Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/02/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni’r prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a’r cwestiwn cyntaf, Angela Burns.

Gwella Presenoldeb

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu’r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ysgolion ar sut i wella presenoldeb? OAQ(5)0088(EDU)

Prynhawn da, Angela. Mae’r ‘Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan’ yn darparu safonau a chanllawiau i addysgwyr er mwyn gwella presenoldeb mewn ysgolion ledled Cymru.

Rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi a minnau’n rhannu’r un farn a blaenoriaeth i gael cymaint o blant yn yr ysgol, mor aml â phosibl. Ond mae yna un maes bach sy’n peri pryder i mi, sef plant sy’n sâl yn gyson. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn dod ataf i ddweud bod eu plant naill ai wedi bod yn ddigon anffodus i gael cyfres o byliau o donsilitis, lle y maent wedi bod yn absennol am wythnos neu ddwy ar y tro, neu fod ganddynt ryw fath o gyflwr, fel syndrom coluddyn llidus. Ac oherwydd bod cofnodion presenoldeb plant felly’n plymio—dyma rieni sy’n cymryd rhan yng ngofal eu plant, yn cymryd rhan yn eu haddysg—maent wedi bod yn cael llythyrau yn eu bygwth, yn dweud wrthynt y bydd angen iddynt ddweud y drefn wrth eu plant ac yn awgrymu, yn y bôn, eu bod yn rhieni gwael, ac nad yw eu plant yn ymdrechu digon. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi egluro’r canllawiau sy’n mynd allan i ysgolion, fel ein bod yn targedu’r rhai nad ydynt yn mynd i’r ysgol oherwydd nad ydynt eisiau mynd i’r ysgol, yn hytrach na’r rhai a fyddai’n hoffi mynd i’r ysgol ond nad ydynt yn gallu mynd i’r ysgol, fel nad yw’r plant hyn yn teimlo dan fwy byth o bwysau? Mae gan y llyfr presenoldeb wyneb hapus arno, a phan nad yw’r wyneb hwnnw’n gwenu bellach, mae’r plant hynny’n teimlo dan bwysau trwm iawn.

Diolch i chi am dynnu sylw at y mater hwn, Angela. Fel y dywedoch, byddai’r ddwy ohonom yn cytuno mai’r peth gorau y gallwn ei wneud dros addysg ein plant yw sicrhau eu bod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Ac mae cydberthynas uniongyrchol rhwng presenoldeb rheolaidd mewn ysgolion a chanlyniadau, er ei bod yn gwbl angenrheidiol weithiau i blentyn aros gartref os yw’n sâl. Ac ni fyddem yn disgwyl i’r plant hynny, neu rieni’r plant hynny, i gael eu trin mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo wedi’u dieithrio o’r ysgol. Mae hwn yn faes nad yw wedi’i ddwyn i fy sylw o’r blaen, felly rwy’n ymrwymo i chi y prynhawn yma y byddaf yn edrych ar y canllawiau, ac yn gofyn i swyddogion a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i ddarparu cyngor i ysgolion ynglŷn â sut y maent yn rheoli absenoldeb plant sy’n sâl go iawn.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata a oedd yn dangos bod lefelau absenoldeb parhaus o’r ysgol ar y lefel orau a gofnodwyd erioed, ac mae’r gydberthynas rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad, ar sawl lefel, yn wybyddus. Dywedodd rhagflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau yn y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â phresenoldeb yn yr ysgol, gan gynnwys ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gan gynnwys y grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i gynyddu, a grant presenoldeb Llywodraeth Cymru, a gefnogodd y consortia addysg yn eu gwaith yn yr awdurdodau ac yn yr ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori arferion effeithiol i sicrhau gwelliannau hirdymor yn y lefelau presenoldeb yn yr ysgol. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd da a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd diffyg presenoldeb yn yr ysgol am resymau dilys?

Diolch i chi, Rhianon. Fel y dywedwch, rwy’n falch iawn o gydnabod bod y data diweddaraf yn dangos bod absenoldeb o’n hysgolion cynradd yn parhau i fod ar y lefel isaf ers i Lywodraeth Cymru ddechrau casglu’r ffigurau hyn, ac mae lefelau presenoldeb yn yr ysgolion uwchradd yn parhau i wella drwy’r amser. Ac yn wir, gwelwyd y gwelliannau mwyaf ymhlith plant sy’n cael prydau ysgol am ddim. Mae eu cyfradd presenoldeb yn gwella’n gyflymach nag yn y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae llawer o hynny’n deillio o waith caled iawn ysgolion unigol a’r ffyrdd arloesol y maent yn gweithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael â materion presenoldeb yn yr ysgolion. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i nodi pa gymorth arall a pha arweiniad ychwanegol y gallwn ei roi i ysgolion, awdurdodau addysg lleol a chonsortia fel nad ydym yn colli momentwm gyda’r agwedd bwysig hon ar bolisi addysg.

Plant ag Awtistiaeth

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau amgylchedd dysgu corfforol hygyrch a chynhwysol i blant ag awtistiaeth? OAQ(5)0089(EDU)

Member
Alun Davies 13:34:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Mae amgylchedd dysgu ffisegol hygyrch a chynhwysol yn hanfodol ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr ag awtistiaeth. Trwy’r rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, rydym yn buddsoddi £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben yn 2019 mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd y rhain yn cynnwys cyfleusterau arbenigol i blant ag awtistiaeth.

Diolch i’r Gweinidog am y cwestiwn hwnnw a hoffwn ei ganmol am ei waith ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), y gwn y bydd pawb ohonom yn gobeithio ei weld yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i blant ag awtistiaeth ar eu taith ysgol. Gwn ei fod yn rhannu fy synnwyr o flaenoriaeth ynglŷn â sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol mewn ysgolion hefyd yn addas ar gyfer plant ag awtistiaeth. Datblygodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru raglen, Dysgu gydag Awtistiaeth, sy’n pennu meini prawf ar gyfer yr ystad ysgolion i’w gwneud yn fwy hygyrch i blant ag awtistiaeth. I ba raddau y mae’r canllawiau’n cael eu dilyn gan ysgolion yn gyffredinol ac i’r graddau nad ydynt yn cael eu dilyn, a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynnu hynny?

Diolch yn fawr iawn. Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb mawr iawn yn y materion hyn ac mae wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes. Rwy’n meddwl bod pob un ohonom yn ymwybodol o ymrwymiad yr Aelod i’r agenda hon. Os caf ddweud, o ran y rhaglen ysgolion 21ain ganrif, mae hon yn rhaglen sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac mae gan awdurdodau lleol ganllawiau technegol i sicrhau bod yna amgylchedd dysgu priodol ar gyfer pob ysgol. Mae’n ystyried dysgwyr a disgyblion a’u holl anghenion, gan gynnwys disgyblion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig.

Yn ogystal â hyn, bydd Estyn yn ystyried amgylchedd yr ysgol ac a yw’r ysgol yn gallu diwallu angenion disgyblion yn ffisegol ac a wneir defnydd da o adnoddau arbenigol hefyd i ddiwallu anghenion y disgyblion. Felly, drwy’r modd y caiff ystad newydd ei chynllunio, ei dylunio a’i hadeiladu, rwy’n gobeithio bod y canllawiau technegol yn darparu’r math o uchelgais a ddisgrifiwyd gennych. Yna, o fewn amgylchedd yr ysgol, pan fydd Estyn yn cynnal arolwg, bydd amgylchedd yr ysgol honno’n rhan o’r arolwg ac yn amlwg, os ceir meysydd sydd angen eu gwella, bydd y Llywodraeth hon yn rhoi camau ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gwella ochr yn ochr â’r awdurdodau lleol. Ond gwn fod Aelodau ar draws y Siambr gyfan wedi mynegi pryderon am y materion hyn, ac os oes meysydd penodol yn peri pryder mewn ysgolion penodol, mae croeso i unrhyw Aelod ysgrifennu ataf a byddaf yn sicr yn bwrw ymlaen â hyn.

Rwyf newydd frysio draw gyda rhai o’ch cyd-Aelodau o gyfarfod y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol yn y Pierhead. Yn ein cyfarfod diwethaf, cawsom gyflwyniad gan Brosiect Grymuso Menywod Awtistig, a oedd yn trafod y gwahanol fathau o awtistiaeth mewn menywod a merched ac yn awgrymu y dylai’r gymhareb—y gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch—fod yn llawer agosach mewn gwirionedd. Dywedwyd wrthym fod llawer o fenywod nad ydynt yn cael diagnosis, yn cael diagnosis anghywir neu’n cael eu gadael heb gymorth, ac er bod merched awtistig yn wynebu nifer o’r un heriau â bechgyn awtistig, mae bechgyn yn ffrwydro allan a merched yn ffrwydro i mewn. Sut, felly, y byddwch chi a’ch cyd-Aelodau yn mynd i’r afael â’r broblem real iawn, fel y mae’r llwyth o waith achos sydd gennyf yn ei dystio, fod merched yn methu cael diagnosis am fod ysgolion yn nodi eu bod yn ymdopi mor dda yn yr ysgol, er gwaethaf y ffaith eu bod yn mynd adref wedyn, ac yn colli rheolaeth ac mewn llawer o achosion, yn hunan-niweidio ac yn un o fy achosion, yn ceisio cyflawni hunanladdiad hyd yn oed?

Rwy’n llawn werthfawrogi, yn deall ac yn derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod. Rwy’n meddwl bod llawer ohonom yn ymwybodol fod gwneud diagnosis o awtistiaeth mewn merched, yn enwedig merched iau, yn llawer anos nag mewn bechgyn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod y cynllun gweithredu ar awtistiaeth—y diweddariad ohono—a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog ddiwedd y llynedd yn cynnwys amserlen ar gyfer diagnosis ac mae’n cynnwys gofynion ar y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod diagnosis yn cael ei wneud ar fyrder, ac mae hynny wedi bod yn ddiffygiol ar adegau, rwy’n cytuno. Ond os caf ddweud, o ran addysg, mae gennym y rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth hefyd, sy’n cael ei hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n rhan o’n cynllun gweithredu strategol ar anhwylder ar y sbectrwm awtistig, pecyn cynhwysfawr o adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yn bennaf, sy’n mabwysiadu dull ymwybyddiaeth ysgol gyfan. Buaswn yn gobeithio bod cyflwyno dull ysgol gyfan yn sicrhau bod plant ag awtistiaeth yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt, ond bod hynny’n cael ei osod yng nghyd-destun amgylchedd sy’n gefnogol hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr iawn. Mi gyhoeddodd y tasglu gweinidogol ar gyfer modelau cyflenwi adroddiad yr wythnos diwethaf ar yr opsiynau posib ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn y dyfodol. Wrth gwrs, dyma’r ail adroddiad i ymddangos ar y pwnc yma mewn rhyw flwyddyn a hanner. A gaf fi ofyn faint o gynnydd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried sydd wedi bod i fynd i’r afael â’r problemau ynghylch darpariaeth athrawon cyflenwi ers adroddiad gwreiddiol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yma yn ôl yn 2015? A ydym ni’n unrhyw agosach at y lan, neu, fel y mae rhai o’r undebau ac eraill yn ei awgrymu, a ydy’r blynyddoedd diwethaf wedi cael eu gwastraffu i bob pwrpas a bod yr adroddiad yma yn enghraifft arall o fethu cyfle?

Diolch i chi, Llyr. Fel y byddwch yn gwybod, lluniwyd yr adroddiad hwn gan bobl sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, er iddo gael ei gomisiynu gan y Llywodraeth. Os oedd partïon â diddordeb wedi gobeithio y byddai’r grŵp gorchwyl a gorffen yn llunio ateb pendant o ran cael un model cyflenwi, yna rwy’n derbyn nad yw’r adroddiad yn gwneud hynny. Wrth gyfarfod gyda chadeirydd y grŵp hwnnw, maent wedi dweud eu bod yn teimlo ei bod yn amhosibl argymell un model ar gyfer y dyfodol ar hyn o bryd. Rwy’n derbyn y bydd rhai pobl yn cael eu siomi. Mae hwn yn faes pwysig o bolisi addysg. Mae angen i ni sicrhau bod y rhai sy’n darparu gwaith cyflenwi yn cael y cymwysterau, y cymorth, y datblygiad proffesiynol parhaus a’r telerau ac amodau y maent yn eu haeddu, a byddaf yn edrych eto ar sut y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn.

Wel, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod, efallai, nad oedd yr adroddiad yn cyrraedd rhai o’r disgwyliadau oedd mas yna. Yn sicr, mae yna deimlad o rwystredigaeth fod yna 18 mis arall, o bosib, o waith yn mynd i ddigwydd cyn ein bod ni’n cyrraedd rhyw bwynt lle, efallai, y byddwn ni’n gweld gwahaniaeth gwirioneddol. Ac, wrth gwrs, rydych chi’n iawn hefyd i gydnabod bod yna bwysau cynyddol o safbwynt y ddarpariaeth, oherwydd rŷm ni’n ymwybodol, o gyfrifiad mwyaf diweddar y gweithlu addysg y llynedd, fod niferoedd yr athrawon yng Nghymru wedi disgyn yn flynyddol ers rhyw chwe mlynedd. Rŷm ni hefyd yn gwybod, dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, fod yna gyfnod o gryn newid yn mynd i fod o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru, gyda nifer o ddiwygiadau ar y gweill, o’r cwricwlwm, fel roeddech chi’n sôn, i ddatblygu proffesiynol ac yn y blaen. Felly, mi fydd y galwadau ar ein hathrawon ni a’r angen efallai i’w tynnu nhw mas o’r dosbarth yn cynyddu ar yr union amser pan fydd niferoedd athrawon yn lleihau. Ac yn y fath sefyllfa, mae’n anochel y bydd rhan gynyddol bwysig i athrawon cyflenwi i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion. A gaf i ofyn, felly, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau cyflenwad digonol o athrawon cyflenwi, nid mewn dwy flynedd neu mewn tair blynedd, ond yn y cyfnod tyngedfennol nesaf yma sydd i ddod?

Diolch i chi, Llyr. Yr hyn nad yw’r adroddiad yn ei ddangos yw ein bod yn cael anhawster i ddarparu athrawon cyflenwi. Yn ddiddorol, mae’r adroddiad yn dangos darlun o waith cyflenwi y byddai rhai pobl yn ei ystyried yn anarferol o bosibl, lle y mae nifer fawr o athrawon sy’n cael eu cyflogi ar sail cyflenwi yn gwneud hynny, nid am un, dau neu dri diwrnod dros absenoldeb neu dros ddatblygiad proffesiynol parhaus cydweithiwr, ond eu bod mewn gwirionedd yn bobl sy’n darparu gwaith cyflenwi ar sail dymhorol, am dymor cyfan neu fwy na dau dymor. Felly, mae hwn yn ddata newydd sydd gennym, sy’n dangos i ni pa mor gymhleth yw’r model cyflenwi athrawon, a bydd angen i ni ddod o hyd i fodel sydd â’r hyblygrwydd i ganiatáu ar gyfer y cyfnodau o ddiwrnod neu ddau dros absenoldeb salwch, neu’n fwy hirdymor.

A gaf fi ddweud mai ychydig bach iawn y mae cymarebau athro-disgybl wedi newid yn ystod y blynyddoedd rhwng 2010 a’r presennol, o 18 i 18.5? Felly, nid oes argyfwng ond gwyddom fod yna rai meysydd penodol lle’r ydym yn ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw athrawon, yn enwedig mewn rhai pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac yn enwedig yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd yn rhaid cynnwys y meysydd anodd penodol hyn mewn ateb ar gyfer athrawon cyflenwi.

Nid wyf yn meddwl fy mod i wedi defnyddio’r gair ‘creisis’, ond, yn sicr, rŷm ni’n gwybod mai rhyw 68 y cant, rwy’n meddwl, o’r targed recriwtio ysgolion cynradd sydd wedi digwydd—na, 90 y cant mewn ysgolion cynradd, 68 y cant mewn ysgolion uwchradd. Felly mae yn broblem ac mae yn storio problemau i fyny ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac rwy’n deall eich bod chi yn cydnabod y perig yna, wrth gwrs. Mae tua 5,000 o athrawon wedi’u rhestru fel athrawon cyflenwi gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ond, yn ddiddorol iawn, mae hefyd 5,000 o weithwyr cefnogi dysgu—‘learning support workers’—hefyd wedi’u rhestru fel staff cyflenwi gyda nhw, ac mae’n ymddangos i mi nad oes unrhyw ystyriaeth o’r grŵp yma wedi bod wrth edrych ar ddyfodol staff cyflenwi yng Nghymru—rhywbeth yn sicr wnaeth y tasglu, hyd y gwelaf i, ddim edrych arno fe. A oes yna berig felly fod y grŵp pwysig yma’n cael ei dan-werthfawrogi, ac a allwch chi ddweud wrthym ni sut a ble mae’r Llywodraeth yn ystyried sefyllfa gweithwyr cefnogi dysgu wrth ystyried dyfodol gwasanaethau cyflenwi?

Wel, yn sicr nid wyf yn tanbrisio cyfraniad gweithwyr cymorth dysgu i system addysg Cymru. Mae llawer o athrawon dosbarth a phenaethiaid yn dweud wrthyf na fuasai eu hysgolion yn gweithredu cystal ag y maent yn ei wneud heb allu’r unigolion hyn i helpu yn eu hysgolion, yn enwedig yn y cyfnod sylfaen. Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ehangu nifer y cynorthwywyr cymorth dysgu cymwysedig lefel uwch oherwydd eu bod mor werthfawr i ni. Yr wythnos diwethaf yn unig, pasiwyd y rheoliadau ar gyfer eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Rydym yn eu hystyried yn bwysig, dyna pam rydym am iddynt fod yn broffesiwn cofrestredig, dyna pam rydym yn eu cefnogi drwy ostwng eu ffioedd cofrestru, a byddant yn rhan bwysig o’r ffordd yr ydym yn cynllunio’r gweithlu ar gyfer ein hysgolion a’n colegau yn y dyfodol.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn nodi bod ansawdd ac amrywioldeb ansawdd addysgu yn broblem fawr yma yng Nghymru. Yn wir, dywedodd y prif arolygydd:

‘Y ffactor pwysicaf o ran pa mor dda y mae dysgwyr yn datblygu a dysgu yw ansawdd yr addysgu. Fodd bynnag, addysgu yw un o’r agweddau gwannaf ar y ddarpariaeth yn y rhan fwyaf o sectorau.’

A allwch ddweud wrthym beth rydych yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem benodol hon, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld newid?

Diolch i chi, Darren. Roedd darllen sylwadau’r prif arolygydd ynglŷn â chysondeb addysgu rhagorol ar draws Cymru yn peri pryder. Ceir rhai addysgwyr rhagorol, ond yn rhy aml mae yna lefel o amrywioldeb nad wyf yn credu ei bod yn dderbyniol. Rwyf am i bob plentyn yng Nghymru gael mynediad at addysgu o’r safon orau ni waeth ble y maent yn astudio, ni waeth pa ysgol y maent yn ei mynychu, ni waeth ym mha ddosbarth y maent yn yr ysgol.

Beth rydym yn ei wneud? Rydych yn gwybod ein bod yn diwygio ein rhaglenni hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn sylweddol, fel mai’r athrawon gorau posibl sy’n dod o’n prifysgolion. Yn nes ymlaen y gwanwyn hwn, byddaf yn cyhoeddi safonau addysgu newydd, safonau proffesiynol newydd, y byddwn yn disgwyl i athrawon a’u rheolwyr—penaethiaid—eu dilyn ar gyfer rheoli eu staff. Rydym yn parhau i weithio gyda’n hysgolion a’n partneriaid i wella’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon sydd eisoes yn y gweithlu.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n hapus gyda rhai o’r datblygiadau hynny, ond wrth gwrs, canfu’r prif arolygydd broblemau gyda mwy nag ansawdd yr addysgu a’i amrywioldeb. Canfu broblemau hefyd yn ein hunedau cyfeirio disgyblion. Dywedodd fod y ddarpariaeth mewn unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn arbennig o wael, ac wrth gwrs, rydych chi a minnau’n gwybod bod llawer o’r unigolion mewn unedau cyfeirio disgyblion yn ddysgwyr sy’n agored i niwed. Pa gamau penodol sydd ar waith gennych i godi’r safonau mewn unedau cyfeirio disgyblion?

Diolch i chi, Darren. Nid y disgyblion sy’n mynychu’r unedau cyfeirio disgyblion yn unig sy’n rhaid i ni boeni yn eu cylch, ond yr holl blant sy’n derbyn eu haddysg heblaw yn yr ysgol. Fe fyddwch yn gwybod bod Ann Keane yn cadeirio grŵp sy’n edrych ar y ddarpariaeth i rai sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol i sicrhau y byddwn yn gweld y gwelliannau sydd eu hangen arnom i rai sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, boed hynny mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn lleoliad penodol arall, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ann i weithredu’r newidiadau y mae hi’n teimlo eu bod yn angenrheidiol.

Ar hyn o bryd rwy’n ystyried edrych ar y defnydd o grantiau amddifadedd disgyblion mewn perthynas â disgyblion mewn unedau cyfeirio disgyblion neu ddisgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, gan edrych ar opsiynau, a allwn dargedu adnoddau ychwanegol ar gyfer addysg y plant hynny, yn ogystal â sicrhau bod darpariaeth a chanlyniadau o ansawdd ac na chyfyngir ar gyfleoedd bywyd a chyfleoedd addysgol plant drwy eu bod y tu allan i ysgol brif ffrwd, gan fod yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad yw disgyblion a allai fynd ymlaen i gyflawni ystod eang o gymwysterau yn cael y cyfle hwnnw oherwydd bod y cwricwlwm wedi’i gyfyngu cymaint ar eu cyfer os ydynt y tu allan i’r ystafell ddosbarth brif ffrwd.

Mae’n ymwneud â mwy na’r rhai sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion y tu allan i ysgolion prif ffrwd; mae gennym broblemau yn ein hysgolion prif ffrwd yn ogystal. Unwaith eto, roedd canfyddiadau’r prif arolygydd yn cyd-fynd yn agos iawn â chanfyddiadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a oedd yn dangos nad yw plant sy’n fwy abl a thalentog—y plant mwy dawnus hynny—yn cyrraedd eu potensial yn ein hysgolion prif ffrwd, ac mae’n debyg nad ydynt yn cael digon o’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu’r potensial hwnnw. Pa gamau a roddir ar waith gennych i gefnogi’r disgyblion nad ydynt yn cael y sylw y maent yn ei haeddu ar hyn o bryd, yn enwedig y plant dawnus hynny?

Diolch i chi, Darren. Rydych yn hollol iawn; nododd y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ac Estyn bryderon ynglŷn â’r hyn a wnawn dros ein plant mwy abl a thalentog. Mae angen i ni sicrhau bod ein hathrawon yn meddu ar y gallu i wahaniaethu yn yr ystafell ddosbarth fel eu bod yn gallu darparu gwersi mewn modd sy’n ymestyn ein disgyblion mwy abl a thalentog.

Gan weithio’n agos gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, rydym yn cefnogi rhwydwaith Seren. Y bore yma, ar ymweliad â Choleg Merthyr Tudful, cyfarfûm â nifer o bobl ifanc o Ferthyr Tudful a oedd yn astudio at Safon Uwch yn y coleg ac a oedd yn rhan o raglen Seren, pobl ifanc sydd ag uchelgais i fynd i astudio gwyddoniaeth filfeddygol neu feddygaeth yn nes ymlaen yn eu bywydau ac sy’n cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i wneud i’r pethau hynny ddigwydd.

Rydym hefyd wedi mireinio ein hatebolrwydd a’n mesurau perfformiad ar gyfer ysgolion. Un o ganlyniadau anfwriadol ffocws trwm ar drothwy cynwysedig lefel 2+ oedd canolbwyntio ar y disgyblion hynny a’u codi, yn ddigon teg, o radd D i radd C, ond mae hynny wedi arwain at ganlyniadau i’n perfformiad A* ac A a B. Rydym wedi newid hynny. Rydym bellach yn defnyddio sgoriau pwyntiau wedi’u capio yn ogystal â lefel 2+, fel bod rhaid i ysgolion ganolbwyntio ar sicrhau bod pob disgybl unigol yn cyrraedd eu potensial llawn.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd categorïau ysgolion Cymru gennych yn ddiweddar. Ni fydd categoreiddio’r ysgolion o ddefnydd oni bai bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n brydlon ac yn effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella; fel arall, bydd plant yn parhau i ddihoeni mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio cystal â’r safon. A ydych yn barod i roi sicrwydd personol i’r Cynulliad ac i rieni plant mewn ysgolion sydd angen cymorth, yn enwedig y rhai yn y categori coch, y byddwch yn cymryd cyfrifoldeb personol am gefnogi a chynorthwyo’r ysgolion hynny i godi i statws gwyrdd?

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae’r newyddion da yn sgil cyhoeddi’r data categoreiddio ysgolion yr wythnos diwethaf yn dangos bod nifer yr ysgolion sy’n symud allan o’r categori coch yn gwella. Mae gennym lai o ysgolion yn y categori coch nag erioed o’r blaen, a deillia hynny o waith caled ac ymroddiad penaethiaid, athrawon dosbarth unigol, a chyrff llywodraethu sy’n cefnogi’r ysgolion hyn, yn ogystal â’n gwasanaethau gwella rhanbarthol. Ar gyfer pob ysgol a gafodd ei gosod yn y categori coch, rwyf wedi gofyn i’r consortia rhanbarthol roi cynllun ysgrifenedig i mi ynglŷn â’r hyn y byddant yn ei wneud i gynorthwyo’r ysgol honno. Prif ddiben ein proses o gategoreiddio ysgolion yw nodi pa ysgolion sydd angen fwyaf o gymorth, a bydd cynllun yn cael ei gyflwyno i mi’n bersonol gogyfer â phob ysgol a osodwyd yn y categori coch.

Diolch i chi am hynny. O ran y categorïau coch, oren a gwyrdd, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o blant sy’n byw mewn dalgylchoedd lle y bernir bod yr ysgolion cynradd ac uwchradd naill ai yn y categori oren neu’r categori coch? Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod gorfodi plentyn i fynd i ysgol sydd angen ei gwella yn annerbyniol a buasai’n warth cenedlaethol pe baem yn dedfrydu plentyn i ysgolion sy’n methu drwy gydol eu bywyd addysgol, felly mae’n hanfodol ein bod yn gwybod am unrhyw sefyllfa lle y mae angen gwella’r ysgolion ar y ddwy lefel.

Nid oes gennyf y data wrth law, ond rwy’n hapus i ddarparu’r data hwnnw i’r Aelod. Fel y dywedais wrth ateb cwestiwn Darren Millar, rwy’n disgwyl i’n holl ysgolion fod yn ysgolion rhagorol lle bynnag y mae plentyn yn digwydd bod. Mae’r data o’r broses o gategoreiddio ysgolion yn dangos bod nifer yr ysgolion sy’n mynd i gategori melyn neu wyrdd yn gwella. Mae mwy o blant Cymru yn mynd i fwy o ysgolion gwyrdd nag ers i’r system hon ddechrau, ac ni fyddaf yn gorffwys nes ein bod yn gweld cynnydd ym mhob un o’n hysgolion. Mae’r system hon yn caniatáu i bob ysgol fod yn wyrdd os yw eu perfformiad yn cyrraedd y safon honno, ac rwy’n siŵr y buasai’r penaethiaid ym mhob un o’n hysgolion yn awyddus i anelu at hynny er mwyn eu plant.

Iawn. Diolch. Ar ôl gofyn am faint y broblem, mae’n anghywir i drin unrhyw un, wrth gwrs, yn enwedig plant, fel ystadegau. Felly, hoffwn glywed peth sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd unrhyw ysgol sydd angen cymorth yn cael ei thrin yn gyfartal o gymharu ag ysgolion eraill sydd angen help, waeth beth yw maint yr ysgol.

Mae categoreiddio yn arwydd o’r lefel o gymorth y gall ysgol ddisgwyl ei gael, a bydd hynny’n wir waeth beth yw maint yr ysgol. Rwy’n disgwyl i’r consortia rhanbarthol, ein gwasanaeth gwella ysgolion, weithio’n agos gyda’r pennaeth a chorff llywodraethu’r cyfryw ysgol i sicrhau bod yna becyn o gymorth sy’n berthnasol. Ond bydd maint yr ysgol yn amherthnasol i lefel y cymorth y bydd yr ysgol honno’n ei gael.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn Nwyrain Abertawe? OAQ(5)0081(EDU)

Diolch i chi, Mike. Buddsoddir dros £51 miliwn ym mand A y rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif mewn ysgolion yn Abertawe dros y cyfnod o bum mlynedd sy’n dod i ben yn 2019. O’r swm hwn, bydd dros £34 miliwn wedi cael ei wario yn etholaeth Dwyrain Abertawe.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb ac am ymweld ag ysgol Burlais sydd newydd ei hadeiladu, yn enwedig gan fod ysgol Burlais wedi’i hadeiladu yn lle dwy ysgol yr oedd angen eu hadnewyddu yn sgil problemau difrifol iawn gyda’u hadeiladau—roedd ganddynt ddŵr yn rhedeg y tu mewn i’r ysgol bob tro y byddai’n bwrw glaw. Rwyf hefyd wedi gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymweld ag ysgol Blaenymaes, sydd ar raglen ailadeiladu’r cyngor. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y rhaglen ysgolion 21ain ganrif yn parhau?

Wel, Mike, roeddwn yn falch iawn o weld ysgol newydd Burlais a’r gwahaniaeth y mae’r adeilad yn ei wneud i addysg plant yn yr ardal. Rwyf hefyd yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i ymweld ag ysgol Blaenymaes. Fy niweddar nain, Mary Hall, oedd yr uwch gogydd yn Ysgol Blaenymaes am flynyddoedd lawer. Fe bliciodd lawer o datws ar gyfer y plant yn ei hamser. Felly, mae’r cyfle i ymweld â Blaenymaes yn un rwy’n ei groesawu’n fawr iawn. Rwy’n falch o gadarnhau hefyd fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif, ac mae ton nesaf y buddsoddiad hwn i fod i ddechrau yn 2019 a rhedeg dros y cyfnod o bum mlynedd nes 2024.

Fe sonioch am y blaengynllun yno, ond yn ôl swyddogion, mae cynllun datblygu lleol cyngor Abertawe, sydd braidd yn ddadleuol, rhaid cyfaddef, yn debygol o gael ei ohirio yn awr, ac mae rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn anelu i fynd i’r afael â chapasiti, wrth gwrs, mewn ysgolion sy’n orlawn a’r rhai sydd â lleoedd gwag. Os caiff y cynllun datblygu lleol ei ohirio, pa effaith y credwch y gallai hyn ei chael ar y cynlluniau ar gyfer y safleoedd a chapasiti ysgolion yn Abertawe? Mae’n ymddangos i mi ei fod yn awdurdod lleol sy’n dal i geisio deall y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, heb sôn am unrhyw beth arall, a hynny er y gallant ddefnyddio’r cynllun datblygu lleol fel cyfle i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â fel bygythiad. Diolch.

Wel, mae’n siomedig y bydd oedi ar y cynllun datblygu lleol, gan mai un o egwyddorion craidd y rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif yw sicrhau bod gennym y nifer cywir o leoedd ysgol yn y lle iawn. Yn aml, mae’r cynigion i ddatblygu cytref neu dref neu bentref penodol yn allweddol yn y broses o gymeradwyo grant i ysgol 21ain ganrif, a allai fod â chapasiti mwy nag sydd ei angen ar hyn o bryd, oherwydd ein bod yn gwybod bod tai’n mynd i gael eu hadeiladu. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos iawn gyda chyngor Abertawe i sicrhau na fydd oedi yn eu hadran gynllunio yn effeithio ar ein gallu i wneud yr hyn yr wyf am ei wneud, a’r hyn y mae’r Aelod am ei wneud, rwy’n siŵr, sef gweld buddsoddiad parhaus yn ysgolion Abertawe.

Yn dilyn yr un thema mewn gwirionedd, pa drafodaethau penodol a gawsoch gyda Dinas a Sir Abertawe i geisio sicrhau nad yw’r gofynion cynllunio addysg cyfredol yn cael eu gohirio’n afresymol neu’n amwys o ganlyniad i’r oedi hwn yn y cynllun datblygu lleol?

Wel, fel y dywedais, Dai, mae swyddogion yn parhau i siarad yn rheolaidd gyda chyngor dinas Abertawe. Rydym am sicrhau bod y cynigion sydd ar hyn o bryd ym mand A y rhaglen yn cael eu cyflawni, ac rydym am sicrhau gwerth gorau am arian Llywodraeth Cymru pan ddaw band B yn weithredol. Rydym yn gwneud hyn mewn dull partneriaeth, felly mae angen dealltwriaeth glir o’r hyn y mae cyngor Abertawe yn awyddus i’w wneud, ac fel y dywedais, ni fuasem yn disgwyl i unrhyw oedi yn yr adran gynllunio effeithio ar ein gallu i fuddsoddi yn y capasiti ysgolion sydd ei angen ar Abertawe, ni waeth a yw’r capasiti hwnnw’n gyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan y rhan fwyaf o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe gymarebau disgybl/athro sy’n uwch na 25, ac mae pob un ond un yn y categorïau cymorth melyn ac oren. Mae hyn, ynghyd â newyddion diweddar yn tynnu sylw at yr anhawster i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, a newyddion am yr oedi difrifol o ran cyflwyno’r cwricwlwm, yn destun pryder. Ysgrifennydd y Cabinet, beth a wnewch i roi sicrwydd i rieni yn fy rhanbarth ynglŷn â dyfodol addysg eu plant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg? Diolch.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan o gylch gwaith fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith, ac sydd ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y cynlluniau Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn uchelgeisiol. Rydym yn deall bod gan addysg rôl allweddol i’w chwarae os ydym yn mynd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 1 filiwn ychwanegol o siaradwyr Cymraeg. O brofiad fy nheulu fy hun, lle y cafodd yr iaith ei cholli yn fy nghenhedlaeth i a chenhedlaeth fy ngŵr, gwn fod y gallu i fynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi dod â’r iaith yn ôl i fy nheulu, ac rwy’n hynod o falch o weld plant y mae eu rhieni’n siarad Saesneg yn gallu siarad â’u rhieni yn Saesneg a siarad â’u mam-gu a’u tad-cu yn Gymraeg yn yr un sgwrs. Dyna pam rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod awdurdodau lleol yr un mor uchelgeisiol â ninnau dros addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

Amser Athrawon o ran Cynllunio, Paratoi ac Asesu

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd mwyaf effeithiol o amser athrawon o ran cynllunio, paratoi ac asesu mewn ysgolion? OAQ(5)0092(EDU)

Diolch i chi, Hefin. Rwy’n disgwyl i athrawon arfer eu barn broffesiynol wrth sicrhau bod amser cynllunio, paratoi ac asesu yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i gefnogi eu haddysgu. Dylid cynllunio trefniadau i alluogi athrawon i ddefnyddio eu crebwyll yn seiliedig ar eu hanghenion ac anghenion yr ysgol a’u dysgwyr.

Mae’n dda clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi’r hyblygrwydd hwnnw. Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, dywedodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon fod CPA yn broblem fawr mewn ysgolion cynradd yn benodol. Neil Foden o NUT Cymru a ddywedodd fod ysgolion yn rhyddhau athrawon ar gyfer y 10 y cant gofynnol o’u hamser addysgu ac yn eu rhyddhau o’u llwyth gwaith, sydd i’w groesawu ac yn beth da. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio staff heb statws athro cymwysedig, megis cynorthwywyr dosbarth neu gynorthwywyr addysgu lefel uwch. Gall hyn olygu—a dyma beth a ddywedodd—nad yw disgyblion yn cael eu haddysgu gan athro cymwysedig am yr hyn sy’n cyfateb i un mis mewn blwyddyn academaidd. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb i hyn os yw hynny’n wir. Felly, lle y bo angen lleihau capasiti addysgu mewn rhai ysgolion o bosibl, oni fuasai’n fwy priodol defnyddio’r capasiti addysgu hwnnw i gyflenwi dros CPA, fel athro fel y bo’r angen, efallai, gyda chyfrifoldeb am gyflenwi dros CPA, neu ddod o hyd i atebion creadigol eraill i’r broblem hon?

Diolch i chi, Hefin. Os caf fod yn gwbl glir, oherwydd rwy’n credu bod y rheoliadau sy’n llywodraethu pwy sy’n cael addysgu yng Nghymru yn glir: athrawon cymwys yn unig—rhai sydd â statws athro cymwysedig—sy’n cael gwneud gwaith penodol, h.y. addysgu. Mae gennym sefyllfa wahanol iawn yma yng Nghymru i’r hyn a welech dros y ffin, ac mae’n wahaniaeth rwy’n falch iawn ohono. Gall ysgolion gyflogi athro fel y bo’r angen gyda chymwysterau addas. Fel chi, rwy’n cydnabod bod yna fanteision i barhad a sicrwydd ansawdd o gael athrawon fel y bo’r angen sy’n cael eu cyflogi naill ai mewn un ysgol, neu mewn clwstwr o ysgolion, efallai, i gyflenwi dros athrawon absennol neu i sicrhau bod yr athrawon hynny’n cael yr amser CPA sydd ei angen arnynt. Buaswn yn ystyried hynny’n arfer da. Yn y pen draw, fodd bynnag, mater i ysgolion unigol, cyrff llywodraethu a’r AALl yw strwythurau staffio.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel cadeirydd dau gorff llywodraethu, rwy’n aml yn meddwl bod gan athrawon ffordd o weithio sy’n debyg i’n ffordd ni o weithio. Mae angen iddynt wneud llawer o waith paratoi. Mae’n rhaid iddynt wneud llawer o waith gyda’r nos ac yn ystod yr hyn y mae pobl yn cyfeirio ato’n gyson fel gwyliau. Ond weithiau, mae angen i chi gael amser wedi’i neilltuo—pan fyddwn ni yn y swyddfa, ond pan fyddant hwy yn yr ysgol—er mwyn iddynt allu cael gafael ar gydweithwyr a ffynonellau cyngor, ac er mwyn iddynt allu cynllunio. Mae’n wirioneddol bwysig fod 10 y cant o’r amser yn cael ei neilltuo ar eu cyfer.

Rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae gennym ymrwymiad i ganiatàu i’r amser hwnnw gael ei roi. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod wedi ymweld â’r Ffindir yn ddiweddar, cenedl sy’n cael ei hystyried yn gyson yn gadarnle addysg wych. Un o’r pethau y maent yn ceisio ei wneud yn y Ffindir i wella eu haddysg yw sicrhau bod amser CPA ar gael yn yr ysgol i’w hathrawon. Maent yn cydnabod nad yw athrawon yn cael cyfle ar hyn o bryd i eistedd gyda’i gilydd i drafod disgyblion unigol neu i gynllunio ac i edrych i weld sut y gallant ddatblygu eu hysgolion. Felly, mae CPA yn elfen bwysig. Rydym wedi edrych ar ffyrdd y gallem gynyddu CPA. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad annibynnol—annibynnol ar y Llywodraeth—wedi sôn yn ddiweddar am wythnos ysgol fyrrach a fyddai wedyn yn caniatáu un diwrnod ar gyfer CPA. Ni chafodd ei groesawu â llawer o frwdfrydedd gan Aelodau ar eich meinciau chi, rhaid i mi ddweud, ond mae angen inni edrych ar ffyrdd creadigol o sicrhau bod athrawon yn cael yr amser CPA hwn.

Ffiniau Rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gael gwared ar y ffiniau rhwng addysg bellach ac addysg uwch? OAQ(5)0091(EDU)

Diolch i chi, Hefin. Cyhoeddais fy mwriad yr wythnos diwethaf i ymgynghori ar sefydlu awdurdod strategol newydd i oruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Buasai hyn yn hybu cydweithio, yn dileu rhwystrau i gynnydd ac yn creu llwybrau dysgu di-dor ar draws pob elfen o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys addysg bellach ac uwch.

Rwy’n croesawu’r datganiad hwnnw a’r mesurau y mae hi newydd eu nodi mewn ymateb i adolygiad Hazelkorn. Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd, dywedodd y bydd disgwyl yn y dyfodol mwy uniongyrchol—cyn i’r ymgynghori pellach hwnnw ddigwydd—pan fydd yn cyflwyno ei llythyr cylch gwaith blynyddol, y bydd rhan o’r arian sydd wedi bod yn mynd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddefnyddio i wella’r berthynas rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Dywedodd y byddai’n cynnwys hynny yn y llythyr cylch gwaith. Yn yr un cyfarfod, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes nad yw am weld ffin rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Sut, yn benodol, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau, yn ei llythyr cylch gwaith nesaf, sydd i ddod yn fuan iawn, fod hynny’n mynd i ddigwydd?

Diolch i chi am hynny. Mae’r awydd ar ran Gweinidogion Cymru eisoes wedi ei fynegi i CCAUC mewn llythyr cylch gwaith ychwanegol a aeth allan yn gynharach yr hydref hwn, a buasai llythyrau cylch gwaith yn y dyfodol yn ceisio adeiladu ar hyn.

Mae’n syndod i mi pa mor bwysig yw’r cyfleoedd hyn. Unwaith eto, y bore yma, gyda Dawn Bowden, roeddwn yng ngholeg Merthyr Tudful. Cyfarfuom â myfyrwyr yno y bore yma a oedd yn gwneud y ddwy flynedd gyntaf o’u cwrs ar y campws ym Merthyr Tudful ac yn mynd ymlaen wedyn i astudio ym Mhrifysgol De Cymru i gwblhau eu graddau. Mae llawer o’u myfyrwyr sy’n astudio Safon Uwch, er enghraifft, yn camu ymlaen wedyn i astudio ar lefel uwch yn yr un sefydliad, a’r hyn sydd wedi bod yn hanfodol i godi lefelau uchelgais yn y gymuned honno, sydd wedi cael amser anodd iawn, yw’r cysylltiad agos hwn rhwng y coleg addysg bellach a’r sefydliad addysg uwch.

Wrth i ni weithio tuag at un awdurdod addysg drydyddol, byddaf yn parhau i fynegi fy awydd, a pha mor bwysig ydyw yn fy marn i, i CCAUC yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr, a bydd fy swyddogion yn monitro unrhyw dystiolaeth a geir gan CCAUC i weld bod ysbryd y llythyr cylch gwaith wedi cael ei gyflawni mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae mater ffioedd dysgu myfyrwyr a threfniadau ariannu addysg uwch wedi mynnu cryn sylw. Fodd bynnag, mae gan addysg bellach ran yr un mor bwysig os nad yn bwysicach o ran darparu sgiliau i economïau lleol a’u dysgwyr, ac yn haeddu sylw cyfartal. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y bydd gostyngiad parhaus yn y cyllid ar gyfer sgiliau lefel is yn peryglu’r gallu i ddarparu’r dysgu sylfaenol sy’n cynnal ein cymunedau yng Nghymru?

Diolch i chi am hynny. Nid wyf yn ystyried bod unrhyw elfen o’r sector yn bwysicach nag unrhyw un o’r lleill, a mynegais hynny’n eithaf clir yn fy natganiad ar Hazelkorn yr wythnos diwethaf. Pwrpas yr awdurdod addysg drydyddol newydd yn rhannol fydd sicrhau y gallwn gael parch cydradd rhwng y gwahanol fathau o astudio, a bydd yr adnoddau a fydd yn helpu i yrru nid yn unig cyfleoedd bywyd yr unigolion sy’n astudio, ond a fydd hefyd yn hybu economi Cymru, yn sylfaenol i’w gwaith wrth iddynt gomisiynu rhaglenni astudio, dysgu seiliedig ar waith a’r ddarpariaeth sgiliau.

Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

6. Faint o blant pump oed sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0080(EDU)

Member
Alun Davies 14:08:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Yn ôl y data diweddaraf ar gyfer Ionawr 2016, mae 8,804 o ddisgyblion 5 oed yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae hyn felly yn chwarter yr holl ddisgyblion 5 oed.

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd lawer, rwy’n gwybod pa mor anodd yw hi i ddysgu fel oedolyn. Mae’r Gweinidog wedi dweud bod yna 8,804 o blant pum mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, sy’n cyfateb, gan ragdybio disgwyliad oes o 85 mlynedd, i rywbeth tebyg i 850,000 o siaradwyr Cymraeg—ychydig bach yn llai o bosibl—o siaradwyr Cymraeg yn 2097. Hynny yw, oni bai bod mwy o blant pum mlwydd oed yn dechrau mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd i ddod. A yw’r Gweinidog yn cydnabod y rhifau hyn, ac a all ddweud sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu’r niferoedd hyn, fel ein bod yn cyrraedd 1 filiwn erbyn 2097?

Lywydd, rwyf wedi dysgu drwy brofiad i beidio byth â herio Mike Hedges ar ei rifau. Gwneuthum hynny unwaith ac ni fyddaf yn gwneud hynny eto. Rwy’n cydnabod y rhifau y mae’n eu dyfynnu a’r pwynt ehangach wrth wraidd hynny. A gaf fi ddweud hyn? Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Nid yw pob un wedi dod i law eto gan awdurdodau lleol, a byddaf yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen pan fyddaf wedi cael pob un o’r cynlluniau hynny wedi’u cwblhau. Fodd bynnag, rwyf am ddweud fy mod yn siomedig gan y diffyg uchelgais a ddangoswyd hyd yma. Mae’r uchelgais y mae Mike Hedges yn ei ddisgrifio’n eglur yn un y mae’r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig iddi, ac mae hynny’n golygu, pan fyddwn yn edrych ar ein cynlluniau strategol ar gyfer dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg, y byddwn yn gwneud hynny gyda’r bwriad o gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr. Mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg. Pan fyddaf mewn sefyllfa i wneud hynny, byddaf yn gwneud y datganiad hwnnw i’r Siambr.

Weinidog, roeddwn yn fodlon gyda’ch tôn gadarn mewn perthynas â’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sy’n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydych chi a minnau’n rhannu’r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru, ond ni fyddwn byth yn cyflawni’r uchelgais hwnnw oni bai bod digon o athrawon Cymraeg eu hiaith yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae gennym broblem enfawr ar hyn o bryd, sy’n dechrau datblygu, ac yn mynd i barhau i ddatblygu, gyda gostyngiad enfawr yn nifer y bobl sy’n dod i’r proffesiwn addysgu sy’n hyfedr yn y Gymraeg ac yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau sydd ar y gweill gennych, gydag Ysgrifennydd y Cabinet, i ddenu pobl i’r proffesiwn sy’n mynd i allu cyflawni’r uchelgais godidog yr ydym i gyd yn ei rannu ar gyfer Cymru?

Rwy’n credu y bydd un o’r atebion a roddodd Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach am y math o system addysg y mae hi’n ceisio ei datblygu yng Nghymru ynddo’i hun yn sicrhau bod athrawon yn dymuno addysgu yng Nghymru ac yn canfod bod addysgu yng Nghymru yn opsiwn gyrfa deniadol iawn. Gwyddom fod oddeutu traean o holl athrawon Cymru yn siarad Cymraeg, felly mae rhywfaint o le i symud ar hyn o bryd. Ond rwy’n cydnabod mai’r pwynt mwy sylfaenol a wnewch yw bod angen i ni gael mwy o athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe welwch y bydd rhywfaint o’r arian yr ydym wedi’i gytuno drwy ein trafodaethau ar y gyllideb yn helpu i gyflawni hynny o ran buddsoddi yn y gweithlu, ond buddsoddi yn y gweithlu hefyd ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Bydd cynnig gofal plant y Llywodraeth hefyd yn cyfrannu at hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae’n bwysig ein bod yn edrych—a bydd y cynllun strategol y byddaf yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni ar ddyfodol yr iaith Gymraeg yn gynllun cynhwysfawr a fydd yn cynnwys uchelgeisiau mewn perthynas â’r prif niferoedd, a nifer o wahanol elfennau hefyd a fydd yn ein galluogi i gyflawni hynny. Mae cynllunio’r gweithlu yn rhan allweddol o hynny ac yn elfen allweddol o hynny. Ac er y byddwn, yn wir, yn canolbwyntio ar athrawon, byddwn hefyd yn canolbwyntio ar gymorth addysgu a gweithwyr gofal plant yn ogystal.

Pynciau STEM

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion i astudio pynciau STEM mewn ysgolion? OAQ(5)0084(EDU)

Mae cymorth ar gyfer STEM mewn ysgolion yn flaenoriaeth allweddol ac rydym yn buddsoddi mewn adeiladu capasiti ar gyfer pynciau gwyddoniaeth. Bydd ein diwygiadau addysg yn sicrhau newidiadau wedi’u harwain gan addysgwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth i’r cwricwlwm STEM, gyda rhwydweithiau rhagoriaeth i gefnogi ein gweithlu addysgu yn y dyfodol.

Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’ wedi nodi nad oes digon o ferched yn dilyn y rhan fwyaf o bynciau STEM ar gyfer Safon Uwch, er eu bod yn perfformio cystal neu’n well ar lefel TGAU na’u cymheiriaid gwrywaidd, gyda heriau penodol, er enghraifft, mewn ffiseg, lle nad oes ond 20 y cant o’r myfyrwyr Safon Uwch yn fyfyrwyr benywaidd. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r bwlch hwn rhwng y rhywiau? Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu bod unrhyw gyfleoedd yn y cwricwlwm newydd i ni geisio gwrthdroi’r duedd hon?

Diolch i chi am hynny. Rwyf wedi bod yn rhoi amryw o gamau cadarnhaol ar waith i ddenu rhagor o ferched i astudio pynciau STEM, yn gysylltiedig â’r camau gweithredu addysg a nodwyd yn yr adroddiad a grybwyllwyd gennych,’Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’. Ond er mwyn gwneud y gwahaniaeth hwnnw, rwyf am weld ein haddysgwyr proffesiynol—maent angen cymorth i wneud i hynny ddigwydd. Dyna pam y mae’r rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth mewn mathemateg a gwyddoniaeth a thechnoleg, a gyhoeddais yn ddiweddar, yn wynebu’r dasg o ystyried materion cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Felly, mae hynny mewn gwirionedd yn rhan benodol o’r hyn yr ydym yn disgwyl iddynt ei wneud. Ar wahân i’r rhieni, ein gweithlu addysgu sy’n dylanwadu fwyaf ar ddewisiadau astudio pobl ifanc. Felly, mae’n hanfodol fod y rhai sy’n gweithio ym maes STEM yn ein hysgolion, o dair oed—gan fod yn rhaid i ni gael profiadau gwyddonol gwych yn gynnar yn ystod gyrfa addysgol plentyn—i 18 oed yn cael eu cynorthwyo i wella profiadau merched a’r ffordd berthnasol a chynhwysol y maent yn cyflwyno STEM mewn ysgolion.

Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â ffiseg. Mae llawer o ferched yn astudio bioleg, ychydig yn llai ohonynt yn astudio cemeg ac yna mae gennym ostyngiad sylweddol yn nifer y merched sy’n astudio ffiseg, felly yn arbennig gyda’r grant ar gyfer ffiseg, rydym yn ariannu rhaglen Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg y Sefydliad Ffiseg, sy’n darparu mentora anarbenigol ar gyfer athrawon ffiseg: dull y gwyddom fod iddo hanes profedig yn gwella’r ddarpariaeth i ferched hyd at astudiaethau ffiseg Safon Uwch.

Her Ysgolion Cymru

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd gwaith cydweithredol llwyddiannus a ddechreuwyd gan Her Ysgolion Cymru yn parhau? OAQ(5)0082(EDU)

Thank you, Jenny. From the outset of the programme the regional consortia and the local authorities have worked closely with their Schools Challenge Cymru schools to encourage and embed appropriate collaboration. My officials will continue to work with the regions to ensure that this good practice is maintained and shared across the entire system.

Parhaodd y London Challenge llwyddiannus iawn, a oedd yn amlwg wedi’i ysbrydoli gan ein Her Ysgolion Cymru, am wyth mlynedd lawn. Mae ein un ni yn cael ei dirwyn i ben ar ôl tair blynedd. Mae rhai o gyflawniadau Her Ysgolion Cymru wedi bod yn wirioneddol ragorol: mewn ysgolion uwchradd, ymhlith y rhai sydd ar brydau ysgol am ddim, bu cynnydd o 65 y cant yn y cyrhaeddiad mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg i’r lefel sy’n ofynnol. Gwn fod yr Athro Ainscow, hyrwyddwr Her Ysgolion Cymru, wedi dweud bod yna ganlyniadau syfrdanol wedi bod. Tybed a ydym yn rhoi’r gorau iddi’n rhy fuan, nid yn unig o ran cael gwelliant cyflym ond gwelliant cynaliadwy hefyd. Sut yr awn ati i gynnal y gwelliant gwych hwn?

Diolch i chi, Jenny. Fel y gwyddoch, cafodd y rhaglen ei sefydlu’n wreiddiol fel rhaglen dwy flynedd. Cafodd y rhaglen ei hymestyn am drydedd flwyddyn. Rwyf wedi gwneud penderfyniad i ymestyn y cymorth i ysgolion Her Ysgolion Cymru tan ddiwedd y flwyddyn academaidd hon yn hytrach na’r flwyddyn ariannol. Hefyd, bydd gennym gyllid ar gyfer mynd i’r afael â mathau newydd o ymyriadau yn yr ysgolion hynny nad ydynt wedi gwneud cynnydd. Er fy mod yn llwyr gydnabod bod llawer o’r ysgolion yn y rhaglen wedi gwneud cynnydd sylweddol, yn anffodus ceir lleiafrif o ysgolion lle nad yw’r canlyniadau wedi gweld cynnydd o’r fath ac mewn rhai achosion, maent hyd yn oed wedi llithro ymhellach ar ôl. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno fod angen i ni ailganolbwyntio ein hymdrechion ar yr ysgolion hynny.

O ran yr ysgolion sydd wedi gwneud cynnydd, nid ydym am iddynt lithro ar ôl. Dyna pam rydym wedi gofyn i’r consortia sicrhau bod yr holl ysgolion hynny’n cael rhaglen barhaus o gymorth a mentora wedi’i chytuno gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion. Yn ddiweddar, roeddwn gyda phennaeth, gydag Alun Davies, yn etholaeth Blaenau Gwent yn siarad gydag ef am ei gynllun yn dilyn Her Ysgolion Cymru, sydd eisoes wedi cael ei gytuno gyda’r consortiwm Gwasanaeth Cyflawni Addysg, cynllun y mae’n hapus iawn ac yn fodlon iawn ag ef, a buaswn yn disgwyl bod yr enghraifft honno’n cael ei hailadrodd yn yr holl ysgolion yr effeithir arnynt.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg? OAQ(5)0083(EDU)[W]

Mae rhai awdurdodau lleol yn dal yn ymgynghori ar eu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Unwaith rwyf wedi eu derbyn nhw i gyd, byddaf yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen. Fel rwyf wedi dweud yn barod y prynhawn yma, rydw i yn siomedig gyda diffyg uchelgais rhai ohonyn nhw.

Diolch yn fawr, ac edrychaf ymlaen at weld eich datganiad chi am y cynlluniau hynod siomedig yma. Rydych chi hefyd wedi cyhoeddi’ch awydd i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yr wythnos diwethaf a’r bwriad o gyflwyno Papur Gwyn cyn yr haf er mwyn hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ar ddarpariaeth y Bil newydd. Nid oedd yn glir i mi o’r datganiad beth yn union fydd gorchwyl y Bil newydd. Er enghraifft, a fydd y Bil yn cwmpasu addysg Gymraeg a meysydd strategol eraill, neu ai dim ond safonau’r iaith a fydd o dan sylw? Wedyn, beth yn union fydd statws y strategaeth Gymraeg yn ystod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn? Pryder sydd gen i yw y bydd y broses o ddeddfu, yn hytrach na gweithredu o fewn y gyfundrefn sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn arafu yn ddirfawr yr ymdrechion i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Rwy’n gobeithio na fydd hynny’n digwydd. A gaf i jest ddweud, beth ddywedais wrth ymateb i’ch cwestiwn chi a chwestiwn Mike Hedges yn flaenorol oedd bod rhai o’r cynlluniau wedi bod yn siomedig, nid nhw i gyd, ac mae’n bwysig cydnabod hynny? Pan mae’n dod i ddeddfu yn y dyfodol, mae gyda ni gytundeb ein bod yn mynd i ystyried ac ailedrych ar Fesur y Gymraeg, Mesur presennol y Gymraeg, sy’n creu’r strwythur statudol ar gyfer y strategaeth a statws y Gymraeg. So, rydym ni’n mynd i ystyried hynny. Mae’r strategaeth a fydd yn gyrru ein gwaith ni yn strategaeth a fydd yn disgrifio ein gweledigaeth ni a sut rydym ni’n mynd i gyrraedd y weledigaeth yna. Rwy’n rhannu eich pryder chi ambell waith. Nid wyf eisiau trafodaeth ddi-stop am ddeddfu; nid wyf eisiau hynny—rwyf eisiau gweld gweithredu yn digwydd. Ond mae’n rhaid bod gyda ni y fframwaith statudol sy’n ein galluogi ni i wneud hynny.

Rwy’n mynd i fod braidd yn swil y prynhawn yma, os ydych yn maddau i mi, achos nid wyf eisiau cyhoeddi heddiw cynnwys y Papur Gwyn rwy’n mynd i’w gyhoeddi ddechrau’r haf; rwy’n dal yn ystyried ambell fater rydych chi wedi’i ddisgrifio. Ond pan fyddwn yn dod i ystyried y Papur Gwyn a chyhoeddi’r Papur Gwyn, mi fydd hynny yn ystyried sut ydym ni yn creu y math o fframwaith statudol sy’n mynd i fod yn cefnogi’r strategaeth ac yn ein galluogi ni i gyrraedd ein gweledigaeth ni.

2. Cwestiwn Brys: Cylchffordd Cymru

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiwn brys, ac rwyf wedi dewis un o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu? EAQ(5)0120(EI)

Member
Ken Skates 14:21:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Ydy, mae Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno cynnig newydd ar gyfer Cylchffordd Cymru. Byddwn yn awr yn ystyried y cyflwyniad yn fanwl ac yn cychwyn proses drwyadl o ddiwydrwydd dyladwy. Dylai’r Aelodau fod wedi derbyn datganiad ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg bellach.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, a hefyd am y datganiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd ychydig funudau yn ôl. Ar ôl blynyddoedd lawer o aros, rwy’n gobeithio bod y datblygiad diweddaraf hwn yn dangos ein bod drwy’r chicane olaf ar y darn syth olaf. Ond os yw’n gallu, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau fod y ddau faen prawf, y ddwy amod a osododd, yn gyntaf ym mis Gorffennaf y llynedd mewn perthynas â’r lefel 50 y cant o warant sector cyhoeddus, ac yn fwy diweddar, yr angen am ddogfennau amodau buddsoddwr a enwir, bellach wedi’u bodloni? Ac o ran y broses diwydrwydd dyladwy, a yw’n gallu dweud wrthym pwy fydd yn cynnal y diwydrwydd dyladwy? A fydd yn cael ei wneud yn allanol? Mewn perthynas â’r meini prawf, a fyddant yn dilyn y weithdrefn diwydrwydd dyladwy safonol o ran y meini prawf i asesu’r prosiect, neu a fydd yna feini prawf penodol ar gyfer y prosiect? Ac o ystyried y ffaith ei fod yn benderfyniad, os yw’n gadarnhaol, sy’n anochel o rwymo gweinyddiaethau yn y dyfodol, a fydd copi o’r diwydrwydd dyladwy yn cael ei rannu ar sail cyfrinachedd masnachol â llefarwyr pob plaid a gynrychiolir yn y Cynulliad? Yn hynny o beth, rwy’n hapus i gofnodi bod fy mhlaid yn credu bod gan hyn botensial enfawr i gymunedau Blaenau Gwent, i Gymoedd de Cymru yn ehangach, ac yn wir, i Gymru gyfan, a byddwn yn falch iawn o gefnogi’r prosiect wrth symud ymlaen, yn amodol ar fodloni’r gofynion arferol mewn perthynas â diwydrwydd dyladwy.

Ac yn olaf, wrth ddisgwyl penderfyniad terfynol cadarnhaol, a yw wedi cyfarwyddo ei dîm mewnfuddsoddi i ddechrau gwaith paratoi, a chwmpasu’r galw posibl am fewnfuddsoddiad yn y parc technoleg a fydd yn elfen allweddol o ddatblygiad Cylchffordd Cymru?

A gaf fi ddiolch i Adam Price am ei gwestiwn a dweud—fe geisiaf osgoi trosiadau moduro heddiw—ei bod hi’n ymddangos, yn ôl fy swyddogion, fod y meini prawf—y ddau bwynt a nododd yr Aelod—wedi’u bodloni, felly dyna pam rydym mewn sefyllfa heddiw i fwrw ymlaen â phroses diwydrwydd dyladwy ac ystyried y cynigion sydd o’n blaenau? Ni ddylai neb ofni diwydrwydd dyladwy a wneir ar ran Llywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n rhagweld y bydd y broses diwydrwydd dyladwy yn digwydd yn allanol. Yn bersonol, yn y rôl hon, nid wyf erioed wedi dod ar draws sefyllfa lle rwyf wedi rhannu manylion cyfrinachedd masnachol ynglŷn â diwydrwydd dyladwy gyda llefarwyr y gwrthbleidiau, ond rwy’n fodlon edrych ymhellach ar gwestiwn yr Aelod, a dod yn ôl ato gydag ateb. Mae’n ddigon posibl y byddai angen i ni gael caniatâd gan Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd hefyd.

O ran yr ystyriaethau a fydd yn ffurfio’r broses diwydrwydd dyladwy, bydd hyn yn cael ei wneud dros yr wythnosau sydd i ddod pan fyddwn wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru. Bydd yr holl wybodaeth honno’n cael ei hystyried. Byddwn yn dilyn y broses sy’n arferol ar gyfer prosiect o’r maint hwn, ac yn y datganiad ysgrifenedig, rwyf wedi amlinellu rhai o’r pwyntiau a fydd yn cael eu harchwilio yn rhan o’r broses honno.

O ran y galw gan fuddsoddwyr posibl ar gyfer y parc technoleg, wel, wrth gwrs, bydd hyn yn rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy ac asesiad o’r galw tebygol a’r tebygolrwydd y ceir clwstwr modurol. Ni allaf roi unrhyw fanylion am y cynllun busnes diweddaraf a gyflwynwyd, yn anffodus, felly ni allaf roi unrhyw fanylion ar hyn o bryd ynglŷn â’r union gynigion sy’n ymwneud â chlwstwr modurol posibl, ond bydd hynny’n rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl mai eich penderfyniad i roi terfyn amser o bythefnos i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd bythefnos yn ôl—bythefnos yn ôl i heddiw, neu bythefnos i ddoe—oedd y peth hollol gywir i’w wneud a dywedais hynny’n glir yn y datganiad busnes ddoe. Rwyf hefyd yn cytuno â chi ar fater diwydrwydd dyladwy. Mae’n amlwg erbyn hyn y bydd hynny’n chwarae rhan hanfodol yn y rhan nesaf o’r broses hon.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg bod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd—. Wel, mae’n ymddangos yn amlwg yn awr fod ganddynt yr arian yn ei le i symud ymlaen ar y pwynt hwn, ac mai’r rhan cyllid preifat o’r pecyn hwn yw’r rhan fwyaf o’r fargen ariannol lawn gyda thanariannu Llywodraeth Cymru yn dod i mewn fel rhan lai. A gaf fi ofyn i chi, yn gyntaf oll, a ydych yn gwbl fodlon fod y cyllid preifat yn ei le, ac os felly—ac rwy’n credu eich bod—pa mor gyflym y bydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i roi’r golau gwyrdd i’r prosiect hwn, cyn belled â bod y gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn eu lle? Oherwydd rwy’n deall bod y cyllid preifat dan sylw o fath a all fod yn hylifol, ac o ystyried eich bod yn teimlo bellach fod y rhan hon o’r fargen wedi’i bodloni, buasai’n drist pe bai’r prosiect hwn yn cael ei golli o ganlyniad i oedi diangen o hyn ymlaen.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chroesawu’r ffaith hefyd ei fod wedi cydnabod bod y terfyn amser o bythefnos yn arwyddocaol ac yn bwysig? Penderfynais gyhoeddi’r terfyn amser o bythefnos am nifer o resymau. Un oedd ein bod yn sicr y buasai Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, yn ôl ym mis Gorffennaf, yn gallu dod atom o fewn mater o wythnosau gyda chynnig diwygiedig. Felly, roeddwn yn teimlo yn y flwyddyn newydd ei bod hi’n bwysig gosod terfyn amser. Ond yn anad dim, teimlwn fod pobl Glynebwy wedi dangos cryn amynedd wrth aros i’r cynnig gael ei gyflwyno. A theimlwn, yn y flwyddyn newydd, fod angen rhoi’r terfyn amser i’r cwmni. Mae bellach wedi cael ei gyflwyno mewn pryd. Rydym yn edrych ar y manylion cyllid preifat o dan gytundeb atal dadlennu. Rwy’n ofni na allaf wneud sylw pellach ar yr archwiliad sydd ar y gweill o’r cyllid preifat.

O ran y broses diwydrwydd dyladwy a fydd yn cychwyn wedi i ni gael yr holl wybodaeth, bydd yn ein galluogi i ddechrau’r broses honno. Rydym yn disgwyl iddi ddigwydd a dod i ben mewn oddeutu pedair i chwe wythnos, sy’n ffrâm amser arferol ar gyfer prosiect o’r maint hwn, a bydd y Cabinet yn gallu ei ystyried wedyn.

Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cefnogi’r cynnig hwn yn gryf ar hyd yr amser, ac er fy mod yn deall yr angen am wneud diwydrwydd dyladwy priodol mewn cynigion o’r fath, mae hwn yn brosiect trawsnewidiol. Os yw’n llwyddo, yna mae’n mynd i weddnewid economi Cymru yn gyfan gwbl, yn sicr yn ne-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi nad oes unrhyw arian cyhoeddus yn mynd tuag at y datblygiad hwn mewn gwirionedd, ar wahân i’r £9 miliwn sydd eisoes wedi’i ymrwymo ar gyfer cronfeydd datblygu, ond y cyfan y gofynnwyd amdano yw gwarant o lai na hanner y cyfalaf preifat sy’n mynd i gael ei fuddsoddi. Telir £3 miliwn y flwyddyn i’r Llywodraeth am y warant honno mewn gwirionedd, felly mae’r Llywodraeth yn cael rhywbeth yn gyfnewid, ac ni ddaw’r warant ei hun yn weithredol mewn gwirionedd hyd nes yr adeiladir yr asedau ar y safle. Felly, bydd yna sicrwydd cadarn o ran sut a phryd yr hawlir ar y warant, a gobeithiwn na ddaw i hynny. O ganlyniad, rwy’n credu bod hon yn fargen dda iawn i Lywodraeth Cymru ac i bobl Cymru, ac felly dylai roi ystyriaeth mor deg â phosibl iddi.

Hoffwn ddiolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn, ac am gydnabod bod y fargen sydd ar y bwrdd yn sicr yn well na’r un a gyflwynwyd yn ôl ym mis Gorffennaf. Rwy’n credu bod hynny’n cyfiawnhau’r sefyllfa. Rwy’n cydnabod eu bod wedi wynebu llawer o feirniadaeth yn ôl ym mis Gorffennaf, ond mae’n cyfiawnhau’r safbwynt bryd hynny, pan gyflwynwyd cais i ni am warantau o 83 y cant i gyd, sy’n fwy na £100 miliwn yn rhagor mewn gwarantau na’r hyn yr ydym wedi gallu ei sicrhau gyda’r fargen hon. Fodd bynnag, mae angen diwydrwydd dyladwy, yn ôl yr arfer, fel ym mhob prosiect o’r math hwn, i roi hyder i ni fod y buddsoddiad, y warant y gellid hawlio arni, yn rhywbeth y mae’r trethdalwr yn gyfforddus ag ef, rhywbeth yr ydym ni’n gyfforddus ag ef. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Adam Price, ni ddylai unrhyw fuddsoddwr ofni’r broses diwydrwydd dyladwy.

3. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Yr eitem nesaf yw’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, ac ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau dan yr eitem yma.

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Ac felly yr eitem ganlynol yw’r datganiadau 90 eiliad. Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Y dydd Sadwrn hwn, 11 Chwefror, fydd tri-chanmlwyddiant genedigaeth y mwyaf o’r emynwyr Cymraeg, William Williams Pantycelyn. Ac mae’n addas fod ei ben-blwydd ar yr un diwrnod ag y bydd Cymru yn chwarae Lloegr yng nghrochan Stadiwm y Mileniwm, oherwydd, yn ystod y gêm chwe gwlad honno, nid oes amheuaeth o gwbl y bydd y cefnogwyr Cymreig yn canu ei waith enwocaf, mae’n debyg, ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, gydag afiaith.

Roedd William Williams yn fwy nag emynydd enwocaf Cymru. Roedd hefyd yn un o’r ffigurau crefyddol a llenyddol mwyaf a gynhyrchodd y wlad hon erioed. Gyda Daniel Rowland a Howell Harris, Williams oedd un o’r ffigurau blaenllaw yng ngwawr diwygiad Methodistaidd Cymru, a ddaeth i ddominyddu meddwl ac agweddau crefyddol Cymru am lawer o’r ddeunawfed ganrif.

Ganed Williams yn 1717, ac yn aml fe’i gelwir yn syml yn ‘Pantycelyn’, enw fferm y teulu y bu’n byw arni am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn. Roedd ei deulu yn anghydffurfwyr, a chafodd ei addysg yn lleol, ac yna mewn academi anghydffurfiol ger Talgarth. Ei fwriad oedd bod yn feddyg, ond ar ôl clywed Howell Harris yn pregethu ym mynwent Talgarth ym 1737, cafodd droedigaeth sydyn a syrthio mewn cariad â’i waredwr newydd, Iesu Grist. Fe’i taniwyd ag argyhoeddiad crefyddol.

Er gwaethaf ei fagwraeth anghydffurfiol, teimlai Williams ei fod yn cael ei alw i offeiriadaeth yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig, ac yn 1740, fe’i penodwyd yn gurad i Theophilus Evans, gweinidog a oedd yn gyfrifol am nifer o blwyfi gwledig yng Nghymru. Ond gwrthodwyd ordeinio Williams yn offeiriad oherwydd ei dueddiadau Methodistaidd.

Roedd yn bregethwr mawr, ac yn drefnydd mawr y traddodiad Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. Felly, pan fydd cefnogwyr rygbi Cymru yn canu ‘Cwm Rhondda’ y dydd Sadwrn hwn, byddant yn talu teyrnged i ddyn hynod a diddorol.

Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn gyntaf, rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn anffodus, ym Mhrydain, mae gan glybiau pêl-droed proffesiynol—yn enwedig ar y lefel uchaf—sylfaen fawr iawn o gefnogwyr lleol, gydag un neu fwy o unigolion yn unig yn berchen ar y clwb, yn aml o dramor. Rwy’n gwybod y byddai cefnogwyr Dinas Caerdydd yn gyfarwydd â’r sefyllfa honno.

Mae Dinas Abertawe yn wahanol, oherwydd er bod gan berchennog o dramor dros 50 y cant o’r cyfranddaliadau, mae ymddiriedolaeth y cefnogwyr yn berchen ar dros 20 y cant o’r clwb. Mae gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr un aelod ar brif fwrdd y clwb, sy’n gyfle i farn cefnogwyr gael ei lleisio yn ystafell fwrdd y clwb. Mae gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr gysylltiad uniongyrchol â chefnogwyr, ac mae’n ein cynrychioli.

Gyda’r cefnogwyr wedi’u cynrychioli ar y prif fwrdd, mae Dinas Abertawe wedi osgoi’r dadleuon ynglŷn â lliw’r cit, enw’r tîm, bathodyn y clwb a phris tocynnau a ddaeth i ran clybiau eraill. Rwy’n credu bod cyfranogiad uniongyrchol cefnogwyr yn hanfodol i sicrhau bod cefnogwyr pêl-droed a’r perchnogion yn parhau i weithio gyda’i gilydd. Mae clwb yn yr Uwch Gynghrair, sy’n eiddo i’r cefnogwyr yn rhannol, yn unigryw cyn belled ag y gwn i. Ond mae cael cynrychiolydd cefnogwyr ar y prif fwrdd yn unigryw a hefyd yn rhywbeth y mae cefnogwyr clybiau eraill yn dyheu amdano.

Mae rhannu perchnogaeth fel hyn yn deillio o’r dyddiau tywyll pan oedd Dinas Abertawe bron â mynd allan o’r gynghrair pêl-droed. Mae llwyddiant ymddiriedolaeth y cefnogwyr i’w briodoli i raddau helaeth i waith caled ac ymroddiad ei swyddogion a’r rheini sydd wedi gwasanaethu ar fwrdd y clwb pêl-droed. Mae tîm sy’n eiddo i’w gefnogwyr yn rhannol, sy’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair, yn llwyddiant enfawr—y gobeithiaf y bydd yn parhau i’r tymor nesaf—ac yn rhywbeth y gobeithiaf y daw’n fwy cyffredin yn y dyfodol ymhlith clybiau eraill.

Ar 6 Chwefror 1952, bu farw Brenin Siôr VI. Dychwelodd y Dywysoges Elizabeth, y nesaf i etifeddu’r orsedd, adref, gan gamu oddi ar yr awyren fel ein brenhines. Roedd hynny 65 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon, ac nid oes diwrnod wedi mynd heibio pan nad yw ein brenhines wedi rhoi ein gwlad a’i phobl yn gyntaf. Ei theyrnasiad hi yw’r hiraf a’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd Jiwbilî Saffir—mam, nain a hen-nain i deulu, gyda llawer ohonynt wedi gwasanaethu ein gwlad yn ddewr yn ystod adegau o wrthdaro. Mae’n deyrnasiad anhygoel sydd wedi ei gweld yn penodi 13 o Brif Weinidogion, o Winston Churchill i Margaret Thatcher, ac wrth gwrs, y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS. Mae hi wedi ymgymryd ag ymweliadau gwladol â 116 o wledydd, gan gynnwys y rhai ar draws y Gymanwlad, gyda steil, graslonrwydd ac urddas. Hi yw noddwr dros 500 o elusennau, gan godi dros £1.4 biliwn. Hi yw Llywodraethwr Goruchaf Eglwys Loegr, ac fe’i cerir drwy’r byd yn enwedig yma yn y Deyrnas Unedig, a chan bob cenhedlaeth. Llongyfarchiadau, Ma’am, a Duw gadwo’r Frenhines.

Nid oeddwn yn mynd i ddilyn hynny, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ond fel rhywun sydd yn pregethu ar y Sul mewn capeli anghydffurfiol, roeddwn i hefyd yn mynd i dalu teyrnged i Williams Williams Pantycelyn o Lanymddyfri, sir Gaerfyrddin. Un o’n prif emynwyr ni, ganed ef 300 mlynedd yn ôl i ddydd Sadwrn yma sydd yn dod. Un o arweinyddion y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, ysgrifennodd tua 820 o emynau Cymraeg, gan yr oedd y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth ar y pryd yn uniaith Gymraeg, a rhyw 120 o emynau Saesneg: ‘Bread of Heaven’ neu ‘Cwm Rhondda’, yr un mwyaf adnabyddus. Ac, wrth gwrs, mi fydd hwnnw’n cael ei floeddio allan yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma.

Erys toreth o farddoniaeth fendigedig yn ei emynau Cymraeg, fel,

‘Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, / 'Rwyt ti'n llawer mwy na'r byd’.

Rydym i gyd wedi dysgu honno yn ein hysgolion Sul. Ac un arall:

‘Pererin wyf mewn anial dir,/ Yn crwydro yma a thraw’.

A’r geiriau bendigedig, pan rydych yn poeni am rywbeth neu’n teimlo ychydig bach yn isel:

‘Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar / Wrth deimlo dwyfol loes; / Euogrwydd fel mynyddoedd byd / Dry'n ganu wrth dy groes’.

Felly, y Sadwrn yma, tra byddan nhw’n bloeddio ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ‘Calon Lân’ ac, ie, ‘Bread of Heaven’, wrth yrru ein harwyr rygbi ymlaen i fuddugoliaeth haeddiannol dros ryw bobl dros glawdd Offa, cofiwch am ben-blwydd William Williams Pantycelyn.

5. 4. Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar gynigion deddfwriaethol Aelodau. I gynnig y cynnig cyntaf o’i fath, Suzy Davies.

Cynnig NDM6222 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau

b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:

i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;

ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;

iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a

iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.

c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Cynulliad am y cyfle i fod yr Aelod cyntaf i ddefnyddio’r darn newydd hwn o fusnes? Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyn-reolwr swyddfa, Mark Major, a ddaeth â’r pwnc i fy sylw pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad.

Dechreuodd ymgyrch chwe blynedd gyda datganiad barn yn 2011, yn gofyn am gefnogaeth i wneud addysgu sgiliau achub bywyd brys yn orfodol yn yr ysgol ac yna cafwyd dadl fer pan siaradodd yr Ysgrifennydd addysg presennol, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a’r Blaid Lafur, o’i blaid. Daeth cefnogaeth gan bob plaid yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae’n ymddangos bod pob plaid yn y pumed Cynulliad hefyd yn cefnogi’r egwyddor. Hoffwn ddiolch i bawb ohonoch sydd eisoes wedi cyflwyno eich cefnogaeth i’r cynnig heddiw sy’n ymwneud yn ei hanfod â’r hawl i gael hyfforddiant i achub bywyd. Wrth wneud hynny, rydych yn cefnogi egwyddor y bu ymladd drosti ers nifer o flynyddoedd.

Mae cyflwyno sgiliau achub bywyd gorfodol ar gwricwlwm yr ysgol yn rhywbeth a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Ambiwlans Sant Ioan, y Groes Goch Brydeinig, ond hefyd y Coleg Parafeddygon, Coleg Brenhinol y Meddygon, Perygl Cardiaidd ymhlith yr Ifanc, Addysg Gardiofasgwlaidd Prydain, Y Gymdeithas Addysg Gorfforol, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon—yn Lloegr, beth bynnag—Syndrom Marwolaeth Arhythmig Sydyn y DU, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cynghrair Arrhythmia y DU, Cymdeithas Feddygol Prydain, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau a llawer o rai eraill. Rwyf wedi cael negeseuon e-bost o gefnogaeth a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i hyn dros y 48 awr ddiwethaf. Mae wedi bod yn gwbl anhygoel.

Rydych hefyd yn cefnogi dymuniadau rhieni a phobl ifanc. Canfu Sefydliad Prydeinig y Galon fod 86 y cant o rieni yn y DU eisiau gweld sgiliau argyfwng ac achub bywyd yn cael eu haddysgu yn yr ysgolion—mae’n 88 y cant yng Nghymru mewn gwirionedd. Roedd 78 y cant o’r plant eu hunain yn awyddus i’w ddysgu yn yr ysgol, ac mae 75 y cant o athrawon, sydd eisoes â chwricwlwm gorlawn, eisiau i hyn gael ei ddysgu yn ein hysgolion. Rydych hefyd yn cefnogi dymuniadau’r AS Llafur, Teresa Pearce. Cafodd Ms Pearce gefnogaeth drawsbleidiol i’w Bil ar thema debyg, ond cafodd y ddadl ei therfynu heb bleidlais—proses nad oes gennym mohoni yma—gan yr AS Ceidwadol drwgenwog, Philip Davies. Yn yr ymgyrch barhaus hon, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa mor gyfforddus y byddech o fod ar yr un ochr i’r ddadl â’r AS Ceidwadol drwgenwog, Philip Davies.

Felly, pam deddfwriaeth? Wel, yn gyntaf oll, rwyf am longyfarch yr holl ysgolion sydd wedi rhoi o’u hamser yn wirfoddol ac wedi defnyddio amser ysgol i roi cyfle i’w plant achub bywydau. Hoffwn longyfarch yr elusennau—rwyf wedi crybwyll rhai ohonynt yn barod—y gwasanaethau cyhoeddus, y cadetiaid milwrol, Heartstart a Reactive First Aid, sy’n gallu darparu hyfforddiant o bob math, ac elusennau fel Cariad sy’n helpu i ddarparu diffibrilwyr. Pob clod i Shoctober, Defibruary, Save a Life September, Staying Alive—mae pawb ohonoch yn cofio Vinnie Jones yn hwnnw—diffibrilwyr mewn hen flychau ffôn, a’r holl ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Mae hwn yn waith ardderchog a hebddo, buasai ein cyfraddau goroesi gwael ar gyfer trawiad ar y galon y tu allan i amgylchedd yr ysbyty hyd yn oed yn waeth. Bydd tua 90 y cant o’r dioddefwyr hyn yn marw—a mwy o bosibl, yn ôl un ffynhonnell—ac er y bydd gan y rhan fwyaf o’r dioddefwyr hyn rywun gyda hwy pan fyddant yn dioddef, byddant yn dal i farw. Heb gylchrediad gwaed, chwe munud yn unig y mae’n ei gymryd i ddioddefwr gael niwed parhaol i’r ymennydd. Ar ôl 10 munud, mae’n rhy hwyr yn y bôn. Felly, oni ddylai plentyn dyfu i fyny gyda’r hawl i wybod sut i ymyrryd—sut i helpu i achub bywyd?

Yn 2013, 20 y cant yn unig o blant Cymru a Lloegr a oedd wedi cael o leiaf un wers sgiliau achub bywyd yn ystod eu taith ysgol ar ei hyd, ac nid yw un wers yn agos at fod yn ddigon yn hyn o beth. Gallwch ddweud hynny am mai 4 y cant ohonynt yn unig a oedd â’r hyder i ymyrryd—4 y cant. Eto i gyd, dywedodd 94 y cant o blant uwchradd y byddent yn fwy hyderus pe baent yn cael hyfforddiant wedi’i ddiweddaru yn gymharol gyson. Rwy’n dymuno’r gorau i gynllun cardiaidd y Llywodraeth, ond os na allwch warantu cyfranogiad y boblogaeth gyfan, bydd cymhwysedd a hyder, cam un y cynllun, yn methu oherwydd natur ar hap digwyddiadau o ataliad ar y galon. Ac ar y sail eich bod yn dweud ein bod yn dal i fod angen ymarfer mapio i wybod pwy sy’n darparu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR); fod yn rhaid i chi fynd i dudalen dau ar Google i ddod yn agos at restr y gwasanaeth ambiwlans o ddiffibrilwyr; a bod newidiadau cwricwlwm Donaldson beth amser i ffwrdd, nid wyf yn meddwl bod gennym amser i ewyllys da a gwaith da roi’r newid hwnnw i ni ar lefel y boblogaeth gyfan.

Bydd 8,000 o bobl yng Nghymru yn cael trawiad ar y galon y tu allan i leoliad ysbyty eleni, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn marw oherwydd anwybodaeth neu ofn y rhai a fydd yno pan fydd yn digwydd. Felly, pwy sydd â’r niferoedd, y cymhwysedd a’r hyder ar lefel y boblogaeth gyfan mewn sgiliau cymorth cyntaf—ac nid yw’n golygu CPR yn unig? Wel, gadewch i ni gael golwg ar y sgriniau: Norwy, 95 y cant; Yr Almaen, 80 y cant; Awstria, 80 y cant; Gwlad yr Iâ, 75 y cant. Mae Ffrainc hyd yn oed ar 40 y cant. Nawr, sut y digwyddodd hynny? Oherwydd rhwymedigaeth ddeddfwriaethol i gael hyfforddiant sgiliau achub bywyd gorfodol ar wahanol gyfnodau ym mywydau’r dinasyddion hynny. Yn Nenmarc a’r Swistir, ni allwch gael eich trwydded yrru hyd yn oed oni bai eich bod wedi gwneud yr hyfforddiant hwn. A pha wledydd sydd â’r gyfradd uchaf o bobl yn goroesi trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty? Mae rhai ohonynt ymhell dros 50 y cant—sy’n cymharu â’n 3 i 10 y cant ni. Wel, rwy’n siwr y gallwch ddyfalu.

Nid yw’r cynnig deddfwriaethol hwn yn ymwneud yn unig ag ataliad ar y galon, CPR a diffibrilwyr; rwyf am i’n plant dyfu i fyny gyda’r hyder i ymyrryd pan fyddant yn gweld person sy’n gwaedu, yn anymwybodol, yn cael ffit, yn tagu, sydd wedi cael sioc drydanol, neu’n dangos arwyddion eu bod yn boddi. Mae cynllun newydd yn y rhan dlotaf o ogledd Bangladesh wedi gweithredu ar y pwynt olaf hwn, ac mae plant naw oed yno yn gorfod dysgu CPR a sut i achub bywyd mewn achos posibl o foddi. Ac argymhellion yw’r rhain, wrth gwrs. Nid ydynt wedi cael eu datblygu’n llawn, ond yn sicr nid ydynt yn anodd na’n ddrud i’w cyflwyno. Nid ydynt yn gwrthdaro ag awgrym yr Athro Donaldson y dylid defnyddio deddfwriaeth i ddiffinio set eang o ddyletswyddau. Gallech ddechrau ymgynghori ar y rhain yfory. Felly, Aelodau, rwy’n credu bod hwn yn achlysur lle y mae model Norwy yn bendant yn briodol i Gymru, ac rwy’n argymell y cynigion hyn i chi ac i bobl Cymru.

A gaf i atgoffa Aelodau taw cyfraniad o dair munud yn unig yw’r eitem yma? Dai Lloyd.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ganmol Suzy Davies am ei blaengarwch, ac rwy’n llwyr gefnogi’r bwriad o gael dadebru cardio-pwlmonaidd ar gwricwlwm yr ysgol ac iddo gael ei gydnabod a’i hyfforddi’n fwy eang ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol? Hefyd, mae angen diffibrilwyr ym mhob man a phobl hyderus nad oes arnynt ofn eu defnyddio. Oherwydd dyna rwy’n ei weld, fel meddyg teulu—rwyf wedi bod yn ddigon anffodus i wneud CPR ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, yn llwyddiannus o bryd i’w gilydd, ond yn aflwyddiannus gan amlaf, a chyda’r defnydd o ddiffibrilwyr, yr hyn a welwch yw bod llawer o bobl mewn sefyllfa y tu allan i’r ysbyty yn ofni defnyddio diffibriliwr. Peidiwch ag ofni: gyda diffibrilwyr modern, ni allwch wneud unrhyw niwed. Mae rhywun sydd wedi cwympo yn sgil ataliad ar y galon o’ch blaen wedi marw i bob pwrpas—ni allwch wneud dim ond lles, hyd yn oed os yw’r gyfradd lwyddiant yn ddim ond wyth y cant. Dyna wyth y cant o bobl a fuasai newydd farw. Felly, fy neges yw: ewch amdani, bobl, peidiwch â bod ofn ac ni allwch wneud unrhyw niwed; dim ond trawsnewid bywyd y gallwch ei wneud. Diolch yn fawr.

Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter hon. Hoffwn siarad am gryfder y sector gwirfoddol yn y maes hwn, oherwydd rwy’n credu bod cymaint i elwa arno sy’n gwneud y cynnig hwn hyd yn oed yn fwy hyfyw o ran gwella polisi yn y maes hwn. A gaf fi siarad am St John Cymru yn benodol? Rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â’r elusen wych honno, ac rwy’n gwisgo eu tei yn wir, fel y mae arweinydd sylwgar iawn yr wrthblaid newydd weld. Os caf sôn am un neu ddau o’u cynlluniau: anelir y cynllun achubwyr bywyd ifanc at blant mewn rhaglenni ar ôl ysgol, ac mae’n aml yn cael ei gyflwyno gan athro sydd wedi cael hyfforddiant penodol. Amcangyfrifodd St John fod oddeutu 130,000 o ddamweiniau yn digwydd mewn ysgolion yn y DU, ac maent yn cynnig cwrs undydd ar gyfer athrawon, er mwyn iddynt allu helpu plant sydd wedi dioddef damwain, fel maes arall lle y gwneir gwaith hanfodol. Ac mae hefyd yn cynnwys uwch-dechnoleg—ceir ap dwyieithog am ddim ar gymorth cyntaf; peidiwch â gofyn i mi sut rydych yn ei ddefnyddio, ond rwy’n siŵr y bydd y rhai sy’n gwybod yn gallu rhoi cyngor.

St John yw un o’r nifer o elusennau a sefydliadau anllywodraethol sy’n gwneud gwaith gwerthfawr yn y maes hwn. Rwy’n meddwl bod llawer ohonom yn ymwybodol o raglen hyfforddiant CPR Sefydliad Prydeinig y Galon, sydd ar gael yn y gweithle. Rydym wedi ei chael yma yn y Cynulliad. Fe gefais yr hyfforddiant, Lywydd, ac rwy’n falch o ddweud bod y dymi wedi goroesi. Ac rwy’n meddwl y dylai pawb ohonom gael yr hyfforddiant; mae’n wirioneddol bwysig. Mae’r ffigurau a welsom yn gynharach ar y graffiau bar yn siarad drostynt eu hunain, oherwydd os cewch eich hyfforddi ar gyfer y gweithle, bydd gennych y sgiliau hynny hefyd os ydych chi gartref, os ydych ar drafnidiaeth gyhoeddus, beth bynnag. Mae’n hanfodol. Unwaith eto, mae’r angen i osod diffibrilwyr mewn prif fannau cyhoeddus yn wirioneddol bwysig. Ac os ydych wedi eich hyfforddi a’ch bod mewn canolfan siopa, neu ble bynnag, byddwch yn un o’r bobl a allai ei ddefnyddio. Ac fel y dywedodd Dai Lloyd mor ingol, os nad ydych yn ymyrryd, mae’r canlyniad yn eithaf pendant. Mae angen i chi fod yn ddigon hyderus i ymyrryd. Felly, rwy’n meddwl y buasai’r Bil hwn o fudd mawr i bobl Cymru, Lywydd, pe gellid ei gyflwyno.

Hoffwn ddiolch i Suzy am gynnig ein bod yn deddfu i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y sgiliau sylfaenol i achub bywyd. Ddoe, buom yn trafod y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon yn y Siambr hon, a thynnu sylw yn ystod y ddadl at y ffaith y bydd 720 o bobl yn mynd i’r ysbyty bob mis yng Nghymru ar ôl cael trawiad ar y galon ac yn anffodus, bydd 340 o’r bobl hynny’n marw. Heb CPR a diffibrilio o fewn y 10 munud cyntaf, mae’r gobaith o oroesi trawiad ar y galon bron yn ddim. O ystyried bod dros 80 y cant o achosion o ataliad ar y galon yn digwydd yn y cartref a bod nifer yr ymatebion ambiwlans categori coch sy’n cymryd mwy nag wyth munud i gyrraedd, mae’n hanfodol fod gennym bobl wrth law gyda’r sgiliau i achub bywyd. Mae’n cymryd munudau i ddysgu CPR, a gellir dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr mewn un bore. Er gwaethaf hyn, faint ohonom sy’n gallu dweud yn onest fod gennym y sgiliau i achub bywyd?

Rwy’n llwyr gefnogi ymgyrch Suzy, a hoffwn weld pob plentyn yng Nghymru yn treulio un bore y flwyddyn yn dysgu sut i gyflawni CPR. Gallem hefyd archwilio opsiynau eraill ar gyfer gwella nifer y bobl sy’n meddu ar sgiliau achub bywyd. A ddylai CPR a chymorth cyntaf mewn argyfwng fod yn rhan o’r broses o ddysgu gyrru? A ddylai cael y sgiliau hyn fod yn ofyniad cyn cael trwydded cerbyd gwasanaeth cyhoeddus? A allwn fynnu bod pob aelod o’r staff rheng flaen mewn adeiladau cyhoeddus yn gallu gwneud CPR ac yn gwybod sut i ddefnyddio diffibriliwr? Dyma’r pethau sy’n rhaid i ni eu hystyried os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gan gymaint o bobl â phosibl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i achub bywyd. Rydym yn ffodus iawn yn yr adeilad hwn gan fod llawer o’r staff diogelwch a’r tywyswyr wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, mae gennym nifer o ddiffibrilwyr allanol awtomatig, ac mae ein staff wedi ymateb i argyfyngau ar, ac oddi ar yr ystad. Nid yw pobl mor ffodus mewn rhannau eraill o Gymru.

Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi galwad Suzy er mwyn sicrhau bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd ar gael i bawb a bod diffibrilwyr allanol awtomatig ar gael yn ehangach yng Nghymru. Trwy gymryd y camau bach hyn, gallwn sicrhau bod y gobaith o oroesi trawiad ar y galon, boed yn y cartref neu mewn man cyhoeddus, yn gwella’n fawr. Buaswn hefyd yn annog pawb yn y Siambr hon i ddysgu CPR os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Diolch yn fawr.

Mewn ychydig iawn o eiriau mi wnaf innau ddweud fy mod i yn cefnogi'r cynnig yma. Rydym ni yn barod wedi clywed am bwysigrwydd cymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd brys. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig, wrth gwrs, ydy hi fod offer fel ‘defibrillators’ a ‘kits’ cymorth cyntaf a ballu ar gael.

Mae’r arolwg diweddar gan Sant Ioan—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod—yn dweud stori glir wrthym ni, sef bod 69 y cant o blant ysgol yn dweud na fydden nhw ddim yn gwybod sut i drin aelod o’r teulu neu gyfaill iddyn nhw pe baen nhw’n ffeindio eu hunain mewn sefyllfa lle byddai angen hynny; mae 72 y cant o ddisgyblion yn dweud y byddent yn dymuno cael y sgiliau hynny; ac 83 y cant yn dweud y bydden nhw yn llawer fwy hyderus yn gweithredu i drio achub bywyd rhywun, neu roi gofal i rhywun, pe baen nhw wedi cael yr addysg.

A gaf i roi sylw i sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth y BBC, yn dweud bod disgyblion yn cael dysgu am dechnegau gofal brys yn barod fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol. Mae’r sylwadau hynny yn awgrymu i mi, rydw i’n meddwl, fod yna gryn wahaniaeth rhwng yr hyn mae’r Llywodraeth yn meddwl sy’n digwydd a’r hyn sy’n digwydd go iawn yn ein hysgolion ni. Mae ymchwil yn dangos bod yna anfodlonrwydd ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ac yn ogystal â bod y plant eu hunain yn cyfaddef ac yn dweud nad oes ganddyn nhw'r sgiliau a’u bod nhw’n dymuno cael y sgiliau, mae athrawon hefyd, yn ôl arolygon ac ymchwil, yn dweud bod ganddyn nhw ddiffyg hyder yn y sgiliau y maen nhw i fod i’w pasio ymlaen i’r plant.

Ond, gadwech i mi gloi efo’r cwestiwn yma i’w ofyn i unrhyw Weinidog sydd yn gwrando, ac unrhyw swyddog hefyd: pe baech chi allan yn mynd am dro rhyw ddiwrnod ac yn dioddef ‘cardiac arrest’ ac mai’r unig berson sydd gerllaw ydy person ifanc 15 oed, a fyddai’n well gennych chi bod y person 15 oed hwnnw wedi mynd drwy system anfoddhaol o ddysgu rhai sgiliau fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, neu a fyddai’n well gennych chi bod y person 15 oed hwnnw wedi mynd drwy system addysg sydd wedi dysgu'r sgiliau iawn, a hynny wedi ei seilio mewn deddfwriaeth? Rydw i’n gwybod beth ydy’r ateb o fy rhan i, a dyna pam rwy’n cefnogi’r cynnig deddfwriaethol yma.

Torrais y rawnwinen yn ofalus a bwydais un hanner yn ofalus iawn i fy mhlentyn annwyl. Sugnodd y cynnwys ohoni, ac aeth ymlaen i dagu ar y croen. Roeddwn mewn arswyd pur. Aeth fy hyfforddiant CPR—a ddysgais pan oeddwn yn ddeifiwr achub, yn y dyddiau pan oeddwn yn iau ac yn fwy heini—allan o fy mhen yn llwyr. Diolch byth, roedd fy ngŵr yn bresennol ac fe achubodd fywyd ein merch fach. Heddiw, mae hi’n 14. Gallaf ddweud wrthych yn awr, nad yw yn dysgu, ac nid yw wedi dysgu unrhyw sgiliau achub bywyd yn yr ysgol, ond mae hi wedi eu dysgu gan ei mam a’i thad, ac fe fydd hi’n tyfu’n oedolyn na fydd yn mynd i banig, o bosibl, os yw’r un peth yn digwydd iddi hi—pe bai ei phlentyn yn tagu ar rawnwinen.

Rwy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch hon, fel mam ac fel rhiant. Rwyf hefyd yn ei chefnogi o safbwynt addysgol, oherwydd credaf yn gryf iawn fod angen i ni fagu plant gwydn. Mae hon yn ddadl y bydd Lynne Neagle yn ei chyflwyno i’r Siambr yn nes ymlaen heddiw. Pan fyddant yn yr ysgol, po fwyaf o sgiliau bach y gallwn eu rhoi iddynt, y mwyaf o ddarnau bach a gaiff eu hychwanegu at y pos jig-so, mae’n adeiladu hyder, yn adeiladu gwydnwch, yn adeiladu penderfyniad. Credaf fod hyn yn rhywbeth y gallwn yn hawdd ei ychwanegu at y cwricwlwm. Rwyf wedi clywed y cwynion, ‘Mae’r cwricwlwm eisoes yn llawn iawn’. Ond mae’n ymwneud â chynnwys blaenoriaethau ac mae’n ymwneud â glynu go iawn at chwe maes newydd Donaldson, a byddai hyn yn gweddu’n dda iawn i’r chwe maes hwnnw. Mae’n sgil y gallwch ei ddefnyddio dro ar ôl tro ar ôl i chi ei ddysgu—ond i chi beidio â mynd i banig. Ond rwyf am bwysleisio bod angen i ni gynnwys ailaddysgu cyson hefyd. Mae wedi bod yn amser hir ers i mi wneud CPR ar neb ac ni fyddai ots gennyf ddysgu eto. Rwy’n credu bod hwn yn syniad gwych ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi cyfle i Suzy Davies fwrw ymlaen â hyn a’i archwilio’n fwy manwl. Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 14:56:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyfle i nodi eto yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud i wella lefelau goroesi yn sgil trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty, sy’n cynnwys llawer o’r agweddau yng nghynnig Bil Aelod preifat Suzy Davies. Fodd bynnag, er fy mod yn cefnogi uchelgais y cynnig mewn egwyddor, ni allaf gefnogi’r cynnig gan nad wyf yn credu mai gosod dyletswydd statudol yw’r dull cywir i’w fabwysiadu ar hyn o bryd ar gyfer cyflawni gwelliannau ledled Cymru. Yn benodol, nid yw’r effaith ar y cwricwlwm ysgol yn un y gall y Llywodraeth ei chefnogi, a gobeithiaf egluro hynny’n eithaf manwl a defnyddiol.

Nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr y gwaith ardderchog a wnaed ar draws yr ysgolion fis Hydref diwethaf, pan hyfforddwyd oddeutu 17,000 mewn amrywiaeth o sgiliau achub bywyd. Gall dull o’r fath weithio’n dda yn ein system ysgol gan ddefnyddio platfform presennol addysg bersonol a chymdeithasol. Ond wrth edrych ymhellach i’r dyfodol tuag at yr adeg pan fydd gennym gwricwlwm newydd yn dilyn proses Donaldson, mae’r dystiolaeth orau wedi dangos i ni fod defnyddio deddfwriaeth yn y ffordd y mae’r cynnig yn ein hannog i wneud wedi arwain at system wedi’i gorlwytho a rhy gymhleth. Ni ddylem ddiystyru’r ddadl honno yn syth. Roedd Donaldson yn glir iawn ynglŷn â hyn. Rydym yn awyddus i ddefnyddio deddfwriaeth yn gynnil, ac rwy’n sicr yn deall y bwriad da, fod y cynnig yn ceisio ychwanegu sgiliau achub bywyd fel rhan orfodol o’r cwricwlwm. Ar hyn, nid wyf yn cytuno â barn Suzy Davies na fyddai hyn yn tanseilio ein dull o weithredu sy’n deillio o adolygiad Donaldson. Rwy’n meddwl o ddifrif na all y rhai ohonom sy’n cefnogi’r adolygiad sylweddol hwn a’r posibilrwydd o gwricwlwm cydlynol dorri ar draws dull Donaldson wedyn drwy wneud cynigion unigol ar gyfer ychwanegiadau gorfodol i’r cwricwlwm newydd cyn iddo gael ei gwblhau a’i roi ar waith.

Nawr, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty a fydd yn edrych ar ffyrdd o wella CPR a mynediad at ddiffibrilwyr—themâu cyffredin yn y ddadl heddiw. Rydym eisoes yn dechrau gwneud cynnydd yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at ddiffibrilwyr drwy’r gofrestr, gyda thros 2,000 wedi’u cofrestru ers i mi lansio ‘Byddwch yn arwr diffib’. Dechreuodd yr ymgyrch honno ym mis Chwefror 2015. Dylem hefyd fanteisio i’r eithaf ar y tebygrwydd rhwng y gwasanaethau brys a’u hymrwymiad ar y cyd i gadw pobl a chymunedau’n ddiogel. Mae diffibriliwr ar bron bob injan dân bellach, ac mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi mewn sgiliau achub bywyd. Rwyf wedi cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfres o flaenoriaethau er mwyn helpu i ganolbwyntio cefnogaeth y gwasanaeth tân ac achub i’r GIG. Mae’r blaenoriaethau y byddwn yn gweithio i’w cyflawni yn 2017-18 yn cynnwys cymorth ar gyfer ymateb meddygol brys.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi, yng Nghymru, yn dilyn y newidiadau a wnaethom i’n model ymateb ambiwlansys, fod amser cyfartalog ymateb ambiwlans i ataliad y galon yng Nghymru bellach rhwng pedair a phum munud. Mae hwnnw’n welliant sylweddol gan ein bod wedi ailffocysu ein gallu i gael pobl at y galwadau lle y ceir perygl gwirioneddol i fywyd. Nawr, er mwyn i’r cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty allu gwreiddio, rwy’n meddwl bod angen i ni adeiladu ar y momentwm sydd gennym eisoes cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno gofyniad gorfodol. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid ar draws y teulu GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector. Fel yr Aelodau eraill, hefyd, rwyf am gydnabod a chroesawu gwaith yr ymgyrch yn y trydydd sector, gydag ystod eang o wirfoddolwyr a’r hyfforddiant a ddarperir ganddynt. Gwn fod pob Aelod yn cael cyfle iddynt hwy a’u staff gael hyfforddiant cymorth cyntaf gan nifer o wahanol sefydliadau, ac rwy’n cydnabod y gwaith y maent eisoes yn ei wneud. Maent yn sicr yn rhan o’r broses o gynhyrchu ein cynllun newydd a sicrhau ei fod yn cael ei wireddu. Rydym yn cydnabod bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth mewn argyfwng yn amlwg yn hynod o bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y sefydliadau hynny yn codi ymwybyddiaeth a helpu pobl i gael y sgiliau hynny.

Yr wythnos diwethaf, fel y soniodd yr Aelodau, lansiodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu hymgyrch diffibrilwyr ddiweddaraf, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw diffibriliwr, ble i ddod o hyd i’r un agosaf, a pha gymorth sydd ar gael i ddod o hyd i un. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n manteisio ar y cyfle i gefnogi’r ymgyrch honno ac yn arbennig, i wrando ar eiriau Dai Lloyd fod diffibrilwyr modern yn eich siarad drwy’r hyn sydd angen i chi ei wneud ac os oes rhywun yn cael ataliad ar y galon—rydych yn hollol iawn—dim ond helpu y gallwch ei wneud. Rwy’n gobeithio bod honno’n neges y bydd pobl yn ei chlywed ac o ddifrif yn ei chylch.

Rwy’n derbyn ei bod yn hollbwysig fod poblogaeth Cymru yn cael cyfle—pob cyfle—i oroesi trawiad ar y galon a bod gwybodaeth ac adnoddau yn cael eu darparu ar eu cyfer, pethau fel diffibrilwyr, a fydd yn hwyluso’r ymdrechion a wneir i achub bywydau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflawni hyn, ond ar hyn o bryd, nid wyf yn argyhoeddedig fod gofyn cael deddfwriaeth. Nawr, pe bai hon yn ddadl Cyfnod 1, yna buasai’r Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw a bydd pleidlais rydd gan aelodau’r meinciau cefn yn fy mhlaid. Ond drwy ymatal, mae’r Llywodraeth yn dymuno dangos ei chefnogaeth i barhau i wella sgiliau achub bywyd a’n safbwynt fod deddfwriaeth yn opsiwn posibl yn y dyfodol lle y mae’n amlwg naill ai mai dyna’r ffordd orau ymlaen neu mai dyna’r unig ffordd i wneud cynnydd pellach. Ond byddwn yn parhau i wneud cynnydd ar ein cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Rydym am weld beth a ddaw o hynny ac yna byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau yn y lle hwn, o ba blaid bynnag, i geisio achub bywydau ac adolygu’r hyn y dylai ein camau nesaf fod wrth i ni symud ymlaen i geisio gwella bywydau ac wrth gwrs, achub bywydau.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi hyn heddiw, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad wyf yn gwrthwynebu’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud? Yr hyn rwy’n ei ddweud yw ei fod yn mynd i gymryd llawer gormod o amser. Mae’n cymryd dwy awr i hyfforddi plentyn i achub bywyd; mae’n cymryd 10 munud i ladd rhywun sy’n dioddef trawiad ar y galon. Felly, rwy’n siomedig nad ydych wedi gallu dangos cefnogaeth i hyn heddiw. Mae Dai Lloyd yn hollol iawn: ni ddylai unrhyw un yng Nghymru farw o anwybodaeth neu ofn, a dyna beth y gallai diffyg sgiliau achub bywyd ar lefel y boblogaeth ei olygu i Gymru. Fodd bynnag, rwy’n benderfynol o wneud fy rhan cyn i bawb ohonoch adael, ac felly, os ydych yn fodlon, rydym yn mynd i wneud ychydig o hyfforddiant achub bywyd yn awr. Diolch.

Dangoswyd DVD. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar ar y DVD. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Mae CPR babanod yn hanfodol i’w wybod. Mae yna rai camau syml, felly dyma ni.

Ewch at ffôn.

Peidiwch â mentro.

Yn gyntaf rhaid i chi ffonio am ambiwlans.

Ond tra byddwch yn aros i’r ambiwlans gyrraedd, dyma rai awgrymiadau i helpu eich baban i oroesi.

Rhowch eich baban ar arwyneb gwastad a gogwyddo eu pen ôl. Peidiwch â bod yn nerfus—nerfus, o.

Rhowch bum pwff dros y geg a’r trwyn. Ansicr beth a olygwn? Wel, dyma sut i wneud.

Un pwff, dau bwff, tri phwff, pedwar. Mae pump yn ddigon, peidiwch â phwffio rhagor.

Rhowch ddau fys ar y frest a phwmpiwch 30 gwaith, dim mwy, dim llai.

Pwff, pwff a 30 pwmp arall. Ailadroddwch hyn nes i’r ambiwlans ddod. Pwff, pwff a 30 pwmp arall. Ailadroddwch hyn nes i’r ambiwlans ddod.

Diar, roedd hynna’n hwyl.

Ac yn llawn gwybodaeth.

Mae ein gwaith yma wedi ei wneud.

O, mae angen gwyliau arnaf.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i waith ieuenctid ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM6230 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad cyntaf ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r 1,500 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru a roddodd eu barn i’r pwyllgor. Roedd eu tystiolaeth yn glir iawn fod gwasanaethau ieuenctid yn bwysig iawn i lawer o bobl ifanc, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i’w bywydau.

Roeddwn yn falch iawn hefyd o weld yr ymateb cadarnhaol i’r ymchwiliad hwn gan randdeiliaid ledled Cymru. Roeddem yn ddiolchgar iawn am eu gonestrwydd yn ein helpu, fel pwyllgor, i ddeall beth yw’r heriau, ac am eu brwdfrydedd wrth ymwneud â gwaith y pwyllgor.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol am eu cefnogaeth yn dwyn cynifer o’r bobl hynny at ei gilydd yn ein digwyddiad bwrdd crwn ardderchog gyda rhanddeiliaid. Gwnaeth ymrwymiad a brwdfrydedd y rheini a fynychodd argraff fawr arnaf, ac rwy’n siŵr fod yr un peth yn wir am aelodau eraill y pwyllgor.

Mae gwaith ieuenctid yn newid bywydau go iawn, nid yn unig i’r plant a’r bobl ifanc, ond i’r staff a’r gwirfoddolwyr dirifedi sy’n gwneud i bethau ddigwydd bob dydd ledled Cymru. Bydd yr Aelodau’n gyfarwydd â gwasanaethau yn eu hetholaethau eu hunain ac yn gwybod sut y gallant ddylanwadu ar ddinasyddion ifanc Cymru a rhoi sgiliau am oes iddynt.

Trwy gydol ein hymchwiliad, cawsom dystiolaeth gan bobl ifanc sydd wedi elwa o wasanaethau ieuenctid, a hefyd y rhai sydd wedi colli’r gwasanaethau hynny. Dywedodd un person ifanc a oedd wedi bod yn defnyddio gwasanaethau yn flaenorol:

Heb weithwyr ieuenctid ni fuaswn y person wyf fi heddiw... mae gan berson ifanc hawl i ofod diogel a rhywle i gael hwyl, chwarae a chymryd rhan.

Dywedodd un arall wrthym eu bod yn teimlo eu bod—gwasanaethau ieuenctid—

yn dda iawn ar gyfer pobl sydd â llai o ffrindiau gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt wneud ffrindiau.

A dywedodd eu bod wedi:

Rhoi cymaint o hyder, profiadau a sgiliau bywyd i mi na fuaswn wedi gallu eu cael yn unman arall.

Dim ond rhai o’r profiadau cadarnhaol a gafodd eu rhannu gyda ni yw’r rhain. Pan fydd gwasanaethau ieuenctid yn eu lle, gallant newid bywydau.

Hoffwn ddiolch i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes am ystyried ein canfyddiadau. Roedd hi’n dda iawn gweld y Gweinidog yn derbyn yn fras pob un o’r 10 o argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Roedd ein canfyddiadau’n glir iawn: pan fydd gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae’r effaith yn sylweddol. Er nad yw toriadau ariannol wedi’u cyfyngu i wasanaethau ieuenctid, mewn hinsawdd ariannol anodd i awdurdodau lleol, gwasanaethau ieuenctid yw’r cyntaf i ddod dan bwysau yn aml. Mae cyfanswm y gwariant ar wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol, gan gynnwys arian drwy’r grant cynnal refeniw, wedi gostwng bron i 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Awgrymodd tystiolaeth gan y sector gwirfoddol eu bod hwy hefyd wedi wynebu gostyngiadau difrifol yn y cyllid, a bod hyn wedi cael effaith sylweddol, gyda rhagor o gystadleuaeth am adnoddau prin.

Cydnabu’r pwyllgor y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Fodd bynnag, teimlwn fod datblygu gwasanaethau ieuenctid yn fuddsoddiad hanfodol yn nyfodol pobl ifanc y genedl. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn gatalydd i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder a gwneud dewisiadau gwell yn eu bywydau. Er na fydd eu heffaith bob amser yn amlwg yn y tymor byr o bosibl, dywedodd pobl ifanc wrthym am yr effaith fwy hirdymor y gall gwasanaethau ei chael i’w helpu i gyflawni eu potensial.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn ystod yr ymchwiliad, nododd y pwyllgor nifer o faterion allweddol yr oedd angen i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt ar frys. Roeddent yn cynnwys diffyg cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, methiant i gynnwys y sector a phobl ifanc yn ddigonol wrth ddatblygu polisïau, a’r angen am fwy o gydweithredu rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol i wneud y gorau o adnoddau prin. Ddirprwy Lywydd, un testun pryder mawr oedd y gwaith cydbwyso a wynebai awdurdodau lleol wrth ariannu gwasanaethau mynediad agored ac ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau penodol sydd angen cymorth ychwanegol. Dywedwyd wrthym fod dargyfeirio cyllid i dargedu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi achosi risg ddifrifol i wasanaethau mynediad agored. Clywsom hefyd fod y newid hwn yn tanseilio’n sylfaenol yr egwyddor fod yn rhaid i ymgysylltiad pobl ifanc â gwasanaethau ieuenctid fod yn seiliedig ar eu dewis eu hunain yn hytrach na’i fod yn ofyniad a roddir arnynt.

Mynegwyd pryder gan gyfranwyr i’n hymchwiliad hefyd fod effaith y gostyngiad yn y cyllid yn cael ei deimlo’n anghymesur gan grwpiau penodol o bobl ifanc. Un enghraifft a nodwyd gan lawer o gyfranwyr oedd yr effaith ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg. Teimlwn yn gryf fod yn rhaid i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r angen i weithio’n fwy strategol ac ar y cyd rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol. Teimlwn fod hwn yn rhwystr sylweddol i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol. Mae hefyd yn atal y defnydd gorau o adnoddau cynyddol brin.

Roeddwn yn falch o weld bod y Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu’r canllawiau statudol sydd ar waith ac wrth wneud hynny, i gynnal adolygiad o’r strategaeth bresennol. Mae’n dda hefyd fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu manwl erbyn mis Mawrth 2017. Roedd y pwyllgor yn glir fod angen cynllun gweithredu er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau polisi lefel uchel. Ddirprwy Lywydd, mae diweddariad o’r strategaeth gwaith ieuenctid yn gam i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n gobeithio y bydd yn creu’r fframwaith mawr ei angen i awdurdodau lleol a’r trydydd sector allu gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol. Bydd hwn yn gam mawr tuag at greu’r gwasanaeth y mae gan ein pobl ifanc hawl iddo.

Fel rhan o ddatblygu’r diben cyffredin hwnnw ar gyfer darparu gwasanaethau ieuenctid, argymhellodd y pwyllgor y dylai’r Gweinidog ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Clywsom dystiolaeth rymus yn cyflwyno’r achos dros fodel cenedlaethol i ysgogi polisi a gweithrediad gwaith ieuenctid. Mae hyn yn rhywbeth y credwn y buasai’n creu mwy o gydweithio, yn lleihau dyblygu ac yn galluogi cyfleoedd gwell ar gyfer datblygu’r gweithlu. Mae’r Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad allweddol hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy o fanylion wrth i gynlluniau ddatblygu yn rhan o’r broses o ailwampio’r canllawiau cenedlaethol.

Roedd yr Aelodau’n cydnabod pwysigrwydd lleoliaeth wrth lunio gwasanaethau ar sail anghenion cymunedau, ac rydym yn hyderus y buasai hyn yn gyraeddadwy wrth ymdrechu i sicrhau mwy o gysondeb. O ran ysgogi mwy o gydweithio, roedd y pwyllgor yn awyddus i weld ymarfer mapio effeithiol ar waith i ddeall lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach y defnydd o asesiadau digonolrwydd lleol i ddigwydd ar lefel awdurdod lleol ac i lywio’r dull gweithredu cenedlaethol. Mae gwneud yn siŵr fod holl bobl ifanc Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau ieuenctid gydag adnoddau da yn hanfodol er mwyn eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.

Rwyf am gloi gyda sylw trawiadol gan berson ifanc, a ddywedodd wrthym:

Dylai fod mwy ohonynt ar draws Cymru. Mae angen mwy o arian i dyfu mwy o wasanaethau—mae gormod yn cael eu torri gan gynghorau. Nid yw pawb o fy ffrindiau yn gallu eu mynychu am eu bod yn byw mewn llefydd anghysbell. Mae gweithwyr ieuenctid yn anhygoel ac maent yn ein helpu’n fawr—maent yn achub bywydau.

Rwy’n credu y byddwch yn cytuno bod hyn yn gwneud yr angen am newid radical yn fwy real. Wrth gloi fy natganiad heddiw, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r nifer fawr o bobl ifanc a roddodd amser i ymateb i’n harolwg. Gwnaeth cyfraniad enfawr y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru gymaint o argraff ar yr aelodau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma ac at ailedrych ar y mater hollbwysig hwn yn rheolaidd gyda’r pwyllgor yn ystod y Cynulliad hwn. Diolch.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwyf am ganmol y Cadeirydd a chlercod y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant yn helpu i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad cadarn iawn, gyda rhestr glir iawn o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Roeddwn yn falch iawn o weld ymateb y Gweinidog i’r adroddiad. Credaf ei bod yn deg dweud i ni gael peth gwrthdaro gyda’r Gweinidog yn ystod yr ymchwiliad hwn, a syndod i ni braidd oedd rhai o’r camau a gymerwyd tra oeddem yn dal i dderbyn tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad. Er hynny, cafwyd canlyniad cadarnhaol o’r ymchwiliad, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sefydlu hynny.

Fel y Cadeirydd, roeddwn innau hefyd yn llawn edmygedd at yr ymgysylltiad a gawsom â’r sector gwirfoddol, yn arbennig, a’r modd y gwnaethant ddarparu mynediad at safbwyntiau uniongyrchol pobl ifanc. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd sefydlu senedd ieuenctid yng Nghymru yn helpu i gyfleu barn pobl ifanc, nid yn unig i’n pwyllgor, ond i bwyllgorau eraill yn y dyfodol. Rwy’n meddwl y dylem gofnodi ein diolch i’r ymgyrch dros y senedd ieuenctid, sydd, wrth gwrs, wedi bod yma yn y Cynulliad heddiw eto.

Fe wyddom fod gwasanaethau ieuenctid statudol wedi bod dan bwysau, dan rywfaint o bwysau ariannol, ond yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf, rwy’n meddwl, yn ystod yr ymchwiliad, yw gweld y gwahanol ffyrdd y mae awdurdodau lleol wedi bod yn helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Mae’n eithaf clir fod rhai awdurdodau lleol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar wasanaethau ieuenctid wedi’u darparu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ac eraill wedi defnyddio eu hadnoddau cyfyngedig a’u hadnoddau sy’n crebachu, i fuddsoddi yng nghapasiti’r sector gwirfoddol i’w cynorthwyo i ddarparu gwaith ieuenctid. Yn amlwg, mae rhai awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith da yn helpu i dyfu capasiti’r sector gwirfoddol, ond ymddengys bod eraill fwy neu lai wedi anwybyddu’r sector gwirfoddol i raddau helaeth, a chredaf fod hynny wedi bod yn eithaf siomedig. Rwy’n credu bod ceisio mapio’r gwasanaethau sydd ar gael yn fater hollbwysig a nodwyd gennym. Roedd yn amlwg iawn o’r holl dystiolaeth a gawsom nad oedd yna ddealltwriaeth fanwl o’r gwasanaethau a oedd ar gael ledled y wlad, yn enwedig gan y mudiadau gwirfoddol niferus megis y Sgowtiaid, grwpiau ffydd a hyd yn oed sefydliadau chwaraeon, a all fod yn cyflawni agweddau ar waith ieuenctid statudol nad ydym bob amser yn gallu eu gweld. Credaf mai’r argymhelliad allweddol yn yr adroddiad yw’r un sy’n ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn deall yn glir iawn ar lawr gwlad yn eu hardaloedd lleol pa wasanaethau ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt.

Rwy’n meddwl mai’r pryder mawr arall a oedd gennyf wrth dderbyn y dystiolaeth oedd ei bod yn glir iawn, oherwydd y cyllidebau llai, fod mwy o ffocws ar grwpiau bach o bobl ifanc sydd â phroblemau penodol, a bod hynny’n achosi i’r bobl ifanc eraill ddioddef, gan nad oedd cynnig cyffredinol ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol. Rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi rhoi ymrwymiad clir iawn i fod eisiau sicrhau bod cynnig cyffredinol ar gael a bod pob person ifanc yn gallu gwneud defnydd o wasanaethau ieuenctid y gallent elwa ohonynt.

Gwn ein bod wedi cael dadl yn y pwyllgor ar hyn, ond nid wyf yn credu bod lefel y gwariant ar wasanaethau ieuenctid o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwasanaeth ieuenctid ac argaeledd gwasanaethau ieuenctid ym mhob awdurdod lleol. Felly, er bod yna ddadleuon ynglŷn ag a ddylid clustnodi’r grant cynnal refeniw mewn perthynas â gwasanaethau ieuenctid i gynghorau lleol, nid wyf yn siŵr—credaf fod honno’n dipyn o sgwarnog, i fod yn onest, oherwydd yn y ddau awdurdod lleol y mae fy etholaeth yn eu cynnwys, gwn fod gennym ddarpariaeth ragorol, ond lefelau eithaf isel o wario o gymharu â’r swm a ddyrannwyd yn y grant cynnal refeniw. Mae hynny oherwydd y ffordd y gweithiodd y ddau awdurdod lleol mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol a chyda’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ieuenctid o safon uchel.

Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad yr adroddiad. Rwy’n credu ei fod yn rhoi’r Llywodraeth ar y dudalen gywir o ran ei hagwedd at wasanaethau ieuenctid, a gobeithio y byddwn yn gweld cynnig cyffredinol ar draws Cymru ac y bydd gennym well dealltwriaeth yn y blynyddoedd i ddod o ba wasanaethau sydd ar gael gan y partneriaid eraill sy’n eu darparu ar draws y wlad.

Rydw i yn meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni fel Cynulliad fod yn trafod y sector yma a’r gwasanaeth ieuenctid oherwydd mae’r sector wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo yn ynysig ac wedi’u tanbrisio yn y blynyddoedd diwethaf yma. Pan rŷch chi’n gofyn i bobl, wrth gwrs, mae pawb yn cytuno bod gwaith ieuenctid yn beth da, ond efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli pwysigrwydd gwirioneddol y sector a’r teimlad nad yw hynny yn cael ei adlewyrchu o reidrwydd yn y gwaith y mae’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ac eraill yn ei wneud.

Nawr, rŷm ni’n gwybod bod gwaith ieuenctid, wrth gwrs, yn ymbweru pobl ifanc, yn rhoi profiadau cyfranogol iddyn nhw, a mynegiadol hefyd—‘expressive’—a phrofiadau addysg. Ar ei orau, mae gwaith ieuenctid yn creu gwell dinasyddion mwy hyderus, wedi’u harfogi â sgiliau bywyd, ac unigolion mwy cydnerth—llawer o’r hyn sy’n cael ei drafod yng nghyd-destun Donaldson a diwygio’r cwricwlwm o fewn addysg ffurfiol. Mae gwaith ieuenctid yn gwneud llawer o hyn. Yn sicr mae’n ychwanegu gwerth i addysg ffurfiol, a hefyd yn ymgysylltu â’r rhai sy’n troi cefn ar addysg ffurfiol, sydd yn wasanaeth pwysig iawn yn ei hun.

Mae’n enghraifft ardderchog o wariant ataliol; hynny yw, buddsoddi yn gynnar i osgoi costau yn nes ymlaen o safbwynt cymdeithasol, o safbwynt iechyd, o safbwynt y gwasanaeth cyfiawnder, ac yn y blaen. Fel rŷm ni wedi clywed yng ngeiriau’r Cadeirydd, un o’r canfyddiadau mwyaf arwyddocaol hyd a gwelaf i yn yr adroddiad gan y pwyllgor yw ein bod ni wedi codi’r llen ar y dirywiad sylweddol sydd yna o ran ariannu, o ran staffio ac o ran darpariaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gwariant sydd wedi’i gyllidebu trwy’r grant cynnal refeniw, yr RSG, i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid wedi lleihau bron 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf—nid yr unig ffynhonnell i leihau, wrth gwrs, a rŷm ni’n cydnabod hynny, ond yn fy marn i, un o’r mwyaf arwyddocaol. Nid yw’n unigryw i waith ieuenctid, ond mae’r effaith yn sgil hynny ar bobl ifanc, yn anochel, yn sylweddol iawn.

Mae cwymp wedi bod o 20 y cant mewn capasiti staffio mewn dim ond un flwyddyn, a chwymp mewn aelodau cofrestredig darpariaeth gwaith ieuenctid awdurdodau lleol—o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013 lawr i 17 y cant ymhen dwy flynedd o hynny. Mae CWYVS, wrth gwrs, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—ac mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus y corff hwnnw—yn dweud nad yw tua 30 y cant o’i aelodau ddim yn rhagweld parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf yn yr hinsawdd sydd ohoni.

Felly, gydag ystadegau fel yna, mae’n rhaid inni sylweddoli bod y gwasanaeth ieuenctid ar ymyl dibyn, mewn gwirionedd, ac mae angen gweithredu ar fyrder. Felly, mae’r adroddiad yma yn gwbl amserol. Mae gennym ni Lywodraeth gymharol newydd erbyn hyn, yn sicr Gweinidog newydd, ac mae’r pwyllgor bellach yn cynnig arweiniad ac argymhellion o ran rhai o’r diwygiadau rydym ni’n teimlo sydd eu hangen wrth ddatblygu’r sector yma. Mae angen, yn sicr, ailddatgan pwysigrwydd gwasanaethau ieuenctid, rhoi cydnabyddiaeth ddyledus i’w cyfraniad pwysig a chanolog i fywyd yng Nghymru ac adlewyrchu hynny ym mlaenoriaethau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chymdeithas yn ehangach.

Mae yna ymrwymiad, wrth gwrs, gan y Gweinidog i ddarpariaeth mynediad agored dwyieithog sydd ar gael yn gyffredinol, hynny yw, ‘universal open access’. Mae’n ddatganiad o fwriad calonogol. Mae’n fan cychwyn addawol iawn ond yn eithriadol o uchelgeisiol, ac mi fydd cyflawni hynny yn heriol iawn, rwy’n siŵr. Ond, fel y mae ar hyn o bryd, ac fel rydym wedi clywed fel pwyllgor, mae yna loteri cod post o safbwynt darpariaeth. Mae’r mynediad sydd gennych chi i wasanaethau yn rhy aml o lawer yn dibynnu ar lle rydych chi yn byw. Felly, i wyrdroi hynny, mae angen, yn sicr, gweithredu ar rai o’r mesurau mae’r pwyllgor yn eu hargymell ac roedd y cadeirydd yn eu hamlinellu.

Yn sicr, mae angen dod â’r sector sydd wedi’i gynnal—y ‘maintained sector’—a’r sector wirfoddol yn nes at ei gilydd, a mwy o gydweithio, nid dim ond ar lawr gwlad ond ar lefel strategol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae angen, fel rydym ni wedi clywed, adolygu’r strategaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol, adnewyddu’r cynlluniau statudol a chreu cynllun gweithredu manwl. Mae angen gwell ymgysylltiad hefyd rhwng y Llywodraeth a’r sector, yn enwedig trwy’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid, ac wrth gwrs y sôn yma sydd nawr am gael fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid drwy’r grant cynnal refeniw. Ac wrth gwrs, drwy hyn oll i gyd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr hefyd bod llais pobl ifanc yn ganolog i’r drafodaeth yma ar bob agwedd o ddarpariaeth y gwasanaeth ieuenctid.

Mae llawer mwy yn yr adroddiad, wrth gwrs, a bydd cyfle yn y misoedd i ddod i gychwyn taclo rhai o’r heriau pwysicaf yma a chreu sylfaen i adeiladu gwasanaeth ieuenctid cenedlaethol o’r radd flaenaf a fydd yn hygyrch i bawb, ym mhob rhan o’r wlad, ym mha bynnag iaith. Mae pobl ifanc Cymru, a chymdeithas ehangach a dweud y gwir, yn mynnu hynny ac yn haeddu dim llai.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon am yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith ieuenctid.

Roedd yn destun pryder mawr i mi glywed gan bobl yn y maes gwaith ieuenctid ynglŷn â sut y mae darpariaethau ar gyfer pobl ifanc wedi lleihau i’r fath raddau. Yn bersonol rwyf o’r farn, ac rwy’n meddwl mai dyma oedd barn y pwyllgor cyfan, fod gwaith ieuenctid yn gwbl hanfodol gan ei fod yn cyrraedd pobl y tu allan i leoliad ffurfiol yr ysgol. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn gwybod bod blynyddoedd yr arddegau yn arbennig yn adegau o straen ac yn anodd iawn i bobl ifanc.

Cefais fy atgoffa o hynny wrth i ni nodi ei bod yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. Cafwyd ffigurau gan yr NSPCC sy’n dangos cynnydd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, a welwyd yn y nifer o alwadau i Childline. Mae’n ymddangos mai plant a phobl ifanc rhwng 12 a 15 sy’n gwneud traean o’r galwadau a wneir, ac mae merched bron saith gwaith yn fwy tebygol o ofyn am gymorth na bechgyn. Rwy’n credu bod pawb ohonom wedi clywed am y pryderon mawr sydd gan lawer o ferched ynglŷn â delwedd y corff yn arbennig. Dyna rai o’r pethau sy’n dangos y materion anodd y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc ymdopi â hwy ar hyn o bryd.

Felly, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael cyfle i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol medrus, mewn gwirionedd, oherwydd dyna yw’r gweithwyr ieuenctid hyn, mewn lleoliad anffurfiol, lle y gallant dynnu sylw at y problemau hyn mewn ffordd nad yw’n fygythiol. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi mwy o hwb i’r gwasanaethau ieuenctid.

Yn fy ardal fy hun, gallaf dystio i’r lleihad yn y gwasanaethau. Ar un adeg, roedd clwb ieuenctid yn gweithredu ar raddfa lawn bum diwrnod yr wythnos yn yr adeiladau ieuenctid ar dir Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae hwn bellach wedi’i gyfyngu i un noson yr wythnos, ac yn cael ei weithredu gan yr YMCA yn eglwys Ararat. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r sector gwirfoddol ac i eglwys Ararat am ddarparu’r gwasanaeth hwn, ond un noson yr wythnos yn unig ydyw ac mae dan ei sang. Nid oes amheuaeth—rhaid i chi dderbyn y ffaith fod y gwasanaeth ar gyfer ein pobl ifanc wedi lleihau mewn gwirionedd. Pan ddaeth cynigion i newid y gwasanaeth, cefais nifer o gyfarfodydd gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan ac roeddent yn dweud eu bod eisiau rhywle i fynd, dyna i gyd, rhywle lle nad oedd pwysau arnynt a rhywle lle y gallent gael hwyl. Fel y mae nifer o’r Aelodau wedi sôn, rwy’n bryderus iawn am y lleihad yn y gwasanaethau mynediad agored, gan fy mod yn credu bod gan bob plentyn a phob person ifanc hawl i gael cyfle i fynd i rywle, nid oherwydd bod ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, ond lle sy’n agored i bawb fynd iddo. Yn yr amgylchiadau hynny, os oes ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, y gobaith yw y gellir eu helpu i fynd i’r afael â hynny.

Roeddwn i eisiau sôn yn arbennig am y Sgowtiaid a’r Geidiaid, oherwydd yn yr ymchwiliad soniwyd am y Sgowtiaid a’r Geidiaid fel gwasanaethau sy’n darparu gwaith ieuenctid. Yn y fan hon, mewn gwirionedd, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i dalu teyrnged i grŵp Ail Sgowtiaid Llandaf sy’n weithredol iawn yng Ngogledd Caerdydd. Maent wedi bod yn ddeiliaid neuadd eglwys yn Ystum Taf ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd maent dan fygythiad o golli eu safle am fod y tir yn cael ei werthu. Maent newydd gael estyniad arall o dri mis i geisio codi’r £100,000 ychwanegol i brynu’r eiddo. Maent eisoes wedi codi—grŵp bach yw hwn—y swm syfrdanol o £150,000 drwy ymdrechion gwirfoddolwyr ymroddedig, a chredaf fod hynny’n hollol anhygoel. Felly, roeddwn i eisiau talu teyrnged iddynt yn ystod y ddadl hon heddiw, ond gallaf ddweud bod y gwaith y maent yn ei wneud gyda’r bobl ifanc yn yr ardal, a llawer ohonynt yn dod o gartrefi difreintiedig, yn hollol wych mewn gwirionedd.

Rwy’n credu ei bod gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o gyfarwyddyd i’r gwasanaeth ieuenctid. O edrych ar y dystiolaeth a gawsom, rwy’n teimlo bod yna berygl ei fod yn graddol ddiflannu o ran y ffordd yr ydym bob amser wedi ei adnabod. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn sgil ein hadroddiad, yn rhoi hwb o’r newydd i’r gwasanaeth hwn. Yn sicr, rydym angen hynny yn y maes hwn. Credaf mai mater pwysig iawn arall yw rhoi llais i bobl ifanc yn y gwasanaeth. Mae nifer o siaradwyr wedi sôn am hyn eisoes. Ond rwy’n gobeithio, gyda ffurfio’r gwasanaeth o’r newydd os mai dyna fydd yn digwydd, y bydd gan bobl ifanc lais o ran sut y dylai’r gwasanaeth fod, a dylent fod yn rhan ganolog o ddatblygu’r gwasanaeth.

I gloi, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn teimlo ei fod yn wasanaeth cwbl hanfodol. Ni allwn adael iddo ddiflannu’n ddim. Gwyddom fod yna bwysau ar holl wasanaethau awdurdodau lleol, ond mae gennym lawer o ewyllys da yn y sector gwirfoddol ac mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod y sector gwirfoddol a’r sector statudol yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol.

Hoffwn longyfarch a diolch i’r sefydliadau a’r arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad am eu parodrwydd i ddweud sut y maent yn gweld pethau. Mae rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn siarad am ddiffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—CWVYS—yn nodi nad yw 30 y cant o’i aelodau yn meddwl y byddant yn gallu parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf. Ymateb y Gweinidog i sylwadau a wnaed gan CWVYS oedd ceisio tanseilio hygrededd CWVYS a disgrifiodd eu barn fel un leiafrifol. Wel, mae aelodau’r sefydliad yn cynnwys y Groes Goch Brydeinig, Mencap, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Cymru, Alcohol Concern, Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, y Sgowtiaid, Shelter a llawer o sefydliadau gwych ac uchel eu parch eraill. Maent yn cynrychioli buddiannau llawer mwy o bobl yn y sector nag y bydd un AC yn ei wneud. Wel, ni waeth beth y mae’r Gweinidog yn ei feddwl o’r sefydliadau hyn, maent yn dweud bod y strategaeth yn anghywir.

Yn anffodus, o ran penderfynu dyfodol y ddarpariaeth ieuenctid, ni ellir diystyru’r Gweinidog mor hawdd ag y bydd ef yn ceisio diystyru sylwadau sefydliadau fel CWVYS. Mae’n dweud bod strategaeth genedlaethol ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid a chyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer ei gweithredu. Wel, nid yw dyrannu cyllid a llunio dogfen grand yr un fath â chydlynu’r broses o’i gweithredu yn y sectorau statudol a gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r farn a fynegwyd gan y Gweinidog a’r sefydliadau mor wahanol nes ei bod yn demtasiwn rhagdybio naill ai nad yw’r Gweinidog yn cyfathrebu â’r rhanddeiliaid hyn, nad yw wedi gwrando, neu ei fod yn gwadu’r gwirionedd. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Gweinidog harneisio arbenigedd a dealltwriaeth y prif grŵp swyddogion ieuenctid a CWVYS. Carwn ei annog i weithio gyda’r grwpiau hynny i wella gwaith ieuenctid ar draws Cymru.

Mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i nodi’r angen i Lywodraeth Cymru ddeall yn well beth yw lefelau’r ddarpariaeth ar draws y ddau sector yng Nghymru, gan amlygu i bob pwrpas efallai nad yw Llywodraeth Cymru yn gwbl sicr pa wasanaethau ieuenctid sy’n cael eu cynnig, na ble. Mae Llywodraeth Cymru wedi goruchwylio gostyngiad o bron i 25 y cant yn y cyllid i’r gwasanaeth ieuenctid dros y pedair blynedd diwethaf, lleihad yn nifer yr aelodau sy’n gofrestredig yn y ddarpariaeth gwaith ieuenctid, o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013-14 i 17 y cant o bobl ifanc yn 2015-16, ac mae awdurdodau lleol yn nodi bod 148 o staff cyfwerth ag amser llawn wedi cael eu colli ar draws y sector statudol yn 2015-16.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn honni i amddiffyn eu hunain nad yw’r cronfeydd a anfonwyd draw o Loegr yn ddigonol. Ond mae’n ymwneud â blaenoriaethau, a buaswn yn sicr yn cwestiynu a yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y drefn iawn yma. Mae’r adroddiad yn mynegi pryder fod yna ddiffyg atebolrwydd am y defnydd o arian a ddyrennir i awdurdodau lleol drwy’r grant cynnal refeniw, ac yn datgan bod yn rhaid i’r Gweinidog sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am y defnydd o’r cronfeydd hynny ar gyfer gwaith ieuenctid. Hoffwn glywed a fydd y Gweinidog yn gweithredu hyn, neu’n darparu cynigion ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cwestiynu a yw ystadegau Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gyllid drwy’r grant cynnal refeniw yn ddibynadwy. Mae hwn yn destun pryder penodol. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn cael y data cywir, mae’n bosibl fod yr hyn a ddywedant am strategaethau gwaith ieuenctid yn ddiystyr. Nid oes unrhyw ffordd o wybod a yw awdurdodau lleol yn gwario arian ar bethau eraill, ac nid oes neb yn atebol.

Felly, i grynhoi, mae gennym Weinidog sy’n diystyru llawer o’r hyn sydd gan y rhanddeiliaid i’w ddweud, un nad yw’n ymddangos ei fod yn gwybod ble y mae’r ddarpariaeth gyfredol na beth yw hi, ac sydd o bosibl yn defnyddio data amheus. Yn syml iawn, ni allwn ni a phobl Cymru sicrhau bod yr hyn y mae’n ei ddweud ar y mater pwysig hwn yn gredadwy. Gall darpariaeth ieuenctid weddus drawsnewid bywydau a newid dyfodol pobl ifanc. Dylai pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau ieuenctid, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fy nghwestiwn mawr, felly, yw a fydd y Gweinidog yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, neu’n gweithredu arno fel arall. Diolch.

Gan siarad fel yr aelod ieuengaf o’r pwyllgor—[Chwerthin.] Mae’r pethau hyn i gyd yn gymharol, wyddoch chi—nid wyf yn hawlio bod gennyf unrhyw ddealltwriaeth arbennig, ar wahân i’r hyn a ddysgasom o’r ymchwiliad. Ac rwy’n cytuno â’r Cadeirydd, gyda Lynne Neagle, fod y digwyddiad i randdeiliaid yn beth gwych, yn gyfle gwirioneddol i fanteisio ar syniadau a phrofiadau’r bobl sy’n cyflenwi’r gwasanaethau hyn, ac roedd yn rhan bwysig iawn o’r broses gyfan.

Hwn oedd fy ymchwiliad cyntaf, ac mae gennyf gopi o ymateb y Gweinidog, ac mae wedi derbyn—neu dderbyn mewn egwyddor—pob un o’r argymhellion. Ac nid wyf yn gwybod a yw hynny’n digwydd drwy’r amser, ond mae i’w weld yn beth da. I ble y mae’n mynd nesaf?

Hoffwn ganolbwyntio ar un argymhelliad penodol, sef argymhelliad 8, ac rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi derbyn hwnnw mewn egwyddor. Mae’n gofyn i’r Gweinidog ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian gwaith ieuenctid, drwy’r grant cynnal refeniw. Ac nid yw’n cytuno i neilltuo cyllid, fel y mae Aelodau eraill eisoes wedi nodi. Ond yr hyn y mae’n ei ddweud yw bod y Llywodraeth wedi dechrau ar y broses o gynnal adolygiad o bob un o’r ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid hyn i nodi ei wir effaith, ac i gefnogi syniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol.

Ac fe drodd fy meddwl at waith ieuenctid yn fy etholaeth, a soniodd Julie Morgan am fynediad agored—wel, yn Senghennydd—ac mae Julie newydd ddweud wrthyf mai o’r fan honno y mae hi’n hannu’n wreiddiol—ymwelodd y Gweinidog â’r Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, sy’n grŵp ieuenctid mynediad agored, ac mae’n aruthrol o bwysig, ond mae hefyd yn wynebu ansicrwydd mawr yn y dyfodol agos iawn. Ac o ystyried y newidiadau sy’n debygol o ddigwydd mewn perthynas â Cymunedau yn Gyntaf—a gwn fod Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei feirniadu am nad yw’r cyllid yn mynd i ble y mae i fod i fynd; deallaf fod lleiafrif o achosion wedi cael eu beirniadu—rwy’n amau bod cryn dipyn o waith ieuenctid, yn arbennig yn y Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, wedi ei ariannu’n rhannol gan arian dros ben o Cymunedau yn Gyntaf.

Felly, o ystyried bod y Gweinidog wedi cynnig ystyried natur newidiol—mae’n ddrwg gennyf, ystyried meddylfryd gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol, a bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn edrych ar natur newidiol cymunedau cryf, hoffwn i’r Gweinidog ystyried yr effaith honno’n arbennig. Beth fydd yn yr adolygiad hwnnw sy’n cael ei argymell yn argymhelliad 8 a beth fydd effaith polisi cymunedau cryf newydd Llywodraeth Cymru? Rwy’n credu bod rhaid—mae’n rhaid bod—gorgyffwrdd fel na fydd gwaith ieuenctid yn dioddef o ganlyniad i unrhyw newidiadau sy’n digwydd.

Ond yr hyn a ddywedwn, o fy mhrofiad i, yw bod y Gweinidog wedi mabwysiadu ymagwedd hynod o adeiladol, fel y mae’n ymddangos bod disgwyl i’r Gweinidog ei wneud, sy’n wych, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl i’r argymhellion gael eu gwneud.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno’r adroddiad ac i’r pwyllgor am y gwaith y maent wedi’i wneud? Roedd yn amlwg yn ymchwiliad eang iawn ac rwy’n credu bod y cyfraniadau yma heddiw sy’n nodi’r gwaith a wnaed wedi bod yn eithaf rhagorol, felly diolch i bawb am hynny. Mewn sawl ffordd, rwy’n dyfalu bod byrdwn yr adroddiad yn ôl pob tebyg yn cael ei grynhoi’n daclus yn y paragraff agoriadol y cyfeirioch chi ato, Lynne, pan siaradoch am un o’r sylwadau gan y cyfranwyr a oedd yn sôn am weithwyr ieuenctid fel achubwyr bywydau. Rwy’n credu bod hynny’n werth ei ailadrodd, mae’n debyg, gan mai ar yr agwedd benodol honno yr hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad yn bennaf y prynhawn yma.

Yn gyntaf oll, hoffwn wneud sylwadau ar yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau ieuenctid, gan fod hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar y meysydd yr hoffwn siarad amdanynt. Er nad wyf am ailadrodd eto y dadleuon am yr effaith y mae polisïau caledi Torïaidd wedi’u cael ar Gymru ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau, yn anochel mae’r gostyngiad parhaus yn y cyllid i Gynulliad Cymru wedi effeithio ar y ffordd y mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu hariannu.

Ar y pwynt hwn, a gaf fi roi eiliad i ganmol yr Ysgrifennydd dros gyllid a llywodraeth leol, Mark Drakeford, am y gwaith y mae wedi’i wneud yn sicrhau setliad ar gyfer llywodraeth leol eleni, sy’n rhoi cynnydd yn y cyllid am y tro cyntaf ers 2013-14, er gwaethaf y pwysau cyffredinol ar gyllid Llywodraeth Cymru? Fodd bynnag, wyddoch chi, ni allwn ddianc rhag y ffaith fod y toriadau cyffredinol yn y cyllid i awdurdodau lleol wedi golygu bod ganddynt benderfyniadau sydd nid yn unig yn anodd, ond bron iawn yn amhosibl weithiau mewn gwirionedd.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddech yn rhan o’r ymchwiliad, ond un peth a oedd yn hollol amlwg oedd nad oedd unrhyw gydberthynas uniongyrchol, mewn gwirionedd, rhwng ansawdd y gwasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad a’r swm sy’n cael ei wario arnynt gan awdurdodau lleol, fel y nodais yn fy sylwadau yn gynharach. Mae Conwy, er enghraifft, yn awdurdod lleol sydd â chyfradd isel iawn o wariant, ac eto mae’r gwasanaethau o ansawdd uchel iawn mewn gwirionedd am eu bod wedi mynd ati i’w hymgorffori yn y sector gwirfoddol ac wedi cefnogi gallu’r sector hwnnw i’w darparu.

Ac rwy’n siŵr fod yna enghreifftiau o hynny, ac nid wyf yn amau’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ond rwy’n meddwl, yn gyffredinol, os ydych yn cadw gwasanaeth yn brin o gyllid, yna yn anochel mae’n dechrau cael effaith, a buaswn yn dweud bod mwy o enghreifftiau o’r gwrthwyneb na’r math o enghreifftiau y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt. Ond mae’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn gorfod blaenoriaethu, ac nid oes dianc rhag hynny. Wrth gwrs, mae’n ymwneud â mwy na’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol—fel y gwyddom, mae llawer o ddarparwyr y trydydd sector yn dibynnu’n fawr ar y cyllid y maent hwy hefyd yn ei gael gan awdurdodau lleol ac mae hwnnw hefyd wedi wynebu toriadau.

Os caf roi eiliad i siarad â chi am rai o’r sefydliadau yn fy etholaeth fy hun. Mae gennym raglenni gwreiddiol a chynlluniau anhygoel, megis Prosiect Ieuenctid Forsythia a Dowlais Engine House i enwi dau yn unig. Fel y mae Hefin David wedi crybwyll eisoes, mae’r rhain yn cael symiau sylweddol o gyllid drwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae hynny, i raddau helaeth, wedi llenwi’r bwlch ariannol oddi wrth awdurdodau lleol a’r arian a ryddhawyd iddynt. Felly, er nad wyf yn mynd i agor y ddadl am Cymunedau yn Gyntaf heddiw, gan fy mod yn gwybod bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny yn mynd i wneud datganiad yn y dyfodol agos, mae’n rhaid i mi ddweud, os yw arian Cymunedau yn Gyntaf yn mynd i ddiflannu neu gael ei ddiddymu’n raddol, yna mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar ffyrdd y gall cynlluniau ieuenctid fel y rhai a grybwyllais barhau. A gofynnaf i mi fy hun pam y mae hynny mor hanfodol. Wel, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl, oni bai am wasanaethau o’r fath, a ddarperir gan rai o’r prosiectau y soniais amdanynt, byddai llawer o’r bobl ifanc a wasanaethir ganddynt yn crwydro’r strydoedd. Yna, byddent yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac o bosibl yn mynd yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol, neu hyd yn oed yn dod yn droseddwyr ifanc. Mewn rhai o’r ardaloedd hyn, ni fyddai cau’r cyfleusterau yn arwain at eu rhieni yn talu iddynt fynd i ddefnyddio cyfleusterau eraill gan eu bod wedi’u lleoli at ei gilydd mewn ardaloedd lle na fyddai gan y teuluoedd arian i wneud hynny. Felly, pan fydd y Gweinidog yn adolygu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer y gwasanaethau ieuenctid, rwy’n gobeithio y rhoddir cydnabyddiaeth i brosiectau megis Prosiect Ieuenctid Forsythia a Dowlais Engine House y cyfeiriais atynt, ac eraill sy’n darparu’r ymyrraeth gynnar sydd mor bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas, ac y byddwn yn ystyried sut y gellir cynnal y cynlluniau hyn yn y dyfodol, beth bynnag fydd y penderfyniadau ynglŷn â dyfodol Cymunedau yn Gyntaf.

Felly i gloi, Lywydd, rwy’n falch o gefnogi’r cynnig ac adroddiad yr ymchwiliad, ac wrth wneud hynny rwy’n ffyddiog y bydd arwyddocâd y gwaith a wnaed gan ein gwasanaethau ieuenctid a’r staff sy’n gweithio ynddynt yn cael ei gydnabod yn llawn yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Member
Alun Davies 15:40:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad ac at y ddadl y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n teimlo bod yr ymchwiliad yn enghraifft wych o’r Cynulliad a’r Llywodraeth: y tensiwn cywir sydd angen ei gael rhwng y ddau sefydliad, fel y cyfeiriwyd ato—y gwrthdaro achlysurol rhyngom i gyd—ond hefyd y pwyllgor yn gosod materion o bwysigrwydd cenedlaethol clir yn gadarn iawn ar agenda’r Llywodraeth, a’r pwyllgor yn adrodd mewn modd cadarn a gorfodi’r Llywodraeth a’r Gweinidog i ystyried y dull a roddwyd ar waith. Ac fe ddywedaf fod ymateb y pwyllgor hwn—mae’r Aelodau wedi bod yn eithaf caredig ar y cyfan ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, ond mewn gwirionedd, nid yr hyn a ysgrifennwyd ac a gyhoeddwyd yn y dogfennau a welwyd ac a drafodwyd gennym heddiw oedd yr ymateb; mewn sawl ffordd yr ymateb oedd y ffaith ein bod wedi ein gorfodi i gael dadl mewn gwirionedd na fyddai wedi digwydd yn ôl pob tebyg heb ymchwiliad y pwyllgor, heb adroddiad y pwyllgor, heb y dystiolaeth a roddwyd i’r pwyllgor a heb y casgliadau a wnaeth y pwyllgor ar sail y dystiolaeth honno. Ac mae gorfodi’r Llywodraeth mewn gwirionedd i edrych yn ofalus ar ei blaenoriaethau, i edrych yn fanwl ar ei rhaglen, y ffordd y ceisiwn symud ymlaen, wedi sicrhau bod y geiriau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau y prynhawn yma ac a ddefnyddiwyd gan dystion i’r ymchwiliad yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi cael effaith ar newid polisi mewn gwirionedd ac ar newid dull a chyfeiriad y Llywodraeth. Rwy’n credu ei bod yn iawn i mi ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy gydnabod hynny, a chydnabod y gwaith y mae’r pwyllgor wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.

Rwy’n credu bod yna gytundeb cyffredinol fod gan waith ieuenctid o ansawdd uchel rôl hollbwysig i’w chwarae yn cynorthwyo llawer o bobl i gyflawni eu potensial llawn, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc, boed hynny drwy brofiadau gwahanol sy’n cael eu hagor i bobl neu’r gefnogaeth y mae’n ei chynnig. Mae’n sail i lawer o’n blaenoriaethau, o addysg, iechyd i adfywio cymunedol. Fe wrthodaf gynnig caredig Dawn i drafod Cymunedau yn Gyntaf y prynhawn yma, ond rydym yn gwbl glir ein meddwl bod gwaith adfywio cymunedol a datblygu cymunedol yn cael ei gynorthwyo a’i gefnogi gan yr agenda gwaith ieuenctid ehangach. Rydym yn cydnabod hynny, ac rydym yn cydnabod y pwyntiau a wnaed.

Rwy’n falch o allu derbyn neu dderbyn mewn egwyddor pob un o’r 10 argymhelliad. Deuthum at adroddiad y pwyllgor mewn modd a geisiai edrych ar sut y gallwn alluogi’r pethau hyn i ddigwydd, nid chwilio am resymau i beidio â derbyn argymhellion, ond chwilio am resymau a ffyrdd o dderbyn yr argymhellion hynny. Carwn ddweud wrth Hefin fy mod yn meddwl ei bod yn deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio ei fod wedi mwynhau ei ymchwiliad cyntaf, fel aelod o’r pwyllgor yma. Ac rwy’n sicr yn gobeithio ei fod yn teimlo bod y profiad o graffu ar y Llywodraeth yn y ffordd hon yn un a oedd yn bleserus a hefyd yn allweddol i newid cyfeiriad polisi.

A gaf fi ymateb i rai o’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r angen am gyfeiriad strategol cliriach? Gwnaeth cyfraniad Darren Millar argraff fawr arnaf o ran disgrifio’r ffordd y mae angen i’r Llywodraeth sefydlu cyfeiriad teithio llawer cliriach. Credaf fod hynny’n glir yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gawsom gyda’n gilydd, ac rwy’n meddwl fy mod eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’, y canllawiau statudol sy’n sail i ddarparu a chyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru. Bydd cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag is-grŵp y grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid i ddatblygu cynllun ar gyfer adnewyddu ‘Ymestyn Hawliau’ a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf ymhen pythefnos. Bydd y gwaith hwn yn croesi nifer o bortffolios gweinidogol gwahanol, ac mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau cymorth ieuenctid yn fwy eang ac nid gwaith ieuenctid yn unig.

Hefyd, bydd angen i ni adolygu’r strategaeth genedlaethol gyfredol ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn llywio’r gwaith o adnewyddu’r canllawiau statudol. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag aelodau o’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar sut y byddwn yn datblygu’r gwaith hwn. Carwn wahodd y pwyllgor i barhau â’i waith ac i barhau â’i waith craffu ar y diweddariad hwn, ac i chwarae rhan a rôl wrth wneud hynny, ac mae hynny’n rhywbeth y buaswn yn ei groesawu’n fawr iawn pe bai aelodau’r pwyllgor yn gwneud hynny.

Mae nifer o’r Aelodau wedi trafod y pryderon a fynegwyd ynglŷn â diffyg ymgysylltiad â’r sector a phobl ifanc. Rwy’n cydnabod y disgrifiad a roddodd Julie Morgan yn ei chyfraniad. Rwy’n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau a wnaethoch, Julie, a chredaf eich bod yn hollol gywir i wneud y pwyntiau hynny. Cyfarfûm â’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid ar 8 Rhagfyr, a bydd fy swyddogion a minnau’n parhau i weithio gyda’r grŵp i lunio dyfodol y gwaith o ddarparu gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd cyfranogiad pobl ifanc bob amser yn parhau’n ganolog i’r gwaith a wnawn, a byddwn yn sicr yn ceisio defnyddio arbenigedd rhanddeiliaid, gan gynnwys Young Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd pobl nad ydynt bob amser yn rhan o’r prosesau hyn. Byddaf yn sicr yn edrych ar sut y gallwn wneud hynny ac os oes gan y pwyllgor gyfraniadau pellach i’w gwneud ynglŷn â sut y byddem yn gwneud hynny, yna byddwn yn falch iawn o glywed y safbwyntiau hynny.

Rwy’n deall yr hyn a ddywedwyd am fodel cenedlaethol, a gwn fod Llyr Gruffydd wedi siarad yn helaeth ar hyn, o ran yr angen i gael model cenedlaethol a’r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny. Rwyf am roi ystyriaeth bellach i hyn, ac nid wyf am achub y blaen ar yr ystyriaeth honno. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed. Rwy’n meddwl bod Darren wedi gwneud sylw yn y ddadl heddiw am y Llywodraeth yn rhuthro ymlaen, yn gwneud penderfyniadau a gweithredu penderfyniadau tra bo’r pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliad, ac rwy’n meddwl bod Llyr wedi gwneud y pwynt hwnnw ar adegau eraill hefyd. Mae yna adegau pan fyddaf yn teimlo, fel Gweinidog, na allaf eistedd yn ôl ac aros, fod yn rhaid i mi wneud penderfyniadau a symud ymlaen, a cheir achlysuron eraill—ac rydym wedi trafod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y prynhawn yma—pan fyddaf yn teimlo ei bod yn bwysicach i mi eistedd ac aros nes fy mod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhesymedig ar y materion hyn. Dyma enghraifft arall ar hyn o bryd lle rwy’n dymuno mabwysiadu ymagwedd fwy rhesymedig ac un lle y carwn roi mwy o amser i wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac i ddeall beth y mae’r diweddariad o ‘Ymestyn Hawliau’ a’r adolygiad o’r strategaeth genedlaethol yn ei ddweud wrthym cyn gwneud penderfyniad ar y mater hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau a’r pwyllgor yn deall y rhesymeg wrth wraidd hynny.

Ond rwy’n gwrando ar, ac yn clywed y pryderon a fynegwyd gan yr holl Aelodau ynglŷn â chau darpariaeth mynediad agored. Rhoddodd Julie Morgan enghraifft i ni yn ei hetholaeth ei hun, ond rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny. Mae’n anodd ar awdurdodau lleol—rydym yn gwybod hynny, a rhoddodd Dawn Bowden enghreifftiau o hynny, ac rydym i gyd yn gyfarwydd â’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu awdurdodau lleol.

Mae ganddo rôl strategol i’w chwarae yn cynnig mecanwaith i adnabod pobl ifanc a allai fod yn agored i niwed a darparu cymorth ymyrraeth gynnar. Mae’n amlwg hefyd fod y dirwedd gwaith ieuenctid yn newid ac mae darpariaeth mynediad agored hefyd yn newid. Rwyf eisiau gallu gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael y math o ddarpariaeth y dymunwn ei gweld. Fe’i disgrifiwyd gan Llyr, rwy’n meddwl, fel rhywbeth sy’n rhy optimistaidd, o bosibl—’uchelgeisiol’ oedd eich gair. Uchelgeisiol iawn, ie. Gobeithio y gallwn gyflawni hynny, ac yn sicr, rydym yn awyddus i ystyried a allai asesiadau digonolrwydd fod yn gyfrwng addas i gynorthwyo awdurdodau lleol i asesu anghenion eu poblogaethau lleol ac i allu diwallu’r anghenion hynny wedyn.

Bydd yna nifer o wahanol faterion yn codi ynglŷn â’r cyllid a’r grant cynnal refeniw. Rydym yn gwybod bod y grant cynnal refeniw yn ffrwd arian heb ei neilltuo, a phenderfyniad i awdurdodau lleol felly yw sut y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio. Mae Hefin wedi trafod hynny ei hun ac fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn awdurdod lleol, mae’n gwybod yn well na’r rhan fwyaf beth yw’r anawsterau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Rwy’n gobeithio y gallwn gynnal adolygiad o’n holl ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid, gan gynnwys y grant cynnal refeniw, er mwyn nodi’r effaith wirioneddol ac i gefnogi syniadau yn y dyfodol ar gyfer cefnogi gwaith ieuenctid yng Nghymru. Gallaf weld bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd, ac nid wyf am brofi eich amynedd ymhellach. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud i gloi yw bod hwn yn adroddiad sydd wedi newid y ffordd y meddyliwn. Mae’n ein gorfodi i feddwl ddwywaith, i feddwl deirgwaith am yr hyn a wnawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor i symud y materion hyn yn eu blaenau, ac rwy’n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i ddod i’r lle hwn i wneud datganiad llafar ar y materion hyn yn y dyfodol agos. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle, i ymateb i’r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at drafodaeth ragorol ar ein hadroddiad y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch i Darren Millar am ei sylwadau cadarnhaol am ganlyniad yr ymchwiliad, sylwadau sydd i’w croesawu’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn llwyr gefnogi’r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y senedd ieuenctid. Roeddwn innau hefyd yno heddiw i dderbyn yr adroddiad gan yr ymgyrch dros y senedd ieuenctid. Credaf mai’r hyn sydd mor bwysig yw mai’r rheswm pam y caiff y gwasanaethau hyn eu dadflaenoriaethu ar lefel leol yw am nad oes gan bobl ifanc lais, a bydd senedd ieuenctid yn hollol allweddol i sicrhau bod ganddynt lais. Gobeithiaf fod hynny’n rhywbeth y gallwn ei wthio tuag allan ar draws Cymru, fel eu bod yn cael eu hailflaenoriaethu, y gwasanaethau hynny.

Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am ei sylwadau. Mae’n hollol gywir nad yw hwn yn fater y buom yn canolbwyntio arno o’r blaen, ac rwy’n ddiolchgar iawn mai Llyr a awgrymodd i’r pwyllgor y dylem gynnal yr ymchwiliad hwn. Y bwriad oedd iddo fod yn ymchwiliad ciplun, ac i mi yn sicr, roedd yn bendant yn agoriad llygad, ac rwy’n teimlo ein bod wedi agor tipyn o flwch Pandora gydag ef. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny. Nawr ein bod wedi edrych arno, hoffwn sicrhau pawb nad oes gennyf unrhyw fwriad o adael iddo gael ei wthio o’r neilltu eto: mae angen i ni gadw ffocws ar hynny. Fel y dywedwch yn gywir, mae hwn yn wasanaeth ataliol allweddol. Rydym yn sôn llawer am atal yma, ond mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, mae hwn yn wasanaeth ataliol allweddol ar gyfer pobl ifanc ac felly’n un sy’n haeddu ein buddsoddiad.

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad a’i chefnogaeth, fel bob amser, i wasanaethau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc, a hefyd am dynnu sylw at y rôl bwysig y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae yn y ddarpariaeth iechyd meddwl? Wrth gwrs, mae’r pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar sail barhaus ar faterion iechyd meddwl pobl ifanc, sydd weithiau’n eironig o gofio bod y gwasanaethau hyn o dan bwysau a’u bod yn wasanaethau a all fod yn ataliol o’u cyflwyno ar yr adeg iawn. Felly, diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny hefyd.

Amlygodd Michelle Brown nifer o bryderon, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyllid awdurdodau lleol. Rwy’n gobeithio y bydd argymhelliad 8 yn gwneud gwahaniaeth i hynny ac fel y mae Darren Millar wedi dweud, nid yw bob amser yn ymwneud â’r swm o arian, ond yr hyn sy’n deillio o wario’r arian hwnnw. Ac er mai mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw, rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu bwrw ymlaen i ddatblygu fframwaith atebolrwydd priodol, fel bod gennym ddarpariaeth gyson ni waeth beth yw’r swm sy’n cael ei roi tuag ati, ac mai dyna’r mesur mynediad agored cyffredinol yr ydym am ei weld.

Hoffwn ddiolch i Hefin David, yr aelod ieuengaf o’r pwyllgor, am ei gyfraniad heddiw, a hefyd am amlygu pwysigrwydd argymhelliad 8 eto. Hoffwn ddiolch i Hefin hefyd am dynnu sylw at bwysigrwydd cyllid Cymunedau yn Gyntaf i gefnogi gwasanaethau ieuenctid. Pe bai’r rhaglen honno’n dod i ben, rwy’n ymwybodol iawn y bydd bwlch yn y ddarpariaeth o wasanaeth ieuenctid ac mae angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a wnawn ynglŷn â hynny yn y dyfodol.

Gwnaeth Dawn Bowden bwynt tebyg iawn, a gwn fod hynny wedi bod yn bryder penodol yn eich etholaeth gyda’r prosiectau y cyfeirioch chi atynt heddiw, sy’n bryderus iawn ynglŷn ag arian Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, cawsom ein hatgoffa gan Dawn fod gwasanaethau ieuenctid yn achubwyr bywyd, a phan ddefnyddiais hynny yn yr araith, nid ei ddefnyddio’n llac a wnawn. Rwy’n meddwl o ddifrif fod angen i ni atgoffa ein hunain y gall y gwasanaethau hyn fod yn achubwyr bywyd, boed yn iechyd meddwl, ymyrraeth gynnar, atal pobl ifanc rhag dechrau troseddu—nid wyf yn credu ein bod yn mynd yn rhy bell wrth ddweud eu bod yn gwneud hynny. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog unwaith eto am ei ymateb y prynhawn yma, a hefyd am nodi ei barodrwydd i barhau i ymgysylltu â’r pwyllgor ar y mater pwysig hwn.

I orffen, diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn, diolch i dîm y pwyllgor sydd hefyd wedi gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni i wneud i bopeth ddigwydd ac i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad ardderchog, a diolch, unwaith eto, i’r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu, a’r rhanddeiliaid, a sicrhau pawb nad ydym yn bwriadu gadael i’r mater hwn fynd. Rydym yn mynd i barhau i’w fonitro, a cheisio ysgogi newid. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, nodwyd adroddiad y pwyllgor a’i gytuno yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Bellach

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn yn awr at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg bellach. Galwaf ar Darren Millar i gynnig y cynnig. Darren.

Cynnig NDM6229 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian y mae'n disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan gynnwys buddsoddi cyfran yn y sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn lleoliad addysg bellach a chyfran yn y ddarpariaeth Gymraeg.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am gynnig y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol.

Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl hon ar ddyfodol y sector addysg bellach yng Nghymru, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Gwyddom fod addysg yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi genedlaethol, yn sail i sicrhau llwyddiant, iechyd a boddhad personol, ac yn cyfrannu at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol ar gyfer ein cenedl. Mae ein darparwyr addysg bellach a galwedigaethol wedi bod, ac yn parhau i fod, ym marn y blaid hon, yn rhan hanfodol iawn o’r tirlun cenedlaethol. Maent yn gwneud cyfraniad enfawr i newid bywydau unigolion a chymunedau yng Nghymru, yn enwedig rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Dyma’r bont hanfodol sy’n cysylltu ysgol a gwaith a/neu addysg uwch, gan gynorthwyo pobl i ennill y cymwysterau a’r sgiliau galwedigaethol neu academaidd sydd eu hangen arnynt i gamu ymlaen i gyflogaeth neu i addysg bellach.

Ond rwy’n credu bod yna dystiolaeth gref i ddangos nad ydynt wedi cael digon o werthfawrogiad nac adnoddau gan Lywodraethau Cymru olynol, ac rydym yn credu bod yn rhaid i’r esgeulustod hwn newid. Ond cyn i mi ddechrau ar y daith a fydd yn mynd â ni o gwmpas rhai o agweddau sylfaenol ar y ddadl hon, rwyf am ymdrin yn fyr â’r gwelliannau a gyflwynwyd.

Nawr, rhaid i mi ddweud, rwy’n credu ei bod yn drueni mawr fod y Llywodraeth wedi penderfynu ymateb i’n dadl heddiw drwy fabwysiadu ymagwedd mor negyddol o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n meddwl bod yna agweddau ar ei gwelliant y gallem fod wedi cytuno arnynt, yn enwedig ar ôl y datganiad am adolygiad yr Athro Hazelkorn yr wythnos diwethaf, sydd wedi denu rhywfaint o gefnogaeth drawsbleidiol wrth gwrs. Ond rwy’n credu bod ei gwelliant ‘dileu popeth’ anadeiladol yn dangos yr ymagwedd gibddall iawn sydd wedi bod gan y Llywodraeth dan arweiniad Llafur dros y 18 mlynedd diwethaf gyda’i pholisi addysg yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld y polisi addysg hwnnw’n peri i Gymru golli ei ffordd a cholli tir o gymharu â’n cystadleuwyr rhyngwladol, a chredaf fod hynny’n siomedig iawn.

Yr hyn sy’n ei wneud hyd yn oed yn fwy siomedig yw bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd a Gweinidog newydd, ac roeddwn yn awyddus i roi mantais yr amheuaeth iddynt. Roeddwn yn gobeithio am fath gwahanol o ymagwedd gan y ddeuawd newydd, os mynnwch, sydd wrth y llyw gydag addysg. Ond yn anffodus, mae’n edrych yn debyg y byddwch yn sefyll ar ysgwyddau eich rhagflaenwyr ac yn parhau i roi mwy o’r un peth ni.

O ran gwelliannau Plaid Cymru, gallwn yn sicr dderbyn gwelliant 2. Ond o ran gwelliant 3, ni allwn dderbyn gwelliant a fydd yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar y dewis i ddysgwyr. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod cystadleuaeth yn beth da yn ein sector addysg, a bod rhoi dewisiadau i ddysgwyr yn gallu helpu i godi safonau mewn gwirionedd, felly yn sicr ni fyddwn yn cefnogi unrhyw beth sy’n ceisio cyfyngu ar hynny.

Ddirprwy Lywydd, mae’n iawn ein bod yn cydnabod yn briodol y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i Gymru. Rwy’n meddwl bod tuedd wedi bod ers amser hir i ni wleidyddion ganolbwyntio’n bennaf ar addysg uwch fel sector, wrth drafod addysg ôl-16, a chyllido addysg uwch a’i chohort myfyrwyr. Ond mae ein colegau hefyd yn ddarparwyr addysg pwysig yma yng Nghymru, ac maent yn helpu i gynhyrchu rhai o’r canlyniadau gorau i ddysgwyr. Hwy yw darparwyr pennaf addysg alwedigaethol ac addysg dechnegol a gyllidir yng Nghymru, gan ddarparu tua 85 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth. Yn sicr nid ydynt wedi cilio rhag dod o hyd i atebion cadarnhaol i rai o’r heriau allweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cymru wedi mynd drwy newid sylweddol i’w rhwydwaith o golegau, ac rydym wedi gweld nifer y colegau addysg bellach yn haneru dros y 10 mlynedd diwethaf. Erbyn hyn mae gennym sefydliadau mwy o faint, gyda mas critigol gwahanol, ac maent yn profi eu bod yn angorau go iawn i’r ddarpariaeth sgiliau yn economïau rhanbarthol Cymru. Un o bwyntiau gwerthu unigryw ein rhwydwaith colegau yw eu bod mor agos at y bobl y maent yn eu gwasanaethu, yn ddysgwyr a busnesau. Maent yn rhan annatod o’u cymunedau, gan wasanaethu dysgwyr o gymysgedd amrywiol o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd, diwylliannol ac ieithyddol. Eto ni ddylem gamgymryd mai darparu sgiliau a hyfforddiant i fusnesau bach a chanolig yn unig a wnânt. Mae colegau yn agos at gyflogwyr o bob maint; maent yn rhyngweithio gyda 10,000 o gyflogwyr ledled Cymru fel mater o drefn, ac mae’r rhain yn gwmnïau o bob math a maint, o fusnesau a mentrau bach i gwmnïau mawr megis Airbus, General Electric, EE a British Airways.

Mae’r sector addysg bellach yn parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn wyneb hinsawdd ariannol heriol. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri £24 miliwn oddi ar y cyllid grant refeniw ar gyfer y sector addysg bellach rhwng 2011 a 2016-17, gostyngiad o 7 y cant mewn termau arian parod a 13 y cant o ostyngiad mewn termau real. Er bod cyllid ar gyfer darpariaeth amser llawn wedi cynyddu ychydig bach, cafwyd 71 y cant o ostyngiad yn y cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, i flaenoriaethu ei waith statudol ac i ganolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer rhai 16 i 19 oed. Ond credwn fod hwnnw’n bwyslais anghywir. Ceir perygl gwirioneddol nad ydym yn caniatáu ail gyfle i bobl astudio, neu i uwchsgilio drwy ddychwelyd at addysg, ac rwy’n meddwl y bydd hynny’n cael effaith ddinistriol yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y dyfodol oni bai ein bod yn gwrthdroi’r duedd honno.

Mae’r sector addysg bellach yn chwarae rhan enfawr yn pontio’r bwlch sgiliau a chyrhaeddiad ar gyfer ein pobl ifanc sydd wedi gadael y system orfodol gydag ond ychydig gymwysterau, os o gwbl, ac mae llawer o golegau bellach yn treulio llawer o amser ac adnoddau ychwanegol yn helpu dysgwyr i ailsefyll eu harholiadau TGAU mewn Saesneg a mathemateg oherwydd y methiannau yn ein system ysgolion. Eto i gyd, o ran cydnabyddiaeth, mae’n ymddangos i mi, ar y gorau, fod dysgu ail gyfle wedi dod yn ddysgu ail orau yn llygaid y Llywodraeth hon, ac nid ydym yn ystyried hynny’n dderbyniol o gwbl. Yn wir, mae’n awgrymu bod rhywfaint o ragfarn ar sail oed ar waith o ran sicrhau mynediad at addysg bellach.

Felly, beth y gallwn ei wneud i helpu? Wel, yn sicr mae arnom angen fframwaith ariannol priodol. Gwyddom fod rhoi cyfle i golegau gynllunio dros gylch ariannu tair blynedd wedi bod o fudd mawr iddynt yn y gorffennol, ond am ba reswm bynnag, penderfynodd Llywodraeth Cymru wrthdroi’r cyllidebau treigl tair blynedd hynny sawl blwyddyn yn ôl, a bellach, mae colegau’n gorfod ymgodymu â chylchoedd cyllido syml o 12 mis. Mae hynny’n achosi problemau iddynt gyda’u gwaith cynllunio. Mae’n achosi problemau i ddysgwyr hefyd, gan na allant warantu erbyn blwyddyn 2 neu 3 y bydd modd cwblhau’r cyrsiau a ddechreuwyd ganddynt ym mlwyddyn 1 oherwydd y posibilrwydd y caiff y broses ei gwrthdroi. Felly, credaf fod angen i ni sicrhau bod yna gylchoedd ariannu tair blynedd.

Rydym yn gwybod, hefyd, fod rhywfaint o adnoddau ychwanegol ar gael y gellid eu gwario yn y sector addysg bellach yn deillio o ardoll prentisiaeth Llywodraeth y DU—£128 miliwn y flwyddyn, yn fras. Mae hynny’n llawer o arian, a gallai fynd yn bell i helpu colegau i ehangu eu darpariaeth a bod o gymorth gwirioneddol i drawsnewid economi Cymru.

O ran diogelwch y ddarpariaeth, rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig sicrhau bod parhad ariannol yno, a gwneud yn siŵr fod y cylchoedd ariannu tair blynedd ar gael i drawsnewid y cyfleoedd i golegau allu cynllunio a buddsoddi.

Nawr, pwynt olaf ein cynnig yw galwad ar y Llywodraeth i fuddsoddi cyfran sylweddol o’r arbedion y mae’n disgwyl eu gwneud o ganlyniad i newidiadau i gymorth i fyfyrwyr i’r rhai yn y sector addysg uwch, ac i fuddsoddi rhai o’r rheini yn ein sector addysg bellach. Nid ydym yn gofyn am fuddsoddi’r holl arian yn ein colegau; rydym yn dweud yn syml y gellid buddsoddi peth o’r arbedion hynny yn realistig er mwyn helpu ein colegau i wneud mwy. Gwyddom fod newidiadau i’r ddarpariaeth, toriadau yn y cymorth i ddysgwyr sy’n oedolion a’r galw cynyddol gan gyflogwyr am weithlu sgiliau uwch, yn golygu bod angen newid agwedd tuag at y cyllid i addysg uwch ac addysg bellach yn y dyfodol.

Fel y dywedais yn gynharach yn fy nghyfraniad, mae mater ffioedd dysgu myfyrwyr a threfniadau ariannu ein prifysgolion wedi mynnu llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae gan addysg bellach ran yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i’w chwarae yn darparu sgiliau ar gyfer ein heconomïau lleol. Mae colegau hefyd yn darparu addysg a hyfforddiant sgiliau lefel uchel, ac rwy’n credu bod y rhan bwysig y mae sefydliadau addysg bellach yn ei chwarae yn darparu’r sgiliau lefel 4 a lefel 5 a graddau sylfaen hynny wedi ei hamlygu yn adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch ac addysg bellach mewn adroddiad a gyflawnwyd ym mis Mehefin 2015. Roedd hwn yn dangos bod y patrwm o weithgarwch addysg uwch sy’n digwydd yn ein colegau ledled Cymru yn amrywiol, ac nid yn unig yn amrywiol, ond yn tyfu hefyd.

Rwy’n credu hefyd fod angen i ni ehangu argaeledd cyrsiau Cymraeg yn ein colegau addysg bellach. Yn anffodus, er bod gennym ddarpariaeth dda mewn addysg gynradd ac uwchradd, o ran gwneud addysg ôl-16 yn ein colegau, ychydig iawn o gymorth mewn unrhyw ddull na modd a geir o gwbl. Rwy’n credu mai’r hyn y byddai’n gywir i ni fuddsoddi rhai o’r arbedion a geir o ganlyniad i Diamond ynddynt yw’r ddau beth hwnnw—y buddsoddiad mewn sgiliau lefel uwch a’r buddsoddiad mewn ehangu addysg a’r cynnig cyfrwng Cymraeg yn ein colegau addysg bellach. Gadewch i ni beidio ag anghofio: rydym yn sôn am werth £0.5 biliwn o arbedion, o bosibl, dros gyfnod o bum mlynedd yn sgil yr arbedion a nodwyd gan Diamond, ac yn wir, rhai o’r newidiadau i’r trothwyon cyflog uchaf a gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Felly, buasai buddsoddi tamaid bach o hynny yn ein colegau yn mynd yn bell i’w helpu i gyflawni mwy i’n heconomi ac i bobl Cymru.

Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn adeiladol yn y ddadl y prynhawn yma, ac y byddwn yn gweld ymateb cadarnhaol i rai o’r awgrymiadau, er eich bod wedi cynnwys y gwelliant ‘dileu popeth’, gan ein bod yn credu y buasai hyn yn helpu Cymru i gael y math o system addysg yn ein sector addysg bellach yr ydym i gyd yn awyddus i’w gweld. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi’r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.

3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy’n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru.

4. Yn croesawu’r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

5. Yn nodi’r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru.

6. Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Alun Davies 16:06:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Yn ffurfiol.

Diolch. I call on Llyr Gruffydd to move amendments 2 and 3, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu y dylid sicrhau parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd, ac y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhyngddynt.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer o’r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i’r amlwg mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Plaid Cymru. A gaf i ddiolch i’r Ceidwadwyr am ddod â’r ddadl yma gerbron y prynhawn yma? Rydw i’n meddwl nad ŷm ni yn trafod addysg bellach yn ddigonol—fan hyn yn y Siambr, beth bynnag. Nid ydw i’n teimlo bod presenoldeb addysg bellach beth, efallai, y dylai hi fod, ac rydw i yn meddwl bod hwn yn gyfle pwysig i ni. Efallai ein bod ni i gyd yn euog o ryw ddiffyg parch cydradd efallai o ran yr hyn yr ydym ni’n trio ei gyflawni i’r sector o’i gymharu ag addysg academaidd. Mae hwn yn sicr yn gyfle inni wyntyllu ambell agwedd o’r pwnc yma.

Rydw i’n siomedig na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi ein hail welliant ni, sef gwelliant 3, oherwydd mi gyfeiriwyd at gonsensws o gwmpas Hazelkorn. Wel, mae’r hyn yr ŷm ni’n ei ddweud i bob pwrpas yn dod o’r hyn y mae Hazelkorn wedi ei ddweud, a bod angen symud i well cydbwysedd o gystadleuaeth a rheoleiddio—dyna mae’n ei ddweud yn adroddiad Hazelkorn. Ond dyna ni, mi gawn ni’r ddadl yna rywbryd eto yng nghwrs y drafodaeth o gwmpas y darn yna o waith.

Now, I’m from a generation, of course—or my parents were from a generation—where education was about getting your O-levels. Yes, I was the last year that stood or sat the O-level. You get your O-level, you get your A-level, you get to university and you get your degree. To be brutally honest, I haven’t made much practical use of the degree that I got other than sticking it on a cv to say that I had a degree. But now that I’m a father—. Oh yes, don’t tell my lecturers that. I’m seeing a few lecturers looking at me—. There we are. But now that I’m a father, of course, and the eldest is getting through secondary school, you do start thinking about the options that are out there and, all of a sudden, of course, you realise, having come from maybe that sort of background myself, where you just saw the one direction, that there is a breadth—a plethora—of opportunities out there that I’m sure isn’t appreciated generally, certainly by young people, I’d imagine, to the extent that we would all wish. Very often, it takes something quite stark to really hit home and to realise not only the options that are there but the real value of many of those options, compared to maybe what some of us have perceived in the past as being getting a degree—if you want to get on, you get a degree.

One of those moments last year was the work that the Sutton Trust carried out—research into the earning potential of university graduates compared to apprentices—which found that top apprentices can expect to earn thousands more in their lifetime than many undergraduates, particularly from non-Russell Group universities, would. The report found that those who opt to study for a level 5 higher apprenticeship will earn £1.5 million during the course of their career, more than graduates from some of those universities, who could expect to earn £1.4 million. So, higher apprenticeships at level 5 result in greater lifetime earnings than undergraduate degrees and, of course, without much of the debt that, unfortunately, comes very often with a higher education degree. The earning potential of an advanced apprenticeship at level 3 is still slightly better than that of someone whose highest qualification is at A-level. We’ve heard a lot about the general benefits of FE, and we know that they’re vast, of course. But the perception is still there—too strongly, I believe—around the value of FE compared to HE. That was underlined again in a YouGov survey last year: 68 per cent rated higher education as the best option, only 7 per cent of 18 to 24-year-olds considered apprenticeships right for them, and 51 per cent of adults said they’d like their child to go into higher education, versus 20 per cent who preferred an apprenticeship. Now, I know I’m going on about apprenticeships, and that that only represents a small part of FE—I fully appreciate that—but I think you get the point I’m trying to make.

So, clearly, there’s a need for better promotion—for the lack of a better word—of the benefits of further education and a vocational pathway. Promoting parity of esteem needs to be there, certainly in terms of this motion before us today. I’m actually hoping that that could be one of the big legacies of this Assembly, and maybe a legacy of this Minister, that we actually move more decisively in that direction. Now—I’m quite startled, actually, that I have only got 30 seconds left. [Interruption.] Yes. So, Hazelkorn: as was recognised in the statement last week, there are various sectors and providers that are regulated and funded in different ways by different bodies, and new types of providers have emerged as well, of course. It does lead to unhelpful competition, I would say, between education providers, and we do need a clearer strategy and better co-ordination. That’s the thrust, of course, of our second amendment. I was heartened by the statement last week, but we need to advance that agenda and create some momentum behind this, which, hopefully, this debate will help us achieve.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rydw i’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae Aelodau yn iawn i bwysleisio pwysigrwydd y sector addysg bellach yng Nghymru a thynnu sylw at enghreifftiau o'r rhai o’r gwaith ardderchog y mae ein darparwyr addysg bellach yn ei gyflawni. Yn fy etholaeth i, mae Coleg Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o raglenni cryf, o lefel A i brentisiaethau i raddau i gynlluniau cymorth sgiliau busnes. Mae hefyd yn bwysig nodi bod darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn agor eu drysau i fyfyrwyr o bob oedran, nid yn unig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed.

Yn wir, ar gyfer gweithwyr sy'n wynebu colli eu swyddi, gall y sector addysg bellach fod yn adnodd enfawr. Mae'n cynnig y cyfle i weithwyr i ddysgu sgiliau newydd ac i ail-addasu i gyfrif am newidiadau yn yr economi leol. Wrth gwrs, drwy gynnig cyrsiau rhan amser, yn ogystal â llawn amser, mae oedolion sy'n gweithio, neu rieni sy’n aros yn y cartref, a hefyd pobl hŷn, yn cael mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd addysgol pwysig, ac mae hynny’n cael effaith gadarnhaol ar ein cymdeithas ac ar ein heconomi.

Fodd bynnag, fel y dywedodd Darren Millar, mae'r effaith bositif yma yn cael trafferth parhau wrth i'r sector wynebu toriad cyllid o 71 y cant ar gyfer cyrsiau rhan amser. Serch hynny, rwyf yn derbyn bod y cyllid ar gyfer darpariaeth amser llawn wedi cynyddu 3 y cant mewn termau real, ac mae hynny yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu. Fy mhryder i yw, drwy leihau'r cyllid mor ddramatig ar gyfer cyrsiau rhan amser, y neges sy'n cael ei hanfon yw nad yw cyfleoedd ail gyfle i astudio neu uwchsgilio yn flaenoriaeth, ac felly nad ydyn nhw hyd yn oed ar agenda Llywodraeth Cymru. Er fy mod yn derbyn bod cynlluniau fel ReAct wedi mynd peth ffordd i helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd, bydd gostyngiadau mewn cyllid ar gyfer darpariaeth ran amser yn sicr o arwain at lai o gyfleoedd i'r rhai sydd am arallgyfeirio yn dilyn colli swydd, er enghraifft. Felly, efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall sefydliadau addysg bellach barhau i gynnig cyrsiau rhan amser, ac am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd ail gyfle drwy'r sector addysg bellach.

Wrth gwrs, rydw i’n sylweddoli bod cyllidebau yn dynn ac yn heriol, ac all Llywodraeth Cymru ddim ariannu popeth. Wrth gwrs, nid yw hynny yn unig am faint o arian sydd ar gael, ond mae hyn hefyd am sut y mae arian yn cael ei flaenoriaethu a'i wario gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr o bob oedran. Felly, rydw i’n annog y Gweinidog i ailedrych ar gyllid ar gyfer cyrsiau rhan amser, a gweld a oes unrhyw hyblygrwydd i roi hwb, sydd mawr ei angen, i sefydliadau addysg bellach.

Mae’r ail bwynt yn ein cynnig ni heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy. Bydd Aelodau’n gwybod bod Llywodraeth Cymru, ar un adeg, wedi darparu cylch cyllido tair blynedd ar gyfer colegau, a gwnaeth hynny’r dasg o gynllunio yn llawer mwy haws. Arweiniodd hyn hefyd at lawer mwy o sicrwydd ar gyfer dysgwyr o ran gwybod a fyddai eu cwrs ar gael yn y tymor canolig. Nid ydw i ddim yn gweld sut y mae cyflwyno dyraniadau arian am un flwyddyn yn unig wedi arwain at well cefnogaeth i sefydliadau addysg bellach, a nid ydw i ddim yn gweld sut mae hynny wedi arwain at gynllunio gwell yn y tymor canolig.

Rydw i’n credu bod hyn hefyd yn cael effaith negyddol o ran denu myfyrwyr. Yn wir, rŷm ni’n gwybod bod sefydliadau addysg bellach wedi gweld gostyngiad yn nifer y dysgwyr yn 2015-16 ac rydw i’n credu mai un o’r rhesymau am hynny yw oherwydd y gostyngiad yn y cyllid y mae’r sector wedi derbyn a’r ansefydlogrwydd o gael dyraniadau cyllid un blwyddyn yn unig.

Rŷm ni’n gwybod bod Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd yn adolygu cyllid addysg bellach ac rydw i’n siŵr y bydd yr adroddiad yn un diddorol pan gaiff ei gyhoeddi. Rydw i’n gobeithio y bydd yr adolygiad yn ystyried o ddifri sut mae’r sector yn cael ei ariannu a sut mae’r newid i ddyraniadau cyllid un blwyddyn wedi cael effaith ar allu’r sector i gyflwyno cyrsiau.

Nawr, mae’r Athro Hazelkorn yn iawn pan mae hi’n dweud yn ei hadroddiad fod yna ymdeimlad nad oedd y sector addysg bellach yn cael ei werthfawrogi yn llawn, ac felly ni all weithredu i’w lawn botensial. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r pryder hwn a sicrhau bod ein sefydliadau addysg bellach yn cael eu cefnogi yn well.

Rydw i’n gwerthfawrogi, yn sgil adroddiad yr Athro Hazelkorn, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau bod angen i awdurdod sengl gael ei chreu gyda pharch cydradd ar draws y sector addysg ôl-orfodol, ac rydw i’n mawr obeithio, pan fydd yr awdurdod yma yn cael ei chreu, y bydd y sector addysg bellach yn derbyn y ffocws a’r sylw y mae’n ei haeddu.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, tra bod darparwyr addysg bellach Cymru yn gwneud gwaith ardderchog wrth gyflwyno addysg a hyfforddiant i filoedd o bobl bob blwyddyn, mae angen llawer mwy o gefnogaeth i’r sector. Felly, rydw i yn annog y Gweinidog i ystyried siâp y sector addysg bellach yn y dyfodol yn ofalus a sicrhau bod y sector yn derbyn y buddsoddiad hanfodol y mae ei angen. Diolch.

Rwy’n credu ei bod yn dda ein bod yn trafod ac yn dadlau ynglŷn ag addysg bellach yn y Cynulliad heddiw ac yn myfyrio ar ei chyfraniad i addysg a sgiliau yng Nghymru, gan y credaf ei fod yn gyfraniad trawiadol iawn, yn un a ddylai gael ei gydnabod, a dylem drafod sut y gallwn ei gryfhau a’i symud ymlaen.

Un agwedd ar addysg bellach, wrth gwrs, yw’r cyfle i gael ail gyfle mewn addysg, a dyna beth a ddarparodd fy ngholeg lleol, Coleg Gwent fel y’i gelwir yn awr, i mi a llawer o rai eraill. Felly, gallwn wneud TGAU yno, a Safon Uwch, a mynd ymlaen i’r brifysgol a chael gradd yn y gyfraith a gyrfa fel cyfreithiwr yn sgil yr addysg ail gyfle a gefais yn ystod dosbarthiadau nos, a minnau’n ddi-waith ar y pryd, a chael gwaith wedyn. Felly, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr yr agwedd honno ar addysg bellach a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil, ac rwy’n credu y dylem gofio hynny i gyd pan fyddwn yn edrych ar rôl addysg bellach a sut rydym yn datblygu addysg bellach ac yn ei chefnogi.

Ddirprwy Lywydd, mae Coleg Gwent yn awr yn darparu addysg o safon a llawer o sgiliau o safon ar gyfer y boblogaeth yng Ngwent. Y llynedd, cawsom ganlyniadau Safon Uwch cryf iawn yng Ngwent drwy ymdrechion Coleg Gwent, a gwerth ychwanegol cadarnhaol yn wir fel y dangosodd y dadansoddiad o’r system wybodaeth Safon Uwch a gynhaliwyd gan Brifysgol Durham, neu drwy’r fformiwla a ddatblygwyd gan Brifysgol Durham. Yn wir, mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau i ddysgwyr ar gyfer 2015-16 yn dangos cyfradd lwyddiant prif gymwysterau Coleg Gwent o 85 y cant—ymhlith y gorau yng Nghymru. Hefyd, yn ddiweddar iawn—yn syth o’r wasg, fel petai—mae un o ddysgwyr Coleg Gwent, Tom Seward, newydd ennill rownd Cymru yng ngwobr prentis trydanol y flwyddyn Sparks UK. Felly, rwy’n meddwl bod yna gryn dipyn o dystiolaeth fod Coleg Gwent yn darparu addysg a sgiliau o’r radd flaenaf, a rhai enghreifftiau’n unig yw’r rhain.

Wrth gyflwyno’r cynnig y gall Coleg Gwent ei wneud yn fy rhan i o’r byd, Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi fy nghalonogi nad ydynt yn gorffwys ar eu rhwyfau o gwbl. Maent yn uchelgeisiol iawn ar gyfer y dyfodol er mwyn adeiladu ar y llwyddiant a’r cyfleoedd y maent wedi’u darparu ac y byddant yn eu darparu. Yn bennaf ymhlith hynny—. Un brif enghraifft o’r uchelgais hwnnw, Ddirprwy Lywydd, yw eu cynigion ar gyfer adleoli campws Nash yng Nghasnewydd ar lan yr afon, i sefyll wrth ymyl campws Prifysgol De Cymru a sefydlu’r hyn a fyddai’n cael ei alw’n ardal wybodaeth Casnewydd. Byddai’n bartneriaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch, gyda golwg bendant ar anghenion yr economi leol gan weithio ar y cyd â busnesau. Byddai’n integreiddio addysg bellach ac addysg uwch ac yn rhoi cynnig cyfun addysg bellach ac uwch yn amlwg gerbron y boblogaeth leol gyda lleoliad amlwg iawn ar lan yr afon yng nghanol y ddinas. Felly, rwy’n credu bod hynny’n gyffrous dros ben. Gwn fod cynlluniau’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd ac yn amlwg mae’r Gweinidog a’i swyddogion yn rhan o’r gwaith hwnnw. Rwy’n ei gefnogi’n fawr, fel y mae gwleidyddion lleol eraill, yr awdurdod lleol a llawer o bobl eraill, rwy’n gwybod. Rwy’n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth.

Yr hyn sydd ei angen arnom yn fy marn i, Ddirprwy Lywydd, yw prosiectau trawsnewidiol o’r math hwn i ddangos beth y gall addysg bellach ac addysg uwch yn gweithio gyda’i gilydd ei gyflawni a sut y gallant ddeall anghenion sgiliau eu poblogaeth leol yn iawn—beth y mae’r cyflogwyr ei angen i symud yr economi leol yn ei blaen—a darparu’r rheini mewn ffordd sy’n fodern o ran addysg bellach ac addysg uwch yn y DU.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cynnig geiriau o anogaeth yn ei ymateb heddiw. Rydym wedi cyfarfod a thrafod y cynigion. Yn amlwg, mae gwaith i’w wneud eto i roi cnawd ar esgyrn yr achos busnes amlinellol strategol a’r rhannau eraill o’r broses sy’n angenrheidiol, ond rwy’n credu ei bod yn un enghraifft y gallem edrych arni gyda balchder go iawn yng Nghymru o ran sut rydym ar y blaen yn dod ag addysg bellach ac addysg uwch at ei gilydd gyda phartneriaeth glir a chryf iawn rhwng yr holl brif bartneriaid yn lleol, ac felly, buasem yn trawsnewid y cynnig nid yn unig er budd Casnewydd ond y rhanbarth o’i chwmpas yn ogystal.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod pa mor hanfodol yw sefydliadau addysg bellach ar gyfer darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gywain y sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i ddiwydiant drwy raglenni prentisiaeth a sicrhau cyflogaeth amser llawn yn y pen draw.

Ddirprwy Lywydd, fe adroddaf stori fach wrth fy nghyd-Aelodau yma, a ffaith wir. Daeth gŵr bonheddig i’r wlad hon yn 22 neu’n 23 oed. Glaniodd heb unrhyw gymwysterau blaenorol, dim ond un radd mewn gwleidyddiaeth a $22 yn ei boced. Glaniodd yn y wlad hon a daeth i’r ddinas. Cafodd wneud ei erthyglau gyda chyfrifydd siartredig. Bu’n gweithio yno am rai blynyddoedd, ond yn y cyfamser, yn syth, fe gafodd addysg golegol yn rhad ac am ddim i ddysgu cyfrifeg.

Pan basiodd ei arholiadau, yn gyflym iawn cafodd y gŵr bonheddig gynnig swydd yn yr un coleg addysg uwch yn y ddinas. Fe wrthododd. Arhosodd gyda’r cyfrifydd siartredig a gweithiodd gydag ef am 14 mlynedd. Tra’i fod yn gorffen gweithio, roedd yn dysgu. Dysgodd sut i yrru am y tro cyntaf hefyd. Nid oedd yn gallu siarad Saesneg yn iawn hyd yn oed. Dysgodd sut i yrru a chafodd drwydded tacsi. Nid oedd erioed wedi gyrru tacsi yn ei fywyd, ond mae ganddo drwydded tacsi—mae honno’n sgil.

Pan sefydlodd ei ymarfer ei hun, ar ôl 14 mlynedd, gan orffen ei swydd gyda’r cyfrifydd siartredig, fe ddysgodd hedfan. Ymhen ychydig flynyddoedd—roedd honno’n adeg, yn y wlad hon, pan oedd cymwysterau galwedigaethol ar gael i’r bobl, ac roedd y cyfle hwnnw ar gael—daeth y gŵr yn beilot wedi cymhwyso’n llawn. Yna dechreuodd ei ymarfer ei hun. Fy mhwynt i chi i gyd, foneddigion a boneddigesau, fy nghyd-Aelodau, yw hyn: fi yw’r gŵr bonheddig hwnnw.

Mewn gwirionedd gallaf ddweud wrth bawb y byddai’n drosedd i ni beidio â rhoi cyfleoedd i’n plant gael mynediad llawn at unrhyw beth—beth bynnag y maent am ei wneud yn eu bywydau. Dylai’r sgiliau fod yno bob amser, ar gyfer datblygu, ar gyfer dysgu ac uwchsgilio—ar hyd eu hoes. O’r crud i’r bedd, rydym i gyd yma i ddysgu.

Beth bynnag, mae colegau yng Nghymru yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr o bob maint, o fentrau canolig eu maint i gyflogwyr mawr fel Airbus a General Electric y mae fy nghyd-Aelod newydd ei grybwyll. Rwy’n pryderu, felly, wrth weld bod Llywodraeth Cymru wedi torri bron i £24 miliwn oddi ar y cyllid grant refeniw i’r sector addysg bellach yn y pum mlynedd diwethaf. Nid yw hynny’n mynd i gael effaith dda ar y dysgwyr. Hefyd, mae eu penderfyniad i ganolbwyntio ar rai 16 i 19 oed yn creu perygl gwirioneddol i gyfleoedd astudio ail gyfle—ni fydd modd dychwelyd at addysg mwyach. Fel y dywedais yn gynharach, mae’n drosedd mewn gwirionedd. Ni ddylem rwystro ein plant rhag dysgu mewn bywyd. Dylem roi cyfleoedd—y sefydliad hwn. Mae cymwysterau a sgiliau Prydeinig yn cael eu cydnabod, ac maent hefyd yn cael eu parchu’n fawr yn fyd-eang. Ers Brexit, rwy’n credu ei bod yn fwy priodol ac yn bwysicach i ni wneud yn siŵr y bydd y byd cyfan yn dod i ddysgu ein sgiliau a gweld ein system addysg, gan ei bod yn un o’r goreuon yn y byd.

Rwyf hefyd yn dweud beth yw’r ail un. Mae’r diffyg gwybodaeth ac eglurder ar ran Llywodraeth Cymru yn golygu na all y sefydliadau addysg bellach gynllunio a blaenoriaethu mor effeithiol ag y buasent yn hoffi ei wneud. Mae hefyd yn creu ansicrwydd ynglŷn â swyddi staff ac yn effeithio’n negyddol ar sefydliadau addysg bellach ac ar gyfathrebu â chyflogwyr, ac yn peryglu gallu sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg o safon i’w myfyrwyr. Yn ogystal, mae diffyg brys Llywodraeth Cymru i roi gwybod i sefydliadau addysg bellach a fyddant yn derbyn eu cyfran o’r gronfa blaenoriaethau sector yn golygu y gallai’r sector addysg bellach wynebu toriadau ychwanegol i’w gyllideb. Nid wyf yn credu ei fod yn deg. Byddai hyn yn effeithio’n arbennig ar ddarpariaeth ran-amser, sydd mor bwysig i bobl sy’n gweithio ond sydd eisiau datblygu eu sgiliau er mwyn ffynnu mewn economi ddeinamig. Rwy’n credu bod angen i ni sefydlu rhaglen flaenariannu a fuasai’n rhoi gwybod i sefydliadau addysg bellach beth fydd eu cyllideb, rhaglen a fuasai’n caniatáu ar gyfer mwy o dryloywder ac yn rhoi diwedd ar y dull munud olaf o weithredu sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’r ddadl hon, sy’n cydnabod cyfraniad addysg bellach i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Cefnogaf y cynnig a gobeithiaf y bydd pob un ohonom yn gwneud yr un peth yn y broses hon. Diolch.

Ychydig cyn y Nadolig, gelwais gyfarfod yn fy etholaeth yng Nghastell-nedd o chwaraewyr yn yr economi leol. Roedd y coleg addysg bellach yno. Yn wir, hwy a gynhaliodd y digwyddiad a chafodd ei gynnal yn hyfryd iawn ac yn effeithiol iawn ganddynt, felly diolch iddynt am hynny. Hefyd, daeth prifysgolion, busnesau yn yr economi leol ac undebau ynghyd i drafod yr hyn yr oeddem ei eisiau o safbwynt rhanbarthol o strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru. Ond un o’r materion a ddaeth allan yn y drafodaeth oedd yr alwad am strategaeth glir, integredig ar gyfer addysg bellach, hyfforddiant sgiliau, dysgu yn y gweithle, dysgu i oedolion ac addysg uwch—ymagwedd gyfannol tuag at yr holl elfennau addysgol hynny—ac yn rhan o hynny, datblygu llwybr clir rhwng addysg alwedigaethol ac addysg academaidd ac yn y gweithle o’r cyfnod cyn-brentisiaeth i sgiliau lefel uchel a graddau. Mynegwyd hyder a gobaith y byddai cynigion Hazelkorn ar y pwynt hwnnw’n darparu sylfaen ar gyfer ymagwedd lawer mwy integredig nag y gallwyd ei rhoi ar waith hyd yn hyn.

Gan adleisio’r pwynt a wnaeth nifer o siaradwyr, cafwyd galwadau i annog myfyrwyr i beidio â meddwl yn nhermau llwybr addysg uwch yn unig. Rwy’n credu bod hynny’n ymwneud mewn gwirionedd â rhoi dilysrwydd cyfartal i addysg alwedigaethol ac addysg uwch academaidd. Ond rwy’n credu ei fod yn mynd y tu hwnt i barch cydradd: dylai fod yn hynny fan lleiaf. Ond mae yna senario hefyd lle y bydd rhywun yn teimlo y gallant ffynnu mewn addysg uwch, ond mewn gwirionedd nid addysg uwch yw’r opsiwn gorau ar gyfer eu dewis penodol o yrfa, er y gallent yn hawdd wneud yn rhagorol yn y brifysgol. Hyd nes y cyrhaeddwn agwedd ddilys o’r fath—

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno mai’r hyn yr ydym ei angen hefyd mewn gwirionedd ar gyfer ein pobl ifanc yw cyngor gyrfaoedd gweddus? Rwy’n meddwl bod angen ailwampio’r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cyngor gyrfaoedd cywir yn cael ei roi, nid yn unig gan unigolion sy’n gweithio mewn ysgolion neu unigolion sy’n gweithio mewn colegau addysg bellach, ond yn annibynnol, i roi cefnogaeth wedi’i theilwra i bobl ifanc ledled Cymru.

Wel, rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod gan fyfyrwyr a disgyblion mewn ysgolion a cholegau ddealltwriaeth glir iawn o’r opsiynau sydd ar gael iddynt, y cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen o fewn y dewisiadau gyrfa hynny a pha ddewisiadau cyrsiau ac yn y blaen y dylent eu gwneud i’w cael yno. Ac rwy’n credu bod lle i lawer mwy o integreiddio rhwng byd gwaith, yr economi leol ac ysgolion a cholegau, felly buaswn yn croesawu unrhyw beth sy’n mynd â ni ar hyd y llwybr hwnnw.

Rwy’n credu bod cynigion Hazelkorn sydd bellach wedi cael eu derbyn yn sylfaen sefydliadol dda ar gyfer yr hyn yr ydym yn ei drafod heddiw. Mae heriau cyllido wedi bod, wrth gwrs—mae siaradwyr wedi sôn am y toriadau i addysg bellach, a chafwyd toriadau hefyd i’r gyllideb addysg oedolion—a chredaf fod honno’n her o ran rhai o’r pethau y cyfeiriodd John Griffiths atynt mewn perthynas â dysgu ail gyfle ac yn y blaen. Ond rwyf eisiau talu teyrnged i’r sector addysg bellach am arloesi’n wych yn wyneb peth o’r pwysau hwnnw. Ceir nifer o enghreifftiau, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, o golegau addysg bellach yn edrych yn greadigol iawn ar sut y gallant gyflawni’r hyn y maent yn ei gyflawni mewn ffordd lawer mwy entrepreneuraidd, a chredaf fod hynny’n rhan o ysbryd y sefydliadau hyn. Rwy’n credu mai un o’r allforion—os nad cudd, un a danbrisiwyd—o Gymru mewn gwirionedd yw’r gwaith y mae colegau addysg bellach yn ei wneud yn darparu gwasanaethau addysg dramor, sy’n digwydd yn sawl un o’n sefydliadau. Felly, rwy’n meddwl y dylai hynny gael ei gydnabod hefyd.

Mae rhai materion yn codi ynglŷn â’r ffin rhwng addysg bellach ac addysg uwch y credaf fod angen edrych arnynt ofalus, lle y mae gennych raddau sy’n cael eu cynnig gan golegau addysg bellach dan gytundebau partneriaeth. Credaf fod angen edrych ar faterion sy’n codi mewn perthynas â thryloywder yr hyn y gellir ei ddarparu i ddysgwyr. Mae gennym system o gymorth dysgu bellach sy’n seiliedig ar y cyflog byw, ond wrth gwrs, isafswm cyflog wedi’i ddisgowntio yw isafswm cyflog prentis, felly rwy’n meddwl bod perygl yn hynny o beth i rai â chymhellion diegwyddor, a chredaf fod angen i ni edrych arno.

Rydym bob amser yn cael ein gwahodd i edrych ar fodelau Ewropeaidd pan edrychwn ar addysg bellach, addysg uwch a dewisiadau galwedigaethol. Ac rwy’n meddwl y bydd o fudd i ni edrych ar rai o’r pethau sy’n digwydd yn yr Iseldiroedd. Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, ni fyddaf yn gallu ymhelaethu gormod ar hynny, ond fe ddewisaf un neu ddwy o wersi y credaf y gallem eu dysgu. Un yw bod y dirwedd sefydliadol, er enghraifft, yn yr Iseldiroedd yn syml tu hwnt. Mae’n glir iawn sut y mae’r sefydliadau’n gweithio ac yn cydberthyn, ac rwy’n meddwl bod hynny’n fuddiol. Mae yna lefel uchel o hyblygrwydd a chydlyniant, yn enwedig mewn perthynas â rhai o’r prentisiaethau, ac unwaith eto, rwy’n gwybod nad dyna’r unig gynnig sydd gan addysg bellach, ond mae’n gynnig pwysig. A cheir lefel uchel o hyblygrwydd rhwng yr agweddau academaidd ac agweddau’r gweithle yn hynny o beth. Yn bwysicaf oll, i fynd â ni’n ôl i ble y dechreuasom, caiff y llwybr galwedigaethol ei hyrwyddo o gam cynnar iawn yn y daith ysgol a’r coleg. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr sy’n mynd drwy’r system yn yr Iseldiroedd yn dilyn llwybr galwedigaethol yn y pen draw mewn gwirionedd, ac rwy’n credu bod hynny’n dyst i’r lefel wirioneddol o integreiddio a’r diffyg ffiniau rhwng addysg alwedigaethol yn y coleg ac addysg uwch. Rydym yn byw mewn cyfnod pan fo’r economi’n newid, lle y mae llwybr dysgu llinellol confensiynol yn mynd yn llai ffasiynol yn ôl pob tebyg. Rwy’n credu bod angen dychymyg i edrych y tu hwnt i hynny, ac edrych ar system ran-amser fodiwlaidd hyblyg fel rhywbeth a ddaw’n norm i bob un ohonom.

Rwy’n hynod o falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, gan fy mod wedi bod â diddordeb mawr mewn addysg bellach drwy gydol fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad, ac rwyf wedi tynnu sylw at y materion hyn yn y gorffennol gan mai dyma’r rhan o’r sector addysg sydd weithiau’n cael ei hanghofio, ond mae’n hynod o bwysig i economi Cymru. Fel y clywsom, mae’n galluogi myfyrwyr i gaffael sgiliau galwedigaethol, llenwi bylchau sgiliau, diweddaru sgiliau a hyd yn oed i baratoi ar gyfer newid gyrfa, ac rwy’n credu bod yr Aelodau wedi crybwyll yr holl agweddau hynny ar yr hyn y mae addysg bellach yn ei ddarparu. Mewn economi fodern, mae angen gweithlu hyblyg, hyderus a medrus, ac nid yn unig oherwydd yr hyn a allai ddigwydd oherwydd Brexit; dyma’r byd modern. Roeddwn yn siarad yn ddiweddar â grŵp o fyfyrwyr ac yn dweud, ‘Fe fyddwch nid yn unig yn newid swydd hanner dwsin o weithiau—mae’n debygol y byddwch yn newid gyrfa ddwy neu dair gwaith.’ Dyna beth sy’n rhyfeddol, ac mae hynny’n rhyddhaol iawn, ond hefyd, os nad ydych wedi paratoi, gall fod yn heriol tu hwnt. Carwn dreulio ychydig o amser yn siarad am y dysgwyr nad ydynt, efallai, yn teimlo eu bod mor barod. Mae colegau addysg bellach wedi chwarae rhan fawr dros y blynyddoedd yn helpu i lenwi’r bylchau sgiliau sy’n digwydd, a gwyddom fod bwlch cyrhaeddiad sy’n peri pryder mawr ar lefel TGAU mewn Saesneg a mathemateg yn arbennig, a chaiff ei bontio yn y pen draw, os yw’n cael ei bontio, yn y sector addysg bellach. Rwy’n credu y dylem gofio’r sgil y maent yn ei chyflawni yn y dasg honno wrth ymdrin â myfyrwyr sy’n aml wedi cael profiadau llai na phleserus mewn addysg ffurfiol, ac maent yn teimlo bod awyrgylch coleg addysg bellach yn llawer mwy ffafriol. Credaf fod hynny’n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei werthfawrogi.

Pan fyddaf yn rhoi cyngor i etholwyr ifanc gyda phroblemau amrywiol, rwy’n gofyn, ‘A ydych yn gweithio? A ydych mewn hyfforddiant? Am beth y chwiliwch?’, a’r rhai sy’n creu argraff arnaf bob amser yw’r rhai sy’n dweud eu bod wedi mynd yn ôl a’u bod mewn colegau addysg bellach yn mynd ar drywydd cymwysterau yno er mwyn ceisio gwella eu cyfleoedd yn y farchnad lafur ac i wella eu cyfleoedd gwaith.

Mae addysg bellach hefyd yn helpu pobl hŷn i wella’u sgiliau rhifedd a llythrennedd. Ac unwaith eto, rwy’n meddwl ein bod i gyd wedi helpu pobl, efallai drwy ein gwaith cymhorthfa, gyda’r broblem uniongyrchol, ond hefyd rydych yn sylweddoli bod rhan o’u problem yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd eithaf sylfaenol. Unwaith eto, mae’r sector addysg bellach, drwy eu haddysg barhaus i oedolion a dosbarthiadau nos, fel y clywsom, yn darparu gwasanaethau gwirioneddol hanfodol yma a all fod yn rhyddhaol iawn. Pan fydd pobl, ychydig yn ddiweddarach mewn bywyd, yn cyflawni’r lefel o addysg sy’n eu galluogi i ffynnu, rwy’n credu bod honno’n foment emosiynol dros ben. Weithiau, mae hynny’n cynnwys pobl sydd yn y gweithle. Efallai nad ydynt mewn swyddi medrus iawn, ond maent yn y gweithle, ac rwy’n cael fy nenu’n arbennig at y rhaglenni a ddatblygwyd gyda cholegau addysg bellach, ac undebau llafur hefyd a bod yn deg, sy’n helpu gweithwyr yn y gweithle i wella rhai o’r sgiliau sylfaenol.

A gaf fi droi at agwedd arall ar y ddadl? Rwy’n pryderu am y ffrydiau ariannu ar gyfer y sector yn y dyfodol. Clywsom am y trefniadau cyllidebol a’r angen i symud at gyllidebau tair blynedd, felly nid wyf am ailadrodd y pwynt hwnnw. Ond wyddoch chi, ers 2007, mae oddeutu £600 miliwn wedi dod i golegau addysg bellach drwy lwybrau cyllid Ewropeaidd, ac rwy’n poeni am yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl 2020, gan na all Brexit olygu bod hyfforddiant sgiliau mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu hisraddio mewn unrhyw ffordd. Rwy’n gobeithio bod gan y Gweinidog rywbeth i’w ddweud am hynny; rwy’n credu ei bod yn bwysig tu hwnt ein bod yn cadw’r flaenoriaeth yma.

Gadewch i mi orffen, felly, ar bwysigrwydd addysg bellach. Hynny yw, roedd hyn yn rhan o’r—. Mae’n mynd yn ôl i 1944, mewn gwirionedd. Y weledigaeth oedd ysgolion gramadeg, ysgolion technegol ac ysgolion uwchradd modern. Ni fu ysgolion uwchradd modern erioed yn ddull gwirioneddol gadarn. Roedd ysgolion technegol yn arfer gweithio’n eithaf da lle y gwnaed ymdrech iawn gyda hwy, ac yng Nghymru, roedd gennym hanes eithaf da, ond er hynny ni chawsant eu parchu’n gydradd â’r llwybr gramadeg academaidd, fel y câi ei alw bryd hynny. Rydym wedi clywed am rai enghreifftiau diddorol iawn yn yr Iseldiroedd, a buaswn yn dweud yr Almaen yn ogystal. Rwy’n cofio mynychu cynhadledd yn yr Almaen a gweld hysbyseb ar y teledu am dref yn gweithio, ac roedd yn dangos pa mor hollbwysig oedd sgiliau galwedigaethol i’r gwaith o redeg y dref honno bob dydd. Felly, wyddoch chi, dyna sydd angen i ni ei bwysleisio mewn gwirionedd.

Fe ddywedodd Llyr nad yw byth yn defnyddio ei radd yn broffesiynol. Ni ddywedodd wrthym beth yw ei radd, ond mae gennyf dwy radd mewn gwleidyddiaeth, felly gadawaf i chi benderfynu a gredwch fy mod wedi gwneud defnydd da ohonynt. [Chwerthin.] Ond roeddwn yn meddwl, pan ddywedodd Oscar ei fod wedi cyrraedd yma heb unrhyw gymwysterau blaenorol heblaw gradd mewn gwleidyddiaeth—wel, mae’n debyg fod hynny’n dweud wrthych beth yw ei farn ef ynglŷn â gradd mewn gwleidyddiaeth. [Chwerthin.] Ac ni ddywedodd wrthym a gafodd ei wersi hedfan drwy goleg addysg bellach, er fy mod yn amau hynny, ond beth bynnag, mae hwn yn sector i’w ddathlu ac mae angen ei feithrin.

Fe ddywedaf mewn ymateb i David Melding fod fy nghyd-Aelodau’n gwneud hwyl am fy mhen pan fyddaf yn sôn am fy ngraddau a defnyddio fy ngraddau, felly rwyf wedi dysgu cadw’n ddistaw yn eu cylch—[Torri ar draws.] Oedd, roedd y gynau yn eithaf egsotig. [Chwerthin.]

Dechreuais fy ngyrfa ar gampws Allt-yr-ynn, a gâi ei alw ar lafar yn gampws ‘Altereen’ yng Nghasnewydd. Fel y dywedais wrth y Siambr o’r blaen, yr unig brofiad a gefais mewn addysg uwch oedd ar baneli dilysu mewn addysg bellach, cyfarfod â chydweithwyr addysg bellach ac fel cymedrolwr. A dyna ni. Nid oedd unrhyw addysgu’n gorgyffwrdd na gweithio gyda chydweithwyr—dim byd tebyg i’r ganolfan wybodaeth yr ydych wedi’i hawgrymu yn awr, yn sicr, ac yn amlwg, mae campws Allt-yr-ynn bellach yn ystad o dai. Dyna yw’r glannau bellach ac mae gennych sylfaen campws Nash yn symud o Nash i’r glannau. Rwy’n credu bod honno’n enghraifft dda o sut y dylai pethau ddigwydd. Mae Prifysgol De Cymru, fel y cydnabu’r Athro Diamond, yn enghraifft dda iawn, os nad o arfer gorau—mae’n enghraifft dda iawn o sut y dylem fwrw ymlaen â’r cysylltiadau rhwng addysg uwch ac addysg bellach.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon a dadleuon tebyg, ymwelais â Choleg y Cymoedd Ystrad Mynach yn fy etholaeth, ac os ydych am ei weld, mae yna fideo bach ar Twitter am yr ymweliad. Am amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yno. Nid oes unrhyw ystafelloedd dosbarth yn y fideo: mae yna weithdy mecaneg, mae yna gaban awyren, ac mae yna gegin a bwyty gweithredol. Dyna rai o’r pethau sy’n digwydd yng Ngholeg y Cymoedd. Dyna’r math o brofiad y dylai darlithwyr addysg uwch eu cael hefyd, rwy’n meddwl, a gweld rhai o’r pethau sy’n digwydd.

Edrychodd adolygiad Hazelkorn, yr ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet iddo yr wythnos diwethaf, ar y materion hyn mewn modd defnyddiol iawn. Ac fel y dywedodd yn ei datganiad, mae’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r materion hyn, addysg bellach ac addysg uwch, wedi arwain at gystadleuaeth ddi-fudd rhwng darparwyr addysg a hyfforddiant, a dyblygu neu fylchau a dryswch i ddysgwyr. Ac fel y soniais yn gynharach yn ystod y cwestiynau, dywedodd y Gweinidog dysgu gydol oes, pan ymwelodd â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ar 10 Tachwedd, na fuasai’n hoffi gweld unrhyw ffin o gwbl rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Hoffwn glywed mwy am hynny yn y trafodaethau, oherwydd credaf ei fod yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau yn y ddadl hon ac y cyfeirir atynt yn y gwelliant yn enw Jane Hutt.

Rwy’n croesawu’r ffaith y ceid corff a fuasai yn y pen draw yn cymryd lle Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, corff a fydd yn chwarae rhan bwysig yn datrys rhai o’r problemau o ran y ffin rhwng addysg bellach ac addysg uwch, er ei bod wedi dweud, yn fy nghwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, fod ganddi gynlluniau ar gyfer hyn, ond gofynnais am y tymor byr: beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos? Pan ymwelodd â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd, dywedodd y byddai disgwyl i’r arian sydd wedi bod yn mynd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru—fod rhan o hwnnw’n cael ei ddefnyddio i wella’r berthynas rhwng addysg bellach ac addysg uwch, ac eglurodd hynny yn ei llythyr cylch gwaith. Pan ofynnais iddi heddiw, dywedodd ei bod eisoes wedi gwneud hynny’n glir yn y llythyr cylch gwaith interim, ond dosbarthwyd hwnnw ym mis Hydref. Fe wnaeth y datganiad i’r pwyllgor ym mis Tachwedd, felly rwy’n dal i fod eisiau rhywfaint o eglurder ar hynny. A buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallai’r Gweinidog sicrhau rhywfaint o eglurder ar hynny, gan y byddai’n ein helpu i gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â beth fydd yn digwydd tra bod ymgynghori pellach yn digwydd ar y corff cyllido.

Ond efallai fod angen i ni fynd ymhellach a sefydlu strategaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 ar gyfer Cymru, gan edrych ar addysg bellach ac addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith ac addysg gymunedol i oedolion. Mae hyn yn rhywbeth y gobeithiaf y bydd yn flaenllaw ym meddwl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o weithredu argymhellion Diamond a Hazelkorn. Mae hyn yn rhywbeth a all ddigwydd.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwyf wedi bod yn feirniadol o Darren Millar yn y gorffennol, yn enwedig—nid ei fai ef, ond bai Llywodraeth y DU—y modd y mae Llywodraeth y DU, wedi difrodi’r farchnad myfyrwyr rhyngwladol mewn addysg uwch. Nid yw’r darlun yn Lloegr yn llawer gwell ym maes addysg bellach ychwaith, gyda Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin yn nodi bod argyfwng ar y gorwel o ran y cyllid a oedd i ddod i addysg bellach yn Lloegr. Felly, rwy’n meddwl bod angen gwneud gwaith ar bob lefel mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac rwy’n meddwl bod Llywodraeth Cymru, yn glodwiw iawn, yn mabwysiadu ymagwedd sy’n mynd i’r afael â’r mater hwnnw. Mae Hazelkorn yn rhoi cyfle euraidd i ni ddysgu o’r camgymeriadau sy’n cael eu gwneud yn Lloegr, a ffurfio ein hymagwedd Gymreig ein hunain tuag at gyfundrefn addysg ôl-orfodol lwyddiannus sy’n diwallu anghenion cyflogwyr, darparwyr a dysgwyr yn y blynyddoedd i ddod.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Member
Alun Davies 16:44:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog gyda llawer o dir cyffredin, er gwaethaf sylwadau braidd yn surbwch llefarydd y Ceidwadwyr wrth agor y ddadl. Hyderaf y bydd yn manteisio ar y cyfle wrth gloi i fyfyrio ymhellach efallai ar ei dôn wrth agor y ddadl. Yn sicr, mae’r ddadl wedi codi ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau a oedd gennym wrth wrando ar ei araith y prynhawn yma. Ond rwy’n falch fod llawer iawn o gonsensws wedi bod ar draws y Siambr. Cafwyd consensws ar safle addysg bellach, mewn addysg ac yn y gymdeithas ehangach; ar barch cydradd, a nodwyd gyntaf gan Llyr Gruffydd yn ei sylwadau, ond a gafodd ei bwysleisio gan Aelodau ar bob ochr i’r Siambr; a hefyd cydnabyddiaeth fod yna heriau sylweddol yn wynebu’r sector, ac mae’r sector eisoes yn wynebu ac yn goresgyn yr heriau hynny.

Gadewch i mi ddweud hyn: wrth ddod i swydd fel Gweinidog dros y sector hwn, un peth sydd wedi fy nharo yn fwy na dim byd arall yw’r amrywiaeth pur, nid yn unig o ran y ddarpariaeth, ond o ran y dull o gyflawni, o drefnu, a’r ffordd y mae’r sector hwn yn ystwyth iawn—yn chwim ei droed—yn ateb anghenion, yn edrych ar anghenion, yn deall yr hyn y mae cyflogwyr ei angen; deall sut rydym yn darparu addysg mewn gwahanol ffyrdd, mewn gwahanol rannau o’r wlad; nid gosod unffurfiaeth, ond sicrhau bod gennym ragoriaeth gyson ar draws pob rhan o Gymru. Ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem ei ddathlu mewn gwirionedd.

Gadewch i mi ddweud hyn, er mwyn symud y ddadl yn ei blaen: gwnaeth y sylwadau a wnaeth Jeremy Miles am ei brofiad yn yr Iseldiroedd argraff fawr arnaf, ac i raddau helaeth, roeddent yn adlewyrchu sylwadau David Melding am yr Almaen hefyd. Roeddwn yn yr Almaen bythefnos yn ôl mewn gwirionedd yn edrych ar wahanol fathau o ddarpariaeth, ac rwy’n credu bod yna drafodaethau go iawn sydd angen inni eu cael ynglŷn â hyn. Rwy’n derbyn yn llwyr y pwyntiau a wnaeth Hefin David wrth gloi fod angen inni edrych ar gael gwared ar rai o’r ffiniau a’r rhwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng darpariaeth addysg bellach ac addysg uwch. Ond mae angen gwneud mwy na hynny hefyd; mae angen inni edrych ar gael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny sy’n bodoli rhwng addysg bellach a’r ddarpariaeth ysgol yn ogystal. Felly, rwy’n meddwl bod angen inni fod ychydig yn fwy radical yn ein ffordd o feddwl yn hynny o beth, ac mae angen inni fod ychydig yn fwy radical wrth edrych ar y ffordd yr ydym yn cyflawni rhagoriaeth addysg sydd wedi’i theilwra i anghenion y myfyriwr, y disgybl neu’r dysgwr unigol—pa ffordd bynnag y dymunwch ddisgrifio unigolion. Mae angen inni edrych wedyn ar sut rydym yn ei gyflwyno.

Nid wyf yn reddfol o blaid ymagwedd unffurf, ond rwy’n—

Andrew R.T. Davies a gododd—

Os caf fi orffen y frawddeg. Ond rwy’n dymuno sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno cyfoeth o gyfle i ddewis, ynghyd â rhagoriaeth o ran safonau, ac i wneud hynny yn ein dwy iaith genedlaethol. Fe ildiaf.

Diolch i’r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Ni allwn gytuno mwy â chi ynglŷn â chwalu’r rhwystrau, Weinidog, ond efallai mai ein lle ni ar yr ochr hon yw gofyn y cwestiwn hwnnw ac i chi fel y Gweinidog roi rhai o’r atebion i ni, gobeithio. Oherwydd ers i mi fod yma—ers 2007—rydym wedi bod yn tynnu sylw at y rhwystrau hyn, o ochr y Llywodraeth ac o ochr yr wrthblaid, ond a allwn gael syniad sut rydych yn mynd i wraidd hyn drwy’r systemau addysg fel bod y rhwystrau hynny’n cael eu chwalu a’r cysylltiadau’n cael eu creu?

Rwy’n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dechrau yr wythnos diwethaf yn ei datganiad ar Hazelkorn, a oedd yn dynodi ffordd real, a gwahanol, a radical iawn o symud ymlaen. Ond gadewch i mi ymateb yn fwy dwys i’r ddadl yr ydym wedi’i chael. Clywsom gan Oscar a John fod addysg bellach yn cynnig cyfleoedd i bobl ac ail gyfle i gael addysg, ac rydym yn deall hynny, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau y bydd addysg bellach yn sicr yn parhau yn y dyfodol i fynd ar drywydd hynny a chyflawni’r disgwyliadau hynny a’r rôl honno. Rwyf am sicrhau bod gennym y gallu i gefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed, ein bod yn gweithio gyda chyflogwyr, yn diwallu anghenion lleol, a’n bod yn cynnig y ddarpariaeth amrywiol hon sy’n golygu y byddwn yn parhau yn y dyfodol i allu darparu’r ail gyfleoedd hynny, ond hefyd, y byddwn yn edrych mewn ffordd fwy radical ar y ffordd y mae’r farchnad lafur yn newid, ac y byddwn yn ymateb mewn ffordd fwy radical i sicrhau bod sgiliau’n cyd-fynd ag anghenion yr economi a dysgwyr unigol ar gyfer y dyfodol.

Mae rhaglen newydd y Llywodraeth, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn cydnabod gwerth addysg bellach a’i rôl yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Mae llawer o’r Aelodau ar bob ochr i’r Siambr wedi sôn am yr angen i sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn cael ei datblygu a’i chyflenwi. Gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, wrth gwrs, sy’n edrych ar rai o’r gwersi o’r gwaith a wneir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg uwch, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gallu gwella a darparu cyrsiau mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ffordd nad ydym yn ei wneud ar hyn o bryd, ac ehangu hynny wedyn mewn perthynas â dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau yn ogystal. Mae angen i ni allu edrych—. Cawsom sgwrs yn gynharach yn ystod y cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn wella argaeledd addysg Gymraeg, ac mae’r Llywodraeth hon yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny.

Ond rydym hefyd angen mwy o gydlynu rhwng addysg academaidd a dysgu galwedigaethol. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen inni fod yn rhan o’r ddadl ehangach sy’n digwydd ar addysg alwedigaethol, yn enwedig yn Ewrop, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu parhau i gyflawni ar lefel uchel iawn o ragoriaeth. Mae’r ail flwyddyn o Arwain Cymru, ein rhaglen arweinyddiaeth ym maes addysg bellach, yn cael ymateb cadarnhaol. Rwyf am gynnal ac adeiladu momentwm. Bydd trydedd rownd y rhaglen yn dechrau ym mis Mai a bydd rhaglen debyg yn cael ei chyflwyno ar gyfer y sector addysg uwch, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen addysg bellach. Mae angen inni allu cryfhau gallu’r sector i ymateb i newid, ac rwy’n ystyried yr opsiynau ar gyfer rhaglen gydnerthedd ar hyn o bryd, i gynorthwyo’r sector i ddatblygu arweinyddiaeth gryfach eto, cynaladwyedd ariannol ac ymgysylltiad â chyflogwyr. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu cynnal bywiogrwydd y sector yn y dyfodol.

Mae’r Aelodau, ar wahanol rannau o’r ddadl hon, wedi siarad am benderfyniadau ariannu ac effaith penderfyniadau ariannu ar addysg bellach. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu nodi blaenoriaethau a rennir gyda Phlaid Cymru, gan arwain at £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag—fodd bynnag—nid yw cael Aelodau Ceidwadol yn cwyno’n gyson am effaith polisïau Ceidwadol o unrhyw werth i’r ddadl yn y lle hwn. Rydym yn deall yn iawn pam y mae addysg bellach o dan y pwysau y mae oddi tano heddiw, gan fod gennym Lywodraeth y DU sy’n gyson, gyson, gyson yn lleihau’r arian sydd ar gael i ni, a deallwn fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn dymuno parhau â’r polisi hwnnw.

Rwy’n deall, ac yn cytuno mewn gwirionedd, â’r pwynt a wnaeth Darren yn ei gyflwyniad am gylch ariannu tair blynedd ar gyfer addysg bellach. Rydym yn cydnabod hynny, ac rydym yn cydnabod pa mor ddymunol yw cynllunio. Fodd bynnag, nid ydym yn cael yr un sicrwydd ein hunain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Datganiad yr hydref sy’n hwyr, gwerth £3.5 biliwn o doriadau ar y ffordd yn 2019-20, a’r ansicrwydd parhaus ynglŷn ag effaith ariannol y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydych yn dweud wrthym eich bod eisiau sicrwydd. Gadewch i mi ddweud wrthych yn awr: os ydych eisiau sicrwydd, nid neges sydd angen i chi ei rhoi i’r Llywodraeth hon yw honno; neges sydd angen i chi ei rhoi i’ch Llywodraeth yn Llundain yw hi.

Rydym i gyd yn gwybod y bydd effaith colli cronfeydd strwythurol yn taro addysg bellach yn galed, ac ni wn am neb—neb o gwbl—sy’n credu’r sicrwydd a roddwyd hyd yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y byddant yn cyflawni eu haddewidion. Fe ildiaf.

Hoffwn eich atgoffa bod amser y Gweinidog wedi dod i ben, ond fe wnaf ganiatáu’r ymyriad hwn yn gyflym iawn.

Yn fyr iawn, rwy’n gwerthfawrogi’r rhwystredigaethau ynglŷn â’r ffaith fod datganiad yr hydref yn hwyr, ond ar y llaw arall, mae’n rhaid i chi gydnabod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y datganiad hwnnw wedi darparu £400 miliwn yn ychwanegol ar gyfer economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf—mae’n swm gwerth chweil.

Ac rydym hefyd yn deall bod gwerth £3.5 biliwn o doriadau yn dal i ddod eto. Nawr, dylech allu cyfrif, fel y gallaf fi.

Gadewch i mi orffen. Ni phrofaf amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach. Mae addysg bellach wedi cael ei thrawsnewid; mae wedi bod yn rhagweithiol wrth ddilyn agenda o newid radical. Mae’r Llywodraeth yn dymuno mynd ar drywydd yr agenda honno, sef parhau i feddwl mewn ffyrdd radical ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gennym barch cydradd a bod gennym addysg o ansawdd uchel yn cael ei chyflwyno’n gyson ar draws y wlad hon i gyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector addysg bellach i gyflawni hynny, a hyderaf y bydd Aelodau ar bob ochr i’r Siambr yn cynorthwyo’r Llywodraeth i wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae’n ddrwg gennyf eich siomi, Weinidog, ond fi sy’n mynd i gloi’r ddadl. Parch cydradd—am hynny y buom yn siarad heddiw, nes iddo golli ei ffordd yn yr ychydig funudau diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi bod hon wedi bod yn ddadl eithaf cydsyniol, ac am reswm da iawn hefyd: mae parch cydradd yn dda i’r economi, mae’n dda i’r colegau a’r prifysgolion, ac yn bwysicaf oll, mae’n dda i’n dinasyddion. Cyfanswm y rhannau—gadewch i ni adio’r rheini i fod yn fwy byth. Gadewch inni wneud yn siŵr fod parch cydradd yn golygu bod gennym gyfanwaith sy’n well na chyfanswm ein rhannau.

Mewn gwirionedd, mae ein system addysg wedi adlewyrchu hynny i ryw raddau yn y blynyddoedd diwethaf; yn y sector cyn-16 o leiaf. Roeddwn yn meddwl bod cyfraniad Jeremy Miles ar yr Iseldiroedd yn dangos hyn yn dda: o ran ôl-16, rydym yn dal i weithredu mewn seilos i raddau helaeth yma yng Nghymru ac efallai y buasai’n deg dweud, yn y DU yn gyffredinol. Wrth gwrs, gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ymrwymiad maniffesto i golegau technegol prifysgol, a oedd yn cynnwys rhai o’r pwyntiau a wnaethoch chi mewn gwirionedd, Jeremy, ond yn anffodus ni chawsom gyfle i adael i Gymru weld manteision hynny.

Wrth gwrs, roeddem yn hollol gywir ynglŷn â’r rhuthr hwn i addysg brifysgol, yn yr ystyr na ddylai neb gael ei atal rhag dilyn eu llwybr gorau am resymau daearyddol neu ariannol, ond fe arweiniodd at droi’r fantol o blaid pobl ifanc yn teimlo bod yn rhaid iddynt fynd i brifysgol ni waeth beth fo’u dawn, ac yn sgil cyfleoedd rhieni, fel y crybwyllodd Llyr—profais innau hynny hefyd—ac efallai dysgu ar gyfer arholiadau, i raddau, yn ogystal. Rwy’n meddwl bod Oscar a David yn llygad eu lle ar hyn. Cyfle yw’r hyn sydd ei angen ar berson ifanc—cyfle sy’n briodol iddynt hwy. Dyna pam, Llyr, nad oes gennyf broblem gyda chi’n siarad drosodd a throsodd am brentisiaethau. Rwy’n credu eu bod wedi bod yn ailgyflwyniad aruthrol o bwysig i’r cynnig i’n pobl ifanc. Rydym wedi dibrisio addysg bellach a phrofiadau galwedigaethol eraill fel rhywbeth sy’n parhau hyd yn oed yn awr, er gwaethaf y ffaith fod sefydliadau addysg bellach yn gallu cynnig ystod anferth o fathau o addysg i bobl ifanc. Hynny yw, mewn nifer o leoedd, mae ganddynt brifysgol ar garreg y drws yn awr, lle y daethpwyd â darpariaeth addysg uwch i mewn iddynt, yn ogystal â Safon Uwch, fel sy’n gyfarwydd i ni, ac ymgysylltiad ac addysg lefel 1, wrth gwrs, sy’n rhan o’r broses o atal rhai o’n pobl ifanc rhag cael eu gadael ar ôl yn gyfan gwbl.

Rwy’n meddwl mai’r brif neges a ddaeth yn amlwg heddiw, ar wahân i uchelgeisiau addysg bellach a’i medrusrwydd yn ailddisgrifio’i hun, os mynnwch, drwy bartneriaeth, yw hyn—ac mae llawer o’r Aelodau wedi cyfeirio at hyn, gan gynnwys John Griffiths—sef yr ail gyfle. Rwy’n credu y buasai’n ddigon teg dweud ei fod yn gyfle cyntaf, mewn gwirionedd, yn achos rhai na wnaeth eu profiad ysgol weithio iddynt. Nododd David Melding fod pobl yn newid eu gyrfaoedd, maent yn newid eu swyddi drwy gydol eu bywydau, ac weithiau nid yw hynny’n cael ei wneud drwy ddewis. Rwy’n meddwl am Tata yn fy rhanbarth i, er enghraifft. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo swm go sylweddol o arian tuag at ailhyfforddi pobl sy’n colli eu swyddi yn Tata. Mae’r rhain yn bobl nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant newydd ers blynyddoedd o bosibl. Mae arnom angen i’n colegau addysg bellach wneud hynny—yn rhan-amser hefyd. Gofynnwch i unrhyw un sydd â chyfrifoldebau gofalu ynglŷn â phwysigrwydd darpariaeth ran-amser wrth fynd ati i wella eich cyfleoedd bywyd.

Yn achos ffrind i mi, fe adawodd ysgol yn 16 oed, bu’n gweithio mewn siop, cafodd blentyn ac fe wnaeth ei phartner ei gadael. Roedd hi angen cyngor cyfreithiol, felly ymddiddorodd yn y gyfraith—profiad go gyffredin, mewn gwirionedd. Dilynodd gwrs sylfaen rhan-amser yn ei choleg lleol. Cafodd farciau gwych, cafodd le i astudio’r gyfraith yn y brifysgol—hefyd yn rhan-amser—gorffennodd ei chwrs ymarfer y gyfraith, ei chontract hyfforddi ac ymunodd â chwmni. Mae hi bellach yn ysgrifennu llyfryddiaeth argymelledig Coleg y Gyfraith ar esgeuluster meddygol, ac mae’n ennill ffortiwn. Ni fuasai wedi digwydd pe na bai ei choleg yn cael ei ariannu’n ddigon da i gynnal cwrs rhan-amser. Nid wyf yn credu bod y cwrs hwnnw ar gael mwyach.

A ydych yn bod yn garedig wrthyf, Ddirprwy Lywydd?

Da iawn. [Chwerthin.] Weinidog, mae eich pwynt ynglŷn â chwalu rhwystrau rhwng yr ysgol a’r coleg yn un da iawn mewn gwirionedd, a buaswn yn cytuno â chi ar hynny. Mewn gwirionedd, fe ddywedoch y pethau iawn i gyd hyd y diwedd yn y fan honno, ond mae angen i ni eu gweld yn digwydd yn awr. Rwy’n erfyn arnoch yn wir: rhowch y gorau i gwyno a chynlluniwch. Cynlluniwch ar gyfer gwario’r £400 miliwn. Mae parch cydradd yn ymwneud â mwy nag addysg bellach ac addysg uwch, addysg alwedigaethol neu academaidd; mae’n ymwneud â dinasyddion cydradd.

Nid wyf yn credu y dylai unrhyw un adael eu potensial ar garreg y drws ar ddechrau eu bywydau, ac amrywiaeth yr hyn a gynigir a chyfleustra sefydliadau addysg bellach fydd yr hyn y bydd llawer o bobl ei angen i groesi’r trothwy ar unrhyw oedran, ar unrhyw adeg. Felly, rwy’n meddwl mai’r hyn y buom yn siarad amdano mewn gwirionedd yw gwerth cydradd i’n pobl, ac ydy, mae hynny’n galw am ymagwedd radical.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Diolch yn fawr iawn. Felly, byddwn yn gohirio’r bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddatblygu economaidd. Galwaf ar Russell George i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6232 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a’r effaith a gaiff ar Gymru.

2. Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru.

3. Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i lywio twf economaidd ym mhob rhan o Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyflwyno ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ac rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol yn enw Paul Davies. Dylwn ddweud fy mod yn cytuno â holl welliannau Plaid Cymru. Yn anffodus, ni allwn eu cefnogi am eu bod yn dileu ein cynnig yn gyfan.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r ansicrwydd anochel sy’n gysylltiedig â’r canlyniad, rwy’n credu bod y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn cynnig diogelwch a sicrwydd i fusnesau allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â sylfaen gadarn ar gyfer gwella safonau byw a buddsoddi yn llwyddiant pob rhan o’r DU yn y dyfodol. Mae’n amlinellu buddsoddiad mawr ar gyfer seilwaith, buddsoddiad newydd mewn gwyddoniaeth, mewn ymchwil a datblygu, a’i nod yw sicrhau bod mentrau sy’n tyfu yn cael y sgiliau a’r cymorth i allu creu swyddi a ffyniant newydd.

O edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru—a dylwn ddweud bod llawer y gallaf gytuno ag ef ynddo, ond ychydig iawn o gefnogaeth a geir i fusnesau a fawr ddim i hyrwyddo prosiectau seilwaith pwysig. Mae’n rhaid i ni aros, wrth gwrs, tan y gwanwyn i weld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio ar gyfer strategaeth economaidd Cymru. Pan gyhoeddir y cynllun hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod ei strategaeth yn cydweddu â strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU a’i bod yr un mor flaengar ac uchelgeisiol o ran yr heriau economaidd sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol. Mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn rhoi pwyslais ar fynd i’r afael â’r anghyfartaledd rhanbarthol o ran ffyniant economaidd a’r prinder sgiliau sy’n bodoli yn y DU ac yng Nghymru, a fydd, o’i wneud yn llwyddiannus, yn cynyddu cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol.

Dylid nodi hefyd y bydd y strategaeth ddiwydiannol yn cefnogi economi gogledd Cymru, gyda bargen dwf gogledd Cymru, cynlluniau trafnidiaeth mawr sy’n cael eu hadeiladu, gan gynnwys trydydd croesiad dros y Fenai, gwaith ar wella’r A55 a chyfnewidfa’r A494, yn ogystal â thrydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru. Un o’r ffyrdd y mae’r strategaeth ddiwydiannol yn gwneud hyn yw cydnabod ymchwil a datblygu fel rhan hanfodol o’r economi yn y dyfodol. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn ddatblygiad i’w groesawu bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar wneud gogledd Lloegr yn rhanbarth technoleg. Rwy’n credu y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ogledd Cymru gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr yn ehangach. Rwyf am i Lywodraeth Cymru gael yr awydd i ysgogi ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau bod gan ogledd Cymru yr offer i allu manteisio ar y cyfleoedd hyn. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â buddsoddi’n drwm mewn ymchwil a datblygu. Mae’n parhau i beidio â gwneud hynny yng nghyllideb 2017-18, o ran arloesedd busnes a chyfleusterau ymchwil a datblygu. Nid yw’r gyllideb wedi newid o un flwyddyn i’r llall, ac wrth gwrs, mae hynny’n golygu gostyngiad yn y cyllid mewn termau real ar gyfer yr hyn y buaswn yn ei ddweud sy’n faes twf allweddol.

Nawr, mewn perthynas â chefnogi’r diwydiant dur, mae angen i ni sicrhau y gall y diwydiant fod yn fasnachol gynaliadwy mewn marchnad fyd-eang gystadleuol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhoi sylw i rai o ofynion allweddol y diwydiant, gan gynnwys iawndal—[Torri ar draws.] Mewn eiliad—i weithgynhyrchwyr ynni-ddwys, darparu hyblygrwydd o ran gweithredu rheoliadau allyriadau yr UE, ac mae hefyd wedi pwyso am weithredu yn erbyn dympio dur yn annheg. Ildiaf i David Rees.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Fe sonioch am ddur, felly, fi, felly—. Yn amlwg, a ydych mor siomedig, ac efallai’n ffieiddio cymaint â mi at y diffyg pwyslais ar ddur, sy’n ddiwydiant sylfaen yma yn y DU, yn y strategaeth ddiwydiannol honno, ac mai ychydig iawn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud i gefnogi’r diwydiant dur hyd yn hyn mewn gwirionedd? Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ei wneud, nid Llywodraeth y DU.

Wel, fe amlinellais, yn union cyn i chi ymyrryd, yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Ond fe ddywedodd Greg Clark yr wythnos diwethaf ei fod am fargen arbennig gyda’r diwydiant dur fel rhan o strategaeth ddiwydiannol flaenllaw’r Llywodraeth. Mae’n rhaid i mi ddweud, ni chymeraf unrhyw wersi gan y Blaid Lafur, ac nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd unrhyw wersi gan y Blaid Lafur, mewn perthynas â’r diwydiant dur. Gostyngodd cynhyrchiant y diwydiant dur oddeutu traean pan oedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf mewn grym. Hefyd, o ran y bobl a gâi eu cyflogi, hanerodd y diwydiant nifer y bobl a gâi eu cyflogi tra oedd Llafur mewn grym. Felly, nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd unrhyw ymyriadau yn y cyswllt hwnnw.

Wrth ddod â fy sylwadau i ben, Lywydd, mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn optimistaidd ac yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Prydain, gan Lywodraeth y DU sy’n benderfynol o sicrhau llwyddiant yn sgil gadael yr UE, ac yn sicr dylai pawb ohonom gefnogi’r nod hwnnw. Fy mhryder yw nad yw’r Papur Gwyn diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gynllun sy’n cefnogi’r economi. Mae angen diogelwch ar fusnesau Cymru i allu cynllunio ymlaen llaw. Nawr, addawodd Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dyfynnu, ‘baratoi cynllun o fesurau ar gyfer meithrin hyder, er mwyn rhoi sicrwydd i fusnesau a buddsoddwyr fod Cymru ar agor i fusnes, a bod yr economi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.’

Nawr, yn fy marn i, er fy mod yn cytuno â llawer o’r hyn sydd yn y Papur Gwyn, nid yw’r hyn a ddarllenais yn awr wedi cael ei gyflawni o ran uchelgais Llywodraeth Cymru yn hynny o beth.

Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn weledigaeth ar gyfer Prydain fodern, lwyddiannus ac uchelgeisiol sy’n sicrhau bod pob rhan o’r wlad yn cael pob cyfle posibl. Credaf ei bod hi’n bryd bellach i Lywodraeth Cymru roi’r un math o ymrwymiad â Llywodraeth y DU a gosod y sylfeini ar gyfer gwella safonau byw, twf economaidd, a Chymru fwy ffyniannus a chyfartal. Felly, rwy’n cymeradwyo ein cynnig heddiw i’r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan yr Aelodau yn ystod yr awr nesaf.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru.

2. Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru.

3. Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru.

4. Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl hon gan fy mod o’r farn fod yna wacter wrth galon strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Yn anffodus, a’r rheswm pam y mae ein gwelliant yn welliant ‘dileu popeth’, nid yw’r cynnig yn ceisio llenwi’r gwacter hwnnw gydag unrhyw beth sy’n unigryw neu’n newydd, ond yn hytrach, mae’n ceisio benthyg polisi Llywodraeth y DU a’i gymhwyso i Gymru.

Nawr, rydym mewn sefyllfa lle y mae gennym strategaeth economaidd sy’n mynd yn ôl i 2010. I bob pwrpas, cafodd y strategaeth honno ei hanghofio yn 2011. Y newidiadau sylfaenol, allweddol yn y strategaeth honno, sef cael dull sectoraidd gyda ffocws llawer tynnach ar ddatblygu economaidd, wel, diflannodd hynny pan ddaeth tri sector ychwanegol a bron bob busnes yng Nghymru y tu allan i fanwerthu yn sector targed. Hefyd, y symudiad oddi wrth yr hen ddull, sef, yn y bôn, y math o strategaeth cymorth grant, a ganolbwyntiai ar fewnfuddsoddi—symud o hynny i un a oedd yn canolbwyntio mwy ar fuddsoddiad busnes yn seiliedig ar ecwiti neu fenthyciadau—cafodd hynny ei anghofio hefyd ac aethpwyd yn ôl at yr hen ddull. Nid strategaeth yw’r hyn sydd gennym yn awr ond llawer o weithgaredd, ond heb strategaeth economaidd gydlynol i’w gefnogi mewn gwirionedd.

Mae’r un peth yn wir am ein safbwynt datblygu economaidd rhanbarthol. Mewn theori, mae’n dal i fod gennym gynllun gofodol, a gyhoeddwyd gyntaf ym 2006. Dysgasom—[Torri ar draws.] Wel, efallai fod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn chwerthin, ond buasai’r rhan fwyaf o economegwyr yn dweud bod creu lle, mewn gwirionedd, meddu ar strategaeth economaidd ofodol, yn gwbl hanfodol. Ildiaf iddo.

Nid wyf yn chwerthin ynglŷn â’r cynlluniau gofodol; cofio’r dadleuon hir a thrafferthus a gafodd y gŵr sydd â’r un enw â mi, Andrew Davies, wrth arwain y dadleuon yn y trydydd Cynulliad, un dydd Mercher ar ôl y llall, un dydd Mawrth ar ôl y llall, yn y Siambr hon. Dyna pam roeddwn yn chwerthin pan sonioch am y cynllun gofodol.

Wrth gwrs, cafodd ei ddiwygio yn 2008. Mae wedi ei gladdu’n dawel bach, ond mewn gwirionedd, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig, clywsom ei fod yn dal i fodoli; mae yna fframwaith datblygu cenedlaethol newydd yn mynd i gael ei lunio yn awr. Ond mae’r meddwl y tu ôl i’r cynllun gofodol, o gael syniad clir am y gwahanol rolau, y swyddogaethau gofodol, sydd gan y gwahanol ranbarthau a chanolfannau poblogaeth yng Nghymru yn ein strategaeth economaidd genedlaethol—mae hynny i gyd wedi cael ei golli. Felly, rydym yn y sefyllfa hon lle nad oes gennym strategaeth ar hyn o bryd. Diolch i’r drefn, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi dyddiad yn y gwelliant yn awr ar gyfer y strategaeth economaidd newydd, ac mae pawb ohonom yn edrych ymlaen yn eiddgar.

Ond y broblem yw bod polisi economaidd hefyd yn casáu gwactod, ac felly yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu iddo ddigwydd yw i bolisi datblygu economaidd yng Nghymru gael ei ysgrifennu yn Whitehall. Cafodd y map economaidd newydd o Gymru a ddadlenwyd gan y Gweinidog cyllid a llywodraeth leol ei ysgrifennu yn Whitehall; beth oedd pwynt datganoli? Oherwydd mae’n seiliedig, wrth gwrs, ar y map o’r dinas-ranbarthau, rhanbarthau’r bargeinion dinesig a’r fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru. Beth yw’r pwynt cael y sefydliad hwn os ydym yn caniatáu i rywbeth mor sylfaenol â rhanbarthau economaidd Cymru hyd yn oed gael eu penderfynu gan bot o aur yn Whitehall? Rwy’n ildio.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae dau bwynt y carwn eu gwneud. Un yw’r ffaith fod economi Cymru wedi’i chysylltu â’r economi dros y ffin yn Lloegr, ac felly mae’n gwbl briodol ein bod yn ystyried yr hyn sy’n digwydd dros y ffin. Yn ail, roedd gennych Ddirprwy Brif Weinidog a oedd yn gyfrifol am yr economi am nifer o flynyddoedd ers i mi ddod yn Aelod Cynulliad. Gallaf gofio ceisio cael strategaeth weithgynhyrchu allan o’r Dirprwy Brif Weinidog dros flynyddoedd lawer. Cafodd ei gynhyrchu o’r diwedd yn ei flwyddyn olaf yn y Llywodraeth ar ffurf dogfen syml ddwy ochr i’r dudalen na wnaeth unrhyw beth i wella’r diwydiant gweithgynhyrchu yma yng Nghymru. Pa weithredu y credwch y mae eich plaid wedi’i gyfrannu at y dirywiad economaidd a welsom yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Wel, diolch i chi am y chwistrelliad o bositifrwydd a chreadigrwydd i’n dadl ar y polisi economaidd. Wyddoch chi, dyna’r ffordd yr ydym yn mynd i symud pethau ymlaen, ynte? Gall—[Torri ar draws.] Gall pob un ohonom sefyll yma—. Ychydig fisoedd yn ôl y cefais fy ethol. Gall pob un ohonom sefyll yma—[Torri ar draws.] Gall pob un ohonom sefyll yma a phwyntio bys, iawn; yr unig ffordd—. [Torri ar draws.] Yr unig—. Ildiaf i’r Aelod anrhydeddus eto, os yw’n dymuno. Na. Iawn, o’r gorau.

I wneud y pwynt eto—nid yw’n anrhydeddus. [Chwerthin.]

Yr unig ffordd yr ydym yn mynd i dynnu ein hunain allan o’r twll mewn gwirionedd yw drwy gynhyrchu syniadau cadarnhaol, ac fe sylwais nad oes rhai’n dod gan yr Aelod gyferbyn.

Yn olaf, os ydym yn caniatáu i’n strategaeth economaidd gael ei hysgrifennu yn Llundain, yna gwelwn bolisi economaidd nad yw’n addas mewn gwirionedd i fynd i’r afael â’r problemau unigryw a geir yng Nghymru. Mae’r obsesiwn gyda’r dinas-ranbarthau, gyda’r ddinas fel modur twf economaidd—nid dyna’r ffordd i ymdrin â phroblemau llefydd fel Blaenau’r Cymoedd neu gefn gwlad Cymru. Nid yw ymagwedd fetropolitanaidd o’r fath yn mynd i weithio yma.

Ac mae’r obsesiwn hwn gyda’r hen goridorau gorllewin-dwyrain hefyd yn rhywbeth sydd wedi llethu datblygiad economaidd Cymru. Nid yw’n mynd i roi ateb i ni. Ni fydd daearyddiaeth o’r brig i lawr, fel y’i gelwid gan y diweddar Doreen Massey, yn rhoi’r ateb sydd ei angen arnom yng Nghymru. Mae angen meddylfryd economaidd unigryw ac arloesol, nid syniadau benthyg, hen ffasiwn o Whitehall.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi.

2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y setliad datganoli.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member
Ken Skates 17:13:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Cynigiwyd yn ffurfiol.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House y mis diwethaf:

Rwyf am i Brydain fod yr hyn y mae gennym y potensial, y ddawn a’r uchelgais i fod. Cenedl fasnachol fyd-eang wych sy’n cael ei pharchu o amgylch y byd ac sy’n gryf, yn hyderus ac yn unedig gartref.

Dywedodd mai dyma pam y mae gan Lywodraeth y DU gynllun ar gyfer Prydain sy’n:

nodi sut y byddwn yn defnyddio’r eiliad hon o newid i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach drwy groesawu diwygio economaidd a chymdeithasol go iawn.

Dyma pam, meddai, y mae

ein strategaeth ddiwydiannol fodern newydd yn cael ei datblygu, er mwyn sicrhau bod pob cenedl ac ardal yn y Deyrnas Unedig yn gallu gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

Wel, nod y strategaeth hon, ar ôl y refferendwm i adael yr UE, yw gwella safonau byw ym mhob rhan o’r DU, buddsoddiadau mawr yn y seilwaith, buddsoddiadau newydd mewn gwyddoniaeth, ymchwil a datblygu, gan sicrhau bod gan bobl a busnesau y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol, a chynorthwyo cwmnïau sy’n awyddus i dyfu.

Nid oes unman angen hyn yn fwy na Chymru ar ôl 18 mlynedd, os caf ddweud, dan arweiniad Llywodraeth Lafur—Cymru sydd yn y degfed safle o ran tlodi, yr unfed safle ar ddeg o ran enillion wythnosol, ac ar y gwaelod o ran gwerth ychwanegol gros ffyniant economaidd y pen a phobl nad ydynt mewn cyflogaeth, o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU.

Mae’n destun pryder fod y ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos bod gogledd Cymru yn llusgo hyd yn oed ymhellach ar ôl. Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gynnwys pedair o siroedd gogledd Cymru, sydd â’r gwerth ychwanegol gros isaf o hyd o holl is-ranbarthau’r DU, i lawr eto i ddim ond 63.3 y cant o gyfartaledd y DU. Ynys Môn—y gwerth ychwanegol gros isaf o holl ardaloedd lleol y DU, i lawr eto i ddim ond 52.9 y cant o gyfartaledd y DU. Mae gwerth ychwanegol gros y pen Wrecsam a Sir y Fflint hyd yn oed, a oedd yn 99.3 y cant o gyfartaledd y DU yn 1999, adeg datganoli, wedi gostwng eto i ddim ond 84 y cant o gyfartaledd y DU. A dyna pam y mae ein cynnig heddiw yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol ar ddatblygu bargen dwf gogledd Cymru.

Roedd datganiad yr hydref y Canghellor yn darparu cadarnhad cyhoeddus o’i ymrwymiad i fargen dwf gogledd Cymru, a ddisgrifiwyd gan gadeirydd cyngor busnes gogledd Cymru fel canlyniad cadarnhaol iawn. Fel y dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru:

rydym yn falch fod y Canghellor heddiw wedi ailddatgan ei ymrwymiad i Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Dwf Gogledd Cymru. Mae busnesau yng Nghymru eisiau bargeinion credadwy sy’n creu rhanbarthau gwirioneddol ffyniannus.

Mae bargen dwf gogledd Cymru yn cynnwys cynlluniau trafnidiaeth mawr o’r gorllewin i’r dwyrain, y clywsom gyfeirio atynt, a gwaith hefyd gyda’r siroedd i’r de a thrydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru o Gaergybi i Crewe. Cafodd gweledigaeth ar gyfer twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yr haf diwethaf, ac fe’i cefnogir gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod lleol yn y rhanbarth, cyngor busnes gogledd Cymru, y ddwy brifysgol yn y rhanbarth a grwpiau colegau addysg bellach y rhanbarth. Yn allweddol i hyn, mae’r weledigaeth yn galw am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan ddweud y byddai hyn yn rhoi hwb i’r economi, swyddi a chynhyrchiant, yn creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn cynyddu gwerth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035. Byddai hyn yn galluogi gogledd Cymru i wneud y gorau o’r cyfleoedd a gyflwynwyd yn sgil datganoli pwerau gan Lywodraeth y DU i Bwerdy Gogledd Lloegr dros y ffin. Fel y dywed gweledigaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

‘Mae’r Weledigaeth yn ategu’r strategaeth sy’n datblygu ar gyfer Pwerdy’r Gogledd, wedi’i hintegreiddio’n llawn â chyflwyniad Cais Strategaeth Twf Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, ac yn cynnwys cynllun Growth Track 360 ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn ganolog iddo. Trwy adeiladu strategaeth fuddsoddi o amgylch y weledigaeth hon sy’n edrych tuag allan gallwn lwyddo i fanteisio ar y cyfleoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru gan ychwanegu gwerth i set gydgysylltiedig a chronnus o gynlluniau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Lloegr ac economi ehangach y DU.’

Ymatebodd Trysorlys y DU i’r ddogfen weledigaeth ar gyfer twf drwy ofyn i’r bwrdd uchelgais fanylu ar y blaenoriaethau strategol a blaenoriaethu prosiectau. Fodd bynnag, bob tro y gofynnais i Weinidogion yma a ydynt wedi ymateb i alwad y ddogfen am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru, ac os ydynt, ym mha fodd y gwnaethant hynny, maent wedi darparu ymateb dargyfeiriol clasurol Llywodraeth Lafur Cymru drwy gyfeirio yn lle hynny at y metro arfaethedig ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru: dim manylion a dim ond cyffredinoli ynglŷn â’i gysylltedd â chynigion y weledigaeth ar gyfer twf. Gofynnaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet: a ydym am gael ‘ie’ gan Lywodraeth Cymru hyderus, barod neu ‘na’ gan un gyfyngol a llwfr?

Rwy’n falch ein bod yn trafod yr angen am strategaeth ddiwydiannol heddiw. O’m rhan i, mae wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn, pan fo’n ymddangos bod y mwyafrif llethol ohonom yn cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth wleidyddol. Mae’n rhywbeth y gwn o fy mywyd blaenorol cyn cael fy ethol yma fod yr undebau llafur wedi bod yn pwyso amdano ers nifer o flynyddoedd, mor bell yn ôl ag y gallaf gofio. Rwy’n mynd i ganolbwyntio’n fyr ar dri phwynt heddiw. Y cyntaf yw dur, anghenion economaidd gogledd Cymru a sicrhau bod strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ateb anghenion economaidd gogledd Cymru.

Mae’n amlwg fod achub a chynnal y diwydiant dur yng Nghymru yn allweddol ac mae’r diwydiant sylfaen yn allweddol nid yn unig ynddo’i hun, ond hefyd fel rhan o unrhyw strategaeth ehangach. Ac er fy mod yn croesawu geiriau cynnes Llywodraeth y DU o blaid dur Prydain a chynhyrchu strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, nodais gyda pheth syndod, fel fy nghyd-Aelod, David Rees, mai un cyfeiriad yn unig at ddur a geir yn y ddogfen 132 tudalen, cyfeiriad sydd wedi’i gladdu ar dudalen 91. Rwy’n cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi siarad am fargen bosibl ar draws y sector ar gyfer y diwydiant dur, ond rydym yn dal i aros i weld yr egwyddor hon ar waith yn ymarferol mewn gwirionedd, ac mae angen inni fwrw ymlaen â hynny ar frys yn awr.

Buaswn yn cyferbynnu hyn â dull rhagweithiol Llywodraeth Cymru a’r cymorth a gafodd ei gydnabod yn uniongyrchol i mi mewn gwirionedd yn fy nghyfarfodydd rheolaidd â’r gweithlu a’r rheolwyr ar safle dur Shotton, safle sy’n broffidiol—ni allaf ddweud digon ei fod yn broffidiol—yn arloesol ac yn llwyddiannus, safle Tata yn Shotton, ac mae’n un agwedd ar ein sylfaen weithgynhyrchu uwch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sector blaenoriaeth sy’n rhan sylfaenol o unrhyw fargen dwf gogledd Cymru ac yn allweddol i’n heconomi ranbarthol.

Yn gysylltiedig â’r sectorau blaenoriaeth allweddol hyn, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud ein cysylltiadau trawsffiniol yn llawer mwy cystadleuol a deniadol. Rwy’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn ymgynghori y mis nesaf ar y gwelliannau mawr eu hangen a hirddisgwyliedig i’r A55 ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen hefyd at gynlluniau i allu symud ymlaen yn gyflym ar fetro gogledd Cymru.

Fel rhan o unrhyw fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru ac ar gyfer y rhanbarth, a strategaeth economaidd gyffredinol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, ac i Lywodraeth Cymru ddarparu’r ysgogiadau i ryddhau datblygu economaidd ar draws gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru, rhywbeth yr wyf wedi ymrwymo’n bersonol ac yn wleidyddol iddo.

I gloi, ar strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru sydd i ddod yn ddiweddarach yn y gwanwyn, hyderaf y bydd y strategaeth hon yn adlewyrchu ac yn cydnabod blaenoriaethau rhanbarthol a lefel o ymreolaeth. Byddaf yn cynnal fy nigwyddiad fy hun ar ddyfodol Sir y Fflint y mis nesaf er mwyn sicrhau bod dyheadau economaidd fy ardal yn dylanwadu ar strategaeth economaidd ein gwlad, a thrwy weithio rhynglywodraethol a chydweithredol gyda Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ein diwydiannau hanfodol a chydnabod amrywiaeth rhanbarthol a gwerth rhanddeiliaid a busnesau rhanbarthol, gallwn adeiladu economi newydd a all ragori ar ein potensial economaidd fel gwlad.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma i groesawu’r cyhoeddiad am strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Clywsom yn y sylwadau agoriadol gan Russell George am rai o fanylion y strategaeth honno, sy’n gosod addysg a sgiliau yn ganolog i’r economi, ac sy’n ailsefydlu rhyw gymaint o addysg dechnegol, a danbrisiwyd yn rhy hir, fel y soniodd David Melding yn y ddadl flaenorol. Yn amlwg, mae angen i ni wella sgiliau llythrennedd a rhifedd, ac mae llawer o bobl yn methu cyrraedd y trothwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sgil uchel yng Nghymru.

Yn ganolog i’r ddadl hon, mae’r angen am strategaeth ddiwydiannol i Gymru, a hynny cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwybod y bydd cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru yn elwa o £400 miliwn yn ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf o ganlyniad i ddatganiad yr hydref y llynedd, ond mae angen i hwn gael ei sianelu tuag at brosiectau cyfalaf. Yn hytrach na defnyddio hwn mewn modd ad hoc, credwn y buasai’n well cael strategaeth sy’n sail i’r gwariant hwn. Gwrandewais fel arfer ar sylwadau Adam Price yn gynharach, ac rwy’n derbyn rhai o’ch pwyntiau, Adam, ynglŷn â’r angen am ddimensiwn Cymreig ac ateb Cymreig i broblemau Cymreig—fel y dywedwch, dyna beth yw diben datganoli—ond nid wyf yn credu bod ceisio ynysu hynny oddi wrth strategaeth ehangach ar gyfer y DU i’w weld yn gwneud unrhyw synnwyr. Efallai ein bod eisiau gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth gogledd-de a chysylltiadau economaidd yng Nghymru—wrth gwrs ein bod i gyd eisiau hynny—ond ar yr un pryd mae’r cysylltiadau dwyrain-gorllewin wedi gwasanaethu Cymru’n dda iawn. Yr M4, yr A55—pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio, hwy yw prif wythiennau economi Cymru, a hynny ers amser hir, ac maent yn ein hintegreiddio ag economi ehangach, fel y nododd fy nghymydog, Dafydd Elis-Thomas, ychydig eiliadau’n ôl. Beth yw natur y ffin rhwng Lloegr a Chymru? A Lloegr a Chymru ydyw mewn gwirionedd, ac er ein bod yn ymdrechu i anelu tuag at Gymreictod arwahanol—ac mae pob un ohonom yn y Siambr yma i wneud hynny—mae’n rhaid inni gydnabod bod y cysylltiadau hynny yn bodoli o Gaerdydd i Fryste ac o ogledd Cymru draw i Lerpwl. Mae’r rheini yno, a byddant yn aros yno hyd nes y ceir dewis amgen ymarferol. Ac rwy’n meddwl bod pob un ohonom yn y Siambr hon yn dymuno gweld dewisiadau amgen sy’n gynyddol ymarferol. Nid ydym am i economi Cymru fod—. Rwy’n edrych ar Nathan Gill, sydd wedi dal fy llygad—nid yw ef am i economi Cymru fod yn ddibynnol ar yr economi Ewropeaidd. Nid ydym am i economi Cymru fod yn rhy ddibynnol ar unrhyw economi arall, ar wahân i’r fasnach sy’n angenrheidiol. Rydym eisiau economi gynhenid, ac un sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn mynd i’r afael â rhai o’r diffygion tanariannu a gawsom yn y gorffennol. Adam Price.

Fe ddywedoch mai un o’r problemau gyda’r map economaidd rhanbarthol arfaethedig o Gymru, drwy gynnwys yr ardaloedd mwy llewyrchus, er enghraifft Caerdydd gyda Blaenau’r Cymoedd mewn un rhanbarth, yw ei fod yn celu’n artiffisial lefel yr amddifadedd yn yr ardaloedd hynny, sy’n golygu na fyddem, o bosibl, o dan fframwaith polisi rhanbarthol yn y dyfodol, yn cael y lefel uchaf o gymorth datblygu. Dyna pam yr ail-luniasom y map ar gyfer cyllid cydgyfeirio i greu rhanbarth gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn hytrach na chael yr hen dde Cymru ddiwydiannol, lle nad oeddem yn cael y lefel uchaf o gymorth mewn gwirionedd.

Roeddech yn amlwg yn garedig iawn wrthyf yn fy nadl fer ar y ddinas-ranbarth yr wythnos diwethaf gan na wnaethoch leisio unrhyw un o’r pryderon hyn. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr a’r hyn a ddywedoch yn eich cyfraniad cynharach, Adam. Ac yn amlwg mae gennych broblemau mawr—. Wel, rydych yn meddwl y tu allan i’r blwch mewn perthynas â’r ddinas-ranbarth. Rwy’n meddwl bod pawb arall ar hyn o bryd yn dweud, ‘Onid y dinas-ranbarthau, y bargeinion dinesig ledled Cymru yw’r pethau gorau a fu ers amser hir?’ Nid ydynt yn berffaith; rydych yn iawn i ddweud bod yna rannau eraill o Gymru y mae angen inni feddwl amdanynt hefyd. Ond carwn ddweud, a mynd yn ôl at eich sylwadau cynharach, pan fo gennych wactod, mae angen i chi ei lenwi â rhywbeth, ac rwy’n meddwl bod y bargeinion dinesig hyn o leiaf yn denu buddsoddiad sylweddol i mewn; rydym yn edrych ar £1.2 biliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi’r fargen ddinesig yn ne-ddwyrain Cymru. Felly, rwy’n meddwl bod dweud yn syml nad yw hynny’n mynd i’r afael ag anghenion economi Cymru ac economi de Cymru yn anghywir. Credaf fod yn rhaid i chi gydnabod eu bod yn bwysig. Nid yw hynny’n dweud nad ydym yn cefnogi datblygu coridor Blaenau’r Cymoedd, ac nad ydym yn credu yn fy ardal i, yn sir Fynwy, mewn sicrhau bod yr economi wledig yno’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun hefyd. Wrth gwrs ein bod eisiau hynny, ond ar yr un pryd, rhaid i ni gydnabod hefyd, yn y rhan hon o’r byd, ac i mi a’m cymdogion ymhlith Aelodau’r Cynulliad a Mohammad Asghar yn ne-ddwyrain Cymru, fod economi de-ddwyrain Cymru yn mynd i gael ei hybu gan fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac rwy’n meddwl y bydd ynysu ardaloedd fel fy un i rhag hynny’n anghywir. Felly, rwy’n clywed yr hyn a ddywedoch.

Roedd yn braf eich clywed yn sôn am y cynllun gofodol yn gynharach, gyda llaw. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, mae wedi bod yn amser hir ers i’r gŵr â’r un enw ag ef sôn amdano yn y Siambr hon. Mae llawer o bethau da yn y cynllun gofodol, fel y nodwyd gennych, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y rheini’n cael eu hymgorffori mewn strategaeth. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, i gloi, oherwydd gallaf weld bod y Llywydd yn dymuno i mi i ddirwyn i ben—yn gyntaf ac yn bennaf, gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu strategaeth weithgynhyrchu gyflawn ar gyfer Cymru, strategaeth ddiwydiannol sy’n cyd-fynd â strategaeth y DU, ond ar yr un pryd, sy’n gwneud ei phethau ei hun—modelau ar ddarparu atebion Cymreig i broblemau Cymru.

Mae UKIP yn croesawu Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU, ‘Building our Industrial Strategy’. Rydym yn edrych ymlaen at gynllun Llywodraeth Cymru, y dylem ei gael ym mis Ebrill. Fe adleisiaf yr hyn a ddywedodd Russell George, a’r bobl eraill, ein bod yn gobeithio y bydd yn cyd-fynd â chynllun Llywodraeth y DU.

Nawr, rydym yn derbyn bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud tuag at ailgydbwyso’r economi ers 2010, ond ni ddylid diystyru’r gwahaniaethau yn y perfformiad economaidd rhwng gwahanol rannau o’r DU a Chymru. Achosodd y symud gan bartneriaeth Blair-Brown o sylfaen ddiwydiannol fawr i un sy’n seiliedig ar wasanaethau ariannol anghydbwysedd yn yr economi a bydd yn cymryd amser i ddadwneud yr anghydbwysedd hwnnw.

Mae’n ffaith sydd wedi cael ei derbyn ers amser maith fod gwendidau yn y seilwaith a chysylltedd yn gallu cyfyngu ar ardaloedd twf gyda chynhyrchiant is. Mae lefelau cymwysterau a sgiliau pobl yn amrywio’n sylweddol o un rhan o Gymru i’r llall, gan waethygu’r lefelau cynhyrchiant rhwng rhanbarthau. Nawr, rhaid inni dderbyn bod yna lawer iawn o gynnydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellodd Alun Davies yn gryno yn gynharach. Ond mae’n rhaid i ni nodi fod y Prif Weinidog wedi dweud yn y Senedd ddoe fod yn rhaid iddo droi at Lundain am staff, am nad oes gennym bersonél â’r sgiliau angenrheidiol yng Nghymru—’does bosibl nad yw hynny’n feirniadaeth ddamniol o 17 mlynedd o Lafur yn y Cynulliad hwn.

Mae problemau’n codi ynglŷn â chadw’r rhai sydd â’r sgiliau angenrheidiol, ac ni allwn fynd i’r afael â’r diffygion hyn, yn enwedig yn y sector sgiliau uwch, heb ehangu economi Cymru—

Un eiliad, Dave, ac fe wnaf wedyn wrth gwrs.

Dylai’r diwydiant dur chwarae rhan fawr wrth gadw ac ehangu sylfaen sgiliau o’r fath.

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych, felly, yn croesawu mewnbwn arian Ewropeaidd tuag at ddatblygu sgiliau, yn enwedig sgiliau lefel gradd Meistr a ddaeth drwy’r rhaglen honno? Erbyn hyn mae gennym lawer mwy o raddedigion a graddedigion Meistr o ganlyniad i’w buddsoddiad.

Wel, David, yn amlwg buaswn yn dadlau nad arian Ewropeaidd oedd hwnnw: arian Prydain yn dod yn ôl i ni oedd hwnnw, ar ôl iddynt gymryd rhywbeth fel 50 y cant ohono.

Fodd bynnag, fel y gwyddom yn rhy dda yng Nghymru, mae’r diwydiant dur yn dioddef o gostau ynni uwch o lawer na’i gystadleuwyr, wedi’u gwaethygu wrth gwrs gan yr ardollau amgylcheddol, ac mae’r rhain, ynghyd ag ardrethi busnes uchel, yn gwneud ein diwydiant dur yn llai cystadleuol. Mae cynhyrchiant dur yn y DU yn gyffredinol wedi crebachu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwyf am ailddatgan rhai pwyntiau a wnaeth Russell George mewn perthynas â chyflogaeth yn y diwydiant dur. Roedd 68,000 yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn 1997, gan ostwng i 31,000 yn 2010: colled o 37,000 o swyddi dur o dan Lywodraeth Lafur ac, fe nodaf, tra oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd. Wel, yn wir, mae’n siŵr fod y ffaith ein bod yn yr UE ynddi ei hun wedi cyfrannu at dranc o’r fath. Daeth Comisiynydd yr UE sy’n gyfrifol am bolisi cystadleuaeth, Margrethe Vestager, i gasgliad y llynedd ynglŷn â’r rheolau. Dywedodd hyn:

Mae gwledydd yr UE a’r Comisiwn wedi rhoi mesurau diogelwch llym ar waith yn erbyn cymorth gwladwriaethol i achub ac ailstrwythuro... cwmnïau mewn trafferth.

A yw’n cytuno â mi fod y bunt newydd gystadleuol wedi bod yn hwb enfawr i’r diwydiant dur ac yn rhan fawr o’r newid a welsom yn y rhagolygon ar gyfer Port Talbot?

Yn hollol. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn croesawu hynny. Rydym i gyd yn teimlo’n angerddol am y diwydiant dur a’r bobl y mae’n eu cyflogi yng Nghymru. Nid yw rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE ond yn caniatáu cymorth gwladwriaethol mewn meysydd fel gweithgareddau ymchwil neu leddfu costau ynni cwmnïau dur. Byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn. Diolch.

Yn amlwg rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr heddiw, ac yn bwysig i dynnu sylw at rai o’r cysylltiadau pwysig y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu sefydlu, a hefyd yn eu mapio ar ddechrau ei thymor gwaith, sef pum mlynedd. Credwch neu beidio, ar ddiwedd y tymor hwn, bydd 20 y cant o dymor y Cynulliad hwn eisoes wedi mynd. Mae’n anhygoel meddwl bod yr amser wedi mynd mor gyflym ac eto rydym yn amlwg yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei strategaeth ddiwydiannol ei hun, ac yn wir i egluro rhai o’r meysydd polisi yr oedd y Gweinidog blaenorol yn ymwneud â hwy pan oedd yn sôn am adfywio economaidd, ac yn bwysig i fapio’r cyfeiriad teithio a’r cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith ar gyfer economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Rwy’n derbyn yn llwyr y pwynt fod y Gweinidog wedi comisiynu adolygiad o’r holl gyrff sy’n ei gynghori wrth ddatblygu polisi a datblygu cymorth, ac rwy’n meddwl ei fod ef hyd yn oed wedi nodi bod pyramid o sefydliadau, oddeutu 46 i gyd rwy’n credu, o sefydliadau gwahanol yn bwydo i mewn i adran economi Llywodraeth Cymru yn unig. Ac fel y gwyddom, mae’r economi yn llawer mwy nag un adran yn unig. Addysg, dysgu gydol oes a sgiliau, iechyd, er enghraifft, a thrafnidiaeth, mae pentwr o sefydliadau mewn adrannau eraill—llywodraeth leol, dyna un arall—sydd angen eu cysylltu â’i gilydd, eu cloi at ei gilydd, i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar economi wrth symud ymlaen. Ac fel y gwelwn gyda chysyniad y fargen ddinesig sy’n cael ei gyflwyno ac sydd wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru a’i fabwysiadu’n gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, mae lefel y cymorth y gellir ei gasglu at ei gilydd mewn un pot pan fydd Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd, gyda busnesau annibynnol yn yr ardal, yn gallu bod yn hwb enfawr i ysgogi adfywiad economaidd.

Ond mae hwn yn fater a godais droeon gyda’r Gweinidog yn y Siambr, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ystyried hyn yn ei ymateb heddiw. Pan edrychwch ar y ffordd y mae adfywio a datblygu lleol o’r fath yn digwydd yn Lloegr, yn enwedig ar hyd clawdd Offa lle y mae gennych feiri lleol hynod o bwerus yn awr, ym Mryste, yn Birmingham, ym Manceinion ac yn Lerpwl, oni bai ein bod yn ymwneud yn gadarnhaol â hwy, mae yna her go iawn i’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru o ran denu mewnfuddsoddiad, yn amlwg, a chyfleoedd newydd i Gymru. Rwyf eto i glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithio’n gadarnhaol gyda’r drefn newydd honno o adfywio ac ailstrwythuro cefnogaeth i gymorth rhanbarthol yn Lloegr. Unwaith eto, yr hyn sy’n bwysig i Lywodraeth Cymru ei werthfawrogi yma yw’r prosiectau seilwaith mawr a fydd yn ysgogi llawer o gapasiti adfywio a chreu swyddi ledled Cymru.

Heddiw ddiwethaf, roeddwn yn darllen gan y ffederasiwn adeiladu, sy’n cyfeirio at dri phrosiect mawr—a gallai rhai pobl gwestiynu hyfywedd rhai o’r prosiectau hynny—HS2, Maes Awyr Heathrow, a Hinckley Point, y bydd y tri phrosiect ar eu pen eu hunain yn creu galw am 35,000 o swyddi adeiladu ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Mae hwnnw’n gyfle enfawr i’r sector adeiladu greu sylfaen sgiliau yn y cymunedau hynny lle yr adeiladir y prosiectau hyn a fydd yn para am genedlaethau. Ond yn amlwg, rhaid gweld y colegau a’r darparwyr sgiliau yn cydgysylltu â’r prosiectau mawr hyn i sicrhau bod y cyfleoedd yno. Fel y nododd Nick Ramsay yn gynharach, ac eraill a bod yn deg, yn natganiad yr hydref rhyddhawyd gwerth £430 miliwn ychwanegol o wariant cyfalaf i Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, a bydd hwnnw’n mynd yn bell tuag at weithredu llawer o’r prosiectau adeiladu mawr y buasem yn hoffi eu gweld yn creu cyfleoedd yma yng Nghymru.

Un o’r ymrwymiadau maniffesto y siaradodd Llywodraeth Cymru amdanynt yn etholiad y Cynulliad yn ddiweddar oedd metro gogledd Cymru—tudalen 19; y Gweinidog ei hun a ysgrifennodd y maniffesto. Ond ers y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, clywaf bellach nad metro gogledd Cymru yw’r metro hwnnw—oherwydd mae’r maniffesto yn amlwg yn sôn am fetro gogledd Cymru—ond yn awr sonnir am system fetro gogledd-ddwyrain Cymru. Felly, mae eisoes wedi crebachu o ran ei uchelgais, neu efallai y gallai’r Gweinidog ein goleuo y gallai hwnnw fod wedi bod yn gamgymeriad. Oherwydd y tro diwethaf i mi edrych—.

A gaf fi eich helpu eto ar hanes a datblygiad trafnidiaeth yn y gogledd? Dechreuodd y cyfan o’r dwyrain a symud i’r gorllewin.

Nid wyf yn amau hynny. Ond os darllenwch y maniffesto, fel y nodais, mae’r maniffesto yn sôn am system fetro gogledd Cymru, ac yn awr mae’n ymddangos bod polisi’r Llywodraeth wedi symud yn gadarn i aros gyda’r dwyrain ac anghofio am y gorllewin. Fel y gwyddom, yn rhan orllewinol gogledd Cymru mae gennym y lefelau isaf o werth ychwanegol gros sydd i’w gweld yng Nghymru—ar Ynys Môn, er enghraifft. Un peth y mae Llywodraethau Cymru yn olynol wedi methu ei wneud yw codi lefelau gwerth ychwanegol gros ar draws Cymru ac yn bwysig, cyflog mynd adref ar draws Cymru, sef y lefelau isaf ledled y Deyrnas Unedig. Bydd datblygu economaidd, hyfforddiant a sgiliau yn uwchraddio’r gweithlu, yn uwchraddio’r cyfleoedd gwaith i godi’r lefelau cyflog, yn codi’r lefelau gwerth ychwanegol gros, fel ein bod yn cael mwy o arian i gylchredeg o amgylch economi domestig Cymru i greu cyfleoedd parhaus ar gyfer rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.

Dyna’r her i’r Gweinidog hwn a’r Llywodraeth hon, ar ddechrau ei thymor gwaith—mapio ei gweledigaeth yn glir ar gyfer ble y mae am fod ar ddiwedd y tymor gwaith hwn. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, nid wyf wedi clywed dim hyd yn hyn sy’n fy argyhoeddi y bydd rhai o gamweddau gweinyddiaethau blaenorol yn cael eu cywiro gan y Gweinidog hwn a’r Llywodraeth hon.

Rwy’n cydnabod pwysigrwydd bargen ddinesig Caerdydd a chyhyd â’n bod yn cael y cysylltedd drwy’r metro, rwy’n siwr y bydd yn ffordd wych o gysylltu Sir Fynwy â Phen-y-bont ar Ogwr, a’r Rhondda â’n prifddinas. Ond heddiw, roeddwn eisiau siarad am rywbeth sy’n fwy sylfaenol i strategaeth ddiwydiannol y DU a strategaeth ddiwydiannol Cymru, sef awtomeiddio, mater a grybwyllir yn betrus iawn yn y Papur Gwyrdd ar strategaeth ddiwydiannol y DU. Mae’n sôn am gyflymder cynyddol newid technolegol, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i fwy o bobl ailhyfforddi, a’r ffaith eu bod yn mynd i fuddsoddi er mwyn cefnogi roboteg a deallusrwydd artiffisial. Ond nid yw hyn mewn gwirionedd yn dangos graddau’r newid sy’n mynd i fod yn ofynnol, gan gwmnïau yn ogystal â’r Llywodraeth. Roeddwn yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol ystyried beth yn union mae’n ei olygu.

Dywedodd yr Arlywydd Kennedy mai her ddomestig fawr y 1960au oedd cynnal gyflogaeth lawn ar adeg pan oedd awtomeiddio’n cymryd lle dynion. Roedd hyn ar adeg pan oedd cyfrifiaduron ond yn dechrau ymddangos mewn swyddfeydd, a robotiaid ar lawr y ffatri. Yn wir, gallaf gofio trafod, yn y 1970au cynnar, beth y byddem yn ei wneud gyda’r holl amser hamdden ychwanegol a gaem o ganlyniad i gyfrifiaduron. A ydych yn cofio hynny? Beth bynnag, nid felly y bu, yn sicr. Ond heddiw, buom yn edrych ar dri adroddiad gwahanol, pob un ohonynt yn cadarnhau bod tua thraean o swyddi presennol y DU yn debygol o gael eu hawtomeiddio yn yr 20 mlynedd nesaf. Mae Deloitte wedi tynnu sylw at y ffaith fod swyddi pobl sy’n ennill £30,000 y flwyddyn bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwneud gan beiriannau na swyddi sy’n talu £100,000. Er ein bod yn deall yn dda sut y mae peiriannau’n cymryd lle pobl, efallai nad ydym yn deall maint a chwmpas y newidiadau sydd i ddod eto, ac yn sicr, nid yw’n cael ei adlewyrchu yn y Papur Gwyrdd ar strategaeth ddiwydiannol y DU.

Y swyddi sy’n wynebu’r perygl lleiaf yn sgil cyfrifiaduro yw swyddi uwch-reolwyr, swyddi ym maes gwasanaethau ariannol, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, peirianneg, addysg, gwasanaethau cyfreithiol, gwasanaethau cymunedol, y celfyddydau a’r cyfryngau, a gofal iechyd—swyddi sydd angen sgiliau pobl a gallu ymenyddol i wneud penderfyniadau pa un a ddylid gwneud un peth neu’r llall. Y swyddi sy’n amlwg mewn perygl yw’r rhai sy’n gysylltiedig â gwaith swyddfa a chymorth gweinyddol, gwerthiant a gwasanaethau, trafnidiaeth, gwasanaethau adeiladu ac echdynnu. Rydym eisoes yn gweld hynny. Os ewch ar dollffordd yr M4 o Fryste, nid oes fawr ddim pobl yn casglu’r tollau. Caiff y cyfan ei wneud gan beiriannau. Bydd llai a llai o dasgau yn galw am labrwr yn unig, a mwy a mwy o dasgau lle y bydd yn rhaid cymryd yn ganiataol fod angen gallu meddyliol.

Ond yn ddiddorol, mae modd awtomeiddio tasgau gwybyddol yn awr hyd yn oed. Caiff hyn ei drafod mewn astudiaeth gan Brifysgol Rhydychen ar effaith technoleg yn y dyfodol. Mae’n debyg fod modd i gyfrifiadur bellach roi cyngor radioleg arbenigol sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan radiolegwyr tra hyfforddedig, diolch i ddatblygiadau dysgu dwfn a mathau eraill o ddeallusrwydd artiffisial. Hoffwn wybod llawer mwy am hynny a chywirdeb dehongli adroddiadau radioleg, sydd, yn amlwg, yn allweddol iawn. Ond mae’n dweud wrthych pa mor bell y mae awtomeiddio’n mynd o ran deallusrwydd artiffisial. Mewn dadl gynharach, buom yn siarad am ddata mawr yn cael ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth, a gallu ffermwyr i archwilio’n union pa ddarn o laswellt y byddai’n fwyaf proffidiol iddynt roi’r da byw arno a/neu pa bethau i’w tyfu i feithrin ansawdd y glaswellt. Ond mae hyn yn rhywbeth sy’n mynd i effeithio ar bob swydd.

Rwy’n meddwl mai’r mater allweddol i ni yw pwy sy’n mynd i gael budd, oherwydd os ydym yn mynd i weld swyddi cyffredinol yn cael eu gwneud, er enghraifft, yn y sector cyhoeddus, pethau fel—rhaid i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd fewnbynnu data ar allbynnau eu gwaith, ac mae’n waith pwysig iawn, ond mae’n eithaf cyffredinol, ac os gallwn gael cyfrifiaduron i wneud y gwaith hwnnw drostynt, yn ddamcaniaethol, gallai eu rhyddhau i ddarparu mwy o ofal. Ond pwy sy’n mynd i elwa o’r holl awtomeiddio? A yw’n mynd i fod yn ffordd o wella ansawdd gwasanaethau gofal, neu a yw’n mynd i fod yn esgus arall eto i Lywodraeth y DU dorri gwariant cyhoeddus hyd yn oed yn fwy nag y maent yn ei wneud yn barod? Ai ni y bobl neu’r cwmnïau trawswladol sy’n fwy na llawer o wladwriaethau cenedlaethol, ac sy’n teimlo’n gynyddol eu bod y tu hwnt i’r gyfraith, yw’r rhai sy’n mynd i gael budd? Mae hyn yn rhywbeth sy’n gwbl allweddol i ni fel deddfwyr.

Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw, a diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy’n cymeradwyo gwelliant Plaid Cymru, a chredaf ei fod yn amserol iawn yn wir. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi datgan ei fod am i’r gogledd fod yn rhan o Bwerdy Gogledd Lloegr. Yr haf diwethaf, dywedodd hefyd ei fod am i ganolbarth Cymru ymuno â phwerdy yng nghanolbarth Lloegr. Ceir cofnod o’r Prif Weinidog yn y Siambr hon yn diystyru’r syniad o fylchau twf economaidd yn y Cymoedd ac yng Ngwent. Felly, yr hyn sydd gennym yw patrwm economaidd annigonol iawn gan y Llywodraeth hon, o ran daearyddiaeth economaidd o leiaf.

Heb gynllun economaidd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru—rwy’n ategu’r pryderon a fynegwyd gan arweinydd y grŵp Ceidwadol ar yr oedi wrth lunio cynllun economaidd i Gymru. Heb gynllun o’r fath, cawn ein gadael i osod darnau at ei gilydd o’r hyn a allai fod yn gynllun o bosibl. Yn y bôn, o’r hyn a glywsom hyd yn hyn, yr hyn a olyga yw bod cymunedau yn y de, o fewn cwmpas penodol i Gaerdydd ac Abertawe, yn dibynnu ar effaith o’r brig i lawr o’r canolfannau hynny, tra bod cymunedau yng ngogledd a chanolbarth Cymru yn gobeithio am effaith o’r brig i lawr o ganolbarth Lloegr a Phwerdy Gogledd Lloegr: effaith o’r brig i lawr o ganol y ddinas ar gyfer y de, effaith o’r brig i lawr drawsffiniol ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Bydd y ffaith na fydd ein hanfod gwleidyddol felly’n cydffinio â’n hanfod economaidd yn arwain, rwy’n siŵr, at ddiffyg adfywio, diffyg cyfle a bron yn sicr at ddiffyg atebolrwydd gwleidyddol. Yn lle hynny, dylai’r Llywodraeth ystyried pa arfer gorau sydd yna ar lefel ryngwladol ar gyfer gwledydd tebyg i Gymru yn ddaearyddol, gydag etifeddiaeth ddiwydiannol debyg a phroffil gwledig sylweddol. Yn yr ystyr honno, byddwn yn awgrymu y byddai’n well i ni edrych ar y cydweithredu trawsffiniol a’r cydweithredu economaidd a welwn mewn llefydd fel Malmö a Copenhagen—llawer gwell a llawer mwy defnyddiol, yn fy marn i—a allai gyflawni adfywio economaidd teg. Rwy’n ildio.

A fuasech yn cytuno mewn gwirionedd fod mewnforio strategaeth economaidd yn seiliedig ar y dinas-ranbarthau yn arbennig o ryfedd yn achos Cymru, y mae lefel ei phoblogaeth—neu’r gyfran o’i phoblogaeth—sy’n byw mewn dinasoedd ymhlith yr isaf o blith unrhyw wlad yng ngorllewin Ewrop fwy neu lai?

Buaswn yn cytuno â hynny wrth gwrs. Nid oes dim o’i le ar y cysyniad o dwf economaidd rhanbarthol, na’r modelau dinas-ranbarth yn wir. Dengys adroddiadau gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, lle y mae dinas-ranbarthau’n gweithio, a lle y mae datblygu rhanbarthol yn gweithio—mae’n ymwneud â sut rydych yn mesur yr ardaloedd ymylol yn ôl y canolfannau poblogaeth. O’r hyn a glywsom hyd yma gan y Llywodraeth hon, rwy’n ofni bod llawer i bryderu yn ei gylch yn ardaloedd ymylol, fel y’u gelwir, y dinas-ranbarthau arfaethedig yn y modelau cyfredol.

O ran y ffactorau allweddol a nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac eraill sy’n ysgogi llwyddiant rhanbarthol, maent yn cynnwys: annog màs critigol neu feddwl yn rhanbarthol er mwyn cystadlu’n fyd-eang—dyna lle y mae seilwaith digidol yn hollbwysig, rhywbeth y bydd Aelodau yn y gogledd, rwy’n siŵr, yn awyddus iawn i dynnu sylw ato; sbarduno arloesedd a all drawsnewid economi rhanbarth—dyma lle y mae partneriaethau rhwng addysg uwch a’r sector preifat yn gwbl hanfodol; anelu’n benodol tuag at gynyddu cyfleoedd gwaith ac incwm y pen mewn rhanbarth hyd at lefel sydd o leiaf yn gydradd â’r wlad neu’r genedl gyfan—rwy’n credu y dylai hynny fod yn amcan canolog i’r Llywodraeth hon ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar lefel ranbarthol; cryfhau gallu pobl i gystadlu mewn economi fyd-eang—dyma lle y gallai strategaeth addysg bellach fod yn ddefnyddiol; cyflwyno prentisiaethau priodol ar draws y wlad; a datblygu a gwella seilwaith rhanbarthol i wella cystadleurwydd economaidd—mae hynny’n golygu system fetro sy’n cwmpasu pob rhan o’r rhanbarth, nid un cornel ohono’n unig, er enghraifft.

Bydd rhai Aelodau’n gwybod am fy niddordeb penodol yn y syniad o greu clystyrau twf economaidd dynodedig ar draws y wlad. Un o fanteision mawr cael democratiaeth ifanc mewn hen genedl fel ein hun ni yw y gallwn ddewis adeiladu ein cenedl o’r gwaelod i fyny a phenderfynu cynnwys ailddosbarthu gwleidyddol ac economaidd yn rhan o’n cynlluniau os dewiswn wneud hynny. Felly, mae dynodi trefi a dinasoedd y tu allan i’r brifddinas wedi meithrin arwyddocâd cenedlaethol, yn arbennig, ac mae lleoli sefydliadau cyhoeddus cyfatebol ynddynt yn rhoi cyfran i bob dinesydd yn ein stori lwyddiant genedlaethol a gall fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd lleol a rhanbarthol.

Nid yw effaith o’r brig i lawr yn gweithio; mae effaith o’r gwaelod i’r brig yn gweithio. Buaswn yn awgrymu i Ysgrifennydd Cabinet y dylai’r rhain ffurfio egwyddorion allweddol gweledigaeth economaidd genedlaethol a rhanbarthol ar gyfer ein gwlad, pan, neu os caiff cynllun economaidd ei gyhoeddi ar gyfer y wlad hon yn y pen draw.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:48:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon i’r Siambr mewn wythnos pan gefais y pleser eisoes o gyhoeddi mwy na 500 o swyddi newydd drwy ymyrraeth y Llywodraeth? Mae’r Papur Gwyrdd a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU yn sicr yn ddiddorol. Mae’r Prif Weinidog ei hun yn darparu cyflwyniad beiddgar iawn i’r ddogfen a’r polisi newydd. Wrth sôn am agwedd newydd tuag at lywodraeth, mae’n dweud,

nid camu’n ôl yn unig a gadael i fusnes fwrw ymlaen â’r gwaith, ond camu i fyny i rôl newydd, weithgar sy’n cefnogi busnesau ac yn sicrhau bod mwy o bobl ym mhob cwr o’r wlad yn rhannu manteision ei llwyddiant.

Rwy’n credu bod hyn yn bwysig. Mae’n dangos newid athronyddol o bwys yn y Llywodraeth Geidwadol, ac mae’n cydnabod bod ymyrraeth weithredol yn yr economi yn creu economïau cryfach ac economïau mwy cytbwys. Wrth i mi eistedd yn fy swyddfa’n darllen y paragraffau hynny o’r cyflwyniad i’r polisi, roeddwn yn meddwl tybed beth fyddai disgyblion economeg y farchnad rydd, megis Keith Joseph, wedi ei wneud o’r dröedigaeth a welsom yn awr gan Lywodraeth y DU. Rwy’n hoffi bod yn golegaidd, ac felly mae’n rhoi pleser mawr i mi allu dweud ein bod i gyd yn ymyraethwyr yn awr mewn gwirionedd. Fe ddywedaf hefyd fod yna lawer yn y Papur Gwyrdd y gallaf gytuno ag ef. Mae blaenoriaethu gweithgarwch sy’n cefnogi busnes a masnach, gwella seilwaith a gwella amodau i gefnogi twf cynaliadwy yn feysydd polisi yr wyf yn fwy na pharod i’w harddel. Ond rwyf eisiau gwneud dau bwynt pwysig iawn. Mae’r cyntaf yn ymwneud â gweithredoedd yn bwysicach na geiriau. Mae’r Papur Gwyrdd yn sôn yn agored iawn am y cyfleoedd i ysgogi’r economi mewn sectorau strategol bwysig. Mae’n sôn am fargen sector bosibl ar gyfer dur—partneriaeth newydd rhwng busnesau dur, y gadwyn gyflenwi, sefydliadau ymchwil a’r Llywodraeth sy’n gallu cefnogi’r sector dur i dyfu a ffynnu yn y dyfodol. Mae fy ymateb yn un cadarnhaol. Mae angen dybryd ar y sector dur ar draws y DU am gymorth y gall llywodraeth y DU ei gynnig ar raddfa na all neb ond Llywodraeth y DU ei gynnig. Ond mae’n drueni bod y 12 mis y mae wedi cymryd i Lywodraeth y DU ddod i’r casgliad hwn yr un 12 mis â phan oedd y sector dur fwyaf o angen ymyrraeth Llywodraeth. Fel y dywedodd Hannah Blythyn yn gywir, mae Tata, yr undebau a’r gweithlu yn cydnabod mai’r unig reswm ein bod wedi gallu osgoi trychineb yn y sector dur yw oherwydd ymyriadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y symud tuag at ymyriadaeth gan Lywodraeth y DU yn cael ei wireddu ar ffurf camau gweithredu yn ogystal â geiriau.

Mae pwynt pwysig arall yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â datganoli. Rwy’n meddwl mai un gwendid allweddol yn y Papur Gwyrdd yw diffyg unrhyw ddealltwriaeth gydlynol o’r ffordd y mae’r broses o lunio polisi economaidd wedi newid yn y DU dros y ddau ddegawd diwethaf. Nawr, bydd llawer o lwyddiant Brexit, fel y buom yn ei archwilio ddoe, rwy’n credu, yn cael ei benderfynu yn ôl pa mor effeithiol y mae Llywodraeth y DU yn ymwneud â, yn ymagor i—ac yn ymgysylltu’n ystyrlon â—gweinyddiaethau datganoledig ac ardaloedd rhanbarthol ynglŷn â’r penderfyniadau a fydd yn effeithio arnom i gyd. Felly hefyd bydd llwyddiant neu fethiant y strategaeth ddiwydiannol hon yn dibynnu ar faint y mae Llywodraeth y DU am ei wneud i Gymru, a faint y mae Llywodraeth y DU am ei wneud gyda Chymru. Nawr, fel y mae gwelliant y Llywodraeth Cymru yn ei egluro, ac fel y dywedais wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, fy hun, mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio ar y cyd ac yn ystyrlon â Llywodraeth y DU ar feysydd o ddiddordeb diwydiannol a rennir ac sy’n gorgyffwrdd. Fel y dywedais eisoes, yn ddiweddarach yn y gwanwyn, byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth drawslywodraethol i ddatblygu economi Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddwy ymagwedd yn gweithio dros Gymru, ei heconomi a’i busnesau. Cytunaf yn llwyr yn hyn o beth â chyfraniad gwych Nick Ramsay, ond hoffwn nodi un peth yn glir iawn yma yn awr: mae’n rhaid i’r bartneriaeth rhyngom a Llywodraeth y DU fod yn seiliedig ar barch a statws cyfartal. Rhaid iddi gydnabod a pharchu’r setliad datganoli.

Un ardal lle y ceir partneriaeth bwysig ac effeithiol yw gogledd Cymru. Er clod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i dîm gweinidogol, rwy’n credu, mae wedi dangos yr hyn y credaf ei fod yn barodrwydd drwy fargen dwf gogledd Cymru i weithio gyda’n gilydd mewn ffordd all fod o fudd i’r rhanbarth drwy fanteisio ar yr economi drawsffiniol. Mae gwaith ar gam cynnar ond mae’r cysylltiadau sydd wedi’u datblygu hyd yn hyn wedi bod yn galonogol. Unwaith eto, fodd bynnag, mae’n ymwneud â chamau gweithredu, nid geiriau. Trwy’r fargen dwf, mae gan Lywodraeth y DU blatfform perffaith arall i arddangos y polisi diwydiannol mwy cyhyrog y mae’n sôn yn gynnes amdano yn y Papur Gwyrdd.

Edrychaf ymlaen yn y misoedd nesaf at weld cynnydd gwirioneddol ar drydaneiddio prif reilffordd y gogledd, mwy o gymorth gweithredol i Wylfa Newydd a gweledigaeth glir ar gyfer sut y gall y rhanbarth gysylltu â Phwerdy Gogledd Lloegr a Phwerdy Canolbarth Lloegr fel arweinwyr allweddol economïau rhanbarthol deinamig. Nododd Russell George yr angen am fwy o fuddsoddi mewn technoleg yn rhanbarthau Lloegr. Yng ngogledd Cymru, lle y soniodd yn benodol am yr angen i fuddsoddi, rydym wedi cyhoeddi bod canolfan ymchwil uwch-weithgynhyrchu yn mynd i gael ei sefydlu i gyflawni’r math hwnnw o arloesedd ac ymchwil. Hefyd, rydym yn buddsoddi ym mharc gwyddoniaeth Menai i’r un diben. Rydym yn dangos, gydag arian parod, ein penderfyniad i fuddsoddi yng ngogledd Cymru. Edrychwn ymlaen at weld Llywodraeth y DU yn gwneud yr un peth.

Nawr, hoffwn fod yn hael tuag at fy nghyd-Aelodau Ceidwadol—[Torri ar draws.] Na. Rwyf eisiau bod yn hael tuag at fy nghyd-Aelodau Ceidwadol, felly yn y fan hon rwyf am ddiolch o galon i Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth, Chris Grayling, a dalodd deyrnged wenieithus iawn yr wythnos diwethaf yn Nhŷ’r Cyffredin i ymyrraeth bwysig a wnaeth Llywodraeth Cymru yn economi Cymru yn y blynyddoedd diwethaf pan ganmolodd lwyddiant mawr Maes Awyr Caerdydd ers iddo gael ei brynu gennym yn 2013. Dywedodd hyn:

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr, ac rwy’n talu teyrnged i bawb sy’n gysylltiedig â hynny.

Gyda niferoedd teithwyr yn uwch nag erioed, llwybrau newydd a thwf parhaus, mae’r Ysgrifennydd trafnidiaeth yn hollol gywir i ddathlu’r polisi ymyraethol a fabwysiadwyd gennym ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ac economi Cymru.

Felly, mae fy neges i Lywodraeth y DU yn y ddadl hon yn un syml: fe weithiwn gyda chi, ond ar sail gyfartal, a lle y mae Llywodraeth y DU yn dangos parodrwydd newydd i fuddsoddi yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn o allu cloi’r ddadl hon, a hoffwn ddiolch i Russell am ei hagor yn y ffordd y gwnaeth, oherwydd rwy’n credu, Russell George, eich bod wedi paentio cynfas eang iawn o anghenion economaidd y wlad. Yn briodol, fe wnaethoch nodi twf Pwerdy Gogledd Lloegr a’r cyfleoedd ar gyfer gogledd Cymru a bargen dwf gogledd Cymru. Fodd bynnag, er i chi wneud hynny, rydym wedi dweud na allwn gefnogi gwelliant Plaid Cymru oherwydd, yn dechnegol, er bod popeth a ddywedwch yn eich gwelliant yn hollol gywir, canolbwyntio ar ogledd Cymru yn unig a wnaethoch. Steffan Lewis, roeddwn yn cytuno â llawer o’ch cyfraniad, ac fe siaradoch am batrymau economaidd gwael, fe siaradoch am yr effaith o’r brig i lawr nad yw’n gweithio, ond yn bennaf oll, fe siaradoch mewn gwirionedd am beidio â chodi neu beidio â gadael ein hardaloedd ymylol ar ôl. Eto i gyd, ar un ardal yn unig y mae eich gwelliant yn canolbwyntio, a hoffwn eich atgoffa: mae gennym ganolbarth Cymru ac mae gennym orllewin Cymru.

Felly, Adam Price, mewn eiliad rwy’n mynd i fynd drwy’r hyn yw ein cynllun ar gyfer datblygu twf economaidd yng Nghymru, gan ei bod yn amlwg nad oeddech yn gwrando’n astud iawn. Ond cyn i mi wneud hynny, hoffwn fynd i’r afael â sylw a wnaed gan David Rees a gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â dur. Rwy’n gresynu’n fawr at y ffaith fod y ddau ohonoch wedi codi mewn gwahanol ffyrdd a chan ddefnyddio tôn wahanol i ddweud nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud dim byd o gwbl i gefnogi’r diwydiant dur—[Torri ar draws.] Peidiwch â dechrau neidio ar eich traed. Chi yw brenin yr ymyriadau, ac nid yw’n digwydd heddiw. Gadewch i mi fod yn glir: mae Llywodraeth San Steffan wedi sefydlu cyngor dur ymroddedig i weithio gyda’r holl randdeiliaid allweddol i archwilio’r camau gweithredu y gall y diwydiant a’r llywodraeth eu rhoi ar waith. Maent eisoes wedi talu dros £133 miliwn—[Torri ar draws.]—na wnaf—i’r sector dur yn iawndal am gost yr ynni adnewyddadwy a’r polisïau newid yn yr hinsawdd. Maent eisoes wedi sicrhau hyblygrwydd o ran gweithredu rheoliadau gollyngiadau’r UE. Maent wedi pwyso’n llwyddiannus am gyflwyno offerynnau diogelu masnach i ddiogelu’r dur y mae’r DU yn ei gynhyrchu rhag dur wedi’i ddympio’n annheg. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae hon yn broblem fyd-eang, ac maent wedi rhoi camau ar waith. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pan oeddech yn siarad mor afieithus am Chris Grayling yn dweud pa mor wych yr oeddech i Faes Awyr Caerdydd, ac roeddech yn dweud hynny mewn ysbryd o haelioni, buaswn yn eich herio i ddangos yr un ysbryd hael a chydnabod yr hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi helpu i’w wneud dros y diwydiant dur.

Ken Skates a gododd—

Rwy’n cymryd, felly, fod yr Aelod yn hyderus fod Llywodraeth y DU wedi gwneud popeth y gallai ei wneud yn ystod y 18 mis diwethaf dros y sector dur yng Nghymru—popeth y gallai fod wedi’i wneud.

Mewn gwirionedd ni allaf ddweud wrthych a yw’n bopeth, oherwydd pwy a ŵyr? Yn yr un modd, rydych chi’n bendant heb wneud popeth y gallech fod wedi ei wneud. Ond gadewch i ni fod yn glir: beth sydd gennym? Mae gennym ganlyniad sy’n diogelu diwydiant gwerthfawr i Gymru. Mae gennym ganlyniad a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i fuddsoddiad enfawr ddigwydd yn Tata Steel ac yn y diwydiant dur yng Nghymru, a dyna beth rydym ei eisiau—canlyniadau. Canlyniadau, yn anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, yw’r hyn nad ydym yn ei weld gennych chi. Rydym yn dal i aros am y gwanwyn i weld beth yw eich strategaeth ddiwydiannol, a’r cyfan y gofynnwn i chi ei wneud yw nodi’r ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi arwain y ffordd. Maent wedi cyflwyno—er gwell, er gwaeth, i ennyn sylwadau, i sicrhau gwelliant—strategaeth ar gyfer y DU gyfan y gallwn i gyd edrych arni a gweld sut y gallwn fynd â hi, ei symud drwy Gymru, a helpu i ysgogi ein heconomi.

Oherwydd yr hyn sydd ei angen arnom, Adam Price, yw ymchwil a datblygu. Mae arnom angen addysg a sgiliau. Mae arnom angen cefnogaeth i fwyafrif helaeth o’r busnesau yn ein gwlad, gyda llawer ohonynt yn y sectorau bach a chanolig eu maint. Mae’n rhaid i ni ledaenu’r twf economaidd teg y mae Steffan Lewis yn siarad amdano o hyd, a hynny’n briodol. Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol gan nad oes rhaid iddo fyw yn yr ardaloedd traddodiadol. Mae angen diwydiannau newydd arnom.

Jenny Rathbone, rwy’n derbyn y pryderon a’r gofidiau ynglŷn ag awtomeiddio a beth y gallai awtomeiddio ei wneud i ddiwydiannau wrth iddo fynd yn ei flaen. Ond dyma ni, rydym wedi’n dal mewn magl, gan nad yw awtomeiddio yn mynd i ddiflannu. Dyma ffordd y byd. Mae eich plant chi, fy mhlant i, a’n hwyrion yn mynd i fyw mewn byd mor wahanol i’r un yr ydym yn byw ynddo. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i’r busnesau newydd hynny, eu hannog i dyfu mewn ardaloedd lle y mae pobl yn byw, lle y mae pobl eisiau byw, gwella eu sgiliau ac edrych ar ffyrdd gwahanol o allu gwneud arian, ennill cyflogau, prynu ein cartrefi, gofalu am ein teuluoedd a byw bywyd da. Ond nid yw awtomeiddio’n mynd i ddiflannu am eich bod yn dymuno i hynny ddigwydd.

Mae rhai pwyntiau da iawn yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Rwy’n hoffi cronfa her y strategaeth ddiwydiannol. Credaf fod honno mor gadarnhaol. Bydd yn rhoi cyfle i gwmnïau yn y DU fanteisio ar ein cryfderau mewn pethau fel biotechnoleg ac ynni gwyrdd. Rwy’n hoffi’r ffaith eu bod yn mynd i edrych ar ostyngiadau treth i bobl sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Gadewch i ni ddefnyddio peth o’r arian mawr sydd gan rai o’r bobl gyfoethog hyn i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu a helpu i dyfu’r cymunedau sydd eu hangen arnom.

Eto i gyd, rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, nad wyf yn gweld bod Llywodraeth Cymru wedi dangos yr un lefelau o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu. Cafwyd toriadau mawr yn y llinellau cyllideb o ran cyllid i adnoddau arloesi busnes. Cafwyd toriadau enfawr mewn canolfannau arloesi a llinellau cyllideb cyfleuster ymchwil a datblygu. Ac un elfen yn unig yw ymchwil a datblygu, wrth gwrs, o’r broses o gefnogi strategaeth ddiwydiannol lwyddiannus.

Addysg a hyfforddiant—pwnc sy’n agos at galonnau’r rhan fwyaf ohonom. Rydym yn siarad am yr angen i wella sgiliau ein pobl. Nid wyf yn mynd i ailadrodd y problemau, yr heriau a’r siomedigaethau sydd gennym yn y maes yn y wlad hon, ond mae’n rhaid i ni wneud yn well, gan fod 72 y cant o fusnesau Cymru yn profi anawsterau wrth recriwtio’r staff cywir—72 y cant—ac mae 61 y cant o fusnesau Cymru yn ofni na fyddant yn gallu recriwtio digon o weithwyr medrus iawn i ateb y galw presennol ac i gefnogi twf pellach. Os na allwn gefnogi twf pellach, sut rydym yn mynd i dyfu ein heconomi? Dyna’r allwedd hanfodol sy’n dal ar goll yma yng Nghymru. Rwy’n eich herio, Ysgrifennydd y Cabinet: mae angen i chi fod yn fwy uchelgeisiol o ran cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint. Rwy’n dweud wrthych nad yw’r modd yr ydych yn bwnglera ardrethi busnes yn ddigon da. Rhyddhewch gyllid. Pwyswch ar y banciau.

Mae’r Papur Gwyn yn sôn yn egniol am yrru’r economi yn ei blaen. Rhaid i fusnesau, cyfredol a darpar fusnesau, aros tan y gwanwyn. Ac mae hyn yn digwydd yng nghyd-destun y ffaith fod Cymru’n llusgo cymaint ar ôl y DU o ran gwerth ychwanegol gros. Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn ffordd ymlaen gyda’r nod o wella safonau byw ym mhob rhan o’r DU. Mae’n ffordd ymlaen i sicrhau buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith. Mae’n ffordd ymlaen i sicrhau buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu a gwyddoniaeth. Ac mae’n ffordd ymlaen i gefnogi twf busnes. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n awgrymu eich bod yn dechrau cerdded yn eich blaen yn lle mynd am yn ôl o hyd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

And that brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will move immediately to voting time.

9. 8. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar gynigion deddfwriaethol Aelodau. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, 17 yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 3, Ymatal 17.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6222.

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg bellach, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, yn erbyn 35, ac mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 18, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6229.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 1, ac, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6229.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 35, Yn erbyn 19, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6229.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6229 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.

3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru.

4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru.

6. Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6229 fel y’i diwygiwyd: O blaid 37, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6229 fel y’i diwygiwyd.

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddatblygu economaidd, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 37 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 17, Yn erbyn 37, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6232.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gynigiwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 45 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 9, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6232.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6232.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6232 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi.

2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf.

3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o bartneriaeth gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol, gan barchu'n llwyr y setliad datganoli.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6232 fel y’i diwygiwyd: O blaid 28, Yn erbyn 25, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6232 fel y’i diwygiwyd.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl fer, ac mae’r ddadl fer yn enw Lynne Neagle. Os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel—‘quietly, quickly’.

10. 9. Dadl Fer: Meithrin Gwydnwch Emosiynol yn ein Plant a Phobl Ifanc

Rwy’n galw, felly, ar Lynne Neagle i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Lynne Neagle.

Diolch i chi, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddangos fideo byr, os gwelwch yn dda.

Dangoswyd DVD. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Diolch. Rwy’n gwybod bod rhai o’r Aelodau a fynychodd lansiad yr adroddiad ‘Cyflwr Iechyd Plant’ ar gyfer 2017 a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, wedi gweld y fideo, ond roeddwn yn credu ei bod yn sicr yn werth ei dangos yn ehangach. Hoffwn ddiolch i Naomi Lea a sefydliad Fixers am ganiatáu i ni ddangos y ffilm heddiw, ffilm o’r enw ‘Spot the Signs’, ac mewn ffordd syml iawn ond effeithiol, mae’n annog pob un ohonom i ofyn i ni ein hunain: a fuasem yn adnabod yr arwyddion pe baem yn eu gweld?

Felly, croesawaf y cyfle heddiw i siarad am bwnc rwy’n teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch ac un sy’n hanfodol bwysig i bob un ohonom, fel rhieni, gofalwyr ac addysgwyr—sut yr ydym yn meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. Ac rwy’n falch iawn o roi munud o fy amser i Angela Burns heddiw.

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar oddeutu un o bob 10 o blant a phobl ifanc, gyda bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed. Fe ailadroddaf hynny: mae bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed Mae hwnnw’n ystadegyn a ddylai beri pryder i bob un ohonom. Mae rhwydweithio cymdeithasol bedair awr ar hugain y dydd, straen cynyddol arholiadau, a diwylliant sydd ag obsesiwn â’r corff yn ddim ond rhai enghreifftiau’n unig o’r modd y gall cymdeithas fodern effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles ein plant a’n pobl ifanc, ac yn dangos yr angen dybryd i fynd i’r afael â hyn.

Ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, bydd llawer ohonom yn gorfod ymdopi ac ymdrin â phroblemau’n ymwneud â lles meddyliol gwael. I rai, gall ymdopi ddod yn naturiol, ond i eraill, efallai y bydd angen iddynt ddysgu neu gael eu dysgu sut i feithrin gwydnwch emosiynol. Felly, mae’n hynod o bwysig fod pobl ifanc yn cael eu dysgu sut i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol a’u bod yn dysgu sut i ofalu am eu hiechyd emosiynol eu hunain.

Rydym ni fel cynrychiolwyr etholedig, yn anffodus, yn rhy gyfarwydd ag etholwyr ifanc sydd wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant ac oedolion, a bydd rhai ohonynt yn dal i aros yn rhy hir am asesiad a thriniaeth. Dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol fod iechyd meddwl plant yn fater i bawb, ac yn hynny, mae’n hollol iawn. Dywedodd wrth y pwyllgor plant blaenorol, wrth drafod yr aros hir am wasanaethau CAMHS mai pen CAMHS y gwasanaeth yw pen clinigol y gwasanaeth; nid oes bwriad, ac nid oedd bwriad erioed iddo fod yn ateb cyfan i bobl ifanc sy’n cael anawsterau wrth iddynt dyfu i fyny, pobl ifanc y mae angen mynd i’r afael â’u hanghenion lles meddyliol. Dywedodd ei fod bob amser yn pryderu bod tynnu person ifanc i mewn i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn eu labeli mewn modd sy’n byw gyda hwy am amser hir iawn yn ystod eu bywydau ac nad ydym ar unrhyw ystyr ar bwynt lle nad oes cost yn gysylltiedig â label o’r fath o ran stigma ac effeithiau eraill ar fywydau pobl. Felly, dylem bob amser roi sylw i’r ffin honno er mwyn gwneud yn siŵr fod y bobl sydd angen gwasanaeth CAMHS yn ei gael a bod y bobl ifanc y gellir trin eu hanghenion yn well drwy’r gwasanaethau mwy cyffredinol yn cael yr help sydd ei angen arnynt yno. Felly, mae’r cymorth y gall pobl ifanc ei gael cyn CAMHS arbenigol yn gwbl allweddol.

Mae’r ymrwymiadau a’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gosod ar fynd i’r afael a datblygu darpariaeth iechyd meddwl fwy effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc drwy’r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i’w chroesawu. Gwn fy mod i, ynghyd ag Aelodau Cynulliad eraill, yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen yn ofalus er mwyn sicrhau ei bod yn darparu mynediad prydlon hanfodol i bob CAMHS arbenigol.

Ond mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys ffrydiau gwaith sydd i’w croesawu’n fawr i hyrwyddo gwydnwch cyffredinol a lles ac i hyrwyddo ymyrraeth gynnar a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Ond buaswn yn dadlau bod angen bwrw ymlaen â’r gwaith hwn gyda llawer mwy o frys mewn ffordd wirioneddol drawsbynciol ar draws Llywodraeth Cymru. Mae angen cydnabod bod atgyfeirio at CAMHS arbenigol i lawer o’n pobl ifanc yn golygu ein bod eisoes wedi methu eu cynorthwyo pan fyddant ei angen fwyaf.

Mae cyflwyno a sefydlu gwydnwch emosiynol yn gynnar ym mywyd plentyn, drwy’r ysgol, mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, a chlybiau ar ôl ysgol yn hanfodol i atal problemau i’n pobl ifanc yn y dyfodol. Mae angen i ni wireddu ymyrraeth gynnar yng Nghymru. Gallai rhaglenni iechyd emosiynol mewn ysgolion, ymagwedd iechyd cyhoeddus sefydledig, a chynnwys iechyd emosiynol a lles yn elfen orfodol yn y cwricwlwm, helpu i leihau’r baich a osodir ar ein gwasanaethau CAMHS sydd eisoes dan bwysau. Yn wir, mae teitl strategaeth CAMHS Llywodraeth Cymru yn 2001, ‘Busnes Pawb’ yn crisialu pwysigrwydd y mater hwn a’r ffaith na ellir ei ystyried fel mater i’r GIG yn unig. Yn wir, roedd strategaeth 2001 yn cynnwys pennod gyfan ar ysgolion, gan ddangos eu rôl bwysig. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod ers blynyddoedd lawer, ond mae hefyd yn amlwg fod llawer mwy o gynnydd i’w wneud ar hyn.

Yng Nghymru, mae gennym gyfle gwych, drwy adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm, i annog ac ymgorffori dull gwydn a allai gyflwyno diwylliant newydd o newid a mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl yn gynharach. Er bod argymhellion Donaldson yn cynnwys ymagwedd tuag at iechyd a lles, heb y cymorth iawn i athrawon ei gyflwyno ar lawr gwlad, yn syml iawn ni fydd yn digwydd.

Ar hyn o bryd, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn hyblyg o ran y ffordd y maent yn cynllunio ac yn cyflwyno eu rhaglenni, heb unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys y cyrsiau, ac nid oes gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus ynglŷn ag i ba raddau y mae darparwyr addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru yn cynnwys materion iechyd meddwl fel rhan o statws athro cymwysedig. O ganlyniad i’r argymhellion yn adroddiad Furlong, mae gennym gyfle i wella ansawdd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon a sicrhau eu bod yn ymwybodol ac wedi’u hyfforddi o’r cychwyn cyntaf. Yn wir, cyn yr etholiad diwethaf, dangosodd Llywodraeth Cymru bob arwydd ei bod wedi manteisio ar y cyfle a roddwyd i ni, drwy roi Furlong a Donaldson at ei gilydd a chreu llwybr gyrfa newydd i athrawon fel athrawon arweiniol. Roedd y rhain yn fath newydd o addysgwyr proffesiynol, wedi’u hyfforddi mewn cwnsela ac yn gyfarwydd â gwaith asiantaethau eraill, fel y gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddent i weithredu fel eiriolwyr ar gyfer plant â phroblemau emosiynol ac fel unigolion i ddisgyblion a chydweithwyr proffesiynol fynd atynt fel ymateb cyntaf cyn i bethau ddatblygu i fod yn argyfwng neu’n anodd eu datrys. Yn allweddol, roedd yr athrawon arweiniol hyn hefyd i ddod yn arbenigwyr hyfforddedig ar gyfer cyflwyno gwell addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd gyda mwy o gysondeb yn ein hysgolion. Felly, rwy’n gofyn y cwestiwn heddiw: beth a ddaeth o’r polisi hwn?

Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei hymrwymiad i atal plant a phobl ifanc rhag mynd at CAMHS yn y lle cyntaf, yna rhaid i’r mesurau ataliol hyn fod yn flaenoriaeth lwyr, a’u hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru. Mae Samariaid Cymru yn credu’n gryf y dylid gwneud darpariaeth iechyd emosiynol yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent am weld rhaglenni iechyd emosiynol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion fel ffurf ar hyrwyddo, atal ac ymyrryd yn gynnar, ac yn credu y bydd atgyfeiriadau at CAMHS yn parhau i gynyddu oni bai bod y mesurau ataliol hyn yn cael eu hymgorffori mewn lleoliadau addysgol.

Ceir rhai arferion gwych yn barod. Mae Samariaid Cymru yn cynnig y prosiect DYEG—datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando—gydag adnoddau addysgu am ddim ar y we. Trwy eu cynlluniau peilot DYEG yn Aberdâr a Chaerdydd, mae wyth ysgol yn gweithredu’r rhaglen yn eu cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae Samariaid Cymru wedi dweud bod athrawon sydd wedi cael yr hyfforddiant DYEG yn fwy hapus a hyderus i gyflwyno ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol i’w disgyblion.

Mae Achub y Plant hefyd yn cyflwyno rhaglenni mewn ysgolion. Mae eu rhaglen Taith Gobaith, mewn partneriaeth â Place2Be, yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd i 10 o ysgolion yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei hychwanegu at gyfeiriadur y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar o ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig strategaethau cadarnhaol i blant allu ymdopi â digwyddiadau trawmatig, helpu i feithrin eu gwydnwch naturiol, a chryfhau eu rhwydweithiau cymorth cymdeithasol.

Yn fy etholaeth fy hun, mae ysgol gynradd Penygarn yn defnyddio eu harian grant amddifadedd disgyblion i gyflogi therapydd chwarae ac maent wedi creu ystafell ddosbarth anogaeth arbennig ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ymdrin â phroblemau emosiynol. Mae Ysgol Gatholig Alban Sant, gan weithio mewn partneriaeth â’r ‘South Wales Argus’ a myfyrwyr adeiladu a phlymio Coleg Gwent wedi adnewyddu hen dŷ’r gofalwr ac yn ei droi’n adeilad noddfa i bobl ifanc. Yn yr un modd, yn fuan bydd staff o ysgol gynradd Garnteg yn mynd ar gwrs hyfforddiant i’w galluogi i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion.

Ond wrth gwrs, nid cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw cyflwyno’r dull hwn; mae ein gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru, fel y clywsom heddiw, yn darparu cymorth allweddol i blant a phobl ifanc ar ystod o faterion ac maent yn wasanaeth ataliol pwysig ar gyfer hybu iechyd meddwl pobl ifanc. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn mynnu ei bod yn hollbwysig fod eu model mynediad agored o ddarpariaeth ieuenctid yn cael ei gynnal, ei gefnogi a’i ddatblygu fel y gall pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau sy’n gwella eu gwydnwch ac yn ymateb i’w hanghenion. Cytunaf yn llwyr â’r farn hon.

Felly, i gloi, mae yna lawer o arfer da’n bodoli o ran meithrin gwydnwch yn ein plant a’n pobl ifanc, ond nid oes un cyfanwaith cydlynol a chyson sy’n gweithredu yng Nghymru. Oni bai ein bod yn sicrhau newid sylweddol mewn ymyrraeth gynnar, byddwn yn parhau i weld y gwasanaeth CAMHS yn ymdrin â’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc. Yn allweddol, mae angen i ni adolygu’n feirniadol yr hyn y disgwyliwn gan ein hysgolion ar yr agenda hon ac arfogi’r system â chyfarwyddyd arbenigol ar gyfer pob athro, er mwyn iddynt gael hyder i gyflawni yn y maes hwn a sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael yr holl gymorth a’r gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Diolch.

Lynne, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged enfawr i chi gan eich bod yn gymaint o eiriolwr dros blant a phobl ifanc, ac am fynd i’r afael â’r problemau sydd gennym gyda’r gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Oherwydd rwy’n cytuno â phopeth yr ydych wedi’i ddweud y prynhawn yma: credaf ei bod yn hollbwysig ein bod yn galluogi ein plant i ddod yn fwy gwydn yn emosiynol ac yn seicolegol. Rydym yn byw mewn byd creulon iawn ac mae’n mynd yn anos bob dydd. Mae gan rai plant deuluoedd anodd, bywydau sy’n hynod o gaotig y mae’n rhaid iddynt ymdopi â hwy, ac mae plant eraill bob amser yn agored i beth sydd gan y cyfryngau i’w ddweud, i ddiwylliant enwogrwydd—’Rydych yn rhy denau, rydych yn rhy dew, rydych yn rhy dal, rydych yn rhy fyr’—i bopeth arall. Bwlio wedyn, a gall hwnnw fod yn rhemp. Rydym wedi clywed cymaint o weithiau am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’r niwed y gallant eu hachosi i rywun yn y tymor hir.

Felly, rwy’n meddwl y byddai gwneud iechyd emosiynol yn rhan briodol o’r cwricwlwm, a defnyddio Donaldson i geisio ysgogi’r newid hwn, yn gwbl allweddol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ddweud ychydig wrthym ynglŷn â pha drafodaethau yr ydych wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i symud hyn ymlaen.

Rwyf am ychwanegu nad wyf yn siarad fel Aelod Cynulliad yn unig, ond hefyd fel mam, ac fel llawer ohonom sydd â phlant ifanc yn ein bywydau sy’n annwyl iawn i ni, mae pawb ohonom wedi bod drwy’r adegau pan fyddwn wedi ymdrin â phlant sy’n dod adref o’r ysgol ar ôl cael diwrnod ofnadwy, lle y byddant wedi cael eu bwlio’n ddidrugaredd, neu’n syml, eu bod yn methu deall beth sy’n gwneud iddynt deimlo nad yw pethau fel y dylent fod. Ac roeddwn yn meddwl bod y ffilm yn portreadu hynny i’r dim—yr unigrwydd a’r arwahanrwydd y gall plant ifanc ei brofi. Felly, buasai unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod ein plant yn ffit i wynebu eu hoes fel oedolion i’w groesawu’n fawr iawn.

Fy marn bersonol fy hun: mae meithrin unigolyn sy’n wydn yn emosiynol ac yn gadarn yn seicolegol yn bwysicach nag addysg arferol syml mewn gwirionedd. Yn y byd addysg, mae’n rhaid i ni weld y tu hwnt i’r syniad ei fod yn ymwneud â dysgu, â gwersi, ag arholiadau: os gallwn greu pobl ifanc sydd, ar ddiwedd yr ysgol gynradd, ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, ar ddiwedd addysg bellach, ac ar ddiwedd addysg uwch, yn gallu ymdopi â’r byd hwn, yna byddwn wedi llwyddo, oherwydd gallant wneud y gweddill o’r dysgu ar gam arall.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle am arwain y ddadl hon heddiw? Mae’n bwnc sy’n agos at fy nghalon hefyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad pwerus iawn i’r Siambr heno.

Yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod gwaith Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cyflawni gwaith ac ymgynghoriad pwysig ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, ac edrychaf ymlaen at weld adroddiad ac argymhellion y pwyllgor. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod yn benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i gynyddu cryfder cymunedau, fel y gallant gael eu harfogi’n well, fel y dywed Angela Burns, i ymdrin â’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Gwrandewais yn ofalus ar y cyfraniad. Nid wyf yn dilyn y sgript yn fanwl ar hyn o bryd, oherwydd gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedoch, ac rwy’n cytuno’n llwyr. Ac af ymlaen i egluro beth sydd yn fy meddwl, ond credaf eich bod wedi cyflwyno rhan o’r jig-so, rhan o’r ateb i’r dull crwn sydd angen i ni ei feithrin mewn perthynas â gwydnwch unigolyn. Rwy’n meddwl bod yr elfen addysgol yn hynny yn un bwysig, ac rydych yn gwthio yn erbyn drws agored gyda mi o ran ein gallu i wneud hynny, oherwydd, tra bo plant yn wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er bod yr effaith uniongyrchol yn allweddol i bob plentyn, mae rhai yn fwy gwydn nag eraill ac yn gallu ymdopi’n well. Gallwn fynd i’r gofod hwnnw, ac rwy’n gwbl argyhoeddedig, os nad ydym yn ymyrryd yn gynnar ac yn atal, bydd ein gwasanaeth iechyd yn methu—bydd ein gwasanaethau iechyd meddwl yn methu yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd i’r gofod o wneud rhywbeth gwahanol. Ond mae gwleidyddiaeth hyn hyd yn oed yn fwy anhygoel o anodd, oherwydd bod y pethau y soniodd Angela amdanynt, disgwyliadau unigolion—y pum lefel O neu’r pum TGAU, neu’r lefel cyrhaeddiad wrth fynd ar drywydd targedau—maent oll yn anghyraeddadwy os nad oes gennym berson ifanc gwydn. Felly, gallwch fod eisiau’r holl ganlyniadau pum TGAU a ddymunwch, ond os oes gennych unigolyn sydd wedi torri, ni fyddant byth yn cael llwyddiant academaidd oni bai eich bod yn mynd i’r afael â hynny.

Felly, y newyddion da yw bod modd datblygu a dysgu sgiliau gwydn, ac mae oedran cynnar yn ffactor pwysig, ac rwy’n derbyn y cyfraniad y mae’r Aelodau wedi’u gwneud heno.

Gall meithrin gwydnwch—y gallu i addasu i adfyd, trawma neu ffynonellau arwyddocaol o straen—helpu ein plant a’n pobl ifanc i reoli teimladau o bryder ac ansicrwydd ac yn ei dro, bydd hyn yn eu helpu i ffynnu, fel y mae Angela yn ei ddweud am gyfrannu fel aelodau o’r gymuned wrth iddynt gyrraedd eu potensial llawn, ond mae’r risg yn enfawr os na chawn yr ymyrraeth hon yn iawn.

Mae’r cyfrifoldeb ar bob un ohonom. Mae ar bob un ohonom. A dyna pam y dywedais mai rhan o’r ateb yn unig i ddatrys y mater hwn yw’r effaith jig-so o’r hyn yr ydych yn ei awgrymu yma. Ac mae meithrin amgylchedd mewn cymdeithas lle nad yw ein pobl ifanc yn cael eu dal yn ôl gan amgylchiadau neu le, ond yn cael eu cefnogi i ddod yn wydn, yn rhywbeth y dylem i gyd ymdrechu i’w wneud, gan gynnwys holl adrannau’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus i gyd, ond yn bwysicach, pob un ohonom ni hefyd. Mae llawer ohonoch yn gwybod am y ffocws y bûm yn ei roi ar y blynyddoedd cynnar, a fy mhenderfyniad llwyr i roi’r cychwyn gorau i blant mewn bywyd. Mae hynny ynddo’i hun yn achosi gwrthdaro ymhlith cyd-Aelodau am fy mod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau ar gyfer ein pobl ifanc; dyma’r buddsoddiad gorau y gallem ei wneud byth. Os cawn hyn yn iawn yn awr, mae’n arbed arian i ni; dyma sy’n iawn i’w wneud yn gyllidol, ond yn foesol hefyd. Mae dwy fuddugoliaeth i’w cael yma os gallwn wreiddio hyn. Ceir cytundeb cyffredinol fod profiadau plentyndod cynnar yn hanfodol bwysig i ddatblygiad hirdymor plant a’u cyflawniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod profiadau bywyd cynnar yn effeithio ar ddatblygiad plentyn a dylanwadu ar ei ymddygiad yn ystod ei arddegau a phan ddaw’n oedolyn. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn creu canlyniadau niweidiol hirdymor, ac rwy’n benderfynol o atal a lleddfu effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ym mhob dim y gallaf ei wneud. Mae ffocws fy adran gyfan ar gyflawni hyn—o dai i ddiogelwch cymunedol, mae’n rhaid i ni fynd at wraidd hyn a gweld ei fod yn galw am fwy na geiriau cynnes. Mae angen cyflawni.

Dyna pam y mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn bwysig iawn i ni. Mae buddsoddiad o £77 miliwn tuag at Dechrau’n Deg, a £42 miliwn tuag at Teuluoedd yn Gyntaf yn bethau yr ydym yn mynd â hwy i mewn i’n cymunedau ac at wraidd y sefyllfaoedd anodd iawn y cawn ein hunain ynddynt—y cyflwyniad sy’n ymwneud â pharthau plant, cyflwyno hynny yng Nghymru, a chyflwyno ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy’n cael ei ddatblygu gyda CymruWellWales yn awr, gan wneud yn siŵr fod y pethau y sonioch amdanynt, Lynne, am wneud yn siŵr ein bod yn gallu mynd y tu hwnt i’r agwedd addysgol ar hyn, ond ein bod, ym mhob dim a wnawn, yn ystyried gwydnwch unigolyn—yn hytrach nag ymagwedd seiliedig ar le, dull sy’n seiliedig ar yr unigolyn, a sut y mae angen i ni eu cefnogi. Mae hyn yn wir am bob plentyn drwy system ac yn benodol, rwy’n bryderus iawn am ein plant sy’n derbyn gofal—y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy’n cael cam gennym mewn gwirionedd. Rwy’n rhiant, fel llawer yn yr ystafell hon, ac rwy’n teimlo embaras weithiau am yr amgylchiadau y rhown ein pobl ifanc ynddynt—bregusrwydd yr her honno. Fe wnes gynhadledd/seminar/hawl i holi gyda David Melding yr wythnos o’r blaen, pan wnaethom rewi i farwolaeth yn y Senedd, ond mewn gwirionedd roedd yn waith gwirioneddol effeithiol, siarad a gwrando—yn bwysicach—ar bobl ifanc sydd wedi cael profiadau real o’r system yr ydym wedi llywyddu drosti, ac rydym wedi gwneud cam â phobl ifanc. Mae’n rhywbeth na allwn fforddio ei wneud yn y dyfodol.

Lynne, mae’r gwaith a wnaethoch yn dod â hyn i’r Siambr yn bwysig, ond yn bwysicach i mi fel arweinydd yn y sector cyhoeddus, mae’n rhaid i mi wneud yn siŵr fod fy holl ymyriadau a holl ymyriadau fy nghyd-Aelodau yn canolbwyntio ar y broses atal ac ymyrraeth gynnar i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn yn y dyfodol. Ac rwy’n ddiolchgar am y—

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Roeddwn yn meddwl, gan siarad fel mam am eiliad, tybed a wnewch chi ystyried, neu a ydych eisoes yn ystyried, canllawiau neu gyngor i rieni ynglŷn â sut i’w helpu. Oherwydd, wrth gwrs, mae ysgolion yn un hanner o’r hafaliad, ond maent yn treulio 50 y cant o’u hamser yn rhywle arall. Er bod gan lawer ohonynt fywydau caotig, mae yna lawer iawn lle y gallwch gael y teulu mwyaf cadarn, ond mae’n dal i fod un blodyn bach y gellir sathru arno. Er mwyn i rieni ddeall sut y gallant helpu eu plant i anwybyddu’r hysbysebion hynny, i beidio â dilyn y diwylliant enwogrwydd ac i beidio â hunan-niweidio am nad ydynt yn ddigon tenau, ac yn y blaen.

Mae’r Aelod yn hollol iawn. Roeddwn yn mynd i ddod at hynny, yn yr ystyr mai’r dylanwad mwyaf yn ystod y blynyddoedd cynnar o fywyd plentyn yw’r rhianta, a’r broses o ran yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi amgylchedd o safon i gynorthwyo rhieni. Rydym am wneud hynny. Rydym yn cefnogi hynny drwy ein rhaglen ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’, ond mae mwy y gallwn ei wneud yn y gofod hwnnw. Rydym wedi ymrwymo, ar sail drawsbleidiol mewn llawer o achosion, i ddeddfu i ddiddymu’r amddiffyniad o gosb resymol—agwedd arall ar rianta o safon—a rhoi’r offer i bobl gynorthwyo pobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.

Mae cydlynu’r gwaith hanfodol hwn yn mynd i fod yn bwysig. Mae’r fframwaith rhianta yn rhywbeth a ddarparwn fel dull strategol, cydgysylltiedig. Nid wyf yn hoffi strategaethau am eu bod fel arfer yn troi’n ddogfennau llychlyd ar silff. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweld cyflawniad. Felly, fy her i’r sectorau, i’r Llywodraeth, yw gofyn, ‘Gyda’r strategaeth hon, a ydym yn cyflawni yn awr?’ Gadewch i ni brofi’r system. Nid yw’n achos o, ‘Ydym, rydym yn ticio’r blychau yma.’ Beth yw’r canlyniadau go iawn? Beth yw’r canlyniadau gwirioneddol i’n pobl ifanc? Rydym yn gwybod bod CAMHS yn cael eu llesteirio gan yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran y niferoedd.

A dweud y gwir, rwy’n cytuno â chi. Pan fyddwn yn cyrraedd cam CAMHS, rydym ar ddiwedd y broses honno. Dylem fod yn llawer cynharach. Bydd y pethau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn cael effaith yfory. Felly, mae symud o’r gwaith bob dydd o reoli system i ymyrraeth yn rhywbeth rwy’n gwbl angerddol yn ei gylch a gwn fod fy nghyd-Aelodau hefyd. Rwyf am barhau â’r drafodaeth gyda Kirsty Williams mewn perthynas â’r awgrymiadau penodol iawn y soniwch amdanynt mewn perthynas â Donaldson a chanlyniadau’r Samariaid.

O ran y mater ehangach, fel y dywedais am y darnau jig-so yn dod at ei gilydd, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn awr yw dod â’r darnau jig-so hynny at ei gilydd a rhoi llun arno, fel ein bod yn deall beth yw ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae fy ymrwymiad i gymunedau cryf yn ymagwedd ddwybig, a byddaf wedi dweud hyn yn y Siambr o’r blaen am adfywio economaidd a rhoi swyddi, sgiliau a chyfleoedd i deuluoedd a phobl ifanc i symud i raglen gyfalaf lle y byddant yn teimlo’n wydn ac yn gryf, ond adeiladu hefyd ar agwedd emosiynol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lles yn y gymuned ac unigolion hefyd. Bydd y ddau gyda’i gilydd, rwy’n meddwl, yn effeithio’n ddramatig ar les, ond hefyd effeithiau ein cymunedau ar dlodi a datblygu hefyd.

Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Rwyf wedi gwneud nifer o ddadleuon byr ac mae hon wedi bod yn un sydd wedi bod yn effeithiol iawn o ran gwneud i mi feddwl am y swydd rwy’n ei gwneud, a’r swyddi y mae pawb ohonom yn eu gwneud, gobeithio. Mae’r cyfrifoldeb o gefnogi ac ymdrin â phobl ifanc yn un i bob un ohonom. Byddaf yn parhau i weithio yn y modd hwnnw ac edrychaf ymlaen at weithio’n drawsbleidiol, yn enwedig gyda chi fel Cadeirydd y pwyllgor, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau, gobeithio, i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar ein pobl ifanc yn y dyfodol. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:34.