Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/01/2017
1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Mark Isherwood.

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ag anableddau yng Nghymru? OAQ(5)0369(FM)

Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw yn annibynnol yn nodi ein cynlluniau i gynorthwyo pobl anabl yng Nghymru. Byddwn yn cydweithio â phobl anabl a chyrff sector cyhoeddus ledled Cymru i adfywio’r fframwaith eleni.

Diolch. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod yn trosglwyddo grant byw'n annibynnol Cymru i awdurdodau lleol, mynegodd ymgyrchydd yn Wrecsam, Nathan Davies, a gyflwynodd dystysgrif i'r seremoni raddio Galluogi Cymru gogledd Cymru fis diwethaf mewn gwirionedd, bryder eu bod yn teimlo bod pobl anabl wedi cael eu bradychu, a’r cwbl y gallent ei weld oedd mwy o ddadlau unwaith eto. A mynegodd Anabledd Cymru siom nad oedd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr Alban trwy sefydlu cronfa byw'n annibynnol, wedi ei gweinyddu gan Inclusion Scotland, y mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi comisiynu ei gronfa byw’n annibynnol ganddynt. Sut, felly, wnewch chi ymgysylltu â phryderon o'r fath i sicrhau nid yn unig bod awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd, ond Llywodraeth Cymru ei hun, yn cydymffurfio â bwriad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cyfranogiad pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth?

Wel, gwnaed y penderfyniad i alluogi taliadau i gael eu gwneud yn ddi-dor i gyn-dderbynwyr yng Nghymru. Penderfyniad dros dro oedd hwn, a fwriadwyd i bara tan 31 Mawrth eleni, tra ein bod yn ystyried pa drefniadau fyddai’n briodol i ddarparu cymorth yn y tymor hwy. Ac, yn dilyn cyngor gan y grŵp cynghori rhanddeiliaid, sydd yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl yng Nghymru, rydym ni’n cyflwyno, o fis Ebrill eleni, trefniant pontio dros ddwy flynedd, sy’n golygu y bydd cymorth yn y dyfodol trwy ddarpariaeth arferol o ofal cymdeithasol.

Hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd iaith arwyddion i'r gymuned pobl fyddar. I lawer o bobl fyddar, mae'n ddull pwysig o gyfathrebu. Efallai y dylwn i ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn hollol fyddar. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi creu TGAU iaith arwyddion iaith gyntaf, ac iddi gael ei thrin yn gyfartal â Chymraeg a Saesneg iaith gyntaf ar lefel TGAU?

Wel, mae'n fater, yn y pen draw, i Gymwysterau Cymru. Nhw sy’n gyfrifol am ddatblygu a chymeradwyo cymwysterau yng Nghymru. Wedi dweud hynny, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig—ac rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud—i hyrwyddo Iaith Arwyddion Prydain a hefyd i hyrwyddo’r ffaith fod cymwysterau ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae'n fater y byddaf yn ei godi ar ei ran gyda Chymwysterau Cymru.

Mae tipyn o sôn wedi bod bod posibilrwydd y bydd y lwfans gweini, sef yr ‘attendance allowance’, yn cael ei ddatganoli i Gymru o San Steffan. Mae tua 100,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn y budd-dal yma, ar gost o tua £400 miliwn y flwyddyn. Os bydd y budd-daliadau yma’n cael eu datganoli i Gymru, mi fydd yn rhaid penderfynu wedyn beth fydd rôl yr awdurdodau lleol. Ac mae Plaid Cymru bob tro, wrth gwrs, yn croesawu cael mwy o bwerau yng Nghymru er budd pobl Cymru, ond mae yna bryder mai dull o arbed arian ydy’r symudiad yma yn y pen draw. Sut ydych chi yn medru sicrhau na fydd pobl anabl hŷn yng Nghymru yn dioddef petai’r newid yma yn digwydd?

Mae yna hanes, wrth gwrs, anffodus yn y lle yma, lle mae yna fudd-daliadau wedi cael eu datganoli ond heb yr arian cyfan yn dod hefyd. Fe welsom ni hynny gyda’r budd-daliadau ynglŷn â threth y cyngor. Felly, nid ydym ni o blaid cael unrhyw bwerau heb ganiatâd y Cynulliad hyn, ac, wrth gwrs, nid ydym ni o blaid cael pwerau heb cyfanswm llawn yr arian yn dilyn y pwerau hynny. Felly, petai hynny’n cael ei gynnig i ni, fe fyddai hynny’n rhywbeth y byddem ni’n ei ystyried, ond fyddem ni byth eisiau cymryd unrhyw bwerau newydd heb fod yr arian yn dod a heb fod sicrwydd yn y tymor hir ynglŷn â ffynhonnell yr arian hynny hefyd.

Brif Weinidog, ym mis Mawrth y llynedd, yn rhan o raglen Getting Ahead 2, rhoddwyd £10 miliwn i Anabledd Dysgu Cymru dros bum mlynedd i weddnewid bywydau dros 1,000 o bobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anableddau dysgu neu anawsterau dysgu, ac mae hynny trwy ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl sy'n para rhwng chwech a 12 mis. Beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei ddangos am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl ag anableddau yng Nghymru, a sut mae hyn yn ymarferol yn helpu i newid bywydau pobl?

Wel, gallwn weld y canlyniadau drosom ein hunain, a gallaf ddweud ein bod ni’n gweithio gyda'n grŵp cynghori ar anabledd dysgu i ddatblygu cynllun gweithredu strategol ar anabledd dysgu. Bydd hwnnw’n destun ymgynghoriad eang yn ddiweddarach eleni er mwyn adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud eisoes.

Ffermwyr yn Sir Benfro

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0365(FM)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu’r diwydiant ffermio yn sir Benfro, fel ym mhob rhan o Gymru.

Brif Weinidog, fel rydw i’n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae nifer o ffermwyr yn fy etholaeth i yn poeni’n enfawr am y posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau, sy’n mynd i gael effaith aruthrol ar eu busnesau ac ar yr economi wledig yn gyffredinol. Mae ymgynghoriad eich Llywodraeth chi nawr wedi dod i ben, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddwch chi’n gwneud penderfyniad ar y mater hwn? Ac, yn y cyfamser, a allaf i erfyn arnoch chi i edrych ar y mater yma unwaith eto ac i ystyried cyflwyno mesurau gwirfoddol i wella ansawdd ein dŵr, oherwydd dyna’r ffordd i gefnogi ein ffermwyr, drwy weithio gyda nhw ac nid cyflwyno rheoliadau beichus?

Wel, bydd atebion yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn fanwl dros yr wythnosau nesaf ac, wrth gwrs, bydd trafodaeth gyda’r diwydiant amaeth dros yr wythnosau hynny, fel rhan o’r adolygiad sydd wedi cymryd lle.

Wel, beth wnewch chi nawr, Brif Weinidog, i amddiffyn ffermwyr yn sir Benfro a thrwy Gymru gyfan nawr bod Prif Weinidog San Steffan, Theresa May, wedi penderfynu ein bod ni mas o’r farchnad sengl, bod yna ‘tariffs’ o dan reolau'r WTO ar gynnyrch o Gymru, bod yna farchnad ‘free trade’ gyda Seland Newydd, lle mae cig oen yn dod i mewn a thanbrisio cig oen da a chynnyrch Cymru? Beth wnewch chi nawr fel Llywodraeth i amddiffyn buddiannau Cymru yn erbyn penderfyniad San Steffan a’r Torïaid i wneud ffermwyr Cymru yn fwy tlawd ac yn llai abl i gystadlu yn y byd?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd un o'r dadleuon mwyaf angerddol yn y Siambr hon, ac roedd y siambr i fyny'r grisiau yn llawn pobl â buddiant yn y gymuned awtistiaeth ac eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gan eich Llywodraeth. Cawsom ein harwain i gredu bod consensws ynghylch hyn, yn etholiad y Cynulliad—bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn credu y dylai Bil awtistiaeth gael ei roi gerbron y Cynulliad i wella hawliau i bobl sy'n dioddef gydag awtistiaeth. Ddoe, cyflwynasoch eich Bil Undebau Llafur (Cymru). Bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd deall pam yr ydych chi’n atal cyflwyniad Bil awtistiaeth a allai wella mynediad at wasanaethau yn fawr a rhoi hawl cyfreithiol i bobl sydd â diagnosis o awtistiaeth gan ddewis yn hytrach y Bil undebau llafur yr ydych chi wedi penderfynu ei gyflwyno. Pam ydych chi wedi blaenoriaethu'r Bil undebau llafur yn hytrach na phobl ag awtistiaeth?

Mae dau reswm: yn gyntaf oll, rydym ni eisiau diogelu hawliau gweithwyr. Mae ei blaid ef—ei blaid ef—eisiau cael gwared ar gymhwysedd y Cynulliad hwn dros hawliau a rheoliadau cyflogaeth. Bai ei blaid ef yw hyn. Ni fyddai'n rhaid i ni gyflwyno hyn ar y cyflymder yr ydym ni'n gorfod ei wneud pe na byddai am Fil Cymru. Felly, ni all ef eistedd yn y fan yna a cheisio honni nad yw’n ddim i’w wneud ag ef. A byddwn yn sefyll dros hawliau gweithwyr wrth i’w blaid ef bwyso i lawr arnynt, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno Bil undebau llafur i'r Siambr hon, a byddwn yn gofyn am gefnogaeth gan y Cynulliad hwn i ddiogelu hawliau gweithwyr, a gadewch i ni weld beth fydd yn digwydd, os bydd y cymhwysedd yn newid. Ond byddwn yn sefyll dros weithwyr Cymru, hyd yn oed wrth i’w blaid ef eu sathru i lawr.

Rwy'n credu mai’r Blaid Geidwadol sy’n cyflawni ar ran gweithwyr Cymru, fel y mae ar ran gweithwyr y DU, trwy ddarparu economi sydd wedi cyflwyno’r cyfraddau cyflogaeth, cyfleoedd a ffyniant mwyaf erioed. Ond rwy’n sylwi na wnaethoch chi sôn am y rhesymau pam y gwnaeth eich Llywodraeth rwystro cyflwyniad Bil awtistiaeth, yn hytrach na'r Bil undebau llafur, lle’r oedd pobl i fyny'r grisiau ar ôl y ddadl hon yn wirioneddol yn eu dagrau ac wedi’u ffieiddio gan y canlyniad gan y Llywodraeth Lafur hon a'r brad, fel yr oedden nhw’n ei weld, o ymrwymiad eich Llywodraeth yn etholiad y Cynulliad parthed y geiriau a siaradwyd yn y Siambr hon yn y ddadl honno. Beth sy'n afresymol—beth sy’n afresymol yn y Bil Undebau Llafur am hysbysu cyflogwyr pan fo streic yn mynd i gael ei galw? Beth sy’n afresymol am geisio trothwy i gael mwyafrif o bobl sy'n cymryd rhan yn y streic honno? Nid oes unrhyw beth yn afresymol am hynny. Eich plaid chi sy’n mynd â ni yn ôl i’r 1970au ac yn symud oddi wrth grymuso gweithwyr i lwyddo yn y wlad hon. Felly, beth sy’n afresymol yn y Bil Undebau Llafur hwnnw sy'n mynnu bod eich Llywodraeth yn cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân?

Mae'n atgas bod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio defnyddio pobl sy'n ymdrin â phobl ifanc ag awtistiaeth, gan ddefnyddio hynny fel ffordd i ymosod ar weithwyr—[Torri ar draws.] —ymosod ar weithwyr yng Nghymru a gweddill Prydain. Y gwir amdani yw bod diweithdra yn is yng Nghymru nag y mae yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Mae'n sôn am drothwy. Nid wyf yn cofio iddo ddadlau dros drothwy yn y refferendwm Brexit. Ydych chi'n cofio hynny? Nid wyf yn cofio hynny o gwbl. Nid oedd trothwyon yn bwysig bryd hynny. Nid wyf yn credu mewn trothwyon. Nid oeddwn i’n credu mewn trothwy ar gyfer y refferendwm Brexit. Nid wyf yn credu mewn trothwy cyn belled ag y mae pleidleisio dros streic yn y cwestiwn. Yr hyn yr wyf i’n credu ynddo yw ein bod ni’n sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr yng Nghymru, er gwaethaf yr hyn sy'n cael ei orfodi arnyn nhw gan Lywodraeth Dorïaidd elyniaethus. Roedd hanner cant o'i ASau ei hun—50 o’i ASau ei hun—yn galw am i streiciau gael eu gwahardd yn y sector cyhoeddus. Beth, ydych chi'n mynd i arestio streicwyr nawr, ydych chi? Mynd yn ôl i'r 1970au—byddai ef yn mynd â ni yn ôl i’r 1930au. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']

Rydych chi’n sicr eisiau cwrw a brechdanau yn ôl ym Mharc Cathays, onid ydych chi, Brif Weinidog? Y bobl yr ydych chi’n eu had-dalu yw ysgrifenyddion cyffredinol yr undebau sydd wedi ariannu Llafur gyda £11 miliwn ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd. Heriais i chi i gyflwyno’r Bil awtistiaeth hwnnw, yr oedd pobl wir yn gofyn amdano. Nid wyf wedi clywed pobl yn galw am Fil undebau llafur yma yng Nghymru oherwydd eu bod nhw’n teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn. Y perygl—[Torri ar draws.]—Y perygl gwirioneddol yw y byddwch chi’n cyflwyno tâl rhanbarthol trwy gyflwyno’r Bil hwn, gan y byddwch chi’n gostwng y trothwy ar gyfer streic yma yng Nghymru, o’i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gan amlaf, pan fydd streic yn cael ei galw, mae'n ymwneud â thelerau ac amodau a chyflog. Felly, chi fydd yn arwain y ffordd o ran tâl rhanbarthol os gwnewch chi barhau i wthio’r Bil undebau llafur hwn drwy'r Cynulliad. Ond, hefyd, dylech chi ymddiheuro i'r bobl yn y gymuned awtistiaeth— [Aelodau'r Cynulliad: 'O..']—sy'n teimlo eu bod wedi cael eu siomi gennych chi a'ch rhaglen ddeddfwriaethol.

Mae'n atgas—defnyddiaf y gair yna eto—i awgrymu y dylid gosod y bobl hynny sy’n ymdrin ag awtistiaeth ac yn ymdrin â’r bobl hynny sydd ag awtistiaeth ac yn gofalu amdanynt, yn erbyn pobl sydd eisiau eu hawliau fel gweithwyr. Onid yw'n nodweddiadol mai agwedd y Torïaid, fel y bu erioed, yw, 'Gosod pobl yn erbyn ei gilydd. Rhannu a rheoli.' Byddwn yn gwneud popeth a allwn i helpu'r bobl hynny ag awtistiaeth a'r bobl hynny sy'n gofalu am bobl ag awtistiaeth. Rydym ni wedi gwneud hynny trwy ddeddfwriaeth flaenorol. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy'r cyllid yr ydym ni wedi ei gyflwyno. Nid ydym wedi torri 6 y cant ar wariant ar wasanaethau cymdeithasol fel y mae ef a'i blaid wedi ei wneud yn Llundain. Oedi wrth drosglwyddo gofal—wedi cynyddu yn Lloegr, ac achoswyd trychineb y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd gan ddiffyg gwariant ar wasanaethau cymdeithasol. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau gweithwyr yng Nghymru a'u cynrychiolwyr, ac os nad yw'n hoffi hynny, gall fynd i esbonio wrth bleidleiswyr yng Nghymru pam mae eisiau i bobl fod mewn sefyllfa lle nad yw’r gallu ganddyn nhw mwyach i arfer eu hawl democrataidd i fynd ar streic. Mae’n clebran yn ddi-baid, onid ydyw? Mae’n clebran yn ddi-baid fel ci heb ei hyfforddi yng nghefn y Siambr yn y fan yna—

O'n safbwynt ni, byddwn yn sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr, hyd yn oed os nad oes ots ganddo ef amdanynt.

Diolch, Lywydd. Ar 15 Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd ffigurau ar berfformiad a gwerth economi Cymru. Nawr, nid ydynt wedi cael llawer iawn o sylw, ond maen nhw’n dangos bod economi Cymru yn 71 y cant o fynegai'r DU erbyn hyn, i lawr o 71.4 y cant yn 2014. Nawr, mae angen i ni fod yn cau’r bwlch cyfoeth hwnnw ac nid llywyddu dros ei ehangiad. Ar wahân i'r risg sy'n ein hwynebu o ran colli cyllid a dderbynnir ar hyn o bryd gan gymunedau o amddifadedd, ceir perygl hefyd i fusnesau a swyddi o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n hanfodol o safbwynt diogelu swyddi bod Cymru yn parhau i gymryd cymaint ag y gallwn o ran yn y farchnad sengl. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â Phlaid Cymru ei bod er budd cenedlaethol Cymru i barhau i gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl heb dariffau na rhwystrau?

Mae'n safbwynt sydd gennym ni ers misoedd lawer. Yr ymadrodd yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yw 'mynediad llawn a dilyffethair'. Mae cymryd rhan yn y farchnad sengl fwy neu lai yn gyfystyr â hynny. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei osgoi yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yw unrhyw beth sy'n amharu ar allu busnesau i allforio o Gymru, ac felly’n ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gyflogi pobl. Mae'n iawn i ddweud bod angen i CMC gynyddu. Y ffordd i wneud hynny yw buddsoddi mwy fyth mewn sgiliau. Pan fydd gan bobl fwy o sgiliau, gallant ddenu buddsoddiad yn well sy'n arwain at swyddi sy'n talu'n well. Dyna'r union gyfeiriad yr ydym ni eisiau symud iddo. Gwrandewais i—ac rwy'n siŵr ei bod hithau wedi gwneud yr un fath, wrth gwrs—ar araith Prif Weinidog y DU y bore yma. Roedd rhywfaint ohoni i’w chroesawu. Rwy'n credu bod y dôn yn well. Nid oedd mor ymosodol ag y mae adain genedlaetholgar ei phlaid—plaid Theresa May—yn tueddu i’w egluro. Roedd problemau ynghylch cydnabod hawliau'r cenhedloedd datganoledig, yr oeddwn yn eu croesawu, er bod gwrthddweud wrth nodi mai Senedd Prydain sy’n penderfynu ar y cytundeb terfynol heb i’r seneddau datganoledig fynegi eu barn hwythau hefyd. Nid wyf yn cytuno â gadael y farchnad sengl. Mae angen esbonio mwy ar yr hanner i mewn, hanner allan o'r undeb tollau yma. Ac, wrth gwrs, nid yw sut y mae gennych chi reolaeth dros fewnfudo gyda ffin agored fawr erioed wedi cael ei esbonio chwaith. Felly, ceir rhywfaint o eglurder, ac nid yw’r cyfan i’w groesawu. Mae rhywfaint ohono’n well gan y Prif Weinidog, ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y canlyniad gorau i Gymru.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddai Plaid Cymru yn dadlau bod Cymru yn wynebu cynllun a luniwyd yn Llundain ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am y cwestiwn o allforion. Ar y map hwn, dangosir y perygl i Gymru o Brexit caled yn gryf iawn, rwy’n meddwl. Economi Cymru yw'r rhan fwyaf dibynnol o'r DU ar allforion i'r UE. Economïau gweithgynhyrchu fel ein heconomi ni sy’n dibynnu fwyaf ar y farchnad honno. Rydym ni’n sôn am swyddi diwydiannol, swyddi yn y diwydiant bwyd, mewn twristiaeth, swyddi sy'n hanfodol i bobl yng Nghymru, na ellir eu rhoi mewn perygl. Nawr, rydym ni hefyd yn gwybod bod llawer o'r buddsoddiad o’r tu allan i Ewrop i mewn i Gymru wedi cael ei ddenu yma oherwydd ein sefyllfa yn y farchnad sengl. Perygl arall i'r wlad hon, y tu hwnt i golli ein sefyllfa yn y farchnad sengl, yw ein bod ni’n symud tuag at neo-ryddfrydiaeth—neo-ryddfrydiaeth eithafol—wedi’i seilio ar ddadreoleiddio a phreifateiddio, wedi’i seilio ar sathru ar hawliau gweithwyr, wedi’i seilio ar wanhau rheoliadau amgylcheddol sy'n cadw ein gwlad a’n tirwedd yn lân. Rydym ni’n wynebu colli cymaint o'r enillion a ymladdwyd yn galed i’w hennill, ac ni ddylai’r un ohonom ni fod yn barod i roi'r rheini mewn perygl yn rhwydd. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i archwilio sut y gallwn osgoi dilyn y llwybr hwn o fandaliaeth economaidd a chymdeithasol, ac a wnewch chi hyrwyddo'r angen am gyfranogiad parhaus yn y farchnad sengl ac am y safonau uchaf posibl i weithwyr, defnyddwyr a busnesau?

Gwnaf yn wir, fel yr wyf i wedi ei wneud yn gyson ers mis Mehefin. Wrth gwrs, ni fydd unrhyw beth i atal y Cynulliad hwn rhag gweithredu cyfarwyddebau'r UE os yw'n dymuno gwneud hynny. Os yw hynny'n rhywbeth y mae'r Cynulliad eisiau ei wneud, ni fydd unrhyw waharddiad ar wneud hynny. Mater o broses ddemocrataidd yw hwn. Un o'r gwrthddywediadau a fynegwyd gan Brif Weinidog y DU oedd iddi ddweud y dylai Senedd Prydain gael pleidlais ar y cytundeb terfynol. Iawn, ond bydd llawer o hynny’n cynnwys meysydd datganoledig. Mae’n rhaid o leiaf cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol drwy'r Cynulliad hwn cyn y gall Senedd Prydain gynnal y bleidlais honno. Felly, ceir nifer o faterion y bydd angen eu datrys yn y fan yna. Roedd sylwadau’r Canghellor ddydd Sul yn peri pryder i mi, pan ddywedodd y byddai'n rhaid i fodel economaidd Prydain newid pe byddai Brexit arbennig o galed. Roedd yn sôn am ostwng treth gorfforaeth. Roedd hwnnw, rwy’n meddwl, yn ddim ond un peth allan o lawer o bethau yr hoffai eu gwneud nad ydynt yn dderbyniol i mi nac iddi hithau. Nid wyf yn credu mewn dadreoleiddio, fel y bydden nhw’n ei ddweud, y farchnad gyflogaeth. Mae hynny'n golygu sathru ar hawliau gweithwyr a thorri cyflogau ​​gweithwyr. Nid wyf yn credu mewn dinistrio amddiffyniadau amgylcheddol sydd wedi eu rhoi ar waith, sydd wedi helpu nid yn unig o ran yr amgylchedd, ond sydd wedi helpu i hyrwyddo twristiaeth dros y blynyddoedd. Ydw, rwy’n rhannu ei phryder bod rhai yn y Blaid Geidwadol sy’n gweld hwn fel cyfle i gyflwyno syniadau asgell dde radical, heb unrhyw fath o ataliad o gwbl, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i ac, rwy'n siŵr—rwy’n gwybod—y byddai hithau’n ei wrthwynebu ar bob cyfrif.

Byddwn, Brif Weinidog, ac mae Plaid Cymru wedi datgan nad ydym ni’n barod i ymrwymo i gynllun trafod sydd wedi ei lunio gan unigolion elitaidd San Steffan os na roddir ystyriaeth i'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae’r ddau ohonom ni’n gwybod ei bod yn gwneud synnwyr i Gymru weithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig eraill. Mae’r Alban yn blaenoriaethu aelodaeth o’r farchnad sengl a’i heconomi cyn unrhyw nodau cyfansoddiadol eraill a allai fod ganddynt, ond maen nhw’n barod i gynnal refferendwm annibyniaeth os chaiff eu dewisiadau cyfaddawd eu bodloni gan Lywodraeth y DU. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, fel y gwyddoch, yn sensitif iawn ar hyn o bryd, hefyd. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi’n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth nesaf Gogledd Iwerddon i sicrhau bod Prif Weinidog y DU yn cael ei rhwystro rhag bwrw ymlaen â chynllun i gael mwy o ddadreoleiddio a mwy o breifateiddio, a fyddai, wrth gwrs, yn niweidiol iawn i bobl yma yn y wlad hon?

Rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban. Nid oes gennym, yn amlwg, yr un farn ar y nod yn y pen draw, fel petai, ond rydym ni’n gweithio gyda nhw ac yn siarad â nhw gyda’r bwriad o ganfod tir cyffredin lle y gallwn, ac mae hynny'n ddiplomyddiaeth synhwyrol. Mae Gogledd Iwerddon yn anoddach, oherwydd, yng Ngogledd Iwerddon, roedd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog safbwyntiau hollol wahanol ar Brexit. Rydym ni’n gweld y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, a rhan o ddeinamig y broblem yng Ngogledd Iwerddon yw Brexit. Nid dyna’r brif broblem ar hyn o bryd, ond mae'n bodoli, oherwydd y cytundeb heddwch a roddwyd ar waith, a'r unig hunaniaeth yr oedd pobl yng Ngogledd Iwerddon yn ei rhannu oedd yr un Ewropeaidd; nid oes ganddyn nhw hunaniaeth arall maen nhw’n ei rhannu. Mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn felly. Ond mae'n hynod bwysig, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon, ein bod ni’n gallu gweithio gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban i atgoffa Whitehall nad yw hyn yn ymwneud â swigen Whitehall yn unig; mae’n ymwneud â phob un o bedair gwlad y DU.

Diolch, Lywydd. Mae’r Prif Weinidog yn ceisio cystadlu ag arweinydd Plaid Cymru fel rhyw fath o Jeremeia Cymru heddiw o ran dyfodol Cymru y tu allan i'r UE. Mae'n ddrwg gennyf ei glywed yn dweud ei fod yn erbyn trethi is ar fusnes, gan fod gweriniaeth Iwerddon wedi defnyddio cyfradd is o dreth gorfforaeth yn llwyddiannus iawn i ddenu nifer fawr o gwmnïau i mewn i Ddulyn, yn enwedig yn y sector gwasanaethau ariannol. Felly, mae'n ymddangos i mi yn gwbl wrthgynhyrchiol i fuddiannau Cymru i ddiystyru hyn ar gyfer y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog, o ran y farchnad sengl:

Nid wyf yn credu y gallwch chi gael mynediad at y farchnad sengl a dweud ar yr un pryd eich bod eisiau cael rheolaeth lawn ar fewnfudo.

Wel, dyna’n union sydd gennym ni gyda chytundeb masnach De Corea; pam nad yw hynny’n mynd i fod yn bosibl i ni ym Mhrydain?

Sut gallwch chi gael rheolaeth lawn dros fewnfudo pan fo gennych chi ffin fawr, agored gyda'r UE?

Sut gallwch chi gael rheolaeth lawn dros fewnfudo os oes gennych chi ffin fawr, agored gyda'r UE?

Wel, cyfeiriodd Theresa May at hyn yn ei haraith y bore yma. Roedd gennym ni ardal deithio gyffredin gyda gweriniaeth Iwerddon ymhell cyn bod yr un ohonom ni’n aelodau o'r UE. Mae hwn yn gwestiwn ymarferol y mae angen ei ddatrys, ac nid oes unrhyw reswm i feddwl na ellir ei ddatrys. Ond yr hyn y mae gennyf i ddiddordeb ynddo, o ganlyniad i—[Torri ar draws.]

Gadewch i ni ganiatáu i arweinydd grŵp UKIP gael ei glywed, os gwelwch yn dda.

Diolch i chi am eich amddiffyniad, Lywydd.

O ganlyniad i araith Theresa May amser cinio heddiw, mae hi wedi egluro nifer o faterion—nid y cwbl, rwy’n derbyn, ac mae’n sicr angen egluro mwy ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr undeb tollau—ond mae hi wedi egluro safbwynt y Llywodraeth. A all y Prif Weinidog egluro nawr: beth yn union yw polisi'r Blaid Lafur ar fudo a reolir o’r UE?

Rwyf wedi esbonio'r polisi, sef rhyddid i symud i weithio; rhywbeth tebyg i’r hyn sydd gan y Norwyaid. Mae'n cael gwared ar ofnau rhai pobl bod pobl yn symud i wlad benodol er mwyn hawlio budd-daliadau. Pa un a yw hynny’n wir ai peidio, rydym ni’n gwybod bod y dybiaeth yno. Ac mae’n safbwynt rhesymol, rwy’n credu, i'w gymryd y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn ei dderbyn. Nawr, hynny yw, mae’n iawn am y sefyllfa yn Iwerddon; mae angen ei datrys. Yn anffodus, nid oes unrhyw un yn gwybod sut i ddatrys hyn. Y gwir yw, a fy mhryder i yw—ac mae'n iawn am yr ardal deithio gyffredin—ond wedyn, am y tro cyntaf erioed mewn hanes, bydd polisïau mewnfudo hollol wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin honno. Nid yw Iwerddon, mae'n wir, yn rhan o Schengen, ond bydd ganddi ryddid i symud. Os ydych chi eisiau dod i mewn i'r DU, ewch i Iwerddon; gallwch gyrraedd y DU heb unrhyw archwiliadau o gwbl, heb unrhyw fath o reolaeth o gwbl, a dyna yw realiti'r sefyllfa.

O ran tollau, a ydym ni’n mynd i weld felly ailddyfodiad y safleoedd tollau ar y ffin honno, a safleoedd tollau yn ein porthladdoedd yng Nghymru? Nid yw'r mater hwnnw wedi ei ddatrys o gwbl—a'r effaith y byddai hynny’n ei chael ar y trwybwn o gerbydau a phobl drwy’r porthladdoedd hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ofni fwy na dim arall yw y bydd Gogledd Iwerddon, rywsut, yn cael gwell bargen o ran tollau nag y mae Cymru. Bydd hynny'n llywio traffig trwy Cairnryan, a thrwy Stranraer o bosibl, yn y dyfodol, ar draul swyddi ym mhorthladdoedd Cymru. Felly, beth bynnag fydd yn digwydd, mae’n rhaid i’r sefyllfa, boed hynny ym mhorthladdoedd Cymru neu ar ffin Gogledd Iwerddon, fod yr un fath er mwyn sicrhau’r driniaeth deg honno.

Wel, mae'r Prif Weinidog yn siarad am bob math o bwyntiau trosiannol, y mae’n rhaid, yn anochel, eu hystyried. Cawsom anawsterau tebyg pan wnaethom ni ymuno â’r UE tua 40 mlynedd yn ôl. Cafwyd problemau gyda'r cyfnod pontio; gellir ymdrin â’r rhain. Ond, yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw bod y Prif Weinidog bob amser yn edrych ar yr ochr ddu i bethau a dychmygu’r gwaethaf. Gwnaeth hyn o ran Donald Trump yn yr Unol Daleithiau—ac rwyf wedi codi hyn gydag ef sawl gwaith—pan ddywedodd fod Donald Trump yn credu yn America yn gyntaf, ac na fyddai byth yn bosibl dod i gytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau. Yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'n mynd i fod yn bosibl i'r UE ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, ond mae Donald Trump ei hun wedi dweud yn y 24 neu 48 awr ddiwethaf y byddai'n symud yn gyflym iawn i lunio cytundeb masnach newydd gyda’r DU:

Rwy’n gefnogwr brwd o’r DU. Rydym ni’n mynd i weithio'n galed iawn i’w wneud yn gyflym a’i wneud yn iawn. Mae hynny’n dda i’r ddwy ochr.'

Oni allaf i berswadio'r Prif Weinidog i gael dim ond llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol?

Wel, nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth America yn awyddus i gael cytundeb masnach rydd gydag unrhyw un sydd yn unrhyw beth heblaw cadarnhaol dros ben i’r Unol Daleithiau ac yn negyddol i unrhyw barti arall i'r cytundeb. Mae Donald Trump wedi dweud ei fod eisiau diddymu’r bartneriaeth drawsiwerydd. Mae ef eisiau diddymu cytundeb masnach Gogledd America a chael cytundeb gyda'r DU. A yw hynny'n golygu, felly, y byddwn ni’n gweld cig eidion yn llawn hormonau yn dod i mewn i farchnad y DU ac yn rhatach na chig ein ffermwyr cig eidion yng Nghymru? A yw'n golygu y byddwn ni’n gweld, er enghraifft—ac roedd ei blaid ef yn ymgyrchu yn erbyn TTIP, gan ddweud ei fod yn gytundeb gwael—a yw hyn yn golygu, pe byddai TTIP yn ôl ar y bwrdd, y byddai’n ei gefnogi nawr? A fyddai'r blaid yn ei gefnogi nawr? A yw'n golygu, er enghraifft, y bydd y DU yn cwympo ar ei phen-gliniau os bydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dweud, 'Mae’n rhaid i chi agor eich gwasanaethau cyhoeddus i’w preifateiddio'? Oherwydd dyna fyddant yn pwyso amdano.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i o blaid perthynas dda gyda'r Unol Daleithiau. Wrth gwrs fy mod i. Rwyf o blaid perthynas dda gyda phob gwlad. Ond rwy’n cael fy nghyffwrdd weithiau gan naïfrwydd hyfryd arweinydd UKIP a'i gyd-deithiwr, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, pan fyddant yn meddwl y bydd y byd yn lle hawdd a bod cytundebau masnach rydd yn hawdd eu cytuno. Nid yw hynny’n wir. Cymerodd y cytundeb masnach rydd rhwng yr UE a'r Ynys Las dair blynedd, ac roedd hynny’n ymwneud â physgod yn unig. Cymerodd y cytundeb gyda Chanada saith mlynedd. Mae cytundebau eraill yn cymryd 10 mlynedd.

Rwyf i wedi edrych ar y rhestr o dariffau dan sylw. Hynny yw, ceir tariffau ar hetiau ac ambarelau, er mwyn popeth. Mae amaethyddiaeth bob amser wedi ei heithrio o gytundebau masnach rydd. Bron bob amser. Nid yw yno gyda Chanada, nid yw yno rhwng Norwy a'r UE. Mae'r tariff amaethyddol bron i 50 y cant. Ni all ffermwyr Cymru fyw gyda thariff ar gig oen Cymru a chig eidion Cymru o 50 y cant, ac mae unrhyw un sy'n credu y gallant yn siomi ffermwyr Cymru.

Gwastraff Bwyd

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau gwastraff bwyd yng nghartrefi Cymru? OAQ(5)0373(FM)

Mae gwastraff bwyd yng nghartrefi Cymru wedi gostwng 12 y cant rhwng 2009 a 2015. Rydym ni fel Llywodraeth yn ariannu ymgyrch defnyddwyr ‘Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff’ Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau Cymru.

Rydych chi'n iawn, Brif Weinidog, fod gwastraff bwyd wedi gostwng 12 y cant, ac mae wedi arbed 105 tunnell o garbon y flwyddyn dros yr un cyfnod. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda'r gostyngiad hwnnw o 12 y cant, taflwyd 188,000 tunnell o fwyd gwerth £70 miliwn i ffwrdd gan gartrefi yng Nghymru yn 2015. O ystyried bod 50 y cant o'r gwastraff bwyd hwnnw yn dod o gartrefi, mae'n amlwg y bydd lleihau cyfanswm y gwastraff yma yn cael budd ariannol sylweddol i unigolion ac i'r amgylchedd. Yr hyn sy'n ddiddorol ochr yn ochr â hynny yw bod 60 y cant o'r bobl a holwyd yn credu nad oeddent yn gwastraffu unrhyw fwyd o gwbl. Felly, o ystyried y ffeithiau hynny, Brif Weinidog, beth ydych chi’n ei gredu y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud o ran addysgu pobl o leiaf am y bwyd y maen nhw’n ei wastraffu, sy’n costio £35 miliwn y flwyddyn?

Wel, gallaf ddweud fod hyfforddiant rhaeadru 'Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff' ar gael i gymunedau a busnesau. Hyd yn hyn, mae WRAP Cymru wedi hyfforddi dros 3,400 o bobl yng Nghymru ac mae hynny’n helpu defnyddwyr i wneud y mwyaf o'r bwyd y maen nhw’n ei brynu. Mae'n gychwyn. Mae mwy i'w wneud, ond gallwn wneud mwy. Rydym ni eisoes wedi lleihau cyfanswm y gwastraff bwyd yng Nghymru. Fe’i gostyngwyd gan oddeutu 24,000 tunnell hyd yn hyn. Rydym ni’n gwybod bod mwy i’w wneud, ond mae’r gwaith hwnnw’n parhau nawr.

Wrth gwrs, nid cartrefi yn unig yw hyn; ceir gwasanaethau cyhoeddus hefyd, lle mae angen rhoi rhywfaint o sylw i hyn. Mae’r Rhaglen Gweithredu Adnoddau a Gwastraff, WRAP, y mae eich Llywodraeth yn ei hariannu, yn gweithio gyda bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg erbyn hyn i ganfod sut i leihau gwastraff bwyd mewn ysbytai. Dyna un peth. Ond yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd PABM bod derbyniadau oherwydd diffyg maeth ar eu huchaf ers pum mlynedd. Felly, gall WRAP a PABM gydweithio â phartïon eraill i nodi a rhannu syniadau da—yn wir, rwy'n cynnal un o'r sesiynau cyngor Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau; efallai yr hoffech chi ddod—ond a ydych chi’n credu mai rhan o broblem fwy i’r Llywodraeth a chymdeithas yw gwastraff bwyd, sy’n ymwneud â maeth ac agweddau at fwyd, y mae angen i ni fod yn fwy o ddifrif yn eu cylch, yn hytrach nag ymatebion tameidiog i bethau fel gordewdra, pecynnu , gofal nyrsio, iechyd anifeiliaid, ôl-troed carbon, ac yn y blaen?

Rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw nad yw bwyd rhad yn fwyd iach. I gynifer o bobl, maen nhw wedi gweld gwasgfa ar eu hincwm ers chwalfa 2008 a byddant yn dweud yn aml iawn, 'Wel, byddwn i wrth fy modd yn bwyta bwyd iachach, ond y gwir yw na allaf fforddio gwneud hynny.' Mae’r Aelod yn iawn, nid yw’n ymwneud â thargedu materion iechyd yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd i mewn i'r swyddi sydd eu hangen arnynt i gynyddu eu hincwm fel y gallant fwyta’n iachach yn y ffordd y byddent yn dymuno. A dyna’n union sut y mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu, gan edrych ar atebion cyfannol i faterion yn hytrach na'i wneud drwy fformiwla mewn adrannau.

Gallai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect Cwm Yfory, yn Llwydcoed yn fy etholaeth i, olygu y bydd gwastraff bwyd yn darparu digon o bŵer ar gyfer 1,500 o gartrefi, trwy gynhyrchu dros 1 MW o drydan gwyrdd. Pa werthusiad dros dro y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o’r prosiect hwn?

Ein blaenoriaeth yw lleihau cyfanswm y gwastraff bwyd, yn amlwg, a gynhyrchir gan gartrefi. Rydym ni’n gweithio gyda'r awdurdodau lleol sy'n rhan o ganolfan Cwm Yfory i ddarparu cymorth ymgyrch wedi'i dargedu i gynyddu faint o wastraff bwyd sy'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol i’w ailgylchu. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ymgyrch yn cael ei gwerthuso i benderfynu ar ei llwyddiant trwy edrych ar y data ailgylchu gwastraff bwyd.

Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer caffael cerbydau newydd ar ddechrau masnachfraint reilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ(5)0371(FM)

Gallaf ddweud bod y broses o gaffael y contract hwn wedi dechrau ac rydym ni wedi ei gwneud yn eglur ein bod ni’n disgwyl gweld cerbydau o ansawdd uwch yn cael eu cyflwyno yn rhan o'r broses honno.

Mae teithio ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd yn ystod y cyfnod brig ar reilffyrdd y Cymoedd yn brofiad ofnadwy. Rwy’n gwybod hynny o deithiau yr wyf i wedi bod arnynt fy hun, ac mae rheilffyrdd y Cymoedd yn gyffredinol, rwy’n clywed, yr un fath. Mae Arriva wedi dweud wrthyf nifer o weithiau nad oes cerbydau ar gael i leddfu'r gorlenwi. Dywedasant wrthyf y byddai’n cymryd oddeutu tair blynedd i gaffael trên diesel newydd, o’r caffaeliad i dderbyn y stoc. Mae hynny'n golygu, os archebir stoc diesel newydd yn rhan o'r cytundeb masnachfraint newydd, efallai na fydd teithwyr ar y rheilffyrdd yn gweld cerbydau newydd tan 2021 ar y cynharaf. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i leddfu'r broblem yn y tymor byr o ran cerbydau? Hefyd, a oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru archebu cerbydau newydd heddiw neu yn y misoedd nesaf? Efallai y bydd gan y gweithredwyr newydd, pan fyddant yn cymryd y fasnachfraint drosodd, gerbydau o ansawdd a nifer digonol i leddfu'r broblem gorlenwi.

Peidio â chael rheolaeth dros y fasnachfraint yw’r broblem fu gennym ni’n hanesyddol. Ni fyddwn yn gallu sefydlu asiantaeth sector cyhoeddus i redeg y fasnachfraint, oni bai bod newidiadau yn San Steffan, er bod yr Albanwyr yn gallu, wrth gwrs, ond ni fyddwn ni’n gallu gwneud hynny. Yr anhawster yw bod y model presennol yn cynnwys gweithredwyr sydd ar y cyfan yn prydlesu eu cerbydau. Felly, pan eu bod yn wynebu problemau capasiti, nid yw’r stoc ganddynt. Yn nyddiau British Rail, roedd y stoc yno. Dyna'r broblem gyda'r model sydd gennym ni ar hyn o bryd a'i wendidau o’i gymharu â'r model British Rail a oedd yn bodoli cyn dechrau’r 1990au. Ond rydym ni’n ei gwneud yn eglur, yn rhan o'r broses gaffael ar gyfer y contract newydd, ein bod ni’n disgwyl gweld cerbydau o ansawdd uwch. Nid yw’n mynd i fod yn ddigon da yn y dyfodol i ddweud yn syml, 'Mae cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ni ei gaffael' neu 'Mae cyfyngiad ar ansawdd y cerbydau a fydd yn rhedeg ar reilffyrdd Cymru.' Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth gyflwyno’r metro, ei fod ymhlith y goreuon yn Ewrop.

Pryderon tebyg i Hefin David, ond yn ymwneud â rheilffordd Calon Cymru o Abertawe i Amwythig—gyda theithwyr yn teimlo bod y contract presennol ymhell o fod yn addas i’w ddiben. A allwch chi roi sicrwydd i deithwyr eich bod chi’n bwriadu darparu mwy o drenau, trenau cyflymach a threnau gwell yn rhan o'r cytundeb masnachfraint nesaf?

Rydym ni’n benderfynol na fydd unrhyw reilffordd yng Nghymru yn cael ei gadael ar ôl. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y profiad teithio i bobl cystal ar reilffordd a ddefnyddir yn helaeth fel rheilffordd Calon Cymru, sy'n llwybr pwysig i gymaint o gymunedau yng Nghymru. Dywedir, wrth gwrs, mai’r rheswm pam mae wedi goroesi yw ei bod yn rhedeg trwy chwe etholaeth ymylol—yn ôl yr hen chwedl—ond mae'n dda ei gweld hi yno. Mae'n rhan bwysig, nid yn unig i’n rhwydwaith rheilffordd i deithwyr, ond mae’n rheilffordd ddargyfeirio trenau cludo nwyddau bwysig hefyd pan fydd y brif reilffordd ar gau.

Erbyn mis Ionawr 2020, bydd angen i gerbydau yng Nghymru gydymffurfio â'r rheolau newydd ar gyfer y DU gyfan ar fynediad i bobl anabl. Fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd, ni fyddai’r rhan fwyaf o gerbydau Cymru a'r gororau yn bodloni’r safonau hyn ac mae gennym ni dystiolaeth i awgrymu y gallai sicrhau cerbydau newydd gymryd, wrth gwrs, hyd at bedair blynedd. A ydych chi’n ffyddiog y bydd y fflyd yn cael ei moderneiddio mewn pryd ar gyfer y terfyn amser hwn sy’n agosáu?

Ceir disgwyliadau y byddwn yn eu gorfodi ar y rhai sy'n gwneud cais i redeg contract masnachfraint Cymru a'r gororau, ac yn rhan o'r disgwyliadau y bydd gennym ni, byddwn eisiau gwneud yn siŵr bod ganddynt brawf nid yn unig yn erbyn y gyfraith fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd ond, wrth gwrs, sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r gyfraith yn y dyfodol.

O gofio bod y cerbydau newydd yn ofyniad hanfodol o ran y penderfyniad masnachfraint, a yw’r Prif Weinidog mewn sefyllfa i ddweud wrth unrhyw bartïon â diddordeb pa un a, ac i ba raddau, y bydd stoc rheilffordd ysgafn yn ofynnol yn hytrach na stoc rheilffordd safonol, o ystyried goblygiadau'r system metro arfaethedig?

Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses. Mae'n iawn i ddweud, yn sicr yn y dyfodol, y byddwn yn edrych ar reilffordd ysgafn o ran darparu gwasanaethau newydd. Mae'n haws gwneud hynny na thrwy reilffyrdd trwm. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n ystyried yn ofalus iawn beth fydd y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol. Rwy’n pwysleisio, pa bynnag fodel a ddewisir ar gyfer unrhyw reilffordd benodol, y bydd telerau ac amodau’r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth rheilffyrdd, wrth gwrs, yn cael eu diogelu.

Perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd

5. Pa bryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyfarfod ddiwethaf â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i drafod perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0372(FM)[W]

Wel, fe gwrddais â hi ym mis Hydref ac fe siaradais â hi'r bore yma cyn yr araith a wnaeth hi'r bore yma. Ni ddywedodd hi lot ynglŷn â beth roedd hi’n mynd i’w ddweud, heblaw am ddweud y byddai hi’n moyn sicrhau y byddai Prydain Fawr yn edrych mas i wledydd eraill y byd ac, wrth gwrs, yn cynnal perthynas dda gyda gwledydd Ewrop.

Tra fy mod yn falch o glywed bod y Prif Weinidog wedi siarad gyda Phrif Weinidog y Deyrnas y bore yma, nid wyf yn synnu nad oedd e wedi cael llawer o oleuni. Ond o ddeall beth y mae hi wedi ei ddweud yn yr araith, a ydy hi yn deall na fyddai’n briodol iddi hi, fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, geisio negodi ynghyd â gweddill yr Undeb Ewropeaidd ar faterion sydd wedi’u datganoli i’r fan yma?

Wel, sylwais ei bod hi wedi dweud na fyddai newid ynghylch pwerau datganoledig ac y byddai cyfreithiau yn cael eu gwneud yn y Seneddau dros y Deyrnas Unedig. Dywedodd hi hefyd bod eisiau cryfhau’r undeb rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn gwybod yn gwmws beth mae hynny’n ei feddwl. Os yw hynny’n meddwl, felly, y cawn ni system lle mae yna beirianwaith o sicrhau cytundeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ynglŷn â rhai pethau sy’n gyffredin rhyngom ni, wel, rwyf yn croesawu hynny. Os yw hynny’n rhyw fath o neges i ddweud y byddai rhai pethau’n cael eu penderfynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn mannau datganoledig—na, ni fyddwn i’n croesawu hynny.

Brif Weinidog, mae'n siŵr eich bod wedi eich brawychu cymaint â minnau yr wythnos diwethaf pan siaradodd ASau Torïaidd yn San Steffan am bedair awr i atal y Bil Aelod preifat gan Melanie Onn AS, a fyddai wedi diogelu pob agwedd ar ddeddfwriaeth gyflogaeth a ddiogelir ar hyn o bryd o dan gyfraith yr UE ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. A nodaf, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â gweithredoedd ei ASau yr wythnos diwethaf, bod Prif Weinidog y DU wedi rhoi sicrwydd penodol ar hawliau gweithwyr yn ei datganiad y bore yma. Ond a yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn dangos bod rhaniad eglur yn y blaid Dorïaidd ar y mater hollbwysig hwn o hawliau gweithwyr, sy'n golygu ei bod yn mynd i fod yn anoddach nag erioed i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn ym Mhrydain ar ôl Brexit, ac a yw'n cytuno hefyd â'r TUC y bydd angen i ni wybod yn union beth fydd y fframwaith ar gyfer hawliau a swyddi gweithwyr?

Wel, nodais yr hyn a ddywedodd hi. Croesewais yr hyn a ddywedodd. Yn wir, dywedodd nid yn unig y byddai hawliau yn cael eu diogelu ond y byddent yn cael eu hymestyn yn y dyfodol, nad oeddwn i’n ei ddisgwyl, ond sy’n rhywbeth rwy’n ei groesawu. Tanseiliwyd hyn, wrth gwrs, gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, a saethodd fwled fawr iawn drwy’r ddadl honno. Gobeithio fod hyn yn arwydd ei bod hi’n barod i frwydro’r asgell dde rhonc yn ei phlaid ei hun ac i gyflawni'r addewidion a wnaeth heddiw, oherwydd gwyddom fod rhai yn y Blaid Geidwadol sydd o’r farn mai’r ffordd orau ymlaen yw gwneud y DU yn fodel o ddadreoli, mewn ffordd debyg i rai gwledydd yn y byd lle nad oes unrhyw hawliau i weithwyr, lle mae pobl yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu swyddi ac y mae eu hansawdd bywyd yn llawer is na’r hyn sy’n bodoli yn y DU ar hyn o bryd hyd yn oed.

Roedd gennyf ddiddordeb yn sylwadau cynharach y Prif Weinidog ynghylch ein perthynas â’r UE yn y dyfodol, yn enwedig y goblygiadau i borthladdoedd Cymru. Awgrymodd y byddai'n annerbyniol i Ogledd Iwerddon gael trefniadau tollau mwy ffafriol na Chymru. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, yn y sefyllfa honno, a fyddai'n dadlau yn erbyn telerau o’r fath i Ogledd Iwerddon, neu a fyddai'n ceisio dull gwahaniaethol tebyg i Gymru er mwyn amddiffyn ein porthladdoedd a'n heconomi?

Ni fyddwn eisiau gweld tollau o gwbl rhwng unrhyw fan yn y DU ac unrhyw fan yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yr hyn yr wyf i’n ei ofni yw y bydd bargen yn cael ei tharo lle na fydd unrhyw safleoedd tollau o gwbl ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth, ond eto bydd rhai ym mhorthladdoedd Cymru. Pe byddech chi’n weithredwr, y peth olaf y byddech chi ei eisiau fyddai gorfod mynd drwy'r tollau yn gorfforol, ac yn hytrach na mynd trwy Gaergybi, rydych chi’n mynd trwy Cairnryan i Larne ac i mewn i Ogledd Iwerddon, sy'n rhoi mantais gystadleuol sylweddol i Ogledd Iwerddon dros borthladdoedd Cymru. Byddai hynny'n cynrychioli, i mi, canlyniad annheg.

Brif Weinidog, rwy’n credu mai Brexit eglur oedd y canlyniad mwyaf tebygol erioed, o ystyried yr hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio’n bennaf ar yr hyn sy’n digwydd wedyn. A ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni geisio cael trefniadau sy'n seiliedig ar barch at ein cymdogion yn yr UE? Ni ddylai fod unrhyw elfen o ddymuno i’r UE fethu; bydd hynny’n achosi problemau enfawr i ni yn uniongyrchol. Cryfhau swyddogaeth Sefydliad Masnach y Byd—rwy’n bryderus iawn y gallai polisi America newid ar y mater hwn nawr, er fy mod i’n credu mai llawer o'r hyn y seiliodd pobl a oedd yn dadlau dros Brexit eu barn arno oedd y byddem ni’n symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd, os mai dyna fyddai’n ofynnol. Yn olaf, mae swyddogaeth NATO—rydym ni’n cofio yr uwchgynhadledd hynod lwyddiannus honno yma yng Nghasnewydd—yn ffordd o ddangos i'r byd bod Prydain yn dal i geisio bodloni ei rhwymedigaethau rhyngwladol, a bod yn gymydog da.

Mae hynny'n hollol wir. Mae Brexit yn debyg i sefyll mewn bwyty a rhywun yn dweud yr hyn nad ydyn nhw ei eisiau oddi ar y fwydlen, yna’n ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau heb iddyn nhw fynegi barn ar y mater o reidrwydd. Fel gwleidyddion, rydym ni i gyd wedi bod yn ceisio dyfalu beth maen nhw ei eisiau. Mae cymaint o wahanol fodelau. I mi, y bwriad o’r cychwyn fu gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwarchod, amddiffyn a gwella economi Cymru—mae hynny’n gwbl sylfaenol yn fy marn i—ac mae'n ymwneud â bod yn gymydog da. Nid yw Ewrop yn ymdrin ag anghydfod yn dda iawn; mae hanes yn dweud hynny wrthym. Rydym ni wedi bod yn llawer cryfach erioed pan ein bod ni wedi gweithio gyda'n gilydd. Yr Undeb Ewropeaidd oedd y fframwaith ar gyfer heddwch—y fframwaith ar gyfer heddwch yng Ngogledd Iwerddon, o ran hynny—ac mae'n hynod bwysig nad yw'r ewyllys da a’r cydweithrediad a ddatblygwyd dros gymaint o flynyddoedd ers diwedd y rhyfel yn cael eu colli wrth i ni geisio sefydlu perthynas newydd gyda'r UE yn y dyfodol.

Tata Steel

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan pa gynlluniau sydd ganddo i drafod y pecyn o gynigion y mae Tata Steel wedi'i gyflwyno i'r gweithlu gyda'r cadeirydd dros dro, Ratan Tata? OAQ(5)0370(FM)

Trafodais y mater gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK ddoe yn y cyfarfod a gefais gydag ef, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Koushik Chatterjee, sef Prif Swyddog Gweithredol cyllid Tata, sy'n ddylanwadol iawn o ran y materion hyn. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn hynod bwysig bod Tata yn esbonio'n glir iawn i'r gweithlu beth yw goblygiadau'r newidiadau.

Yn ei gyfarfod â Bimlendra Jha, a lwyddodd i amlinellu natur y pryderon yr ydym ni wedi eu mynegi yn fy mhlaid i, ond sydd hefyd yn cael eu rhannu'n eang ymhlith y gweithlu, am natur hynod ansicr yr ymrwymiadau ar fuddsoddiad a chyflogaeth, a hefyd canlyniadau posibl y cynnig i ddadgysylltu cynllun pensiwn Dur Prydain a Tata yn creu cronfa amddifad i bob pwrpas? Ac a lwyddodd i gael rhywfaint o sicrwydd neu gonsesiynau gan Tata Steel o ran rhai o’r pryderon hyn?

Yr hyn a wyddom gan Tata yw eu bod wedi ymrwymo i’r pum mlynedd nesaf o leiaf i Bort Talbot os ceir cytundeb ar y cynllun pensiwn. Rydym ni’n gwybod y byddant wedi ymrwymo i ddwy ffwrnais chwyth yn y cyfnod hwnnw. Mae'r arian yr ydym ni wedi ei roi ar gael o bosibl i Tata yn amodol; rydym ni eisiau gweld rhai gwarantau yn cael eu rhoi ar waith os yw'r arian hwnnw’n mynd i gael ei ryddhau, fel y byddai’r Aelodau’n disgwyl i ni ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn deg i ddweud, er bod y penderfyniad hwn yn anodd i’r gweithwyr yno, nad oes unrhyw beth arall ar y bwrdd. Y dewis yw derbyn yr hyn sydd yno, er mor anodd y gallai hynny fod, neu rydym ni yn ôl i’r cychwyn, i bob pwrpas: ansicrwydd mawr. Mae'n ddewis anodd, rwy’n derbyn hynny, ond dyna'r dewis y mae’r gweithwyr yn ei wynebu. Serch hynny, rydym ni wedi dod yn bell o ble’r oeddem ni ym mis Mawrth pan oedd y sefyllfa'n llwm dros ben, mae’n rhaid i mi ddweud. Pe byddech chi wedi gofyn i mi bryd hynny a fyddai pen trwm Port Talbot yn parhau, rwy’n credu mai ‘na fyddai’ fyddai’r ateb wedi bod yn ôl pob tebyg; roedd yn annhebygol. Oherwydd y gwaith caled sydd wedi ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru; y gwaith caled sydd wedi ei wneud gan gynrychiolwyr fel David Rees; ac oherwydd y gwaith caled a wnaed gan ein swyddogion, mae'r arian wedi ei roi ar y bwrdd ac rydym ni mewn sefyllfa, erbyn hyn, lle mae Tata yn gallu cynnig cyfle i weithwyr Cymru y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried nawr.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod gyda’r undebau llafur a’r gweithwyr dur yr wythnos diwethaf, unwaith eto, i drafod rhai o'r materion sy'n gysylltiedig â'r heriau sy'n eu hwynebu. Roedd y cynnig yn un o'r materion a gododd, a’r hyn a oedd yn eglur oedd y diffyg ffydd, fel yr wyf yn credu sydd wedi cael ei amlygu, yn Tata ei hun ar hyn o bryd. Rwyf wedi rhannu hynny fy hun gyda Mr Jha, ond a wnewch chi ei godi nawr gyda chadeirydd newydd Tata and Sons, Mr Chandrasekaran, gan ei bod yn bwysig bod llais o frig Tata yno i ddweud, 'Rydym ni’n cefnogi’r cytundeb hwn, rydym ni’n mynd i anrhydeddu’r cytundeb hwn, mae'n mynd i fod ar y bwrdd a byddwn yn ei ddarparu'? Credaf fod llais o'r brig yn bwysig i'r gweithwyr gael y ffydd honno y maen nhw wedi ei golli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rwy'n credu bod hwnna’n awgrym diddorol. Fel y dywedais, rwyf wedi ei gwneud yn eglur i Tata ei bod yn hynod bwysig ei fod yn cyfathrebu mor effeithiol â phosibl i'r gweithlu yr hyn sydd ar y bwrdd yma a’u hymrwymiadau eu hunain, wrth gwrs. Nid oes gennyf unrhyw reswm i amau’r ​​ymrwymiadau y mae Tata wedi eu gwneud. Ond, wrth gwrs, mae'n bwysig ailadrodd y pethau hyn er mwyn i bobl ddeall bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu gwneud.

Brif Weinidog, dywedasoch nad oes unrhyw gynnig arall ar y bwrdd ac rwy’n derbyn y sefyllfa honno hefyd. Ond a gaf i ofyn pa drafodaethau cychwynnol ydych chi wedi eu cael, fel Llywodraeth, gyda Llywodraeth y DU, yr undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb, ar ddatblygu strategaeth arall rhag ofn y bydd y cynnig presennol yn cael ei wrthod?

Nid oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb, ac ni fu ganddi ddiddordeb ers newid y Prif Weinidog. Rydym ni mewn sefyllfa lle mae’r mater o ddiwydiannau ynni-ddwys a phris trydan yn y DU yn dal i fod yn broblem. Fe'i codwyd gyda mi gan Tata ddoe; maen nhw’n dal i ddweud bod y DU yn lle drud i wneud busnes oherwydd ei phrisiau ynni. Nid ydym wedi gweld camau digonol gan Lywodraeth y DU eto i gefnogi’r gwaith da sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

Ffordd Osgoi Caernarfon/Bontnewydd

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ffordd osgoi Caernarfon/Bontnewydd? OAQ(5)0367(FM)[W]

Rŷm ni’n ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r gorchmynion drafft a gafodd eu cyhoeddi fis Awst y llynedd. Fe fydd yna gyhoeddiad ynglŷn â’r camau nesaf yn fuan.

Mi ges i gyfarfod ddoe efo’r contractwyr ar gyfer y cynllun yma, sef Jones Brothers a Balfour Beatty, ac maen nhw’n bryderus iawn nad oes yna ddyddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynny, yn ei dro, yn mynd i olygu oedi os nad oes yna symudiad buan iawn ar gyfer hynny. Mae’r cynllun wedi’i oedi 12 mis yn barod, fel y byddwch chi’n gwybod, oherwydd dadlau ynglŷn ag ystlumod. Yn sicr, nid ydym eisiau mwy o oedi. A fedrwch chi roi sicrhad y gall y contractwyr symud ymlaen efo’r cynllun yma yn fuan yn 2018, sef yr amserlen ar hyn o bryd?

Rŷm ni’n mynd trwy’r pethau a gafodd eu codi yn y datganiad amgylcheddol ym mis Awst er mwyn sicrhau bod y rheini’n cael eu datrys. Ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru, gallaf ddweud wrth yr Aelod fod yr ymrwymiad i adeiladu’r ffordd osgoi yn dal i fod yna, er bod oedi wedi bod. Nid oedd modd i osgoi hynny. Ond, na, mae’n hollbwysig bod yr hewl yn cael ei hadeiladu cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cymorth i Fusnesau Newydd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau newydd yng Nghymru? OAQ(5)0378(FM)

Mae cymorth ar gael i bob busnes, gan gynnwys busnesau newydd, trwy amrywiaeth o gronfeydd, gan gynnwys ein cronfa ad-daladwy a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer BBaChau a'r gronfa twf a ffyniant.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Gwyddom yn iawn y problemau y mae busnesau mewn rhai rhannau o Gymru yn eu hwynebu gyda'r cynnydd enfawr i ardrethi busnes fis Ebrill eleni. Mae hyn yn arbennig o anodd i fusnesau mwy newydd. Er fy mod i’n croesawu'r ymrwymiad o gymorth ychwanegol yn y gyllideb, ceir diffyg eglurder o hyd ynghylch sut y mae'r arian hwnnw'n mynd i gael ei ddosbarthu, ac mae rhai busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn nhir neb, yn enwedig y rhai y mae angen iddynt lofnodi prydlesi mwy hirdymor. Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion llawn y pecyn cyllid newydd sydd ar gael i fusnesau a sut y bydd busnesau yn gallu gwneud cais amdano?

Bydd hynny'n cael ei gyhoeddi’n fuan. Roedd yn bwysig, wrth gwrs, cael y gyllideb drwy'r Cynulliad er mwyn peidio â rhagfarnu canlyniad hynny. Ac, wrth gwrs, gallaf ailadrodd y bydd cynllun rhyddhad ardrethi parhaol newydd ar gyfer busnesau bach yn cael ei gyflwyno o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

2. Cwestiwn Brys: NSA Afan

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan? EAQ(5)0093(CC)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus Llywodraeth Cymru i honiadau o gamddefnyddio posibl o arian. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd. Byddai'n amhriodol imi wneud unrhyw sylwadau pellach.

Mae elfennau o'r hyn sydd wedi digwydd yn NSA Afan sydd yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu ar hyn o bryd, fel y soniasoch—ac rwy’n credu, yn amlwg, bod angen i ni fod yn sensitif i hynny—ond beth sydd o ddiddordeb i mi yw cyfranogiad eich Llywodraeth ac ymchwilio i gyfres o honiadau am afreoleidd-dra ariannol, a wnaed gan chwythwr chwiban fis Rhagfyr y llynedd, nad ydyn nhw ar hyn o bryd, fel y deallaf, yn destun ymchwiliad yr heddlu. Ar sail yr honiadau hyn, mae eich Llywodraeth wedi cymryd y cam o atal ei chyllid yn llawn i NSA Afan, a beth mae hyn yn ei olygu yw na fydd rhai o'r 16 o aelodau staff yn cael eu talu o gwbl ymhen pum diwrnod, ac mae uwch-swyddogion yn NSA Afan wedi dweud wrthyf eu bod wedi gofyn i chi adfer y cyflog tra y byddwch yn parhau i edrych ar y broses hon. Maen nhw hefyd wedi dweud y dylai hyn gael ei atgyfeirio yn llwyr i’r heddlu fel y gallan nhw edrych ar hyn yn annibynnol, a byddwn yn ategu'r alwad honno iddo gael ei drosglwyddo i'r heddlu ac i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru annibynnol edrych ar hyn. Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, er nad wyf yn amau ​​eich gonestrwydd personol chi, mae gennych fuddiant yn hyn fel Llywodraeth, oherwydd eich bod chi eich hun wedi archwilio NSA Afan, ac yn y gorffennol nid ydych wedi dangos bod pryderon yn yr archwiliadau penodol hynny. Byddwn felly yn eich annog i gyfeirio hyn i’r archwilydd cyffredinol ac i’r heddlu fel y gallwn gael ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r hyn sy'n digwydd yn NSA Afan ar hyn o bryd.

Fy nghais olaf i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yw eich bod o blaid terfynu Cymunedau yn Gyntaf a bod ymgynghoriad yn parhau. Byddwn i’n awgrymu’n gryf y dylid ymchwilio i’r materion hyn yn llawn cyn i chi ymrwymo i derfynu unrhyw un o'ch polisïau cenedlaethol o ran Cymunedau yn Gyntaf. Dylai'r holl wybodaeth am NSA Afan gael ei harchwilio'n llawn ac yn annibynnol, er mwyn i ni fel Aelodau'r Cynulliad, y cyhoedd a’r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny gael sicrwydd y dilynwyd y drefn lywodraethu a bod yr arian wedi ei ddefnyddio'n effeithiol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal hon, ac i ddangos i weddill Cymru bod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.

Lywydd, diolchaf i'r Aelod am ei chyfraniad. Mae'r Aelod yn gwneud llawer o ragdybiaethau yn ei chyfraniad, ac mae rhai ohonynt nad ydynt yn ffeithiol gywir. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau eraill, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd.

Diolch i chi am yr ateb yna, er ei fod yn fyr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cwrdd â’r prif weithredwr ac aelodau o'r bwrdd ymddiriedolwyr ar sawl achlysur ers y cyhoeddiad i atal cyllid ar 12 Rhagfyr. Fy mhryderon i yw, efallai: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr archwiliadau hyn ymlaen llaw? Rwy’n credu, fel yr amlygwyd, mai archwiliad Llywodraeth Cymru yw hwn. Pam na sylwyd ar hyn yn gynharach? Oherwydd mae problemau amlwg yno ac mae’n ymddangos eu bod wedi bod yn digwydd ers cryn amser. Ond hefyd, ceir cwestiwn cyllido o ran y cyfnod o 1 Rhagfyr i 12 Rhagfyr pan gafodd y cyllid ei atal. Beth sy'n digwydd i'r arian ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw? Ond, hefyd, pa ddewisiadau eraill a fydd yn cael eu rhoi ar waith? Rydych chi wedi atal y cyllid, ond mae yna bobl sy’n aros i ymuno â rhaglenni nad ydynt ar gael iddyn nhw, yn y bôn, gan fy mod yn deall bod NSA Afan wedi atal cyflwyno ei ddarpariaeth o raglenni mewn gwirionedd. A cheir aelodau staff, fel y nodwyd, sy'n debygol o golli eu swyddi o ganlyniad i hynny. Pa ddewisiadau eraill ydych chi’n eu rhoi ar waith neu yn eu sefydlu i sicrhau nad yw'r unigolion hynny yn talu’r pris am ymchwiliad a ddylai, efallai, fod wedi dod o hyd i rywbeth yn gynharach?

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Rwy’n diolch iddo ef ac i eraill am godi'r mater hwn gyda mi yn y gorffennol. Mae hyn yn cael ei ymchwilio gan Lywodraeth Cymru a gan yr heddlu ac nid wyf yn gallu rhoi unrhyw fanylion pellach am hyn i'r Siambr heddiw, ond pan fyddwn yn codi'r gwaharddiad, os byddwn yn gwneud hynny, ar gefnogaeth i NSA Afan, neu fel arall, byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr.

Fodd bynnag, rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwch chi ddweud wrthym amdano, Weinidog, yw’r effaith mae hyn yn ei chael ar sefydliadau partner sydd wedi bod yn gweithio gyda NSA i gyflwyno ystod o raglenni ers cryn amser erbyn hyn. Nid hwn yw’r sgandal posibl cyntaf sydd wedi mynd trwy archwiliad a chael sêl bendith—rydym yn ymwybodol o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan. Un o ganlyniadau difrifol Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan oedd i’r sefydliadau partneriaeth hynny, yr oedd yn rhaid i rai ohonyn nhw aros hyd at flwyddyn dan fygythiad o gael eu hymchwilio eu hunain o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd yno. Felly, yn gyntaf, a wnewch chi roi rhyw syniad i ni o amserlen yr archwiliad yr ydych chi’n ymgymryd ag ef yn y Llywodraeth, ond hefyd yr hyn yr ydych chi’n ei wneud i gefnogi’r sefydliadau partneriaeth hynny drwy gyfnod a fydd yn anodd iawn ac o bosibl, i bob pwrpas, yn ddiwedd arnyn nhw, os na fyddwch chi’n ymdrin â hyn yn gyflym?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n gobeithio y bydd fy nhîm yn rhoi argymhellion i mi ar ddyfodol y NSA a'r rhaglen erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau â NSA Afan, a hefyd â'r awdurdod lleol o ran unrhyw ganlyniadau posibl yn y dyfodol.

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rydw i’n galw nawr ar Mark Reckless i ofyn yr ail gwestiwn brys. Mark Reckless.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren? EAQ(5)0102(EI)

Member
Ken Skates 14:25:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Lywydd, ein safbwynt ni yw y dylid rhoi diwedd ar godi tollau ar unwaith a dychwelyd y croesfannau i berchnogaeth y cyhoedd, o ystyried y rhwystr y maen nhw’n ei gynrychioli i economi a swyddi a thwf yng Nghymru.

Hoffwn ofyn pam nad yw'r Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud unrhyw beth am y sefyllfa honno. Dywedodd y comisiwn Silk y byddai’r ddwy Lywodraeth yn cydgysylltu’n agos ar ddyfodol croesfannau Hafren; dywedodd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol hirdymor croesfannau Hafren; ac mae strategaeth fuddsoddi mewn ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth ei hun yn cydnabod yn gywir nad oes gan Lywodraeth y DU ond yr hawl i adennill ei chost ei hun o ran y gwaith adeiladu, cynnal a chadw a rheoli'r croesfannau, a hynny dim ond tan 2027. Aeth ymlaen i ddweud, felly, y byddai'r Adran Drafnidiaeth yn gweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru i archwilio’n fanwl ddyfodol y croesfannau.

Ar 16 Tachwedd, pasiwyd yn unfrydol fy nghynnig i ddiddymu’r doll ar ôl i’r croesfannau ddychwelyd i berchnogaeth y cyhoedd. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet ataf i ar 12 Rhagfyr, a gwnaeth y Prif Weinidog gynnwys darn o’r llythyr hwnnw yn ei lythyr at y Dirprwy Lywydd ar 9 Ionawr, gan ddweud y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd ei swydd fel yr awdurdod traffig ar gyfer y croesfannau, weithredu cynllun codi tâl ar gefnffyrdd o dan adran 167 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 mewn cysylltiad â chroesfannau Afon Hafren eu hunain, er gwaethaf y ffaith nad ydynt yn gyfan gwbl yn Lloegr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet bellach yn cydnabod nad dyna yw sefyllfa gyfreithiol y DU, a’i bod ond yn ceisio codi tâl ar gyfer yr hanner o’r groesfan Hafren sydd yn Lloegr? Ac a wnaiff ef ystyried bod yr hyn a ysgrifennodd ataf i ynglŷn â Gorchymyn trosglwyddo 1999 wedi'i ddisodli mewn gwirionedd gan adran 122 o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008, sydd wedi’i mewnosod yn Neddf Llywodraeth Cymru o dan Atodlen 5 ar y materion datganoledig, mater 10.1:

…creu, gweithredu a gorfodi cynlluniau i osod taliadau yn ymwneud â’r defnydd ... o ... gefnffyrdd yng Nghymru?

Pwy bynnag yw'r awdurdod priffyrdd, onid yw'n wir bod hanner y groesfan Hafren honno a’r man casglu tollau yng Nghymru, a bod y ddarpariaeth honno’n rhoi'r pŵer i’w Lywodraeth ef a’r Cynulliad hwn wneud y penderfyniadau hynny, nid Llywodraeth y DU? Onid dyna pam nad ydynt ond yn codi tâl am hanner y ffordd? A sut y mae ef yn tybio y gallant ddefnyddio'r man casglu tollau yng Nghymru pan fo deddfwriaeth sylfaenol yn pennu bod gweithredu a gorfodi cynlluniau o'r fath gan ddefnyddio tollau yng Nghymru—ac mae hynny yng Nghymru—yn faterion i Lywodraeth Cymru?

A wnewch chi hefyd ystyried bod Deddf Pontydd Hafren 1992 yn glir iawn, iawn, mewn deddfwriaeth sylfaenol, na all Ysgrifennydd Gwladol y DU godi toll hyd nes y codir swm penodol o arian, sef tua £80 miliwn yn ôl Gweinidogion y DU, a chyda'r doll ostyngedig, y byddai wedi’i godi erbyn diwedd 2019? Ar ôl hynny, bydd parhau i godi tollau yn anghyfreithlon yn ôl y ddeddfwriaeth sylfaenol honno. A ydyw wir yn credu y dylai Llywodraeth y DU gael rhwydd hynt i ddefnyddio is-ddeddfwriaeth—Gorchymyn—i barhau i godi tollau pan fo’r doll honno wedi’i gwahardd gan ddeddfwriaeth sylfaenol dan Ddeddf y Pontydd Hafren? O ystyried yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn y Cynulliad hwn, onid yw’n deall nad yw ailenwi toll—codi toll a’i galw’n orchymyn codi tâl—yn mynd i argyhoeddi'r llysoedd—yr un yw’r effaith; ei bwriad yw gwneud i bobl dalu i groesi'r bont—a bod yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, yn fy marn i, yn anghyfreithlon? Yn sicr ceir achos cryf i’w ddadlau ei fod yn anghyfreithlon. Felly, a gaf i ofyn iddo, er mwyn rhoi rhywfaint o effaith i’r hyn y dywed yw safbwynt ei Lywodraeth ef, a phenderfyniad unfrydol y Cynulliad hwn ar 16 Tachwedd, a wnaiff ef gyfarfod â mi a’i gyfreithwyr i archwilio'r materion hyn yn fanylach? Os yw’n derbyn bod o leiaf ansicrwydd ynghylch y sefyllfa, a wnaiff ef gyfarwyddo Cwnsler y Frenhines i roi cyngor allanol pendant i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn? Os bydd y cyngor hwnnw’n nodi bod o leiaf achos i’w ddadlau bod Llywodraeth y DU yn gweithredu'n anghyfreithlon, a wnaiff ef fwrw ymlaen â hynny, herio Llywodraeth y DU, os nad yw'n dileu ei gweithred, i sicrhau y caiff ein hawliau ni yma yng Nghymru a’r gyfraith eu parchu?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n ddrwg gennyf nad yw’r Aelod wedi llwyddo i ddeall ein safbwynt, sydd wedi bod yn gyson iawn yn fy marn i. Rydym wedi gwrthwynebu’n gyson fodolaeth tollau pan fydd y croesfannau’n dychwelyd yn ôl i berchnogaeth y cyhoedd, ac rydym wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn i'r Adran Drafnidiaeth, ar lefel gweinidogion ac ar lefel swyddogion, a hefyd dro ar ôl tro yn y cyfryngau. Byddwn i’n fodlon cyfarfod â'r Aelod i drafod yr hyn yr wyf i o’r farn ei fod yn faes cymhleth iawn o waith cyfreithiol, a byddwn hefyd yn falch o roi briff cynhwysfawr i Aelodau o'r gwahanol Ddeddfau y mae’r Aelod yn cyfeirio atyn nhw.

Rwy'n credu ei fod yn codi nifer o bwyntiau pwysig, ond yr hyn sydd gennym yn y bôn yw dadl gyfreithiol yn erbyn dadl economaidd. Mae gennym ddadl gyfreithiol sy'n cael ei chynnig gan Lywodraeth y DU; mae gennym ddadl economaidd sy'n dangos yn glir y byddai cael gwared ar y tollau yn fuddiol i economi Cymru. Nawr, rwyf hefyd yn siomedig, mae’n rhaid i mi ddweud, nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried dileu’r ddyled, sydd oddeutu £36 miliwn erbyn hyn, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi dileu’r ddyled ar gyfer croesfan Humber. Yn fy marn i, os yw’n iawn i wneud hynny ar gyfer yr Humber, dylai fod yn iawn i wneud hynny ar gyfer yr Hafren, ac rwyf wedi drysu, mae’n rhaid i mi ddweud, gan y rhesymeg sy'n cael ei roi, yn enwedig gan fod y croesfannau Hafren yn ffyrdd strategol, ac nid yn rhan o rwydweithiau awdurdodau lleol, fel sy’n wir am groesfan Humber.

Yn fy marn i, mae trethdalwyr Cymru—ac, yn wir, trethdalwyr eraill—eisoes wedi talu’r ddyled honno, gan symiau sylweddol o arian ar ffurf trethi cyffredinol dros nifer o flynyddoedd. Nawr, ni roddwyd unrhyw rybudd ymlaen llaw i ni o'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, rwyf wedi ysgrifennu i fynegi fy siom ynghylch hyn, a byddwn i'n fwy na pharod i rannu â’r Aelodau, drwy ddatganiad ysgrifenedig, fy ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau yn ymwneud â Deddf Pontydd Hafren 1992. Fel yr awgryma, yn seiliedig ar y cyngor—y cyngor cyfreithiol—yr wyf wedi’i gael, ein dealltwriaeth ni yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu parhau i godi tollau yn rhinwedd cynllun codi tâl ar ffyrdd, fel yr oedd yr Aelod yn sôn, o dan adran 167 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Er nad ydym yn credu bod unrhyw reswm i gredu nad yw hyn yn bosibl yn gyfreithiol, rwy’n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod, gyda chyfreithwyr. Ac, yn wir, rwy’n dychwelyd at y pwynt a wnes yn gynharach: ni waeth beth yw rhagoriaethau cyfreithiol sefyllfa Llywodraeth y DU, rwy’n credu ei bod hi’n gwbl amhosibl cyfiawnhau cynnal sefyllfa lle y trethir busnesau, a chymudwyr ar draws Afon Hafren.

Byddai'n wych pe byddai’r Siambr yr un mor frwdfrydig ynghylch gostwng prisiau tocynnau trên neu docynnau bws ag y maen nhw’n ymddangos ynglŷn â lleihau tollau ar y ffyrdd. Rwy’n credu, cyn i ni ruthro i fynnu bod hwn yn syniad da yn gyffredinol, hoffwn i weld dull a dealltwriaeth ychydig mwy rhagofalus o ba gynnydd mewn traffig y gallai hyn ei gynhyrchu, oherwydd y goblygiadau ar gyfer fy etholwyr yw eu bod eisoes, mewn rhai rhannau, yn byw gyda lefelau annerbyniol o lygredd aer, ac yn sicr ni fyddai unrhyw gynnydd yn cael ei groesawu. Felly, tybed pa waith dadansoddi y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith traffig cynyddol o ganlyniad i naill ai leihau neu ddileu y doll ar groesfan Hafren.

Rwy’n deall bod Llywodraeth y DU wedi cynnal dadansoddiad, yn seiliedig ar fodel TEMPro 7, ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn cofio y bu’n broblem yn y gorffennol, yn enwedig lle mae’r gwaith o fodelu defnydd o’r M4 yn y cwestiwn. Yn bersonol, nid wyf yn credu y dylem ni geisio rhoi mwy o bwyslais ar deithio ar y ffyrdd na theithio ar drên neu fws. Rwy’n credu bod gennym ni hanes clodwiw o ran teithio ar fws a thrên, yn enwedig teithio ar fws, lle y mae’r pwerau gennym, a lle’r ydym wedi gallu ymyrryd.

Rwy'n myfyrio ar hyn o bryd ar y ffaith bod 101 miliwn o siwrneiau yn cael eu gwneud gan deithwyr ar fws. Rydym ni wedi cynhyrchu cynllun pum pwynt i sefydlogi a chryfhau’r rhwydwaith bysiau ar draws Cymru. Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd fysiau ddydd Llun nesaf, yn Wrecsam, ac mae'r rhwydwaith TrawsCymru ledled Cymru yn mynd o nerth i nerth. Nawr, y gwir amdani yw y byddwn yn gallu darparu rhwydwaith bysiau gwell fyth unwaith y bydd y pwerau sydd eu hangen arnom yn cael eu cyflwyno i ni drwy Fil Cymru. Yn fy marn i, mae modd i ni gael gwasanaeth bws gwell a mwy cynaliadwy, ond yn fy marn i hefyd, mae modd i ni gael system decach ar gyfer croesfannau Hafren.

A gaf i ddiolch am y cwestiwn, a hefyd ddiolch am eich ymateb gwreiddiol chi i Mark Reckless? Achos, yn naturiol, mae hwn yn achosi cryn benbleth i ni hefyd fel plaid, ac, fel roedd Mark Reckless yn sôn, rydym ni eisoes wedi cael cytundeb unfrydol ar draws y pleidiau yn fan hyn bod angen diddymu’r tollau yma yn gyfan gwbl. Achos, fel rydw i wedi ei grybwyll o’r blaen yn y ddadl, mae yna bont wrth fy swyddfa i ym Maglan, sef y bont dros yr afon Nedd yn Llansawel, sydd hefyd ar stilts, sydd hefyd yn croesi afon. Nawr, wrth gwrs, nid oes yna doll yn fanna o gwbl. Nid wyf yn awgrymu y dylai bod tollau ar y bont yna, yn naturiol, ond, wrth gwrs, nid yw’n gwneud synnwyr yn athronyddol bod yna dollau ar rai pontydd a ddim ar bontydd eraill. Ac, fel rydych chi wedi ei ddweud eisoes, mae’r tollau dros bont Humber wedi eu diddymu eisoes ac mae’r ddadl dros ddiddymu’r tollau dros yr Hafren yn fwy strategol, fel ydych chi wedi cyfeirio ato eisoes. Nawr, nid wyf wedi clywed neb yn dadlau y dylai’r tollau gael eu lleihau i £3. Beth rydw i wedi bod yn ei glywed o bob man ydy bod angen cael gwared â’r tollau yn gyfan gwbl. Felly, rydw i’n gwybod realiti’r sefyllfa, ond beth yn union allwn ni ei wneud nawr i wthio’r agenda yma ymlaen o ddiddymu’r tollau yn gyfan gwbl? Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a hoffwn ei sicrhau, hyd yn oed os oedd yn gofyn i mi ystyried codi tollau ar y bont benodol honno yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli, byddwn yn gwrthod ystyriaeth o'r fath. [Chwerthin.] Y gwir amdani yw—rwy’n cyfeirio’n ôl at y pwynt a wnes i’n gynharach—o ystyried trethiant cyffredinol, mae defnyddwyr croesfannau Hafren eisoes wedi talu cryn dipyn yn fwy na lefel amcangyfrifedig y ddyled. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, yn seiliedig ar adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, tua £30 miliwn yw’r gost flynyddol ar gyfer cynnal a chadw’r croesfannau, a fyddai'n awgrymu bod un rhan o chwech o'r tollau a godir ar hyn o bryd yn ddigon i dalu am y costau hynny. Felly, ar hyn o bryd, cynigir y bydd yn rhaid talu £3 y tro i groesi, sef tua hanner. Gallai fod yn fwy o doriad na hynny, nid oes dim amheuaeth am hynny. Felly, byddaf yn gwneud fy sylwadau. Byddwn yn annog yr Aelod a'i blaid, a phob plaid a phob Aelod yn y Siambr mewn gwirionedd, i wneud hynny yn yr un modd a pharhau i wthio, fel yr ydym eisoes wedi nodi mewn modd unfrydol, i gael gwared ar y tollau hynny, a dod â’r croesfannau yn ôl dan berchnogaeth y cyhoedd.

Rwy’n sicr yn croesawu'r penderfyniad i dorri'r tollau, a chredaf y bydd yn hwb enfawr i fodurwyr. Nawr, rydych chi wedi amlinellu eich dymuniad, Ysgrifennydd y Cabinet, i weld y tollau ar groesfan Hafren yn cael eu diddymu, ac rwy’n cytuno â’r uchelgais honno hefyd, hyd yn oed os oes cwestiynau ariannol difrifol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac, yn wir, faterion yn ymwneud â llif traffig hefyd, fel y mae Jenny Rathbone wedi’u hamlinellu. Nawr, mae fy safbwynt ychydig yn wahanol i'r siaradwr olaf, ond byddwn yn gofyn i chi: sut y byddech chi’n ateb y rhai hynny sy'n dweud ei bod hi’n anghyson i Lywodraeth Cymru barhau i ganiatáu i bont Cleddau gael ei rhedeg i gynhyrchu elw gan ei chyngor, a chondemnio'r tollau a godir ar bont Hafren?

Mae'n eironig iawn mai’r blaid yr honnir ei bod yn cefnogi busnes sydd mewn gwirionedd o blaid treth gyson sylweddol ar ddefnyddwyr croesfan Hafren, ond mewn gwirionedd Plaid Lafur Cymru sy’n gwneud mwy dros fusnes drwy ddadlau yn uchel ei chloch dros gael gwared ar y dreth hon ar fusnes. Byddwn yn gwneud hynny’n ddiedifar. Rydym yn dadlau dros welliannau i ragolygon economi Cymru. Rydym wedi profi, yn y Llywodraeth, y gall economi Cymru dyfu'n gyflymach nag y gall economi'r DU, yn seiliedig ar y penderfyniadau a wnawn. Os gallwn argyhoeddi Llywodraeth y DU, ac rwy’n mawr obeithio y gallwn ni wneud, i gael gwared ar y trethi hynny ar ddefnyddwyr croesfannau Hafren, rwy'n hyderus y bydd y Llywodraeth hon a’r blaid hon yn parhau i gryfhau economi Cymru.

Wel, nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd llawer o'r hyn sydd wedi’i ddweud eisoes yn y Siambr heddiw, gan fy mod o’r farn ei fod yn ffactor mor bwysig ar gyfer economi Cymru. Mae fy nghydweithiwr wedi amlinellu’n effeithiol iawn y sefyllfa gyfreithiol o ran cynnig y Llywodraeth i gadw tollau’r bont ar ôl y dyddiad trosglwyddo. Hoffwn ganolbwyntio ar y sefyllfa ariannol o ran cadw tollau’r bont, ar ba bynnag lefel. Nid yw tollau pont Hafren yn ddim llai na threth ar fusnesau Cymru, ac yn rhwystr pendant i unrhyw fusnes sy'n dymuno lleoli yng Nghymru, yn enwedig y rhai y mae eu marchnadoedd yn bennaf yn Lleogr neu’r cyfandir. Gall tollau pont ychwanegu miloedd o bunnoedd y flwyddyn at gostau gweithredol busnesau o'r fath. Ni fydd UKIP yn derbyn dim llai na dim tollau. Mae pobl Prydain yn talu symiau enfawr o arian drwy ardoll y drwydded treth; byddai costau cynnal a chadw hen bont Hafren a’r bont Hafren newydd gyfwerth â chyfran fach iawn o'r refeniw hwn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud y sylwadau cryfaf i Lywodraeth y DU o ran eu gallu cyfreithiol i gadw’r tollau hyn ar ba bynnag lefel.

Wel, byddwn i'n cytuno â'r Aelod ac yn dweud ei bod i raddau helaeth iawn yn dreth ar fusnesau Cymru ac yn rhwystr i fuddsoddiad, ac rwy’n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwrando ar yr hyn y mae’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’i ddweud, ac yn newid eu safbwynt gwrth-gystadleuol.

Y mae gennych ddawn dweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Blwyddyn newydd dda i chithau hefyd.

Byddech yn cael maddeuant am feddwl ei bod hi’n dal yn ‘Ddydd Llun y Felan’ o wrando ar rai o'r cwestiynau llai na chadarnhaol a ofynnwyd i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod ni’n derbyn y byddai llawer ohonom yn hoffi gweld y tollau yn cael eu dileu’n gyfan gwbl ar y croesfannau Hafren, ac yn cydnabod y byddai hynny o fudd enfawr i'r economi, rwy’n credu bod yn rhaid i chi dderbyn bod y cyhoeddiad hwn yn welliant ar y sefyllfa a oedd gennym o’r blaen. Bydd modurwyr sy’n croesi’r pontydd hynny, o ganlyniad i'r newid hwn, yn talu tollau is nag yr oedden nhw, ac felly bydd ganddyn nhw fwy o arian yn eu pocedi. Felly, mae'n rhaid bod hynny’n fantais gadarnhaol i fusnesau. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi bod yn eirioliwr dros y metro a thrydaneiddio. A fyddech chi’n derbyn bod hyn yn rhan arall o jig-so’r ddinas-ranbarth, wrth i ni leihau’r tollau hynny? A sut ydych chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol ym maes y fargen ddinesig i fanteisio i’r eithaf ar y datblygiad hwn a cheisio sicrhau’r effaith orau bosibl i fusnesau yn y de-ddwyrain?

Yn olaf, Lywydd, gan gyfeirio’n ôl at bwynt Jenny Rathbone—pwynt diddorol iawn, mewn gwirionedd—ynglŷn ag effaith gostwng y tollau ar lif traffig, ceir gwrthddadl i un Jenny Rathbone, a honno, wrth gwrs, yw bod ffyrdd o amgylch ardal Croesfannau Hafren, megis yng Nghas-gwent, yn fy etholaeth i, er enghraifft, sydd mewn gwirionedd yn cludo llawer o draffig—llawer mwy nag y dylen nhw—gan fod pobl ar hyn o bryd yn osgoi'r system doll. Felly, a ydych chi wneud cynnal unrhyw asesiad, neu a ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw asesiad, o effaith gostwng y tollau—i’r hyn yr ydych chi’n ei gynnig nawr, ond, gobeithio, yn y dyfodol, mwy fyth—ac effaith symiau is o draffig ar y ffyrdd cyfagos mewn ardaloedd megis Cas-gwent, a'r budd sy'n deillio o hynny ar gyfer cerddwyr, modurwyr ac o ran lleihau digwyddiadau traffig ar y ffyrdd yn yr ardaloedd hynny, sydd wir yn cael trafferth ar hyn o bryd oherwydd lefel y traffig?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le: mae hyn yn rhan o’r jig-so o ddull y ddinas-ranbarth. Roeddwn i’n falch o weld arweinydd cyngor Sir Fynwy yn cydnabod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd y byddai cael gwared ar y tollau ar y Croesfannau Hafren—neu ostwng y tollau o leiaf—yn ei gyflwyno i’r rhanbarth cyfan, nid dim ond yr ardal y mae’n ei gynrychioli. Rwy’n credu bod cyfle anhygoel i Sir Fynwy yn rhan o ymarferiad y ddinas-ranbarth—yn wir, rhanbarth y de-ddwyrain i gyd—wrth nodi cyfleoedd newydd i dyfu’r economi ranbarthol, ond nid oes dim amheuaeth, yn yr un modd, y gellid gwella cyfleoedd trwy gael gwared ar y tollau yn gyfan gwbl. Rwy’n credu bod y trethdalwyr eisoes wedi dileu’r ddyled, neu fe ddylen nhw fod wedi’i dileu, pe byddai Llywodraeth y DU ond yn cytuno mewn gwirionedd i weithredu hynny, o ystyried y swm mewn trethi cyffredinol y maen nhw wedi’i dalu’n barod, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen sicrhau bod y modelu ar gyfer llif y traffig yn gywir. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn craffu ar y modelu TEMPro 7 sydd newydd gael ei gynnal yn rhan o'r gwaith hwn. Yn wir, rwy'n siŵr y byddaf yn ystyried hynny yn fy ymateb i'r ymgynghoriad, fy marn ar y gwaith modelu a'r effaith ar y gymuned ehangach yn yr ardal y mae'r Aelod yn ei gynrychioli.

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae gennyf un newid i'w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau Llafar y Cynulliad gan y Cwnsler Cyffredinol yfory, ac mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd busnes am ei datganiad, a gofyn iddi hefyd a oes ganddi amser ym musnes y Llywodraeth ar gyfer dadl, yn gyntaf oll, ar brosiect y morlyn llanw ym mae Abertawe. Gwyddom fod adolygiad Hendry o blaid y prosiect hwn fel cynllun braenaru ar gyfer y dechnoleg hon, sydd â photensial enfawr yng Nghymru. Rwy’n credu y byddai dadl, yn hytrach na datganiad, yn caniatáu i ni uno fel Cynulliad o ran egwyddorion y prosiect hwn, ac i’r Llywodraeth nodi sut y gallwn gefnogi'r prosiect wrth symud ymlaen, a byddai hynny’n fuddiol dros ben. Yn arbennig, hoffwn i’r ddadl honno ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru, ac fel Cynulliad Cymru, i ddatblygu’r prosiect. Gwn fod y Llywodraeth wedi mynegi diddordeb yn y syniad y byddem ni ym Mhlaid Cymru yn ei hyrwyddo—cwmni ynni i Gymru, Ynni Cymru—a byddwn wir yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn cyfranogi’n gynnar ym mhrosiect y morlyn llanw, yn rhan o’r prosiect a'r cwmni daliannol sy'n gwthio hynny yn ei flaen, fel ein bod ni, dros y cenedlaethau nesaf, yn elwa ar y dechnoleg hon wrth iddi gael ei chyflwyno ar draws Cymru, gan fy mod yn credu mai dyma yw’r dyfodol, ac rwy'n argyhoeddedig y caiff y Cymry fudd uniongyrchol o forlynnoedd llanw ac ynni'r llanw yn fwy cyffredinol. Efallai nad lagwnau mewn rhannau eraill o Gymru fydd hynny; gall fod yn dechnolegau llanw eraill yn Ynys Môn hefyd, er enghraifft. Rwy'n credu bod yna botensial enfawr ynghlwm wrth hyn, felly byddwn i'n mawr werthfawrogi dadl yn amser y Llywodraeth ar yr egwyddor o forlynnoedd llanw, fel y gallwn wneud gwaith dilynol i adolygiad Hendry a rhoi, rwy’n credu, gwir gefnogaeth lawn y Cynulliad i’r egwyddor honno.

Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi â Llywodraeth Cymru yw pa un a gawn ni ddatganiad yn egluro beth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran y digwyddiad o lygredd yn Afon Teifi ychydig cyn y Nadolig. Bu digwyddiad mawr o lygredd, efallai bod rhai pobl yn cofio—roedd tuedd iddo fynd ar goll yn newyddion y Nadolig, ond effeithiwyd ar tua 6 milltir o'r afon. Rwy’n deall mai swm sylweddol o elifyn o ryw fath o'r diwydiant llaeth ydoedd. Mae angen i ni ddeall sut y digwyddodd hynny, ond hefyd pa gamau sy'n cael eu cymryd yn awr i adfer yr afon, sy’n afon bwysig ar gyfer pysgota ac sy’n atyniad pwysig i dwristiaid hefyd, yn y rhan honno o Gymru. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan bysgotwyr lleol a phobl sy'n ymddiddori yn yr amgylchedd ynglŷn â’r hyn a allai fod yn digwydd yno a sut y gallai’r Llywodraeth wneud gwaith dilynol ar hynny. Cawsom ddigwyddiad anffodus ag olew yn Nantgaredig, y tu allan i Gaerfyrddin, ond mae hyn, ar yr wyneb, yn ymddangos yn fwy difrifol mewn gwirionedd ac yn ymddangos fel y gallai effeithio ar afon Teifi am gyfnod hir o amser. Felly, byddwn yn mawr werthfawrogi rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf datganiad ysgrifenedig neu fel arall, er mwyn i mi ei rhannu â’m hetholwyr ac i ddangos bod y Llywodraeth yn cymryd y mater hwn o ddifrif.

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mae'r ddau gwestiwn hynny yn rhai pwysig iawn. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu'n fawr iawn, a chroesawodd Llywodraeth Cymru, y ffaith bod adolygiad Charles Hendry yr wythnos diwethaf yn cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlyn llanw yn y DU. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi’i gefnogi’n fawr gan ein rhaglen lywodraethu newydd, ‘Symud Cymru Ymlaen', ac wedi’i gydnabod hefyd mewn datganiadau gan Weinidogion y Llywodraeth. Felly, rwy’n credu bod y datblygiad hwn o ddiwydiant morlyn llanw cynaliadwy yng Nghymru yn amlwg yn bwnc a fyddai'n briodol ar gyfer dadl, a byddwn yn ystyried hynny o ran amseru a threfniadau.

Mewn cysylltiad â’ch ail bwynt, ynglŷn â llygru Afon Teifi, rwy’n cydnabod o ddifrif bod hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â llygredd amaethyddol o ran tarddiad. Mae'n hanfodol er mwyn gwella ansawdd dŵr yn gyffredinol yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae sôn wedi bod yn barod heddiw, rwy’n credu, am yr ymgynghoriad ar barthau perygl nitradau yng Nghymru, sydd wedi dod i ben. Ond byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud datganiad ysgrifenedig arbennig ar y digwyddiad hwn, ond, yn amlwg, mae hi hefyd yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad hwn.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, a’r cyntaf yn adeiladu ar y cwestiwn y gofynnodd fy nghydweithiwr, Nick Ramsay, i'r Prif Weinidog ynglŷn ag ardrethi busnes. Clywais ymateb y Prif Weinidog, fel y gwnaeth bawb arall, y byddai’r canllawiau, y rheolau, y rheoliadau yn cael eu cyflwyno’n fuan o ran cynigion yr ardrethi busnes, ac rydym yn croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer y cynllun ardrethi busnes ar ôl 1 Ebrill eleni. Ond mae 1 Ebrill yn agosáu atom ni’n gyflym iawn, iawn, ac a ydych chi mewn sefyllfa, fel arweinydd y tŷ, i ddangos i ni beth y mae'r term 'cyn bo hir' yn ei olygu, gan efallai rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth i ni o sut y caiff yr arian hwn ei ddosbarthu, beth fydd y meini prawf, ac, yn hanfodol, yr hyn y bydd busnesau yn ei wneud os ydyn nhw’n canfod eu hunain yn y sefyllfa anghywir pan ddaw at gael gafael ar y cymorth hwnnw a’r gefnogaeth honno yn ymwneud ag ailbrisio ardrethi busnes? Fel y dywedais, ceir cyfnod byr iawn o amser, ac wrth reswm, mae ar fusnesau, y mae’n rhaid iddynt wneud amcanestyniadau llif arian a chynllunio ar gyfer y dyfodol, angen yr wybodaeth hon cyn gynted ag sy’n bosibl. Rwy’n gwerthfawrogi efallai bod y Llywodraeth yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar hyn, ond mae angen diffinio'r term 'cyn bo hir', ac os ydych chi, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ, mewn sefyllfa i roi gwybod i ni pryd y cyflwynir y datganiad hwnnw, byddai hynny'n hynod ddefnyddiol. Os nad oes modd i chi wneud hynny, a wnewch chi adrodd yn ôl a rhoi gwybod i ni beth sy'n digwydd ynglŷn â’r rheolau a'r rheoliadau hyn?

A byddai’r ail ddatganiad y byddwn i'n gofyn amdano yn dod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y bore yma, cefais y pleser o gynnal y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser yn y Senedd yma. Annie Mulholland, fel y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn cofio, a ddaeth â’r digwyddiad cyntaf i adeilad y Pierhead, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a daeth nifer o Aelodau i’r digwyddiad hwnnw. Unwaith eto, eleni, cafodd y digwyddiad ei gefnogi’n dda iawn, iawn, a chafwyd cyfraniadau da iawn o'r llawr ac o'r llwyfan, gan hysbysu cleifion a hysbysu clinigwyr a gwleidyddion am y sefyllfa ar hyn o bryd o ran gwasanaethau canser. Siaradodd Dr Tom Crosby am yr angen i gael strategaeth ganser i Gymru. Mae gennym gynllun canser, ond siaradodd ef am y ffaith nad yw gweithredu darpariaeth gwasanaethau o ran gwasanaethau canser, yn fater dim ond ar gyfer un tymor y Llywodraeth am gyfnod o ddwy neu dair blynedd. Mae'n angen cynllunio hirdymor a fydd yn para ymhell i'r dyfodol, ac yn sganio'r gorwel. Er tegwch i Dr Tom Crosby, mae ganddo lawer iawn o brofiad yn y maes hwn, ac rwy’n credu y byddai’n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cyflwyno ei syniadau ynglŷn â strategaeth o'r fath, wedi’i gweithredu gan Lywodraeth Cymru, a beth yw ei ymateb i'r cais hwnnw.

Mae Andrew R.T. Davies yn codi dau bwynt pwysig, ac, wrth gwrs, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn gynnydd sylweddol o ran ardrethi busnes. Mae’i bwysigrwydd, yn fy marn i, yn fwy na’r rhyddhad trosiannol o £10 miliwn. Wrth gwrs, cafodd yr ymgynghoriad effaith a gwyddom fod etholwyr a busnesau ledled Cymru wedi ymateb. Wrth gwrs, rhoddir sylw ar hyn o bryd i’r manylion o ran sut y caiff ei ddarparu, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu sicrhau bod canlyniad hynny ar gael maes o law.

O ran eich ail bwynt, roeddwn i hefyd yn bresennol yn nigwyddiad y Lleisiau Cleifion Canser ac roedd yn braf gweld bod cymaint yn bresennol mewn digwyddiad trawsbleidiol o'r fath. Yn wir, clywais gan Julie Morgan a hefyd Rhun ap Iorwerth, ac yna aeth ymlaen at lefarwyr y pleidiau eraill. Mae Dr Tom Crosby, wrth gwrs, yn cymryd yr awenau o ran prosiect iechyd Felindre, ac rydym yn ffodus iawn fod gennym arbenigwyr clinigol fel Dr Crosby yng Nghymru yn arwain y ffordd.

A gaf i ddychwelyd at yr adolygiad Hendry i’r morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd yn llawer mwy cadarnhaol na’r hyn y gallai llawer ohonom wedi’i obeithio? Rwy’n cytuno â'r cais a wnaed gan Simon Thomas am ddadl ar forlynnoedd llanw, ond, cyn i ni gyrraedd y cam hwnnw, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y drwydded forol ar gyfer y morlyn llanw ym mae Abertawe, oherwydd heb y drwydded forol, ni chaiff fwrw ymlaen?

Wrth gwrs, bu Mike Hedges yn cefnogi môr-lynnoedd llanw, ochr yn ochr â Simon Thomas a Llywodraeth Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n penderfynu ar y cais am drwydded forol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol, yn fy marn i, ac yn amlwg yn awr mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn, ond yn sicr mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn. Gadewch i ni eto ystyried y potensial arbennig y mae’r sector ynni morol yn ei gynnig i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at y canlyniad ac at y cyfle i drafod hyn ymhellach.

Rwy’n gofyn am dri datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â defnyddio’r car gweinidogol a anfonwyd i Mayfair i gasglu a gollwng y miliwnydd Llafur, David Goldstone. Hoffem wybod pryd, ar ba gost a pham yr anfonwyd y limwsîn. Yn ail, rydym yn gofyn am ddatganiad ar Ysbyty Athrofaol Cymru a’r hyn a fydd yn cael ei wneud i rwystro neu i atal staff rhag gorfod talu cymaint o ddirwyon parcio, sy’n hollol annerbyniol. Yn drydydd, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â phryd y bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ddyddiadur, os gwelwch yn dda?

Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â pharcio mewn ysbytai yn fater sydd, wrth gwrs, wedi achosi peth pryder, nid yn unig i gleifion ac aelodau staff, ond gwn fod y bwrdd iechyd wedi ymdrin â hyn.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf yn gais am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyflwr yr amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn yn fy etholaeth i. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr, ac rwy'n bryderus iawn am gyflwr yr amddiffynfeydd hynny. Yr wythnos diwethaf, cafwyd storm arall a achosodd difrod i'r amddiffynfeydd môr ar y rhan honno o'r arfordir, a bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod yr amddiffynfeydd hynny mewn gwirionedd yn amddiffyn yr A55 a rheilffordd y gogledd. Yn wir, difrodwyd rhan o’r wal sy'n amddiffyn yr arglawdd y mae rheilffordd y gogledd yn gorwedd arno, mewn storm yr wythnos diwethaf, a difrodwyd llawer o'r rheiliau ar hyd y promenâd hefyd. Mae’r rhain angen sylw a gwaith atgyweirio ar frys. Nid dim ond gwaith atgyweirio tameidiog, mewn rhannau sydd ei angen, fel a ddigwyddodd dros lawer o flynyddoedd; mae angen adfer yr amddiffynfeydd môr hynny yn sylweddol a’u moderneiddio, oherwydd rwy’n pryderu, os nad ydym yn gwneud hynny, ar ryw bwynt bydd yr amddiffynfeydd yn methu’n drychinebus yn y pen draw a gallai hynny arwain nid yn unig at anawsterau â chludiant, ond o bosibl at golli bywyd.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y sefyllfa o ran y gwaith dilynol, yn dilyn sgandal Tawel Fan yn y gogledd? Mae tua 18 mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers cyhoeddi adroddiad Tawel Fan i gam-drin sefydliadol ar y ward yn yr uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ac eto nid oes neb wedi’i ddwyn i gyfrif. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i brofiadau a gofal erchyll y cleifion hynny ar y ward honno.

Dywedwyd wrthym, fel Aelodau'r Cynulliad, y byddai’r gwaith, a oedd yn cael ei gynnal gan Donna Ockenden a HASCAS, y ddau sefydliad sy’n gwneud gwaith dilynol ar y mater hwn, yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth. Eto i gyd, yn y papurau bwrdd ar gyfer bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cael eu cyhoeddi ac sydd ar gael ar-lein, ac a gaiff eu trafod yfory, gwyddom y bydd hynny’n awr yn cael ei ymestyn i’r haf. Rwy'n credu bod hynny'n annerbyniol, a dweud y gwir, a byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr iawn—. Dywedwyd wrthym y byddem yn cael diweddariadau rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—nid ydym wedi cael yr un, oni bai ein bod ni wedi gofyn amdanyn nhw, sy’n annerbyniol yn fy marn i. Byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar y mater penodol hwnnw ar unwaith. Nid wyf am weld pobl yn llusgo eu traed o ran dwyn pobl i gyfrif.

Rwy'n ymwybodol iawn, Darren Millar, o’ch pryder ynglŷn â’r cwestiwn cyntaf, sydd wir yn ymwneud ag amddiffynfeydd arfordirol. Yn eich etholaeth chi, yn Hen Golwyn yn arbennig, rydym yn paratoi ar gyfer buddsoddiad gwerth £150 miliwn gydag awdurdodau lleol, fel yr ydych chi’n ymwybodol, mewn prosiectau rheoli risg arfordirol a hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu achosion busnes ar gyfer prosiectau posibl. Yn amlwg, mae angen dull partneriaeth ar gyfer Hen Golwyn ac, mewn gwirionedd, mae swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet mewn cysylltiad â chyngor Conwy ynghylch y prosiect penodol hwn. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth, sef cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddiweddariad, o ran Betsi Cadwaladr, ynglŷn â’ch ail bwynt.

Arweinydd y tŷ, a gaf i os gwelwch yn dda ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi ar gyfer darparu nofio am ddim i blant? Mae 10 mlynedd wedi bod ers cyflwyno’r polisi nofio am ddim i blant yng Nghymru, sydd efallai’n adeg dda i ni fyfyrio ar y polisi. Mae nofio am ddim wedi bod yn bwysig o ran cynnig mynediad at gyfleoedd hamdden, i fynd i'r afael â gordewdra neu gyfraddau gweithgarwch gwael—themâu yr wyf wedi ymdrin â nhw’n aml—ond hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol. Fodd bynnag, 10 mlynedd yn ddiweddarach, ceir cwestiynau yn awr yn ymwneud â defnydd, wrth i ddata Nofio am Ddim Cymru ddangos gostyngiad o 19 y cant yn nifer y sesiynau nofio cyhoeddus am ddim yn ystod mis Awst a mis Medi 2016, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i ni ystyried hyn, ond hefyd i ehangu a meddwl am ffyrdd o adfywio'r polisi, er enghraifft, efallai trwy ei gysylltu â'r fenter nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél milwrol, er mwyn creu cyfleoedd hamdden teuluol.

Mae Vikki Howells yn codi mater pwysig iawn o ran ein polisi llwyddiannus iawn ar gyfer nofio am ddim, nid dim ond i blant ond i bobl hŷn hefyd, pobl dros 60 oed, ac mae’r grŵp oedran hwnnw yn gwneud defnydd da ohono. Ond mae'n werth myfyrio, ac, mewn gwirionedd, mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ystyried y ffaith y bu gostyngiad yn nifer y bobl ifanc dan 16 oed sy’n manteisio ar sesiynau nofio am ddim. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod y bu newidiadau i'r polisi nofio am ddim dros y blynyddoedd. Mae mwy o weithgareddau ar ochr y pwll, er enghraifft, sy'n cael eu hannog, yn ogystal â ffyrdd y gall hyn fod yn gysylltiedig â gwersi nofio ac ati. Felly, yn rhan o'i phortffolio, bydd y Gweinidog yn ystyried y materion hyn, sy'n bwysig iawn i’w codi heddiw.

Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol y bu’n rhaid gwagio eiddo ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener ar ôl iddyn nhw gael eu gorlifo gan ddŵr o brif gyflenwad a oedd wedi byrstio, sy'n cario dŵr o Lyn Efyrnwy i Lerpwl. Difrododd y llifogydd y neuadd bentref newydd hyd yn oed, a agorwyd gan y Prif Weinidog, rwy’n ei gofio’n dda, a hynny ond yn 2012. Er na wyddom eto beth sydd wedi’i achosi, mae’r cynghorydd sir lleol, y Cynghorydd Aled Davies, wedi rhoi gwybod i mi bod y pibellau yn torri’n rheolaidd, yn aml dros dir fferm, sy’n ddifrifol ond nid mor ddifrifol, ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, hefyd, fod rhannau o'r pibellau yn dyddio o oes Fictoria. Er mai United Utilities sydd â llawer o’r cyfrifoldeb hwn, rwy’n derbyn hynny, byddwn yn gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ar bolisi rheoli risg llifogydd Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa bwysau y gall Llywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru ei roi ar United Utilities i sicrhau bod ei seilwaith wir yn addas at ei ddiben, fel y gellir rhoi sicrwydd i’r gymuned na fydd digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto neu, o leiaf, y bydd cyn lleied ohonynt ag sy’n bosibl.

Wel, yn amlwg, mae’r digwyddiad hwnnw’n codi pryder mawr, nid yn unig i'r bobl sydd wedi’u heffeithio, ond o ran hyfywedd y seilwaith yn y tymor hir. Byddaf yn sicr yn rhannu hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet i’w ystyried. Rwyf eisoes wedi crybwyll amddiffynfeydd arfordirol, ond o ran ein buddsoddiad—ein buddsoddiad mwyaf erioed—mewn rhaglenni atal llifogydd o ansawdd uchel ar draws Cymru, dim ond i ddweud ar draws Cymru gyfan, ein bod ni wedi gwario £4.5 miliwn yn ymateb i stormydd y gaeaf a dim ond un rhan o fuddsoddiad amddiffyn rhag llifogydd yw hynny, wrth gwrs. Ond rydych chi’n codi mater a digwyddiad penodol iawn, Russell George.

5. 3. Datganiad: Y Fframwaith Cyllidol

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y fframwaith cyllidol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 15:01:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn i’r Cynulliad hwn drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ym Mil Cymru yn hwyrach y prynhawn yma, hoffwn wneud datganiad ynghylch y fframwaith cyllidol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fis diwethaf.

Wrth i Fil Cymru symud ymlaen drwy Senedd y DU, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir y byddai'n rhwystr sylweddol i gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Cymru pe na bai modd i ni ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar drefniant cyllido teg, hirdymor i Gymru. Rwy'n credu bod y fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynd i'r afael â’r pryder hwnnw. Mae'n cynnig cam ymlaen yn y ffordd yr ariennir Cymru, gan ystyried y pwerau treth newydd a fydd yn cael eu datganoli yn 2018, ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau treth incwm Cymru yn 2019. Byddaf yn nodi fy marn fy hun yn bendant ar ddechrau'r datganiad hwn, Lywydd: fy nghred i yw bod hwn yn fframwaith cyllidol sy'n deg i Gymru ac sy’n deg i weddill y Deyrnas Unedig. Mae'n golygu nad yw trefniadau cyllidol yn rhwystr i gefnogi Bil Cymru bellach, os mai dyna yw bwriad y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Cytunwyd ar y fframwaith yn dilyn cyfnod dwys o drafodaethau â Thrysorlys EM. Mae’r canlyniad yn becyn cymhleth o drefniadau rhyng-gysylltiedig. Wrth eu gwraidd y mae diwygio fformiwla Barnett, fel y'i cymhwysir i Gymru. Am y tro cyntaf, rydym wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddull ariannu a fydd yn adlewyrchu anghenion cymharol ein poblogaeth. Mae diwygio fformiwla Barnett yn benllanw blynyddoedd lawer o sylwadau gan Lywodraethau Cymru olynol. Rhoddaf deyrnged arbennig i waith fy rhagflaenydd, Jane Hutt, a gyflawnodd gam pwysig ymlaen o ran sicrhau’r cytundeb cyntaf erioed i gyllid gwaelodol i Gymru. Rwyf hefyd am gydnabod cefnogaeth pleidiau eraill yn y Siambr hon, sydd wedi dangos eu hymrwymiad i sicrhau bargen deg i Gymru ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y cytundeb trawsbleidiol cryf hwnnw wedi bod yn wirioneddol ddylanwadol wrth gyflawni'r setliad ariannu hwn.

Bydd y fframwaith yn gweld y cyllid gwaelodol a argymhellwyd gan gomisiwn Holtham yn cael ei roi ar waith ac mae'n cael ei osod o fewn amrediad Holtham ar 115 y cant o'r gwariant cymharol yn Lloegr. Er bod cyllid cymharol yng Nghymru yn parhau i fod uwchlaw'r lefel hon, bydd yr holl gyllid drwy fformiwla Barnett yn cael ei luosi â ffactor trosiannol o 105 y cant. Bydd hyn yn arafu cydgyfeirio Barnett ac yn darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu y bydd y cytundeb yn ei gyfanrwydd yn darparu hyd at £1 biliwn o refeniw ychwanegol i Gymru yn ystod ei 10 mlynedd gyntaf.

Mae'r fframwaith cyllidol yn nodi'r addasiad grant bloc ar gyfer trethi datganoledig. Bydd treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018. Cafodd y fframwaith ei drafod yn benodol i gytuno ar y trefniadau y byddai eu hangen pe byddai Bil Cymru yn cael ei basio, os mai dyna fydd ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU, gan gynnwys cael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm ar dreth incwm. Mae'r fframwaith fel y cytunwyd arno yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr. Bydd hyn yn gwarchod cyllideb Cymru rhag effaith newidiadau polisi sylweddol posibl gan Lywodraeth y DU.

Ar y sail honno, yr wyf i heddiw yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru o fis Ebrill 2019, yn amodol ar basio Bil Cymru. Bydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru, ynghyd â threth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi a threthi sydd eisoes yn bodoli—ardrethi annomestig a threth gyngor—yn rhoi cyfres newydd o ysgogiadau treth i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwariant cyhoeddus ac i fod yn sail i lwyddiant economi Cymru.

Lywydd, o ran agweddau eraill ar y cytundeb, bydd mwy o ddatganoli trethi yn cynyddu ffynhonnell cyfalaf yn ogystal â gwariant refeniw i Gymru. Yn y fframwaith cyllidol, bydd ein terfyn benthyca cyfalaf yn dyblu o £500 miliwn i £1 biliwn. Bydd hyn yn rhoi'r gallu i ni reoli'r buddsoddiad seilwaith sydd ei angen i gefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn well. Bydd y terfyn benthyca uwch hwnnw yn cael ei gyflwyno pan fydd cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru yn cael eu rhoi ar waith.

Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni reoli ein hadnoddau mewn modd mwy effeithlon a thryloyw, mae’r fframwaith yn caniatáu i gronfa wrth gefn sengl newydd ar gyfer Cymru gael ei chyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hon yn gweithredu fel rhyw fath o gyfrif cynilo, gan ein galluogi i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw ansefydlogrwydd yn y refeniw treth drwy gadw refeniw heb ei wario i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd y gronfa wrth gefn hefyd yn ein galluogi i reoli'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn heb fod angen trafodaethau blynyddol â’r Trysorlys.

Lywydd, rydym ni hefyd wedi sicrhau goruchwyliaeth annibynnol yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Am gyfnod rhy hir, mae'r Trysorlys wedi gallu gweithredu fel barnwr a rheithgor mewn trafodaethau cyllido. Gwnaeth comisiynau Holtham a Silk argymell swyddogaeth i gyrff annibynnol i oruchwylio materion ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae hyn wedi ei gytuno bellach yn y fframwaith cyllidol. Yn y dyfodol, bydd hyn yn berthnasol i weithrediad y fframwaith a bydd yn cynnwys swyddogaeth ar gyfer cyrff sy’n annibynnol ar y Llywodraeth i gyfrannu os bydd unrhyw anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch gweithrediad y fframwaith ei hun. Gyda'i gilydd, bydd y pecyn hwn o drefniadau yn cynnig trefn gyllido sy'n adlewyrchu anghenion cymharol Cymru, yn diogelu ein cyllideb rhag risgiau gormodol a allai ddilyn datganoli trethi, ac yn cryfhau gallu Llywodraeth Cymru i reoli ein hadnoddau ein hunain.

Lywydd, dywedais ar y dechrau bod y cytundeb yn ddigonol i’w gwneud yn bosibl i Fil Cymru gael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Wrth i ni symud tuag at y ddadl cynnig cydsyniad deddfwriaethol, fodd bynnag, mae’n rhaid i mi hefyd, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, gadarnhau bod natur ryngberthynol y darpariaethau yn y fframwaith yn golygu, os na fydd Bil Cymru yn cael ei basio, na chaiff y fframwaith cyllidol ei weithredu fel yr wyf wedi ei amlinellu y prynhawn yma. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai'n rhaid i ni ail-drafod yr addasiad i’n grant bloc er mwyn caniatáu ar gyfer datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Ni fyddai modd gwybod yn glir pa rai o'r mesurau eraill y gellid eu sicrhau ac ar ba gost hyd nes y byddai’r aildrafodiadau eu hunain wedi’u cynnal. Yn y cyfamser, Lywydd, rwy’n cymeradwyo'r fframwaith hwn, a gynlluniwyd i fodloni amgylchiadau unigryw Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diolch i’r Llywydd ac i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd am y cyfle i weld y trawsgrifiad o’r cyfarfod diweddar a gawsant. Mae yna lawer i’w groesawu yn y fframwaith newydd yma, ond, yn yr amser sydd gen i, rydw i am ffocysu ar dri pheth yn benodol, sef: gweithrediad fformiwla Barnett; y dull i addasu grant bloc Cymru yn unol â datganoli trethi newydd; a’r broses o ddelio gydag unrhyw anghydfod.

Nawr, fel sydd wedi cael ei ddweud, mae yna fecanwaith newydd yn y fframwaith—llawr Barnett o 115 y cant ar gyfer addasiadau i’r grant bloc. Tybed a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu sôn ychydig bach mwy—pam dewis y ffigwr yma? Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n cofio, yn adroddiad Gerry Holtham, roedd yna amrediad wedi cael ei gynnig o ran gweithio mas anghenion Cymru o 114 y cant i 117 y cant; mae’r ffigwr yma’n nes at waelod yr amrediad yna. Ac, o ystyried, wrth gwrs, ein bod ni’n sôn am fframwaith a fydd yn para am ddegawdau, a all sôn tamaid bach ynglŷn â’r broses o’i adolygu, os ydy sefyllfa Cymru, o ran ein hanghenion ni, yn newid? Wrth gwrs, roedd Gerry Holtham, wrth ddod i’r ffigwr yma, wedi gosod mas y gwahanol ffactorau. Mae’n bosibl—neu mae’n debyg—y bydd y sefyllfa yna’n newid dros amser, felly beth yw’r broses sy’n cael ei rhagweld ar gyfer adolygu, os oes rhaid?

O ran y sefyllfa gyda’r dull o addasu’r grant bloc, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi pwyntio mas yr effaith negyddol o ran y sefyllfa gydag SDLT, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth ynglŷn â’r lefel cymaroldeb isel iawn—25 y cant, os rwy’n cofio’n iawn. Mi oedd yna awgrym yn adroddiad y ganolfan llywodraethiant ynglŷn â sut i wella tegwch y sefyllfa yna drwy eithrio, wrth gwrs, y farchnad eiddo yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sydd yn gwyro’r ffigurau yma. Pam nad oedd y Llywodraeth wedi mynnu bod yr awgrym hwnnw, neu awgrymiadau eraill i ddelio gyda’r math yma o ffactor, wedi’u cynnwys yn y cytundeb? Mi oedd y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus yn cael consesiynau eraill, felly pam agor ein hunain i bosibiliadau cyllidol negyddol yn sgil y methiant i wneud hynny?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn olaf, a allaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet sôn ychydig bach yn fwy am y broses o ddelio gydag unrhyw anghydfod? Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd yna rôl ar gyfer cyngor annibynnol trwy gorff annibynnol newydd ar yr ochr Gymreig. Fodd bynnag, o ddarllen y ddogfen, mae’n ymddangos i fi, er gwaethaf y ffaith y bydd yna dystiolaeth annibynnol ar gael, fe fydd hi i fyny i’r ddwy Lywodraeth, wedyn, i ddod ag unrhyw anghydfod i ben. A gaf i ofyn am un senario posib? Mae yna sôn yn y ddogfen am effeithiau ymddygiadol. Er enghraifft, pe bai’r gyfradd dreth ychwanegol yng Nghymru yn cael ei gostwng, fe fyddai’n golygu bod pobl yn croesi’r ffin. Byddai hynny, wedyn, â goblygiadau trethiannol i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r adroddiad yn dweud, yn y sefyllfa yna o effeithiau ymddygiadol, os nad ydy’r ddwy Lywodraeth yn dod i gytundeb, ni fydd unrhyw beth yn digwydd, felly, os rwy’n darllen y ddogfen yn iawn, byddai modd torri’r gyfradd yna, ac, er gwaethaf y ffaith bod yna effaith ymddygiadol, os nad ydy Llywodraeth Cymru’n cytuno, ni fyddai unrhyw beth yn deillio, yn negyddol, i sefyllfa gyllidol Cymru yn sgil y newid hwnnw.

Diolch i Adam Price am y cwestiynau manwl hynny. A diolch am beth y dywedodd ar y dechrau am groesawu nifer o bethau yn y fframwaith. Rwy’n mynd i droi at y cwestiynau nawr.

As far as Barnett is concerned, the figure of 115 per cent is within the 114 to 117 per cent range of Holtham; it’s the figure that Holtham himself most often uses in describing the extent to which Welsh needs exceed those of our colleagues across the border. The most fundamental part of this agreement is not simply the figure itself, it is the recognition that those needs exist and it is making sure that they are fixed in the way the funding will flow between the Treasury and Wales into the future.

As to the block grant adjustment, it’s very important, Dirprwy Lywydd, to see the fiscal framework in the round. There are a number of complex and interlocking parts of it. We looked very carefully at whether or not it was possible to discover a mutually agreeable comparator for SDLT and it’s partly because there were some technical problems with that, which the Treasury felt they were unable to solve, that we’ve ended up with the Barnett multiplier of 105 per cent within the agreement. There are checks and balances within it. I think it’s important to say to Members that we shouldn’t automatically assume that receipts in Wales from land transaction tax will lag behind SDLT receipts in England. The Office for Budget Responsibility, in its November forecast for the autumn statement, assumes that SDLT receipts in Wales will more than double between 2015-16 and 2021-22, while estimating that, in the rest of the UK, the increase in receipts will be around 50 per cent. So, it’s by no means inevitable that the differences between Wales and the rest of the UK will be to our detriment. If they turn out to be to our detriment, then the Barnett multiplier is there to provide a corrective and to ensure that Wales is protected from any such adverse consequences.

There were a number of questions that the Member asked about the way in which disputes within the framework will be negotiated and the role of independent oversight in that. The framework sets out a step-up process in which, if there are issues that are identified by either side within the framework, the first step is for those to be worked on at official level, for information to be agreed between Wales and the UK Treasury, and to have those resolved by officials. If that is not possible, then it moves to the Joint Exchequer Committee, where the finance Minister for Wales would sit with the Chief Secretary to the Treasury, and those disputes are to be resolved there. If failure to resolve the issues happens at the Joint Exchequer Committee, then there is further recourse to those dispute resolution mechanisms set out in the devolution guidance notes. At all points in that process, there are independent rights for both Governments to deploy independent advice, which both Governments can independently secure. And that’s a very important breakthrough; we’ve never had that before. And in many ways, we were reliant on the grounds that the Scots had won in negotiating their fiscal framework, because they secured that in their agreement, we were able to point to that and say that we weren’t able to settle for anything less.

If, in the end, there is no agreement between the two Governments, then the status quo prevails. Now, you may say that that could mean that there will be adverse circumstances for Wales, where we could not persuade the Treasury, but from my point of view, more importantly, in a set-up where power is not equally distributed on both sides of the table, that means that the Treasury is no longer able, by its own unilateral decisions, to impose anything on Wales. And so it is a power that cuts both ways, but I think it will be more significant in our hands than it would be in the Treasury’s.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i groesawu eich datganiad heddiw—ac nid dim ond dweud hynny ydw i; fel y gwyddoch, rwyf wir yn croesawu'r potensial y mae’r fframwaith hwn yn ei gynnig i Gymru ac, yn wir, y DU ar gyfer y dyfodol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn o fframwaith cyllidol ers peth amser bellach, ac ers iddi ddod yn amlwg ein bod am gael trethi wedi’u datganoli, bod hynny’n mynd i ddigwydd, a bod dirfawr angen setliad ariannu newydd, neu o leiaf terfyn neu gyfyngiad ar y wasgfa Barnett blaenorol. Felly, mae'n newyddion da bod y Trysorlys wedi cytuno i ffactor yn seiliedig ar anghenion gael ei bennu ar 115 y cant; gwnaethoch sôn am y paramedrau y cyfeiriodd comisiwn Holtham ato yn eich ateb i Adam Price. Nid yw hwnnw hyd yn oed ar waelod y paramedrau hynny, mae o fewn iddynt, felly mae hwnnw wedi’i osod ar lefel dda. Hefyd, rwy’n cydnabod y ffactor trosiannol o 105 y cant, felly, ar yr olwg gyntaf o leiaf, mae’n ymddangos bod hwn yn fargen dda i Lywodraeth Cymru.

Rhywbeth sy’n allweddol i ddatganoli trethi, fel y dywedasoch chi, yw'r addasiad priodol i'r grant bloc fel nad yw Cymru yn cael ei chosbi yn ddiangen. Dyna ddiben y broses hon, wrth gwrs, a'r egwyddor y gwnaethoch chi a'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, gadw ati, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am y penderfyniadau ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ond dylai Llywodraeth y DU barhau i ysgwyddo ei chyfran hi o risg ar gyfer y penderfyniadau y mae'n eu gwneud—nid yw bob amser yn egwyddor hawdd ymlynu ati, ond mae’n rhywbeth sy'n gwbl hanfodol os ydym ni’n mynd i sicrhau setliad cyfiawn a theg ar gyfer Cymru yn y dyfodol, a system drethiant gyfiawn a theg.

Felly ychydig o gwestiynau: yn gyntaf, a wnewch chi gadarnhau unwaith eto bod hwn yn gytundeb parhaol ac nad yw'n destun mympwyon Llywodraeth yn y dyfodol a allai ystyried adfachu, neu o leiaf tynnu peth o'n cyllid ychwanegol yn ôl? Rwy’n meddwl y gwnaethoch grybwyll swm wedi’i amcangyfrifo o £1 biliwn yn ystod y ddegawd gyntaf. Beth yw natur y cytundeb hwnnw? Rydych chi wedi dweud o'r blaen ei fod yn fwy parhaol na'r trefniant blaenorol yn Senedd ddiwethaf y DU—pa mor barhaol ydyw? Mae hynny'n bwysig iawn. A allwch chi roi mwy o fanylion i ni am sut y mae’r fframwaith yn ystyried amgylchiadau Cymru, yn enwedig ein sylfaen treth incwm, sydd yn amlwg â chanran is o drethdalwyr cyfradd uwch na de-ddwyrain Lloegr, ac, rwy’n meddwl fy mod i'n iawn i ddweud, nifer bach o drethdalwyr cyfradd uwch sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu cyfran fwy i'r gyfradd dreth uwch yng Nghymru nag sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr?

Gwnaethoch sôn am eich bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru o fis Ebrill 2019; yn amlwg, rhan bwysig iawn o'ch datganiad heddiw. A gaf i ofyn i chi, a yw'n fwriad gennych i gadw’r cyfraddau cychwynnol yn debyg i’r rhai hynny yn Lloegr, o leiaf yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf? Gwn yn achos trethi eraill—y dreth stamp, y dreth tirlenwi—bod Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr egwyddor, o leiaf yn y cyfnod trosiannol, y dylai pethau gael eu cadw yr un peth yr ochr hon i'r ffin ag ar draws y ffin er mwyn caniatáu ar gyfer cysondeb, ac i bobl addasu i'r drefn newydd. Nid wyf yn disgwyl ichi ddweud wrthym ni beth fydd y cyfraddau newydd—rydych chi’n gwenu, oherwydd yn amlwg ni fyddech yn gwneud hynny, ni fyddai unrhyw Weinidog Cyllid yn gwneud hynny—nid wyf yn gofyn i chi beth fyddai'r cyfraddau. Rwyf yn gofyn i weld a ydych chi’n mynd i ddefnyddio egwyddor debyg gyda threth incwm â’r trethi eraill, neu os—[Torri ar draws.] Wel, efallai eich bod yn ystyried cyfraddau is neu gyfraddau uwch. Nid wyf i’n gofyn hynny, rwy'n gofyn: a ydych chi’n ystyried—mewn ffordd anuniongyrchol—dull gwahanol o ddefnyddio’r trethi hynny? Ond rwy'n credu eich bod am osgoi fy nghwestiwn, felly ni fyddaf yn ôl pob tebyg yn cael ateb i hynny, ond hoffwn ei glywed ar ryw adeg.

Mae newid yn y boblogaeth wedi’i grybwyll yn y ddogfen. Rydym yn gwybod y bu hwnnw'n fater allweddol; yn arbennig, roedd yn fater yn nhrafodaethau’r Alban â'r Trysorlys. Caiff Cymru ei heffeithio mewn ffordd wahanol. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff newid yn y boblogaeth ei gynnwys yn yr hafaliad fel nad yw newidiadau yn nhwf y boblogaeth yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf, beth bynnag y byddant, yn effeithio'n andwyol ar ein cyllidebau ni?

Gan droi at gronfa wrth gefn sengl newydd Cymru, ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn swnio fel gwelliant enfawr—llawer rhwyddach, llawer mwy syml. Sut bydd y gronfa wrth gefn honno yn gweithio'n ymarferol? A fydd cap ar y gronfa wrth gefn, terfyn amser, neu a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf i Lywodraeth Cymru, a fydd, yn amlwg, ynghyd â'r pwerau benthyca newydd, rwy’n dychmygu, yn dod yn arf hynod o bwysig wrth reoli gwariant amlflwydd a chynllunio ariannol?

Yn olaf, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am ddatrys anghydfod rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol. Mae Adam Price wedi gofyn i chi yn fanwl am hynny, felly ni fyddaf yn diflasu’r Siambr drwy barhau â'r broses o gyfryngu, ac eithrio i ofyn: soniasoch yn eich sylwadau i'r Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf eich bod yn meddwl y byddai'n bwysig bod proses adolygu ar waith, ac rwy’n meddwl y gall Llywodraeth Cymru alw un adolygiad mewn cyfnod o flwyddyn, a gall Llywodraeth y DU wneud hynny hefyd. A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am sut y byddai'r broses honno’n gweithio a beth sy’n digwydd os oes digwyddiad annisgwyl yn dod i ran y ddwy Lywodraeth, a bod angen adolygiad brys rhwng yr amserau penodol hynny sydd wedi’u pennu i adolygiad gael ei gynnal.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd—Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni’n croesawu'r datganiad hwn, rydym yn croesawu’r fframwaith newydd. Efallai nad yw’n berffaith—ychydig iawn o bethau sy’n berffaith mewn bywyd—ond mae ben ac ysgwydd yn well na’r hyn a oedd gennym o'r blaen ac mae'n gosod fframwaith newydd ar gyfer y dyfodol, a chredaf y bydd hynny’n cael ei groesawu yn eang. Mae hon, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi eu gwahaniaethau o'r neilltu ac yn gweithio tuag at yr hyn sydd, yn y pen draw, er budd gorau Cymru.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau. Rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon, yn ystod y cyfnod yr oeddem yn trafod y fframwaith cyllidol, a byddai Mr Ramsay yn gofyn cwestiynau wrthyf amdano yn y fan hon, y byddwn yn cyfeirio at ei ddiddordeb ef a diddordeb yr Aelodau eraill yn ystod fy nhrafodaethau â'r Prif Ysgrifennydd. Ac mae bob amser wedi bod yn offeryn defnyddiol i mi fod y Prif Ysgrifennydd yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cadw llygad gofalus iawn ar y ffordd yr oedd y trafodaethau hynny yn cael eu cynnal.

Fe drof at ei gwestiynau penodol. Gallaf, gallaf gadarnhau bod hwn yn gytundeb parhaol. Roedd y trefniant newydd y gwnaeth Jane Hutt ei sicrhau, sef cael y cytundeb â'r egwyddor o arian gwaelodol, i barhau am gyfnod o un adolygiad o wariant. Mae hon bellach yn nodwedd barhaol o'r trefniant. Mae ein sylfaen treth incwm, fel y dywedodd Nick Ramsay—un o'r rhannau pwysig iawn o'r fframwaith yw nad ydym ond yn agored i’r elfen o dreth incwm sydd wedi ei datganoli mewn gwirionedd. 10c o’r cyfraddau uwch ac ychwanegol sylfaenol yw hynny. Mae hynny’n ystyried cryfder cymharol sylfaen y dreth yng Nghymru ym mhob band—mae gennym fwy o drethdalwyr yn y band sylfaenol; mae gennym lai, yn gymharol, yn y bandiau cyfraddau uwch ac ychwanegol—ac mae hyn yn golygu bod ein cyllideb yn agored i lai o risg o dwf gwahaniaethol ar frig y dosbarthiad incwm. Mae’r gallu hwnnw i drafod cymharydd gwirioneddol, ond sy’n cyd-fynd â natur talwyr treth incwm yng Nghymru, yn rhan bwysig iawn o'r fframwaith hwn.

Bydd y cyfraddau treth incwm yn wir yn dod i Gymru o fis Ebrill 2019. Ni fyddaf yn gallu dweud unrhyw beth arwyddocaol amdanynt tan yn nes o lawer at yr amser. Rydym wedi arddel yr ymagwedd ar gyfer y dreth trafodiadau tir a gwrthweithio osgoi a’r dreth gwarediadau tirlenwi ei bod yn bwysig yn y cyfnodau cynharaf iawn i wneud yn siŵr bod y system sydd gennym yn gweithio'n dda a’i bod yn adnabyddus i’r bobl hynny sy'n gyfrifol am wneud iddi weithredu. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y dadleuon hynny yn ddylanwadol erbyn mis Ebrill 2019 hefyd.

Tynnodd Nick Ramsay sylw at y mater o newid yn y boblogaeth. Mae poblogaeth yn elfen bwysig iawn yn y fframwaith cyllidol. Yn fersiwn yr Alban, mae'r risgiau o ran poblogaeth yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU. Yn ein fframwaith ni, mae’r risgiau’n cael eu cymryd gennym ni yng Nghymru. Mae hynny'n rhannol oherwydd ein bod mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn. Roedd poblogaeth yr Alban ar droad y ganrif hon 3 y cant yn is nag yr oedd 30 mlynedd ynghynt, ond roedd poblogaeth Cymru a Lloegr 6 y cant yn uwch. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae'r boblogaeth wedi cynyddu yng Nghymru ac yn yr Alban, ond mae poblogaeth Cymru wedi tyfu'n gyflymach na phoblogaeth yr Alban, ac mae'r rhesymau am y twf yn wahanol. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ymfudo rhyngwladol net fu’n gyfrifol am dros 50 y cant o’r twf ym mhoblogaeth Lloegr; dros 60 y cant o’r twf ym mhoblogaeth yr Alban; ond llai na 40 y cant yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod yn llawer llai agored i arafu mewn mudo rhyngwladol yn y cyfnod ôl-Brexit.

Gofynnodd Nick Ramsay am y gronfa wrth gefn sengl i Gymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r pecyn yn ei gyfanrwydd. A oes cap arni? Oes, mae yna—sef £500 miliwn—ac mae cap ar yr arian y ceir ei dynnu ohoni hefyd. Byddwn yn gallu codi, mewn unrhyw flwyddyn unigol, gwerth £125 miliwn o refeniw, ac mae hynny o’i gymharu â £75 miliwn o refeniw yr ydym yn gallu ei gario ymlaen o dan y trefniadau presennol, a byddwn yn gallu tynnu gwerth £50 miliwn o gyfalaf ohoni, o'i gymharu â £20 miliwn o dan y trefniadau presennol. Rwyf wedi gorfod cydnabod, yn fy nhrafodaethau â’r Prif Ysgrifennydd, fod ganddo gyfrifoldeb i reoli cyllideb y DU yn gyffredinol, a bod yn rhaid iddo fod â rhai paramedrau y gall ddibynnu arnynt wrth wneud hynny. Credaf fod cronfa wrth gefn Cymru ar lefel a fydd yn gweithio i Gymru, ac y bydd yr arian a gaiff ei dynnu ohoni’n flynyddol yn ddigon i ddiwallu ein hanghenion.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, sôn am y broses adolygu. Mae'r broses adolygu yn caniatáu i’r ddwy Lywodraeth, yn annibynnol, alw am adolygiad llawn o’r trefniadau, unwaith, yn achos Llywodraeth Cymru, yn ystod tymor Cynulliad, ac unwaith, yn achos Llywodraeth y DU, mewn tymor seneddol, ond nid yw hynny'n atal cytundeb ar adolygiadau eraill o fewn yr amserlen honno, pe byddai rhywbeth annisgwyl yn dod i'r amlwg a bod hynny’n angenrheidiol. Ond mae'r gallu cyfartal, a’r gallu annibynnol, i'w gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad yn agwedd bwysig iawn ar y fframwaith ac mae’n well nag unrhyw beth sydd gennym ar hyn o bryd.

Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu eglurder datganiad Ysgrifennydd y Cabinet? A gaf i groesawu yn fawr iawn y corff annibynnol ar gyfer ymdrin ag anghytuno? Fel y mae pobl wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y fan hon, rwy’n credu ein bod wedi cael bargen wael iawn o Gemau Olympaidd Llundain. Rwy’n credu y dylem, yn ôl pob tebyg, fod wedi cael yn nes at 20 gwaith cymaint ag y cawsom, a gobeithio, y bydd hyn yn mynd i’r afael â’r mathau hynny o broblemau.

A sôn am ymddygiad, ni fu unrhyw newid ymddygiad oherwydd y gwahaniaethau enfawr yn y dreth gyngor rhwng awdurdodau lleol. Ni fu rhuthr o'r Fenni i Allt yr Ynn ac ni fu rhuthro ar draws ffin Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro oherwydd bod y trethi cyngor yn sylweddol llai.

Mae gennyf dri chwestiwn. Yn gyntaf, mae’r ddwy dreth o bwys sy’n cael eu datganoli yn drethi hynod gylchol. Ac rydym yn gwybod bod y gallu i amrywio cyfraddau treth incwm wedi’i ddatganoli i'r Alban ers 1999. Gwyddom hefyd nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Mae amrywio'r cyfraddau trethi yn anhygoel o anodd. Os byddwch yn ei chynyddu o’i gymharu â Lloegr: bydd y cyhoedd yn digio. Os byddwch yn ei lleihau: bydd gostyngiad mewn refeniw a thoriadau i wasanaethau. Nid yw’n syndod o gwbl nad yw’r Alban wedi amrywio eu cyfradd i fod yn anghyson â gweddill y Deyrnas Unedig, ac wrth i weddill y Deyrnas Unedig amrywio’r cyfraddau, mae’r Alban wedi dilyn.

Bydd anhawster mawr hefyd wrth nodi trethdalwyr Cymru, yn hytrach na threthdalwyr Lloegr. A chafwyd problem yn yr Alban, sydd â ffin llawer llai agored, lle ceir llawer llai o symud dros y ffin na’r hyn a geir rhwng Cymru a Lloegr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y mesurau diogelwch sydd ar waith o ran edrych ar bob band yn unigol, a gwarchod cyllideb Cymru yn gyffredinol fel canran o gyllideb Lloegr, yn rhoi digon o amddiffyniad?

Dyma’r ail gwestiwn: gwnaethom bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, felly, a yw hynny'n golygu y gall yr ardoll gyfanredol bellach gael ei datganoli i Gymru pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac y gall trethi eraill sydd wedi'u heithrio gan reolau’r Undeb Ewropeaidd bellach gael eu hystyried i fod wedi’u datganoli? O ran terfynau cyfalaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet, fel fi, o’r farn bod y terfyn yn fympwyol? Ac a yw'n rhannu fy mhryderon y bydd y terfyn yn cael ei ystyried yn darged, yn hytrach nag yn derfyn, ac na fydd y ddadl a ddylai fod yn digwydd am fforddiadwyedd a chanlyniadau refeniw gwariant cyfalaf, yn digwydd yn yr un modd, os, yn hytrach na chael terfyn mympwyol a bennwyd gan y Trysorlys, bod yn rhaid i ni ymgymryd â benthyca darbodus a bod yn rhaid i ni mewn gwirionedd gyflwyno achos dros y benthyca hwnnw a dangos y gallu ariannol yn y dyfodol i ymwneud â’r benthyca hwnnw, yn hytrach na chael targed a cheisio ei gyrraedd?

Wel, rwy’n cofio'r trafodaethau â'r Trysorlys am y Gemau Olympaidd. Ac mae'n enghraifft berffaith o adeg, yn yr achos hwnnw, pan oedd y Trysorlys yn farnwr ac yn rheithgor ac yn orfodwr o’r canlyniad, ac ni waeth pa mor gryf oedd y dadleuon ar yr ochr arall, nid oedd yn barod i’w hystyried o gwbl. Mae'r cytundeb hwn yn golygu na fyddai’r sefyllfa honno yn codi yn y dyfodol.

Gofynnodd Mike Hedges am newidiadau ymddygiadol, a, Ddirprwy Lywydd, efallai y dylwn i, am eiliad—oherwydd credaf fod nifer o Aelodau wedi gofyn hyn—esbonio agwedd eithaf technegol ar y cytundeb, sef sut yr ydym yn ymdrin â’r hyn a elwir yn gorlifo polisi. Felly, ymdrinnir â thri gwahanol fath o orlifo polisi yn y fframwaith. Pan fo effeithiau uniongyrchol, felly os byddai Llywodraeth y DU yn newid lwfansau treth incwm, yna rhoddir ystyriaeth uniongyrchol i’r effeithiau hynny yn y fframwaith. Os oes effeithiau ymddygiadol, pe byddem yn newid cyfraddau treth trafodiadau tir yng Nghymru a bod hynny’n arwain at bobl yn dod i fyw yng Nghymru, a phe bai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r dreth a gymerir ar y naill ochr i'r ffin neu’r llall, yna bydd y fframwaith yn caniatáu i’r effeithiau ymddygiadol hynny, yn eithriadol, gael ystyriaeth pan fyddan nhw’n faterol ac yn amlwg. Felly, mae yna effeithiau ymddygiadol y gellir rhoi ystyriaeth iddyn nhw, ond rwy’n credu y bydden nhw’n brin iawn ac rwy’n credu y gosodwyd rhwystr addas.

Cyn belled ag y bo effeithiau eilaidd yn y cwestiwn, pan allai camau gweithredu, er enghraifft, a gymerwn fel Cynulliad Cenedlaethol arwain at economi Cymru fwy bywiog ac y byddai hynny’n arwain at fwy o gyfraniadau yswiriant gwladol gan drethdalwyr Cymru yn llifo i’r Trysorlys, rydym ni wedi cytuno bod y rheini’n rhy gymhleth i’w holrhain, ac y byddai bron yn amhosibl i ddangos achos ac effaith. Nid yw effeithiau eilaidd hynny, felly, wedi eu cynnwys yn y fframwaith.

Gofynnodd Mike Hedges am sut y nodir trethdalwyr, ac mae'n hollol wir bod Cyllid a Thollau EM wedi ei chael hi’n anodd i nodi’r trethdalwyr a oedd yn byw yn yr Alban. Rydym o’r farn eu bod wedi dysgu llawer o’r profiad hwnnw, ac mae’n rhan o’r prosiect trethi datganoledig sydd gennym ar y cyd â CThEM i ddysgu’r gwersi o brofiad yr Alban ac i wneud yn siŵr y gellir nodi trethdalwyr Cymru mewn ffordd effeithiol.

A oes digon o ddiogelwch yn y cytundeb yr ydym wedi’i gyrraedd? Wel, dywedais yn fy natganiad ein bod ni o’r farn, o ystyried sefyllfaoedd canolog o ran y boblogaeth, twf gwariant cyhoeddus a phatrymau derbyniadau treth yn y gorffennol, fod y cytundeb hwn yn cyflawni gwerth £1 biliwn o refeniw ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y 10 mlynedd nesaf. Os ydych yn cymryd na fydd twf mewn gwariant cyhoeddus o gwbl, ei fod yn parhau wedi’i rewi ar y lefel bresennol am y 10 mlynedd nesaf, byddem yn dal i fod ar ein hennill o £500 miliwn. Felly, credaf fod y diogelwch yn ddigonol.

Ynghylch yr ardoll agregau, wel, yn anffodus nid ydym wedi gallu datrys hyn eto. Mae'n parhau i fod yn destun anghydfodau cyfreithiol, a gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd, pan fydd hynny’n digwydd, fod yn ffordd o'u datrys, ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.

Yn olaf, mae terfynau cyfalaf yn anochel yn fympwyol mewn un ffordd neu'r llall. Rydym wedi cytuno ar derfyn sy'n gymesur â'r terfyn a fyddai gan yr Alban pan oedd ganddi lefel debyg o ddatganoli cyllidol. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges: mae’r benthyca cyfalaf yno i’w ddefnyddio yn ôl yr angen. Nid targed i’w gyrraedd mohono, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gallwn ddefnyddio adnoddau cyfalaf, a bydd craffu manwl ar ein gallu i gyllido arian a fenthycwyd trwy refeniw mewn cyfnod pan fydd y cyni ariannol yn parhau i leihau faint o refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Holais Ysgrifennydd y Cabinet yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher diwethaf, ac mae trawsgrifiad o’r sesiwn honno wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau, felly nid wyf yn bwriadu ymdrin eto â’r cyfan a drafodais bryd hynny ynghylch rhai o’r agweddau mwy technegol ar y fframwaith cyllidol, er fy mod wedi fy modloni ar y cyfan â’r ymatebion a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet.

Hoffwn godi dau faes. O fewn y telerau cyfyng y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u gosod o ran diogelu refeniw Llywodraeth Cymru, efallai ei fod yn meddwl ei fod yn gwneud gwaith eithaf da o fewn y fframwaith cyllidol. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn amod angenrheidiol ond nid amod digonol ar gyfer amddiffyn buddion trethdalwyr Cymru. Hoffwn ofyn a yw’n rhannu fy mhryder ynghylch anghymesuredd posibl o ran sut y bydd pwerau treth incwm datganoledig yn gweithio, a'r potensial i newid cyfraddau treth incwm Cymru o fewn band o 10 y cant. Deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y maniffesto Llafur na fyddai'r cyfraddau hyn yn cael eu newid yn ystod y Cynulliad hwn. Ond pe bai ei Lywodraeth ef neu Lywodraeth arall yn ceisio cynyddu cyfradd treth incwm Cymru yn y dyfodol, byddai hynny’n arwain at ddwy effaith. Un, byddai yna gyfradd uwch a byddai’r gyfradd uwch, ei hun, yn cynyddu refeniw, ond byddai hefyd o bosibl yn cael effaith ar y sylfaen treth incwm, a gellid gosod o leiaf peth o'r cynnydd refeniw hwnnw yn erbyn yr hyn a ddisgrifiodd yn effeithiau ymddygiadol. Yn y drefn arfaethedig, byddai’r holl fudd o'r incwm uwch hwnnw yn mynd i Lywodraeth Cymru, a byddai'r rhan fwyaf o gost unrhyw effaith ymddygiadol yn mynd i Lywodraeth y DU. O ystyried mai gan Lywodraeth Cymru y mae’r pŵer i newid y gyfradd honno, onid yw hynny’n creu anghymesuredd, lle ceir cymhelliant i godi trethi oherwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr holl fudd refeniw o hynny, ond y bydd y rhan fwyaf o gost refeniw y newidiadau ymddygiadol yn cael ei hysgwyddo gan Lywodraeth y DU nad yw'n gwneud y penderfyniad hwnnw?

Hoffwn i hefyd ofyn pryd y gwnaed penderfyniadau yn y maes hwn. Buom yn trafod o'r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn ymddangos bod gennych bwerau rhagweld rhyfedd. Roeddech chi wedi dweud wrthym, o leiaf, y byddai Aelodau Llafur y Cynulliad yn pwyso a mesur hyn yn ofalus dros y penwythnos ac yn gwneud penderfyniad neithiwr, rwy’n credu—nos Lun neu bryd bynnag—yn eich cyfarfod. Fodd bynnag, mae paragraff 14 o'r fframwaith cyllidol yn datgan yn glir y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn y pen draw o ddwy ffrwd ariannu ar wahân, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru. Felly, trwy arwyddo hynny, gwnaethoch chi a David Gauke dybio y byddai’r datganoli cyfraddau treth incwm yn digwydd. Gwnaethoch chi ateb ac awgrymu fod hynny efallai yn gamgymeriad neu na ddylwn i roi gormod o bwyslais ar hynny, ac mewn gwirionedd nad oedd wedi’i benderfynu ac y bydd pawb yn ei ystyried yn ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Wedyn cyfeiriais at faniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn gynharach eleni, a nodi ei bod yn datgan ynddo:

‘Gwarant i beidio â chynyddu Treth Incwm yn ystod tymor nesaf y Cynulliad pan fydd y pwerau hyn wedi eu datganoli i Senedd Cymru’.

Pam, os bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud na wnaed unrhyw benderfyniad, bod y cyfan yn dibynnu ar y fframwaith cyllidol ac Aelodau Cynulliad Llafur yn pwyso a mesur pethau, pam y gwnaeth maniffesto Llafur nodi’n bendant pa bryd? H.y. mae’r penderfyniad wedi’i wneud. Ar ba bwynt rhwng maniffesto 2015 y Ceidwadwyr ar lefel y DU, pan addawyd y byddai refferendwm cyn datganoli pwerau treth incwm, a maniffesto 2016 Llafur, pan gymerwyd hynny yn ganiataol, y newidiwyd y penderfyniad? Pa drafodaethau a gafodd Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru â Gweinidogion yn Llywodraeth y DU, boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol, i gytuno ar fargen i ddatganoli pwerau codi trethi, ar ôl addo yn flaenorol y byddent yn dibynnu ar refferendwm? A pham na fydd Llywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth y DU, ar y cyd, yn parchu'r hyn a nododd ar bapur pleidleisio’r refferendwm hwnnw yn 2011: na fyddai datganoli pwerau codi trethi yn dilyn pleidlais ‘ie’? Pam maen nhw wedi torri eu haddewid? [Torri ar draws.]

Ddirprwy Lywydd, gadewch i mi yn gyntaf ymdrin â'r cwestiwn cyntaf—[Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—y mae’n ei wneud ynghylch yr anghymesuredd posibl i effaith cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru, mae hwn yn bwynt a wnaed eisoes gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ond bydd unrhyw Lywodraeth Cymru sy’n gwneud penderfyniadau o'r fath rywbryd yn y dyfodol yn dymuno pwyso a mesur yr effaith yn ei chyfanrwydd. Bydd yn ceisio ystyried pa effaith y byddai newid cyfraddau treth incwm Cymru yn ei chael yn yr amgylchiadau anodd a amlinellwyd yn glir iawn gan Mike Hedges yn gynharach, nid yn unig ar drethdalwyr unigol ac ar refeniw Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar economi Cymru. Felly, bydd yn benderfyniad llawer mwy cymhleth nag un a ddehonglwyd dim ond ar y telerau cyfyng hynny y nododd Mark Reckless.

Gerbron y Pwyllgor Cyllid, Ddirprwy Lywydd, gofynnodd Mr Reckless gyfres o gwestiynau technegol perthnasol iawn i mi am y fframwaith cyllidol, ac roeddwn i’n falch iawn o geisio’u hateb, yna gwyrodd i’r math o wleidyddiaeth damcaniaeth gynllwyn y mae wedi’i chynnig i ni y prynhawn yma. Nid wnaed unrhyw gytundeb. Roedd sail y trafodaethau â’r Prif Ysgrifennydd hwnnw a nodwyd yn fy natganiad, pan ddywedais ein bod wedi cychwyn, wrth drafod y fframwaith, yn benodol ar y sail ein bod yn chwilio am y trefniadau y byddai eu hangen pe bai Bil Cymru yn cael ei basio. Nid oedd oherwydd bod Bil Cymru yn sicr o gael ei basio, ond roeddem yn ceisio sicrhau, erbyn i unrhyw bleidleisiau ar Fil Cymru gael eu cymryd, yn enwedig yn y man hwn, y byddwn i’n gallu dweud wrth Aelodau naill ai, ‘Mae gennym fframwaith cyllidol sy'n eich galluogi i bwyso a mesur Bil Cymru yn ei rinweddau ei hun’, neu ‘Mae’r fframwaith cyllidol wedi dod yn rhwystr i allu Llywodraeth Cymru i argymell Bil Cymru i chi’. Cymerwyd y penderfyniad a gymerodd fy ngrŵp neithiwr mewn trafodaeth drylwyr iawn, manwl iawn a fforensig iawn ynghylch Bil Cymru, lle’r oedd y fframwaith cyllidol, fel yr wyf wedi’i ddweud heddiw—ac y mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn flaenorol—bellach yn elfen niwtral. Nid oedd bellach yn rhwystr i benderfynu cefnogi Bil Cymru. Nid oedd cystal fel bod gwerth pleidleisio dros Fil Cymru na ellid ei gefnogi yn ei rinweddau ei hun. Ac mae'r trafodaethau i gyd wedi eu cynnal ar y telerau syml iawn a di-gynllwyn hynny.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad a dweud fy mod i’n gytûn ag e fod y fframwaith cyllidol, fel y mae wedi cael ei gytuno, yn rhoi digon o seilwaith i dderbyn trosglwyddo pwerau trethiannol, nid yn unig y rhai dros dreth incwm, ond hefyd y ddwy dreth arall sydd ar hyn o bryd yn mynd gerbron y Cynulliad drwy’r Pwyllgor Cyllid. Mae yna benderfyniad gwleidyddol arall i’w wneud ynglŷn â Bil Cymru, ond, o safbwynt y fframwaith cyllidol, byddem ni’n hoffi diolch i’r Llywodraeth am y gwaith maen nhw wedi’i wneud, achos rydw i’n meddwl bod hyn yn gymorth mawr i’r Cynulliad wneud y penderfyniadau.

Dau beth sydd gyda fi i’w codi. Yn gyntaf oll, un o’r pethau efallai sy’n cael eu colli yn hyn i gyd, er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano fe, yw’r ffaith bod adolygiad eithaf sylfaenol fan hyn o Barnett, a bod hynny’n rhywbeth rŷm ni wedi bod yn pwyso amdano am rai blynyddoedd. Dechreuodd y broses yma, wrth gwrs, gyda sefydlu Llywodraeth Cymru’n Un a’r penderfyniad i sefydlu, rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, gomisiwn ar y cyd i edrych i mewn i fformiwla Barnett ac anghenion Cymru, wedi’i gadeirio’n gelfydd iawn gan Gerry Holtham. Mae’r adroddiad hwnnw wedi bod yn gynsail i’r gwaith, ac mae’n tanlinellu i fi bwysigrwydd cyngor annibynnol a ffynhonnell annibynnol y wybodaeth er mwyn dadlau yn erbyn y Trysorlys ac yn erbyn Llywodraeth San Steffan. Felly, rydw i yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n gweld ac yn olrhain y broses yma yn ôl i ddyddiau Holtham—mae wedi cymryd bron ddegawd i gyrraedd y pwynt yma.

Ac, ar y cyd-destun yna ynglŷn â phroses annibynnol, mae yna gydnabyddiaeth yn y fframwaith ynglŷn â’r ffaith bod y Llywodraeth yn gallu sefydlu a dibynnu a throi at ffynhonnell annibynnol ar gyfer adolygu ac ar gyfer gwybodaeth. Roedd y Pwyllgor Cyllid yn y gorffennol wedi argymell y dylid sefydlu comisiwn cyllidol i wneud y gwaith yna—dyna beth sydd gyda chi yn yr Alban. Efallai nad oes digon o waith ar gyfer comisiwn llawn ar hyn o bryd, ond beth nad ydych chi eisiau ei wneud yw gorfod troi at ffynhonnell un flwyddyn a ffynhonnell arall y flwyddyn arall, a chyngor annibynnol gan rywun arall rywdro arall. Mae angen adeiladu rhyw fath o ‘corporate memory’, fel petai, dros gyllido a thros ddatganoli cyllidol yng Nghymru.

Felly, byddwn i’n hoffi clywed mwy gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â sut nawr y mae’n mynd i chwilio am y cyngor annibynnol yna, a beth mae’n disgwyl ei sefydlu, o ran corff neu o ran proses, er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a’r dystiolaeth annibynnol i’w gael i Lywodraeth Cymru.

Wel, diolch yn fawr i Simon Thomas am beth a ddywedodd e am y fframwaith ac am y cytundeb. Wrth gwrs fy mod yn cytuno; gwaith Gerry Holtham oedd rhan o’r cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn y trydydd Cynulliad—gwaith yr oeddem ni’n gallu mynd yn ôl ato dro ar ôl tro, ac nid oedd y Trysorlys yn gallu dweud dim byd yn erbyn y gwaith y tu mewn i’r adroddiad. Mae wedi cymryd degawd, fel y dywedodd Simon Thomas, ond roeddem ni’n gallu cyfeirio at waith Gerry Holtham bob tro yn y trafodaethau gyda’r Trysorlys. Nid ydw i’n meddwl fy mod i’n dweud dim byd o’i le wrth ddweud, yn y cyfarfod cyntaf, nad oedd y Trysorlys yn rhy agored i drafod Barnett o gwbl. Roedd hwnnw jest ar ffin y trafodaethau. Ond, ar ôl mynd drwy’r broses, a gyda’r adroddiad a’r waith Gerry Holtham a’r bobl sydd wedi adeiladu ar ei waith e ar ôl yr adroddiad, roedd hwnnw’n hollol bwysig yng ngwaith y trafodaethau gyda’r Trysorlys.

Cododd Simon Thomas y cwestiwn o ble yr ydym ni’n mynd i gael y barnau annibynnol yn y dyfodol. Wel, mae mwy nag un ffordd o gael gwybodaeth fel yna. Rydym ni’n gallu mynd at yr OBR, fel y dywedais i o flaen y Pwyllgor Cyllid. Rydym yn gallu gwneud beth yr oedden nhw wedi ei wneud yn barod yn yr Alban, neu yr ŷm ni’n gallu cael rhywbeth arall sy’n addas i ni yng Nghymru—rydw i’n dal i fod yn agored i drafod y posibiliadau. Rwy’n mynd i’r Alban ddiwedd yr wythnos yma, ac mae cyfle gyda fi yna i drafod gyda’r Gweinidog dros gyllid yn yr Alban a’r bobl sy’n eu cynghori nhw yn y sefyllfa newydd yna. Rydw i yn cytuno gyda Simon Thomas—beth bynnag yr ydym ni’n mynd i wneud yn y dyfodol, bydd yn bwysig i ni allu cael gwybodaeth a chyngor sy’n bwrw o’r un flwyddyn i’r nesaf, ac nid jest i gael rhywun i’w wneud yn flwyddyn 1, a rhywun arall yn flwyddyn 2. So, pwy bynnag sy’n mynd i’w wneud e, rydw i’n cytuno â beth a ddywedodd ef am y pwysigrwydd o gael cyngor sy’n rhedeg o’r un flwyddyn i’r llall.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolchaf i'r Ysgrifennydd Cyllid am ei ddatganiad. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o gam mawr ymlaen, a hoffwn longyfarch ef a'i ragflaenydd, Jane Hutt, am yr holl waith y maen nhw wedi'i wneud i gyflawni’r datganiad hwn heddiw. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi siarad am ddiwygio fformiwla Barnett ers blynyddoedd. Cyfeiriodd Simon Thomas at hanes y fformiwla pan siaradodd, ac rwy’n credu ei bod yn gyflawniad gwych i gael elfen sy’n seiliedig ar anghenion yn y fformiwla Barnett o’r diwedd, a'r ffaith, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, ei bod mewn gwirionedd yn cydnabod ei bod yn bodoli, ac mae'r 115 y cant, yn fy marn i, yn llwyddiant mawr.

Rwyf i hefyd yn croesawu dyblu’r pwerau benthyca cyfalaf, ond rwy’n croesawu'n arbennig gyflwyniad yr elfen annibynnol i unrhyw drafodaeth neu unrhyw fath o gyflafareddu, a chredaf fod hyn yn llwyddiant mawr, oherwydd gwn nad yw’r Trysorlys yn dymuno bod yn farnwr a rheithgor, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Bu cryn dipyn o gwestiynau manwl eisoes am sut y byddai’r elfen annibynnol hon yn gweithio. A yw'r Ysgrifennydd cyllid wedi edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill lle mae wedi dod yn arfer arferol i gael elfen annibynnol ar waith, ac a oes unrhyw beth y credai y gallem ei ddysgu o unrhyw un o’r gwledydd eraill hynny? O'r hyn y mae wedi’i ddweud, credaf ei fod wedi cyfeirio at ddefnyddio, o bosibl, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw gyrff eraill y byddai’n eu hystyried a allai gyflawni'r swyddogaeth hon, ac a oes meddwl agored ganddo o hyd ynghylch creu unrhyw fath o gorff?

Diolchaf i Julie Morgan am yr hyn a ddywedodd ac am dynnu sylw at yr agweddau pwysig hynny ar y fframwaith. Rydym wedi edrych i weld sut mae systemau yn gweithio mewn mannau eraill lle mae cyngor annibynnol yn cyfrannu at wneud penderfyniadau. Rydym wedi edrych yn benodol ar yr Alban, oherwydd, fel y dywedais, mae'n deg cydnabod ein bod yn dilyn yn ôl eu traed i sicrhau’r lefel honno o gyfraniad annibynnol i'r fframwaith. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond mae wedi’i lleoli yn Llundain, a gallech ddadlau ei bod yn gweld y byd ychydig trwy delesgop y Trysorlys. Edrychaf ymlaen at drafod yn yr Alban sut y mae eu comisiwn ariannol yn gweithredu. Fel y dywedodd Simon Thomas, mae gennyf rai amheuon ynghylch a yw comisiwn ariannol llawn yn ymateb cymesur i lefel y datganoli cyllidol sydd gennym yng Nghymru, ond rydym wedi elwa’n aruthrol, er enghraifft, ar waith Canolfan Llywodraethiant Cymru a gwaith y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Felly, mae yna gyrff sy’n bodoli eisoes sy'n darparu cyngor annibynnol a chadarn. Bydd eraill hefyd. Ar hyn o bryd rwy'n agored i nifer o wahanol bosibiliadau. Mae gennym gyfnod o amser. Mae'r fframwaith cyllidol yn caniatáu ar y dechrau i Lywodraeth Cymru weithredu o fewn ei gallu rhagweld ei hun, felly nid oes angen i ni ei ruthro mewn mater o ddyddiau. Rwy’n dymuno dod o hyd i'r cyngor gorau a chymesur sy'n annibynnol arnom ni ac sy’n ein galluogi i’w ddefnyddio, ac rwy'n hapus iawn i barhau i drafod rhinweddau cymharol gwahanol ddulliau gydag aelodau o'r Pwyllgor Cyllid ac eraill wrth i ni eu harchwilio yn fanylach.

6. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru

Nawr rydym yn symud ymlaen i eitem 4 ar y rhaglen, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig—Carwyn Jones.

Cynnig NDM6203 Carwyn Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i symud, felly, y cynnig hwn i ganiatáu i’r Cynulliad roi ei ganiatâd i San Steffan, felly, i symud ymlaen gyda Mesur Cymru?

Mae rhai ohonom ni wedi bod yma ers 1999, a chithau, wrth gwrs, yn un ohonyn nhw, Ddirprwy Lywydd, ac yn cofio’r diwrnodau hynny lle roeddem ni mewn siambr a oedd yn gwtsh o Siambr—Siambr fach iawn—lle'r oedd yn rhywbeth gweddol aml i weld y camerâu yn cael eu troi bant o achos y ffaith bod rhywun wedi neidio’r wal rhwng y cyhoedd a’r Aelodau ac yn rhedeg yn wyllt drwy’r Siambr, er ymdrechion y cyn Lywydd i’w rheoli nhw. Ac, wrth gwrs, y pryd hynny, roeddem ni’n dadlau pethau fel Gorchmynion ynglŷn â thato a oedd yn dod mewn, yn cael eu mewnfudo, o’r Aifft. Roeddem ni’n delio, ar lawr y Siambr, gyda Gorchmynion yn delio gyda maint penfreision a phob math o bysgod.

Felly, mae pethau wedi newid. Erbyn hyn, mae yna ryddid gyda ni i greu deddfwriaeth yn y rhannau o bolisi lle mae gyda ni’r hawl i wneud hynny. Allem ni ddim feddwl fel roedd pethau ar un adeg, lle nad oedd gobaith gyda ni i greu deddfwriaeth, er bod yna gyfrifoldeb gyda ni ynglŷn ag iechyd, addysg ac yn y blaen. Yn 2011, fe wnaeth pobl Cymru roi caniatâd clir iawn i ni i symud ymlaen i’r cam nesaf o ddatganoli ar y pryd hynny. Felly, rydym ni yn edrych unwaith eto nawr ar y cam nesaf.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

When the UK Government first looked at a Wales Bill, the Secretary of State at the time approached the issue on the basis that he asked Whitehall departments what they thought should be devolved. Sure enough, we had the initial Bill that was based very largely on ignoring the 2011 referendum results and trying to ensure that the law in Wales diverged almost not at all from the law in England. It was a remarkable Bill because of the fact that literally nobody that I’m aware of actually supported it anywhere in this Chamber or outside.

So, we find ourselves looking now at the current Bill. I am not going to pretend to this Chamber that this Bill is everything that we would want. The Bill that I believe was a far superior Bill, a far clearer Bill, and a Bill that reflected the views of the people of Wales, was the draft Bill produced by this Government. What we have instead is a Bill that is unsatisfactory in many areas but does move ahead in others—but a Bill that has required a great deal of consideration by the Welsh Labour group here in terms of whether we would support it or not.

It was a long, detailed and finely balanced debate. We decided to look at the Bill as a package. Yes, there are some areas that are unsatisfactory, and there are areas that are yet to be addressed that will need to be addressed in the future. But, on balance, we took the decision to support the LCM this afternoon, although that decision hasn’t been easy.

It is important, Llywydd, that the people of Wales have a final say over the future of this institution and what it does, that it is enshrined in the constitution of the UK, and it’s the people of Wales who decide how this institution works, decide how many Members it has, and for them to decide what the electoral system of this institution is.

It’s also important that the Sewel convention, which, in Scotland, is enshrined in statute, also happens here in Wales. This is not an obscure constitutional point; it has resonance particularly on the Brexit debate. It is possible, for example, that the Supreme Court might say, ‘Well, actually, the Scottish Parliament has to give its consent to the article 50 process, because it has a Sewel convention enshrined in law. Wales doesn’t, so the National Assembly isn’t in the same situation’. We need to make sure that our constitutional position is identical to Scotland and Northern Ireland in advance of the next, probably, 10 years of debate that we will have over Brexit. So, ensuring that that constitutional ground is steady beneath our feet is important.

I welcome the movements made by the UK Government on energy, on transport, and on water, and in other areas they have moved forward. I welcome the fact that most of the ports will be devolved, apart from Milford Haven, for reasons that I expounded earlier on. And there are areas that will need to be revisited in the future. There are concerns about the limited scope of our powers and the impact of the restrictions in the new model. The weight of these concerns depends on an assessment of risk in relation to the ‘relates to’ test and the necessity test, and how far the Assembly’s future legislative ambitions are likely to hit against the limitations of these tests.

The UK Government will claim that this Bill provides greater certainty, but it would undermine that certainty if, within a few months or years, we find ourselves back in front of the Supreme Court asking the Supreme Court to take a decision as to where the boundary lies in terms of devolved powers.

There are positive aspects, including a clear devolution boundary in respect of devolved public authorities and explicit freedom to legislate on the private and criminal law. Minister of the Crown consents, whilst significantly reduced from the unacceptability of the draft Bill, still represent new constraints on the current settlement, although limited progress has been made on reducing the number of reservations: 217 in the draft Bill to 193 now—and some of those are pretty superficial. There are still areas where we didn’t see movement that we would have liked: the sale and supply of alcohol. There is no coherent reason put forward as to why the supply and sale of alcohol should be devolved in Scotland and Northern Ireland but not in Wales. No coherent argument has been put forward supporting that other than, ‘This the way it’s always been, tough luck.’ And that is not the way to address things in the future.

We know about the issue of the employment and industrial relations competence that we have at the moment. We saw what happened to that in the House of Lords last week: a draw in terms of the vote. It is not something that we welcome—to see what appears to be a restriction on competence. It may have been created by accident by the Supreme Court but is, nevertheless, something that we have had. And it’s not possible to conclude that the reserved-powers model—welcome though it is in theory—is fit for purpose in the long term, and one of the main reasons for this is justice and the jurisdiction.

There is no other country that I know of where two legislatures exist in the same jurisdiction. It’s unheard of anywhere else and it has an important practical effect. It is possible in the future that somebody might be arrested in Cardiff for something that is not an offence in Wales. It is possible that somebody might serve a sentence of imprisonment in a prison in England for something that isn’t an offence in England. That to me makes no sense at all as far as the future is concerned. It also confuses the public and the professions. We’re already having instances communicated to me by the Lord Chief Justice of lawyers turning up in Welsh courts and arguing the wrong law, because they assume the law is the same in both England and Wales. Simon Thomas, a few months ago, made reference to a constituent that he had spoken to. The constituent had brought legislation—an Act of Parliament—in front of him, which said that the Act of Parliament applied to England and Wales. But, of course, it only applied to England. The confusion that caused in the mind of a constituent—this is a very, very complicated way of dealing with something that is, in fact, very simple. But, of course, this complication is something that the UK Government have chosen to do.

The failure by the UK Government to engage with the fundamental questions of justice and the jurisdiction means that the Bill can’t be a sustainable, long-term settlement. The future of justice in Wales with the growing body of devolved Welsh law providing a distinct Welsh legal jurisdiction is too important to be ignored. That’s why we argued throughout the passage of the Bill that we need a commission to consider and report on the arrangements that need to be put in place to ensure we have a justice system in Wales that is fit for purpose and, of course, fit for the new devolution settlement. As the UK Government has been unwilling to take on that task, we will do so. The Welsh Government will make more announcements about this over the coming months.

That, however, is an argument for another day. Of more immediate concern to the public are these: the fiscal framework—I pay great tribute to the Cabinet Secretary for Finance and Local Government for the work that he has put in in producing a fiscal framework that is, at worse, neutral and at best, we assess, slightly positive. But it was hugely important that, before we saw any substantial devolution of income tax, we ensured that Wales was not worse off as a result. He has secured that, and that is something that gives us great confidence as far as the future is concerned. And, of course, there are the implications of Brexit. We’re still not on an equal footing with the rest of the UK nations. There is still a real continued risk of visits to the Supreme Court and I strongly believe this will be the case until the issue of the jurisdiction is resolved.

Hoffwn gael ychydig o eglurder am fater Brexit, oherwydd rwy’n credu eich bod newydd awgrymu nad ydym yn yr un sefyllfa â’r gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig. A oes gan y Bil unrhyw ddarpariaeth o gwbl a fyddai’n diogelu unrhyw ymdrechion pellach gan Lywodraeth y DU i gymryd pwerau yn ôl o ganlyniad i Brexit, er enghraifft?

Mae mater Brexit yr un fath â mater Sewel i mi. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun heddiw na chaiff unrhyw bwerau eu tynnu’n ôl, ac mae'n rhaid imi ei chredu, ond os yw wedi’i ymgorffori yn y gyfraith bod gofyniad o ganiatâd gan senedd neu gynulliad datganoledig, yn amlwg mae mwy o bwysau i hynny nag i gonfensiwn yn unig. Felly, mae’n bwysig ymgorffori hynny yn y gyfraith, nid yn unig o ran trafodaethau Brexit, ond o ran trafodaethau am nifer o faterion yn y dyfodol lle na fydd Llywodraeth y DU yn gallu dweud, 'Wrth gwrs, yn yr Alban mae'n gyfraith, ond yng Nghymru, nid yw, felly nid oes rhaid inni dalu’r un sylw i Gymru ag i’r Alban.' Mae hynny'n bwysig, nid dim ond o ran cyflwyniad, ond o ran y gyfraith hefyd. Felly, bydd gennym fodel cadw pwerau amherffaith, ond ar y cyfan rwy’n credu mai’r peth gorau i Gymru, wrth inni geisio ymdrin â mater Brexit, yw ein bod yn cymryd yr hyn sydd ar gynnig heddiw, ac yn ei weld fel cam arall ar daith hir datganoli. Cofiwch lle’r oeddem ni yn 1999 a sut y gwnaethom berswadio pobl Cymru i symud o gefnogaeth anfoddog i egwyddor datganoli yn 1999, i gefnogaeth lethol i bwerau sylfaenol yn 2011, a deallwch fod hwn yn Fil a fydd yn symud Cymru ymlaen fel pecyn. Mae angen gwella rhai meysydd, ac mae angen newid rhai meysydd. Pam y dylai fod yn wir bod yn rhaid i bobl yng Nghymru dalu treth teithwyr awyr ond nid pobl yn yr Alban? Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr rhesymegol o gwbl.

Rwy'n ddiolchgar. Tair awr yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan weinyddiaethau datganoledig yn cael eu cymryd oddi arnynt. A yw hynny’n rhoi unrhyw ffydd i'r Prif Weinidog, ynteu a yw'n awgrymu y gallai meysydd sydd wedi'u datganoli ond yr ymdrinnir â hwy ar hyn o bryd gan yr UE efallai mewn gwirionedd symud i San Steffan?

Os edrychwch chi ar amaethyddiaeth, ni sy’n gwneud y penderfyniadau am amaethyddiaeth. Os edrychwch chi ar bysgodfeydd, ni sy’n gwneud penderfyniadau am bysgodfeydd. Nid oes unrhyw gwestiwn o ryw fath o bolisi amaethyddol i’r DU gyfan nad yw wedi’i ddatganoli, ar sail yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog. Mae hynny'n eithaf clir imi. Y pwynt yr wyf wedi'i wneud lawer, lawer gwaith yw ei bod yn hynod bwysig, pan ein bod angen fframweithiau cyffredin ledled y DU—ac mae dadleuon o blaid y fframweithiau cyffredin hynny mewn rhai meysydd—bod hynny’n digwydd drwy gytundeb, nid yn cael ei osod gan Whitehall. Nid yw pobl Cymru wedi pleidleisio i gyfnewid biwrocratiaid Brwsel am fiwrocratiaid Whitehall, ac mae arnom angen mecanwaith priodol yn y DU i gael cytundeb ar faterion cyffredin, yn hytrach na'i fod yn ymddangos bod hynny’n cael ei orfodi arnom.

Ar y sail honno, felly, rwy’n argymell, fel y gallech ei ddisgwyl, bod y Cynulliad yn pleidleisio heddiw o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ond ei fod yn gwneud hynny gan nodi amheuon cryf, ei fod yn gwneud hynny â rhywfaint o amharodrwydd, a’i fod yn gwneud hynny gan wybod bod hwn yn gam arall ar daith datganoli yng Nghymru, ond gan ddeall y bydd mwy o gamau i ddod yn y dyfodol. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am nodi ei grynodeb o'r sefyllfa yr ydym ynddi ac am ei argymhelliad ein bod yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw? Gadewch imi ddechrau â rhai materion syml o broses. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ynglŷn â Bil Cymru ar 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes ef atom ni, a chyflwynwyd adroddiad gennym am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 13 Rhagfyr 2016. Fe’i gwnaethom yn glir bryd hynny y byddai'n annhebygol y byddem yn gallu ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol hwyr yn briodol tra bod y Bil yn dal i fod ar y gweill yn Senedd y DU, ac nid oedd y fframwaith cyllidol cysylltiedig yr ydym wedi ei drafod heddiw wedi ei ddatrys bryd hynny ychwaith. Er bod yr olaf yn wir wedi ei ddatrys, a byddaf yn dychwelyd at hynny, mae’r amserlen fer wedi golygu ein bod wir wedi methu fel pwyllgor ag ystyried yn llawn y memoranda cydsyniad atodol neu ddiwygiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 a 13 Ionawr.

Fodd bynnag, mae'n werth atgoffa'r Aelodau o'n hymateb i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol hwnnw, a hefyd o ganfyddiadau ein hadroddiad am Fil Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016. Yn yr olaf, roeddem yn mynegi pryder bod y lle y mae’r Bil yn ei ddarparu i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu yn anodd ei nodi’n glir, ac y gallai fod yn fwy cyfyngol nag y mae ar hyn o bryd. Nodwyd gennym y modd cymhleth y mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol wedi’i fynegi, gan gynnwys nifer a maint y materion a gedwir yn ôl a’r cyfyngiadau. Gwnaethom argymell newidiadau posibl i wella'r Bil yn seiliedig ar rai o'r rheini a awgrymwyd gan y Llywydd a'r Prif Weinidog, neu a ddatblygwyd gan y pwyllgor ei hun. Roedd ein hadroddiad cydsyniad memorandwm deddfwriaethol dilynol yn cydnabod, er bod newidiadau cadarnhaol wedi eu gwneud i'r Bil, a bod diwygiadau pellach wedi’u trefnu ar ôl yr adeg honno ar gyfer y Cyfnod Adrodd, nad oeddent yn newid y problemau sylfaenol gyda'r Bil. Gwnaethom nodi bod y problemau hyn yn debygol o achosi anawsterau i allu'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfraith resymegol, hygyrch ar gyfer dinasyddion Cymru, ac ailddatgan ein barn bod Bil Cymru yn parhau i fod yn gymhleth ac yn anhreiddiadwy ac na fyddai'n cyflawni’r setliad parhaol, cydnerth hwnnw y mae pawb yn dymuno ei weld.

Felly, er nad yw’r pwyllgor wedi gallu ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diweddaraf yn llawn, rwy’n amau ​​y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno bod ein pryderon cyfansoddiadol a deddfwriaethol mwyaf sylweddol yn parhau. Felly, nawr rwy’n mynd i fentro gwneud sylwadau yn bersonol am sylwedd newidiadau diweddar, a gwahodd Aelodau eraill i wneud yr un fath yn y ddadl hon a phleidleisio heddiw. Mae hon yn awr arwyddocaol ym mhroses datganoli, pa bynnag benderfyniad a wnawn heddiw. Nid yw’n ddiwedd y daith, fel y dywedodd y Prif Weinidog—nid o bell ffordd—ond mae'n garreg filltir bwysig, ac mae'n cael ei wneud yn fwy arwyddocaol gan y cyfnod ansicr yr ydym yn byw ynddo. Gyda chefndir Brexit, y newidiadau i wleidyddiaeth ac economeg ryngwladol a domestig a'r angen dybryd i sicrhau bod ein gwleidyddiaeth yma yn berthnasol i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, dylem wneud ein penderfyniad, fel Senedd etholedig, gyda phwysau hynny arnom.

Bydd rhai, yn ddiau, yn dadlau bod hwn yn Fil bach tila; y dylai hyn fod yn alwad seiren o rwystro uchelgeisiau datganoli ac yn alwad i'r gad. Nawr, bydd eraill, efallai rhai yn ystafelloedd Tŷ Gwydyr â’u carpedi dwfn, dim llai, yn dadlau bod hyn yn fuddugoliaeth. Y gwir, yn fy marn i, yw nad yw hwn yn achos i ddathlu nac yn achos i’n taflu ein hunain oddi ar Bulpud y Diafol ar fynydd Bwlch. Mae arnom angen asesiad sobr. Mae'n wir, yn ddi-os, bod hwn, ar adegau, wedi ymddangos fel Bil bach dihyder; mae wedi bod yn swil o'i gysgod ei hun. Mae wedi ceisio mor galed i fod yn ddidramgwydd, a phlesio pawb, nes ei fod, drwy wneud hynny, wedi achosi i lawer o bobl gael eu tramgwyddo gan ei union ddiffyg hyder. Mae’n rhaid bod y rheini a ddaeth ag ef i mewn i'r byd, yn wan ac yn gwegian, wedi eu syfrdanu o weld eu hepil yn cael ei ddifrïo mor greulon ar bob cyfle.

Eto i gyd, mae hanes hir datganoli wedi bod yn llawn pryderon ac mae wedi bod yn anodd sicrhau cynnydd. Mae llygad wedi bod ar y prif bleidiau gwleidyddol bob amser a beth y byddent yn cytuno ag ef ar unrhyw adeg benodol, wrth i ddatganoli gael ei roi ar waith; llygad ar Seneddau a Llywodraethau San Steffan a Chymru ar yr adeg benodol honno; a bob amser, bob amser, bob amser dealltwriaeth frwd o farn pobl Cymru am y mater hwn. Nid yw erioed wedi bod yn wirioneddol ddoeth rhuthro o flaen y bobl a gynrychiolwn heb eu perswadio ein bod ar y trywydd cywir.

Pe byddwn am fod yn hollol deg—ac rwy’n ystyried fy mod fel arfer—mae’n debyg mai dyma y mae'r ddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ceisio ei wneud gyda'r Bil Cymru hwn: maent wedi ceisio triongli a thrin a chyflwyno creadur o gyfaddawd. Oedd, roedd cyfaddawd yn anochel, ond mae'n well ac yn fwy tebygol o gael consensws os yw’n seiliedig ar gytundeb cynnar hanfodol ar bethau sylfaenol y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig a rhwng Senedd y DU a'r Seneddau datganoledig. Mae hynny’n llawer mwy tebygol o fod yn gydnerth. Roedd y cytundeb hwn yn canolbwyntio gormod ar Whitehall; rhy ychydig ar Gymru. Ac, ar y pwynt hwnnw, rwy’n tynnu sylw at yr ymchwiliad yr ydym wedi ei lansio: 'Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a'r sefydliadau datganoledig'.

Gadewch inni beidio ag esgus bod hwn wedi deillio o unrhyw gytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Nid oedd cytundeb â Llywodraeth Cymru, fel yr ydym wedi ei glywed, a wnaeth, mewn gwirionedd, wrthweithio Bil Cymru â’i gynnig clir, syml, beiddgar ei hun o Fil Cymru fel esiampl o setliad clir, parhaol a chydnerth. Ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid inni ganmol gwaith Senedd y DU yn llwyr, ac yn enwedig y rheini, gan gynnwys cydweithwyr yma, a fu’n gweithio shifftiau dwbl, a fu’n llafurio yn yr ail Siambr yn y fan yna, yn enwedig y Farwnes Morgan, neu Eluned, fel yr ydym ni’n ei hadnabod. Mae cynnydd wedi’i wneud; nid yw wedi gweddnewid y Bil hwn i fod y Bil y dadleuodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o’i blaid, nid dyma’r Bil yr oedd Llywodraeth Cymru, yn ddelfrydol, yn awyddus i’w gael, nac, rwy’n amau, yr un yr oedd ar y Llywydd na'r mwyafrif o'r Aelodau yma heddiw ei eisiau, ond mae gwelliannau wedi’u gwneud.

Hefyd, mae'r cyd-destun wedi newid: pwerau newydd i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys pwerau dros etholiadau a'r system etholiadol; hunanlywodraethu; cydsynio â phrosiectau ynni hyd at 350 MW; pysgodfeydd a chychod pysgota; mwy o bwerau dros ddŵr; tribiwnlysoedd yng Nghymru; ymgorffori confensiwn Sewel yng Nghymru; ac ymgorffori natur barhaol y Cynulliad yn ein cyfansoddiad. Er bod Llywodraeth y DU wedi methu â chydochri’r pwerau gweithredol yr oedd arnom eu heisiau, mae gennym yr addewid o drosglwyddo swyddogaethau, a drwy hynny bwerau, ar etholiadau, trafnidiaeth, tâl ac amodau athrawon a materion eraill. Rydym yn dal i fod ymhell yn brin o ofynion Llywodraeth Cymru a Silk o ran cyfiawnder, porthladdoedd ymddiriedolaeth, darlledu, rheilffyrdd, pwerau argyfwng, ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy. Eto i gyd, nid yw'n hawdd diystyru’r pwerau newydd sydd ar gael.

Mae nifer y materion a gadwyd yn ôl yn dal i fod yn rhy fawr, ac mae’r gostyngiad o 217 i 193—llawer o hynny drwy gael gwared ar ailadrodd yn hytrach na newidiadau sylweddol—yn bitw, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod cwmpas rhai o'r materion hyn wedi’i gulhau a bod eithriadau wedi’u hychwanegu at rai. Fel y cyfryw, gan gydnabod y cynnydd y gweithiwyd yn galed i’w sicrhau, nid yw pryderon gwreiddiol y pwyllgor bod nifer y materion a gadwyd yn ôl a'r prawf 'ymwneud â' yn peryglu manteision symud i fodel cadw pwerau—er gwaethaf sicrwydd gweinidogol a roddwyd ar y cofnod yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddar, a materion sylfaenol eraill—wedi eu tawelu yn y pen draw.

Fel y clywsom gan y Prif Weinidog, hefyd, ar gyfiawnder ac awdurdodaeth, ni ildiwyd unrhyw dir. Felly, mae hyn, wedi’i gydbwyso yn erbyn y cynnydd, i gyd yn golygu ei bod yn anodd penderfynu ar ba un a ddylid cefnogi hyn ai peidio. Ond yna rydym yn ychwanegu’r ffactorau ychwanegol: y fframwaith cyllidol a drafodwyd yn gelfydd iawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac sy'n ymddangos, mewn gwirionedd, i fod yn amodol ar basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a'r bygythiad o fod yn agored, drwy'r model rhoi pwerau presennol ac absenoldeb ymgorffori confensiwn Sewel ar hyn o bryd, i Brexit a materion eraill lle gallai pwerau lithro oddi wrth Gymru neu gael eu rhwygo i ffwrdd. Felly, ar y cyfan, byddwn yn dadlau bod yn rhaid inni ddal manteision y Bil hwn yn awr, tra ei fod ger ein bron a gan wybod nad dyma’r bennod olaf o bell ffordd.

Mae'r setliad datganoli yn newid yn y Deyrnas Unedig, nid dim ond yma yng Nghymru, ond yn yr Alban, wrth gwrs, ac yn Lloegr. Mae hyn yn seiliedig ar ofynion cynyddol gan wledydd a rhanbarthau'r DU am ddatganoli pŵer a mwy o ymreolaeth leol o fewn economi wleidyddol ailddosbarthol yn y DU. Ar adeg dyngedfennol arall mewn datganoli, gallem anfon y Bil hwn i’w heglu hi’n ôl i San Steffan â’i gynffon rhwng ei goesau. Ond pe byddem yn gwneud hynny, mae'n bosibl na fyddem yn gweld Bil Cymru arall yn y pum mlynedd nesaf, efallai 10, neu hyd yn oed hirach na hynny. Pe byddem yn gwneud hynny, byddem yn troi ein cefnau ar lawer o bethau. Mae pobl ddoethach na fi wedi awgrymu na fydd y Bil hwn yn rhoi’r setliad cydnerth, unwaith mewn cenhedlaeth a addawyd gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, a bod y cymhlethdod a’r amodoldeb sydd ynddo yn golygu y byddwn o bosibl yn ildio rhywfaint o dir. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y byddwn yn sefyll ar dir mwy cadarn a mwy sicr o ganlyniad i symud at Fil cadw pwerau. Mae'n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni wynebu cyfnod pontio at Brexit a ffactorau sioc allanol eraill. Mae hynny, a'r fframwaith cyllidol ochr yn ochr ag ef, yn ddigon i ddweud y dylem gymryd yr enillion yn y Bil hwn, cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan wybod yn iawn y bydd yn rhaid inni ddychwelyd at hyn, gan nad yw’n setliad parhaol, cydnerth. Nid dyma’r gyfraith resymegol, hygyrch y mae pobl Cymru yn dymuno ei chael. Ond byddaf yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd, ar y cyfan, rwy’n credu bod hynny er budd y Senedd hon ac er budd pobl Cymru.

Mae cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw yn cynrychioli'r cam diweddaraf ar daith ddatganoli astrus a chymhleth Cymru. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Bil Cymru yn rhoi ag un llaw ond yn cymryd i ffwrdd â’r llall. Rydym ni o'r farn bod union sail y Bil hwn yn ddiffygiol. Mae'n rhoi un cam ymlaen inni gan gyfyngu ar ein gallu i ddeddfu, sy’n gam sylweddol tuag at yn ôl yn ein barn ni. Rwy’n cydnabod y ffaith bod y mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ddidwyll, ac nid wyf i yma heddiw i feirniadu unrhyw un sy'n pleidleisio o’i blaid. Yn amlwg, San Steffan a Whitehall sydd ar fai am y diffygion yn y Bil hwn. Rydym yn croesawu’r agweddau hynny ar y Bil sy'n ein galluogi, yn y dyfodol, i ddatganoli treth incwm, rheoli ein hetholiadau ein hunain a'r darpariaethau sy’n ymwneud ag ynni a ffracio. Ond heb unrhyw amheuaeth, hoffem ni ym Mhlaid Cymru fynd yn llawer, llawer ymhellach na'r hyn sydd ar gael yma.

Hoffwn hefyd nodi bod ein rhesymau dros bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn gwbl groes i resymau'r bobl eraill yn y Siambr hon sy’n pleidleisio yn erbyn, y rheini nad ydynt eisiau i Gymru gael unrhyw bwerau ychwanegol o gwbl. Ni ddaeth Plaid Cymru at y broses o lunio’r Bil Cymru hwn gyda'r bwriad o wrthod beth bynnag a gâi ei ​​gynnig. Rydym bob amser wedi bod yn barod i gefnogi cynnydd cynyddrannol tuag at Gymru fwy democrataidd a hunanlywodraethol. Ond mae’r Bil hwn wedi bod yn wers mewn sut i beidio ag ysgrifennu cyfansoddiad.

Fel arweinydd Plaid Cymru, rwyf wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu’r Bil hwn o'r cychwyn. Cymerais ran yn ddidwyll yn y broses Gŵyl Dewi, fel y gwnaeth fy Aelodau Seneddol. Roeddem yn awyddus i'r broses ddiweddu â Bil Cymru a allai ennyn cefnogaeth eang, rhoi terfyn ar ddryswch, ac roeddem eisiau iddo adeiladu ar ganlyniad refferendwm 2011. Ond roedd y broses yn fethiant. Mae wedi arwain at y darn mwyaf is-safonol o ddeddfwriaeth ers dyfodiad datganoli. Roedd yn broses a oedd yn amharchus i Gymru ac i ganlyniad refferendwm 2011; mae’r Bil hwn nawr yn tanseilio’r canlyniad hwnnw. Ni chawsom drafodaeth agored am ymreolaeth a democratiaeth, ond feto llinell wrth linell gan adrannau Whitehall. Roedd yn ddull nodweddion cyffredin.

Dywedwyd wrthym y byddai model cadw pwerau yn cael ei ddarparu, ac mae hyn wedi bod yn un o ofynion allweddol Plaid Cymru ers blynyddoedd lawer, ac eto daeth i’r amlwg yn gyflym y byddai'r rhestr o bwerau a gadwyd yn ôl yn cynnwys mwy na 200 o faterion a gadwyd yn ôl, ac y gallai unrhyw beth sy'n ymwneud â'r rhestr honno fod yn waharddedig i’r Cynulliad hwn yn y dyfodol. O'i gymharu â'r model rhoi pwerau, mae hynny’n gyfystyr â lleihau ein pwerau, ac yn ein barn ni byddai felly'n gyfystyr â throi’n ôl ar ganlyniad refferendwm 2011.

Mae gwleidyddiaeth hyn yn eglur imi. Ar ôl ei methiant yn y Goruchaf Lys ar y Bil cyflogau amaethyddol, roedd Llywodraeth y DU yn awyddus i ailfodelu cyfansoddiad Cymru i osgoi methiannau pellach. A wyf yn bod yn sgeptig i awgrymu bod yr elfennau da a chadarnhaol yn y Bil hwn yno i gynyddu'r siawns yr aiff y mesur amddiffynnol hwn drwodd? Nid wyf yn meddwl fy mod.

Nid yw'r wleidyddiaeth y tu ôl i’r Bil hwn yn ymwneud â haelioni na thegwch na beth sy'n iawn neu’n synhwyrol, ac mae’r ymagwedd anonest hon ar ran Llywodraeth y DU wedi achosi penbleth. Bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn pasio, ond rwy’n awyddus bod y rhai hynny ohonom sydd yn awyddus i amddiffyn sefyllfa ddeddfwriaethol Cymru yn gallu symud yn gyflym yn awr ag unrhyw Filiau y gellid eu rhoi ar waith cyn i'r model cadw pwerau newydd gychwyn. A byddai Plaid Cymru yn fodlon cefnogi unrhyw gamau o’r fath, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y cyfnod pwysig sydd o'n blaenau.

Mae gwaith craffu rhagorol wedi ei wneud, yma ac yn San Steffan, ac rwy’n cymeradwyo gwaith aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn arbennig, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi craffu ar y Bil yn y ddwy siambr fel San Steffan. Canfu aelodau'r pwyllgor y byddai'r Bil yn cynyddu biwrocratiaeth a chymhlethdod, ac y byddai addewid o setliad datganoli mwy atebol a chlir mewn gwirionedd yn arwain at gyflwyno ansicrwydd newydd i mewn i'r system. Cefais hefyd fy nharo gan eiriau'r Arglwydd Elystan-Morgan, pan ddisgrifiodd y Bil fel un imperialaidd ac atchweliadol, ac fel un sy’n annheilwng o bobl Cymru.

Mae Plaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech bosibl i wella’r Bil hwn drwy gyflwyno gwelliannau yn y ddwy siambr yn San Steffan. Pan fu'n bosibl, buom yn cydweithio â phleidiau eraill ar y gwelliannau hynny, ond mae'n ffaith anffodus nad oedd y cymorth hwnnw bob amser ar gael gan ASau Llafur, hyd yn oed pan oeddem yn hybu safbwynt a oedd yn bolisi Llafur. Ond roedd yna rai gwelliannau a gafodd eu cefnogi gan y ddwy blaid.

Drwy gydol y broses seneddol, gellid bod wedi ennill ein cefnogaeth. Gellid bod wedi symud ar gomisiwn cyfiawnder statudol, er enghraifft, gellid bod wedi symud ar dreth teithwyr awyr, addawyd cynnydd ar ddŵr ac ar leihau’n sylweddol cyfanswm nifer y materion a gadwyd yn ôl. Ond yn y diwedd, nid oedd Llywodraeth y DU yn fodlon symud ar gyfiawnder, nac ar y pwyntiau eraill hynny, ac nid oeddem yn gallu gwella’r Bil yn ddigonol iddo ennill ein cefnogaeth.

O ran y fframwaith cyllidol a chael gwared ar yr angen am refferendwm treth incwm, rydym ni ym Mhlaid Cymru o blaid yr hyn a drafodwyd. Pan ddaw’r cyfle i sbarduno datganoli’r pwerau treth incwm hynny, bydd Plaid Cymru yn cynnig ein cefnogaeth. Ond nid oedd yn rhaid i Lywodraeth y DU glymu'r fframwaith cyllidol â Bil a fyddai'n cyfyngu ar ein gallu i wneud deddfau. Ni ddylai cyllid cyhoeddus Cymru fod yn amodol ar dderbyn fframwaith deddfwriaethol gwaeth. Byddem hefyd yn croesawu rheolaeth gyffredinol dros ein trefniadau etholiadol ac ar faint y Cynulliad, a fydd yn cael eu datganoli gan y Bil hwn. Gellir gwneud cynnydd sylweddol os caiff y pwerau hynny eu trosglwyddo, a byddai Plaid Cymru yn mynd at y cyfrifoldebau newydd hynny gyda golwg ar wella gallu'r Cynulliad hwn i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ond ni allwn bleidleisio dros gynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n caniatáu i ni gynyddu ein capasiti, ond sy’n creu risg o gyfyngu ar ein gallu.

Nawr, Lywydd, mae rhai yn y Siambr hon a fyddai'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am resymau sydd y gwrthwyneb i resymau Plaid Cymru. Pan fo Plaid Cymru yn dweud nad ydym eisiau derbyn briwsion o fwrdd San Steffan, rydym yn gwybod y byddai un o'r pleidiau gwleidyddol yma yn hapus i roi pwerau yn ôl i San Steffan pe byddent yn cael y cyfle, a byddai hynny'n gam yn ôl yn ein barn ni. Yn hytrach nag edrych yn ôl, mae angen inni edrych tua'r dyfodol. Dadleuodd yr Athro Glyn Watkin, wrth siarad â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, na wnaiff y setliad hwn—os gallwn hyd yn oed ddefnyddio'r gair hwnnw—bara dim mwy na phedair neu bum mlynedd. Gellid dadlau ei fod eisoes yn hen, bod angen Bil Cymru newydd eisoes. Gan ddibynnu ar sut y bydd y broses ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu, mae’n bosibl iawn y cawn gyfleoedd i gyflymu cyflymder y newid yn y fan yma. Mae’n rhaid i'r camau nesaf gynnwys datganoli cyfiawnder, a dylem fod yn gwthio am hynny ar unwaith. Mae angen inni hefyd wthio am ddatganoli lles a chymryd y cyfleoedd hynny sydd eisoes ar gael i'r Alban.

Cyn unrhyw ddeddfwriaeth bellach, hoffwn gymeradwyo llinell o adroddiad CLAC ar y Bil. Wrth sôn am y broses o ran sut y cafodd y Bil hwn ei ddatblygu, dywed yr adroddiad:

Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd eto ar Fil o bwys cyfansoddiadol o'r fath.

Mae'n rhaid cyfleu’r neges honno i San Steffan heddiw. Nid dyma’r ffordd i ddeddfu, ac ni ddylid byth ei ailadrodd.

Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, a byddwn yn gwneud hynny gyda chalon drom. Nid ydym byth eisiau gweld Cymru'n cael ei gwthio i gornel fel hyn byth, byth eto. Ar gyfer y dyfodol, byddwn ni ym Mhlaid Cymru nawr yn cynyddu ein hymdrechion i sicrhau ymreolaeth gadarnhaol i Gymru, a’r bobl yn y fan yma ddylai benderfynu ar ein camau nesaf, nid gwleidyddion yn San Steffan. Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae newidiadau ar y gweill ledled yr ynysoedd hyn, ac ni all, ac ni chaiff, y Bil hwn, wrth iddo fynd yn ei flaen, fod y bennod olaf yn natblygiad democratiaeth Cymru, a bydd Plaid Cymru yn gwneud yn siŵr o hynny.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ganmol pawb a fu’n ymwneud ag ennyn cefnogaeth ar gyfer y Bil hwn a'i wneud yn Fil gwell? Rydym wedi clywed ei bod wedi bod yn broses hir. Rwy’n arbennig o awyddus i sôn am yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yr Arglwydd Bourne yn Nhŷ'r Arglwyddi, a'r Prif Weinidog am, rwy’n credu, ei grefft llywodraeth wirioneddol i wneud dyfarniad y byddwch yn ei dderbyn yn ei gyfanrwydd oherwydd ei ddarnau gorau, ond yn dal i fod ag amheuon gwirioneddol ynghylch rhai agweddau ar y Bil. A gaf i hefyd eich canmol chi, Lywydd, am y gwaith yr ydych wedi'i wneud i dynnu sylw at yr angen i edrych ar ein trefniadau a’n materion etholiadol ein hunain a ddylai wir gael eu datrys yng Nghymru? Rwy'n credu bod hyn wedi creu corff pwerus o gefnogaeth ar draws traddodiadau i’r Bil hwn.

Mae'n ddrwg gennyf na fydd y consensws yn ymestyn i Blaid Cymru ac i UKIP, ond hoffwn gofnodi bod yr araith yr ydym newydd ei chlywed gan arweinydd Plaid Cymru yn un bwyllog a manwl, ac, yn fy marn i, yn fwy pwerus oherwydd hynny. Rwy'n fodlon derbyn eich gair o ran datblygiad cyfansoddiadol a bwrw ymlaen â rhannau o'r hyn sy'n debygol yn awr o ddigwydd o ran Deddf a ddaw i'r amlwg, a sicrhau bod y sefydliad y mae gennym i gyd y fraint o fod yn rhan ohono yn cryfhau. Yn yr un modd, gydag UKIP, maent hwythau, eu hunain, wedi bod ar daith, ac maen nhw erbyn hyn, rwy’n credu, o blaid datganoli ar y cyfan, a gellir gwneud dadl—nid wyf yn cytuno â hi, ond mae dadl bod rhai pobl o’r farn bod angen refferendwm cyn inni gael y pwerau codi trethi.

Dywedodd y Prif Weinidog fod hon wedi bod yn daith hir, ac rwy’n credu bod naw ohonom—neu 10 ohonom, efallai—wedi bod yma o'r dechrau. Nid dyma’r amser i roi araith hen ewythr. [Chwerthin.] Nid dyna yr ydych yn mynd i’w gael. Ond mae'n briodol, rwy’n meddwl, edrych ar y datblygiad cyfan mewn persbectif. Roedd y Prif Weinidog yn hollol iawn: pan ddechreuon ni, nid oedd gennym hyd yn oed bwerau wedi’u gwahanu yn y sefydliad hwn. Corff corfforaethol oeddem ni. Roedd hynny ynddo'i hun yn arwain at bob math o gymhlethdodau. Nid oedd gennym unrhyw gyfrifoldeb am godi refeniw ac, a dweud y gwir, dim ond—ac rwy’n meddwl bod hyn yn bwysig—pwerau eilaidd dros is-ddeddfwriaeth.

Felly, ni wnaethom ddechrau yn union yr un mor gadarn ag y gwnaethant yn yr Alban, na hyd yn oed yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n credu bod y cynnydd yr ydym wedi ei wneud, a dweud y gwir, wedi bod yn seiliedig ar lefel rhyfeddol o gonsensws. Mae pob plaid, a dweud y gwir, wedi cyfrannu at ein datblygiad cyfansoddiadol. Nawr, heddiw, rydym, yn anochel, yn y ddadl hon yn mynd i ganolbwyntio ar rai o'r gwahaniaethau. Ond rwyf yn awyddus i gofnodi’r gwerthfawrogiad sydd gennyf, fel Ceidwadwr Cymreig, ein bod wedi bod yn rhan, pan oedd y rhan fwyaf ohonom a dweud y gwir yn gwrthwynebu egwyddor datganoli yn ôl yn yr 1990au, ond rydym wedi gweithio'n galed i greu setliad mwy cadarn.

Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn paratoi’r llwybr at bwerau deddfu sylfaenol, ac roedd llawer o’r diolch am hynny i athrylith cyn Lywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Wrth gwrs, yna, cafodd y pwerau hynny, y gallem eu cael fesul tipyn gyda chydsyniad San Steffan, eu gwyrdroi yn gyfan gwbl ar ôl refferendwm 2011. Roedd yn ffordd gynnil iawn, rwy’n meddwl, o hyrwyddo’r setliad cyfansoddiadol ar y pryd ac, wrth gwrs, fe wnaeth wahanu pwerau deddfwriaethol a gweithredol, sef craidd, a dweud y gwir, y ffordd yr ydym yn gwneud gwleidyddiaeth yn y model San Steffan.

Hoffwn ddweud gair o blaid proses Dydd Gŵyl Dewi gan fy mod yn credu ei bod wedi rhoi sylw i’r holl ddadl. Rwy’n sylweddoli nad yw popeth wedi cael ei gyflwyno er boddhad pawb, hyd yn oed y rhai sydd o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma, ond rwy’n credu ei bod yn ffordd dda o weithio. Rhwng cyhoeddi'r Bil drafft ac nawr y Bil sy'n mynd ymlaen ac yn debygol o ddod yn Ddeddf, bu llawer o symudiad. Unwaith eto, rwy’n canmol pawb sydd wedi gweithio i gyflawni’r cynnydd hwnnw.

A gaf i ddweud rhywbeth am y model San Steffan? Mae'n bwysig iawn. Mae'n rhyfeddol, rwy’n credu, mewn llawer o ffyrdd, bod y setliad datganoli mwy radical byth yn yr Alban yn dal i ddefnyddio’r model San Steffan. Mae'r ffordd y mae'r Senedd honno wedi'i chyfansoddi yn sicr yn rhan o'r traddodiad hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn adnodd gwych, ac mae wedi rhoi bywyd a dygnwch gwirioneddol i wleidyddiaeth mewn sawl rhan o'r byd. Fy siom erioed, pe byddai datganoli yn digwydd, oedd nad oedd gennym ffordd fwy cadarn o sefydlu Cynulliad yn unol â model o fath San Steffan. Dyna pam yr wyf wedi meddwl erioed bod angen pwerau deddfu sylfaenol. Roeddwn yn meddwl hynny ers fy niwrnod cyntaf o fod yn Aelod Cynulliad, er fy mod wedi gwrthwynebu datganoli i ddechrau. Dyna pam hefyd yr wyf yn credu bod yn rhaid inni dderbyn y cyfrifoldeb i godi rhywfaint o'n refeniw ein hunain. Mae'n ymddangos i mi ei fod yn mynd gyda'r swyddogaeth ddeddfwriaethol ac, yn wir, gyda'r swyddogaeth weithredol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eithaf pwerus erioed. Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod yn rhyfedd nad oedd rhai Ceidwadwyr yn gweld hynny: ein bod wedi rhoi pŵer i'r Llywodraeth, ond heb roi llawer iawn o bŵer i graffu ar y Llywodraeth honno, nac ar y ddeddfwriaeth y byddai ei angen arni, wrth gwrs, i ni gael cymaint â phosibl o reolaeth. Felly, rwy’n credu y dylid croesawu’r trywydd yr ydym arno, tuag at ffurf lwyrach o fodel San Steffan.

Mae meysydd lle nad oedd consensws yn bosibl. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn wir: bod hyn wedi cael ei achosi yn bennaf gan awydd ar ran Llywodraeth y DU i gadw un awdurdodaeth gyfreithiol unedig. Ond byddwn yn dweud yma, er gwaethaf fy safbwyntiau preifat fy hun—nid wyf am eu hailadrodd oherwydd eu bod yn ddigon hysbys—nid oes llawer o dystiolaeth ymhlith y cyhoedd eu bod am inni symud ymlaen yn y maes hwn i ffurfio awdurdodaeth ar wahân. Ac mae fy mhlaid i ac, mae'n rhaid dweud, y Blaid Lafur—os ydych chi’n edrych ar y Blaid Lafur yma ac yn San Steffan—eu hunain wedi'u rhannu rywfaint. Yn syml, nid ydym wedi cael consensws i ddadlau'r achos o blaid awdurdodaeth ar wahân ac, yn arbennig, datganoli pwerau plismona a phwerau dros bolisi dedfrydu a materion o'r fath. Fodd bynnag, os edrychwch chi yn ôl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pwnc hwn o ddeddfwriaeth ar wahân neu wahanol a gyhoeddwyd yn y pedwerydd Cynulliad, mae'n ddigon amlwg bod yr hyn a wnawn wrth ddeddfu yn creu corff o gyfraith ac, ar ryw bwynt, bydd sylwedd, neu faint y ddeddfwriaeth honno, yn ddigon i olygu y bydd cydnabyddiaeth ffurfiol yn debygol. Mae cydnabyddiaeth eisoes yng ngweinyddiad y gyfraith, a does ond angen ichi siarad ag uwch farnwr am ba mor sylweddol y mae eu gweithdrefnau hwy eu hunain wedi newid i sicrhau bod y farnwriaeth yn deall y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru ac yn gallu dehongli cyfraith Cymru yn briodol.

Canlyniad uniongyrchol y ffaith nad oes gennym awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yw bod nifer y pwerau a gadwyd yn ôl o fewn model cadw pwerau wedi bod yn llawer uwch nag y byddai wedi bod fel arall, a does ond angen ichi gymharu ein setliad ni â’r un yn yr Alban. A bydd hyn, yn fy marn i, yn golygu bod angen i’r ddwy Lywodraeth—Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—weithio'n galed i sicrhau nad yw'r setliad sydd gennym nawr yn cyfyngu ar ein gallu i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, oherwydd byddai hynny wir yn ganlyniad gwael. Ond rwyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn ddiffuant o ran nad ydynt eisiau lleihau pwerau, ac rwyf i, o'r holl wres a chega a gawn o bryd i'w gilydd, yn credu bod perthynas eithaf da rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion sy’n amlwg er budd i Gymru, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau.

A gaf i ddweud bod Bil Cymru yn hael mewn mannau, ym marn pob un ohonom? Ac roeddwn yn ddiolchgar bod Leanne Wood wedi sôn am rai o'r meysydd, fel y gwnaeth y Prif Weinidog, o ran y trefniadau etholiadol, ynni, trafnidiaeth a rhai materion eraill hefyd. Rwy’n credu bod y rhain yn wobr a’u bod yn werth eu cael, oherwydd mae’n rhoi llawer mwy o’r setliad cyfansoddiadol o fewn ein rheolaeth. Gallem edrych ar fater y fasnachfraint a pha un a ddylid ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, gallem benderfynu ar faint y Cynulliad a'r trefniadau etholiadol, yn amodol, wrth gwrs, ar uwchfwyafrif. Mae'r rhain yn ddatblygiadau pwysig iawn, iawn. I gloi, Lywydd, rwy’n credu y gallwn nawr symud ymlaen â setliad datganoli cryfach, a fydd yn rhoi'r cyfle i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ymdopi â'r heriau gwleidyddol a ddaw, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Rwyf wrth fy modd i ddilyn yr hen ewythr David, oherwydd roedd yn hollol iawn i ddweud bod fy mhlaid i wedi bod ar daith, ac yn ôl pob tebyg mae’n dal i fod ar y daith honno. Roeddwn, fel yntau, yn gwrthwynebu’r setliad datganoli yn wreiddiol, ond rwyf wedi tyfu dros y blynyddoedd i werthfawrogi ei ddoethineb. Nid yw pawb yn fy mhlaid o’r un farn â mi, ac rwy’n gobeithio fy mod yn helpu i roi hwb iddo i’r un cyfeiriad ag yr hoffai’r rhan fwyaf ohonom yn y Cynulliad hwn fynd iddo. Felly, rwy’n meddwl bod arweinydd Plaid Cymru yn gwbl anghywir wrth ddweud, pan fyddwn yn pleidleisio gyda'n gilydd yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, ein bod yn gwneud hynny am resymau sydd yn gwbl groes i'w gilydd. Yr unig reswm pam yr ydym ni yn mynd i wrthwynebu hyn yw oherwydd y ddarpariaeth i gael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm i sbarduno pwerau codi treth incwm; rhywbeth yr ydym yn credu sy’n dangos diffyg ffydd ym mhobl Cymru. Mae wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth ac ni ddylid ei daflu i ffwrdd fel rhywbeth dibwys. Rwy'n credu bod hyn yn fater pwysig iawn o egwyddor.

Mae llawer o'r ddadl hon heddiw wedi bod yn seiliedig ar y ffaith bod llwyddiant y setliad datganoli wedi’i seilio ar gonsensws, ac rydym ni wedi symud yn ysbryd yr amseroedd, gyda phobl Cymru, nid yn eu herbyn. Rwy’n credu bod Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i gyfeirio yn ei araith at beidio â rhuthro o flaen y bobl. Ac rwy’n cofio ar ba sail yr aethom ni i mewn i'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, fel yr oedd bryd hynny, yn ôl yn 1973, pan ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Edward Heath, fod hynny’n rhywbeth na ddylid ei wneud heb ganiatâd twymgalon y ddwy Senedd a’u pobl. Ni chafodd y caniatâd twymgalon hwnnw erioed ei geisio mewn gwirionedd, heb sôn am ei gyflawni, a dyna un rheswm pam na chafodd y prosiect Undeb Ewropeaidd ei dderbyn yn llawn fel un cyfreithlon fel a ddigwyddodd mewn aelod-wladwriaethau eraill. Ac un rheswm pwysig pam yr wyf yn bersonol yn gwrthwynebu aelodaeth Prydain o'r UE yw ei bod mewn gwirionedd yn mynd â phwerau i fyny i lefel fwy anghysbell ac i ffwrdd oddi wrth y bobl, ac mae proses Brexit yn rhoi cyfle inni, nid yn unig i adfer pwerau deddfu i San Steffan a oedd yno o'r blaen, ond hefyd i drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd ac, yn wir, i Gaeredin, wrth gwrs, ac i Belfast, hefyd, mwy o bwerau y dylent fod gennym yma. Felly, i siarad drosof fy hun, rwy’n ystyried y Bil hwn, Bil Cymru, fel busnes heb ei orffen. Nid oes neb, am wn i, yn y Cynulliad hwn heddiw sy'n dychmygu mai dyma ddiwedd y stori mewn unrhyw fodd. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn gyfrwng amherffaith iawn ar gyfer cyflawni'r hyn y mae datganolwyr ei eisiau. Rwy'n credu bod y model cadw pwerau yn ddryslyd ac yn siŵr o arwain at frwydrau cyfreithiol yn y dyfodol, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ystod ei araith.

Rwy’n croesawu'r datganiad datganiadol yn y Bil bod y Cynulliad yn rhan barhaol o gyfansoddiad Prydain. Dim ond datganiadol ydyw, wrth gwrs; gall unrhyw Senedd ddadwneud yr hyn y mae ei rhagflaenwyr wedi'i wneud, ond nid wyf yn tybio bod unrhyw siawns bod hynny’n mynd i ddigwydd. Rwy'n credu bod y Cynulliad yn rhan barhaol erbyn hyn o strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ac rwyf i’n bersonol yn croesawu hynny â brwdfrydedd. Mae rhyw fath o gyfraith haearn i'r pethau hyn, lle, ar ôl eu creu—a gwelsom hyn yn yr Undeb Ewropeaidd, a wnaeth ymroi i fawrhau ei hun ac i gynyddu ei phwerau yn ddi-baid yn ystod holl amser ein haelodaeth—mae'n anochel , felly, bod datganoli pwerau i Gymru yn y blynyddoedd sydd i ddod yn mynd i gynyddu, nid dim ond o ran cwmpas, ond efallai hefyd o ran cyflymder, ond, rwy’n gobeithio, gan aros o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig.

Nid yw’r Bil ei hun, mewn gwirionedd, yn mynd â ni, ac eithrio yn achos trethiant, yn llawer pellach i gyfeiriad datganoli. Pan edrychwch chi ar y cawdel o bwerau sydd wedi’u datganoli yn benodol inni—polisïau porthladdoedd, cyfyngiadau cyflymder, cofrestru bysiau, rheoleiddio tacsis, etholiadau llywodraeth leol, carthffosiaeth a phrosiectau cynhyrchu trydan bach, ac ati—does dim un o'r rhain ynddo ei hun yn hynod o gyffrous, ond mae symud i'r model cadw pwerau ynddo ei hun, er ei fod yn gyfansoddiadol amherffaith, yn fy marn i, ac yn gyfreithiol amherffaith, serch hynny yn cynnwys datganiad cyffredinol o egwyddor sy’n mynd â ni ymhellach ar hyd taith datganoli.

Rwyf yn credu bod datganoli pwerau treth yn newid sylweddol, ac er eu bod yn gyfyngedig ac yn siŵr o gael eu cynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod, mae hynny'n newid mawr o ran egwyddor gyfansoddiadol, sy’n creu ôl-effeithiau enfawr. Rwyf i, yn bersonol, yn eithaf hamddenol am ddatganoli pwerau treth incwm i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu mewn cystadleuaeth dreth rhwng awdurdodaethau. Gwnaethom gyfeirio at hyn yn gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan gyfeiriais at y manteision y mae Gweriniaeth Iwerddon wedi eu cael drwy allu gosod cyfraddau treth gorfforaeth is na'i chymdogion, a pha mor bwysig y bu hynny i helpu adfywiad economaidd rhan o’r Undeb Ewropeaidd a oedd yn gyntefig iawn ar y dechrau, yn y 1970au. Rwy’n credu, yn bersonol, y gallem ddefnyddio pwerau o'r fath yn ddeallus yng Nghymru i wneud iawn am rai o anfanteision daearyddiaeth a hanes sydd wedi cyfyngu ar ein gallu i gynyddu ein potensial economaidd, ac mae hyn yn rhywbeth, rwy’n gwybod, y mae Adam Price wedi cyfeirio ato yn aml mewn dadleuon ers inni fod yma, yn y chwe mis diwethaf, ac mae gennyf i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef.

Mae dod â’r llywodraeth yn nes at y bobl yn egwyddor bwysig, yn fy marn i, ac, ar y cyfan, mae’r Cynulliad hwn, yn fy marn i, wedi llwyddo i gyflawni hynny. A fyddai'r bobl yn gyffredinol yn cytuno â fy asesiad, nid wyf yn gwybod, a phe byddai refferendwm heddiw ar ymestyn pwerau'r Cynulliad ymhellach, nid wyf yn gwybod beth fyddai'r canlyniad. Nid wyf yn gwybod beth yw barn pobl Cymru ohonom ni gyda’n gilydd, fel sefydliad, a'r ffordd yr ydym wedi cynnal materion yn y Cynulliad hwn. Ond, serch hynny, rwy’n credu, er bod egwyddorion bras y Bil yn deilwng o gefnogaeth, bod y ffordd y cafodd hyn ei drin wedi bod yn bell iawn o fod yn berffaith, ac, o ran dileu darpariaeth refferendwm ar gyfer datganoli pwerau treth incwm, rwy’n credu bod hwnnw'n ddiffyg cyfansoddiadol na ddylem ei anwybyddu.

Felly, rwy’n cytuno, yn fras, â’r ymagwedd a gymerodd arweinydd Plaid Cymru yn ei haraith, sef y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw gydag ychydig o galon drom, oherwydd rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd hi am ddidwylledd pawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r cyfrwng amherffaith hwn.

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rydych wedi croesawu cryn dipyn sydd yn y Bil heddiw, ac rwy’n cofio, ar ddiwedd y tymor diwethaf, mewn ymateb i heriau a godwyd gan Lee Waters yn ein dadl ar y Ddeddf awtistiaeth, eich bod wedi ei ateb drwy ddweud,

Peidiwch â gwneud y gorau yn elyn i’r da'.

Meddwl oeddwn i—ni all datganoli aros yn llonydd; dyna’r rheswm pam mae gennym y Bil Cymru hwn yn y lle cyntaf—pa un a ydych chi’n meddwl bod proses yn rheswm digonol i chi beidio â dilyn eich cyngor eich hun ar y mater penodol hwn.

Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn hollol wahanol. Yr oll oedd y pwynt dan sylw ynglŷn â'r Bil awtistiaeth, a’r pwyntiau a godwyd heddiw gan Andrew R.T. Davies, er enghraifft, oedd pam cael Bil undeb llafur yn hytrach na Bil awtistiaeth. Mae hwnnw'n ddewis sydd wedi'i wneud. O ran yr hyn a ddywedodd Lee Waters— [Torri ar draws.] Nid wyf yn sôn am rinweddau'r penderfyniad hwnnw, dim ond gofyn cwestiwn am broses. O ran ymyriad gan Lee Waters mewn dadl gynharach am y Bil awtistiaeth, rwy’n credu bod hwn yn gynnig eithaf gwahanol, oherwydd mae hwn yn rhwymedigaeth i ymgynghori â'r bobl, nid dim ond penderfyniad sy'n cael ei wneud gennym ni fel Aelodau o'r Cynulliad hwn. Mae hwn yn newid cyfansoddiadol mawr, datganoli pwerau codi treth incwm. Addawyd i’r bobl, a chafodd hyn ei ymgorffori mewn deddfwriaeth, yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain, yn hytrach na’n bod ni’n penderfynu ar eu rhan, pa un a ddylid bwrw ymlaen â hyn. Rwy’n credu bod cael gwared ar y ddarpariaeth honno yn ddiffyg cyfansoddiadol mor fawr fel ein bod yn mynd i wneud protest drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Wrth gwrs, rydym yn gwybod y caiff y cynnig ei basio, felly nid yw ein penderfyniad yn mynd i gael unrhyw effaith fawr ar y cyfansoddiad. Ond, serch hynny, rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig y dylai gwleidyddion gadw eu haddewidion ac y dylid sicrhau eu bod yn cadw at eu gair, ac nid wyf wedi gweld rheswm yn cael ei gynnig am y penderfyniad hwn. Nid oes unrhyw un wedi gwneud achos cadarnhaol dros beidio â chaniatáu i'r bobl benderfynu ar y mater hwn—os oes, byddwn yn hapus i ildio nawr. [Torri ar draws.] Byddwn.

Onid y rheswm pam nad ydym yn cael refferendwm yw oherwydd eu bod yn gwybod, pe byddent yn cael refferendwm, y byddent yn colli?

Yn union. Mae Mark Reckless, rwy'n credu, yn llygad ei le. Maen nhw’n dweud wrth bob cyfreithwyr am beidio byth â gofyn cwestiwn oni bai eu bod yn gwybod yr ateb, wrth groesholi, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir yn yr achos hwn.

Felly, dim ond i gloi fy sylwadau heddiw, rydym ar y cyfan yn croesawu'r darpariaethau sydd yn y Bil, ac eithrio’r un yna, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn â chalon drom iawn heddiw. Nid dyma ddiwedd y stori. Byddwn yn ôl unwaith eto, rwy'n siŵr, i drafod y materion hyn ymhellach ac i arwain stori datganoli ymhellach yn ei blaen.

Yn 2011, ynghyd â nifer o Aelodau'r Cynulliad hwn, cymerais ran yn y pwyllgor llywio 'Ie dros Gymru', ynghyd â Leanne Wood a Paul Davies a Leighton Andrews a Rob Humphreys. Roeddem yn gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflwyno ymgyrch refferendwm i addo y dylai deddfau sydd ond yn effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Cymeradwyodd dwy ran o dair o bobl Cymru yr egwyddor honno. Ers hynny, rydym wedi dod yn ddeddfwrfa, ac, o'r 22 o ddeddfau a basiwyd, byddem yn gweld, wedi i’r Bil Cymru hwn ddod yn Ddeddf, mai dim ond wyth ohonynt y byddem wedi gallu eu pasio yn y dyfodol. Nawr, rydym yn clywed llawer gan y Brexiteers caled yn y Siambr hon y dylid parchu canlyniadau refferenda, a byddwn yn awgrymu iddynt bod angen dilyn yr egwyddor honno’n gyson, ac y dylid parchu canlyniadau refferendwm 2011 hefyd, ac nid dim ond canlyniad y refferendwm sy’n obsesiwn iddynt—

A yw'n cofio, ar y papur pleidleisio ar gyfer y refferendwm hwnnw yn 2011, y sicrwydd ysgrifenedig na fyddai pleidlais 'ie' yn arwain at ddatganoli pwerau codi trethi?

Yn hollol, ac, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, efallai y byddai’n cofio, pan oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol, mai ei Lywodraeth ef a gyflwynodd gomisiwn Silk ac mai comisiwn Silk a aeth â’r ddadl yn ei blaen, nid refferendwm 2011. Comisiwn Silk a luniodd yr adroddiad yn dweud y dylai fod gan y lle hwn bwerau codi trethi. Roedd hwnnw'n benderfyniad yr oedd ef yn rhan o’i baratoi pan oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol.

Ers hynny, mae pethau wedi symud ymlaen. Anwybyddodd yr union Lywodraeth honno refferendwm ym Manceinion i greu maer. Mae'r un Llywodraeth honno wedi gorfodi pwerau plismona ar rannau o Loegr heb refferendwm. Rwy’n credu bod y ddadl y dylai fod atebolrwydd democrataidd am benderfyniadau a wneir yn un gymhellol. Wedi'r cyfan, pam y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin allu codi refeniw a threthi ac nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Felly, nid yw'r ddadl yr wyf yn meddwl ei fod yn ei gwneud yn un drylwyr wrth adlewyrchu’n iawn ar y cyd-destun. Ond mae'n rhoi rhywfaint o gysur iddo, felly mae'n rhaid bod hynny’n ddigon da.

Rwy’n cofio geiriau Theresa May bod ei phlaid wedi dod yn 'blaid gas', ag obsesiwn ag Ewrop a gwrth-ddatganoli. Yng ngoleuni’r Bil Cymru hwn, mae’n ymddangos bod yr asesiad hwnnw braidd yn rhagweledol. Nid yw hwn yn setliad sefydlog a pharhaol. Mae’r fersiwn o'r model cadw pwerau yn gynhenid ​​ansefydlog a mater o amser ydyw cyn y bydd barnwyr, unwaith eto, yn penderfynu ble mae’r pŵer, sy'n un o'r rhesymau pam y daeth y Bil hwn i fyny yn y lle cyntaf, a bydd yn methu ei brawf ei hun.

Ni chefais fy argyhoeddi gan y ddadl o ddewrder moesol a gyflwynodd Neil Hamilton, sef ei fod yn gallu datblygu’r dadleuon hyn gan fod ein grŵp ni a'r Ceidwadwyr eisoes wedi penderfynu cefnogi hyn. Roeddwn yn siomedig hefyd bod Plaid yn cymryd safbwynt tebyg, yn gyfforddus yn y wybodaeth na fydd Cymru yn colli’r pwerau hyn, ond yn caniatáu iddynt gymryd y tir uchel moesol eu hunain wrth ei wrthwynebu.

Nid oes unrhyw un ohonom ar yr ochr hon yn hapus â'r Bil hwn a, phe byddai popeth arall yn gyfartal, byddem, rwy'n siŵr, yn ei wrthod. Ond nid yw popeth arall yn gyfartal. Rydym yn wynebu Brexit caled. Mae'r model cadw pwerau, er ei fod yn ddryslyd—nid hwn yw'r model cadw pwerau yr oeddwn yn meddwl ein bod yn dadlau drosto, ac yr oedd y gymdeithas sifil yng Nghymru yr oeddwn yn rhan ohoni yn dadlau drosto. Mae'r model cadw pwerau o leiaf yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad inni rhag yr uffern sy'n mynd i gael ei rhyddhau arnom.

Hefyd, rwy’n meddwl bod y dadleuon a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach am ymgorffori confensiwn Sewel mewn cyfraith a hefyd am ddarparu’r fframwaith cyllidol—. Rwy’n derbyn pwynt Leanne Wood na ddylem fod wedi cael ein dal yn wystlon ar hyn. Ni ddylai'r pethau hyn fod wedi cael eu clymu at ei gilydd, ond dyna a ddigwyddodd. Ac rwy’n meddwl bod y cytundeb y mae’r Gweinidog Cyllid wedi ei gyflawni yn un sylweddol, un y byddai Gerry Holtham wedi bod yn fodlon iawn ag ef pan luniodd ei adroddiad. Mae'r buddugoliaethau hynny yn rhai sylweddol ac rwy’n meddwl yn rhai y byddem yn ddi-hid i gerdded i ffwrdd oddi wrthynt. Mewn cyfnod ansicr, rydym yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd. Rwy’n meddwl mai dyna beth mae’r Bil hwn yn ei gynnig, er ei fod yn amherffaith.

Ond rwyf wedi fy nigio gan agwedd Whitehall, sydd wedi treiddio i’r trafodaethau hyn ac i’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r syniad na all Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am borthladd Aberdaugleddau oherwydd y gallem ymyrryd â chyflenwad nwy naturiol i Loegr yn lol trahaus, sarhaus. Rwy'n siomedig y byddai Alun Cairns, cyn Aelod o'r Cynulliad hwn, yn rhoi ei enw ar setliad o'r fath. Ceir haerllugrwydd o fewn Whitehall y mae angen inni ei wynebu. Nid yw’r Bil hwn yn gwneud hynny. Nid dyma’r Bil yr hoffwn i ei weld. Nid yw'n sefyllfa a fydd yn gydnerth. Nid yw'n Fil sy'n parchu refferendwm 2011. Ond byddai ei drechu yn fuddugoliaeth byrrhig ac un y byddem yn edifarhau amdani wrth i ganlyniadau Brexit ddod yn glir.

Ydw, rwyf innau’n rhywun a oedd yma yn 1999, ond nid wyf am sôn am ddigwyddiadau yn y gorffennol. Rwyf wedi tueddu i gefnogi setliadau datganoli dros y blynyddoedd, ni waeth pa mor annigonol oeddent, ond o leiaf nid oeddent yn colli pwerau inni. Mae un yma yn colli rhai pwerau inni a dyna pam na allaf ei gefnogi. Gyda'r holl siarad dros y misoedd diwethaf, fel yr ydym wedi’i glywed, am barchu canlyniad y refferendwm Brexit—ac rwyf i’n ei barchu—a gaf i atgoffa pobl, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn arbennig, bod angen hefyd parchu canlyniad y refferendwm cynharach hwnnw ym mis Mawrth 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru yn ysgubol—mae'n ansoddair yr ydym wedi ei glywed yn aml yn ddiweddar—yn ysgubol o blaid mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn? Ac roedd y bleidlais ysgubol 'ie' honno, fel yr ydym wedi’i glywed, yn 64 y cant. Mae hynny yn ysgubol—64 y cant o bobl Cymru o blaid mwy o bwerau.

Felly, mae gennym y Bil Cymru ger ein bron: y model cadw pwerau, sydd i fod i ddod ag eglurder drwy ddatgan yn bendant beth y caiff ac na chaiff y Cynulliad ddeddfu arno. Fel yr ydym wedi’i glywed, mae oddeutu 200—193 i lawr o 217—o faterion penodol a gedwir yn ôl ar y rhestr, llawer, llawer mwy nag sydd ar restri’r Alban a Gogledd Iwerddon. Pam yr ydym ni’n cael ein trin yn wahanol? Mae hyn hefyd yn cael ei gymhlethu gan y ffaith bod ein pynciau 'tawel' presennol lle’r ydym wedi cael rhywfaint o lacrwydd i ddeddfu arnynt hefyd nawr yn symud i fod yn faterion a gedwir yn ôl, a’i gymhlethu ymhellach gan yr adran ‘ymwneud â’, sy'n golygu os yw rhywbeth yn ymwneud â’r materion hynny a gedwir yn ôl—tua 200 ohonynt—i unrhyw raddau o gwbl, caiff hynny hefyd ei ystyried i fod y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad hwn.

Mae hyn i gyd yn golygu anfon llawer o bwerau yn ôl i San Steffan o'r lle hwn: colled sylweddol o bwerau o'r hyn y gallwn ei wneud ar hyn o bryd, fel y mae Lee Waters newydd ei ddweud. Ac, oherwydd y gallu ‘ymwneud â’ hwnnw, bydd unrhyw anghydfod Goruchaf Lys yn y dyfodol sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—. Fel yr ydym wedi’i glywed, mae Llywodraeth Cymru ar y blaen ar hyn o bryd, 1-0. Bydd unrhyw anghydfod yn y dyfodol, fodd bynnag, bob amser yn debygol o ganfod o blaid Llywodraeth San Steffan. Mae llawer o hyn oherwydd, fel yr ydym hefyd wedi’i glywed gan Brif Weinidog Cymru, nad yw plismona a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli i Gymru o hyd, yn wahanol i'r Alban, yn wahanol i Ogledd Iwerddon, Manceinion hyd yn oed. Beth sydd o'i le arnom ni? Beth sy'n bod ar ddatganoli plismona yma, heb sôn am unrhyw ystyriaeth i Gymru fod yn awdurdodaeth sengl? Ni wnaf ymhelaethu dim mwy am hynny: rydym wedi clywed llawer am hynny gan Brif Weinidog Cymru, a hefyd gan Weinidog Cydsyniadau’r Goron, y pwerau Harri VIII fel y’u gelwir. Efallai ei fod ychydig bach yn ymylol, ond, yn y bôn, dyna ble y gall Gweinidog y DU neu Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddiwygio deddfwriaeth y Cynulliad heb orfod troi at y Cynulliad hwn—mân newidiadau, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol wrth geisio tawelu ein meddyliau. Yn ôl pob tebyg, os yw'n fân, nid oes angen inni wybod am y peth, a gallech dderbyn hynny. Fodd bynnag, ar y llaw arall, bydd unrhyw fân fanylion mewn deddfwriaeth o'r fan hyn sy’n ymwneud â phŵer a gadwyd yn ôl yn troi’n fater a gadwyd yn ôl, hyd yn oed os yw'n fân. Ac mae'n rhaid bod San Steffan yn gwybod amdano, hyd yn oed os yw'n fân. Mae annhegwch yn y ddadl: mae’n ddadl anghyfartal, annheg, sy’n ffroenuchel tuag at y Cynulliad Cenedlaethol hwn, yn unochrog yn erbyn y Cynulliad hwn, ac yn ffordd o ddeddfu ar gyfer Cymru drwy osgoi Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel aelod presennol o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sy’n hyddysg yn y farn feirniadol pan wyf yn cymeradwyo'r Cadeirydd am ei sylwadau, cyflwynwyd newidiadau di-ri gan Lywodraeth Cymru a'r Llywydd, a methodd y rhan fwyaf ohonynt. Methodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyson ag ymddangos o flaen y pwyllgor. Felly, yn y Bil Cymru newydd hwn, sy’n anfoddhaol, â chalon drom buom yn gofyn am eglurder, symlrwydd, sefydlogrwydd a chydnerthedd. Nid ydym wedi ei gael. Roeddem yn gofyn am fwy o bwerau fel y pleidleisiodd y mwyafrif llethol o bobl Cymru drostynt yn y refferendwm hwnnw yn 2011. Mae penderfyniad y refferendwm hwnnw yn haeddu parch San Steffan hefyd. Diolch yn fawr.

Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn enwedig y naws y cynhaliwyd y ddadl hon ynddi hyd yn hyn, fel rhywun a oedd yno, byddwn yn dweud, ar y dechrau, yn 2011, pan ddeuthum yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yma a siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cheryl Gillan, wrth sefydlu proses Silk, a'r broses yr ymgysylltodd â hi drwy gymryd pob plaid gyda hi a chael enwebiadau ar y comisiwn Silk hwnnw. Mae'n bwysig myfyrio ar y ffordd y mae Llywodraeth San Steffan wedi cynnal y trafodaethau hyn dros gyfnod sylweddol o amser, nid yn unig gyda’r Bil penodol hwn ond y Bil a’i rhagflaenodd, ac yn amlwg y refferendwm hwnnw y cyfeiriwyd ato lawer gwaith yma y prynhawn yma ar bwerau deddfu sylfaenol. Mae David ac eraill a'r Prif Weinidog wedi crybwyll y pwynt am fod yma ym 1999, a rhai o'r dadleuon a thrafodaethau a gynhaliwyd yn y blynyddoedd cynnar iawn hynny. O’m rhan i, deuthum i a llawer o fy nghydweithwyr sy'n eistedd yn y grŵp hwn i’r Cynulliad yn 2007, a dim ond unwaith rydym wedi eistedd yn y Siambr honno, ac roedd hynny fis Ebrill diwethaf—yn yr adeilad arall—pan gafodd yr argyfwng dur ei drafod a’i ddadlau. Dim ond drwy sefyll yn yr union adeilad hwn, gallwn weld sut mae datganoli wedi symud ymlaen ac wedi cael ei groesawu gan bobl Cymru. Mae’n cael ei dderbyn ym mhob rhan o Gymru, fel y dangosodd refferendwm Mawrth 2011, a cheir parodrwydd i dderbyn bod mwy o benderfyniadau a mwy o gyfrifoldebau wedi’u trosglwyddo i'r sefydliad hwn a’r gwleidyddion sy'n eistedd o fewn y sefydliad hwn. Dyna pam yr wyf i, drwy fy swydd, wedi ymgysylltu'n llawn ac yn llwyr yn y broses hon, yn wahanol i rai o'r cymeriadau o fy nghwmpas i, sydd fwy na thebyg wedi meddwl amdanaf fel rhwystr i rywfaint o’r datganoli hwn a rhai o'r prosesau sydd wedi llifo drwy'r comisiwn Silk. Rwy’n croesawu— [Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros y Rhondda yn cwyno ar ei heistedd. Rwy’n fodlon—

Roeddech chi’n rhwystr. Chi oedd y rhwystr ar bwerau plismona. Dywedasoch, 'Rwy'n gwneud pwerau plismona yn llinell goch', ac ni chyffyrddwyd â nhw ar ôl hynny. Chi oedd y rhwystr.

Ac rwyf yn barod i gyfaddef fy mod wedi atal cyfiawnder troseddol a phlismona rhag dod i'r lle hwn. Gwneuthum yn siŵr nad oedd hynny'n wir yn yr achos penodol hwn, ond lle’r oedd pwerau yn gwneud synnwyr i gael eu trosglwyddo, gwneuthum ddadlau i’r pwerau hynny gael eu trosglwyddo. Rwy'n arbennig o falch o ddweud y bydd treth incwm yn dod i'r sefydliad hwn i wneud yn siŵr bod gennym fwy o atebolrwydd yn y ffordd y mae'r arian wedi cael ei wario yn y sefydliad hwn a chan y Llywodraeth. Ac rwy’n diolch i'r Aelod dros y Rhondda am dynnu sylw at bwysigrwydd y rhan y mae'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi ei chwarae, gan weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, i wneud yn siŵr ein bod wedi cyflwyno’r ail Fil hwn sydd yn gweld llawer iawn o bŵer a chyfrifoldebau’n cael eu trosglwyddo i'r sefydliad hwn. Ni fyddwn byth yn gallu bodloni’ch dyhead chi am na fyddem yn dymuno bodloni’ch dyhead chi o annibyniaeth. Byddaf yn dweud y gair 'annibyniaeth', ond yr hyn y byddwn yn sicrhau ein bod yn ei ddarparu yn y dyfodol yw bod y sefydliad hwn a phenderfyniadau’r sefydliad hwn yn cael eu parchu a'u gwella lle mae angen eu gwella, a bod ewyllys pobl Cymru yn cael ei chynnal gan y gwleidyddion sy'n eistedd o fewn y sefydliad hwn.

Mae Alun Cairns yn haeddu llawer iawn o gredyd am y gwaith y mae ef, Guto Bebb a'r Arglwydd Bourne wedi ei gyflawni dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, pan fuon nhw yn Nhŷ Gwydyr i sicrhau bod y Bil hwn wedi symud yn sylweddol ymlaen o ble’r oedd yn ôl yn 2014, os cofiaf yn iawn, pan gafodd ei gyflwyno yn y lle cyntaf. Rwy’n fwy na hapus i roi credyd i'r Prif Weinidog hefyd yn y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses, ac yn wir y Llywydd a'i rhagflaenydd, Rosemary Butler, am y modd y cynhaliodd y trafodaethau ynghylch y ffordd y mae’r Bil hwn wedi dod at ei gilydd.

A yw unrhyw Fil yn berffaith? Nac ydyw. Ond mae’r Bil hwn yn gyfle enfawr i gymryd cyfrifoldeb—[Torri ar draws]—byddaf yn cymryd ymyriad mewn munud—dros ynni, dros drafnidiaeth, dros drefniadau etholiadol, dros dreth incwm: mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

Nid yw unrhyw Fil yn berffaith, ond beth yw ei farn ef o’r amherffeithrwydd unigryw bron y tynnodd y cyn Arglwydd Brif Ustus sylw ato—bod y gallu yn y Bil hwn i Weinidog yn San Steffan daro i lawr drwy ddictad gweinidogaethol, yn effeithiol, ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd yma? Mae hynny nid yn unig yn sarhad ar ddatganoli—mae’n sarhad ar ddemocratiaeth ei hun.

Nid wyf yn derbyn y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud, ond mae ganddo berffaith hawl i wneud y pwynt. Hefyd, mae'r Bil yn cynnwys y gallu i waith gael ei wneud fel y mae corff cyfraith Cymru yn cynyddu, wrth symud ymlaen, i wneud yn siŵr bod yr awdurdodaeth yn ymateb i’r corff hwnnw o gyfraith—fel ei fod yn cynyddu, wrth symud ymlaen. Ond rwy’n meddwl ei fod yn ddiwrnod trist iawn pan mae Plaid Cymru, yn y Siambr hon, yn dewis pleidleisio yn erbyn dull, cyfle, am drosglwyddiad enfawr o gyfrifoldeb a sofraniaeth. Credaf mai dyna yw eironi eithaf y safbwynt y maent wedi ei chymryd heddiw. Mae ganddynt hawl berffaith i wneud hynny, ond rwy’n meddwl eu bod yn colli'r cyfle yma.

Rwy'n disgwyl y bydd trafodaethau pellach; rwy'n disgwyl y bydd newidiadau pellach, wrth inni symud ymlaen, ynghylch trafodaethau Brexit. Rydym mewn lle gwahanol i ble'r oeddem pan gafodd y Bil hwn ei gyflwyno gyntaf yn ôl yn 2014. Ond mae'n gyfle enfawr i'r Cynulliad hwn ymateb i her y cyfrifoldebau hyn; mae'n rheidrwydd ein bod yn derbyn y cyfrifoldebau hyn ac yn eu defnyddio er budd pobl Cymru o fewn y Deyrnas Unedig. Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Mae’r dadleuon yma ynglŷn â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn rhan hanfodol o’n cyfansoddiad ni ac yn deillio o’r arfer—hefyd yn yr Alban o dan y confensiwn yn enw’r Arglwydd Sewel, fel y clywsom ni’n gynharach—o sicrhau bod modd i San Steffan ddeddfu ar faterion lle mae’r materion hynny wedi cael eu datganoli.

Mae’r achos yn wahanol, wrth gwrs, yn yr achos yma, sef ein bod ni’n rhoi caniatâd i San Steffan ddeddfu ar ein pwerau ni’n hunain, gan gynnwys yn y rheini y materion sy’n cael eu heffeithio gan y modd y mae’r Bil yma wedi cael ei ddrafftio. Gyda llaw, a gaf i jest ddweud hyn wrth basio? ‘Bil’ ydy hwn yn Gymraeg; ‘Mesur’ ydy rhywbeth arall a oedd yn ddeddfwriaeth yn y lle yma o’r blaen, ac nid wyf i eisiau gweld Mesurau yn dod yn eu holau.

Nid wyf yn mynd i ddweud llawer heddiw, oherwydd rydw i wedi bod yn siarad am y mater yma, fel y gwyddoch chi, ddau ben i’r rheilffordd, ers tua deugain mlynedd. Rydw i’n gobeithio gwneud hynny eto yfory pan fyddwn ni’n cwblhau’r trydydd darlleniad ar y Bil yma yn yr ail Dŷ. Nid wyf yn gweld datblygiad datganoli yn yr un modd ag y mae Aelodau fy nghyn-blaid, mae arnaf ofn, oherwydd rydw i wedi ceisio, ar hyd yr amser, manteisio ar bob cyfle i gynyddu datganoli, ffordd bynnag yr oedd e’n dod. Ar y llwybr yna, rydw i wedi cwrdd â llawer o gyfeillion. Rwy’n ddiolchgar iawn i David am ei sylwadau caredig yn gynharach. Rydw i’n gweld Kirsty yn fanna; gwnaethom ni gyfarfod gyntaf ar noswaith y refferendwm a buom ni mas gyda’n gilydd drwy’r nos, ond, fel maen nhw’n ei ddweud mewn llefydd eraill, ni ddigwyddodd dim byd, oherwydd nid oedd amser—roeddem ni’n rhy brysur. Ond, roedd y cyfarfyddiad yna yn gyfarfyddiad pwysig i mi, oherwydd pan ddaethom ni yma i’r Cynulliad hwn, roedden ni’n adnabod ein gilydd. Mae fy mherthynas i â Jane Hutt yn mynd yn ôl llawer iawn o flaen hynny—lle rydym ni wedi cael cyfle i gydweithio mewn pleidiau gwahanol, ac wedi dod â ni i fan o gonsensws.

A dyma ni heddiw mewn man rhyfeddol iawn, lle mae fy nghyn-blaid a phlaid na fyddaf i byth yn aelod ohoni yn pleidleisio gyda’i gilydd yn erbyn y cam nesaf ar lwybr datganoli. Beth bynnag ydy’r rhesymau sydd wedi cael eu dyfeisio o ochr y ddwy blaid yma y prynhawn yma, nid ydyn nhw’n fy argyhoeddi i, ac yn sicr, ni fyddan nhw’n argyhoeddi pobl Cymru. Oherwydd beth mae pobl Cymru eisiau ei weld ydy gwleidyddion yn cydweithio gyda’i gilydd yn adeiladol er mwyn creu newid. Mae’r newid sy’n cael ei greu yn newid sydd yn digwydd oherwydd ymateb deddfwrfa yma yng Nghaerdydd a deddfwrfa San Steffan, a’r Llywodraeth yn y ddau le, i’r hyn mae’r drafodaeth wleidyddol yn ei gynhyrchu.

Mae yna un pwynt arall sydd yn allweddol yn y sefyllfa yma. Fe fentrais i ddweud, yn San Steffan, pan roeddem ni’n diweddu’r Cyfnod Adrodd ar hyn, fy mod yn teimlo ein bod wedi dod i ddiwedd pennod yn y ffordd yr oeddem ni’n delio â materion datganoledig, sef bod yn rhaid inni sicrhau, bellach, nad ydym yn cael San Steffan yn gosod pwerau i lawr i ni, ond bod y Cynulliad hwn yn ddeddfwrfa gyfartal o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, y ple sydd gennyf i fan hyn eto ydy ein bod ni’n fodlon chwarae ein rhan mewn cyd-ddeddfu o hyn ymlaen, a’r ffordd i sicrhau cyd-ddeddfu ydy pasio’r Bil yma.

Geiriau doeth Dafydd Elis-Thomas. Rwy’n teimlo braidd fod Plaid yn cymryd safbwynt buryddol, yn hyderus yn yr wybodaeth bod eraill yn mynd i wneud y gwaith trwm, a sicrhau bod y mesur deddfwriaethol hwn yn cael ei basio.

Rwy'n falch iawn o ddarllen am y sicrwydd a gafwyd gan Theresa May yn ei haraith heddiw na fydd unrhyw benderfyniad a gymerir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu tynnu oddi wrthynt yn y broses Brexit. Rwy’n teimlo bod hwnnw’n ddatganiad pwysig iawn. Ond dyna ddatganiad arweinydd gwleidyddol heddiw, ac ni allwn wybod am ba mor hir y bydd yr arweinydd gwleidyddol hwnnw yma. Felly, dyna'r rheswm pam rwyf yn teimlo bod angen i ni gefnogi’r Bil amherffaith hwn, oherwydd mae angen i ni fod yn wyliadwrus o ran sicrhau bod y pwerau sydd gan y Cynulliad wedi eu hymgorffori yn y gyfraith fel y gallwn ddechrau'r trafodaethau a’r sgyrsiau am Brexit gan wybod yn iawn bod y pwerau hyn gennym. Credaf mai dyna’r cyd-destun y mae'n rhaid i ni edrych ar y Bil amherffaith hwn ynddo, a dyna'r rheswm pam y byddaf yn ei gefnogi.

Croesawaf yn fawr ddatganoli pwerau cynllunio ynni ar gyfer pob prosiect cynhyrchu hyd at 350 MW, a’r consesiynau a hawliwyd gan ein cydweithwyr yn Nhŷ'r Arglwyddi dros reolaeth llinellau foltedd isel. Ond rwy’n siomedig bod y gwelliannau i ganiatáu i'r Cynulliad ddeddfu ar bob agwedd ar gynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu a chyflenwi trydan a fyddai wedi eithrio ynni niwclear, yn gwbl briodol, ond wedi cynnwys deddfwriaeth i ganiatáu dosbarthu gwifrau preifat yn hytrach na phopeth yn mynd drwy'r grid cenedlaethol—nad yw’r cymalau hynny wedi cael eu caniatáu gan Lywodraeth y DU. Credaf fod dealltwriaeth anghyflawn gan Lywodraeth y DU o sut mae'r byd yn symud ymlaen yn dechnegol. Dangoswyd bod cynhyrchu, dosbarthu a storio ynni datganoledig yn ysgogi arloesedd a menter ar draws cymunedau, fel y cofnodwyd gan yr ymchwiliad ynni craffach yn y pedwerydd Cynulliad.

Mae'r Bil hwn yn ŵy curad, ac yn bendant nid hwn yw’n fframwaith parhaol ar gyfer y setliad datganoli yr oeddem wedi gobeithio amdano. Ond mae'n rhaid i ni dderbyn yr hyn sydd ar y bwrdd. Rwy’n cydnabod ymdrechion rhagorol Eluned Morgan a Dafydd Elis-Thomas, ac eraill yn Nhŷ'r Arglwyddi, i wella'r Bil. Nid wyf yn credu—fel y mae eraill wedi dweud, y gallwn ruthro o flaen pobl Cymru, ond yn yr un modd, yn anffodus, ni allwn ruthro o flaen barn ystyriol yr aelodau o'r blaid Dorïaidd, ac yn wir rai o'r cydweithwyr yn fy mhlaid fy hun, sydd eto i ddeall yn llawn bwysigrwydd datganoli.

Nid wyf yn credu bod Bil Cymru yn addas i’r unfed ganrif ar hugain, yn enwedig o ran ynni a'r amgylchedd, gyda'r dechnoleg yn symud mor gyflym â'r heriau newid hinsawdd sy'n ein hwynebu. Nid wyf yn credu ei fod yn rhoi digon o bwerau i ni. Dim ond y foronen sydd gennym o ran arbed ynni; nid oes gennym y ffon sydd ei hangen i fynd gyda hi. Mae'n siomedig nad ydym hyd yn oed yn cael y pwerau sydd ganddynt yn yr Alban ar y materion hyn. Ond, ni allwn ond gwthio ymlaen mor gyflym ag y bydd y bobl yn ein galluogi i wneud, ac rwy’n croesawu'n fawr y consesiynau sydd yno—ac nad yw, yn ôl a ddeallaf, y sianel ar gyfer myfyrio ar y pwerau ynni sy’n cael eu datganoli i ni ar hyn o bryd wedi cael ei chau. Rwy'n deall y bydd cyfle am ddeialog rhwng y ddwy Lywodraeth, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy am hynny wrth grynhoi.

Heddiw, fel y nodwyd eisoes, bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol am y rhesymau a nodwyd yn glir gan Leanne Wood, a rhesymau yr wyf yn cofio Dafydd Elis-Thomas yn eu nodi mewn cyfarfod grŵp Plaid Cymru hefyd. Byddaf yn pleidleisio gyda fy ngrŵp, gan fy mod yn parchu'r penderfyniad hwnnw a'r broses a'r drafodaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyrraedd y penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, mae achos Plaid Cymru a chenedlaetholgar cryf dros bleidleisio am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy’n dymuno nodi hynny, os mai dim ond ar gyfer myfyrwyr gwleidyddol y dyfodol fydd hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod y Bil Cymru hwn eisoes yn grair o'r gorffennol. Fel setliad parhaol, mae mor ddiangen â’r goeden Nadolig yr es â hi i’w hailgylchu yr wythnos ddiwethaf. Tegan llachar a sgleiniog San Steffan ydyw, yn demtasiwn, yn simsan, ond yn wag yn y pen draw. Mae'r Bil mewn gwirionedd yn dioddef o glefyd yr wyf yn meddwl y dylem yn awr ei alw yn 'Westminsterism', am ei fod yn gyflwr sy'n effeithio ar yr holl bleidiau unoliaethol ac nid yw'n cael ei gyfyngu i'r Ceidwadwyr yn unig. Yn anffodus nid yw Llafur Cymru wedi gwella eto o’r cyflwr hwn, fel y clywsom am y gwelliannau ym mholisi eu plaid eu hunain a wrthodwyd ganddynt yn San Steffan, er ei bod yn galonogol gweld nifer ohonynt ymhell ar y ffordd i gael eu hadfer yn y grŵp Llafur Cymru presennol yn y Cynulliad hwn. Ond am gyfnod rhy hir, mae San Steffan wedi rhagdybio’r sofraniaeth yn y sefydliad hwnnw, ac nid gyda'r bobl. Felly, yn hytrach na setliad parhaol, mae San Steffan a Whitehall wedi bod yn ddarbodus ac wedi naddu’r model cadw pwerau, gan ganiatáu’r setliad lleiaf posibl i ni bob amser er mwyn deddfu a sicrhau rhagoriaeth barhaus San Steffan. Mae pwerau wedi dod a phwerau wedi mynd, maent wedi eu hysgwyd gyda’i gilydd ac mae gêm o giamocs cyfansoddiadol wedi ei chwarae gyda dyfodol Cymru.

Ond yn yr un flwyddyn â chymryd dull gothig braidd o edrych ar ein dyfodol, mae San Steffan ei hun wedi rhyddhau o'i wirfodd y grymoedd tywyll a fydd yn y pen draw yn dinistrio'r wladwriaeth Brydeinig unedol. Mae'r ysbryd wedi dianc o’r botel, ac ni fydd unrhyw siarad ofer heddiw am werthoedd cenedlaethol, gwerthoedd Prydeinig, yn dod at ei gilydd i arbed y Deyrnas Unedig bresennol.

Mae llawer o sôn wedi bod mai hwn yw’r cyfle olaf i sicrhau datganoli pellach am ddegawd o leiaf. Gall hynny fod yn wir, ond nid yw'r un fath â dweud y bydd San Steffan yn parhau’n ddigyfnewid am ddegawd. Bydd Brexit caled, sef yr hyn yr ydym yn debygol o’i gael, yn arwain at ddiiddymu’r wladwriaeth Brydeinig. Bydd yr Alban yn ceisio annibyniaeth, bydd ynys Iwerddon yn dod ynghyd, a byddwn ni yng Nghymru yn wynebu dewis anodd iawn: bod yn atodiad o endid gwleidyddol crebachlyd Saesnig neu geisio ein llwybr annibynnol ein hunain. Felly, mewn sawl ffordd, ac yn y tymor hir, mae’r Bil hwn yn amherthnasol. Yr anadl olaf o San Steffan yn esgus ei fod yn penderfynu ar ddyfodol cenedl Cymru, ac nid pobl Cymru yn penderfynu ar ein dyfodol.

Rwy'n credu, fodd bynnag, y gellir rhoi tri rheswm dros symud ymlaen gyda'r Bil er mwyn rhoi pwerau i ni i’n harwain yn y pump i 10 mlynedd cythryblus nesaf. Yn gyntaf, bydd y Bil yn helpu i atal San Steffan rhag cipio tir ymhellach, drwy sicrhau Sewel mewn statud, a thrwy sicrhau bod y model cadw pwerau yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn cipio rhagor o dir—er bod y Bil ei hun yn enghraifft o gipio tir—ar ôl y bleidlais Brexit . Yn ail, wrth ddatganoli i'r Cynulliad y pŵer i benderfynu ar y trefniadau yn y dyfodol, mae'r Bil yn ein galluogi ni i ddyfnhau a chryfhau ein democratiaeth. Dyma ein cyfle ni i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed, er mwyn cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy i etholiadau lleol ac yna genedlaethol yng Nghymru, ac i ennill cydnabyddiaeth o'r Cynulliad fel Senedd sofran Cymru. Ac yn olaf, drwy hwyluso datganoli cyllidol a rhywfaint o reolaeth ar ein hadnoddau naturiol, bydd y Bil yn gwneud unrhyw Lywodraeth Cymru yn fwy ymatebol ac atebol i bobl Cymru.

Heb y pwerau treth y mae’r Bil hwn yn eu caniatáu, ni fyddwn yn aeddfedu fel democratiaeth, ac ni fyddwn yn paratoi ein hunain yn llawn am yr heriau o adael yr Undeb Ewropeaidd. Tra bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn perthynas blentynnaidd â San Steffan, mam y seneddau fel y'i gelwir, heb eto ddiddyfnu oddi ar Whitehall, yn beio cyllid annigonol am eu methiannau, yn taflu’r baich gwleidyddol ar eraill ar bob cyfle, ni fyddwn byth yn barod i gymryd cyfrifoldeb dros ein dyfodol ein hunain. Felly, gan yr ymddengys bod y Bil hwn heddiw yn mynd i fod yn Ddeddf, dylem ddefnyddio'r pwerau cyfyngedig y mae'n eu rhoi i ni yn y tri maes hyn i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol gwirioneddol ein cenedl, tuag at adeg pan fyddwn unwaith eto yn rhannu cyfrifoldeb ac ymdrech ar y cyd â’n partneriaid yn Ewrop, ond y tro hwn fel gwladwriaeth annibynnol.

Rwy'n falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n falch iawn fod y Bil yr ydym yn ei drafod yn mynd i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad hwn, a bod y Bil yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol ar lefel y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol. Hoffwn dalu teyrnged iddynt am gadw at eu gair a chyflwyno Bil sydd yn mynd i roi pwerau ychwanegol i ni. Ac rwyf am ddweud hyn: nid yw'r Bil yn mynd mor bell ag yr hoffwn mewn rhai meysydd, ond rwy’n mynd i bleidleisio’n llawen dros y Bil heddiw, oherwydd y meysydd ychwanegol hynny y byddwn yn cael pwerau ynddynt fel y gallwn wneud rhywbeth cadarnhaol gyda’r pwerau hynny, a’u defnyddio yn effeithiol iawn. Rwyf am gyfyngu fy sylwadau heddiw i un rhan benodol o'r Bil yr wyf yn hapus iawn, trwy welliant, bod y pwerau ychwanegol hyn wedi eu hychwanegu, sef isadran 58 o Ran 2 y Bil, sy'n datganoli cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru i drwyddedu peiriannau hapchwarae lle mae uchafswm yr arian betio yn fwy na £10.

N awr, fel y bydd Aelodau'r Cynulliad hwn yn gwybod, dydw i erioed wedi cuddio fy nirmyg personol o derfynellau betio ods sefydlog a'u cysylltiad â phroblem hapchwarae yma yng Nghymru. Maent yn bla ar Gymru ac maent wedi achosi niwed personol a chymdeithasol sylweddol i unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau ar hyd a lled y wlad hon. Ac, wrth gwrs, canfu adroddiad annibynnol diweddar a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ym mis Rhagfyr fod hapchwarae problemus yn costio hyd at £1.2 biliwn i Lywodraethau Cymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Ond mae'n rhaid i ni gofio mai’r weithred o hapchwarae a'r pwysau y mae'r diwydiant yn ei roi ar unigolion i hapchwarae yw’r meysydd sylfaenol i’w beio, nid o reidrwydd yr unigolion eu hunain, oherwydd rhaid inni gofio bod hwn yn salwch, yn ddibyniaeth y mae pobl yn gorfod ymdrin ag ef, un sydd yr un mor bwerus â chamddefnyddio sylweddau neu alcohol. Nawr, pan oeddwn yn gwisgo het portffolio blaenorol, dywedais, o ystyried pŵer dibyniaeth hapchwarae, y dylai, yn fy marn i, gael ei weld a'i drin fel mater iechyd cyhoeddus, oherwydd yr effaith y mae anhwylder o'r fath yn ei chael ar iechyd a lles yr unigolion yr effeithir arnynt, eu teuluoedd a'u hanwyliaid, ac mae'r effaith yn sylweddol.

Nawr, er nad yw hapchwarae yn ffenomen newydd yng Nghymru, gwyddom ei fod yn fater sy’n broblem arbennig o ddifrifol i Gymru. Er gwaethaf y ffaith mai ein gwlad ni oedd yr unig wlad gartref i beidio â chasglu ystadegau am hapchwarae problemus ac anhwylderau hapchwarae, mae'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd yn betio swm sy'n gyfwerth â £1.6 biliwn y flwyddyn o gynnyrch mewnwladol crynswth y genedl mewn terfynellau betio ods sefydlog yn unig. Fel cymhariaeth, mae hynny yn £675 am bob oedolyn yma yng Nghymru. Ar ben hynny, os ydych yn cynnwys y costau amrywiol cysylltiedig, megis y dirywiad mewn perfformiad yn y gwaith, diweithdra posibl, dyledion, problemau tai, ac yn y blaen, a achosir gan hapchwarae, mae'n dangos bod hapchwarae yn effeithio nid yn unig ar iechyd ein cenedl, ond hefyd ar economi ein cenedl.

Felly, rwyf wedi bod yn hynod falch o hyrwyddo’r mater hwn, ynghyd ag ACau eraill yma yn y Siambr hon, ac, yn wir, rai cydweithwyr seneddol ym mhen San Steffan. Rwyf wedi dod ag amrywiaeth o randdeiliaid at ei gilydd i geisio addysgu a dylanwadu ar bawb yn y Siambr, a gwneuthurwyr polisi yn ehangach, bod hwn yn rhywbeth sydd angen sylw brys. Nawr, er bod rhai elfennau o bolisi cyhoeddus y gallwn ni eu newid, mewn cydweithrediad â sefydliadau rhagorol yn y trydydd sector, fel Beat the Odds, sydd, wrth gwrs, yn sefydliad a gafodd ei ffurfio gan CAIS, sydd wedi’i leoli yn fy etholaeth i, a’r Ystafell Fyw, i lawr yma yng Nghaerdydd, nid wyf yn credu y gallwn fynd i'r afael o ddifrif â'r broblem hon fel cenedl oni bai fod gennym y cymhwysedd deddfwriaethol hwn. Dyna pam rwyf yn awyddus iawn, iawn i sicrhau bod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn heddiw yn cael ymateb cadarnhaol gan bawb ar draws y Siambr hon, gan ei fod yn ein galluogi ni i ymdrin â'r mater hwn a materion eraill mewn meysydd cymhwysedd a fydd yn dod atom ni. Roeddwn yn falch iawn o weld cyfraniadau Eluned Morgan yn Nhŷ'r Arglwyddi ar yr union fater hwn wrth i’r Bil wneud ei daith drwy'r Senedd, gan fy mod yn meddwl, yn bersonol, bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd eistedd o amgylch y bwrdd gyda'n gilydd i ymdrin ag ef unwaith ac am byth.

Felly, rwy’n annog pob Aelod yn y Siambr hon i feddwl yn ofalus iawn am y cyfleoedd y mae Bil Cymru yn eu cyflwyno i ni. Rwy’n sylweddoli nad yw'n mynd mor bell ag y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno. Ond mae'r rhain yn gamau pwysig, gyda phwerau pwysig yn cael eu rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol y byddwn yn gallu eu defnyddio i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru, ac felly, byddaf yn ei gefnogi.

Lywydd, dros y misoedd diwethaf, rydw i, ynghyd â phobl o bleidiau eraill, yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas, yn cynnwys Dafydd Wigley, Aelodau o’r Lib Dems, pobl o grwpiau gwahanol, trawsbleidiol hefyd, wedi bod yn gwneud beth allwn ni i gywiro Bil Cymru wrth iddo fynd trwy Dŷ’r Arglwyddi. Hoffwn i dalu teyrnged yn gyntaf i chi, Lywydd, am eich gwaith chi ar y Bil yma, i’r pwyllgor cyfansoddiadol a oedd wedi ein helpu ni gymaint gyda rhai o’r ‘arguments’ yr oedd angen inni eu gwneud yn y tŷ. Hefyd, rwyf yn meddwl bod hyn wedi ein helpu ni i lwyddo i ddarbwyllo’r Llywodraeth Brydeinig i gyfaddawdu mewn cymaint o ardaloedd, ac i dderbyn ein safiad ni eu bod nhw wedi mynd yn rhy bell o ran ceisio cadw pwerau yn Llundain. Ond, wrth gwrs, mae nifer o faterion yn y Bil yma sy’n dal i beri gofid inni. A gaf i fod yn glir: mae Bil Cymru yn gymhleth, mae’n aneglur, a gallwn ni fod yn sicr na fydd e’n setlo’r cwestiwn o berthynas Cymru gyda’r Deyrnas Unedig am genhedlaeth, yn unol â’r bwriad? Nid yw’r Bil wedi’i seilio ar unrhyw egwyddorion cyfansoddiadol. Nid oes eglurdeb yn y Ddeddf, sy’n golygu na ellir gwarantu na fydd unrhyw gyfeiriad i’r Uchel Lys yn y dyfodol i benderfynu ymhle y mae pŵer deddfwriaethol yn gorwedd.

Mae Aelodau Tŷ’r Arglwyddi ac, i fod yn deg, y Llywodraeth Dorïaidd wedi ei gwneud yn hollol glir na fydd y tŷ yn hapus i basio’r Ddeddf heb ganiatâd a chefnogaeth y mwyafrif o Aelodau’r Cynulliad. Y cwestiwn felly yw: a ddylem ni basio’r Ddeddf?

I believe that the question of whether we should pass the LCM is finally balanced. I think the Bill remains deeply flawed and complex. Nevertheless, I believe we should pass this LCM, and I’d like to make clear my reasons for this. First of all, I think that this is the only deal we are likely to see in the foreseeable future. This is the fourth Wales Bill since the Welsh public supported the establishment of the Assembly in 1997. Theresa May has demonstrated absolutely no interest whatsoever in Wales, and the UK Government is likely to be almost exclusively focused on Brexit for the foreseeable future. That Brexit decision, with the announcement by the Prime Minister today to go for a hard Brexit, means that we really need to batten down the hatches constitutionally before we’re battered around in the political flux that is about to engulf us. We need to ensure that there’s no attempt on behalf of the UK Government to repatriate powers from the EU, and to keep what are legitimately areas of Welsh Government competence in London.

This new Bill confirms the Sewel convention. That convention says that the UK Parliament will normally not legislate on devolved matters without the consent of the Assembly. It’s written in statute. The current Bill: it is not there. This is a safety mechanism that we need. Unless we’re on the same constitutional page, and under the same reserved-model system as Scotland and Northern Ireland, we are much more vulnerable to being picked off when the repatriation of powers happens under Brexit. This is also true of the promised great repeal Bill, where the opportunity for the UK Government to grab what are legitimately our Welsh Assembly powers is all too evident. I, for one, am not prepared to take that risk.

Now, the fiscal framework and the Barnett formula, as we’ve heard, provide us with guarantees that we won’t be worse off, relative to England, if public expenditure rises when a percentage of income tax powers to Wales is devolved. The deal also means we’ve got that additional £500 million that we can borrow in order to invest. I think this is going to become crucially important as austerity continues to bite, as we see a contraction in the economy and a withdrawal of EU structural funds.

I’m disappointed that the Bill remains complex, inaccessible and unclear. There’s been a failure to incorporate any fundamental or firm principles within the Bill, like clarity, stability, legitimacy and subsidiarity. As the First Minister stated, the Welsh Government drafted their own Bill, which was presented last year. That would have provided a much firmer platform for the constitutional settlement, but we are not in the driving seat in Westminster. Let’s recall: this is a Tory Bill.

In the Lords, we convinced the UK Government that they’d overstepped the mark by attempting to claw back powers that the Assembly already enjoys in areas such as adoption, railway planning and providing council tax relief. One of the expert witnesses to the constitution committee suggested that, under the current conferred model of government, everything was reserved except the kitchen sink, but that in the move to the reserved model, even the kitchen sink was now reserved. Through pushing back in the Lords, we have now regained control over most building regulations, including the kitchen sink. We’ve also convinced the Government to expand the areas where we previously did not have power, including over teachers’ pay, fixed-odds betting terminals, compulsory purchase orders and the community infrastructure levy, to name just a few. And we were obviously deeply disappointed that a tied vote on industrial relations in the public sector meant that the UK Government is heading for a constitutional punch-up, even before this Bill has been accepted.

Rwyf wedi bod yn hael iawn gydag amser. Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben.

Diolch yn fawr iawn. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio ein bod wedi methu ag argyhoeddi’r Llywodraeth i sicrhau y dylid datganoli pwerau deddfwriaethol a gweithredol ym mhob maes o’r setliad datganoledig.

Mae'r Bil yn dod ar adeg bwysig i’n gwlad ni—ar adeg pan fo ein cenedl ni, ein cyfandir ni a'n byd ni yn ymddangos yn fwy anwadal nag erioed o'r blaen. Nid yw’n ddelfrydol o bell ffordd, ond mae’n fater o hwn neu ddim byd. Credaf, oherwydd ein natur fregus fel cenedl ar y pwynt hwn, mai’r unig gam cyfrifol yw cefnogi'r Bil.

Ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i fi na gallu pleidleisio heddiw dros weithredu Mesur Cymru a fyddai’n grymuso pobl Cymru o ddifrif, a fyddai’n galluogi’r Cynulliad yma i aeddfedu ymhellach fel Senedd ein gwlad, ac a fyddai’n rhoi i Lywodraeth Cymru yr arfau angenrheidiol i sefydlogi a chryfhau ein heconomi, i greu Cymru fwy iach, ac i gryfhau ein cyfundrefn addysg yn y modd yr ydym ni yma yng Nghymru am ei flaenoriaethu. Ond nid dyna i fi ydy’r Mesur y mae gofyn i ni roi sêl bendith iddo fo. Nid dyma Fesur y gallaf i fod yn hyderus ei fod yn rhoi i drigolion Ynys Môn a gweddill Cymru y math o sicrwydd y dylen nhw ei gael fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr hawliau i ddilyn ei gwys ei hun, lle mae angen gwneud hynny, heb i rwystrau mympwyol gael eu rhoi yn ein ffordd gan Senedd Prydain.

I believe passionately that devolution itself should be devolved—that we in Wales should decide on those areas over which we should have responsibility. I believe passionately that any Bill on the future of Welsh competence should come from Wales. And the deeply flawed Bill that we’re being asked to approve today, I believe, is the perfect embodiment of why that is such an important principle. I won’t repeat detailed points made by some of my colleagues about the irrational list of reservations. I could talk about the steadfast refusal to devolve policing, the inexcusable and inexplicable refusal to move towards a distinct Welsh legal jurisdiction—the list goes on. But in terms of our powers to legislate on behalf of the people of Wales, I believe that this Bill, despite concessions that have been made, remains little more than Westminster crumbs dished out by an indifferent UK Conservative Government to a Wales that is meant to consider itself grateful to receive them.

There are, of course, positive elements here, and that is why it is, as Leanne Wood said, with a heavy heart that we vote against the strengthening of powers for this Assembly, as an institution, over its own affairs—over election arrangements, and so on. I, of course, want to see the beginnings of the devolution of income tax in our taxation armoury. I commend work done on the fiscal framework. I, of course, want to see a new funding formula. I understand why others may come to the conclusion that it is worth supporting this because of those positives. The First Minister himself said that the Labour group came to a reluctant decision.

On that point, to those suggesting that we in Plaid Cymru are voting against, somehow in the knowledge, because of the luxury of Labour supporting it, as Simon said we also had detailed, forensic discussions. The case was made to support this. Because I acknowledged the positives, I considered perhaps that even a principled abstention was the right course of action this afternoon. But, in the end, I had to ask myself to what extent the positives are little more than sweeteners to be taken alongside what is otherwise a very bitter Wales Bill pill. The positive of the introduction of a reserved-powers model, in principle, for example, which we have long called for, is undone, rather, is it not, by the mockery of that Whitehall-composed list itself? Plaid Cymru—

Diolch i chi am ildio, Rhun. Rwy’n deall yn iawn eich bod chi’n anghytuno ag elfennau o’r Bil hwn. Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, nid yw'n berffaith mewn unrhyw fodd. Fodd bynnag, mae gwrthod y fframwaith cyllidol a drafodwyd gennym yn gynharach yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet fel elfen gadarnhaol yn unig—dewch, rydym wedi bod yn galw am ddiwygio Barnett ers i mi fod yma, ers i chi fod yma. Dyma newid cadarnhaol, newid cadarnhaol iawn yn dod i'r sefyllfa ariannol. Bydd hynny'n methu os nad yw hwn yn mynd drwyddo.

Rwy’n deall y cwestiwn a ofynasoch, ond rydych yn annheg wrth awgrymu ein bod yn diystyru’r gwaith sydd wedi ei wneud ar y fframwaith cyllidol. Y cwestiwn a ofynnwyd heddiw gan Leanne Wood, ymysg eraill, yw: pam ar y ddaear bod gwaith clodwiw ar y fframwaith cyllidol ynghlwm wrth yr hyn sydd fel arall yn gyfres o bwerau sydd yn tynnu'n ôl o ran y pwerau sydd gennym? A byddaf hefyd yn ateb eich pwynt yn y casgliad hwn. Mae Plaid Cymru yn aml yn cael ei chyhuddo ar gam o geisio datganoli er ei fwyn ei hun. Wel, heddiw, rydym yn dweud 'na' yn glir. Rydym eisiau’r math o ddatganoli sy'n iawn i Gymru. Felly, gadewch i ni ddechrau gweithio yn awr, gan weithio gyda'n gilydd fel cenedl, ar draws y pleidiau ac ar draws cymunedau, i adeiladu Bil yn y dyfodol—dyfodol i Gymru wedi’i wneud yng Nghymru.

Dylai cyrhaeddiad cenedl fod yn fwy na’i gafael. Dyna eiriau Elystan Morgan, wrth annog San Steffan i fabwysiadu ymagwedd uchelgeisiol i’r Bil hwn.

But in looking at this Bill, I see a lack of ambition—a lack of the kind of ambition that was contained in that comment. There are a range of powers here that are useful, but not the wide range of powers that I would’ve liked to have seen included. The legislation is, in several instances, a retrograde step, as we have already heard in the debate. We will be introducing a Bill for trade unions that wouldn’t be possible under this new settlement. And in my opinion, and I’m sure that several people in the Chamber share this view, devolution should be an incremental process, a step-by-step process, a gradual process, but in one direction. So, the loss of that principle is very important.

This isn’t the Bill that I would want to see before us today; I would want to see the Welsh Government legislation that was introduced last year in the Chamber today, with a range of powers that is fitting for Wales, with a clear point of view in terms of the settlement, and which would move us towards parity with the Scottish and Northern Ireland parliaments. But, that was rejected by the Secretary of State and by the Conservative Government.

So, I have no enthusiasm, coming here today, to look at this Bill, but there are strengths in the legislation, and we have to acknowledge those positive aspects of the Bill. Moving from a conferred-powers model to a reserved-powers model overturns that starting point in terms of the constitution. We start from a completely different point of view, despite that long list of reservations that, in several instances, are inappropriate. But this new principle does give us a foundation to build upon in the coming years—in terms of jurisdiction, certainly, but also in terms of getting rid of those reservations that are such a burden on this Bill.

In my opinion, that wouldn’t be entirely sufficient, if it weren’t for that question that is the context of this debate and all political debates that we have here in Wales, namely that question of Brexit. I think that we underestimate at our peril—despite the comments that we have heard today, this morning, from Theresa May, mentioned in the Chamber already—we underestimate the risk to the devolution settlement that will emanate from that process of leaving the European Union. I don’t think for a second that the instinct of the Westminster Government or this Prime Minister is in favour of any process that would easily allow Wales to receive the powers from Brussels that we deserve and that are our right.

The opposition leader has talked about the image of the UK and Wales that the Prime Minister wants to see, and nobody on this side of the Chamber would want to see that. That’s why it’s so important that we strengthen our position for that coming debate. That’s why it’s so important that we do have the Sewel convention, which gives us equality with Scotland and Northern Ireland, and the opportunity for us to be able to argue our case against the Government in Westminster.

Rwy'n credu bod hwn yn Fil amherffaith. Mae'n amherffaith oherwydd ei fod yn methu â chydnabod aeddfedrwydd y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru, ac mae'n methu â chydnabod y potensial y gall Cymru ei wireddu gyda’r pwerau ychwanegol hynny yr ydym wedi gofyn amdanynt dros beth amser. Ond, credaf fod yr egwyddor gywir wrth ei wraidd, sef symud i fodel cadw pwerau, a hynny at ei gilydd sy'n ein paratoi yn well ar gyfer yr hyn sy'n mynd i fod yn gyfres lawer mwy o frwydrau i ddod.

Oni fyddai'n wych pe byddem ni i gyd yn cymeradwyo’r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw yn mynd â ni ymlaen at gael y Bil Cymru ar y statud? Yn anffodus, nid ydym yn y sefyllfa honno heddiw, a chredaf fod hynny yn bennaf oherwydd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi methu ag argyhoeddi ei gydweithwyr yn y Cabinet ac adrannau Whitehall am yr angen i Gymru gael ei thrin mewn ffordd debyg i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rwy’n teimlo'n gryf iawn fod Cymru wedi cael ei thrin ag amharch. A pham fod Cymru wedi’i thrin yn wahanol i’r gwledydd datganoledig eraill? Ar ôl y bleidlais yn 2011, y mae llawer o bobl wedi cyfeirio ati heddiw, roedd dwy ran o dair o'r bobl yng Nghymru wedi pleidleisio i ni gael pwerau deddfu sylfaenol. Roedd neges glir oddi wrth bobl Cymru eu bod yn dymuno i ni wneud y cyfreithiau, ac mae hynny'n sefyllfa sydd wedi newid yn fawr, oherwydd roeddwn i yn San Steffan ym 1997 pan basiwyd y Bil Llywodraeth Cymru cyntaf, a gallaf ddweud wrthych nad oedd llawer o frwdfrydedd ar gyfer hynny o unrhyw le. Mae'r sefyllfa yng Nghymru, rwy’n meddwl, wedi ei thrawsnewid, ac rwy’n credu bod y teimladau hynny yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth San Steffan a chan adrannau Whitehall.

Byddaf yn pleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon heddiw. Byddaf yn gyndyn o wneud hynny, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn gwneud cyfiawnder â ni, ond byddaf yn pleidleisio drosti oherwydd y model cadw pwerau—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ein bod yn cael hynny yno, wedi’i ymgorffori yn y gyfraith—oherwydd confensiwn Sewel—eto, rwy’n meddwl bod hynny’n hanfodol bwysig—ac oherwydd y setliad ariannol. Rwy’n teimlo ein bod ni, ers blynyddoedd lawer, wedi’i chael hi’n anodd sicrhau bod fformiwla Barnett yn cael sylw. Wrth sefydlu'r fframwaith cyllidol y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi’i drafod yn gynharach yn y Siambr hon heddiw, rwy’n credu, ar y cyfan, y byddai'n anghywir i ni wrthod y fframwaith hwnnw. Byddai'n anghywir i ni wrthod y cynnydd a wnaed mewn gwirionedd. Am y rhesymau hynny, byddaf yn pleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon heddiw. Ond, fel y dywedais, rwy’n gyndyn o wneud hynny.

Mae amharodrwydd llawer o adrannau'r Llywodraeth yn San Steffan i ildio i geisiadau sylweddol ar gyfer gwelliannau, rwy’n credu, yn feirniadaeth o bosibl o ba mor isel y mae lefel y parch at Swyddfa Cymru dan yr Ysgrifennydd Gwladol presennol wedi suddo a sut y mae’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru presennol wedi methu ag ymladd dros Gymru. A, wyddoch chi, os ydych chi’n—

Rwy’n meddwl ei bod braidd yn anffodus eich bod yn ceisio sarhau’r Ysgrifennydd Gwladol presennol, sydd wedi gweithio'n ddiflino, ynghyd â chydweithwyr, i gyflwyno'r Bil hwn. Ond fe ofynnaf y cwestiwn hwn i chi—roeddech chi’n Aelod Seneddol yn 2006, a bleidleisiodd dros y Bil Cymru bryd hynny a roddodd y broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i ni; nid wyf yn credu bod eich hanes yn y Senedd mewn gwirionedd yn cymharu yn erbyn y trosglwyddo cyfrifoldebau i'r lle hwn sydd wedi digwydd o dan y Ceidwadwyr Cymreig.

Rwy'n siarad am heddiw, ac nid wyf yn teimlo bod achos Cymru wedi’i ddadlau’n dda yn San Steffan. Rwy’n meddwl y byddem wedi dod o hyd i ateb gwell, Bil gwell, pe bai hynny wedi digwydd ac rwy’n cymeradwyo'r hyn y mae Eluned a'i chydweithwyr wedi ei wneud yn Nhŷ'r Arglwyddi i geisio gwella'r sefyllfa, ond ni allech wneud yr holl beth mewn gwirionedd heb gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru yno y tu ôl i chi.

Unwaith eto, nid oes yn rhaid ond edrych ar y rhestr o bethau na allwn ni eu gwneud—. Na i bwerau toll teithwyr awyr. Pam Gogledd Iwerddon? Pam yr Alban? Beth sydd o'i le ar Gymru? Na i bwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Na i bwerau trwyddedu alcohol. Na i bwerau cyfiawnder ieuenctid. Bymtheg mlynedd yn ôl, roeddwn ar bwyllgor dethol yn San Steffan a wnaeth argymell y dylai pwerau cyfiawnder ieuenctid gael eu datganoli. Ni allaf ddeall pam na all pwerau cyfiawnder ieuenctid gael eu datganoli. Na i gysylltiadau diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Na i gais dielw ar gyfer pwerau masnachfraint rheilffyrdd. Gallem fynd ymlaen.

Mae'n syniad brawychus iawn, yn y Bil Cymru drafft, y byddai 21 o'r 22 o Ddeddfau a basiwyd gan y Cynulliad yn cael eu hystyried y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad neu’n ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd Gweinidogion y Goron. Ac, hyd yn oed ar ôl y trafodaethau sydd wedi digwydd, byddai 10 allan o'r 22 yn dal i fod y tu hwnt i'n gallu i ddeddfu. Mae hyn ar gyfer Bil Cymru sydd i fod i symleiddio'r model datganoli a galluogi’r Cynulliad hwn i fod yn ddeddfwrfa gyflawn.

Credaf fod hynt datganoli wedi bod yn ychydig o gamau ymlaen ac yn ychydig o gamau yn ôl. Rwy’n pleidleisio dros y cynnig cysyniad deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd fy mod yn meddwl, ar y cyfan, ei fod yn ychydig o gam ymlaen, ond hoffwn pe gallem fod yma â chynnig cydsyniad deddfwriaethol gwell o lawer, gyda Bil mwy cyflawn o lawer o'n blaenau, a fyddai wir yn bodloni ein dyheadau.

Heddiw, byddaf yn ymuno â fy nghydweithwyr Llafur ac yn pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar Fil Cymru. Yn wir, fel y dywedodd llawer, mae yr hyn ydyw. Ar gyfer hyn, mae gennym Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd unwaith eto wedi siomi pobl Cymru yn yr amherffeithrwydd hwn a nodwyd—. Ym mis Hydref 2015, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, fod Bil Cymru yn:

gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i dynnu llinell o dan y ddadl barhaus, ddiddiwedd hon ... ynglŷn â datganoli'.

Gan neidio ymlaen i fis Ionawr 2017, mae gennym arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n dweud nad hwn fydd y Bil Cymru olaf, ond yr olaf o'r sesiwn seneddol hon. Roedd ar Gymru, fel y dywedwyd, angen Bil Cymru San Steffan a oedd yn cynnig eglurder, symlrwydd, a chydnabyddiaeth, fel y mae Eluned Morgan wedi’i ddweud, o’r daith ddatganoli yng Nghymru yn y ddwy ddegawd ddiwethaf.

Bydd y Bil presennol, fodd bynnag, yn wir yn rhoi sicrwydd mwy cyfansoddiadol i Gymru, a bydd y fframwaith cyllidol cryfach sy'n cyd-fynd ag ef yn cynnig cam cynyddrannol pwysig yn y cyfeiriad cywir. Y mae’n cyflwyno bargen decach i Gymru a hoffwn dalu teyrnged lawn i'r Ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford, am ei ymdrechion sylweddol yn hyn o beth. Peidied neb ag amau, fodd bynnag: nid yw'r Bil Cymru presennol yn Fil y byddai'r Blaid Lafur wedi’i greu yn ei gyfanrwydd amherffaith.

Efallai fod datblygiad arteithiol y Bil o'r dechrau’n deg i'r pasio yn freuddwyd i gyfreithwyr, ond, i’r person cyffredin ar y stryd, mae wedi bod yn weithdrefn gymhleth. Mae ofn gan lawer nad yw Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r broses hon â dwylo glân. Er bod gwleidyddion Torïaidd wedi siarad am roi diwedd ar ansicrwydd cyfansoddiadol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, mae eu gweithredoedd wedi arwain llawer i gredu mai eu bwriad yw llesteirio, fel y mae eraill wedi dweud, aeddfedrwydd cynyddol y lle hwn.

Gwleidyddion Cymru wedi’u hethol gan bobl Cymru, ac nid mandariniaid Whitehall, ddylai fod yn rheoli’r gwaith o drefnu’n daclus y gwahanu pwerau rhwng Llywodraeth y DU a Chymru. Rydym yn gwybod o araith gynharach Theresa May heddiw y bydd Brexit yn parhau i ddominyddu gwleidyddiaeth y DU am y ddegawd nesaf. Ni fydd gan San Steffan, fel y mae eraill wedi dweud, unrhyw amser nac unrhyw awydd neu hyd yn oed unrhyw ddiddordeb mewn edrych ar Gymru. Felly, y gwir amdani yw mai’r cam ymlaen bach, ac mewn rhai ffyrdd, anfoddhaol iawn, hwn i Gymru yw'r cyfan sydd ar y bwrdd. Fel y cyfryw, er lles pobl Cymru, ni fyddwn yn rhoi rhwystr o flaen yr hyn sy’n Bil llai na pherffaith.

Rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith fy ffrind, y Farwnes Eluned Morgan, sy'n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, am ei gwaith rhagorol yma yn y Senedd ac yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae hi wedi ceisio lliniaru agweddau gwaethaf yr amherffeithrwydd hwn. Mae hyn wedi arwain, mewn llawer o feysydd, at Lywodraeth y DU yn ildio ar safbwyntiau a phwyntiau nad oedd ar un adeg yn agored i drafodaeth. Ond, fel y dywedodd Eluned Morgan wrth Dŷ'r Arglwyddi, mae'r Bil yn parhau i fod yn gymhleth, yn anhygyrch, yn aneglur ac ni fydd yn datrys mater datganoli i Gymru, fel y bwriadwyd.

Gyda Brexit caled ar y gorwel, mae'n hanfodol nad ydym ni yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn caniatáu ansicrwydd yn setliad datganoli Cymru, nac yn cynnig unrhyw gyfle i Lywodraeth y DU i ddal gafael ar bwerau yn Llundain y dylent gael eu dychwelyd yn briodol i Gymru unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

A gaf i wneud sylwadau yn olaf ar y llwyddiannau pwysig o fewn y fframwaith cyllidol a drafodwyd yn gryf, gan gynnwys datganoli treth yn rhannol, diwygio teg ar Barnett, gwell mynediad ariannol a sefydlogrwydd yn y cyllid gwaelodol? Mae'r rhain yn bethau yr ydym wedi siarad amdanynt ers amser maith, maith, ac y maent yma. Ni fydd Cymru yn waeth ei byd o’i chymharu â Lloegr o ran ein hanghenion gyda’r Bil hwn. Yn wir, gyda Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gaeth i bolisïau cyni sydd wedi methu, bydd popeth—popeth—y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon i gryfhau llaw Llywodraeth Cymru i ysgogi'r economi i'w groesawu. Bydd y benthyciadau ychwanegol o £500 miliwn a ganiateir o ddefnydd i bobl Cymru ac i Lywodraeth Cymru.

Felly, ydi, mae Bil Cymru, yn wir yn amherffaith. Mae’r hyn ydyw. Mae wedi dangos ac amlygu gwendid Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth sefyll dros Gymru. Fel y cyfryw, byddaf serch hyn yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, ond gresynaf yn fawr at y cyfle a gollwyd yn sgil ymgais y Llywodraeth Dorïaidd i chwarae gwleidyddiaeth â'r setliad datganoli ar draul Cymru. Diolch.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at yr hyn sydd wedi bod y ddadl gyfansoddiadol bwysicaf yr ydym wedi’i chael yng Nghymru ers peth amser? Rydym wedi cael llawer dros y blynyddoedd, ac nid oes amheuaeth y cawn fwy i ddod yn y dyfodol. A gaf i ddiolch i fy nghydweithiwr, Huw Irranca-Davies, am bwysleisio’n gryf unwaith eto, y pwyntiau a wneuthum yn tynnu sylw at y diffygion yn y Bil hwn, ond y dull yr ydym wedi’i gymryd rhwng bob dim o ran ein cefnogaeth iddo?

Gwrandewais yn astud iawn ar y siaradwyr o Blaid Cymru. Mae'n ymddangos i mi nad oes unrhyw anghydfod rhyngom ynghylch ein dadansoddiad o'r Bil. Rydym yn cytuno bod y Bil yn cynnwys rhai rhannau da, bod rhai meysydd lle’r ymddengys bod yna golli tir o ran y setliad datganoli, a'i fod yn annigonol o'i gymharu’n arbennig â'r Bil a ddrafftiwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwahaniaeth yn bennaf o ran asesu beth fyddai'r canlyniad pe byddai'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei wrthod gan y Cynulliad. I mi, ni fyddai'r cyfle hwn yn cyflwyno ei hun eto am rai blynyddoedd. Byddai hynny'n ein gadael gyda’r model rhoi pwerau, yn ein gadael gyda'r anallu i reoli ein democratiaeth ni ein hunain a'n datganoli ni ein hunain yma yng Nghymru, yn ein gadael gyda'r anallu, drwy godi treth incwm, i fod yn gallu benthyg, yr ydym yn gwybod sy’n hynod bwysig ac yn ein rhoi ar yr un lefel â'r gweinyddiaethau eraill yn y DU, a does dim gwybod pa bryd y byddai cyfle o'r fath yn codi eto. Felly, er nad yw’r hyn sy'n cael ei gyflwyno yn Ferrari llyfn fel oeddem yn ei ddisgwyl, fel petai, ond yn hytrach yn gar sy'n braidd yn is na'r lefel yr oeddem wedi disgwyl, bydd yn dal i redeg, os nad gyda’r cyflymder a'r llyfnder yr oeddem yn ei ddisgwyl yn wreiddiol. Ymddiheuriadau i Lee Waters yna am y gyfatebiaeth geir; rwy'n gwybod bod hynny yn rhywbeth nad yw byth yn cael ei gymeradwyaeth. [Chwerthin.]

Ond, o'n safbwynt ni, aethom ni drwy'r broses Dydd Gŵyl Dewi, a elwir yn gytundeb. Nid wyf yn gwybod gyda phwy yr oedd y cytundeb yn union, ond roedd yn broses i nodi meysydd y gellid eu datganoli. Nid oedd unrhyw gytundeb yn rhan o'r broses honno. Yna gwelsom, wrth gwrs, y Bil cyntaf, a oedd mor ddiffygiol na chafodd ei gefnogi yn llythrennol gan unrhyw un y tu allan i grŵp bach iawn yn San Steffan.

Mae hefyd yn gywir i ddweud bod cysylltiad rhwng y fframwaith cyllidol a'r Bil, ond dim ond oherwydd ein bod ni wedi ei gwneud yn gwbl glir i Lywodraeth y DU na fyddem yn cefnogi'r Bil, na'r darpariaethau treth incwm ynddo, oni bai bod y fframwaith cyllidol yn cael sylw. Pe byddai’r fframwaith cyllidol wedi bod yn anfoddhaol, byddai’r safbwynt y byddem wedi’i gymryd heddiw wedi bod yn wahanol, oherwydd ni fyddai wedi darparu'r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar Gymru wrth i’r pwerau hynny gael eu datganoli.

Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn yr oedd gan David Melding i'w ddweud. Unwaith eto, mae ei ddadansoddiad o'r materion cyfansoddiadol yn gadarn. Roedd un mater yr oeddwn yn anghytuno ag ef yn ei gylch, fodd bynnag, sef nad yw'n gymaint o fater o wneud yr achos dros awdurdodaeth i gael ei chreu, ond yn hytrach y dewis arall: mae'n arferol i awdurdodaeth gael ei chreu pan fydd deddfwrfa yn cael ei chreu. Mae'n annormal i hynny beidio â digwydd, felly mae gennym awdurdodaeth annormal—un unigryw annormal na all ddal prawf amser yn y dyfodol. Roeddwn i'n meddwl bod yr ateb y cyfeiriwyd ato gan yr Arglwydd Brif Ustus yn un cain, lle cawsom awdurdodaeth ar wahân yn ffurfiol, ond roeddem yn rhannu system y llysoedd, ac felly heb gael costau system llysoedd ar wahân. Roeddwn i'n meddwl bod hwnnw'n ateb da iawn. Gwnaethom hyd yn oed awgrymu i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddem yn cyfrannu tuag ato—pe byddem yn ei rannu, byddai cost ariannol i ni. Gwrthodwyd hynny ganddynt hyd yn oed. Felly, mae'n dangos yr anhyblygrwydd sy'n bodoli o ran y materion awdurdodaethol, a rhaid i ni barhau â sefyllfa sy'n gwbl anfoddhaol yn hynny o beth.

Gwrandewais ar yr hyn oedd gan arweinydd UKIP i'w ddweud. Mae'n gofyn y cwestiwn: beth sydd wedi newid o ran y refferendwm ar dreth incwm? Rhoddaf yr ateb iddo: mae amser wedi symud ymlaen. Cafodd yr Alban ddatganoli sylweddol, ymhell y tu hwnt i’r hyn a ragwelwyd gan refferendwm 1999 yn yr Alban, heb refferendwm—pwerau ymhell y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd bryd hynny. Gogledd Iwerddon: datganoli treth gorfforaeth heb refferendwm. Fy nadl i yw bod refferendwm i gael ei ddefnyddio ar gyfer newid mawr cyfansoddiadol—roedd Brexit yn un ohonynt; mae'n hollol iawn y dylai hynny gael ei benderfynu drwy refferendwm. Annibyniaeth: pe byddai refferendwm annibyniaeth yn y dyfodol, yn amlwg, byddai angen refferendwm. Ond datganoli rhan o'r system trethi, i mi, nid oes angen refferendwm. Os yw'n wir ar gyfer treth incwm, rhaid ei fod yn wir ar gyfer treth gorfforaeth; os yw’n wir ar gyfer treth gorfforaeth, rhaid iddo fod yn wir, gan ein bod yn gadael yr UE ac na fyddai’r dyfarniad Azores yn berthnasol yn y dyfodol, ar gyfer TAW. Felly, rwy’n credu bod hwn yn ateb pragmatig lle’r ydym wedi gwarantu na fydd y fframwaith cyllidol yn siomi Cymru. Aethom i mewn i'r etholiad ym mis Mai yn glir na fyddem yn cefnogi refferendwm ar y cam hwnnw ar yr amod bod y mesurau diogelu yn cael eu rhoi ar waith.

Fy nghydweithiwr Lee Waters o Lanelli: unwaith eto, mae ei ddadansoddiad yn gywir. Un o'r cwestiynau a ofynnodd ef oedd ynghylch yr amseriad a'r cyd-destun. Pe byddwn yn credu y byddai cyfle yn fuan am Lywodraeth gyfeillgar i fodoli yn San Steffan fyddai'n darparu i bobl Cymru yr hyn y maent ei angen, yna ni fyddwn yn cefnogi'r hyn sydd ger ein bron. Ond mae'n fater o hyn yr ydym yn ei wybod yn awr, ac, wrth gwrs, yr hyn yr ydym yn gwybod a fydd yn wir, yn sicr i fyny tan 2020, pryd, gobeithio, y bydd goleuedigaeth yn ymweld â San Steffan.

Cododd Dai Lloyd ddau bwynt. Unwaith eto, mae'n iawn i ddweud—nid wyf yn dadlau yn erbyn hyn—bod rhai meysydd lle mae rhwyfo yn ôl ar ddatganoli, nid fel y rhagwelwyd yn wreiddiol gan y ddeddfwriaeth, gan Ddeddf Llywodraeth Cymru, ond datganoli fel y mae wedi’i ddatblygu oherwydd dyfarniadau’r Goruchaf Lys. Unwaith eto, y pwynt yr wyf yn ei wneud yw fy mod wedi edrych ar hyn fel pecyn ac edrych arno yn gyffredinol o ran yr hyn y mae'n ei ddarparu, yn hytrach na'r hyn y mae'n cael gwared arno.

Cododd bwynt pwysig o ran y prawf 'yn ymwneud â'. Gallaf roi cysur iddo, rwy’n gobeithio, ar hynny. Fe wnaeth datganiadau Llywodraeth y DU yn ystod hynt y Bil ddarparu sicrwydd ar weithrediad y prawf diben. Mae ein sefyllfa wedi’i hatgyfnerthu gan y gyfraith achosion mewn perthynas â Deddf yr Alban, felly ni fydd darpariaeth Bil Cynulliad yn methu'r prawf 'yn cyfeirio at' ac eithrio pan mai diben y ddarpariaeth honno yw mater a gadwyd, nid dim ond oherwydd ei fod yn ymdrin â mater a gadwyd, neu’n lledgyffwrdd â mater a gadwyd. Mae’n rhaid mai diben darpariaeth yn y Bil yw newid rhywbeth sydd wedi’i gadw. Felly, nid yw'n wir—ac roedd hwn yn ofn a oedd gennyf pan welais y Bil gwreiddiol—os nad yw'n ymdrin ag unrhyw fath o gymhwysedd wedi’i gadw yna byddai darpariaeth y Cynulliad y tu allan i gymhwysedd. Nid dyna yw’r hyn yr ydym wedi ei weld o ran yr hyn a ddywedwyd yn nau Dŷ'r Senedd ac o edrych ar y gyfraith achos yn yr Alban.

Gwrandewais ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dylai ef fod yn ofalus beth y mae'n ei ddweud wrth y wasg, gan fod llawer ohonom wedi gweld ei sylwadau yn y wasg ar ôl y refferendwm yn sôn am gymryd pwerau oddi wrth y Cynulliad, yn enwedig ym maes amaethyddiaeth. Os cafodd ei gamddyfynnu, yna mae'n fater iddo ef egluro hynny, ond dyna'n union yr hyn y mae'r gweddill ohonom yn ei ddarllen ac nid wyf yn cofio fod— [Torri ar draws.] Wel, cafodd gyfle i gywiro ei safbwynt bryd hynny; does dim pwynt ei wneud yn awr, yn dawel. Cafodd gyfle i gywiro ei safbwynt bryd hynny. Mae wedi derbyn a chyfaddef nad yw'n cefnogi datganoli plismona i Gymru, ond mae yn cefnogi hynny i Fanceinion. Efallai ei fod yn gwneud hynny i ogledd-ddwyrain Lloegr, neu ddatganoli'r system cyfiawnder a'r awdurdodaeth, er rwy'n eithaf hyderus y byddai pobl Cymru yn cefnogi hynny pe byddai’r cwestiwn yn cael ei ofyn iddynt. Mae'n amddiffyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel y mae'n rhaid iddo. Nid wyf yn amau ​​ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy’n anghytuno ag ef ar sawl pwynt, ond mae'n dangos y dylanwad oedd ganddo, nad oedd modd iddo sicrhau datganoli toll teithwyr awyr, er y byddai maes awyr yn ei etholaeth ei hun wedi bod yn fuddiolwr mawr. Ac mae hynny’n adlewyrchiad trist o'r dylanwad a oedd yn bodoli cyn belled ag y mae ei sefyllfa ef yn y cwestiwn, er nad wyf yn amau’r ​​ymdrech a wnaeth yn hyn.

I mi, nid yw hyn yn ymwneud â chenedlaetholdeb neu ymwahaniaeth neu unrhyw beth arall; mae'n ymwneud â chydraddoldeb, â bod yn gyfartal. Mae'n ymwneud â sicrhau, yn y dyfodol, bod Cymru yn cael ei thrin â’r un parch a'r un lefel o gydraddoldeb â'r Alban a Gogledd Iwerddon, a gwneud y DU yn bartneriaeth wirioneddol. Rwyf wedi gwrando, wrth gwrs, ar yr hyn a oedd gan Dafydd Elis-Thomas i'w ddweud yn ei ddadansoddiad o'r sefyllfa. Cododd Jenny Rathbone fater ynni; bydd y trafodaethau hynny'n parhau. Rydym yn gweld datganoli sylweddol yn y broses ganiatáu ynni, sy’n mynd â ni ymhell y tu hwnt i fan ble'r ydym ni yn awr, ond, wrth gwrs, nid yw hynny yn golygu na all pethau newid yn y dyfodol. Wrth wrando ar Simon Thomas, bathodd ymadrodd newydd, a fydd yn cael ei dderbyn gan fyfyrwyr gwleidyddiaeth yn y dyfodol: ‘Westminsterism’—gan ddweud bod yr ysbryd wedi dianc o’r botel. Nid wyf yn llwyr rannu ei ddadansoddiad ynghylch ble y byddai hynny'n arwain yn anochel. Ni fyddai'n arwain yn anochel at annibyniaeth i'r Alban, ac mae’r mater o uno Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn llawer anoddach nag efallai yr oedd yn ei honni pan wnaeth y sylw hwnnw. Ond dyma’r pwynt yr wyf yn meddwl sy’n werth ei bwysleisio: ni all y DU barhau fel ag y mae. Os bydd yn gadael yr UE, mae'n rhaid cael mecanwaith ar waith ar gyfer cytuno ar fframweithiau cyffredin, efallai ym maes amaethyddiaeth, datblygu economaidd, pysgodfeydd, yn y dyfodol, drwy gytundeb, nid trwy orfodaeth gan San Steffan. A dyna pam y mae’n rhaid ymatal rhag ‘Westminsterism’, os mai dyna beth y mae'n ei olygu yn y dyfodol, os yw hynny'n rhywbeth y mae'n ceisio ei wneud.

Gwrandewais yn ofalus ar Darren Millar, a wnaeth achos moesol pwerus ar derfynellau betio ods sefydlog. Mae fy nghydweithiwr Eluned Morgan unwaith eto yn gwneud y pwynt mai prif ddiben, i ddechrau, y pwerau amrywio trethi yw ein galluogi ni i fenthyg. Fel plaid, rydym wedi ymrwymo i beidio â newid y gyfradd treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond mae'r gallu i fenthyca yn hynod bwysig i ni. Pam na ddylai Cymru fod yn gallu gwneud yr hyn y mae pawb arall yn gallu ei wneud, sef benthyg, yn enwedig pan fo cyfraddau'r farchnad mor isel? Gwrandewais, yn olaf, ar Rhun ap Iorwerth a'r pwyntiau a wnaeth. Unwaith eto, rwy’n credu ei fod yn arwyddocaol, yr hyn a ddywedodd ef, yr hyn a ddywedodd Simon Thomas ac a ddywedodd eraill, am y ddadl, y ddadl onest, rwy’n meddwl, a ddigwyddodd ym Mhlaid Cymru, fel a ddigwyddodd yn fy mhlaid fy hun, ynghylch ble y dylem fynd o ran cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Yr un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw hyn: mae’r hen Brydain fel gwladwriaeth unedol wedi hen farw. Mae’r hen Brydain lle’r oedd Prydain yn golygu Lloegr a darnau wedi eu hychwanegu wedi hen farw. Mae'r amser wedi dod i greu Prydain newydd, undeb briodol, yr wyf yn ei chefnogi, ond undeb o bedwar partner cyfartal. Mae’r DU yn bedair cenedl—nid fy ngeiriau i yw’r rheiny, ond geiriau David Cameron, a ddywedodd hynny ar adeg refferendwm yr Alban, ac rwy’n cytuno ag ef. Ond er mwyn i’r undeb lwyddo a ffynnu yn y dyfodol, yna mae’n rhaid i San Steffan dderbyn un peth, a hynny yw nad yw pwerau yn byw yn San Steffan i gael eu rhoi ar gardod i Gymru pan fydd San Steffan yn gweld yn dda. Gan bobl Cymru y mae’r pwerau, a mater i bobl Cymru yw penderfynu pa bwerau y maent yn dymuno iddynt gael eu harfer gan San Steffan. Os cedwir at yr egwyddor honno, ac os caiff ei dysgu yn gyflym, yna bydd San Steffan yn osgoi'r sefyllfa a greodd iddi hi ei hun yn Iwerddon ar adeg Ymreolaeth, a greodd yn 2014 ac y bu bron iddi â gwneud smonach ohoni o safbwynt yr Alban. Credaf fod honno yn Brydain fwy pwerus, yn Brydain o bartneriaid, yn Brydain o genhedloedd partner yn gweithio gyda'i gilydd wrth i'r broses o ymadael â’r UE barhau.

Ond nid yw’r Bil hwn yn enghraifft o hynny. Os oes un peth y mae'n rhaid ei ddysgu yn San Steffan, dyma ydyw: mae’n rhaid bod parch dyledus i bedair gwlad y DU. Mae pobl Cymru yn haeddu’r pwerau y maent hwy eu hunain yn dewis eu cael, a rhaid peidio byth ag ailadrodd y broses hon.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar gyfer yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 5. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6200 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5.

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 18:05:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'r rheoliadau y gofynnwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol eu cymeradwyo heddiw yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor 2013. Mae angen y diwygiadau i sicrhau parhad trefnus y cynllun ar gyfer 2017-18 ac i fod yn sicr bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl person i gael gostyngiad i’w dreth gyngor yn cael eu cynyddu i ystyried cynnydd yng nghostau byw. Mae ffigurau ariannol yn ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cael eu cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, ac mae hyn yn wahanol i bolisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau oedran gweithio hyd at 2019-20. Bydd ffigurau sy'n ymwneud â phensiynwyr yn cael eu cynyddu 2.4 y cant, ac, wrth wneud hynny, rydym yn adeiladu amddiffyniad ychwanegol i bensiynwyr, nad yw mor rhwydd iddynt gael incwm ychwanegol o ffynonellau eraill.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

O fis Ebrill 2016, cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfyngiadau newydd o ran hawliau i fudd-dal tai drwy ddileu'r premiwm teulu ar gyfer genedigaethau newydd a hawliadau newydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer gostyngiadau i’r dreth gyngor yng Nghymru. Fel yn achos y penderfyniadau i barhau i uwchraddio hawliau pobl o oedran gweithio, mae’r Llywodraeth Cymru hon â’r nod o amddiffyn ceiswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiwygiadau lles rhag unrhyw doriadau pellach mewn incwm. Yn yr un modd, o fis Ebrill 2016 ymlaen, mae’r cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer ceisiadau budd-dal tai wedi ei fyrhau i bedair wythnos gan Lywodraeth y DU. Ni fyddwn yn gwneud hynny ar gyfer cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor yma yng Nghymru. Os na fyddwn yn cymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw, ni fydd yr amddiffyniadau hynny i rai o'r aelwydydd lleiaf cefnog yng Nghymru gyfan yn cael eu diweddaru a’u parhau, ac felly gofynnaf i’r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau sydd ger eu bron y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd

Symudwn ymlaen yn awr i eitem 6, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6201 Vaughan Gething

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Vaughan Gething 18:07:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf yn nodi nad ydynt yn codi unrhyw wrthwynebiadau penodol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd i'r Senedd ar 15 Medi y llynedd. Nodau'r Bil yw egluro pwerau presennol Llywodraeth y DU sef y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno mecanwaith talu yn y cynllun statudol ar gyfer prisio meddyginiaethau yn y DU, a chryfhau pwerau presennol i fynd i'r afael â meddyginiaethau cyffredinol heb eu brandio sydd wedi eu gorbrisio, ac i ddarparu pŵer cryfach i gasglu gwybodaeth am y gost o feddyginiaethau a chyflenwadau meddygol ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi.

Ymhlith pethau eraill yn y Bil, mae cymal 6 yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU i ddarparu gwybodaeth prisio a geir ar gyfer dibenion wrth gefn i Weinidogion Cymru i'w defnyddio ar gyfer dibenion datganoledig. Mae cymal 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch prisiau a delir, gostyngiadau, ad-daliadau a roddir a refeniw neu elw a gronnwyd wrth gyflenwi meddyginiaethau a chyfarpar meddygol. Bydd y math yma o wybodaeth yn cael ei defnyddio gan Weinidogion Cymru i gynorthwyo wrth benderfynu ar daliadau cydnabyddiaeth a thaliadau i fferyllwyr a darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yng Nghymru. Bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ystyried pa un a oes cyflenwad digonol o feddyginiaethau a chynhyrchion eraill y gwasanaeth iechyd ar gael i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, am bris sy'n cynrychioli gwerth am arian.

Ar hyn o bryd, nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau i fynnu bod darparwyr gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau meddygol sylfaenol y GIG yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â chyflenwi cynhyrchion y gwasanaeth iechyd. Bydd gwneud y darpariaethau hyn i Gymru yn y Bil yn sicrhau y bydd gan y DU gyfan ddull cyson o gasglu gwybodaeth o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi gyfan, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, nid oes gennym unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2017-18

Symudwn yn awr at y ddadl ar setliad llywodraeth leol, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddwyn y cynnig ger ein bron—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6202 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol—Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 18:09:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n falch o gyflwyno o flaen y Cynulliad i’w gymeradwyo setliad llywodraeth leol 2017-18 ar gyfer y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Y flwyddyn nesaf, ar ôl cymryd popeth i ystyriaeth, bydd awdurdodau lleol Cymru yn derbyn dros £4.1 biliwn o gyllid refeniw cyffredinol. Mae hwn yn gynnydd o 0.2 y cant, o’i gymharu â’r flwyddyn 2016-17. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae’r setliad yn adlewyrchu ein cytundeb gyda Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol i’w helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal ag £1 filiwn ar gyfer cludiant i’r ysgol a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot ar drefniadau parcio yng nghanol trefi. O gofio am y pwysau o bob cyfeiriad ar gyllideb Cymru, rwy’n credu bod hwn yn setliad teg i lywodraeth leol a’i fod cryn dipyn yn well na’r hyn y buasai’r rhan fwyaf o bobl o fewn llywodraeth leol yn ei ddisgwyl.

Dirprwy Lywydd, the Welsh Government has protected funding for local government in Wales in recent years, and this settlement is no different. Now, I recognise that, despite these efforts, gross revenue funding by Welsh authorities was 4 per cent lower in real terms over the period 2010-11 to 2015-16. Across our border in England, however, according to the National Audit Office, councils were having to deal with reductions in the real-terms spending power available to them of 25 per cent over the same period.

In preparing the settlement, careful consideration has been given to the advice of the distribution sub-group and finance sub-group around improvements to the local government funding formula. The distribution reflects the most up-to-date assessment of relative need, based on a wealth of information about the demographic, physical, economic and social characteristics of every authority in Wales. In the normal manner, a formal consultation has been carried out on the provisional settlement, and I am confident that the funding announced provides councils with a robust basis for their financial planning for the coming year.

In the final settlement, a further £6 million has been provided over and above the funding set out in the draft settlement for work to support the prevention of homelessness. Homelessness, or the threat of it, has a significant negative impact on people’s lives. Preventing it, therefore, contributes to our well-being goal of a healthier Wales and to achieving our well-being objective of improving access to secure and safe homes.

I said here in the Assembly in our first full draft budget debate that this was a budget for stability and ambition, and that ambition extends very directly to those commitments in ‘Taking Wales Forward’ to be discharged in partnership with local authorities. This settlement, therefore, provides £4.5 million to fund the commitment to increase the capital limit used by local authorities that charge for residential care. The limit will rise from £24,000 to £30,000 in the next financial year, and this is the first step in the delivery of our commitment to move towards a limit of £50,000. Secondly, the settlement provides £0.3 million to fund the commitment to introduce a full disregard of the war disablement pension in financial assessments for charging for social care. And thirdly, £1.6 of additional funding outside the settlement has been included to ensure that no authority sees a reduction of greater than 0.5 per cent in its budget, compared to its 2016-17 general revenue funding allocation.

Dirprwy Lywydd, it’s a shared ambition with local government that specific grants are used sparingly and strategically, and the settlement for 2017-18 contains £3.1 million of funding previously provided through specific grants. This includes £2.85 million of funding previously provided via the social services delivering transformation grant. In total, this means that annual funding of over £194 million has been transferred into the settlement since 2011-12, and, as finance Minister as well as local government Minister, that is a process that I intend to pursue further as this Assembly proceeds.

Dirprwy Lywydd, amendments to the budget happen in both directions. The change in arrangements for the registration of the education workforce has resulted in a transfer out of the settlement of £1 million formerly provided in respect of teacher registration fee subsidies. The bulk of changes, however, have been to add to the resources available to local government in Wales.

The final budget, approved by the National Assembly last week, provided for an additional £10 million in recognition of the particular financial challenges arising from the provision of social care, including workforce pressures. This is over and above the £25 million originally announced in recognition of the importance of strong, local social services to the long-term success of the health service in Wales and in recognition of the growing pressures that social services face.

As Members will know, through announcements made before Christmas, an additional £10 million for non-domestic rates relief in 2017-18 is to be provided alongside the £10 million already announced for the transitional relief scheme. The mechanism for deploying this additional funding has been agreed through discussion with Plaid Cymru. It will be delivered through local authorities and targeted at businesses on the high street and in the hospitality sector.

Alongside the settlement, I published the latest information on the Welsh Government grant schemes for 2017-18. The most up-to-date information on local authority capital funding has also been released. Overall for next year, there has once again been no reduction to general capital funding, which remains at £143 million.

As Members will be aware, while the unhypothecated settlement is the largest single source of funding available to authorities, it is not the only one. In setting their budgets and council tax levels for next year, I expect every authority to take account of all the available funding streams and to consider how to secure best value for Welsh taxpayers through effective and efficient service provision, deploying the latest advice from the Wales Audit Office in their particular circumstances.

We offer considerable flexibility to authorities in Wales, which is not available to their counterparts in England. That flexibility allows them to exercise autonomy and responsibility in managing their finances. In return, it is for them to shape their budgets in the round, combining resources made available nationally with revenues raised locally.

Dirpwy Lywydd, this is a fair settlement for local government in challenging times and enables authorities the opportunity to focus on the significant changes that will be required to manage the longer-term reductions in funding.

I’ll repeat the message that I’ve given to all public services in Wales and their partners since the overall draft budget was published in October: now is the time to plan ahead purposefully and unstintingly for those decisions that will be needed to make harder choices and face the tougher times that lie in the future. In the meantime, and as for next year, I ask Assembly Members to support the motion before them this afternoon.

Mae hi bron i saith mlynedd ers i’r Ceidwadwyr ffurfio Llywodraeth yn San Steffan—saith mlynedd ers iddyn nhw gyflwyno eu polisïau llymder dinistriol; saith mlynedd ers i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu torri i’r byw o ganlyniad. Siomedig oedd gweld Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi’r siartr llymder cyn etholiad cyffredinol 2015.

Mae’r crebachu ar y gwasanaethau cyhoeddus yn brathu go iawn yn ein cymunedau ni. Yn sgil yr holl sylw y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar hyn o bryd ac, yn bwysig, y ffordd cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei feio am nifer o’r problemau yn ein cymdeithas sy’n codi o ganlyniad i lymder, mae perig inni anghofio mai ideoleg sy’n gyrru llymder. Ideoleg sy’n arwain at ddatgymalu’r gwasanaethau cyhoeddus—y rhwyd diogelwch sydd mor bwysig i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas—ideoleg rydw i a Phlaid Cymru yn ymwrthod â hi.

Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb yn ddiweddar, mae fy mhlaid i wedi sicrhau y bydd £25 miliwn ychwanegol ar gael i ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i’r cytundeb yma, yn 2017-18, mi fydd rhai o awdurdodau lleol Cymru yn gweld y cynnydd ariannol cyntaf yn eu cyllideb ers rhai blynyddoedd. Ond, wrth gwrs, mewn termau real, ac yn dilyn ffactorau megis chwyddiant, pwysau anorfod sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, treth cyflogi ychwanegol a’r ardoll prentisiaeth, er gwaetha’r buddsoddiad ychwanegol, mae’r setliad yma yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol. Er bod y setliad, felly, yn well na setliadau’r blynyddoedd diwethaf, nid yw’n achos i ddathlu, yn arbennig o ystyried fod pob adran arall o’r Llywodraeth, heblaw gwasanaethau canolog, wedi derbyn cynnydd llawer uwch yn eu cyllidebau.

Un mater i dynnu sylw ato yw’r cais blynyddol i Lywodraeth Cymru ddatgan ffigurau dangosol am y blynyddoedd dilynol gyda’r setliad blynyddol. Mewn blwyddyn arferol ôl-etholiad mi fuasai awdurdodau lleol wedi disgwyl i’r Llywodraeth ddatgan eu bwriad ar gyfer 2018-19 a 2019-20 efo’r setliad ar gyfer 2017-18. Mae’r pwrs cyhoeddus yn crebachu, ac rydym ni i gyd yn ymwybodol bod yna fwy o doriadau ar y ffordd. Ac er bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder, mae disgwyl y bydd diffyg cyllidebol o ryw £900 miliwn erbyn 2019-20.

Nid yw llymder yn gweithio. Mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau yn gyson ers 2010 bod angen buddsoddi mewn seilwaith—ffyrdd, rheilffyrdd a band llydan—er mwyn sicrhau economi cryf a all arwain at wasanaethau cyhoeddus o safon, sef yr hyn mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Yn wir, rwy’n croesawu setliad llywodraeth leol terfynol Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer 2017-18, ac rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i leiafswm nawdd ar gyfer setliadau llywodraeth leol, fel yr amlinellwyd yn y rhaglen lywodraethu. Mae hyn, wrth gwrs, yn ategu lleiafswm nawdd fformwla Barnett a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at beth sefydlogrwydd ariannol yn y cyfnod hwy i’n hawdurdodau lleol. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad ers pedair blynedd. Ond, wrth gwrs, nid yw'n gwneud yn iawn o gwbl am y £299 miliwn a gymerwyd o gyllidebau llywodraeth leol ers 2013.

Yn wir, byddwn yn cytuno â'r Aelod Siân Gwenllian wrth iddi sôn am y gyllideb ddangosol. Gwn, pan fyddaf yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau a phrif weithredwyr, y byddent yn hoffi gallu cynllunio’n ariannol yn y tymor hwy. Rwy'n credu, mewn unrhyw amgylchedd busnes, y byddech am gael rhywfaint o syniad am y setliad sydd i ddod. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod awdurdodau lleol, ers 2010, wedi wynebu gostyngiad mewn termau real o £761 miliwn yng nghrynswth y cyllid allanol, sy'n creu y rhan helaethaf o'i arian refeniw cyffredinol, gan gynnwys setliad eleni. Mae’r rhain yn doriadau o tua 7 y cant ers 2013-14. Fodd bynnag, ym Mhowys, rydym yn gweld toriadau o 10.88 y cant; ac yn Sir Fynwy, 9.98 y cant. Eto i gyd, mae'r wyth awdurdod lleol sydd wedi wynebu’r toriadau lleiaf i'w cyllidebau—er mawr ryfeddod—yn cael eu harwain gan Lafur i gyd. Gwelwyd toriadau mawr i’r gwariant ar wasanaethau rheoleiddio —cynllunio, iechyd amgylcheddol a diogelwch bwyd. Mae gan y rhain i gyd eu rhan yn niogelwch a llesiant ein trigolion lleol.

Ers blynyddoedd rydym wedi galw am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla ariannu. Mae'r uned asesu gwariant safonol ar gyfer disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11 dros dair gwaith yn fwy nag ar gyfer pensiynwr 85 oed a throsodd, ac yn fwy na 6.7 gwaith yn fwy nag ar gyfer unigolyn sy’n dioddef o anabledd difrifol. Mewn cymdeithas sy'n heneiddio, a chyda cymaint o dystiolaeth yn pwyntio at yr angen am gynnydd enfawr mewn gwariant ar ofal cymdeithasol, mae'n siomedig nad yw hyn wedi ei ateb drwy gyfrwng y fformiwla, gan Lywodraeth Cymru, ar sail flynyddol mewn adolygiad sylfaenol. Mae'r ffigurau ar gyfer gwasgariad y boblogaeth, aneddiadau a throthwyon poblogaeth yn deillio o ddata sy’n dyddio o 1991. Ac mae'r grant amddifadedd yn dyddio o 2000—yn ystod y mileniwm. Nid yw seilio gwariant ein hawdurdodau lleol a'r gofynion sydd arnyn nhw ar ffigurau mor hynafol yn argoeli’n dda ar gyfer ein dinasyddion yng Nghymru.

Er fy mod yn croesawu'r £ 25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, rhaid cofio bod arolwg diweddar gan y Sefydliad Iechyd ar ofal cymdeithasol wedi dangos y bydd y pwysau ar eu cyllidebau yn gofyn am ddyblu’r gyllideb dros y 14 mlynedd nesaf. At hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi, ar gyfartaledd, 3.6 y cant yn 2016-17. Yn 2016, mae Ceredigion, Sir Benfro a Chonwy wedi cynyddu eu treth gyngor 5 y cant, ymhell dros chwyddiant—yn uwch na phob un ond tri chyngor yn Lloegr a'r Alban. Mae eiddo band D ar gyfartaledd bellach yn atebol am £1,374, ac eto ym 1997, pan ddaethoch chi i rym, roedd yn £495. Mae’r dreth gyngor yng Nghymru wedi codi 178 y cant dan Lafur Cymru. Deallaf, Weinidog, eich bod wedi crybwyll o'r blaen y buasech yn adolygu’r dreth gyngor yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i chi, o ddifrif, am amlinelliad o rai o'ch syniadau am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud, wrth symud ymlaen.

Rhwng 2011-12 a 2015-16, cafodd Llywodraeth Cymru dros £94 miliwn mewn nawdd canlyniadol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu grantiau i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Ond mae eich Llywodraeth chi, yn anffodus, wedi gwrthod defnyddio'r arian hwn. Mae'n ffaith bod y rhai sy’n talu’r dreth gyngor yng Nghymru yn awr yn talu'r gyfran uchaf o dreth gyngor yn ynys Prydain—yn 2015—ac mae’r Cyngor ar Bopeth yn nodi mai’r dreth gyngor yw achos mwyaf y broblem gyda dyled yng Nghymru, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal yr adolygiad hwn, a byddwn yn wir yn eich annog i fwrw ymlaen.

Wrth gwrs, ar fesurau cyni Llywodraeth y DU y mae’r bai am bob dim bob amser. Wel, mae honno yn ddadl sydd wedi gweld ei dyddiau gorau erbyn hyn, o ystyried mai polisïau o orwario gan y Llywodraeth Lafur flaenorol oedd wedi arwain at weithredu mesurau o'r fath. Rhaid inni beidio ag anghofio: daw £15 biliwn i Gymru o’r Trysorlys ar gyfer poblogaeth o dair miliwn o bobl. Mae hon yn gyllideb sydd wedi ei datganoli. Y chi sy’n cael yr arian, y chi sy’n pennu’r blaenoriaethau.  Eich blaenoriaethau chi yw’r rhain. Peidiwch â rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am y modd y byddwch chi yn penderfynu gwario eich arian. Diolch.

Cefais fy nhemtio yn arw i godi a dweud fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian a’m bod yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Janet Finch-Saunders. Ond yn anffodus i bawb arall, ni fydd mor fyr â hynny yn hollol.

Mae hwn wedi bod yn setliad llawer gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraeth leol. Er bod croeso cyffredinol iddo gan gynghorau, mae'n dal i fod—gadewch i ni gael chwa o’r gwirionedd yma—yn doriad mewn termau real. Mae’r gyfran gymharol o wariant Llywodraeth Cymru ym maes iechyd a llywodraeth leol yn parhau i ffafrio iechyd fwyfwy. Bwriadaf wneud tri pheth. Yn gyntaf, rwyf yn bwriadu trafod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol eto. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny, gan fy mod yn credu'n gryf bod gofal cymdeithasol dan fwy o bwysau nag unrhyw wasanaeth arall a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Yn ail, rwyf yn bwriadu cynyddu pwysigrwydd amrywiaeth o wasanaethau cyngor, ac yn olaf rwyf yn bwriadu cysylltu gwasanaethau'r cyngor ag iechyd a lles.

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn rhagor o gyfyngder ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwyf yn cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw'n hirach—ac mae hynny yn destun balchder mawr i lawer ohonom ni—ond rydym yn gwybod hefyd, wrth i bobl fynd yn hŷn, mae angen mwy o ofal arnyn nhw. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl ar y cyfan yn profi eu problemau iechyd mwyaf, ac yn gorfod mynd i'r ysbyty, yn ystod 12 mis i ddwy flynedd olaf eu hoes.

Janet Finch-Saunders a gododd—

Mewn eiliad.

Ond rydym yn gwybod y gall fod angen gofal cymdeithasol arnyn nhw am 40 neu 50 mlynedd. Janet Finch-Saunders.

Diolch.  Rwy’n gwerthfawrogi eich bod wedi derbyn ymyriad. Rydych chi wedi clywed am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol lawer gwaith. Wrth symud ymlaen, wedi’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, nid oes dim wedi newid. Mae’r adnoddau sy’n cael eu gwastraffu ar hyn o bryd, drwy flocio gwelyau ac oedi wrth drosglwyddo, yn gwbl anghredadwy. Buaswn yn gofyn i chi: pa un ohonoch chi, Weinidogion y Llywodraeth, sydd mewn difrif am gymryd cyfrifoldeb am hyn ac am yrru'r agenda honno yn ei blaen?

Rwy’n credu y dylech ofyn hynny i un o Weinidogion y Llywodraeth. Ond diffyg adnoddau ydyw mewn difri. Fe weithiodd cyfuno gofal sylfaenol ac eilaidd mor anhygoel o dda, oni wnaeth?

Gall fod angen gofal cymdeithasol ar rywun am ddegawdau. Gwelsom effaith torri gwariant llywodraeth leol, ac felly wariant ar ofal cymdeithasol yn Lloegr. Rydym yn gwybod at beth y mae hyn yn arwain: gwelyau yn cael eu blocio gan y rhai sy'n barod i gael eu rhyddhau yn feddygol, ond lle nad oes pecyn gofal ar gael, ni all y claf gael ei ryddhau; angen mwy am ofal mewn ysbyty oherwydd diffyg cymorth yn y cartref. Rydym hefyd yn gwybod y gall aros mewn ysbyty arwain at leihau gallu pobl i ofalu amdanyn nhw eu hunain. Yn rhy aml, bydd rhai sy'n alluog i fyw ar eu pennau eu hunain, wedi arhosiad byr neu dymor canolig yn yr ysbyty, ag angen gofal preswyl arnyn nhw. Mae angen inni werthfawrogi'r gwasanaethau a ddarperir gan ofal cymdeithasol. Mae angen inni sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael digon o nawdd.

Hoffwn i siarad am amrywiaeth bwysig y gwasanaethau gan awdurdodau lleol. Gallwn restru’r gwasanaethau yn unig, ond dwy funud a hanner sydd gen i yn weddill ac ni fyddwn wedi mynd heibio i'r llythyren C. Felly, er mwyn tynnu sylw at ychydig o’r gwasanaethau nad oes cymaint o sôn amdanyn nhw: pwysigrwydd cadw goleuadau’r stryd ymlaen; safonau masnach yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu rhag masnachwyr twyllodrus; gwasanaethau archif; gwarchod y cyhoedd gyda diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys hebryngwyr croesfannau ysgol; sicrhau bod adeiladau yn ddiogel, yn iach ers blynyddoedd ac yn gynaliadwy, a mynediad i bob un sy’n eu defnyddio, bydded yn wasanaethau domestig, masnachol neu gyhoeddus; cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau; trwyddedu tacsis; orielau celf, amgueddfeydd a theatrau—dim ond rhai o'r pethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu yn eu cymunedau.

Ar wahân i ofal cymunedol, dim ond ychydig iawn o'r ffyrdd y mae’r cynghorau yn helpu i leihau'r galw ar y gwasanaeth iechyd yw’r rhain.  Hwb o’r mwyaf i iechyd yw’r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ysmygu, ac mae’n rhaid cydnabod y gwaith a wneir gan Cymunedau yn Gyntaf yn hyrwyddo anghenion y rhai sy’n rhoi'r gorau i ysmygu. Annog pobl i fyw mewn ffordd fwy egnïol; lleihau gordewdra trwy gynyddu gweithgarwch corfforol drwy ddarparu cyfleusterau hamdden mwy fforddiadwy, fel neuaddau ffitrwydd fforddiadwy a meysydd chwaraeon fforddiadwy; sicrhau hylendid bwyd mewn safleoedd bwyd; hyrwyddo beicio; a chanolfannau cymunedol sy’n galluogi pobl, yn enwedig yr henoed, i gymysgu â'i gilydd—bydd y rhain i gyd yn gwella iechyd. Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw unigrwydd, a'r effaith a gaiff unigrwydd ar lawer o bobl oedrannus. Mae canolfannau cymunedol yn gyfle iddyn nhw gwrdd a chymysgu â’i gilydd. Ai fi yw’r unig un sy'n credu y bydd lleihau nifer y cyfleusterau chwaraeon, fel canolfannau hamdden, yn effeithio ar iechyd pobl?

Yn olaf, credaf ym mhwysigrwydd gwasanaethau llywodraeth leol. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddiolch i Lywodraeth Lafur Cymru am beidio â chydsynio â'r toriadau enfawr a wnaed i lywodraeth leol yn Lloegr, nid tocio’n llym ar lywodraeth leol fel y gwnaethon nhw yn Lloegr, a'r effaith a gafodd hynny ar ystod eang o wasanaethau. Mae llywodraeth leol yn rhywbeth pwysig yng ngolwg pawb ohonom. Mae angen inni ariannu llywodraeth leol yn ddigonol, neu byddwn i gyd yn colli'r gwasanaethau pwysig iawn y mae'n eu darparu ac yr ydym i gyd yn eu defnyddio.

Hwn yw'r setliad llywodraeth leol cyntaf ers pedair blynedd i ddangos cynnydd cyffredinol yn y nawdd, ac mae hyn i’w groesawu, a bydd UKIP yn cefnogi'r setliad. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud y defnydd gorau o'r arian hwn, ac mae hyn yn golygu gwahardd gwariant gwastraffus gan y cynghorau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Un maes newydd sy’n achosi problem yw’r defnydd o gardiau caffaeliad y Llywodraeth. Gwariwyd tua £92 miliwn ar y cardiau hyn gan gynghorau dros y pum mlynedd diwethaf, felly rydym yn sôn am symiau go fawr. Adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2012 fod y gweithdrefnau o ran ymdrin â’r cardiau hyn yn rhy llac, ac roedd diffyg arweiniad canolog ar ddefnydd priodol cerdyn o'r fath. Yn rhyfeddol iawn, cyngor Sir Benfro sydd wedi gwario fwyaf ar gardiau caffaeliad, cyfanswm o £26 miliwn ers 2011—bron £8 miliwn yn fwy nag unrhyw awdurdod lleol arall. O ystyried mai’r un cyngor hefyd oedd yn gysylltiedig â sgandal sy’n dal i rygnu ymlaen ynglŷn â chyflogau’r uwch swyddogion, efallai y dylai hyn fod yn rhybudd. Ac mae cyflog uwch swyddogion yn elfen arall y mae angen inni gadw golwg manwl iawn arno.

Mater pwysig arall yw’r dirywiad yng ngwasanaethau'r cynghorau. Mae llawer o awdurdodau lleol bellach yn darparu tipyn yn llai o wasanaethau nag o'r blaen, yn ôl tystiolaeth pethau fel cau swyddfeydd lleol ac agor canolfan alwadau yn eu lle, darparu cyfleusterau cymunedol gan gwmnïau allanol, a lleihad mewn gwasanaethau hanfodol fel casglu sbwriel.

Felly, er ei fod yn setliad rhesymol, mae’n rhaid i ni alw awdurdodau lleol i gyfrif yn drylwyr cyn belled ag y gallwn am y modd y maen nhw yn gwario eu harian.

Member
Mark Drakeford 18:33:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth. A diolch i’r rhai hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r cynnig y prynhawn yma. Byddaf yn cymryd y pedwar cyfrannwr o’r tu ôl ymlaen, os gallaf.

Roedd Gareth Bennett yn hollol iawn i ddweud na all unrhyw awdurdod lleol yn y cyfnod anodd iawn hwn fforddio gwneud unrhyw beth ond yn y modd mwyaf effeithlon. Rydym yn gweithio'n galed gyda nhw i geisio sicrhau hynny, gan ddefnyddio'r cyngor a ddaw o'r swyddfa archwilio ac o fannau eraill. Yn y pen draw lle’r etholwyr yw gwneud yn siwr eu bod yn galw awdurdodau lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

Amlinellodd Mike Hedges y niferoedd mawr o’r gwasanaethau hynny y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, sydd ond yn ymddangos yn y penawdau yn anaml iawn, ond sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i allu’r dinesydd i fyw ei fywyd fel y buasai’n dymuno gwneud. Yn fy nhrafodaethau am y gwasanaethau hyn gydag awdurdodau lleol dros yr haf ac wedi hynny, maen nhw eu hunain yn barod iawn i gyfeirio’r modd y gall trefniadau rhanbarthol gynorthwyo wrth rannu adnoddau, a rhannu staff prin, a gwneud yn siŵr bod arbenigedd ar gael. Gobeithio y gallaf ddweud rhagor am hynny wrth y Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd y trafodaethau hynny ag awdurdodau yn dirwyn i ben. Mae Mike yn gywir, wrth gwrs, i dynnu sylw at y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam mae £25 miliwn yn y setliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam rydym wedi ychwanegu £10 miliwn arall at y setliad terfynol hwn, i gydnabod y pwysau sydd ar ofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd y gronfa gofal canolraddol gwerth £60 miliwn yn cael ei chynnal i’r flwyddyn nesaf hefyd, i helpu i ddod â’r gwasanaethau hynny at ei gilydd.

Ymyrrodd Janet Finch-Saunders er mwyn tynnu sylw at ffigurau’r oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd yn ddewr iawn yn gwneud hynny, yn fy nhŷb i, o ystyried y penawdau yr ydym wedi eu darllen yn feunyddiol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf am chwalfa fawr gofal cymdeithasol yn Lloegr a'r effaith y mae hynny wedi ei chael ar wasanaethau cymdeithasol yno. Ac yma yng Nghymru, rydym yn darparu, yn y Llywodraeth hon, y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Nid ydym yn dyfeisio rhyw gynllun anwadal sy’n disgwyl i rai o’r awdurdodau lleol lleiaf medrus ddatrys y methiant eu hunain.  Datganiad yr hydref heb yr un ddimai goch ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr a dim i ddilyn hynny i ni yng Nghymru. Ond, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu creu— [Toriad ar draws.] Wel, ie, gan weithio gyda Phlaid Cymru, roeddem yn gallu nodi rhai blaenoriaethau cyffredin, ac mae'r buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol yn adlewyrchu hynny.

Roeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am yr angen i wneud yn siŵr ein bod yn cael fformiwla ariannu sy'n addas i’r dyfodol. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyfarfod â'r is-grŵp cyllid sy'n cynnwys pobl o lywodraeth leol a thu hwnt, ac arbenigwyr annibynnol, er mwyn edrych ar ffyrdd o ddiwygio’r fformiwla hon yng Nghymru. Roedd hi'n gwbl anghywir pan awgrymodd nad yw'r wybodaeth yr ydym yn ei bwydo i'r fformiwla bresennol yn gyfredol. Mae’n cael ei diweddaru bob un flwyddyn er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y boblogaeth, er mwyn adlewyrchu nifer y plant yn ein hysgolion, ac eleni, am setliad y flwyddyn nesaf, i weithredu rhai newidiadau pwysig iawn mewn cysylltiad â phoblogaeth wasgaredig. Y ddau awdurdod lleol sy'n elwa fwyaf yn sgil y newidiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yw Ceredigion, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 0.9 y cant, a Gwynedd, sy'n gweld ei gyllideb yn codi 1.1 y cant. Nid wyf yn meddwl bod y naill neu'r llall yn cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur, fel yr awgrymodd Janet.

Gadewch i mi gyfeirio at y pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian wrth agor. Yn gwbl ddilys, tynnodd ein sylw at yr ymgyrch ideolegol sydd wrth wraidd y polisi ar gyni sy’n ddiffygiol, yn ffaeledig ac yn hunandrechol, a'r effaith wirioneddol ac uniongyrchol a gaiff hynny ar fywydau pobl ledled Cymru. Drwy ein hymdrechion ni a'r trafodaethau a gafwyd wrth lunio'r gyllideb, rydym wedi llwyddo i warchod awdurdodau lleol orau y gallwn y flwyddyn nesaf. Ond, fel y dywedodd Siân Gwenllian, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, mae'r setliad yn dal i fod yn heriol iawn. Yr hyn a wyddom, yn anffodus, oherwydd y cyllidebau sydd o'n blaenau ni eto fel Cynulliad Cenedlaethol, yw bod effaith cyni ar y cyllidebau y gallwn eu darparu i awdurdodau lleol yn dal i fod yn heriol, ac yn fwy heriol eto, dros weddill tymor y Cynulliad hwn. Yn y cyfamser, Lywydd, credaf fod y setliad gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn dynodi canlyniad teg i lywodraeth leol. Mae'n eu galluogi i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol. Bydd yn rhaid iddyn nhw rymuso eu hymdrechion nawr wrth weithredu'r newidiadau angenrheidiol i allu cynnal y gwasanaethau hynny a sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ledled Cymru. Mae'r setliad sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma yn paratoi’r llwyfan ar gyfer gwneud hynny, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio. A oes tri Aelod yn cefnogi—? Ocê, roedd hynny’n dri. Fe wnaf i gymryd hynny fel tri, ac felly fe genir y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

10. 8. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly, fe allwn ni nawr barhau gyda’r cyfnod pleidleisio, a’r bleidlais gyntaf ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur Cymru. Rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 38, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6203.

Mae’r eitem nesaf o bleidleisio ar y setliad llywodraeth leol, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 36, 10 yn ymatal, naw yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 36, Yn erbyn 9, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6202.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:43.