Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.

Trefn. A gaf fi alw’r Cynulliad i drefn er mwyn cychwyn y Cyfarfod Llawn os gwelwch yn dda? Diolch.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a galwaf ar Rhianon Passmore i ofyn cwestiwn 1.

Cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd presennol cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0060(FLG)

Member
Mark Drakeford 13:30:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Mae cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dangos manteision posibl gweithio ar y cyd ar draws 10 awdurdod lleol. Mae cynnydd yn parhau i fod yn unol â’r amserlenni a brofwyd gan ddinas-ranbarthau mawr eraill tebyg ledled y Deyrnas Unedig. Disgwylir y bydd y trefniadau llywodraethu a sicrwydd angenrheidiol wedi’u cadarnhau erbyn mis Chwefror 2017.

Ar gyfer pobl Islwyn, mae cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn newid pethau go iawn. Prif flaenoriaeth y cytundeb yw’r metro de Cymru arfaethedig. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o rwystredigaethau dyddiol fy etholwyr wrth iddynt geisio cymudo i ddinasoedd mawr Caerdydd a Chasnewydd. Ar reilffordd hynod boblogaidd Glynebwy i Gaerdydd, mae cymudwyr wedi gorfod wynebu Trenau Arriva Cymru yn defnyddio trenau 40 mlwydd oed. Mae’r cerbydau’n orlawn, ac nid oes fawr o bosibilrwydd y bydd trenau diesel ychwanegol yn cael eu caffael gan nad oes fawr o drenau diesel anacronistig ar y farchnad. Mae’r problemau diweddar wedi cael eu gwaethygu gan drenau’n cael eu tynnu oddi ar y traciau i wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol am fod dail ar lawr wedi niweidio olwynion y trenau. A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer yr adeg pan fydd cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy’n werth mwy na £1 biliwn dros 20 mlynedd, yn dechrau gweddnewid seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus de Cymru, gan gynnwys gwasanaeth trên uniongyrchol i Gasnewydd ar gyfer fy etholwyr?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, fod metro de-ddwyrain Cymru yn nodwedd allweddol o’r cytundeb dinas, ac mae’r nod o greu system drafnidiaeth gyhoeddus o’r radd flaenaf ar draws y rhanbarth cyfan yn ganolog iddo, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen am genedlaethau i ddod. Mae’r broses o gaffael gweithredwr a phartner datblygu ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a’r metro eisoes yn mynd rhagddi’n dda. Mae pedwar cynigydd ar y rhestr fer a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rydym yn disgwyl gallu dyfarnu contract yn 2017, ac yn gweld y gwasanaethau metro yn weithredol o 2023 ymlaen.

Weinidog, yn amlwg, rydym wedi cael datganiad yr hydref heddiw. Rydym yn gwybod bod y cytundeb dinas ar waith. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o ddatganiad yr hydref heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £400 miliwn ychwanegol, a bydd yn allweddol, wrth gyfuno’r cytundeb dinas a’r adnoddau ychwanegol a ryddhawyd heddiw, fod cynhyrchiant ardal cytundeb dinas Caerdydd yn cael ei gynyddu, fel ein bod yn cynyddu ffyniant cyffredinol yr ardal honno. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r arian ychwanegol gyda Chaerdydd mewn golwg er mwyn chwyddo cynhyrchiant economi Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos, er mwyn sicrhau cyfleoedd gwaith gwell, ond yn bennaf oll, er mwyn cynyddu cyfoeth yr ardal?

Rwy’n cydnabod y pwyntiau y mae arweinydd y Blaid Geidwadol yn eu gwneud. Roedd y Canghellor yn dal i fod ar ei draed pan ddeuthum i lawr i ateb cwestiynau y prynhawn yma, felly byddaf yn aros i weld manylion terfynol datganiad yr hydref cyn ymrwymo i unrhyw gynlluniau gwariant penodol. Ond mae’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â buddsoddi er mwyn symud ein heconomi ymlaen yn un y mae’r Llywodraeth hon, yn sicr ddigon, yn ei rannu.

Mae gwrth-ddweud enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch am y dull rhanbarthol a’r realiti, gan fod awdurdodau lleol yn bwrw iddi i gynllunio datblygiadau ymlaen llaw fel pe na bai’r prosiect dinas-ranbarth yn digwydd. Felly, pam rydych yn caniatáu i Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n cael ei arwain gan y Blaid Lafur, ddinistrio’r safleoedd maes glas yn eich etholaeth, yn hytrach na’u dosbarthu o amgylch y rhanbarth fel y buasent yn ei wneud gyda’r dull rhanbarthol?

Wel, Ddirprwy Lywydd, mae cyfraniad yr Aelod yn gymysgedd o falais a ffantasi fel arfer. Mae wedi cael ei ateb i’r cwestiwn hwn sawl gwaith ac nid oes gennyf ddim i’w ychwanegu at yr hyn y mae eisoes yn ei wybod.

Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am ddyraniadau y gyllideb i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon? OAQ(5)0050(FLG)

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag ystod o randdeiliaid a chydweithwyr i drafod materion ariannol, gan gynnwys blaenoriaethau a dyraniadau o fewn y portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nid oes gan Gymru uned mam a’i baban arbenigol ac yn ddiweddar daeth etholwr ataf i sôn am brofiad ei merch a fu’n dioddef o seicosis ôl-enedigol ar ôl rhoi genedigaeth ond bu’n rhaid iddi fynd i Lundain i gael triniaeth arbenigol. Bydd llawer o famau mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod tra’n cael triniaeth mewn ysbytai anarbenigol. Faint o ddyraniad y gyllideb iechyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fydd yn cael ei roi tuag at ofalu am famau â seicosis ôl-enedigol a materion iechyd meddwl amenedigol eraill?

Wel, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn tynnu sylw fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cabinet dros Iechyd, at gwestiwn penodol yr Aelod, wrth gwrs. Gwn fod cyllid ychwanegol wedi’i ryddhau ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad yn benodol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol, ac rwy’n hyderus y bydd y gwasanaethau ychwanegol a gaiff eu darparu o ganlyniad i’r buddsoddiad hwnnw yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru.

Y mis diwethaf, setlodd cyngor Dinas a Sir Abertawe hawliad a gyflwynwyd gan 11 o’i therapyddion galwedigaethol a oedd yn dweud eu bod yn cael llai o gyflog na therapyddion galwedigaethol y GIG. Dywedodd Unsain bod therapyddion galwedigaethol ar draws llywodraeth leol Cymru, nid yn unig yn Abertawe, yn dioddef cyflog is ac yn cael llai o gyfleoedd datblygiad proffesiynol na’u cymheiriaid yn y gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â chyflog cyfartal am waith cyfartal, ond a ydych wedi trafod ag awdurdodau lleol pa un a fuasai disgwyl iddynt dalu unrhyw gostau ychwanegol mewn perthynas â hawliadau tebyg o’u dyraniad eu hunain o gyllideb Cymru, neu, o gofio ein bod yn sôn am ddarparwyr gwasanaethau iechyd, pa un a oes dadl y gallent ddefnyddio’r gyllideb iechyd mewn gwirionedd i’w helpu i dalu’r costau hynny?

Wel, Ddirprwy Lywydd, rwy’n ymwybodol iawn o’r mater cyffredinol y mae’r Aelod yn ei godi oherwydd bod therapyddion galwedigaethol yn un o’r grwpiau sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol at eu dibenion hwy a chan y gwasanaeth iechyd. Mae hynny’n golygu bod gwahanol delerau ac amodau’n berthnasol i’r gweithleoedd gwahanol ac fel y dywed yr Aelod, mae’n golygu weithiau bod cyfleoedd hyfforddi gwahanol ar gael yn dibynnu ar y sector rydych yn gweithio ynddo. Yn y pen draw, materion i gyflogwyr eu datrys yw’r rhain, ond rwy’n sicr eu bod yn ymwybodol iawn o’r mater y mae’r Aelod wedi’i godi.

A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y dyraniadau i fferyllfeydd cymunedol? Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd am ei ddyhead i ehangu rôl fferyllfeydd cymunedol, er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol ac i integreiddio TG rhwng ysbytai, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cyfle i leddfu pwysau ar ofal eilaidd mewn perthynas â’r oedi wrth ryddhau o’r ysbyty os gellir integreiddio cofnodion fferyllfeydd cymunedol a chofnodion ysbyty. A fuasai’n gallu rhoi sylwadau ar y dyraniadau i fferyllfeydd cymunedol yn y cyd-destun hwnnw?

Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cyd-destun ariannol oherwydd, yn hanesyddol, mae buddsoddiad mewn fferylliaeth gymunedol wedi cael ei gynnal ar yr un lefel ac yn gyfochrog rhwng y GIG yn Lloegr a’r GIG yng Nghymru. Yna, ar 28 Hydref, y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn bwrw ymlaen â chynigion i dorri’r cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr—toriad o 4 y cant yn ystod y flwyddyn hon a mwy na 7 y cant yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn, yn anochel, yn torri’r cysylltiad rhwng y ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru a’r ffordd y bydd fferyllfeydd cymunedol yn cael eu hariannu yn Lloegr. Rwyf wedi trafod y mater hwn gyda fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cabinet dros iechyd. Mae’r Llywodraeth hon ac yn wir, y Siambr hon, wedi bod yn pwysleisio manteision cael sector fferylliaeth gymunedol ffyniannus yng Nghymru ers amser maith. Bwriad fy nghyd-Aelod yw cynnal cyllid yng Nghymru heb doriadau, ond i drafod wedyn gyda’r sector fferylliaeth gymunedol ynglŷn â’r cyfraniad ychwanegol y gallant ei wneud i gydnabod y buddsoddiad ychwanegol a fydd yn cael ei wneud yn awr yng Nghymru o gymharu â’r toriadau aflonyddgar a fydd yn digwydd ar draws y ffin.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi arian ychwanegol heddiw ar gyfer grant bloc Cymru yn sgil datganiad yr hydref. O ystyried yr heriau a amlinellir yng nghynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru, yn benodol y prinder offer sy’n llesteirio diagnosis cynharach o ganser a chyfraddau goroesi yn sgil hynny, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymrwymo i wario cyfran fawr o’r arian ychwanegol ar wella gwasanaethau diagnostig yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel rwy’n dweud, nid oedd y Canghellor wedi cwblhau ei ddatganiad pan ddeuthum yma. Rydym wedi hen ddysgu yn y Siambr hon i edrych ar brint mân yr hyn a ddywed yn y datganiadau hyn i weld lle y caiff arian ei dorri, rhywbeth nad yw’r Canghellor yn tueddu i’w bwysleisio, yn ogystal â ble y mae arian yn cael ei ddarparu.

Yn ôl yr hyn a ddeallwn pan adewais, nid oedd yr un geiniog o gyllid ychwanegol yn cael ei gynnig i’r gwasanaeth iechyd yn natganiad yr hydref, er gwaethaf y pwysau enfawr sydd i’w weld yn y GIG yn Lloegr. Bydd yr Aelod yn gwybod, o ganlyniad i’n cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, ein bod eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi cyfalaf ychwanegol sylweddol mewn offer diagnostig ar gyfer y GIG yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a galwaf ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Y cyntaf heddiw yw Gareth Bennett.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A wnewch chi wisgo eich het fel Gweinidog llywodraeth leol am eiliad? Gobeithio nad dyna fy nghwestiwn cyntaf. [Chwerthin.] Mae cyngor Caerdydd wedi llwyddo i godi £4.5 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn dirwyon lonydd bysiau. A ydych yn credu y gallai hwn fod yn swm gormodol, a allai ddangos bod modurwyr yn y ddinas yn cael eu targedu gan y cyngor fel peiriannau pres? A all Llywodraeth Cymru ymyrryd mewn unrhyw ffordd i atal cynghorau rhag cosbi gyrwyr yn ormodol?

Ddirprwy Lywydd, mae lonydd bysiau yn rhan bwysig iawn o’r ffordd y gallwn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir—dyna yw polisi’r weinyddiaeth hon. Cyhyd â bod cyngor Caerdydd yn gweithredu yn ôl y gyfraith, ac rwy’n siŵr eu bod, ni ddylid beirniadu eu gweithredoedd. Mae’r ateb go iawn i’r broblem y mae’r Aelod yn ei nodi yn nwylo gyrwyr ceir: os ydynt yn cadw at reolau’r ffordd, ni fyddant mewn perygl o gael eu dirwyo.

Iawn, diolch, Weinidog. Fel rhywun nad yw’n gyrru, rwy’n gwerthfawrogi eich parch tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy’n rhannu’r parch hwnnw. Mewn byd delfrydol, buasai eich ateb yn gywir, ond yn anffodus, o ystyried problemau traffig Caerdydd, mae gyrwyr yn mynd i lonydd bysiau’n anfwriadol weithiau. I barhau â’r thema honno, mae’n debygol mai Caerdydd sydd â’r problemau traffig gwaethaf yng Nghymru, ac mae’r cyngor hefyd wedi codi £3.5 miliwn mewn dirwyon parcio ers 2014 yn ogystal â £110,000 mewn dirwyon bocs melyn. Yr olaf, efallai, yw’r cyhuddiad mwyaf enbyd, gan nad yw gyrwyr sy’n cael eu dal yn nhagfeydd traffig diddiwedd y ddinas yn gallu rhagweld pryd y byddant yn mynd i mewn i focs melyn. Credaf yn gryf y dylid perswadio cyngor Caerdydd drwy orfodaeth, yn ogystal ag unrhyw gyngor arall sy’n gwneud arian yn y modd hwn, i beidio â gwneud hynny. A allwch chi, fel Gweinidog, gyhoeddi unrhyw ganllawiau ar hyn?

Diolch i’r Aelod am yr hyn a ddywedodd ynglŷn â’i gefnogaeth i fesurau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwy’n cytuno ag ef, os yw pobl yn mynd i sefyllfaoedd yn anfwriadol, yna dylai’r gyfraith ystyried unrhyw droseddau yn fwy trugarog. Byddaf yn ymchwilio i’r pwynt olaf y mae’n ei wneud ynglŷn â throseddau bocs melyn yn arbennig i weld a oes tystiolaeth ehangach i gefnogi’r pwyntiau a wnaeth y prynhawn yma.

Diolch am hynny, Weinidog. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth arall, gan eich bod wedi delio â’r mater hwnnw mor fedrus. Mae’n ymwneud â Deddf Lleoliaeth 2011, deddf sydd ganddynt yn Lloegr nad ydym wedi’i mabwysiadu yng Nghymru hyd yn hyn. Mae’r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn wedi gwthio am hyn fel modd o ddiogelu’r dafarn leol, a chredaf ei bod yn ymgyrch ragorol. Nid wyf yn siŵr mai’r Ddeddf Lleoliaeth yw’r ffordd orau o ddiogelu tafarndai lleol, ond gwn fod yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, felly tybed a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny i ni.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi bod yn rhan uniongyrchol o’r trafodaethau hynny’n bersonol. Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynglŷn â’r cyfraniad y gall tafarn ffyniannus ei wneud i gymuned—cyfraniad cymdeithasol yn ogystal ag unrhyw beth arall. Fe wnaf yn siŵr fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, at ei bwyntiau, gan fy mod yn credu mai ef sy’n gyfrifol am y mater hwnnw.

Rwy’n credu fy mod am newid y sylw ychydig o lonydd bysiau yng Nghaerdydd i ragolygon economaidd y byd. [Chwerthin.] Roeddwn yn meddwl tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu consensws byd-eang cynyddol, rwy’n credu, ymhlith Llywodraethau ar draws y byd mai yn awr yw’r adeg i wario ar seilwaith mewn modd na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae’n bosibl mai dyna’r unig ysgogiad polisi sydd gennym. Un o sgil-gynhyrchion cadarnhaol prin y dirwasgiad hir rydym wedi’i gael ers yr argyfwng economaidd yw cyfraddau llog isel iawn neu gyfraddau llog negyddol yn wir.

Efallai na fydd y cyfle hanesyddol hwn yno am byth, gan ein bod eisoes wedi dechrau gweld cyfraddau morgais yn codi yn America yn sgil dyfalu ynglŷn â’r buddsoddi mewn seilwaith a allai ddeillio o arlywyddiaeth Trump. A oes angen i ni achub ar y cyfle hwn yn awr gyda mwy o ymdeimlad o frys, Ysgrifennydd y Cabinet?

Cytunaf yn llwyr â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Fel y dywedais, ni lwyddais i glywed datganiad y Canghellor yn llawn, ond gwelais y rhagolygon twf anemig a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer y pum mlynedd nesaf—buaswn yn meddwl eu bod yn rhagolygon twf brawychus iawn i unrhyw un sy’n gyfrifol am economi’r DU. Nid yw’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd economi’r DU yn dychwelyd at duedd y twf ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd nesaf. Nid yn unig y mae hyn yn golygu ein bod yn parhau i wynebu effaith y gweithgarwch economaidd a gollwyd o ganlyniad i galedi, ond hefyd na fyddwn hyd yn oed yn dychwelyd—na fyddwn hyd yn oed yn dychwelyd—i’r lefel perfformiad y mae economi’r DU wedi llwyddo i’w chyrraedd ers bron i 60 mlynedd, o 1945 ymlaen. Dylai hynny olygu y dylai’r Canghellor ddirnad yr angen brys hwn i fuddsoddi yn economi’r DU er mwyn cynhyrchu twf economaidd. Mae rhagolygon chwyddiant yn sicr yn rhoi lle i ni bryderu ynghylch cyfraddau llog, a fydd yn dilyn. Yn awr yw’r amser, tra bo cyfraddau llog ar eu lefelau isaf erioed, fel y mae Adam Price wedi’i ddweud, i achub ar y cyfle hwnnw ac i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Un o’r ysgogiadau polisi y mae llawer o Lywodraethau yn dechrau canolbwyntio arno yw’r syniad o fanc seilwaith, fel y crybwyllais wrth y Prif Weinidog ddoe. Rydym wedi gweld un yn cael ei gyhoeddi y mis hwn yng Nghanada gan y Prif Weinidog yno. Cafodd Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd ei greu y llynedd, ac mae’r cyn-Brif Weinidog Llafur yn Awstralia wedi bod yn trafod gwneud yr un peth. Cytunaf ag ef na fydd £400 miliwn dros bum mlynedd, yn sicr, yn ein galluogi i wneud unrhyw beth ystyrlon o ran y tanfuddsoddi a fu yn seilwaith Cymru dros sawl degawd. Felly, oni ddylem fod yn edrych hefyd ar yr ysgogiad polisi hwn y mae llawer o Lywodraethau ar draws y byd yn credu bellach yw’r cyfrwng i allu creu’r math o fecanwaith buddsoddi cyhoeddus-preifat sydd ei angen arnom er mwyn dal i fyny o ran ein buddsoddiad seilwaith.

Wel, Ddirprwy Lywydd, nod y Llywodraeth hon fydd manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfalaf ychwanegol a ddaw i ni o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Ond ni fydd £400 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd yn diwallu anghenion Cymru. Nid yw hyd yn oed yn dechrau adfer y toriad o un rhan o dair a welsom yn ein rhaglen gyfalaf ers y flwyddyn 2010. Dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod wedi mynd ar drywydd cyfres o ffyrdd arloesol o ddarparu buddsoddiad yn economi Cymru. Llwyddodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, i wneud hynny drwy ddefnyddio pwerau benthyca llywodraeth leol a chymdeithasau tai. Mae gennym drefniadau ariannol arloesol pellach ar waith i greu’r Felindre newydd ac i gwblhau’r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd. Cafodd y syniad a gyflwynodd Adam Price y prynhawn yma ei drafod gyda’r Prif Weinidog ddoe, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi clywed y drafodaeth honno ac y bydd yn awyddus i’w ddatblygu ymhellach.

A gaf fi ei annog i fynd gam ymhellach? Gwelsom, mewn gwirionedd, fod banc seilwaith cenedlaethol wedi cael ei gyhoeddi gan ei gydweithiwr, canghellor yr wrthblaid, mewn araith ar 27 Medi. Cafodd ei ailadrodd dri diwrnod yn ddiweddarach gan arweinydd y Blaid Lafur—mae’n dda gweld bod rhywfaint o alinio polisi yn digwydd yno. Yn hytrach na dim ond mynegi ein siom â San Steffan drwy’r amser, a mynegi ein teimladau, ac ymdopi â phyliau emosiynol o edifeirwch, ‘does bosibl nad pwrpas creu’r sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yw ein bod, mewn gwirionedd, yn gwneud rhywbeth. Mae’r ysgogiad hwn wedi cael ei gyhoeddi fel polisi gan ei blaid ei hun ar lefel y DU—a rhwydwaith o fanciau rhanbarthol. Wel, mae yna Lywodraeth y mae ei blaid yn ei rhedeg yn y DU: Llywodraeth Cymru. Yn sicr, yn hytrach na chyhoeddi datganiadau o edifeirwch a datganiadau i’r wasg ynglŷn â’r hyn y gallai Llywodraeth Lafur ddamcaniaethol yn y dyfodol ei wneud yn San Steffan, ‘does bosibl na ddylem gymryd rheolaeth ar ein tynged ein hunain mewn gwirioned a chreu banc seilwaith i Gymru.

Oherwydd ein bod wedi gwneud yn union hynny, yng Nghymru, rydym wedi cael y trefniadau cyllid arloesol rwyf wedi’u harchwilio eisoes. Dyna pam fod gennym Cyllid Cymru yma yn darparu ffynhonnell o gyllid i fusnesau yng Nghymru na fuasai wedi bod ar gael iddynt fel arall yn bendant. Dyna pam, yn wir, fod gennym ddiddordeb mewn archwilio syniadau eraill o fewn ein cymhwysedd a’n gallu deddfwriaethol i adeiladu hyd yn oed ymhellach ar yr hyn a wnaed eisoes.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adroddiad diweddar y Sefydliad Iechyd, ‘Y llwybr i gynaliadwyedd: rhagolygon cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru i 2019/20 a 2030/31’, yn tynnu sylw at yr angen am gynnydd o tua 60 y cant yn y cyllid i £10.4 biliwn erbyn 2030-31 er mwyn ateb y galw a ragwelir. Maent hefyd yn nodi’r angen am fwy o effeithlonrwydd, a gwyddom fod rhaid cael ffyrdd callach o weithio, yn enwedig wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Yn seiliedig ar y diwygiadau llywodraeth leol sydd ar y gweill gennych, a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys ôl troed saith consortia rhanbarthol, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, pa gynlluniau rydych yn eu rhoi ar waith yn awr i sicrhau y gellid sicrhau gwell arbedion effeithlonrwydd drwy fodel iechyd a gofal cymdeithasol cwbl integredig?

Wel, rwy’n rhannu cred yr Aelod fod integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi manteision i gleifion ac i ddefnyddwyr, a gall hynny helpu i ysgogi arbedion effeithlonrwydd. Dyna pam, yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, rydym yn cynnal y gronfa ofal £60 miliwn i annog mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna pam y bydd gennym gyllidebau cyfun yn gweithredu ar ôl traed gwasanaethau cymdeithasol rhanbarthol, a dyna pam, yn y trafodaethau rwy’n eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, fod y syniad o ddod â gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd ar sail ranbarthol, i wynebu byrddau iechyd, yn ein helpu i wneud cynnydd, a chynnydd cyflym, i’r cyfeiriad hwnnw.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau cyhoeddus ddisgyn dros y dibyn oni bai bod mwy yn cael ei wneud i atal pobl rhag mynd yn sâl. Mae hyn yn cynnwys, yn amlwg, gwasanaethau tai a gwasanaethau hamdden o ansawdd. At hynny, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon y gallai pwysau cyllidebol y GIG achosi i wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau gofal iechyd, ond sy’n helpu pobl i aros yn iach, fod ar eu colled. Sut y byddwch yn sicrhau dull symlach drwy lywodraeth leol o hyrwyddo iechyd y cyhoedd, nid yn unig drwy’r GIG, ond drwy’r holl wasanaethau cyhoeddus a ddarperir ar lefel llywodraeth leol, a sut y byddwch yn sicrhau y bydd hon yn flaenoriaeth allweddol drwy gydol unrhyw broses ddiwygio?

Mae unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb am greu cyllideb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gorfod wynebu’r blaenoriaethau sy’n cystadlu am wariant. Yn y gyllideb rwyf wedi’i chyflwyno gerbron y Cynulliad hwn, rydym yn ceisio gwneud hynny, gyda £240 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol uniongyrchol yn ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd, o ganlyniad i’n cytundeb cyllideb, rydym yn gallu darparu cyllideb heb doriadau arian parod ar gyfer awdurdodau lleol yn ogystal, gyda £25 miliwn wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr arian hwnnw. Mae’r pwynt cyffredinol y mae’r Aelod yn ei wneud yn un rwy’n ei gymeradwyo: mae dyfodol y gwasanaeth iechyd yn dibynnu ar bob un ohonom i fod yn barod i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros greu’r amodau lle rydym yn gofalu am ein hiechyd ein hunain yn well. Felly, mae llawer o’r hyn y mae’r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag ef heddiw yn broblemau na fuasai angen iddynt fod wedi digwydd pe bai pobl wedi gwneud penderfyniadau gwahanol am eu bywydau eu hunain. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw creu’r amodau lle y gellir gwneud y penderfyniadau hynny, ac mae ein cyllidebau llywodraeth leol yn allweddol i helpu i wneud hynny.

Diolch. Ac yn olaf, gan droi at gynghorau cymuned, fel rhan o’ch cynlluniau i ddiwygio llywodraeth leol, sut rydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen ag adolygiad sylfaenol o’r lefel ddemocrataidd o lywodraethu ar lefel tref a chymuned?

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n gwybod bod ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynghorau tref a chymuned. Dywedais yn fy natganiad ar 4 Hydref fod yna gyfres o bethau rwy’n teimlo y gallwn eu gwneud ar unwaith i wella gweithrediad y system fel y mae heddiw, ond roeddwn hefyd yn awyddus i edrych yn fwy trwyadl ac annibynnol ar gynghorau tref a chymuned er mwyn dod o hyd i ffyrdd y gallwn harneisio’r pethau y maent yn eu gwneud yn dda iawn. Mewn sawl rhan o Gymru, mae’r sector hwnnw’n gwneud rhai pethau pwysig iawn yn dda iawn, ond nid yw’n gwneud hynny’n wastadol. Mae yna ddiffyg democrataidd yn y sector, a thros hanner seddi cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiad diwethaf. Rwy’n ddiolchgar iddi am y trafodaethau a gawsom ar y mater hwn ac rwy’n edrych ymlaen at allu parhau i gynllunio’r ailasesiad gwraidd a changen hwnnw gyda hwy.

Diolch. Trown yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn a chwestiwn 3—Hefin David.

Cydweithredu o ran Llywodraeth Leol

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithredu o ran llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0059(FLG)[R]

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nodais fy nghynigion mewn perthynas â chydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol ar 4 Hydref. Bydd y cynigion ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gorfodol a systematig yn adeiladu ar y nifer o drefniadau cydweithredol sydd ar waith eisoes gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yn rhaid i gydweithredu gorfodol o’r fath arwain at elw ar fuddsoddiad, boed hynny’n gyflawni mwy am lai, mwy am yr un peth, neu’r un peth am lai, ac os yw hynny’n wir, sut y mae’n rhagweld y bydd awdurdodau lleol yn gallu cyfiawnhau cydweithredu, fel gofyniad gorfodol, pan na fydd yr achos busnes ar gyfer cydweithredu o reidrwydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’r naill neu’r llall o’r awdurdodau lleol unigol a fydd yn rhan o’r broses gydweithredu?

Diolch i Hefin David am y cwestiwn atodol gan ei fod yn rhoi ei fys ar yr union reswm pam rwyf wedi dweud bob amser y bydd yn rhaid i’r trefniadau hyn fod yn orfodol yn ogystal â systematig. Mae gormod o enghreifftiau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru lle y mae awdurdod lleol unigol wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn ceisio sicrhau trefniant rhanbarthol cydweithredol, i ddarganfod, ar y funud olaf, fod un o’r awdurdodau sy’n cymryd rhan wedi symud oddi wrth y bwrdd am nad ydynt yn gweld sut y mae eu budd cul eu hunain yn cael ei hyrwyddo yn yr hyn y maent i gyd yn cytuno sy’n batrwm ehangach o fudd. Ni allwn gael trefniadau yng Nghymru lle y mae gan awdurdodau lleol unigol bersbectif mor gul, a chyfyngedig o ran amser, ar eu buddiannau eu hunain ac yna’n aberthu buddiannau ehangach rhanbarth lle y gellid gwneud cynnydd. Felly, yr unig ffordd i oresgyn hyn, fel rwy’n gweld pethau, yw drwy gytuno ar y trefniadau hyn; rwy’n awyddus iawn i barhau â’r sgwrs honno. Ond ar ôl cytuno arnynt, byddant yn orfodol a bydd yn rhaid i bawb chwarae eu rhan ynddynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ein dau o’r un genhedlaeth ac yn ôl pob tebyg, ni yw’r unig ddau yn y Siambr hon sy’n cofio Papur Gwyn 1994 i sefydlu awdurdodau unedol. Rwy’n siŵr mai ni yw’r unig bobl a fuasai wedi ei ddarllen. Roedd yn dweud mai’r hyn sydd wrth wraidd y cysyniad o awdurdodau unedol oedd y buasai’n rhaid iddynt gydweithredu, ond genhedlaeth yn ddiweddarach—cafwyd rhai partneriaethau, wrth gwrs—mae’r math hwnnw o ddiwylliant cydweithredol eto i’w sefydlu. Ac mae hynny yr un mor bwysig â’r hyn y buaswn yn ei groesawu—y mesurau mwy gorfodol y gallai fod yn rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn eu cael i gydweithio’n effeithiol o’r diwedd.

Wel, yn anffodus, roeddwn yn gynghorydd sir bryd hynny, pan oedd y diwygiadau hynny’n cael eu cyflwyno a’u trafod. Felly, rwy’n eu cofio’n dda iawn. Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud, mewn gwirionedd, pan fyddaf yn mynd o gwmpas awdurdodau lleol yng Nghymru mae’r cyfoeth o gydweithrediad sydd yno eisoes yn aml yn syndod i mi? Gall pob awdurdod lleol ddisgrifio mannau lle y maent yn cydweithredu ar draws eu ffiniau at ddibenion pwysig iawn. Y broblem gyda hynny hyd yn hyn yw nad oes patrwm cenedlaethol yma. Nid ydym yn dda am ddysgu o brofiad cadarnhaol mewn un rhan o Gymru a gwneud iddo ddigwydd mewn rhannau eraill. Dyna pam fy mod yn benderfynol, wedi i ni gytuno ar y trefniadau cydweithredol newydd, y bydd yn rhaid iddynt fod yn systematig—byddant yr un fath ledled Cymru, a byddant yn orfodol. Bydd pawb yn cymryd rhan yn y broses o’u cyflawni.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â chydweithrediad o fewn llywodraeth leol a rhwng awdurdodau, mae yna hefyd bartneriaethau pwysig rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid eraill. Un o’r rheini yw Cyngor Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sydd wedi ffurfio cytundeb ar iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. A allwch ddweud wrthyf a wnaed unrhyw asesiad o’r cydweithrediad hwnnw ac a yw’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol?

Wel, Ddirprwy Lywydd, mae Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, un y mae awdurdodau lleol bob amser yn ei wneud pan fyddaf yn eu cyfarfod: fod yr agenda ar gyfer awdurdodau lleol yn llawer ehangach na’r awdurdodau lleol eu hunain. Mae gan bob un ohonynt bartneriaid pwysig iawn, boed y gwasanaeth heddlu lleol, y parc cenedlaethol neu, yn achos Powys fel y mae’n dweud, y cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Powys. Cyfarfûm ag arweinydd Cyngor Sir Powys yn ddiweddar, a rhoddodd gyfrif i mi o’r gwaith y maent yn ei wneud. Yn ddiddorol, mewn perthynas â phwynt cynharach Suzy Davies, gwasanaethau therapi galwedigaethol yw un o’r pethau cyntaf y maent yn credu y gallant eu darparu ar ffurf un gwasanaeth ar draws y ddau awdurdod. Maent yn dweud wrthyf fod cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym wedi darparu cyllid grant o fwy na £300,000 i gynorthwyo’r cyngor a’r Bwrdd Iechyd Lleol i sefydlu’r cydweithrediad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weld ffrwyth ymarferol pellach yr ymdrechion hynny.

Cytundebau Dinas

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gytundebau dinas? OAQ(5)0051(FLG)

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

I remain committed to progressing deals in Wales as a tool to encourage further economic growth and collaborative working. The Welsh Government has had extensive discussions on deals with the UK Government to maximise the benefits for Wales.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Fe fydd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o astudiaeth ddofn ddiweddar Mark Lang o Bont-y-pŵl, lle y mae’n tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu’r gymuned honno a oedd ar un adeg yn gymuned ffyniannus, yn ogystal â’r sylfeini y gellid adeiladu arnynt i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol. Mae mentrau fel prifddinas-ranbarth Caerdydd a’r cytundeb dinas yn cynnig cyfleoedd i drefi fel Pont-y-pŵl, ond ceir bygythiadau hefyd. Felly, a wnaiff yr Aelod ymhelaethu ynglŷn â sut y bydd ei Lywodraeth yn sicrhau dull cyflawn aml-ganolfan, aml-dwf o fynd ati ar gytundeb dinas Caerdydd a chynllun y dinas-ranbarth, fel bod trefi fel Pont-y-pŵl yn ganolog yn y cynlluniau hynny, yn hytrach nag ar eu cyrion?

Wel, y pwynt allweddol rwy’n credu y mae Steffan Lewis yn ei wneud yw hwn, a chaiff ei adlewyrchu yn y gwaith y mae Mark Lang wedi bod yn ei wneud: nid yn unig y mae cytundeb Prifddinas Caerdydd yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd gwell o ddenu pobl i’r canol, i Gaerdydd ei hun, ond mae’n ymwneud hefyd â ffordd o ledaenu ffyniant ar draws y rhanbarth cyfan, a lle y mae cysylltedd yn golygu y gallwn yn hawdd berswadio busnesau a gweithgarwch economaidd i ddigwydd ar draws y rhanbarth i gyd. Mae’n galonogol gweld y mecanweithiau y mae’r cytundeb yn eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr fod prosiectau ar draws y rhanbarth yn cael eu hasesu ar gyfer yr effaith honno, ac ymhlith y 10 arweinydd cyngor sy’n dod at ei gilydd i ffurfio arweinyddiaeth y cytundeb, gwn ein bod yn gweld penderfyniad i sicrhau o ddifrif fod ei ffrwythau’n cael eu darparu ar hyd a lled y 10 awdurdod.

Un elfen o gytundeb dinas Caerdydd yw creu bwrdd sgiliau a chyflogaeth prifddinas-ranbarth Caerdydd. Un o swyddogaethau’r bwrdd fydd sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn ymateb i anghenion busnesau a chymunedau lleol. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn ninas-ranbarth Caerdydd a sut y bydd hyn yn sicrhau manteision i dde-ddwyrain Cymru, os gwelwch yn dda?

Wel, diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn. Mae’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod y bwrdd hwnnw wedi cael ei greu, ac roeddwn yn falch o weld fod y bwrdd nid yn unig yn cynnwys yr awdurdodau lleol eu hunain ond cynrychiolwyr addysg, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr y trydydd sector hefyd. Mae’r cytundeb £1.3 biliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gyfuniad o gyllid awdurdodau lleol eu hunain, cyllid a fydd yn dod gan Lywodraeth y DU a chyllid a ddaw gan yr Undeb Ewropeaidd, ond daw’r rhan fwyaf o’r cyllid—y cyfrannwr mwyaf—gan Lywodraeth Cymru ei hun, ac mae’n cyd-fynd yn union â’r dibenion hynny i wneud yn siŵr fod gennym, yn ogystal â chysylltedd corfforol, sylfaen sgiliau ymhlith y boblogaeth leol sy’n golygu bod hwn yn lle deniadol i gyflogwyr ddod yma a chreu cyfleoedd economaidd.

Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y gwaith o lywodraethu dinas-ranbarth Caerdydd yn datblygu yn y dyfodol? Mae’n gyffrous iawn fod y 10 arweinydd wedi dod at ei gilydd yn y ffordd y maent wedi’i wneud. Sut y mae’n gweld hyn yn datblygu yn y dyfodol?

Wel, Ddirprwy Lywydd, mae’r datblygiad hwnnw y mae’r 10 arweinydd yn ymrwymedig i’w gyflawni yn ddatblygiad pwysig iawn, ond mae’n bwysig iawn yn wir eu bod yn gallu cyflawni’r gwaith yn ôl yr amserlen y maent hwy eu hunain wedi ymrwymo i’w gyflawni. Oherwydd mae’r model, sef y model Cabinet lle y bydd pob un o’r 10 arweinydd yn ffurfio cabinet cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, eto i’w gadarnhau gan yr awdurdodau cyfansoddol. Mae pob arweinydd yn ymrwymedig i wneud yn siŵr fod y trefniant wedi cael ei gadarnhau gan eu cyngor cyn diwedd mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Fy neges iddynt, ac rwyf wedi cyfleu’r neges hon iddynt yn rheolaidd mewn cyfarfodydd, yw ei bod yn gwbl hanfodol eu bod yn cyflawni yn ôl yr amserlen honno fel ein bod yn parhau i fod ar y trywydd iawn o ran llywodraethu i sicrhau’r arian sydd ar gael ar gyfer y cytundeb.

Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ymwneud â phwerau awdurdodau lleol i fynd i gostau? OAQ(5)0056(FLG)

Diolch i Russell George am y cwestiwn. Mae’r pŵer hwn yn adran 137 yn caniatáu i gyngor tref neu gymuned fynd i gostau cyfyngedig at ddibenion nad oes ganddo unrhyw bŵer neu ddyletswydd benodol arall drostynt, ac a fydd yn sicrhau budd uniongyrchol i’w hardal neu unrhyw ran ohoni.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Tref Llanfair Caereinion wedi bod yn gohebu â mi ar y mater hwn ers peth amser. Mae cyngor y dref yn awyddus i gymryd y gwaith o redeg llyfrgell y dref o reolaeth y cyngor sir. Os na fydd hyn yn digwydd mae’n ofni y bydd llyfrgell y dref yn debygol o gau.

Nawr, mae cyngor cyfreithiol a roddwyd i gyngor y dref yn eu gwahardd yn weithredol rhag ariannu’r llyfrgell o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol wedi derbyn cyngor cyfreithiol i’r gwrthwyneb. Rwy’n ddiolchgar i chi am ysgrifennu ataf ar y mater hwn mewn cryn fanylder heddiw—rwy’n gwerthfawrogi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. A fuasech yn cytuno i ddarparu eglurder ar weithredu adran 137 yn hyn o beth?

Rwy’n ddiolchgar i Russell George am dynnu fy sylw at hyn ac am ddarparu copïau o’r ohebiaeth rhwng Cyngor Tref Llanfair Caereinion a Chyngor Sir Powys, sy’n dangos y pwynt y mae’n ei wneud. Mae fy swyddogion eisoes wedi darparu cyngor i gynghorau tref a chymuned eraill ym Mhowys, ac yn gyffredinol, ein cyngor yw bod y cyfyngiad ariannol a nodir yn adran 137(4) yn parhau i fod yn berthnasol mewn amgylchiadau lle y mae cyngor tref neu gymuned yn ceisio arfer y pŵer llesiant a geir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 i gefnogi’r gwariant angenrheidiol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gymhwyso’r egwyddor gyffredinol honno ym mhob cyfres benodol o amgylchiadau, a dyna’r ddadl sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng rhai cynghorau tref a chymuned a Chyngor Sir Powys ei hun.

Yr hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion fel rhan o unrhyw ymgynghoriad ar ddiwygio llywodraeth leol i egluro’r gyfraith mewn perthynas â phŵer a galluoedd cynghorau tref a chymuned i gymryd rheolaeth ar wasanaethau ac asedau. Felly, hyd yn oed os oes rhywfaint o amwysedd neu wahaniaeth barn ar hyn o bryd, rwyf am gefnogi cynghorau tref a chymuned yn yr ymdrechion pwysig y maent yn eu gwneud i gynnal gwasanaethau mewn cymunedau lleol. Byddwn yn manteisio ar unrhyw ymgynghoriad y byddwn yn ei gyflwyno i geisio gwneud hynny.

Yn hanesyddol, yn y dyddiau cyn treth y pen, roedd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r hyn sy’n cyfateb i gynnyrch y dreth geiniog i gyflawni gweithgaredd er lles eu hardal leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai’r hyn sydd ei angen, a’r hyn y mae awdurdodau lleol wedi gofyn amdano ers cyn cof, yw pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, felly os yw er budd i’w hardal, os mai dyna y mae’r cyngor yn pleidleisio drosto, a dyna y mae’r etholwyr ei eisiau, yna gallant wario arian arno?

Mae Mike Hedges yn hollol gywir ac mae’n ein hatgoffa, yn y Bil drafft ar lywodraeth leol a gyflwynwyd gan y Gweinidog blaenorol, mai dyna’n union oedd y cynnig: darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol i’r prif awdurdodau ac yn wir, pŵer cymhwysedd i gynghorau tref a chymuned a oedd yn gallu cyrraedd trothwy penodol o gymhwysedd yn eu materion eu hunain. Er nad ydym wedi gallu dod i gytundeb hyd yn hyn ar rai o agweddau pwysig o ddiwygio llywodraeth leol, roedd honno’n agwedd a gafodd ei chroesawu’n gyffredinol, ac yn bendant rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r mater os caf gyfle i wneud hynny.

Y Portffolio Addysg

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio addysg? OAQ(5)0065(FLG)

Fel y nodir yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd y mis diwethaf, dyraniad y gyllideb ar gyfer prif grŵp gwariant addysg y flwyddyn nesaf yw £1.99 biliwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rhan fawr o waith y Llywodraeth yw penderfynu ar flaenoriaethau, ac i mi nid oes blaenoriaeth sy’n uwch nag addysg. Rwy’n credu bod poblogaeth wedi’i haddysgu’n dda o fudd i bob agwedd ar fywyd a chyfleoedd bywyd mewn cymunedau. Yn ogystal â hynny, roedd yr adroddiad diweddar gan Gerry Holtham a Brian Morgan yn edrych ar bolisi datblygu economaidd ym mhob rhan o’r byd a chanfu’r gydberthynas gryfaf rhwng gwariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Felly, rwy’n croesawu’r dyraniad newydd diweddar yn fawr iawn, ond rwy’n meddwl tybed a wnewch chi barhau i ystyried yn ofalus iawn, gyda’r Prif Weinidog a’ch cyd-Aelodau yn y cabinet, a ellir sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i’n hysgolion yng Nghymru.

Diolch i John Griffiths am hynny. Mae’n gwneud pwynt y mae eraill wedi’i wneud y prynhawn yma: fod buddsoddi mewn cyfalaf dynol yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn barhau i gynnal ein heconomi a’n ffyniant economaidd yn y dyfodol. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Trysorlys fod y gwariant ar addysg yng Nghymru yn parhau i fod 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae gan y gyllideb ddrafft a gyhoeddais, ynddi ei hun, fwy na £90 miliwn yn ychwanegol at y llinell sylfaen i allu gwneud y grant amddifadedd disgyblion yn rhan barhaol o’n cyllido yng Nghymru; £20 miliwn ar ben hynny i godi safonau ysgolion; a £0.5 biliwn yn mynd yn bennaf tuag at raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gyda £28 miliwn ohono yno ar gyfer Casnewydd. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n sicrhau’r Aelod fod yr angen i barhau i fuddsoddi mewn addysg, hyd yn oed pan fydd rhaid pennu blaenoriaethau anodd, yn un sy’n bendant yn ein meddyliau.

Rhannu Arferion Caffael

7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Bwrdd y Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol ynghylch pa mor barod yw awdurdodau lleol i rannu arferion caffael? OAQ(5)0052(FLG)

Mae’r trafodaethau hynny’n digwydd ac maent wedi canolbwyntio ar ganlyniadau’r rownd gyntaf o wiriadau ffitrwydd i gaffael, a gynigiwyd gan fy nghyd-Aelod, Jane Hutt yn y Cynulliad diwethaf. Mae’r canlyniadau ar gael i gynorthwyo’r awdurdodau lleol hynny a allai fod angen cymorth gydag agweddau penodol ar eu harferion caffael.

Diolch. Yng nghyfarfod diwethaf bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, datgelwyd mai tri awdurdod lleol yn unig sydd wedi bod yn barod i rannu data ar sut y maent yn prydlesu cerbydau. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i wneud rhannu data’n ofynnol, a phan fydd y data hwnnw gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, beth y gall ei wneud i sicrhau nad yw’r ffocws ar arbed costau’n unig, ond ar sicrhau gwerth i economïau lleol?

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol ac mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod prydlesu ceir yn bwnc mwy cymhleth nag y sylweddolais i gychwyn pan gefais fy mriffio ar y pwnc hwn yn wreiddiol gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol beth amser yn ôl. Mae pob awdurdod lleol yn rhan o fframwaith llogi ceir y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cymru gyfan, ond mae hwnnw ar gyfer ceir sy’n cael eu llogi am hyd at wythnos yn unig. Os ydych am logi cerbyd am fwy nag wythnos, mae gennych ddau ddewis yng Nghymru: gallwch ddod yn rhan o system Gwasanaeth Masnachol y Goron, ac mae tri awdurdod lleol yng Nghymru wedi dewis bod yn rhan o’r system honno, ond nid yw’n addas ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn enwedig y rhai yn yr ardaloedd gwledig. Mae’n well ganddynt ymrwymo i drefniadau llogi hirdymor, gan amlaf gyda’r cwmnïau y maent yn eu defnyddio o’r fframwaith llogi ceir. Mae’r fframwaith llogi ceir yn darparu wyth neu naw o gwmnïau gwahanol y gallwch ddewis llogi ganddynt. Nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn dewis y cyflenwr rhataf. Pam hynny? Oherwydd eu bod yn gwneud penderfyniad ymwybodol i logi gan gyflenwyr lleol oherwydd yr effaith a gaiff hynny ar swyddi a ffyniant economaidd arall yn eu hardaloedd. Felly, mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn un pwysig ac rwy’n credu bod y data’n awgrymu ei fod yn sicr ym meddyliau awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hyn.

Yr Ardoll Brentisiaethau

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff yr ardoll brentisiaethau ar y grant bloc? OAQ(5)0058(FLG)

Mae’r ardoll brentisiaethau yn dreth gyflogaeth Llywodraeth y DU sy’n gwrthdaro’n uniongyrchol â meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Nid yw’n darparu arian newydd sylweddol i Gymru. Bydd unrhyw arian canlyniadol cadarnhaol o ganlyniad iddo yn cael eu gwrthbwyso i raddau helaeth gan symiau canlyniadol negyddol a’r costau ychwanegol i ddarparwyr y sector cyhoeddus.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n destun pryder fod yr hyn rydym yn ei gael gan Lywodraeth ganolog y DU, mewn gwirionedd, yn cael ei gymryd yn ôl mewn rhan arall, ond hefyd rydym yn ariannu ein cyrff cyhoeddus ac mae’n rhaid iddynt roi’r arian hwnnw yn ôl i’r Trysorlys o dan yr ardoll brentisiaethau. A allwch roi sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prentisiaethau? Mae llawer o’r cyrff rwyf wedi eu cyfarfod yn digwydd bod yn talu’r ardoll hon ac felly maent yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am gyflogi prentisiaid mewn gwirionedd ond nid ydynt yn cael unrhyw beth yn ôl. Yn Lloegr gwn fod ganddynt system dalebau, ond ymddengys nad oes gennym unrhyw beth o gwbl yma.

Gadewch i mi ddarparu’r ffigurau i’r Aelodau gael gweld. Mae’n fy atgoffa o un o’r cwestiynau cyntaf un a ofynnodd Andrew R.T. Davies i mi pan ddywedais fod y print mân yn bwysig yn hyn oll. Felly, yn y setliad yn sgil yr adolygiad o wariant, cyhoeddodd y Trysorlys y bydd £114 miliwn yn cael ei ychwanegu at grant bloc Cymru oherwydd yr ardoll brentisiaethau. Pe baech wedi darllen y print mân tuag at waelod y dudalen, buasech wedi darganfod bod £90 miliwn yn cael ei dynnu o’r grant bloc ar yr un pryd oherwydd gostyngiad yn rhaglenni prentisiaethau Lloegr. Pe baech wedi darllen ymhellach eto tuag at waelod y dudalen, buasech wedi darganfod bod gofyn i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru dalu £30 miliwn tuag at gynllun yr ardoll brentisiaethau. Felly, roeddem yn cael £114 miliwn ac roedd £120 miliwn yn cael ei dynnu ymaith. Dyna pam, ar ddyddiau fel heddiw, mae’n bwysig aros i weld y stori lawn cyn gwneud unrhyw ymrwymiadau gwario.

O ganlyniad i bwysau cyfunol gan yr holl weinyddiaethau datganoledig, yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf cyhoeddodd y Trysorlys newid i sylfaen gyfrifo’r ardoll brentisiaethau, a fydd yn darparu £13.7 miliwn ychwanegol i Gymru y flwyddyn nesaf. Byddaf yn cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet ynglŷn â sut y gellir buddsoddi’r arian hwnnw. Ond mae unrhyw syniad fod yna filiynau a miliynau o bunnoedd yn dod i Gymru drwy’r ardoll brentisiaethau yn anwiredd llwyr.

Cronfeydd Strwythurol yr UE (Gogledd Cymru)

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cronfeydd strwythurol yr UE yn cynorthwyo busnesau a chyflogaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0064(FLG)

Ers 2007, Ddirprwy Lywydd, mae prosiectau’r UE yng ngogledd Cymru wedi helpu 9,300 o bobl i ddod o hyd i waith, wedi creu 2,340 o brentisiaethau a 7,660 o swyddi.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae arian yr UE wedi helpu i sicrhau arloesedd yng ngogledd Cymru, drwy gynorthwyo mentrau fel ADC Biotechnology a leolir yn OpTIC yn Llanelwy, yn ogystal â chyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n cefnogi darpariaeth cymorth dwys ac ystod o ymyriadau pwrpasol i helpu i ddod â phobl yn agosach at y farchnad lafur drwy raglen OPUS Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Twf Swyddi Cymru wrth gwrs. Cipolwg yn unig yw hyn ar yr hyn y mae cronfeydd yr UE wedi helpu i’w wireddu yng ngogledd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a all ein sefydliadau a’n cymunedau yng ngogledd Cymru ddibynnu ar gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau arian yr UE i gefnogi busnesau a swyddi yn y rhanbarth?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am y cyfle i ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru, sef y byddwn yn ceisio sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl er lles cymunedau ledled Cymru cyhyd ag y byddwn yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn diwedd y mis hwn, o ganlyniad i gyflymu’r rhaglen yn yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu yn awr, bydd gennym gytundebau ar waith mewn perthynas â 60 y cant o’r gwerth £1.9 biliwn o ddyraniadau cronfeydd strwythurol yr UE. Byddwn yn parhau i gymeradwyo cynlluniau y tu hwnt i hynny a bydd y cymeradwyaethau hynny yr un mor berthnasol i ogledd Cymru ag i unrhyw ran arall o’n cenedl.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Symudwn ymlaen at eitem 2, sef cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Cwestiwn 1—Russell George.

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyso Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yng Nghymru? OAQ(5)0055(ERA)

Member
Lesley Griffiths 14:20:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn darparu rheolaethau ac yn cefnogi gorfodaeth mewn perthynas â nifer o faterion, gan gynnwys gwaredu gwastraff rheoledig, sbwriel a chamau i adfer tir halogedig. O dan y setliad datganoli, rydym wedi diwygio’r Ddeddf yn llwyddiannus i alluogi ei chymhwyso i fynd i’r afael ag anghenion Cymru yn fwy penodol.

Mewn llythyr ataf ar 7 Tachwedd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch nad oeddech yn gweld bod angen diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n datgan bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i breswylwyr lle y gallant waredu gwastraff y cartref. Nawr, yn sgil y ffaith fod y ganolfan ailgylchu ym Machynlleth wedi cau, ynghyd â’r ffaith fod yr awdurdod lleol bellach yn ystyried cau canolfannau ailgylchu pellach naill ai yn y Drenewydd neu’r Trallwng, a gaf fi eich annog i ystyried diwygio adran 51 y Ddeddf er mwyn caniatáu i bob un o drigolion Cymru gael mynediad at ganolfan ailgylchu o fewn pellter rhesymol i’w cartref, yn hytrach na thaith bosibl o 80 milltir, fel y gallai fod yn wir mewn rhai ardaloedd yng nghefn gwlad Cymru bellach?

Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn, ac rwy’n credu fy mod, yn ôl pob tebyg, wedi dweud yn y llythyr atoch fod gan awdurdodau lleol lefel uchel o ymreolaeth a hyblygrwydd yn y mater hwn, ac mae hynny’n eu galluogi, mewn gwirionedd, i ymateb i anghenion lleol ac adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Buaswn yn parhau i annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ym Mhowys, ac nid wyf yn gweld unrhyw angen o hyd i ddiwygio adran 51 o’r Ddeddf ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy’n fodlon adolygu’r safbwynt hwnnw os yw’r amgylchiadau ym Mhowys, neu unrhyw le arall o ran hynny, yn galw am hynny.

Mynd i’r Afael â Chlymog Japan

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0056(ERA)

Diolch. Rwy’n bwrw ymlaen â nifer o fentrau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r rhywogaeth oresgynnol hon. Mae’r rhain yn cynnwys parhau treialon rheoli biolegol i sefydlu llysleuen anfrodorol a datblygu chwynladdwr sy’n seiliedig ar ffwng a grëwyd yn benodol i reoli’r planhigyn hwn.

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae clymog Japan yn broblem fawr yn Nwyrain Abertawe, gan wneud tai yn anodd eu gwerthu a lledaenu i diroedd cyfagos. Rwy’n hapus iawn gyda’r diweddariad a roddodd y Gweinidog i mi ar arbrofion gydag ysglyfaethwr naturiol ac ar ymdrechion cemegol i gael gwared arno. Mae’r ysglyfaethwr naturiol wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd bellach, pa bryd y gwneir penderfyniad ynglŷn ag a ellir ei ddefnyddio’n fwy cyffredinol?

Wel, rydych yn ymwybodol, yn amlwg, o ganlyniadau’r treialon cemegol a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe. Fe’u cyhoeddwyd y llynedd, ac rwy’n credu mai’r hyn a ddangosent oedd nad oedd un ateb gwyrthiol, mewn gwirionedd, mewn perthynas â mynd i’r afael â’r planhigyn eithriadol o anodd hwn. Cafwyd cyfres wedi’i chynllunio o driniaethau, sy’n gwbl allweddol i gael rheolaeth effeithiol. Nid wyf yn gwybod a yw’r Aelodau’n ymwybodol o hyn, ond ers i’r treial ddod i ben, mae’r chwynladdwr mwyaf effeithiol a brofwyd, piclorum, bellach wedi’i dynnu oddi ar y farchnad. Rydym yn parhau i ariannu prosiectau rheoli biolegol, ac mae hynny mewn gwirionedd yn adeiladu ar lwyddiannau’r treialon blaenorol. Bydd y cyfnod rydym yn edrych arno yn awr yn canolbwyntio ar sefydlu llyslau a’u rhyddhau i ystod ehangach o safleoedd, gan ddefnyddio dulliau rhyddhau gwell gyda stoc newydd o lyslau o Japan. Rwy’n credu mai’r nod yw i’r pryfed lethu grym clymog Japan fel nad yw’n rhywogaeth mor ymosodol o oresgynnol ag y mae ar hyn o bryd.

Diolch i’r Aelod am ofyn y cwestiwn. Amcangyfrifir bod clymog Japan yn costio £165 miliwn i economi’r DU bob blwyddyn, ac mae’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi rhybuddio y gallai effeithio mor niweidiol ar werth eiddo nes ei wneud yn ddiwerth. Dywedodd y Gweinidog blaenorol bod ysglyfaethwr naturiol wedi’i ganfod a fydd yn helpu i reoli clymog Japan a’i fod yn cael ei dreialu yn Abertawe. Gofynnaf i’r Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet—a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â chyflwyno’r treial: pa mor llwyddiannus ydoedd ac a oes gennych unrhyw fwriad i ddefnyddio gorchymyn rheoli arbennig yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r broblem hon?

Mae hwn yn rhywbeth rwy’n ei fonitro ac fel y dywedais, rydym yn parhau i ariannu’r treialon. Rydym newydd ariannu cam 2 y treialon rheoli biolegol eleni, felly rwy’n credu bod angen i ni werthuso hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y ffordd ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a’r llefarydd cyntaf yw Simon Thomas.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae 2016 ar y trywydd i fod y flwyddyn gynhesaf ers dechrau cadw cofnodion, ac mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo’n barod, fel y gwelsom, yn wir, dros y dyddiau diwethaf yma yng Nghymru. Nawr, mae eich cyllideb ddrafft yn argymell toriadau o 38 y cant i’r gwariant cyfalaf ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd a phrosiectau amddiffyn rhag llifogydd. Yn dilyn cyhoeddiadau datganiad yr hydref heddiw fod rhywfaint, o leiaf, o gyllid cyfalaf ychwanegol i Lywodraeth Cymru, er nad yw ond tua’r un faint â’r swm y buasai ei angen i atgyweirio tŷ mawr yn Llundain, oni ddylech fod yn ystyried adfer rhywfaint o’r cyllid hwn yn awr i’ch cyllideb prosiectau cyfalaf ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd?

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod Cynulliad yn falch o glywed fy mod yn credu bod llythyr eisoes ar ei ffordd at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Fe fyddwch wedi clywed Mark Drakeford yn dweud—yn amlwg, roedd ar ei draed yn ystod diwedd cyhoeddiad y Canghellor—yn sicr, ar ôl i ni edrych ar y print mân, ac ar ôl i’r Gweinidog gael cyfle i edrych ar ein cynigion i gyd, gallwn edrych ar ba arian ychwanegol sydd ar gael i bob un ohonom.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch ei bod yn manteisio ar y cyfle i ofyn am adfer y rheini. Rydym yn deall y bydd £400 miliwn ar gael ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Buasai hynny’n awgrymu tua £80 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er fy mod yn derbyn bod yn rhaid i ni edrych ar y manylion. Ond mae’n rhaid i ni ddangos arweiniad ar hyn, ac rydych newydd ddychwelyd o Gynhadledd y Partïon 22 yn Marrakech, ac roeddwn yn falch iawn eich bod wedi bod yno. Nawr, rydym yn deall bellach fod hyd yn oed Donald Trump yn derbyn bod rhywfaint o gysylltedd, fel y mae ef yn ei roi, rhwng newid yn yr hinsawdd a’n gweithgaredd ni, sy’n golygu bod Donald Trump wedi achub y blaen ar UKIP mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. A gaf fi groesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch yn Marrakech y bydd Cymru yn un o’r chwe rhanbarth Ewropeaidd i lofnodi Platfform Llwybrau 2050 y Cenhedloedd Unedig i gynyddu cydweithrediad rhwng pob lefel o Lywodraeth ar gyfer cyflwyno mesurau newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad? A allwch roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â sut rydych yn bwriadu cyflymu’r broses o gyflwyno ein mesurau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys y nod hollbwysig o leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020?

Diolch. Oeddwn, roeddwn yn falch iawn i fynychu’r COP22, ac nid wyf yn credu fy mod yn gor-ddweud pan ddywedaf ei fod yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Cyfarfûm â phobl ysbrydoledig, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais neithiwr. Rydych yn hollol gywir yn dweud mai ein targed yw lleihau allyriadau carbon o 40 y cant erbyn 2020. Mae hwnnw’n ymrwymiad traws-lywodraethol. Cefais gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynd i Marrakech er mwyn i mi gael gwybod beth roeddent yn ei wneud o fewn eu portffolios. Rwyf yn awr yn bwriadu cael cyfres arall o gyfarfodydd dwyochrog, oherwydd, yn amlwg, mae gennym lawer i’w ddysgu gan lawer o wladwriaethau a rhanbarthau. Manteisiais ar y cyfle i gael nifer o gyfarfodydd dwyochrog â Gweinidogion yr amgylchedd a gwleidyddion blaenllaw eraill o’r gwladwriaethau a’r rhanbarthau. Mae gennym lawer i’w ddysgu, wrth gwrs, ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yno. Roeddem yn rhan o ddirprwyaeth y DU, ond roedd yn bwysig iawn fy mod yn cyfleu’r neges ein bod ni yng Nghymru, er ein bod yn wlad fach, yn gwbl barod i chwarae ein rhan i leihau ein hallyriadau carbon.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn amlwg o’ch negeseuon trydar eich bod yn mwynhau eich hun yno, ac rwy’n golygu hynny mewn ffordd broffesiynol, a hefyd, wrth gwrs, o’r datganiad ysgrifenedig, a oedd, unwaith eto, yn llawn o negeseuon cadarnhaol o COP22. Nid wyf ond yn gresynu na lwyddodd y Cynulliad mewn pryd i ddod i ben ag anfon Aelodau Cynulliad yno yn gwmni i chi, oherwydd credaf y bydd hynny’n briodol yn y dyfodol.

Un o’r pethau a gytunwyd yno—ac unwaith eto, roedd yn neges gadarnhaol—oedd bod 47 o wledydd y byd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid yn yr hinsawdd wedi addo na fyddant ond yn defnyddio tanwydd adnewyddadwy yn unig erbyn 2050. Fe ddywedoch wrth y gynhadledd hefyd, mewn blog rwy’n credu, y bydd yr holl drydan a brynir gan wasanaeth caffael Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yn adnewyddadwy 100 y cant, erbyn y flwyddyn nesaf, a chredaf fod hynny i’w ganmol, er bod cwestiwn bob amser ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn adnewyddadwy 100 y cant dan gyfarwyddebau’r UE, ond mater arall yw hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus iawn i wybod yw sut y byddwch yn cyflawni, yn adeiladu ac yn cynnal hyn, ac onid ydych yn credu, wrth i ni symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy yn awr, mai dyma’r adeg, mewn gwirionedd, i gael cwmni ynni cyhoeddus nad yw’n rhannu elw sy’n eiddo i Gymru, i arwain y ffordd ac i fod yn rhan o’r newid sylweddol sydd ei angen arnom mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy?

Ie, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr holl drydan a brynir gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen yn adnewyddadwy 100 y cant, ac roedd llawer iawn o ddiddordeb gan wladwriaethau a gwledydd eraill ynglŷn â sut y byddwn yn cyflawni hynny. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ynglŷn â pholisïau ynni ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, ac mae’n sicr yn rhywbeth y gallaf ei ystyried.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn siomedig fod Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru wedi dweud nad yw Gweinidogion wedi cyflawni ar bolisi newid yn yr hinsawdd eto, a bod WWF Cymru yn rhybuddio ynghylch bwlch uchelgais?

Wel, nid wyf yn credu bod yna fwlch uchelgais, a soniais yn fy ateb blaenorol i Simon Thomas fy mod wedi cael cyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynychu COP22. Gwnaed hynny’n benodol iawn. Nid wyf yn credu bod diffyg uchelgais mewn unrhyw bortffolio ar draws y Llywodraeth. Er mwyn i ni gyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon erbyn 2020, rwy’n derbyn bod angen i ni edrych ar wneud rhai pethau’n wahanol, a chrybwyllais eto y byddaf yn cael rownd arall o gyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelodau dros yr wythnosau nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllidebau carbon yn ganolog i Ddeddf yr amgylchedd, a bellach nid oes disgwyl iddynt ymddangos tan ddiwedd 2018. Ac rwy’n credu ei bod yn rhesymol i ni ofyn, ‘Pam yr oedi?’ A yw hi o ddifrif yn cymryd tair blynedd i gynhyrchu’r cyllidebau carbon cyntaf? Byddwn hanner ffordd drwy’r Cynulliad hwn, ac mae’r cyllidebau hynny i fod i’ch helpu i flaenoriaethu a’n helpu ni i graffu.

Ie, rydym wedi dechrau ar y broses o gael ein cyllidebau carbon yn eu lle. Unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni wneud mwy i sicrhau cysondeb rhwng y cyllidebau carbon a’n cyllidebau ariannol, a rhywbeth a ddysgais yn COP22 oedd sut y caiff hyn ei wneud mewn gwledydd eraill. Os gallaf gyflymu’r broses mewn unrhyw ffordd, fe wnaf hynny.

Weinidog, i bwysleisio’r gwyro wrth weithredu’r polisi, mae’n rhaid i mi ofyn pam fod yr asesiadau effaith strategol ar gyfer eich adran mor amwys. Maent yn ganolog i Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, ac nid yw’n ymddangos eu bod wedi chwarae llawer o ran ym mlaenoriaethau a phenderfyniadau eich cyllideb. Onid y gwir yw bod y Llywodraeth hon yn frwd ynglŷn â deddfu, ond yn wael iawn am weithredu, fel roedd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a WWF mor gywir yn ei nodi?

Rydych yn gywir yn dweud bod gennym Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, mae gennym Ddeddf yr amgylchedd, mae gennym ddeddfwriaeth na welwyd mo’i thebyg, ac mae’r cyfan yn ymwneud bellach â’u gweithredu. Nid wyf yn credu bod fy asesiadau effaith strategol yn amwys. Rwy’n credu eu bod yn amlwg yn rhan bwysig iawn o’n cyllideb. Credaf y gellir eu gwella wrth symud ymlaen, ac rwy’n credu, pan soniais yn fy ateb blaenorol am gysoni cyllidebau carbon a chyllidebau ariannol, mai’r rheswm pam y dywedais hynny yw er mwyn iddo wella o flwyddyn i flwyddyn.

Diolch i Simon Thomas am weithredu fel codwr hwyl ar gyfer y gyfres o gwestiynau rwyf ar fin eu gofyn ar bynciau cysylltiedig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Powys gynyddu ei dargedau cynhyrchu ar gyfer trydan o ynni adnewyddadwy—o ynni gwynt, mewn gwirionedd—o 50 MW, i 600 MW. Gallai hynny arwain at 200 i 300 melin wynt arall yn halogi tirwedd canolbarth Cymru, dros 40 y cant o holl dir Powys y tu allan i barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gallai hyd at 14 o dyrbinau gael eu cymeradwyo’n awtomatig felly oherwydd y rhagdybiaeth o ganiatâd cynllunio o dan y cynllun datblygu yn Abergwesyn, y Begwns, Pen Pant-y-Llyn, Merthyr Cynog, Llandeglau, Abaty Cwm-hir, a Hirnant. Mae trigolion lleol yn bryderus iawn ynglŷn â’r effaith y buasai datblygiadau o’r fath yn ei chael ar eu bywydau bob dydd. O ystyried na all y prosiectau hyn wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i’r newid yn yr hinsawdd, a hyd yn oed os ydych yn credu yn y cysylltiad rhwng cynnydd mewn carbon deuocsid a chynhesu byd-eang, a yw’n werth dinistrio tirwedd a bywydau pobl mewn gwirionedd?

Wel, roeddwn yn falch iawn o ateb cwestiynau Simon Thomas am y gynhadledd bwysig iawn a fynychais yr wythnos ddiwethaf. Nid wyf am drafod a wyf yn credu rhywbeth gydag Aelod o UKIP, a bod yn onest. Mae’r wyddoniaeth honno wedi bod yno ers blynyddoedd lawer.

Mae hwn yn fforwm democrataidd, onid yw? Pam rydym ni yma?

Mewn perthynas â ffermydd gwynt, rwy’n deall bod gan rai pobl bryderon yn eu cylch, ond buaswn hefyd yn credu y buasai gan y bobl hynny bryderon pe na bai’r golau yn dod ymlaen wrth iddynt wasgu’r swits. Mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn bendant yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy wrth symud ymlaen.

Wel, yn amlwg nid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall mai rhan o’r broblem gyda bod yn ddibynnol ar ynni adnewyddadwy yw ei bod yn bosibl iawn na fydd y goleuadau’n dod ymlaen wrth i chi wasgu’r swits. Ar hyn o bryd, mae’r Grid Cenedlaethol yn cynhyrchu 3.33 y cant o bŵer o ffynonellau adnewyddadwy, o’i gymharu â 17.32 y cant o lo a 49.68 y cant o dyrbinau nwy cylch cyfun. Mae’n rhaid cynnal tyrbinau nwy cylch cyfun er mwyn ymdopi â natur ysbeidiol y gwynt. Mae’r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi dweud bod dibynnu ar ffynonellau ynni ysbeidiol yn ofer oherwydd dyblu’r gost yn y ffordd hon, gan mai 20 y cant yn unig yw ffactor capasiti cyfartalog tyrbinau gwynt. Felly, am 80 y cant o’r amser nid ydynt yn cynhyrchu digon o wynt ac felly, mae’n rhaid cael ffynonellau cynhyrchu eraill yn ogystal, sy’n dyblu’r costau cyfalaf ac sydd hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau allyriadau carbon deuocsid yn y broses oherwydd natur ynni-ddwys yr hyn sydd angen ei greu drwy eu costau cyfalaf.

Rwy’n sicr yn cydnabod bod ffynonellau ynni sy’n bodoli’n barod, megis glo, yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac yn darparu ynni i ni, ond mae angen i ni edrych, nid yn unig ar y gymysgedd ynni ar hyn o bryd ond y gymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae’n bosibl nad ydych am ymrwymo i gytundeb Paris ond rwy’n hollol hapus i ymrwymo iddo ac rwy’n credu y buasai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn hapus i ymrwymo iddo, ac rydym yn ymrwymedig i newid y ffynonellau ynni hynny oni bai bod technolegau datgarboneiddio priodol yn dod yn weithredol. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni amgen yn y dyfodol.

Wel, o dan gytundebau Paris, wrth gwrs, bydd India yn treblu ei hallyriadau carbon deuocsid yn y 15 mlynedd nesaf a bydd Tsieina yn eu dyblu tra ydym ni’n aberthu, a’r aberth hwnnw oedd testun fy nghwestiynau y prynhawn yma. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gyfrifol am faterion gwledig a chefn gwlad, ac mae twristiaeth yn hanfodol bwysig yng nghanolbarth Cymru. Ni fydd llenwi cefn gwlad â melinau gwynt yn gwneud dim o gwbl i ddenu twristiaid i ganolbarth Cymru. Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—er mwyn cael rhywfaint o gymesuredd ar hyn—mae digon o leoedd lle y gallwch adeiladu ffermydd gwynt neu gynhyrchu trydan mewn ffyrdd adnewyddadwy eraill drwy ddefnyddio paneli solar ac yn y blaen mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol nad ydynt yn barciau cenedlaethol o bosibl; oni fuasai’n well peidio â chael y ffermydd gwynt hyn a chanolbwyntio ar eu hadeiladu mewn mannau eraill?

Wel, efallai pan fydd yr Aelod wedi dysgu rhywfaint mwy am Gymru fe welwch ein bod yn gyfoethog iawn mewn adnoddau adnewyddadwy. Mae’n ymwneud â chydbwysedd, felly yr ateb byr i’ch cwestiwn yw ‘na’.

Rheoli’r Risg o Lifogydd yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0054(ERA)

Diolch. Mae rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fynd i’r afael â risg ar draws gogledd Cymru yn unol â’n strategaeth genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwaith mawr yn Llanelwy, arfarnu 20 o gynlluniau arfordirol posibl a thros 70 o brosiectau bach i wella’r gallu i wrthsefyll llifogydd a chyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ddiolch hefyd am y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu cartrefi yn fy etholaeth rhag llifogydd? Ond mae cryn bryder, fel rwyf wedi sôn yn y Siambr ar sawl achlysur, ynglŷn â phromenâd dwyreiniol Hen Golwyn a pherygl llifogydd i’r rhan honno o’r arfordir, yn enwedig o ystyried y diogelwch y mae’n ei ddarparu i seilwaith hanfodol y rhwydweithiau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, yn enwedig yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. Gwn fod angen i nifer o bobl ddod at ei gilydd i ddatrys y broblem benodol honno, ond o ystyried diddordeb Llywodraeth Cymru mewn diogelu’r A55 yn benodol, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau yn y mater hwn a dod â’r bobl hyn at ei gilydd er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â diogelu’r rhan honno o’r arfordir, yn enwedig o ystyried y gwelliannau a wnaed mewn mannau eraill yn ardal Bae Colwyn.

Wel, mae’n broblem ac rydym yn dod â phobl at ei gilydd ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i geisio dod o hyd ateb priodol. Ond gwn nad oes penderfyniad wedi’i wneud eto, oherwydd rydym angen i’r gwaith hwnnw gael ei wneud. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech chithau annog eich awdurdod lleol.

Y realiti yw, wrth gwrs, Ysgrifennydd Cabinet, fod y Llywodraeth wedi torri’r gyllideb gyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i roi hyd yn oed mwy o bwysau ar yr angen i ddatblygu strategaethau amgen a gweithio gyda thirfeddianwyr, er enghraifft, i gadw dŵr yn yr ucheldiroedd ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, mae’r Llywodraeth wedi bod yn sôn am hynny ers blynyddoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn sôn am hynny ers blynyddoedd, ond nid yw’r symudiad i’r modd yna o weithio wedi digwydd i’r raddfa a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, a gaf i ofyn pa gymhellion ychwanegol a ydych chi fel Llywodraeth yn eu hystyried o safbwynt tirfeddianwyr i gael y sifft ‘decisive’ yna yn y modd yna o weithredu? Ac, yn fwy penodol felly, pa ystyriaeth a ydych chi’n ei rhoi i roi gwell cymhelliant i dirfeddianwyr ac i amaethwyr i ddefnyddio eu tiroedd fel gorlifdiroedd, oherwydd yn sicr mewn ardaloedd fel dyffryn Conwy mi fyddai hynny yn gwneud cryn wahaniaeth?

Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno gyda chynrychiolwyr ffermio, ond credaf fod hynny’n rhywbeth y gallaf ei ystyried, yn sicr. Hoffwn atgoffa’r Aelodau ein bod yn dal i fuddsoddi £55 miliwn ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac er i ni weld llifogydd yr wythnos hon, yn enwedig i lawr yn ne Cymru, credaf ein bod wedi eu gweld ar raddfa lai oherwydd yr amddiffynfeydd a roesom yn eu lle a’r buddsoddiad ariannol a wnaethom. Ond wrth gwrs, nid yw hynny’n gysur os ydych wedi cael llifogydd yn eich cartref.

Mae gennym y rhaglen rheoli risg arfordirol gwerth £150 miliwn hefyd, ac unwaith eto, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol i’w gweithredu. Ond yn sicr, byddwn yn fwy na pharod—. Rwy’n cyfarfod â’r undebau ffermio yn ystod yr wythnosau nesaf, a buaswn yn sicr yn fwy na pharod i gael y drafodaeth honno â hwy.

Effaith Brexit ar Bolisi Amgylcheddol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0064(ERA)[W]

Diolch. Mae ein deddfau blaenllaw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, wedi sicrhau sylfaen gref cyn Brexit ac yn cyflawni mewn perthynas â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, cytundeb Paris a nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Maent yn darparu cyfeiriad clir yn seiliedig ar rwymedigaethau rhyngwladol allweddol na fyddant yn newid o ganlyniad i Brexit.

A gaf i ofyn pa asesiad o oblygiadau Brexit ar statws Cymru fel gwlad sy’n rhydd o GM y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud? A gaf i ofyn ichi ymrwymo i amddiffyn y statws hwnnw mewn unrhyw drafodaethau?

Ni chafodd hynny ei ystyried ar y cychwyn fel rhan o’r goblygiadau, ond yn sicr, byddwn yn parhau i arfer y dull rhagofalus a fabwysiadwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn amlwg, nid yw’r amgylchedd yn parchu ffiniau neu derfynau. Beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r math o system orfodi a fydd yn angenrheidiol ar lefel y DU ar gyfer polisi amgylcheddol wedi i ni adael yr UE? Mae tystiolaeth gan Brifysgol Aberystwyth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cyfeirio at drafodaethau ynglŷn â chreu llys amgylchedd y DU. Dywedodd cynrychiolydd o Brifysgol Efrog,

Nid wyf yn siŵr a oes angen iddo fod yn llys amgylcheddol ai peidio... ond pe bawn yn gyfreithiwr, buaswn yn eistedd yma’n dweud, "Na, mae angen llys newydd arnom".

Unwaith eto, nid wyf wedi edrych yn fanwl iawn ar fater cael llys. Mewn gwirionedd, byddaf yn cwrdd ag Andrea Leadsom yfory, felly mae’n sicr yn rhywbeth y gallaf ei drafod. Rydym wedi dweud yn glir iawn y bydd y pwerau sydd wedi’u datganoli i’r lle hwn ers 1999 yn aros yma. Efallai y byddant yn mynd i mewn i’r Ddeddf ddiddymu i ddechrau, ond bydd unrhyw bwerau yn dod i ni wedyn fel y gallwn gael ein polisïau amgylcheddol ein hunain yn y dyfodol.

Mae’r gyfarwyddeb ansawdd aer yn un o gyfarwyddebau pwysicaf yr UE. Mae’n ofynnol i lywodraethau sicrhau cydymffurfiaeth erbyn y dyddiad cynharaf posibl o ran lleihau cysylltiad cyn gynted â phosibl. Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynlluniau ansawdd aer i fynd i’r afael â llygredd yn yr ardaloedd perthnasol, ac mae Caerdydd yn un ohonynt. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod yr Uchel Lys, yn gweithredu ar ran y gweinyddiaethau datganoledig, wedi barnu bod y Llywodraeth wedi methu â chyrraedd y safon a bod Mr Ustus Garnham bellach wedi gorchymyn Llywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru yn ôl pob tebyg, i gynhyrchu cynlluniau newydd erbyn diwedd Ebrill 2017. Tybed a allech chi, yn eich trafodaethau gyda Andrea Leadsom, ddweud wrthym sut y byddwn yn cyflymu ein cynlluniau i leihau llygredd aer yng Nghaerdydd, sydd, fel y gwyddoch, yn lladd dros 40,000 bobl cyn eu hamser ledled y DU.

Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o ddyfarniad Uchel Lys Llywodraeth y DU. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn ag ansawdd aer a rheoli sŵn. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn parhau tan 6 Rhagfyr. Rwy’n bwriadu defnyddio’r dystiolaeth a’r ymatebion a gawn yn rhan o’r ymgynghoriad hwnnw—defnyddio’r dystiolaeth wrth fwrw ymlaen erbyn y bydd angen i ni gyflwyno ein hymateb yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Hyrwyddo Bwyd Môr o Gymru

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo bwyd môr o Gymru? OAQ(5)066(ERA)[W]

Diolch. Rydym yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ein sector bwyd môr yng Nghymru ar gyfer marchnadoedd domestig a marchnadoedd allforio. Yn ddiweddar, lansiais y strategaeth bwyd môr newydd yn ystod Wythnos Bwyd Môr Cymru, gyda’r nod o dyfu gwerth economaidd y sector. Byddwn yn hyrwyddo’r sector eto yn nigwyddiad Seafood Expo Global yn 2017.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Y strategaeth bwyd môr yr ydych newydd ei chrybwyll yn fanna—pwy biau’r strategaeth yma? Yn ôl beth yr wyf yn ei ddeall, strategaeth Seafish Wales yw hi, ac nid strategaeth y Llywodraeth. A fedrwch chi gadarnhau, felly, bod y Llywodraeth yn cytuno â’r strategaeth ac am weld amcanion y strategaeth yn cael eu gwireddu ac, yn benodol, gan fod y strategaeth yn rhoi targed o dwf o 30 y cant mewn cynnyrch bwyd môr o Gymru, sut y byddwch yn cyrraedd y targed hwnnw o gofio’r amcanion sydd gyda chi o dan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac, wrth gwrs, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Lluniwyd y strategaeth drwy weithio—yn sicr, bu fy swyddogion yn gweithio—gyda’r diwydiant. Hwy a’i datblygodd. Fe’i lansiwyd gennyf fi, fel y dywedwch. A chredaf fod y Llywodraeth a’r diwydiant yn rhannu’r weledigaeth honno ar gyfer y strategaeth, sef diwydiant bwyd môr ffyniannus, bywiog, diogel a chynaliadwy yng Nghymru. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn hyrwyddo ansawdd a chynaliadwyedd cynhyrchion bwyd môr Cymru—mae hynny’n gwella’r enw da—ac i gyflawni hynny, bydd fy swyddogion, unwaith eto, yn gweithio nid yn unig gyda’r diwydiant, ond gyda phartneriaid eraill hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf hefyd yn cydnabod strategaeth bwyd môr Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gynnydd o 30 y cant yng nghynhyrchiant pysgodfeydd a dyframaeth erbyn 2025. Yn y strategaeth hon, rydych yn sôn am ehangu cynhyrchiant dyframaethol cynaliadwy, ac mewn perthynas â hynny, a allwch ddweud wrthym beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog datblygiad cynaliadwy pysgodfeydd newydd yn nyfroedd Cymru?

Fel y dywedais, mae’n bwysig iawn, os ydym am gyflawni’r weledigaeth honno, fod gennym—. Mae hyrwyddo ansawdd a chynaladwyedd ein cynnyrch bwyd môr yn gam allweddol. Mae’n bwysig iawn fod unrhyw beth a wnawn yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar wyddoniaeth, ac er enghraifft, dyna a wneuthum pan gytunais i ymestyn y gwely cregyn bylchog yng Ngheredigion.

Troseddau Tirwedd

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau tirwedd? OAQ(5)0062(ERA)

Mae troseddau tirwedd, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd, yn fater y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac yn ymrwymedig i roi sylw iddo. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 yn darparu nifer o bwerau i ganiatáu i awdurdodau lleol ddelio â’r rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol.

Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cadeiriais gyfarfod amlasiantaethol yng nghyrchfan eiconig y Cymoedd i dwristiaid, Ffordd Goedwig Cwmcarn, i drafod pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r cynnydd mewn troseddau tirwedd, ac yn benodol ar Dwyn Barlwm. Roedd cynrychiolwyr o gynghorau Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen yn bresennol, ynghyd â’r heddlu a’r gwasanaeth tân, yn ogystal â chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent.

Ym mis Medi 2015, comisiynwyd pecyn cymorth troseddau tirwedd ar gyfer ucheldiroedd de-ddwyrain Cymru er mwyn datblygu pecyn cymorth arloesol i fynd i’r afael â throseddau tirwedd mewn ardal a gwmpesir gan sawl awdurdod lleol. Ariannwyd y prosiect pwysig hwn drwy gronfa natur arloesol Llywodraeth Cymru, sef cronfa gwerth £6 miliwn a gyhoeddwyd yn 2013 gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gyda’r nod o hybu camau gweithredu cydweithredol a chydgysylltiedig ar sail ardal. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo’r awdurdodau lleol ac asiantaethau partner i fynd i’r afael â malltod troseddau tirwedd?

Diolch. Dyluniwyd cynllun rheoli cynaliadwy gwerth £10 miliwn ein rhaglen datblygu gwledig i ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys mynd i’r afael â gweithredoedd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon yn ein tirwedd fynyddig werthfawr. Unwaith eto, hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn hyn i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb.

Fe sonioch am y pecyn cymorth troseddau tirwedd a gyflwynwyd fel rhan o’n prosiect Tirweddau Angof, rhan o’r gronfa natur. Mae’n amlinellu mecanweithiau ar gyfer rheoli, lliniaru a thrin ystod o ymddygiadau gwrthgymdeithasol mewn tirweddau mynyddig, ac yn nodi dull o weithredu y gellid ei drosglwyddo wedyn i ardaloedd eraill yng Nghymru.

Rwy’n ymwybodol o nifer o weithredoedd ers hynny i fynd i’r afael â throseddu yn uniongyrchol, gan gynnwys gweithgarwch i atal gyrru oddi ar y ffordd, mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, a rhwystrau tân i leihau effaith tanau bwriadol a thanau gwyllt naturiol.

Costiodd y broses o glirio deunydd a dipiwyd yn anghyfreithlon bron i £385,000 i gynghorau yn Nwyrain De Cymru yn 2014-15. Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio’r dirwedd a chynefinoedd naturiol ac yn effeithio’n andwyol ar dwristiaeth, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, ac mae hefyd yn berygl iechyd i bobl sy’n cerdded gyda’u plant a’u hanifeiliaid anwes. Yn Nwyrain De Cymru, mewn gwahanol fannau, o dan bontydd, y tu ôl i safleoedd bws, y tu ôl i lwyni, pan fyddwch yn croesi ffyrdd bychain, a hyd yn oed ar rai ffyrdd deuol, mae tipio anghyfreithlon yn broblem ddifrifol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â phroblem tipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru a chael gwared ar y broblem hon, fel Singapore yn y dwyrain pell, sy’n cosbi’r bobl sy’n cyflawni trosedd o’r fath yn llym? Diolch.

Rydym wedi buddsoddi llawer yn brwydro yn erbyn hyn, ac mae’n drosedd ac yn anghyfreithlon. Rydym wedi ariannu mentrau Taclo Tipio Cymru ers 2007 ac yn gweithio’n agos iawn gyda hwy. Un peth rydym yn ystyried ei wneud, wrth symud ymlaen, yw—mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf, ‘Weithiau, efallai mai dim ond un bag bin du a adawyd yno.’ Felly, rydym yn ystyried ymgynghori ynglŷn ag a ddylem weithredu hysbysiadau cosb benodedig am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach, oherwydd, yn sicr, mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf eu bod yn meddwl y byddai hynny’n helpu gyda’r broblem.

Mae beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn fath o drosedd tirwedd sy’n niweidio ein tirwedd naturiol ac sy’n gallu bod yn beryglus i’r cyhoedd hefyd. Yn ddiweddar, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 22 o bobl wedi cael eu harestio am feicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ne Cymru ym mis Tachwedd yn unig, ac mae llawer o drigolion rwyf wedi siarad â hwy yn fy etholaeth wedi tynnu sylw at y problemau a achosir gan y gweithgaredd hwn. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r math hwn o drosedd tirwedd?

Diolch. Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn drosedd, felly mae’n fater i’r heddlu, ond rydym yn annog rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd i weithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Credaf ein bod wedi gweld cynnydd yn y math hwn o weithgaredd, felly mae’n bwysig iawn, fel y dywedais, fod yr holl bartneriaid yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â hyn.

Statws Ecolegol Dyfroedd Mewnol a Dyfroedd Arfordir Cymru

7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am statws ecolegol dyfroedd mewnol a dyfroedd arfordir Cymru? OAQ(5)0063(ERA)

Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith a sicrhau gwelliannau i statws crynofeydd dŵr Cymru. Eleni, mae 97 o’n 103 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig wedi cael eu dosbarthu’n ‘ardderchog’ neu’n ‘dda’, gan sicrhau bod traethau Cymru ymhlith rhai o’r goreuon yn Ewrop.

Do, gwelais y ffigur hwnnw ac rwy’n ddiolchgar i chi am eich ateb. Yn wir, mae’n newyddion da. Ond rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud ar y gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ac nid yw’r ystadegau ar gyfer dyfroedd mewndirol ac arfordirol lawn mor dda. Mewn gwirionedd, 37 y cant yn unig sydd mewn cyflwr ecolegol ‘da’ neu ‘ardderchog’. Rwy’n deall bod pethau fel diwydiant hanesyddol, addasiadau ffisegol a ffactorau eraill yn chwarae eu rhan, ond mae’n awgrymu, gan ddilyn ymlaen o’r hyn a ddywedoch yn awr, ein bod yn cael canlyniadau lle rydym yn gwneud ymdrech. Felly, fy nghwestiwn yw: pa fesurau rydych yn ystyried eu cyflwyno, Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn i ni allu hybu’r broses o wella ein holl ddyfroedd, gan gynnwys dŵr croyw yn benodol?

Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod 37 y cant o’r holl grynofeydd dŵr yng Nghymru wedi cyflawni statws ‘da’ neu well, ac rwy’n bwriadu cynyddu hynny yn y dyfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn targedu eu hadnoddau i weithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill i wella arferion gwaith, a chredaf y bydd hynny’n arwain at welliannau o ran statws. Rydych yn iawn ynglŷn â diwydiant hanesyddol, ac yn sicr, ers i mi ddod i’r swydd hon a chael golwg—gallwch weld bod llygredd o fwynfeydd metel segur, er enghraifft, yn un o’r rhesymau. Ond nid yw’n esgus ac mae angen i ni wneud mwy, felly rwyf wedi rhoi cyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd i’r afael yn benodol â’r mater pwysig hwnnw drwy’r prosiect adfer mwynfeydd metel. Mae llygredd amaethyddol hefyd yn fater pwysig yng Nghymru, ac unwaith eto, yn Sir Benfro, mae gennym broblem arbennig, felly unwaith eto, mae swyddogion yn gweithio’n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gymuned amaethyddol fel y gallwn ddatblygu atebion ymarferol a chyraeddadwy mewn perthynas â’r mater hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cynllun rheoli basn afon diweddaraf ar gyfer Gorllewin Cymru yn cydnabod nifer o faterion pwysig o ran rheoli dŵr, gan gynnwys addasiadau ffisegol—megis newid cyrsiau dŵr a chodi adeiladau—a grybwyllwyd gan Joyce Watson yn gynharach, sy’n effeithio ar 25 y cant o’r amgylchedd dŵr yr ardal ar hyn o bryd. Felly, pa arweiniad neu gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i awdurdodau lleol, ac yn wir, i randdeiliaid yng ngorllewin Cymru, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw addasiadau newydd a wneir yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd dŵr, a’u bod yn gynaliadwy ac mor amgylcheddol sensitif â phosibl?

Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Joyce Watson, mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill, ac mae hynny’n cynnwys awdurdodau lleol. Rwyf wedi rhoi arian ychwanegol i fynd i’r afael â materion penodol, ond mae’n bwysig iawn fod y rhanddeiliaid a’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn.

Nid ydym wedi crybwyll parthau perygl nitradau hyd yn hyn, sef un o’r arfau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio i fynd i’r afael ag ansawdd dŵr a dŵr ffo. A gaf fi dynnu sylw’r Gweinidog at ymagwedd a fabwysiadir mewn rhannau o Ffrainc, ac yn enwedig yn Llydaw, ac a welais dros yr haf, lle y maent yn defnyddio ymagwedd amaeth-goedwigaeth a elwir yn ‘bocage’, neu ‘argoed’, fel y byddem yn ei alw yn Gymraeg? Credaf fod gan y Llydawiaid air tebyg, ond nid wyf am roi cynnig ar yr ynganiad Llydewig. Mae’n ymwneud â phlannu gwrychoedd a choed, ac mae adroddiad gan yr UE yn dweud amdano, ei fod yn dangos

bod defnydd coed o faetholion yn lleihau crynodiad nitradau’r pridd, ac y gall dadnitreiddio leihau’r nitradau a gollir. Ar raddfa’r wahanfa ddŵr, roedd llif y nitradau a gâi eu cario ar wyneb y dŵr yn gostwng pan oedd dwysedd coed a gwrychoedd yn cynyddu.

Felly, efallai bod dewisiadau eraill ar gael yn lle’r modelau y mae’r Llywodraeth yn eu hystyried, a byddwn yn ei hannog i edrych ar sut y gallem ddefnyddio rhai nodweddion naturiol a phlannu coed a gwrychoedd naturiol i ymdrin â llif nitradau, fel dewis amgen, efallai, yn y parthau perygl nitradau.

Byddwn yn sicr yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn a wneir yn Llydaw. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ar weithrediad y gyfarwyddeb nitradau yng Nghymru. Credaf fod yr ymgynghoriad yn dod i ben yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, unwaith eto, byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen yr ymgynghoriad ac i ymateb yn unol â hynny, ond wrth gwrs, rwy’n fwy na pharod i edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill.

Blaenoriaethau ar gyfer Polisi Ynni yn y De-ddwyrain

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi ynni yn y de-ddwyrain? OAQ(5)0053(ERA)

Diolch. Fy mlaenoriaeth yw cyflymu’r broses o newid i gymysgedd ynni carbon isel gyda pholisïau sy’n cefnogi ein hamcanion strategol fel Llywodraeth, fel y nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn gwneud datganiad ym mis Rhagfyr a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ynni ar gyfer Cymru gyfan.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae’r de-ddwyrain, fel llawer o rannau eraill o’n gwlad, yn darparu cryn botensial ar gyfer cynhyrchu ynni lleol sy’n adnewyddadwy, yn ddibynadwy ac a allai fod o fudd i gymunedau lleol. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i harneisio potensial ynni afon Ebwy ar safle hen bwll glo Navigation, ac i adfer gwres entropi isel o’r hen bwll hefyd. A wnaiff hi weithio gyda’r gymuned leol yng Nghrymlyn ac eraill sydd â diddordeb i wireddu’r potensial aruthrol ar gyfer cynhyrchu ynni ar safle hen bwll glo Navigation?

Gwnaf, yn sicr. Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda thrigolion lleol. Mae wedi bod yn braf iawn gweld prosiectau ynni cymunedol da iawn dros yr haf; agorais gynllun ynni dŵr yn ddiweddar nid nepell o Ferthyr Tudful. Felly, mae’n wych gweld y cymunedau hyn yn dod at ei gilydd, yn cyflwyno syniadau ar gyfer y cynlluniau hyn, a byddem yn hapus iawn i’w cefnogi â chyllid os yw hynny’n briodol.

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol yn rhoi mwy o reolaeth i gymunedau lleol dros gynhyrchu ynni. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad sut y mae rhaglen ynni lleol Llywodraeth Cymru yn annog a chefnogi prosiectau o’r fath yn ne-ddwyrain Cymru ac mewn mannau eraill?

Wel, fel y dywedais, rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i ddod at ei gilydd i rannu syniadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Mae gennym bot o arian. Credaf, ar hyn o bryd, fod gennym wyth. Credaf fod wyth wedi eu cwblhau a bod chwech ar y gweill, neu’r ffordd arall efallai, ond rwyf wedi gweld un neu ddau fy hun dros yr haf. Soniais am y cynllun ynni dŵr. Euthum i ymweld â fferm wynt gymunedol hefyd. Felly, mae’n braf iawn gweld y prosiectau hyn yn dod at ei gilydd, ac rwy’n fwy na pharod i gyfarfod ag unrhyw Aelod sy’n awyddus i mi gyfarfod â thrigolion, os oes angen, i drafod y cynlluniau hyn yn fwy manwl.

Mae Bil Cymru yn y Cyfnod Pwyllgor ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac ar ei ffurf bresennol, byddai’n datganoli pwerau cynllunio ynni i Gymru ar gyfer pob prosiect cynhyrchu hyd at 350 MW, ac mae hynny i’w groesawu oherwydd, yn wahanol i Neil Hamilton, rwy’n siŵr fod y ddau ohonom yn ymwybodol fod yna lawer iawn o gyfleoedd i economi de-ddwyrain Cymru a mannau eraill. Cyflwynwyd rhai gwelliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi a fuasai’n galluogi Cymru i fwrw ymlaen â’r holl argymhellion yn ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’ y pedwerydd Cynulliad, a gynhyrchwyd gan bwyllgor yr amgylchedd. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar bob agwedd ar gynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu a chyflenwi trydan, heblaw ynni niwclear. Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml dyma’r rhwystr i brosiectau bach, fod y trosglwyddwyr yn codi pris gwarthus o uchel ac yn lladd y prosiect. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwelliannau ynni newydd hyn ym Mil Cymru?

Fe fyddwch yn gwybod bod swyddogion wedi bod yn trafod yn fanwl iawn gydag adrannau perthnasol y DU ynglŷn â’r darpariaethau caniatadau ynni yn y Bil. Aeth nifer o welliannau drwy Dŷ’r Cyffredin; rydym yn obeithiol iawn y bydd rhagor o welliannau’n cael eu gwneud i’r Bil wrth iddo fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi i fynd i’r afael â’n pryderon eraill, a byddwn yn ei wylio yn ofalus iawn.

Pecynnau Bwyd Polystyren

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio pecynnau bwyd polystyren yng Nghymru? OAQ(5)0067(ERA)

Diolch. Ar hyn o bryd rydym yn gwerthuso ein strategaeth wastraff er mwyn sicrhau y rheolir adnoddau i gynhyrchu manteision cynaliadwy i Gymru. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant pecynnu a sefydliadau megis WRAP i hybu’r broses o optimeiddio pecynnu ac i gyfyngu arno lle bo hynny’n bosibl, waeth beth fo’r deunydd.

Diolch. Efallai eich bod wedi gweld y rhaglen ‘Keeping a Lid On It’ ar BBC One neithiwr. Tynnai sylw at broblemau gyda chasglu biniau bob pedair wythnos yng Nghonwy. Ond un o’r materion a ddeilliodd o hynny yw bod oddeutu 70 y cant o’r ysbwriel ar draethau Cymru yn bolystyren/plastig, a bod pawb erbyn hyn yn defnyddio’r cwpanau polystyren hyn ar gyfer coffi a phopeth. Erbyn hyn, maent yn rhan sylweddol o’n safleoedd tirlenwi. Mae dros 100 o ddinasoedd ledled y byd wedi gwahardd, neu yn y broses o wahardd, deunydd pecynnu bwyd polystyren, a dywedodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai’n edrych i weld a oes unrhyw beth penodol y gallwn ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. A allech amlinellu beth y byddwch yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn? A wnewch chi ystyried ardoll ar eitemau o’r fath, ac a ydych mewn sefyllfa i adrodd ar ganfyddiadau’r prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol a gomisiynwyd gan eich adran?

Ni welais y rhaglen, ond rwyf wedi darllen amdani heddiw, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cymru yn bendant yn arwain ym maes ailgylchu. Pe baem yn aelod-wladwriaeth yn Ewrop, byddem yn bedwerydd drwy Ewrop, ond yn sicr, rydym ar y blaen yn y DU.

O ran eich cwestiynau penodol ynglŷn â pholystyren, nid wyf yn hollol siŵr pam eich bod yn credu hynny, gan ein bod wedi gwneud rhywfaint o ddadansoddi data mewn perthynas â hyn, ac nid ystyrir polystyren yn un o’r prif gyfranwyr at sbwriel yng Nghymru, ac eithrio ar lefel leol iawn, ger eiddo sy’n darparu bwyd brys, er enghraifft. Siopau bwyd brys annibynnol sy’n tueddu i ddefnyddio’r pecynnau bwyd polystyren hyn—nid yw’n cael ei ddefnyddio lawer ledled Cymru. Fodd bynnag, ni ddylid croesawu unrhyw sbwriel, ac rwy’n fwy na pharod i edrych ar bethau eraill.

Mewn perthynas ag ardoll ar bolystyren, unwaith eto, a fyddai pobl yn mynd—nid yw’r un fath â bag siopa—a fyddai pobl yn mynd â chynhwysyddion gyda nhw i gael eu bwyd? Felly, credaf fod angen i ni ystyried ymyriadau eraill cyn cyflwyno ardoll. Ond mae gennyf gryn ddiddordeb mewn deunydd pacio—wyddoch chi, cwpanau coffi untro. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â hyn, i edrych a oes angen i ni ddeddfu, ac unwaith eto, yn fy nghyfarfod yfory gydag Andrea Leadsom, mae hyn ar yr agenda.

Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol mai Rhydychen, yn gynharach eleni, oedd y ddinas gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd pecynnau na ellir eu hailgylchu oddi ar faniau tecawê yn y ddinas, ac o dan reolau newydd yno, mae’n rhaid i’r holl becynnau a llestri a ddefnyddir gan werthwyr stryd fod yn ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu neu’n ddeunyddiau bioddiraddiadwy. Felly, credaf ein bod eisoes wedi dweud yma fod Cymru yn arwain mewn cynifer o faterion amgylcheddol. A allai edrych ar beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn, oherwydd credaf ei fod i’w weld yn enghraifft dda o ble y gellid rhoi camau ar waith, ac a fuasai’n ystyried gwahardd pecynnau bwyd brys nad ydynt yn fioddiraddiadwy yng Nghymru?

Rwyf bellach wedi dod o hyd i’r ystadegau penodol sydd gennyf ynglŷn â pholystyren. Cynhaliwyd yr arolwg hwn gan Cadwch Gymru’n Daclus yn 2015-16, a gwelsant fod 5.2 y cant o sbwriel yn bolystyren, ond roedd y rhan fwyaf o hwnnw, 3.2 y cant, yn bolystyren arall—felly, nid deunydd pecynnu yn unig. Ond roedd 2 y cant yn eitemau bwyd brys. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar ddeunydd pecynnu yn gyffredinol, a holl faes deunydd pecynnu, oherwydd wyddoch chi, pe gallem leihau deunydd pecynnu, credaf y byddai hynny’n helpu cymaint, ac er ein bod yn arwain o ran ailgylchu, gwyddom fod yna 50 y cant o wastraff bin du y gellid ei ailgylchu o hyd. Felly, mae angen i ni ystyried holl sbectrwm deunydd pecynnu yn y dyfodol.

3. 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Symudwn yn awr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Yr wythnos hon, atebir y cwestiwn gan Joyce Watson.

Damweiniau

1. Faint o ddamweiniau a gofnodwyd a ddigwyddodd ar ystâd y Cynulliad ers mis Mai 2011? OAQ(5)003(AC)

Diolch am y cwestiwn. Mae cyfanswm o 63 o ddamweiniau wedi cael eu cofnodi ar yr ystâd ers 2011. Roedd 43 ohonynt yn ddamweiniau gan staff y Comisiwn, dwy gan Aelodau’r Cynulliad, dwy gan staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, dwy gan staff Llywodraeth Cymru, pedair gan gontractwyr, a 10 gan ymwelwyr cyhoeddus.

A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei hymateb? O ystyried ei fod dros bum mlynedd, nid yw’n nifer fawr iawn o ddamweiniau, ond mae pob damwain yn un yn ormod. Beth sy’n cael ei wneud gan y Comisiwn i leihau nifer y damweiniau ar yr ystâd?

Wrth gwrs, mae’n rhaid dechrau drwy nodi achosion damweiniau, ac mae’r cynghorydd iechyd a diogelwch yn archwilio ystâd y Cynulliad yn rheolaidd gyda swyddog undeb llafur amser llawn. Caiff unrhyw beryglon a gofnodwyd eu hasesu a’u datrys yn gyflym, gyda hyrwyddwr iechyd a diogelwch ar gyfer pob adran. Ond pan fo damweiniau’n digwydd—ac fe fyddant yn digwydd—maent yn cael eu hymchwilio gan gynghorydd iechyd a diogelwch y Comisiwn, a fydd yn datblygu argymhellion a chamau gweithredu priodol. Gwneir archwiliadau dilynol i sicrhau eu bod wedi eu rhoi ar waith yn briodol ac yn effeithiol, ond mae atal bob amser yn well na gwella, felly mae holl staff y Comisiwn yn cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch fel rhan o’u proses gynefino, fel y mae’r Aelodau a’u staff cymorth hefyd.

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad. Daw’r datganiad 90 eiliad cyntaf gan Joyce Watson.

Diolch. Yn 1991, lansiwyd ymgyrch y Rhuban Gwyn am y tro cyntaf gan grŵp o ddynion yng Nghanada wedi i 14 o fyfyriwr benywaidd gael eu saethu ym Mhrifysgol Montreal, gan ofyn i ddynion arwyddo addewid i beidio byth â chyflawni, goddef na chadw’n dawel am drais yn erbyn menywod. Yn 1996, mabwysiadwyd yr ymgyrch yn Ne Affrica, ac yn 1998 lansiodd Womankind y Diwrnod Rhuban Gwyn cyntaf yn y DU. Yn 1991, cydnabu’r Cenhedloedd Unedig 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, ac mae’r rhuban gwyn bellach yn symbol o obaith am fyd lle y gall menywod a merched fyw heb ofni trais. Mae gwisgo’r rhuban gwyn hwnnw yn ymwneud â herio derbynioldeb y trais hwnnw.

Ers hynny, mae pob rhan o’r DU wedi mabwysiadu ymgyrch y Rhuban Gwyn, ac mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn lledaenu’r neges honno, gan ymuno â’r mudiad byd-eang sy’n ceisio gwella sefyllfa menywod sy’n dioddef trais, ond hefyd yn y gobaith o leihau’r niferoedd sy’n dioddef.

Diolch. Fel llysgennad Girlguiding Clwyd, mae’n ddyletswydd arnaf i’w cynrychioli a dweud wrth eraill am yr hyn y mae Girlguiding yn ei wneud a’r cyfleoedd y maent yn eu rhoi i ferched a menywod ifanc. Y mis hwn, yn Llyfrgell Bwcle, agorodd arddangosfa ‘Gwthio Ffiniau’, a oedd wedi bod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cyn hynny, yn olrhain hanes Girlguiding yng Nghymru hyd yma. Hefyd y mis hwn, adroddodd yr astudiaeth genedlaethol ar ddatblygiad plant fod iechyd meddwl pobl a oedd yn aelodau o’r Sgowtiaid neu’r Geidiaid pan oeddent yn blant yn well yn ystod eu bywydau, gan nodi efallai mai’r gwersi ar wytnwch a phenderfynoldeb y mae sefydliadau o’r fath yn eu cynnig sy’n gyfrifol am y fath effaith gadarnhaol a pharhaol.

Mae cynllun strategol Girlguiding Cymru a lansiwyd yn ddiweddar, ‘Being Our Best—Bod Ein Gorau’, yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: rhagoriaeth, hygyrchedd, galluedd a llais, ac yn cynllunio llwybr Girlguiding Cymru hyd at 2021. Eu gweledigaeth yw darparu rhaglen gyffrous, hwyliog a pherthnasol i ferched a menywod ifanc mewn byd cyfartal lle y gall pob merch wneud gwahaniaeth cadarnhaol, bod yn hapus ac yn ddiogel a chyflawni eu potensial. Bydd eu cynllun strategol newydd yn gymorth iddynt gyflawni eu gweledigaeth a sicrhau bod merched yng Nghymru yn mwynhau’r profiad gorau posibl gyda’r Geidiaid. Felly, gadewch i ni, gyda’n gilydd, gefnogi arweinwyr gwirfoddol Girlguiding Cymru yn eu hymrwymiad i ymestyn a chynnal hawliau’r holl ferched a menywod ifanc yn eu gofal.

Diolch yn fawr iawn. Daw’r datganiad 90 eiliad olaf yr wythnos hon gan Julie Morgan.

Diolch. Idloes Owen. Dadorchuddiwyd plac er cof am Idloes Owen ar dŷ yng ngogledd Llandaf yn ddiweddar. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau pen-blwydd yr opera cenedlaethol yn 70 oed eleni. Roedd Idloes Owen yn byw yn Heol yr Orsaf yng ngogledd Llandaf yn y 1940au. Fe oedd sylfaenydd, arweinydd a chynhyrchydd Opera Cenedlaethol Cymru. Fe hefyd oedd tiwtor cyntaf Syr Geraint Evans. Yn fab i löwr, gweithiodd yn y pwll glo ar ôl gadael ysgol yn 12 oed. Wedi salwch, a gyda chymorth y gymuned, llwyddodd i gael digon o arian fel ei fod yn gallu astudio cerdd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn cymryd rhan roedd Ysgol Glan Ceubal, Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen ac Ysgol gyfun Glantaf. Mae’r teulu sy’n byw yn y tŷ nawr yn hapus iawn i arddangos y plac er cof am Idloes Owen.

5. 5. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Aelod

Symudwn ymlaen at eitem 5 ar yr agenda, sef y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Aelodau. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6169 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26—Biliau Aelod' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gan fod y cynnig wedi ei dderbyn, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd y Llywydd yn cynnal y bleidlais gyntaf ar 25 Ionawr 2017. Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cysylltu â’r Aelodau gyda manylion ynglŷn â sut i gymryd rhan yn y bleidlais honno.

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Amaethyddiaeth Fanwl

Eitem 6 yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar amaethyddiaeth fanwl. Galwaf ar Lee Waters i gynnig y cynnig—Lee.

Cynnig NDM6143 Lee Waters, Huw Irranca-Davies, Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod manteision enfawr posibl cymhwyso 'data mawr' mewn amaethyddiaeth.

2. Yn nodi'r twf o ran ymchwil a datblygu mewn amaethyddiaeth fanwl fel ffordd o gynyddu cynnyrch, gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin a lleihau'r defnydd o gemegau niweidiol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i roi Cymru ar y blaen o ran datblygiadau amaethyddiaeth fanwl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai dryslyd yw’r ffordd orau o ddisgrifio’r olwg ar wynebau llawer o fy nghyd-Aelodau pan gyhoeddwyd y byddem yn cael dadl ar ddefnyddio data mawr mewn amaethyddiaeth, ond gallaf sicrhau’r Cynulliad nad canlyniad rhyw ysmaldod esoterig ar ran noddwyr y ddadl yw hyn. Mae goblygiadau ymarferol data mawr mewn ffermio yn enfawr. Mae amaethyddiaeth fanwl yn ymwneud ag arloesi, cynhyrchiant, meddalwedd a sgiliau. Nid rhyw brosiect technolegol di-nod mo hwn; mae’n mynd at wraidd rhai o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, fel caledi, diogelu’r cyflenwad bwyd a newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn cynhyrchu, dal, storio a phrosesu data ar gyflymder nas gwelwyd erioed o’r blaen. Honnodd Eric Schmidt, cyn Brif Swyddog Gweithredol Google, ein bod bellach yn cynhyrchu cymaint o wybodaeth bob deuddydd ag y crëwyd rhwng dechrau amser a’r flwyddyn 2003—bob deuddydd. Mae cyfanswm y data sy’n cael ei ddal a’i storio gan ddiwydiant ledled y byd yn dyblu bob 14 i 15 mis. Rydym yn agosáu at y pwynt lle y gallwn godio bron bopeth a wnawn. Yr her ar gyfer ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol yw manteisio ar rym data mawr i wella ein bywydau—harneisio’r algorithm.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Mae amaethyddiaeth fanwl ar flaen y gad o ran y chwyldro data. Mae’n faes sy’n datblygu’n gyflym lle y caiff gwybodaeth ei defnyddio i gynhyrchu bwyd a thrin tir er mwyn gwella cynhyrchiant yn sylweddol a lleihau niwed i’r amgylchedd. Ym maes ffermio tir âr, er enghraifft, mae’r dull hwn yn galluogi ffermwyr i gasglu cyfoeth o wybodaeth amser real: lefelau dŵr a nitrogen, ansawdd aer, clefydau—data nad yw’n benodol i bob fferm neu i bob erw yn unig, ond i bob modfedd sgwâr o’n tiroedd amaeth. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, gall algorithmau ddweud wrth y ffermwr beth yn union sydd ei angen ar bob modfedd sgwâr o’r tir a phryd, a chynyddu cynhyrchiant i’r eithaf mewn modd eithriadol o fanwl.

Diolch yn fawr iawn i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon a sicrhau’r ddadl hon, a hefyd am ildio yma. Ond a fyddai’n cytuno hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal? Gall amaethyddiaeth fanwl a’r cyfan sydd ynghlwm wrthi ddrysu pobl, ond mewn gwirionedd, nodwyd ei bod yn rhan o’r ateb i’r broblem o sut i fwydo poblogaeth yr amcangyfrifir y bydd yn tyfu—i 9.1 biliwn erbyn 2050. Nid dyma’r unig ateb, ond mae’n un o’r arfau sydd gennym ar gyfer bwydo’r boblogaeth gynyddol honno.

Cytunaf yn llwyr fod iddi fanteision lluosog, o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran lleihau niwed i’r amgylchedd, sydd hefyd yn helpu rhai o’r bobl dlotaf yn y byd drwy liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Nawr, nid yn unig y mae’r algorithmau hyn a gymhwyswyd yn fanwl yn golygu bod llai o bethau’n mynd i mewn, am lai o gost i’n ffermwyr, ac i’r amgylchedd gyda llai o gemegau niweidiol, ond mae mwy o bethau’n dod allan, yn union fel y mae Huw Irranca-Davies newydd ei awgrymu. Mae ymchwil wedi dangos y gallai amaethyddiaeth fanwl gynyddu cynnyrch cnydau cymaint â 67 y cant. Mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynglŷn â’r cyflenwad bwyd a dŵr yn fyd-eang, mae ffigurau fel y rhain yn bwysig. Yn Seland Newydd, mae ffermwyr wedi datblygu ffordd o gymryd micro-fesuriadau o rannau helaeth o dir fferm i nodi faint o laswellt sydd yn y padog fel y gellir dosbarthu buchod godro yn y modd mwyaf effeithiol ar gyfer eu bwydo. Mae’n rhybuddio ffermwyr ynglŷn â faint o borthiant sydd ganddynt ac yn nodi ardaloedd lle y mae’r cynhyrchiant yn isel sy’n galw am ymyrraeth—er enghraifft, rhagor o wrtaith. Trwy fwydo eu hanifeiliaid yn fwy effeithlon, mae ffermwyr yn Seland Newydd wedi helpu i gynyddu allforion i Tsieina 470 y cant mewn un flwyddyn—ad-daliad economaidd clir am wybod union leoliad a chrynodiad glaswellt mewn cae: defnyddio amaethyddiaeth fanwl.

Mae pocedi o arloesedd ar draws Cymru, yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrifathro Coleg Sir Gâr yn Llanelli, Barri Liles, a ddywedodd wrthyf sut y mae un o’u campysau eisoes yn mwynhau’r manteision. Yn eu fferm yng Ngelli Aur, ger Llandeilo, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin, maent wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol mewn cynhyrchiant llaeth, gan wneud y defnydd gorau o laswellt a lleihau mewnbwn porthiant drud. Maent yn defnyddio delweddau lloeren i fesur maint caeau a dyraniadau pori i’w buchesi. Caiff data twf glaswellt ei fesur yn wythnosol â mesuryddion plât cyn ei gofnodi ar ap ffôn clyfar a’i gydamseru â rhaglen gofnodi ar y we. Maent hefyd yn treialu llywio â lloeren mewn arbrofion i osod gwrtaith drwy ddefnyddio dulliau manwl. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi cymryd rhan mewn datblygiadau arloesol ym maes glaswellt porthiant. Nawr, efallai ei fod yn swnio’n bell i ffwrdd cyn y daw goblygiadau ymarferol y gwaith ymchwil hwn yn glir. Mae’r glaswelltau hyn wedi dangos addewid cyffrous o ran lliniaru llifogydd, rhywbeth sydd wedi bod ar ein meddyliau gryn dipyn yr wythnos hon.

Nid ydym wedi dechrau crafu wyneb y potensial sydd i amaethyddiaeth fanwl i Gymru. Siaradais yr wythnos diwethaf am y gweithdy cyhoeddus a gynhaliais yn Llanelli yn ddiweddar, gweithdy a gynlluniwyd i helpu i ddatblygu glasbrint swyddi ar gyfer fy etholaeth, a’r consensws llethol oedd bod arnom angen mwy o uchelgais ar gyfer yr ardal os ydym i wrthsefyll y stormydd economaidd sydd ar y ffordd. Ac nid yn fy etholaeth i yn unig y mae hynny’n wir, mae’n wir ar draws Cymru. Ac mae amaethyddiaeth fanwl yn rhoi cyfle rhagorol i ni arddangos yr uchelgais hwn.

Un o’r diwydiannau a fydd yn debygol o deimlo baich Brexit yw ein sector cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd. Bydd cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin a’r tebygolrwydd y caiff tariffau allforio bwyd eu gosod yn ergyd galed i’n ffermwyr, ac mae angen i ni baratoi ar gyfer hyn, ac i ddod o hyd i ddulliau newydd, dychmygus, arloesol o hybu twf yn y sector hanfodol hwn—sector sy’n llythrennol yn rhoi bwyd ar ein byrddau. Mae’r amharu ar y farchnad a ysgogwyd gan yr hyn a elwir yn gyffredinol yn ‘bedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn cynnig cyfle i ni hefyd wneud yn union hynny: ailddychmygu economi fwyd Cymru er mwyn sefydlu Cymru fel ffwrnais arloesedd a diwydiant orllewinol y DU, gan gryfhau ein gallu ar yr un pryd i wrthsefyll rhai o’r heriau byd-eang mwyaf sy’n ein hwynebu.

Fe ddylem, ac mae angen i ni groesawu data mawr â breichiau agored. Mae’r cynnig trawsbleidiol sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu amaethyddiaeth fanwl. Byddwn yn annog y Gweinidogion a’r Aelodau i fuddsoddi egni a brwdfrydedd er mwyn gwneud hynny. Diolch.

Diolch i chi, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon, er bod hynny ychydig yn gynt nag y credais y byddwn yn cymryd rhan yn y drafodaeth. Rwy’n datgan buddiant, fel ffermwr, a rhag i mi grwydro i feysydd y gallai pobl feddwl eu bod yn gwrthdaro â fy muddiannau, rwy’n cofnodi hynny.

Ar ein fferm ym Mro Morgannwg, rydym yn gwneud defnydd mawr o ddelweddau lloeren a mesurau rheoli plaladdwyr a gwrteithiau; mae bron bob un o’r tractorau a ddefnyddiwn yn cael eu tywys gan loerennau, felly pan fyddwch yn rhoi’r gwrtaith allan, bydd rhan benodol o’r cae, er enghraifft, yn cael dogn fwy o wrtaith na rhan arall o’r cae am fod y delweddau’n dangos bod y rhan honno o’r tir yn fwy ffrwythlon na’r llall. 20 neu 25 mlynedd yn ôl, byddech yn mynd i mewn i gae 10, 15, 20 erw a byddech yn gosod cyfradd unffurf ar draws y cae, heb wybod yn iawn a oeddech yn cael yr effaith roeddech ei hangen. Ac yn amlwg, ceir effaith trwytholchi’r nitrad ac elfennau eraill y gwrtaith ar yr amgylchedd. Felly, mae yna fudd economaidd yn ôl i’r busnes ond ceir budd amgylcheddol yn ôl i’r busnes hefyd.

Rydym yn trafod llawer yn y Siambr hon, ac yn aml iawn yr un hen broblemau yw rhai o’r pethau rydym yn eu trafod yn y Siambr hon, ond drwy drafod y ddadl hon heddiw, sydd, fel yr amlygodd cynigydd y cynnig—yn gyntaf rydych yn meddwl, ‘Am ddadl od. Am beth y maent yn siarad?’—a dweud y gwir gallwn gael effaith enfawr yn y maes hwn am mai amaethyddol yn bennaf yw màs tir Cymru. Mae gennym ddiwydiant amaeth mor amrywiol. Mae gennym ardaloedd âr o amgylch y rhanbarthau arfordirol, mae gennym y sector da byw, ac rwy’n gweld bod yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yma, ardal sydd ag un o’r dwyseddau uchaf o ffermydd da byw yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym sector ynni adnewyddadwy cynyddol yn defnyddio ein harwynebedd tir, a hefyd rheoli atal llifogydd a’r enillion amgylcheddol y gellir eu cael. Felly, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar gymysgedd amaethyddiaeth a’r defnydd o dir amaethyddol yng Nghymru, o ystyried maint Cymru, mae gennym gyfle enfawr i wthio ffiniau’r dechnoleg newydd hon mewn gwirionedd, a phatentu a datblygu’r dechnoleg honno yma yng Nghymru.

Roedd yn gwbl briodol—yr ymyriad gan yr Aelod dros Ogwr—i nodi ein bod yn byw mewn byd gyda thwf enfawr yn y boblogaeth, ac eto ni fu’r heriau i adnoddau naturiol y blaned erioed mor helaeth. Mae gennych ardaloedd enfawr o’r byd sy’n troi’n gras oherwydd problemau dŵr sy’n arwain at wrthdaro mewn sawl man. Mae gennych ddemocratiaeth orllewinol, gawn ni ddweud, neu economïau gorllewinol, sydd, yn hanesyddol, wedi darparu llwythi enfawr o fwyd drwy eu cefnogaeth i’r diwydiant amaethyddol, ond mewn gwirionedd nid yw cynhyrchiant y diwydiant amaethyddol, yn enwedig o ran cynhyrchu cnydau yn benodol, wedi newid llawer dros yr 20, 25 mlynedd diwethaf. Os edrychwch ar gynhyrchu gwenith, er enghraifft, am fod geneteg y tymor gwenith wedi cael ei ddwyn ymlaen, nid ydynt wedi dal i fyny’n iawn â’r potensial a’r galw sydd angen i ni ei greu er mwyn cynnal sylfaen gynhyrchu bwyd hyfyw i boblogaeth y byd sy’n cynyddu drwy’r amser.

Mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn gosod her, mewn ffordd gyfeillgar, i Lywodraeth Cymru, ac i’n sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, a’r diwydiant ei hun, i ymateb i’r her a’r cyfle sydd yno mewn gwirionedd i ddatblygu’r meysydd twf newydd hyn. Nid yn unig ym maes cynhyrchu cnydau y mae’n digwydd. Ym maes cynhyrchu da byw, yn arbennig, gall data mawr wella proffidioldeb ac effeithlonrwydd y sector da byw yn helaeth, o’r eneteg y profwyd ei bod yn darparu gwell anifeiliaid da byw yn ôl i giât y fferm, i asesu’r cig sy’n dod o’r anifeiliaid hynny hefyd pan gânt eu prosesu yn y safle prosesu. Yn Seland Newydd, er enghraifft, mae llawer o’r gwaith graddio sy’n cael ei wneud ar garcasau anifeiliaid yn cael ei wneud yn electronig erbyn hyn, yn hytrach na chan y llygad dynol, gan leihau’r gwahaniaeth, gawn ni ddweud, sy’n aml iawn yn digwydd wrth ddibynnu ar y llygad dynol a’r galw a allai fod yn y lladd-dy o ran beth y mae’r cynhyrchydd ei angen, gan ddarparu lefel gyson o enillion yn ôl i’r cynhyrchydd cynradd i gael yr hyder i fuddsoddi yn y sector da byw hwnnw.

Felly, mae hwn yn faes cyffrous iawn ac mae gennym bocedi o arloesedd go iawn yn digwydd yn ein sectorau addysg uwch ac addysg bellach ledled Cymru—soniwyd am Gelli Aur; mae Aberystwyth yn enghraifft wych arall o ragoriaeth y gallwn edrych arni—ond mae angen i ni gael cynllun, fel y mae’r cynnig yn galw amdano, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae’n mynd i sicrhau’r arian ymchwil a datblygu, ynghyd â’r cyfleusterau sy’n bodoli yn y sector ymchwil yng Nghymru—. Mae yna derfyn ar fy amser, ond rwy’n hapus i gymryd yr ymyriad.

Fy ymddiheuriadau, nid wyf yn bwriadu ymyrryd gormod. Ond a fyddai’n cytuno hefyd mai un o’r cyfleoedd cyffrous sy’n deillio o hyn, gyda’r twf cynt gynt mewn data mawr, yw’r hyn y gallem ei wneud mewn gwirionedd ar yr agwedd amgylcheddol, gan y gellid cael gwared ar y rowndiau diddiwedd o arolygu, archwilio, adolygu a monitro, monitro ar ei ffurf draddodiadol, i ryw raddau, yn sgil cywirdeb monitro data mawr o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd?

Mae cyfle enfawr i wneud hynny, ac fel rhywun, yn amlwg, sydd wedi cael ei arolygu’n rheolaidd, ar ôl bod yn ffermio ers 25 mlynedd, rwy’n gweld manteision ac anfanteision hynny gan fod y dirwedd yn wledd symudol, ac mae’r diffyg hyblygrwydd yn aml iawn sy’n gysylltiedig â chiplun o ddelwedd Google neu rywbeth y bydd arolygwyr yn dibynnu arno yn achosi problemau’n aml iawn. Ond mae lle i wella’r agwedd honno ar bethau hefyd.

Rwy’n croesawu’r cynnig ger ein bron. Rwy’n credu y gallem fod wedi llenwi llawer mwy o amser yn edrych ar yr agwedd benodol hon, gan fy mod yn credu ei fod yn faes dilys y gall y Llywodraeth wneud gwahaniaeth mawr ynddo, maes y gall y diwydiant wneud gwahaniaeth mawr ynddo, a gall ein sectorau ymchwil a busnes hefyd gyflawni ar gyfer canrif sy’n argoeli i fod yn un gyffrous a deinamig ym maes cynhyrchu bwyd ac yn wir, o ran argaeledd technoleg newydd.

Mae’n ddiddorol iawn clywed eglurhad Andrew R.T. Davies am y gwaith y mae’n ei wneud yn y maes hwn. Fel y mae Huw Irranca-Davies ac Andrew wedi nodi, mae’n ffordd o sicrhau cymaint o gynnyrch ag y bo modd heb ddefnyddio cemegau, a harneisio grym natur yn ddeallus. Yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, rhaid i gynhyrchiant bwyd gynyddu 60 y cant er mwyn gallu bwydo poblogaeth y byd sy’n tyfu. Mae data mawr yn arf pwerus sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yn y tymor hir drwy wella’r cyfleoedd economaidd i ffermwyr, yn ogystal ag iechyd defnyddwyr.

Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn Zimbabwe, lle yr arweiniodd lefelau critigol o gnydau’n methu yn 2013 at berygl o ddiffyg maeth cronig i 2 filiwn o bobl. Gall data mawr helpu i atal y mathau hynny o bethau rhag digwydd, drwy ragweld yr amodau tywydd sy’n arwain at gnydau’n methu, ond hefyd drwy liniaru a chynhyrchu ffyrdd gwahanol o ddelio â’r broblem. Rwyf wedi siarad droeon am y diffyg masnach arddwriaeth sydd gennym yn y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, ac mae hyn yn un o’r ffyrdd y gallem ddod yn hunangynhaliol mewn garddwriaeth yn effeithlon iawn, yn ogystal â’i defnyddio fel marchnad allforio.

Rwyf eisiau canolbwyntio ar ddwy wlad sy’n dominyddu’r farchnad arddwriaeth braidd, ac sydd wedi defnyddio data mawr yn effeithiol iawn. Un ohonynt yw Chile, sydd ar begwn deheuol De America. Mae ei hardal arddwriaethol wedi’i chanoli yn nhalaith Valparaíso, o ble yr allforir mwy na dwy ran o dair o gynhyrchiant garddwriaethol y wlad. Chile sy’n allforio 50 y cant o’r ffrwyth a allforir o hemisffer y de, ac mae’n wlad gymharol fach o ran arwynebedd tir. Os cymharwch hynny â 1990, pan nad oedd eu cyfran ond yn 25 y cant, mae’n awr yn brif allforiwr ffrwythau yn hemisffer y de. Felly, cafwyd trawsnewid enfawr yn y diwydiant hwnnw. Trwy’r byd, amaethyddiaeth sydd i gyfrif am 70 y cant o’r holl ddefnydd a wneir o ddŵr ffres, ond caiff oddeutu 60 y cant ohono ei wastraffu yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall. Felly, drwy ddefnyddio data mawr i reoli dŵr yn effeithiol—. Yn Chile, dangoswyd bod defnyddio ymchwilwyr dyfrhau wedi cwtogi eu defnydd o ddŵr 70 y cant ym maes ffermio llus drwy ddefnyddio rhwydwaith o synwyryddion di-wifr. Dyma allforion ffrwythau trydydd mwyaf Chile, felly, yn amlwg, gydag arbedion enfawr o’r fath, a dwy ran o dair o’r dŵr a echdynnir yn y byd bellach yn cael ei ddefnyddio gan amaethyddiaeth, nid yn unig y bydd galw am systemau rheoli dŵr clyfar, ond fe fyddant yn gwbl hanfodol.

Mae’r ail wlad yn llawer nes at adref, sef yr Iseldiroedd. Mae’n un o allforwyr prosiectau garddwriaethol mwyaf y byd, ac ar rai adegau o’r flwyddyn mae’n cyflenwi bron yr holl ffrwythau a llysiau ar gyfer y rhan fwyaf o Ewrop. Yr Iseldiroedd sydd â 44 y cant o’r fasnach flodau fyd-eang, ond hefyd, drwy ddefnyddio tai gwydr hydroponig, dyna sydd i gyfrif am 50 y cant o werth yr holl ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn yr Iseldiroedd. Maent wedi defnyddio data mawr i hybu eu cynhyrchiant a diogelu eu cnydau rhag yr hinsawdd nad oes modd ei ddarogan. Mae’r defnydd o’r tai gwydr hydroponig hyn wedi cynyddu eu cynhyrchiant bwyd yn aruthrol. Maent wedi defnyddio data i ddadansoddi a chydbwyso eu priddoedd, ac wedi gwneud defnydd effeithiol o wrteithiau naturiol, fel eu bod wedi mireinio eu technegau ffermio drwy chwyldro gwyrdd, yn hytrach nag ychwanegu mwy a mwy o wrteithiau masnachol artiffisial. Mae’n gwneud planhigion yn llai agored i ddirywiad pridd a thywydd na ellir ei ddarogan drwy ddefnyddio’r tai gwydr mawr hyn, y gallwch eu gweld os ydych yn hedfan dros unrhyw ardal yn yr Iseldiroedd. Mae’n golygu bod gan arddwriaethwyr fwy o reolaeth dros yr amodau, sy’n eu galluogi i hybu effeithlonrwydd, lleihau gwastraff ac ehangu cynhyrchiant y tu hwnt i’r tymhorau naturiol. Mae’r tai gwydr hydroponig hyn yn bendant yn cynnig garddwriaeth fanwl, a theimlaf y dylem allu eu hefelychu yma ym Mhrydain mewn gwirionedd.

Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes pwysig iawn y mae angen i ni edrych arno, ac ar ôl siarad â’r undebau ffermio, rwy’n meddwl bod eu haelodau’n agored iawn i syniadau newydd, oherwydd eu bod yn deall yn iawn fod newid ar y ffordd, yn anochel, o ganlyniad i Brexit, ac mae hon yn foment bwysig iawn a defnyddiol i roi’r arfau sydd eu hangen arnynt i ffermwyr allu arallgyfeirio ac i roi incwm sicr iddynt.

Diolch i chi, Lywydd dros dro. Am ddadl ddiddorol yw hon wedi bod, a hoffwn longyfarch Lee Waters ar ychwanegu’r haen ddeallusol hon i’n trafodion. Mae’n dangos cymaint o glod ydyw i’n hen ysgol, ac rwy’n siŵr y bydd Adam Price yn cytuno ei fod yn cyfrannu cymaint at y trafodion. Wrth gwrs, mae fy nghyfraniadau i’n tueddu i fod ar gyfer pen garwach y farchnad areithyddol, ond rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth ychydig yn uwch ei safon hon.

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn gwybod fawr ddim am y pwnc nes i mi ei ymchwilio ar ôl i’r cynnig gael ei nodi ar y papur trefn. Ond mae’n beth gwirioneddol gwerth chweil i ni ei drafod, am fy mod yn credu ei fod unwaith eto’n gwrthbrofi’r camsyniad Malthwsaidd ac yn dangos na ellir rhagweld y terfynau i ddyfeisgarwch dynol. Ac o ganlyniad i’r cynnydd aruthrol yn y boblogaeth a welsom yn ystod ein hoes, a’r cynnydd yn y boblogaeth sydd yn yr arfaeth, bydd angen i ni gynyddu cynhyrchiant bwyd yn enfawr, ac mae bron pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon hyd yma yn cydnabod cyfraniad mor enfawr y gall data mawr ei wneud i liniaru problemau tlodi a newyn yn y byd, ac rwy’n siŵr ein bod i gyd yn derbyn hynny.

Ac yn sicr, wrth i’r byd gorllewinol ganolbwyntio llai a llai ar gynhyrchu llafurddwys, mae’r defnydd o dechnoleg yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig. Roedd yn ddiddorol iawn clywed cyfrif ymarferol gan ffermwr, gan Andrew R.T. Davies, ynglŷn â sut y mae hyn wedi effeithio ar ei fusnes yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn galonogol iawn i ni i gyd fod diwydiant a gâi ei ystyried yn y gorffennol fel un braidd yn hen ffasiwn, ar y lefel isaf un o weithgarwch unigol, bellach yn gallu manteisio ar y technegau hyn, na fyddai fawr ohonom, rwy’n meddwl, yn gallu esbonio sut y maent yn gweithredu i unrhyw un arall. Mae’n hawdd iawn gweld yr effeithiau; mae’n anodd iawn deall y wyddoniaeth a’r dechnoleg sy’n eu cynnal.

Ond mae’n ddiddorol ei bod yn trawsnewid ein bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Roedd yn ddiddorol iawn clywed beth oedd gan Jenny Rathbone i’w ddweud hefyd am y ffordd y caiff y technegau hyn eu defnyddio yn yr Iseldiroedd, a’r ffeithiau diddorol iawn a roddodd i ni am y gyfran o fasnach y byd mewn blodau a llysiau ac yn y blaen y mae gwledydd bach yn gyfrifol amdanynt, sy’n rhoi gobaith mawr i ni, rwy’n meddwl, wrth feddwl, wrth i’r degawdau basio, y bydd gwledydd sydd â thlodi enbyd ar hyn o bryd yn gallu gwella bywydau mwy a mwy o’u dinasyddion. Felly, rwy’n credu mai ysbryd o optimistiaeth yn bennaf oll a fydd yn deillio o’r ddadl hon y prynhawn yma.

Yr hyn sy’n ddiddorol yw pa mor fforddiadwy yw’r dechnoleg hon hefyd, pan ystyriwch gostau cynhyrchiant llafurddwys yn y gorffennol, a pha mor amhosib oedd hi i fusnesau bach allu fforddio technegau tebyg sy’n drawsnewidiol o ran eu heffaith. Gall busnesau—a ffermwyr yw’r garfan eithaf o bobl fusnes busnesau bach yn y wlad hon, ac yn enwedig yng Nghymru—fanteisio ar y technegau newydd hyn er mwyn gwella eu busnesau a’u gwneud yn fwy cynhyrchiol. Felly, rwy’n falch iawn o gyfrannu yn y ddadl hon, er na allaf ychwanegu unrhyw wybodaeth at yr hyn a drafodwyd, ond i ddweud unwaith eto pa mor bwysig yw hi i’r Cynulliad gael y dadleuon cydsyniol hyn o bryd i’w gilydd fel nad oes rhaid i ni golbio a churo ein gilydd yn y Siambr bob amser. Unwaith eto, hoffwn fynegi fy niolch i Lee Waters am ychwanegu cymaint at ansawdd yr hyn a wnawn.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd—

Acting DPO or however I should describe you at the moment—

Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 15:35:00

Cadeirydd.

Cadeirydd, ie, beth bynnag. Diolch. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon ac arbed gormod o embaras i Lee Waters am gael ei ganmol ormod gan Neil Hamilton rwy’n siŵr. Felly, rwy’n diolch iddo fy hun ac yn ychwanegu at hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yn y ddadl hon yw ein bod yn sylweddoli bod hyn eisoes yn digwydd a bod amaethyddiaeth yn gymysgedd o dreftadaeth, celfyddyd a llawer o wyddoniaeth a thechnoleg a diwydiant. Mae’r rhan diwydiant eisoes yn gyrru hyn. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, bydd gan y rhan fwyaf o ffermwyr system leoli fyd-eang o ryw fath ar eu tractorau eisoes ac yn gallu gwneud rhyw fath o fodelu fel hyn.

Yr hyn rydym yn galw amdano mewn gwirionedd yn y ddadl hon yw i Lywodraeth Cymru a phob un ohonom fod ar flaen y gad gyda’r dechnoleg hon. Wrth edrych ar sut y dechreuodd hyn i gyd, deuthum ar draws y defnydd cyntaf mewn gwirionedd o gerbyd awyr di-griw, y byddem bellach yn ei alw’n drôn, i arolygu tir ffermio yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yn 2008 a phrosiect ymchwil ar y cyd rhwng QinetiQ, sef Aberporth i’r rhai sy’n ei adnabod, a Phrifysgol Aberystwyth yn edrych ac yn arolygu a oedd angen gosod gwrtaith mewn perthynas â lefelau nitrogen pridd ac roedd hynny’n cael ei wneud o’r awyr. Felly, rydym wedi bod yno o’r cychwyn yma yng Nghymru gyda’r dechnoleg, y sefydliadau addysg uwch a’r ffermwyr yn gweithio law yn llaw a nawr yw’r cyfle i symud ymlaen ar gyfer y rhan nesaf hon.

Rwy’n meddwl y bydd y rhai ohonom a astudiodd hanes yn hytrach nag amaethyddiaeth er hynny’n cofio ‘Turnip’ Townshend, symbylydd eithaf adnabyddus, gobeithio, y chwyldro amaethyddol cyntaf a gawsom yn y Deyrnas Unedig. Cyflwynodd system gylchdroi cnydau Norfolk, a fwydodd i mewn wedyn i’r chwyldro diwydiannol. Heb ‘Turnip’ Townshend ni fyddem wedi cael y chwyldro diwydiannol yn syml iawn am na ellid bod wedi bwydo poblogaethau cynyddol ein dinasoedd a ddeilliodd o hynny wedyn.

Rydym yn gweld hynny bellach yn ôl yng Nghymru. Dyma rwy’n ei hoffi am hyn: mae’n gyfuniad o’r hen a’r newydd gyda’i gilydd. Bydd aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a ymwelodd â fferm Bryn Gido ger Llanarth yng Ngheredigion yn cofio’r ffermwr ifanc yno, Anwen, a oedd yn edrych ar sut y gallai wella ei phorfa ar gyfer defaid. Roedd hi’n plannu erfin, nid maip, ond erfin ar gyfer y defaid. Yn syml, drwy blannu’r erfin a gwybod beth oedd cyflwr y pridd a beth oedd twf glaswellt, ac mewn cysylltiad ag Aberystwyth, gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, gwybod pa laswellt i’w blannu, pryd i’w blannu, sut i’w blannu a glaswellt yn dilyn erfin mewn gwahanol gaeau, roedd y gostyngiad yn ei chostau dwysfwyd wedi bod yn aruthrol. O fod yn wynebu bodolaeth ansicr iawn roedd hi mewn sefyllfa lawer mwy cynaliadwy. Dyna fferm ddefaid draddodiadol, na fyddech yn meddwl pan fyddwch yn edrych ar ddadl sy’n dweud ei fod yn ymwneud â data mawr ac amaethyddiaeth fanwl. Nid ydych yn credu bod hynny’n ymwneud â ffermio defaid ond mae’n ymwneud yn llwyr â ffermio defaid. Ac yn yr un modd wrth feddwl am yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am Seland Newydd, roedd hi’n edrych ar frid y defaid a bridio defaid ac yn gwneud hynny wedyn yn wyddonol hefyd. Dyna rywbeth y gallwch ei wneud mewn un ffermdy ar fryn yng Ngheredigion ac mae’n rhywbeth y gellir ei wneud ar draws Cymru yn awr wrth i ni wella ein data fferm. 

Dywedwyd eisoes sut y gall data mawr ein cynorthwyo gyda hyn o ran tywydd, ansawdd pridd ac aer, aeddfedrwydd cnydau, offer, costau llafur, a’r holl arbedion a’r buddsoddiad a all arwain o hynny. Ond y peth go iawn rwy’n meddwl fy mod am ei bwysleisio ar y cam hwn o’r ddadl yw ein bod angen i rywbeth gael ei roi yn ei le er mwyn i ffermwyr bach yn arbennig allu gwneud defnydd o hynny. Yr hyn nad wyf am ei weld yn digwydd mewn data mawr ac amaethyddiaeth fanwl yw sefyllfa debyg i’r un a gododd gydag addasu genetig. Nid ydym yn mynd ar ôl addasu genetig heddiw ond dechreuodd addasu genetig fel rhyw fath o broses gorfforaethol fawr a oedd yn dweud wrth ffermwyr sut i ffermio ac yn dweud mai dim ond rhai gwrteithiau penodol y gallech eu defnyddio, ni allech ond defnyddio rhai plaladdwyr ac roedd yn deillio o ymagwedd o’r brig i lawr ac yn syml yn arwain at anghydfod ac anhapusrwydd ymysg ffermwyr ac yna, wrth gwrs, ymysg defnyddwyr hefyd nad oeddent yn credu mai dyna’r math o fwyd roeddent am ei weld. Felly, er mwyn osgoi hynny, rhaid i ni gynnwys ffermwyr eu hunain yn y broses o gynllunio data mawr a dyna’r pwynt rwy’n meddwl y gall Llywodraeth Cymru arwain arno.

Felly, er enghraifft, os ydym yn mynd i gael data mawr mae’n rhaid iddo gael ei storio. Os oes rhaid ei storio, yna mynediad at y data hwnnw a sut y caiff y data ei ddefnyddio—gwledd symudol y dirwedd, fel y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies ati rwy’n meddwl—. Rhaid i ffermwyr fod yn hyderus fod y data’n mynd i gael ei ddefnyddio mewn ffordd gynhyrchiol a defnyddiol, nid i’w cosbi, ond mewn ffordd sy’n eu helpu, ynghyd â’u cymdogion, i dyfu eu busnesau fferm. Felly, mae pwy sy’n berchen ar y data’n bwysig, fel y mae’r modd rydych yn cysylltu â sefydliadau addysg uwch ynghylch y defnydd o’r data ac a oes modd defnyddio’r uwch gyfrifiaduron sy’n cael eu datblygu yn ein sefydliadau addysg uwch bellach at y diben hwn yn ogystal. Credaf fod hynny’n mynd i fod yn agwedd hanfodol.

Yr un arall, i droi at bwynt llai dyrchafol, ond un sy’n bwysig iawn, yw nad oes gan 13 y cant o’n ffermwyr yng Nghymru heddiw gysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd, a chyflymder cysylltu o 2 Mbps yn unig sydd gan 60 y cant ohonynt. Ni allwch wneud data mawr—ni allwch godi drôn—â chysylltiad rhyngrwyd o’r fath. Ni allwch gadw eich gwybodaeth, ei rhannu a dysgu oddi wrth eich gilydd gyda chysylltiad o’r fath. Felly, mae data mawr yn gorfod mynd yn llaw â chysylltiad cyflym a da â’r rhyngrwyd a chysylltiad symudol mewn llawer o ffermydd yn ogystal.

Rwy’n credu bod yna botensial enfawr ar gyfer sgiliau gwyrdd—twf sgiliau gwyrdd—yn economi Cymru. Dim ond 27 y cant o ffermwyr sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ond i’r genhedlaeth newydd sy’n dod i mewn, wrth gwrs, mae bron yn 100 y cant. Dyma draddodiad ffermio yng Nghymru sy’n awyddus i ddysgu ac yn awyddus i ddefnyddio’u sgiliau, ac mae hon yn enghraifft go iawn o ble y gall Cymru arwain y ffordd.

Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy’n codi yn fyr iawn i ategu’r pwynt olaf a wnaeth Simon Thomas, mewn gwirionedd. Rwy’n ddiolchgar bod y mater yma wedi dod ger bron y Cynulliad—rwy’n croesawu hynny’n fawr.

Mae arloesedd yn rhywbeth yn gyffredinol rwy’n eiddgar i’n gweld ni’n gwneud mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n meddwl bod yna rywbeth am faint Cymru—am ‘scale’ Cymru—sy’n ein gwneud ni’n lle delfrydol i arloesi mewn nifer o feysydd. Rwy’n meddwl, o ystyried pwysigrwydd byd amaeth fel rhan o’n gwead cymdeithasol ni yng Nghymru, fod amaeth yn faes amlwg iawn i geisio arloesi ynddo. Wrth gwrs, mae yna, fel yr ydym wedi clywed yn barod, ddigon o enghreifftiau o le mae yna arloesi mawr wedi digwydd, yn cynnwys yn ein sefydliadau addysg uwch ni.

Mae yna les i’r arloesi yma yn economaidd. Mae byd amaeth a’r rheini sydd yn dibynnu ar amaeth am eu bywoliaeth yn gorfod gwneud mwy efo llai y dyddiau yma, fel pobl ym mhob maes. Mae datblygiadau technolegol ac arloesedd amaethyddol yn mynd i alluogi hynny i ddigwydd. Rhywbeth sy’n perthyn i hen oes ydy ffermydd lle roedd yna luoedd o weision yn gweithio yn gwneud gwaith caled caib a rhaw. Erbyn hyn, mae gallu’r amaethwr i gael mwy am lai o fewnbwn yn fwy pwysig nag erioed. Wrth gwrs, mae yna bwysigrwydd amgylcheddol i hyn, hefyd, fel rydym ni wedi’i glywed, ac o ran bwydo’n poblogaeth ni.

Y pwynt, fel rwyf yn ei ddweud, rwyf i eisiau ei wneud, fel y gwnaeth Simon Thomas, yw: mae’n hawdd iawn meddwl rhywsut am gefn gwlad Cymru fel rhywle araf—rhywle hardd, ie, ond rhywle sydd ymhell iawn o fwrlwm arloesedd yr unfed ganrif ar hugain—ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn wir. Os ydym ni’n chwilio am brofi lle ein cefn gwlad a’n diwydiant amaeth ni yn y ganrif arloesol hon, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod y cysylltiadau yna i bobl allu cymryd rhan mewn rhannu data ac mewn rhannu gwybodaeth, ac rwy’n meddwl bod hwn yn ‘peg’, unwaith eto, i atgoffa’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, un ai mewn Llywodraeth neu o’r tu allan, fod yn rhaid ystyried cefn gwlad fel rhywle lle mae hi yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i sicrhau bod y cysylltiadau yno. Nid yw cysylltiadau corfforol yn rhywbeth sy’n dod mor amlwg i gefn gwlad. Mae cysylltiadau digidol yn hollol allweddol, ac rwy’n meddwl bod hynny ynddo’i hun yn rhywbeth pwysig iawn i’w gofio wrth inni drafod yr arloesedd sydd ei angen arnom ni yng nghefn gwlad Cymru.

Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 15:44:00
The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs

Diolch, Gadeirydd. Rwy’n synnu bod Lee Waters wedi gweld wynebau dryslyd, oherwydd ar ôl i chi ddwyn hyn i fy sylw yn ystod un o fy sesiynau holi fis neu ddau yn ôl, cefais lawer o bobl yn dod ataf i sôn wrthyf am amaethyddiaeth fanwl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn dda iawn ein bod wedi cael y cyfle hwn i drafod y pwnc ymhellach heddiw.

Crybwyllodd Simon Thomas yn ei sylwadau fod llawer iawn o weithgaredd yn digwydd yn y maes hwn eisoes, felly rwyf eisiau nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi iddo.

Mae arloesedd, fel ym mhob agwedd ar fywyd mewn gwirionedd, yn gwbl hanfodol er mwyn i systemau amaethyddol sicrhau gwell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ac wrth gwrs, mae’n parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae datblygiad yn y technolegau sydd ar gael i’n ffermwyr yn golygu bod yna gyfleoedd ar gyfer ymgorffori synwyryddion clyfar, systemau lleoli manwl iawn a lloerennau mewn arferion ffermio er mwyn lleihau mewnbynnau a’u targedu at ble y mae fwyaf o’u hangen.

Dechreuodd y chwyldro mewn ffermio manwl yn y sectorau âr a garddwriaethol, gyda systemau i dargedu mewnbynnau cnydau a chynaeafu. Y dyddiau hyn, fel y clywsom, mae yna systemau hefyd i gefnogi mentrau da byw sydd, er enghraifft, yn defnyddio synwyryddion i fonitro gweithgarwch, iechyd a chynhyrchiant.

Mae’r holl dechnolegau newydd hyn yn gyrru’r ffenomen a elwir yn ddata mawr, sef y gallu i gael gwybodaeth a mewnwelediad lle nad oedd yn bosibl yn economaidd nac yn dechnegol i wneud hynny o’r blaen. Mae systemau megis synwyryddion monitro o bell, systemau lleoli byd-eang a thechnoleg DNA bellach yn gallu cynhyrchu llwyth enfawr o ddata ar gyflymder uchel.

Agrimetrics yw’r gyntaf o bedair canolfan sy’n cael eu sefydlu fel rhan o strategaeth amaeth-dechnoleg Llywodraeth y DU. Bydd yn cefnogi’r chwyldro yn y defnydd o wyddoniaeth data a modelu data ar draws sector y system fwyd. Mae integreiddio data ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, o gynhyrchiant fferm i’r diwydiant bwyd, i fanwerthwyr a defnyddwyr, i gyd yn nodau sydd gan Agrimetrics. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid a chyrff cyflenwi i ddenu cymaint ag y bo modd o incwm ymchwil amaeth-dechnoleg i Gymru.

Felly, beth yw gwerth data mawr? Mae technolegau ffermio manwl yn cynnig cyfleoedd i gasglu data o ffynonellau lluosog, sydd wedyn yn creu setiau data mawr cadarn. Gellir cwestiynu’r data hwn a’i drosi’n wybodaeth a fydd yn gyrru’r don nesaf o arloesedd ar ffermydd. Ni fydd ffermwyr yn ddibynnol bellach ar daenlenni data o’u mentrau eu hunain; byddant yn gallu manteisio wedyn ar ddata cenedlaethol a byd-eang.

Mae Amaeth Cymru, grŵp partneriaeth y fframwaith strategol, a gadeirir gan Kevin Roberts, yn dod â rhanddeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfeiriad strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod cyn ac ar ôl Brexit. Rwy’n gweld gwaith y grŵp hwn yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r gwaith hwn wedi dod hyd yn oed yn bwysicach a mwy o frys amdano yng ngoleuni canlyniad y refferendwm.

Mae Amaeth Cymru yn datblygu map strategol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a fydd yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer y grŵp fydd cyfleoedd yn y dyfodol ym maes ymchwil a datblygu.

Felly, fel y dywedais, mae llawer iawn o weithgaredd ar y gweill ar hyn o bryd. Trwy Cyswllt Ffermio, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ymwneud ag amaethyddiaeth fanwl ac yn sefydlu prosiectau i ddangos ei manteision i ystod eang o systemau ffermio. Byddwn yn annog ffermwyr a choedwigwyr sy’n awyddus i wybod mwy am dechnoleg a thechnegau ffermio manwl i wneud cais am gyllid drwy bartneriaeth arloesi Ewrop i ddatblygu eu syniadau ymhellach.

Mae technegau ffermio manwl yn helpu ffermwyr i ddewis a darparu’r mewnbynnau cywir ar yr amser cywir ac ar y gyfradd gywir. Felly, mae’n bwysig iawn fod gennym y mewnbynnau hynny sydd wedi’u targedu; gall arbed arian hefyd. Er enghraifft, ar un o’n safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio yn ne Cymru, mae yna brosiect yn edrych ar y defnydd o synwyryddion gwrtaith nitrogen ar dractorau, sy’n ei gwneud hi’n bosibl gosod nitrogen mewn modd sensitif, yn ôl amrywiad yn lliw cnwd grawnfwyd. Disgrifiwyd y dechnoleg fel un sydd â’r gallu i fod yn fwy cywir o ran darparu maetholion na thechnoleg system leoli fyd-eang sy’n bodoli eisoes.

Enghraifft arall: ar safle arloesi Cyswllt Ffermio yn Aberystwyth, mae gennym brosiect rhaglen ymchwil sy’n anelu at wella dealltwriaeth o ymddygiad anifeiliaid a metaboledd, gan gynyddu cynhyrchiant a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd. I’r Aelodau a fynychodd y Sioe Frenhinol, ar stondin Cyswllt Ffermio, cyfarfûm â’r bobl a oedd yn gweithredu’r cynllun hwn a gwrandewais ar y manteision ac os oes unrhyw werthusiad y gallaf ei gyflwyno, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Felly, yn ychwanegol at y 12 prosiect Cyswllt Ffermio sy’n edrych yn benodol ar amaethyddiaeth fanwl ar draws Cymru, mae gennym grant cynhyrchu cynaliadwy Llywodraeth Cymru hefyd sy’n cynorthwyo nifer o ffermwyr Cymru i wneud y buddsoddiad angenrheidiol i foderneiddio a gwella aneffeithlonrwydd ar eu ffermydd. Rwy’n meddwl bod y pwynt a nodwyd gan Aelod ynglŷn â ffermydd bach—credaf mai Simon Thomas a’i gwnaeth—yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl gan y dechnoleg hon.

Felly, bydd y rhain a mentrau eraill sydd eisoes ar y gweill, rwy’n credu, yn rhoi Cymru yn ei lle priodol: ar flaen y gad yn y broses o ddatblygu amaethyddiaeth fanwl. Diolch.

Diolch i chi a galwaf yn awr ar Huw Irranca-Davies i ymateb i’r ddadl.

Diolch, Gadeirydd. A gaf fi ddweud bod hon wedi bod yn drafodaeth dda dros ben? Rydym wedi cael saith cyfraniad, gan fy nghynnwys i fy hun, ac Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, a chefais fy nharo gan lefel y consensws ynglŷn â’r potensial sydd i’r dechnoleg hon yng Nghymru, ac, fel y dywed Lee Waters, a gyflwynodd y ddadl, i ddefnyddio’r hyn a alwodd rwy’n credu yn ‘ffwrnais arloesedd orllewinol’. Rwy’n credu ei fod yn iawn, ac atgoffodd Lee ni o’r manteision y gall y dechnoleg hon eu creu: gwelliannau posibl o ran cynnyrch cnydau, amgylcheddol, manteision i incwm ffermwyr yn y wlad hon ac fel y dywedodd Jenny Rathbone hefyd, yn rhyngwladol. Lle y mae pobl yn ffermio mwy ar lefel cynhaliaeth, gellid dadlau y gallai’r manteision fod hyd yn oed yn fwy. Soniodd am y datblygiadau arloesol yng Ngholeg Sir Gâr, ar fferm Gelli Aur ac ym Mhrifysgol Aberystwyth—mae’n wych pasio’r fan lle y cynhelir y treialon ar laswelltau porthiant yn Aberystwyth mewn gwirionedd—a’r arloesedd sydd eisoes yn digwydd a photensial ei gymhwyso yma yng Nghymru.

Atgoffodd Andrew R.T. Davies ni, mewn gwirionedd, fod peth o’r dechnoleg hon eisoes ar waith fel mater o drefn, a defnyddir technoleg system leoli fyd-eang gan lawer iawn o ffermwyr y dyddiau hyn—y defnydd o ddelweddau lloeren ar gyfer defnydd manwl o wrtaith. Fe’n hanogodd i wynebu’r her o ddatblygu’r meysydd twf newydd hyn, a oedd yn thema gyffredin gan lawer o’r cyfranwyr heddiw—fe ildiaf, wrth gwrs.

Rwy’n symud ymlaen mewn bywyd ar yr oedran tywysogaidd o 48, ac fel y mae fy meibion yn dweud wrthyf o hyd, dylwn gael fy rhoi allan i bori, cymaint felly fel eu bod yn fy nghadw’n ddigon pell oddi wrth y darn o offer data mawr diweddaraf sydd gennym, a elwir yn Scorpion, rhag y difrod y gallwn ei wneud ag ef. Ond mae’n bwynt pwysig, fod angen i ni addysgu a chaniatáu i bobl ddatblygu drwy’r diwydiant fel y gallant wneud defnydd o’r data hwn, oherwydd nid oes unrhyw bwynt eu cael os na allwch eu defnyddio.

Yn bendant iawn yn wir. Pwynt da, ac mae eraill wedi nodi hynny hefyd. Mae’n rhaid cael cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant—diwydiant mawr, diwydiant bach—y byd academaidd, unedau ymchwil, ond hefyd yr ymarferwyr partner pen blaen hynny, y ffermwyr eu hunain yn y cae, a byddaf yn dychwelyd atynt mewn munud.

Siaradodd Jenny Rathbone fy nghyd-Aelod—ac roeddwn yn meddwl ei bod wedi defnyddio ymadrodd hyfryd, rwy’n credu mai’r hyn a ddywedodd oedd ‘harneisio grym natur yn ddeallus’, sef yr hyn y mae hyn yn ymwneud ag ef, cael mwy o lai: llai o fewnbynnau petrocemegol, llai o erydu pridd, llai o effaith ar bridd. Dull llawer mwy deallus o ffermio a all, fel y dywedodd cyfranwyr eraill, gyd-fynd â—manylodd Simon Thomas ar hyn—ffurfiau traddodiadol ar ffermio. Nid un ar draul y llall; gellir eu hintegreiddio’n dda mewn gwirionedd.

Yn ei gyfraniad, siaradodd Neil Hamilton am y camsyniad Malthwsaidd, ond siaradodd hefyd am botensial hyn. Yn ddiddorol—gwn ein bod yn anghytuno ar hyn, ond un potensial sydd i’r dechnoleg hon yw ei gallu i adfer cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio am fod newid yn yr hinsawdd yn creu diffeithdir, gan ddinoethi lleoedd a oedd yn fasgedi bwyd y byd, neu ardaloedd lle y ceir llifogydd rheolaidd. Dyna yw potensial y dechnoleg hon.

Aeth Simon Thomas â ni’n ôl i hanes pell 2008, a’r defnydd cyntaf o drôn gan Brifysgol Aberystwyth mewn ymchwil gymhwysol ar arloesedd amaethyddol. Fe’n hatgoffodd hefyd ei fod yn ymwneud â’r briodas â ffermio traddodiadol a’r angen i gynnwys ffermwyr eu hunain wrth fwrw ymlaen â hyn.

Defnyddiodd Rhun ap Iorwerth yr ymadrodd clasurol—yn Gymraeg, fodd bynnag—am ‘faint Cymru’ a’r ffaith, oherwydd ein bod yn fach ac yn ddeinamig, y gallwn fod, mewn gwirionedd, yn fan profi ar gyfer y dechnoleg hon. Ond byddaf yn dychwelyd at hynny, gan fy mod yn meddwl bod yna bethau y gallwn eu gwneud o ran cydweithredu, yn ogystal, ar draws y DU—ac yn Ewrop, yn rhyfedd ddigon.

Ysgrifennydd y Cabinet—roedd yn wych ei chlywed yn sôn sut y gallai hyn ymgorffori yn y strategaeth fwyd-amaeth yma, ar y map ar gyfer y dyfodol, gan dynnu ein sylw at gyllid partneriaeth arloesi Ewrop sydd ar gael ar hyn o bryd a’r grant cynhyrchu cynaliadwy, a chymorth arall sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu ffermwyr ddefnyddio a datblygu’r dechnoleg hon, a thynnodd ein sylw’n ddefnyddiol at y ffaith fod hyn eisoes yn cael ei dreialu ar bethau fel y defnydd o wrtaith nitrogen yn ogystal.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Roeddwn i eisiau troi, ac nid wyf yn siŵr, Fadam Ddirprwy Lywydd, faint o funudau sydd gennym—

Diolch yn fawr iawn. Os felly, fe geisiaf ei wneud yn gyflym. Cefais ymweliad hyfryd—tua dwy flynedd yn ôl, rwy’n credu, dair blynedd yn ôl efalllai—â Phrifysgol Harper Adams, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffermio Manwl. Gwnaed gwaith aruthrol yno yn eu canolfan arloesi peirianneg amaethyddol, a gallwch weld y defnydd a wneir o hyn, y data mawr, rhyngrwyd o bethau. [Torri ar draws.] Fe welwch—iawn—y pen uwch-dechnoleg rhyfedd i hyn, gyda pheiriannau robotig a neb arnynt yn gweithio eu ffordd ar hyd y caeau, yn nodi chwyn unigol er mwyn gosod y gwrtaith cywir arnynt, yn gosod maetholion unigol mewn mannau penodol hefyd—costeffeithiol iawn, a defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam rwy’n dweud y dylid gwneud peth o’r gwaith arloesi ar hyn mewn gwirionedd, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y ffiniau, gan rannu’r cydweithrediad hwnnw ar draws prifysgolion ac eraill ledled y DU. Mae gennym y gallu yng Nghymru i wneud hyn, a hefyd drwy rannu ein gwybodaeth â mannau eraill.

Rydych yn edrych ar y system loeren Copernicus a gyllidir gan Ewrop a’r gallu sydd gan y system honno yn awr ar gyfer gwneud yn union yr hyn roedd Andrew R.T. Davies yn ei ddweud: y gallwn edrych yn fanwl ar ffermydd unigol, nid dim ond ar hectarau ac erwau, ond i’r fodfedd o ran gosod gwrtaith ac yn y blaen, ac i gynnal cnydau penodol. Mae GaugeMap yn fap rhyngweithiol sy’n defnyddio data agored, ac sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau a llif afonydd a data dŵr daear ledled Cymru a Lloegr. Plantwise: rhaglen fyd-eang sy’n defnyddio data agored, sy’n rhywbeth nad ydym wedi sôn amdano heddiw, i helpu ffermwyr i golli llai o’r hyn y maent yn ei dyfu i blâu a chlefydau cnydau drwy ddarparu porth ar-lein ac all-lein ar gyfer diagnosteg, olrhain plâu ac arferion ffermio gorau.

Mae’r rhain i gyd yn bosibl, ond mae gennym heriau. Rwy’n cadw fy llygad arnoch, Fadam Ddirprwy Lefarydd, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn gweiddi arnaf yn sydyn. Mae yna heriau. Un o’r rheini a nodwyd yw mai ychydig iawn o wyddonwyr data neu bobl sy’n gwybod sut i greu a gweithredu’r algorithmau angenrheidiol ar gyfer dadansoddi’r llwythi mawr hyn o ddata. Dyna faes y gallwn yn bendant arwain ynddo, fel roedd Lee Waters yn ei ddweud. Yn aml, ceir diffyg cyfatebiaeth cyffredinol yng ngraddfa, manylder a chywirdeb y data a ddaw o wahanol ffynonellau. Nawr, gall y diffyg cyfatebiaeth hwn greu darlun gwallus o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd mewn gwahanol gaeau. Ac wrth gwrs, mae angen rheoli ansawdd data mawr cyn ei ddefnyddio yn yr algorithmau hyn. Os yw hyn yn mynd i fod ffermio clyfar, gadewch i ni wneud yn siŵr fod y mewnbynnau cystal â’r allbynnau yn y cae ei hun.

Felly, mae yna lawer mwy y gallwn ei ddweud, ond rwy’n gwybod bod yr amser yn dod i ben. Rwyf eisiau tynnu sylw at gynllun data agored Llywodraeth Cymru, a allai gyfrannu at hyn; Atlas Cymru Fyw a’r rhwydwaith bioamrywiaeth cenedlaethol a allai gyfrannu at hyn yng Nghymru; geo-borth Lle, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru—sef canolbwynt ar gyfer data a chasglu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, yn bennaf ar yr amgylchedd; a mwy a mwy a mwy.

Mae hon wedi bod yn ddadl ardderchog, gyda llawer iawn o gonsensws. Gadewch i ni fachu ar y cyfle yma yng Nghymru, ond hefyd gadewch i ni fachu ar y cyfle i weithio ar y cyd â phobl ar draws y DU. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ardrethi Busnes

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn yn awr at eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes. Galwaf ar Russell George i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6170 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru.

2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf.

3. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo busnesau wrth bontio i drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adael busnesau Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o ad-daliadau dros dro, a phroses araf o apeliadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth sy’n lleihau’n raddol i’r rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;

b) gweithredu ffordd ragweithiol o ddiwygio’r system ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a gwneud Cymru yn genedl flaengar o ran mynd i’r afael â’r angen i ddarparu amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac

c) rhoi cap ar unwaith ar y lluosydd, a chynllun wedi’i amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn ardrethi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig pwysig hwn yn ffurfiol yn enw Paul Davies a thrwy wneud hynny, ddatgan bod gennyf innau hefyd gyfran mewn busnes bach fy hun.

Amcan y ddadl hon heddiw yw cydnabod cyfraniad aruthrol busnesau bach a chanolig eu maint a’r diwydiant manwerthu i economi Cymru. Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Ystadegyn rwy’n aml yn hoff o’i ddyfynnu yw bod 99 y cant o’r holl fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach. Pe bai gan bob un o’r rheini adnoddau i gyflogi un aelod ychwanegol o staff, byddai diweithdra yng Nghymru yn cael ei ddileu i bob pwrpas.

Nawr, un ffordd o leddfu’r pwysau ar fusnesau bach a rhyddhau’r arian parod mawr ei angen fyddai i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r ffactorau sbarduno economaidd sydd ar gael iddi i fod yn brifddinas treth isel ar gyfer busnesau a dileu’r angen i fusnesau bach dalu ardrethi yn gyfan gwbl. Ond buaswn yn dweud wrthych am beidio â chymryd fy ngair i am hynny. Gyda’ch caniatâd, ac os yw’r dechnoleg yn caniatáu, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddangos ffilm o unigolion yn siarad ynglŷn â sut yr effeithiwyd arnynt gan ardrethi busnes. Ar wahân i’r perchennog busnes cyntaf a ddangosir ar y ffilm, a gysylltodd â mi yn uniongyrchol, ffilmiwyd yr unigolion eraill gan swyddogion y Cynulliad at ddibenion ymchwiliad i ardrethi busnes gan Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau. Felly, dylwn ddweud nad yw dangos y fideo’n awgrymu bod yr unigolion a gafodd eu ffilmio gan swyddogion y Cynulliad yn cefnogi’r cynnig hwn neu unrhyw welliant arall yn wir, a bod eu ffilm yn cael ei dangos yn syml fel gwybodaeth gefndirol am y mater hwn. Rwy’n deall bod aelodau eraill y pwyllgor wedi nodi eu bod yn fodlon i’r clipiau hyn gael eu dangos hefyd.

Dangoswyd DVD. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar ar y DVD. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Megan Lawley: ‘Helo, fy enw i yw Megan. Mae gennyf siop ddillad yn y Drenewydd. Rwyf newydd gael drafft o fy ardrethi newydd drwodd ar gyfer Ebrill 2017 ac maent wedi codi’n sylweddol. Rwyf bellach mewn sefyllfa lle y mae’n rhaid i mi benderfynu pa un a wyf yn symud i Swydd Amwythig, lle y buaswn yn cael rhyddhad llawn, neu a wyf am gau fy musnes. Buaswn yn gwerthfawrogi’n fawr pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi busnesau bach a helpu pobl fel fi ledled y wlad.’

Alex Martin Jones: ‘Roedd yna adegau pan oeddwn yn benthyca arian gan y teulu i dalu’r ardrethi busnes pan ddechreuais yn gyntaf, oherwydd ei fod yn dod yn weithredol ar unwaith. Mae gennych le i anadlu rhywfaint gyda’r bil TAW a phopeth, ond yr ardrethi busnes—bang! Dônt yn weithredol ar unwaith.’

Chris Studt: ‘Felly, os ydych newydd agor busnes, dylech fod ar gam lle rydych yn addurno’r lle. A ddylech chi fod yn talu ardrethi wrth addurno lle mewn gwirionedd? Ac a ddylid cael ychydig o amser i ymsefydlu er mwyn i chi allu cael y busnes ar ei draed?’

Katia Fotiadou: ‘Byddai wedi helpu pe baem wedi cael y tamaid bach hwnnw o ryddhad, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu, gan nad oedd unrhyw arian yn dod i mewn. Dim ond arian yn mynd allan oedd yna. Ac eto, roedd rhaid i ni ddal i dalu bob mis, am chwe mis, hanner yr hyn rydym yn ei dalu’n rhent yma fel ardrethi busnes. Rwy’n meddwl y byddai ychydig o ostyngiad efallai am y flwyddyn gyntaf, neu am chwe mis, neu rywbeth felly’n gweithio yn ôl pob tebyg, ac yn annog pobl i sefydlu busnesau yn yr unedau gwag sydd dros y lle ym mhobman.’

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Clywsom gan nifer o berchnogion busnesau bach sy’n dweud wrthym, fel gwleidyddion, i wrando arnynt, ac mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chonsortiwm Manwerthu Cymru hefyd wedi ymuno i alw am ddiwygio’n sylfaenol yr hyn y buaswn yn ei ddweud sy’n system ardrethi busnes hen ffasiwn. Siaradodd Megan yn y Drenewydd am y posibilrwydd o orfod symud ei busnes i Swydd Amwythig, lle y buasai’n gallu cael rhyddhad ardrethi llawn, a siaradodd Alex yn Wrecsam am fenthyca arian gan y teulu er mwyn talu’r ardrethi busnes. A holodd Chris a Katia a ddylid gosod ardrethi busnes ar unwaith wrth i fusnesau gychwyn, busnesau sydd, wrth gwrs, yn chwarae eu rhan bwysig yn lleihau nifer y siopau gwag mewn ymgais i wrthdroi dirywiad y stryd fawr.

Nawr, roedd toriad treth ar gyfer busnesau bach yn addewid a bedlerwyd yn helaeth gan ymgeiswyr Llafur cyn etholiad y Cynulliad—addewid a dorwyd yn y flwyddyn gyntaf, byddwn yn dweud. Aeth yr Aelod Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Eluned Morgan—rwy’n sylweddoli nad yw yn ei lle heddiw—i gaffi a siop lyfrau Hours yn Aberhonddu gan addo y byddai busnesau, ac rwy’n dyfynnu datganiad i’r wasg y Blaid Lafur,

yn anadlu ochenaid o ryddhad os dychwelir Llafur i rym ar Fai 5

gan y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn cwtogi’r ardrethi busnes a delir gan fusnesau bach ym Mhowys. Mewn gwirionedd, ni allai dim fod ymhellach o’r gwir. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri’r addewid hwn o doriad treth i fusnesau bach a chanolig a honnodd mai parhau â chynllun sydd eisoes wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd yw’r toriad treth. Nawr, dyma beth y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi’i ddweud am hyn, ac rwy’n eu dyfynnu hwy:

mae disgrifio penderfyniad o’r fath fel toriad treth ar gyfer busnesau bach yn gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.

Yn lle’r toriad treth a addawyd ganddynt, byddai rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn 2017-18 yn aros yn union yr un fath ag yn 2016-17, ac mae llawer o gwmnïau bach bellach yn wynebu cynnydd dramatig yn eu biliau, wrth gwrs, yn dilyn ailbrisio ardrethi. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach er mwyn sicrhau na fuasai unrhyw fusnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn talu ardrethi o gwbl. Nawr, hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, dilynwch arweiniad Llywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd, buasai’n well gennyf ddweud, os gwelwch yn dda gadewch i ni gael gwell system yng Nghymru er mwyn cynyddu a chefnogi busnesau bach yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni gael y system orau o blith holl wledydd y DU er mwyn cefnogi busnesau bach.

Rwy’n sylweddoli y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet a minnau farn wahanol ar beth yw toriad treth, ond rwy’n gwerthfawrogi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn agored i ddiwygio ac edrychaf ymlaen at glywed ei sylwadau. Gobeithiaf y bydd yna dir cyffredin y gallwn gytuno arno, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau eraill yn ystod y ddadl y prynhawn yma.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Ysgrifennydd y Cabinet.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn ailddatgan annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig i Gymru.

Yn nodi nad diben gwaith ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau.

Yn nodi'r canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) penderfyniad i estyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu;

b) penderfyniad i sefydlu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018, gan roi sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau;

c) ymrwymiad i adolygu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a thecach i fusnesau yng Nghymru;

d) penderfyniad i gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Mark Drakeford 16:05:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Yn ffurfiol.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Adam Price i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu'r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardollau annomestig 2017 wedi effeithio arnynt;

b) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

c) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd;

d) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; ac

e) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy’n falch iawn o gynnig y gwelliant ar ran grŵp Plaid Cymru.

Rwy’n meddwl nad oes dwywaith amdani; mae hon yn dreth eithriadol o anflaengar. Os edrychwch ar ei hanes, mae’n mynd yn ôl i 1601, mewn gwirionedd—cyflwyno hen ddeddf y tlodion. Yn y bôn, y broblem gyda hi am ganrifoedd, wrth gwrs, oedd ei bod yn wir fod y galw am dir ac eiddo yn anhyblyg i bob pwrpas am nad oedd gennych unrhyw ddewisiadau. Os oeddech yn awyddus i fasnachu, roedd angen i chi wneud hynny o eiddo ffisegol. Nid yw hynny’n wir bellach, wrth gwrs. Yn gynyddol, mae siopau’n wynebu eu cystadleuwyr mwyaf drwy werthiannau ar-lein, ac yn wir gwerthiannau ar-lein nad ydynt wedi eu lleoli yn y DU hyd yn oed. Felly, mae’n ymwneud â daearyddiaeth yn ogystal.

Y rheswm pam y mae’r dreth wedi goroesi, wrth gwrs, yw ei bod yn hawdd i’w chasglu. Mae busnesau bach yn tueddu i dalu eu trethi. Ni allant fforddio’r math o dechnegau osgoi trethi arloesol sydd ar gael i fusnesau corfforaethol mwy o faint a dyna pam ei bod wedi aros ar y llyfrau fel treth, ond rwy’n meddwl ei bod yn hen bryd yn awr i ni weithredu i ddiddymu’r dreth hon mewn gwirionedd, a chael rhywbeth sy’n addas i’r diben yn ei lle ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Yn ei hanfod, y broblem gyda’r dreth, fel y clywsom mewn rhai o’r cyfraniadau, yw ei bod yn effeithio’n anghymesur ar y busnesau sydd leiaf tebygol o allu talu. Os ydych yn fusnes llwyddiannus a phroffidiol, fel cyfran o’ch trosiant, byddwch yn talu llai. Gyda busnesau ymylol, mewn gwirionedd, gallwn weld sefyllfa lle y mae’r dreth yn eu gwthio i golled, ac yna mae’n rhaid iddynt gau. Fel y clywsom, mae busnesau newydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw yn y blynyddoedd cyntaf, a chânt eu heffeithio’n anghymesur. Mae’n gwneud buddsoddi mewn eiddo masnachol yn anatyniadol o gymharu â buddsoddi mewn eiddo preswyl, ac mae hynny’n effeithio’n andwyol, wrth gwrs, ar ganol ein trefi.

Mae’n dreth sydd angen i ni gael gwared arni. Dyna pam ein bod wedi blino ar adolygiadau. Faint o adolygiadau a gawsom gan y Llywodraeth hon, gan Lywodraethau blaenorol, ac yn y blaen? Roedd yna oddeutu tri grŵp gorchwyl a gorffen y gallwn ddod o hyd i adroddiadau arnynt, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf hyd yn oed. Yn anffodus, am ei bod yn dreth atyniadol o safbwynt y Llywodraeth, gan ei bod yn darparu ffynhonnell sefydlog o refeniw, nid yw’n achos o farwolaeth drwy fil o doriadau; mae’n fywyd drwy fil o doriadau. Felly, yr hyn rydym wedi ei weld yw cyfres gyfan o ostyngiadau, ac mae ychydig ohonynt wedi’u cyhoeddi—rhai ychwanegol, neu newidiadau i ostyngiadau presennol—gan y Canghellor.

Felly, mae wedi cadw’r dreth yn fyw drwy wneud treth wael ychydig yn well. A dweud y gwir, yr hyn rydym ei angen yw bwrw ymlaen â’r adolygiad tymor hirach a disodli’r dreth hon. Mae yna gynigion diddorol—adolygiad Mirrlees; mae Gerry Holtham wedi awgrymu symud tuag at ffurf ar drethiant gwerth tir; mae yna gorff cyfan o lenyddiaeth sy’n mynd yn ôl dros 100 mlynedd ar hynny. Ceir gwrth-gynnig diddorol ar dreth ar werthiannau, a allai gydraddoli’r gystadleuaeth rhwng manwerthwyr ar-lein a manwerthwyr ffisegol mewn gwirionedd. Mae hyn wedi digwydd yn Unol Daleithiau America, lle y maent wedi cyflwyno treth leol ar werthiannau er mwyn helpu Main Street, fel bod Amazon o leiaf yn gweithredu ar sail gyfartal o gymharu â busnesau lleol. Efallai fod y syniad o dreth leol ar werthiannau, a ninnau wedi ein rhyddhau efallai o safbwynt rhai o’n Haelodau gyferbyn, o hualau cyfraith yr UE o ran cyflwyno ardrethi rhanbarthol ac ardrethi lleol o dreth ar werthiannau—mae gennym y gallu yn awr i edrych ar y posibilrwydd o dreth leol ar werthiannau. Gallai Cymru arloesi. Gallai Cymru gael gwared ar y dull hen ffasiwn 400 oed hwn o drethu busnesau a dangos i weddill y DU mewn gwirionedd beth y gallwn ei wneud o ran cynhyrchu math o dreth fusnes nad yw’n cosbi arloesedd a menter a buddsoddi yn ein canol trefi, ond sy’n ei wobrwyo yn lle hynny.

Nid wyf yn meddwl bod rhaid i mi ddweud wrth neb yma fod busnesau bach yn asgwrn cefn ein heconomi yng Nghymru, gan mai dyna yw 99.4 y cant o’r holl fusnesau yng Nghymru. Yn 2015-16, cafwyd cynnydd o 2.1 y cant yn nifer y busnesau bach a chanolig newydd—sef 99,860—pob un yn fusnes bach, a phob un allan yno ar eu pen eu hunain. Mae llawer ohonynt yn unig fasnachwyr sy’n dechrau’n fach ac mae ganddynt lawer o flaenoriaethau’n cystadlu ac yn gwrthdaro ddim ond i allu cadw drws y siop ar agor.

Rydym i gyd yn gwybod am lawer o enghreifftiau gwych yn ein hetholaethau ein hunain, gyda llawer ohonynt yn hyrwyddo ein diwydiant twristiaeth lleol—yn enwedig ein busnesau lletygarwch, ein manwerthwyr ar ein strydoedd mawr a’n diwydiant gwasanaethau gwych. Busnesau bach a chanolig yw 61 y cant o gyflogaeth y sector preifat, gan ddarparu’r hyn sy’n cyfateb i 673,600 o swyddi amser llawn. Dyna nifer aruthrol o bobl. Mae llawer ohonynt yn gwneud hynny heb unrhyw gefnogaeth gan y sector cyhoeddus, na’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn wir.

Ond mae cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig yn brin, yn enwedig yng Nghymru. Rwy’n falch o weld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynglŷn â busnesau bach. Yma, rydym wedi gweld cynnydd o ddim ond 20 busnes canolig ei faint ers 2014. Ddoe, cyhoeddodd Barclays ganfyddiadau sy’n dangos bod cyfran y busnesau bach a chanolig twf uchel yng Nghymru wedi gostwng 2.2 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, y dirywiad gwaethaf ond un yn y DU ar ôl yr Alban ac o gymharu â phob rhanbarth yn Lloegr sydd wedi gweld ac wedi tystio i gynnydd.

Ni ddarparodd Llywodraeth Cymru fwy na 10 grant y dydd drwy Cyllid Cymru—a hynny ar draws Cymru gyfan—y llynedd. Mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi datgan bod y bwlch cyllido rhwng y cyllid sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r hyn y gallant ei gael yn £500 miliwn y flwyddyn. Mae hynny’n llawer o arian, wyddoch chi, os ydych yn fusnes bach. Mae’n ymddangos mai fersiwn wedi’i hailbecynnu o Cyllid Cymru yw banc datblygu Cymru. Cynigiwyd argymhellion amrywiol ar gyfer banc datblygu. Yn wir, mae gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, syniadau da sy’n llawer gwell na Cyllid Cymru. Hyd yn oed yn awr, fel rhan o’i chytundeb â Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn amharod iawn i gyflwyno unrhyw fanylion am y banc datblygu Cymru sydd ar y ffordd, er ei fod i fod yn weithredol y flwyddyn nesaf mewn gwirionedd.

Ond er mwyn i ni wneud y ddadl yn ystyrlon heddiw, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru allu craffu ar achos busnes unrhyw fanc datblygu er mwyn sicrhau bod busnesau’n cael cefnogaeth lawn drwy’r cynigion a bod methiannau Cyllid Cymru, methiannau rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â hwy dros nifer o flynyddoedd, yn cael sylw llawn. Yr hyn rydym yn bryderus yn ei gylch yw y bydd yn barhad o Cyllid Cymru, yr ystyriwyd ers amser hir ei fod yn anaddas i’r diben ac yn brin o ymgysylltiad. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet daflu mwy o oleuni ar hyn.

Mae lefelau rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn rhoi ein busnesau bach a chanolig o dan anfantais amlwg o gymharu â busnesau tebyg yn Lloegr a’r Alban. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau drwy broses ailbrisio’r swyddfa brisio, yn rhy aml ni chaiff rhyddhad caledi yn ôl disgresiwn ei ddyfarnu lle y bo angen ac mae rhyddhad ardrethi gwell ar gael i fusnesau bach a chanolig yn Lloegr a’r Alban. Ar gyfer 2017-18, amcangyfrifir y bydd busnes sydd â gwerth ardrethol o £12,000 yn atebol i dalu ychydig o dan £6,000 mewn ardrethi busnes yng Nghymru, ond yn Lloegr byddai’r ffigur yn sero. Byddai dyled busnes sy’n werth £10,000 yn £3,323. Yn yr Alban, byddai’r ffigur yn sero.

Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru, ac rwy’n gwneud hynny hefyd, am eu sbin ar eu haddewid maniffesto i dorri trethi i fusnesau bach. Ddirprwy Lywydd, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn llygad ei lle yn dweud nad yw gwneud rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn barhaol yn golygu toriad treth o gwbl.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cefnogi ein busnesau bach ers amser maith a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae gennym nifer o gynigion i’w cefnogi: creu canolbwynt i fusnesau bach, gan sicrhau bod ein busnesau bach a chanolig yn cael eu cynrychioli go iawn, gan ddarparu pwynt cyswllt clir, gwella mynediad i gymorth a’i wneud yn hawdd i’w lywio; banc datblygu rhanbarthol—busnesau i gael gafael ar gyllid ar y stryd fawr ac ar garreg eu drws; rhyddhad ardrethi busnes llawer gwell, gan ddiddymu ardrethi i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 a’i leihau’n raddol i’r rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000. Lywydd, mae gennyf westywyr yn lleol sy’n talu ardrethi busnes o tua £120,000, manwerthwyr sy’n talu £70,000 y flwyddyn—

[Yn parhau.]—yn llawer uwch na’u rhenti. Lywydd, rydym yn croesawu adolygiad o ardrethi busnes, ond mae’n rhy ychydig, yn rhy hwyr. Galwn am roi cap ar unwaith ar y lluosydd a gweithredu dull rhagweithiol o ddiwygio ein system ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical yng Nghymru.

A gaf i ddweud, fel aelod o’r pwyllgor, gyda’r aelodau eraill sydd yma heddiw, mor ddiolchgar oeddwn i i’r rhanddeiliaid a ddaeth i drafod y mater hwn gyda ni dros frecwast rhyw fis yn ôl? Cawson ni fore diddorol iawn, a byddwn i’n annog pawb i ddarllen yr adroddiad am ddarlun cytbwys o’r drafodaeth a gawson ni y bore hwnnw.

Business rates are obviously a major part of any business expenditure and particularly in the case of small businesses, so it’s right, of course, that we make sure that they are fit for purpose, and I’m glad the Cabinet Secretary has indicated an intention to review several aspects of the non-domestic rates regime. One of the things that became evident in the discussion that we had in that stakeholder breakfast was that those who understand how business rates work would say that they are pretty straightforward, in general terms, in Wales; it gets more complex when you look at reliefs and exemptions and so on. But that said, there is still a general lack of understanding, really, of the basis on which they’re calculated.

Rwy’n cytuno; roedd hwnnw’n fater a ddaeth i’n sylw. Rwy’n credu mai rhan o’r broblem yw bod yna ddryswch rhwng—. Nid yw’n broblem i Lywodraeth Cymru yma, ond y swyddfa brisio sy’n gosod y prisiad, yr awdurdod lleol sy’n casglu’r arian, ac yna mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu’r arian yn ganolog. Rwy’n credu nad yw busnesau’n deall hynny, a dyna ran o’r broblem. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn yn gyfan gwbl, ond dyna ran o’r broblem sy’n achosi llawer o’r dryswch, rwy’n credu.

Yn hollol. Hynny yw, mewn gwirionedd, yr hyn a glywsom, ac roeddwn yn mynd i obeithio y gallai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i helpu i egluro hynny, yn rhan o’r adolygiad, ond yn amlwg, gan gydnabod ei bod yn broblem ar draws pob rhan o’r DU yn—

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?

Gyda’r gydnabyddiaeth honno, rwy’n meddwl efallai y byddai Russell George yn cydnabod bod y Ceidwadwyr wedi amcangyfrif yn llawer rhy isel y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag adolygu ardrethi busnes i greu system fwy blaengar, ond dyna beth y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i’w wneud, felly dyna rydym yn debygol o’i weld yn wir.

Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw. Y mater mawr arall a gododd yn y drafodaeth honno, rwy’n meddwl, oedd cwestiwn ailbrisio a’r cyfnod rhwng ailbrisiadau. Gall bylchau, yn amlwg—bylchau hir—olygu amodau annheg i rai busnesau, lle nad yw’r prisiad yn olrhain y perfformiad economaidd cyffredinol, ac rwy’n credu ei bod yn glir o’r ailbrisiadau diweddaraf yng Nghymru fod effeithiau’r argyfwng ariannol yn dal i gael eu teimlo’n bendant iawn yma. Er bod gwerthoedd cyffredinol yn Lloegr wedi codi, yn bennaf o ganlyniad i’r perfformiad economaidd cryf yn ne-ddwyrain Lloegr, yng Nghymru, wrth gwrs, bydd y rhan fwyaf o fusnesau’n wynebu biliau is o ganlyniad. Y naill ffordd neu’r llall, bydd ailbrisiadau amlach yn helpu i ddatrys hynny, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar hynny fel rhan o’r adolygiad.

Mae’r cynnig yn galw arnom i geisio dod yn genedl flaenllaw mewn perthynas ag ardrethi busnes, ac yn wir, gofynnodd Russell George yn benodol i ni edrych am ysbrydoliaeth gan Lywodraeth y DU ar rai o’r pethau hyn. Ar ryddhad trosiannol, lle roedd Janet Finch-Saunders yn awyddus iawn i ni ddilyn arweiniad Lloegr, rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am beidio â dilyn esiampl y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sydd wedi gwneud i dalwyr ardrethi eu hunain, a welodd leihad yn eu gwerth ardrethol, i ysgwyddo’r baich o ariannu’r rhai y mae eu gwerth ardrethol hwy wedi codi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ariannu hynny ei hun, sy’n arwydd clir o’i chefnogaeth i’r sector, ac un o nifer o ffyrdd y buaswn yn dweud bod y system yma eisoes yn decach ac yn fwy cadarn na’r system yn Lloegr.

Y gwahaniaeth mwyaf trawiadol, rwy’n credu, yw cynlluniau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i ailddosbarthu, i bob pwrpas, incwm ardrethi busnes gan gynghorau tlotach i gynghorau mwy cyfoethog, gan eu galluogi i gadw 100 y cant o’u hardrethi busnes. Mae hynny’n amlwg yn cymhlethu’r anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes, a phe bai hynny’n cael ei efelychu yng Nghymru, byddai’n hynod o niweidiol i rannau helaeth o’r wlad.

Clywsom rybuddion hefyd, na chawsant eu hadlewyrchu yn y clipiau fideo, am beryglon dilyn y broses apelio a gyflwynwyd yn Lloegr, ac sydd wedi bod yn andwyol iawn i fusnesau o ran yr amser y mae’n ei gymryd a’r costau. Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sylw i’r rhybuddion hynny pan fydd yn cyflwyno ei ymgynghoriad ar y broses apelio yn benodol. Rwy’n tynnu sylw’r rhai ar feinciau’r Ceidwadwyr, yn arbennig, sydd wedi gofyn i ni gael ein hysbrydoli gan esiampl Lloegr, os mai’r prawf yw pa gyfran o’ch busnesau bach sydd wedi eu heithrio rhag ardrethi busnes 100 y cant, mae ein system yma, sy’n cynnwys 50 y cant o’n busnesau bach, yn gwneud yn eithaf da yn erbyn system Lloegr lle y mae’r ffigur hwnnw’n draean yn unig.

Ond mae’r cynnig yn ehangach nag ardrethi busnes yn syml ac mae’n edrych ar gefnogaeth i’r sector manwerthu yn fwy cyffredinol, sy’n cysylltu â thrafodaeth ehangach ynglŷn â sut y gallwn adfywio canol ein trefi yn wyneb grymoedd economaidd gwirioneddol sy’n tynnu i’r cyfeiriad arall. Buaswn yn ychwanegu bod llawer o drefi, gan gynnwys Castell-nedd yn fy etholaeth i, wedi manteisio ar gymorth Llywodraeth Cymru i ddatblygu ardaloedd gwella busnes, nad ydynt yn boblogaidd gan bawb, yn amlwg, ond maent yn gyfle i gydweithio’n agos rhwng llywodraeth leol, busnesau a rhanddeiliaid eraill.

Hoffwn dynnu sylw at sylwadau yn yr astudiaeth ddofn ddiweddaraf a grybwyllodd Steffan Lewis yn gynharach yn ystod y trafodion heddiw, a chredaf ei bod yn werth eu hystyried o ran datganoli pwerau datblygu economaidd pellach i lefel leol, ac edrych yn ddychmygus ar safleoedd busnes dros dro a siopau dros dro, ac yn y blaen.

Rwy’n credu mai un o’r rhesymau sylfaenol pam y mae canol ein trefi yn y sefyllfa y maent ynddi yw oherwydd y wasgfa ar gyllidebau aelwydydd ac incwm gwario y rhai sy’n eu defnyddio fwyaf, sy’n rhywbeth y mae gennyf ofn nad yw datganiad yr hydref heddiw wedi gwneud unrhyw beth i fynd i’r afael ag ef.

Ers cenedlaethau, mae canol ein trefi wedi bod yn galonnau masnachu ein cymunedau. Maent yn ganolog i economïau lleol iach a llewyrchus, yn ffynhonnell balchder dinesig a chanolbwynt bywyd y gymuned. Ond heddiw, mae gormod o’n siopau stryd fawr yn dirywio, gyda llai o gwsmeriaid a siopau gwag.

Mae newidiadau i ffordd o fyw pobl wedi golygu newidiadau i’r ffordd y maent yn siopa. Mae datblygiad siopau ar gyrion trefi mewn rhai achosion wedi cael effaith niweidiol ar ganol trefi ledled Cymru. Mae siopwyr yn hoffi’r cyfleustra a’r dewis y mae siopau ar gyrion trefi sy’n darparu parcio am ddim yn eu cynnig. Gwelwyd cynnydd o dros 4.6 y cant yn nifer yr ymwelwyr â pharciau manwerthu yng Nghymru. Mae hyn wedi achosi gostyngiad yn ei sgil yn nifer yr ymwelwyr â’n strydoedd mawr. Mae e-fasnach yn un o’r marchnadoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Mae ffigurau manwerthu ar gyfer Prydain ym mis Medi eleni yn dangos cynnydd o 22 y cant mewn gwerthiannau ar-lein o’i gymharu â’r un mis y llynedd.

Felly, mae ein strydoedd mawr o dan bwysau. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cyfraddau siopau gwag. Yn 2014, caeodd 159 o siopau stryd fawr yng Nghasnewydd. Ar hyn o bryd, mae un o bob wyth safle manwerthu yng Nghymru yn wag. Mae adroddiad diweddaraf y Local Data Company yn nodi mai Casnewydd yw un o’r canol trefi sy’n perfformio waethaf o ran siopau a safleoedd hamdden gwag, gyda chyfradd o dros 25 y cant.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers nifer o flynyddoedd am strategaeth i adfywio ein strydoedd mawr. Ac eto, er gwaethaf geiriau cynnes Llywodraethau olynol yng Nghymru, mae’n amlwg mai ychydig a gyflawnwyd. Mae angen gweithredu ar frys i adfywio ein strydoedd mawr fel canolfannau twf economaidd. Mae arnom angen strategaeth reoli glir ar gyfer canol ein trefi. Mae cyfleusterau parcio gwael, ffioedd parcio uchel, tagfeydd traffig a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus i gyd yn atal cwsmeriaid rhag siopa yng nghanol trefi, ac mewn ardaloedd penodol eraill. Yn fwy pwysig, nid oes llawer o doiledau cyhoeddus, nid oes llawer o gaeau chwarae i blant, ac yn olaf, nid yw croesi a cherdded ar hyd y ffordd fawr yn hawdd iawn i bobl anabl. Mae angen i ni hyrwyddo cynlluniau parcio am ddim, trafnidiaeth gyhoeddus gyfleus a chynlluniau parcio a theithio gyda’r nod o wneud canol trefi’n hwylus i gerddwyr a beicwyr. Dylai cynlluniau annog cymysgedd go iawn o siopau a swyddfeydd yng nghanol trefi, yn ogystal â thai, i ddod â phobl i mewn i’r ardaloedd hynny, yn enwedig yn ystod y nos. Ac mae angen i ni edrych eto ar ardrethi busnes, sy’n parhau i fod yn rhwystr sylweddol i dwf a llwyddiant busnesau yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, fe welsom y ffilm, ac fe glywsoch, foneddigion a boneddigesau, fy nghyd-Aelodau yma, ond digwyddodd un enghraifft nodweddiadol yn fy swyddfa etholaeth. Daeth etholwr i fy swyddfa—mae wedi bod yn rhedeg siop am y 14 mlynedd diwethaf ar y ffordd fawr, ac roedd newydd ehangu siop o fewn ei siop lle roedd ei swyddfa, er mwyn cael gwared ar y swyddfa ac ehangu ychydig o gondolas i wneud ei arwynebedd yn fwy. Dyfalwch beth? Daw’r swyddfa brisio yno a chodi ei ardrethi. Nid oedd wedi ymestyn ei siop, nid oedd yr arwynebedd wedi cynyddu, nifer y gondolas yn unig, nwyddau’r siop, oedd wedi cynyddu. Cafwyd cynnydd o bum gwaith yn yr ardrethi ar gyfer y busnes hwn, o £3,000 i £15,000,. Felly, yr hyn a wnaeth oedd gwerthu ei fusnes. Dyna un enghraifft nodweddiadol, yn ddiweddar iawn.

Ar y Stryd Fawr yng Nghasnewydd, mae’r rhenti fel arfer o gwmpas £14,000 ac mae’r ardrethi o gwmpas yr un ffigur bron. Sut y gall busnes newydd redeg busnes gydag agwedd o’r fath? Mae yna rai syniadau arloesol y credaf y dylai’r Gweinidog eu hystyried. Yn gyntaf, dylai masnachu fod yn gwbl ddi-dâl ar gyfer unrhyw fasnach. Yn ail, rhyddhad yn lleihau’n raddol yn seiliedig ar elw’r flwyddyn gyntaf; yn y drydedd flwyddyn, yn union yr un fath—maint elw’r ail flwyddyn. Syniadau arloesol iawn sy’n gallu rhoi cymhelliant newydd i entrepreneuriaid newydd a busnesau newydd i dyfu a ffynnu ar ein strydoedd mawr. Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n meddwl bod ein busnesau ar y stryd fawr yn dirywio i’r fath raddau fel ei bod, weithiau, yn ardal nad oes neb eisiau mynd iddi, yn enwedig yn y nos.

Fel y dywedais, mae rhyddhad ardrethi busnes yn darparu cyfle i gefnogi menter ac ysgogi twf economaidd. Diddymu’r ardrethi ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 a lleihau rhyddhad yn raddol hyd at £15,000—Ddirprwy Lywydd, rydym wedi bod yn dweud hyn ar yr ochr hon i’r Siambr ers blynyddoedd lawer. Rwy’n credu ei bod yn hen bryd i’r Llywodraeth wrando arnom. Byddai ein cynnig yn gweld 73 y cant o safleoedd busnes yn cael peidio â thalu ardrethi yn gyfan gwbl. Lywydd, mae pawb ohonom am weld stryd fawr brysur, busnesau lleol ffyniannus ac ymgysylltiad cadarnhaol â’r gymuned. Strydoedd mawr bywiog yw’r allwedd barhaol—

Galwaf ar Lywodraeth Cymru i roi adfywio’r stryd fawr ar frig eu hagenda. Diolch.

Rwyf innau hefyd eisiau canolbwyntio ar fusnesau’r stryd fawr. Mae’n ffaith ddiymwad fod gostyngiad dramatig mewn siopa ar y stryd fawr ledled Cymru gyfan. Mae hon, wrth gwrs, yn broblem a rennir ledled gweddill y DU, ond mae’n ymddangos bod Cymru wedi cael ei tharo’n galetach na llawer o rannau eraill o’r wlad. Mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn: a ellir atal y dirywiad hwn, neu o leiaf ei leddfu?

Un ffaith amlwg iawn a glywyd dro ar ôl tro gan y rhai sy’n ymwneud â’r diwydiant manwerthu ar y stryd fawr, yw ffioedd parcio. Mae ffioedd parcio yn dreth uniongyrchol ar y fasnach fanwerthu. Oes, mae yna lawer o broblemau eraill, fel y nodwyd heddiw, yn enwedig mewn perthynas ag ardrethi ac yn y blaen, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael sylw gan siaradwyr blaenorol, ond rwy’n credu bod hon yn un agwedd na ellir ei hanwybyddu ac mae modd unioni’r sefyllfa ar unwaith. Y broblem, wrth gwrs, yw bod cynghorau yn ystyried bod y llif refeniw hwn, sy’n sylweddol weithiau, yn ychwanegiad i’w groesawu i’w cyllidebau, cymaint felly fel bod llawer o gynghorau wedi dewis cynyddu’r llif arian hwn o un flwyddyn i’r llall. Er enghraifft, roedd Casnewydd i fyny 113 y cant rhwng 2014 a 2015. Cafodd Penybont gynnydd o 108 y cant ar gyfer yr un blynyddoedd, fel Merthyr ar 83 y cant, ac roedd Caerfyrddin i fyny 76 y cant—

A gaf fi ofyn i’r Aelod a all gadarnhau, er bod y cyfraddau dyddiol ar gyfer parcio ym Merthyr yn £3.50, fod yna gyfradd barcio fisol o ddim ond £29 mewn gwirionedd, sy’n ostyngiad sylweddol i unrhyw un sy’n gorfod defnyddio’r meysydd parcio hynny’n rheolaidd?

Ie, diolch, Dawn. Rwy’n derbyn hynny’n llwyr, ond rydym yn sôn am bobl sy’n siopwyr achlysurol y rhan fwyaf o’r amser, ac ni fyddent yn dymuno cael un o’r tocynnau misol hyn.

Mae’n anodd credu’r cynnydd yn y ffioedd yng Nghasnewydd, o gofio bod y dref yn llusgo ar ôl canol tref Cwmbrân, sy’n cynnig parcio am ddim ers blynyddoedd lawer, gan olygu bod gan Gasnewydd, fel y nododd Asghar eisoes, nifer uwch o siopau gwag na holl drefi eraill Cymru. Ac i ddychwelyd at Gaerfyrddin, pan gafodd y clociau parcio eu fandaleiddio, gan arwain at golli pythefnos o ffioedd parcio, nododd manwerthwyr yn y dref gynnydd o rhwng 15 y cant a 25 y cant yn eu gwerthiant. Mae ffioedd parcio yn cael eu hadfer yn llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae rhai cynghorau yn ceisio cyfreithloni’r dreth hon drwy bwyntio at gostau cynnal a chadw ar gyfer meysydd parcio—gydag un hyd yn oed yn awgrymu ei bod yn costio £145 y flwyddyn iddynt am bob lle parcio. Wel, yn bersonol nid wyf wedi dod ar draws un o’r llefydd parcio hyn sydd wedi’u gorchuddio ag aur, mae’n rhaid. Er ein bod yn sylweddoli mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw ffioedd parcio, mae yna lawer o ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i—wel, gadewch i ni ei roi mor ysgafn â phosibl—i annog yr awdurdodau hynny i adolygu eu polisïau parcio. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar yr hyn y gall ei wneud i gael gwared ar y malltod hwn ar fusnesau’r stryd fawr. Diolch.

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, er nad oeddwn yn cymryd rhan yn y ddadl tan oddeutu hanner awr yn ôl, ond erbyn hyn rwy’n gwneud hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar os gall y Siambr fod yn amyneddgar â mi. Ond mae’n fater pwysig iawn, ac mae’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cyffwrdd ar—fel yr amlygodd yr Aelod dros Gastell-nedd—adfywio’r stryd fawr a phwysigrwydd sicrhau bod yr adfywio hwnnw’n seiliedig ar fusnesau hyfyw gydag arian parod yn mynd drwy eu busnesau. Ardrethi busnes yw un o’r systemau symlach sy’n mynd ag arian oddi wrth fusnesau bach y mae taer angen iddynt gadw arian i greu swyddi a chreu cyfleoedd ar gyfer buddsoddi.

Nid mater o’r Blaid Geidwadol yn dod yma ac yn mynnu bod y Gweinidog yn gwneud pethau a rhoi rhestr o ddymuniadau o’i flaen yw hyn, fel sy’n gallu digwydd yn aml iawn yma ar brynhawn dydd Mercher, gan fod gan y Ceidwadwyr, a bod yn deg, hanes da, boed ym maes ardrethi busnes neu adfywio’r stryd fawr. Cyflwynodd David Melding, pan oedd yn llefarydd busnes a’r economi, yn ôl yn 2009, rwy’n meddwl—yn y trydydd Cynulliad—ein polisi ardrethi busnes o gyflwyno rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau gwerth hyd at £12,500, a’i leihau’n raddol i rai gwerth hyd at £15,000. Mewn dadl ar ôl dadl yn y Siambr hon, difrïodd Gweinidog yr Economi ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, yr honiadau hynny a dweud ei bod yn gwbl afresymol gofyn am hynny i fusnesau, ac yn y pen draw, trodd Llywodraeth Cymru glust fyddar i’r apeliadau hynny dro ar ôl tro—apeliadau a seiliwyd ar sylwadau a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a llawer o fusnesau a siambrau masnach o amgylch Cymru. Ac eto dyma ni, yn 2016, gydag ailbrisiad newydd ddigwydd sy’n gosod marc cwestiwn mawr dros hyfywedd llawer iawn o fusnesau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr ar hyd a lled Cymru.

Rwy’n sylweddoli, o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe pan oedd yn cyffwrdd â’r pwynt hwn, ei fod i’w weld yn credu mai dim ond o’r Bont-faen a Bro Morgannwg a Sir Fynwy drwy Nick Ramsay y mae’r sylwadau’n dod, a sylwadau eraill o Sir Fynwy. Rhaid i mi ddweud bod y sylwadau a dderbyniais yn y cyfarfodydd rwyf wedi’u mynychu fel pe baent â’r broblem hon ar draws Cymru gyfan, ac mae’n fater y mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb iddo. Dyna, yn sicr, yw ein rôl: dod yma a gwneud Llywodraeth y dydd yn ymwybodol o gynnwys ein bagiau post ac yn ymwybodol o’r sylwadau rydym yn eu cael.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio cyfle’r ddadl hon heddiw. Yn amlwg, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant—gwelliant ‘dileu popeth’—ond rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei anerchiad i’r Siambr y prynhawn yma, yn defnyddio hynny’n gadarnhaol i amlinellu’r mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Rwy’n deall y bydd yn pwyso ar y gronfa drosiannol gwerth £10 miliwn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hyd yma, ond mae busnesau ac arweinwyr busnes yn dweud yn glir ei bod hi’n amlwg nad yw honno’n ateb anghenion busnesau gyda’r ymarferiad prisio sydd wedi’i wneud, a’r biliau y mae busnesau bach ar y stryd fawr, yn arbennig, yn eu hwynebu ac y bydd yn rhaid iddynt eu talu o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mewn rhai ffyrdd, roedd yn galonogol gweld y Prif Weinidog ddoe yn cyfeirio mewn gwirionedd at y ffaith y gallai fod—gallai fod—ychydig bach o symud yn y maes hwn. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog Cyllid yn defnyddio’i ymateb i’r ddadl heddiw i ddod â rhywfaint o oleuni efallai i’r twnnel hwn. Gallwn ddadlau a yw’r system yn Lloegr yn well na’r system yng Nghymru. Y ffaith amdani yw na fydd miloedd lawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru yma yr adeg hon y flwyddyn nesaf os nad chânt fwy o gymorth. Dylai hynny, yn sicr, ei gwneud yn hanfodol fod y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Hoffwn dreulio ychydig o amser hefyd yn fy anerchiad, beth bynnag am rinweddau’r cynllun a gyflwynwyd hyd yma gan Lywodraeth Lafur Cymru yma, yn ystyried proses apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n faes arall y nodwyd wrthyf ei fod yn achos pryder, ac yn arbennig y cyfnod o amser y mae’r swyddfa brisio yn ei gymryd i ymateb i geisiadau gan fusnesau a’r amser y mae’n ei gymryd i fusnesau fynd ar wefan y swyddfa brisio i weld mewn gwirionedd beth yw eu prisiad newydd, a gweld y dystiolaeth ddogfennol ynglŷn â sut y pennwyd y prisiad hwnnw. Cyfeiriaf at—ac fel y dywedais, pe bawn i wedi sylweddoli fy mod yn siarad, yn sicr buaswn wedi dod â’r llythyr a gefais ddoe gan yr Hare and Hounds yn Aberthin, sef tafarn y mae rhai pobl yn y siambr hon yn gyfarwydd â hi o bosibl, ar y cynnydd sylweddol y maent yn ei wynebu yn eu hardrethi busnes. Tynnodd y sawl a’i hysgrifennodd fy sylw at y cyfnod o amser y byddai’r broses y byddai’n rhaid iddynt fynd drwyddi’n rhan o’r drefn apelio yn ei chymryd, er mwyn deall yn y lle cyntaf sut y gallent apelio ac yna’r ffordd, y fethodoleg, roedd y swyddfa brisio wedi’i defnyddio i bennu’r cynnydd sylweddol yn yr ardrethi busnes. Mae hwn yn fusnes sy’n wynebu gorfod talu’r ddyled honno mewn ychydig dros bedwar mis, ac felly, byddwn yn gobeithio eto y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni yn ei ymateb heddiw ynglŷn â pha lefel o gefnogaeth a dealltwriaeth y gall y swyddfa brisio eu rhoi i fusnesau yn y broses apelio, a hefyd i roi hyder i’r Aelodau na fydd busnesau yn cael eu cosbi os dônt o hyd i rwystrau a roddwyd yn eu ffordd wrth symud yr apeliadau hynny yn eu blaen. Ac rwy’n annog y Siambr heddiw i gefnogi’r cynnig sydd ger ein bron sy’n ceisio rhoi’r astell honno o gefnogaeth ar y llawr i fusnesau bach gerdded ar ei thraws ac yn y pen draw, i fod yno yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 16:36:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Well, Russell George opened the debate, and I echo what he had to say in emphasising the important contribution of the retail industry to the Welsh economy, both through direct employment in the industry and in supply chain links. Jeremy Miles made a series of important points about how local economies and town centres can be supported, and both Mohammad Asghar and Adam Price set the changing context in which the high street has to operate today, from public toilets to internet shopping. And David Rowlands pointed out that these factors go far wider than Wales. In his contribution, he focused particularly on the impact of car parking charges on the high street. I look forward to his support in the final budget debate when, no doubt, he will want to welcome the £3 million that is part of our agreement with Plaid Cymru on the draft budget and which is specifically there to reduce car parking charges in our high streets, but to do so in a way that allows us to gather the hard evidence and to make a proper assessment of the impact that those charges have on footfall on our high streets.

Dirprwy Lywydd, I hope you'll forgive me if, in what I have to say, I will focus more specifically on the theme that has most often been reflected in this afternoon's debate, and that is to say the impact of non-domestic rates and the recent revaluation exercise. It's important that I set out the history of that exercise. The requirement to hold a revaluation every five years is set out in statute, but the UK Government decided to postpone the 2015 revaluation for reasons that Members here will not need a great deal of speculation to imagine why that date was inconvenient to them. Reluctantly, and taking into account the impact on ratepayers along the border, and those with properties in both England and Wales, we decided to postpone the revaluation in Wales as well, and part of this afternoon is about dealing with the impact of that delay.

Nawr, roedd Jeremy Miles yn cyfeirio at adroddiad pwyllgor yr economi, ac rwy’n croesawu’r adroddiad hefyd. Roedd lot o bethau diddorol, fel y gwelsom ni ar ddechrau’r ddadl, yn y ffordd yr oedd y pwyllgor wedi mynd ati i gasglu gwybodaeth.

I agree with a number of the recommendations in that interesting report and look forward to responding formally to it. I do think that we should look at the feasibility of more frequent revaluation, which would help smooth out some of the grinding of gears that we see and what happens when you delay a revaluation. As the report itself says, if we’re to do that—if we’re to move, for example, to three-year cycles—it cannot be simply by speeding up the current system and making it work faster; we’d have to go about the revaluation exercise in a different way. In order to do that, we’d have to rely on the Valuation Office Agency, because, again, it’s just important—[Interruption.] Yes, Andrew.

Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Yn amlwg mae wedi’i grybwyll yn y ddadl—mae ardrethi busnes a phrisio eiddo yn system dreth hirsefydlog yn y wlad hon. Felly, yn eich sylwadau, a ydych yn credu y byddai unrhyw ddiwygio ar y system honno yn dibynnu ar fod yn seiliedig ar eiddo, yn hytrach na system dreth drosiant efallai neu ryw fath o gydnabyddiaeth o’r rhyngrwyd? Oherwydd rydych yn cyfeirio at y ffaith efallai y byddai unrhyw ddiwygio’n seiliedig ar eiddo yn ei hanfod.

Na, Gadeirydd, fe ymdriniaf â’r pwynt hwnnw yn awr. Buaswn wedi dod ato yn nes ymlaen, ond fe wnaf hynny yn awr, ar bob cyfrif. Roeddwn yn cyfeirio’n syml iawn at un o’r argymhellion yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau ar y system bresennol. A oes gennyf ddiddordeb mewn ymchwilio system amgen, system ddiwygiedig, ar gyfer trethi annomestig? Oes mae. Rwyf wedi rhoi gwaith ar y gweill. A yw’n rhaid seilio’r system honno ar eiddo? Nid wyf yn credu bod rhaid gwneud hynny o reidrwydd. Fel y clywsom yng nghyfraniad Adam Price, ceir cyfres o ddewisiadau eraill sydd eisoes wedi’u trafod yn helaeth o ran trethiant gwerth tir, treth ar werthiannau, neu dreth incwm leol, fel y mae chwaer blaid Plaid Cymru yn yr Alban wedi’i argymell. Yr hyn rydym yn brin ohono yw data cadarn a fyddai’n dangos beth fyddai effaith wirioneddol ac ymarferol y dewisiadau amgen hynny yn y cyd-destun Cymreig mewn gwirionedd. Mae’r ymchwil rwyf wedi’i gomisiynu yn ymwneud ag edrych ar sut y byddem yn cymhwyso’r syniadau hynny. Rwy’n meddwl bod rhinweddau’r syniadau’n hysbys iawn. Gwnaed llawer o waith eisoes. Yr hyn rydym yn brin ohono yw dealltwriaeth gymwysedig ynglŷn ag a fyddent yn arwain at ganlyniadau gwell yng nghyd-destun Cymru ai peidio. Os gallwn wneud hynny, yna cawn ddadl fwy gwybodus ynglŷn ag a fyddai newid mwy sylfaenol yn y ffordd rydym yn codi arian yn y ffordd hon yn iawn yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn y sefyllfa honno yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Am y tro, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn y system sydd gennym, lle y mae gennym swyddfa brisio. Mae’n gorff statudol, mae’n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, mae’n cynnal ailbrisiadau, mae’n dod i’r casgliadau hynny, mae’r paramedrau wedi’u hymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol, ond mae’n rhaid i’r ailbrisio fod yn niwtral o ran refeniw. Er bod yna gwmnïau, yn bendant—rwy’n deall, ac rwyf wedi darllen llythyrau gan unigolion yn y sefyllfa hon—sy’n gweld eu biliau’n cynyddu, ac nid yw hynny ond yn gallu digwydd am fod llawer o fusnesau eraill yng Nghymru yn gweld eu biliau’n lleihau. Nid yw ailbrisio yn codi unrhyw arian pellach o gwbl. Yn syml, mae’n ailddosbarthu’r baich mewn ffordd sy’n decach oherwydd ailbrisio. Pe na bai gennym drefn ailbrisio, byddai’r system yn mynd yn fwyfwy annheg flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hwnnw’n bwynt y mae adroddiad y pwyllgor yn ei gydnabod.

Cyhoeddodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei rhestr ardrethu ddrafft ar 30 Medi, a gwnaeth hynny i roi cyfnod o chwe mis i dalwyr ardrethi wirio’r manylion ar gyfer eu heiddo a’i brisiad cysylltiedig. Gall talwyr ardrethi ddefnyddio’r chwe mis i roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am unrhyw gamgymeriadau y credant eu bod wedi’u cynnwys yn yr ailbrisiad, ac i ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei ailystyried. Mae hynny’n digwydd. Pan ddaw’r rhestr newydd i rym, gall talwyr ardrethi sy’n dal i amau eu prisiad apelio, yn gyntaf oll i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei hun, ac yna ceir hawl i apelio yr holl ffordd i’r Uchel Lys. Mae tua 35 y cant o’r holl apeliadau yn mynd ymlaen i arwain at newid i’r rhestr ardrethu.

Rwy’n cytuno bod yr apeliadau yn cymryd gormod o amser ac mae’r system yn rhy feichus, a byddaf yn cyflwyno cynigion i ddiwygio’r system apelio yma yng Nghymru. Ond ni fyddaf yn gwneud hynny yn y ffordd y mae’r system wedi cael ei diwygio yn Lloegr, lle rwy’n credu bod y bwrdd wedi ei ogwyddo’n rhy bell yn erbyn y talwr ardrethi, ac yn ormodol o blaid Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Nawr, gan ein bod yn gwybod bod yna batrymau o enillion a cholledion, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni gyflwyno system i lyfnhau’r effaith i’r rhai sy’n cael eu heffeithio’n andwyol. Dyna pam y mae gennym gynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn, a bydd yn darparu cymorth ychwanegol i fwy na 7,000 o dalwyr ardrethi yng Nghymru. Bydd yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i’r system yn Lloegr, sydd ond yn golygu mynd ag arian gan un set o enillwyr i geisio’i roi i gollwyr. Byddwn yn diwygio ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n werth £100 miliwn. Fe gymeraf nifer o’r pwyntiau a wnaed yn y ddadl y prynhawn yma wrth fynd ati i’w ddiwygio, a byddwn yn ymgynghori’n eang â rhanddeiliaid ar ffurf cynllun parhaol lle rwy’n meddwl y gallwn wneud yn well, darparu mwy o gymorth i’r busnesau rydym am eu helpu, a gweld ein strydoedd mawr yn ffynnu’n well yn y dyfodol oherwydd hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? Mae’n ddadl amserol iawn o ystyried bod canlyniadau ailbrisiad ardrethi mis Ebrill nesaf yn dod yn amlwg bellach—a byddwn yn dweud mai ond yn ddiweddar y daethant yn amlwg, yn sicr i’r busnesau ar lawr gwlad sy’n mynd i wynebu codiadau.

Fel y dywedodd Russ George wrth agor, mae’r sefyllfa rydym ynddi yma yn gwrthgyferbynnu’n uniongyrchol â’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach, gan sicrhau na fyddai unrhyw gwmni sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Clywais yr hyn y mae nifer o’r Aelodau wedi’i ddweud yn y Siambr y prynhawn yma, yn beirniadu’r sefyllfa ar draws y ffin yn Lloegr. Yn sicr, nid yw’n berffaith. Nid oes unrhyw system drethiant a fu erioed yn berffaith, na threfn ailbrisio ardrethi busnes yn wir, ond nid oes amheuaeth o gwbl fod busnesau yn fy etholaeth yn edrych ar draws y ffin ac yn gweld agweddau ar y ffordd y mae’r ailbrisio wedi cael ei drin yn Lloegr sy’n well na’r hyn sydd wedi digwydd yma neu’n sicr yn well na’r hyn sy’n cael ei addo yma. Felly, buaswn yn cadw hynny mewn cof. Yn amlwg, nid yw’n sefyllfa berffaith dros y ffin, ond rwy’n meddwl y byddai’n werth i Lywodraeth Cymru edrych dros y ffin ac edrych ar ffyrdd y gallwn wella’r math o gefnogaeth sydd gennym yma.

Mae’r busnesau rwyf wedi siarad â hwy—ac mae llawer ohonynt; nid oes gennyf ond llond llaw o’r negeseuon e-bost a gefais yn ystod y diwrnodau diwethaf. Ers cael fy ethol i’r Cynulliad, ni allaf gofio cael mater sydd wedi achosi’r fath loes mewn cyfnod mor fyr o amser ac sydd wedi cynhyrchu’r fath lwyth o negeseuon e-bost. Gallaf weld David Rowlands yn nodio; mae’n amlwg nad yw’n sefyllfa sy’n effeithio ar fy swyddfa i yn unig. Yn wir, mae yna ddicter allan yno. Mae yna anobaith, buaswn yn dweud. Rwyf hyd yn oed wedi cael gwahoddiad i arwerthiant cau siop yn Nhrefynwy ar gyfer mis Ebrill/mis Mai nesaf, wedi i hyn ddod i rym. Felly, na foed i ni fod dan unrhyw gamargraff o gwbl ynglŷn â maint y pryder a’r gofid sydd allan yno ar draws Cymru yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y codiadau hyn.

Rwy’n sylweddoli nad yw hon yn broblem ar draws Cymru gyfan. Nid ydym yn dweud ei bod. Yn sicr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna fusnesau sydd wedi gwneud yn eithaf da mewn gwirionedd yn sgil ailbrisio ardrethi busnes. Dyna agwedd ar unrhyw ymarfer ailbrisio; byddech yn disgwyl hynny. Rwy’n credu mai’r hyn nad ydym wedi’i weld o’r blaen yw maint y niwed i’r lleiafrif mawr o fusnesau yr effeithir arnynt. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n dod yn glir, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gyfraniad, yw bod nifer y busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y broblem hon yn cynyddu bellach. Nid oeddem yn gwbl ymwybodol o nifer yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Gwyddem fod y Bont-faen wedi cael ei heffeithio. Gwyddwn fod Trefynwy wedi’i heffeithio. Ond gwn yn awr fod Cas-gwent wedi’i heffeithio ac ardaloedd gwledig eraill, felly mae hon yn broblem lawer mwy nag a ragwelwyd gennym ar y cychwyn.

Mae’r busnesau yr effeithiwyd arnynt yn wynebu naid enfawr—10 y cant mewn rhai achosion. Wrth gwrs, fel rydym wedi dweud—. Ac yn uwch na hynny mewn rhai achosion eraill; gwn am un busnes yng Nghas-gwent sy’n wynebu cynnydd hyd at 100 y cant oherwydd gwahanol amodau. Mae hyn wedi’i waethygu gan y lluosydd, y deallaf ei fod yn amod angenrheidiol yn sgil cynnal agwedd niwtral o ran refeniw tuag at ailbrisio. Serch hynny, mae’r lluosydd yn effeithio ar hyn ac felly hefyd, wrth gwrs, absenoldeb system ddigonol o ryddhad ardrethi y mae angen i’r busnesau hynny ei gweld.

Gadewch i ni fod yn onest, fel y mae nifer o’r Aelodau ar draws y Siambr wedi bod, am yr hyn rydym yn sôn amdano yma: nid yw hyn yn ddim llai na’r hoelen yn yr arch i lawer o fusnesau ar draws y wlad. Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon, fel y dywedodd Mohammad Asghar, am yr angen i gefnogi busnesau, am safleoedd manwerthu, am yr angen i adfywio ein strydoedd mawr. Rydym wedi cael dadleuon ar hynny a’r pleidiau eraill hefyd, ac rydym wedi cael adroddiadau pwyllgor ar adfywio ein strydoedd mawr, ond ni fydd diben i hyn yn y pen draw os nad awn i’r afael â’r broblem y mae ein busnesau yn ei hwynebu, nid mewn 10 mlynedd neu 20 mlynedd, ond y flwyddyn nesaf, pan ddaw hyn i rym yn llawn. Felly, oni bai ein bod yn mynd benben â’r broblem hon yn awr, bydd llawer o’r trafodaethau eraill rydym wedi eu cael yn y Siambr hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ddiddordeb academaidd yn unig.

Fel y mae ein cynnig yn ei amlygu, mae cyfradd bresennol y siopau gwag eisoes bron yn 14 y cant, gyda’r gyfradd a ragwelir o siopau’n cau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf. Felly, yn anffodus, nid ydym yn cychwyn o le gwych ar ddechrau’r broses hon. Felly, ni allwn fforddio i bethau waethygu. Ni allwn fforddio peidio â mynd benben â’r broblem hon a gwneud yn siŵr fod y cwmnïau hyn, y busnesau hyn, sydd angen cefnogaeth, yn ei gael.

Adam Price—yn eich sylwadau, Adam, fe wnaethoch nifer o bwyntiau diddorol iawn mewn gwirionedd, yn galw am ailwampio’r drefn ardrethi busnes yn ei chyfanrwydd, trefn a ddisgrifiwyd gennych fel treth 400 oed. Ac wrth gwrs, mae’n gynnig deniadol i gael gwared ar dreth anflaengar. Y cwestiwn go iawn, wrth gwrs, yr aethoch ymlaen i siarad amdano, yw beth rydych yn ei gael yn ei lle, ac fe awgrymoch dreth tir fel un posibilrwydd. Ac wrth gwrs, os nad ydych yn poeni am golli’r incwm os byddwch yn cael gwared ar y dreth—rhywbeth na allai Llywodraeth Cymru fforddio’i wneud, wrth gwrs, felly byddai arnom angen pethau yn ei lle, a soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am hyn hefyd.

Felly, clywsom rai opsiynau a ddarparwyd fel dewis arall, ac rwy’n meddwl ein bod i gyd yn cytuno bod hyn yn bendant yn werth ei archwilio; rydym yn cytuno â’r agwedd honno ar eich cynnig. Ni ddylem gau’r drws ar ddiwygio ardrethi busnes yn llwyr yng Nghymru ac fel y dywedoch, gan ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, un o ganlynebau hynny, mewn gwirionedd, yw y gallwn yn awr edrych ar y ffordd y mae trethiant yn gweithio yng Nghymru a gallwn ystyried gwneud rhywbeth yma na fyddai wedi bod yn bosibl ychydig flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o waith ar hyn, a’r hyn rydym yn sôn amdano bellach yw darparu cymorth uniongyrchol i’r busnesau yr effeithir arnynt, nid y flwyddyn nesaf, nid ymhen dwy flynedd, ond yn awr.

Rydym yn siarad llawer yn y Siambr hon, ond nid wyf yn meddwl bod yna achos wedi bod erioed lle y mae mwy o angen gweithredu nag yn awr—a gweithredu ar unwaith. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders—wel, darparodd Janet Finch-Saunders gyflwyniad o bolisi’r Ceidwadwyr Cymreig ers yr etholiad, a chyn hynny. Fe wnaethoch achos cryf dros ben, Janet—gwn eich bod wedi cael profiad uniongyrchol o hyn yn Llandudno yn eich etholaeth—achos cryf iawn dros ddarparu llawer mwy o gymorth go iawn i fusnesau bach a safleoedd manwerthu ar draws Cymru. Roedd eich neges yn syml iawn yn y bôn ac wrth gwrs, mae hon yn broblem eithaf syml mewn gwirionedd sy’n galw am ateb syml, sef mwy o gymorth.

Hoffwn dynnu eich sylw, Jeremy Miles—rwy’n cytuno gyda rhai o’r pethau a ddywedoch, mewn gwirionedd, ond roeddech yn cwestiynu faint o gefnogaeth i fusnesau a fyddai yn natganiad yr hydref heddiw, a hoffwn nodi bod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad ardrethi gwledig yn Lloegr yn cael ei gynyddu’n sylweddol. Felly, yn Lloegr, maent yn ystyried darparu llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer busnesau mewn ardaloedd gwledig ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl na fyddai unrhyw beth llai yma yng Nghymru yn ddigon da. Ac fel y dywedodd Russell George wrth agor y ddadl, pam y bodlonwn ar ail orau? Pam nad ydym yn sicrhau bod y system rydym yn mynd i’w chael yma yng Nghymru o’r safon orau mewn gwirionedd—o’r safon orau yn y DU o leiaf? Mae angen i hyn fod yn fwy nag ateb digonol i’r broblem; gadewch i ni wneud rhywbeth yn y fan hon a allai roi’r cymorth i fusnesau yng Nghymru ar yr un sylfaen mewn gwirionedd â busnesau ledled y DU a’u rhoi ar y blaen. Rydym wedi bod yn siarad am hynny ers amser hir iawn, ond fel y dywedais, mae’n bryd gweithredu bellach.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch i ni fod yn uchelgeisiol dros Gymru. Gadewch i ni ddefnyddio’r broblem hon, y broblem hon yn y tymor byr, tymor canolig, i symud ymlaen a darparu system sy’n gallu goresgyn heriau heddiw a heriau’r dyfodol. Gadewch i ni gymell economïau lleol, gadewch i ni wneud yn siŵr fod ein busnesau yn y sefyllfa orau i allu goresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu. Ond os na allwn oresgyn y rhwystr hwn a wynebwn dros yr ychydig fisoedd nesaf, yna rydym yn mynd i’w chael yn anodd iawn goresgyn y rhwystrau y bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn eu rhoi yn ein ffordd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Cyflogau’r Sector Cyhoeddus

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 4 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 5 a 6 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.

We now move on to the Plaid Cymru debate on public sector pay, and I call on Neil McEvoy to move the motion.

Cynnig NDM6171 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a

(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ac yn gofyn am gefnogaeth i’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Ar adeg o galedi, pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri at yr asgwrn, canolfannau ieuenctid a chanolfannau chwarae yn cael eu cau, a chanolfannau hamdden yn cael eu preifateiddio yng Nghaerdydd, nid yw’n syndod fod y cyhoedd wedi’u cythruddo gan y cyflogau sy’n cael eu hennill gan elît newydd Llafur yn y sector cyhoeddus—gyda llawer o bobl yn cael cyflogau o dros £100,000 y flwyddyn. Mae Plaid Cymru yn defnyddio’r ddadl hon heddiw er mwyn ceisio mynd i’r afael â chyflogau gormodol uwch reolwyr a sicrhau cyflogau teg yn y sector cyhoeddus.

Dylai awdurdodau lleol fod yn feincnod ar gyfer cyflogau teg a chyson, ond mae’r anghysondeb o fewn llywodraeth leol mewn perthynas â chymarebau cyflog yn parhau i fod yn frawychus ac yn anghyfiawn. [Torri ar draws.] Nid ar hyn o bryd. Mae Plaid Cymru eisoes yn arwain drwy esiampl. Mae canolrif cyfartalog cyflogau prif weithredwyr sy’n rhedeg cynghorau Plaid Cymru bron £20,000 yn is na’r rhai sy’n rhedeg cynghorau Llafur, ac mae’r ffigur hwnnw’n cynnwys y cyflog uchaf i brif weithredwr yng Nghymru, a osodwyd gan gyngor Llafur cyn i Blaid Cymru ddod i rym.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Rydym hefyd wedi rhoi camau ar waith i ddarparu proses graffu well ar gyflogau uwch reolwyr drwy sicrhau bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ystod y pedwerydd Cynulliad wedi gwella tryloywder o ran sut y pennir cyflogau uwch swyddogion drwy sefydlu paneli taliadau annibynnol. Sicrhaodd Rhodri Glyn Thomas AC fod rhaid craffu a phleidleisio ar bob dyfarniad cyflog i uwch swyddogion cynghorau, a bod yn rhaid i banel taliadau annibynnol wneud argymhellion. Roedd y cam hwn yn cael gwared ar yr honiad a’r broblem ganfyddedig fod pethau’n cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae ein cynnig heddiw yn galw am gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol drwy fframwaith cenedlaethol. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai’n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddogion canlyniadau. Talwyd oddeutu £150,000 i swyddogion canlyniadau am eu gwasanaethau yn ystod etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2012, a pham talu hynny?

Mae mater cyflogau uwch reolwyr o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd, a’r ffaith yw na ellir cyfiawnhau cyflogau rhifau ffôn yn y sector cyhoeddus mewn gwirionedd. Mae prif weithredwr cyngor Abertawe, a benodwyd gan y Blaid Lafur, yn ennill £2,000 yn unig yn llai na Phrif Weinidog y DU. Mae prif weithredwr Llafur Cyngor Sir Caerfyrddin yn ennill—. Mewn gwirionedd, mae’n ennill £15,000 yn fwy na Theresa May, ac rwy’n ystyried hynny’n syfrdanol—mwy na Phrif Weinidog y DU.

Nid yw’n ymwneud â phrif weithredwyr cynghorau’n unig, er hynny—mae cyfanswm cyflogau uwch reolwyr yn filiynau o bunnoedd, a phan oedd Plaid Cymru yn arwain cyngor Caerdydd, cawsom wared ar lu o gyflogau dros £100,000 y flwyddyn, a chawsom ein canmol mewn gwirionedd gan Gynghrair y Trethdalwyr, sy’n dipyn o orchest. Pan ddychwelodd Llafur i rym, aethant ati i ailgyflwyno cyflogau bras o fwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Na. Mae mwy na hanner prif weithredwyr byrddau iechyd Cymru yn ennill o leiaf £200,000 y flwyddyn. Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym yn ymchwilio i gymdeithasau tai, a hynny’n briodol, oherwydd mae’r tenantiaid ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed, a’r bobl dlotaf yng Nghymru weithiau, ac eto mae prif weithredwyr y sefydliadau hyn yn ennill cyflogau chwe ffigur. Tai Wales & West, er enghraifft: mae’r prif weithredwr yn ennill £130,000 y flwyddyn. Pan oedd Nick Bennett yn brif weithredwr y grŵp ymbarél ar gyfer cymdeithasau tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, aeth ati i gynyddu’r bil cyflogau 15 y cant mewn un flwyddyn yn unig, ond 2 y cant yn unig o godiad a fu yng nghyflog sylfaenol y staff. Bellach mae’n Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac yn ennill mwy na’r Prif Weinidog—gradd 5 y raddfa gyflog ar gyfer cyflogau barnwrol, enghraifft arall o gyflog chwe ffigur meri-go-rownd, dros £140,000 y flwyddyn. Ailadroddaf hynny—dros £140,000 y flwyddyn.

Gadewch i ni sôn am brif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones. Ei gyflog y llynedd, gan gynnwys dau fonws a phensiwn, oedd £768,000—tri chwarter miliwn o bunnoedd. Nawr, esgusodwch yr eironi, ond cwmni di-elw, fel y maent yn ein hatgoffa o hyd.

Nawr, a yw’r bobl hyn yn werth yr arian? Byddwn yn dadlau nad ydynt, ond nid yw hynny’n rhan o’r cynnig heddiw. Ond rwy’n credu y byddai’n wych—.

Ar bwynt o drefn, Gadeirydd. Rwy’n newydd i’r lle hwn, felly nid wyf yn gwybod beth yw’r rheolau, ond a yw’n briodol i Weinidog yn Llywodraeth Cymru heclo ar ei eistedd Aelod o’r meinciau cefn sy’n ceisio cael eu clywed? A allech ddyfarnu ar hynny?

Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno ymyrryd yn gwneud hynny ar ei draed, ond rydym yn gwahodd trafodaeth fywiog yma hefyd. Rwy’n gobeithio na fydd neb yma yn mynd dros ben llestri yn y dyfodol.

Rwy’n barod i ildio i’r Gweinidog, a oedd â thair swydd ar un adeg—

Nid ydych yn ildio i mi; rwyf wedi rhoi fy nghyflog cyngor yn ôl.

 [Yn parhau.]—tra oedd yn Aelod o’r Cynulliad. A hoffech siarad, Weinidog? Mae gennych ddigon i’w ddweud wrth weiddi. Na? O’r gorau, iawn.

Byddai’n wirioneddol wych gweld cyflogau’r uwch—[Torri ar draws.]

A gawn ni beidio â chael rhagor o ymyriadau ar eich eistedd? Diolch.

Rwy’n meddwl, gyd-Aelodau, fod y ffordd y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddwyn weithiau’n gywilyddus—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—ac yn diraddio’r sefydliad hwn. [Torri ar draws.]

 A wnaiff yr Aelod barhau â’i gyfraniad? Diolch.

Fe wnaf barhau, gan fy mod yn credu y byddai’n wych pe bai’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf yn y sector cyhoeddus—pe bai eu cyflogau wedi’u cysylltu. Yn y ffordd honno, byddai Nick Bennett ac eraill sy’n rhoi codiadau cyflog i’w hunain yn gweld cyflogau’r bobl ar y cyflogau isaf yn y sefydliad yn cynyddu hefyd. Pe bai toriad cyflog ar y gwaelod, byddai toriad cyflog ar y brig hefyd.

Nawr, byddwn yn annog y Cynulliad hwn a’r Llywodraeth i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac ystyried cyflwyno Deddf cyflogau teg yn y dyfodol. Diolch yn fawr. Diolch.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gofynion y Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Gwelliant 4—Jane Hutt

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:

gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 4.

Member
Mark Drakeford 17:01:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Yn ffurfiol, Gadeirydd.

Diolch. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2, 3, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cynigion y Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau.

Gwelliant 3—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.

Gwelliant 6—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers 2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 5 a 6.

Diolch i chi, Ddirprwy—. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Cadeirydd’] Gadeirydd. [Chwerthin.] Hoffwn gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies AC. Mae’r gwelliannau hynny’n datgan yn glir iawn,

‘Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le:

‘Yn cydnabod cynigion y Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau.’

Gwelliant 3:

‘Dileu Pwynt 3 a rhoi yn ei le:

‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.’

Nawr, rydym yn croesawu’r ddadl hon gan Blaid Cymru, ond gyda pheth dryswch, mewn gwirionedd, gan y bydd llawer yn cofio Deddf democratiaeth leol (Cymru) yn 2003 y mae gwelliant 2 yn cyfeirio ati. Yng Nghyfnod 2, y Ceidwadwyr Cymreig, gyda’r grŵp cyntaf o welliannau, a oedd yn galw am gydsyniad Gweinidogion Cymru i gael ei roi cyn i awdurdod lleol dalu cyflog i unrhyw swyddog a oedd yn uwch nag argymhelliad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cafodd hyn ei wrthwynebu yn eithaf clir gan Blaid Cymru, yn ogystal â’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yna, yng Nghyfnod 3, cyflwynasom welliant yn galw ar y panel i argymell uchafswm i’w dalu i unrhyw uwch swyddog gan awdurdod lleol. Unwaith eto, gwrthwynebwyd hyn gan Blaid Cymru, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, felly mae’n ddiddorol—

Wel, roedd yna gydbwyllgor negodi’n arfer bodoli a oedd yn gosod y cyfyngiad. Cafodd ei ddiddymu gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. A ydych yn gresynu hynny?

Ydw, ond rwyf fi yma yn y Senedd, ac rwy’n sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru—y ffordd rydych wedi methu yn hyn o beth.

Yn 2015, talwyd £306,000 i brif weithredwr cyngor sir Gwynedd, ac roedd fy nghyd-Aelod, Neil McEvoy, yn y fan honno yn tynnu sylw at y gwahanrediad rhwng prif weithredwyr lleol a’r Prif Weinidog. Eto talwyd £306,000 yma, ac i gyfarwyddwr yr amgylchedd ym Mlaenau Gwent—swm sy’n dod â dŵr i’r llygaid—o £295,000. Ydych, yn bendant, roeddech yn iawn i gymharu hynny â chyflog Prif Weinidog gweithgar y DU. Nid oes cydberthynas o gwbl. Roeddech yn berffaith gywir yn gynharach i wneud y pwynt ynglŷn â sut y mae rhai prif weithredwyr, yn ogystal â hyn, gan gynnwys fy un i yng Nghonwy mewn gwirionedd, yn derbyn cyflog o dros £20,000 am fod yn swyddog canlyniadau etholiadol. Mae angen i’r Gweinidog fynd i’r afael â hynny, rwy’n credu.

Rhaid gweithredu gweithdrefnau rheoli perfformiad a gwerthuso prif weithredwyr yn well a’u monitro’n briodol. Dangosodd tystiolaeth a gymerwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cyn eu hadroddiad i gyflogau uwch reolwyr y tymor diwethaf y galwadau gan yr holl randdeiliaid—llawer ohonynt—ynglŷn â hyn, ochr yn ochr â’r gydnabyddiaeth fod angen i awdurdodau lleol wneud yn llawer gwell o ran rheoli perfformiad. Pa mor aml rydym wedi gweld yr hyn rwy’n ei alw’n broses drws tro lle y bydd pennaeth gwasanaeth mewn gwirionedd yn gadael sefydliad gyda swm diswyddo gwych dros ben ac yna’n mynd i mewn i’r un awdurdod lleol eto yn gwisgo mantell wahanol mewn swyddogaeth arall? Mae’n gwbl anghywir.

Yn 2014-15, gwariodd cynghorau Cymru dros £100 miliwn ar daliadau diswyddo i staff. Roedd hynny 46 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Argymhellodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn San Steffan yn ddiweddar y dylai fod polisïau a gweithdrefnau ar waith i reoli sefyllfaoedd drws tro lle y mae unigolion yn dod o, neu’n mynd i’r sector rheoledig, ac y dylai’r rhain fod yn berthnasol i bob unigolyn ar unrhyw lefel o unrhyw sefydliad. Dylai rheoleiddwyr fod yn dryloyw ynghylch sefyllfaoedd ôl-gyflogaeth a chyfyngiadau ar aelodau sy’n gadael byrddau ac uwch swyddogion yn y sector cyhoeddus. Y rheswm rwy’n gwenu yw ein bod yn gweld cymaint o ffrindgarwch Llafur yng Nghymru gyda llawer o’r swyddi sy’n mynd i lawer o bobl yn ein cyrff cyhoeddus, ac mae’n anghywir.

Yn sgil symud tuag at ddiwygio llywodraeth leol, a’r potensial i uno’n wirfoddol ar y bwrdd unwaith eto, mae’n berthnasol nodi bod cymdeithas y prif weithredwyr ac uwch reolwyr wedi tynnu sylw at awdurdodau lleol yn Lloegr sydd wedi dechrau rhannu prif weithredwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, nawr, gyda diwygio lleol ar y bwrdd, lle y mae’n ymddangos bod bwriad i chi gadw pob un o’r 22 o awdurdodau lleol, a yw’n mynd i fod yn 22 o brif weithredwyr a 22 o benaethiaid gwasanaeth ar gyflogau sy’n tynnu dŵr i’r llygaid? Pe gallech fynd i’r afael â hynny, rwy’n credu y bydd llawer o bobl y tu allan i’r Senedd yn ddiolchgar iawn mewn gwirionedd. Diolch.

A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at siarad yn y ddadl hon? Fel swyddog undeb llafur hirsefydlog a oedd yn ymdrin â’r materion hyn dros nifer o flynyddoedd yn y sector cyhoeddus, rwy’n croesawu’r ddadl sy’n cael ei chyflwyno yn fawr iawn. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn drueni fod yr Aelod wedi gorfod iselhau ei hun i’r mathau o sylwadau a wnaeth—y math gwael o wawd gwleidyddol. Oherwydd rydym i gyd yn gwybod nad problem i gynghorau Llafur yn unig yw hon, mae’n broblem gyffredinol, gan gynnwys Gwynedd a Cheredigion dan reolaeth Plaid Cymru ac ardaloedd eraill sydd â phrif weithredwyr sy’n ennill mwy na £100,000. Mae gan yr Aelod ei hun ddwy swydd lle y mae’n cael mwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Felly, nid wyf yn meddwl bod hynny o gymorth o gwbl. [Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl bod hynny o gymorth, Gadeirydd, oherwydd ni allaf ddychmygu y byddai neb yn anghytuno bod y bwlch cyflog rhwng—[Torri ar draws.]

Na, nid wyf yn cymryd ymyriad. Ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw un yn anghytuno—

Neil McEvoy a gododd—

[Yn parhau.]—fod y bwlch rhwng y swyddogion a gaiff y cyflogau uchaf a’r gweithwyr a gaiff y cyflogau isaf mewn awdurdodau lleol ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn destun gofid, a dyna’r mater y dylem fod yn rhoi sylw iddo yma heddiw. Yn anffodus, nid yw’r cynnig ond yn canolbwyntio ar un agwedd ar y gwahaniaeth cyflog hwnnw, sef y berthynas â chyflog uwch swyddogion a phrif weithredwyr.

Yn sicr mae yna broblem allweddol wrth edrych ar unrhyw gymhariaeth, ond yn sicr mae mynd i’r afael â chyflogau isel ymhlith rhai o’r gweithwyr hynny, menywod rhan-amser yn bennaf yn amlach na pheidio, yr un mor berthnasol yma—

Gadeirydd, gwnaed datganiad amdanaf a oedd yn ffeithiol anghywir. Gofynnaf i’r Aelod gael ei alw i drefn, os gwelwch yn dda.

Bydd cyfle i’r Aelod roi sylw i hyn wrth iddo grynhoi ar ddiwedd y ddadl.

Diolch, Gadeirydd. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn cofio’r mater a gododd yng nghyngor Caerffili ym mis Rhagfyr 2012, pan ddaeth yn amlwg fod prif swyddogion wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddrafftio adroddiad a gyflwynwyd gerbron pwyllgor y cyngor yn argymell codiadau cyflog o fwy nag 20 y cant ar gyfer y prif weithredwr a phrif swyddogion eraill. Pe baech yn siarad â’r cannoedd o aelodau undeb llafur yng Nghaerffili a gynhaliodd streic hanner diwrnod, wrth gwrs eu bod yn ddig ynglŷn â maint y taliadau a argymhellwyd. Ond yr hyn a’u cynddeiriogodd mewn gwirionedd oedd bod hyn yn dilyn rhewi cyflogau holl staff arall yr awdurdod lleol am dair blynedd. Roedd hi’n dda bod ymgyrch yr undebau llafur yno wedi arwain at setliad cynnar yn yr anghydfod hwnnw. Roeddent yn gallu negodi cytundeb, a arweiniodd at gael gwared ar ran sylweddol o’r taliadau cyflog hynny, ond nid oedd hyn ond yn bosibl drwy barodrwydd y grŵp Llafur yng nghyngor Caerffili i ymgysylltu’n adeiladol â’r undebau llafur, proses a hwyluswyd gan gadeirydd pwyllgor craffu polisi ac adnoddau Caerffili ar y pryd, sydd erbyn hyn yn eistedd yn y Siambr hon fel yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili. Dyna realiti’r hyn a ddigwyddodd, ac nid y fersiwn lurguniedig a roddwyd gan Blaid Cymru Caerffili mewn datganiadau i’r cyfryngau heddiw.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Sylwaf nad oedd Neil McEvoy eisiau gwneud, a gallaf roi datganiad wedi’i gywiro i chi. Mae’n cymryd cyflog cynghorydd o £13,000, yr un cyflog ag a ddychwelwyd gennyf fi. Felly, gallai ddechrau arbed £13,000 heddiw pe bai’n barod i’w ddychwelyd. Yr hyn a oedd gennyf hefyd mewn perthynas â’ch datganiad yw bod dirprwy arweinydd Plaid Cymru yng Nghaerffili yn gwybod am y penderfyniad pan gafodd ei wneud. Roedd yn y cyfarfod, ac eto dewisodd beidio â’i ddwyn i sylw cyhoeddus am dri mis, ac ni ddywedodd ddim hyd nes y cafwyd adroddiad am y mater yn y wasg, sef pan gefais i wybod. Felly, ers hynny, mae Plaid Cymru Caerffili wedi elwa’n warthus ar—

[Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi cydnabod eu rôl yn y broses.

Wel, diolch i chi, Hefin, am yr ymyriad, ac ydw, rwy’n deall yn iawn fod dirprwy arweinydd Plaid Caerffili yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw o bwyllgor cyflogau’r cyngor ar y pryd mewn gwirionedd—dyna y’i gelwid rwy’n meddwl—ac mae iddo wrthod cydnabod hynny o hyd neu hyd yn oed i ymddiheuro am hynny yn eithaf gwarthus, a dweud y gwir.

Felly, iawn, gadewch i ni edrych ar y fframwaith cenedlaethol a fydd yn darparu cyfundrefn gyflogau uwch reolwyr sy’n cynnwys perfformiad y sefydliad fel dangosydd allweddol. Ond ni fydd rheoli cyflogau prif swyddogion ynddo’i hun yn cau’r bwlch. Dylem ddisgwyl i’r holl awdurdodau lleol a chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dalu’r cyflog byw sylfaenol fan lleiaf i’w staff. Mae’r ddau welliant gan Jane Hutt yn cwmpasu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ehangach ac yn galw am broses o ddatblygu fframwaith cenedlaethol gyda phartneriaid cymdeithasol ar y cyd. Byddai un o’r partneriaid cymdeithasol allweddol hynny, yr undebau llafur sy’n cynrychioli mwyafrif y staff ym meysydd eraill y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, rwy’n sicr, yn croesawu unrhyw graffu sy’n ymestyn i feysydd eraill heblaw llywodraeth leol, megis addysg uwch ac addysg bellach, er enghraifft, lle rydym wedi gweld lefelau cyflog wedi cynyddu’n sylweddol i is-gangellorion ac ar yr un pryd, gwelsom gynnydd aruthrol yn nifer y staff ar gontractau dim oriau, yn ogystal â’r defnydd cynyddol o weithwyr asiantaeth.

A wnewch chi ddod â’ch cyfraniad i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

Mae ail ran y cynnig yn sôn am ddiddymu taliadau ychwanegol i swyddogion am fod yn swyddogion canlyniadau, ac rwy’n meddwl ei bod yn sicr yn wir fod hwn yn faes sydd angen ei ystyried, o ystyried nifer yr etholiadau sy’n rhaid ymdopi â hwy yn awr yn ystod y tymor seneddol. Yn y cyd-destun hwnnw, mae angen adolygu tâl i swyddogion canlyniadau ac wrth ddatblygu fframwaith ar gyfer pennu hynny, mae’n bosibl y gallem ganfod maes dilys i’w ystyried, a byddai hwnnw’n faes y byddwn yn ei gefnogi. Diolch, Gadeirydd.

Roeddwn eisiau ystyried rhai o’r sylwadau a wnaed. Rhaid i mi ddweud, yr unig reswm dros ei wneud oedd er mwyn bod yn boblogaidd. Dyna wleidyddiaeth Trump yn fy marn i. Wyddoch chi, pan edrychwch ar beth sy’n digwydd go iawn, yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw bod yna wahaniaethau cyflog, ac mae yna gydnabyddiaeth fod angen gwahaniaethau cyflog, fod gwahaniaethau cyflog yn bodoli, a’n bod yn tueddu i gadw at y pethau hynny. Mewn gwirionedd, nid oes gennyf broblem o gwbl ynglŷn ag ysbryd y cynnig. Mae’n galw am dryloywder a thegwch wrth bennu cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer uwch swyddogion, ac mae’n edrych yn benodol ar y bwlch rhwng y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf, ac er bod Plaid Cymru yn rhyw fath o geisio cymryd y clod am Ddeddf democratiaeth leol (Cymru), nid yw syniad da yn eiddo i neb; mae’n eiddo i bawb. Ac nid oes dim o’i le ar hynny.

Rwyf wedi crybwyll mater cyflogau uwch swyddogion yng Nghaerffili. Mewn gwirionedd, o ystyried rhai o sylwadau Neil McEvoy, cynghorwyr Llafur a sicrhaodd gyflog unigol wedi’i leihau ar gyfer y prif swyddog gweithredol yng Nghaerffili. Mae’r cyflog hwnnw’n parhau i fod wedi’i rewi dros gyfnod y weinyddiaeth ac ni fydd mater cyflogau uwch swyddogion yn cael ei ailystyried yn ystod y weinyddiaeth, ac mae wedi’i adlewyrchu mewn cyhoeddiad—

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Pan oedd y ddeddfwriaeth ar gyflogau’n mynd drwodd, a ydych yn derbyn bod aelod o Blaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi cyflwyno gwelliant i osod uchafswm ar gyflogau a thâl uwch swyddogion? A ydych yn derbyn bod y Blaid Lafur wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw?

Gyda phob parch i arweinydd Plaid Cymru, buaswn yn derbyn beth bynnag y mae hi’n ei ddweud am yr hyn a ddigwyddodd yn y pedwerydd Cynulliad, wrth gwrs, gan nid oeddwn yn Aelod ar y pryd.

Mae gen i ymyriad o ochr y Ceidwadwyr sy’n dweud nad felly’n hollol oedd hi. Felly, nid fy lle i yw ymyrryd mewn anghydfod rhwng y ddwy ohonoch.

Mae’r rhai sy’n cael y cyflogau isaf yng nghyngor Caerffili yn cael y cyflog byw mewn gwirionedd, a’r awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i’w gyflwyno, a oedd yn lleihau’r lluosydd ymhellach rhwng y rhai a gâi’r cyflogau isaf a’r rhai a gâi’r cyflogau uchaf. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, gan adeiladu ar waith adolygiad Hutton o gyflog teg yn y sector cyhoeddus, yn argymell y defnydd o luosrifau fel ffordd o fesur y berthynas rhwng cyfraddau cyflog yn y gweithlu. Yr hyn a ddywedodd Will Hutton—nad yw’n newyddiadurwr asgell dde ar unrhyw ystyr—oedd bod cymariaethau â thâl y Prif Weinidog yn ddiwerth am nad ydynt yn rhoi syniad ynglŷn â’r math o luosrifau y dylech fod yn eu defnyddio. Argymhellodd Hutton na ddylai unrhyw reolwyr yn y sector cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith cymaint â’r person sy’n ennill y cyflog isaf yn y sefydliad. Yn y sector preifat, mae’n 88:1. Rwy’n credu bod 20:1 yn rhy uchel, os gofynnwch i mi, ac mae’n arwyddocaol mai ychydig iawn o awdurdodau lleol yng Nghymru, os o gwbl, sydd â lluosydd 20:1 mewn gwirionedd. Yng Nghaerffili mae’r lluosrif rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf yn 9.4:1, gan ei roi tuag at ben isaf y raddfa ar gyfer gwahaniaethau cymharol mewn tâl yng ngweithlu’r sector cyhoeddus yn y DU.

Nawr, gallech fynd at system lle rydym yn dweud, yn unochrog yng Nghymru—fel yr argymhellodd Neil McEvoy yn flaenorol yn y Siambr hon—ein bod yn mynd o dan £100,000 i’r holl brif weithredwyr yng Nghymru. Nawr, y perygl yw eich bod yn pysgota yn yr un pwll am dalent â phrif weithredwyr mewn mannau eraill. Mae perygl eich bod chi ar unwaith, wrth weithredu’n unochrog, yn dechrau colli’r dalent honno. Mae’n rhaid i ni gael trafodaeth ddifrifol ac aeddfed am y risg a pheidio â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth adain dde boblogaidd sy’n magu gwraidd yn y byd hwn heddiw ac y mae’r Aelod wedi cymryd rhan ynddi.

Mae’r diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf democratiaeth leol wedi sicrhau y bydd mwy o dryloywder wrth asesu cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac mae hyn yn cydbwyso budd y cyhoedd a bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol. Mae’n archwilio’r mater yn ddifrifol, yn hytrach na bod yn rhywbeth y gallwch ei roi’n syth ar Twitter. Argymhellion adroddiad Hutton—bydd angen i ni ddenu’r staff gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Felly, ar y nodyn hwnnw, rwy’n annog, mewn gwirionedd—gadewch i ni roi’r nonsens hwn y tu cefn i ni. Neil McEvoy, rhowch eich £13,000 yn ôl. Rwyf wedi gwneud hynny. Rwy’n cefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Mae cyflogau isel yn broblem ddifrifol i weithwyr yn y sector cyhoeddus ar ben isaf y raddfa yng Nghymru. Nid oes gan gynghorau lleol sefydliadau llafur uniongyrchol bellach, defnyddir gweithwyr asiantaeth yn aml, ac mae hyn yn tueddu i gael effaith negyddol ar gyflogau. Felly, rhaid i ni edrych ar hyn, ac un ffordd y gellid mynd i’r afael yn rhannol â thâl isel yw drwy geisio rhoi brêc ar gyflogau rhy uchel. Felly, os oes gan unrhyw blaid unrhyw awgrymiadau rhesymol i atal codiadau cyflog bras yn y sector cyhoeddus, yna rydym ni yn UKIP yn fwy na pharod i edrych arnynt.

Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnaeth Rhodri Glyn hynny.

Iawn, da iawn, Rhodri Glyn. Ond efallai na fydd yn ddigon, Leanne.

Mae byrddau taliadau annibynnol bob amser yn swnio’n syniad da, ond rhaid i rywun benodi aelodau annibynnol i’r bwrdd yn y lle cyntaf. Weithiau, mae’r rhain yn tueddu i fod yn un set o swyddogion cyhoeddus yn argymell codiad cyflog bras i set arall o swyddogion cyhoeddus. Felly, mae angen monitro’r broses o benodi aelodau i’r byrddau hyn yn ofalus.

Byddai gosod terfynau uchaf ar gyflog yn arf arall y gellid ei ddefnyddio. Rydym hefyd yn cefnogi’r syniad o rolau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer prif weithredwyr cynghorau. Os ydynt yn mynd i fod ar eu graddfeydd cyflog uchel, yna dylai fod cyfarwyddiadau clir ynglŷn â’u dyletswyddau. Mae’n anodd dadlau y dylai Prif Weithredwyr cynghorau gael arian ychwanegol am fod yn swyddogion canlyniadau mewn etholiadau, a buasai rhywun yn meddwl bod hynny’n rhan o’u dyletswyddau statudol.

Ond os ydym yn mynd i gael trefn ar gyflogau’r sector cyhoeddus yma yng Nghymru, yna mae angen i ni gael ein tŷ ein hunain mewn trefn yn gyntaf. Mae’r codiad cyflog a gafodd ACau eleni, ac a argymhellwyd gan fwrdd taliadau annibynnol, wedi ysgogi cryn ddadlau. Byddwn yn cynnig yn y dyfodol y dylai pob codiad cyflog i Aelodau Cynulliad gael ei gysylltu â chwyddiant. [Torri ar draws.] Mae hynny’n digwydd? [Torri ar draws.] Mae’n digwydd yn awr? Wel, nid oedd yn ymddangos—nid dyna a adroddwyd ar y pryd. [Torri ar draws.] Mae’n digwydd? [Torri ar draws.] Iawn, rydym yn gwneud cynnydd da. Gwelaf eich bod wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â chyflogau yn y Cynulliad diwethaf, felly—.

Nid wyf yn meddwl y gallwn ddefnyddio cyfrifoldebau ychwanegol fel esgus yn y dyfodol i godi cyflogau Aelodau Cynulliad yn uwch na lefelau chwyddiant. Felly, rwy’n gobeithio na fydd y ddadl honno’n digwydd.

Nawr, rydym wedi edrych ar agweddau eraill ar gyflogau yn y sector cyhoeddus. Crybwyllodd Neil benaethiaid cymdeithasau tai. Crybwyllodd Dawn broblem pobl yn y byd academaidd. Nawr, mae Colin Riordan, y prif ddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael £269,000 y flwyddyn. A yw’n werth hyd yn oed hanner hynny? A beth rydym yn mynd i’w wneud ynglŷn â’i gyflog ef? Diolch.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 17:20:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Gadeirydd. Roedd y nodyn a ysgrifennais i mi fy hun fel canllaw ar gyfer ymateb i’r ddadl hon yn dweud fy mod yn edrych ymlaen at ddadl ar bwnc difrifol lle roedd llawer y gallwn gytuno yn ei gylch. Rwy’n difaru’n fawr y ffaith ein bod wedi methu â chael dadl ddifrifol o’r fath y prynhawn yma.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n rhannu eich pryder am natur y ddadl hon, Ysgrifennydd y Cabinet. Bûm yn cadeirio ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar yr union bwnc hwn, gyda rhai argymhellion synhwyrol iawn y gellid eu datblygu ar sail drawsbleidiol i fynd i’r afael â’r hyn sy’n destun pryder real iawn i aelodau o’r cyhoedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ar hyn, yn unedig fel Cynulliad, i roi sylw i broblem go iawn tâl gormodol yn y sector cyhoeddus.

A gaf fi ddiolch i Darren Millar am hynny? Rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn dilyn ymlaen o’r ysbryd y mae newydd ei sefydlu, gan fod hwn yn fater difrifol ac mae’n haeddu dadl ddifrifol. Yn anffodus, fe ddechreuodd ar nodyn ymrannol a dinistriol a bu’n anodd iawn ei hadfer wedyn.

A gaf fi ddweud hefyd, Gadeirydd, fy mod yn anghymeradwyo’n llwyr—ac rwy’n ei gofnodi yma—rwy’n anghymeradwyo’n llwyr pan fo Aelodau’r Cynulliad hwn yn ymosod ar unigolion yn ôl eu henwau, unigolion—pa un a ydynt yn y sector preifat, yn benodiadau cyhoeddus, neu yn y sector cyhoeddus—na all fod yma i ateb drostynt eu hunain i’r ymosodiad personol a wneir arnynt? Nid dyna’r ffordd rydym wedi cynnal ein dadleuon yn y Cynulliad hwn ac rwy’n anghymeradwyo’n llwyr pan fydd pobl yn ymroi i’r math hwnnw o ymddygiad.

Gadewch i mi droi at sylwedd y cynnig. Mae yna broblem ynglŷn â chyflogau uwch swyddogion, wrth gwrs bod. Dyna pam, yng Nghymru, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi polisi taliadau eu hawdurdod a gosod y gymhareb rhwng y cyflogai ar y cyflog uchaf a chyfartaledd canolrifol enillion yn yr awdurdod lleol hwnnw. Mewn llywodraeth leol, mae’r datganiadau polisi cyflogau yn dangos bod y gymhareb yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, rhwng 4:1 a 9:1. Mae’n ddigon posibl y bydd yr Aelodau yma’n meddwl bod y gymhareb yn rhy lydan ac nad yw’n adlewyrchu, er enghraifft, cymhareb Llywodraeth Cymru ei hun, lle y mae’r gymhareb rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog canolrifol yn 5.54:1.

Mae’n fwy na phroblem sy’n ymwneud â chyflogau uchel. Fel y dywedodd Dawn Bowden, mae’n broblem sy’n ymwneud â chyflogau isel yn ogystal. Sut y mae mynd i’r afael â phobl nad ydynt yn ennill digon a gwneud yn siŵr fod ein polisïau cyflogau yn eu gwobrwyo hwy’n briodol, hefyd? Mae’r GIG yng Nghymru yn gyflogwr cyflog byw. Mewn llywodraeth leol, mae’r darlun yn llai unffurf. Gwnaed rhywfaint o gynnydd mewn awdurdodau o bob lliw gwleidyddol. Rwy’n meddwl bod mwy i’w wneud ac rwy’n sicr yn credu y dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru gael y dyhead hwnnw a dangos sut y maent am roi camau ar waith i gyflawni hynny.

Ar bwynt 2 y cynnig, o ran y ddadl ar dryloywder, mae yna bersbectif a rennir rhwng nifer o bobl yma yn y Siambr a hanes y mae’r rhan fwyaf o’n pleidiau yma wedi chwarae eu rhan ynddo. Cafwyd Deddf Lleoliaeth 2011, a chyfeiriwyd ati y prynhawn yma. Cafwyd adroddiad pwysig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pan fu’n ystyried y mater yn 2014. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr adroddiad hwnnw a datblygodd a chyhoeddodd fframwaith tryloywder cyflog y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ei ddilyn.

Drwy Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sefydlwyd y panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol. Tan hynny roedd yn gorff a oedd wedi’i gyfyngu i ddelio ag aelodau o awdurdodau lleol, ond gwnaeth Deddf 2013 hi’n ofynnol iddo ymgymryd â’r dasg o ystyried newidiadau i gyflogau prif weithredwyr ac i wneud argymhellion i gynghorau ynglŷn â’r newidiadau hynny. Yna, y llynedd, yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, cytunasom yma i ehangu’r rôl honno i ymdrin â newidiadau i gyflogau’r holl brif swyddogion mewn llywodraeth leol. Roedd yn agenda, Gadeirydd, y bu’r pleidiau ar draws y Siambr yn gweithio gyda’i gilydd arni. A phan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar fater pwysig, rydym yn dangos ein bod yn gallu gwneud rhywfaint o gynnydd, ac mae’r safbwynt ar dryloywder yn wahanol iawn heddiw i’r hyn ydoedd bedair blynedd yn ôl hyd yn oed.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae yna ran olaf i’r cynnig, Ddirprwy Lywydd, 3(b) ar ffioedd swyddogion canlyniadau, ac rwy’n hapus iawn ein bod yn gallu derbyn y rhan honno, oherwydd dyna yw polisi’r Llywodraeth eisoes, ac rwy’n bwriadu defnyddio’r Bil llywodraeth leol sydd ar y gweill, os gallwn gael un, i ddatblygu’r pwyntiau a wnaed yn y rhan honno o’r cynnig ymhellach.

Yn olaf, o ran 3(a), rwy’n deall y meddylfryd sy’n sail i’r rhan honno o’r cynnig—ond rwy’n meddwl ei fod yn gynamserol yn ei fanylder a’r hyn y mae’n ei bennu. Cyflwynodd cydweithwyr yn yr undebau llafur bapur ar y mater hwn yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos diwethaf. Fe gytunasom ar amserlen yno ar gyfer datblygu’r drafodaeth honno ymhellach. Mae gwelliant y Llywodraeth yn adlewyrchu ein bwriad i ymdrin â’r mater mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn y ffordd honno, fe wnawn rywfaint o gynnydd, ac yn y ffordd honno, efallai y gallwn achub rhywbeth o’r cynnig hwn ac o’r ddadl a gawsom yma y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Galwaf ar Neil McEvoy i ymateb i’r ddadl. Neil.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, yng Nghaerffili, ni chefnogodd cynghorydd Plaid Cymru y cytundeb cyflog, cynghorwyr Llafur a wnaeth hynny. O ran fy sefyllfa fy hun, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghymuned a buddsoddi’r lwfans cynghorydd ar ôl yr etholiadau, os caf fy ail-ethol, yn fy nghymuned. Ni allaf aros. [Torri ar draws.]

Rwy’n meddwl bod yna anferth o—. Rwy’n credu mai’r hyn sydd gennym yma yw diffyg cydnabyddiaeth o realiti, a’r pryder enfawr ymhlith y cyhoedd. Rhoddaf rai enghreifftiau i chi. Cadeiryddion byrddau iechyd: Caerdydd a’r Fro, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur; Aneurin Bevan, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur; Abertawe Bro Morgannwg, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur. Gadewch i ni symud ymlaen at y comisiynwyr. Lles cenedlaethau’r dyfodol, aelod o’r Blaid Lafur; comisiynydd plant, aelod o’r Blaid Lafur; yr ombwdsmon, roedd mewn busnes â Gweinidog Llafur. [Torri ar draws.] Dyma’r gwir, ac nid ydych yn hoffi ei glywed. Yr hyn sydd gennym yma—[Torri ar draws.] Yr hyn sydd gennym yma yw pryder cyhoeddus enfawr. [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw beth yma nad yw’n ffaith. Nid ydych yn ei hoffi; chi yw’r Llywodraeth, dylech fynd i’r afael â hyn. [Torri ar draws.] O ran—[Torri ar draws.] O ran nifer y swyddi—[Torri ar draws.]

A gaf fi wrando ar yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud wrth ymateb i’r ddadl, os gwelwch yn dda? A gawn ni wrando’n dawel, am ei bod yn anodd iawn pan fo pawb yn gweiddi? Neil.

Yr hyn sydd gennym yma yw sawl agwedd ar wladwriaeth un blaid, sydd wedi cael ei rhedeg gan y Blaid Lafur ers 1999. A wyddoch chi beth, y newyddion yw: mae eich amser yn dod i ben. Diolch yn fawr.

Na, gadewch i mi wneud y rhan hon yn gyntaf, ac yna dof yn ôl at eich pwynt o drefn. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu, iawn. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Diolch. Roedd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ferthyr yn ffeithiol anghywir, a gofynnaf iddi ei dynnu’n ôl.

Hoffwn ofyn i chi i feddwl am yr hyn a ddywedwyd a buaswn yn gofyn i chi: a ydych eisiau ymateb?

Rwy’n hapus i dderbyn y gallwn fod wedi cael y ffigurau’n anghywir, Gadeirydd, ac os gwneuthum, rwy’n ymddiheuro, ond nid wyf yn ymddiheuro am fy sylw am yr Aelod yn cymryd dau gyflog.

Iawn, diolch. [Torri ar draws.] Diolch. Wel, natur dadl seneddol yw bod ffeithiau a dadleuon bob amser yn cael eu herio, ac felly dylai hynny ddigwydd. [Torri ar draws.] Arhoswch funud. Mae’r Aelodau’n gyfrifol am gywirdeb y datganiadau a wnânt, ac ar yr amod nad ydynt yn groes i’r drefn—ac nid wyf yn credu ei fod yn groes i’r drefn, ar wahân i’r anghywirdeb ffeithiol a nodwyd gan yr Aelod—nid fy lle i, y Llywydd, nac unrhyw un sy’n eistedd yn y gadair hon, yw barnu’r ffeithiau a gyflwynwyd. Ac rwy’n hapus i gymryd y ffaith rydych wedi’i thynnu’n ôl, y ffaith y gallai’r ffigurau fod yn anghywir, ac felly dyna ddiwedd y drafodaeth honno. Iawn. Diolch yn fawr iawn.

9. 9. Dadl Plaid Cymru: Targedau Diagnosis Canser

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen at y ddadl Plaid Cymru ar dargedau diagnostig canser, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6172 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y tasglu canser annibynnol wedi galw am darged o 28 niwrnod ar gyfer diagnosis.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig, a gafodd ei sicrhau gan Blaid Cymru yn nhrafodaethau'r gyllideb, yn helpu i gyrraedd y targed hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma, sy’n galw am ffocws ar gyrraedd targed o 28 diwrnod ar gyfer rhoi diagnosis i bobl efo canser. Argymhelliad ydy hwn, wrth gwrs, gan y tasglu canser annibynnol, tasglu sy’n cynnwys rhai o glinigwyr gorau Ewrop, a ddywedodd:

‘We recommend setting an ambition that by 2020, 95% of patients referred for testing by a GP are definitively diagnosed with cancer, or cancer is excluded, and the result communicated to the patient, within four weeks’.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai 50 y cant gael eu canlyniad o fewn pythefnos.

Mae rhai pedantig wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod y tasglu canser annibynnol yn edrych yn benodol ar Loegr. Yr awgrym, am wn i, ydy na ddylem ni fyth edrych i mewn i beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill, neu efallai hyd yn oed fod canser yn newid ffurf mewn rhyw ffordd pan mae’n croesi ffin, ond, wrth gwrs, mae’r argymhelliad hefyd wedi cael ei gymeradwyo gan Ymchwil Canser fel rhywbeth a fyddai yn benodol o werth i Gymru hefyd. Yr un ydy anghenion iechyd pobl. Yr un ydy pwysigrwydd diagnosis cynnar.

Mae rhestrau aros diagnostig yn fwy yma na dros y ffin. Mae unrhyw ddehongliad rhesymol o ddata, rwy’n meddwl, yn dangos hynny. Ac hefyd oherwydd canllawiau newydd gan NICE, sydd yn berthnasol i Gymru, mae’n mynd i fod yn haws i feddygon teulu gyfeirio pobl i gael eu profi. Felly, mae cynnydd mewn capasiti, rwy’n meddwl, yn mynd i fod yn angenrheidiol.

Rydym ni wedi gweld gwelliant mewn amseroedd aros diagnostig ar gyfer radioleg yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg rydym yn dymuno gweld hynny yn parhau. Ond nid yw’r ffigurau yn well nag oedden nhw yn ôl ym mis Hydref 2009, er enghraifft, felly rydym yn dal yn ceisio dod dros y cyfnod yna rhwng 2011 a 2014 pan aeth amseroedd aros drwy y to.

Mae’n waeth byth pan mae’n dod i ddiagnosis endosgopi, sy’n hanfodol, wrth gwrs, efo canser y perfedd. Yma, mae’r amser aros canolrifol wedi mynd o ychydig dros dair wythnos yn 2009 i ychydig o dan chwech wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn yma. Nid ydym wedi gweld unrhyw welliant go iawn ers 2014, a chofiwch mai’r canolrif ydy hyn, sy’n golygu bod hanner y bobl yn disgwyl hyd yn oed yn hirach na hyn. Felly, rydych chi yn gallu gweld yr heriau sy’n ein wynebu ni i weithredu targed o 28 diwrnod ar gyfer diagnosis i 95 y cant o bobl.

Mae’r Gweinidog, rwy’n meddwl, wedi honni o’r blaen fod y targed, i raddau, yn cael ei gyrraedd mewn gwirionedd, ond rhywsut nad yw’n cael ei gofnodi. Y cyfan ddywedaf i am hynny ydy mae’n siŵr ei bod hi’n rhwystredig iawn iddo fo fod yr holl dargedau mae ei Lywodraeth o yn eu cyrraedd ddim yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi, pan fydd gymaint o’r targedau sydd yn cael eu cofnodi yn dangos methiant. Gallai rhai pobl gasglu o hynny fod pethau ddim yn mynd cystal ag y byddai’r Gweinidog yn dymuno eu gweld.

Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar rywbeth arall mae’r Gweinidog wedi ei ddweud yn hollol gywir droeon: mae eisiau i ni edrych a chanolbwyntio ar ganlyniadau. Rwy’n cytuno 100 y cant efo hynny. Felly, gadewch i ni bwysleisio’r pwysigrwydd yma o gael diagnosis cynharach, a beth mae hynny yn ei olygu i ganlyniadau. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 93.2 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis yn y cyfnod cynharaf o ganser y perfedd wedi goroesi am bum mlynedd, o’i gymharu â dim ond 6.6 y cant o’r rhai lle roedd y clefyd wedi datblygu ymhellach. Ar gyfer canser yr iau, mi fydd rhwng 50 y cant a 70 y cant o gleifion cyfnod A yn goroesi am bum mlynedd efo triniaeth, o’i gymharu ag amser goroesi canolrif o rhwng chwech ac 11 mis ar gyfer y rhai yng nghyfnod C. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn y cyfnod cynharaf yn goroesi’r clefyd am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 15 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig o’r clefyd. Mae mwy na 90 y cant o ferched sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn y cyfnod cynharaf yn goroesi am o leiaf pum mlynedd, o’i gymharu â rhyw 5 y cant o ferched sy’n cael diagnosis yn y cyfnod mwyaf datblygedig. Mae’r ffigurau yn drawiadol iawn. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, ond mae’n werth weithiau i ni edrych ar y ffigurau moel fel hyn, i’n hatgoffa ni o bwysigrwydd gwneud y diagnosis yn gynnar.

Mae yna sôn yn aml am gymharu Cymru â Lloegr. Mae’n deg mewn ambell i gyd-destun, ddim yn deg mewn cyd-destunau eraill ond, wrth gwrs, dylem ni yng Nghymru a Lloegr efo’n gilydd fod yn edrych tuag at beth sy’n digwydd lle mae perfformio i’w weld ar ei orau. Ambell i enghraifft i chi: ffigurau goroesi canser y fron am bum mlynedd, 79.1 y cant yn Lloegr; 78 y cant yng Nghymru—digon tebyg; yn Sweden, y ffigur yn 86 y cant, a dyna ddylem fod yn anelu amdano fo. Yn Lloegr, 80 y cant o ddynion efo canser y prostad yn dal yn fyw bum mlynedd yn ddiweddarach; 90 y cant ydy’r ffigur yn Awstria; 78 y cant yng Nghymru. Canser y coluddyn, wedyn, mae ffigurau goroesi pum mlynedd yn Lloegr yn 51.3 y cant; ychydig o dan 50 y cant yng Nghymru; a’r Almaen yn taro dros 60 y cant—62.2 y cant—efo’r cyfartaledd Ewropeaidd yn 57 y cant. Felly, unwaith eto, anelu am y goreuon, achos mae pob un o’r bobl hyn yn y gwledydd eraill sy’n cael diagnosis cynnar yn bobl sy’n elwa yn yr hirdymor, ac mae’r graddfeydd goroesi yn dangos hynny i ni.

Mae yna sawl rheswm am ddiagnosis hwyr: amharodrwydd cleifion, yn aml iawn, i ymweld â meddyg teulu efo’r peswch parhaus yna neu’r lwmp sydd ddim yn diflannu, o bosib. Efallai bod y claf wedi gwrando ar gyngor y Llywodraeth i beidio ag ymweld â meddyg teulu oni bai bod rhaid. Mae yna lawer o resymau, wrth gwrs, pam fod pobl yn peidio mynd. Ond, mae amseroedd aros hir yn ffactor hefyd ac weithiau mae symptomau cymhleth angen profion cymhleth o’r math rydym wedi’u gweld yn cael eu harloesi mewn canolfannau amlddisgyblaethol yn Nenmarc, sy’n rhywbeth rydw i wedi cyfeirio ato fo sawl tro yn y fan hon. Unwaith eto, mae Ymchwil Canser yn cefnogi canolfannau amlddisgyblaethol fel hyn. Dyma chi un dyfyniad:

‘It’s clear that early diagnosis is crucial to improving survival in many cancer types. Some cancer types are more amenable to this, for example, breast and skin cancers that have specific symptoms. Particular challenges are present in cancers where symptoms are vague.’

Mae’n rhaid inni roi bob cyfle drwy ganolfannau diagnostig a thrwy ddefnyddio’r arian sydd wedi’i neilltuo drwy’r gyllideb, yn dilyn y trafodaethau efo Plaid Cymru, i sicrhau bod y targed hollbwysig yma’n un o’r prif flaenoriaethau wrth inni dargedu arian prin, ond arian sydd yna ar gyfer sicrhau iechyd pobl Cymru yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) y pwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru (2016-2020);

b) bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen; ac

c) y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Vaughan Gething 17:37:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Yn ffurfiol, Gadeirydd.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau sgrinio ledled Cymru gyfan drwy gydnabod y rôl y mae gwasanaeth cenedlaethol symudol trin canser yn ei chwarae o ran cefnogi'r rhai sydd â chanser, ynghyd â lleihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud hynny. Rwy’n ddiolchgar iawn i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn, er y byddwn yn dweud wrth Rhun ap Iorwerth na ddylai fod mor sensitif am gael tynnu ei goes am ddibynnu mor drwm ar arolwg o Loegr, ag yntau fel arfer yn osgoi pob peth Seisnig. Yn wir, mae Plaid Cymru wedi fy ngheryddu cymaint o weithiau am ddefnyddio data o Loegr mewn perthynas â’r GIG.

Credaf fod cael targed ar gyfer cael diagnosis o fewn 28 diwrnod yn nod canmoladwy iawn, ac rwy’n credu ei fod hefyd yn nod trugarog iawn, gan na allaf feddwl am lawer a allai fod yn fwy brawychus na meddyg teulu yn dweud wrthych fod angen i chi fynd i gael profion am eu bod yn amau ​​bod gennych ganser. Rwy’n gwybod o straeon etholwyr, maent yn dweud wrthyf ei fod yn eu difa—yr aros. A pho hiraf sy’n rhaid iddynt aros, y mwyaf pryderus y maent hwy a’u teuluoedd yn mynd i fod. Rwy’n meddwl bod gallu ateb ofnau pobl a naill ai dweud wrthynt am y frwydr sy’n rhaid iddynt ei hymladd neu eu rhyddhau a gadael iddynt ddychwelyd at eu bywydau arferol yn hynod o bwysig. Ac mae unrhyw beth a phopeth y gallwn ei wneud i leihau’r amser diagnosis hwnnw i’w groesawu’n fawr iawn.

Rwyf wedi nodi gwelliannau’r Llywodraeth ac rwy’n falch o weld, Ysgrifennydd y Cabinet, fod mwy o bwyslais ar ganfod yn gynnar, fel y nodir yn y cynllun cyflawni canser. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ond rhaid i mi ddweud, ar y cyfan, rydych yn gwneud cam â chleifion canser ledled Cymru. Daeth ymchwil annibynnol gan Brifysgol Bryste i’r casgliad fod cleifion yn Lloegr saith gwaith yn fwy tebygol o gael mynediad at gyffuriau canser modern na’u cymheiriaid yng Nghymru; fod cynnydd o 6.1 y cant i gyd wedi bod yng Nghymru yn y nifer sy’n aros am ofal canser brys. Felly, mae’n bwysig iawn gallu canfod yn gynnar, ond mae eich pwynt (b) yn mynd ymlaen i ddweud bod,

‘mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o’r blaen’.

Rwy’n croesawu hynny. Rwy’n credu bod hynny’n hollol wych, ond unwaith eto, mae’n rhaid i ni edrych ar y ffaith mai 83.3 y cant yn unig o bobl a ddylai fod wedi dechrau ar eu triniaeth canser o fewn 62 o ddiwrnodau sy’n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd, ac nid oes yr un o fyrddau iechyd Cymru yn cyrraedd y targed hwn ar sail unigol. Felly mae yna fwlch mawr rhwng rhethreg eich gwelliannau a’u cyflawniad allan yno ar lawr gwlad.

Rydym wedi cyflwyno gwelliant sy’n sôn am wella mynediad at wasanaethau sgrinio ar draws Cymru gyfan. Hoffem gydnabod y rôl y mae’r gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol yn ei chwarae yn cefnogi pobl sydd â chanser. Rydym yn credu ein bod mor bell y tu ôl yn rhan gyntaf y cynnig hwn fel y gallem symud ymlaen o ddifrif drwy ddefnyddio llawer iawn mwy ar ganolfannau triniaeth diagnostig symudol ar gyfer canser. Mae 20.8 y cant o bobl ledled Cymru yn aros mwy nag wyth wythnos. Yn Lloegr nid yw ond yn 1.5 y cant. Mae gennym fwy o achosion newydd o ganser ac mae nifer yr achosion yn parhau i godi mewn dynion a menywod. Pan feddyliwch fod modd atal pedwar o bob 10 achos o ganser, lle y gallai diagnosteg dda wneud gwahaniaeth mor enfawr, yna rydym o ddifrif eisiau pwysleisio’r pwynt y gallai gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol wneud y byd o wahaniaeth.

Cyhoeddasom yn etholiadau’r Cynulliad 2016 y byddem yn sefydlu yn union hynny i atal teithiau hir i gleifion sy’n mynd i glinigau ac yn cael triniaeth cemotherapi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd drwy wneud llawer mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd meddygon teulu. Mae’n ddiddorol iawn, oherwydd euthum i grŵp clwstwr ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, ac mae ganddynt beiriant prawf diagnostig adwaith critigol, a dyna un o’r allweddi a fydd yn dweud wrthych yn eich gwaed mewn gwirionedd pa un a oes rhywbeth yn digwydd a allai arwain at naill ai canser neu sepsis. Mae’n beth prin iawn i glinig meddyg teulu ddod â pheiriant felly i mewn a defnyddio hwnnw, ond drwy allu gwneud hynny maent yn chwarae eu rhan yn helpu i symud y diagnosis cynnar hwn yn ei flaen.

Mae llawer iawn o bethau y gallwn ei wneud i helpu meddygon teulu i wneud llawer mwy o sgrinio ar eu lefel hwy, a symud yr atgyfeiriadau hyn drwodd i’r ysbytai wedyn. Mae clinigau symudol yn gwbl hanfodol, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, lle y mae mor hynod o anodd i bobl deithio yn ôl ac ymlaen. Hoffem edrych ar syniadau fel cael cemegwyr sy’n gallu gwneud profion gwaed—unwaith eto, profion gwaed a all nodi’r marcwyr canser, i allu symud ymlaen. Mae pob un o’r pethau hyn yn helpu i gyflymu’r system, a dyna beth sydd angen i ni ei wneud i allu symud hyn yn ei flaen. Os ydym eisiau gallu ceisio cyrraedd y targed hwnnw o 28 diwrnod, rhywbeth y credaf y byddai’n gwbl hanfodol ar gyfer lles meddyliol rhywun a allai fod yn dioddef o ganser, yna mae angen i ni edrych ar y sbectrwm eang cyfan, a byddai gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar rai o’r syniadau hynny, Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy’n falch o allu siarad yn y ddadl hon. Ddoe gallais ofyn i’r Prif Weinidog am y cynnydd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud o ran gwella cyfraddau goroesi ar gyfer canser, ac fel y dywedais wrth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, a minnau y fraint o ymweld â labordai Ymchwil Canser Cymru, lle roeddem yn gallu gweld y gwaith cyffrous ac arloesol sy’n digwydd heddiw i gynyddu dealltwriaeth wyddonol o sut y mae canser yn ymosod ar y system imiwnedd.

Mae Ymchwil Canser Cymru yn enghraifft wirioneddol gyffrous o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yng Nghymru. Maent yn codi dros £1 filiwn y flwyddyn ac yn cyfrannu at ymchwil canser yn y nifer o ysbytai yng Nghymru ac adrannau prifysgol ledled Cymru. Fel y nodwyd, croesawaf gynllun cyflawni canser uchelgeisiol Llywodraeth Llafur Cymru sydd newydd gael ei lansio ar ei newydd wedd. Gall pob un ohonom gymeradwyo’r ffaith fod boddhad cleifion yn parhau i fod yn gadarnhaol. Yn wir, mae buddsoddi mewn gwariant ar wasanaethau canser wedi codi o £347 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15. Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthyf ddoe pan ofynnais pa offer y gallai Llywodraeth Lafur Cymru eu rhoi i wyddonwyr ac ymchwilwyr dawnus yn Ymchwil Canser Cymru, dywedodd,

rydym yn buddsoddi £4.5 miliwn o gyllid dros dair blynedd yn y Ganolfan Ymchwil Canser newydd ar gyfer Cymru, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Yn ogystal, buddsoddir £4.7 miliwn yn fras bob blwyddyn i gefnogi recriwtio cleifion i dreialon neu astudiaethau a chefnogi gweithgaredd ymchwil y bwrdd iechyd.

Yn wir, mae’r gronfa cyflawni canser ddiwygiedig yn ymrwymo i wella cyfraddau goroesi ar gyfer canser, lleihau nifer y marwolaethau cynnar a achosir gan y clefyd, cau’r bwlch gyda’r darparwyr gofal canser gorau yn Ewrop, ac mae’r cynllun hefyd yn ymdrin â’r cyfnod hyd at 2020 er mwyn sicrhau parhad sy’n bwysig iawn i’r gwasanaeth iechyd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol yn y maes hwn ar gyfer Cymru. Bydd o leiaf 95 y cant o gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys yn dechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio. Yn wir, mae gan Gymru dargedau llymach na Lloegr—95 y cant, o’i gymharu â 85 y cant ar hyn. Bydd o leiaf 98 y cant o’r cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, nid drwy’r llwybr brys, yn dechrau triniaeth benodol o fewn 31 diwrnod i gael diagnosis, beth bynnag fo’r llwybr atgyfeirio. Mae’r targedau hyn yn adlewyrchu cyngor gan glinigwyr arbenigol, cleifion a’r trydydd sector na ddylai cleifion aros mwy na 62 diwrnod o’r adeg y ceir amheuaeth o ganser ​gyntaf i ddechrau’r driniaeth.

Ni fyddai targed diagnosis 28 diwrnod y mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi’i gyhoeddi fel y targed i’w gyrraedd yn Lloegr erbyn 2020, ynddo’i hun yn gwarantu mynediad cyflymach at driniaeth canser. Mae’r llwybr cyfan yn bwysig i bobl a atgyfeiriwyd lle y ceir amheuaeth o ganser, nid y 28 diwrnod cyntaf yn unig. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud ei bod yn gwrthwynebu unrhyw syniad a fyddai’n arwain o bosibl at gleifion yn cael diagnosis anghywir neu ddim yn cael diagnosis o gwbl er mwyn cyrraedd targed newydd neu unrhyw gynnig a fyddai’n ymestyn yr amser y mae cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Dylid cydnabod bod gennym wasanaeth a system iechyd wahanol yng Nghymru, sy’n seiliedig ar gydweithio ac integreiddio gofal sylfaenol ac eilaidd. Felly, na foed unrhyw amheuaeth: er mwyn i ni i gyflawni ein hamcanion, mae’n rhaid i ni fuddsoddi, a hefyd na foed unrhyw amheuaeth fod y Blaid Lafur, a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol, y llwyddiant mwyaf a gafwyd gan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig ar adeg o heddwch, yma yng Nghymru yn parhau i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd gwladol yma yn cael ei ariannu ac yn addas i’w ddefnyddio yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae buddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi golygu bod gwariant ar wasanaethau canser yn parhau i godi. Gwariant ar ganser bellach yw bron i 7 y cant o holl wariant y GIG yng Nghymru—y pedwerydd maes gwariant mwyaf. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi £16.9 miliwn mewn offer diagnostig, fel sganwyr MRI a CT yn 2016-17. Ni ellir cael gwell tystiolaeth o ymrwymiad ein plaid a’n Llywodraeth na sicrhau ein bod yn parhau i fynd i’r afael â malltod canser, na’r ganolfan ganser newydd yn Felindre sy’n werth £200 miliwn, gyda £15 miliwn wedi’i ddyrannu yn y gyllideb ddrafft, ar yr adeg hon, ar gyfer gwella diagnosteg. Mae cyfeiriad y cynnydd a’r daith sy’n cael ei gwneud yn dda, a dyna pam y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a gyflwynwyd ac yn cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae cynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn amlinellu maint y broblem sy’n ein hwynebu. Mae gofal canser wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd ac o ganlyniad, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Fodd bynnag, rydym yn methu’n wael o ran diagnosis cynnar ac yma y mae rhai o’r cyfraddau goroesi gwaethaf ar ôl pum mlynedd yn y byd datblygedig. Yn y pen draw bydd un o bob dau ohonom yn datblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau ac fel y mae Dr Crosby yn ysgrifennu yn y cyflwyniad i’r cynllun cyflawni canser,

‘Mae cael diagnosis o ganser yn gynnar yn ei gwneud yn bosibl cael cyfuniad o driniaethau llai ymosodol a llai costus, gwell profiad ac ansawdd bywyd gwell i’r claf, ac yn hollbwysig goroesi’n hirach.’

Mae’n rhaid i ni wneud yn well. Rhaid i ni ddysgu o brofiadau mewn mannau eraill, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru yn derbyn nad ydym yn perfformio’n dda o ran diagnosis cynnar a’u bod yn barod i edrych ar sut y caiff pethau eu gwneud ar draws y byd. Mae ymweliad y grŵp gweithredu canser â Denmarc wedi arwain at ailwampio trefniadau atgyfeirio canser meddygon teulu a threialu canolfannau diagnostig. Mae cynnig Plaid Cymru yn cyfeirio at y gwaith a wnaed i ddatblygu’r cynllun cyflawni canser yn Lloegr, a byddai UKIP yn hapus i gefnogi ymdrech Cymru i fabwysiadu’r targedau canser a nodwyd yn yr adroddiad gan y tasglu canser annibynnol.

Mae’r GIG yn Lloegr wedi gwneud gwelliannau enfawr yn eu cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd a byddai’n werth i ni ddysgu o’r cyflawniadau hyn.

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych yn rhannu’r pryderon sydd gennyf, felly, fod yr adroddiad heddiw gan Cancer Research UK yn tynnu sylw at yr anhrefn bosibl sy’n mynd i ddigwydd ym maes diagnosteg a phatholeg yn y GIG, oherwydd eu bod yn gweld y niferoedd yn cynyddu ond yr adran ei hun yn lleihau?

Diolch i chi, David. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn dal i fyny â’r galw, gan fod un o bob dau ohonom yn mynd i gael canser, ond ni allwn ond gwneud ein gorau.

Byddem hefyd yn cefnogi awgrym y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â gwasanaeth trin canser symudol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig.

Nid oes un ateb sengl i gyflawni gwelliannau i ofal canser yng Nghymru ond mae llawer o gamau bach y gallwn eu cymryd. Mae’n rhaid i ni wella ymwybyddiaeth o symptomau, mynediad at feddyg teulu, gwella argaeledd diagnosteg mewn gofal sylfaenol, cyflymu’r broses atgyfeirio a sicrhau mynediad at y triniaethau diweddaraf. Os ydym yn raddol yn gwella pob dolen yn y gadwyn, yna gallwn ddarparu’r gofal canser gorau yn y byd a sicrhau bod mwy o bobl yn goroesi canser am fwy o amser. Mae’r cynllun cyflawni canser newydd yn ddechrau da; gadewch i ni sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfateb i’r uchelgais. Diolch. Diolch yn fawr.

‘Canser yw e’—yn ôl pob tebyg rhai o’r geiriau mwyaf brawychus y bydd pobl yn eu clywed pan fyddant yn ymweld â’u meddyg ymgynghorol neu eu meddyg teulu ar ôl cynnal archwiliadau. Ar ôl clywed y geiriau hynny, mae cleifion yn wynebu cyfnod heriol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i dawelu eu meddyliau a’u sicrhau y bydd strwythur i’r gofal y byddant yn ei gael, a chynllun wedi’i gytuno, ac y bydd o’r ansawdd gorau. Ond rhaid i ni hefyd dawelu ein meddyliau ein hunain fod y gofal a gânt hyd at y pwynt hwnnw’n cyrraedd yr un safonau uchel.

Mae’r ddadl heddiw’n ymwneud â phwysigrwydd gofal cynnar a chynnal yr archwiliadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn gallu rhoi’r neges i gleifion nad ydynt yn dioddef o ganser, gan gael gwared ar y pryder enfawr a’r baich y maent wedi bod yn ei gario dros y cyfnod hwnnw, neu’r neges fod ganddynt gyflwr sy’n galw am driniaeth frys.

Mae’r ystadegau’n awgrymu y bydd cynifer ag un o bob tri—efallai ei fod i lawr i un o bob dau bellach—yn datblygu canser yn ystod eu hoes. Wrth edrych o gwmpas yr ystafell hon, mae hynny’n golygu efallai y bydd 10 a mwy ohonom yn cael y neges honno yn y blynyddoedd i ddod. Mae’n fater sy’n effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru ac mae’n debygol iawn fod llawer yn y Siambr hon wedi cael profiadau personol o aelodau o’r teulu neu ffrindiau da iawn a glywodd y geiriau hynny ac sydd wedi teithio drwy’r broses ddiagnostig, ac a fyddai’n gallu sôn am rai o’u profiadau yn uniongyrchol o’r hyn a wyddom.

Rwyf hefyd wedi cyfarfod ag etholwyr, fel y mae llawer ohonoch, sydd wedi lleisio pryderon am yr oedi y maent wedi’i brofi yn y broses ddiagnostig. Er gwaethaf y cynnydd parhaus tuag at gyrraedd y targed—ac mae yna gynnydd—mae’n bwysig cydnabod bod pobl yn dal i orfod aros ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i gladdu fy mhen yn y tywod ar y mater hwn. Ond mae hefyd yn bwysig pwysleisio fod etholwyr yn cysylltu â mi i ddweud wrthyf faint o ganmoliaeth y maent wedi ei roi i’r GIG yng Nghymru am y driniaeth gyflym a gawsant a’r gofal rhagorol a ddarperir gan staff ymroddgar ac ymrwymedig y GIG yma yng Nghymru.

Mae’n newyddion da fod y cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac rwy’n siŵr y bydd yr ystadegau’n cael eu hailadrodd eto. Fodd bynnag, o ran diagnosteg, ar ddiwedd mis Medi 2016, roedd 11,000 o bobl yn aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig penodol ac endosgopïau. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno bod hyn yn 11,000 yn ormod, er fy mod yn derbyn nad oedd amheuaeth o ganser yn achos pob un o’r rhain a bod y ffigur 36 y cant yn is nag yn 2015.

Rydym i gyd am roi diwedd ar amseroedd aros hir ym mhob rhan o’n GIG yng Nghymru, gan gynnwys gofal canser. Adlewyrchwyd yr uchelgais hwn yn y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Islwyn, wedi pwysleisio’r agweddau cadarnhaol ar y cynllun hwnnw eisoes y prynhawn yma. Mae’n canolbwyntio ar ganfod canser yn gynnar drwy well mynediad at ddiagnosteg. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar ynghylch buddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant—maent yn cael sganiwr CT newydd yn lle hen un, ac ail sganiwr CT newydd a sganwyr MRI yn yr ysbyty hwnnw—gan ddisgwyl darparu, a helpu i ddarparu mwy o sganiau MRI, dros 7,000, a mwy o sganiau CT, dros 6,500 y flwyddyn. Yn ddi-os, byddant yn gwella profion diagnostig ar draws de Cymru.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth i wella targedau diagnostig canser, yn ogystal â thriniaeth i bobl sy’n dioddef o’r clefyd erchyll hwn, yn glir: nid mater o brofion diagnostig yn dilyn atgyfeiriad yn unig yw canfod canser yn gynharach. Mae’n rhaid i ni barhau hefyd â’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol a gweithio’n galed i wella’r nifer sy’n cael eu sgrinio drwy wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd y rhaglenni sgrinio hyn. Mae hynny wedi bod yn un o’r problemau. Weithiau, nid yw nifer y rhai sy’n manteisio ar y rhaglenni wedi bod yn dda iawn. Yn 2015-16, mynychodd 77.8 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed ar gyfer sgrinio canser ceg y groth o leiaf unwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn gostwng yn araf dros y 10 mlynedd diwethaf, fodd bynnag. Mae angen i ni ei weld yn codi, nid yn gostwng. Gwelwyd cynnydd bach o 0.3 y cant yn y nifer sy’n manteisio ar wasanaeth sgrinio’r fron, ac mae 72.4 y cant o’r menywod yn y grŵp oedran targed yn cael eu sgrinio ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae sgrinio coluddion yn wael iawn mewn gwirionedd. Maent wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio, gyda dim ond 50.8 y cant yn defnyddio’r gwasanaeth sgrinio coluddion. Mae’n rhaid i ni wella’r ffigurau sgrinio hyn am eu bod yn ffordd o allu nodi pa bobl sydd angen gofal ar gam cynnar. A pham rydym yn helpu pobl? Amlygodd Rhun ap Iorwerth broblemau eraill a allai achosi pryderon, o ran oedi cyn mynd i weld meddyg teulu, ac un o’r rheini, o bosibl, yw dynion. Rydym yn ofnadwy am fynd at feddyg teulu. Nid ydym yn gwneud yr ymdrech. Rydym yn credu ein bod yn ddigon mawr ac nad oes gennym broblem. Mae angen i fwy ohonom gydnabod y ffaith y dylem fynd at feddyg teulu pan gredwn fod rhywbeth yn mynd o’i le. Ac rydym yn aml yn gwybod ei fod yn mynd o’i le, ond nid ydym eisiau cyfaddef hynny i ni ein hunain. Felly, mae’n rhaid i ni addysgu pobl yn well ynglŷn â dilyn y camau hunanymwybyddiaeth a’r prosesau sgrinio er mwyn i ni allu ei ganfod yn gynnar mewn gwirionedd.

Ddirprwy Lywydd, mae cynnydd yn cael ei wneud, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd, ac mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i sicrhau mwy o lwyddiant.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 17:55:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n hapus i ymateb i ddadl heddiw, a dechrau drwy gydnabod y sylwadau a wnaed eisoes, y bydd diagnosis cynharach o ganser yn galluogi pobl i gael triniaeth lai difrifol a llai costus, ac yn arbennig, profiad gwell i gleifion, ond hefyd ansawdd bywyd a ddylai arwain at ganlyniadau gwell, sy’n hollbwysig. Ond nid wyf yn cytuno â goblygiad canolog y cynnig, sef mai’r amser targed ar gyfer diagnosis yw’r ffordd i fynd ati i wella lefelau canfod canser neu ganlyniadau o reidrwydd. Rwy’n derbyn bod targedau’n chwarae rhan mewn unrhyw system ofal iechyd, ond gallant greu ymddygiadau gwrthnysig mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth, gan gynnwys mewn llwybrau gofal canser cymhleth. Ac ar amseroedd aros i ddechrau triniaeth ganser, rydym yn parhau i wneud yn well na Lloegr, ond ein her yw sut i wneud yn well byth yn hytrach na dim ond cymharu ein hunain â system Lloegr. Ac rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwyd am argymhellion tasglu canser Lloegr y cyfeiriodd Plaid Cymru atynt yn eu cynnig. Nid ydynt yn berthnasol i Gymru, ac mae gennym system iechyd wahanol. Nid bod yn bedantig yw hyn; mae’n system sy’n cael ei darparu mewn ffordd wahanol ar sail gofal sylfaenol a gofal eilaidd integredig, a byrddau iechyd, ar fodel wedi’i gynllunio yn hytrach na’i gomisiynu, ar sail cydweithio nid dirwyon, targedau a thariffau.

Nawr, mae diagnosis cynharach yn brif ffocws y cynllun cyflawni canser diwygiedig a gyhoeddwyd ac a lansiwyd yn y pythefnos diwethaf. Gwyddom fod y Rhwydwaith Canser yn gweithio gyda gofal sylfaenol ar weithredu canllawiau atgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a bod hynny ynddo’i hun yn her go iawn i’r gwasanaeth cyfan. Mae’r rhwydwaith yn ystyried diwygio llwybrau diagnostig, gan ddysgu o’u hymweliad â Denmarc, ynglŷn â llwybrau atgyfeirio ychwanegol ar gyfer symptomau amwys. Rydym yn gwybod bod honno’n her sylweddol hefyd. A thrwy’r contract meddygon teulu, mae clystyrau’n dadansoddi’r gwersi a ddysgwyd o ymarfer atgyfeirio meddygon teulu. Ac mae rhaglen y fframwaith ar gyfer canser yn datblygu cymorth i feddygon teulu allu gwella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis hefyd.

Ar sgrinio, soniwyd bod mwy na 400,000 yn cael eu sgrinio fel mater o drefn yng Nghymru bob blwyddyn yn rhan o’n rhaglenni uchel eu parch ar gyfer sgrinio’r fron, sgrinio serfigol a sgrinio coluddion. Rydym eisoes wedi addasu’r broses sgrinio canser y fron yn helaeth, ac yn ddiweddar rydym wedi cytuno i weithredu profion gwell a mwy derbyniol ar gyfer canser ceg y groth a sgrinio am ganser y coluddyn. Ac mewn gwirionedd, dyna un o’r rhwystrau mawr i wella nifer y bobl sy’n mynychu ac yn cael prawf canser y coluddyn. Nawr, mae strategaeth gweithlu’r GIG, a byrddau’r rhaglen ddelweddu a phatholeg yn mynd i’r afael â phrinder gweithlu allweddol mewn patholeg a radioleg. Bydd cyflwyno systemau gwybodeg cenedlaethol yn integreiddio gofal yn well ar draws safleoedd a sefydliadau sydd â systemau patholeg a delweddu cyffredin.

Felly, nid oes unrhyw laesu dwylo ar ein rhan fod popeth yn berffaith yn ein system. Rydym yn parhau i herio, i ddiwygio ac i symud ymlaen gyda gwahanol agweddau ar ofal canser ledled Cymru. Ac rwy’n falch fod pwyntiau wedi’u gwneud ynglŷn ag amseroedd aros am ddiagnosis, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth gan David Rees ein bod wedi gwella ein perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n disgwyl gweld mwy o welliant eto y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn berfformio hon, ac yn ddiweddar, cyhoeddais fuddsoddiad o £6 miliwn yn y ganolfan ddiagnostig yng Nghwm Taf. Rydym eisoes yn gwneud defnydd o rai gwasanaethau diagnostig symudol yn ogystal. Ond yn y dyfodol, byddwn yn buddsoddi’n drwm eto er mwyn darparu cyfarpar diagnostig newydd, gan gynnwys technegau delweddu CT, MRI a PET, yn ogystal â £15 miliwn pellach sydd wedi’i glustnodi ar gyfer offer diagnostig yn dilyn cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru.

Mae gennym grŵp gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n gweithio i leihau amseroedd aros a gwella ansawdd, ac yn ddiweddar cyhoeddais £3 miliwn ychwanegol mewn gwariant cyfalaf ar offer diheintio ar gyfer yr unedau hyn. Ac rwy’n falch ar y pwynt hwn i gydnabod y pwyntiau a wnaed gan Rhianon Passmore am y buddsoddiad rydym eisoes yn ei wneud, ac yn parhau i wneud, ar sail gynyddol, mewn gwasanaethau canser, a’n cefnogaeth i ganolfan ganser newydd Felindre sy’n werth £200 miliwn. Nawr, rwy’n deall y teimlad a’r egni sy’n sail i’r cynnig, a’r argymhelliad y mae’n ei wneud, ond yn syml iawn, nid wyf yn cytuno bod targed mympwyol o 28 diwrnod yn gyfraniad ystyrlon. Nid wyf yn credu mai dyna’r ffordd iawn i fanteisio ar amser, egni ac ymdrech pobl yn y gwasanaeth er mwyn iddynt wneud y cyfraniad gorau i wella canlyniadau i gleifion canser mewn gwirionedd, gan y bydd y rhan fwyaf o gleifion ar lwybr 62 diwrnod eisoes wedi cael diagnosis penodol erbyn hynny, ond gall fod yn anodd gwneud diagnosis a chanfod difrifoldeb rhai canserau’r ysgyfaint a chanserau’r oesoffagws o fewn y 28 diwrnod. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol ceisio rhannu’r llwybr, yn hytrach na chael cymorth i gael diagnosis pendant a dechrau triniaeth bendant mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod angen i ni roi amser i’n timau clinigol ddehongli a defnyddio’r diagnosis i gytuno ac yna i ddechrau ar gynllun triniaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn 62 diwrnod.

Rwy’n hapus iawn i gyfeirio’n ôl at y ffaith fod cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ac ar ôl pum mlynedd yn uwch nag erioed. Maent yn parhau i wella, mae lefelau marwolaeth gynamserol yn parhau i ostwng, a phrofiad y claf yn eithriadol o uchel. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn hunanfodlon ynglŷn â ble rydym a ble rydym eisiau bod. Ac ar ddiagnosteg, fel y dywedodd Tom Crosby, cyfarwyddwr meddygol rhwydwaith canser Cymru,

Rhaid i ni fwrw iddi’n ddidrugaredd i sicrhau diagnosis cynharach.

Nid oes unrhyw awgrym nad ydym yn credu bod diagnosis yn bwysig. Ond yng Nghymru, credaf fod gennym ddull cadarn o weithredu a chynllun ar waith i wneud hynny eisoes, ac mae’r cynllun hwn yn cael ei groesawu gan glinigwyr a’r trydydd sector. Os hoffech, ysgrifennwyd y cynllun cyflawni canser blaenorol ar gyfer y gwasanaeth a’i roi iddynt i fwrw ati i’w gyflawni, ac fe’i croesawyd ar y pryd. Ond mae’r cynllun cyflawni canser newydd wedi cael ei ysgrifennu gyda’r gwasanaeth a chyda’r trydydd sector, ac rydym yn gweithio ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym ar y peth iawn i’w wneud i wella’r hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Mae yna gefnogaeth eang i’r cynllun, ac mae’n rhannu uchelgais i wella canlyniadau yn barhaus. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n gilydd gyda’r gwasanaeth, y trydydd sector ehangach a’r cyhoedd i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl yn fyr iawn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynasom y cynnig hwn i roi cyfle i’r Llywodraeth gyd-fynd â barn glinigol, a defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol mewn capasiti diagnostig i flaenoriaethu’r nod o gyflawni’r targed diagnostig o 28 diwrnod, targed nad wyf wedi ei ddewis yn fympwyol; daeth oddi wrth y bobl sy’n gwybod rhywbeth am hyn. Gallai hyn glirio’r dagfa yn y system ac arwain at driniaeth gyflymach. Rwy’n gresynu na fydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle hwn. Ymddengys eu bod yn awgrymu mai amser y driniaeth sydd bwysicaf. Wel, wrth gwrs, mae amser y driniaeth a’r amserlen yn bwysig, ond po gyntaf y ceir diagnosis, y cynharaf y gallwch ddechrau triniaeth a pho gynharaf y gallwch ddechrau triniaeth, y gorau yw gobaith y claf o oroesi. Felly, yn amlwg ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth.

Ni allwn gefnogi gwelliant 2 gan y Ceidwadwyr ychwaith, oherwydd mae’n dileu ein galwad am ganolbwyntio gwariant diagnostig yn y maes penodol hwn. Ydy, mae sgrinio’n bwysig tu hwnt. Pe bai fy mam wedi cael ei sgrinio, byddai’n dal yn fyw heddiw. Bu farw am ei bod wedi canfod yn rhy hwyr fod ganddi ganser. Ond mae’n dileu’r rhan allweddol honno o’n cynnig heddiw. Cefnogwch y cynnig. Mae arbenigwyr, nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach i ffwrdd, wedi dweud y dylem anelu at 28 diwrnod. Ni allaf yn fy myw weld pam na fyddem am osod hynny fel uchelgais.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio’n digwydd cyn y ddadl fer, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

10. 10. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn yn awr at bleidlais ar y ddadl gan Aelodau unigol ar amaethyddiaeth fanwl, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 43 o blaid, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 43, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6143.

Trown yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ardrethi busnes, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6170.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 24, yn erbyn y gwelliant 21. Felly, derbyniwyd y gwelliant a bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6170.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM6170 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru.

2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf.

3. Yn ailddatgan annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig i Gymru.

4. Yn nodi nad diben gwaith ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau.

5. Yn nodi'r canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) penderfyniad i estyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu;

b) penderfyniad i sefydlu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018, gan roi sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau;

c) ymrwymiad i adolygu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a thecach i fusnesau yng Nghymru; a

d) penderfyniad i gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 34, yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd 11. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 11, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6170 fel y diwygiwyd.

Symudwn yn awr at ddadl Plaid Cymru ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 7, roedd 4 yn ymatal a 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 7, Yn erbyn 34, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6171.

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 28, yn erbyn y cynnig 17. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 17, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6171.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Symudwn yn awr at welliant 3. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 14, Yn erbyn 31, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6171.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 24 o blaid gwelliant 4, roedd 4 yn ymatal, ac 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 17, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6171.

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 45, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6171.

Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, neb yn ymatal, 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 38, Yn erbyn 7, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6171.

Cynnig NDM6171 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

2. Yn nodi gofynion y Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a

(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.

4. Yn nodi'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.

5. Yn nodi ymhellach dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers 2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 38, neb yn ymatal, 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig NDM6171 fel y’i diwygiwyd: O blaid 38, Yn erbyn 7, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6171 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar dargedau diagnostig canser. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 11, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 11, Yn erbyn 34, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6172.

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 24, roedd 4 yn ymatal, ac 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 17, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6172.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM6172 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) y pwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru (2016-2020);

b) bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen; ac

c) y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, neb yn ymatal, 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6172 fel y’i diwygiwyd: O blaid 38, Yn erbyn 7, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6172 fel y’i diwygiwyd.

11. 11. Dadl Fer: Dyslecsia—Golwg Gwahanol ar Fywyd

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Angela Burns i gyflwyno ei dadl fer ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Angela Burns.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Andrew R.T. Davies.

Mae ‘bywyd drwy lens wahanol’ yn crynhoi profiadau pobl â dyslecsia i raddau helaeth. Mae eu ffordd o weld y byd yn wahanol am fod ganddynt ddyslecsia, a ddiffinnir fel

set gymhleth o broblemau gwybyddol, sy’n effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd ac i raddau gwahanol.

Fy nod yw defnyddio’r ddadl hon heddiw er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am y cyflwr a thynnu sylw at rai o brofiadau pobl ddyslecsig, ac rwyf am awgrymu ffyrdd o wella effeithiolrwydd y ddarpariaeth bresennol.

Gall dyslecsia effeithio ar bobl o bob oed, ond fel arfer bydd yn ymddangos gyntaf yn ystod plentyndod. Yn y blynyddoedd a fu, byddent wedi dweud wrth ddisgyblion eu bod yn dwp, yn methu darllen yn iawn, yn ddiog, ac yn sicr, fod eu llawysgrifen yn flêr. Fodd bynnag, mae’n dod yn fwy cyffredin fod diagnosis o ddyslecsia yn cael ei wneud yn gynnar, a’i ganfod yn gynnar yn y ffordd hon sy’n galluogi’r ymyrraeth sydd mor hanfodol i greu llwybr addysgol llwyddiannus ar gyfer plentyn dyslecsig. Mae dyslecsia ar bron i 10 y cant o boblogaeth y DU; mewn termau real mae hynny’n fwy na 6.3 miliwn o bobl. O gymhwyso’r ffigur ar gyfer Cymru, gallem ddweud yn ddiogel fod dros hanner miliwn o bobl yn byw gyda dyslecsia yma. Gall dyslecsia gael effaith ddifrodus ar addysg disgyblion a’u cyfleoedd mewn bywyd. Rydym eisoes yn wynebu heriau gydag un o bob 10 disgybl sy’n gadael yr ysgol gynradd heb gyrraedd y lefelau gofynnol ar gyfer darllen ac un o bob chwe oedolyn yn dal i fod â sgiliau darllen plentyn 11 oed. Yr hyn sy’n peri pryder hefyd yw bod disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig oddeutu 10 gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd yn barhaol na disgyblion heb unrhyw anghenion addysgol arbennig.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Er nad yw dyslecsia yn golygu bod disgyblion yn anllythrennog, gallai nifer ohonynt yn hawdd fod, yn enwedig y rhai sydd wedi eu colli neu eu hanghofio gan y system. Byddwn i gyd wedi clywed am oedolion yn dweud na chawsant ddiagnosis tan yn llawer hwyrach mewn bywyd, ac yn siarad am yr effaith a gafodd arnynt. Mae astudiaeth gan KPMG yn canfod fod pob person anllythrennog, erbyn iddynt gyrraedd 37 oed, wedi costio £45,000 i £55,000 ychwanegol i’r trethdalwr os ychwanegwch y costau ychwanegol sy’n ymwneud ag addysg, cymorth diweithdra ac yn aml iawn, cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i helpu’r rhai sydd â dyslecsia, ond i’r gymdeithas ehangach yn ogystal.

Nawr, gadewch i ni fod yn glir: nid yw cael dyslecsia yn beth drwg. Mae llawer o bobl â dyslecsia yn hynod o lwyddiannus ac yn fodelau rôl gwych sy’n dangos i’r ieuenctid hyn beth y gallant ei wneud. Entrepreneuriaid fel Syr Richard Branson a Syr Alan Sugar, cewri’r diwydiant adloniant, Steven Spielberg ac Anthony Hopkins, sêr chwaraeon, gan gynnwys Scott Quinell ac—efallai na ddylwn sôn amdano, mewn gwirionedd, ond—cyn reolwr Lloegr Sam Allardyce, a ffigurau hanesyddol fel Leonardo da Vinci a Galileo: pob un â dyslecsia.

Mae’n ymwneud â chael y cymorth a’r gefnogaeth gywir a sicrhau bod strategaethau yn eu lle ar gyfer ymdopi. Os nad ydynt yn eu lle, mae bywyd yn mynd yn anhygoel o anodd i bobl â dyslecsia. Felly, hoffwn i chi glywed yr hyn sydd gan Hannah i’w ddweud—a’i geiriau hi yw’r rhain:

Anhwylder ar yr ymennydd yw dyslecsia sy’n effeithio ar y ffordd y mae’r ymennydd yn deall geiriau.

Gyda llaw, 15 oed yw Hannah.

Dengys ymchwil fod 3 genyn yn gyfrifol am yr anhwylder ac oherwydd hyn, mae’n golygu ei fod yn etifeddol. Gall rhywun fod â dyslecsia hyd yn oed os ydynt yn glyfar iawn ac wedi cael addysg dda er gwaethaf y stereoteip eu bod yn dwp a’u bod yn wael am sillafu ac felly mae’n rhaid eu bod yn wael yn Saesneg, ond yn hytrach, mae’n fwy o broblem cof.

Gall fod yn anodd darllen a deall, maent yn ei chael yn anodd cyfleu syniadau a phwyntiau, gall geiriau symud o gwmpas ar y dudalen neu yn y pen, ysgrifennu araf, gall effeithio ar bethau bob dydd fel talu am fwyd a siarad gyda ffrindiau a gall fod yn anhwylder sy’n effeithio’n wirioneddol ar fywyd.

Mae dyslecsia’n amrywio o berson i berson. Er enghraifft gall fod yn ysgafn yn achos un person a bydd yn ddyslecsia difrifol yn achos rhywun arall. Mae pobl sydd â dyslecsia difrifol yn sensitif i synau uchel hyd yn oed, efallai y byddant yn cael trafferthion wrth siarad, yn methu canolbwyntio, ac mae 60% o bobl sy’n cael diagnosis hefyd yn cael diagnosis o ADHD. Mae pob un o’r pwyntiau rwyf newydd eu dweud yn berthnasol i mi. Cefais ddiagnosis gan yr ysgol ym mlwyddyn 8 pan ddylwn fod wedi cael diagnosis yn gynt mewn gwirionedd, yn yr ysgol gynradd. Pe bawn i wedi, efallai na fyddwn yn cael cymaint o drafferth â rwy’n ei gael yn awr yn yr ysgol. Roedd fy mam am i mi gael profion pan oeddwn yn iau, ond roedd fy athro’n dweud "na" o hyd am "fy mod yn rhy glyfar i fod â dyslecsia." Y rheswm pam roedd hi eisiau i mi gael profion oedd oherwydd bod fy nhad â dyslecsia ac fel y dywedais, mae’n etifeddol.

Gall yr effeithiau yn nes ymlaen mewn bywyd, ac yn arbennig adeg TGAU fod yn niweidiol, nid yn unig oherwydd y straen ond oherwydd bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau’n seiliedig ar eiriau. Gall hyd yn oed mathemateg fod yn anodd i bobl ddyslecsig yn enwedig rhifedd. Gall hyn oll arwain—

Rwy’n ei ddarllen fel y mae Hannah wedi’i ysgrifennu:

Gall hyn oll arwain at lawer o fyfyrwyr dyslecsig yn methu cael y canlyniadau y maent eu heisiau, sy’n gallu arwain at bobl yn methu mynd i chweched dosbarth ac yna efallai i brifysgol hyd yn oed. Mae athrawon yn dweud bod ein TGAU mor bwysig. Wel, os ydynt mor bwysig, gadewch i ni gael y gydnabyddiaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnom. Mae myfyrwyr sy’n gwybod am y risgiau yn gofidio’n fawr nad ydynt yn gallu cael eu gwaith i safon ddigon da. Gall achosi pryder mawr iddynt a gallai arwain at iselder hyd yn oed.

A wyddoch chi fod myfyrwyr yn colli marciau am sillafu gwael mewn arholiadau, hyd yn oed os ydych yn ddyslecsig ac nad yw’n deg o gwbl? Dywedodd Albert Einstein unwaith "Mae pawb yn athrylith, ond pan fyddwch yn beirniadu pysgodyn yn ôl y ffordd y mae’n dringo coeden, bydd yn byw ar hyd ei oes yn meddwl ei fod yn dwp." Nid oes unrhyw ysgol yng Nghymru sy’n arbenigo ar ddyslecsia. Uned fach yn unig ar gyfer dyslecsia sydd yn fy ysgol i ac nid yw ond yn ein helpu nes blwyddyn 9. Wedi hynny cawn ein gadael i ymdopi ar ein pen ein hunain a bydd disgwyl i ni weithio a dysgu yr un fath â phawb arall. I rai pobl mae’n helpu’n fawr, ond i bobl eraill nid yw’n ddigon ac mae angen i ni ofyn am help yn ein hamser rhydd. Mae’r ffaith nad yw rhai athrawon hyd yn oed yn ymwybodol fod rhai disgyblion â dyslecsia yn helpu chwaith. Nid oedd 74% o athrawon yn teimlo’n hapus gyda’u hyfforddiant i roi’r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu plant dyslecsig. Roedd dwy ran o dair o rieni yn teimlo nad oedd dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system ysgolion. Ond nid oes angen i chi fod yn rhiant i wybod hynny.

Nid yw Cymru ar ei hôl hi er hynny. O’r hyn rwyf wedi ei ganfod, mae methu cael digon o gymorth dyslecsia mewn ysgolion yn broblem ledled y byd, ond i helpu Cymru, anfonais lythyr at y Gweinidog addysg—

nid yr un yma, carwn ychwanegu.

[Yn parhau.]—a’r ymateb oedd na allent wneud dim am y peth ac roedd y tu hwnt i’w rheolaeth (mater i awdurdodau lleol oedd hyn). Rwy’n meddwl y dylai fod cymaint mwy o help ar gyfer y rhai sy’n dioddef. Dylai disgyblion gael yr hawl i barhau yn y gwersi dyslecsia yr holl ffordd at flwyddyn 11 os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Nawr, ni allwch lai na chael eich cyffwrdd gan y llythyr hwn, ac ni ddylai fod angen i blentyn, er mor ddeallus yw hi, roi arweiniad call i ni ar y ffordd ymlaen. Daw’r ail gyfraniad, sy’n llawer byrrach, gan oedolyn a ysgrifennodd ataf ddiwedd yr wythnos diwethaf pan welodd fy mod wedi cyflwyno’r ddadl hon. Dywedodd hyn:

Rwyf bob amser yn credu bod dyslecsia yn rhywbeth y gall unrhyw un ei oresgyn gyda chymorth a dulliau. Yn fy mhrofiad i, yr agwedd anoddaf ynglŷn â bod â dyslecsia oedd, yn gyntaf, y gydnabyddiaeth gan yr athrawon. Ni fyddai fy ysgol gyntaf yn derbyn ei fod arnaf, roeddent yn meddwl fy mod yn ddysgwr araf a dyna’i gyd. Bu’n rhaid i fy rhieni fynnu ac yn y pen draw cefais fy symud i ysgol arall a chefais asesiad seicolegol preifat. Yr ail agwedd yw’r stigma sydd ynghlwm wrth bobl sydd â dyslecsia. Rwy’n credu y gallai hyn fod oherwydd yr ystod eang o achosion ar sbectrwm; gyda rhai yn waeth nag eraill—mae’n newid bywydau rhai, ac nid yw pobl yn deall hynny.

Mae’r ddau lythyr hwn, Weinidog, yn tynnu sylw at rai pwyntiau perthnasol iawn. Mae’n anfaddeuol yn yr oes hon mai drwy gael rhieni ymwthgar yn unig y mae pethau’n cael eu gwneud. Nid oes unrhyw ffordd, fel y nododd Hannah, y dylai mwy na dwy ran o dair o rieni fod yn teimlo nad yw dyslecsia yn cael ei gydnabod ar draws y system.

Mae athrawon hefyd yn teimlo nad yw’r hyfforddiant a gânt i ymdrin â disgyblion dyslecsig yn ddigon da. Os meddyliwch y bydd dau neu dri disgybl â dyslecsia ym mhob dosbarth, mae’n dod yn hyd yn oed yn fwy hanfodol fod athrawon yn gwybod beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r problemau hynny. Dywedodd 74 y cant o athrawon a holwyd yn ddiweddar nad oeddent yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi rhoi’r sgiliau y maent eu hangen i adnabod a dysgu plant â dyslecsia. Felly, a yw’n unrhyw syndod, pan fydd y gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod eu hyfforddiant wedi bod mor annigonol, fod cymaint o ddisgyblion yn llithro drwy’r rhwyd ​​heb gael diagnosis?

Rhaid sgrinio ar gyfer dyslecsia yn gyson ac mewn modd teg. Ar hyn o bryd mae’n dal i ymddangos bod gan awdurdodau addysg lleol wahanol sgoriau trothwy, a all arwain at ddisgyblion yn cael yr un sgoriau mewn siroedd cyffiniol, ond eu bod yn dilyn llwybrau hollol wahanol o ran cael cymorth. Mae cyfrifiad ysgolion Ionawr 2016 yn tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau mawr rhwng awdurdodau. Er enghraifft, mae gan Sir Benfro 460 o ddisgyblion o dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol o gymharu â dim ond 45 yng Nghastell-nedd Port Talbot; mae gan Gaerffili 296 o ddisgyblion dan gynlluniau gweithredu gan yr ysgol a mwy, o gymharu â dim ond 35 yn Sir y Fflint; mae gan Gaerdydd 65 o ddisgyblion â datganiad yn asesu eu bod â dyslecsia difrifol, ac mae gan 10 cyngor rhwng dim un a phump o unigolion sydd â datganiad o ddyslecsia. O ystyried yr uchod, mae’n ymddangos bod yna lawer iawn o oddrychedd ar waith wrth asesu anghenion rhywun dyslecsig ac rwy’n pryderu bod yna anghysondebau anferth yn y ffigurau hyn. Mae’n ymddangos i mi fod pob awdurdod addysg lleol, a phob clwstwr o ysgolion o bosibl, â dull ychydig yn wahanol o asesu a dosbarthu. Os nodir bod y disgyblion hynny â dyslecsia, a’u bod yn methu cael y lefel gywir o gymorth, yna, Weinidog, mae’n rhaid i’r Llywodraeth geisio gwneud rhagor i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Dywedodd y Gweinidog addysg ar y pryd yn ôl ym mis Tachwedd 2014,

‘Mae angen mabwysiadu dulliau gweithredu ar gyfer dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol sy’n adeiladu ar ein polisïau addysg cyfredol, fel bod gennym drefniadau cyson a chadarn ledled Cymru’.

Weinidog, tybed a allwch ddweud wrthyf sut y mae hyn yn dod yn ei flaen ar ôl cyhoeddi’r fframwaith anawsterau dysgu penodol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015.

Trwy fy ymchwil ac ystod fy nghyfnod fel llefarydd addysg yr wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf wedi dod ar draws rhai syniadau ychwanegol yr hoffwn dynnu sylw’r Gweinidog atynt. Gwnaed gwaith o’r fath gan Simon Leyshon o Moon Hall College, ysgol sy’n uchel ei pharch ar gyfer rhai â dyslecsia yn Reigate, Surrey. Mae ef o’r farn fod y system bresennol o arholiadau cyhoeddus yn ei gwneud yn anodd iawn i rai â dyslecsia mwy difrifol i lwyddo mewn system arholi sydd wedi’i hanelu tuag at brofion sy’n seiliedig ar y cof. I fynd i’r afael â hyn, mae angen i dri ymyriad addysgol allweddol ddigwydd, ochr yn ochr â chynlluniau dysgu unigol: rhaid newid meddylfryd y plentyn dyslecsig yn feddylfryd tuag at ddysgu cadarnhaol—’gallaf wneud’ yn hytrach na ‘ni allaf’; ffocws clir ar Saesneg a mathemateg yn nysgu dyddiol y plentyn; a datblygu cwricwlwm gweithredol, sef diwrnod addysgiadol strwythuredig gyda ffocws ar hyfforddi a dysgu annibynnol, wedi’i rannu’n flociau amrywiol o amser, gyda sesiynau ailffocysu a chyfleoedd i archwilio astudiaethau sydd o ddiddordeb i’r dysgwr.

Mae pecyn adnoddau Saesneg a mathemateg yn hanfodol i hyder a datblygiad cyffredinol y dysgwr dyslecsig. Ac mae hyn yn cyd-fynd â llawer o’r hyn a glywais gan rieni a gofalwyr. Mae rhwystredigaeth system arholi sy’n mynnu bod plant yn sefyll arholiadau’n gynnar—gallech wneud rhywbeth am hyn, Weinidog—pan fo angen pob munud ar rywun â dyslecsia i fod yn barod, yr amser ychwanegol nad yw byth yn cael ei roi yn ystod y profion darllen a rhifedd cenedlaethol blynyddol a ffug arholiadau, sydd felly’n hybu ymdeimlad o fethiant ac yn ychwanegu at y straen y mae’r plentyn a’r rhiant eisoes yn ei wynebu. Tybed a wnewch chi edrych i weld sut y gellid sicrhau rhyngwyneb rhwng y cwricwlwm gweithredol a datblygiadau Dyfodol Llwyddiannus mewn addysg yng Nghymru. Roedd yn galonogol gweld datganiad y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yr wythnos diwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd yn gwireddu ei haddewid i roi dysgwyr, rhieni a gofalwyr wrth wraidd y broses. Mae cyhoeddi cronfa arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gyffrous a hoffwn wybod, Weinidog, sut y gellid ei defnyddio, yn rhannol, i gynorthwyo plant dyslecsig.

Gall pobl â dyslecsia fyw bywydau llwyddiannus a llawn iawn, ond maent angen cymorth. Ni ddylem weld cyfraddau diagnosis gwahanol ar draws Cymru ac ni ddylem gael gweithwyr proffesiynol yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol i ymdrin â’r broblem. Mae gan bobl â dyslecsia ffordd unigryw o weld pethau. Mae’n fywyd drwy lens wahanol ac yn aml gall fod yn her, ond rhaid i ni sicrhau mai gwahaniaeth yw dyslecsia, nid anabledd. Mae edrych drwy lens wahanol yn brofiad unigryw a gall fod yn hynod o werth chweil. Diolch.

Hoffwn longyfarch Angela am gyflwyno’r ddadl, fel rhywun sydd â dyslecsia. Rwy’n ei ystyried yn ddiddorol, weithiau, pan fyddwch yn edrych ar rai tudalennau, neu ar rai pethau rydych yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt, ac yna, yn amlwg, mynegi eich hun. Ond efallai fod y cardiau wedi’u delio’n wahanol i rai pobl, ac yn amlwg, gwnaed iawn am fy nyslecsia gan fy wyneb golygus wrth ddelio’r cardiau ar ddechrau bywyd. [Chwerthin.]

Rwy’n meddwl bod sylwedd araith Angela yn crisialu’n bendant fod angen gwneud mwy. Dro ar ôl tro, down yma a dweud, ‘Mae angen gwneud mwy ynglŷn â phroblem A, problem B a phroblem C’, ond pan edrychwch ar y niferoedd y mae Angela wedi nodi yma—rhywle rhwng 300,000 a 500,000 o bobl, ar hyd eu bywydau, yn cael problemau gyda dyslecsia i wahanol raddau—a’r cymorth y gellid ei roi ar waith ar ddechrau’r system addysg, gellir ei roi yno os yw’r ewyllys yno ar lefel awdurdod lleol, ac yn wir, yn ôl cyfarwyddyd y Llywodraeth. Byddwn yn erfyn ar y Llywodraeth i gael rheolaeth ar y sefyllfa hon, oherwydd, fel y dangosodd Angela yn ei chyfraniad, mae yna wahaniaethau mawr ledled Cymru, a’r unig reswm y mae’r gwahaniaethau hynny yno yw oherwydd bod y cymorth wedi’i gadw’n ôl mewn ardaloedd cod post penodol, hynny yw mewn ardaloedd awdurdodau lleol, am resymau ariannol. Nid yw hynny’n ddigon da yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain.

Yn fy sylwadau i gloi hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a rhoi teyrnged i’r hyfforddwr a fu’n fy nghynorthwyo i, Mr Wilson, sydd, yn anffodus, wedi ymadael â’r fuchedd hon ers tro byd, a rhoddodd hyder a gallu i mi mewn gwirionedd i oresgyn y problemau a oedd gennyf gyda dyslecsia. Heddiw, yn niffyg rheswm gwell, rwy’n sefyll yma ac yn dadlau a thrafod. Efallai y bydd rhai pobl yn cwyno ac yn gwarafun hynny, ond rwy’n gwneud hynny. [Torri ar draws.] Gallai fod wedi bod mor wahanol. Rwyf hefyd yn talu teyrnged i’r athro Ffrangeg druan a’r athro Lladin a geisiodd ddysgu Lladin a Ffrangeg i mi. Nid yw ceisio dysgu Lladin a Ffrangeg i rywun dyslecsig yn ateb i broblem dyslecsia, gallaf eich sicrhau. Ond os gwelwch yn dda, Weinidog, byddwch yn gadarnhaol yn eich cyfraniad i’r ddadl hon heddiw. Mae yna atebion i’w cael, ond mae angen cyflwyno’r atebion hynny.

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl. Alun Davies.

Member
Alun Davies 18:26:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ag Andrew i’r Siambr, mewn pob math o ffyrdd gwahanol. Rwy’n meddwl mai’r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod yn sicr yn cydnabod y darlun sydd wedi’i baentio i ni y prynhawn yma. Nid fy mhwrpas wrth ymateb i’r ddadl hon yw ceisio naill ai anwybyddu’r realiti na phaentio darlun gwahanol. Mae angen ymateb i unrhyw achos sy’n cynnwys Leonardo da Vinci a Sam Allardyce yn ddifrifol dros ben.

Rwy’n credu mai’r hyn a wnaeth fy nharo yn yr araith, yr araith ardderchog, a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, oedd y frawddeg fod gennych ddyletswydd i gymdeithas ehangach. Rwy’n credu bod hynny’n gwbl allweddol. Mae’r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â chysondeb yn bethau rwy’n eu cydnabod ac yn faterion y credaf fod angen i ni fynd i’r afael a hwy ac rwy’n gobeithio y byddwn yn mynd i’r afael â hwy.

A gaf fi ddweud hyn wrth ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddweud? Mae gwlad sy’n methu rhoi chwarae teg i rai o’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed yn wlad sy’n methu. Nid fy nymuniad, ac yn sicr nid fy mwriad, yw caniatáu i unrhyw blentyn ddisgyn drwy’r rhwyd ​​a ddisgrifiwyd gennych, na rhoi teuluoedd a rhieni drwy’r sefyllfa o orfod ymladd ac ymgyrchu dros bob elfen o gymorth y mae eu plentyn ei angen ac yn ei haeddu, a dylai fod ar gael iddynt fel hawl. Gadewch i mi ddweud hyn: dros y misoedd nesaf rwy’n gobeithio y byddwn yn cael dadl ynglŷn â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rwy’n falch fod yr Aelod wedi cyfeirio at y rhaglen drawsnewid y gwnaed datganiad yn ei chylch dros y dyddiau diwethaf.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: byddwn yn gwahodd yr Aelod i chwarae rhan lawn ac i ymgysylltu â ni yn y ddadl a’r drafodaeth honno. Gwn fod y gwaith a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf ar y mater hwn yn cael ei barchu ledled y Siambr hon, ac rwy’n sicr yn nodi ac yn talu sylw i’r achos a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf. Rwy’n adnabod Angela yn rhy dda—gwn na fydd hi’n gollwng ei gafael ar hwnnw yn y Cynulliad hwn. Hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan yn y ddadl a’r drafodaeth y byddwn yn ei chael.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Yn wir, Weinidog, gwn fod fy swyddfa yn ceisio cael gafael arnoch heddiw gan fy mod newydd orffen dadansoddiad cyflawn o awtistiaeth mewn perthynas â’r problemau mwyaf cyffredin y mae plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn eu hwynebu, oherwydd roeddwn yn ceisio’ch lobïo chi. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud yn gyhoeddus, os gallech fy ffonio a rhoi amser a dyddiad i mi, oherwydd fe hoffem drafod hynny â chi, ac o ran dyslecsia, cyfoethogi a gwneud gwahaniaeth i’r Bil angenion dysgu ychwanegol rydym yn edrych ymlaen at ei weld ar y llyfr statud yma.

Mae’n edrych yn debyg fy mod yn mynd i ddifaru bod mor hael. [Chwerthin.] Byddaf yn bendant yn sicrhau ein bod yn cysylltu â’n gilydd, a’n bod yn trefnu’r sgyrsiau hynny. Mewn sawl ffordd, er ein bod yn eistedd ar wahanol ochrau i’r Siambr, rwy’n gwybod bod yr uchelgais yn cael ei rhannu, ac nid wyf yn credu bod y materion hyn yn faterion gwleidyddol. Nid wyf yn meddwl yn syml eu bod yn fater ar gyfer Llywodraeth a gwrthblaid chwaith. Rwy’n credu eu bod yn fater i ni gael pethau’n iawn i rai o’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed yn y wlad, ac mae gennym gyfrifoldeb llwyr a dyletswydd i wneud hynny. Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth hon yn helpu i gyflawni’r ddyletswydd honno.

Ond rwyf hefyd yn cydnabod na all Llywodraeth mewn unrhyw ddemocratiaeth gyflawni’r ddyletswydd honno ar ei phen ei hun, a bod y broses seneddol o graffu ar ddadl, ar drafodaeth, yn gwbl hanfodol i greu deddfwriaeth dda, ac i greu fframwaith deddfwriaethol i weithwyr proffesiynol allu arfer eu crebwyll a gallu darparu’r math o ragoriaeth mewn cymorth rydym i gyd am ei gweld. Felly, mae’r Llywodraeth yn sicr yn derbyn ei chyfrifoldebau, ond rydym yn cydnabod y rôl sy’n cael ei chwarae gan bawb sy’n eistedd yn y Siambr hon.

Ac rwy’n gobeithio, dros y misoedd nesaf, wrth i ni gael y ddadl hon, y byddwn yn gallu cael y math hwn o drafodaeth gyfoethog ynglŷn â’r ffordd orau i ni gyflawni’r math o fframwaith statudol a rhaglen drawsnewidiol a fydd yn darparu ar gyfer pobl ar draws y wlad i gyd. A gadewch i mi ddweud hyn: bydd y Llywodraeth yn bwrw i’r drafodaeth honno gyda haelioni a chyda disgwyliad y byddwn yn ymestyn allan ar draws yr eiliau, fel y buasai’r Americanwyr yn ei ddweud, er mwyn mynd ati i geisio cefnogaeth ar draws y Siambr ar hynny, a bydd yn derbyn lle y mae’n credu y gallem fod wedi gwneud pethau’n anghywir. Felly, yn sicr, nid fy nymuniad i yw mynd ar drywydd deddfwriaeth gan ddefnyddio pwysau rhifau; mae’n broses ddeddfwriaethol a fydd yn cymryd rhan yn y ddadl ar raddfa eang yma yn y Siambr, yn ein pwyllgorau, ac yn y wlad, er mwyn cael pethau’n iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysicach, yn y pen draw, ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at y sgyrsiau a gawn ar hynny.

A gaf fi ddweud hyn? Mae’r materion a grybwylloch ynglŷn â chysondeb yn fy mhryderu’n fawr iawn. Mae yna ddiffyg cysondeb o ran diagnosis—rydym yn siarad am ddyslecsia y prynhawn yma, ond gallech yn hawdd nodi hynny am nifer o faterion a chyflyrau gwahanol, ac mae eich ymyriad ar awtistiaeth yn enghraifft o hynny, a byddwn yn synnu pe na bai diagnosis yn rhan o’r casgliadau y daethoch iddynt. Felly, gadewch i ni edrych ar sut y gallwn sicrhau cysondeb—cysondeb yn y gallu i gael diagnosis teg, cysondeb, wedyn, yn y cynlluniau sy’n cael eu rhoi at ei gilydd ar gyfer pob person unigol, myfyriwr, disgybl, sut bynnag rydych am ddisgrifio’r unigolyn, ac yna cysondeb yn y ddarpariaeth hefyd. Oherwydd er ein bod fel gwleidyddion yn credu y gellid datrys holl broblemau’r byd drwy bleidlais yn y lle hwn neu drwy greu fframwaith deddfwriaethol newydd neu wahanol, un o’r pethau rwyf wedi’u dysgu yn y blynyddoedd y bûm yn Aelod yma, a’r hyn rwy’n meddwl ein bod i gyd yn ymwybodol iawn ohono, yw mai’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yw’r hyn sy’n bwysig mewn gwirionedd, ac mae hynny’n golygu ein bod yn dibynnu ar weithlu rhagorol, llawn cymhelliant sydd â’r arfau deddfwriaethol a’r strwythurau ar gael iddynt i’w galluogi i wneud eu gwaith, ond sydd hefyd â’r adnoddau a’r cymorth i allu darparu hynny ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr. Ac yn sicr, mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud hynny.

Gadewch i mi ddweud hyn: mae yna brotocolau wedi’u sefydlu ynglŷn â thrafod amserlenni, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n maddau i mi os nad wyf yn rhy benodol y prynhawn yma. Ond byddwn yn cyflwyno’r Bil anghenion dysgu ychwanegol cyn y Nadolig, gyda chaniatâd y Llywydd, ac yna byddwn yn ceisio cael trafodaeth weithredol a rhagweithiol ar draws y wlad. Byddwn yn cyhoeddi’r canllawiau statudol cyn gynted â phosibl ar ôl y Nadolig—ddechrau Chwefror, rwy’n rhagweld—i alluogi trafodaeth ac archwiliad o’n cynigion nad yw’n dibynnu’n unig ar y ddeddfwriaeth sylfaenol ond hefyd ar y canllawiau statudol a fydd yn darparu’r ddeddfwriaeth sylfaenol honno. Ac rwy’n meddwl ei bod ond yn iawn ac yn deg fod pobl sydd â diddordeb yn y maes yn gallu edrych ar yr ystod gyfan o arfau deddfwriaethol rydym yn ceisio eu rhoi ar waith a fydd yn ein galluogi i gael y ddadl lawer cyfoethocach honno y soniais amdani’n gynharach.

Felly, byddwn yn gwneud hynny. Byddwn yn ceisio cael sgyrsiau gyda gwahanol grwpiau o bobl, gydag ymarferwyr a’r rhai sydd â diddordeb yn y maes, yn ogystal ag Aelodau yma. Byddwn yn ceisio cael y ddadl honno, a fydd yn ymwneud â gwrando—â gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, gwrando ar y profiadau rydych wedi eu disgrifio y prynhawn yma ac y mae eraill wedi’u disgrifio ar adegau eraill, ac yna ymateb, oherwydd mae gwrando’n bwysig, ond hefyd mae clywed yr hyn sy’n cael ei ddweud yn bwysig. A phan fyddaf yn siarad am y broses o drafod a dadlau, rwy’n gobeithio, fel Llywodraeth, y byddwn yn gallu, pan fydd y Cynulliad yn cyrraedd y pwynt pan yw’n hapus i symud y mater hwn yn ei flaen, yna byddwn yn gallu cael Bil sy’n mynd gerbron y pwyllgor na fydd yn dod yn bêl-droed wleidyddol ond lle byddwn, gyda’n gilydd, ar y cyd yn ceisio gwella’r ddeddfwriaeth yn y fath fodd fel ei bod yn darparu’r math o ganlyniadau sydd—. Iawn, fe wnaf.

A wnewch chi gymryd ymyriad arall? Diolch yn fawr, ac rwy’n hynod, hynod o ddiolchgar am yr ymateb hynod gadarnhaol hwnnw. Mae yna un maes, fodd bynnag, y credaf ei fod yn gyfan gwbl o fewn eich pŵer heddiw i wneud gwahaniaeth, sef ynglŷn â phan ddywedir wrth blentyn dyslecsig, ‘Rydych yn y fan hon ar y raddfa’ ac felly, ‘pan fyddwch yn mynd i wneud eich TGAU, rydych yn mynd i gael 25 y cant o amser ychwanegol’ neu ‘50 y cant o amser ychwanegol.’ Mae hynny’n wych, ond y broblem yw, yr holl ffordd drwodd, ar ôl cael diagnosis, ni chaniateir yr amser hwnnw iddynt mewn unrhyw brofion statudol eraill. Felly, mae plant yn teimlo’n ofnadwy o ddigalon am eu bod yn meddwl eu bod yn fethiant. Nid ydynt yn cael yr hanner awr ychwanegol, y 50 y cant ychwanegol, ar gyfer y ffug arholiadau ac yn y blaen.

Y maes arall, y gallai eich cyd-Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, ei ystyried efallai, yw’r system arholiadau cynnar, oherwydd, unwaith eto, os ydych yn blentyn dyslecsig, rydych angen eich dwy flynedd i ymdopi â’r pwnc ac rydych yn gorfod ei sefyll flwyddyn yn gynnar neu chwe mis ynghynt oherwydd bod yr ysgol wedi penderfynu cofrestru pawb ar gyfer arholiadau cynnar ac ni chaniateir i chi eithrio ohono ar hyn o bryd, yn ôl yr ysgolion. Dyna ddwy eitem lle y gallech chi, fel Gweinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet, wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant heddiw.

Mae eich sylwadau wedi’u cofnodi a byddaf yn eu dwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet a byddwn yn ysgrifennu atoch mewn ymateb i hynny ac yn ceisio gwneud hynny’n gadarnhaol; nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl ynglŷn â geirwiredd y pwyntiau a wnaethoch.

O ran y diwygiadau rydym yn ceisio eu gwneud, rydym am gael system lle y mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, yn cael sylw’n gyflym, a lle y caiff dysgwyr eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial yn yr union ffordd a ddisgrifiwyd. Rydym eisiau i gynlluniau fod yn hyblyg ac yn ymatebol, rydym eisiau gweithwyr proffesiynol medrus, sy’n hyderus i nodi anghenion ac sy’n gallu defnyddio strategaethau i helpu dysgwyr i oresgyn y rhwystrau hynny, ac mae hynny’n golygu darparu’r cymorth.

Un o’r sgyrsiau rwyf wedi bod yn eu cael dros yr ychydig fisoedd diwethaf—prif ffocws y sgyrsiau hyn yn naturiol ac yn anochel yw deddfwriaeth; mae hynny’n anochel, ac nid oes gennyf broblem gyda hynny. Ond yr hyn rwy’n ceisio dweud o hyd wrth bobl yw, ‘Iawn, fe newidiwn y gyfraith; iawn, fe wnawn ni greu fframwaith statudol newydd; iawn, fe wnawn ni ddarparu canllawiau statudol; iawn, byddwn yn sicrhau y bydd gennym gefnogaeth o ran hyfforddiant, datblygu’r gweithlu, cynllunio’r gweithlu a chyllid i alluogi pobl i gyflawni hyn, ond wyddoch chi beth? Rhaglen drawsnewid ehangach sy’n mynd i sicrhau’r newid go iawn.’ Bydd, fe fydd y ddeddf newydd yn galluogi hyn i ddigwydd, bydd y canllawiau statudol yn sicrhau ei fod yn digwydd ar draws y wlad gyda’r un cysondeb yn union ag a ddisgrifiwyd, ond yn y pen draw, rydym yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol medrus i ddarparu’r gwasanaeth. Ac i mi, y ddarpariaeth sy’n cyfrif mewn gwirionedd. Mae hynny’n rhywbeth sy’n sylfaenol, ac yn sylfaenol i’n huchelgais. Mae’n newid go iawn i’r system ac weithiau mae’n newid diwylliant yn ogystal. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu darparu hynny mewn ffordd y credaf y bydd yr Aelodau ar bob ochr i’r Siambr am ei weld.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, gadewch i mi ailadrodd unwaith eto fy ymrwymiad i weithio gyda’r Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, nid i herio’r pwyntiau a wnaed mor dda y prynhawn yma, ond i ddatrys y problemau hynny. Gobeithiaf y byddwn yn gallu parhau i weithio ar y cyd i gydgynllunio a chyflwyno diwygiadau er mwyn sicrhau systemau newydd cynaliadwy cadarn a thrylwyr. Mae’n cynnwys gweithio gyda phartneriaid newydd—gyda phartneriaid cyflawni—er mwyn gallu pontio o’r system bresennol i ddull newydd o weithredu. Os yw’n mynd i lwyddo, rhaid i’r dull gweithredu newydd hwnnw allu datgloi potensial ein pobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai â dyslecsia, ond gwyddom nad yw’n gyfyngedig i rai â dyslecsia. Rwyf am i bawb yn y wlad hon gyrraedd eu potensial llawn. Gallai fod yn adeg gyffrous iawn ac yn agenda gyffrous. Mae’n un sy’n wynebu heriau sylweddol, ond rwy’n gobeithio ac rwy’n gwybod bod yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymrwymedig i’w chyflawni a gobeithiaf y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni ar gyfer y bobl hynny. Diolch.

Diolch i chi i gyd. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.