Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/04/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac, o dan Reol Sefydlog 12.58, rwyf wedi cael gwybod y bydd arweinydd y tŷ, Jane Hutt, yn ateb y cwestiynau heddiw ar ran yr Ysgrifennydd Cabinet. Cwestiwn 1, Simon Thomas.

Anifeiliaid Egsotig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lesiant anifeiliaid egsotig yng Nghymru? OAQ(5)0128(ERA)[W]

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006, sydd wedi bod ar waith ers 10 mlynedd, yn cwmpasu lles pob anifail a gedwir. Mae’r codau ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes a da byw yn cael eu hadolygu, a bydd unrhyw godau newydd, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid egsotig, yn cael eu hystyried yn 2017-18.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond y broblem gyda’r sefyllfa bresennol yw ei bod hi’n caniatáu, er enghraifft, i bobl gadw mwncïod mewn tai cyffredin, ac mae hefyd yn caniatáu i syrcasau gydag anifeiliaid egsotig byw, sy’n perfformio gyda’r anifeiliaid yna, i ymweld â Chymru. Felly, rydym wedi bod yn disgwyl ers rhai misoedd, os nad blwyddyn neu ddwy, i’r Llywodraeth weithredu ar y meysydd yma. Fedrwch chi, os gwelwch yn dda, roi y sicrwydd yna y bydd camau yn cael eu cymryd nawr gan y Llywodraeth i ddelio gyda phroblemau iechyd a lles anifeiliaid egsotig yng Nghymru?

Diolch i Simon Thomas am ei gwestiwn. Mae swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yng Nghymru i drafod y ddogfen friffio sy’n galw am waharddiad ar anifeiliaid anwes egsotig, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn perthynas â hynny. Rydym hefyd yn sôn am arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, ac mae ymarfer cwmpasu ar waith o dan brosiect cyflawni’r bartneriaeth i gasglu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynglŷn ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid sy’n weithredol yn yr ardaloedd hynny ar hyn o bryd. A bydd canlyniadau’r ymarfer hwnnw’n cael eu cyflwyno cyn bo hir, y mis hwn, mewn gwirionedd. Mae swyddogion hefyd yn gweithio ar ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu neu gofrestru yng Nghymru, a bydd yn cael ei lansio cyn toriad yr haf.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi o rinweddau cadw anifeiliaid egsotig fel anifeiliaid anwes, yn enwedig primatiaid, neu anifeiliaid sy’n gorfod bwyta anifeiliaid byw eraill er mwyn bwydo. Mae llawer o bobl yn methu gofalu am yr anifeiliaid hyn yn effeithiol, a naill ai’n eu gadael yn rhydd, sy’n achosi problemau, neu’n cael eu gwahardd yn y pen draw rhag cadw anifeiliaid anwes. A wnaiff y Gweinidog ystyried sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ymchwilio’r syniad o greu cofrestr o bobl sydd wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid anwes?

Mae’n ddiddorol ac yn bwysig cofnodi hefyd fod cadw rhai rhywogaethau o anifeiliaid gwyllt yn cael ei reoli gan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, ac mae’n ofynnol i berchnogion y rhywogaethau hyn gael eu trwyddedu gan eu hawdurdod lleol o dan y Ddeddf. Mae’r posibilrwydd o greu cofrestr cam-drin anifeiliaid yn cael ei ystyried, ond er mwyn sicrhau effeithiolrwydd ei bodolaeth fel ataliad naill ai i atal cam-drin pellach rhag digwydd, neu o ran atal camdrinwyr blaenorol rhag cadw anifeiliaid, bydd angen mecanweithiau ac ymagwedd asiantaethol glir ar draws y sectorau. Felly, mae swyddogion yn archwilio pa ymgysylltiad ag eraill fyddai ei angen, ac maent wedi nodi galwad yr RSPCA am sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen.

Wel, fel y dywedoch, arweinydd y tŷ, nid yw hyn yn ymwneud ag anifeiliaid egsotig yn unig, ond mae bywyd gwyllt yn rhan o hyn hefyd, gan gynnwys ein bywyd gwyllt domestig sydd weithiau’n cael gofal gan bobl sy’n ymyrryd gyda’r bwriadau gorau, ond efallai nad yw’r wybodaeth orau ganddynt ynglŷn â lles. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau edrych ar hyn, ond tybed a oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud ar reoleiddio llochesau bywyd gwyllt ac ysbytai bywyd gwyllt, a thybed a allwch roi unrhyw syniad a fyddwch yn edrych ar y cyrsiau sy’n cael eu cynnig i filfeddygon, neu ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer milfeddygon, mewn gwirionedd, i’w huwchsgilio fel eu bod yn meddu ar ystod ehangach o wybodaeth, nid yn unig am rywogaethau egsotig, ond am rywogaethau bywyd gwyllt domestig hefyd?

Dyna ychwanegiad arall at y pryderon a godwyd, yn enwedig mewn perthynas â lles anifeiliaid. Yn sicr, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i chi, yn enwedig mewn perthynas â’r ysbytai bywyd gwyllt a’r lleoliadau eraill a ddisgrifiwyd gennych.

Bwyd Iach

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i hyrwyddo’r broses o gynhyrchu bwyd iachach? OAQ(5)0122(ERA)

Mae menter ymchwil busnesau bach Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi prosiectau iechyd a maeth, yn ceisio datblygu prosiectau arloesol a fydd yn gwneud gwelliannau sylweddol i gyfansoddiad maethol bwyd a diod sydd ar gael i blant. Gall prosiectau gystadlu am gyfran o hyd at £1 filiwn ar gyfer y datblygiadau hyn.

Diolch am eich ateb, ac mae hyn yn newyddion da iawn, gan y gwyddom fod 40 y cant o blant Cymru yn ordew neu’n rhy drwm erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, ac mae hwnnw’n gyflwr afiach iawn i blant fod ynddo ar oedran mor ifanc. Fe sonioch am yr £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK, ac y bydd ar gael i gwmnïau a sefydliadau ymchwil, i’w helpu i ddod o hyd i arloesedd o’r fath wrth gynhyrchu’r bwyd hwn. Ond a gaf fi ofyn, arweinydd y tŷ, sut y bydd arloeswyr bwyd yng Nghymru yn gwneud cais am yr arian hwnnw, a beth yw’r meini prawf y bydd angen eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael yr arian hwnnw?

Wel, mae mynd i’r afael â gordewdra, fel y dywed Joyce Watson, yn flaenoriaeth allweddol—yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru—ac mae cynorthwyo pobl i gael deiet iach a chytbwys yn hollbwysig yn hynny o beth. A’r mis diwethaf, bûm yn siarad ar ran Ysgrifennydd y Cabinet yn y digwyddiad Blas Cymru/Taste Wales. Hwnnw oedd y digwyddiad a’r gynhadledd fasnach genedlaethol a rhyngwladol gyntaf ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Ac yn y digwyddiad hwnnw, gwahoddwyd busnesau a sefydliadau ar draws y diwydiant i gyflwyno cynigion ar gyfer y datblygiad £1 miliwn hwn. Ac wrth gwrs, roedd hyn yn eu hannog i ddatblygu atebion arloesol i wella cyfansoddiad maethol prydau ysgol, er enghraifft, gan gadw costau’n isel.

Felly, gair neu ddau am y meini prawf. Rydym yn awgrymu y gallai atebion arloesol wella cyfansoddiad maethol bwyd a diod sydd ar gael i blant, lleihau cost bwyd a diod maethlon i deuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd a diod iach a maethlon sydd ar gael i blant ym mhob lleoliad, lleihau nifer y plant ac oedolion gordew yng Nghymru, a gwella iechyd a lles plant ac oedolion. A diben y fenter ymchwil busnesau bach hon yw cefnogi a galluogi ymatebion gan y diwydiant bwyd a diod i wynebu’r her hon.

A ydy arweinydd y tŷ yn ymwybodol o adroddiad y Mental Health Foundation, ‘Food for thought’, sy’n edrych ar y cysylltiad rhwng maeth a iechyd meddwl? Rŵan, rwy’n credu y gall y math o strategaeth ar ordewdra rydym ni’n galw amdani drwy’r Bil iechyd y cyhoedd—.

A ydw i’n iawn i gario ymlaen? Mi wnaf i ddechrau o’r dechrau.

Rwy’n credu y gall y math o strategaeth gordewdra rydym ni’n galw amdani drwy’r Bil iechyd y cyhoedd hybu iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Ond, a ydy arweinydd y tŷ yn credu y dylai hynny fod yn ystyriaeth fel rhan o strategaeth fwyd y Llywodraeth, yn ogystal ag yn rhan o strategaethau ym maes iechyd?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Fel y gwyddoch, ac rydych wedi tynnu sylw at y cysylltiadau hyn, o ran y dystiolaeth, mewn perthynas ag anghenion ac effeithiau iechyd meddwl. Fel y gwyddoch, yn ystod Cyfnod 2 y gwaith craffu ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), cyflwynwyd gwelliannau i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth ordewdra genedlaethol. Ac er bod y gwelliannau hynny wedi’u gwrthod, ymrwymodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi rhagor o ystyriaeth i’r strategaeth ordewdra genedlaethol, gyda’r bwriad o gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 3 mewn perthynas â’r mater hwn. Mae’n bwysig cydnabod hefyd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus o ran lles, yn ogystal â phwysigrwydd asesiadau o’r effaith ar iechyd, er mwyn ystyried sut y gallwn sicrhau, yn systematig, fod penderfyniadau a chynlluniau’n cyfrannu at leihau gordewdra a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig eu hadroddiad ar ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru—yma yn y Neuadd, rwy’n falch o ddweud—ac roedd yn nodi’r anhawster i godi cyfalaf, neu’r anhawster penodol yng Nghymru. A hoffwn ofyn i chi a fydd Llywodraeth Cymru yn nodi argymhellion yr adroddiad hwn ac yn ymateb iddynt yn gadarnhaol.

Yn sicr, rydym yn croesawu cyfraniad y Sefydliad Materion Cymreig i drawsnewid system ynni Cymru. Rydym eisoes yn cyflawni mewn nifer o’r meysydd a gafodd sylw yn yr adroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Sefydliad Materion Cymreig i ddatblygu eu syniadau ymhellach er budd Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei dulliau’n uchelgeisiol yn ei holl weithgaredd er mwyn datblygu strategaeth ynni cynaliadwy, ac er bod gan Lywodraeth y DU rôl i’w chwarae hefyd, i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran ardrethi busnes, ond hefyd y sector cyhoeddus, sy’n brynwr ynni mawr, a bod angen i ni ddefnyddio ein dulliau mewn modd effeithiol iawn. A wnewch chi annog eich cyd-Aelodau yn y Cabinet i ystyried hyn mewn modd cyfannol?

Gwnawn, wrth gwrs, ac mae hwn yn fater traws-Lywodraethol. Rydym wedi dechrau archwilio opsiynau sy’n darparu rhagor o fynediad, er enghraifft, at gyllid cost isel ac atebion ecwiti, a defnyddio arian Llywodraeth Cymru i ysgogi unrhyw fuddsoddiad ariannol pellach er mwyn cael gwared ar y rhwystrau i gyfalaf a grybwyllwyd gennych yn gynharach. Er hynny, hoffwn ddweud, wrth gwrs, mai’r rhwystr mwyaf i ddefnydd pellach o ynni adnewyddadwy yw diffyg mecanwaith cymorth cyllid addas ar lefel y DU.

Rwyf wedi bod yn garedig gyda chi hyd yn hyn, ond nodaf eich sylw pryfoclyd. [Chwerthin.] Mewn ymgais i gyrraedd consensws, yn ôl yr adroddiad, er mwyn annog rhagor o gynlluniau sy’n eiddo i’r gymuned, mae angen inni ystyried rhagor o ddefnydd o fentrau cydweithredol er mwyn denu cyllid. Mae siarad mawr gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac mae’n cael llawer o gefnogaeth ar draws y Cynulliad yn hynny o beth, ond gobeithiaf y byddwch yn rhoi sylw brwdfrydig iawn i’r rhan honno o’r adroddiad, gan y gellid cael cryn dipyn o rymuso, ac mae defnyddio’r model hwnnw o ran ei allu cyffredinol i adfywio, ac nid ar gyfer ynni adnewyddadwy yn unig, yn ffordd allweddol o fynd i’r afael, efallai, â pheth o’r diffyg rydym wedi’i wynebu, yn draddodiadol, o ran denu cyllid.

Ie, ac wrth gwrs, David Melding, rydych yn cydnabod bod hynny’n mynd i’r cyfeiriad yr hoffai Llywodraeth Cymru inni fynd iddo, a byddwn yn edrych gyda diddordeb ar yr argymhellion sy’n ymwneud â’r model cydweithredol. Buddsoddwyd £35 miliwn gennym mewn prosiectau ynni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac yn wir, buddsoddwyd £5 miliwn yn y gronfa ynni lleol, gan ddarparu benthyciadau uniongyrchol ar wahân ar gyfer rhai o’r prosiectau cymunedol sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Felly, mae’n amlwg ei bod yn bwysig ystyried yr argymhelliad hwnnw wrth symud ymlaen.

Diolch, Llywydd. Rwy’n siŵr fod arweinydd y tŷ yn ymwybodol mai’r cur pen mwyaf i lawer o ffermwyr yng Nghymru ar hyn o bryd yw problem flinderus TB buchol. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig yng nghyd-destun trafodaethau Brexit gan ei bod yn bosibl y gallai’r UE ddefnyddio’r sefyllfa TB yng Nghymru fel rhyw fath o gyfiawnhad dros wahardd allforio cig eidion a chigoedd eraill. Tybed, felly, a all roi unrhyw syniad inni pryd y bydd yr ystyriaeth bresennol o ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr ymgynghoriad diwygiedig ar ddileu TB yn cael ei chyhoeddi.

Daeth yr ymgynghoriad ar y rhaglen i ddileu TB—y rhaglen ddiwygiedig—i ben ar 10 Ionawr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr ymatebion ar hyn o bryd, ac rwy’n siŵr y bydd Neil Hamilton mor falch ag Ysgrifennydd y Cabinet o glywed ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o sylwadau—993—a daeth nifer fawr ohonynt gan ffermwyr.

Yn wir. Fodd bynnag, tybed a allem gael unrhyw syniad faint o amser y mae’n debygol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gymryd cyn y gall gyhoeddi’r cynigion a allai fod gan y Llywodraeth. Byddai’n ddefnyddiol cael rhywfaint o syniad ymlaen llaw ynglŷn â nifer o bethau cymharol annadleuol. Er enghraifft, mae llawer o ffermwyr yn bryderus y dylai unrhyw drefn brofi a fydd yn deillio o hyn fod yn ymarferol ac ystyried ffeithiau bywyd bod yn ffermwr da byw. Byddai cynnal profion ar adegau anghyfleus, megis yn ystod y cynhaeaf neu pan fo gwartheg yn lloia, yn anodd dros ben. Hefyd, mater arall y dylid ei gofio yw bod rhaglen resymoli sir, plwyf a daliad yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac mae llawer o ffermwyr yn pryderu y bydd hyn yn cymhlethu sefyllfa sydd eisoes yn gymhleth iawn, os nad yw penderfyniadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried hynny.

Gwneir datganiad ar y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB ddechrau mis Mai, ond credaf hefyd ei bod yn bwysig ac yn berthnasol nodi bod achosion newydd o TB buchol yng Nghymru ar y lefelau isaf ers 10 mlynedd. Mae cynnydd wedi’i wneud, gan nad oes TB bellach mewn dros 95 y cant o fuchesi Cymru.

Efallai nad yw hyn yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond a gaf fi dynnu sylw at broblem gyda’r drefn brofi fel y mae ar hyn o bryd? Mae trefn atebolrwydd gaeth iawn ynghlwm wrth y broses o brofi gwartheg. Os nad ydych yn profi o fewn y cyfnod o 60 diwrnod, cewch ddirwy awtomatig, i bob pwrpas. Ond yn aml iawn, rydym yn gweld achosion—efallai fod arweinydd y tŷ wedi cael llythyrau ynglŷn ag achosion tebyg yn ei hetholaeth—lle y bu’n rhaid rhoi’r gorau i brawf gan fod gwartheg wedi cynhyrfu, neu droi’n ffyrnig hyd yn oed, a byddai parhau â’r profion wedi bod yn anniogel o ran iechyd a diogelwch. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’n bosibl, neu’n debygol iawn yn wir, na ellir ailbrofi o fewn y cyfnod dynodedig a bydd y ffermwr felly’n cael cosbau awtomatig, er eu bod yn gosbau am rywbeth sydd y tu hwnt i’w reolaeth mewn gwirionedd. Felly, yr hyn rwy’n ei ofyn yw: a ellir darparu rhywfaint o hyblygrwydd yn y drefn brofi, fel na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi neu fod y cosbau’n cael eu lliniaru os bydd digwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth yn eu hatal rhag cydymffurfio?

Wel, mae’r rheolaethau a’r trefniadau profi yn rhan hanfodol o’r rhaglen i ddileu TB ac atal y clefyd rhag cael ei drosglwyddo, ond bellach, wrth gwrs, fel rhan o’r prosiect i ystyried y sefyllfa TB ar lefel fwy lleol, mae gennym epidemiolegydd TB penodedig a thîm o filfeddygon yn edrych ar y clefyd ledled y wlad ac yn gweithio ar y materion sy’n codi, wrth gwrs, o ran y rhai yr effeithir arnynt.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol ddoe mai un ffordd y dylid ymateb i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yw drwy gyflwyno Bil parhad Cymru er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi’r holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau Cymreig. Mae’n wir ein bod wedi pleidleisio 9-6, sy’n debycach i sgôr rygbi na phleidlais y Cynulliad, ond serch hynny roedd yn fwyafrif. Beth yw barn y Llywodraeth bellach ar y cynnig hwn, ac a yw’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori cyfraith amgylcheddol yr UE, yn enwedig, yng nghyfraith Cymru er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r economi yn ogystal â’r amgylchedd?

Wel, rwy’n falch o gael y cyfle i ddilyn ymlaen o’r ddadl honno, Simon Thomas, ac i ddweud ein bod wedi bod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef i Whitehall fachu’r pwerau hynny, a’i bod yn annerbyniol i Lywodraeth y DU gymryd pwerau sy’n cael eu harfer gan yr UE ar hyn o bryd yn y meysydd datganoledig. Wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig i’r pwynt a wnaethoch ynglŷn ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad ac edrychaf ymlaen at weld cynigion cadarn iawn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd. Yn benodol, rwy’n awyddus i ni beidio â dibynnu ar Lywodraeth y DU i gynrychioli ein buddiannau yma yng Nghymru, a chan ystyried llygredd aer yn benodol fel maes, rydym eisoes yn clywed am fesurau eithafol—byddai rhai’n eu galw’n ‘fesurau eithafol’ ac eraill yn eu galw’n ‘fesurau angenrheidiol’—ar gyfer mynd i’r afael â llygredd aer. Mae Sadiq Khan, Maer Llundain, yn cyflwyno cyfradd uwch o dâl atal tagfeydd ar gyfer cerbydau llygredd uchel; mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu cynllun sgrapio i sicrhau nad yw perchnogion ceir diesel yn dioddef o ganlyniad i gamgymeriad y Llywodraeth Lafur flaenorol yn hyrwyddo ceir diesel, i ddatgan buddiant. Felly, pa fewnbwn sydd gan Lywodraeth Cymru yn awr i sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol yng nghynigion Llywodraeth y DU ar gynllun llygredd ar gyfer y DU gyfan, gan gofio bod llygredd aer yn arwain at 6,000 o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn?

Rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i wella ansawdd aer ledled Cymru. Rydym yn cynorthwyo, ac yn darparu canllawiau i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau, yn enwedig o ran adolygu ansawdd aer lleol, gydag asesiadau a monitro rheolaidd. Ond fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru ar sut y gellir gwella ansawdd aer a rheolaeth sŵn yn lleol, ac yn wir, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i hynny ar 30 Mawrth. Mae’n rhaid bwrw ymlaen â’n camau nesaf a chyhoeddi canllawiau statudol newydd i awdurdodau lleol, canllawiau newydd i fyrddau iechyd lleol, a lansio, erbyn 24 Ebrill—ac mae hyn yn bwysig i’ch cwestiwn—ymgynghoriad ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU ar gynllun ansawdd aer newydd i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid yr UE ar gyfer Cymru a gweddill y DU o fewn yr amser byrraf posibl.

Diolch am gyfeirio at yr ymgynghoriad hwnnw, sydd i fod i ddechrau ar 24 Ebrill. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd hynny’n gweithio rhwng y gwahanol weinyddiaethau datganoledig. Fodd bynnag, gan ein bod yn sôn am allyriadau nitrogen ocsid, gwelwyd bod un llygrwr mawr iawn yma yng Nghymru—gosaf bŵer Aberddawan—eisoes yn tramgwyddo cyfraith yr UE gan allyrru dwbl yr ocsidau nitrogen gwenwynig a ganiateir rhwng 2008 a 2011. Rydym yn dal i aros am raglen i nodi sut y bydd allyriadau’n cael eu lleihau yn Aberddawan, a chyfrifoldeb yr awdurdod trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, yw hynny.

Ar 8 Mawrth, cefais ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gwestiynau am Aberddawan, a ddywedai ei bod yn disgwyl cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 15 Mawrth i drafod a fu cynnig priodol gan berchnogion Aberddawan i nodi sut y byddant yn lleihau’r allyriadau yn yr orsaf bŵer honno. Dywedodd hefyd y byddai’n fwy na pharod i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod hwnnw. Rwy’n sylweddoli wrth gwrs nad yw’n gallu bod yma heddiw, ond a ydych chi, wrth ddirprwyo dros Ysgrifennydd y Cabinet, mewn sefyllfa ar hyn o bryd i roi gwybod i ni a’r cyhoedd yng Nghymru a oes rhaglen ar waith i leihau’r allyriadau niweidiol hyn yng ngorsaf bŵer Aberddawan?

Rwy’n falch o allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Ysgrifennydd y Cabinet fod Cyfoeth Naturiol Cymru, ar 1 Ebrill, wedi cwblhau’r ymarfer i addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan, ac wedi rhoi trwydded amgylcheddol newydd i Aberddawan. Mae’r drwydded newydd hon yn cynnwys terfyn is ar gyfer allyriadau nitrogen ocsid, yn unol â dyfarniad Llys Cyfiawnder yr UE. Mae’n rhaid i Aberddawan gydymffurfio yn awr â’r terfyn allyriadau nitrogen ocsid newydd. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Mae unrhyw newidiadau i gyflenwadau glo a threfn weithredu Aberddawan, wrth gwrs, yn faterion masnachol ar gyfer RWE.

Tlodi Tanwydd

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0124(ERA)

Mae ein rhaglen allweddol ar gyfer trechu tlodi tanwydd, Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed. Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £217 miliwn er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni dros 39,000 o gartrefi ledled Cymru. Roedd dros 9,000 o’r cartrefi hyn yng ngogledd Cymru.

Diolch. Mae’n mynd â mi yn ôl i ddegawd pan oeddem yn ceisio argyhoeddi eich cyd-Aelodau blaenorol yn Llywodraeth Cymru fod strategaeth tlodi tanwydd yn cynnwys effeithlonrwydd ynni ond mae’n fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae Age Cymru wedi dweud bod llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau a oedd wedi’u cyfuno yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 Llywodraeth Cymru wedi dyddio ac nad ydynt yn berthnasol mwyach, gan ddweud ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd.

Clywsom yng nghynhadledd drawsffiniol gogledd Cymru ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ym mis Chwefror ac yng nghynhadledd flynyddol Cymru ar dlodi tanwydd, er y dylid canmol buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni drwy ei rhaglen Cartrefi Clyd, fod angen newid sylweddol arnom o ran uchelgais a graddau’r adnoddau a glustnodwyd. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, gan eich bod eisoes yn cydweithio â’r rhan fwyaf o’i haelodau mewn gwahanol gyd-destunau, ynglŷn â’u datganiad fod gwir angen strategaeth tlodi tanwydd newydd arnom yng Nghymru?

Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £217 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru er mwyn gwella dros 39,000 o gartrefi. Y pwynt pwysig yn hyn o beth, Mark Isherwood, yw bod gwella effeithlonrwydd ynni aelwydydd incwm isel, neu bobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn creu nifer o fanteision. Mae’n helpu i atal a mynd i’r afael ag afiechyd, mae’n lleihau allyriadau carbon, mae’n creu swyddi ac ynni ac yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Awgrymodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai buddsoddi mewn inswleiddio a gwresogi, er mwyn mynd i’r afael â thai oer a llaith, gael effaith enfawr hefyd. Gwyddom mai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y tymor hir yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac rydym yn gwneud hynny’n effeithiol drwy raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru.

Gofynnir i gartrefi yng Nghymru sy’n dioddef o dlodi tanwydd dalu o’u pocedi eu hunain ar hyn o bryd i roi cymhorthdal i ffermydd gwynt a pharciau solar fel bod tirfeddianwyr yn elwa—efallai nad yw £300 ar fil blynyddol yn swnio’n llawer i chi ar gyflog Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n llawer iawn o arian i deulu incwm isel. Pryd ydych chi’n mynd i roi chwarae teg i aelwydydd tlawd a rhoi’r gorau i roi cymorthdaliadau i’r eliffantod gwyn hyn?

O ran ein rhaglen Cartrefi Clyd, y cynllun pwysicaf y dylech dynnu sylw eich etholwyr ar incwm isel ato yw’r cynllun Nyth, sydd wedi sicrhau arbedion amcangyfrifedig o dros £400 y cartref ar fil ynni cyfartalog. Gadewch i mi ddychwelyd at y cwestiwn ynglŷn â sut yr awn i’r afael â thlodi tanwydd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod tlodi tanwydd ym mhob cartref wedi gostwng o 29 y cant yn 2012 i 23 y cant yn 2016—gostyngiad o 6 y cant mewn pedair blynedd yn unig—ac rydym yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid yr UE. Nawr, tybed a fyddwch yn ein cefnogi wrth inni geisio sicrhau ein bod yn cael cyllid yn lle’r cyllid hwnnw pan fyddwn yn gadael yr UE, gan ei bod yn gwbl glir fod cyllid yr UE hefyd wedi helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Datblygu’r Sector Amaethyddiaeth

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0127(ERA)

Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant hanfodol i Gymru ac yn asgwrn cefn i economi ac amgylchedd gwledig Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i sicrhau bod y sector amaethyddol yn ffyniannus ac yn gadarn.

Diolch, arweinydd y tŷ. Mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Neil Hamilton, fe ddywedoch nad oes TB mewn canran fawr o’r buchesi ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn fawr o gysur i ffermwyr y cyfarfûm â hwy’n ddiweddar yn Llanddingad, ardal yn fy etholaeth â phroblem TB. Er bod yr ystadegau’n dangos gostyngiad dros amser yn nifer y buchesi yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd, maent yn pryderu y gellid priodoli hyn i ostyngiad yn nifer y buchesi, a’r buchesi mwy o faint o ganlyniad i hynny, sydd yn ei dro yn celu gwir raddau’r broblem TB yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried y ffordd y mae’r data’n cael ei gasglu er mwyn sicrhau ein bod yn cael darlun cywir o nifer yr anifeiliaid yr effeithir arnynt gan TB yng Nghymru, ac yna gallwn fwrw ymlaen â’r gwaith o fynd i’r afael â’r clefyd ofnadwy hwn sy’n effeithio ar fywyd gwyllt a da byw ledled Cymru?

Ie, wel, rwy’n siŵr y byddai Nick Ramsay wedi bod yn falch hefyd o glywed am y nifer sylweddol o sylwadau i’r ymgynghoriad, yn enwedig gan ffermwyr, a ffermwyr yn eich etholaeth chi, rwy’n siŵr.

Os caf ddweud ychydig yn rhagor, efallai, ynglŷn â’r prosiect sy’n mynd rhagddo, gan gynnwys yr epidemiolegydd TB a’r tîm o filfeddygon sy’n edrych ar glefydau ledled y wlad, oherwydd efallai eich bod yn ymwybodol ein bod wedi nodi ardaloedd yng Nghymru sy’n perthyn i dri chategori yn seiliedig ar lefel y clefyd ym mhob ardal—uchel, canolig ac isel—er mwyn inni allu cael dull wedi’i dargedu’n well o fynd i’r afael â’r clefyd mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r ymagwedd fwy rhanbarthol honno yn ein galluogi i osod mesurau rheoli gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, yn dibynnu ar y sefyllfa o ran y clefyd a’r risg yn yr ardaloedd hynny, sy’n ddechrau, wrth gwrs, o ran mynd i’r afael â rhai o’r materion hynny. Ac fel y gwyddoch, mae’n rhaid i ni edrych ar—. Pan fydd y mesurau rydym yn ymgynghori arnynt yn cael eu rhoi ar waith, gallai’r ardal TB isel fod yn ardal gyntaf Cymru heb TB, ac un o’r manteision cyntaf, wrth gwrs, i’r teuluoedd yn yr ardaloedd TB isel fyddai cael gwared ar yr angen am brofion cyn symud. Felly, mae yna, wyddoch chi—. Credaf y dylid aros am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan y gallai llawer o’r pwyntiau hynny gael eu hateb.

The UK Government’s proposed great repeal Bill threatens to undo the constitutional settlement of Wales entirely, including Welsh Government powers over issues that are devolved, such as agriculture. Following the vote yesterday in this place on the debate on triggering article 50, the road ahead is clear for an EU continuation Bill for Wales. Do you agree that a continuation Bill is necessary in order to ensure that the Welsh Government will have the powers to develop the agricultural sector in Wales, as can happen at the moment under our current devolved settlement? Do you also agree that a continuation Bill would prevent the Tories in Westminster from undertaking a power grab from our national Parliament?

Wel, rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle i ateb Simon Thomas yn gynharach ein bod yn hollol glir: ni fyddwn yn gadael i Whitehall fachu’r pwerau hynny. Teimlaf hefyd ein bod, rhyngom, yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, wedi cyflwyno ymagwedd glir ac ymarferol iawn tuag at ddatblygu unrhyw fframweithiau ar gyfer y DU gyfan, er enghraifft, a allai fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r meysydd datganoledig. Rydym wedi dweud, a chredaf fod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe, mai ein dewis delfrydol fyddai Bil diddymu ar gyfer y DU sy’n cydnabod yn briodol ac yn diogelu’r setliad datganoli. Byddwn yn dadlau hyn yn gryf mewn trafodaethau dwyochrog â Llywodraeth y DU ac yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, ond rydym hefyd wedi bod yn ystyried y mater: fe wnaethom ymatal ar eich gwelliant ddoe ac rydym yn parhau i’w ystyried mewn perthynas â’r cynnig ar y Bil parhad.

Gwasanaethau Dŵr

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Severn Trent ynghylch gwasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0125(ERA)[W]

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyfarfod gyda Severn Trent Water, wedi iddynt gaffael Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, i drafod disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran y drwydded newydd, sicrwydd swyddi, biliau cwsmeriaid, a sut y bydd y broses yn mynd rhagddi gan fod y broses gaffael wedi’i chwblhau bellach.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, oherwydd yn flaenorol, wrth gwrs, roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrthod ymateb, oherwydd ei bod hi’n gofidio, efallai, y byddai’n gorfod bod yn ymwneud â rhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol y diwydiant dŵr. Mi gyfeirioch chi at swyddi—a gaf i ofyn pa sicrwydd mae hi, felly, wedi’i dderbyn yn ei thrafodaethau y bydd lefel y swyddi a oedd yn flaenorol yn Nŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei chynnal o dan y trefniant newydd?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â Severn Trent Water ddwywaith, a chofiaf ei bod wedi adrodd ar hyn er mwyn pwysleisio’r angen am gyfnod pontio rhwydd sydd o fudd i Gymru, gan ein bod yn ymwybodol o ansicrwydd y rhai yr effeithir arnynt o ganlyniad i gaffael Dŵr Dyffryn Dyfrdwy. Mae wedi cyfarfod â hwy i drafod sut y dylid cysoni polisi Llywodraeth Cymru â’r diwydiant dŵr, ond hefyd er mwyn ystyried y goblygiadau o ran sut i ddiogelu’r gweithlu lleol, swyddi lleol, y gymuned a’r cwsmeriaid.

Arweinydd y tŷ, mae etholwr wedi tynnu fy sylw at ddifrod i eiddo yn ardal Llandinam yn fy etholaeth y credant iddo gael ei achosi gan weithgarwch echdynnu Severn Trent yn yr ardal. A gaf fi ofyn i chi pa rôl sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod Severn Trent yn derbyn cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac yn sicrhau nad yw’r gweithgareddau y maent yn eu cyflawni yn effeithio ar yr amgylchedd?

A gaf fi ofyn hefyd, o ystyried yr adroddiadau a gefais gan nifer o wahanol berchnogion eiddo ynglŷn â suddiant sylweddol mewn caeau, craciau mewn eiddo ac ymsuddiant eiddo, pe bawn yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi neu Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn ymrwymo i drafod y mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru?

Credaf fod yr enghraifft honno—. Mae angen pob enghraifft ar Ysgrifennydd y Cabinet, ei swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys yr un a grybwyllwyd gennych y prynhawn yma. Mae’n bwysig nodi bod Severn Trent wedi bod yn aelodau gweithgar o fforwm dŵr Cymru ers iddo gael ei sefydlu, ac maent yn ymgysylltu’n rheolaidd, drwy’r fforwm, gyda Llywodraeth Cymru, ac yn wir, gyda’r rheoleiddwyr.

Allforio Anifeiliaid Byw

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru o ran allforio anifeiliaid byw i gael eu lladd? OAQ(5)0130(ERA)

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod allforio anifeiliaid byw i gael eu lladd yn peri pryder. Mae gennym ddeddfwriaeth ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid wrth eu cludo a byddai’n well gennym pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd yn agos at eu man cynhyrchu, ac rydym yn ystyried bod masnachu cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell.

Mae’n drueni na chlywais gynnig clir neu gefnogaeth i wahardd allforio byw yn eich sylwadau, arweinydd y tŷ. Mae miloedd o anifeiliaid byw yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, weithiau i wledydd lle y mae safonau lles anifeiliaid yn isel iawn, os ydynt yn bodoli o gwbl. Nodaf hefyd fod eich Llywodraeth wedi dewis peidio â’i gwneud yn orfodol i ladd-dai osod systemau teledu cylch cyfyng er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau lles. Sut y gallwch honni bod lles anifeiliaid yng Nghymru yn ddiogel yn nwylo Llafur os yw elw’n golygu mwy i chi na lles, gan y tybiaf mai hynny sydd wrth wraidd eich ateb?

Mae Llywodraeth Cymru’n—. Os ydych yn awyddus i’r Llywodraeth wrando arnoch, credaf y dylech wrando ar yr atebion a roddir i chi, yn ogystal ag edrych ar y gyfraith. Fel y dywedais, byddai’n well gan Lywodraeth Cymru pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag sy’n ymarferol bosibl at eu man cynhyrchu, ac fel y dywedais, rydym yn ystyried bod masnachu cig a chynnyrch cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i gael eu lladd, ond mae’r fasnach allforio byw, fodd bynnag, yn fasnach gyfreithlon. Nawr, sut rydym yn mynd i’r afael â hynny? Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno ar strwythur partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a phenaethiaid safonau masnach, gyda chamau gorfodi mwy effeithiol ar gyfer materion allweddol yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, gan gynnwys eu lles wrth gael eu cludo.

Arweinydd y tŷ, yn amlwg, fel y dywedoch, mae allforio anifeiliaid byw o dan amodau penodol iawn ac amddiffyniadau iechyd anifeiliaid llym yn arfer cyfreithlon, ond un peth a fyddai’n gymorth wrth ychwanegu gwerth at dda byw yma yng Nghymru fyddai sicrhau bod gennym sector prosesu cadarn iawn. Mae gallu’r sector gwartheg, er enghraifft, yn gyfyngedig iawn ac mae wedi ei grynhoi mewn ychydig iawn o ddwylo. Yn benodol, rydym eisoes wedi gweld diswyddiadau ar y safle mawr ym Merthyr Tudful. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gryfder y sector prosesu yma yng Nghymru, a sut y gallai gefnogi’r gymuned amaethyddol, o bosibl, drwy ychwanegu gwerth at dda byw yma yng Nghymru, yn hytrach na gorfod allforio’r cynnyrch sylfaenol er mwyn i eraill ychwanegu gwerth ato?

Mae hwnnw’n gwestiwn defnyddiol, oherwydd credaf ei fod yn ategu fy mhwynt ynglŷn â’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud o ran sefydlu’r strwythur partneriaeth newydd hwnnw gyda’r rhai sy’n gyfrifol am gamau gorfodi effeithiol, sef penaethiaid y safonau masnach. Ac i gydnabod hefyd fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal archwiliadau ar sail risg o dda byw y bwriedir eu hallforio yn eu man cychwyn, a bod awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau o dan Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, a’u bod yn gyfrifol, fel y dywedais, am orfodi ac erlyn lle y nodir tramgwydd—ond yn amlwg, mae cryfhau’r broses yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.

Cymorthdaliadau Ffermio’r UE

7. Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i fynd i’r afael â’r posibilrwydd na fydd gan Lywodraeth y DU weithdrefnau yn eu lle i barhau â chymorthdaliadau ffermio’r UE ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0126(ERA)

Mae’n amlwg fod angen i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad hirdymor i sicrhau cyllid yn lle’r cyllid hanfodol sy’n dod o’r UE i Gymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar senarios ôl-Brexit posibl, ac mae ein hymgysylltiad â’r trafodaethau o amgylch y bwrdd yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn.

Rwy’n siŵr y bydd arweinydd y tŷ’n ymwybodol fod hwn yn fater pwysig sy’n ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd, a bod angen i unrhyw Lywodraeth allu sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fwyd ffres a naturiol. Mae llawer o faterion yn codi yn hyn o beth, nid yn unig y milltiroedd bwyd a allai fod yn angenrheidiol er mwyn cyflenwi bwyd pe bai ein diwydiant amaethyddol yn methu—lles dinasyddion, a fyddai’n cael effaith enfawr ar gyllidebau’r GIG. Felly, tybed beth yn benodol sy’n cael ei wneud i sicrhau cydnerthedd cymunedau gwledig o ystyried y ffaith fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dibynnu ar y taliadau sylfaenol presennol am hyd at 80 y cant o’u hincwm.

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn, oherwydd mae’n bwysig, mae diogelu’r cyflenwad bwyd yn bwysig i ni yng Nghymru, a chredaf fy mod wedi crybwyll bod trafodaethau o gwmpas y bwrdd yn ymgysylltiad allweddol—rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno cynnig i’r cynllun datblygu gwledig fel rhan o’r cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio, a fydd yn adeiladu, er enghraifft, ar waith pwysig iawn Garddwriaeth Cymru. Credaf fod cydnabod y gall cyfleoedd i arallgyfeirio ganiatáu i aelodau ychwanegol o’r teulu ymgymryd â’r busnes ffermio, gan roi mwy o ddiogelwch i ddyfodol busnesau teuluol, a ddaw, wrth gwrs, yn sgil yr ymagwedd honno—. Ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi hwb i gymunedau gwledig gyda’r hwb o £223 miliwn o ran cyfleoedd ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, a fydd yn gymorth i fynd i’r afael â’r materion hynny.

Ymagwedd Plaid Cymru tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd yw sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn waeth eu byd nag yr oeddent o’r blaen. Nawr, gallai’r diwydiant amaethyddol fod yn un o’r meysydd sy’n colli fwyaf mewn unrhyw setliad ôl-Brexit. Yn 2014-15, taliadau uniongyrchol o gyllid yr UE oedd 81 y cant ar gyfartaledd o’r elw net ar gyfer pob math o fferm yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yn parhau ar ei lefel bresennol tan 2020, ac wedi hynny, ni fydd gan ffermwyr yng Nghymru unrhyw sicrwydd y daw arian yn lle cymorthdaliadau ffermio’r UE. Cred Plaid Cymru y dylai Llywodraeth y DU roi’r un lefel o gyllid i’r sector amaethyddol ar ôl inni adael yr UE ag sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac fel yr addawyd gan y bobl a fu’n ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhaid darparu cyllid yn y dyfodol drwy’r grant bloc, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddefnyddio’r arian hwn i gefnogi amaethyddiaeth a’r economi wledig. A all Ysgrifennydd Cabinet roi sicrwydd, yn ogystal â chynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru mor gadarn â phosibl mewn trafodaethau â’i chymheiriaid cyfatebol yn San Steffan, fod yr adran wedi dechrau gweithio ar gynllun cynhwysfawr sy’n cwmpasu’r gwahanol bosibiliadau cyllido i sicrhau bod gennym ddyfodol diogel i ffermio yng Nghymru?

Diolch i Leanne Wood am ei chwestiwn, gan ei fod yn mynd â ni’n ôl at bwyntiau pwysig sydd wedi cael eu trafod dros y dyddiau a’r wythnosau diwethaf. Yn wir, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi mynegi ei bryderon ein bod yn dal i fod heb gael unrhyw ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid yn lle’r cyllid hanfodol sy’n dod i Gymru ar hyn o bryd o’r Undeb Ewropeaidd. A gaf fi ddweud hefyd ei bod yn braf gweld Paul Davies, ysgrifennydd yr wrthblaid dros amaethyddiaeth ar ran y Ceidwadwyr, yn ymladd i sicrhau’r fargen orau ar gyfer ffermio yn sgil Brexit? Felly, gallwn weithio gyda’n gilydd ar hyn.

Ond mewn perthynas â phwyntiau arweinydd Plaid Cymru, ac fel y mynegwyd yn gadarn yn ein Papur Gwyn, mae’n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn ymladd am sicrwydd ynglŷn â’r cyllid a fydd yn dilyn 2020, ond ein bod hefyd yn gweithio, fel y dywedais, i sicrhau bod gennym ragolygon ar gyfer ein sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth yn hynny o beth, a chredaf fod undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill wedi cydnabod hynny’n glir iawn.

Diolch i arweinydd y tŷ am y sylwadau caredig iawn hynny. Nawr, mae cymorthdaliadau ffermio, wrth gwrs, yn hanfodol i gefnogi ffermwyr, ac yn hanfodol i gynaliadwyedd y diwydiant amaeth. A dylwn ddatgan buddiant, Llywydd, gan fod fy rhieni yng nghyfraith yn rhedeg fferm laeth. Nawr, o ystyried pwysigrwydd y taliadau hyn, a allwch ddweud wrthym felly pa ymchwil penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni ers canlyniad y refferendwm ynglŷn â lefelau presennol y cymorthdaliadau i ffermwyr ledled Cymru?

Wel, mae eglurder ynglŷn â threfniadau ariannu yn y dyfodol yn fater allweddol sydd wedi cael ei godi yn y cyfarfodydd trafod a’r gweithdai Brexit, a ddechreuodd yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm. O ran cydnerthedd ar gyfer y cyfnod pontio ar ôl gadael yr UE, credaf fod hyn yn hanfodol i ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, tirfeddianwyr a phawb sy’n byw yn ein cymunedau. Y cynlluniau rydym yn eu hystyried, wrth gwrs, yw’r grantiau busnes i ffermydd, Glastir Uwch, y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio, Glastir – Creu Coetir, a’r gronfa datblygu cymunedau gwledig. Dyna pam, hefyd, o ran cydnerthedd a’r cyfnod pontio hwn, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo’r elfen UE sy’n weddill yn y gronfa datblygu gwledig yn llwyr. Ond rydym angen mwy na’r warant, a dyna ble rwyf yn eich herio chi yn awr, y Ceidwadwyr Cymreig ac Ysgrifennydd amaethyddiaeth yr wrthblaid, i sicrhau bod eich llais, yn ogystal â’n llais ninnau, yn cael ei glywed yn glir iawn, a bod y llais hwnnw’n cael ei glywed yn glir iawn yn Llywodraeth y DU a’n bod yn sicrhau’r ymrwymiadau hynny ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru.

Beiciau Modur oddi ar y Ffyrdd

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith amgylcheddol defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0129(ERA)

Gall defnyddio cerbydau’n anghyfreithlon ac yn anghyfrifol oddi ar y ffyrdd gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, yn ogystal ag ar fwynhad a diogelwch defnyddwyr eraill, rheolwyr tir, a chymunedau lleol yng Nghymru.

Iawn. Diolch am eich ateb ac am gydnabod y broblem. A oes unrhyw beth—? Gan fod y broblem i’w gweld yn gwaethygu mewn rhai ardaloedd, a oes unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â hyn?

Arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd at ddal 22 o feicwyr modur yn rhan o’r ymgyrch mewn mannau ledled Cymru lle y gwyddys bod hyn yn digwydd yn aml. Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru i dargedu pobl sy’n defnyddio beiciau sgramblo yn anghyfreithlon ar dir sy’n agored i’r cyhoedd.

Allyriadau Carbon

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau allyriadau carbon? OAQ(5)0123(ERA)[W]

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi targed cyfreithiol i leihau allyriadau 80 y cant fan lleiaf erbyn 2050. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu rheoliadau i sefydlu targedau interim a chyllidebau carbon cychwynnol a fydd yn gymorth i ysgogi’r newid i economi carbon isel.

Diolch. Rydw i’n credu bod yna sgôp go iawn i greu delwedd ryngwladol i Gymru fel gwlad sydd yn wirioneddol hybu ceir trydan a cherbydau trydan. Un maes lle rydw i’n meddwl y gall Lywodraeth Cymru annog hyn ydy drwy strategaeth i gyfnewid y fflyd bresennol o gerbydau cyhoeddus i rai sydd yn sero allyriadau—o faniau cyngor, faniau byrddau iechyd i drafnidiaeth cyhoeddus, hyd yn oed. Mae llynges Prydain newydd gyhoeddi buddsoddiad mewn fflyd o faniau trydan a’r isadeiledd gwefru ac ati sydd ei angen i gefnogi hynny. Dim ond 48 o gerbydau i ddechrau, ond mae o yn ddechrau. Rydw i’n bwriadu ailgyflwyno cynnig deddfwriaethol i’r perwyl yma, ac rwy’n gobeithio y cawn ni gyfle i drafod hyn. Ond a ydy arweinydd y tŷ yn cytuno bod yna le i Lywodraeth Cymru fod yn flaengar yn y fan yma o ran gyrru’r newid tuag at gerbydau sero allyriadau?

Wel, credaf fod hwn yn gynnig deddfwriaethol diddorol iawn, ac efallai y bydd yn cael ei atgyfodi mewn dadl maes o law. Hoffwn roi ymateb cadarnhaol iawn ar y cam hwn i’r hyn rydych yn ei gynnig, ac edrych yn benodol ar sut y mae eraill wedi cyflawni hyn—eraill yn y sector cyhoeddus, yn enwedig—nid ledled y DU yn unig, ond y tu hwnt hefyd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Y cwestiwn cyntaf—Rhun ap Iorwerth.

Pobl Fyddar

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i sicrhau bod pobl fyddar yn cael yr addasiadau perthnasol i’w cartrefi? OAQ(5)0130(CC)[W]

Diolch i’r Aelod dros Ynys Môn am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Cefnogir yr ymrwymiad gan gyllid ar gyfer offer ac addasiadau lle y bo’n briodol.

Mewn cyfarfod diweddar efo Action on Hearing Loss, mi glywais i stori am ddynes fyddar efo arwydd ar ei drws ffrynt yn dweud ‘Mae’n ddrwg gen i, ond gan na allaf i glywed y gloch rwy’n cadw’r drws ar agor, felly dewch i mewn.’ Nid yw hynny, yn amlwg, yn dderbyniol. Beth oedd ei angen, wrth gwrs, ar y ddynes yna oedd cymorth i gael y dechnoleg angenrheidiol i’w hysbysu hi pan oedd rhywun wrth y drws er mwyn ei chadw ei hun yn ddiogel. Mae’r elusen yn nodi bod y gwariant ar offer i gefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw wedi mwy na haneru yn y bedair blynedd hyd at 2014-15. Mae yna wahaniaethau mawr hefyd yn faint sy’n cael ei wario o ardal i ardal. Gan bod hwn yn eich portffolio chi, a ydych chi’n cytuno bod angen strategaeth i geisio sicrhau yn y dyfodol bod arian yn mynd yn ôl i’r bobl sydd ei angen o er mwyn helpu’r rhai fel y ddynes yma a oedd mewn peryg, mewn difri, oherwydd diffyg buddsoddiad yn yr offer angenrheidiol?

Credaf ei bod yn amherthnasol o ble y daw’r ffrwd gyllido, boed hynny drwy wasanaethau cymdeithasol neu drwy’r grant cyfleusterau i’r anabl neu fel arall yn y portffolio hwn. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ganolbwyntio ar yr unigolyn a’u hanghenion, ac os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn â hyn, mae’n rhywbeth y byddwn yn fwy na pharod i fynd ar ei drywydd ar ei ran.

A gaf fi ddatgan buddiant, gan fod fy chwaer yn hollol fyddar? A gaf fi ategu’r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth? I rywun sy’n fyddar, mae golau’n cyflawni’r un swyddogaeth ag y mae sain yn ei chyflawni i’r rhai ohonom sy’n gallu clywed. Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod gan bobl fyddar larymau tân sy’n fflachio golau—gan na fydd larwm tân sain o unrhyw ddefnydd iddynt o gwbl—a chan ategu’r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, clychau drysau sy’n fflachio golau fel y gallant bwyso ar gloch y drws ac mae’n fflachio yn y tŷ? Oherwydd, unwaith eto, nid yw sain yn gwneud unrhyw wahaniaeth, ac rwy’n cytuno’n llwyr â Rhun ap Iorwerth na ddylai pobl adael drws eu tai ar agor am na allant glywed pobl yn curo arno.

Mae’r rhain yn gyfleoedd technolegol syml iawn a gallwn eu cyflwyno ledled Cymru. Cyhoeddwyd fframwaith gweithredu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig newydd ym mis Chwefror ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sy’n colli eu clyw, gan adeiladu ar ein buddsoddiad parhaus mewn offer a thechnolegau cynorthwyol. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, wedi ymateb ar gyfer y gronfa gofal integredig. Mae’n rhywbeth rwyf wedi ei nodi mewn perthynas â’r sylwadau a wnaed gan Aelodau heddiw.

Rwyf am ddatgan bod aelodau agos o’r teulu wedi gwneud addasiadau i’w cartrefi gan ddefnyddio arian yr awdurdod lleol, ac mae hynny wedi eu galluogi i fyw’n annibynnol ac wedi lleihau costau am wasanaethau statudol, mewn gwirionedd. Yng nghyd-destun y toriadau y mae rhai awdurdodau lleol wedi eu gwneud i’r gyllideb ar gyfer offer i bobl fyddar, gyda rhai yn nodi eu bod yn rhoi’r gorau i ariannu offer er ei fod yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol mewn gwirionedd, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhoeddi, neu’n mynd i’w cyhoeddi i awdurdodau lleol ynglŷn â pha addasiadau neu offer y dylid eu darparu fel gofyniad sylfaenol?

Mae canllawiau eisoes wedi mynd at yr awdurdodau. Byddaf yn cael sgwrs gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog, ynglŷn â’r mater penodol hwn. Mae’r Llywodraeth yn awyddus iawn i ni symud tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar, gan fod hynny’n atal problemau, fel y nododd yr Aelod, megis effeithiau iechyd hirdymor a symud pobl i mewn i eiddo a addaswyd, na fyddai’n angenrheidiol, mewn gwirionedd, pe baem yn gwneud rhywfaint o ymyriadau bychain yn gynnar. Gallai arbed llawer o arian i’r gwasanaethau yn y tymor hir. Byddaf yn cael sgwrs gyda fy nghyd-Aelod.

Credyd Cynhwysol

3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o effaith Credyd Cynhwysol yng Nghymru? OAQ(5)0133(CC)

Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Rydym wedi cwblhau asesiad cynhwysfawr o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU, gan gynnwys credyd cynhwysol. Mae’r asesiad hwn yn cwmpasu ystod o effeithiau, gan gynnwys nifer yr aelwydydd yr effeithir arnynt, effeithiau ar gymelliadau incwm a gwaith ac effeithiau ehangach sy’n gysylltiedig ag un taliad misol i aelwydydd a delir yn uniongyrchol i’r hawlwyr.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gan gredyd cynhwysol oblygiadau enfawr i deuluoedd ledled Cymru, gan ei fod gwthio mwy o blant i mewn i dlodi ac yn taro rhai rhwng 18 a 21 oed yn galed. Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad i lansio’r ymchwil arloesol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Cartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliad Oak ar oblygiadau’r credyd cynhwysol. Cyflawnwyd yr ymchwil gan denantiaid, a dyma’r gwaith ymchwil cyntaf o’i fath yng Nghymru. Tynnodd un o’r canfyddiadau sylw at yr ohebiaeth ysgrifenedig gymhleth a llawn jargon gan adrannau’r Llywodraeth a chymdeithasau tai, sy’n aml yn gallu bod yn anodd ei darllen a’i deall. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac eraill yn egluro pethau’n ddealladwy ac yn eglur i’w tenantiaid bob amser?

Diolch i’r Aelod am gwestiwn difrifol iawn. Fel y cyfryw, ni fydd unigolion sengl rhwng 18 a 21 oed sydd heb blant yn gymwys i gael cymorth gyda’u costau tai pan ddaw credyd cynhwysol i rym, o 1 Ebrill ymlaen—yr wythnos hon. Ceir sawl eithriad, gan gynnwys pobl sy’n anabl neu bobl nad ydynt yn gallu byw gartref gyda’u rhieni. Effeithir ar oddeutu 1,000 o bobl yng Nghymru, ond nid yw hyn yn cynnwys y nifer helaeth o eithriadau a allai fod yn ymgeisio. Dyma weithredu diwygiadau credyd mewn modd llym iawn. Nid ydym yn cefnogi hyn; mae’n ymyriad gan Lywodraeth y DU. Rydym yn bryderus iawn y bydd nifer y bobl ifanc sy’n cael eu dadleoli yn ein cymunedau yn cynyddu drwy hyn, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar hyn ar fyrder.

Ysgrifennydd y Cabinet, canfu un o astudiaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau fod y bobl sydd ar gredyd cynhwysol 8 y cant yn fwy tebygol o ddod o hyd i swydd o fewn 270 diwrnod na’r bobl a oedd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith. Felly, mae rhai agweddau ar y cynllun newydd hwn sy’n bendant yn gweithio. Gobeithio y byddwch cystal â chydnabod hynny.

Ystadegau, ystadegau, ystadegau. Yr hyn sy’n fy mhoeni yw beth sy’n digwydd ar lawr gwlad yn ein cymunedau, pan fyddwch chi a minnau’n derbyn llu o lythyrau gan bobl sy’n cael trafferth gyda chredyd cynhwysol a diwygio credyd. Fe’i cyflwynwyd gyntaf yn Sir y Fflint yn fy etholaeth i, felly rwyf wedi gweld cynnydd yn y pwysau yno. Ond ni allaf weld unrhyw un yn yr ystafell hon, waeth beth fo’u gwleidyddiaeth—. Mae’r ffaith y bydd pobl rhwng 18 a 21 oed bellach yn colli unrhyw hawl i fudd-dal tai—beth sy’n digwydd i’r bobl ifanc hynny? Ble y gallant gael atebion tai? Bydd pobl yn cael eu rhoi ar y strydoedd. Mae mil o bobl ifanc yng Nghymru yn gorfod wynebu pethau na ddylai fod yn digwydd i bobl ifanc iawn yn ein cymunedau.

Rwy’n falch iawn o glywed eich geiriau cryfion ynglŷn â pha mor ofnadwy, mewn gwirionedd, yw’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio’i wneud i bobl rhwng 18 a 21 oed, ac fel y gwyddoch, mae llawer o sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc yn gandryll ac yn ymgyrchu yn erbyn hyn. Croesawaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â siarad â’ch swyddogion, ond a wnewch chi, gan weithio ar draws y Llywodraeth, gyflwyno sylwadau mor rymus â phosibl i Lywodraeth y DU i ddweud wrthynt eu bod wedi gwneud camgymeriad yn hyn o beth, ac y bydd hyn yn arwain at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, a gofyn iddynt ailfeddwl?

Yn wir, ac mae’r Aelod, fel nifer o bobl eraill, yn iawn i grybwyll y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Shelter Cymru y bore yma ynglŷn â’r mater hwn. Mae’n peri cryn bryder i ni, ac rydym yn edrych ar ymatebion cyflym iawn i broblem bosibl digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Ni allwn ganiatáu i bobl ifanc gael eu rhoi ar strydoedd Cymru. Mae’n gwbl anghywir ar ran Llywodraeth y DU.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Cyfarfûm yn ddiweddar â ‘The Big Issue’ a gwerthwyr stryd yng Nghaerdydd, ac fel gwleidyddion a dinasyddion, gallwn wneud mwy i helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd, megis hyrwyddo’r cynllun StreetLink, sy’n caniatáu i unrhyw un ffonio neu anfon rhybudd ar-lein yn nodi lleoliad unrhyw un a welant yn cysgu ar y stryd, fel y gall awdurdodau ddod o hyd iddynt a chynnig y gefnogaeth honno iddynt. Mae twf cynlluniau fel hyn, fodd bynnag, yn dangos bod nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru wedi codi’n sylweddol, ac mae Shelter Cymru wedi cofnodi cynnydd o 63 y cant yn nifer y bobl sydd angen eu gwasanaeth, a chredaf y dylem geisio deall a mynd i’r afael â hyn. Rwyf am geisio dysgu am y profiadau hynny fy hun, felly cytunais, pan oeddwn yno—. Nid wyf yn gwybod sut y gwnaethant lwyddo i ddylanwadu arnaf, ond dywedais y byddwn yn dod yn un o werthwyr stryd ‘The Big Issue’ er mwyn i mi weld sawl copi y gallwn ei werthu, mewn cystadleuaeth â rhai o werthwyr eraill ‘The Big Issue’. A thybed os hoffech ymuno â mi rhyw ddiwrnod, Ysgrifennydd y Cabinet—unrhyw le yng Nghymru; nid oes rhaid gwneud hyn yng Nghaerdydd, yn ysbryd ein hymagwedd Cymru gyfan—i ddod i werthu ‘The Big Issue’ gyda mi, i weld sut y maent yn gweithredu, ac i weld sut y maent yn gwneud bywoliaeth ar y strydoedd.

Wel, efallai y bydd hyn yn syndod i’r Aelod, ond byddwn yn fwy na pharod i ymuno â’r Aelod yng Nghaerdydd neu ble bynnag, i ddod gyda chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall profiadau’r bobl sy’n gweithio neu sydd allan ar y strydoedd. Ychydig nosweithiau yn ôl, efallai y bydd yr Aelod yn falch o glywed fy mod wedi treulio 10 munud yn eistedd yn ‘Chippy Alley’ yng Nghaerdydd, yn siarad â pherson ifanc a oedd yn ddigartref. Cawsom sgyrsiau llwm iawn, ynglŷn â dylanwad yr hyn sy’n digwydd i’w bywyd, a pha mor agored yw hi i niwed. Rwy’n fwy na pharod i ddod gyda chi i siarad â phobl yn y cymunedau yn yr ardal rydych yn ei chynrychioli, hefyd.

Diolch yn fawr iawn, ac edrychaf ymlaen at weithio dan gudd a gweld faint a werthwn a faint y gallwn—. Wel, beth am gael cystadleuaeth? Cawn weld. Ond i ddychwelyd at y mater difrifol dan sylw, mae ffyrdd eraill, wrth gwrs, y gallwch chi a’ch Llywodraeth helpu i ddatrys y broblem benodol hon, yn hytrach na gwerthu ‘The Big Issue’. Mae gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd wedi gwella’r sefyllfa, ond nid yw wedi atal y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd. Yn eich barn chi, a yw’n bryd diweddaru eich strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dull cenedlaethol o fynd i’r afael â chysgu ar y stryd, a dod â phobl oddi ar y stryd ac i mewn i lety, felly os oes pethau eraill—megis problemau iechyd meddwl—gellir mynd i’r afael â hwy, gallwn wneud yn siŵr o hynny, a gwneud yn siŵr nad oes tuedd gynyddol o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru?

Pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd, cawsom ymateb gwych o ran lleihad yn y niferoedd, ac rwy’n talu teyrnged i’r awdurdodau lleol sydd wedi bod yn ymwneud â hynny. Siaradais gyda Shelter Cymru y bore yma, ac roeddent yn hapus iawn ynglŷn â pha mor gyflym y digwyddodd y llwyddiant hwn, ond rwyf hefyd yn cydnabod y ffaith fod ymyriadau eraill wedi digwydd yma sydd wedi creu dynamig gwahanol o ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu ar y stryd. Os cerddwch drwy’r dinasoedd yn awr, fe welwch garfan iau o unigolion yno. Bydd gweithredu toriadau i’r budd-dal tai ar gyfer pobl rhwng 18 a 21 oed yr wythnos hon yn cynyddu hynny. Felly, mae rhywfaint o waith i’w wneud, a chyfarfûm â’r Prif Weinidog ddoe hefyd i siarad am ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a’r ffaith fod yn rhaid i ni weithio ar fyrder i edrych ar sut y gallwn sicrhau ymyrraeth uniongyrchol, a allai gynnwys gweithio o’r ffordd anhraddodiadol rydym yn darparu cefnogaeth. Ond rwyf eisoes wedi ymweld â rhai ardaloedd lle y ceir ymyriadau dyfeisgar i gynorthwyo pobl ac atebion tai hefyd, ac mae hynny o ddiddordeb mawr i mi.

Rwy’n sicr yn cytuno â’r cwestiynau yn gynharach ynglŷn â’r cap tai. Credaf ei fod yn fom sy’n tician ac yn rhywbeth y dylem fod yn ymgyrchu yn ei erbyn. Ond un o’r nifer o broblemau y mae pobl yn eu hwynebu pan gânt eu gorfodi i gysgu ar y stryd yw nad ydynt, ar hyn o bryd, yn cael eu hystyried yn bobl ag angen blaenoriaethol. Yn y gorffennol, rydych wedi gwrthod dirwyn angen blaenoriaethol i ben, ac wedi amddiffyn y penderfyniad hwnnw. Rydych wedi datgan, ac rwy’n dyfynnu:

‘bod yn rhaid sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hawliau’r ymgeisydd a’r dyletswyddau a’r beichiau a roddwn ar awdurdodau lleol.’

Ond fel y gwyddoch, dengys yr holl ymchwil fod digartrefedd ei hun yn arwain at fwy o gost i wasanaethau cyhoeddus nag y mae atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae hyd yn oed taleithiau ceidwadol yr Unol Daleithiau wedi deall hyn, ac yma yn y DU, mae Crisis wedi modelu effaith ariannol digartrefedd ac wedi nodi, ym mhob senario, fod yr arbedion i’r gwasanaethau cyhoeddus yn gorbwyso cost atal digartrefedd drwy gymhareb o 3:1 dros un flwyddyn yn unig. Ac ar gyfer ambell i senario lle rydych yn ystyried costau ychwanegol, megis arestio dro ar ôl tro a’r defnydd o wasanaethau iechyd meddwl a’u cyfleusterau, gallai’r arbedion fod mor uchel ag 20:1. Felly, a wnewch chi dderbyn y byddai dirwyn angen blaenoriaethol i ben a mabwysiadu polisi tai yn gyntaf yn arbed arian cyhoeddus yn y tymor hir, a chytuno i ailystyried y mater hwn ar fyrder?

Fel y dywedais yn gynharach, pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon gennym, credaf ein bod ar bwynt mewn amser pan oeddem yn credu mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. Rydym wedi gweld yr ymyriadau hynny’n bod yn gadarnhaol iawn. Credaf ei bod yn bryd adnewyddu’r polisi yn awr a chynnal adolygiad o’r hyn rydym yn ei wneud o ran ymyrraeth. Mae’r dystiolaeth ar ein strydoedd. Rydym yn gallu gweld pobl sy’n ddigartref a phobl yn cysgu ar y stryd, ac felly, mae’n amlwg fod rhywbeth o’i le rhwng y ddeddfwriaeth a’i gweithrediad. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny, ac i gyfarfod â Shelter yn ogystal, cyfarfûm â Crisis ddoe hefyd. Felly, rwyf wedi cyfarfod â llu o sefydliadau sy’n ymdrin â digartrefedd, gan fy mod o’r farn y dylai hon fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.

Diolch, Llywydd. Rwyf eisoes wedi tynnu eich sylw at adroddiad ‘Valuing Places’ gan yr Young Foundation, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n seiliedig ar waith ymchwil mewn tair ardal, gan gynnwys eich tref enedigol eich hun, ac roeddent yn dweud y dylai’r broses o sefydlu rhwydweithiau lleol fod yn flaenoriaeth. Yn eich rhagair i gynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru, dywedwch fod rôl bwysig i wasanaethau cynghori cryf ac integredig ei chwarae yn hyrwyddo’r lles a’r ffyniant sy’n hanfodol i greu cymunedau cryf, ac wrth gwrs, mae hynny’n gwbl gywir. Yn seiliedig ar argymhellion y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol, mae eich cynllun yn nodi y bydd rhwydweithiau lleol a rhanbarthol yn brif gyfranwyr yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’i dadansoddiad annibynnol o anghenion cyngor a’r rhwydwaith cyngor cenedlaethol, er bod y cyntaf wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2017 a’r ail weithgor wedi’i sefydlu yn 2017-18. Sut, felly, y byddwch yn darparu ar gyfer hyn gan fod eich cynllun hefyd yn dweud na fydd cydweithio ac annog datblygu rhwydweithiau lleol rhanbarthol yn digwydd tan 2018?

Wel, rydym eisoes wedi dechrau ymgysylltu â chymunedau mewn perthynas â’n gweledigaeth ar gyfer y tymor hwy ar y ffordd o gael cymunedau cryf. Mae fy nhîm wedi bod yn siarad â holl glystyrau Cymunedau yn Gyntaf a’u rheolwyr tîm, a chydag awdurdodau lleol. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio gyda rhai sefydliadau ar barthau Rhoi Plant yn Gyntaf, ac rydym yn ystyried hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael adborth gan y gymuned, yn hytrach na’n uniongyrchol gan sefydliadau fel ni ein hunain. Felly, er bod y cynigion yn awgrymu 2018 o ran yr amserlen, mewn gwirionedd rydym wedi dechrau’r broses honno eisoes.

Iawn. Wel, un o’r sefydliadau lleol rwyf wedi eu cyfeirio atoch, sy’n darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf a ddatblygwyd ar sail ryngwladol, yw Cwmni Buddiannau Cymunedol Datblygu Ieuenctid Eagle House, sy’n gweithio yn Eryri ac wedi’u lleoli ar Ynys Môn, a’u rhaglen ar gyfer cyflawnwyr ifanc, sy’n helpu i fynd i’r afael â throseddu drwy gefnogi pobl ifanc ymlaen llaw. Maent wedi cyflawni dau gontract llwyddiannus gyda chanolfannau gwaith, ac yn parhau i ddarparu ar eu cyfer ledled gogledd Cymru. Mae awdurdodau addysg lleol ledled gogledd Cymru wedi cysylltu â hwy hefyd i ddarparu cyrsiau preswyl ar ddatblygu ymddygiad i ysgolion, ond maent yn dal i frwydro i gael gwynt dan adain eu gwaith gyda throseddwyr cyson a lleihau’r troseddu, hyd yn oed gyda chefnogaeth uned rheoli troseddwyr yr heddlu a’r gwasanaeth prawf, ac maent yn awyddus i gael cyfarfod gyda chi. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb, pan ddywedoch eich bod yn darparu cyllid uniongyrchol i’r timau troseddau ieuenctid drwy’r awdurdodau lleol, ac mai eu cyfrifoldeb hwy yw comisiynu’r gwasanaeth hwnnw’n uniongyrchol gan Eagle House. Ond gofynnaf i chi eto: a wnewch chi ymgysylltu’n uniongyrchol â hwy i weld â’ch llygaid eich hun pa mor effeithiol yw’r math hwn o ymyrraeth rhwydwaith lleol? A gwn na allwch orfodi awdurdodau lleol, ond yn sicr, gallwch dynnu eu sylw at arferion da y gallent fod eisiau eu hystyried. A wnewch chi hynny?

Wel, byddwn yn gobeithio bod awdurdodau lleol yn gallu sicrhau ymyrraeth a chefnogaeth ar gyfer busnesau sy’n gallu dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol. Bûm yn ymweld â Sir y Fflint, sy’n gweithio gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar raglen reoli achosion uwch, sy’n cael effaith enfawr ar leihau cyfraddau aildroseddu mewn ardal â nifer uchel o droseddwyr cyson. Rydym wedi cael cryn lwyddiant yno. Rwy’n siŵr y bydd fy nhîm wedi clywed eich cwestiwn, ac y byddant yn siarad â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn unol â hynny i weld a allant gyfarfod â sefydliad Eagle House, fel y dywedoch, rwy’n credu.

Eagle House, ie. Diolch. Dylwn bwysleisio eu bod yn gwmni, ond maent yn sefydliad nad yw’n gwneud elw ac yn sefydliad buddiannau cymunedol.

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol sy’n gweithredu yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, ac sy’n gwella datblygiad personol pobl ifanc, eu profiadau bywyd a’r cryfderau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn pobl ifanc. Mae 300,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda chanlyniadau rhagorol. Fe ysgrifenoch at yr AS dros Ddyffryn Clwyd, Dr James Davies, yn tynnu sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn cael £60 miliwn o arian canlyniadol i gynnwys rhedeg Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol, fod prosiect peilot blaenorol wedi bod yn gadarnhaol mewn rhai ffyrdd, a’ch bod yn ymrwymo i weithio gyda Gweinidog Llywodraeth y DU i weld beth y gellid ei ddatblygu, yn seiliedig ar y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol a chynlluniau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru. A wnewch chi roi diweddariad inni ynglŷn â ble y mae Llywodraeth Cymru arni yn hynny o beth?

Rydym yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cael sawl sgwrs, a sawl dadl, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â’r mater hwn, ynglŷn ag egwyddorion cynllun o’r fath yng Nghymru. Nawr, rydym eisoes yn gweithredu cynllun gwirfoddoli, a sawl math arall o gefnogaeth, ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. A fy nghwestiwn i Weinidog y DU oedd sut y byddai hyn yn ychwanegu gwerth at ein cyfraniad eisoes. Beth fydd hynny’n ei ychwanegu? Roedd y Gweinidog yn gadarnhaol. Dywedodd y byddai’n ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion ariannol. Hyd yn hyn, nid yw wedi llwyddo i sicrhau unrhyw gyllid ychwanegol ar ein cyfer. Ond mae fy nhîm yn gohebu; gwelais nodyn yr wythnos hon yn sgil ymyriadau rhwng y ddwy adran.

Diolch, Llywydd. Roeddwn am ofyn rhai cwestiynau i chi heddiw, Gweinidog, ynglŷn â thai, ac yn benodol, ynglŷn ag ymwneud Llywodraeth Cymru yn y broses o ysgogi’r cyflenwad tai. Gwn fod ymdrechion wedi’u gwneud i gynyddu’r defnydd o dir cyhoeddus ar gyfer y cyflenwad tai. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r ymdrechion hyn, a hefyd ar weithgarwch tasglu’r cyflenwad tai, a sefydlwyd yn 2013?

Credaf ein bod wedi cael cryn lwyddiant yn darparu mwy o gartrefi i gymunedau ledled Cymru. Fe wnaethom ragori ar ein targed yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, gyda thros 11,000, gan weithio mewn partneriaeth â’r sector tai. Eleni, rydym newydd arwyddo compact rhwng y sector tai ac awdurdodau lleol. Bydd ein cynigion i ddirwyn yr hawl i brynu i ben yn gymorth i sicrhau bod y buddsoddiad a wneir gan y sefydliadau hyn yn cynllunio ar gyfer y tymor hir, gyda rhagor o gyflenwad—20,000 yn rhagor o unedau dros dymor y Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth garedig iawn y Gweinidog cyllid.

Ie, diolch am eich ateb, Gweinidog. Gwn fod gennych Fil ar y gweill i ddiogelu’r stoc dai cymdeithasol, fel rydych chi’n ei weld, a dyna yw eich dull o weithredu. Ond rwy’n edrych ar y pen arall heddiw—cynyddu’r cyflenwad gwirioneddol, ac rydych wedi fy ngoleuo ynglŷn â’r ymdrechion rydych yn eu gwneud. Nawr, man posibl arall lle y gellid gwella hyn yw drwy ryddhau safleoedd tir llwyd. A yw eich adran yn ymwneud â’r maes hwn, ac a oes unrhyw gynlluniau ar waith i helpu gyda’r broses o ryddhau safleoedd tir llwyd, megis llunio adroddiadau tocsicoleg?

Wel, ceir dau faes gwahanol. Mae fy nhîm eisoes yn cynnal trafodaethau gyda Ken Skates a’i adran i edrych ar ba dir sy’n eiddo i ni fel Llywodraeth. Rydym hefyd yn trafod â’r portffolio iechyd i weld, unwaith eto, a oes unrhyw botensial ar gyfer defnyddio tir a gosod stoc yno. Rydym newydd lansio rhaglen arloesi gwerth £20 miliwn ar gyfer cynlluniau tai. Nid yw arloesedd yn brin yng Nghymru, ac mae llawer o gynlluniau ar waith i edrych ar y defnydd tir, ac nid ein defnydd ni yn unig, ond landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac eraill, i’w ddefnyddio fel catalydd ar gyfer twf.

Felly, dros y 12 mis nesaf, credaf y bydd Cymru’n lle cyffrous i gyflawni busnes ym maes tai. Ac mae’r hyn rydym yn ceisio’i wneud yn rhywbeth newydd. Os ydych yn gwneud yr un peth, fe gewch yr un peth. Rydym yn edrych ar arloesi a gwneud rhywbeth gwahanol. Ac mae pethau fel y credyd cynhwysol a mynd i’r afael â phroblemau rhai rhwng 18 a 21 oed y buom yn eu trafod yn gynharach, yn bethau y bydd yn rhaid inni fynd i’r afael â hwy a’u lliniaru gyda’n hatebion tai yma yng Nghymru.

Ie, rwy’n cydnabod bod problemau yn hynny o beth. Os arhoswn gyda’r cyflenwad tai, fel rydych wedi bod yn ei ddweud, maes arall yw dod â thai gwag i mewn i’r cyflenwad tai. Gwn eich bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant gyda’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Mae’r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod oddeutu 23,000 o dai gwag yng Nghymru ar hyn o bryd. Eich ffigur chi yw hwnnw, gyda llaw. Felly, a yw’n debygol y bydd cynllun Troi Tai’n Gartrefi y Llywodraeth yn rhyddhau llawer o’r adeiladau gwag hyn ac yn helpu i’w troi’n eiddo preswyl?

Mae dwy ran, unwaith eto, lle y byddant yn parhau â’r rhaglen honno—llwyddiannus iawn—ond mae rhagor i’w wneud o hyd. Unwaith eto, yn hytrach nag adeiladu eiddo newydd drwy’r amser, credaf mai’r hyn y gallem ei wneud yw ymyrryd a defnyddio eiddo hŷn, os oes modd inni sicrhau eu bod yn effeithlon o ran ynni ac yn addas i gael eu defnyddio fel llety. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar hyn mewn perthynas ag ymyrraeth uniongyrchol yn ymwneud â chartrefi gwag yn ein cymunedau.

Adfywio yng Ngorllewin De Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0137(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynigion ar gyfer raglen adfywio cyfalaf newydd. Bydd yn ategu buddsoddiadau strategol eraill sydd eisoes ar y gweill ac yn adeiladu ar lwyddiant cynlluniau cynharach.

Diolch yn fawr am eich ateb. Mae’n amlwg fod stryd fawr Abertawe yn borth allweddol i’r ddinas ar gyfer ymwelwyr wrth iddynt ddod ar y trên a chyrraedd gorsaf stryd fawr Abertawe—mae’r cliw yn yr enw. Maent wedi elwa ar gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid dros y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw pob adeilad ar y stryd fawr mewn cyflwr gwych. Mae Theatr y Palas yn adeilad rhestredig gradd II sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac yn dadfeilio. Mae pobl wedi bod yn aros ers blynyddoedd lawer am ryw arwydd o weithredu. A gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â Dinas a Sir Abertawe i geisio datrys y sefyllfa rwystredig hon?

Rwy’n credu bod Cyngor Dinas Abertawe wedi gwneud gwaith gwych yn y ffordd y maent yn dechrau adfywio eu cymuned, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £11.76 miliwn i gyngor Abertawe fel rhan o’r bartneriaeth. Hyd at 2017, bydd cyfanswm o oddeutu £69 miliwn i gyd o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn mynd i’r gymuned honno, ac rydym yn gweld gwahaniaeth mewn gwirionedd yn ymddangosiad y stryd fawr. Rwy’n gwybod ble mae’r orsaf drenau oherwydd, pan fyddwch yn dod allan o’r orsaf drenau ac yn troi i’r dde, mae fy mhlac ar ochr y wal, pan agorais y lle yn rhan o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, felly rwy’n gyfarwydd â’r ardal.

Yr hyn sy’n bwysig yma yw bod gennym ymyrraeth gymunedol, yn edrych ar yr hyn sy’n dda i’r gymuned a sut y gallwn wneud yn siŵr fod y cyfranogiad hwnnw’n parhau, ond da iawn, Cyngor Abertawe.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, fel prosiectau ym Mhort Talbot, wedi adfywio rhannau o fy nhref, ac rydych wedi gweld rhywfaint o’r gwaith yn ardal y Parc Gwyrdd drosoch eich hun. Mae’r rhain wedi bod yn weledigaeth atyniadol i’r bobl leol ac i fuddsoddwyr yn y dyfodol. Byddai’r cyhoeddiad a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bythefnos yn ôl ynglŷn â lleoli carchar newydd ym Maglan, sy’n llai na milltir i ffwrdd o’r prosiectau adfywio hyn sydd wedi’u targedu, yn gallu—ac rwy’n dweud ‘gallu’—gwrthdroi effaith gadarnhaol y prosiectau hyn. Deallaf fod y tir sydd dan ystyriaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Pan fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn a fyddai’n gwerthu’r tir, a fydd Llywodraeth Cymru yn dweud, ‘Na’ ac yn cadw ei ffocws ar adfywio wedi’i dargedu ym Mhort Talbot?

Diolch i’r Aelod am gydnabod y buddsoddiad rydym wedi’i wneud yn ei etholaeth, ac rwyf wedi bod o gwmpas gydag ef ar rai o’r ymweliadau hynny. Unwaith eto, mae honno’n ardal arall sydd wedi cael ei thrawsnewid yn ddramatig gan fuddsoddiad y Llywodraeth.

Mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r carchar. Mae’r system gynllunio mor briodol ag ydyw ar gyfer unrhyw system arall, boed yn garchar neu’n siop stryd fawr. Mae’r tir yn agored i gynigion gan unrhyw sefydliad, ac os yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno dilyn y trywydd hwnnw, mater iddynt hwy fydd hynny a byddwn yn ei drin yn unol â hynny o dan y telerau ac amodau cynllunio.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gyfarwydd â ‘buddleia towers’ hefyd ac ni allaf ddweud bod ymyrraeth cyngor Abertawe yn y fan honno wedi creu argraff hynod o fawr arnaf. Ond mae’r fargen ddinesig yn newyddion gwell i Abertawe. Yn anffodus efallai, nid yw’n mynd i’r afael â’r seilwaith traddodiadol neu fetro, gan ganolbwyntio yn hytrach ar briffyrdd digidol yn sbardun i arloesi ac adfywio. O ganlyniad, tybed a allai Llywodraeth Cymru, ar lefel strategol, fynd ati i archwilio sut i wella ansawdd aer Abertawe, gan ei archwilio o fewn cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n gydnaws ag amcanion y fargen ddinesig. A fyddai Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn fel nad yw syniadau fel trenau un gledren a thramiau a thacsis trydan a bysiau LPG yn diflannu o’ch golwg yn syml am nad oes neb yn gallu cytuno ai’r portffolio trafnidiaeth, y portffolio adfywio neu’r portffolio cymunedau sydd â’r cyfrifoldeb am hyn?

Mae gennym Lywodraeth gydgysylltiedig iawn ac mae gennym gymuned gydgysylltiedig iawn o ran ein hymyriadau ag awdurdodau lleol hefyd. Rwy’n credu bod bargen ddinesig bae Abertawe yn wych ar gyfer yr ardal ac unwaith eto, bydd yn ymwneud ag atebion trafnidiaeth integredig a chyfleoedd cyflogaeth. Mae’r cysyniad metro yn egwyddor o sut y gellir cydgysylltu cymunedau, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y metro. Ac yna ceir yr amod masnachfraint newydd: sut rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynllunio ar gyfer bysiau neu dramiau, neu sut olwg bynnag fydd ar hynny yn y dyfodol? Rwy’n siŵr y bydd gan fargen ddinesig Bae Abertawe y weledigaeth honno wrth i ni symud ymlaen. Mae ganddi dîm gwych o gwmpas y ddarpariaeth honno, gyda’r holl awdurdodau yn ymrwymo i hynny. Rwy’n gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth ar ôl mis Mai.

Y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr

5. Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0135(ERA)[W]

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu prosiect Teithio Ymlaen yn Tros Gynnal Plant i ddarparu gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth newydd ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddeall eu hawliau yn well, i gael cyngor a chymorth eiriolaeth o ansawdd da, ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a threchu gwahaniaethu.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb ac a gaf fi ddiolch yn arbennig iddo am ei swyddogion a fynychodd gyfarfod â mi ar y safle Sipsiwn yn Kingsmoor ger Cilgeti ddydd Gwener. Hoffwn ddiolch hefyd i Ruby Price a’n croesawodd ni i’w chartref am awr neu ddwy lle y buom yn trafod Tros Gynnal Plant, prosiect Teithio Ymlaen ac anghenion eraill i gefnogi safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Benfro. A gaf fi ofyn dau gwestiwn penodol sy’n deillio o hynny? Un o’r pethau a oedd yn glir o’r drafodaeth honno oedd bod cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn meithrin ymddiriedaeth yn y rhai sy’n gallu siarad ar eu rhan, neu ymyrryd neu weithio gyda hwy, ac mae’r prosiect Undod wedi gwneud llawer i gyflawni hynny yn Sir Benfro. Sut y gallwn gyflawni a sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd yn y prosiect Undod, a’r sgiliau sydd wedi cael eu datblygu gydag unigolion yno, yn cael eu trosglwyddo mewn rhyw ffordd i brosiect newydd Teithio Ymlaen, Tros Gynnal Plant hefyd, fel nad oes hyder yn cael ei golli? Oherwydd, fel y bydd yn gwybod, ym maes datblygu cymunedol, gall gymryd dwy neu dair blynedd i ailfeithrin hyder os ydych yn ei golli ar y cam hwnnw.

Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â’r cyfleusterau yn Kingsmoor yn benodol. Deallaf fod Cyngor Sir Penfro yn ystyried cael cais cynllunio a dod at Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf i ehangu’r safle hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd ef yn gweithio gyda Sir Benfro, neu ei swyddogion o leiaf, er mwyn sicrhau bod y bobl ar y safle hwnnw’n cael tegwch a’r cyfle gorau posibl i wneud cais drwy Sir Benfro am yr arian a allai fod ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n ymwybodol o’r prosiect Undod ac rwy’n ddiolchgar iddo am gydnabod fy swyddog. Dywedais y byddai’n dod gyda chi ac fe wnaeth, ac rwy’n falch ei fod wedi bod yn gyfarfod llwyddiannus. Rwyf innau hefyd yn awyddus i rannu arferion da a’r cydlyniant cymunedol sy’n cael ei ddatblygu drwy raglen fel hon. Mae’n drueni dweud, er bod y Loteri Fawr yn dod i ben yn y tymor hir, roedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol fod y rhaglen honno’n dod i ben a byddent wedi gallu cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i barhau â gwaith da y prosiect Undod, ond methodd wneud hynny, sy’n anffodus. O ran y gwariant cyfalaf y mae’r Aelod yn cyfeirio ato, nid wyf yn ymwybodol fod cais ar y ffordd, ond wrth gwrs rwyf wedi clywed sylwadau’r Aelod.

A gaf fi ychwanegu fy llais at sylwadau Simon Thomas am y prosiect Undod? Roedd yn brosiect ardderchog yn wir ac fe weithiodd i helpu i ddod â Sipsiwn a Theithwyr ifanc yma i’r Senedd ar gyfer y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. Maent yn ansicr sut y byddant yn gallu dod yn y dyfodol. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n gallu meddwl am rywbeth a fyddai’n gallu cymryd lle’r prosiect Undod i roi cymorth i alluogi’r bobl ifanc i ddod yma i weld ble mae eu democratiaeth?

Wrth gwrs. Mae Julie Morgan wedi bod yn hyrwyddo hawliau’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr ers amser hir. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth Teithio Ymlaen, sy’n gweithredu o 1 Ebrill hyd at fis Mawrth 2020. Bydd y staff sy’n cyflwyno’r rhaglen yn gyfarwydd i lawer o aelodau o gymunedau canolbarth a gorllewin Cymru, a dylai hynny gefnogi effeithiolrwydd y gwasanaeth. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â’r gymuned iau yma yn y Cynulliad, ac roedd yn gyfle gwych, llawn gweledigaeth i ddeall beth yw’r effeithiau ar y gymuned hon. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny.

Cartrefi Newydd i’w Rhentu

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd i’w rhentu gan gynghorau Cymru? OAQ(5)0128(CC)

Diolch am y cwestiwn. Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i ddarparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd o dan ein cytundeb tai newydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1979—cyfnod democrataidd-gymdeithasol hanes Prydain—cafodd nifer fawr o dai cyngor eu hadeiladu. Pan oedd yn cael ei llywodraethu gan y gwleidyddion adain chwith adnabyddus hynny, Winston Churchill, Harold MacMillan a Stanley Baldwin, adeiladodd Prydain filiynau o dai cyngor a fflatiau. Yn y cyfnod ers hynny nid oes fawr o dai wedi cael eu hadeiladu ac mae’r nifer wirioneddol wedi gostwng oherwydd yr hawl i brynu. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar fynd ati i adeiladu tai cyngor yn Ffordd Milford a Gellifedw yn Abertawe?

Ddwywaith mewn diwrnod, Mike Hedges. Llongyfarchiadau i Abertawe. Mae’n wych gweld yr awdurdod lleol yn adeiladu tai cyngor newydd. Yn wir, yn fy awdurdod fy hun yn Sir y Fflint hefyd, gyda Hannah Blythyn, mae gennym dai cyngor llwyddiannus a phobl yn byw ynddynt eisoes. Rydym bellach yn dechrau gweld y budd o ddod allan o system gymhorthdal ​​y cyfrif refeniw tai gyda chartrefi cyngor newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n falch fod Abertawe ac awdurdodau eraill yn defnyddio eu gweledigaeth i sicrhau ein bod yn gallu gwneud buddsoddiad hirdymor yn y stoc tai cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi pob ymdrech i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol hefyd ac, wrth gwrs, mae sir Gâr yn gyngor sydd wedi bod ar flaen y gad yn y maes yma. Un cyfyngiad a allai effeithio ar y gallu i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ydy penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus, a thrwy hynny gyfyngu ar argaeledd cyllid yn y dyfodol. A fedrwch chi ein diweddaru ni ar beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn datrys y broblem yma?

Rydym mewn trafodaethau gyda’r cymdeithasau tai ynglŷn â sut y byddwn yn rheoli’r broses hon. Rwy’n hyderus y gallwn ddatrys y mater naill ai drwy ddeddfwriaeth neu fel arall.

Ddwywaith i Suzy Davies hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynllun datblygu lleol Cyngor Abertawe eisoes wedi cael ei ohirio, ac mae dyddiad newydd mis Mawrth wedi mynd heibio ac nid ydym fymryn yn agosach at fod yn hollol siŵr sut y mae’r weledigaeth hon a grybwyllwyd gennych yn edrych, a’r arloesedd y gall y cyngor ei gynnig i’w gynllun i ddod ag eiddo rhent newydd i’r stoc dai. Nawr, rwyf wedi crybwyll y pwynt sawl gwaith—wrthych chi, fel y mae’n digwydd—felly rwy’n teimlo bod gennyf hawl i ofyn yn awr: pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn siarad â’r sector tai amlfeddiannaeth ynglŷn â throi capasiti dros ben yn gartrefi newydd hirdymor? Ac a gaf fi ofyn, felly, pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i gynghorau ynglŷn â chaffael eiddo sydd wedi’i leoli’n ganolog eu hunain er mwyn dod ag ef i mewn i stoc tai cymdeithasol y cynghorau yn ychwanegol at adeiladau newydd?

Wel, rwy’n credu bod hyn, o gwestiwn cynharach, yn ymwneud â pha atebion tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol a beth yw eu hanghenion. Nid oes gennyf broblem gyda defnyddio tai amlfeddiannaeth os ydynt yn addas ar gyfer atebion tai newydd. Ymwelais ag Abertawe, gyda Julie James a Mike Hedges mewn gwirionedd, i edrych ar y ddarpariaeth tai amlfeddiannaeth. Suzy, byddai croeso wedi bod i chi, ond nid oeddwn yn gwybod a oedd lle gennych yn eich dyddiadur. Y ffaith amdani yw, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw bod yn arloesol ac edrych ar yr holl opsiynau i Gymru. Rwy’n credu bod y sector tai amlfeddiannaeth—. Oherwydd bod mwy o adeiladau llety myfyrwyr wedi cael eu datblygu ar ffurf bloc, mae tai amlfeddiannaeth bellach yn symud allan o’r system honno; felly, mae cyfle i ni eu defnyddio.

Gofal Plant am Ddim

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i gael gofal plant am ddim? OAQ(5)0129(CC)

Mae ein cynnig gofal plant yn anelu at ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i rieni plant tair a phedair oed. Byddwn yn dechrau treialu’r cynnig mewn ardaloedd penodol mewn saith awdurdod lleol o fis Medi eleni ymlaen.

Rwy’n ymwybodol iawn o’r cynlluniau peilot, a hoffwn ddiolch i’r Llywodraeth am wneud y datganiad am y rheini’n ddiweddar iawn, ond rwy’n bryderus—yn bryderus iawn yn wir—ynghylch sylwadau’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yr wythnos hon ynglŷn â gallu’r sector preifat sydd eisiau gweithio gyda’r Llywodraeth, fel y gwyddoch, i gyflawni’r ymrwymiad hollbwysig hwn. Rwy’n pryderu am allu’r sector i fodloni’r gofynion hynny, a’r ffaith nad oes unrhyw gynllun ar hyn o bryd rhwng y sector preifat a’r Llywodraeth i gynyddu’r gallu hwnnw dros y blynyddoedd nesaf fel y gallwch gyflawni’r ymrwymiad heriol hwn. Pa waith rydych chi’n ei wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn gwneud yn siŵr fod y gallu gennych i gyflawni’r addewid pwysig hwn?

Wel, fe ddarllenais innau hefyd eich datganiad i’r wasg, a darllenais y sylwadau yn y papur newydd. Mae’r sylw’n dweud,

Efallai na fydd y cynllun i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim yn bosibl

ac nid yw hynny’n golygu nad yw’n bosibl. Y ffaith yw bod y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhan o’r gweithgor sy’n bwrw ymlaen â’r cynllun hwn. Cefais fy synnu hefyd eu bod yn gwneud sylwadau yn y cyfryngau yn hytrach na dod i siarad gyda ni.

A gaf fi ddweud bod y gweithgor yn gweithio’n dda? Nid y sector preifat yw’r unig opsiwn ar gyfer cyflwyno’r model hwn, ac felly mae gennym lawer o opsiynau wrth symud ymlaen. Bydd y cynlluniau peilot yn rhoi gwell syniad o’r ddarpariaeth i ni, ond rwy’n hyderus y byddwn yn gallu cyflawni’r rhaglen gofal plant fwyaf cynhwysfawr yn y DU gan y Llywodraeth hon erbyn diwedd y tymor llywodraeth hwn.

Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i ofal plant am ddim o reidrwydd yn arwain at gynnydd yn nifer y darparwyr gofal plant ledled Cymru. Mae hyn yn creu cyfle i ni ystyried yr effeithiau cymunedol cadarnhaol a allai ddeillio o’r cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector hwn. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i roi i ymgorffori egwyddorion yr economi sylfaenol yn y cynnig i ddarparu gofal plant a chynyddu’r galw ar ddarparwyr i gynnig atebion cymdeithasol er budd pellach i gymunedau?

Mae hwn yn gwestiwn mawr mewn perthynas â’r agenda gofal plant ychwanegol, a gwneud yn siŵr nad yw hyn yn ymwneud yn unig â gofal plant a rhoi plant mewn warysau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ond yn hytrach ei fod yn ymwneud ag adeiladu economi a’r cyfle i’r sector gofal plant dyfu, ond hefyd materion sy’n ymwneud â chaffael, prosesu bwyd, dosbarthiad manwerthu, cludiant—yr holl bethau sy’n rhan o’r gwaith penodol hwn. Mae’n rhywbeth rwy’n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet arno, ac yn wir y sector, a dyna pam y synnais hyd yn oed yn fwy pan ddarllenais y sylwadau yn y papurau newydd yr wythnos hon.

Wrth gwrs, mae ansawdd yr un mor bwysig â maint, ac rydym yn gwybod bod llithro ar ôl yn gynnar, yn arbennig o ran datblygiad gwybyddol, yn gallu effeithio ar blant am amser hir, yn enwedig yn ddiweddarach yn eu plentyndod, ac yn wir yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwyf wedi pwyso arnoch o’r blaen ynglŷn â’r cynllun ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, ac fe ddywedoch y byddai ar gael yn y gwanwyn. Wel, dyma ni, ac roeddwn yn meddwl tybed a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â phryd rydym yn debygol o’i weld, ac a yw ar fin cael ei gyhoeddi mewn gwirionedd?

Mae’r cynllun gwaith hwnnw’n cael ei ddatblygu gennym ni, a chan y comisiynwyr hefyd. Rydym wedi gofyn iddynt ddod i siarad â ni ynglŷn â chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Nid yw ond yn iawn ein bod yn gwneud hynny yn fy marn i.

Ni ddylem beidio â chydnabod y bydd hon yn her enfawr i’r sector yn ei gyfanrwydd—gwneud yn siŵr fod gennym y gallu yn y system i ymdopi â’r holl bobl ifanc hyn sy’n dod drwyddi. Rwy’n cytuno—o ran y rhaglen gofal plant gyfan y buom yn ei chyflwyno, y ddau faes sydd wedi bod yn fwyaf amlwg yw ansawdd a hyblygrwydd, ac mae’n eang iawn yn y cyd-destun hwnnw, ond rydym yn gweithio tuag at hynny. Bydd y broses o gyflwyno yn cychwyn ym mis Medi, ond byddaf yn rhoi ateb mwy pendant i’r Aelod pan fydd gennyf ragor o fanylion y gallaf eu rhoi iddo.

Hawliadau a Hawliau plant

8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael â gweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ynghylch hawliadau a hawliau plant? OAQ(5)0136(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â chymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr i drafod hawliau plant a gweithrediad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r trafodaethau hyn yn cynnwys bwrw ymlaen yn llawn ag argymhellion 2016 a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A yw’n ymwybodol o’r arolwg a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon a oedd yn dangos bod 63 y cant o bobl yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi gwarchod plant yn gyfreithiol rhag taro, smacio, ac unrhyw fath o ymosodiad yn wir? A yw hefyd yn ymwybodol fod yr Aelod o Senedd yr Alban, John Finnie, i fod i gyflwyno Bil Aelod yn Senedd yr Alban yn ystod yr wythnosau nesaf i ddiddymu’r amddiffyniad o ymosodiad cyfiawnadwy mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol yn yr Alban? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn ddefnyddiol iawn i ni yng Nghymru, ac i Lywodraeth Cymru, edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol a’n cynlluniau arfaethedig ein hunain?

Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at hyn. Mae hyrwyddo rhianta cadarnhaol yng Nghymru yn hollbwysig, ac mae dysgu gan wledydd eraill yn rhan o’n dull gweithredu, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod atebion a gyflwynwyd gan wledydd eraill yn seiliedig ar eu hawdurdodaethau cyfreithiol penodol eu hunain. Bydd unrhyw ddeddfwriaeth y byddwn yn bwrw ymlaen â hi’n cael ei theilwra ar gyfer Cymru, ond gall yr Aelod fod yn sicr y byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn y maes hwn fod ein disgwyliadau a’n huchelgeisiau’n codi’n gyson, ac mae hynny’n beth da. Wrth gwrs, rydym wedi cyfrannu comisiynydd plant a’r strategaeth chwarae gyntaf, ac er tegwch i’r Llywodraeth yn y fan hon, rydym wedi mabwysiadu’r cyfnod sylfaen. Ond mae angen i ni edrych ar awdurdodaethau eraill yn ogystal i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif yn parhau i fod ar flaen y gad.

Rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae rhan o fy nhîm a rhai aelodau o fecanweithiau cymorth y Llywodraeth wedi bod ar daith i’r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf i weld ymyriadau’n edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwn fod cyd-Aelodau eraill wedi bod ar draws y byd hefyd, yn edrych ar ymyriadau sy’n gadarnhaol iawn ar gyfer ein pobl ifanc. Ni ddylem gilio rhag mabwysiadu’r polisïau hynny. Mae’n drueni nad oes rhywbeth yn nes at gartref, yn Lloegr, a allai gael effeithiau cadarnhaol yma yng Nghymru.

Cymunedau yn Gyntaf

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drefniadau pontio ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0134(CC)

Rwyf wedi cyhoeddi cyfnod pontio o 12 mis ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf i liniaru rhai o effeithiau’r penderfyniad. Mae canllawiau pontio a strategaeth wedi cael eu cyhoeddi i roi cefnogaeth lawn i’r cyrff cyflawni arweiniol sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno cynlluniau pontio amlinellol.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn llythyr gan gynghorydd bwrdeistref sirol Caerffili, Ken James, yr aelod cabinet dros adfywio. Hoffwn dynnu ei sylw at y datganiad hwn gan y Cynghorydd James sy’n dweud bod cyngor Caerffili, fel y corff arweiniol, yn cael trafferth cyflawni eu cynllun manwl oherwydd ein bod bellach yn y cyfnod cyn yr etholiad, sy’n golygu na allant gadw at eu prosesau ffurfiol ar gyfer ymgynghori a gwneud penderfyniadau er mwyn datblygu a chytuno eu cynigion. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i rywfaint o hyblygrwydd ar gyfer cyrff arweiniol wrth iddynt gyflwyno eu cynlluniau manwl?

Fel bob amser, gan fod yr Aelod wedi dwyn y mater i fy sylw, yn ogystal â Dawn Bowden a’i gyd-Aelodau eraill, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar hyn a sut y gallwn sicrhau pontio llyfnach i’r bobl a gyflogir yn y cymunedau ar lawr gwlad. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud yn siŵr fod fy nhîm yn gweithio’n agos gyda Chaerffili a chymdeithasau eraill, ac rwyf wedi gofyn iddynt gael sgwrs gyda hwy yn uniongyrchol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu dod o hyd i ffordd drwy’r cynnig hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad ar 14 Chwefror ar eich dull newydd o adeiladu cymunedau cryf, fe gyhoeddoch grant newydd o £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi’r rhai sy’n byw i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu mwy o fanylion am y cynllun hwn, pryd y bydd yn cael ei lansio, at bwy y bydd yn cael ei anelu, pa amcanion sydd wedi’u pennu, a sut y byddant yn cael eu cyflawni? Diolch.

Wel, nid yw’r rhain yn gynlluniau newydd. Nid oedd Esgyn a Cymunedau am Waith a’r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth ar gael ym mhob un o’r clystyrau. Rydym yn gwneud yn siŵr y bydd Esgyn a Cymunedau am Waith ar gael ym mhob un o 52 clwstwr blaenorol Cymunedau yn Gyntaf, gan fuddsoddi £12 miliwn, fel y dywedodd yr Aelod, er mwyn mynd â phobl sy’n anodd iawn eu cyrraedd i mewn i’r farchnad waith. Nid yw hynny bob amser yn ymwneud â rhaglen gyflogadwyedd, ond efallai â meithrin hyder neu fel arall, â rhoi hyder i bobl symud at y cynllun hwnnw. Rwyf hefyd yn siarad â Julie James ynglŷn â’i llwybr cyflogadwyedd i wneud yn siŵr fod y rhaglenni penodol iawn hyn mewn cymunedau yn ychwanegu gwerth at ymyrraeth hirdymor dysgu gydol oes. Felly, rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y cynlluniau hyn, ond nid ydynt yn newydd; nid ydym ond yn cynyddu’r gallu o fewn y sector.

3. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiadau 90 eiliad. Ann Jones.

Diolch, Lywydd. Mewn awr yn unig, bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yn cerdded ar y cae i chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon. Fel rhan o’r garfan honno, Jess Fishlock fydd y bêl-droedwraig gyntaf o Gymru i gael 100 o gapiau, sy’n nodi carreg filltir hynod gofiadwy i’r chwaraewraig canol cae dalentog. Nid oes yr un chwaraewr, dyn neu fenyw, erioed wedi chwarae cant o gemau dros Gymru, ac rwy’n siŵr y bydd yn achlysur arbennig iddi, ac yn un, rwy’n credu, y dylem ei gydnabod yma yn y Cynulliad.

Chwaraeodd Jess ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Swistir yn ôl yn 2006. Ar ôl troi’n 30 yn ddiweddar, nid oes gan Jess unrhyw gynlluniau i ddod â’i gyrfa ryngwladol i ben, ac mae ganddi uchelgais danllyd o hyd i gynrychioli ei gwlad yn rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr. Rwy’n siŵr y bydd y tîm yn gwneud eu gorau dros Jess heddiw ac y bydd Jess yn chwarae ei rhan, ac rwy’n gobeithio y gall wireddu ei huchelgais i arwain tîm pêl-droed menywod Cymru i mewn i bencampwriaeth fawr. Rwy’n siŵr ein bod yn dymuno’n dda iddi ar y gamp ryfeddol hon. Diolch.

Diolch, Llywydd. Ganed Henry Richard yn Nhregaron ar 3 Ebrill 1812. Yn weinidog yr Annibynwyr, roedd yn ffigur blaenllaw yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr Cymreig. Ym 1868, etholwyd ef yn Aelod Seneddol bwrdeistref Merthyr Tudful a bu’n gwasanaethu yno am 20 mlynedd. Roedd yr etholaeth bryd hynny yn cynnwys fy nhre enedigol innau, Aberdâr.

Cofir Henry Richard yn bennaf fel hyrwyddwr achos heddwch a chyd-ddealltwriaeth rhyngwladol, ac fel ysgrifennydd y gymdeithas heddwch am 40 mlynedd. Ei brif lwyddiant oedd gweithio i sicrhau cymod yng nghytundeb Paris, y cytundeb â ddaeth a rhyfel Crimea i ben, gan datgan am y tro cyntaf yn rhyngwladol bod modd cymodi yn lle mynd i ryfel. Fe’i galwyd, o’r herwydd, yn apostol heddwch.

Fe’i gofir yn awr ar ffurf cerflun urddasol ar sgwâr Tregaron, ac yn enw ysgol newydd pob oedran yr ardal. Dyma ei ddatganiad ar y cerflun:

Cedwais dri pheth mewn cof yn barhaus:—peidio anghofio iaith fy ngwlad; a phobl ac achos fy ngwlad; a pheidio esgeuluso unrhyw gyfle i amddiffyn cymeriad a hyrwyddo buddiannau fy ngwlad. Gorwedd fy ngobeithion am ddifodiant y gyfundrefn ryfel yn argyhoeddiad barhaus y bobl, yn hytrach nag ym mholisïau cabinet a thrafodaethau senedd.’

Da, beth bynnag, i’w gofio yn ein Senedd ni heddiw.

Diolch, Lywydd. Mae tair mil a hanner o bobl bellach wedi llofnodi’r ddeiseb i’r Cynulliad hwn yn galw arnom i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Dechreuwyd y ddeiseb honno gan yr arweinydd a’r cyfansoddwr, Richard Vaughan. Y broblem yw bod dau gynnig i ddatblygu yn stryd cerddoriaeth fyw enwocaf Cymru, Stryd Womanby, ac mae’r datblygiadau yn fygythiad i’r lleoliadau cerddoriaeth oherwydd y deddfau cynllunio gwan sydd gennym yng Nghymru. Yn Lloegr, mae ganddynt egwyddor o asiant dros newid, sy’n golygu bod angen i ddatblygiadau newydd addasu i leoliadau cerddoriaeth fyw sy’n bodoli eisoes ac nid y ffordd arall. Mae’n amser i ni feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud, ac mae angen i bobl o bob plaid wleidyddol fynd ati i amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Dylai’r cynigion ar gyfer Stryd Womanby gael eu gwrthod oni bai bod gwarantau cadarn na fydd y safleoedd cerddoriaeth fyw presennol yn cael eu heffeithio. Mae angen i’n Senedd wrando ar y miloedd o bobl sydd wedi rhoi amser i arwyddo’r ddeiseb, oherwydd mae angen newid yn y gyfraith gynllunio, ac rwy’n galw ar bawb sy’n bresennol i sicrhau ein bod yn newid y gyfraith yma yng Nghymru ac yn amddiffyn ein lleoliadau cerddoriaeth fyw. Diolch.

4. 4. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â chwestiynau amserol. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6287 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12—Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar gynigion deddfwriaethol Aelod unigol, ac rwy’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6227 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am gynnig bod y Cynulliad yn nodi’r cynnig ar gyfer Bil lleihau gwastraff yng Nghymru, a diben y ddeddfwriaeth arfaethedig fyddai lleihau gwastraff, ac mewn dwy ffordd arbennig: mynd i’r afael â’r angen am gynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru a mynd i’r afael â’r angen naill ai i wahardd, neu gael ardoll ar ddeunydd pacio polystyren yng Nghymru.

Y cyd-destun ar gyfer y cynnig hwn yw bod angen lleihau gwastraff pellach os ydym am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff 70 y cant erbyn 2025, ac i fod yn ddiwastraff erbyn 2050, mae angen cyflymu’r newid yn sylweddol. Byddai Plaid Cymru hefyd yn hoffi symud y targed diwastraff ymlaen i 2030 ac fel y nodwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru, gall Cymru, ac fe ddylai Cymru, fod y wlad orau yn Ewrop am ailgylchu. Rydym yn bedwerydd, i fod yn deg, ond gallwn wneud hyd yn oed yn well.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae cyfradd ailgylchu Cymru wedi dyblu dros y degawd diwethaf, o ychydig o dan 30 y cant yn 2006-07 i dros 60 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid yw pawb yn ailgylchu, ac mae yna awdurdodau lleol hefyd sydd ar ei hôl hi’n sylweddol o ran cyflymder y newid. Ni lwyddodd Casnewydd, Torfaen, na Blaenau Gwent i gyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru o 58 y cant yn 2015 na 2016. Credaf, felly, y bydd cynllun dychwelyd blaendal, lle y mae cwsmeriaid yn talu tâl ychwanegol bychan am ganiau a photeli sy’n cael ei ad-dalu pan fyddant yn eu dychwelyd yn wag, yn cymell pobl nad ydynt eisoes yn ailgylchu ac yn wir, yn cyflwyno elfen o arbed adnoddau i’n heconomi. Dylai’r cynllun hwn fod ar gael ar gyfer caniau a photeli plastig yn ogystal â rhai metel a gwydr. Yn ogystal â chynyddu cyfraddau casglu, mae cynlluniau blaendal yn cynnig deunyddiau o safon uwch y gellir eu hail-lenwi neu eu hailgylchu. Gallai cynlluniau blaendal arbed arian i awdurdodau lleol hefyd yn y tymor hir drwy leihau gwastraff y cartref sydd angen ei reoli, a lleihau’r angen am gyfleusterau didoli a gwaredu, megis llosgyddion a thirlenwi, a lleihau’r angen i lanhau strydoedd.

Mae’n bryder arbennig fod yr amgylchedd morol o amgylch Cymru yn dirywio’n fawr iawn o ganlyniad i’r holl blastig yn ein hamgylchedd. Mae gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol ddeiseb ger bron y Cynulliad ar hyn o bryd ac mae’n cefnogi taith ar long hwyliau o’r enw Sea Dragon o amgylch arfordir Prydain ym mis Awst, a fydd yn galw yng Nghaerdydd rywbryd ym mis Awst, a phwrpas Sea Dragon yw casglu data ar blastig yn ein hamgylchedd morol. Dyma wyddoniaeth y dinesydd ar ei gorau, mewn cydgysylltiad â phrifysgolion. Ac mae unrhyw un ohonom—

Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran y morlo llwyd, byddai pob un o’r 43 o ffrindiau newydd sydd gennyf bellach ym Mhen Pyrod yn sicr yn cefnogi cynnig o’r fath.

Rwy’n siŵr y byddent, ond carwn ddweud wrth Dai Lloyd nad ydynt yn ffrindiau iddo o reidrwydd, oherwydd credaf eu bod yn teithio pellter hir, ac maent yn llawn cymaint o ffrindiau Gwyddelig a Llydewig ag o ffrindiau Cymreig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n dangos bod yr amgylchedd morol yno i gael ei ddiogelu. Ac os oes unrhyw un wedi mynd ati i lanhau traeth—ac efallai y byddai Dai Lloyd eisiau ystyried glanhau traeth—rwy’n credu y byddant yn gwybod faint o ddarnau o blastig a photeli gwag sy’n cael eu codi ar yr adeg honno.

Nawr, cynllun dychwelyd blaendal yr Almaen yw’r un mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae hwnnw wedi bod ar waith ers 2003. Caiff tâl o 25 sent ewro ei ychwanegu at bob cynhwysydd diod ar wahân i laeth a sudd ffrwythau a llysiau. O ganlyniad, mae 98.5 y cant o boteli y gellir eu hail-lenwi yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddwyr, a dyma’r pwynt: mae ansawdd y deunydd a adferir yn ddigon da i sicrhau y bydd hen botel yn dod yn botel newydd. Felly, er ein bod yn llwyddo i ailgylchu ar hyn o bryd, mantais cynllun dychwelyd blaendal yw arbed adnoddau yn ogystal, a llai o wastraff. Mae hyn hefyd wedi helpu i gael gwared ar 1 biliwn i 2 biliwn o gynwysyddion untro o finiau a strydoedd yr Almaen.

Mae hefyd yn duedd sy’n tyfu’n gynyddol. Nid oeddwn eisiau dod â sbwriel i mewn i’r Siambr, Dirprwy Lywydd, a bu’n rhaid i mi baratoi hyn neithiwr—fy hun, yn bersonol—ond os ydych yn prynu cwrw ffasiynol neu gwrw hipster y dyddiau hyn, fe welwch ei fod yn aml yn rhoi ad-daliad o 10 sent i unrhyw wladwriaeth neu diriogaeth—mae hyn ar gyfer gwerthiant rhyngwladol yn Awstralia a’r Unol Daleithiau. Felly, mae’n duedd sy’n digwydd eisoes—nid oes ond angen i ni ddilyn y tuedd hwnnw a mynd gyda’r llif fel petai.

Fodd bynnag, ni ellir ailgylchu popeth, ac i fod yn ddiwastraff—neu i ailddefnyddio, yn wir—bydd angen i ni, yn y pen draw, sicrhau bod yr holl ddeunydd pacio a ddefnyddir yng Nghymru yn ailgylchadwy. Un o brif achosion sbwriel, mewn gwirionedd, yw deunydd pacio polystyren nad yw’n ailgylchadwy ac na ellir ei ailddefnyddio, gan ei fod yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pacio bwyd, wrth gwrs. Er y gellid defnyddio deunyddiau eraill sy’n ecogyfeillgar, mae llawer o gaffis, siopau, a sefydliadau bwyd brys yn defnyddio deunydd pacio polystyren ar gyfer diodydd a chludfwyd am ei fod yn rhatach. Dangosodd ffigurau gan Sefydliad Bevan fod cyfanwerthwr ar-lein yn cynnig 500 o flychau byrgyrs polystyren mawr am £21.12, tra bod 500 o flychau byrgyrs biobydradwy yn cael eu gwerthu am £44.48.

Felly, nid oes llawer o gymhelliant ar hyn o bryd i fanwerthwyr ddefnyddio dulliau amgen ecogyfeillgar, sy’n cynnwys cynwysyddion biobydradwy, cynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, a hyd yn oed cynwysyddion bwytadwy, sydd bellach yn bosibl. Efallai na fydd yn bosibl nac yn angenrheidiol inni ddilyn nifer o daleithiau a dinasoedd yn yr Unol Daleithiau a gwahardd deunydd pacio polystyren yng Nghymru, er fy mod yn cael fy nhemtio’n bersonol i feddwl ar hyd y llinellau hynny, ond gallwn edrych yn agosach at gartref ar ein cynllun llwyddiannus i godi tâl am fagiau siopa untro a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2011. Yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, rhwng cyflwyno’r tâl o 5c yn 2011 a 2014, gwelwyd 70 y cant amcangyfrifedig o ostyngiad yn y defnydd o fagiau siopa untro yng Nghymru. Felly, gallai’r manwerthwr dalu tâl tebyg am gynwysyddion bwyd a diod polystyren neu gellid ei drosglwyddo i’r defnyddiwr ac arwain at ostyngiad tebyg yn y defnydd ohonynt.

Pan ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i’r Pwyllgor Cyllid yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf—credaf mai’r wythnos diwethaf oedd hi, neu gallai fod wedi bod yr wythnos cynt; ni allaf gofio yn union pryd yn awr—mae’n ddiddorol iawn ei fod wedi sôn am ddefnyddio’r pwerau newydd yn Neddf Cymru 2017 i gyflwyno trethi arloesol. Ac wrth gwrs, un o’r argymhellion gan Sefydliad Bevan ac eraill yw tâl polystyren yng Nghymru, fel treth yr un mor arloesol.

Felly, mae llawer o randdeiliaid, o’r sectorau morol ac amgylcheddol i bobl fel Sefydliad Bevan, yn galw am dreth ar bolystyren i leihau ei ddefnydd, neu hyd yn oed i roi diwedd ar ei ddefnydd drwy ddefnyddio dewisiadau eraill sy’n fwy ecogyfeillgar. Rwy’n credu y gallai deddfwriaeth o’r fath fynd i’r afael â’r mater a helpu’n aruthrol i leihau gwastraff yng Nghymru, ond yn bwysicach, gallai ein rhoi ar flaen y gad yng nghyd-destun y meddylfryd Ewropeaidd.

Rwy’n cefnogi’r cynnig ardderchog hwn, ac rwy’n credu bod llawer o bethau eraill y gallwn ystyried eu gwneud yn ogystal. Yn gyntaf, i gywiro Simon, rwy’n deall mai ni yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ar ôl yr Almaen a Taiwan, felly mae angen i ni ddathlu hynny.

Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennym y cymhwysedd, er enghraifft, i wahardd cytundebau y mae’r archfarchnadoedd yn eu llunio gyda rhai o’u cyflenwyr ffermio i’w gorfodi i aredig llysiau yn ôl i mewn i’r tir os nad ydynt yn cyd-fynd â’r olwg gosmetig y mae defnyddwyr, ymddengys, yn galw amdani mewn archfarchnadoedd, oherwydd mae hynny’n ymddangos i mi yn hollol warthus.

Rwy’n cefnogi eich treth bolystyren, ond rwy’n teimlo bod yna ragor sydd angen i ni ei wneud i egluro i’r dinesydd pa blastig sy’n ailgylchadwy a pha blastig nad yw’n ailgylchadwy, oherwydd rwyf wedi cael trafodaeth gydag etholwyr ynglŷn ag a yw’r cynwysyddion duon sy’n cael eu defnyddio’n ddieithriad gyda bwydydd wedi’u prosesu—a ydynt yn ailgylchadwy ai peidio? Os nad ydynt, gadewch i ni roi’r gorau i’w defnyddio a defnyddio cynhwysydd lliw arall neu un sydd wedi cael ei wneud o ddeunydd ychydig yn wahanol, oherwydd dylai fod yn berffaith bosibl ailgylchu plastig os nad yw wedi’i ddifwyno. Felly, credaf y dylid ymestyn y dreth bolystyren i gynnwys unrhyw blastig nad yw’n ailgylchadwy, fel ein bod yn gorfodi cwmnïau i ailgylchu, oherwydd mae’r gost o ran yr amgylchedd yn hollol enfawr.

Mae’r rhan fwyaf o ddeunydd pacio plastig yn cael ei golli ar ôl cael ei ddefnyddio unwaith—nid yw’n cael ei ailgylchu. Pan ddaw’n wastraff, caiff ei waredu fel gwastraff trefol ac mae tua 30 y cant ohono yn cael ei golli i’r cefnforoedd, gydag effaith ar ffrindiau Dai Lloyd, a hefyd ar y môr yn gyffredinol. Rydym yn wynebu sefyllfa lle y gallem, mewn gwirionedd, gael mwy o blastig yn y môr nag o bysgod, ac mae hwnnw’n bosibilrwydd eithaf brawychus. Felly, rwy’n credu bod Ewrop yn dechrau edrych ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw pob gwlad yn Ewrop yn gwneud cystal â’r Almaen neu Gymru. Yn ddiweddar, mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo rhywbeth o’r enw adroddiad Bonafè, sy’n anelu i symud yr UE tuag at economi gylchol, gyda tharged ailgylchu o 80 y cant ar gyfer gwastraff deunydd pacio. Felly, rydym eisiau bod ar flaen y gad yn hynny o beth, yn hytrach na dilyn eraill.

Felly, rwy’n credu bod y rheini’n bethau arbennig o dda y gallem fod yn eu gwneud, ond credaf ei fod yn ymwneud hefyd â newid ymddygiad, yn enwedig y ffaith nad yw traean o’r holl fwyd byth yn cyrraedd y bwrdd, mewn gwirionedd—mae hynny’n dweud wrthym fod rhywbeth o’i le ar y ffordd rydym yn parchu bwyd. Ond rwy’n credu y dylem hefyd ystyried dilyn esiampl ardderchog yr Almaen gyda’r Ddeddf cylch sylweddau caeëdig a rheoli gwastraff, a basiwyd ym 1996, fel y dywedoch eisoes, gan ei bod yn help mawr i ymgorffori’r cysyniad ‘arbed, ailddefnyddio, ailgylchu’ y dylem i gyd fod yn ei ddilyn.

Felly, os ydym am fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 neu erbyn 2030, yna rwy’n credu y dylem fod, gobeithio, yn ystyried y ddeddfwriaeth hon.

Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn parhau â’r gwaith da o daclo gwastraff, mater sy’n effeithio arnom ni i gyd. Mae arfordir, moroedd a thraethau Cymru yn gynefinoedd sy’n cael eu niweidio yn sylweddol gan wastraff, ac wrth gefnogi Simon Thomas heddiw rwyf am sôn am effaith gwastraff ar gynefinoedd morol, a sôn am effaith polystyren yn benodol.

Yn dilyn y dreth ar fagiau a gafodd ei chyflwyno yn 2011, cafwyd gostyngiad nodedig yn y nifer o fagiau plastig sy’n cael eu canfod ar draethau o gwmpas Cymru. Ond yn ôl arolwg traethau 2016, pan arolygwyd 28 o draethau yng Nghymru, roedd cynnydd o 16 y cant ers y flwyddyn flaenorol yn y nifer o eitemau gwastraff a ganfuwyd. Plastig a pholystyren ydy’r prif eitemau gwastraff a ganfuwyd ar draethau y Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, fel rydym wedi ei glywed, mae polystyren yn broblem amgylcheddol aruthrol oherwydd nad ydy o ddim yn ddeunydd sy’n dirywio efo amser, ac nid ydym yn gwybod faint o amser mae’n ei gymryd i bydru. Yn y cyfamser, mae safleoedd tirlenwi yn ogystal â’n moroedd ni yn llenwi efo fo. Mae polystyren yn waeth na phlastigion oherwydd mae yna dystiolaeth gynyddol bod cemegau ynddo fo sy’n gallu achosi canser, yn ogystal â’r ffaith ei fod hefyd yn niweidio a dinistrio bywyd gwyllt a bywyd môr.

Ddoe, fe ges i, digwydd bod, lythyr gan gynghorydd sir sy’n byw wrth ymyl ysgol yn Arfon, a dyma mae hi’n ei ddweud:

Yn ein ardal ni, gwelwn ddisgyblion ysgol yn ymweld â siopau bwyd amser cinio ac yn dympio’r boscys polysterene dros y cloddiau, yn y coed a glannau afonydd, ar diroedd gwyrdd, ar hyd llwybrau ac ar ochr y ffyrdd. Mae’n ofnadwy ac mae’n broblem sy’n gwaethygu. Yn sicr mae gwaith i’w wneud i addysgu plant i gael gwared o’u sbwriel mewn modd cyfrifol, ac wrth gwrs mae’n frwydr barhaus i sicrhau digon o finiau ac ati. Serch hynny, rwyf o’r farn y byddai’n help mawr i leihau deunydd pacio yn enwedig deunydd pacio bwyd.’

Mae hi’n mynd ymlaen, y cynghorydd sir yma, i ddweud:

Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi treth ar bolysterene? Mae’r dreth ar fagiau plastig wedi bod yn llwyddiant ysgubol: yn wir mor llwyddiannus fel bod gwledydd eraill y DG wedi mabwysiadu’r un polisi! Beth am i Gymru arwain y ffordd unwaith eto, a chreu Cymru sy’n rhydd o bolysterene? Diolch yn fawr am ddarllen fy llythyr a gobeithio bydd cyfle i chi siarad ar fy rhan a gofyn i’r Llywodraeth ystyried fy nghais.’

Yn amlwg, mae yna fwy o drafod i’w wneud: treth, lefi, gwahardd—pa un ydy’r dull gorau o gyrraedd y nod? Ond yn sicr, mi fyddai lleihau’r gwastraff pecynnu ar nwyddau yn gwneud llawer iawn i leihau’r gwastraff sy’n cael ei luchio, gyda chymaint ohono fo yn anochel yn diweddu ar ein traethau a’n moroedd, lle mae’n gallu cymryd blynyddoedd lawer i ddatgymalu. Felly, diolch am gael cyfrannu at y ddadl. Diolch i Simon am ddod â’r mater gerbron, ac ymlaen efo’r ymdrechion i daclo gwastraff.

A gaf fi ddweud nad oes gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i’r hyn y mae Simon yn bwriadu ei wneud, neu y byddai’n ei wneud pe bai’n cael cyfle i gyflwyno Bil yma? Fodd bynnag, rydym yn credu bod yr elfennau ymarferol yn chwarae rhan fawr iawn ac mae angen eu hystyried yn llawn, ac er tegwch, fe gyfeiriodd atynt yn ei araith.

Ond rydym yn dechrau o’r cysyniad o economi gylchol. Rwy’n credu ein bod yn llawer mwy ymwybodol bellach o’r effaith rydym yn ei chael o ran sut rydym yn lapio ein cynnyrch a sut rydym yn defnyddio’r nwyddau y dibynnwn gymaint arnynt. Fel y mae llawer o bobl wedi dweud, nid oes ond yn rhaid i chi gerdded ar draeth yn unrhyw le yn y byd yn awr, mewn gwirionedd, i sylweddoli’r effaith. Rwy’n credu bod newid enfawr wedi bod hefyd yn ystod yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf, o ran cefnogaeth y cyhoedd a galwadau’r cyhoedd am bolisïau sy’n bodloni’r gofynion amgylcheddol hyn yn effeithiol.

Rwy’n credu y dylem gofio bod gan Gymru gyfres dda o bolisïau ailgylchu ar hyn o bryd, ac rydym yn dechrau o sylfaen uchel. Beth bynnag a wnawn, mae’n amlwg ein bod yn awyddus i ddiogelu’r cyflawniadau hynny. Rwy’n credu y byddai’n rhaid meddwl yn ofalus iawn am unrhyw gynllun blaendal, yn benodol, er mwyn inni allu bod yn argyhoeddedig y byddai’n mynd â ni gryn dipyn yn bellach nag sy’n bosibl gyda’r polisïau sy’n bodoli’n barod yn unig.

Mae rhai o’r materion a ddaeth i fy sylw—nid wyf yn credu eu bod yn anorchfygol, ond yn amlwg bydd angen mynd i’r afael â hwy. Gallai cynllun wedi’i gynllunio’n wael effeithio ar y seilwaith presennol. Gallwch gael polisi trwsgl yn y pen draw sy’n annog pobl i fynd ar deithiau ychwanegol i’r archfarchnad, neu beth bynnag, i ddychwelyd poteli ac eitemau eraill. Felly, credaf fod angen ystyried hynny. Hefyd, mae llawer o bobl, yn enwedig pobl agored i niwed, yn cael eu nwyddau wedi’u dosbarthu i’w cartref—sut y mae ymgorffori hynny mewn cynllun blaendal? Fel y dywedais, nid wyf yn credu eu bod yn anorchfygol, ond maent yn broblemau dyrys ac mae angen rhoi sylw iddynt. Rwyf hefyd yn credu bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i oblygiadau unrhyw newid radical o gasglu o ymyl y ffordd, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, i gynlluniau dychwelyd i’r siop, neu ba fodel bynnag a awgrymir.

O ran deunydd pacio bwyd, rwy’n credu bod angen i Gymru a’r DU gael trefn ar bethau, ac rwy’n credu bod llawer ohonom ar brydiau wedi cael ein digalonni gan yr holl ddeunydd sy’n lapio nwyddau hanfodol. Ni all fod yn fodel gwych ac mae angen i ni symud oddi wrtho. Rwyf wedi clywed straeon am ddefnyddwyr blin yn yr Almaen yn rhwygo deunydd pacio diangen oddi ar eu cynnyrch cyn iddynt gyrraedd y til. Nid wyf yn argymell hynny, ond rwy’n credu ei fod yn dangos i chi fod yna awydd ymhlith y cyhoedd i fynd gam ymhellach hyd yn oed yn hyn o beth. Felly, rydym yn dymuno’n dda iddo, a byddwn yn edrych o ddifrif ar unrhyw beth a ddaw atom yn y pen draw.

Rwy’n llongyfarch Simon ar gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn, gyda’r nod o leihau gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr. Mae’n adeiladu ar y gwaith da a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i fynd i’r afael â mater sy’n effeithio ar bob un ohonom, ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael, yn enwedig, â’r ynysoedd o wastraff sydd bellach yn tyfu yn ein cefnforoedd ac yn lladd bywyd morol.

Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn y DU yn argymell ac yna’n gweithredu deddfwriaeth i gefnogi lleihau gwastraff, o’r strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, sy’n anelu’n uchelgeisiol at fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, i’r Bil gwastraff, a gyflwynodd, fel y mae llawer o Aelodau eraill wedi dweud, y tâl am fagiau siopa untro, a dilynwyd yr esiampl honno gan Loegr bedair blynedd yn ddiweddarach. Mae’r tâl am fagiau siopa untro yn enghraifft o stori lwyddiant sydd wedi arwain at leihau gwastraff ar draethau yma yng Nghymru, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y bagiau siopa y daethpwyd o hyd iddynt—yn is nag unrhyw flwyddyn arall ers 2011. Ond wedi dweud hynny, mae gwastraff deunydd pacio yn dal i fod yn broblem yn ein moroedd ac ar ein glannau.

Fel eraill yma, rwyf wedi ymuno â phobl o bob oed i lanhau traethau, ac roedd canlyniadau o ddigwyddiad Glanhau Traethau Prydain 2016 y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn dangos, o’r 28 o draethau Cymru a arolygwyd ym mis Medi 2016, fod cyfartaledd o 607 darn o sbwriel wedi cael eu canfod bob 100 metr. Mae hynny’n dal i fod yn gynnydd o 16 y cant ers 2015. Ochr yn ochr â darnau plastig a pholystyren, deunydd pacio yw llawer o’r sbwriel ar ein traethau—deunydd pacio eitemau fel creision, brechdanau, losin, deunydd lapio lolis, a llawer iawn mwy. Nid yn unig y mae’n edrych yn hyll i drigolion a’r twristiaid sy’n ymweld â’n traethau gwych niferus, ond mae’n fygythiad i’n bywyd gwyllt morol ac i’n pysgodfeydd masnachol gan ei fod yn cymryd blynyddoedd i bydru.

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da ar leihau gwastraff, ond dylem bob amser fod yn fwy uchelgeisiol wrth edrych ar sut y gallwn leihau gwastraff. Mae’n werth rhoi ystyriaeth bellach i rai o gynigion Simon Thomas, a gefnogir gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol a llawer o rai eraill, a thrwy ymestyn cyfrifoldebau cynhyrchwyr gallem leihau faint o ddeunydd pacio a geir ar fwyd ac eitemau eraill, gan sicrhau cam sylweddol ymlaen o ran lleihau’r deunydd pacio sy’n cael ei daflu—gwastraff sydd, yn anochel, mewn un ffordd neu’r llall, yn cyrraedd ein traethau a’n moroedd. Felly, nid oes gennyf amheuaeth y bydd nifer o faterion ymarferol i’w datrys yn y cynnig. Mae David Melding wedi cyfeirio at rai ohonynt yn awr, ac mae Simon Thomas ei hun wedi cydnabod y byddai rhai anawsterau i’w datrys, ond nid ydynt yn anorchfygol mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy’n cefnogi cynnig deddfwriaethol Simon mewn egwyddor heddiw, ac mewn ysbryd, ac rwy’n siŵr y gallwn gael y manylion yn gywir hefyd pe bai hwn yn cael ei gyflwyno, ac rwy’n annog yr Aelodau eraill i ystyried gwneud hynny hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Simon Thomas, ac i bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru roi’r newyddion diweddaraf—yn wir, mae’r newyddion diweddaraf wedi cael ei fwydo’n ôl a’i fynegi gan yr Aelodau heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig atgoffa ein hunain a chofnodi ein bod wedi cyhoeddi ein strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, yn ôl yn 2010, yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i bawb ohonom eu cymryd os ydym am gyrraedd ein huchelgais o fod yn genedl sy’n ailgylchu’n dda erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Mae ein strategaeth yn llwybr tuag at economi gylchol fel y’i gelwir, ac mae pob Aelod wedi gwneud sylwadau arni heddiw. Mae’r economi gylchol honno’n un lle rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau cyn hired ag y bo modd, yn cael y gwerth mwyaf posibl ohonynt tra’u bod yn cael eu defnyddio, ac yna’n adfer ac adfywio cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd oes eu gwasanaeth. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen atal gwastraff ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r rhaglen atal gwastraff yn cefnogi ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ drwy ddisgrifio’r canlyniadau, y polisïau, y targedau a’r rhaglen waith ar gyfer mynd ati i atal gwastraff yng Nghymru.

Mae mynd i’r afael â gwastraff yn stori lwyddiant fawr i Gymru, ac yn un y dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni. Gennym ni y mae’r cyfraddau ailgylchu trefol uchaf yn y DU ac yn ôl astudiaeth annibynnol, y cyfraddau uchaf ond un yn Ewrop, a’r uchaf ond dau yn y byd. Nawr, yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hamcan i fod yn arweinydd byd mewn ailgylchu trefol. Mae manteision economaidd cyffredinol ein strategaeth wastraff i economi Cymru yn enfawr. Er enghraifft, mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Ellen MacArthur yn rhagweld manteision o dros £2 biliwn bob blwyddyn i Gymru o gyflawni economi gylchol.

O ran deunydd pacio bwyd a diod, mae’n bwysig bod yn glir mai un o brif ddibenion deunydd pacio yw diogelu’r cynnyrch rhag difrod a gwastraff, gan gynnwys ymestyn ei oes silff. Mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a bydd yn cael ei adnewyddu i gynyddu cyfleoedd ar gyfer y sector preifat a’r sector cyhoeddus i uchafu manteision ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol o ganlyniad i fabwysiadu newidiadau mewn arferion o dan faner yr economi gylchol a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Byddwn yn ymgynghori ar y diwygiadau i’r strategaeth wastraff mewn ymgynghoriad ffurfiol yn 2018. Yn rhan o’r broses ymgynghori, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n drylwyr â chynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas ag ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb ariannol am gasglu a rheoli gwastraff sy’n deillio o’r cynnyrch a’r deunydd pacio.

Yn ddiweddar mae cryn ddiddordeb wedi bod yn dilyn y sylw yn y cyfryngau i sbwriel, ailgylchu poteli plastig ac ailgylchu cwpanau coffi. Mae gan Lywodraeth Cymru raglen waith ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol. Er enghraifft, ers nifer o flynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP, i weithio gyda’r diwydiant bwyd a siopau bwyd i leihau deunydd pacio diangen. Mae WRAP Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r diwydiant gwasanaeth bwyd i atal deunydd pacio gwastraffus a chynyddu ailgylchu.

Rydym ar fin comisiynu astudiaeth i ymchwilio i opsiynau’n ymwneud â chanlyniadau sy’n gysylltiedig â defnyddio adnoddau’n effeithiol, gan gynnwys atal gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu, a lleihau sbwriel drwy ddull o ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Fel rhan o’r astudiaeth hon, byddwn yn ystyried sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar gynlluniau presennol awdurdodau lleol ar gyfer casglu a rheoli’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr effaith gysylltiedig ar bobl Cymru yn amgylcheddol, ariannol, cymdeithasol, diwylliannol ac o ran llesiant wrth wneud ein penderfyniadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn archwilio’r gwaith ymchwil hwn wrth adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.

Mae Simon Thomas, wrth gyflwyno’r ddadl hon heddiw, a’r Aelodau, wedi siarad yn rymus am effeithiau niweidiol gwastraff, yn enwedig ar yr amgylchedd morol, ond hefyd am y cyfleoedd sydd i Gymru barhau i arwain gyda’i pholisi a’i strategaeth wastraff. Wrth ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn, fel rwyf eisoes wedi dweud, mae gennym strategaeth wastraff a rhaglen atal gwastraff ar waith yng Nghymru, ond rydym hefyd yn ymrwymedig i gyflwyno dulliau o fynd i’r afael â gwastraff deunydd pacio. Byddai angen i unrhyw Fil a fyddai’n cael ei gyflwyno yn awr gael ei asesu o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad o dan ddarpariaethau Deddf Cymru 2017. Mae deddfwriaeth ynglŷn â chynhyrchion yn faes cymhleth, a hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth allai gael ei gynnig o dan y Bil arfaethedig, ni allwn fod yn sicr a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ai peidio. Oherwydd hynny, bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn, ond rydym yn cymeradwyo bwriadau’r canlyniadau y mae’r cynnig am Fil yn ceisio mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â chynhyrchu gwastraff, gan eu bod yn cyd-fynd â’r camau rydym wedi eu rhoi ar waith drwy ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, ac yn ein llwybr tuag at sicrhau economi fwy cylchol yng Nghymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf ddiolch i bawb a fu’n cyfrannu at y ddadl, ac yn arbennig i’r Gweinidog, sydd newydd gadarnhau bod y Llywodraeth yn dal i gadw dan ystyriaeth yr angen am gynllun ad-dalu blaendal tu mewn i Gymru?

Wrth wraidd y ddadl yma, canol y ddadl fel petai, yw’r economi gylchog roedd David Melding a sawl Aelod arall yn sôn amdano, ac mae’n rhaid pwysleisio, yn y cyd-destun hwnnw, fod ailgylchu rhywbeth y mae modd ei ailddefnyddio yn gyntaf yn wastraff. Mae’n wastraff ynni, mae’n wastraff adnoddau, ac mae’n wastraff cludiant hefyd yn aml iawn. Felly, fe ddylem ni, wrth symud at Gymru dim gwastraff, sicrhau ein bod ni’n ailddefnyddio cymaint ag sy’n bosib. A dyna beth yw pwrpas y Bil yma, a’r cynnig yma: i leihau ar hynny. Ac mi ddylem ni hefyd fod yn cydweithio tuag at amcan lle nad oes modd defnyddio pecynnau yng Nghymru nad oes modd eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio. Dyna ddylai fod y nod. Ac er bod yna rai rhwystrau, fel roedd Jane Hutt yn sôn amdanynt, ar y llwybr, mae modd i ni oresgyn y rheini, rwy’n meddwl, gyda’r ewyllys a gyda ychydig bach o ddychymyg.

Y pwynt olaf, os caf ei wneud, yw hyn: pwy byddai wedi meddwl pum neu 10 mlynedd yn ôl y byddai 5c—jest 5c—yn newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio bagiau plastig? Pe bai ailgylchu yn ddigon ynddo’i hun, ni fyddem yn gweld cymaint o wastraff morol ag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ar hyd ein traethau, ac hefyd yn ein hamgylchedd ni. Felly, os yw 5c yn gallu gwneud hynny ar gyfer bagiau plastig, mae treth ar bolystyren a chynllun blaendal hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi’r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Felly, byddwn yn gohirio’r bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad

Eitem 6 ar ein hagenda yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar benodiadau gweinidogol: gwrandawiadau cyn penodi gan bwyllgorau’r Cynulliad, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas, i gynnig y datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma’r tro olaf y byddwch chi’n clywed gen i y prynhawn yma—cyn y Pasg, hyd yn oed. Ond, serch hynny, rwy’n falch o wneud y datganiad yma ar ran y Pwyllgor Cyllid yn sôn am ein profiad ni o gynnal gwrandawiad cyn penodi ar benodiad gweinidogol, ar gyfer y broses o recriwtio cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n croesawu’r cyfle i roi gwybodaeth i’r Cynulliad, a bydd hyn, gobeithio, yn helpu i wella’r weithdrefn hon yn y dyfodol ac yn rhoi cyngor hefyd i bwyllgorau eraill.

Mae llawer ohonom yn y Cynulliad wedi bod yn galw am wrandawiadau cyn penodi ers peth amser. Daeth yr awgrym i gynnal gwrandawiad ar gyfer yr achos recriwtio hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, yn mynd yn ôl, yn 2012, pan oedd yntau, Ysgrifennydd y Cabinet, yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe ysgrifennodd e erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig, y dyfynnaf ohoni:

one significant way in which the Senedd now lags behind developments elsewhere in accountability and openness lies in the appointment of key public officials’.

Mae’n werth nodi, felly, fod y gwrandawiad cyntaf o’r math hwn, a gynhaliwyd gan bwyllgor Tŷ’r Cyffredin, wedi digwydd yn ôl yn 2008, felly rydym bron i 10 mlynedd y tu ôl i San Steffan, ac nid wyf yn hapus â hynny. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i symud y Cynulliad i’r un drefn â chyrff seneddol eraill.

Roeddem yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’r broses o benodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y profiad hwn yn gosod cynsail ar gyfer prosesau recriwtio yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gwrandawiad gan y pwyllgor ar 16 Chwefror, a’i brif bwrpas oedd rhoi sicrwydd i ni fel Aelodau, ac fel pwyllgor, ynghylch addasrwydd ymgeisydd a ffefrir Llywodraeth Cymru ar gyfer y swydd. Roedd hefyd yn gosod yr ymgeisydd mewn sefyllfa o graffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy’n rhywbeth y mae angen i’r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod ar ei gyfer.

Roedd y pwyllgor mewn sefyllfa dda i gynnal y gwrandawiad hwn, o ystyried ein gwaith craffu ar amrywiol ddeddfwriaeth treth, a’n diddordeb yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Roeddem yn falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y weithdrefn hon, er i ni nodi nad oes unrhyw ganllawiau penodol ar waith yn y Cynulliad ar gyfer gwrandawiadau o’r math hwn ar hyn o bryd. Gan fod amser yn brin y tro hwn, defnyddion ni ganllawiau San Steffan fel sail, a gweithio i gytuno ar set o egwyddorion cyffredinol y byddem yn cadw atynt ar gyfer y gwrandawiad penodol hwn.

Wrth symud ymlaen, yn seiliedig ar ein profiad ni, byddwn yn awgrymu yn gryf fod set o ganllawiau ffurfiol yn cael eu sefydlu ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, er mwyn darparu dull mwy strategol. Dylai’r canllawiau nodi’r egwyddorion i’w cytuno gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio gweithdrefnau arfer gorau mewn seneddau eraill, a gellid gweld y broses yma fel rhan o ddatblygu protocolau rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Dylid ystyried y camau hyn fel rhan o’r gwaith cyffredinol sydd yn cael ei wneud i gytuno’r protocolau, fel rwyf newydd ei ddweud.

Yn seiliedig ar brofiad y Pwyllgor Cyllid, rwyf yn credu y dylai’r canllawiau gwmpasu nifer o feysydd. Yn gyntaf, sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet neu’r Gweinidog priodol yn ymgorffori barn y pwyllgor? Er fy mod yn cefnogi’r syniad o gynnal gwrandawiadau cyn penodi, rhaid i ni sicrhau nad yw’n dod yn ymarfer ticio bocsys, a bod barn pwyllgor yn cael y sylw dyledus gan y Llywodraeth. Byddai hyn yn sicrhau bod y pwyllgorau yn deall eu rôl yn y broses.

Nid oeddem wedi gweld y wybodaeth a gyflwynodd yr ymgeisydd wrth wneud ei chais. Yn fy marn i, roedd y wybodaeth a gawsom ymlaen llaw yn bitw. Mae angen i bwyllgorau ddeall pam y mae Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffafrio’r ymgeisydd, a pham y credir ei fod ef neu hi yn addas ar gyfer y swydd. Byddai’n ddefnyddiol pe gellid darparu datganiad i’r pwyllgor priodol. Gyda dim ond cyfnod byr o amser, a gwybodaeth gyfyngedig ar gael, byddai datganiad yn hwyluso cwestiynu mwy effeithiol a pherthnasol.

Ar yr achlysur hwn, cytunodd y pwyllgor i adrodd o dan embargo i Ysgrifennydd y Cabinet o fewn 24 awr i’r gwrandawiad, ac i gyhoeddi adroddiad dwyieithog o fewn dau ddiwrnod. Yn yr achos hwn, roedd amser yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor gael trafodaeth fer, ond nid o reidrwydd ddigon o amser i Aelodau ystyried unrhyw bryderon yn fanwl iawn. Nid oedd yn bosibl i’r pwyllgor ddod i farn unfrydol ar y mater, a mynegwyd yr anghytuno barn mewn adroddiad mwyafrifol. Mae’n bosibl, gyda mwy o amser a chyfle i drafod y pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai’r pwyllgor wedi dod i gasgliad cytûn.

Byddwn yn argymell, felly, ar gyfer gwrandawiadau yn y dyfodol, y dylid diwygio’r amserlenni adrodd hyn i ganiatáu amser ar gyfer ystyriaeth briodol gan y pwyllgor, tra’n bod yn ymwybodol o achosi oedi yn y broses recriwtio. Pe byddai gwrandawiadau cyn penodi yn dod yn rhan arferol o’r broses recriwtio, byddwn yn awgrymu bod amser adrodd ychwanegol yn cael ei gynnwys, felly, yn yr amserlenni. Wrth ddweud hyn, rwy’n nodi na fu cadarnhad gan y Llywodraeth o’r penodiad tan wythnos diwethaf, oherwydd gwiriadau diogelwch lefel uchel.

Wrth i ni barhau i dyfu fel Senedd, bydd gwrandawiadau cyn penodi fel hyn yn gwella ein henw da fel deddfwrfa aeddfed. Ar hyn o bryd, mae gwrandawiadau o’r fath yn cael eu cynnal mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, gan gynnwys San Steffan, Senedd yr Alban a Senedd Ewrop, yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Mae’r canllawiau a ddilynir ym mhob Senedd yn amrywio. Fodd bynnag, mae gan bob sefydliad restr o benodiadau cyhoeddus sydd yn destun gwrandawiad cyn penodi. Credaf y byddai rhestr o’r math hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i ganllawiau’r Cynulliad. Mae’r dull hwn yn dangos enghraifft glir o arfer gorau. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw weithdrefn newydd, mae lle i wella. Os gall Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad weithio gyda’i gilydd i wneud y broses hon yn effeithiol a chynhyrchiol, nid oes rheswm pam na allai Cymru fod yn wlad y mae Seneddau eraill yn edrych arni fel enghraifft o arfer da.

Drwy weithio gyda’n gilydd ar ganllawiau a sefydlu gweithdrefnau effeithiol, mae gennym gyfle i arwain y ffordd o ran cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol. Gallwn ddysgu o arfer gorau mewn Seneddau eraill i ffurfio ein gweithdrefn ein hunain sy’n rhoi hyder i’r cyhoedd yn y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau yn y Siambr hon. Byddwn yn croesawu, felly, cwestiynau a sylwadau gan Aelodau eraill.

Ar ran Steffan Lewis, sy’n aelod o’r pwyllgor, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y datganiad heddiw ac am drafod y cyfle pwysig, rwy’n meddwl, sydd o’n blaenau ni i wella nid yn unig tryloywder y penodiadau gweinidogol, ond hefyd gallu’r Cynulliad i ddal y Llywodraeth i gyfrif? Mae’n ddatganiad amserol iawn mewn difrif, o ystyried bod y Cynulliad yn prysur aeddfedu fel deddfwrfa. Mae yna ddigon o dystiolaeth o hynny—prin bod yr inc yn sych ar y Ddeddf trethi Cymreig gyntaf a gafodd ei phasio yn y Siambr yma ddoe.

Yn fy marn i, byddai cyflwyno gwrandawiadau cyn penodi yn cefnogi’r datblygiad ehangach yma o aeddfedu, ac, fel soniodd y Cadeirydd, mi fyddai’n symud Cynulliad Cenedlaethol Cymru tuag at yr un drefn â llawer iawn o ddeddfwrfeydd eraill ar draws y byd. Felly, rwy’n croesawu’r cynnig yma i fwrw ymlaen efo’r gwaith o lunio canllawiau ffurfiol ar gyfer cynnal gwrandawiadau cyn penodi. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Llywodraeth yn cytuno i weithio efo’r pwyllgorau perthnasol yn y fenter yma—y fenter a fydd yn datblygu peirianwaith y Cynulliad, rwy’n meddwl, er budd ein democratiaeth, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed safbwynt y Llywodraeth ar hyn.

Rwy’n cytuno efo sylwadau’r Cadeirydd hefyd fod angen sicrhau i drefniadau ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi fod yn llawer mwy na dim ond ymarfer ticio bocsys. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae potensial y gwrandawiadau yma i wella gallu’r Cynulliad i graffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth yn ddibynnol ar y pwyllgor perthnasol yn meddu ar y wybodaeth briodol er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir. Felly, mi liciwn i ategu galwad y Cadeirydd bod pwyllgorau’n derbyn gwybodaeth am ymgeiswyr, gan gynnwys esboniad y Llywodraeth em eu dewis nhw mewn da bryd er mwyn galluogi cwestiynu mwy effeithiol. Wrth gwrs, mae’n rhaid hefyd sicrhau bod y Llywodraeth yn cymryd barn pwyllgor am ymgeiswyr o ddifrif. Rwy’n cydnabod bod y gwaith ar y trefniadau eto i’w ddechrau yn iawn, ond a ydy’r pwyllgor wedi derbyn unrhyw gynigion ar y pwerau y bydd eu hangen ar bwyllgorau i sicrhau bod eu barn nhw yn derbyn sylw dyledus gan y Llywodraeth?

I gloi, rwy’n deall bod trefniadau San Steffan yn cynnig feto i rai pwyllgorau ar benodiadau penodol, tra, ar gyfer penodiadau eraill, mae yna adroddiad yn cael ei baratoi neu bleidlais ymgynghorol yn unig yn cael ei chynnal. A ydy’r Cadeirydd yn credu ei bod hi’n werth ystyried y math yma o ddull gweithredu wrth ddylunio canllawiau’r Cynulliad a bod angen, efallai, amrywio pŵer pwyllgor a dylanwad y pwyllgor yn ôl y penodiad sydd dan sylw?

Diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau ac am ei groeso cyffredinol i’r broses yma, datblygiad y broses a’r angen am ganllawiau mwy ffurfiol, efallai, i bawb ddeall ym mha ffordd y mae’r pwyllgorau yn gweithredu gyda’r Llywodraeth.

A gaf fi jest ddweud i ddechrau fy mod i’n teimlo bod y pwyllgor wedi cael, yn y pen draw, y cyfle i asesu’r ymgeisydd a’r cyfle yn sicr i ddal yr ymgeisydd i gyfrif mewn lle cyhoeddus, lle’r oedd hi yn cael ei chwestiynu mewn ffordd drwyadl iawn? Rwy’n meddwl bod hyn yn gwbl briodol. Felly, mae’r broses yna yn amlwg yn rhywbeth y mae’r pwyllgor fel arfer yn ei wneud ac y byddem ni yn gallu ei wneud.

Ond rwy’n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi nifer o bwyntiau sydd angen eu deall a’u cael mewn canllawiau ffurfiol. Er enghraifft, pa bwerau? Nid oedd gennym ni feto y tro yma yn sicr, ond pe bai’r pwyllgor wedi adrodd yn anffafriol unfrydol yn erbyn ymgeisydd, a gwneud hynny ar sail gadarn, ac yn esbonio pam, mae’n siŵr gen i y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet wedi gorfod ail-ystyried o ddifrif ym mha ffordd yr oedd e’n bwrw ymlaen â’r penodiad. Ond mae yn gwestiwn sy’n codi: a ddylai fod y canllawiau yn rhoi feto penodol yn nwylo rhai pwyllgorau? Mae hynny yn rhywbeth y bydd yn rhaid trafod, rwyf yn meddwl, rhwng y Cynulliad a’r Llywodraeth. Mae yn drafodaeth yn y Cynulliad, achos er taw’r Pwyllgor Cyllid a gafodd y cyfle i wneud y gwrandawiad cyn penodi cyntaf, mi fydd hwn yn rhywbeth y bydd pwyllgorau eraill â diddordeb ynddo, ac rydw i’n awgrymu ei fod yn rhywbeth y bydd fforwm y Cadeiryddion yn gallu edrych arno fe yn y lle hwn hefyd wrth ddatblygu hynny maes o law.

Croesawaf ddatganiad y cadeirydd y prynhawn yma. Mae hwn yn rhywbeth a oedd gennym yn ein maniffesto yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn ddiwethaf—cafodd ei wrthod gan bobl Cymru, a dyna pam mai’r Llywodraeth hon sy’n eistedd ar y fainc yma. Ond rwy’n credu bod mater ehangach yma, gyda nifer cynyddol yr apwyntiadau a statws pwerau a chyfrifoldebau cynyddol y sefydliad hwn y tynnodd siaradwr Plaid Cymru sylw atynt yn flaenorol, mae’n ffordd dda i bobl ddeall faint o’r camau gweithredu a gymerir ar eu rhan mewn gwirionedd—mae craffu cyn deddfu a chyn penodi yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae’r cyhoedd yn cael gwybod am y rolau y mae pobl yn eu cyflawni ar eu rhan. Rydych yn hollol gywir i nodi, Gadeirydd, fod hwn yn arfer cyffredin mewn llawer o ddeddfwrfeydd o gwmpas y byd, ac yn sicr dylem gofleidio hynny a chroesawu hynny. Yn eich datganiad fe wnaethoch grybwyll penodiad cadeirydd yr awdurdod treth, yr awdurdod cyllid, a sut y daeth yr unigolyn ger eich bron. Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth sy’n cael ei groesawu ac yn y pen draw, dylid ei ehangu ar draws yr holl feysydd penodiadau cyhoeddus fel y gall yr Aelodau yn y sefydliad hwn a’r cyhoedd yn gyffredinol ddeall beth y mae’r rolau hyn yn galw amdano, sut y cânt eu cyflawni, ac ysgogi lefel arall o atebolrwydd yn y pen draw. Mae’n rhaid bod hynny’n dda o ran y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn y pen draw. Felly, o’r meinciau hyn, byddwn yn sicr yn cefnogi unrhyw gynnydd yn y gallu i gyflwyno penodiadau.

Nifer o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd y comisiynwyr—y comisiynydd plant a’r comisiynydd pobl hŷn—eu penodi, roeddem yn credu na ddylai’r rheini fod yn benodiadau gan y Llywodraeth, ac y dylent fod yn benodiadau gan y Cynulliad. Yn sicr, mae hwnnw’n arfer da ac yn anffodus, nid yw wedi digwydd, er fy mod yn croesawu’r camau gan y Llywodraeth pan fyddant yn cynnwys pleidiau eraill yn y broses benodi honno. Ond yn sicr, dylem ffurfioli hynny’n well fel mai’r sefydliad sy’n gwneud y penodiad hwnnw. Felly, rwy’n croesawu eich datganiad y prynhawn yma, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ond rwy’n gobeithio, drwy eich profiadau a’r pwyntiau rydych yn eu gwneud yn eich datganiad, y gellir bwrw ymlaen â hwy yn awr i gynyddu’r cyfle i bwyllgorau craffu yn y Cynulliad hwn i—roeddwn am ddefnyddio’r gair ‘cwestiynu’ ond mae hynny’n swnio’n fwy brawychus—i graffu ar gadeiryddion, ac yn fy marn i, ar gynghorwyr arbennig yn ogystal, ar eu penodiadau, oherwydd i’r un graddau, yn y Llywodraeth fodern—ac nid y Llywodraeth hon yn unig; mae’n wir mewn Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig—mae rôl cynghorwyr arbennig yn un gynyddol bwysig ac mae ganddi ddylanwad pwysig ar y ffordd y mae Llywodraeth yn gweithio, ac eto faint o bobl mewn gwirionedd sy’n deall ac yn gwybod enwau’r unigolion hynny ac yn sicr, mae hynny’n rhan bwysig o Lywodraeth ac yn rhan bwysig o’r gwaith craffu a ddylai ddod yn gyhoeddus wedyn hefyd. Felly, rwy’n gwahodd eich sylwadau ar yr agwedd benodol honno hefyd.

Diolch i Andrew R.T. Davies ac roeddwn yn cytuno ag ef ar bopeth nes iddo grybwyll cynghorwyr arbennig, gyda fy hanes fy hun yn hynny o beth. Ond mae’n bwynt teg. Mae’n rhywbeth y gellir ei archwilio o ran hynny. Rwy’n credu mai’r pwynt sylfaenol roeddech yn ei wneud, ac rwy’n cytuno’n llwyr, yw bod hon yn ffordd dda o agor y mater i’r cyhoedd ac i ddangos i’r cyhoedd sut y mae’r penodiadau hyn yn cael eu gwneud, pwy sy’n gyfrifol am beth, ac yn wir, i roi cyfle a blas iddynt o sut y bydd y gwaith craffu yn barhaus, am fod hyn yn digwydd cyn penodi—yn yr achos hwn, proses cyn penodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyllid—gan ei bod wedi cael ei chadarnhau fel cadeirydd bellach—yn ei chael hi’n ôl fel cadeirydd i graffu’n ffurfiol ar y gwaith y mae hi wedi’i gyflawni, y ffordd y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei lywodraethu, ac wrth gwrs, eu cynllun corfforaethol a’u gwaith parhaus ar ran trethdalwyr Cymru. Felly, mae’n arwydd pwysig o sut rydym yn bwriadu gwneud y gwaith hwnnw pan fyddwn yn gwneud penodiad cyn penodi fel hyn.

Nid wyf yn credu—i fod yn deg, nid oedd yr Aelod yn awgrymu, ac nid wyf yn credu y dylem fabwysiadu’r agwedd fwy pleidiol tuag at rai o’r penodiadau hyn. Os edrychwch ar sut y mae penodiadau Trump yn cael eu gwneud ar hyn o bryd, mae’n tueddu i fod yn bleidiol iawn. Mae’n cynnwys y cyhoedd, fodd bynnag. Mae’n gyhoeddus ac mae’n ymgysylltu â phobl; nid oes amheuaeth am hynny. Ond rwy’n gobeithio, yn y sefydliad hwn o leiaf, y gallwn ddefnyddio’r hyn sydd gennym, sy’n un o’r pethau gorau sydd gan y sefydliad hwn, sef ein gwaith pwyllgor a’r gwaith trawsbleidiol a wnawn ar bwyllgorau a’r ffyrdd rydym yn gweithio gyda’n gilydd, i geisio archwilio a chraffu penodiadau’r Llywodraeth a gweithredoedd y Llywodraeth. Rwy’n credu mai dyna’r offeryn a ddefnyddiwn i wneud y gwrandawiadau cyn penodi cyhoeddus hyn mor llwyddiannus â phosibl.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn hyn, byddwn yn argymell yn gryf eu bod, mewn gwirionedd, yn gwylio fideo’r penodiad, oherwydd rwy’n credu ei fod yn adlewyrchiad llawer gwell o’r craffu a’r cwestiynu a wnaed na’r trawsgrifiad llafar o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r cwestiynau a atebwyd, gan mai drwy gael rhywun ger bron pwyllgor, drwy edrych i’w llygaid, a gofyn cwestiynau iddynt, y byddwch yn ffurfio barn—gallai fod yn anghywir, gallai fod yn gywir, ond o leiaf rydych yn ffurfio barn—ynglŷn ag a oes ganddynt y lefel gywir o sgiliau ac a ydynt wedi dysgu rhywbeth o brofiad blaenorol y byddent yn gallu ei ddefnyddio yn hyn o beth.

Rwy’n credu bod cwestiwn Andrew R.T. Davies wedi rhoi cyfle i mi ddweud un peth hefyd er eglurder i bawb: mae gennym dair ffordd wahanol o wneud penodiadau sy’n cynnwys pwyllgorau ar hyn o bryd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud hynny. Felly, mae gennym apwyntiadau’r Cynulliad eu hunain: felly, bydd y Pwyllgor Cyllid, er enghraifft, maes o law, yn penodi Archwilydd Cyffredinol newydd i Gymru. Nid yw hwnnw’n benodiad Llywodraeth; mae’n benodiad Cynulliad drwy’r Pwyllgor Cyllid. Mae swydd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei thrin mewn ffordd debyg.

Yna, fel y dywedodd yr Aelod, mae gennym benodiadau’r comisiynwyr, sy’n benodiadau Llywodraeth, ond gydag ymwneud y Cynulliad, ac mae cynrychiolwyr o wahanol bleidiau yn cael eu cynnwys yn y broses benodi. Ac yna mae gennym rywbeth newydd, a dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn, sef penodiad gan y Llywodraeth gyda gwrandawiad cyn penodi i’r Cynulliad, sy’n gallu rhoi barn y cyhoedd ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru.

Rwy’n credu y bydd angen i ni gadw pob un o’r tair ffordd wrth symud ymlaen, oherwydd rydym angen y cymysgedd hwnnw o graffu. Mae ychydig yn ddryslyd weithiau, ond rwy’n credu y bydd angen i ni gadw’r cymysgedd hwnnw o graffu. Ond yr hyn sy’n bwysig iawn yw ei fod yn cael ei wneud yn gyhoeddus a bod pobl yn cael cyfle i weld ein bod yn arfer ein swyddogaeth ddemocrataidd fel senedd i ddwyn y rhai a benodir gan y Llywodraeth i gyfrif—ac efallai, ymhen amser, y bydd hynny’n cynnwys cynghorwyr arbennig.

7. 7. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11 21, a galwaf ar Lee Waters i gynnig y cynnig. Lee.

Cynnig NDM6260 Lee Waters, Jeremy Miles, Hefin David, Vikki Howells, David Melding

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn ‘bedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.

2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.

3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy’n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy’n dod i’r amlwg.

4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy’n addasu’n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda’r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru’r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu’r farchnad yn gynnar fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o fod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles, a fy nghyfaill David Melding—yn wirioneddol falch. Yn union fel y buom yn pwysleisio fis diwethaf fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i hybu’r hyn a elwir yn economi sylfaenol, mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar y tueddiadau allanol sy’n debygol o newid ein bywydau a’n heconomïau.

Rydym yng nghamau cynnar pedwerydd chwyldro diwydiannol, a nodweddir gan ein gallu i gyfuno technolegau digidol â systemau ffisegol a biolegol. Yn union fel y daeth y chwyldro diwydiannol cyntaf yn sgil ein gallu i harneisio pŵer stêm, yr ail yn sgil ein gallu i gynhyrchu pŵer trydanol, gan ysgogi masgynhyrchu, ac fel yr ysgogwyd y trydydd chwyldro diwydiannol yn sgil datblygu electroneg a chyfrifiaduron, bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn gweld peiriannau, data ac algorithmau yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar ein bywydau.

Mae ein harian yn gynyddol rithwir; mae ein cartrefi yn fwyfwy clyfar. Mae technoleg bellach yn rheoli ein tegellau, ein boeleri, ein gallu i barcio hyd yn oed. Mae’r gofal iechyd a gawn ar fin cael ei drawsnewid yn ddirfawr wrth i’r gallu i adnabod eich genom personol ddod yn fwyfwy fforddiadwy. Er ein bod wedi dod i arfer â pheiriannau yn ein ffatrïoedd lle roedd gweithwyr ar un adeg, bydd yr awtomatiaeth hon yn mynd rhagddi ar frys.

Mae technoleg wedi sleifio i mewn i’n bywydau’n llechwraidd, i’r graddau ei bod bellach bron yn amhosibl dychmygu byd hebddi. Mae cyflymder y newid yn aruthrol. Mae pethau y cefais fy magu gyda hwy—disgiau hyblyg, casetiau, tapiau fideo—bellach yn ddiystyr. Ac yn fwy felly, mae’r pethau a gymerodd eu lle—DVDs a chrynoddisgiau—eisoes yn ddarfodedig hefyd o fewn cenhedlaeth. Mae Spotify a Netflix yn awr yn bethau greddfol i genedlaethau iau, ac mae’r ddau’n cael eu cynnal gan ddata mawr nad yw ond yn ffenomen sy’n perthyn i uwch-dechnoleg; mae ym mhobman ac mae’n siapio popeth.

Mae ein rhagdybiaethau ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl yn cael eu herio’n gyson. Yr wythnos hon, clywsom am allu Elon Musk i ailddefnyddio roced. Fel y dywedodd:

Mae fel y gwahaniaeth rhwng cael awyrennau rydych yn cael gwared arnynt ar ôl pob taith awyr, a’u hailddefnyddio sawl gwaith.

Os yw goblygiadau teithiau gofod yr un fath â goblygiadau teithiau awyr yn ein bywydau bob dydd, maent yn enfawr. Pa mor fuan y bydd ceir diyrrwr, trydan di-wifr, argraffu 3D, a hyd yn oed teithiau gofod mor gyffredin â Netflix ac e-bost?

Mae llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni nad ydym yn ymwybodol ohono hyd yma. Nid mewn un diwydiant yn unig y mae newid yn digwydd, fel mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol, mae’n digwydd ar draws nifer o sectorau ar yr un pryd, ac mae hyn yn creu heriau newydd. Mae methodoleg Banc Lloegr yn awgrymu y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o gael eu hawtomeiddio yng Nghymru o fewn 20 mlynedd—20 mlynedd. Gall cyfrifiaduron ac algorithmau gasglu data o ffynonellau llawer ehangach i wneud penderfyniadau cytbwys ar unrhyw beth o ffurflenni treth i driniaethau canser. Byddwn yn argymell gwrando ar iPlayer, nad oedd yn bodoli ei hun 10 mlynedd yn ôl, ar raglen Radio 4, ‘The Public Philosopher’, a gynhaliodd drafodaeth a oedd yn agoriad llygad ar yr union fater hwn. Yr hyn a oedd yn amlwg iawn oedd anghrediniaeth lwyr y mwyafrif helaeth o’r gynulleidfa y gallai unrhyw robot wneud eu swydd yn well na hwy, a’r sioc glywadwy wrth iddynt sylweddoli’r posibilrwydd y gallent. Un enghraifft nodedig oedd y meddyg teulu a oedd wedi gwrando wrth i hanner y gynulleidfa ddatgelu y byddai’n well ganddynt dderbyn diagnosis gan robot na chan fod dynol, ac mae un o bob pedair swydd yng Nghymru mewn perygl o’r fath.

Gadewch i ni fod yn glir: mae’r effaith hon yn amrywio rhwng y rhywiau. Yn ddiweddar, rhybuddiodd Banc y Byd, am bob tair swydd a gaiff eu colli gan ddynion, bydd un yn cael ei hennill. I fenywod, mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth. Byddant yn colli pum swydd o ganlyniad i awtomatiaeth am bob swydd a gaiff ei hennill. Mae llywodraethau, busnesau, a sefydliadau byd-eang yn cael trafferth dal i fyny gyda chyflymder y newid, ac nid yw hynny’n syndod—mae hyn yn gythryblus. Ein rôl ni fel llunwyr polisi yw paratoi ar ei gyfer, ac ar hyn o bryd nid ydym yn gwneud hynny’n dda o gwbl. I’r perwyl hwn, byddaf yn cynnal cyfarfod o gwmpas y bwrdd ym mis Mehefin gyda rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i drafod sut y gallwn ymbaratoi ar gyfer yr her gyffredin hon, ac rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi cytuno i ymuno â ni. Ond yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr heriau, mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfleoedd hefyd.

Mewn cyfarfod diweddar a gynhaliais ar y cyd â’r sefydliad gweithgynhyrchwyr EEF yn fy etholaeth gyda busnesau, dywedodd un gwneuthurwr wrthyf fod awtomatiaeth yn ei gwmni wedi rhoi hwb i gynhyrchiant a hefyd wedi galluogi ei gwmni i gyflogi mwy o staff. Felly, nid oes angen edrych ar awtomatiaeth fel bygythiad i swyddi bob amser, ond fel offeryn twf. Ac mae gan ddatblygiadau technolegol y potensial i greu sectorau newydd a fydd yn sbarduno swyddi newydd. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous. Yn ddiweddar, mynychodd Julie James, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddata, drafodaeth o amgylch y bwrdd a gynhaliais ar botensial amaethyddiaeth fanwl yng Nghymru. Nawr, nid ymwneud ag amaethyddiaeth syml y mae ffermio manwl, ac ni fydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn parchu ffiniau adrannol. Mae diwydiant newydd sbon yn cael ei yrru gan ein gallu i gasglu a dadansoddi data ar gyflymder a oedd yn annirnadwy o’r blaen. Ond mae gan Gymru gyfnod byr o amser i fanteisio ar y cenedlaethau o wybodaeth a ddatblygwyd gennym ym maes ffermio, a chymhwyso’r technolegau hyn sy’n dod i’r amlwg i dyfu diwydiant sydd â photensial byd-eang. Ac er mwyn deall ble y mae’r cyfleoedd hyn—lle y gall ein harbenigedd pwnc, ein pwynt gwerthu unigryw, gynnig mantais glir, gystadleuol i ni—mae angen adolygiad strategol brys ar unwaith.

Rhagwelir yn eang mai roboteg ac awtomatiaeth, seiberddiogelwch, data mawr, codeiddio arian, y marchnadoedd ariannol a genomeg yw’r diwydiannau allweddol sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ac ar hynny y dylem ganolbwyntio. Ers gormod o amser, rydym wedi canolbwyntio ar ddulliau confensiynol, gan bryderu gormod ynglŷn ag osgoi troi’r drol. Ni allaf ddeall yn fy myw sut y gallwn gael naw sector blaenoriaeth, oherwydd pan fo popeth yn flaenoriaeth, nid oes dim yn flaenoriaeth. Ac rwy’n canmol y ffocws a roddwyd ar gynllun prentisiaeth Cymru, ac mae’n rhaid i ni wneud yr un peth i’n strategaeth economaidd gyfan, gan alluogi’r ffyrdd mwyaf effeithlon o dargedu adnoddau prin. Ac mae’n rhaid cael canllawiau clir ynglŷn â’r hyn y mae’r dirwedd ddiwydiannol newydd hon yn galw amdano o ran dull gweithredu, a bydd hyn yn galw am law fedrus i lywio llwybr anodd drwy ddarparu cyllid a chymorth amyneddgar sy’n canolbwyntio ar amcan penodol, gan osod amcan hirdymor y byddwn yn darparu cefnogaeth hirdymor ar ei gyfer, ond wedi’i gyfuno â dull arbrofol ar gyfer cyrraedd yr amcan hwnnw. A gadewch i ni fod yn glir, Dirprwy Lywydd: byddwn yn methu ar y ffordd, ac mae hynny’n iawn. Mae’n rhaid i ni fod yn agored ynglŷn â’r peth er mwyn dysgu oddi wrtho. Os meddyliwn am nifer o’r dyfeisiadau y siaradais amdanynt ar gychwyn fy araith—yr iPhone, teithiau gofod, technoleg ceir diyrrwr—gellir olrhain tarddiad pob un o’r rhain yn ôl i gyllid hirdymor ac amyneddgar y Llywodraeth.

Yn ôl pob golwg, y glasbrint hwn, y llwybr anodd hwn, yw’r hyn y mae strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yn anelu i’w wneud. Ond â siarad yn onest, yr hyn sy’n gwneud y strategaeth hon yn rhyfeddol yw ei diffyg uchelgais, ac mae angen ei hadolygu ar frys. Nid wyf eisiau edrych yn ôl mewn 20 mlynedd a meddwl, ‘Mae’n drueni na fyddem wedi gwneud rhagor’. Nid wyf yn credu bod neb ohonom eisiau gwneud hynny. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn her heddiw—a her yw hon; nid beirniadaeth—ein bod yn dyblu ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r rhwystrau a chroesawu’r cyfleoedd, a’n bod yn ei wneud yn gyflym. Diolch.

Rydw i’n falch i gefnogi’r cynnig sydd wedi cael ei roi gerbron y prynhawn yma. Fel y soniwyd, mae olwynion y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn barod yn troi. Mae gan ddatblygiadau technolegol megis deallusrwydd artiffisial a cherbydau ymreolaethol y potensial i ddadleoli swyddi traddodiadol, gydag arwyddocâd sylweddol i swyddi mewn sectorau pwysig i ni yng Nghymru, fel gweithgynhyrchu a phrosesu, fel yr ydym newydd ei glywed.

Rydw i’n cyfaddef bod nifer y swyddi a all gael eu dadleoli gan awtomatiaeth yn peri gofid ar yr arwyneb. Fel mae’r cynnig yn sôn, mae 700,000 o swyddi yng Nghymru o dan fygythiad awtomatiaeth, ac mae pobl sy’n ennill llai na £30,000 y flwyddyn yn fwy tebygol o golli eu swyddi na rhai ar gyflogau uchel. Fel y trafodom yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae 40 y cant o bobl Cymru wedi’u cyflogi yn yr economi sylfaenol—mewn swyddi gweithgynhyrchu a phrosesu ar gyfer deunyddiau sylfaenol—ac y mae’r mwyafrif o’r swyddi hyn o dan fygythiad awtomatiaeth.

Wrth inni wynebu’r chwyldro diwydiannol nesaf, mae dau opsiwn gennym: i frwydro yn ei erbyn fel y gwnaeth y Ludiaid i’w peiriannau cotwm yn y ddeunawfed ganrif, neu gallwn arloesi er mwyn goroesi, a gwneud Cymru’n economi sy’n buddio o’r datblygiadau yma. Ond mae yna dri pheth sydd yn angenrheidiol i wneud hyn. Yn bennaf oll, mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n edrych i amddiffyn gweithwyr, a sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfle gorau i wneud y gorau o’r datblygiadau yma. Mae’n rhaid sicrhau bod y system addysg yn datblygu’r gweithlu gyda’r sgiliau angenrheidiol i weithio gyda pheiriannau newydd. Mae’n rhaid hefyd sicrhau bod cyfleoedd addysgu gydol oes ar gael i gefnogi’r rhai sydd yn y swyddi sydd o dan fygythiad awtomatiaeth yn awr.

Oherwydd y niferoedd o bobl sydd gennym wedi’u cyflogi yn y sectorau yma, mae gennym botensial i symud gyda’r datblygiadau a hwyluso arbenigedd ynddynt. Ond i wneud hyn mae angen buddsoddiad a chymorth ar gwmnïau er mwyn datblygu’r seilwaith a’r sgiliau angenrheidiol. Fel y mae Fforwm Economaidd y Byd yn barod wedi ei ddweud, mae’n rhaid i lywodraethau gydweithio â busnesau er mwyn datblygu’r un arloesedd yn y sector preifat drwy ddatblygu sgiliau’r gweithlu a rhwydweithiau rhannu arfer da o ran arloesi. Ar hyn o bryd, gall busnesau gymryd mantais o gronfeydd megis SMART Cymru a SMART Innovation, sy’n cynnig grantiau i ddatblygu arloesedd, ond mae’r cronfeydd hyn wedi’u hariannu yn rhannol gan y gronfa datblygu rhanbarthol Ewropeaidd hyd at 2020. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid inni edrych ar barhad y cronfeydd angenrheidiol yma sy’n sicrhau bod cwmnïau yn gallu symud gyda’r amseroedd.

Yn olaf, rhaid sicrhau bod ein busnesau yn ymwybodol o’r datblygiadau yma, a sicrhau bod y cyfarpar ganddynt sy’n symud gyda’r amseroedd, yn hytrach na chael eu gadael ar ôl. Fel y mae ymchwil sefydliad gweithgynhyrchwyr yr EEF wedi sôn, dim ond 42 y cant o gwmnïau gweithgynhyrchu sydd yn ymwybodol o’r newidiadau posib a all ddod o awtomatiaeth, a dim ond 11 y cant yn credu bod y Deyrnas Unedig yn barod amdano. Rhaid i ni yng Nghymru, felly, ddangos y ffordd drwy fuddsoddi mewn datblygu sgiliau’r gweithlu, buddsoddi mewn arloesedd a sicrhau bod ein busnesau wedi’u paratoi am y newidiadau yma.

Felly, wrth inni edrych tuag at orwel y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae’n werth peidio â chwympo i mewn i’r trap o besimistiaeth ac ofni dyfodol dystopiaidd. Drwy gynllunio a gweithio gyda’r datblygiadau, yn hytrach nag yn eu herbyn, a thrwy weithio gyda gweithwyr a busnes, gall Cymru fod ar flaen y newidiadau hyn a dangos y ffordd i weddill y byd. Diolch yn fawr.

Mae dadl heddiw yn nodi newid yn y ffocws o’r un ar yr economi sylfaenol ychydig wythnosau’n ôl, ond mae’n faes y mae’n rhaid i ni ei gael yr un mor gywir os ydym am saernïo economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar raddfa’r her y gallai awtomatiaeth ei chynrychioli, y cyfleoedd sydd gennym i ymateb i’r her hon, a’r sgiliau fydd eu hangen ar ein gweithlu i wneud hynny. Fel y mae’r cynnig yn ein hatgoffa, amcangyfrifir bod 700,000 o swyddi yng Nghymru mewn perygl o gael eu hawtomeiddio, ffigur sy’n ymddangos hyd yn oed yn fwy syfrdanol o’i osod yn erbyn y ffaith fod nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru ychydig dros 1.4 miliwn ym mis Rhagfyr 2016. Mae hyn yn golygu y gallai awtomatiaeth fygwth 1 o bob 2 swydd yng Nghymru.

Mae awtomatiaeth yn bendant yn taflu cysgod hir. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â sectorau fel gweithgynhyrchu; mae 11.6 y cant o weithlu Cymru yn gweithio yn y sector hwn, nifer uwch nag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae nifer anghymesur o bobl y Cymoedd gogleddol yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae’n amlwg fod awtomatiaeth yn mowldio siâp unrhyw strategaeth ddiwydiannol yn y dyfodol. Mae erthygl gan academyddion o Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Boston yn dweud efallai ein bod eisoes yn rhy hwyr. Gan nodi’r cynnydd bedair gwaith drosodd o robotiaid yng ngorllewin Ewrop a’r Unol Daleithiau dros gyfnod o 15 mlynedd, mae’r erthygl yn dweud bod awtomatiaeth eisoes wedi effeithio ar swyddi a chyflogau.

Eto i gyd yn ail, fel y mae’r cynnig yn cydnabod, yma yng Nghymru, mae gennym yr arbenigedd, y sgiliau a’r adnoddau i’n galluogi i arwain yn y diwydiannau hyn sy’n dod i’r amlwg. Mae’r Athro Klaus Schwab, sefydlydd Fforwm Economaidd y Byd, wedi awgrymu y bydd y modd y byddwn yn rheoli adnoddau naturiol yn fynegiant allweddol o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mewn dadl flaenorol, archwiliasom botensial yr economi las a ddarperir gan y dyfroedd o’n cwmpas, a siaradais am y cyfleoedd i economi Cymru sy’n gynhenid yn y sector ynni adnewyddadwy morol. Mae tystiolaeth y môr-lynnoedd llanw yn arbennig o argyhoeddiadol: chwe morlyn, a sawl un ohonynt o gwmpas arfordir Cymru, yn cynrychioli buddsoddiad o £40 biliwn, yn creu 6,500 o swyddi hirdymor, yn cynhyrchu bron i £3 biliwn o werth ychwanegol gros yn flynyddol; busnesau yng Nghymru, ac yn y Cymoedd gogleddol yn arbennig, yn elwa o gadwyn gyflenwi well.

Rwyf eisoes wedi sôn am bwysigrwydd gweithgynhyrchu fel cyflogwr yn y Cymoedd. Nid yw’n ormod o naid i weld bod hwn yn faes lle y gellid gwella cynhyrchiant, a gwaith, drwy ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Yn union fel y mae’n rhaid i’n dull gweithredu fod yn gyflym ac yn fwy ystwyth, efallai y bydd angen i gwmnïau llwyddiannus yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol fod yn llai o faint ac yn fwy hyblyg. Nid yn unig y gallai cwmnïau weithredu’n agosach at eu sylfaen gwsmeriaid, er enghraifft, yma yng Nghymru, ond gallai gweithgynhyrchu ddod yn fwy cynaliadwy mewn gwledydd lle y mae cyflogau’n uchel.

Mae wedi’i ddweud na fydd llafur rhad yn rhad. Yn hytrach na llai o weithwyr, bydd cwmnïau angen yr hyn a ddisgrifiwyd fel gwahanol weithwyr, gyda sgiliau gwahanol. Dyma’r trydydd pwynt y carwn roi sylw iddo. Rwy’n falch fod addysg a sgiliau yn ganolog i’r strategaeth ‘Arloesi Cymru’ ddiwethaf. Rwy’n gobeithio y byddent yn cadw eu lle mewn unrhyw fersiwn newydd ar y ddogfen; yn benodol, y byddai dysgu oedolion ac uwchsgilio yn cael eu hystyried. Rydym yn gwybod bod y rhain yn allweddol i sicrhau nad yw awtomatiaeth yn arwain at golli swyddi.

Cefais drafodaeth ddefnyddiol gyda Colegau Cymru ddydd Llun am sgiliau a phrentisiaethau. Gallai fod yn gyfle gwych i gryfhau ein sector addysg bellach. Soniai’r strategaeth ‘Arloesi Cymru’ am integreiddio arloesi ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Rhaid i ni roi sgiliau ar gyfer y dyfodol i’n plant a’n pobl ifanc.

Hoffwn yn fyr gynnig fy llongyfarchiadau i Optimus Primate. Dyma dîm o fyfyrwyr blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn fy etholaeth, a enillodd Her Peirianwyr Yfory EEP Robotics yn ddiweddar. Maent wedi adeiladu, rhaglennu a rheoli robotiaid Lego. Hefyd, maent wedi datblygu eu hateb eu hunain i broblem wyddonol a osodwyd gan NASA a Lego Education. Dyma weithwyr y dyfodol, gweithwyr y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac mae’n galonogol gweld eu bod yn datblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt, ac yn gwneud hynny yn awr.

I gloi, hoffwn nodi mai’r hyn a nodweddai’r chwyldro diwydiannol cyntaf oedd y newidiadau economaidd-gymdeithasol sylweddol a chynnydd syfrdanol mewn tlodi. Rhaid inni sicrhau bod y gweithlu yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, fel disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun, yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn llwyddo yn pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Diolch, Dirprwy Lywydd, am ganiatáu i mi gael fy ngalw. A gaf fi longyfarch Lee Waters am gynnig y cynnig hwn? Rwy’n credu ei fod yn gynnig craff iawn, a’r math o beth yn union sydd angen i ni drafod mwy arno, mewn gwirionedd, gan ddisgwyl a gadael i syniadau ffynnu.

Rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg y bydd y cyfnod rhwng 1945 a 1980 yn cael ei ystyried gan haneswyr fel oes fawr y gweithiwr coler las, gydag enillion anhygoel o ran incwm a gwerth a chydraddoldeb. Dechreuodd llawer o hynny chwalu yn y 1970au. Roedd yn gyfnod eithriadol dros ben, ond ers hynny gwelsom gyfres o rymoedd yn effeithio ar y bobl yn yr hyn y byddem fel arfer yn eu galw efallai yn rhannau mwy traddodiadol o’r economi.

Mae’r ffactorau hyn yn hysbys i bawb, ond gadewch i mi ailadrodd yr hyn a glywoch: y chwyldro digidol, dirywiad y diwydiannau traddodiadol drwy gystadleuaeth mewn mannau eraill, y newid i economi fyd-eang lai anghyfartal. Ond cyflawnwyd hyn i raddau helaeth ar draul y sectorau traddodiadol yn yr economïau aeddfed. Mae’r gostyngiad mewn tlodi byd-eang yn gwbl syfrdanol os edrychwch ar y ffigurau diweddaraf a gweld y datblygiadau a wnaed yn Asia, yn Affrica ac yn Ne America yn arbennig.

Ond fe bwysodd yn galed iawn ar ein sefyllfa economaidd. Yn ychwanegol at hynny, mae’n amlwg fod gennym y chwyldro hwn mewn awtomatiaeth. Rwy’n credu bod y tueddiadau hyn yn egluro ffenomena fel Brexit i ryw raddau a buddugoliaeth yr Arlywydd Trump hyd yn oed, am eu bod wedi cyd-redeg â cholli ffydd yn gyffredinol yn y dosbarthiadau sy’n rheoli, ar ôl yr argyfwng ariannol, a dyna pam y mae’n rhaid i ni ennill ein statws breintiedig ein hunain a’i gyfiawnhau drwy gynnig atebion a rhagweld pethau ac efallai awgrymu newidiadau allweddol mewn polisi cyhoeddus ein hunain.

Ar hyn o bryd, mae’n bendant yn wir fod ein gweithlu’n rhanedig, a siarad yn fras, rhwng y rhai medrus a hyblyg sydd efallai’n croesawu’r heriau, nid yn unig o gael 10 swydd mewn bywyd gwaith o bosibl, ond tair gyrfa wahanol o fewn bywyd gwaith, a’r hanner arall sy’n edrych yn ôl yn hiraethus ar sefydlogrwydd cyflogaeth draddodiadol. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r bobl hynny a’u paratoi ar gyfer y newid.

Rwy’n credu bod hyn yn egluro pam y mae rhai pobl wedi galw am incwm cyffredinol, er enghraifft, fel ymateb i’r byd mwy rhanedig hwn a hefyd am ymateb i awtomatiaeth. Os na allwch gael swydd, o leiaf gallwch gael urddas incwm gwaith. Ond rwy’n credu bod angen i ni fod yn ofalus tu hwnt ynglŷn â symud o weld gwaith fel grym trefniadol canolog ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl. Byddai’n llawer gwell gennyf weld ailasesiad radical o’r hyn sy’n wythnos waith resymol na dweud na fydd llawer o bobl yn gallu gweithio 37.5 awr neu fwy ac na fyddant yn economaidd weithgar.

Felly, rwy’n credu bod newidiadau mawr yn mynd i fod yn hynny o beth. Caf fy atgoffa—credaf mai Syr Henry Mackworth o’r Gnoll yng Nghastell-nedd a gafodd y syniad o wythnos waith strwythuredig am y tro cyntaf. Byddai’r rhan fwyaf o weithwyr diwydiannol tan hynny wedi bod yn gweithio mewn galwedigaeth wledig o ryw fath am y rhan fwyaf o’r amser ac wedi symud yn gynyddol tuag at hynny wedyn. Roedd hwnnw’n newid enfawr. Roedd iddo fanteision ac anfanteision, yn sicr—ond y math hwnnw o ddychymyg ydoedd.

Mae sgiliau ac arloesi yn amlwg yn allweddol er mwyn creu hyder, entrepreneuriaeth a’r gallu i addasu. Mae angen i ni fod yn llawer gwell am edrych ar y rhai sy’n teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl, oherwydd fe allant wella’u sgiliau a phan fyddant yn cael hyder, byddant hefyd yn magu awydd i wneud hynny. Mae gwir angen inni ganolbwyntio ar hynny.

Yn olaf, yn ogystal â’r datblygiadau arloesol mawr a fydd yn dod—a gallem fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y bylchau hynny a’u llenwi—mae angen i ni hefyd gydnabod gwerth gwaith yn y gymuned, gwirfoddoli a gwaith dinasyddion. Rwy’n credu bod angen ailedrych yn drwyadl ar yr hyn yr ydym ei eisiau gan ddinasyddion. Yn union fel y disgwyliwn i ddinasyddion weithio ar reithgorau, efallai y dylem ddisgwyl iddynt wneud rhywfaint o wasanaeth gwleidyddol cyfatebol a’n helpu gyda’n hymholiadau yma neu edrych ar faterion arbennig o anodd polisi cyhoeddus a’u talu am wneud hynny. Hynny yw, pam ddim?

Mae angen inni edrych ar yr hyn y gall pobl ei wneud, yr hyn y gall dinasyddion ei wneud, a meddwl o ddifrif ac ennill ein statws yn y gymdeithas Gymreig ar hyn o bryd, a chynnig rhai o’r atebion. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfle gwerthfawr i edrych ar y darlun ehangach, a hefyd, o bryd i’w gilydd, i sganio’r gorwelion pell, a gobeithiaf wneud hynny yn y sylwadau hyn.

Yn ddiau, mae dyfodiad technoleg yn cynnig cyfleoedd i’n heconomi. Mae bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn seiliedig ar gynorthwyo fy rhanbarth i ddod yn arfordir y rhyngrwyd a buddsoddi o ddifrif yn ein gallu digidol. Roedd y fforwm economaidd a gynhaliais yn ddiweddar yng Nghastell-nedd yn edrych ymlaen at rai o’r cyfleoedd economaidd a’r cyfleodd gwaith hyn, a’r modd—fel y clywsom y prynhawn yma—y gallwn baratoi ein hunain ar gyfer y cyfleoedd hynny. Ond roedd hefyd yn cydnabod rhai o’r heriau sydd o’n blaenau.

Un o’r heriau—fel y clywsom gan lawer o’r siaradwyr—yw’r posibilrwydd y gall awtomatiaeth ddileu swyddi ym mhob rhan o’n heconomi. Ac nid yw pob person sy’n gwneud y mathau o swyddi y byddwn yn eu colli yn mynd i allu manteisio ar y swyddi newydd sy’n cael eu creu, a dyna realiti sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. A siarad yn gyffredinol, mae technoleg yn rhatach na llafur i fusnes. Efallai y bydd peth o’r elw ychwanegol y mae’n ei greu i fusnes yn cael ei drosglwyddo mewn costau is i’r defnyddiwr, ond bydd llawer ohono, yn amlwg, yn mynd i berchennog y busnes.

Yr her ar gyfer ein cymdeithas yw sut i ddal ein gafael ar beth o’r gwerth sydd dros ben o dechnoleg a’i harneisio er lles y cyhoedd, nid yn unig fel elw ariannol. Pam y mae angen i ni wneud hyn? Wel, oherwydd gyda phob swydd a gollir i awtomatiaeth, gallem golli cyflog sy’n cynnal aelwyd ac sy’n cael ei wario yn yr economi leol ac sydd, wrth gwrs, yn creu refeniw treth. Yn ddiweddar, argymhellodd Bill Gates dreth robot—ardoll ar dechnoleg i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw’n syndod fod rhai pobl wedi ymosod ar hyn fel rhywbeth sy’n anymarferol, ond nid yw’n anodd gweld hyd yn oed pe bai’n gweithio, na fyddai ond yn ffurfio rhan fechan o’r gwerth y gallem weld ei golli yn yr economi ehangach o gyflogau a gollir, eto, yn lle’i fod yn cael ei wario mewn siopau lleol, heb sôn am y costau trwm posibl i unigolion. Felly, efallai y bydd angen i ni feddwl yn fwy beiddgar, ac rwy’n meddwl bod David Melding wedi cydnabod rhai o’r pwyntiau hyn eisoes yn ei gyfraniad a diolch iddo am dynnu sylw at rôl Henry Mackworth o Gastell-nedd.

Ond efallai y bydd angen inni edrych eto ar sut y caiff gwaith ei ddosbarthu mewn economi yn y dyfodol. Mae cyfnodau blaenorol o awtomatiaeth wedi arwain at ostyngiad i wythnos waith pum diwrnod. A ddaw amser pan fydd wythnos waith tri neu bedwar diwrnod yn arferol, neu gyfnodau hwy’n cael eu treulio mewn addysg statudol, gan ohirio dechrau bywyd gwaith? Dylem ystyried hyn i gyd. Ond i lawer, wrth gwrs, mae ymddeoliad cynnar anwirfoddol neu waith sy’n rhan-amser yn groes i ddymuniad y gweithiwr eisoes yn golygu hyn, a bydd eu profiad yn dweud wrthych ei fod yn golygu mwy neu lai yr un treuliau am lai o gyflog. Mae angen i’r rhan fwyaf o bobl weithio er mwyn cael y pethau sylfaenol. Felly, yr her sylfaenol yw sut rydym yn harneisio technoleg i leihau cost hanfodion bob dydd am dai, ynni, trafnidiaeth a bwyd, sy’n ffurfio cyfran fawr o wariant misol y rhan fwyaf o bobl. Sut y defnyddiwn dechnoleg i’n helpu i ailddefnyddio a chynnal ein hasedau, fel y clywsom mewn dadl gynharach, yn hytrach na thaflu neu hyd yn oed ailgylchu, fel bod bywyd gweddus yn gynaliadwy gyda llai o waith?

Mae gan lywodraethau rôl bwysig yn cymell datblygiadau yn y sectorau hyn a llunio polisi arloesedd sy’n diffinio gweithgareddau gwerth uchel, nid yn unig o ran twf economaidd, ond hefyd o ran byw yn fwy fforddiadwy. Mae eraill—sy’n llai optimistaidd ynglŷn â model cynaliadwy—wedi galw, unwaith eto, fel y soniodd David Melding, am incwm sylfaenol cyffredinol, a delir i bawb, waeth beth yw’r gwaith, i helpu gyda chostau cynhaliaeth. Ar hyn o bryd, gallaf weld llawer mwy o rwystrau na chyfleoedd, ond mae’n iawn inni archwilio a threialu rhai o’r opsiynau hyn. Yn fy marn i, dylai unrhyw system gymorth newydd adlewyrchu’r egwyddor o gyfraniad, ac eto ni all disgwyl cyfraniad yn unig drwy waith fod yn gymwys bellach yn yr amgylchedd hwnnw. Felly, efallai fod yr amser wedi dod i ddyfeisio dull o achredu unigolion am y gofal di-dâl; y gweithgaredd dinesig; y gwirfoddoli; y gwaith elusennol y mae cymaint o bobl yn ei wneud ac y mae ein cymdeithas yn dibynnu arno’n sylfaenol. Rydym yn methu rhoi gwerth ar y math hwn o waith yn ein heconomi, fel yr ydym yn methu rhoi gwerth ar yr hyn y gallem ei alw’n economi gysylltiadau personol—y gorchwylion lle y mae gofal, empathi, a’r cysylltiad dynol yn hollbwysig; gorchwylion ym maes iechyd, lles, gofal cymdeithasol ac yn y blaen; meysydd lle y ceir galw parhaus ac sy’n mynd i’r afael â rhai o’r nodweddion mwyaf parhaol yn ein byd modern—strwythurau teuluol sy’n newid, salwch meddwl, byw’n hwy, annibyniaeth ac anweithgarwch corfforol. Felly, mewn byd rhesymegol byddent yn cynnig twf mewn cyflogaeth, ac mewn byd tosturiol, twf mewn cyflogaeth weddus, gyda thâl priodol. Efallai mai’r brif etifeddiaeth y dylem obeithio amdani gan awtomatiaeth fydd ailddarganfod amser i gysylltu ac ysgogiad cymunedol, lle y mae technoleg yn cael gwared ar waith sy’n torri cefnau, lle y mae wedi lleihau costau byw, a lle y mae’n hyrwyddo ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy a chefnogol i bawb. Efallai fod honno’n weledigaeth y gall pawb ohonom ei chofleidio.

Mae yna demtasiwn, wrth gwrs, wrth fynd i’r afael â’r cynnig hwn i ystyried ei gymhwysedd—maddeuwch y gair hwn—Ludaidd. Fodd bynnag, dylwn ddatgan yn y lle cyntaf fy mod yn credu bod gwerth enfawr i’r ddadl hon o ran ceisio mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn mewn ffordd adeiladol a meddylgar.

Mae’n wir dweud bod y defnydd cynyddol o roboteg, boed ar ffurf tiliau awtomataidd neu fecaneiddio llinellau cydosod, yn her go iawn i’r rhai sy’n ymwneud â diogelu a hyd yn oed cynyddu swyddi ar draws y sector diwydiannol, y sector manwerthu, a’r sector cyhoeddus yn wir, yn eu cyfanrwydd. Mae’r sector bancio yn croesawu technoleg seiber yn llwyr, ar draul staff cownter a phersonél gwasanaethau cwsmeriaid i raddau helaeth, a cheir llu o enghreifftiau eraill ar draws sylfaen economaidd eang lle y mae awtomatiaeth yn dechrau effeithio ar swyddi a wneir yn draddodiadol gan bobl.

Felly, a ydym i ymateb fel Ludiaid, neu a oes ateb arall? Rwy’n meddwl bod y cynigion a nodir yn y ddadl hon yn rhoi dewis arall cadarnhaol yn hytrach na dyfodol llwm o ran cyfleoedd gwaith. Yn y bôn, yr hyn yw’r pedwerydd chwyldro diwydiannol yw ystod o dechnolegau newydd sy’n effeithio ar bob disgyblaeth, economi a diwydiant, ac ar eu gwaethaf, maent yn herio syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Yr effaith sy’n deillio o hyn yw ein bod yn byw mewn cyfnod o addewid mawr, ond perygl mawr hefyd. Gyda rhwydweithiau digidol helaeth, mae gan y byd botensial i gysylltu biliynau’n fwy o bobl, a gallai hynny wella effeithlonrwydd cwmnïau’n ddramatig a rheoli asedau hyd yn oed mewn ffyrdd a all helpu i adfywio’r amgylchedd naturiol yr ydym yn byw ynddo. Mae ganddo botensial hefyd i ddadwneud llawer o ddifrod chwyldroadau diwydiannol blaenorol.

Dyma effeithiau cadarnhaol posibl y chwyldro diwydiannol newydd, ond mae yna lawer o senarios hefyd lle y caiff effaith ddifrifol o negyddol ar economïau byd-eang a’r bobl sy’n gweithio ynddynt. Ymhlith y rhain y mae gallu sefydliadau i addasu i’r newidiadau hyn, ac wrth gwrs, yr effaith ar y boblogaeth sy’n gweithio, yn enwedig yn y sectorau lled-fedrus a heb sgiliau, lle y mae technolegau robotig yn debygol o gael yr effaith fwyaf. Mae’n bosibl y gallai hyn waethygu anghydraddoldeb ymysg yr holl boblogaeth a chwalu strwythur cymdeithas hyd yn oed.

Felly, sut rydym ni yng Nghymru yn paratoi ein hunain ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol? Fel y nodwyd yn y cynnig, amcangyfrifir y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o ganlyniad i robotiaid yn cyflawni’r rolau hyn. Mae’n wir fod y peiriannau hyn bellach yn rhan o fywyd bob dydd, ac mae’n anochel y bydd diwydiannau, dros amser, yn ceisio’u defnyddio lle bynnag y bo modd cyfyngu ar lafur dynol costus. Mae’n eithriadol o bwysig fod Cymru’n paratoi ar gyfer y newidiadau hyn a bod ganddi strategaeth economaidd gref i fynd i’r afael â hwy. Mae’n rhaid i ni nodi felly ble y mae gan Gymru fantais gystadleuol a sut y gallwn fanteisio ar y sgiliau sydd gennym yng Nghymru eisoes.

Mae Cymru’n wlad amrywiol iawn, a gallwn bwyso ar hyn i gynorthwyo gyda’r newidiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Er enghraifft, ceir sector twristiaeth cryf yng Nghymru—yn ddi-os, bydd angen mwy o ffocws a sylw yn y maes hwn. Mae’r sector lletygarwch yn un lle y mae’n anodd disodli’r elfen ddynol.

Rwy’n llwyr gymeradwyo pwyntiau 3, 4 a 5 yn y cynnig hwn, a hoffwn ailadrodd yr alwad am strategaethau economaidd hyblyg i ymdrin ag wyneb newidiol datblygiadau technolegol. Nid oes amheuaeth y bydd ein prifysgolion a’n canolfannau arloesi yn chwarae rôl allweddol yn helpu’r sector diwydiannol i ymdopi â’r gofynion newydd hyn. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei hymdrechion yn y sector hwn. Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y strategaeth ‘Arloesi Cymru’ er mwyn gwerthuso’r aflonyddwch sy’n ein hwynebu. Yn y pen draw, mae gan Gymru botensial i gynyddu goruchafiaeth ar y farchnad yn sgil datblygu strategaeth economaidd newydd.

I grynhoi, bydd Cymru, fel gwledydd eraill, yn wynebu galw cynyddol i gadw ei phobl mewn gwaith ystyrlon, ond mae gennym sgiliau, talent ac ethos gweithgar ein poblogaeth sy’n gweithio i’n cynorthwyo. Rydym hefyd yn endid bach hylaw yn economaidd, ac felly’n un a ddylai allu ymateb i’r gofynion newydd hyn mewn modd hyblyg ac amserol, ac un a ddylai’n hawdd allu manteisio hefyd ar y chwyldro technolegol newydd hwn. Cafodd Cymru ei gadael ar ôl gan y trydydd chwyldro diwydiannol. Ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl gan y pedwerydd.

Rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan ein cyd-Aelodau Cynulliad. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod pa mor ddramatig yw’r newid i’n bywydau. Yn wir, ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi ymweld ag archfarchnad y bore yma ac wedi talu am fy nwyddau wrth y cownter hunanwasanaeth, ac ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi cael trên i Gaerdydd, a bod fy nhaith wedi’i rheoli gan signalwr yn eistedd wrth derfynell gyfrifiadurol yn y ddinas yr oeddwn yn mynd iddi. Yn yr un modd, pe bawn yn dweud fy mod wedi bancio ar-lein drwy wasgu botwm ar ôl cyrraedd fy swyddfa yn y gweithle. Eto i gyd, prin fod y tair gweithred syml hon yn gredadwy pan gafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei greu yn 1999, ac mae hynny’n dangos yr heriau a’r cyfleoedd i economi Cymru.

Heddiw, daw bywyd yn haws i’r defnyddiwr, ond beth am yr unigolyn a arferai gael ei gyflogi yn yr archfarchnad, y signalwr a’i deulu, a’r staff banc a arferai weithio mewn banciau ar hyd y stryd fawr? Yn rhy aml, gallwn ddarllen ystadegau heb amgyffred yr ystyr, a nodaf yn y cynnig hwn o dan bwynt bwled 2, a dyfynnaf,

‘risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.’

Mae colli un swydd yn gallu dinistrio unigolyn a rhoi teulu mewn perygl, ac mae’n cyrydu cymuned a chymdeithas. Nid wyf erioed wedi dyfynnu cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, ond cefais fy nharo gan adroddiad ‘Newsnight’ y cymerodd ran ynddo’n ddiweddar ar ôl ymweld â Glynebwy, a chan deimlad yr adroddiad. Dywedodd, ‘Felly, ar ôl treulio peth amser yng Nglynebwy, rwy’n llawer cliriach fy meddwl pam y pleidleisiodd pobl dros Brexit mewn niferoedd mawr, yn enwedig pleidleiswyr hŷn, oherwydd faint o arian a wariwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ar yr adeilad sgleiniog hwn neu’r prosiect hwnnw? Roedd hynny i gyd yn pylu’n ddim o gymharu â’r teimlad, y dyheu am ddychwelyd at sicrwydd y gorffennol, pan oedd y gwaith dur ar agor, pan oedd gan bawb swyddi, pan oedd gan bobl arian yn eu pocedi. A phan gafodd bobl gyfle i ysgwyd y cawell a dweud, "Rydym eisiau hynny’n ôl", roedd yn ymwneud nid yn gymaint â’u bod hwy wedi cael eu gadael ar ôl, ond â’u teimladau ynglŷn â’r hyn roeddent wedi’i adael ar ôl.’ Ac mae hwnnw’n gysyniad diddorol.

Nawr, bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn herio’r holl bethau rydym yn sicr yn eu cylch a bydd angen dyfeisgarwch ac ymyrraeth y Llywodraeth, a gennym ni fel Llywodraeth Lafur Cymru oherwydd gwyddom y bydd pleidiau eraill yn y Siambr hon yn caniatáu i’r farchnad ddilyn ei chwrs, heb ystyried y gost ddynol. Gwelodd pawb ohonom yng Nghymru y llynedd y gwahaniaeth y gall Llywodraeth Lafur Cymru weithredol ei wneud. Ni weithredodd Llywodraeth Dorïaidd y DU i atal dympio dur Tsieineaidd â chymhorthdal y wladwriaeth pan allent fod wedi gwneud, a chafodd diwydiant dur Cymru ei roi mewn perygl. Mae angen i ni fachu ar y cyfle a chyrraedd lefelau cyfatebol neu ragori ar fuddsoddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran twf y diwydiant yn y dyfodol.

Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig fod angen i ni edrych eto ar strategaeth ‘Arloesi Cymru’, a herio ein hunain yn barhaus i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn barod i fanteisio ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 16:29:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau, yn enwedig i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon, i Dai Lloyd, Vikki Howells, Jeremy Miles a David Rowlands, a hefyd David Melding a Rhianon Passmore a gynigiodd gyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, rwy’n meddwl, i’r heriau a’r risgiau sy’n ein hwynebu. Roedd cyfeiriad David Melding at rym trefniadol canolog llafur yn fy atgoffa o astudiaethau o waith Max Weber ar y foeseg waith Brotestanaidd, ond mae’r pwynt penodol a gâi ei wneud ynglŷn â natur wythnos waith argymelledig efallai’n cynnig testun arall ar gyfer dadl Aelod unigol, yn dilyn ymlaen o’r hyn sydd wedi bod yn thema glir a chryf yn ddiweddar, sef natur gwaith yn yr unfed ganrif ar hugain—yr economi las, yr economi sylfaenol, a heddiw, y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Mae’r ddadl hon hefyd yn gorgyffwrdd â llawer o’r sgyrsiau a gefais dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â’n hymagwedd bresennol at ddatblygu economaidd a sut y mae’n rhaid i hynny newid yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r cynnig yn cyfeirio at amcangyfrif Banc Lloegr o’r 700,000 o swyddi, dros y ddau ddegawd nesaf, a allai fod mewn perygl o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, nid yw’r ffigurau a ddyfynnir yn arwydd o swyddi a gollir, ond o gyflogaeth yr effeithir arni. O ran gweithgynhyrchu, gwyddom y gall llawer o swyddi cydosod gael eu disodli gan awtomatiaeth a chan robotiaid. Er hynny bydd swyddi newydd yn cael eu creu mewn swyddogaethau megis caffael, megis rhaglennu, dadansoddi data a chynnal a chadw, ymhlith eraill. Ond yr allwedd i ni fel gwneuthurwyr polisi yw sicrhau bod digon o gyfleoedd yn dod i’r amlwg yn yr economi newydd i gymryd lle’r rhai a allai gael eu colli yn yr hen economi ac i sicrhau bod pobl ar draws Cymru ym mhob cymuned yn meddu ar y sgiliau i fanteisio arnynt.

Ond wrth gwrs, mae’r effaith yn mynd yn llawer ehangach na gweithgynhyrchu. Caiff yr effaith ei gweld mewn llawer o sectorau, yn enwedig y sector gwasanaeth ac er enghraifft, y newyddion diweddar am gau nifer o ganghennau o fanciau yn sgil y nifer cynyddol o gwsmeriaid sydd bellach yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd. Mae cyflymder datblygiadau technolegol cyfredol yn gwneud asesiad o’r effaith ar swyddi yng Nghymru yn anodd.

Ac mae yna ffactorau eraill i’w hystyried hefyd, megis yr effaith y bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, gydag awtomatiaeth, roboteg a digideiddio, yn ei chael ar gynhyrchiant a sut y bydd hynny’n wedyn yn effeithio ar gyflogaeth. Nawr, siaradodd Lee Waters am y cynnydd posibl mewn cynhyrchiant a allai arwain at wneud y cwmnïau hyn yn fwy cystadleuol, ac ennill mwy o fusnes a chyfran gynyddol o’r farchnad o’r herwydd. Mae cystadleurwydd cynyddol a llai o gostau yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth yn hirdymor, er y gall swyddi gael eu colli yn y tymor byr, ond mae’n dibynnu’n llwyr ar ein penderfyniad i dderbyn a manteisio’n llawn ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy’n datblygu, ac i arfogi pobl â’r sgiliau i wneud hynny, fel yr amlinellodd Vikki Howells a Rhianon Passmore.

Nawr, rwyf wedi bod yn cael adroddiadau ar effaith diwydiant 4.0 gan Diwydiant Cymru, sefydliad trosfwaol ar gyfer y diwydiannau awyrofod, modurol a thechnoleg yng Nghymru. Comisiynodd Diwydiant Cymru adroddiad annibynnol ar effaith a chyfleoedd posibl sector gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf a sut y mae angen i gymuned diwydiant gweithgynhyrchu Cymru baratoi. Mae wedi cynhyrchu adroddiad gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf 2016, sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn gyda ffocws ar Gymru, ac mae’r risgiau a’r cyfleoedd yn real tu hwnt.

Rydym yn mynd i’r afael â’r rhain gyda chymorth arbenigedd a ddarperir gan Diwydiant Cymru, a chyrff academaidd a diwydiant i sefydlu gweledigaeth weithgynhyrchu ar gyfer Cymru. Mae’r manteision economaidd sy’n deillio o dechnoleg ddigidol yn cael eu cydnabod yn gynyddol gan y diwydiant gydag adroddiad diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn datgan bod 94 y cant o fusnesau’n cytuno bod technolegau digidol yn ysgogiad allweddol i gynnydd mewn cynhyrchiant, twf economaidd a chreu swyddi. Mae swyddi’n canoli fwyfwy ar dechnoleg ddigidol, a bydd manteisio ar hyn yn sicrhau Cymru ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae technolegau saernïo digidol eisoes yn rhyngweithio â’r byd biolegol. Cyd-Aelodau, nid yw’n mynd i fod yn hir cyn y cawn losin jeli a gynhyrchir gan argraffydd 3D, ac nid yw’n afresymol credu y gallem, yn ystod ein hoes, weld argraffiad 3D o organau’r corff. Felly, mae’r angen am fusnesau hynod gymwys ac arloesol yng Nghymru yn uwch nag erioed o’r blaen. Mae ein strategaeth arloesi ‘Arloesi Cymru’ yn helpu Cymru i archwilio cyfleoedd busnes sy’n torri tir newydd o safbwynt datblygu cynnyrch, arallgyfeirio a llwybrau newydd i’r farchnad, ac mae’n helpu i sicrhau bod arloesi yn alluogwr mawr i Gymru. Ond o ystyried natur arloesedd, fel yr amlinellwyd gan lawer o’r Aelodau heddiw, yn anochel, mae angen i’r strategaeth esblygu’n gyflym ac mae wedi ei chynllunio i fod mor hyblyg â phosibl, wrth inni symud ymlaen.

Byddwn yn cytuno â David Rowlands a Dai Lloyd, a ddywedodd fod yn rhaid i’r arloeswyr oresgyn y Ludiaid yn y bôn a bod yn rhaid i’r rhai sy’n edrych at y dyfodol, oresgyn y rhai sy’n glynu at y gorffennol. Ond byddwn hefyd yn dweud bod angen cysuro’r rhai sy’n amheus ynglŷn â thechnolegau digidol newydd ac sy’n datblygu eu bod yno i ni fanteisio arnynt a’u defnyddio, yn hytrach na’u hofni.

Nawr, mae pwynt olaf y cynnig yn cyfeirio at ddatblygu’r strategaeth economaidd, ac yn ein heconomi rydym yn dal i wynebu heriau mawr. Gyda chynhyrchiant is na gweddill y DU ac anweithgarwch economaidd ar lefel uwch, rydym yn wynebu cwestiynau strwythurol pwysig ynglŷn â sut i gael gwaith i fwy o bobl, yn ogystal â’r sgiliau i gamu ymlaen i swyddi sy’n talu’n well, a fydd, wrth gwrs, yn hanfodol i osgoi colledion swyddi net yn ystod diwydiant 4.0. Un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw mynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol yn ein heconomi a sicrhau bod manteision twf wedi’u gwasgaru’n decach ar draws Cymru. Un arall yw diogelu ein heconomi a’n gweithlu ar gyfer y dyfodol; bydd angen y ddau i leihau anghydraddoldebau lles a chyfoeth ledled Cymru, gan wella’r ddau yn gyffredinol. Rwy’n credu y bydd cyflawni’r amcanion hyn yn galw am benderfyniadau anodd gan y Llywodraeth, ac ymdrech ar y cyd a fydd yn herio, mewn sawl ffordd, y modd y mae pobl yn arfer gwneud a gweld pethau. Ond fel y dywedais ddoe, mae gan Lywodraethau ddyletswydd i herio confensiwn lle y mae confensiwn yn creu risg o danseilio cyfoeth a lles pobl, ac rwy’n credu bod Jeremy Miles wedi amlinellu yn ei gyfraniad sut y mae angen i ni ddechrau ystyried gwahanol ffyrdd o weithio, gwahanol arferion gweithio, nid yn unig er mwyn sicrhau manteision economaidd, ond hefyd i sicrhau gwelliannau o ran ein lles.

Rwy’n awyddus, fel rhan o’r strategaeth economaidd sy’n dod i’r amlwg, i edrych ar nifer llai o sectorau cenedlaethol economaidd sylfaenol megis iechyd, gofal ac ynni, y gall Llywodraeth Cymru roi arweiniad wrth eu cefnogi. Ac oddi tanynt, hoffwn edrych ar ein heconomïau rhanbarthol drwy rymuso pob un i ddatblygu sectorau arbenigol a hunaniaeth economaidd fwy penodol, ond ar y ddwy lefel, bydd angen cael prawf amlwg fod ein hymyriadau a’n buddsoddiad yn canolbwyntio ar feysydd gweithgaredd yn yr economi sydd wedi cael, neu a allai gael eu diogelu at y dyfodol. Rydym yn wynebu heriau economaidd mawr, a byddant yn dwysáu pan fyddwn yn gadael yr UE gyda mwy o ansefydlogrwydd byd-eang, toriadau lles a chaledi Llywodraeth y DU ac wrth gwrs, prif bwnc y ddadl heddiw, y pedwerydd chwyldro. Wrth ddatrys heriau yn y dyfodol ac addasu i fyd sy’n newid yn gyson, mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu pontydd rhwng pobl fel y gallwn ddatblygu gwybodaeth ac atebion ar gyfer y dyfodol. Felly, oes, mae yna heriau, ond gadewch i ni fod yn berffaith sicr ein bod am fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y pedwerydd chwyldro. Felly, rwy’n croesawu cyfraniadau pob Aelod i’r drafodaeth heddiw yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando ar yr ystod enfawr o heriau y mae’r Aelodau wedi’u cyflwyno yn y ddadl heddiw, ond rwy’n falch o ddweud eu bod wedi eu cyflwyno gyda theimlad o optimistiaeth, ac ymateb Dai Lloyd a grisialodd hyn orau, pan gydnabu nid yn unig y gellir goresgyn yr heriau hyn, ond gallant fod o fudd mewn gwirionedd i’n system lywodraethol yng Nghymru. Yn wir, os na allwn ddarparu gweledigaeth optimistaidd o’r dyfodol, yna ni ddylem fod yn eistedd yn y Siambr hon yn y lle cyntaf.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais ag optimydd arall rwy’n ei adnabod, sef yr Athro Tom Crick, athro gwyddoniaeth gyfrifiadurol a pholisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd—a dylwn ddatgan buddiant fel darlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dywedodd wrthyf, ac yn wir fe ddywedodd ar Radio Wales y bore yma, fod angen inni gael swyddi gwerth uchel i bobl yn hytrach na’u bod yn gorfod symud i rywle arall. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen ymrwymiad cydlynol, hirdymor gan Lywodraeth Cymru i’r Gymru ddigidol, o sgiliau i seilwaith a’r ecosystem ddigidol ehangach. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfle pwysig i Gymru yma: beth fydd ein pwynt gwerthu unigryw yng Nghymru fel y gallwn gystadlu yn y diwydiannau digidol gwerth uchel hyn, a’u harwain yn y pen draw? Mae Tom, yr Athro Crick, yn llais i’w groesawu, ac fe gafodd ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn gwrando ar baneli o arbenigwyr o’r byd academaidd a diwydiant i ddatblygu ei strategaeth ddiwydiannol, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd honno.

Dylai’r pwynt gwerthu unigryw a grybwyllodd yr Athro Crick fod yn allweddol i’r strategaeth arloesi ar ei newydd wedd, ac yn wir, dylem feddwl hyd yn oed beth a olygwn wrth ‘strategol’ a ‘strategaeth’. A yw’n mynd i fod yn rhywbeth a argraffwn a’i roi ar silff a’i roi ar y wefan, neu a yw’n rhywbeth sy’n mynd i newid ac adnewyddu’n gyson? Dyma a wnaeth Lee Waters wrth iddo gyflwyno ei her, fel y mae bob amser yn ei wneud, i Lywodraeth Cymru a dweud bod angen i ni newid strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yng nghyd-destun y trawsnewid yr ydym yn byw drwyddo. Rwy’n falch o weld bod yr her honno yn cael ei chroesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Rydym yn symud tuag at y dyfodol yn dwyllodrus o gyflym. Nid ydym yn cydnabod newid trawsnewidiol yn ein bywydau bob dydd, ond wedyn fe edrychwn yn ôl, a gweld bod y byd wedi newid wrth i ni wneud pethau eraill. Rwy’n meddwl am y cyfnod pan oeddwn yn dysgu. Byddwn yn gofyn i fy myfyrwyr faint ohonynt a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia, ‘Codwch eich dwylo. Pwy sy’n berchen ar ffôn symudol Nokia?’ Nid oedd yr un ohonynt. Mewn gwirionedd, cododd un ei law, ac fe wnaethom chwerthin am ben yr unigolyn hwnnw. [Chwerthin.] Ond wedyn, rydych yn dweud, ‘Iawn. Wel, faint ohonoch a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia yn y gorffennol?’ A chododd pawb eu dwylo; roeddent wedi bod yn berchen ar ffôn symudol Nokia. A allem fod, cyn bo hir, yn edrych yn ôl ac yn chwerthin am ben ein hunain am ein bod wedi bod yn berchen ar ffonau clyfar ac na allem roi ein ffonau clyfar i lawr? Beth fydd y dyfodol yn lle hynny?

Wel, y gamp yw canfod beth fydd hynny. Nid wyf yn arbennig o dda am ddarogan y dyfodol yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg, felly mae’n dda fod Dai Lloyd, Rhianon Passmore a Vikki Howells wedi nodi’r potensial sydd gennym yng Nghymru. Soniodd Vikki Howells am ein hadnoddau naturiol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni. Roedd hi’n cydnabod yr angen am gadwyni cyflenwi byr, hyblyg yn ein Cymoedd gogleddol—rwy’n hoff o’r cysyniad hwnnw; fe’i defnyddiaf—a’r angen i dyfu a datblygu sgiliau priodol sy’n cyfateb i’r anghenion a’r newidiadau sydd o’n blaenau, ac unwaith eto, adleisiwyd hynny gan Aelodau eraill yn y Siambr.

Gadewch i ni beidio ag anghofio nad yw’n ymwneud yn unig â’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, nid yw’n ymwneud yn unig ag ailddyfeisio fel dyfeisio. Mae llawer ohono’n ymwneud â gweithio gyda, ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd datblygiadau technolegol mewn prosesau gweithgynhyrchu, fel y dywedodd David Rowlands, yn golygu bod peiriannau’n gallu gweithgynhyrchu ac ailweithgynhyrchu, gan ddileu’r angen am adnewyddu ac ailosod drud.

Ond gall y buddion hynny arwain, fel y mae eraill wedi dweud, at newidiadau megis llai o staff desg dalu yn ein harchfarchnadoedd lleol, a changhennau banc yn cau am fod pobl yn bancio ar-lein. Rydym yn falch iawn o Admiral Insurance yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, ond a allai gael ei daro’n galed gan ddeallusrwydd artiffisial? Mynegais fy mhryderon ynglŷn â chau canghennau banc mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr anawsterau hynny. Fodd bynnag, rydych yn teimlo weithiau—nid oherwydd y Llywodraeth, ond rydych yn teimlo’n analluog i rwystro’r newidiadau hyn pan ddigwyddant, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn lle hynny yw eu rheoli, a rheoli ein ffordd drwyddynt, a manteisio arnynt yn optimistaidd. Roedd cyfraniad Jeremy Miles yn cynnwys hynny. Soniodd am holl natur byd gwaith, sut rydym yn gweithio a beth yw ystyr gwaith inni hyd yn oed. Er ei fod braidd yn ddrygionus ac wedi gadael, roedd David Melding yn cytuno â—[Aelodau’r Cynulliad: ‘O’.]

Na, na, na. Peidiwch byth â dweud unrhyw beth nad ydych yn gwybod beth yw’r ateb.

Rwy’n tynnu hynny’n ôl, Dirprwy Lywydd. Ond rwy’n cydnabod cyfraniad David Melding. Mae’r ffaith fod Jeremy Miles wedi gwneud y pwynt y gallem fod yn newid ein hwythnos waith—wel, roedd David Melding yn cydnabod hynny hefyd. Pan wnaeth Jeremy Miles y pwynt, roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad democrataidd-gymdeithasol adain chwith eithaf da, ac yna gwnaeth David Melding bwynt tebyg hefyd, ac nid wyf yn meddwl bod David Rowlands yn bell iawn. Felly, efallai fod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn newid natur ein gwleidyddiaeth hefyd. A allwn fod—[Torri ar draws.] A allwn fod mor optimistaidd â hynny y bydd y fath beth yn digwydd?

Rwy’n credu bod addysg yn greiddiol i hyn, a hoffwn ddychwelyd at y ddadl a gyflwynwyd gan yr Athro Tom Crick ar Radio Wales y bore yma. Mae’n croesawu’r gwaith o ddatblygu fframwaith cymhwysedd digidol, o ganlyniad i beth o’r gwaith y mae wedi’i wneud gyda Llywodraeth Cymru. Felly, er y bydd angen addysg a bydd angen inni edrych ar y pethau y gall y Cynulliad eu darparu yn uniongyrchol, rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar y tymor hir hefyd. Beth yn fwy na hynny y gallwn ei wneud? Gadewch i ni ddychwelyd at eiriad y cynnig, sy’n dweud bod angen i strategaeth ‘Arloesi Cymru’ a strategaeth economaidd Ysgrifennydd y Cabinet gael eu hadnewyddu a’u hystyried, a dylid meddwl am y modd y gellid dominyddu’r farchnad a’r natur unigryw y gallwn ei chael yng Nghymru. Roeddwn yn falch dros ben o weld ein bod wedi cael cefnogaeth unfrydol i hynny yn y Siambr hon, rwy’n credu, ac rwy’n argymell y cynnig i’r Senedd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu a Chaffael yn y Sector Cyhoeddus

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Plaid Cymru ar gaffael ac adeiladu yn y sector cyhoeddus, a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6268 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt.

2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa’n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gyflwyno Bil Caffael i’w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;

b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;

c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu’r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i’r sector adeiladu;

d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pwrpas ein dadl heddiw ydy amlygu’r angen am system well o gynllunio ar gyfer sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â gwella arferion caffael yn y sector adeiladu yng Nghymru. Mae nifer o brosiectau isadeiledd ar y gorwel dros y blynyddoedd nesaf sy’n cynnig cyfle euraidd i gwmnïau adeiladau ar draws Cymru—cwmnïau mawr a bach—yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi ehangach. Mae rhai o’r prosiectau yma yn cynnwys y morlyn morlanw posib yn Abertawe, metro Caerdydd a’r Cymoedd, ffordd osgoi’r M4—pa bynnag opsiwn sy’n cael ei ddewis, bydd rhaid i rywun ei adeiladu—trydaneiddio rheilffyrdd Cymreig, ffordd osgoi Llandeilo a nifer eraill o brosiectau. Felly, i sicrhau bod Cymru’n elwa’n economaidd o’r prosiectau yma mae angen i Lywodraeth Cymru wella arferion caffael a sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol a’r arbenigedd yn y gweithlu ar gael yma yng Nghymru. Mae angen gwneud gorau o’r cyfleoedd yma. Mae’n cynnig ni heddiw yn galw am fwy o wariant cyfalaf ar isadeiledd yng Nghymru i roi hwb ychwanegol i’r sector ar draws Cymru.

Y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth yr OECD gynhyrchu adroddiad a oedd yn crybwyll y dylai economi fel y Deyrnas Unedig fod yn gwario rhyw 5 y cant o’i incwm cenedlaethol—GDP, felly—ar adnewyddu a moderneiddio ei seilwaith. Yn y flwyddyn honno, gwariwyd 1.5 y cant o werth GDP, sy’n is na’r ffigwr o 3.2 y cant yn 2010. Mae’r ffigwr yn is fyth yma yng Nghymru. Mae’r uchelgais yma wedi’i deall gan Lywodraeth yr Alban, sydd wedi datgan eu bod nhw’n creu rhaglen isadeiledd o dros £20 biliwn fel rhan o’i rhaglen lywodraethol dros y pum mlynedd nesaf. Os ydym ni yn mynd i ddod â blynyddoedd o ddirywiad economaidd yma yng Nghymru i ben, mae uchelgais yn hollbwysig. Mae angen i ni yng Nghymru godi ein gwariant ar isadeiledd i raddfa debyg ac uchelgais tebyg i’r hyn sy’n cael ei ddangos gan ein cefndryd Celtaidd yn yr Alban.

As part of our vision for a national infrastructure commission for Wales, we raised the need for the Welsh Government to jump on the opportunity provided to us to increase levels of capital spending in order to invest in our nation’s infrastructure. We are currently living in an era of cheap money with historic levels of low interest rates, which means there has never been a more cost-effective time to invest in infrastructure. In a country like Wales, some of the most basic infrastructure—the ability to traverse one’s country by rail from north to south, for instance—is missing, let alone the kind of infrastructure one needs and expects in the twenty-first century.

Wales’s construction sector faces significant challenges over the coming years in ensuring it has the necessary capacity to utilise the coming opportunities. In order for the sector to be able to meet these needs, improving productivity levels within the construction industry is paramount. Poor cash flow, often caused by poor payment practices along the supply chain, is a major barrier to productivity improvement. The construction sector in Wales is largely dominated by small to medium enterprises, many of whom play critical roles through the supply chain in delivering our public sector construction contracts. These small businesses are fundamental to the economic well-being of Wales and Plaid Cymru are determined that public procurement policy is used to support these businesses right across Wales.

Efficient cash flow is vital to smaller sub-contractors and it’s only fair that they receive prompt payment in accordance with contract performance for helping deliver the construction and infrastructure projects that are key to Wales’s economy. The use of project bank accounts in construction contracts is a commitment of the construction procurement strategy from July 2013 and also supports the Wales procurement policy statement that was issued in December 2012.

Let me just quickly explain why project bank accounts are so important for Welsh SMEs. With public sector construction projects, it is extremely unlikely that the client, such as the local authority, can go bust. Therefore, in that sense, the tier 1 constructor is protected against any possible upstream insolvency. However, those engaged in the supply chain, the majority of which will be small and medium-sized companies, are provided with no such protection. A project bank account is a secure pot, which ensures that everybody in the supply chain is paid, as the moneys do not have to go through the different tiers of contracting, and that’s why we support it. In January 2014, the former finance Minister announced three pilots across three different local authorities for the use of project bank accounts. However, since then, as far as I’m aware, there has been no movement, since then, to move forward and mandate project bank accounts across the board, as is the case in Scotland and Northern Ireland. By mandating project bank accounts in the public sector, the Welsh Government can, at least, afford protection to SMEs in Wales and improve their cash flow and payment certainty.

Action must also be taken in relation to cash retention. The withholding of retention is an outdated practice that is unnecessary in the modern construction industry. The best guarantee of quality lies in the choice of a competent and qualified supply chain that is committed to seeking to attain the highest applicable standards in health and safety, training and technical performance. An accreditation system and licensing regime, as in the US and Australia, could alleviate this problem entirely. Not only would this improve cash flow within the sector, but it would also improve health and safety standards, which is something we should all be championing.

In order to ensure that Wales reaps as much economic benefit as possible from future infrastructure projects in Wales and beyond, we need a construction industry that is leaner and fitter, with SMEs that are empowered to play a more productive role. In closing, improved construction procurement, through having integrated project teams involving all the supply chain, is the ideal—and produced this Senedd Chamber that we stand in today. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i’r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.

5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a’r cyfleoedd caffael sylweddol sy’n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru’r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Mohammad Asghar i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau’r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch i chi, Madam Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies yn ffurfiol.

Mae caffael cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru. Dangosodd datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2011 fod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £4.3 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau allanol. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu un rhan o dair o’i gyllideb flynyddol. O’r ffigur hwn, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod 53 y cant wedi ei wario gan awdurdodau lleol. Os ydym i fanteisio’n llawn ar y potensial llawn a gynigir gan bŵer prynu’r sector cyhoeddus, mae angen diwygio. Mae’n amlwg fod angen craffu’n well, felly, ar y polisi caffael a’i effaith ar draws Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru werthfawrogi rôl caffael fel offeryn ar gyfer ysgogi twf economaidd yn y wlad hon.

Ar hyn o bryd ceir adfywiad o brosiectau seilwaith ar raddfa fawr yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad diweddar calonogol am fargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn dilyn bargen ddinesig Caerdydd. Edrychwn ymlaen at brosiectau eraill sydd ar y gweill ar hyn o bryd megis ffordd liniaru’r M4, y môr-lynnoedd llanw amrywiol a’r prosiectau metro. Mae pob punt a werir mewn prosiectau seilwaith yn rhoi hwb o £1.30 i’r cynnyrch domestig gros yn uniongyrchol, gydag effaith anuniongyrchol o £2.84 am bob punt a werir. Mae’n hanfodol, felly, fod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddarparu’r budd mwyaf i gymunedau Cymru ac yn cymryd cyfrifoldeb am gynhyrchu twf economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Drwy dargedu cyfleoedd recriwtio a hyfforddi mewn contractau cyhoeddus, gellir cyfrannu tuag at drechu problemau tlodi a llai o symudedd cymdeithasol. Mae sefydliadau yn y sector preifat a’r sector gwirfoddol yn hanfodol i economïau lleol a rhanbarthol. Rhaid iddynt adolygu contractau sector cyhoeddus mewn modd cadarnhaol, a dylai gyflawni busnes gyda hwy. Rhaid i’r sector cyhoeddus wneud gwell defnydd o’u pŵer prynu i greu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant er mwyn adfywio, a manteisio i’r eithaf ar werth am arian. Rhaid inni gael diweddariadau rheolaidd, yn enwedig ar sut y mae awdurdodau lleol yn mabwysiadu ac yn rhoi’r egwyddorion hyn ar waith. Mae arnom angen yr holl wybodaeth am y contractau sy’n cael eu dyfarnu, a chanlyniad go iawn y contractau hyn ar economïau lleol. Rhaid symleiddio’r system geisiadau a’i gwneud yn haws, er mwyn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hannog, ac mae’n hanfodol fod pob proses gaffael yn gwbl dryloyw ac yn sicrhau sefydlogrwydd a hyder yn y system gaffael yng Nghymru. Felly, mae angen gweithdrefnau monitro cadarn i sicrhau bod tryloywder yn cael ei gynnal.

Mae angen cynyddu nifer y contractau sector cyhoeddus a ddyfernir i fusnesau yng Nghymru. Mae agor mwy o gyfleoedd contractio yn hanfodol i gyflenwyr lleol llai o faint a sefydliadau’r trydydd sector. Mae angen i ni chwalu’r rhwystrau drwy asesu cyfleoedd caffael y sector cyhoeddus. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw ers amser am rannu contractau’n gyfrannau, ac am barhau’r gwaith o symleiddio’r broses. Dirprwy Lywydd, mae angen i ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod am yr her hon. Rhaid i ni roi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig eu maint wrth iddynt gynnig am gontractau. Mae angen i ni fanteisio ar y posibiliadau a roddwyd i ni. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r manteision diwygio caffael cyhoeddus i bobl Cymru o hyn ymlaen. Diolch.

Rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar rôl merched yn y gweithlu adeiladu. Nid ydy’r geiriau ‘merched’ ac ‘adeiladu’ ddim yn mynd efo’i gilydd yn draddodiadol, ond mae’n bryd i hynny newid. Ar hyn o bryd, mae llawer llai o ferched na dynion yn y sector yma. Gallai annog mwy o ferched i ymuno â’r gweithlu adeiladu oresgyn rhai o broblemau’r sector i’r dyfodol yn ogystal â chynnig llwybrau gyrfa newydd i ferched Cymru.

Mae’r sector adeiladu yng Nghymru yn tyfu’n gynt nag yn unman arall yn y Deyrnas Gyfunol. Gyda phrosiectau fel ffordd osgoi Bontnewydd yn Arfon a ffordd osgoi Llandeilo—heb sôn am fetro de Cymru, Wylfa, ac o bosib morlyn morlanw Abertawe—ar y gorwel, bydd galw cynyddol am weithwyr gyda sgiliau yn y sector. Mae partneriaeth sgiliau rhanbarthol gogledd Cymru yn amcangyfrif y bydd angen tua 8,500 o weithwyr pan fydd codi Wylfa Newydd ar ei anterth, a bydd codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn ymysg merched ifanc yn helpu i ymdrin â bylchau sgiliau yn y dyfodol.

O’r 113,000 o bobl sy’n gweithio yn y sector adeiladu, dim ond 10 y cant sydd yn fenywod. Mae menywod hefyd yn llawer mwy tebygol o wneud gwaith swyddfa, ac amcangyfrifir mai 1 y cant yn unig o weithwyr benywaidd sy’n gweithio ar safle. Byddai ymdrin â’r gwahaniaeth yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn galluogi’r sector i ddefnyddio potensial cronfa ehangach o lawer o ddoniau wrth iddo dyfu, a’i helpu i oresgyn prinder gweithwyr a sgiliau yn y dyfodol.

Prentisiaethau ydy’r llwybr hyfforddi allweddol i mewn i’r sector adeiladu, ond mae’r rhaniad yn amlwg iawn yn fan hyn, efo 99 y cant o brentisiaethau adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig yn cael eu llenwi gan ddynion. Yn amlwg, felly, mae angen gwneud llawer iawn mwy os ydym ni am gwrdd â’r galw am weithlu yn y dyfodol.

Un ffordd o wneud hynny ydy defnyddio caffael cyhoeddus mewn ffordd adeiladol, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i wneud mwy i ymdrin â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a hyrwyddo cydraddoldeb yn y sector adeiladu. Mae wedi cael ei dderbyn yng Nghymru y dylai caffael cyhoeddus roi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ac fe gymerodd Llywodraeth Cymru gamau cadarnhaol i sicrhau hynny. Fodd bynnag, fe ellid cymryd camau pellach i ofalu bod caffael cyhoeddus hefyd yn helpu i hyrwyddo cyfartaledd rhwng y rhywiau.

Mae enghreifftiau o hyn yn cael ei wneud yn Ewrop, ac rydw i am gyfeirio at enghraifft o arfer da yn Berlin. Yn fanna, ar gyfer contractau mawr ar gyfer cwmnïau efo mwy nag 11 o weithwyr, mae’r contractau yn gorfod cynnwys mesurau i hyrwyddo gwaith menywod. Mae disgwyl i gwmnïau roi manylion am fesurau y byddan nhw’n eu mabwysiadu mewn datganiad ar wahân. Er nad ydy hwn yn rhan o’r broses ddyfarnu, mae disgwyl i gwmnïau gadw at eu datganiad. Mae’r mesurau yn cynnwys meddu ar gynllun cymwys i hyrwyddo menywod, cynyddu canran y menywod mewn swyddi uwch, oriau gweithio hyblyg, tâl cyfartal a chyfleusterau gofal plant. Mae’r cwmnïau yn cael eu monitro wrth iddyn nhw weithredu’r ymrwymiadau y maen nhw wedi cytuno arnyn nhw, ac maen nhw yn gallu wynebu sancsiynau os ydyn nhw’n methu â gwneud hyn.

Mae yna ddadl y dylai hi fod yn ofynnol i bob cwmni yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus ddangos eu bod yn deall materion rhywedd yn eu sector a bod ganddyn nhw gynllun yn ei le i ymdrin â nhw. Felly, beth am ddechrau efo’r sector adeiladu? Mae caffael o’r math sy’n cael ei weithredu yn Berlin yn gallu bod yn ddull pwerus o gynyddu nifer y merched yn y gweithlu adeiladau, gan helpu goresgyn prinder y swyddi yn y sector i’r dyfodol. Diolch.

Rwyf am siarad am y cyfleoedd a ddaw yn sgil dau bolisi Llywodraeth. Un yw bod Carl Sargeant wedi cyhoeddi £30 miliwn yn ychwanegol tuag at adeiladu cartrefi newydd fforddiadwy, a’r llall yw targed Llywodraeth Cymru o greu 100,000 o brentisiaethau erbyn 2021.

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn i gysoni’r prentisiaethau hyn â’r grym sgiliau yr ydym yn mynd i fod eu hangen ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol. Ni fydd yn digwydd yn organig. Mae gofyn cael ysgogiadau gwleidyddol i wneud iddo ddigwydd.

Rwy’n cyfeirio’n arbennig at y ffordd yr ydym yn adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol. Mae adeiladwyr tai preifat yn amharod i newid ac yn parhau i adeiladu tai heb eu hinswleiddio’n ddigonol a thai nad ydynt yn cynhyrchu ynni cynaliadwy—cynghrair nad yw’n sanctaidd y chwe chwmni adeiladu tai mawr gyda’r chwe chwmni darparu ynni mawr. Nawr, mae’r diwydiant adeiladu’n gwybod bod modd cyflawni cartrefi carbon isel, ond mae’n rhaid i ni gael rheoliadau clir, sy’n berthnasol i bob adeilad newydd, yn ogystal â gweithlu gyda sgiliau digonol a lefelau priodol o wybodaeth am y sgiliau manwl sydd eu hangen ar gyfer adeiladu’r cartref di-garbon. Gobeithiaf nad yw gadael yr UE yn cael ei ddehongli fel arwydd i roi’r gorau i’r gofyniad i bob adeilad newydd fod yn ddi-garbon erbyn 2020.

Mae gennym enghreifftiau gwych wedi eu gwneud yng Nghymru ar ffurf y Pentre Solar a’r tŷ SOLCER, sy’n dangos bod gennym y wybodaeth, ond mae’n rhaid i ni ei chymhwyso. Mae angen i ni sicrhau bod gennym yr holl sgiliau prentisiaeth yn barod fel y gallwn adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom ar gyfer ein hanghenion ein hunain yma yng Nghymru a hefyd manteisio ar gyfleoedd ar gyfer gwaith adeiladu ar draws Ewrop. Felly, roeddwn yn synnu clywed gan uwch swyddog o Lywodraeth Cymru mewn cynhadledd yn ddiweddar i roi gwybod i gyflogwyr ynglŷn â’r ardoll prentisiaethau newydd, nad oedd yn gwybod sut y byddem yn darparu’r sgiliau manwl pwysig sydd eu hangen. Nid wyf yn credu bod hynny’n ddigon da.

Mae’n rhaid i ni gofio mai Gordon Brown a arweiniodd y ffordd yn 2006, drwy gyhoeddi polisi cartrefi di-garbon, a Phrydain oedd y wlad gyntaf i wneud ymrwymiad o’r fath. Pe baem wedi cadw at yr ymrwymiad hwnnw, byddem wedi sicrhau y byddai pob annedd newydd o’r flwyddyn ddiwethaf ymlaen yn cynhyrchu cymaint o ynni ar y safle drwy adnoddau adnewyddadwy ag y byddai ei angen arnynt mewn gwirionedd o ran gwresogi, dŵr poeth, goleuo ac awyru. Felly, roedd yn drasiedi llwyr fod George Osborne, dyn y chwe swydd, wedi cael gwared ar y mesurau hyn mewn rheoliadau ym mis Gorffennaf 2015—un o weithredoedd cyntaf y Llywodraeth Geidwadol newydd—wedi’i guddio yn yr hyn a alwyd yn gynllun cynhyrchiant. Dywedodd prif weithredwr Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU mai dyma oedd diwedd y polisi cartrefi di-garbon.

Mae ansicrwydd yn magu anweithgarwch, ac mae’r diwydiant bob amser yn amharod i roi camau cadarn ar waith i ddarparu cartrefi carbon isel a di-garbon, oni bai bod canllawiau a deddfwriaeth glir ar waith, am eu bod yn teimlo bod gan Lywodraethau hanes o symud y pyst gôl, ac yng ngoleuni’r hyn a ddigwyddodd gyda Gordon Brown a George Osborne, mae hynny’n ddealladwy. Ond rwy’n teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, ddangos arweiniad drwy osod rheoliadau adeiladu di-garbon fel bod y cartrefi newydd ar gyfer y dyfodol y byddwn yn eu hadeiladu yn cael eu hadeiladu i bara, fel y rhai a adeiladwyd dan arweiniad Aneurin Bevan yn y 1940au a’r 1950au cynnar, tai y mae galw mawr amdanynt o hyd fel cartrefi i fyw ynddynt.

Diolch i chi am eich sylwadau. Rwy’n mwynhau eich cyfraniad yn fawr, ond onid ydych, felly, yn difaru eich bod mewn gwirionedd wedi cefnogi targedau cymedrol iawn o ran newid rheoliadau o dan y Llywodraeth ddiwethaf, pan oedd eraill o’n plith yn dadlau dros gryfhau’r rheoliadau hynny?

Wel, rwyf bob amser wedi cefnogi rheoliadau cryfach a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle yma i gysylltu ein huchelgeisiau ar gyfer ein prentisiaid gyda’n hangen i adeiladu mwy o gartrefi. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o heriau i’w goresgyn, gan nad mater o gael y sgiliau at ei gilydd yn unig ydyw; mae hefyd yn ymwneud â’r ffaith fod yna fylchau gwybodaeth yn ogystal o ran sicrhau ein bod yn deall y dulliau dylunio newydd, y deunyddiau newydd a’r technolegau sy’n newid drwy’r amser mewn perthynas â chynhyrchu ac arbed ynni.

Felly, bydd angen cael dealltwriaeth ac arbenigedd ehangach wrth ddewis technolegau ynni isel a di-garbon, yn enwedig, yn dibynnu ar y nodweddion penodol dan sylw, ond rwy’n teimlo bod hwn yn gyfle cryf iawn i sicrhau bod ein polisïau caffael a’n polisïau sgiliau yn cydgysylltu â’r angen am gartrefi gweddus ar gyfer y dyfodol.

Bydd fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar yr angen am fwy o gynllunio sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru yn y sector adeiladu os ydym am sicrhau’r budd gorau posibl ar gyfer pobl Cymru o ran creu swyddi, defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol a buddsoddi mewn sgiliau, fel y gallwn ateb gofynion ein prosiectau seilwaith sydd ar y ffordd.

Mae pwysigrwydd cynllunio sgiliau’n effeithiol i lwyddiant darparu seilwaith yn parhau i gael ei amlygu fel un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r sector adeiladu a’r sector peirianneg yng Nghymru. Felly, er mwyn manteisio ar yr amgylchedd adeiladu sydd ar y cyfan yn gadarnhaol yng Nghymru ar hyn o bryd, rhaid i Lywodraeth Cymru a’r diwydiant weithio’n agos â’i gilydd i recriwtio pobl dalentog a hyfforddi’r gweithlu gan osgoi camgymharu sgiliau’n ddiangen ar yr un pryd wrth gwrs.

Ar gyfer cynllunio sgiliau, dylai arloesedd a chosteffeithiolrwydd fod yn ffactorau allweddol ar gyfer twf a diwygio yn y dyfodol. Mae partneriaeth agosach rhwng cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn hanfodol, wrth gwrs, yn ogystal â chysylltu gwybodaeth am y farchnad lafur â phartneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol. Yng Nghymru, mae gennym bartneriaethau sgiliau rhanbarthol sy’n dwyn ynghyd ystod o gyrff perthnasol i gydlynu a chynllunio ar gyfer datblygu sgiliau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw strwythur ffurfiol ar gyfer cydlynu eu gwaith ar lefel genedlaethol.

Yng nghynigion Plaid Cymru ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, roeddem yn galw am wneud cynllunio a rhagweld sgiliau yn rhan ganolog o gylch gwaith y comisiwn, a allai fod wedi darparu’r lefel honno o gydgysylltiad canolog. Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cytunodd Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru a Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru y dylai sgiliau’r sector adeiladu fod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn ac y dylai gynhyrchu cynllun seilwaith cenedlaethol ar gyfer sgiliau i ragweld gofynion ac osgoi bylchau yn y galw. Yn anffodus, gwrthododd Llywodraeth Cymru y syniad hwn, gan honni bod y strwythurau presennol yn briodol i ateb y galw yn y dyfodol. Mae’n debyg mai amser yn unig a ddengys a ydynt yn gywir ai peidio.

Mae ein cynnig heddiw yn galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu coleg adeiladu cenedlaethol i Gymru. Yn ôl ym mis Chwefror 2015, ddwy flynedd yn ôl bellach, dywedodd y Gweinidog sgiliau ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed iawn i gael coleg adeiladu ar y gweill cyn gynted ag y bo modd ac y byddai’n cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr. Fodd bynnag, hyd y gwn i, ychydig iawn sydd wedi digwydd ers hynny.

Felly, pam fod angen coleg adeiladu cenedlaethol ar gyfer Cymru? Dros y blynyddoedd, mae rhai prentisiaid wedi gorfod gadael Cymru i feithrin sgiliau adeiladu cydnabyddedig y diwydiant. Byddai’r coleg adeiladu cenedlaethol, fel endid strategol, yn sicrhau bod gan Gymru sgiliau cynhenid ar waith i ddiwallu anghenion y diwydiant ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, yn wir. Mae’r achos dros goleg adeiladu cenedlaethol wedi’i adeiladu o’r newydd yn seiliedig ar y model ar gyfer gweddill colegau adeiladu cenedlaethol y DU—i fodloni’r galw am gyrsiau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru. Byddai’n cynnig darpariaeth wedi’i theilwra’n well i anghenion y diwydiant yng Nghymru, gyda staff a chyfleusterau addysgu arbenigol a all helpu i godi proffil, ac atyniad y sector yn wir.

Gallai cyfleuster wedi’i adeiladu o’r newydd gynnig canolfan ragoriaeth bwrpasol gyda manteision sylweddol i ganiatáu, er enghraifft, ar gyfer cyfarpar ar raddfa fawr ac ymarfer realistig ar raddfa sy’n annhebygol o fod ar gael yn y ddarpariaeth bresennol, a galluogi cwmnïau adeiladu yng Nghymru i ddatblygu sylfaen ehangach o sgiliau er mwyn cystadlu’n effeithiol yng Nghymru, ac wrth gwrs, y tu allan i Gymru. Gallai cyfleuster o’r fath fod o fudd i sector adeiladu Cymru drwy ddod ag adnoddau ac offer datblygedig o fewn cyrraedd yn ariannol.

Ceir heriau sylweddol o’n blaenau os ydym am sicrhau bod gan y sector adeiladu yng Nghymru allu i gyflawni prosiectau seilwaith a’r prosiectau seilwaith yn y dyfodol y gwyddom eu bod ar y ffordd. Fodd bynnag, mae yna hefyd gyfleoedd sylweddol os rhoddir camau ar waith i ateb y galw hwnnw.

Rwy’n cydnabod bod camau wedi cael eu gwneud yn y blynyddoedd diwethaf, megis sefydlu canolfan arloesi adeiladu ar gyfer Cymru yn Abertawe sydd i agor ym mis Medi eleni. Fodd bynnag, mae angen endid strategol sy’n darparu os nad y cyfan, yna llawer mwy, yn sicr, o hyfforddiant y sector adeiladu sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Felly, neges allweddol o’r ddadl hon y prynhawn yma yw bod ymgysylltiad gwell â’r sector yn hanfodol bellach er mwyn blaengynllunio sgiliau’n well a sicrhau gwelliant hirdymor i’r ddarpariaeth hyfforddiant yn y sector adeiladu.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Onid yw’n wych ein bod bellach yn gallu cael y ddadl hon ac y bydd y canlyniadau mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth? Felly, hoffwn yn gyntaf ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw bwynt i ni drafod sut y gallwn wella caffael pe bai Plaid Cymru wedi cael eu ffordd ac wedi llwyddo yn eu hymdrechion i dwyllo’r cyhoedd i bleidleisio dros aros yn yr UE, gan na fyddai’r UE yn ein galluogi i reoli ein rheolau caffael ein hunain. Mae Plaid Cymru wedi gwneud llawer o hyn yn ddiweddar, cyflwyno dadleuon na fyddai’n golygu dim pe baem yn aros yn yr UE, ac eto ar yr un pryd maent yn dweud y bydd gadael yn drychineb. Nid yw’n dweud llawer am hyder y blaid yn eu cynigion eu hunain os ydynt yn honni, ar yr un pryd ag y maent yn eu cyflwyno, y byddem yn well ein byd pe na baem yn gallu eu gweithredu.

Mae gan y cynnig ei rinweddau, er hynny. Mae blaengynllunio sgiliau yn hanfodol, ac mae Llywodraethau yn gyson wedi methu gwneud hyn, a dyna pam y ceir prinder sgiliau adeiladu, nyrsys, meddygon ac yn y blaen ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gwneud synnwyr perffaith y dylai pobl a busnesau Cymru gael mynediad haws at gontractau yn y sector cyhoeddus. Rwy’n tybio mai dyna y maent yn ei olygu, ond er eglurder, hoffwn ofyn: a yw Plaid Cymru yn siarad am swyddi yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru pan soniant am fanteisio i’r eithaf ar effaith gymdeithasol ac economaidd adeiladu? Os ydynt, pam na ddywedant hynny? Nid yw’n ddim i fod â chywilydd ohono—mae’n un o’r pethau y pleidleisiodd y bobl sydd eisiau gadael yr UE drosto. Nid oes angen ei wisgo i fyny mewn geiriau corfforaethol ffansi, ond hefyd, peidiwch ag esgus nad yw’n rhywbeth yr oeddech yn dadlau yn ei erbyn pan oeddech yn ceisio darlunio UKIP fel plaid ymynysol.

Mae’n sicr yn wir y gallem wneud yn well o lawer o ran ymagwedd gydlynol tuag at gaffael, ond mae angen i ni hefyd fod yn ofalus nad ydym yn gwario cymaint o arian ar sicrhau ein bod yn cael elw cymdeithasol ac economaidd da am ein harian sector cyhoeddus fel bod y manteision yn cael eu colli oherwydd costau gweinyddol. Yn sicr ni ddylem fynd ar drywydd hen bolisi Llywodraeth Blair o ddyfeisio prosiectau a swyddi yn syml er mwyn gostwng lefelau’r ffigurau diweithdra—rhaid i unrhyw brosiect sy’n defnyddio arian cyhoeddus fod o fudd i Gymru yn ei hawl ei hun.

Rwy’n derbyn nad yw’r cynnig hwn yn ei gyfanrwydd yn ymwneud â gwario; ceir cyfeiriad perthnasol iawn at hyfforddiant. Rwy’n cytuno y dylid mynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau yng Nghymru, ac os oes prinder sgiliau canfyddadwy yn y sector adeiladu, a’i fod yn parhau, dylid helpu colegau i ddatblygu cyfadran a chyrsiau sy’n cyflwyno hyfforddiant o ansawdd. Fodd bynnag, rwy’n poeni y gallai coleg cyfan yn ymroddedig i adeiladu ar ryw adeg arwain at awydd i adeiladu sy’n cael ei ysgogi’n fwy gan ymdrech i gyfiawnhau bodolaeth y coleg na bod gwir angen adeiladu ychwanegol—sefyllfa lle y mae’r gynffon yn dechrau ysgwyd y ci. Mae coleg adeiladu cenedlaethol yn ddatblygiad sy’n swnio’n fawreddog iawn, ac a fydd heb os yn stori sy’n ennill penawdau i Blaid Cymru os ydynt yn ennill eu dadl, ond mewn gwirionedd, nid yw’n cynnig unrhyw beth nad oedd modd ei ddarparu drwy’r cyfryngau presennol.

Os ewch â chynnig at ddarpar gefnogwr, fel arfer disgwylir i chi ddweud faint o arian sydd ei angen arnoch ac yn achos adnoddau cyfyngedig, pa wasanaethau y disgwyliwch weld arian yn cael ei gymryd oddi wrthynt er mwyn talu am y syniad newydd hwn. Nid yw Plaid Cymru yn dweud pa wasanaethau y byddent yn eu torri i ariannu eu cynigion am eu bod yn gwybod na fyddant byth mewn sefyllfa lle y mae’n rhaid iddynt ateb y cwestiwn hwnnw. Y tymor Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru yn amlwg wedi mabwysiadu’r strategaeth o alw am brosiectau a allai fod yn ddrud—fe wyddoch fy mod yn iawn—gan wybod yn sicr na fydd byth yn rhaid iddynt eu cyflawni neu gael eu craffu yn eu cylch. Nid yw’r wleidyddiaeth ‘restr ddymuniadau’ anaeddfed hon yn datrys unrhyw broblemau ac mae’n camarwain y cyhoedd y gellir datrys ein holl broblemau heb ddargyfeirio cronfeydd presennol na chynyddu trethi. Diolch.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 17:14:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’r angen i gysoni polisi ac ymarfer caffael ag uchelgeisiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach Cymru wedi cael ei gydnabod ers tro byd, ac roedd yn ffocws arbennig i fy rhagflaenydd fel Gweinidog cyllid, Jane Hutt, ac mae’n helpu i esbonio’r twf o un flwyddyn i’r llall yng nghanran y gwariant caffael a gasglwyd gan fusnesau Cymru. Mewn adeiladu, ffocws penodol y ddadl hon, mae’r ffigur hwnnw bellach dros 70 y cant, a hyn oll, Dirprwy Lywydd, a ninnau’n dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd.

Nawr, mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant adeiladu medrus iawn, sydd wedi datblygu’n dda ac yn cael ei gefnogi, diwydiant sy’n gallu diwallu ein hanghenion seilwaith a hybu economi Cymru. Mae’r cysylltiad cynhenid rhwng caffael cyhoeddus a datblygu gweithlu adeiladu medrus yn glir, ac mae’n dda bod y ddadl hon yn tynnu sylw at y berthynas honno.

I am, of course, grateful to Sian Gwenllian for her comments in highlighting the role that women can play in this sector, and the opportunities and challenges that exist in attracting young women into the construction workforce in the future.

Gall y ffordd y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn caffael prosiectau seilwaith ac adeiladu effeithio’n sylweddol ar ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant da ar draws y sector, ac ar draws y ddau ryw yn ogystal.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, mae gwelededd cynlluniau’r dyfodol ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith yn rhoi’r hyder sydd ei angen arno i’r sector adeiladu fuddsoddi mewn sgiliau. Dyna pam, hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, yr oeddwn yn awyddus i ddarparu rhaglen gyfalaf bedair blynedd yn ystod ein cylch cyllidebol diweddaraf.

Yn fy marn i, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig heddiw nid oherwydd bod gwahaniaethau mawr rhwng ein huchelgeisiau, ond oherwydd ein bod yn credu ar y pwynt hwn fod set wahanol o gamau gweithredu yn debygol o fod yn fwy effeithiol ar gyfer cefnogi’r sector adeiladu, ac i elwa’n llawn ar bŵer prynu y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, nid ydym o’r farn mai dyma’r foment iawn i gyflwyno Bil caffael fel y mae’r cynnig yn ei ofyn. Efallai y bydd goblygiadau pellgyrhaeddol i bolisi caffael yn deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, er bod hynny’n bell o fod mor glir ag y byddai rhai yma am i chi ei gredu.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw, yn gwbl briodol, at ymrwymiad y Llywodraeth hon, fel y’i nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, er mwyn sicrhau bod yr holl amddiffyniadau mewn cyflogaeth, mewn rheoliadau amgylcheddol ac mewn hawliau defnyddwyr a fwynheir gennym o ganlyniad i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i gael eu darparu ar gyfer ein dinasyddion ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth yn galw am lefel o sicrwydd a fyddai’n anodd ei chyrraedd yn ystod y cyfnod o newid cyflym sydd o’n blaenau. Ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, credwn fod angen i ni adeiladu ar y tirlun polisi sydd gennym ar waith yma yng Nghymru—datganiad polisi caffael Cymru, y gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi—i wneud y gwahaniaeth yr ydym am ei weld o ran creu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant, mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, dileu cosbrestru a sicrhau’r gwerth gorau am y bunt gyhoeddus yng Nghymru.

Ac wrth gwrs, mae mwy o dir i’w ennill. Gwyddom o ganlyniadau ein rhaglen wirio ffitrwydd i gaffael fod gennym wahanol raddau o allu caffael ledled Cymru. Yn y sector llywodraeth leol, er enghraifft, mae rhai o’r cynghorau sy’n perfformio’n well ac sy’n cymhwyso’r polisi arloesi yn galluogi cyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru i ennill dros 70 y cant o’r gwariant. Mewn cynghorau gyda gallu caffael llai datblygedig, cedwir cyn lleied â 36 y cant o’r gwariant caffael yng Nghymru. Felly, os ydym yn mynd i wneud y gorau o werth caffael, rydym yn canolbwyntio ar dyfu gallu fel bod ein polisïau arloesol yn cael eu cymhwyso’n unffurf ar draws Cymru.

Mae’r achos dros goleg adeiladu cenedlaethol wedi cael sylw yn y cynnig, ac mae Llyr Huws Gruffydd wedi nodi’r rhesymau’n fedrus pam y byddai syniad o’r fath am aros yn rhan o dirwedd bosibl yn y dyfodol at ddibenion cynllunio sgiliau. Am y tro, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu a’r consortiwm a arweinir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fel y dywedodd Llyr, yn sefydlu Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru i gynnig cyfleusterau a hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gyfer unigolion a chwmnïau adeiladu. Bydd pencadlys y ganolfan arloesi yn Abertawe, ond bydd ganddi safleoedd hefyd mewn colegau ledled Cymru, gan gynnwys Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Cambria a Choleg y Cymoedd.

Lywydd, mae’n dir cyffredin rhwng y Llywodraeth a chynigydd y cynnig fod uchafu gwariant seilwaith cyfalaf yn ddull hanfodol o gefnogi economi Cymru yn gyffredinol, a’r diwydiant adeiladu yn arbennig. Yn erbyn y cefndir o setliadau heriol gan Lywodraeth y DU, byddaf yn ystyried pob dull sydd ar gael i gefnogi ein rhaglenni buddsoddi cyfalaf. Fy mlaenoriaeth gyntaf bob amser yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o bob ceiniog o gyfalaf confensiynol sydd ar gael, ac yna ystyried y ffordd orau i ddefnyddio dulliau eraill.

Bydd y Llywodraeth yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd a gyflwynir gan ein pwerau benthyca uniongyrchol newydd o 2019-20 ymlaen, sydd wedi cynyddu’n sylweddol o £500 miliwn i £1 biliwn. Rydym yn parhau i sicrhau bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd benthyca cost isel sydd ar gael iddynt, ochr yn ochr â harneisio modelau ariannu amgen, megis ein model buddsoddi cydfuddiannol yng Nghymru, a lansiwyd ar 23 Mawrth. Ac mae’n rhan o’n dymuniad i gael y math hwnnw o uchelgais ar gyfer ein dyfodol, fel y nododd Dai Lloyd wrth agor pan restrodd y prosiectau buddsoddi sylweddol sydd gennym—

in the pipeline at present,

[Yn parhau.]—ac sy’n rhoi hwb i’r economi a’r sector adeiladu ar draws Cymru.

Llywydd, siaradodd Mohammad Asghar am welliant y Ceidwadwyr, y bydd y Llywodraeth yn ei gefnogi, oherwydd bod datganiad polisi caffael Cymru eisoes wedi cael effaith bwerus drwy leihau’r rhwystrau i gaffael, ac rydym yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu i sicrhau manteision lleol. Mae wedi agor y drws i gyflenwyr llai o faint a mwy lleol. Mae bron i dri chwarter y contractau adeiladu mawr a ddyfernir ar GwerthwchiGymru bellach yn cael eu hennill gan gontractwyr cynhenid. Ac mae ein polisi budd i’r gymuned wedi ei gwneud yn bosibl i 83 y cant o’r £1.3 biliwn o fuddsoddiad a fesurwyd gael ei ailgylchu yma yng Nghymru.

Llywydd, hoffwn ddiolch i’r rhai a gynigiodd y cynnig. Mae’r ddadl wedi bod yn werthfawr yn y pwyntiau y mae wedi’u codi ac yn ein helpu i wneud yn siŵr fod yn rhaid i ni ganolbwyntio yn awr ar gynorthwyo cyrff cyhoeddus i ddatblygu eu gallu i ddefnyddio’r polisïau sydd gennym yma yng Nghymru a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn y ffordd orau.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser i grynhoi’r ddadl yma ac i drio dod â’r gwahanol awgrymiadau rydym ni wedi’u clywed gan y gwahanol siaradwyr at ei gilydd. A gaf i ddiolch i Mohammad Asghar am ei gyfraniad graenus, fel arfer? Mi fyddwn ni’n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, er ei fod, fwy neu lai, yn cefnogi’r un amcanion â ni, ond yn yr ysbryd yma o edrych yn gariadus ar ein gilydd, felly, ar draws fanna, pan fônt yn sylfaenol yn cytuno efo nifer sylweddol o beth rydym yn ei ddweud, rydym yn fodlon cefnogi hynny.

A allaf ddiolch yn fawr i Sian Gwenllian am ei chyfraniad arbennig am rôl merched yn y gweithle? Hoffwn fynd ar ôl trywydd pwysigrwydd cael mesurau yn eu lle, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n mynd ar ôl yr holl fusnes caffael yma mewn modd sydd yn gwella cyfleodd i bobl ac ehangu cyfleodd, a gwneud yn siŵr bod yna ryw fath o gydwybod cymdeithasol y tu ôl i’r penderfyniadau caffael yn y byd caffael cyhoeddus. Mae caffael, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato, yn cynnig cyfleoedd enfawr i ni, ond hefyd, rydym yn credu bod angen diwygio ei weithredu, yn aml, ar hyd y llinellau y gwnaeth Sian Gwenllian eu hawgrymu.

A allaf hefyd ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniad ynglŷn â chartrefi sero carbon a phethau tebyg? Diolch yn fawr iawn i Jenny am ei chyfraniad doeth yn fanna. A hefyd i Llyr, a wnaeth bwysleisio pwysigrwydd sgiliau yn hyn, a hefyd y coleg i hybu’r sgiliau hynny yn y sector diwydiant adeiladu. A allaf hefyd longyfarch Michelle Brown ar ei chyfraniad, er roeddwn i wedi drysu braidd yn ystod y cyfraniad, ond mae wastad yn hwyl cael gwrando ar gyfraniadau rhai Aelodau yn y Siambr yma?

A hefyd, yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford, a gaf hefyd eich llongyfarch chi ar eich cyfraniad? Mae’n amlwg bod yna gryn dipyn o gytundeb rhyngom ni fan hyn ar beth sydd angen ei wneud. Mae yna rai pethau sy’n ein dal ni yn ôl, yn naturiol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod economi Cymru ar hyn o bryd, ein cyfoeth ni, felly—. Mae 75 y cant o’r cyfoeth yna’n dod o’r sector gyhoeddus a dim ond 25 y cant yn dod o’r sector breifat. Mae caffael cyhoeddus, felly, o’r sector gyhoeddus, yn gallu bod yn arf bwysig i drio gwyro’r ffigurau yna fel bod y sector gyhoeddus yn gallu buddsoddi ac ariannu yn y sector breifat, a chodi honno i fyny fel arf. Felly, un sector yn helpu’r llall er mwyn cynyddu’r gweithredoedd sydd yn digwydd yma. Mae yna ddiwydiant adeiladu allan fanna sydd eisiau gweld rhagor o adeiladu, fel gwnes i grybwyll ar y dechrau. Mae yna ryw £40 biliwn o brosiectau yn y ‘pipeline’ felly, a dyna pam mae eisiau gwireddu’r breuddwydion yna, rhyddhau’r pres efo’r comisiwn isadeiledd rydym ni wastad yn sôn amdano fo—ein NICW ni, felly—ac mae eisiau rhyddhau’r pres a mynd amdani. Ond rhan allweddol o hynny ydy’r busnes caffael cyhoeddus yma, ac mae yna ffordd o wella ein system caffael. Rydw i’n tueddu i gredu ein bod ni i gyd yn sylfaenol yn credu bod angen ychydig bach o ddiwygio ac mi fuasem ni’n gallu gwneud yn llawer gwell ar hyd y llinellau roedd Sian Gwenllian yn eu hawgrymu.

Ni allwn gytuno efo gwelliannau’r Llywodraeth heddiw, mae gen i ofn, er yr ysbryd yna y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei farn y prynhawn yma. Pwrpas ein cynnig ni ar gyfer y ddadl heddiw oedd amlygu sut y gall gweithredu ar faterion gael effaith bositif iawn ar ddiwydiant adeiladu yma yng Nghymru. Mae yna bobl yn ein diwydiant adeiladu ni sydd eisiau gweld agor y llifddorau, achos fel dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn y maes caffael, er enghraifft, mae’r sector gyhoeddus yn gyfrifol am dros 75 y cant o holl wariant caffael adeiladu yng Nghymru. Felly, fe all gweithredu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a’r ymarferion a’r strategaethau caffael, gael effaith enfawr ar iechyd ein heconomi ni, a thrio gwneud rhywbeth ynglŷn â’r ‘split’ yna—y 75 y cant sector gyhoeddus a 25 y cant sector breifat. Mae’n wirioneddol angen codi y 25 y cant yna a chreu cyfoeth i’n gwlad.

Wrth gwrs, mae dadleuon y gwrthbleidiau yn aml yn gyfle i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn naturiol, ond maent hefyd yn gyfle i drafod pynciau a materion a all gael effaith uniongyrchol bositif ar fywydau ein dinasyddion. Dyna rydw i’n gobeithio rydym wedi trio cyflawni’r prynhawn yma, wrth i bobl edrych ar ein diwydiant adeiladu ni a’r system gaffael a’r angen i wneud yn siŵr, pan fydd cwmnïau yn cael cytundeb i adeiladu beth bynnag yw e, fod y cytundebau yna yn rhedeg yn llym, yn amserol—fel y dywedais i yn fy nghyfraniad i i ddechrau—a ddim yn gwastraffu pres, ond hefyd fod pobl yn cael eu talu yn brydlon, ar amser a ddim yn gorfod aros am fisoedd cyn cael eu talu gan beryglu eu holl fodolaeth fel cwmni, fel sy’n gallu digwydd yn awr efo rhai cytundebau adeiladu. Felly, ar ddiwedd y dydd, gobeithio gwnewch chi gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn i chi.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol, ac rydw i’n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6286 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru.

2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a’u cymunedau.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio’n agos â’r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy’n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Pwynt y cynnig heddiw yw cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus sylweddol ledled Cymru, ac i edrych ar ffyrdd y gall awdurdodau lleol gefnogi ein cymunedau lleol yn well ar gyfer y dyfodol. Nawr, rydym am weld llywodraeth leol gref ac effeithiol a fydd yn rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl leol a’u cymunedau. Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn frwd ynglŷn â chroesawu lleoliaeth er mwyn arloesi a diogelu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, ac mae yna nifer o ffyrdd y gall hyn ddigwydd.

Wrth gwrs, mae enghreifftiau o arloesi yn amlwg ar draws Cymru, er enghraifft cyflwynodd yr awdurdod a arweinir gan y Ceidwadwyr yn Sir Fynwy brosiect Rhaglan yn 2015, a oedd yn ailfodelu’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn. Mae hyn yn sicrhau y gall weithio gyda phobl sydd angen cymorth drwy ddarparu cymorth yn bennaf i bobl yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag y bo’n bosibl, gan hybu annibyniaeth, a lleddfu’r baich ar y GIG yng Nghymru sydd eisoes dan ormod o bwysau. Mae’r prosiect yn cynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia ac yn canolbwyntio ar ofalwyr sy’n cyflawni gweithgareddau ar ôl trafodaethau dyddiol gyda’r unigolyn a’r teulu, yn hytrach na gweithio ar gynlluniau sefydlog ac amseroedd gosod. Mae’r prosiect wedi datblygu cysylltiadau gyda’r gymuned, ac wedi cynorthwyo pobl i ailymgysylltu â ffrindiau, teulu a’r pentref yn ei gyfanrwydd. Dyma’n union y math o weithredu y mae angen i ni ei hyrwyddo a’i gyflwyno ar draws rhannau eraill o Gymru: gweithredu sy’n arloesol yn ei ddull o ddarparu gwasanaethau, a gweithredu sy’n mynd ati’n weithredol i ymgysylltu a gweithio gyda chymunedau lleol.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn parhau i hyrwyddo agenda hawliau cymunedol y credwn y byddai’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau a chynghorau, ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol i gynnwys cymunedau lleol yn well yn y broses o wneud penderfyniadau. Rydym yn credu bod cyflwyno’r pwerau cymunedol hyn yn ffordd gosteffeithiol o ganiatáu i grwpiau cymunedol gael llais ar gyfer herio a mynegi diddordeb mewn cyflawni gwasanaeth neu gymryd meddiant at amwynder cyhoeddus o bwysigrwydd lleol. Wrth gwrs, byddai agenda hawliau cymunedol yn cynnwys hawl cymuned i herio gwasanaethau cyngor, ond hefyd yr hawl i wneud cais am asedau cyngor, gan alluogi cymunedau a grwpiau lleol i gymryd meddiant ar asedau sy’n cael trafferth neu sy’n wynebu bygythiad o gau. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynlluniau cymdogaeth hefyd, gan gynnwys hawl gymunedol i adeiladu a chynlluniau datblygu cymdogaeth er mwyn galluogi cymunedau i gyflwyno datblygiadau bach a arweinir gan y gymuned, megis siopau, gwasanaethau neu dai fforddiadwy.

Yn y pen draw, rydym am wthio mwy o rym ac ymreolaeth tuag at ein cymunedau lleol a chyflawni datganoli go iawn sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau lleol. Rhaid i’n cymunedau gael y cyfleoedd gorau posibl i redeg eu gwasanaethau eu hunain yn eu hardaloedd eu hunain. Rhaid i ni rymuso ac annog awdurdodau lleol i ymgysylltu mwy gyda grwpiau cymunedol lleol ac annog mwy o gyfrifoldeb ar y cyd yn ein cymunedau.

Nawr, un o’r heriau allweddol i awdurdodau lleol yn y dyfodol, wrth gwrs, fydd diogelu neu gynnal gwasanaethau sy’n effeithio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn eu gwariant hefyd, ac nid yw hyn yn hawdd bob amser. Bydd yn her arbennig i awdurdodau gwledig lleol fel Sir Benfro yn fy etholaeth fy hun, a fydd yn parhau i gael trafferth i ddarparu ei lefel bresennol o wasanaethau, yn rhannol oherwydd ei daearyddiaeth ac oherwydd bod costau uwch ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Mae darparu gwasanaethau megis gwasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn, er enghraifft, yn gallu bod yn broblem dros ardaloedd daearyddol mawr a gwasgarog, yn ogystal â llawer o wasanaethau eraill, fel darparu ysgolion gwledig. Felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru o ddifrif yn cydnabod rhai o’r heriau y mae awdurdodau gwledig yn eu hwynebu, ac mae’n rhaid gwneud ymdrech i leddfu rhai o gostau anghymesur darparu gwasanaethau i gymunedau gwledig.

Yn wir, mae’n rhwystredig fod cynghorau ledled Cymru wedi wynebu gostyngiad o 7 y cant yn eu cyllideb ers 2013-14. Yn anffodus, unwaith eto, cynghorau gwledig sydd wedi wynebu’r gostyngiadau mwyaf, gyda Phowys, Sir Fynwy, a Cheredigion yn wynebu’r gostyngiadau cyffredinol mwyaf yn eu cyllid ar 11 y cant, 10 y cant, ac 9.82 y cant yn y drefn honno. Nawr, rwy’n derbyn yn llwyr fod yn rhaid gwneud penderfyniadau ariannol anodd—

Mewn munud. Nawr, rwy’n derbyn yn llwyr fod yn rhaid gwneud penderfyniadau ariannol anodd, ond mae dadl heddiw hefyd yn ymwneud â sicrhau bod yna fformiwla ariannu llywodraeth leol decach ar waith fel bod awdurdodau gwledig yn cael digon o gyllid i ddarparu eu gwasanaethau cyhoeddus lleol. Rwy’n derbyn bod cyllid gwaelodol wedi cael ei gyflwyno i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu rhai awdurdodau lleol gwledig. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod angen cynnal adolygiad llawn o’r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol, o ystyried bod mynegai amddifadedd lluosog Cymru wedi amlygu yn hanesyddol fod Powys a Cheredigion hefyd wedi cael eu cyfrif fel y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru o ran mynediad at wasanaethau lleol fel llyfrgelloedd, ysgolion a chanolfannau hamdden. Fodd bynnag, deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i adolygu’r fformiwla ariannu ac felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn manteisio ar y cyfle i egluro pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r adolygiad hwn, gan fod awdurdodau lleol gwledig yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Ildiaf i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe.

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am hynny. Rydych yn siarad am y newid, ond mae’r swm absoliwt o arian y mae awdurdodau gwledig yn ei gael yn sylweddol uwch na lleoedd fel Caerdydd ac Abertawe.

Rwy’n ofni na all yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe ddianc rhag y ffaith fod Powys, Sir Fynwy, a Cheredigion wedi wynebu’r gostyngiadau cyffredinol mwyaf yn eu cyllid ers 2013-14.

Nawr, mae trydydd pwynt ein cynnig yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan fusnesau bach yn gyrru economi Cymru, ac yn credu y dylai awdurdodau lleol weithio’n agos gyda’r gymuned fusnes. Mae busnesau bach Cymru yn rhan sylfaenol o’n cymunedau lleol sy’n darparu gwasanaethau pwysig a chyfleoedd gwaith i bobl ledled Cymru, a gallai, a dylai awdurdodau lleol wneud mwy i weithio gyda busnesau lleol.

Nawr, soniodd y ddadl flaenorol am gaffael, ac mae’n drueni mawr bod awdurdodau lleol Cymru yn gwario oddeutu 40 y cant o’u gwariant caffael ar gwmnïau o’r tu allan i Gymru, pan geir busnesau ledled Cymru a allai ddarparu’r un gwasanaethau. Er enghraifft, yn 2015-16, roedd 43 y cant o’r cwmnïau a ddefnyddiwyd gan Sir Gaerfyrddin i gyflenwi eu nwyddau a darparu gwasanaethau yn dod o’r tu allan i Gymru, ac yng Ngheredigion, mae’r ffigur yn 46 y cant.

Nawr, rwy’n derbyn bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwerth am arian i’r trethdalwr wrth ddarparu gwasanaethau, ac nid yw bob amser yn bosibl caffael busnesau lleol. Ond mae llawer mwy y gellir ei wneud i gefnogi busnesau lleol a chefnogi economïau lleol. Bydd yr Aelodau’n cofio’r gwaith a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2013 ar brosesau caffael llywodraeth leol, a oedd yn nodi bod pob £1 a werid gan awdurdod lleol a gymerodd ran gyda busnesau bach a chanolig lleol yn cynhyrchu 63c ychwanegol er budd ei economi leol, o’i gymharu â 40c yn unig a gynhyrchwyd gan gwmnïau lleol mwy o faint. Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb, felly, i weithio’n agosach gyda busnesau i gefnogi eu hardaloedd lleol eu hunain ac archwilio manteision darparu mwy o gontractau i fusnesau llai. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd fod yn ymatebol i anghenion busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac edrych ar ffyrdd y gall chwalu’r rhwystrau’n well i fusnesau bach allu ennill contractau yn y sector cyhoeddus. Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym yn ei ymateb pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i wneud hyn ac i annog awdurdodau lleol i fod yn fwy hyblyg yn eu hymagwedd at gaffael.

Wrth gwrs, mae’r manteision o weithio’n agosach gyda mwy o fusnesau lleol yn glir. Hefyd, gall busnesau lleol ddarparu prentisiaethau gwerthfawr a lleoliadau profiad gwaith, sy’n gallu gwella’r ddarpariaeth sgiliau yn ein cymunedau yn sylweddol. Gall mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau a busnesau lleol osod y sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes yn ein cymunedau a sicrhau bod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth sgiliau leol yn cael sylw gan y gymuned leol.

Wrth gloi, Llywydd, yn naturiol, mae gan gynghorau lleol ledled Cymru ran bwysig i’w chwarae yn darparu gwasanaethau ac rydym yn awyddus i weld partneriaeth a chydweithredu cryfach ar draws y sectorau yn ein cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn parhau i wynebu setliadau heriol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n hanfodol ein bod yn llyfnhau’r fformiwla gyllido er mwyn sicrhau ei bod mor deg ag y bo modd. Dyna pam ein bod am i’n cynghorau fod yn arloesol a gweithio’n agosach gyda grwpiau cymunedol a busnesau lleol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu darparu mor effeithiol â phosibl er budd cymunedau lleol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi awdurdodau lleol ac annog mwy o weithredu cymunedol a chyfranogiad yn y broses o redeg gwasanaethau lleol. Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch.

Rwyf wedi dethol y dau welliant i’r cynnig. Rydw i’n galw ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi pa mor bwysig yw rhannu arfer gorau ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni gwell canlyniadau o ran gwasanaethau cyhoeddus i etholwyr.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol i etholiadau lleol er mwyn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Llywydd. Rydw i’n cynnig gwelliannau 1 a 2, a gyhoeddwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Buaswn i’n leicio diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno cynnig sy’n cydnabod pwysigrwydd awdurdodau lleol ac, yn hynny o beth, sut mae democratiaeth leol yn cyfrannu tuag at wasanaethau cyhoeddus o safon.

Ychydig o eiriau am rai elfennau o’r cynnig gwreiddiol—mae pwynt 3 yn cyfeirio at gydnabod

y rhan bwysig sy’n cael ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru’

a sut y gall cydweithio agos rhwng busnesau ac awdurdodau lleol arwain at arloesi a thyfiant economaidd yn lleol. Yng Ngwynedd, er enghraifft, mae’r bartneriaeth rhwng y cyngor a Hwb Caernarfon ac ardal gwella busnes Bangor yn enghraifft wych o sut mae cydweithredu rhwng awdurdodau lleol a’r sector busnes lleol wedi helpu i ddod â mwy o fuddsoddiad a gwasanaethau newydd i’r ardaloedd hynny er budd y gymuned fusnes a’r gymuned yn ehangach. Mae’r cyngor hefyd yn helpu cwmnïau bychain lleol i gydweithio o ran cytundebau caffael cyhoeddus ac yn annog digwyddiadau fel ‘meet the buyer’ ac yn y blaen ar gyfer cwmnïau lleol. Mae gwelliant 1:

Yn nodi pwysigrwydd rhannu arfer gorau ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru’.

Mae yna sawl enghraifft o hynny yn sir Gâr, Gwynedd a Cheredigion, yn ogystal â chynghorau eraill.

Ond buaswn yn hoffi defnyddio fy nghyfraniad i heddiw yn benodol i sôn am welliant 2. Mae pwynt 2 y cynnig gwreiddiol:

Yn nodi y dylai llywodraeth leol gref ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a’u cymunedau.’

Rwy’n cytuno’n llwyr. Un ffordd amlwg o wneud hynny ydy cyflwyno system etholiadol decach, sy’n gwneud cynghorau yn fwy atebol ac yn fwy cynrychioladol o’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Yn etholiadau lleol 2012, dim ond 39 y cant wnaeth bleidleisio ac, yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, dim ond 45 y cant, a dyna oedd y gyfradd uchaf ers 1999. Mae yna lawer o resymau dros hyn, yn amlwg, ond un ohonyn nhw, yn sicr, ydy’r ffaith bod nifer o bobl yn gwrthod pleidleisio oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo bod eu pleidleisiau nhw’n cyfrif. Yn y system bresennol, fe all pleidiau sydd yn gorffen yn drydydd fynd yn eu blaen i ennill y rhan fwyaf o’r seddi.

Rydych yn dweud nad yw pobl yn pleidleisio gan na fydd eu pleidlais yn cael ei hystyried, ond mewn etholiadau Ewropeaidd ac etholiadau comisiynwyr yr heddlu y gwelwyd y ganran isaf yn pleidleisio—a’r ddau etholiad wedi’u cynnal o dan systemau cyfrannol.

Wel, mae’n amlwg fod yna rhesymau eraill, hefyd, i gyfrif, ond yn sicr mi fyddai cyflwyno pleidlais gyfrannol yn gwella pethau. Rydym ni wedi gweld y sefyllfa mewn cynghorau lleol yn yr Alban. Yn sicr, mae yna llawer iawn mwy wedi bod yn cymryd rhan yn yr etholiadau yna. Rydw i’n meddwl bod angen system etholiadol newydd er mwyn codi hyder pobl yn ôl mewn gwleidyddiaeth, ac yn ôl Papur Gwyn y Llywodraeth ar ddiwygio llywodraeth leol, mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i gyflwyno STV mewn etholiadau llywodraeth leol, ond bod hynny i fyny i’r cynghorau unigol ddewis a ydyn nhw am weithredu hyn ai pheidio. Ein polisi hirsefydlog ni ydy cyflwyno system STV, ond mi ddylai fo fod yn orfodol mewn etholiadau llywodraeth leol drwy Gymru gyfan. Mae hyn yn gallu golygu bod etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol, a bod cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu yn agosach at ddymuniadau’r boblogaeth, sydd felly yn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol, ac felly, yn y pen draw, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Felly, y cwestiwn ydy: a ydym ni am dderbyn annhegwch y broses bresennol? Ac, fel cenedl, os rydym ni wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna fe ddylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, bod pob pleidlais yn gyfartal. Nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau’r llywodraeth leol ar draws Cymru. Mae yna gyfle euraidd i wneud hynny rŵan, ond mae angen ei wneud o yn statudol i bob cyngor. Fel arall, nid ydw i’n meddwl y gwnaiff o ddigwydd. Weithiau, mae ystyriaethau ehangach am degwch a lles democratiaeth yn bwysicach na’r syniad o adael y penderfyniad i’r gwleidyddion lleol, ac efallai y byddai ei adael o i’r gwleidyddion lleol yn golygu eu bod nhw’n rhoi lles eu hunain gyntaf, a lles eu plaid nhw, cyn lles cyffredinol democratiaeth leol. Mae angen gwneud y newid cadarnhaol er budd democratiaeth yn ein cenedl. Rydw i’n gobeithio y cawn ni gefnogaeth i’r egwyddor hon drwy gefnogi ein gwelliannau ni yma heddiw. Diolch.

Er fy mod yn disgwyl, yn ystod y ddadl hon, y bydd pobl yn siarad am benderfyniadau cyllido a goblygiadau’r rheini, roeddwn eisiau bwrw golwg sydyn ar y bwlch rhwng yr angen i wneud penderfyniadau’n lleol a’r datgysylltiad rhwng dinasyddion a’r rhai y maent ar hyn o bryd yn dirprwyo’r penderfyniadau hynny iddynt. Oherwydd mae’n ymddangos yn rhyfeddol i mi ei bod yn llawer haws cael mynediad at eich Aelod Cynulliad, a hyd yn oed aelod o’r Llywodraeth, nag at eich cynghorydd, neu aelod cabinet y cyngor yn enwedig. Ac wrth gwrs, mae gennym gynghorwyr sydd â hanes rhagorol o fod ar gael i drigolion, o siarad â hwy, o weithio gyda hwy, a hyd yn oed o ddatrys eu problemau. Ond o ystyried y gwaith achos a ddaw drwy ddrws fy swyddfa yn sgil y canfyddiad nad yw cynghorydd lleol yn gwneud unrhyw beth, neu nad yw’n ymateb iddynt, mae hyn yn bell o fod yn brofiad cyffredinol.

Mae Aelodau’r Cynulliad, a’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd, yn ymwybodol iawn fod angen i ni gyfathrebu ein diben a’n gwaith fel unigolion a gwaith a phwrpas y sefydliad cyfan i Gymru—ac nid yw’n hawdd; gwelsom hynny. Ond rydym yn cydnabod nad cylchlythyr hunanlongyfarchol, datganiad i’r wasg, neu arolwg ar wefan ddyrys, yw’r ffordd i wneud hyn. A chyda chanran mor siomedig a chymaint o seddi diwrthwynebiad yn etholiadau diwethaf y cyngor, rwy’n meddwl bod rhaid i gynghorau ofyn iddynt eu hunain pam y mae cyn lleied o ddiddordeb gan y cyhoedd ynddynt, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni ofyn pam y maent i’w gweld yn ddigon bodlon â hynny.

Un o’r pethau a’m trawodd yn ystod fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad yw pa mor anaml y mae’r cyhoedd yn cwyno am benderfyniad lleol. Rwy’n derbyn bod cynnydd wedi bod yn nifer rhyfelwyr cadair freichiau’r cyfryngau cymdeithasol, ond rwy’n meddwl bod yna deimlad go iawn, a chanfyddiad go iawn, mai ychydig iawn o effaith y mae anghymeradwyaeth y cyhoedd yn ei chael ar brosesau penderfynu cynghorau. Nawr, fel Aelodau Cynulliad, wrth gwrs, rydym yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau y mae’r lle hwn yn eu gosod ar awdurdodau lleol mewn gwirionedd. Mae cynllunio, lleoedd ysgol, ailgylchu—hyd yn oed y Gymraeg—yn rhai o’r materion sy’n arwain at argymhellion gan awdurdodau lleol a all fod yn amhoblogaidd. Mae llawer o gynghorau, wrth gwrs, yn ddigon doeth i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ddeddfol, gan ddefnyddio proses fel tarian i amddiffyn eu hymateb dewisol i’r cyfrifoldebau hynny. Ond yn fy rhanbarth i yn unig, sef Gorllewin De Cymru, rwy’n meddwl am yr ymdrech sydd ei hangen mewn gwirionedd i gael awdurdodau lleol i edrych eto ar y ffordd y maent am geisio cyflawni amcan. Weithiau, fel yn achos ysgol Parkland, mae dadl solet wedi’i chyflwyno’n dda yn erbyn cynnig yn ddigon i atal camgymeriad gwirion. Weithiau mae’n cymryd ymgyrch gymunedol hirdymor ddi-baid, fel y gwelsom—sydd ei hangen i ddwyn perswâd ar y cyngor i ddadbedestreiddio rhannau o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft. Weithiau mae’n golygu mynd â phenderfyniad gwael gan gyngor at Lywodraeth Cymru a’u cael i newid canllawiau ar gyfer pob cyngor, fel y digwyddodd gydag ystyfnigrwydd Abertawe ynglŷn â mater llwybr diogel i’r ysgol. Weithiau, wrth gwrs, mae’n golygu mynd â chyngor i’r llys, fel gydag ysgol Llangeinwyr a’r ysgolion Catholig yn Abertawe, ar gost anferthol.

Daw rhan o’r parodrwydd hwn ar ran cabinetau cynghorau i eistedd yn ôl ac aros i’r helynt chwythu ei blwc, rwy’n meddwl, o hunanfoddhad a aned o reolaeth hirdymor plaid neu grŵp penodol ar gyngor. Mae craffu gan gynghorwyr y gwrthbleidiau, waeth pa mor dda y gallai fod, braidd yn ofer oni bai bod preswylwyr yn gwybod ei fod yn digwydd. Gallem wneud â llai o ffansîns cynghorau a ddosberthir ar gost y cyhoedd a thon o gynghorwyr y gwrthbleidiau i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a thagio’u gwasg leol i’r gwaith a wnânt. Fel arall, mae’r cylch hwn o hunanfoddhad ac ymddieithrio yn mynd i barhau i droi. Mae’r hunanfoddhad yn cynnwys y sylw y bydd y rhai sy’n achwyn, ar ôl ychydig, i gyd yn cael llond bol ac yn darganfod, wedi’r cyfan, mai’r cyngor oedd yn iawn o’r cychwyn.

Ond y peth yw, bydd cymaint o’r penderfyniadau yn rhai na fyddant yn iawn yn y pen draw. Rwyf am edrych ar Abertawe’n unig: bysiau plygu, Ffordd y Brenin angheuol, y rhodfa rodresgar, gosod concrit dros Erddi’r Castell a’i ailblannu yn awr, parcio yn nhŵr Meridian—roedd y cilfachau parcio yn rhy fach—Parc y Werin, gosod y peiriannau Nowcaster nad ydynt yn gweithio o hyd, gwerthu hawliau enwi Stadiwm Liberty am 4c, gwahardd bagiau bin o domen Garngoch a gorfod mynd â hwy yno’n awr wedi’r cyfan, ac wrth gwrs, prynu peiriannau didoli deunydd ailgylchu a methu eu defnyddio wedyn oherwydd eu rheoliadau cynllunio eu hunain.

Nawr, rhan o bwrpas lleoliaeth, yr hawl i wneud cais, yr hawl i herio, refferenda lleol, twf grwpiau preswylwyr a grwpiau cymunedol yn eistedd ochr yn ochr â’r cyngor, gyda dylanwad go iawn—nid dim ond y mwynhad o dicio blychau mewn ymgynghoriad ar y we—yw ymrwymiad: cydgyfrifoldeb. Nid cyfraith y dorf, ond dealltwriaeth o gydgynhyrchu a chreu llwybr newydd o gyfathrebu ynghylch heriau cymhleth a’r camau y mae’n ei gymryd i roi sylw iddynt a pham eu bod yn fater i bawb.

Nawr, byddwn wedi hoffi cael amser i siarad am bartneriaethau gyda busnesau. Mae’r ffaith fod grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol i’w gweld yn meddiannu’r diriogaeth gyfan ar gyfer cyllido cyfalaf cymunedol, heb estyn allan at fusnesau lleol, er enghraifft, yn gyfle a wastraffwyd, ond mae amser yn fy erbyn, felly rwyf am ei gadael gyda gwahoddiad i gynghorau beidio ag ofni eich preswylwyr ond eu cael i rannu’r baich.

A gaf fi ddweud ar y dechrau fy mod am ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn y credaf ei fod yn gynnig pellgyrhaeddol iawn, sy’n cwmpasu llawer o faterion pwysig? Nid wyf yn mynd i roi sylwadau ar welliant Plaid Cymru ar gynrychiolaeth gyfrannol heddiw, gan fod hwn yn destun ymgynghoriad drwy’r Papur Gwyn ar lywodraeth leol ar hyn o bryd, ac rwy’n tybio y dylem ganiatáu i’r broses honno ddilyn ei chwrs. Rwy’n siŵr y bydd digon o amser i drafod y mater hwn a’n gwahanol safbwyntiau ar gynrychiolaeth gyfrannol neu beidio yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ond rwy’n awyddus i fod ychydig yn fwy optimistaidd heddiw; felly rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ran 3 y cynnig, ynglŷn â rôl awdurdodau lleol yn cefnogi mwy o gydweithio, arloesi ac entrepreneuriaeth, ac i siarad ychydig am yr hyn sy’n digwydd yn fy etholaeth i, y credaf ei fod yn dangos sut y mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i sicrhau canlyniadau ar gyfer busnesau bach yn arbennig.

Llywydd, nid ar hap y mae Merthyr Tudful wedi dod yn brifddinas twf ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi chwarae rhan allweddol, gan weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau arloesol gyda chydweithrediad yn sail iddynt. Er enghraifft, mae Canolfan Fenter Merthyr Tudful, sy’n fenter ar y cyd gan y cyngor a chan Hyfforddiant Tudful, gan ddefnyddio cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, yn darparu canolfan yng nghanol y dref i ddarparu diwylliant entrepreneuraidd yn y dref ac mae’n dod â phartneriaid o’r sectorau preifat, academaidd, gwirfoddol a chyhoeddus at ei gilydd, gan gynnwys—yn hollbwysig—cyngor Merthyr.

Un o lwyddiannau penodol y ganolfan fenter yw’r rhaglen Defnydd yn y Cyfamser, sy’n ymgysylltu â landlordiaid i nodi eiddo gwag yng nghanol y dref y gellir eu defnyddio gan fusnesau sy’n cychwyn neu fusnesau sydd am ehangu neu arallgyfeirio yn ddi-rent am hyd at chwe mis. Mae’r cyfnod hwn yn rhoi cyfle i’w syniadau ffynnu cyn iddynt wneud y penderfyniad i symud i eiddo rhent masnachol. Mae’r trefniant hefyd o fudd i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eu heiddo fel arall, gan fod y rhent am y cyfnod hwnnw yn cael ei dalu gan y cyngor o dan y cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Ar hyn o bryd mae gan gyngor bwrdeistref Merthyr Tudful saith busnes yn elwa ar y cynllun hwn, ac mae’r ganolfan fenter hefyd yn darparu cyllid i helpu busnesau i ymsefydlu gyda grantiau o hyd at £5,000. Felly, yn ogystal ag arian wedi’i sianelu drwy’r awdurdod lleol o dan gynlluniau fel Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae’r cyngor hefyd yn gallu darparu dull cyfannol o ddatblygu menter drwy weithio gyda’r trydydd sector a sefydliadau academaidd i ddod â chyngor, arbenigedd a hyfforddiant at ei gilydd, a thrwy wneud hyn ar y cyd â chyngor a chymorth mewn perthynas â phrosesau awdurdod lleol—cynllunio a datblygu a chadwraeth, er enghraifft—gallant ddod â chymorth cofleidiol i fusnesau newydd.

Mae cyngor Merthyr hefyd wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru o dan y prosiect Effaith i ddarparu gwasanaethau datblygu busnes sydd wedi cynnwys cyngor, arweiniad, mentora, hyfforddiant a chymorth i fusnesau newydd, gan gysylltu â’r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau lleol. Dan y cynllun hwn, mae cyngor Merthyr wedi cynorthwyo 40 o fusnesau canol y dref, wedi creu 51 o swyddi ac wedi diogelu 151 o swyddi eraill.

Os cawn edrych yn fyr ar Glwb Pêl-droed Merthyr am eiliad. Roedd cyngor Merthyr Tudful yn bartner allweddol yn cefnogi datblygiad maes chwarae Parc Penydarren y clwb, unwaith eto gyda chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Gyda’r cymorth hwn, roedd y clwb pêl-droed yn gallu ymestyn adeilad y clwb i adeiladu ystafell ddigwyddiadau a all ddarparu ar gyfer hyd at 120 o westeion. Mae ganddo far chwaraeon, cegin fasnachol, ystafell TG a swyddfeydd gyda Wi-Fi drwyddynt. Mae bellach yn destun eiddigedd clybiau nad ydynt yn perthyn i’r Gynghrair Bêl-droed ledled y wlad. Ond yn bwysig, gan adeiladu ar ei athroniaeth gymunedol, mae’r clwb yn awr wedi datblygu i fod yn ganolfan fusnes o bwys, gan ddenu busnesau ym Merthyr i gymryd rhan yn y clwb, i ddefnyddio ei gyfleusterau o dan rwydwaith busnes Martyrs—a ‘Merthyron’, gyda llaw, yw llysenw Clwb Pêl-droed Merthyr. Mae’r rhwydwaith busnes yn galluogi entrepreneuriaid busnes lleol i ddod at ei gilydd i rannu syniadau, gwybodaeth, profiad ac atgyfeiriadau busnes. Dechreuodd flwyddyn yn ôl ac erbyn hyn mae ganddo 163 o aelodau. Yn gyffredin i rôl y cyfan rwyf newydd fod yn siarad amdano, mae’r cyngor lleol, nid yn unig o ran eu cefnogaeth ariannol drwy gynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ond drwy bartneriaeth uniongyrchol, gan ddarparu’r arweiniad cofleidiol a chymorth hwyluso gyda chefnogaeth partïon academaidd a’r trydydd sector.

I gloi, Llywydd, croesawaf y cynnig gan y Ceidwadwyr, ac yn arbennig gwelliant cyntaf Plaid Cymru fel y dywedais. Mae gan awdurdodau lleol ran hanfodol i’w chwarae yn cefnogi datblygiad busnesau ar gyfer cydweithio, arloesi ac entrepreneuriaeth, ac os oes unrhyw un yn dymuno edrych ar yr enghreifftiau o arfer gorau, gallaf gymeradwyo’r gwaith rhagorol yn y maes hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr dan arweiniad Llafur.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod gennym lywodraeth leol gref yng Nghymru, ac wrth gwrs mae gennym enghreifftiau gwych o awdurdodau lleol sy’n gweithio ar ran yr holl bobl sy’n byw yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, Cyngor Sir Fynwy yn arbennig. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau sylweddol wedi bod ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd etifeddiaeth y Llywodraeth Lafur flaenorol, ac mae hynny wedi creu heriau sylweddol i awdurdodau lleol o ran gwneud i bethau fynd ymhellach gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ganddynt. Ond rhaid i mi ddweud bod rhai o’n hawdurdodau lleol gwledig wedi cael trafferth arbennig i oresgyn yr heriau hyn oherwydd y fformiwla ariannu llywodraeth leol annheg sydd gennym yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei bod yn syndod i ni, felly, o ran pethau fel cau ysgolion, ein bod wedi gweld mwy o ysgolion yn cau mewn awdurdodau lleol gwledig nag mewn rhannau eraill o Gymru. Yn wir, ers 2006, caewyd 157 ysgol gynradd yng Nghymru, ac roedd 95 o’r rheini—60 y cant—mewn awdurdodau lleol gwledig. Felly, mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain.

Nawr, nid yw’n ymwneud yn unig â’n hysgolion. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiadau enfawr mewn gwasanaethau eraill. Ni sydd â’r anrhydedd mawr o fod yn un o’r gwledydd sy’n perfformio orau yn y byd ym maes ailgylchu, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n falch iawn ohono, ac mae llawer o berchnogion tai a busnesau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau’r canlyniadau trawiadol hynny. Ond rhaid i chi fynd â’r cyhoedd gyda chi pan fyddwch yn gwneud newidiadau sylweddol i’r trefniadau casglu gwastraff, a chredaf fod rhai awdurdodau lleol bellach yn dechrau camu’n rhy bell o ganlyniad i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu i leihau eu gwasanaethau casglu gwastraff. Edrychwch ar awdurdodau lleol fel Conwy, er enghraifft, ar hyn o bryd, lle y mae 10,000 o gartrefi ardal yr awdurdod lleol hwnnw bellach yn wynebu casgliadau bob pedair wythnos—sy’n hynod o amhoblogaidd, yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon, yn arwain at gynnydd mewn sbwriel, a gwneud i’r amgylchedd edrych yn anatyniadol, gyda pheryglon posibl i iechyd y cyhoedd yn gysylltiedig â phethau fel gwastraff clinigol a gwastraff anifeiliaid anwes ym miniau pobl am gyfnodau hir o amser. Gallwch weld bod y mathau hyn o bwysau ariannol, oherwydd elfen wledig annheg y fformiwla ariannu, yn arwain at broblemau go iawn yn rhai o’n hawdurdodau lleol.

Ceir gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau, ac un o’r pethau cadarnhaol sy’n digwydd yn fy etholaeth i yw’r ardal gwella busnes sydd gennym yn awr yn ardal Bae Colwyn, lle y mae gennych fusnesau’n gweithio i ychwanegu gwerth at y gwaith y mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i wella rhagolygon Bae Colwyn, gan weithio ar y cyd gyda’r siambr fasnach, gyda’r mudiadau gwirfoddol ym Mae Colwyn ac yn wir, gyda rhanddeiliaid eraill fel y cynghorau tref a chymuned sy’n cynrychioli’r ardal honno i gyflwyno gwelliannau go iawn yn y dref.

Mae’n ddyddiau cynnar; ar 1 Ebrill 2016 y cafodd yr ardal gwella busnes ei sefydlu, ond eisoes mae peth twf gwyrdd y credaf ei fod yn edrych yn addawol iawn ar gyfer dyfodol Bae Colwyn. Dyna un o’r pethau y credaf y bydd yn gyrru’r adfywiad sydd wedi digwydd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cydweithredu o’r fath yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o weld mwy ohono. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i’r ddadl heddiw, a allwch ddweud wrthym a oes unrhyw bethau mwy strategol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud er mwyn hyrwyddo’r math hwnnw o ymgysylltu cadarnhaol a chydweithio rhwng y busnesau yn ein cymunedau ledled Cymru, ac awdurdodau lleol yn wir, boed yn awdurdodau unedol neu’n wir yr awdurdodau llai hefyd.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi eu cynnig. Rydym ni, fel hwythau, yn cydnabod y rhan hanfodol a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth i’r cyfnod anodd hwn yn ariannol barhau, rhaid i gynghorau lleol ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn ffyrdd gwahanol. Mae trefnu drwy gontract allanol bellach yn dod yn un o ffeithiau bywyd i lawer o gynghorau. Gall trefnu drwy gontract allanol weithio, ond wrth gwrs, mae’n rhaid i gynghorau lleol ddal i sicrhau bod lefel dda o wasanaeth yn cael ei darparu i’r trigolion lleol. Dyma fydd un o’r prif heriau sy’n wynebu llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod.

Wrth gwrs, weithiau, gall gwasanaethau wella os rhoddir trefniant hyd braich ar waith. Gallai cynlluniau wedi’u rhedeg gan y gymuned, fel yr argymhellwyd heddiw gan Paul Davies, fod yn ateb mewn rhai achosion. Nodwn hefyd awydd cynnig y Ceidwadwyr i weld pŵer yn cael ei ddychwelyd i ddwylo pobl leol. Rydym hefyd yn gweld gwerth lleoliaeth yn UKIP ac mae gennym broblem gyda chynlluniau datblygu lleol honedig yn cael eu gwthio ar gymunedau lleol i bob pwrpas gan orchmynion cynllunio yn deillio o Lywodraeth ganolog.

Yn wir, rydym yn ffafrio refferenda lleol ar ddatblygiadau mawr lle y mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth leol yn gofyn am refferendwm o’r fath. Felly, ie, gadewch i ni roi pŵer yn ôl yn nwylo pobl leol a gadewch i ni wneud hynny mewn ffordd ystyrlon. Hefyd, dylai cynghorau lleol weithio’n agos gyda busnesau bach a dylai polisïau caffael y cyngor ffafrio busnesau bach a chanolig lleol cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, mae angen cydbwyso’r amcan hwn gyda’r angen i gael y fargen fwyaf effeithiol ar gyfer y rhai sy’n talu’r dreth gyngor.

Cydnabu Paul Davies yr angen hwn am gydbwysedd yn ei gyfraniad a dangosodd hefyd, yn ôl pob tebyg, fod cryn le i awdurdodau lleol a busnesau bach a chanolig gydweithio’n agosach. Byddem yn croesawu cydweithio o’r fath.

Rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Mae gennym ad-drefnu llywodraeth leol ar y ffordd, felly mae’n hanfodol ein bod yn rhannu arferion gorau ar draws yr awdurdodau lleol. Mae’n hanfodol fod y diwygiadau, pa ffurf bynnag a fydd arnynt yn y pen draw, yn sicrhau canlyniadau gwasanaethau cyhoeddus gwell i’r cyhoedd, neu o leiaf eu bod yn cynnal y lefel o wasanaethau cyhoeddus sydd gennym yn awr.

Mae ail welliant Plaid Cymru yn ymwneud â phleidleisio mewn etholiadau lleol. Rydym yn cefnogi dymuniad Plaid Cymru i weld cynghorau’n symud o system y cyntaf i’r felin at gynrychiolaeth gyfrannol er mwyn cryfhau atebolrwydd. Soniodd Mike Hedges am fater ymddangosiadol flinderus y ganran is a bleidleisiodd yn etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu a’r etholiadau Ewropeaidd. Fodd bynnag, credaf nad yw hyn yn deillio o’r system etholiadol a ddefnyddir, ond yn achos y comisiynwyr heddlu a throseddu, mae’n deillio yn hytrach o’r ffaith nad oes cefnogaeth gyhoeddus i’r swydd hon yn y lle cyntaf. Ac am Senedd Ewrop, ym marn llawer o bobl, mae’n amlwg, roedd yn ddeddfwrfa a chanddi cyn lleied o bŵer fel nad oedd yn werth pleidleisio drosti.

Felly, rydym yn cefnogi’r cynnig ac rydym yn cefnogi’r gwelliannau. Rydym yn cefnogi popeth, mewn gwirionedd—gwleidyddiaeth gonsensws. [Chwerthin.]

Ers i mi gael fy ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cefais fy nghalonogi wrth weld y gwerthfawrogiad cynyddol o’r lle hwn i’r rôl ganolog y mae llywodraeth leol yn ei chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru. Pan oeddwn yn gynghorydd am bron i dri thymor, nid oedd yn ymddangos bob amser fod y Siambr hon yn deall cymhlethdodau bywyd ar lawr gwlad mewn cyfnod o doriadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus a achoswyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.

Mae’n fraint fawr yn wir i wasanaethu fel cynghorydd sir neu gynghorydd cymuned. Mae gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn gyfrifoldeb sy’n ysbrydoli—yn wir, gall fod yn anodd rhoi’r gorau iddi, gan fy mod fel arfer yn eistedd drws nesaf at gynghorydd sir yn ystod pob Cyfarfod Llawn.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, i’w ganmol am newid y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn ddramatig. Mae pob perthynas iach yn seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr, y gallu i wrando ar ein gilydd a gweithio mewn partneriaeth, ond mae’r weledigaeth o bartneriaid darparu cadarn a chryf mewn llywodraeth leol yr un mor bwysig a theilwng heddiw a phob dydd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a’r rhai mwyaf agored i niwed yn aml yn ein cymdeithas.

Llywydd, bedair wythnos i yfory, bydd pobl Cymru yn mynd i bleidleisio i ethol eu cynghorwyr lleol ar draws 22 awdurdod lleol Cymru. Felly, os gwnaiff fy nghyd-Aelodau Cynulliad faddau i mi am fod yn bleidiol, fel y gwyddoch, pe baech yn fy nhorri, byddwn yn gwaedu gwaed coch Llafur Cymru. Ond mae’n dal yn wir: yn storm caledi, a achoswyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain, mae cynghorau Llafur Cymru wedi parhau i ddarparu ar gyfer ein pobl, ac nid i’r ychydig breintiedig yn unig.

Yn fy etholaeth Cynulliad o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r cyngor dan arweiniad Llafur Cymru wedi buddsoddi dros £210 miliwn yn safon ansawdd tai Cymru, gan ddarparu cartrefi gwirioneddol gynnes a diogel i filoedd o’r bobl leol sydd â’r angen mwyaf. Gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o wasanaeth ymroddedig arweinydd y cyngor, Keith Reynolds, a’i ragflaenydd, y cyn-gynghorydd Harry Andrews. Maent hwy a’u cydweithwyr Llafur ledled Cymru wedi gwneud popeth a allant i wella bywydau eu hetholwyr, hyd yn oed wrth i gyllidebau gael eu gwasgu fel nad oes modd eu hadnabod bellach o ganlyniad uniongyrchol i doriadau parhaus i grant bloc Cymru gan San Steffan. Er gwaethaf hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud buddsoddiadau mwy nag erioed mewn gwasanaethau llyfrgell modern, gan ateb y galw gan ddinasyddion, gyda threth gyngor Llafur Cymru yng Nghymru yn dal i fod yn is nag o dan y Torïaid yn Lloegr—yn wir, yng Nghaerffili 1 y cant yn unig yw’r cynnydd yn y dreth gyngor eleni.

Ym maes addysg, ar draws llywodraeth leol, rydym wedi gweld sut y mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Lafur Cymru ac awdurdodau lleol Cymru wedi darparu adeiladau ysgol newydd ar draws Cymru drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac nid oes yr un yn fwy godidog nag Ysgol Uwchradd Islwyn. Mae Cymru wedi gweld y canlyniadau TGAU gorau erioed ac rydym wedi cau’r bwlch â Lloegr, gyda’n disgyblion difreintiedig bellach yn dal i fyny â’u cyfoedion. Fel y cyfryw, rwy’n croesawu’n fawr y Papur Gwyn sy’n destun ymgynghoriad tan 11 Ebrill—canlyniad uniongyrchol trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill—wedi’i gyd-ddatblygu a’i gydbenderfynu’n adeiladol ar gyfer dyfodol cadarn. Byddwn yn rhybuddio bod yn rhaid i Islwyn roi blaenoriaeth i wella cofrestru pleidleiswyr a’r ganran sy’n pleidleisio mewn etholiadau dros gynnig sy’n bachu’r penawdau i newid systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol.

Yn yr un modd, rwy’n falch o’n cyflawniad yng Nghymru mewn perthynas â gwasanaethau ailgylchu—targedau uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer llywodraeth leol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Heddiw yng Nghymru, diolch i lywodraeth leol atebol, rydym yn awr ar y trywydd iawn i fod y wlad sy’n ailgylchu fwyaf yn Ewrop, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen.

Ond mae pobl Cymru am weld eu safon byw yn gwella. Ar 4 Mai, yr unig ffordd i sicrhau llywodraeth leol gref ac effeithiol yw pleidleisio dros Lafur Cymru.

Mae datblygu ar sail cryfder yn ymwneud â helpu pobl—[Torri ar draws.]

Ni allaf glywed Mark Isherwood, yn bennaf am fod ei gyd-Aelodau Cynulliad yn ei grŵp ei hun yn gweiddi cymaint. Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Mae datblygu sy’n seiliedig ar gryfder yn ymwneud â helpu pobl a chymunedau i nodi’r cryfderau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial. Gan gymhwyso’r dull hwn, mae’r chwyldroadwyr cydgynhyrchu yn Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn mabwysiadu arferion gorau rhyngwladol, gan weithio tuag at ymagwedd sy’n galluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas gyfartal i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol a pherthnasol. Mae hyn yn ymwneud â datgloi cryfderau cymunedol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol.

Yn anffodus, fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn amharod i weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai’n helpu i ymgysylltu â’r gymuned a darparu gwasanaethau’n fwy effeithlon ac effeithiol. Ar y cyfan, cafwyd ymagwedd o’r brig i lawr tuag at ymgysylltu â’r gymuned yng Nghymru, gydag adnoddau a chanllawiau i awdurdodau lleol yn cael eu cynhyrchu gan y Llywodraeth ganolog. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ganolog, ‘Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau’, sy’n cynnwys cyfranogiad cymunedau, defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau yn y broses o ddiffinio problemau cymunedol a dylunio a chyflwyno dulliau newydd, ond heb unrhyw bwerau ar lawr gwlad i gymunedau.

Er bod rhai pwerau ymyrryd lleol yng Nghymru, nid oes rhaid i awdurdodau lleol gyflawni trosglwyddiadau asedau cymunedol ar hyn o bryd ac nid oes cofrestri i ddangos pa asedau awdurdodau lleol sydd o dan fygythiad, yn wahanol i’r hyn a geir dros y ffin. Ar ben hynny, dangosai canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu asedau cymunedol yn 2015 fod 78 y cant o’r ymatebwyr yn croesawu pŵer i gychwyn trosglwyddo asedau gan gyrff sector cyhoeddus, gan gefnogi i bob pwrpas hawl y gymuned i wneud cais, sydd ar goll yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i gynllun peilot Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent ar gyfer swyddog trosglwyddo asedau cymunedol—da—i helpu grwpiau yng Ngwent i wneud ceisiadau am asedau cymunedol—gwych—ond nid yw’n glir eto a yw wedi bod yn llwyddiant. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ym mis Tachwedd 2016 fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau â’r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn ynglŷn â dyfodol tafarndai Cymru. Mae hynny’n swnio’n ddiddorol iawn; rwy’n meddwl y byddwn innau wedi mwynhau’r trafodaethau hynny hefyd. Fodd bynnag, rydym eto i weld canlyniadau’r trafodaethau. Y llynedd, dywedodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint wrthyf y byddai toriadau Llywodraeth Cymru i gynghorau gwirfoddol lleol yn dinistrio eu gallu i gefnogi mwy o wasanaethau ataliol a chosteffeithiol dan arweiniad defnyddwyr. Mewn geiriau eraill, drwy wario arian yn fwy craff, gallem ddiogelu’r gwasanaethau hyn drwy weithio’n wahanol. A dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru a’r sector adfywio mecanweithiau ymgysylltu presennol, a datblygu, hyrwyddo a monitro rhaglen ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar gydgynhyrchu a thir cyffredin, gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r trydydd sector yn gweithio’n llawer mwy dychmygus er mwyn datblygu gwasanaethau gwell yn nes at bobl, yn fwy ymatebol i anghenion ac yn ychwanegu gwerth drwy bwyso ar adnoddau cymunedol.

Mae Oxfam Cymru wedi galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth a ddarparir yng Nghymru, gan helpu pobl i adnabod eu cryfderau eu hunain, er mwyn mynd i’r afael â phroblemau sylfaenol sy’n eu hatal hwy a’u cymunedau rhag cyrraedd eu potensial.

Bum mlynedd yn ôl, gwrthododd y Gweinidog presennol adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cymunedau yn Gyntaf: Ffordd Ymlaen’, a ganfu y dylai cyfranogiad y gymuned yn y broses o gydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen arweiniol olynol ar drechu tlodi. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl gwario £0.5 biliwn ar raglen Cymunedau yn Gyntaf, mae’r un Gweinidog bellach wedi dweud ei fod yn diddymu’r rhaglen yn raddol, ar ôl methu gostwng prif gyfraddau tlodi neu gynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru. Fel y dywed Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau’n cael eu gosod arnynt, ni fydd y polisïau hynny’n gweithio, a dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfarwyddo o’r brig i lawr.

Gadewch inni edrych ar gydgynhyrchu ardal leol yn Derby—sy’n cefnogi trigolion a chymunedau, gan ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu rhywbeth mwy o faint a mwy cynaliadwy, ac adeiladu ar yr un model llwyddiannus ag sydd ar waith yn Awstralia. Mae gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby, a oedd yn gweithio gyda 50 o bobl yn unig, wedi canfod arbedion o £800,000 i’r economi iechyd a gofal cymdeithasol, ac wedi gweld bod cyflwyno cydlynwyr ardal lleol wedi meithrin perthynas rhwng pobl, wedi sefydlu ymddiriedaeth, wedi gweithio gyda chryfderau a dyheadau pobl ac adeiladu cysylltiadau gydag aelodau teuluol a dinasyddion eraill i greu atebion ar gyfer y cymunedau hynny. Argyhoeddodd hyn yr awdurdod lleol a’r GIG yno i fuddsoddi ac ehangu i bob un o’r 17 ward cyngor. Pe bai Llywodraeth Cymru ond yn gwrando. Gallent ddefnyddio cyllid yn well, gwella bywydau, a helpu gwasanaethau cyhoeddus, felly, i arbed arian. Felly, fy nghwestiwn i holl Aelodau’r Cynulliad yw: a wnewch chi ymuno â’r chwyldro, camu i fyny a chydgynhyrchu’r Gymru rydym ei heisiau?

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 18:10:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Wel, diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma.

As we move towards local government elections on 4 May and our Easter recess, in an ecumenical spirit of inclusivity, the Government will support the motion this afternoon.

Of course, political parties here will have sharply different ideas to put before the electorate, but our shared understanding of the significance of local councils as providers of key services, key players in creating local economies and essential links in the democratic chain, is not a bad place to start. Having said that, Llywydd, I have looked several times this afternoon at the motion, trying to find a reference in it to a funding formula, let alone a call in it for the funding formula to be reformed, to move funding away from areas represented by many of the movers’ colleagues.

So, let me just be clear. Successive Welsh Governments, including this Government, have acted to protect local authorities and their services here in Wales from the cuts imposed upon us and from the treatment that has been provided to local authorities across our border in England. The funding formula we use in Wales is an objective formula. It is driven primarily by numbers of people who live in an area, the number of pupils in schools, and by expert advice in relation to the costs of meeting deprivation, rurality and particular services. It is why Labour leaders on the finance sub-group voted this year to implement changes to the social services formula, which has moved money out of urban areas and into rural areas in Wales, because they recognise that if you rely on objective advice, you have to take that advice whether it happens to advantage your own area or not. In that way, we have a formula that, year in and year out, we review, we revise and it stands up to scrutiny.

For this Welsh Government, Llywydd, local authorities are there to support individuals, families and communities when they need help, but also to deliver services that make it possible for people to live their own lives in the way that they would wish to live them—families who look to schools to provide the best start in life for children, the safe collection and disposal of waste, the maintenance of pavements and roads and the provision of services to elderly people in their own homes in some of the most vulnerable circumstances in our communities. Local authorities across Wales sustain hundreds of services through thousands of organisations, to millions of Welsh people by the investment of billions of pounds. The motion is absolutely right to begin by recognising their significance.

Despite very real challenges, local government in Wales has been improving and it has been improving even in a period of very real austerity. But real challenges remain in and for local government. There is more to be done in achieving greater consistency and excellence while, at the same time, we know that there is going to be less money for public services. Reform is essential if local authorities are to be financially resilient and able to maintain and improve the quality of services during this extraordinary period of retrenchment. And while reform of the way we do things is a necessity, at the heart of the White Paper published on 31 January is a new relationship between the citizen and the local services, in which those who use those services are treated as equal partners in the business of improvement.

Of course, Llywydd, I didn’t agree with everything that Paul Davies had to suggest, but he will know that I did spend a whole afternoon out with front-line workers running the Raglan project, and a very good afternoon it was, seeing an innovative project shifting power to those front-line workers in genuinely trust-based relationships with their users. The public participation strategies, which the White Paper proposes, are designed to be a dialogue in which strengths and assets are identified, and collective action taken to solve common problems. As the second part of the motion puts it: a strong local government sharing power and responsibility with its local population. And local government does depend crucially on the calibre of the people who are elected to represent others. Suzy Davies pointed to the need to continue to drive up the calibre of people who come into local government, to make that job worth while for them to do, to make sure that they discharge those responsibilities in a way that matches the obligations that have been put on them. The detail of the White Paper makes it clear that creating a strong local government depends upon active, engaged and accessible local councillors, and strengthens both the significance of the local representatives, and the obligations placed upon them.

Llywydd, could I for a moment pick up a point that Rhianon Passmore made, where she paid tribute to Keith Reynolds, the retiring leader of Caerphilly County Borough Council? Right across Wales there are leaders from different political parties who have decided that they will not seek leadership of their councils after the election, and I want to pay tribute to them all. To be a leader of a council at any time, but particularly at this time, takes political courage and it takes personal resilience and resolve, and right form the very far north-west to the very south-east corner of Wales we have people who have discharged those responsibilities, who have provided a service to their local communities, who won’t be there after 4 May, and I don’t think it’s a bad idea for us today to recognise the contribution that they have made. [Assembly Members: ‘Hear, hear.’]

Llywydd, let me say something now about the third aspect of today’s motion. The Government recognises the role of small businesses and business support, to make it available to entrepreneurs, micro, small and medium-sized businesses across Wales, and we do so through our Business Wales service. Conservative-controlled Monmouthshire, independent-led Powys, and Plaid Cymru-controlled Ceredigion all use Business Wales as their full service, while Labour-controlled Neath Port Talbot are working with Business Wales to provide a collaborative response to the Tata supply chain. I recognised in the last debate that there is variation in procurement performance across different local authorities, but it’s been heartening this afternoon to hear a range of real, live examples where local authorities are using the powers and the resources that they have to engage with local businesses to create the economies of the future. Sian Gwenllian provided a direct example of successful action in the north-west of Wales; Dawn Bowden told us that Merthyr is the growth capital of Wales; and Darren Millar set out the early signs of renaissance in Colwyn Bay—all places where local authorities are aligned with their local populations to bring about improvement.

Llywydd, we don’t underestimate the steps that need to be taken so that local authorities right across Wales are able to go on providing services, working with local populations, working with local businesses, to create the services that we need. But as we go into the election, I’m sure that we will wish all those people who have put themselves forward for election a successful engagement in the democratic process so that we have vibrant, vital, successful local authorities able to go on doing those very important jobs here in Wales.

Diolch i chi, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae’n ffaith fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn amlwg o dan bwysau cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn gwybod hynny, maent hwy’n gwybod hynny, nid oes modd ei wadu, beth bynnag yw eich barn am y rhesymau drosto. Fel y dywedodd Paul Davies wrth agor, mae angen arloesedd mewn llywodraeth leol, ac mae angen gweithredu ac nid geiriau’n unig. Mae arnom angen dull o weithredu o’r gwaelod i fyny sy’n ymgysylltu go iawn â chymunedau lleol. Fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud, bydd costau rhedeg cynghorau yn cynyddu £750 miliwn erbyn 2019-20. Felly, nid yw’n eithriadol o ddyrys. Mae angen i ni wneud pethau’n wahanol, mae angen arloesi ac mae angen i ni ddysgu o arferion gorau.

Mae fy nghyngor hun yn Sir Fynwy, a grybwyllwyd gan nifer o siaradwyr, ac a arweinir gan Peter Fox, wedi creu argraff yn y maes hwn—[Torri ar draws.] OBE, yn wir. Mewn sawl ffordd, mae Sir Fynwy wedi cael ei gorfodi i arloesi, ond mae wedi gweithio. Mae’n gwneud mwy gyda llai nag erioed o’r blaen, ac mae ffrwyth hynny yno i bawb ei weld. Mae Sir Fynwy wedi cyflawni hyn drwy gydweithio’n agos â busnesau, drwy gael wythnosau arloesol fel Wythnos Back2Business, i adeiladu cysylltiadau cryf gyda busnesau lleol a chwmnïau lleol, fel bod y cwmnïau hynny’n gwybod ble i ddod o hyd i gymorth pan fyddant fwyaf o’i angen.

Yn wir, siaradodd Dawn Bowden, mewn araith angerddol, am yr angen i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng cynghorau a busnesau. Fe sonioch am yr angen i’r economi leol fod yn ddigon cynhyrchiol i ddarparu’r cyllid ar gyfer yr economi leol, i’r cyngor gael yr arian i’w wario ar wasanaethau. Ac oes, mae llawer o awdurdodau yng Nghymru yn ddibynnol ar arian o’r canol—byddech yn disgwyl hynny mewn gwlad fel Cymru, gyda’r math o hanes sydd gennym—ond nid yw hynny’n dweud na ddylem geisio adeiladu sylfaen economaidd yr ardaloedd hyn er mwyn sicrhau, dros amser, gobeithio, y gallant ddod yn fwy hunangynhaliol, yn fwy annibynnol, yn fwy hyderus a chael mwy o arian i’w roi’n ôl i mewn i’r economïau lleol hynny. Bydd hynny’n gwella nid yn unig economïau’r ardaloedd hynny, ond hunan-barch yr ardaloedd hynny hefyd ac wrth symud tua’r dyfodol, y ffordd y maent yn edrych tuag allan ar weddill y byd.

Soniais am gyfraniad Dawn Bowden, os caf fi droi at rai o’r cyfraniadau eraill y mae siaradwyr wedi’u gwneud, a Suzy Davies, fe siaradoch yn helaeth am fod yn agored a thryloyw. Fe ddywedoch fod llawer o ymddieithrio rhag awdurdodau lleol, ac rydych yn hollol iawn i ofyn pam. Llywodraeth leol yw’r lefel fwyaf hygyrch o lywodraeth mewn gwirionedd, neu fe ddylai fod, gan mai hi sydd agosaf at bobl, ond yn rhy aml, mae ein hetholwyr yn ei chael yn haws dod atom ni yn y Siambr hon, neu i fynd i San Steffan—pa lefel bynnag y bo. Nid ydynt yn mynd yn awtomatig at eu hawdurdod lleol. Yn aml, mae’n deillio o sinigiaeth a grëwyd oherwydd y diffyg gweithredu a welsant yn y gorffennol wrth ddod â materion i sylw eu hawdurdodau lleol.

Felly, rwy’n meddwl bod angen i ni weld ysbryd newydd yn ein hawdurdodau lleol. Mae gennym yr etholiadau lleol ar y ffordd lle y gallwn gael cynghorwyr lleol sydd o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau eu hetholwyr. Efallai fod yn rhaid iddynt fod yn onest gyda hwy weithiau a dweud nad yw pethau’n bosibl—mae hynny’n rhan o fod mewn bywyd democrataidd—ond mae honno’n drafodaeth sy’n rhaid ei chael er mwyn ennyn yr hyder yr ydym am ei weld.

Roedd Darren Millar yn iawn i ddychwelyd at fater blinderus y fformiwla ariannu llywodraeth leol. Rwy’n derbyn sylw Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn ganolog i’r cynnig, ond os ceisiwch edrych ar y mater hwn ar wahân i’r fformiwla ariannu, bydd popeth arall yn disgyn, oherwydd heb y cyllid hwnnw, heb y tegwch hwnnw, heb yr olwg newydd honno ar y fformiwla ariannu, rwy’n credu, yn y blynyddoedd i ddod, ein bod yn mynd i’w chael yn anodd iawn cynnal gwasanaethau cyhoeddus ar y lefel leol y byddem yn hoffi ei gweld. Gwn yn iawn o fy amser fel cynghorydd sir fod y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn fwystfil cymhleth iawn. Nid ydych yn mynd i newid y fformiwla ar chwarae bach. Mewn gwirionedd, i’r rhai sy’n deall y fformiwla, mae’n amrywiaeth o fformiwlâu gyda’r holl gysylltiadau sydd wedi datblygu dros amser. Ond nid yw hynny’n dweud na ddylem geisio, na ddylem ddechrau ar y broses o’i gwneud yn decach.

Rwy’n edrych draw ar Blaid Lafur Cymru, y blaid sydd wedi datgan dros gymaint o flynyddoedd mai hi yw plaid tegwch, y blaid ar gyfer Cymru a phlaid lleoliaeth yng Nghymru. Wel, gadewch i mi ddweud wrthych, nid yw’r fformiwla ariannu hon yn deg. Felly, os nad yw’n deg, awgrymaf eich bod yn mynd yn ôl i’r cychwyn, yn rhoi’r egwyddorion ar eich gair a’n bod yn edrych ar ddatblygu system newydd wrth inni symud ymlaen.

Os caf droi at Rhianon Passmore—ni wnaethoch adael i mi ymyrryd, sy’n ddoeth mae’n siŵr. I fod yn deg, Rhianon, nid oeddech lawn mor bleidiol ag y buoch mewn rhai areithiau. Gwnaethoch rai pwyntiau da iawn, mewn gwirionedd, ond fe aethoch â ni’n ôl i gyfnod caledi, sydd mor gyffredin mewn dadleuon yn y Siambr hon, a byddwn yn eich atgoffa—ni wnaethoch adael i mi wneud ar y pryd—fod y cyfnod hwnnw o galedi wedi dilyn y cyfnod o wariant afradlon a benthyca afradlon a dyled gynyddol nad yw’r Blaid Lafur yn awr yn dymuno i ni eu hatgoffa yn ei gylch. A wyddoch chi beth? Pe bai Rhianon Passmore ac efallai Mark Drakeford wedi bod yn rhedeg Llywodraeth y DU yn ôl yn y 2000au cynnar, efallai na fyddem yn y llanast hwn. Yn anffodus, nid oeddech, Rhianon. Byddwn wedi eich cefnogi yn ôl pob tebyg. Felly, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ac mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Fe gymeraf ymyriad.

Faint o gynnydd a fu yn y ddyled gyhoeddus o dan y Ceidwadwyr?

Llawer llai na phan aeth i fyny o dan y Blaid Lafur. Mae’n cymryd amser hir i droi tancer enfawr yn ei gylch. Rydym wedi dechrau o leiaf. Yn anffodus, ni wnaeth eich plaid yn San Steffan hynny.

Rwy’n sylweddoli nad oes gennyf amser ar ôl, Llywydd, felly i gloi’r ddadl amhleidiol a diduedd hon—neu o leiaf fe ddechreuodd felly—rwy’n hapus i ymuno â chi, Mark Isherwood, yn eich chwyldro ac ar eich taith i edrych ar gydgynhyrchu a thafarndai Cymru. Mae’n swnio’n llawer o hwyl. Felly, gyda’n gilydd gallwn ymchwilio ffyrdd o hybu economïau lleol. Yn y pen draw, roedd gan bawb yn y Siambr hon rywbeth da i’w ddweud yn y ddadl hon. Gadewch i ni ganolbwyntio ar y cadarnhaol. Rydym i gyd yn awyddus i gyrraedd yr un sefyllfa. [Torri ar draws.] Ie, Alun Davies, gadewch i ni ganolbwyntio ar y cadarnhaol. Rydym i gyd yn awyddus i gyrraedd yr un man yn y pen draw: rydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus sy’n cyflawni’n briodol ar gyfer pobl yn eu hardaloedd lleol. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd lle y bo modd i geisio datblygu system well yn ariannol, yn economaidd ac yn wir, yn ddemocrataidd yn lleol. Gall y dyfodol fod yn ddisglair, os estynnwn amdano, gadewch i ni ddechrau yn awr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 10. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio a’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Simon Thomas. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, 12 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 34, Yn erbyn 0, Ymatal 12.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6227.

Y bleidlais nesaf yw’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar adeiladu a chaffael yn y sector gyhoeddus, ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 12, Yn erbyn 35, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6268.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae’r gwelliant, felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 26, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6268.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 46, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6268.

Rydw i’n galw nawr, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cynnig NDM6268 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt.

2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i’r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.

5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a’r cyfleoedd caffael sylweddol sy’n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru’r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau’r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, 17 yn ymatal, pedwar yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6268 fel y’i diwygiwyd: O blaid 27, Yn erbyn 4, Ymatal 17.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6268 fel y’i diwygiwyd.

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol ac rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Mae’r cynnig, felly, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 40, Yn erbyn 8, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6286.

11. 11. Dadl Fer: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

A dyma ni’n troi at y ddadl fer, yr eitem nesaf ar ein hagenda ni.

Os gwnaiff Aelodau adael yn dawel am y Pasg, cyn i fi alw ar Mike Hedges i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Diolch. Rwyf wedi rhoi munud o’r ddadl hon i Suzy Davies a munud arall i Simon Thomas. Yn 2013, creodd Llywodraeth Cymru ddinas-ranbarth Bae Abertawe i gynnwys mwy o bartneriaid yn y gwaith o wella’r economi ranbarthol. Gweithiodd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyda’i gilydd ar fwrdd dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae’r bwrdd wedi mabwysiadu strategaeth economaidd dinas-ranbarth i nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer gwella perfformiad economaidd y dinas-ranbarth. Pan osodir unrhyw ffiniau, ceir dau gwestiwn bob amser: a ddylai fod yn fwy, neu a ddylai fod yn llai? Gan fod angen cynnwys ardaloedd cynghorau cyfan, y tri chyngor nesaf at y ffiniau rhanbarthol yw Powys, sy’n ymestyn bron at y ffin â Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n rhan o ddinas-ranbarth Caerdydd, a Cheredigion, y byddwn yn dadlau ei bod yn economaidd ac yn ddiwylliannol yn debycach i Wynedd nag ydyw i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Llanelli, a Dyffryn Aman yn un endid economaidd i bob pwrpas: edrychwch ar symudiad y traffig yn y bore a gyda’r nos. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddo gynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin. Y cwestiwn yn awr yw a ddylai Sir Benfro fod yn rhan o’r ardal? Byddwn yn dadlau bod ganddi ardal ddiwydiannol yn y de, ac mae ei chysylltiad agos â Sir Gaerfyrddin yn golygu ei bod yn cydweddu’n well ag ardal bae Abertawe nag unrhyw ardal yng nghanolbarth neu ogledd Cymru yn y dyfodol. Un o’r problemau yw bod ardaloedd sy’n rhan o ardal deithio i’r gwaith Abertawe-Castell-nedd Port Talbot, megis rhan ddeheuol Powys o gwmpas Ystradgynlais, ardaloedd ar y ffin megis Porthcawl, y Pîl, Hirwaun a de Ceredigion, y tu allan i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Mae hyn yn anochel pan gaiff unrhyw ffin ei gosod: bydd ardal ar y ffin sy’n rhyngweithio’n economaidd ac yn gymdeithasol gyda’r rhanbarth o’i chwmpas.

I droi at drafnidiaeth, credaf mai dyma un o’r allweddi mewn gwirionedd, ac er nad yw cynllun a rhaglen dinas-ranbarth Abertawe yn ymwneud â thrafnidiaeth fel y mae dinas-ranbarth Caerdydd, mae’n dal i fod yn hynod o bwysig. Ac er mai ychydig o bobl, os oes unrhyw un, sy’n dymuno teithio o Gwm Afan i fynyddoedd y Preseli, hynny yw, o un pen i’r rhanbarth i’r llall, bob dydd, bydd angen gwella’r llwybr cyfan, gan y bydd galw am gysylltiadau da rhwng, ac i mewn i’r canolfannau poblogaeth mawr yn ogystal ag i safleoedd ar gyfer hamdden, siopa a gwaith. Credaf fod hynny’n allweddol: mae angen i bobl allu cyrraedd y gwaith, mae angen iddynt allu cyrraedd y canolfannau siopa, ac mae angen iddynt gyrraedd cyfleusterau hamdden. A’r perygl yw y gallwch fod yn gymharol agos at leoliad cyflogaeth mawr yn y rhanbarth, ond os ydych yn digwydd bod heb gar, mae rhai o’r teithiau hyn bron yn amhosibl.

Ffyrdd: y flaenoriaeth—a phe bawn i wedi ysgrifennu hyn 20 mlynedd yn ôl, byddai wedi bod yr un fath—yw deuoli’r A40 ar ei hyd, a goleuadau traffig ar gylchfan Cross Hands hefyd i wella cysylltiadau rhwng Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, a gweddill y dinas-ranbarth. Mae tagfeydd eraill yn digwydd o amgylch Port Talbot ar yr M4, lle y daw ffordd yr M4 i ben, ffyrdd sy’n arwain at gylchfan Cross Hands, a Chaerfyrddin, ac mae angen ystyried gwelliant pellach, yn enwedig wrth i’r tagfeydd traffig barhau.

Yn y 1990au, aeth Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg ati i agor pum gorsaf reilffordd: Llansamlet, Llansawel, Baglan, Sgiwen, a’r Pîl. Er bod gan ddinas-ranbarth Caerdydd gysylltiadau cryf â Phort Talbot fel rhan o gynllun Swanline, bydd trenau wedi’u hamserlennu gan y gorsafoedd eraill i’r gorllewin o ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys Caerfyrddin, Llanelli, Llandeilo, Rhydaman, Pantyffynnon, Pen-bre a Phorth Tywyn, Hendy-gwyn ar Daf, Dinbych-y-pysgod, Doc Penfro, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Wdig, ac Abergwaun. Gweler: mae traffig a threnau yn mynd i’r gorllewin o Abertawe, ac maent hyd yn oed yn mynd i’r gorllewin o Gaerdydd. Ceir gorsafoedd eraill y gellid eu dwyn yn ôl i ddefnydd, megis Glandŵr a Sanclêr. Yr hyn sydd ei angen yw rhaglen i ddod â hen orsafoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ôl i ddefnydd a gwneud mwy o ddefnydd o’r gorsafoedd rheilffordd presennol i wneud y rheilffyrdd yn opsiwn ymarferol ar gyfer teithio, naill ai i’r gwaith neu ar gyfer hamdden. Bydd y brif linell i Lundain yn parhau i fod yn gyswllt rheilffordd pwysig sydd o fudd i economi dinas-ranbarth Abertawe yn ei gyfanrwydd, ac mae’n bwysig iawn ei bod yn cael ei thrydaneiddio cyn gynted ag y bo modd.

Gan ddychwelyd at fysiau, mae gwir angen gwasanaeth bws gwell i gysylltu’r orsaf drenau a chanol y ddinas â’r canolfannau cyflogaeth, ond hefyd i gysylltu â chanolfannau poblogaeth. Gallai gorsafoedd rheilffordd yn Llansamlet a Thre-gŵyr fod yn ganolfannau trafnidiaeth, lle y bydd bysiau’n cyfarfod â threnau ac yn lledaenu allan i’r cymunedau cyfagos. Yr enghraifft yng ngorsaf Llansamlet yw bod gwasanaeth bws rheolaidd yn dod i ben yn Frederick Place, rownd y gornel i’r orsaf. Dylai hwn ddod i ben yn yr orsaf, a fyddai wedyn yn darparu gwasanaeth bws i’r ardal gyfagos. Rwyf wedi dweud sawl gwaith, ac rwy’n mynd i’w ddweud eto, bydd angen i ni agor gorsaf Glandŵr, ac nid ar ddydd Sadwrn yn unig ar gyfer y pêl-droed, ond er mwyn symud pobl yn lle’u bod yn gorfod mynd i ganol y ddinas, am ein bod yn ceisio cadw pobl allan o ganol y ddinas. Bydd gorsaf Glandŵr yn gwneud hynny. Mae angen adeiladu ar lwyddiant y cyfleuster parcio a theithio. Mae hwn yn cadw ceir allan o’r ddinas a chanol y dref, ac yn caniatáu i ran gyntaf y daith gael ei gwneud yn y car a rhan olaf y daith ar y bws.

Gan droi at feicio a cherdded, mae llwybr arfordir Cymru a llwybr cerdded arfordir Sir Benfro yn enghreifftiau gwych o lwyddiant yn creu cyfleoedd ar gyfer cerdded hamdden. Ceir llwybrau beicio pwrpasol, ond mae angen gorffen y bylchau ynddynt, ac mae angen lleoedd storio a pharcio diogel ar gyfer beiciau, yn enwedig yng nghanol dinasoedd a threfi. Rwy’n awyddus iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd cwblhau’r llwybrau beicio. Mae’n ddibwynt cael llwybr beicio os oes rhaid i chi fynd ar draws ffordd fawr yn rhan o’r daith. Byddai’n cael y rhan fwyaf o bobl i beidio â gwneud hynny. Mae gennych y beicwyr brwdfrydig a fydd yn ei wneud, ond ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny.

Yn olaf, ar wasanaethau cyhoeddus, os ydym yn credu, fel rwyf fi, fod dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy’n cwmpasu ardaloedd cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhanbarth cydlynol ar lefel is-Gymru, yna y cam nesaf amlwg yw rhedeg yr holl wasanaethau cyhoeddus o fewn yr ôl troed hwn. Gellid trefnu’r holl wasanaethau o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, ni ellir gwneud hyn ar unwaith, ond fel strwythur, caiff pob gwasanaeth ei adolygu, ac yna newidir y strwythur. Wedyn, rhaid rhoi camau ar waith i drefnu gwasanaethau yn y dinas-ranbarth. A dywedaf eto, gan fy mod wedi ei ddweud ddwsin o weithiau yma bellach: mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn edrych yn debyg i Ianws. Ar gyfer tân, ar gyfer y consortiwm addysg, rydym yn edrych tua’r gorllewin. Fodd bynnag, ar gyfer plismona neu ar gyfer iechyd, rydym yn edrych tua’r dwyrain. Nid oes unrhyw gydlyniad iddo. Mae bron fel pe bai pawb sydd wedi dod i greu strwythur wedi penderfynu ar eu strwythur eu hunain, heb ystyried yr hyn a aeth o’r blaen.

Y cyntaf, a’r mwyaf syml, yw tân ac achub. Gellir aildrefnu’r gwasanaeth hwnnw’n hawdd yn ôl ffin y dinas-ranbarth, ni fyddai ond yn golygu trosglwyddo Powys a Cheredigion i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Yn ail, fe fydd yna is-ranbarth economaidd, a’r hyn sydd ei angen yw cynllun datblygu ar waith sy’n cyfateb i’r hen gynllun datblygu sirol i gwmpasu’r ardal gyfan. Byddai hyn yn sicrhau y gellir trefnu tai a chynlluniau datblygu economaidd dros y rhanbarth cyfan, ac nid yn unig ar sail ardal yr awdurdod lleol. Mae datblygu campws y bae, sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac a fydd bron yn sicr o effeithio mwy ar Abertawe nag ar Gastell-nedd Port Talbot, yn enghraifft o’r angen am ddull ar sail ardal. Rwyf hefyd yn cofio, yn hen ddyddiau’r cyngor dosbarth, fod Dyffryn Lliw wedi gosod marchnad Clydach gyferbyn â thai a oedd yn Abertawe. Y bobl yr effeithiwyd arnynt oedd y bobl a oedd yn byw yn Abertawe, ond roedd y bobl a gafodd y budd yn dod o Ddyffryn Lliw, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych arno fel rhanbarth cyfan. Gallwch edrych ar barc Trostre heb feddwl amdano fel rhan o ardal siopa Abertawe.

Y trydydd cydlyniad polisi sydd ei angen ar gyfer dinas-ranbarth cyfan Abertawe yw strategaeth drafnidiaeth—yr hyn sy’n cyfateb ym mae Abertawe i system fetro dinas-ranbarth Caerdydd. Mae angen i hon sicrhau bod yna rwydwaith rheilffyrdd a bysiau cydlynol sy’n gallu symud pobl o’r ardaloedd preswyl i’r prif safleoedd gwaith, siopa a hamdden. Hefyd, mae angen i’r rhwydwaith ffyrdd sicrhau bod symudiad rhwng canolfannau poblogaeth mawr yn digwydd ar hyd ffordd ddeuol fan lleiaf. O fewn y dinas-ranbarth, gellir rhannu’n ddau yn syml—gorllewin Morgannwg a Dyfed, sy’n cyfateb i hen siroedd Dyfed heb Geredigion a gorllewin Morgannwg. Gellid sefydlu byrddau ar y cyd rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sef dau brif wasanaeth y cyngor sir blaenorol, a gellid gwneud yr un peth ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gellid aildrefnu’r byrddau iechyd yn ôl yr ardaloedd mwy o faint hyn a wasanaethir gan y byrddau ar y cyd. Byddai hynny’n trefnu byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn union fel yr oeddent pan oedd byrddau iechyd fel bwrdd iechyd Gorllewin Morgannwg yn bodoli ar gyfer iechyd. Hefyd, byddai’n ei gwneud yn haws i fyrddau iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro weithio gyda Gorllewin Morgannwg. Mae gennym sefyllfa, fel y mae pawb yn gwybod, sy’n golygu mai’r ysbyty mawr ar gyfer y rhan fwyaf o orllewin Cymru yw Treforys, ond nid yw’n rhan o Dreforys, felly mae gennych raglen ARCH, cydweithrediad rhanbarthol ar gyfer iechyd, a’r holl bethau eraill hyn sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd er mwyn ceisio unioni’r hyn sy’n wendid strwythurol.

Byddai gwasanaethau lleol yn parhau i gael eu rhedeg gan yr awdurdodau lleol presennol. Mae awdurdodau lleol o’r maint cywir ar gyfer darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, a bydd unrhyw un sydd wedi gweld y llyfr ar wasanaethau awdurdodau lleol, sydd tua 40 tudalen o hyd, yn sylweddoli faint o wasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, a’r ffordd orau o ddarparu’r rhan fwyaf ohonynt yw yn lleol. Pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ar ran yr ardal lle y maent yn byw yw sylfaen democratiaeth leol. Mae’n ymwneud â chytuno ar y dinas-ranbarth fel ôl troed sylfaenol, ac yna gael gwasanaethau yn y rhanbarth wedi’u trefnu yn yr ardal fwyaf addas o fewn yr ôl troed.

I gloi, rwy’n llwyr gefnogi dinas-ranbarth arfaethedig dinas Abertawe. Rwyf hefyd yn fodlon iawn â’r cynigion i wella economi’r ardal gan y pedwar cyngor yn yr ardal. Rwy’n credu y dylid rhoi clod i bob un o’r pedwar ohonynt am gydweithio i geisio cael system ar waith a gwella’r gwerth ychwanegol gros. Y peth pwysicaf i ardal fel dinas-ranbarth Abertawe yw cynyddu gwerth yr economi a chael pobl i ennill mwy. Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o wella trafnidiaeth a chydlynu gwasanaethau o fewn yr ôl troed, oherwydd mae angen i ni gael trafnidiaeth yn iawn, mae angen i ni gael gwasanaethau cyhoeddus ar sylfaen safonol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yn dda dros ein hardal.

Diolch i chi am roi munud i mi yma, Mike. Rwy’n credu, gyda’r fargen ddinesig, y benthyciad uniongyrchol i’r Egin a’r posibilrwydd y daw carchar i Bort Talbot yn fuan, fod hynny’n rhoi diwedd ar y syniad nad oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn buddsoddi yn ne Cymru. Ond rwy’n meddwl eich bod yn iawn i grybwyll dau bwynt yn benodol ar hyn. Y cyntaf yw cwestiynu rôl mewnbwn lleol a sut y gall trigolion dinas-ranbarth y bae gyfrannu at ei gynllun manwl, os mynnwch, a hefyd trafnidiaeth, yn hytrach na dibynnu’n unig ar y seilwaith digidol. Mae angen i ni edrych i weld pam fod y cynllun wedi colli’r cyfle i siarad am ryng-gysylltedd. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno—crybwyllais hyn ychydig yn gynharach—y dylai tagfeydd ac ansawdd yr aer fynd law yn llaw mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â thrafnidiaeth a seilwaith, ac na ddylem golli’r cyfle i ystyried pethau fel trenau un gledren a thramiau a rheilffyrdd ysgafn, yn ogystal â’r rhwydwaith rheilffyrdd presennol y soniwch amdano, er ei fod ar gau. Ac os ydym yn sôn am fysiau a thacsis, efallai y dylai fod rhagdybiaeth yn awr na ddylem edrych ar fodelau diesel. Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedoch am y llwybrau beicio. Nid oes pwynt iddynt fynd i bob man; ni fydd pobl yn eu defnyddio felly. Diolch.

Diolch i Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydw i’n credu ei fod e wedi mynd tu hwnt i’r fargen ddinesig, yn sicr, ac wedi cyflwyno gweledigaeth ehangach o lawer ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe. Ond rydw i eisiau canolbwyntio ar ddau beth: yn gyntaf oll, croesawu’r pwyslais ar reilffyrdd a oedd yng nghyflwyniad Mike Hedges, ac yn ail, ategu’r angen i ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth fel rhan o’r cefn a fydd yn cynnal y rhanbarth ddinas wrth fynd ymlaen, a dweud, hefyd, fy mod i’n siomedig nad yw’r fargen rhanbarth ddinas yn benodol ym mae Abertawe wedi anelu at fod yn garbon isel. Mae hynny ar goll, rydw i’n meddwl, i fi. Mae yna olygfeydd digidol yno, wrth gwrs, ond rydw i’n credu ein bod ni wedi colli cyswllt ym mae Abertawe ond hefyd yng Nghaerdydd i sôn llawer mwy am garbon sero a gweithio tuag at economi carbon sero. Ac, yn olaf, dywedaf nad oes yna unrhyw enghraifft well o sut mae’r ardal dinas-ranbarth yn gallu gweithio na’r morlyn llanw ym mae Abertawe, yn cysylltu’r profiad peirianyddol morol yn sir Benfro â’r profiad peirianneg mwy safonol yn Abertawe ei hunan, ac, wrth gwrs, y profiad ynni drwy’r rhanbarth i gyd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl—Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 18:42:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Llywydd. Gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i Mike Hedges am ddefnyddio ei ddadl fer heddiw ar bwnc bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y fargen ei hun, yr hyn y mae’n ei roi i dde-orllewin Cymru, a’r potensial sydd ganddi ar gyfer dyfodol economi’r rhan honno o’n gwlad. Rydym wedi cydnabod ers tro y cyfleoedd y mae bargeinion dinesig yn eu cynnig i greu effaith barhaol. Yn wir, safbwynt Llywodraeth Cymru ers mis Tachwedd y llynedd yw bod bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn barod i’w harwyddo, ac rydym yn falch iawn yn awr ein bod wedi gallu cyrraedd y pwynt hwnnw. Rydym yn croesawu’r ffaith fod bargen sy’n werth £1.3 biliwn wedi ei harwyddo’n llwyddiannus, a bydd Llywodraeth Cymru, fel prif gyllidwyr y fargen, yn darparu buddsoddiad o £125 miliwn.

Nawr, mae’r fargen yn seiliedig ar weledigaeth uchelgeisiol i baratoi’r rhanbarth ar gyfer technolegau’r dyfodol dros y 15 mlynedd nesaf. Ei nod yw hybu’r economi leol, cynhyrchu bron i 10,000 o swyddi newydd, a denu dros £600 miliwn gan y sector preifat. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i helpu i gytuno’r fargen ddinesig, ond mae’n bwysig cofio bod y bargeinion yn cael eu harwain gan uchelgais yr awdurdodau lleol a thrwy gydweithrediad rhanbarthol ymysg rhanddeiliaid. Mae arweinwyr a phrif weithredwyr pob un o’r pedwar awdurdod wedi bod yn hanfodol bwysig yn y gwaith o ffurfio’r fargen, yn ogystal â byrddau iechyd lleol a phrifysgolion. Hoffwn gydnabod cyfraniad Syr Terry Matthews, sydd wedi chwarae rhan allweddol drwy gydol y broses, ac yn y camau olaf, roedd arweinyddiaeth Rob Stewart, arweinydd cyngor dinas Abertawe, yn allweddol wrth gwblhau’r fargen. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae cynghorau Abertawe, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro i gyd wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gytuno ar safbwynt ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i ddyfodol y rhanbarth er mwyn nodi’r camau a fydd yn eu caniatáu i gynhyrchu twf economaidd cynaliadwy ym mhob rhan ohono. Yn wahanol i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae’r fargen hon yn dechrau drwy nodi 11 o gynigion prosiect mawr. Maent wedi’u cyflwyno o dan themâu iechyd, ynni, cyflymu’r economi a gweithgynhyrchu clyfar. Bydd angen rhagor o waith ar yr holl gynigion hynny. Bydd angen cyflwyno pob un ohonynt. Rydym yn bell o fod heb gyfleoedd i fanteisio ar syniadau carbon isel a di-garbon wrth i’r syniadau prosiect hynny gael eu datblygu ymhellach a’u dwyn gerbron cyllidwyr. Gyda’i gilydd, byddant yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y seilwaith ffisegol, ynghyd â buddsoddiad sylweddol yn seilwaith digidol y rhanbarth hefyd.

Mae’r fargen yn nodi ac yn adeiladu ar gryfderau enfawr yr ardal. Ym maes ynni, mae’n manteisio ar y potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac yn canolbwyntio ar wireddu potensial Doc Penfro fel lle ar gyfer profi technoleg ynni ar y môr a’i masnacheiddio. Ym maes gweithgynhyrchu clyfar, ym mhegwn daearyddol arall ardal y fargen, bydd canolfan wyddoniaeth dur newydd yn canolbwyntio’n benodol ar wella’r amgylchedd ac ynni. Yn y gwyddorau bywyd—elfen allweddol yn nyfodol yr economi leol—drwy’r fargen, cryfheir camau newydd i integreiddio gwaith ymchwil a darparu deorfa fusnes a threialon clinigol. Ac ar draws ardal gyfan y fargen, caiff y potensial ar gyfer cyflymu’r economi ei gydnabod fel rhywbeth sy’n ddibynnol nid yn unig ar seilwaith ffisegol, ond yn allweddol, ar ddatblygu cyfalaf dynol. Dyna pam, ym mhob rhan ddaearyddol o fargen ddinesig Abertawe, bydd sgiliau a datblygu talent yn rhan annatod o’r holl wahanol fuddsoddiadau a ddaw gyda’r fargen.

Mae’n bwysig cofio hefyd, Llywydd, na ddylai datblygiad bargeinion dinesig gael eu gweld yn unig fel cyfryngau ar gyfer cyflawni ac ariannu prosiectau. Bwriedir i fargen ddinesig Abertawe fod yn gatalydd o’r ymrwymiad y mae cymaint o unigolion a sefydliadau yn ei ddangos i ffyniant de-orllewin Cymru yn y dyfodol, er mwyn gwella’r hyder cyfunol y gall buddsoddiadau a sicrhawyd drwy’r fargen eu rhoi ar waith er budd y rhanbarth cyfan. Ac wrth gwrs, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am lywodraeth leol, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld sut y bydd y fargen ddinesig yn datgloi potensial rhanbarthol yr ardal. A chan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae ein Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn cynnig mai yn ardaloedd y bargeinion dinesig y dylid lleoli’r cyfrifoldeb yn y dyfodol dros ddatblygu economaidd, trafnidiaeth ranbarthol—fel y pwysleisiodd Mike drwy ei gyfraniad—a chynlluniau defnydd tir. Os dowch â’r cyfrifoldebau hynny at ei gilydd a’u cyflawni ar sail ranbarthol, credwn y bydd hynny’n ategu’r fargen ac yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei photensial llawn. I wneud hynny, mae gan y fargen gyfres o drefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt, ac ymrwymiad clir i gynllun gweithredu.

Mae’r trefniadau llywodraethu yn canolbwyntio ar gyd-gabinet. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn mai unigolion etholedig a ddylai fod yn atebol yn y pen draw am benderfyniadau a wneir. Ochr yn ochr â’r cyd-gabinet, bydd bwrdd strategaeth economaidd a gadeirir gan gynrychiolydd o’r diwydiant preifat lleol. Bydd yn monitro cynnydd ar gyflawni’r fargen ac yn rhoi cyngor strategol i’r cyd-bwyllgor ar y ffordd y mae’r fargen yn gweithredu ar lawr gwlad. Bydd y trefniant llywodraethu hwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso wedi’i gytuno cyn gweithredu a fydd yn pennu’r dull arfaethedig o sicrhau ein bod yn gwybod y gallwn olrhain y buddsoddiadau a wnawn a’r effeithiau a gânt ar yr economi leol ac ar gymunedau lleol. Bydd tîm cyflawni’r fargen ddinesig yn darparu adroddiad chwarterol ar berfformiad i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd cyd-bwyllgor craffu yn cael ei gynnull o blith aelodau’r pedwar awdurdod i ddarparu swyddogaeth graffu annibynnol ac yn y ffordd honno, bydd y rhan a chwaraeir gan boblogaethau lleol, fel y dywedodd Suzy Davies, yn cael ei chynnwys yn y ffordd y caiff y fargen ei strwythuro o’r cychwyn cyntaf.

Nawr, bydd unrhyw un sydd wedi bod yn rhan o fywyd cyhoeddus Cymru ar lefel awdurdod lleol neu ar lefel y Cynulliad yn gwybod bod gweithio ar y cyd yn creu heriau yn ogystal â chyfleoedd, ond yr hyn a welsom gyda bargen ddinesig bae Abertawe yw grŵp o awdurdodau lleol gyda chwaraewyr eraill o bwys yn barod i ddod at ei gilydd, yn barod i oresgyn yr heriau hynny, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o herio ffyrdd traddodiadol o weithio, i ddod o hyd i amcanion a rennir, ac i wneud y cyfaddawdau sy’n anochel os ydych yn mynd i gytuno ar fuddsoddiadau hirdymor ac ymrwymo i fanteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad sydd ar gael. Rydym ar fin gwireddu’r fargen newydd hon, gyda’r potensial sydd ganddi ar gyfer de-orllewin Cymru. Nawr, mater i bawb sydd wedi dod o amgylch y bwrdd mor llwyddiannus hyd yn hyn fydd parhau i ddangos y gallant droi’r cynlluniau addawol iawn yr ydym wedi gallu eu cefnogi yn weithredu go iawn ar lawr gwlad.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.