Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/05/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Gwasanaethau Cymdeithasol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(5)0573(FM)

Mae gofal cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol. Mae’r maes wedi cael ei amddiffyn trwy fuddsoddi £55 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer 2017-18, ynghyd â £60 miliwn i’r gronfa gofal integredig.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac, yn bellach i hynny, a allaf i ofyn pa fesurau sydd mewn lle, dan law Llywodraeth Cymru, i sicrhau cyflenwad digonol o wasanaethau gofal yn y cartref i’n henoed ni, a’r sawl efo anableddau, o gofio’r galw cynyddol am y gwasanaethau yma a’r prinder arian i’w darparu i ddiwallu’r angen cynyddol yma?

Wrth gwrs, rwyf wedi sôn am y gronfa gofal integredig a’r arian sydd wedi cael ei fuddsoddi yn hwnnw, a’r arian newydd sydd wedi cael ei ddatgan yn barod. Rydym ni’n gweld hwn yn cael effaith, wrth gofio am y ffaith ynglŷn â throsglwyddo o’r ysbyty i ofal, a bod unrhyw fath o oedi ynglŷn â hynny wedi mynd lawr i’w lefel isaf am 12 mlynedd.

Prif Weinidog, roeddech chi eisoes yn gwybod fy mod yn flin bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri £2 filiwn o'i gyllideb gofal cymdeithasol, er gwaethaf £2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac, yn wir, arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd. Nawr, dywedodd eich Gweinidog wrthyf ychydig cyn y toriad y byddai rhywfaint o arian yn amodol wrth iddo fynd i gynghorau—na fyddai arian yn mynd iddyn nhw oni bai y gellid dangos y byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cymdeithasol yn hytrach na blaenoriaethau eraill. Nawr, gwn y byddwch chi wedi archwilio'r holl gyllidebau cyngor yng Nghymru, felly a allwch chi ddweud wrthyf, ydych neu nad ydych, pa un a ydych chi’n sicr y bydd yr holl arian y mae'r Gweinidog wedi ei neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cymdeithasol ac nid ar gyfer blaenoriaethau sy'n cystadlu?

'A oes etholiad ddydd Iau?', gofynnaf i mi fy hun. Rwy'n siŵr bod hynna i gyd yn ymwneud â'r cwestiwn a ofynnwyd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: rwy’n meddwl bod awdurdodau ledled Cymru wedi gwneud yn dda iawn o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol, er gwaethaf y toriadau sydd wedi dod gan ei phlaid hi, a’i phlaid hi mewn Llywodraeth yn Llundain yn wir. Rydym ni wedi gweld yr argyfwng ym maes gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae hwnnw’n argyfwng nad ydym ni wedi ei gael yng Nghymru oherwydd y buddsoddiad yr ydym ni wedi ei wneud mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru ac, wrth gwrs, yr £20 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eisoes. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw mewnforio y math hwnnw o anhrefn i Gymru.

Prif Weinidog, yn sgil cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gwelsom gynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, er gwaethaf rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud heddiw. Yn arbennig, rwy’n sôn am y ganolfan ddiogelu amlasiantaeth yn ardal Cwm Taf, a chanolfan iechyd Keir Hardie. A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un o flaenoriaethau cynnar unrhyw gyngor newydd sy'n dod i fodolaeth ar ôl 4 Mai ddylai fod adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed hyd yma gan gynghorau Llafur presennol, fel y gwaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?

Rwy'n canmol gwaith cyngor Merthyr yn fawr iawn, ac edrychaf ymlaen at y gwaith hwnnw’n parhau yn yr wythnosau nesaf i ddod.

Prif Weinidog, rydym ni’n prysur agosáu at bwynt lle mae gofal cymdeithasol yn anfforddiadwy, ac, oni bai ein bod ni’n cymryd camau brys, rydym ni’n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y galla’r system chwalu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu â chymryd y boblogaeth sy'n heneiddio i ystyriaeth a chynllunio'n briodol ar gyfer galw yn y dyfodol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut i sicrhau bod gan y sector gofal cymdeithasol ddigon o arian i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bawb sydd ei angen nawr ac yn y dyfodol?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig yn hynny o beth. Rydym ni’n gwybod bod galw yn parhau i gynyddu, ac mae’n rhaid cael trafodaethau yn y gymdeithas o ran sut y gellir bodloni’r galw hwnnw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael trafodaethau rhwng Llywodraethau’r DU, gan fod pobl yn symud rhwng gwledydd y DU, ond rydym ni wedi sicrhau bod digon o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Rydym ni wedi cynyddu’r cyllid hwnnw. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod o bwysig yn yr hirdymor i feddwl yn ofalus am sut y dylid ariannu gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.

Ysgol Feddygol i Ogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer ysgol feddygol i ogledd Cymru? OAQ(5)0562(FM)[W]

Mae gwaith ar y gweill i benderfynu ar y dull priodol o fynd ati i sicrhau addysg a hyfforddiant meddygol cynaliadwy yn y gogledd, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae’r achos dros gael ysgol feddygol i wasanaethau’r gogledd, a rhannau gwledig ein gwlad, yn glir a chadarn. Fe fydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario dros £21 miliwn ar gyflogi staff meddygol o asiantaethau preifat yn yr 11 mis hyd ddiwedd Chwefror eleni. Ac mae’r coleg—y Royal College of Physicians—yn crynhoi’r sefyllfa mewn un frawddeg:

‘There are simply not enough doctors out there’.

Byddai sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn rhan o’r broses o hyfforddi’r doctoriaid ychwanegol sydd eu hangen yng Nghymru. Felly, pryd yn union fydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi, a phryd fydd y camau sydd eu hangen i sefydlu’r ysgol feddygol yn cael eu rhoi ar waith?

Wel, fel y dywedais i, bydd yna ddatganiad yn yr wythnosau nesaf. Bydd y Gweinidog yn ystyried hyn yr wythnos hon a’r wythnos nesaf, felly bydd yna ddatganiad yn dod yn weddol gyflym. Ond mae’n hollbwysig i sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn gynlluniau sydd yn gynaliadwy yn y pen draw, ac mae hyn yn rhan o’r ystyriaeth sydd yn cael ei rhoi i’r mater hwn.

Mae blynyddoedd lawer ers i mi drafod gyntaf yr angen am ysgol feddygol ym Mangor gyda'i his-ganghellor blaenorol, ac rwyf wedi parhau i gael y trafodaethau hynny ers hynny. Mae tair blynedd ers i Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru rybuddio, mewn cyfarfod yn y Cynulliad, bod ymarfer cyffredinol yn y gogledd, yn eu geiriau nhw, yn wynebu argyfwng, yn methu â llenwi swyddi gwag, gyda meddygon teulu yn ystyried ymddeol. A thynnwyd sylw ganddynt at y ffaith bod y cyflenwad blaenorol o ysgol feddygol Lerpwl wedi cael ei dorri i raddau helaeth, o’r lle yr oedd eu cenhedlaeth nhw wedi dod yn bennaf. O ystyried eich bod wedi cytuno i wneud yr achos busnes dros ysgol feddygol newydd ym Mangor, sut gwnewch chi sicrhau bod hynny'n cynnwys deialog gyda Lerpwl, ochr yn ochr â Bangor, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw meddygon lleol yn lleol?

Wel, y broblem, wrth gwrs, yw bod Bangor mewn ardal lle mae'r boblogaeth yn eithaf bach, o’i chymharu â chanolfannau eraill lle y ceir ysgol feddygol. Felly, ceir problemau o ran sut y gallai ysgol feddygol o'r fath weithio'n agos gydag ysgolion meddygol eraill—yng Nghymru, neu yn Lloegr, neu yn rhywle arall, o ran hynny. Yr hyn sy'n hynod o bwysig yw bod unrhyw ysgol feddygol yn gynaliadwy, a'i bod yn gweithio'n agos ag eraill er mwyn sicrhau bod y cynaliadwyedd hwnnw yno yn y dyfodol.

Bydd graddedigion yn dod yn ôl i weithio yng Nghymru os yw’r awydd a’r gallu ganddynt i wneud hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen hefyd i'r Llywodraeth edrych ymhellach ar ffyrdd y gall wella’r cynnig bywyd i bobl y gogledd, gan fod yr ymadawiad hwn o dalent yn dangos, yn rhy aml, bod y rhai sy'n symud allan o Gymru i hyfforddi neu weithio yn aml yn gwneud hynny’n barhaol?

Wel, mae’r ymgyrch sydd gennym ni ar waith i recriwtio staff meddygol yn gweithio'n dda. Rydym ni wedi cael llawer iawn o ddiddordeb gan bobl ym mhob maes meddygaeth. Yn y pen draw, mae ffordd o fyw yn bwysig i bobl, ond mae her broffesiynol yn bwysig. Mae pobl eisiau mynd i rywle lle bydd eu gwaith yn ddiddorol iddynt, lle maen nhw’n teimlo y byddant yn cael eu herio o safbwynt meddygol, ac, wrth gwrs, maen nhw eisiau byw yn rhywle lle maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae'r ymgyrch yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith wedi amlinellu’r holl faterion hyn i ddarpar ymarferwyr meddygol sy'n dymuno dod i Gymru, ac mae'r ymateb wedi bod yn galonogol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Diane Abbott, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, wedi cyhoeddi bod y Blaid Lafur yn bwriadu recriwtio 10,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru a Lloegr, a fyddai'n golygu bron i 1,000 yn ychwanegol yng Nghymru. Ond, roedd hi braidd yn aneglur ynghylch cost y cynnig hwn, gan gyhoeddi’n gyntaf oll ei fod yn mynd i gostio £300,000, a fyddai'n gyflog cyfartalog o £30 i blismon. Yn ail, aeth i fyny i £8,000 y flwyddyn—£80 miliwn. Efallai y gallai'r Prif Weinidog gynnig ei farn ei hun ar hygrededd y polisi hwn, a beth yw'r ffigurau gwirioneddol.

Rwy'n credu ei bod hynod bwysig ein bod ni’n gweld mwy o heddweision ar y strydoedd, mwy o swyddogion yr heddlu—10,000 ohonynt. Rwy'n credu y bydd pobl yn sicr yn cefnogi hynny. Gofynnodd y cwestiwn o ble y daw'r arian. Mae’n eithaf syml—£300 miliwn y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd; £2.7 biliwn yw’r pot a fydd yn cael ei greu trwy ailgyflwyno’r lefelau blaenorol o dreth enillion cyfalaf. Felly, £1.5 biliwn, gydag £1.2 biliwn yn weddill. Dyna'r fathemateg.

Wel, mae’n amlwg nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y cynyddwyd treth enillion cyfalaf, yn 2010. Oherwydd, yn 2010, codwyd cyfradd y dreth enillion cyfalaf o 18 y cant i 28 y cant. Ac, er ei bod yn codi £8.23 ​​biliwn y flwyddyn cyn 23 Mehefin 2010, cododd £3.3 biliwn y flwyddyn ar ôl 23 Mehefin 2010. Felly, mewn gwirionedd, roedd toriad i refeniw’r dreth enillion cyfalaf o £4.9 biliwn y flwyddyn. Felly, sut bydd y cynnydd hwn i niferoedd plismyn yn cael ei dalu amdano gyda llai o refeniw treth?

Wel, y cwbl mae’n ei wneud yw dychwelyd y gyfradd i’r hyn yr oedd hi o’r blaen—o 20 y cant i 28 y cant ar y lefel uwch, ac o 18 y cant i fyny ar y lefel is. Dyna’r ffordd y bydd hyn yn cael ei dalu amdano. Y cwbl mae hynny’n ei olygu yw ailgyflwyno cyfradd dreth a oedd yno o'r blaen, nid rhywbeth sy'n newydd.

Y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud i'r Prif Weinidog oedd, o ganlyniad i godi cyfradd y dreth enillion cyfalaf, bod y refeniw a godwyd o’r dreth wedi gostwng, nid cynyddu. Felly, o ganlyniad, lleihawyd y sylfaen dreth gan y gall pobl ohirio troi enillion cyfalaf yn arian. A dweud y gwir, y bobl sydd fwyaf tebygol o fod eisiau gwireddu enillion cyfalaf yw pensiynwyr nad ydynt yn gallu fforddio byw ar eu hincwm. Felly, mae hwn yn gynnydd i dreth mewn gwirionedd sydd yn targedu i raddau helaeth iawn y bobl sy'n gallu fforddio ei thalu leiaf. [Torri ar draws.] Ond efallai fod y cynllun ariannol anllythrennog sydd wedi cael ei roi ger ein bron gan y Blaid Lafur yn rhan o'r cynllun cyffredinol yr ymrwymodd ei hun iddo, yn fy mhresenoldeb i mewn stiwdio deledu yng Nghaerdydd dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, sef cynyddu benthyca gan £500 biliwn y flwyddyn. A yw ef wir yn credu bod hygrededd Llywodraeth y DU yn y marchnadoedd ariannol rhyngwladol yn mynd i gael ei wella gan bolisi mor wirion?

Neil Hamilton ac UKIP—ysgafn ar droseddu. Fe’i clywsoch yma yn y Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Ddim yn cefnogi polisi i gynyddu nifer yr heddweision ar y strydoedd, i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yn ein cymunedau.

Rydym ni wedi egluro sut y bydd hyn yn cael ei dalu amdano—trwy ailgyflwyno’r gyfradd flaenorol o dreth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gweld ei bwynt am bensiynwyr yn colli allan oherwydd treth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gwybod pa un a yw’n sôn am dreth etifeddiant, neu os yw wedi drysu rhwng y ddwy, ond nid wyf yn gweld sut mae hynny'n gweithio. Mae treth enillion cyfalaf yn effeithio ar y bobl hynny sydd â’r mwyaf o arian. Mae’n hollol iawn i ofyn i’r bobl hynny â’r mwyaf o arian i dalu mwy i ariannu ein swyddogion yr heddlu ar y stryd.

Ni fu amser rhatach erioed i fenthyg arian ar farchnadoedd ariannol y byd. Gwnaeth Llywodraeth Lafur y 1940au hyn, gan adeiladu’r gwasanaeth iechyd, adeiladu’r wladwriaeth les ac ailadeiladu economi Prydain o sefyllfa lawer gwaeth na wnaeth y Torïaid.

Mae unigolion yn gwybod os ydych chi eisiau prynu tŷ, mae gennych chi forgais. Rydych chi’n ad-dalu’r morgais hwnnw dros 20 i 30 mlynedd. Mae gennych chi ased ar ei ddiwedd y gallwch ei ddefnyddio fel y dymunwch. Nid ydynt yn deall hynny yn y Blaid Geidwadol. Ni fu gan lawer ohonynt forgeisi erioed, wrth gwrs. Nid ydynt yn gwybod beth yw’r cysyniad. Mae pethau’n cael eu rhoi iddyn nhw ar blât. Felly, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y cyhoedd yn deall eich bod chi’n benthyg er mwyn creu ased sy’n werth llawer mwy wedyn. Mae hynny wedi gweithio i unigolion, bydd yn gweithio i Brydain a dyna'r math o weledigaeth yr ydym ni ei heisiau—gweledigaeth sy'n ailadeiladu Prydain, nid un sy'n gadael iddi lithro.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd dywedasoch nad oedd gan Lafur unrhyw obaith o ennill etholiad cyffredinol. Pam ydych chi wedi neidio oddi ar y llong?

Nid wyf yn siŵr fy mod i’n deall y cwestiwn yna. Gwn fod gan y Blaid Lafur well cyfle i ennill yr etholiad, efallai, na Phlaid Cymru. Ond, o'n safbwynt ni, byddwn yn gweithio'n galed fel, yn wir, yr wyf yn gwybod y bydd ei phlaid hithau’n ei wneud, i sicrhau cymaint o bleidleisiau â phosibl rhwng nawr ac 8 Mehefin.

Yn union yr un wythnos i chi ddweud nad oedd gan Lafur unrhyw obaith o ennill etholiad cyffredinol, ymddiswyddodd un o'ch ASau mainc flaen blaenllaw yn San Steffan gan ddirmygu eich arweinydd, Jeremy Corbyn. Rydych chi wedi ei benodi nawr fel eich cydgysylltydd etholiad ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi gweld pum gwahanol Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid gan y Blaid Lafur ers etholiad diwethaf y DU, pedwar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid yn unig yr ydych chi wedi neidio oddi ar y llong, rydych chi i gyd yn ffraeo dros y badau achub. Prif Weinidog, mae hyn yn aflerwch llwyr. A ydych chi wir yn disgwyl i bobl sydd wedi ymddiried yn eich plaid cyhyd i fod ag unrhyw ffydd yng ngallu eich plaid i amddiffyn Cymru?

Fe wnaethom y llynedd. Dangosodd Llafur Cymru y gallai amddiffyn pobl Cymru y llynedd a phleidleisiodd pobl Cymru fel y gwnaethant, a byddwn yn parhau i wneud yr un fath eleni. O'n safbwynt ni, byddwn yn sefyll dros Gymru yn San Steffan. Nid ydym ni eisiau i’r Torïaid i sathru ar Gymru.

Y fath hunanfodlonrwydd. Prif Weinidog, mae pobl angen plaid genedlaethol Cymru sy'n mynd i warchod buddiannau'r genedl hon, plaid a fydd yn amddiffyn y sefydliad hwn, a fydd yn amddiffyn swyddi Cymru, pensiynau pobl a'n GIG. Nid yw Llafur mewn unrhyw gyflwr addas i amddiffyn Cymru ac felly Plaid Cymru yw plaid genedlaethol Cymru.

Yfory, bydd pleidlais arall eto ar gael gwared ar gontractau dim oriau. Hwn fydd y seithfed tro i ni gael pleidlais ar hyn. Chwe gwaith, mae Llafur a'r Torïaid wedi pleidleisio gyda'i gilydd yn erbyn cynigion Plaid Cymru i roi terfyn ar gontractau dim oriau. Dywedwch wrthyf, Prif Weinidog, a ydych chi’n mynd i'w wneud yn saith gwaith yfory? A fyddwch chi’n pleidleisio gyda'r Torïaid yn erbyn gweithwyr Cymru ac yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru unwaith eto?

Wel, mae wedi bod yn gamsyniad ym Mhlaid Cymru erioed mai Plaid Cymru sy’n sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru. Pe byddai hynny’n wir, byddent yn gwneud yn well o lawer mewn etholiadau nag y maen nhw. Ac rwy’n gresynu at y syniad, rywsut, bod gan un blaid fonopoli ar wladgarwch neu o ran amddiffyn buddiannau Cymru. Nawr, gwn, yn anochel, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, ein bod ni’n mynd i gael cwestiynau yn y Siambr hon sy'n effeithio ar yr etholiad cyffredinol; rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Ond rwy’n credu bod pobl yn haeddu cael cwestiynau wedi’u gofyn iddynt am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd os ydych chi yng Nghymru yn y Cynulliad. Mae contractau dim oriau yn broblem. Nid ydym yn cefnogi contractau dim oriau. Mae hi’n ceisio awgrymu, rywsut, mewn egwyddor, ein bod ni’n meddwl eu bod nhw’n rhywbeth da. Nid ydym yn credu eu bod nhw’n rhywbeth da, ond am unrhyw nifer o resymau dros yr ychydig achlysuron diwethaf mae hi’n gwybod y bu problemau’n ymwneud â’r hyn y mae Plaid Cymru eisiau ei wneud a fyddai, mewn rhai achosion, yn peryglu hynt deddfwriaeth oherwydd y diffyg eglurder ynghylch cymhwysedd datganoledig. A realiti'r sefyllfa yw ein bod ni wedi arwain y ffordd pan ddaw i gael gwared ar gontractau dim oriau: rydym ni wedi gwneud hynny mewn Llywodraeth, rydym ni wedi gwneud hynny mewn sefydliadau a ariennir gan y Llywodraeth. Mae hi wedi siarad; rydym ni wedi gwneud.

Diolch i chi, Llywydd. A gaf i yn gyntaf oll groesawu'r clerc newydd i'r Cynulliad? Dyma ei sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog gyntaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf y byddwch chi yn y swydd a wnaed mewn ffordd mor glodwiw gan Claire Clancy. Prif Weinidog, rydych chi newydd ddweud eich bod chi eisiau i gwestiynau gael eu gofyn i chi sy'n berthnasol i'r lle hwn, ac rwyf eisiau sôn am adroddiad yr archwilydd cyffredinol yr wythnos diwethaf am Gylchffordd Cymru a chyllid Cylchffordd Cymru, ac, yn benodol, y pwyntiau a wnaed gan yr archwilydd cyffredinol ar arian Llywodraeth—arian Llywodraeth Cymru—yn cael ei ddefnyddio i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr. A yw hynny'n ddefnydd da o arian trethdalwyr Cymru: gwerth £300,000 o arian trethdalwyr Cymru i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr wedyn? Ac, os nad yw'n ddefnydd da o arian trethdalwyr Cymru, a wnewch chi ymddiheuro am hynny?

Edrychwch, rydym ni newydd gael adroddiad yr wythnos diwethaf lle dangoswyd bod y gronfa cyffuriau canser wedi gwastraffu £1 biliwn o arian cyhoeddus. Felly, nid wyf yn mynd i gymryd gwersi am hynny gan y blaid Geidwadol. [Torri ar draws.] Gofynnodd y cwestiwn, a'r ateb, yn eithaf syml, yw hyn: pryd bynnag y bydd gennym ni brosiect fel Cylchffordd Cymru, bydd risgiau. Mae’n rhaid rheoli’r risgiau hynny yn dderbyniol. Mae Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn bosibl. Rydym ni’n edrych i weld a ellir llunio model i fwrw ymlaen â’r prosiect, ac rydym ni’n credu y byddai pobl Blaenau Gwent a phobl Cymru yn disgwyl i ni wneud hynny. Yn anochel, pryd bynnag y bydd unrhyw fath o brosiect, ceir risg. Mae banciau yn gwneud hyn. Pan fydd banciau yn benthyca arian, maen nhw’n cydnabod bod lefel o risg, ond mae’n rhaid i’r risg honno fod yn dderbyniol. Mae’r un fath i Lywodraeth.

Dyna'r ateb rhyfeddaf i mi ei gael gennych yn y chwe blynedd yr wyf i wedi sefyll yma, Prif Weinidog. Gofynnais gwestiwn syml i chi am arian Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr—£300,000 y gwnaeth yr archwilydd cyffredinol, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ganddo yr wythnos diwethaf—. Ac rydych chi wedi galw am gwestiynau sy'n berthnasol i chi yn eich swydd fel Prif Weinidog, ac nid ydych chi’n credu y bydd angen i chi egluro hynny, na hyd yn oed ymddiheuro am y ffaith honno. Yn ail, amlinellodd yr adroddiad sut y gwnaeth swyddogion dynnu sylw Gweinidogion at y ffaith eu bod yn credu y byddech chi’n torri rheolau cymorth gwladwriaethol trwy ganiatáu’r gwarant benthyciad o £7.3 miliwn i gael ei gyflwyno, ac yna ei dynnu allan. Nawr, rhoddodd swyddogion y cyngor hwnnw i Weinidogion. Ni allai’r archwilydd cyffredinol ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth i wrth-ddweud y cyngor hwnnw a roddwyd i Weinidogion. Felly, pam wnaeth Gweinidogion roi arian Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru mewn perygl, ac achosi’r posibilrwydd o achos diffyg cydymffurfio gan y Comisiwn Ewropeaidd gan eich bod chi’n torri rheolau cymorth gwladwriaethol?

Nid yw ef yn deall y ffordd y mae rheolau cymorth gwladwriaethol yn gweithio. Fel rheol, pan fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn cael eu torri, y derbynnydd sy'n ad-dalu, nid y Llywodraeth. O'n safbwynt ni, byddwn yn asesu'r sefyllfa i weld bod y risg yn dderbyniol. Dau beth y mae'n rhaid eu dweud am Gylchffordd Cymru: yn gyntaf, nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud nad yw hwn yn brosiect gwerth ei gefnogi, ac nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud ychwaith bod Cylchffordd Cymru yn sefydliad busnes heb unrhyw asedau, yn groes i’w Aelod Seneddol ei hun, David Davies, a'r hyn y mae ef wedi ei ddweud. Oes, yn ystod y gwaith o ddatblygu Cylchffordd Cymru, ceir asesiad o risg. Caiff penderfyniadau eu gwneud i dderbyn y risg honno os ystyrir bod angen, ac yna, wrth gwrs, rydym ni’n symud ymlaen i weld a all Cylchffordd Cymru droi’n realiti. Dyna beth mae Llywodraethau yn ei wneud: edrych ar risg a gwneud yn siŵr bod y risg honno’n dderbyniol, oherwydd, yn y pen draw, efallai y bydd y wobr yn un sy'n werth ei chael. Nid ydym ar y cam hwnnw eto; rydym ni’n dal i weithio i weld a all Cylchffordd Cymru lunio’r model cynaliadwy hwnnw.

Prif Weinidog, roedd yr archwilydd cyffredinol yn benodol iawn yn yr hyn yr oedd yn ei ystyried, sef y gyfran hon o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwario hyd yma: £9.3 miliwn. Mae hynny'n swm eithaf sylweddol o arian o safbwynt unrhyw un. Nid oes neb yn dadlau, o bosibl, y gallai'r cynllun cyffredinol gael effaith adfywio enfawr. Ond rydych chi’n atebol am y ffordd y caiff arian ei ddyrannu. Rwyf wedi tynnu eich sylw at ddwy enghraifft yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol: (1) prynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr am £300,000—pa geisiadau wnewch chi eu derbyn os ydych chi’n derbyn ceisiadau fel yna—a (2) eich bod chi wedi torri rheolau cymorth gwladwriaethol trwy gyflwyno gwarant y benthyciad, ac nid ydych chi wedi ymddiheuro am yr un o’r enghreifftiau hynny, ac nid ydych chi wedi eu diystyru i ddweud eu bod yn anghywir. Beth yn union allwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru, o gofio bod llu o enghreifftiau, o Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, pan anwybyddwyd cyngor swyddogion yn llwyr a phan aeth Gweinidogion yn eu blaenau i gael gwared ar dir o werth uchel, ac y diystyrwyd swyddogion yn y broses, a phan gafodd y cyhoedd golled trwy golli arian pan gyflawnwyd gwerthiannau cyffredinol yn CBCA, a’r un enghraifft yw hon, lle mae arian cyhoeddus wedi ei roi yn y fantol, fel y mae’r archwilydd cyffredinol wedi ei nodi? Sut gallwn ni fod ag unrhyw ffydd bod eich Llywodraeth yn gweithio'n gadarnhaol naill ai i gyflawni’r cytundeb hwn yn gadarnhaol, neu y byddwch chi’n rhoi mwy o arian cyhoeddus yn y fantol yn y pen draw?

Na fyddwn. Mae'r cytundeb yn un y byddem ni eisiau iddo fod yn gadarnhaol. Nid ydym yn bwriadu cyfrannu dim mwy o arian cyhoeddus; ein nod yw gweithio gyda buddsoddwr preifat ar gyfer y dyfodol. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Ond rwy’n atgoffa arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod yn rhaid weithiau i chi wneud penderfyniad er lles pobl yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, gwelsom y penderfyniad gan Qatar Airways i hedfan taith feunyddiol i mewn i Faes Awyr Caerdydd. Pe byddai ef wedi cael ei ffordd, byddai’r maes awyr hwnnw ar gau. Byddai wedi cau. Eisteddodd yn y fan yna yn cwestiynu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r maes awyr. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i nifer y teithwyr; rydym ni’n gweld Qatar Airways yn dod i mewn—roeddwn i yno dros y penwythnos. Ceir cyfleoedd enfawr—cyfleoedd enfawr i Gymru o ganlyniad i hynny. Gadewch iddo fe ymddiheuro am y ffaith ei fod yn barod i roi 1,000 o swyddi mewn perygl ym Mro Morgannwg—[Torri ar draws.]—ym Mro Morgannwg trwy ganiatáu i’r maes awyr gau. Yn ogystal â hynny, mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae gennym ni sefyllfa lle mae’r pum cwmni sydd wedi tyfu fwyaf yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwmnïau yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi eu helpu, y ffaith ein bod ni wedi cael y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers 30 mlynedd. Y gwir amdani yw ein bod ni’n creu swyddi pan fo’r Torïaid yn eu dinistrio.

Anghenion Tai yn Sir Benfro

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi anghenion tai pobl Sir Benfro? OAQ(5)0566(FM)

Rŷm ni’n buddsoddi’n helaeth ym mhob math o’r byd tai, a hynny yn sir Benfro a thrwy weddill Cymru. Mae hyn yn cynnwys parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a Chymorth i Brynu—Cymru, yn ogystal â chynlluniau newydd sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i bobl brynu tai ac sy’n cefnogi arloesedd.

Diolch i chi am yr ymateb yna, Brif Weinidog. Fe gwrddes i yn ddiweddar â chynrychiolwyr Cyd-dai Hafan Las i drafod cynigion ar gyfer cymuned cyd-dai yn sir Benfro. Byddai’r project yn golygu tai ynni effeithlon fforddiadwy i bobl leol, gydag o leiaf draean o’r trigolion dros 50 oed er mwyn hybu pontio’r cenedlaethau. A ydych chi’n cytuno felly gyda fi y dylem ni fod yn annog projectau fel hyn ac, os hynny, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i brojectau fel hyn?

Wrth gwrs, byddai’n ddiddorol pe buasai Hafan Las yn gallu cwrdd â swyddogion er mwyn i ddeall mwy beth yw’r model sydd gyda nhw, ac rwy’n siŵr pe buasen nhw eisiau gwneud hynny byddai croeso iddyn nhw i gwrdd.

Mae problem ail gartrefi a thai haf yn benodol yn broblem yn sir Benfro, fel y mae mewn nifer o ardaloedd sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr a thwristiaid a phobl sy’n dymuno ymddeol yn y pen draw. Ac, wrth gwrs, mae’n gorbrisio’r farchnad dai leol y tu hwnt i nifer, yn sicr o ran yr incwm sydd gan bobl leol a phobl ifanc yn arbennig. Mae yna strydoedd cyfan yn Ninbych-y-pysgod heb un person yn byw ynddyn nhw drwy’r flwyddyn, er enghraifft. Beth all y Llywodraeth wneud i helpu yn y cyd-destun yna? Mae Plaid Cymru wedi cynnig y gellid defnyddio rheolau cynllunio yn benodol mewn rhai cymunedau er mwyn gwneud yn siŵr bod yna newid defnydd pan fo cartref yn gadael defnydd parhaus ac yn mynd yn dŷ haf. Onid yw hynny yn rhywbeth sy’n werth ei ystyried gan y Llywodraeth?

Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi cael ei ystyried o’r blaen. Mae’n llawer fwy anodd nag y mae o ran egwyddor ynglŷn â pa fath o ddiffiniad yr ydych yn ei ddodi ar ail dŷ. Wrth ddweud hynny, rwy’n deall yn hollol beth mae’r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â’r effaith ar rai cymunedau. Wrth gwrs, rŷm ni wedi sicrhau bod yna fwy o dai cymdeithasol ar gael a stopio’r hawl i brynu tai, ystyried ffyrdd eraill, sef ymddiriedolaethau tir i helpu pobl i brynu tai, siaro ecwiti hefyd mewn tai. Un o’r pethau efallai y bydd yn rhaid ei ystyried yn y blynyddoedd i ddod yw ym mha ffordd y gall y Llywodraeth brynu tai ar y farchnad breifat er mwyn sicrhau bod y tai hynny ar gael i bobl, yn enwedig mewn pentrefi lle mae’n anodd iawn creu tai cymdeithasol. Felly, mae yna sawl ffordd y gallwn ni sicrhau dyfodol i bobl sydd eisiau byw yn y cymunedau hynny, ac mae’n rhaid meddwl yn fwy eang, efallai, na’r ffordd draddodiadol sydd wedi cael ei hystyried dros y blynyddoedd diwethaf.

Benthyca i Fuddsoddi

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o unrhyw fudd i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn benthyca mwy i fuddsoddi, ar y cyfraddau isel presennol? OAQ(5)0563(FM)

Bydd unrhyw gynnydd i wariant cyhoeddus mewn ardaloedd cyffelyb yn golygu mwy o arian i Gymru gefnogi ein blaenoriaethau fel y'u nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen', ar yr amod, wrth gwrs, ei fod yn wariant cyfalaf.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. O safbwynt cartrefi, fel yr amlinellodd mewn ymateb i gwestiwn cynharach, rydym ni i gyd wedi arfer yn llwyr â’r syniad o fantoli’r cyfrifon, rheoli incwm a gwariant, ac, yn hanfodol, rheoli dyled, boed hynny ar y morgais ar ein cartref, neu ar ein car teuluol. Nawr, mae benthyg gan y Llywodraeth yn llawer mwy cymhleth, wrth gwrs, ond mae'r egwyddorion sylfaenol yr un fath, gan gynnwys rheoli eich dyled ar unrhyw adeg benodol. Ac eto mae economeg glasurol yn cydnabod, o ran benthyg gan Lywodraeth, bod adegau, yn enwedig pan fo cost benthyg mor isel ag y mae ar hyn o bryd, pan ellir defnyddio benthyg i wrthdroi cyni cyllidol a dod â thwf, a, thrwy ddod â thwf, sicrhau bod y diffyg yn parhau ar yr un canran o CMC. Felly, onid yw'n bryd, dywedaf wrth y Prif Weinidog, i Lywodraeth y DU newid ei dull er lles y wlad—i Gymru a'r DU? Neu, er lles y wlad, onid yw'n bryd newid Llywodraeth y DU?

Yn sicr. Mae pob Llywodraeth yn benthyg. Roedd Margaret Thatcher yn benthyg bob blwyddyn. A dweud y gwir, cynyddodd benthyg o dan y Torïaid, ond defnyddiwyd y benthyciadau hynny ganddynt i dalu am ostyngiadau treth. Dyna pa mor anghynaladwy oedd hynny. Mae’r Llywodraeth Geidwadol bresennol wedi benthyg arian. Nid wyf yn eu beirniadu am hynny, gan fy mod i’n gwybod ei fod yn rhan o lywodraeth. Y pwynt yw: dylid benthyg arian i fuddsoddi mewn seilwaith cyfalaf, ac, yn ail, benthyg arian mewn ffordd sy'n ddoeth fel nad yw'r ddyled yn cynyddu fel na ellir ei rheoli. Y broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw bod gennym ni Lywodraeth yn Llundain heb weledigaeth o gwbl, nid yw'n gwybod beth mae hi eisiau ei wneud ac nid oes ganddi weledigaeth ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Cawsom addewid y byddai prif reilffordd de Cymru yn cael ei thrydaneiddio. Ble mae hynny? Mae hynny wedi diflannu y tu hwnt i’r gorwel. Dim penderfyniad am forlyn llanw bae Abertawe, dim penderfyniad am HS2, dim penderfyniad am Heathrow. Rydym ni wedi cael tin-droi llwyr—tin-droi llwyr dros y flwyddyn ddiwethaf gan Lywodraeth y DU pan ddaw i ariannu seilwaith cyfalaf hanfodol. Mae gwledydd nad ydynt yn buddsoddi yn eu seilwaith yn dirywio. Nid ydynt yn gallu cystadlu â gwledydd eraill ledled y byd, a'r broblem sydd gennym ni gyda Llywodraeth bresennol y DU yw nad ydynt yn barod i fuddsoddi.

Prif Weinidog, gadewch i ni gael ychydig o bwyll yn ôl i’r cwestiwn yma os gwelwch yn dda. Mae benthyg, wrth gwrs, yn arf pwysig i unrhyw Lywodraeth. Mae'n arf pwysig i Lywodraeth Cymru; mae wedi bod yn arf pwysig i Lywodraeth y DU. Ond mae'r lefelau benthyg a gynigir gan Blaid Lafur y DU yn syfrdanol. Rydych chi’n gwybod hynny yn eich calon. A wnewch chi gytuno â mi mai’r peth olaf sydd ei angen ar y wlad hon, y peth olaf sydd ei angen ar y DU, a'r peth olaf sydd ei angen ar Gymru, yw i Blaid Lafur Jeremy Corbyn gynyddu’r ddyled unwaith eto ac i ni fod yn yr un math o sefyllfa yn y pen draw ag yr ydym ni wedi bod ynddi bob tro y mae’r Blaid Lafur wedi bod mewn grym yn Llywodraeth y DU o'r blaen?

Mae blynyddoedd gorau Prydain bob amser o dan y Blaid Lafur—bob amser, yn economaidd. Edrychwch ar yr ystadegau. Edrychwch ar ein sefyllfa bresennol. Edrychwch ar ble’r oeddem ni yn 2011, 2012, 2013. Edrychwch ar ble’r oeddem ni ar ddechrau'r degawd diwethaf—sefyllfa lawer, lawer, lawer gwell nag yr ydym ni ynddi heddiw. Roeddem ni mewn sefyllfa lawer gwell bryd hynny nag yr oeddem ni yn y 1980au, pan mai prif gynnyrch gweithgynhyrchu’r Torïaid oedd diweithdra uchel. Aethant â Chymru i lefel o ddiweithdra ymhell y tu hwnt i 10 y cant. Mae angen polisïau a llywodraeth economaidd cymwys arnom, nad yw’r Torïaid erioed wedi eu rhoi i ni. Felly, mae'n hynod bwysig bod gennym ni Lywodraeth y DU sy'n deall gwerth buddsoddiad cyfalaf, sydd â gweledigaeth ar gyfer y wlad, ac nad yw'n dweud o hyd, 'Mae angen arweinyddiaeth sefydlog a chryf arnom'. Wel, mae arweinyddiaeth sefydlog a chryf, gadewch i mi ddweud wrthych, yn golygu cymryd rhan mewn dadleuon arweinyddiaeth, siarad â phobl gyffredin, nid cael digwyddiadau sydd ar gau i’r wasg ranbarthol, fel y digwyddodd yng Nghernyw heddiw, a Phrif Weinidog sy’n gryf ac nid un sy'n ymddwyn fel cwningen ofnus.

Os dilynwn ni resymeg y Prif Weinidog mai nawr yw'r amser i fanteisio ar gyfraddau llog hanesyddol o isel, pam mae Ysgrifennydd cyllid ei Lywodraeth ei hun yn cyfyngu ar y cyllido drwy'r model buddsoddiad cydfuddiannol i £1 biliwn, ac nid ei gynyddu i’r £7.5 biliwn a awgrymwyd gan Gerry Holtham, a oedd yn gynghorydd uwch i’w Lywodraeth? Onid yw hon yn enghraifft arall eto o'r Blaid Lafur yn dweud un peth yn ei maniffesto ar gyfer Prydain ac yn gwneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru? Dyna'r math o ragrith sydd wedi rhoi enw drwg i wleidyddiaeth ddemocrataidd.

Meddai’r dyn a ddisgrifir yn ei daflen etholiad fel 'y mab afradlon'—proffwyd coll Cymru. Pwy ydw i i ddadlau ag ef, un a ddisgrifir felly? A chaniataodd i hynny ymddangos yn ei daflen, credwch neu beidio? Ond dyna ni. Gofynnodd y cwestiwn. Y gwir amdani yw mai £1.5 biliwn yw’r swm. Byddwn yn benthyg hyd at lefel sy'n ddarbodus, ac mae £1.5 biliwn, o safbwynt Cymru ac o safbwynt datganoledig, yn ein barn ni, yn lefel darbodus o fenthyg.

Yr Ardal Fenter ym Mhort Talbot

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddenu buddsoddiad i'r ardal fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0571(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n gwybod bod yr ardal fenter yn ysgogwr marchnata pwerus. Rydym ni’n gwybod bod ei agosrwydd at gampws newydd bae Abertawe, o ran statws ardal a gynorthwyir yr ardal, yn hynod o bwysig, a gwyddom fod yr ardal yn gynnig deniadol ar gyfer buddsoddiant.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, sefydlwyd yr ardal fenter ym Mhort Talbot oherwydd y bygythiad gwirioneddol o gau'r gwaith dur yn dilyn penderfyniad gwreiddiol Tata i werthu ei weithrediadau yn y DU. Nid yw’r bygythiad hwnnw yn pylu, ac mae'n bwysig nawr ein bod ni’n amrywio ein diwydiant gweithgynhyrchu a diwydiannau eraill ym Mhort Talbot. Fodd bynnag, credir fod y safle newydd arfaethedig hwn ar gyfer carchar newydd ym Mhort Talbot mewn gwirionedd yn ardal fenter Port Talbot. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ystyried yr effaith y bydd adeiladu carchar yn yr ardal fenter honno yn ei chael ar ddenu busnesau newydd a chefnogi twf economaidd mewn busnesau sydd eisoes yn bodoli, i adeiladu economi gryfach yn seiliedig ar y sgiliau sydd ar gael ym maes gweithgynhyrchu ac uwch-dechnoleg sydd ym Mhort Talbot? Ac ar y sail bod y dadansoddiad yn rhoi canlyniad negyddol, a fydd Llywodraeth Cymru yn methu â gwerthu neu brydlesu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder?

Wel, nid ydym wedi cynnal y dadansoddiad hwnnw eto. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, wrth yr Aelod, dim ond i roi sicrwydd iddo, yw bod gennyf i garchar yn fy etholaeth i. A dweud y gwir, cafodd ei adeiladu pan mai fi oedd y cynghorydd ward yn fy ward. Yn wir, roedd pobl yn pryderu ac roeddent yn poeni am yr hyn y gallai effaith y carchar fod. Y gwir amdani yw nad yw wedi cael effaith negyddol o gwbl. A dweud y gwir, mae'n cyflogi nifer fawr o bobl yn lleol ac mae wedi darparu gwaith ar gyfer nifer fawr o gontractwyr. Felly, er y gallaf ddeall yn iawn bod rhai o'i etholwyr yn pryderu—ac mae ef wedi cynrychioli barn yr etholwyr hynny y prynhawn yma—y profiad sydd gennym ni ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw bod y carchar ei hun—. A dweud y gwir, mae ystâd o dai yn cael ei hadeiladu y drws nesaf iddo ar hyn o bryd. Felly, mae'r carchar yn cael ei integreiddio’n gyflym i fywyd y gymuned a gall, mewn gwirionedd, greu swyddi.

Mae cytundeb dinas-ranbarth bae Abertawe, a lofnodwyd yn ddiweddar gennych chi a Theresa May, wrth gwrs, yn Abertawe, ar fin sbarduno gwerth £1.3 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth, ac mae agosrwydd y brifysgol yr ydych wedi ei grybwyll eisoes, a’r pwyslais ar y gadwyn gyflenwi sy'n seiliedig ar ddur yn yr ardal fenter, yn cyd-fynd yn dda iawn â nifer o brosiectau yn y cytundeb hwnnw. Mae bwrdd yr ardal fenter hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd a hybu arloesedd ac entrepreneuriaeth ym maes gweithgynhyrchu uwch a deunyddiau. Felly, pa fath o gymorth allwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru i helpu'r sector dur lleol i fanteisio ar ymchwil a datblygiad a masnacheiddio yn y ddwy sector arall hynny er mwyn gwella'r economi leol?

Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe o ran ymchwil a datblygu. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Tata i symud ymchwil a datblygu i mewn i dde Cymru. Rydym ni eisiau bod yn weithgynhyrchwyr, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymaint o ymchwil a datblygu â phosibl yn digwydd yng Nghymru hefyd. Ceir cyfleoedd gwych yno i Tata. Credwn fod cyfleoedd gwych gyda'r morlyn—ceir cefnogaeth eang i’r morlyn yn y Siambr hon; nid wyf yn gwneud y pwynt hwnnw mewn unrhyw ystyr gwleidyddol. Rwy’n gobeithio, beth bynnag sy'n digwydd ar ôl 8 Mehefin, y byddwn yn cael penderfyniad sy'n gadarnhaol ynghylch y morlyn i greu 1,000 o swyddi yn yr ardal, a fydd yn gatalydd enfawr o ran creu swyddi yn yr ardal fenter.

Prif Weinidog, clywais eich ymateb i David Rees, ond ni chlywais a fyddech chi fel Prif Weinidog ac fel Llywodraeth yma yn cefnogi'r carchar ym Mhort Talbot. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am Ben-y-bont ar Ogwr, ond byddwch yn deall y bydd y carchar ym Mhort Talbot, os caiff ei adeiladu, yn sylweddol dros gapasiti, ac nid yw’n rhywbeth yr ydym ni’n credu fydd yn ychwanegu budd i'r economi leol. Rwyf wedi derbyn pryderon gan bobl leol o ran y ffaith bod llawer ohonyn nhw yn ceisio rhentu lleoedd o fwy na 10,000 troedfedd sgwâr ym Mhort Talbot; busnesau bach sydd eisiau datblygu, sydd bellach yn symud i'ch ardal chi—rwy'n siŵr eich bod chi’n falch o glywed hynny—ond ni allant aros ym Mhort Talbot. Felly, oni allech chi ganolbwyntio ar y materion bob dydd gwirioneddol y mae ein busnesau bach yn eu hwynebu, yn hytrach na gorfodi uwch-garchar ar Bort Talbot?

Wel, nid ein penderfyniad ni oedd adeiladu’r carchar. Nid yw carchardai wedi'u datganoli. Byddwn yn archwilio, wrth gwrs, unrhyw ganlyniadau a holl ganlyniadau adeiladu carchar. Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr garchar eisoes, wrth gwrs, felly os yw pobl yn symud i Ben-y-bont ar Ogwr, yna nid yw'r carchar wedi effeithio ar eu penderfyniad yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod yr holl bethau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus dros ben. Mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn eglur iawn yr hyn y mae'n credu y gall y carchar ei gynnig, nid yn unig o ran capasiti carchardai, ond hefyd o ran yr economi leol, ac iddynt wneud yr achos dros y carchar, a byddwn yn ystyried yn ofalus beth yw eu hachos.

Gofal Iechyd Sylfaenol

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad at ofal iechyd sylfaenol? OAQ(5)0574(FM)

Gwnaf. Trwy foderneiddio ein gwasanaethau gofal sylfaenol, rydym ni eisiau i fynediad barhau i wella. Pan fydd materion lleol yn codi, fel y byddant, rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod anghenion lleol yn parhau i gael eu diwallu.

Yn fy etholaeth i, rydym ni wedi cael problemau mawr o ran cadw a recriwtio meddygon teulu, ac mae'n peri pryder arbennig yn y Rhondda gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio a phoblogaeth meddygon teulu sy'n heneiddio hefyd. Y llynedd, gwelsom gau meddygfa Tŷ Horeb yn Nhreorci, a, llai na phythefnos yn ôl, dywedwyd wrth gleifion meddygfa’r Maerdy i fynd i feddygfa Ferndale gan na ellid trefnu gwasanaeth meddyg teulu ar gyfer y diwrnod penodol hwnnw. Achosodd hyn lawer o bryder mewn ardal lle mae’n anodd cael apwyntiadau ar unrhyw adeg. Gyda'r holl broblemau yn y GIG yn Lloegr, pam mae recriwtio yn gymaint o broblem yng Nghymru? Dylai meddygon fod yn torri eu boliau i ddod i weithio yng Nghymru, ond rydych chi wedi methu â manteisio ar y sefyllfa honno. A ydych chi hefyd yn gresynu’r ffaith, ar ôl 18 mlynedd o Lafur yn rhedeg GIG Cymru, ein bod yn dal i fod ag un o'r rhifau claf i feddyg gwaethaf yn yr UE gyfan?

Mae gennym ni fwy o feddygon teulu nag erioed o'r blaen, ac rydym ni mewn sefyllfa lle mae mwy a mwy o feddygon teulu eisiau dod i weithio yng Nghymru. Mae'n hynod bwysig bod strwythur ymarfer cyffredinol yng Nghymru yn ddeniadol. Mae'n wirionedd, yn fy marn i, bod mwy a mwy o feddygon teulu eisiau bod yn gyflogedig. Nid ydyn nhw eisiau prynu i mewn i bractis. Nid ydyn nhw eisiau gweithio ar sail y model hwnnw. Pam? Maen nhw wedi dod drwy'r ysgol feddygol gyda dyled—nid yw talu mwy o arian yn ddewis deniadol i lawer ohonyn nhw. Bydd y model contractwr yn ddeniadol i rai, a bydd hynny’n rhan bwysig o'r GIG am flynyddoedd i ddod.

Mae hi'n iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn y Maerdy. Gwn fod problem yno ar un diwrnod; oherwydd amgylchiadau annisgwyl, nid oedd y cymorth wrth gefn yno. Mae hynny'n rhywbeth y gallaf ddeall y mae pobl yn y Maerdy yn rhwystredig amdano. Mae'n rhan o bractis Ferndale, ond, serch hynny, ceir meddygfa gangen yn y Maerdy. Yr hyn yr ydym ni’n ei ganfod, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gweld, er enghraifft, cynnydd o 16 y cant i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi hyd yn hyn o'i gymharu â'r llynedd. Mae'r gronfa gofal sylfaenol £43 miliwn wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys swyddi meddygon teulu a nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion. Yn bwysig, mae gwaith yn cael ei wneud yng Nghwm Taf—wrth gwrs, mae’r Rhondda’n rhan o hynny—yn gweithio ar draws wyth practis mewn un clwstwr. Felly, gall meddygfeydd sy’n eithaf bach ac sy’n ei chael hi’n anodd darparu gwasanaeth ar y lefel a ddisgwylir y dyddiau hyn weithio gyda'i gilydd i ddarparu’r gwasanaeth cynhwysfawr sydd ei angen ar bobl.

Mae angen i gleifion gael mynediad at feddygfeydd teulu da a meddygon teulu da, ond mae hefyd angen iddyn nhw gael ansawdd da o ran y mynediad hwnnw. Mae pob un ohonom ni’n derbyn, ac rwy’n meddwl bod cydnabyddiaeth gynyddol, y dylai meddygon teulu gael eu gadael i ymdrin â'r achosion mwy cymhleth a'r rheini â chyflyrau cydafiachus lluosog. Rydym ni’n croesawu'r cynnydd i nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, ac rydym ni’n croesawu'r twf o ran cael cwnselwyr mewn meddygfeydd teulu, ac o ran cael nyrsys cyflwr gofal cronig, arbenigwyr gofal lliniarol ac yn y blaen. Ond rwy’n meddwl tybed, Brif Weinidog, pa drafodaethau y gallai eich Llywodraeth fod wedi eu cael o ran ymestyn hyd yr apwyntiad. Oherwydd os oes rhaid i feddyg teulu sydd eisoes o dan bwysau aruthrol weld claf â phroblemau gofal iechyd cymhleth neu gyflyrau cydafiachus ac ysgrifennu’r nodiadau hynny, yna mae'r 10 munud safonol yn beth anodd iawn iddyn nhw wneud yr holl waith hwnnw ynddo. Tybed a yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r mater penodol hwnnw.

A gaf i groesawu, yn gyntaf oll, yr hyn a ddywedodd yr Aelod am beidio â phentyrru—nid dyna’r ffordd y’i mynegwyd ganddi, ond dyna yr oedd hi’n ei olygu—yr holl bwysau ar feddygon teulu? Nid oes angen meddyg teulu ar nifer fawr o achosion sy'n ymddangos gerbron meddygon teulu, a dyna pam mae’n hynod o bwysig bod gennym ni Dewis Doeth, wrth gwrs. Rydym ni’n gweld, pan fydd byrddau iechyd yn cymryd practisau drosodd, eu bod yn dod yn amlddisgyblaeth. Gellir cyfeirio pobl at y nyrs, at y fferyllydd, at y therapydd galwedigaethol neu at y ffisiotherapydd, fel y bo'n briodol, yn hytrach na phawb yn pentyrru ar y meddyg teulu. Yr her i’r practisau llai yw gallu cymryd pwysau oddi arnynt eu hunain yn y dyfodol, trwy weithio gyda meddygfeydd eraill i ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy cyfannol rhyngddynt. Felly, er enghraifft, a yw'n rhesymol i bractis un meddyg gyflogi llawer o nyrsys neu ffisiotherapyddion? Nac ydy, ond yn gweithio gyda meddygfeydd eraill, mae'n dod yn llawer mwy ymarferol wedyn i hynny ddigwydd. Ond mae'n hynod bwysig nad ydym—nid yw hi’n gwneud hyn, er tegwch—mae'n hynod bwysig i ni beidio â meddwl bod gofal sylfaenol yn golygu meddygon teulu yn unig; mae'n golygu sicrhau bod pobl yn cael y lefel cywir o ofal ar yr adeg gywir. Rydych chi’n tynnu’r pwysau oddi ar feddygon teulu, rydych chi’n rhyddhau mwy o amser iddyn nhw weld y cleifion sydd angen mwy o amser i gael eu gweld.

Sefydliadau sy'n Adleoli i Gymru

7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau sy'n adleoli i Gymru o dde-ddwyrain Lloegr? OAQ(5)0568(FM)

Mae cyfran fawr o fuddsoddiadau diweddar gan gwmnïau â phencadlys mewn mannau eraill yn y DU wedi, yn wir, yn dod o Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A yw'r Prif Weinidog yn cefnogi’r alwad gan arweinydd cyngor Caerdydd i Lywodraeth y DU i Channel 4 gael ei adleoli i Gaerdydd, o ystyried llwyddiant y diwydiant cyfryngau yng Nghaerdydd ac yn rhan o'r ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd ar ddyfodol Channel 4?

Ydw, mi ydwyf, yn fawr iawn. Rwy'n credu bod gan Gaerdydd lawer iawn i'w gynnig o ran gwasanaethau cyfryngau. Rydym ni wedi gweld twf aruthrol yn y diwydiannau creadigol, nid yn unig yng Nghaerdydd ond y tu allan. Rydym ni wedi gweld twf aruthrol yn y cyfryngau yng Nghaerdydd, a byddai Caerdydd yn bencadlys delfrydol ar gyfer Channel 4.

Benthyca

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swm priodol o fenthyca ar gyfer Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y DU? OAQ(5)0567(FM)

Roeddwn i’n ymaddasu fy hun, nawr, i ble mae'r Aelod yn eistedd erbyn hyn. Wel, byddwn yn gwneud y gorau o’r holl ddulliau sydd ar gael i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau o'r £1 biliwn o bwerau benthyg a sicrhawyd drwy'r fframwaith cyllidol newydd.

Prif Weinidog, pa un a yw'r cwestiwn yn £1 biliwn neu £1.5 biliwn o fenthyciadau ar gyfer Cymru, neu £500 biliwn o fenthyciadau ar gyfer y DU, mae’n ymddangos bod eich ateb yr un fath: 'Gadewch i ni fenthyg; mae'n rhad.' Mae'n ymddangos bod llai o ystyriaeth i sut y byddem ni’n ad-dalu'r arian neu beth fyddai'n digwydd pe byddai cyfraddau llog yn cynyddu. A ydych chi’n credu o ddifrif ei bod yn briodol i’r DU fenthyg 300 gwaith cymaint â Chymru? Ac os felly, a yw eich safbwynt chi yn fwy credadwy o gwbl nag un Jeremy Corbyn?

Mae gan y DU lawer mwy o offerynnau cyllidol ar gael iddi na Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y gall fenthyg ac o ran y polisïau trethu sydd ar gael iddi. Rydym ni’n gwybod na wnaiff eich plaid—neu'r blaid yr ydych chi’n eistedd ar yr ochr yna i'r Siambr â hi—ddiystyru codi treth incwm. Rwy’n gwerthfawrogi’r gonestrwydd hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn iawn i ddweud bod hyd yn oed y Blaid Geidwadol yn ystyried cynyddu trethi incwm yn y dyfodol er mwyn darparu mwy o arian i bwrs y wlad. Gofynnwyd iddyn nhw sawl gwaith i’w ddiystyru, a sawl gwaith nid yw wedi cael ei ddiystyru. Y pwynt yw hyn: mae benthyg ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yn bwysig. Mae’n rhaid iddo fod yn ddarbodus—rwy’n derbyn y pwynt hwnnw—ac mae’n rhaid iddo fod yn fforddiadwy. Ond mae’r hyn sy'n fforddiadwy i’r DU lawer gwaith yn fwy na'r hyn sy'n fforddiadwy i Gymru oherwydd y dulliau sydd ar gael i'r DU a'i gallu i godi arian. Cafodd ei wneud yn y 1940au, pan roedd y sefyllfa yn llawer iawn gwaeth na hyn. Ailadeiladwyd y seilwaith. Rhoddwyd y DU yn ôl ar ei thraed i mewn i'r 1950au. Os oedd modd ei wneud yn y 1940au, pan roedd cyfraddau benthyg yn uwch a'r sefyllfa’n llawer gwaeth, yna pam mae mor afresymol i ddweud na ellir ei wneud yn awr?

Deddf yr Undebau Llafur 2016

9. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Ddeddf yr Undebau Llafur 2016 ers iddi ddod i rym ym mis Mawrth eleni? OAQ(5)0565(FM)

Mae ein hasesiad o Ddeddf yr Undebau Llafur yn parhau: ei bod yn achosi rhwyg, yn niweidiol ac yn arwain at y perygl o danseilio gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

Diolchaf i chi am yr ateb yna ac rwy’n rhannu eich barn. A ydych chi’n cytuno, trwy orfodi cyflogwyr sector cyhoeddus i gyhoeddi gwybodaeth am amser hwyluso—hynny yw, yr amser a gymerir i ffwrdd o'r gwaith i ganiatáu cynrychiolwyr undebau i gyflawni eu dyletswyddau wrth helpu gweithwyr—trwy wneud hyn, bod Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn gwahaniaethu’n amlwg yn erbyn gweithwyr sector cyhoeddus gan wanhau eu hawliau a’u hamodau gwaith? A beth, Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i amddiffyn hawliau gweithwyr ledled Cymru?

Rydym ni wedi, wrth gwrs, bwrw ymlaen â deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wneud yn union hynny yn y meysydd y credwn sy’n ddatganoledig. Mae'n faich biwrocrataidd ar gyflogwyr sector cyhoeddus bod yn rhaid iddyn nhw wneud hyn. Nid yw'n rhywbeth y mae'n ofynnol i'r sector preifat i wneud. Ond hefyd, mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu, rhywsut, bod Llywodraeth bresennol y DU o’r farn nad yw gweithwyr sector cyhoeddus cystal, rhywsut, â’r rheini yn y sector preifat. Dyna'r ensyniad: eu bod, rhywsut, yn treulio eu holl amser mewn amser hwyluso ac nid yn gwneud unrhyw waith go iawn. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o waith yn mynd i mewn i'r sector cyhoeddus, gan gynifer o gannoedd o filoedd o bobl i fyny ac i lawr hyd a lled Cymru, a dyna pam yr oedd y ddeddfwriaeth hon mor ddiangen.

Cenedl Deg o ran Gwaith

10. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod Cymru yn genedl deg o ran gwaith? OAQ(5)0570(FM)

Rwy’n cynnal trafodaethau agos gyda'n partneriaid cymdeithasol ar waith teg a'r camau y gallwn eu cymryd gyda'n gilydd fel bod gan fwy o bobl fynediad at waith da ac incwm diogel. Yfory rwy’n cyfarfod â'n partneriaid cymdeithasol, TUC Cymru a sefydliadau busnes i drafod sefydlu comisiwn gwaith teg.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, er iddo wneud y cyhoeddiad hwn yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn ôl yn y gwanwyn, ac mae'n siomedig, o ystyried y datblygiadau ar lefel y DU, nad yw'r comisiwn gwaith teg hwn wedi ei sefydlu. Yn ôl y data diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt, mae Cymru ymhlith y gwledydd lleiaf teg o ran gwaith ar yr ynysoedd hyn: mae 45,000 o bobl wedi eu dosbarthu fel bod yn hunangyflogedig tâl isel, mae 60 y cant o weithwyr dros dro eisiau swyddi parhaol ond ni allant eu cael, ac mae 42,000 o bobl ar gontractau dim oriau. Pan fydd yn mynd ati i sefydlu comisiwn gwaith teg o’r diwedd, a all ef wneud ymrwymiad mai rhan o'i gylch gorchwyl fydd adolygu'r holl ddeddfwriaeth undebau llafur flaenorol a chyfredol fel y maen nhw’n berthnasol i feysydd datganoledig, fel y gallwn ni yng Nghymru gymryd yr ysbryd y mae ei Lywodraeth ef wedi ei ddangos o ran Deddf yr Undebau Llafur 2016 a diwygio’r holl ddeddfwriaeth gwrth-undebau llafur atchweliadol yn y wlad hon?

Wel, ni fyddwn eisiau rhagfarnu’r drafodaeth sy'n cael ei chynnal yfory, ond rwy’n derbyn yr hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n hynod bwysig ein bod ni’n cael cymorth a chefnogaeth o bob sector o ddiwydiant wrth i ni edrych ar waith teg. Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol, rwyf hefyd eisoes wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wneud rhywfaint o waith ar hyn—yn enwedig o ran diffinio beth yw gwaith teg. Gallwn gael syniad o sut y mae gwaith teg yn edrych, ond mae'n hynod bwysig ei ddiffinio cyn gryfed â phosibl er mwyn i waith y comisiwn fod yn effeithiol.

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwyf yn galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad am rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a ellid cael datganiad, os gwelwch yn dda—ac rwy’n credu eich bod yn dirprwyo yn absenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig—ar y ffordd y darperir y cynllun taliadau sylfaenol yng Nghymru? Rwy’n datgan buddiant, fel partner mewn busnes ffermio ym Mro Morgannwg. Pryder enfawr, nid yn unig ym Mro Morgannwg, ond ledled Cymru, oedd gohirio taliadau oherwydd y gyfundrefn gwiriadau ac archwiliadau a gynhelir, ac anallu’r adran i hysbysu ffermwyr am hynt eu ceisiadau. Mae gen i, fel chi, etholwyr ym Mro Morgannwg sydd yn dal i fod yn yr unfan—ym mis Mai, erbyn hyn—gyda cheisiadau sy’n dal heb eu talu. Mae'n anodd iawn i'r unigolion hynny egluro eu sefyllfa i’r banciau—sydd wedi dangos cydymdeimlad o ran benthyciadau ac, wrth gwrs, ymestyn cyfleusterau gorddrafft—pan nad oes ganddyn nhw wybodaeth gan yr adran o ran gohiriad neu hynt eu cais. Credaf fod angen gwirioneddol am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn i ni, fel Aelodau, gael dealltwriaeth o sut mae'r adran yn ymdrin ag ymholiadau o’r fath ac, yn bwysig iawn, pa wersi sydd wedi eu dysgu. Ymddengys fod eleni yn flwyddyn arbennig o anodd o ran ymdrin â ffermydd sydd wedi cael eu harchwilio ac sydd yn amlwg wedi gweld oedi gydag ymholiadau iddyn nhw allu derbyn eu taliadau.

Diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna, ac rwy’n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun taliadau sylfaenol. Erbyn 27 Ebrill roedd dros 98.9 y cant o’r ceisiadau wedi eu talu, sef swm o tua £219 miliwn. Mae hyn bellach yn cynnwys taliadau trawsffiniol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mae perfformiad cynllun taliadau sylfaenol 2016 Cymru yn debyg i Ogledd Iwerddon ac yn cymharu yn ffafriol iawn â'r Alban a Lloegr. Ac, fel y gŵyr yr Aelod, mae'r cyfnod talu CTS yn parhau hyd 30 Mehefin, gyda Thaliadau Gwledig Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gwblhau’r holl daliadau sy'n weddill cyn gynted ag y bo modd. Maen nhw’n disgwyl y bydd modd talu’r holl geisiadau oni bai am y rhai mwyaf cymhleth erbyn diwedd Ebrill, sef yr wythnos ddiwethaf, wrth gwrs. Byddwn hefyd yn ategu’r pwynt bod cyflwyno’r gofynion gwyrdd newydd ar gyfer ffermwyr âr wedi arwain at archwiliadau mwy cymhleth. Mae'r CE yn mynnu bod busnesau fferm sy’n destun archwiliad yn 2016 wedi gweld cyflawniad terfynol eu cais cyn y gellir gwneud y taliad. Ni allwn fynegi barn ar swyddogaethau asiantau eraill sy'n talu.

Rwy'n credu y gallwn ychwanegu taliadau Glastir hefyd at y pwynt a wnaed eisoes. Rwy’n arbennig o awyddus i ofyn i arweinydd y tŷ a fyddai modd iddi amserlennu dadl yn amser y Llywodraeth ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy'n credu ein bod wedi clywed cwestiwn yn gynharach gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, am ddigwyddiadau yn y Rhondda. Os caf ddweud wrth y tŷ, yr wythnos ddiwethaf treuliais i a’m swyddfa oriau lawer dros ddau ddiwrnod yn ceisio cael meddyg teulu i weld gwraig 90 mlwydd oed yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y feddygfa restredig mewn anghydfod â'r bwrdd iechyd ac nid oedd yn barod i’w derbyn hi. Nid oedd meddygfa arall yn fodlon ymdrin â’r mater chwaith, er bod honno, mewn theori, yn agored i gleifion newydd.  Yr unig feddygfa a gynigwyd oedd un gryn bellter i ffwrdd. Rwy’n falch, rwy’n gobeithio—gobeithio’r gorau—bod hynny wedi ei ddatrys, ac fel Aelod o'r Cynulliad rwyf am helpu fy etholwraig. Ond os yw ymyrraeth Aelod Cynulliad yn ofynnol er mwyn cael meddyg teulu i weld gwraig 90 mlwydd oed, rwy’n awgrymu bod gennym broblem â meddygon teulu yng Nghymru: problem recriwtio, problem hygyrchedd, a phroblem gyda’r stiwardiaeth y mae eich plaid yn ei dangos o ran y GIG yng Nghymru. Felly, rwy’n credu eich bod wedi addo llawer iawn am ehangu mynediad at feddygon teulu a gofal sylfaenol yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ac rwy’n credu y byddai dadl yn caniatáu i holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd.

Mae'r materion hyn wedi eu codi, mae’n amlwg, gydag enghreifftiau penodol o anawsterau a phwysau, ac ymatebodd y Prif Weinidog i’r mater a gododd o ran y feddygfa yn Rhondda fu ar gau am ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yng nghyd-destun recriwtio i ddweud eto bod ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i ddenu meddygon teulu a'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach yn dechrau dwyn ffrwyth yn barod. Ar ôl chwe mis rydym wedi gweld cynnydd o 16 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu sydd wedi eu llenwi hyd yn hyn o'i gymharu â'r llynedd. Ac mae ein cronfa ar gyfer gofal sylfaenoll, sy’n werth £43 miliwn, wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys meddygon teulu, swyddi nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion, sydd wrth gwrs yn rhan o'r ateb a’r ymateb i anghenion gofal sylfaenol o ran y tîm gofal sylfaenol ehangach. Hefyd, rwy'n credu bod y buddsoddiadau pwysig sy'n digwydd yn y clystyrau gofal sylfaenol, a ddylai fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd—64 o glystyrau gofal sylfaenol yn sicrhau y bydd cleifion yn cael eu gweld yn uniongyrchol gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i’w hanghenion. Felly, mae’n amlwg, mater o ddatblygiad a newid amserol yw hwn sy'n cael ei godi heddiw.

Ar 10 Awst, bydd Sea Dragon yn angori ym Mermaid Quay. Mae ei chriw o fenywod yn hwylio o amgylch arfordir Prydain er mwyn casglu data ar y plastig yn ein dyfroedd arfordirol. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â Chymraes o blith y criw—gwn eu bod wedi cwrdd ag Aelodau eraill o‘r Cynulliad a soniwyd amdanynt, yn wir, yma mewn dadl—ac maen nhw’n awyddus iawn i dynnu sylw at broblem llygredd plastig, a chefnogi deiseb y Gymdeithas Cadwraeth Forol, sydd, rwy’n credu, gerbron y Pwyllgor Deisebau. Maen nhw’n ymgyrchu dros gynllun ernes a dychwelyd ar gynwysyddion diod a chosbi cwmnïau sy'n defnyddio plastig na ellir ei ailgylchu ar gyfer cynhwysyddion ac offer bwyd cyflym. Hefyd, yn bwysig iawn, yn fy marn i, maen nhw’n ymgyrchu dros gyflwyno ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus, a fyddai wrth gwrs yn lleihau'r angen am boteli plastig beth bynnag.

Felly, a fyddai arweinydd y tŷ yn llongyfarch y tîm hwn o fenywod, a dwy ohonyn nhw o Gymru? Hefyd, a gawn ni gyfle arall yn y tŷ hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol y mater hwn, a thynnu sylw at y llygredd sy'n digwydd yn ein moroedd ac ar ein tir hefyd?

Wel, fe hoffwn innau hefyd ategu fy llongyfarchiadau i, a diolch i Julie Morgan am dynnu ein sylw at hyn y prynhawn yma—llongyfarchiadau i'r tîm hwnnw o fenywod a ddaeth â'r Sea Dragon i Mermaid Quay a chyfarfod â llawer o Aelodau’r Cynulliad—ond yn arbennig gan dynnu sylw at eu cenadwri wyddonol ac ymgyrchol o ran y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth gasglu data am y plastig yn ein dyfroedd arfordirol. Yn wir, cawsom drafodaeth yn ddiweddar am leihau gwastraff Cymru yn y ddadl ar y Bil lleihau gwastraff, ar 5 Ebrill, ac rydym yn gobeithio cwblhau ein hadolygiad o roi mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr.

O dan gyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol rydym wedi ymrwymo i leihau sbwriel morol. Mae 'na darged penodol o dan disgrifydd 10 cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol, ac wrth gwrs mae gennym grŵp cynghori strategol Cymru ar faterion morol. Maen nhw wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen sbwriel morol i fynd i'r afael â sbwriel morol yng Nghymru. Felly rwy'n siŵr y bydd y gwaith sydd wedi ei wneud ar hynny gan Sea Dragon a’u tîm gwyddonol yn helpu i ychwanegu at gryfder y dystiolaeth y byddwn yn ymateb iddi.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am sawl datganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar wasanaethau casglu gwastraff? Un peth sydd ar feddwl llawer o’m hetholwyr, yn enwedig yng Nghonwy, yw'r broses o gyflwyno casgliadau bin bob pedair wythnos, sydd wrth gwrs wedi ei gefnogi gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol yn yr ardal honno, er mawr ddirmyg a siom i’r trigolion lleol. Mae 'na faw ci yn pentyrru tu mewn i finiau cŵn lleol o ganlyniad i annog pobl i ddefnyddio’r rheini yn hytrach na gadael baw ci yn eu biniau am bedair wythnos. Mae ‘na olwg mawr yn mynd ar y lle i gyd, yn anffodus, o safbwynt yr ymwelwyr niferus sy'n ymweld â’m hetholaeth.  Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael rhywfaint o oleuni gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan Lywodraeth Cymru ynghylch pa mor aml y bydd y gwasanaethau casglu sbwriel yn digwydd, ac yn benodol y gwasanaethau casglu biniau cŵn, oherwydd mae’n amlwg nad ydyn nhw’n dod yn ddigon aml ar hyn o bryd.

A gaf i alw hefyd am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r gwaith ymchwil gan Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd sy'n nodi'n glir bod y DU wedi gwneud cynnydd da iawn yn y maes hwn yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn o ganlyniad i'r dull o weithredu dim goddefgarwch o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, yn enwedig o ran delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol. Bellach mae llai na 0.1 y cant o’r gyfradd fyd-eang o luniau o gam-drin plant yn rhywiol yn digwydd yn y DU, o gymharu â 37 y cant yn yr Iseldiroedd, 22 y cant yn yr Unol Daleithiau ac 11 y cant yn Ffrainc. Ond, wrth gwrs, mae ‘na lawer o waith i'w wneud eto. Yn benodol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan y sector cyhoeddus ac yn wir gan sefydliadau preifat yn sicrhau mynediad i’r rhyngrwyd sy'n addas i’r teulu cyfan. Tybed a allem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny i weld a yw hynny yn rhywbeth y gellid rhoi sylw iddo, efallai drwy amodau grant.

Yn drydydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar yr oedi wrth drosglwyddo o ran gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr wedi eu dychryn o ddarllen am yr achos trist iawn o glaf unigol sydd wedi bod yn dihoeni mewn ward ysbyty am bron i bedair blynedd ac mae hanner blwyddyn arall o’i flaen cyn y gellir trefnu lle addas ar gyfer ei ofal. Mae’n amlwg fod hynny'n annerbyniol ac mae angen rhagor o ymdrech i atal oedi wrth drosglwyddo gofal. A gawn ni ddatganiad ar hynny?

Rwy'n credu ein bod wedi trafod ar sawl achlysur y materion hyn sy’n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran casglu gwastraff. Ac, wrth gwrs, cafwyd digon o gyfle i godi'r materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, o ran cyfraddau ein llwyddiant, mae’r awdurdodau lleol hynny—ac ni fyddaf o reidrwydd, er y dylwn i efallai, yn enwi'r rheini sy'n rheoli yn rhai o'r awdurdodau lleol hynny, sydd mewn gwirionedd yn arwain y ffordd o ran casglu gwastraff—ond Cymru sy’n arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu. Hefyd, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i ailgylchu rhagor. Yn ddiweddar dyfarnwyd £3 miliwn i helpu awdurdodau lleol i ddiweddaru eu dulliau o ailgylchu, sydd wrth gwrs yn ystyried pa mor aml y bydd casgliadau’n digwydd ac, yn wir, sut mae trin gwastraff cŵn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn darparu, o ganlyniad i hynny, y gwasanaethau cyhoeddus gorau i’w hetholwyr a phobl leol.

Mae’r ail gwestiwn yn un pwysig iawn. Mae’n amlwg ein bod i gyd yn ymwybodol o waith Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd a'i effaith o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, a sylwadau grymus iawn Yvette Cooper o Gadair y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ddoe. Byddem yn amlwg yn dymuno adolygu ein hamgylchiadau yma yng Nghymru o ran y pwerau sydd gennym i fynd i'r afael â'r materion hynny, a bod yn eglur iawn yng nghefnogaeth y datganiad a wnaeth hi fel cadeirydd pwyllgor dethol yn Westminster.

Rwy'n credu ei bod yn rhaid ystyried eich pwynt am oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei gyd-destun, Darren Millar. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar ei lefel isaf ers 12 mlynedd, sydd yn dipyn o gamp, yn enwedig o'i ystyried yn erbyn y galw cynyddol am wasanaethau wrth i’n poblogaeth heneiddio. Ac mae'n arbennig o dda o’i gymharu â'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr, lle mae’n codi ac nid yn gostwng. Ond credaf fod yna faterion cymhleth, ac rwy’n cydnabod yr achos arbennig o gymhleth y cyfeiriwyd ato gennych. Mae'r materion hyn yn aml yn cynnwys ystod o faterion eraill, ac yn gofyn am roi gwasanaethau hynod arbenigol a phwrpasol yn aml ar waith. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau yn cydnabod amgylchiadau fel hynny. Yn bwysig iawn, rwy’n gobeithio eich bod wedi rhoi—mae’n amlwg eich bod wedi tynnu sylw eich bwrdd iechyd at hyn. Ond credaf ei bod yn bwysig nad oes neb mewn gwelyau ysbyty acíwt dan yr amgylchiadau hynny.

Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn ymddwyn yn dra negyddol gyda'r ymgyrchoedd etholiadol yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Felly rwyf eisiau cyflwyno rhywbeth cadarnhaol i’r cwestiynau busnes ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i longyfarch Josh Griffiths a Matthew Rees, y ddau o Harriers Abertawe. Mae Josh Griffiths wedi ennill ei le ym Mhencampwriaethau Byd yr IAAF gydag amser anhygoel, gwell na rhedwyr proffesiynol. Ac wedyn byddech wedi gweld Matthew Rees ym Marathon Llundain yn helpu rhedwr arall a oedd yn ymdrechu i orffen y ras. Credaf ei bod wedi bod yn rhyfeddol i Gymru, ac i Abertawe, i’r rhedwyr hynny ddangos eu galluoedd. Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i weld pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gydag Athletau Cymru, fel y gallwch gefnogi Josh Griffiths, drwy'r cyfnod hwn dros yr haf, i wneud yn siŵr ei fod yn gallu cymryd rhan ym mhencampwriaethau’r byd, ac yntau’n fyfyriwr, a dangos bod gan Gymru y talentau hynny yn gefn inni.

Fy ail gais yw—ac rwy’n sylweddoli nad yw Lesley Griffiths yma ar hyn o bryd—a oes ganddi hi ei hun neu ei thîm yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn ddiweddar, fe lansiodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ymgyrch yn galw am grŵp sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru i ganfod a fyddai’n bosibl cael cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru. Ac, felly rwy’n holi tybed, yn ei habsenoldeb, a fyddai ei gweision sifil yn gallu rhoi datganiad inni, neu a allem ni, fel Aelodau Cynulliad, gael llythyr am unrhyw ddatblygiadau yn hynny o beth.

Rwy’n diolch i Bethan Jenkins am y cwestiwn a’i sylwadau cadarnhaol iawn. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â chi. Roedd hi’n rhyfeddol cael gweld y ffordd y daeth Josh Griffiths a Matthew Rees at ei gilydd ar y diwedd dros y llinell derfyn ym Marathon Llundain, a chlywed y lleisiau Cymreig hynny, a chydnabod y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth oedd yn wirioneddol yn rhywbeth cadarnhaol iawn i ni i gyd i’w rannu. Rydym yn mynegi ein diolch a'n llongyfarchiadau iddynt. Ond, mae’n amlwg eich bod yn codi materion ehangach, ac rwy'n siŵr y bydd angen mynd i'r afael â nhw o ran sefyllfa benodol Josh Griffiths.

Ar eich ail bwynt, gallaf eich sicrhau bod swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ati ar ei rhan hi i wneud cynnydd o ran sefydlu'r gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn wir, roedd hynny’n rhywbeth yr ymatebais iddo yn ei lle hi, ac rydym yn datblygu hyn a byddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.

Arweinydd y tŷ, rwy’n gwybod eich bod chi, fel minnau, a llawer o’r Aelodau eraill sydd yma, yn gefnogwr brwd o ymgyrch WASPI. Felly rwy'n siwr y byddwch yn ymwybodol o'r addewid diweddar a wnaed gan Blaid Lafur y DU i ddigolledu'r menywod hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan newidiadau Llywodraeth y DU i oedran pensiwn y wladwriaeth. Croesawyd hyn gan ymgyrch WASPI fel y cam cyntaf pwysig wrth geisio cyfiawnder i'r rhai a gafodd eu trin mor annheg. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y gallai ei gyflawni i wneud yn siŵr bod y menywod hynny a aned yn y 1950au, y mae llawer ohonyn nhw’n wynebu tlodi mawr o achos y newidiadau trahaus a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, yn derbyn y cyfiawnder a phensiwn y wladwriaeth y maen nhw’n eu haeddu?

Rwy’n diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwn. Yn wir, dim ond yr wythnos ddiwethaf oedd hi pan gefais gyfarfod â Kay Clarke, ymgyrchydd blaenllaw yn y Barri. Cyfarfûm â hi am y tro cyntaf pan ddaeth hi yma i gymryd rhan mewn gwrthdystiad ar risiau'r Senedd, ac rwy’n credu, Vikki, eich bod chi fel Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon wedi eu croesawu nhw. Ac rwyf innau ar ôl hynny, fel Aelod Cynulliad, wedi gwneud llawer i gefnogi'r ymgyrch hon. I egluro i bawb, WASPI yw Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac er nad yw materion pensiwn wedi’u datganoli a chyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llywodraeth y DU ydyn nhw, er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus am yr effaith anghyfartal, fel y disgrifiwyd gan Vikki Howells, a gaiff y newid hwn ar nifer fawr o fenywod. Maen nhw wedi gweld codiad sylweddol yn oedran pensiwn y wladwriaeth heb ddigon o rybudd effeithiol, gan adael ychydig iawn o amser i ad-drefnu eu bywydau, eu cynlluniau a'u trefniadau cyllid, ac maent yn gorfod aros am nifer o flynyddoedd ychwanegol cyn bod yn gymwys i dderbyn pensiwn y wladwriaeth, sef rhywbeth yr ydym ni’n ystyried y maent yn haeddiannol iawn ohono. Felly, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y byddem yn dymuno gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni cymaint ag y gallwn o fewn ein pwerau ac yn sicr ategwn ein llais at ymgyrch WASPI.

A gaf i alw am ddatganiad unigol, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar fewnblaniadau rhwyll yn y wain? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y mater hwn wedi cael sylw helaeth yn y wasg yn y DU ac yng Nghymru yn ystod toriad y Pasg, yn dilyn y cyhoeddiad bod 800 o fenywod ledled y DU yn erlyn y GIG, gan ddweud bod y rhain wedi achosi poen a gwewyr iddyn nhw. Cysylltodd etholwraig yn y gogledd â mi, gan ofyn imi godi hyn yma yn y Senedd gyda Llywodraeth Cymru. Dywedodd wrthyf ei bod wedi cael mewnblaniad rhwyll yn Ysbyty Gwynedd yn 2004 a bu’n dioddef poen enbyd yn ei hystlys chwith byth oddi ar hynny, poen yn ei chlun chwith, poen pelfig a phoen mewn rhan bersonol o’r corff. Fel y dywedodd, mae hi’n un o rai miloedd o fenywod dros y DU sy'n dioddef oherwydd y mewnblaniadau hyn. Cafodd hyn sylw yn y cyfryngau yng Nghymru ar y pryd a datganwyd bod y rhwyll, er gwaethaf y cymhlethdodau, yn dal i fod ar gael i fenywod yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau i Gymru Ar-lein bod y driniaeth ar gael o hyd yn y GIG yng Nghymru, ond bod canllawiau gwell yn eu lle. Er mwyn fy etholwraig i, ac, yn ddiau, er mwyn llawer o fenywod eraill ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt gan y mewnblaniadau hyn, rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno bod hyn yn deilwng o ddatganiad. Diolch.

Wel, rwyf innau hefyd, Mark Isherwood, wedi codi’r pryderon hyn ar ran fy etholwragedd i hefyd. Ac mae’n amlwg fod mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o hyn wedi bod yn ddiweddar, o ganlyniad, er enghraifft, i Aelodau Seneddol hefyd. Mae Owen Smith AS, mi wn, wedi codi hyn yn benodol. Felly, rwy'n credu bod y mater y cyfeiriwch ato o ran y GIG, bod y driniaeth ar gael yng Nghymru, a'r ffaith bod cyngor a chanllawiau yn 2014, wedi codi pryderon am effeithiau andwyol sy'n gysylltiedig â’r math hwn o driniaeth. Pwysleisiwyd eto bod angen cael caniatâd gwybodus, cydymffurfio â’r safonau mewn canllawiau, archwiliadau rheolaidd o lawdriniaethau, adroddiadau am effeithiau niweidiol, gan sicrhau bod ail lawdriniaeth neu dynnu’r rhwyll yn cael ei gyflawni gan arbenigwyr â’r cymwysterau priodol. Felly, unwaith eto, er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rydym wedi atgoffa byrddau iechyd bod angen iddynt sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am unrhyw gymhlethdodau a all ddeillio o lawdriniaeth, ac wedi rhoi’r dewis i fenywod sydd wedi cael y driniaeth i adrodd eu hunain am broblemau neu effeithiau niweidiol. Ac mae’n amlwg ei bod hi'n bwysig ein bod yn cofnodi hynny heddiw eto.

Rwy’n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y tai a fflatiau Cyngor y bwriedir eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n gwybod am y datblygiadau sydd naill ai yn cael eu hadeiladu neu sydd yn yr arfaeth yn Abertawe, ond byddai o fudd i ni gael gwybod am yr holl ddatblygiadau yng Nghymru. Ac, er mwyn eich atgoffa chi, cyn i'r Ceidwadwyr fynd yn blaid adain dde eithafol, dan arweinwyr fel Churchill a Harold Macmillan, roedden nhw’n hyrwyddo’r gwaith o adeiladu tai a fflatiau cyngor.

Wel, rydym nawr yn dechrau gweld budd o’r ffaith ein bod wedi rhoi’r gorau i gymhorthdal y cyfrif refeniw tai, gyda thai cyngor newydd yn cael ei hadeiladu. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, Mike Hedges, eich bod wedi tynnu’n sylw ni at hyn heddiw i gael sylwadau ac ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn rhan o'r cytundeb tai â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, rwy’n falch o gael dweud bod awdurdodau tai lleol yn anelu at ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn gyfraniad gwerthfawr tuag at ein targed o 20,000. Felly, unwaith eto, rydym yn sicrhau bod adeiladu tai cyngor yn digwydd ac yn mynd rhagddo, gan ddarparu tai fforddiadwy i bobl yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, chwe blynedd yn ôl, cyflwynais Fil menter busnes yn y Siambr hon, a rhoddais bwyslais cryf iawn ar hyrwyddo ein diwydiant hedfanaeth. Clywais yn ddiweddar iawn fod ein Prif Weinidog wedi trefnu cysylltiadau agos iawn ag un o gwmnïau awyrennau’r dwyrain canol, sydd yn mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. Onid yw hyn chwe blynedd yn hwyr, neu saith blynedd yn hwyr, ond eto i gyd mae’n aros yn asgwrn cefn i'n heconomi? A wnewch chi ofyn i'r Prif Weinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, wneud datganiad ar ddatblygiad ein diwydiant hedfanaeth yng Nghymru? Diolch.

Wel, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw ni at hyn y prynhawn yma, Mohammad Asghar, oherwydd fy mod yn siŵr eich bod wedi clywed, ac yn cydnabod hynny eto, bod Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion gwych am fuddsoddiad ac ymgysylltiad Qatar yn ein maes awyr yng Nghaerdydd, y gwnaethom ni, wrth gwrs, nid yn unig ei sicrhau a’i gynnal, ond yr ydym yn ei ddatblygu. Felly, wyddoch chi, mae polisi hedfanaeth Llywodraeth Cymru yn glir, ac yn gwneud ei waith, a bydd yn mynd o nerth i nerth. Ond mae'n bwysig ein bod ni, unwaith eto, yn gallu pwyso a mesur y cyhoeddiadau hyn o newyddion da.

3. 3. Datganiad: Adroddiad Tueddiadau Tebygol y Dyfodol gan Lywodraeth Cymru

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar adroddiad tueddiadau’r dyfodol Llywodraeth Cymru. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 14:39:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a ddaeth i rym bron i ddwy flynedd union yn ôl, yn ei gwneud yn ofynnol i lunio adroddiad o fewn 12 mis i ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd i Gymru, sy’n cynnwys cofnod o dueddiadau tebygol y dyfodol o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth berthnasol sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru. Yr wythnos hon, am y tro cyntaf erioed, cyhoeddwyd yr adroddiad a elwir yn adroddiad tueddiadau’r dyfodol.

Llywydd, this report is not intended to be some new form of political astrology. It does not aim to predict the future. Rather, it attempts to draw together, in one accessible place, a range of information to assist Welsh citizens and policy makers in understanding trends discernible today that seem most likely to pose risks or create opportunities in the future.

Even that more modest task is one potentially fraught with difficulty. The internet was barely still stirring when this National Assembly was first elected in 1999. The iPhone is less than a decade old. A third of the jobs in today’s economy may be obsolete in less than 15 years.

The pace of change is headlong, although it may always have seemed so at the time. When Cincinnatus retired to his farm in 458 BC, he said that he was doing so to escape the hurly-burly of Roman life and politics. To help avoid mistaking the simply novel for the significant, this report aims to use and interpret the data sources it draws upon to develop a longer and broader view of the decisions that we make today, in the way that the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 requires.

It does so by identifying key future social, economic, environmental and cultural trends for Wales, under six themes that have an impact on all aspects of government and public administration. It deals with population, with health, with the economy and infrastructure; it focuses on climate change, land use and natural resources, and on society and culture. In helping us to explore the longer view, this first report also begins to explore some of the factors that could affect these trends as the future unfolds.

The report also prompts us to think broadly. For many reasons, the business of government, at all levels, tends to focus on individual policy areas when seeking to deliver benefits. This report is an attempt to take a wider, as well as a longer view, bringing together factors that we might previously have considered in isolation and paying particular attention to careful examination of the interactions and interdependencies between them, making connections between different trends in different areas of government.

Llywydd, as I said, the report is not intended to provide a series of predictions, but it does include a set of questions designed to prompt readers to formulate their own responses as they consider the trend data and the possible future scenarios to which that data might point.

This report is the beginning of work to improve our capability in making decisions fit for the long term. I am keen for us to start building it as a live and continuously developing future trends resource, for use by all those with an interest in such matters here in Wales. We have taken the first steps already, with this initial report being produced through a process of collaboration, not only amongst Welsh Government departments, but also with a wide range of public sector organisations. We have sought to use the public service boards, brought into being by the well-being of future generations Act, to understand what kind of report is needed and to bring together some of the future trend data that already exist. We intend to continue to work in this way, fully involving all those with an interest in developing our shared resource and capability, and providing a report that is useful for future policy making here in Wales.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddi, yn wir, adroddiad tueddiadau’r dyfodol—tir newydd arall ar gyfer datganoli, er efallai nad yw mor arloesol â thir newydd arall? Ni fydd, mae'n debyg, mae’n flin gennyf ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, yn destun sgwrs mewn tafarnau a chlybiau ledled y wlad, ond cymeraf eich datganiad yn yr ysbryd yr ydych yn ei ddymuno, ac rwy’n gobeithio y bydd o fudd ym maes gwneud penderfyniadau polisi.

Mae hyn yn amlwg yn rhan o Fil Cenedlaethau’r Dyfodol ac, fel y gwyddom, bu pryderon ar draws y pleidiau yn y Siambr hon ynghylch gweithredu’r Bil hwnnw ac a yw’n cyflawni ei amcanion ar lawr gwlad mewn gwirionedd.  Rwy’n credu bod pobl yn dal i ystyried hynny a, gobeithio, os ydych chi'n iawn, y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio’r ffordd ymlaen o ran Bil cenedlaethau’r dyfodol ac y bydd yn egluro rhai o’r agweddau arno sy’n aneglur.

Ysgrifennydd y Cabinet, dywedasoch fod yr adroddiad hwn yn ceisio ymdrin ag ystod enfawr o feysydd mewn cyfnod cymharol fyr, yn amrywio o newid hinsawdd, i’r boblogaeth ac ystadegau iechyd. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y rhagolygon hyn—y gyfres o gwestiynau, fel y gwnaethoch ei galw—yn ddigon cywir mewn unrhyw ffordd i fod o ddefnydd ar gyfer y broses gwneud penderfyniadau? Rwy'n credu mai’r hyn yr wyf i'n ceisio’i ofyn i chi yw hyn: Rwy’n deall eich bod wedi gorfod darparu’r adroddiad hwn oherwydd deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—a ydym yn gwneud dim mwy na mynd ar drywydd ymarfer ticio blychau? A fydd hyn mewn gwirionedd yn werth yr amser sydd yn amlwg wedi ei dreulio arno?

Dywedasoch yn onest nad bwriad yr adroddiad oedd darparu cyfres o broffwydoliaethau, ond fe’i cynlluniwyd i annog darllenwyr i lunio eu hymateb eu hunain. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, unwaith eto, nad wyf yn hollol siŵr pa mor ddefnyddiol y gall y broses hon fod. Rwy’n gobeithio y gallwch chi fy narbwyllo i. Ac yn benodol ym maes yr amgylchedd, dyfynnaf:

‘mae amrywiaeth eang o senarios a modelau newid hinsawdd.’

Daw hynny o’r adran newid hinsawdd. Wel, oes, yn amlwg. Rwy’n credu ein bod ni’n gwybod hynny. Nid rhagfynegiad yw hynny mewn gwirionedd ac nid yw hyd yn oed yn gwestiwn; mae’n ddatganiad o’n sefyllfa ni. Ni allaf weld sut y bydd yr honiad yn rhoi unrhyw fewnbwn ystyrlon i'r prosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisïau yn y tymor byr, ond, unwaith eto, efallai y gallwch chi ddweud wrthyf sut y bydd yn gwneud hyn.

Mae'n amlwg yn ffrwyth llawer o gydweithio —nid wyf yn amau ​​hynny—rhwng adrannau'r Llywodraeth a chyrff allanol; mae llawer o waith wedi'i wneud ar hyn. Dywedasoch tua diwedd eich datganiad mai dechrau’r gwaith yw hyn o wella’r gallu i wneud penderfyniadau. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y gwaith yn datblygu?  Rydych chi wedi sôn am greu cronfa ddata. Pa ffurf bendant fydd i’r gronfa ddata? A fyddwn yn gweld adroddiadau yn y dyfodol? A oes gofyniad i lunio adroddiadau yn y dyfodol? Nid wyf yn siwr. A fydd gwahanol ddulliau o greu’r gronfa ddata honno? Ai dyletswydd adrannau’r Llywodraeth fydd gwneud hynny, neu a fydd yn cael ei chasglu'n ganolog? Ac a fydd gwerthusiad o hyn? Gwn na allwch chi werthuso’r dyfodol nes ei fod wedi digwydd—yn amlwg, nid wyf yn awgrymu y gallech chi—ond, ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd yn eithaf amlwg a oedd y rhagfynegiadau neu’r cwestiynau yn yr adroddiad hwn yn taro'r nod, neu a oeddent ymhell ohono. Mae'n debygol y byddant rywle yn y canol, ond pryd ydych chi’n bwriadu asesu a yw hyn wedi bod yn broses ddefnyddiol mewn gwirionedd ac a yw'n helpu deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol wrth ei gyflwyno?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos i mi—ac rwy’n credu y gwnewch chi dderbyn hyn—bod yr adroddiad hwn yn gofyn cynifer o gwestiynau ag y mae'n eu hateb. Rwy'n credu y byddai o gymorth pe gallech egluro sut yr ydych yn bwriadu ei ddatblygu, egluro sut yr ydych yn bwriadu ei werthuso a phryd yn union yn y dyfodol y byddwch yn edrych yn ôl a dweud, ‘Roedd hwnnw mewn gwirionedd yn ymarfer gwerth chweil iawn’, neu, ‘Efallai fod ffordd well o fynd ymlaen bryd hynny.’

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau hynny. Byddaf yn dechrau drwy sôn am ei bwynt olaf, sy’n bwysig yn fy marn i. Roeddwn i’n awyddus iawn i drafod natur yr adroddiad hwn gyda fy swyddogion rai misoedd yn ôl, ac na ddylai geisio bod yn adroddiad sy'n honni ei fod yn gyfres o atebion y gallai pobl fynd atynt. Credaf y gallai fod yn gamarweiniol iawn pe bai'n cael ei ddisgrifio yn y modd hwnnw. Felly, y bwriad yw ei bod yn ddogfen adnoddau, dogfen y gall pobl fynd ati i gael gwybodaeth awdurdodol am dueddiadau allweddol yn y dyfodol, a dogfen y gall pobl ei defnyddio i ymgysylltu â'r data hynny. Gan ystyried y mathau o gwestiynau y gallent ddymuno eu holi eu hunain yn eu cylch, gan dynnu ystyr o’r wybodaeth, bydd digon o ysgogiadau ar eu cyfer yno i ganiatáu iddynt wneud hynny.

Nawr, mae ganddo nifer o ddibenion cymhwysol hefyd, yn bwysig iawn o ran helpu ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth gynnal asesiadau lles lleol, sy'n gofyn iddynt edrych ar dueddiadau yn y dyfodol yn eu hardaloedd eu hunain.  Rhannwyd y ddogfen hon â byrddau gwasanaethau lleol ym mis Tachwedd yn ei ffurf gynharach i'w cynorthwyo yn y gwaith hwnnw, ac, er bod yr adroddiad hwn yn anochel ar lefel Cymru gyfan, rwy’n credu os ydych yn edrych ar rai o'r asesiadau llesiant lleol sydd ar gael ar-lein erbyn hyn—. Os edrychwch ar Sir Benfro, er enghraifft, byddech yn gweld, rwy’n credu, drafodaeth soffistigedig iawn ar y newid yn yr hinsawdd, y sefyllfaoedd posibl ar gyfer hynny yn y dyfodol a'r ffordd y mae'n effeithio ar economi leol sy’n dibynnu’n benodol ar longau ac ar dwristiaeth. Wrth edrych ar y modd y mae'r wybodaeth hon wedi helpu sefydliadau lleol i gyflawni eu syniadau, rwy’n credu y gallwch chi weld rhywfaint o'r ffordd y mae’r adroddiad hwn yn cael effaith ymarferol.

Holodd Nick Ramsay sut y gallai'r adroddiad ddatblygu yn y dyfodol, a dywedais fy mod i'n awyddus i wneud hynny, os oes modd. Yr hyn nad wyf i’n dymuno ei wneud yw bodloni’r ddeddf drwy gyhoeddi'r adroddiad hwn flwyddyn ar ôl etholiadau diwethaf y Cynulliad ac yna anghofio am hyn, ac yna bydd adroddiad arall ymhen pum mlynedd. Rwy’n credu, er mwyn i’r math hwn o adroddiad fod yn wirioneddol ddefnyddiol, y dylai fod ar-lein cymaint â phosibl ac y gellid ei ddiweddaru ac ychwanegu ato drwy’r amser, wrth i ddata a thueddiadau newydd ddod i'r amlwg.

Cefais gyfarfod yn ddiweddar ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, a oedd yn dymuno trafod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn sut y gallai eu haelodau sy'n gweithio ar ddatblygu eu hastudiaethau eu hunain ar draws amrywiaeth eang iawn o’r pynciau a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn ychwanegu at yr adnodd a ddarperir gan yr adroddiad hwn. Pe baem yn gallu gwneud hynny —cael y math hwnnw o adnodd ailadroddol y gallai pobl gyfrannu ato, casglu ohono a’i ddiweddaru—byddai hynny, yn fy marn i, yn ei gwneud yn fwy tebygol o fod yn rhywbeth a gaiff ei ddefnyddio yn wirioneddol gan lunwyr polisi a dinasyddion Cymru i’w helpu i fyfyrio ar y dyfodol. A fydd yr amser yn dod pan fyddwn yn gwerthuso ei ddefnyddioldeb? Wel, mae'n ofyniad cyfreithiol o dan y Ddeddf i gynhyrchu'r adroddiad hwn bob pum mlynedd, o fewn blwyddyn i etholiad y Cynulliad. Ac rwy’n dychmygu, wrth baratoi’r adroddiad nesaf, mai rhan o’r hyn y byddwn yn dymuno ei wneud fydd edrych yn ôl ar y ddogfen hon i weld a wnaeth gasglu’r math o ddata sy'n wirioneddol ddefnyddiol, gweld a yw'n nodi’r tueddiadau hynny a oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac, yn ddiau, adrodd ar y pethau hynny nad yw’r un ohonom yma wedi gallu eu rhagweld hyd yn hyn, ond a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ymhen pum mlynedd.

Mae gen i deimladau cymysg ynglŷn â’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi. Nid wyf i eisiau dadrithio’r Ysgrifennydd Cabinet ei fod e’n dilyn Cincinnatus i ryw fferm oherwydd helbul gwleidyddol. Rwyf yn credu ei fod yn beth da, yn sicr, bod y Llywodraeth yn cynhyrchu adroddiad o’r math yma a’n bod ni’n cynnal disgẃrs ar lefel lywodraethol ynglŷn â’r dyfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r holl faes o ragwelediad neu ddyfodoleg—‘futurology’—neu beth bynnag, wedi cael hi’n eithaf gwael a dweud y gwir oherwydd gwaith gan bobl fel Philip Tetlock, Daniel Kahneman a Nassim Taleb, sydd wedi cwestiynu i ba raddau rydym ni’n medru darogan y dyfodol. Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn iawn i osgoi cwympo i mewn i’r fagl hynny, ond nid yw’r ffaith ein bod ni’n methu darogan y dyfodol yn golygu na ddylem ni gynnal sgwrs polisi ynglŷn â tueddiadau’r dyfodol. Felly, o ran fframwaith, rwy’n credu bod y fframwaith a’r dynesiad yn gywir.

Y gofid sydd gennyf i yw’r diffyg manyldeb sydd yn y ddogfen ar hyn o bryd, os rŷm ni’n ei chymharu hi, er enghraifft, gyda’r campweithiau sy’n cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Singapore, er enghraifft, sydd, ers degawdau a dweud y gwir, wedi rhoi cymaint o bwyslais ar y cwestiwn yma o asesu effaith tueddiadau’r dyfodol. Mae’r un peth yn wir yn y Ffindir, er enghraifft. Felly, gwledydd cymharol fychain sydd yn rhoi tipyn o adnoddau i mewn i gynhyrchu adroddiad sydd yn llawer mwy sylweddol na hyn, a dweud y gwir, ac, wrth gwrs, gyda dwsinau a dwsinau o is-adroddiadau ar sail mewnbwn manwl gan arbenigwyr yn y maes.

Felly, gofyn ydw i, a phle gen i i Ysgrifennydd y Cabinet: iawn, dyma’r adroddiad cychwynnol wedi ei gynhyrchu o fewn blwyddyn, ond a allwn ni adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod yna adnoddau digonol fel bod adroddiad sy’n cael ei gynhyrchu ac is-adroddiadau ychydig bach yn llai arwynebol, a dweud y gwir? Nid oedd llawer yn yr adroddiad roeddwn i’n gallu’i weld nad oeddwn i’n gwybod yn barod i ryw raddau, ac roedd hynny yn siom. Roedd e yn ddefnyddiol i’r cyfeiriad arall—wrth edrych yn ôl—yn rhyfedd iawn. Roedd yna nifer o bethau yn yr adroddiad yn sôn am y cyfnod ar ôl datganoli, lle mae’n pwyntio mas ble rydym ni wedi methu. Rydym ni wedi methu o ran peidio â gwneud yn well na chadw’n wastad â gweddill y Deyrnas Unedig o ran yr economi. Y nod, wrth gwrs, oedd cau’r bwlch.

Mae’n sôn yn fan hyn fod yna botensial twf gan Gymru o ran ynni sydd heb ei gyffwrdd eto. Mae yna gyfeiriad at ddechrau arafach yng Nghymru o ran band eang o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol, a chynnydd yn nifer y bobl o dan 18 oed sydd mewn tlodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn olaf, pwynt polisi arall ble rydym ni wedi methu: nifer yr aelwydydd yn cynyddu yn gyflymach na nifer y tai sydd ar gael. Beth sy’n ddiddorol am y rheini i gyd yw’r ffaith yr oedd y rheini i gyd yn nodau polisi tymor hir nad oeddem ni wedi medru cwrdd â nhw fel cenedl. Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, a fyddai modd gofyn y cwestiwn ‘pam’? Rwy’n gwybod ein bod ni mewn cyfnod etholiad, ac nid wyf yn rhoi’r bai i gyd ar y Llywodraeth yn fan hyn—mae yna glwstwr o resymau pam nad yw nodau polisi yn cael eu cyffwrdd—ond wrth ofyn pam mae methiant wedi bod yn y meysydd hynny dros y 18 mlynedd diwethaf, efallai fyddwn ni mewn sefyllfa well o wneud yn well ar gyfer y dyfodol sy’n dod.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr i Adam Price hefyd. Wrth gwrs, rwy’n cytuno—adroddiad cychwynnol yw’r adroddiad sydd o flaen y Cynulliad y prynhawn yma. Aethon ni mas i siarad gyda’r bobl sy’n mynd i ddefnyddio’r adroddiad yn y maes, fel mae’r Ddeddf yn gofyn i ni ei wneud, ac yr un peth roeddynt yn dod yn ôl atom ni i ddweud oedd, ‘Peidiwch â pharatoi adroddiad sy’n rhy hir i’w ddefnyddio. Ceisiwch, os gallwch chi, baratoi adroddiad ble rydym ni’n gallu defnyddio’r wybodaeth sydd y tu fewn iddo.’

That does create a tension, inevitably, between the messages we have back from the field and from potential users that they wanted a report, as they said, that was concise and that allowed them to get to information that they wanted to use quickly. But it’s an important point that Adam Price makes—that, when you’re trying to produce a report of that sort, you inevitably lose some of the richness of the data that are available out there. It’s partly—to answer his second question about how we can develop the report in the future—why I’m keen that it should be an online resource that we can continuously keep up-to-date. Because then, I think, it is possible to provide upfront a relatively brief set of material for people who just want to get to the essence of something, but to be able quickly to direct people who have a deeper interest in any particular aspect of it to data that lie behind the headline, and where, using online material, you can get to those richer data without feeling that you’re being drowned in them at the first sight. So, if we can do it, I think that will help us to answer the point that he raised.

Of course, he is right: if we are going to understand the future better, then the past is often the best guide, both for things that we have succeeded in doing—those things that we were able to spot early and respond to—but those things as well where we have had ambitions that have not been fully realised, to try to see the things that got in the way of us being able to achieve the things we may have set out to achieve and then to draw on that learning in order to make our ability to make better policy decisions in the future, to avoid unintended consequences or poorly directed investments, and to identify opportunities that we would not have identified had we not done what the report tries to do. As I said, it tries to look in depth, but it tries especially to look broadly to see connections between different strands in Government activity, which, despite being a small Government, can be a challenge when you are running a single portfolio where your attention is inevitably focused on the matters in front of you and where it’s not always as easy as you might want it to be to see the way that those decisions connect with other decisions that have been made elsewhere in other parts of Government.

Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a'r adroddiad? Ond rwy’n falch iawn ei fod yn dod gyda rhybudd, i ddyfynnu:

‘nid bwriad yr adroddiad yw bod yn rhyw fath newydd o seryddiaeth wleidyddol. Nid yw’n ceisio proffwydo’r dyfodol.'

Rwyf bob amser yn cael fy atgoffa, ar y diwrnod hwn, o bryderon y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y ceffyl yn brif fath o gludiant, ynghylch sut y byddem yn ymdopi â thail ceffyl yn yr ugeinfed ganrif, y rhagwelwyd y byddai’n llenwi’r stryd i fyny at 3 troedfedd o uchder. Wrth gwrs, daeth y car modur, ac ni chafwyd y broblem honno. Hefyd, rwy’n credu bod pawb yn yr ystafell hon yn ddigon hen i gofio'r ddadl rhwng VHS a Betamax, a gafodd ei hymladd yn hir a chaled—ac a enillwyd gan VHS. A dywedwch chi wrthyf i ble alla i gael gafael ar dâp VHS nawr. Rwy'n meddwl am y tri pheth hynny—rydym yn gweld newidiadau mawr yn ddiweddar ac maent yn cael eu disodli gan ddigwyddiadau yn gyflym iawn.

Yr hyn y mae'n ei roi i ni yw'r cyfle i weld sut y bydd pethau os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio newid y dyfodol. Gwyddom fod crynodrefi yn fagnetau economaidd, ac rydym yn gwybod bod gwella cysylltiadau trafnidiaeth mewnol yn ffactor a allai gryfhau perfformiad economaidd Abertawe a'r fro, fel y gallwn ni ddefnyddio ei photensial economaidd yn fwy effeithiol fel dinas-ranbarth. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried llunio cynllun trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe? Rwy'n gwybod nad yw trafnidiaeth yn rhan o'r cais dinas-ranbarth. Ond nid wyf yn credu y gallwn anghofio am drafnidiaeth yn y rhanbarth hwnnw neu wneud penderfyniadau untro am y drafnidiaeth, fel ffordd osgoi Llandeilo. Mae angen cael dull llawer mwy integredig.

Rydym yn gwybod hefyd bod pobl â sgiliau uchel yn ennill mwy yn gyffredinol, ac mae ganddynt well cyfle o gael cyflogaeth yn gyffredinol. Rydym hefyd yn gwybod bod gormod o blant, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, yn dechrau addysg ffurfiol, o ran eu datblygiad, hyd at ddwy flynedd ar ôl rhai o'u cyfoedion. Maent yn dechrau addysg yn teimlo methiant ac mae addysg llawer gormod ohonynt yn dod i ben mewn methiant. A wnaiff Llywodraeth Cymru geisio ehangu Dechrau’n Deg ymhellach, gan roi cyfle i bob plentyn ddechrau yn yr ysgol ar yr oedran y maent mewn gwirionedd—eu hoedran cronolegol—fel bod y datblygiad rhwng dwy a thair oed yn digwydd, nad yw’n digwydd i lawer o blant mewn gormod o'n cymunedau?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Mae'n gwbl gywir i dynnu sylw at y perygl o ddefnyddio adroddiadau tueddiadau’r dyfodol mewn ffordd benderfyniadol, lle rydym yn rhagweld i’r dyfodol y sefyllfa a welwn o'n blaenau. Mae ei esiampl am dail ceffyl yn un adnabyddus. Fy hoff un i, Llywydd, yn ddiweddar, oedd clywed eitem Pathé News o ddiwedd yr 1930au—ni allaf ddynwared llais Pathé News, ond roedd yn y ffordd ddwys honno a ddefnyddir gan y sylwebydd. Roedd y ffilm yn dangos grŵp o deleffonyddion, a'r neges oedd bod y defnydd o’r ffôn yn lledaenu mor gyflym yn y Deyrnas Unedig ac erbyn 1960 y byddai angen i bob menyw—a phob menyw ddywedodd ef—yn y Deyrnas Unedig fod yn deleffonydd. Os ydych chi’n rhagweld y dyfodol yn y ffordd honno, byddwch, fel y dywedais, yn gwneud penderfyniadau gwael iawn.

Ond y cynllun yma yw defnyddio'r adroddiad i’n helpu ni i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd cynllun trafnidiaeth i ddinas-ranbarth Abertawe. Fe ddylai ddod yn sgil y trefniadau rhanbarthol newydd yr ydym yn eu cynnig yn ein Papur Gwyn llywodraeth leol. Ac, o ran addysg, ail gwestiwn Mike Hedges, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu, rwy'n credu, yw nad yw’r rhai sydd angen y mynediad cyflymaf at addysg ei angen yn y modd y mae Dechrau'n Deg yn ei ddarparu, ond bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, hyd yn oed cyn bod addysg yn rhan o'r hyn a allai fod yn digwydd iddo, yn cael dylanwad aruthrol ar eu dyfodol. Ac mae'r adroddiad hwn yn helpu i geisio tynnu ynghyd y gwahanol ffactorau, boed hynny ym maes iechyd, boed hynny ym maes tai, boed hynny yn yr amgylchedd mwy cyffredinol y mae plentyn ar y cam hwnnw o'i fywyd yn ei wynebu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y 1,000 diwrnod cyntaf yn sylfaen i’r llwyddiant y gallai’r plentyn hwnnw fod ei eisiau yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Gwnaeth Nick Ramsay y pwynt ei bod yn debygol na fydd yr adroddiad hwn yn y pen draw yn cael ei drafod mewn tafarndai a chlybiau ledled y de—drwy Gymru gyfan, yn hytrach—ac rwy’n credu y gallai fod yn iawn. Ac rwy’n credu, i ychydig o Aelodau yma yn y Siambr, mae'r cyfan yn parhau i fod yn ddirgelwch, hyd yn oed i ni. Ac mae'r broses lle rydym wedi cael comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ac adroddiad tueddiadau’r dyfodol: mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn gyfrinachol i mi. Rwyf wedi darllen drwy'r adroddiad heddiw. Mae'n adroddiad eithaf swmpus, ond rwy’n cael anhawster dod o hyd i unrhyw ganllawiau ynddo ar gyfer camau gweithredu ystyrlon gan y Llywodraeth, felly mae’r cyfan braidd yn ddryslyd i fi. Cawsom Sophie Howe, y comisiynydd yn ymddangos gerbron y pwyllgor cydraddoldeb, ac roedd yn dyst effeithlon iawn gerbron y pwyllgor. Ymgysylltodd â'r pwyllgor, ond rwy’n teimlo nad oedd hi yno’n ddigon hir mewn gwirionedd i ateb pob un o'r cwestiynau y byddem wedi eisiau gofyn iddi ac i ganfod yn union sut y bydd ei swyddogaeth yn dylanwadu ar gamau gweithredu’r Llywodraeth, gan ei bod yn bwriadu cwmpasu ystod eang o weithgareddau posibl y Llywodraeth. Er enghraifft, caiff 44 o gyrff cyhoeddus eu cwmpasu gan y Ddeddf. Soniodd hi ei hun—Sophie ei hun—am yr anhawster o weithredu deddfwriaeth a'r angen i osgoi ymarferion ticio blychau. Ond sut mae modd osgoi’r rhain pan fo cyrff cyhoeddus, yn ei geiriau hi i hun, eisoes yn teimlo dan warchae oherwydd yr holl ofynion statudol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni, cyn i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol gael ei chymryd i ystyriaeth hyd yn oed? Yn ychwanegol at hynny, mae'r ffaith bod rhai o'r rheoliadau sy'n deillio o'r gwahanol ofynion statudol yn groes i rai eraill. Dyfynnodd hi ei hunan yr enghraifft o'r angen i fyrddau iechyd fod â chynlluniau tair blynedd, sy'n groes i amcan cenedlaethau'r dyfodol o gynllunio hirdymor. Felly, tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datrys y gwrth-ddweud amlwg hwn.

O edrych ar y materion ymarferol a all godi o'r adroddiad hwn, ceir y mater o newid yn yr hinsawdd, y cyfeirir ato. Nawr, rydym yn gwybod bod yr hinsawdd yn newid. Mae gwahaniaeth barn yn y Siambr ynglŷn â'r hyn a all fod yn achosi'r newidiadau hynny yn yr hinsawdd, ond rwy’n meddwl, ar y cyfan, ein bod yn cytuno bod yr hinsawdd yn newid. Ceir diffeithdiro cynyddol. Mae'r Sahara yn lledaenu. Mae ardaloedd o Sbaen a rhannau eraill o dde Ewrop yn mynd yn rhy sych ar gyfer amaethyddiaeth. O ystyried bod hyn yn digwydd a bod llai o dir yn debygol o fod ar gael i’w ffermio, byddai'n gwneud synnwyr felly, yn y DU, ein bod yn dal gafael ar ein tir amaethyddol. Mae hyn yn gynllunio hirdymor yn ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd. Pam, felly, yr ydym ni’n caniatáu i gynghorau adeiladu ar dir llain las? Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, bydd tai yn cael eu codi ar dir sydd wedi cael ei ffermio ers cannoedd o flynyddoedd. Siawns y dylai ystyriaethau cynllunio hirdymor atal unrhyw adeiladu ar dir llain las yng Nghymru. Felly, os oes gennych adroddiad ar genedlaethau’r dyfodol sy’n mynd i fod yn ystyrlon mewn unrhyw ffordd, a ydych chi nawr yn mynd i roi cyngor ac arweiniad i gynghorau i'w hatal neu i'w rhybuddio rhag adeiladu ar dir llain las? Byddai hynny'n un peth ymarferol a fyddai’n deillio o'ch syniad honedig o gael cynllunio hirdymor. Materion eraill: awtomeiddio. Rhagwelir bod tri deg pump y cant o swyddi—a dweud y gwir, rwy'n credu ei fod yn 30 y cant—mewn perygl yng Nghymru oherwydd awtomeiddio. Felly, mae angen uwchsgilio’r boblogaeth weithio yng Nghymru os yw’r broffwydoliaeth hon mewn unrhyw ffordd yn gywir. Awgrymaf y byddai mwy o hyfforddiant galwedigaethol yn helpu. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen inni symud oddi wrth ddull cyffredinol o ddarparu addysg yng Nghymru? A oes angen i ni edrych ar effeithiolrwydd y system ysgolion cyfun, er enghraifft?

Mae ceir heb yrrwr yn cael eu crybwyll. Nawr, mae hyn yn ddirgelwch llwyr i mi. Gwn ein bod i fod cael ceir heb yrrwr. Awgrymodd Sophie Howe, pan ymddangosodd gerbron y pwyllgor, y dylai prosiect ffordd liniaru'r M4 fod wedi ystyried mater y ceir heb yrrwr. Nid wyf yn siŵr pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud o ran tagfeydd ar y ffyrdd. Er ein bod yn mynd i gael ceir heb yrrwr, oni fydd yr un nifer o geir ar y ffordd? Felly, sut y byddai hyn mewn gwirionedd yn effeithio ar unrhyw beth? Mae hyn yn fy nrysu i. Efallai y gallwch chi—[Torri ar draws.] A phellteroedd stopio. Iawn, efallai y bydd agweddau technegol, nad ydwyf i fel rhywun sydd ddim yn gyrru—[Torri ar draws.] Iawn, diolch. Efallai y bydd yna agweddau technegol nad wyf i wedi’u hystyried, felly ymddiheuriadau am fy anwybodaeth, ond byddai cael atebion yn beth da.

Nawr, fe wnaethoch chi hefyd, yn ddoniol iawn, edrych ar broblemau darogan y dyfodol, a nododd Mike Hedges enghraifft hefyd—fe roesoch chi enghreifftiau yn ymwneud â thail ceffyl a theleffonyddion, a oedd yn eithaf doniol yn eu hunain. Roedd yna hefyd ddyn yn yr 1960au cynnar o'r enw Dr Beeching, a oedd yn tybio na fyddai unrhyw angen i deithwyr deithio ar y rheilffyrdd ymhen ychydig o flynyddoedd. Roedd hynny braidd yn anghywir, onid oedd? Beth bynnag, diolch am yr adroddiad. Pe gallech daflu unrhyw oleuni ar y materion yr wyf i wedi eu codi byddwn yn ddiolchgar. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy'n falch ei fod o’r farn bod y sesiynau y mae’r pwyllgor wedi eu cael gyda'r comisiynydd yn ddefnyddiol. Roedd ei swyddfa hi yn rhan o'r grŵp a helpodd i lunio'r adroddiad hwn. Bydd llawer o gyfleoedd eraill, rwy'n siŵr, i glywed gan y comisiynydd ac i weithio gyda hi i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i lunwyr polisi wrth iddynt geisio asesu'r cyfleoedd y mae’r tueddiadau a welwn heddiw yn eu darparu ar gyfer llunwyr polisi y dyfodol, ac i osgoi y math o beryglon a nododd yr Aelod pan gyfeiriodd at adroddiad Beeching.

A bod yn onest, Llywydd, rwy’n credu ei fod un cam ar y blaen o ble mae’r adroddiad heddiw. Yr adroddiad yw’r ffordd orau sydd gennym o dynnu ynghyd y dystiolaeth, y data, y gwahanol dueddiadau a welwn yn economi Cymru, yn y gymdeithas yng Nghymru, ac yn y pethau amgylcheddol ehangach hynny, ar gyfer yr holl lunwyr polisi—gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a gwleidyddion unigol—i ddod i’w casgliadau ynghylch sut y dylai'r polisïau gael eu llunio yn y dyfodol. Nod yr adroddiad yw bod yn niwtral o ran polisi. Nid yw'n ceisio gwthio polisi mewn unrhyw gyfeiriad penodol. Mae yno fel adnodd fel y gall pobl lunio’r atebion y maen nhw’n credu all ddiwallu anghenion Cymru orau. Mae Mr Bennett yn codi nifer o faterion polisi pwysig. Ni fydd yn dod o hyd i'r atebion yn yr adroddiad ei hun. Yr hyn a gaiff yn yr adroddiad yw’r deunydd crai a fydd yn helpu unrhyw un ohonom i geisio dod o hyd i’r atebion ein hunain.

4. 4. Datganiad: Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, i wneud ei ddatganiad. Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:14:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Llywydd. Ymhen mis, bydd Caerdydd a Chymru yn cynnal gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf ac uchaf ei fri yn y byd, a'r digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf yn y byd yn 2017. Bydd gêm derfynol y dynion ar 3 Mehefin yn denu cynulleidfa deledu fyw fyd-eang o 200 miliwn ac amcangyfrifir y bydd 170,000 o ymwelwyr ychwanegol yn dod i'n prifddinas. Bydd yr Aelodau wedi gweld dyfodiad cyffrous y tlysau yng Nghymru bythefnos yn ôl, ac maent yn teithio'r wlad ar hyn o bryd, gan roi cyfle unigryw i’n cymunedau ymgysylltu â'r digwyddiad. Ddoe, ymwelodd y tlysau â chlybiau pêl-droed Porthmadog a Chefn Druids, a heddiw maent wedi bod mewn gŵyl ysgol yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug. Rwy'n ymwybodol o’r cyffro fydd wedi ei greu ymysg cefnogwyr pêl-droed lleol a'r cyhoedd yn y gogledd yn ehangach. Dyma ddigwyddiad cyntaf arall yn hanes Cymru, a fydd yn dechrau haf o chwaraeon chwedlonol, gyda gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei dilyn yn fuan gan Dlws Pencampwyr ICC yng nghriced Morgannwg a Phencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn dychwelyd i’r Royal Porthcawl. Mae hyn yn dangos ein huchelgais a’n hymrwymiad i adeiladu ar gymwysterau cynnal digwyddiadau mawr Cymru.  

Bydd y manteision i Gymru yn sylweddol. Bydd y digwyddiad yn creu effaith economaidd sylweddol o ganlyniad i'r ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gymru. Bydd hyn yn cynnwys gwariant mewn gwestai, bwytai, tafarndai, bariau a theithio yn yr ardal. Mae'r ddarpariaeth lletygarwch yn y ddinas ar ddiwrnod y gêm, sy'n cynnwys tua 16,000 o brydau bwyd, yn darparu llwyfan gwerthfawr i gynnyrch Cymreig. Ar y cyfan, mae cael gafael ar hawliau a buddion sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn rhoi cymhelliad digynsail i Gymru allu ymgysylltu â mewnfuddsoddiad allweddol a thargedau busnes.

Bydd y sylw helaeth yn y cyfryngau yn ystod y cyfnod cyn hyn, ac o’r digwyddiad ei hun, yn codi proffil ac enw da Cymru yn rhyngwladol. Mae is-bennawd a brand ‘Y Daith i Gaerdydd’ wedi bod yn weladwy o gwmpas y byd ers rhai misoedd erbyn hyn, yn amlwg iawn ym mhob gêm Cynghrair y Pencampwyr ac ar ddechrau ac yng nghanol pob gêm sydd wedi ei darlledu. Yn ychwanegol at y miliynau o wylwyr teledu a'r cefnogwyr lwcus sy’n gallu mynd i’r gemau eu hunain, amcangyfrifir y bydd 200,000 o bobl yn dod i Ŵyl Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd, dathliad pedwar diwrnod rhad ac am ddim o ddydd Iau tan ddydd Sul. Bydd yr ŵyl yn darparu profiad UEFA o ansawdd uchel fel bod cyfle i’r rheini sydd heb docynnau weld y tlws, ymgysylltu â'r noddwyr, cael nwyddau UEFA argraffiad cyfyngedig a gweld rhai o gyn gewri pêl-droed y byd yn chwarae gêm chwedlonol ar gae arnofiol ym Mae Caerdydd ddydd Gwener 2 Mehefin.

Fel yn achos taith y tlws, rydym yn dymuno lledaenu effaith gadarnhaol y digwyddiad drwy Gymru gyfan, ac fe fydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli cenhedlaeth, gyda chyfres o ddeunyddiau traws-gwricwlwm wedi eu dylunio’n arbennig yn cael eu cyflwyno i tua 1,000 o ysgolion yng Nghymru yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad, gan wella’r cwricwlwm ac ymgysylltu gyda 136,000 o bobl ifanc o bosibl. Gan ychwanegu at gymwysterau Cymru fel cenedl sy’n barod i wirfoddoli, bydd 1,500 o hyrwyddwyr yn rhan o'r rhaglen wirfoddoli a fydd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i'r cyfranogwyr y gallant eu defnyddio yn eu man addysg neu fan gwaith. Mae'r digwyddiad hefyd yn darparu llwyfan bwysig ar gyfer annog cyfranogiad ehangach.  Bydd y pwyslais a roddir ar gêm derfynol y merched ar 1 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ochr yn ochr ag un y dynion, a chynnal y gêm derfynol yn yr un ddinas, yn codi proffil pêl-droed merched a genethod yng Nghymru, gan annog ffitrwydd a chyfranogiad a chynyddu statws y gêm yng ngolwg chwaraewyr, addysgwyr a darpar noddwyr. Bydd tua 2,500 o enethod a merched o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn gŵyl pêl-droed merched wedi ei threfnu’n arbennig a fydd yn cael ei chynnal yr un diwrnod â gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA.   I’r cefnogwyr sy'n dymuno ymdrochi ym mhrofiad Cynghrair y Pencampwyr, mae tocynnau ar gyfer gêm derfynol y merched yn dal i fod ar gael a byddai'n wych gweld stadiwm llawn dop yn estyn croeso cynnes Cymreig i'r chwaraewyr.

Ond mae cynnal digwyddiad anferth fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cyflwyno heriau sylweddol. Caerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal y gêm derfynol ac mae cynllunio helaeth wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd i sicrhau digwyddiad diogel a phleserus. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arwain ymdrech ‘tîm Cymru’ ar y cyd, ac yn trefnu cefnogaeth sylweddol y partneriaid allweddol gan gynnwys Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, Stadiwm y Principality, sy'n cael ei hailenwi'n ‘Stadiwm Genedlaethol Cymru’ ar gyfer y digwyddiad hwn, ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn erbyn cefndir o dirwedd diogelwch rhyngwladol heriol dros ben, sydd, yn drasig, wedi dod yn fwy difrifol yn yr wythnosau diwethaf. Yn erbyn y cefndir hwn, mae diogelwch pawb sy'n mynychu'r digwyddiadau yn hollbwysig. Mae Heddlu De Cymru, gyda chymorth gan heddluoedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr, yn arwain y gwaith diogelwch mwyaf ers uwchgynhadledd NATO. Mae'n anochel y bydd hyn yn effeithio ar lif traffig a cherddwyr o amgylch y ddinas, ond y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw diogelwch trigolion yn ogystal ag ymwelwyr.

Mae trafnidiaeth a theithio i ac o amgylch y digwyddiad hefyd yn cyflwyno her logistaidd. Ar gyfer y digwyddiad hwn, mae cynllunio trafnidiaeth wedi cael ei wneud yn fwy anodd am nad ydym yn gwybod pwy fydd yn y gêm derfynol tan dair wythnos cyn y digwyddiad, er bod gennym syniad llawer cliriach yn dilyn y gêm gyfartal gynderfynol ddiweddar. Mae cyfres o fesurau wedi eu cynllunio'n ofalus yn cael eu rhoi ar waith o amgylch rhwydwaith ffyrdd canol y ddinas yn y pythefnos sy'n arwain at y digwyddiad a bydd hyn yn achosi rhywfaint o aflonyddwch.

Mae'r neges yn glir: bydd Caerdydd yn brysurach nag y bu erioed ar 3 Mehefin ac fe ddylai’r rhai nad ydynt yn mynd i’r gêm osgoi teithiau diangen. Comisiynwyd ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn arbennig a bydd yn cael ei chyflwyno i gynghori trigolion, busnesau ac ymwelwyr ynglŷn ag amharu posibl i deithiau a thrafnidiaeth ac i roi cyngor ar leihau anghyfleustra, ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan ymgysylltiad wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid targed allweddol.

Felly, mae’r ddinas leiaf erioed i gynnal gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn mynd i gyflwyno sioe heb ei thebyg yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau. Mae Cymru yn cael ei phroffilio ledled y byd i gynulleidfaoedd rhyngwladol sydd efallai erioed wedi ein hystyried yn y gorffennol fel lleoliad i ymweld ag ef neu i wneud busnes. Rydym ar fin adeiladu ar berfformiad gwych Cymru ym mhencampwriaethau Ewropeaidd y llynedd i gael ein gwreiddio mewn diwylliant pêl-droed ledled y byd fel cyrchfan deniadol iawn ar fap y byd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu bod gan Gymru hanes balch o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n llawer uwch na'r hyn a fyddai'n ddisgwyliedig fel arfer ar gyfer gwlad o'n maint ni. Cytunaf yn llwyr â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn anrhydedd fawr i Gaerdydd gael cynnal y digwyddiad byd-eang pwysig hwn sydd, wrth gwrs, â’r potensial i arddangos y gorau o Gymru i'r byd a bod o fudd sylweddol i economi Cymru yn ogystal â rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth.

Mae digwyddiadau chwaraeon mawr o'r fath nid yn unig yn tanio ein balchder cenedlaethol ac yn rhoi hwb i lefelau twristiaeth, ond maent hefyd yn codi'r mater o gefnogi’r agenda iechyd cyhoeddus ehangach hefyd. Felly, gyda golwg ar hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd ers llwyddiant Euro 2016 i roi hwb i rinweddau ffordd egnïol o fyw a manteision eraill gweithgarwch chwaraeon, a gwneud hynny, wrth gwrs, yn wyneb llai o gyllid yn y maes hwnnw hefyd?

Yn economaidd, mae cynnal digwyddiadau fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr hefyd yn gyfle gwych i hysbysebu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, nid yn unig i Ewropeaid eraill ond hefyd ar draws y byd. Roeddwn yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i arddangos ein cenedl yng Ngŵyl Pencampwyr UEFA ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn deunyddiau traws-gwricwlwm ar gyfer ysgolion Cymru. Roeddwn yn falch o glywed hynny.

Cyfeiriasoch hefyd at y potensial am fygythiadau diogelwch yn y pencampwriaethau. A gaf i hefyd gymeradwyo eich cyngor i wylwyr fod yn wyliadwrus a chymryd sylw o gyngor gan yr heddlu a staff diogelwch?

Yn olaf, hoffwn ofyn pa wersi a ddysgwyd o gynnal digwyddiadau mawr yn flaenorol, yn enwedig o safbwynt trafnidiaeth. Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, cafodd profiad o Gaerdydd ei dymheru gan broblemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, gydag oedi hir o hyd at 4 awr mewn rhai achosion, ac achosion o orlenwi, a fydd o bosibl, rwy’n disgwyl, yn cael y sgil-effaith o wneud pobl yn gyndyn o ymweld yn y dyfodol.  Nawr, o ystyried y ffaith bod nifer yr ymwelwyr yng ngorsaf Caerdydd Canolog wedi cynyddu'n ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf, a ydych chi’n hyderus bod yr orsaf yn gallu ymdopi â'r gorlif? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ac osgoi ailadrodd y digwyddiadau. Felly, a gaf i ofyn pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd, ochr yn ochr â siarad â darparwyr cludiant, cyngor dinas Caerdydd a threfnwyr y twrnamaint, er mwyn lleihau'r tarfu i deithwyr, preswylwyr a chefnogwyr?

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau, a hefyd am ei frwdfrydedd ynghylch hyn a digwyddiadau mawr eraill yr ydym wedi eu cynnal yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Mae gennym hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr o ansawdd o arwyddocâd byd-eang, gan gynnwys Cwpan Ryder, er enghraifft, a osododd Cymru ar fap byd-eang o ran y wlad fel cyrchfan golff, yn ogystal â llu o ddigwyddiadau chwaraeon o bwys, ac, yn wir, ddigwyddiadau diwylliannol, a gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd agwedd strategol tuag at gynnal digwyddiadau mawr i sicrhau ymwelwyr sy'n ailymweld, a hefyd i ddenu buddsoddiad newydd i'r wlad a phortreadu Cymru fel gwlad lle mae ansawdd bywyd yn hollbwysig. Bydd manteision gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn sylweddol, ond ni fyddant wedi eu cyfyngu i rai economaidd yn unig—er bod yr effaith economaidd wedi ei asesu i fod yn rhywbeth tebyg i tua £45 miliwn yn y cyfnod agos, ac yn syth ar ôl gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Ond rydym yn disgwyl, o ganlyniad i gannoedd ar filoedd o bobl yn ymweld â Chaerdydd, gweld niferoedd ymwelwyr yn y dyfodol yn cynyddu yn unol â hynny, gyda mwy o bobl yn aros yma dros nos yn sgil profi'r croeso Cymreig cynhesaf bosibl yn ein prifddinas.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am bwysigrwydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ac yn wir ddigwyddiadau chwaraeon mawr eraill, i’r agenda 'iach a gweithgar' sydd gan y Llywodraeth hon. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio digwyddiadau chwaraeon mawr, nid yn unig i ddenu pobl i ymweld â Chymru, ond hefyd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn dod yn fwy egnïol yn eu bywydau bob dydd ac i ysbrydoli nid yn unig cenhedlaeth y dyfodol, ond cenedlaethau cyfredol hefyd i fod yn fwy egnïol ac ymwneud mwy â chwaraeon.

Ar ôl yr Euros y llynedd, bu Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, yn gweithio gyda nifer o gyrff llywodraethu cenedlaethol, yn bennaf FAW, i hyrwyddo, yn enwedig i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, y potensial i gymryd rhan mewn pêl-droed. Ac o ganlyniad i fuddsoddiad ac ymdrech barhaus, rydym wedi gweld cynnydd nodedig yn nifer y genethod, yn anad dim, sydd wedi dechrau chwarae pêl-droed. Rydym wedi gweld cynnydd mwy o lawer yn gyfrannol yn nifer y genethod sy'n cofrestru fel chwaraewyr pêl-droed na merched ac, yn wir, fechgyn. Felly, yn amlwg, mae pêl-droed yn dod yn llawer mwy deniadol fel gêm, fel math o weithgarwch corfforol, i enethod. Ond rydym yn dymuno cynnal y momentwm sydd wedi ei sefydlu cyn, yn ystod, ac ar ôl yr Euros drwy ymgysylltu ag ysgolion, fel yr amlinellodd yr Aelod, trwy ymyriad gwaith cwricwlwm ysgol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn dod yn fwy brwdfrydig ac yn fwy ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar garreg eu drws.

Prosiect etifeddiaeth gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr fydd sefydlu cyfleuster pêl-droed cymunedol yng Nghaerdydd mewn ardal briodol, yr ydym yn disgwyl y bydd yn cael ei ddefnyddio gan rai, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, a all fod heb fynediad rhad ac am ddim neu fforddiadwy at gyfleusterau chwaraeon. Yn y blynyddoedd nesaf, byddwn yn gobeithio y bydd llawer o'r rhai sy'n mynd ymlaen i ddefnyddio’r cae etifeddiaeth hwn yn cofrestru fel pêl-droedwyr eu hunain. Byddwn hefyd yn defnyddio Gŵyl y Pencampwyr i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan gwyliau a hefyd fel cyrchfan i fuddsoddi a gwneud busnes. Ond rydym wedi bod yn defnyddio gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr fel sbardun i ddenu mwy o sylw i Gymru ers misoedd lawer erbyn hyn . Roeddem wedi tynnu sylw at ein presenoldeb yn sioe deithio Berlin, er enghraifft, gyda phresenoldeb gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Byddwn yn gwneud hynny dros fisoedd yr haf drwy drydar, drwy sicrhau bod cynnwys priodol ar gael ar gyfer gwefannau rhanddeiliaid i arddangos y gorau o Gymru gyda ffotograffau, gyda thestun a gyda fideos byr. Rydym wedi, ac yn dal i ddysgu gwersi yn gyson o’r prif ddigwyddiadau yr ydym yn eu cynnal. Rwy'n gwybod mai un o'r pryderon sydd gan yr Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau Caerdydd yw'r defnydd o'r cae a ddefnyddiwyd ar gyfer yr Eisteddfod fel maes gwersylla Caerdydd ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr ei hun. Rydym wedi dysgu cryn dipyn o wersi o'n profiad gyda'r Eisteddfod ac rydym yn parhau i sicrhau bod y parc yn cael ei ddiogelu ar gyfer ei ddefnyddwyr. Bydd y maes gwersylla yn cael ei ddefnyddio o ddydd Llun 22 Mai, a bydd yn gweithredu o 31 Mai i 5 Mehefin. Ond byddwn yn atgoffa’r Aelodau y bydd gweithgarwch yn mynd rhagddo yno wrth baratoi'r parc o 22 Mai ymlaen. Rydym wedi paratoi taflen cwestiynau ac atebion, sydd ar gael ar wefan bute-park.com, os oes gan unrhyw breswylwyr neu Aelodau'r Cynulliad gwestiynau.

Rydym hefyd wedi dysgu cryn dipyn o wersi ynghylch rheoli teithio mewn cerbydau ac ar drenau. Mae'r gweithredwyr trenau yn gweithio fel tîm ar y cyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Felly, mae Network Rail, Trenau Arriva Cymru, Rheilffordd y Great Western, a CrossCountry Trains yn cydweithio gyda threfnwyr y digwyddiad i sicrhau bod y rheilffyrdd mewn sefyllfa i reoli’r galw mewn digwyddiad o'r maint hwn. Mae hwn yn ddigwyddiad enfawr, ac os caf i redeg drwy rai o'r ffigurau sy'n ymwneud â theithio ar y rheilffyrdd yn benodol, rwy’n credu y bydd yn dangos faint o waith paratoi sydd wedi mynd i mewn i’r digwyddiad penodol hwn: bydd 15,000 yn fwy o deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd ar ôl y gêm yn digwydd o’i gymharu â Chwpan Rygbi'r Byd yn 2015; bydd cyfanswm o 60,000 o deithiau rheilffordd ar ôl y gêm, gan gynnwys 21 o wasanaethau trên cyflym i Lundain; bydd 25,000 o deithwyr siarter awyr yn cyrraedd ac yn gadael y meysydd awyr yng Nghaerdydd, Birmingham a Bryste, a gefnogir gan fwy na 450 o fysus trosglwyddo a dau gyfleuster llwyfannu mawr yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn trefnu cynlluniau parcio a theithio pwrpasol newydd, a fydd yn darparu ar gyfer 7,500 o leoedd yn Llan-wern a Phentwyn, ac yn ogystal â hyn, bydd 5,000 o leoedd parcio a cherdded yn ardal Bae Caerdydd, a fydd yn cefnogi mynediad uniongyrchol i Ŵyl Cynghrair y Pencampwyr UEFA.

Hefyd, bydd 10 y cant o'r farchnad coetsys sydd ar gael yn y DU yn cael ei defnyddio ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Mae hwn yn nifer anhygoel o goetsys. Rydym yn amcangyfrif rhywbeth yn debyg i 1,250, ac rydym yn gweithio ar y cyd gyda gweithredwyr megis National Express i sicrhau, ar draws Cymru, ac ar draws y DU, y bydd ymwelwyr â Chaerdydd yn ystod profiad Cynghrair y Pencampwyr, yn cael profiad o'r ansawdd uchaf, ac y byddant yn gallu mynd i mewn ac allan o Gaerdydd mor rhwydd â phosibl, ac yn yr amser byrraf posibl. Ond byddwn unwaith eto yn annog Aelodau i gyfleu i'w hetholwyr fod hwn yn ddigwyddiad digynsail. Dylem fod yn falch iawn o'r digwyddiad hwn, ond dylem hefyd baratoi'n dda ar ei gyfer.

Rhaid i mi ddweud fy mod i, yn bersonol, yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weld gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd. Roeddwn i’n cicio pêl-droed replica Caerdydd 2017 swyddogol o gwmpas yr ardd neithiwr gyda phlentyn 13 oed a oedd yn llawn cyffro. Ac er mor hapus yr oeddwn i gyfrannu £14.99 at y cwmnïau nwyddau ar gyfer y bêl benodol honno, rydym yn dymuno gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r buddiolwr go iawn yma. Rydym yn sôn am un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd. Wna i byth anghofio gwylio Manchester United yn curo Bayern Munich ym 1999 ar y funud olaf, neu wyrth Lerpwl yn 2005 wrth guro AC Milan. Ond nid y straeon hynny yn unig y byddwn o bosib yn eu hailadrodd yma yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau—y straeon pêl-droed hynny—rwy’n cofio ble’r oedd y gemau hynny, a Man United yn ennill yn Barcelona, ​​a Lerpwl yn ennill yn Istanbwl. Felly, gallai Caerdydd ddod yn rhan o lên gwerin chwaraeon rhyngwladol.

Roeddwn i’n siarad gydag ychydig o blant yn yr Eidal ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn gofyn o ble'r oeddwn i’n dod—‘O Gymru. Ydych chi'n gwybod ble mae Cymru?’ 'Dyna ble fydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal ymhen ychydig wythnosau', sy’n dangos grym iaith pêl-droed yn fyd-eang. Roeddent hefyd yn ymwybodol iawn mai Cymru yw cartref Gareth Bale, wrth gwrs. Ac oni fyddai’n braf gweld Gareth Bale ffit yn chwarae mewn gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas enedigol? Ond, er mwyn cadw cydbwysedd, hoffwn ddweud, wrth gwrs, y byddai croeso i gefnogwyr y ddau dîm o Madrid yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm derfynol. Rwy’n credu bod y gêm gyntaf yn cael ei chwarae heno, o’r rownd gynderfynol honno, gyda'r enillydd yn hysbys i ni erbyn wythnos i ddydd Mercher.

Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy'n ymwneud â threfnu gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ystod yr ychydig wythnosau olaf. Yn benodol, hoffwn sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n rhedeg y sioe. A dyma gymdeithas bêl-droed sydd wedi profi yn ystod yr Euros, a'r cyfnod a oedd yn arwain at yr Euros, y llynedd, ei gallu i fanteisio ar sylw chwaraeon rhyngwladol.

Dim ond tri chwestiwn. Soniasoch am y cyfleuster cymunedol a fydd yn cael ei adael fel etifeddiaeth yn Grangetown yng Nghaerdydd, y cae 3G yno. Mae'r cyngor lleol wedi gwarantu y bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim am ddwy flynedd. Ar ôl hynny, nid yw taliadau wedi eu diystyru. Ond a dweud y gwir, wrth gwrs, os ydym yn mynd i weld etifeddiaeth wirioneddol o hyn, mae angen cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim am gyfnod hirach o lawer na dwy flynedd. Felly, beth ydych chi'n mynd i’w wneud i sicrhau bod etifeddiaeth hwy na dim ond defnydd dwy flynedd o gyfleuster cymedrol, ond pwysig iawn, i'r gymuned honno, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar yr ydym wedi’i weld yn y taliadau ar gyfer cyfleusterau chwaraeon ar draws Cymru gyfan?

Yn ail, bydd yr argraff gyntaf yn bwysig iawn, iawn. Byddwn yn gweld llawer o ymwelwyr â Chaerdydd. Pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i gynnig i gyngor Caerdydd i sicrhau bod sbwriel yn cael ei gasglu, bod gennym ddinas lân, fodern yn aros am yr holl gefnogwyr pêl-droed hynny?

Yn olaf, mae'r datganiad yn nodi mai Caerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal y digwyddiad hwn. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, petawn yn cymryd yr ardal ehangach—Cymoedd de Cymru, wrth gwrs, a'r boblogaeth fawr yno—mae'n debyg nad hi yw'r ardal leiaf. Ond, yn amlwg, er mwyn cynnal digwyddiadau fel hyn yng Nghaerdydd mae angen i’r seilwaith fod yn ehangach na dim ond y ddinas ei hun—mae angen iddo gynnwys y Cymoedd, gan gryfhau’r seilwaith trafnidiaeth dros ardal ehangach. Felly, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i sicrhau bod y digwyddiad hwn o fudd i'r ardaloedd cyfagos ehangach, ac, ynghyd â'r hwb hwnnw sy’n angenrheidiol i'r seilwaith, nid yn unig ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr—dim ond nifer cyfyngedig y gallwn ni eu gwneud yn yr ychydig wythnosau nesaf—ond yn y tymor hirach, i gefnogi Cymru i fod yn chwaraewr ar y llwyfan byd-eang ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei frwdfrydedd hefyd? Rwy'n rhannu ei gyffro—roeddwn i ym Mhortmeirion ddydd Sul, a gwelais sioe deithiol Cynghrair y Pencampwyr yn denu nifer fawr o bobl ifanc i'r uned symudol oedd ganddynt, ac, unwaith eto, yn hyrwyddo Caerdydd, gan sicrhau bod y digwyddiad yn berthnasol i bob rhan o Gymru.

Ac, o ran gemau terfynol blaenorol Cynghrair y Pencampwyr, byddwn i'n cytuno—mae’r lleoedd lle maent yn cael eu cynnal yn dod yn adnabyddus ledled y byd—nid yn unig yn Ewrop, ond ledled y byd—a bydd atgofion melys iawn am y gemau chwedlonol sy'n cael eu cynnal. Mae Istanbwl yn un sy'n sefyll allan i mi yn bersonol. Roedd gen i ddau frawd a deithiodd, trwy wahanol ddulliau—mewn awyren, trên a char—i Istanbwl. Ond bydd ganddynt atgofion melys am weddill eu bywydau, fel y byddaf innau, er nad wyf yn cefnogi Lerpwl—maen nhw, ond dydw i ddim. Mae fy nhîm i eto i gyrraedd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ac, yn anffodus, ni fydd yn un eleni chwaith. Ond mae'n rhywbeth sy'n cipio dychymyg a brwdfrydedd pobl, hen ac ifanc. Ac rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ni fod yn falch iawn ohono, ar hyd a lled Cymru. Rwyf innau’n gobeithio y bydd Gareth Bale yn ddigon ffit, ac y bydd yn rhan o dîm a fydd yn mynd drwodd i’r rownd gynderfynol ac i'r rownd derfynol, ac y byddwn yn gallu ei groesawu i'w ddinas enedigol.

O ran hyrwyddo'r digwyddiad hwn, mae hyn yn rhywbeth a godwyd gan Russell George, ond hoffwn ychwanegu hefyd o ran gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, y bydd hyn yn cynnig cyfle o ddigwyddiad heb ei ail i hyrwyddo Cymru fel gwlad ddeniadol i ymweld â hi, ac i fyw a buddsoddi ynddi. Rydym wedi gweld yn barod, o ran gwefan Croeso Cymru, gynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr unigryw, o rywbeth tebyg i 2 filiwn dair blynedd yn ôl i 5 miliwn. Rydym wedi gosod targedau newydd ac uchelgeisiol i gynyddu’r ffigur hwnnw ymhellach, a digwyddiadau fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr sy’n gallu denu mwy o bobl i’n gwefannau, creu mwy o ddiddordeb yn ein crynodebau Twitter a'n tudalennau Facebook. Rwy’n disgwyl, o ganlyniad i hynny, a'r cynnwys o ansawdd uchel yr ydym yn ei ddarparu i randdeiliaid, y bydd mwy o ddiddordeb yng Nghymru fel cyrchfan gwyliau a lle i fuddsoddi ynddi yn deillio o gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal, a byddwn yn parhau i gynnal, teithiau ymgyfarwyddo i ddylanwadwyr allweddol yn y cyfryngau. A byddwn yn cytuno â'r Aelod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol i arwain ymdrech tîm Cymru eleni, ac yn y blynyddoedd diwethaf, yn wir, yn y cyfnod cyn yr Euros.

Rwy’n credu bod y cae etifeddiaeth yn rhywbeth y dylai Caerdydd deimlo’n llawn cyffro yn ei gylch a bod yn falch ohono. Penderfyniad i’r awdurdod lleol a’r cynghorau lleol yw sut y byddant yn cynnal ac yn talu am gostau cynnal a chadw cyfleusterau cymunedol allweddol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo yn hyn o beth trwy osod o fewn y rhaglen lywodraethu nodyn i sefydlu cronfa her. Mae hyn yn benodol ar gyfer y grwpiau a sefydliadau cymunedol a allai fod o fudd i weithgareddau chwaraeon a chelfyddydau cymunedol. Rwy'n credu y gallai’r cyfleuster penodol hwn fod yn brif dderbynnydd buddsoddiad y gronfa her.

Byddwn innau’n cytuno bod yr argraffiadau cyntaf yn bwysig, ac mae cyngor Caerdydd ar y grŵp llywio. Cydnabyddir bod yn rhaid i'r ddinas nid yn unig edrych yn lân ac yn daclus, ond hefyd edrych yn fywiog â digonedd o faneri, lliwiau llachar—lliwiau chwaethus hefyd—sy'n cyfleu Caerdydd yn y ffordd y mae’n dymuno cael ei gweld o gwmpas y byd fel lle sy’n llawn diwylliant sy'n croesawu pawb. Ond nid cyngor Caerdydd yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau bod Caerdydd a'r ardal o gwmpas ein prifddinas yn lân ac yn daclus. Rydym ni’n gyfrifol am y cefnffyrdd, ac felly rydym yn sicrhau bod y rhwydwaith cefnffyrdd yn cael ei gadw'n lân ac yn daclus, ond hefyd rwy'n gwybod bod gan Network Rail dimau ychwanegol o’u lluoedd oren ar gael i wneud yn siŵr bod sbwriel yn cael ei godi ar ochrau’r traciau o’r fan hon drwodd i Fryste, Birmingham a Llundain, gan sicrhau bod yr argraffiadau cyntaf hynny y gorau y gallem obeithio amdanynt.

O ran budd i’r gymuned ehangach, yn enwedig cymunedau'r Cymoedd, rwy'n credu bod agor platfform 8 yng Nghaerdydd Canolog wedi bod yn hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gallu denu pobl i mewn i'r brifddinas yn gyflymach ac ar wasanaethau sy'n fwy dibynadwy. Ond mae prosiect £300 miliwn signalau ardal Caerdydd hefyd wedi gwella cydnerthedd ac wedi sicrhau bod pobl yn gallu mynd i gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda mwy o hyder eleni nag a ddigwyddodd o bosibl yn y blynyddoedd blaenorol. Rwy’n credu bod angen i ni ddefnyddio'r digwyddiad hwn, fel yr ydym wedi defnyddio digwyddiadau mawr eraill, fel cyfleoedd enfawr i gyffroi ac ysbrydoli pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ac rwy'n gobeithio o ganlyniad i'r gwaith yr ydym yn ei wneud, ac y mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ei wneud hefyd gydag ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill, a chyda mannau gwaith, y byddwn yn gweld mwy o bobl yn dod yn fwy egnïol yn gorfforol am fwy o'r amser.

A gaf i ddweud, fel cefnogwr pêl-droed o fri, Ysgrifennydd y Cabinet, fel Rhun rydw innau hefyd yn edrych ymlaen yn ofnadwy wrth feddwl am Gynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd, a chymeradwyaf waith Llywodraeth Cymru wrth helpu i sicrhau hyn. Ddydd Sadwrn, rwyf am fynd yn ôl i Barc Penydarren lle mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr am arddangos cwpan Cynghrair y Pencampwyr yno. Rwy'n credu ei bod yn fenter wych—mynd i glybiau bach fel Tref Merthyr, a bydd cyfle i bobl a chefnogwyr fynd yno a chael tynnu eu llun. Rydw i'n sicr yn gobeithio y byddaf i, oherwydd dyna’r agosaf y bydd cyfle i gefnogwr Bristol City byth fod at y cwpan Ewropeaidd, gallaf ddweud hynny wrthych. Ond efallai ei bod yn fwy priodol y dylwn nodi fod y cwpan Ewropeaidd yn dod i Ferthyr ar achlysur trideg mlynedd ers iddynt guro tîm nerthol Atalanta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1987. Felly, rwy’n credu ei bod yn briodol iawn fod gennym dlws Ewropeaidd arall yn dod yma eleni.

Ond, ynghyd â phopeth arall yr ydych wedi ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch manteision ariannol y gêm derfynol yn dod i Gaerdydd, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cymeradwyo’r cynlluniau y gwelwn glybiau fel Merthyr yn cymryd rhan ynddynt, mewn gweithgarwch cymunedol a phêl-droed yn y gymuned. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddatblygu y math hwnnw o bêl-droed yn y gymuned. Felly, roeddwn i’n awyddus i ddilyn ymlaen o'r cwestiwn a ofynnodd Rhun a rhywbeth yr ydych chithau eisoes wedi ei grybwyll. A allech chi ymhelaethu mwy ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo clybiau fel Merthyr i ddatblygu eu gweithgareddau cymunedol, yn enwedig ar gyfer genethod, y mae'r clwb wedi cael anhawster i’w denu i raddau helaeth.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad a dweud fy mod i'n edmygu'n fawr y ffordd y mae Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful wedi ymwreiddio mor ddwfn yn y gymuned? Mae'n lle sy'n uno pobl, mae'n rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl ac mae bob amser yn bleser ymweld â'r clwb penodol hwnnw. Gwn fod Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful hefyd yn arloesol iawn ac yn cynnal pêl-droed cerdded ar gyfer yr henoed, ac rwy'n credu bod hyn yn enghraifft wych o sut y gall pêl-droed fod yn berthnasol i bawb o bob gallu corfforol.

Rwyf hefyd yn credu bod gan glybiau pêl-droed ran hollbwysig i’w chwarae o ran gallu rhoi ymdeimlad o gymhwysedd a hyder i bobl drwy sefydlu rhaglenni gwirfoddoli, rhaglenni llysgenhadon ieuenctid a rhaglenni cyflogadwyedd. Gwn fod enghreifftiau da o hyn nid yn unig ar draws Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd. Yn wir, yn yr Alban, ymwelais â nifer o glybiau yn Glasgow sydd wedi dod yn ganolfannau ar gyfer rhaglenni gweithgarwch corfforol a chyflogadwyedd cymunedol. Yn aml, gall sefydliadau chwaraeon cymunedol weithredu fel magnet i’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg neu hyfforddiant ffurfiol a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i ennill sgiliau a phrofiad sy'n eu sefydlu’n iawn ac yn llawn ar gyfer y byd gwaith. Felly nid oes gen i unrhyw amheuaeth ynglŷn â gwerth mawr clybiau pêl-droed ar hyd a lled Cymru o ran gwella bywydau pobl, eu lles, eu rhagolygon gwaith ac, wrth gwrs, eu lefelau o weithgarwch corfforol.

Ond rwyf hefyd yn credu bod yr Aelod wedi amlinellu stori hynod berthnasol yn ymwneud â’r dathliad trideg mlynedd ac y byddai, efallai, yn rhywbeth y dylid ei drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn Chwedlau, gan fy mod yn credu ei bod yn stori arbennig o bwysig y dylid ei hadrodd, a gobeithio y bydd yr Aelod yn parhau i’w hailadrodd mewn lleoliadau eraill.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

O ran ymgysylltu, gwn fod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol a chwaraeon yn awyddus iawn i sicrhau bod mwy o ferched ifanc a genethod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon dros y blynyddoedd diweddar ar draws Cymru, ond mae her o hyd gyda chynnal lefelau gweithgarwch unwaith y bydd geneth yn cyrraedd tua 13 neu 14 oed, ac yna byddwn yn gweld gostyngiad sydyn. Yr hyn y mae Chwaraeon Cymru wedi ei ddatblygu yw cyfres o raglenni wedi'u hanelu at sicrhau bod genethod yn ystyried bod ffurfiau o weithgarwch corfforol yn fwy atyniadol a'u bod yn gallu cael mynediad at wahanol ffurfiau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol a allai fod yn anffurfiol yn yr oedran allweddol hwnnw, fel nad ydynt yn llithro oddi ar risiau symudol gweithgarwch corfforol. Ond rwy’n gwybod, gyda'r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i Chwaraeon Cymru, fod cwestiwn allweddol yn cael ei ofyn: pa fath o chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd fwyaf deniadol i'r grwpiau yn ein poblogaeth nad ydynt ar hyn o bryd yn cymryd ddigon o ran mewn gweithgarwch corfforol? Rwy'n credu y bydd hwn yn faes polisi hynod bwysig i Lywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rydym yn gwybod bod gan fentrau fel bond llesiant Cymru, estyniad o ragnodi cymdeithasol, botensial mawr i wella lefelau ffitrwydd yn ein poblogaeth, ond er mwyn gwneud y mwyaf o’r potensial, mae angen i ni sicrhau bod sefydliadau chwaraeon cymunedol yn prynu i mewn, fel y gallant weithredu fel ein partneriaid cyflenwi sylfaenol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hoffwn ni yn UKIP longyfarch pawb sy'n ymwneud â dod â’r digwyddiad hynod nodedig hwn i Gymru. Bydd yr hwb i'r economi o’r cannoedd ar filoedd a fydd yn ymweld â Chaerdydd yn sylweddol, a hoffwn adleisio datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynnal un o'r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon a'i effeithiau pellgyrhaeddol o ran taflu delwedd Cymru fel hunaniaeth genedlaethol ar wahân ledled y byd, ac ni ellir goramcangyfrif effaith hynny. Gallwn fod yn sicr y bydd yn gwella proffil Cymru mewn cyd-destun gwirioneddol fyd-eang gydag effaith ddramatig bosibl ar ein diwydiant twristiaeth dros y blynyddoedd nesaf. Bydd, wrth gwrs, hefyd yn helpu i hwyluso dyheadau Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad cyfan i werthu brand Cymru ar draws y byd, a'r cyfleoedd economaidd y bydd hynny’n ei gynhyrchu. A gaf i fanteisio ar y pwynt hwn i ganmol Llywodraeth Cymru ar y gwaith paratoi helaeth ar gyfer y digwyddiad enfawr hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd y cynlluniau wrth gefn yr ydych wedi eu rhoi ar waith yn sicrhau y bydd yn mynd y ffordd orau bosibl? Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a chroesawu ei gefnogaeth ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr? Rwy’n credu ei fod yn ddigwyddiad sy’n ennyn cefnogaeth ar draws y Siambr gyfan hon, ac yn un yr wyf yn gwybod y bydd llawer o Aelodau yn awyddus i’w wylio a hyd yn oed gymryd rhan ynddo, oherwydd bydd miloedd o gyfleoedd i wirfoddoli, a hyd yn oed os nad ydych yn gwirfoddoli, dim ond bod yn y ddinas. Os ydych yn cynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd, byddai croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr yn rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn ei werthfawrogi yn fawr iawn.

Mae manteision economaidd y digwyddiad hwn yn enfawr. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r effaith economaidd uniongyrchol o £45 miliwn i’r economi leol, ond rydym hefyd yn amcangyfrif, o ganol mis Mawrth, bod gwerth cyfatebol hysbysebu’r digwyddiad yn dod i Gaerdydd gyfystyr â rhywbeth yn debyg i oddeutu £15 miliwn yn Ewrop yn unig. Ar raddfa fyd-eang, ni allaf ddychmygu faint y mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynhyrchu o ran sylw cyfatebol hysbysebu, ond tybir ei fod ymhell y tu hwnt i unrhyw ddigwyddiad undydd arall y gallem obeithio ei gynnal yng Nghymru. Ac rwy'n hyderus y bydd manteision hysbysebu cyfatebol y digwyddiad hwn erbyn i gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyrraedd, gyfystyr â phell dros £20 miliwn yn Ewrop. Rydym hefyd wedi cyrraedd ymhell o ran hashtag #RoadToCardiff. Credwn, o ddechrau mis Mawrth, fod yr hashtag wedi cyrraedd mwy na 25 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd. Dyma rywbeth na all arian ei hun ei brynu. Ni all hyn ond ddigwydd—ni ellir ond gwerthfawrogi a gwireddu hyn mewn ystyr gadarnhaol—drwy gynnal digwyddiadau mawr.

Y tro cyntaf i mi erioed ymweld â Chaerdydd oedd i weld y Pab yn, rwy'n credu, 1980 neu 1981. Nid oedd y digwyddiad hwnnw hyd yn oed mor fawr ag y bydd y digwyddiad hwn i Gaerdydd. Mae hwn yn ddigwyddiad aruthrol o fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ddau dîm terfynol, ond rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr â Chaerdydd.

5. 5. Cynnig i Amrywio Trefn y Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Eitem 5 ar yr agenda yw’r cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6293 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

(a) adrannau 3–26

(b) adran 2

(c) adrannau 27–52

(d) adrannau 54–91

(e) adran 53

(f) adrannau 92–124

(g) Atodlenni 1–4

(h) adran 1

(i) Teitl Hir

Cynigiwyd y cynnig.

Mae wedi ei gynnig yn ffurfiol.

Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl: Gwasanaethau Diabetes yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Rydym nawr yn symud ymlaen at eitem 6 ar yr agenda, sef y ddadl ar wasanaethau diabetes yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig NDM6292 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a) wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b) cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c) galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a

d) defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.

Member
Vaughan Gething 15:54:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur ac i gael y cyfle i gael y ddadl hon am her iechyd cyhoeddus sylweddol i Gymru, ac i nodi ein cynnydd o ran gwella ansawdd gofal, yn ogystal ag ailddatgan ein disgwyliadau a’n huchelgais ar gyfer gwelliant pellach.

Rwy’n mynd i sôn yn fyr am y gwelliannau. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliant 1 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, gan nad ydym yn credu ei bod yn gywir i ddatgan nad oes addysg strwythuredig ar gael i blant a phobl ifanc. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Ond, rwyf ar ddeall bod pryder gwirioneddol ynghylch y niferoedd y cofnodir eu bod yn manteisio ar addysg strwythuredig a’r ffigurau yr ydym yn eu cael o’n harchwiliad. Mae ein holl unedau diabetes pediatrig yn cynnig addysg hunanreoli i blant a phobl ifanc sydd newydd gael diagnosis. Hoffem wella'r hyn y mae’r archwiliad yn ei gyfrif i wella ei gywirdeb, ond nid yw cleifion yn cael eu hatgyfeirio i leoliad arall i gael addysg diabetes: mae'n cael ei ddarparu o fewn yr uned. Gallwn ddweud, fodd bynnag, ein bod yn ddiweddar wedi cyflwyno rhaglen addysg strwythuredig newydd i Gymru gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc o'r enw SEREN. Y rhaglen hon yw'r gyntaf o'i math yn y DU. Felly, rydym yn disgwyl gweld gwelliant o ran cofnodi cyfranogiad mewn addysg hunan-reoli yn y dyfodol, a hefyd, wrth gwrs, hoffem gynyddu niferoedd y bobl sy’n cymryd rhan. Felly, mater o eiriad yw hwn a dweud y gwir, yn hytrach na’n huchelgais ni a chydnabod bod angen inni wneud mwy.

O ran gwelliant 2, rwy’n hapus i groesawu a derbyn y gwelliant sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrin â gordewdra, a byddaf yn siarad am y mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad. Ond, ar y cychwyn, hoffwn gydnabod, wrth gwrs, fel y bydd pobl yn y lle hwn yn ei wybod, bod yna wahaniaeth rhwng diabetes math 1 a math 2. Mae diabetes math 1 yn grŵp llawer llai o bobl ac nid oes ffactorau ffordd o fyw yn gysylltiedig â’i ddatblygiad, ond mae math 2 yn sicr yn gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw. Mae llawer o'n trafodaeth am dwf diabetes yn ymwneud yn bennaf â’r cynnydd mewn diabetes math 2 ledled ein gwlad. Ond, yr amcangyfrif yw bod diabetes yn ei holl ffurfiau, â’i holl gymhlethdodau, yn costio tua 10 y cant o’r gwariant ar iechyd yma yng Nghymru. Ac, os na fydd newid, o fewn yr 20 mlynedd nesaf rydym yn amcangyfrif y bydd hynny’n codi i tua 17 y cant o'r gwariant ar iechyd. Mae cofrestri meddygon teulu ar hyn o bryd yn dangos bod diabetes gan 7.3 y cant o'r boblogaeth dros 17 oed a bod y niferoedd yn parhau i godi. Mae hynny’n bron i 189,000 o'n ffrindiau, aelodau o'n teuluoedd, ein cydweithwyr a’n cymdogion sy'n byw gyda’r clefyd hwn, ac eraill sydd heb gael diagnosis eto.

Felly, o ran galw, cost a dioddef uniongyrchol, mae diabetes eisoes yn cael effaith ddifrifol ar ein cymdeithas a’n system iechyd a gofal. Mae'r niferoedd wedi cynyddu dros 17 y cant mewn pum mlynedd yn unig, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar dros 300,000 o bobl erbyn 2025. Mae'n bwysig cydnabod, er ein bod yn awyddus i wella'r gofal a thriniaeth, nad oes pilsen hud i drin ein ffordd allan o'r epidemig diabetes hwn. Mae hyn yn un o'r prif heriau iechyd cyhoeddus sy'n wynebu Cymru. Mae angen newid sylweddol mewn agwedd ac ymddygiad o fewn pob un o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.

Cafodd ein dulliau cenedlaethol yma yng Nghymru eu diweddaru ym mis Rhagfyr y llynedd, a bydd hynny’n mynd â ni hyd at 2020. Ar 21 Ebrill eleni, cyhoeddwyd datganiad o gynnydd a bwriad gennym, ac mae’r datganiad hwnnw yn tynnu sylw at yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni, yn ogystal â'r hyn sydd gennym i'w wneud eto. Mae'n nodi'n glir beth yw cyfeiriad, trefniadau arweinyddiaeth a meysydd ein pwyslais cenedlaethol.

Yn ogystal â lleihau nifer yr achosion newydd o ddiabetes, rydym yn cydnabod bod angen pwyslais parhaus ar wella’r ffyrdd yr ydym yn trin pobl ac yn eu cynorthwyo i reoli eu diabetes. Mae ar lawer o bobl sy’n dioddef o ddiabetes angen cymorth dwys ac eang i reoli eu cyflwr ac i leihau'r risg o ddallineb, clefyd y traed, methiant yr arennau a chlefyd y galon. I’r mwyafrif helaeth, darperir hyn mewn gofal sylfaenol a chymunedol, ond bydd ar eraill angen defnyddio ysbytai a thimau arbenigol iawn. Mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i weithio fel system wirioneddol gydgysylltiedig. Dyna pam mae hi’n flaenoriaeth genedlaethol allweddol i ddefnyddio gwybodeg i ddarparu cofnod diabetes unedig ar draws gwahanol leoliadau gofal iechyd, a dylai’r cofnod diabetes unedig hwnnw helpu i ddarparu gofal diabetes integredig, cywir ac amserol lle bynnag y mae’r claf dan sylw yn cael gofal iechyd. Yn syml, dylai ein helpu i ddarparu gwell gofal i'r dinesydd.

Rydym ni’n gweithio gyda meddygon gofal sylfaenol, nyrsys arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i ddatblygu model newydd o ofal diabetes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes arnom ofn dysgu arfer gorau oddi mewn i Gymru na thu hwnt iddi i wneud hynny. Bydd hynny'n sicr yn golygu newid pellach i ofal sylfaenol ac atgyfnerthu'r angen i unioni arfer lleol nad yw’n dda ac nad yw’n rhoi blaenoriaeth briodol i ganlyniadau i gleifion.

Fodd bynnag, dylai fod pob claf â diabetes yn derbyn eu prosesau gofal allweddol a argymhellir gan NICE, gan weithio tuag at dargedau triniaeth unigol. Er yr holl gynnydd yr ydym wedi'i wneud, rydym yn gwybod nad ydym wedi gwneud hynny mewn modd mor gyson ag yr oeddem yn ei ddymuno. Felly, mae ein darparwyr gofal sylfaenol eisoes yn gweithio â data archwilio cenedlaethol i ymdrin ag amrywiadau mewn gofal a gwella safonau. Dyna fyfyrio priodol gan y gweithwyr proffesiynol eu hunain am yr angen i wneud gwelliannau pellach.

Rydym yn gwybod o'r archwiliad y gallwn wneud cynnydd ar adroddiadau diweddar, sydd wedi dangos chwe blynedd o welliant parhaus mewn canlyniadau ar lefel y boblogaeth. Mae gennym hefyd waith pwysig ar y gweill i gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth a phobl sy'n aros yn yr ysbyty, gan fod diabetes gan un o bob pump o gleifion mewnol. Mae hynny, unwaith eto, yn amlygu pwysigrwydd rhaglenni gwella gwasanaethau ysbytai fel Think Glucose a Think, Check, Act. Mae ein harchwiliad diabetes cleifion mewnol yn cadarnhau bod ysbytai’n darparu gofal diabetes mwy personol, lefelau uchel o brofiad y claf, a llai o bobl yn dioddef hypoglycemia tra eu bod yn yr ysbyty. Unwaith eto, rwy’n derbyn bod mwy inni ei wneud i geisio gwelliant pellach a’i ddarparu. Rydym, fodd bynnag, i helpu i gyflawni hynny, wedi creu grŵp bach o arweinwyr cenedlaethol i gynorthwyo byrddau iechyd i roi’r cynllun ar waith ac unioni’r amrywiaeth o ran gofal yr ydym yn ei weld. Felly, gan ddefnyddio rhan o'r dyraniad blynyddol o £1 filiwn, mae gennym arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer diabetes, a nifer o swyddi arweinyddiaeth eraill sy'n cwmpasu therapi pwmp inswlin, gofal traed, a'r cyfnod pontio i wasanaethau i oedolion ac addysg strwythuredig. Mae’r arweinydd clinigol cenedlaethol hwnnw wedi cael croeso eang, nid yn unig o fewn y gwasanaeth, ond ar draws y trydydd sector sy’n ymgyrchu hefyd. Felly, bydd y grŵp gweithredu cenedlaethol sy'n cynnwys cydweithwyr yn y trydydd sector yn parhau i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer diabetes ac yn gweithio i gynorthwyo byrddau iechyd i wella gwasanaethau diabetes yn barhaus.

I droi’n ôl at natur yr her sy'n ein hwynebu, rydym yn credu bod lle, er enghraifft, i fwy o weithredu gorfodol, boed hynny'n ardoll ar siwgr, hysbysebu, a bod bwyd afiach, diod a thybaco ar gael—yn enwedig o ran lleihau lefel diabetes math 2 a’r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes. Fodd bynnag, ni fydd ymyrraeth na gorfodaeth gan y Llywodraeth yn unig yn datrys yr her genedlaethol sy'n ein hwynebu. Fel yr wyf wedi’i ddweud, mae hon yn broblem i’r gymdeithas gyfan. Fel cenedl, nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff, nid ydym yn bwyta’n ddigon da, ac nid ydym yn gwneud hanner digon i leihau ein siawns o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd a diabetes math 2. Rydym yn gwybod hyn ers talwm iawn. Rydym yn cydnabod bod angen newid sylweddol i ymddygiad ar raddfa fawr, ond nid ydym wedi bod yn ddigon llwyddiannus wrth gyflawni’r newid hwnnw yn ein cymunedau. Ni fyddwn yn llwyddiannus, er hynny, drwy ddim ond darlithio pobl neu wneud rhai o'r ymddygiadau hynny’n anoddach neu'n ddrutach. Nid dyna, ynddo'i hun, fydd yr ateb y bydd ei angen arnom. Mae angen inni barhau i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws eu gwneud, eu deall, a’u rhoi ar waith. Mae angen y newid cymdeithasol hwnnw mewn agwedd ac ymddygiad, ac afraid dweud nad yw hynny'n hawdd. Nid oes unrhyw gymdeithas orllewinol wedi llwyddo i wneud hyn, ond rydym i gyd yn wynebu problem eithaf tebyg.

Mae hynny, fodd bynnag, yn golygu mwy o berchnogaeth, grymuso ac atebolrwydd personol. Bydd llwyddiant yn golygu gwneud mwy o deithio llesol, ymddygiadau iachach, a darparu amgylcheddau iach i ddysgu, gweithio a byw ynddynt. Ond, wrth gwrs, mae gwneud diagnosis o’r her a'r hyn y mae angen inni ei gyflawni yn llawer haws na penderfynu ar sut i wneud hynny. Dyna pam mae cyflwyniad cenedlaethol y rhaglen risg clefyd cardiofasgwlaidd yn un darn allweddol o waith a ariennir ar y cyd rhwng y grwpiau gweithredu diabetes, cardiaidd a strôc. Mae'n nodi’r bobl sy’n wynebu’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd a diabetes ac yn mynd ati i wahodd y bobl hynny i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol er mwyn helpu i leihau eu risg. Ac, yn hollbwysig, nid yw hyn i gyd yn cael ei gynnal mewn lleoliad meddygol. Mae rhywbeth yma am newid ymddygiad a beth yw’r ffordd orau o geisio darparu a chyflawni hynny. Mae hon yn wir yn ymagwedd arloesol, amlglefyd, genedlaethol. Ac nid yw wedi’i chynhyrchu gan un gwleidydd, ond gan ein staff ar draws ein gwasanaeth iechyd a gofal, sy’n gwneud hon yn her fwy cymdeithasol, yn hytrach nag, fel y dywedais, ei chyfyngu i leoliad meddygol yn unig.

Mae'r rhaglen yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn atal galw yn y dyfodol, ochr yn ochr â'n hymagwedd ehangach at ffyrdd iachach o fyw, ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu o'r dull hwnnw wrth inni fwrw ymlaen. Ni wnaf esgus wrthych chi heddiw, nac wrth grynhoi’r ddadl hon, bod gennym ni’r holl atebion yn y Llywodraeth, oherwydd yn sicr nid yw hynny’n wir. Mae angen inni ddeall beth sy'n gweithio ym mhob cymuned a sut yr ydym yn cyflwyno hynny’n llwyddiannus mewn gwahanol rannau o'n gwlad, oherwydd, os na wnawn, bydd y gost yn fwy na’r telerau ariannol a nodais ar ddechrau'r ddadl hon. Mae pris llawer uwch i’w dalu i unigolion a'u cymunedau, ac nid dim ond i les cymdeithasol ein gwlad, ond i les economaidd ein gwlad, os na allwn weld newid sylweddol i agwedd ac ymddygiad a gwneud rhywbeth mwy na dim ond newid ansawdd y gofal i’r nifer o bobl a fydd yn cael diabetes yn ystod eu bywyd yn ddiangen. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, ac rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mor bwysig yw rhaglenni addysg strwythuredig i helpu pobl i reoli diabetes, ac yn gresynu na all dros 50 y cant o blant a phobl ifanc cymwys gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 177,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo diabetes. Mae’n bosib bod rhyw 70,000 o bobl ychwanegol yn dioddef ohono fo, ond un ai ddim yn ymwybodol neu heb gael diagnosis wedi’i gadarnhau. Erbyn 2030, mae disgwyl y bydd y nifer yna tua 300,000 o bobl. Felly, tra bod bod â diabetes yn rhywbeth mawr i’r person sy’n dioddef ohono fo, mae o’n broblem enfawr i’r gwasanaeth iechyd yn ehangach, efo ryw 10 y cant o’r gyllideb, fel rydym ni wedi’i glywed droeon yn fan hyn, yn mynd ar ddelio efo diabetes, a’r rhan fwyaf o hynny yn mynd ar drin cymhlethdodau. Mae tua un o bob pum gwely mewn ysbytai yng Nghymru yn cael eu defnyddio gan berson sydd â diabetes, a’r cymhlethdodau cysylltiedig yma sy’n creu’r effaith ddofn ar iechyd a lles pobl ac ar y defnydd o wasanaethau gofal iechyd. Ond mae hyn hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod cyflwyno rheolaeth well, mwy effeithiol, mwy priodol, yn cynnig cyfle gwych nid yn unig i wella iechyd pobl yng Nghymru, ond hefyd i arbed arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ni.

Mi ddof i at ein gwelliant cyntaf ni fan hyn: y pwysigrwydd o gynnig a chynnal cyrsiau addysg strwythuredig ar gyfer y rhai sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes. Y llynedd, mi wnaeth Diabetes UK ddangos bod y diffyg defnydd o’r cyrsiau hyn wedi cyrraedd lefel ryfeddol. Dim ond 2 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis diabetes math 1 yn ddiweddar ar draws Cymru a Lloegr, a dim ond 6 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, eto ar draws Cymru a Lloegr, oedd wedi mynychu cwrs. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru yn unig yn waeth fyth. Dim ond 1 y cant o’r rhai efo diabetes math 1, a 0.9 y cant o’r rhai efo diabetes math 2, oedd wedi cofnodi eu bod wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. Mi oedd y ffigurau’n dangos hefyd mai dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru efo diabetes math 1 oedd hyd yn oed wedi cael cynnig mynd ar gwrs. Yn amlwg, felly, mi ddylai’r mathau hynny o ffigurau—ac rwy’n gwybod yn iawn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw—fod wedi deffro Llywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, mae yna ddau gyfeiriad at addysg yn y datganiad blynyddol o gynnydd. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at fynediad at addysg ddigidol i oedolion. Roedd llwyfan addysg ddigidol wedi cael ei lansio ym mis Hydref y llynedd—hynny, wrth gwrs, yn ddatblygiad i’w groesawu, ac mi fyddem ni yn annog y Llywodraeth hefyd i ystyried sut y bydden nhw’n cyrraedd y rhai sydd wedi’u heithrio yn ddigidol, neu’r rhai a fyddai’n elwa mwy o broses wyneb yn wyneb.

Mae’r ail gyfeiriad yn nodi, er bod yna rhywfaint o welliant wedi bod yn y nifer sy’n manteisio ar addysg strwythuredig ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw mwy na 50 y cant o blant a phobl ifanc yn defnyddio’r rhaglen, efo gwaith yn dal i fod ar y gweill i adnabod beth yw’r rhwystrau i hynny. Mae hwn, rydw i’n meddwl, yn ymateb rhy araf. Mae’r manteision ariannol ac, wrth gwrs, y manteision iechyd i bobl o sicrhau addysg strwythuredig ehangach yn rhy amlwg i’w gadael i broses fynd yn ei blaen yn organig, rhyw ffordd, i chwilio am ateb. Mae angen ymateb ar fyrder gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau mynediad i lawer iawn mwy o bobl i addysg strwythuredig.

Rydw i hefyd eisiau tynnu sylw at y methiant i sicrhau bod pob claf yn cael y set lawn o archwiliadau iechyd, a mynediad at y prosesau gofal. Mae’r adroddiad cynnydd blynyddol yn nodi bod canran y cleifion sy’n derbyn pob un o’r wyth proses ofal wedi gostwng ers y blynyddoedd blaenorol. Yn y tymor hir, mi allai hyn gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd nhw yn gyffredinol. Mae’n rhaid i wasanaeth iechyd Cymru sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i wella’r perfformiad yma. Felly, mae yna’n dal llawer mwy, rydw i’n meddwl, y gallai’r Llywodraeth fod yn ei wneud.

O ran penderfyniad y Gweinidog i beidio â chefnogi ein gwelliant 1 ni oherwydd ei fod yn teimlo nad yw’n adlewyrchiad teg o’r sefyllfa, mae’r ffigurau, mae gen i ofn, yn dangos bod yna broblem fawr o ran mynediad i addysg strwythurol, yn benodol. Mi ddof i’n fyr, i gloi, at ein hail welliant ni, sydd wrth gwrs yn cyfeirio at ordewdra. Rwy’n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ar hwn. Mae’n amlwg yn broblem fawr—y broblem iechyd cyhoeddus fwyaf sy’n ein hwynebu ni. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth, gobeithio, i gael strategaeth i daclo gordewdra ar wyneb Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fuan. Felly, gadewch inni sylweddoli difrifoldeb y broblem honno a delio â hi. Ond, o ystyried y dystiolaeth gynyddol bod diabetes math 2 yn gildroadwy efo diet iach i rai pobl, mae’n ymddangos imi fod hyn yn dal i gael ei danbrisio, braidd. Mae llawer mwy, yn sicr, sydd angen ei wneud.

Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl heddiw. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Allison Williams, cadeirydd y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a holl bartneriaid y grŵp hwnnw, oherwydd, wrth ddarllen cynllun cyflawni 2016 a datganiad blynyddol 2017, rwy’n gweld cynnydd gwirioneddol. Mae rhai ffyrdd da iawn ymlaen. Bu rhai systemau cryf a strwythuredig iawn ac yn bennaf oll—ac yn eithaf anghyffredin—mesuradwy, o weld y bu rhai gwelliannau gwirioneddol dda. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ac rwy’n rhoi pob clod i'r tîm sydd y tu ôl i hyn.

Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Weinidog, roeddwn yn meddwl, pan wnaethoch eich datganiad agoriadol, eich bod wedi rhoi rhybudd llym iawn inni i gyd am beryglon diabetes ar lefel bersonol, beth sy'n digwydd i'r unigolyn—pa un a oes ganddo fath 1 ynteu math 2; os ydych yn blentyn a bod gennych fath 1, sut y bydd hynny yn effeithio ar eich iechyd am weddill eich oes; y ffaith y gallech, fel diabetig math 2, efallai leihau rhai o’r effeithiau a gaiff arnoch drwy newid eich ffordd o fyw. Roeddwn yn meddwl eich bod wedi amlinellu rhybudd llym iawn ynghylch yr effaith a gaiff ar gyllid cyhoeddus, yr effaith hirdymor a gaiff ar y GIG, y twf mewn diabetes, a phan, yn enwedig, ein bod yn edrych ar fath 2, y costau enfawr a’r ymdrech ddeallusol anferth a wnaethpwyd i ymdrin â rhywbeth nad oes angen inni, mewn gwirionedd, ddioddef ohono—rhywbeth nad oes, mewn nifer fawr o achosion, angen iddo fod gennym.

Felly, ar ôl darllen y diweddariad a'r cynllun cyflawni a gwrando ar yr hyn a ddywedasoch, a gwrando ar yr hyn a ddywedodd Rhun, a dweud y gwir rwyf newydd benderfynu mai dim ond un sylw sydd gennyf: pam o pam nad ydym ni’n edrych ar sut yr ydym yn gwneud addysg gorfforol mewn ysgolion? Oherwydd, Weinidog, rwy’n mynd i ddim ond dyfynnu eich geiriau chi yn y fan yma. Dywedasoch nad ydym yn llwyddo i gyflawni'r newidiadau hyn. Nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff. Nid ydym yn bwyta’n ddigon da. Rydych chi’n edrych ar gamau gweithredu gorfodol fel trethu siwgr—rydych chi’n gofyn a oes angen inni wneud hynny. Wyddoch chi, mae'r rhain yn rhybuddion clir. Mae gennyf i grŵp o bobl yn fy etholaeth i sydd i gyd wedi colli aelod o’u cyrff, a phob un ohonynt wedi ei golli oherwydd diabetes. Maen nhw’n tueddu i fod yn bobl canol oed a hŷn, ac yn wir mae honno'n ffordd eithaf gwael o ddiweddu gweddill eich oes, yn brwydro—ac maen nhw’n brwydro, ac, oherwydd eu bod yn ddiabetig, ac am eu bod eisoes wedi colli un aelod, maent yna mewn gwirionedd yn aml yn mynd ymlaen i golli ail aelod, oherwydd bod eu cylchrediad gwaed mor wael.

Ond yr un peth y gallai’r Llywodraeth hon ei wneud heddiw yw newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno ymarfer corff i mewn i ysgolion. Pe byddem yn rhoi mwy o amser ar gyfer addysg gorfforol i’n plant, a phe byddem yn gwneud addysg gorfforol yn llawer mwy o hwyl, fel bod y bobl ifanc hyn wir yn ymrwymo iddo fel eu bod, wrth adael yr ysgol a mynd o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac o’r ysgol uwchradd i golegau ac o golegau i fod yn oedolion, bod hynny wir yn rhannol yn eu DNA—nid oes yn rhaid i’r ymarfer corff hwnnw olygu rhedeg rownd a rownd a rownd cae rygbi, hoci neu bêl-droed, ond gall yr ymarfer corff fod yn ddawnsio, gall fod yn farchogaeth ceffyl, gall fod yn loncian i fyny ac i lawr, gall fod yn wneud aerobeg, gall fod yn wneud hyfforddiant cylchol, gall fod yn chwarae rygbi, beth bynnag y bo, beth bynnag sydd o ddiddordeb iddynt.

Rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill y DU ac rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill Ewrop, oherwydd un o'r pethau yr wyf yn eu clywed gan y Llywodraeth yw bod y cwricwlwm yn orlawn: mae’n amhosibl gwneud lle i awr arall o addysg gorfforol i blant yn yr ysgolion. Yn syml, nid yw hynny’n wir. Gadewch inni fod yn wirioneddol glir: rydym yn cael rhai o'r canlyniadau mwyaf digalon yn ein system addysg, ac eto rydych yn edrych ar ysgolion eraill a gwledydd eraill ac maen nhw’n rhoi dwy neu dair awr yr wythnos i addysg gorfforol, i ymarfer corff iach, i addysgu pobl am ffordd o fyw gadarnhaol a all barhau.

Felly, dyma ni, yn treulio cymaint o amser, arian ac ymdrech i geisio datrys problem sydd, a dweud y gwir, pe byddem yn dechrau’r holl ffordd yn ôl yn y dechrau, efallai na fyddai angen i’r broblem honno fod gennym hyd yn oed. Felly, fy mhle i i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw i’r holl waith gwych hwn—daliwch ati, ond, wir, cysylltwch â’r Ysgrifennydd addysg, siaradwch â'ch cydweithwyr, a gadewch inni wneud newid sylfaenol, oherwydd efallai na allwn achub pobl sydd yn eu 30au, eu 40au a’u 50au heddiw, ond bobol bach, os gallwn ni helpu’r plant wyth, naw a 10 mlwydd oed a'r rhai yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar heddiw, efallai y gallem osgoi’r broblem ofnadwy hon yr ydych chi eich hun wedi’i hamlinellu mor glir fel bom amser sy’n aros i ffrwydro yn ein GIG.

Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ddiabetes math 1 yn fy sylwadau heddiw, sy'n ddim ond 10 y cant o'r holl bobl â diabetes, ond mae’n 96 y cant o'r holl blant a phobl ifanc sydd â diabetes. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog, yn ei gyflwyniad, wedi gwneud yn glir iawn y pwynt nad yw diabetes math 1 yn gysylltiedig â dim o'r materion ffordd o fyw yr ydym wedi’u trafod yma eisoes heddiw. Mae’r ffaith honno, rwy’n meddwl, weithiau’n mynd ar goll yn yr ymgyrch i annog plant ac oedolion i ddilyn arferion iachach o ran bwyta ac ymarfer corff i osgoi cael diabetes math 2, rhywbeth sy’n gwbl hanfodol yn fy marn i, ond rwy’n credu bod mater diabetes math 1 weithiau’n cael ei golli yn y ddadl honno.

Hoffwn dynnu sylw heddiw at un o fy etholwyr, Beth Baldwin, a gollodd ei mab Peter yn drasig yn 2015 yn ddim ond 13 oed oherwydd diabetes math 1 heb gael diagnosis. Mae hyn, wrth gwrs, yn drasiedi ofnadwy i deulu a ffrindiau Peter ac mae hyd yn oed yn fwy ofnadwy o feddwl y byddai prawf pigo bys syml a fyddai'n costio ceiniogau wedi gallu rhoi diagnosis o’i ddiabetes.

Mae Beth wedi ymroi i ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd tawel hwn sy'n taro ein pobl ifanc mor sydyn. Gall y symptomau gael eu cuddio gan symptomau tebyg i ffliw, fel a ddigwyddodd i Peter. Mae hi'n gweithio gyda Diabetes Cymru UK i annog ymarferwyr iechyd a'r cyhoedd yn gyffredinol i fod yn fwy ymwybodol o’r symptomau, sef bod yn sychedig, bod angen mynd i’r tŷ bach, bod yn fwy blinedig a bod yn deneuach.

Mae tua 25 y cant o bobl ifanc sy’n cael diagnosis hwyr o ddiabetes math 1 yn diweddu mewn gofal dwys ac yn drasig, fel yn achos Peter, i rai ohonynt, mae hyn yn rhy hwyr. Mae'r pecyn profi sy’n gallu gwneud diagnosis o ddiabetes yn aml yn cael ei roi i feddygfeydd teulu am ddim gan gwmnïau fferyllol, ond nid oes diwylliant o brofi’n rheolaidd fel sydd ar gyfer pwysedd gwaed, er enghraifft.

Mae'r cynllun cyflawni diabetes yn ystyried diabetes math 1 ac yn dweud:

'Mae angen diagnosis a thriniaeth brydlon ar gyfer diabetes math 1 i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chetoasidosis diabetig. Mae hyn yn hanfodol i blant a allai fod â diabetes math 1; dylai unrhyw blentyn sy'n wael ac sydd ag unrhyw un o nodweddion diabetes gael archwiliad brys o glwcos yn y gwaed mewn capilari a dylid ei atgyfeirio ar frys (i gael ei weld ar yr un diwrnod) i wasanaethau arbenigol os amheuir diabetes.'

Dyma beth hoffai fy etholwr ei wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet: pa gamau ymarferol sy’n cael eu cymryd i atgyfnerthu'r neges hon? Oherwydd rwy’n meddwl mai’r mater pwysig am ddiabetes math 1 yw addysg ac ymwybyddiaeth fel y gellir cymryd camau yn gyflym. Efallai y gellid gwneud pethau syml fel posteri, nodiadau atgoffa, digwyddiadau hyfforddi ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol o bosibl, ac efallai fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud hynny, er mwyn hyrwyddo’r symptomau fel bod pobl ar lefel gofal sylfaenol yn ymwybodol o'r symptomau a all arwain at ganlyniadau trasig o'r fath.

A yw'n bosibl amlinellu ym mha ffordd y mae hyn yn cael ei fesur neu ei werthuso i sicrhau bod y broses ar gyfer gwneud diagnosis o ddiabetes math 1 a amlinellir yn y cynllun cyflawni diabetes yn cael ei dilyn? Pa ymrwymiad y mae byrddau iechyd wedi’i wneud i sicrhau bod staff yn cael yr wybodaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i adnabod a phrofi plant â diabetes math 1 a amheuir yn gyflym er mwyn osgoi cymhlethdodau difrifol y diagnosis hwyr?

Gyda chefnogaeth y teulu Baldwin, bydd Diabetes UK Cymru yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 i'r cyhoedd cyffredinol a’r proffesiynau gofal iechyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a ellid darparu unrhyw gefnogaeth i gynorthwyo’r ymgyrch gyhoeddus hon. Rwy’n meddwl, wrth siarad am fath 1, ei bod yn hanfodol ein bod yn cyfleu’r neges hon—bod symptomau penodol y gellir eu hadnabod. Hoffem sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymwybodol iawn o hynny ac yn gallu gweithredu'n gyflym i wneud yr hyn a allant i helpu i atal trychinebau fel yr hyn a ddigwyddodd i'r teulu yn fy etholaeth.

Hoffwn ddiweddu drwy dalu teyrnged i'r teulu Baldwin a'r ffordd y mae’r farwolaeth drasig wedi eu harwain i ymgyrchu i geisio sicrhau bod symptomau diabetes math 1 yn cael mwy o sylw.

Mae diabetes yn un o'r prif heriau iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Mae cymaint ag un rhan o chwech o boblogaeth Cymru yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r clefyd, sy'n effeithio ar nifer gynyddol o bobl o gwmpas y byd. Fel y mae datganiad blynyddol o gynnydd Llywodraeth Cymru ei hun yn ei nodi, mae llawer i'w wneud i ymdrin â'r risgiau ffordd o fyw ehangach ar gyfer diabetes ac ymdrin ag anghydraddoldebau o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau diabetes.

Y gwir trist yw bod mwy a mwy o boblogaeth Cymru dros bwysau neu'n ordew ac, felly, yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2. Fel y mae’r adroddiad 'Law yn Llaw at Iechyd' yn ei nodi, mae’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas unwaith a hanner yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes. Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol o'r risg o ddatblygu diabetes math dau, nac o'r risgiau iechyd eraill a ddaw yn ei sgil.

Nid yw pobl yn gwybod bod rhywun sydd â diabetes mewn mwy o berygl o gael strôc neu drawiad ar y galon na rhywun nad os ganddo ddiabetes. Nid yw pobl yn gwybod bod rhywun sydd â diabetes yn fwy tebygol o orfod colli aelod o’r corff na rhywun nad oes ganddo ddiabetes. Ac nid yw pobl yn gwybod ychwaith bod rhywun sydd â diabetes yn fwy tebygol o farw cyn pryd.

Mae'n rhaid inni addysgu'r cyhoedd am y risg y gallai ffordd o fyw afiach arwain at iddynt ddatblygu diabetes a'r goblygiadau iechyd ehangach y mae diabetes yn eu hachosi. Diolch byth, mae safonau gofal diabetig wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n bryd inni erbyn hyn ddechrau canolbwyntio ar addysg. Mae'n rhaid inni addysgu'r cyhoedd am y risgiau sy'n gysylltiedig â diabetes a'u haddysgu ynghylch sut i reoli'r cyflwr yn iawn.

Mae Diabetes UK wedi lansio ymgyrch 'cymryd rheolaeth', sydd â’r nod o sicrhau bod pawb sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes yn mynychu cwrs addysg diabetes, a fydd yn eu haddysgu am sut i reoli eu diabetes a byw bywyd iach llawn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall pawb sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru fynychu cwrs o fewn ychydig fisoedd ar ôl cael diagnosis. Gallai buddsoddiad yn y maes hwn arbed llawer o arian i’r GIG yn y tymor hir drwy leihau'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r clefyd.

Fodd bynnag, rwy’n credu bod yn rhaid i ni fynd yn llawer pellach. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei addysgu am bwysigrwydd deiet iach a’r risgiau sy'n dod gyda bod dros bwysau neu'n ordew. Fel cyn athro addysg gorfforol, ategaf bopeth y mae Angela Burns wedi'i ddweud am yr angen i gynyddu gweithgarwch corfforol yn y cwricwlwm. Rwyf hefyd yn credu y dylai fod gardd gan bob plentyn wrth iddo dyfu i fyny er mwyn iddo ddatblygu yn emosiynol ac yn gorfforol, a dysgu bod chwarae’n bwysig, oherwydd rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi cael effaith ddofn ar weithgarwch plant. Ar adeg y Nadolig, nid ydym yn gweld cynifer o blant ar feiciau nawr ag yr oeddem yn arfer eu gweld; maen nhw’n treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd.

Felly, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean o blant Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael ein haddysgu’n well am y bwyd yr ydym yn ei fwyta. Dylai rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd ganolbwyntio ar addysgu ein pobl ifanc am sut i fwyta'n iach a sut i fyw’n iach. Mae'n rhaid i ni addysgu ein plant ifanc am y risgiau sy'n gysylltiedig â deiet afiach, y risg o ddatblygu diabetes, y risgiau o farw’n gynnar oherwydd cymhlethdodau diabetes, ac mae'n rhaid i ni addysgu ein pobl ifanc sut y gallant osgoi’r risgiau hynny a byw bywydau hir a chynhyrchiol, heb ddioddef diabetes math 2. Diolch yn fawr.

Tua phum mlynedd yn ôl, cefais ddiagnosis o ddiabetes fy hun, ac roedd yn sioc enfawr. Nid oeddwn yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf y byddai pobl yn ei wneud fel arfer. Math 2 oedd gennyf, ond nid oeddwn i erioed wedi ysmygu yn fy mywyd, nid oeddwn i erioed wedi yfed ac nid oeddwn i’n arbennig o dros bwysau ychwaith. Gall diabetes ddigwydd i bron unrhyw un ac am wahanol resymau. I mi, roedd oherwydd salwch a ymosododd ar fy mhancreas. Cyn gynted ag y cefais ddiagnosis, gwnes yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, sef mynd yn syth ar y rhyngrwyd i ddechrau edrych ar ffyrdd o wella fy hun o’r cyflwr ofnadwy hwn. Gwelais gryn dipyn o bethau a oedd i gyd yn sôn am yr un meysydd —am golli pwysau.

Nid wyf yn siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a ydych wedi clywed erioed am astudiaeth Newcastle ar y deiet 600 calori. Rydych wedi dweud bod hyn yn rhywbeth nad oes pilsen hud ar ei gyfer, ond gwnaeth Prifysgol Newcastle ymchwil a ariannwyd gan Diabetes UK, gan ddilyn 11 o bobl. Cafodd y bobl hyn eu rhoi ar ddeiet 600 calori am wyth wythnos, ac roeddent yn cael 200 o galorïau ychwanegol o fwyta llysiau. Ar ddiwedd yr astudiaeth, roedd saith o'r 11 o bobl hynny nad oeddent yn ddiabetig mwyach. Mae hynny'n anghredadwy. Hynny yw, os oes gennych y salwch ofnadwy hwn ac y gallwch fod mewn sefyllfa yn sydyn lle nad ydych bellach yn ddiabetig, mae'n rhyfeddol. Rhoddais ddiagnosis i mi fy hun o hyn a gwnes i hyn fy hun. Collais chwe stôn—efallai y bydd rhai ohonoch allan yna’n meddwl ‘rargian fawr!’ Roeddwn yn pwyso llai na fy ngwraig. Nid yw hi’n hoffi fy nghlywed yn dweud hynny, ond mae'n wir—roeddwn yn pwyso llai na fy ngwraig. Llwyddais i gadw fy hun rhag gorfod cymryd inswlin am tua dwy flynedd yn sgil hyn. Ni allai fy meddyg gredu bod y siwgr yn fy ngwaed wedi plymio mor sydyn i'r lefel arferol. Ond roedd yn anghynaliadwy i mi, a gan fod y cyflwr hwn wedi ymosod ar fy mhancreas, dyna pam na chafodd effaith hirdymor arnaf. Ond i bobl sy'n gyn-ddiabetig neu bobl â diabetes math 2 oherwydd swm mawr o fraster o amgylch y pancreas neu organau eraill, byddwn yn erfyn arnoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar hyn. Nid un o'r pethau gwallgof hynny oddi ar y rhyngrwyd yw hwn; mae Prifysgol Newcastle, meddygon teulu a Diabetes UK i gyd wedi edrych ar hyn ac wedi dilyn yr astudiaeth hon.

Nawr, mae diabetes gan 7 y cant o'r boblogaeth. Mae'n gyfrifol am 10 y cant o wariant y GIG, sydd yng Nghymru yn £500 miliwn y flwyddyn. Mae dros hanner poblogaeth Cymru dros bwysau. Yr hyn nad yw llawer o bobl yn ei wybod yw os ydych yn fenyw a bod eich canol yn fwy na 31.5 modfedd, ac os ydych yn ddyn a bod eich canol yn fwy na 37 modfedd, rydych newydd gynyddu eich risg o ddiabetes math 2 yn sylweddol.

Pan gefais symptomau diabetes am y tro cyntaf—pan oeddwn yr hyn sy'n cael ei alw yn gyn-ddiabetig—rwy’n meddwl pe byddwn i wedi dilyn y deiet, y gallwn fod wedi gwthio pethau yn ôl hyd yn oed ymhellach cyn iddo ddatblygu i'r cyflwr a wnaeth. Ni fyddaf i fy hun yn marw o ddiabetes. Byddaf yn marw o glefyd y galon, byddaf yn wynebu risg o fynd yn ddall, o golli aelodau, o gael strôc. Oherwydd nid yw pobl yn marw o ddiabetes—rydych chi’n marw o’i sgil effeithiau. Cyn imi gael diagnosis, doeddwn i byth yn mynd at y meddyg. Nid oeddwn i’n mynd o gwbl—doedd dim angen. Pam gwastraffu fy amser i a’i amser ef drwy fynd? Ers hynny, rwy'n mynd yn rheolaidd ac mae gennyf lawer o afiechydon eraill sy'n ymddangos o bryd i'w gilydd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r diabetes. Pe byddwn yn gyn-ddiabetig, credwch fi, ac yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei wybod nawr, byddwn yn gwneud popeth o dan haul i atal y salwch hwn rhag datblygu i'r cyflwr y mae nawr—popeth—oherwydd mae’n bla ac yn felltith llwyr. Rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwch daro golwg ar yr astudiaeth hon ac efallai gynnal treial. Rwy'n gwybod o siarad â meddygon teulu nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwybodol o hyn, ac yn sicr nid oes ganddynt unrhyw syniad o sut i’w gynnig i bobl a fyddai'n gallu ei wneud. Gadewch inni wynebu’r peth—mae cael dim ond 800 calori y dydd am wyth wythnos yn gryn dipyn i’w ofyn. Mae angen cymhelliant arnoch i wneud hynny, ond bydd pobl allan yna a fydd yn elwa ar hyn. Nid yw'n fwled hud, ond gall helpu rhai bywydau. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:29:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl heddiw. Mi wnaf sôn yn fras am rai o'r sylwadau a wnaed, yn enwedig, ac yn eithaf dealladwy, cyfraniad Rhun ap Iorwerth. Hoffwn ymdrin â rhai o'r pwyntiau am addysg strwythuredig, oherwydd rwy’n cydnabod bod angen gwelliant—mae angen llwybr archwilio priodol i'n galluogi i ddeall yn iawn y niferoedd sy’n manteisio ar hyn a beth y gallwn ei wneud i gynyddu’r niferoedd eto. Mae'n rhan allweddol o reoli'r cyflwr. Nid yw'n cynnwys, efallai, yr atal yr ydym hefyd wedi ei drafod mewn amrywiaeth o gyfraniadau, ond rwy'n cydnabod bod rhywbeth yn y fan yna i ni ei ddatrys. Felly, rwy’n disgwyl gallu adrodd yn y dyfodol am y nifer sy'n manteisio ar y rhaglen Seren a bod hynny wedi cael yr effaith a ddymunir o ran y nifer sy'n manteisio ar yr addysg strwythuredig honno, yn enwedig ar gyfer y rhai â diabetes math 1, ond hefyd am weld cynnydd pellach yn cael ei wneud mewn profion NICE, oherwydd, a dweud y gwir, mae llawer o'r gostyngiad mewn gwirionedd oherwydd un prawf lle’r oedd gostyngiad sylweddol sef y gostyngiad yn y prawf albwmin wrin.

Felly, a dweud y gwir, pan oeddwn i’n sôn am fwrw ymlaen â'r canfyddiadau archwilio ac ymdrin â'r amrywiaeth o ran gofal gyda'n cydweithwyr mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, mae hynny'n rhan bwysig iawn o ddeall pam mae’r amrywiad hwnnw’n bodoli, ar gyfer y profion, y gofal a ddarperir a'r canlyniad. Ceir hunan-fyfyrio gwirioneddol yn y proffesiwn am y ffaith eu bod yn rhan o’n helpu ni i allu gwneud hynny. Nid dim ond mater o geisio newid pethau yw hyn, a dweud mai’r oll sydd ei angen yw i’r dinesydd gymryd cyfrifoldeb llawn a rheolaeth lawn. A dweud y gwir, mae gennym gyfrifoldeb o hyd yn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth i wneud y peth iawn o ran darparu’r prosesau gofal, yn ogystal â bod yn briodol atebol am yr hyn sydd yn digwydd ac nad yw’n digwydd.

Unwaith eto, o ran cyfraniad Angela Burns, yr wyf, unwaith eto, yn ei groesawu ar y cyfan, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud am eich pwyslais ar weithgarwch corfforol i bobl ifanc—eto, rwy’n cydnabod ei fod yn wirioneddol bwysig, nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn llu o rai eraill. Ac mae'n bwysig gweld hynny wedi’i gynnwys fel rhan o'r adolygiad o'r cwricwlwm ar gyfer y dyfodol ynghylch sut i addysgu addysg gorfforol. Ond, mewn gwirionedd, rydym eisoes yn cymryd camau i gynyddu’r gweithgarwch corfforol sy'n digwydd yn ein hysgolion—y filltir ddyddiol yw'r enghraifft fwyaf amlwg. Mae rhywbeth yma am beidio â gweld gweithgarwch corfforol fel gwneud chwaraeon. Rwyf i, yn bersonol, wrth fy modd â chwaraeon. Roeddwn yn mwynhau chwarae chwaraeon pan oeddwn yn berson ifanc nes imi gael fy anafu wrth wneud chwaraeon yn gystadleuol; rwyf nawr yn gystadleuol ar y llinell ochr. Ond yr her yw sut yr ydym yn normaleiddio gweithgarwch corfforol ac yn ei gwneud yn hawdd i bobl ei wneud, ac yn syml. Oherwydd rwy’n credu bod her o ran peidio â dweud bod yn rhaid i weithgarwch corfforol olygu chwaraeon. Mae'n fater o’r ystyr ehangach o sut yr ydym yn normaleiddio gweithgarwch yn ei ystyr ehangach unwaith eto, fel bod pobl yn disgwyl hynny ac wir yn ei fwynhau.

Nid wyf yn dadlau â’r sylw yna o gwbl. Y gwirionedd yw bod gwersi addysg gorfforol wedi lleihau o un munud a thri deg eiliad dros y degawd diwethaf, felly dydyn nhw'n sicr ddim ar gynnydd. Rwy’n meddwl y dylem geisio normaleiddio gweithgarwch. Mae'n anodd iawn gwneud hynny, fodd bynnag, pan fo mwy a mwy o leihau ar gyfleusterau ysgolion, gan gynnwys cyfleusterau chwarae, cyfleusterau awyr agored ac ati. Dyna pam y gwnes i’r pwynt am ei wneud yn hwyl, fel bod y plant hynny’n ei fwynhau. Nid oes yn rhaid iddo olygu rhedeg o gwmpas cae pêl-droed, gallai fod yn ddawnsio amser cinio—byddai unrhyw beth fel yna’n dda, ac nid ydynt yn gwneud hynny.

Wel, rwyf i’n meddwl bod llawer o'r pethau hynny yn digwydd, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, ond hefyd mewn ysgolion uwchradd. Mae yna her unwaith eto am sut yr ydym yn ei normaleiddio a hefyd nad yw’r normaleiddio hwnnw’n rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ysgol yn unig. Nid cyfrifoldeb gweithwyr addysg proffesiynol yn unig yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gorfforol weithgar ac yn gorfforol llythrennog. Dyna ran o'r her sydd gennym, a dweud y gwir. Mae'n ymwneud ag ymgysylltiad y grŵp rhieni a gofalwyr a'n henghreifftiau cymunedol hefyd. Os na allwn ni gael y rhan honno’n iawn, a dweud y gwir, bydd gennym frwydr anodd. Felly, nid wyf yn meddwl bod gennym lawer o anghytundeb. Mae wir yn fater o sut yr ydym yn mynd o’r diagnosis a'r hyn yr hoffem ei wneud i gyflawni hynny’n ymarferol mewn gwirionedd.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am achub pobl yn y dyfodol, ond rwy’n meddwl mai rhan o'n syniad yw y gallwn achub pobl yn eu 30au, 40au a’u 50au, naill ai drwy atal diabetes math 2, neu drwy ei reoli’n well, ac, a dweud y gwir, rwy’n mynd i gyfeirio’n nes ymlaen at lawer o dystiolaeth am y ffaith bod gweithgarwch corfforol yn creu manteision gwirioneddol naill ai o ran atal neu o ran rheoli’r cyflwr hwn, ac amryw o rai eraill, yn well.

Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau a gododd Julie Morgan am ddiabetes math 1. Rwy’n meddwl fy mod wedi cwrdd â Beth Baldwin gyda chi ac wedi cael trafodaeth gyda'i mab, Peter. Ac fel y dywedasoch yn gwbl gywir, mae'r cynllun cyflawni’n cydnabod bod angen gwella o ran canfod math 1 ac ymwybyddiaeth o’i symptomau. Ac rydym yn bwriadu ymgymryd â mesurau gyda fferyllfeydd cymunedol ynglŷn â’r rhan sydd ganddynt i'w chwarae mewn profion manteisgar. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf i roi manylion digwyddiad lansio’r ymgyrch ymwybyddiaeth y cyfeiriasoch ato.

Rwy’n meddwl am y cyfraniad a wnaeth Caroline, o UKIP, wrth gwrs, ac rwy'n falch bod ei chyfraniad yn cydnabod y gwelliant sydd wedi ei wneud, ynghyd â’r angen am fwy. Ond byddwn yn dweud eto, yn dawel ond yn glir, bod dysgu am ddeiet iach yn digwydd ym mhob un o'n hysgolion. Mae yna neges glir iawn, iawn, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, y byddai unrhyw un ohonom sy’n ymweld ag ysgol gynradd yn ei hadnabod am fwyta'n iach. Mae'n mynd yn ôl at y pwynt hwn bod gwahanol fesurau’n cael eu defnyddio y tu allan i gatiau'r ysgol, sy’n gosod y patrwm ar gyfer yr hyn y mae pobl yn meddwl ac yn ystyried ei fod yn normal o ran bwyta'n iach a dysgu.

Wrth feddwl am gyfraniad diddorol iawn Nathan Gill, rwy’n ymwybodol o'r astudiaeth y gwnaethoch gyfeirio ati. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o hynny, bod gennym eisoes y dystiolaeth fwyaf arwyddocaol o effaith ymddygiad iachach yng Nghymru, ac mae honno’n dod o Gymru, sef astudiaeth Caerffili. Mae’r garfan honno o bobl—mae'n gyfoeth anhygoel o wybodaeth am bwysigrwydd rheoli deiet, ymarfer corff, alcohol ac ysmygu, ac os na allwn ymdrin â’r pedair her ymddygiad fawr hynny—nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn llawer o rai eraill—bydd gennym boblogaeth sy’n llai iach, bydd yn ddrutach i aros yn afiach yn hwy, bydd mwy o boen ac anghysur i'r bobl hynny, a bydd mwy o heriau economaidd hefyd. Mae hwn yn un o'r meysydd hynny lle’r ydym yn gweld hynny’n digwydd ac yn dod yn wir.

Felly, rwy’n fodlon parhau i ddweud bod angen i ni gyflawni’r newid ymddygiad hwnnw gyda'n dinasyddion—nid yw’n fater o bregethu neu geisio codi cywilydd ar bobl, ond gweithio ochr yn ochr â nhw i annog ac i gyflawni rhywfaint o’r newid hwnnw mewn gwirionedd, a'r holl fesurau ar gyfer gorfodi a gofynion, yn ogystal ag annog a grymuso dinasyddion hefyd, a’u cyfrifoldeb eu hunain. Felly, rwy’n fodlon ymrwymo i'r gwelliant parhaus yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â thrin pobl sydd â diabetes a gofalu amdanynt, ac atal diabetes, yn ogystal â'r tryloywder yn ein cynnydd. Nid yw hwn yn fater pleidiol mewn cynifer o ffyrdd, fel y mae’r ddadl heddiw yn ei gydnabod, ond mae wir yn fater cenedlaethol o bwysigrwydd cenedlaethol i bawb ohonom.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn symud ymlaen yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

7. 7. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 i’r ddadl ar wasanaethau diabetes yng Nghymru yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb wedi ymatal, 28 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 20, Yn erbyn 28, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6292.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb wedi ymatal, un yn erbyn. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6292.

Cynnig NDM6292 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a

d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.

2. Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb wedi ymatal, un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig fel y'i diwygiwyd ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6292 fel y’i diwygiwyd: O blaid 49, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6292 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:37.