Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

09/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Lee Waters.

Addysgu Plant i Godio

1. Pryd y caiff pob plentyn yng Nghymru ei addysgu i godio? OAQ(5)0577(FM)

Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi y byddwn yn sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu sgiliau codio ymhlith ein pobl ifanc. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn ym mis Mehefin.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Roedd fy merch yn naw oed ddoe, ac, ar gyfer ei phen-blwydd, gofynnodd am Raspberry Pi, nad yw’n bwdin ffrwythau, ond, mewn gwirionedd, fel y gwyddoch, cyfrifiadur bach a gynhyrchir yn eich etholaeth chi ydyw.

Yn eich ardal chi. [Chwerthin.] Ond pan fydd hi'n gadael addysg, bydd y gallu i raglennu cyfrifiaduron yn sgil hanfodol, popeth o raglennu llinell gweithgynhyrchu i gynllunio'r arloesiad nesaf. Ond canfu’r prif arolygydd ysgolion mai dim ond mewn ychydig iawn o ysgolion y mae safonau TGCh yn gryf, ac nad oes digon o ddealltwriaeth o botensial dysgu digidol i gynorthwyo addysgu a dysgu. Ni ddylai addysgu ein plant i godio ddibynnu ar frwdfrydedd ambell i athro, nac ar allu rhiant i brynu Raspberry Pi. Mae’n rhaid iddo fod yn rhan allweddol o'r hyn y mae ein hysgolion yn ei wneud, neu byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Nawr, fel y dywedwch, bydd cwricwlwm Donaldson, wrth gwrs, yn mynd i’r afael â hyn, ond bydd mwy na 150,000 o bobl ifanc yn cwblhau’r system ysgolion heb y sgiliau sylfaenol cyn i hynny gael ei gyflwyno’n llawn. Felly, a wnewch chi ystyried, Prif Weinidog, pa fesurau dros dro y gallwch chi eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu codio cyfrifiadurol cyn gynted â phosibl?

Wel, a gaf i ddechrau, yn gyntaf oll, trwy ddymuno pen-blwydd hapus i ferch yr Aelod ar gyfer ddoe? Bydd hi yn ei harddegau’n fuan. [Chwerthin.] I ateb ei gwestiwn, rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni eisiau annog sgiliau codio. Rydym ni wedi cyflymu cyhoeddiad y fframwaith cymhwysedd digidol, a fydd yn cefnogi datblygiad ac ymsefydliad sgiliau digidol ym mhopeth y mae unigolyn ifanc yn ei wneud yn yr ysgol. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi cyflwyno sgiliau codio i'r ystafell ddosbarth. Rydym ni wedi buddsoddi £670,000 yn rhaglenni Technocamps a Technoteach i ddarparu gweithdai codio cyfrifiadurol i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i ehangu clybiau cod ym mhob rhan o Gymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, cyn y cyhoeddiad fis nesaf.

Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn rhan o'r chwyldro codio, ac mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau hyn. Ond, wrth gwrs, un o'r problemau sydd ganddyn nhw yw gallu gwneud gwaith cartref o ran codio, gan fod mynediad annigonol at gynllun band eang cyflym Cyflymu Cymru. Byddwch yn ymwybodol eich bod wedi gwneud ymrwymiad eglur yn eich maniffesto Llafur ar gyfer y Cynlluniad yn 2011, a wnaeth addewid i gyflwyno band eang i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015. Torrwyd yr addewid hwnnw, do? Onid ydych chi’n credu ei bod hi’n hen bryd i chi gyflawni’r addewid hwnnw, a'r lleill yn y maniffesto na wnaethoch chi eu cadw?

Wel, ein haddewid yw darparu i 96 y cant o safleoedd erbyn yr haf eleni, yn wahanol i'w blaid ef na wnaeth unrhyw addewidion o gwbl pan ddaeth i fand eang, ac mae'n debyg sy’n cael trafferth gydag union gysyniad beth yw band eang.

Os oes gennym ni’r arian i’w wario ar TG, oni fyddai’n well gwario’r arian hwnnw ar lythrennedd a rhifedd mewn ysgolion, sydd wedi bod yn methu ers cryn amser?

Gwelaf fod 1951 wedi gwawrio yn y gornel yna. Wel, wrth gwrs, mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig, ond felly hefyd sgiliau TG. Rydym ni’n gwybod, fel Aelodau yn y fan yma, na allem ni weithredu'n iawn yn ein swyddi pe na byddai gennym sgiliau TG sylfaenol o leiaf, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein plant yr un sgiliau TG, os nad gwell, o’u cymharu â phlant eraill yn y byd.

Dyledion sy’n Ddyledus Awdurdodau Lleol

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyledion sy'n ddyledus i awdurdodau lleol gan drydydd partïon? OAQ(5)0582(FM)

Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu ei ddyledion yn rhan o'i brosesau rheoli ariannol effeithiol ei hun.

Rwyf braidd yn siomedig â'r ateb yna, Prif Weinidog, gan fy mod i’n meddwl yr hoffech chi wybod am yr hyn nad yw eich awdurdodau lleol yn ei adfer ar adeg pan maen nhw’n honni bod cyni cyllidol yn eu hamddifadu o unrhyw arian. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd newydd gael eu hethol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y 10 aelod Ceidwadol newydd, a, gobeithio, bydd y cyngor newydd yn gallu ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn y terfyn amser statudol fel y gallaf ofyn cwestiynau fel hyn gyda gwybodaeth lawn i law. A allwch chi ddweud wrthyf faint o ddyled heb eu hawlio sy’n ddyledus i awdurdodau lleol, prif ffynonellau’r dyledion hynny, a'r rhesymau y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i chi am beidio â mynd ar eu trywydd?

Gallaf ddweud, yn 2015-16, bod awdurdodau lleol wedi casglu dros 97 y cant o’r dreth gyngor yr anfonwyd biliau ar ei chyfer—y lefel uchaf ers cyflwyno’r dreth hon. Mae cynnal hawl llawn i gymorth ar gyfer yr holl ymgeiswyr cymwys drwy ein cynllun lleihau'r dreth gyngor wedi helpu i liniaru cynnydd i lefel dyled y dreth gyngor yng Nghymru, ac rydym ni’n gwybod bod y dreth gyngor yng Nghymru yn llawer is nag yn Lloegr, o dan Lywodraeth Dorïaidd yno. Ac, wrth gwrs, gallaf ddweud wrth yr Aelod bod cyfraddau casglu yn 97.2 y cant yng Nghymru erbyn hyn; maen nhw’n is yn Lloegr.

Gwelais y Cynghorydd Keith Reynolds, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, am y tro diwethaf, yn gweithio wrth ei ddesg rai wythnosau cyn iddo farw. A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod bod buddugoliaeth Llafur Cymru ym mwrdeistref sirol Caerffili yn tystio i arweinyddiaeth ariannol gadarn, ac oes o wasanaeth cyhoeddus Keith?

Wel, a gaf i ymuno â'r Aelod i fynegi fy nghofion, wrth gwrs, at deulu’r Cynghorydd Keith Reynolds? Gwn fod y salwch yn fyr ac, mewn sawl ffordd, yn annisgwyl. Ac, wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddai pobl yng Nghaerffili wedi cydnabod y gwaith a wnaed ganddo ef a chymaint o bobl eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r trydydd parti sydd â’r ddyled fwyaf i awdurdodau lleol Cymru yw Llywodraeth San Steffan, sydd wedi torri dros draean mewn gwariant ar ofal oedolion ers 2011, sydd wedi cael canlyniadau ariannol difrifol yng Nghymru ac, yn amlwg, canlyniadau ofnadwy o ran y gost ddynol i'r henoed, y rhai sy’n sâl a'r anabl? Os caiff y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad hon ei hail-ethol, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, ar 8 Mehefin, mae angen cynllun arnom i amddiffyn Cymru. Ble mae hwnnw? Beth yw hwnnw? Pwy sy'n mynd i’w arwain? Oherwydd mae’n rhaid i mi ddweud, ar sail y dystiolaeth a welwyd o ddoe, rydym ni mewn sefyllfa enbyd os mai fe sy’n mynd i wneud hynny.

Wel, yn ôl yr wythnos ddiwethaf, fe sy’n mynd i wneud. Roedd yn sôn am yr angen am arweinyddiaeth, roedd yn sôn amdano ei hun. Byddwn ni’n hapus i sefyll dros Gymru. Nid ydym ni eisiau gweld Llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn sathru Cymru dan draed. Ac rydym ni wedi sefyll dros ein pobl, fel y dangosodd yr etholiad y llynedd, ac, yn wir, yn 2011. Y gwir yw—ac mae'n iawn i dynnu sylw at y toriadau sydd wedi digwydd—ein bod wedi colli, ers 2010, swm sy'n cyfateb i gyllideb iechyd gyfan gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd. Er gwaethaf hynny, rydym ni wedi cynnal gwariant ar iechyd 1 y cant yn uwch na’r lefel fesul pen yn Lloegr, ac wedi cynnal gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol 6 y cant y pen yn uwch nag yn Lloegr, gan ddangos Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru yn wyneb cyni cyllidol y Torïaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethoch chi lansio eich ymgyrch etholiad ddoe, gan ddarbwyllo eich hun i ynganu enw eich arweinydd. Ai Jeremy Corbyn yw eich ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog o hyd?

Prif Weinidog, ddoe, cawsoch gyfle i roi Cymru ar y dirwedd wleidyddol, ond, yn hytrach—rwy'n siŵr y bydd Theresa May yn rhoi ochenaid enfawr o ryddhad—mae tri o'ch prif addewidion wedi'u datganoli, ac roedden nhw’n addewidion a wnaed cyn yr etholiad y llynedd. A gallai pedwerydd addewid, ar blismona, fod wedi ei ddatganoli, pe na byddai ASau Llafur wedi cael eu ffordd eu hunain. Nawr, bydd y blynyddoedd nesaf yn diffinio dyfodol Cymru a'r DU. Dylech chi fod wedi gwneud gofynion Cymreig eglur, i roi llais i Gymru, i amddiffyn Cymru, ond fe fethoch chi â gwneud hynny. Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru nawr—[Torri ar draws.]

Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru bellach i gyflwyno orau sut y gallwn ni amddiffyn Cymru. Pam wnaethoch chi ddewis gadael i Theresa May wneud fel y myn?

Dydyn nhw ddim yn hoffi'r slogan 'Sefyll Cornel Cymru', ydyn nhw? Mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi eu sylwi. A diolchaf i arweinydd Plaid Cymru am ailadrodd ein haddewidion—addewidion yr ydym ni yn Llafur Cymru yn falch ohonynt—a bydd hi’n canfod mwy i ddod yn y maniffesto a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Addewidion a wnaed gennych chi cyn yr etholiad diwethaf oedden nhw. Dylech chi fod wedi cyflawni rhai o'r addewidion hynny eisoes. Prif Weinidog, y gwir yw eich bod wedi dileu eich arweinydd o'r ymgyrch hon. Rydych chi’n sôn llawer am undod, ond rwy’n credu eich bod chi wedi ei ddileu o'r ymgyrch hon gan eich bod chi’n gwybod na all Llafur ennill. Nawr, rydych chi eisiau i’r etholiad fod am eich hanes chi, am hanes Llywodraeth Cymru, ac rydym ni i gyd yn gwybod pam yr ydych chi’n gwneud hynny, a dyna pam mae mwyafrif eich addewidion etholiad sydd wedi'u hailgylchu yn rhan o gymhwysedd datganoledig. Felly, wedyn, os byddwch chi’n colli’r etholiad hwn yng Nghymru, fel y mae llawer o arolygon yn awgrymu y gallech chi ei wneud, a yw hynny'n golygu y bydd hwn yn ddyfarniad arnoch chi? Ai eich bai chi fydd hynny? Ac os mai chi fydd arweinydd cyntaf y Blaid Lafur i golli Cymru, y tro cyntaf ers 100 mlynedd, a fyddwch chi’n fodlon cymryd cyfrifoldeb, neu a allwn ni ddisgwyl i chi, unwaith eto, roi’r bai ar rywun arall?

Wel, cawsom ni hyn i gyd y llynedd. Fe welsom ni’r canlyniad. Mae pobl yn ymddiried ynom ni i sefyll dros Gymru. Gwelsom ganlyniadau Plaid Cymru yn yr etholiadau lleol: ychydig iawn o gynnydd, tua’n ôl yng Nghaerffili. Dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—roedd yr Aelod dros Ganol De Cymru yn honni mai ef fyddai arweinydd cyngor Caerdydd, ac enillwyd tair sedd ganddynt. Tair sedd. Mae bellach yn honni—nid yw yma, rwy’n gwybod, ac rwy'n cydnabod hynny—bod Gorllewin Caerdydd yn fuddugoliaeth wych i Blaid Cymru. Wel, gyda thair sedd a Llafur â 12, rwy'n fwy na pharod i ildio’r fuddugoliaeth honno iddyn nhw os mai dyna yw eu diffiniad ohono. Mae gennym etholiad i’w hymladd. Byddwn ni i gyd, fel pleidiau, yn cyflwyno ein polisïau i bobl Cymru, ond, yn anad dim arall, byddwn yn sefyll cornel Cymru.

Diolch i chi, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn y newyddion, Prif Weinidog, codwyd pryderon difrifol am adroddiad Tawel Fan a'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y system adrodd ynghylch ‘trychineb’ Tawel Fan—y byddwn i’n ei alw—lle’r oedd pobl, fel y soniodd yr adroddiad blaenorol, yn cael eu trin fel anifeiliaid, a datgeliadau syfrdanol eraill. Roedd teuluoedd yn dangos pryder gwirioneddol dros gynnydd y wybodaeth sy'n dod yn ôl iddyn nhw er mwyn bodloni eu hunain ynghylch y ffordd y gofalwyd am eu hanwyliaid. Bu galwad i’r adroddiad marwolaethau gael ei gyhoeddi gan fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi y gallai rhai marwolaethau cynamserol fod yn gysylltiedig â'r lefelau o ofal yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn wir, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi galw i’r adroddiad hwn fod ar gael gan ei fod wedi ei gwblhau. A wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i roi yr adroddiad hwnnw ar gael o ystyried bod Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ac mai chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd?

Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i hynny ar y sail ein bod ni eisiau bod mor agored a thryloyw â phosibl. Dyna fyddai pobl yn ei ddisgwyl, a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw os yw hynny'n briodol.

Wel, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn credu ei fod yn briodol, ac, i ddefnyddio ei eiriau, fel y

Gallai atal yr arfer hwn mewn mannau eraill.

Rydym ni’n gwybod bod yr adroddiad hwnnw ar gael; mae wedi ei gwblhau. Rydych chi’n gwario £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhedeg Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig, felly chi sy’n gyfrifol. Pan fydd teuluoedd a chlinigwyr pryderus eisiau gweld y data hyn fel y gallant ddeall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd yn yr uned honno, pam ar y ddaear nad ydych chi’n caniatáu i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, gan y byddai'n rhoi llawer iawn o gysur i deuluoedd ac i'r unigolion sydd wedi clywed straeon mor erchyll am y gofal yn yr uned honno? Yn benodol, tynnaf eich sylw at y ffaith, fel y dywedwyd eisoes, bod cleifion yn cael eu trin fel anifeiliaid.

Wel, mae’r adroddiad, fel y deallaf, gyda'r goruchwyliwr annibynnol ac, ar yr adeg iawn, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad. Mae'n bwysig bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r rhai sydd wedi gweld eu perthnasau’n dioddef ac i'r rhai sydd wedi dioddef fel y gellir dysgu gwersi.

Rwy’n siomedig iawn nad ydych chi’n fodlon rhoi arwyddion pendant o bryd y bydd yr adroddiad hwnnw ar gael. Fel y dywedais, nid gwleidydd yw hwn sy’n dweud y dylai'r adroddiad hwn fod ar gael; pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd yw hwn, ynghyd ag aelodau'r teuluoedd a chlinigwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, os nad ydych mewn sefyllfa i roi syniad o'r amserlen heddiw gan fy mod i newydd ofyn y cwestiwn hwnnw i chi, pe byddech chi’n dweud y gwnewch chi ysgrifennu ataf er mwyn i mi gael golwg ar yr amserlen yr ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio’n unol â hi. Rwy'n credu mai dyna'r lleiaf y gall rhywun ei ddisgwyl o ystyried y pryderon a godwyd yr wythnos diwethaf.

Ond, hefyd, rwyf yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn fodlon â lefel nifer y gwelyau yn y gogledd i gleifion iechyd meddwl, gan ei bod wedi dod i'n sylw bod 'system soffa' ar waith yn y gogledd, sy’n golygu, os nad oes gwely ar gael mewn adran iechyd meddwl, bod pobl yn cael eu rhoi ar soffas i geisio cyrraedd y targedau. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhoi pobl agored i niwed mewn sefyllfa lle y gellid camfanteisio arnynt. Sut gall unrhyw un deimlo bod 'system soffa' yn bodloni’r gofyniad ar gyfer darparu capasiti gwelyau diogel yn ardal bwrdd iechyd y gogledd?

Wel, os oes gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dystiolaeth o system soffa, fel y mae’n ei disgrifio, byddwn yn falch o weld y dystiolaeth honno. Ac mi wnaf, wrth gwrs, ysgrifennu ato am yr hyn y mae wedi gofyn amdano, gan roi rhagor o wybodaeth iddo am yr amserlen o ran unrhyw gyhoeddiad o'r adroddiad.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sefyll yn yr etholiad San Steffan hwn ar sail polisi o gynyddu treth incwm i bobl sy'n ennill cyn lleied ag £11,000 y flwyddyn, ac mae'n debyg bod y Blaid Lafur yn genedlaethol yn mynd i sefyll ar bolisi o gynyddu'r gyfradd uchaf o dreth incwm o 45c i 50c. A yw'n cytuno â Changhellor yr Wrthblaid fod gennym ni lawer i'w ddysgu gan Karl Marx a 'Das Kapital', ac a yw'n credu bod codi’r gyfradd uchaf o dreth yn debygol o godi mwy o arian?

Ydw, mi ydwyf. Rwy'n credu y bydd codi’r gyfradd uchaf o dreth yn codi mwy o arian. Nid wyf yn credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu gan 'Das Kapital'; i’r rhai sydd wedi ei ddarllen ac wedi ceisio deall yr hyn y mae'n ei ddweud, nid yw'n ymarfer hawdd. Byddwn yn sefyll ar lwyfan o sicrhau bod y rhai sy'n gallu fforddio talu ychydig yn fwy yn talu ychydig yn fwy er mwyn sicrhau bod gennym ni’r gwasanaethau cyhoeddus y byddai pobl yn eu disgwyl.

Felly, a ddylwn i gymryd o’r ymateb yna mai polisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn, pan fydd pwerau treth yn cael eu datganoli i ni yn y Cynulliad hwn, yw dilyn maniffesto'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gynyddu cyfraddau uchaf treth yng Nghymru, oherwydd y dystiolaeth o'r tro diwethaf y digwyddodd hyn yn 2013 oedd bod gostwng y gyfradd dreth o 50c i’r 45c presennol wedi arwain mewn gwirionedd at gynnydd enfawr mewn refeniw o tua £8 biliwn? Felly, mae'n ymddangos braidd yn wrthgynhyrchiol sefyll ar sail polisi sy'n cynyddu cyfraddau treth ac yn lleihau refeniw mewn gwirionedd, ac yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Cyn belled ag y mae cyfradd treth incwm Cymru yn y cwestiwn, rydym ni eisoes wedi addo na fyddwn yn cynyddu cyfradd y dreth incwm yn ystod y Cynulliad hwn.

Rwyf yn falch iawn o glywed hynny, ond a yw hynny'n golygu bod y Prif Weinidog yn derbyn nad yw codi cyfraddau o reidrwydd yn arwain at gynyddu refeniw yn cynnig cyfle gwych i Gymru i wneud ein gwlad yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig, a fyddai'n ein helpu ni i wrthdroi tueddiadau economaidd degawdau lawer iawn yng Nghymru ac yn rhoi mantais sylweddol i ni, yn yr un ffordd ag y mae de Iwerddon wedi defnyddio cyfraddau gwahaniaethol o dreth gorfforaeth i roi hwb i’r economi teigr Celtaidd, a oedd yn llwyddiannus iawn yn y wlad honno—.

Mae'n codi pwynt diddorol am y dreth gorfforaeth; nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli treth gorfforaeth. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod hafanau treth yn tueddu i fod â gwasanaethau cyhoeddus gwael iawn; yn arbennig, nid oes ganddynt wasanaethau iechyd gan na allant godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Felly, nid wyf yn credu mai’r dyfodol i Gymru yw bod yn rhyw fath o replica o'r Ynysoedd Virgin Prydeinig, neu replica, o reidrwydd, o Ynysoedd y Sianel. Mae gennym ni fodel gwahanol iawn; nid oes gan Ynysoedd y Sianel, er enghraifft, wasanaeth iechyd wedi’i seilio ar y model y byddem ni’n ei ddeall, ond mae cael y cydbwysedd cywir rhwng refeniw a gwariant ar wasanaethau cyhoeddus i lefel y byddai pobl yn ei disgwyl, wrth gwrs, yn fater i Lywodraethau ei gydbwyso.

Negodiadau â’r UE

3. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gyflwr presennol negodiadau â'r UE? OAQ(5)0589(FM)

‘Statig' yw’r gair y byddwn i’n ei ddefnyddio, rwy’n credu. Bu llawer iawn o ddangos eu hunain ar y ddwy ochr. Rwy'n gobeithio y daw hynny i ben yn eithaf buan fel y gellir bwrw ymlaen â’r dasg o sicrhau Brexit call.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Er bod Trysorlys y DU wedi gwarantu cyllid llawn ar gyfer pob prosiect strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd wedi cychwyn cyn i'r DU adael yr UE, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol, ar ôl i’r DU adael yr UE, bod cyfanswm yr arian a fu ar gael yn y gorffennol ar gyfer y prosiectau hyn yng Nghymru yn cael ei ychwanegu at gyllideb Cymru, a'i fod o dan reolaeth cyllideb Cymru?

Ydw. Yn gyntaf oll, rydym ni’n gwybod bod cronfeydd strwythurol wedi eu gwarantu hyd at 2020. Mae cymorthdaliadau ffermio wedi eu gwarantu tan 2020, ond dim byd y tu hwnt i hynny. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn wynebu'r sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw beth o gwbl o ran cymorth y tu hwnt i'r adeg honno. Mae gen i ateb hawdd, sef, yn syml, i’r gronfa o arian fod ar gael, fel y mae nawr, ac iddi gael ei dosbarthu fel ag y mae nawr i roi’r sicrwydd y mae’r cronfeydd strwythurol wedi ei roi hyd yn hyn, a sicrwydd i'n ffermwyr yn arbennig. Dyna ffordd dda o sicrhau na fydd yn rhaid i ffermwyr ddioddef o ganlyniad i Brexit.

Er bod Jeremy Corbyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr gan ddweud ei fod eisiau i Brexit gyflwyno cymdeithas decach ac economi wedi’i huwchraddio, rydym ni’n cydnabod bod trafodaethau anodd o'n blaenau. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i’w ddatganiad bod y mater o Brexit wedi ei setlo?

O ran y cwestiwn, mae wedi ei setlo, gan fod Prydain yn gadael yr UE ac mae'r cwestiwn hwnnw wedi cael ei ateb eisoes. Yr hyn nad wyf i’n ei weld, fodd bynnag, yw unrhyw awgrym o unrhyw fath o gynllun gan Lywodraeth y DU. Dim byd. Rwyf wedi eistedd yno mewn cyfarfodydd ac rwyf wedi gofyn. Rwyf wedi ceisio gweld beth yw'r cynllun. Nid oes un. Ddydd Iau diwethaf, gwelsom banig ar ran Prif Weinidog y DU pan ddechreuodd bryderu am yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu i bobl gyffredin sy'n gweithio, ac mae hi'n iawn i fod yn bryderus am hynny. Ond ni allwch ddweud ar y naill law bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, ac yna dweud, 'O, ond, wrth gwrs, mae angen cytundeb arnom ni i wneud yn siŵr nad ydym ni’n gweld dirywiad economaidd.' Nawr, yr hyn sy’n hynod o bwysig yw bod dangos eu hunain yr wythnos diwethaf yn mynd a bod gennym ni syniadau ynghylch sut y gallai Brexit edrych. Roedd hi o blaid aros. Gadewch i ni beidio ag anghofio hynny. Mae hi’n rhywun, fel finnau, sydd wedi derbyn y canlyniad ac mae'n hynod bwysig, i’r rhai sydd â syniadau, weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â’r syniadau hynny, oherwydd nid ydym ni wedi cael dim byd o gwbl o ran syniadau gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros Brexit.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi nad yw’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio gan Brif Weinidog y DU i ymosod ar ein ffrindiau a'n cymdogion ar y cyfandir yn helpu neb o ran y trafodaethau sydd i ddod? Nid yn unig y mae’n pardduo Llywodraeth Theresa May, ond mae hefyd yn bygwth pardduo enw da Cymru. Mae’r Prif Weinidog yn gofyn am syniadau wrth symud ymlaen, i liniaru’r potensial o bardduo enw da Cymru ledled y byd oherwydd yr iaith honno sy’n cael ei defnyddio gan Theresa May. A wnaiff ef ymrwymo i gyflwyno polisi rhyngwladol newydd i Gymru a fyddai'n cynnwys neilltuo aelod o'i Gabinet fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol ar gyfer ein gwlad, er mwyn dechrau ailadeiladu’r pontydd y mae San Steffan mor benderfynol o’u llosgi’n llwch?

Roedd iaith yr wythnos diwethaf yn anniplomataidd. Rwy'n credu bod y ddwy ochr, mewn gwirionedd, yn euog o ddangos eu hunain ac mae angen i hynny ddod i ben. Nid rhyfel yw hwn. Nid oes neb wedi ymosod ar wlad unrhyw un arall. Nid ydym ar fin wynebu ein gilydd, i syllu ar ein gilydd dros y sianel neu, yn wir, ar draws ffin Iwerddon. Rydym ni eisiau bod yn ffrindiau ac yn gynghreiriaid ac yn bartneriaid masnachu yn y pen draw. Rydym ni eisoes wedi dechrau edrych ar ein polisi rhyngwladol, yn enwedig lle mae angen i ni gryfhau ein presenoldeb rhyngwladol. Rydym ni’n gwybod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r llwybr Qatar Airways yn enghraifft arall o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r maes awyr i gael y llwybr hwnnw, ond y cam nesaf ymlaen yw i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n ceisio cael digon o bresenoldeb a mwy o bresenoldeb yn y marchnadoedd hynny a fydd yn dod yn bwysig i ni.

Canolfannau Siopa Ardal

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau siopa ardal mewn dinasoedd? OAQ(5)0586(FM)

Rydym ni’n hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol presennol fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd. Dylai awdurdodau lleol sefydlu strategaethau a pholisïau defnydd tir ac adfywio i gefnogi canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, hyfyw a deniadol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Treforys ac Abertawe yn ganolfan siopa ardal o bwys. Ceir canolfannau siopa ardal eraill yn Abertawe ac mewn dinasoedd eraill yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd canolfannau siopa ardal, fel yn Nhreforys, y Mwmbwls a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn Nhreforys, rydym ni wedi colli banciau, tafarndai ac amrywiaeth siopa. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y dylai fod banc mawr ym mhob un o’r canolfannau siopa ardal hyn?

Wel, yn ddelfrydol, byddem yn croesawu cyd-leoli canghennau banc mewn canolfannau siopa ardal, ond materion i’r banciau yw’r rhain yn y pen draw. Ond mae'n bwysig bod y gallu gan fusnesau a chwsmeriaid i dalu arian i mewn a chodi arian yn eu cymunedau. Felly, pan fydd y banciau yn methu â hwyluso hyn, rydym ni’n gwybod bod Swyddfa'r Post yn chwarae rhan bwysig, gan fod gan 95 y cant o holl gwsmeriaid bancio’r DU fynediad at eu cyfrifon banc drwy'r swyddfa bost. Yr hyn y byddwn yn pryderu mwy amdano yw pe byddai unrhyw gyhoeddiad gan Swyddfa'r Post yn y dyfodol am gau canghennau swyddfa'r post, gan fod hynny’n cael gwared, wrth gwrs, ar yr unig swyddogaeth fancio sydd ar ôl mewn cynifer o gymunedau.

Prif Weinidog, mae nifer yr ymwelwyr â strydoedd mawr Cymru wedi gostwng. Mewn cymhariaeth, mae nifer yr ymwelwyr â chanolfannau siopa y tu allan i'r dref wedi cynyddu 4.6 y cant yn ôl gwybodaeth o’r llynedd. Nawr, mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol a manwerthwyr i weithio gyda'i gilydd i farchnata hunaniaeth stryd fawr yn effeithiol. Hefyd, maen nhw eisiau i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd o ran y system gynllunio. Felly, a gaf i ofyn i chi: sut ydych chi'n meddwl y gall y system gynllunio helpu i fod yn fwy cefnogol i’r stryd fawr?

Rydym ni’n gwybod ei bod yn hynod bwysig bod awdurdodau lleol, pan fyddant yn datblygu eu CDLlau, yn edrych ar sut y gallant gynorthwyo canolfannau manwerthu presennol, gan gynnwys strydoedd mawr. Ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Mae'n hynod bwysig i ganol trefi ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain; faint o ganol trefi sydd â gwefan? Pe bawn i’n mynd i dref yng Nghymru, a allaf i ddarganfod beth sydd yno? A oes gwefan? A oes gan fasnachwyr eu gwefannau eu hunain? Ac, wrth gwrs, y rheswm pam mae pobl yn mynd i ganolfannau siopa y tu allan i'r dref yw cyfleustra llwyr—maen nhw ar agor. Ac maen nhw ar agor ar y Sul yn arbennig, pryd y mae’r rhan fwyaf o bobl, y dyddiau hyn, yn tueddu i siopa. Felly, mae'n hynod bwysig bod manwerthwyr y stryd fawr yn ystyried hyblygrwydd eu horiau agor hefyd. Nid 40 mlynedd yn ôl yw hyn yn pan oedd pobl yn mynd i siopa yn ystod yr wythnos yn ystod y dydd ac roedd siopau ar agor. Ar y cyfan, mae pobl yn siopa am 6, 7, 8 o'r gloch y nos, ac maen nhw’n siopa ar y Sul pan fo llawer o strydoedd mawr wedi cau, felly mae angen rhywfaint o hyblygrwydd ar fasnachwyr hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cyfochri eu horiau agor—ceir terfyn i’r hyn y gallant ei wneud fel unig fasnachwyr—gyda’r patrymau gwaith sydd gan bobl nawr, nid y patrymau gwaith oedd gan bobl, dyweder, 30 neu 40 mlynedd yn ôl. Mae'n hynod bwysig hefyd, yn rhan o’r broses CDLl, y rhoddir digon o le yng nghanol trefi i gael mwy o lety byw a mwy o leoedd swyddfa. Os oes gennych chi’r gweithwyr swyddfa yn ystod y dydd, mae gennych chi’r ymwelwyr yn ystod y dydd i helpu'r manwerthwyr.

Soniodd Mike Hedges am fanciau yn cau ar y stryd fawr a soniasoch chi am swyddfeydd post. Rhan bwysig arall o ardaloedd siopa ardal weithiau yw’r dafarn leol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw ddiweddariad ynghylch trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn, rwy’n credu, am sut i ddiogelu tafarndai cymunedol.

Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o CAMRA ar y pwynt hwn. Mae'n fater anodd gan ein bod ni’n gwybod, o safbwynt cynllunio, nad yw'n anodd newid y defnydd o dafarn i ddefnydd masnachol neu fanwerthu arall. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, yn aml iawn nid yw tafarndai yn cael eu gwerthu ac maen nhw’n adfeilio oherwydd eu bod yn wag ar ôl ychydig, felly nid yw'n fater hawdd ei ddatrys. Rydym ni’n gwybod, ac mae hyd yn oed CAMRA ei hun yn cydnabod, bod gormod o dafarndai o hyd, o ystyried arferion cymdeithasol presennol pobl. Yr hyn sy'n hynod bwysig yw gallu gweithio gyda thafarndai sy’n arwain y farchnad—ceir llawer ohonynt, rhai’n fach, rhai’n fawr—i roi esiampl dda i eraill. Ond, yn y pen draw, mae'n fater o sicrhau y gall y tafarndai gynnig yr amrywiaeth ehangaf o wasanaethau posibl i gwsmeriaid. Rwyf i wedi bod mewn gwledydd lle mae'r tafarndai hefyd yn siopau—yng Nghymru, a dweud y gwir. Rwy'n credu fod Cwmdu yn un enghraifft, ger Llandeilo, lle mae'r dafarn hefyd yn siop. Felly, mae edrych ar ffyrdd y gall tafarndai hefyd weithredu fel canolfannau busnes mewn cymunedau, lle gall y siop leol, o bosibl, fod yn swyddfa bost—dyna un ffordd ymlaen i sicrhau bod gan dafarndai ddyfodol dichonadwy.

Gwella Iechyd Meddwl

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru? OAQ(5)0579(FM)

Mae 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ein strategaeth iechyd meddwl traws-Lywodraeth, a'r cynllun cyflawni cysylltiedig ar gyfer 2016-19 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant pobl yng Nghymru.

Diolch. Bythefnos yn ôl roeddwn yn falch o siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Iechyd yn nathliadau blwyddyn gyntaf Valley Steps, prosiect cymunedol sy'n ceisio gwella llesiant emosiynol trwy gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen. Nawr, mae Valley Steps wedi helpu bron i 2,000 o bobl yn ystod eu blwyddyn gyntaf, ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymddangos yn amser priodol i ddathlu ei lwyddiant. Gydag un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl, pa arfer gorau all Llywodraeth Cymru ei fabwysiadu o Valley Steps a’i hyrwyddo ymhlith byrddau iechyd eraill ledled Cymru?

Wel, mae Valley Steps yn ddull arloesol: ei nod yw gwella iechyd meddwl a lleihau rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder. Rwyf yn ei longyfarch ar gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, ac rydym ni’n awyddus i ledaenu'r neges o fodelau arloesol fel hyn er mwyn annog cydweithio tebyg i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, a bydd y gwaith hwnnw, wedyn, yn hysbysu mentrau newydd, gan gynnwys datblygu’r bond llesiant a'r cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Felly, byddwn yn ystyried gwaith sefydliadau fel Valley Steps er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael ei gryfhau o ganlyniad i edrych ar ei brofiad.

Prif Weinidog, bu nifer o farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yn y gorffennol diweddar mewn ysgolion yn fy etholaeth i. Nawr, yn gynharach eleni, gwnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gyhoeddiad y dylai pob ysgol uwchradd yn Lloegr gael cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy'n dysgu pobl sut i adnabod pobl ifanc a allai fod yn datblygu problem iechyd meddwl, ac mae’r polisi hwn wedi cael croeso da iawn gan elusennau a gweithwyr proffesiynol yn arbennig, ac mae'n rhaid i ni gofio bod llawer o bobl ifanc yn cael trafferth gyda materion fel anorecsia a hunan-niweidio yn ogystal â meddwl am hunanladdiad. Ac roeddwn i’n meddwl tybed, Prif Weinidog, a allech chi ystyried menter debyg yn ein hysgolion ni i geisio atal y marwolaethau gwastraffus hyn.

Wel, sylwais ar gyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar pryd y siaradodd am gael rhywun ym mhob ysgol yng Nghymru a Lloegr. Gwn mai camgymeriad ar ei rhan hi oedd hynny, ac mae'r syniad sy’n sail i'r hyn a awgrymwyd ganddi yn un gwerth ei ystyried. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr wyf yn atgoffa'r Aelod ohono yw bod gennym ni eisoes gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw. Rwy'n credu nad darparu cwnselydd yn unig yw’r gamp, ond sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo y gallant fynd i weld y cwnselydd hwnnw. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n anoddach ei wneud. Mynd i weld rhywun mewn gwirionedd a phobl yn darganfod efallai, er ei fod yn gyfrinachol—mae pobl ifanc yn ei gweld hi felly. Gall hwnnw fod yn gam mawr iddyn nhw hefyd.

Mae gennym ni’r cwnselwyr mewn ysgolion eisoes, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth y tu allan i'r ysgol hefyd, yn enwedig mewn amgylchedd lle maen nhw’n teimlo'n gyfforddus.

A ydy’r Prif Weinidog wir yn sylweddoli faint o argyfwng sydd yn ein hwynebu ni o ran gofal iechyd meddwl yng Nghymru? Yn Ynys Môn rydw i’n deall nad oes yna rŵan yr un ymgynghorodd seiciatryddol ar gyfer cleifion iechyd meddwl rhwng 18 a 65 oed. Mae gweithwyr iechyd meddwl yn gweithio dan bwysau na allan nhw ymdopi â fo ac maen nhw’n ofni eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau sydd yn golygu risg i gleifion. Mae diffyg gwlâu yn golygu bod pobl yn cael eu gyrru mor bell â Llundain i dderbyn gofal. Mae dwsinau o blant a phobl ifanc yn cael eu hanfon i Loegr i gael triniaeth. Mae dros 200 o gleifion iechyd meddwl y gogledd wedi cael eu trosglwyddo allan o Gymru yn y 22 mis diwethaf. Mae’r gyfundrefn gyfan ar ei gliniau. Pa bryd mae’r Llywodraeth am weithredu er mwyn gwarchod rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i?

Nid ydw i’n derbyn y ffigurau y mae’r Aelod wedi’u dweud yn y Siambr. Mae’n rhaid i fi ddweud yn gyntaf fod y cyllid i iechyd meddwl wedi mynd lan i £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei warchod hefyd. Mae’r byrddau iechyd wedi cyrraedd eu targedi nhw—maen nhw wedi heibio eu targedi nhw ynglŷn â gwasanaethu iechyd meddwl mewn rhai rhannau dros y 12 mis diwethaf. Ac wrth gwrs, er bod yna fwy o bobl yn cael eu trosglwyddo i CAMHS mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod y sefyllfa yn mynd i ddangos bod pob gwasanaeth CAMHS ym mhob rhan o Gymru nawr yn cyrraedd y targed o 28 diwrnod cyn sefyll am apwyntiad newydd. So, mae lot fawr o bethau da wedi digwydd yn y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Prif Weinidogion Llywodraethau Datganoledig y DU

6. Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Phrif Weinidogion llywodraethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig i drafod eu perthynas â’r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0580(FM)[W]

Wrth gwrs, mae yna fusnes i’w drafod cyn 8 Mehefin sydd wedi ymyrryd ar hyn o bryd, ond byddaf yn parhau i drafod materion yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfarfodydd dwyochrog— tair ochrog, rydw i’n gobeithio—gyda Phrif Weinidog yr Alban a Dirprwy Brif Weinidog a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y pen draw.

Oni fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod y trafodaethau tair ochrog yma yn fwy pwysig nag erioed, o ystyried yr hyn sydd yn y Papur Gwyn gyda’r clawr glas golau yma ar adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn sôn am y sefyllfa ar ôl i hynny ddigwydd? Bydd y pwerau y mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn eu dal mewn perthynas â fframweithiau cyffredin yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, gan ganiatáu i’r rheolau wedyn gael eu gosod yno gan Aelodau democrataidd yn cynrychioli. Beth sy’n digwydd inni yn y lle hwn? Sut mae ein barn yn y gweinyddiaethau datganoledig yn dod yn rhan o’r trafodaethau yna?

Well, my view is that those powers should come the people of Wales, and shouldn’t be retained in Westminster or Whitehall. It’s crucial to have frameworks in some parts, such as the fisheries, for example, but those frameworks should actually be agreed, and not imposed upon people without their consent. We must remember that if we’re going to have a single market within the UK, and I agree with that, we have to have rules. But if we don’t have ownership of the rules, nobody’s going to pay any attention to them. And secondly, there is the question of who’s going to police those rules without having a court of law to refer to. So there are many unanswered questions currently. Some people in the UK think we’ll move back to how things were pre 1972, but that isn’t the same United Kingdom that we have now. We don’t have just one government by now, and there’s a great deal of work to be done to ensure that these powers will be transferred from Brussels to Wales, and not via London.

Pan ymwelodd y pwyllgor materion allanol â Brwsel y llynedd, cawsom gyfarfod â dirprwyaeth fasnach Canada a chefais fy nharo gan swyddogaeth taleithiau Canada o ran trafod a chymeradwyo’r cytundeb CETA gyda’r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, ers hynny, am swyddogaeth Senedd Wallonia o ran cymeradwyo'r cytundeb. Mae trafodaethau masnach gyda'r UE ac, yn wir, y tu hwnt, yn mynd i ddod yn gynyddol bwysig i Gymru a'r DU, ac maen nhw’n ymwneud â llawer mwy na materion tramor ac uchelfraint y Goron; maen nhw’n ymwneud â materion bara menyn bywyd economaidd bob dydd. Felly, a yw'n cytuno â mi y dylai trafodaethau masnach yn y dyfodol, gyda'r UE a thu hwnt, gynnwys llais i Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill o ran trafod a chymeradwyo’r cytundebau hynny sydd mor hanfodol i'n llesiant economaidd?

Ydw, mi ydwyf. Er nad yw masnach, wrth gwrs, fel y cyfryw, wedi ei ddatganoli, mae'n hynod bwysig bod gennym ni lais cryf, oherwydd efallai y bydd gofyn i ni weithredu canlyniadau unrhyw gytundeb masnach, er efallai ein bod ni’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw ran benodol o gytundeb masnach. Mae hynny'n hynod bwysig. Felly, er enghraifft, pe byddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd neu Awstralia, byddai hynny'n cael effaith enfawr ar ein ffermwyr. Er nad yw hynny wedi ei ddatganoli, rwy'n siŵr na fyddai neb yn dadlau yn rhesymegol nad oes gennym unrhyw le, rywsut, o ran mynegi barn yn hynny o beth. Clywsom leisiau o Awstralia dros yr wythnosau diwethaf yn dweud nad oedd yn bosibl cael cytundeb masnach rydd gydag Awstralia a diogelu buddiannau ffermwyr mynydd Cymru. Wel, rwy’n gwybod hynny, oherwydd os oes gennym ni gytundeb masnach rydd o ran amaethyddiaeth, yna, i lawer o'n ffermwyr mynydd, ni fydd ganddynt unrhyw ddyfodol. Mae'n hynod bwysig bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn yn gallu mynegi barn a chael dylanwad cryf iawn, a gwrthod, mewn gwirionedd, rhannau o gytundebau masnach a fydd yn cael effaith hynod andwyol ar ein ffermwyr ein hunain.

Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn hanfodol, a nodwyd ers sawl mis bellach y bydd llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol yn cynnig awgrym o ddyfodol cyfansoddiad y wlad hon. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynnydd y mae wedi ei wneud o ran darbwyllo ei gymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno y dylai marchnad fewnol y DU yn y dyfodol gael ei llywodraethu ar y cyd gan wledydd y DU, ac na ddylai gael ei gorfodi arnom gan Whitehall?

Ceir gwahaniaeth barn ymhlith y Llywodraethau. Y farn yn yr Alban, yn y bôn, yw 'bydd Annibyniaeth yn datrys y mater.' Mae’r farn yng Ngogledd Iwerddon yn gymysg. Yn sicr, rwyf wedi clywed cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn dweud na ddylai fod unrhyw reolau cymorth gwladwriaethol o gwbl. Nawr, mae'n rhaid i ni ddod i sefyllfa, sy’n gwbl resymol yn fy nhyb i, lle’r ydym ni i gyd yn dweud pan fo pwerau yn cael eu trosglwyddo yn ôl o Frwsel, eu bod yn dod i’r gweinyddiaethau datganoledig. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellir cytuno ar hynny—mae Prif Weinidog yr Alban yn cytuno â mi am hynny, felly rydym ni yn yr un sefyllfa. Fy marn i, ac nid wyf wedi clywed llais yn mynd yn groes i hyn, yw os ydym ni am gael marchnad sengl fewnol, mae’n rhaid cytuno ar y rheolau ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plismona gan gorff dyfarnu annibynnol, nid gan Lywodraeth y DU. Sut gall Llywodraeth y DU eu plismona beth bynnag? Os byddwn yn penderfynu eu hanwybyddu, nid oes dim y gallan nhw ei wneud. Nawr, nid yw hynny o fudd i neb. Mae'n rhaid i ni gael system eglur. Mae'n rhaid i ni gael ffydd mewn system sy'n cael ei hystyried yn wirioneddol annibynnol—nid fel sydd gennym ni ar hy n o bryd ym mhroses datrys anghydfod y JMC lle, os oes anghydfod rhyngom ni a Thrysorlys y DU, mae’n cael ei ddatrys yn y pen draw gan Drysorlys y DU. Mae’n rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Gellir gwneud hyn yn berffaith synhwyrol ac yn berffaith briodol er mwyn diogelu buddiannau Cymru.

Diogelwch ar Deithiau Maes Dramor

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch disgyblion a myfyrwyr ar deithiau maes dramor? OAQ(5)0585(FM)

Gwnaf, cynhyrchir y cyngor diweddaraf ar gyfer teithiau gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Ceir cyfeiriad at y cyngor hwnnw hefyd yng nghanllawiau Cymru gyfan ar gyfer ymweliadau addysg, wedi eu hysgrifennu gan banel cynghorwyr addysg awyr agored Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac mae hwnnw ar gael o wefan Llywodraeth Cymru.

Ar sawl achlysur, rwyf wedi ymbil ar y Llywodraeth i ymyrryd ymhellach yn achos Glyn Summers, a gollodd ei fywyd ar daith coleg dramor i Sbaen. Mae rhieni Glyn, gydag urddas mawr, wedi mynnu tryloywder llawn o ran yr ymchwiliad gresynus a ddilynodd marwolaeth eu mab, ac maen nhw’n credu y dylai fod hawl awtomatig i ymchwiliad annibynnol o dan amgylchiadau o'r fath. Yn ei lythyr diwethaf i mi ar y mater hwn, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf nad oedd yn credu fod unrhyw beth arall y gallai ef ei wneud o ran eu pryderon, ond ers hynny, mae’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi canfod bod yr ymchwiliad i farwolaeth Glyn yn ddiffygiol. Mae'r ombwdsmon wedi galw ar yr awdurdod lleol i ymddiheuro i rieni Glyn ac wedi galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau ymhellach. A wnaiff y Prif Weinidog ymddiheuro ac a wnaiff ef ailystyried ei wrthwynebiad i'r hawl i ymchwiliad llawn ac annibynnol i farwolaeth ac anafiadau difrifol ar deithiau maes tramor?

Mae’r Aelod yn camliwio’r safbwynt a roddais. Yn gyntaf oll, roedd yn ddigwyddiad ofnadwy, ac mae wedi bod yn ychydig flynyddoedd anodd dros ben, fel y gallwn ni i gyd ei ddychmygu, i rieni Glyn. Mae'r ombwdsmon wedi bod yn gyfrifol am y mater. Mae'r ombwdsmon wedi adrodd erbyn hyn. Ceir argymhellion i ni fel Llywodraeth, a byddwn, wrth gwrs, yn rhoi ystyriaeth hynod ddifrifol i’r argymhellion hynny. Y mater i mi oedd: a oedd unrhyw beth arall y gallem ni ei wneud fel Llywodraeth a fyddai'n ychwanegu at yr hyn yr oedd yr ombwdsmon eisoes wedi ei ganfod yn rhan o'i ymchwiliadau? Byddaf yn cadw hwnnw fel cwestiwn agored, oherwydd credaf fod yn rhaid edrych ar y pethau hyn yn ofalus dros ben, ac o ganlyniad i ganfyddiadau'r ombwdsmon, byddaf yn edrych unwaith eto i weld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud yn dilyn yr adroddiad ei hun.

Hoffwn adleisio pryderon Steffan Lewis, a hefyd mynegi fy nghydymdeimlad innau i deulu Glyn Summers. Rwy'n meddwl mai’r cwestiwn yw: sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod ysgolion yn gallu myfyrio ar ddigwyddiadau—y digwyddiadau prin hynny—pan fydd rhywbeth niweidiol yn digwydd ar deithiau ysgol? A dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n ei gadw fel cwestiwn agored. A fyddai'n barod i ymhelaethu ar sut y gall ysgolion ddysgu oddi wrth ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn?

Argymhelliad yr ombwdsmon yw y bydd yn ein gwahodd ni fel Llywodraeth i ystyried adolygu ein polisïau a’n canllawiau o ran ymweliadau addysgol dramor. Yn rhan o'r broses honno o adolygu, mae'n hynod bwysig deall beth yw’r arfer gorau, i ymgynghori, unwaith eto, gyda’r panel cynghorwyr addysg awyr agored, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr argymhelliad y mae'r ombwdsmon wedi ei wneud i ni yn cael ei fodloni’n llawn.

Rwy’n rhannu'r pryderon sydd eisoes wedi eu mynegi yn y Siambr, ac, wrth gwrs, y cydymdeimlad â theulu Glyn Summers, ond a fyddech chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, bod angen i ni gael y cydbwysedd cywir yma o ran unrhyw newidiadau y gallai fod angen eu gwneud, yn y dyfodol, i wella’r prosesau asesu risg o ran teithiau ysgol? Oherwydd rydym ni eisiau i bobl allu cael mynediad at brofiad addysgol cyfoethocach trwy gymryd rhan mewn teithiau, felly mae'n bwysig bod unrhyw newid i ganllawiau Llywodraeth Cymru, unrhyw ganllawiau awdurdod addysg lleol neu, yn wir, unrhyw ganllawiau consortia rhanbarthol, yn rhywbeth nad ydynt yn atal teithiau rhag digwydd ac yn deg a chymesur i bawb sy'n cymryd rhan.

Ni allwn anghytuno â'r geiriau y mae’r Aelod wedi eu defnyddio, ond yn yr achos hwn, bu marwolaeth. Mae'n hynod o bwysig bod cymaint o dryloywder â phosibl, a bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei defnyddio er mwyn cryfhau polisïau cyn belled ag y mae’r dyfodol yn y cwestiwn, ond, wrth gwrs, ni fyddai neb eisiau gweld sefyllfa lle nad yw teithiau ysgol yn digwydd oherwydd yr hyn a ystyrir sy’n rheoliadau rhy feichus. Ond mae'n bwysig, o dan yr amgylchiadau yr ydym ni wedi eu hamlinellu heddiw, bod ymchwiliad llawn yn arwain at gyfres lawn o argymhellion er mwyn sicrhau—ni allwn fyth ddileu risg; mae'n amhosibl; nid felly y mae bywyd—ond i sicrhau bod unrhyw risg bosibl cyn lleied â phosibl yn y dyfodol.

Datganoli Pwerau i Gymru

8. Ar ôl gweithredu Deddf Cymru 2017, pa bwerau eraill ddylai gael eu datganoli i Gymru? OAQ(5)0590(FM)

Gellir dod o hyd i’r pwerau hynny yn y Bil llywodraeth a deddfau yng Nghymru drafft, a gyhoeddwyd gennym.

Iawn. Diolch i chi am eich ateb. Nodaf i chi addo yn gynharach i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond a wnewch chi addo hefyd defnyddio eich pwerau datganoledig i leihau costau i fusnesau, fel y gall cyflogwyr ddechrau cael eu denu i Gymru a darparu swyddi y mae wir eu hangen?

Nid wyf yn siŵr pa bwerau y mae hi'n cyfeirio atynt. Nid oes llawer o'r materion y mae'n cyfeirio atynt wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes—mae hynny'n wir—ond o ran materion fel yswiriant gwladol neu’r dreth gorfforaeth, nid ydyn nhw wedi eu datganoli. Rydym ni’n gwybod y byddwn yn gweld rhywfaint o ddatganoli treth incwm yn ystod y flwyddyn i ddod, ond o'n safbwynt ni, mae gennym ni hanes da iawn: mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs rydym ni newydd gael y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddi tramor uniongyrchol ers 30 mlynedd yn ddiweddar.

Prif Weinidog, fel y mae Michelle Brown newydd ddweud, bydd Deddf Cymru—y ddeddfwriaeth gyfredol—wrth gwrs, yn darparu ystod o bwerau cyllidol newydd i Lywodraeth Cymru, yn amrywio o fenthyg i bwerau treth incwm a threth stamp. Beth bynnag yr ydych chi eisiau ei wneud gyda’r trethi hynny yn y dyfodol—pa un a ydych chi eisiau eu gadael nhw lle maen nhw, eu cynyddu, neu eu gostwng—yn dibynnu ar Awdurdod Refeniw Cymru cryf, ac mae hwnnw yn y broses o gael ei sefydlu, ac mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ystyried hynny. A ydych chi'n hapus â'r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad yr awdurdod hwnnw? A pha fecanweithiau sydd gennych chi ar waith i wneud yn siŵr bod y cynnydd hwnnw yn parhau ar y trywydd cywir, oherwydd, yn amlwg, mae’n hanfodol bwysig?

Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch cynnydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym ni’n gwybod y bydd ar waith mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau, pan fydd trethi’n cael eu datganoli, bod awdurdod ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu’r trethi hynny. Rydym ni wedi deall bod pwysau ar y Llywodraeth, ac rydym ni wedi ymateb i’r pwysau hwnnw. Rydym ni’n hyderus, pan ddaw'r amser y flwyddyn nesaf, y bydd Awdurdod Refeniw Cymru wedi’i sefydlu ac yn barod i ddechrau ar ei waith.

Prif Weinidog, a wnewch chi ymbellhau eich hun o sylwadau a wnaed gan Diane Abbot AS, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Lafur, a ddywedodd wrth BBC Radio Wales yr wythnos diwethaf nad oedd y Blaid Lafur yn meddwl ei bod, a dyfynnaf, yn 'iawn ar hyn o bryd' i ddatganoli plismona i Gymru? A ydych chi wedi gofyn i Diane Abbott pam mae’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, yn unigryw, yn llai galluog na Gweithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran darparu gwasanaethau heddlu? Mae Llywodraeth Cymru yn llawn cynrychiolwyr etholedig Llafur, fel yr wyf yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol—lle nad oes gan Weithrediaethau’r Alban a Gogledd Iwerddon unrhyw lyffetheiriau meingefnol o’r fath.

Rwy'n gwbl ymwybodol o'r ffaith bod pobl Cymru wedi penderfynu y dylid cael Llywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru y llynedd. Diolchaf iddo am fy atgoffa i o hynny. Nid wyf yn cytuno na ddylai plismona gael ei ddatganoli. Dylai plismona gael ei ddatganoli. Ceir dadl yn y Siambr hon brynhawn yfory pan fydd y mater yn dod yn eglur o ran y ffordd y mae pleidleisiau’n digwydd. Nid oes unrhyw reswm o gwbl—dim o gwbl—pam y dylai plismona gael ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ei ddatganoli i Fanceinion, i Lundain, ond nid i Gymru. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol i hynny fod yn wir. Rydym ni’n gwybod y bydd angen cydweithrediad o ran mesurau gwrthderfysgaeth; ceir rhai materion y mae angen ymdrin â nhw ar lefel y DU. Pan ddaw i blismona cymunedol, pam mae Cymru'n cael ei hystyried yn genedl ail ddosbarth gan y Torïaid?

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud ei datganiad.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i amseriad y busnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau hyd y ddadl heddiw ar Gyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) i 120 munud. Yn yr un modd, mae’r cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi eu cyfyngu i 30 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, rwy'n siwr y byddwch yn ymuno â mi wrth longyfarch y cynghorwyr lleol niferus sydd wedi eu hethol ar hyd a lled Cymru, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hethol ym Mro Morgannwg, ac yn enwedig y Ceidwadwyr, sef y grŵp mwyaf yn y Cyngor penodol hwnnw bellach, ac sydd, gobeithio, yn edrych ymlaen at bum mlynedd cyffrous ym Mro Morgannwg. Un o'r materion y—[Torri ar draws.] Un o'r materion—. Rwy'n clywed yr Aelod dros Blaenau Gwent yn mwmian yn y fan yna. Nid wyf yn credu y cafodd noson arbennig o dda nos Iau. Un o'r materion mawr, fel y byddwch yn ymwybodol ohono fel yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg, oedd llosgydd y Barri. Crybwyllwyd hyn, dro ar ôl tro, yn yr etholiadau lleol ar garreg y drws yn y Barri, ac roedd pryder eang, yn benodol, ynghylch yr angen am asesiad o’r effaith amgylcheddol, na chafodd ei gynnal ar y pryd—ac a ganiatawyd gan y cyngor—ac ynghylch gallu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gynnal asesiad llawn o’r goblygiadau iechyd. O ystyried bod gan y Barri, fel tref, nifer uwch o achosion o asthma yn y gymuned yno na’r cyfartaledd cenedlaethol, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar ran Llywodraeth Cymru, gan fy mod i’n credu eich bod yn cyflawni dyletswyddau'r Gweinidog dros gynllunio ar hyn o bryd, o ran pa gamau yn union y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn a godir dro ar ôl tro gan etholwyr ym Mro Morgannwg ynghylch diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol ac, yn benodol, asesiad gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro o’r nifer uchel o achosion o asthma a'r effaith bosibl y gallai llosgydd ei chael yn yr ardal. Ac, yn anad dim, hoffwn glywed pa ran y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae bellach wrth asesu trwyddedu’r safle, lle mae llawer o bobl yn amau gallu a chadernid y system honno i ateb ac ymdrin â phryderon lleol mewn gwirionedd?  Gofynnaf hefyd am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â'r cyngor newydd yn y Fro i gyflwyno ffordd osgoi Dinas Powys. Er tegwch i’r Gweinidog dros yr economi, mae wedi nodi mewn gohebiaeth flaenorol i mi y llynedd ei fod yn barod i weithio gyda'r cyngor i ddarparu adnoddau i ymdrin â'r problemau traffig difrifol sy'n bodoli yn ardal Dinas Powys, lle cafwyd gwared ar bedwar cynghorydd Plaid Cymru ac ethol pedwar cynghorydd Ceidwadol yn eu lle a fydd yn gweithio ddydd a nos i wneud yn siŵr bod y materion hyn yn cael sylw.

Rwy'n credu mai’r cwestiwn cyntaf yr ydych yn ei ofyn, Andrew R.T. Davies, ynghylch llosgydd y Barri—. Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd—ac, yn wir, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad —i adrodd fy mod wedi cadeirio cyfarfod neithiwr, cyfarfod lle’r oedd cynrychiolaeth o Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau, ac uwch swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddais ddatganiad heddiw, y cytunwyd arno bawb a oedd yno neithiwr. Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol iawn er mwyn gwneud yn siŵr—daeth y Prif Weinidog i'r Barri, fel y gwyddoch, a chael trafodaeth gadarn iawn ag aelodau o'r cyhoedd yn ei gyfarfod Carwyn Connect. Ac o ganlyniad i hyn, roeddem yn gallu symud ymlaen a chael estyniad ar gyfnod ymgynghori y drwydded amgylcheddol, ac, wrth gwrs, cytunwyd ar yr estyniad hwnnw gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yr hyn sy'n bwysig iawn ac a drafodwyd neithiwr —a’r pwyntiau a gyflwynwyd gerbron Cyfoeth Naturiol Cymru—yw y byddant, a’u bod wedi cytuno i hynny, ac, yn wir, mai eu dyletswydd yw, ystyried yn llawn effaith y cynigion ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd. Wrth gwrs, bydd cyfleoedd eraill i ymgynghori ar hynny, wrth iddynt, yn ddiweddarach yn yr wythnos, gyhoeddi amserlen 5—gwelsom ddrafft ohoni neithiwr—sy’n holi rhagor o gwestiynau i'r cwmni, Biomas 2, ynghylch y pryderon, nid yn unig y mae’r cyhoedd wedi eu codi yn ystod y cyfnod ymgynghori, ond hefyd Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf adeiladol iawn hwnnw am y cyfarfod adeiladol iawn hwnnw neithiwr. Ac, yn wir, cytunwyd i gyfarfod eto, ac rwy'n siwr y byddwch yn clywed hynny gan Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bydd gan gyngor y Fro, cyngor newydd y Fro, lawer o heriau o'u blaenau a phenderfyniadau anodd eu gwneud. Rwy'n falch iawn o'r ffaith yr ystyriwyd cyngor y Fro, dan arweiniad Llafur yn ystod y pum mlynedd diwethaf, fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o'r cynghorwyr, y cynghorwyr Llafur newydd, a gafodd eu hethol hefyd ddydd Iau. Ond, yn amlwg, mae'r blaenoriaethau o'n blaenau, a'r heriau, i gyngor newydd y Fro.

Rwy'n siŵr y gwelodd llawer o’r Aelodau y blaid Geidwadol yn targedu cyhoeddiadau rhanbarthol allweddol ar hyd a lled y DU ddydd Gwener diwethaf, gan gynnwys papurau newydd yn y Gogledd a'r 'South Wales Echo', gan dalu am hysbysebion tudalen flaen sy’n rhoi argraff gamarweiniol o duedd gwleidyddol i’r darllenwyr. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ drefnu dadl ar yr ymdriniaeth etholiadol yn y cyfryngau print a'r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru?

Credaf fod llawer ohonom wedi gorfod dioddef yr hysbysebion parhaus hyn sydd wedi ymddangos mewn llawer o'n hetholaethau ledled Cymru. Byddaf yn gwneud rhai pwyntiau ffeithiol iawn am y ffaith na thrafodir hysbysebu gwleidyddol gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu. Ni chaiff ei ganiatáu, fel y gŵyr yr Aelodau, ar y teledu o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, ond caiff ei ganiatáu mewn print. Cafodd ei gynnwys gan yr ASA hyd nes 1999, pan benderfynodd y Pwyllgor Arferion Hysbysebu beidio â’i gynnwys. Hefyd, arweiniodd Deddf Hawliau Dynol 1998 at bryderon ynghylch rheolaethau ar ryddid mynegiant gwleidyddol. Ond rwy’n credu mai’r pwynt allweddol sydd angen ei wneud hefyd yw bod yn rhaid datgan costau hysbysebu mewn ffurflenni etholiad pleidiau canolog i'r Comisiwn Etholiadol. Felly, mae hynny'n bwynt pwysig i'r cyhoedd ei drafod. Ond nid yw’r un o’r pwyntiau ffeithiol hynny yn golygu na ddylid cael dadl ar y mater hwn, wrth gwrs, ac, os oedd cefnogaeth eang ar gyfer hynny o bob rhan o'r Siambr, rwy’n credu y byddem yn dymuno symud ymlaen. Oherwydd, yn amlwg, mae pob un ohonom yn ceisio sicrhau’r angen am gydbwysedd a thegwch wrth adlewyrchu gwleidyddiaeth Cymru.

Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn tynnu sylw at yr ystadegau ar danau glaswellt ledled Cymru a'r gostyngiad a welsom. Newyddion da iawn oedd hynny, ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafwyd tân glaswellt enfawr yn fy etholaeth i, a dinistriwyd llawer o ardaloedd Mynydd Dinas. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i ddiolch i'r diffoddwyr tân am y gwaith a wnaethant?  Sicrhaodd eu hymdrechion nhw fod y tân yn cael ei reoli a'i gynnal, ac na chafodd unrhyw eiddo ei ddifrodi. Ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet efallai ar y trafodaethau y mae wedi'u cael â'r gwasanaethau tân ac achub ynghylch y strategaethau y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn cadw’r achosion hyn i’r nifer lleiaf, a, phan fydd tân yn digwydd, sut y byddwn yn ymateb iddo er mwyn sicrhau y gwneir cyn lleied â phosibl o niwed?

O ran ail bwynt, y bore yma cawsom ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar hyfforddiant nyrsio yma yng Nghymru. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad y bydd blwyddyn ychwanegol o fwrsarïau i nyrsys, i gefnogi datblygiad nyrsys yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ond a gawn ni, mewn gwirionedd, ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl, yn edrych ar y meysydd eraill y mae angen i ni eu hystyried, sef y nyrsys arbenigol ym meysydd pediatreg, iechyd meddwl a newydd-anedig, a’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i'w cefnogi yn y meysydd hynny? Efallai y gall ychwanegu a fydd wedyn yn cefnogi'r bwrsarïau i nyrsys ymhellach, oherwydd dim ond ar gyfer un flwyddyn y bydd hyn yn digwydd, a byddai'n braf gweld hyn yn ymrwymiad ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Ac, o ran pwynt olaf, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a gawn ni ddatganiad ganddo ar ddur? Nawr, yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion bod IG Metall, yr undeb llafur yn yr Almaen, yn bryderus iawn am yr uno posibl rhwng ThyssenKrupp a Tata ac, felly, y gallai’r uno fethu. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae'n eu cynnal â Tata i edrych ar y goblygiadau ar wneud dur yma yng Nghymru a'r hyn fydd yn digwydd i'n gweithfeydd dur ni?

Tri chwestiwn pwysig gan David Rees, ac, mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, do, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad yr wythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau glaswellt difrifol iawn, Rwy’n credu bod angen i ni gychwyn, yn gyntaf, trwy ddiolch i’r diffoddwyr tân am eu dewrder yn benodol, nid yn unig o ran y tân diweddaraf a ddigwyddodd, yn anffodus, ond ledled Cymru, gan effeithio ar nifer fawr o'n hetholaethau. Mae'n fater anodd o ran gwasanaethau tân ac achub—yn cymryd rhan lawn, fel y gallech ei weld o ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymdrin â'r ffordd ymlaen o ran atal yn ogystal â rheoli.

Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn o ran y rhan o'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am ymgyrch recriwtio fawr newydd, a lansiwyd i gynyddu nifer y nyrsys yn y GIG yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai pawb yn croesawu hynny ar draws y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, ymgyrch recriwtio yw hon a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid ceisio recriwtio nyrsys i bob rhan o’r gwasanaeth, yn gyffredinol, yn arbenigol, a hefyd, byddwn i’n ei ddweud, mewn gofal sylfaenol. Mae’n rhaid inni gydnabod y rhan gynyddol bwysig y mae’r nyrs practis a'r nyrsys arbenigol yn ei chwarae yn y gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd ac arbenigol. Ond hefyd y cyhoeddiad pwysicaf yn y trefniadau ar gyfer cynllun bwrsariaeth y GIG—. Fe’i gwnaeth yn eglur fod Cymru yn croesawu busnes, ac rydym yn cefnogi ein nyrsys, mae gennym ddiddordeb mewn sut y gallwn gefnogi eu rhaglenni addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ac rydym hefyd yn edrych ar sut y gallant sicrhau bod y trefniadau hynny sydd bellach yn eu lle ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf—ac yna, fel y dywed ei ddatganiad, yn bwriadu rhoi rhagor o ystyriaeth i drefniadau tymor hwy yn sgil canlyniadau'r adolygiad Diamond, gydag ymgynghoriad llawn. Stori newyddion dda iawn i’n nyrsys a’r bobl ifanc hynny a’r myfyrwyr aeddfed sy'n ystyried gyrfa mewn nyrsio.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Eich trydydd pwynt: ydw, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau o ran Tata a'r gwaith dur, sydd, wrth gwrs, yn effeithio yn benodol ar eich etholaeth chi.

Tybed a oes modd amserlennu dadl, yn ddelfrydol yn yr wythnosau nesaf, ar swyddogaeth Llywodraeth Cymru ym maes diogelwch cymunedol. Rydym ni i gyd yn gwybod, fel Aelodau Cynulliad yn y tŷ hwn o bob plaid, am bwysigrwydd diogelwch cymunedol, yn enwedig o ran presenoldeb mewn lifrai yn y rheng flaen. Roeddwn i’n ddigon ffodus, neu'n anffodus, i dreulio 13 wythnos ar Fil y Swyddfa Gartref a gyflwynodd swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu, ac y buddsoddodd Llywodraeth Cymru—edrych o bell yr oeddwn i ar y pryd—yn fawr ynddynt flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gyson. Ac er fy mod i’n cofio’r Ceidwadwyr ar y pwyllgor hwnnw yn dadlau yn groch yn eu herbyn ar y pryd, ymddengys fod pawb yn eu croesawu erbyn hyn, felly mae’n gam da ymlaen. Ond, byddai dadl o'r fath, pe byddem yn ei chynnal yn ystod y pythefnos nesaf, hefyd yn caniatáu i ni drafod, bryd hynny, fuddsoddi nid yn unig mewn SCCH, ond hefyd mewn heddweision rheng flaen a'r ymrwymiad y mae plaid Lafur y DU wedi’i wneud i gyflwyno 800 yn rhagor ar ein strydoedd—800 yn rhagor o heddweision ar y stryd—pe baem yn ennill yr etholiad cyffredinol.

Wel, rwy'n credu bod y ffaith ein bod, yn erbyn heriau ariannol llwm o ganlyniad i doriadau a chaledi Llywodraeth Torïaidd y DU—yn erbyn hynny i gyd, ein bod wedi dewis fel blaenoriaeth, y Llywodraeth Lafur Cymru hon, i barhau i gefnogi ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol. A’r hyn sy’n glir iawn yw bod y swyddogion cymorth cymunedol hynny yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r heddluoedd ledled Cymru, ac maent yn chwarae rhan mor amlwg yn ein cymunedau, gan gymryd rhan yn yr union bwynt a wnaethoch chi ynglŷn â mynd i'r afael ag amddiffyn diogelwch cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl dan yr anfantais honno, yr anhawster hwnnw, o ran yr angen am ddiogelwch cymunedol. Rydym, wrth gwrs, yn gweld hyn yn flaenoriaeth wirioneddol, ac mae'n dangos unwaith eto ein gwerthoedd sylfaenol i’n cymunedau fel Llywodraeth Lafur Cymru.

3. 3. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Eitem 3 ar yr agenda yw’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Undebau Llafur (Cymru) ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6298 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 14:30:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Thank you very much, Deputy Presiding Officer. First of all, I would like to thank the Chairs of the, Equality, Local Government and Communities Committee and the Constitutional and Legislative Affairs Committee for their work in carrying out detailed scrutiny of the Bill throughout Stage 1. I would also like to thank the Chair and members of the Finance Committee. I would also like to thank stakeholders and social partners who have participated in the scrutiny process, providing written and oral evidence to the committee and contributing to our consultation on using agency workers during industrial action.

Dirprwy Lywydd, nodais ddibenion y Bil hwn wrth ei gyflwyno ym mis Ionawr, ac nid wyf yn bwriadu mynd dros yr un tir y prynhawn yma. I grynhoi, bydd y Bil yn datgymhwyso nifer o ddarpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 Llywodraeth y DU, gan sicrhau nad ydynt yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r darpariaethau hyn yn cynnwys didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, amser cyfleuster a throthwyon pleidleisio. Rydym yn gwneud hynny er mwyn amddiffyn a hyrwyddo model llwyddiannus o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a ddatblygwyd yn ofalus ac yn gyson gan Lywodraethau olynol Cymru, sy'n cynnwys tair plaid wleidyddol wahanol a etholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ers 1999.

Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch i mi hefyd gofnodi eto nad effeithir ar y Bil hwn gan gychwyn Deddf Cymru 2017 y flwyddyn nesaf. Mae'r Bil wedi'i gyflwyno a bydd yn cael ei ddeddfu dan y setliad datganoli presennol. Ar yr amod bod y Bil wedi cyrraedd diwedd Cyfnod 1 erbyn i Ddeddf Cymru gychwyn, gall symud ymlaen drwy'r Cynulliad hwn. Dan yr amserlen bresennol, ni fydd y Bil hwn, os yw’n llwyddo, wedi cyrraedd diwedd Cyfnod 1, ond bydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol cyn i Ddeddf Cymru ddod i rym.

Dirprwy Lywydd, ddiwedd mis Mawrth, ysgrifennais at y pwyllgorau gyda fy mhenderfyniad i gyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2 i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol gan wasanaethau cyhoeddus yn dilyn ymgynghoriad yn hwyr y llynedd. Bwriad yr wybodaeth ychwanegol oedd cynorthwyo'r pwyllgorau perthnasol i graffu ar yr opsiynau deddfwriaethol yn eu trafodaethau, ac rwy’n gobeithio y bydd ein proses ymgynghori, gan dynnu sylw at weithredu arfaethedig yn y maes, yn gallu rhoi iddynt y cwmpas am drafodaethau cytbwys gyda phartneriaid cymdeithasol ar y cynigion. Edrychaf ymlaen at graffu ar agwedd polisi'r Bil yn ystod gweddill proses y Cynulliad.

Dirprwy Lywydd, dim ond nifer fach o argymhellion sydd gan y ddau bwyllgor, ac rwy'n hapus felly i ddarparu ymateb cryno iddynt yn y ddadl hon, ar ôl ysgrifennu atynt i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwy technegol a godwyd yn eu hadroddiadau. Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth aruthrol gan bartneriaid cymdeithasol, a chefnogaeth y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wrth ddwyn y Bil hwn yn ei flaen? Roedd adroddiad y pwyllgor hwnnw yn cynnwys un argymhelliad ffurfiol: bod y Cynulliad hwn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Hefyd, roedd y pwyllgor yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno gwelliant Cyfnod 2, gan nodi’r gred y byddai'n cryfhau'r Bil ac y byddai'n gwbl gyson â'i ddiben penodedig a'r effaith a fwriedir. Mae’r argymhelliad hwnnw yn adlewyrchu'r dystiolaeth lethol, rwy’n credu, a gafodd y pwyllgor, a chroesawaf ei adroddiad yn fawr.

Gwnaed tri argymhelliad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn gofyn imi esbonio yn y ddadl hon pam nad wyf wedi cynnwys y gwelliant arfaethedig i'r Bil yn gynharach, ac rwy'n hapus i wneud hynny, wrth gwrs. Mae'r ateb yn gorwedd yn natur ac amseriad y broses gwneud penderfyniadau yn San Steffan. Pasiodd y Llywodraeth etholedig yno ym mis Mai 2015 Ddeddf yn erbyn cyngor ei swyddogion cyfraith ei hun, o Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, a oedd yn gosod trefniadau ar wasanaethau cyhoeddus a ddatganolwyd i Gymru. Ar bob cam yn y broses honno, gwnaed ein gwrthwynebiad yn hysbys. Cafodd fy mhlaid i, ac eraill a etholwyd yma, ei hethol gydag ymrwymiad maniffesto i ddod â deddfwriaeth gerbron y Cynulliad i wyrdroi’r newidiadau hynny.

Ochr yn ochr â'u cynigion ar gyfer y Bil, yn ystod haf 2015, ymgynghorodd Llywodraeth y DU hefyd ar wahân ar gynigion i ddiddymu rheoliad 7 o'r rheoliadau asiantaethau cyflogaeth, sy'n gwahardd asiantaethau cyflogi sy'n cyflenwi gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol. Ar adeg etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai y llynedd, nid adroddwyd ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. Gan nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol, felly, wedi mynegi barn yn flaenorol ar y mater, ac am nad oedd wedi ei nodi mewn unrhyw faniffesto, penderfynais y byddai angen ymgynghoriad ar wahân ar y mater hwn. Mae’r ymgynghori hwnnw wedi dod i ben a gwnaed fy mhenderfyniad i yn hysbys i'r pwyllgorau. Bydd y ddwy agwedd yn dod at ei gilydd, os bydd gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 lwyddo. Ac, fel y nodais yn gynharach, roedd y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cefnogi’r dull hwnnw o weithredu.

Mae argymhellion 2 a 3 adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ymwneud â'r pŵer yn adran 2 (2) o'r Bil i wneud darpariaethau trosiannol ac arbed. Cafodd y pŵer hwn ei gynnwys ar adeg ei gyhoeddi, oherwydd, ar y pwynt hwnnw, nid oedd yn hysbys sut y byddai Llywodraeth y DU yn mynd ati i gychwyn Deddf yr Undebau Llafur 2016, a oedd yn cynnwys pwerau tebyg. Yn fy marn i, adlewyrchwyd y pwerau hynny yn synhwyrol yn ein drafft ni ein hunain. Dywedais wrth y pwyllgor pan ymddangosais ger ei fron na fydd angen i ni wneud darpariaethau trosiannol fwy na thebyg. Nawr bod y darpariaethau perthnasol yn Neddf y DU mewn grym, gallwn weld, mewn gwirionedd, na fydd angen y pwerau hynny. Gan ei fod yn bŵer sydd bellach heb bwrpas, rwy’n hapus i ddweud y prynhawn yma y byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w ddileu, ac felly yn rhoi sylw i’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Deputy Presiding Officer, there is far more in the committee reports, and I have responded to these in my letters to the committee Chairs. I would like to thank them once again for giving detailed consideration to the Bill during Stage 1, and for doing so in such a constructive spirit. Although I expect the Bill to cause some dispute between the parties here in the Chamber, what is clear from the evidence gathered from stakeholders and social partners is that there is an overwhelming consensus in favour of the Bill.

My response this afternoon is made in the spirit of that consensus, and I have also dealt with the committees’ recommendations before Members. As is recommended by the Communities, Equality and Local Government Committee, I would ask Members to approve the Bill this afternoon. In this way, we can continue to tackle any issues relating to the workforce, by working on a social partnership basis, providing better public services to the citizens of Wales. Thank you.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor er mwyn helpu i lywio ei waith, gan gynnwys y rhai a roddodd o’u hamser i fynd i’n trafodaethau grŵp ffocws.

Fe achosodd Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn San Steffan yn 2015, gryn drafodaeth a dadlau brwd. Wrth gynnal ein gwaith craffu ar Fil yr Undebau Llafur Llywodraeth Cymru (Cymru), ymgynghorwyd yn eang â rhanddeiliaid a gofyn am amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys rhai gan sefydliadau oedd yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn gyhoeddus. Roedd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar brofi honiad Llywodraeth Cymru y byddai'r darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur y mae’r Bil yn ceisio eu datgymhwyso yn cael effaith andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ac ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn effeithiol.

Rydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa anarferol heddiw o gyflwyno adroddiad sy'n cynnwys un argymhelliad—bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’r argymhelliad hwn, a gefnogir gan saith o bob wyth o aelodau’r pwyllgor, yn seiliedig ar y gefnogaeth lethol i'r Bil yn y dystiolaeth a gawsom. Mae'n anarferol i bwyllgor beidio â bod yn argymell gwelliannau yn ystod proses graffu Cyfnod 1, ond dyna fel y mae hi.

Gan siarad yn dechnegol, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yn syml. Mae'n datgymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf 2016 i awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'n gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn syml ac, yn ein barn ni, yn effeithiol.  Mae'r Bil ei hun yn Fil byr o dair adran. Ond rydym yn gwybod nad yw hyd y Bil yn unrhyw arwydd o’i bwysigrwydd, ac nid yw’r Bil hwn yn eithriad. I'r gwrthwyneb, heb y Bil hwn, clywsom y byddai’r trothwy pleidleisio o 40 y cant, sydd eisoes mewn grym yng Nghymru, ynghyd â'r newidiadau yn y dyfodol i ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ac amser cyfleuster, yn fygythiad gwirioneddol all ddigwydd yn fuan i bartneriaeth gymdeithasol.

Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r ymatebwyr wrthym, sy’n hanfodol i reoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb heriau ariannol parhaus a newid gweddnewidiol parhaus. Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r GIG yng Nghymru wrthym, oedd

wedi cefnogi datblygiad atebion effeithiol ac o fudd i'r ddwy ochr i heriau sylweddol

yr oedd y gwasanaeth wedi mynd i'r afael â nhw. Y bartneriaeth gymdeithasol hon meddai llywodraeth leol wrthym, oedd

wedi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod parhad y gwasanaeth wedi bod wrth wraidd rhai penderfyniadau anodd

yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n syndod, felly, bod y sefydliadau hynny sy'n uniongyrchol gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n cymunedau yn awyddus i’r bartneriaeth gymdeithasol gael ei chadw. Maent yn credu'n gryf bod angen y Bil i sicrhau hyn.

Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn fyr am ddarpariaethau sylweddol y Bil. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer datgymhwyso'r cyfyngiadau yn Neddf 2016 ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres . Adroddodd ymatebwyr fod y trefniadau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres wedi'u hen sefydlu, yn effeithlon, o fudd i bob parti ac ar gost isel i gyflogwyr. Ar y gorau, mae cyfyngiadau yn debygol o fod yn anghyfleus i undebau llafur a chyflogwyr. Ar y gwaethaf, gallent arwain at dynnu'n ôl didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres, a allai yn y pen draw wanhau dwysedd aelodaeth undebau a llesteirio gallu'r undebau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol. Mae'r cyfyngiadau yn dethol tanysgrifiadau undeb llafur o daliadau eraill a wneir gan gyflogwyr ar ran y gweithwyr. Maent yn ddiangen, yn ddiwarant ac ni welwn unrhyw reswm dilys i'w cymhwyso i awdurdodau datganoledig yng Nghymru.

Clywsom fod mynediad at amser cyfleuster yn hanfodol i sicrhau bod cynrychiolwyr undebau llafur nid yn unig yn gallu cyflawni eu dyletswyddau o ran cynrychiolaeth unigol a bargeinio ar y cyd, ond i gymryd rhan yn yr agenda gwella gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Clywsom hefyd dystiolaeth gymhellol am fanteision amser cyfleuster a'r arbedion cost posibl cysylltiedig. Mae hyn yn ein gadael heb unrhyw amheuaeth bod amser cyfleuster yn fuddsoddiad doeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a dylid ei ystyried fel y cyfryw. Os yw undebau llafur i barhau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol a chyfrannu at yr agenda wella, yna mae'n rhaid diogelu’r trefniadau presennol ar gyfer amser cyfleuster.

Mae'n amlwg fod cydbwysedd rhwng partneriaid yn dyngedfennol i unrhyw bartneriaeth lwyddiannus rhwng partneriaid. Bydd trothwy pleidleisio o 40 y cant yn ddi-os yn tanseilio gallu'r undebau llafur i ymgysylltu â chyflogwyr fel partneriaid cyfartal. Mae’r hawl i ymgymryd â gweithredu diwydiannol yn elfen bwysig yn yr egwyddor o fargeinio ar y cyd. Heb yr hawl hon, neu, yn achos Deddf 2016, lle mae’r hawl hon yn cael ei llesteirio gan gyfrwng y trothwy pleidleisio ychwanegol, bydd yn llawer mwy anodd i undebau negodi ar ran eu haelodau. Nid ydym yn credu bod hyn er budd gorau gweithio mewn partneriaeth. Clywsom am y perygl gwirioneddol y bydd y trothwy ychwanegol yn arwain at densiynau diwydiannol uwch a gallai gynyddu'r tebygolrwydd a hyd y gweithredu diwydiannol yn anfwriadol.

Gan symud ymlaen at weithwyr asiantaeth, Dirprwy Lywydd, clywsom y byddai symudiad gan Lywodraeth y DU i godi'r gwaharddiad presennol ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol yn cael effaith debyg ar y bartneriaeth gymdeithasol i’r gofyniad trothwy pleidleisio 40 y cant. Ac felly, rydym yn croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddiwygio'r Bil i sicrhau bod y gwaharddiad yn parhau, waeth beth yw canlyniad ystyriaethau Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

I gloi, nid ydym mewn unrhyw amheuaeth y bydd y darpariaethau perthnasol yn Neddf 2016, i gyd, i raddau amrywiol, yn effeithio’n andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol ac, yn ei dro, ar ddarpariaeth barhaus a gwella gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. I gydnabod hyn, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac rydym yn argymell bod yr Aelodau yma heddiw yn gwneud yr un peth.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar hefyd fy mod yn dilyn fy nghyd-Aelod, John Griffiths, sydd wedi ymdrin yn fanwl â’r cyd-destun polisi a ystyriwyd gan ei bwyllgor.  Mae gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gylch gwaith llawer mwy cul wrth edrych ar y Bil hwn ac rwy'n mynd i siarad am y cylch gorchwyl penodol hwnnw. A gaf i, wrth wneud hynny, ddiolch, fel bob amser, i fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor am eu gwaith craffu cadarn a diwyd iawn ar y Bil bach hwn, wrth iddo fynd yn ei flaen, ond Bil pwysig iawn o ran y materion yr ydym yn eu hystyried. Rwyf hefyd yn diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am sicrhau ei fod ar gael i’w holi yn eithaf trwyadl a hefyd am ei atebion cadarn ac ystyriol?

Adroddwyd ar y Bil hwn ar 7 Ebrill, ac mae'r adroddiad ar gael ar ffurf copi caled ac ar-lein. Rwy’n ei argymell, nid yn unig i gydweithwyr sy’n Aelodau Cynulliad ond hefyd i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb ac arsyllwyr eraill â diddordeb yng nghynnydd y Bil penodol hwn.

Pan adroddwyd ar y Bil ar 7 Ebrill, gwnaed tri argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet.  Byddaf yn ymdrin â’r rheini yn fanwl ond, cyn gwneud hynny, os caf i wneud rhai sylwadau cyffredinol yn gyflym, sy'n bwysig er mwyn egluro ein hystyriaeth o’r Bil penodol. Fel yn achos gwaith craffu ar yr holl Filiau, rydym yn ystyried materion sy'n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol.  Fodd bynnag, wrth wneud hynny, ac fel yr ydym yn nodi yn ein hadroddiad, nid ein swyddogaeth ni yw mynegi barn ynghylch a yw’r Bil o fewn neu y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Yn hytrach, ein swyddogaeth ni yw tynnu sylw at unrhyw faterion y gall Aelodau'r Cynulliad ddymuno eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, neu gynnig neu gefnogi gwelliannau yn ystod camau diweddarach craffu.

Felly, o ran y Bil hwn, archwiliwyd datganiad y Llywydd ar gymhwysedd, y mae'n rhaid iddi ei roi, gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Yn rhan o'i datganiad, dywedodd y Llywydd, er bod y Bil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd y Cynulliad, nododd nad oedd y materion hyn yn syml a bod ei hystyriaeth, yn ei geiriau hi, yn un gytbwys.

Yn awr, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y dystiolaeth a gymerwyd gennym ni oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet a'r cwestiynu a'r dystiolaeth a glywsom, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny o gymorth i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud eu penderfyniadau ar y Bil hwn. Ond yn y pen draw, gallai unrhyw gwestiwn ynghylch a yw Bil o'r fath yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn fater i’r Llys Goruchaf benderfynu arno o safbwynt a yw'r cymhwysedd yn cael ei herio’n briodol.

Felly, trof yn awr at ein tri argymhelliad. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 2 i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Yn awr, ein dewis ni fel pwyllgor, fel yr ydym yn datgan yn yr adroddiad, yw y dylai darpariaeth o arwyddocâd polisi o'r fath yn ddelfrydol gael ei chynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno. Byddai cynnwys y ddarpariaeth wrth gyflwyno’r Bil wedi caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried adroddiad pwyllgor sy'n archwilio ac yn ystyried barn rhanddeiliaid ar y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei hymgynghoriad ei hun ar y cynnig penodol hwn, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, mae ymgynghoriad o'r fath yn broses wahanol i un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud â'r egwyddorion ac union eiriad Bil fel rhan 1 o'r broses graffu ddeddfwriaethol Cyfnod 1.

Felly, roedd ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pam nad oedd y Bil yn cynnwys darpariaeth wrth ei gyflwyno am y defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod streic, ac, yn yr un un modd, gofynnwyd pam na ellid fod wedi gohirio'r Bil am ychydig, o bosibl, ar gyfer sefyllfa o'r fath. Ond rwy’n ddiolchgar iawn heddiw am ymateb manwl ac esboniad pellach a chyfiawnhad Ysgrifennydd y Cabinet. Nodaf, fel yr ydym newydd glywed, fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—boed hynny drwy hap neu, fel arall, gynllunio perffaith, nid wyf yn gwybod—wedi gallu, yn wir, cymryd tystiolaeth ar y mater hwn yn ystod ei graffu Cyfnod 1 ei hun a’i ymgorffori o fewn hynny, gan gynnwys ymgysylltu eang â rhanddeiliaid, ac mae hynny’n galonogol o ran ein hargymhelliad cyntaf.

Ac mae’r ail a'r trydydd argymhelliad a wnaethom yn ymwneud â'r un pŵer a geir yn adran 2 y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth. Ac, fel yr ydym wedi clywed yn ystod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, cafwyd sicrwydd mawr ar hynny, a chroesawaf y newidiadau arfaethedig i'r Bil a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan oedd ar ei draed. Mae ein dadansoddiad o’r Bil hwn yn dechnegol iawn ac yn fanwl iawn ac yn gul o ran ei gylch gwaith, ond rwy’n argymell yr adroddiad i Aelodau'r Cynulliad os yw hynny’n eu helpu yn eu hystyriaeth.

Mae braidd yn anffodus fy mod yn teimlo'r angen i sefyll ac yn sylfaenol wrthwynebu egwyddorion cyffredinol cyflwyno'r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n gwneud hynny ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymreig y Cynulliad, ond hefyd ar ran ein trethdalwyr yng Nghymru. Y llynedd, cafodd Deddf yr Undebau Llafur Llywodraeth y DU 2016 ei phasio gan Gydsyniad Brenhinol ar ôl ymgynghori sylweddol ac ymgysylltu â'n gweithwyr rheng flaen, undebau llafur a chafwyd mandad clir gan bleidleiswyr ein gwlad. [Torri ar draws.] Roedd yn y maniffesto. Mae Deddf y Deyrnas Unedig yn nodi darpariaethau ar sail nifer y pleidleiswyr a’r gefnogaeth i streic, proses dryloyw am danysgrifiadau, a'r gofyniad bod didyniadau cyflogres ar gyfer tanysgrifiadau yn cael eu gweinyddu yn unig lle nad yw'r gost yn cael ei hariannu gan y cyhoedd. Yn awr, mae Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn ceisio datgymhwyso rhannau o'r Ddeddf honno yma yng Nghymru.

Yn awr, fel y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru eleni, ystyrir y Bil hwn yn ddiangen, yn feichus ac yn gostus. Rwy'n credu y bydd y trethdalwyr yn cael siom o gael gwybod am yr amser a'r egni a dreuliwyd ar hyn, a’r gost, a allai fod wedi talu am ddatblygu Bil awtistiaeth i Gymru, neu ddeddfu i fynd i'r afael â methiannau niferus a sylweddol Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae bod yn agored a thryloyw ynghylch cost wirioneddol undebau llafur a gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus sy'n ymgymryd â gweithgareddau undeb yn hanfodol.

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 14:53:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na

Yn y pen draw, mae cyllid ar gyfer y gweithgarwch hwn yn dod allan o bwrs y wlad. Canfu Cynghrair y Trethdalwyr, yn 2014, fod undebau wedi cael dros 273,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y DU. Byddai gwerth gofod swyddfa o'r fath yng Nghaerdydd ar y farchnad yn fwy na £6.2 miliwn, ac eto dim ond £307,000 a godwyd ar yr undebau, sy'n golygu bod y trethdalwr mewn gwirionedd yn rhoi cymhorthdal ​​o filiynau o bunnoedd i weithgareddau’r undebau llafur. Roedd angen mwy o dryloywder ar Ddeddf y DU o ran yr wybodaeth yn ymwneud ag amser cyfleuster, gan ymestyn y gofynion hynny sydd eisoes yn berthnasol i'r gwasanaeth sifil. Credaf ei bod yn iawn fod y Llywodraeth yn monitro hyn er mwyn sicrhau ei fod yn ddefnydd synhwyrol o arian trethdalwyr, a bod lefelau o amser cyfleuster yn parhau i fod yn briodol ac yn angenrheidiol. Yn amlwg, y bwriad yw y bydd arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwneud yn rhinwedd gofyniad i gyhoeddi'r wybodaeth hon. Mae’r cyfnod perthnasol cyntaf yn dechrau ar 1 Ebrill. Felly, bydd yr adroddiadau cyntaf yn barod erbyn 31 Gorffennaf. Mae'n achos pryder nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu y byddai'n ddoeth aros i weld canlyniadau cychwynnol yr elfen hon o Ddeddf y DU. Yn hytrach, yma mae’n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwthio ymlaen heb fawr o dystiolaeth ystadegol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn pryderu bod y trothwy 40 y cant yn creu'r potensial ar gyfer streiciau gwyllt—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 14:55:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Nid wyf yn gallu.

[Yn parhau.]—ac eto, ni chynigiwyd unrhyw dystiolaeth gadarn i gefnogi'r honiad hwn. Ymhellach at hynny, mae'n bryderus nodi, er bod y rhai a oedd yn rhoi tystiolaeth yn y pwyllgor yn siarad am y gost isel ymddangosiadol o brosesu didyniadau cyflogres, na allai neb roi ffigur gwirioneddol ar gyfer hyn. Cyn Deddf y DU, dim ond 22 y cant o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y DU sy’n codi tâl ar undebau am y gwasanaeth hwn er gwaethaf cost arall i bwrs y wlad. Mewn llywodraeth leol yn unig yng Nghymru, rydym yn gwybod bod dros 30,570 o weithwyr yn talu tanysgrifiadau drwy ddidyniadau cyflogres. Ni all cost gyfunol hynny fod yn ddi-nod. Felly, rydym yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth y DU i sicrhau bod y costau’r undebau yn cael eu talu gan yr undebau.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU hefyd yn cydnabod bod sectorau lle mae gweithredu diwydiannol yn cael effaith ehangach ar aelodau o'r cyhoedd ac mae hynny’n anghymesur ac annheg. Bydd caniatáu i weithwyr asiantaeth gyflenwi yn lle gweithwyr sy’n streicio yn sicrhau y bydd busnesau a llawer o'n gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau i weithredu i ryw raddau. Felly, mae'n bryderus nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cynnwys darpariaeth yn y Bil hwn i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol yn ymwneud ag awdurdodau datganoledig Cymru.

Llywydd—Dirprwy—mae’r Llywodraeth a arweinir gan Geidwadwyr y DU wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth Llywodraeth dryloyw a chlir nad yw'n achosi gormod o faich gweinyddol nac yn creu dryswch cyfreithiol i gyflogwyr. Rydym yn deall na fydd rheoliadau sy’n gysylltiedig â didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ac amser cyfleuster yn cynnwys cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru o fewn eu cwmpas nes y bydd Deddf Cymru 2017 yn dod i rym, a gwyddom y bydd Deddf Cymru yn egluro bod cysylltiadau diwydiannol yn fater a gedwir yn ôl. Bydd Llywodraeth y DU, rwy’n ffyddiog, yn gweithredu ar y cyfle cynharaf posibl ar ôl cychwyn Deddf Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diogelu. Mae cyflwyno'r Bil hwn yn sarhad ar bobl Cymru, sy'n wynebu problemau llawer mwy: diffyg meddygon teulu, cludiant gwael, llai o gefnogaeth yn y dosbarth i athrawon, diffyg hygyrchedd i gyffuriau gwarchod bywyd a chynnydd yn y dreth gyngor.

Ydw.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sylfaenol yn gwrthwynebu egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Gofynnaf i Aelodau eraill sydd ag unrhyw gydwybod gefnogi'r nod hwnnw.

Diolch i chi am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon, Dirprwy Lywydd. Rwy’n siarad yn y ddadl hon fel rhywun sy'n falch o fod wedi gwasanaethu pobl sy'n gweithio yn fy swyddogaeth flaenorol, yn gweithio i undeb lafur, ac sydd wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn fy swyddogaeth fel Aelod o'r Cynulliad. Mae hefyd yn golygu fy mod yn gallu cyfrannu at y ddadl hon gydag ychydig mwy o ddealltwriaeth efallai na rhai eraill, o'r modd y mae egwyddorion ac arferion partneriaeth gymdeithasol yn gweithio o fewn y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Rydym yn gwneud llawer o’r bartneriaeth gymdeithasol hon a’r ffaith ein bod yn gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru, ac nid dim ond er mwyn bod yn wahanol. Gwn am y dŵr coch clir hwnnw y buom yn siarad amdano flynyddoedd lawer yn ôl, ond mewn gwirionedd rydym yn gwneud hyn gan mai dyma’r peth iawn i'w wneud ac yn wir nid y gweithwyr a’r gweithleoedd yn unig sydd ar eu hennill, ond yr economi a’r gymdeithas hefyd.  Bydd peidio â chyflwyno a diddymu’r elfennau hyn yn sicr yn cael effaith andwyol ar y dull partneriaeth gymdeithasol yr ydym yn ei werthfawrogi cymaint yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi dweud ei fod ym maniffesto’r Ceidwadwyr. Wel, mewn gwirionedd, roedd ddiddymu’r elfennau hyn ym maniffesto Llafur Cymru y pleidleisiwyd arno y llynedd.

Gawsom ni fwy na chi. [Chwerthin.]

Teimlaf ei bod yn angenrheidiol imi sefyll ar fy nhraed eto yn y ddadl hon a cheisio gwrthbrofi rhywfaint o'r rhethreg a'r camddealltwriaeth ynghylch sut y mae undebau llafur yn gweithio'n ymarferol. Felly, y peth cyntaf i sôn amdano, ac rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr eraill yn gwneud hynny hefyd, yw casglu tanysgrifiadau trwy ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres. Mae'n ffordd eithaf syml a hygyrch o wneud hyn ac, mewn gwirionedd, yn y mwyafrif llethol o achosion, gan gynnwys fy awdurdod lleol i, yr undebau mewn gwirionedd sy’n talu am y gost o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ac maent yn arbed arian i'r awdurdod lleol. Ar gyfer y cyflogwyr hynny lle ceir cytundeb ar waith—yn bennaf mewn llywodraeth leol—mae’r trefniant mewn gwirionedd yn cynhyrchu incwm i’r awdurdod lleol, er mai swm cymedrol ydyw. Felly, nid yw o reidrwydd yn anfantais ariannol i’r awdurdod lleol. Ni allwn ddeall pan oedd fy nghydweithwyr yn ceisio ymyrryd—rydym yn clywed llawer o wrthwynebiad gan yr wrthblaid am ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres ar gyfer talu tanysgrifiadau undebau llafur, ond nid ydym yn clywed yr un ffwdan yn cael ei wneud am y nifer o ddidyniadau eraill sy’n cael eu tynnu o gyflogau’r gweithwyr, pan godir taliadau fel talebau gofal plant, cynlluniau seiclo i'r gwaith a hyd yn oed yswiriant gwladol.

O ran amser cyfleuster, rwy'n credu bod hwnnw’n darged eithaf hawdd. Clywn lawer o ymosodiadau ar amser cyfleuster, ond mae amser cyfleuster undebau llafur yn cynnig ffordd i staff siarad am eu profiadau, ac yn rhoi mecanwaith clir ar waith ar gyfer datrys cwynion ac anghydfodau, boed yn anffurfiol neu drwy gydfargeinio, cyn i bethau waethygu a chyrraedd adeg pan fydd mewn gwirioneddd yn costio arian i gyflogwr gamu i mewn a chymryd rheolaeth ar y sefyllfa. Bydd cyfyngu ar amser cyfleuster i gynrychiolwyr lleol a'r difrod i bartneriaeth gymdeithasol yn erydu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan undebau llafur i wella cyfle cyfartal, ac yn cael gwared ar y diogelwch gorau sydd gan weithwyr ar hyn o bryd rhag triniaeth wahaniaethol.

A fyddech yn cytuno â mi, Hannah Blythyn, ynghylch yr ymchwil gan Brifysgol Warwick a'r sylw a wnaed gan yr Athro Kim Hoque a ymgymerodd â’r gwaith ymchwil, a ddywedodd:

Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cynrychiolwyr undeb amser llawn a rhan-amser yn y gweithle yn helpu i wella perfformiad yn y sector cyhoeddus a bod rheolwyr yn cydnabod yn eang fod hyn yn wir.

Wrth gwrs, oherwydd, yn amlwg, mae'n darparu mecanwaith ar gyfer datrys y pethau hyn a’u trafod cyn cyrraedd y pwynt pan fyddant yn faich ychwanegol ar y rheolwyr ac ar y sefydliad.

Wrth gau, amser cinio heddiw roedd yn bleser gennyf gamu i mewn a chroesawu digwyddiad i ddathlu 10 mlynedd o bartneriaeth dysgu sy’n newid bywydau rhwng y Brifysgol Agored a'r TUC yng Nghymru. Cyn cael fy ethol am y tro cyntaf y llynedd, treuliais yn agos i ddegawd yn gweithio yn y mudiad undebau llafur a gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y mae dysgu undebau llafur yn ei wneud i fywydau pobl, a’r drysau i ddatblygu a dysgu yn y gweithle sy’n cael eu datgloi a'r cyfleoedd sy’n agor i’r gweithwyr. Yng Nghymru, rydym yn parhau i gefnogi mentrau fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru; yn San Steffan mae’r Torïaid wedi torri ar y cyfle hwn i weithwyr gyflawni. Credaf fod hyn yn dangos i mi, yn wahanol i'r hyn y byddai rhai pobl yn hoffi i chi ei gredu o’r negyddol—bod undebau llafur yn rhyw fwgan, os mynnwch—mewn gwirionedd, bod gan undebau llafur ran gadarnhaol i'w chwarae, ac maent yn dod â buddion nid yn unig i'r gweithle ond, yn wir, i'n heconomi ac i'n cymdeithas. Rwy'n credu bod y Bil hwn yn briodol yn ceisio gwyrdroi elfennau o ddeddfwriaeth y Ceidwadwyr sy'n ymwneud â'n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac y byddai hynny nid yn unig yn cael gwared ar bartneriaeth gymdeithasol ond hefyd ein holl wead cymdeithasol.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rydym ni hefyd yn croesawu’r awydd i gyflwyno gwelliant ynglŷn â’r defnydd o weithwyr asiantaeth, er yn cytuno y byddai, efallai, wedi bod yn well i’w gynnwys o’r cychwyn, fel mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei ddweud.

Bydd y Bil yma, wrth gwrs, yn datgymhwyso agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 y Deyrnas Unedig, ac fe ddaeth y Ddeddf honno i rym ym mis Mawrth eleni gan danseilio hawliau gweithwyr. Mae unrhyw ymgais i ddiogelu rhai o’r hawliau hynny i’w groesawu, ond yn y pen draw, mae angen i ni yng Nghymru gael y grymoedd llawn i amddiffyn hawliau gweithwyr ac i ddatblygu ffordd o gydweithio teg rhwng cyflogwyr a gweithwyr—ffordd a fyddai yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni fel cenedl.

Mae Deddf Undebau Llafur 2016 yn ymosodiad diangen ar hawliau gweithwyr. Fe fydd hi’n llawer anoddach i weithwyr gael codiad cyflog, i atal colli swyddi neu i negodi gwell amodau gwaith yn y man gwaith yn sgil y Ddeddf yma. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n anoddach i undebau wneud eu gwaith o ddydd i ddydd yn delio efo problemau yn y man gwaith cyn iddyn nhw ddatblygu yn anghydfod, ac mae’r Ddeddf yn mygu protest, ac mae hynny yn mygu rhan anhepgorol o’n democratiaeth ni. Mae’n anodd osgoi dod i’r casgliad bod y Llywodraeth Dorïaidd yn benderfynol o wanhau undebau llafur er mwyn gallu ymosod ar hawliau, tâl ac amodau gwaith pob gweithiwr.

Mae bargeinio rhwng y cyflogwyr a’r cyflogedig yn gweithio, oherwydd bod gan y ddwy ochr rym. Dyna pam fod y mwyafrif helaeth o drafodaethau’n diweddu nid mewn streic, ond mewn datrysiad. Mae agwedd fel honno’n helpu aelodau undebau a rhai sydd ddim yn aelodau yn yr un modd. Mae agwedd fel honno’n helpu cynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae trin gweithwyr efo parch ac urddas yn arwain at weithlu sydd yn fodlon rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, o’r cleifion yn ein hysbytai a’r rhai sy’n derbyn gofal i’r gwasanaeth casglu sbwriel ac ailgylchu. Mae trin gweithwyr efo parch yn gwneud synnwyr busnes. Ond mae Deddf Undebau Llafur 2016 wedi symud y grym ac mae’r glorian yn pwyso’n llawer rhy drwm i un cyfeiriad.

Dyma ymgais ddiweddaraf y Torïaid yn eu hanes hir o ymosod ar hawliau gweithwyr—hawliau sydd mewn hyd yn oed mwy o berig yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dros yr 1980au a’r 1990au cynnar, pasiwyd nifer o Ddeddfau a oedd wedi’u llunio gan y Llywodraeth Dorïaidd yn ymosod ar undebau llafur a hawliau gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Cyflogaeth 1980, Deddf Cyflogaeth 1982 a Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993. Fe gafodd Llafur, rhwng 1997 a 2010, gyfle i ddadwneud gwaith y Torïaid, ond ni chymerwyd y cyfle. Yn ei maniffesto ar gyfer etholaeth gyffredinol 1997, dywedodd y Blaid Lafur y byddai elfennau allweddol deddfwriaeth undebau llafur y 1980au yn parhau. Felly, mae’r gwaharddiadau ar bicedi a’r mwyafrif o gyfyngiadau balot yn parhau i sefyll. Mae’n wir dweud y gwnaed ymdrech, ond ymdrech dila i gryfhau hawliau drwy’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 a’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 2004. Ond o ran nifer yr hawliau pwysig a gafodd eu tynnu oddi ar weithwyr yn ystod yr 1980au a’r 1990au cynnar, pan gafodd Lafur y cyfle i’w hadfer, roedd yr ymdrech yn dila, a dweud y lleiaf. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i rowlio’r niwed yn ôl. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i amddiffyn gweithwyr rhag drygioni’r Torïaid.

Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod rhuthro’r Bil yma trwodd rŵan. Unwaith y daw Deddf Cymru i rym, fe fydd materion cysylltiadau diwydiannol yn cael eu cadw yn benodol yn San Steffan. Bydd ymgais Llywodraeth Cymru i ddefnyddio manteision y pwerau a roddwyd yn cael eu dileu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dyna wendid sylfaenol Deddf Cymru a pham fod angen Deddf arall ar fyrder. Cymhelliant gwleidyddol sydd ar waith yn y fan hyn. Mae’r Torïaid yn San Steffan yn ceisio sicrhau polisi cysylltiadau diwydiannol unffurf a chreulon ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ddiystyru cynhwysedd datganoledig y Cynulliad fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd, gan ddiystyru’r ffaith nad gwledydd unffurf ydym ni. Hynny yw, mae yna ‘power grab’ yn mynd ymlaen.

Mae Deddf Cymru’n ddyfais i rowlio pwerau yn ôl o’r Cynulliad Cenedlaethol, gan leihau’r sgôp o beth y gallwn ni ei wneud dros ein pobl yma yng Nghymru. Mae perig gwirioneddol bod y Torïaid yn cynllwynio i ddwyn mwy o bwerau yn ôl i’r canol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd—

Bydd Plaid Cymru yn amddiffyn gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus Cymru pob cam o’r ffordd. Diolch.

Mae'r Bil hwn yn ymwneud â'r math o wasanaethau cyhoeddus yr ydym am eu gweld yng Nghymru. A ydym yn dymuno gweld gwasanaethau cyhoeddus lle mae cydweithio yn nodwedd ohonynt, neu a ydym am weld gwasanaethau cyhoeddus lle mae hynny'n galetach fyth? Rydym ni, ar y meinciau hyn, am weld gwasanaethau cyhoeddus cryf a gyflwynir yn effeithiol, a chyflogaeth deg. Rydym yn credu yn y model partneriaeth gymdeithasol yr ydym wedi clywed cymaint amdano heddiw, a chefais fy synnu gan nifer y cyflogwyr a oedd yn ymateb yn bositif i'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn argymell cefnogaeth i safbwynt y Llywodraeth yma, gan wrthdroi deddfwriaeth y Torïaid y flwyddyn ddiwethaf.

Nid absenoldeb anghydfod yw partneriaeth gymdeithasol. Fe fydd llawer o anghytundebau, fe fydd llawer o wahaniaethau barn ac, o bryd i'w gilydd, fe fydd gwahaniaethau o ran blaenoriaeth. Ond mae'n cynnig fframwaith ar gyfer rheoli anghytundeb yn effeithiol heb lawer o darfu arno. Ond nid ffordd o reoli anghytundeb yn unig yw hyn. Mae hefyd yn ffordd o reoli newid a darpariaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol er budd y cyhoedd, ac yn aml mae hynny’n ymwneud â rheoli newid anodd ac addasu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill.

Ond mae'n ddyletswydd arnom hefyd i edrych ymlaen at rai o'r bygythiadau a'r pwysau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, o ganlyniad i ddewis gwleidyddol gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i osod trefn o gyni. Gall hynny, sydd wedi’i waethygu oherwydd y galw cynyddol a'r risg i weithlu'r sector cyhoeddus o’r ansicrwydd ynghylch dinasyddion yr UE, fod yn fygythiad i gadernid rhai gwasanaethau cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru—ar draws y DU. Yr ateb i'r heriau dwys hynny yw mwy o gydweithio, dim llai o gydweithio. Ac nid yw’n ymwneud yn unig ag osgoi gwrthdaro; mae hefyd yn ymwneud â fframwaith sy'n annog deialog greadigol am y ffordd yr ydym yn ymdrin â rhai o'r bygythiadau a'r pwysau sydd o’n blaenau. Ond y gwir amdani yw bod y ddeddfwriaeth hon, deddfwriaeth 2016 y Ceidwadwyr, yn symudiad gwleidyddol yn unig. Ni fu cyn lleied o streicio yn y DU erioed —mae'n isel yn Lloegr; mae hyd yn oed yn is yng Nghymru—ac mae natur wleidyddol yr ymosodiad yn glir pan fyddwch yn edrych ar rai o'r darpariaethau craidd yn y Ddeddf, sy’n ei gwneud yn anos i undebau drefnu yn y gweithle. Ac fel y clywsom, ar adeg pan mae cyflogwyr da yn ei gwneud yn haws i weithwyr brynu beiciau, ymuno â'r gampfa, cyfrannu at bensiynau, mae’r Ddeddf hon mewn gwirionedd yn ei gwneud yn anoddach i wneud rhywbeth mor sylfaenol â thalu eich tanysgrifiad undeb.

Felly, does dim dwywaith amdani. Mae'r Bil hwn yn gwrthdroi ymosodiad gwleidyddol noeth gan y Ceidwadwyr yn San Steffan—ymosodiad Torïaidd ar hawl pobl sy’n gweithio i drefnu, ymosodiad Torïaidd ar wasanaethau cyhoeddus cydweithredol, ac ymosodiad Torïaidd ar gadernid gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU. A byddaf yn falch o gefnogi Bil y Llywodraeth.

Mae Bil yr Undebau Llafur, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno yma i’w drafod heddiw, yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei graffu yn bur faith yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf i'n aelod ohono, yn ogystal â'r pwyllgor cyfansoddiadol, nad ydw i’ aelod ohono, felly ni allaf ond siarad am y peth o ochr y pwyllgor yr wyf i’n aelod ohono.

Clywsom lawer o dystiolaeth, ac roedd consensws clir yn dod i'r amlwg ar ochr y cyflogwyr a’r undebau o blaid y Bil hwn. Mae UKIP yn fras yn cefnogi'r Bil hwn gan ein bod yn credu ei fod yn hybu achos gwella amodau gwaith yng Nghymru, sydd yn nod canmoladwy. Wrth gwrs, dylem ymdrechu i wella amodau gwaith pob gweithiwr, nid dim ond gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n digwydd bod mewn undebau llafur. Ond nid oes unrhyw synnwyr rhesymegol mewn gwaethygu amodau yn fwriadol i weithwyr y sector cyhoeddus, a gwaethygu amodau yw’r hyn y mae'r Gweinidog, Mark Drakeford, wedi dweud wrthym fydd yn digwydd os nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei diddymu. Roedd bron pob un o'r tystion a glywsom yn y pwyllgor yn tueddu i gytuno â'r farn hon, gan gynnwys, yn fwyaf nodedig, y cyflogwyr eu hunain.

Roedd problem yn codi o ran cymhwysedd cyfreithiol. A oedd gan y Cynulliad gymhwysedd cyfreithiol dros arferion cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a oedd y cymhwysedd gan San Steffan? Wel, cafodd y pwyllgor ei sicrhau gan Mark Drakeford bod achos cyfreithiol cryf bod y cymhwysedd gennym ni yma. Felly, rydym ni yn UKIP wedi derbyn ei air gyda phob ewyllys da, ac rydym yn cefnogi’r Bil ar y sail honno, er mai’r llysoedd, o bosibl fydd yn penderfynu pwy sy'n iawn yn y pen draw.

Yr hyn na soniwyd amdano mewn gwirionedd yn y cam pwyllgor ac nid yw wedi codi heddiw yw bod Deddf Undebau Llafur y Ceidwadwyr yn y DU, a basiwyd y llynedd, yn gamarweiniol braidd. Y bwriad gwreiddiol y tu ôl i'r Ddeddf oedd torri rhywfaint ar y cyllid ar gyfer y Blaid Lafur oddi wrth yr undebau. Ond gan fod Theresa May eisiau cefnogaeth Llafur dros Brexit, cafodd y rhan hon o'r Bil ei chadw o’r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y pen draw gan San Steffan. Yr hyn oedd ar ôl oedd cyfres o fân ddadleuon dros bethau fel amser cyfleuster, didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres a throthwy'r ganran a bleidleisiodd dros streic gyfreithiol. Yn ein barn ni, dylai gweithwyr gael yr hawl gyfreithiol i streicio os yw pleidlais wedi cael ei hennill, ac ni ddylai fod cyfyngiad gan ryw drothwy a osodwyd yn fympwyol. Mae amser cyfleuster, yn ôl pob tebyg, yn gyffredinol yn caniatáu i gynrychiolwyr undebau ymdrin â materion rheoli gweithiwr cyn iddynt fynd yn streiciau—pwynt a wnaeth Hannah Blythyn pan drafodwyd y pwnc hwn y tro cyntaf, ac mae hi wedi ei wneud yn effeithiol eto heddiw. Mae amser cyfleuster, pe gellid ei gyfrifo, yn ôl pob tebyg yn arbed arian cyhoeddus, a hefyd, yn y cyswllt hwn, yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn nad ydym am ei wneud yn awr yw gwastraffu amser drwy geisio recordio, cofnodi a chyfrifo amser cyfleuster yn ddiddiwedd. Byddai hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr â gwastraff gwirioneddol o arian cyhoeddus. Mae didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres yn syml yn ddidyniad awtomatig o gyflog gweithiwr—heb fod yn wahanol iawn, yn ei hanfod, i unrhyw ddidyniad arall. Ni wnaeth neb o ochr y cyflogwyr yn y gwrandawiadau pwyllgor fynegi unrhyw awydd i orffen neu gyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres. Felly, i grynhoi, rydym yn cefnogi'r egwyddor o hawliau gweithwyr, ac rydym hefyd yn cefnogi darpariaeth effeithiol o wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cynorthwyo’r ddau beth, felly rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad heddiw o blaid Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru. Rwy'n cymeradwyo’r ffordd brydlon y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag agwedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru sydd wedi dangos yr arweinyddiaeth gref a sefydlog sydd ei hangen ar Gymru. Mae dull Llywodraeth y DU wedi bod yn llym ac wedi peri rhwyg. Mae Llywodraeth y DU nid yn unig wedi ceisio effeithio ar y ffordd y mae undebau llafur yn gweithio, gan danseilio eu gallu i gynrychioli eu haelodau; maent hefyd wedi gwneud ymosodiad ar y setliad datganoli ei hun, gan geisio datod y pwerau a ddatganolwyd i Gymru.

Cyn cael fy ethol ym mis Mai y llynedd, roeddwn yn dysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghaerffili. Fel y cyfryw, roeddwn yn cael fy nghyflogi yn un o'r gwasanaethau cyhoeddus pwysig hynny yr anelwyd Bil Llywodraeth y DU atynt, er gwaethaf y ffaith bod rheolaeth dros addysg yn rhan allweddol o'r setliad datganoledig o'r cychwyn cyntaf. Beth oedd goblygiadau Bil atchweliadol gwrth undebau llafur Llywodraeth y DU i mi a fy nghydweithwyr? Yn gyntaf, byddai adran 3 wedi gosod trothwy ar ein gallu i bleidleisio dros streic. I bob gweithiwr, streic yw'r cam olaf—y cyfle olaf i sefyll dros hawliau gweithwyr. Fel y gwelsom yn achos y meddygon iau yn Lloegr, mae'r Ceidwadwyr yn benderfynol o erydu a difa hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus i raddau na allai hyd yn oed Thatcher freuddwydio amdanynt. Ond ar yr un pryd ag y mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar yr hawl i streicio, nid ydynt yn gwneud unrhyw ymdrech i wthio cwotâu annemocrataidd cyffelyb ar fathau eraill o etholiadau. Fel sy’n digwydd bob amser gyda'r Ceidwadwyr, mae'n un rheol i un, ac un rheol i un arall.

Yn ail, byddai adrannau 13 a 14 wedi ceisio tanseilio egwyddorion amser cyfleuster. Mae undebau llafur yn cynrychioli eu haelodau yn rheolaidd mewn anghydfodau lle mae angen help ar weithwyr ac mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr ar ystod o faterion. Byddai gallu stiwardiaid undeb llafur i wneud hyn ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w haelodau wedi lleihau. Byddai llai o gynrychiolaeth i’r gweithwyr; byddai pwerau’r undeb yn llai.

Yn drydydd, byddai adran 15 wedi bygwth hyfywedd undebau i’r un graddau. Mae'r gostyngiad mewn talu tanysgrifiadau yn y tarddiad yn ergyd a anelwyd yn glir at allu undebau i weithredu. Mae diben Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn yn glir: gallai aelodaeth o undeb llafur fod yn gyfyngedig. Byddai amser ac adnoddau undebau llafur yn cael eu gwastraffu yn mynd ar drywydd talu tanysgrifiadau.

Byddai pob un o’r pedair adran wedi bygwth nid yn unig allu a hyfywedd fy undeb i fy nghynrychioli i a fy ngyrfa flaenorol, byddent wedi bygwth gallu undebau’r sector cyhoeddus i gynrychioli gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru. Gan fod tua thri o bob 10 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, byddai effaith deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn sylweddol. Ar ben hynny byddai dull dialgar Llywodraeth y DU wedi bod yn seiliedig ar sathru’r setliad datganoli a phwerau’r corff hwn. Nid yw hyn yn dderbyniol ac nid yw'n argoeli'n dda cyn dychwelyd pwerau gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dilynais â diddordeb mawr yr ymchwiliad Cam 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i Fil arfaethedig Llywodraeth Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am y darn defnyddiol hwn o dystiolaeth. Yr hyn oedd yn fy nharo oedd y gefnogaeth aruthrol i egwyddorion cyffredinol y Bil.  Daeth hyn nid yn unig gan y rhai y byddem yn disgwyl iddynt gefnogi’r Bil, fel yr undebau llafur, daeth hefyd o dystiolaeth a ddarparwyd ar ran cymdeithasau proffesiynol ac, yn hollbwysig, gyflogwyr y sector cyhoeddus. Ymunodd yr holl leisiau hyn mewn corws o gymeradwyaeth i’r Bil. Corws a gyhoeddodd fod dogmatiaeth styfnig Llywodraeth y DU yn benderfynol o wrthdroi egwyddorion partneriaeth gymdeithasol y mae Llywodraethau olynol Cymru wedi seilio eu dull o weithredu cysylltiadau diwydiannol arnynt. Ar ben hynny, clywodd y pwyllgor y byddai cynlluniau Llywodraeth y DU nid yn unig yn dryllio’r athrawiaeth, ond hefyd pe bai cyfran gyfartal gan y partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau, byddai eu cynlluniau hefyd yn effeithio ar ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny eu hunain. Fel y dywedodd Cymdeithas y Radiograffwyr, byddai effaith newidiadau Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn

fwy anodd i’n haelodau roi’r cleifion yn gyntaf

a byddai yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.

Edrychaf ymlaen at gefnogi Bil Llywodraeth Cymru, ac, wrth wneud hynny, gefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus heddiw.

Diolch yn fawr iawn, ac rwyf yn awr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.

Member
Mark Drakeford 15:20:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Fel y clywsoch, mae cefnogaeth gref i'r Bil yn y Cynulliad y prynhawn yma. Diolch i John Griffiths am yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn grynodeb cryno o'r dystiolaeth a gymerodd ei bwyllgor. Ym mhob agwedd ar y Bil, roedd cefnogaeth lethol, fel y dywedodd, gan randdeiliaid i Fil syml ac effeithiol. Clywodd yr Aelodau gan Gareth Bennett, a eisteddodd drwy'r dystiolaeth ac a gafodd ei argyhoeddi ddigon ganddi i ymrwymo i gasgliad syml, clir y pwyllgor y dylai'r Bil gael ei gefnogi.

Of course, I recognise the support of Plaid Cymru, as set out by Sian Gwenllian, helping us safeguard workers’ rights here in Wales and to provide fairness in the workplace for those working in our public services here in Wales.

Dirprwy Lywydd, rydych chi wedi clywed Aelodau eraill yma yn egluro mai pwrpas y Bil hwn yw cefnogi’r llwyddiant a gawsom yng Nghymru wrth ddatblygu dull partneriaeth gymdeithasol. Mae Jeremy Miles yn llygad ei le pan ddywedodd nad oedd y dull partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud ag absenoldeb anghydfod; mae'n ymwneud â'r gwaith llawer, llawer anoddach o wynebu heriau, mynd o amgylch y bwrdd gyda'n gilydd, ystyried, trafod, dadlau ac, yn y diwedd, dod i gytundeb ar ffordd ymlaen lle mae'r broblem ei hun yn anodd a lle nad yw'r ateb yn hawdd dod o hyd iddo, ond mae partneriaeth gymdeithasol yn mynnu eich bod yn gwneud y gwaith caled, yn hytrach nag yn y ffordd yr ydym wedi clywed gan y Ceidwadwyr yma'r prynhawn yma—byddai'n well ganddynt hwy gilio y tu ôl i faricedau gwrthdaro cymdeithasol ymrannol dull gwrthwynebol i gynnal cysylltiadau diwydiannol.

Yr hyn y mae’r Bil hwn yn ei wneud, Dirprwy Lywydd, yn eithaf sicr, yw datgelu’r gwir am y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru. Mae'n eu datgelu fel y grym adweithiol ag ydynt pan ddaw at bartneriaeth gymdeithasol.  Mae ymateb Pavlovian—mae ymateb Pavlovian gan Blaid y Ceidwadwyr Cymreig. Dim ond ichi grybwyll y geiriau 'undebau llafur', ac maent ar unwaith yn dechrau glafoerio dros hen frwydrau. Dro ar ôl tro, yn y Siambr hon, rydw i wedi gorfod gwrando ar Aelodau'r Blaid Geidwadol yn sôn am ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn ceisio condemnio'r gwasanaethau y mae’r bobl hynny yn eu darparu, ac eto pan fydd y bobl hynny yn troi allan i fod yn undebwyr llafur, maent yn mynd o fod yn arwyr gwasanaethau cyhoeddus i fod yn bobl y mae'n rhaid gwarchod y cyhoedd yn gyffredinol yn eu herbyn rhag y peryglon y maent yn eu creu. Wel, mae honno'n ddadl na fydd yn ddigon da ar lawr y Cynulliad hwn.

Yr ail reswm pam mae’r Bil yn datgelu’r gwir am y Blaid Geidwadol, ac roeddwn i’n credu bod hyn yn rhan hollol gywilyddus o'r un cyfraniad a glywsom gan y Blaid Geidwadol, yw ei fod yn eu datgelu ar fater datganoli hefyd. Mae hwn yn Fil sy'n cael ei gymryd drwy fforwm Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'n Fil sy'n ceisio gwneud pethau yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd yr ydym ni yng Nghymru yn dewis trefnu ein busnes, ac eto i gyd mae'r Blaid Geidwadol yn fodlon chwifio ffon Llywodraeth San Steffan yn barod i wrthdroi ewyllys democrataidd y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf o’r farn y bydd dicter democrataidd, os digwydd hynny, ac rwy'n siomedig ac yn drist iawn o glywed ei fod yn cael ei awgrymu ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma. Yn hytrach, bydd y Bil bach ond pwysig hwn yn gwneud pethau yn y ffordd yr ydym yn dymuno eu gwneud nhw yma yng Nghymru—y ffordd yr ydym yn gwybod sy’n effeithiol; y ffordd yr ydym yn gwybod fydd yn arbed arian, fydd yn atal streiciau, fydd yn amddiffyn y cyhoedd ac yn gwella ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd bydd yn defnyddio'r gronfa enfawr o ewyllys da a gweithredu effeithiol y mae undebwyr llafur ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus yn eu rhoi i’r gwaith y maent yn ei wneud, gan wneud y cyfraniad a wnânt: cyfraniad a gydnabyddir gan gyflogwyr, a gydnabyddir gan bartneriaid cymdeithasol, a gydnabyddir gan bleidiau eraill yma yn y Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y bleidlais a gynhelir arno.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Bydd y bleidlais dan yr eitem hon yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. 4. Cynnig i Gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Cynnig i gymeradwyo’r penderfyniad ariannol ar gyfer Bil yr Undebau Llafur (Cymru). A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig?

Cynnig NDM6299 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Undebau Llafur (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 15:25:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Yn ffurfiol, Cadeirydd.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes unrhyw siaradwyr yn y ddadl hon, a gan ein bod wedi gohirio’r bleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil, rwyf am ohirio’r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn Cyfnod 3, cyn i ni fynd ymlaen i Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf yn awr am symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Canu'r gloch. Iawn. Canwch y gloch os gwelwch yn dda.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

5. 5. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, symudwn ymlaen i bleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwyf yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Drakeford. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 36, Yn erbyn 11, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6298

Symudwn nawr at gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ar gyfer Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwyf yn galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 37, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 37, Yn erbyn 11, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6299

Cyn i ni symud at ddadl Cyfnod 3 Bil iechyd y cyhoedd, bydd y sesiwn yn cael ei atal am 10 munud. Bydd y gloch gael ei chanu ar ôl pum munud, ac a gaf i annog pob un ohonoch i ddychwelyd i'r Siambr cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni fwrw ymlaen yn hwylus? Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:32.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:42, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r Cyfnod 3 ar Fil iechyd y cyhoedd.

Grŵp 1: Mynd i’r Afael â Gordewdra (Gwelliannau 3, 4, 2, 1)

Mae’r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â mynd i’r afael â gordewdra. Gwelliant 3 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y prif welliant, ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth.

Cynigiwyd gwelliant 3 (Rhun ap Iorwerth).

Diolch, Llywydd, ac mae’n bleser mawr gen i gyflwyno’r gwelliannau yma yn ffurfiol heddiw i ddechrau ein trafodion ni ar Gyfnod 3 Bil iechyd y cyhoedd. Rydym ni wedi bod yma o’r blaen, wrth gwrs. Ond, wrth i’r Bil gyrraedd y cyfnod yma y tro diwethaf, ac wrth iddo fo gael ei ailgyflwyno yn y Cynulliad yma, nid oedd yna ddim cyfeiriad ynddo fo at y brif broblem iechyd gyhoeddus, o bosibl, rydym ni yn ei hwynebu fel cenedl. Rŵan, mae yna gyfle, drwy ein gwelliannau ni, i newid hynny, i roi taclo gordewdra ar wyneb y Bil yma, ac i sicrhau bod strategaeth yn cael ei pharatoi, a’i gweithredu, i fynd i’r afael â’r argyfwng yma, achos mae o yn argyfwng.

Rydw i’n ddiolchgar am y gefnogaeth eang sydd wedi ei dangos i’r gwelliannau heddiw. Rydw i’n ddiolchgar i Cancer Research UK, er enghraifft, sydd, rydw i’n gwybod, wedi bod yn annog Aelodau’r Cynulliad i gefnogi’r gwelliant yma. Mae’r cyswllt rhwng gordewdra a chanser yn glir, medden nhw, ond mae yna ormod o bobl sydd ddim yn sylweddoli hynny. Hefo eu ffigurau nhw’n dangos bod 59 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau yn 2015, a thros chwarter o blant Cymru dros eu pwysau neu’n ordew, mae Cancer Research UK yn argyhoeddedig y bydd cael strategaeth genedlaethol yn fodd i ddechrau mynd i’r afael â’r sefyllfa yma.

I am delighted to be tabling the amendments today, in the context of having had positive discussions with Government on this, the most acute, perhaps, of public health problems facing us in Wales. And I am grateful to the Minister for agreeing with me that this is the place, on the face of this Bill, to put measures in place to try to address this national crisis.

This is a matter that I feel very strongly about personally. But there’s one man in my constituency who has been very influential in strengthening my resolve to ensure the Assembly, and Welsh Government, take action in this area. Ray Williams was the featherweight weightlifting gold medallist for Wales at the 1986 Commonwealth Games, but he’s still very much a champion—a champion of getting his town of Holyhead, getting Anglesey, and our nation, fitter and healthier. I spoke with Ray this morning and he is delighted that we are now in a position where, today, hopefully, we can win Assembly support for this vital amendment where what he sees as something that has blighted our nation’s well-being for decades is now going to be the focus of a clear Government strategy. Get the strategy right and he believes that not only can we be a healthier and a fitter nation, but a happier one too—and it’ll save money, he says. And he’s right, of course. Cancer Research UK estimates that obesity costs the NHS £73 million a year. When you add to that illnesses like diabetes type 2, largely caused by obesity, then the figure rises to hundreds of millions of pounds annually.

Now, with the amendments, hopefully, passed and the Bill enacted, then the work begins, of course, of making sure that there is a strong, a focused, ambitious, and deliverable strategy. Ray—I know—and many like him will only be too pleased to contribute to the formulation of that strategy. It is in the interests of all of us here, all of us in Wales, but first I ask you to support our amendments today.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn yr adran hon oherwydd rydym wedi bod yn bryderus iawn nad yw’r Bil iechyd y cyhoedd arfaethedig wedi gwneud fawr i fynd i'r afael â'r mater o ordewdra. Yn y trafodion ar ôl cwestiynau ar ôl datganiad, codir pryderon gan bob plaid ynglŷn â’r achosion o ordewdra yng Nghymru a'r pwysau cyfatebol y mae afiechydon fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a chlefyd y galon, sy'n cael eu gwaethygu neu eu hachosi gan ordewdra, yn eu rhoi ar yr unigolyn a'r GIG. Ni ellir gorbwysleisio cost economaidd a dynol gordewdra. Gall bod dros bwysau neu'n ordew arwain at gyflyrau meddygol cronig a difrifol. Dros yr 20 mlynedd nesaf, gallai lefelau cynyddol o ordewdra arwain at 230,000 o achosion ychwanegol o ddiabetes math 2, 80,000 o achosion ychwanegol o glefyd coronaidd y galon, a dros 32,000 o achosion o ganser.

Mae’r GIG yng Nghymru yn gwario dros £1 miliwn yr wythnos ar drin gordewdra, a rhagwelir erbyn 2050 y gallai cymaint â 60 y cant o ddynion a 50 y cant o fenywod fod yn ordew. Gyda chyfraddau o fod dros bwysau a gordewdra yn parhau i godi, erbyn 2050 bydd hyn yn costio £465 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, gyda chost i gymdeithas ac i'r economi yn gyffredinol o tua £2.4 biliwn. Nid oes unrhyw arwyddion bod lefelau gordewdra yn gostwng ar hyn o bryd, felly rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ateb traws-bortffolio i fynd i'r afael â’r her gynyddol hon.

Er bod y prif welliant hwn, yr ydym yn ddiolchgar iawn i Blaid Cymru amdano, yn gam yn y cyfeiriad cywir, mae yna bryderon nad oes sylfaen dystiolaeth i fod yn sail i strategaeth ystyrlon ac effeithiol yng Nghymru. Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu ei bod yn hollbwysig y dylai’r Gweinidog ymgynghori ac ymgysylltu’n eang ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod pob sefydliad yn cydweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion hyn. Yn y modd hwn, gellir lleihau achosion o ddyblygu, gellir targedu heriau lleol, a gallwn ddechrau datblygu dealltwriaeth fanylach o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â lefelau gordewdra a beth y gellir ei wneud i'w lleihau.

Rydw i’n falch i godi i gefnogi’r gwelliannau yma ar yr angen i fynd i’r afael â gordewdra. Fel rydym ni wedi ei glywed, mae hwn wedi gweld ychydig bach o daith yng nghanol ein trafodaethau ni efo’r Bil iechyd cyhoeddus, ac rydym ni i gyd yn falch iawn i’r Gweinidog gytuno i’r newid sylfaenol yma, wedi gwrando ar yr holl dystiolaeth sydd wedi dod gerbron y pwyllgor iechyd. Fel rydym ni wedi ei glywed, mae 59 y cant o oedolion dros eu pwysau yn y wlad yma—un mewn pedwar gyda gordewdra. Ac ie, mae gordewdra yn bwysig. Ie, mae’r cysylltiad yna efo clefyd y galon a’r clefyd siwgr, fel yr ydym wedi ei glywed, ond hefyd, fel clywsom ni oddi wrth Rhun, y cysylltiad yna efo canser. Nid ydych chi yn ymwybodol weithiau, ond mae yna fwy o siawns o gael canser os ydych chi dros eich pwysau, ac mae hynny yn ffaith erbyn rŵan, ac mae yna ddigon o ymchwiliadau meddygol sydd yn profi’r pwynt yna.

Felly, gordewdra ydyw’r her amserol fwyaf sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac mae’n weddus felly bod ein Bil iechyd cyhoeddus cyntaf ni hefyd nawr yn mynd i’r afael efo’r her sylweddol yna. Oes, mae gan addysg ran i’w chwarae—bwyta’n iach ac ati. Mae cadw’n heini efo ei ran i’w chwarae, fel rwyf wedi’i grybwyll yma o’r blaen—10,000 o gamau bob dydd. Ond hefyd, mae gan ddeddfu ran i’w chwarae, fel deddfu i sicrhau safonau maeth yn ein bwyd yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal; a mynd i’r afael â’r dreth siwgr. Mae gyda ni hawliau ar hyn o bryd, ond efallai nid yn y dyfodol o dan Ddeddf Cymru 2017. Byddai’n dda cael isafswm pris o 50c ar bob uned o alcohol. Mae’r pwerau hynny gyda ni ar hyn o bryd, ond efallai nid yn y dyfodol o dan Ddeddf Cymru 2017. Mae yna sawl her yn fan hyn. Byddai’n dda hefyd cyfyngu ar hysbysebion bwydydd afiach. Felly, y cyfuniad hwnnw: mae addysg yn allweddol bwysig ond, fel yr ydym wedi ei weld gydag ysmygu—. Roeddem ni, yn enwedig fel meddygon a nyrsys, wedi bod yn addysgu’r cyhoedd am ddegawdau ynglŷn â pha mor ddrwg i’ch iechyd chi oedd ysmygu. Ond, beth sydd wedi gwirioneddol leihau graddfeydd ysmygu yw deddfu ar y pwnc a’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Felly, mae addysg a deddfu yn dod efo’i gilydd i wella safonau iechyd cyhoeddus. Dyna pam rwy’n falch i weld y diwygiad yma yn y Bil iechyd cyhoeddus y prynhawn yma, felly cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr iawn.

Bydd UKIP yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Roeddem yn ei chael hi’n anodd cysoni’r ffaith bod Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus fwyaf sy'n wynebu ein cenedl—gordewdra. Fel yr amlygais yn ystod trafodion yr wythnos diwethaf ar ddiabetes, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a thraean o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'n rhaid i ni ei gwneud yn glir bod mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, a’i gwneud yn ofynnol iddynt lunio strategaeth glir gyda chamau gweithredu clir yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae mynd i'r afael â gordewdra yn her fawr i bob Llywodraeth yn y byd datblygedig. Mae'n gofyn i amrywiaeth eang o sefydliadau weithredu ar y cyd o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal ag unigolion eu hunain. Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno cynigion ar gyfer strategaeth gordewdra genedlaethol yng Nghyfnod 2 o broses ystyried y Bil, ac am y gwelliannau diwygiedig sy’n cael eu hystyried heddiw. Pan gafodd y gwelliannau gwreiddiol eu cyflwyno yng Nghyfnod 2, nodais fy mod yn gallu gweld gwerth dod ag ystod o fesurau at ei gilydd drwy strategaeth gordewdra genedlaethol gydlynol. Fodd bynnag, o ganlyniad i rai pryderon ynghylch manylion y cynigion, nid oeddwn yn gallu cefnogi'r gwelliannau ar eu ffurf wreiddiol. Felly, rwy’n diolch i Rhun ap Iorwerth am gytuno i weithio gyda'r Llywodraeth i ystyried y mater ymhellach, ac am y gwelliannau diwygiedig gerbron y Cynulliad heddiw. Rwy'n hyderus bod y gwelliannau bellach yn cyflawni ein hamcanion er budd pobl Cymru. Rwy'n falch fy mod erbyn hyn yn gallu cefnogi pob un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am ystyried y pwyntiau a wnes, ac am weithio ar y cyd i fireinio manylion y cynigion ymhellach. Rwy'n arbennig o falch bod y gwelliannau diwygiedig yn caniatáu ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid a chanolbwyntio ar atal. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau hyn yn cryfhau'r Bil drwy osod gwaith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus sylweddol hon ar sail statudol. Rwy'n hyderus y bydd y gwelliannau yn sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ac felly rwy’n gofyn i’r Aelodau eu cefnogi.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi bod y consensws sydd wedi cael ei glywed yn ystod taith y Bil yma drwy’r pwyllgor wedi cael ei adlewyrchu yma unwaith eto yn y Siambr heddiw. Roedd pob un ohonom ni, rwy’n meddwl, ar ddechrau’r daith yma, yn ymwybodol ein bod ni’n sôn am broblem ac argyfwng yn fan hyn yr oeddem i gyd yn dymuno dod o hyd i ffordd i’w gynnwys o yn y Bil. Beth rydym wedi llwyddo i’w wneud drwy drafod, drwy chwilio ar y ffordd ymlaen ar y cyd rhyngom ni a’r Llywodraeth yw sicrhau ein bod ni wedi gallu cyrraedd y nod hwnnw. Rwy’n ailadrodd mai’r her rŵan—neu’r gwirionedd rŵan—yw mai dechrau’r daith yw hyn. O gael cytundeb i weithio tuag at strategaeth, mae eisiau troi’r egwyddor yna yn strategaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau yma’n cael eu cymeradwyo’n ffurfiol rŵan ac yn edrych ymlaen at weld datblygiad y strategaeth honno a allai fod yn dechrau’r daith tuag at daclo’r argyfwng yma sy’n gymaint o niwed i ni fel cenedl.

Os na dderbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 2 ac 1 methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 2: Ysmygu—Mangreoedd Di-fwg (Gwelliannau 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 5)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â mangreoedd di-fwg. Gwelliant 6 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Rebecca Evans).

Diolch, Llywydd. Byddai'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, am y tro cyntaf erioed, yn gwneud tri man awyr agored yn ddi-fwg. Y rhain yw: tir ysgol, tir ysbyty a meysydd chwarae cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn falch o weld y gefnogaeth eang i’r cam arwyddocaol hwn sydd wedi bod yn glir drwy gydol y broses graffu. Yn ystod ystyriaeth Cyfnod 1 o’r Bil, gwnaed nifer o awgrymiadau ar gyfer mannau awyr agored ychwanegol a ddylai fod yn ddi-fwg. Rwyf wedi bod yn glir drwy’r adeg bod cymhlethdodau cynhenid yn gysylltiedig â darpariaethau o'r fath, ond dywedais y byddwn yn rhoi ystyriaeth weithredol i bedwerydd lleoliad, sef lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, yn uniongyrchol mewn ymateb i dystiolaeth trafodaethau rhanddeiliaid a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. O ganlyniad i'r ystyriaeth honno, rwy'n falch o fod wedi dwyn ymlaen y gwelliannau yn y grŵp hwn a fyddai'n ychwanegu mannau awyr agored lleoliadau gofal cofrestredig ar gyfer plant at y rhestr o fangreoedd di-fwg. Mae hwn yn gam nesaf naturiol sy'n amddiffyn plant ymhellach rhag effeithiau niweidiol ysmygu a’i weld fel gweithgaredd arferol, bob dydd.

Gwelliant 8 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Mae'n rhoi manylion y lleoliadau i’w cynnwys, sef lleoliadau gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant a gwarchodwyr plant sy'n darparu gofal yn eu safle domestig eu hunain. Ni fydd y mannau awyr agored yn ddi-fwg oni bai bod y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofalu am blant. O ran gwarchodwyr plant, ni fydd mannau awyr agored eu cartrefi yn ddi-fwg oni bai bod un neu fwy o blant yn derbyn gofal yn y man awyr agored. Mae hyn yn sicrhau bod cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng amddiffyn plant a hawliau unrhyw ysmygwyr sy'n byw yng nghartref y gwarchodwr plant.

Mae gwelliannau 6 a 7 yn berthnasol i'r rhai sy'n rheoli neu sy'n ymwneud â rheoli'r safleoedd gofal dydd, neu sydd wedi’u cofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant. Disgwylir iddynt gymryd camau rhesymol i atal pobl rhag ysmygu yn y mangreoedd di-fwg, ac mae'r gwelliannau hefyd yn ei gwneud yn drosedd i beidio â gwneud hynny.

Mae gwelliant 5 yn adlewyrchu’r gofynion di-fwg ychwanegol yn nheitl hir y Bil, ac mae gwelliant 9 yn ychwanegu’r adran newydd i'w chyflwyno gan welliant 8 i restr o fangreoedd a ddynodir yn ddi-fwg gan y Bil.

Mae gweddill y gwelliannau yn y grŵp hwn yn egluro na ellir gwneud mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd yn ddi-fwg drwy ddefnyddio'r pŵer o dan adran 10 y Bil. Maent hefyd yn darparu’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud mangre a ddefnyddir yn rhannol fel annedd yn ddi-fwg yn y dyfodol, gan ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 10.

Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn, a fydd yn darparu mesurau diogelwch ychwanegol pwysig i blant yng Nghymru.

Er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliannau yn yr adran hon, rydym yn pryderu bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar arferion gwaith busnesau bach. Ar lawer agwedd, mae llwyddiant y Bil hwn yn dibynnu ar allu cwmnïau bach i gydymffurfio â'r newidiadau mewn deddfwriaeth, felly mae'n hanfodol bod busnesau’n gallu deall goblygiadau'r Bil yn llawn.

Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaethom gyflwyno gwelliannau i'r Bil a oedd yn ceisio darparu mwy o eglurder ynglŷn â rhoi mangreoedd di-fwg ar waith, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy'n hunangyflogedig neu'n gweithio gartref, gan alw ar y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u targedu a thrylwyr i fusnesau bach a allai ddangos beth a ddisgwylir ganddynt o ran newidiadau yn y gyfraith. Bryd hynny, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd y byddai unrhyw ganllawiau a gyhoeddir ynglŷn â mangreoedd di-fwg, ac yr wyf yn dyfynnu,

yn nodi cyfrifoldebau pobl yng ngeiriau lleygwr, ac felly’n helpu’r bobl yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth i ddeall beth yw eu cyfrifoldebau newydd.

Aeth y Gweinidog ymlaen i roi sicrwydd pellach y byddai'r canllawiau a gyhoeddwyd ar y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007 yn cael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi. Felly, yn seiliedig ar hynny, fe wnaethom gytuno i beidio ag ailgyflwyno’r gwelliannau yng Nghyfnod 3.

O ran gwelliant 6, mae’n rhaid i’r Gweinidog roi sicrwydd y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i roi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan unigolion o ran y ddyletswydd hon, gan nad yw hyn wedi'i nodi eto yn y memorandwm esboniadol. Mae'n hanfodol bod rhai sefyllfaoedd enghreifftiol yn cael eu cyflwyno i benderfynu beth a ddisgwylir gan warchodwyr plant er mwyn hybu cydymffurfiad â'r gyfraith.

Yn yr adran hon, roedd geiriad cychwynnol y Bil hwn wedi creu pŵer i Weinidogion Cymru weithredu mangreoedd di-fwg ychwanegol ar y sail —a dyfynnaf—os ydynt yn

fodlon bod gwneud hynny yn debygol o gyfrannu tuag at hyrwyddo iechyd pobl Cymru.

Gallai hynny o bosibl arwain at waharddiad cyffredinol ar draws Cymru gyfan. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi’r mater hwn yn helaeth, oherwydd er ein bod yn derbyn ei bod yn annhebygol iawn y byddai gwaharddiad cyffredinol yn cael ei roi ar waith, rydym yn credu ei bod yn hanfodol ein bod yn dangos bod gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol yn creu deddfwriaeth gadarn, a bod y pŵer cyffredinol hwn yn gyfyngedig. Er gwaethaf hynny, ar lefel pwyllgor, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd nad oedd unrhyw fwriad i ddeddfu gwaharddiad cyffredinol a dilëwyd ein gwelliant. Felly, mae hi braidd yn eironig, ond i’w groesawu'n fawr, gweld bod y Gweinidog yng Nghyfnod 3 wedi cyflwyno gwelliannau pellach i adran 10 y Bil sy'n ceisio cyfyngu ar y cymal hwn, er gwaethaf ei honiadau nad oedd hynny’n angenrheidiol. Croesewir y cyfyngiad hwn, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliant 10. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod y Gweinidog wedi annog pobl eraill i wrthod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2.

Mae UKIP yn cefnogi ymestyn deddfwriaeth ddi-fwg i bob lleoliad lle gallai plant gael eu hamlygu i fwg ail-law, ac felly bydd yn cefnogi gwelliannau'r Gweinidog yn y grŵp hwn. Diolch.

Diolchaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i’r mesurau hyn o fewn y Bil. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailadrodd y sicrwydd a roddais yng Nghyfnod 2 ynghylch cyhoeddi canllawiau priodol.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Rebecca Evans).

Os na dderbynnir gwelliant 8, bydd gwelliant 5 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 8.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 9.

Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 10 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 10.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 11 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 11.

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 12 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 12.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 13 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 13? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 13.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 14 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 14? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 14.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Ysmygu—Gorfodi (Gwelliannau 15, 16, 17, 18, 19, 20, 28, 29)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud ag ysmygu a gorfodi. Gwelliant 15 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Rebecca Evans).

Diolch. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn dechnegol eu natur ac yn gwneud mân newidiadau i helpu i ddeall y darpariaethau. Maent yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 i enwi'r awdurdodau gorfodi ar gyfer y darpariaethau mangreoedd di-fwg ar wyneb y Bil, yn hytrach na'u dynodi mewn rheoliadau fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Nid yw'r un o'r gwelliannau yn gwneud newid sylweddol i'r darpariaethau ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau technegol hyn.

Nid oes siaradwyr ar y gwelliannau yma. Felly, rwy’n cymryd nad yw’r Gweinidog eisiau ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn sy’n dilyn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 15.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 16.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 17 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 17? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 17.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 18 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 18.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 19 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 19? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 19.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 20 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 20? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 20.

Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Manwerthwyr Cynhyrchion Tybaco a Nicotin (Gwelliannau 32, 21)

Mae’r grŵp nesaf yn ymwneud â manwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin. Gwelliant 32 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 32 (Angela Burns).

Diolch, Llywydd. Yn unol â bwriad polisi'r Ceidwadwyr Cymreig i amddiffyn busnesau bach rhag cael eu cosbi’n ormodol gan y ddeddfwriaeth hon, rydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn sy'n nodi bwriad i ddiogelu manwerthwyr a’u data trwy sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol a gedwir amdanynt ar gofrestr manwerthwyr. Rydym yn croesawu parodrwydd y Gweinidog i weithio gyda ni yn hyn o beth ac i rannu ein pryderon ynghylch yr hyn sy'n rhesymol pan ddaw hi i gadw gwybodaeth am fanwerthwyr. Yn ystod y cyfnod pwyllgor, dywedodd y Gweinidog:

Un o'r prif ystyriaethau wrth ddatblygu'r gofrestr manwerthu oedd sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cyflawni nodau’r polisi a lleihau'r baich ar fanwerthwyr. Yn unol â’r egwyddor arweiniol hon, ni fyddem yn dymuno cynnwys manylion ychwanegol, megis ffotograffau, oni bai bod hynny’n dod yn gwbl angenrheidiol. Serch hynny, mae'n bwysig cadw’r gallu i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y gofrestr manwerthu er mwyn gallu ymateb i amgylchiadau newidiol.

Codaf hyn fel pryder mawr oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes gan fusnesau bach fawr iawn o amser, nid oes ganddynt bentwr o arbenigwyr i'w helpu a gellid eu rhoi o dan bwysau aruthrol petai cyngor sir neu unrhyw awdurdod arall yn dewis ceisio cael mwy o wybodaeth ganddynt. Felly, rwy'n falch iawn bod gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ystod Cyfnod 2 wedi ysgogi’r Gweinidog i ailystyried adran 27(6). Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'i chyfreithiwr am ein helpu i adolygu'r adran hon a’r cyfreithiwr am ei chymorth wrth ei hailddrafftio. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i Angela Burns am gyflwyno gwelliant 32 yn dilyn mater a gododd yn ystod Cyfnod 2 ynglŷn â’r posibilrwydd i'r awdurdod cofrestru gynnwys gwybodaeth ar y gofrestr nad yw’n gyson â bwriad y polisi. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, mae derbyn gwelliant 32 yn codi mater y mae angen rhoi sylw iddo.

Byddai gwelliant 32 yn atal gwybodaeth rhag cael ei chynnwys ar y gofrestr ynghylch pa un a yw manwerthwr yn cynnig gwasanaethau casglu neu ddanfon i'r cartref ai peidio. Mae'n bwysig bod yr wybodaeth hon ar gael i awdurdodau gorfodi er mwyn helpu i orfodi'r drosedd newydd o roi tybaco ac yn y blaen i bobl o dan 18 oed, i'w chyflwyno gan Ran 2, Pennod 4 y Bil.

Mae gwelliant 21 yn ofynnol er mwyn caniatáu i’r wybodaeth honno fod ar gael ar y gofrestr. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddau welliant yn y grŵp hwn, sydd gyda'i gilydd yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth briodol sy’n cael ei chynnwys ar y gofrestr ac y gall awdurdodau gorfodi weld yr wybodaeth y maent ei hangen ynghylch darparu gwasanaethau casglu a danfon i'r cartref.

Dim ond i ddweud: diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich cydweithrediad. Hoffwn ailadrodd unwaith eto bod cyfreithiwr y Llywodraeth o gymorth mawr yn y mater hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 32? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 32.

Derbyniwyd gwelliant 32 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 21 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 21? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 21.

Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Triniaethau Arbennig—Trwyddedau Triniaethau Arbennig (Gwelliannau 22, 23, 24, 25, 26)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â thrwyddedau ar gyfer triniaethau arbennig. Gwelliant 22 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rydw i’n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant, ac i siarad am y gwelliant hwn a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans.

Cynigiwyd gwelliant 22 (Rebecca Evans).

Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn cynnig cyfres o newidiadau i'r rhan o'r Bil sy’n creu system drwyddedu newydd ar gyfer gweithdrefnau arbennig, sef tyllu’r corff, tatŵio, aciwbigo ac electrolysis. Rwyf wedi fy nghalonogi bod y cynigion hyn wedi denu cefnogaeth gyffredinol eang, gan y byddant yn darparu mesurau diogelwch pwysig ar gyfer y cyhoedd sy'n dewis cael y gweithdrefnau hyn.

Mae'r gwelliant cyntaf yn y grŵp o ganlyniad i ystyriaeth ofalus a roddais i bryderon a godwyd gan Rhun ap Iorwerth yng Nghyfnod 2. Mae'r rhain yn ymwneud yn benodol â'r goblygiadau iechyd difrifol posibl o datŵio pelen y llygad a'r angen i sicrhau bod yr arfer hwn ond yn cael ei wneud gan unigolion â chymwysterau priodol.

Mewn ymateb i'r pryderon hyn, fe wnes i ymrwymiad i weithio gyda'r Aelod i sicrhau bod yr ymgynghoriad ar yr amodau trwyddedu gorfodol yn cynnwys tatŵio pelen y llygad fel bod dulliau diogelu priodol a chymesur yn cael eu rhoi ar waith. Mae gwelliant 22 yn cyflawni'r ymrwymiad hwn drwy ei roi y tu hwnt i amheuaeth y gall amodau trwyddedu gorfodol wneud darpariaeth ynghylch safonau cymhwysedd sy'n berthnasol i berfformio gweithdrefn arbennig ar ran benodol o gorff unigolyn, megis y llygad, gan gynnwys cyfeirio at gymwysterau neu brofiad.

Mae'n fwriad gennyf y bydd yr ymgynghoriad ar y meini prawf a’r amodau trwyddedu gorfodol yn gofyn am farn ar y rheolau y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer gweithdrefnau arbennig, megis tatŵio pelen y llygad, gan gynnwys rheolau sy’n gysylltiedig â chymwysterau, cymhwysedd a phrofiad. Yr amcan yw sicrhau na ddylai gweithdrefn o'r fath gael ei chynnal oni bai bod yr ymarferydd yn gymwysedig ac yr ystyrir ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Byddai perfformio gweithdrefn arbennig heb drwydded yn drosedd y gellid ei chosbi â dirwy anghyfyngedig. Mae’r dull hwn yn well na'r gwelliannau a gynigiwyd gan Caroline Jones, a byddwn yn trafod y rheiny yn y grŵp nesaf. Bydd fy ngwelliannau i yn darparu dull mwy hyblyg o fynd i’r afael, drwy feini prawf ac amodau trwyddedu gorfodol, ag unrhyw weithdrefn arbennig a ddatblygir yn y dyfodol sy'n codi pryderon tebyg.

Gan droi yn awr at welliant 23: gwelliant technegol yw hwn i’w gwneud yn glir bod yn rhaid i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ymdrin â materion i’w hystyried wrth benderfynu a godwyd amheuaeth, ac i ba raddau, ynghylch cymhwyster ymgeisydd i berfformio gweithdrefn arbennig, o ganlyniad i'r ffaith fod ganddo euogfarn am drosedd berthnasol. Mae hyn yn adeiladu ar y newidiadau a wnaed i'r Bil yn ystod Cyfnod 2 yn ymwneud â throseddau perthnasol, a bydd yn helpu i sicrhau dull cyson ar draws y Bil.

Mae gwelliannau 25 a 26 yn y grŵp hwn hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phryderon pwysig a godwyd gan Angela Burns yn ystod Cyfnod 2 ynghylch sicrhau bod y cyhoedd yn cael gweld yr wybodaeth. Mae'r gwelliannau yn egluro bod yn rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi ei gofrestr o drwyddedau gweithdrefn arbennig a safleoedd a cherbydau cymeradwy. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol gynhyrchu a chyhoeddi ei gofrestr, er enghraifft ar ei wefan, yn hytrach na dim ond sicrhau ei bod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ei swyddfeydd. Felly, mae'n helpu i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am drwyddedau gweithdrefn arbennig dilys a chymeradwyaethau safleoedd yn fwy hygyrch i'r unigolion sy'n ystyried cael gweithdrefn arbennig wedi’i chynnal.

Mae gwelliant 24 yn newid technegol sy'n dileu geiriad diangen er mwyn sicrhau bod adran 65 yn fwy eglur.

Diolchaf i'r Aelodau priodol am dynnu sylw at faterion pwysig ynglŷn â Rhan 3 y Bil yr eir i’r afael â nhw yn y grŵp hwn. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp.

Byddwn yn cefnogi pob un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, hoffwn gofnodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu na ddylai unrhyw unigolyn gael ei eithrio rhag cael trwydded os yw’n darparu gweithdrefn arbennig. Felly, dyna pam yn ystod Cyfnod 2 y cyflwynasom welliannau a oedd yn ceisio cael gwared ar yr eithriad hwn. Os nad oes gan unigolyn y cymhwysedd a reoleiddir penodol i wneud y weithdrefn, rydym yn credu na ddylai gael gwneud hynny. Mae hyn yn gyson â llawer o'r dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfnod pwyllgor, ac argymhelliad 12 o adroddiad y pwyllgor, y dylai'r Bil gael ei ddiwygio fel nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithriad cyffredinol ar wyneb y Bil ar gyfer unrhyw broffesiwn gofal iechyd. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod angen eithriadau, er mwyn i'r Bil hwn aros o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol datganoledig, i sicrhau nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn tresbasu ar y cyrff rheoleiddio meddygol, megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Yng nghyfnod y pwyllgor, dywedodd y Gweinidog y gallai gadarnhau ei bod yn bwriadu cynnal ymgynghoriad â’r cyrff rheoleiddio hynny i benderfynu ar ba un a yw pob un o'r gweithdrefnau arbennig a restrir o fewn cwmpas gwaith proffesiynol eu haelodau. Felly, mae'r eithriad yn amodol ar gael cadarnhad gan eu corff rheoleiddio eu bod yn gymwys yn y weithdrefn y maent yn dymuno’i pherfformio, ac os nad ydynt, byddant yn cael eu cyfeirio’n ôl i mewn i'r system drwyddedu drwy reoliadau a bydd yn rhaid iddynt wneud cais am drwydded.

Yn ein barn ni, mae'n hanfodol bod y Gweinidog yn bwrw ymlaen â'i hymgynghoriadau gyda chyrff rheoleiddio i sicrhau mai dim ond y rhai sydd fwyaf cymwys sy’n ymgymryd â’r gweithdrefnau hyn at ddibenion meddygol neu lawfeddygol. Felly, mae gwelliant 22 fel y'i cyflwynwyd yn cryfhau'r ddeddfwriaeth hon er mwyn sicrhau bod safonau cymhwysedd yn cael eu hasesu cyn cael trwydded. Mae gan hyn y potensial i reoleiddio maes arbenigol a gweithdrefnau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal gan unigolion cymwys a phrofiadol. O ystyried y pwnc dan sylw, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud yn union hynny.

Mi fyddwn ni'n cefnogi’r grŵp yma o welliannau gan y Llywodraeth. Mae gwelliant 22 yn arbennig yn adlewyrchu’r pryderon godais i, fel clywsom ni gan y Gweinidog, yn y cymal pwyllgor mewn perthynas â’r lefel o allu yr ydym ni yn credu sydd ei angen ar gyfer tatŵio llygaid. Mi gynigiom ni mai dim ond pobl wedi’u cofrestru efo’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, o bosib, a ddylai gael gwneud. Mi welwch chi yn y grŵp nesaf o welliannau fod Caroline Jones wedi cyflwyno’r gwelliannau hynny y gwnes i eu cyflwyno yn y pwyllgor, y rheini y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw. Fy mwriad i, yn syml iawn, oedd chwilio am sicrwydd y gellid cyfyngu ar y tatŵs yma sydd â lefel uchel o risg yn ymwneud â nhw. Yn y pwyllgor, ac yna mewn trafodaeth efo’r Llywodraeth, rydw i’n credu fy mod i wedi cael y sicrwydd yna yr oeddwn yn chwilio amdano fo. Rwy’n ddiolchgar am hynny. Rwyf hefyd yn falch iawn fy mod i wedi gallu codi’r mater yma a’i fod o wedi cael ei drafod, ond ar ôl llwyddo i gael, rwy’n meddwl, y sicrwydd yr oeddwn yn chwilio amdano fo, mi rydw i’n hapus i gefnogi’r gwelliannau yma gan y Llywodraeth ac nid y rhai yng ngrŵp 6.

Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch. Rwy’n diolch yn arbennig i Rhun ap Iorwerth am ei gefnogaeth i’r gwelliannau o fewn y grŵp penodol hwn, sy’n adlewyrchu’r pryderon a gododd yn ystod Cyfnod 2, a diolchaf hefyd i eraill a fydd yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau y byddaf yn ymgynghori â'r cyrff proffesiynol ar y mater o eithriadau fel mater o flaenoriaeth, fel y cadarnhawyd yng Nghyfnod 2.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 22? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 22.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 23 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 23? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 23.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 24 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 24.

Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 25 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 25? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 25.

Derbyniwyd gwelliant 25 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 26.

Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 6: Tatŵio Pelen y Llygad (Gwelliannau 36, 37, 38, 41, 35)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau’n ymwneud â thatŵio pelen y llygad. Gwelliant 36 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar Caroline Jones i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Caroline Jones.

Cynigiwyd gwelliant 36 (Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i.

Pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth i ddechrau ynghylch gweithdrefnau arbennig, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy syfrdanu gan yr amrywiaeth o bethau yr oedd pobl yn ei wneud i'w cyrff. Fodd bynnag, yr un peth a wnaeth fy mhoeni fwyaf oedd tatŵio pelenni’r llygaid. Nid y ffaith bod rhywun yn dymuno chwistrellu inc i mewn i belen ei lygad sy'n fy synnu ond y ffaith y byddai rhywun yn peryglu ei iechyd er mwyn newid lliw ei lygaid. Mae tatŵio pelen y llygad yn golygu rhoi nodwydd i mewn i'r sglera, gwyn eich llygad, mewn sawl lle a chwistrellu inc lliw, sy’n lledaenu’n araf i orchuddio’r sglera i gyd. Fel arfer, nid yw'r inciau a ddefnyddir yn y weithdrefn hon wedi’u cynhyrchu at ddibenion tatŵio, ac maen nhw wedi’u cynllunio’n bennaf i’w defnyddio mewn prosesau argraffu masnachol neu i ychwanegu lliw at gorff car. Mae’r bobl sydd wedi cael y weithdrefn hon wedi’i gwneud yn adrodd eu bod wedi wylo dagrau lliw am ddyddiau ac wedi cael teimlad o losgi yn eu llygaid, ac mae hynny pan nad oes unrhyw gymhlethdodau.

Yn ôl y Royal Australian and New Zealand College of Ophthalmologists, a fu’n edrych ar y mater hwn, mae’r peryglon i iechyd yn sylweddol. Maent yn cynnwys toriad i’r llygad, a all arwain at ddallineb gan fod y sglera yn llai nag 1 mm o drwch; datodiad y retina, cyflwr meddygol brys a allai adael y claf yn ddall; endoffthalmitis, haint y tu mewn i'r llygad a all hefyd arwain at ddallineb; offthalmia cydymdeimladol, ymateb llidiol awto-imiwn sy'n effeithio ar y ddau lygad ac a all arwain at ddallineb; gwaedu a haint yn y mannau lle rhoddwyd y pigiadau; gohirio diagnosis o gyflyrau meddygol, gan fod gwir liw’r sglera bellach wedi’i guddio—er enghraifft, mae clwyf melyn yn aml yn symptom cyntaf nifer o afiechydon; adweithiau anffafriol i'r inc; sensitifrwydd i olau; staenio’r meinwe amgylchynol yn sgil yr inc yn mudo; ac maen nhw’n datgan nad yw’r risgiau tymor hir yn hysbys eto.

Am y rhesymau hyn rwyf wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn yn fy enw i—35, 36, 37, 38 a 41. Mae rhesymau meddygol pam y gall fod angen tatŵio’r sglera, felly nid yw'n bosibl gwahardd, fel y mae Rhun wedi’i ddatgan yn un o'i welliannau, ei ddefnydd yn llwyr. Yn hytrach, mae'r gwelliannau hyn yn cyfyngu ar datŵio pelen y llygad i'r rhai sydd wedi’u trwyddedu’n briodol gan y GMC—y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau yng ngrŵp 6. Diolch yn fawr.

Oherwydd y darpariaethau blaenorol yn y Bil, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y gwelliannau canlynol sy'n ymwneud â thatŵio pelenni’r llygaid. Rydym yn derbyn mai bwriad y cynigydd yw sicrhau bod y weithdrefn beryglus dros ben hon ond yn cael ei gwneud gan unigolion medrus iawn. Fodd bynnag, ni chafodd y weithdrefn hon ei chodi fel mater yn ystod y cyfnod pwyllgor gan y gymuned feddygol, ac mae pryderon bod y gwelliant arfaethedig yn amharu ar allu unigolyn i wneud penderfyniadau am ei fywyd a'i iechyd ei hunan.

Bydd y darpariaethau a grëwyd gan welliant 22, yn ein barn ni, yn sicrhau y bydd dyletswydd ar y rhai sy’n rhoi trwyddedau i asesu gallu'r unigolyn i weinyddu'r gweithdrefnau hyn, gan y bydd angen iddyn nhw fod â phrofiad blaenorol a bod yn gymwys yn eu gallu i wneud hynny. Er nad yw hyn o reidrwydd yn ataliol, bydd yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu gwneud mewn modd cymwys a phriodol, a byddem yn awgrymu i'r Gweinidog, yn enwedig o ystyried y ffordd hynod bwerus a disgrifiadol y mae’r cynigydd wedi disgrifio'r problemau sy'n gallu codi o datŵio pelen y llygad, fod hwn yn faes y gallai ddymuno ymgynghori ymhellach arno gyda'r bwriad o ychwanegu tatŵio pelen y llygad at y rhestr o weithdrefnau arbennig cyn gynted ag y bo modd.

Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ceisio creu trosedd annibynnol o datŵio pelen y llygad yng Nghymru, oni bai ei fod yn cael ei wneud gan unigolyn sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Rwy’n rhannu'r pryder cyffredinol ynghylch risgiau’r weithdrefn hon, sy’n sail i'r gwelliannau. Fel yr amlinellais yn y drafodaeth ar y grŵp blaenorol, mae gwelliant 22 a gyflwynwyd yn fy enw i yn ei gwneud yn glir y gall y meini prawf ac amodau trwyddedu gorfodol wneud darpariaethau ynghylch safonau cymhwysedd sy'n berthnasol i berfformio gweithdrefn arbennig ar ran benodol o gorff unigolyn, gan gynnwys cyfeirio at gymwysterau neu brofiad.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Pa fath o brofiad, yn eich barn chi, fydd yn angenrheidiol i argyhoeddi pobl eu bod yn gallu ymgymryd â’r broses hon?

Pan fyddwn yn datblygu’r rheoliadau hyn, yn amlwg byddwn yn ymgynghori'n eang, yn enwedig â'r gymuned feddygol o ran yr hyn y maen nhw’n ei gredu fyddai’n briodol o ran ymgymryd â gweithdrefnau arbennig o'r math penodol hwn.

Fel yr amlinellais yn y drafodaeth flaenorol, mae'r gwelliant a gyflwynais yn ei gwneud yn glir y gall yr amodau a meini prawf trwyddedu gorfodol wneud y darpariaethau hyn, ac fel y cyfryw, bydd y meini prawf a'r amodau yn gallu gwneud darpariaeth benodol ac wedi'i thargedu ynglŷn â thatŵio pelen y llygad, ac rwy’n credu mai hwn yw’r dull mwyaf priodol o ymdrin â'r mater pwysig hwn, yn hytrach na'r dull a awgrymwyd gan y gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae'r dull hwn hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen i ymdrin â gweithdrefnau eraill a allai ddod i'r amlwg a chyflwyno pryderon iechyd tebyg yn y dyfodol.

Fy mwriad i yw y bydd yr ymgynghoriad sy'n ofynnol ar y meini prawf ac amodau trwyddedu gorfodol yn gofyn am farn ar y rheolau a chyfyngiadau priodol y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer gweithdrefnau fel tatŵio pelen y llygad, gan gynnwys rheolau sy’n gysylltiedig â chymwysterau, profiad a chymhwysedd. Yr amcan fydd sicrhau na chaiff gweithdrefn o'r fath ei chynnal oni bai bod yr ymarferydd yn gymwysedig ac yr ystyrir ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Byddai'r dull a amlinellais yn golygu y gwaherddid unrhyw un nad yw’n bodloni meini prawf ac amodau trwyddedu llym rhag tatŵio pelen y llygad. Byddai ymgymryd â gweithdrefn o'r fath heb drwydded i wneud hynny yn drosedd y gellid ei chosbi â dirwy anghyfyngedig. Yn y pen draw mae’r dull yn cyflawni effaith debyg i'r hyn a ragwelwyd gan y gwelliannau yn y grŵp hwn, ond mewn ffordd fwy cydlynol sy'n cyd-fynd â'r system drwyddedu gweithdrefnau arbennig gyffredinol. Felly, nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Galwaf ar Caroline Jones i ymateb i’r ddadl. Caroline Jones

Diolch, Llywydd. Mae’n amlwg fy mod wedi fy siomi na chafodd y gwelliannau hyn eu cefnogi. Un o'r rhesymau pam fy mod yn siomedig iawn yw fy mod yn credu y dylid defnyddio’r weithdrefn hon am resymau meddygol yn unig. Mae’n ofid gen i y gall rhywun fynd allan a chael tatŵ ar belenni ei lygaid a dioddef cymhlethdodau fel y rhai yr wyf wedi eu rhestru. Rwy’n pryderu hefyd y gallai'r weithdrefn hon ychwanegu yn sylweddol at restrau aros yn ein hysbytai, ac mae gan offthalmolegwyr eisoes restrau aros 18 mis a all arwain at bobl fynd yn ddall. Felly, rwy’n credu na all y weithdrefn hon, os bydd cyfle iddi wneud fel y myn fel yr ydym yn ei ganiatáu—gan ei gadael yn ddewisol yn hytrach nag am resymau meddygol yn unig—ond ychwanegu at hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn, yn yr achos hwn, yw bod hynny’n cael ei ailystyried.

Os na dderbynnir gwelliant 36, bydd gwelliannau 37, 38, 41 a 35 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 36? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pedwar, 11 yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 36: O blaid 4, Yn erbyn 35, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 36.

Methodd gwelliannau 37, 38, 41 a 35.

Grŵp 7: Darparu Toiledau—Strategaethau Toiledau Lleol (Gwelliannau 39, 40, 27A, 27)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau’n ymwneud â darparu toiledau a strategaethau toiledau lleol. Gwelliant 39 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar Caroline Jones i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Caroline Jones.

Cynigiwyd gwelliant 39 (Caroline Jones).

Diolch, Llywydd. Rwy’n dymuno cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Mae gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ceisio, drwy gyfrwng canllawiau Llywodraeth Cymru, gryfhau strategaethau toiledau lleol drwy wneud y camau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd yn eglur er mwyn mynd i'r afael â'r angen am doiledau cyhoeddus yn eu hardal leol mewn modd effeithiol ac amserol. Credaf mai hon yw'r ffordd orau o gyflawni’r hyn y mae mwyafrif y tystion a roddodd eu tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1 a 2 am ei weld, sy'n ffordd o sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwarantu darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn.

Mewn byd delfrydol, ni fyddem yn chwilio am ffyrdd o gael y nifer fwyaf o doiledau i’r cyhoedd eu defnyddio; byddai gennym ni ddigon o gyfleusterau eisoes i ddarparu ar gyfer yr angen mwyaf sylfaenol hwn. Ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol; rydym yn byw mewn byd lle mae'r henoed a'r anabl yn gaeth i’w cartrefi, yn methu â mentro y tu allan oherwydd nad oes toiledau cyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn llawer man.

Nid yw’r ffaith syml fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau baratoi strategaeth toiledau cyhoeddus yn gwneud dim i wella'r ddarpariaeth na thawelu pryderon y rhai a effeithir gan y diffyg mewn darpariaeth. Caiff y pryderon hyn eu rhannu nid yn unig gan grwpiau cleifion a'r comisiynydd pobl hŷn, ond hefyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor iechyd y bydd pwysau ariannol ar gynghorau yn golygu na fydd strategaeth yn gwella darpariaeth.

Mae gwelliant 39 yn cryfhau'r iaith a ddefnyddir, ac yn ei gwneud yn eglur i awdurdodau lleol ei bod yn rhaid iddyn nhw weithredu, nid yn unig gyflwyno cynigion, a bod y camau y byddan nhw’n eu cymryd wrth weithredu mor effeithiol ag sy’n bosibl ac yn cael eu cwblhau o fewn amserlen resymol. O ystyried y cyfyngiadau ariannol sydd arnom, dyma’r gorau y gallwn ei obeithio amdano. Drwy gydol trafodion Cyfnod 1 y Bil hwn rwyf wedi teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru amgyffred y darlun cyffredinol o’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus ledled Cymru. Nid oes unrhyw fudd o gael 22 o strategaethau toiledau lleol os yw’r ddarpariaeth yn anghyson mewn rhai ardaloedd. Felly mae gwelliant 40 a gyflwynwyd yn fy enw i yn rhoi'r baich ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y strategaethau toiledau lleol, gyda’i gilydd, yn rhoi darpariaeth ddigonol yn genedlaethol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn fy nadl yn ystod Cyfnod 2 ei bod yn angenrheidiol i ni sicrhau bod y canllawiau ar strategaethau toiledau yn cwmpasu cydweithio rhwng awdurdodau lleol. Byddaf yn cefnogi gwelliant 27 y Gweinidog, ond teimlaf y gellid ei gryfhau i ddangos mai’r rheswm dros gydweithio rhwng awdurdodau yw sicrhau bod darpariaeth ddigonol o doiledau drwy’r rhanbarthau perthnasol. Am y rheswm hwn, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 27A a gyflwynwyd yn fy enw i. Diolch yn fawr.

Diolch. Mae'r Bil yn cynnwys dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol. Mae adran 110 o'r Bil yn nodi nifer o faterion y mae'n rhaid i’r canllawiau hyn eu cwmpasu. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn a gyflwynwyd gan Caroline Jones yn ceisio gwneud newidiadau i gynnwys y canllawiau. Pan gafodd newidiadau 39 a 40 eu hystyried yng Nghyfnod 2, esboniais nad oeddwn yn gallu eu cefnogi am eu bod yn mynd y tu hwnt i fwriad y polisi, ac y byddai’n creu anghysondebau o fewn y Bil.  Dyna yw fy marn o hyd, ac nid wyf yn gallu eu cefnogi heddiw. Fodd bynnag, yn ystod Cyfnod 2 ymrwymais hefyd i roi ystyriaeth bellach i un o'r materion a godwyd mewn gwelliant cysylltiedig, sef cydweithio rhwng awdurdodau lleol wrth fynd i'r afael ag anghenion ar gyfer darpariaeth toiledau, a allai gynnwys mwy nag un awdurdod. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, y ddarpariaeth ar briffordd bwysig sy'n mynd trwy dau awdurdod neu ragor. Mae'r ystyriaeth nawr yng ngwelliant 27 y Llywodraeth yn mynd i’r afael â hyn, sy'n mynnu bod y canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth am gydweithio rhwng awdurdodau lleol ar y mater hwn.

Mae gwelliant 27A, fodd bynnag, yn ceisio estyn y gwelliant hwn trwy orfodi awdurdodau lleol i fynd i gost fawr mewn cyfnod o gyni. Unwaith eto, byddai hyn yn mynd y tu hwnt i fwriad y polisi, sef gwella’r gwaith o gynllunio’r toiledau sydd ar gael i'r cyhoedd, fel eu bod yn ateb anghenion cymunedau yn well. Byddai hefyd yn arwain at anghysondebau o fewn y Bil. Byddwn felly yn gofyn i Aelodau wrthod gwelliannau 39, 40 a 27A a chefnogi gwelliant 27 y Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Diolch, Llywydd. Rwy’n siomedig, yn amlwg, fod y gwelliannau a gyflwynais wedi eu gwrthod. Rwy'n credu fy mod yn siarad er budd ein henoed ac er budd ein pobl anabl sy'n gwbl ddibynnol ar ddarpariaeth toiledau ar gyfer mynd o gwmpas eu pethau o ddydd i ddydd. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad]. Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae’r gwelliant yn cwympo.

Gwrthodwyd gwelliant 39: O blaid 22, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 39.

Cynigiwyd gwelliant 40 (Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 40: O blaid 20, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 40.

Cynigiwyd gwelliant 27 (Rebecca Evans).

Cyn gwaredu gwelliant 27, byddwn yn gyntaf yn gwaredu’r gwelliant i welliant 27. Caroline Jones, gwelliant 27A.

Cynigiwyd gwelliant 27A (Caroline Jones).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27A? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 27A: O blaid 24, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 27A.

Gwelliant 27. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 27.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Gwella a Gwarchod Iechyd a Llesiant Pobl Ifanc (Gwelliannau 33, 34)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â gwella a gwarchod iechyd a llesiant pobl ifanc. Gwelliant 33 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Galwaf ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Angela Burns.

Cynigiwyd gwelliant 33 (Angela Burns).

Diolch, Llywydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r gwelliant hwn gan fewnosod adran newydd i'r Bil sy'n ceisio diogelu ei bod yn rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad cynhwysfawr yn flynyddol yn manylu ar y cynnydd a wneir wrth gyflawni eu hamcanion gydag iechyd y cyhoedd, gan roi pwyslais ar y rhai sy'n amddiffyn ac yn gwella iechyd a lles pobl ifanc. Nid oes amheuaeth fod sicrhau bod pobl yn cadw’n iach ac yn parhau i fyw yn iach yn hanfodol bwysig i bob un, ac, o ganlyniad, mae’n gwneud lles enfawr i bwrs y wlad. Mae addysgu'r genhedlaeth iau yn fan cychwyn amlwg. Os gallwn wella eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u hymdeimlad o lesiant, yna byddwn i gyd yn lleddfu ar bwysau’r dyfodol. Canfu ymchwilwyr i iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd fod dilyn ffordd iach o fyw—dim ysmygu, cadw pwysau corff iach, a chyfyngu ar alcohol—yn ganolog i leihau’r tebygolrwydd o glefydau cronig.

Mae'r gwelliant hwn hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hanfodol iechyd y cyhoedd a bod holl Aelodau'r Cynulliad yn gallu craffu’n effeithiol ar ganlyniadau'r ddeddfwriaeth hon yn rhinwedd adroddiad blynyddol, a fydd yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad fel ei gilydd feincnodi a chadw golwg ar gynnydd. Bydd y data a gynhyrchir gan yr ymarfer hwn hefyd yn hysbysu'r ddadl ehangach am yr heriau mawr a wynebwn o ran iechyd y cyhoedd. Roedd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2016 yn nodi bod diffyg mecanweithiau cadarn yng Nghymru i adrodd data er mwyn adlewyrchu paramedrau allweddol yn fanwl gywir, sy’n angenrheidiol i wella gwasanaethau iechyd ledled Cymru. Pan ystyriwch fod gan dlodi cymdeithasol ac economaidd gysylltiad uniongyrchol â chanlyniadau iechyd i’r cyhoedd, a nodweddir gan y ffaith fod cyfradd achosion canser yr ysgyfaint ar ei huchaf yng nghymoedd y de-ddwyrain, mae'n amlwg fod angen i ni nid yn unig gasglu data i wella canlyniadau iechyd i’r cyhoedd, ond hefyd hyrwyddo strategaeth ar gyfer tal yn gyntaf, lle mae plant a phobl ifanc yn cael lle blaenllaw mewn negeseuon iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad diweddar hwnnw gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cydnabod bod dirywiad wedi bod o ran adrodd ledled Cymru. Aeth yr adroddiad yn ei flaen i nodi bod potensial gan gynghorau iechyd cymuned i chwarae rhan werthfawr yn adlewyrchu llais y claf ledled Cymru. Mae'n hanfodol nawr fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu nid yn unig i atgyfnerthu ei threfniadau wrth adrodd, ond ei bod yn ehangu'r broses o ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae hyn yn hanfodol wrth roi system iechyd integredig ar waith sy'n gwasanaethu Cymru benbaladr.  Byddai'r gwelliant hwn hefyd yn helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol gyda phwyslais ar addysg ac ymgysylltu. Yn ganolog i hyn mae sicrhau bod negeseuon iechyd y cyhoedd gan fyrddau iechyd a marchnata effeithiol i fentrau iechyd y cyhoedd yn cael eu datblygu ar y cyd â chyrff addysgol. Er enghraifft, pan fyddwn yn ceisio gwella iechyd a lles pobl ifanc, rhaid inni gydnabod bod anweithgarwch corfforol yn lladdwr cudd, gan gyfrannu at un o bob chwe marwolaeth yn y DU, yr un lefel ag ysmygu. Mae mwy nag un o bob tri yng Nghymru yn anweithgar yn gorfforol, ac nid ydynt yn gwneud ymarfer corff am fwy na 30 munud yr wythnos. Rydym eisoes yn gwybod bod unigolion sy’n anweithgar yn gorfforol yn treulio 38 y cant yn fwy o ddiwrnodau yn yr ysbyty ar gyfartaledd, maen nhw’n ymweld 5.5 y cant yn amlach â meddygon teulu, yn derbyn 13 y cant yn fwy o wasanaethau arbenigol a 12 y cant o ymweliadau nyrs yn fwy nag unigolyn egnïol. Eto i gyd mae Llywodraeth Cymru, er gwaethaf ei rhestr o ymrwymiadau i gynyddu cyfranogiad pobl Cymru mewn gweithgareddau corfforol, wedi cwtogi ar ei chyllid i raglenni gweithgarwch corfforol.

Yng nghyllideb 2016-17, torrodd Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth effeithiol rhaglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol o £26,891,000 i £22 miliwn. Mae hyn yn ostyngiad o 7 y cant mewn termau real. Ac mae nifer yr oriau sydd wedi’u neilltuo i Addysg Gorfforol mewn ysgolion cynradd hefyd wedi gostwng ledled Cymru. Yn 2010-11, roedd cyfartaledd o 115 munud yr wythnos yn cael ei roi i wersi Addysg Gorfforol yn yr ysgol gynradd. Fodd bynnag, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai 100 munud yw hyn bellach yn 2014-15. Mae hynny’n cyferbynnu â'r llwyddiannau a nodwyd gan Lywodraeth y DU, a gyflwynodd y premiwm Addysg Gorfforol a chwaraeon, a gynlluniwyd i helpu ysgolion cynradd i wella ansawdd y gweithgareddau Addysg Gorfforol a chwaraeon a gynigir i'w disgyblion, ac maen nhw wedi buddsoddi dros £450 miliwn yn ystod y tair blynedd academaidd ddiwethaf.

Byddai'r gwelliant hwn yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi fod iechyd y cyhoedd yn cael ei integreiddio ac yn hybu gweithio ar y cyd, a fyddai, yn ei dro, yn arwain at ddefnydd mwy effeithiol o'r gyllideb a byddai'n sicrhau rhagor o ganlyniadau. Ar ben hynny, bydd yn hybu partneriaeth rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac ysgolion i sicrhau bod ffactorau fel maeth yn cael eu hystyried hefyd wrth i ysgolion gyflwyno eu bwydlenni cinio. Oherwydd er gwaethaf yr holl siarad, ar hyn o bryd, nid yw canllawiau bwyta'n iach yn cael eu dilyn gan lawer o bobl yng Nghymru. Mae’r canllawiau yn hyrwyddo bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, gyda phrydau yn seiliedig ar garbohydradau â starts fel tatws, reis, a phasta. Fodd bynnag, dim ond hyrwyddo bwyta’n gytbwys y mae’r canllawiau hyn. O ran mynd i'r afael â gordewdra, mae angen cyngor mwy manwl a chymorth wedi'i dargedu fod ar gael i bobl sydd mewn perygl o ordewdra wneud penderfyniadau deallus am eu maeth.

Peidiwch ag amau am eiliad: mae angen negeseuon mwy effeithiol a chydlynol i blant, pobl ifanc ac, yn wir, i oedolion. Er enghraifft, dylem nodi bod arolwg iechyd Cymru, sy'n mesur faint o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu bwyta’n feunyddiol fel dangosydd o iechyd a lles, yn dangos mai dim ond un o bob tri sy’n bwyta'r gyfran a argymhellir o ffrwythau a llysiau bob dydd. Ac mae cwestiynau yn codi ynghylch a yw’r canllawiau cyfredol ar fwyta'n iach yn gallu hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a mynd i'r afael â gordewdra mewn gwirionedd. Mae'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol wedi cynhyrchu adroddiad damniol sy'n tanlinellu bod canllawiau deietegol presennol yn methu â mynd i'r afael â her gynyddol gordewdra. Mae'r adroddiad yn beirniadu'r canllawiau presennol sy'n hybu deiet sy'n isel mewn braster ac uchel mewn carbohydrad i gael deiet cytbwys. Mae negeseuon creadigol, addysgiadol ac ysgogol yn hanfodol er mwyn helpu i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ac mae angen i ni sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus gan fyrddau iechyd a marchnata effeithiol ar gyfer mentrau iechyd y cyhoedd yn cael eu datblygu ar y cyd â chyrff addysgol.

Bydd y gwelliant hwn, Gweinidog, yn sicrhau hefyd fod rhagor o gasglu data yn mynd rhagddo o ran nodi'r paramedrau sy'n caniatáu gwell canlyniadau i iechyd y cyhoedd. Yn olaf, bydd y gwelliant hwn yn gofyn i Weinidogion adrodd ar gynnydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn flynyddol, a bydd, fel y cyfryw, yn caniatáu i'r holl Aelodau yma feincnodi a chraffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gwella iechyd y cyhoedd er lles yr ieuengaf yn ein cymdeithas, a gofynnaf i’r Aelodau ei gefnogi.

Mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi’r gwelliannau yma. Rydym ni’n aml yn clywed am y trafferthion mae cleifion o bob oed yn eu cael pan fo yna amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yn gyfrifol am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc. Nid ydyn nhw’n wahanol. Yn wir, mi allem ni ddadlau eu bod nhw mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth weithiau, os ydych chi’n ychwanegu ysgol neu sefydliad addysgiadol arall fel haen arall o wasanaeth cyhoeddus sy’n rhan o benderfyniadau ynglŷn â gofal a chefnogaeth i bobl ifanc.

Rydw i, fel llawer yma, rydw i’n siŵr, wedi delio â nifer o achosion yn fy etholaeth i sy’n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl pobl ifanc—rhai ohonyn nhw yn broblemau difrifol—ac mae rôl yr ysgol yn y driniaeth a’r gofal sydd yn cael ei ddarparu yn aml yn ganolog. Felly, mae cydweithio yn bwysig. Nid yw wastad yn digwydd fel y byddem ni yn ei ddymuno, ac mi fyddai’r gwelliant yma, o leiaf, yn arwain at yr angen i adrodd nôl ar y lefel o gydweithio sydd yn digwydd. Rydw i hefyd yn falch o weld bod y gwelliant yn nodi’n benodol y dylai adroddiadau gyfeirio at lefelau gordewdra—wrth gwrs, rhywbeth rydym ni wedi cyfeirio ato fo yn gynharach yma, y prynhawn yma—ac at faeth, a hefyd yn pwysleisio’r angen fod negeseuon iechyd cyhoeddus yn cael eu cyfathrebu yn effeithiol efo pobl ifanc, ac yn cael eu cyfathrebu mewn ffordd sydd yn cael ei gweld fel bod yn berthnasol i bobl ifanc. Felly, rydym ni’n hapus i gefnogi’r gwelliannau’r yma.

Fe’m synnwyd yn fawr gan y pwyntiau a wnaeth Angela Burns, a, chyn i’r Gweinidog ateb, tybed a allai hi ddweud a yw'r Llywodraeth yn cefnogi’r dull gweithredu yn ardystiad Cymdeithas y Pridd o brydau ysgol, a’u hagwedd tuag at fwyd da i bawb, sy’n sicrhau bod plant yn bwyta cynnyrch sydd wedi ei goginio’n ffres yn hytrach na bwyd sy'n cael ei ddwyn i mewn a'i goginio o’r oergell, a hefyd gyda phwyslais ar ysgolion yn sicrhau bod plant yn cael eu hannog i fwyta llysiau a ffrwythau newydd, a blasu pethau nad ydyn nhw efallai yn eu cael gartref.

Diolch i chi, ac rwy’n diolch i Angela Burns am gyflwyno’r gwelliannau yn y grŵp hwn. Rwy’n cydnabod y bwriad sydd wrth wraidd y gwelliannau ac o'r un farn y dylai gwella a diogelu iechyd a lles ein pobl ifanc fod yn flaenllaw mewn polisi cyhoeddus ar iechyd yng Nghymru. Ac wrth ymateb i bryderon Jenny Rathbone hefyd, byddwn yn cyfeirio'r holl Aelodau at y llythyr a anfonais yn ddiweddar at bob Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn amlinellu ein hymagwedd at safonau maeth, mewn ysgolion a hefyd mewn ysbytai, ac yn eu hymestyn i leoliadau blynyddoedd cynnar a lleoliadau cartrefi gofal yn y dyfodol hefyd.

Er hynny, hoffwn, o ran y gwelliant hwn, bwysleisio bod diogelu iechyd plant a phobl ifanc eisoes yn thema ganolog drwy holl gynnwys y Bil a thrwy bolisïau eraill a deddfwriaeth arall. Mae'r Bil yn rhoi cyfres o amddiffyniadau pwysig i blant, er enghraifft drwy gyfyngu ar ysmygu mewn mannau fel tir ysgol a meysydd chwarae cyhoeddus, a thrwy ddiogelu plant rhag niwed posibl wedi ei achosi gan dyllu mewn rhannau personol o’r corff. Hefyd, bydd pwyslais hirdymor ar asesiadau o effaith ar iechyd yn ffordd bwysig arall o sicrhau bod iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu yn y dyfodol.

Er fy mod yn gwerthfawrogi’r bwriadau da y tu ôl i’r gwelliannau hyn, credaf eu bod yn anaddas am sawl rheswm. Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu bod corff cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio ag eraill i gyflawni ei amcanion a hefyd yn adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wneir o ran cyflawni ei amcanion. Ymysg yr amcanion y dylai’r cyrff cyhoeddus a restrir yng ngwelliant Angela Burns eu hystyried ac adrodd arnyn nhw mae materion iechyd cyhoeddus sy'n berthnasol i bobl ifanc, fel gordewdra, maeth ac iechyd meddwl. Byddai'r newidiadau hyn felly, i bob pwrpas, yn dyblygu gofynion sydd mewn deddfwriaeth arall. Mae elfennau o'r gwelliannau hyn hefyd yn ymddangos eu bod yn dyblygu gwaith arall sy'n cael ei ddwyn ymlaen yn y Bil hwn—er enghraifft drwy’r strategaeth gordewdra genedlaethol a fydd yn cael ei datblygu o ganlyniad i’r gwelliannau y cytunwyd arnynt yn gynharach y prynhawn yma.

Mae'r gwelliannau i’r strategaeth gordewdra genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth ar atal gordewdra a lleihau cyfraddau gordewdra yng Nghymru, a byddai hyn yn cynnwys—ond heb ei gyfyngu i—gyfraddau gordewdra ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal â hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun iechyd plant ar gyfer disgrifio meysydd blaenoriaeth cenedlaethol y dylai gwasanaethau iechyd fod yn ymdrin â nhw i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn, a bydd adroddiad ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol. Bydd y gwaith pwysig hwn yn darparu ffordd arall o gyflawni effaith gwelliannau hyn, ac yn darparu cyfeiriad strategol mewn ystyr ehangach nag y byddai’r gwelliannau hyn yn ei gyflawni.

Yn olaf, o ran canlyniadau, mae ystod o fecanweithiau ar waith yng Nghymru eisoes sy’n ein galluogi ni i fonitro’r tueddiadau o ran iechyd a lles pobl ifanc a phlant. Er enghraifft, mae adroddiadau blynyddol y prif swyddog meddygol a gwahanol arolygon yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni yn hyn o beth. Felly, gan gymryd yr holl bethau hyn gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn mewn perygl o ddyblygu peth o'r gwaith presennol ac arfaethedig heb ategu gwerth ychwanegol. Am y rhesymau hyn nid wyf yn gallu cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn ac rwy’n gofyn i’r Aelodau eu gwrthod.

Galwaf ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl. Angela Burns.

Diolch yn fawr iawn i chi wir. Rwy'n siomedig iawn o gael eich ymateb, Gweinidog. Nid wyf yn credu y bydd y dull bratiog sydd gennych o edrych ar y canlyniadau amrywiol i iechyd plant yn cael yr effaith a ddymunir yn y gwelliannau hyn. Dro ar ôl tro ar ôl tro mae’r Cynulliad hwn yn eistedd ac yn trafod materion yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Rydym i gyd yn sôn byth a hefyd am gymaint mae pobl yn ei ysmygu, faint o bobl sydd dros bwysau, pa mor afiach ydym ni, a sefyllfa beryglus dyfodol ein GIG a sut y byddwn yn ymdrin, mewn pump, deg, pymtheg ac ugain mlynedd â chynnydd mewn cyflyrau cronig a fydd—a bod yn onest—yn andwyo’r GIG os na fyddwn yn ofalus. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, mae fy llais i’n gryg iawn heddiw. Mi fyddai’n dda gennyf pe byddai’n gwella. Ac eto, mae’r gwelliant syml hwn wedi ei dargedu at ein pobl ifanc mewn gwirionedd—dyfodol Cymru. Mae'r gwelliant yn gofyn yn syml y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno i'r Siambr hon, yn flynyddol, i bob un o'r Aelodau hyn o'r Cynulliad sy’n trafod y mater hwn wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y gallu i edrych a ydym mewn gwirionedd yn cyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus cymwys i bobl ifanc ai peidio, mesurau sy’n mynd i wneud gwahaniaeth, i leddfu’r sefyllfa beryglus a all ffrwydro ymhen pump neu ddeng mlynedd.

Mae darnau amrywiol o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd. Fe wyddoch chi, gallwn eu rhestru i gyd: Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, y Bil anghenion dysgu ychwanegol sydd ar fin dod i rym, y Bil hwn. Gadewch i mi roi sylw i un yn unig: y Mesur bwyta'n iach. Rwy'n cofio bod yn Aelod Cynulliad a bod ar y pwyllgor wnaeth gyflwyno hwnnw. A yw wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd bwyd mewn ysgolion yng Nghymru? Nac ydyw. Mae fy mhlant i newydd adael yr ysgol gynradd, ac am y blynyddoedd y buon nhw yno, roedden nhw mewn ysgol nad oedd ganddi ei chegin ei hun ac roedd yn rhaid cludo popeth i mewn, ni welson nhw lysieuyn gwyrdd erioed. Diolch byth, roedd ganddyn nhw riant a fyddai'n eu gorfodi i fwyta brocoli fin nos. Oni bai mod i wedi gwneud hynny, fydden nhw ddim yn gwybod sut beth yw llysieuyn gwyrdd.  Felly, nid ydym ni—er gwaethaf ein holl fwriadau a'r darnau o ddeddfwriaeth a roddwyd o’r neilltu yma ac acw, rydym yn colli’r pwyslais hwnnw. Felly, amcan y gwelliant hwn yn syml oedd canolbwyntio ar hynny.

Rwy’n teimlo’n drist iawn eich bod wedi penderfynu nad ydych yn gallu ei dderbyn, oherwydd nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael trafferth gyda bwriadau polisi bratiog mewn llawer Bil, ac nid ydych wedi cael trafferth gydag ailadrodd erioed o’r blaen. Felly, rwy’n ystyried mai peth trist iawn wir, yn fy marn i, yw eich bod yn cael trafferth gyda’r mater hwn, ac rwy’n credu eich bod yn colli cyfle, ac rydym yn mynd i golli golwg ar y pwyslais hwnnw o ran gwneud newid i fywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Os na dderbynnir gwelliant 33, bydd gwelliant 34 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, fe wrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 33: O blaid 24, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 33.

Methodd gwelliant 34.

Grŵp 9: Llygredd Aer ac Ansawdd Aer (Gwelliannau 44, 45, 46, 47, 43, 42)

Mae’r grŵp nesaf o welliannau ym ymwneud â llygredd aer ac ansawdd aer. Gwelliant 44 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp. Simon Thomas.

Cynigiwyd gwelliant 44 (Simon Thomas).

Diolch, Llywydd. Rwy’n gobeithio y byddaf fi’n fwy llwyddiannus nag oedd Angela Burns, er nid wyf fi’n siŵr y byddaf. Yn sicr, hyd yma, mae’r drafodaeth ar y Bil yma wedi gweld mwy o drafod rhwng y ddwy brif wrthblaid er mwyn gwella’r Bil mewn modd cydweithredol. Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n gwneud y Bil yr eildro mewn ffordd mwy cymodlon nag y cawsom ni’r cyfle i’w wneud y tro cyntaf.

Mae gwelliant 44 a gweddill y gwelliannau yn gosod allan fframwaith ar gyfer sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r Bil yma fel cyfle i amddiffyn y cyhoedd rhag effeithiau andwyol llygredd awyr. Wrth wneud hynny, rwyf i eisiau dweud ar y cychwyn, a phwysleisio ar y cychwyn, nad oes unrhyw lefel saff—o ran iechyd, nid oes lefel saff ar gyfer llygredd awyr, boed hynny yn ocsidau nitrogen neu yn wahanol PMs, sef y gronynnau bach iawn sy’n cael eu cynhyrchu yn yr awyr. Wrth gwrs, mae yna lefelau cyfreithlon, mae yna lefelau statudol, ac mae yna gyfarwyddiadau a deddfwriaeth sy’n troi o gwmpas y lefelau hynny. Ond, o safbwynt iechyd, nid oes dim lefel saff. Felly, mae’n bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni’n edrych ar y Bil yma fel cyfle i wella’r sefyllfa yn y cyd-destun hwnnw. Roeddwn yn sylwi bod Cyfnod 1 o drafodaethau’r Bil wedi gweld sawl un o’r rhanddeiliaid yn codi llygredd awyr fel rhywbeth sydd eisiau mynd i’r afael ag ef. Roedd tystiolaeth gan sefydliad y galon a thystiolaeth gan sefydliad yr ysgyfaint—ill dau yn dweud y dylai fod o leiaf cyfeiriad at yr egwyddor gyffredinol i leihau neu ostwng llygredd awyr. Mae Plaid Cymru o’r farn y dylid mynd ychydig yn bellach na hynny, gan ein bod yn cytuno gyda phwyllgor EFRA yn San Steffan, a ddywedodd fod lefel bresennol y llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Gyfunol. Felly, rydym ni eisiau gweld y Bil yma a’r Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle i weithredu ar yr argyfwng hwn.

Yn y cyd-destun Cymreig, mae llygredd awyr yn ail yn unig i ysmygu—sydd yn rhywbeth amlwg iawn yn y Bil yma—fel achos marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae’n achosi 2,400 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn, sef 6 y cant o holl gyfanswm marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae’r achos yn cael ei rannu yn fras yn ddau: mae’r PM2.5—y gronynnau bach hynny—yn cynhyrchu rhywbeth tebyg i 1,300 o farwolaethau cynnar, ac mae ocsidau nitrogen yn cynhyrchu 1,100 o farwolaethau cynnar. Ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r rheini, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ôl ym mis Ionawr eleni.

Wrth gwrs, nid yw llygredd awyr yn rhywbeth sy’n cael ei gyfyngu i un wlad, neu un genedl neu un gymuned. Mae’n rhywbeth trawsffiniol. Mae’n fater, o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, i Lywodraeth San Steffan. Mae’r Llywodraeth yma—y Llywodraeth yng Nghymru—wedi dibynnu ar gynhyrchu fframwaith neu strategaeth genedlaethol yn y cyd-destun Prydeinig ar gyfer mynd i’r afael â hyn. Nawr, rwy’n deall pam efallai bod y Llywodraeth yn dewis gwneud hynny, gan ei fod yn fwy hwylus neu’n fwy abl i wneud hynny—yn lleihau’r baich gwaith ac ati. Ond, nid wyf i, yn sicr, yn ymddiried yn y Llywodraeth bresennol, sy’n cael ei hailethol ar hyn o bryd—cawn weld—i fynd i’r afael â llygredd awyr. Roedd Andrea Leadsom, wrth gwrs, am beidio â chyhoeddi strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â llygredd awyr o gwbl cyn yr etholiad, gan ddefnyddio ‘purdah’ fel esgus i beidio â dweud dim byd yn ei gylch. Roedd yn rhaid i gyfreithwyr amgylcheddol ClientEarth fynd i’r llys er mwyn gorfodi bod y strategaeth yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan. Cafodd hwnnw ei gyhoeddi ddiwedd wythnos diwethaf—wrth gwrs, ar ôl cyflwyno’r gwelliannau hyn. Felly, mae rhywfaint yn y gwelliannau hyn sy’n cael ei gam-ddweud gan y strategaeth sydd wedi’i chyhoeddi, ond mi wnaf i esbonio ychydig am hynny yn y man. Beth sydd yn bwysig, yn fy marn i a barn Plaid Cymru, yw nad ydym yn dibynnu ar Lywodraeth San Steffan i gynhyrchu strategaeth, ond bod Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu, paratoi a chyhoeddi strategaeth llygredd awyr genedlaethol i Gymru, sydd yn gosod allan sut ac ym mha ffordd y mae llygredd awyr yn mynd i gael ei ostwng.

Mae cyd-destun ehangach i hyn, wrth gwrs. Rydym am adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly am golli—oni bai ein bod yn eu trosglwyddo nhw i ddeddfwriaeth genedlaethol—rhai o’r cyfarwyddebau sydd eisoes yn eu lle yn ymwneud â llygredd awyr. Un achos amlwg o hynny oedd yr un a oedd yn dod i benderfyniad ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan yn ddiweddar yng Nghymru. Felly, mae yna reswm—. Os mai dadl y Llywodraeth yw, ‘Wel, mae yna gyfeiriad at lygredd awyr mewn deddfwriaeth arall’, mae hynny’n ddadl, ond mae yna ddau reswm i’w roi e yn y Bil yma. Un: mae unrhyw gyfeiriad arall yn y cyd-destun amgylcheddol, ac rydym yn sôn am y cyd-destun iechyd cyhoeddus. Yn ail: wrth fynd a gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod ni’n glir iawn yn y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei phasio fan hyn ein bod ni eisiau cadw’r safonau sydd gennym ni, os nad gwella arnyn nhw, a dweud y gwir.

Felly, dyna’r cyd-destun y byddwn yn chwilio i gynnig gwelliant 44 a’r gwelliannau eraill ynddo. Mae gwelliant 44 yn cydnabod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn arwain yn y maes yma, ac yn dweud bod angen cyhoeddi strategaeth genedlaethol Gymreig, felly, dim hwyrach na chwe mis ar ôl cyhoeddi cynllun ansawdd awyr Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwy’n meddwl, wrth weld yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi, y strategaeth a gafodd ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos diwethaf, fod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i ryw ymateb o fewn blwyddyn—felly, chwe mis sydd yn y gwelliant; mae’r Llywodraeth, rwy’n credu, wedi dweud y byddai’n ymateb o fewn blwyddyn.

Mae hefyd yn bwysig bod gyda ni strategaeth yng Nghymru fel ein bod ni’n gallu ymateb i bolisi sydd ddim yn gweithio, neu i newidiaeth yn y wyddoniaeth sydd y tu ôl i bolisi. Yr enghraifft fwyaf amlwg o hyn, wrth gwrs, yw’r ffaith ein bod ni wedi symud yn ystod y 15 mlynedd diwethaf i ffwrdd o beiriannau petrol ar gyfer y rhan fwyaf o drafnidiaeth yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr, tuag at beiriannau diesel. Nawr, fe wnaed hyn am resymau da iawn ar y pryd—fe feddyliwyd am resymau da iawn. Roedd y cynnydd yn nifer y ceir diesel o 10 y cant o geir a oedd yn cael eu gwerthu ar ddechrau’r ganrif hon i dros 50 y cant o geir fan hyn, sef tyfiant o 3.2 miliwn i 8.2 miliwn erbyn 2010. Y broblem oedd hyn—ac nid wyf yn beio Gordon Brown na’r Blaid Lafur fan hyn, a bod yn onest, achos yr oedden nhw’n ymateb i sefyllfa fel yr oedden nhw’n gweld pethau. Y broblem oedd hyn: bod y gwneuthurwyr ceir wedi—wel, wedi’n twyllo ni. Roedden nhw wedi fficsio’r profion i ddangos nad oedd y peiriannau diesel yma yn rhoi y PMs allan mewn labordai, ond wrth gwrs, unwaith yr ŷch chi’n mynd â nhw ar heolydd, yn ôl sefyllfa bob dydd, roedd yna allyriadau hynod niweidiol yn cael eu rhoi allan o beiriannau diesel. Ac rwy’n sefyll ac yn cyfaddef fy mod i’n un o’r bobl hynny sydd wedi mynd am beiriant diesel am y rhesymau hynny ac nawr sy’n cael fy hun mewn sefyllfa lle rwy’n llygru’r awyr bob tro rwy’n defnyddio’r car.

Mae angen mynd i’r afael yn fawr iawn â hyn ac, yn anffodus, nid yw strategaeth y Llywodraeth ddim yn sôn dim am, er enghraifft, ryw gynllun gwastraffu diesel neu gynllun i ddod â pheiriannau trydan i mewn yn eu lle, neu beth bynnag yw e, ond yn hytrach yn pwsio’r cyfrifoldeb i lawr ar awdurdodau lleol. Wel, os felly, mae’n hyd yn oed fwy pwysig ein bod ni yng Nghymru yn ymateb gyda chynllun cenedlaethol.

Rwy’n credu bod, wrth gwrs, gyda ni ddeddfwriaeth arall yng Nghymru—Deddf yr amgylchedd a hefyd Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol—ond nid oes yna ddim wedi’i ysgrifennu ar wyneb y Ddeddf yma sydd yn sôn am leihau llygredd awyr. Dyma’n cyfle ni i roi hynny ar wyneb Deddf sy’n cael ei phasio gan y Cynulliad heddiw.

Just to be clear on amendments 45 and 46 that relate to amendment 44 and what they seek to do—to be clear that amendment 45 seeks to place responsibility on the Welsh Government not only to produce a strategy, as I’ve just talked about, but also to issue guidance to local health boards on how boards should alert residents about forecasted high air pollution levels for their area. There is a website that you can go on and look; it's managed by the air quality forum for Wales. You can look on it and see what the air quality is for your area, but it's very generalised. I couldn't find out what it was for the street I live in, though I live literally between a school and a main road. I would have thought that's an ideal area to know what the air quality is like, but I couldn't find that out from the publicly available information at the moment. I think amendment 45 therefore would place that responsibility. It's something that Sadiq Khan, the Labour mayor in London, is trying to do at the moment, so people understand what the air quality is in their local environment and can take steps to improve it if they can, but, importantly, take steps in public health terms to protect their own health, and that's particularly true of young people and children with asthma living in such areas.

Amendment 46 would place a responsibility on the Welsh Government to issue guidance to local authorities on how local authorities should monitor air quality under the Air Quality Standards (Wales) Regulations 2010 outside schools and on active travel routes. This is specifically addressing that. The British Lung Foundation, for example, found that many local councillors—about 20 per cent who responded to a freedom of information request—did not view schools as a priority for air quality monitoring, and a further 53 per cent referred to current DEFRA guidance, which we rely on in Wales—for some reason we are prepared to rely on DEFRA guidance—which also does not prioritise schools. It’s important, I think, that air pollution levels on routes to schools should be monitored, so people understand the whole cycle effect, both of transport in different modes, but also of children walking and cycling to schools.

Amendments 47, 43 and 42 are consequential amendments that would enable these important amendments in this Bill to be enacted. Diolch yn fawr.

Mae’n rhaid ystyried llygredd aer yn un o'r amryfal heriau cynyddol i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae llygredd aer yn ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol, boed trwy ddefnyddio cerbydau, amaethyddiaeth a diwydiant, a llosgi tanwydd ffosil. Er y bu rhai gwelliannau cenedlaethol enfawr o ran rheoli ansawdd yr aer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r angen i dargedu ardaloedd lleol yn hanfodol er mwyn gwella'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ansawdd aer Cymru. Gwnaeth Simon Thomas y sylw am gerdded i ysgolion. Wel, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch hyn—mae Cymru'n gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU, a phe byddech chi’n blentyn ysgol yn cerdded ar hyd ymyl yr A472 ger Crymlyn, byddech yn cerdded drwy le sydd â'r gyfradd uchaf o lygredd mewn unrhyw ardal y tu allan i Lundain. Mae'n cael ei achosi’n bennaf gan dagfeydd traffig o gerbydau trwm—ffurf y bryniau ydyw—ond yn y pen draw mae’r bobl sy'n byw yn yr ardal honno yn agored yn gynyddol i lygryddion niweidiol, sy'n niweidio’u hiechyd.

Mae ymchwil yn ein galluogi i ddeall yn well o lawer pa mor niweidiol yn union yw llygredd aer i’n hiechyd. Er mwyn lleihau effeithiau llygredd aer ar ein hiechyd, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ein capasiti datganoledig i reoli ein hansawdd aer yn effeithiol. Mae cyflawni prosiectau seilwaith yn hanfodol yn hyn o beth, gan ystyried cynaliadwyedd a gostwng llygryddion, ond dylid codi ymwybyddiaeth hefyd trwy negeseuon iechyd y cyhoedd, fel bod unigolion yn ymwybodol o’r perygl i’w hiechyd sy’n gysylltiedig â llygryddion aer. Mae amcanion clodwiw i’r gwelliannau hyn a gyflwynwyd gan Simon Thomas ac maent yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran wynebu'r angen am weithredu ar y cyd ar ansawdd aer.

Er bod nifer o fentrau ar waith, mae'n hollbwysig bod pob corff cyhoeddus yn derbyn eu cyfrifoldebau a’u bod yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd. Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i lywodraethau lleol fonitro ansawdd aer yn lleol yn effeithiol a rhybuddio’r cyhoedd pan fydd y lefelau yn uwch na’r canllawiau. Yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb i gyflawni strategaethau rheoli aer lleol, felly mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu cydblethu ag amcanion strategol cenedlaethol.

Fodd bynnag, er y byddwn yn cefnogi pob gwelliant heblaw un, y mae gennym bryderon ynghylch gwelliant 45, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad pellach gan y cynigydd. Rydym yn pryderu am yr effaith bosibl y gallai gwelliant 45 ei chael ar sefyllfa ariannol byrddau iechyd lleol, oherwydd, wrth gwrs, nid yw pawb yn gallu mynd at wefan. Ni all pawb gael mynediad at negeseuon iechyd da yn y ffordd honno, ac mae gennym bryderon nad ydym yn awyddus i roi pŵer i Lywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau a allai fod yn anodd iawn i fyrddau iechyd lleol eu gwireddu, oherwydd ein bod yn gadarn o'r farn ein bod yn gallu ysgogi gwelliannau iechyd y cyhoedd heb gael effaith andwyol ar y cyllid sydd ar gael i fyrddau iechyd sydd eisoes dan bwysau, ac mae gennym bryderon y gallai’r gwelliant hwnnw achosi rhagor o bwysau ar eu cronfeydd sydd eisoes dan bwysau. Ond rydym yn derbyn gweddill y gwelliannau yn llwyr, a hoffem ddiolch i Simon Thomas a Phlaid Cymru am eu cyflwyno.

Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i grŵp Simon o welliannau, ac yn cefnogi y rhan fwyaf ohonynt. Ni allwn, fodd bynnag, gefnogi gwelliant 45. Rydym yn cytuno â'r angen i rybuddio'r cyhoedd am lygredd aer uchel, ond yn credu y byddai’n well i awdurdodau lleol wneud hyn, neu hyd yn oed Llywodraeth Cymru, ond nid byrddau iechyd lleol. Felly, byddwn yn ymatal ar yr un gwelliant hwn, ond yn cefnogi eich holl welliannau eraill. Diolch.

Diolch i chi, Llywydd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyflwyno darpariaeth benodol ar ansawdd yr aer yn y Bil drwy ychwanegu rhan newydd. Rwy'n rhannu’r pryderon sydd y tu ôl i'r gwelliannau. Mae ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu yn fater hollbwysig i iechyd y cyhoedd.

Fel yr wyf wedi dweud yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddangos pa mor bwysig yw’r mater hwn. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar gan ymgynghoriad eang a arweinwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae llygredd aer yn fater sy’n galw am weithio’n wirioneddol ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn gwbl ymroddedig i symud yr agenda hon yn ei blaen drwy amrywiaeth o waith sydd eisoes ar y gweill a gwaith arfaethedig. I ddangos hyn, mae nifer o ymrwymiadau wedi'u gwneud eisoes sy'n bodloni’r amcanion sydd y tu ôl i welliannau yn y grŵp hwn. Er enghraifft, o ran gwelliant 45, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a minnau eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i’w hannog i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith ar ansawdd aer.

Yn yr un modd, yn berthnasol i welliant 46, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau polisi ansawdd aer newydd i awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y canllawiau hyn yn nodi ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymysg eraill, fel cartrefi gofal, ysbytai, meithrinfeydd, a meysydd chwarae, yn lleoliadau sensitif ar gyfer derbynyddion. Bydd hefyd yn nodi nad yw pobl hŷn, pobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli, babanod, plant a phobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol hir wedi’u cyfyngu i'r mannau uchod a’u bod yn haeddu'r un lefel o amddiffyniad lle bynnag y bônt.

Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg wrth leoli eu mesuryddion. Dylai hyn gael ei lywio gan ble y mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn debygol o fod yn agored i'r lefelau uchaf o lygredd aer. Ein cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yw y dylent weithio tuag at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, y dylent roi ystyriaeth benodol i'r risgiau hirdymor i fabanod a phlant a achosir gan lygredd aer, boed yn eu cartrefi eu hunain, yn eu hysgol neu eu meithrinfa, neu wrth deithio rhwng y ddau.

O ran gwelliant 44, mae adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion lunio strategaeth ansawdd aer sy'n cynnwys polisïau ar asesu a rheoli ansawdd aer. Byddai'n amhriodol i hyn gael ei ddyblygu yn y Bil hwn. Oherwydd natur traws-ffiniol llygryddion aer, mae'r strategaeth ansawdd aer bresennol, a gyhoeddwyd yn 2007, yn cael ei chyflwyno mewn dogfen ag amcanion cyffredin sy'n cwmpasu pob rhan o'r DU.

Efallai bod yr aelodau hefyd yn ymwybodol bod DEFRA bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar gynllun drafft newydd, sy’n bodoli ochr yn ochr â'r strategaeth ledled y DU. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y nod penodol o sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer nitrogen deuocsid ar ffyrdd penodol yn yr amser byrraf posibl. Mae'r cynllun drafft hwn yn canolbwyntio ar un agwedd bwysig ar ansawdd aer ac nid yw'n cymryd lle strategaeth ansawdd aer presennol y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft ar gyfer nitrogen deuocsid yn cau ar 15 Mehefin.

Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau arwyddocaol newydd gan Lywodraeth Cymru i ymgynghori, o fewn y 12 mis nesaf, ar fanylion y cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân i Gymru. Mae'r datblygiad newydd allweddol yn un o nifer o ddarnau pwysig o waith y byddwn yn ei wneud ar bwnc ansawdd aer yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae eraill yn cynnwys gwneud newidiadau i ‘Bolisi Cynllunio Cymru’ mewn cysylltiad ag ansawdd aer, gweithredu'r gwelliannau a gytunwyd yn ddiweddar i reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru ac adolygu beth arall y gellir ei wneud mewn cysylltiad â’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Fodd bynnag, rwy’n siomedig ag agweddau ar ymrwymiadau drafft Llywodraeth y DU yn y cynllun nitrogen deuocsid, o ystyried y diffyg gwybodaeth yn yr ymgynghoriad ar ba gamau pellach a fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag allyriadau yn y DU. Er enghraifft, y tu hwnt i Gymru, mae nifer o feysydd o weithgaredd sydd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn gostwng allyriadau cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ac eraill wedi galw ar Lywodraeth y DU i lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai'n rhoi grantiau i ostwng cost cerbyd allyriadau isel i berchennog sy’n sgrapio eu cerbyd diesel.

Pryder mawr arall â gwelliant 44 yw bod y drafftio yn ddiffygiol gan na roddir unrhyw ddiffiniad o gyrff cyhoeddus. Mae hyn yn broblem mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, o safbwynt ymarferol, nid yw'n glir pwy sy'n dod o dan y term ‘corff cyhoeddus’. Gallai hyn arwain at ddryswch. Gallai diffyg eglurder ynghylch cwmpas y dyletswyddau arwain at gyrff cyhoeddus yn torri’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i'r strategaeth llygredd aer a osodwyd arnynt gan welliant 44, a hynny’n gwbl anfwriadol. Pan fydd dyletswydd gyfreithiol yn cael ei gosod, mae angen cael sicrwydd ynghylch ei chwmpas ac nid yw’r gwelliant hwn yn darparu hynny.

Yn ail, ac yn bwysicach, mae drafftio gwelliant 44 y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fel y'i drafftiwyd, byddai'r cyfeiriad at gyrff cyhoeddus yn cynnwys cyrff cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau Gweinidog y Goron. Byddai angen cydsyniad Llywodraeth y DU i osod dyletswydd o'r fath ar y cyrff cyhoeddus hyn. Os caiff y gwelliant fel y'i drafftiwyd ei basio, gallai arwain at atgyfeiriad, a fyddai'n achosi oedi wrth ddod i rym a gweithredu darpariaethau iechyd y cyhoedd mawr eu hangen eraill a geir yn y Bil hwn.

Am yr holl resymau hyn, ni allaf gefnogi unrhyw un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ond byddwn yn tawelu meddwl yr Aelodau ynghylch y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn drwy'r gwahanol weithgareddau yr wyf wedi'u hamlinellu.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl a chroesawu yn rhannol o leiaf yr hyn a ddywedodd am rai o'r camau sydd wedi eu cymryd. Ceisiaf ailddatgan fy nadleuon mewn ffordd fwy argyhoeddiadol i Angela Burns ac o bosibl i Caroline Jones.

Gwelliant 45—credaf ei bod yn bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan ei bod yn bwriadu, fel y dywedodd y Gweinidog rwy’n meddwl, cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar gyfer cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd byrddau iechyd lleol, cyfarwyddwyr amddiffyn y cyhoedd awdurdodau lleol, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’w hannog i gefnogi cyflwyno dulliau rheoli ansawdd aer lleol. Felly, rwy’n credu bod peth o’r ddyletswydd hon eisoes yn yr arfaeth. Rwy’n cyfaddef bod hyn yn ymagwedd fwy statudol, ond mae rhywfaint o hynny wedi'i wneud eisoes. Hoffwn hefyd dynnu sylw pawb, mewn gwirionedd, at y ffaith bod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn credu y gallai hyn yn wir arbed arian yn yr hirdymor. Nid yw'r gwelliant ei hun yn pennu dull ar gyfer rhoi rhybuddion—os gallaf eu galw’n hynny. Felly, efallai’n wir mai awdurdodau lleol fyddai’r dull o’u darparu; dim ond rhwymedigaeth ydyw ar y byrddau iechyd i baratoi y wybodaeth honno. Mae'n debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn Llundain, lle mae'n cael ei weld fel rhan bwysig iawn o fyw yn y ddinas honno: eich bod yn gwybod beth yw eich iechyd cyhoeddus pan fyddwch yn cerdded allan drwy'r drws, pa ardal sy’n llygredig neu beidio. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, fel y dywedais, yn dweud y gallai hyn leihau'r risg o waethygu anochel ar gyfer y rhai hynny sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau ysgyfaint cyffredin eraill ac, felly, byddai o bosibl yn lleihau nifer y bobl sy’n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy’n meddwl bod yna ffordd o geisio sicrhau bod hyn yn ddull fforddiadwy a rhesymol o sicrhau nad yw pobl yn agored o ran eu hiechyd eu hunain neu iechyd eu plant i lygredd aer gwael iawn yn ddiangen.

Gwnaeth yr Aelod ei hun grybwyll Hafodyrynys, lle mae llygredd aer gwael iawn yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod yna bedair ardal yng Nghymru: mae Hafodyrynys yn un; Aberpennar yn un arall; a rhywle yn Abertawe, rwy’n meddwl, o amgylch y stryd fawr yn Abertawe, wrth yr orsaf, yn drydydd. Ni allaf gofio’r pedwerydd ar hyn o bryd. Byddwn i wir yn meddwl pe byddech chi’n gofyn i bobl sy’n cerdded yn yr ardaloedd hynny, ‘Beth yw'r llygredd aer yma? A yw'n ddiogel neu beidio?’ Nid wyf yn credu y byddent yn gallu eich ateb chi, ac rwy’n meddwl mai dyna'r wybodaeth y mae angen i ni ei chael allan yno fel y gallant gymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd.

Rwy'n meddwl mai’r ddadl gyffredinol, a’r rheswm nad wyf wedi fy argyhoeddi’n llwyr gan ymateb y Gweinidog, yw ein bod wedi cael proses ar gyfer ymdrin ag ansawdd aer ers peth amser yng Nghymru bellach. Mae gennym 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer—dim gwelliant sylweddol yn yr ardaloedd hynny, fel arall byddai rhai ohonynt wedi cael eu diddymu neu eu newid mewn rhyw ffordd. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw ein system bresennol yn gweithio mewn ardaloedd o lygredd aer uchel, fel y crybwyllodd Angela Burns. Yn wir, rwy'n credu nad yw'n ddigon i ddibynnu ar Lywodraeth y DU i gynhyrchu ei statud ei hun ac yna, mewn rhyw ffordd, plethu’r darnau sy’n berthnasol i Gymru yn hwnnw.

Mae adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol 2016 gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod torri targedau allyriadau yn fygythiad i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol. Felly, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’r ffaith ei fod eisoes mewn deddfwriaeth amgylcheddol yn rheswm dros beidio â’i roi mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Yn wir, mae'n ffordd dda iawn o gau’r cylch hwnnw, mewn ffordd, ac mae'n ffordd dda iawn o sicrhau bod uchelgeisiau mewn deddfwriaethau blaenorol, fel Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac yn fanwl mewn statud.

Y pwynt olaf, os caf: mae yna fater cyfiawnder cymdeithasol i hyn. Mae'r meysydd sydd eisoes wedi eu crybwyll sy’n dioddef o ansawdd aer gwael, efallai y byddwch yn sylwi, hefyd yn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol go iawn. Mae Huw Brunt, pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal astudiaeth o lygredd aer, amddifadedd ac iechyd, ac roedd hwnnw’n dangos bod canlyniadau iechyd pobl sy'n byw mewn amddifadedd hyd yn oed yn waeth pan oeddynt yn byw mewn ardaloedd o lygredd aer uchel. Roedd Mr Brunt yn dadlau dros ddull effeithiol o reoli ansawdd aer, un sy'n cyfuno camau gweithredu ar lefel genedlaethol i asesu a lleihau risgiau i bawb, ac ymyrraeth ar lefel leol, wedi'i thargedu mewn cymunedau risg uchel i leihau llygredd aer ac anghydraddoldebau iechyd. Dim ond heddiw, mae astudiaeth a ddyfynnwyd yn y ‘Times’, ar gyfer yr Unol Daleithiau, yn nodi bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd â’r llygredd aer gwaethaf tua 10 y cant yn fwy tebygol o gael canser, sy’n fwy o effaith ar gyfraddau canser na dŵr brwnt a chemegau gwenwynig.

Felly, byddwn yn dadlau, ac mae Plaid Cymru yn dadlau, heb strategaeth genedlaethol yng Nghymru ar lygredd aer, mae Llywodraeth Cymru yn methu â chyflawni ei thargedau ei hun o sicrhau Cymru iachach, fwy cydnerth, fwy cyfartal a mwy ymatebol yn fyd-eang.

Os na dderbynnir gwelliant 44, bydd gwelliannau 47 a 43 yn methu. Os na dderbynnir gwelliannau 44, 45 a 46, bydd gwelliant 42 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 44 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 44: O blaid 23, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 44.

Methodd gwelliannau 47 a 43.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Simon Thomas).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 45? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn felly i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal, a 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 45: O blaid 19, Yn erbyn 28, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 45.

Cynigiwyd gwelliant 46 (Simon Thomas).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 46 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 46: O blaid 24, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 46.

Methodd gwelliant 42.

Grŵp 10: Canllawiau ynghylch Mynd i mewn i Anheddau (Gwelliannau 30, 31)

Mae’r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud â chanllawiau ynglŷn â mynd i mewn i anheddau. Gwelliant 30 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am welliannau eraill yn y grŵp. David Melding.

Cynigiwyd gwelliant 30 (David Melding).

Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliant 30 yn fy enw i ac yr wyf yn siarad hefyd ynglŷn â fy ngwelliant 31.

Mae gwelliant 30 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau gorfodi, cwnstabliaid a swyddogion awdurdodedig ar fynd i mewn i eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, hynny yw, cartrefi pobl, o dan y Bil. Mae'n deillio o argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y Bil a phryder na fydd cynllun cyfathrebu y Bil yn ddigon trylwyr o ran sicrhau bod swyddogion gorfodi yn gwbl sicr o’u rhwymedigaethau hawliau dynol. Y prif hawliau dynol dan sylw yng nghyd-destun cartrefi pobl yw erthygl 8, sy'n darparu ar gyfer yr hawl dynol i barch at y cartref a bywyd preifat a theuluol, ac erthygl 1 o brotocol 1, sy'n darparu’r hawl dynol i fwynhau eiddo yn heddychlon.

Mae'r gwelliant, felly, yn cyflwyno gofyniad penodol i’r canllawiau gynnwys y ddau hawl dynol hynny. Gall y canllawiau bob amser gynnwys canllawiau ehangach eraill ar bwerau i fynd i mewn i gartrefi pobl, ond mae'n rhaid iddynt gynnwys canllawiau ar gyfer y ddau hawl dynol hyn, oherwydd eu bod yn berygl gwirioneddol iawn neu fod perygl gwirioneddol iawn, yn hytrach, y gellid torri’r hawliau dynol hyn pan fydd pwerau mynediad yn cael eu defnyddio.

Rwy’n derbyn bod rhai mesurau diogelu wedi’u cynnwys yn y Bil. Er enghraifft, mae'n rhaid i ynad heddwch gyflwyno gwarant i fynd i mewn i annedd, ac yn dilyn pwysau gan y pwyllgor, gwnaeth y Gweinidog gytuno y bydd awdurdodau gorfodi bob amser yn gyrff cyhoeddus. Mae hynny'n ddatblygiad sylweddol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant yn rhoi cyfle i fynd ymhellach trwy ddarparu ar gyfer canllawiau wedi'u targedu y gall awdurdodau gorfodi ddod o hyd iddynt, a’u darllen, a’u deall a’u rhoi ar waith yn rhwydd. Mae hynny'n mynd i graidd y gwelliant, eu bod ar gael yn rhwydd i swyddogion gorfodi sydd fel arfer yn weithwyr yr awdurdod lleol, ac efallai na fyddant yn wybodus iawn am y maes a'r rhwymedigaethau a grëwyd gan y gyfraith hawliau dynol.

Mae'r gwelliant yn cynnwys yr holl bwerau mynediad o dan y Bil, nid dim ond y pwerau mynediad sy'n berthnasol i'r gwaharddiad ysmygu yn Rhan 2 o’r Bil. Felly, y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y gwelliant yw pwerau mynediad sy'n berthnasol i'r gwaharddiad ysmygu, cofrestru manwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, y drefn drwyddedu ar gyfer gweithdrefnau arbennig, megis aciwbigo, tyllu'r corff, tatŵio ac electrolysis, a’r drosedd o roi twll mewn rhan bersonol o gyrff pobl o dan 18 oed. Yn fy marn i, ni fyddai ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau yn y cyd-destun penodol hwn yn bwrw amheuaeth mewn unrhyw ffordd ar ddeddfwriaeth arall nad yw'n cynnwys dyletswydd i gyhoeddi canllawiau.

Yn ei llythyr i'r pwyllgor ar 10 Mawrth, awgrymodd y Gweinidog y bydd cyrff cyhoeddus yn gweld bod dyletswydd i gyhoeddi canllawiau ac yn drysu ynghylch gweithrediad deddfwriaeth arall nad yw'n cynnwys y ddyletswydd hon i gyhoeddi canllawiau. Mae'n debyg bod gan y Gweinidog weledigaeth y bydd swyddogion gorfodi a gweision cyhoeddus perthnasol eraill yn cyfarfod o bryd i'w gilydd er mwyn trafod yr ystod eang gyfan o ddeddfwriaeth, yn arbennig yr hyn sy’n ymwneud â hawliau dynol, gan nodi bod angen penodol am ganllawiau yn y maes hwn oherwydd peryglon y bydd gweithdrefnau gorfodi yn torri hawliau dynol, ac yna nodi nad yw amodau tebyg i’w gweld mewn deddfwriaeth flaenorol, ac felly bod hyn rywsut yn eu gwneud yn ofnadwy o ddryslyd. Rwyf yn ei gwahodd i wneud rhywfaint o synnwyr o’r diffyg cysylltiad hwnnw yr wyf i newydd ei ddisgrifio.

Mewn llythyr dilynol, dyddiedig 18 Ebrill, dywedodd y Gweinidog hefyd fod gan y gwelliant

y potensial i fwrw amheuaeth ar gydlyniad cyffredinol y gyfraith, ac ar weithredu'r cyfyngiadau penodol ar y defnydd o'r pwerau.

Rwy’n ystyried y rhan ddiwethaf ychydig yn fygythiol, ond rwyf o’r farn bod y sylw cyfan ac ymateb y Gweinidog i'r gwelliannau penodol ac adeiladol iawn y gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi bod yn hynod amwys, ac rwy’n credu bod bwrw amheuaeth ar gydlyniad y gyfraith, pe bai’r gwelliant yn cael ei basio, yn anffodus iawn. Efallai y cawn dynnu sylw'r Cynulliad i ddyfarniad y Goruchaf Lys a gyhoeddwyd y llynedd yn achos y Christian Institute ac eraill yn erbyn Arglwydd Adfocad yr Alban, lle’r oedd y dyfarniad a gyhoeddwyd gan y Goruchaf Lys yn rhybuddio rhag peryglon cael deddfwriaeth sy’n dibynnu dim ond ar sicrhau bod awdurdod cyhoeddus yn ymwybodol o'i rwymedigaethau hawliau dynol. Ac ym mharagraff 101 y dyfarniad hwnnw, dywedodd y Goruchaf Lys fod angen canllawiau er mwyn lleihau'r risg o ymyrraeth anghymesur sy'n torri hawliau dynol. Allwn i ddim meddwl am ddiffiniad gwell o'r hyn y gallai mynd i gartrefi pobl er mwyn sicrhau gorfodaeth briodol fod, o ran enghraifft well, mewn gwirionedd, o’r perygl a wynebwn yma.

A gaf i ddweud, felly, fod gwelliant 31 yn ymwneud â dechrau'r ddarpariaeth newydd hon? Ac esboniaf i’r Aelodau, os na wneir unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer cychwyn, byddai’r adran newydd hon, os caiff ei chytuno, yn disgyn yn awtomatig o fewn adran 133 (2) o'r Bil, sy'n golygu na fyddai’n dod i rym oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu dod â hi i rym. Diben y gwelliant yw cychwyn yr adran newydd arfaethedig ar ganllawiau ar y diwrnod y mae'r Ddeddf yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, gan roi neges glir bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r canllawiau o fewn cyfnod rhesymol. Rwyf yn cynnig felly.

Diolch. Byddai'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi ar arfer y pwerau mynediad ac archwilio ym mhob rhan o’r Mesur. Byddai'r canllawiau yn ymdrin â sut i sicrhau cydymffurfio â hawliau'r confensiwn o ran eiddo sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd. Mae'r mater hwn wedi ei drafod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gynharach yn y broses o graffu ar y Bil, ac rwyf wedi cyfathrebu â'r pwyllgor ynghylch y pwynt penodol hwn.

Wrth ystyried y gwelliannau, fy man cychwyn i yw fy mod i’n cytuno’n llwyr bod cydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn hollbwysig. Nid wyf yn anghytuno o gwbl felly â’r bwriad sy'n sail i’r gwelliannau, ac rwy’n gwerthfawrogi barn gref David Melding ar hyn. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i amlinellu yn ddiweddar mewn gohebiaeth i'r pwyllgor, rwy’n parhau i fod o’r farn bod gwelliannau penodol sy'n cyfeirio at gydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn y Bil yn ddiangen. Yn bwysig, maent hefyd mewn perygl o beri dryswch yn anfwriadol gan nad yw darpariaethau tebyg wedi eu cynnwys mewn deddfwriaeth arall. Nodaf modd coeglyd David Melding o gwestiynu’r egwyddor hon, ond dyna yw fy marn i o hyd.

Deuthum i'r casgliad hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae awdurdodau cyhoeddus eisoes yn destun dyletswydd statudol gyffredinol o dan adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i weithredu'n gydnaws â hawliau'r confensiwn wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus fel yr heddlu ac awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd iawn â'r gofynion, a dylent weithredu yn unol â hynny. Yn ail, rhoddwyd ystyriaeth briodol eisoes i'r mater hwn yn y Bil. Mae cyfres o gyfyngiadau a chamau diogelu penodol wedi’u cynnwys yn y Bil o ran sut y dylai swyddogion awdurdodedig arfer pwerau mynediad ac archwilio. Er enghraifft, ni chaiff swyddogion awdurdodedig fynd i mewn i eiddo drwy rym oni bai fod ganddynt warant wedi’i llofnodi gan ynad heddwch, ac mae gwarant o'r fath yn ddilys am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig. Atgyfnerthwyd y mesurau diogelu hyn eto yng Ngham 2 pan gytunwyd ar welliannau sy'n darparu diogelwch ychwanegol i berchnogion tai. Mae'r rhain yn helpu i sicrhau y caiff pwerau mynediad eu harfer mewn modd cymesur a phriodol, sy'n arbennig o bwysig wrth ystyried anheddau preifat. Er enghraifft, os bydd deiliad yr eiddo yn bresennol pan fydd warant yn cael ei gweithredu, mae'r Bil yn darparu y byddai angen i'r swyddog awdurdodedig roi ei enw, tystiolaeth ddogfennol ei fod yn swyddog awdurdodedig, a rhoi copi o’r warant i’r deiliad.

Credaf fod mesurau diogelu penodol, ymarferol o'r fath yn darparu gwell ffordd o amddiffyn hawliau unigolion na'r dull a awgrymir yn y gwelliannau hyn. Maent hefyd yn dangos y meddwl a’r gwaith manwl sy'n digwydd o ran ystyriaethau hawliau dynol, a’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r materion hyn. Byddwn i hefyd yn pwysleisio mai’r awdurdodau cyhoeddus fydd yr awdurdodau gorfodi o dan y Bil hwn. Golyga hyn mai dim ond sefydliadau sydd eisoes wedi eu rhwymo gan rwymedigaethau hawliau dynol ac sy’n hyddysg iawn mewn cydymffurfio â nhw fydd yr awdurdodau gorfodi, a fydd, unwaith eto, yn helpu i sicrhau bod y pwerau yn cael eu defnyddio'n briodol.

Mae canllawiau sefydledig eisoes ar waith o dan god ymarfer yr heddlu ar gyfer arfer pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu statudol, a elwir yn Cod B PACE, sy'n ymdrin â'r mater hwn yn ddigonol. Mae hyn yn berthnasol i'r heddlu a swyddogion awdurdodau lleol wrth ymchwilio troseddau, ac mae’n rhoi pwyslais clir ar weithredu yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998. Pe byddai canllawiau ar wahân yn cael eu cyflwyno ar gyfer y Bil hwn, byddai risg sylweddol o beri dryswch yn anfwriadol, ac o fwrw amheuaeth ar gydlyniad cyffredinol y fframwaith deddfwriaethol presennol sydd eisoes wedi’i ymgorffori'n dda ledled Cymru. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Wel, Llywydd, ni fyddwch yn synnu nad wyf i wedi fy argyhoeddi yn llwyr gan amddiffyniad y Gweinidog, mewn gwirionedd, o gyndynrwydd y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth a geir o’r pryderon gwirioneddol iawn. Un o'r ffynonellau a ddyfynnaf yw’r Goruchaf Lys.

A gaf i, fodd bynnag, ddiolch iddi am ei gohebiaeth ac am o leiaf dweud wrthym beth yw safbwynt y Llywodraeth? Roedd hynny’n ddefnyddiol. Roedd y cynnig bod yn rhaid i swyddogion gorfodi fod yn awdurdodau cyhoeddus, yn ddefnyddiol yn fy marn i. Croesawaf hynny hefyd. Ond, wyddoch chi, 'diangen a dryslyd'? Felly, os oes rhywbeth yn bodoli eisoes yn y gyfraith, ni allwch chi fyth wneud datganiad clir am y peth. Os oes rhywbeth blaenorol, ni waeth pryd—wyddoch chi, daw PACE o'r 1980au, rwy'n credu, yn wreiddiol—ni allwch ei ddatgan oherwydd y gallai drysu’r rhai sy’n darllen y gyfraith newydd hon, oherwydd, wrth gwrs, byddant yn chwilio trwy’r ddeddfwriaeth sy’n frith yn y llyfrau statud—peth ohoni yn ddegawdau oed. Yn wir, does bosib y gall hyn gael ei dderbyn yn wrthwynebiad difrifol i'r hyn y byddwn i’n gobeithio fyddai’n broses ddeddfu resymol? Mae hyn i mi yn dorcalonnus.

Ac yna’r busnes hwn am y ffaith bod awdurdodau cyhoeddus eisoes wedi eu nodi a bod modd peri dryswch, ond maent eisoes yn cael eu nodi o dan rwymedigaethau cyffredinol. Glywsoch chi yr hyn a ddywedais am ddyfarniad y Goruchaf Lys yn dweud na allwch chi ddibynnu ar y dybiaeth honno, a bod yn rhaid i chi ddatblygu mewn canllawiau ddealltwriaeth glir o gamau gweithredu penodol a allai amharu ar hawliau dynol? Fel o dan y Bil arfaethedig hwn, mae pwerau gorfodi yn gorffwys gyda phobl mewn awdurdodau lleol sy’n mynd i mewn i gartrefi pobl, gan ein bod yn siarad, fel arfer, am ymarferwyr eithaf bach a allai fod yn defnyddio eu cartrefi fel rhan o'u heiddo. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i’n credu y gallwn ni ddisgwyl ychydig yn well na diystyraeth syml pan fyddwn yn defnyddio awdurdod fel y Goruchaf Lys.

Ac yna, PACE. A gaf i—? Mi wnes i ragweld y gellid defnyddio hyn fel amddiffyniad braidd yn anobeithiol gan y Llywodraeth: Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a'i chodau. Yr hyn y mae'r Gweinidog yn sôn amdanynt yn bennaf yw’r codau ar gyfer swyddogion yr heddlu, a luniwyd i ddangos sut i ymateb mewn sefyllfaoedd penodol y mae swyddogion yr heddlu yn aml yn dod ar eu traws wrth arfer eu dyletswyddau pwysig. Rydym yn sôn am awdurdodau lleol a’r bobl sy'n gweithio iddynt, sy’n swyddogion gorfodi dynodedig. Nid swyddogion yr heddlu mohonynt. Ni allwn gymryd yn ganiataol y byddai ganddynt yr wybodaeth fanwl a’r hyfforddiant y mae swyddogion yr heddlu yn eu cael drwy PACE, a gyflwynwyd yn wreiddiol oherwydd arferion gwael ac anghyson, ac, yn anad dim, mae’r gofynion yn PACE yn frith drwyddo. Nid oes dim yn PACE sy'n dweud sut i ymddwyn yn briodol wrth orfodi rhwymedigaethau o dan Fil iechyd y cyhoedd neu Ddeddf iechyd y cyhoedd a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf yn credu mai gwaith y Llywodraeth weithiau yw mynd ati’n wirioneddol i brofi a chraffu ar ei chyngor ei hun a gaiff gan ei chynghorwyr, ac yn yr achos hwn, yn fy marn i, rydych chi’n ddiffygiol dros ben.

Os na dderbynnir gwelliant 30, bydd gwelliant 31 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad]. Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, pedwar yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 30 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 30: O blaid 20, Yn erbyn 26, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 30.

Methodd gwelliant 31.

Cynigiwyd gwelliant 28 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad?

No objection.

Derbyniwyd gwelliant 28, felly.

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae’n ddrwg gen i, rydw i nawr wedi cymysgu. Gwelliant 29, Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 29 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 29.

Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 5 (Rebecca Evans).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhun ap Iorwerth).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ac fe rydym ni yn awr wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rwy’n datgan felly y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi’u derbyn.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daw hynny, felly, â thrafodion Cyfnod 3 â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:38.