Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. A’r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett.

Targedau Ailgylchu

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad o’i gymharu â thargedau ailgylchu gwastraff trefol ledled Cymru? OAQ(5)0115(ERA)

Member
Lesley Griffiths 13:30:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd rhagorol yn erbyn ein targedau ailgylchu. Dengys y ffigurau ailgylchu diweddaraf gynnydd o 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at fis Medi 2016, 4 y cant yn uwch na’r 12 mis blaenorol hyd at fis Medi 2015. Rydym ar y brig yn y DU, rydym wedi codi i’r ail safle yn Ewrop, ac mae hynny’n dyst i ymrwymiad cynghorau a thrigolion ledled Cymru.

Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae hynny ynddo’i hun yn berfformiad da. Y broblem yw bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn aml yn codi wrth i gynghorau anelu at gyrraedd targedau ailgylchu. Yn y ddwy flynedd hyd at 2016, bu cynnydd o 10 y cant mewn tipio anghyfreithlon yng Nghonwy, 22 y cant yng Ngwynedd, ac yn Sir Benfro, bu cynnydd enfawr o 47 y cant. Yng ngoleuni’r ffigurau hyn, a yw’n bryd i’ch adran adolygu ei thargedau ailgylchu?

Wel, rwy’n adolygu ein targedau ailgylchu, ond rwyf ond yn gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fwy uchelgeisiol hyd yn oed. Credaf fod angen i chi fod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r cynnydd yn ffigurau 2015-16 mewn perthynas â thipio anghyfreithlon. Mae’n anodd dal y troseddwyr, ond rwyf am eu gweld yn cael eu herlyn pan fo’n digwydd. Ond, wyddoch chi, roedd nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol, ac yna, fel y dywedwch, bu cynnydd yn 2015-16. Ond credaf fod yr awdurdodau lleol wedi gwneud nifer o newidiadau, ac mae’n bwysig iawn fod y cyhoedd yn dod gyda ni ar hyn. Ond credaf fod y cynnydd a welsom, o ran cyrraedd ein targedau, yn dangos bod y cyhoedd gyda ni ar hyn.

Ceredigion oedd yr awdurdod lleol gorau o ran ailgylchu yn y 12 mis hyd at ddiwedd Medi 2016, gyda 70 y cant o’i wastraff yn cael ei ailgylchu. Mae pob un o’r awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cyrraedd y targed cenedlaethol o ailgylchu 60 y cant o wastraff. Mae rhai awdurdodau, fel Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, yn parhau i fethu â chyrraedd y targed cenedlaethol. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy i ysgogi a galluogi pobl i ailgylchu er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyrraedd safon Ceredigion ac yn ailgylchu 70 y cant o’u gwastraff erbyn 2025? Ac, er enghraifft, beth am gael cynllun i adael plastig, gwydr a chaniau—y ‘deposit-return scheme’—a chynllun gwahardd polystyren ym mhob ardal?

Wel, cyrhaeddodd 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru y targed. Nid Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd oedd dau o’r tri na lwyddodd i wneud hynny. O ran y tri awdurdod lleol na lwyddodd i gyrraedd y targedau, rwyf bellach wedi cael cyfle i gyfarfod â hwy i weld pam na lwyddwyd i gyrraedd y targedau. A byddaf yn parhau i weithio gyda hwy, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda hwy er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y targedau hynny y flwyddyn nesaf.

Fe sonioch am ambell fenter yr ydym yn eu hystyried. Credaf y dylem ystyried y cynllun dychwelyd blaendal. Ond er mwyn iddo wneud cymaint o les â phosibl, credaf fod angen ei roi ar waith, nid ledled Cymru’n unig—credaf y byddai’n rhaid i ni weithio’n agos iawn gyda Lloegr, a gwn fod yr Alban yn ei ystyried hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn dynnu’n troed oddi ar y pedal mewn perthynas â hyn. Mae’n rhaid i ni dargedu tipio anghyfreithlon yn ogystal â thargedau ailgylchu. Nid oes y fath beth â chael gwared ar wastraff—mae angen trin pob gwastraff mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, ceir costau yn hynny o beth. Ac yng Nghaerdydd, maent wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ac rwy’n falch iawn o hynny. Ac mae angen inni barhau, oherwydd bydd y safle tirlenwi ar Ffordd Lamby yn cau y flwyddyn nesaf gan ei fod yn llawn, a golyga hynny y bydd unrhyw warediadau tirlenwi pellach yn costio £80 y dunnell. Ac felly, dylai fod pwyslais ar sicrhau bod y cyhoedd yn ailgylchu’r hyn y mae angen iddynt ei ailgylchu, yn hytrach na’i roi yn y biniau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. A wnewch chi ymuno â mi i gefnogi’r cysyniad hwn, nad oes y fath beth â chael gwared ar wastraff, a bod angen i ni fynd i’r afael â phob safle diwydiannol sy’n cynhyrchu gwastraff na ellir ei ailgylchu er mwyn eu perswadio i newid, fel y gallwn bob amser ailddefnyddio ac ailgylchu?

Gwnaf, a chytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ganol Caerdydd. Rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion fy mod yn awyddus i’n gwlad fod ar y blaen, nid yn unig yn Ewrop, ond drwy’r byd. Ac rwy’n credu o ddifrif y gallwn gyflawni hynny. Credaf fod sicrhau ein bod ar y blaen drwy’r byd yn darged realistig iawn. Felly yn sicr, ni fyddwn yn tynnu ein troed oddi ar y targed. Mae angen i ni edrych ar ffyrdd o annog pobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd i wneud hynny. Credaf fod swyddogion ac awdurdodau lleol yn cydnabod y bydd bob amser grŵp o bobl sy’n anodd iawn eu perswadio, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem geisio eu perswadio.

Pren o Gymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad digonol o bren o Gymru ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru? OAQ(5)0106(ERA)

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd. Dylai hyn sicrhau bod cyflenwad digonol o bren ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd ein polisi adnoddau naturiol yn allweddol wrth gynllunio a blaenoriaethu’r defnydd o dir yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad dangosyddion diweddaraf Coetiroedd i Gymru wedi datgelu mai dim ond 348 erw o goetiroedd newydd a grëwyd yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2016, sy’n llai o lawer na’r 16,000 erw a mwy a blannwyd ar gyfartaledd yn ystod pob un o’r pum mlynedd hyd at 2014. Ymddengys bod y newid sylweddol hwnnw o ran plannu wedi cyd-daro â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae sawl un yn y diwydiant gweithgynhyrchu pren wedi mynegi pryderon ynglŷn â pharhad y cyflenwad, a bydd hynny’n dylanwadu ar rai o’u penderfyniadau busnes ynglŷn â ble i fuddsoddi. Beth sydd gennych i’w ddweud wrth gwmnïau fel Clifford Jones Timber yn Rhuthun, yn fy etholaeth, sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â hyn? Rydych wedi dweud y bydd cynnydd. A ydym yn mynd i gyrraedd yr 16,000 a mwy o erwau yr oeddem yn ei gyflawni yn y gorffennol, fel y gallwn sicrhau’r cyflenwadau digonol hyn, nid yn unig ar gyfer y pump neu chwe blynedd nesaf, ond am 10 ac 20 mlynedd?

Do, rwyf innau hefyd wedi ymweld â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, a mynegwyd yr un pryderon wrthyf. Cyfoeth Naturiol Cymru yw darparwyr pren mwyaf Cymru, a chredaf fod hynny’n cyflenwi 60 y cant o holl ofynion y sector. Mae’n rhaid i ni gyflenwi mwy nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Bellach, mae gennym y cynllun marchnata pren, sy’n amlinellu argaeledd pren. Bydd hwnnw’n para am bum mlynedd yn unig, ond credaf ei fod yn fan cychwyn da. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda ffermwyr, er enghraifft, gan ein bod yn awyddus i ffermwyr arallgyfeirio, ac mae hwn yn faes y gallant wneud hynny ynddo.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe gofiwch yr ymweliad â’r Pentre Solar yng Nglanrhyd yn Sir Benfro, lle y gweloch chi a minnau sut y defnyddiwyd pren lleol Cymreig, nid yn unig i adeiladu tai, ond hefyd o ran sgiliau a chynyddu sgiliau yn y gweithlu lleol i drin y pren hwnnw. Pa gamau ychwanegol y gallwch eu cymryd, gan y credaf fod cryn botensial i bren yn enwedig ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru, a hefyd, wrth gwrs, mae twf coetiroedd yn helpu i atal llifogydd mewn rhai ardaloedd, dal a storio carbon, ac ansawdd aer hefyd? Felly, onid yw’n bryd yn awr i Lywodraeth Cymru wneud ymdrech bellach i sicrhau cynllun cymorth mwy pwrpasol ar gyfer coetiroedd yng Nghymru, oherwydd y manteision nid yn unig i’r diwydiant gweithgynhyrchu, ond i ansawdd bywyd y gall coetiroedd ei gynnig?

Ydy, yn bendant, ac roedd enghreifftiau da iawn o sut y gellid defnyddio pren wrth adeiladu tai ym Mhentre Solar pan fu’r ddau ohonom yno. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag edrych ar wahanol ffyrdd o adeiladu tai. Soniais yn fy ateb blaenorol i Darren Millar fod gennym gynllun marchnata pren newydd. Credaf fod angen i ni edrych ar hyn. Rydym newydd sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer y panel cynghori ar y strategaeth goetiroedd. Bydd yn edrych ar argaeledd pren, ac mae tai yn un maes y gallent ganolbwyntio arno.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg fod pren yn elfen bwysig yma, ac rydym wedi gweld cynaeafu pren yn newid yn fy ardal yn sgil y clefydau yn ardal y cwm. Felly, mae ailblannu’n bwysig, er mwyn edrych, fel y dywed Simon Thomas, nid yn unig ar natur y tir, ond hefyd efallai ar y cyfleoedd i fusnesau eraill y tu hwnt i’r diwydiant gweithgynhyrchu, megis ardaloedd twristiaeth. Pa gynnydd a wnaed ar ailblannu yng Nghwm Afan er mwyn sicrhau y gallwn gael hynny’n ôl i’r hyn yr arferai fod?

Ni allaf roi manylion penodol i chi ynglŷn â Chwm Afan, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.

Ysgrifennydd Cabinet, rydym ni wedi cael ein hatgoffa eto ddoe, o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynglŷn â’r ffaith bod llygredd awyr yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, gan achosi rhywbeth fel 2,000 o farwolaethau y flwyddyn. Mae 6 y cant o’r holl farwolaethau sy’n digwydd yng Nghymru yn dilyn yn sgil llygredd awyr, ac yn ail yn unig felly fel achos marwolaeth i ysmygu. Beth felly mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr hyn rydym ni’n ei wneud ar gyfer ansawdd awyr yn cael ei gadw wrth i ni fynd o’r Undeb Ewropeaidd a cholli, ar hyn o bryd, rai o’r rheoliadau hynod bwysig yn y cyd-destun yma?

Diolch. Mae’n amlwg i mi fod angen ymdrech gydunol arnom ar draws pob sector er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae arnom angen atebion radical ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod hyn yn un o fy mhrif flaenoriaethau yn fy mhortffolio.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd gael ymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer lleol, a byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig cyn diwedd y mis hwn ar yr ymatebion a gawsom. Drwy adael yr UE, os rhywbeth, credaf y byddwn yn cynyddu ein targedau. Credaf fod ansawdd aer, fel y dywedwch, yn effeithio ar gymaint o agweddau ar ein bywyd, gan gynnwys ein lles a’n hiechyd. Ond fel y dywedais, credaf fod angen i ni sicrhau ymdrech gydunol yn y maes hwn.

Diolch am yr ateb, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi’n rhoi hyn ar ben y rhestr o flaenoriaethau sydd gennych chi, achos nid oes dim byd mwy amlwg yn eich portffolio chi sydd hefyd yn effeithio ar fywyd bob dydd nifer fawr ohonom sydd yn byw mewn ardaloedd lle mae llygredd awyr yn wael. Rydych chi’n sôn bod angen i hyn gael ei wneud ar draws Llywodraeth. Mae Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Ar hyn o bryd, nid yw’r Bil hwnnw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at lygredd awyr neu fynd i’r afael â llygredd awyr fel mater o iechyd cyhoeddus. Er nad chi yw’r Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am y Bil, beth ydych chi’n ei wneud wrth drafod gyda’ch cyd-Ysgrifenyddion Cabinet i sicrhau bod y Bil yma’n eich helpu chi i fynd i’r afael â llygredd awyr yng Nghymru?

Mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd, ac mae’n amlwg, fel y dywedwch, ei fod yn rhywbeth y gallwn edrych arno wrth iddo fynd drwy’r Cynulliad, gan nad oes dim yn bwysicach, mae’n amlwg, o safbwynt iechyd y cyhoedd, nag ansawdd aer. Fel y dywedwch, cawsom ein hatgoffa o hynny’n bendant ddoe.

Gobeithiaf y bydd y trafodaethau hynny’n arwain at feddwl mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â’r Bil hwnnw, ac wrth gwrs, bydd y Cynulliad cyfan yn cael y cyfle i’w ddiwygio, os oes angen. Ond a gaf fi ddychwelyd hefyd at orsaf bŵer Aberddawan, oherwydd y tro diwethaf i mi eich holi chi a’r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, dywedwyd wrthyf fod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi cysylltu â pherchnogion Aberddawan ac wedi gofyn iddynt gyflwyno cynnig erbyn hyn, rwy’n meddwl, ynglŷn â sut y byddent yn lleihau’r allyriadau y barnodd Llys Cyfiawnder Ewrop eu bod yn anghyfreithlon. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynglŷn â’r sefyllfa yn Aberddawan, ac a ydych bellach yn fodlon fod rhaglen ar waith i leihau’r allyriadau niweidiol hynny?

Byddaf yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf—ar y pymthegfed, rwy’n credu—i drafod hynny, ond byddaf yn fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, comisiynodd eich rhagflaenydd yr adolygiad annibynnol o’r sector llaeth yng Nghymru, a fanylai ar nifer o argymhellion i helpu i gefnogi’r diwydiant llaeth a’i wneud yn fwy cystadleuol. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn ymateb i’r adolygiad hwnnw ac amlinellu pa ganlyniadau a gyflawnwyd gennych i wneud y diwydiant llaeth yng Nghymru yn fwy cystadleuol?

Credaf ein bod wedi gweld cynnydd mewn perthynas â’r sector llaeth yn dilyn yr adolygiad hwnnw a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, fel y dywedwch. Un o’r argymhellion a ddaeth o’r adolygiad oedd y dylem gael hyrwyddwr llaeth. Rwy’n awyddus iawn i fwrw ymlaen â hyn, ac ar hyn o bryd, rydym yn ceisio dod o hyd i’r unigolyn mwyaf addas a phriodol i wneud hynny.

Argymhelliad arall yn yr adolygiad hwnnw oedd tynnu sylw at fater trethu busnesau amaethyddol yng Nghymru, ac edrych yn agosach ar y drefn bresennol a pha un a fydd yn atal rhagor o fuddsoddiad yn y sector yn y dyfodol. Mewn ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig, fe ddywedoch fod y broses o gyflawni’r argymhelliad hwn wedi cael ei harafu ac y dylid edrych ar hyn mewn partneriaeth â rhannau eraill o’r DU, a chytunaf â hynny. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r agenda benodol hon a dweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflawni mewn perthynas â chanlyniadau ar y mater penodol hwn?

Ni allaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny ar hyn o bryd. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Yn wir, mae swyddogion o’r pedair gwlad yn cyfarfod ar hyn o bryd. Nid wyf yn siŵr a yw hyn ar yr agenda, ond yn sicr, mae swyddogion yn edrych ar hyn ledled y DU.

Yn amlwg, byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi hyn ar yr agenda, o ystyried ei fod yn un o’r argymhellion yn yr adolygiad penodol hwn. Roedd yr adolygiad annibynnol hefyd yn llygad ei le yn cydnabod bod rhai ffermwyr yn y sector llaeth yn wynebu problemau sylweddol o ran llif arian, er fy mod yn siŵr fod hynny hefyd yn broblem i ffermwyr llaeth ledled y DU. Yn wir, nid yw’r costau mewnbwn uchel i ffermwyr llaeth yn helpu, ac ychydig iawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf. A wnewch chi, felly, ymrwymo i werthuso’r costau sydd ynghlwm wrth ffermio llaeth yng Nghymru, ac i edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr llaeth drwy gymorth buddsoddi cyfalaf ychwanegol i helpu i wella effeithlonrwydd, ac felly dichonoldeb y sector ar gyfer y dyfodol?

Ie, mae’n faes yr ydym yn ei ystyried. Fe fyddwch yn gwybod am y cynllun grantiau bach newydd, ond byddwn yn eu galw’n ‘grantiau fferm’ er mwyn osgoi drysu rhyngddo a’r rhaglen datblygu gwledig. Mae hwn yn faes, efallai, lle y byddwn yn gallu helpu ffermwyr llaeth yn benodol.

Diolch, Lywydd. Yn ôl pob tebyg bydd Brexit yn cael mwy o effaith ar amaethyddiaeth nag ar y rhan fwyaf o’r sectorau eraill, yn amlwg oherwydd ei fod yn cael ei reoleiddio o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn cael ei ariannu i raddau helaeth drwy’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth, felly, feddwl yn ofalus iawn am yr hyn fydd ein cyfundrefn amaethyddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rwyf wedi bod yn darllen cofnodion y grŵp cynghori ar Ewrop a sefydlwyd gan y Prif Weinidog chwe mis yn ôl i weld beth y maent yn ei feddwl, a chefais fy synnu wrth weld nad yw amaethyddiaeth wedi codi o gwbl yn eu trafodaethau hyd yn hyn. Efallai fod hynny’n gysylltiedig â’r ffaith mai un aelod yn unig o’r rhai a benodwyd sydd ag unrhyw gymwysterau amaethyddol amlwg. Felly, tybed a yw hyn yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru lawer o ddiddordeb, efallai, yn nyfodol amaethyddiaeth yn ein gwlad.

Ddim o gwbl, a chredaf y byddai’r sector amaethyddol yn dweud wrth yr Aelod pa mor fodlon ydynt ynglŷn â’n hymgysylltiad â’r rhanddeiliaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi dechrau cynnal digwyddiadau i randdeiliaid yn syth ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ar ddiwedd y mis, credaf y byddwn yn cynnal y chweched neu’r seithfed. Mae ymgysylltiad y gweinidogion wedi’i sefydlu yn ein calendrau bellach. Rydym yn cyfarfod unwaith y mis, felly, yn ystod y toriad, cyfarfu’r holl Weinidogion amaethyddiaeth ac amgylchedd yn yr Alban.

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd. Soniais fod swyddogion o bedair gwlad y DU yn cyfarfod ar hyn o bryd, felly cafwyd llawer iawn o fewnbwn ar ddyfodol amaethyddiaeth. Yn ystod y toriad, mynychais gynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Birmingham, lle y cynhaliais ddadl gyda George Eustice, Gweinidog amaeth y DU, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod y cynrychiolwyr Cymreig wedi dweud yn glir iawn ein bod ymhell ar y blaen i unrhyw wlad arall o ran ymgysylltu.

Wel, rwy’n falch iawn o glywed hynny, a gallaf ddweud o fy mhrofiad fy hun, wrth siarad â phobl sy’n ymwneud â grwpiau sy’n cynrychioli amaethyddiaeth a ffermio, eu bod yn hapus gyda lefel yr ymgysylltu a roesoch iddynt. Ond nid wyf yn gwybod a ydych wedi cael cyfle eto i ddarllen y datganiad polisi ar Brexit a gyhoeddwyd gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, ond un o’r pethau cadarnhaol a ddywedant yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle i ni adolygu’r rheoliadau sy’n effeithio ar ffermio ac amaethyddiaeth ar hyn o bryd, a dywedant mai rheoleiddio gwael yw’r rheswm dros ddiffyg hyder busnesau fferm—ac mae hyn yn gysylltiedig â chostau cydymffurfiaeth, a’r amser a roddir i gydymffurfiaeth a dangos cydymffurfiaeth. Mae’r rhain yn ychwanegu’n sylweddol at lwyth gwaith ffermwyr.

Felly, heb daflu’r llo a chadw’r brych a chael gwared ar yr holl reoliadau, mae’n gyfle gwych i ni adolygu effeithiolrwydd rheoleiddio a pha un a yw’n gosod costau anghymesur o ran y budd cyhoeddus sydd i fod i ddeillio ohono. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych o ddifrif ar adolygu rheoleiddio a lleihau ei effaith ar ffermwyr heb gyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd ac amcanion eraill?

Wel, bydd yn rhaid inni ei adolygu, oherwydd, yn amlwg, pan fydd yr holl bwerau o’r UE yn dychwelyd i Gymru, bydd gennym gyfle wedyn i sicrhau ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru. Yn amlwg, mae rheoliadau—os gofynnwch i nifer o ffermwyr a bleidleisiodd dros ‘adael’ pam eu bod wedi pleidleisio dros ‘adael’, mae rheoleiddio’n cael ei grybwyll fel un o’r rhesymau. Ni chredaf ei fod wedi helpu fod Gweinidogion Torïaidd y DU—neu rai o Weinidogion Torïaidd y DU—wedi dweud y byddem yn lleihau ein rheoliadau, yn enwedig ein rheoliadau amgylcheddol. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd, ac rwyf wedi gwneud hynny’n gwbl glir—os rhywbeth, byddwn yn eu cryfhau.

Ond credaf ei fod yn gyfle da iawn i edrych ar reoleiddio, gan siarad mewn partneriaeth â’r sector, er mwyn sicrhau bod y rheoleiddio hwnnw’n gywir. Unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn ein digwyddiadau i randdeiliaid.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae Brexit hefyd yn rhoi’r rhyddid i ni gyflwyno rheoliadau a rheolaethau newydd mewn meysydd lle y gallem fod wedi dymuno gwneud hynny, ond lle y cawsom ein rhwystro yn y gorffennol gan ddiffyg brwdfrydedd ar ran ein partneriaid eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Un o’r meysydd hyn yw allforio anifeiliaid byw, er enghraifft, y cawsom ein hatal rhag ei wahardd a hefyd cyflwyno rheoliadau mewn perthynas â lles anifeiliaid, er enghraifft, yr uchafswm o wyth awr o amser teithio ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu cludo i gael eu pesgi a’u lladd. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i mi y gall mesurau fel hyn fod ar yr agenda hefyd?

Credaf fod popeth ar yr agenda, i fod yn berffaith onest â chi. Rydym yn boddi o dan lawer iawn o reoliadau a deddfwriaeth mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd yn unig. Yn fy mhortffolio i, mae 5,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau. Felly, wyddoch chi, credaf ein bod—. Rwyf wedi dweud fy mod yn awyddus iawn i weithio’n agos iawn gyda’r sector i sicrhau bod y polisi gorau posibl gennym. Ond rydym wedi’i dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU, dro ar ôl tro, pan ddaw’r pwerau hynny o’r UE, mai ein pwerau ni fyddant—nid eu rhai hwy i’w cymryd yn ôl. Ein pwerau ni fyddant o’r cychwyn cyntaf a byddwn yn sicrhau bod ein polisi’n addas at y diben.

Mynediad at Gefn Gwlad

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gefn gwlad Cymru? OAQ(5)0113(ERA)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac i awdurdodau lleol ar gyfer mynediad cyhoeddus ledled Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu a chyhoeddi cynigion i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ehangu’r mynediad hwnnw, ac rwy’n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod yn hen bryd. Mae’n bwysig iawn fod mwy o bobl yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mwynhau’r awyr agored yr ydym mor ffodus i’w gael. Mae yna fanteision amlwg o ran iechyd a gweithgareddau, yn ogystal â’r ffaith y bydd pobl yn gwerthfawrogi cefn gwlad yn fwy ac efallai, yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol o ganlyniad. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod sefydlu Llwybr Arfordir Cymru, a grybwyllwyd gennych, yn gam mawr ymlaen o ran annog mwy o bobl i fwynhau ein hawyr agored? Ond mae yna rai agweddau anorffenedig ynglŷn â hynny, er enghraifft y gwaith o greu’r llwybrau cylchol a ragwelwyd ar gyfer cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir, a hefyd, efallai, cael dathliad blynyddol proffil uchel iawn ar ben blwydd creu Llwybr Arfordir Cymru, er mwyn i ni sicrhau bod cymunedau lleol ac ysgolion yn cerdded y llwybr ar y pen blwydd hwnnw.

Byddwn, rwy’n credu bod hwnnw’n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae’r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw’r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy’n cytuno y dylem ei ddathlu.

Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo’r llwybr ac rwy’n credu bod yna bethau y gallwn eu gwneud hefyd, efallai, nad ydynt yn costio llawer o arian. Rwy’n credu efallai y gallem gysylltu camlesi, er enghraifft, â rhannau eraill o gefn gwlad, ac yna, yn amlwg, mae gennym lwybr yr arfordir sy’n cysylltu â hynny hefyd. Mae ein swyddogion yn gweithio’n agos iawn oherwydd bydd hi’n Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, fod yna gyfle i hyrwyddo llwybr yr arfordir yn dda. Ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau marchnata yn y dyfodol mewn perthynas â hynny yn helpu i wireddu manteision llawn y buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud yn Llwybr Arfordir Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae mynediad at gefn gwlad yn rhywbeth i’w groesawu a gobeithio ei fod yn creu gwell dealltwriaeth o bwrpas cefn gwlad, sef, yn bennaf, cynhyrchu bwyd ar ein cyfer—byw ar dda’r wlad, fel y byddai sawl un yn ei ddweud—ond mae yna fater difrifol ynglŷn ag addysgu pobl, pan fyddant yn mynd i gaeau ac yn mynd i gefn gwlad, fod yna risgiau a pheryglon. Yn fy ardal fy hun, sef Canol De Cymru, ychydig o flynyddoedd yn unig yn ôl, yn anffodus, cafodd nifer o gerddwyr eu sathru gan wartheg yn ardal Sain Ffagan a Radur. Ledled y DU, mae’n un o’r pethau sy’n lladd fwyaf o bobl yng nghefn gwlad: da byw yn dod i gysylltiad â phobl nad ydynt yn ymwybodol o’r rhagofalon diogelwch sydd eu hangen. A fyddech chi, ynghyd â’ch cymhellion i agor rhannau o gefn gwlad, yn gwneud yn siŵr fod yna ymgyrch addysg gadarn ac ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar lawr gwlad, fel y gellid osgoi trychinebau fel y rhai sydd wedi digwydd yn fy rhanbarth ble bynnag y bo’n bosibl?

Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod—. Fel y dywedais, byddaf yn edrych ar y ddeddfwriaeth, ac yn sicr gallem ystyried cael rhyw fath o ymgyrch addysg ochr yn ochr â hynny, fel yr ydych yn ei awgrymu.

Rwy’n cefnogi, mewn egwyddor, ymestyn mynediad at gefn gwlad i bawb. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl pobl i grwydro a mwynhau ein cefn gwlad, ac anghenion tirfeddianwyr a ffermwyr i reoli a defnyddio eu tir yn effeithiol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda thirfeddianwyr, a sefydliadau sy’n eu cynrychioli, i’w perswadio i ganiatáu mwy o fynediad at eu tir?

Wel, soniais yn fy ateb blaenorol i arweinydd y Ceidwadwyr fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, ac mae’r trafodaethau hynny’n barhaus, mewn gwirionedd. Ond pan fyddaf yn ystyried addasu’r ddeddfwriaeth, credaf y bydd hwnnw’n gyfle arall i gael y drafodaeth honno gyda thirfeddianwyr. Ond yn sicr, byddwn yn dweud ei fod yn fater sy’n codi yn y rhan fwyaf o fy nghyfarfodydd gyda’r sector amaethyddiaeth. Yn enwedig pan fyddaf yn ymweld â ffermydd, mae’n fater y maent yn ei ddwyn i fy sylw.

Y Cynllun Datblygu Gwledig

4. I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried addasu ei chynllun datblygu gwledig yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0112(ERA)

Diolch. Mae rhanddeiliaid wedi rhoi eu hasesiad i mi o’r effeithiau ar yr economi ac ar gymunedau. Byddaf yn buddsoddi mewn prosiectau gwerthfawr i gynorthwyo busnesau a chymunedau i adeiladu eu cydnerthedd hirdymor. Yn ddiweddarach y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi manylion ynglŷn â phryd a sut y bydd yr arian sy’n weddill yn cael ei ymrwymo a’i wario.

A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa un a fyddai’n bosibl addasu’r rhaglen, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, er mwyn, er enghraifft, ehangu’r defnydd o offerynnau ariannol yn y rhaglen, gan ddarparu cyfleusterau benthyca pellach i fusnesau mewn cymunedau gwledig, a allai gael eu hailddosbarthu yn yr economi ar ôl Brexit?

Rydym wedi edrych o ddifrif ar ddefnyddio offerynnau ariannol yn y Cynllun Datblygu Gwledig, ond maent yn gymhleth iawn. Maent yn cymryd amser i’w sefydlu, ac maent yn gostus iawn i’w gweinyddu, ac rydym wedi canfod y byddai’n cymryd tua dwy flynedd i’w sefydlu, ac yna, wyddoch chi, gwneud y taliad cyntaf. Felly, wyddoch chi, gyda Brexit ar y gorwel, nid wyf yn credu y byddai gennym amser. Nid wyf yn credu y byddai gwneud hynny yn awr yn gosteffeithiol, ond rwy’n credu bod angen i ni edrych yn ofalus iawn ar ffyrdd eraill o ddefnyddio ein cyllid. Rwy’n awyddus i ryddhau cymaint o’r cyllid cyn gynted ag y bo modd. Ac fel y dywedais, byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach y mis hwn.

Rydw i’n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod hi’n sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn fawr o’r hyn sydd gennym ni ar ôl o’r rhaglenni Ewropeaidd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mi ydw i, yn y gorffennol, wedi trafod gyda hi a’i swyddogion y posibilrwydd o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny rŵan, fel un o’r cynlluniau mawr, yn buddsoddi yn yr economi wledig mewn ardal fel Ynys Môn, a allai fanteisio ar yr arian sydd ar ôl rŵan?

Yn rhyfedd ddigon, roeddwn yn siarad gyda fy swyddogion am ardaloedd cynhyrchu bwyd—nid yn unig yn Ynys Môn, ond mewn rhannau arall o Gymru—ddoe, ac mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Fel y dywedais, yn ddiweddar cytunais y systemau cyflwyno ar gyfer gweddill y rhaglen yn y dyfodol, ond byddaf yn gwneud cyhoeddiad llawnach oherwydd mae gennym £223 miliwn o’r rhaglen ar gael o hyd. Os yw’n bosibl, gallwn yn sicr yn edrych ar hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg fod llawer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â phroses hynod gymhleth Brexit. Mewn ateb i gwestiwn gan Neil Hamilton, rwy’n credu, yn gynharach, fe ddywedoch fod Cymru ymhell ar y blaen i wledydd eraill ar y pwynt hwn—rwy’n tybio, wrth ddweud hynny, eich bod yn golygu o fewn y DU—o ran edrych ar sut y byddwn yn datblygu’r systemau ar ôl Brexit. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni—? A allwch egluro ychydig mwy ar eich rhesymeg i gefnogi hynny? A hefyd, pa drafodaethau a gawsoch gyda’r undebau ffermio yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cymorth ffermio’n parhau?

Mae yna lawer iawn o gwestiynau sydd heb eu hateb. Mae maint y gwaith hwn yn enfawr, ond rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rwy’n credu mai’r ateb a roddais i Neil Hamilton oedd ein bod ymhell ar y blaen i bedair gwlad y DU mewn perthynas ag ymgysylltu â rhanddeiliaid. Credaf mai dyna’r ateb penodol a roddais i Neil Hamilton. Felly, rwyf wedi cael llawer iawn o drafodaethau â’r undebau ffermio, ond nid yr undebau ffermio yn unig—y rhanddeiliaid ehangach. Oherwydd nid yw’n ymwneud yn unig â’r undebau ffermio; mae hefyd yn ymwneud â’r sector amgylchedd, y sector coedwigaeth. Rydym yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael eu cynnwys yn ein digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Roeddwn yn awyddus iawn i osgoi gweithio mewn seilos, felly byddai gennych y sector amaethyddol yn gweithio fan yma, a’r sector amgylchedd yn gweithio fan acw, ac rwy’n credu mai dyna pam yr ydym wedi cael cymaint o gefnogaeth, mewn gwirionedd, gan ein rhanddeiliaid.

Twristiaeth Bwyd

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth bwyd ledled Cymru? OAQ(5)0104(ERA)

Diolch. Mae’r cynllun gweithredu twristiaeth bwyd, a lansiwyd ym mis Ebrill 2015, yn nodi mentrau a gweithgaredd hyrwyddo i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys camau i ddatblygu twristiaeth bwyd fel sector ac fel pwynt gwerthu i Gymru, gyda bwydydd o Gymru yn cael eu hyrwyddo mewn digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau mawr.

Rwy’n falch o glywed, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth yng Nghymru. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Dr Beynon’s Bug Farm yn fy etholaeth, sydd, yn ogystal â bod yn fferm weithredol, yn cynnwys y bwyty pryfed bwytadwy amser llawn cyntaf yn y DU, a elwir yn Grub Kitchen, a byddwn yn eich annog i ymweld ag ef oherwydd rwy’n siŵr y byddech chi, fel fi, yn ei ystyried yn ddiddorol tu hwnt. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth, a allwch chi ddweud wrthym felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau twristiaeth bwyd llai o faint a mwy unigryw, fel y fferm bryfed, a beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i annog mwy a mwy o bobl i ymweld â’r mathau hyn o atyniadau yn y dyfodol?

Rydych yn iawn; soniais fod y sector bwyd a’r sector twristiaeth yn sectorau blaenoriaeth, ac os ydym yn rhoi’r ddau gyda’i gilydd, gallwn weld fod bwyd yn rhan gwbl hanfodol o’r cynnig twristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n darparu pwynt cyswllt cyffredin, rwy’n credu. Mae pobl yn dod i Gymru i weld y golygfeydd rhyfeddol; maent hefyd yn dod i fwynhau ein bwyd a diod gwych. Felly, mae gennym y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd. Mae hwnnw’n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru mewn perthynas â phrofiad yr ymwelwyr, a byddwn yn hapus iawn i ymweld â’r Grub Kitchen os yw’r Aelod yn dymuno fy ngwahodd.

Ysgrifennydd y Cabinet, ym maniffesto fy mhlaid ar gyfer y Cynulliad, roeddem yn galw am ddynodi 2018 yn flwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru. [Torri ar draws.] Rwyf yn y blaid o hyd. Gan bwyll, os gwelwch yn dda. Mae 2017 yn Flwyddyn y Chwedlau, felly a yw eich Llywodraeth yn cefnogi galwad fy mhlaid am flwyddyn genedlaethol ar gyfer bwyd a diod y flwyddyn nesaf?

Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr, ond mewn ateb ychydig o atebion yn ôl, soniais ei bod yn Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf, ond gallwn yn sicr edrych ar—

Nid wyf yn siŵr; mae hynny’n amlwg yn dod o fewn adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Nid wyf yn gwybod beth yw 2019, ond gallaf yn sicr gael golwg ar hynny.

Parciau Cyhoeddus

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am barciau cyhoeddus? OAQ(5)0108(ERA)

Diolch. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus. Gall ein parciau cyhoeddus wella cydnerthedd ein hecosystemau a’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd fel llifogydd. Mae parciau cyhoeddus yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau hamdden, ardaloedd chwarae i blant, dysgu awyr agored a chyfleoedd i wella lles corfforol a meddyliol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant fel hyrwyddwr rhywogaeth y gardwenynen feinlais, sy’n rhan bwysig o ecosystem Gwent. Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwerthfawrogi pwysigrwydd parciau cyhoeddus i’n hecosystem a’i chynefinoedd, a bydd yn gwybod, rwy’n siŵr, am adroddiad ‘Cyflwr Parciau Cyhoeddus y DU 2016’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri y llynedd, a oedd yn dweud bod Cymru yn rhagweld y gostyngiad canrannol uchaf i staff, yn ogystal â’r gyfran fwyaf o barciau’n dirywio. Nid oes yr un o reolwyr parciau Cymru yn disgwyl gweld cyflwr parciau’n gwella yn y tair blynedd nesaf. Beth y gallai ei ddweud i fy sicrhau nad yw hynny’n wir?

Fel y dywedaf, mae’n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ac rydym wedi datgan ein barn yn glir iawn. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y polisi adnoddau naturiol—daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Chwefror—ac rwy’n paratoi i gyhoeddi’r polisi terfynol ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf, ac mae hwn yn faes yr ydym yn canolbwyntio arno.

Yn ein maniffesto, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo hawl gymunedol i wneud cais am asedau cofrestredig o werth cymunedol. Rwy’n sylweddoli nad oes gennym hynny, ond mewn gwirionedd, ym maniffesto’r Blaid Llafur dywedodd eich plaid y byddech yn cyflwyno mesurau i atal cau diangen, ac i gynorthwyo cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol eu hunain, lle y bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Tybed a ydych wedi cael cyfle i siarad â’ch cyd-Aelod Cabinet, o gofio bod ymgynghoriad gan eich Llywodraeth eich hun wedi dangos bod yna lawer o gefnogaeth boblogaidd i’r syniad hwn, ynglŷn â phryd y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd yng Nghymru er mwyn i ni allu gwybod sut y mae’n edrych, a chael cyfle i’w gefnogi.

Ydw, rwyf wedi cael cyfle, ac yn amlwg roeddwn yn y portffolio hwnnw yn flaenorol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ei ystyried.

Rwy’n credu bod pawb yn cytuno bod y parciau yng Nghaerdydd yn ogoneddus, ac roeddwn yn falch iawn fod cyfeillion parc Cefn Onn, sydd yn fy etholaeth, sef Gogledd Caerdydd, wedi sicrhau grant o £495,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri tuag at wella’r parc. Mae gwaith ar hyn yn dechrau’r mis hwn mewn gwirionedd. Felly, a wnaiff hi longyfarch cyfeillion parc Cefn Onn a’r awdurdod lleol am gymryd camau mawr i wella’r parc hwn yng Nghaerdydd?

Gwnawn, yn sicr. Mae’n dda iawn gweld y gwaith hwn yn cael ei wneud. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â’r parciau yng Nghaerdydd. Rwy’n credu bod hynny’n un o’r pethau, pan ddechreuais ymweld â Chaerdydd fel oedolyn; mae’r parciau’n ogoneddus iawn yn wir ac mae cymaint o fannau gwyrdd yn ein prifddinas.

Mynediad i Gefn Gwlad

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden yng Nghymru? OAQ(5)0103(ERA)

Diolch. Fe’ch cyfeiriaf at fy natganiad ysgrifenedig ar 13 o Chwefror. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi gwelliannau i seilwaith mynediad presennol. Mae’n fwriad gennyf ddatblygu a chyhoeddi cynigion ar ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach tuag at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored.

Diolch am yr ateb cadarnhaol, Weinidog. Roedd adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2007 yn amlygu pwysigrwydd pysgota i economi Cymru. Amcangyfrifwyd fod pysgodfeydd mewndirol Cymru yn cynhyrchu £75 miliwn o wariant gan bysgotwyr, gyda llawer ohonynt yn ymwelwyr â Chymru o dramor. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cynyddu mynediad cyfrifol a chynaliadwy at ddyfroedd mewndirol Cymru, ynghyd ag ymgyrch i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer pysgota, ddod â manteision enfawr i economi Cymru yn y dyfodol agos?

Mae pysgota yn amlwg yn weithgaredd hamdden pwysig iawn yng Nghymru ac mae rhai o’r llythyrau mwyaf angerddol i mi eu derbyn, rwy’n credu—credaf fod un ohonynt wedi’i ysgrifennu gan fachgen 10 oed, a oedd yn bysgotwr ifanc gyda’i dad. Fel y dywedais, rydym yn sicr yn edrych ar yr ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad a byddaf yn cyflwyno datganiad yn ddiweddarach eleni.

Rydym wedi cael ein bendithio yng Nghymru â thirwedd syfrdanol a chefn gwlad helaeth ac un ffordd wych o weld cefn gwlad a gwneud ymarfer corff ar yr un pryd yw ar gefn ceffyl. Nid ffordd o wneud ymarfer corff yn unig ydyw; gall fod o fudd mawr i bobl anabl a chafwyd cynlluniau marchogaeth ar gyfer pobl anabl ar draws y wlad. Mae cynnal sefydliad marchogaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd ac mae llawer wedi cau. Pa gymorth rydych chi’n ei gynnig i sefydliadau marchogaeth i’w cael yn weithredol eto, fel y gallant gynnig y cyfleuster hwn i bobl fel yr anabl?

Cytunaf yn llwyr â chi fod marchogaeth yn rhywbeth y gall pobl anabl gymryd rhan ynddo. Ni allaf feddwl am unrhyw fentrau penodol sydd gennym nac unrhyw beth ar fy nesg gan unrhyw un sy’n gofyn am gymorth yn y ffordd honno, ond byddwn yn hapus iawn i’w ystyried pe bai hynny’n digwydd.

Prosiectau Cynhyrchu Ynni sy’n Eiddo i’r Gymuned

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau ynni o brosiectau cynhyrchu ynni sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru? OAQ(5)0114(ERA)

Diolch. Byddaf yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried pa agweddau y gallai targedau ynni ymwneud â hwy. Rwy’n credu bod prosiectau ynni cymunedol a lleol yn bwysig, gan ein bod eisiau gweld prosiectau’n cynnal budd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Rwy’n ymwybodol o dendr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect tyrbin unigol yn ne Cymru, sydd ar raddfa ddelfrydol, mewn gwirionedd, ar gyfer prosiect cymunedol. Mae’r meini prawf ar gyfer y tendr yn wirioneddol waharddol ar gyfer prosiectau cymunedol ar y raddfa honno, ac yn gofyn am hanes o gyflenwi a gwerth sawl blwyddyn o gyfrifon. Rwy’n amlwg yn deall yr angen am ddiwydrwydd dyladwy a’r angen i gael lefelau priodol o sicrwydd, ond rwy’n nodi bod cyfeiriad yn y tendr at fanteision cymunedol yn cael eu mynegi mewn punnoedd, a oedd i’w weld i mi yn dangos agwedd mor gyfyngedig yw hynny. A yw’n cytuno bod angen i ni geisio dod o hyd i ffyrdd, yn gyson â’r angen am sicrwydd, i’r prosiectau bach hyn fod yn wirioneddol hygyrch i gynhyrchiant ynni cymunedol?

Yn hollol, ac rydym wedi parhau i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i greu’r budd lleol mwyaf posibl o’r ystad, ac rydym yn cynnig cymorth o dan y gwasanaeth ynni lleol i alluogi datblygwyr cymunedol i gyflawni ar y cyfleoedd hyn. Rwy’n ymwybodol fod grwpiau wedi dod gerbron, yn enwedig cwmnïau cydweithredol, ac oherwydd nad oes ganddynt y math hwnnw o gofnod hanesyddol, ariannol, mae wedi arwain at broblemau. Gwn fod Gwerth Cymru wedi bod yn edrych ar y materion penodol hyn ac rwyf wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gysylltu â hwy i weld beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwnnw.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo, o fis Ebrill yma ymlaen rwy’n credu, i sicrhau bod 100 y cant o ynni y gwasanaethau cyhoeddus yn dod o ffynonellau adnewyddol. A fyddai’n bosib i fynd un cam ymhellach, a chael targed ar gyfer Cymru gyfan, a sicrhau bod 100 y cant o’n holl anghenion ynni ni yn dod o ffynonellau adnewyddol o fewn 20 mlynedd?

Ie, mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Mae gennym ddadl ddydd Mawrth nesaf, Lywydd, yn amser y Llywodraeth, sy’n ymwneud â hyn a thargedau ac yn y blaen. Roeddwn yn falch iawn o weld y targed hwnnw’n cael ei gyflwyno o’r mis nesaf a bydd 50 y cant o’r ynni hwnnw’n dod o Gymru ar y cychwyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn—yn ymarferol ac yn realistig, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol iawn—ac rwy’n hapus iawn i edrych ar yr hyn y mae’r Aelod yn ei awgrymu.

Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn trafod yr economi sylfaenol mewn dadl yn ddiweddarach, ac mae’n ymddangos i mi fod prosiectau ynni cymunedol a’r holl broses o wyrddu economi Cymru a Phrydain yn feysydd ble y gallem gael datblygiadau mawr a fyddai’n grymuso pobl leol yn sylweddol.

Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw’r broses mor anodd ag y mae wedi bod ar adegau, o bosibl. Yn sicr, pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau sydd wedi rhoi’r cynlluniau ynni cymunedol hyn ar waith, maent wedi bod angen dycnwch ac amynedd anhygoel ac rwy’n credu bod angen i ni wneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi. Rwy’n meddwl ein bod wedi rhoi llawer o adnoddau tuag at wneud hynny, nid adnoddau ariannol yn unig, ond hefyd y cymorth sy’n fawr ei angen.

Y Sector Ynni Adnewyddadwy

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(5)0109(ERA)

Diolch. Yn ein hymgyrch i sicrhau dyfodol wedi’i ddatgarboneiddio, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae ein cyfoeth o adnoddau naturiol yn ein galluogi i elwa o ystod eang o gyfleoedd, o brosiectau mawr megis môr-lynnoedd llanw i gynlluniau cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod bod gan y sector ynni adnewyddadwy botensial aruthrol i hybu’r economi a thrwy rwydweithiau cyflenwi effeithlon, gellir lledaenu unrhyw fanteision ledled Cymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i fwrw ymlaen â’r prosiectau hyn? Rwy’n meddwl yma ynglŷn â chymorth uniongyrchol ar gyfer cynhyrchu cymunedol, fel y crybwyllwyd yn y cwestiwn blaenorol, ond hefyd ynglŷn â buddsoddiad o ffynonellau allanol.

Wel, rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau i hyrwyddo buddsoddi ym mhob un o ranbarthau Cymru. Yn y sector ynni adnewyddadwy, rydym yn denu buddsoddiad drwy gynadleddau, drwy arddangosfeydd, megis digwyddiadau holl-ynni ac ynni’r tonnau a’r llanw RenewableUK. Mae’n bwysig iawn fod gennym gwmnïau cadwyn gyflenwi o Gymru ar ein stondinau Llywodraeth Cymru, er mwyn iddynt allu ffurfio’r cysylltiadau, ac mae hynny wedyn yn cefnogi eu cynlluniau ar gyfer twf. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddyfnder yr arbenigedd sydd ar gael i fewnfuddsoddwyr. Yn ddiweddar, pan oedd y Prif Weinidog—fel y gwyddoch—yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, roeddwn i yn Dubai. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi ymweld â Tsieina a Siapan yn ddiweddar, a hynny yw, mae’n ymwneud â mwy nag ynni adnewyddadwy’n unig—mae’n ymwneud â phob sector—ond rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn denu’r buddsoddiad hwnnw yma.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn rhannu fy siom nad oedd y gyllideb heddiw yn cynnwys datganiad cadarnhaol am y morlyn llanw. Mae hynny’n rhywbeth a fyddai’n cael croeso enfawr yma yng Nghymru. Pa gamau pellach y gall hi eu cymryd yn awr i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno penderfyniad cadarnhaol ar y morlyn llanw? Hefyd, o gofio, er enghraifft, ein bod wedi cael digwyddiad da iawn yma neithiwr, pan glywsom gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, beth y gallwn ei wneud i adeiladu cadwyn gyflenwi sy’n barod, ledled Cymru, i gyflenwi’r morlyn hwnnw pan fydd, gobeithio yn cael y golau gwyrdd?

Wel, Lywydd, bydd yr Aelodau’n deall fy mod yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, ac mae hynny’n cynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer Bae Abertawe, o ystyried fy rôl statudol. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael trafodaethau—Ken Skates a minnau—gyda Charles Hendry. Rydym yn cefnogi, mewn egwyddor, y bwriad i ddatblygu diwydiant ynni môr-lynnoedd llanw yn y DU a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais i chi o’r blaen ynglŷn â chysylltedd â’r grid, sy’n rhwystr go iawn i lawer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i gael eu traed danynt mewn gwirionedd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i chi y tro diwethaf, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd da iawn. Dilynais hynny gyda chwestiwn ysgrifenedig a ddangosodd mai dau gyfarfod yn unig a gafwyd gyda swyddogion a’r dosbarthwyr, Western Power Distribution. Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yn union y mae’r cynnydd da y dywedoch wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tro diwethaf y gofynnais y cwestiwn hwn i chi i’w weld ar lawr gwlad, fel bod mwy o gynnydd yn y capasiti er mwyn i fwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yn y gymuned allu cael y cysylltiad hwnnw a gallu bwrw ymlaen mewn gwirionedd?

Mae gennym nifer sylweddol o brosiectau ynni yn y gymuned yn cael eu datblygu bellach. Rwy’n credu bod gennym oddeutu 11 wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Byddaf yn cyfarfod â’r Grid Cenedlaethol, os nad yr wythnos nesaf, yr wythnos wedyn, a hwnnw fydd fy nghyfarfod cyntaf, ond fel y dywedais, mae swyddogion wedi cael cyfarfodydd hefyd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.

Trais Domestig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae’n bwriadu cefnogi dioddefwyr trais domestig? OAQ(5)0117(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a Lywydd, os caf, hoffwn ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus iawn i chi ac i fenywod a merched ledled Cymru.

Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr trais domestig drwy gyflwyno, datblygu a gweithredu’r fframwaith. Ers i Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 gael ei phasio, rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, wedi cyhoeddi’r fframwaith cenedlaethol ar hyfforddiant, ac wedi treialu ‘Gofyn a Gweithredu’.

Diolch am yr ymateb a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddod i’r digwyddiad Mothers Affection Matters yn gynharach heddiw. Oherwydd dyma ni, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, ac eto, heddiw, clywsom straeon dirdynnol a dysgu am ofn enbyd pobl sydd wedi cael eu cam-drin ac sy’n gyndyn i ofyn am gymorth am eu bod yn teimlo y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi wrthynt. Fe fyddaf yn hollol onest, mae rhai o’r straeon a glywais heddiw wedi effeithio’n fawr arnaf felly, fy ymddiheuriadau. Oherwydd dylem i gyd gael bod yn rhydd, a’r menywod hyn hefyd.

Mae’n costio llawer llai i gynorthwyo mamau diogel a llawer mwy pan fydd plant yn cael eu symud i’r system ofal. A gaf fi bwyso arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i adolygu’r model llwyddiannus yn yr Almaen o symud y rhai sy’n cyflawni trais domestig a galluogi’r sawl a gamdriniwyd i aros yn eu cymuned, gyda chefnogaeth yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, a meddygon teulu? Hoffwn weld a allai’r arferion ardderchog hyn fod yn wers y gallwn ei dysgu yma yng Nghymru. Rydym wedi bod mor llwyddiannus mewn cymaint o feysydd eraill drwy fod y wlad gyntaf yn y byd gyda phethau fel comisiynwyr plant ac yn y blaen, a hoffwn i ni weld a allwn wneud rhywbeth radical mewn gwirionedd, a dysgu gan ein cymdogion Ewropeaidd o bosibl. Diolch.

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r cyfle i gyfarfod yn sydyn â rhai o’r bobl yn y digwyddiad yn ystod amser cinio. Lywydd, ni ddylai neb feio dioddefwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u dewrder i godi llais. Rydym i gyd yn gwybod am y dewrder a ddangosant pan fyddant yn codi llais, ac yn ei edmygu, a’r rhai y gallwn ac y dylwn eu beio yw’r rhai sy’n gwybod beth sy’n digwydd ac yn aros yn dawel ynglŷn â’r pethau hyn.

O ran y cwestiwn penodol ar hyn, mae’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn un darn o’r jig-so; mewn gwirionedd mae’r Ddeddf tai yn edrych ar symud cyflawnwyr o eiddo. Felly, mae yna gyfres o ddulliau gennym, ond byddaf yn edrych ar y model y mae’r Aelod yn ei grybwyll a gofyn i fy mhanel cynghori i roi mwy o syniadau ynglŷn â hynny mi.

Yr wythnos diwethaf, gofynnais beth oedd yn cael ei wneud i atal anffurfio organau cenhedlu benywod ac i gynorthwyo’r rhai y mae’n effeithio arnynt. Flwyddyn yn ôl, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a BAWSO, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y prosiect Llais Nid Tawelwch, sy’n anelu at wneud hynny. Mae’n brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i 16 o fenywod ifanc gael eu hyfforddi fel llysgenhadon ieuenctid ar anffurfio organau cenhedlu benywod i danio sgyrsiau am anffurfio organau cenhedlu benywod mewn ysgolion ac mewn cymunedau ledled Cymru.

Rwy’n hynod o falch o ddweud fod y prosiect wedi ennill gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd neithiwr am weithio mewn partneriaeth. Felly, gofynnaf i chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch pawb sy’n rhan o’r fenter ragorol hon.

Yn wir. Mae NSPCC, BAWSO a’r brifysgol a’r llysgenhadon ieuenctid yn sicr yn gwneud gwaith gwych ac roeddwn wrth fy modd pan enillodd y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru wobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Llongyfarchiadau mawr oddi wrthyf fi ac rwyf eisoes wedi trydar i’w llongyfarch hefyd.

Brynhawn ddoe, fe wnaethoch chi wrthod cefnogi gwelliant gan Blaid Cymru a fyddai wedi’i gwneud hi’n orfodol i gyflwyno addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru. Buaswn i’n hoffi deall pam y gwnaethoch chi wrthod cefnogi hynny. Sut ydym ni’n mynd i leihau trais yn erbyn merched mewn ffordd barhaol os nad ydy ein plant ni a’n pobl ifanc ni’n cael cyfle i drafod materion allweddol o gwmpas sicrhau perthnasoedd iach? Ac, os nad ydy o’n orfodol yn yr ysgolion, nid oes sicrwydd y bydd o’n digwydd ac yn digwydd gyda chysondeb ar draws Cymru.

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’r Aelod yn iawn, ddoe fe gyflwynoch welliant ar berthnasoedd iach, ac ymatebais yn y ddadl ddoe ynglŷn â’r rheswm pam nad oeddem yn ei gefnogi bryd hynny—am fod gennym weithgor y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg wedi’i sefydlu; rydym am ddysgu gan y gweithgor hwnnw. Ond rydych yn gwthio yn erbyn drws agored yma; mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydym yn gwneud hyn ac yn ei gyflwyno. Rwy’n cytuno â’r Aelod o ran sut y dylai gael ei wneud, mae’n ymwneud â pha bryd y gwnawn hynny mewn modd priodol drwy’r cwricwlwm, a daw hynny’n gliriach gyda datganiadau Ysgrifennydd y Cabinet yn fuan.

Ffioedd Asiantau Gosod

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ynghylch ffioedd asiantau gosod? OAQ(5)0113(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n bryderus iawn fod y ffioedd a godir gan asiantau gosod yn gosod baich anghymesur ar denantiaid. Cyn hir, gobeithiaf allu cyhoeddi sut yr ydym ni fel Llywodraeth yn bwriadu ymateb i’r mater hwn.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Rwyf fi, ynghyd â sawl chyd-Aelod, a Jenny Rathbone yn fwyaf nodedig, wedi bod yn gwrthwynebu codi tâl ar denantiaid am ffioedd gosod ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae camau’n cael eu cymryd yn Lloegr ac wedi cael eu cymryd yn yr Alban. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad o’r amserlen ar gyfer rhoi camau ar waith?

Rydym yn ymwybodol fod yr Alban wedi gwahardd y ffioedd hyn rai blynyddoedd yn ôl. Bydd Lloegr yn ymgynghori ar eu hargymhellion cyn bo hir. Bydd eu profiad yn helpu i lywio’r argymhellion yma yng Nghymru. Nid oes gennyf amserlen sefydlog ar hyn, ond rwy’n annog yr Aelod, unwaith eto, a Jenny Rathbone ac Aelodau eraill wrth gwrs, i deimlo’n rhydd i’w gyflwyno ar gyfer pleidlais yr Aelodau, caiff ei gefnogi gan y—

Hoffwn innau hefyd ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i’r holl fenywod yn y Siambr. Mewn ymateb i alwadau blaenorol i wahardd ffioedd gosod ar ddechrau’r denantiaeth, mae eich Llywodraeth wedi honni y byddai rhentwyr yn talu mwy yn y tymor hwy oherwydd cynnydd yn y rhent. Fodd bynnag, ers i ddeddfau’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gael eu rhoi mewn grym yn yr Alban, mae’r elusen Shelter wedi datgan na fu unrhyw gynnydd gweladwy mewn rhenti, ac mae’r sefydliad easyProperty hefyd wedi datgan ei bod yn annhebygol, oherwydd cystadleuaeth yn y sector, y byddai asiantaethau’n trosglwyddo taliadau i landlordiaid. Pa wersi a ddysgoch gan yr Alban yn hyn o beth? A byddwn yn ategu cwestiwn Mike Hedges: pa bryd y cawn yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau er mwyn i ni allu rhoi hyn ar waith yma yng Nghymru?

Wel, dyna oedd un o’r materion yr oeddem yn pryderu yn eu cylch—trosglwyddo risg i denantiaid, yn enwedig mewn ffioedd. Rydym yn fwy bodlon bellach â’r dystiolaeth sy’n dod o’r Alban nad yw’n ymddangos bod hynny’n digwydd. Dyma ddeddfwriaeth y byddai’n rhaid i ni ei chyflwyno, felly bydd hynny’n dibynnu ar ei gyflwyno yn ôl yr amserlen ddeddfwriaethol, os a phryd y gallwn wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar eich blodyn llabed ysblennydd? Nid yn unig y byddai Lady Rhondda wedi cymeradwyo, ond rwy’n credu y byddai ein cyn gyd-Aelod William Graham wedi cymeradwyo hefyd. Rwy’n siŵr y byddai wedi cyfaddef eich bod wedi gwneud yn well nag ef ar yr achlysur hwn.

Y broblem gyda’r strwythur presennol yw ei fod yn ystumio’r farchnad. Mae arnom angen i’r ffioedd hyn barhau’n gyfrifoldeb i’r landlord. Bydd yn cael ei adlewyrchu mewn rhenti, ond byddai landlordiaid yn gallu cael gwell gwerth am arian am y gwasanaethau hyn ac ar y funud, mae’n sicr yn gweithredu er anfantais i’r defnyddiwr ei fod yn gorfod talu, i bob pwrpas, am y fraint o brynu gwasanaeth.

Rwy’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth, pe baem yn cyflwyno deddfwriaeth, y byddai’r Aelod yn ei chefnogi wrth i ni fwrw ymlaen i’w chyflwyno. Edrychwch, Aelodau, rwy’n gobeithio gallu cyhoeddi’n fuan sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i’r mater hwn. Byddaf yn cyflwyno hynny i’r Siambr yn unol â hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru wedi bod yn arloeswr mewn cymaint o faterion, felly mae’n fwy siomedig byth ein bod yn llusgo’n bell ar ôl gweddill Prydain ar fater diddymu ffioedd asiantau gosod. Mae ffioedd asiantaethau gosod yn ei gwneud bron yn amhosibl i lawer o deuluoedd fynd i mewn i’r sector rhentu preifat ac yn cynyddu’r galw am dai cymdeithasol. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes unrhyw dystiolaeth o fath yn y byd y bydd diddymu ffioedd yn arwain at godi rhenti, felly pa bryd fydd eich Llywodraeth yn dilyn gweddill Prydain ac yn diddymu’r ffioedd cosbol hyn?

Hoffwn ychwanegu fy llais ar bwysigrwydd y mater hwn. Nid yn unig y gofynnir i fyfyrwyr dalu £150 i gael yr eiddo wedi’i dynnu oddi ar y farchnad tra’u bod yn datrys y contract tenantiaeth, a allai beidio â digwydd o gwbl, ond mae pobl sengl ar fudd-daliadau tai, pobl sy’n rhan o’r rhaglen Cefnogi Pobl ar lwfans cyflogaeth a chymorth, yn gorfod talu’r ffioedd hyn o’r arian y maent i fod i’w ddefnyddio ar fwyd, am na allant gael budd-dal tai i dalu’r ffioedd hyn. Felly, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig, ac rwy’n gobeithio y gallaf eich argyhoeddi bod angen i ni fwrw ymlaen â’r mater.

Mae’r Aelod yn cyfarfod yn rheolaidd â mi i siarad am yr union faterion hyn. Rwyf am wneud cyfraith dda yng Nghymru, Lywydd. Nid wyf am gael fy rhuthro i mewn i hyn. Fodd bynnag, byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus i’w effeithiolrwydd, dull o weithredu wedi’i deilwra ar gyfer yr anghenion yng Nghymru, a bod y gallu i orfodi hyn yn ei le. Ond byddaf yn dod â datganiad yn ôl i’r Siambr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Wrth i chi ystyried y dyfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cryf wrth i’r newidiadau yr ydych wedi’u cyhoeddi fynd rhagddynt, mae llawer wedi bod yn digwydd gyda chydgysylltu ardaloedd lleol, gan gynorthwyo trigolion a chymunedau, ac rwy’n dyfynnu, ‘i gael bywyd, nid gwasanaeth’, ac ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu rhywbeth mwy o faint a mwy cynaliadwy ochr yn ochr â’r bobl a’r cymunedau eu hunain. Pa ystyriaeth a roesoch, neu y byddwch yn ei roi i’r sgyrsiau ynglŷn â chydgysylltu ardaloedd lleol a ddechreuodd ym Mynwy yn 2013?

Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafod gyda’r byrddau darparu gwasanaethau lleol, a oedd, i bob pwrpas, yn rheoli gweithrediad Cymunedau yn Gyntaf. Mae hwnnw’n ehangu yn awr hefyd i grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill sydd â diddordeb, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhîm yn falch o edrych ar y cynigion y mae’r Aelod wedi eu dwyn i fy sylw heddiw.

Ymhellach—dechrau’n unig oedd hynny, oherwydd mae cydgysylltwyr ardaloedd lleol yn Abertawe yn gweithio ar yr egwyddor o ddod i adnabod pobl, eu teuluoedd, a chymunedau, i adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, i aros yn gryf ac yn gysylltiedig, ac i deimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus ar gyfer y dyfodol. Unwaith eto, a allech ystyried y gwaith a ddatblygwyd mewn nifer o awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, mewn sawl rhan o Gymru?

Yn wir. Rwy’n credu na ddylem gau’r drws ar ymgysylltu â’r gymuned mewn unrhyw ffordd. Dylem feddwl am y ffordd orau o ddarparu cefnogaeth effeithiol ar gyfer cymunedau gyda chymunedau, nid i gymunedau.

Wel, diolch i chi, a’r enghraifft fwyaf—nid yng Nghymru y mae, ond yn Derby, gan fod cydgysylltiad ardaloedd lleol yn y DU wedi dechrau yn Derby yn 2012, gan adeiladu ar fodel llwyddiannus iawn a weithredir yn Awstralia, sy’n darparu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion ac arbedion. Yn Swydd Derby, canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby dros 10 i 12 mis arbedion o £800,000 i’r economi iechyd a gofal cymdeithasol a gwelwyd hefyd fod hyn wedi cyflwyno a meithrin perthnasoedd, wedi sefydlu ymddiriedaeth, wedi gweithio ar sail yr unigolyn, gan ddefnyddio cryfderau pobl, a ffurfio cysylltiadau gyda theuluoedd a dinasyddion i greu atebion ar gyfer y cymunedau hynny. Argyhoeddodd hyn yr awdurdod lleol a’r GIG yno i fuddsoddi ac i ehangu i bob un o’r 17 ward cyngor. Felly, os gall prosiect sydd â 50 o bobl wella bywydau, ailgysylltu cymunedau, ac arbed £800,000, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i sut y gellid mabwysiadu’r model hwn yma?

Diolch. Roedd yn rhyddhad braidd, gan i mi gredu bod yr Aelod yn mynd i fy ngwahodd ar daith gydag ef i Derby, ond rwy’n falch na wnaeth hynny, oherwydd byddai’n gas gennyf ei wrthod ar y llawr. Ond rwy’n credu bod gan yr Aelod bwynt gwirioneddol ddiddorol yn ymwneud ag edrych ar yr hyn sy’n gweithio mewn cymunedau, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych arno’n ofalus. Mae gennym raglenni sydd eisoes yn gweithio’n effeithiol yng Nghymru sy’n diwallu gofynion cymunedau gyda chymunedau. Model o Derby neu Awstralia—byddai gennyf lawer o ddiddordeb mewn edrych arno.

Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o’r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a’u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a’u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt yn dal yn fyw heddiw o bosibl, a gafodd eu halltudio o dan y rhaglen plant mudol ers y 1950au?

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y comisiwn sy’n ymwneud â phlant a gafodd eu cam-drin. Rwy’n deall bod fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau i siarad am blant a gafodd eu hanfon i wahanol wledydd a beth yw’r niferoedd hynny. Ond ceir llinell gymorth weithredol ar gyfer pobl sy’n dymuno rhoi gwybod am gam-drin hanesyddol; gallant siarad â phobl yn y wlad hon yn awr.

Iawn. Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafodd bywydau’r plant eu chwalu’n gyfan gwbl, a chawsant eu rhwygo oddi wrth eu teuluoedd. Pa gymorth y gallwch ei gynnig i geisio eu haduno â’r teuluoedd hynny?

Wel, wrth gwrs, y peth cyntaf, mewn gwirionedd, yw datgeliad neu gyswllt gan y bobl ifanc hyn—sy’n bobl hŷn bellach, ond pan oeddent yn ifanc a chael eu hanfon i wledydd eraill, mae’n rhaid ei bod yn frawychus iawn i’r rhan fwyaf o’r unigolion hynny. Mae gennym unigolion wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i ymdrin â’r pwyntiau cyswllt hynny, cyn belled â bod pobl yn rhoi gwybod.

Diolch. Rwy’n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod achosion o gam-drin rhywiol honedig ymhlith blant a alltudiwyd o dan y rhaglen yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, fel rhan o’u hymchwiliad i amddiffyn plant y tu allan i’r DU. Pa gyfraniad fydd gennych chi i’r ymchwiliad hwnnw?

Mae fy nhîm yn cyfarfod â swyddogion yr ymchwiliad annibynnol yn rheolaidd, ac rydym yn darparu pob gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Byddwn yn eu helpu a’u cynorthwyo i wneud eu gwaith.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf diwethaf, roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnais i chi yn ymwneud â chasglu a chyhoeddi data mewn perthynas â chynlluniau gwrth-dlodi, a oedd yn un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad blaenorol. A allwch ddweud wrthyf pa gynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld data’n cael ei gasglu a’i fesur yn well?

Mae’r holl faterion a gyflwynwyd gennym, o ran mesur perfformiad a data, yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chawn ein barnu yn y dyfodol ar berfformiad honno. Mae dangosyddion y Ddeddf honno yn bwysig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei gyflawni, o ran newid cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.

Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedwch mewn perthynas â hynny, ond wrth gwrs, mae’n dal i fod gennym nifer o gynlluniau sy’n seiliedig ar ddata cyfredol a data o’r gorffennol. A bûm yn siarad yn ddiweddar ag ystod o sefydliadau, sydd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn gallu dod o hyd i ddata ar ganlyniadau ar gyfer 29 allan o’r 35 o raglenni cymunedol a ariannwyd o gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2007, er bod y cyllid wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar hyd nes 2020. Felly, gan ei bod yn amlwg fod yna brinder data mesuradwy o hyd, beth oedd y sail dros ymestyn y cyllid penodol hwn?

Wel, nid wyf yn ymwybodol o’r rhaglenni penodol y mae’r Aelod yn eu dwyn i fy sylw heddiw, ond os hoffai roi ychydig mwy o fanylion i mi, fe roddaf ymateb llawnach i’r sylw hwnnw. Y mater ynglŷn â’r dyddiad terfynol yn 2020 yw ein bod yn ymwybodol fod y cyllid Ewropeaidd ar gael tan 2020. A byddwn yn parhau i ddefnyddio hwnnw cyhyd ag y gallwn.

Un o’r prosiectau hynny oedd Cymunedau am Waith, ac rwyf wedi crybwyll hyn wrthych droeon, nid yn unig yma, ond yn y pwyllgor hefyd. Felly, rwy’n credu bod honno’n un enghraifft y gallech edrych arni, o bosibl, a dod yn ôl ataf. Ond mewn perthynas â dyfodol eich strategaethau gwrth-dlodi yn fwy cyffredinol, rwyf wedi clywed hefyd mai’r broblem gyda llawer o gynlluniau yn y gorffennol yw nad ydynt yn mesur y canlyniadau hirdymor, ac yn creu data a all fod yn gamarweiniol mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, bydd rhywun sy’n cael swydd drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith yn cael ei gyfrif yn llwyddiant ynddo’i hun, pa un a fydd yn dal i fod yn y swydd ymhen ychydig wythnosau ai peidio. Ond rydym i gyd yn gwybod bod tlodi pobl mewn gwaith yn dal i fod yn broblem enfawr. Felly, sut y bernir bod y cynllun penodol hwnnw ac eraill tebyg iddo yn llwyddiant, a minnau newydd amlinellu ei bod yn anodd iawn i chi ddeall a ydynt yn rhan ohono am wythnos, neu bythefnos, neu fis, ar ôl iddynt gael y lleoliad gwaith penodol hwnnw mewn gwirionedd?

Rwy’n cydnabod pwynt yr Aelod. Fe ddywedwn fod mynediad at waith yn un elfen o lwyddiant. Mae llwyddiant yn y tymor hir yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu cynnal cyflogaeth. Ond mae’r profiad y mae pobl yn mynd drwyddo ar y cwrs ei hun yn sgil craidd i’r unigolion hynny, i dyfu i mewn i’r cyfleoedd i gael gwaith yn y lle cyntaf. Felly, mae un allbwn o gael swydd a’i chynnal yn bwysig, ond mae yna agweddau eraill ar y cwrs hwnnw sy’n bwysig hefyd. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â hynny. Ond os yw’n dymuno rhoi’r manylion llawn i mi ynglŷn â’i chwestiwn, rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy nhîm ymateb iddi.

Y Cynllun Cynhwysiant Ariannol

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu’r cynllun cynhwysiant ariannol? OAQ(5)0123(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Ers cyhoeddi’r cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr 2016, rydym wedi datblygu llawer o’r camau gweithredu, drwy weithio gyda sefydliadau partner ar draws pob sector. Bydd diweddariad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 gan nodi’r cynnydd a wnaethom.

Diolch yn fawr am eich ateb. Fel rhan o’ch strategaeth cynhwysiant ariannol, mae gofyn i undebau credyd ddarparu gwasanaethau allgymorth ac addysg, megis clybiau cynilo mewn ysgolion. Ond pan gyflwynais y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), un o’r pethau allweddol a nodwyd gennym ar ôl ymgynghori oedd argaeledd y gwasanaethau hyn ledled Cymru. Byddai rhai ysgolion yn gwneud gwaith rhyfeddol arno, ac ysgol gerllaw yn gwneud dim o gwbl. Beth y gallwch sicrhau y bydd yn cael ei wneud i weithio gydag undebau credyd, fel nad ydynt yn cael trafferth i ddarparu’r gwasanaethau hyn, pan allai cyllid fod wedi’i leihau iddynt o bosibl? Mae angen i ni sicrhau y gall sefydliadau sy’n mynd i ysgolion wneud hynny ym mhob man, yn hytrach na chael arbenigedd mewn un ysgol ac nid yn y llall.

Wrth gwrs. Rwy’n credu bod cysondeb yn bwysig iawn. Mae proffesiynoldeb y gwasanaeth yn bwysig hefyd. Rydym wedi gwneud llawer o waith gydag undebau credyd. Mae undebau credyd wedi darparu gwerth £20.4 miliwn o fenthyciadau i fwy na 25,000 o aelodau wedi’u hallgáu’n ariannol rhwng mis Ebrill 2014, a Medi 2016. Rhyddhawyd y cyllid diweddaraf o £422,000 yn 2017-18, a bydd yn helpu undebau credyd i barhau â’r cymorth ariannol ar gyfer aelodau sydd wedi’u hallgáu ac yn cyflwyno cynlluniau gweithredu o fewn y strategaeth cynhwysiant ariannol.

Byddaf yn ystyried pwynt yr Aelod mewn perthynas â chysondeb mewn rhai ardaloedd a gweld pa gyngor a ddaw yn ôl. Ond fe ymwelais ag undeb credyd gwych yn etholaeth Jayne Bryant yn ardal Pill ychydig wythnosau’n ôl yn unig lle roedd y bobl ifanc yn dechrau cynilo ar gyfer y pethau gwych yr oeddent yn awyddus i’w prynu yn y dyfodol.

Mae’r cynllun cynhwysiant ariannol yn datgan mai ei weledigaeth yw Cymru lle y gall pawb, ymhlith pethau eraill,

gael mynediad hwylus at eu harian eu hunain, boed drwy ddulliau awtomataidd neu dros y cownter.

Dyna ddyfyniad ohono. Yfory, byddaf wedi llwyddo o’r diwedd i gael cyfarfod gyda phenaethiaid HSBC ym Maesteg, lle y maent yn bwriadu cau eu cangen yno. Rwy’n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion unigol posibl o gau, ond rwyf am allu dweud wrthynt pa bwysau y gallwch ei roi arnynt, fel eu bod yn cymryd sylw o’ch cynllun cynhwysiant ariannol, yn enwedig mewn ardaloedd lle y mae effaith gronnus cau yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau unigol, nad oes ganddynt gysylltiad da â’r band eang hyd yn oed, o bosibl.

Suzy Davies, gallwch fynd â fy nghefnogaeth i’ch cyfarfod yfory gyda HSBC. Dywedwch wrthynt fy mod yn gobeithio y gallant barhau i gefnogi eich cymuned a llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae banc yn ganolbwynt trefnus iawn i gymuned, a dylem barhau, cymaint ag y gallwn, i’w hannog i aros yn y cymunedau yr ydych yn eu cynrychioli ac yr wyf fi’n eu cynrychioli.

Diwygio Lles

4. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o effaith cyhoeddiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU ar Gymru o ran diwygio lles? OAQ(5)0116(CC)

Diolch i’r Aelod dros Ogwr am ei gwestiwn. Rydym wedi asesu effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20 ar Gymru. Bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o’u hincwm ar gyfartaledd. Mae hynny oddeutu £460 y flwyddyn, sy’n cyfateb i £600 miliwn y flwyddyn yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb ac am egluro’r effaith. Bydd yn gwybod, flwyddyn yn ôl, cyn y gyllideb fis Mawrth diwethaf, fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi ymddiswyddo dros y toriadau a oedd ar y ffordd ar y pryd i daliadau annibyniaeth personol gan ddadlau nad oedd modd amddiffyn y toriadau mewn cyllideb a oedd yn creu budd i drethdalwyr ar gyflogau uwch. Ac wrth ymddiswyddo, fe ddywedodd:

Bu gormod o bwyslais ar ymarferion arbed arian a dim digon o ymwybyddiaeth gan y Trysorlys, yn benodol, na allai gweledigaeth y llywodraeth o system fudd-dal i waith newydd gael ei thorri fesul tamaid dro ar ôl tro.

Eleni, ceir tynhau pellach ar drefniadau taliadau annibyniaeth personol drwy offeryn statudol, yn hytrach nag ar lawr Tŷ’r Cyffredin yng ngolwg y cyhoedd. Mae rhai ASau Ceidwadol wedi mynegi anesmwythyd dwfn ynglŷn â hyn, nid yn lleiaf wedi i Weinidog ddweud ei fod am ganolbwyntio ar yr ‘anabl iawn’, a chafwyd ymddiheuriad ganddo yn sgil hynny. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu archwiliad cyfredol o effaith y rhain a newidiadau polisi eraill diweddar iawn yn y DU ar bobl ag anableddau, ac ar gyfraddau tlodi yng Nghymru, efallai drwy swyddfa’r archwilydd cyffredinol, fel bod modd i ni asesu’r niwed i unigolion a chymunedau, a chyflwyno gwir effaith y polisïau hyn i Lywodraeth y DU gyda’r dystiolaeth honno?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe siaradais â’r Gweinidog Gwladol dros Bobl Anabl, ac ysgrifennodd ataf yn dilyn ei chyhoeddiad yn datgan nad oedd hwn yn newid polisi mewn perthynas â thaliadau, ac na fyddai’n golygu bod unrhyw un sy’n hawlio taliad annibyniaeth personol yn cael gostyngiad yn swm y taliadau annibyniaeth personol a ddyfarnwyd iddynt yn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ceisio gwrthdroi dyfarniad yr uwch dribiwnlys, a fyddai’n cynyddu cymhwysedd ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd hynny gyda’i hadran, i geisio eglurder ynglŷn â hynny, a’r effeithiau ar gyfer pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd yma yng Nghymru.

Mae nifer o sefydliadau wedi cyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr, ac academyddion a’r Llywodraeth, ar effaith diwygiadau lles y DU ar Gymru. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—heb fynd yn erbyn ysbryd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ogwr—ond efallai y gallwn fynd y tu hwnt i ddadansoddi’r effaith i chwilio am atebion a wnaed yma yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru ar greu rhwyd ddiogelwch cymdeithasol gref yng Nghymru? Gallai hyn gynnwys edrych ar sut y gallem wneud y gorau o bwerau cymhwysedd sydd gennym eisoes gan edrych ar gryfhau partneriaeth â llywodraeth leol a darparwyr gwasanaethau eraill ac efallai, os caf fentro dweud, gan edrych tua’r dyfodol, y posibilrwydd hyd yn oed o drosglwyddo cyfrifoldebau diogelwch cymdeithasol penodol o San Steffan i Gymru. Felly, a wnaiff ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ymagwedd drugarog Gymreig newydd tuag at nawdd cymdeithasol?

Rydym wedi gwneud gwaith ar y risgiau i system les y DU yng Nghymru. Rwy’n siŵr y byddai Llywodraeth y DU wrth ei bodd yn trosglwyddo’r risg i Gymru, ac maent wedi gwneud yn y gorffennol mewn perthynas â budd-dal y dreth gyngor, lle y gwthiwyd rhywfaint o arian drosodd o’r M4, ond nid oedd yn ddigon, ac rwy’n siŵr y byddant yn parhau i wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau cymaint â phosibl o gymorth i bobl sydd ei angen yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi tynnu eich sylw’n flaenorol at bryderon ynglŷn ag effaith newidiadau Llywodraeth San Steffan i’r lwfans tai lleol o 2019 a’r effaith a gaiff hynny ar Gymru, wedi’i dwysáu, rwy’n credu y byddwch yn cytuno â mi, gan y penderfyniad gwarthus a wnaed yr wythnos diwethaf i gael gwared ar fudd-daliadau tai ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed.

Edrychodd astudiaeth a gomisiynwyd gan Cartrefi Cymoedd Merthyr ar y lefel o lwfans tai lleol sydd wedi’i rewi o gymharu â’r gyfradd rhent preifat ar gyfartaledd ym Merthyr Tudful a nododd wahaniaeth o hyd at £7.35 yr wythnos y byddai’n rhaid i’r tenant ei dalu. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd peth o’r newid yn golygu bod arian a delir fel budd-dal tai ar hyn o bryd yn cael ei ddatganoli i Gymru. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa drafodaethau a gafodd ef neu ei swyddogion gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y caiff y lefel honno o gyllid datganoledig ei phennu a pha sicrwydd y gall ei roi y bydd yn cael ei glustnodi mewn rhyw ffordd i helpu’r rhai mwyaf difreintiedig drwy rewi’r Lwfans Tai Lleol?

Mae’r gwahaniaethau yn y Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar rai cymunedau yn fwy nag eraill. Bydd yn rhywbeth y byddaf yn cael trafodaeth yn ei gylch gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—i gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys, pan fydd yn eu cael, ar sail reolaidd.

Tlodi Plant

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cefnogaeth ar gyfer cymunedau i leihau tlodi plant yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(CC)

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant yn cynnwys gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar, adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith. Bydd cymunedau sydd wedi’u grymuso ac sy’n cymryd rhan yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod plant yn ne-ddwyrain Cymru, a thrwy weddill Cymru, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Wrth gyhoeddi bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod am greu cymunedau sy’n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant. Fodd bynnag, mae Sefydliad Bevan wedi rhybuddio bod y sefydliadau sy’n cyflwyno Cymunedau yn Gyntaf a’r cymunedau eu hunain mewn cyfnod o limbo go iawn yn sgil cael gwared ar y cynllun. Pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i gael gwared ar yr ansicrwydd hwn drwy gyhoeddi’r hyn a ddaw yn lle Cymunedau yn Gyntaf ac a wnaiff gadarnhau y bydd lleihau tlodi plant yn flaenoriaeth allweddol mewn unrhyw gynllun newydd yn ei gyllideb? Diolch.

Rwy’n synnu braidd ynglŷn â chwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr wythnos yn ôl pan wneuthum gyhoeddiad ynghylch cyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni. Ni fydd yn gweld yn unrhyw un o’r datganiadau a wneuthum fy mod yn bwriadu cael gwared ag unrhyw raglen. Rydym wedi gwneud argymhelliad cadarnhaol iawn ar gyfer pontio. Mae fy nhîm wedi bod allan yr wythnos diwethaf yn cyfarfod â byrddau cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf yng ngogledd Cymru a de Cymru i drafod y dyfodol a sut olwg fydd arno, gyda 70 y cant o’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer eleni a’r cyllid pontio o £10 miliwn o refeniw a chyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i gymunedau ddechrau bod yn wahanol o ran y ffordd y maent yn rheoli cydnerthedd o ran yr achosion unigol sydd gan Aelodau yn eu hetholaethau eu hunain.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun Dechrau’n Deg yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn at fynd i’r afael â phroblemau ymhlith rhai o’n plant ieuengaf ac yn darparu manteision sylweddol yn fy etholaeth, ond mae rhai teuluoedd y tu allan i gyrraedd y cynllun oherwydd natur cod post y broses o gael mynediad at y ddarpariaeth honno. Felly, a allwch ddweud unrhyw beth heddiw wrth yr etholwyr hynny, ac etholwyr Aelodau eraill, rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd y tu allan i’r cynllun ar hyn o bryd ynglŷn â’r posibilrwydd o’i ymestyn ac ehangu ei gyrhaeddiad?

Wel, dylem ddweud, ‘Llongyfarchiadau a diolch’ wrth staff Dechrau’n Deg ledled Cymru. Yn Nwyrain De Cymru, rydym wedi cyrraedd ychydig o dan 10,000 o blant yn yr ardal honno, gan eu cefnogi gyda gwasanaethau ar gyfer eu teuluoedd. Gyda’r pontio rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r rhaglenni cryfder cymunedol newydd, mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o’r ymagwedd integredig tuag at gyflwyno gwasanaethau, ac rwy’n bwriadu cefnogi hynny gyda hyblygrwydd yn y dull hwnnw o weithredu, lle y gall pobl mewn angen y tu allan i’r ardal honno gael cyfle i gael mynediad at Dechrau’n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf neu broffilio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd, gobeithio, yn helpu eich cymuned a chymunedau ledled Cymru.

Diogelwch Rhag Tân

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch rhag tân yng Nghymru? OAQ(5)0111(CC)

Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau tân ac achub yng Nghymru i wella diogelwch tân. Rydym wedi darparu £1.4 miliwn ar eu cyfer eleni.

Diolch. Wrth ymateb i’ch datganiad ar 7 Chwefror ar gymunedau mwy diogel, cyfeiriais at adroddiadau yn y wasg y diwrnod cynt am gynnydd o 11 y cant yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol a oedd wedi dargyfeirio o alwadau 999 eraill a dargyfeirio criwiau tân i ffwrdd oddi wrth eu blaenoriaethau eraill. Ddeng diwrnod yn ddiweddarach, roedd sylw yn y wasg i ffigurau Llywodraeth Cymru yn sôn am drydydd cynnydd yn nifer y tanau glaswellt a gynheuwyd yn fwriadol yng Nghymru y llynedd, gydag oddeutu 2,604 o danau glaswellt wedi’u cynnau’n fwriadol. Pan ymateboch i fy nghwestiwn ar 7 Chwefror, fe ddywedoch fod y Gweinidog blaenorol wedi cael cyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a’r heddlu, ond o ystyried y lefelau cynyddol hyn yn awr o dan eich gwyliadwraeth chi, pa gamau a roddwyd ar waith gennych neu y byddwch yn eu cymryd gyda’r awdurdodau perthnasol?

Wel, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Mae nifer yr achosion o danau wedi mwy na haneru ers datganoli ac mae’r cyfrifoldeb am y gwasanaethau tân wedi dod i Gymru. Mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cyrraedd uchafbwynt mewn tanau glaswellt. Edrychwch, mae unrhyw dân sy’n cael ei gynnau felly yn anghyfreithlon, ac rwy’n annog yr awdurdodau, neu unigolion sydd ag unrhyw wybodaeth am hynny, i fynd i’r afael â’r mater drwy ffonio’r heddlu yn yr achos hwn. Rwy’n cyfarfod â’r awdurdodau tân yn rheolaidd. Cefais gyfarfod â hwy yr wythnos diwethaf. Byddaf yn trafod pwysigrwydd y mater gyda hwy, o ran y tanau glaswellt yn benodol, wrth i ni symud ymlaen at y gwanwyn.

Yn amlwg, mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i’r gwasanaethau tân a ymatebodd mor sydyn mewn ymosodiad tân bwriadol ar gerbyd yn Llanedern ar 15 Ionawr, oherwydd heb hynny, byddai bywydau wedi’u colli. Ond rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i wasanaethau ieuenctid Caerdydd a’u gwaith gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau bod pobl ifanc sy’n cynnau tanau’n fwriadol yn wirioneddol ymwybodol o’r peryglon posibl. Nid ydynt yn targedu neb yn benodol; maent yn ei weld fel adloniant. Felly, mae prosiect Phoenix, y cynllun diffoddwyr tân ifanc a’r cynllun ymyrraeth cynnau tanau i’w gweld i mi yn dri pheth sy’n help mawr i bobl ifanc ddeall bod llosgi unrhyw beth yn weithgaredd peryglus iawn, ac yn rhywbeth i’w osgoi’n gyfan gwbl.

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n cytuno gyda’r Aelod—rwy’n hynod o falch o’n diffoddwyr tân ledled Cymru. Mae gennym wasanaeth gwych, ac yn wir, mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn darparu nifer o raglenni diogelwch tân i bobl ifanc yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae’r rhain yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u darparu ar y cyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac maent wedi mynd ati’n effeithiol iawn i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag tân a lleihau nifer y tanau sy’n cael eu cynnau’n fwriadol yn arbennig. Mae hyn hefyd yn mynd law yn llaw â gwaith gan dîm cyswllt yr heddlu, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn cydnabod ei fod yn effeithiol iawn lle y mae gennym wybodaeth ynglŷn â ble y ceir peth risg o bobl ifanc yn cynnau tanau.

Prosiectau Cymorth Cymunedol

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol prosiectau cymorth cymunedol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0120(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid craidd ar gyfer cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, gan gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam. Yn ogystal, bydd prosiectau cymorth cymunedol yn elwa ar gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf, cyllido etifeddol a’r grant cyflogaeth.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn y cyhoeddiad am y bwriad i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf yn ei ffurf bresennol i ben a’r newid ffocws i raglenni cyflogadwyedd, rwy’n siŵr eich bod eisoes yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o’r rhaglenni cyflogadwyedd niferus yn Sir y Fflint sy’n darparu cefnogaeth nid yn unig i baratoi pobl ar gyfer byd gwaith, ond hefyd i’w galluogi a’u grymuso i gael gwaith—prosiectau fel y cwrs Adeiladu’r Dyfodol mewn sgiliau gosod brics, a’r un gwych a welais ar ymweliad diweddar ag Ysgol Maesglas yn Greenfield. Mae ganddynt fenter wych yno gan weithio gyda rhieni ar raglen gyflogadwyedd. Wrth gwrs, mae gennym y rhaglen Esgyn, gyda thros 200 o gyfranogwyr, a rhaglenni partneriaeth gydag Esgyn ar ofal cymdeithasol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r newyddion diweddaraf ynglŷn â chynaliadwyedd prosiectau o’r fath yn y dyfodol a rhoi syniad efallai pa gymorth amgen y gellid ei roi i unrhyw brosiectau nad ydynt yn dod yn uniongyrchol o dan y meini prawf ar gyfer y dyfodol o dan y cynllun cyflogadwyedd newydd?

Mae dwy elfen i hynny. Ceir cyfnod pontio lle y byddwn yn darparu 70 y cant o’r cyllid ar gyfer paratoi clystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ddechrau meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol a sut y gallant ddenu ffynonellau cyllid eraill. Hefyd, rydym wedi gwneud buddsoddiad o £11.7 miliwn drwy’r rhaglen gyflogadwyedd, Cymunedau am Waith, Esgyn, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Rydym yn parhau â’r argymhellion wrth i ni fwrw ymlaen â hynny.

Bydd y blaenoriaethau eraill ar gyfer awdurdodau lleol neu ar gyfer byrddau cyflawni yn fater iddynt hwy o ran faint o gyllid sydd ar gael iddynt a sut y gallant weithio gyda setliad presennol Cymunedau yn Gyntaf i symud ymlaen ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hyderus y byddant, gydag amser, yn gallu addasu’r rhaglenni yn unol â hynny.

Pan gyhoeddoch eich bod yn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben, cyfeiriodd fy ymateb at yr adroddiad ‘Valuing Place’ a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, yn seiliedig ar waith ymchwil mewn tair cymuned, yn cynnwys Cei Connah, y credaf eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef. Gwelsant fod sefydlu rhwydweithiau lleol i gysylltu pobl sydd am roi camau gweithredu ar waith yn lleol yn flaenoriaeth.

Yn yr ateb yr ydych newydd ei roi, fe gyfeirioch at y byrddau cyflawni ac awdurdodau lleol, ond sut rydych yn ymateb i’r erthygl gan Sefydliad Bevan yn eu cyhoeddiad yng ngwanwyn 2017 a oedd yn archwilio’r syniad o gymunedau cryf, ac yn datgan bod cefnogaeth y gymuned yn hanfodol a bod consensws na fydd polisïau’n gweithio os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi arnynt?

Wel, mae hynny bob amser yn wir, onid yw? Rwy’n meddwl eich bod yn cael hynny gyda phleidiau gwleidyddol ac ewyllys gwleidyddol ar draws y sbectrwm. Fy mwriad yw gwneud yn siŵr fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn agos iawn at eu cymunedau. Rydym wedi deddfu ar hyn, ar y ffaith fod ymgysylltiad yn rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Byddwn yn disgwyl i unrhyw awdurdod sy’n symud i gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf ymgysylltu â’r cymunedau y maent yn gweithio gyda hwy, er mwyn i ni allu adeiladu hyn o’r gwaelod i fyny yn hytrach na gwneud pethau i gymunedau, gan weithio gyda hwy i wneud yn siŵr fod y syniadau’n dod o’r canol.

Y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0109(CC)[W]

Yn ddiweddar, cyhoeddais £4 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ym mhob un o’r pedair blynedd ariannol nesaf. Daw hyn â’r cyfanswm ar gyfer prosiectau yn 2017-18 i £6 miliwn. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n ceisio gwella cynaliadwyedd cyfleusterau sy’n gwasanaethu cymunedau Cymunedau yn Gyntaf.

Yr wythnos nesaf, mi fydd hi’n 11 mis ers i Ganolfan y Fron gyflwyno cais am grant o’r rhaglen yma. Mae oedi gan y Llywodraeth yn rhoi dyfodol y prosiect cyfan mewn perygl. Mae hi hefyd bron i naw mis ers i GISDA— elusen pobl ifanc bregus—anfon eu cais nhw ac maen nhw hefyd yn disgwyl i glywed a oedd eu cais yn llwyddiannus. Roedd y Llywodraeth wedi addo y buasen nhw wedi derbyn ymateb erbyn mis Hydref. Rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf ynglŷn â hyn. Yn eich ymateb i un o fy llythyrau, bedwar mis yn ôl, fe soniwyd fod penderfyniad ar fin ei gyrraedd. Nid oes dal dim ateb. Mae’r ddau fudiad yma yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau nifer o bobl yn fy etholaeth i, ond maen nhw’n cael eu dal yn ôl yn sylweddol oherwydd diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi gwybod i ni heddiw yr union ddyddiad y caiff GISDA a Chanolfan y Fron wybod os yw eu ceisiadau nhw wedi bod yn llwyddiannus?

Os yw’r Aelod am ddal i fy ngwthio i ymateb, yn hytrach na fy mod yn rhoi ymateb pwyllog iddi i’r broses hon—. A fyddant yn cael unrhyw gyllid heddiw? Na fyddant. Os mai dyna’r ymateb y mae’r Aelod ei eisiau, gallaf roi hwnnw iddi heddiw. Mewn gwirionedd, byddai’n llawer gwell pe bai’r Aelod yn aros i mi wneud penderfyniad ar y cyd ynglŷn â sut rydym yn mynd i ddyrannu’r cyllid hwn, a byddwn yn gwneud hynny cyn bo hir.

Wel, rwy’n falch o glywed am y buddsoddiad ychwanegol, beth bynnag. Mae canllawiau’r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn dweud y gall awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus eraill a busnesau fod yn bartneriaid i sefydliadau lleol sydd eisiau ymgeisio i’r gronfa. Ond, mae’n debyg bod mwyafrif y prosiectau yn cael eu gweinyddu a’u trefnu drwy awdurdodau lleol. Mae’n anodd i weld pa mor hawdd yw hi i sefydliadau lleol weithio gyda busnesau preifat a defnyddio’r cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth sydd ganddyn nhw. A fyddai’n bosibl ichi ddweud faint o brosiectau’r rhaglen sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol o’i gymharu â busnesau lleol? Sut fath o anogaeth y mae’r sefydliadau a’r busnesau yn ei chael i gydweithio?

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn. Nid yw’r manylion gennyf heddiw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn ei hysbysu ynglŷn â hynny. Rwy’n awyddus iawn i weld cymaint ag y bo modd o gyfranogiad a gweithgarwch trydydd parti mewn perthynas â’r rhaglenni hyn. Yn hytrach na phwyntiau mynediad sengl, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod yn ennill llawer wrth i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gydweithio â gwirfoddolwyr i greu cyfleuster cymunedol. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach, ond fel y dywedais yn fy ymateb i ddechrau, o ran y cyfnod pontio, byddaf yn canolbwyntio’r gronfa hon yn awr ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Blaenoriaethau Adfywio ar gyfer Sir Benfro

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(5)0110(CC)

Mae’r blaenoriaethau adfywio ar gyfer Sir Benfro yn parhau i gefnogi’r cymunedau drwy ystod o raglenni adfywio sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy.

Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Fel y dywedodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru mewn cwestiynau cynharach, neithiwr cynhaliais dderbyniad yma yn y Senedd gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i ddysgu mwy am eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer yr ardal leol, a fydd yn trawsnewid ardal Aberdaugleddau fel yr ydym yn ei hadnabod. O ystyried eu cynlluniau, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cynlluniau adfywio’r awdurdod? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sefydliadau megis Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau er mwyn annog buddsoddi yn Sir Benfro yn y dyfodol?

Wrth gwrs, ac rwy’n credu bod cyfleoedd yno i weithio mewn partneriaeth. O dan y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda chynllun benthyciadau canol y dref gwerth £2.25 miliwn, sef grant benthyciad ailgylchadwy 15 mlynedd. Bydd hyn, gobeithio, yn lleihau nifer y safleoedd ac adeiladu gwag a segur yng nghanol trefi fel Penfro, Aberdaugleddau a Hwlffordd. Felly, rydym eisoes yn rhoi camau sylweddol ar waith gyda’r awdurdod, o ran cynnig newydd ar gyfer yr ardal y mae’r Aelod yn ei chynrychioli.

Rwy’n croesawu’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud am adfywio ym mhorthladd Aberdaugleddau, ond roeddwn eisiau gofyn iddo’n benodol am gymunedau eraill yn Sir Benfro sy’n fwy anodd eu cyrraedd o ran adfywio a chymorth. Yn dilyn ei benderfyniad i newid—wel, i dynnu’n ôl—dros gyfnod o amser oddi wrth Cymunedau yn Gyntaf, roeddwn yn arbennig o bryderus ynglŷn â beth y gellid ei gyflawni yn awr ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Benfro. Gofynnais rai o’r cwestiynau hyn i’r Prif Weinidog yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Sir Gaerfyrddin hefyd, ac rwy’n dal i’w chael hi’n anodd deall beth fydd dull Llywodraeth Cymru yn awr o fynd i’r afael â’r cymunedau hyn.

Rwy’n bwriadu ymweld ag un o’r cymunedau yn Sir Benfro yn ystod y mis neu ddau nesaf, a hoffwn fynd â neges gadarnhaol iddynt gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y cânt eu cefnogi wrth symud ymlaen, yn enwedig o ran sut y darparir cyfleoedd a chymorth addysgol ar gyfer pobl ifanc mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Pa neges sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i mi ei rhoi i fy etholwyr?

Nid wyf yn gwybod pa bryd y bydd yr Aelod yn ymweld â’r safle, ond gallaf geisio gofyn i un o fy swyddogion ymuno ag ef er mwyn cael sgwrs gyda phobl ifanc a Sipsiwn a Theithwyr ar y safle i weld pa gamau y maent eisiau eu gweld yn digwydd. Rwy’n credu bod gennym strategaeth Sipsiwn a Theithwyr gadarnhaol iawn, ac mae gennyf dîm o swyddogion sy’n gweithio’n agos iawn gyda theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a’u plant yn ffactor pwysig sy’n cael ei ystyried gennym. Byddwn yn hapus i ofyn i un o fy nhîm ddod gyda chi i ymweld â’r safle.

Aflonyddu ar Fenywod

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu ar fenywod yng Nghymru? OAQ(5)015(CC)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phob un o’i phartneriaid i fynd i’r afael ag aflonyddu ar fenywod yng Nghymru. Mae trais yn erbyn menywod yn annerbyniol ym mhob un o’i ffurfiau. Mae’n iawn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod yn codi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae llawer o fenywod yn dal i’w wynebu.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mynegwyd pryderon wrthyf ynglŷn â sut yr ymdrinnir ag achosion o aflonyddu—gyda’r sensitifrwydd a’r difrifoldeb angenrheidiol a phriodol—gan y rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi sicrwydd ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i atal aflonyddu gyda’r bobl mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig rheng flaen? Hefyd, pa waith sy’n cael ei wneud gyda gwasanaethau cyhoeddus heb eu datganoli, megis yr heddlu, i sicrhau y caiff achosion o aflonyddu eu trin yn gywir?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae gennyf ymagwedd dim goddefgarwch at fwlio, aflonyddu a cham-drin. Ni fyddwn yn poeni pe bai rhywun yn ffrind neu’n gyd-wleidydd—os ydynt yn croesi’r llinell, nid oes modd cyfaddawdu ar hyn: mae’n anghywir. Rwy’n hyderus ein bod yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor a hirsefydlog. Mae amcan 4 ein cynllun cydraddoldeb strategol yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o bob math o aflonyddu a cham-drin. Dylem i gyd ysgwyddo cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd yn ein cyrff sector cyhoeddus.

Yn ôl at ddigwyddiad Mothers Affection Matters yn gynharach heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a gwrando ar rai o’r bobl a roddodd eu straeon; roeddent yn sôn am aflonyddu yn troi’n gam-drin o oed cynnar iawn. Hoffwn atgyfnerthu’r galwadau a wnaed gan Sian Gwenllian, ac eraill ddoe rwy’n meddwl, am hyfforddiant a chwnsela a datblygu perthynas iach mewn ysgolion. Os gallwn hyfforddi plant ifanc, merched a bechgyn ifanc, dynion a menywod ifanc i barchu a thrysori ei gilydd, yna byddwn wedi mynd gryn ffordd i atal aflonyddu a cham-drin menywod a dynion yn eu bywydau fel oedolion.

Nid oes angen i chi fy argyhoeddi ynglŷn â’r ddadl hon. Rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld sut y gellir cyflawni hyn a gobeithio y bydd gennym rywbeth cadarnhaol i’w ddweud cyn bo hir.

3. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiadau 90 eiliad. Julie Morgan.

Cofio Val: Val Feld oedd yr AC dros Ddwyrain Abertawe ac mae’n addas ein bod yn ei chofio yma ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd Val wedi ymrwymo’n angerddol i gyfle cyfartal a chyfiawnder cymdeithasol. Hi oedd un o benseiri allweddol datganoli: un o arweinwyr yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’. Mae gwreiddio cyfle cyfartal yn y Cynulliad yn deillio i raddau helaeth o waith Val. Buom yn gweithio gyda’n gilydd pan oeddwn yn Aelod Seneddol yn San Steffan yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd i sicrhau bod egwyddor cyfle cyfartal i bawb wedi’i gynnwys yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru gyntaf yn 1998 a oedd i ddod yn sylfaen i’r Cynulliad hwn. Roedd hi’n ddi-ildio. Gwelai ddatganoli fel cyfle i wneud Cymru’n gymdeithas fwy cyfartal a mwy cyfiawn yn gymdeithasol.

Roedd gan Val hanes rhyfeddol o wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol: roedd hi’n sylfaenydd Shelter Cymru, gan gydnabod trafferthion y digartref a phwysigrwydd tai, ac roedd yn gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru rhwng 1989 a 1999. Roedd hefyd yn fam a phartner. Roedd rhai ohonoch yn ei hadnabod yn ystod ei chyfnod byr fel Aelod Cynulliad. Pan siaradai, roedd pawb yn gwrando. Siaradai gydag awdurdod, roedd ganddi gyfoeth o brofiad ac egwyddorion i’w cyfrannu. Nid oedd terfyn ar yr hyn y dymunai Val ei wneud a rhoddwyd diwedd ar y potensial hwnnw’n drasig iawn gyda’r hyn a oedd yn salwch angheuol yn y diwedd. Rwy’n cofio ymweld â hi yn Abertawe gyda Jane Hutt yn fuan cyn iddi farw. Rydym yn gweld ei cholli’n fawr.

We miss her very much.

Mae ‘Beirdd Cymru’ yn gerdd y gall llawer o Hwngariaid ei hadrodd ar eu cof, ond yng Nghymru ychydig a wyddys am y gerdd hon, a ysgrifennwyd gan Janos Arany yn 1857. Ychydig ddyddiau’n ôl dathlwyd daucanmlwyddiant ei eni. Ar ôl gwrthod ysgrifennu cerdd i glodfori ymerawdwr Awstria, Franz Joseph, yn dilyn chwyldro aflwyddiannus yn 1848 yn erbyn yr ymerodraeth, ysgrifennodd Janos ‘Beirdd Cymru’, sy’n adrodd stori chwedlonol am wrthryfel pan gafodd 500 o feirdd Cymru eu lladd gan y Brenin Harri I yng nghastell Trefaldwyn ar ôl iddynt wrthod canu ei glodydd fel eu gorchfygwr.

Er bod cerdd Arany yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal i gael ei dysgu mewn ysgolion yn Hwngari, nid oes llawer o bobl sy’n byw yn Sir Drefaldwyn ac ar draws Cymru erioed wedi clywed amdani. Felly, rwy’n falch o roi’r gair ar led heddiw. Ddydd Iau diwethaf, cynhaliwyd dathliad arbennig o’i fywyd a gafodd ei ddarlledu—bywyd Janos Arany—yn Budapest, gydag Arlywydd Hwngari’n bresennol, a chyflwynwyd statws anrhydeddus ‘Rhyddfreiniwr Trefynwy’ i Arany er coffadwriaeth gan faer y dref.

4. 4. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â Deisebau'r Cyhoedd

Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â deisebau’r cyhoedd. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6250 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23—Deisebau’r Cyhoedd’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 23, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Sylfaenol

Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi sylfaenol. Rydw i’n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6210 Lee Waters, Jeremy Miles, Vikki Howells, Hefin David

Cefnogwyd gan David Melding, David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod tua 40 y cant o’r gweithlu sy’n cael eu cyflogi yn yr ‘Economi Sylfaenol’ yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.

2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.

3. Yn gresynu fod llawer o’r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr ‘Economi Sylfaenol’ ledled Cymru fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fel y cawsom ein hatgoffa yr wythnos diwethaf gan y dyfalu am ddyfodol Ford ym Mhen-y-bont, a’r mis cynt gan y ddadl ynglŷn â dyfodol Tata Steel, mae ein heconomi mewn sefyllfa fregus iawn—yn fregus yn wyneb penderfyniadau corfforaethau rhyngwladol sy’n eiddo i gwmnïau tramor, yn fregus yn wyneb ergydion allanol fel Brexit neu amrywiadau ym mhris olew, ac yn fregus, fel pob economi fodern, yn wyneb effeithiau hirdymor newid yn yr hinsawdd, ansicrwydd ynglŷn â’r cyflenwad bwyd a phrinder ynni.

Diben y cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn fy enw i ac yn enwau fy nghyd-Aelodau Jeremy Miles, Vikki Howells, Hefin David, David Rees, a fy nghyfaill David Melding, yw ystyried sut y gallech ddefnyddio’r broses o fframio strategaeth economaidd newydd ar gyfer Cymru i feddwl ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru helpu ein cymunedau i ddatblygu gallu i wrthsefyll y bygythiadau hyn. Bydd fy nghyd-Aelodau’n archwilio rhai o’r ffyrdd y bydd dull sylfaenol yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol. Yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn canolbwyntio ar yr achos dros newid.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rydym wedi bod yn rhoi cynnig ar amrywiadau ar yr un thema ym mholisi economaidd Cymru bellach ers nifer o genedlaethau, ac rydym yn rhedeg er mwyn sefyll yn llonydd. Prin y mae ein lefel cyfoeth cenedlaethol, neu werth ychwanegol gros y pen wedi newid yn yr 20 mlynedd ers i ni addo y byddai ffurfio Cynulliad Cenedlaethol yn creu pwerdy economaidd i Gymru. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i chwilio am ateb gwyrthiol—prosiect trawsnewidiol hoff gan bawb. Pe baem ond yn gallu cael ychydig o brosiectau mewnfuddsoddi proffil uchel a gobeithio ar ein gwaethaf am Admiral Insurance arall, yr unig gwmni FTSE 100 sydd gan Gymru o hyd gyda llaw, bron i 25 mlynedd ar ôl iddo gael ei sefydlu. Ac wrth i ni chwilio’n daer am ruban i’w dorri, mae economi ein cymunedau o ddydd i ddydd yn parhau i droi’n araf deg.

Mae cynnig heddiw yn apêl i edrych ar yr hyn sy’n cuddio yng ngolwg pawb, a thrafod yr hyn y gallem ei wneud i’w meithrin—yr economi bob dydd, fel y’i disgrifiwyd gan yr Athro Karel Williams. Nawr, dyna enw y byddwch yn ei glywed sawl tro y prynhawn yma, rwy’n siwr. Ochr yn ochr â’i gydweithwyr yn Ysgol Fusnes Manceinion, mae wedi gwneud llawer i roi bywyd i’r syniad o economi bob dydd, yr economi sylfaenol fel y’i gelwir. Fel un o feibion Llanelli, mae Karel Williams wedi defnyddio cyflwr diobaith y dref rwy’n ei chynrychioli yn ein Cynulliad Cenedlaethol fel astudiaeth achos yn yr hyn y gellir ei wneud i gryfhau’r rhannau o’r economi a adawyd ar ôl wedi diflaniad y diwydiant trwm a ysbrydolodd eu creu.

Yr economi sylfaenol sy’n sail i wead cymdeithasol ein cymunedau, ac mae’n treiddio i’n cymdogaethau mwyaf difreintiedig hyd yn oed. Y diwydiannau a busnesau sydd yno am fod y bobl yno, y bwyd rydym yn ei fwyta, y cartrefi yr ydym yn byw ynddynt, yr ynni a ddefnyddiwn a’r gofal yr ydym yn ei dderbyn. Nid rhan fechan o’n heconomi yw hon; dyma yw oddeutu pedair o bob 10 swydd a £1 o bob £3 a wariwn. Mae ein ffocws wedi bod ar gwmnïau angor sy’n cyflogi mwy na 1,000 o bobl mewn un lle, ond mae mwy na 3,000 o bobl wedi’u cyflogi i wneud soffas ar draws Cymru, ac nid ydynt yn rhan o unrhyw strategaeth economaidd, ond dyma’r math o weithgaredd anatyniadol sy’n sylfaen i’n heconomïau lleol.

Mae globaleiddio wedi ein dal ar y droed ôl wrth i gynhyrchwyr lleol gael eu gwthio allan o’r farchnad gan is-gwmnïau tramor, sy’n aml yn rhoi pwysau ar gyflenwyr Cymru i ostwng eu prisiau ac allforio’r elw tramor. Os cawn hyn yn iawn, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i wrthdroi dirywiad amodau cyflogaeth, atal colli arian o’n cymunedau a lleihau cost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig. Mae rhwystrau mawr yn sefyll yn ein ffordd—mae’n ddibwynt esgus fel arall—ac yn hytrach na’u hanwybyddu, hoffwn fynd i’r afael â hwy’n uniongyrchol.

Y cyntaf yn ddi-os yw’r gost. Yn aml, nodir gwariant y sector cyhoeddus—y £5.5 biliwn a wariwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn—fel ffordd uniongyrchol o hybu ein heconomi sylfaenol. Ond yn union fel y mae’r ymgyrch i leihau cyllidebau wedi arwain at gwmnïau mawr wedi’u preifateiddio yn dominyddu’r modd y darperir ein gwasanaethau cyhoeddus, felly hefyd y bydd gwrthdroi’r tueddiad hwn yn galw am fuddsoddiad. Bydd angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau lleol i geisio am gontractau sector cyhoeddus a’u cyflawni. Mae angen i ni fuddsoddi mewn staff â sgiliau uwch ym maes caffael arbenigol mewn llywodraeth leol, ac yn ôl pob tebyg, bydd cost y nwyddau a’r gwasanaethau a brynwn yn y diwedd yn codi, ac mae angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny. Er mwyn cyflawni ailstrwythuro go iawn, bydd angen buddsoddi sylweddol, a chydnabyddiaeth y dylai enillion ariannol yn y tymor byr gael eu dadflaenoriaethu o blaid manteision mwy hirdymor, ac mae’n rhaid i ni fod yn onest ynglŷn â hynny, hefyd.

Ond mae realiti ein tirwedd economaidd a’r awtomeiddio sydd ar y ffordd yn ei gwneud yn gostus i beidio â’i wneud. Rwyf wedi siarad o’r blaen am y ffordd y mae ffrwydrad o gyfrifiaduron sy’n gallu dysgu drostynt eu hunain yn golygu bod ymennydd dynol, yn ogystal â dwylo dynol, mewn perygl o gael eu disodli gan beiriannau ac algorithmau bellach. Cyfrifwyr, yswirwyr, clercod a dadansoddwyr—mae yna lu o broffesiynau’n agored iawn i hyn. Amcangyfrifir bod 700,000 o swyddi i gyd mewn perygl yn sgil awtomeiddio yng Nghymru yn unig. Ac er y bydd y swyddi gwerth uchel sy’n seiliedig ar wybodaeth a fydd yn parhau yn dilyn yr ail don hon o awtomeiddio yn atyniadol iawn, rhaid inni sicrhau bod y swyddi ar ben arall y sbectrwm—y rhai sy’n ffurfio sylfaen bob dydd ein heconomi—yn atyniadol hefyd.

Yr ail ddadl yr un mor ddilys yn erbyn buddsoddi adnoddau prin yn yr economi sylfaenol yw ei bod yn ymagwedd radical a heb ei phrofi. Ond fel y nodais yn gynharach, mae ein strategaeth economaidd bresennol wedi cael ei phrofi—nid yw’n gweithio. Mae ein methiant i adfywio ein heconomi drwy ddulliau confensiynol wedi golygu ein bod wedi gorfod buddsoddi arian mewn rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i geisio clirio’r llanast. Ond atyniad yr economi sylfaenol yw y byddai’n mynd i’r afael â gwendid ein heconomi a chanlyniadau cymdeithasol hynny. Ac ydy, mae’n radical—dyna’r pwynt. Rydym yn wynebu dadrithiad cyhoeddus mawr. Brexit a’r pedwerydd chwyldro diwydiannol—mae ein hamgylchedd gweithredu yn newid yn radical ac mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. Rhaid i ni symud oddi wrth y confensiynol a rhoi cynnig ar yr arbrofol, gan fod methu rhoi sylw i’n sylfeini yn golygu bod perygl y bydd ein strwythur economaidd bregus yn ei gyfanrwydd yn dadfeilio. Diolch.

Mae’n bleser dilyn yr Aelod dros Lanelli ac rwy’n ei longyfarch ef a’i gyd-Aelodau am fanteisio ar y cyfle pwysig hwn i greu ychydig o le i syniadau newydd, am y rhesymau y mae wedi’u disgrifio mor huawdl—yn sicr, rydym eu hangen, onid ydym? Rwy’n meddwl bod Karel Williams wedi dweud bod yna air yn Gymraeg mewn gwirionedd am ailadrodd yr un camgymeriad drosodd a throsodd, fe’i gelwir yn ‘dwp’. A byddwn yn ailadrodd methiannau’r gorffennol oni bai ein bod yn barod i arbrofi yn y ffordd radical y mae’r Aelod wedi awgrymu.

Wrth gwrs, ni ddylem ochel rhag y ffaith mai’r hyn y mae’r economi sylfaenol ac yn wir, cyfresi eraill o syniadau cysylltiedig—astudiaethau dwfn Mark Lang, a Dave Adamson ar yr economi ddosbarthedig—yn eu cynrychioli gyda’i gilydd, rwy’n meddwl, yw beirniadaeth gydlynol a dewis yn lle’r patrwm polisi economaidd sydd wedi bodoli ers sawl cenhedlaeth, ac sydd yn y bôn bron yn wrthwyneb llwyr i’r hyn a gyflwynwyd i ni fel meddylfryd confensiynol. Felly, er bod dwy elfen graidd i’r economi sylfaenol mewn gwirionedd, sef marchnadoedd gwarchodedig—marchnadoedd lleol gwarchodedig—a chwmnïau gwreiddiedig, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar farchnadoedd byd-eang a chwmnïau tramor, gydag ond ychydig o fudd economaidd hirdymor. Ac felly, rwy’n meddwl ei bod yn bryd troi’r byd yn ôl y ffordd iawn o ran economi Cymru.

Mae’n mynd i alw am ymdrech enfawr, rwy’n credu, a bydd yn cymryd rhai blynyddoedd ac ymdrechion trawsbleidiol yn ôl pob tebyg i drechu’r patrwm cyffredinol. Mae wedi’i wreiddio mor ddwfn yn ein ffordd o feddwl—edrychwch ar yr ardoll prentisiaethau: mewn gwirionedd rydym yn tynnu’r sector manwerthu allan o’r ardoll prentisiaethau, ond o ran y budd hirdymor i weithwyr yn y sector hwnnw mewn cymunedau, edrych ar wella’r sylfaen sgiliau mewn sector a blagiwyd gan sgiliau isel a chyflogau isel, wyddoch chi, yw’r ffordd y dylem fod yn mynd mewn gwirionedd. Felly, mae angen dulliau anghonfensiynol. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn creu corff arloesi cenedlaethol. Ond ni ddylai’r corff arloesi cenedlaethol hwnnw, er mwyn gwella arloesedd—ym mhob sector, ym mhob maes—gael ei gaethiwo gan yr hen fersiwn gul o arloesi sy’n ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg a’r farchnad fyd-eang, oherwydd mae angen i arloesedd fod yno wrth galon ein heconomi sylfaenol hefyd.

Felly, mae yna heriau sylweddol tu hwnt, ond nid yw hynny’n rheswm i ni ochel rhag y cyfle. Byddwn yn datgelu ein strategaeth economaidd newydd yn yr ychydig fisoedd nesaf, rwy’n credu, dros gyfnod y gwanwyn. Nawr yw’r amser i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn feiddgar. Mae atebion y gorffennol wedi methu.

Un o’r themâu y mae Karel Williams a’i dîm wedi cyfeirio atynt ac wedi siarad amdanynt yw’r edefyn canol sydd ar goll. Ac un o’r problemau y mae llawer o’n cwmnïau llwyddiannus canolig eu maint wedi’u hwynebu, dro ar ôl—Rachel’s Dairy, ac mae Avana Bakeries yn enghraifft arall ohono am wn i—pan fyddwn yn creu llwyddiant o fewn ein cwmnïau gwreiddiedig ac yn creu busnesau canolig eu maint sy’n llwyddiannus yw eu bod yn cyrraedd pwynt, wrth gwrs, yn aml oherwydd cynllunio olyniaeth, pan fydd pobl yn awyddus i adael, ac eto, wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw fodd ar gael i ni, ar hyn o bryd, o gadw’r berchnogaeth honno, cadw’r cwmni gwreiddiedig yn wreiddiedig, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth yw canlyniadau hynny.

Yr her o ran polisi yw mynd o’r meta i’r penodol iawn. A fydd y banc datblygu yr ydym yn ei greu yn seiliedig ar y syniadau ynglŷn â chyllid sy’n cael eu hyrwyddo gan Karel Williams a’i dîm? Nid y model cyfalaf menter, nid cael pobl i gynhyrchu arian parod, ond creu cyllid hirdymor mewn gwirionedd. Fel y dywedais eisoes, mae mantais ddwbl gan La Caixa, y banc sy’n eiddo i elusen yng Nghatalonia, sydd â chyfrannau hirdymor mewn busnesau a wreiddiwyd yn ddwfn yn eu heconomi, nid yn unig yn yr ystyr eu bod yn datblygu a chynhyrchu difidend ar gyfer yr elusen sy’n berchen ar y banc, ond hefyd am eu bod yn gwneud yn siŵr fod y cwmnïau llwyddiannus hynny’n parhau’n llwyddiannus am genedlaethau i ddod.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn longyfarch yr Aelodau sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd credaf ei bod yn rhoi lle i geisio edrych ar y strategaeth economaidd a cheisio’i wneud o beth pellter efallai, a cheisio meddwl am syniadau newydd. Felly, rwy’n eu llongyfarch am wneud hynny.

Bu dadlau ers amser maith ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud i ddinas-ranbarthau, gwledydd neu ardaloedd penodol dyfu’n gyflymach nag eraill. Byddai’n hurt ceisio honni bod pobl wedi symud o Geredigion wledig i Senghenydd yn etholaeth Hefin David, fel y gwnaeth fy nhad-cu a fy mam-gu, oherwydd yr ysgolion a’r ysbytai a seilwaith arall. Symud oherwydd y pyllau glo a wnaethant. Byddai pyllau glo newydd a fyddai’n agor yn cael eu galw’n ddiwydiannau creu poblogaeth, gyda’r ysgolion, yr ysbytai a’r diwydiannau bwyd a diod yn cael eu categoreiddio fel gweithgareddau economaidd i wasanaethu’r boblogaeth. Os yw’r pwll glo yno, mae pentref y pwll yn tyfu o’i gwmpas; rhaid i ysgolion a chanolfannau iechyd, rheilffyrdd a ffyrdd, poptai a bragdai dyfu gerllaw i wasanaethu’r boblogaeth leol newydd.

Mae’r cynnig hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn galw am fuddsoddi yn yr economi bob dydd ac ymagwedd newydd tuag ati. Ac rwy’n cefnogi hynny, ond yr hyn yr hoffwn ei glywed yn y ddadl yw beth y mae hynny’n ei olygu’n ymarferol. Beth fyddai’r ymagwedd newydd hon tuag at yr economi sylfaenol mewn gwirionedd? Oherwydd mae’n gwneud synnwyr llwyr i wrando arno a dyna ble y dylem fuddsoddi a dyna y dylem ei ddatblygu. Roeddwn yn falch iawn o glywed Karel Williams yn siarad hefyd yn y Pierhead beth amser yn ôl. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni geisio edrych ar y sefyllfaoedd sydd gennym gyda llygaid newydd a cheisio meddwl am strategaeth a fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau hirsefydlog sydd wedi bod gennym.

Rwy’n credu ei bod yn dal i fod yn wir mai’r prif amrywiad yng Nghymru sy’n achosi i Gymru, neu wahanol rannau o Gymru yn wir, i ffynnu neu beidio â ffynnu, yw’r hyn sy’n dod yn lle prif ddiwydiannau gwreiddiol y chwyldro diwydiannol. Rwy’n credu bod yr hyn sy’n dod yn lle’r pyllau glo yn y Cymoedd yn gwestiwn mor fyw heddiw ag yr oedd yn y 1930au. Rwy’n meddwl mai dyna ble yr hoffwn glywed mwy o’r syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu diwydiant sylfaenol er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa lle y mae’r prif ddiwydiannau hynny wedi diflannu, mewn llefydd fel y Cymoedd, o ble rwy’n dod.

Yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, mae’n sefyllfa wahanol iawn, gan mai’r hyn sy’n cadw Gogledd Caerdydd i fynd yw byd y gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw erioed wedi bod yn etholaeth weithgynhyrchiol, ac eithrio’r Ffatri Ordnans Frenhinol, a ddaeth yn ystod y rhyfel diwethaf a pharhau, rwy’n meddwl, am 50 mlynedd wedyn—yr unig safle gweithgynhyrchu mawr ac wrth gwrs, mae’r cyfan yn dai bellach. Ond yr hyn sydd wedi cadw Gogledd Caerdydd i redeg yn llyfn heddiw yw’r buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng Ysbyty Athrofaol Cymru ym mharc y Mynydd Bychan; ysbyty’r plant; yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd; yr ysbyty deintyddol; ac wrth gwrs, y buddsoddiad enfawr sydd ar y ffordd i greu ysbyty newydd Felindre. Felly, wrth gwrs, mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r mathau hyn yn cysylltu â dyfodiad diwydiannau uwch-dechnoleg newydd. Wrth gwrs, ar safle Felindre bydd parc busnes ymchwil canser a threialon clinigol yn gysylltiedig ag ysbyty newydd Felindre, a phe bai mwy o le yn Ysbyty Athrofaol Cymru, byddai cyfleuster hyd yn oed yn fwy ar gyfer sgil-gynhyrchion o’r ysgol feddygol. Rwy’n credu bod yna wers ehangach i’w dysgu yno am y modd y mae’r ochr economi sylfaenol yn rhyngweithio y ddwy ffordd â rhannau mwy symudol o’r economi.

Os edrychwch ar rai o ddinasoedd a rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau, rwy’n credu y gallwch weld bod llefydd fel Austin, Texas, a Columbus, Ohio, wedi tyfu fel prifddinasoedd taleithiol i seilwaith y sector cyhoeddus, gan ddarparu gweinyddiaeth daleithiol a phrifysgolion taleithiol enfawr, mawreddog gyda llawer o adnoddau. Nawr, dyna ble y mae diwydiannau uwch-dechnoleg newydd yn awyddus i sefydlu, gan fod Apple a Google wedi penderfynu lleoli eu hail gampysau yn Austin am fod y wefr gywir i’w theimlo yno. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr ardaloedd twf mwyaf llwyddiannus, ein bod yn rhoi ein hadnoddau tuag atynt, a’n bod yn cynllunio’n ofalus lle y dylent fod ledled Cymru, a rhoi’r ysgogiad yno yn ogystal â cheisio edrych ar yr economi sylfaenol a gwneud yr hyn a allwn i ddatblygu hynny. Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am gael cymryd rhan yn fyr yn y ddadl hon heddiw, a hoffwn longyfarch yr Aelodau sy’n meddwl yn economaidd yn y ffordd hon ynglŷn â ble rydym yn mynd yng Nghymru heddiw. Diolch.

Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwyf innau hefyd yn llongyfarch yr Aelodau am gyflwyno’r ddadl ar y pwnc hwn—pwnc nad oeddwn yn gwybod rhyw lawer iawn amdano yn flaenorol. Fel y clywsom eisoes heddiw, mae’r cysyniadau ynglŷn â’r economi sylfaenol yn ymgorffori egwyddorion ‘mittelstand’ a rhyddfreinio cymdeithasol, ac mae potensial mawr, rwy’n credu, i Gymru, o ystyried y ffaith fod canran sylweddol o’n gweithlu yn cael ei chyflogi mewn sectorau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol. Felly, rwy’n gobeithio y gallaf ddod â rhai syniadau fy hun i’r ddadl y prynhawn yma, o ran cefnogi egwyddorion economi sylfaenol yng Nghymru.

Rwy’n meddwl bod y ffaith fod strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cydnabod y gallu i gynnwys busnesau fel rhyddfraint gymdeithasol ar gyfer addysg a sgiliau yn rhywbeth i’w groesawu. Hefyd, wrth gwrs, byddai sefydlu colegau prifysgol technegol yn cyflwyno elfen fusnes ac entrepreneuriaeth i lawer o gyrsiau galwedigaethol a byddai, wrth gwrs, yn dod â dysgwyr, colegau, prifysgolion, a busnesau at ei gilydd, gan roi blaenoriaeth i sgiliau a gwella statws cymwysterau galwedigaethol. Yn ymarferol, rwy’n meddwl y bydd hyn yn golygu y bydd aelodau o gymunedau busnes lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan ar baneli llywodraethu ysgolion, i roi cyngor ar y cwricwlwm, er mwyn creu amgylchedd lle y gall myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau parod am waith y mae’r diwydiant yn dweud eu bod eu hangen, yn ogystal, wrth gwrs, â gweithio gyda chyflogwyr i gynyddu amrywiaeth prentisiaethau. Roedd lledaenu’r twf ar draws y wlad, wrth gwrs, yn flaenoriaeth yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac mae hyn yn cynnwys cyllid seilwaith ychwanegol i ddatgloi twf mewn ardaloedd lle y mae cysylltedd yn ei ddal yn ôl, gan ystyried cydbwysedd gwariant y pen, wrth gwrs, rhwng rhannau gwahanol o’r DU wrth ddatblygu rowndiau cyllid seilwaith yn y dyfodol. Rydym yn dal i aros, wrth gwrs, am strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru, ond pan gaiff ei chyhoeddi, rwy’n sicr yn gobeithio y bydd yn rhoi pwyslais cyffelyb ar fynd i’r afael â’r anghyfartaledd rhanbarthol mewn ffyniant economaidd a’r prinder sgiliau sy’n bodoli.

Mae pwynt 2 y cynnig yn arbennig o gryf yn fy marn i. I mi, ers rhai blynyddoedd rwyf wedi bod yn awyddus iawn i gael siarter cig coch—rhywbeth yr hoffwn i Lywodraeth Cymru ei ystyried eto—ac mae hyn yn rhywbeth a allai hyrwyddo caffael lleol mewn perthynas â’n cynnyrch cig coch rhagorol. Rwyf wedi gofyn o’r blaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael y gallu i graffu ar achos busnes y banc datblygu i sicrhau bod busnesau’n cael eu cefnogi’n llawn drwy’r argymhellion. Byddai craffu o’r fath, rwy’n credu, yn arwain at ei ddatblygu ymhellach yn fodel a fyddai o ddifrif yn cefnogi’r economi sylfaenol. Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle yn hynny o beth hefyd.

Rwy’n meddwl y dylai’r banc datblygu gynnwys elfen ranbarthol yng Nghymru hefyd, gan roi cyfle i fusnesau bach a chanolig eu maint gael gafael ar gyllid yn lleol. Rwyf eisiau gweld cyfres o fanciau stryd fawr rhanbarthol yn cael eu sefydlu ar draws Cymru, a mynediad lleol at gyllid ar gyfer busnesau bach. Rwyf hefyd am weld system lle y gellir cyflwyno nifer o fanciau buddsoddi rhanbarthol daearyddol, atebol, Cymreig yn ogystal, gan ddod â chyllid yn agosach at fusnesau ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o’r siaradwyr heddiw wedi siarad am y gwahaniaethau mewn gwahanol rannau o Gymru a’r gwahanol anghenion, felly rwy’n meddwl y byddai cael ffocws lleol i gyllid rhanbarthol yn dda hefyd.

Yn olaf, mae Deddf Lleoliaeth 2011 hefyd wedi datganoli nifer o bwerau arwyddocaol i gymunedau lleol a ddylai eu grymuso i gefnogi’r economi sylfaenol. Felly, mae Lloegr wedi gweithredu’r hawliau cymunedol ers 2011, ac mae’r Alban hefyd yn gweithredu ei fersiwn ei hun o hawliau cymunedol. Felly, byddwn yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r ymagwedd hon hefyd, gan fy mod yn credu y byddai hynny’n helpu cymunedau a chynghorau i ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i gefnogi’r economi sylfaenol. Mae gan yr economi sylfaenol rôl arwyddocaol i’w chwarae, rwy’n meddwl, ac i sicrhau bod gan Gymru economi iach. Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw ac rwy’n hapus i ddangos fy nghefnogaeth i’r cynnig.

Mae’n bleser gennyf siarad mewn dadl gyda’i rhagflas sinematig ei hun, gyda’r Athro Karel Williams ar ei ymweliad â’r Pierhead fel y soniodd Julie Morgan. Mae’n anrhydedd personol anarferol i gael eich ethol i gynrychioli eich cymuned, lle y cawsoch eich geni a’ch magu, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ysgogi’r meddwl ynglŷn â beth y byddai’r hyn sydd bob amser wedi bod yn gartref yn gallu bod.

Fel academydd, mae gennyf ddiddordeb mewn busnes a’r rolau y mae cwmnïau bach yn eu chwarae yn ein heconomi. Rwyf wedi cyfweld llawer o berchnogion busnes yn ne Cymru a gorllewin Lloegr ar gyfer fy ymchwil. Fodd bynnag, wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon heddiw, euthum am dro ar hyd Heol Hanbury a’r stryd fawr ym Margoed, a meddyliais am y busnesau sy’n gweithredu yno, o gaffi Rossi a charpedi Chisholms’ i gyflenwyr anifeiliaid anwes a gardd Thomas, sydd wedi bod yno ers y 1950au. Treuliais amser yn gwerthfawrogi eu bodolaeth, y rhan y maent wedi chwarae yn fy nghefndir ac yn fy mywyd wrth i mi fynd i’r ysgol yn Heolddu.

Mae busnesau cynhenid, sydd wedi cael eu taro ond heb eu trechu, yn darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n cyfrannu at ein bywydau bob dydd. Mae’r busnesau hyn sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau gwahanol yn bell o fod yn ddiogel rhag ergydion economaidd byd-eang, ond hwy yw’r sylfaen angenrheidiol i’n heconomïau lleol. Fel y nodwyd yn y cynnig, gall cwmnïau bach ffynnu mewn amgylchedd o’r fath ac maent yn llai tebygol o adael, ac yn lle hynny, gallant wreiddio yn eu cadwyni cyflenwi lleol. Yma, gallant dyfu a chyfrannu at adfywio canol y dref.

Mae fy nealltwriaeth i o hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar y cysyniad o gyfalaf cymdeithasol. Mae cyfalaf dynol yn cyfeirio at y wybodaeth a’r sgiliau sydd gan yr unigolyn, ac mae cyfalaf cymdeithasol yn cyfeirio at y graddau y gall unigolion elwa ymhellach ar y wybodaeth sy’n bodoli yn eu hamgylchedd. Mae busnesau bach yn gwybod hyn yn reddfol ac yn cysylltu â’i gilydd mewn ffordd nad yw’n digwydd gyda chwmnïau mwy, ac yn wir, mae’r profiad yn fwy gelyniaethus ymhlith cwmnïau mwy o faint. Gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn gyfalaf cymdeithasol ‘pontio’, a ddisgrifir hefyd gan Mark Granovetter yn ei waith arloesol fel ‘cryfder cysylltiadau gwan’, mae cwmnïau’n ffurfio cydberthnasoedd economaidd sy’n dod yn gymdeithasol eu natur ac mae cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth bersonol, ymddiriedaeth barhaus a gwybodaeth ddyfnach am ei gilydd. Efallai eich bod wedi’i weld pan fyddwch yn defnyddio busnesau lleol a’r ffordd y maent yn siarad am ‘ni’.

Mae yna gorff o ymchwil sy’n awgrymu bod trosglwyddo gwybodaeth rhwng cwmnïau bach yn dylanwadu ar dwf ac mae hyn ynddo’i hun yn cael ei ddylanwadu gan y rhwydwaith busnes sy’n cefnogi cyfalaf cymdeithasol. Er mwyn bod o fudd yn y tymor hir, dadleuwyd bod angen ymestyn rhwydweithiau y tu hwnt i gyd-destunau cymdeithasol lleol, ac mae’n bwysig am fod topograffi Cymoedd de Cymru wedi bod yn rhwystr i hyn, a’r canlyniad yw gwaith ar gyflogau isel nad yw’n galw am lefel uchel o sgiliau yn yr economi sylfaenol.

Mae ein hamgylchedd yn ein hannog i feddwl mewn perthynas â’n cysylltiadau â’r ddinas, yn hytrach nag edrych ar ein cymdogion yn y cymoedd i’r dwyrain a’r gorllewin. Ac ar y cyd â fy nghyd-Aelod Vikki Howells AC, rwy’n dadlau dros newid yn ein ffordd o feddwl a’n defnydd o iaith. Dylem ystyried ein cymunedau o Gwm Cynon i Flaenau Gwent fel y cymoedd gogleddol, lleoedd cysylltiedig a chyd-ddibynnol, ac nid sbôcs yn cysylltu â chanol dinesig bywiog. Drwy wneud hynny, cawn well dealltwriaeth o sut y gallwn adfywio ein ffyniant economaidd, mynd i’r afael â heriau seilwaith, a thyfu cyfalaf cymdeithasol. Dylai economi sylfaenol ymestyn ar draws y cymoedd gogleddol.

Yn ei dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i’r fasnachfraint reilffyrdd a’r metro, mae Dr Mark Lang—a grybwyllwyd eisoes gan Adam Price—yn cyfeirio at y ffaith fod yna

'ddiffyg tystiolaeth ryngwladol i gefnogi’r farn fod buddsoddiad trafnidiaeth yn arwain at ganlyniadau economaidd neu gymdeithasol cadarnhaol'.

Mae hefyd yn mynegi pryderon y gallai

'diffyg dealltwriaeth ofodol fanwl o dde-ddwyrain Cymru ar gyfer cynllunio rhwydwaith trafnidiaeth integredig'

fod yn llesteiriol. Mae’n werth lleisio’r pryderon hyn, a bydd y pwyllgor yn eu hystyried yn fanwl.

Nid wyf yn amau’r farn y bydd cysylltiadau ar draws y cymoedd ynddynt eu hunain yn cynorthwyo twf. Ond os yw ein cymunedau i ffynnu, os ydym i gysylltu mewn ffordd nad ydym wedi’i wneud yn fy oes, os ydym i harneisio potensial ein cronfeydd wrth gefn o gyfalaf cymdeithasol, yna mae angen i ni wneud y cysylltiadau hyn â’r cyfalaf cymdeithasol ar draws y cymoedd gogleddol.

A gaf fi ddechrau drwy ddweud, pe bawn i wedi llofnodi’r ffurflen yn y lle iawn, y byddwn wedi bod yn un o gydgynigwyr y cynnig hwn? Rwy’n falch fy mod yn un o’r cefnogwyr o leiaf. Rwyf eto i fynd ar y cwrs sgiliau sylfaenol, ‘bywyd yn y swyddfa fodern’, ond fe wnaf hynny ar ryw bwynt—rwy’n addo hynny i fy nghynorthwyydd personol.

Fel y clywsom yn yr areithiau rhagorol hyd yn hyn—ac rwy’n hoff o’r dadleuon meinciau cefn hyn, oherwydd credaf fod yr ystod o bynciau yr ydym yn eu trafod yn wirioneddol addysgiadol, ac mae lefel y consensws hefyd, a’r her a gynhyrchant yn wirioneddol braf—rwy’n credu bod hwn yn faes sydd wedi’i esgeuluso’n fawr mewn gwirionedd, oherwydd mae mor wydn ac mor hanfodol i fywyd bob dydd.

Ond wyddoch chi, fel y soniodd Hefin am gerdded ar hyd y stryd fawr ym Margoed—ces fy magu yng Nghastell-nedd, ac yn Sgiwen yn benodol. Ac rwy’n cofio, yn fachgen, cael fy hel i siopa, os oedd fy mam, a oedd yn helpu i redeg y busnes teuluol, yn arbennig o brysur. Gallwn fynd at Mr Jones y cigydd—a Mr Jones oedd ei enw—a gallwn ddweud, ‘Rydym angen cig ar gyfer y penwythnos’, a dyna’r oll y byddai angen i mi ei ddweud wrtho. Byddai’n ei baratoi, byddwn yn ei gasglu, a byddai’n galw’n ddiweddarach i gael ei dalu. Mae’n wasanaeth hynod, ac yn rhoi atgofion pleserus iawn i mi. Ond mae hefyd yn llawn potensial ar gyfer twf economaidd ar gyfer menter, ac mewn gwirionedd, ar gyfer caniatáu i bobl ffynnu yn eu cymunedau, oherwydd yr hyder a gânt.

Rwy’n credu ein bod yn byw mewn oes pan fo pobl yn teimlo’u wedi’u dadleoli ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi. Mae diffyg gwerth cyffredin, gwerth cydradd, yn ein poblogaethau yn y gwledydd gorllewinol yn bryder go iawn. Rwy’n credu bod y neges ynglŷn ag ‘adfer rheolaeth’ wedi ymwneud â llawer mwy na dadl Brexit yn unig. Mae yna broblem go iawn, rwy’n credu, mewn cymdeithasau gorllewinol yn yr ystyr fod yna bobl sy’n llwyddiannus yn economaidd, ac yna ceir y gweddill. Mae’n broblem go iawn. Felly, o ran bodlonrwydd y dinesydd, a ffydd y dinesydd yn y system economaidd wleidyddol gyfan, ni ddylid esgeuluso’r pwnc hwn.

A gaf fi roi un neu ddwy o enghreifftiau? Gofal cymdeithasol, gofal plant: y peth cyntaf yma yw ei fod yn angen cynyddol, oherwydd patrymau’r newid yn ein poblogaeth—pobl yn byw yn hirach, ond hefyd, dau riant yn chwilio am waith. Ond nid ydym wedi dal i fyny â’r ffaith y dylid gwobrwyo’r sgiliau hyn yn well. Mae’n debyg mai dyna’r broblem sylfaenol sydd gennym yn awr, na all y swyddi hynny roi cyflog byw priodol mewn gwirionedd. Felly, mae hynny’n rhywbeth sy’n rhaid i’n heconomi edrych arno a’i herio. Ond mae’n sector pwysig iawn, mae’n un sy’n gwahodd arloesedd—yr amrywiaeth o wasanaethau sydd eu hangen i gefnogi pobl yn eu cartrefi neu i gael gofal plant effeithiol iawn yn ystod oriau cyfleus y mae galw amdanynt. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno.

Hefyd, rhaglenni penodol yr ydym yn eu noddi i gynyddu gofal plant mewn ardaloedd difreintiedig i ganiatáu i bobl gael mynediad at swyddi—gwirioneddol bwysig, ond weithiau nid ydym hyd yn oed yn dechrau drwy sicrhau bod y cyfleoedd gwaith gofal plant hynny’n cael eu rhoi i bobl leol. Byddai hynny’n ddechrau, oni fyddai, ac yn ffordd dda o rymuso’r economi leol honno. Mae hyn yn mynd drwy lawer o gaffael, fel y crybwyllwyd eisoes. Rydym yn darparu llawer o wasanaethau—gwasanaethau cymdeithasol, ystod o wasanaethau a ddarperir gan asiantaethau cyhoeddus—ac yn aml, cânt eu rhoi i bobl nad ydynt yn byw yn yr ardal, sydd braidd yn ddosbarth canol, pan allai pobl leol fod yn gwneud y swyddi hynny’n effeithiol iawn. Mae angen i ni gofio’r egwyddor honno.

Rwy’n credu bod rhai meysydd eraill—clywsom yn gynharach am brosiectau ynni cymunedol; mae eu rheolaeth a’u cynnal a’u cadw yn rhywbeth y gall pobl leol fod ynghlwm wrtho. Rwy’n credu bod yna amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael yn y sector dinesig lle y gall pobl heb sgiliau ffurfiol redeg sefydliadau, codi degau o filoedd o bunnoedd i elusennau: gellir cyfeirio’r math hwn o weithgaredd i mewn i’n heconomi hefyd. Mae’r potensial hwnnw yno gyda phobl. Ac rwy’n credu y gallai llawer o asedau cymunedol elwa o fabwysiadu’r ymagwedd hon.

Mae twristiaeth yn weithgaredd delfrydol i’w archwilio o safbwynt yr economi sylfaenol. Mae’r potensial yn enfawr. Rydym yn byw yng Nghymru. Mae’n gwahodd ymwelwyr i ddod, mewn gwirionedd—y cyfalaf twristaidd, beth bynnag y’i galwn, neu’r cyfalaf diwylliannol sydd gennym. Ond gallem ddarparu gwasanaethau unigryw yn well. Dyna’r hyn y mae pobl ei eisiau. Maent yn awyddus i aros mewn gwestai gwirioneddol ddiddorol, unigryw sy’n wahanol i bob man arall. Maent eisiau diwylliant bwyd. Mae da byw wedi bod yn nwydd pwysig i ni ers amser hir, ond nid ydym wedi mynd y cam pellach hwnnw mewn gwirionedd i sicrhau ein bod yn gorffen y cynnyrch uwch yn y gadwyn fwyd. Felly, mae yna lawer iawn o bethau y credaf y gellir adeiladu arnynt. Ac wrth rymuso pobl leol a rhoi hyder iddynt ffynnu, rwy’n meddwl y byddai’n ffordd wych o adfer rhywfaint o optimistiaeth economaidd yn ein cymunedau.

Heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin, cyhoeddodd Canghellor Trysorlys y DU ryddhad ardrethi busnes o £1,000 i’r tafarndai yn Lloegr, o dan bwysau gan ei feinciau cefn ei hun yn ddiau. Er mai’r dafarn, yn wir, yw’r unig fusnes sydd ar ôl mewn rhai cymunedau ar ôl cau’r siop, yr ysgol gynradd, a’r ganolfan gymunedol, rwy’n gobeithio y gallwn ni yng Nghymru fod ychydig yn fwy craff o ran sut i gadw glud cydlyniant cymunedol at ei gilydd. Mae’n drueni nad oes gennym lais mwy croch dros roi rhyddhad ardrethi a rhenti i siopau ffrwythau a llysiau, sydd o dan lawer mwy o fygythiad na thafarndai, yn hytrach nag i werthwyr alcohol, gyda’r holl broblemau cysylltiedig y gall hwnnw eu hachosi, yn ogystal â’r cyfle i gymdeithasu gyda’n cymdogion.

Mae’n ofid clywed bod y brif siop ffrwythau a llysiau yng nghymuned Llanedern, a gynrychiolaf, yn ystyried rhoi’r gorau iddi ar ôl dros 20 mlynedd yn gwasanaethu’r gymuned oherwydd mae hi wedi dweud nad yw’n mynd i allu fforddio’r rhent uwch pan gaiff y ganolfan siopa ei hailddatblygu gan arwain yn anochel at godi’r rhenti. Felly, mae hynny’n achos pryder enfawr o ran sut y mae’r gymuned honno yn mynd i allu cael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres yn y dyfodol. A gallwn weld mai anaml y bydd llawer o’r siopau cornel sydd wedi goroesi mewn cymunedau yn cynnig unrhyw fwyd go iawn ffres.

Oddeutu tair blynedd yn ôl, gorfodwyd Cyngor Caerdydd i roi’r gorau i gyflogi’r ddau aelod o staff a oedd yn rhedeg y caffi cymunedol a oedd yn darparu bwyd ffres ar gyfer pobl a oedd yn aml yn byw ar eu pen eu hunain ac yn analluog bellach i goginio eu prydau bwyd eu hunain. Er y cafwyd ymgais gychwynnol gan gorff gwirfoddol i’w redeg o’r tu allan i’r gymuned, methodd hwnnw am nad oedd ganddynt yr ymrwymiad neu’r drefniadaeth angenrheidiol i redeg gwasanaeth cyson, dibynadwy. Felly, fe ddaeth i ben cyn dechrau’n iawn. Felly, rwy’n obeithiol y gall y cais cymunedol newydd i ailagor y caffi fod yn lud i gadw ein cymuned gyda’i gilydd, ond hefyd yn fecanwaith ar gyfer hyrwyddo bwyd go iawn i deuluoedd na fyddant yn aml yn paratoi bwyd gartref ond yn hytrach, yn prynu bwyd wedi’i brosesu a’i weini heb unrhyw fewnbwn eu hunain, a hefyd ar gyfer darparu profiad gwaith i bobl ifanc a allai fod angen gwell dealltwriaeth o’r gofynion angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y diwydiant manwerthu.

O edrych ar y gwasanaeth iechyd, mae Cymru’n hyfforddi llawer o feddygon, nyrsys, a gweithwyr mewn proffesiynau perthynol eraill. Er bod y gwasanaethau hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein cymunedau, mae gennym brinder parhaus o nyrsys, bydwragedd, meddygon, a gweithwyr eraill mewn proffesiynau perthynol i iechyd sydd eisiau aros a gweithio yng Nghymru. Mae hon yn broblem y mae gwir angen i ni ei deall, oherwydd ar hyn o bryd, yr unig bobl sy’n elwa yw’r asiantaethau cyflogaeth, sy’n codi premiymau mawr iawn am ddarparu staff ychwanegol ar ein cyfer.

Felly, roeddwn yn falch iawn neithiwr o glywed gan is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a fynychodd y digwyddiad yn Aberdaugleddau, fod Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac eraill i recriwtio mwy o fyfyrwyr o Gymru i weithio yn y proffesiwn iechyd, gan ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd y bobl hyn yn mynd i fod eisiau aros a gweithio yng Nghymru. Rwy’n credu bod honno’n enghraifft ardderchog o sut y gallwn hybu’r economi sylfaenol.

Ond rwyf hefyd yn awyddus i ailadrodd yr her sy’n ymwneud ag awtomeiddio. Mae’r arbenigwyr yn dweud wrthym fod traean o’r holl swyddi presennol ar hyn o bryd yn mynd i gael eu colli o ganlyniad i awtomeiddio. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod angen sicrhau y gallwn ddefnyddio awtomeiddio i wella’r economi sylfaenol yn hytrach na’i weld yn unig fel ffordd o gael gwared ar staff. Mae cymaint o waith sy’n parhau heb ei wneud yn ein cymdeithas y mae angen i ni allu ailystyried yr adnoddau hynny, i’w rhyddhau, fel y gallwn fynd i’r afael â rhai o’r pethau yr ydym eisoes wedi’u trafod heddiw, boed yn drais yn y cartref, perthnasoedd iach, diogelwch tân, cartrefi gweddus—mae’r rhain yn bethau y mae gwir angen i ni feddwl yn ddwfn sut y gallwn sicrhau nad yw awtomeiddio ond yn ffordd syml o dorri gwasanaethau, ond ei fod yn gwella gwasanaethau, ac yn sicrhau swyddi gwell wedi’u gwneud gan bobl yn lle swyddi y gellir eu gwneud gan beiriannau.

Er nad yw’n ddadansoddiad cyflawn o’n heconomi, mae’r economi sylfaenol yn ddadansoddiad pwysig iawn o ran allweddol ohoni. O ystyried yr anghenion y mae’r sectorau yn eu diwallu, mae’r economi sylfaenol yma i aros, ond nid yw polisi cyhoeddus ym mhob rhan o’r DU wedi mynd i’r afael yn ddigonol â sut y gallwn ei helpu i ffynnu ac i ddarparu swyddi sy’n cefnogi bywoliaeth weddus. Rwyf am ganolbwyntio yn fy araith ar y rôl benodol y gall y sector cyhoeddus ei chwarae i gefnogi’r economi sylfaenol yn gyffredinol.

Mae cyrff cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y cynghorau lleol, cyrff y GIG a phrifysgolion yn hynny, yn weithredwyr economaidd enfawr, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau hanfodol. Mae ganddynt allu i ysgogi eu heconomïau lleol drwy gaffael. Mae rhai yn gweld y rôl hon yn agosach at eu cenhadaeth graidd nag eraill. Er bod hyn yn ôl pob tebyg yn ddyhead, o leiaf, i gynghorau lleol, rwy’n barod i fentro nad oes llawer o sgyrsiau’n digwydd yn ein prifysgolion, er enghraifft, ynglŷn â sut y gallant fynd ati’n rhagweithiol i dyfu’r gadwyn gyflenwi leol.

Nid yw’n realistig disgwyl caffael popeth o’r economi leol, ond mae angen ymagwedd at gaffael sy’n meithrin yr economi leol, gan helpu i ddatblygu a thyfu busnesau yn y gadwyn gyflenwi leol dros y tymor hir, a heb fodloni’n syml ar fuddiannau cymunedol neu ddull cod post o weithredu.

Mewn cynhadledd ddiweddar a gynhaliais yng Nghastell-nedd ar yr economi ranbarthol, clywsom am gontractwyr yn cael eu rhwystro rhag gwneud cais am waith adeiladu oherwydd bod y contractau ar osod yn rhy fawr, pan allent fod wedi cael eu dadgyfuno a’u gwneud yn hygyrch i gwmnïau lleol. Yr hyn sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â materion o’r fath yw dyletswydd datblygu economaidd lleol newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus mawr, a fyddai’n mynd â ni y tu hwnt i’r syniad o fanteision cymunedol.

Crybwyllodd Julie Morgan enghreifftiau o Ohio, ac yn Cleveland yno, mae cyrff cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd, wedi datblygu model cydweithredol, lle y maent yn mynd ati’n rhagweithiol mewn partneriaeth i gefnogi datblygu economaidd lleol drwy eu gallu caffael. Rydym yn wlad fach a dyma y dylem fod yn ei wneud yng Nghymru hefyd. Ond mae yna rôl fwy uchelgeisiol i gyrff cyhoeddus ei chwarae mewn rhannau allweddol o’r economi sylfaenol. Cymerwch y sector gofal cymdeithasol, y cyfeiriodd nifer o’r siaradwyr ato eisoes: sector sy’n tyfu ac sy’n rhan annatod o gymunedau lleol, ac un lle y mae’r sylfeini y bydd yn tyfu arnynt yn y dyfodol yn ansicr a dweud y gwir. Gallai cynghorau fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi gofal a’u rhentu i weithredwyr di-elw. Ceir bwlch enfawr rhwng maint yr elw y mae gweithredwr masnachol yn galw amdano a’r enillion cyfredol ar gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol, a rywle rhwng y ddau bwynt ceir pwynt lle y gall y sector cyhoeddus fuddsoddi er mwyn cael enillion gwell, ac er mwyn i ofal gael ei ddarparu’n rhatach a chyda chyflogau gwell i’r gweithlu na’r hyn sy’n digwydd heddiw. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr gofal yn fenywod, wrth gwrs, felly gadewch i ni gydnabod heddiw, o bob diwrnod, yr angen arbennig i roi sylw i delerau ac amodau yn y sector hwn.

Cymerwch y sector ynni, sydd hefyd wedi cael ei grybwyll. Mae ein cymunedau wedi’u gwahanu oddi wrth eu gallu i gynhyrchu ynni, gan arwain at golli gwerth i gwmnïau cyfleustodau mawr ac at dlodi tanwydd, problem nad eir byth i’r afael â hi drwy’r dull manteision cymunedol, ni waeth pa mor hael y bo. Ceir 300,000 eiddo preswyl ar draws ardal ranbarthol bae Abertawe. Bydd angen i nifer fawr ohonynt gael mesurau effeithlonrwydd ynni neu osod ynni adnewyddadwy, a gall pob un fanteisio ar ynni rhad. Mae cyngor Nottingham yn berchen ar, ac yn gweithredu cwmni cyflenwi ynni Robin Hood Energy. Mae wedi creu swyddi lleol, wedi lleihau tlodi tanwydd, wedi cyfyngu ar aneffeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae’n cynhyrchu refeniw i’w ailfuddsoddi’n lleol. Maent yn ystyried ehangu, gyda llaw, felly mae’n sector arall sy’n tyfu.

Heddiw hefyd, dylem gydnabod peth o’r gwaith arloesol iawn sydd ar y gweill ym maes ynni a gofal, a meysydd eraill, gan ddarparwyr tai cymdeithasol yn ein cymuned sy’n bartneriaid allweddol yn yr economi sylfaenol. Gallai ymyrraeth leol ddoeth drawsnewid yr economi sylfaenol ar draws, dyweder, dinas-ranbarth Bae Abertawe. Rydym ar fin cael bargen ddinesig. Yr hyn yr ydym ei angen ochr yn ochr â’n bargeinion dinesig yw bargeinion cymunedol i ranbarthau cyfan, i fuddsoddi mewn modelau cynaliadwy yn yr economi sylfaenol er mwyn manteisio ar gostau benthyca isel, yn ogystal â photensial asiantaeth bondiau trefol newydd y DU a’r dull arloesol o reoli cronfa bensiwn ar y cyd. Ceir enillion hirdymor i’r sector cyhoeddus ac elw enfawr i’r gymuned o ran yr economi a lles.

Mae’r economi sylfaenol yn ymwneud ag edrych yn ehangach, ac yn llai economistig ar yr economi—gan fod o ddifrif ynglŷn â lles. Nid yw’n ymwneud ag allgaredd, ond â model economaidd cynaliadwy ag iddo orwel hirdymor. Mae’n gofyn am beth dychymyg a’r hyder i edrych ar yr economi mewn modd gwahanol wedi’i lywio gan ymdeimlad o bwrpas cyffredin.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i minnau hefyd siarad yn y ddadl hon. Mae’r economi sylfaenol, fel y mae Sefydliad Bevan yn dweud yn gywir, yn enw mawreddog ar y gweithgareddau busnes a ddefnyddiwn bob dydd ac a welwn o’n cwmpas. Efallai na fydd busnes fel y diwydiannau manwerthu, gofal, bwyd, iechyd ac ynni yng Nghymru sydd wedi cael eu crybwyll yn meddu ar apêl agweddau eraill o’r economi, ond mae’n hen bryd i bawb ohonom roi’r parch y maent yn eu haeddu iddynt. Rwy’n credu hefyd fod gan gaffael cymdeithasol rôl hanfodol ac allweddol i’w chwarae yn ysgogi ein heconomi.

Yng Nghymru, mae’r economi sylfaenol yn darparu swyddi go iawn i dros hanner miliwn o bobl. Mae’n darparu gwasanaethau hanfodol sy’n ffurfio curiad calon cymunedau lleol fel y siop y pentref neu’r lleoliad gofal neu brosesu neu ddosbarthu neu ganolfannau iechyd. Mae’n hanfodol i gymdeithas ddiogel, gynaliadwy a saff sy’n llai dibynnol ar wledydd ehangach a llinellau cyflenwi ansicr. Mae’r economi sylfaenol hefyd yn gymharol sefydlog yn erbyn ergydion economaidd allanol—sy’n allweddol yn sgil Brexit. Mae wedi’i gwasgaru’n weddol gyfartal ledled Cymru. Ond yn yr un modd, profwyd bod ei hamodau a’i thelerau gan amlaf yn dlotach, fel y soniwyd eisoes—ac mae’n cynnwys mwy o fenywod na dynion. Felly, gallai mynd i’r afael â’r materion hyn wella cyflogau gweithwyr Cymru yn ogystal â’n sylfaen economaidd ac ariannol.

Rydym yn gwybod ein bod yn byw mewn byd sy’n newid yn gyson, ac nad yw sicrwydd swydd am oes ar gael i bobl bellach. Os ymwelwch ag unrhyw archfarchnad genedlaethol fe welwch diliau hunanwasanaeth lle y byddai aelod o staff yn sefyll o’r blaen, fel y crybwyllodd Lee Waters a Jenny Rathbone. Eto i gyd, yn y byd hwn o newid sydyn rydym yn gwybod bod un peth yn gyson, sef bod gwaith yn rhoi cyfle i bobl ennill arian a’r cyfle i wella’u hunan-barch yn eu bywydau, ac yn ychwanegu at les cymuned a rennir lle y mae llwyddiant pawb yn effeithio ar bob un ohonom. Mae’n rhaid i bawb ohonom gefnogi pwyslais o’r newydd ar yr economi sylfaenol, oherwydd mae’n hanfodol wrth i ni geisio trechu tlodi, a’r cyfan mewn byd lle y mae cyllid y sector cyhoeddus yn crebachu’n enfawr a rhwydi diogelwch lles wedi’u cyfyngu fwyfwy.

Heddiw yn y DU, mae 13.5 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi. O’r rhain, mae 7.9 miliwn yn oedolion o oedran gweithio. Yn anffodus, yn fwyaf syfrdanol, mae 66 y cant o aelwydydd sy’n gweithio yn byw mewn tlodi—ac mae ganddynt rywun sy’n gwneud gwaith am dâl. Pan gefais fy nghyfweld gan newyddiadurwr gwleidyddol yr ‘Argus’, Ian Craig, yn gynharach eleni, gofynnodd i mi beth oedd fy mlaenoriaethau fel Aelod Cynulliad dros Islwyn. Roedd yr ateb yn amlwg. Dywedais wrtho, fel oedolyn ifanc, fy mod wedi cyfrannu at y gwaith o sefydlu nifer o gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, gan gynnwys ystad dai Ty Sign lle rwy’n byw heddiw—y fwyaf yn fy mwrdeistref sirol—ac fel Aelod o Gynulliad Cymru, rwyf am wneud popeth y gallaf ei wneud i drechu tlodi, yn Islwyn ac ar draws Cymru.

Y broblem fwyaf i’r bobl a welaf yn fy swyddfa, fel y bydd nifer yn y Siambr hon yn eu gweld yn rheolaidd, yw tlodi. Talu eich biliau, cael safon byw sy’n weddus, hawliau cyflogaeth, gwaith sicr, hyfywedd economaidd: mae llawer o bobl heddiw yn dioddef drwy gyfres gyfan, tswnami o bethau, a orfodir arnynt, pethau sy’n cynyddu iechyd meddwl gwael, llwyth gwaith ein hysbytai ac anhapusrwydd pobl.

Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser.

Rwy’n arbennig o bryderus nad yw pobl mewn gwaith yn ennill digon. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, roedd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree ‘UK Poverty: Causes, costs and solutions’ yn bwysig a hefyd yn galondid. Rwy’n llwyr gefnogi’r alwad am gyflog ac amodau gwell. Fe allwn ac fe ddylem bwyso i gael y cyflog byw gwirfoddol wedi’i gyflwyno fel blaenoriaeth uchel ym mhob swydd yn y sector cyhoeddus a’i gyflwyno mewn contractau caffael cyhoeddus. Dylai cyflogwyr sector preifat gael eu cynorthwyo a’u hannog i’w gyflwyno. Mae’n briodol ein bod ni yn Llafur Cymru yn lledaenu hyn ac yn arwain y ffordd ac fel y cyfryw, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru Lee Waters, Hefin David, Vikki Howells a Jeremy Miles am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwyf am ychwanegu fy llais at alwad am arloesedd, dewrder ac uchelgais gyda strategaeth economaidd newydd gadarn, ac addas i’r diben, ar gyfer Cymru fodern, fywiog a ffyniannus. Diolch.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith—Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:52:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy araith drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar heddiw? Mae wedi bod yn bleser pur cael gwrando ar bob Aelod. Daw’r ddadl hon ar yr economi sylfaenol ar adeg bwysig iawn oherwydd, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod, ar hyn o bryd rwy’n edrych o’r newydd ar ein blaenoriaethau economaidd ac fel rhan o’r gwaith hwn, rwyf wedi bod yn siarad â phobl, busnesau, undebau llafur a sefydliadau ledled Cymru.

Mae wedi fy nharo bod llawer o nodweddion cryf yn perthyn i’r economi. O Airbus a Toyota yn y gogledd i BAMC a GE yn y de, ceir arloesedd, gwybodaeth a sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf ar draws yr economi, yn fwy nag y sylweddolwn weithiau mewn gwirionedd.

Ond hefyd, wrth i mi deithio o amgylch y wlad, mae un peth yn glir iawn. Cafodd ei nodi gan Rhianon Passmore, a chan David Melding ac mae sawl un arall wedi gwneud hynny hefyd. Mae pobl yn teimlo’n ansicr. Mae cymunedau’n teimlo’n ansicr. Y tu hwnt i bennawd y 150,000 o swyddi a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru dros dymor diwethaf y Cynulliad, mae’n amlwg i mi fod angen ailbeiriannu ein heconomi a’n model economaidd er mwyn sicrhau bod economïau rhanbarthol a lleol yn fwy cynaliadwy, a chael gwared ar natur dalpiog twf ar draws yr economi. Yn wir, nid yn unig er mwyn adeiladu economïau ond fel y cyfeiriodd David Melding, er mwyn adeiladu lleoedd—lleoedd y mae pobl yn ymfalchïo ynddynt ac yn teimlo’n ddiogel ynddynt. Mae arnom angen economi sydd ei hun yn fwy diogel yn wyneb ergydion globaleiddio, technoleg ac aflonyddwch gwleidyddol, sydd ond yn mynd i gynyddu a dwysáu yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r natur fregus y siaradodd Lee Waters amdani mewn perygl o ddwysáu oni bai bod newid yn digwydd. Dyna ble y mae dadl heddiw yn gwneud cyfraniad pwysig ac yn wir, pam y bydd y consensws trawsbleidiol sydd mor amlwg ar bwysigrwydd yr economi sylfaenol o gymorth enfawr wrth gyflwyno strategaeth fentrus, fwy cynhwysol i Gymru ffyniannus a diogel.

Gallaf gadarnhau wrth yr Aelodau y bydd ein strategaeth ‘ffyniannus a diogel’ yn cynnwys rôl gref iawn o’i mewn ar gyfer yr economi sylfaenol. Os cawn y dull yn gywir, nid yn unig yn fy adran i o ran y gwasanaethau rwy’n gyfrifol am eu darparu a’r cymorth rwy’n gyfrifol amdano, ond ar draws y Llywodraeth i gyd, yna gall yr economi sylfaenol chwarae rôl sylweddol iawn nid yn unig wrth helpu i dyfu ein heconomi, ond wrth dyfu ein heconomi gyda phwrpas: lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl a rhwng ein cymunedau.

Gwyddom mai’r llwybr gorau allan o dlodi yw gwaith, felly mae angen i ni helpu pobl i gael gwaith, i aros mewn gwaith, ac yn hanfodol, i gamu ymlaen yn y gwaith. Mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfleoedd gwych o ran hynny. Mae’r economi sylfaenol yn digwydd ble y mae pobl yn byw, felly mae’n cynnig cyfleoedd i ysgogi twf economaidd lleol, cynaliadwy—swyddi gwell, yn nes at adref. Ac rwy’n cydnabod bod rhai rhannau o’r economi sylfaenol wedi’u nodi ar gyfer gwaith ar gyflog isel, fel y nododd yr Aelodau, amodau cyflogaeth cymharol wael a diffyg cyfleoedd i gamu ymlaen. Dyna’r rheswm dros sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu rôl arweiniol gliriach, pan fo pedair allan o bob 10 o swyddi yng Nghymru yn yr economi sylfaenol. Drwy gefnogi arloesedd, gwella rheolaeth, llenwi bylchau mewn sgiliau, helpu i ddatblygu modelau busnes newydd ac yn y pen draw, annog gwell cyflogau ac amodau, gallwn ddatblygu’r cymunedau lleol cryfach hyn.

Ceir un enghraifft o hyn yn y sector gofal cymdeithasol, a siaradodd Jeremy Miles ac eraill yn huawdl am hyn. Yma, gall dull newydd o weithredu, gan bwyso ar ehangder ein dulliau ar draws y Llywodraeth a chanolbwyntio ar y sector hwn sydd â blaenoriaeth yn genedlaethol, sicrhau canlyniadau real a gwell i’n heconomi a’n cymdeithas. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth fod pwysau ar y sector gofal cymdeithasol, yn deillio o ffactorau megis cyfyngiadau ariannol a phoblogaeth sy’n heneiddio. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd o allu cefnogi’r sector hwn a’r busnesau sy’n gweithredu o’i fewn yn well. Mae yna bethau y gallwn eu gwneud ym maes caffael, o ran cymorth sgiliau ac eiddo a allai wneud gwahaniaeth go iawn i’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu a chynaliadwyedd y sector, ac mae’r sector gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn wasgaredig yn ddaearyddol. Gallai cynorthwyo cartrefi lleol helpu gyda mynediad at gyflogaeth i bobl mewn cymunedau ar draws y wlad ac yn hollbwysig, yn y broses, gwella ansawdd swyddi, amodau cyflogaeth a chynaliadwyedd y busnesau o’i fewn.

Siaradodd yr Aelodau hefyd am ynni, ac mae’n fwy na rhan hanfodol o’r economi sylfaenol. Gellid dadlau mai dyma yw ein draenog economaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, gan ddangos sut yr ydym yn arwain y byd mewn is-sectorau ynni penodol. Bydd gennym lawer mwy i’w ddweud am hyn a’n huchelgeisiau ehangach ar gyfer yr economi sylfaenol wrth i’n strategaeth ‘ffyniannus a diogel’ gael ei chyflwyno yn y misoedd nesaf. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ein bod yn awyddus i fanteisio ar y grym a’r cyfleoedd a gyflwynir gan yr economi sylfaenol, ac felly croesawaf y ddadl hon heddiw a chyfraniad meddylgar yr Aelodau, y gallwn ei gynnwys yn elfen o’n gwaith.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ar gyfer fy sylwadau cloi, rwyf am ddechrau drwy amlinellu ychydig o resymau pam y mae’r economi sylfaenol mor wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘ungnwd o economeg prif ffrwd’, lle y cafodd twf ac arloesedd eu gwthio i mewn i un polisi ar gyfer pawb, bydd ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yn ein galluogi i ddatblygu atebion pwrpasol sy’n bodloni anghenion gwahanol ar draws gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys, yn allweddol, yn fy etholaeth fy hun a gweddill y Cymoedd gogleddol. Yn lle hynny, byddai economi sylfaenol yn cael ei hadeiladu o amgylch polisïau arloesol sy’n mynd i’r afael â manylion gweithgarwch, amser a lleoliad. Mae hefyd yn ein herio i adolygu, ailystyried ac ailwerthuso’r gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd o’n cwmpas, gan symud oddi wrth ymwrthodiad cibddall o bethau bob dydd i gofleidio eu manteision a’u pwysigrwydd yn lle hynny. Gwnaeth David Melding y pwynt hwn yn dda pan soniodd am rannau o’n gweithlu’n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol.

Mewn seminar ardderchog yma yn y Senedd ddoe, nododd yr Athro Julie Froud yr angen i adeiladu, tyfu a datblygu cwmnïau gwreiddiedig. Drwy wneud hynny, mae’r economi sylfaenol yn cynnig cyfle i Gymru arwain yn y byd. Mae tyfu brandiau a adwaenir yn rhyngwladol yn un maes a nodwyd fel her allweddol i ni wrth i ni ymdrechu i dyfu ein heconomi sylfaenol. Rwy’n falch iawn o allu dweud bod wisgi Penderyn, sy’n cael ei ddistyllu a’i becynnu yn fy etholaeth cyn ei werthu o gwmpas y byd, yn un o’n henghreifftiau gorau efallai o frand rhyngwladol Cymreig adnabyddadwy. Mae ei lwyddiant yn dangos i ni ei bod hi’n bosibl i ni, drwy feddwl y tu allan i’r bocs, gael hyder a chymorth busnes priodol, fel y dywedodd Russell George, i gael mynediad at farchnadoedd arbenigol a dod yn arweinydd byd.

Ond ar wahân i’r sectorau mwy arbenigol ac atyniadol hyn ar ben uchaf y farchnad, mae yna ddadleuon economaidd pwerus o blaid yr economi sylfaenol. Mae’r Athro Karel Williams wedi tynnu sylw at yr hyn a ddylai fod yn wirionedd hunanamlwg: dominyddir yr economi yng Nghymru gan yr economi sylfaenol, gan gynhyrchu nwyddau sylfaenol bob dydd yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae bron i 40 y cant o swyddi Cymru yn yr economi sylfaenol. Yng Nghwm Cynon, mae mentrau fel y gwneuthurwyr dodrefn Ashwood Designs a’r cynhyrchydd llaeth Ellis Eggs yn gyflogwyr lleol allweddol. Yn Aberpennar, mae Rocialle yn darparu eitemau traul hanfodol i ofal iechyd, gan gyflogi ychydig dan 400 o bobl i wneud pethau fel rhwymynnau, powlenni a pheli gwlân cotwm.

Mae gan Carpet Fit Wales, cwmni llwyddiannus iawn arall yn fy etholaeth, gadwyni cyflenwi llorweddol sydd wedi datblygu’n dda, ac maent yn tynnu sylw at y ffordd y gellir defnyddio rhwydweithiau caffael lleol i dyfu a hybu economi Cymru. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais â Carpet Fit Wales a gwnaeth y ffordd y maent wedi’u cysylltu â busnesau cyfagos argraff arnaf. Mae eu cyflenwyr wedi’u lleoli yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, maent yn defnyddio gwneuthurwr lloriau lleol yng Nghaerffili, ac mae eu hadnoddau dynol, eu technoleg gwybodaeth, eu gwasanaethau dylunio a garej oll yn cael eu darparu yng Nghwm Cynon.

Fel y mae’r enghraifft hon yn dangos, mae’r economi sylfaenol o fudd i Gymru gyfan, nid rhai mannau’n unig a allai adael rhannau eraill o Gymru yn teimlo’n ynysig ac wedi’u gadael ar ôl, gan ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol y gall cymunedau fod yn falch ohonynt. Un cryfder ychwanegol yw ei hirhoedledd a’i chadernid, gyda’r busnesau, y gwasanaethau a’r seilwaith yn y sector wedi profi’n hynod o gryf i wrthsefyll cwympiadau allanol dros amser—pwynt a bwysleisiwyd gan Lee Waters.

Mae Cresta Caterers yn Aberdâr wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, a Welsh Hills Bakery ers dros 60 mlynedd—busnes teuluol yn Hirwaun sy’n allforio ar draws Ewrop, America, Awstralia a’r dwyrain canol. Mae’r ddau fusnes yn enghreifftiau o’r sector bwyd y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ato’n effeithiol. Yn ogystal, tynnodd fy nghyd-Aelod Hefin David sylw at enghreifftiau o’i etholaeth a’i gefndir academaidd i atgyfnerthu’n rymus y neges ynglŷn â chyfalaf cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio fel ased.

Yn ychwanegol at y dadleuon economaidd pwerus dros ganolbwyntio ar yr economi sylfaenol, ceir dadleuon moesol cryf o’i phlaid hefyd. Roedd y maniffesto ar gyfer yr economi sylfaenol yn dadlau’n argyhoeddiadol y bydd ailgydbwyso enillion economaidd a lles yn ein galluogi i anelu at greu Cymru gyda rhyddfraint gymdeithasol gadarnach sydd â ffocws cryfach ar gysylltiadau cymdeithasol ag eraill. Yn y model hwn, byddai anghenion economaidd ac ansawdd bywyd yn mynd law yn llaw, fel na all cyflogwyr orfodi arferion gwaith annerbyniol ac fel na all busnesau mwy o faint sathru ar gyflenwyr llai neu fusnesau lleol.

Mae hyn yn angenrheidiol iawn, oherwydd, fel y mae Sefydliad Bevan wedi nodi’n gywir ddigon, mae gan lawer o’r diwydiannau a’r galwedigaethau sy’n gysylltiedig â’r economi sylfaenol broblem go iawn gyda chyflog isel ac arferion gweithio gwael—pwynt a wnaed yn dda gan Rhianon Passmore. Rhaid i ni roi camau ar waith i wella problemau fel ansicrwydd gwaith, contractau dim oriau a thâl annigonol. Un maes i ganolbwyntio arno, fel y noda Karel Williams, yw’r cyfleoedd a’r heriau a geir yn y sector gofal oedolion sy’n tyfu. Rhaid inni ystyried yr elfennau hyn nid yn unig fel penderfynyddion economaidd ond fel darparwyr manteision cymdeithasol amhrisiadwy, a’u gwerthfawrogi’n unol â hynny.

Defnyddiodd Jeremy Miles ofal fel un enghraifft lle y bydd cryfhau’r economi sylfaenol yn dwyn elw hirdymor i’r sector cyhoeddus ac enillion economaidd a lles lleol enfawr i’r gymuned. Rwy’n croesawu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn, a mentrau tebyg hefyd fel y cynllun peilot gofal plant. Pan gaiff y polisi hwn ei weithredu’n llawn, bydd potensial ar gyfer twf sylweddol yn y sector gofal plant, gan ddarparu swyddi ychwanegol yn yr economi sylfaenol, ac mae’n faes arall eto lle y gall Cymru arwain. Mae’n hollbwysig fod y cyfleoedd cyflogaeth a ddarperir gan y polisi hwn yn cael eu cynllunio’n dda ar sail leol a rhanbarthol, gyda Llywodraeth Cymru’n goruchwylio’r broses i sicrhau bod y swyddi a grëir yn ddiogel a’r cyflogau’n deg.

I gloi, mae heddiw’n nodi galwad i weithredu gyda ffocws o’r newydd ar yr economi sylfaenol. Fel y mae’r Aelodau wedi nodi, mae llawer o’r busnesau a’r gweithgareddau sy’n creu’r sector wedi bod gyda ni ers blynyddoedd, ond ni chawsant erioed mo’u hintegreiddio’n briodol yn ein gweledigaeth economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn integreiddio cefnogaeth i’r economi sylfaenol yn llawn yn ei strategaeth economaidd sydd ar y ffordd. Fel y nododd Julie Morgan, byddai’n fuddiol i ni ystyried hyn yn ein cynlluniau economaidd presennol a chyfredol. Ac rwy’n falch iawn o’r ymrwymiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud yma heddiw yn ei ymateb i’r ddadl, gan ganolbwyntio ar agweddau ar yr economi sylfaenol a materion fel caffael.

Wrth galon y strategaeth economaidd rhaid cael ffocws ar ddatblygu cwmnïau gwreiddiedig. Cyfeiriais at rai enghreifftiau rhagorol o fy etholaeth, ond maent yn tueddu i fod yn eithriadau mewn economi Gymreig a ddiffinir fel un y mae ei chanol ar goll—pwynt a wnaeth Adam Price yn dda—lle nad ydym yn meddu ar y mentrau canolig eu maint sy’n addasu ac yn ffynnu yn economi’r Almaen, er enghraifft, drwy adeiladu ar enw da o’r radd flaenaf a phresenoldeb brand rhagorol. Mae yna heriau clir yma o ran mynediad at gyllid a chynllunio olyniaeth, ac rwy’n gobeithio y gallwn oresgyn y rhain.

Yn ogystal, rhaid i ni edrych eto ar sut y mae caffael yn gweithio yng Nghymru. Rwy’n gwybod bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario £5.5 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau, ac er bod symudiadau wedi’u gwneud i gryfhau caffael lleol, nid ydynt wedi mynd yn ddigon pell bob amser. Mae yna gyfleoedd yn codi o ad-drefnu llywodraeth leol a gweithio rhanbarthol er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn cael ei wneud yn iawn, ond mae angen inni gael y sector cyhoeddus a’n mentrau economi sylfaenol at ei gilydd i wneud yn siŵr fod modd cael trafodaethau. Gellir defnyddio hyn, yn ei dro, i gryfhau a diogelu amodau gwaith ac adeiladu Cymru lewyrchus go iawn sy’n gweithio i bob un o’i dinasyddion. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Plant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Jane Hutt.

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant a galwaf ar Angela Burns i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6251 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn;

2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy’n hyrwyddo iechyd a lles o’r crud.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r broses o gasglu data a’r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac

c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o ddod â’r ddadl hon i’r Cynulliad heddiw ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwyf wedi rhoi llawer o ystyriaeth i’r drafodaeth y gobeithiaf y gallwn ei datblygu heddiw. Fel mam i ddau o blant ifanc, mae mater iechyd a lles plant yn amlwg yn hynod o agos at fy nghalon ac yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Rwyf mor ymwybodol fod gormod o’n plant yn cael trafferth gwirioneddol i sicrhau cydbwysedd da o ran eu hiechyd a’u lles. Ac oherwydd bod y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd plant a phobl ifanc a lles yn torri ar draws nifer o bortffolios, rwy’n sylweddoli efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo bod peth o’r ddadl hon yn crwydro oddi wrth ei bortffolio, ond nid wyf yn ymddiheuro am lynu at y rhagosodiad fod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.

Byddem i gyd yn dymuno am y gorau i blant a phobl ifanc Cymru, ond rwy’n awyddus i ni gydnabod pwysigrwydd egluro a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant sy’n hyrwyddo iechyd a lles o enedigaeth, gan fod plentyn iach a gwydn yn emosiynol yn fwy tebygol o lywio dyfroedd cythryblus y glasoed; byddant yn fwy parod i ddysgu a gwneud y gorau o’u cyfleoedd mewn bywyd; yn fwy tebygol o fod wedi datblygu arferion ffordd o fyw iach; yn gallu goroesi’r cyfan y bydd bywyd yn ei luchio atynt yn well; ac yn gallu ymdopi nid yn unig â llawenydd bywyd, ond â chythrwfl siom a thristwch hefyd. Rwyf am weithio gyda’r pleidiau eraill ac Ysgrifennydd y Cabinet i gyflawni hyn. Hyderaf na fydd ysbryd ein dadl heddiw yn cael ei ystyried yn wrthdrawiadol ond yn hytrach fel trafodaeth aeddfed sy’n cyflwyno syniadau ac awgrymiadau ar gyfer cyrraedd nod y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon am ei gefnogi.

Felly, gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar rai ffeithiau. Yng Nghymru, 4 y cant yn unig o gyllideb y GIG sy’n cael ei dargedu at anghenion iechyd menywod a phlant yn unig. Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ledled y byd, yn sicr mae angen i hyn newid ac mae angen i ni weld mwy o ganran o gyllideb y GIG yn canolbwyntio ar fenywod a phlant, oherwydd nid yw anghydraddoldebau iechyd yn digwydd drwy hap a damwain—cânt eu pennu gan ble rydym yn byw, iechyd ein rhieni, ein hincwm ac addysg. Ac er na all plant effeithio ar yr amgylchiadau hyn, gall yr amgylchiadau hyn effeithio’n ddifrifol ar eu datblygiad.

Yn ôl adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, mae’r bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn lledu. Mae enghraifft berffaith o hyn i’w weld ym mhydredd dannedd pobl ifanc. Er bod canrannau plant â phydredd dannedd yng Nghymru wedi gostwng o 48 y cant yn 2008 i 35 y cant yn 2015, sy’n newyddion da iawn, mae’r ffigurau wedi codi’n syfrdanol ym Merthyr i 57 y cant. Mewn geiriau eraill, mae dros hanner y plant yn yr ardal honno yn dioddef o bydredd dannedd. Ac yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, yng Nghymru yn gyffredinol, mae bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc yn eu harddegau yn dioddef o bydredd dannedd, gan eu gwneud 60 y cant yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y clefyd na’u cyfoedion yn Lloegr. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y ffigurau’n peri pryder. Felly, pam y cyfeiriaf at fater o’r fath? Oherwydd dylem gofio pwysigrwydd iechyd y geg i les cyffredinol. Mae iechyd y geg gwael nid yn unig yn effeithio ar iechyd corfforol, ond hefyd ar hyder plentyn, ei iechyd meddwl a’i ddatblygiad.

Mae angen cael gwell dealltwriaeth hefyd o achosion salwch plant, a dyma ble y credaf fod monitro ac ymchwil effeithiol mor bwysig. Yn aml gwelwn anghydraddoldebau iechyd drwy brism o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, ac weithiau byddwn yn anwybyddu agweddau eraill ar fywyd claf sy’n gallu cael effaith arnynt, megis eu rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, neu eu hiechyd meddwl neu gyfrifoldebau rhiant. Rwy’n dal i bryderu nad oes gennym ddealltwriaeth ddigon da o’r unigolyn i allu mynd i’r afael â’u hanghenion yn effeithiol ac yn ddigonol. Er mwyn gwneud hynny, mae angen cyflawni ymchwil mwy manwl ar draws pob grŵp oedran, ac mae angen inni ehangu’r ymchwil er mwyn dadansoddi effeithiau pwysau cymharol fodern, megis cyfryngau cymdeithasol, ac effeithiau pornograffi, gwrthrycholi menywod ifanc, yn arbennig, gan y cyfryngau, a bwlio di-baid gan gyfoedion ar iechyd a lles plant. Yn wir, rwyf newydd gael e-bost yr wyf am ei ddarllen—neu ran ohono—gan fenyw ifanc a ddywedodd,

Mae’r pwysau i fod yn berffaith, i edrych yn berffaith, i ymddwyn yn berffaith, i gael y corff perffaith, i gael y grŵp perffaith o ffrindiau, y swm perffaith yn ‘hoffi’ ar Instagram—ac os nad ydych yn cyrraedd y safonau chwerthinllyd o uchel hynny, yna bydd yr hunangasineb a’r bwlio’n dechrau.

Dyma pam y mae hi mor bwysig i ni wir ddeall yr effeithiau y mae’r rhain yn eu cael ar bobl ifanc.

Yng Nghymru, mae cynifer ag un o bob tri o’n plant yn byw o dan y llinell dlodi, ond unwaith eto, mae yna ddiffyg data amlwg ar ddyfnder y tlodi hwn. Wrth gynnal astudiaethau i ymdrin â hyn, mae angen i ni hefyd ystyried cymathu ymchwil ar lefelau sy’n manylu ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd, oherwydd yn y pen draw bydd yn darparu gwybodaeth well a mwy cywir i lunwyr polisi allu seilio eu penderfyniadau arni. Mae’n rhaid i ni symud oddi wrth y dull un maint i bawb a sicrhau ein bod yn meithrin dealltwriaeth lawer gwell. Mae hyn yn cyd-fynd â’r galwadau a wnaed yn adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar gyflwr iechyd plant ar gyfer 2017. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu astudiaeth hydredol i dracio canlyniadau babanod, plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru i greu data a fydd yn llywio polisïau a gwasanaethau’n uniongyrchol. Yn ogystal, mae’n nodi bod angen i’r arolwg poblogaeth Healthwise gymryd ymatebion gan rai o dan 16 oed hefyd. Nawr, mae’r ddau argymhelliad hwn yn bwysig a hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag ymgyrch CLIC Sargent i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddechrau casglu data profiad cleifion canser rhai o dan 16 oed, rhywbeth nad ydynt yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae’r GIG yn Lloegr wedi ymrwymo i fethodoleg i wneud hyn, a hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried hyn ar gyfer Cymru.

Bydd yr holl argymhellion hyn yn ein helpu i dargedu adnoddau’n well, ond ar gost fach iawn. Gan fod yr astudiaethau hyn eisoes yn digwydd, y cyfan y byddai ei angen yw naill ai ehangu rhagor ar yr astudiaethau hynny neu fân welliannau a newidiadau i’r fethodoleg ymchwil.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’i chymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU i nodi bylchau o ran casglu data ac i sicrhau bod modd cymharu’r ffynonellau presennol â gwledydd eraill y DU. Nawr, nid ydym yn ceisio gosod un rhan o’r DU yn erbyn y llall yma. Ond drwy gyfuno gwybodaeth, drwy gyfuno adnoddau ac arferion gorau, yna rwy’n teimlo bod gennym well gobaith o wella canlyniadau i bawb.

Roedd adroddiad CLIC Sargent yn tynnu sylw hefyd at ganfyddiad pryderus iawn arall, sy’n effeithio’n ddifrifol iawn ar ddioddefwyr canser ifanc. Gwelsant fod pobl ifanc yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arnynt neu’n eu cymryd o ddifrif wrth sôn wrth feddygon teulu am eu symptomau am y tro cyntaf. Mae hyn yn peri pryder, gan ein bod i gyd yn gwybod ei bod hi’n hanfodol yn achos llawer o ganserau i ni eu dal yn gynnar. Yn ogystal, mae meddygon teulu yn nodi diffyg cyfleoedd hyfforddi fel un o’u tri phrif rwystr i ganfod canser mewn pobl ifanc. Byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio i’r mater hwn fel blaenoriaeth, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y llais y maent yn ei haeddu.

Yn olaf, cyn i mi orffen, hoffwn ganolbwyntio ar agwedd lles iechyd plant. Gall mesuriadau goddrychol o iechyd a lles plant ein helpu i ddeall y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl a wynebir gan blant a phobl ifanc yn well. Mae ymchwil gan Gymdeithas y Plant wedi ceisio archwilio’r patrymau rhywedd mewn perthynas â lles plant yn y DU, a gwelodd eu hadroddiad diweddar, ‘Good Childhood Report 2016’, fod gan ddangosyddion gwrthrychol, megis strwythur y teulu ac incwm y cartref, gysylltiad llawer gwannach â lles plant na dangosyddion sy’n oddrychol neu’n agosach atynt, megis ansawdd eu perthnasoedd teuluol a dulliau eraill o fesur amddifadedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Aeth yr adroddiad rhagddo i ganfod bod nifer y merched rhwng 10 a 15 oed a oedd yn diffinio eu hunain yn anhapus wedi codi o 11 i 14 y cant dros gyfnod o bum mlynedd, a bod y ffigurau ar gyfer nifer y bechgyn yn yr un grŵp oedran dros yr un cyfnod wedi aros yn sefydlog ar 11 y cant.

Mae mudiad y Geidiaid hefyd wedi gwneud gwaith mewn perthynas â’r mater hwn yn eu harolwg o agweddau merched yn 2016. Canfu na fyddai 33 y cant o ferched rhwng 11 a 21 oed yn gofyn am gymorth, am fod disgwyl i ferched ymdopi, sydd, yn fy marn i, yn feirniadaeth gyfunol o’r modd yr ydym yn eu magu. Ac nid wyf yn ymddiheuro am bwysleisio’r adroddiad Girlguiding a’r adroddiadau eraill sy’n canolbwyntio ar fenywod ifanc, heddiw o bob diwrnod—Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—gan fod yr adroddiad hwnnw’n nodi hefyd fod merched rhwng 11 a 21 oed yn dweud mai iechyd meddwl a lles yw’r materion pwysicaf iddynt hwy, er mwyn gwella bywydau merched a menywod. A phan ofynnwyd pa gamau gweithredu yr oeddent am eu gweld, dywedodd 34 y cant o’r ymatebwyr eu bod am weld mwy o gymorth i bobl iau gyda’u hiechyd meddwl. Mae’n destun gofid fod dros un rhan o bump wedi honni nad oeddent yn gwybod i bwy i ofyn am gymorth, gyda’r ffigurau hyn yn codi yn nes at un rhan o dair yn y grŵp oedran hŷn agored iawn i niwed rhwng 17 a 21 oed. Rwy’n derbyn mai arolwg ar gyfer y DU yn gyfan oedd hwn, gan nodi barn gan Geidiaid Cymru, ond roedd yn cynnwys barn gan Geidiaid Cymru a byddwn yn pwyso am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi. Fodd bynnag, nid wyf yn dychmygu y bydd y canfyddiadau mor wahanol â hynny. Credaf fod y canfyddiadau’n amlygu nad yr henoed yn unig sy’n teimlo unigedd ac ofn, maent hefyd yn cael eu teimlo gan lawer o bobl ifanc ac yn effeithio ar eu lles. Dyna pam y mae tua 7 y cant—neu ai dyna pam y mae tua 7 y cant o fechgyn 15 oed a 9 y cant o ferched 15 oed yn ysmygu’n rheolaidd? Mae’r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond nid i lefel gwledydd eraill yr UE. Mae hwn yn fom sy’n tician, ac os nad awn i’r afael ag ef yn ddigonol, bydd yn cael effaith hirdymor ddifrifol ar iechyd yr unigolyn. Ai dyma pam y mae camddefnyddio alcohol ymhlith yr ifanc ar gynnydd, fel y mae hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta?

Wrth i ferched dyfu’n hŷn, maent yn fwy tebygol na bechgyn o brofi problemau emosiynol megis gorbryder ac iselder. Mae’r problemau emosiynol weithiau’n ymddangos ar ffurf cyflyrau fel anorecsia, cyflyrau y gellir eu trin, ond yn aml maent yn effeithio’n hirdymor ar iechyd ar ôl i’r cyflwr ei hun gael ei drin. Bydd pobl ag anorecsia yn aml yn dioddef o glefyd yr esgyrn brau yn ddiweddarach mewn bywyd, neu gael problemau cenhedlu o ganlyniad i gyflwr y gellid bod wedi’i drin o’i ddal a’i ganfod yn gynharach.

Gall fod gan oroeswyr canser ifanc anghenion iechyd meddwl hirdymor hefyd. Mae CLIC Sargent yn nodi y gall canser effeithio ar bob rhan o fywyd person ifanc, gan gynnwys addysg, iechyd emosiynol, perthnasoedd a hyder. Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau yw ein bod yn cynhyrchu plant gwydn a chytbwys a fydd yn tyfu’n oedolion gwydn a chytbwys. Mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod plant yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl effeithiol. Mae angen i ni sicrhau bod plant yn cael eu dysgu ynglŷn â gwerth mabwysiadu patrymau ymddygiad ffordd o fyw iach a ffurfio perthnasoedd da. Mae angen i ni roi cyfle iddynt dyfu mewn amgylcheddau â chymorth, lle y mae rhieni a gofalwyr yn gallu ac yn cael eu galluogi i gynorthwyo eu plant. Mae arnom angen gweledigaeth glir a diamwys ar gyfer iechyd a lles ein plant, a byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno mynd ar y daith honno gyda chi er mwyn rhoi’r weledigaeth honno ar gyfer plant Cymru.

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1, 2 a 4, a gyflwynwyd yn ei enw ef. Rhun.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.’

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:

a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.’

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ar ddiwedd pwynt 3, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i’r afael â gordewdra;

sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon.’

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 4.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu y cynnig yma gan y Ceidwadwyr? Ac mi wnaf i gynnig gwelliannau rydym ni’n credu sydd yn cryfhau y cynnig hwn ymhellach. Rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r effaith mae sicrhau tai o ansawdd da, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel yn y cartref, ac ati, yn eu cael ar ddatblygiad plentyn. Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch chi yn cofio rhai o ddadleuon blaenorol Plaid Cymru yn y Siambr yma ar atal troi teuluoedd efo plant allan o’u cartrefi, lle rydym ni wedi rhestru canlyniadau niferus a negyddol digartrefedd, tai gorlawn a thai gwael ar blant, ond mae wastad yn werth atgoffa ein hunain bod plant sy’n byw mewn tai sydd ddim wedi eu gwresogi’n ddigonol ac mewn amodau gwael yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau brest ac anadlu fel asthma a broncitis. Mae perthynas gref rhwng y lefel o dai gorlawn y mae plant yn ei brofi a’r haint helicobacter pylori, sy’n un o brif achosion canser y stumog ac afiechydon eraill yn y system dreulio. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu afiechydon o’r fath pan maen nhw’n cyrraedd rhyw 65 i 75 mlwydd oed. Mae gan blant digartref bedair gwaith gymaint o heintiau anadlol; maen nhw bum gwaith mwy tebygol o gael heintiau’r stumog neu ddolur rhydd; maen nhw ddwywaith mor debygol o orfod cael ymweliad brys â’r ysbyty; maen nhw chwe gwaith yn fwy tebygol o gael problemau lleferydd ac atal dweud; a phedair gwaith y gyfradd o asthma o’u cymharu â phlant sydd ddim yn ddigartref. Mae’r rhestr yma o sgil-effeithiau dechrau gwael mewn bywyd yn rhestr hir, ond mae hi’n werth mynd drwyddi dro ar ôl tro, ac hyd nes y bydd y diwylliant gwleidyddol ehangach yn San Steffan yn cydnabod, er enghraifft, nad ydy hi byth yn dderbyniol i gydbwyso cyllideb drwy wneud plant yn sâl drwy doriadau i fuddsoddiadau ac ati, mi fyddwn ni yn ailadrodd y pwyntiau yma dro ar ôl tro. Ac mae hynny ynglŷn â thai, rwy’n meddwl, yn cael ei adlewyrchu yn ein gwelliant cyntaf ni.

Mi wnaf i symud at ein gwelliant nesaf ni. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n meddwl, fod y dystiolaeth yr ydym ni’n ei chael gan wyddonwyr niwrolegol yn dangos bod datblygiad yr ymennydd yn parhau yn gyflym drwy flynyddoedd yr arddegau ac i mewn i flynyddoedd cynnar rhywun fel oedolyn, felly mae’n hanfodol, rwy’n meddwl, yn fy marn i, fod iechyd a lles plant yn gorfforol ac yn feddyliol yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw dyfu i fyny drwy y blynyddoedd yma. Mae gan y Llywodraeth, wrth gwrs, strategaeth iechyd plant hyd at saith oed, ond rŷm ni o’r farn bod angen cael cymorth priodol y tu hwnt i’r oedran hwnnw a thrwy gydol blynyddoedd yr arddegau. Mae angen i’r strategaeth honno ymdrin ag iechyd corfforol, ond rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer atal a thrin problemau iechyd meddwl hefyd, cyn iddyn nhw ddod yn gyflyrau gydol oes difrifol. Rŷm ni’n siarad yn aml am bwysigrwydd adnabod a thrin canser, er enghraifft, yn gynnar—mae’r un peth yn wir efo iechyd meddwl hefyd. Mae eisiau i ni gydnabod hynny a gweithredu yn strategol.

Mae ein gwelliant olaf ni yn adlewyrchu’r angen am ffocws parhaol ar fynd i’r afael â gordewdra. Mae gan ysgolion rôl hanfodol i’w chwarae yn fan hyn. Mi fuaswn i’n hoffi gweld chwaraeon a mathau eraill o weithgaredd corfforol, achos nid ydy pob plentyn yn mwynhau nac yn cael budd o chwaraeon cystadleuol, ond mae eisiau i’r cyfan chwarae rhan llawer mwy amlwg yn y cwricwlwm newydd. Yn amlwg, mi fydd hyn yn gofyn hefyd am well cyfleusterau chwaraeon. Ond, yn ogystal â hynny, rwy’n meddwl y dylai ysgolion ystyried sut y gallan nhw greu amgylchedd sy’n mynd i’r afael â gordewdra: ystyried beth sydd ar fwydlenni cinio ysgol yn fwy nag y maen nhw’n ei wneud yn barod—mae yna ddatblygu wedi bod, wrth gwrs; a rheoli mynediad at fwyd sothach drwy beiriannau gwerthu neu reoli a ydy disgyblion yn gallu cael têc-awes amser cinio ac yn y blaen. Hefyd, rwy’n meddwl bod gan athrawon gwyddoniaeth rôl wrth sicrhau bod disgyblion yn cael rhywfaint o lythrennedd iechyd fel eu bod nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng cyngor bwyta iach yn seiliedig ar dystiolaeth a straeon dychryn a ffadiau deietegol ac yn y blaen.

Felly, dyna’n gwelliannau ni. Mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth. Nid ydym ni’n argyhoeddedig bod y cymorth presennol yn ddigonol. Mi fuasai’n well gennym ni fod wedi gweld y geiriad yn pwysleisio yr angen am ailwerthusiad o’r sefyllfa ar hyn o bryd. Ond mae hwn yn gynnig pwysig iawn, ac o’i wella yn y ffordd yr ydw i wedi ei chynnig, rwy’n meddwl bod hwn yn gallu bod yn ddatganiad clir o’n huchelgais ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 3—Jane Hutt

Dileu pwynt 3c) a rhoi yn ei le:

monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed.’

Cynigiwyd gwelliant 3.

Member
Vaughan Gething 16:24:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, Aelodau, gallwch ddweud o ysbryd y cynnig ein bod yn chwilio heddiw am drafodaeth agored a chynhwysfawr, a fydd yn helpu i lywio tri pheth, rwy’n credu: yn gyntaf, sut i wella lles plant unigol, sef yr agwedd bwysicaf wrth gwrs, ond hefyd sut i’w helpu i dyfu i fyny gydag ymdeimlad o wytnwch a hyder i fod yn ddinasyddion da, ac yna, wrth gwrs, sut i helpu ein Llywodraethau, waeth beth yw eu gwleidyddiaeth, i gytuno ei bod yn mynd i fod yn anodd mynd ar drywydd dyheadau eraill ar gyfer ein pobl ifanc heb weledigaeth hirdymor effeithiol ar gyfer iechyd plant.

Magu ein plant, waeth beth fo’u hamgylchiadau, eu dechreuad mewn bywyd, eu heriau, a allai fod yn rhai gydol oes, wrth gwrs, mewn rhai achosion, i allu ymdopi ac i gredu’n wirioneddol fod yfory yn ddiwrnod arall yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr sy’n bod, nid yn unig i’r plentyn unigol, ond er mwyn sicrhau gwead cymdeithasol cryf. Ac wrth gwrs, yn rhan o’r broses o aeddfedu’n iach, mae pobl ifanc yng Nghymru, ac unrhyw le arall, angen dod i delerau â’r argyfyngau arferol yn ystod ieuenctid sy’n ymwneud â hyder: pethau’n mynd o chwith ac amrywiaeth o fân anghyfiawnderau. Ond mae’n ymddangos bod rhywbeth yn digwydd sy’n gwneud aeddfedu iach o’r fath yn fwy anodd.

Clywsom yn gynharach gan Angela Burns am y cynnydd yn lefelau anhapusrwydd mewn merched a’u hymdeimlad o gael eu hynysu gyda’u pryderon. Bechgyn iau sy’n cyfaddef eu bod yn anhapus, yn aml yn gysylltiedig â gwaith ysgol, ymddygiad a diffyg sylw. O’i adael i fod, gall yr anhapusrwydd y mae plant yn ei brofi dyfu’n rhywbeth llawer mwy difrifol nag anhapusrwydd ieuenctid. Mae’r canfyddiadau hyn, er y gallent gael eu gwaethygu gan yr hyn yr ydym yn eu hadnabod fel effeithiau tlodi, i’w gweld ar draws yr holl ystod economaidd-gymdeithasol, ac rydym yn eu colli os dibynnwn yn ormodol ar ddangosyddion, fel y dywedodd Angela, megis incwm a strwythur teuluol. Fe ddowch o hyd i’r plant hapusaf, mwyaf gwydn, sy’n cael fwyaf o gefnogaeth emosiynol yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru a’r plant mwyaf unig, mwyaf digyfeiriad, sydd wedi’u hesgeuluso fwyaf yn emosiynol yn byw mewn plastai. Pwy yw’r mwyaf difreintiedig yn ôl y dangosyddion hynny?

Wrth gwrs, nid wyf yn gwadu dim o’r dystiolaeth am y cysylltiad rhwng iechyd gwael mewn plant a’u mamau ac amddifadedd. Rwy’n siŵr y bydd popeth a glywn heddiw am oresgyn anghydraddoldebau cymdeithasol a datblygu’r data i fynd i’r afael â’r mater mewn ffordd fwy gronynnog yn rhywbeth rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld synnwyr ynddo. Y math o ddata a gasglwn fydd yn llywio newid. Fy mhwynt yw bod iechyd meddwl pob plentyn yn bwysig ac os yw un o bob pedwar ohonom yn debyg o brofi iechyd meddwl gwael, yna mae’n eithaf amlwg nad yw’n parchu ffiniau economaidd-gymdeithasol gwrthrychol. Mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r data gronynnog gwahanol hwn nid yn unig i farnu maint a dyfnder iechyd meddwl gwael, ond er mwyn llunio cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gyfer pob plentyn. Gwyddom fod gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed yn wynebu trafferthion. Rwy’n siŵr fod Lynne Neagle druan wedi cael llond bol ar ei ddweud. Ac mae’n wir, mae’n bosibl fod pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio’n amhriodol at CAMHS ac mae’n wir, a bod yn deg, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy mewn therapïau siarad, sy’n newyddion da, ond rydym yn cael trafferth bodloni anghenion iechyd meddwl penodol unigolion cyn eu bod yn oedolion, ac rydym yn cael trafferth atal iechyd meddwl gwael yn y lle cyntaf.

Felly, wrth edrych ar weledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, gadewch i ni beidio ag anwybyddu iechyd meddwl gwael y gellir ei atal. Mae addysg orfodol am berthnasoedd iach, rhywioldeb gwahanol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o hynny, fe ddywedwn i—felly rwy’n gobeithio y bydd gan eich cyd-Aelodau, Ysgrifennydd y Cabinet, adroddiad eu gweithgor ar hynny’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach—ond mae deall eich bod yn rhan o rywbeth mwy na chi eich hun neu hyd yn oed yn fwy na’ch teulu eich hun yn rhan o hynny hefyd. Mae’n ddigon hawdd rhoi’r bai ar y cyfryngau cymdeithasol am hyn, felly fe wnaf, ond pan fyddwch yn cael 500 ‘hoffi’ am lun o’ch aeliau newydd ymhell y tu hwnt i’ch arddegau, a phan ddaw hynny’n bwysicach na dweud helo wrth eich cymydog, codi i rywun arall ar fws, neu gario bag rhywun arall drostynt pan fyddant yn ceisio rheoli bygi a thri o blant, a oes rhaid i chi ofyn, ‘Pam y mae pobl yn fwy anhapus?’

Wrth gwrs, ni allwn fynd yn ôl. Rwy’n gweld enghreifftiau aruthrol o unigolion yn dod at ei gilydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol i sefyll fel cymuned ac ymladd dros rywbeth neu’n well fyth, i ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei wneud eu hunain. Unigolion na fyddai byth, yn yr oes analog, wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus neu gymryd rhan mewn gwaith fel grŵp i ddatrys problem yn eu hardal am eu bod yn rhy swil, heb hunanhyder, neu’n waeth na dim, yn meddwl mai problem rhywun arall yw hi, cyfrifoldeb rhywun arall. Os meddyliwch yn unig am ofal cymdeithasol fel enghraifft yn y blynyddoedd i ddod, nid ydym yn mynd i allu ymdopi â hynny os ydym yn gymdeithas ddatgysylltiedig. Mae angen i’n plant dyfu i fyny yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol, yn gryf ac yn ddigon hyderus i gyfrannu at gymunedau iach. Diolch.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig y ddadl hon heddiw. Mae sicrhau canlyniadau iechyd gwell i blant a phobl ifanc yn un o’r tasgau pwysicaf sy’n ein hwynebu yn y Cynulliad hwn. Mae Cynulliadau blaenorol a Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i wella iechyd plant, ond nid yw’n ddigon yn ôl y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn eu hadroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd plant. Maent yn tynnu sylw at y ffaith fod canlyniadau iechyd plant yn llusgo ymhell y tu ôl i’n cymheiriaid yng ngorllewin Ewrop, yn enwedig o ran canlyniadau iechyd meddwl a marwolaethau plant. Mae’r ddadl hon yn arbennig o amserol gan i ni gael y newyddion ddoe fod llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol. Gwelodd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mewn astudiaeth ddiweddar nad oedd gan bron i hanner cynghorau Cymru unrhyw offer monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion. Canfu Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint hefyd, yn y pum ardal a nodwyd fel rhai â lefelau anniogel o lygredd gronynnol—Caerdydd, Cas-gwent, Casnewydd, Abertawe a Phort Talbot—chwe ysgol yn unig a oedd ag offer monitro gerllaw.

Cofnodwyd bod llygryddion aer yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o effeithiau andwyol ar iechyd plant. Oherwydd y newidiadau cyflym y mae corff plentyn yn mynd drwyddynt, mae plant yn arbennig o agored i effaith llygryddion aer. Dangosodd adroddiad diweddar gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant y gall llygredd aer gynhyrchu effeithiau andwyol ar dwf, deallusrwydd, a datblygiad niwrolegol. Yn aml, bydd babanod a phlant bach yn cael trafferth gyda brest dynn a pheswch mynych o ganlyniad i lygredd aer, ac mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg y gall hefyd effeithio ar ddatblygiad meddyliol a chorfforol.

Mae ymchwil o Sweden wedi canfod bod cysylltiad rhwng cynnydd cymharol fach mewn llygredd aer a chynnydd sylweddol yn y problemau seiciatrig sy’n cael eu trin mewn plant. Ond efallai mai canfyddiad mwyaf arwyddocaol adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant oedd y dystiolaeth lethol fod llygredd aer yn gysylltiedig â llai o dwf ysgyfaint yn ystod plentyndod a mwy o berygl o ddatblygu asthma. Bob 20 munud caiff plentyn ei dderbyn i’r ysbyty oherwydd pwl o asthma, ac mae un o bob tri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth yn dioddef o’r clefyd.

Dylai’r rhybudd ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol fod yn sioc i bawb ohonom—nid yn unig oherwydd y 2,000 o bobl sy’n colli eu bywydau’n ddiangen bob blwyddyn, ond oherwydd yr effaith a gaiff llygredd aer ar iechyd plant. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod offer monitro llygredd aer yn cael ei osod y tu allan i bob ysgol yng Nghymru, a gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i leihau lefelau llygryddion aer o amgylch ysgolion a mannau lle y bydd plant yn chwarae.

Yn ogystal â rhoi camau ar waith i leihau llygredd aer, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan lygryddion aer yn cael mynediad cynnar at wasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint. Mae cyfrifoldeb ar Lywodraethau ar bob lefel i amddiffyn plant ein cenedl rhag melltith llygredd aer, a chan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi ei nodi fel argyfwng iechyd y cyhoedd, rwy’n gobeithio y bydd camau’n cael eu rhoi ar waith ar fyrder. Diolch.

Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ar iechyd plant, ac roeddwn eisiau rhoi ychydig o amser, os caf, i dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i gyfleu negeseuon iechyd i blant ac i rieni, ac yn wir i addysgwyr proffesiynol yn ein hysgolion. Un o’r arfau a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gyflwyno’r negeseuon pwysig hyn oedd ein gweithlu nyrsio ysgolion, a chefais y pleser o ymweld â gwasanaeth nyrsio ysgolion rhagorol yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar gyda Suzy Davies, fy nghyd-Aelod, lle y clywsom o lygad y ffynnon gan nyrs yr ysgol yno, sy’n cael ei chyflogi gan yr ysgol mewn gwirionedd yn hytrach na’r bwrdd iechyd, am y mathau o wasanaethau y mae’n eu darparu, a’r ffordd y mae hi’n gallu ymgysylltu â’r boblogaeth ysgol o ganlyniad i’r ffordd y caiff ei chyflogi gan yr ysgol honno.

Nawr, gwyddom fod y fframwaith nyrsio ysgolion yng Nghymru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ac rwy’n gwybod bod y Llywodraeth yn gobeithio ei adnewyddu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn, ond tybed a fydd y trefniadau yn y fframwaith nyrsio ysgolion newydd honno’n ddigon i fanteisio ar y cyfleoedd y mae nyrsio ysgolion yn eu cynnig mewn gwirionedd. Mae gennym oddeutu 220 o nyrsys ysgol yng Nghymru—mae gan bob ysgol uwchradd nyrs ysgol a enwir ar gael iddynt—ond nid yw’r nyrsys ysgol unigol hynny’n gweithio’n llawnamser mewn ysgol uwchradd unigol. O ganlyniad i hynny, mae’r math o ymddiriedaeth a hyder y mae pobl ifanc yn aml iawn eu hangen er mwyn sefydlu perthynas gyda’r nyrs benodol yn eu hysgol ar goll.

Mae hynny’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r model a welais yn Ysgol Bryntirion, lle y mae’r nyrs yno, Judith, ar gael bob dydd o’r wythnos ar gyfer y disgyblion a’r staff, ac roedd hi yno, yn ymgysylltu, yn rhoi rhyw fath o gyngor iechyd galwedigaethol, yn rhoi cyngor ar ddiogelu i aelodau o’r tîm staff proffesiynol ac yn ychwanegol at hynny, yn rhoi negeseuon iechyd cyhoeddus pwysig iawn i’r plant yn yr ysgol, ac yn eu cefnogi drwy’r hyn sy’n aml wedi bod yn gyfnod anodd iawn yn eu bywydau. Rwy’n meddwl mai’r un peth mawr a’m trawodd oedd ei bod hi wedi gallu sefydlu perthynas nid yn unig gyda’r ysgol, ond gyda’r gymuned ehangach y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu mewn gwirionedd—teulu ehangach yr ysgol. O ganlyniad i’r cysylltiadau hynny, maent wedi gweld cyfraddau absenoldeb staff yn disgyn yn aruthrol, maent wedi gweld cyfraddau presenoldeb ysgol ymhlith y dysgwyr yn cynyddu’n gyflym, maent wedi gweld disgyblion yn gallu rheoli eu cyflwr o fewn y diwrnod ysgol heb fynd adref pan fyddant yn sâl, mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl oni bai ei bod hi ar gael yno.

Rwy’n sylweddoli bod gan y gwasanaeth nyrsio ysgolion ehangach sydd ar gael ar draws Cymru ym mhob ardal bwrdd iechyd unigol nifer o swyddogaethau pwysig eraill i’w cyflawni: pethau fel brechiadau, a rhaglenni gofal iechyd y geg a deintyddol, sy’n rhan greiddiol o’u gwaith. Ond yr un peth nad oes gan ein gwasanaeth nyrsio ysgolion presennol yn aml iawn yw digon o amser i allu ei fuddsoddi ar safleoedd ysgolion unigol fel y gallant ddatblygu’r mathau o berthnasoedd a welais, a oedd wedi’u meithrin dros y blynyddoedd gan Judith gydag Ysgol Bryntirion.

Wrth gwrs, nid ein hysgolion uwchradd yn unig sydd angen mynediad at nyrsys ysgol. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod ein hysgolion cynradd yn cael mynediad at nyrsys ysgol dibynadwy hefyd, ac yn wir, hoffwn eu gweld ar gael yn fwy eang yn ein colegau addysg bellach a’n prifysgolion, oherwydd, wrth gwrs, gŵyr pawb ohonom eu bod hwy hefyd yn fannau lle y mae pobl ifanc a staff angen cymorth gan weithwyr iechyd proffesiynol a all fod ar gael ac wrth law pan fyddant eu hangen.

O ran iechyd y cyhoedd, beth am gael y nyrsys ysgol yn rhan o’r gwaith o gyflwyno gwersi ar faeth, ar weithgarwch corfforol, ar gamddefnyddio sylweddau? Rydym yn wynebu epidemig ar hyn o bryd o broblemau iechyd meddwl a phroblemau sy’n gysylltiedig â lles, fel y dywedodd Suzy Davies yn ddigon cywir ychydig funudau’n ôl. Gallai ymdrin â’r rhain cyn iddynt dyfu’n broblemau mwy fod yn rhywbeth y gallai ein nyrsys ysgol ei wneud, os ydynt wedi cael eu paratoi a’u hyfforddi’n briodol i allu gwneud hynny. Felly, rwyf am ganmol rhinweddau nyrsys ysgol ac annog y Llywodraeth, wrth ymateb heddiw, i godi ychydig mwy ar y caead efallai ar yr hyn sy’n cael ei wneud i adnewyddu’r fframwaith nyrsio ysgolion a dweud ychydig bach mwy wrthym o bosibl ynglŷn â’r sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr amserlen ar gyfer cyflawni’r addewid i’w adnewyddu. Diolch.

Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma ac i ystyried rhai o’r nifer fawr o bwyntiau a gyflwynwyd. Gobeithiaf yn fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gyfrannu i’r ddadl, yn siarad am y ffrydiau gwaith y mae’r Llywodraeth yn eu dwyn at ei gilydd, oherwydd, fel y dywedodd Angela Burns yn hollol glir yn ei sylwadau agoriadol, mae’r rhan fwyaf o hyn mewn gwirionedd y tu hwnt i’r portffolio iechyd ac yn treiddio i nifer o bortffolios ar draws y Llywodraeth. Yn aml iawn, gall fod enghreifftiau o ymarfer rhagorol yn digwydd, ond yn aml iawn, cânt eu gwneud ar wahân, ac mewn gwirionedd, os ydym yn mynd i weld gwelliant cyffredinol yn iechyd pobl ifanc a phlant yma yng Nghymru, mae angen ymagwedd gydlynol a thargedau clir o ran ble rydym am fod ymhen pum mlynedd a 10 mlynedd.

Gallaf ddeall fod targedau, yn aml iawn, yn gallu bod yn rhagnodol iawn a chyfyngu ar rai o’r syniadau mwy dychmygus y gallai fod angen eu datblygu, yn enwedig yn rhai o’n hardaloedd gwledig, lle y gall darparu gwasanaethau fod yn fwy heriol, ond yn y pen draw, os oes gan y Llywodraeth strategaeth a nod, gall holl bwysau’r Llywodraeth o leiaf, a’r cyrff ategol o dan hynny, weithio i’r cyfeiriad hwnnw a’r nod cyffredin yr ydym i gyd am ei weld, sef gwella gobeithion pobl ifanc yn gyffredinol yma yng Nghymru.

Yn ddiweddar, ar ymweliad ag ACT, darparwr hyfforddiant i lawr yn Ne Caerdydd a Phenarth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn siŵr o fod yn gwybod amdano gan ei fod yn ei etholaeth. Aeth Darren Millar, fy llefarydd addysg, yno gyda mi, ac roeddent yn tynnu sylw at y ffaith fod y fenter gofod diogel y maent wedi’i chreu yno ar gyfer pobl ifanc a gafodd broblemau yn eu bywyd ysgol ac sydd wedi methu setlo i’r diwrnod ysgol arferol—drwy’r diwylliant gofod diogel hwnnw, drwy’r fenter gofod diogel honno, maent wedi cynnig cyfle i’r bobl ifanc hyn adennill eu hyder go iawn, i adennill blas am addysg, ac yn y pen draw, i feithrin pwrpas. Hoffwn gymeradwyo’r fenter i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli ei bod yn perthyn i’r maes addysg, ond yn sicr, hefyd, os oes gennych blant sy’n teimlo’u bod yn cyflawni ac yn teimlo’n fodlon, mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar eu hiechyd hefyd, felly, mae’n berthnasol. Rwy’n gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod ei fod yn gyfarwydd â’r fenter. Nid yma yng Nghaerdydd yn unig y mae angen i ni weld y gallu hwnnw, ond ar draws Cymru, ac rwy’n canmol ACT am ddatblygu is-ganolfan yng Nghaerffili i gynnig yr un math o fentrau a chyfleoedd.

Hefyd hoffwn ddatblygu’r thema am lygredd aer a gyflwynwyd gan Caroline Jones, a soniais am hyn mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe. Unwaith eto, dyma faes y gall y Llywodraeth wneud cynnydd sylweddol ynddo. Mae ganddi’r dulliau, drwy’r system gynllunio, drwy’r system drafnidiaeth, drwy’r system iechyd y cyhoedd sydd yma yng Nghymru, i wneud gwelliannau ac enillion sylweddol yn y maes. Ni all fod yn iawn ein bod yn goddef i 2,000 o bobl farw’n gynamserol yma yng Nghymru—pump o bobl y dydd—ac mewn gwirionedd nid ydym yn gwneud y cynnydd y dylem fod yn ei wneud yn y meysydd hyn pan fo gennym atebion ar gael i ni. Rwy’n derbyn na fyddwch byth yn cyrraedd sero, ond gallwn wneud rhai newidiadau mawr go iawn i’r ffordd y mae pobl yn gweithio, y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd, a fyddai’n cael effaith enfawr. Byddwn yn awgrymu y byddai unrhyw faes arall a fyddai’n golygu bod 2,000 o bobl yn marw’n gynamserol bob blwyddyn yn mynnu mwy o sylw gan y Llywodraeth o ran defnyddio rhai o’r dulliau sydd ganddi. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu defnyddio’r mesurau y mae wedi’u gosod yn benodol i Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud gwelliannau yn y maes penodol hwn.

Maes arall yr hoffwn ei grybwyll yn benodol hefyd yw’r digwyddiad a gynhaliwyd gan Angela yn ystod amser cinio, lle roedd llawer o fenywod a oedd wedi dioddef trasiedi camdriniaeth—cam-drin corfforol a meddyliol—yn eu bywydau wedi llwyddo i ailadeiladu, ac adfer eu hyder i fagu eu teuluoedd a rhoi eu hunain ar y ffordd i fod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned ar ôl bod wedi’u digalonni—a’u gwaradwyddo, yn ôl yr enghreifftiau a roddwyd i ni, rwy’n meddwl, a’u hunanhyder wedi’i chwalu i’r fath raddau gan y cam-drin a ddioddefasant. Roedd llawer o enghreifftiau da yno, unwaith eto, o ble y gellid cyflwyno arferion da, ac fe gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, hynny mewn cwestiynau cynharach am rai o’r profiadau yn yr Almaen. Pam y dylai’r dioddefwyr gael eu herlid o’r gymuned y maent wedi byw ynddi, yr ardal y cawsant eu magu ynddi, tra bo’r cyflawnwyr yn aml iawn yn aros yn y gymuned honno? Unwaith eto, gallwn edrych o gwmpas a dod o hyd i enghreifftiau da o arferion da y gall y Llywodraeth eu defnyddio, gyda’r adnoddau sydd ganddynt, i ddatblygu’r broses o gynorthwyo pobl yn y gymuned i ailadeiladu eu bywydau, ailfagu eu hyder, a dod yn aelodau gwerthfawr o’n cymdeithas eto heb deimlo’n ddieithr ac wedi’u gwthio i’r cyrion. Mae’r gwaith a wnaeth y grŵp hwnnw’n glodwiw a dweud y lleiaf.

Wrth gloi, hoffwn gyffwrdd ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Rwyf wedi cymryd rhai sylwadau, yn enwedig gan Diabetes Cymru, sydd wedi cyffwrdd ar anghenion iechyd nad ydynt, ar hyn o bryd, oherwydd y ffordd y drafftiwyd y Bil, wedi’u cynnwys yn y Bil—maent wedi’u cynnwys yn y rheoliadau yn ôl yr hyn a ddeallaf. Gallaf weld y Dirprwy Weinidog yn dynodi—y Gweinidog yn dynodi hynny. Fe roddaf ddyrchafiad sydyn iddo eto. Ond unwaith eto, hoffwn weld a yw’r Gweinidog iechyd yn cefnogi’r galwadau i gynnwys anghenion iechyd, ac anghenion iechyd sylfaenol pobl ifanc, yn y Bil, oherwydd, yn amlwg, mae hwnnw’n gategori pwysig y mae angen i’r ddeddfwriaeth ei gynnwys, ac unwaith eto, byddai’n cael effaith enfawr ar wella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc yma yng Nghymru.

Felly, gyda’r ychydig sylwadau hynny, edrychaf ymlaen at glywed ymatebion Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, drwy weithio’n gydgysylltiedig a chyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i ragolygon pobl ifanc yma yng Nghymru.

Fel bodau dynol, mae gennym anghenion sylfaenol: bwyd, dŵr, cynhesrwydd a gorffwys, diogelwch a chysur. Rhaid bodloni’r anghenion sylfaenol hyn cyn y gallwn hyd yn oed ddechrau anelu at gyflawni ein potensial. Mae fy mhlant yn ddigon ffodus i ddod adref bob nos i le cyfarwydd—lle y maent yn ei adnabod, lle y maent yn ei alw’n gartref. Mae’n fan lle y maent yn teimlo’n ddiogel, lle y maent yn teimlo’u bod yn perthyn. Mae’n fan lle y mae ganddynt eu hoff eiddo: tegan meddal, eu llyfrau, eu teganau, eu gwelyau. Mae’n fan sy’n eiddo iddynt hwy.

Roeddwn yn syndod darganfod, y Nadolig diwethaf, fod dros 1,100 o blant yn ddigartref yma yng Nghymru. Mae bod heb gartref yn golygu bod heb wreiddiau. Mae’n golygu bod gan blant bryderon, straen ac ofnau na ddylai unrhyw blentyn eu disgwyl ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys plant sy’n ddigartref ac sy’n byw mewn llety dros dro. Nid yw’n cynnwys plant annibynnol 16 ac 17 oed sydd wedi gadael cartref neu ofal drwy ddewis neu beidio.

1,100 o blant—ni all hynny fod yn iawn. Mae’n ddwywaith nifer y plant yn ysgol St Joseph yn Wrecsam. Pa obaith sydd gan y plant hynny i fynd yn ôl ar unrhyw fath o gae chwarae gwastad, o ystyried y profiadau y mae’n rhaid eu bod wedi’u cael wrth nesu fwyfwy at ddigartrefedd a’r profiadau y gallent fod yn eu hwynebu wrth ymdrechu i ddod allan ohono?

Mae gwir angen inni ganolbwyntio ar achosion sylfaenol y problemau sy’n bla yn ein cymdeithas. Mae’n drasiedi nad yw anghenion sylfaenol a phwysicaf plant Cymru yn cael eu diwallu. Maent yn haeddu gwell.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:46:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc pwysig ac eang hwn. Rwy’n hapus i gadarnhau bod y Llywodraeth yn cefnogi pob un o’r gwelliannau.

Lansiwyd y rhaglen Plant Iach Cymru ym mis Hydref y llynedd ar gyfer yr holl blant a’u teuluoedd, er mwyn gwella iechyd, datblygiad cymdeithasol ac addysgol a chanlyniadau corfforol, meddyliol a chymdeithasol hirdymor. Bydd y rhaglen yn diogelu iechyd plant drwy wasanaethau sgrinio a goruchwylio o enedigaeth i saith oed. Mae’r rhaglen yn hyrwyddo gwydnwch ac wedi ei hanelu at rymuso teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus i ddarparu amgylcheddau diogel a meithringar.

Hoffwn ymdrin yn fras ag un o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns ar y dechrau, sef y gwariant canrannol yn y gwasanaethau iechyd ar fenywod a phlant. Nid wyf yn credu bod hynny mewn gwirionedd yn ffordd ddefnyddiol o fynd ati, yn syml oherwydd fy mod yn credu ein bod yn ceisio cael ymagwedd gwasanaeth cyfan i weld y person cyfan yn eu cyd-destun. Mewn gwirionedd ceir llawer o feysydd gwariant a gweithgareddau eraill na fydd wedi’u cynnwys yn y ffigurau a rowch sydd wrth gwrs yn bwysig iawn i’r hyn y gall gwasanaethau iechyd a gofal ei wneud wrth gyfrannu mewn partneriaeth ag eraill hefyd. Roedd llawer o weddill eich cyfraniad yn cydnabod ac yn ystyried y ffaith fod angen i ni weld plant yn y cyd-destun cyfan hwnnw a lle y cânt y rhyngweithiadau hynny a beth y gallai ac y dylai’r rheini ei wneud i wella.

Rwy’n croesawu ysbryd y cyfraniadau yn y ddadl, gan gynnwys y ffordd y dechreuodd Angela Burns. Rwy’n hapus i barhau i drafod yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud o safbwynt Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i blant a’u teuluoedd. Ond ni ddylem geisio troi cefn ar realiti anochel beth arall sy’n digwydd y tu allan i’r lle hwn hefyd.

Er enghraifft, nid yw cymorth i deuluoedd sy’n rhentu tai wedi’i ddatganoli. Ers 2011, yn y maes hwn ac eraill, cafwyd toriadau parhaus gan Lywodraeth y DU i’r cymorth hwnnw. Mae hwnnw’n ddewis bwriadol ac mae’n golygu llai o gefnogaeth i deuluoedd mewn angen, y mwyafrif ohonynt yn gweithio mewn gwirionedd. Dyna un enghraifft o’r dewisiadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u gwneud sydd wedi effeithio’n wirioneddol ar ganlyniadau a rhagolygon ar gyfer plant. Yn anffodus, mae’n mynd i waethygu.

Tlodi yw’r ffactor sy’n cyfyngu fwyaf ar iechyd, lles a rhagolygon ein plant yn y dyfodol. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd nifer y plant ar draws y DU a fydd yn tyfu i fyny mewn tlodi yn cynyddu mwy nag 1 filiwn fel y bydd dros 5 miliwn o blant yn y DU yn byw mewn tlodi. Byddant yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi gan ddewisiadau uniongyrchol a bwriadol Llywodraeth y DU. Bydd hynny’n effeithio ar bopeth y gallwn ei wneud a’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda, ac ar gyfer plant a’u teuluoedd.

Yma yng Nghymru, rwy’n falch o ddweud bod gennym agwedd wahanol. Rydym yn buddsoddi dros £124 miliwn yn flynyddol yn y rhaglen Cefnogi Pobl i gefnogi teuluoedd sy’n agored i niwed a helpu i atal problemau’n gynnar. Mae gan wasanaethau digartrefedd yr awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gyfeirio aelwydydd â phlant at y gwasanaethau cymdeithasol lle y maent mewn perygl o fod yn ddigartref yn fwriadol.

Ac wrth gwrs, mewn addysg, rydym yn cydnabod bod datblygiad yn gosod y sail ar gyfer datblygiad iechyd plentyn. Dyna pam y mae adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm yng Nghymru, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, yn cydnabod bod angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn ymgysylltu’n llwyddiannus ag addysg—a gweld y plentyn yn eu cyd-destun cyfan. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn pob un o’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw ar gyfer addysg ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad. Un o’r meysydd hynny, wrth gwrs, yw iechyd a lles, i gyflwyno themâu sy’n cynnwys lles meddyliol, corfforol ac emosiynol. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion arloesi ar ddatblygu’r canllawiau iechyd a lles i gefnogi fframwaith y cwricwlwm.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n hanfodol fod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at addysg sy’n diwallu eu hanghenion ac yn eu galluogi i gymryd rhan yn y profiad dysgu. Bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn mynd â ni tuag at hyn ac yn darparu system deg a chyfiawn i bob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy’n hapus i gadarnhau eto y bydd yr anghenion iechyd nad ydynt yn anghenion dysgu yn destun canllawiau statudol y bydd y Gweinidog yn eu cyhoeddi cyn diwedd y mis hwn.

Rwy’n cydnabod pwysigrwydd darparu gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant. Roedd un o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns yn sicr yn adroddiad diweddar y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a dyna pam rwy’n hapus i gadarnhau heddiw y bydd y Llywodraeth hon yn datblygu cynllun iechyd plant newydd i ymateb yn uniongyrchol i’r argymhelliad canolog hwnnw.

Rwyf wedi gwrando ar randdeiliaid, ac rwy’n cydnabod yr angen i ddisgrifio’r meysydd blaenoriaeth cenedlaethol y dylai gwasanaethau iechyd fynd i’r afael â hwy i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Rwyf hefyd yn cydnabod rôl dulliau gwell o gasglu data ar gyfer deall iechyd plant yng Nghymru—mewn termau cyffredinol, ond hefyd i gefnogi’r cynllun hwn.

O ran y pwyntiau uniongyrchol a wnaed am y cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae gennym ffocws newydd pellach ar ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dangosodd yr arolwg diweddaraf o brofiad cleifion canser pa mor dda y caiff gwasanaethau eu darparu i’r boblogaeth oedolion. Rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu dulliau o fesur profiadau a gofnodir gan gleifion ar gyfer plant yr effeithir arnynt gan ganser i sicrhau ein bod yn diwallu eu hanghenion. Byddwn yn ystyried ymestyn yr ystod oedran ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arolwg hwn wrth gomisiynu yn y dyfodol.

Am y tro cyntaf, yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar wasanaethau cwnsela awdurdodau lleol sy’n gweithredu mewn ysgolion uwchradd a blwyddyn chwech yr ysgolion cynradd. Roedd dros 5 y cant o’r plant a oedd yn cael gwasanaeth cwnsela ysgolion yn 2014-15 yn gwneud hynny am resymau’n ymwneud â bwlio. Dengys tystiolaeth y gall gwasanaeth cwnsela o fewn strategaeth gyffredinol ar gyfer ysgolion fod yn hynod o effeithiol yn atal y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl. Rydym yn disgwyl i ysgolion ei gwneud yn glir na fydd bwlio gan gyfoedion yn cael ei oddef a bod y neges wrthfwlio yn cael ei rhoi ar waith.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd yn adolygu’r polisi gwrthfwlio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben. Rydym yn benderfynol o gael cymorth clir a chyson i bobl sy’n cael eu bwlio, ac rydym yn awyddus i atgyfnerthu ein nod o greu lle i bobl roi gwybod am fwlio a chael cymorth.

Yn 2015-16, cyhoeddais dros £1.5 miliwn o gyllid rheolaidd newydd i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned i wella canlyniadau i fenywod sydd â salwch amenedigol. Dywed y GIG fod mwy na 1,500 o fenywod wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau amenedigol cymunedol ers mis Ebrill 2016. Yn ddiweddar, wrth gwrs, cyhoeddais gynnydd o £20 miliwn pellach yn y gwariant ar iechyd meddwl yn gyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru a basiwyd gan y lle hwn. Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r GIG yng Nghymru. Fe fyddwn, wrth gwrs, yn monitro effeithiolrwydd ac effaith y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd i sicrhau cysondeb ar draws Cymru i deuluoedd sy’n agored i niwed.

Drwy ein rhwydwaith o gynlluniau ysgolion iach Cymru, rydym yn cynorthwyo ysgolion i greu amgylchedd i helpu i fynd i’r afael â gordewdra. Mae dros 99 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cynlluniau hyn.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnaed yn y cynnig a’r gwelliannau ynglŷn â chwaraeon. Nid ydym am anghofio pwysigrwydd addysg gorfforol yn y cwricwlwm, ond wrth gwrs mae Addysg Gorfforol yn llawer mwy na chwaraeon yn unig. Rydym eisiau i ysgolion gynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol wrth gwrs. Dyna pam y bydd £1.4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad yn ein rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i ysgolion a cholegau allu darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn eu hysbrydoli i gyflawni eu potensial. Rwy’n hapus i gadarnhau’n gryno, mewn ymateb i Darren Millar, fod y fframwaith nyrsio ysgolion yn cael ei ddatblygu gyda, a chan y gweithlu ei hun, a bydd yn cael ei lansio yn y dyfodol agos.

Wrth orffen, Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus i gadarnhau fy mod yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ar draws y gwahanol bleidiau yn y Siambr hon a’r tu allan i’r lle hwn. Edrychaf ymlaen at wneud hynny er mwyn helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a’u teuluoedd yma yng Nghymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o glywed am y cynllun iechyd plant yr ydych yn ei argymell, gan fod hyn yn ganolog i’r ddadl hon. Y rheswm pam y cyflwynwyd y ddadl hon gennym oedd, er eich bod wedi tynnu sylw at nifer fawr o fentrau yn y maes iechyd, yn y maes addysg—ac mae croeso iddynt oll—mae’n ymwneud â hybu thema, mae’n ymwneud â gweithio edafedd aur drwy wahanol weadau’r Llywodraeth. Rydym am weld—ac rwy’n casáu’r gair ‘trosfwaol’, ond mae’n ei gwmpasu mewn gwirionedd—gweledigaeth drosfwaol, gan mai’r plant hyn yw ein dyfodol yfory ac os gallwn eu gwneud yn iach, yn wydn, yn fodlon ac yn gadarn yn fewnol heddiw, yna byddant yn gallu ymdopi cymaint yn well â’r hyn sy’n digwydd yn eu dyfodol.

Rydym yn siarad am y straen mawr ar y GIG yng Nghymru o ran y cyfyngiadau ariannol. Rydym yn siarad am yr argyfwng gordewdra, yr epidemig ysmygu a’r problemau llygredd aer. Mae’n rhaid dod â’r cyfan hyn at ei gilydd mewn ffordd y gallwn ddechrau heddiw gyda’r ieuengaf o’n plant a’u symud ymlaen ac edrych arno mewn ffordd gyfannol. Hoffwn weithio gyda chi. Byddem yn hoffi gweithio gyda chi i sicrhau bod y cynllun iechyd plant mewn gwirionedd yn edrych arno yn y ffordd gydweithredol honno. Mae’n debyg braidd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd â chynaladwyedd a chydraddoldeb yn egwyddorion ysgogol yn sail i’r lle hwn. Hoffwn weld iechyd a lles plant yn egwyddor ysgogol sy’n sail i holl bolisïau’r Llywodraeth. Mae’n rhywbeth y mae gwahanol bwyllgorau dros y blynyddoedd—. Rwy’n meddwl bod y Dirprwy Lywydd a minnau yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc pan edrychasom ar gyllidebu a sut y gall cyllidebau effeithio ar iechyd plant a chanlyniadau addysgol plant.

Roeddwn yn meddwl bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud rhai pwyntiau dilys iawn ar y gwelliannau. Mynd i’r afael â gordewdra: dyna enghraifft, pe bai gennym weledigaeth lle rydym yn deall bod gordewdra yn broblem o ran iechyd, yna byddem yn ysgogi’r newid hwnnw ar lefel yr ysgolion mewn gwirionedd. Rydych yn iawn, Ysgrifennydd y Cabinet; nid yw’n ymwneud yn unig â chwaraeon elitaidd neu chwaraeon. A dweud y gwir, mae’n ymwneud â hwyl. Mae’n ymwneud â mynd allan a neidio o gwmpas mewn campfa neu ar faes chwarae, bod yn egnïol a symud. Os oes gennym y weledigaeth gyffredinol, yr edafedd aur, yna byddem yn edrych, o’r crud i’r bedd, ar sut y gwnawn ein hunain yn iach. I fod yn onest, i rywun fy oedran i mae’n debyg ei bod hi’n rhy hwyr, ond ar fy ngwir, y rhai dwy oed, tair oed, pedair oed, saith oed, fy merched—12 a 14 oed—ein plant i gyd—

Nid wyf yn sicr y byddai trampolinio’n fy nghynnal, mewn gwirionedd, David Melding. [Chwerthin.] Nid wyf am dorri rhagor o esgyrn. Ond mae’n ymwneud â dal yr ifanc a newid eu ffyrdd o fyw a newid eu disgwyliadau. Y peth arall nad ydym wedi’i grybwyll yw hyn: bydd unigolyn iach sy’n wydn yn emosiynol, a fydd, yn 18, 19 neu’n 20 oed, yn dechrau mewn swydd neu’n cychwyn mewn addysg uwch yn rhywun a fydd yn llwyddo’n llawer gwell yn eu bywydau mewn gwirionedd. Byddant yn cael gwell canlyniadau ac yn eu tro, byddant yn magu plant hapusach, iachach a mwy gwydn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod yn mynd i fwrw ymlaen â hyn a cheisio ffurfio gweledigaeth. Byddwn yn gweithio gyda chi. Hoffwn ddiolch i bawb—nid wyf wedi cael cyfle i ddiolch i bawb—am gymryd rhan yn y ddadl.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Cronfa’r Teulu

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar Gronfa’r Teulu. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig. Rhun.

Cynnig NDM6252 Rhun ap Iorwerth

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri cyllid Cronfa’r Teulu, a naill ai gwyrdroi’r toriadau i Gronfa’r Teulu, neu sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma. Mae hi’n ddadl digon syml mewn difri, ag iddi ffocws clir iawn. Dadl ydy hi am sut rydym ni’n amddiffyn rhai o’r teuluoedd mwyaf tlawd a mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi’n tynnu sylw at sefyllfa pan, mewn difri, gall polisi a allai fod yn un da ar y cyfan fod yn esgeuluso’r grŵp pwysig a bregus iawn yma o bobl drwy’r print mân. Nid oeddwn i ddim yn ymwybodol o Gronfa’r Teulu, mae’n rhaid i mi ddweud, tan i mi gyfarfod ag un o’i hymddiriedolwyr, sy’n etholwraig i mi. Mi eglurwyd wrthyf beth oedd gwerth y gronfa ac mi eglurwyd wrthyf beth oedd yn cael ei golli drwy dorri ar y gronfa honno. Prif bwrpas Cronfa’r Teulu ydy dosbarthu arian cyhoeddus ar ffurf grantiau i deuluoedd efo plant sâl ac anabl. Mae teuluoedd yn gallu gwneud cais am grantiau tuag at eitemau i’r cartref, dillad gwely neu offer arall—eitemau bob dydd sy’n gallu lleddfu’r baich o ofalu am blentyn efo anabledd difrifol—ac mae’n darparu efallai rhyw £500 y flwyddyn i deuluoedd incwm isel sydd fwyaf angen cymorth. Gwae ni os ydym ni yn anghofio bod £500 yn lawer o arian; mae o yn swm mawr iawn o arian i deuluoedd incwm isel, yn sicr. Mi fydd fy nghyd-Aelodau i, rwy’n gwybod, yn ymhelaethu ar rai o’r ffyrdd y mae’r arian yna yn gallu cael ei ddefnyddio, a rhai o’r ffyrdd y mae’r arian yna yn hanfodol i deuluoedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy’n mynd i ganolbwyntio, os caf, ar pam rwy’n meddwl bod gwelliant y Llywodraeth i’n cynnig ni yn fethiant i sylweddoli a chydnabod beth sydd yn y fantol yma. Mae dogfen a gafodd ei hanfon at Aelodau Cynulliad ddoe—rwy’n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi cael cyfle i’w gweld hi—yn nodi bod Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn siomedig iawn fod gwelliant y Llywodraeth i’r ddadl ddydd Mercher yma yn methu â chydnabod neu fynd i’r afael â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl o dorri’r cyllid i Gronfa’r Teulu o dros £5.5 miliwn dros y tair blynedd 2016-17 i 2018-19. Mae o’n mynd ymlaen i ddweud hyn: nid yw hwn yn fater cyffredinol yn ymwneud â chyllid prosiect i’r trydydd sector, ond yn hytrach yn un sy’n effeithio ar deuluoedd incwm isel gyda phlant anabl yn uniongyrchol, gyda dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru rŵan ddim yn gallu cael mynediad at grant blynyddol o £500 ar gyfartaledd—£500 a all gael effaith anferth ar gyllideb flynyddol teuluoedd incwm isel. Ac maen nhw’n ein hatgoffa ni bod y tair gweinyddiaeth arall yn y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal eu cymorth ariannol i Gronfa’r Teulu ar raddfa 2015-16. Mi gyhoeddodd Adran Addysg Lloegr ddoe, trwy gyd-ddigwyddiad, eu bod nhw yn parhau i gyllido’r rhaglen—swm o £81 miliwn dros dair blynedd.

Mi fyddwn i yn ychwanegu bod gwelliant y Llywodraeth yn awgrymu nad yw Gweinidogion wedi bod yn ymwybodol, neu ddim wedi ystyried bod y shifft mewn cyllid i’r cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy’r trydydd sector wedi cael yr effaith yma ar gyllido uniongyrchol i deuluoedd. Nid oes dewis amgen. Nid yw nodi cynlluniau eraill sydd ar gael ac argaeledd gwasanaethau hawliau lles, er enghraifft, yn gwneud i fyny am y ffaith bod hwn yn golled uniongyrchol i’r teuluoedd, yn enwedig mewn hinsawdd lle mae mathau eraill o gefnogaeth yn diflannu. Mae straeon defnyddwyr y gwasanaeth rydym wedi eu clywed yn dangos hyn. Rwy’n dyfynnu eto o ddogfen Gofalwyr Cymru, Contact a Family Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, sy’n dyfynnu rhiant sydd ddim bellach yn gallu cael mynediad at gymorth Cronfa’r Teulu: ‘Fel rhiant plentyn gydag anabledd difrifol, rydw i’n gwybod pa mor anodd a digalon ydy hi i drio cario ymlaen yn ystod amser o doriadau mewn cyllidebau, yn ogystal â gelyniaeth ar ran Llywodraeth San Steffan tuag at fudd-daliadau anabledd. Rydym ni’n cario ymlaen orau y gallwn ni, ond rydym yn byw ar ddibyn methu ymdopi yn ariannol, yn ogystal ag mewn ffyrdd eraill.’ Mae grantiau Cronfa’r Teulu yn ‘lifeline’ i gymaint o bobl, meddai’r rhiant yna.

Rydym wedi cyflwyno’r cynnig yma ar ôl clywed gan fudiadau sydd yn rhwystredig efo’r sefyllfa—efo colled yr arian ond hefyd y diffyg cydnabyddiaeth bod toriad wedi bod, achos mae yna. Dyna pam rydym ni wedi ei eirio fo mewn ffordd sy’n cynnig ffordd amgen ymlaen i’r Llywodraeth. Os oes yna fodd gwahanol i symud ymlaen yn defnyddio model gwahanol i Gronfa’r Teulu—iawn, gadewch inni ystyried hynny. Beth sy’n bwysig i ni, a beth sy’n bwysig yng ngeiriad y cynnig yma ydy bod y cymorth uniongyrchol yna mewn rhyw fodd yn cael ei adfer.

Diolch. Wrth gwrs, os yw hwn yn cael ei basio heddiw, ni fydd un geiniog yn mynd drwodd. Yr unig ffordd i gael arian ychwanegol ar gyfer hyn yw drwy’r gyllideb atodol gyntaf, onid e?

Rwy’n credu eich bod yn ddireidus. Rydym yn sôn yma am gronfa na chymerir ei lle gan unrhyw fodel cyllid uniongyrchol arall gan y Llywodraeth. Dyna pam, yn fy marn i, ei bod wedi cael ei chadw gan Lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae angen i’r Llywodraeth sylweddoli, er gwaethaf cryfderau mesurau eraill a roddodd y Llywodraeth ar waith, o bosibl, i gefnogi’r teuluoedd hyn yn anuniongyrchol, fod angen ailgyflwyno’r gefnogaeth uniongyrchol honno.

Rwy’n ceisio deall pam eich bod yn canolbwyntio cymaint ar Gronfa’r Teulu, oherwydd ceir 32 o sefydliadau sydd wedi elwa o’r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol hwn ac nid Cronfa’r Teulu yw’r unig gynllun sydd ar gael o ran cefnogaeth i deuluoedd anabl, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt drwy wahanol sefydliadau.

Rwy’n ailadrodd y pwynt: nid oes cynllun taliadau uniongyrchol arall ar gael. Dyma yw gwerth Cronfa’r Teulu yn benodol. Oes, mae yna elfennau eraill o gymorth y Llywodraeth, sy’n anuniongyrchol ac wrth gwrs y gall gefnogi teuluoedd, ond nid oes dim i gymryd lle’r cyllid uniongyrchol sy’n mynd i’r teuluoedd tlotaf. [Torri ar draws.] Wel, mae’n wir, ac rydym yn sôn am y teuluoedd mwyaf agored i niwed a’r teuluoedd tlotaf drwy brofion modd. A dyna pam y mae mor greulon fod y ffynhonnell gyllid hon wedi cael ei thorri, pan fo Llywodraethau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi gwneud y penderfyniad cywir, yn fy marn i, fel y gwnaeth yr adran addysg yn Lloegr—ddoe, drwy gyd-ddigwyddiad, fe ychwanegaf—i gadw’r £81 miliwn o gyllid yn Lloegr dros gyfnod o dair blynedd.

As I said, we were proposing a way forward in the wording of our motion by saying that we’re not saying that this has to happen through the Family Fund. If there’s an alternative approach to providing direct funding to families, then we would be happy for that to happen, and truth be told, I think that we had expected that the Government would have agreed to look at this and to seek a way forward. So, the Government’s amendment was a huge disappointment, to say the least, and reinforces our position, where it appears that the Government won’t recognise that this direct funding is being cut and that there is nothing available to replace it.

We support the Conservative amendment that notes that Wales is the only nation that hasn’t maintained, in full, this crucial fund. I look forward to the debate this afternoon. I do hope that we can all agree that the most vulnerable families and the most vulnerable children do deserve our direct support. Let us therefore take that into account as we vote later this afternoon.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi’r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy’n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy’n magu plant anabl neu ddifrifol wael.

b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy’n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi’i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.

c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a’u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016.

2. Yn cydnabod bod Cronfa’r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.

3. Yn croesawu’r effaith gadarnhaol y mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi’i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a’r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy’n gofalu am blant anabl neu ddifrifol wael.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf nawr ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i Gronfa’r Teulu.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Mae teuluoedd â phlant anabl yn wynebu costau uwch ac incwm is na theuluoedd eraill. Mae ymchwil Cyswllt Teulu yn dangos y gallai’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflwr y plentyn fod yn £300 neu fwy bob mis, gydag 84 y cant o deuluoedd sydd â phlant anabl wedi mynd heb hamdden a diwrnodau allan. Am dros 40 mlynedd, prif swyddogaeth Cronfa’r Teulu oedd helpu i unioni’r cydbwysedd drwy ddosbarthu arian cyhoeddus ar draws y DU ar ffurf grantiau i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant sâl ac anabl, gyda theuluoedd yn gallu gwneud cais am grant cyfartalog o £500 yn flynyddol. Roedd cyllid Llywodraeth Cymru hyd at 2015-16 yn £2.64 miliwn, gyda’r cyfan bron wedi’i ddosbarthu’n uniongyrchol i 5,429 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl ledled Cymru.

Mae’r gweinyddiaethau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cadw eu cefnogaeth ariannol i Gronfa’r Teulu ar gyfraddau 2015-16. Fodd bynnag, ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis torri £5.5 miliwn oddi ar ei chyfraniad, fel y clywsom, dros dair blynedd, sy’n golygu na all dros 4,000 o deuluoedd bob blwyddyn drwy Gymru gael y cymorth hwn. Mewn cyferbyniad, cadarnhaodd Adran Addysg y DU yr wythnos hon y bydd yn cadw ei chyllid Cronfa’r Teulu blynyddol o £27.3 miliwn am dair blynedd hyd at 2020—cyfanswm o £81.9 miliwn—gan sicrhau y bydd degau o filoedd o deuluoedd yn Lloegr yn gallu dibynnu ar y cymorth ychwanegol hwn.

Fel y dywedodd Gweinidog Gwladol y DU dros Blant a Theuluoedd sy’n Agored i Niwed, Edward Timpson AS,

Ni ddylai unrhyw blentyn, waeth beth fo’r rhwystrau y mae’n eu hwynebu, fethu cael profiadau bywyd hanfodol.

Felly rwy’n cynnig gwelliant 2, sy’n nodi bod y Llywodraethau Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr i gyd wedi cadw eu cyllid ar gyfer Cronfa’r Teulu.

Er bod y polisi yng Nghymru wedi ymwahanu ers datganoli, parhaodd y cyllid hwn, gan ei fod yn ffordd werthfawr a chosteffeithiol iawn o gefnogi teuluoedd sydd â phlant anabl. Newidiodd y sefyllfa hon yn Ebrill 2016 pan benderfynodd Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Gronfa’r Teulu wneud cais am ei chyllid o’r cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Nid oedd yn gynaliadwy. Nid yw’n ymddangos eu bod wedi cyhoeddi unrhyw ddadansoddiad o’r effeithiau y byddai tynnu cyllid mor sylweddol yn ôl yn eu cael ar y teuluoedd yr effeithir arnynt. Gostyngodd cyllid Llywodraeth Cymru yn 2016-17 i £900,000, gan gynnwys taliad untro o £400,000, a’r flwyddyn nesaf bydd yn disgyn i £499,000 yn unig, gan gyfyngu’r cymorth i 875 amcangyfrifedig o deuluoedd yn unig.

Ymhellach, nid yw teuluoedd yng Nghymru ond yn gallu gwneud cais am grant unwaith bob pedair blynedd erbyn hyn, tra bo teuluoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu ymgeisio bob blwyddyn, ac maent yn wynebu cyfyngiadau ar y math o gymorth y gellir defnyddio grant ar ei gyfer yng Nghymru. Mae’n wallgof y bydd y toriadau hyn yn cynyddu’r baich ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol a’r GIG ac yn mynd yn groes i’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad a fydd yn effeithio’n andwyol ar yr union deuluoedd y maent yn honni bod eu polisïau wedi’u cynllunio i’w cynorthwyo. Drwy barhau i ddargyfeirio’r mater ymlaen at gyllid cyffredinol ar gyfer y sector gwirfoddol, maent yn methu cydnabod yr effaith negyddol uniongyrchol y mae eu toriad o £5.5 miliwn i’r cyllid yn ei chael. Mae’r elusennau Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi mynegi siom fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn methu cydnabod neu ymdrin â’r effaith ariannol uniongyrchol ar deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl a difrifol wael ar draws Cymru—y dros 4,000 o deuluoedd yng Nghymru nad oes grant blynyddol ar gael iddynt bellach. Nid wyf yn meddwl bod ‘siom’ yn gwneud cyfiawnder â’r anobaith a deimlir. Fel y maent yn nodi, roedd y toriad anferth hwn i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl,

yn ganlyniad hollol ragweladwy i’r penderfyniad i uno dyraniad Cronfa’r Teulu â’r grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ôl ym mis Rhagfyr 2015... ffaith a fethwyd yn llwyr yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a wnaed ar y pryd.

Maent hefyd yn nodi bod y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r cyllid blynyddol ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, yn bodoli cyn y penderfyniad i dorri Cronfa’r Teulu ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi ailddyrannu swm cyfatebol i gynorthwyo teuluoedd sydd â phlant anabl.

Fel y dywedodd un etholwr wrthyf:

Mae fy mhlentyn chwech oed yn anabl a heb Gronfa’r Teulu, ni fyddem wedi gallu sicrhau ei fod yn ddiogel yn ein gardd na chynnig llechen iddo i’w helpu gyda’i anabledd.

Wel, byddai Llywodraeth Cymru aeddfed yn rhoi’r gorau i wneud pethau i fod yn wahanol yn unig a dechrau eu gwneud yn well—a rhoi’r gorau i wneud pethau i bobl a dechrau gwneud pethau gyda hwy.

Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig ar Gronfa’r Teulu. Wrth gwrs, fel rydym wedi clywed, nid hon yw’r gronfa fwyaf erioed, ond mae’n bwysig achos mae’n darparu arian uniongyrchol i deuluoedd tlawd efo plant efo salwch difrifol ac anableddau difrifol. Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol. Nid yw’n cael ei arallgyfeirio drwy ffynonellau amgen sydd yn tueddu i sugno rhan o’r pres drwy eu gweithgareddau gweinyddu, pa bynnag gyllid prosiect ydy o. Ac, wrth gwrs, mae’n werth nodi bod yna gostau ychwanegol o gael anabledd, yn enwedig os ydym yn derbyn y model cymdeithasol o anabledd. Mae hynny’n golygu bod yna gyfrifoldeb ar bawb, felly, i gydnabod y ‘social model’ o anabledd, a chyfrifoldeb ar bawb i drio cael gwared â’r rhwystrau yna sydd yn ffordd pobl efo anableddau i allu byw bywyd yn llawn. Felly, o ddilyn ac o gydnabod pwysigrwydd y model cymdeithasol yna o anabledd, mae’n rhaid derbyn bod yna gostau ychwanegol, felly, i wneud yn siŵr bod pobl efo anableddau yn gallu byw bywyd yn llawn.

Wrth gwrs, mae yna gostau ychwanegol. Mae yna gyfarpar ychwanegol, fel rydym ni wedi clywed amdano. Mae yna ofal cymhleth iawn, ac nid yw’r cyfan ohono yn gallu cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid i rieni orfod gweithio’n hyblyg, weithiau ddim o gwbl, ac wrth gwrs mae hyn i gyd yn achosi straen anferthol ar deuluoedd. Rydw i yn credu ei bod hi yn ddyletswydd foesol arnom ni fel cymdeithas yn gyffredinol i helpu i edrych ar ôl ein plant mwyaf bregus, achos, wrth gwrs, fe allem ni gyd fod wedi bod yn rhiant i blentyn efo anabledd. Yn ffodus iawn, nid yw’r rhan fwyaf ohonom ni yn y sefyllfa yna, ond rwy’n credu bod yna ddyletswydd foesol arnom ni i helpu i edrych ar ôl y rhieni yna sydd yn y sefyllfa yna. Achos, fel meddyg teulu, rŵan—nid wyf yn siŵr os ydw i wedi sôn am hyn o’r blaen—ers dros 30 mlynedd yn Abertawe rydw i wedi adnabod ac yn dal i adnabod nifer o deuluoedd sydd efo’r broblem yma yn hirdymor. Rydw i wedi gweld babanod yn cael eu geni, a nawr maen nhw’n oedolion gydag anableddau difrifol, ac mae’r straen wedi bod yn anferthol, ac fel gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rydym ni’n gallu darparu gymaint ag y medrwn ni, ond mae yna wastad gostau ychwanegol sy’n rhaid i deuluoedd wynebu.

Wrth gwrs, mae’r pwysau ariannol yna yn waeth mewn teulu ar incwm isel—mae yna fath o ‘double jeopardy’, onid oes? Rydym ni’n gwybod eisoes bod tlodi yn esgor ar safon o iechyd gwael, wel, meddyliwch chi fod gennych chi safon o iechyd gwael i ddechrau achos bod anabledd gyda chi, ac mae tlodi yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Mae’r ddau beth yn amharu ar safon eich bodolaeth, achos mae hi yn anodd iawn pan nad oes yna ddigon o arian. Ar ben hynny, mae teuluoedd yn teimlo o dan ormes. Nid yw pobl fel arfer yn licio gorfod gofyn am bob peth ychwanegol o hyd, a hefyd maen nhw’n teimlo gelyniaeth, yn enwedig oddi wrth Lywodraeth San Steffan ynghyd â’r holl fusnes budd-daliadau a phopeth arall. Ar ben hynny, rŵan maen nhw’n colli’r arian uniongyrchol yma. Fel sydd wedi cael ei nodi eisoes, nid yw colli’r Gronfa Teulu yma yn digwydd mewn unrhyw wlad arall. Cymru ydy’r unrhyw wlad sy’n colli’r taliad uniongyrchol yma, a Chymru ydy’r wlad dlotaf. Nid yw’r peth yn gwneud synnwyr. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadw eu Cronfa Teulu nhw.

Yn y bôn mae yna golli pres yn fan hyn. Rydw i’n gwybod sut mae’r pethau yma’n digwydd: mae yna ailstrwythuro ac mae yna ‘unintended consequences’ fel y byddai’r Sais yn dweud. Ond yn y bôn, mae teuluoedd yn colli arian uniongyrchol. Mae ein cynnig ni yn nodi cyfle i roi’r arian yma yn ôl mewn unrhyw ffordd, ond mae’n bwysig bod yr arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd, nid yn cael ei sugno i mewn i strwythurau ‘project funding’ y trydydd sector ac yn cael ei golli wedyn o fod yn uniongyrchol i’n teuluoedd mwyaf bregus ni. Diolch yn fawr.

Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae Cronfa’r Teulu yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i deuluoedd sydd â phlant anabl ac mae’n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri cyllid y gronfa. Mae colli £5.5 miliwn o Gronfa’r Teulu yng Nghymru yn golygu nad yw miloedd o deuluoedd yn cael y math o gefnogaeth y mae teuluoedd yng ngweddill y DU yn ei mwynhau.

Deallaf honiad Llywodraeth Cymru fod yn rhaid iddynt reoli adnoddau cyfyngedig; fodd bynnag, pan fyddwch yn cyhoeddi eich bod yn rhyddhau £10 miliwn i ddatblygu teithiau hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, rhaid i mi gwestiynu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwadu cymorth brys a gofal seibiant i filoedd o blant anabl ar yr un pryd ag yr ydym yn ceisio prynu busnes ychwanegol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Ni allaf gytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio’i wneud gyda Maes Awyr Caerdydd, ond ar adeg pan fo arian yn dynn, ni ddylem fod yn ceisio denu cwmnïau hedfan i hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, ac nid ar draul plant anabl yn enwedig. Byddai’r £10 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer y maes awyr yn talu am Gronfa’r Teulu am y chwe blynedd nesaf. Nid wyf yn dweud y dylid canslo’r gwaith ar ddatblygu llwybrau, dim ond ei ohirio hyd nes y gallwn ei fforddio, a pheidio â bwrw ymlaen ar draul plant anabl.

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried. Byddaf yn sefyll gyda’r dros 4,000 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn. Mae Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid ei phenderfyniad ac adfer Cronfa’r Teulu i’w lefelau blaenorol fan lleiaf. Bydd UKIP yn gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy’n annog cyd-Aelodau i wneud yr un peth. Gadewch i ni anfon neges glir: nid yw caledi yn golygu cosbi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch.

Fel y gwyddom ni, mae’r Gronfa Deulu yn cynnig tua £500 y flwyddyn i deuluoedd ar incwm isel sydd angen yr help mwyaf. Mae’r ffaith bod modd defnyddio’r arian mewn modd hollol hyblyg yn allweddol. Dywed un rheolwr elusen wrthyf i mai dyma’r unig ffynhonnell y gall hi droi ati bellach ar gyfer nifer o faterion, yn cynnwys, er enghraifft, arian i gefnogi teuluoedd i gael gwyliau byr, gwyliau maen nhw’n llawn haeddu—penwythnosau i ffwrdd sydd yn llesol iawn, ond gwyliau na fydden nhw byth yn gallu fforddio heb y gronfa yma. Gan fod y gronfa yn dibynnu ar lefel incwm y teulu, mae’n golygu mai dim ond y teuluoedd sydd wir angen yr help i gael gwyliau sydd yn derbyn cymorth. Felly, mae torri’r grantiau uniongyrchol yn golygu y bydd rhai o deuluoedd mwyaf bregus Cymru yn dioddef.

Rydw i am sôn am dri theulu yr ydw i’n gwybod amdanyn nhw a sut maen nhw wedi cael budd uniongyrchol o’r gronfa. Teulu o bedwar—mam a thad a dau blentyn, dwy a thair oed—ac mae gan y plentyn hynaf anableddau difrifol sydd yn golygu tripiau cyson—wythnosol, weithiau dyddiol—i’r ysbyty. Mae’n golygu aros yn yr ysbyty, ymhell o adref, ar adegau cyson. Mae gofal y rhieni o’r plentyn yn arbennig iawn. Mae’r fam yn ei 20au a’r ddau riant wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu am y plentyn. Mi fyddai hi’n anodd iawn iddyn nhw weithio, yn enwedig gan fod yr ifancaf hefyd angen gofal. Gyda llaw, mae gofal y gymuned o’r teulu hwn yn ysbrydoli rhywun. Mae’r gymuned wedi codi arian i brynu offer chwarae pwrpasol ar gyfer cae chwarae’r pentref. Mae’r plentyn yn cael ymuno efo’i gyfoedion yn y pentref er gwaethaf yr anabledd.

Maen nhw’n defnyddio’r arian maen nhw’n ei gael o’r gronfa i’w helpu nhw efo costau teithio i’r ysbyty. Mae angen ymweld yn aml ag Ysbyty Gwynedd, 15 milltir i ffwrdd. Maen nhw hefyd angen mynd i ysbyty Alder Hey Lerpwl yn gyson—taith o bron i ddwy awr yna a dwy awr yn ôl ar hyd yr A55, sy’n golygu yn aml fod y daith yn cymryd tair neu bedair awr. Rhaid mynd yn y car oherwydd mae hwnnw wedi cael ei addasu’n arbennig ar gyfer y plentyn. Ni fydden nhw byth yn cyrraedd yno mewn pryd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen talu toll o £1.70 bob siwrnai ar ben y costau teithio a heb sôn am gostau aros, bwyd, ac ati. Mae modd gwneud cais am rywfaint o’r arian costau teithio gan y bwrdd iechyd neu’r ysbyty, ond ar ôl talu mae hynny’n gorfod digwydd. Mae angen cadw pob derbynneb yn ofalus—y peth olaf sydd ar feddwl rhywun o dan amgylchiadau sydd yn hynod anodd yn barod.

Mae gan yr ail deulu blentyn awtistig. Maen nhw wedi cael budd o’r gronfa mewn ffordd arall: maen nhw wedi cael arian i brynu rhewgell fawr sy’n golygu eu bod nhw’n gallu prynu lot o fwyd ar unwaith a’i rewi. Nid ydy mynd i siopa efo plentyn awtistig ddim yn orchwyl hawdd bob tro. Maen nhw’n byw mewn ardal wledig ac felly maen nhw’n arbed ar gostau petrol drwy orfod gwneud llai o dripiau. Mae’r siop agosaf chwe milltir i ffwrdd. O’r Gronfa Deulu y cawson nhw’r arian i brynu’r rhewgell. Byddai wedi cymryd blynyddoedd i’r teulu yma gynilo er mwyn medru prynu rhewgell.

Mae’r trydydd teulu yn cynnwys plentyn byddar. Mae’r teulu yma hefyd yn byw mewn ardal wledig. Mae gan y plentyn declyn clyw ac mae angen iddo fo gael ei fonitro yn gyson yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn golygu taith o awr o’r cartref yn ôl ac ymlaen. Mae’r costau petrol yn golygu bod y teulu weithiau yn penderfynu peidio mynd at yr apwyntiadau— yn eu sgipio nhw—ac wrth gwrs os ydy hynny’n digwydd dair gwaith yn olynol, mi all y plentyn ddisgyn oddi ar radar y gwasanaethau yn yr ysbyty, ac mi all hynny greu problemau mawr nes ymlaen.

Yn unol ag ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n rhaid cydnabod gwerth ataliol y gronfa. Efo’r teulu yma, o flaenoriaethu pethau eraill o flaen costau petrol i fynd i apwyntiadau ysbyty, mae problemau yn gallu codi efo’r offer clyw; mae problemau cyfathrebu ac addysg yn codi; mae’r plentyn yn mynd ar ei hôl hi yn yr ysgol, ac angen cymorth ychwanegol, a dyna ni yn dechrau cynyddu’r costau yn sylweddol. Mae problem y mae datrysiad hawdd iddi hi, sef cynnig pot bychan o arian ar gyfer y teithio, ond mae’n gallu datblygu yn broblem fawr gostus, ac wrth gwrs y plentyn sy’n dioddef yng nghanol hyn oll.

Fel rydym ni wedi clywed, mae plant a theuluoedd Lloegr yn cael manteisio ar gronfa debyg am dair blynedd arall. Yng Nghymru, mi oedd y gronfa yn gallu cefnogi 5,429 o deuluoedd—teuluoedd tebyg iawn i’r rhai rydw i newydd ddisgrifio. Eleni, 1,500 fydd yn cael cefnogaeth. Y flwyddyn nesaf, yr amcangyfrif ydy mai 875 o deuluoedd yn unig a fydd yn cael cymorth. Mae 4,000 o deuluoedd fel y rhai rydw i wedi sôn amdanyn nhw heddiw—rhai o’n teuluoedd mwyaf bregus—yn waeth eu byd.

Mae toriad blynyddol Cronfa’r Teulu yn £1.83 miliwn. Felly, i roi ychydig o gyd-destun i hyn: trefnwyd i’r ddadl hon bara am 60 munud, 20 munud wedi i’r ddadl hon ddod i ben, bydd Llywodraeth y DU wedi rhoi’r swm hwnnw allan mewn cymorth tramor. Rydym yn genedl gyfoethog. Mae gennym arian.

Rwyf wedi gwneud rhai symiau sylfaenol yn seiliedig ar ohebiaeth a gefais, felly mae’n bosibl y bydd y ffigurau’n wahanol, ond fe ddowch i ddeall o’r hyn rwyf ar fin ei ddweud. Mae tua 5,429 o deuluoedd yn fras sy’n gymwys ar gyfer Cronfa’r Teulu. Mae hynny oddeutu £337 y teulu. Beth y mae’r swm yn ei olygu? Wel, mae ychydig yn fwy na chost dwy drwydded deledu, neu fil bwyd am fis, neu ychydig yn fwy hyd yn oed na lwfans diwrnod i arglwydd etholedig. Swm bach o arian yw hwn, ond mae’n darparu seibiant i’w groesawu’n fawr i’r rhai sy’n ei dderbyn.

Mae magu a gofalu am blentyn ag anabledd yn gallu bod yn heriol yn feddyliol ac yn gorfforol, gan roi straen ychwanegol ar gyllidebau, iechyd, emosiynau a pherthnasoedd. Mae Cymru bellach yn wahanol i weddill y DU. Rydym yn llusgo ar ôl unwaith eto. Er bod y rhain yn symiau cymharol fach o arian, heb unrhyw fudd cymdeithasol neu economaidd uniongyrchol amlwg, maent yn effeithio’n anghymesur ar ran o’n cymdeithas y mae bywyd yn ddigon heriol iddynt yn barod.

Mae un o’r rhai a gafodd fudd o Gronfa’r Teulu—Kate yw ei henw—wedi dweud wrthyf fod ei merch wedi cael diagnosis o barlys yr ymennydd yn 10 mis oed. Nid oedd yr un o’r rhieni’n gallu gyrru. Roedd apwyntiadau ysbyty, siopa, a theithiau allan i gyd yn ddibynnol ar eraill. Talodd Cronfa’r Teulu am wersi gyrru a phrawf i Kate. Roedd yn rhaid iddi basio’r prawf, ac fe wnaeth hi, y tro cyntaf. Rhoddodd hynny rywfaint o ryddid i’r teulu. Bellach, nid oedd yn ddibynnol ar eraill, a gallai ei phlentyn fynd i’w hapwyntiadau niferus ac amrywiol yn y car wedi’i addasu yr oedd ei angen arni—swm cymharol fach o arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae Kate yn dal i yrru’r car wedi’i addasu, mae hi’n dal i gludo ei phlentyn o gwmpas i’r apwyntiadau niferus ac amrywiol y mae’n parhau i fod eu hangen, ac y bydd eu hangen bob amser, ynghyd â’r gofynion cymdeithasol sydd gan ferch 16 oed.

Y peth yw bod y gallu hwn i yrru hefyd wedi agor y farchnad swyddi i Kate. Mae hi bellach yn gweithio’n llawnamser, gan gyfrannu at gymdeithas, ac yn fodel rôl gwych ar gyfer ei merched. Nid yw Cronfa’r Teulu’n defnyddio cerdyn credyd cwmni i brynu dillad isaf moethus, ac nid yw’n ariannu teithiau pum seren i Barbados; mae’n talu am beiriant golchi dillad newydd neu benwythnos hir mewn carafán hygyrch wedi’i addasu yn y DU, gan roi seibiant mawr ei angen—pethau y mae llawer ohonom yma yn eu cymryd yn ganiataol.

Nid oes gennyf amheuaeth fod ein holl fewnflychau yma wedi cael llif o negeseuon e-bost gan ein hetholwyr am y bleidlais hon heddiw—wyddoch chi, y bobl go iawn hynny yr ydym yma i’w cynrychioli, y rhai yr ydym i fod i siarad drostynt. Byddai’n werth i Lafur Cymru gofio hynny pan fyddant yn pleidleisio ar y cynnig hwn yn nes ymlaen. Mae unrhyw un sy’n pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn allan o gysylltiad â phobl go iawn ac mae angen iddynt fynd allan i’r byd go iawn.

Mae pob gweinyddiaeth arall yn y DU wedi cadw’r cyllid. Unwaith eto, mae Llafur Cymru yn gwneud cam â’r rhai sydd fwyaf o angen cymorth. Un gair olaf, Weinidog: ni allwch wneud i hyn swnio’n well nag y mae, fel y byddwch yn ddiau yn ceisio ei wneud. Toriad ydyw, tynnu’n ôl, dirywiad yn y ddarpariaeth. Mae unrhyw awgrym i’r gwrthwyneb yn warthus. Galwodd Mark Drakeford ar y Canghellor heddiw i wrthdroi’r toriadau yn y gyllideb. Wel, rhowch drefn ar eich tŷ eich hun, dilynwch eich cyngor eich hun, a gwrthdrowch y toriad dinistriol hwn.

Rwy’n meddwl bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt yn ddigon clir am bwysigrwydd Cronfa’r Teulu, felly rwyf am roi’r ddadl yng nghyd-destun ehangach anabledd a’r ffaith fod toriadau i fudd-daliadau eraill, wrth gwrs, wedi effeithio ar bobl anabl mewn modd anghymesur yn aml. Rydym wedi clywed am rai o doriadau proffil uchel y Llywodraeth yn y maes hwn, ond cafwyd dros 100 o newidiadau i nawdd cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhai ohonynt wedi hedfan o dan y radar i lawer. Mae’n rhaid i ni ystyried effaith gronnol yr holl newidiadau hyn ar y penderfyniad penodol yma heddiw, oherwydd efallai na fydd colli £5 yr wythnos yn swnio’n llawer i gefnogwyr cyfoethog rhai o’r pleidiau eraill yma heddiw, ond pan fydd hyn yn digwydd gannoedd o weithiau, mae’n rhaid i ni ystyried effaith gyffredinol y newidiadau hyn, sy’n aml yn gosbol, ar bobl.

Pan ddarllenais y briff gan Gofalwyr Cymru a Cyswllt Teulu—. Fel y mae Sian Gwenllian eisoes wedi dweud, roedd yn £500 o grant. Ym mhersbectif ehangach pethau, nid yw’n grant mawr iawn i bobl gael mynediad ato. Mae’n eithaf syfrdanol mewn gwirionedd i weld, o’r negeseuon e-bost a gefais, beth y gellir ei wneud â’r arian hwnnw a pham eu bod yn ei ystyried mor werthfawr.

Felly, os oes trafodaeth yn mynd i fod ynglŷn â beth sy’n dod ar ôl Cymunedau yn Gyntaf—a gwn fod rhai cronfeydd yn mynd i gael eu hymestyn—er mwyn ceisio bod yn adeiladol, yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw pa un a ellid trafod hyn fel rhan o’r broses honno. Oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn yn trafod rhaglenni tlodi newydd, mae’n rhaid i ni drafod hynny yng nghyd-destun yr hyn sy’n cael ei dorri neu ei newid yn awr er mwyn i ni allu paratoi ar gyfer hynny yn y dyfodol, ac ni fyddem eisiau gweld, ac rwy’n siwr na fyddai neb yn y Siambr hon eisiau gweld, effaith anghymesur ar rai teuluoedd.

Rwy’n meddwl mai dyna pam yr oeddwn yn pryderu wrth weld, unwaith eto, y cyfarwyddyd na fyddai unrhyw effaith andwyol ar bobl yn deillio o’r penderfyniad i symud cyllid i’r cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Felly, mae angen i mi ddeall beth fydd y cynllun hwnnw’n ei ddweud. A fydd arian wedi’i glustnodi yn y cynllun hwnnw fel y gall teuluoedd ddeall sut y gallant dracio’r cynllun hwnnw a sut y gallant weld i ble mae’r arian yn mynd? Oherwydd rwy’n credu bod hwnnw’n destun pryder allweddol. Oherwydd, ar hyn o bryd, gallant weld y gyllideb am yr hyn ydyw a gallant ei dadansoddi am yr hyn ydyw, ac rwy’n credu bod hynny’n peri pryder i lawer ar gyfer y dyfodol.

Fel y mae llawer wedi dweud eisoes heddiw, rydym wedi cael negeseuon e-bost ynglŷn â’r mater hwn—credaf fod hynny’n adlewyrchu pwysigrwydd y mater. Ni fyddem yn derbyn negeseuon e-bost pe na bai’n bwysig. Rwy’n credu na ddylid bychanu hyn, felly—mae 4,000 o deuluoedd sydd â phlant anabl ar eu colled eto. Rydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU, onid ydym? Rydym yn ei ddisgwyl ganddynt hwy, o ran y newidiadau y maent yn eu gwneud drwy ddiwygio lles a’r ffordd y maent yn targedu’r rhai mwyaf agored i niwed. Byddwn yn flin iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn yn y modd hwn, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylai hynny fod yn rhywbeth y mae plaid ar y chwith yn ei wneud.

Mae’n rhaid i mi wneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi ac yn lleisio eu pryderon, oherwydd gallai wahodd dadl ynglŷn â’r ffaith y gallai fod rhwystrau ychwanegol i bobl rhag pleidleisio a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ymhlith lleiafrifoedd yn gyffredinol. Rydym yma i adlewyrchu llais pawb, ac os yw pobl anabl yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gymryd rhan yn y ddadl honno, yn teimlo nad yw eu llais yn cael ei glywed yn iawn mewn perthynas â’r newidiadau i gyllidebau, yna rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n peri pryder mawr yn wir. Felly, rwy’n gobeithio o ddadl heddiw y gallwn weld canlyniad cadarnhaol ac y gallant fod yn sicr fod yr arian y maent ei angen ac yn ei haeddu yn dod o hyd i’w ffordd atynt.

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Diolch i chi, Lywydd. Mae’r ddadl heddiw yn rhoi cyfle i mi gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd, ac i siarad am y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Mae Cronfa’r Teulu yn un elfen o’r cymorth yr ydym wedi ei roi ar waith, ac mae’n rhaid iddo gael ei weld yn y cyd-destun ehangach. Ysgrifennais at bob Aelod Cynulliad fis Tachwedd diwethaf yn nodi cefndir a chyd-destun y dull cadarn a thrwyadl o fynd ati mewn perthynas â phenderfyniadau cyllido y cynllun grantiau i’r trydydd sector ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, a wnaed yn 2014. Roedd y cynllun hwn yn dwyn pedwar cynllun grant gwahanol at ei gilydd, gan gynnwys grant Cronfa’r Teulu, gan ddod ag oddeutu £22 miliwn at ei gilydd mewn un grant er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i fwrw ymlaen â’n blaenoriaethau i alluogi pob dinesydd yng Nghymru i gyflawni eu canlyniadau lles ac i fyw bywydau llawn.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn cael rheolaeth ac yn cymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Rydym yn gwerthuso effaith y Ddeddf er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni’r hyn y bwriadwyd iddi ei gyflawni. Mae hyn yn cynnwys monitro polisïau i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu ac yn cefnogi gwelliant. Mae’r cynllun grant newydd hwn yn galluogi sefydliadau’r trydydd sector fel partneriaid pwysig i gefnogi ein dull trawsnewidiol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb o’r rhai sydd angen gofal a chymorth.

Nid yw’n gywir nac yn deg awgrymu y bu toriad yn y gefnogaeth i deuluoedd anabl drwy ein grantiau ar gyfer y trydydd sector. Rwyf am bwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal lefelau cyffredinol cyllid grantiau i’r trydydd sector yn y maes hwn. Rydym wedi creu ymagwedd decach drwy gefnogi’r ystod ehangaf bosibl o fudiadau trydydd sector, gan sicrhau y gall pob rhan o’r gymuned elwa o’r cyllid sydd ar gael—er enghraifft, mae ein hymagwedd wedi ein galluogi i roi £670,000 i Gofalwyr Cymru ar gyfer darparu cymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o ofalu, ac yn cynorthwyo teuluoedd i reoli eu rolau gofalu a bod yn rhan o’r broses o wella a darparu gwasanaethau.

Mae hefyd yn caniatáu i ni ariannu Anabledd Dysgu Cymru gyda £930,000 ar gyfer prosiect sy’n cynorthwyo teuluoedd i ddeall eu hawliau a’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, i’w lleisiau gael eu clywed, i reoli penderfyniadau am eu gofal, ac i gydgynllunio’r cymorth y maent yn ei dderbyn.

Yn yr un modd, mae Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan yn derbyn dros £400,000 i gynorthwyo teuluoedd pobl sydd ag anableddau dysgu i ddeall eu hawliau ac i reoli penderfyniadau am eu gofal. Ei nod yw gwella ymyrraeth gynnar ac atal a chefnogi’r broses o gydgynllunio a darparu gwasanaethau.

Cafwyd 84 o geisiadau i’r cynllun grantiau newydd, ceisiadau am gyllid gwerth cyfanswm o £69 miliwn. Rydym yn ariannu 32 o sefydliadau, a llwyddodd Cronfa’r Teulu i ennill y grant mwyaf sydd ar gael, £1.5 miliwn. Roedd Cronfa’r Teulu hefyd yn y sefyllfa unigryw o gael £400,000 ychwanegol wedi’i ddyfarnu iddi fel grant pontio eleni, gan gynnwys £30,000 i’w helpu i ailffocysu eu model ariannu i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae teuluoedd anabl yn dweud wrthym mai’r hyn y maent yn ei werthfawrogi fwyaf yw gofal seibiant. Felly, rydym wedi gofyn i Gronfa’r Teulu ganolbwyntio ar ddarparu gofal seibiant, ac rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio o leiaf 70 y cant o’u grant i ddarparu hyn. Fodd bynnag, maent yn cadw’r hyblygrwydd i ariannu pethau eraill lle y ceir angen eithriadol. Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a bod darparu offer TGCh yn cael ei nodi fel angen, yna rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu i gefnogi addysg y plentyn.

Mae’n amlwg o’r ddadl heddiw ein bod yn gytûn fod angen i ni sicrhau y gall teuluoedd sicrhau cymaint o incwm aelwyd â phosibl, gydag arian yn mynd yn uniongyrchol i’r teulu. Y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o wneud hyn yw drwy gynorthwyo teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, yn hytrach na thrwy roi grantiau bach, unigol. Ers 2012, rydym wedi bod yn darparu dros £2 filiwn y flwyddyn i Cyngor ar Bopeth ar gyfer eu cynllun Cyngor Da, Byw’n Well, sy’n unigryw i Gymru. Nid yw’n digwydd yn Lloegr, nid yw’n digwydd yn yr Alban, ac nid yw’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Ond yng Nghymru mae’n gweithredu ym mhob awdurdod lleol, gan gynnig cyngor wyneb yn wyneb. A dyma’r peth pwysicaf. Yn 2015-16 yn unig, mae’r prosiect wedi cynorthwyo dros 1,800 o deuluoedd gyda phlant anabl, gan gynhyrchu dros £3.5 miliwn i gyd mewn budd-daliadau ychwanegol ar gyfer y teuluoedd hyn. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’r gwasanaeth wedi cynorthwyo 1,400 o deuluoedd, gan gynhyrchu £3.3 miliwn pellach mewn budd-daliadau: arian y mae gan y teuluoedd hyn hawl i’w gael ac y maent yn ei gael bellach wythnos ar ôl wythnos, ac nid fel taliad untro. Felly, mae ein dull ‘Cymru yn unig’ yn cael effaith fawr ac mae’n gynaliadwy.

Gall y teuluoedd mwyaf anghennus gael mynediad at raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac rydym yn darparu dros £42 miliwn eleni a’r un swm y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau i deuluoedd yr effeithir arnynt gan anabledd. Drwy’r gronfa gofal canolraddol eleni, rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i ranbarthau yng Nghymru ar gyfer datblygu gwasanaethau integredig i bobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth. Byddwn yn parhau i gefnogi’r gronfa hon yn y dyfodol. Hefyd, drwy ein cynllun gweithredu strategol newydd ar awtistiaeth, rydym wedi ymrwymo £6 miliwn i sefydlu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol i bob oedran, a fydd yn creu timau lleol ym mhob ardal, gan ddarparu cefnogaeth ar draws pob ystod oedran, gan gynnwys ar gyfer teuluoedd. Mae hyn yn ychwanegol at y £2 filiwn a fydd ar gael bob blwyddyn drwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol.

Gwyddom fod mwy i’w wneud a bod angen i ni fod yn arloesol yn y ffordd y defnyddiwn adnoddau ariannol. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu’r strategaeth ar gyfer gofalwyr, ac mewn datganiad ysgrifenedig a wneuthum y llynedd, ymrwymais i archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant y gwyddom ei fod mor werthfawr i deuluoedd. Byddwn yn adolygu’r ddarpariaeth bresennol gyda golwg ar gryfhau ystod ac argaeledd gwasanaethau seibiant.

O ran gwelliant y Ceidwadwyr, gadewch i mi fod yn glir, unwaith eto, nad yw Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyllid cyffredinol sydd ar gael. Rydym wedi ceisio dosbarthu’r arian sydd gennym i hyrwyddo tegwch, cyfiawnder, a chyflawni gwelliannau parhaol a chynaliadwy. Rwyf wedi dangos y gefnogaeth sylweddol yr ydym yn ei darparu ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd drwy gyflawniad ehangach ein rhaglen lywodraethu.

Felly, i gloi, rhaid i ariannu un sefydliad gael ei weld yng nghyd-destun y dull strategol ehangach o gyflwyno gwelliannau i wasanaethau a chymorth i blant anabl a’u teuluoedd. Rhaid inni gydnabod hefyd ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud y gorau o effaith yr holl arian a ddarparwn i gefnogi manteision hirdymor, cynaliadwy i deuluoedd.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddwy ddadl y prynhawn yma: y ddadl y clywsom y Gweinidog yn siarad amdani yno, am arian cyffredinol, a’r ddadl a gyflwynwyd gennym i’r Cynulliad yn gynharach mewn gwirionedd, am gyllid uniongyrchol drwy Gronfa’r Teulu i rai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud yn fy sylwadau agoriadol fy mod o’r farn fod yna bolisi cyffredinol da yma, ond bod y print mân yn gwneud cam â’n teuluoedd mwyaf agored i niwed. A’r print mân hwnnw yn awr yw hepgor, neu gyfyngu’n helaeth ar y ffrwd cyllid uniongyrchol, ac am hynny yr ydym yn sôn; mae £500 yn swm sylweddol fel taliad untro i deulu incwm isel. Dyna’r ardd ddiogel y clywsom amdani. Dyna’r seibiant. Dyna’r llechen. Dyna’r rhewgell. Dyna’r peiriant golchi dillad oherwydd bod anabledd y plentyn yn golygu bod angen iddynt gael eu dillad a’u dillad gwely wedi’u golchi’n amlach na’r rhan fwyaf. Swm bach ydyw i Lywodraeth, er hynny. Rydym yn sôn yma am £5.5 miliwn dros dair blynedd.

Os caf sôn am yr hyn a ddywedodd Nathan Gill, gallaf enwi llawer o bethau y byddai’n well gennyf pe na bai’r Llywodraeth yn gwario arian arnynt. Rydym yn sôn yma am yr hyn yr ydym am i Lywodraeth Cymru wario arian arno. Gallwn siarad, os mynnwch, am y £360 miliwn sy’n mynd i gael ei wario ar Balas Buckingham neu ddyblu cyllid y teulu brenhinol sydd newydd gael ei basio, ond nid am hynny yr ydym yn sôn yma. Rydym yn sôn yn benodol am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ac rwy’n meddwl ei fod yn dweud popeth am eich gwleidyddiaeth eich bod am ddefnyddio’r ddadl hon am deuluoedd agored i niwed yng Nghymru i ymosod ar wario ar gymorth tramor y DU, gyda llawer ohono’n cael ei wario ar deuluoedd sy’n agored i niwed dramor—ac rwy’n fwy na hapus i barhau i’w cefnogi. Rydym yn sôn am swm bychan o arian—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Darllenwch y Cofnod yn y bore. Rydym yn siarad—[Torri ar draws.]

Dywedodd Gweinidog y Llywodraeth fod cymorth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno bod cefnogaeth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy’n cytuno ei bod yn syniad da iawn i weithio gyda Cyngor ar Bopeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael cymaint â phosibl o fudd-daliadau. Rwy’n cytuno â strategaethau ar gynyddu seibiant, er nad oes digon yn cael ei wneud. Rwy’n cytuno bod y trydydd sector yn ei gyfanrwydd angen yr adnoddau i gynorthwyo teuluoedd a phlant sy’n agored i niwed. Ond unwaith eto, rwy’n pwysleisio ein bod yn sôn am gronfa benodol nad oes dim i gymryd ei lle yn unrhyw ran arall o ddarpariaeth y trydydd sector yng Nghymru.

Rwy’n meddwl bod yr achos wedi’i wneud yma gan bob un o’r gwrthbleidiau. Nid oes dim yn dod yn lle’r cyllid hwn. Mae’n cael ei gadw mewn rhannau eraill o’r DU am ei bod yn gronfa mor benodol o ddefnyddiol. Gofynnaf eto i’r Llywodraeth dynnu’r gwelliant yn ôl, ac i gytuno i ystyried adfer y cyllid uniongyrchol hwn i’w lefel flaenorol, naill ai drwy Gronfa’r Teulu, sydd i’w gweld i mi yn gweithio’n dda, neu drwy ddulliau eraill, os hoffwch, oherwydd nid yw’n fater o sut y caiff ei wneud—mae’n ymwneud â sicrhau mynediad at y potiau untro hyn o arian. Efallai nad ydych yn meddwl bod taliad untro o £500 yn rhywbeth a all wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Credwn ei fod yn gwneud gwahaniaeth.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Ac mae’r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 19, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6251.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6251.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant—gwelliant 2—wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 55, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6251.

Galwaf felly am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, chwech yn ymatal, 20 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 29, Yn erbyn 20, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6251.

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 55, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6251.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6251 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.

2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy’n hyrwyddo iechyd a lles o’r crud a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r broses o gasglu data a’r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac

c) monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed;

d) ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i’r afael â gordewdra;

e) sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6251 fel y’i diwygiwyd: O blaid 44, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6251 fel y’i diwygiwyd.

Pleidlais nawr ar ddadl Plaid Cymru ar Gronfa’r Teulu. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 27, Yn erbyn 28, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6252.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 27, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6252.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 27, 27 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 27, Yn erbyn 1, Ymatal 27.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6252.

Cynnig NDM6252 fel y’i diwygiwyd:

1. Yn nodi’r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy’n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy’n magu plant anabl neu ddifrifol wael.

b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy’n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi’i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.

c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a’u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016.

2. Yn cydnabod bod Cronfa’r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.

3. Yn croesawu’r effaith gadarnhaol y mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi’i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a’r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy’n gofalu am blant anabl neu ddifrifol wael.

4. Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i Gronfa’r Teulu.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, 17 yn ymatal, 10 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6252 fel y’i diwygiwyd: O blaid 28, Yn erbyn 10, Ymatal 17.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6252 fel y’i diwygiwyd.

9. 9. Dadl Fer: Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru

Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel, mae’r trafodion yn parhau. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. Rwy’n galw ar Neil McEvoy i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Neil McEvoy.

Diolch, Lywydd. Fe arhosaf i gyd-Aelodau adael y Siambr.

Mae angen i chi adael y Siambr. Mae’r trafodion yn parhau. Nid amser i sgwrsio yw hwn. Parhewch.

Diolch. Iawn. Mae croeso i chi dorri ar draws a chyfrannu os ydych yn dymuno. Y syniad yw awgrymu hyn fel rhywbeth yr ydym am ei wneud yn y dyfodol heb fod mor bell yn y ddinas hon. Felly, rwyf wedi galw dadl i weld a allwn, yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ddechrau hyrwyddo’r syniad o gyfnewidfa stoc i Gymru. Rwy’n hynod o falch o weld bod polisi Plaid Cymru o sefydlu banc datblygu Cymru, polisi a fu gennym ers nifer o flynyddoedd, ar fin digwydd, sy’n beth da. Gyda phwerau treth yn cael eu datganoli ac Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu, mae Cymru o’r diwedd yn camu tuag at sofraniaeth ariannol, ond un peth nad oes gennym yw cyfnewidfa stoc.

Mae cyfnewidfeydd stoc yn chwarae rôl wahanol i fanc datblygu. Tra bo banc datblygu wedi’i rwymo gan ddiwydrwydd dyladwy llym ac yn golygu bod busnesau yn ysgwyddo dyledion newydd, mae cyfnewidfa stoc yn caniatáu i fuddsoddwyr gymryd cyfrannau mewn cwmni, fel y gallant ategu ei gilydd yn dda iawn.

Cyn i mi fanylu ar hynny, efallai y dylwn egluro: yn hytrach na dweud ‘yn dal i fod heb’ gyfnewidfa stoc, mae’n fwy cywir dweud nad oes gennym gyfnewidfa stoc mwyach. Roedd y Gyfnewidfa Lo, sydd rai munudau o bellter yn unig oddi wrth y Cynulliad, ac sydd, diolch byth, yn cael ei hadnewyddu yn awr, neu ei hachub rhag cwympo ac yn cael ei hailddatblygu fel gwesty, yn arfer bod yn llawr masnachu ar gyfer masnachu glo yng Nghymru. Fel y bydd llawer ohonom yn gwybod, yn y gyfnewidfa lo y llofnodwyd siec £1 filiwn gyntaf y byd. Felly, mae gan Gymru rywfaint o hanes yn hyn o beth.

Nid yw cyfnewidfeydd stoc yr un fath â busnesau eraill. Mae perfformiad cyfnewidfeydd stoc cenedlaethol yn aml yn cael ei gymryd fel mesur arall o iechyd economi’r genedl, neu o leiaf, o frwdfrydedd buddsoddwyr ynglŷn â rhagolygon y wlad. Mae cyfnewidfeydd cenedlaethol hefyd yn chwarae rôl bolisi nad yw’n cael ei gwerthfawrogi’n ddigonol wrth bennu a rhestru safonau cydymffurfio ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno mynd yn gyhoeddus. Ar ben hyn oll, mae yna ymdeimlad niwlog ond real fod balchder cenedlaethol rywsut ynghlwm wrth gyfnewidfeydd stoc. Rwy’n credu y byddai’n cyfrannu at falchder yng Nghymru pe gallem gael un ar waith.

Ystyrir cyfranddaliadau yn bethau cymhleth yn aml, ond mae’r egwyddor sy’n sail iddynt yn syml. Mae cyfranddaliadau, a elwir hefyd yn ecwitïau, yn rhoi rhan i chi ym mherchnogaeth cwmni, felly pan fyddwch yn buddsoddi mewn cyfranddaliadau, rydych yn prynu cyfran o’r busnes hwnnw. Mae cwmnïau’n cyhoeddi cyfranddaliadau i godi arian a bydd buddsoddwyr yn prynu cyfranddaliadau mewn busnes am eu bod yn credu y bydd y cwmni’n gwneud yn dda ac maent eisiau cyfran yn ei lwyddiant.

Rwyf am weld mwy o bobl yng Nghymru yn rhannu yn llwyddiant cwmnïau Cymru a chyfnewidfa stoc a fyddai’n rhoi cyfle iddynt wneud hynny. Mae bod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni yn golygu bod gennych hawl i gael llais yn ei fusnes. Mae pob cwmni cyfyngedig cyhoeddus yn cynnal cyfarfodydd blynyddol lle y bydd cyfranddalwyr yn pleidleisio ar faterion megis cyfrifon y cwmni, penodi cyfarwyddwr, pecynnau cyflog ac yn y blaen, ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn weld mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n credu y gallai ein helpu i ddod yn wlad fwy ffyniannus a chyfartal. Ceir llawer o enghreifftiau o gwmpas y byd o wledydd llai â’u cyfnewidfeydd eu hunain: Gibraltar, Armenia, Cyprus a Gwlad yr Iâ. Sefydlwyd cyfnewidfa stoc Sarajevo yn 2001 ac erbyn 2005, roedd cyfalafiad y farchnad 20 gwaith yn fwy ar €3.3 biliwn. Roedd y cyfeintiau masnachu dyddiol cyfartalog yn €1.5 miliwn erbyn 2005. Gallai Cymru wneud hyn. Mae 25 o gwmnïau o Gymru wedi’u rhestru ar y gyfnewidfa stoc yn Llundain ar hyn o bryd, fellly mae hynny’n dangos y potensial sydd gennym yma.

Cydnabyddir yn eang y gall cyfnewidfa helpu i gynyddu gweithgarwch economaidd a hybu twf economaidd. Gall fod yn hwb i fusnesau, ac o’i roi’n syml, mae cyfnewidfeydd stoc yn rhoi’r gallu i gwmnïau godi cyfalaf a datblygu eu busnesau. Mae’r gallu i restru cyfranddaliadau ar gyfnewidfa stoc a thrwy hynny godi arian gan fuddsoddwyr, hen a newydd, yn hwb pwysig i weithgarwch economaidd.

Mae mynediad at gyfalaf yn ei gwneud yn haws i gwmnïau ehangu eu gweithgarwch a gallai rhestru dynnu sylw cronfeydd cydfuddiannol ryw ddiwrnod—masnachwyr sefydliadol ac ati—at botensial busnes o Gymru. Maent hefyd yn ffenestr siop; gallai unrhyw un yn y byd fuddsoddi mewn cyfnewidfa Gymreig. Drwy sefydlu un, ceir potensial i agor economi Cymru i fwy o fuddsoddiad rhyngwladol, gan ganiatáu i fusnesau a chwmnïau o Gymru elwa o fuddsoddwyr byd-eang. Byddai hyn yn cymryd amser, ond gallai hefyd wella hygrededd cwmni a’i broffil cyhoeddus. Gall rhestru ar y farchnad stoc fod yn fath o hysbyseb anuniongyrchol i gwmni.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae’n debyg, mewn gwirionedd, mai’r eliffant yn yr ystafell yw bod cyfnewidfeydd stoc fel arfer yn gwmnïau preifat. Ceir rhai enghreifftiau o gyfnewidfeydd stoc sy’n eiddo cyhoeddus—mae cyfnewidfeydd stoc Shenzhen a Shanghai yn sefydliadau lled-wladwriaethol mewn gwirionedd, i’r graddau eu bod wedi’u creu gan gyrff Llywodraeth yn Tsieina a bod ganddynt bersonél blaenllaw a benodwyd yn uniongyrchol gan Gomisiwn Rheoleiddio Gwarantau Tsieina.

Enghraifft arall yw cyfnewidfa stoc weriniaethol Tashkent yn Uzbekistan, a sefydlwyd yn 1994, dair blynedd ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, ac sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn bennaf, ond gyda rhyw ffurf ar gorfforaeth gyhoeddus. Ond nid yw’r rhain yn fodelau y byddwn yn eu hargymell ar gyfer Cymru. Mae’n bosibl y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rhan mewn cyfnewidfa stoc i Gymru, ond mae’r marchnadoedd ariannol yn fater a gadwyd yn ôl, ac felly mae rheoleiddio rhestrau a chynigion cyhoeddus, gwarantau a buddsoddiadau y tu hwnt i gymhwysedd Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn y mae gwir angen i ni feddwl amdano yw sut y gallwn roi cymhellion ac annog cwmni preifat i sefydlu cyfnewidfa stoc yng Nghymru. Gallai hyn ddigwydd drwy grantiau, drwy gynadleddau, swyddfeydd ar gael yng Nghaerdydd neu rywle arall.

Nid wyf yn mynd i siarad yn hwy ar hyn o bryd. Byddwn yn gobeithio bod eraill wedi cefnogi’r syniadau hyn, ac os oes unrhyw un yn dymuno cyfrannu, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Diolch. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.

Member
Ken Skates 18:00:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl hon heddiw ar sefydlu cyfnewidfa stoc i Gymru? Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i glywed gan Neil McEvoy beth yw ei farn a’i gynigion ar gyfer cyfnewidfa stoc Gymreig. Mae hon yn ddadl werthfawr, er nad yw’n gynnig newydd. Mae’n awgrym a ystyriwyd gan weinyddiaethau blaenorol Llywodraeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n siŵr.

Ym mis Ionawr 2010, cyhoeddwyd adroddiad ar gyfnewidfa stoc i Gymru gan Robert Huggins a Daniel Prokop, ac awgrymai’r adroddiad, a oedd yn seiliedig ar sampl o 1,500 o gwmnïau a gynhyrchodd 169 o ymatebion, fod 36 y cant wedi mynegi peth diddordeb mewn rhestru ar gyfnewidfa stoc i Gymru. Wrth dyrchu ychydig yn rhagor i’r data, gwelwyd bod 8 y cant wedi ystyried cyhoeddi eu cyfrannau yn ystod y pum mlynedd flaenorol, byddai 19 y cant yn ystyried cyhoeddi eu cyfrannau yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac 13 y cant arall yn y 10 mlynedd ar ôl hynny. Yn amlwg, dangosai fod peth archwaeth a diddordeb mewn cael cyfnewidfa stoc yng Nghymru, ond daeth y Llywodraeth i’r casgliad na ellid cyfiawnhau costau sefydlu cyfnewidfa stoc. Y rheswm am hyn oedd oherwydd y gall y gost o sefydlu cyfnewidfa stoc gyrraedd llawer o filiynau o bunnoedd oherwydd y costau sefydlu sylweddol, gan gynnwys, wrth gwrs, recriwtio, hyfforddi staff, systemau TG ac yn y blaen.

Yn 2008, ymchwiliodd Llywodraeth Cymru nifer o gyfleoedd i sefydlu marchnad stoc yng Nghymru ond unwaith eto, ni fwriwyd ymlaen â’r prosiect oherwydd y diffyg galw i gefnogi’r costau. Felly, nid yw’n glir o hyd a oes achos digon cryf dros sefydlu marchnad stoc ranbarthol yng Nghymru. Un o’r prif seiliau rhesymegol dros sefydlu cyfnewidfa stoc, fel y mae’r Aelod wedi nodi, fyddai llenwi bwlch yn y cyllid ar gyfer busnesau a rhoi cyfle i gwmnïau godi cyfalaf. Nawr, er ein bod yn cydnabod, wrth gwrs, fod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn bryder i fusnesau yng Nghymru, mae yna eisoes ystod o gymorth ariannol ar gael yng Nghymru, ac nid yw’n glir pa fwlch neu pa fylchau a fyddai’n cael eu llenwi gan gyfnewidfa stoc ranbarthol.

Mae cefnogi busnesau yng Nghymru yn hanfodol o ran creu swyddi, hybu twf economaidd, cynyddu cynhyrchiant ac yn y blaen, ac mae llwyddiant busnes yn hanfodol yn nhwf yr economi ar draws y cymunedau yng Nghymru. Mae gwella mynediad at gyllid wedi bod yn flaenoriaeth, felly, i’r Llywodraeth ers blynyddoedd lawer, a thros yr amser hwnnw rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o gronfeydd a chynhyrchion. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’r ymrwymiad maniffesto i sefydlu banc datblygu i Gymru, ac mae’n amlwg fod angen mynediad at gyfalaf twf ar fusnesau sy’n tyfu. Bydd y banc datblygu’n helpu busnesau i ddod o hyd i’r partner cyllid cywir i ddenu cyllid preifat gyda’i gyllid dros dro ei hun pan fo angen. Ei nod fydd darparu lefelau uwch o gyllid i fusnesau bach a chanolig, a gwella integreiddiad y ddarpariaeth a chyngor a chymorth i fusnesau ar yr un pryd drwy weithio’n agosach gyda Busnes Cymru.

Ceir un neu ddwy enghraifft arall o’r camau yr ydym wedi’u cymryd i gefnogi busnesau’n ariannol yn syth ar ôl pleidlais refferendwm yr UE. Wrth gwrs, fe wnaethom lansio cynllun hyder Busnes Cymru, a oedd yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu yr ydym bellach yn eu cyflawni, ac maent i gyd yn anelu at hyrwyddo hyder busnesau a gweithgarwch ar draws y wlad. Roedd yr ymyriadau’n cynnwys cyhoeddi cronfa twf a ffyniant newydd, a’n cronfa ad-daladwy ar gyfer busnesau bach a chanolig, fel bod Cymru’n parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi. Unwaith eto, cafodd ein gwasanaeth Busnes Cymru ei gyfunioni, wrth gwrs, ym mis Ionawr y llynedd, i’w gwneud yn haws i fusnesau Cymru a darpar entrepreneuriaid gael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i sefydlu a thyfu eu busnesau.

Er mwyn gwneud achos dros gyfnewidfa stoc i Gymru, mae angen i ni ddeall yn glir pam nad yw cwmnïau Cymru’n gallu neu, o bosibl, yn barod i gael mynediad at ffynonellau cyllid a chyfnewidfeydd stoc presennol. Fel y dywedais ar y dechrau, ystyriwyd y mater o’r blaen, ac yn y gorffennol, daethpwyd i’r casgliad nad oedd y gwaith ymchwil yn darparu dadl ddigon cryf dros sefydlu marchnad stoc ranbarthol. Nid oes tystiolaeth glir fod marchnadoedd stoc rhanbarthol llai o faint yn arbennig o lwyddiannus wrth gystadlu â marchnadoedd mwy a ffynonellau ariannu amgen, ond wrth gwrs, rwy’n parhau’n agored i’r syniad o gyfnewidfa stoc pe bai’r galw am wasanaeth o’r fath yn cynyddu. Ar hyn o bryd, os oes rhwystrau i fynediad cwmnïau o Gymru at farchnadoedd stoc presennol, yna efallai mai ateb arall fyddai gweithio ar leihau rhwystrau o’r fath, yn hytrach na cheisio sefydlu cystadleuydd.

Ond os oes achos dros gael marchnad stoc yng Nghymru, credaf y dylai’r sector preifat arwain. Nid yw’n glir pa rôl y gallai, neu hyd yn oed y dylai’r sector cyhoeddus ei chwarae mewn marchnadoedd ecwiti preifat, ond gallaf sicrhau’r Aelodau mai ein blaenoriaeth o hyd fel Llywodraeth sydd o blaid busnes yw cyflawni amryw o gamau gweithredu i helpu cwmnïau newydd a phresennol i ddatblygu, i dyfu ac i ffynnu.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:06.