Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/04/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Teyrngedau i Claire Clancy ar ei Hymddeoliad

Mae ein clerc a’n prif weithredwr, Claire Clancy, yn ymddeol y mis yma, a dyma’i Chyfarfod Llawn olaf ond un. Mae wedi gwasanaethu yn y swydd am dros 10 mlynedd, a hwn fydd rhif 643 iddi o gyfarfodydd ‘Plenary’. I gydnabod gwerth y cyfraniad yma, rwyf am ofyn am sylwadau gan arweinwyr y pleidiau. Carwyn Jones.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud mai prin yw manteision heneiddio, ond un o bleserau gwasanaethu fel Aelod gwreiddiol o’r Cynulliad yw cael gweld y sefydliad yn tyfu a datblygu dros bron i 20 mlynedd. Ac, ar ôl gwasanaethu am 10 mlynedd, mae Claire wedi darparu arweinyddiaeth am fwy na hanner bodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol, ond bydd yn gadael, wrth gwrs, argraff sylweddol ar ei hôl.

Daeth y swydd a gymerwyd gan Claire ym mis Chwefror 2007 o ganlyniad uniongyrchol iawn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Elfen allweddol o'r Ddeddf honno, wrth gwrs, oedd gwahanu’r Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth—y ddeddfwrfa, wrth gwrs, oddi wrth y Weithrediaeth. Fe’n symudodd ni ymlaen; roedd yn gam pwysig, mewn gwirionedd, yn ein haeddfedrwydd fel democratiaeth. Ac, wrth gwrs, roedd wedi’i seilio ar lawer iawn o waith i sefydlu'r Comisiwn a’i baratoi i wneud y gwaith a oedd yn ofynnol. A dyna fydd etifeddiaeth barhaol Claire i'r Cynulliad. Goruchwyliodd y broses o weddnewid y Cynulliad o gorff ad hoc braidd i un o golofnau democratiaeth Cymru, sy’n gallu gweithredu fel corff craffu proffesiynol, trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Rydym ni’n gwybod bod diogelwch, yn anffodus, yn faes lle’r ydym ni wedi gweld newid mawr yn ystod blynyddoedd stiwardiaeth Claire. Gan weithio gyda'r heddlu, a'i thîm ehangach, mae hi, wrth gwrs, wedi helpu i ymateb i'r amgylchedd diogelwch sy'n newid, gan lwyddo i gadw'r Cynulliad yn agored i'r cyhoedd, yn llythrennol yn ogystal ag yn foesol.

Gwn, Claire, bod eich stiwardiaeth a'ch swyddogaeth yn benllanw gyrfa hir o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Cyn dod yma, chi oedd prif weithredwr Tŷ'r Cwmnïau. Cyn hynny, wrth gwrs, gyrfa hir mewn sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, yn y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, ac mewn mannau eraill. A gwn, yn y 1990au, bod Claire wedi treulio dwy flynedd ar St Helena, yn cynorthwyo ei diweddar ŵr, Mike, y ceir atgofion da a melys ohono ymhlith ei gyn-gydweithwyr yng ngwasanaeth sifil Cymru.

Rydym ni’n gwybod, fel Aelodau'r Cynulliad hwn, ein bod ni’n disgwyl i'r Comisiwn roi'r cymorth a'r seilwaith sydd eu hangen arnom i wneud y swyddi y mae ein pleidleiswyr yn ein hanfon ni yma i’w gwneud. Felly, a gaf i ddiolch i Claire am bopeth y mae hi wedi ei wneud, ac, wrth gwrs, dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddi yn y dyfodol? [Cymeradwyaeth.]

Ar ran Plaid Cymru, hoffwn gofnodi ein diolch i Claire Clancy am wasanaethu'r Cynulliad Cenedlaethol am 10 mlynedd. Mae hi wedi bod yn ffynhonnell gyson o gymorth ac arweiniad i’r holl Aelodau, ar draws y Siambr. Ac, ochr yn ochr â'r Swyddogion Llywyddu cyfredol a blaenorol, mae hi wedi datblygu a gwella’r Cynulliad ers 2007—cyfnod o newid sylweddol yn y ffordd y caiff deddfau eu gwneud yng Nghymru.

Rydym ni wedi gweld twf i gyfrifoldebau'r Cynulliad hwn. Bu twf hefyd i’r ganran sy'n pleidleisio, ymgysylltiad cyhoeddus a chefnogaeth y cyhoedd, ac mae Claire Clancy wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr holl ddatblygiadau hynny. Rwy'n ffyddiog y bydd democratiaeth Cymru yn datblygu llawer ymhellach yn y dyfodol, ac y bydd hynny'n bosibl oherwydd y cyfraniad y mae Claire wedi ei wneud hyd yn hyn.

Felly, diolch yn fawr iawn, Claire, a dymuniadau da iawn i chi ar gyfer y dyfodol.

Rwy’n cofio’n iawn y tro cyntaf i mi gerdded i mewn i’r Siambr hon, yn 2007, ac roedd Claire ar yr ochr arall yn y fan yna, i gymryd llw’r swydd ar gyfer Aelodau oedd newydd eu hethol. Nid oeddwn yn sylweddoli bod y mosaig sydd o’n blaenau yma—Calon Cymru—yno; hoeliais fy llygaid ar glerc y Cynulliad a cherdded yn syth ar draws y mosaig, gan godi braw enfawr ar y clerc. Roeddwn i tua 15.5 stôn bryd hynny, felly ni wnaeth gracio; pe bawn i’n cerdded ar ei draws nawr, gallai achosi problem.

Ond, o’r diwrnod hwnnw ymlaen, rwyf wedi dod, yn ystod y 10 mlynedd, fel y mae fy ngrŵp wedi dod, i werthfawrogi'r cyngor, y cymorth, a pharhad y cymorth a'r cyngor yr ydych chi wedi eu rhoi i ni fel grŵp, ac i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Ac mae'r Cynulliad, yn ystod y 10 mlynedd hynny, wedi tyfu mewn statws i fod yn Senedd, ac yn Senedd â chyfrifoldebau deddfwriaethol, a chodi trethi erbyn hyn. Ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y cyfraniad yr ydych chi wedi ei wneud fel clerc y Cynulliad a'r prif gynghorydd i'r Llywydd.

Diolchaf i chi am yr holl gymorth yr ydych chi wedi ei roi i ni. Dymunaf yn dda i chi, a'ch teulu, yn eich ymddeoliad. Rwy’n gobeithio nad dyma’r tro diwethaf y byddwn yn eich gweld ac y byddwch yn dychwelyd, ar sawl achlysur, i weld sut yr ydym ni’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Ond, mae wedi bod yn fraint ac mae wedi bod yn bleser, ac, ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n diolch o galon i chi am yr holl amser, ymdrech a chymorth yr ydych chi wedi eu rhoi i ni i gyd. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

Wel, Llywydd, mae bob amser yn bleser gwneud araith nad yw’n ddadleuol sy'n mynd i ennyn cytundeb o gwmpas y Cynulliad, ac i gytuno gyda phopeth sydd wedi ei ddweud gan yr holl siaradwyr blaenorol hyd yn hyn heddiw. Rwy’n siarad o safbwynt hollol wahanol, fel rhywun sy'n hollol newydd i'r sefydliad hwn, ac, yn wir, mae holl aelodau fy ngrŵp yn yr un sefyllfa. Ac rydym ni wedi bod yn fuddiolwyr enfawr o effeithlonrwydd tawel adran y clerc, yr ydych chi wedi llywyddu drosti gyda’r fath ras, swyn, deallusrwydd a gallu. Ac, heb y clercod mewn unrhyw sefydliad seneddol, wrth gwrs, ni fyddai byth yn gallu gweithredu’n iawn. Yn wir, mae llawer y tu allan y mae’n debyg y byddent yn dweud mai dyna'r unig ran sy'n gweithredu’n iawn. Ac rwyf wedi gweld hyn, wrth gwrs, yn San Steffan hefyd, lle rwy’n meddwl bod y staff parhaol yn gerydd sefydlog i bob un o’r aelodau etholedig, yn y ffordd y maen nhw’n ymddwyn ac yn cyflawni eu swyddogaethau.

Ac felly, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi'n bersonol am yr holl gymorth yr ydych chi wedi ei roi i mi yn ystod y flwyddyn, nawr, fy mod i wedi bod yn aelod o'r lle hwn, ac rwyf wedi dod i werthfawrogi pa mor bwysig yr ydych chi wedi bod yn natblygiad y Cynulliad, a bydd eich etifeddiaeth, wrth gwrs, yn eich goroesi. Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael ymddeoliad hir, hapus ac egnïol, ac y byddwch, fel y mae Andrew R.T. newydd ei ddweud, yn dychwelyd i ymweld â ni mor aml ag y gallwch. Diolch.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Claire Clancy wedi llenwi swydd prif weithredwr a chlerc y Cynulliad hwn mewn modd urddasol a chynnes. Mae’n briodol iawn i ni roi teyrnged haeddiannol iddi heddiw, gan ei bod hi wedi mwy na chyflawni ei hymrwymiadau adeg ei phenodi, ac mae hynny’n teimlo bron fel ddoe i fi, er ei fod o 10 mlynedd yn ôl. Drwy ei gwasanaeth i’r Cynulliad, mae hi wedi cynnig gwasanaeth clodwiw i bobl Cymru ac i ddemocratiaeth. Nid gwaith hawdd yw bod yn brif swyddog corff democrataidd, gan weithio gydag Aelodau etholedig gwahanol ac amrywiol. Mae cadw’r ddysgl yn wastad yn gamp anodd mewn sefydliad sy’n bod er mwyn dadlau a chynrychioli gwahanol farnau a galw’r Weithrediaeth i gyfrif.

Adnodd pennaf unrhyw sefydliad yw cymeriad y bobl sy’n gweithio ynddo. Camp fwyaf eich cyfnod chi, Claire, oedd gallu canolbwyntio ar ddatblygu doniau pawb sy’n gweithio yma, gan ddangos yr un parch tuag at bob un, beth bynnag ei swydd. Ac mae mwy nag un ffordd o gynnig a dangos arweiniad. Yn fy marn i, mi fu dull Claire o arwain yn esiampl wych. Drwy’r holl newidiadau a welsom ni yng nghyfansoddiad Cymru a’r Cynulliad hwn ers 2007, bu Claire yn cynnig arweiniad cadarn, cytbwys, cywir a chyfeillgar i bobl. Dymunaf iddi ymddeoliad dedwydd o’r swydd hon a gyflawnodd gyda’r fath raslonrwydd. Ond gobeithiaf hefyd y bydd hi’n gallu para i allu cyfrannu i fywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Unedig mewn rhyw ffordd arall.

Gair o ddiolch i gloi wrthyf i hefyd, i ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser anghyffredin i mi, dros y 10 mis diwethaf, gydweithio â Claire fel clerc, fel prif weithredwr, ac fel Claire—y tri yn un. Yr hyn sy’n dod i feddwl yn syth wrth feddwl am Claire yw ei doethineb hirben, ei harweiniad cadarn a chyfeillgar i’w staff, a’i pharodrwydd i chwerthin. Hefyd mae ei huchelgais dros y Cynulliad yma, y Senedd yma, a’i huchelgais drosom ni i gyd, a gawsom ein hethol i wasanaethu pobl Cymru yn y lle yma. Ac, yn yr holl waith a gyflawnwyd gan Claire, fe wnaeth y cyfan oll tra’n arddel y safonau uchaf posib o wasanaeth mewn swydd gyhoeddus. A dyna ei gwaddol i ni, mae’n siŵr, wrth iddi ein gadael ni—i ni fod yn ddoeth, yn uchelgeisiol, yn flaengar, ond yn gwneud hynny, mewn gair a gweithred, gyda’r safonau uchaf posib o wasanaeth cyhoeddus i’n cenedl, ac i sicrhau yn barhaus enw da y Senedd yma. Felly, dymuniadau gorau i chi, Claire, a diolch ar ein rhan ni i gyd. [Cymeradwyaeth.]

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A dyma ni, felly, eitem gyntaf yr agenda, yn dilyn hynny, yw cwestiynau i’r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Lynne Neagle.

Iechyd Plant

1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd plant yng Nghymru? OAQ(5)0555(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wella iechyd plant yng Nghymru. Roedd ‘Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys ymrwymiad i weithredu ein rhaglen Plentyn Iach Cymru, a lansiwyd fis Hydref diwethaf. Mae’r rhaglen honno’n cynnwys amrywiaeth o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar i helpu rhieni a phlant i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd adroddiadau diweddar gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn cynnwys negeseuon cryf iawn am effaith tlodi ac anghydraddoldeb ar iechyd plant. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i blant o gefndiroedd tlotach yng Nghymru, a pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd mynd i'r afael ag effaith tlodi ar iechyd plant yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon?

Yn sicr, mae'n flaenoriaeth i ni. O ran cau'r bwlch cyrhaeddiad yr ydym ni wedi ei weld, mae’r bwlch hwnnw wedi bod yn cau. Rydym ni wedi gweld, wrth gwrs, y grant amddifadedd disgyblion a'r ffordd y mae hwnnw wedi gweithio er budd cymaint o bobl ifanc. Rydym ni wedi gweld y cyfnod sylfaen a'r manteision y mae hwnnw’n ei roi i blant o ran datblygu sgiliau yn gynnar a fydd yn eu paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, rydym ni bob amser yn edrych i weld sut y gallwn ni wella canlyniadau i blant yn y dyfodol, ac mae hynny’n cael ei ystyried ar draws y Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhan o'n hymrwymiad i ffyniant i bawb.

A gaf innau hefyd gyfeirio at adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru? Mae yna 39 o argymhellion yn fan hyn, a mi fyddai’r Prif Weinidog yn gwneud yn dda i ystyried yr adroddiad ac i fyfyrio ar yr argymhellion mewn rhyw fath o agenda i fynd â’r afael ag iechyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ymhlith yr argymhellion, wrth gwrs—ac un maes allweddol yn y cyd-destun yma—mae’r risg ychwanegol i iechyd plentyn pan fydd person beichiog yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Rŷm ni’n gwybod am yr effaith y mae hynny’n ei chael mewn sawl ffordd ar ddatblygiad a thwf plentyn, gan gynnwys y risg o fod yn farw-anedig ac o gael ei eni o dan bwysau, ac yn y blaen. Nawr, mae yna ddata ar y niferoedd sydd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn Lloegr ac yn yr Alban yn bodoli, ond, o safbwynt Cymru, nid yw’r data cystal, efallai, ag y dylent fod, oherwydd rŷm ni’n dibynnu ar famau beichiog i hunanadrodd, ‘self-report’, pan fydd hi’n dod i gasglu’r data yna. A gaf i ofyn, felly, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i edrych ar yr angen i gasglu data mwy cyhyrog yn y maes yna, oherwydd sut allwn ni wybod beth sydd angen ei wneud os nad ŷm ni’n sicr beth yw maint y broblem?

Wel, rŷm ni yn datblygu cynllun iechyd plant newydd ar hyn o bryd. Bydd hwnnw’n edrych ar y blaenoriaethau y dylem ni a’r gwasanaeth iechyd eu dilyn y pen draw. Fel rhan o hynny, wrth gwrs, fe fydd hi’n hollbwysig i sicrhau bod y data sydd gyda ni yn ddata sy’n gadarn, a bydd hynny’n cael ei ystyried yn ystod datblygiad y cynllun hynny.

Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi mai un o'r ffyrdd o wella iechyd plant yw sicrhau mynediad priodol at nyrsys ysgol ledled Cymru? A wnaiff ef longyfarch y gweithlu nyrsys ysgol sydd gennym ni yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith rhagorol o ran imiwneiddio a negeseuon iechyd y cyhoedd yn ein hysgolion, ac, yn benodol, yr unigryw Judith Jerwood yn eich etholaeth eich hun, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Bryntirion, lle mae ganddynt fodel nyrsio ysgol unigryw, y dylem, yn fy marn i, ei weld yn amlach mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru? Byddwch yn ymwybodol bod y gwasanaeth nyrsys ysgol yn un sy'n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol ei hun, ac yn un sy'n rhoi cyngor ar bob math o bwnc, nid yn unig i'r disgyblion, ond hefyd i'r staff ac, yn wir, i’w teuluoedd.

Mae'n enghraifft dda iawn o arfer da. Rwyf bron yn gallu gweld yr ysgol o lle rwy’n byw; mae’n agos iawn, iawn i mi. Rydym ni’n gwybod bod y nyrsys ysgol yn gwneud gwaith rhagorol. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft—mae’r Aelod yn sôn am imiwneiddio—bod ein cyfraddau imiwneiddio plant yn parhau i fod ar frig y meincnodau rhyngwladol. Rydym ni’n gwybod, yn 2016-17, bod y rhaglen imiwneiddio rhag ffliw yn ystod plentyndod wedi cael ei hymestyn hefyd i gynnwys yr holl blant dwy i saith oed. Mae'n fodel rhagorol sydd ar waith ym Mryntirion ac yn un y byddwn yn annog ysgolion eraill i’w ystyried.

Prif Weinidog, amlygodd adroddiad 2017 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ‘State of Childe Health’, yr angen am fannau diogel i blant chwarae, er mwyn rhoi sylw i chwarter y boblogaeth plant yng Nghymru sy'n dechrau’r ysgol gynradd yn ordew. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau agored a mannau chwarae, a pha gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnig mannau diogel i blant chwarae?

Mewn datblygiadau tai newydd, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu’r mannau agored hynny—ac rwyf i wedi eu gweld, nid yn fy rhan fy hun o'r byd yn unig, ond ledled Cymru. Lle caiff tai newydd eu hadeiladu, ceir lle i blant chwarae, ceir cyfleusterau’n aml i blant chwarae arnynt hefyd, a llwybrau beicio, sy'n cael eu cynnwys yn gynyddol yn rhan o ddatblygiadau, fel y dylent. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhan o'r broses o sicrhau bod beicio yn cael ei ystyried fel rhywbeth hollol normal o ran y ddarpariaeth o gyfleusterau beicio mewn datblygiadau newydd yn y dyfodol. Mae hynny'n sicr yn llawer gwell na’r sefyllfa a oedd yn bodoli cynt, lle’r oedd datblygiadau tai yn cael eu hadeiladu ac nad oedd unrhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneud o gwbl ar gyfer mannau agored nac, yn wir, ar gyfer cyfleusterau i blant chwarae.

Trefniadau Iechyd Trawsffiniol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr? OAQ(5)0548(FM)

Mae protocol trawsffiniol ar waith i sicrhau bod gan gleifion perthnasol fynediad at wasanaethau priodol, a chaiff pob mater cysylltiedig ei drin mewn modd y cytunwyd arno a chyson.

Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r broses Future Fit barhaus ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd brys i gleifion yn Swydd Amwythig a chanolbarth Cymru. Mae'n bwysig i’m hetholwyr bod gwasanaethau brys wedi eu lleoli yn Amwythig. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt cyhoeddus yn hyn o beth. A gaf i ofyn beth sy’n eich atal rhag rhoi safbwynt ar y mater hwn a gwneud sylwadau cryf i fwrdd rhaglen Future Fit y GIG ar ran trigolion y canolbarth? A wnewch chi gymryd safbwynt?

Yn ddaearyddol, mae Amwythig yn nes, ac felly byddai'n well gennym i wasanaethau gael eu lleoli yn Amwythig. Ond mae'n bwysig sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy, sy'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gorfod ymdrin ag ef ein hunain. Gwn, er enghraifft, gydag offthalmoleg a niwroleg, bod y bwrdd iechyd—Powys, hynny yw—wedi sicrhau darpariaeth amgen ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg trwy sefydliad o'r enw The Practice, sydd yn cynnwys clinigau allgymorth cymunedol ym Mhowys. Ond yn amlwg, o'n safbwynt ni, rydym ni’n dymuno gweld gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bobl Cymru yn Lloegr mor agos â phosibl i'r cleifion hynny o Gymru.

Prif Weinidog, rydym ni’n canfod heddiw y bu cynnydd o 16 y cant i nifer y meddygon iau sy’n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ar draws GIG Cymru, mae amseroedd aros yn lleihau; mae amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau brys yn llai na phum munud erbyn hyn; disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel un o arweinwyr y byd ym maes adsefydlu cardiaidd; ceir gwelliant i berfformiad canser, gyda nifer y cleifion sy’n cael eu trin nawr 40 y cant yn uwch na phum mlynedd yn ôl; ac am y pedwerydd mis yn olynol, rydym ni’n cael pobl adref o'r ysbyty yn gynt. Prif Weinidog, yn Lloegr, gostyngodd cyfran y cleifion sy'n cael eu trin neu eu rhyddhau yn brydlon yn is na 78 y cant, gyda bron i hanner yr ysbytai yn datgan—

[Yn parhau.]—rhybuddion mawr oherwydd prinder gwelyau. Pa neges sydd gennych chi i’r dynion a'r menywod sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac wedi gorfod dioddef ymdrechion y Torïaid i bardduo GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf?

Wel, gwelodd pob un ohonom yr hyn a wnaeth y Torïaid yn 2015, ond mae'r Aelod yn gwneud achos cadarn a chynhwysfawr sy'n dangos y cynnydd y mae GIG Cymru wedi ei wneud. Heddiw, rydym yn gweld bod mwy o leoedd hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi ac mae'n dangos bod GIG Cymru yn cael ei ystyried fel lle da i weithio ynddo, ac y bydd cynnydd da yn parhau yn y dyfodol.

Ar yr un pryd â diwallu angen dilys, gall cydweithrediad gofal iechyd trawsffiniol hefyd guddio prinder staff clinigol arbenigol yng Nghymru, a achoswyd gan fethiant y Llywodraeth i hyfforddi digon o glinigwyr. Pryd ydych chi'n mynd i adolygu nifer y sefydliadau annibynnol GIG Cymru, sy’n derbyn degau o filiynau bob blwyddyn, gyda'r bwriad o’u lleihau fel y gallwch wario mwy ar glinigwyr arbenigol i Gymru ei hun?

Os edrychwn ni ar awdurdod gwledig fel Powys, mae'n anochel y bydd awdurdod fel Powys yn defnyddio gwasanaethau arbenigol o Loegr. Yn ddaearyddol, mae'n gwneud synnwyr i bobl sy'n byw mewn ardaloedd eang o Bowys. Yn wir, ceir gwasanaethau arbenigol yn Lloegr sy'n dibynnu ar gleifion Powys er mwyn bod yn gynaliadwy. Mae damweiniau ac achosion brys yn Henffordd yn enghraifft o hynny; heb gleifion yn dod o ddwyrain Sir Frycheiniog yn arbennig, byddai'r niferoedd sy'n mynd trwy adran damweiniau ac achosion brys Henffordd yn peri i gwestiynau gael eu gofyn am gynaliadwyedd y gwasanaeth yn Henffordd. Felly, na; o’m safbwynt i, y peth olaf yr wyf i eisiau ei weld yw unrhyw fath o wal yn cael ei chodi rhwng Cymru a Lloegr o ran gofal iechyd. Rydym ni’n gwybod hefyd bod 25,000 o bobl yn croesi'r ffin y ffordd arall, i gael gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Dyna pam, wrth gwrs, y mae gennym ni brotocol cadarn ar waith i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl ar ddwy ochr y ffin.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf nawr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu yr wythnos diwethaf diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru o ystyried, wrth ei benodi, y dywedwyd wrth y cadeirydd newydd ar y pryd gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd rhoi sylw i sefydliad camweithredol ac ynysig? A yw eich holl Lywodraeth yn cytuno mai diswyddo’r cadeirydd hwn oedd y cerydd cywir?

Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud bod Chwaraeon Cymru yn wynebu anawsterau mawr? Mae cymaint â hynny’n wir. Ceir adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, sy'n parhau ar hyn o bryd, ond roedd yn gwbl eglur bod y berthynas rhwng y cadeirydd a'r bwrdd a'r is-gadeirydd ar chwâl, ac felly bu’n rhaid cymryd camau fel y gellid ailadeiladu’r sefydliad.

Dywedir wrthyf fod yr adolygiad wedi ei gwblhau, Prif Weinidog, ac, ar 13 Chwefror, diystyrwyd yr holl honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd ar y pryd gan ddirprwy ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru, James Price, a chynigiwyd tri dewis iddo symud y sefyllfa yn ei blaen, pob un ohonynt yn arwain at iddo barhau ei gyfranogiad ar ryw ffurf o fewn Chwaraeon Cymru. Beth ddigwyddodd yn y cyfamser byr iawn, a newidiodd y sefyllfa hon ac a arweiniodd at ddiswyddo Paul Thomas?

Wel, fel sy’n hysbys, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad i Aelodau'r Cynulliad ar 14 Chwefror ar brif ganfyddiadau’r adolygiad. Un o'r canfyddiadau hynny oedd bod gwrthdaro rhwng diwylliannau wedi datblygu rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd. Roedd yn amlwg bod angen gweithredu er mwyn i'r bwrdd i fod yn gwbl weithredol yn y dyfodol.

Mae gen i'r llythyr yn y fan yma—mae ar gael yn gyhoeddus, felly gallwch wneud sylwadau arno—a anfonwyd at James Price ddechrau mis Mawrth sy'n rhestru'n eglur yr honiadau a wnaed yn erbyn y cadeirydd a sut y gwrthodwyd y cyhuddiadau hynny. Ceir rhai honiadau difrifol iawn a wnaed yn erbyn y cadeirydd blaenorol a phrif weithredwr presennol Chwaraeon Cymru hefyd. Mae Chwaraeon Cymru yn ymdrin â swm sylweddol o arian cyhoeddus ac mae ganddo gylch gwaith i wella chwaraeon elît a chwaraeon cyfranogol ledled Cymru.

Byddai gennyf ddiddordeb clywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â'r honiadau ac yn ymchwilio i'r honiadau yn erbyn y cadeirydd blaenorol, a’r prif weithredwr presennol hefyd, gan fod yr honiadau yn haeddu atebion, ac yn anad dim i wneud yn siŵr bod Chwaraeon Cymru yn gallu bwrw ymlaen â'i swyddogaethau o ddydd i ddydd. Ond rwy’n ailadrodd: dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y cadeirydd newydd, Paul Thomas, pan ddechreuodd yn ei swydd, ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd mynd i'r afael â sefydliad camweithredol ac ynysig. Gofynnaf unwaith eto: a yw’r Llywodraeth gyfan yn cytuno â diswyddiad Paul Thomas?

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth wedi cymryd barn ar hyn. Mae'n gwbl eglur bod y sefydliad yn parhau i fod yn gamweithredol a bod y berthynas wedi chwalu’n llwyr rhwng y cadeirydd a'r bwrdd. O dan yr amgylchiadau hynny, ni ellid disgwyl i unrhyw sefydliad gyflawni'r hyn y dylai ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod angen i bob sefydliad addasu i amgylchiadau sy'n newid ac mae’r adolygiad annibynnol o weithrediadau Chwaraeon Cymru yn parhau, ond roedd yn gwbl eglur na allai Chwaraeon Cymru barhau gyda'r camweithredu a oedd yn parhau yn y sefydliad a gwnaeth y Gweinidog y penderfyniad mai’r ffordd orau ymlaen oedd cymryd y cam a gymerwyd er mwyn gwneud yn siŵr bod Chwaraeon Cymru yn effeithiol yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r toriadau i swyddi a gynigir ym Mhrifysgol De Cymru yn peri pryder mawr, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n rhannu'r pryder hwnnw. Y bwriad yw torri 139 o swyddi i ymdopi â chostau cynyddol a heriau amrywiol eraill. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried lleihau ei gweithlu hefyd. Hoffwn roi ar y cofnod fy nghefnogaeth i a Phlaid Cymru i’r swyddogaethau y mae’r ddau sefydliad hynny yn eu cyflawni yn ein cymdeithas. Ond rwy’n pryderu am y sefyllfa y mae’r sefydliadau hynny’n ei hwynebu ac am y posibilrwydd o golli’r hyn sy’n swyddi â chyflogau da. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cynnal ers cynnig y ddwy gyfres o ddiswyddiadau? A rannwyd strategaethau'r prifysgolion gyda chi ac a ydych chi’n fodlon â’r esboniadau y maen nhw wedi eu rhoi am y newidiadau hyn?

Nid wyf wedi gweld unrhyw esboniadau am y newidiadau hyn ar hyn o bryd. Rwy’n ymwybodol o'r sefyllfa, fodd bynnag, yn y sefydliadau hynny. Rydym ni’n disgwyl y bydd cyfnod o ymgynghori ac y bydd staff a'r undebau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob cam yn y broses. Un o'r materion sy'n peri pryder i mi yw ein bod ni’n gweld gostyngiad i geisiadau, yn enwedig gan fyfyrwyr o dramor. Rydym ni’n gwybod bod ceisiadau trwy UCAS i brifysgolion Cymru o wledydd yr UE, er enghraifft, wedi gostwng 8 y cant rhwng 2016 ac 2017. Po leiaf y myfyrwyr sydd yno, y lleiaf o arian sydd ar gael a’r lleiaf o arian sydd yno i dalu staff, ac mae hynny’n peri pryder i mi.

Fel cyn-fyfyriwr yn Nhrefforest, gwn pa mor bwysig yw’r sefydliad hwn i’r Cymoedd. Mae wedi chwarae rhan flaenllaw erioed o ran gwella sgiliau pobl i wneud y gwaith sydd angen ei wneud yn ein heconomïau lleol. Nawr, ceir heriau demograffig, yr ydych chi wedi cyfeirio atynt, a chostau cynyddol sy'n wynebu’r brifysgol honno, ond nid wyf yn credu y dylai hynny olygu y dylem ni golli'r effaith economaidd gadarnhaol y mae’r sefydliad yn ei chreu. Mae Plaid Cymru hefyd yn credu bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan hanfodol yn y gorllewin hefyd. Mae'r cynigion yn golygu gostyngiad o 4.6 y cant i staff ym Mhrifysgol De Cymru ac nid yw’r ffigur ar gyfer y Drindod Dewi Sant wedi ei gadarnhau eto. Rwyf wedi cael gwybodaeth anghyson ar y colledion swydd hyn. Ar y naill law, dywedwyd wrthym mai swyddi rheolwyr fydd llawer o'r rhai sydd mewn perygl, ond rwyf wedi clywed gan yr undeb llafur y gallai’r swyddi i’w torri gynnwys swyddi TG, staff llyfrgell a gwasanaethau myfyrwyr hefyd. A ydych chi’n meddwl, Brif Weinidog, fod y colledion swyddi hyn yn waith cadw tŷ arferol neu a ydynt yn arwydd bod y ddwy brifysgol hyn yn wynebu dyfodol anodd?

Nid wyf wedi gweld unrhyw beth ar y raddfa hon ers i mi fod yn y brifysgol fy hun yn y 1980au, ac mae hynny’n peri pryder. Mae hefyd yn gywir i ddweud nad yw'n gwbl eglur pa fathau o swyddi fyddai’n cael eu colli. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n disgwyl cael y cyfnod hwnnw o ymgynghori, fel bod mwy o eglurder gan y ddau sefydliad am yr hyn y maen nhw’n ei gynnig. Ond rwy’n pryderu—nid wyf yn gwybod a yw hyn yn gywir ai peidio, ond mae'r ffigurau gen i o fy mlaen—pa un a yw’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau, nid yn unig o wledydd yr UE, ond o wledydd eraill hefyd, yn cael effaith ar incwm y prifysgolion hynny, a fyddai, o'n safbwynt ni, fel gwlad sy'n croesawu myfyrwyr, yn rhywbeth i’w resynu’n fawr.

Mae'r ddau sefydliad yn dioddef hefyd yn sgil y penderfyniad a wnaed i godi'r cap derbyniadau prifysgol yn Lloegr. Gwyddom fod y sefyllfa o ran recriwtio myfyrwyr Ewropeaidd a rhyngwladol yn dal i fod yn anwadal ac yn debygol o fod am gryn amser, ond ein cyfrifoldeb ni yw llywio drwy’r dyfroedd anodd hyn yma yng Nghymru, a chi, Prif Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddiogelu ein sector addysg uwch. Felly, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein prifysgolion? Sut gwnewch chi helpu i ddiogelu’r swyddi hyn a sicrhau nad oes unrhyw effaith yn y tymor hwy ar gyrsiau? A ydych chi’n bwriadu parhau ar sail busnes fel arfer neu a ydych chi'n mynd i gamu i mewn a rhoi cymorth ac arweiniad i brifysgolion Cymru fel y gallant barhau i wneud y gwaith da y maen nhw’n ei wneud, yn gwasanaethu ein heconomi a'n gwlad?

Rydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer addysg uwch, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny. Mae'n ymwneud â sicrhau bod Cymru'n dal i gael ei hystyried fel man lle mae myfyrwyr o dramor eisiau dod. Mae hwnnw'n bwynt yr wyf i wedi bod yn ei wneud yn gryf iawn pryd bynnag yr wyf i wedi mynd dramor ac, yn wir, pan fydd llysgenhadon wedi dod i ymweld â ni yma yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig. Rydym ni hefyd yn ariannu cynlluniau, er enghraifft, fel Sêr Cymru. Mae Sêr Cymru yn ffordd o ddod â’r academyddion blaenllaw i Gymru, gan ddenu, wedyn, y myfyrwyr gorau hefyd. Mae hynny’n helpu gyda chynaliadwyedd prifysgolion. Mae rhai prifysgolion eu hunain wedi buddsoddi'n drwm mewn rhaglenni cyfalaf i wella, neu yn wir adeiladu campysau newydd, sydd unwaith eto’n hynod bwysig o ran denu myfyrwyr yno. Ond yr hyn nad ydym yn ei wybod ar hyn o bryd yw pa effaith y bydd Brexit yn ei chael—rydym ni wedi gweld rhai ffigurau eisoes ar fyfyrwyr o'r UE sy'n gwneud cais i brifysgolion Cymru ac, wrth gwrs, myfyrwyr o wledydd eraill fel India, lle bu gostyngiad sylweddol o ran niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf—a pha effaith gaiff hynny ar gynaliadwyedd ein prifysgolion. Mae hynny'n rhywbeth sydd eto i’w weld yn llawn o ran yr effaith.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n anochel, mae’n debyg, bod hyn a hyn o smalio yn digwydd ar ddechrau unrhyw negodi ac nid yw’r trafodaethau Brexit presennol gyda'r UE yn eithriad i hynny. Mae’r Prif Weinidog eisiau chwarae rhan uniongyrchol yn y trafodaethau hyn ac mae, a dweud y gwir, rhan ddefnyddiol y gall ei chwarae. Gallai ysgrifennu at Ganghellor Merkel, er enghraifft, i ddweud ei fod yn gamgymeriad ar eu rhan nhw i ddatgysylltu’r trafodaethau masnach oddi wrth y materion eraill nad ydynt wedi'u penderfynu, fel hawliau dinasyddion yr UE yn y wlad hon ac i’r gwrthwyneb, a hefyd y cwestiwn o'r gwaddol y mae’n debyg bod yr UE eisiau i drethdalwyr Prydain ei dalu, a allai fod cymaint â £60 biliwn, sydd braidd yn hy o ystyried ein bod ni wedi talu £500 biliwn iddyn nhw dros y 40 mlynedd diwethaf.

Yn ail, ceir y datblygiad arall o ran Sbaen a Gibraltar, lle mae'n ymddangos bod yr UE yn ceisio defnyddio Gibraltar fel dull bargeinio i geisio cael gwell cytundeb gennym ni. O gofio bod y cwestiwn o sofraniaeth yn Gibraltar wedi cael ei setlo’n bendant gan y refferendwm, lle pleidleisiodd bron pob un o drigolion Gibraltar i gadw ei chysylltiadau â Phrydain, a wnaiff ef ysgrifennu at Brif Weinidog Sbaen a hefyd at Brif Weinidog Gibraltar i gefnogi hawl trigolion Gibraltar i hunan benderfyniad, sydd wedi ei warantu gan erthygl 1 siarter y Cenhedloedd Unedig?

Wel, yn gyntaf, mae'n iawn i ddweud bod llawer o smalio, mae cymaint â hynny’n wir, a cheir problemau y mae angen eu datrys. Ond y peth pwysig yw trafod y dechrau cyn gynted â phosibl a bod dyfodol dinasyddion yr UE ym mhob rhan o’r DU a dinasyddion y DU yn yr UE yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl. Rwy’n meddwl y bu cryn dipyn o adrodd gorffwyll ar rai o'r materion hyn. Dywedwyd bod y DU yn defnyddio amddiffyn a diogelwch fel dulliau bargeinio. Nid dyna'r ffordd y dehonglais i sylwadau Prif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, a bod yn deg. Dywedir hefyd bod Sbaen yn ceisio defnyddio Gibraltar. Nid wyf yn credu hynny chwaith. Mae Sbaen, mewn gwirionedd, wedi bod yn dawel iawn ar fater Gibraltar. Dim ond un cymal oedd hwn a ymddangosodd yn nogfen drafod y Comisiwn. Mae gan hynny fwy i'w wneud nid â sofraniaeth, ond statws Gibraltar fel hafan dreth a sut y byddai hynny’n effeithio ar y ffin â Sbaen yn y dyfodol. Felly, nid wyf yn gweld dim byd maleisus yn hyn. Ceir problemau lle bynnag y bydd hafanau treth y mae angen eu datrys pan fydd ffin ar y tir gyda'r hafan dreth honno.

Mae'n gwbl eglur bod pobl Gibraltar yn dymuno parhau i fod yn Brydeinwyr a dyna beth ddylai ddigwydd. Dyna oedd penderfyniad refferendwm. Pleidleisiodd 95 y cant ohonynt i aros yn yr UE hefyd. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Pan wnes i gyfarfod â Phrif Weinidog Gibraltar, roedd yn gwbl eglur mai’r peth olaf yr oedd Gibraltar ei eisiau oedd cau’r ffin. Byddai'n drychinebus i economi Gibraltar. Mae tua 15,000 o bobl yn croesi'r ffin bob dydd. Felly, mae er budd Sbaen a Gibraltar bod y ffin honno’n aros ar agor, ond wrth gwrs bydd angen ystyried pa effaith y mae statws treth Gibraltar yn ei chael ar farchnad Ewrop, ac rwy'n siŵr y gellir datrys hynny.

Wel, mae'n sicr yn wir ei fod er budd y ddwy wlad—Sbaen a Gibraltar—i’r ffin honno aros ar agor, gan fod 40 y cant o'r swyddi yn Gibraltar yn cael eu llenwi gan bobl sy'n byw yn Sbaen. O ystyried bod y gyfradd ddiweithdra yn Andalusia yn 30 y cant ac yn 1 y cant yn Gibraltar, yna mae o fudd enfawr i Sbaen barchu statws presennol Gibraltar ac, yn wir, ei statws fel hafan dreth hefyd o ran hynny. Felly, rwyf yn ailadrodd fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog: a wnaiff ef ysgrifennu at Brif Weinidog Gibraltar ac at Brif Weinidog Sbaen yn cefnogi achos trigolion Gibraltar, ynghylch sofraniaeth a’u rhyddid i bennu pa bynnag gyfraddau treth y maen nhw’n ei ddymuno o ran y fasnach sy'n cael ei chynnal mewn gwirionedd o fewn tiriogaeth Gibraltar?

I fod yn deg, nid yw Prif Weinidog Sbaen wedi hawlio Gibraltar mewn gwirionedd nac, yn wir, wedi gwneud unrhyw sylwadau o gwbl ar fater Gibraltar. Mae'r mater wedi dod gan y Comisiwn nid gan Sbaen ei hun. Ailadroddaf yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud: mater i bobl Gibraltar yw sut maen nhw’n dewis pa berthynas y maen nhw’n dewis ei chael. Maen nhw wedi pleidleisio â mwyafrif llethol i aros yn rhan o Brydain a dyna'n union yr hyn ddylai ddigwydd. Ni ddylid gorfodi unrhyw fan i drosglwyddo i wlad arall yn erbyn dymuniadau ei phoblogaeth. Mae hynny'n wir am unrhyw wlad yn fy marn i. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Phrif Weinidog Gibraltar. Byddaf yn cyfarfod ag ef yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt hwnnw wrtho. Yn y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael, mae pryder Gibraltar ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i’w sefyllfa fasnach ei hun a’i ffin, dyna beth sydd wedi bod yn pryderu Gibraltar fwyaf, yn sicr wrth i ni edrych ymlaen dros y ddwy flynedd nesaf.

Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog. Mae yn llygad ei le: mae’r ffin yn hanfodol bwysig i Gibraltar. Ond nid yw fel pe na byddai gennym ni unrhyw beth i fargeinio yn ein llaw yn hyn o beth. Os yw’n wir bod Sbaen wedi rhoi ei hawliad i sofraniaeth Gibraltar o’r neilltu a’i bod yn barod i fyw gyda Gibraltar, mae hynny'n iawn. Ond mae'r syniad bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud y cynnig hwn yn sydyn mewn llythyr heb drafod gyda Phrif Weinidog Sbaen yn sylfaenol hurt. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei benderfynu yng Nghyngor y Gweinidogion rhwng y Comisiwn a Phrif Weinidog Sbaen yn benodol. Mae'n hanfodol bwysig i dde Sbaen yn ogystal ag i Gibraltar na ddylai fod unrhyw ymyrraeth o gwbl gan Sbaen ym mywyd economaidd Gibraltar. Rwy’n meddwl, o ystyried bod y Prif Weinidog yn gefnogwr brwd o aros yn yr UE ac, yn wir, roedd mwyafrif llethol pobl Gibraltar ei hun o blaid aros yn yr UE, rwy'n credu mai dyma lle y gall chwarae rhan bwysig i geisio perswadio awdurdodau’r UE am synnwyr da dod i gytundebau synhwyrol â Phrydain er budd pob un ohonom ni.

Wel, nid wyf i erioed wedi cael tri chwestiwn am Gibraltar, mae’n rhaid i mi ddweud. Nid wyf yn gyfrifol o ran fy mhwerau datganoledig am Gibraltar, ond mae gennym ni berthynas gyda Gibraltar. Fel y dywedais, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r Prif Weinidog yno a byddaf yn parhau i gael cyfarfodydd gyda'r Prif Weinidog yn y dyfodol, gan fod Gibraltar mewn sefyllfa debyg i Ogledd Iwerddon, er enghraifft, er ei bod yn wahanol iawn yn yr ystyr bod Gibraltar y tu allan i'r undeb tollau a bod ganddi ei threfniadau ei hun o ran treth. Ond yr hyn sy'n gwbl eglur yw pan fydd Brexit yn digwydd ni ddylai fod unrhyw ansefydlogi o'r ardal o gwmpas y ffin ar yr ochr Sbaen nac, yn wir, o Gibraltar ei hun. Byddwn yn disgwyl i hynny gael ei archwilio yn rhan o'r trafodaethau. Ni fyddwn yn disgwyl ac ni fyddwn yn cefnogi cael unrhyw drafodaethau ynghylch sofraniaeth dros Gibraltar yn y dyfodol; mae’r mater hwnnw wedi ei setlo.

Seilwaith Ffyrdd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi yn seilwaith ffyrdd Cymru? OAQ(5)0546(FM)

Mae gennym ni wariant rhagamcanol o dros £700 miliwn ar wella ac ychwanegu at ein seilwaith ffyrdd presennol ledled Cymru. Mae hynny’n ychwanegol at arian a ddelir mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiect yr M4.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r M4 a'r llwybr y penderfynwyd arno gan Lywodraeth Cymru wedi hen gychwyn. Roedd cynigion cyhoeddedig gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybr du yr M4 hefyd yn cynnwys diddymu statws traffordd y darn presennol o draffordd rhwng Magwyr a Chas-bach, gyda'r posibilrwydd o greu lonydd beicio, lonydd bysiau a chyfyngiadau cyflymder. Ai dyma fwriad Llywodraeth Cymru o hyd ac a yw hyn yn cael ei ystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus, o gofio y gallai diddymu statws traffordd ei hun gael effaith negyddol ar amserau teithio i nifer o’m hetholwyr, y byddai llawer ohonynt yn parhau i ddibynnu ar y darn presennol o ffordd, pa un a yw'r llwybr du yn cael ei ddewis ai peidio?

O gofio bod ymchwiliad cyhoeddus yn parhau, ni fyddai'n ddoeth i mi wneud sylwadau ar hynny. Fodd bynnag, mae tystiolaeth Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gyhoeddus ac ar gael i’w harchwilio. Mae'n hynod bwysig bod yr ymchwiliad yn gallu ystyried yr holl dystiolaeth cyn gwneud argymhelliad.

Mae unrhyw un sydd yn teithio’n rheolaidd rhwng y de a’r gogledd yn gwybod nad yw’n fater pleserus, a dweud y lleiaf. Yn anffodus, y ffordd fwyaf ymarferol o deithio ar draws Cymru i nifer fawr o bobl ydy mewn car, ac nid oes gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud i’r brif ffordd sy’n cysylltu de a gogledd ein gwlad ers dyddiau Ieuan Wyn fel Dirprwy Brif Weinidog. Pa waith sydd wedi cael ei wneud gan eich Llywodraeth chi i ddadansoddi pa welliannau sydd eu hangen ar yr A470 er mwyn gwella’r llwybr trafnidiaeth allweddol yma sydd yn cysylltu ein cenedl ni? Ac os mai’r ateb ydy ‘dim’ neu ‘ddim llawer’, a fedrwch chi ymrwymo i gynnal yr astudiaeth yma ac i gostio unrhyw welliannau sydd eu hangen yn llawn? Mi fentraf i ein bod ni’n sôn am swm cymharol fychan o gymharu â’r buddsoddiad sy’n cael ei fwriadu ar gyfer yr M4.

I would say that it’s not just the car that’s available because the train service has improved and has been improved for many years. Because when we started you couldn’t get from north to south on the train and vice versa without changing at Shrewsbury. Of course, that’s changed; there is now a train every two hours going down. The air service, of course, also goes down twice a day and flies up twice a day. As regards the A470, we saw things improving as regards the Cwmbach-Llechryd bypass in Radnorshire and the changes that were made in Christmas Pitch in Brecknockshire, and also Dolwyddelan to Beaver bridge, and the improvements at Cross Foxes on the A470. So, we’ve seen significant improvements on the road for many years now. But we do have a pinch-point scheme, if I can call it that, in order to deal with some of the problems that still exist. Of course, for somebody like myself who comes down from the north, from Caernarfon, through Machynlleth and Aberystwyth and down to Bridgend, it was a great pleasure to see the all-important improvements at Glandyfi—a part of the road that was extremely dangerous for many years, but that stretch has now been improved greatly.

Prif Weinidog, tanlinellodd adroddiad ddoe gan Sefydliad Prydeinig y Galon y cysylltiadau rhwng polisi ffyrdd a chanlyniadau iechyd. Mae'r ffaith fod 42 y cant o bobl yng Nghymru yn gorfforol anweithgar, sy’n arwain at salwch hirdymor a chostau i'r gwasanaeth iechyd, yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r gostyngiad i deithio llesol dros nifer o flynyddoedd. Pan fydd ffyrdd yn cael eu hystyried yn y dyfodol, a wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod ymyraethau i annog a blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus ac i adeiladu cynllun beicio yn rhan o’r seilwaith ffyrdd yn ganolog i’r ystyriaethau?

Gwnaf. Ni allaf sefyll yma a phregethu o sefyllfa o gryfder o ran bod yn gorfforol anweithgar, yn anffodus, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y weledigaeth a ddangoswyd ar yr M4 gynt—yr A48 yn Llansawel erbyn hyn—o ran y llwybr beicio sy'n bodoli dros y bont yn hynod arloesol ar y pryd. Rydym ni wedi ei weld yn cael ei gyflwyno, er enghraifft, ar ffordd osgoi Pentre'r Eglwys. Pan adeiladwyd honno, roedd yn cynnwys llwybr beicio yn rhedeg fwy neu lai ochr yn ochr â hi, a byddem yn disgwyl, lle mae cynlluniau ffyrdd newydd ar waith, y dylai fod gwelliant i lwybrau beicio hefyd, er mwyn rhoi dewis i bobl o ran y ffordd y maen nhw’n teithio, ac nid teimlo bod yn rhaid iddynt deithio mewn car.

Gofal Pediatrig

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal pediatrig yng Nghymru? OAQ(5)0553(FM)

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau gofal pediatrig diogel a chynaliadwy a ddarperir ar sail y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau sydd ar gael.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar ofal pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg ac mae gen i achos arbennig o drallodus sydd wedi codi yn fy etholaeth, pan aethpwyd â phlentyn y tu allan i oriau i Llwynhelyg ym mis Mehefin 2016, mewn poen a arweiniodd at ddiagnosis anghywir o haint wrin, y gellid ei drin gyda gwrthfiotigau. Y bore wedyn, aethpwyd â’r plentyn i’r adran damweiniau ac achosion brys gyda rhywbeth yr amheuwyd oedd yn llid y pendics. Rhuthrwyd y plentyn i Ysbyty Glangwili wedyn, i gael llawdriniaeth frys ar gyfer peritonitis. Aethpwyd â’r un plentyn, ym mis Ionawr eleni, at y meddyg teulu y tu allan i oriau yn Llwynhelyg unwaith eto, gyda thwymyn. Cafwyd camddiagnosis o hynny fel firws. Yna, gyrrwyd y plentyn gan y rhieni y bore canlynol i Ysbyty Glangwili lle cafwyd diagnosis o’r symptomau fel twymyn goch, a oedd yn gywir. Gwn nad yw achos unigol o reidrwydd yn gynrychioliadol o bopeth, ond o ystyried y cyfyngiadau y tu allan i oriau ar ofal pediatrig, pe byddai arbenigwr pediatrig wedi bod yn Llwynhelyg ar yr adeg yr aethpwyd â’r plentyn i'r ysbyty ar gyfer y diagnosis cychwynnol, mae'n hollol bosibl, ac yn debygol yn wir, na fyddai’r camgymeriadau hynny wedi cael eu gwneud. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym beth all y Llywodraeth ei wneud er mwyn adfer gwasanaethau pediatrig 24 awr llawn yn Llwynhelyg?

Yn gyntaf oll, mae'r sefyllfa y mae’r Aelod wedi ei disgrifio yn sefyllfa lle byddwn i’n disgwyl i'r meddyg teulu wneud diagnosis yn hytrach na bod angen meddyg pediatrig ymgynghorol i wneud hynny. Rydym ni’n sôn yma am haint, neu dwymyn goch—dylai meddyg teulu allu canfod hynny. Ni fyddai angen meddyg ymgynghorol i wneud y diagnosis hwnnw. Mae newidiadau wedi eu gwneud yn Llwynhelyg—mae cymaint â hynny’n wir—yn yr uned triniaethau dydd pediatrig. Maen nhw dros dro, ni fwriedir iddynt fod yn rhai hirdymor, a gwn fod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i ddatrys y mater ac i ailgyflwyno’r gwasanaeth 12 awr cyn gynted â phosibl.

Prif Weinidog, pan fydd plant yn gadael yr ysbyty, yn enwedig os oes ganddyn nhw gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd o unrhyw fath, maen nhw’n dal yn mynd i fod angen gofal meddygol ac, wrth gwrs, cymdeithasol yn y cartref, a bydd hynny’n effeithio ar eu gofalwyr a phlant eraill yn y cartref. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn adnewyddu'r strategaeth gofalwyr ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac, hyd y gwn, mae’n dal i gael ei hadnewyddu ar hyn o bryd ym mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Os mai gofalwyr ifanc a seibiant gofalwyr yw eich blaenoriaeth, pryd y gallan nhw weld yr hyn yr ydych chi’n ei olygu trwy ddweud hynny?

Wel, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y strategaeth yn iawn; mae hynny'n golygu cymryd cymaint o safbwyntiau i ystyriaeth â phosibl er mwyn i'r strategaeth fod yn gadarn. Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y teimlir bod y strategaeth yn un y gellir ei chyflwyno i bobl Cymru.

Tasglu’r Cymoedd

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd? OAQ(5)0550(FM)

Gwnaf. Mae wedi cyfarfod bedair gwaith a bydd cynllun cyflawni amlinellol yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, gan roi sylw i dair blaenoriaeth: yn gyntaf swyddi a sgiliau; yn ail, gwasanaethau cyhoeddus integredig a gwell; ac, yn drydydd, llesiant cymunedol a phersonol. Mae'r cynllun yn cael ei lunio, wrth gwrs, gan adborth o'r digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol.

Prif Weinidog, mae cyflogau isel a diweithdra uchel wedi bod yn bla ar y Cymoedd ers o leiaf tri degawd, felly y cwestiwn amlwg yw: beth sydd wedi cymryd mor hir i chi? Mae lleoedd fel Maerdy a Threherbert mewn angen taer am fuddsoddiad a swyddi sy'n talu'n dda, ac mae'r cymudo i Drefforest, neu ymhellach i ffwrdd o Flaenau'r Cymoedd, yn jôc. Canslwyd dau drên y bore yma. Os bydd y ddinas-ranbarth a thasglu’r Cymoedd yn wawr ffug unwaith eto i’r cymunedau hyn, ceir perygl y bydd niwed gwirioneddol yn cael ei wneud i'r sefydliad hwn ac i ddatganoli, nid yn unig i’ch Llywodraeth chi a'r Blaid Lafur. Sut ydych chi'n bwriadu, fel pennaeth y Llywodraeth hon, sicrhau bod gweithredoedd yn cyd-fynd â'r rhethreg a bod manteision gwirioneddol yn cael eu darparu i'r Cymoedd? A beth fyddwch chi’n ei wneud os bydd dwy neu bum neu 10 mlynedd arall yn mynd heibio heb unrhyw welliannau amlwg yn y cymunedau hyn?

Wel, mae trafnidiaeth yn allweddol a dyna pam mae’r metro mor bwysig. Mae'n cymryd amser annerbyniol o hir ar hyn o bryd i deithio o Dreherbert i lawr i Gaerdydd. Ni ystyrir ychwaith bod y gwasanaeth yn ddibynadwy ac mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhoi enghraifft o hynny'n digwydd. O'r flwyddyn nesaf, byddwn wrth gwrs, yn nodi’r fasnachfraint. Nid ydym wedi cael cyfle i wneud hynny o'r blaen. Byddwn hefyd yn gallu bwrw ymlaen â’r metro, i gael gwasanaethau mwy cyfleus, mwy cyfforddus a mwy aml, a hefyd, wrth gwrs, i gysylltu'r Rhondda Fach trwy wasanaethau bws i mewn i Porth, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau bws yn cysylltu yn amlach gyda'r gwasanaethau trên sy’n mynd drwy'r Rhondda Fawr.

Nawr, mae hynny'n un ffordd o gael pobl i swyddi yng Nghaerdydd, ond nid yw’n ymwneud â hynny’n unig. Rydym ni’n gwybod bod 11 miliwn o bobl yn mynd trwy Gaerdydd Canolog bob blwyddyn. Mae'n ymwneud â sicrhau ei bod yn hawdd mynd o Gaerdydd i fyny i'r Cymoedd hefyd, fel nad yw buddsoddwyr o’r farn bod y Cymoedd ymhell o Gaerdydd yn ffisegol, fel yr wyf i wedi ei glywed. Nid ydynt, rydym ni’n gwybod nad ydynt, ond dyna'r dybiaeth ohonynt weithiau, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rwydwaith trafnidiaeth sy'n dangos bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn gallu denu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol , yn ogystal â phobl yn gallu cael mynediad at gyflogaeth lle bynnag y gallai hynny fod hefyd.

Prif Weinidog, fel y nodwyd, mae tasglu’r Cymoedd yn ystyried meysydd trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu nodi, ac, wrth gwrs, ceir Cymoedd i'r gorllewin nad ydynt yn cael eu cynnwys hyd yn oed yn agweddau’r metro. Rwy'n falch iawn o groesawu bod y tasglu yn edrych ar yr holl Gymoedd, gan gynnwys y rhai yn y gorllewin, gan gynnwys cwm Afan, a gwn y bu cyfarfod yn yr ardal honno. Ond mae twristiaeth yn bwysig yng nghwm Afan, a diwydiannau felly sy’n mynd i ysgogi adfywiad y Cymoedd hynny a'r sgiliau yr ydych chi wedi eu nodi. A wnewch chi sicrhau bod y tasglu yn ystyried datblygiad y sgiliau hynny er mwyn sicrhau y gall swyddi lleol i bobl leol ddigwydd drwy'r agenda dwristiaeth?

Yn sicr. Gwyddom fod Afan Argoed wedi bod yn ysgogwr pwysig ar gyfer twristiaeth ar ben cwm Afan. Mae Glyncorrwg, wrth gwrs, yn gweld manteision y llynnoedd pysgota a’r llwybrau beicio hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Mae'n hynod bwysig hefyd nad ydym yn anghofio bod cysylltiadau trafnidiaeth yn bwysig lle bynnag y gallai’r cwm penodol fod, ac mae hynny'n golygu, pan gawn reolaeth dros y bysiau y flwyddyn nesaf, y byddwn yn gallu ystyried sut y gallwn wella gwasanaethau yng nghwm Afan ac ar y bysiau hefyd. Rydym ni’n gwybod bod trenau wedi mynd ym 1970, ond, yn sicr, mae'n gyfle i ni nawr greu system drafnidiaeth integredig ledled Cymru, nid yn unig mewn rhai rhannau o Gymru, er budd pobl sy'n byw yn y Cymoedd.

Prif Weinidog, rwy'n clywed, hyd yn hyn, y trefnwyd naw digwyddiad ymgysylltu, pum digwyddiad wedi'u targedu, a phedwar digwyddiad ymgysylltu ffurfiol arall, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod, neu’n bwriadu bod yn bresennol, ym mhob un o'r digwyddiadau ymgysylltu hyn. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir? Byddwn yn gofyn sut y mae’r safbwyntiau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl ac o bosibl pa un a allech chi hysbysu’r Cynulliad am rywfaint o’r adborth hwnnw. Ac, os yw Ysgrifenyddion y Cabinet, mewn gwirionedd yn mynd i’r digwyddiadau hyn mor rheolaidd, rwy’n cymeradwyo hynny fel arfer da iawn.

Ie, dyna'r bwriad. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gweld y digwyddiadau hyn fel rhai y mae’n werth dod iddynt, ac, os oes ganddynt Weinidogion Llywodraeth yn y digwyddiadau hynny, hyderaf y byddant yn teimlo bod hynny'n wir. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn i ddweud, yn y digwyddiadau cychwynnol, bod llawer iawn o rwystredigaeth yr oedd pobl yn awyddus i’w leisio, ac mae hynny'n anochel. Nawr, yr hyn yr ydym ni’n ei ddarganfod yw bod pobl yn awyddus i symud ymlaen a gweld beth y gellir ei wneud i wella ansawdd eu bywydau, pa un a yw’n sgiliau trosglwyddadwy—rydym ni’n gwybod bod sgiliau yn bwysig iawn ledled Cymru. Mae sgiliau yn allweddol i gynyddu cynnyrch domestig gros, a gwyddom fod diweithdra, ar bapur, yn llai o broblem nag yr oedd, ond mae cynnyrch domestic gros y pen yn dal i fod yn broblem, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno yn ofalus iawn yn ystod y pum i 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd y cymoedd? OAQ(5)0544(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws pob rhan o Gymru.

Mae metro de Cymru yn rhoi cyfle i ni sicrhau gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd, ac rwy’n croesawu ateb y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gwahanol Gymoedd.

Ar hyn o bryd, mae taith fws ddwyffordd rhwng Aberdâr a Merthyr yn £7. Mae taith trên rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn £8—mwy na’r cyflog byw cenedlaethol yr awr. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod prisiau ar gyfer y metro yn cael eu gosod ar lefel fforddiadwy?

Gallaf sicrhau'r Aelod bod prisiau fforddiadwy yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o gaffael y gwasanaethau rheilffordd nesaf sydd gennym a chontract y metro hefyd. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o deithwyr, yn enwedig ar adegau llai prysur ac ar wasanaethau lle mae nifer y teithwyr yn isel ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau gweld gostyngiadau i’r gost o deithio ar gyfer pobl sy'n gweithio patrymau gwaith afreolaidd neu oriau rhan-amser, ac, yn bwysig, mae'n hynod bwysig bod y system yn integredig a bod ganddi system docynnau sydd â thocynnau electronig a thocynnau clyfar. Mae hynny'n rhywbeth sy’n gwbl hanfodol i ddatblygiad y metro.

Prif Weinidog, mewn cyhoeddiad, maen nhw’n honni—dyma'r dyfyniad:

un o'r gwelliannau mwyaf arwyddocaol i gymudwyr y cymoedd mewn degawd, ers agor rheilffordd Glynebwy.

Datgelodd Trenau Arriva Cymru eu bod yn dyblu capasiti trenau cymudwyr i mewn ac allan o Gaerdydd i ymdrin â gorlenwi. Fodd bynnag, mae contractau Arriva yn golygu eu bod yn ceisio ymdrin â’r nifer gynyddol o deithwyr gyda'r un nifer o drenau ag yr oedd ganddynt yn 2003. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Threnau Arriva i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y trenau i ddarparu gwasanaethau rhwng Caerdydd a'r Cymoedd?

Wel, mae'n rhan o'r trafodaethau masnachfraint a fydd yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod mwy o drenau a threnau mwy cyfforddus ar y rhwydwaith. Am y tro cyntaf, bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros y materion hyn, ac rydym ni’n bwriadu sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei wella a'i ddatblygu ar gyfer y dyfodol.

Hoffwn siarad dros gymoedd gogleddol etholaeth Ogwr. Mae gennym ni bedwar cwm, a bydd llawer ohonynt yn elwa ar drafnidiaeth gyhoeddus well o ran bysiau cyflymach, tocynnau rhatach, tocynnau cydgysylltiedig, ond cwm Llynfi yn arbennig. Tybed: beth yw barn y Prif Weinidog ar bwysigrwydd prif reilffordd Maesteg i Cheltenham, fel y mae nawr—neu reilffordd gymunedol fel ag y mae yng nghwm Llynfi—o ran metro de Cymru? Oherwydd i lawer o bobl yn y cwm hwnnw a chymoedd cyfagos, mae hynny mor hanfodol i ardal teithio i'r gwaith Caerdydd ag y mae Glynebwy neu Ferthyr neu unrhyw le arall. Maen nhw’n credu eu bod nhw’n rhan annatod o ardal deithio de Cymru, felly pa ran maen nhw’n ei chwarae ym metro de Cymru?

Hynod bwysig. Roedd yn weithred o ragwelediad gwych gan Forgannwg Ganol, a dweud y gwir, ym 1988, i agor y rheilffordd i deithwyr. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n wasanaeth bob awr heb unrhyw wasanaeth ar y Sul—wel, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn fodlon ag ef yn yr hirdymor. Mae'n bwysig ein bod ni’n ceisio cynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd ac ystyried sut y gellir gwneud hynny, ac, wrth gwrs, i weld beth y gellir ei wneud i redeg gwasanaeth ar y Sul, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n deall beth fyddai nifer y teithwyr ar y gwasanaeth hwnnw ar y Sul. Ond rwy’n gwybod yn iawn bod y trenau hynny yn cael defnydd da dros ben. Maen nhw’n rhedeg yn hwyrach yn y nos nag yr oeddent erbyn hyn, sy’n un peth—nid wyf yn treulio fy holl amser yn edrych ar amserlenni rheilffyrdd, a gaf i ychwanegu, er fy mod i’n rhoi’r argraff honno ar adegau. Ond gwn fod y gwasanaeth yn hynod bwysig i bobl cwm Llynfi, a byddwn yn ceisio gwella'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.

Gwasanaethau Bancio

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi mynediad at wasanaethau bancio'r stryd fawr yng nghanol trefi? OAQ(5)0549(FM)

Materion i’r banciau yw penderfyniadau am leoliad canghennau, ond rydym ni’n cydnabod yr effaith negyddol y gall cau canghennau ei chael ar gymunedau. Er nad yw hyn wedi ei ddatganoli, wrth gwrs, rydym wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd swyddfeydd post yn gallu darparu gwasanaethau i lenwi rhai o'r bylchau sy’n cael eu gadael ar ôl cau canghennau banc. Os yw hynny'n cael ei wneud yn iawn, mae’n bosibl iawn y gallai wella'r gwasanaeth i ddefnyddwyr banciau, yn hytrach na lleihau'r gwasanaeth.

Mae NatWest wedi cyhoeddi’r canghennau y maent yn eu cau ledled y de. Rydym ni wedi clywed am gau canghennau yn etholaethau Alun Davies, Lynne Neagle, Vikki Howells, ac yn fy etholaeth i, lle mae cangen Ystrad Mynach yn cau—mae hynny’n dod ar ben Barclays yn cau yn Nelson—a gwnaeth NatWest hynny heb unrhyw ymgynghori o gwbl, hyd y gwn i, ac rwy’n condemnio hynny ac rwy’n meddwl y dylid bod wedi cael ymgynghoriad llawer gwell nag a gafwyd. Rwy'n poeni am yr effaith ar bobl oedrannus ac agored i niwed, pobl nad oes ganddynt fynediad at fancio ar-lein, a hefyd y neges y mae hyn yn ei ddangos i strydoedd mawr lle mae banciau yn cau, canghennau yn cau, ac rydym ni’n ceisio adfywio'r cymoedd gogleddol ac adeiladu canol ein trefi, ac mae'r banciau’n gwneud y gwrthwyneb, ac rwy'n credu ei fod yn hollol y peth cwbl anghywir i'w wneud.

Soniasoch am Swyddfa'r Post: i ba raddau allwch chi fel Llywodraeth Cymru a ni fel Aelodau Cynulliad sicrhau bod pobl fel Swyddfa'r Post yn sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael yn briodol?

Rwyf wedi gweld canghennau yn cau yn fy etholaeth fy hun hefyd dros y blynyddoedd. Gwn, hyd yn oed mewn canghennau yn nhref Pen-y-bont ei hun, bod nifer y defnyddwyr wedi gostwng yn eithaf sylweddol gan fod y rhesymau i bobl fynd i'r banc yn brin erbyn hyn o'i gymharu â blynyddoedd yn ôl. Nawr, nid yw gwasanaethau bancio ar y rhyngrwyd yn ateb ynddynt eu hunain. Fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir, ceir pobl sydd naill ai'n methu neu nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau electronig, ac mae’n rhaid darparu ar eu cyfer nhw. Yn fy marn i, os caiff hyn ei wneud yn iawn ac y gall pobl gael mynediad at yr un gwasanaethau drwy'r swyddfa bost, bydd hynny’n rhoi mynediad iddynt at ystod eang o ganghennau. Bydd hefyd yn helpu gyda chynaliadwyedd swyddfeydd post, oherwydd gwn eu bod yn derbyn comisiwn am ddarparu’r gwasanaethau bancio hynny, ac mae'r swyddfeydd post yn cynnig ffordd o sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i'r bobl hynny sy'n eu defnyddio.

Rwyf wedi cael fy hysbysu gan fanciau y bydd mwy o ganghennau’n cau ar ryw adeg yn y dyfodol—dim byd penodol, ond dyna’r duedd y maen nhw wedi ei gweld hyd yn hyn. HSBC oedd yr olaf i wrthsefyll y duedd honno—fe wnaethon nhw gadw eu canghennau ar agor yn hwy na'r mwyafrif mewn rhai rhannau o Gymru—ond mae'n gwbl hanfodol nad yw gwasanaethau'n cael eu colli i bobl a'u bod yn cael eu darparu gan ddull amgen y swyddfa bost.

Mae datganiad Banc Lloyd’s yr wythnos yma eu bod nhw’n bwriadu shrincio nifer fawr o ganghennau banciau yn bryderus mewn sawl ffordd, wrth gwrs, yn arbennig o ran y cwtogiadau mewn swyddi mae hynny’n sicr o’i olygu a’r erydiad yn y gwasanaeth cownteri wyneb yn wyneb. Ond mi allwn ni hefyd gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y cyhoeddiad yn rhannol, o ran mai’r hyn rydym ni’n ei weld ydy’r banc yn addasu fel ymateb i newidiadau yn arferion cwsmeriaid, yn hytrach na chymryd y cam sydd wedi ymddangos yn llawer rhy hawdd iddyn nhw yn y gorffennol, sef cau canghennau. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai pwyso ar y banciau i addasu yn hytrach na chau sydd orau er mwyn y stryd fawr yng Nghymru ac y dylid chwilio i ddefnyddio pob arf deddfwriaethol a rheoleiddiol posib er mwyn pwyso arnyn nhw i wneud hynny?

Nid ydw i’n credu bod modd deddfwriaethol i newid y sefyllfa, ond rwy’n cytuno â fe ynglŷn â’r ffaith y dylai’r banciau feddwl am bopeth ond cau—taw cau dylai fod yr opsiwn diwethaf, nid yr opsiwn cyntaf, o achos y ffaith, wrth gwrs, fod y gwasanaeth yn cael ei golli ar y stryd fawr. Os nad yw hynny’n bosib, mae e’n hollbwysig, felly, fod y banciau yn delio â swyddfa’r bost er mwyn bod y gwasanaethau’n gallu parhau yn y swyddfa bost, ond, wrth gwrs, ni fyddem ni’n moyn gweld cau canghennau fel rhywbeth sydd yn flaenoriaeth i’r banciau.

Prif Weinidog, mae banc NatWest, yn y 12 diwrnod diwethaf, wedi cyhoeddi hefyd y bydd canghennau’r Trallwng a Machynlleth yn cau yn fy etholaeth i—dwy dref bwysig iawn, wrth gwrs, yno, hefyd. Fel y mae Hefin David wedi sôn, maen nhw wedi gwneud hynny heb unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus o gwbl. Nawr, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus neithiwr yn y Trallwng ynglŷn â hyn, a thrafodwyd y swyddfa bost, fel yr ydych wedi sôn, fel posibilrwydd hefyd, ond mae llawer o'r problemau yno yn ymwneud â phreifatrwydd a mynediad i bobl anabl. A oes capasiti gwirioneddol yn y swyddfeydd post, hefyd, mewn rhai lleoliadau penodol? Nawr, fel y dywedasoch, rwy’n deall yn llwyr mai mater i’r banc yw hwn, wrth gwrs, yn y pen draw,— penderfyniad masnachol ydyw. Rwyf wedi ei godi o’r blaen—ac wedi cael ymateb eithaf cadarnhaol gan y Gweinidogion wrth alw ar y Llywodraeth i hwyluso trafodaeth gyda'r banciau a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a fyddai'n arwain at fanciau yn rhannu gwasanaethau. Tybed a fyddai hyn yn rhywbeth y byddech yn fodlon ei archwilio yn fwy manwl.

Fe wnaf ystyried hynny. Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod ynghylch y cynigion y mae wedi eu gwneud. Yr hyn nad ydym eisiau ei weld yw colli gwasanaethau bancio yn gyfan gwbl mewn cymunedau, a cheir perygl, pan fo banciau—yn enwedig pan fyddant yn gwneud hyn yn gyflym iawn—yn penderfynu cau canghennau, nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud yn y swyddfeydd post—nad ydynt yn gadael peiriant arian, er enghraifft, mewn cymuned, ac felly ni all pobl gael arian parod. Gwn, yng Nghrucywel yn ddiweddar, fod un o’r canghennau wedi cau, ond mae'r peiriant arian wedi aros, sy'n rhoi rhywfaint o wasanaeth i bobl leol, ond nid pob gwasanaeth. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod am hynny, yn enwedig o ran yr awgrym y mae’n ei wneud ar gyfer bancio cymunedol.

Ymweliadau Swyddogol

8. A oes gan y Prif Weinidog gynlluniau i fynd ar ymweliadau swyddogol i wledydd Ewropeaidd yn y dyfodol agos? OAQ(5)0558(FM)

Oes. Roedd fy ymweliadau diweddaraf â Brwsel a Norwy, ac rwy’n bwriadu ymweld â Gibraltar yn y dyfodol agos.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymweld â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg i gyflwyno achos Cymru ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol gan y banc mewn prosiectau yng Nghymru fel Ysbyty Felindre yn fy etholaeth i, ac i gyflwyno’r achos i’r DU barhau fel partner tanysgrifio ar ôl i ni adael yr UE?

Oes, gallaf ddweud bod dirprwyaeth dan arweiniad swyddogion lefel uwch wedi ymweld â Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg ym mis Hydref er mwyn cynnal deialog uniongyrchol. Ymwelodd is-lywydd y Banc â Chaerdydd ar gyfer nifer o gyfarfodydd ar 9 Chwefror. Ond rydym ni’n argymell yn gryf y dylai'r DU barhau i fod yn bartner nawdd i Fanc Buddsoddi Ewrop. Nid yw'n costio unrhyw beth i'r DU; arian benthyciad cyfraniadau’r DU, felly mae'n ad-daladwy dros gyfnodau’r benthyciadau hynny. Nid oes unrhyw reswm, o gwbl, pam, wrth adael y DU, na allwn aros yn rhan o seilwaith Banc Buddsoddi Ewrop.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.

Diolch, Llywydd.  Tri newid sydd gennyf i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Fel yr addawyd yr wythnos ddiwethaf, mae'r Prif Weinidog yn bwriadu arwain dadl ar yr Undeb Ewropeaidd y prynhawn yma. Gan hynny, rwy’n gwneud cynnig i atal y Rheolau Sefydlog perthnasol er mwyn caniatáu hynny, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ei gefnogi. Rwyf hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i drefn y datganiadau llafar heddiw. Yn olaf, gohiriwyd y ddadl ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi drwy gyfrwng y rhaglen cartrefi cynnes. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y cyhoeddiad datganiad busnes sydd ymhlith y papurau cyfarfod ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Rwyf am ofyn a all Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU o ran y posibilrwydd o alltudio teulu—teulu Rebwah—sydd yn byw ar hyn o bryd yn Abertawe. Mae dau deulu wedi gadael Irac dan amgylchiadau trist iawn. Bu farw dau o'r tadau ar eu taith o achos oerfel, a bu farw'r fam. Mae un o'r teuluoedd—y plant amddifad—wedi cael caniatâd i aros am ddwy flynedd a hanner. Cafodd ei gadarnhau yn achos brys, felly rydym yn croesawu hynny.

Ond nid yw’r plant eraill wedi cael caniatâd i aros, sef Marwa, sy'n bum mlwydd oed, Dani, sy'n 11, a Mohammed, sy'n 12, ynghyd â'u mam. Maen nhw gyda'u hewythr ar hyn o bryd, yn Abertawe, gŵr o Irac, ond erbyn hyn mae’n ddinesydd Prydeinig. Aeth ef draw i'r gwersyll lle’r oedden nhw, ym Mwlgaria, a mynnodd na fyddai'n gadael nes iddyn nhw dderbyn caniatâd i ddod gydag ef i Abertawe. Felly, nid oes ganddyn nhw ddim byd o gwbl i fynd yn ôl ato, oherwydd roeddent mewn gwersyll mewn gwirionedd, wedi ffoi o Irac, pan oedd y rhyfel yn Irac ar ei waethaf.

Rwy’n deall—wrth gwrs fy mod yn deall—y ffaith nad oes gennym bwerau dros fewnfudo yn y fan hon, ond mae’r teulu hwn wedi bod drwyddi mewn dull mor ddirdynnol; maen nhw’n ceisio cefnogaeth gan ein gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd oherwydd y profiadau dirdynnol hynny. A byddwn yn eich annog chi, fel Llywodraeth, i gefnogi'r teulu yn Abertawe a dangos hynny trwy gyflwyno sylwadau ar fyrder i Lywodraeth y DU.

Wel, fel y dywedodd yr Aelod, mae’n amlwg nad yw polisi mewnfudo a lloches wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Rwy’n diolch i Bethan Jenkins am godi’r cwestiwn hwn, a hefyd am sôn wrthym am gyflwr ac amgylchiadau’r teulu hwn, yr ydym yn cydymdeimlo’n ddwys â nhw, o ran amgylchiadau'r achos hwn. Ac, wrth gwrs, rwy’n gwybod y bydd ein gwasanaethau ni, sydd ar gael i'r teulu hwnnw, ac i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw—i deulu Rebwah—y byddant ar gael. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi ei nodi a'i fynegi, ac mae eich sylwadau ar gofnod.

Ddydd Gwener diwethaf cafodd un o’m hetholwyr i, Ronahi Hasan, o Ystum Taf, ei henwi yn fyfyriwr newyddiaduraeth y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru, a hynny am ddarn a ysgrifennodd ar ei mamwlad Syria, a gyhoeddwyd yn y 'Western Mail'. Daeth Ronahi i'r wlad hon yn ffoadures yn 2008 gyda'i theulu, â thri o blant. Roedd yn rhaid iddi werthu ei thŷ i dalu am gael ei smyglo yma, ac mae wedi bod yn frwydr galed iawn iddi ymgartrefu yma a gwneud bywyd iddi hi ei hun a'i theulu yng Nghymru. Ond, erbyn hyn, mae'r teulu yn ddinasyddion Prydeinig ac yn gwneud cyfraniad aruthrol at fywyd yma yng Nghymru.

Felly, a gaf i alw am ddatganiad ar yr hyn sydd wedi digwydd i ffoaduriaid o Syria sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru, a fyddai'n rhoi cyfle i dalu teyrnged i bobl debyg i’m hetholwraig i, sydd wedi cyflawni cymaint? Ac fe wn y byddai’r mwyafrif helaeth ohonom ni yma yn y Cynulliad yn cefnogi hynny.

Unwaith eto, rwy'n falch iawn fod Julie Morgan wedi tynnu ein sylw ni at hyn, er mwyn i ninnau hefyd gael llongyfarch Rohani Hasan o Ystum Taf, a enwyd yn fyfyriwr newyddiaduraeth y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Ac, yn wir, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ni heddiw yma yn y Siambr hon, yn y Senedd, i gydnabod hynny a sylweddoli hynny, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dymuno darllen y darn a ysgrifennodd ar ei mamwlad Syria.

Gwyddom fod llawer o ffoaduriaid, gan gynnwys rhai o Syria, wedi goresgyn rhwystrau enfawr, yn ogystal â digwyddiadau dirdynnol, er mwyn llwyddo i wneud bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru a chyfrannu at ein cenedl. Felly, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn rhoi’r diweddaraf am ailsefydlu ffoaduriaid yng Nghymru, ac wrth gwrs bydd ef wedi clywed y drafodaeth hon heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, ardal sy’n enwog ledled Cymru am gerddoriaeth fyw yw Stryd Womanby, ac rwy'n siwr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi treulio rhai nosweithiau hwyr iawn mewn mannau fel hyn. Mae llawer o gerddorion enwog wedi dechrau ar eu gyrfaoedd yn Stryd Womanby. Cenedl gerddorol yw Cymru a cherddoriaeth yw curiad ei chalon. A churiad calon y ddinas hon hefyd, ac mae angen i ni annog cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd a ledled Cymru. Ond y broblem yn syml yw nad ydyw’r gyfundrefn gynllunio bresennol yn gwneud hynny, oherwydd mae'n caniatáu i adeiladau gael eu datblygu weithiau mewn lleoliadau sy’n agos iawn at fan lle ceir cerddoriaeth fyw. Yna, pan fydd rhywun yn cwyno, bydd yn rhaid i'r man hwnnw gau am byth. Felly, gallai man i glywed cerddoriaeth fyw, fel yr un yn Stryd Womanby, fod yno am 35 mlynedd. Gall datblygiad ddigwydd y drws nesaf, gall fflat gael ei gynnwys yn yr adeilad, a bydd hynny’n ddigon i gyfiawnhau cau'r gyrchfan i glywed cerddoriaeth fyw. Nawr, yr hyn sydd ei angen yng Nghymru yw nodi’r egwyddor o asiant newid yng ngeiriad cyfraith cynllunio. Mae 'na ddeiseb, ac rwy’n deall bod mwy na 3,000 o bobl wedi ei llofnodi. Mae ’na ddatganiad barn hefyd, ac rwyf wedi ei chynnwys, a byddwn yn annog pob AC sydd yma i lofnodi’r ddeiseb honno. Nawr, yr hyn sydd angen ei wneud yw dynodi mannau fel Stryd Womanby yn ganolfannau diwylliannol, y mae angen eu diogelu drwy gyfraith cynllunio. Mae Maer Llundain yn gwneud hynny, felly a fydd eich Llywodraeth chi? Drosodd atoch chi, Gweinidog.

Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cerddoriaeth fyw yng Nghymru, y mae llawer ohonom, wrth gwrs, wedi ei mwynhau mewn mannau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, ac rydych yn tynnu sylw at un ohonyn nhw yma yn y brifddinas, yng Nghaerdydd. Yn wir, rydych yn dweud hefyd bod deiseb ynglŷn â’r mater hwn i’w gyflwyno, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Deisebau yn ymdrin â hynny ac yn gwneud yn siŵr ei fod wedyn yn derbyn ein sylw ni.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn i ni gael dadl ar ffioedd trwyddedu ar gyfer bridwyr cŵn a siopau anifeiliaid anwes yng Nghymru. Daeth i’m sylw yn ddiweddar y gall ffioedd trwyddedu ar gyfer y ddeubeth amrywio’n fawr—trwyddedau bridio cŵn rhwng £23 a £688, a gall trwyddedau siop anifeiliaid anwes amrywio o £23 i £782. O ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth y DU, mae llawer o awdurdodau lleol wedi gorfod cwtogi llawer ar eu cyllidebau ac o ganlyniad yn eu cael eu hunain yn brin o arolygwyr anifeiliaid. Fel y byddwch i gyd, rwy’n siŵr, yn ymwybodol ohono yma, bu rhai achosion ofnadwy yn fy ardal i o esgeuluso a chreulondeb i anifeiliaid mewn tai bridio cŵn. Rwyf o’r farn y gallai cyflwyno system drwyddedu deg i bob bridiwr a phob siop anifeiliaid anwes o bosib godi'r arian sy’n angenrheidiol i helpu i gau'r bwlch, a gwneud yn siŵr bod y sefydliadau hyn yn cael eu harchwilio'n rheolaidd er mwyn cynnal lefelau uchel o les anifeiliaid ac osgoi creulondeb ac esgeulustod, neu eu lleihau cyn gynted â phosib.

Rwy’n diolch hefyd i'r Aelod am ddwyn y mater pwysig hwn i'n sylw ni heddiw. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn rheoli trwyddedu bridio cŵn yng Nghymru. Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 a Deddf Anifeiliaid Anwes (Diwygiad) 1983 sy’n ymdrin â siopau anifeiliaid anwes, a godwyd gennych chi, wrth gwrs. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hyn, ond mae nifer o feysydd gwaith yn ymwneud â thrwyddedu a chofrestru sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad i feysydd gweithgarwch ar berchnogaeth gyfrifol ac arddangosfeydd anifeiliaid symudol.

Yr wythnos ddiwethaf, cefais y fraint o gwrdd â dirprwy faer Hargeisa, Somaliland, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn ddiddorol clywed am y sefydlogrwydd cymharol a’r heddwch sydd wedi ei sicrhau yn y wlad honno, heb gydnabyddiaeth ryngwladol. Rwy'n gwybod am y gefnogaeth sylweddol sydd wedi bod ar draws y Siambr i gydnabod Somaliland, yn enwedig mewn Cynulliadau blaenorol, ac, yn wir, cynhaliwyd pleidlais yn 2006 i gydnabod Somaliland. Roedd y dirprwy faer yn awyddus i weld y gefnogaeth honno’n parhau, ac yn cael ei hadnewyddu os oes modd, ar sail drawsbleidiol, a gallaf gadarnhau yn sicr y byddai Plaid Cymru yn awyddus iawn i gydnabod Somaliland eto ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru . A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei chydnabyddiaeth o Somaliland?

Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig iawn hefyd ynglŷn â’r cysylltiadau agos hynny, ac, yn wir, gwestiynau a phwyntiau am y cysylltiadau hynny o ran Somaliland, gan dynnu sylw unwaith eto at y sefydlogrwydd a gafwyd a’r gydnabyddiaeth o bobl o Somaliland. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cododd Julie Morgan y mater hwn gyda ni. Felly, yn sicr, byddwn yn edrych ar sut y gallwn fynegi ein cefnogaeth yn y ffordd y dymunwch chi.

4. Cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog i Ganiatáu i’r Eitem Fusnes Nesaf gael ei Hystyried

Cynnig nawr i atal dros dro reol sefydlog 11.16 er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6290 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6289 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 4 Ebrill 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Y cynnig yw atal y rheolau sefydlog dros dro. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â rheol sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 3. Dadl: Y Goblygiadau i Gymru yn sgîl Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw David Rowlands, a gwelliant 7 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig. Carwyn Jones.

Cynnig NNDM6289 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ‘Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union’, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.

5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Wel, yn dilyn cyflwyno’r llythyr erthygl 50 yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn deddfu ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Cawsom gopi 24 awr cyn ei gyhoeddi, ond dim cyfle i ymateb ar ffurf ddrafft. Rwyf wedi nodi sylwadau o'r blaen, wrth gwrs, am ein rhwystredigaeth ynglŷn â’r broses ar gyfer cael deialog o fewn y DU. Rwy’n gresynu bod Llywodraeth y DU wedi dewis gweithredu fel hyn hyd yma. Nid oes raid i bethau fod fel hyn, ond, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi buddiannau Cymru. Rydym ni eisiau’r hyn sy'n dda i Gymru ac, yn wir, y DU yn ei chyfanrwydd. Mae'n gywir dweud, Llywydd, fod rhannau o'r Papur Gwyn yn amwys a bod angen eu dadansoddi. Mae’r diben canolog yn synhwyrol, ond mae gennyf amheuon sylweddol iawn am yr agweddau datganoledig, a byddaf yn dod atynt.

Llywydd, rydym wedi dadlau’n hir am drefniadau pontio a reolir o’n haelodaeth o’r UE i’n sefyllfa newydd y tu allan iddo. Bydd y Bil diddymu mawr yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig ledled y DU ar adeg ymadael â’r UE ddwy flynedd o nawr, a bydd hynny’n rhoi parhad a sicrwydd i fusnesau a gweithwyr, wrth i ni addasu i amgylchiadau newydd. Byddwn yn cadw, o leiaf am gyfnod interim, at drefniadau cydgyfeirio â rheoliadau’r UE, ac mae hyn yn golygu y bydd allforwyr i farchnadoedd Ewrop, er enghraifft, yn gallu parhau i allforio gan gydymffurfio â'r safonau angenrheidiol. Ymhen amser, wrth gwrs, mae’n bosib y bydd pethau’n dechrau newid. Ond mae sicrhau cysondeb bras rhwng safonau amgylcheddol a chyflogaeth yn debygol o fod yn hanfodol os ydym ni i gadw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ond mae cyfnod pontio yn sicr yn fan cychwyn synhwyrol ac ymarferol.

Llywydd, ni fydd union oblygiadau'r Papur Gwyn yn gwbl amlwg hyd nes y byddwn yn gweld y ddeddfwriaeth ddrafft. Felly, ar y cam hwn, rydym yn annog Llywodraeth y DU i rannu ei chynigion deddfwriaethol drafft gyda ni cyn gynted â phosib. Bydd yn rhaid i'r DU ei hun ymgodymu â rhwng 800 a 1,000 o ddarnau o is-ddeddfwriaeth. Gwyddom y bydd deddfwriaeth sylfaenol ar dollau a mewnfudo, a bydd llu o Filiau eraill yn dilyn. Mae'n fwy tebygol na pheidio y bydd yn rhaid i'r Cynulliad hwn reoli swm sylweddol o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd nesaf, a bydd goblygiadau sylweddol o ran amser craffu.

Llywydd, rwyf am droi yn awr at fanylion y datganoli, fel y disgrifir yn adran 4 o'r Papur Gwyn. Mae'r Papur Gwyn yn dweud,

Roedd aelodaeth o’r UE…yn gynsail i’r setliadau datganoledig.

Nid ydym ni’n derbyn hynny, yn sicr nid fel sail ar gyfer polisïau cyfredol ac yn y dyfodol. Nid wyf i’n credu, yn 1997 a 2011, mai aelodaeth o’r UE oedd ar flaenau meddyliau pobl pan oeddent yn ystyried sut i ymateb i’r ddau refferendwm hynny. Hefyd, yn fy marn i, camliwio'r ffeithiau yw esgus mai Llywodraeth y DU yn unig sydd wedi arfer swyddogaeth y DU wrth lunio fframweithiau UE ar faterion datganoledig.  Rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir, oherwydd yr oeddwn i’n rhan o'r fframwaith y cytunwyd arno yn Lwcsembwrg pan oeddwn i’n Weinidog materion gwledig. I'r gwrthwyneb, roedd Llywodraeth y DU, ac mae o hyd, yn rhwym i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i lunio safbwynt y DU ar y cyd ar faterion sydd wedi'u datganoli o fewn proses gwneud penderfyniadau yr UE, megis y polisi amaethyddol cyffredin. Dyna yw'r sefyllfa, a ninnau yn yr UE. Ni allwn dderbyn dim llai y tu allan i'r UE.

Ar y pwynt hwnnw, onid yw'n cytuno â mi, felly, nad yw’r Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yn arddel y dehongliad hwnnw y mae newydd ei nodi, ac yr wyf innau’n cytuno ag ef, ond yn hytrach yn arddel dehongliad gwahanol sef mai Llywodraeth y DU, hynny yw, Llywodraeth Lloegr sydd wedi arwain ar y materion hyn?

Wel, dyna beth yr wyf i newydd ei ddweud. Maent yn arddel safbwynt hollol wahanol i'r safbwynt y mae mwyafrif helaeth Aelodau’r Siambr hon yn ei arddel, yn fy marn i, ac, yn wir, y Llywodraeth hon a Llywodraethau rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais, nid oedd yr ysgogiad ar gyfer datganoli yn gysylltiedig â'r UE. Mae'n fater o ffaith a hanes, pan ddechreuodd datganoli, roeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd yn rhaid i’r setliad ystyried hynny. Mae bellach yn ffaith y byddwn yn gadael yr UE ac, wrth i ni wneud hynny, mae'n rhaid i ni ddatblygu ffyrdd newydd o wneud busnes o fewn y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i fasnachu yn codi yn ein marchnad fewnol ni. Ond mae hynny'n gynnig gwahanol iawn i dderbyn y dylai Llywodraeth y DU gymryd lle sefydliadau'r UE pan ddaw i’r cymwyseddau sydd eisoes wedi eu datganoli. Rydym yn ystyried hynny’n gamsyniad o ran rhesymeg. Mae datganoli yn seiliedig ar ddymuniad y Cymry i lywodraethu eu materion eu hunain. Mae hynny wedi ei roi ar brawf mewn dau refferendwm, ac mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod nad oedd yr ysgogiad dros ddatganoli yn gysylltiedig â’n haelodaeth o'r UE. Ni all Llywodraeth y DU ddewis derbyn canlyniad un refferendwm a diystyrru canlyniad y refferendwm a gawsom ni yn 2011.

Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ystyried y potensial i'r Cynulliad basio ei ddeddfwriaeth parhad ei hun, fel y cynigiwyd gan welliant Plaid Cymru. Ond yn ein barn ni, dewis olaf ddylai hynny fod. Nid ydym yn gwybod eto faint o ddeddfwriaeth y bydd ei hangen. A oes modd, mewn gwirionedd, ei chyfuno mewn un Bil ai peidio, ond rydym yn gwybod y bydd hwn yn gyfnod cythryblus i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru, a bydd angen iddynt gael cysur yn hynny o beth. Felly, o ran gwelliant 7, byddwn yn ymatal heddiw, ond dim ond ar y sail nad yw’n glir eto faint o ddeddfwriaeth fydd ei hangen yn y dyfodol.

Rydym yn derbyn bod angen fframweithiau cyffredin ar draws y DU mewn rhai meysydd. Mae gennym ddigon i'w ddweud am hyn yn y Papur Gwyn. Y ffordd o sicrhau bod gennym gydlyniad polisi, lle bo angen, yw i’r pedair Llywodraeth eistedd i lawr gyda’i gilydd a chytuno ar fframweithiau. Mae'n rhaid gwneud hyn drwy gonsensws, nid gorfodaeth. Rwyf wedi dweud hynny lawer, lawer gwaith. Mae'r cwestiwn—

Steffan Lewis a gododd—

A all ymhelaethu heddiw, felly, ar beth yw dyddiad cau Llywodraeth Cymru ar gyfer cael esboniad gan Lywodraeth Prydain ynglŷn â’i bwriadau o ran y Bil diddymu a'r ddeddfwriaeth arall a fydd yn nodi’n glir a oes angen i’r lle hwn ddeddfu ar ei setliad cyfansoddiadol ei hun ai peidio?

Pan fyddwn yn gweld y Bil ei hun fydd hynny. Bydd hwnnw’n rhoi gwell syniad i ni o feddylfryd Llywodraeth y DU. Pan fyddwn yn gweld beth yw'r Bil diddymu mawr hwn, fel y’i gelwir, yna, wrth gwrs, bydd ar gael i'r Cynulliad hwn, ac yn wir i Lywodraeth Cymru, i gynnig barn ar yr adeg honno. Ond byddwn i’n disgwyl gweld mwy o eglurder, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol, pan fydd y Bil yn cael ei gyhoeddi mewn gwirionedd.

Gofynnir y cwestiwn, wrth gwrs: beth fydd yn digwydd os na ellir dod i gytundeb? Rydym yn derbyn, yn yr amgylchiadau hynny, y bydd yn rhaid cael trefniant wrth gefn. Rydym yn credu mai’r ateb yw math annibynnol o gyflafareddu. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen i ni sicrhau os oes gennym farchnad sengl fewnol gyda rheolau, bod y rheolau hynny yn cael eu cytuno, nid eu gorfodi, ac yn ail bod yna ddull dyfarnu annibynnol fel llys—megis y Goruchaf Lys—sy'n plismona rheolau'r farchnad sengl fewnol honno. Rydym yn agored i drafodaeth bellach am hyn a sut y gallai ymddangos yn ymarferol. Ond yr hyn na allwn ei dderbyn yw pe byddai Llywodraeth y DU yn gorfodi ei hun mewn meysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd wedi eu datganoli'n llawn, yn unol â dymuniadau y Cymry, fel y mynegwyd drwy refferendwm ac y deddfwyd ar ei gyfer gan Senedd y DU ei hun. Awgrymwyd hefyd fod achos dros ailadrodd, drwy ddeddfwriaeth y DU, fframweithiau presennol a ddarperir gan reolau'r UE er mwyn—dywedir—rhoi sicrwydd cyfreithiol a gweinyddol. Os na fydd dim yn newid, yna byddwn yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019—dywedir—yn unol â thelerau erthygl 50. Mae materion gwirioneddol ynghylch trefniadau ymarferol wrth i ni drosglwyddo o aelodaeth yr UE i fywyd y tu allan. Dyna pam rydym wedi cynnwys pennod ar hynny yn y Papur Gwyn.

Nodwn fod Llywodraeth y DU yn sôn am weithio'n agos â'r gweinyddiaethau datganoledig, gan eu bod nhw'n dweud eu bod eisiau cyflwyno dull sy'n gweithio i’r DU gyfan a phob rhan ohoni. Alla i ddim anghytuno â hynny. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r DU a’r rhannau datganoledig cyfatebol ar sail parch at ein gilydd a pharch cydradd. Gall Llywodraeth y DU helpu i feithrin ymddiriedaeth mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae angen iddi gydnabod—i addasu ymadrodd adnabyddus—bod datganoli yn golygu datganoli; bod yr hyn sydd eisoes wedi’i ddatganoli yn aros wedi'i ddatganoli. Ac yn ail, dylai unrhyw fesurau a gynlluniwyd fel rhai pontio gael eu labelu’n glir fel rhai felly trwy’r cyfnod o fabwysiadu cymalau machlud. Mae'n anobeithiol o annigonol i Lywodraeth y DU wneud addewidion amwys am ddatganoli posibl yn y dyfodol a disgwyl i’r Cynulliad hwn gydymffurfio, yn enwedig pan fyddant yn sôn am gymwyseddau yr ydym ni o’r farn eu bod eisoes wedi'u datganoli i ni.

Rydym yn gwybod, fodd bynnag, Llywydd, nad yw pwerau yn golygu llawer neu’n golygu dim oni bai eu bod yn dod gyda’r adnoddau i gyd-fynd â'r polisi. Nid wyf i wedi anghofio—ac ni fydd pobl Cymru yn anghofio—fod addewidion wedi'u gwneud na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE. Byddwn yn dwyn y rhai a wnaeth addewid hwnnw i gyfrif, oherwydd mae Cymru yn cael tua £680,000,000 o gyllid yr UE bob blwyddyn. Nid ydym yn disgwyl i’r arian hwnnw lynu at boced gefn rhywun yn Whitehall. Rydym yn disgwyl i'r arian hwnnw ddod i Gymru. Rydym yn disgwyl i'r arian hwnnw fod yn sail i'n heconomi wledig a rhanbarthol ac, wrth gwrs, raglenni eraill fel Horizon 2020, o'r adeg y byddwn yn ymadael â’r UE.

Nawr, rydym yn awyddus i weithio'n adeiladol. Rydym eisiau cael lle yn y cam nesaf o drafodaethau. Mae dyfodol y DU y tu allan i'r UE yn gymaint o fater i'r Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn ag y mae i Lywodraeth a Senedd y DU. Mae gan Lywodraeth y DU gyfle bellach i gyflawni ar ei rhethreg a symud ymlaen mewn gwirionedd mewn ffyrdd sy'n ein rhwymo ni at ein gilydd yn yr ymgyrch gyffredin o gyflawni’r telerau ymadael gorau posibl ar gyfer gadael yr UE—creu DU ddiwygiedig, ddeinamig, ddemocrataidd y tu allan i'r UE—ond bydd angen newid sylfaenol ym meddylfryd Whitehall. Os ydynt yn manteisio ar y cyfle hwnnw, yna, wrth gwrs, gallwn ystyried cydweithio fel partneriaid cyfartal yn y DU yn y dyfodol.

Trof, yn olaf, at y newidiadau a gyflwynwyd gan UKIP. Ni fydd yn syndod, rwy’n siŵr, i’r rhai hynny a gynigiodd y gwelliannau hyn, na fyddwn heddiw yn derbyn unrhyw un ohonynt. Ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, gwelir y byd o bersbectif gwahanol iawn os ydych chi’n aelod o UKIP nag o'n safbwynt ni. Ond un y gwnaf i gyfeirio ato nawr, cyn ymdrin â'r lleill, efallai, wrth i mi ymateb, yw gwelliant 6, sef mater y tariffau. Mae'r gwelliant yn methu â chydnabod bod tariffau yn drethi ar ddefnyddwyr. Caiff cost tariff ei drosglwyddo i ddefnyddiwr y nwyddau hynny: codir £8 biliwn y flwyddyn mewn tariffau gan Lywodraeth y DU sy’n arian defnyddwyr y DU, nid gan y rhai sy'n allforio i mewn i'r DU. Mae hynny'n dreth o ryw £120 neu £130 y flwyddyn fesul pen y byddai'n rhaid ei thalu fel treth Brexit, i bob pwrpas, gan bob dyn, menyw a phlentyn yn y DU. Nid ydym yn credu bod hynny'n ffordd synhwyrol ymlaen.

Onid yw'n deall, fel mater syml o ddadansoddiad economaidd, sut y bydd y tariffau hynny’n berthnasol o ran y rhaniad rhwng defnyddwyr a chyflenwyr, ac y bydd faint sy’n cael ei drosglwyddo, yn dibynnu ar natur gystadleuol y farchnad?

Holl bwynt tariff yw diogelu yr hyn a gynhyrchir mewn gwlad. Mae'n gosod rhwystr i atal nwyddau rhag dod i mewn i wlad trwy eu gwneud yn ddrutach i ddefnyddwyr. Dyna holl bwynt tariff. Mae gorfodi tariffau—mae llawer o wahanol dariffau, mae hynny'n wir—ond mae'r tariffau mwyaf llym ar gynnyrch llaeth, yn 40 y cant. Nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y tariffau hynny yn cael eu hamsugno gan y rhai hynny sy'n gwerthu i mewn i'r farchnad yn y DU. Bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr y DU, ac i'r gwrthwyneb, wrth i ffermwyr o Gymru a gweddill Prydain geisio allforio i'r UE. Ar ddiwedd y dydd, y defnyddiwr sydd bob amser yn talu'r tariff, a byddai hynny’n golygu, i bob pwrpas, cynnydd aruthrol mewn trethi cyn belled ag y mae’r defnyddwyr yn y cwestiwn. Nid oes raid i bethau fod fel yna.

Rydym bob amser wedi dweud bod nifer o wahanol opsiynau ar gael a fyddai'n golygu ein bod yn gallu gadael yr UE—gan barchu canlyniad y refferendwm, wrth gwrs—ac ar yr un pryd osgoi sefyllfa lle mae ein cynhyrchwyr a’n ffermwyr ni yn colli mynediad i farchnad o 500 miliwn a chael mynediad rhydd yn lle hynny i farchnad o ddim ond 60 miliwn. Nid wyf yn credu bod hynny o fantais i unrhyw un, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y mae Llywodraeth y DU, i fod yn deg, yn awyddus i’w osgoi, ac yn rhywbeth y byddwn ni’n eu cefnogi nhw wrth geisio ei osgoi hefyd.

Mae llawer o heriau o'n blaenau. Mae hynny’n wir. Mae hwn yn ysgariad cymhleth iawn. Mae'r bobl wedi mynegi barn, ac ni allwn wrthdroi canlyniad y refferendwm y llynedd. Ond mae'n gwbl hanfodol, wrth inni edrych ymlaen, ein bod yn lleihau’r amhariad ac yn sicrhau nad yw twf economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf yn cael ei beryglu dros y degawd sydd i ddod.

Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Neil Hamilton.

Gwelliant 1—David J. Rowlands

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.

Gwelliant 2—David J. Rowlands

Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.

Gwelliant 3—David J. Rowlands

Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le 'dylai'.

Gwelliant 4—David J. Rowlands

Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:

'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.

Gwelliant 5—David J. Rowlands

Dileu pwynt 6.

Gwelliant 6—David J. Rowlands

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn ffurfiol yn fy enw i.

Nid oes llawer y gallai rywun anghytuno ag ef yn yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud. Yn amlwg, rydym yn mynd i fod mewn byd gwahanol iawn yn weinyddol ac yn ddeddfwriaethol y tu allan i'r UE nag y byddem oddi mewn iddo, ac rwy’n mynd i ddweud hyn ar y dechrau un: ni cheir gwrthdroi’r setliad datganoli, ac ni ddylid erydu na chuddio’r pwerau sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad hwn mewn unrhyw ffordd gan beth bynnag sy'n digwydd fel rhan o'r broses Brexit. Mae'n fater o gyfraith yr hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad, ac yn sicr mae amaethyddiaeth a'r amgylchedd yn mynd i fod yn bwerau pwysig iawn i ni eu harfer yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n rhoi pŵer llawer gwell i ni yng Nghymru i wneud polisi amaethyddol neu bolisi amgylcheddol drosom ein hunain sy’n gweddu’n well i’n hanghenion ni. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ac, yn wir, Bapur Gwyn y Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, mae llawer o wahaniaethau rhwng economi Cymru ac economi gweddill y Deyrnas Unedig. Yn benodol, mae, fel y gwyddom, warged masnach mewn nwyddau rhwng Cymru a'r UE, ond ar gyfer gweddill y DU y gwrthwyneb sy’n wir.

Ond ni allwn ystyried hyn yng nghyd-destun Cymru yn unig, oherwydd y Deyrnas Unedig sy'n mynd i fod yn gadael yr UE, nid dim ond Cymru. Mae’n rhaid i Gymru ei gweld ei hun yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, lle mae manteision enfawr o ran trosglwyddiadau ariannol y byddai'n eu colli pe baem yn cymryd y safbwynt cenedlaetholgar a dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol. Nid yw hwnnw yn anghydfod yr ydym ni eisiau ei drafod yn helaeth heddiw. Ond yr hyn yr wyf i eisiau ei ddweud, o ganlyniad i'r ddadl hon, yw bod y byd yn llawn cyfleoedd, nid lleiaf i’n gwlad ni ein hunain fanteisio arnynt.

Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ein gwelliant o ran tariffau. Nodwyd y gwelliant hwn gennym nid oherwydd ein bod yn dymuno symud at bolisi diffyndollol—rydym yn blaid masnach rydd. Rydym yn credu bod tariffau yn ffordd ffôl o geisio gwarchod eich diwydiannau oherwydd, ar ddiwedd y dydd, y cyfan yr ydych yn ei wneud yw sefydliadu aneffeithlonrwydd a gwneud eich hun yn llai cystadleuol yn y byd. Mae cyfoeth o ddadansoddiad academaidd sy'n profi bod hynny’n wir.

Nid ein ffigurau ni yw’r rhai sy'n cael eu crybwyll yn y gwelliant. Nid ydynt yn cael eu cynhyrchu gan gorff Ewrosgeptig, mae’n wir. Cawsant eu cynhyrchu gan Open Europe, a oedd braidd yn ddiduedd ac yn niwtral ar y mater hwn ac roedd mewn gwirionedd o blaid Prydain yn aros yn yr UE. Mae effaith net y tariffau yr ydym ni’n cyfeirio atynt yn adlewyrchu'r anghydbwysedd enfawr mewn masnach rhwng Prydain yn ei chyfanrwydd a gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ddiffyg masnach y flwyddyn o £60 biliwn gyda'r UE yn gyffredinol a, phe byddem yn mynd yn ôl i dariffau WTO ymhen dwy flynedd, oherwydd anhyblygrwydd yr Undeb Ewropeaidd—. Oherwydd mae Llywodraeth Prydain wedi gwneud ei phenderfyniad yn berffaith glir: ei bod am weld masnach heb dariffau, masnach esmwyth, rhwng Prydain a gweddill yr UE ar ôl i ni ymadael. Ond, os yw'r UE yn ein hatal rhag gwneud hynny, yna bydd yr effaith yn cael ei theimlo mwy fel punnoedd i’r Undeb Ewropeaidd nag y bydd i Brydain. Os caiff tariffau eu cyflwyno, yna bydd yr effaith net fel y disgrifir yn ein gwelliannau.  Byddwn ni’n gwneud arian, yn sicr.

A ydych chi’n credu mai’r canlyniad tebygol i bobl y Deyrnas Unedig fydd treth tariff ar nwyddau?

Wel, mae hynny'n rhagdybio y bydd negodwyr yr Undeb Ewropeaidd yn rhesymegol. Rwy’n gobeithio’n fawr na fydd gennym hynny. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw’r dystiolaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn galonogol, gyda’r Canghellor Merkel yn dymuno datgysylltu trafodaethau ar fasnach o faterion eraill sy'n ein rhannu. Nid yw hyn yn synhwyrol o ystyried mai dim ond amserlen dwy flynedd sydd gennym i gytuno ar gytundeb fasnachu. Mae ychwanegu Gibraltar yn ddireswm i'r trafodaethau yn ddraenen arall nad yw’n debygol o gynorthwyo datrysiad synhwyrol o'r dadleuon rhyngom. Ond mae'n rhaid ei bod yn sicr er lles yr UE, yn ogystal â’r wlad hon, ein bod yn hwyluso masnach yn hytrach na’i rwystro.

O gofio, ar gyfer yr Almaen yn unig, bod gennym ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn mewn ceir, yn yr un sector hwnnw yn unig, yna mae'n amlwg ei bod o fudd i’r Almaen, fel modur yr UE, i ddefnyddio ei phwysau a'i dylanwad i gyflawni'r canlyniad a fyddai o fudd i'r ddwy ochr—sef masnach rydd. Mae’r hyn sy’n wir am geir yn wir am bob math o feysydd masnach rhyngom ni, hyd yn oed mewn cynhyrchion amaethyddol, y mae'r Prif Weinidog yn ddigon teg yn cyfeirio atynt, gan fod amaethyddiaeth yn farchnad sy’n cael ei rhannu i ranbarthau anghydweithredol o amgylch y byd i gyd. Hyd yn oed pan mae gennym gytundebau masnach rydd â gwledydd eraill, yn aml iawn mae amaethyddiaeth yn wahanol ac mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i bob math o gyfyngiadau masnach.

Hyd yn oed yn achos cig oen, er enghraifft, mae gennym mewn gwirionedd ddiffyg masnach yn y DU mewn cig defaid. Felly, er bod hwn yn fater aruthrol o bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ein bod yn allforio cyfran mor helaeth o'n cynnyrch cig oen, yn y DU yn gyffredinol, a fydd yn negodi ar ein rhan, mae gennym gyfle i sicrhau canlyniad synhwyrol.

Rwy'n gweld bod y golau coch ymlaen, Llywydd, ac nid wyf wedi gallu datblygu fy nadl oherwydd i mi gael fy nenu gan Rhianon Passmore i fynd ar drywydd llwybr nad oeddwn i wedi bwriadu ei ddilyn. Ond y prif bwynt yr wyf am ei wneud yw bod hwn yn gyfle i ni ac nid yn fygythiad. Mae'n her, wrth gwrs, ond mae bywyd yn llawn heriau. Mae unrhyw fusnes gwerth ei halen yn gwybod bod angen iddo newid. Does dim byd byth yn aros yn ei unfan. Dewch i ni achub ar y cyfle hwn a gwneud y gorau ohono i bobl Cymru.

Galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 7.

Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth.

Mae Plaid Cymru yn credu y bydd y weithred o adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith fawr ar Gymru fel cenedl. Yr wythnos diwethaf, gwelsom ddau ddigwyddiad pwysig a fydd yn galluogi Llywodraeth y DU i dynnu Cymru a Lloegr allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r ffaith mai dim ond dwy ran o'r DU oedd yn dymuno gadael, ac sy’n bendant yn mynd i wneud hynny, eisoes yn dweud llawer am y newidiadau sylweddol iawn sy'n digwydd, ac mae'n dangos bod yn rhaid i ni yng Nghymru ddiogelu ac amddiffyn ein buddiannau cenedlaethol. Ni allwn fod yn wylwyr tawel. Mae'n rhaid inni ddefnyddio pa bynnag gyfle sydd gennym i greu ein llais ein hunain a llunio ein safbwynt ein hunain os yw Cymru am gael ei dyfodol ei hun, ar wahân i Loegr ac yn wahanol iddi.

Mae'r llythyr erthygl 50 a Phapur Gwyn y Bil diddymu yn cyfeirio at Gymru. Ond, o ran Plaid Cymru, nid yw Llywodraeth y DU yn gweithredu fel pe byddai Cymru yn bodoli o gwbl. Mae Plaid Cymru yn parhau i roi ei chefnogaeth gref i'r Papur Gwyn ar y cyd, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, fel yr amlinelliad mwyaf cynhwysfawr o fudd cenedlaethol Cymru ar gyfer proses Brexit, ond nid ydym yn gweld digon o dystiolaeth bod Llywodraeth y DU wedi gwrando. Nid ydym yn argyhoeddedig, hyd yn hyn, bod yr ymgynghori wedi bod yn ddiffuant.

Mae'r hysbysiad erthygl 50 yn ei gwneud yn glir, unwaith ac am byth, y bydd Llywodraeth y DU yn mynd â ni allan o'r farchnad sengl. Y cwestiwn i ni nawr yw sut y bydd y cytundeb masnach rydd yn edrych ac a fydd yn cynnwys tariff neu rwystrau rheoliadol. A fydd rhai sectorau o economi Cymru yn wynebu tariffau ac eraill ddim? Nid yw busnesau eisiau’r ansicrwydd hwn. Bydd angen i gyflogwyr fod yn gyfarwydd â’r maes chwarae ymhell cyn i Brexit digwydd.

Llywydd, efallai mai’r her fwyaf sy'n deillio o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yw’r dyfodol o ran sut y mae'r DU yn gweithio yn fewnol. Mae'r cynnig gwreiddiol yn cydnabod hyn i ryw raddau, ac mae gwelliant Plaid Cymru heddiw yn wynebu’r her honno ac yn cynnig ateb: bil parhad i Gymru i gynnal ein statws cyfansoddiadol presennol. Mae’r cyfansoddiad hwnnw wedi ei gymeradwyo gan bobl yng Nghymru mor ddiweddar â refferendwm 2011. Mae fframweithiau cyffredin yr UE yn cael eu trafod ym mhennod 4 Papur Gwyn Llywodraeth y DU. Y fframweithiau hynny yw'r sail y mae’r Cynulliad hwn yn gweithredu arni. Mae disodli’r fframweithiau hynny â threfniadau newydd i amddiffyn marchnad sengl y DU yn rysáit i San Steffan gipio pwerau.

Mae Papur Gwyn y Mesur diddymu yn rhoi'r pŵer i greu fframweithiau newydd y DU i Lywodraeth y DU. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig, ac, ar y gorau, byddant yn gweithio'n ddwys gyda nhw, ond nid ydym yma i ymgynghori â ni. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei ddweud, mae Cymru eisoes yn cyd-penderfynu safbwynt y DU ar fframweithiau’r UE. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn gorwedd gyda Chymru ac maen nhw yno i ni eu rhannu a’u trafod, nid i San Steffan eu gosod. Dyna pam mae Plaid Cymru eisiau’r bil parhad hwn. Dylem weithredu yn y ffordd fwyaf pendant posibl i wneud yn siŵr nad yw'r cydbwysedd grym o fewn y wladwriaeth yn symud hyd yn oed ymhellach tuag at San Steffan, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych o ddifrif ar y dewis hwn.

Os ydych chi’n cytuno â’n dadansoddiad, rwy'n eich annog i weithredu a chefnogi'r gwelliant hwn. Ni all hwn fod yn ddewis olaf. Mae gennym ffenestr gymharol fach o gyfle yma; peidiwch ag oedi cyn manteisio arni. Peidiwch ag aros i’r Torïaid newid eu meddylfryd a pheidiwch ag ymatal. Os gwelwch yn dda, cefnogwch welliant Plaid Cymru ar hyn heddiw.

Llywydd, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant UKIP. Nid ydynt yn cynnig dim byd o gwbl o ran diogelu budd cenedlaethol Cymru. Byddent yn dileu’r angen am gytundeb a chonsensws rhwng y Llywodraethau datganoledig a San Steffan. Maen nhw hefyd yn sôn am anhyblygrwydd yr UE ar adeg pan fo angen ffrindiau a chynghreiriaid yng ngweddill Ewrop ar Gymru. Ac onid yw hi'n ddiddorol nodi mai UKIP yw'r unig blaid sy’n sôn am y refferendwm yn eu gwelliannau heddiw? Pam mae’n ymddangos bod gan UKIP gymaint o obsesiwn â’r refferendwm? Ai, efallai, am nad oes ganddynt weledigaeth o gwbl y tu hwnt i'r canlyniad hwnnw? Ac rydym yn dal yn aros i glywed eu cynllun. Mae'r ddadl wedi symud ymlaen. [Torri ar draws.] Mae bellach yn fater o sicrhau budd cenedlaethol Cymru yn ystod y trafodaethau sydd o'n blaenau.

Mae'r cynnig gwreiddiol heddiw yn disgrifio ac yn dadansoddi'r sefyllfa honno. Nid oes unrhyw beth yn y cynnig hwnnw y gallwn ni anghytuno ag ef; dim ond disgrifiad ydyw. Ar y llaw arall, mae gwelliant Plaid Cymru yn cynnig gweithredu. Bil parhad yw'r cam nesaf y dylem ei gymryd ar unwaith i sicrhau’r sefyllfa honno. Mae’n rhaid i fframweithiau’r DU yn y dyfodol sy'n ymwneud â’r farchnad sengl, amaethyddiaeth neu unrhyw feysydd eraill sy'n rhyngweithio â datganoli gael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-benderfynu. Cyn belled ag y mae Plaid Cymru dan sylw, nid yw unrhyw beth yn llai na hynny yn dderbyniol a byddwn yn annog y Siambr i gefnogi ein gwelliant heddiw. Mae fy amser ar ben, mae'n ddrwg gen i.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon heddiw. Mae'n gwneud synnwyr llwyr i’r pwerau yn y meysydd datganoledig sy'n gorwedd yn Ewrop, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, gael eu trosglwyddo yn ôl i Gymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw achos i Lywodraeth y DU gymryd dim o'r pwerau hynny yn ôl mewn unrhyw ffordd, oherwydd rwy’n meddwl, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad, bod y pwerau hyn wedi eu datganoli, bod refferendwm wedi ei ennill, ac rwy’n cytuno â’r Prif Weinidog nad oedd gan aelodaeth o'r UE ddim byd i’w wneud â’r pleidleisiau yn y refferenda datganoli. Yn ei llythyr, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth y DU

yn ymgynghori'n llawn ynglŷn â pha bwerau a ddylai aros yn San Steffan a pha rai y dylid eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond mae'r Llywodraeth yn disgwyl mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhŵer pob un o’r gweinyddiaethau datganoledig i wneud penderfyniadau.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y mater hwn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd gan fod y Prif Weinidog yn amlwg yn awgrymu pa ganlyniad y gallai Cymru ei gael, ond mae awgrym hefyd ei bod yn dal rhywbeth yn ôl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei egluro oherwydd mae’n anodd iawn gweld, pe na byddai’r pwerau yn dod yn ôl i Gymru, ble ar y ddaear y gallent orwedd yn Llywodraeth y DU gan nad yw'n bosibl ail-greu’r Swyddfa Gymreig. Cafodd holl bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cymru yn 1998 ac enillwyd datganoli a digwyddodd y trosglwyddiad. Byddai'n chwerthinllyd ychwanegu swyddogaethau Cymru at yr adrannau cyfatebol yn Lloegr ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd, er enghraifft. Felly mae'n gwneud synnwyr llwyr iddynt ddod i Gymru. Os, wrth gwrs, o ganlyniad i gyd-drafod, y daw cyfrifoldebau ychwanegol i Gymru, mae'n hanfodol bod yr arian yn dod hefyd.

Mae'n amlwg yn fwy cymhleth mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, fel ymchwil wyddonol, er enghraifft, maes yr oeddwn yn awyddus i gyfeirio ato, lle mae llawer o wariant datganoledig gan Lywodraeth Cymru, ond cynghorau ymchwil y DU gyfan sy’n gyfrifol amdano. Yn amlwg, mae hyn yr un fath yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r DU yn fuddiolwr net. Mae'n gwbl allweddol nad yw Cymru’n colli dim o'r arian hwn. Dywedaf eto, fel y mae eraill wedi’i ddweud heddiw, cawsom addewid na fyddem yn colli yr un geiniog drwy adael yr UE, ac rydym yn disgwyl gweld yr addewid hwnnw’n cael ei gadw. Mae unigolion allweddol yn Llywodraeth y DU sy’n trafod hyn a ymgyrchodd yn gryf i adael yr UE a nhw a ddywedodd yr holl bethau hyn, ac mae’n rhaid inni eu dwyn i gyfrif i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, mae unigolion allweddol yma yn y Cynulliad hwn a wnaeth hefyd ymgyrchu dros inni adael yr UE ac rwy'n meddwl bod ganddynt gyfrifoldeb helaeth am hyn ac rydym yn disgwyl iddynt—y bobl hynny a ymgyrchodd mor gryf—wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl bod hyn yn gwbl hanfodol.

Yn fy etholaeth i, mae ariannu ymchwil yn fater allweddol, felly roeddwn i eisiau sôn am hynny, ond roeddwn hefyd eisiau sôn, cyn imi orffen, am wir bwysigrwydd hawliau dynol a’r hawliau yr ydym wedi’u hennill o Ewrop ar ôl brwydro’n galed. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod yr un deddfau mewn grym, gan gynnwys deddfau cydraddoldeb, pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb y Senedd wedi argymell bod y Bil diddymu mawr yn gyfle i wireddu addewid y Llywodraeth i roi'r un amddiffyniadau ar gydraddoldeb, neu rai gwell, ar ôl Brexit, ac maent yn argymell y dylid rhoi cymal yn y Bil diddymu mawr i ddweud na ddylai fod unrhyw droi’n ôl ar gydraddoldeb. Dywedodd Maria Miller, sef cadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb:

Os yw'r Llywodraeth eisiau cynnal y lefel bresennol o ddiogelu cydraddoldeb i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys menywod beichiog a theithwyr anabl—

bu adroddiad newyddion am faterion yno heddiw—

Mae’n rhaid iddi fynd ati’n weithredol i ymgorffori cydraddoldeb yng nghyfraith y DU.

Ceir dwy flaenoriaeth bendant y dylai'r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt: yn gyntaf, cynnwys cymal ar gydraddoldeb yn y Bil Diddymu Mawr i ddweud na fydd dim troi’n ôl ar y lefelau presennol o ddiogelu cydraddoldeb, ac yn ail, diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i rymuso’r Senedd a'r Llysoedd i ddatgan pa un a yw deddfau newydd yn gydnaws ag egwyddorion cydraddoldeb.

Rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r holl hawliau hynny y brwydrwyd yn galed amdanynt, ein bod yn cadw’r holl hawliau cydraddoldeb sydd gennym, eu bod wedi’u hymgorffori yn y gyfraith, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni wneud yn gwbl siŵr bod hynny'n digwydd. Felly, fel y dywedais yn gynharach, rwy’n meddwl bod baich trwm ar rai o'n Haelodau Cynulliad i wneud yn siŵr nad yw Cymru yn dod allan o hyn yn ddim gwaeth. Rwy'n annog pawb yma yn y Siambr i ddefnyddio eu holl ddylanwad i sicrhau ein bod yn llwyddo i oroesi.

Ddydd Mercher diwethaf, rhoddodd y Prif Weinidog hysbysiad ffurfiol i’r Cyngor Ewropeaidd o fwriad y Deyrnas Unedig i dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Fel y dechreuodd ei llythyr, nid oedd penderfyniad pobl y Deyrnas Unedig i adael yr UE

'yn golygu ein bod yn gwrthod y gwerthoedd yr ydym yn eu rhannu fel cyd-Ewropeaid.... mae’r Deyrnas Unedig yn dymuno i’r Undeb Ewropeaidd lwyddo a ffynnu.... Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop—a hoffem barhau i fod yn bartneriaid ac yn gynghreiriaid ymrwymedig i'n ffrindiau ledled y cyfandir.

Addawodd Prif Weinidog Cymru i gyflwyno'r ddadl hon ar y mater hwn. Felly, mae'n anffodus bod cynnig Llywodraeth Cymru, yn hytrach na hynny, yn dechrau drwy gyfeirio at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, er ein bod eisoes wedi trafod hwn yma a bod digwyddiadau ers hynny wedi ei oddiweddyd. Fel y dywedais yn y ddadl ar hyn ar 7 Chwefror—.

Rwy’n diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi felly yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru i ddangos sut mae wedi cael ei gynnwys yn yr ystyriaethau ar gyfer y trafodaethau?

Yn anffodus, daeth amseriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ôl digwyddiadau, gan eich bod yn dilyn yn hytrach nag yn arwain.

Fel y dywedais yn y ddadl ar 7 Chwefror ar hyn, er bod eu Papur Gwyn

yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth dros ffiniau i'r DU, nid yw hyn yn anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am fargen fasnach rydd heb aelodaeth.

Byddwn yn parhau i ddenu'r mwyaf disglair a'r gorau, gan ganiatáu i DU sofran bennu a diwallu anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, boed hynny’n beirianwyr, gwyddonwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, gofalwyr neu weithwyr fferm. Ond roedd llais y bobl yn glir; mae’n rhaid cael rheolaeth.

Mae Llywodraeth y DU yn ymwneud yn agos â gweithgor lefel uchel o randdeiliaid ar ymadael â’r UE, prifysgolion, ymchwil ac arloesi, er mwyn sicrhau bod y DU yn adeiladu ar ei safle byd-eang cryf o ran rhagoriaeth ymchwil ac arloesedd ar ôl gadael yr UE. Mae cytundeb eisoes rhwng y DU a'r UE y bydd gwarantu hawliau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU, ac i ddinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE, yn flaenoriaeth yn y trafodaethau. Dywedodd y Prif Weinidog fod cefnogi integreiddio a chydlyniant cymdeithasol yn golygu parchu’n llwyr ac, yn wir, cryfhau'r setliadau datganoli, ond, meddai, heb fyth ganiatáu i’n hundeb fynd yn fwy rhydd ac yn wannach, nac i’n pobl ddrifftio ar wahân.

Wrth siarad am y broses erthygl 50 yn Nhŷ'r Cyffredin, mynegodd ei disgwyliad mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhwerau pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau. Er eu bod yn ddigyfaddawd ar yr egwyddorion craidd, mae canllawiau negodi drafft yr UE yn ddigon hyblyg i ganiatáu bargen dderbyniol i'r ddwy ochr. Mewn ymateb i hynny, ailadroddodd Llywodraeth y DU ei bod yn chwilio am berthynas ddofn ac arbennig gyda'r UE ar fasnach a'r llawer o feysydd eraill lle’r ydym yn rhannu nodau a gwerthoedd, a'i bod yn hyderus bod canlyniad o'r fath er lles y ddwy ochr.

Fel y dywedodd prif ymgynghorydd cyfreithiol y Cynulliad ddoe, pan fyddwn yn gadael yr UE, bydd cyfyngiadau ar allu'r gweinyddiaethau datganoledig i ddeddfu mewn meysydd nad ydynt wedi’u cadw’n ôl i Lywodraeth y DU yn diflannu. Mae'r Papur Gwyn Llafur-Plaid Cymru yn galw am fframwaith y DU i ddarparu sail gyfreithiol ar gyfer rheoleiddio materion fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yn effeithiol, sy'n cael eu llywodraethu i raddau helaeth gan gyfraith yr UE. Ac mae Papur Gwyn y Bil diddymu mawr yn amlinellu patrwm dal, i ddarparu sicrwydd ar y diwrnod ymadael drwy gynnal cyfreithiau a ddychwelwyd, a chaniatáu i Lywodraeth y DU weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar fframweithiau’r DU.

Fel y mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ei ddweud, dylai'r fframwaith amaethyddol atal cystadleuaeth annheg rhwng gweinyddiaethau datganoledig, a sicrhau a diogelu cyllid hirdymor digonol ar gyfer amaethyddiaeth. Ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol wrth adolygu deddfwriaeth sy'n deillio o’r UE sy'n ychwanegu'n ddiangen at y baich biwrocrataidd sy'n wynebu ffermwyr.

Economi'r DU oedd yr economi G7 a dyfodd gyflymaf y llynedd. Canfu arolwg a gyhoeddwyd ddoe fod bancwyr canolog byd-eang yn ffafrio sterling dros yr ewro fel buddsoddiad wrth gefn sefydlog hirdymor.

Pan fo ein hundeb gwych o wledydd y DU yn canolbwyntio ar rywbeth ac yn cydweithio, rydym yn rym diatal. Nid oes neb yn y DU nac yn yr UE—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 15:15:00

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Na, mae'n ddrwg gennyf.

[Yn parhau.]—yn ennill os bydd y broses hon yn gwneud pawb yn wannach. Felly, gadewch inni gondemnio a gwrthod unrhyw elyn mewnol sy’n neidio ar unrhyw drol un mater i geisio tanseilio datblygiad perthynas newydd gyda'r UE er mwyn gwanhau a rhannu ein hynysoedd a dinistrio ein Teyrnas Unedig, boed nhw yn yr Alban neu ddim ond yn dynwared eu harwyr o'r Alban. Yn llawn gobaith, gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i adeiladu dyfodol deinamig, byd-eang, ond er mwyn i hyn ddigwydd bydd yn rhaid i gwlt diwedd y byd Carwyn roi’r gorau i ganu yr yn gân.

Os oes unrhyw un byth yn meddwl tybed pam yr wyf yn genedlaetholwr Cymreig, dylai wrando ar sylwadau'r siaradwr blaenorol. Llywydd, rhagwelodd llawer o bobl yn gywir y gallai Bil diddymu’r DU neu ddeddfwriaeth gysylltiedig fod yn fygythiad i gyfansoddiad presennol Cymru o ran ein cymhwysedd yn unol â mandad democrataidd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm. Mae’r pryder yn seiliedig ar y ffaith, os yw'r DU yn tynnu allan o'r farchnad sengl Ewropeaidd, sef bwriad Llywodraeth y DU, yna, am y tro cyntaf ers 1973, bydd gan y DU farchnad fewnol a bydd angen fframweithiau er mwyn ei gweithredu'n effeithiol. Wrth gwrs, yn 1973, nid oedd datganoli a bydd marchnad fewnol newydd y DU yn anochel yn cynnwys fframweithiau a fydd yn effeithio ar faterion polisi datganoledig.

Mae Papur Gwyn cenedlaethol Cymru yn gwneud cynigion adeiladol ac ymarferol ar gyfer sut y gellir sefydlu fframweithiau o'r fath drwy gyngor o Weinidogion y DU, gyda phob Llywodraeth yn y DU yn gweithredu fel partneriaid cyfartal ac yn cytuno gyda’i gilydd ar fframweithiau a rennir pan fo hynny'n briodol. Ar hyn o bryd, os yw fframweithiau Ewropeaidd yn effeithio ar swyddogaethau datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn cytuno ar safbwynt cyffredin i’r DU cyn cyfarfod cyngor Ewropeaidd, ac maent yn cyflwyno’r safbwynt cyffredin hwnnw y cytunwyd arno ymlaen llaw.

Mae paragraff 4.2 Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Bil diddymu, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn camliwio’r arfer presennol hwnnw ac mae'n gwneud hynny fel esgus i ganoli pwerau dros farchnad fewnol y DU ar lefel y DU. Rydym yn gwybod hynny oherwydd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y penwythnos diwethaf fod llywodraethu marchnad fewnol y DU yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan, ac, ar ôl gadael yr UE, y byddai fframweithiau’r DU yn cael eu pennu yn San Steffan a’u rhannu ar ôl hynny i lefelau gwahanol, fel y maen nhw yn San Steffan yn ei weld yn addas. Ni fydd gweinyddiaethau datganoledig yn fawr mwy nag ymgyngoreion ar faterion sy'n amlwg o dan eu hawdurdodaeth eisoes.

I achub y blaen ar hyn, mae Papur Gwyn cenedlaethol Cymru, ar dudalen 28, yn dweud, a dyfynnaf:

Rydym yn aros i weld manylion Bil Llywodraeth y DU i lywio ein hystyriaeth bellach ynghylch pa un a yw'r Bil Seneddol yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn ddigonol. Os, ar ôl dadansoddi, y bydd angen i ni ein hunain ddeddfu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn diogelu ein setliad datganoledig o ran y Bil, yna byddwn yn gwneud hynny.

Llywydd, fy marn i a barn fy mhlaid yw nad yw'r setliad datganoli wedi ei adlewyrchu'n ddigonol ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny ym mhwynt tri ei chynnig heddiw, ac nawr mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ddeddfu. Nid wyf yn bychanu'r gwaith a fydd yn ofynnol i gyflawni hyn, ond, o ystyried mai bwriad Llywodraeth y DU yw cyflwyno ei Bil diddymu erbyn canol mis Medi, mae ffenestr y cyfle sydd gennym i weithredu yn un gyfyngedig iawn. O fewn ychydig fisoedd, efallai y byddwn wedi colli nid yn unig y cyfle i weithredu; efallai y byddwn wedi colli cyfrifoldebau sydd wedi eu hymddiried ynom gan bobl y wlad hon.

Rwy’n annog pob Aelod yma ar bob ochr sy'n credu mewn gwir deulu o genhedloedd yn yr ynysoedd hyn, ac sydd eisiau i farchnad fewnol y DU gael ei llywodraethu’n deg, i gynnal darpariaeth Papur Gwyn Cymru drwy gefnogi ein gwelliant heddiw yn galw am Fil parhad. Pa un a oeddem yn 'gadael' neu’n 'aros' y llynedd, a pha un a ydym yn genedlaetholwyr neu’n undebwyr heddiw, rydym i gyd wedi addo i bobl Cymru na fyddem yn caniatáu i’r wlad hon fod ar ei cholled naill ai yn ariannol nac o ran pwerau. Gadewch inni wireddu'r ymrwymiad hwnnw iddynt heddiw drwy gefnogi gwelliant Plaid Cymru.

Gadewch inni fod yn glir am un peth, nid oes llawer i’w ddathlu—dim byd i'w ddathlu, a dweud y gwir—am weithredoedd Llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Unig rinwedd cyflwyno'r hysbysiad erthygl 50 yw ei fod yn rhoi diwedd ar y cwestiwn o ba un a ydym yn cychwyn ar broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Yr hyn y mae gennym gyfle i’w wneud nawr yw ymladd am y math o Brexit yr ydym ei eisiau er lles Cymru, ac, yn wahanol i gof braidd yn rhannol Mark Isherwood o'r papur rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rwy’n meddwl bod hwnnw’n gosod cyfeiriad teithio clir iawn ar gyfer y math o Brexit yr hoffem ei gael i Gymru.

Ond mae angen inni hefyd, ar y cyd â hynny, fod yn ymdrin â'r math o Gymru yr hoffem fod ar ôl Brexit. I’r rheini a ymgyrchodd i adael, gadael yr Undeb Ewropeaidd oedd y cam cyntaf, nid y gair olaf. Ac mae ganddynt weledigaeth wahanol iawn o Gymru ac o’r DU i’r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon. Rydym wedi clywed Philip Hammond yn sôn am drefn economaidd newydd, a Theresa May yn dadlau dros newid sylfaenol yn sgil y penderfyniad. Nid yw’r mwyafrif yn y Siambr hon eisiau gweld hynny, ac er bod y dasg o drin Brexit yn enfawr, mae angen i bob un ohonom gymryd rhan yn y frwydr fwy honno yn erbyn y gwerthoedd hynny yn ogystal â’r fersiwn honno o Brexit a dadlau dros y math o Gymru yr hoffem fod y tu hwnt i hynny.

I droi at fater gwelliant Plaid Cymru ar y Bil parhad, yn y bôn, mae hwn yn gwestiwn o bwerau ac yn gwestiwn o gyllid. Mewn ffordd, mae'r cynnig ar gyfer Bil parhad yn ddewis amgen yn hytrach na rhoi ein ffydd yn Llywodraeth y DU i ddiogelu ein buddiannau yn y Bil diddymu Ewropeaidd. Ei effaith fyddai rhoi’r corff o gyfraith yr UE sy’n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i mewn i gyfraith Cymru, a rhoi'r hawl i Weinidogion Cymru newid hynny mewn termau technegol a nodi hawl y Siambr hon fel corff o atebolrwydd a hefyd nodi ei chymhwysedd deddfwriaethol. Mewn ffordd, byddai'n fersiwn a wnaethpwyd yng Nghymru o’r Bil diddymu, wedi’i gynllunio i ddiogelu setliad datganoli Cymru. Mae'n ymddangos i mi, am resymau y mae siaradwyr eraill eisoes wedi’u rhoi, ei bod yn debygol iawn y bydd angen diogelu’r setliad hwnnw.

Mae'r Papur Gwyn gwreiddiol a’r papur a welsom yr wythnos diwethaf yn disgrifio pwerau’n dod i Gymru 'pan fo hynny'n briodol'. Yr hyn nad yw yr un o'r ddwy ddogfen hynny’n ei ddweud yw y bydd pwerau’n dod i Gymru yn unol â’r setliad datganoli presennol. Nawr, gallech ddadlau y gellid gweld Bil parhad sy’n ymwneud â'r meysydd datganoledig fel cam cyntaf yn hytrach nag fel rhwyd ​​ddiogelwch, ac mae'n debyg mai dyna'r achos mewn rhai ffyrdd, oni bai eich bod yn myfyrio ar y ffaith, yn y Siambr hon, nad yw’n ymwneud â’r pwerau sydd gennym yn unig, ond yr arian sydd gennym, a bod hwnnw, a dweud y gwir, yn gwestiwn mwy o lawer.

Rydym yn canolbwyntio ar gael ein pwerau o statud ac mae hynny'n iawn, ond rydym yn dal i gael ein cyllid, yn y bôn, ar sail ysgwyd llaw. Rydym yn gwybod bod Barnett wedi torri; rydym yn gwybod hynny ers amser maith, ac er bod y fframwaith cyllidol yn datblygu materion yn ymwneud ag adlewyrchu angen ac annibyniaeth dyfarnu, nid yw hynny'n ddigon. Mae’n amlwg mai’r hyn y mae Brexit wedi ei wneud yw dangos yn glir mai nawr yw'r amser i roi ein cyllid ar sail statudol, a hynny o ran y cyllid sylfaenol—yr hyn yr ydym yn ei gael drwy Barnett—ond hefyd o ran bargen deg ar gyfer cyllid Ewropeaidd, y cyllid Ewropeaidd yr ydym yn ei golli.

Rwy'n credu bod angen statud cyllid arnom—rhyw fath o gyfansoddiad bach, os mynnwch—sy'n nodi’r ymrwymiad i ariannu, yr egwyddorion y cawn ein hariannu arnynt, sef ailddosbarthu ac adlewyrchu angen, a’r mecanwaith barnwrol i ddatrys anghydfodau rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae'r rhan fwyaf o wladwriaethau modern yn gweld hynny’n eithaf naturiol. Mae Llywodraeth y DU yn ei weld yn rhywbeth sy’n anodd iddi, ond rwy’n meddwl, ar ôl Brexit, mai’ r un peth y mae pobl yn ei ddeall yw pwysigrwydd cyllid ar gyfer dyfodol Cymru, ac rwy’n meddwl—

A fyddai'r Aelod yn cytuno, dim ond ar y pwynt hwnnw, mai’r hyn y mae’n ei gefnogi, mewn gwirionedd, yw system ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig?

Nid wyf yn gwybod ai system ffederal ydyw, ond rwy'n cefnogi system sy’n cynnwys mecanwaith cyllid teg statudol i ddiogelu Cymru. Ac rwy’n credu, wrth ddod allan o'r ddadl Brexit, bod pobl yn deall yr angen am hynny, ac y dylem ddadlau dros y dyfodol hwnnw.

Ym mis Mehefin 2017 dywedodd y dinasyddion, o fwyafrif bach ond digonol, ddau beth, rwy’n credu, wrthym. Nid oedden nhw eisiau aros yn rhan o lywodraethu Ewropeaidd. Rwy’n gwybod ein bod yn clywed yn aml am ein bod yn dal i fod yn Ewropeaid—wrth gwrs ein bod, ac rydym yn rhan o'r etifeddiaeth ddiwylliannol fawr honno, ond rydym wedi pleidleisio i gael gwared ar lywodraethu Ewropeaidd a byddwn yn wynebu goblygiadau hynny.

Yn ail, rwy’n meddwl eu bod wedi dweud bod angen inni ofalu llawer mwy am y rheini sy’n cael eu gadael ar ôl. Roedd yn neges enfawr, a rennir mewn llawer o gymdeithasau gorllewinol, mae'n rhaid dweud, ond mae'n ymddangos i mi mai’r neges yw nad yw ein cymdeithas yn ddigon cydlynol, a bod llawer o bobl yn teimlo nad ydynt yn cael bargen deg. Mae’r argyfwng penodol hwn, a dweud y gwir, wedi taro ers anawsterau ariannol 2008, a sbardunodd y dirwasgiad mawr, a’r darn hwn yw’r un y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno wrth i ni, yn y Cynulliad Cenedlaethol, ymdrin â Brexit, oherwydd ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn teimlo nad yw ein holl lywodraethu’n cyflawni ar y lefel y mae angen iddo gyflawni, felly mae'n rhaid inni gofio’r rheini sy'n cael eu gadael ar ôl.

Felly, pleidleisiodd mwyafrif bach i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rwy’n meddwl, i bawb ohonom sy’n undebwyr yn y Siambr hon—ac rwy’n parchu’r rheini nad ydynt—mae'n rhaid inni sylweddoli y bydd angen mwyafrif mawr i adfywio undeb y DU. Nid mater o warchod Prydain yw hwn, ond mater o ailadeiladu Prydain, a bydd y gwaith hwnnw’n gofyn am weledigaeth fawr, haelioni, ac ymwybyddiaeth bod angen perthynas newydd arnom nawr rhwng cenhedloedd y DU. Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ni ynddi ym 1973, ac mae hynny'n sicr yn wir, ac, yn wir, dyma pam, yn fras, yr wyf yn barod i gefnogi'r syniad o gyngor o Weinidogion nawr i ddatblygu proses Cydbwyllgor y Gweinidogion a'i gwneud yn fwy rhagweladwy, ffurfiol, a llawer agosach at galon ein trefniadau llywodraethu. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn optimist o ran—rwy’n meddwl bod llawer o'r iaith yn eithaf llym ar hyn o bryd o ran 'mae’n rhaid inni amddiffyn ein hardal', ac yn y cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd mawr nid ydym yn ymddiried yn llwyr yn ein partneriaid eraill, boed yn yr Alban, yn Llundain, lle bynnag, ac rwy’n meddwl bod angen inni ddod dros hyn. Mae angen inni feddwl am y swyddogaethau sydd eu hangen arnom. Mae angen inni ofyn i ni ein hunain beth sydd ei angen er mwyn i farchnad y DU weithredu, nid yn unig dros yr economi—nid oes llawer o ddadlau am hynny—ond dros feysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae angen i ni fod yn ofalus iawn, iawn am yr hyn yr ydym yn ei ddymuno, oherwydd rwy’n meddwl bod unrhyw ddadl sydd yn y bôn yn dweud bod y cymwyseddau presennol, a gafodd eu harchwilio ychydig flynyddoedd yn ôl yn yr astudiaeth honno yn y swyddfa dramor, a benderfynodd yn y bôn bod yr hyn a oedd ar lefel yr UE yn briodol ar lefel yr UE—. I ddadlau bod y cymwyseddau presennol hynny sy'n sail i’r fframweithiau Ewropeaidd yr ydym nawr yn eu gadael, bod y cymwyseddau hynny’n mynd o'r lefel uwch-wladwriaeth yn syth i lawr i'r lefel is-wladwriaeth heb aros yn y canol—wir, rwy’n meddwl bod angen inni fod yn ofalus am y dadleuon puryddol iawn hyn sy'n fy atgoffa o ddadleuon yr eglwys ganoloesol am natur yr undeb hypostatig; hynny yw, rydych chi’n colli’r darlun mawr. Mae angen i'r DU weithio fel—

Rwy'n meddwl mai’r pwynt yw bod y pwerau eisoes yma nawr a’u bod yn cael eu cyfuno ar hyn o bryd at lefel yr Undeb Ewropeaidd, a, phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y pwerau’n aros yma. Nid dychwelyd pwerau yw hyn; mae gennym gymhwysedd yn y meysydd hyn nawr. Nid yw'n fater o’u trosglwyddo i Lundain neu i Frwsel neu i Gaerdydd, neu i ble bynnag arall; maen nhw yma nawr, dyna'r pwynt sylfaenol.

Wel, dywedodd gwas sifil doeth wrthyf unwaith mai’r gwir brawf o aeddfedrwydd yw'r gallu i fyw â pharadocs, ac rwyf wir yn meddwl bod yn rhaid inni gydnabod mai—. Wyddoch chi, y gwir mawr yma yw, yn 1997/8/9, pan symudodd y wlad hon at ddatganoli a Llywodraeth ddatganoledig, mai’r fframwaith oedd ein bod o fewn gwregys yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd unrhyw un yn meddwl ar y pryd—ar wahân i’n ffrindiau i’r dde i mi, ac roedd yn freuddwyd bell bryd hynny—y byddem yn gadael y fframwaith hwnnw. Dyna oedd sylfaen y setliad datganoledig, mewn gwirionedd, a phe na byddai hwnnw wedi bodoli bryd hynny, rwy’n meddwl y byddai wedi bod angen trefniadau gwahanol iawn o ran yr amgylchedd a llawer o bolisïau eraill. Ond rydych yn iawn, gall rhywun ei ddarllen yn eich ffordd chi, ond nid wyf yn meddwl bod hynny, yn swyddogaethol, yn mynd â chi’n bell iawn, oherwydd yn y bôn rydych yn dweud, 'Ie, hoffem gael y pwerau hyn i gyd, efallai y byddwn yn rhoi rhai ohonynt yn ôl i’r—

Wel gadewch imi ddefnyddio'r iaith fel y mynnaf.

'A gyda llaw, yr hyn yr hoffem i Lundain ei gael yw’r holl ymrwymiadau i ariannu’r polisïau yr ydym nawr yn mynd i’w rhoi ar waith.' A dweud y gwir, os nad oes gennym gymwyseddau swyddogaethol ar y lefelau sydd eu hangen arnom, sef y ddadl pro-Ewropeaidd a fu gennym erioed—nawr rydych chi’n Brexiteer bach wrth ddweud, 'Na, na, mae'n rhaid inni fynd yn micro a chael popeth yn ôl a’i ddiogelu'. Mae angen inni gyfuno’r pethau hyn; mae angen inni weithio'n effeithiol.

Ond yma rwyf—ac rwy’n diweddu â hyn, gan fod fy amser yn brin—mae arnom angen strwythurau effeithiol, rhynglywodraethol. Ac mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU weithio'n galed iawn arno, ac yn ddiffuant arno, ac â gweledigaeth fawr, gan fod yn barod i roi a derbyn. Diolch.

Rwyf wrth fy modd o ddilyn David Melding. Rwy'n ymddiheuro iddo am fy anallu i gymryd rhan yn y ddadl ynglŷn ag undeb hypostatig yr eglwys ganoloesol. Efallai y gallwn drafod yn all-lein.

A gaf i ddweud fy mod yn gobeithio y bydd y broses dwy flynedd o dynnu allan yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, o fewn ein Teyrnas Unedig ac o fewn y Cynulliad? Rwy’n credu bod y llythyr erthygl 50, a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU, yn gampwaith o iaith ddiplomyddol. Nid wyf yn gwybod a yw Prif Weinidog Cymru wedi ei argyhoeddi bod hynny’n well na dweud yn blaen, 'Rydym drwy hyn yn tynnu'r Deyrnas Unedig allan o dan erthygl 50 o gytuniad yr Undeb Ewropeaidd', ond fel darn diplomyddol i osod sail ein trafodaethau a’n dyhead am berthynas eang o ran masnach a diogelwch—a thu hwnt—roeddwn yn teimlo ei fod yn darllen mewn ffordd gymhellol iawn.

Rwy’n meddwl y bu—

David Rees a gododd—

A gaf i barhau am ychydig bach?

Mae’n siŵr gen i y bu llawer o gyswllt rhwng Llywodraeth y DU a'r Cyngor Ewropeaidd o ran gweld eu drafftiau ei gilydd a rhoi sylwadau, ac eisoes rhywfaint, os nad o drafod, o adborth gan y naill ochr i’r llall o leiaf. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac rwy’n rhannu rhywfaint o edifeirwch y Prif Weinidog am hynny. Ond mae'n rhaid iddo ddeall nad oes Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, a bod Llywodraeth yr Alban yn Llywodraeth SNP sydd ag arweinydd sy’n ymroddedig i chwalu’r Deyrnas Unedig.

Rwy’n ei annog unwaith yn rhagor i ddiogelu buddiannau Cymru: os gwelwch yn dda, ceisiwch drafodaethau sylweddol, eang, dwyochrog, preifat, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i geisio gwthio rhai o'r materion hyn er budd Cymru. Byddwn hefyd yn ei annog i dderbyn ple Julie Morgan nad dim ond Gweinidogion y DU, ond Aelodau allweddol o’r Cynulliadau hyn, sydd wedi gwneud ymrwymiadau neu o leiaf wedi awgrymu y byddai rhai pethau’n digwydd er budd Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig ar yr ochr ariannol—byddwn yn ei annog i weithio gyda'r bobl hynny a ymgyrchodd dros ‘gadael’, nid dim ond y rhai a ymgyrchodd dros ‘aros’, gan gynnwys y rhai a allai ddylanwadu ar bartner negodi'r DU.

Mae’r mandad trafod drafft a ddaeth yn ôl o'r Cyngor Ewropeaidd yn fy nghalonogi, yn ogystal â llythyr erthygl 50. Mae'n cyfeirio at y ffaith y bydd trafodaethau o dan erthygl 50 yn cael eu cynnal fel un pecyn. Mae wedyn yn dweud y gellid nodi’r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol yn ystod ail gyfnod y trafodaethau o dan erthygl 50, cyn gynted â bod digon o gynnydd wedi'i wneud yn y cam cyntaf. Ac ydynt, mae trafodaethau ariannol yn rhan o hynny, ond mae amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys hawliau dinasyddion yr UE yn y wlad hon, yr ydym yn awyddus iawn i’w setlo a’u gwthio ymlaen a dangos cynnydd da arnynt. Felly, rwy’n meddwl bod cysylltu’r rheini’n rhywbeth calonogol.

Rwyf hefyd yn meddwl, o ran swyddogaeth Llys Cyfiawnder Ewrop—. Y paragraff perthnasol am hwnnw yw paragraff 16:

Dylai'r cytundeb tynnu'n ôl gynnwys mecanweithiau priodol i ddatrys anghydfodau.

Ond mae'r cyngor wedyn yn cyfeirio at y rhain ‘gan gofio’ budd yr undeb, a Llys Cyfiawnder Ewrop, sy’n rhywbeth yr wyf yn meddwl y gallwn weithio gydag ef wrth drafod yr hyn a fyddai'n weithdrefn setlo briodol.

Yna, mae gennym yr adran am Gibraltar, sydd wedi cael llawer o sylw. Rwyf wir yn meddwl y gallai fod pobl yn colli un o oblygiadau eithaf allweddol y paragraff 22 hwn yn y mandad negodi: sef, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, na all unrhyw gytundeb fod yn gymwys i Gibraltar heb gytundeb Sbaen.

Nawr, byddai’r frawddeg honno’n ddianghenraid, yn ddiangen, oni bai bod rhywun yn ystyried y byddai’r cytundeb hwnnw’n golygu mwyafrif cymwysedig, yn yr Undeb Ewropeaidd. Os bydd, fel y mae’r Prif Weinidog Cymru yn ei ofni, yn drafodaeth gymysg, ar ôl gadael, byddai hynny’n gadael y cytundeb unfrydol i aelod-wladwriaethau, ac, o bosibl, i seneddau rhanbarthol, ac felly ni fyddai angen rhoi’r warchodaeth benodol honno i Sbaen, gan y byddai ganddi eisoes feto dros gytundeb o'r fath.

Felly, rwy’n meddwl ei bod yn galonogol bod yr Undeb Ewropeaidd yn edrych ar drefniadau masnach a threfniadau eraill cysylltiedig ar ôl Brexit fel rhai y gellid trafod drwy fwyafrif cymwysedig. Ac rwy’n meddwl bod y ffaith bod y trafodaethau hyn, o leiaf ar ôl ychydig, yn gallu symud ymlaen ochr yn ochr yn dda, i'r graddau, dyweder, yr oedd cytundeb Canada yn gytundeb cymysg a oedd yn gorfod mynd i'r seneddau rhanbarthol a bod yn unfrydol. Ond mae'r elfennau cymysg mewn unrhyw gytundeb masnach yn rhai y gallem o bosibl ymdrin â nhw gydag erthygl 50, a'r un o ran masnach fyddai'r un lle'r oedd gan y Comisiwn Ewropeaidd gymhwysedd unigryw. Felly, unwaith eto, byddai hynny drwy bleidleisio mwyafrif cymwysedig. Rwy’n meddwl bod hynny o bosibl yn gwneud cytundeb yn haws.

Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn ddiddorol bod yr UE yn dweud mai hwn yw’r olynydd i'r holl gytundebau. Hyd yn oed pan fyddem fel 28 neu 27 o aelod-wladwriaethau yn trafod ar ran yr Undeb Ewropeaidd oherwydd bod ganddo ddiffyg personoliaeth gyfreithiol, mae’r UE yn dweud, wel, dyna ei gytundeb ac nid yw'n ein rhwymo ni. Felly, er enghraifft, ar yr ymrwymiad WTO UE o ran y cwota di-dariff ar gyfer cig oen o Seland Newydd, maent yn awgrymu mai mater i'r UE yw hwnnw, ac maen nhw eisiau i ni gymryd ein cyfran o gytundebau rhyngwladol, ond mae hynny'n rhywbeth i ni gytuno arno â nhw, ac nid yw’n rhywbeth y maen nhw’n ei ystyried yn rhwymol arnom ni. Felly, rwy'n meddwl bod hynny'n addawol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn olaf, fel Prif Weinidog Cymru, nid wyf eisiau gweld tariffau, ond ar y rhan fwyaf o ddadansoddiadau economaidd safonol, yn syml, mae’n anghywir dweud mai defnyddwyr sy’n gorfod talu’r cyfan o unrhyw dariff. Mae gennych gromlin galw a chyflenwad, ac wrth i’r pris godi, mae defnyddwyr yn prynu llai, fel bod cyflenwad ymylol yn cael ei wasgu allan, a gweddill y cyflenwad ar gael am bris is gan y cyflenwr tramor. Nawr, mae faint o'r tariff hwnnw sy’n cynyddu’r pris i'r defnyddiwr, a faint fyddai’n darparu pris gostyngol i gyflenwyr i ddal gafael ar eu cyfran ar adegau pan fo llai yn cael ei gyflenwi yn y farchnad, yn dibynnu ar ddeinameg y farchnad. Ond rwyf wir yn obeithiol y byddwn yn gweld bargen masnach rydd heb dariffau, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff y Prif Weinidog weithio gyda phawb yn y Cynulliad hwn, yn ogystal â Llywodraeth y DU, a pharhau i edrych ar hyn i gyd mewn ffordd gadarnhaol.

Mi wnaf rai sylwadau perthnasol i Gymru gyfan, ac yn arbennig, felly, fy etholaeth i yn Ynys Môn. Rydym ni i gyd wedi clywed pobl yn sôn am bwysigrwydd cymryd rheolaeth yn ôl. Beth nad ydym yn eglur amdano fo, wrth gwrs, yw beth yn union rydym yn sôn amdano fo: pa fath o reolaeth, nac ychwaith beth fydd y gost o gymryd y rheolaeth yna. Y peryg rydym yn ei wynebu yng Nghymru bellach yw y gallem ni fod yn colli rheolaeth yn sgil bwriad Llywodraeth Prydain drwy’r ‘great repeal Bill’. Rydym ni wedi clywed rhai o fy nghyd-Aelodau i yn sôn am hynny. Er enghraifft, rwy’n bryderus iawn dros y diwydiant amaeth yn fy etholaeth i os yw Llywodraeth Prydain yn gwneud yr hyn y maen nhw’n bygwth ei wneud, maen ymddangos, o ran cadw hawliau fframweithiau Ewropeaidd iddyn nhw eu hunain, dros dro o leiaf, efo dim addewidion yn yr hirdymor, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd yn gyfiawn, yn gyfansoddiadol, rwy’n credu, ac yn allweddol ar gyfer ein economi wledig, a chymdeithas wledig, sef i sicrhau bod Senedd Cymru yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn am faterion yn y maes yma, maes sydd yn gwbl glir yn faes datganoledig.

Ond mi soniaf, os caf, am fater arall o golli rheolaeth a ddaw yn sgil llythyr erthygl 50: nid colli rheolaeth am resymau cyfansoddiadol, nid am resymau deddfwriaethol, ond drwy oblygiadau ymarferol y math o ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd mae Llywodraeth Prydain, maen ymddangos, yn benderfynol o chwilio amdano fo. Ynys Môn ydy’r prif borth ar gyfer masnach rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Drwy borthladdoedd Cymru mae dros tri chwarter y masnach ar lorïau rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop yn pasio. Mi wnaeth 79 y cant o’r rheini basio drwy borthladd Caergybi. Mi basiodd dros 2 filiwn o bobl drwy’r porthladd: cannoedd o filoedd o geir, a miloedd o fysys. Rwy’n gobeithio fy mod yn creu darlun o pam bod porthladd Caergybi mor bwysig i Gymru a mor bwysig i Ynys Môn, lle mae cannoedd, wrth gwrs, yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y porthladd, a llawer mwy mewn busnesau sy’n gysylltiedig â llwyddiant y porthladd. Fy mhryder i ydy bod Llywodraeth Prydain yn gwirfoddoli i golli rheolaeth dros ffyniant y porthladd hwnnw, drwy benderfynu, maen ymddangos, ildio’i haelodaeth o’r farchnad sengl, ac, o bosib, yr undeb tollau. Os oes rhaid, am resymau amlwg iawn—achub y broses heddwch—sicrhau ffin feddal rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, fyddai hynny ddim yn wir rhwng Cymru ac Iwerddon. Mi fyddai Caergybi/Dulyn yn ffin galed, bosib iawn. Mi fyddai yna demtasiwn mawr, rwy’n siŵr, i ddatblygu teithiau uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc—teithiau sy’n bodoli ar hyn o bryd, wrth gwrs. Rwy’n ofni yn wirioneddol beth fyddai effaith troi Caergybi o’r llwybr cyflymaf, y llwybr hawsaf, y llwybr mwyaf effeithiol rhwng Ewrop ac Iwerddon, i un o’r llwybrau anoddaf.

Mi geisiom ni yn y Papur Gwyn, a gafodd ei lunio ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ddweud pa reolaeth fyddem ni’n dymuno i Lywodraeth Prydain ei chadw, os liciwch chi, ar y berthynas rhwng Prydain ac Ewrop yn y dyfodol. Mae chwarae rhan yn y farchnad sengl yn agos at frig y rhestr honno, os nad ar y brig. Nid wyf i ishio gadael yr Undeb Ewropeaidd—ni fyddaf i byth. Ond gan mai dyna’r cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo fo, rydym ni’n gorfod chwilio am fesurau lliniaru, ac mae’r farchnad sengl yn gwbl allweddol i hynny. Mae angen parhau i bwyso am hynny.

I gloi, mi wnaf i droi at y Bil parhad sy’n destun ein gwelliant ni. Mi ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o’n credu mai ‘last resort’ ddylai Bil parhad fod er mwyn sicrhau dyfodol cyfansoddiadol Cymru a sicrhau ein bod ni yn Senedd Cymru yn datgan mewn deddfwriaeth ein disgwyliadau ni na fydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn tanseilio’n gallu i weithredu ar ran pobl Cymru. Mi ychwanegodd y byddai’n rhaid aros am y ‘great repeal Bill’ yn gyntaf. Mi ddywedaf i hyn: siawns mai rŵan ydy’r cyfle a’r amser inni weithredu, achos ni allwn ni ddim aros i weld os ydy Llywodraeth Prydain yn mynd i weithredu mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, achos nid ydy’r arwyddion yno ar hyn o bryd bod Llywodraeth Prydain am wneud hynny.

Diolch i'r Aelod am ildio. A fyddai hefyd yn cytuno â mi ei fod yn fater o fwy byth o frys ein bod yn deddfu cyn gynted â phosibl gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud ar goedd na fydd yn cyhoeddi drafft o'r Bil diddymu mawr? Felly, beth bynnag a ​​gyhoeddir a phryd bynnag y caiff ei gyhoeddi—erbyn canol mis Medi—ni fydd gennym yr amser i ymateb iddo, o leiaf yn ddeddfwriaethol.

Mae’r Aelod yn sicr yn pwysleisio, unwaith eto, culni'r ffenestr sydd gennym o'n blaenau.

The Secretary of State for Wales has made it quite clear that he isn’t interested in expressing the views of Wales in the Cabinet, but he sees his role as communicating to Wales what the Cabinet in Whitehall has decided for Wales, whether that is for our benefit or not. Now take this opportunity, Welsh Government, to set our legislative stall out. Protect what we have. Once the repeal Bill is on the statute book, without legislation to challenge it in place in this Parliament, then the Welsh line of defence will be very thin indeed.

Mae cyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffaith bod Llywodraeth y DU, ar ôl llawer o gerdded drwy'r tywyllwch, wedi, o’r diwedd, cyrraedd pwynt lle mae nawr yn dechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â chanlyniadau'r refferendwm ar 23 Mehefin. Fodd bynnag, fel y gwyddom i gyd, dim ond un peth a ddywedodd y refferendwm hwnnw: bod yn rhaid inni adael sefydliadau'r UE. Nid oedd yn penderfynu ar ba delerau y byddem yn gadael ac nid oedd yn trafod y berthynas newydd â’r 27 o aelod-wladwriaethau eraill. Dyma pam mae’n bwysig nawr rhoi ein hamcanion ni ar yr agenda, wrth i’r broses ynglŷn â hynny ddechrau.

Rwy'n siomedig, cyn y pwynt hwn a chyn rhoi erthygl 50 ar waith, nad yw Llywodraeth San Steffan wedi trin y mater hwn mewn modd sy’n dangos digon o barch i sefydliadau’r gwledydd datganoledig wrth symud ymlaen, er bod Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ill dwy wedi cyflwyno eu cynigion eu hunain i’w hystyried. Nawr, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad datganedig i gynnwys y gwledydd datganoledig yn llawn. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ddim ond cwrdd â Gweinidogion drwy'r Cydgyngor Gweinidogion, neu'r JMC(EN), ond ystyried mewn gwirionedd yr hyn y mae pob Llywodraeth wedi’i gyflwyno gan gynnwys Gweinidogion o genhedloedd datganoledig yn y broses negodi, pan fo’n briodol, a chreu mecanwaith cyfansoddiadol newydd ar gyfer ein gwledydd.

Cafodd hyn sylw yn yr adroddiad gan Bwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gyhoeddwyd heddiw, yn, i’r rhai a hoffai ei ddarllen, paragraff 10 a pharagraff 13—edrychwch yn ofalus arno—ond hefyd mewn adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n datgan, a dyfynnaf:

Bydd hyn yn golygu y bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig reoli rhyngwynebau newydd—a’r posibilrwydd o gyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd—rhwng materion a gadwyd a chymhwysedd datganoledig mewn meysydd lle nad yw gwrit cyfraith yr UE yn berthnasol mwyach. Bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gytuno, cyn Brexit, sut i reoli’r rhyngwynebau newydd hynny.’

Mewn geiriau eraill, mae pawb yn dweud, ac eithrio Llywodraeth y DU, 'Mae angen strwythur cyfansoddiadol sy'n seiliedig ar statud, nid dim ond ar ysgwyd llaw da.' Llywydd, mae rhai yn Llywodraeth y DU sydd wir yn derbyn datganoli. Mae rhai hyd yn oed yn ei ddeall, ond mae gormod nad ydynt ac sy’n credu bod yn rhaid i bopeth gael ei lywio gan San Steffan a Whitehall. Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gydweithio’n wirioneddol gryf gyda'n cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwireddu ei geiriau a’i theimlad yn y llythyr erthygl 50 ac ym Mhapur Gwyn y Bil diddymu mawr. Maent yn ei ddweud; gadewch inni wneud yn siŵr eu bod yn ei wneud.

Dirprwy Lywydd, roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod yr economi ar frig yr agenda, ac yn ddealladwy felly, oherwydd mae angen ffyniant ar draws y genedl hon ac mae gallu busnesau Cymru i fasnachu heb rwystrau—boed yn ariannol neu’n rheoleiddiol—yn hanfodol i ganiatáu iddi dyfu. Ac mae gweithgynhyrchu’n chwarae rhan fawr yn economi Cymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y DU—yn wir, mae’n 16 y cant o GYC. Ac felly, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw ysgariad anodd, â'r rheolau WTO Brexit, yn digwydd, gan y byddai'n golygu gosod tariffau andwyol ar ein hallforion.

Sylwais fod gwelliant 6 UKIP yn tynnu sylw at y ffaith yr hoffent ddweud, 'Mae'n £8 biliwn; gallwn ni ddefnyddio'r arian.' Rwy’n meddwl mai’r cwbl yw hynny yw esgus i gyfiawnhau pam na allant wir gyflawni eu haddewidion o ddarparu £350 miliwn yr wythnos i’n gwasanaethau cyhoeddus. Maen nhw’n awyddus i guddio'r ffaith na allant wneud hynny, ac felly maen nhw nawr yn dweud, 'O, gadewch inni gael rhyw £8 biliwn arall gan yr UE.' Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ymdrin ag ef yn glir iawn. Blaenoriaeth y Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yw mynediad dilyffethair, ac mae'n un y dylem i gyd ei chroesawu. Rydym yn gwybod bod—. Rydym yn deall bod cytundebau masnach rydd yn bwysig, ond mae’n rhaid i ni hefyd ddeall safbwynt 27 yr UE, oherwydd yn aml iawn, rydym yn sôn am ein safbwynt hi, ond ceir trafodaethau.

Soniodd Mark Reckless am ‘feistrolaeth’ y llythyr ar erthygl 50. Gwelais i fygythiad cudd yn y llythyr hwnnw am ddiogelwch. Nid wyf yn galw hynny’n ‘feistrolaeth’; rwy'n galw hynny’n ‘fygythiadau a brawychu’, ac nid yw hynny'n negodi da.

A gaf i ddweud, roedd fy araith gyfan bron yn ymroddedig i'r mandad negodi drafft, a gwelais ryw dri neu bedwar peth yr oeddwn yn meddwl eu bod yn gadarnhaol iawn, ac a allai wir ganiatáu negodi da er budd i'r ddwy ochr ac a oedd yn dangos parch at safbwynt yr UE?

Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond pan ofynnais am gael ymyrryd ar y pwynt a gododd ar y dechrau, ni wnaeth adael imi wneud hynny. Felly, cymerais y cyfle nawr i ddweud wrtho beth yr wyf yn ei feddwl am y peth—yn eithaf clir.

Nawr, rydym yn deall bod risgiau. Mae risgiau oherwydd ein bod yn gadael. Mae'n rhaid inni ymdrin â'r risgiau hynny yn y trafodaethau sydd i ddod, ac rwy’n credu’n gryf y bydd cyfranogiad uniongyrchol Gweinidogion Llywodraeth genedlaethol Cymru yn y trafodaethau hynny yn bwysig. Mae'n rhaid inni symud ymlaen. Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly—. Ar y gwelliant, byddai’n dda gen i pe byddech wedi dweud y byddem yn 'paratoi' Bil, nid yn ‘gosod’ Bil, oherwydd rwy’n meddwl bod paratoi un, ar hyn o bryd, yn bwysig. Semanteg yw hynny, ond mae'n semanteg bwysig. Mae gosod Bil, efallai, ar hyn o bryd yn rhyfygus oherwydd nad ydym wedi gweld y Bil eto. Nid ydym wedi gweld y Bil eto. Mae angen inni ei weld. Ond ni wnaf wadu bod paratoi yn bwysig yn y sefyllfa honno.

Mae gan Lywodraeth y DU fandad i ni adael yr UE, ond does dim mandad i ddefnyddio Brexit fel esgus dros newid agweddau ideolegol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Wrth iddynt negodi ein gadael a'n perthynas yn y dyfodol, mae'n rhaid iddynt dderbyn newidiadau strwythurol cyfansoddiadol, ac mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn anwybyddu buddiannau a blaenoriaethau'r cenhedloedd datganoledig.

Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw. Roeddwn i'n meddwl bod y Prif Weinidog wedi codi rhai pwyntiau rhesymol heddiw, ac mewn modd cytbwys, ac nid yw pethau wedi bod mor chwyrn yma heddiw, sydd efallai’n ddatblygiad i’w groesawu—ond efallai y gwnaiff hynny newid. [Chwerthin.] Ar ôl Brexit, bydd angen canolwr annibynnol ar y DU i lywodraethu dros faterion fel cymhwysedd cyfreithiol a'r hyn sy'n cael ei alw’n ‘farchnad fewnol y DU’. Yr awgrym yw mai, yn y pen draw, efallai mai’r Goruchaf Lys fydd y prif ganolwr. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud cyn hyn na all Llywodraeth y DU, mewn termau cyfansoddiadol, fod yn farnwr ac yn rheithgor. Rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn UKIP yn rhy ofnus o gael ein Goruchaf Lys ni ein hunain yn y Deyrnas Unedig fel y canolwr cyfansoddiadol terfynol. Rydym hefyd yn awyddus i rymuso’r Goruchaf Lys, a dyna pam yr ydym ni yn UKIP eisiau i Brexit gynnwys ymadawiad y DU o Lys Cyfiawnder Ewrop. Gobeithio bod y Prif Weinidog yn cytuno â'r canlyniad hwn.

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod yn rhaid i’r hyn sy’n ddatganoledig aros yn ddatganoledig. Mae hyn yn swnio'n rhesymol. Y broblem yw bod mater cymhwysedd cyfreithiol wedi bod braidd yn hylifol—braidd yn niwlog—yn y byd ar ôl datganoli. Er enghraifft, mae'r Bil Undebau Llafur (Cymru) yn cael ei drafod ar hyn o bryd gan y pwyllgor Cynulliad perthnasol; rwy’n aelod ohono. Rydym yn cael ein hannog gan Weinidog Llywodraeth Cymru, yn yr achos hwn, i gefnogi’r Bil hwn er ei fod yn derbyn y bydd cymhwysedd cyfreithiol yn y maes hwn yn dychwelyd i Lywodraeth y DU ar ôl i Fil Cymru ddod yn gyfraith. Felly, mae’r pethau hyn yn eithaf hyblyg ac nid ydynt wedi’u hysgrifennu mewn carreg.

Yr hawliad bod yn rhaid i bob ceiniog a gollwyd o gyllid yr UE i Gymru gael ei darparu o gronfeydd Llywodraeth y DU: cododd Julie Morgan hyn heddiw, yn gwbl briodol. Rydym yn cytuno â'r hawliad hwn, ac rydym wedi gwneud hynny o’r cychwyn. Ond gwnaeth Jeremy Miles awgrym adeiladol heddiw, ac fe welodd gyfle—. O, mae wedi mynd, ond gwnaeth gyfraniad adeiladol, roeddwn i'n teimlo. Gwelodd gyfle yn Brexit, sef y gallai fod yn gyfle i roi cyllid Cymru ar sail statudol, a gallai fod yn werth archwilio hynny yn y dyfodol. Diolch.

Diolch, Llywydd. Wel, fel arfer, mae’r ddadl hon yn cael ei chynnal gyda’r cysyniad gwallus bod yr Undeb Ewropeaidd a'i sefydliadau llywodraethu wedi bod yn ffactor llesiannol enfawr i'r gwledydd y mae'n eu rheoli. Y gwir yw mai dim ond dau grŵp o bobl sydd wedi elwa ar yr Undeb Ewropeaidd: busnesau mawr a'r elît gwleidyddol. Os ydych chi’n herio cywirdeb y gosodiad hwnnw, gofynnwch am farn gwlad Groeg, yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal, lle mae diweithdra oddeutu 50 y cant, ac unig obaith y bobl o gael gwaith yw ymfudo. Ni wnaf ofyn ichi i ble y maen nhw’n tueddu i ymfudo. Dro ar ôl tro, rydym yn gweld uchelgeisiau gwleidyddol gwleidyddion Ewrop yn cael blaenoriaeth dros les y bobl sy'n gweithio yn yr UE. Gallwch ddadlau yn ddiddiwedd am ganlyniadau masnachol Brexit o'r UE, ond y gwir yw bod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn drychineb economaidd i lawer o'i aelodau. Mae gennym aelodau o'r Comisiwn Ewropeaidd sy’n gwneud penderfyniadau gan wybod yn iawn na fyddan nhw eu hunain yn dioddef yn ariannol mewn unrhyw ffordd oherwydd y penderfyniadau hynny. Tybed faint ohonyn nhw sy’n oedi i ystyried golygfa ofnadwy y fferyllydd o wlad Groeg a roddodd ei hun ar dân oherwydd bod eu polisïau wedi achosi dinistr ariannol iddo.

Dro ar ôl tro yn y Siambr hon, rydym wedi clywed dadleuon ‘Wnân nhw ddim caniatáu hyn’ neu ‘Wnân nhw ddim caniatáu’r llall.’ Wel, pwy yw'r ‘nhw’ yma yr ydych chi’n sôn amdanynt? [Torri ar draws.] Wel, gwleidyddion, wrth gwrs. Ond rwy’n ailadrodd yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn y gorffennol: nid gwleidyddion fydd—

[Yn parhau.]—er eu holl fursennu, pwy fydd yn penderfynu ar y telerau ar gyfer inni adael Ewrop; busnesau Ewrop a fydd yn penderfynu, a nhw a fydd yn mynnu mynediad rhydd a dilyffethair i’n marchnadoedd.

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych chi’n cytuno bod yn rhaid i ganlyniad terfynol unrhyw drafodaethau gael ei roi gerbron y cyngor, sef penaethiaid pob gwladwriaeth—gwleidyddion; bod yn rhaid ei roi gerbron Aelodau Senedd y DU—gwleidyddion—

[Yn parhau.]—a hefyd gerbron Llywodraeth y DU—gwleidyddion? Felly, mewn gwirionedd, gwleidyddion a fydd yn gwneud y penderfyniad, nid yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud.

Wel, gwrandewch ar y paragraffau nesaf ac efallai y gwnewch chi newid eich meddwl ar hynny, David.

Nid yw unrhyw un sy'n credu fel arall—[Torri ar draws.] Nid yw unrhyw un sy'n credu fel arall yn deall masnach ryngwladol o gwbl. Nid Llywodraethau sy’n gwerthu nwyddau i wledydd eraill; busnesau sy’n gwerthu nwyddau i wledydd eraill. Unig swyddogaeth a dyletswydd pob Llywodraeth yw cael gwared ar gymaint o rwystrau i'r fasnach honno ag y bo modd, a dyna, yn y pen draw, beth fydd yn rhaid i Lywodraethau Ewrop, ac felly y Comisiwn Ewropeaidd, ei wneud. Os ydym am drafod yr Undeb Ewropeaidd, gadewch inni beidio ag edrych ar y sefydliad hwn drwy sbectol lliw rhosyn, ac esgus ei fod yn sefydliad heb anfanteision enfawr. Mae ei bolisïau wedi achosi canlyniadau trychinebus i ran helaeth o boblogaeth Ewrop. Mae'r gwir bragmatyddion yn ein plith yn cydnabod bod ysgariad—unrhyw ysgariad—oddi wrth Ewrop yn well na chael ein clymu at undeb sy’n siŵr o lithro ymhellach ac ymhellach i lawr tablau masnach economaidd.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl. Carwyn Jones.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol at y ddadl. Os caf ddechrau, yn gyntaf oll, ag arweinydd UKIP. Nid wyf yn awyddus, yn ystod fy ymateb, i ailadrodd rhai o'r trafodaethau a gawsom o'r blaen; rwy’n mynd i ymdrin â rhai o'r materion mwy newydd sydd wedi codi. Yn gyntaf oll, mae peryglon mawr y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio defnyddio pwerau Harri VIII er mwyn osgoi craffu gan Senedd y DU, ac yn wir i atal y sefydliad hwn rhag cymryd ei gamau ei hun o ran Brexit, ac mae hynny'n rhywbeth a fyddai’n gwyrdroi democratiaeth, yn fy marn i, a dweud y gwir—osgoi’r math hwnnw o graffu.

O ran y farchnad, mae'n rhaid inni gofio bod y farchnad Ewropeaidd sengl yn un o farchnadoedd mwyaf y byd a’i bod ar garreg ein drws. Pe byddem yn chwilio am berthynas newydd gyda'r UE, dyna’r farchnad gyntaf y byddem yn edrych arni, gan fod gennym ffin tir â hi, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Iawn, efallai fod cytundebau masnach rydd â gwledydd eraill yn bwysig, ond nid yw Awstralia a Seland Newydd yn mynd i gymryd lle’r farchnad sengl Ewropeaidd o ran ei gwerth inni.

Nid oes neb yn dadlau o blaid tariffau. Nid wyf wedi clywed neb yn dadlau y dylid gosod tariffau. Nid wyf yn cytuno, o reidrwydd, â barn Mark Reckless y gallai tariffau rywsut gael effaith fach iawn. Bydd rhai yn cael mwy o effaith nag eraill a’r mwyaf anelastig yw’r galw am gynnyrch, y mwyaf o effaith y bydd tariffau’n ei chael. Y cryfaf yw brand cynnyrch—ar gyfer gwneuthurwr ceir o'r Almaen, nid wyf yn meddwl eu bod nhw’n arbennig o bryderus. Maen nhw’n gwybod y bydd pobl yn parhau i brynu BMW a Mercedes, hyd yn oed os aiff y pris i fyny, oherwydd bod pobl eisiau eu prynu oherwydd y brand. Bydd y defnyddiwr yn talu'r pris o ganlyniad i hynny. Ond bydd yn gwybod mai holl bwynt tariff yw gwneud nwyddau tramor yn ddrutach mewn marchnad ddomestig er mwyn i nwyddau domestig ymddangos yn rhatach i'r defnyddiwr. Felly, mae’n dreth y mae'n rhaid i ddefnyddwyr ei thalu os ydynt yn mynd i brynu nwyddau o'r tu allan i’r farchnad honno. Y pryder sydd gennyf yw, os nad oes cytundeb mewn amser anhygoel o fyr—erbyn, mewn gwirionedd, hydref y flwyddyn nesaf—bydd tariffau’n ymddangos yn ddiofyn. Nid oes neb eu heisiau nhw, ond maent yn ymddangos yn ddiofyn ar y cam hwnnw, a byddwn wedyn mewn sefyllfa sy'n anfoddhaol i bawb sy'n ymwneud â’r trafodaethau hyn.

Rwy'n pryderu am amaethyddiaeth, oherwydd, fel y dywedodd arweinydd UKIP yn ddigon gwir, mae gan amaethyddiaeth le arbennig yng nghalonnau pobl. Mae pobl yn arbennig o amddiffynnol tuag at amaethyddiaeth, ac mae'n aml yn wir bod amaethyddiaeth yn cael ei heithrio o gytundebau masnach rydd. A gaf i ei gwneud yn hollol glir na fyddem o dan unrhyw amgylchiadau yn derbyn cytundeb masnach rydd a fyddai’n eithrio gallu ein ffermwyr i werthu i’w marchnad fwyaf? Mae naw deg y cant o'r hyn yr ydym yn ei gynhyrchu sy'n cael ei allforio yn mynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd. Ni fyddem yn derbyn unrhyw rwystrau i fasnachu yn hynny o beth.

Ond rwy’n pwyso ar y rheini a oedd o blaid gadael i symud y tu hwnt i ail-ddadlau am y refferendwm a chyflwyno eu cynlluniau eu hunain. Yr eironi mawr ar hyn o bryd yw mai’r rhai ohonom a oedd o blaid aros sydd mewn gwirionedd yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adael, tra bod y rhai a oedd o blaid gadael braidd yn ansicr beth sy'n digwydd nesaf. Mae gan rai ohonynt syniadau, ond nid eraill—nid wyf am roi pawb yn yr un categori—ond rwy’n annog pawb a oedd o blaid gadael i gyflwyno cynllun yn hytrach na dweud, 'Wel, mae canlyniad y refferendwm wedi digwydd, ac felly mae'n rhaid inni adael.' Mae angen mwy na hynny arnom.

O ran y Bil dilyniant, edrychwch, does gen i ddim gwrthwynebiad i barhau â thrafodaethau ar hyn. I mi, yr hyn y byddwn i eisiau ei wybod yw: beth fyddai'r Bil yn ei wneud? A yw'n ddatganiad yn hytrach na Bil? Sut siâp fyddai ar y Bil? A sut y byddem yn osgoi sefyllfa lle câi Bil o'r fath ei drosysgrifo, i bob pwrpas, gan San Steffan beth bynnag, o ganlyniad i'r Bil diddymu mawr? Felly, gadewch inni barhau â'r trafodaethau hynny. Byddwn yn parhau i ymatal heddiw, ond o ran—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. O ran egwyddor Bil o'r fath a'r hyn y gallai ei gyflawni, rwy’n meddwl bod lle i drafodaethau pellach.

Rydym yn sicr yn nodi—mae pawb yn y Siambr yn nodi—nad yw’r Prif Weinidog yn diystyru Bil parhad, er efallai y dylem ei alw y Bil parhad mawr; os gall fod Bil diddymu mawr, gall fod Bil parhad mawr. Ond dylai fod yno fel rhywbeth wrth gefn, oherwydd yn sicr y peth cyntaf y mae angen inni ei wneud yw gweld a yw Llywodraeth y DU yn ddiffuant yn ei hawydd, a nodwyd yn y derminoleg amwys honno yr wythnos yma, i sicrhau canlyniad da i’r DU ac i Gymru gyda'r un parch a’i gilydd. Os yw hynny'n digwydd, ni fydd angen Bil parhad mawr arnom; dim ond bwrw ymlaen â'r gwaith er lles y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.

Rwy'n fwy na bodlon i helpu â’r trafodaethau neu â'r Bil ei hun, ac i weld beth allai Bil o'r fath ei gyflawni. Mae'n rhaid imi ddweud, o ran mater y farchnad sengl, fy mod wedi gwneud y pwynt hwn i’r Prif Weinidog, os bydd gennym reolau ar gyfer marchnad sengl fewnol i’r DU ac nad ydym wedi cyfrannu at ei llunio, byddwn yn gwneud ein gorau i i’w newid yn gyfan gwbl. Byddwn yn ceisio eu hosgoi. Ni fydd gennym unrhyw synnwyr o berchnogaeth ohonynt. Os nad oes llys—a gwnaiff y Goruchaf Lys y tro yn iawn fel y llys sy'n plismona’r rheolau hynny—yna sut ar y ddaear y bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi'r rheolau beth bynnag, oherwydd ni fyddai ganddi unrhyw bwerau cyfreithiol i wneud hynny? Hollol iawn: dylai'r Llys Goruchaf fod yn farnwr yn hytrach nag yn ganolwr yn hynny o beth. Mae'n eithaf hawdd i'w wneud, ac mae'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei dderbyn yn eithaf cynnar.

O ran yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood, rwy’n ei atgoffa bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn hŷn na Phapur Gwyn Llywodraeth y DU, nid i’r gwrthwyneb, ac unwaith eto, dywedodd 'rheoli ffiniau'. Fydd yna ddim rheoli ffiniau. Bydd gennym ffin agored â’r Undeb Ewropeaidd yn Iwerddon. Ni fydd unrhyw reolaeth ar y ffin honno, ac nid yw’r mater hwnnw wedi’i ddatrys eto. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud, 'A, wel, roeddem yn meddwl y byddai Iwerddon yn gadael hefyd.' Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw pobl Iwerddon yn enwog am ddilyn yr hyn y mae'r DU yn ei wneud, ac nid yw’r mater hwnnw wedi ei ddatrys eto. Felly, rwy’n annog pobl—pan fyddant yn sôn am reoli ein ffiniau, camsyniad yw hynny. Camsyniad llwyr. Oherwydd, oni bai ein bod yn fodlon derbyn canlyniadau gwleidyddol ffin galed ar ynys Iwerddon a'r cyfan y mae hynny’n ei olygu, nid yw’r mater hwnnw’n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd.

Rwy’n cydnabod bod eich Papur Gwyn yn gynharach, ond dim ond wythnos yn gynharach, ac rwy'n amau bod eu papur ​​nhw wedi mynd heibio i’r cam drafftio terfynol erbyn hynny. Ond, o ran y ffin, mae dogfennau Llywodraeth y DU yn ymdrin â'r mater hwnnw, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn yr ymateb gan y Cyngor Ewropeaidd. Felly, gan gydnabod bod angen i’r ffin o amgylch gweddill y DU gydymffurfio â'r cynigion, mae'r sefyllfa ar y ffin ag Iwerddon yn cael ei chydnabod gan bob parti.

Ydy, mae'n cael ei chydnabod fel problem—dyna'r peth. Rwy’n ei atgoffa na chafodd y Papur Gwyn ei lunio mewn tafarn un noson rhwng dwy blaid. Roedd llawer o waith ynghlwm wrth lunio hwnnw hefyd, a chafodd ei gwblhau cyn Papur Gwyn Llywodraeth y DU.

Y realiti yw, fel y mae pethau, pan fyddwn yn gadael yr UE, pe byddai rhywun yn dymuno dod i mewn i'r DU heb gael eu canfod, byddent yn dod drwy Iwerddon. Does dim archwiliad o gwbl. Mae hynny'n rhywbeth nad yw wedi’i ddatrys eto. Nid oes neb eisiau dychwelyd i ffin galed, ond mae'n broblem a nodais cyn y refferendwm, ac mae'n broblem sy'n dal i fodoli.

O ran y DU yn drifftio ar wahân, dyna'n union yr hyn yr wyf yn meddwl y bydd yn digwydd os nad yw Llywodraeth y DU yn deffro i hyn—caiff tensiynau eu creu lle bydd Llywodraeth y DU yn camu ar fodiau traed y gweinyddiaethau datganoledig, felly bydd y Deyrnas Unedig ei hun yn disgyn yn ddarnau. Does dim angen i hynny ddigwydd, ond mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn wyliadwrus ohono cyn belled ag y mae’r dyfodol dan sylw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael cytundeb, yn fy marn i, sydd wedi’i dderbyn gan y pedair Senedd. Pam y dylai fod gan Senedd Wallonia fwy o lais dros berthynas Cymru â'r UE na Senedd Cymru? Nid yw hynny’n gwneud synnwyr o gwbl. Ble mae'r ddemocratiaeth yn hynny?

Rwyf yn dweud wrtho bod pobl yn aml yn dweud wrthyf y bydd Brexit yn golygu llai o fiwrocratiaeth. Nid wyf byth yn cael unrhyw enghreifftiau o'r hyn y mae hynny'n ei olygu, ond dyna y mae'n ei ddweud. Unwaith eto, rwy’n dweud wrtho: yn 1997, pan gawsom y refferendwm yn y fan yma a digwyddodd canlyniad tebyg, wnes i ddim galw’r rheini a bleidleisiodd yn erbyn sefydlu datganoli yn ‘elyn mewnol’. Rwy’n ei annog i ailystyried ei sylwadau—pleidleisiodd 48 y cant o bobl i aros. Roedd yn farn onest. Nid ydynt yn elyn mewnol yn y DU ei hun. Roedd ganddynt eu barn. Nid ydyn nhw rywsut yn fradwyr i'w gwlad—[Torri ar draws.]–sef yr hyn a awgrymodd ef.

Mae fy amser yn brin, yn anffodus, Dirprwy Lywydd; rwy’n ceisio ymdrin â nifer o'r materion hyn.

Roedd un neu ddau o ymyriadau, felly rhoddaf rywfaint o amser ychwanegol ichi.

Iawn, iawn. Gwnaeth Steffan Lewis ei bwyntiau. Soniodd am fater y farchnad sengl. Nid wyf yn credu bod mater y farchnad sengl yn un a gedwir. I ddatblygu pwyntiau David Melding, ildiodd y DU reolaeth dros rai pwerau amaethyddol penodol yn 1973 i'r Gymuned Ewropeaidd, yna i’r Undeb Ewropeaidd. Yna, ildiodd ei holl bwerau amaethyddol eraill i'r Cynulliad hwn. Ni all ddweud, ar sail hynny, bod pwerau sy’n dod yn ôl dros amaethyddiaeth yn mynd yn ôl i Senedd San Steffan. Y rheswm pam yr wyf yn dweud hynny yw hyn: mae ein setliad datganoli yn dweud yn eithaf clir bod amaethyddiaeth wedi'i ddatganoli. Nid oes unrhyw gafeatau. Nid yw'n dweud y byddai pwerau sy'n perthyn ar hyn o bryd i’r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn ôl i Senedd San Steffan pe byddai’r pwerau hynny’n dychwelyd. Efallai na ddylem ddisgwyl iddo wneud hynny; mae'n dawel. Ar fodel cadw pwerau, lle mae tawelwch, mae’n rhaid i'r rhagdybiaeth fod o blaid datganoli, a dyna sut yr wyf fi’n ei weld. Rwy’n parchu ei farn yn fawr iawn, ond dyna fy marn i am hynny, â'r model cadw pwerau wedi’i sefydlu.

O ran rhai o'r materion eraill a godwyd—. Nid wyf yn cytuno â Mark Reckless. Mae ef yn gweld y cyfeiriad at Gibraltar fel rhywbeth sy'n ymwneud â symudiad tuag at bleidleisio mwyafrif cymwysedig. Mewn gwirionedd, mae fy marn i i’r gwrthwyneb yn llwyr. Mae'r ffaith ei fod wedi cael ei grybwyll yn ffordd o geisio rhoi sicrwydd i Sbaen o ran cystadleuaeth dreth, er mwyn i Sbaen gefnogi unrhyw gytundeb yn y dyfodol. Felly, mae fy marn i’r gwrthwyneb llwyr i’w un ef am hynny.

Soniodd Rhun ap Iorwerth am—. Rydym wedi sôn o'r blaen, yn y Siambr hon, am y posibilrwydd o golli masnach os gwelir bod Gogledd Iwerddon yn llwybr haws i mewn i Weriniaeth Iwerddon o ran masnach, a beth fyddai hynny'n ei olygu i Gaergybi, Doc Penfro, ac, yn wir, Abergwaun. Mae'n codi’r pwynt, yn gwbl briodol, bod masnach yn digwydd rhwng Iwerddon a Ffrainc. Mae'n wasanaeth tymhorol, a gynhelir yn yr haf, i mewn i Cherbourg ac i mewn i Roscoff. Ond mae yna berygl y bydd gweithredwyr cludo nwyddau sy’n mynd i Iwerddon eisiau osgoi Dover ar bob cyfrif, oherwydd y problemau gyda mynd drwy Dover ac yna problemau gyda mynd drwy Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru i mewn i Iwerddon, a cholli masnach felly ar y llwybrau i Ffrainc o ganlyniad i hynny.

David Rowlands, yn olaf—. David, mae’n rhaid imi ddweud, nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn estyniad o’r Drydedd Reich. Mae'n cyfrannu £680 miliwn y flwyddyn at economi Cymru. Nid yw diweithdra yn 50 y cant yn ne Ewrop. Roedd y DU yn ysu i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd—yn ysu, gan fod economi'r DU yn methu ar y pryd. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol. Rydym yn gwybod bod y bobl wedi penderfynu y dylem adael yr UE. A dweud y gwir, David, pe byddai busnes wedi cael ei ffordd, byddem yn dal i fod yn yr UE, oherwydd roedd busnesau Prydain yn dymuno i ni aros yn yr UE. Ac rwy’n dweud wrtho: nid busnesau—[Torri ar draws.] Nid busnesau—[Torri ar draws.] Nid busnesau a fydd yn penderfynu beth yw natur cytundeb masnach rydd; ond Llywodraethau. Nid oes gan weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen sedd wrth y bwrdd. Nid nhw sy’n penderfynu beth mae eu Llywodraethau yn ei wneud; eu hetholwyr sy’n gwneud hynny. Felly, yn anad dim byd arall, mae'n hynod o bwysig peidio â rhoi argraff o haerllugrwydd, a dweud, 'Mae ar yr UE fwy o’n hangen ni nag y mae eu hangen nhw arnom ni.' Mae arnom angen ein gilydd. Mae arnom angen ein gilydd i sicrhau bod gennym heddwch ar y cyfandir, mae arnom angen ein gilydd i wneud yn siŵr bod gennym fasnach, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu diben cyffredin i gynyddu ffyniant a chydraddoldeb ar draws y cyfandir hwn, a, beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit, mae hynny'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i’w wneud.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 4. Datganiad: Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)—Flwyddyn yn Ddiweddarach

Symudwn ymlaen nawr at eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)—Blwyddyn yn Ddiweddarach'. A galwaf ar Rebecca Evans, fel Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca.

Diolch. Bu blwyddyn erbyn hyn ers i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 nodedig ddod i rym, ac rydym ni’n gweld y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad yn cael ei weddnewid i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae gan bobl lais cryfach o ran gwella eu llesiant ac o ran penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i fyw’n annibynnol. Mae gofal yn cael ei gydgysylltu gyda'r unigolyn fel canolbwynt, gan gydnabod mai nhw, a'u teuluoedd, sydd â’r ymwybyddiaeth orau o’r sefyllfa; maen nhw’n ei byw bob dydd.

Mae'r Ddeddf wedi cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl ac i drefnu’r cymorth sydd ei angen trwy drafodaethau go iawn sy'n adeiladu ar sgiliau, cryfderau a galluoedd yr unigolyn. Roedd y Ddeddf yn benllanw blynyddoedd lawer o waith caled, ar y cyd ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn 2011, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu'.

Amlygodd y Papur Gwyn nifer o heriau a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio a mwy o alw am wasanaethau, yn ogystal ag ystyried y realiti economaidd anodd parhaus. Nododd weledigaeth newydd ar gyfer y sector, a oedd yn cynnig y canlyniadau gorau posibl i’r rhai sydd angen gofal a chymorth, gan wneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol hefyd.

O'r cychwyn cyntaf, datblygwyd a chyflwynwyd y Ddeddf mewn gwir bartneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, darparwyr gofal, a'r gwasanaeth iechyd. Mae ei chyflwyno yn cryfhau’r integreiddio hwn ymhellach.

Mae saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn arwain y newid i wasanaethau erbyn hyn, gan gynnal asesiadau poblogaeth ardaloedd eu hunain er mwyn eu galluogi i gynllunio atebion wedi'u teilwra yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o'r hyn y mae'r bobl yn y rhanbarth hwnnw ei eisiau a'i angen. Yn ogystal â chynrychiolaeth amlasiantaeth, mae llais y dinesydd yn gynyddol bresennol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod atebion yn cael eu cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan bawb dan sylw.

Bydd yr asesiadau poblogaeth yn nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau ataliol sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth gwahanol ardaloedd poblogaeth. I gefnogi hyn, dyrannais £15 miliwn o'r gronfa gofal canolraddol fis Medi diwethaf i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol mewn cymunedau, a byddwn yn parhau i ddatblygu'r mathau hyn o wasanaethau, yn ogystal ag eraill sy'n ofynnol yn sgil y newidiadau a wnaed drwy'r ddeddfwriaeth, drwy'r gronfa gofal integredig gwerth £60 miliwn sydd wedi’i hailfrandio.

Yn ddiweddar, ymwelais â thîm adnoddau cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ganolfan, sef cyfleuster gofal preswyl Trem-y-môr ym Metws ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Trwy ddod ag aelodau staff ynghyd o dimau ail-alluogi, ffisiotherapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol, a therapi galwedigaethol, mae gwasanaethau integredig fel yr un yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn yr ardal.

Y mathau hyn o wasanaethau ataliol, integredig yn y gymuned sy’n gallu mynd i'r afael ag anghenion pobl ac ymyrryd yn gynharach er mwyn helpu a chynorthwyo unigolion cyn i'w hanghenion ddod yn fwy critigol. Gallant gadw pobl allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi, yn byw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn ddiogel ac yn annibynnol am gyfnod hwy.

Byddai'n amhosibl disgrifio’r holl gamau sy'n cael eu cymryd yn y sector o dan bob rhan o'r Ddeddf eang yn y datganiad hwn heddiw, ond i roi blas i’r Siambr o’r manteision gwirioneddol yr ydym ni’n eu gweld yn sgil y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd o dan y ddeddfwriaeth. Ers ei sefydlu, rydym ni wedi gweld yr amser aros cyn i blant sy’n derbyn gofal gael lleoliad mabwysiadu yn haneru bron, i 13.5 mis o 26 mis.

Rydym hefyd yn falch bod y Ddeddf wedi rhoi mwy o hawliau i ofalwyr. Fel Llywodraeth, rydym ni’n cydnabod y rhan hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae ledled Cymru. Nawr, am y tro cyntaf, yn sgil y ddeddfwriaeth hon, mae gan ofalwyr yr un hawl i asesiad a chymorth â’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt. Rydym wedi ei gwneud yn eglur erioed y byddwn yn monitro cynnydd y Ddeddf a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i helpu pobl sydd angen gofal a chymorth i sicrhau llesiant. Cyhoeddwyd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, gan restru 50 o ddangosyddion cenedlaethol i fesur llesiant pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

Byddwn yn pennu llinell sylfaen drwy ein hadroddiad blynyddol cyntaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl cyhoeddi data’r arolwg cenedlaethol, yr hydref hwn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lunio’n yn nhymor yr hydref bob blwyddyn wedyn o 2017-18 ymlaen. Bydd gwerthusiad annibynnol hirdymor yn dechrau yn nhrydedd flwyddyn gweithrediad y Ddeddf, gyda grŵp gwerthuso rhanddeiliaid i hysbysu’r fanyleb ar gyfer y gwerthusiad a’i llywio.

Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf hon y ddeddf, megis dechrau yr ydym ni ar y broses o weddnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond mae eisoes yn amlwg bod y sector yn ymateb i'r her o gynorthwyo pobl sydd ei angen trwy wneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i gynorthwyo ein partneriaid i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon i'w llawn botensial. Mae'r daith hefyd yn parhau trwy weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, y Ddeddf ategol i Ddeddf 2014, sy'n cydsynio rheoleiddio ag egwyddorion ei chwaer ddeddfwriaeth ac yn cryfhau amddiffyniad i’r rhai sydd ei angen. Ddoe, ac o ganlyniad i’r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu, daeth Cyngor Gofal Cymru yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn adeiladu ar waith y cyngor gofal, gan barhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu'r gweithlu, ond hefyd yn arwain y gwaith o wella’r sector gofal, yr ydym yn ei gydnabod fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol.

Y gwanwyn hwn, yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, byddaf hefyd yn cyflwyno ail gam y rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig o dan Ddeddf 2016 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Bydd yn cynnwys y gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol mewn gofal cartref a gofal preswyl, a’r gofynion o ran sicrhau llety i blant hefyd nawr. Bydd trydydd cam yn dilyn, a fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau maethu, cymorth mabwysiadu, lleoliadau i oedolion, a darparwyr eiriolaeth. Ar ddiwedd y broses hon, bydd gennym system reoleiddio ac arolygu sydd ar flaen y gad o ran sicrhau bod gofal a chymorth yng Nghymru y gorau y gall fod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwahaniaethau gwirioneddol pellach i fywydau rhai o'r bobl yng Nghymru sy'n eu haeddu fwyaf. Diolch.

Oes, mae blwyddyn wedi pasio ers i’r Ddeddf ddod i rym, ond, mewn gwirionedd, roedd cyfran helaeth o’r Ddeddf yn ymwneud â rhoi pwerau i’r Llywodraeth wneud rheoliadau dros amser dros amrywiaeth eang o weithgareddau. Felly, mae yna lai na blwyddyn o weithredu wedi bod mewn nifer o feysydd.

Er mwyn cadw ffocws, rydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar ofalwyr, gan fod y Ddeddf, wrth gwrs, wedi cymryd lle’r Mesur gofalwyr. Mi glywsom ni chi yn sôn yn y fan yna bod y Llywodraeth yn cydnabod y rôl allweddol y mae gofalwyr yn ei chwarae ar draws Cymru, a bod yna, drwy’r ddeddfwriaeth, yr hawl i gael asesiad a chefnogaeth i’r gofalwyr hynny. Mae’r Llywodraeth, meddai chi, am fonitro sut mae pethau’n gwella o ganlyniad i’r Ddeddf a’r gwahaniaeth mae hi’n ei wneud i bobl sydd angen gofal. Nid oes yna yn dal ddim sôn yma am y math o ganlyniadau rydych chi wedi eu canfod o unrhyw fonitro. Mae Gofalwyr yng Nghymru—Carers Wales—wedi cyhoeddi eu monitor nhw o berfformiad ers y Bil. Mi wnaf eich atgoffa chi o rai o’r pethau maent wedi canfod: nid yw 17 allan o’r 22 awdurdod lleol yn gallu darparu data ar nifer y gofalwyr sy’n cysylltu â nhw dros y ffôn; nid yw’r rhan fwyaf o gynghorau yn gwybod faint o ofalwyr maent wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill; nid yw 16 o’r 22 awdurdod yn gallu darparu ffigurau ar faint o bobl roedden nhw wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Ar yr un pryd hefyd, mi wnaf dynnu sylw at y 24 y cant o ostyngiad sydd wedi bod yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant dros y cyfnod yma. Dywedodd 80 y cant o bobl a wnaeth gwblhau arolwg Carers Wales nad oeddent wedi cael cynnig asesiad anghenion. Y cwestiwn sydd yn fy meddwl i rŵan, flwyddyn ymlaen, ydy: a oes yna newid ymarferol gwirioneddol mesuradwy wedi bod, ynteu a ydy’r Llywodraeth yn dal i ddatgan rŵan, flwyddyn ymlaen, beth maen nhw’n ddymuno all ddigwydd o ganlyniad i’r Ddeddf yma, sydd eisoes mewn bodolaeth ers blwyddyn?

Felly, mewn ymateb i’r pryderon a gafodd eu codi gan Carers Wales, a minnau wedi eu codi nhw yn y Siambr yma, mi ddywedasoch chi eich bod chi wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru am y mater, ac wedi gofyn i swyddogion edrych yn fwy trwyadl ar y canfyddiadau. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba weithredoedd y bydd awdurdodau lleol yn eu cymryd o ganlyniad i’ch llythyr chi? Hefyd, a allwch chi rannu eich barn am ganfyddiadau Carers Wales, sy’n eithaf trawiadol ynglŷn a beth sydd wedi digwydd flwyddyn ers y Ddeddf?

Mi wnaethoch chi hefyd ddweud eich bod yn trafod model cenedlaethol o ran sut i ddelio â’r cwestiwn o ofal seibiant efo’r trydydd sector. A allwch chi roi manylion i ni am pa bryd allwn ni weld y model cenedlaethol yma yn cael ei ddatblygu, ac os y byddwch chi’n anelu yn benodol at wrthdroi y gostyngiad sydd wedi bod yn y nifer o nosweithiau gofal seibiant sy’n cael eu darparu? Achos mae fy etholwyr i ac, rwy’n gwybod, etholwyr i Aelodau ar draws y Siambr yma, yn clywed digon gan etholwyr ynglŷn ag effaith y golled yna yn y nosweithiau o ofal seibiant sydd ar gael.

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n gyfarwydd iawn ag ymgyrch Dilyn y Ddeddf Gofalwyr Cymru, ac rwyf wir yn croesawu'r mewnbwn a'r her adeiladol y maen nhw’n eu rhoi i ni, ac ymgysylltiad cadarnhaol y trydydd sector a’r sector gwirfoddol yn y dull cydgynhyrchu sydd gennym ni drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan weithio mewn partneriaeth â ni a chydag awdurdodau lleol i wella, yn benodol, canlyniadau i ofalwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal.

Rwy'n credu ei bod yn ddyddiau cynnar eto, ac rwy’n cydnabod bod amrywiadau o ran casglu data ledled Cymru, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod rhywfaint o arfer rhagorol yn datblygu hefyd. Yn rhan o'r fframwaith rheoli perfformiad sy'n datblygu ar gyfer y Ddeddf newydd, mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod dull cyson o ddefnyddio data ar sail genedlaethol wrth i ni symud ymlaen. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi neilltuo ffrwd waith benodol i sicrhau cysondeb cenedlaethol o ran gweithrediad y fframwaith rheoli perfformiad, oherwydd rwy’n cydnabod pwysigrwydd cael data cymharol ledled Cymru gyfan.

Gan gyfeirio’n benodol at yr adroddiad a ddarparwyd gan Gofalwyr Cymru—ac rwy’n cydnabod ei fod wedi bod yn ddefnyddiol—cynhyrchwyd y data trwy gais rhyddid gwybodaeth ynghylch y chwe mis cyntaf o weithredu, felly rydym ni wedi symud ymlaen chwe mis arall ers hynny. Ond mae awdurdodau lleol ac, yn wir, Gofalwyr Cymru eu hunain yn cydnabod yr amrywiadau a’r anghysondeb o ran adrodd yn erbyn y cais rhyddid gwybodaeth penodol hwn, ac mae hynny'n siomedig. Felly, er mwyn cael data cryfach a mwy cymharol yn y dyfodol, rwy'n falch o’ch diweddaru chi bod awdurdodau lleol a Gofalwyr Cymru wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i lunio’r cais yn well er mwyn sicrhau gwybodaeth fwy cyson a chadarn, wrth i ni fwrw ymlaen yn y misoedd nesaf. Byddwn yn disgwyl gwelliant o ran cofnodi ac adrodd ac, yn sicr, bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r gwaith o weithredu’r Ddeddf.

Felly, o ran fy ymateb i'r adroddiad, rwy’n credu ei bod yn anodd dod i gasgliadau pendant ohono oherwydd ansawdd y data, ac mae’n werth nodi hefyd bod prif weithredwr Gofalwyr Cymru wedi datgan nad yw gofalwyr ac unigolion ehangach dan sylw bob amser yn cydnabod eu bod wedi cymryd rhan mewn asesiad hefyd o reidrwydd, felly mae’n sicr bod gennym ni dipyn o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ac mae gofalwyr yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol os ydynt wedi cael neu gymryd rhan mewn sgwrs ynghylch 'yr hyn sy'n bwysig', sef ein ffordd ni o ddatblygu’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.

Felly, i grynhoi, nid yw'r data yn dangos bod gofalwyr yn cael eu hamddifadu o’u hawl i asesiad, ond yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw nad yw ymgysylltu drwy'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn cael ei gofnodi’n effeithiol ac yn gyson ledled Cymru. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith yn sicr er mwyn ymgorffori’r cysondeb hwnnw. Rwyf wedi cyflwyno cynigion i werthuso effeithiau tymor byr, canolig a hirdymor y Ddeddf hefyd. Cyflwynodd Mark Drakeford, y Gweinidog blaenorol, y broses ar gyfer gwerthuso a monitro'r Ddeddf mewn datganiad ar 31 Mawrth, yn ôl yn 2016, a bydd yn cael ei chysylltu'n eglur â’r gwaith sydd eisoes wedi ei sefydlu ar y fframwaith canlyniadau cenedlaethol, y cyfeiriais ato yn fy natganiad hefyd, sydd â 50 o wahanol ganlyniadau y byddwn yn mesur yn eu herbyn. Felly, y bwriad yw y bydd gennym ni ddata cadarn iawn i ddangos ble’r ydym ni nawr yn ogystal â dangos gwelliant dros amser mewn ffordd sy’n gyson ledled Cymru gyfan hefyd.

Hoffwn ailadrodd yr ymrwymiad i'r dull cenedlaethol o ran gofal seibiant. Mae gwaith yn parhau ar hynny gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol yn arbennig, gan edrych hefyd ar fodelau sydd ar waith mewn mannau eraill. Wrth gwrs, rwy’n gwbl agored i safbwyntiau a syniadau a mewnbwn gan yr Aelodau yn y Siambr ar y mater hwn hefyd.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Cefnogwyd y ddeddfwriaeth hon gennym ni, wrth gwrs, ac rydym ni eisiau ei gweld yn llwyddo. Roeddwn i’n falch o glywed y newyddion da am fabwysiadu hefyd, oherwydd roeddem hwnnw fodel yr oeddem yn eithaf amheus yn ei gylch, a dweud y gwir, felly rwy'n falch o ddweud efallai ein bod ni wedi cael ein darbwyllo fel arall ynghylch hynny o weld y dystiolaeth.

Rwy'n credu ein bod ni’n cytuno bod poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu’r galw tebygol am wasanaethau cymdeithasol ac felly edrychwn ymlaen at arwydd o’r cerrig milltir y gallai’r adolygiad seneddol ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fod wedi eu cyrraedd. Tybed a allech chi arfer rhywfaint o ddylanwad yno o ran pryd y gallem ni glywed am rai o'r cerrig milltir hynny.

Rydych chi’n honni yn y datganiad yr ydych chi wedi ei roi heddiw bod gweithrediad y Ddeddf yn cryfhau integreiddio ymhellach. Nawr, o gofio’r pwyntiau a wnaed eisoes ynghylch casglu data, a wnewch chi roi blas o leiaf o'r math o dystiolaeth yr ydych chi wedi ei chael eisoes i gefnogi'r disgwyliad bod asesiadau’r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi dechrau gwella gwaith atal, adsefydlu a gofal yn eu rhanbarthau, a’r dystiolaeth bod y dinesydd yn arwain y ffordd mewn gwirionedd, gan gyfrannu at gynllunio ei ofal? Mae'n debyg, yn gryno, mai’r hyn rwy'n ei ofyn yw: sut mae cydgynhyrchu yn edrych ar hyn o bryd yn eich barn chi, a beth allwch chi ei wneud i roi sicrwydd i mi, os mynnwch, bod y ddyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chydweithredol, a’r ddyletswydd i hyrwyddo cyfranogiad yr unigolyn ar gyfer gwasanaethau gofal neu ataliol, a orfodwyd ar awdurdodau lleol gan y Ddeddf, yn cael eu darparu? Y ddwy ddyletswydd hynny—a ydyn nhw’n cael eu cyflawni mewn gwirionedd?

Rydym ni’n cefnogi eich buddsoddiad yn y gronfa gofal canolraddol—y £60 miliwn hynny, a’r £15 miliwn ychwanegol nawr. Fodd bynnag, rwy’n synnu braidd, yn enwedig gan eich bod wedi nodi eich bod yn gobeithio datblygu’r gwasanaethau hynny ymhellach, o’ch datganiad, nad ydych chi wir yn fodlon cyhoeddi'r adroddiad annibynnol newydd a gomisiynwyd gennych ar sut i nodi arfer da a defnydd effeithiol o gyllid. Nawr, nid yw hynny'n ddefnyddiol ar gyfer y partneriaethau rhanbarthol yn unig. Mae hynny’n ddefnyddiol i ni fel Cynulliad i graffu ac, wrth gwrs, eich cynorthwyo chi i wneud penderfyniadau da. Ond rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol hefyd i’r gweithwyr cymdeithasol hynny a oedd, mewn cynhadledd yn Abertawe fis diwethaf, yn pryderu eu bod yn methu dangosyddion eglur o sut y mae arfer yn edrych mewn gwirionedd. Felly, pe baech yn fodlon ystyried cyhoeddi’r adroddiad hwnnw, rwy’n credu y byddwn i’n ddiolchgar iawn, oherwydd nid wyf wir yn gweld pam y dylwn i aros tair blynedd am adroddiad llawn ar sut y mae’r gronfa gofal canolraddol yn edrych.

Rwy'n hapus i gydnabod potensial y ganolfan ofal amlweddog ac yn rhannu eich diddordeb yn Nhrem-y-môr. Nid wyf yn siŵr pam y byddai ei lwyddiant yn arwain at gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn torri’r gyllideb gofal cymdeithasol £2.2 miliwn o ganlyniad i hynny, ond rwy’n awyddus i glywed mwy am fodelau lleol llwyddiannus, perthnasol eraill. Rwy’n sylweddoli bod hwn yn waith ychwanegol, ond os ydych chi’n fodlon rhoi datganiad ysgrifenedig arall efallai, gydag enghreifftiau da, rwy’n credu y gallai hynny helpu’r rheini ohonom sy'n ceisio craffu arnoch chi.

Gofalwyr—nid oes angen i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth—ond mae’r strategaeth ddiwygiedig honno yn hwyr erbyn hyn, byddwn i’n dweud. Unwaith eto, gan dderbyn y mater hwn o gasglu data, a allwch chi roi syniad i ni nawr am faint o ofalwyr a hysbyswyd eu bod yn gymwys i gael asesiad? Rwyf wedi syfrdanu y gallai rhai fod wedi cael eu hasesu heb yn wybod iddynt. Rwyf i wir yn rhyfeddu sut y caniatawyd i hynny ddigwydd. Ond wedyn yn ogystal â hynny, a oes gennych chi unrhyw syniad o gyfran y rheini sydd wedi cael eu hysbysu y gallent gael eu hasesu sydd wedi arfer yr hawl honno mewn gwirionedd; cyfran fras y rheini sy'n dal i aros i arfer yr hawl honno; ac unwaith eto, cyfran fras y gofalwyr sydd wedi arfer yr hawl honno ac wedi cael eu hasesu a chael datganiad o'u hanghenion a’r anghenion hynny wedi eu diwallu? Er mwyn i hyn weithio, mae'n rhaid iddo ymwneud â mwy na wynebau hapus a wynebau trist. Mae’n rhaid cael rhyw fesur realistig a chadarn o ba un a yw’r anghenion hynny wedi cael eu diwallu.

Ac yna yn olaf, er y gallwn ofyn llawer iawn mwy i chi, yn anffodus, cyflwynodd y Ddeddf rwymedigaeth ar awdurdodau lleol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Nawr, mae fy mhlaid i’n credu y dylai pob gweithgaredd awdurdod lleol roi ystyriaeth briodol i’r rheini, ond dyma ddechrau. Felly, sut ydych chi’n monitro cyflawniad y rhwymedigaeth sylw dyledus, a sut ydych chi'n bwriadu monitro cydymffurfiaeth â gwahanol godau sy’n cael eu cyhoeddi o dan y Ddeddf, a’u bod yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau sylw dyledus hynny yn arbennig? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf trwy gydnabod, fel y gwnaethoch chi, y camau breision, pwysig yr ydym ni wedi eu cymryd o ran gwella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Hefyd, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fel un o'i flaenoriaethau, yn ceisio gwella gwaith hanes bywyd a chymorth mabwysiadu hefyd, gan ein bod ni’n gwybod fod y pethau hynny’n bwysig iawn ac yn cael effaith sylweddol iawn ar blant sydd wedi eu mabwysiadu, a’r teuluoedd sy'n eu mabwysiadu hefyd. Felly, mae wedi cynnal adolygiad trwyadl o waith hanes bywyd, gan arwain at gynllun gweithredu i wella ansawdd a nifer yr hanesion taith bywyd cyflawn sydd gan blant. Hefyd, rydym ni wedi darparu cyllid grant sylweddol i ddatblygu’r fframwaith newydd ar gyfer cymorth mabwysiadu, felly bydd cynllun gweithredu yn nodi sut y bydd y fframwaith hwn yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni hefyd.

Rwyf hefyd yn falch eich bod yn cydnabod y gwahaniaeth y mae'r gronfa gofal canolraddol yn ei wneud. Rhoddais Pen-y-bont ar Ogwr fel enghraifft, ond ceir llawer mwy ac rwy'n fwy na bodlon eu rhannu â’r Aelodau. Efallai y byddai gan Suzy ddiddordeb—yn enwedig yn ardal Bae’r Gorllewin, bod cyllid y gronfa gofal canolraddol yn cefnogi tîm nyrsio arbenigol sydd wedi gwella yn gyson y gallu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Felly, eleni, mae'r gwasanaeth wedi arwain at osgoi 70 o dderbyniadau. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys tîm sefydliadau gwirfoddol canolradd Sir Benfro, sy'n gwella cyfleoedd i fyw’n annibynnol yn y gymuned, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol i unigolion. A, hyd yn hyn, mae 1,090 o ddiwrnodau gwely wedi cael eu harbed i'r GIG a 109 o dderbyniadau i'r ysbyty wedi cael eu hosgoi. Dim ond un arall, er bod gen i ragor: mae bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro wedi cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi byw annibynnol, gan gynnwys y bartneriaeth iach ac egnïol a’r cynlluniau gwasanaethau byw’n annibynnol. Hyd yn hyn, mae'r bartneriaeth iach ac egnïol wedi galluogi 365 o bobl i aros yn eu cartrefi ac mae’r gwasanaeth byw’n annibynnol wedi darparu 350 o ymyriadau, gan symud 83 o bobl o fywyd o arwahanrwydd. Felly, llawer o enghreifftiau gwych. Y tu ôl i bob un o'r rhifau hynny, hefyd, mae’n amlwg bod stori i'w hadrodd.

Un o'r pethau sy'n fy nghyffroi fwyaf am y ffigurau yr ydym ni’n eu gweld ar hyn o bryd yw’r oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym ni wedi cael pedwar mis o ffigurau yn gostwng erbyn hyn, ac mae ein ffigurau ar hyn o bryd ymhlith yr isaf erioed yng Nghymru, sydd yn hollol wych, yn enwedig gan ein bod ni yng nghyfnod y gaeaf o hyd ar hyn o bryd. Mae ein ffigurau fwy nag 20 y cant yn is na ble’r oeddent flwyddyn yn ôl erbyn hyn —o ran y ffigurau diweddaraf. Mae'n rhy gynnar, a dweud y gwir, i wneud y cyswllt hwnnw’n gyfan gwbl, ond rwy'n credu ei fod yn sicr yn arwydd cadarnhaol bod y gronfa gofal canolraddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

O ran cyflwyno, mae'n debyg, dealltwriaeth o ble’r ydym ni—ein man cychwyn—wel, o dan y Ddeddf, bu’n ofynnol i’r holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol gynnal asesiad ar y cyd o anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys anghenion gofalwyr, yn eu hardaloedd poblogaeth, a cheir rheoliadau sy'n darparu ar gyfer llunio adroddiadau cyfunol ar asesu’r boblogaeth ar ôl troed y bwrdd iechyd hwnnw. Felly, cyhoeddwyd y cyntaf o'r adroddiadau hynny ar 1 Ebrill, ac maen nhw’n darparu seiliau tystiolaeth gwirioneddol eglur a phenodol ar gyfer hysbysu amrywiaeth o benderfyniadau cynllunio a gweithredol ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, byddaf yn archwilio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru sut y gallwn ddefnyddio’r asesiadau rhanbarthol hyn o anghenion y boblogaeth i greu asesiad cenedlaethol o anghenion y boblogaeth hefyd. Credaf y bydd hynny’n bwysig iawn o ran ein helpu ni i ddeall ble’r ydym ni’n bwrw ymlaen â'n gwasanaethau ataliol, yn arbennig.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i lunio cynlluniau ardal, gan nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau ataliol a fydd yn cael eu rhoi ar waith mewn ymateb i’r asesiadau hynny o anghenion y boblogaeth. Felly, ym mlwyddyn gyntaf y Ddeddf, gwnaed llawer o waith i geisio deall lefel yr angen, a'r cam nesaf nawr yw cwblhau’r cynlluniau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny. Ac fe’i gwnaed yn eglur iawn mewn deddfwriaeth a'r canllawiau hefyd, bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar wasanaethau integredig o ran bodloni lefel yr anghenion hynny.

Mae’r dinesydd bob amser wedi bod wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon, ac mae’r dinesydd yn arwain y ffordd drwyddi draw, mewn gwirionedd, o'r sgyrsiau unigol y bydd yr unigolyn yn eu cael â'r bobl sy'n cynnal yr asesiad, hyd at yr holl waith o gydgynhyrchu pethau ar raddfa fwy. Mewn gwirionedd, caiff egwyddorion cydgynhyrchu eu nodi yn y cod ymarfer sy’n gysylltiedig â'r Bil, a’r rhain yw: ystyried pobl yn asedau, datblygu galluoedd, datblygu cydymddibyniaeth a dwyochredd, buddsoddi mewn rhwydweithiau i rannu gwybodaeth, a chymylu'r gwahaniaethau rhwng darparwyr a phobl sydd angen gofal a chymorth, a hefyd hwyluso’r gwasanaethau yn hytrach na’u cyflwyno. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair drwy ddarparu cyllid ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru i arwain ar y gwaith hwn, yn arbennig â rhywfaint o waith i helpu awdurdodau lleol â'r ddyletswydd honno i hybu modelau gofal amgen. Rwy'n credu bod yna lawer i fod yn gyffrous yn ei gylch o ran sefydliadau dielw, mentrau cydweithredol ac yn y blaen, a sut y gallan nhw ddechrau diwallu anghenion pobl ledled Cymru hefyd. Oherwydd yr wyf i o’r farn, y mwyaf amrywiol yw’r farchnad sydd gennym o ran darpariaeth, yn ôl pob tebyg y iachaf ydyw, o ystyried ein man cychwyn sef ein sefyllfa ar hyn o bryd, hefyd.

Rwyf wedi ymdrin â chasglu data. Felly, o ran y CCUHP a’r rhwymedigaethau eraill hefyd, mae’r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru, ac yn amlwg byddwn yn ystyried yr holl ddyletswyddau sydd gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol, o dan y ddeddfwriaeth a'u dyletswyddau ehangach hefyd, yn rhan o’r dull adrodd hwnnw.

A gaf i ddiolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw? Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ac rwy'n credu ei bod hi’n beth da i gael yr adroddiadau hyn, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y byddwch yn ymrwymo i’w wneud yn rheolaidd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Byddwn i’n cysylltu fy hun â nifer o'r pryderon a gododd Rhun ap Iorwerth ynglŷn â gofalwyr sy'n oedolion, ac rwy’n talu teyrnged i Gofalwyr Cymru am y gwaith y mae’n ei wneud ar Dilyn y Ddeddf, ond rwyf hefyd yn falch iawn o glywed yr hyn yr ydych wedi’i ddweud y prynhawn yma ynglŷn â’r ffaith bod mwy o gydweithio mewn partneriaeth rhwng Gofalwyr Cymru a llywodraeth leol. Felly, rwy’n awyddus i ofyn yn benodol, mewn gwirionedd, am effaith y Ddeddf ar blant.

Fe fyddwch chi’n cofio, gan eich bod chi’n aelod o'r pwyllgor ar y pryd, y codwyd llawer o bryderon ynglŷn â’r ffaith y gallai pwyslais y Ddeddf hon ar bobl, arwain at wanhau cymorth i blant. Roedd hynny mewn termau cyffredinol, ond hefyd mewn cysylltiad â diddymu adran 17 o Ddeddf Plant 1989, a ddaeth yn sgil y ddeddfwriaeth hon, ac mae gennyf i rai pryderon o ran hynny sef ein bod ni eisoes yn gweld rhywfaint o dystiolaeth o lai o gymorth o bosibl yn cael ei ddarparu i blant o ganlyniad i'r Ddeddf. Gwn fod Gofalwyr Cymru, yn rhan o'u gwaith Dilyn y Ddeddf, wedi nodi problem bosibl yn ymwneud â’r ffaith nad yw gofalwyr plant anabl yn cael eu cydnabod gan bob awdurdod lleol yn ofalwyr, a hoffwn ofyn a oes gennych unrhyw dystiolaeth o hynny a beth ydych chi’n ei wneud i hysbysu awdurdodau lleol eu bod nhw’n sicr yn ofalwyr. Gwn eich bod chi’n ymwybodol o’m pryderon ynghylch effaith trosglwyddo arian cronfa’r teulu i'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Hefyd mae gostyngiad wedi bod mewn cyllid ar gyfer Cyswllt Teulu. Dyna ddau fecanwaith pwysig i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd. Felly, roeddwn i eisiau gofyn: mae gwerthusiad o’r Ddeddf yr ydych chi wedi cyfeirio ato i'w groesawu'n fawr iawn, ond sut yn benodol y byddwch yn sicrhau y caiff anghenion plant anabl a'u teuluoedd eu hystyried yn y gwerthusiad hwnnw?

Yn olaf, roeddwn i eisiau holi am ddiogelu, sy’n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant yn gyfrifol amdano, ond daeth y penderfyniad i roi diogelu plant ac oedolion gyda'i gilydd yn ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf hon, ac rwy’n gwybod bod yna lawer o bryder ynglŷn â’r ffaith ein bod ni’n dal i aros i’r gweithdrefnau amddiffyn plant ac oedolion Cymru gyfan gael eu cyflwyno yng Nghymru. Rwy’n deall y disgwylir datganiad yn fuan iawn, ond tybed a fyddech chi’n gallu rhoi sylwadau ar hynny, ond hefyd a fyddai modd i chi esbonio natur y berthynas rhyngoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros blant mewn cysylltiad â’r maes hollbwysig hwn o ddiogelu, gan eich bod chi’n gyfrifol am y Ddeddf, ond bod Gweinidog gwahanol yn gyfrifol am gyflwyno’r polisïau ar ddiogelu mewn gwirionedd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a byddaf yn dechrau wrth sôn am ddiogelu. Mae Carl Sargeant a minnau’n gweithio'n agos iawn ar bob agwedd lle y mae ein portffolios yn gorgyffwrdd, a cheir cryn dipyn, yn enwedig o ran y Ddeddf. Ond ynglŷn â diogelu yn benodol, cyfarfûm yn fwyaf diweddar â Carl Sargeant yr wythnos diwethaf i siarad am ddiogelu, yn enwedig, mewn gwirionedd, yn y maes chwaraeon. Cawsom rai trafodaethau ynglŷn â hynny, a hefyd ynglŷn â diogelu plant yn y cartref. Felly, fe gawsom ni rywfaint o gysylltiad rheolaidd a chynnal trafodaethau rheolaidd ar y materion hynny.

Rwy'n credu bod y Ddeddf wedi datblygu llawer o ran diogelu, yn enwedig â'r ddyletswydd honno i adrodd, felly, fel y gwyddoch, os yw gweithiwr proffesiynol mewn unrhyw faes yn pryderu am blentyn, mae ganddynt ddyletswydd i adrodd i'r awdurdod lleol, ac yna mae gan yr awdurdod lleol hwnnw ddyletswydd i ymchwilio. Rwy’n credu bod hynny’n gam mawr ymlaen o ran yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i ddiogelu plant yng Nghymru. Byddwch chi’n gwybod am y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol hefyd, sy'n ystyried materion diogelu o safbwynt Cymru gyfan ac sy’n cynghori Carl Sargeant a minnau ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu yng Nghymru, a chefais gyfarfod da iawn â nhw yn ddiweddar hefyd.

Mae ein swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â rheolwyr unedau busnes y bwrdd diogelu i adolygu cynnydd hefyd. Mae cyfrolau 1 i 4 o 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl' wedi’u cyhoeddi, ac maen nhw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cynhelir ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gyfrolau 5 a 6 sy’n manylu ar ymdrin ag achosion unigol, a daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 25 Chwefror.

Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod yn nodi pa ddyddiad y cynhyrchir y gweithdrefnau amddiffyn plant, a'r gweithdrefnau amddiffyn oedolion ar gyfer ymarferwyr, oherwydd ni allaf roi’r union ddyddiad ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

Gwnaethoch chi sôn am nifer o faterion o ran pa un a yw'r Ddeddf yn gwir gyflawni ar gyfer plant. Roeddwn i’n pryderu pan wnaethoch chi ddweud eich bod chi’n ymwybodol o dystiolaeth o lai o gymorth i blant. Felly, byddwn i'n awyddus iawn pe gallem rannu'r wybodaeth honno, oherwydd rwy’n awyddus iawn, yn ystod y cam cynnar iawn yn natblygiad y Ddeddf, i gael gwybod a oes unrhyw rwystrau neu unrhyw ganlyniadau anfwriadol y gallwn ni mewn gwirionedd fwrw ymlaen a mynd i’r afael â nhw yn awr, yn hytrach na chyrraedd pwynt lle y mae'n dod yn rhywbeth sy'n rhan gynhenid ​​o’r ddeddfwriaeth. Felly, pryd bynnag y caiff materion eu dwyn at fy sylw, byddaf i neu fy swyddogion yn cysylltu â'r awdurdod priodol i geisio chwalu'r rhwystrau yr ydym yn dod o hyd iddyn nhw yn ystod camau cynnar y Ddeddf.

Gwn ein bod ni’n clywed bod y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai sydd â phlant sy'n derbyn gofal. Cefais wybod bod teuluoedd y buont yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol ers peth amser, a hynny o fewn y gwasanaethau cymdeithasol a’r tu allan iddyn nhw, o’r farn bod y sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' yn un gwirioneddol adfywiol ac yn eu grymuso. Am y tro cyntaf ers amser hir, mae'n debyg, mae rhai o'r rhieni wedi siarad yn agored am y sefyllfa deuluol ac wedi bod yn llawer mwy agored i dderbyn cymorth ar gyfer y teulu hefyd. Rwy'n credu ei fod yn sicrhau canlyniadau gwell o lawer i'r teuluoedd hynny, ac yn sicr dyna beth y mae'r Ddeddf wedi’i chynllunio i wneud.

Mae Rhan 6 hefyd yn gosod y fframwaith ar gyfer gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sydd ar ymylon y gwasanaethau gofal, ac mae'n ceisio diogelu a hyrwyddo lles plant sy'n derbyn gofal hefyd, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cyflawni eu canlyniadau personol. Felly, mae’r dyheadau hynny yn debyg iawn i’r dyheadau sydd gennym ar gyfer oedolion o dan y Ddeddf. Hefyd, mae’r Ddeddf wirioneddol yn canolbwyntio ar ddargyfeirio plant i ffwrdd o ofal yn y lle cyntaf a rhoi cymorth ar waith fel y gall teuluoedd aros gyda'i gilydd pan fo hynny er budd pennaf y plentyn.

Nodwedd arall o'r Ddeddf sy’n gyson ar gyfer oedolion a phlant yw’r pwyslais creiddiol ar lais yr unigolyn. Mae hi mor bwysig gwrando ar blant er mwyn cael gwybod pa fath o ganlyniadau o ran lles y maen nhw eisiau eu cyflawni. Mae angen eiriolaeth arnynt, a chawsom ddadl ddoe ar bwysigrwydd eiriolaeth a gweithredu dull cenedlaethol hefyd, felly rwy’n credu ein bod ni’n cymryd camau da o ran eiriolaeth.

Mae'n bwysig i ni fod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag unrhyw blant eraill, ac mae’n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom ar draws y Llywodraeth, a dyna pam yr wyf yn falch iawn fod Carl Sargeant wedi gofyn i David Melding gadeirio’r grŵp cynghori gweinidogol yn ymwneud â gwella canlyniadau ar gyfer plant, a gwn fod y grŵp hwnnw yn bwrw ymlaen â rhaglen eithaf heriol hefyd. Ond byddwn i’n dweud, yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn natblygiad y Ddeddf, os oes yna faterion yr ydych chi neu unrhyw Aelod arall yn ymwybodol ohonyn nhw a allai gyflwyno effeithiau neu rwystrau anfwriadol a fyddai’n golygu na fyddai’r Ddeddf yn cyflawni ei llawn botensial, yna rhowch wybod i ni ac fe weithiwn gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion.

Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant oedd y gwaith ad-drefnu mwyaf ym maes gofal cymdeithasol ers degawdau, â’r bwriad o sicrhau bod y bobl sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr wrth wraidd y system. Roedd y newidiadau hyn yn gwbl angenrheidiol. Bu prinder sylweddol o adnoddau ym maes gofal cymdeithasol ac mae’n debygol y caiff ei roi dan bwysau cynyddol yn y degawdau sydd i ddod wrth i'n poblogaeth heneiddio. Felly, caiff arian ychwanegol ei groesawu.

Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i wella gwasanaethau cymdeithasol, a gofal yn canolbwyntio’n llwyr ar anghenion yr unigolyn, yn hytrach nag anghenion y darparwyr gwasanaethau. Rwy'n edrych ymlaen at adolygu’r adroddiad blynyddol yn ddiweddarach eleni, fel y gallwn ni sicrhau bod y gwaith cyflawni yn bodloni ei fwriadau. Canfu'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru y llynedd mai ychydig dros hanner y cyhoedd oedd yn credu bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymdeithasol da. Felly, hoffwn weld gwelliant sylweddol pan gaiff canlyniadau'r arolwg cenedlaethol eu cyhoeddi eto yn yr hydref.

Dim ond un neu ddau o gwestiynau sydd gennyf i chi, Gweinidog, ac rwy’n cydnabod ein bod ar ddechrau'r daith o drawsnewid darpariaeth gofal cymdeithasol, ond i'r rhai sy'n aros am asesiadau gofal neu addasiadau i'r cartref, ni allwn ddweud wrthyn nhw’n syml fod newid ar y gweill. Felly, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau amseroedd aros ar gyfer addasiadau i’r cartref? A, Gweinidog, rydych chi’n sôn eich bod chi’n falch bod y Ddeddf yn rhoi gwell hawliau i ofalwyr, felly beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y cyllid a'r cyfleusterau yn eu lle i gyflawni’r hawliau hynny i ofalwyr?

Gweinidog, mae eich datganiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y Ddeddf yn ddull partneriaeth rhwng gofalwyr a darparwyr o bob sector. Ac roedd eich rhagflaenydd yn frwd dros y model cydweithredol o daliadau uniongyrchol, felly pa lwyddiant yr ydych chi wedi’i gael wrth annog pobl ag anghenion gofal i sefydlu a gweithredu mentrau cydweithredol i wneud gwell defnydd o daliadau uniongyrchol?

Ac yn olaf, Gweinidog, bydd y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gymorth mawr wrth roi terfyn ar gam-drin ofnadwy mewn gofal, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y gyfundrefn gofal cymdeithasol yng Nghymru mor ddiogel ag y gall fod. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd ar y gwaith a wnaed i sicrhau bod pawb sy'n ymgymryd â gwaith gofal yn cael eu hyfforddi'n addas. Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad ac am y ffordd gadarnhaol yr ydych yn gweithio gyda phob plaid yn y Siambr i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a byddaf yn ymdrin â'r materion olaf a godwyd gennych chi yn gyntaf, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ddiogel, ac yn sicr mae’n rhaid i hynny fod y man cychwyn, wrth sicrhau bod gofal yn ddiogel. Mae’r AGGCC yn cynnal cyfres o arolygiadau ac yn cyflawni gwaith ym mhob lleoliad gofal ledled Cymru, ac maen nhw’n gwneud gwaith da iawn wrth sicrhau bod y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn yn ddiogel ac o safon dda, ac maen nhw’n darparu adroddiad blynyddol, y byddwn i’n argymell i’r Aelodau ei ddarllen o ran deall y materion yn y sector. Mae'n bwysig iawn bod gennym weithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda, sy’n cael ei dalu’n dda ac sydd yn llawn cymhelliant, ac un o'r pethau cyffrous yr ydym yn ei wneud drwy'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yw cofrestru'r gweithlu gofal cartref erbyn 2020. Nid yn unig y bydd hynny’n rhoi’r clod a’r gydnabyddiaeth i’r gweithwyr hynny sy’n eu haeddu, ond mewn gwirionedd bydd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gael strwythur gyrfaol hefyd, ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud gwaith rhagorol wrth ystyried gofal cartref yn y dyfodol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd ganddyn nhw, ac rwyf yn argymell i Aelodau sydd â diddordeb gael golwg arno, hefyd. Mae hwnnw’n edrych ar draws y system gofal cartref a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau gwelliannau, o ran ansawdd, ond hefyd o ran gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn llawer mwy sefydlog. Oherwydd, fel y gwyddom, gall trosiant gweithlu rhai darparwyr fod oddeutu traean, sydd yn amlwg yn effeithio’n negyddol ar fusnes, ond yn bwysicach fyth yn effeithio’n negyddol ar yr unigolyn sy'n derbyn y gofal hefyd, oherwydd gwyddom fod pobl yn hoffi cael cysondeb yng nghyd-destun y gweithlu sy'n gofalu amdanyn nhw.

Soniasoch am daliadau uniongyrchol, ac mae taliadau uniongyrchol yn bwysig iawn o ran rhoi ymreolaeth i bobl a rhoi dewis i bobl, ac rwy'n credu bod llawer o botensial yn hynny o beth. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi gweld nifer y taliadau uniongyrchol yn cynyddu, oherwydd gellir eu defnyddio i fodloni unrhyw angen cymwys sy’n angen gofal a chymorth o dan y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi'r llais, y dewis a’r rheolaeth hynny i bobl y mae’r Ddeddf yn ymwneud â nhw. Mae awdurdodau lleol yn croesawu'r cysyniad, ond rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod rhywfaint o amrywiaeth ar draws Cymru, ac felly, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnal y momentwm, rwyf wedi gofyn i swyddogion ffurfio grŵp ar draws y sectorau yn cynnwys ymarferwyr o awdurdodau lleol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau a derbynwyr taliadau uniongyrchol, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo defnydd ar draws y sector. A cheir modelau cydgynhyrchiol hefyd y gallwn eu defnyddio i annog pobl a allai fod yn nerfus, neu bobl nad ydyn nhw efallai yn dymuno cyflawni swyddogaeth debyg i gyflogwr. Felly, mae rhywfaint o waith yn mynd rhagddo yn y sector hwnnw, neu yn y maes hwnnw. Bydd y grŵp newydd hwnnw hefyd yn codi proffil taliadau uniongyrchol ymhellach ac yn archwilio dewisiadau eraill yn lle’r atebion traddodiadol o ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth pobl.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud ein bod wedi cael gwared ar nifer o’r cyfyngiadau hanesyddol sy’n cyfyngu ar y defnydd o daliadau uniongyrchol. Felly, erbyn hyn, rydym yn caniatáu i bobl ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas sy'n byw yn yr un cartref am ddarpariaeth gofal a chymorth, neu er mwyn helpu i reoli'r taliadau, os yw'n briodol, ar gyfer hyrwyddo lles y derbynnydd hefyd. Felly, mae taliadau uniongyrchol yn llawer mwy hyblyg ac ymatebol i anghenion pobl nag y maen nhw wedi bod erioed o'r blaen. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.

Soniasoch am fentrau cydweithredol. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, rwy’n credu bod hyn yn un o rannau cyffrous y Ddeddf, o ran rhoi hwb newydd i'r sector, gan edrych ar wahanol fodelau, gwahanol—wyddoch chi, fodelau a all fod yn wirioneddol ymatebol i gymdeithas ac i wahanol anghenion gwahanol gymunedau. Mae gennyf rai enghreifftiau da o hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ynglŷn â—gwahanol bethau sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru o fewn y math hwnnw o waith hefyd.

Diolch. Efallai y byddwch chi’n cofio, yn y Cynulliad diwethaf, i mi gyflwyno Bil preifat, sef Bil gofal yn y gymuned (taliadau uniongyrchol) (Cymru). Dywedodd y Gweinidog ar y pryd, eich rhagflaenydd, Gwenda Thomas, pe byddwn yn ei dynnu'n ôl, y byddai hi’n gweithio gyda mi, oherwydd bod yna lawer o dir cyffredin. A daeth y cyfeiriad, er enghraifft, at y gofal cydweithredol y cyfeiriodd hi ato, o’m Bil i, a luniwyd, yn ei dro, yn dilyn lobïo gan y sector, a hefyd gyfeiriad neu gytundeb y byddai angen cydnabod yr angen i hyrwyddo a chefnogi taliadau uniongyrchol. Nid oedd hynny ar wyneb y Bil, ond dywedwyd wrthyf y byddai'n cael ei gynnwys yn y codau. Sut, felly, y byddech chi’n mynd i'r afael â’r pryder a godwyd â mi mor ddiweddar â dydd Sul, mewn digwyddiad Diwrnod Awtistiaeth y Byd, sef yn ogystal â’r ffaith bod rhai pobl yn dal i beidio â chael y cymorth o ran hyrwyddo, y dywedir o hyd wrth bobl sy’n derbyn gofal, mewn rhai awdurdodau lleol, na chânt daliadau uniongyrchol, hyd yn oed pan fyddan nhw’n gofyn amdanynt? Rheoli disgwyliadau yw hyn, rheoli dealltwriaeth, a sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol ar lefel uwch yn deall nad yw hyn yn ddewis; cyfraith Cymru ydyw.

Yn ail, ac yn olaf, mae’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae Cod 2 y Ddeddf

yn cydnabod y gall pobl anabl gyflawni eu potensial a chymryd rhan lawn yn aelodau o’r gymdeithas, yn gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol,

sy'n mynegi hawliau pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd. Mae eich datganiad yn dweud

bod llais y dinesydd yn gynyddol bresennol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod atebion yn cael eu cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan bawb.

Fodd bynnag, dim ond yn y gogledd, ers i hyn gael ei weithredu, a thros y misoedd diwethaf, mae aelodau o'r gymuned fyddar wedi rhoi gwybod i mi nad ydyn nhw’n derbyn cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain na chymorth ehangach rhagor; mae awdurdod lleol yn gwrthod cyflogaeth i unigolyn yn dioddef o hemoffilia yn dilyn prawf meddygol; mae unigolyn â syndrom Down nad yw’n cael ei gynnwys yn y penderfyniadau am ei ddarpariaeth byw â chymorth; mae defnyddwyr cadair olwyn yn methu cael mynediad at lwybrau cyhoeddus; a phobl ar y sbectrwm awtistiaeth yn wynebu swyddogion nad oes ganddynt ymwybyddiaeth sylfaenol o awtistiaeth sydd ei hangen i'w deall. Fel cadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, anabledd, awtistiaeth ac eraill, rwy'n ymwybodol o’r ffaith bod yna broblem ar draws Cymru â rhai awdurdodau lleol ynghylch sut y defnyddir cyflwyno timau mynediad cyffredinol integredig fel esgus i beidio â chynnig y cymorth hwnnw sy’n benodol i’r cyflwr, lle y mae ei angen. Pa mor gyflym—heb aros am yr adolygiad, ond pa mor gyflym y byddwch yn ymyrryd ag awdurdodau lleol yn awr, neu efallai ar ôl yr etholiad, i sicrhau bod swyddogion ac aelodau gweithredol etholedig newydd yn deall mai eich gofyniad chi yw hyn, gofyniad eich Llywodraeth, a gofyniad y Cynulliad cyfan hwn?

Rwy’n diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuaf â’r pwynt a wnaethoch am dimau mynediad. Mae timau mynediad yn bwysig iawn o ran rhoi mynediad at bopeth y gall y Ddeddf ei gynnig i unigolion, yn enwedig trwy’r asesiad o’r holl anghenion gofal a chymorth, ac yn y blaen. Rwy'n ymwybodol bod amryw o wahanol sefydliadau wedi mynegi pryder efallai nad yw’r grwpiau mynediad yn gwbl ymwybodol o gyflwr unigol. Er enghraifft, cyfarfûm â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl fyddar yn ddiweddar, ac roeddent yn teimlo nad oedd y timau mynediad yn gwbl ymwybodol o'r gwahanol addasiadau a allai fod ar gael i'r unigolion hynny. Felly, gwnes i addewid yn dilyn hynny i wneud yn siŵr bod ein timau mynediad yn ymwybodol. Os oes cyflyrau eraill y mae pobl yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant arnynt ar y timau mynediad ac yn y blaen, yna byddaf yn sicr yn ystyried gwneud hynny.

Gall pobl wneud cais am daliadau uniongyrchol, a dylai awdurdodau lleol wybod hynny. Buom yn trafod yn ddiweddar yng nghyfarfodydd y byrddau partneriaeth cenedlaethol—yr amrywiad o ran y ffordd y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru—ac mae’r grŵp taliadau uniongyrchol newydd hwnnw y cyfeiriais ato wedi cael y dasg o sicrhau bod gennym ni gynnig mwy cyson ar draws Cymru a bod pobl yn ymwybodol o'u hawl i gael taliadau uniongyrchol. Pan fydd pobl yn cael taliadau uniongyrchol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwerth y taliad yn cyfateb i amcangyfrifiad cost resymol y gofal a'r cymorth sydd ei angen ar yr unigolyn, ac mae'n rhaid iddynt wneud yn siŵr bod y gwerth yn ddigonol i alluogi'r derbynnydd neu eu cynrychiolydd i sicrhau’r gofal a’r gefnogaeth honno hefyd. Felly, ni cheir terfyn ar uchafswm neu isafswm y taliad uniongyrchol, ac mae'n rhaid iddo fod yn ddigonol i fodloni’r canlyniadau. Felly, os ydym yn clywed bod pobl naill ai’n colli’r cyfle i gael mynediad at daliadau uniongyrchol, neu fod taliadau uniongyrchol yn cael eu cynnig ar lefel nad yw'n realistig o ran bodloni yr anghenion gofal a chymorth a nodwyd, yna, eto, rydym ni’n gynnar yn natblygiad y Ddeddf—rhowch wybod i mi, a byddwn yn cymryd camau er mwyn mynd i'r afael â hynny.

7. 5. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru—Partneriaeth Strategol Newydd a Dyfodol Cadw

Rydym yn symud ymlaen yn awr i eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar 'Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth yng Nghymru—Partneriaeth Strategol Newydd a Dyfodol Cadw'. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, i gyflwyno'r datganiad.

Member
Ken Skates 16:51:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 2 Chwefror yn rhoi gwybod iddynt fy mod wedi derbyn adroddiad yn nodi map ar gyfer llwyddiant, cadernid a chynaliadwyedd treftadaeth Cymru. Fe wnes i gadarnhau fy mod wedi ystyried yr argymhellion yn fanwl ac y byddwn yn ymateb i bob un maes o law. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Justin Albert, cadeirydd y grŵp llywio, i amlinellu fy ymateb i'r naw argymhelliad a wnaed gan y grŵp, ac roeddwn i eisiau rhannu fy syniadau â chi heddiw.

Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i gadeirydd y grŵp, ac i bob un o'r sefydliadau, undebau llafur, ac i’m swyddogion, am weithio gyda'i gilydd mewn modd mor adeiladol i gynhyrchu adroddiad mor gyson ac ystyrlon. Rwyf wedi fy nghalonogi i weld bod y gyfres o argymhellion wedi ei chynhyrchu gyda chytundeb a chonsensws yr holl sefydliadau a fu’n rhan o’r gwaith, ac rwy'n llawn cyffro am y cyfleoedd y byddant yn eu creu er budd y sector yn ei gyfanrwydd pan gânt eu cyflawni.

Mae'r naw argymhelliad yn perthyn i ddwy thema eang, sy'n cwmpasu dyfodol Cadw a’r gwaith o sefydlu partneriaeth strategol a'i rhaglen waith yn y dyfodol. Mae'r argymhelliad cyntaf yn cynnig sefydliad cenedlaethol newydd i Gymru, y tu allan i’r Llywodraeth. Swyddogaeth graidd Cadw yw gwarchod ein treftadaeth genedlaethol a sicrhau ei bod ar gael ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ac fe ddylai fod yn falch dros ben o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae Cadw yn perfformio'n eithriadol yn rhan o’r Llywodraeth, ac rwyf eisiau sicrhau bod y llwyddiant hwnnw yn parhau. Fy nod i yw caniatáu cymaint o ryddid a hyblygrwydd ag sy’n bosibl i'r sefydliad i'w alluogi i wireddu ei botensial masnachol yn llawn, yn ogystal ag adeiladu ar ei welliant nodedig i brofiad ymwelwyr a’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac aelodaeth.

Rwy'n arbennig o falch o'r cynnydd y mae Cadw'n ei wneud wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n treftadaeth, gan dargedu teuluoedd a phobl iau drwy ymgyrchoedd marchnata gwych a thrwy gofleidio technoleg newydd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn amser i asesu pa un a yw'r trefniadau llywodraethu presennol yn wirioneddol helpu Cadw i gyflawni ei botensial, gan y gallai fod manteision posibl o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich. Gallai hyn alluogi Cadw i fabwysiadu ymagwedd fwy masnachol fyth i gefnogi’r gwaith hanfodol y mae angen ei wneud er mwyn parhau i gynnal a gwarchod treftadaeth Cymru, yn ogystal â rhoi mwy o gyfle i Cadw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Wedi dweud hynny, ni fyddwn i, ar hyn o bryd, yn dymuno canolbwyntio yn syml ar y ddau opsiwn a nodwyd yn yr adroddiad. Ceir modelau eraill sy'n werth eu hystyried, fel adlinio mewnol neu gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac, fel y cyfryw, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion lunio achos busnes i nodi ac archwilio'r amrywiaeth gyfan o opsiynau cyn penderfynu ar opsiwn a ffefrir. Mae'n hanfodol ein bod yn profi pob opsiwn yn drylwyr yn erbyn y sefyllfa bresennol ac yn sicrhau ein bod yn ystyried cadw Cadw o fewn y Llywodraeth. Bydd angen bod manteision clir ac amlwg yn gysylltiedig â chynnig unrhyw newid. Rwy’n gobeithio bod mewn sefyllfa i nodi’r opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth erbyn 30 Medi eleni.

Yn rhan o'r achos busnes, rwyf hefyd yn gofyn i fy swyddogion ystyried yr ail argymhelliad sy’n ymwneud â dyletswyddau statudol Cadw. Bydd y model a ffefrir ar gyfer dyfodol Cadw yn pennu sut y caiff yr argymhelliad hwn ei ddatblygu. Mae dyletswyddau statudol Cadw yn hanfodol er mwyn gwarchod ein treftadaeth genedlaethol. Ni ddylai pwysigrwydd y swyddogaethau hyn—ynghyd â rhoi cyngor ac arweiniad i berchnogion asedau hanesyddol—gael ei lastwreiddio gan unrhyw newid yn statws y sefydliad.

Gan symud ymlaen at y bartneriaeth strategol, mae’n gyffrous i glywed argymhellion ar gyfer llawer mwy o gydweithio rhwng ein prif sefydliadau treftadaeth a'r weledigaeth ar gyfer partneriaeth strategol yn ateb i ddiogelu treftadaeth Cymru pan fo arian cyhoeddus dan bwysau difrifol. Rwyf eisiau gweld y bartneriaeth hon yn cael ei sefydlu cyn gynted â phosibl.

Mae'r grŵp llywio wedi fy argyhoeddi bod yr argymhellion yn tynnu sylw at gyfle gwirioneddol i ddod â phwyslais cliriach a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol, ond ei bod yn iawn i ni brofi’r cyfleoedd hyn ac arfarnu eu heffaith cyn archwilio a all uno ffurfiol fod yn effeithiol. Ni fydd tynnu swyddogaethau masnachol yn nes at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol. Yn hytrach, bydd yn eu galluogi i adeiladu ar gryfderau pob sefydliad a rhannu arbenigedd o fewn pob un er budd y sector cyfan.

Ceir argymhellion ar ddarparu swyddogaethau masnachol ar y cyd, darparu swyddogaethau swyddfa gefn ar y cyd, twristiaeth ddiwylliannol, a datblygu safle treftadaeth y byd Blaenafon. Mae'r rhain wrth wraidd fy ngweledigaeth i. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau treftadaeth a diwylliant fod yn uchelgeisiol ynghylch y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol, gan weithio gyda'i gilydd i ffurfio gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw.

Mae’n rhaid i ni hefyd gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Drwy weithio'n agosach, a marchnata a hyrwyddo ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn fwy egnïol ac effeithiol, caiff cyfleoedd ehangach eu creu i agor ein holl safleoedd i deuluoedd a phobl ifanc mewn modd nad ydym erioed wedi ei wneud o'r blaen.

Rwyf hefyd yn awyddus i fynd ar drywydd yr argymhelliad i ddatblygu strategaeth sgiliau diwylliannol. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd y bobl sy'n gweithio yn ein sefydliadau yn dod â nhw yn fyw lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ynddynt. Credaf fod angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth iddynt a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Ac mae angen i ni gadw ein staff er mwyn gwarchod, diogelu, a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf yn dymuno gweld y strategaeth hon ar waith erbyn mis Hydref 2018.

Rwyf hefyd eisiau crybwyll yr hyn y mae llawer ohonoch wedi’i godi yn y gorffennol, sef bod Cadw a sefydliadau cenedlaethol eraill yn frandiau tra hysbys ac uchel eu parch, ond bod Cymru Hanesyddol wedi’i roi’n deitl gweithredol ar y fenter bwysig hon. Rwy’n cytuno â'r grŵp llywio y dylid ei brofi ochr yn ochr â dewisiadau eraill cyn gwneud unrhyw newidiadau. Beth bynnag fydd y canlyniad, rwyf eisiau gweld brand cryf sy'n cynrychioli'r sector ac sy’n ei alluogi i farchnata ein hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol, nid yn unig i bobl Cymru, ond i'r byd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n cydnabod bod angen cytundeb ffurfiol ar gyfer partneriaeth strategol, ac rwy’n cefnogi’r ymagwedd hon yn llawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan wrth gefnogi a chyfrannu at y bartneriaeth, ond er mwyn iddi gyrraedd ei photensial llawn, credaf fod angen iddi gael ei harwain a’i hysgogi gan y sefydliadau dan sylw, â'u hadnoddau digonol hwy yn ei chefnogi. Yr wyf fi, felly, yn edrych ymlaen at drafod sefydlu'r bartneriaeth strategol a'i rhaglen waith â'r sefydliadau cenedlaethol, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Ac felly, i gloi, rwy’n derbyn holl argymhellion adroddiad y grŵp llywio, gyda'r cafeatau yr wyf wedi’u nodi heddiw. Rwyf wedi ymrwymo i alluogi ein sefydliadau treftadaeth i gynnig y budd economaidd mwyaf posibl i bobl Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at roi diweddariad i’r Siambr ar y cynnydd yn yr hydref.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw, sy’n dilyn datganiadau cynt ar y mater yma, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn gwybod? Yn dilyn cyhoeddiad argymhellion y grŵp llywio ar ddechrau mis Chwefror, fe ofynnais i’r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r argymhellion yn weddol gyflym, a’r rheswm am hynny oedd fy mod yn teimlo bod angen sicrwydd ar y sector wrth edrych i’r dyfodol. Wrth ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad ger ein bron heddiw, mae yna dal ambell gwestiwn sydd angen eu hateb.

Yn dilyn trafodaethau cynt, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fy mod i’n hollol hapus i gefnogi’r syniad o gydweithio rhwng y cyrff yn y sector, ond rwyf i’n bendant yn credu y dylid amddiffyn annibyniaeth y mudiadau yma hefyd. Yn wir, rwyf yn falch i weld bod y grŵp llywio hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y pwynt yma. Mae pwynt 3.1 o adroddiad y grŵp llywio yn dweud, yn Saesneg:

‘Because of charity law, governing charters and other statutory requirements, the recommendations will respect the identity, integrity, independence and core purposes of the national institutions’.

Mae adroddiad PricewaterhouseCoopers hefyd yn sôn am y risgiau sy’n gysylltiedig ag uno’r cyrff cenedlaethol yma i greu un corff ar draws y sector. Felly, siomedig oedd darllen yn llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet at Justin Albert ar 30 Mawrth y sôn am uno unwaith eto. Yn benodol, wrth sôn am argymhellion y grŵp llywio, meddai’r Ysgrifennydd Cabinet,

‘it is right that we test these opportunities and evaluate their impact before exploring whether a formal merger may be effective.’

Pam y sôn yma am uno ffurfiol drwy’r amser? Mae o yn y datganiad heddiw hefyd. O’m safbwynt i, mae neges y grŵp llywio yn glir, sef bod yna botensial i’r cyrff yma i gydweithio mewn partneriaeth strategol, ond y dylid parchu rhyddid ac annibyniaeth y mudiadau yma ar yr un pryd. A yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn deall bod sôn am uno ffurfiol yn creu ansicrwydd ymhlith y staff drwy’r sector a bod angen rhoi'r gorau i ddefnyddio'r term?

Yn nhermau Cadw, mae nifer o adroddiadau wedi sôn am yr angen i symud y corff tu allan i reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth—adroddiad yr Athro Terry Stevens, adroddiad PricewaterhouseCoopers, a nawr adroddiad y grŵp llywio. Felly, mi roeddem ni’n siomedig i weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnig yn ei lythyr at Justin Albert y dylid edrych at opsiynau eraill—yn ei eiriau ei hun,

‘an internal realignment or Welsh Government Sponsored Body’.

Mae hyn oll yn creu canfyddiad bod y Llywodraeth am reoli cymaint ag y gallan nhw yn ganolog.

Wrth gwrs, mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn monitro effeithiolrwydd unrhyw fuddsoddiad yn y sector. Dyna beth fyddai trethdalwyr yn ei ddisgwyl. Ond mae’n bwysig nad yw’r Llywodraeth yn cyfyngu rhyddid ac annibyniaeth y mudiadau cenedlaethol yma, sy’n chwarae rôl unigryw a phwysig ym mywyd y genedl. Ac wrth sôn am fuddsoddiad, nid yw hi’n glir sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld y bartneriaeth strategol yma yn gweithio ac os bydd yna adnoddau ariannol ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer delifro’r ystod eang o argymhellion fydd yn rhaid i’r bartneriaeth strategol fynd i’r afael â nhw.

Wrth gloi, a gaf i groesawu argymhelliad 4.8 y grŵp llywio ynghylch creu strategaeth sgiliau ar gyfer y sector diwylliannol, a hefyd gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet beth yw ei weledigaeth ef ynglŷn ag amgueddfeydd lleol fel rhan o’r datganiad yma? Rwyf wedi ymweld â nifer o amgueddfeydd lleol yn ddiweddar, yn cynnwys, yn naturiol, Abertawe, dro ar ôl tro, ond hefyd Dinbych-y-pysgod, ac mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn â sut y mae’r sefydliadau hynny yn plethu gyda’r mudiadau cenedlaethol. Byddai diweddariad ar hyn hefyd o fudd. Diolch yn fawr.

Ie, gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Rwy’n credu fy mod i wedi dweud ar nifer o achlysuron yn awr y gallai’r fenter Cymru Hanesyddol gynnig manteision enfawr i amgueddfeydd lleol, nid yn unig o ran sgiliau—dof at y pwynt hwnnw mewn eiliad—ond hefyd o ran hyrwyddo’r sector yn fwy eang a denu mwy o bobl sydd â diddordeb mewn treftadaeth i ymweld, nid yn unig â sefydliadau cenedlaethol, ond hefyd ag amgueddfeydd lleol. Ac rwy’n meddwl, yn arbennig, bod yna fanteision posibl o ran datblygu sgiliau o fewn y gweithlu, ac rwy’n credu y gallwn adeiladu ar argymhellion adolygiad Edwards o amgueddfeydd lleol i gysylltu sgiliau proffesiynol rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac amgueddfeydd lleol. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y byddai'r amgueddfa genedlaethol yn awyddus i’w wneud . Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd ei angen yn fawr iawn ar amgueddfeydd lleol.

Gan symud ymlaen at bwyntiau eraill a godwyd gan yr Aelod, rwy’n meddwl yn gyffredinol bod canlyniad yr ymarfer hwn wedi dangos bod llawer o'r ofnau a oedd yn bodoli ar ddechrau'r broses hon yn ddi-sail i raddau helaeth. Mae gan y grŵp llywio aelodau sy'n cynrychioli pob un o'r sefydliadau cenedlaethol ac, yn hollbwysig, mae gan y grŵp llywio aelodau sy'n cynrychioli pob un o'r undebau llafur. Credaf fod y grŵp llywio wedi gwneud gwaith gwych yn ymgysylltu yn ystyrlon ac yn drylwyr â'r gweithlu ym mhob un o'r sefydliadau wrth gyrraedd yr argymhellion hyn. Ac nid oes ofn arnaf gadw meddwl agored o ran yr hyn y gallai'r dyfodol ei gynnig i'r sector, ac eithrio i ddweud bod yn rhaid i’r dyfodol hwnnw fod yn ddisglair ac yn gadarnhaol i bawb. Dyna pam yr wyf yn cadw meddwl agored ynghylch y modd penodol o sicrhau bod Cadw yn cael y rhyddid sydd ei angen arno i weithredu'n fwy hyblyg ac yn fwy rhagweithiol, ac i adeiladu ar lwyddiannau diweddar.

Os edrychwn ni ar sefyllfa Cadw heddiw, mae ganddo’r nifer uchaf erioed o aelodau, y lefel uchaf o incwm a’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr, ond mae hynny'n ganlyniad i nifer o ffactorau: un, mae’r bobl gywir yn y sefydliad wedi cael y rhyddid a’r hyblygrwydd i fod mor greadigol ac ysbrydoledig ag y gallant fod. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod y sefydliad yn cael ei ddiogelu at y dyfodol, fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes potensial ar gyfer ymyrraeth ar lefel weinidogol a allai niweidio nifer yr ymwelwyr, incwm neu rifau aelodaeth. Am y rheswm hwnnw, hoffwn archwilio pob opsiwn ar gyfer rhoi’r cyfle mwyaf posibl i’r sefydliad fod mor arloesol â phosibl. Am y rheswm hwnnw, rwy'n agored i ystyried nid yn unig yr opsiynau sydd wedi eu cyflwyno yn yr adolygiad, ond hefyd opsiynau eraill y dylid eu hystyried yn rhan o'r broses o archwilio’r hyn yr wyf yn meddwl sydd orau, nid yn unig i Cadw, ond i’r sector cyfan.

O ran y bartneriaeth strategol, rwy’n gwybod bod yr Aelod yn croesawu un o’r argymhellion yn yr adroddiad. Yn seiliedig ar y teimlad yr oedd yn ei gyfleu, fy nghasgliad i oedd ei fod yn croesawu nifer o'r argymhellion, gan gynnwys argymhelliad ar gyfer cydweithio llawer agosach i'r graddau y mae twristiaeth ddiwylliannol yn y cwestiwn, i’r graddau y mae hyrwyddo safleoedd treftadaeth y byd yn y cwestiwn ac, wrth gwrs, i'r graddau y mae rhannu dyletswyddau swyddfa gefn yn y cwestiwn, nid lleiaf oherwydd bod rhywfaint o gydweithio yn digwydd eisoes, ond yn syml, nid yw hynny'n ddigon. Ac rwy’n credu mai’r hyn y dylai’r holl Aelodau gadw mewn cof, yn enwedig y rhai a oedd yn gwrthwynebu’r fenter hon o'r cychwyn, yw na fyddem yma heddiw, gyda chytundeb pob un o'r sefydliadau cenedlaethol a chynrychiolwyr yr undebau llafur, pe na bai'r Llywodraeth hon wedi cynnig camau newydd ond radical i roi'r sector ar sylfaen fwy sefydlog, a dyna yw ein nod—sicrhau bod y sector yn ei gyfanrwydd yn gallu dod trwy'r storm a fydd yn parhau i'r graddau y mae cyllid cyhoeddus yn y cwestiwn.

O ran sôn am uno, rwy'n credu ei fod yr un mor beryglus i Aelodau ddiystyru unrhyw lwybrau posibl ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol yn y dyfodol ag y mae i Aelodau fynnu y dylai un llwybr gael ei ddilyn yn hytrach nag un arall. Bydd yr hyn sydd orau i’r sector yn sicr yn cael ei farnu gan y sector a’r rhai sy’n rhan ohono, nid yn unig gan y rhai sy'n rhedeg sefydliadau, ond gan y gweithlu cyfan. Ond gadewch i ni gytuno ar rywbeth: beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol, rydym ni i gyd yn dymuno i'r sector fod mewn sefyllfa lawer cryfach, fwy cadarn yn y blynyddoedd i ddod nag y bu yn ystod y cyfnod hwn o galedi anodd.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am, fel yr ydych yn ei ddweud, rannu eich meddyliau. Diolch i chi am gadarnhau eich bod yn derbyn argymhellion y grŵp llywio. Roeddwn yn synhwyro o’ch datganiad cynharach nad ydych wedi diystyru’n gyfan gwbl y syniad o Cadw hyd braich, nid lleiaf i gydnabod y rhyddid i wella'r potensial masnachol—rhywbeth sydd wedi ei ailadrodd yn y datganiad yma heddiw. Ac, wrth gwrs, mae'n farn a rennir gan eich grŵp llywio a ddewiswyd â llaw—mae’n grŵp llywio a ddewiswyd â llaw sydd, wrth gwrs, a barnu oddi wrth eich datganiad heddiw, wedi cynnig i chi yr hyn sy'n ymddangos i mi yn ddarn o gyngor braidd yn anghyfleus o gul. Mae'n debyg mai’r hyn yr wyf eisiau ei ofyn i chi yw: onid eu gwaith nhw oedd dod o hyd i'r opsiynau o ba fodelau a ddylai gael eu datblygu drwy achos busnes? Wrth gwrs, maen nhw wedi dod i'r casgliad bod modelau eraill nad oedd yn deilwng o gael eu datblygu yn achosion busnes. Felly, rwy'n eithaf chwilfrydig ynghylch pam yr ydych wedi penderfynu, yn ei hanfod, i beidio â thalu sylw dyledus i'r cyngor hwnnw, ac mae hwn yn un cafeat pwysig yma. I mi, mae'n edrych yn debyg eich bod yn anwybyddu eu cyngor yn hytrach nag yn derbyn eu hargymhelliad.

O ran dyletswyddau statudol Cadw, ar hyn o bryd does gen i ddim byd penodol i’w ychwanegu, ac eithrio i ddweud fy mod yn cytuno â'ch safbwynt na ddylai eu dyletswyddau gael eu gwanhau mewn unrhyw ffordd. Ond, wrth gwrs, byddai'r Cadw fwy rhydd yn fwy rhydd i wneud partneriaethau sydd heb eu cyfyngu gan eu dyletswyddau statudol presennol, ac rwy'n meddwl yn arbennig am bwerau posibl a allai eu helpu i gynnig mwy na chyngor ac arweiniad i berchnogion asedau hanesyddol, y mae llawer ohonynt yn fach ac nad ydynt hyd yn oed yn cael cefnogaeth ariannol gystal â Cadw.

Gan symud ymlaen at y bartneriaeth strategol, nid wyf yn credu bod unrhyw gwestiwn difrifol am fanteision cydweithio yma; mae symudiad pendant tuag at hynny beth bynnag. Cytunaf yn llwyr y dylai pob parti perthnasol gael y cyfle i brofi a, byddwn yn dweud, manteisio ar y cyfleoedd hynny cyn hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o uno. Yn bersonol, hoffwn i i’r dewis o uno'n ffurfiol gael ei dynnu oddi ar y bwrdd nawr. Ond os ydych yn mynd i ddefnyddio’r math hwn o gleddyf Damocles, bydd angen i chi fod yn hollol glir—yn hollol, hollol glir—am sut y mae llwyddiant yn edrych a beth fydd yn osgoi'r posibilrwydd o uno. Gyda hynny mewn golwg, tybed a allwch chi ddweud wrthyf eich syniadau cynnar am y math o dargedau sydd yn eich barn chi yn briodol ar gyfer y bartneriaeth strategol. Pa fath o KPIs fyddai'n addas i fesur ei llwyddiant? Pwy fydd yn pennu dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau—â phwy y byddwch yn ymgynghori ar hynny? Sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng swyddogaethau craidd y sefydliad â'i botensial masnachol? Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod Cadw, os yw y tu allan i Lywodraeth, yn dod at y bwrdd fel partner cyfartal ac nid fel rhyw fath o chwaer fawr awdurdodol? Ond, os ydyw’n aros o fewn y Llywodraeth, rwy’n meddwl y bydd gennych swydd anodd iawn i’n perswadio y gall Llywodraeth Cymru wedyn fod yn farnwr diduedd o ran pa un a yw gwaith y bartneriaeth strategol yn llwyddiannus ai peidio, oherwydd bydd yna wrthdaro buddiant amlwg.

Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth ac arweiniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r bartneriaeth? Roeddech yn sôn yn gywir yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i'r sefydliadau roi, ac rwy'n dyfynnu, eu 'hadnoddau digonol’ tuag at waith y bartneriaeth. Felly, sut ydych chi neu, yn wir, y nhw, yn nodi'r hyn sy’n ddigonol at ddibenion y gwaith pwysig hwn? Rwy'n meddwl tybed a allwch chi nodi unrhyw beth yn eich llinellau cyllideb eich hun a allai gael ei ddyrannu i hyn.

Ar y strategaeth sgiliau diwylliannol, ie, rwy’n credu bod hon yn ffordd wych, mewn gwirionedd, o helpu pobl ifanc i ddeall bod astudio pynciau gwyddonol yn llwybr i yrfa efallai na fyddent wedi’i hystyried—mae diwylliant a threftadaeth yn gyfeillion agos, mewn gwirionedd, i unrhyw beth sy’n ymwneud ag archaeoleg a chadwraeth, ac edrychaf ymlaen at glywed ychydig mwy am hynny.

Ond, yn olaf, ar frandio, pa mor realistig yw hi, yn eich barn chi, i’r brandiau sefydliadol, sy'n dra adnabyddus, fel yr oeddech yn cydnabod, allu gweithredu ochr yn ochr â Chymru Hanesyddol neu beth bynnag fydd yr enw mewn gwirionedd? Rwy’n gobeithio nad ydych chi'n sôn am achos o un o'r rhain yn canslo’r llall. Diolch.

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Yn bennaf oll, na, nid yw’r cyngor ar argymhelliad 1 yn cael ei anwybyddu. Rwyf eisoes wedi sicrhau’r Aelodau y bydd cynnwys y ddau opsiwn arall y tynnais sylw atynt yn ffurfio’r gwaith y mae’r swyddogion yn mynd i fod yn ei wneud wrth lunio achos busnes, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ystyried pob opsiwn. Hefyd, awgrymodd yr Aelod bod aelodau'r grŵp llywio wedi eu dewis â llaw gennyf i. Roedd rhwydd hynt i’r sefydliadau hynny enwebu pwy oedd yn eistedd ar y grŵp llywio, ac, i sicrhau nad yw’r Aelodau mewn unrhyw amheuaeth, fe af i drwy'r aelodaeth: roedd gennym gadeirydd y grŵp llywio, sy'n gyfarwyddwr ar gyfer Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol—mae'n wir y penodwyd ef gennyf i ac fe wnaeth waith gwych; y cyfarwyddwr diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru; prif weithredwr yr amgueddfa genedlaethol; prif weithredwr y llyfrgell genedlaethol; prif weithredwr y comisiwn brenhinol; swyddogion cenedlaethol o Prospect, PCS a FDA; a swyddogion cefnogol o Lywodraeth Cymru a Cadw.

Felly, roedd y grŵp llywio yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o'r sefydliad a hefyd staff ar y lefelau uchaf, ond roedd hefyd yn cynnwys aelodau o'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ar draws y sector cyfan. Credaf fod hynny’n gwneud y grŵp llywio yn gorff cynhwysol a oedd yn gallu ystyried yn fanwl iawn y cyfleoedd i'r sector yn y dyfodol, ac o ganlyniad cynhyrchwyd adroddiad, ac unwaith eto, rwy’n datgan fy nghefnogaeth iddo yn gyfan gwbl—pob un o'r naw argymhelliad.

Gofynnodd yr Aelod sut y byddai llwyddiant yn y dyfodol yn edrych i mi. Wel, gadewch i mi redeg drwy rai o'r ffactorau a allai, yn fy marn i, ddangos llwyddiant yn rhan o'r fenter hon. Yn gyntaf, cynnydd yn y nifer o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu hysgogi gan dreftadaeth. Yn ail, nifer yr ymwelwyr, nid yn unig â safleoedd Cadw, ond â'r amgueddfa, â'r llyfrgell, â'r comisiwn, ac yn wir yn llawer ehangach—y nifer o bobl sy'n ymweld â lleoliadau treftadaeth nad ydynt wedi eu rheoli gan neu dan ofal y sefydliadau cenedlaethol, gan mai holl bwynt y prosiect hwn yw creu mwy o frwdfrydedd a bywiogi diddordeb y cyhoedd yn y sector treftadaeth. Hefyd, cadernid; byddwn yn ystyried ei bod yn llwyddiant os yw cadernid yn y sector yn cael ei wella o ganlyniad i'r fenter hon, ond hefyd cyrhaeddiad y sefydliadau o ran ehangu mynediad. Ar hyn o bryd, yn anffodus, ceir gormod o bobl o hyd, yn enwedig o fewn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is, sy'n teimlo nad yw sefydliadau treftadaeth ar eu cyfer nhw. Rwy'n credu bod tasg yn parhau i chwalu rhwystrau, seicolegol neu fel arall, wrth ddenu sylfaen cwsmeriaid mwy amrywiol, ac rwy’n meddwl y bydd hynny'n fesur allweddol o lwyddiant.

Hefyd, effaith economaidd y sector. Yn ddiweddar, ymwelais â chwmni bach iawn ger Corwen, Corwen Glassblobbery. Efallai fod fy ffrind a’m cydweithiwr yr Aelod yn ymwybodol o'r cwmni, sy'n gwneud cerfluniau gwydr wedi’i chwythu yr ydym yn ei werthu ar hyn o bryd ar safleoedd Cadw. Pan oeddwn yno, gofynnon nhw a oedd unrhyw siawns y gallem gysylltu â'r amgueddfa genedlaethol a gofyn a allent eu stocio nhw yno. Wrth gwrs, rwy’n meddwl ei fod yn gwneud synnwyr perffaith, oherwydd os gallant ddyblu eu gwerthiant drwy weithredu o ddwywaith cymaint o safleoedd, yna yn sicr mae hynny'n dda i'r economi leol yn ac o amgylch Corwen, mae'n dda i'r busnes hwnnw, mae'n dda ar gyfer y sector, oherwydd mae'n dangos bod—. Ac, wrth gwrs, y broblem ar hyn o bryd yw bod ceisio llywio eich ffordd drwy'r sefydliadau gwahanol, i fusnes bach—fel yr wyf yn siŵr y gall yr Aelod gydymdeimlo, gan fod llawer o berchnogion busnesau bach yn brin o amser—gall fod yn lladdfa. Ond pe baech ond yn gweithredu drwy un swyddogaeth fasnachol, gan ddwyn ynghyd Cadw, yr amgueddfa, y llyfrgell a'r comisiwn, a phe byddech ond yn gorfod delio ag un, ond eich bod yn cael y fantais o werthu drwy bob un, yna yn sicr, mae hynny’n rhywbeth i'w groesawu. Mae hynny'n dda i fusnes, mae hynny'n dda i'r economi, sy'n dda ar gyfer tyfu swyddi ac ar gyfer twf economaidd. Felly, bydd hynny’n nodwedd yn yr hyn y byddwn i’n ei ystyried yn ganlyniad llwyddiannus.

Mae’r ddau Aelod sydd wedi siarad hyd yn hyn wedi gofyn am linellau cyllideb a pha un a ellir dyrannu adnodd ychwanegol i'r fenter hon. Wel, yn gyntaf oll, rydym yn edrych ar gost yr achos busnes sydd wrthi’n cael ei lunio, ac rwy’n credu y bydd yr adnodd ychwanegol yn werth chweil, oherwydd mae angen i ni gael y canlyniadau gorau posibl i Cadw a'r sector, ac felly rwy’n barod i gyfrannu mwy i'r ymarfer hwn. Yn y tymor hwy, holl bwynt tynnu’r sector yn agosach at ei gilydd yw manteisio i’r eithaf ar botensial masnachol y sector, ac felly nid wyf yn gweld rheswm pam y byddai angen adnoddau ychwanegol. Yn wir, byddwn yn gobeithio, o ganlyniad i’r cam mawr hwn ymlaen, y byddwn yn gallu cynyddu elw o fewn y sector, cynyddu incwm, ac felly cryfhau'r sector ac o bosibl, tyfu llawer iawn mwy o swyddi a sicrhau'r sgiliau sydd yn y sector ar hyn o bryd. Unwaith eto, rwy’n gwneud y pwynt bod y weledigaeth sydd gennym ar gyfer y sector treftadaeth yn un sy'n gweld twf ac ehangu mynediad wrth wraidd pob peth a wna.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ystyriol a’ch ymateb i naw argymhelliad y grŵp llywio. Rwyf am ddechrau drwy nodi'r sylwadau a wnewch o ran Cadw a’r hyn a ddywedwch am y gwelliant trawiadol i brofiad ymwelwyr a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ochr yn ochr â chofleidio cynulleidfa a thechnoleg newydd. Rwy'n credu bod hynny’n sefyll allan i mi gan ei fod yn cyd-fynd â fy mhrofiad fy hun yn ddiweddar yn fy etholaeth o ran sut y mae Cadw wedi bod yn gweithio gyda chastell y Fflint a'r gymuned leol, nid yn unig i greu byrddau ymwelwyr rhyngweithiol, ond grisiau newydd yn nhŵr y gogledd-ddwyrain am yr hyn yr wyf yn credu yn ôl pob tebyg yw’r tro cyntaf mewn hanes cyfoes, neu gof cyfoes, beth bynnag. Ond, yr hyn sy’n sefyll allan i ni yn y gymuned yw'r ffordd, mewn gwirionedd, y mae Cadw wedi cymryd ymagwedd sy’n edrych tuag at allan o ran cynnwys y gymuned ac edrych ar ganolfan ymwelwyr newydd, sydd mewn gwirionedd nid yn unig yn mynd i fod yn ganolfan ymwelwyr fel y cyfryw, ond yn ganolfan sy’n dod â sefydliadau cymunedol eraill yn y gymuned at ei gilydd yn rhan ohoni, ac yn rhoi perchnogaeth iddynt, sydd yn ei dro yn cynyddu ymgysylltiad pobl a’u hymweliadau â’r castell a'r ardal gyfagos.

Gan ddychwelyd at ddatganiad heddiw, ar hynny, rwy’n meddwl—a oes gwersi y gallwn eu dysgu ar gyfer Cadw ar draws Cymru hefyd, o ran adeiladu ar y profiad hwnnw o sut y gallant fod yn arloesol ac ymgysylltu â'r gymuned? Ond a dychwelyd i rywle arall yn y datganiad heddiw, byddwn i'n awyddus i wybod sut y mae'r argymhellion ar gyfer mwy o gydweithredu a gweledigaeth ar gyfer partneriaeth strategol fel ateb i ddiogelu ein treftadaeth yn helpu i wella ein harlwy treftadaeth ledled Cymru, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, sydd ar hyn o bryd wedi’i gynrychioli'n eithaf gwael gan y sefydliadau cenedlaethol. Yn olaf, yn ogystal, rwy'n falch o glywed eich bod wedi crybwyll undebau llafur nifer o weithiau yn eich datganiad cychwynnol ac yn eich ymatebion i gydweithwyr a’r ymrwymiad hwnnw i’r ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Ond hoffwn i mewn gwirionedd ofyn i chi a allwch chi egluro heddiw: beth fyddai goblygiadau posibl mwy o gydweithio ar gyfer gweithwyr yn y sector?

Wel, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau, a hefyd am ei sylwadau? Gwnaeth presenoldeb cynrychiolwyr undebau llafur ar y bwrdd llywio ychwanegu gwerth enfawr, a hefyd sicrhau bod gweithlu pob un o'r sefydliadau, ac yn wir y rhai a oedd wedi eu cyflogi drwy Cadw, yn cael eu cynrychioli'n dda ar bob cam. Rydw i wedi bod yn benderfynol drwy gydol y broses hon i sicrhau y gall gweithwyr ym mhob sefydliad ar draws y sector edrych ymlaen at well yfory, nid dim ond iddyn nhw a'u cydweithwyr, ond hefyd i’r bobl ifanc hynny a fyddai'n dymuno dilyn gyrfa o fewn y sector, ond ar hyn o bryd, o ystyried pa mor fregus yw'r sector, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, yn amau pa un a fyddai'n werth caffael sgiliau a mynd i'r brifysgol er mwyn cael cymwysterau a fyddai yn y pen draw yn arwain at ddiweithdra wrth geisio dod o hyd i swydd yn y sector penodol hwnnw. Ac felly, yr hyn sydd wedi bod yn bwysig i ni bob amser yw'r canlyniad i weithwyr, lawn cymaint â'r canlyniadau i bobl Cymru—yr ymwelwyr, y cwsmeriaid, y defnyddwyr, y cyfranogwyr. A siarad am ddefnyddwyr, cyfranogwyr a chwsmeriaid, mae’r Aelod yn llygad ei lle; mae’r gogledd-ddwyrain wedi’i gynrychioli yn wael ar hyn o bryd gan sefydliadau cenedlaethol o ran presenoldeb ffisegol gwirioneddol unrhyw sefydliadau. Nid oes yno unrhyw amgueddfa genedlaethol, nid oes yno ddim presenoldeb llyfrgell genedlaethol, fel y cyfryw, neu gomisiwn. Fodd bynnag, mae safleoedd Cadw amlwg iawn, iawn yn y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys, yn etholaeth Delyn, Castell y Fflint. Rwy'n gweld cyfle gwych yn y dyfodol wrth ddod â swyddogaethau masnachol yr holl sefydliadau ynghyd i ddarparu mwy o gyfleoedd, mwy o ddigwyddiadau, mwy o weithgareddau o fewn rhanbarthau sydd yn debyg i Delyn a gweddill y gogledd-ddwyrain sydd wedi’u cynrychioli yn gymharol wael neu nad oes yno gymaint o atyniadau i ymwelwyr ag sydd mewn rhannau eraill o Gymru.

O ran yr hyn y mae Cadw wedi'i wneud a'r hyn y mae Cadw yn parhau i’w wneud, roeddwn yn falch o weld draig Caerffili yn ymweld â chastell y Fflint, ymhlith llawer o rai eraill, yn ystod haf 2016. Mae'n ddiddorol bod y ddraig wedi helpu i ysgogi’r nifer mwyaf o ymwelwyr yn ystod cyfnod yr haf erioed—roedd oddeutu 600,000 o bobl wedi ymweld â safleoedd Cadw lle’r aeth y ddraig. Mae hynny'n gynnydd enfawr ar y flwyddyn flaenorol, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gennych y bobl fwyaf creadigol yn gyfrifol am hyrwyddo ein safleoedd treftadaeth. Rwy’n meddwl y bydd y sefydliadau y bydd Cadw yn cydweithio â nhw yn awr yn rhan o bartneriaeth strategol yn elwa yn fawr ar gael y raddfa honno o arloesi a chreadigrwydd yn gweithio ochr yn ochr â'u staff presennol.

Ein nod yw gwneud yn siŵr bod safleoedd Cadw yn apelgar ac yn gyffrous, eu bod yn gynhwysol ac yn groesawgar, ac rwy’n meddwl, yn rhan o waith y bartneriaeth strategol ar dwristiaeth ddiwylliannol, bod potensial, drwy'r bartneriaeth strategol, i gytuno i fenter 'croeso cynnes Cymreig' a ​​allai ddod â safon uchel gyson o groeso ym mhob safle treftadaeth yng Nghymru.

Rwy'n credu ei fod hefyd yn werth nodi bod gan Lywodraeth Cymru, yn ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu, awydd i weld darpariaeth twristiaeth gymdeithasol gref iawn yn datblygu ledled Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector treftadaeth gydweithio'n agos, gan y bydd twristiaeth gymdeithasol i raddau helaeth yn seiliedig ar ein hasedau treftadaeth gorau. Felly, er mwyn cael y gorau ar gyfer pobl Cymru, a fydd yn elwa ar y fenter dwristiaeth gymdeithasol, rydym angen i'r partneriaid o fewn y sector treftadaeth weithio'n agos gyda'i gilydd.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ac am ei sylwadau cynhwysfawr hyd yn hyn. Ni all fod unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd ein treftadaeth Gymreig i economi ein gwlad, ac, yn wir, ei swyddogaeth ganolog wrth ddenu’r 1 miliwn a mwy o dwristiaid yr ydym yn eu croesawu i Gymru bob blwyddyn. Rwyf wedi nodi eich sylwadau a'ch geiriau yn cydnabod gwaith Cadw a byddwn yn ychwanegu fy ngwerthfawrogiad am y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal a chadw treftadaeth gyfoethog Cymru ar ein rhan, ac, wrth gwrs, cenedlaethau'r dyfodol.

Ond efallai mai nawr yw'r amser am ddull gwahanol a sefydlu corff sy'n cwmpasu pob agwedd ar dreftadaeth Cymru. Fodd bynnag, rwy’n teimlo ei bod yn hanfodol—ac ategaf sylwadau Dai Lloyd yma—bod y sefydliadau hynny o fewn y corff yn cadw’r awdurdod a’r annibyniaeth a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu priod gylchoedd gwaith yn effeithiol. Er gwaethaf y cafeat hwnnw, partneriaeth strategol â chorff sydd â throsolwg yw, yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o fwrw ymlaen. Dylid hefyd cael rhaglen o welliannau parhaus i nodi’r sgiliau a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar sefydliad o'r fath, er mwyn cynnal a gwella'r sector hanfodol hwn. Rwy’n deall y pryderon sydd gennych am strwythur y corff llywodraethu hwn a'ch diwydrwydd dyladwy o ran pa un a ddylai fod o fewn y Llywodraeth neu ar hyd braich, ac mae hyn, wrth gwrs, i'w groesawu.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gweld y datganiad hwn yn gam cadarnhaol i gynyddu ymwybyddiaeth a phroffil y dreftadaeth ragorol yr ydym ni yng Nghymru mor falch ohoni. Bydd UKIP yn cefnogi eich uchelgeisiau yn y cyfeiriad hwn.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ddatganiad hael ac am y gefnogaeth y mae ef a'i gydweithwyr yn ei roi i’r fenter hon? Rwy’n ddiolchgar iawn am hynny. Ein nod yw sicrhau bod manteision economaidd net o'r fenter hon, nid yn unig ar gyfer y sector, ond, unwaith eto, ar gyfer economi Cymru gyfan. Rwy’n credu, er y gallwn gadw annibyniaeth y sefydliadau, y dylem hefyd gydnabod cyd-ddibyniaeth y sefydliadau hynny a'r manteision o weithio’n agosach gyda'i gilydd. I gyfeirio at bwynt a godwyd yn gynharach gan Suzy Davies o ran hyrwyddo ein sefydliadau a’n hasedau treftadaeth, os ydym yn rhoi ein hunain yn sefyllfa dinasyddion Cymru sy’n chwilio am wybodaeth am asedau treftadaeth, siawns nad yw’n haws i gael gafael ar wybodaeth am bob un o'r sectorau drwy un porth, yn gyntaf oll—drwy un porth sy'n gallu cynnwys holl gyfoeth ein treftadaeth a hanes, ac yna darganfod ac archwilio amryw gydrannau Cymru Hanesyddol: ein hamgueddfeydd, ein cestyll, ein habatai, ein llyfrgell, ein comisiwn brenhinol. Mae’n rhaid mai dyna'r ffordd orau i ddinasyddion Cymru, ac yn wir ddinesyddion unrhyw wlad, i ddarganfod ac i ddysgu am dreftadaeth wych Cymru.

Wel, rwy’n ffeindio fy hun mewn sefyllfa annisgwyl iawn—rydw i’n cytuno efo pob gair a ddywedodd David Rowlands, ac yn gresynu at yr agwedd negyddol sydd yn dod o gyfeiriadau eraill, ac mae’r Gweinidog yn gwybod hyn. Ond a gaf i jest gofyn dau gwestiwn? Yn gyntaf, mae’r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhellion gan y grŵp llywio, dan gadeiryddiaeth ragorol, rydw i’n siŵr, Justin Albert, o’i adnabod drwy’r ymddiriedolaeth, yn golygu felly fod y Gweinidog yn symud ymlaen, yn gyffredinol, i weithredu i gyfeiriad yr argymhellion yna. Dyna’r cwestiwn cyntaf. A’r ail gwestiwn ydy: beth ydy’r amserlen y mae’r Gweinidog yn gobeithio ei dilyn yn y cyfeiriad yma? Oherwydd mae rhai ohonom ni sydd yn rhannu ei weledigaeth o wedi bod yn deisyfu ers blynyddoedd i weld y sefydliadau mawr cenedlaethol yma yn cael eu hail-eni i’r unfed ganrif ar hugain, fel y ganwyd nhw ar dro’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ac mae’r gwaith gwych y mae Cadw yn ei wneud—ac rydw i wedi cyfeirio at hyn o’r blaen—yn enwedig yn dehongli safleoedd megis castell Harlech yn ddiweddar, a’r modd y mae hynny wedi effeithio ar economi yr ardal yn uniongyrchol, yn dangos beth sydd yn bosib ei wneud o allu cael mwy o gydweithio. Felly, mwy o wynt yn hwyliau’r Gweinidog a David Rowlands.

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol a charedig, a dweud bod y buddsoddiad yng nghastell Harlech wedi cyflwyno manteision enfawr i'r gymuned? Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol iawn yn nifer yr ymwelwyr â'r castell, ac mae hefyd wedi ennill—dwi'n falch o ddweud—nifer o wobrau pensaernïol cenedlaethol. Mae wedi helpu i roi Cymru ar y map byd-eang yn ystod y Flwyddyn Antur, ac yn parhau i wneud hynny eleni trwy’r Flwyddyn Chwedlau. Dyma’r union fath o fuddsoddiad y byddwn i'n hoffi ei weld yn cael ei lywio tuag at lawer mwy o'n lleoliadau a’n hasedau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Hoffwn gadarnhau, ie, y byddaf yn gweithredu pob un o'r argymhellion, ac rwy’n dymuno gwneud hynny mor gyflym ag sy’n bosibl. Mae'r grŵp llywio wedi rhoi awgrym o'r dyddiadau erbyn pryd y dylwn i fod mewn sefyllfa i weithredu'r argymhellion, neu yn wir y dyddiadau erbyn pryd y dylem ddisgwyl i'r bartneriaeth strategol gael ei sefydlu. Hoffwn weld y targedau’n cael eu cyrraedd o ran y dyddiadau hynny. Rwy’n meddwl bod gennym gyfle yn awr i fynd â’n gorffennol i’r dyfodol mewn ffordd sy'n ei gyflwyno i fwy o bobl—pobl nad ydynt, hyd yn hyn, wedi cael y cyfle, efallai y diddordeb na'r awydd, i ymweld â safle treftadaeth, ond rwy’n siŵr y byddent yn gwneud, o gael y cyfle i archwilio mewn ffordd sy'n bodloni eu diddordebau cynhenid. Felly, edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, fel y dywedais, a hynny mor gyflym ag sy’n bosibl.

Rwy'n meddwl bod dechrau gyda'r syniad o bartneriaeth strategol yn bendant yn ddechreuad gwell. Rydym, mewn meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, yn edrych ar y manteision o bartneriaeth strategol, ond rwyf eisiau pwysleisio'r angen am annibyniaeth ddeallusol a'r gallu i feddwl yn greadigol. Mae'r rhain yn ganolog i sefydliadau treftadaeth, yn arbennig yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Rwy'n credu y bydd unrhyw brawf o'r modd y bydd y partneriaethau strategol hyn yn gweithio yn dod i lawr i hyn gan fod yn rhaid i’r sefydliadau hyn, yn anad dim, archwilio'r byd o syniadau yn llawn a sut y mae’r syniadau hynny yn cael eu cynrychioli. Weithiau, eu cenhadaeth—gadewch i ni wynebu hyn—yw herio barn gyffredin a herio dehongliadau sydd wedi dod yn ddatganiadau o ffydd bron. Gall hynny eu gwneud yn amhoblogaidd iawn gyda gwleidyddion. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod ymwneud rhy weithredol gan Weinidogion yn niweidiol, a dyna pam. Nid yw yn ddim byd yn ei erbyn ef neu yn wir unrhyw un o'i gydweithwyr; byddai hyn yn wir am y Llywodraeth Geidwadol gadarnaf y gallwn i ei dychmygu.

Rwyf newydd fod yn edrych ar blog yr amgueddfa genedlaethol am enghraifft o'r hyn yr wyf yn ei olygu, ac mae 'na ddarn rhagorol yno ar 'Cymru Yfory', sef yr arddangosfa y gwnaethant ei chynnal ym 1969 fel y digwyddiad swyddogol a gynhaliwyd ganddynt i ddathlu’r arwisgiad. Roedd yn ymwneud â myfyrdodau ar hynny, ond yn enwedig ar oes y gofod, Apollo 11, a’r holl brofiad gweledol a oedd yn cael ei newid gyda’r dyluniadau cyfoes hyn a beth bynnag. Mae lluniau gwych ar y safle blog hwnnw, yr wyf yn gobeithio y bydd pobl yn edrych arnynt.

Roedd hwn yn ddatblygiad rhyfeddol—y tro cyntaf i rywbeth gwirioneddol gyfoes ymddangos ym mhrif neuadd yr amgueddfa, ac roedd yn pwysleisio nad yw amgueddfeydd yn ymwneud â dehongli'r gorffennol yn unig. Gallaf ddychmygu, pe byddai’r sefydliad hwn wedi bodoli bryd hynny, y byddai rhai ohonom efallai wedi bod yn dweud, 'Beth yn y byd y mae’r amgueddfa yn ei wneud, pan ddylem fod yn marcio rhyfeddodau'r arwisgo mewn ffordd fwy traddodiadol?' Wyddoch chi, dathliadau ceramig, neu beth bynnag, o ddigwyddiadau brenhinol y gorffennol. Byddai gennyf lawer o amser ar gyfer y math hwnnw o arddangosfa os oes unrhyw un yn awyddus i’w chynnal, ond nid yw'n fater i ni i wneud y dewisiadau hynny. Mae angen i ni gael ein profi ac mae angen i ni gael ein herio.

A gaf i orffen drwy ddweud fod gwir angen am ragoriaeth ddeallusol yma, yn ogystal â'r pethau cadarn iawn yr ydych wedi’u dweud am yr angen am hygyrchedd? Oherwydd gall yr holl bobl elwa ar weld digwyddiadau sy'n ddehongliadau gwych a phrofi ein safbwyntiau. Ond mae'r amgueddfa a'r oriel genedlaethol, a’r llyfrgell, wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo enw da David Jones a Thomas Jones, ymysg eraill, yn yr ugeinfed ganrif—dau ffigur rhagorol a oedd wedi eu hanwybyddu ac sydd bellach yn eu cael eu hystyried yn aelodau aruthrol, mewn gwirionedd, o’r pantheon artistig creadigol. Mae 'na gofiant newydd o David Jones newydd ei gyhoeddi, sy'n cael ei adolygu yn 'The Economist ', er enghraifft, ac mae 'In Parenthesis' yn amlwg wedi ei ail-ddehongli gan Owen Sheers. Mae'r rhain yn gyflawniadau gwych, a gallai’r ddau ffigur hynny, heb y gwaith a wnaed gan ein sefydliadau treftadaeth, barhau i gael eu hanwybyddu, a hynny’n anhaeddiannol. Mae hynny ynddo'i hun yn gwneud gwaith gwych dros Gymru ac yn cyflwyno ein neges ac yn ein galluogi i ffynnu a mwynhau ein bywyd cenedlaethol yn llawn.

A gaf i ddiolch i David Melding am ei gyfraniad a dweud fy mod yn cytuno'n llwyr bod yn rhaid cael gonestrwydd deallusol, ac y dylai’r gonestrwydd hwnnw gael ei gynnal a'i ddiogelu? Dylai fod yna ryddid i herio, i fod yn aflonyddgar a hefyd i fod yn arloesol. Rwy’n credu mai’r Athro Dai Smith a ddywedodd mai swyddogaeth diwylliant a sefydliadau diwylliannol yw aflonyddu ar y sefydliad a'r status quo, ond yn yr un modd rwy'n credu weithiau fod angen i lywodraeth fod yn arloesol ac i herio hefyd. Dyna'r union beth yr ydym yn ei wneud. Rydym yn gwneud yn siŵr bod y rhai sydd ar hyn o bryd yn mwynhau'r rhyddid a'r annibyniaeth i weithredu yn greadigol, yn gyflym, yn ddeinamig yn parhau i wneud hynny heb fod yn warchodol.

A dweud y gwir, rwy’n gwneud yr hyn sydd y gwrthwyneb llwyr i'r hyn yr ydych yn ein rhybuddio ni i beidio â’i wneud, a byth i'w wneud, oherwydd rwy’n dweud wrth Cadw: 'Os gwelwch yn dda, byddwch yn rhydd. Byddwch yn rhydd o unrhyw fath o weithredu aneffeithlon sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu unrhyw reolaeth gan Weinidog.' Wyddoch chi, mae'n eithaf rhyfeddol bod yn rhaid i drydariad gan Cadw gael ei gymeradwyo gennyf i yn yr oes sydd ohoni o gyfryngau cymdeithasol yn y fan a’r lle. Y cyfan y mae hynny’n ei wneud yw gwneud y system gyfan yn aneffeithlon ac yn aneffeithiol. Nid yw'n caniatáu iddynt ymateb yn gyflym, ac yn sicr nid yw hynny er fy lles i, nid yw hynny er lles y Llywodraeth, ac nid yw hynny er lles Cadw neu les Cymru. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf i'n ei wneud yw’r gwrthwyneb llwyr i’r hyn yr oedd y rhai oedd yn ofni’r broses hon yn ei awgrymu fy mod yn ei wneud. Yr hyn yr wyf yn ei wneud mewn gwirionedd yw rhoi, nid cymryd mwy o reolaeth, ac rwy'n gwneud hynny er mwyn sicrhau bod y sefydliadau eu hunain gyda’i gilydd yn gryfach.

Gwnaeth David Melding bwynt cryf iawn am weithgareddau presennol yr amgueddfa, a fy nghred i yw nad yw gonestrwydd deallusol ac apêl gynhwysol yn annibynnol oddi ar ei gilydd, a gyda'n gilydd—unwaith eto, gyda’n gilydd—gall y sefydliadau, rwy’n credu, ehangu'r ystod o bobl sy'n cael eu denu at eu gweithrediadau a’u gweithgareddau, er lles Cymru gyfan a phob un o'n cymunedau.

Bydd ein sefydliadau treftadaeth cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth wella lles Cymru ac rwy’n gobeithio, trwy weithio gyda'n gilydd, y byddant yn elwa ar y gwaith y byddant yn ei wneud ar gyfer y wlad.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymateb ac rwyf wedi gwrando ar yr holl ymatebion yma heddiw. Fy ymateb cyntaf fyddai dweud wrthych chi, os ydych yn derbyn argymhellion y grŵp yr ydych wedi ei gomisiynu, pam nad ydych chi wedi diystyru uno? Rydw i'n ei chael hi'n anodd deall, os ydych chi’n derbyn yr argymhellion hynny, pam y mae angen i chi gomisiynu mwy o ymchwil o fewn eich Llywodraeth ynghylch rhagolygon Cadw yn y dyfodol. Does bosib, os ydych yn derbyn yr argymhellion hynny, na allwch yn awr gario’r argymhellion hynny ymlaen fel y maent yn sefyll? Oherwydd ein bod ni i gyd yn deall yma bod gweision sifil ar y gweithgor penodol. Felly, rwy’n ceisio deall pam yr ymddengys bod yr arbenigwyr yn cael llai o lais, o bosibl, na gweision sifil o fewn eich Llywodraeth. Os ydynt yn mynd i gynnig yr argymhellion adeiladol hyn, nid wyf yn teimlo, o'r hyn yr ydych yn ei ddweud heddiw, bod hynny wedi ei gwir adlewyrchu yn eich ymateb.

Fy ail bwynt fyddai, yr wyf wedi clywed o gwestiynau niferus y mae Dai Lloyd ac eraill wedi’u gofyn yn y gorffennol y byddech yn dweud y byddai yna ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth heddiw ar y sail honno, felly rwy'n gofyn beth y gallwch ei ddweud wrthym, pan fyddwch yn gwneud penderfyniad o’r diwedd, am sut y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Mae pobl yn mwmian pethau yma—nid wyf wedi eich clywed yn dweud pa bryd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i ni ei glywed yma heddiw.

Y cwestiwn arall yw, gwn fod y llyfrgell genedlaethol yn croesawu'r adolygiad y maent yn ei gael, ond byddwn yn bersonol yn chwilfrydig i glywed eich barn chi am sut y mae sefydliadau eraill yn cael eu hadolygu, os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw uno neu unrhyw newidiadau, hefyd. Oherwydd, er eich bod chi ac eraill wedi crybwyll llwyddiannau Cadw yn ddiweddar, maent wedi bod yn tanberfformio’n hanesyddol o gymharu â sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae'n eithaf anodd i gael yr holl fanylion am incwm a gwariant. Mae fy nghydweithiwr Dai Lloyd wedi cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth, ac mae wedi ei chael yn anodd cael yr holl wybodaeth honno. Felly, pe gallem gael adolygiad o Cadw a hefyd adolygiad o gyrff eraill, yna rwy’n meddwl y byddai hynny'n deg mewn cysylltiad â'r broses hon.

Fy mhwynt arall fyddai, rwy'n ei chael hi'n anodd hefyd—rwy’n ei chael hi’n anodd iawn heddiw—i ddeall, os ydych chi’n cefnogi neu'n edrych ar y posibilrwydd o uno, sut y byddai hynny’n peidio â golygu y byddai eu hannibyniaeth yn cael ei danseilio. Oherwydd, os ydych yn mynd i fod yn cymryd swyddogaethau masnachol oddi arnynt ac os bydd yna ryw gorff yn gwneud y penderfyniadau hynny, pa ymyriadau a fyddai ganddynt, neu ba lais fyddai ganddynt yn y broses honno? Rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn un o'r pryderon allweddol. Ond yn ymarferol, os yw’r annibyniaeth honno i gael ei gwireddu—rydych yn dweud eich bod yn ei chefnogi—yna beth mae hynny'n ei olygu mewn termau ymarferol iddynt fwrw ymlaen â gallu gwneud y penderfyniadau bob dydd hynny fel y gallant gynnal arddangosfeydd amrywiol? Nid y byddwn i'n dymuno gweld yr un mathau o arddangosfeydd â David Melding, ond byddwn i'n awyddus i weld arddangosfeydd sydd wedi eu cynnal ganddynt yn fewnol fel sefydliadau cenedlaethol.

Felly, rwy’n clywed beth y mae pobl yn ei ddweud ac nid wyf yn credu bod neb yn erbyn newid, ond nid wyf yn deall pam fod uno yn dal i fod ar y bwrdd a sut y byddwch yn cynnal y trafodaethau hyn os ydynt yn teimlo, o bosibl, nad ydych chi wedi gwrando arnynt gystal ag y gallech fod wedi gwneud. Diolch.

A gaf i ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a’i phwyntiau? Fe fyddwn i mewn gwirionedd yn gwrthwynebu'r honiad nad oes neb yn erbyn newid. Rwy'n credu y bu gwrthwynebiad i'r fenter hon. I'r rhai sydd wedi gwrthwynebu cydweithio agosach, gofynnaf un cwestiwn syml iawn: beth yw eich gweledigaeth amgen? Oherwydd, a dweud y gwir, os nad oes yna weledigaeth, os nad oes yna weithredu, yna bydd y sector treftadaeth yn adfeilio yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'n weithredu sy’n ofynnol gan y Llywodraeth a dyna yn union beth yr ydym yn ei gyflwyno.

O ran y potensial ar gyfer ymgynghoriad, nid wyf yn credu y byddai partneriaeth strategol rhwng y sefydliadau annibynnol hynny yn gofyn am ymgynghoriad oni bai eu bod nhw yn dymuno cynnal un, a byddai ymgynghoriad ar ffurf Cadw yn y dyfodol yn dibynnu ar yr achos busnes ac, yn y pen draw, y cynnig a wnawn ar gyfer ei ddyfodol y tu mewn neu'r tu allan i’r Llywodraeth. Felly, byddai hynny yn ystyriaeth ar gyfer yr hydref. O ran perfformiad pob un o'r sefydliadau, wrth gwrs, mae Simon Thurley yn cynnal adolygiad o'r amgueddfa ar hyn o bryd. Mae'n gwneud gwaith meincnodi yn rhan o'i adolygiad. Ond holl bwrpas i ni newid y ffordd y mae Cadw yn estyn allan at ddinasyddion Cymru, at gwsmeriaid, ac at ymwelwyr, oedd oherwydd fy mod yn teimlo nad oeddem yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, er yn seiliedig ar waith eithaf bras a wneuthum yn bersonol wrth feincnodi safleoedd Cadw yn erbyn mathau tebyg o asedau hanesyddol yn Lloegr a'r Alban. Rwy'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi gweld cynnydd mor sydyn yn nifer yr ymwelwyr yn safleoedd Cadw yn cyfiawnhau'r gred a oedd gennyf, sef y gallem ac y dylem wneud mwy â'n hasedau. Rwy’n credu y dylem ni ac y gallwn ni wneud mwy â phob un o'r sefydliadau yn y blynyddoedd i ddod, a hynny nid yn unig ar ran y bobl sy'n gweithio yn y sefydliadau, ond hefyd y bobl, trethdalwyr, sy'n talu amdanynt, ac ymwelwyr sy'n cerdded trwy eu drysau. Felly, fy marn i yw bod angen gweithredu. Fe fu yna wrthwynebiad i newid. Rwy'n credu yn awr, i raddau helaeth, bod y gwrthwynebiad hwnnw wedi diflannu, ond y prawf fydd i ba raddau y mae pawb yn awr yn cofleidio’r angen am fwy o gydweithio a phartneriaeth.

Yn olaf, y pwynt a wnaed, neu’r awgrym a wnaed, fod swyddogion ar y grŵp llywio rhywsut yn arwain y grŵp llywio at ei gasgliadau, nid wyf yn credu bod hwnnw’n honiad teg ac nid wyf yn credu bod hynny yn cyflwyno mewn modd teg y cryfder barn a’r arbenigedd a gyflwynwyd gan y bobl hynny sy'n cynrychioli'r sefydliadau cenedlaethol.

Thank you to the Cabinet Secretary.

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol cyflenwi gwaith ieuenctid ac rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.

Member
Alun Davies 17:47:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel swyddogaeth hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llawer o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Mae gweithwyr ieuenctid yn addysgwyr, pa un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y strydoedd, neu i gefnogi addysg ffurfiol mewn ysgolion. Mae arferion gwaith ieuenctid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar ystod eang o gyfleoedd dysgu a all ehangu eu gorwelion, herio eu syniadau, datblygu eu sgiliau, a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid wedi amlygu'r angen i sicrhau mwy o eglurder yn y berthynas rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, defnyddio cyllid cysylltiedig, a gweithredu lleol i gwrdd â disgwyliadau cenedlaethol. Er mwyn rhoi mwy o eglurder, rwyf wedi ymrwymo i adolygu 'Ymestyn Hawliau', ein cyfarwyddyd a chanllaw statudol ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ni ellir diystyru pwysigrwydd 'Ymestyn Hawliau' fel cyfrwng ar gyfer newid. Pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf 17 mlynedd yn ôl, roedd yn cael ei ystyried yn bolisi blaenllaw ar gyfer gwella'r cyfleoedd a'r dewisiadau i bobl ifanc ac mae hynny’n parhau. Roedd 'Ymestyn Hawliau' yn gynhwysfawr yn yr ystyr ei fod yn croesawu pob sefydliad cenedlaethol a lleol yr oedd eu gwaith yn effeithio ar gyfleoedd a dewisiadau pobl ifanc yng Nghymru.

Mae angen i'r adolygiad o'r cyfarwyddyd a chanllaw statudol adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol, polisi, a thirwedd ariannol heddiw a gosod disgwyliadau realistig ai’r hyn y gellir ei gyflawni. Llywydd, rwy’n falch o hysbysu'r Aelodau bod Margaret Jervis MBE wedi cytuno i arwain ar yr adolygiad hwn. Mae gan Margaret gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o’i gwaith yn cefnogi pobl ifanc. Roedd hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu 'Ymestyn Hawliau'. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cyfrannu at yr 'Ymestyn Hawliau' diwygiedig ac yn gadael i ni wybod eu barn am siarter gwaith ieuenctid Cymru. Rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru, felly, gasglu barn pobl ifanc o bob rhan o Gymru, gan gynnwys sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu clywed. Byddant yn rhannu eu canfyddiadau gyda mi ym mis Gorffennaf. Bydd 'Ymestyn Hawliau' newydd, sy’n addas ar gyfer heddiw, yn cael ei roi allan i ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref. Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn hysbysu'r canllaw terfynol, a gaiff ei lansio'n ffurfiol yr haf nesaf.

Gan gydnabod yr angen am arweinyddiaeth strategol glir, rwy’n sefydlu bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol dan gadeiryddiaeth annibynnol. Rydym yn gwybod bod cymorth i bobl ifanc yn debygol o fod fwyaf effeithiol pan fydd yn rhan o rwydwaith ehangach. Dyna pam rwy’n dymuno i’r bwrdd hwn ganolbwyntio ar y sbectrwm o wasanaethau cymorth ieuenctid, ac nid ar waith ieuenctid yn unig. Swyddogaeth y bwrdd fydd darparu her adeiladol a chraffu ar bolisïau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Drwy ymgynghori a chydweithio â'r sector statudol a gwirfoddol, rwy’n dymuno gweld y bwrdd yn cynghori ar yr adolygiad o 'Ymestyn Hawliau' a gweithredu'r argymhellion o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn disgwyl i'r bwrdd gynghori ar weithredu a monitro 'Ymestyn Hawliau' yn briodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w cael.  Rhan o swyddogaeth y bwrdd fydd rhoi sicrwydd bod y prosesau a'r arferion ar gyfer comisiynu gwasanaethau cymorth ieuenctid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o roi trefniadau newydd ar waith ar gyfer dosbarthu grantiau gwaith ieuenctid. Bydd y cadeirydd ac aelodau'r bwrdd yn ddarostyngedig i’r broses penodiadau cyhoeddus. Rwy’n disgwyl y bydd y cadeirydd wedi ei benodi erbyn yr hydref. Yna bydd y cadeirydd yn fy nghefnogi i benodi holl aelodau eraill y bwrdd, a fydd yn eu lle erbyn gwanwyn 2018.

Dirprwy Lywydd, mae hwn yn amser cyffrous i Gymru. Mae gennym gyfle i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i’n pobl ifanc yn cael eu cynllunio i wella eu cyfleoedd mewn bywyd, yn cael eu strwythuro o amgylch eu hanghenion, ac ar gael yn eu dewis iaith. Gyda'n gilydd, gallwn arwain y ffordd ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid eto.

Diolch yn fawr iawn. Mae gen i nifer o siaradwyr, felly a gaf i ofyn i’r Aelodau fod yn gryno ac yna byddwn yn debygol o gael pob un i mewn? Llŷr Gruffydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus CWVYS, wrth gwrs, os caf i? A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Roedd rhan ohonof i wedi disgwyl bach mwy o gig ar yr asgwrn heddiw, mae’n rhaid i mi fod yn onest. Roeddwn i wedi disgwyl efallai ymateb bach yn fwy clir o safbwynt y cyfeiriad a’r strategaeth genedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Yr unig benderfyniad efallai rŷm ni wedi ei gael yw y bydd eraill yna nawr yn awgrymu wrthych chi beth fydd y penderfyniad. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi yn dweud, ‘Wel, mae hwn yn gyfle i’r sector gyfrannu i’r broses’, ac, wrth gwrs, mi fyddwn i’n croesawu hynny, ond mi fydd llawer o hynny yn ddibynnol, am wn i, ar bwy fydd aelodau y bwrdd rydych chi wedi ei greu, ond mi ddof i at hynny mewn munud.

Rydw i’n croesawu’r pwyslais eto ar edrych o’r newydd ar ‘Ymestyn Hawliau’, ‘Extending Entitlement’. Mi wnaeth y pwyllgor, wrth gwrs, argymell fel ei argymhelliad cyntaf, rydw i’n meddwl, edrych eto ar strategaeth genedlaethol gwaith ieuenctid, ac, yn eich ymateb chi i’r argymhelliad hwnnw, mi ddwedoch chi, ‘Wel, mi ddaw hynny efallai yn sgil edrych ar ddiwygio “Ymestyn Hawliau”.’ Ond mae’r strategaeth, wrth gwrs, yn dod i ben yn 2018, y flwyddyn nesaf, ac felly, o edrych ar yr amserlen sydd gyda chi mewn golwg, a ydych chi’n hyderus y bydd strategaeth newydd wedi ei llunio mewn pryd erbyn hynny? Oherwydd, os nad yw’r penderfyniad terfynol yn digwydd tan yr haf nesaf ar ‘Ymestyn Hawliau’, yna mae’n anodd gweld sut y bydd strategaeth newydd yn ei lle cyn diwedd flwyddyn nesaf.

Rydw i hefyd yn ymwybodol bod yna is-grŵp wedi bod yn edrych ar ddiwygio neu adolygu ‘Ymestyn Hawliau’—is-grŵp i’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid gweinidogol, yr ‘youth work reference group’. A ydw i felly yn iawn i ddeall mai Margaret Jervis fydd yn arwain yr is-grŵp hwnnw, neu a ydy beth rydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw yn broses newydd i bob pwrpas, ac y bydd y broses honno yn un a fydd yn gweithredu ar wahân? Un o’r cwestiynau roedd y pwyllgor, wrth gwrs, yn ei ofyn yn ei ymchwiliad diweddar i waith ieuenctid yng Nghymru oedd: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’ch cyhoeddiad chi ynglŷn â chreu bwrdd gwasanaeth cymorth ieuenctid cenedlaethol o bosib yn gyfrwng posib i greu ‘approach’ cenedlaethol—efallai rhyw fath o gorff cenedlaethol embryonig; fe gewch chi ddweud wrthyf i os ydy hynny yn bosibilrwydd—ond, wrth gwrs, edrych ar wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach na dim ond gwaith ieuenctid yw rôl y bwrdd, yn ôl eich datganiad chi. A oes yna felly risg y bydd hynny’n golygu y byddwn ni efallai yn colli ychydig o ffocws ar waith ieuenctid yng ngwaith y bwrdd? Oherwydd ymchwiliad i waith ieuenctid oedd gwaith y pwyllgor, ‘Dyfodol Gwaith Ieuenctid’ yw teitl y datganiad yma, ond mae’n swnio tipyn bach fel dyfodol gwasanaethau cymorth ieuenctid yn yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi o safbwynt y bwrdd. Felly, yr hyn rydw i’n chwilio amdano mewn gwirionedd yw sicrwydd na fydd yna golli golwg ar waith ieuenctid yng ngwaith y bwrdd, ac na fydd llais y sector gwaith ieuenctid yn cael ei lastwreiddio yn y drafodaeth honno oherwydd ystyriaethau ynglŷn â gwasanaethau cymorth ehangach.

A lle, wedyn, mae hyn yn gadael y strwythurau presennol? Er enghraifft, a fydd y strwythurau presennol yn aros yn eu lle tra bod y bwrdd yma yn gwneud ei waith? Hynny yw, rydw i’n tybio y bydd y grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid gweinidogol yn parhau â’i waith yn ystod y cyfnod yma. Rŷch chi’n dweud y bydd y bwrdd—un o rolau’r bwrdd fydd i graffu ac i roi her adeiladol i’r Llywodraeth. Efallai y gallech chi ymhelaethu ynglŷn â sut rydych chi’n rhagweld y byddan nhw’n gwneud hynny—yn uniongyrchol i chi, wrth gwrs, yn un ffordd. A fydd yna adroddiadau blynyddol neu a fydd yna ddatganiadau neu ryw ‘interventions’ cyhoeddus y byddwch chi’n eu disgwyl gan y cadeirydd ac aelodau’r bwrdd?

Ac, wrth gwrs, arian—rŷch chi’n dweud mai un o rolau’r bwrdd fydd edrych ar ddosbarthiad grantiau gwaith ieuenctid. Os ydyn nhw am oruchwylio’r trefniadau newydd am grantiau gwaith ieuenctid, yna a ydych chi’n rhoi rhyw fath o weledigaeth o gwbl, yn yr ystyr a ydych chi’n rhagweld, er enghraifft, y bydd cynllun grant yr NVYO am barhau y tu hwnt i’r flwyddyn olaf yma? Neu, a ydych chi yn dweud, ‘Lluniwch gyfundrefn newydd sbon’? Ac, os ydych chi, pryd ŷch chi’n rhagweld y bydd y manylion yna ar gael? Oherwydd mi fydd nifer o bobl, rydw i’n siŵr, eisiau sicrwydd—neu sicrwydd, o leiaf, i wybod pryd y byddan nhw’n gwybod beth sydd yn dod nesaf.

Mi orffennaf i drwy fynd reit yn ôl i gychwyn eich datganiad chi. Roeddech chi’n rhoi pwyslais, yn gwbl iawn, ar ansawdd, ac mi oedd hynny’n thema gryf, o beth rwy’n ei glywed, yn y cyfraniad y gwnaethoch chi yn y gynhadledd genedlaethol ar waith ieuenctid yr wythnos diwethaf. O gael pwyslais ar ansawdd, a ydy rhywun yn iawn i dybio eich bod chi’n gweld rôl y marc ansawdd—y ‘quality mark’—y tu hwnt i’r ymrwymiad presennol o Fawrth 2018? Oherwydd mae yna gytundeb yn ei le ar hyn o bryd tan hynny. Os nad ydych, yna beth ŷch chi’n ei weld a fydd yn gyrru yr agenda ansawdd o fewn y sector gwaith ieuenctid, achos y neges rŷm ni’n ei chael—

[Yn parhau.]—yw, os ydych chi eisiau codi’r bar o safbwynt ansawdd, yna mae’n rhaid i’r adnoddau a’r arian fod ar gael i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid dosbarthu’r adnoddau’n deg yn ddaearyddol a rhwng y sectorau gwahanol. Mae’r ystadegau y mae’r pwyllgor wedi’u gweld ynglŷn â’r dirywiad yn lefel y buddsoddiad, ynglŷn â dirywiad yn lefel y staffio, ac yn y blaen, yn awgrymu mai’r perig yw mai rheoli dirywiad y byddwn ni, ac nid yn tyfu y sector ‘universal, open access’ dwyieithog yma—

[Yn parhau.]—rŷch chi wedi ei ddweud yw’ch gweledigaeth. Diolch.

Dirprwy Lywydd, rwy’n credu bod Llyr wedi dod i galon y drafodaeth yma yng nghalon ei gwestiynau a’i gyfraniad hynod o bwysig. ‘Pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid?’ oedd y cwestiwn y gofynnoch chi, wrth gwrs, a dyna’r cwestiwn rydw i’n trio ei ateb yng nghraidd y datganiad yma: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’n bwysig nad yw gwaith ieuenctid yn cael ei yrru yn uniongyrchol o fan hyn, ei fod yn cael ei yrru gan bobl, gan ieuenctid, ar draws Cymru, a gan bobl sy’n gallu adlewyrchu ac ymateb i’r sefyllfa maen nhw’n ei gweld yn y gymuned lle y maen nhw’n byw. Achos mae arweinyddiaeth glir o fan hyn yn bwysig, wrth gwrs, o Lywodraeth Cymru—mae hynny yn bwysig, ond all hynny ddim bodoli yn ynysig ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid i hyn fod yn gydweithio—cydweithio go iawn, nid jest cydweithio mewn areithiau—ac wedyn cydweithio gyda phobl sydd ‘actually’ yn gweld pwysigrwydd y gwaith sy’n digwydd yn eu cymunedau eu hunain. Mae hynny, i ryw raddau, yn ateb eich cwestiwn cyntaf chi hefyd—a oes yna ddigon o gig ar asgwrn y datganiad yma? Mi allai, wrth gwrs, fod wedi bod lot mwy o gig, ond mi fuasai wedi bod yn gig sy’n dod o Gaerdydd, nad oedd wedi dod drwy’r broses o siarad a thrafod a rhannu profiad a gwybodaeth, a rhannu gweledigaeth. Felly, os ydych chi wir eisiau ein gweld ni’n cydweithio â phobl, mae’n rhaid i ni wedyn gydnabod bod hynny’n mynd i gymryd mwy o amser. Mi fuasai’r peth rhwyddaf yn y byd, i mi, yn y swyddfa, wneud y penderfyniadau yma, yn ynysig, cymryd cyngor, ond gwneud y penderfyniadau fy hunan—neu rydym ni ‘actually’ yn buddsoddi ein hamser yn siarad ac yn trafod gyda phobl. A dyna pam rydw i wedi gwneud y datganiad heddiw, sefydlu’r bwrdd a chadarnhau ein bod ni’n mynd trwy’r broses o drafod yr arweinyddiaeth statudol sydd gennym ac, wedyn, sicrhau bod gyda ni ddigon o amser i’n galluogi i siarad gyda phobl a thrafod y materion hyn cyn inni ddod i benderfyniadau. Rwy’n credu dyna beth oedd y tu ôl, efallai, i adroddiad y pwyllgor hefyd—bod angen rhywfaint o arweinyddiaeth, ond nid arweinyddiaeth yn unig; mae’n rhaid profi a siarad gyda phobl wrth i ni symud ymlaen.

Rydw i’n siŵr y bydd yna strategaeth yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben. Mi fydd yna strategaeth newydd yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben—fe wnaf i fod yn hollol glir am hynny. Mae’r broses o greu’r strategaeth yn mynd i fod yn broses o drafod a rhannu profiadau hefyd, a rhannu gweledigaeth.

Sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio? Nid wyf i’n mynd i ateb y cwestiwn yna’r prynhawn yma—sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio—achos, rydw i eisiau trafod hynny gyda’r bwrdd. Nid wyf i eisiau bwrdd sydd i fod i herio’r Llywodraeth—nid wyf i’n credu y buasai unrhyw fwrdd yn disgwyl i'r Gweinidog dweud wrthyn nhw sut i weithredu a sut ddylen nhw herio’r Llywodraeth. Mae hynny’n fater iddyn nhw benderfynu. Felly, pan rydym mewn sefyllfa i benodi cadeirydd ac wedyn i benodi aelodau, rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni gael trafodaeth amboutu sut mae’r bwrdd yn gweithio, ond mi liciwn i weld y bwrdd yn bachu’r cyfle i benderfynu ei hun sut y mae eisiau gweithio. Dyna beth mae annibyniaeth yn meddwl. Nid oes annibyniaeth os yw’r Gweinidog yn dweud eich bod yn annibynnol, ond yn annibynnol pan nad yw’r Gweinidog eisiau’r peth yma i ddigwydd. Felly, mae annibyniaeth yn y fan hyn yn beth pwysig.

Rydw i’n gobeithio y bydd yna ffocws parhaol ar waith ieuenctid. Rydw i yn gweld y pwynt rydych chi’n ei wneud, ac mae’n bwynt ddigon dilys, ac nid wyf i’n gwadu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Mae’n bosibl, ambell waith, i greu cyd-destun ehangach a cholli ffocws. Rydw i’n mawr obeithio na fydd hynny’n digwydd, ond rwy’n cydnabod bod yna berygl o hynny.

Rydw i wastad yn mynd i bwysleisio pwysigrwydd ansawdd, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd hynny’n dod o’r sector hefyd, a ddim yn rhywbeth sy’n dod o Lywodraeth. Rydych chi wedi fy nhemtio unwaith eto i roi ‘commitments’ cyllideb ac adnoddau. Rydym ni i gyd yn gwybod y sefyllfa rydym ni’n byw ynddi ar hyn o bryd, ac mae hynny’n broses anodd iawn. Mi fydd awdurdodau lleol yn cael eu hethol y mis nesaf ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni, fel Llywodraeth, gydweithio ag awdurdodau lleol ac eraill ar draws y wlad i sicrhau bod yna ddigon o adnoddau ar gael.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, hefyd, am ei ddatganiad? A gaf i roi ar gofnod y ffaith bod fy mhlaid yn croesawu penodiad Margaret Jervis i gynnal yr adolygiad hwn o 'Ymestyn Hawliau'? Credaf fod hynny'n benodiad rhagorol, o ystyried ei phrofiad gyda Plant y Cymoedd a sefydliadau eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n unigolyn cryf iawn i ymgymryd â’r swyddogaeth honno a’r her honno, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn ymgysylltu â phob plaid wleidyddol yn y Siambr hon hefyd, ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

A gaf i hefyd fynegi rhywfaint o syndod am y swyddogaeth y gofynnir i’r bwrdd hwn ymgymryd â hi? Rwy'n credu y byddwn wedi dymuno gweld bwrdd llawer cryfach, a dweud y gwir, nid yn unig yn annibynnol o ran rhoi rhywfaint o gyngor annibynnol i chi, ond bwrdd â gafael iddo. Bwrdd a oedd o bosibl yn meddu ar rai pwerau comisiynu, yn meddu ar y gallu i gomisiynu’r ymarfer mapio y mae angen ei gynnal ar lefel fanylach er mwyn penderfynu lle gallai’r bylchau hynny yn y ddarpariaeth fod, ac i edrych ar arfer gorau ac yna, gobeithio, sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n raddol a helpu i’w rannu â rhannau eraill o'r wlad. Mae’r Gweinidog a minnau’n rhannu’r farn, rwy’n gwybod, nad yw’n ymwneud ag arian yn unig; mae’n ymwneud â’r ffordd orau o wario'r adnodd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf gan wasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad.

Ac rwyf wedi dyfynnu ar sawl achlysur yn y Siambr hon ac, yn wir, o amgylch bwrdd y pwyllgor, y ffaith bod gwasanaethau ieuenctid yng Nghonwy, fel awdurdod lleol, yn ffynnu er gwaethaf y ffaith eu bod yn gwario llai yno nag mewn awdurdodau lleol eraill. Y rheswm yn syml dros hyn yw oherwydd eu bod wedi mabwysiadu dull partneriaeth o weithredu ac wedi tyfu’r sector gwirfoddol ar lawr gwlad i ddarparu gwasanaethau yr oedd yr awdurdod lleol, yn draddodiadol, wedi bod yn eu darparu. Felly, rwy'n synnu braidd nad oes gan y bwrdd hwn fwy o afael, mwy o rym, a'r gallu i gomisiynu gwasanaethau a'r gallu i sefydlu’r fframwaith hwnnw a gwneud yr ymchwil sy’n angenrheidiol er mwyn hongian gwasanaethau arnynt. Felly, efallai, Gweinidog, y gallech chi ddweud wrthym a allai hynny fod yn rhywbeth y gallai’r bwrdd hwn ei ysgwyddo yn y dyfodol.

Rydw i’n croesawu'r ffaith bod y penodiadau’n cael eu gwneud drwy'r broses penodiadau cyhoeddus. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd synhwyrol iawn ymlaen, hefyd, er mwyn rhoi rhywfaint o hyder i'r sector y bydd y bwrdd hwnnw’n gwbl annibynnol ei farn. Ond, yn amlwg, os yw'r cylch gwaith sydd gan y bwrdd hwnnw am fod yn eang iawn—nid yn unig o ran gwaith ieuenctid ond o ran llawer o agweddau eraill ar wasanaethau cymorth ieuenctid—yna mae perygl y bydd yn datblygu i fod yn fwrdd mawr ac anhylaw oherwydd bydd gwahanol ddiddordebau y bydd angen eu cynrychioli o amgylch y bwrdd. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym yn union faint o aelodau yr ydych chi’n rhagweld y bydd gan y bwrdd mewn gwirionedd pan fydd ganddo’r nifer llawn o aelodau fel y gall symud ymlaen â’i waith.

O ran ansawdd, Gweinidog, yn amlwg mae Cyngor y Gweithlu Addysg bellach yn gyfrifol am gofrestru gweithwyr ieuenctid ledled Cymru. Rydym eto i weld unrhyw safonau proffesiynol yn cael eu datblygu ar gyfer gweithwyr ieuenctid yn y wlad. Mae hynny'n rhywbeth y dylid ei adael, yn fy marn i, i Gyngor y Gweithlu Addysg. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu’r safonau hynny. Efallai y gallech chi ddweud wrthym pryd a sut yr ydych yn rhagweld y bydd y safonau proffesiynol hynny’n cael eu datblygu ac erbyn pryd yr ydych yn disgwyl iddynt fod yn eu lle. Oherwydd nid ydym byth yn mynd i weld unrhyw fath o drefniadau o ansawdd yn cael eu rhoi ar waith heb allu dwyn gweithwyr ieuenctid i gyfrif am y safonau y disgwylir iddynt eu cyflawni.

Ac yn olaf, o ran trefniadau dros dro, yn amlwg mae'n mynd i gymryd peth amser i gwblhau’r adolygiad y gofynnir i Margaret Jervis ei gynnal ac mae'n mynd i gymryd peth amser i’r bwrdd hwn gael ei roi ar waith. Yn y cyfamser, mae gennych sefydliadau fel CWVYS ac eraill sydd wedi bod yn llenwi'r bwlch, fel petai, mewn gwirionedd, o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid a bod yn llais ac yn llais sy’n cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol. Tybed a allech chi ddweud wrthym a fydd y trefniadau ariannu presennol i’r sefydliadau hynny sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru o ran gwaith ieuenctid yn parhau yn y cyfamser, ac, os felly, am ba hyd yr ydych chi'n meddwl y bydd hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae'n bwysig bod y bobl hyn yn gallu cynllunio ymlaen llaw i’r dyfodol, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech roi ar gofnod beth yw eich barn chi am yr ymrwymiadau ariannol hynny y gallent eu cael.

Rwy'n ddiolchgar iawn am groeso cyffredinol llefarydd y Ceidwadwyr i benodiad Margaret Jervis a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio. Gallaf yn sicr gadarnhau y bydd hi nid yn unig yn troi at bleidiau gwleidyddol, ond rhanddeiliaid ar draws wyneb y wlad ac ar draws gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hi’n croesawu cyfraniadau gan bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yma ac mewn mannau eraill, ond bydd hefyd yn mynd ymhellach na hynny drwy edrych ar randdeiliaid mewn ystyr llawer ehangach a chyfannol.

O ran y bwrdd, mae llefarydd y Ceidwadwyr yn gofyn am fwy o afael. Nid oes gennyf feddwl caeedig ar hynny. Yn wir, byddwn yn hapus iawn pe bai’r Aelodau, wrth wrando ar y datganiad hwn y prynhawn yma, yn credu bod angen cryfhau swydd a swyddogaeth y bwrdd mewn rhyw ffordd, yn cynnig y ffyrdd hynny o gryfhau'r bwrdd a'r ffordd y mae'n gallu gweithio. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad egwyddorol iddo gael pwerau i gomisiynu gwaith. Byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld bod unrhyw fwrdd sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn gallu gwneud hynny o safbwynt gwybodus, a byddai hynny'n awgrymu gallu comisiynu gwaith a fyddai'n cynorthwyo ei ddealltwriaeth ei hun o'r sector y mae'n ceisio’i gynrychioli. Felly, byddai materion fel cynnal ymarferion mapio, deall arfer gorau a gallu ymestyn arfer gorau, oll yn feysydd y byddwn yn ystyried yn feysydd rhesymol i'r bwrdd fynd i'r afael â hwy. A phe bai’r Aelodau'n dymuno ysgrifennu ataf gyda chyfres o gynigion ar sut y gellid cryfhau’r bwrdd, byddwn yn hapus iawn i ystyried yr holl gynigion hynny yn ddidwyll. Yn sicr, mae'n fwriad gennyf y byddai hwn yn sefydliad eithaf grymus a fyddai'n gallu siarad gyda lefel o awdurdod a gwybodaeth, a byddai hynny'n awgrymu’r holl agweddau gwahanol ar ei waith sydd wedi cael eu hamlinellu gan Darren Millar y prynhawn yma.

O ran maint neu natur gynrychioliadol y bwrdd, byddwn yn tueddu i osgoi cael seddi i bawb o amgylch y bwrdd oherwydd mae hynny wedyn yn dechrau arwain at fath o sefydliad na ellir ei reoli. Byddwn yn tueddu tuag at lai na mwy, a byddwn yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ddod i’r bwrdd, yn hytrach na chael cynrychiolwyr swyddogaethol a fyddai'n perfformio swyddogaeth lawer culach. Felly, byddwn yn ceisio osgoi bod yn rhy bendant y prynhawn yma, o bosib, ond byddwn yn dweud bod yn well gen i fwrdd llai ac un sy'n gallu gweithredu ac adeiladu ar gryfderau ei aelodau, yn hytrach na dim ond mynd yn syth i lawr llwybr cynrychiolaeth.

O ran ansawdd, rwyf wedi cwrdd â Chyngor y Gweithlu Addysg i drafod y materion a godwch. Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir i godi'r materion am safonau proffesiynol. Mae'n bwynt a wnaeth Llŷr yn ei sylwadau hefyd—nid wyf yn siŵr a wnes i eich ateb mewn gwirionedd yn fy ymateb i. Ond, yn sicr, o ran ble yr ydym yn mynd, dyna’n union lle mae angen i ni fod, ac rwy’n gobeithio y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg mewn sefyllfa i wneud datganiad ar hynny cyn bo hir.

Rydych chi wedi gofyn i mi eto, fel y gwnaeth Llŷr yn ei sylwadau agoriadol, am y trefniadau ariannu. Ni fyddaf yn ceisio camarwain drwy roi ymrwymiadau y prynhawn yma. Mae fy meddwl yn agored ynghylch sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r materion hyn. Nid wyf yn dymuno gwneud unrhyw ddatganiad y prynhawn yma ar drefniadau cyllido yn y dyfodol, oherwydd bydd pa bynnag ddatganiad a wnaf yn agored i wahanol ddehongliadau. Felly, pe byddai'r Aelodau yn maddau i mi ar yr achlysur hwn, byddai’n gyfle, efallai, i mi frathu fy nhafod.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, a hefyd groesawu'r adolygiad o 'Ymestyn Hawliau', sy'n rhywbeth rwy’n credu y byddai'r pwyllgor wedi dymuno ei weld? Fel Llŷr, rwyf innau’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at strategaeth newydd, sydd hefyd yn rhywbeth yr oedd y pwyllgor eisiau ei weld. Rwy'n arbennig o falch y bydd pobl ifanc yn rhan o’r adolygiad ar 'Ymestyn Hawliau', ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu.

O ran y bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol, yr ydych wedi dweud y bydd yn gyfrifol am eich cynghori ar weithredu argymhellion y pwyllgor, mae gennyf rai cwestiynau am hynny. Roedd y pwyllgor yn glir iawn ac, yn wir, roeddech chi’n glir iawn pan roesoch dystiolaeth eich bod yn cefnogi ein barn ni y dylai fod cynnig ieuenctid agored i bawb sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n neges y byddwch yn ei rhoi’n glir i'r bwrdd newydd fel rhan o'i gylch gwaith i fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen?

Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael mwy o fanylion am yr amserlenni. Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith bod gan adroddiad y pwyllgor lawer o amserlenni yn ein hargymhellion. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am ddiweddariadau cyn pen chwe mis. Roedd hynny ym mis Rhagfyr, felly mae wedi bod yn bedwar mis erbyn hyn, ac yn awr mae gennym y bwrdd newydd hwn sy'n debygol o ohirio pethau. Felly, o ystyried y ffaith ein bod yn gweld yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng sydd, mewn gwirionedd, yn effeithio ar waith ieuenctid fel mater o frys, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael rhywfaint o fanylion am amserlenni.

Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r bwrdd. A ydych yn bwriadu cael cynrychiolydd pobl ifanc, neu pa fecanwaith arall yr ydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio?

Rydych wedi nodi y bydd y bwrdd yno i helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol. Ond un o'r prif fethiannau y daeth y pwyllgor o hyd iddo oedd y diffyg arweinyddiaeth a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, a’r cyrff gwirfoddol yn aml oedd y berthynas dlawd ac, yn benodol, yn cael y briwsion o'r bwrdd o ran cyllid. A allwch chi gadarnhau y byddwch chi’n rhoi arweiniad cryf iawn i'r bwrdd y dylai ymdrin â hynny ac mai’r canlyniadau i bobl ifanc ddylai gyfrif, nid yn gymaint pwy sy'n darparu'r gwasanaeth?

Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud mewn cysylltiad â'r atebion ar ariannu ac yn nodi eich sylw yn y datganiad mai swyddogaeth y bwrdd fydd sicrhau bod cyllid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Ond byddwn yn pwyso arnoch i sicrhau mewn gwirionedd bod digon o gyllid ar gael, oherwydd gallwch gael cymaint o dryloywder ag y dymunwch, ond os nad oes digon o arian, yna nid yw'n ddigon da. Diolch.

Rwy'n credu y byddai’r Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i longyfarch a diolch i Lynne am y ffordd y mae nid yn unig wedi arwain yr ymchwiliad i waith ieuenctid, ond hefyd nad yw wedi rhoi'r gorau i’w arwain ar ôl i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad. Yn sicr, fel Gweinidog, byddwn yn dweud ei bod yn heriol eistedd yn ymyl Cadeirydd pwyllgor sydd ag ymrwymiad mor gryf i'r materion hyn yn y Siambr hon. Rwy'n credu y dylai pob un ohonom longyfarch Lynne ar y gwaith y mae hi’n ei wneud nid yn unig yn y pwyllgor, ond y tu allan i'r pwyllgor hefyd.

Rydych yn hollol gywir yn y pwyntiau a wnewch o ran cynnwys pobl ifanc yn 'Ymestyn Hawliau', ac y dylai 'Ymestyn Hawliau' arwain at strategaeth newydd. Y rheswm pam rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru gymryd rhan yn y broses hon yw er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli—bod barn pobl ifanc ar draws Cymru gyfan yn cael ei gynnwys—a byddaf yn gofyn i Margaret sicrhau bod y broses honno’n digwydd a’i bod yn broses wybodus a hyddysg o ddiwygio ac adolygu, ac nid yn rhywbeth sy’n digwydd mewn ystafelloedd cyfarfod. Felly, byddwn yn ceisio mynd ati i wneud hynny.

Nid wyf, ni allaf gofio, o unrhyw un o'r ymrwymiadau a wnes i o flaen y pwyllgor dros y chwe mis diwethaf—. O ran ein dull gweithredu mynediad agored i wasanaethau a chymorth gwaith ieuenctid cynhwysfawr fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar draws holl wyneb y wlad, mae’r ymrwymiadau a wnes i yn y pwyllgor yn sefyll heddiw, a byddaf yn eu hailadrodd heddiw.

O ran adroddiad y pwyllgor, roedd yn gofyn am nifer o wahanol ddiweddariadau dros nifer o wahanol amserlenni—yn fwyaf nodedig, fel y nodwyd, diweddariad chwe mis. Bydd hynny'n cael ei ddarparu i'r pwyllgor a byddwn yn hapus i fynd yn ôl at y pwyllgor, petai’r pwyllgor yn teimlo y byddai hynny yn helpu eu trafodaethau, i ateb cwestiynau ac i fod yn atebol i'r pwyllgor o ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud i gyflawni ar yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor. Byddwn yn dweud wrth Lynne Neagle na fydd penodi a sefydlu’r bwrdd yn arwain at oedi. Yr hyn y bydd yn ei wneud yw helpu i weithredu’r argymhellion hynny a gweithredu ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hynny. Nid yw hyn yn ffordd o atal, rhwystro neu arafu gwaith. Mewn gwirionedd mae’n fodd i’n galluogi i wneud y pethau hyn a’n galluogi i allu cyflawni ar yr ymrwymiadau hyn mewn ffordd fwy dwys. Rydw i wedi ateb cwestiynau ar sut y bydd y bwrdd yn gweithredu a gwneuthuriad y bwrdd; yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw y byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai unrhyw fwrdd sy’n weithgar yn y maes hwn yn sicrhau bod llais, barn, profiad, gwybodaeth a gweledigaeth pobl ifanc yn rhan ganolog o'i ddull gweithredu a’r ffordd y mae'n dod i gasgliadau ar unrhyw fater. Byddwn yn disgwyl i bwy bynnag sy’n cael ei ​​benodi i'r bwrdd gadw hynny mewn cof.

O ran sut yr ydym yn cyflwyno arian ac adnoddau ar gyfer y polisïau hyn, rydym yn deall—rwy’n credu nad oes un Aelod yn y Siambr hon nad yw'n gwerthfawrogi ac yn deall yr heriau sylweddol sy'n wynebu awdurdodau cyhoeddus ar hyn o bryd o ran cyllidebau.  Rydym yn deall yr anawsterau sy'n wynebu'r awdurdodau newydd a fydd yn cael eu hethol fis nesaf, ac rydym yn deall yr heriau sy'n wynebu’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau pan ddaw’n fater o ddyrannu cyllid. Rwy’n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud. Yn sicr, fy mwriad i yw sicrhau bod gennym adnoddau digonol i gyflawni’r addewidion a’r ymrwymiadau a wnawn, ond rydym yn gwybod, ar yr un pryd, bod y rhain yn ymrwymiadau a wneir dan yr amgylchiadau ariannu mwyaf anodd.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno â chi bod gan waith ieuenctid swyddogaeth hanfodol i'w chwarae i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chael ystod o brofiadau. Mae'n meithrin cymeriad ac mae hefyd yn hwyl. Adroddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Rhagfyr 2016 fod awdurdodau lleol wedi gweld colled o bron 20 y cant yn lefelau staffio gwaith ieuenctid mewn blwyddyn yn unig. Adroddodd CWVYS nad oedd 30 y cant o'i aelodau yn gweld eu hunain mewn bodolaeth y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Sut y bydd y cyhoeddiadau a wnaed yn natganiad y Gweinidog yn lleddfu’r materion adnoddau hyn?

Nododd y pwyllgor hefyd â phryder bod diffyg atebolrwydd o ran y defnydd o arian a gyflenwir drwy'r grant cynnal refeniw. Sut fydd y bwrdd gwasanaeth cymorth ieuenctid cenedlaethol newydd yn sicrhau atebolrwydd ar gyfer gwariant gan awdurdodau lleol ar waith ieuenctid?

Nododd y pwyllgor hefyd fod rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol ar y naill law, a'r Gweinidog ar y llaw arall, fel petaent yn meddu ar farn wahanol iawn am arweinyddiaeth strategol Llywodraeth Cymru, neu ddiffyg hynny. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â’r rhanddeiliaid hyn ers cyhoeddi'r adroddiad, ac a yw barn y Gweinidog a’r rhanddeiliaid wedi dod yn agosach at ei gilydd o gwbl yn y misoedd ers hynny? Roedd y rhanddeiliaid yn pryderu hefyd am yr hyn y maent yn ei weld fel methiant Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau, ac anogodd y pwyllgor y Gweinidog i fanteisio ar arbenigedd a dealltwriaeth y prif grŵp swyddogion ieuenctid a CWVYS, dau o'r rhanddeiliaid allweddol o ran mynd â gwaith ieuenctid yn ei flaen yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn meithrin perthynas agosach â’r rhanddeiliaid hyn, a sut mae am ddefnyddio eu harbenigedd a'u profiad, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor?

Y peth syfrdanol am y dystiolaeth a roddwyd gan lawer o'r rhanddeiliaid yw ei bod yn ymddangos nad oes ffordd ffurfiol o ddeall y galw ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ieuenctid yn erbyn y gwasanaethau gwaith ieuenctid sy'n cael eu darparu eu hunain. Sut y gellir cynllunio neu ddarparu unrhyw fath o wasanaeth, boed yn breifat, cyhoeddus neu fasnachol, heb ddeall ble mae'r galw am y gwasanaeth? Sut ydych chi’n bwriadu mapio galw ar y cyflenwad fel eich bod chi’n deall ble mae'r bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth?

Rydych wedi cyhoeddi bod bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol yn cael ei greu i ddarparu, fel y dywedwch, her adeiladol a chraffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n gwbl glir o'ch datganiad yn union beth fydd amcanion ac union swyddogaeth y bwrdd, ac efallai y gwnewch chi roi mwy o fanylion i ni am hynny. Diolch.

Mae’r Aelod yn disgrifio rhai o'r problemau sy'n wynebu gwaith ieuenctid a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ran sefyllfa gyffredinol cyllid llywodraeth leol ac adnoddau llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei ddeall yn dda ac nid yw'r Llywodraeth yn arswydo nac yn anghytuno â chasgliadau'r pwyllgor ar hyn. Rydym yn deall bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd iawn, yn wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn. Y peth hawsaf yn y byd yw i Weinidog sefyll yma a gwneud unrhyw sylwadau y mae ef neu hi’n cael eu temtio i’w gwneud, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni gydnabod mai mater i lywodraeth leol yw gwneud y penderfyniadau hyn.

Rydych yn gofyn am atebolrwydd llywodraeth leol ar y diwrnod y mae enwebiadau’n cau ar gyfer yr etholiadau lleol sy’n cael eu cynnal fis nesaf. Dyna atebolrwydd yn y ffurf fwyaf amrwd posibl. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr hynny a’r cynghorwyr hynny a fydd yn brwydro am eu seddi dros y pedair neu bum wythnos nesaf roi cyfrif am y penderfyniadau y maent wedi eu gwneud. Mater i'r bobl yw penderfynu ar eu blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf.

Ond o ran yr arweinyddiaeth strategol, yr wyf yn credu sy’n bwynt mwy sylfaenol—ac aeth Llŷr i'r afael â rhai o'r materion hyn yn ei gwestiynau—nid yw arweinyddiaeth yn golygu sefyll yma yn gwneud ac yn cyhoeddi penderfyniadau. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ymwneud â chael sgyrsiau a gwrando—ac nid dim ond gwrando ar yr hyn sydd wedi'i ddweud, ond clywed yr hyn a ddywedwyd hefyd. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â chael strwythur sy'n ein galluogi ni i ddarparu'r weledigaeth, ond hefyd i sicrhau bod y weledigaeth honno yn cael ei llywio gan brofiad pobl ar lawr gwlad neu bobl sy'n darparu gwasanaethau a phobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

Felly, rwy’n gwrthod y syniad bod arweinyddiaeth yn weithgaredd unigol a wneir gan un Gweinidog mewn ffordd benodol. Rwy'n credu bod arweinyddiaeth yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o lawer o sut yr ydym yn ymdrin â'r materion hyn ac ymdeimlad ehangach o lawer o wrando ar, a chlywed, yr hyn sy'n cael ei ddweud.

O ran y berthynas â rhanddeiliaid a materion eraill a godwyd gan yr Aelod, gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn buddsoddi llawer iawn o amser yn gwrando ar bobl ac yn siarad â phobl. Un o argymhellion adroddiad y pwyllgor oedd cyfarfod â'r grŵp cyfeirio cyn gynted ag y bo modd. Roeddwn i wedi cwrdd â'r grŵp cyfeirio ychydig ddyddiau cyn i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi. Fe wyddoch, rydym yn treulio llawer o amser, fy swyddogion a minnau, yn cael y sgyrsiau hyn ac yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud.

Ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn yn disgwyl neu'n rhagweld y byddai rhanddeiliaid yn cytuno â phopeth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Nid dyna natur trafodaethau a sgyrsiau gwleidyddol. Nid wyf yn disgwyl, gan ein bod yn cael sgwrs gyda grŵp o randdeiliaid yn y maes hwn neu unrhyw faes arall, y bydd y rhanddeiliaid hynny wedyn yn cytuno â'r penderfyniadau a wnaf ac y byddaf yn eu gwneud yn y dyfodol. Nid dyna'r ffordd y mae’n rhaid neu y dylai’r pethau hyn weithredu. Fy marn i yw y dylem bob amser allu cyfnewid barn yn onest iawn, deall ein gilydd, ond wedyn hefyd gael y rhyddid i anghytuno lle teimlwn ei fod yn angenrheidiol.

O ran y ffordd o weithio a'r dulliau a ddefnyddiwyd, rwy’n credu y dywedais mewn ateb i bwyntiau Darren Millar am waith y bwrdd fy mod yn hapus iawn i’r bwrdd gymryd y farn y mae’n ei gymryd am y ffordd y mae'n gweithredu. Nid wyf yn credu y byddai'n gweithio’n effeithiol petai’r bwrdd yn cael ei benodi i wneud yr hyn y mae'r Gweinidog yn dymuno i'r bwrdd ei wneud. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i’r bwrdd gael modd o annibyniaeth. Rydym yn mynd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus i sicrhau bod aelodau'r bwrdd yn annibynnol. Yna, byddwn yn disgwyl cael cytundeb â'r bwrdd a fydd yn gwarantu eu hannibyniaeth wrth weithredu ond hefyd lefelau’r awdurdod sydd ganddynt er mwyn comisiynu’r math o waith a ddisgrifiodd Darren Millar, yr wyf i’n credu fydd yn gwbl hanfodol ar gyfer her wybodus i'r Llywodraeth.

Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, felly y pedwar siaradwr nesaf—bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar eich cydweithwyr i ofyn cwestiwn ac i'r Gweinidog ateb yn gryno. Fel arall, ni fydd cyfle i gael pob un ohonoch i mewn. Felly cewch chi ddewis sut y byddwch yn gwneud hyn. Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n aml yn gryno. A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog, ac a gaf i groesawu'r cyfeiriad? A gaf i roi gwasanaethau ieuenctid yn eu cyd-destun, fodd bynnag? Yn y pedair blynedd o Ebrill 2012, torrwyd £6.1 miliwn ar y gwariant gan awdurdodau lleol Cymru ar wasanaethau ieuenctid. Arweiniodd y toriadau hyn at golli mwy na 100 o ganolfannau ieuenctid, a thorrwyd hefyd ar o leiaf 360 o swyddi yn y gwasanaeth ieuenctid gan awdurdodau lleol. Nid wyf yn beio’r awdurdodau lleol am hyn; maent o dan bwysau ariannol aruthrol.

Dau faes sydd wedi cefnogi darpariaeth ieuenctid yw 'mentrau iaith' a Chymunedau yn Gyntaf. Mae 'Mentrau Iaith' wedi cefnogi darpariaeth ieuenctid megis Twrw Tawe yn fy etholaeth i, y mae fy merch i yn mynd iddo, ac wedi darparu cyfleuster ieuenctid sy’n cynnwys cerddoriaeth i bobl ifanc. Yn hollbwysig, mae'n gyfle i blant a phobl ifanc siarad a defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol, sy’n hynod o bwysig yn fy marn i. Mae'n gyd-destun y tu allan i'r ysgol ar gyfer y Gymraeg. Hefyd, mae gwaith ieuenctid Cymunedau yn Gyntaf wedi cynnwys darparu gwasanaethau allgymorth a darpariaeth ieuenctid dan do. A all y Gweinidog nodi beth yw dyfodol y ddarpariaeth ieuenctid 'mentrau iaith', a’r ddarpariaeth ieuenctid a ddarperir gan Gymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd? Ac a fydd y Gweinidog yn cytuno â mi efallai na fyddwch yn dymuno ateb cwestiynau am gyllid—a gallaf ddeall hynny—ond a fyddai'n cytuno mai cyllid yw’r allwedd?

Rydych yn gwybod mai 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Mae cyllid yn amlwg yn bwysig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi gwneud datganiadau ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf, ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny. O ran 'mentrau iaith', byddant yn rhan allweddol o strategaeth yr iaith Gymraeg yn gyffredinol, sy'n ceisio cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig mewn lleoedd fel Abertawe neu Flaenau Gwent, lle nad yw’r Gymraeg o bosib yn iaith gyfathrebu i’r gymuned gyfan.  Felly, yn sicr, byddwn yn gweld swyddogaeth bwysig i 'fentrau iaith' wrth gyflawni hynny fel rhan o'n strategaeth iaith Gymraeg yn gyffredinol.

Treuliais bum mlynedd fel gweithiwr ieuenctid cyn mynd yn athro. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr, Gweinidog, â’ch sylwadau ynglŷn â pha mor bwysig y gall gwaith ieuenctid fod i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Ac rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, i rai o'n cymunedau mwyaf heriol, mae dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn cynrychioli heriau penodol. Felly, gan adeiladu ar gwestiwn fy nghydweithiwr Mike Hedges, hoffwn ofyn i chi pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am sut y bydd y newidiadau i'r rhaglen honno yn effeithio ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid.

Yn ail, yn fy etholaeth i, effeithiwyd ar fwy na 50 o bobl ifanc pan gaewyd clybiau ieuenctid yn ddiweddar, ac mae cymuned Ynysybwl yn arbennig o bryderus am hyfywedd ei glwb ieuenctid pan fydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben. Pa gyngor allech chi ei roi, Gweinidog, i’m hetholwyr sy'n pryderu am y newidiadau hyn?

Fel y bydd yr Aelod yn sylweddoli, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at fy ateb cynharach i Mike Hedges am y sgyrsiau a gynhaliwyd a'r datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, felly nid wyf am ychwanegu at hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydw i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn sgwrsio’n rheolaidd am hyn a materion eraill. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn cael sgyrsiau am sut yr ydym yn disgwyl ac yn rhagweld i’r materion hyn gael eu datrys. Yn amlwg, bydd amgylchiadau penodol—yr ydych chi wedi cyfeirio at Ynysybwl—a bydd enghreifftiau eraill o'r fath mewn rhannau eraill o'n cymunedau lle bydd effeithiau arwyddocaol. A byddwn yn awgrymu eich bod yn siarad â mi ac Ysgrifennydd y Cabinet, a byddwn yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu a’ch cefnogi chi wrth ymateb i hynny.

Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog, yn enwedig o ran adolygu 'Ymestyn Hawliau' a'r bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol. Ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad a roesoch i Gadeirydd y pwyllgor eich bod yn cefnogi’r syniad bod pob unigolyn ifanc yn cael gafael ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Hoffwn godi'r pwynt bod ein hymchwiliad yn ymwneud â gwaith ieuenctid ac, yn amlwg, rydych chi wedi bod yn siarad am wasanaethau cymorth ieuenctid. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddiffinio beth yw'r gwasanaethau cymorth ieuenctid a sut mae gwaith ieuenctid yn ffitio i mewn i hynny, gan ein bod yn amlwg yn sôn am waith ieuenctid yn ein hymchwiliad ni.

Y pwynt arall yr oeddwn yn awyddus i ofyn i chi amdano, yn gyflym, oedd bod gennym lawer o dystiolaeth gan grwpiau penodol o bobl ifanc a chynrychiolwyr grwpiau o bobl ifanc gydag anghenion penodol. Rwy'n credu bod plant byddar, plant mewn gofal, plant Sipsiwn a Theithwyr—llawer o grwpiau o blant mewn angen. Sut ydym ni’n mynd i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid y credwn y dylent ei chael?

Ydw, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiadau a wnes o flaen y pwyllgor, a byddaf yn fwy na pharod i ddod i’r pwyllgor eto, ar ei gais, er mwyn parhau â’r sgwrs hon ac amlinellu ymhellach sut y byddem yn disgwyl ac yn rhagweld i’r maes polisi hwn ddatblygu dros y cyfnod nesaf.

Rwy'n hynod bryderus—. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed gan Julie Morgan am waith ieuenctid yn hytrach na gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ond rwy'n awyddus iawn bod gwaith ieuenctid yn cael ei weld fel gwasanaeth strategol hefyd, ac nid yn unig fel cyfleuster hamdden neu wasanaeth pan fetho popeth arall. Rwy’n dymuno iddo eistedd ochr yn ochr â holl amrywiaeth y gwasanaethau cymorth ieuenctid, a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cael darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd i bobl ifanc ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, ac rwy'n credu y bydd bwrdd cenedlaethol yn ein helpu i gyflawni hynny.

Ond rwy’n awyddus ein bod yn sicrhau—ac mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a godwyd yn gynharach gan Darren Millar—bod aelodaeth y bwrdd yn cynnwys y sbectrwm o wasanaethau cymorth ieuenctid, nid y sectorau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol yn unig. Ac rwyf am sicrhau bod gennym ffocws gwirioneddol sydd heb ei gyfyngu i un rhan o'r sbectrwm cyfan o wasanaethau ar gael i bobl ifanc, am y rhesymau yr ydych newydd eu rhoi o ran grwpiau penodol o’r boblogaeth gyffredinol, lle mae’n ofynnol i wasanaethau gydweithio er mwyn darparu dull mwy cyfannol yn hytrach na dim ond un rhan o'r hyn yw eu gofynion ac anghenion mewn gwirionedd. Felly, er mwyn sicrhau bod gennych chi’r dull cynhwysfawr hwnnw rwy’n cymryd golwg ehangach o lawer. Ond o fewn hynny, fel y dywedais mewn ateb i Lynne Neagle yn gynharach, byddwn yn disgwyl gweld ffocws clir; fodd bynnag, rwy’n dymuno i’r ffocws hwnnw gael ei ystyried yng nghyd-destun y cyflenwad cyffredinol o wasanaethau i bobl ifanc.

O ystyried atebion y Gweinidog hyd yn hyn, nid wyf yn siŵr a ddylwn i ehangu fy nghwestiwn neu ei gulhau i ffocws laser, felly rwyf am roi cynnig ar ychydig o'r ddau.

Byddaf yn gyflym. O ystyried y ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod natur gyfnewidiol y cyllid a’r adnoddau sydd ar gael i gymorth ieuenctid, sut fydd y dirwedd newydd yn cael ei hystyried yn yr adolygiad? Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, sef SYDIC, er enghraifft, ar hyn o bryd yn byw o’r llaw i’r genau, ac yn dibynnu ar wahanol ffynonellau o gyllid, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dyrannu arian sylweddol ar gyfer y ganolfan eleni. A yw disgwyliadau realistig yn golygu dyfodol mwy sicr i sefydliadau allgymorth fel SYDIC?

Rwy'n credu mai ehangu’r cwestiwn oedd y peth gorau i'w wneud, mewn gwirionedd, Hefin. [Chwerthin.] O ran canolfannau ieuenctid unigol, ni fyddai'r Aelod yn disgwyl i mi roi unrhyw ymrwymiadau na allaf eu rhoi ar gyfer ariannu sefydliadau. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym dirwedd sy'n newid, fel y dywedodd yr Aelod, ac fe wnes i fwynhau’r ymweliad pan ymunais ag ef yn SYDIC yr haf diwethaf a gweld y cyfleusterau sydd ar gael yno a'r gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r gwasanaethau hynny yn wasanaethau hanfodol, yn enwedig pan maent yn cael eu darparu yn rhywle fel Senghennydd, sy'n gymuned debyg iawn i'r cymunedau yr wyf i’n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, lle mae angen i ni allu estyn allan a chyrraedd o bosib y tu hwnt i’r ffordd draddodiadol o ddarparu gwasanaethau. Mae sefydliadau fel SYDIC yn gwneud gwaith ardderchog i’n galluogi ni i wneud hynny, ac mae angen cydnabod hynny o fewn y dirwedd a ddisgrifiodd ef. Pan fydd yn dod yn fater o wneud penderfyniadau ar ymestyn hawliau cyffredinol, y strategaeth yr ydym wedi ei disgrifio eisoes y prynhawn yma, mae’n rhaid i’r mathau hynny o wasanaethau fod wrth wraidd a chalon y strategaeth honno. Rwy’n gobeithio, ac rwy'n siŵr, gydag Aelodau fel Hefin yn sefyll i fyny dros y bobl hynny, y byddant yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn datblygu’r pethau hyn ymhellach.

9. 7. & 8. Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017, a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017

Symudwn at eitemau 7 ac 8 ar ein hagenda y prynhawn yma. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy’n cynnig bod y ddau gynnig canlynol o dan eitem 7 ac eitem 8 yn cael eu grwpio ar gyfer y drafodaeth. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, galwaf ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y cynigion. Jane.

Cynnig NDM6280 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Cynnig NDM6281 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Cynigiwyd y cynigion.

Rwy'n falch, Dirprwy Lywydd, o gyflwyno’r offerynnau statudol hyn i'r Cynulliad i'w cymeradwyo. Y gyntaf o ddwy gyfres yw'r rheoliadau hyn a'r Gorchymyn o offerynnau statudol sy'n dod â gwelliannau i rym ar gyfer creu gweithdrefn apelio a galw ceisiadau i mewn mwy cyflym a chynnil yng Nghymru. Bydd yr ail gyfres o offerynnau statudol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.

Yn gyntaf, fe’ch gwahoddir i gymeradwyo Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau technegol i ddeddfwriaeth bresennol, sy'n gofyn am dalu ffi i'r awdurdod cynllunio lleol pan fydd apêl yn arwain at gais tybiedig am ganiatâd cynllunio. Lle byddo angen ffi o ran cais tybiedig, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad at yr apelydd yn pennu’r amserlen ar gyfer talu’r ffi i'r awdurdod cynllunio lleol. Er hynny, ni fydd gan yr awdurdod cynllunio lleol fawr o wybodaeth fel arfer am fodolaeth y cais tybiedig. Bydd y gwelliannau a wneir gan y rheoliadau hyn yn cywiro'r anghysondeb hwn ac yn gofyn i Weinidogion Cymru anfon yr un hysbysiad i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ar yr un pryd â'r apelydd. Bydd y gwelliannau a wneir gan y rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud yn ddyletswydd ar yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol i hysbysu Gweinidogion Cymru pan fydd ffi wedi ei thalu, neu os nad yw ffi wedi ei thalu o fewn yr amser penodedig. Rwyf o'r farn y bydd y newid hwn yn gymorth i ragor o eglurder a sicrwydd yn y broses apelio, ac yn gyfrwng i gael cyfathrebu clir rhwng yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru.

Yn ail, fe’ch gwahoddir hefyd i gymeradwyo'r penderfyniad cynllunio gwlad a thref o weithdrefn Gorchymyn Cymru 2017. Ar hyn o bryd mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a fydd apêl neu alw cais i mewn yn cael ei drin drwy sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Mae hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o’r mathau o apelio a galw cais i mewn sy’n bodoli. Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu apeliadau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus at y rhestr bresennol o drafodion y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru bennu gweithdrefn ar eu cyfer. Bydd y newid hwn yn sicrhau cysondeb pellach o ran y mathau o apêl. Rwyf o'r farn y bydd y cynigion hyn, ynghyd â'r diwygiadau ehangach i'r broses apelio, yn cefnogi agenda cynllunio cadarnhaol i ysgogi datblygiad ac yn sicrhau bod penderfyniadau amserol yn cael eu gwneud ar apeliadau a cheisiadau yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes siaradwyr, felly y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, cytunwyd ar y cynnig o dan eitem 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12:36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 8 wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. 9. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Symudwn ymlaen nawr at eitem 9 ar ein hagenda, sef dadl ar Gam 4 o Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM6291 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 18:37:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i heddiw i gyflwyno’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w gymeradwyo. Roedd rhai o’r Aelodau sydd yma heddiw hefyd yn bresennol i gymeradwyo’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth drethi Cymru yn 2016, sef y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a sefydlodd Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’r Bil hwn yn ein symud ni ymlaen i’r cam nesaf o ran datganoli trethi. Mae’n sefydlu treth newydd ar drafodiadau tir yng Nghymru, yn lle treth tir y dreth stamp o fis Ebrill 2016 ac ymlaen. Rydw i am ddiolch eto i Aelodau ar draws y Siambr am eu gwaith yn craffu ar y Bil, ac i’m swyddogion a staff y Comisiwn am eu cefnogaeth yn y broses.

Dirprwy Lywydd, the creation of the land transaction tax for Wales has been a highly technical and hugely detailed enterprise. I’m greatly indebted to a group of genuinely expert policy and legal officials who have formed a dedicated project team. Their work has been most visible at meetings of the Finance Committee, both in technical briefings and in helping to respond quickly and positively to the committee’s conclusions. The work of that committee was additionally complicated by the changing nature of SDLT itself as our Bill was before the Finance Committee. Can I once again thank the Chair of the committee, Simon Thomas, particularly, for his conduct of the scrutiny process and all members of the committee for their careful and constructive approach to ensuring that the Bill is the best we could possibly make it? I’m also grateful of course to the Chair and members of the Constitutional and Legislative Affairs Committee for their detailed scrutiny and the reports that resulted from it.

Dirprwy Lywydd, developments in the devolution of taxes go on. I was pleased recently to announce that Kathryn Bishop will be the first chair of the WRA, with further non-executive board members being appointed in the summer. Here at the Assembly, the landfill disposals tax continues to make progress through our scrutiny procedures, to be followed in April 2019 by the introduction of Welsh rates of income tax. Each of these new Welsh taxes marks a further step on the devolution journey, albeit one that has been 800 years in the making. With that in mind, I ask Members for their support in seeing this Bill onto the statute book this afternoon.

Rwy’n falch iawn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Hoffwn innau hefyd ymestyn fy niolchiadau i dîm y Comisiwn, yn enwedig y tîm deddfwriaethol, am eu cymorth wrth graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac wrth ddrafftio gwelliannau.

Yn fyr iawn, hoffwn gymeradwyo’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno’r Bil drafft cyn yr haf, a rhoddodd gyfle i Aelodau a rhanddeiliaid gyfarwyddo â’i gynnwys, ac am ei barodrwydd i ymgynghori â rhanddeiliaid. Bu sôn yn ystod y drafodaeth ar ei egwyddorion cyffredinol fod y Bil yn un hirfaith a bod iddo adrannau gweddol gymhleth. Heb os, roedd cael Bil drafft yn gymorth i’n gwaith craffu fel Aelodau, yn enwedig aelodau’r pwyllgor.

Fe glywodd y Pwyllgor Cyllid gan randdeiliaid am yr angen am drosglwyddiad hwylus o’r hen system dreth stamp i’r un newydd—mor hwylus ag sy’n bosib. Felly, rwy’n falch bod gwelliant i sicrhau bod canllawiau ynghylch gweithrediad trafodiadau trawsffiniol wedi ei dderbyn—gwelliant a fydd yn cynnig mwy o eglurder i werthwyr a phrynwyr eiddo sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.

Rwy’n falch hefyd fod y Bil yn cynnwys adran a fydd yn gweld adolygiad annibynnol o weithrediad y dreth ar ôl chwe blynedd. Ar fater mor bwysig â threthiant—y trethiant cyntaf am rai canrifoedd—nid yw ond yn iawn ein bod ni’n gwerthuso gweithrediad unrhyw drefniadau yr ydym yn eu rhoi ar waith.

I gloi, credaf fod y dull y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei ddilyn wrth hebrwng y Bil trwy’r broses yn gosod esiampl dda iawn ar gyfer Biliau’r dyfodol. Rwy’n croesawu’r Bil hanesyddol yma ac yn mawr obeithio y bydd y Cynulliad yn ei gymeradwyo hefyd.

Bydd Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cefnogi Cam 4 y Bil hwn. A gaf innau hefyd ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei waith wrth oruchwylio’r craffu ar y Bil ar y cam blaenorol? Tiriogaeth newydd i un o bwyllgorau'r Cynulliad oedd hwn oherwydd, wrth gwrs, ei fod yn diriogaeth newydd i Lywodraeth Cymru hefyd, ac i Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet Mark Drakeford am y ffordd y mae wedi ymdrin â’r Bil hwn? Fel yr ydym wedi ei glywed sawl tro, hwn yw’r Bil treth cyntaf i Gymru ers 700 neu 800 mlynedd. Rydym wedi clywed yr ymadrodd hwnnw lawer gwaith erbyn hyn. A gaf i hefyd ddiolch i chi am y ffordd yr ydych wedi ymgynghori â'r gwrthbleidiau ac Aelodau’r gwrthbleidiau, ac wedi caniatáu i’ch swyddogion ymgynghori â ni hefyd pan oedd pob math o gwestiynau gennym i’w gofyn?

Wrth gwrs, nid oes neb yn hoffi talu trethi. Ond roedd y Bil hwn yn hollol hanfodol i gau'r bwlch pan fydd treth stamp y DU yn cael ei diddymu yn fuan iawn, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Yn y pen draw, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn dymuno gweld yr un peth: rydym am weld trethi yng Nghymru sy’n dryloyw, sy’n effeithlon ac sy’n gweithio. Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru unwaith mai proses yw datganoli ac nid digwyddiad. Wel, proses yw datganoli treth hefyd ac nid digwyddiad.  Rydym ar ddechrau— camau cyntaf—y broses honno. Rwyf yn gobeithio, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gobeithio, ei bod yn broses a fydd yn y pen draw yn arwain at ffordd sy’n fwy cyfrifol, yn fwy dealladwy ac yn fwy atebol o wireddu datganoli. Rwy'n credu ein bod wedi dechrau ar y broses honno ac edrychaf ymlaen at graffu ac adolygu'r trethi wrth iddyn nhw gael eu datblygu a dod i rym.

A gaf innau ychwanegu fy nghefnogaeth i, wrth gwrs, i’r Bil ar y ‘stage’ yma a dweud, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dechnegol gywir mai dyma’r ail Fil cyllid, mewn ffordd, i’r cyhoedd, dyma’r Bil treth gyntaf achos dyma’r Bil cyntaf sydd yn gosod cyfraddau treth ac sydd yn newid y ffordd rŷm ni’n codi treth yng Nghymru? Rwy’n meddwl y bydd hynny’n cael, os nad ei groesawu, y bydd yn sicr yn newid y ffordd rŷm ni’n gwneud gwleidyddiaeth wrth fynd ymlaen yn y lle hwn.

Hoffwn innau ddiolch i aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid am eu gwaith manwl yn craffu ar y Bil hwn. Diolch hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet am waith parod a chymorth parod gan ei swyddogion, ond iddo ef yntau am y ffordd yr oedd yn ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid gan y wahanol bleidiau, gan deilwra’r Bil lle oedd yn bosibl iddo fe wneud, ac mewn modd cymodlon a rhadlon, hefyd.

Rwy’n credu bod yna un mater nad oedd modd dod i lwyr gytundeb arno fe, a’r mater hwnnw yw: a ddylai fod cyfraddau treth trafodiadau tir fod ar wyneb y Bil, neu yn rhan o broses arall? Ar yr adeg hon, wrth gwrs, rŷm ni wedi cytuno mai rhan o broses arall yw hynny. Ond mi ddaw’r cwestiwn yma nôl, rydw i’n credu, i’r Cynulliad, ac wrth i ni ddatblygu ein polisïau trethi, ac wrth i ni feithrin mwy o ddatganoli trethi, fe ddaw yn fater i’r Cynulliad cyfan benderfynu ar gyfraddau treth yng Nghymru.

So, this time next year, Deputy Presiding Officer, we’ll have decided on the new rates of land transaction tax in Wales. We may well have a landfill tax that will have been decided on, and in two years’ time we will have voted and decided on income tax rates in Wales. That’s how quickly this process is moving, and we’ll have gone in two years from not a penny being raised in Wales to be spent in Wales directly in the resources of this Assembly, to nearly 25 per cent of our resources being raised and spent in Wales—billions of pounds. All I’m saying at this stage is: I don’t think our constituents know much about this. They will, soon, and certainly, thanks to the way this Bill has gone through, the experts know about it, and the tax lawyers know about it, and the conveyancers know about and estate agents will know about it. But I think there’s a job of work to be done, which will be now the job of the new Welsh Revenue Authority, under the chair who’s just been appointed, to raise awareness of tax-raising powers in Wales.

The final point that I want to leave us with is though we didn’t come to an agreement on whether rates of taxation should be on the face of the Bill or in a different process, over a period of time, I’m interested, and the Finance Committee is certainly interested, in exploring whether we should have a legislative financial approach, a fiscal Bill, a finance Bill, so that it comes through each year and is voted upon. Because I want you all to share the joy that we had on the Finance Committee of tax legislation.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 18:47:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac am y cymorth y maen nhw i gyd wedi’i roi i’r broses pan fo’r Bil wedi bod o flaen y pwyllgor, ac yma o flaen y Cynulliad hefyd?

Dirprwy Lywydd, I think that this Bill demonstrates the strength of the processes that we have here in the Assembly. It is a better Bill than the Bill that was first introduced, and the process of scrutiny has strengthened it. Simon Thomas says that members of the public haven’t heard of the Bill yet. If we haven’t done a good job of the Bill, and it goes wrong, they’ll certainly have heard about it then, so there is an obligation on all of us, and I think it was a genuinely shared sense of obligation amongst members of the committee and others to do everything we could to make the Bill as good as it could be.

We are in a very rapidly moving period, as far as taking on these responsibilities in Wales is concerned, and it will lead us to examine the processes we have to make sure that they are fit for the responsibilities we will discharge in the future. For today, I ask Members again to support this Bill onto the statute book so that it can do the very important job of work that we have asked it to do.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff y cynnig ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. 10. Dadl: Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd
12. 11. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn i'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Rydym yn symud i bleidleisio ar y ddadl ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant chwech. Gwnaeth 10 ymatal ac roedd 38 yn erbyn, felly ni chaiff y gwelliant ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 6, Yn erbyn 38, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6289.

Rydym nawr yn symud i bleidleisio ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, felly ni chaiff gwelliant 2 ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6289.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 3 ei dderbyn.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NNDM6289.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig chwech, 10 yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 4 ei dderbyn.

Gwrthodwyd gwelliant 4: O blaid 6, Yn erbyn 37, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NNDM6289.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 5 ei dderbyn.

Gwrthodwyd gwelliant 5: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NNDM6289.

Gwelliant 6. Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant chwech, 10 yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 6 ei dderbyn.

Gwrthodwyd gwelliant 6: O blaid 6, Yn erbyn 38, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NNDM6289.

Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig naw, 39 yn ymatal, chwech yn erbyn. Felly, caiff gwelliant 7 ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 9, Yn erbyn 6, Ymatal 39.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NNDM6289.

Galwaf am—. Byddwch yn dawel. Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NNDM6289 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ‘Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union’, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.

5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 37, un yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NNDM6289 fel y’i diwygiwyd: O blaid 37, Yn erbyn 16, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NNDM6289 fel y diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.