran gwasanaethau meddygon teulu, wrth gwrs.

O ran eich cwestiwn cyntaf, byddaf yn amlwg yn mynd ag ef yn ei ôl ac yn nodi pa Ysgrifennydd Cabinet sydd yn briodol i ateb eich cwestiwn pwysig—yn wir, a oes gennym bwerau o gwbl o ran defnydd dronau a'r effaith o ran yr ymosodiad, os hoffech chi, ar leoedd preifat, a'r defnydd a wneir ohonyn nhw hefyd.

A allem ddod o hyd i amser i gael datganiad ar effaith niweidiol y toriadau sy’n cael eu gwneud i bolisïau lles a hyrwyddo ffyniant Llywodraeth Cymru—toriadau sy’n bodoli eisoes a thoriadau sy’n bosibl yn y dyfodol— i daliadau anabledd yng nghymoedd y de a ledled Cymru? Daeth gostyngiad o £30 yr wythnos i’r rheini sy’n hawlio’r lwfans cyflogaeth a’r lwfans cymorth o’r newydd i rym fis diwethaf. Felly bydd pobl anabl sy’n cael eu rhoi mewn grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith nawr yn cael £73 yr wythnos. Os caf ailadrodd hynny: £73 yr wythnos. Fyddwn i ddim yn gallu byw ar hynny, a hefyd ymdopi â'r heriau a'r costau ychwanegol sydd gan bobl anabl. Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud y bydd y gyfradd is hon o gymorth, yn ei geiriau hi,

i annog pobl anabl i ddod o hyd i waith.

Eto i gyd, mae dros 30 o elusennau anabledd awdurdodol wedi dweud nad oedd y toriadau yn gymhelliad i weithio o gwbl, ond eu bod yn gwneud bywyd yn fwy anodd i bobl anabl sy'n wynebu costau byw ychwanegol, a’u bod yn golygu na fydd rhai pobl yn gallu fforddio pethau angenrheidiol sylfaenol. Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Prif Weinidog ddiystyru toriadau pellach i lwfansau pobl anabl. Felly os yw pethau'n ddrwg ar hyn o bryd, allwn ni ond dychmygu sut y gallai pethau fod pe bai Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol am y pum mlynedd nesaf. Felly, a gawn ni ddatganiad i roi goleuni ar effeithiau’r cosbau hyn ar bobl anabl, a'r canlyniadau i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli a'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw?

Rwy'n ddiolchgar iawn bod Huw Irranca-Davies wedi tynnu ein sylw ni at hyn yn y Siambr heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn sicr yn rhinwedd fy swydd etholaethol, fod pobl yn dod ataf bellach sy’n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i’r toriadau pellach i fudd-daliadau lles, sy’n effeithio’n arbennig ar bobl anabl o 1 Ebrill—pobl sy'n cael ei chael hi’n anodd ac sy'n colli eu hawl i Motability, er enghraifft, ac yna mae disgwyliadau anghyson arnynt, na ellir eu cyflawni, a’r cyfan yn lleihau lefelau eu hincwm. Rydym yn dal i fod yn bryderus iawn am newidiadau Llywodraeth y DU i hawlwyr lwfans cyflogaeth a chymorth sydd wedi’i neilltuo i’r grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni. Bydd hyn yn gweld hawlwyr newydd yn cael tua £29 yr wythnos yn llai na hawlwyr presennol, ac mae'n rhaid cofio mai sut fydd toriadau ar hawlwyr newydd—. Ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif yr effeithir ar 500,000 o deuluoedd ym Mhrydain Fawr yn y tymor hwy. Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 35,000 o’r hawlwyr yr effeithir arnyn nhw yn byw yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymoedd y de, yn enwedig y rhai yr effeithir arnyn nhw gan gyfraddau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth uwch nag yng Nghymru benbaladr. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cymryd camau i helpu pobl i reoli effeithiau newidiadau budd-daliadau lles gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i ddadansoddi effeithiau toriadau o'r fath a monitro'r effeithiau hynny. Mae’n hanfodol rhoi rhagor o arian yn ein gwasanaethau cynghori, undebau credyd a'r gwasanaethau cefnogi, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn i ni ddwyn hyn i'r datganiad trafodaeth ehangach gan Ysgrifennydd y Cabinet; byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Siambr hon ac i'r Cynulliad.

Tri maes yn gryno, os caf i, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, a gaf i gefnogi galwad Mark Isherwood yn gynharach am ddatganiad ar gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i glefydau prin yng Nghymru? Rwy'n credu i chi grybwyll fasgwlitis, maes pryder sy’n agos at fy nghalon i. Mae llawer o’r rhai sy’n dioddef o afiechydon prin yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Mae'n naturiol i glefydau mawr—canser, clefyd y galon—gael y gyfran fwyaf o’r cyllid, ond dros gyfnod o amser rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn anfon neges glir at ddioddefwyr clefydau prin bod rhywun yn meddwl amdanyn nhw a bod polisi yn cael ei ffurfio o’u hamgylch nhw hefyd. Felly, os caf i ofyn am hynny.

Yn ail, rwy’n credu bod chwe mis nawr ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wneud datganiad—roedd naill ai yn ysgrifenedig neu ar lafar—i'r Siambr hon ar roi sêl bendith ar y ganolfan arbenigol a gofal critigol yn Ysbyty Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Rwy'n credu mai 2022 oedd y dyddiad a roddwyd ar gyfer cwblhau’r prosiect hwnnw. A gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf a yw hynny’n mynd yn ei flaen yn iawn ai peidio a beth yw'r diweddaraf am hynny, oherwydd mae pryderon gan swyddogion iechyd mewn sefydliadau iechyd? Byddwn yn ddiolchgar am hynny.

Yn olaf, roeddwn yn gyrru ar hyd ffordd Blaenau'r Cymoedd ger Gilwern ar y penwythnos, ac mae'n dda gweld bod honno’n dod yn ei blaen. Dyna ddarn gwych o ffordd, ac mae llawer o fanteision economaidd yn bosibl o gwmpas y fan honno. Gallaf weld bod yr Aelod dros Flaenau Gwent yn nodio’n frwdfrydig wrth iddo glywed hynny. Fodd bynnag, dim ond i lawr y ffordd o'r A465, Blaenau'r Cymoedd, mae’r A40 sy'n cysylltu’r Fenni â Rhaglan ac â Threfynwy yn fy etholaeth i. Mae hon yn hen ffordd â wyneb concrid ac yn achosi llawer o drafferth i gymudwyr a hefyd lawer o drafferth i’r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd cyfagos. Felly, os ydym am gael darn gwych o ffordd lan ar Flaenau'r Cymoedd, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr cael darn o seilwaith ffordd gwael yn bwydo i mewn iddo. Felly, tybed a fyddai modd inni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar drafnidiaeth a sut y mae'n bwriadu adeiladu ar ddatblygiad Blaenau'r Cymoedd a gwneud yn siŵr bod safon y rhwydwaith ffyrdd cyfagos hefyd yr un mor dda.

Wel, Nick Ramsay, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yn eistedd yma yn gwrando ar eich dau gwestiwn cyntaf. Ymatebais i’r cwestiwn ar glefydau prin a’r flaenoriaeth a rown i hynny, ond hefyd sut mae pethau’n datblygu o ran y ganolfan gofal critigol. Ydy, mae'n wych gweld y darn o ffordd ym Mlaenau'r Cymoedd a bod mwy o arian i ddod trwy gyllid arloesol i’w gwblhau, fel y dywedodd Vikki Howells yn gynharach heddiw, Ond hefyd, wrth weld yr arwydd, y byddwch chi wedi ei weld, yn dweud 'Wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd', mae’n amlwg i mi na fyddai'r ffordd honno’n cael ei hadeiladu heb i ni fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, a chyda cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, mae hynny wedi cael effaith enfawr o ran yr economi yng Nghymru a mynediad i’ch etholaeth chi. Ac yna, wrth gwrs, Nick Ramsay, fe wnaethoch chi sôn am y ffyrdd sy’n dod oddi ar yr A465. Mae hynny'n fater o waith a phartneriaeth gyda'ch awdurdod lleol.

3. Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

Diolch i arweinydd y tŷ. Yr eitem nesaf yw’r cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 12.73 ac 11.16 i ganiatáu i’r ddadl fer a drefnwyd ar gyfer 17 Mai i gael ei thrafod fel yr eitem olaf o fusnes heddiw. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6313 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.73 ac 11.16 er mwyn caniatáu i Ddadl Fer NDM6307, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 16 Mai 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw i atal dros dro y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 3. Datganiad: Gofal Diwedd Oes

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ofal diwedd oes. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 14:47:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Llywydd. Ar 27 Mawrth eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflenwi Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes' wedi’i ddiweddaru. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bobl ymagwedd iach, realistig at farw, a’u bod yn gallu cynllunio'n briodol ar gyfer y digwyddiad. Hoffem i bobl allu treulio eu dyddiau olaf yn y lleoliad o'u dewis, boed hynny gartref, mewn ysbyty neu mewn hosbis, a hoffem sicrhau bod gofal o safon uchel ar gael iddynt lle bynnag y maent yn byw ac yn marw, beth bynnag yw’r clefyd neu’r anabledd sydd arnynt.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r cynllun hwn yn ymdrin â phob agwedd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes, wedi’i ddarparu gan y sectorau sylfaenol ac eilaidd, ac mae’n cynnwys gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol wedi’u darparu gan y GIG a darparwyr y trydydd sector. Mae’r gofal hwn hefyd yn cydnabod anghenion pobl sy'n mynd drwy brofedigaeth. Mae'n adeiladu ar lwyddiant y cynllun cyntaf. Mae wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau strategol a deddfwriaethol diweddaraf ac mae wedi cryfhau adrannau plant a phobl ifanc ac ymchwil.

Rydym yn gwybod bod gofal ar ddiwedd oes wedi gwella'n fawr ers cyhoeddi'r cynllun cyntaf ar ddarparu gofal diwedd oes yn 2013. Mae ymgynghorwyr meddygaeth liniarol ar gael nawr ar alwad 24/7 ledled Cymru i roi cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol eraill, ac i ymweld â chleifion pan fo angen, sy’n gwella’r gwasanaeth a ddarperir gan arbenigwyr nyrsio clinigol ar benwythnosau. Ac mae cefnogaeth nawr ar gael i dimau nyrsio clinigol arbenigol i weithio saith diwrnod yr wythnos mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Mae hyn wedi darparu cefnogaeth werthfawr i staff rheng flaen ar benwythnosau, gan alluogi cleifion sy'n cyrraedd yr ysbyty ag anghenion gofal diwedd oes i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty pan fo hynny’n briodol a chaniatáu i gleifion sydd ag anghenion cymhleth aros gartref.

Mae arian hefyd wedi ei ddarparu i wella mynediad at ddarpariaeth hosbis yn y cartref, ac rydym wedi cyflwyno cofrestri lliniarol gofal sylfaenol fel bod gan bob meddygfa deulu gofrestr o'r holl gleifion ag anghenion gofal cefnogol neu liniarol. Mewn cydweithrediad â hosbis plant Tŷ Hafan, rydym wedi sefydlu gwasanaeth cynghori y tu allan i oriau 24 awr dros y ffôn ar gyfer gofal lliniarol pediatrig, sydd nawr ar gael ledled Cymru.

Mae marw, wrth gwrs, yn ddigwyddiad anochel. Er fy mod yn llwyr sylweddoli nad yw'n bwnc y mae llawer o bobl yn gyfforddus i siarad amdano, mae'n hanfodol bod pobl yn gadael i’w hanwyliaid wybod sut y maen nhw’n dymuno treulio eu dyddiau olaf pan ddaw'r amser. Mae cynllunio ar gyfer diwedd bywyd drwy gael sgyrsiau agored yn gallu arwain at farwolaeth well ac yn sicr yn gallu helpu'r broses alaru i’r rhai a adawyd ar ôl.

Yr wythnos diwethaf, es i i gynhadledd Byw Nawr ac roeddwn yn falch o lansio, yn swyddogol, y wefan newydd ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw. Heddiw, mae pobl yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o'u gwybodaeth ar-lein a bydd yn amhrisiadwy i fod â’r adnodd hwnnw ar flaenau eu bysedd ar y rhyngrwyd. Rydym hefyd wedi darparu £150,000 i hyfforddi staff mewn sgiliau cyfathrebu uwch a gofal diwedd oes. Mae hyn wedi galluogi cydweithwyr i ddechrau a rheoli sgyrsiau am salwch difrifol â chleifion, teuluoedd a gofalwyr. Mae'r bwrdd gweithredu gofal diwedd oes, fodd bynnag, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn goruchwylio cyflawni'r cynllun. Fel sy'n wir am bob un o'n cyflyrau iechyd difrifol, mae'r bwrdd yn derbyn £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi eu blaenoriaethau a nodwyd.

Yn rhan o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru, dyrannodd Llywodraeth Cymru £1 filiwn ychwanegol ar gyfer eleni, i wella darpariaeth gofal diwedd oes ymhellach. Mae'r bwrdd wedi nodi dros dro y defnyddir y cyllid hwn i geisio sefydlu dull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes, ar gyfer telefeddygaeth, i gyflwyno mwy o’r hyfforddiant am sgyrsiau am salwch difrifol i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cofnod Cymru gyfan ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw, ac i fwrw ymlaen â blaenoriaethau ymchwil a chefnogi clystyrau meddygon teulu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu tua £6.4 miliwn o gyllid i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol a ddarperir gan hosbisau a byrddau iechyd ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn adlewyrchiad o ba mor bwysig yw gofal diwedd oes i Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol bod unigolion yn cael y gofal gorau posibl yn y lleoliad o'u dewis yn eu dyddiau olaf.

Mae adborth uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am wasanaethau gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru wedi dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, bod y gwasanaethau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl yn eu dyddiau olaf. Yn ystod 2015-16, roedd 93 y cant o'r ymatebion i'r arfarniad cleifion iWantGreatCare o'u profiad o ofal lliniarol arbenigol yn gadarnhaol. Roedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru yn 9.5 allan o 10 ar draws pob maes. Ni fyddai hyn yn bosibl, wrth gwrs, heb ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu. Felly, hoffwn oedi nawr i gydnabod gwaith ein clinigwyr, ein nyrsys a’n haelodau staff eraill sy'n darparu gofal i bobl ar ddiwedd eu hoes. Go brin bod llawer o swyddi sy’n fwy heriol yn emosiynol, ond eto mor angenrheidiol. Rwy’n siŵr y gwnaiff Aelodau ar draws y Siambr ymuno â mi i gydnabod ein staff a diolch iddynt am eu gwaith.

Ond, mae marw yn fater cymdeithasol. Mae pa mor dda yr ydym yn gofalu am bobl sy'n marw yn adlewyrchu ar ba mor ofalgar yr ydym fel cymdeithas. Mae datblygiadau mewn meddygaeth a thriniaeth fodern wedi arwain at boblogaeth sy'n tyfu, ac sy’n byw'n hwy â chlefydau na ellir eu gwella. Mae'n hanfodol darparu gofal diwedd oes a gofal lliniarol da ledled Cymru. Datblygwyd y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes diweddaraf drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y bwrdd gweithredu, y gwasanaeth iechyd gwladol, cyrff proffesiynol a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni canlyniadau cyflymach sy’n cael mwy o effaith. Dylai pawb ohonom gydnabod bod yr heriau sydd o'n blaenau yn niferus ac yn sylweddol, ond gallwn edrych ymlaen at y dyfodol gydag ymdeimlad ein bod yn rhannu cyfeiriad a hyder.

Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Materion sy’n Ymwneud â Marw 2017, ac mae’n rhoi pwysigrwydd siarad am farw, marwolaeth a phrofedigaeth yn gadarn ar agendâu Cymru a’r DU—rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol a'r grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth. Yr amcangyfrif yw bod 32,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, felly mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar rhwng 160,000 a thraean o filiwn o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a llawer o’r rheini’n agored i broblemau ychwanegol difrifol—hunanladdiad, unigrwydd, ynysu cymdeithasol, pryder, iselder a phroblemau cymdeithasol yn amrywio o stigma i golli swydd.

Ond mae'r rhan fwyaf o ofal diwedd oes yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan hosbisau ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys unedau cleifion mewnol a gwasanaethau hosbis yn y cartref. Gallai'r GIG ddysgu gwersi gan hosbisau ac yn enwedig ynglŷn ag integreiddio gwasanaethau gofal yn y cartref, yr ysbyty cymunedol a’r hosbis. Rwyf wedi bod yn gofyn i Weinidogion iechyd olynol ac i’n Hysgrifennydd iechyd yma ers blynyddoedd lawer i sicrhau bod GIG Cymru yn dechrau gofyn i'n mudiad hosbisau cymunedol gwych sut y gall ei helpu i gyflawni mwy â’r adnoddau sydd ar gael—mewn iaith fodern, cynllunio, darparu a chyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda nhw—ac mae gormod yn dal i deimlo nad yw hynny'n digwydd. Tybed a allech chi ymateb i'r pwynt hwnnw?

Mae Hosbisau Cymru, fel y byddwch yn gwybod, yn cael cyllid wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru drwy awdurdodau iechyd dros gyfnod o dair blynedd. Ond mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben yn 2018. A allwch chi roi sicrwydd iddynt a fydd y cyllid hwnnw’n parhau i gael ei neilltuo ar ôl i’r cyllid presennol ddod i ben, oherwydd mae angen iddyn nhw wybod er mwyn gallu blaengynllunio? Os na, a allwch chi roi syniad o ba bryd y gallech chi roi’r sicrwydd hwnnw, neu o leiaf wybodaeth?

Mae hosbisau yng Nghymru yn cael 16 y cant i 20 y cant, sy’n llawer llai o gyllid y Llywodraeth—cyllid Llywodraeth Cymru a GIG Cymru hynny yw—na rhai cyfatebol yn Lloegr a'r Alban. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at loteri cod post o ran gwasanaethau hosbis; mae’r gofal sydd ar gael yn amrywio rhwng gwahanol rannau o Gymru. Pryd y gwnaiff Llywodraeth Cymru gydnabod o’r diwedd, yng nghyd-destun fy nghwestiwn blaenorol, y byddai trafod, cynllunio a chyflawni gyda nhw ar sail gyllido fwy cytbwys, yn creu sefyllfa well i bawb, ac mai dyna sut i gyflawni mewn amgylchedd cyllidebol llym?

Mae'r bwrdd gweithredu diwedd oes, fel yr ydych yn ei nodi, wedi cael dyraniad o £1 filiwn ychwanegol yn 2017-18, ac un o'r meysydd a nodwyd dros dro ar gyfer hynny yw datblygu dull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes. Ddau fis a hanner yn ôl, es i i’r ddarlith Marie Curie am ddull Cymunedau Tosturiol ar gyfer gofal diwedd oes, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl sy’n agos at ddiwedd eu hoes i aros yn eu cymunedau drwy ddefnyddio egwyddorion hybu iechyd a datblygu cymunedol a darparu cymorth i bobl sy'n marw a phobl sydd wedi cael profedigaeth. Sut, felly, ydych chi’n ymateb, nid dim ond ynglŷn â chyfran dros dro o £1 filiwn am flwyddyn, ond i'r alwad gan Marie Curie i Gymru ddod yn genedl dosturiol, gan ddilyn model Cymunedau Tosturiol sydd wedi cael ei ddatblygu’n llwyddiannus mewn nifer o drefi a chymunedau ledled y byd, gan gynnwys, rwyf ar ddeall, Frome yng Ngwlad yr Haf? Nid yw'n fater o fwy o arian; mae'n fater o ddefnyddio'r arian sydd eisoes yn bodoli yn ddoeth er mwyn gwella canlyniadau a bywydau.

Sut ydych chi’n ymateb i'r galwadau gan Age Cymru ynglŷn â gofal diwedd oes am i Lywodraeth Cymru ddarparu cyfeiriad ar gydweithio effeithiol rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i sicrhau mynediad cyfartal i bobl hŷn at ofal hosbis, ac am i Lywodraeth Cymru wneud gwaith monitro cadarn ar weithredu, cyflawni a chanlyniadau ei chynllun cyflawni gofal diwedd oes lliniarol er mwyn penderfynu a yw'n cyflawni gwelliannau gwirioneddol i ofal lliniarol a gofal diwedd oes ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru? Sut y byddech chi’n ymateb i alwadau Macmillan am inni nodi pobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes ac a fyddai'n elwa ar gymorth gwasanaethau gofal lliniarol, fel y gellid cychwyn trafodaethau cynnar am eu gofal, i gofnodi dewis pobl ynglŷn â lle i farw yn gynnar ac i gydgysylltu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—

[Yn parhau.]—i sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal a marw’n dda yn y man o'u dewis?

Hwn yw fy nghwestiwn olaf, felly diolch ichi am ganiatáu hyn. Mae Hosbisau Cymru yn cefnogi'r ddogfen 'Uchelgeisiau ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes: Fframwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu lleol 2015-2020', a luniwyd gan y bartneriaeth gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn Lloegr ar draws yr holl sectorau, ac mae ganddi uchelgeisiau i bob unigolyn gael ei weld fel unigolyn, cael mynediad teg at ofal, cydgysylltu gofal a llawer mwy. Sut ydych chi’n ymateb i'w galwad am i’r model hwn ddod yn fwy integredig yng nghynllun darparu gofal diwedd oes Cymru fel y gallwn ni i gyd ddysgu gan ein gilydd ac elwa gyda'n gilydd?

Diolch am y gyfres o gwestiynau; rwy'n ymwybodol bod yr Aelod wedi eu codi ar sawl achlysur yn y gorffennol. Mae ganddo ddiddordeb cyson yn y maes hwn, fel yr wyf yn siŵr bod pawb yn sylweddoli. Wrth gwrs, roedd wythnos materion sy’n ymwneud â marw yr wythnos diwethaf, ac es i i gynhadledd Byw Nawr i siarad â nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud, gan gydnabod y gwaith y maen nhw wedi’i wneud i hyrwyddo hyn fel sgwrs fwy cenedlaethol a naturiol i’w chael. Mae mwy o waith i'w wneud gyda nhw, ond mae mwy o waith, a dweud y gwir, i'w wneud ymhlith pawb ohonom yn y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.

Yn sicr, nid wyf yn tanbrisio cyfraniad y mudiad hosbisau a'r amrywiaeth o hosbisau ledled y wlad, sef prif bwyslais y sylwadau a'r cwestiynau a wnaethpwyd. Ac, a dweud y gwir, bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod am hosbis leol y mae eu hetholwyr yn mynd iddi, os nad oes ganddynt hosbisau yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, ac rwyf wedi ymweld yn rheolaidd â nifer o hosbisau yn y swyddogaeth hon, ond mae gen i hefyd ddwy o fewn fy etholaeth fy hun. Felly, rwy’n deall yn iawn y rhan y maent yn ei chwarae wrth ymgysylltu â chlinigwyr, wrth ymgysylltu â'r cyhoedd wrth gynllunio a darparu gofal o gwmpas rhywun er mwyn diwallu ei anghenion yn well. Un o'r camau gwirioneddol bwysig ymlaen yn ystod oes y cynllun diwethaf, sydd yn mynd i gael ei barhau yn yr un nesaf, yw hyrwyddo'r mudiad Hosbis yn y Cartref fel nad oes angen i bobl fynd i mewn i hosbis, o reidrwydd, ond darparu’r gofal hosbis hwnnw yn y cartref, ac mae camau mawr ymlaen wedi eu gwneud. Yn wir, yn y ffordd y mae'r gofal yn cael ei gomisiynu, mae'n rhan reolaidd o'r hyn y mae byrddau iechyd yn ei wneud, a bydd hynny’n aros gyda ni, ond mae hosbisau’n rhan bwysig o ddylunio a chyflawni’r cynllun hwn, ac nid wyf o reidrwydd yn rhannu ymagwedd ac asesiad eithaf pesimistaidd yr Aelod ynglŷn â chyfraniad y mudiad hosbisau, i gynllunio’r strategaeth hon, a bod yn rhan o'r ffordd y caiff ei chyflawni, ond hefyd i ddeall natur lwyddiannus ei heffaith ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes.

O ran y materion ariannol a godwyd, wel, fel yr wyf wedi’i nodi, mae'r £1 filiwn yn mynd i bob un o'r cynlluniau cyflyrau difrifol, ac mae hwn yn un ohonynt. Mae £1 miliwn yn cael ei ddyrannu’n gylchol, a nodais yn fy nghyfraniad y swm sylweddol, y £6.4 miliwn, sy'n cael ei wario’n gylchol yn y maes hwn. Rwy’n ymwybodol o'r materion yn Frome y mae’n sôn, amdanynt, am y dull Cymunedau Tosturiol, ac mae llawer o ddysgu wedi’i wneud, gan swyddogion y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, a'r trydydd sector, o weld yr hyn sydd wedi digwydd yn y gymuned benodol honno, ac mae'n rhywbeth inni adeiladu arno yma yng Nghymru. Ac rwy’n edrych ymlaen at gael y sgwrs barhaus y byddaf yn ei chael gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a’i holl aelodau a chefnogwyr, ynglŷn â sut yr ydym yn datblygu nid dim ond cymunedau tosturiol ond, yn y pen draw, inni fod yn genedl fwy trugarog.

Rwy’n mynd i ddiweddu gyda'ch pwynt ynghylch canlyniadau a chyflawni, oherwydd rhan o gryfder y dull cynllun cyflawni y byddwn yn ei ddefnyddio yw ein bod yn cymryd mater pwysig iawn, ac yn dod â phobl o’r Llywodraeth, o'r gwasanaeth iechyd, ac o'r trydydd sector at ei gilydd, ynghyd â chlinigwyr unigol sy'n arweinwyr yn eu maes. Ac mae tensiwn adeiladol a defnyddiol yno sy'n cael ei greu, o ran deall blaenoriaethau a chytuno arnynt, ac wedyn o ran bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hynny. Ac mae'r mecanwaith adrodd sy'n digwydd yn un agored a didwyll, ac ar adegau bydd pob un o'r cynlluniau cyflawni a'u byrddau cyflawni cysylltiedig yn cydnabod nad ydym wedi gwneud yr holl gynnydd y byddem fel arall wedi dymuno ei wneud. Rwy’n disgwyl yr un broses yn union yn y fan yma: adroddiadau gonest yn dod i mewn am yr hyn yr ydym wedi ei wneud ac nad ydym wedi ei wneud, ac yna sut yr ydym yn ailosod ein blaenoriaethau i edrych ymlaen at y dyfodol.

A gaf i ddiolch am y datganiad a diolch, hefyd, wrth gwrs, am yr holl waith mae staff a gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth iechyd a’r trydydd sector yn ei wneud yn darparu gofal diwedd bywyd a gofal lliniarol ar draws Cymru? Nid ydw i’n meddwl bod yna lawer yn newydd, mewn difri, yn y datganiad heddiw, fel y cyfryw—er ei bod hi wastad yn ddefnyddiol cael diweddariad—felly, o bosib, a gaf i gyfeirio at beth ddylai ddigwydd yn llygaid un o’r grwpiau sy’n ymwneud â’r maes yma, sef Age Cymru? Mi restraf i ychydig o’r gofynion sydd ganddyn nhw.

Maen nhw am i ofal lliniarol a gofal diwedd bywyd fod yn rhan cwbl ganolog o gynllunio gofal ar gyfer y rheini sydd â chyflyrau cronig a hirdymor. Maen nhw eisiau gwell cydlynu rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i roi cyfle cyfartal i bawb yn ein poblogaeth oedrannus ni i gael mynediad at ofal hosbis. Maen nhw eisiau i ofal diwedd bywyd sy’n cael ei gomisiynu gan fyrddau iechyd lleol gynnwys gofal cynhwysfawr ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal. Maen nhw eisiau i bob sefydliad a gweithiwr proffesiynol gael yr hyfforddiant angenrheidiol a sicrhau dilyniant yn yr hyfforddiant yna drwy eu bywydau proffesiynol nhw. Maen nhw eisiau i orchmynion ‘Do not attempt resuscitation’ neu orchmynion i roi’r gorau i fwydo neu i roi diod beidio â chael eu cymryd heb ymgynghoriad llawn efo’r teulu neu ofalwyr eraill. Yn olaf, maen nhw eisiau sicrwydd o fonitro gofalus iawn o weithredu a chanlyniadau’r cynllun diwedd bywyd i sicrhau ei fod o yn delifro gwell gofal. Felly, er ein bod ni mewn sefyllfa lle mae yna gamau wedi’u cael eu rhoi mewn lle gan y Llywodraeth, mae yna, yn amlwg, fwy o ofynion gan y rheini sy’n ymwneud â’r maes yma.

Felly, tri chwestiwn yn deillio o hynny. Un: a ydych chi’n anghytuno efo unrhyw un o’r argymhellion yna? Os nad ydych chi, pa bryd y gallwn ni gael sicrwydd y bydd y rheini wedi cael eu gweithredu? Yn ail, mae’r adroddiad blynyddol yn sôn am welliannau mewn gofal lliniarol i blant—mae hynny, wrth reswm, i’w groesawu—ond mae yna lawer gormod o blant sy’n methu â chael treulio cyfnod olaf eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain. A ydych chi'n cytuno bod yna waith i’w wneud yma? A ydych chi’n cydnabod bod angen cryfhau gwasanaethau hefyd i gefnogi’r brodyr a’r chwiorydd sydd wedi mynd drwy eu colled nhw? Yn olaf, mae gwasanaethau grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu hadnabod yn benodol gan Marie Curie fel rhai sydd angen eu gwella. Beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud am hyn yn benodol?

Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. O ran y blaenoriaethau y mae Age Cymru yn eu nodi, mae llawer o'r rheini eisoes wedi’u cynnwys yn y gwaith yr wyf wedi amlinellu bod y bwrdd yn bwrw ymlaen ag ef. Rhan o gryfder y gwaith yr ydym yn ei wneud yw bod gennym y trawstoriad gwirioneddol hwnnw o bobl sydd â diddordeb uniongyrchol yn y maes yn gosod rhestr gytunedig o flaenoriaethau. Yr anhawster fel arall yw y gallai gwahanol geisiadau o bosibl gael eu gwneud yn ystod y flwyddyn ac nad oes ymagwedd wirioneddol drefnus at welliant, ond rwy’n meddwl bod y rhestr yr ydych wedi’i nodi—fel y dywedais, maent wedi’u cynnwys yn y cyfraniad yr wyf eisoes wedi’i wneud wrth agor y ddadl hon, ond hefyd yn y blaenoriaethau y mae'r bwrdd wedi’u gosod ar ei gyfer ei hun yn y flwyddyn sydd i ddod.

O ran yr ail fater penodol a godwyd gennych, ynghylch gofal lliniarol pediatrig, roedd pryder ynghylch pa un a gafodd hyn ei ystyried yn briodol wrth symud ymlaen. Cwrddais â grŵp o glinigwyr gofal lliniarol pediatrig, ac roedd yn sgwrs adeiladol iawn. Rwy'n meddwl eu bod wedi symud ymlaen, a’u bod mewn lle llawer gwell erbyn hyn o ran deall a derbyn bod eu problemau’n cael eu hystyried yn briodol, ac roedd cam pendant ymlaen yn y fersiwn hon o'r cynlluniau. Felly, mae cynnydd wedi’i wneud.

Ond yn y maes hwn a phob un arall—bron bob maes yr wyf yn mynychu’r Siambr hon i siarad amdano—mae mwy i'w wneud bob amser, a mwy y gallem ei wneud bob amser. Mae angen bod yn onest am hynny hefyd. Mae hynny'n cynnwys cymorth mewn profedigaeth, rhywbeth arall a nodwyd yn fy nghyfraniad agoriadol fel maes i’w wella ar gyfer y teulu sy'n cael ei adael ar ôl. Mae hynny'n rhan o'n her. Dyna hefyd pam yr ydym yn cael sgwrs genedlaethol am hyn, a pham y dylem gymryd y cyfle i ddefnyddio amser yn y Siambr hon i barhau i wneud hynny. Os nad ydym yn normaleiddio’r sgwrs yn y lle hwn am bwysigrwydd hynny, rydym yn annhebygol o gael sgwrs genedlaethol sy'n cael ei chynnal mewn rhan ehangach o’n cymdeithas, fel ei bod yn sgwrs arferol sy'n digwydd am yr hyn yr ydym ei eisiau.

Dyna hefyd pam mae’r wefan cynlluniau gofal ymlaen llaw wedi ei lansio, ac mae sicrhau bod pobl yn cael y sgwrs honno ar adeg pan y gallant wneud dewisiadau—dewis llawer mwy gweithredol—am yr hyn y byddai ei eisiau arnynt yn beth pwysig iawn i'w wneud, oherwydd mae llawer o bobl yn gwybod eu bod yn dod at ofal diwedd oes. Mae'r holl bobl hynny sydd ar gofrestrau gofal diwedd oes ac yn cael gofal lliniarol mewn gofal sylfaenol—dylid gwneud ymdrechion i wella a chynyddu nifer y bobl sydd wedi mynd ymlaen mewn gwirionedd a bod cynllun gofal ymlaen llaw wedi ei lunio gyda chyfraniad gweithredol ganddyn nhw. Gwnaethom gynnydd gwirioneddol y llynedd, gan wella nifer y bobl sydd â’r math hwnnw o gynllun, ond rydym yn deall mai dim ond ychydig dros draean o’r bobl sydd ar gofrestr gofal sylfaenol sydd â chynllun gofal ymlaen llaw wedi ei sefydlu ar hyn o bryd. Felly, cynnydd sylweddol y llynedd, ie, ond llawer mwy i'w wneud fel bod pobl mewn sefyllfa lle y gallant gael y gofal sydd ei eisiau arnynt ar ddiwedd eu hoes.

Yn olaf, ar eich pwynt am gymunedau o darddiad du ac Asiaidd yng Nghymru, ceir her wirioneddol yn y fan yma am y math o ofal yr hoffent ei gael. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â natur wahanol y cymorth gan deuluoedd sy'n bodoli yn rhai o'r cymunedau hynny, a'r ffordd y maen nhw’n teimlo am ofalu am berthynas. Mae rhywfaint ohono hefyd yn waith yr oedd Marie Curie eu hunain wedi ei wneud. Es i i lansiad y gwaith, ar y cam ymgynghori i ddechrau, ac yna ar adeg yr adroddiad terfynol. Maen nhw’n cydnabod, a dweud y gwir, bod angen i'r mudiad hosbisau, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd, wneud mwy i hyrwyddo'r cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gofal diwedd oes ac i bobl wneud dewisiadau gwahanol. Mae yna rywbeth am y gwasanaeth iechyd a'r hosbis sy'n darparu llawer o’r gofal hwnnw i fod yn fwy rhagweithiol a mynd allan i nifer o’r cymunedau hynny nad ydynt yn cymryd rhan ac nad ydynt yn manteisio ar ofal lliniarol fel y mae cymunedau eraill yn ei wneud, i ddweud, 'Mae hyn yn ddewis'. Rwy'n falch o weld eu bod yn cydnabod bod ganddynt broblem a’u bod yn awyddus i wneud rhywbeth am hynny, ac yn sicr mae gennyf ddiddordeb mewn gweld hynny’n digwydd a, dros gyfnod y cynllun hwn, efallai mewn gweld mwy o bobl mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru yn manteisio ar ofal lliniarol ac yn gwneud dewisiadau gweithredol am eu dyddiau olaf.

Rwy’n datgan budd yn y pwnc hwn gan fy mod yn is-lywydd Gofal Hosbis George Thomas, sydd wedi’i leoli ar dir ysbyty’r Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd. Mae’n darparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer Caerdydd i alluogi pobl i fyw yn eu cartrefi a chadw eu hannibyniaeth am gyn hired ag y bo modd. Rwy'n credu ei fod yn enghraifft o waith partneriaeth da rhwng y sector gwirfoddol a'r sector statudol, rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol. Ac, hefyd, rwy’n credu yr hoffem i gyd dalu teyrnged i fuddsoddiad hir-sefydlog y sector gwirfoddol yn y mudiad hosbisau y tyfodd hwn ohono.

Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn gynllun pwysig iawn, y cynllun cyflawni gofal lliniarol a gofal diwedd oes, ac yn gynllun hollbwysig, a hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ilora, y Farwnes Finlay, sydd wedi bod mor allweddol i’r cynllun hwn ac sy'n ymddiswyddo fel arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes ym mis Gorffennaf. Rwyf wedi gweithio am nifer o flynyddoedd gydag Ilora, ac rwy'n meddwl ei bod wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r maes gwaith hwn.

Un o'r materion yr wyf yn bryderus iawn amdanynt yw rhywbeth y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato yn ei gyflwyniad, rwy’n credu, sef y mater gwirioneddol hollbwysig bod pobl, pan fyddant yn sâl iawn, yn cael eu symud i mewn i ysbyty i gael triniaeth pan fyddai, yn y bôn, yn well iddynt aros gartref pe gellid rhoi’r gwasanaethau cymorth yno iddynt i aros yn eu cartrefi. Ac mae hyn yn digwydd i lawer o bobl ddifrifol wael sydd wedi bod yn cael y cymorth hwn, ond, pan aiff y sefyllfa’n llawer gwaeth, maent wedyn yn mynd i mewn i ysbyty. Felly, mae'n fater o sut yr ydym yn llwyddo i gadw pobl yn y sefyllfa honno yn eu cartrefi. Ac rwyf wedi cael sawl enghraifft o hynny yn fy etholaeth i, lle, mewn gwirionedd, ar benwythnos, bu’n rhaid i rywun a oedd yn agos iawn at ddiwedd ei oes fynd i adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty oherwydd bod y meddyg ar alwad yn poeni cymaint am ei gyflwr, ac roeddwn i’n meddwl, gydag ychydig mwy o gydweithredu a chydweithio, y gallai fod wedi aros gartref gydag ychydig mwy o gymorth. Felly, rwy’n meddwl bod hwnnw’n un o'r meysydd allweddol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am hynny.

Rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethpwyd bod angen adolygiad o gapasiti gwasanaethau profedigaeth presennol, oherwydd rwy’n credu bod y rhain yn rhan hanfodol o gynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Ac, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae'r ymgynghorydd wedi disgrifio i mi sut y maen nhw’n darparu cwnsela cyn-profedigaeth i blant sydd â rhiant, neu nain neu daid, efallai, neu efallai frawd neu chwaer, sy'n marw, ac mae hi'n dweud bod hyn yn bendant yn gymorth aruthrol os ydych yn ei wneud cyn i'r perthynas farw a bod hynny'n tueddu i olygu bod angen llai o sesiynau dilynol ar ôl hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw farn am hynny ac a oedd hyn yn rhywbeth a oedd yn digwydd i unrhyw raddau ledled Cymru.

Ac yna, wrth gwrs, mae holl fater gwasanaethau plant ar gyfer y grŵp bach, ond pwysig iawn, o blant sydd ag angen gofal lliniarol, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o waith y corff Together for Short Lives, sydd wedi cyflwyno nifer o gynigion.

Ac yna y pwynt olaf yr oeddwn eisiau ei wneud oedd o ran cynllunio ymlaen llaw. Mae'n rhaid inni ystyried nawr nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia a fydd angen gofal diwedd oes, ac rydym yn cael dadl ar hynny yn nes ymlaen yn y prynhawn, am ddementia. Ond, yn Gofal Hosbis George Thomas, mae 75 y cant o'u cleifion â chanser, a, hyd at nawr, y grŵp nesaf yr oeddent yn gweithio gyda nhw oedd pobl â chlefyd y galon. Ond nawr yr ail grŵp mwyaf yw pobl sydd â dementia, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y mae wir raid inni ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer gofal lliniarol, os oes gan bobl ddementia. Ac rwy’n nodi—rwy’n credu mai Macmillan sydd wedi dweud bod angen inni wneud llawer o rag-gynllunio gyda phobl hŷn, ac rwy'n meddwl, yn syml, bod yn rhaid inni ystyried y ffaith bod nifer fawr o bobl â dementia.

Ac yna, hoffwn ddweud fy mod i’n cytuno â'r holl faterion o gwmpas, wyddoch chi, ceisio dysgu o bosibl gan y mudiad Cymunedau Tosturiol. Mae angen y sgwrs fawr arnom, ac mae angen inni symud ymlaen i wneud marwolaeth yn llawer mwy o ran o fywyd.

Diolch. Hoffwn ddechrau drwy gytuno â chi ar eich pwynt am bobl â dementia ac i atgyfnerthu gwerth cynllunio gofal ymlaen llaw fel y gall pobl wneud dewisiadau pan eu bod mewn sefyllfa i wneud hynny, ac i benderfynu’n weithredol beth fyddai ei eisiau arnynt, yn hytrach na gadael i bobl eraill ddyfalu beth y gallai fod wedi bod ei eisiau arnynt ar adeg wahanol yn eu bywyd. Ac, a dweud y gwir, mae cefnogi pobl â dementia yn arbennig o anodd. Rwy'n gwybod y byddwn yn trafod hyn yn nes ymlaen heddiw, ond mae'r broses o fynd drwy hynny a cholli rhywun, a cholli’r bersonoliaeth a oedd ganddynt, efallai, neu rannau ohoni, ac yna eu colli yn gorfforol hefyd—mae'n amser arbennig o heriol i’r unigolyn sy'n mynd drwy hynny ac i’w deulu hefyd.

Rwy'n meddwl fy mod eisoes wedi sôn am y cynnydd ar ofal pediatrig, ond yr hyn nad wyf wedi sôn amdano, fodd bynnag, yw’r gwaith ychwanegol yr ydym wedi’i wneud ar y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau pediatrig a gwasanaethau i oedolion. Gall fod yn amser anodd iawn i’r person ifanc unigol yn ogystal â'i deulu, a gall hyn fod yn arbennig o anodd pan fydd wedi adeiladu perthnasoedd drwy'r gwasanaeth pediatrig, a sut i drosglwyddo hynny ymlaen. Ond mae gennym swydd benodol o fewn Cymru, y gyntaf o’i math, wedi’i lleoli yn Ysbyty Plant Cymru, sy’n edrych yn benodol ar y newid o feddygaeth liniarol bediatrig i wasanaeth i oedolion.

Rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch am gefnogaeth profedigaeth cyn marwolaeth, am gael y sgwrs honno’n gynharach, ac rydym yn cydnabod hynny—y cynharaf y ceir y sgwrs, y mwyaf parod yw pobl am y brofedigaeth. O ran eich pwynt ynglŷn â hosbis George Thomas, rydych yn iawn: mae buddsoddiadau unigol a chymunedol wrth greu’r mudiad hwnnw ac yna ei gynnal hefyd yn rhan hynod bwysig o'r hyn sy’n cadw'r mudiad hosbisau yn arbennig ac wedi’i ariannu’n dda. Hoffwn hefyd gydnabod yn arbennig y pwyntiau a wnewch am Ilora Finlay, arweinydd clinigol Cymru, sy'n uchel iawn ei pharch ledled y DU fel clinigwr. Pe byddech am grynhoi barn Ilora am ofal diwedd oes a gofal lliniarol, rwy’n meddwl y byddai'n deg i ddweud ei bod yn dweud bod gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo, ond llawer mwy i'w wneud hefyd. Rwy'n meddwl bod hynny’n adlewyrchiad teg o’n sefyllfa.

Mae’r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â’r pwynt a wnewch am gynnal cymorth i bobl ym misoedd a blwyddyn olaf eu bywydau. Rydym yn gwybod bod gormod o'r bobl hynny’n cael eu derbyn yn ddiangen i’r ysbyty, ac felly mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan o'r pwyslais ar gyfer gwelliant. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 65,000 o bobl yn cael eu derbyn yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau—65,000 o dderbyniadau i'r ysbyty. Ni fydd pob un o'r rheini’n amhriodol, ond rydym yn cydnabod bod nifer ohonynt yn amhriodol, ac y gellid gofalu’n briodol am yr unigolion hynny yn eu cartrefi eu hunain, gyda chymorth gwahanol. Felly, mae hynny'n rhan fawr o'r pwyslais ar gyfer gwella yn y flwyddyn i ddod. Felly, rwy'n meddwl bod y pwyntiau wedi’u gwneud yn dda, a gobeithio y flwyddyn nesaf y gallwn adrodd yn ôl am gynnydd sydd wedi'i wneud i bobl ledled y wlad.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Y ffaith drist yw, er y bydd pawb yn marw yn y pen draw, na fydd pawb yn marw’n dda. Oherwydd hynny, mae'n hanfodol bod gennym ofal diwedd oes ardderchog.

Rwy'n croesawu cynllun gofal lliniarol a gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, a'r ymrwymiad i wella'r gofal a roddir i bobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, a'r rhai y maent yn eu gadael ar ôl. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd nifer y bobl sy'n marw yng Nghymru yn cynyddu gan 9 y cant. Rydym yn gwybod nad yw tua 6,200 o bobl sy'n marw bob blwyddyn yn cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, ond mae'r ffigurau hyn yn dod oddi wrth Marie Curie, ac nid ydyn nhw’n dod o’r GIG, ac felly nid ydyn nhw’n yn cyfrannu at gynllunio’r gweithlu.

Mae arnom angen dull cyffredinol ar gyfer gofal lliniarol, oherwydd yn aml mae’n ymwneud â’r teulu cyfan. Felly, mae'n hanfodol bod staff yn cael eu hyfforddi'n briodol i ymdrin â sefyllfaoedd sensitif fel hyn, ac mae'n braf gweld bod £150,000 yn cael ei ddarparu i hyfforddi staff mewn sgiliau cyfathrebu uwch a gofal diwedd oes. Er bod hwn yn ddechrau da o ran cydnabod y sgiliau arbenigol sydd eu hangen, a allech chi roi rhagor o wybodaeth am faint o staff yr ydych yn rhagweld y bydd hyn yn eu hyfforddi, a pha ardaloedd a gaiff eu cynnwys yng Nghymru? Efallai y bydd rhai yn fwy nag eraill, o ganlyniad i sefyllfaoedd logistaidd.

Mae croeso i gyllid i ddarparu gwasanaeth hosbis yn y cartref, ynghyd â chofrestrau gofal lliniarol i bob meddyg teulu sydd â chofrestr o'r holl gleifion ag anghenion gofal lliniarol ategol. A allwch chi hefyd ddweud wrthyf sut y mae’r cofrestrau hyn yn cael eu llunio? Oherwydd mae rhai pobl, yn amlwg, heb deuluoedd, nad oes neb yn sylwi arnynt, sy'n mynd yn sâl, ac sy’n amharod i ymweld â'u meddyg teulu. Tybed sut y gallwn gyrraedd y bobl hyn sydd weithiau—yn aml iawn, a dweud y gwir—yn marw yn eu cartrefi ac yn cael eu darganfod ddyddiau neu wythnosau’n ddiweddarach. A allwn ni wneud mwy i sicrhau bod pobl fel hyn yn cael eu cynnwys?

Hefyd, i sôn am rywbeth a ddywedodd Rhun, mae adroddiad Marie Curie wedi tynnu sylw, fel y gwnes innau yn y datganiad diwethaf, at rwystrau ychwanegol a wynebir gan gymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a Phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig mewn profedigaeth, y tu hwnt i'r boen gyffredinol a brofir ar ôl colli partner. Er gwaethaf hyn, nid oes unrhyw gamau gweithredu penodol wedi’u hamlinellu yn y cynllun cyflawni gyda’r nod o ymdrin â'r materion hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n cytuno â mi, os ydym yn mynd i wella gofal diwedd oes i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, bod yn rhaid inni ymdrin â'r diffygion yn y cynllun hwn?

Yn Lloegr, mae'r GIG yn cynnal arolwg o bobl mewn profedigaeth o’r enw VOICES, ac mae hyn yn dangos faint o ofal a chymorth a roddir i deuluoedd ar ddiwedd oes eu hanwyliaid. Nid ydym yn cynnal arolwg o'r fath yng Nghymru. Os ydym yn mynd i sicrhau bod pawb sydd ag angen gofal lliniarol arbenigol yn ei gael, a sicrhau y gall anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigolyn am ofal diwedd oes gael eu nodi, eu dogfennu, eu hadolygu a’u parchu, ac y gellir gweithredu arnynt, mae'n rhaid inni gynnal arolwg o bobl mewn profedigaeth yng Nghymru hefyd. Rwy’n gweld nad oes darpariaeth ar gyfer hyn yn y datganiad.

Yn hytrach na dibynnu ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng y rhaglen iWantGreatCare, rhaglen nad oes llawer o gleifion wedi clywed amdani, a oes gan eich Llywodraeth gynlluniau i gyflwyno arolwg cynhwysfawr o deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru? Mae croeso i lansio gwefan 'Byw Nawr'; yn bendant, dyna’r ffordd ymlaen. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni beidio â dibynnu ar y datganiad bod y rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn dod o hyd i’r rhan fwyaf o'u gwybodaeth ar-lein. Er bod hyn yn wir, mae llawer o bobl nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau ar-lein ac, felly, mae angen inni fod yn gynhwysol.

Felly, mae'n bwysig bod y cynllun hwn yn gynhwysol ac yn fuddiol i bawb. Rwy’n nodi bod ymgynghorwyr ym maes gofal lliniarol nawr ar gael ar alwad 24/7. A allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd pobl yn cael gwybod am y gwasanaeth hwn? Mae'r gwaith gyda hosbis plant Tŷ Hafan a’r gwasanaeth galwadau ffôn 24 awr y tu allan i oriau ar gyfer gofal lliniarol pediatrig yn hanfodol ac i'w groesawu'n fawr iawn.

Rwy’n diolch i’r holl staff ysbytai sy'n ymwneud â’r maes sensitif iawn hwn, gan gydnabod hefyd ymroddiad teuluoedd i’w hanwyliaid. Rwy'n cydnabod y gwaith parhaus cadarnhaol a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â chi’n gadarnhaol ac yn adeiladol i wella'r gwasanaethau ym maes gofal lliniarol ymhellach. Diolch.

Diolch am y gyfres o gwestiynau a sylwadau. Ar y pwynt am sgyrsiau am salwch difrifol, byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â faint o staff sydd wedi cael yr hyfforddiant yn y flwyddyn ddiwethaf a faint yn fwy yr ydym yn disgwyl iddynt gael yr hyfforddiant hwnnw yn ystod y flwyddyn nesaf a mwy, o ganlyniad i'r adnoddau ychwanegol yr ydym yn eu rhoi i mewn i hyn.

O ran eich pwynt am yr arolwg o deuluoedd mewn profedigaeth a/neu gleifion, byddwn yn hapus i ystyried a oes ffordd well ymlaen o'r arolwg iWantGreatCare, ond ar hyn o bryd, nid oes neb wedi awgrymu i mi, ac nid yw’r bwrdd wedi gofyn, bod arnom angen gwahanol ddulliau o ddeall adborth yn uniongyrchol gan bobl sy'n ymwneud â’r gofal a phobl sy'n ymwneud â derbyn gofal hefyd. Byddwn wedi disgwyl, pe byddai galw gwirioneddol am hynny a bod annigonolrwydd, y byddai hynny wedi dod drwy'r bwrdd, gan glinigwyr sy'n dal i fod yn hyrwyddwyr dros eu cleifion, yn ogystal â gan ymgyrchoedd y trydydd sector hefyd. Felly, os oes tystiolaeth wirioneddol bod angen inni wneud rhywbeth yn wahanol, mae gennyf feddwl agored am y peth, ond byddai angen fy mherswadio nad oes gennym ar hyn o bryd ffordd ddigonol o ddeall ansawdd ac effaith y gofal sy'n cael ei ddarparu.

Ar yr un nodyn, ar y pwynt a wnaethoch am drefnu gofal lliniarol, mae gennym fwy o bobl ar gael ar wahanol adegau o’r dydd nawr hefyd. Mae gennym wasanaeth sydd ar gael drwy gydol yr wythnos. Byddai angen fy mherswadio y dylid gwneud hynny mewn ffordd wahanol. Rhan o'r her, wrth gwrs, ac un o'r pwyntiau a wnaethoch yn gynharach, yw beth sy'n digwydd i'r bobl hynny sy'n marw ar eu pennau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r digwyddiadau hynny, yn ffodus, yn brin iawn.

Mae her ehangach ynglŷn â sut yr ydym fel cymdeithas yn ymgysylltu o fewn ein cymunedau ein hunain, gyda'n cymdogion, a gyda'n hanwyliaid. Oherwydd, mewn gwirionedd, os nad yw aelodau o'r teulu’n ymgysylltu'n uniongyrchol â’r bobl hynny, mae'n anodd iawn, wedyn, dweud mai problem rhywun arall ydyw, boed hwnnw y Llywodraeth neu'r gwasanaeth iechyd. Mae her ynglŷn â sut y mae pobl yn ymwneud â’r gwasanaethau. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd tuag at ddiwedd eu hoes. Mae'n gymharol anghyffredin i fywyd rhywun ddiweddu’n sydyn. Fel arfer, mae'n digwydd pan fydd pobl yn disgwyl mai dyna sy'n mynd i ddigwydd.

A dweud y gwir, mae’n fater o sut yr ydym yn cefnogi pobl sy'n ymwneud â gofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes—mae’r bobl hynny’n deuluoedd, yn ffrindiau, ac wrth gwrs yn weithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau iechyd a gofal. Dyna sut y mae’r gofrestr gofal sylfaenol yn cael ei llunio a'i chynnal. Mae'n union hynny: pobl sy'n ymwneud â gofal yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod ac ar gael i wneud yn siŵr y gallwn dargedu’r adnoddau sydd gennym yn briodol i roi cefnogaeth briodol i’r gweithiwr proffesiynol ac i'r unigolyn.

Y peth olaf yr wyf yn mynd i’w ddweud, am eich pwynt am ymgysylltiad, neu fel arall, y trydydd sector ac unigolion, ac ymgysylltu â’r Llywodraeth am y dystiolaeth arolwg sy'n bodoli, yw: rydym yn gwybod mewn gwirionedd, o'r holl wahanol feysydd ymgysylltu, bod y mudiad hosbisau a mudiadau’r trydydd sector yn rhan o'r sefydliad sy'n cynllunio ac yn darparu’r cynlluniau hyn. Maen nhw’n rhan o'r bwrdd cyflenwi. Maen nhw’n siarad yn rheolaidd â’u sefydliadau gwasanaeth iechyd a chomisiynwyr unigol yn ogystal. Mae hynny’n rhan o gryfder y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn darparu ein cynlluniau cyflawni. Hoffwn weld hynny’n cael ei gynnal. Os oes gan bobl dystiolaeth wirioneddol o ffynhonnell wybodaeth annigonol, fe wnaf ystyried y peth. Ond, a dweud y gwir, nid ydym eisiau tanseilio cryfder y bwrdd yn y broses. Rydym yn gwybod bod hynny’n cyflwyno her real iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da.

Wrth groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r newidiadau a'r buddsoddiad enfawr a wnaethpwyd yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yng Nghymru sydd wedi newid yn sylweddol y drafodaeth yr ydym yn ei chael am y materion hyn, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith cydweithredol yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y datganiad? Rwy’n croesawu hynny.

Fodd bynnag, hoffwn ofyn cwestiwn mwy sylfaenol a gwahanol iddo. Oherwydd fel y mae ei ddatganiad yn ei nodi, rydym yn ymestyn bywyd drwy ymyraethau meddygol, ond, rwy’n teimlo, weithiau heb ofyn cwestiwn mwy sylfaenol, sef: a oes angen hyn neu a yw'n angenrheidiol, neu a oes ei wir eisiau ar y claf? Rydym yn mynnu ac yn disgwyl urddas mewn bywyd, ac mewn gofal diwedd oes. Mae'n bryd i drafod pa un a ddylem ymestyn yr un urddas a hawliau i bobl sy'n dymuno diweddu eu bywydau ar adeg o'u dewis, pa un a ydynt yn wynebu salwch terfynol ynteu gyflwr gwanychol fel dementia.

Nawr, ar hyn o bryd, nid yw hwn yn safbwynt cyfreithlon. Mae wedi cael ei herio'n rheolaidd gan unigolion dewr sy'n mynd i'r llysoedd ac yn dioddef clefyd terfynol diwedd oes eu hunain, i herio’r safbwynt hwn. Y person dewr diweddaraf i wneud hynny yw Noel Conway, sydd newydd gael yr hawl i herio i'r Llys Apêl. Ond rwy’n cydnabod bod y llysoedd wedi dweud yn gyson—ac rwy’n tueddu i gytuno â nhw—nad mater i’r llysoedd yw hwn, ond mater i'r Senedd, a mater i'r Senedd benderfynu arno. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, gydag ethol Senedd newydd, a Llywodraeth newydd, pa un a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cael y sgwrs hon â’r Llywodraeth honno yn San Steffan, oherwydd er nad yw'r pwerau yn y fan yma, maen nhw’n effeithio ar bob un ohonom yn y penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud am ein bywydau a bywydau ein ffrindiau a’n teuluoedd.

A gaf i ei adael â dyfyniad gan Atul Gawande, darlithydd Reith a ysgrifennodd lyfr da iawn, iawn am yr holl broses hon o farw o'r enw 'Being Mortal'? Yr hyn y mae'n ei ddweud yw hyn: ‘I lawer, mae’r fath siarad’—a gyda ‘y fath siarad’ mae’n golygu y math o beth yr wyf i newydd ei awgrymu—‘pa mor ofalus bynnag y mae wedi’i fframio’—rwy’n gobeithio fy mod i wedi ei fframio’n ofalus—

yn codi’r bwgan o gymdeithas sy’n ymbaratoi i aberthu ei phobl sâl ac oedrannus. Ond beth os yw’r bobl sâl ac oedrannus eisoes yn cael eu haberthu...a beth os oes dulliau gwell, yn union o flaen ein llygaid, yn aros i gael eu cydnabod?

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod rhai dulliau y dylid eu trafod hefyd?

Diolch am gydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud a'r gydnabyddiaeth sydd wedi ei rhoi gan wahanol bleidiau wrth weithio drwy'r Cynulliad diwethaf ac i mewn i’r un presennol, a gan wahanol bobl y tu allan i’r lle hwn hefyd. Rwy'n credu bod croeso mawr i hynny.

O ran y pwynt ehangach a godir gennych, rwy’n meddwl bod hynny’n mynd y tu hwnt i'r sgwrs yr hoffem ei chael am wneud dewisiadau ynghylch sut yr hoffem farw. Mae rhan ohono, fodd bynnag, yn dal i ymwneud ag ymestyn bywyd drwy ymyraethau meddygol. Ceir her yma am hysbysiadau ‘peidiwch â cheisio dadebru’, a’r hyn y byddai pobl yn ei ddymuno a’r hyn na fyddent yn ei ddymuno. Mae rhywbeth yn y fan yna eto am fynd yn ôl i gynllunio gofal uwch, a deall yr hyn sydd ei eisiau arnom, yn hytrach nag aros i feddyg ymyrryd, oherwydd yr her i'r meddyg fydd—neu bwy bynnag yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol; bu penderfyniad diweddar am hyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a oedd yn anodd imi—ar ba adeg y dylai rhywun geisio rhoi adfywiad cardio-pwlmonaidd neu beidio. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnynt i roi cynnig ar adfywio cardio-pwlmonaidd. Nawr, rwy’n meddwl bod her go iawn yn y fan yna, oherwydd ar adegau, mae'n debyg nad dyna fyddai’r peth cywir i'w wneud. Ond yr her yw sut yr ydych yn cael y sgwrs honno sy'n ystyried y dyletswyddau proffesiynol a'r dyletswyddau moesegol sydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol unigol, a hefyd eu gallu i fod yn weithwyr proffesiynol sydd wedi’u rheoleiddio a’u cofrestru hefyd. Felly, nid yw hwn yn faes hawdd—ac mae hynny’n arwain at y dewisiadau cydwybod unigol yr ydych yn sôn amdanynt am yr hyn y byddem yn dewis ei wneud drosom ein hunain. Yn ogystal â'r gŵr bonheddig yr oeddech chi’n cyfeirio ato, roeddwn i’n adnabod Debbie Purdy a'i her hithau ynglŷn â’i gallu i wneud dewisiadau drosti ei hun. Rwy'n credu mai rhan o hyn yw, pan fyddwn yn sôn am yr hyn y mae’r Senedd yn penderfynu ei wneud, nad oes gan y Llywodraeth farn am hyn. Mae hwn yn fater i unigolion benderfynu ar yr hyn y maent am ddewis ei wneud—sut, ble, pam ac a ddylid neu na ddylid newid y gyfraith i’w gwneud yn haws i bobl roi terfyn ar eu bywyd ar adeg o'u dewis. Yn bersonol, rwy'n ei chael hi’n eithaf anodd gweld pobl yn mynd i wledydd gwahanol i ddiweddu eu bywyd ar adeg o'u dewis. Pe byddwn i yn y sefyllfa honno, nid wyf yn siŵr beth fyddwn i'n ei wneud, ond dyna pam mae’n ddewis ymwybodol unigol, ac rwy’n meddwl mai felly y dylai fod. Ond, wrth wneud hynny, rwy’n credu bod angen i bob un ohonom ystyried gallu'r unigolyn i wneud ei ddewis drosto ei hun, ar adeg o'i ddewis, yn amlwg cyn belled â bod ganddo’r gallu i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae’n rhaid inni ystyried y perygl posibl y gallai hyn ei greu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n ddadl anodd sydd ar fin y gyllell, rwy’n meddwl, inni i gyd ei chael, a bydd bron bob un ohonom yn dod i gasgliadau ychydig yn wahanol. Ond rwy'n credu, yn sicr, yn y maes lle yr ydym ni nawr, bod angen inni gael sgwrs fwy rheolaidd am farw, yr hyn y mae'n ei olygu i ni, yr hyn sy'n bwysig i ni, a beth sy'n bwysig i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl.

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad hwn heddiw yn fawr iawn; mae’n caniatáu inni ganolbwyntio ar y gwasanaethau pwysig iawn hyn sydd mor bwysig i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru. Ac fel llawer o bobl eraill, rwy'n gyfarwydd â fy ngwasanaethau lleol yng Nghasnewydd, a sefydliad Dewi Sant, ac rwy’n gwybod eu bod wedi tyfu ac ehangu eu gwasanaethau a'u presenoldeb mewn modd trawiadol iawn, nid dim ond yng Nghasnewydd, ond yn y rhannau cyfagos o Gymru dros flynyddoedd lawer, a’u bod yn darparu ymrwymiad gwirioneddol a gwasanaeth o safon.

Hoffwn godi rhai materion ag Ysgrifennydd y Cabinet—yn gyntaf oll, rhagnodi arbenigol gan fferyllwyr mewn hosbisau, a'u swyddogaeth gyda fferyllwyr cymunedol, oherwydd rwy’n gyfarwydd â'r farn eu bod yn gallu gwella gwasanaethau diwedd oes yn fawr, gan gyd-fynd yn llwyr â gofal iechyd doeth, a gan gyd-fynd yn llwyr â chaniatáu i bobl ddychwelyd i'w cartrefi mewn modd amserol. Ac mae rhagnodi o safon uchel, rwy’n credu, yn gwbl ganolog i'r maes hwn o ddarpariaeth iechyd. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa swyddogaeth a allai ehangu y mae'n ei gweld ar gyfer y fferyllwyr rhagnodi arbenigol hynny wrth fwrw ymlaen â strategaeth a pholisi. Hefyd, cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y gymuned—oherwydd, unwaith eto, rwy’n siŵr bod llawer o Aelodau’n gyfarwydd â'r pwysau sydd ar y gwasanaethau hyn, y galw cynyddol a fydd, yn amlwg, yn cyflymu wrth i’n poblogaeth heneiddio, pwysau ar gyflog o fewn y gwasanaethau y maent yn eu darparu, nyrsio ac fel arall, ac, wrth gwrs, rhywfaint o'r swyddogaeth gynyddol y bydd y gwasanaethau hyn yn ei chyflawni yn y dyfodol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau y bydd y cynllun cyflawni yn blaenoriaethu ymdrin â’r pwysau cyllid craidd hwnnw, oherwydd nid wyf yn meddwl ein bod wedi gweld cynnydd yn y cyllid craidd hwnnw ar gyfer y gwasanaethau hyn ers cryn amser.

Dau fater arall yn fyr, Dirprwy Lywydd—

Yn gyflym iawn, felly. Yn gyntaf oll, mae’r tabŵ sy’n gysylltiedig â thrafod y materion hyn. Yn amlwg, mae heddiw’n ffordd o ymdrin â sut yr ydym yn goresgyn y tabŵ hwnnw, o union natur y datganiad, a’r ddadl a'r cynllun cyflawni. Ond mae'n ymddangos i mi y bu adeg pan oedd marwolaeth yn llawer mwy o brofiad teuluol a chymunedol, wyddoch chi pan fyddai cyrff yn y cartref, fel petai, a phan fyddai pobl yn cymryd materion i'w dwylo eu hunain o ran sut yr oeddent yn ymdopi â marwolaeth. Ac mae'n sicr, rwy’n meddwl, wedi cael ei dynnu o’r lleoliad hwnnw a’i droi’n broffesiynol. Ac mae wedi creu tabŵ, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod sgyrsiau’n digwydd os yw pobl yn mynd i feddwl ymlaen, cynllunio ymlaen llaw, a sicrhau eu bod yn barod am y diwedd oes anochel. Felly, rwy’n meddwl bod angen newid diwylliant arnom, ac rwy'n meddwl bod yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud yn cydnabod hyn, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.

Dim ond am wasanaethau i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig—

Yn gyflym iawn, iawn, Dirprwy Lywydd—dim ond i ddweud bod gennym esiampl drwy Marie Curie o sut y gallwn wella gwasanaethau a sicrhau gwell mynediad. Ac rwy’n meddwl bod angen i ni gyflwyno hynny, y math hwnnw o ddull, ym mhob un o’n cymunedau yng Nghymru.

Rwy’n mynd i geisio bod yn gryno, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch swyddogaeth rhagnodi arbenigol. Rwy'n cydnabod yr heriau ar gyllid craidd. Ni fyddai'n onest imi ddweud fy mod yn gallu darparu swm sylweddol o gyllid craidd ychwanegol. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r pwysau ar bob gwasanaeth cyhoeddus ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau, ac mae'r arian ychwanegol sy’n mynd i mewn i'r gyllideb gofal iechyd yn golygu cost wirioneddol i rannau eraill o'r gwasanaeth. Felly, ni wnaf addewidion na allaf eu cadw yn y maes hwn neu’r llall. Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch am gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a'r cynnydd y mae Marie Curie wedi ei wneud. Rwy'n credu bod her yn y fan yna i weddill y mudiad hosbisau ac, yn wir, i’r gwasanaeth iechyd i ddeall yr heriau penodol hynny a gwneud gwell darpariaeth.

Ac yn olaf, dyma’r pwynt o gael datganiad, cael y sgwrs—mae'n dal yn bwnc tabŵ. Mae angen inni fynd yn ôl i fan lle mae'n sgwrs lawer mwy arferol. Felly, rwy’n edrych ymlaen at gael y sgwrs hon eto gydag Aelodau, y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr, am sut yr ydym yn ceisio ail-normaleiddio sgwrs am y digwyddiad mwyaf anochel. Genedigaeth a marwolaeth yw’r ddau beth sy’n anochel yn ein bywydau, ac nid ydym yn treulio digon o amser o bell ffordd yn siarad am y peth, yn ei drafod, ac yna gall bob un ohonom gael cystal marwolaeth ag y bo modd.

5. 4. Datganiad: Arweinyddiaeth Addysgol

Eitem 4 ar ein hagenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar arweinyddiaeth addysgol, ac rwy’n galw ar Kirsty Williams i gyflwyno'r datganiad.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth ystyried yr ysgolion rhagorol yr wyf wedi cael y fraint o ymweld â nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'n amlwg i mi fod pob un yn elwa ar arweinyddiaeth o ansawdd uchel. Ein her ni, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yw sicrhau dull system gyfan o weithredu arweinyddiaeth, a gwneud hynny’n brif sbardun ein diwygiadau addysg. Er mwyn llwyddo, mae angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob ysgol, a chredaf fod sefydlu ein hacademi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gam pwysig ymlaen. O’i osod ochr yn ochr â safonau proffesiynol newydd, diwygio addysg gychwynnol athrawon a diwygio cwricwlwm, mae'n rhan o ddull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth.

Ers cyhoeddi sefydlu bwrdd cysgodol yr academi fis Tachwedd diwethaf, rwyf wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y cynnydd a wnaed mewn cyfnod byr o amser. Mae'r bwrdd cysgodol, dan arweiniad Ann Keane, wedi profi i fod yn broffesiynol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i'r dasg hon. I fod y gorau, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth y gorau, ac, felly, rwy’n falch eu bod wedi ystyried enghreifftiau rhyngwladol o ddatblygu arweinyddiaeth, o rai o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, megis Canada, Singapore a Seland Newydd. Ac maent yn glir: mae'n rhaid i ni adeiladu ar dystiolaeth ryngwladol er mwyn creu dull a wnaed yng Nghymru. Mae'r bwrdd wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch diffinio gweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaeth yr academi, ynghyd â llywodraethu ei strwythur sefydliadol.

Wrth ganolbwyntio ar arweinyddiaeth dysgu, gan gefnogi pedwar diben ein cwricwlwm newydd, mae’r academi wedi gosod gweledigaeth i fod: yn gynhwysol a chydweithredol, gan alluogi mynediad teg at gyfleoedd, yn eiddo i'r sector, ac yn ganolog i ddatblygu arweinyddiaeth gydweithredol a arweinir gan ddiwylliant; yn ysbrydoledig ac ysgogol, gan hyrwyddo datblygiad arweinyddiaeth wych yn awr ac yn y dyfodol, gan gysylltu yn gydlynol â’r agenda ddiwygio genedlaethol; yn meithrin gallu, gan alluogi arweinyddiaeth i ffynnu, a grymuso arweinwyr, a sicrhau ein cyflenwad o arweinwyr yn y dyfodol; a chael ansawdd ac effaith, gan wneud swyddogaeth arweinyddiaeth yn glir, a'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i’n system, ac ategu hynny gydag ymchwil a sylfaen dystiolaeth gref.

Mae'r bwrdd wedi cyrraedd consensws unfrydol y dylai'r academi fod yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Byddai hyn yn galluogi strwythur llywodraethu hyblyg, sy'n gallu diwallu cynrychiolaeth sector yn well, a fyddai'n cael ffurf gyfreithiol a ffafrir gan y Comisiwn Elusennau, ac a allai gyflogi staff yn ei enw ei hun. Rwyf felly wedi dweud wrth swyddogion i ddechrau cwmpasu’r amserlen a'r adnoddau sydd eu hangen i sefydlu'r academi, yng ngwanwyn 2018, fel cwmni cyfyngedig trwy warant. Rwy’n disgwyl iddo fod yn sefydliad bach a hyblyg, gyda bwrdd strategol bach, ac yn cael ei arwain gan brif weithredwr. Byddwn yn parhau i ymgynghori ar swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi, a phrofi'r amserlenni ar gyfer y camau nesaf. Bydd cyfres o sioeau teithiol rhanbarthol yn digwydd fis nesaf, a byddwn yn annog rhanddeiliaid i fynd iddynt a dysgu mwy, ac i roi eu hadborth.

Fy mwriad i, yn seiliedig ar gyngor y bwrdd cysgodol, yw y bydd yr academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni, yn cael rhan i sicrhau darpariaeth ar draws y rhanbarthau, yn cefnogi arweinyddiaeth ar bob lefel, ac yn gweithio gydag eraill i nodi a chefnogi arweinwyr y presennol a'r dyfodol. Rwyf wedi dweud lawer gwaith yn y Siambr hon, a'r tu allan, na all ansawdd ein system addysg ragori ar ansawdd ein hathrawon. Dros y pum mlynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol gydol gyrfa sy'n meithrin capasiti o addysg gychwynnol athrawon ac sy’n rhan annatod o waith ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn system hunanwella i ysgolion.

Fy ngweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol yw un lle mae ymgysylltu gweithredol mewn dysgu proffesiynol yn gyfrifoldeb sylfaenol pob unigolyn, a'i ddiben yw datblygu arbenigedd unigol ac ar y cyd i godi safonau ar gyfer ein holl ddysgwyr. Caiff yr effaith honno ei gweld wrth ymgorffori’r pedwar diben cwricwlwm i mewn i ddysgu a phrofiad ein holl ddysgwyr. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddulliau sy'n gydweithredol, cydlynol ac arloesol, sydd hefyd yn cael eu harwain gan ymchwil.

Bydd y safonau addysgu proffesiynol newydd arfaethedig yn dwyn ynghyd safonau ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth er mwyn adlewyrchu llwybrau gyrfa gwell o fynediad i mewn i'r proffesiwn ac ymlaen ac mewn ffordd sy'n rhoi eglurder o ran disgwyliadau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n dewis canolbwyntio ar eu harfer yn yr ystafell ddosbarth a'r rhai sy'n dewis symud i swyddogaethau arweinyddiaeth mwy ffurfiol, hyd at, ac yn cynnwys, prifathrawiaeth. Mae'r safonau arfaethedig yn seiliedig ar bum maes ymarfer: addysgeg, cydweithredu, arloesi, dysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol. Bydd arweinyddiaeth yn un o'r pum maes ymarfer ar gyfer pob athro yn y safonau newydd arfaethedig. Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel yn hanfodol os ydym am wella ansawdd addysgu a gwella canlyniadau i ddysgwyr.

Mae cynnydd hefyd wedi ei wneud o ran y ddarpariaeth bresennol. O ran prifathrawiaeth, rydym wedi gweithio gyda chonsortia ac rydym wedi gwella'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Mae carfan bresennol o ymarferwyr yn mynd trwy'r rhaglen hon a byddaf yn gofyn am eu barn am y gwelliannau pellach y bydd angen i ni eu gwneud. Er fy mod yn cydnabod nad yw recriwtio penaethiaid heb ei broblemau mewn rhai ardaloedd, nid wyf yn barod i gyfaddawdu ar ansawdd newydd-ddyfodiaid i brifathrawiaeth yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen gosod safon uchel ar gyfer y rhai yr ydym yn ymddiried arweinyddiaeth ein hysgolion ynddynt. Felly, er fy mod yn cydnabod bod angen i'r CPCP ddatblygu, rwy’n glir y dylem gynnal y gofyniad a'i gadw fel trothwy ar gyfer mynediad i brifathrawiaeth.

Rydym hefyd wedi bod yn gwella ystod o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr canol i sicrhau bod gennym gynnig gwell a chydlynol ar draws Cymru. O fis Medi 2017 ymlaen bydd gennym amrywiaeth o raglenni cyffredin, ac, unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr yn ddiweddarach.

Bydd sefydlu academi genedlaethol o arweinyddiaeth addysgol, ochr yn ochr â safonau arweinyddiaeth broffesiynol newydd wedi’u halinio i safonau addysgu proffesiynol, yn sicrhau bod arweinwyr ar bob lefel yn cael eu cefnogi'n dda i ddatblygu ac ysbrydoli cydweithwyr ac i gydweithio er mwyn ymgorffori'r cwricwlwm newydd. Gyda'i gilydd, bydd y diwygiadau hyn yn sbarduno ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sydd yn destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am roi cipolwg o’r datganiad hwn inni cyn iddi wneud hynny yn y Siambr y prynhawn yma? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth yn rhywbeth yr oeddem yn ei gefnogi yn fawr iawn pan gyhoeddodd hi hynny ym mis Tachwedd y llynedd. Os oes unrhyw feirniadaeth, mae'n ymwneud â'r cyflymder, mewn gwirionedd, o gyflawni yn erbyn y cyhoeddiad hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, rydych wedi cyfeirio heddiw at y ffaith na fydd y peth hwn mewn gwirionedd ar waith tan y gwanwyn 2018. Nid yw hynny'n swnio fel y math o gyflymder sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau gwirioneddol sydd gennym wrth gyflwyno arweinyddiaeth o ansawdd uchel yn y system addysg yng Nghymru.

Ddoe ddiwethaf, clywsom rai o'ch uwch swyddogion yn dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad fod rhai arweinwyr mewn ysgolion yng Nghymru yn euog o hapchwarae’r system arholiadau—peidio â gadael i bobl ifanc, o bosibl, gyrraedd y graddau uwch hynny a cheisio bancio graddau is. Credaf fod hynny, yn wir, yn crynhoi system nad yw'n caniatáu i bawb gyflawni eu potensial. Rwy’n gwybod bod gennych rai pryderon am hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech, efallai, roi sylwadau ar hynny mewn ymateb i bopeth sydd gennyf i’w ddweud.

Wrth gwrs, mae gennym arweinyddiaeth ragorol. Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eich bod wedi ymweld â llawer o ysgolion eisoes ac wedi gweld yr arweinyddiaeth honno—mae gennyf rywfaint o arweinyddiaeth ragorol yn fy etholaeth fy hun. Yna, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o arweinyddiaeth wael ledled Cymru. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato yn eich datganiad oedd ceisio troi rhywfaint o'r arweinyddiaeth dda sydd gennym yn ein sectorau prifysgol ac addysg bellach i mewn i'n hysgolion, ac a allai fod swyddogaeth i’r academi arweinyddiaeth genedlaethol wrth helpu i hwyluso hynny. Rwy'n gwybod, unwaith eto, fod rhywfaint o groesi cleddyfau wedi bod am hyn yn y gorffennol. Ond mae ein colegau addysg bellach yn benodol, yn fy marn i, yn dangos sut y gallwch gynnal sefydliadau mawr eithaf sylweddol sydd eisoes â rhywfaint o gydweithio gyda'n hysgolion uwchradd, a does dim rheswm—ni allaf weld unrhyw reswm—pam na ddylai rhywfaint o'r arweinyddiaeth honno fod yn dylanwadu ar ein hysgolion uwchradd yn benodol. Wrth gwrs, yn ogystal â hyn, mae gennym rywfaint o gydweithio da iawn bellach o ran modelau ffederal—ffederasiynau o ysgolion—o gwmpas Cymru. Ond tybed a yw clystyru ysgolion at ei gilydd gydag arweinyddiaeth gref yn ffordd bosibl arall ymlaen ac, unwaith eto, a fydd yr academi arweinyddiaeth genedlaethol yn gallu cael rhywfaint o fewnbwn i mewn i hynny.

Sylwaf eich bod yn dweud y bydd y bwrdd cysgodol a'r academi yn broceru ac yn sicrhau ansawdd ystod o raglenni yn y dyfodol. Tybed sut byddai hynny'n rhan o’r trefniadau presennol. Yn amlwg, mae gennym Gyngor y Gweithlu Addysg, mae gennym Estyn ac eraill, i gyd â diddordeb yn y maes hwn. Mae'n ymddangos i mi fod angen cael rhyw fath o ddull cydweithredol.

Rydych wedi sôn am y ffaith ein bod ni'n mynd i gael bwrdd, ac rydych am iddo fod yn fwrdd bach, ond mae'n amlwg bod llawer o randdeiliaid a fydd â diddordeb mewn gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn gweithio'n gywir. Rydym wedi gweld byrddau’n cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ac mae pethau’n mynd o chwith. Mae CBCA yn dod i'r meddwl, er enghraifft. Felly, yn amlwg mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bwrdd hwn o’r ffurf a’r maint cywir, ond hefyd y gellir ei ddal yn atebol am ei weithredoedd, gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r sector yn ei gyfanrwydd. Felly, sut ydych chi'n gweld y mathau hynny o drefniadau yn gweithio i wneud yn siŵr bod llywodraethu'r bwrdd newydd hwn yn mynd i fod yn iawn mewn gwirionedd?

A gaf i hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych yn mynd i fesur llwyddiant? Yn amlwg, rydym yn cael cipluniau yn flynyddol gydag adroddiad blynyddol Estyn a’u barn ar berfformiad ar draws Cymru. Rydym yn cael ciplun bob tro y mae arolygiad wedi ei gwblhau. Rydym wedi cael cipluniau gydag adroddiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ogystal â'r system addysg yng Nghymru. Ond sut ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i fesur llwyddiant yr academi hon? Ai drwy ganlyniadau gwell i ddisgyblion, i ddysgwyr, neu drwy’r ffaith bod pobl wedi mynd ar gyrsiau? Oherwydd ni allaf weld unrhyw le yn y datganiad heddiw lle’r ydych yn benodol yn mynd i fod yn gallu mesur hynny.

Rydych wedi sôn am rai o'r heriau recriwtio sydd gennym, ac rwy’n cydnabod y rheini hefyd, yn sicr yn rhai rhannau o Gymru. Roedd ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn benodol, yn wynebu rhai heriau wrth recriwtio penaethiaid newydd yn y gorffennol, fel y mae rhai o'n hysgolion arbenigol a'n hysgolion ffydd hefyd. Felly, tybed a ydych yn mynd i gael pwyslais penodol ar rywfaint o'r ddarpariaeth arbenigol lle mae’r gwendidau hyn gennym o ran gallu nodi penaethiaid newydd, a sut ydych yn disgwyl i’r academi genedlaethol hon fod yn gallu llenwi rhai o’r bylchau hynny. Diolch.

A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r academi a’r pwyslais cryf ar arweinyddiaeth? Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod diffyg cefnogaeth i arweinyddiaeth yn un o elfennau allweddol adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyflwr addysg yng Nghymru yn 2014, ac mae'n faes lle nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud. Felly, fel chi, Darren, rwy'n awyddus iawn bod cynnydd yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd ac, fel bob amser, rydym yn ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder a sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud o werth ac y bydd yn llwyddo .

Felly, yn sicr nid ydym yn eistedd yn ôl ac yn aros am y gwanwyn y flwyddyn nesaf pan fyddem yn disgwyl i'r cwmni fod yn weithredol. Dyna pam yr wyf yn tynnu sylw at y newidiadau yr ydym eisoes yn eu gwneud, er enghraifft, i’r CPCP, yr oedd angen ei gryfhau, yn fy marn i, a sut rydym wedi gallu perswadio'r consortia i weithio'n well gyda'i gilydd i symleiddio eu cynnig. Un o'r heriau yn y gorffennol oedd bod y cynnig ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol ar bob lefel wedi bod yn ddibynnol iawn ar ba gonsortia yr oeddech yn digwydd bod yn gweithio ynddynt. O fis Medi eleni, bydd gennym gynnig mwy unedig sy'n darparu ecwiti i athrawon ar draws ein gwlad, a bydd y safon yn debyg ni waeth ble’r ydych chi. Felly, nid ydym yn eistedd yn ôl yn aros am y gwanwyn; rydym yn bwrw ymlaen a bydd gennym gynigion newydd o fis Medi eleni.

Mae Darren yn codi'r mater o fynediad cynnar, a oedd yn destun llawer o ddadlau yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe. Byddwch yn ymwybodol fy mod innau wedi codi pryderon y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr ynghylch yr arfer o fynediad cynnar. Gadewch imi fod yn glir—rwy'n croesawu'r cyfle i fod yn glir unwaith eto: dylai pob penderfyniad ynghylch mynediad cynnar i arholiad ffurfiol gael ei wneud ar sail yr hyn sy'n iawn i’r myfyriwr unigol hwnnw, ac rwy’n pryderu nad yw hynny’n cael ei wneud mewn rhai o'n hysgolion ni. Mae tystiolaeth i awgrymu, yn anecdotaidd, fod rhai myfyrwyr yn cael mynediad yn gynnar, yn bancio eu graddau C, sy'n gweithio tuag at fesurau atebolrwydd yr ysgol. Ond mewn gwirionedd, o ystyried bod cyfle i sefyll yr arholiad hwnnw unwaith eto, neu yn wir gyfle i sefyll yr arholiad hwnnw flwyddyn yn ddiweddarach, gallai’r plentyn hwnnw fod wedi mynd ymlaen i gael B neu A neu A*.

Rydym yn gwneud dau beth ynghylch hyn, Darren. Yn gyntaf, mae rhywfaint o waith ymchwil ansoddol yn cael ei wneud o ran y patrymau mynediad cynnar, sy'n cael ei wneud gan Gymwysterau Cymru; mae consortia wedi ysgrifennu at bob ysgol i fynegi fy mhryder i ac i gadarnhau fy agwedd i at fynediad cynnar; ac rwyf wedi ymrwymo i adolygu atebolrwydd menter uchel, sydd yn aml yn sbardun ar gyfer penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynghylch mynediad cynnar. Mae'n rhaid i ni gael dull callach o edrych ar a yw ysgol yn llwyddiannus ai peidio, ac nid dull sydd â chanlyniadau anfwriadol, yr ydym o bosib yn ei weld yma, o ran y defnydd o fynediad cynnar.

Darren, mae'n bwynt da am AB ac AU. Mae rhaglenni arweinyddiaeth eisoes ar waith ar gyfer y ddau sector hyn. Rydym wedi bod yn esgeulus yn y sector ysgolion drwy beidio â chael y ddarpariaeth hon yn gynharach, ac mae AB ac AU wedi bod yn rhan o'r trafodaethau.  Rydym yn bwriadu gweithio gyda nhw i weld pa wersi y gellir eu dysgu. Fy ngweledigaeth i yn y pen draw i’r academi yw y bydd yn darparu cyfleoedd arweinyddiaeth ar gyfer pawb sydd yn cymryd rhan mewn addysg yng Nghymru—o’r sector meithrin, o’n sector ysgolion, y sector AB, sector AU, consortia rhanbarthol, awdurdodau addysg lleol a, mentraf ddweud, hyd yn oed adran addysg Llywodraeth Cymru hefyd. Os yw ein system addysg i fod yn llwyddiant, mae angen arweinwyr ar bob lefel, a does neb yn cael eu heithrio rhag gallu cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a fydd yn eu gwneud yn well yn y swydd honno, ac mae hynny'n wir am fy adran i hefyd.

Mae ffederasiwn yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r heriau arweinyddiaeth a recriwtio a chadw staff, ac mae hynny’n cael ei ddefnyddio fwyfwy ar draws y sector. Mae'n fater penodol a allai fod mewn ysgolion gwledig, lle gall y gallu i recriwtio penaethiaid i ysgolion bach, gwledig ynysig o bosibl fod yn broblematig, ac felly yn creu amheuaeth dros hyfywedd ysgolion yn y dyfodol. Felly, byddwch yn ymwybodol o gyflwyno'r gronfa ysgolion gwledig, sydd â chanllawiau penodol ynghlwm wrthi i edrych ar ffederasiwn ategol, caled a meddal.

O ran cyfansoddiad y bwrdd, rwy’n disgwyl iddo fod yn fach, ac rwy’n disgwyl iddo gael ei arwain gan brif weithredwr a chadeirydd dan nawdd penodiadau cyhoeddus. Ond i roi sicrwydd i chi, mae Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn wedi bod yn rhan o'r bwrdd cysgodol.  Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn aelod ffurfiol o'r bwrdd cysgodol ac mae Estyn yn sylwedydd yn y bwrdd cysgodol. Felly, rydym yn ystyried barn y bobl hynny wrth i ni ddatblygu'r rhaglen. Sut beth fydd llwyddiant? Wel, nid ydym wedi cyrraedd y cam hwnnw o gael targedau neu fesurau llwyddiant eto mewn gwirionedd, ond llwyddiant fydd canlyniadau gwell ar gyfer ein dysgwyr a Chymru yn fan i ddilyn gyrfa addysgol, boed hynny fel athro ysgol neu arweinydd ysgol. A byddwch eisiau dod yma gan y byddwch yn cael eich datblygu i wneud eich swydd, byddwch yn cael eich cefnogi yn eich swydd a byddwch yn gweithio mewn system addysg lwyddiannus.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac ategu ei diolch hi hefyd i’r bwrdd cysgodol am eu gwaith nhw hefyd?

Rydych chi yn cyfeirio yn y datganiad eich bod dros y pum mlynedd nesaf wedi ymrwymo i ddatblygu ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Rwy’n gwybod eich bod wedi cyfeirio at hyn yn y gorffennol, ac mi fydd hyn yn newyddion da i’r rheini sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â datblygiad proffesiynol, sydd yn teimlo efallai nad yw’r ‘coherence’, nad yw’r pecyn cydlynus yna yn ei le ar hyn o bryd. Ond rydych chi yn dweud, ac mi bigaf lan ar amseru, y bydd hynny yn datblygu dros bum mlynedd, ac fe fyddwn i yn cwestiynu efallai tra bod rhywun yn derbyn bod creu y corff newydd, neu’r cwmni cyfyngedig drwy warant newydd yr ŷch chi’n cyfeirio ato, yn mynd i gymryd amser, a ydym ni’n ddigon uchelgeisiol i drio cyrraedd y pwynt lle rydym eisiau ei gyrraedd mewn cyfnod o bum mlynedd? Efallai y gallwch chi ymateb i hynny.

Byddwn i’n cytuno yn gryf iawn fod angen gwella llwybrau gyrfa, fel rŷch chi’n ei ddweud ac yn ei gydnabod yn eich datganiad, ond mae yna ddilema, wrth gwrs, oherwydd mae llawer o’r dystiolaeth rŷm ni’n ei chlywed yn sôn am athrawon, a’r athrawon gorau, yn cael eu dyrchafu allan o’r ystafell ddosbarth. Felly, mae’r her, am wn i, yno i daro cydbwysedd rhwng sicrhau bod yna gyfleoedd i’r goreuon symud y tu hwnt i’r dosbarth yn eu gyrfa, ond hefyd nad ydym ni’n colli’r athrawon gorau o hyd, sydd yn mynd yn benaethiaid sydd ddim yn dysgu neu’n mynd i’r consortia neu’r awdurdod lleol neu Estyn ac yn y blaen. Felly, mae angen sicrhau bod y ‘pipeline’ yna yn gyfoethog o dalent yn dod drwyddo, ac felly mae yna beryg efallai fod edrych ar hwn mewn ‘isolation’ yn digwydd. Rwy’n siŵr na fydd e, ond byddwn i yn leicio clywed sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod hi yn awyddus i daro’r cydbwysedd yna, ond hefyd wrth gwrs sut rydych chi’n taro cydbwysedd rhwng sicrhau cyfleoedd ond eto peidio â cholli, o reidrwydd, y talent gorau o’r ystafelloedd dosbarth.

Rŷch chi’n cyfeirio at y cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth, CPCP—yr NPQH—yn eich datganiad hefyd. Rwyf i wedi codi gofidiau am y ddarpariaeth yma yn y gorffennol a’r sefyllfa a oedd yn bodoli lle roedd yna fethiant i gael lle ar gyrsiau, lle roedd yna lai o lefydd ar y cyrsiau yna nag oedd yna o swyddi penaethiaid gwag yn aml iawn, nad oedd yn gynaliadwy iawn mewn gwirionedd. Rwy’n deall, fel rŷch chi’n ei ddweud yn y datganiad, fod y sefyllfa wedi gwella, ond byddwn i yn leicio gwybod, er enghraifft, a ydy Llywodraeth Cymru wedi edrych ar faint o bobl sydd wedi cwblhau y cymhwyster yna ac sydd wedyn wedi mynd ymlaen i fod mewn rôl pennaeth. Leiciwn i fod yn saff eich bod chi wedi gwerthuso’r cyrsiau yma fel ag y maen nhw, oherwydd yr adborth rwy’n ei gael gan nifer o athrawon yn y maes, a’r rhai sydd wedi cwblhau’r cymhwyster yma, yw nad ydyn nhw o reidrwydd wedi bod yn dysgu sgiliau newydd, ond eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn cofnodi beth maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Rwy’n deall bod yna werth, wrth gwrs, i ddysgu myfyriol—‘reflective learning’—ond rwy’n teimlo bod canfyddiad, yn sicr ymhlith y proffesiwn, nad yw yr CPCP yn cynnig y gwerth gorau posib iddyn nhw yn eu datblygiad gyrfa. Ac os ydych chi am gadw’r CPCP, fel rŷch chi’n ei ddweud yn eich datganiad—ac nid oes gennyf i broblem â hynny o reidrwydd—yr hyn rydw i eisiau bod yn saff ohono fe yw bod yr CPCP mor ystyrlon ag sy’n bosib, mor werthfawr ag sy’n bosib, ac yn cael yr impact gorau posib am y buddsoddiad amser y mae’r unigolion a’r sector yn ei roi i mewn i gwblhau’r cymhwyster yna.

I gloi, hefyd, ac efallai i fod yn rhyw ddadleuydd y diafol—ac rwyf wedi torri’r rheol aur drwy ddefnyddio Google Translate i ffeindio beth oedd y Gymraeg am ‘devil’s advocate’—ond i fod yn ddadleuydd y diafol, gallwn i ofyn beth yw pwynt creu gwell arweinyddion os yw’r baich gwaith y mae’r arweinyddion yma yn ei wynebu yn eu llethu nhw pan mae’n dod i gyflawni eu rôl. Rhan fawr o’r her sy’n ein hwynebu ni wrth greu arweinyddion yw creu yr amser i arwain mewn modd effeithiol, ond hefyd creu yr amser i ddysgu sut i arwain hefyd, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus o fewn y proffesiwn.

Nawr, rwy’n edrych ar weledigaeth yr academi, fel rŷch chi wedi’i hamlinellu yn eich datganiad, y pedwar pwynt bwled: bod yn gynhwysol; ysbrydoli ac ysgogi; adeiladu capasiti; ac ansawdd. Nid oes dim byd newydd yn fanna, os caf i fod yn onest. Rwy’n siŵr eich bod chi’n cydnabod hynny. Rwy’n derbyn fy mod i’n ei gymryd mas o’i gyd-destun—mi fyddai yn dda petaem ni’n cael gweld y cyfanwaith sydd wedi’i gyflwyno i chi gan y bwrdd cysgodol, efallai, o safbwynt ei argymhellion ac unrhyw waith sydd y tu ôl i hynny. Ond, os ydych chi yn y proffesiwn, rŷch chi’n rheolwr, rŷch chi’n addysgwr, rŷch chi yn ddysgwr hefyd o safbwynt datblygu proffesiynol. Gallwch chi fod yn SENCo; gallwch chi fod yn rhan o ysgol arloesi ac yn edrych ar ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Dyna yw’r brif her, neu’r prif rwystr, rhag bod yn arweinydd da yn aml iawn: nid oes amser gennych chi i gael gafael ar y rôl honno mewn gwirionedd. Mae bron 90 y cant yn methu â rheoli’r baich gwaith o fewn eu horiau gwaith yn ôl arolwg diweddar gan yr EWC. Felly, mae yna gwestiynau, rwy’n meddwl, ynglŷn â rhyddhau’r amser i gyflawni’r agenda yma yn effeithiol, yn enwedig, fel rŷch chi wedi cyfeirio gynnau, mewn ysgolion bach lle nid oes gennych chi dîm y gallwch chi fod yn ‘delegate-io’ cyfrifoldebau iddyn nhw. Mae’r agenda—mi gyffyrddoch chi ar hyn yn eich ateb gynnau—ysgolion bychain, gwledig yn amlach na pheidio, ac arweinyddiaeth yn mynd law yn llaw. Byddwn i’n licio clywed mwy ynglŷn â sut maen nhw, hefyd, yn gorgyffwrdd.

Diolch i Llyr am ei gwestiynau. O ran y cynnig dysgu proffesiynol, nid wyf yn credu, yn y gorffennol, ein bod wedi gallu cynnig y cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n wirioneddol ddefnyddiol i’n proffesiwn addysgu. Mae angen taro cydbwysedd rhwng dull cenedlaethol o weithredu, gan sicrhau bod pob athro, waeth ble y maent yng Nghymru, yn cael gafael ar gyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol, boed hynny’n gyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol, er enghraifft, neu reoli ymddygiad, neu newidiadau cwricwlwm newydd, ond hefyd gydnabod, ar gyfer pob athro, bod eu hanghenion a'u disgwyliadau dysgu proffesiynol eu hunain yn mynd i fod yn wahanol iawn.

Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o'r dysgu proffesiynol hen ffasiwn yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol, lle’r ydym yn gofyn i athrawon ddod, fel arfer i Gaerdydd, a gwrando ar ŵr doeth yn siarad ar lwyfan am y diwrnod ac yna fynd yn ôl a gwneud hynny yn yr ysgol. Nid yw hynny yn ysbrydoli’r gweithwyr proffesiynol eu hunain, ac nid yw'n cael effaith yn y dosbarth. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau cyfleoedd dysgu proffesiynol trosfwaol cenedlaethol, ond hefyd mae’n rhaid bod yn ymatebol i anghenion unigol athrawon unigol. Gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn llawer iawn o ffyrdd, a’n gwaith ni yw sicrhau, fel Llywodraeth genedlaethol, bod hynny ar gael i bawb, ei fod yn cael ei gyllido'n iawn, a bod yr hyn sydd ar gael o ansawdd da.

Llŷr, rydych yn hollol gywir. Un o'r heriau sydd gennym yw hyn: os oes gennych athro ifanc disglair, afieithus, mae’r person hwnnw yn cael ei chwipio i fyny drwy'r rhengoedd ac yn aml yn cael ei dynnu allan o'r ystafell ddosbarth. Dyw hyn ddim yn wir ym mhob achos, ond weithiau nid y nodweddion a'r talentau proffesiynol sydd gennych sy'n eich gwneud yn athro dosbarth gwych yw’r rhinweddau arweinyddiaeth sydd eu hangen i redeg ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni gydnabod a rhaid i ni roi dilyniant gyrfa i’r bobl hynny sydd am aros yn yr ystafell ddosbarth. Ni ddylai eu cyfleoedd gyrfa a'u potensial o ran cyflog gael eu mygu oherwydd mai dyna ble maent yn rhagori. Dyna ble mae angen iddynt fod, ac, wrth gwrs, mae datganoli tâl ac amodau yn rhoi cyfle perffaith i edrych ar y pethau hyn yn llawn.

Mae'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth, mae angen iddo fod—rydym angen iddo wella ac rydym yn y broses honno. Rydym yn sicr yn gwrando ar adborth y bobl hynny sydd wedi mynd drwy’r broses. Ond mae dau beth sydd yn rhaid i ni fynd i'r afael â nhw: (1) pam, os bydd rhywun yn mynd drwy'r broses CPCP, nad yw’n mynd ymlaen i wneud cais am swydd prifathrawiaeth? Rwy’n adnabod athro dawnus iawn yn fy etholaeth i fy hun a chawsom yr union sgwrs yma. Dywedodd wrthyf, ‘Ydych chi o ddifrif? Rwyf wedi gweld yr hyn y mae’n rhaid i fy mhennaeth i ei wneud ac rwy'n eithaf hoffi fy mywyd, diolch yn fawr iawn'. Daw hyn â ni at y cwestiwn gwirioneddol yr ydych wedi siarad amdano: llwyth gwaith. Rydym yn aml yn sôn am lwyth gwaith athrawon, ond gall llwyth gwaith penaethiaid yn aml fod yn eithafol.

Felly, yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran llwyth gwaith penaethiaid, mae ymchwil yn digwydd ar hyn o bryd lle’r ydym yn edrych ar yr hyn y mae penaethiaid yn treulio eu hamser yn ei wneud a'r hyn y gallwn ei wneud i liniaru rhywfaint ar hynny. Rwyf am i fy mhenaethiaid i—ein penaethiaid, mae’n ddrwg gen i; roedd hynna’n berchnogol iawn ar fy rhan i, 'fy mhenaethiaid’—rwyf am i’n penaethiaid ni fod yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu a datblygu'r cwricwlwm. Dydw i ddim eisiau bod yn pryderu, fel yr oeddwn am un pennaeth a oedd yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn poeni am sut mae hi'n mynd i agor y drysau yn y bore, oherwydd bod adeilad yr ysgol lle mae’n gweithio yn disgyn i lawr o’i chwmpas. Ni ddylai fod yn poeni am hynny; dylai hi fod yn poeni am addysgu a dysgu. Nid wyf am i’r pennaeth y cwrddais â hi yn ddiweddar dreulio amser yn edrych ar sut y gall arbed 10 ceiniog ar yr archeb bapur neu'r archeb papur tŷ bach; mae angen iddi fod yn meddwl am addysgu a dysgu. Gallwn ddirprwyo’r tasgau hynny i bobl eraill. Felly, yn union fel y gallem fod yn edrych ar ffederasiwn, yn wir mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar reolwyr busnes yn cymryd rhai o'r tasgau hynny oddi ar benaethiaid a'u rhoi i bobl sydd â’r sgiliau i wneud hynny a'r amser i wneud hynny. Yna gall y penaethiaid ganolbwyntio ar yr hyn yr ydym am iddyn nhw ganolbwyntio arno, sef codi safonau a darparu profiadau addysgol gwych i’n pobl ifanc.

Mae’r mater arall yn ymwneud â chael meincnod ar gyfer prifathrawiaeth, a chael rhywfaint o sicrwydd am y cymwysterau a'r parodrwydd ar gyfer prifathrawiaeth. Ond gadewch i mi fod yn glir: yr hyn y bydd yr academi hefyd yn ymwneud ag ef yw nid cael rhywun drwy CPCP y maent wedi sicrhau ei ansawdd; mae hefyd yn ymwneud â chreu'r mentora a'r cymorth sy’n digwydd yn barhaus. Ac un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud i benaethiaid newydd yn arbennig yw, 'Llongyfarchiadau, dyma eich prifathrawiaeth newydd, i ffwrdd â chi', ac rydym yn gadael llonydd iddynt. Mae hynny'n frawychus iddynt—yn bosibilrwydd gwirioneddol frawychus—i’r gweithwyr proffesiynol hynny. Felly, mae’r academi arweinyddiaeth yn ymwneud â meithrin gyrfa pobl drwy gydol y daith gyfan, ac nid dim ond dweud, pan fyddwch yn cael swydd pennaeth, 'Dyna ni, yn awr rydych ar eich pen eich hun, pob lwc’. Bydd yn darparu mentora newydd a threfniadau partneriaeth, ac felly’n cefnogi penaethiaid i wneud hynny.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. O’m profiad fy hun mewn ysgolion uwchradd, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw arweinyddiaeth wrth sicrhau bod ein hysgolion yn ffynnu, bod y staff yn teimlo eu bod yn ymgysylltu ac yn cael eu cefnogi, a bod disgyblion yn cyflawni’r llwyddiant yr ydym yn dymuno ei gael ganddynt.

Mae gennyf dri chwestiwn byr am eich datganiad heddiw. Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau ar gyllidebau ysgolion. Nid yw’n ymwneud yn unig â chynnig cyfleoedd i staff hyfforddi a datblygu, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod digon o adnoddau yn y system, fel y gellir rhyddhau staff a blaenoriaethu hyfforddiant. Sut fyddwch chi’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael fel y gall staff mewn gwirionedd gael eu rhyddhau?

Yn ail, hoffwn hefyd wybod mwy am sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau hygludedd yr hyfforddiant a’r datblygiad hwn, fel y gall arweinwyr ysgolion yng Nghymru sydd wedi elwa gael cydnabyddiaeth i’w datblygiad y tu allan i Gymru. Byddwn yn gobeithio y byddai arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn cael eu cydnabod ymhlith y gorau—sut fyddai Llywodraeth Cymru yn rhagweld cydnabyddiaeth ehangach o hyn yn datblygu?

Yn olaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am yr arweinyddiaeth ragorol y bu’n dyst iddi mewn ysgolion yng Nghymru, ac rwy’n gwybod ein bod yn ymweld â Chraig yr Hesg yng Nglyncoch gyda’n gilydd yr wythnos nesaf i weld un enghraifft o'r fath. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr arfer gwych sy'n digwydd yn ddyddiol yn ysgolion Cymru wrth wraidd y cynnig arweinyddiaeth newydd?

Diolch i chi, Vikki. Un o'r pethau a ddywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd oedd (1) oes, mae'n rhaid i ni wneud mwy ynghylch arweinyddiaeth, ond, yn ail, mae'n rhaid i ni wella o ran cydnabod llwyddiant a dathlu llwyddiant. Rwy’n credu, weithiau, bod rhywbeth cynhenid ynom ni fel Cymry—pe baem yn Americanwyr, byddem yn uchel ein cloch, ond mae rhywbeth cynhenid ynom ni fel pobl Cymru i beidio â bod eisiau ymffrostio neu bod yn rhy ddigywilydd. Dyna pam yr ydym yn edrych ar nifer o ffyrdd y gallwn ni, yn wir, ddathlu llwyddiant a chydnabyddiaeth. Yn fwyaf diweddar, rydym wedi lansio gwobrau addysgu cyntaf erioed Cymru, a phrofiad dyrchafol iawn oedd hynny hefyd. Rydym yn mynd ati i edrych ar ysgoloriaethau Llywodraeth Cymru i benaethiaid a gweithwyr proffesiynol addysgol ennill y cyfle i astudio ymhellach, a chael eu cynnig yn esiampl o ysgolheigion Cymreig. Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn fynd ymlaen i wella enw da hyfforddiant yng Nghymru. Ond, yn y pen draw, bydd llawer o hyn yn fater o ansawdd ein haddysg gychwynnol i athrawon, a'r ddarpariaeth gan yr academi. Rwyf am weld pobl yn anelu at gael dod i sefydliadau Cymreig i hyfforddi i fod yn athro, oherwydd mai’r rhain yw’r sefydliadau gorau i gyflwyno’r hyfforddiant hwnnw.

Mae amser yn broblem wirioneddol, ac mae cyfyngiadau mewn cyllidebau yn golygu bod creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol yn her wirioneddol. Dyna pam mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy creadigol am sut yr ydym yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol, ac nid yn y ffordd hen ffasiwn. Byddem yn elwa llawer drwy weithio adran i adran. Un o'r heriau gwirioneddol sydd gennym mewn ysgolion yw nid bod yr ysgol honno yn well na’r ysgol honno draw acw mewn sir arall; amrywiaeth o fewn yr ysgol ydyw mewn gwirionedd. Gallwn gael adrannau sy'n perfformio'n dda mewn un ardal ac adran sy’n perfformio'n isel mewn ardal arall. Mae cael yr ysgol ei hun i weithio fel un i godi safonau’n fewnol yn gyfle dysgu proffesiynol posibl y byddwn yn hoffi gweld mwy ohono’n digwydd.

Ond mae’n rhaid i hyn gael ei gymryd fel pecyn cyfan. Ni fydd yr academi arweinyddiaeth ar ei phen ei hun yn llwyddo heb ein diwygiadau i addysg gychwynnol athrawon, heb ein safonau proffesiynol. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn i gyd yn y darlun, ac mae hyn yn ymwneud, fel y dywedais, â chreu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol, a chynnal y proffesiwn i fod yn broffesiwn statws uchel y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd yr academi yn gyfrifol am froceru rhaglenni arweinyddiaeth a sicrhau ansawdd, yn amlwg bydd angen iddi gyflogi staff, nid wyf yn amau ​​hynny. Ond y cwestiwn yr wyf am ei ofyn yw beth fydd maint yr academi—faint o bobl sy’n debygol o fod ar y bwrdd a faint o weithwyr fydd eu hangen? Sut fydd bwrdd yr academi yn cael ei ddal i gyfrif am berfformiad yr academi? A fyddwn yn diweddu â sefyllfa debyg i un y byrddau iechyd, lle mae’n ymddangos, er gwaethaf methiannau dro ar ôl tro, nad oes unrhyw un ar y bwrdd iechyd yn cael ei ddal yn briodol i gyfrif?

Rydych hefyd yn datgan eich bod yn parhau i ymgynghori ar swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi. A allwch chi roi unrhyw syniad inni pryd y bydd swyddogaeth a chylch gwaith llawn yr academi yn cael eu cwblhau ac y cyhoeddir y manylion? Fy ngobaith yw y bydd yr academi yn sicrhau bod y ddarpariaeth hyfforddiant yn cael ei chynnig yn gyfartal ledled Cymru, a byddwn yn gofyn i chi gadarnhau a fydd hynny'n digwydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gwella ystod o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr canol. Ond a all Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, egluro a fydd y rhaglenni a drefnwyd gan yr academi yn disodli neu’n eistedd ochr yn ochr â'r rhai sy'n bodoli eisoes? Os mai’r olaf sy’n wir, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y rhaglenni newydd yn cael eu cydlynu â’r rhai presennol? Rwy'n cefnogi nod Ysgrifennydd y Cabinet i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion ac i roi'r cymorth sydd ei angen i arweinwyr ysgolion, ond mae diffyg manylder yn y datganiad hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed y manylion maes o law. Rwy’n gobeithio’n wir y bydd yr academi hon yn llwyddo, ond cawn ni weld beth fydd yn digwydd. Diolch.

A gaf i ddiolch i Michelle am ei hagwedd optimistaidd ar ddyfodol arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru? Yr hyn y dylwn i fod wedi ei wneud wrth ateb rhai o gwestiynau Darren a Llŷr Gruffydd, ac, yn wir, Michelle—rwy'n siŵr y byddai Ann Keane, sy'n cadeirio'r bwrdd cysgodol, yn hapus iawn i gwrdd â llefarwyr, neu Aelodau eraill o'r Cynulliad yn wir sydd â diddordeb yn y maes, er mwyn i bobl gael dealltwriaeth ddyfnach o'r prosesau meddwl. Rwy'n ffodus fy mod yn cael cwrdd ag Ann yn rheolaidd, ond rwy'n siŵr na fydd ots ganddi os wyf yn ymestyn y cyfle hwnnw i Aelodau'r Cynulliad, os hoffent ymgysylltu â hi ar hynny. Rwy’n rhagweld y bydd y rhaglenni presennol yn dod i'r academi. Ond nid oes gennym atebion eto i rai o'r cwestiynau hyn a godwyd gan Michelle. Dyna mae’r gwaith parhaus yn canolbwyntio arno.

Fel y dywedais yn fy natganiad, mae gennym sioeau teithiol wedi’u trefnu ar gyfer y mis nesaf, a sefydlu bwrdd prosiect mewnol Llywodraeth Cymru i fynd â'r prosiect yn ei flaen. Erbyn mis Gorffennaf, rwy’n disgwyl i waith ddechrau ar sefydlu'r academi, gan gynnwys yr erthyglau cymdeithasiad, y cylch gorchwyl, aelodau’r bwrdd, a phontio o'r bwrdd cysgodol i'r bwrdd newydd. Unwaith y bydd y cwmni cyfyngedig trwy warant yn cael ei sefydlu, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi wedyn i benodiad cyhoeddus Prif Swyddog Gweithredol a chadeirydd, ac rwyf am i hynny fod dan delerau Nolan a phenodiadau cyhoeddus. Yna, o'r gwanwyn ymlaen, bydd y bwrdd cysgodol yn trawsffurfio i'r sefydliad newydd. Ni chytunwyd eto ar rai o'r manylion y mae Michelle wedi gofyn amdanynt, Dirprwy Lywydd ac, fel yr wyf wedi ei wneud heddiw, rwyf yn fwy na pharod i ddod yn ôl i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gennyf i.

Diolch yn fawr iawn. Mae gennym dri siaradwr arall, a gaf i atgoffa pawb ein bod wedi cael un llefarydd o bob plaid bellach. Felly a gaf i ofyn am ragymadrodd byr a chwestiynau byr ac atebion byrrach? Diolch. Felly, Lee Waters.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gefnogi’n gynnes yr angerdd sydd gennych ar gyfer meithrin arweinyddiaeth fel ffordd o gyflawni rhagoriaeth mewn safonau. A gaf i ofyn cwpl o gwestiynau am sut yr ydych yn gweld hyn yn rhan o’r sefyllfa bresennol o fentrau, gan gadw mewn cof ein bod i fod gwneud llai o bethau a chadw pethau'n syml? Felly, sut, yn benodol, ydych chi’n gweld hyn yn rhan o'r consortia ac awdurdodau addysg lleol, gan fy mod yn credu bod perygl i ni fod â thirwedd anniben? Yn ail, rydym yn pwysleisio’r angen am gymorth ysgol i ysgol er mwyn codi safonau ysgolion ac fel y gwyddoch, mae rhagoriaeth eisoes mewn arweinyddiaeth ledled Cymru. Felly, sut ydym yn gweld arweinwyr presennol yn cefnogi’r arweinwyr sy'n dod i'r amlwg? Ac, yn olaf, soniasoch yn eich datganiad ichi ddweud:

Ni all ansawdd y system addysg ragori ar ansawdd ein hathrawon.

Fel y gwyddoch, mae hanner y gweithlu ysgol yn gynorthwywyr cymorth dysgu, ac rwy’n teimlo eu bod yn rhan o’r gweithlu sy’n cael ei hesgeuluso. Felly, sut ydych chi'n gweld y gweithlu hwnnw’n yn cael ei ddal o fewn ysbryd yr academi?

Dirprwy Lywydd, rydych am i mi i roi atebion byr, ond mae’r rheini’n gwestiynau mawr—cwestiynau mawr iawn. O ran cynorthwywyr addysgu lefel uwch, rydych yn hollol iawn. Maent yn rhan hanfodol o'n gweithlu, ac rydym wedi gweld y gwaith o ddatblygu cynorthwywyr addysgu lefel uwch dros dymor diwethaf y Cynulliad, ac rydym yn awyddus i gyflymu nifer y cynorthwywyr addysgu sy'n gallu cael mynediad at y cyfleoedd hyfforddi hynny i wella eu cymwysterau. Ac, fel y soniais mewn ateb cynharach, yn y pen draw, er y bydd yr academi yn y lle cyntaf yn edrych ar arweinwyr ysgolion ac arweinwyr posibl, rydym yn awyddus i’r academi edrych ar arweinyddiaeth ar bob lefel, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu. O ran gwaith ysgol-i-ysgol, mae'n gwbl hanfodol ein bod, yn rhan o'r drefn hunanwella, yn darparu’r cyfleoedd hynny i bobl i weld beth mae da yn ei olygu.

Weithiau, pan fyddwch yn mynd i ysgol, nid yw’n fater o bobl yn awyddus i godi yn y bore a gwneud gwaith gwael, ond yn syml nid ydynt yn gwybod beth mae da yn ei olygu. A dweud y gwir, mae rhoi cyfle iddynt weld sut mae arweinyddiaeth ragorol ac addysgu gwych yn edrych yn gwbl hanfodol iddynt. Dyna beth yr ydym yn canolbwyntio arno, fel rhan o'n gwaith ar weithio ysgol-i-ysgol: sef rhoi cyfle i bobl fentora, i weithio gyda'i gilydd, i dreulio amser mewn ysgolion eraill, mewn ystafelloedd dosbarth pobl, i ddefnyddio'r arferion rhagorol sydd gennym eisoes, ac i fod yn llawer mwy soffistigedig yn y ffordd yr ydym yn gwneud rhywfaint o'n dysgu proffesiynol.  Soniais yn gynharach am ei wella; os ewch at bartneriaeth Fern, mae eu dysgu proffesiynol yn cael ei ddatblygu gan hyfforddiant byw. Felly, caiff yr ystafelloedd dosbarth eu trefnu fel bod modd gweld yr athro o ystafell wahanol. Gyda theclyn yn eu clust, maent yn cael cyngor ar ddysgu proffesiynol wrth iddynt gyflwyno’r wers—wyddoch chi, 'Rhowch gynnig ar hyn', 'Ydych chi wedi meddwl am hyn?' Felly, rydym yn buddsoddi yn y math hwnnw o gymorth a dysgu proffesiynol— llawer gwell na'r hyn yr oeddem yn arfer ei gael yn y gorffennol.

O ran Awdurdodau Addysg Lleol a chonsortia, dyna pam nad ydym am weld yr academi yn darparu hyn ei hunan, gan y bydd hynny'n golygu, yn syml, chwaraewr arall. Ei swydd fydd brocera a sicrhau bod y consortia, a fydd yn arwain ar hyn, yn defnyddio hyn. Ond nid ydym am iddynt ei ddarparu eu hunain, oherwydd byddai hynny'n ychwanegu at ddryswch yr hyn sydd eisoes, yn fy marn i, yn gae eithaf gorlawn.

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod rhywbeth tebyg iawn i bolisïau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ffeindio ei ffordd i mewn i’ch polisi chi, ac felly a allaf ofyn: a ydych chi’n cytuno bod gan arweinwyr addysg rôl hanfodol wrth wella lle’r Gymraeg yn niwylliant ein hysgolion a’n colegau? Nid wyf yn siarad am y cwricwlwm nawr, ond y diwylliant. A sut y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngweledigaeth, gwerthoedd a swyddogaethau yr academi?

Wel, ni wn am bolisi’r Torïaid yn canfod ei ffordd i mewn i fy agenda i. Gallaf sicrhau'r Aelod bod hyn yn ymrwymiad ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru flwyddyn yn ôl, a dyna un o'r rhesymau pam yr wyf yn benderfynol o’i symud ymlaen.

Rwy'n credu bod y mater hwn ynghylch gwerthoedd yn gwbl hanfodol. Un o'r pethau sy'n fy ngwneud yn falch o fod yn Ysgrifennydd addysg yng Nghymru yw oherwydd y gwerthoedd sy'n sail i'n system addysg—gwerthoedd ecwiti, cyfle; gwerthoedd sy'n gyson â sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg ac yn gallu dod ymlaen mewn bywyd, i beidio â chael eich eithrio oherwydd nad ydych yn byw yn y lle iawn, neu oherwydd na all eich rhieni fforddio'r dysgu, pan fyddwch yn 11 oed, er mwyn i chi basio arholiad i fynd i ysgol ramadeg. Mae'r gwerthoedd a welwn, yn cael eu harddel gan yr academi, yn werthoedd y system addysg yng Nghymru, ac yn werthoedd yr wyf i’n falch ohonynt.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n codi heddiw i groesawu'r datganiad hwn ar arweinyddiaeth addysg. Mae gan Gymru etifeddiaeth falch o athrawon ac arweinyddiaeth ysgol o ansawdd uchel. Fodd bynnag, cafodd y cyhoeddiad am sefydlu bwrdd cysgodol presennol yr academi fis Tachwedd diwethaf groeso eang. Mae'n wir galonogol clywed bod y bwrdd cysgodol wedi cychwyn yn hyfedr, a chroesawaf yn fawr y ffaith ein bod yn edrych ar yr arferion gorau o bedwar ban byd, gan gynnwys Canada, Singapore a Seland Newydd. Yn rhy aml, mae amser ac egni yn cael eu gwastraffu wrth geisio ail-greu'r olwyn pan fo systemau addysg eraill eisoes wedi dod o hyd i atebion creadigol i broblemau cyffredin. Wrth i’r cynllun ar gyfer yr academi arweinyddiaeth esblygu, a gaf i ofyn a fydd y gyfres o sioeau teithiol rhanbarthol yn cynnwys Islwyn? Hefyd, sut fydd y sioeau teithiol hyn yn cael eu hysbysebu i randdeiliaid, a sut fydd gweithwyr proffesiynol prysur, fel y soniwyd eisoes, yn cael eu hannog i fynd iddynt a chymryd rhan?

Heddiw, hoffwn gydnabod gwaith eich rhagflaenydd, Huw Lewis, a ddywedodd, pan gyhoeddodd strategaeth arweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru, ein bod

yn gwybod bod arweinyddiaeth ysgol a choleg yn ail yn unig i addysgu yn y dosbarth fel dylanwad ar ddysgu disgybl—a bydd hyn yn hollbwysig dros y blynyddoedd nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, o'ch datganiad, nodaf eich bod yn cyfeirio at y ffaith, o fis Medi 2017 ymlaen, y bydd amrywiaeth o raglenni cyffredin ar gael i weithwyr proffesiynol. A oes gennych amcangyfrif o faint o'n harweinwyr ysgolion fydd yn gallu cael gafael ar y rhaglenni hyn, a pha sicrwydd, yn y cyfnod cynnar, allwn ni ei gael y byddant ar gael ar draws Cymru?

Bydd y sioeau teithiol yn dechrau ar 12 Mehefin. Nid wyf yn gwybod a fydd y sioe deithiol yn cynnwys eich etholaeth chi, ond dwi'n hapus i roi manylion. Bydd manylion y sioe deithiol yn cael eu rhoi trwy’r holl ffynonellau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys 'Dysg' ac yn cynnwys y dudalen Facebook newydd 'Addysg Cymru’. Byddwn yn annog Aelodau—os ydynt am gadw i fyny â’r holl bethau ynghylch 'Addysg Cymru’—i hoffi'r dudalen Facebook newydd. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion am hynny.

Holl bwynt cael yr academi yw sicrhau bod darpariaeth deg ar draws y wlad a’i bod o'r un ansawdd ar gyfer ein holl weithwyr proffesiynol, ni waeth ble maen nhw. Ac mae’r Aelod yn hollol gywir; os ydym am gael system addysg o'r radd flaenaf, mae'n rhaid i ni gael arweinwyr o'r radd flaenaf. Mae gennym lawer yng Nghymru, ond dim digon, a bod yn onest, ac mae angen i ni wneud mwy. Prif bwrpas yr academi hon yw rhoi'r arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom ni i sicrhau, fel y dywedais, fod ein cenhadaeth genedlaethol yn cael ei chyflawni: bod gennym system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac, yn bwysicach i’r rhieni, hyder cenedlaethol.

6. 5. Datganiad: Y Cynllun Gweithredu Dementia

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:21:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn heddiw yn amserol, gan ein bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia. Rwy’n gobeithio bod pawb yn defnyddio'r wythnos hon i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth a dealltwriaeth i'r rhai sydd ei angen.

Ym mis Hydref y llynedd, ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, roeddwn i’n falch o lansio’r ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Un o’r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hyn mewn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, i wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia. Rydym wedi dod yn bell i wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl sy’n deall dementia, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Yn rhan o hyn, rydym wedi symud ymlaen i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia, fel yr addawyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Felly, roeddwn yn falch o lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn Llys Oldwell yng Nghaerdydd ym mis Ionawr eleni.

Ni ddylem fyth anghofio bod mwy o bobl yn byw'n hirach, ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. A dementia yw un o'r heriau gofal iechyd mwyaf y mae ein cenhedlaeth ni yn ei wynebu. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Mae effaith dementia yn y gymdeithas yn ehangach o lawer pan fyddwn yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu. Y llynedd, cyhoeddasom nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys darparu mwy na £8 miliwn o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i’r bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Ac adeiladwyd ar y negeseuon hyn drwy gydol ein cynllun gweithredu drafft. Ond, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn briodol, mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu’n cael eu heffeithio, boed hynny’n bersonol neu’n broffesiynol, fel ein bod yn deall beth sydd bwysicaf i bobl. Mae'n rhaid i ni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt.

Mae'r safbwyntiau a’r profiadau a rannwyd gyda ni wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'r teulu, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol a phobl eraill â diddordeb. Gwnaed hyn mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer a Phrosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia, a adnabyddir hefyd fel DEEP. Mae dros 1,200 o bobl yr effeithir arnynt yn bersonol gan ddementia wedi cymryd rhan drwy gydol y cyfnod ymgynghori, a diolchwn i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.

Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fydd unrhyw ddau unigolyn sydd â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, ag anghenion sydd yn union yr un fath. Yr adborth ysgubol o’r ymgysylltiad a wnaed yw bod pobl yn dymuno i gymorth a gwasanaethau gael eu darparu gydag ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau, y dylai’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i wahanol anghenion ar wahanol gyfnodau o fyw gyda'r cyflwr, a bod y camau hynny’n dangos dull llwybr cyfan. Erbyn hyn, mae'r cynllun yn cefnogi'r dull hwn ac yn cynnwys nifer o themâu y mae angen eu gweithredu ymhellach yn ystod y pum mlynedd nesaf. Cafodd y themâu eu llywio gan adborth o’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn 2016, pryd y cyfeiriwyd at ddementia, a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol, yn ogystal â thrwy adolygu strategaethau dementia perthnasol eraill. Mae'r themâu’n cynnwys: codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu ffrindiau dementia a chymunedau a sefydliadau sy’n cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn sensitif a bod pobl yn gallu cael asesiad a diagnosis yn brydlon; cymorth a thriniaeth cynnar i bobl â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn dilyn diagnosis; a bod mwy o gefnogaeth ar gael, boed hynny yng nghartref yr unigolyn, yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal.  

Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 3 Ebrill a chawsom 119 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn, nifer o'r colegau brenhinol, a rhanddeiliaid allweddol megis Cyngor Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Alzheimer a DEEP. Mae'r ymatebion hyn, a’r adborth o'r digwyddiadau rhanddeiliaid, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd i lywio'r adroddiad terfynol.

Darparodd yr ymatebwyr awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella’r cynllun terfynol, ac roedd yr awgrymiadau hynny’n cynnwys: cryfhau'r dull sy'n seiliedig ar hawliau drwy'r ddogfen gyfan; pwyslais pellach ar ddull ar draws y Llywodraeth i gynnwys trafnidiaeth, tai a chynllunio, yn ogystal ag agweddau ar iechyd a gofal cymdeithasol; tynnu sylw at bwysigrwydd proffesiynau meddygol cysylltiedig wrth gefnogi pobl â dementia a'u teuluoedd neu ofalwyr; pwyslais pellach a chamau gweithredu penodol o ran cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig; canolbwyntio mwy ar ddementia cynnar, gofal lliniarol, cymorth cymheiriaid a dulliau a arweinir gan y gymuned; mwy o gymorth i ofalwyr, gan gynnwys ychwanegu mesurau clir ar gyfer darpariaeth seibiant; a mwy o ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael eisoes, gan gynnwys hyrwyddo’r llinell gymorth dementia genedlaethol ymhellach. Wrth gwrs, roedd llawer o ymatebwyr hefyd eisiau gweld targed diagnosis mwy uchelgeisiol. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw hyn ac rwyf wedi cytuno y bydd y mater hwn yn parhau i gael ei adolygu.  

Bydd y canfyddiadau o'r ymgynghoriad yn cael eu hymgorffori'n briodol yn y cynllun terfynol, ac yn cael eu cyflwyno gyda chynllun gweithredu manwl sy'n cynnwys camau gweithredu a thargedau mesuradwy i'w cyflawni yn ystod oes y cynllun. Yn dilyn darparu cyfoeth o arferion nodedig o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, byddwn hefyd yn cyhoeddi dogfen gryno sy'n tynnu sylw at enghreifftiau o arferion ar draws y llwybr fel ein bod yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd eisoes.  Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn greu Cymru sydd wirioneddol yn deall dementia a mynd i’r afael â phroblemau eraill, megis unigrwydd ac unigedd. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus eisoes wedi ein helpu i ddysgu o brofiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu cynllun gweithredu cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rwy’n ffyddiog o hynny.

Ond nid wyf yn dymuno iddo orffen yn y fan honno. Rwy’n dymuno gweld y trydydd sector yn chwarae rhan fwy gweithredol yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu llunio a'u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, a ddylai fod yn enghraifft wych o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Rwy’n dymuno i ni fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â dementia a chael gwared ar yr ofn y gallai fod gan lawer trwy ddiffyg gwybodaeth. Gwyddom o'n hymgynghoriad bod cyfoeth o brosiectau cymunedol drwy’r wlad sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia a fydd yn helpu i leihau’r stigma. Rwy’n dymuno gweld mwy o gymunedau yng Nghymru yn dod i ddeall dementia ac yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bawb sydd ei angen.

Fy ngobaith i, felly, ar adeg yr adolygiad tair blynedd, yw y gallaf i, neu unigolyn cyfatebol—pwy bynnag sy'n darparu'r adroddiad—sefyll ar fy nhraed fel yr wyf i’n ei wneud yma heddiw a darlledu’r cynnydd a'r newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud tuag at wneud Cymru yn genedl sydd wirioneddol yn deall dementia. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed i gynhyrchu dogfen mor gynhwysfawr sy'n adlewyrchu lleisiau llawer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn sicr yn gwrando ar y cyfraniadau a wneir yn natganiad heddiw, cyn i ni gyhoeddi'r cynllun terfynol yn yr haf. Rwy’n awyddus i’r cynllun terfynol fod yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, ac y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i gefnogi cynlluniau a luniwyd neu hyd yn oed a arweiniwyd gan y rhai sy'n byw gyda dementia, naill ai’n uniongyrchol neu fel aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ofalwyr, ac, fel y dywedwch, sefydliadau gwirfoddol eraill a'r rhai â diddordeb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Rydym yn sicr yn cefnogi'r dull a arweinir gan hawliau, ond roeddwn yn awyddus i bwyso arnoch, yn gyntaf oll, ynghylch cydbwysedd y mecanweithiau cyflawni y cyfeiriwyd atynt yn y cynllun drafft.

Nawr, mae’n ymddangos mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw’r rhan fwyaf o'r camau gweithredu allweddol arfaethedig, ac o ran ymyrraeth feddygol uniongyrchol, gallaf weld pam mai felly y byddai—diagnosis gweithwyr proffesiynol, cymorth seicolegol a fferyllol, a gofalu am unigolyn, efallai mewn cartref nyrsio neu leoliad meddygol arall lle y gallai fod yn derbyn cymorth ar draws nifer o gyd-afiachedd, ddywedwn ni. Ond gyda gwell diagnosis, mae mwy o gyfle, rwy’n credu, i gael cymorth nad yw'n feddygol, yn enwedig yn gynnar. Rwy'n credu bod gormod o bwyslais ar y bwrdd iechyd, os mynnwch chi, efallai bron â bod, i rai pobl, fel ildio i’r ffaith y byddant angen gofal meddygol. Hyd yn oed os bydd hynny’n wir yn nes ymlaen, yn sicr nid yw o reidrwydd yn wir ar y dechrau. Tybed a allai'r rhan gyntaf o’r llwybrau cymorth yr ydych chi’n cyfeirio atynt yn y fan hon fod yn ymwneud yn llai ag arweiniad y bwrdd iechyd a mwy am unigolion a phartneriaid eraill a allai fod yn well gyda’r dull cefnogi teuluoedd, emosiynol mewn ffordd, i bethau, yn hytrach na throi at y BILl am arweiniad drwy'r amser. Clywais yr hyn a ddywedasoch am y trydydd sector ac rwy’n cefnogi'r hyn yr ydych yn ei ddweud yn hynny o beth, mewn gwirionedd, ond mae'r syniad o gyd-gynhyrchu yn mynd y tu hwnt i’r trydydd sector hyd yn oed ac fe ddylem fod yn edrych, efallai, ychydig mwy at strwythurau cymunedol, sy'n cynnwys y teulu, wrth gwrs, neu ffrindiau, i helpu â'r camau cynnar hynny yn dilyn diagnosis.

Tybed a allwch chi ddweud wrthyf ychydig bach hefyd ynghylch sut bydd gweithiwr cymorth dementia yn edrych yn y dyfodol. Rwy’n gwerthfawrogi bod gennym eisoes rywfaint yn gweithio mewn nifer o sectorau ar hyn o bryd, ond mae'r cynllun yn cyfeirio at ymyrraeth arbenigol ar gyfer y rhai â dementia drwy alcohol neu’r rhai â dementia cynnar. A ydym ni am fod yn siarad am yr un gweithiwr cymorth dementia unigol, neu a ydym ni nawr yn sôn am amrywiaeth o weithwyr cefnogi dementia ar gyfer unigolyn? Rwy'n dyfalu mai’r ateb i hynny yw hyblygrwydd i ymateb yn uniongyrchol i anghenion unigolion penodol, ond byddwn yn gwerthfawrogi ychydig o arweiniad ynghylch pa un a fyddwn ni angen mwy o weithwyr cymorth ar gyfer dementia, a fydd angen sgiliau gwahanol ac, unwaith eto, pa un a fyddant o reidrwydd yn dod o’r tu mewn i’r sector iechyd.

Yn amlwg, mae llawer o waith wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac rwyf i’n sicr yn croesawu hynny, er nad wyf yn gwbl glir pwy fydd yn gyfrifol am hynny. Ond yr un mor bwysig, mae’n ymddangos bod llawer o waith wedi mynd i mewn i ymwybyddiaeth a hyfforddiant dementia o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig. Mae gen i ddau gwestiwn ynglŷn â hynny.

Y cyntaf yw bod hyfforddiant ymwybyddiaeth gyffredinol ar lefel y boblogaeth yn golygu bod llawer ohonom yn fwy ymwybodol nag yr oeddem o'r blaen, ond rwy’n credu o hyd mai ychydig iawn ohonom fydd yn meddu ar yr hyder a'r wybodaeth i godi’r testun gyda chymydog neu rywun yr ydym yn ei weld yn rheolaidd yn y siop neu'r dafarn—rhywun sydd y tu allan i'n teulu agos ond sy’n dal o fewn ein cymuned—oherwydd nid pawb sy’n cael eu canfod drwy lwybrau proffesiynol, yn enwedig os ydynt yn byw ar eu pennau eu hunain. Tybed ai’r cynllun hwn yw'r lle i’n helpu, yn gyffredinol—hynny yw, aelodau o'r cyhoedd—i fod yn rhan o helpu, yn sicr â dementia cyfnod cynnar. Yna, yr ochr arall i hynny yw sut y gall hyfforddiant manylach gyrraedd gweithgareddau sy'n wynebu'r cyhoedd y tu allan i'r sector cyhoeddus—felly, lletygarwch, manwerthu, cludiant cyhoeddus—fel bod modd mewn gwirionedd i gyflawni’r hawliau yr oeddech chi’n sôn amdanynt. Rwy'n gwybod bod rhai enghreifftiau gwych o ddulliau gwirfoddol o fynd o gwmpas hyn, a buom yn siarad am Tesco yn cynnal ei ddiwrnod siopa araf, er enghraifft. Rwy'n credu bod mwy o le ar gyfer hynny.

Yna, yn olaf, mae’r cynllun drafft—ac rwy’n credu fy mod i’n dyfynnu eich araith yn y fan yma—yn dweud mwy o gymorth i ofalwyr, gan gynnwys 'mesurau clir ar gyfer darpariaeth seibiant' i ofalwyr. Rwy’n cytuno, ond dyma faes polisi lle mae’r geiriau 'seiliedig ar hawliau', math o beth, mewn llawer o achosion, yn ddim ond geiriau, ac nid yw adnabod anghenion o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn trosi’n gymorth gwirioneddol i ofalwyr—sylw yw hwn, ac nid beirniadaeth. Felly, fy nghwestiwn i am hynny yw: beth yw eich barn chi ynglŷn â sut y gallem i gyd weithio, mewn gwirionedd, i helpu i sicrhau hawliau i ofalwyr o ran seibiant, a hynny ar draws y sector a, chyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ar draws portffolio? Diolch.

Diolch am y gyfres yna o gwestiynau. Wrth gwrs, i fod yn glir iawn, mae gennym ymrwymiadau maniffesto cenedlaethol ynghylch gwella gofal seibiant i ofalwyr. Gallwch ddisgwyl i ni wneud cynnydd ar hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon. O ran eich pwynt cyffredinol ynghylch ymwybyddiaeth yn gyffredinol, sy’n hollol deg yn fy marn i, ar draws y sector cyhoeddus—. Mae'n rhywbeth yn ymwneud â’r hyn sy’n gymuned sy’n deall dementia yn gyffredinol, nid yw’n ymwneud yn unig â llond llaw o unigolion na dim ond am wasanaethau cyhoeddus, mae'n ymdrin â rhyngweithio gyda'r cyhoedd, ac mae hynny'n cynnwys unigolion a chwmnïau yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny’n cael ei gydnabod yn yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni wrth gael cymunedau sy’n deall dementia yn gyffredinol.

Gofynasoch bwynt penodol ynghylch sut bydd gweithiwr gofal neu weithiwr cymorth arbenigol yn edrych yn y dyfodol ac, wrth gwrs, rhywbeth i ni ei ddatblygu fydd hynny wrth ddeall anghenion unigolion a sut y gallwn ddeall sut yr ydym yn comisiynu ac yn darparu hynny mewn gwirionedd, boed hynny drwy'r sector statudol neu'r sector gwirfoddol. Enghreifftiau yw, er enghraifft, dealltwriaeth, sy’n cael ei datblygu trwy’r gwaith a wnaed yng Nghymru, o bobl, er enghraifft, â dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a beth allwn ni ei wneud i gefnogi'r bobl hynny mewn maes penodol ac arbennig yn ogystal. Felly, mae gwaith penodol yr ydym ni’n ei wneud i geisio deall sut y gallai ac y dylai hynny edrych.

Yna, wrth gwrs, rydym yn dod yn ôl at y cwestiwn ehangach o sut yr ydym yn comisiynu’r cymorth hwnnw a sut y caiff ei ddarparu wedyn yn ymarferol. Ac yma rwy'n credu bod hynny’n mynd yn ôl at eich nifer o gwestiynau agoriadol am y swyddogaeth ar gyfer y GIG a phwy fydd yn gyfrifol am gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn y cynllun. Wel, wrth gwrs, o safbwynt y Llywodraeth, petawn yn nodi bod yn rhaid i’r trydydd sector ymgymryd ag ystod o weithgareddau, mae'n anodd i unigolion yn y lle hwn, neu hyd yn oed y cyhoedd, ein dwyn i gyfrif am yr hyn y mae’r trydydd sector yn ei wneud neu ddim yn ei wneud o'i wirfodd. Mae yna rywbeth amdanom sy’n deall y cydbwysedd yn y cynllun gweithredu, a fydd yn nodi beth y gallai’r Llywodraeth, neu sefydliadau yn y Llywodraeth, yn rhesymol ddisgwyl cymryd cyfrifoldeb dros eu gwneud. Ond mae hefyd yn dod yn ôl at y pwynt bod hwn wedi’i lunio yn rhan o'r cyn-ymgynghoriad o fewn y sector a gydag unigolion. Felly, mae llawer o'r hyn a welwch yma yn dod yn uniongyrchol gan y sefydliadau a’r unigolion hynny a ddywedodd, ‘Dyma beth yr ydym ni’n dymuno ei weld'. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Mae'n dangos ein bod wedi gwrando o ddifrif ar yr hyn yr oedd gan bobl i’w ddweud, ond maen nhw’n cydnabod, hefyd, bod angen darparu’r cydbwysedd hwn mewn cymorth anfeddygol, a chael hynny’n iawn yn y dyfodol.

Felly, mae'n ymwneud â’r comisiynu a dealltwriaeth o’r anghenion yn y lle cyntaf. Unwaith eto, fe welwch y broses honno’n digwydd o fewn y bensaernïaeth a luniwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol a’r Ddeddf llesiant, ond fe welwch hynny wrth i ni fynd ymlaen i gyflawni hyn. Fel y dywedais yn fy araith, mae dull ar draws y Llywodraeth sy’n angenrheidiol i wneud hynny, ond hefyd dull y tu allan i'r Llywodraeth, i lywodraeth leol, i'r trydydd sector, ac, wrth gwrs, fel y soniasoch yn gywir, unigolion a chymunedau.

Mae’n braf gallu nodi ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia. Rwy’n llongyfarch pawb sy’n ymwneud â gweithgareddau’r wythnos yma. Mi oedd hi’n braf gweld ein cyfeillion ni o Gymdeithas Alzheimer Cymru yma yn y Cynulliad heddiw, ac, wrth gwrs, mae yna ddigwyddiadau yn digwydd ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi cael e-bost y prynhawn yma yn tynnu sylw at ddigwyddiad yn neuadd y dre, Llangefni, rhwng 10 a.m. a 4 p.m. ddydd Iau. Mae hyn yn grêt—mae pobl yn siarad am ddementia, ond nid dim ond codi ymwybyddiaeth am ddementia sydd ei eisiau. Mae mwy a mwy o bobl yn dod i ddeall ac ymwneud â phobl sydd â dementia, ond beth sydd ei eisiau yw codi ymwybyddiaeth mwy a fwy o’r diffygion sydd yna yn y gofal i gleifion sydd â dementia, ac yn y gynhaliaeth i’w teuluoedd a’u gofalwyr nhw.

Mi fyddwn i yma yn dymuno talu teyrnged i Beti George, sydd wedi gwneud cymaint i hoelio’n sylw i ar y materion yma. Rhannodd Beti ei hanes hi yn gofalu am ei phartner, David Parry-Jones, mewn rhaglen ryfeddol o deimladwy ar y BBC yn ddiweddar—‘Lost for Words’. Yn drist iawn, mi gollodd Beti David fis diwethaf. Rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yma’n cydymdeimlo â Beti, ond mae’n rhaid inni i gyd ymrwymo i beidio â llacio ein penderfynoldeb ni i gael strategaeth sydd wirioneddol yn ceisio creu Cymru sy’n falch o fod yn gallu dweud, ‘Ydym, rydym yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer dioddefwyr dementia a’u teuluoedd’.

We are on a path that could lead us to being a nation that is dementia friendly—genuinely—which is able to say that we care always to the best of our ability for those with dementia, and give support to their carers and families. We have a strategy that is being created, and a strategy that can, as I say, be something that genuinely allows Wales to put its stamp on this matter that is such a painful part of so many people’s lives. But it does mean, of course, responding to the consultation, as we have done in the Health, Social Care and Sports Committee. We’ve considered ourselves, through the work that we’ve done, to be a key stakeholder in the work of creating that strategy that we all need.

Three questions: you said that the consultation findings will be incorporated into the final plan. Does this mean that you accept that the fall in the number of nights of respite care needs to be halted and reversed? Because that is something that’s come through very clear, certainly to us as a committee, in responding to the initial consultation document.

You’ve also highlighted the importance of the third sector, but this is a bit of a stuck record. The funding arrangements here are not particularly conducive to long-term service planning and retention of the best staff. So, what changes will you be requiring local authorities to make in commissioning services so that long-term planning can take place?

And finally, a very specific issue, and one of interest to me—we know that learning another language can help to prevent dementia. What actions are the Government taking to ensure that people understand this and have the opportunity to learn another language—it could be Welsh or it could be another language?

Diolch. I fod yn onest, nid wyf yn credu y byddwn yn sôn yn y strategaeth am y cyfle i ddysgu iaith arall yn benodol, ond mae ystod o weithgareddau yr ydym yn deall y gall pobl eu gwneud i helpu i leihau eu risg o gaffael dementia neu i oedi ei gychwyniad, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau ac unigolion i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny, a, gobeithio, i annog pobl i gymryd perchnogaeth o'r dewisiadau y gallent ac y dylent eu gwneud drostynt eu hunain.

Rwy'n glir iawn y byddwn yn ystyried yr ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr adroddiad y mae'r pwyllgor wedi’i ddarparu a byddwn yn ystyried yr hyn a ddywedir yn nhrafodaethau heddiw. Fel mewn unrhyw ymgynghoriad, bydd gennym ystod o syniadau y gallem ac y dylem eu cymryd i ystyriaeth a gwneud rhywbeth â nhw. Bydd rhannau hefyd nad oes modd i ni eu gwneud, ond mae’n rhaid cael rhywfaint o onestrwydd i ddweud, 'Mae hwn yn ymarfer ystyrlon'. Rwy’n credu y bydd yr Aelodau ac, yn wir, y rhanddeiliaid yn gweld sut y maen nhw wedi cael dylanwad ar y cynllun terfynol pan gaiff ei gyhoeddi.

Unwaith eto, rwy’n clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud, gennych chi a Suzy Davies, ar seibiant i ofalwyr, ac rwy'n glir iawn bod hwn yn ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth ei hun ynghylch gwella faint o ofal seibiant sydd ar gael.

O ran eich pwynt ynglŷn â chomisiynu gwasanaethau yn y tymor hwy, mae angen rhywfaint o onestrwydd ynghylch hyn ymhlith pobl yn y Siambr hon, waeth beth yw ein cefndir pleidiol. Pan fydd gan awdurdodau lleol gyllidebau blynyddol i gynllunio ar eu cyfer a’u rheoli, pan nad ydym yn gwybod maint y toriadau sy'n ein hwynebu a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran cynllunio cyllidebau ar gyfer ein hunain, heb sôn am actorion ac asiantau eraill yn y wlad, mae'n anodd iawn dweud wedyn, 'Rydym ni angen rhywun arall i gynllunio ar sail tymor hwy o lawer.'

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y gwir anorfod yw bod y sefyllfa’n ddeinamig, oherwydd nad ydym yn gwybod beth yr ydym am ei gael yn y lle hwn i fynd ati i’w rannu wedyn a’i drosglwyddo i actorion ac asiantau y tu allan i’r fan hon, ond fe ddylai cael strategaeth a siâp ar gyfer yr hyn yr ydym yn dymuno’i gyflawni helpu wrth fframio sut y mae'r penderfyniadau comisiynu hynny’n cael eu gwneud, lle maen nhw'n cael eu gwneud yn unigol gan awdurdodau lleol, o ba bynnag arweinyddiaeth wleidyddol—mae hyn yn her ar draws y wlad; nid yw ddim ond ar gyfer eich plaid chi, fi nac unrhyw un arall—mae'n cynnwys pob plaid a chynrychiolydd annibynnol sy'n rhedeg llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn her i fyrddau iechyd i weithio gyda'u partneriaid yn ogystal wrth geisio penderfynu sut maen nhw’n diwallu’n briodol y cynllun gweithredu a'r pwyslais a'r sylw y bydd gennym gydag ef. Felly, mae yna bwynt gonest yn y fan yna, er fy mod yn credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn hoffi gweld y gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio ar sail tymor hwy o lawer, yn gyson â'r strategaeth a chael mesurau canlyniad real a chyraeddadwy. Byddwn yn gwneud yr hyn y gallwn ac y dylem ei wneud wrth gynllunio strategaeth i helpu â'r defnydd gorau o'r adnoddau hynny.

Gwych oedd mynd i Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia heddiw —digwyddiad y tu allan i'r Senedd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia yn un yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Erbyn hyn, dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac fe ddisgwylir i nifer y bobl yr effeithir arnynt gan ddementia gynyddu gan oddeutu 40 y cant yn ystod y degawd nesaf.

Mae'n bwysig ein bod ni’n mabwysiadu dull cyfan, sy'n golygu gwrando ar bobl â dementia ynghylch eu hanghenion a barn aelodau o'r teulu, gweithwyr proffesiynol a gofalwyr. Felly, mae'n galonogol gweld y bu llawer o gydweithrediad â’r Gymdeithas Alzheimer a'r tîm prosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia. Dim ond drwy gasglu gwybodaeth, ac mae'n rhaid i hynny fod yn barhaus, y gallwn ni gyrraedd pobl ag anghenion mor unigol.

O ran y strategaeth ddementia ddrafft ei hun, mae gennyf ychydig o gwestiynau yn ymwneud â'r mesurau perfformiad lefel uchel. Rydych chi wedi gosod targed o sicrhau bod dwy ran o dair o ddioddefwyr dementia yn cael diagnosis ffurfiol. A allwch chi ddweud wrthyf i pryd y bydd yn bosibl i ni weld bod y targed hwn yn realistig ac, yn wir, a ydym am fod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwn?

Mae'r strategaeth yn gosod targed ar gyfer y ganran o staff y GIG sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd i gael eu hyfforddi mewn gofal dementia hefyd. Y targed yw tri chwarter y gweithlu erbyn 2019, a hoffwn ofyn pryd y gallwn ddisgwyl gweld 100 y cant o staff y GIG yn cael eu hyfforddi ar y lefel briodol o ofal dementia.

Mae Llywodraeth Cymru yn hollol iawn i ddymuno gweld gostyngiad yn y ganran o bobl â dementia sy'n cael presgripsiwn am feddyginiaeth gwrth-seicotig. Fodd bynnag, nid ydych chi wedi nodi targed ar gyfer y gostyngiad hwnnw, ac, yn ddigon teg, efallai y bydd rhai achosion lle bo hyn yn angenrheidiol, ond mae pob un o'r arbenigwyr yn cytuno na ddylem fod yn defnyddio’r meddyginiaethau hyn i drin dementia. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n defnyddio canllawiau i sicrhau bod meddyginiaeth gwrth-seicotig ond yn cael ei defnyddio pan fo angen gwirioneddol?

Rydych chi wedi amlygu’n flaenorol y gall dementia ddod ar unrhyw oed ac, yn wir, y rhan y gall alcohol ei chwarae. Mae angen i ni addysgu'r cyhoedd yn well ynghylch peryglon dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwed i'r ymennydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y ffaith y gall camddefnyddio alcohol arwain at ddementia? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i wella’r cyfleoedd i ddefnyddio clinigau camddefnyddio sylweddau, fel y gallwn, gobeithio, atal mwy o bobl rhag datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y dyfodol?

Mae dementia yn un o'r heriau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac felly, mae’n hanfodol ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn. Edrychaf ymlaen at weld a gweithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i rannu ein nod cyffredin o genedl sy’n deall dementia. Diolch.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Mi ddechreuaf i â’ch pwynt am y targed diagnosis. Mae'r drafft yn nodi ei fod ar gyfer oes y cynllun. Nodais yn fy sylwadau agoriadol ei fod yn rhywbeth yr wyf yn fodlon parhau i’w adolygu, gan fy mod yn gwybod bod nifer o actorion a rhanddeiliaid yn dymuno cael targed mwy uchelgeisiol, ond rwy'n benderfynol bod gennym darged heriol ond gonest. Nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol gosod targed uchelgeisiol na ellir ei gyflawni yn ystod oes y cynllun. Rwy’n dymuno cael rhywbeth sy'n real ac yn gyraeddadwy, ond fel y dywedais, sy’n heriol, ac yn cydnabod yr angen i wella ymhellach. Mae hynny'n fy helpu i i ymdrin â'ch pwynt ynghylch nifer y staff sy’n derbyn hyfforddiant. Rydym wedi gosod targed eisoes yr ydym yn credu sy’n un heriol. Yr hyn na fyddaf i’n ei wneud heddiw, i fynd â fi drwy ddadl, yw dewis ffigwr o’r awyr o '100 y cant o staff' neu 'bydd y nifer uchaf posibl o staff, felly, wedi eu hyfforddi'. Ond, eto, mae'n rhywbeth i ni ei adolygu a’i ystyried wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen, ac wrth i ni wneud cynnydd gwirioneddol trwy gydol oes y cynllun hwn tuag at gyflawni ein nodau a'n hamcanion.

Mae'r un peth yn wir am gyffuriau gwrth-seicotig. Rydym yn hyderus bod angen newid a herio’r ffordd y mae ymddygiad rhoi presgripsiynau yn digwydd. Mae gan bob clinigydd unigol gyfrifoldeb am y farn sydd ganddynt a'r gofal y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer unigolyn o fewn ei gyd-destun. Rydym yn dymuno gweld eglurder o ran y gallu i leihau rhagnodi cyffuriau gwrth-seicotig yn amhriodol. Ond nid wyf am ddweud heddiw y bydd unrhyw dargedau penodol yn cael eu gosod. Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei ystyried wrth lunio a dod i gasgliad terfynol yn y cynllun gweithredu. Unwaith eto, fe ddywedais i fod heddiw, o leiaf yn rhannol, yn ymarfer gwrando ar gyfer yr Aelodau ynghylch yr hyn y bydd gennym mewn gwirionedd yn y cynllun terfynol, i ystyried pa un a fydd targed yn ddefnyddiol—a fydd yn mynd â ni i bwynt lle’r ydym yn dymuno bod—ac yna sut y gallwn fesur yn briodol y cynnydd yr ydym yn ei wneud neu nad ydym yn ei wneud ar gael ymarferwyr clinigol i wneud gwahanol benderfyniadau.

Yna, eich pwynt olaf ynghylch atal camddefnyddio sylweddau ac adferiad. Fe wyddoch fod Rebecca Evans yn arwain ar bolisi camddefnyddio sylweddau a chamau gweithredu ar gyfer y Llywodraeth. Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y maes hwn er gwaethaf y gostyngiadau yn y gyllideb gyffredinol. Mae hynny ynddo'i hun yn arwydd o’r realiti ein bod yn cydnabod bod hwn yn faes hynod o bwysig, nid yn unig o ran lleihau dementia. Rwy'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed ar ddechrau’r ddadl hon am y cynnydd mewn dementia yr ydym yn gwybod ein bod yn ei wynebu fel gwlad. Mae rhan o hynny yn gysylltiedig ag oedran, ond mae llawer ohono'n gysylltiedig ag ymddygiad hefyd. Mae pob un ohonom yn gwybod ein bod yn gwneud dewisiadau drosom ein hunain sydd â chanlyniad posibl. Gwyddom o astudiaeth Caerffili, a gynhaliwyd dros gyfnod sylweddol o amser ar bobl yn byw yn yr un math o gymunedau yng Nghymru, bod gwneud dewisiadau gwahanol ar y prif ymddygiadau a phenderfynyddion canlyniadau iachach—ar ysmygu, alcohol, deiet ac ymarfer corff—yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar ordewdra fel y gwnaethom ddarganfod yn gynharach, ac a fydd yn cael ei drafod yn nes ymlaen heddiw pryd yr wyf yn gobeithio y byddwn yn pasio Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond hefyd mewn ystod eang o feysydd eraill. Mae effaith sylweddol o’r dewisiadau a wnawn. Bydd gwneud dewisiadau gwahanol yn well i ni yn y presennol ac nid yn unig ar gyfer ein dyfodol. Mae'n un o'n heriau mawr fel cenedl: pa un a allwn ni benderfynu ar y cyd y byddwn yn gwneud dewisiadau iachach ar gyfer ein hunain ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod falch ein bod yn cael y cyfle hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia i wrando unwaith eto ar farn yr Aelodau. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd amser i ystyried ymgynghoriad sydd wedi cael ymateb da. Rwy'n credu mai’r ymagwedd hollol gywir yw cael y strategaeth hon yn iawn, er y byddwn yn ychwanegu fy mod yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym ar ddiwedd y broses hon strategaeth sy’n ddigon uchelgeisiol i ddiwallu maint yr her yr ydym yn ei hwynebu gyda dementia yng Nghymru.

Croesawaf yn fawr yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am y pwyslais cryf ar ddull seiliedig ar hawliau, sydd yn fy marn i wedi dod o fewnbwn rhagorol y prosiect ymgysylltu a grymuso dementia, ac rwy’n achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r bobl sy'n byw gyda dementia yr wyf yn gwybod sydd wir wedi gweddnewid gwaith Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol. Mae’r cyntaf ar gyfraddau diagnosis, a chlywais yr hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y pwynt na fyddai 50 y cant yn ddigon ar gyfer clefyd fel canser, ac ni ddylai fod yn ddigon ar gyfer pobl â dementia. Rwy’n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am yr angen i fod yn realistig, ond hoffwn weld y gwaith yr ydych yn ei wneud i barhau i adolygu hyn â’r nod o darged diagnosis mwy uchelgeisiol. Byddai gennyf hefyd ddiddordeb mewn cael gwybod yn eich ymateb heddiw i ba raddau y mae cyfraddau diagnosis wedi dod i’r amlwg fel problem yn yr ymgynghoriad hwn, gan fy mod yn gwybod ei fod yn ymateb y pwyllgor iechyd, roedd yn sicr yn fy ymateb i ar ran y grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n amau ei fod yn y mwyafrif helaeth o'r ymatebion, bod pobl yn dymuno i’r uchelgais hwnnw fod yno ar gyfer cael targed gwell o ran cyfradd diagnosis.

Mae sawl un wedi crybwyll y mater gweithwyr cymorth. Fy mhryder i’n benodol, fel y bu drwy’r adeg, yw y bydd angen mwy ohonyn nhw nag y mae'r cynllun yn ei gynnig. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut y mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny, gan nad yw'r 32 a nodwyd ar hyn o bryd am fod yn ddigon, a hoffwn wybod a ydych chi’n ailasesu hynny.

Byddwch yn ymwybodol—ac rwy'n ddiolchgar i chi am ddod i'r grŵp trawsbleidiol i siarad â ni ac i siarad â phobl sy'n byw gyda dementia—bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn fater pwysig iawn a ddaeth allan o'r cyfarfod hwnnw, ac rwy'n falch bod hynny wedi’i nodi yn y datganiad. Byddwn yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae eich syniadau’n datblygu yn gysylltiedig â hynny.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am ailafael yn y materion a godais i yn dilyn y grŵp trawsbleidiol ynghylch y gymuned Sipsiwn / Teithwyr, a’ch cydnabyddiaeth na wnaed digon o waith i ganfod anghenion y gymuned honno o ran dementia. Felly, hoffwn ofyn sut mae’r gwaith hwnnw wedi dod yn ei flaen, am fy mod yn gwybod eich bod yn bwriadu ymgynghori ymhellach â'r gymuned honno.

Ac yn olaf gair bach i ddweud fy mod i heddiw wedi bod i fyny yn Big Pit yn fy etholaeth i, yn lansiad y daith dan ddaear sy’n addas i bobl â dementia, ac rwy'n siŵr y byddech chi’n dymuno ymuno â mi i longyfarch Big Pit ac Amgueddfa Cymru ar fenter ragorol sy’n torri tir newydd. Ond a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn eich tyb chi fydd swyddogaeth y Llywodraeth bellach o ran gwneud yn siŵr bod yr holl arferion da yr ydym yn eu gweld, o ganlyniad i waith caled iawn mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru—ac mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud allan yna—yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru? Diolch.

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy'n falch o glywed eich bod yn cydnabod y dylem ei gael yn iawn eleni, a gyda digon o uchelgais dyna’n union yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni.

Hoffwn ymdrin â'ch pwynt am ofal diwedd oes a'r cysylltiad â hynny. Yn y datganiad blaenorol, cawsom gwestiwn gan Julie Morgan am ofal diwedd oes a'r cysylltiad o ran yr angen i wella gofal diwedd oes i bobl sy'n byw gyda dementia hefyd. A'r pwyntiau am gynllunio gofal ymlaen llaw: mae angen i chi gael y sgwrs honno’n ddigon buan fel bod pobl yn gwneud dewisiadau gweithredol, yn hytrach na chael rhywun yn gwneud y dewisiadau drostynt, ac mae’n rhaid i bobl ddychmygu beth y gallai neu y byddai rhywun wedi’i ddymuno. Mae honno’n sefyllfa anodd iawn i roi pobl ynddi.

Ac rwy’n cydnabod y pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud yn gyson am weithwyr cymorth, ynghylch deall yr angen, ynghylch deall y meysydd y gellir eu defnyddio ac ynghylch yr adnoddau. Rydym eisoes wedi ymrwymo adnoddau sylweddol hyd yma, ond mae'r dewisiadau gwahanol y byddwn yn dewis eu gwneud, ar ôl cael penderfyniad strategol am y cynllun gweithredu, ac yna gwneud yn siŵr bod adnoddau'n cyd-fynd â hwnnw i gyflawni ar y nodau a'r amcanion.

Unwaith eto, rwy’n cydnabod eich bod chi wedi bod yn gyson iawn am gyfraddau diagnosis. Roedd yn fater arwyddocaol yn yr ymgynghoriad. Ceisiais gydnabod hynny yn fy natganiad agoriadol. Mae'n bwysig, unwaith eto, fod gennym darged uchelgeisiol a heriol, ond un sy’n realistig. Rwy’n dymuno gweld gwelliant gwirioneddol yn digwydd ac nid wyf yn dymuno gweld esgusion am beidio â chyflawni targed. Mae'n rhaid i ni gael rhywbeth a all herio, ond hefyd a all gael ei gyflawni. Mae'n rhywbeth sy’n ymwneud nid yn unig â’r diagnosis sy’n digwydd a'r cymorth a’r hyfforddiant ychwanegol y mae pobl eu hangen i wneud y diagnosis, ond hefyd â sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd y diagnosis wedi’i wneud hefyd. Gwn fod hynny’n fater a godwyd yn y cyfarfod gyda'r grŵp trawsbleidiol y bûm i ynddo.

Ac yn olaf, dau bwynt. Rwy'n teimlo bod y cysylltiad â'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia wedi bod yn ymarfer pwysig iawn, cyn lansiad yr ymgynghoriad—y cyn-ymgynghoriad—ac yn ystod yr ymgynghoriad hefyd. Mae'n bwysig iawn, os ydym am siarad am gyd-gynhyrchu a bod y dinesydd yn bartner cyfartal yn ei ofal iechyd, bod ystyr i hynny o ran y ffordd yr ydym yn dylunio polisi hefyd. Felly, nid yw’n ymwneud yn unig â chael eiriolwyr proffesiynol yn siarad ar ran pobl â dementia. Mae pobl sy'n byw’n uniongyrchol gyda dementia eu hunain wedi bod yn rhan bwysig o’r cynllunio a chyflawni hyd yn hyn a byddant yn parhau i fod wedyn wrth ddarparu’r gwasanaethau.

Ac yn olaf, rwy’n cydnabod bod angen cyflwyno arfer da. Dyna pam y bydd gennym ddogfen gryno i fynd gyda hwn er mwyn deall beth sy’n digwydd eisoes a lle mae arfer da yn bodoli, fel bod pobl eraill yn gallu edrych ar sut a pham y mae hynny'n cael ei greu. Mae her bob amser i weld a yw arferion da yn teithio mewn gwirionedd ac y gellir eu cyflwyno ar draws y system. Pa mor aml y mae arfer da wir yn ymwneud â chyfres o amgylchiadau mewn ardal a grŵp o unigolion ysbrydoledig sy'n dod at ei gilydd ar hap a damwain, yn hytrach na thrwy gynllunio'r ffordd y dylai'r system gyfan weithio? Ond i ddeall sut y mae hynny’n edrych fel bod gwell gobaith i hynny ddigwydd mewn gwirionedd.

Yn olaf, i longyfarch Big Pit ar y daith sy’n addas i bobl â dementia. Byddwn wedi bod wrth fy modd o gael ymuno â chi y bore yma ar y daith. Cefais un o fy niwrnodau gorau allan yn yr amgueddfa genedlaethol yn Big Pit gyda’m tad-yng-nghyfraith. Mae'n brofiad gwych, ac mae gwneud yn siŵr bod yna daith sy’n addas i bobl â dementia erbyn hyn yn gam mawr ymlaen.

Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym oherwydd ymdriniwyd â’r rhan fwyaf ohonynt. O ran lleihau’r risg, rwy'n credu bod y chwe phwynt a 'Law yn Llaw at Gymru sy’n Deall Dementia’ yn gwbl hanfodol, a tybed beth arall y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i’r camau hynny. Rwy’n teimlo, yn amlwg, mai’r un pwysig iawn yw rhoi cynnig ar bethau newydd—cyflwynodd Rhun ap Iorwerth y syniad o ddysgu iaith, yr iaith Gymraeg—ac roeddwn i eisiau tynnu sylw, rwy’n credu mod i wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen, at ganu ar gyfer pobl â dementia a'r Forget-me-Not Chorus, sy'n cwmpasu Caerdydd, y Fro a Chasnewydd ac sy'n weithgaredd mor ysbrydoledig sy'n cynnwys pobl â dementia ac, wrth gwrs, eu gofalwyr hefyd. Felly, tybed a oedd unrhyw gynlluniau i annog a chefnogi gweithgareddau o’r fath, sydd y tu allan i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl. Credaf ei fod yn cael ei wneud ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, hynny yw y gweithgaredd penodol hwnnw.

Rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi rhoi cymaint o bwyslais ar godi ymwybyddiaeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ar gyfer yr unigolion a chyrff cyhoeddus, ond cwmnïau preifat hefyd. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi gweld beth mae Nwy Prydain yn ei wneud ynglŷn â hyn, cwmni sy’n gwneud ei orau glas i fod yn sefydliad sy’n deall dementia. Mae wedi cael ei lethu gan gynigion gan staff i fod yn eiriolwyr dementia. Rwy'n credu mai ei nod oedd cael 15 ond cafwyd 50 ar unwaith. Nawr mae eu peirianwyr yn cael hyfforddiant, sy'n golygu pan fyddant yn mynd i mewn i gartrefi pobl eu bod yn ymwybodol o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â dementia. Rwy'n credu bod yna waith mawr i'w wneud yn hynny o beth, y tu hwnt i'r mannau lle mae gennym ein ysgogwyr naturiol o fewn y sector cyhoeddus. Nid wyf yn gwybod a oedd ganddo unrhyw fwriad i edrych ar hynny.

Rydych chi wedi cynnwys gofal diwedd oes yn eich ymateb i Lynne Neagle, ond roeddwn i eisiau ailadrodd fy nghefnogaeth at yr hyn a ddywedodd Lynne Neagle am anghenion penodol y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae ganddynt gyfradd marwolaeth gynnar iawn o'i chymharu â gweddill y cyhoedd, ac rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig mynd i'r afael â’r anghenion penodol sy’n gysylltiedig â’r strategaeth dementia.

Diolch. Roeddwn i ar fai drwy beidio ag ymateb i bwynt Lynne Neagle am y gymuned Sipsiwn / Teithwyr. Mae'n werth cymryd hynny i ystyriaeth a meddwl sut y gellid mynd â hynny yn ei flaen—angen cydnabyddedig nad yw’n cael y sylw iawn. Yn un o ddigwyddiadau blaenorol y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr fe wnes i gydnabod yn arbennig, gyda'r gwaith ymchwil a gyhoeddwyd, bod diffygion parhaus o hyd yn ein gallu i gynnig darpariaeth iechyd a gofal digonol gyda’r gymuned arbennig honno. Dim ond rhywfaint o hynny sy’n ymwneud â'r rhwystrau diwylliannol sy'n bodoli. Mae llawer ohono mewn gwirionedd ynghylch parodrwydd gwasanaethau i ymgysylltu'n briodol ac yn effeithiol. Rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu sylw at enghraifft Nwy Prydain. Cyfeiriwyd at gwmnïau eraill heddiw, lle mae codi ymwybyddiaeth yn digwydd yn uniongyrchol gyda staff, ac ynghylch pobl yn deall drostynt eu hunain, ac, o fewn y grŵp staff mawr hwnnw, y bydd pobl yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Ac yn aml mae ymateb hael pan fydd y mater yn cael ei drafod a'i ddadlau mewn grwpiau o bobl. Ein her fydd pa mor llwyddiannus y byddwn ni o ran cael mwy a mwy o sefydliadau i ymgymryd â'r math honno o ymagwedd.

Rwy’n cydnabod bod amser wedi mynd ymlaen ac rwyf am geisio bod yn gryno wrth ateb gweddill eich pwyntiau. Rwy'n falch eich bod, yn gynharach, wedi cyfeirio at y pwynt o roi cynnig ar rywbeth gwahanol. I rai pobl, mae gwneud rhywbeth gwahanol, fel canu, yn rhan bwysig o hynny, ond mae'n mynd ymlaen i'r ail bwynt o wneud rhywbeth i brocio a chadw'r cof ac, yn aml, mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o sbarduno a chadw cof. A’r atgofion eraill hefyd, fel yr Atgofion Chwaraeon yr oedd Lesley Griffiths yn eu hyrwyddo yn gynharach eleni, hefyd—enghraifft bwysig iawn o ddeall yr hyn sydd wedi rhoi ystyr i fywyd a mwynhad rhywun, hefyd. Felly, mae yna lawer iawn o wahanol feysydd yr ydym yn dymuno rhoi cynnig ar eu hyrwyddo, ac, eto, gan feddwl am yr arfer da hwnnw, lle mae'n bodoli. Yn aml, mae’n hawdd gwneud llawer o hynny heb fod angen llawer iawn o arian; mae yn gofyn am rywfaint o amser a dealltwriaeth.

7. 6. Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar Gyfnod 4 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rydw i’n galw ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6312 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Llywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol. Mae’n bleser gennyf gyflwyno'r pedwerydd cyfnod a'r cyfnod olaf o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad heddiw.

Mae'r Bil hwn wedi bod ar daith hir er mwyn cyrraedd y pwynt hwn, trwy wahanol gyfnodau o ymgynghori a mireinio pellach. Mae heddiw yn nodi penllanw’r daith honno. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeiryddion ac aelodau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu diwyd ar y Bil. Yn yr un modd, hoffwn ddiolch i’r ystod eang o randdeiliaid sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol drwy gydol y broses ar draws pob un o'r meysydd y mae'r Bil yn ymdrin â nhw. Mae'r Bil sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn parhau traddodiad cryf Cymru o ddefnyddio deddfwriaeth yn rhan bwysig o'n hymdrechion i wella a diogelu iechyd, ochr yn ochr â'n gwasanaethau, rhaglenni, polisïau ac ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus wedi'u teilwra. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i'n cymunedau mewn nifer o ffyrdd.

Rydym wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd i amddiffyn y boblogaeth rhag niwed o ganlyniad i ysmygu, yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc. Bydd y Bil yn torri tir newydd pwysig drwy ymestyn y gofynion di-fwg, am y tro cyntaf erioed, i fannau agored penodol. Bydd hyn, ynghyd â darpariaethau eraill y Bil ar gyfer cynhyrchion tybaco a nicotin, yn ymwreiddio ymhellach y cynnydd sylweddol yr ydym wedi'i wneud yn y maes hwn. Bydd pobl sy'n dewis cael triniaethau penodol, gan gynnwys tyllau yn y corff a thatŵio, yn cael eu hamddiffyn yn well rhag risgiau posibl o haint, drwy'r system drwyddedu newydd. Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar y newidiadau i’r modd y mae gwasanaethau fferyllol a mynediad i doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd yn cael eu cynllunio, a hefyd yn elwa ar yr asesiadau effaith iechyd a fydd yn cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Bil hwn eisoes wedi elwa ar graffu llawn yn y pedwerydd Cynulliad ac, o ganlyniad, yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau ar gyfer gwella a diogelu iechyd a llesiant ymhellach yng Nghymru. Serch hynny, mae gwaith y Cynulliad hwn wedi arwain at nifer o newidiadau o bwys sydd wedi cryfhau’r Bil yn sylweddol. O ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith hwn, bydd plant hyd at 18 oed bellach yn cael eu hamddiffyn rhag y niwed y gellir ei achosi gan dyllu rhannau personol o’r corff. Bydd y gofynion di-fwg mewn mannau agored yn cael eu hymestyn i gynnwys lleoliadau gofal plant yn yr awyr agored, gan amddiffyn plant ymhellach rhag y niwed o ganlyniad i ysmygu a’i atal rhag cael ei ystyried yn weithgaredd dyddiol arferol. Ac, yn bwysig iawn, mae'r Bil bellach yn rhoi pwyslais deddfwriaethol clir i gamau gweithredu gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater iechyd cyhoeddus sy’n flaenoriaeth, sef gordewdra, drwy'r strategaeth genedlaethol a fydd yn awr yn cael ei pharatoi.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am y ffordd gydweithredol y maent wedi ymgysylltu â'r materion a gweithio gyda'r Llywodraeth i wella'r Bil yn y ffyrdd pwysig hyn. Wrth gwrs, er bod heddiw yn nodi diwedd taith y Bil drwy'r Cynulliad, os caiff ei basio, bydd hefyd yn nodi cychwyn cyfnod newydd allweddol. Edrychaf ymlaen at weithredu elfennau amrywiol y Bil i wireddu'r llu o fanteision y mae'n ceisio eu cyflawni i bobl Cymru, ac ymgysylltu parhaus y Cynulliad ar y gwaith hwnnw.

Cyn i mi gau, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant iawn i bob un o'r swyddogion sydd wedi cefnogi’r gwaith ar y Bil mor ofalus ac mor ddyfal wrth iddo fynd ar ei hynt drwy'r Cynulliad. Llywydd, rwy’n cymeradwyo'r Bil i'r Cynulliad.

Rwy'n codi ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, yn absenoldeb fy nghydweithiwr, Angela Burns, i ddweud yn syml ein bod yn falch iawn o allu cefnogi Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) y prynhawn yma, wrth iddo wneud ei daith olaf trwy’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae mewn cyflwr llawer gwell na’r fersiwn flaenorol o’r Bil, a oedd, wrth gwrs, yn ceisio cyflwyno cyfyngiadau diangen ar e-sigaréts. Roeddwn yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweld synnwyr ar y mater hwnnw ac wedi tynnu’n ôl y cyfyngiadau arfaethedig ar y rheini o’r Bil diwygiedig a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad y llynedd.

Rydym yn falch iawn o weld y cyfyngiadau ychwanegol ar ysmygu tybaco. Fel y gwyddoch, rydym wedi cymryd rhan mewn rhai trafodaethau defnyddiol iawn ar estyniadau pellach posibl i'r ardaloedd hynny lle gwaherddir ysmygu yn y dyfodol, yn enwedig o gwmpas llochesi bysiau ac mewn lleoliadau eraill lle bydd plant ifanc yn aml yn ymgasglu. Rydym yn falch iawn hefyd o weld y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynllunio cyfleusterau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gweld rhai gwelliannau sylweddol o ran sicrhau na cheir yr achosion o gau cyfleusterau cyhoeddus yr ydym wedi eu gweld yn sgil y gofyniad i gynhyrchu strategaethau lleol.

Ac, wrth gwrs, cafwyd y gwelliant pwysig iawn a basiwyd yng Nghyfnod 3, gyda chefnogaeth yr holl bleidiau yr wythnos diwethaf, o ran yr angen am strategaeth gordewdra genedlaethol. Rwy'n credu y cafwyd dadl gref a phwerus iawn a argyhoeddodd bawb yn y Siambr hon i gydnabod pwysigrwydd gordewdra i iechyd y cyhoedd a'r angen am raglen genedlaethol o gamau i’w gweithredu, os ydym ni’n mynd i gyflawni canlyniadau iechyd gwell yn y dyfodol. Felly, roeddem yn falch iawn o gefnogi'r gwelliant hwnnw.

O ran gwasanaethau fferyllol, rydym yn gwybod yn aml iawn fod trafodaethau hirfaith yn digwydd mewn cymunedau lleol lle ceir newidiadau arfaethedig, ar hyn o bryd, i wasanaethau fferyllol lleol, hyd yn oed i bethau syml fel adleoli. Felly, rwy’n credu y bydd y rheoliadau newydd a'r darpariaethau newydd yn y Bil hwn yn helpu i wella hynny. Felly, rwyf eisiau dweud, ar y cyfan, ein bod yn sicr yn cefnogi egwyddorion y Bil hwn. Edrychwn ymlaen at eich dwyn i gyfrif fel Llywodraeth am weithredu'r Bil pan ddaw'n gyfraith ac ar ôl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i wella iechyd cyhoeddus pobl Cymru.

Mi fyddwn ninnau’n pleidleisio dros y Bil yma heddiw. Peidiwch â’m cael i’n anghywir: nid ydw i’n awgrymu y dylai pob Bil ddilyn taith debyg i Fil iechyd y cyhoedd drwy’r Cynulliad, ond rydw i’n meddwl bod y ffaith i’r Bil yma, i bob pwrpas, fynd drwy’r Cynulliad yma ddwywaith yn dangos ôl gwaith, meddwl a gwelliant, a hynny o feinciau’r Llywodraeth a’r gwrthbleidiau hefyd. Mae o’n Fil cryf, rydw i’n meddwl, sydd o’n blaenau ni ar gyfer cymal 4 heddiw.

Rydw i’n arbennig o falch o’r gwelliant gan Blaid Cymru a gafodd gefnogaeth unfrydol wythnos yn ôl a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Llywodraeth lunio strategaeth i daclo gordewdra, y broblem iechyd fwyaf sy’n ein hwynebu ni fel cenedl, mae’n siŵr. Rydw i’n ddiolchgar am barodrwydd y Gweinidog i gydweithio ar hwn. Yr her rŵan, wrth gwrs, ydy llunio strategaeth a all fod yn wirioneddol drawsnewidiol o ran iechyd ein cenedl ni.

Nid yw hwn yn Fil perffaith, nid ydw i’n meddwl, er hynny. Mi oeddem ni yn sicr ar y meinciau yma yn eiddgar i gryfhau’r Bil mewn perthynas â’r awyr yr ydym ni’n ei anadlu. Chawsom ni ddim gefnogaeth i’r gwelliannau hynny. Wedi dweud hynny, mae’r British Lung Foundation yn falch bod y gwthio rydym ni wedi ei wneud ar hyn wedi arwain at rywfaint o symud o du’r Llywodraeth. Ond mae’n rhaid imi ddweud mi glywsom ni heddiw eto gan y Prif Weinidog fod ei Lywodraeth yn fodlon aros am strategaeth y Llywodraeth yn San Steffan ar daclo llygredd awyr cyn paratoi cynllun i Gymru. Nid oedd o hyd yn oed yn barod i ymateb i gais Simon Thomas yma i osod targedau penodol. Beth bynnag, mi fydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn dal i bwyso am strategaeth gyflawn ar sail iechyd cyhoeddus i wella ansawdd awyr a gostwng peryglon llygredd, ac mi wnaf i edrych ymlaen at barhau i drafod gyda’r Llywodraeth yn y maes yma.

Ond, heddiw, mi gefnogwn ni’r Bil yma sydd, yn ei gyfanrwydd, rydw i’n meddwl, yn Fil, rydym ni’n credu, a all fod yn arf pwysig o ran diogelu y cyhoedd, diogelu iechyd y cyhoedd, ac annog Cymru fwy iach mewn blynyddoedd i ddod.

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.

Hoffwn ddiolch i'r ddau lefarydd am eu sylwadau heddiw ac am eu cefnogaeth i’r Bil. Rwy’n edrych ymlaen at weithredu'r Bil yn awr, gan fy mod o’r farn bod ganddo botensial gwirioneddol i wella iechyd cyhoeddus pobl Cymru, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ac ymgysylltu ag Aelodau ar draws y Cynulliad yn y cyfnod gweithredu, y byddwn yn symud iddo nesaf. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 8. Dadl Fer: Tanau Trydanol—Bygythiad Cynyddol yn yr Oes Dechnolegol sydd Ohoni

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw’r ddadl fer, ac rydw i’n symud i’r ddadl fer, ac rydw i’n galw ar Dawn Bowden i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi, ac rydw i’n gofyn i bawb arall i adael y Siambr yn dawel.

If all Members who are leaving could leave the Chamber quietly—we still have important business to hear. Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan fy mod yn y misoedd diwethaf wedi gallu cwrdd â chynrychiolwyr o Electrical Safety First a siarad â nhw am yr ystadegau y maent wedi eu darparu, yn enwedig ynghylch tanau a achoswyd oherwydd diffyg gofal gydag offer a dyfeisiau trydanol. Ac rwy’n falch hefyd o roi munud o fy amser i Mike Hedges er mwyn iddo gyfrannu at y ddadl hon.

Mae'n amserol, efallai, fod y cyfle hwn wedi codi i mi siarad yn awr ar y pwnc hwn, gan fod fy mam fy hun wedi dioddef tân yn y cartref yn ddiweddar, sydd wedi achosi iddi orfod symud allan o'i chartref, am sawl mis fwy na thebyg. Achoswyd y tân bron yn sicr gan wifrau diffygiol neu offer trydanol. Roedd hi allan yn cerdded y ci pan ddechreuodd y tân. Yn ffodus dim ond am ryw 20 munud yr oedd hi allan, a phan gyrhaeddodd adref llwyddodd i gael cymorth yn gyflym cyn i’r tân gymryd gafael ar y tŷ cyfan. Er gwaethaf y camau cynnar hynny, roedd y difrod a achoswyd gan y tân a’r mwg yn sylweddol, a bydd rhaid adnewyddu’r tŷ cyfan.

Yng Nghymru, mae ystadegau yn dangos lleihad cyson yn nifer y tanau mawr rhwng 2010 a 2015, ond gwelwyd cynnydd yn y flwyddyn hyd at 2016. Ymddengys bod tanau o nwyddau gwyn ar lefel gyson yn gyffredinol yn ystod yr un cyfnod, a bu gostyngiad amlwg a chyson, fel y byddem fwy na thebyg yn ei ddisgwyl, yn y tanau simnai. Ond nid ydym wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn tanau damweiniol. Gallai'r rheswm am hynny fod yn nheitl y ddadl hon: tanau trydanol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n siwr fod eich cartrefi chi, fel fy un i a llawer o rai eraill y dyddiau hyn, yn cynnwys llu o ddyfeisiau cyfathrebu symudol. Yn eich cartrefi, bydd gan bob un ohonoch ffonau Cynulliad ac iPads Cynulliad, a heb amheuaeth bydd gan lawer ohonoch ffonau symudol a chyfrifiaduron llechen personol o ryw fath hefyd.  Gan nad yw’r rhan fwyaf o deuluoedd bellach yn dibynnu ar un ffôn tŷ sefydlog, mae'n eithaf tebygol y bydd gan bob aelod o'r teulu hefyd ei ffôn symudol a’i ddyfais gyfrifiadurol gludadwy ei hun. Ac, os oes gennych gyn ysmygwyr yn y tŷ, mae'n debyg y bydd gennych ddyfeisiau e-sigaréts hefyd. Mae pob un o'r dyfeisiau hyn, neu bob un o'r unedau hyn, yn dibynnu ar wefrwyr symudol, sydd yn anochel yn cynyddu'r risg o danau, dim ond oherwydd y niferoedd enfawr ohonyn nhw sydd gennym, ond mae i’r dyfeisiau hyn eu risgiau penodol eu hunain hefyd.

Oherwydd natur y dyfeisiau, nid ydym yn tueddu i'w defnyddio pan fyddwn yn cysgu, felly mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu gwefru nhw dros nos, ac mae hyn, wrth gwrs, yn golygu nad ydym yn sylwi os ydynt yn dechrau poethi. A faint o bobl sy’n gadael dyfeisiau yn gorffwys ar rywbeth a allai fod yn fflamadwy, fel clustog neu gadair feddal, wrth eu gwefru? Yn wir, mae rhai pobl ynghlwm wrth eu ffonau symudol i’r fath raddau nes eu bod yn gwefru’r ffonau dan eu clustogau. A chan fod gennym gymaint o ddyfeisiau, rydym hefyd yn prynu gwefrwyr sbâr. Mae gwefrwyr sbâr y gweithgynhyrchwyr yn cael eu hystyried yn ddrud yn aml, ac mae cymaint o ddewisiadau eraill rhad i’w prynu ar y rhyngrwyd, sy’n aml yn ddewis deniadol. Ac rwy’n credu bod hwn yn fater y mae Mike Hedges am ei grybwyll yn ei gyfraniad yn ddiweddarach, felly gadawaf iddo ef ymhelaethu ar y peryglon cynhenid y mae hyn yn eu cyflwyno.

Felly, beth allwn ni ei wneud i wella diogelwch trydanol? Yn ddiddorol, mae gennym reoliadau sy'n gofyn i landlordiaid preifat gynnal gwiriadau diogelwch blynyddol ar ffitiadau ac offer nwy, ond nid oes unrhyw drefn o’r fath yn bodoli ar gyfer offer trydanol. Gallai hyn fod yn fan cychwyn. Yn y Cynulliad diwethaf, cafwyd cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru y byddai rheoleiddio yn fuddiol o safbwynt diogelwch tân, ond hyd yma ni chyflawnwyd hynny. Byddai trefn ragofalus o’r fath yn sicr yn fodd o leihau'r risg i denantiaid yn sylweddol a hynny ar gost gymharol isel i landlordiaid—tua £100 i £150 ar gyfer unrhyw gyfnod prawf dynodedig—a byddai hefyd yn amddiffyn eu buddsoddiad eiddo.

Wrth gwrs, rydym yn tybio mai’r cynnydd yn y defnydd o ddyfeisiau symudol a gwefrwyr sy’n gyfrifol am y nifer cynyddol o danau damweiniol. Ond mewn gwirionedd nid yw’r cofnodion a gedwir gan nifer o awdurdodau tân, yn rhyfedd iawn, yn categoreiddio dyfeisiau symudol fel un o’r achosion, er bod y rhan fwyaf yn dal i gofnodi tanau simneiau, sydd bellach yn gymharol brin. Mae hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru annog yr awdurdodau tân i’w newid fel y gallwn o leiaf ddeall maint y broblem.

Yn olaf, Llywydd, ni fydd unrhyw reoleiddio yn y sector rhentu preifat yn diogelu perchnogion tai, a fydd, yn ddiamau, hefyd yn anghofio’r risgiau sy'n gysylltiedig â chyfarpar trydanol, yn enwedig dyfeisiau symudol. Ond gallwn ni i gyd geisio ymgyfarwyddo â'r peryglon posibl a bod yn fwy cyfrifol o ran sut y byddwn yn defnyddio offer trydanol ac, yn bwysig iawn, y math o offer trydanol a brynwn. Ers fy nhrafodaethau gydag Electrical Safety First, rwyf i yn sicr wedi newid fy arferion wrth ddefnyddio offer trydanol, a’r hyn yr wyf yn ei brynu.

I gloi, Llywydd, yr hyn yr wyf i'n gobeithio amdano wrth gyflwyno'r ddadl hon yw trafodaeth ar ailystyried cyflwyno trefn reoleiddio ar gyfer profion trydanol yn y sector rhentu preifat; rhagor o waith ymchwil, gan gynnwys newidiadau i'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau tân am achosion tanau; ac ymgyrch gyffredinol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ar atal tanau trydanol. Gadewch i ni weithredu nawr i leihau risgiau tân diangen ond cyffredin yn ein cartrefi a achosir gan anwybodaeth ynghylch diogelwch trydanol. Diolch.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwyf am sôn am ddau beth: sythwyr gwallt a gwefrwyr. Dyma enghreifftiau o danau o ganlyniad i sythwyr gwallt: gwraig y bu’n rhaid ei hachub o'i chartref a aeth ar dân ar ôl i bâr o sythwyr gwallt gael eu gadael ymlaen ar lawr pren a chychwyn tân. Roedd yn rhaid iddi gael ei hachub gan ddiffoddwyr tân; cafodd dau fachgen ifanc eu hachub o ystafell wely mewn tŷ yn Pinner, yng ngogledd Llundain, gan ddiffoddwyr tân ar ôl tân a ddechreuwyd gan sythwyr gwallt. Mae llawer o bobl yn defnyddio sythwyr gwallt. Nid wyf i, gyda llaw, ond mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny ychwaith, ond efallai fy mod yn anghywir. [Chwerthin.] Mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Maent yn cyrraedd tymheredd uchel iawn a gallant fod yn beryglus. Er na arweiniodd y ddwy enghraifft hyn at farwolaeth, os nad ydym yn mynd i’r afael â hyn bydd marwolaeth yn digwydd yn y pen draw.

A gwefrwyr. Mae’r ffaith bod cymaint o ddewisiadau generig rhad ar gael ar-lein, yn ôl arbenigwyr diogelwch tân, yn hynod beryglus. Gall gwefrwyr ar safleoedd ocsiwn gostio llai na £1 ac mae’r rhai gan y gwneuthurwr priodol yn costio dros £15. A yw'n unrhyw syndod bod pobl yn prynu’r rhai rhatach? Ond yr hyn y mae’r gwefrydd yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw gostwng maint y trydan a ddefnyddir—y foltedd—i lawr i'r foltedd sydd ei angen i wefru’r batris. Ond os ydynt yn wefrwyr generig, yr hyn sy’n digwydd yw nad ydynt o bosib yn gweithio'n effeithiol, a gallant achosi i lawer o wres gael ei gynhyrchu. Canfu'r elusen Electrical Safety First bod hanner y gwefrwyr wedi’u gwifrio â chydran sy’n is na’r safon ofynnol, ac nad oedd yr un ohonynt yn bodloni gofynion diogelwch Rheoliadau Offer Trydanol (Diogelwch) 1994. Oni chaiff rhywbeth ei wneud am hyn, rydym yn mynd i gael tanau ac mae pobl yn mynd i farw.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig yma heddiw. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at risg cynyddol a difrifol. Dymuniadau gorau i’w mam, hefyd, wrth iddi adnewyddu ei chartref.

Er bod tanau ac anafiadau tân yn gostwng yn sylweddol, Llywydd—o tua hanner ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005—rydym ni a'r gwasanaeth tân yn falch iawn o hynny, ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rydym wedi clywed manylion am hynny heddiw. Yn benodol, mae tanau mewn anheddau o ganlyniad i bron pob achos wedi gostwng, ond mae tanau trydanol yn dangos cynnydd cyson a pharhaus yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Y rhain yn awr yw'r ail ffynhonnell fwyaf cyffredin o dân mewn tŷ, ar ôl poptai.

Mewn ymateb, mae ein gwasanaethau tân yn darparu llawer iawn o gymorth a chyngor am atal tanau trydanol. Er enghraifft, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, maent wedi dosbarthu bron 6,500 o ddarnau o offer diogelwch trydanol i gartrefi mewn angen yn rhad ac am ddim, a hynny wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, fel y clywsom, nid yw hyn wedi bod yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd parhaus, sy'n peri pryder, mewn tanau trydanol. Mae’r tueddiadau ar y raddfa hon yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu newid cymdeithasol sylfaenol. Mae'n hanfodol ein bod yn deall y newidiadau hynny os ydym i ymateb yn effeithiol. Ac mae Dawn yn iawn; mae nifer y gwefrwyr mewn cartrefi, a pheiriannau gemau ac ati yn y cartrefi hyn, wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd. Gall y rhesymau ymddangos yn amlwg, fel y mae’r Aelod yn dweud—yr holl ddyfeisiau cludadwy, ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen, gliniaduron, e-sigaréts, camerâu ac yn y blaen—ac mae gwefru’r rhain yn gwbl ddiogel os caiff ei wneud yn iawn gyda’r gwefrydd priodol. Ond efallai y caiff pobl eu temtio i dorri corneli ac efallai y byddant yn defnyddio'r un gwefrydd ar gyfer dyfeisiau gwahanol iawn, neu gael gwefrydd newydd a allai fod yn rhad, ond heb fod yn ddiogel, fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Neu efallai y byddant yn gorlwytho eu cylchedau trydan drwy ddefnyddio addaswyr aml-blwg i wefru sawl dyfais ar yr un pryd.

Mae llawer o'r pwyslais, Llywydd, yn y fan hon wedi bod ar nwyddau trydanol ffug neu rai sydd heb eu brandio, ac rwy’n cydnabod y risgiau diogelwch y gallant eu peri. Ac rwyf yn croesawu gwaith grwpiau fel Electrical Safety First, y mae eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau hynny yn gyfarwydd iawn. Ond nid cynhyrchion ffug yw'r unig broblem; efallai nad cynhyrchion ffug yw’r brif broblem ychwaith. Rydym wedi clywed popeth am y cynhyrchion dilys hyn, wedi’u brandio, o beiriannau sychu dillad i gyfrifiaduron llechen, sydd wedi gorfod cael eu galw yn ôl yn ddiweddar oherwydd risgiau tân hefyd. Yn fwy na hynny, mae diogelwch tân yn ymwneud llawn cymaint â newid arferion ag â dyluniad y cynnyrch, ac ni fyddwn yn argymell unrhyw un i fynd i gysgu gyda gwefrydd ffôn o dan ei obennydd; gallai arwain at glustiau cynnes iawn, a dweud y lleiaf. Mae bron pob cynnyrch yn ddiogel os caiff ei ddefnyddio'n iawn, Llywydd. Ond nid oes yr un ohonynt, yn gyfreithlon neu’n ffug, yn ddiogel os caiff ei gamddefnyddio, neu, os na chaiff ei drwsio pan yw’n ddiffygiol, mae'n bwysig peidio ag anwybyddu’r neges honno.

Felly, nid yw'r ateb mor syml â hynny, ac nid yw'r gwendid yn y data sydd gennym yn helpu. Nid yw’r system a ddefnyddir gan y gwasanaeth tân yn y DU i gofnodi tanau a’u hachosion wedi ei chadw’n gyfoes i gyd-fynd â’r newidiadau cymdeithasol a thechnolegol yr ydym wedi eu gweld, a byddaf yn edrych ar hynny'n fanwl. Er enghraifft, mae’r system yn dweud yn union faint o danau yn y cartref sydd wedi’u hachosi gan weisg trowseri neu offer weldio, ond nid ydym yn gwybod faint o danau a achoswyd gan wefrwyr ffôn neu e-sigaréts, ac mae hynny'n sicr yn arwydd o'r cyfnod. Byddwn yn parhau i bwyso am welliannau yn y system honno. I ddatrys hyn, rydym wedi dechrau comisiynu rhywfaint o waith ymchwil manwl i'r broblem, yn cynnwys ein gwasanaethau tân ac Electrical Safety First. Bydd yn ceisio nodi achosion y tueddiadau diweddar a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y manylion hynny.

Yn y cyfamser, mae rhai camau syml y gall pobl eu cymryd i fod yn ddiogel. Byddwn yn annog pobl i chwilio am gyngor a dilyn y cyngor a gânt gan y gwasanaeth tân neu Electrical Safety First. A dylai'r rheini sydd yn arbennig o agored i niwed neu mewn perygl gael archwiliad diogelwch cartref llawn gan y gwasanaeth tân. Mae’r archwiliad cartref yn cwmpasu ystod eang o risgiau, gan gynnwys tanau trydanol, ac mae’n cynnwys offer diogelwch rhad ac am ddim ar gyfer y rhai hynny sydd ei angen hefyd. Llywydd, mae Dawn Bowden wedi codi dadl bwysig iawn heddiw, a gallai ddigwydd i unrhyw un yn unrhyw le. Wrth gloi, hoffwn ailfynegi fy niolch i Dawn am godi'r mater hwn, a gallaf ei sicrhau hi a'r Cynulliad y byddwn ni, a'n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân, yn ceisio mynd i'r afael â hyn mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:24.