Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/11/2016Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Trefn. Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
Allforion Tramor
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am werth allforion tramor i economi Cymru? OAQ(5)0280(FM)
Mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru wedi bod yn golofnau canolog o’n strategaeth economaidd ers cryn amser. Rydym yn gwybod bod masnach yn sbardun allweddol o dwf economaidd, sydd, yn ei dro, yn rhoi hwb i incymau.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu taith fasnach gyda chymhorthdal i Saudi Arabia ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa’r Aelodau bod Saudi Arabia yn fan lle mae pobl yn cael eu dienyddio am droseddau, fel lleisio barn yn erbyn y gyfundrefn. Gyda chymorth allforion y DU, maen nhw hefyd yn cynnal rhyfel creulon yn erbyn Yemen, sydd wedi hawlio bywydau miloedd, ac mae gwarchae Yemen wedi achosi argyfwng dyngarol. Yng nghanol yr holl greulondeb hwn, a yw'n briodol cyfeillio â Saudi Arabia? Onid ydych chi’n meddwl y dylech chi fod yn gwneud safiad ar y cwestiwn hwn? Ac o ystyried y newyddion heddiw bod arfau a werthwyd i Saudi wedi mynd i ddwylo ymladdwyr ISIS, a allwch chi ein sicrhau heddiw nad oes gan y genhadaeth hon unrhyw beth o gwbl i'w wneud â'r diwydiant amddiffyn neu'r diwydiant arfau?
Wel, mae teithiau masnach yn holl-gwmpasol. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni’n masnachu gyda chwmnïau na fyddem yn rhannu eu gwerthoedd. Ceir problemau gyda nifer o wledydd ledled y byd, lle byddai'n well gennym ni pe byddai eu systemau yn fwy agored, a phe byddai eu systemau yn agosach i’n system ni. Ond rwy’n credu, trwy fasnachu gyda’r gwledydd hyn, ei bod yn bosibl dangos bod ffordd o lywodraethu sy'n wahanol ac, yn fy marn i, yn well na'r rhai sy'n bodoli yn eu gwledydd nhw. Mater iddyn nhw, wrth gwrs, yw sut y maen nhw’n llywodraethu eu hunain, ond, serch hynny, cawn ein harwain gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad pa un a yw'n briodol cael cysylltiadau masnach â gwledydd ai peidio.
Brif Weinidog, mae Cymru yn wlad fach ond angerddol sy'n gwneud yn well nag y gellid disgwyl. Nodaf mai £12.1 biliwn oedd gwerth allforion Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd at ac yn cynnwys Mehefin 2016, ac roedd allforion i'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrif am bron i 40 y cant o’r allforion o Gymru. Mae’r Prif Weinidog yn eiriolwr brwd a llwyddiannus o werthu Cymru i'r byd. Felly, pa gynlluniau ar gyfer y dyfodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y gall nwyddau a gwasanaethau Cymru barhau i gael eu hallforio i'r byd?
Rydym ni wrthi’n cynllunio ein gweithgareddau tramor ar gyfer 2016-17. Bydd y rhaglen honno’n cynnwys cydbwysedd o farchnadoedd traddodiadol y mae angen i ni eu cynnal, a chwilio am farchnadoedd newydd. A bydd chwe thaith fasnach a fydd yn digwydd dros y chwe mis nesaf.
Brif Weinidog, dywedodd baromedr busnesau Cymru, o adroddiad Siambr Fasnach De Cymru, bod nifer y mentrau bach a chanolig eu maint a oedd yn adrodd twf o ran gwerthiant ac archebion allforio wedi gostwng yn nhrydydd chwarter 2016. Mae fy mag post fy hun yn tyfu wrth i fusnesau bach gysylltu â mi yn pryderu am y cynnydd posibl i’w hardrethi busnes. A wnewch chi ystyried cynyddu'r cyllid yr ydych chi wedi ei roi ar gael ar gyfer cymorth pontio, oherwydd, yn amlwg, byddai hynny’n helpu llawer o fusnesau bach sy’n dal i fod yn ansicr iawn am faint eu hardrethi busnes ar ôl 2017?
Wel, byddwn yn gallu rhoi ystyriaeth lawn i'r mater hwnnw pan fyddwn ni’n gwybod yr hyn y mae'r Canghellor wedi ei gyhoeddi yn ei ddatganiad yr hydref. Os yw'n hael, yna gallwn ninnau fod yn hael hefyd, wrth gwrs.
A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ei ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw, gan gytuno â beirniadaeth arweinydd Plaid Cymru o weithgareddau Llywodraeth Saudi yn Yemen? Serch hynny, mae'n hanfodol bwysig i Gymru ein bod ni’n gwella ein cysylltiadau masnach gyda Saudi Arabia. Dim ond ychydig o fasnach ydyw—£240 miliwn mewn allforion y llynedd—ond, serch hynny, mae hynny'n bwysig iawn. Ond mae masnach gyda gweddill y byd, y tu allan i'r UE, yn mynd i ddod yn gynyddol bwysig i ni fel cenedl. Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y ffaith fod 40 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE; roedd yn 60 y cant 10 mlynedd yn ôl—mae'r sefyllfa parthed Cymru a gweddill y byd wedi gwrthdroi. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno ei bod yn hanfodol bwysig bod gennym ni deithiau masnach i weddill y byd, i fanteisio ar yr anghydbwysedd cynyddol hwn?
Wel, rydym ni’n gwneud hynny. Hynny yw, bydd teithiau masnach i'r Unol Daleithiau ac i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, sy'n farchnad allforio fawr i ni. Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus rhag bod mewn sefyllfa, er hynny, lle mae gennym ni rwystrau o ran cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd a'r farchnad Americanaidd. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl y byddwn ni’n gweld cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau a fydd yn gwneud unrhyw beth heblaw bod o fudd i’r Unol Daleithiau. Dyna'n union yr etholwyd y darpar Arlywydd, Trump, i’w wneud. Felly, nid wyf yn rhannu’r gobaith sydd gan rai y bydd y DU, rywsut, mewn sefyllfa freintiedig o ran yr Unol Daleithiau. Serch hynny, rydym ni’n parhau i gynnal ein teithiau masnach i edrych ar ein marchnadoedd pwysig, i ddiogelu’r rheini, a hefyd, wrth gwrs, i chwilio am rai newydd.
Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ(5)0273(FM)] yn ôl.
'Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu 'Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'? OAQ(5)0286(FM)
Gwnaf. Fel y nodir yn 'Cwricwlwm i Gymru', rhoddwyd y fframwaith cymhwysedd digidol ar gael i ysgolion a lleoliadau ar 1 Medi, ac mae datblygiad y cwricwlwm ehangach a threfniadau asesu ar y trywydd iawn i fod ar gael o fis Medi 2018, i gefnogi dysgu ac addysgu o fis Medi 2021.
Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog, wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, ateb sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan yr holl athrawon a chynorthwywyr addysgu ddealltwriaeth o addysgeg briodol sy'n gysylltiedig â'r ystafell ddosbarth gynhwysol?
Rydym ni wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i bob dysgwr, a gall cyflawni’r diwygiadau hynny ddigwydd dim ond os oes gennym ni system o'r fath a gweithlu sy'n croesawu addysg gynhwysol ac yn cyflawni ar gyfer pob dysgwr ym mhob ystafell ddosbarth. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r proffesiwn addysgu, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod y lefel cywir o gymorth a hyfforddiant ar gael iddyn nhw i sicrhau bod hynny'n cael ei wireddu.
Brif Weinidog, un o nodweddion eich Llywodraeth yw bod ysgolion da iawn, sy'n darparu'r cwricwlwm cenedlaethol, wedi bod yn cau ar draws y wlad, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru. Nawr, rwy’n sylwi bod cymorth ychwanegol, sydd ar y ffordd, a rhai newidiadau o ran y ffordd y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol feddwl am eu hysgolion yn y dyfodol. Ond beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth bobl yn fy etholaeth i sy’n gefnogwyr Ysgol Llanbedr, sydd o dan fygythiad o gael ei chau am yr ail dro, ac a wnewch chi ymyrryd yn bersonol i sicrhau dyfodol yr ysgol honno, sydd â nifer gynyddol o ddisgyblion, gan fod rhieni yn rhoi eu ffydd yng ngallu’r ysgol honno i gyflawni ar ran eu plant?
Mae’r Aelod yn gwybod yn iawn mai penderfyniad i’r awdurdod lleol yw hwn, a dylai gyfeirio ei ddicter at yr awdurdod lleol ac nid at Lywodraeth Cymru. Mae'n gwybod yn iawn mai dim ond o dan amgylchiadau penodol yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn ymyrryd. Tybed a yw wedi gwneud y sylwadau hynny i'r awdurdod lleol; rwy'n siŵr y byddai ei etholwyr eisiau cael gwybod. Ond, yn gyffredinol, fel y mae’r Ysgrifennydd addysg wedi ei gyhoeddi eisoes, rydym ni’n edrych ar ffyrdd o helpu a chefnogi ysgolion gwledig, ac yn edrych ar fodelau newydd i’w galluogi i ddarparu’n well ac i aros ar agor yn y dyfodol—rhai ohonyn nhw—ac awgrymaf iddo fynd at ei awdurdod lleol a gwneud awgrymiadau o'r fath iddyn nhw.
Un o’r elfennau canolog, wrth gwrs, o ddiwygio’r cwricwlwm, yw rôl yr ysgolion arloesi. Ond mae yna gonsýrn yn cael ei fynegi’n gynyddol nawr bod ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw y tu fas i’r broses yna. Mae’r undebau athrawon yn sicr wedi dweud mai breuddwyd gwrach yw sefyllfa lle mae’r trefniant newydd yn cael ei adeiladu gan y proffesiwn ar gyfer y proffesiwn, ac mae hyd yn oed y Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod perig nawr ein bod ni’n wynebu sefyllfa dau ‘tier’, lle mae rhai yn teimlo eu bod nhw tu mewn, a rhai yn teimlo bod nhw tu fas. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod pawb yn teimlo perchnogaeth o’r cwricwlwm newydd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddelifro ar amser?
Wel, rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, ei bod yn hollbwysig i sicrhau bod gyda ni ffordd effeithiol o weithio gyda’r proffesiwn. Rŷm ni yn delio gyda hyfforddi a hyfforddiant, er enghraifft, ond nid gyda thelerau a phae. Mae hynny’n mynd i newid, wrth gwrs, yn y dyfodol. Rhyw fath o wahaniaeth artiffisial yw e rhwng hyfforddi athrawon a thalu athrawon, yn fy marn i. Wrth wneud hynny, bydd yn rhwyddach inni weithio gyda’r proffesiwn yn y pen draw i greu pecyn sydd yn gynhwysfawr iddyn nhw.
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, mae Cylchffordd Cymru yn cynnig potensial enfawr i adfywio rhan dlawd iawn o Gymru, ac yn cynnig cyfleoedd, o ran adfywio a gobaith am swyddi i ardal Blaenau Gwent a de Cymru—i Gymru gyfan a dweud y gwir—weddnewid ei delwedd i fod yn gyrchfan gwerth uchel i dwristiaid a'r diwydiant peirianneg. Ond, yn anffodus, mae’r cwmni Blaenau'r Cymoedd sy'n hyrwyddo'r prosiect hwn wedi bod yn dioddef penawdau gwael iawn yn ddiweddar, a bu effaith ddiferu araf iawn— [Torri ar draws.] Bu effaith ddiferu araf iawn o dystiolaeth i ddangos nad y rhain yw’r partneriaid gorau i gyflawni'r prosiect hwn mewn gwirionedd. A oes gennych chi ffydd yn arweinyddiaeth y cwmni i gyflawni prosiect Cylchffordd Cymru?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig mai aelod o'i blaid ef sydd wedi diferu’r feirniadaeth honno—nid fe, rwy’n derbyn, ond aelod o'i blaid yn sicr. A oes gennym ni ffydd yn y cwmni? Mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n ddarbodus o ran arian cyhoeddus yn cael ei roi ar gael, ac rydym ni wedi gwneud yn union hynny, er mwyn sicrhau bod unrhyw brosiect yn cael ei ariannu dim ond os oes ymraniad teg o risg rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, ac nid dyna’r sefyllfa yma.
Brif Weinidog, rwy’n sylwi na wnaethoch chi ddweud bod gennych chi ffydd Soniasoch yn faith bod potensial o fewn y prosiect, ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan eich Llywodraeth, yr wyf yn gobeithio eich bod yn ymwybodol ohonynt, gan gyfarwyddwr cyffredinol adran yr economi, James Price, yn dangos yn eglur bod gweision sifil wedi codi pryderon gyda Gweinidogion ynghylch y cynlluniau i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sy'n eiddo i Michael Carrick, dalu bron i £1 filiwn mewn ffioedd ymgynghori i Aventa Capital Partners Ltd—sy’n eiddo 100 y cant i Michael Carrick—gan dalu eu hunain i gynghori eu hunain, i bob pwrpas. Nawr, does bosib y gall hynny fod yn iawn, yn enwedig os na fu proses dendro gadarn, ac, yn wir, pan fo’r gweision sifil eu hunain, y cyfarwyddwr cyffredinol, yn cynnig cyngor o'r fath i Weinidogion. Pam y byddai Gweinidogion yn mynd yn groes i’r cyngor hwnnw a chymeradwyo trafodiad o'r fath?
Wel, mater i'r Gweinidog a oedd yn y swydd ar y pryd yw hwnnw, nad yw’n Aelod o'r Cynulliad hwn mwyach. Yr hyn y gallaf ei ddweud, cyn belled ag y mae'r Llywodraeth hon yn y cwestiwn, yw y byddwn yn ceisio sicrhau, fel y gwnaeth hi, ein bod yn gweithredu’n ddoeth o ran arian sy'n deillio o'r pwrs cyhoeddus. A dyna pam, er gwaethaf beirniadaeth gan ei blaid ef ac eraill yn y Siambr hon, na ryddhawyd yr arian gennym i’r prosiect fynd yn ei flaen ychydig fisoedd yn ôl, ar y sail nad oeddem yn argyhoeddedig bod y prosiect yn ddigon cadarn o ran rhannu risg i’r prosiect fynd yn ei flaen gydag arian cyhoeddus.
Wel, Brif Weinidog, mae arian cyhoeddus wedi mynd i’r cwmni hwn, fel yr wyf wedi ei amlygu—£1 filiwn ar ffioedd ymgynghori yn unig, cyfanswm o £9 miliwn, a gwarantau benthyciadau banc yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni’n gwybod am bethau eraill sydd wedi eu talu: ceir ras a wnaeth golled yn Silverstone; £35,000 ar gyfer garddio yn ogystal â phrynu cwmni beiciau modur, FTR Moto, am £400,000, sydd wedi mynd yn fethdalwr. Nid yw’n hanes o lwyddiant a dweud y lleiaf, pan fo’r dystiolaeth yn nodi’n eglur bod gweision sifil yn rhybuddio Gweinidogion am roi’r arian hwn ar gael ac eisiau mwy o wybodaeth. Gwelsom yr wythnos diwethaf fod cadeirydd llywodraethu’r cwmni, yr Arglwydd Kinnock, yn lobïo yn ormodol, byddwn yn awgrymu, gydag o leiaf pump neu chwech o alwadau i arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, yn ogystal â defnyddio papur ysgrifennu Tŷ'r Arglwyddi i ysgrifennu llythyrau arno i wneud y pwynt yr oedd eisiau ei wneud. Ni all hynny fod yn dderbyniol a nawr mae gen i anfonebau yma— [Torri ar draws.]—anfonebau yma—[Torri ar draws.]—anfonebau yma sy'n dangos o leiaf £750 a dalwyd am ddigwyddiad yn y gogledd i'r Blaid Lafur, £2,400 i’r Blaid Lafur eto, a £960 a dalwyd i'r Blaid Lafur—tair gwahanol anfoneb a dalwyd gan Aventa a Michael Carrick, i gael mynediad at Weinidogion Llywodraeth Cymru, byddwn yn awgrymu. A ydych chi’n ffyddiog y bu tryloywder priodol ac, yn anad dim, y sicrwydd pan roddwyd y £9 miliwn cychwynnol, oherwydd, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle gwych ond a yw’r gweithredu—? [Torri ar draws.] Ac mae gan y cwmni sydd wedi dod yn ei flaen i hyrwyddo'r cwmni hwn dystiolaeth eglur i'r gwrthwyneb o fod â’r—[Anghlywadwy.]
Ni all ei chael hi’r ddwy ffordd. Ni all ddweud, ar y naill law, 'Mae hwn yn brosiect da' ac ar y llaw arall dweud, 'Wel, ni ddylai’r prosiect hwn fod wedi cael ei ariannu yn ei gamau cychwynnol.' Os yw'n awgrymu, mewn rhyw ffordd, ei bod yn bosibl i'r cwmni noddi digwyddiadau er mwyn cael y penderfyniad yr oedd ei eisiau—wel, ni wnaethant, naddo? Yr holl bwynt oedd pe byddai’n wir y gellid prynu dylanwad rywsut, y bydden nhw wedi cael y cyllid ar gyfer Cylchffordd Cymru erbyn hyn, ond nid dyna'r sefyllfa a ddigwyddodd. Gwnaethom y penderfyniad ein bod ni’n dymuno—. Hynny yw, mae'n sôn am £9 miliwn. Pe byddai ond yn gallu gweld yr arian sy'n cael ei wastraffu gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan. Y swm o arian sy'n cael ei dywallt i ffwrdd—ei dywallt i ffwrdd—ar ad-drefniadau’r GIG nad ydynt yn digwydd, yn cael ei dywallt i ffwrdd ar breifateiddio rheilffyrdd—gallem ni barhau. Y gwir amdani yw ein bod ni fel Llywodraeth wedi cymryd y farn bod cyllid cychwynnol—[Torri ar draws.] Pe byddai’n gwrando, byddai’n dysgu. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu symiau o arian i fusnesau er mwyn mynd â nhw i'r cam nesaf o ran datblygu busnes a phrosiect o ran datblygu. Ond daw adeg pan mae'n hollol iawn i ddweud wrth unrhyw fusnes, "Ni fyddwn yn ariannu'r prosiect oni bai eich bod chi’n dod o hyd i ddigon o gefnogaeth breifat a fydd yn bwrw’r prosiect yn ei flaen heb warant 100 y cant gan y sector cyhoeddus. ' Mae hynny'n rhywbeth nad oeddem yn barod i’w wneud ac mae hynny’n cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achos arfaethedig o Severn Trent Water yn cymryd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy drosodd?
Mae hyn yn destun pryder. Fe’i codwyd gan Aelodau. Y pryder yw, wrth gwrs, y bydd yn lleihau dewis i ddefnyddwyr. Bydd yn arwain at brisiau uwch, ac mae hyn yn rhywbeth, yn fy marn i, na fyddai'n dderbyniol i bobl Cymru. Nid wyf yn credu y byddai pobl yn derbyn prisiau uwch am eu dŵr pan maen nhw’n gallu gweld y cronfeydd dŵr yn eu hardal sy'n darparu’r dŵr hwnnw.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Ceir pryderon y gallai hunaniaeth Gymreig gref y cwmni a’i ddiddordeb yn y wlad hon gael eu colli ar ôl iddo gael ei gymryd drosodd. Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio gydag 80 o gyflenwyr lleol, a cheir pryderon gwirioneddol ymhlith y gweithlu am ddiogelwch swyddi. Y pryder yw y bydd canoli yn arwain at lai o swyddi lleol. A allwch chi ddweud wrthym, Brif Weinidog, pa gysylltiad ydych chi wedi ei gael â’r partïon dan sylw?
Gwn fod y Gweinidog yn edrych ar hyn yn ofalus iawn. Mae hi wedi derbyn sylwadau, rwy’n gwybod, gan aelodau etholaethol a bydd pryder yn cael ei fynegi gennym ni fel Llywodraeth ar y sail yr wyf newydd ei chrybwyll.
Brif Weinidog, rwy'n synnu na allwch chi hyd yn oed ddweud wrthyf eich bod wedi ysgrifennu llythyr neu ddau am hyn, o ystyried y pryderon. Efallai y bydd cwestiwn heddiw yn eich gwthio i weithredu mewn rhyw ffordd. Mae’r achos arfaethedig hwn o gymryd cwmni drosodd yn codi cwestiynau difrifol am ddyfodol ein hadnoddau naturiol. Dylai’r adnoddau hynny fod o fudd i'r bobl yn y wlad hon, ond maen nhw’n cael eu prynu a'u gwerthu wrth i ni siarad. A yw’r Prif Weinidog wedi ystyried pa effaith y gallai’r cais hwn i gymryd cwmni drosodd ei chael ar y diwydiant dŵr yng Nghymru, o gofio bod y model cystadleuol sy’n cael ei wthio yn Lloegr wedi ei wrthod yma? Ac a wnewch chi ymuno â mi i wneud datganiad cwbl eglur heddiw y dylai gwasanaethau dŵr Cymru gael eu rhedeg o Gymru, ac nid o Coventry ar ran criw o gyfranddalwyr amlwladol?
Rydym ni wedi bod yn gwbl eglur ein bod ni eisiau gweld pwerau dros ddŵr yn cael eu datganoli. Ildiwyd hynny gan Lywodraeth y DU. Roedd bob amser yn destun edifeirwch mawr i mi—ac mae hynny a dweud y lleiaf mae’n debyg—nad oedd gan bobl Cymru reolaeth dros un o'u prif hadnoddau naturiol. Bydd hynny'n newid yn 2018. Rwy’n croesawu hynny'n fawr. Bydd hynny'n rhoi’r cyfle i ni edrych ar sut y gellir datblygu’r adnodd hwnnw cyn belled ag y mae pobl Cymru yn y cwestiwn. Ond tan i’r consesiwn hwnnw gael ei wneud gan Lywodraeth y DU, roeddem ni’n dal i fod mewn sefyllfa lle nad oedd gennym ni reolaeth dros ein dŵr. Rwy’n croesawu hynny, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni osgoi sefyllfaoedd fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Cynulliad yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Prif Weinidog i Ganghellor y Trysorlys wneud rhywbeth ynghylch prisiau ynni yn natganiad yr hydref er mwyn helpu'r diwydiant dur yng Nghymru, rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n llwyr yn ei gylch. Nododd fod prisiau ynni ym Mhrydain 46 y cant yn uwch nag mewn rhai mannau eraill yn Ewrop. Onid yw'n cytuno mai un o'r prif resymau am hynny yw Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, a basiwyd gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd, sydd wedi ymrwymo Prydain yn unigryw yn y byd i rwymedigaeth gyfreithiol o dorri allyriadau carbon gan 80 y cant erbyn 2050, ac o ganlyniad i hynny yr ydym ni’n rhoi maen o amgylch gyddfau pobl fel cynhyrchwyr dur Prydain, sy'n cael eu rhoi dan anfantais gystadleuol gyda gwledydd fel yr Almaen?
Nac ydw. Y broblem yw hyn: mae prisiau ynni yn yr Almaen, er enghraifft, tua 20 y cant yn rhatach; yn Sbaen, maen nhw 37 y cant yn rhatach. Nid yw’n ddim i'w wneud ag ynni adnewyddadwy, gan fod faint o ynni adnewyddadwy sy'n bwydo i mewn i'w gridiau cenedlaethol fwy neu lai yr un fath â’n grid ni o ran canran, os nad yn fwy. Mae'n ymwneud yn syml ag aneglurder y farchnad ym Mhrydain Fawr a'r ffaith nad oes gostyngiadau ar gael i ddiwydiannau ynni-ddwys. Mae'n rhaid i ni edrych ar niwclear, oes, ond mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar harneisio pŵer y llanw nad yw nepell o’r adeilad hwn, ac a fydd yno am byth, yn hytrach na dibynnu ar lo wedi'i fewnforio, y gwn sy’n rhywbeth y mae ef wedi ei awgrymu yn yr wythnosau diwethaf.
Ond mae’r Almaen wedi bod yn agor gorsafoedd ynni glo newydd; a dweud y gwir, 11 GW o gapasiti yn y pum mlynedd diwethaf, sy'n cyfateb i 15 y cant o holl allbwn trydan yr Almaen. Mae Sigmar Gabriel, sef Is-ganghellor yr Almaen a chadeirydd plaid democrataidd cymdeithasol yr Almaen, a’u Gweinidog ynni, wedi dweud na fydd yr Almaen yn dechrau cael gwared ar orsafoedd ynni glo brown cyn 2040, wrth i’r Llywodraeth chwilio am ffyrdd o sicrhau bod cyn lleied o swyddi â phosibl yn cael eu colli mewn rhanbarthau glo. Felly, mae Llywodraeth yr Almaen yn gwneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i sicrhau cyn lleied o golledion swyddi â phosibl yn ei rhanbarthau glo ar draul cynhyrchwyr dur Prydain.
Rwyf am oedi am eiliad at eironi hynna, a’r ffaith yn y 1980au—unwaith eto mae'n dychwelyd at y pwynt hwn—
O, dyma ni’n mynd eto.
[Yn parhau.]—eisteddodd yno tra bod miloedd ar filoedd—30,000 o swyddi—yn cael eu colli yn y diwydiant glo yng Nghymru. A nawr mae’n dweud nad ydym ni’n gwneud digon i ddiogelu swyddi glo. Y gwir yw, pe byddai gennym ni fwy o orsafoedd ynni glo, byddai'n rhaid i ni fewnforio’r glo. Mae’r Almaen mewn sefyllfa anodd gan ei bod yn dibynnu'n helaeth ar Rwsia am y nwy y mae’n rhaid iddi ei fewnforio, ac o ystyried y sefyllfa sydd ohoni yn y byd, mae honno'n sefyllfa anghyfforddus i’r Almaen fod ynddi. Nid wyf yn credu, o ran diogelwch ynni i Brydain, mai mewnforio mwy o'n hynni ar ffurf glo yw'r ffordd ymlaen.
Rydym ni’n cynnig cau’r capasiti ynni glo presennol ym Mhrydain, sef y ffordd rataf o gynhyrchu pŵer. Nid yw'n ymddangos i mi fod hynny’n beth synhwyrol i’w wneud yn economaidd nac yn fasnachol. Mae gennym ni gynhadledd newid hinsawdd arall yn Marrakech ar fin cael ei chynnal—[Torri ar draws.]—wel, yr wythnos diwethaf oedd hi—lle cynhyrchwyd llawer o aer poeth.
Nid yw gwledydd datblygol fel India a Tsieina yn bwriadu lleihau eu hallyriadau carbon deuocsid o gwbl. A dweud y gwir, maen nhw’n cynyddu eu gallu cynhyrchu ynni glo. Mae Tsieina yn bwriadu dyblu ei chapasiti ynni glo o fewn 15 mlynedd ac mae India yn addo treblu ei hallbwn o allyriadau carbon deuocsid. Onid yw Prydain, yn gyffredinol, a Chymru yn arbennig, yn rhoi ei hun o dan anfantais gystadleuol enfawr trwy orfodi prisiau ynni i gynyddu, sef anadl einioes diwydiannau fel cynhyrchwyr dur Cymru?
Ceir digonedd o wledydd eraill nad ydynt yn dibynnu ar lo lle mae prisiau ynni yn is. Mae Sbaen yn un enghraifft o hynny, lle nad yw glo yn ffactor pwysig o ran cynhyrchu ynni. Yr hyn y mae’n ei awgrymu—. Mae'n anghywir am Tsieina. Mae Tsieina yn symud—. Technoleg y gorffennol yw glo. Ar wahân i America, nid yw pobl yn bwriadu adeiladu mwy a mwy o orsafoedd ynni glo—
Maen nhw’n adeiladu un yr wythnos.
[Yn parhau.] —fel mater o bolisi ynni. Mae gan Tsieina broblem gyda llygredd. Mae'n gwybod hynny; mae’n gweld y mwrllwch yn Beijing, mae'n gweld y mwrllwch yn ei dinasoedd mawr ac mae'n gwybod na wnaiff ei phoblogaeth oddef hynny. Yr hyn y mae'n ei awgrymu, os gwnaiff feddwl am y peth, yn gyntaf oll, yw y dylem ni gael mwy o lygredd aer, fel bod pobl yn canfod bod hynny'n broblem i’w hiechyd. Yn ail, dylem ni fewnforio glo. Mae hynny'n golygu (a) bod pris glo yn cynyddu ac mae hynny'n golygu mwy o gost, a (b) llai o ddiogelwch ynni, cyn belled ag y mae Prydain yn y cwestiwn, ac ni allaf gytuno ag ef ar hynny. Ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n ei ddweud, i bob pwrpas, yw y dylem ni ystyried adeiladu mwy o orsafoedd ynni glo. Wel, pob lwc iddo gyda hynny. Os yw eisiau gweld pobl yn ddig ac yn flin, mae rhoi gorsaf ynni glo wrth eu hymyl yn ffordd sicr o wneud hynny. Na, ni allaf gytuno ag ef. Nid wyf yn derbyn na ddylai ynni adnewyddadwy—ynni sydd yno; bydd ynni'r llanw sydd yno nawr yno am byth cyn belled ag y bo’r lleuad yno, ac nid yw wedi ei harneisio’n iawn eto—y dechnoleg honno, gael ei ddatblygu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, yn hytrach na dibynnu ar danwyddau ffosil y mae’n rhaid eu mewnforio. Ni allaf weld sut mae hynny'n bolisi ynni diogel ar gyfer y dyfodol.
Metro De Cymru
4. A yw'r Prif Weinidog wedi ystyried potensial y cynnig o ran canolbwynt trafnidiaeth Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o gyflwyno Metro De Cymru yn raddol? OAQ(5)0276(FM)
Mae ganddo botensial enfawr ac rydym ni’n gwybod bod integreiddio cludiant cyhoeddus yn un o nodau pwysig metro de Cymru. Bydd cam nesaf datblygiad y metro yn canolbwyntio ar reilffyrdd craidd y Cymoedd. Bydd cynigion fel y canolbwynt yn cael eu hystyried yng nghamau’r dyfodol.
Rwy’n croesawu’n fawr yr ymateb yna a gwn fod cyllid ar gyfer camau olynol y cyflwyniad ychydig yn fwy ansicr erbyn hyn, ar ôl Brexit. Ond mae'n cynnig rhywfaint o botensial cyffrous yma, y canolbwynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n dal i eistedd ar hyd yr ardal honno, sef y chweched ardal weithgynhyrchu ac ardal gyflogaeth fwyaf yn y DU hefyd. Mae ganddo botensial enfawr. Os ydym ni’n mynd i elwa ar fanteision metro de Cymru gwirioneddol, mae'n rhaid i ni ei wthio i fyny’r Cymoedd a thua'r gorllewin hefyd. Felly, efallai, os gwnaiff dynnu ei het Prif Weinidog i ffwrdd a dod i lawr gyda mi i gyfarfod â’r Cynghorydd Huw David, arweinydd newydd awdurdod Pen-y-bont ar Ogwr a reolir gan Lafur, gallwn eistedd i lawr a’i drafod gyda'n gilydd dros baned o de.
Byddaf yn pasio'r neges honno i'r AC dros Ben-y-bont ar Ogwr. [Chwerthin.] Mae’n iawn; i orsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, fel cynifer o rai eraill, nid yw'n ymarferol i fysiau fynd yno a dyna ran o'r broblem. Yn wreiddiol, roedd cynllun i roi bysiau yn y maes parcio yn y cefn. Gwrthwynebodd yr heddlu a nawr mae’r heddlu wedi symud. Felly, ceir problem yn y fan yna. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar ddewisiadau eraill newydd o ran darparu canolbwynt trafnidiaeth cyhoeddus priodol, tebyg i Gaerffili, er enghraifft, lle y ceir enghraifft dda. Yn y dyfodol, yn hytrach na dweud ein bod ni'n mynd i fyw gyda'r sefyllfa, lle mae'r brif orsaf fysiau a'r brif orsaf reilffordd i fyny—wel, mae un i fyny'r rhiw o’r llall, ac felly yn anhygyrch i bobl â phroblemau symudedd—bydd angen syniadau newydd yn rhan o'r prosiect metro ynghylch sut yr ydym ni’n cyflenwi’r canolbwyntiau hynny yn y dyfodol.
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn, oherwydd mae’n rhaid i mi gyfaddef, rwyf braidd yn amheus ynghylch y sylw a roddwyd i’m rhanbarth i yn ystod hyn i gyd—hyd yn oed y trydydd cam amhenodol hwnnw yr ydym ni’n siarad amdano, mewn nifer o flynyddoedd i ddod. Mae sôn am bethau fel bws cyflym i Borthcawl, yn hytrach nag unrhyw beth mwy integredig. Nid yw fy etholwyr i, gan gynnwys y rhai o ran orllewinol y rhanbarth, yn gweld y llinellau ar y mapiau rhwng prosiectau fel dinas-ranbarth Bae Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, na metro de Cymru hyd yn oed. Felly, beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr holl brosiectau hyn yn plethu’n briodol ar gyfer fy etholwyr, yn hytrach na chreu craciau rhyngddynt, y mae’r cymunedau hynny ar yr ymylon yn debygol o ddisgyn drwyddynt?
Caewyd y rheilffordd i Borthcawl gan Lywodraeth Geidwadol ym 1963.
Beth sydd a wnelo hynny â’m cwestiwn?
Nid wyf yn dweud ei bod hi’n bersonol gyfrifol am hynny, ond dyna'r gwirionedd. Adeiladwyd dros y rheilffordd a oedd yn dod i mewn i'r dref flynyddoedd lawer iawn yn ôl, ac mae'n ffordd ddeuol erbyn hyn ac mae llawer o'r rheilffordd wedi mynd. Felly, byddai'n anymarferol adfer y rheilffordd o gyffordd Heol y Sheet yn y Pîl, trwy dwnnel Notais, sydd wedi hen fynd, i mewn i Borthcawl ei hun. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried dewisiadau eraill ar gyfer trefi fel Porthcawl yn y dyfodol, o ystyried y ffaith iddyn nhw gael eu torri i ffwrdd o’r rhwydwaith rheilffyrdd ar ddechrau’r 1960au. Un awgrym yw bws cyflym; ceir posibiliadau eraill y gellir eu rhoi ar gael ar gyfer trefi sydd gryn bellter i ffwrdd o’r rhwydwaith rheilffyrdd trwm yn y dyfodol.
Dai Lloyd. O, ni allaf ei weld. Caroline Jones.
Brif Weinidog, er mwyn i fetro de Cymru gyflawni ei ganlyniad datganedig o leihau’r defnydd o geir preifat yn llwyddiannus, mae’n rhaid iddo gynnig cludiant amlfoddol ar draws y rhanbarth. Felly, a ydych chi mor siomedig â mi na fydd cyfnewidfa Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chwblhau am 10 i 15 mlynedd arall? A fydd prosiect metro de Cymru yn gallu cyflwyno'r gyfnewidfa yn gynt nag y rhagwelwyd yng nghynllun trafnidiaeth lleol Pen-y-bont ar Ogwr?
Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar arian yr UE yr ydym ni’n mynd i’w golli—£125 miliwn; maddewch yr eironi yn y fan yna—yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn hytrach. Y gwir yw y bydd hynny yn rhoi twll yn y gyllideb. Nid yw’n angheuol i'r prosiect metro, ond heb yr arian hwnnw, bydd yn llawer anoddach symud y prosiectau ymlaen neu eu cyflymu yn debyg i’r un y mae newydd ei grybwyll.
Ailbrisio Ardrethi Busnes
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau ag awdurdodau lleol ynghylch ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)0277(FM)
Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw'r corff annibynnol, statudol sy'n gyfrifol am gyflawni’r ailbrisiad at ddibenion ardrethu annomestig. Cyhoeddodd y rhestr ardrethi ddrafft ar 30 Medi, a gall trethdalwyr wirio eu prisiadau cyn i'r rhestr newydd ddod i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r ailbrisio ardrethi busnes sydd ar fin digwydd yn parhau i fod yn ffynhonnell o bryder sylweddol i fusnesau, mewn rhai rhannau o Gymru—nid pob rhan, rwy’n derbyn, ond yn sicr yn fy ardal i o Gymru. Cyfarfu siambr fasnach Trefynwy ddoe i drafod y cynnydd i ardrethi y mae llawer o'r aelodau yn ei wynebu, a dim ond y bore yma, derbyniais e-bost gan fusnes yng Nghas-gwent sy'n wynebu dyblu posibl i’w ardrethi y flwyddyn nesaf . Mae hyn yn bygwth hyfywedd llawer o'r busnesau hyn yn y dyfodol. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau gyda siambrau masnach ledled Cymru ac, yn wir, rhanddeiliaid a busnesau eraill, a dweud wrthym beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud i leddfu'r pryderon hyn? Gwn eich bod yn mynd i fod yn gwneud cyhoeddiad maes o law am ryddhad ardrethi busnes. Sut gwnewch chi deilwra hynny i anghenion y busnesau hynny sy’n mynd i gael eu heffeithio waethaf gan yr ailbrisio?
Mae’r pwynt y mae'n ei wneud yn un teg. Mae gennym ni ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd. Mae’r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw wedi dod bron yn gyfan gwbl o Drefynwy a'r Bont-faen, felly, yn amlwg, ceir problem yn y fan yna i fusnesau yn y ddwy dref hynny. Mae'r rhai sydd wedi elwa yn tueddu i gadw’n dawel ynghylch y materion hyn. Felly, o archwilio'r materion a godwyd ganddynt, bydd yn hynny’n ein helpu i roi cynllun pontio ar waith a fydd mor effeithiol â phosibl i’r ddwy dref hynny. Nid wyf yn dweud ei fod yn berthnasol i’r ddwy dref hynny yn unig, ond mae'r effaith wedi bod fwyaf amlwg yno. Wrth gwrs, mater i Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw sut y mae’r prisiadau hyn yn cael eu pennu, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, trwy wrando ar fusnesau, y gallwn gael y cynllun cywir ar waith ar gyfer y cyfnod pontio.
Rwy'n credu y bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i wedi codi gydag ef achosion eraill o’r gogledd, mewn gwirionedd, pan ofynnais iddo am effeithiau’r ailbrisio a'r codiadau y mae busnesau yno wedi eu dioddef. Felly, rwy’n meddwl ei bod ni’n eglur bod nifer o fusnesau ledled Cymru yn wynebu cynnydd eithafol i’w rhwymedigaethau o ganlyniad i'r ailbrisio. Felly, a wnaiff ef edrych eto ar lefel y rhyddhad trosiannol a ddarperir ac a ellir gwneud mwy yn hynny o beth? Rydym ni yn y sefyllfa ryfedd hon o’r ailbrisio yn digwydd ac yna, flwyddyn yn ddiweddarach, bydd y cynllun ardrethi busnes yn cael ei ddiwygio’n fwy sylfaenol. O ganlyniad i hynny, oni fyddai'n synhwyrol edrych a yw’r rhyddhad trosiannol a ddarperir yn ddigonol i gynorthwyo rhai o'r busnesau yr effeithir arnynt?
Byddai, a byddwn yn gwneud hynny yn rhan o'r ymgynghoriad. Mae e'n iawn, bydd busnesau sydd wedi gweld cynnydd sylweddol i ardrethi busnes; bydd eraill wedi gweld y gwrthwyneb llwyr. Mae'n niwtral o ran refeniw yn ei fwriad, beth bynnag, ond, ydy, mae'r cynllun pontio wedi ei gynllunio i gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal yr ymgynghoriad, er mwyn darparu cymorth ar sail drosiannol, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar sut y mae’r cynllun parhaol yn edrych mewn gwirionedd.
Nifer y Bobl sy’n Goroesi Canser
6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella nifer y bobl sy’n goroesi canser? OAQ(5)0278(FM)
Wel, mae cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn. Mae goroesiad blwyddyn wedi cyrraedd 70 y cant erbyn hyn a goroesiad pum mlynedd wedi cyrraedd 50 y cant. Byddwn yn parhau’r cynnydd hwn drwy'r cynllun cyflawni ar ganser wedi’i adnewyddu, a gyhoeddwyd ar y pymthegfed o'r mis hwn.
Diolch, Brif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cafodd yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, a minnau y fraint fawr o fynd ar daith o gwmpas labordai Ymchwil Canser Cymru. Roeddem ni’n gallu gweld y gwaith arloesol mawr ei fri yn rhyngwladol sy’n digwydd yma yng Nghymru bellach i gynyddu dealltwriaeth wyddonol o sut y mae canser yn ymosod ar y system imiwnedd. Felly, a gaf i groesawu'n gynnes cynllun cyflawni ar ganser diwygiedig Llywodraeth Cymru sydd newydd ei lansio? Gall pob un ohonom ni gymeradwyo'r ffaith bod boddhad cleifion yn parhau i fod yn gadarnhaol. Mae buddsoddiad mewn gwario ar wasanaethau canser wedi cynyddu o £347 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15. Felly, Brif Weinidog, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, yn y dyfodol, i sicrhau bod gan y gwyddonwyr yn Ymchwil Canser Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i wella cyfraddau goroesi trwy wella’r gallu i ganfod canser yn gynnar?
Wel, rydym ni’n buddsoddi £4.5 miliwn o gyllid dros dair blynedd yng Nghanolfan Ymchwil Canser newydd Cymru, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Hefyd, caiff tua £4.7 miliwn ei fuddsoddi bob blwyddyn i gynorthwyo’r gwaith o recriwtio cleifion i dreialon neu astudiaethau a chefnogi gweithgarwch ymchwil y bwrdd iechyd.
Mae hi yn wybyddus bod cyfraddau y rhai sy’n goroesi canser yn is i’r rheini sy’n cael diagnosis drwy adrannau brys mewn ysbyty. Mae hi hefyd yn hysbys bod annhegwch o ran pwy sy’n debyg o fod yn mynd i gael diagnosis mewn adran frys, a bod y llai cyfoethog yn fwy tebygol o fynd drwy’r broses honno yn hytrach na mynd drwy brosesau a thrio neidio dros rwystrau o ran mynd i weld y GP ac ati. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi y gallai’r Llywodraeth edrych ar gyflwyno canolfannau cerdded i mewn fel bod pobl sydd â symptomau, o bosibl sydd wedi bod ganddyn nhw ers tro, yn gallu mynd i gael ‘check-up’ heb fynd drwy brosesau y system GP llawn?
Wel, y broblem, rwy’n credu, gyda llawer o wahanol gancrau, yw eu bod nhw’n ymddangos pan fo rhywun yn mynd i’r adran frys o achos y ffaith nad yw’r symptomau yn mynd yn ddifrifol nes eu bod nhw’n mynd fanna. Mae cancr pancreatig yn un enghraifft o hynny, lle mae llawer o bobl yn cael diagnosis dim ond unwaith maen nhw’n mynd i adran frys, o achos y ffaith ei bod hi’n mor anodd i roi diagnosis am gancr fel yna. Mae rhai pobl yn teimlo poen ond efallai nid ydyn nhw’n gwneud dim byd amdano fe—rydym ni’n gwybod bod rhai fel yna. Wedyn, wrth gwrs, maen nhw mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddyn nhw gael triniaeth. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda meddygon er mwyn iddyn nhw allu symud pobl ymlaen drwy’r system er mwyn iddyn nhw allu cael diagnosis o ganser cyn gynted ag sydd yn bosib. Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, fod y mwyafrif mawr o bobl yn mynd drwy’r system ac yn cael diagnosis cyn gynted ag sydd yn bosib.
Brif Weinidog, diagnosis cynnar yw’r allwedd i wella cyfraddau goroesi canser. Felly, mae i’w groesawu’n enfawr bod y cynllun cyflawni ar ganser newydd i Gymru yn ailwampio atgyfeiriadau canser meddygon teulu trwy dreialu canolfannau diagnostig ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod gwella mynediad at ddiagnosteg yn her enfawr. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder offer a staff ym meysydd patholeg, radiograffeg ac oncoleg a nodir yn y cynllun cyflawni?
Wel, tair enghraifft: rydym ni’n buddsoddi bron i £10 miliwn mewn cyflymyddion llinol newydd fel y gall cleifion gael mynediad at y technegau radiotherapi diweddaraf. Mae ein canolfannau rhanbarthol yn perfformio'n dda o ran y gyfradd radiotherapi modiwleiddio dwyster. Rydym ni wedi ymrwymo i ganolfan ganser Felindre newydd gwerth £200 miliwn, a, thrwy’r rhaglen gweddnewid gwasanaethau canser, byddwn yn chwyldroi'r ffordd y caiff gwasanaethau canser eu darparu yn y de-ddwyrain. Rydym ni wedi cytuno £3 miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau diheintio mewn unedau endosgopi ac o leiaf £6 miliwn ar gyfer canolfan ddiagnostig arbrofol yng Nghwm Taf, fel y mae’r Aelod wedi sôn. Bydd yr holl bethau hyn, gyda'i gilydd, yn parhau i wella'r rhagolygon i gynifer o'r rhai sy'n byw gyda chanser—i ddefnyddio'r derminoleg gywir.
Tollau ar Bontydd Hafren
7. Pryd y gwnaeth y Prif Weinidog ei alwad gyntaf am ddileu tollau ar bontydd Hafren? OAQ(5)0282(FM)
Roedd yn ein maniffesto ym mis Mai. Byddaf yn anfon copi ato os yw'n dymuno.
Rwyf wedi darllen y maniffesto—
Roeddwn i'n meddwl efallai ei fod wedi. [Chwerthin.]
Fy nyfyniad blaenorol oedd:
Ni fyddem yn gallu diddymu'r tollau, gadewch i ni fod yn gwbl onest am hynny. Ond, wrth gwrs, gallai unrhyw arian a godir gael ei neilltuo i’r M4.
Ond roedd hynny yn 2012, ac rwy’n cymeradwyo’r Prif Weinidog ar y safbwynt y mae’n ei fabwysiadu nawr. Rwyf wedi codi gydag ef y mater bod pwerau Llywodraeth y DU ei hun i godi tollau o dan Ddeddf Pontydd Hafren 1992 yn dod i ben ar ôl codi swm penodol o arian, a amcangyfrifwyd i fod yn £88 miliwn yn ddiweddar. Ac, ar hanner toll, ni fyddai’r pwerau hynny yn mynd ag ef y tu hwnt i 2019. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i fanteisio ar bwerau ei Lywodraeth ef a’r Cynulliad hwn i'r graddau mwyaf posibl i atal codi tollau ar ôl hynny?
Gwnaf. Dylwn fod wedi gwybod y byddech chi wedi darllen y maniffesto, wrth gwrs, ond, gwnaf, mi wnaf yr ymrwymiad hwnnw. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrtho yn y pwyllgor ddydd Gwener, bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei archwilio’n ofalus.
Mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Andrew Jones, na fyddai incwm o'r tollau ar bontydd Hafren yn cael ei ddefnyddio fel ymarfer gwneud elw ar ôl eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. O ystyried bod y pontydd yn cynhyrchu mwy na £90 miliwn y flwyddyn mewn refeniw, ond yn costio dim ond £14 miliwn i’w cynnal, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu’r arwydd hwn o doriad sylweddol i dollau yn y dyfodol agos yng Nghymru?
Wel, byddai'n well gen i pe byddem ni’n rheoli’r tollau ein hunain—yng Nghymru maen nhw, wedi'r cyfan. Byddai hwnnw'n gam sylweddol ymlaen. Rwy'n meddwl mai’r broblem yw fy mod i wedi gweld cymaint o wahanol ffigurau ar gyfer cynnal a chadw’r ddwy bont. Maen nhw’n amrywio o £20 miliwn a mwy i dros £100 miliwn, yr wyf wedi ei weld hefyd. Rwy'n meddwl mai’r broblem yw beth yw cyflwr y bont wreiddiol. Felly, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig y ceir arolwg priodol o’r ddwy bont, fel bod dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â’r pontydd hynny, a hefyd faint yw’r costau cynnal a chadw yn debygol o fod yn y dyfodol. Yna, bydd gennym ni well syniad o'r arian y mae angen dod o hyd iddo er mwyn gallu diddymu’r tollau.
Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith gyfarfod gydag Ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU, Chris Grayling, a dywedodd wrtho’n blwmp ac yn blaen y dylai'r tollau gael eu diddymu ac, os nad oedd Llywodraeth y DU yn barod i wneud hynny, ni ddylai wneud elw, ond yn hytrach codi cost wirioneddol y gwaith cynnal a chadw. Efallai y gallai'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru, Mark Reckless, roi yn Llyfrgell y Cynulliad ei gyfraniadau o Hansard pan fu’n rhuo yn erbyn camfanteisio ei Lywodraeth Dorïaidd y DU ar economi Cymru trwy ei gwrthodiad i ddiddymu neu ostwng tollau pont Hafren, ond rwy’n amau y gwnaiff hynny. A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i sefyll dros bobl Cymru yn wyneb Llywodraeth Dorïaidd y DU sy’n gorelwa’n llythrennol ar eu traul?
Wel, fe wnaethom awgrymu y dylem ni gymryd drosodd y gwaith o redeg y pontydd, yn amodol, wrth gwrs, ar arolwg priodol a dealltwriaeth briodol o gynnal a chadw’r pontydd hynny. Gwrthodwyd hynny. Ar y pryd, dywedwyd wrthym y byddai'r tollau’n parhau gan eu bod yn ffynhonnell o incwm i’r Adran Drafnidiaeth ei wario ar ffyrdd yn Lloegr—nid oedd ceiniog yn mynd i ddod i Gymru ar yr adeg honno. Rwy'n credu ei bod hi’n werth pwysleisio, wrth gwrs, wrth i ni edrych ar y tollau, os symudwn ni at sefyllfa lle mae'r tollau’n cael eu diddymu, neu os bydd Llywodraeth y DU ar ryw adeg yn ystyried e-dollau, y byddai hynny'n achosi traffig i gyrraedd twneli Brynglas yn gyflymach, gan ychwanegu at dagfeydd yn nhwneli Brynglas. Felly, mae angen ystyried y mater o Frynglas a mater y pontydd yn ofalus, oherwydd yr effaith y mae gostwng tollau yn ei chael ar draffig sy'n cyrraedd Casnewydd wedyn.
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
8. Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gael swyddogaeth banc seilwaith? OAQ(5)0279(FM)
Rydym ni’n ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn â sefydlu comisiwn i gynghori ar anghenion seilwaith strategol tymor hir i gefnogi fframwaith buddsoddi mwy sefydlog ar gyfer y dyfodol. Ni fydd swyddogaethau benthyca gan y corff fel y mae’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ond, wrth gwrs, bydd yna fanc datblygu’n cael ei sefydlu er mwyn bod mwy o gymorth cyllidol ar gael i fusnesau.
Yn barod y mis yma, mae Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, wedi cyhoeddi banc seilwaith i Ganada, ac mae cyn-Brif Weinidog Awstralia, Paul Keating, wedi galw am yr un peth i Awstralia. Mi oedd Hillary Clinton wedi ymgyrchu o blaid banc seilwaith, ac, er bod Trump wedi’i wrthwynebu, mae’r darpar-Arlywydd newydd ddweud ei fod am greu banc seilwaith i’r Unol Daleithiau. Onid yw hi’n bryd i ni yng Nghymru nawr gymryd y cyfle yma, yn arbennig oherwydd ein bod ni ar fin colli’r unig fanc seilwaith sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef yr EIB?
Nid yw’n glir ein bod ni’n mynd i golli’r EIB. Mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda’r EIB. Nid oes yna ddim rheswm pam na allai neb gael cyllid o’r EIB os ydyn nhw’r tu fas i’r Undeb Ewropeaidd ond, os mae’r Deyrnas Unedig tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, byddai llai o arian ar gael i’r banc. So, felly, dyna beth yw’r sefyllfa fel y mae’r banc yn dweud wrthym ni ar hyn o bryd, so, felly, byddai’n dal i fod yn agored.
Rydym ni eisiau sicrhau, wrth gwrs, bod y banc datblygu yn gallu helpu busnesau hefyd, ond, ar hyn o bryd, mae’r gwaith ar y comisiwn yn cael ei ddatblygu. Nid ydw i o blaid cael corff sydd yn hollol annibynnol, rhyw fath o gwango, ond rydym ni’n moyn sicrhau bod y comisiwn, wrth gwrs, yn rhywbeth sy’n gallu datblygu a chynllunio er mwyn cael y seilwaith gorau i Gymru yn y dyfodol.
Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y comisiwn yn ei gwneud yn eglur y byddai'r comisiwn yn gynghorol ac anstatudol, ac y byddai Gweinidogion yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau buddsoddi. Os, fel yr ydych chi newydd ei nodi, gallai esblygiad Cyllid Cymru i fanc datblygu i Gymru gynnwys rhai swyddogaethau banc seilwaith, sut gwnewch chi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a gyflwynwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o ystyried ein bod yn deall o dystiolaeth i'r pwyllgor na fydd yn cael ei rwymo gan ofynion darbodus Banc Lloegr na rheolau'r UE ar ofynion cyfalaf gan wneud rheoli risg-sensitif a risg uwch yn ofynnol?
Mae hynny'n gywir, ond rydym ni’n disgwyl i bob corff cyhoeddus gydymffurfio ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i saith nod. O ran cynnydd y banc datblygu, mae’r cynnydd hwnnw’n datblygu’n dda i sicrhau’r ardystiad cywir fel y gall y banc weithredu, ac rydym ni’n ffyddiog, wrth gwrs, ei fod ar amser.
Twf Economaidd yng Nghymoedd y De
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer twf economaidd yng nghymoedd y de? OAQ(5)0289(FM)
Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gamau i gefnogi economi gref, lewyrchus yn y Cymoedd. Mae hynny'n cynnwys cymorth busnes, cyngor a buddsoddiad mewn seilwaith digidol a thrafnidiaeth. Byddwn yn parhau i deilwra ein dull mewn ymateb i ganlyniadau tasglu’r Cymoedd.
Diolch i chi am y datganiad yna, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod â Sefydliad Bevan yn ddiweddar i drafod syniadau a strategaethau ar gyfer adfywio economaidd yn fy etholaeth i. Canolbwyntiodd rhan o'r trafodaethau hynny ar brifddinas-ranbarth Caerdydd a’r metro. Nid oes amheuaeth y bydd prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod â manteision sylweddol i ardal de Cymru, ond ceir perygl na fydd ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni yn elwa’n llawn oherwydd eu pellter o Gaerdydd, ac, mewn gwirionedd, ni allai Caerdydd ei hun ddarparu digon o swyddi ar gyfer anghenion ardaloedd y Cymoedd.
O ystyried bod poblogaeth sefydlog o tua 175,000 o fewn 20 munud o Ferthyr Tudful, mae'n groesffordd drafnidiaeth allweddol rhwng yr A470 a'r A465, a bydd yno derminws metro yn cynnig cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da ar draws y Cymoedd, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno gyda Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree bod Merthyr Tudful mewn lleoliad delfrydol i fod yn ganolbwynt twf ar gyfer Cymoedd y de-ddwyrain i weithredu fel gwrthbwys i Gaerdydd, ac y dylid ystyried hyn yn rhan annatod o strategaeth economaidd y Llywodraeth?
Ydw, mi ydwyf. Mae Merthyr mewn lle da o ran trafnidiaeth. Bydd y metro o fudd mawr iddo; mae deuoli Blaenau'r Cymoedd yn hynod bwysig i’r dref a'r cyffiniau. Gwariwyd symiau enfawr o arian Ewropeaidd—yn eironig—ar ganol y dref, wrth gwrs i gael i sefyllfa lle mae'n llawer mwy deniadol i fusnesau, ac, wrth gwrs, mae’r busnesau sydd wedi dod i'r datblygiadau y tu allan i'r dref wedi ategu canol y dref, mae'n ymddangos i mi.
Rydym ni’n gweld, wrth gwrs, swyddi yn dod i Ferthyr. Flynyddoedd lawer yn ôl, sefydlodd Llywodraeth Cymru swyddfa ym Merthyr. Rydym ni wedi gweld Tenneco, wrth gwrs, General Dynamics, Trago Mills—mae'r rhain i gyd yn arwyddion i mi bod gan Ferthyr ddyfodol gwych, a photensial helaeth i weithredu fel peiriant i yrru’r economi, nid yn unig yn y dref, ond yn y trefi a’r pentrefi cyfagos hefyd.
Prinder Meddygon Teulu
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0288(FM)[W]
Mae meddygon teulu a gofal sylfaenol yn parhau i fod yn allweddol i lwyddiant y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym ni’n parhau i ymateb i’r heriau sy’n wynebu meddygon teulu nawr ac yn y dyfodol, ac mae ymgyrch, wrth gwrs, gyda ni sydd yn marchnata Cymru fel lle braf er mwyn cael gyrfa ac, wrth gwrs, i fyw ac i weithio.
Wel, Brif Weinidog, mae’r prinder yn argyfyngus mewn ambell i ardal—nid dros Gymru i gyd, rwy’n cytuno, ond mewn ambell i ardal, megis de sir Benfro, mae yna brinder difrifol am feddygon teulu. Mae yna ymgyrch i recriwtio mwy, rwy’n derbyn hynny, ond, yn y cyfamser, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gofal sylfaenol ar gael i bawb mewn ardaloedd megis de sir Benfro drwy ddefnyddio fferyllfeydd, drwy ddefnyddio ymarferwyr nyrsio, drwy ddefnyddio dulliau eraill o gyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol?
Mae’r Aelod, wrth gwrs, yn sôn am Dewis Doeth—Choose Well—sef ymgais sydd gyda ni er mwyn sicrhau bod pobl yn mynd i’r fferyllydd yn gyntaf, wedyn at nyrs mewn meddygfa deuluol a dim ond wedyn yn mynd at feddyg teulu. Mae hynny’n hollbwysig i dynnu pwysau bant o feddygon teulu. Lle mae meddygfeydd yn cau, mae’r byrddau iechyd yn eu cymryd nhw drosodd ac mae’r gwasanaeth yn dal i fynd. Ond, mae yna gwestiwn i’r proffesiwn yn y pen draw. Mae mwy a mwy o ddoctoriaid ifanc eisiau cael cyflog ac nid prynu i mewn i bractis, ac mae hynny’n rhywbeth bydd y proffesiwn yn gorfod delio ag ef dros y blynyddoedd nesaf.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rwyf wedi dewis tri chwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn safle Tata ym Mhort Talbot? EAQ(5)0075(EI)
Gwnaf. Mae Tata Steel yn cyflogi tua 3,600 o bobl ym Mhort Talbot. Ar hyn o bryd mae Tata yn recriwtio 49 o staff asiantaeth profiadol i gymryd lle 21 o swyddi gwag yn sgil gadael naturiol a 28 o ganlyniad i ddiswyddo gwirfoddol.
Diolch am y manylion yna. Rwy’n codi hyn yn awr oherwydd bod gweithwyr dur pryderus wedi dod ataf yn ddiweddar iawn, a dweud bod y cwmni, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, yn y broses o gyflogi staff ym Mhort Talbot—er eu bod wedi dyfynnu 200 i 250 i mi. Felly, byddai'n dda pe gallem gael dadansoddiad o hynny. Rydych yn gwybod eu bod yn amlwg wedi datgan y byddai toriadau o 750 o weithwyr yn gynharach eleni. Mae'r staff yn awyddus i gael gwybod os yw’r recriwtio ychwanegol hyn yn digwydd am resymau diogelwch, gan fod llawer ohonyn nhw’n dal i bryderu am lefelau staffio diogel yn sgil y cyhoeddiadau a wnaethpwyd yn gynharach eleni. Rwyf wedi codi'r pryderon hyn gyda chi a gyda Gweinidogion eraill yn flaenorol a gwn fod llawer o hyn yn ymwneud â ffydd, fel y dywedwyd wrthym, gan yr undeb llafur a chan Tata. Ond, fel y byddwch chi’n deall, ni ddylai unrhyw beth beryglu diogelwch o dan unrhyw amgylchiadau.
Dywedasoch yn eich ateb i mi y bydd staff asiantaeth yn cael eu cyflogi. Roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi ddweud wrthyf a fydd unrhyw rai o’r rheini a fydd yn cael eu cyflogi yn gyn-weithwyr llawn amser Tata, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer ohonyn nhw’n pryderu nad ydyn nhw’n cael eu blaenoriaethu yn y broses hon sydd ar waith ar hyn o bryd gan Tata. A ydych chi’n ymwybodol o hynny? Pa drafodaethau ydych chi’n eu cael â nhw er mwyn i ni allu sicrhau bod unrhyw gyflogaeth yn yr ardal honno yn gyflogaeth gynaliadwy?
Rwyf yn cytuno’n llwyr â'r Aelod na ddylai unrhyw beth beryglu iechyd a diogelwch yn y gweithle, boed hynny yn y sector dur neu unrhyw sector arall o ran hynny. Fy nealltwriaeth i yw bod y 49 o weithwyr yn ychwanegol i'r gyfran o 750 y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mae pob un wedi ei hyfforddi ac â phasbort diogelwch. Rwyf hefyd ar ddeall bod yr undebau a'r rheolwyr wedi cytuno i'r dull recriwtio hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod recriwtio 49 o staff asiantaeth yn ymwneud mewn unrhyw ffordd â phryderon ynghylch iechyd a diogelwch ar y safle, ond, os oes gan unrhyw aelodau o'r gweithlu bryderon ynghylch iechyd a diogelwch, dylid rhoi gwybod amdanyn nhw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ymunaf â chi wrth fynegi pryderon bod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth ac mae’n rhaid i ni sicrhau y gwneir popeth i sicrhau diogelwch ein gweithwyr, yn arbennig 15 mlynedd ar ôl y ddamwain erchyll yn ffwrnais chwyth Rhif 5. Ond, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y gweithlu ei hun? Oherwydd bod cyflogi gweithwyr newydd—a gweithwyr Tata fyddan nhw, nid staff asiantaeth fydd yn cael eu cyflogi, ond gweithwyr fydd yn cael eu cyflogi fel—drwy gytundeb rhwng yr undebau llafur a’r rheolwyr sy’n dangos bod lefel y cynhyrchu sydd wedi'i gyflawni oherwydd y bont yn llwyddo mewn gwirionedd a bod y gwaith mewn gwirionedd yn mynd o nerth i nerth?
Gwnaf, ymunaf â'r Aelod wrth groesawu recriwtio 49 o weithwyr ychwanegol, sy'n cefnogi’r gwaith cynhyrchu. Rwy'n credu y bydd hyn yn anfon neges bod y bont yn sicr wedi gweithio, yn gweithio, a bod y sector dur yng Nghymru mewn sefyllfa gymharol gref o gymharu â lle yr oedd ym mis Ionawr eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a phob cwmni dur yng Nghymru i sicrhau bod gan y sector ddyfodol llewyrchus.
Tybed a allwch chi egluro hyn, oherwydd nid wyf yn credu eich bod mewn gwirionedd wedi ateb y cwestiwn y gofynnodd Bethan Jenkins i chi mewn modd yr wyf i’n ei ddeall. Ai staff asiantaeth yw'r rhain ai peidio? Oherwydd ymddengys bod David Rees yn awgrymu nad dyna ydyn nhw. Yn eich ateb gwreiddiol i ni, fe wnaethoch awgrymu mai dyna oedden nhw. Efallai mai staff asiantaeth ydyn nhw, ond efallai mai cyn-weithwyr Tata ydyn nhw. A allwch chi egluro hynny? Os nad cyn-weithwyr Tata ydyn nhw, a allwch chi ddweud wrthyf beth y mae’r tasglu wedi ei wneud—yn amlwg, rhan o'i waith yw ymdrin â chyflogaeth—i sicrhau mai dewis cyntaf Tata yw ei gyn-weithwyr bob tro, pan fo hynny'n berthnasol? A allwch chi ddweud wrthyf hefyd, os bydd buddsoddiad o $500 miliwn yn y gwaith dur, fel yr awgrymir ar hyn o bryd, a yw’r cyfnod hwn o gyflogaeth, neu a yw’r gweithwyr hyn, yn rhan o gynllun mwy strategol gan Tata i gyflogi rhagor o staff, neu ai yw hyn ddim ond yn ateb angen dros dro o ryw fath i lenwi rhai o’r swyddi sydd wedi diflannu?
Rwyf i ar ddeall mai strategol yw hyn, ac roedd bai arnaf am beidio â rhoi rhagor o fanylion i Bethan Jenkins o ran y cwestiwn ynglŷn â’r gweithwyr asiantaeth. Staff Tata yw’r rhain—cyn-staff Tata—sydd wedi eu diswyddo. Maen nhw’n cael eu tynnu yn ôl i weithio, ac rwy'n sicr bod hynny yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu'r cyfryngau yn adrodd bod Tata yn bwriadu buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith ym Mhort Talbot o oddeutu £0.5 biliwn. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael â Tata ynghylch eu cynlluniau buddsoddi? A wyddoch chi pa un a ydynt yn bwriadu ail-leinio'r ffwrneisi chwyth neu gyflwyno ffwrneisi arc i safle Port Talbot? Diolch.
Rydym yn parhau i drafod â Tata ynglŷn â’r safleoedd dur yng Nghymru, ond ni allaf roi unrhyw fanylion am y prosiectau hyn oherwydd bod y trafodaethau yn parhau ac yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Ond, rwyf yn gobeithio bod mewn sefyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud cyhoeddiad.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Galwaf ar Eluned Morgan i ofyn yr ail gwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr opsiynau a gyflwynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i leihau gwasanaethau paediatrig dros dro yn Ysbyty Llwynhelyg? EAQ(5)0077(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus ar 24 Tachwedd, bydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ystyried dewisiadau ar gyfer newidiadau dros dro i oriau agor yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Mater gweithredol i'r bwrdd iechyd yw hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch chi’n ymwybodol iawn o bryderon y trigolion yn Sir Benfro o ran y newidiadau i’r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu yno. Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn trafod cyfres o ddewisiadau ddydd Iau sy'n ceisio lleihau oriau agor yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg oherwydd anawsterau recriwtio. Mae cau'r uned bediatrig yn llwyr ymhlith y gyfres o ddewisiadau, a fyddai'n gwbl annerbyniol i mi ac i'r bobl yr wyf i’n eu cynrychioli.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ofyn i'r bwrdd iechyd, fel yr wyf i wedi ei wneud, sut y bydd mam sengl sy'n byw yn Abergwaun gyda thri o blant ac un ohonynt yn sâl, heb unrhyw gludiant ac sydd ar incwm isel, yn mynd i gyrraedd Glangwili yng Nghaerfyrddin ac yn ôl ar ôl 6 o'r gloch y nos. Gall y rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans ddisgwyl talu tua £100 mewn tacsi i fynd adref neu wynebu taith pedair awr ar gludiant cyhoeddus. A wnewch chi bwyso ar y bwrdd iechyd ar y mater cludiant hwn rhwng yr ysbyty a’r cartref yn ystod y cyfnod cau dros dro hwn os gwelwch yn dda? A wnewch chi ofyn i'r bwrdd iechyd sicrhau bod yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i asesu'r holl gleifion, waeth beth fo'u hoedran? A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi’r broses o recriwtio i swyddi sydd eu hangen ar frys yn yr uned bediatrig yn Hwlffordd? Yn olaf, a wnewch chi ofyn i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd pendant mai sefyllfa dros dro yn unig yw hon?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau dilynol. O ran eich pwynt cyntaf, y gwnaethoch yn gynharach, hefyd, ynglŷn â’r posibilrwydd o gau yn llwyr, nid dyna'r dewis a fwriedir. Rwyf wedi gweld mai’r dewis a argymhellir, mewn gwirionedd, yw lleihau nifer yr oriau am gyfnod dros dro, cyn dychwelyd i uned triniaethau dydd 12 awr, gyda chymorth meddygon ymgynghorol yn ogystal ar rota o Glangwili. Rwy'n glir mai dyna yw’r dewis a ffefrir ganddyn nhw, a byddaf i fy hun yn holi’r bwrdd iechyd i sicrhau mai dyna'r dewis y maen nhw’n ei fwriadu—lleihau oriau dros dro a chynllun i ddychwelyd i'r gwasanaeth blaenorol.
Yn wir, rwy’n hapus i roi sicrwydd i chi am y pwynt fy mod i’n disgwyl i bob ysbyty ag uned damweiniau ac achosion brys gynnal asesiad priodol o bob claf a ddaw drwy'r drws a deall ble yw'r man mwyaf priodol ar gyfer y cam nesaf o’r gofal. Mae'n bosibl y gellir eu gweld, eu trin a'u rhyddhau ar yr adeg honno, efallai y bydd angen gofal pellach arnyn nhw yn y lleoliad hwnnw neu yn rhywle gwahanol, ac rwyf yn disgwyl i hynny barhau i fod yn wir.
Credaf mai’r pwynt cyntaf, fodd bynnag, yw bod hyn oherwydd heriau recriwtio. Dyma’r gwirionedd real ac anochel—os nad ydych chi’n gallu recriwtio'r staff, ni allwch ddarparu gwasanaeth diogel. Felly, rwy'n falch eu bod wedi gwneud rhywfaint o recriwtio. Maen nhw’n cynnal cyfweliadau pellach, ac mae'n wirioneddol bwysig bod hynny'n llwyddiannus. A dweud y gwir, mae gan bob un ohonom ni waith i'w wneud i gefnogi'r bwrdd iechyd i’w wneud yn lle deniadol i ddod i weithio iddo, gyda model o ofal y mae meddygon ymgynghorol yn awyddus i weithio ynddo, lle mae meddygon gradd ganol yn awyddus i weithio, a lle mae hyfforddeion eisiau bod yn rhan o'r amgylchedd gwaith hefyd, gyda chymorth grŵp o staff nyrsio sydd â rhagor o sgiliau i wneud mwy nag y gallai nyrsys ei wneud yn y gorffennol. Bydd ymarferwyr nyrsio pediatrig Uwch yn rhan o ddyfodol gofal yn y rhan hon o Gymru a gweddill Cymru. Ac rwy’n hapus i ddangos fy mod i’n disgwyl i'r bwrdd iechyd ymdrin yn briodol â materion cludiant hefyd. Rwy’n deall ei fod yn bryder gwirioneddol iawn, nid dim ond yn y gorllewin, ond mewn rhannau eraill o'r wlad hefyd, bod angen i fynediad, mynediad ffisegol at wasanaethau, fod ar gael hefyd. Felly, rwy'n falch o weld eich bod wedi dod â’r mater hwn yn uniongyrchol i sylw’r bwrdd iechyd a byddaf yn hapus i gysylltu â nhw wedyn i sicrhau y byddwch yn cael ateb i’ch cwestiynau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, gwnaethoch chi’n glir yn y Siambr hon, ac yr wyf yn dyfynnu,
mae teuluoedd lleol yn cael eu sicrhau y gallant barhau i gael gafael ar wasanaethau fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd ac nad oes angen iddyn nhw wneud newidiadau i’r modd y maen nhw’n cael gafael ar ofal.’
Wel, nid yw’n edrych fel petai hynny'n wir yn y tymor byr, pe byddai’r newidiadau hyn yn mynd yn eu blaenau. Unwaith eto, bydd pobl Sir Benfro yn gweld mwy a mwy o wasanaethau yn cael eu tynnu oddi ar eu hysbyty lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn synnu fy mod i’n credu bod teuluoedd yn Sir Benfro yn haeddu uned baediatreg llawn amser yn eu hysbyty lleol. Nawr, fe wnaethoch ei gwneud yn glir bythefnos yn ôl na fyddai'n ddoeth ceisio adfer gwasanaeth triniaethau dydd pediatrig 24 awr, ond does bosib, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych chi’n cefnogi o ddifrif unrhyw newidiadau a fydd yn arwain at wasanaeth nad yw ond ar agor yn ystod oriau swyddfa. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i ni heddiw y bydd y newidiadau hyn, os byddan nhw’n mynd yn eu blaenau, yn rhai dros dro yn unig?
Nawr, fel y gwyddom, Llywodraeth Cymru flaenorol gymeradwyodd y lleihad i’r gwasanaeth pediatrig llawn amser yn ysbyty Llwynhelyg yn y lle cyntaf. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi y gallai lleihau gwasanaethau mewn ysbyty effeithio ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hynny sy’n dal yno? Felly, a allwch chi roi sicrwydd cwbl bendant na fydd unrhyw effaith ar gynaliadwyedd y gwasanaethau eraill, ac a ydych chi hefyd yn cytuno â mi bod angen ymyrryd ar frys nawr i ddiogelu’r gwasanaethau eraill hynny? Ac yn olaf, Lywydd, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi ei gwneud yn glir bod unrhyw benderfyniadau a wnaed ynghylch Ysbyty Llwynhelyg wedi eu seilio ar gyngor arbenigol. Fel y gwyddoch, mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, sydd hefyd yn arbenigwyr, wedi cymeradwyo adroddiad y GIG yn Lloegr sy'n datgan,
Mae'n rhaid i ysbytai sy'n darparu gofal brys i blant fod â chyfleusterau pediatrig cynhwysfawr, gwasanaeth pediatrig ddydd a nos bob dydd o’r wythnos a nyrsio pediatrig a chymorth anestheteg.
Yn sgil y sylwadau hynny, a fyddwch chi bellach yn newid polisi eich Llywodraeth a cheisio adfer gwasanaethau pediatrig llawn amser yn ysbyty Llwynhelyg?
Rwy'n hapus i’ch sicrhau nad oes angen i deuluoedd lleol newid eu modd o gael gafael ar ofal. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn ateb cwestiwn Eluned Morgan, ac yn arbennig y pwynt am gludiant a chael gafael ar ofal, ac, yn wir, os oes angen i blentyn gael ei gludo i rywle gwahanol i gael gofal, dylai’r bwrdd iechyd, ynghyd ag ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru, sicrhau bod y trefniadau hynny ar gael—a bod y potensial hwnnw wedi’i gynllunio, yn hytrach nag aros i sefyllfa godi nad yw wedi ei rhagweld.
Rwyf yn hapus i ailadrodd y pwynt a wnaeth Eluned Morgan eto: mai newid dros dro a gynlluniwyd yw hwn mewn ymateb i anallu i recriwtio yn y tymor byr, gyda recriwtio pellach wedi’i gynllunio. Nid wyf yn derbyn nac yn cydnabod eich pwynt bod angen ymyrryd ar frys i ddiogelu gwasanaethau eraill. Mae ceisio ehangu hyn a lledu rhagor o ddrwgdybiaeth ac ofn am ddyfodol y gwasanaethau hynny yn anghyfrifol iawn yn fy marn i. Wrth sôn am weithredu ar gyngor arbenigol, byddwch chi wrth gwrs yn gwybod, mewn llawer o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, bod cymorth pediatrig yn cael ei ddarparu gan staff nyrsio arbenigol sydd â’r cymwysterau priodol ac sy’n darparu cymorth i adrannau damweiniau ac achosion brys i barhau; nid yw hynny’n fodel gwasanaeth anarferol.
Yn wir, rydym yn dychwelyd i graidd argymhellion y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant am beth yw gwasanaeth priodol a beth yw'r gwasanaeth gorau posibl i’w ddarparu yn y rhan hon o Gymru. Ac yn wir, mae’r argymhellion hynny yn yr adolygiad hwnnw yn dangos nad yw’r model blaenorol yn ddiogel, nac yn gynaliadwy ac nad yw’r peth iawn i wneud i gleifion. Ailadroddaf: Rwyf yn cael fy arwain gan gyngor arbenigol yn y maes hwn, gan bobl sy'n deall yr angen i gynnal y gwasanaethau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol, gan bobl sydd wedi cynnal y gwasanaethau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn mannau gofal iechyd sylweddol wledig, ac ni fyddaf yn dychwelyd i system y dywed y cyngor arbenigol hwnnw y byddai'n wasanaeth gwaeth a fyddai’n cyflawni canlyniadau gwaeth i bobl Sir Benfro; credaf eu bod yn haeddu llawer gwell na hynny.
A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet cystal â dweud pa ran o'r adolygiad y mae newydd gyfeirio ato sy’n dweud y byddai lleihad i wasanaeth oriau swyddfa, sy’n cau am chwech o'r gloch yn dderbyniol, oherwydd nid wyf yn cofio hynny yn yr adolygiad o gwbl? Dywedwch wrthym os mai dyna sy’n wir. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o’ch penderfyniad—penderfyniad eich Llywodraeth—i gymeradwyo cau’r gwasanaeth pediatrig 24 awr ar anallu presennol Hywel Dda i recriwtio, i wasanaeth pediatrig 12 awr—ac sy’n lleihau? Mae’n rhaid bod cysylltiad, oherwydd bod y meddygon ymgynghorol gorau eisiau gweithio yn y gwasanaeth 24 awr, lle bydd cymorth ar gael iddynt, a byddan nhw’n gweld hynny yn rhan o'r gefnogaeth. Pan godwyd hyn ddiwethaf, gofynnais i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai gennych chi ffydd, fel rhiant, yn y gwasanaethau a ddarparwyd yn Ysbyty Llwynhelyg o dan yr hen drefn. O ran y cau newydd arfaethedig, ni allaf i, yn sicr, sefyll a chefnogi hyn, a gofynnaf i chi weithredu.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud. Nawr, rwyf am ddychwelyd at y ffaith ein bod yn sôn am y dewisiadau ar gyfer newid dros dro i'r gwasanaeth, a dyna'r pwynt. Nid yw ceisio trafod hyn fel pe byddai wedi’i benderfynu ar gyfer dyfodol hirdymor y gwasanaeth, yn syml, yn cynrychioli’r sefyllfa. Nid dyna, yn syml, beth y mae'r bwrdd iechyd yn cynnig ei wneud. Ac mae’n bwysig iawn bod Aelodau unrhyw blaid a phob plaid wleidyddol yn ymddwyn mewn modd cyfrifol am ddewisiadau pwysig iawn i deuluoedd yn ardal Sir Benfro. Ac felly, newid dros dro yw hynny.
Yr uchelgais hirdymor yw cael gwasanaeth 12 awr am saith diwrnod yr wythnos, wedi’i staffio yn briodol a’i gefnogi, yn y gymuned a gan feddygon ymgynghorol, yn y ffordd y mae'r rota yn gweithio—unwaith eto, trwy ddilyn y cyngor arbenigol gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Mewn gwirionedd, os ydych chi’n darllen papurau’r bwrdd, ac os ydych chi’n darllen yr adolygiad blaenorol, maen nhw’n dangos, mewn gwirionedd, y byddai peidio â newid y model gwasanaeth yn ei gwneud yn fwy anodd recriwtio, gan olygu bod y gwasanaeth yn fwy bregus ac y byddai'n cyflawni canlyniadau gwaeth. Ac, yn wir, mae peidio â chyflawni’r newidiadau hyn yn golygu, mewn gwirionedd, y bydd y gallu i hyfforddi yn cael ei beryglu hefyd. Rhan o'r cwynion sydd gan hyfforddeion ar hyn o bryd yw nad oes digon o waith iddyn nhw wneud eu hyfforddiant yn briodol ac yn gywir.
Felly, mae pwynt gwirioneddol yma am hyfforddiant o ansawdd uchel, ond hefyd gwasanaeth sy’n darparu’r canlyniadau gorau mewn gwirionedd, wedi’u seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor gorau. A byddaf yn cefnogi pob bwrdd iechyd yng Nghymru mewn darparu gofal iechyd ar y sail honno, i gyflawni'r canlyniadau iawn i bobl ym mhob rhan unigol o'r wlad.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf—neu byddwn i’n gobeithio nad oes unrhyw un yn yr ystafell hon a fyddai'n derbyn penderfyniad y bwrdd iechyd i gymryd y camau priodol yn yr achos hwn. Oherwydd yn yr achos hwn, fel y mae pethau ar hyn o bryd ar lawr gwlad, ymddengys, yn anffodus, y gallai diogelwch cleifion, sy’n gorfod bod y flaenoriaeth fwyaf, fod mewn perygl. A hynny, yn syml, yn sgil y problemau recriwtio y mae nifer o bobl wedi eu crybwyll y prynhawn yma.
Felly, dyma fy nghwestiwn: Rwyf eisiau gwybod a fu sgwrs—rwyf innau yn sicr wedi ysgrifennu at Hywel Dda, ac wedi siarad â nhw—am recriwtio’r meddyg ymgynghorol pediatrig hwnnw i'r uned triniaethau dydd pediatrig. Ond rwy’n credu hefyd bod darlun ehangach y mae angen mynd i'r afael ag ef yma, ac rydych wedi cyfeirio ychydig ato, a hwnnw yw’r gofal sy'n digwydd yn y gymuned, oherwydd mae llawer iawn o'r plant sy'n cael mynediad at ofal yn ysbyty Llwynhelyg yn blant sydd angen gofal hirdymor. Ac, yn aml iawn, rheoli argyfwng eu cyflwr hirdymor sy'n arwain atyn nhw’n cyrraedd ysbyty Llwynhelyg mewn modd anamserol ac annisgwyl. Rwy’n cofio, pan oeddem ni’n dau yn yr uned bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg, bod sôn am symud ymlaen i gyflenwi'r gofal hwnnw, yn aml iawn yng nghartrefi’r plant hynny, fel nad oes angen iddyn nhw deithio o gwbl. Felly, rwy’n credu bod angen i ni ehangu'r drafodaeth. Rwy’n credo bod pobl yn pryderu’n fawr, ac yn bennaf rhieni'r plant yr wyf newydd eu disgrifio yw’r rhain. Felly, os oes gennych chi unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny, byddwn i’n ddiolchgar iawn.
Diolch i chi am y pwyntiau a wnaed. Ac, unwaith eto, rwy’n cydnabod ac yn cofio yr un sgwrs am wella'r gwasanaeth cymunedol ym maes pediatreg, i sicrhau bod gofal plant yn cael ei ragweld a'i reoli’n briodol. Mae'n llawer gwell i deuluoedd ac yn llawer gwell i'r plentyn i sicrhau, lle bynnag y rhoddir y gofal hwnnw, ei fod yn cael ei roi mewn modd a gynllunnir cyn belled ag y mae hynny’n bosibl. Ac mae’n rhaid i hynny fod yn gyfeiriad y daith, nid yn unig yn Sir Benfro, ond ledled y wlad, mewn lleoliadau gwledig eraill, ond hefyd mewn lleoliadau trefol ac yn y Cymoedd. Dyma’r peth iawn, mewn gwirionedd, i'w wneud ar gyfer y plentyn yn y cyd-destun cyfan hwnnw.
Rwy’n hapus i ddychwelyd at y pwynt am recriwtio. Newid dros dro a gynlluniwyd yw hwn, mewn ymateb i fethu â recriwtio, ac mae cyfweliadau yn cael eu trefnu ddechrau mis Ionawr i geisio llenwi'r swyddi gwag penodol. Ac rwy’n credu eich bod yn iawn i’n hatgoffa ni i gyd mai’r peth gwaethaf y gall y bwrdd iechyd ei wneud yw peidio â gweithredu yn wyneb prinder staffio. Byddai hynny'n golygu rhedeg mewn diffyg—byddai’n golygu cynnal gwasanaeth lle nad wyf i’n credu y gallai nac y dylai gweithwyr proffesiynol unigol fod â sicrwydd, neu hyd yn oed y bwrdd iechyd fod â sicrwydd, eu bod yn darparu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu mewn gwirionedd. Felly, mae angen gweithredu. Rwy'n falch bod y bwrdd iechyd yn gweithredu, o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw a’u dewis am beth i'w wneud gyda'r gwasanaeth yn awr, ond hefyd yn y dyfodol tymor hwy, yn y gymuned ac yn lleoliad yr ysbyty hefyd.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod pryder cyffredinol ar draws rhaniad y pleidiau yn y Cynulliad hwn ynglŷn â’r sefyllfa anffodus hon. Ac mae hyn yn codi oherwydd ei fod yn cyd-amseru ag ymddeoliad meddyg ymgynghorol pediatrig yn Sir Benfro ac absenoldeb un arall ar gyfnod mamolaeth. Does bosib nad yw’n rhesymol rhagweld ymddeoliad un meddyg ymgynghorol pediatrig, a dylid bod gwneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer y sefyllfa hon. Mae llawer o bobl yn Sir Benfro sy'n credu bod hyn yn rhan o gynllun hirdymor i gau’r gwasanaethau hyn, oherwydd, dair blynedd yn ôl, lleihawyd y gwasanaeth o 24 awr i 12 awr—nawr mae wedi ei leihau i wyth awr. Newid dros dro, yn ôl pob golwg, yw hyn, ond pwy a ŵyr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sicrwydd petrus ni, ond ar y llaw arall wedi dweud nad ei gyfrifoldeb na’i benderfyniad ef yw hwn mewn gwirionedd—cyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol ydyw. Dyma fwrdd sydd mewn categori ymyrraeth wedi’i thargedu. Pam nad yw'r Ysgrifennydd Iechyd yn targedu ei ymyrraeth ar yr angen dybryd iawn hwn, a fydd yn effeithio, yn arbennig, ar bobl yng ngogledd Sir Benfro a gorllewin Sir Benfro, oherwydd mae Glangwili yn ffordd bell iawn i fynd, yn enwedig yn hwyr yn y nos?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae wedi eu gwneud, sydd i raddau helaeth yn ailddatgan y pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill o ran y cwestiynau. Rwy'n hapus i nodi unwaith eto bod y bwrdd iechyd yn nodi mai eu dewis nhw yw cael newid dros dro yn y gwasanaeth i adlewyrchu'r ffaith nad ydyn nhw’n gallu darparu meddygon ymgynghorol drwy’r amser er mwyn gallu darparu’r model gofal yn ddiogel i blant a'u teuluoedd. Mae'n bwysig i mi, fel yr wyf yn disgwyl y bydd i bawb arall yn y Siambr hon, y caiff y gwasanaeth ei ddarparu mewn modd sy'n briodol o ddiogel, ac nad ydym yn cymryd risgiau gyda phlant a'u teuluoedd yn y modd y darperir gofal. Rwy’n disgwyl i'r bwrdd iechyd gadw at ei ymrwymiad i ddychwelyd i wasanaeth 12 awr. Rwy’n disgwyl i'r bwrdd iechyd gadw at ei ymrwymiadau i wneud pob ymdrech resymol i recriwtio pobl i’r gwasanaeth hwn, ac i reoli a cheisio cynllunio yn briodol ar gyfer absenoldebau ac ymddeoliadau staff a ragwelir. Gwyddom fod hwn yn faes lle y ceir pwysau arbennig ledled y Deyrnas Unedig, ond mae'n her y bydd angen i’r bwrdd iechyd hwn ac eraill ei rheoli.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
Rwyf nawr yn galw ar Russell George i ofyn y trydydd cwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i symleiddio byrddau cynghori economaidd Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0076(EI)
Gwnaf. Rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod i’n gweithio ar adnewyddu blaenoriaethau economaidd yn rhan o waith ehangach. Rwy’n ystyried yr amrywiaeth o baneli, cyrff a grwpiau sy'n rhoi cyngor i mi.
Diolchaf i'r Llywydd am dderbyn y cwestiwn brys, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ymddengys bod hyn yn newid sylweddol i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyngor ac yn gwneud penderfyniadau o ran datblygu economaidd. Felly, efallai y gallech chi amlinellu pam y rhyddhawyd hyn, neu yr adroddwyd arno yn y cyfryngau, cyn ei fod ar gael i Aelodau'r Cynulliad mewn datganiad.
Nawr, mae Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi siarad â pharch mawr am y model ymgynghorol, a oedd yn cynnwys naw o wahanol baneli a 40 o wahanol sefydliadau, ac a oedd, wrth gwrs, yn llywio proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Rydych yn awr wedi amlinellu dull gwahanol y byddwch chi’n ei ddefnyddio. A ydych chi o’r farn bod y model blaenorol yn aneffeithiol? Beth yw eich barn ar hynny?
Dywedodd yr Athro Brian Morgan ei hun, a oedd yn eistedd ar nifer o’r paneli hyn, mai dipyn o siop siarad oedden nhw, rhai o'r byrddau cynghori yn y gorffennol. Tybed a ydych chi’n cytuno â hynny. Gwnaeth ddyfyniad bod y model ymgynghorol beichus hwn, nad oes ganddo’r adnoddau digonol, wedi rhwystro gallu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ymatebol, ac, felly, ei fod wedi cael effaith andwyol ar economi Cymru. Byddwn i’n gwerthfawrogi eich barn ar ei safbwynt, ac os ydych chi’n cytuno, a ydych chi o’r farn y dylech chi edrych ar benderfyniadau a wnaed yn y gorffennol o ganlyniad i dderbyn y cyngor hwnnw?
Ac yn olaf, sut bydd y model newydd yn llywio'r strategaeth economaidd newydd yr ydych chi yn ei datblygu?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud nad yw o reidrwydd yn un brys, y cwestiwn hwn, oherwydd ei fod yn rhan o'r broses honno o ymgynghori ar strategaeth economaidd newydd, strategaeth i wneud Cymru yn fwy llewyrchus a diogel—gwaith sy'n cael ei wneud, gwaith sydd wedi bod yn cael ei wneud yn ystod yr haf a'r hydref, drwy'r gaeaf ac ymlaen i'r gwanwyn, felly, o ganlyniad i hyn, mae hwn yn waith parhaus. Nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi ei wneud, nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud. Mae hyn yn rhan o ymgynghoriad agored, yr wyf wedi gwahodd yr Aelodau gyferbyn i gymryd rhan ynddo, ac felly, fel y dywedaf eto, nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ar ffurf na siâp y paneli na'r byrddau ymgynghorol a fydd yn cael eu hymgynnull. Ond rwy’n croesawu'n fawr iawn y cyfraniad y mae pobl fel yr Athro Morgan wedi ei wneud. Maen nhw’n cydnabod—yn union fel y mae llawer o fusnesau wedi siarad â mi am hyn—bod angen symleiddio faint o gyngor a nifer y byrddau a’r prosesau y gall busnesau ac arbenigwyr roi cyngor arbenigol i mi drwyddynt.
Ar hyn o bryd, mae rhyw 50 o baneli a byrddau yn cynnig cyngor ac arweiniad. Mae hynny'n ddefnyddiol mewn sawl ffordd, ond rwy’n credu, fel y mae’r Athro Morgan wedi’i amlinellu, bod angen i ni sicrhau bod yr amser a'r adnoddau y mae arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn eu buddsoddi mewn rhoi cyngor i mi yn cael eu defnyddio yn effeithiol ac fy mod i’n gallu tynnu ar yr holl gyngor hwnnw. Ar hyn o bryd, yn syml, mae gormod o fyrddau a phaneli yn bodoli. Mae llawer wedi eu sefydlu ar sail gorchwyl a gorffen. Dylid dirwyn rhai i ben efallai o ganlyniad i hynny. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rydym ni’n ymgynghori'n eang â'r gymdeithas gyfan, ac rwyf yn gwahodd yr Aelod i gymryd rhan os yw’n teimlo ei fod yn dymuno gwneud hynny.
Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur yn mynd trwy’r cyfnodau hyn pan ei bod yn diddymu cyrff y mae wedi eu sefydlu ac wedyn yn ceisio hawlio'r clod am hynny. Mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni alw hyn yn goelcerth fach y cwangos bach. Ond rwyf yn cydymdeimlo rhywfaint ag ef. Nid wyf i’n aml yn dwdlo yn y Siambr—rwy’n addo i chi—ond ceisiais i wneud organogram bach o’i adran—stopiais ar tua 42—gyda'r holl linellau dotiog, wrth gwrs, yn ymateb iddo ef. Hyd yn oed wrth gwrdd unwaith yr wythnos, byddech chi’n treulio eich amser i gyd yn cael cyngor, ac mae'n anodd iawn gwahanu'r signal o’r sŵn yn y cyd-destun hwnnw. Felly, rwyf i’n cydymdeimlo â'r cynnig i symleiddio, ond a gaf i ofyn iddo ganolbwyntio, yn hollbwysig, nid yn unig ar yr hyn y byddwch yn cael gwared arno, ond yr hyn a fydd yn cymryd ei le? Ac oni fyddai'n well, fel yr oedd yr Athro Morgan yn awgrymu, cael llai o gyrff mwy o faint, sydd â gwell adnoddau, ac yn fwy arbenigol sy’n darparu'r cyfeiriad strategol y mae economi Cymru ei angen mewn gwirionedd?
Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau. Rwy'n falch ei fod yn croesawu'r gwaith yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd sy’n edrych ar dirwedd gyfan y byrddau ymgynghorol. Mae'n helaeth ac rwyf innau wedi llunio diagramau tebyg i ddeall yn union faint o fyrddau a chyrff sydd gennym. Nid ydym wedi cyrraedd penderfyniad terfynol hyd yma o ran y byrddau a fydd yn cael eu creu, ond byddwn i’n cytuno bod angen llai o fyrddau a grwpiau ymgynghorol, sy’n gryfach ac sy'n gallu rhoi cyngor i mi mewn modd amserol, a hefyd gwneud y defnydd gorau o amser yr arbenigwyr sydd ar y byrddau hynny mewn gwirionedd.
Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb i'r cwestiwn brys.
Eitem 2 ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar adolygiad Diamond o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru at agenda heddiw. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau’r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel a ddangosir ar y cyhoeddiad datganiad busnes, sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r sefyllfa yr oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ynddi ddydd Sul? Rwy’n gwerthfawrogi bod y pwysau hyn yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac rwy’n gwerthfawrogi bod mwy o bwysau ar adegau penodol o'r flwyddyn, ond pan fo gennych chi barafeddyg yn dweud bod y digwyddiad arbennig hwn wedi’i wthio i’r eithaf a’i fod
yn llwyr fwriadu chwilio am waith arall gan fy mod wedi dod i’r pen yn feddyliol,
dylai hynny wir beri i larymau rhybudd ganu yn uchel ym Mharc Cathays ac, yn wir, yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am ddarparu’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac yn amlwg yr ymddiriedolaeth ambiwlans, yr oedd 12 o’u cerbydau wedi’u parcio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys brynhawn Sul. Nid wyf yn ceisio dweud nad yw hyn yn digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, ond hon yw’r adran Damweiniau ac Achosion Brys fwyaf yng Nghymru, a phan fo gennych chi 12 o ambiwlansys a phan fo gennych chi barafeddygon a staff ambiwlans yn cael eu dyfynnu yn y wasg yn dweud eu bod dan straen meddyliol oherwydd y profiad y maen nhw’n mynd drwyddo, mae hyn wir yn galw am i Lywodraeth Cymru weithredu ac, yn arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r cyfnodau prysur hyn o ran galw, fel nad yw pobl yn teimlo wrth iddynt fynd i’r gwaith, eu bod wedi dod i’r pen yn feddyliol.
Fel yr ydych chi’n dweud, mae pwysau sylweddol ledled y DU o ran galwadau ar ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r effaith y mae hynny’n ei gael ar y gwasanaethau ambiwlans. Ond fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac fel y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, mae gennym ni gynlluniau ar gyfer galw uwch. Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar gyfer galw uwch a chânt eu defnyddio pan fo’r galw yn cynyddu, yn enwedig pan fo galw sy’n uwch na'r lefelau disgwyliedig. Ac fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb i'r cynnydd hwn mewn galw gan ddefnyddio’r cynlluniau hynny, yn unol â'i statws lefel 4. Mi wnaethon nhw ymdopi, wrth gwrs, drwy’r dydd yn unol â chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd. Roedd pwysau eithriadol ddydd Sul. Yn bwysig, roedd nifer y rhai a ddaeth yno draean yn uwch ddydd Sul na'r diwrnod cynt. Roedd hyn yn golygu bod angen cael amrywiaeth ehangach o gamau gweithredu i gefnogi cleifion ac aelodau staff rheng flaen. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod ar statws lefel 4, ond ar ôl i hyn leihau bydd ei statws yn gostwng. Ond byddwn yn dweud hefyd, yn olaf, er gwaethaf y pwysau, bod cyfraddau ymateb ambiwlansys yn ardal Caerdydd ar gyfer galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 80 y cant ddydd Sul, ac roedd hyn yn cynnwys 20 mewn un awr o ran ambiwlansys yn cyrraedd. Mae'n rhaid i ni dalu teyrnged i'r aelodau staff sydd, wrth gwrs, yn rheoli'r pwysau hyn.
Bu honiadau bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cynnal cystadleuaeth ffug am gontract gwerth £3 biliwn i’w chyflenwi â cherbydau arfog. Honnir bod y broses wedi’i gwyro o blaid y cwmni Almaenig Rheinmetall, a’i gerbyd Boxer, a fydd yn costio hyd at 40 y cant yn fwy na'r dewis arall o Gymru a gaiff ei adeiladu yng Ngwent. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu, yn wir, y Prif Weinidog, i glywed pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r broses hon, a’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau chwarae teg i bawb yn yr achos penodol hwn?
Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig ynglŷn â’n perthynas o ran pwerau a chyfrifoldebau ar gyfer caffael, yn ymwneud â’r contract â’r Weinyddiaeth Amddiffyn y byddwn ni, wrth gwrs, yn ceisio dylanwadu arno o fewn y cyfrifoldebau a'r pwerau sydd gennym ni, i wneud yn siŵr fod pob chwarae teg yn cael ei sicrhau mewn gwirionedd. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei nodi o ran y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei godi y prynhawn yma.
Rydym ni i gyd yn cydymdeimlo â phawb yr effeithwyd arnynt gan y llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr, ac mewn ardaloedd ar dir is yn Heol-y-Cyw, Pencoed ac mewn mannau eraill. Ac rydym ni’n diolch ac yn canmol pawb sydd wedi helpu i ymateb i'r argyfwng a’r glanhau, sy’n parhau.
Mae llawer o hyn o ganlyniad i lifogydd sydyn, sy'n ddigwyddiad yn fwy rheolaidd erbyn hyn, gan fod ein patrymau tywydd yn newid o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Mae'n effeithio ar ardaloedd nad ystyriwyd eu bod yn agored i lifogydd mynych o'r blaen, ond rwyf wedi cwrdd â thrigolion y mae hyn y trydydd digwyddiad o lifogydd mewn degawd iddynt, gan achosi problemau o ran yswiriant anfforddiadwy, yn ogystal â gofid a dinistr uniongyrchol ynghylch eu cartrefi a’u heiddo wedi’u difetha gan ddŵr llifogydd, mwd a llanast. A wnaiff y rheolwr busnes ofyn am ddatganiad ar wrthsefyll llifogydd—ac rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet yma ac mae hi’n ymwybodol iawn o hyn—fel y gallwn archwilio beth arall y gellir ei wneud ar lefel cymunedol, ar lefel y stryd ac ar lefel yr aelwyd i allu gwrthsefyll y digwyddiadau llifogydd hyn yn well? Ac a gawn ni gynnwys o fewn y datganiad hwnnw, yr angen i ddatblygu rhagor o fforymau llifogydd lleol, fel bod pobl leol yn rhan o'r ateb i’r digwyddiadau cynyddol ysgytiol hyn o lifogydd afon a dŵr arwyneb sy’n gynyddol reolaidd?
Mae Huw Irranca-Davies yn codi pwynt pwysig, a hoffwn innau ychwanegu fy niolch i'r gwasanaethau a ddaeth allan i gefnogi etholwyr yn fy ardal i a oedd yn dioddef llifogydd, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr hefyd, megis Cymdeithas Achub Caerdydd a'r Fro, a chwaraeodd eu rhan hefyd. Lluniwyd y datganiad ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, a bydd hi’n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad hwn. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os edrychwch chi ar y datganiad ysgrifenedig, i gymryd sylw o’r llinell rhybuddion llifogydd—rwyf am ddweud er mwyn y cofnod, mai’r rhif yw 0345 9881188—a'r ffaith bod rhagor o ymchwiliadau yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol i gadarnhau'r niferoedd yr effeithir arnynt, a hefyd i nodi achos y llifogydd ym mhob lleoliad.
O ran dyrannu cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd, wrth gwrs, mae gennym hanes da ynglŷn â hyn, ond gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ystyried y digwyddiad hwn, y llifogydd hyn dros y penwythnos, nos Sadwrn, 19 Tachwedd, sydd wedi achosi dinistr, ac nid dim ond o ran y dinistr i unigolion wrth sôn am eu cartrefi, sef y peth gwaethaf, ond o ran yr anhwylustod o safbwynt busnes, yr effaith ar ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion a phopeth arall a gofnodwyd o ddoe.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r gefnogaeth ar gyfer prosiect a oedd yn elwa o’r blaen ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? Mae'r prosiect Dowlais Engine House yn brosiect sy’n agored i blant a phobl ifanc o bob gallu ac yn darparu amrywiaeth gynhwysol o weithgareddau chwaraeon, dawns a drama, clybiau darllen a chlybiau gwaith cartref, ac sy’n annog ffyrdd iach o fyw. Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc sydd angen bod yn annibynnol, sydd angen magu hyder ac sydd angen dysgu sgiliau bywyd yn eu cymunedau difreintiedig, ond maen nhw’n bryderus iawn y gallai ddod i ben, oherwydd bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i roi sicrwydd i grwpiau fel y Dowlais Engine House y byddant yn parhau i gael cyllid gan y Llywodraeth hon yn y dyfodol yng Nghymru? Diolch.
Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig am brosiect yn ei ranbarth ef, sydd â chanlyniadau buddiol yn amlwg. Byddwch chi’n gwybod bod yr ysgrifennydd dros gymunedau yn ceisio barn pobl ar effaith y posibilrwydd o ddiddymu’n raddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir yn ceisio barn, wrth gwrs, i gynrychiolwyr cymunedol ymateb iddi, fel y gallant ddweud eu dweud o ran y meysydd hynny o fuddsoddiad sy'n cael effaith fuddiol.
Dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon fod cyffuriau dosbarth A yn cael eu gwerthu yn agored o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, a bod merch 13 oed, mewn cyfarfod cyhoeddus, wedi dweud ei bod yn ofni mynd allan oherwydd y gwerthwyr cyffuriau. Rydym ni mewn sefyllfa lle nad oes gan swyddogion rheng flaen yr heddlu yr adnoddau i wneud y gwaith yn iawn ac mae'r comisiynydd yn anweledig. Pryd y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad am hyn a datganiad o fwriad i wneud rhywbeth am y peth?
Yn ail, mae yna fater arall, a gafodd ei grybwyll yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos diwethaf, pan ddatgelwyd nad yw'r system glanio yn ôl deialau yn Sain Tathan yn gwbl weithredol. Rydych chi wedi cael pedair blynedd i sicrhau ei fod yn gwbl weithredol ac nid yw hynny wedi digwydd o hyd. Datgelwyd, hefyd, o ganlyniad i hyn, fod contract gyda Easyjet sydd werth miliynau o bunnoedd wedi’i golli. Yn drydydd, cadarnhawyd nad yw Aviation Caerdydd wedi talu unrhyw rent. Nawr, heb system lanio, nid wyf yn gweld bai arnyn nhw, a dweud y gwir.
Ceir mater arall hefyd ynglŷn â diwydrwydd dyladwy a'r cyllid gan Gyllid Cymru. Felly, pryd fydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad am y mater hollbwysig hwn yr ydych chi wedi cael pedair blynedd i’w ddatrys ac yn dal heb wneud hynny?
O ran eich cwestiwn cyntaf, byddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, mi wn, o'n cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau a hwnnw yw’r cynllun cyflawni o 2016 i 2018, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', sef yr union reswm pam mae’r cynllun cyflawni mor bwysig, o ran ateb eich cwestiwn. Mae hyn yn egluro beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i wella canlyniadau'r rhai hynny yr effeithir arnynt drwy gamddefnyddio sylweddau. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni’n ystyried hyn o ran adolygiad o beth sy'n gweithio, ac fe wnes i ymateb i'r cwestiwn hwn gan yr Aelod yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid i ni ystyried ffyrdd newydd o leihau niwed i’r unigolion, fel yr ydych chi wedi’i ddisgrifio, a hefyd i gymunedau. Felly, nid yw hyn yn syml, ond mae'r cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau yn mynd i’r afael â hyn yn benodol.
Ynglŷn â’ch ail bwynt, mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith bod hwn yn fater sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n credu mai dyna'r lle y dylid ei ystyried. Os yw hwn yn fater sydd o berthnasedd a phwysigrwydd i ni fel Llywodraeth—ac rwy'n siŵr bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhan o hyn hefyd cyn belled â bod Sain Tathan yn y cwestiwn, a'r system benodol y soniasoch chi amdani—mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb iddo. Rwy'n siŵr y bydd yn cael cyfle yn ystod y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet maes o law.
Rwy’n galw am ddatganiad sengl, neu hyd yn oed yn well, ddadl yn amser y Llywodraeth, ar y newid yn strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Rwyf am sôn am nifer o faterion bach, sy'n bwysig i lawer. Yng ngoleuni adolygiad Llywodraeth Cymru o reoliadau adeiladu, mae angen i ni ystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â thystysgrifau perfformiad ynni, a all godi neu ostwng yn seiliedig ar gost y tanwydd yn unig, ac nid yn seiliedig ar ba un a yw effeithlonrwydd y cartref mewn gwirionedd wedi gwella. Mae angen i ni wybod a yw Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod yn defnyddio arbedion cost neu garbon, neu'r ddau, fel y dull sgorio ar gyfer ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni, yn enwedig os oes ganddi’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun tlodi tanwydd a arweinir gan alw a gaiff ei weithredu yn y dyfodol, yn bwriadu cyflwyno gofynion o ran oedran i'r meini prawf cymhwysedd, ochr yn ochr â nodweddion eiddo a meini prawf ariannol, gan gael gwared mewn gwirionedd ar aelwydydd o oedran gweithio rhag bod yn gymwys oni bai bod gan aelod gyflyrau iechyd penodol. Mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu y bydd hyn yn gwadu cymorth i lawer o aelwydydd a fyddai fel arall, ar hyn o bryd, yn gymwys, ac yn peri risg iddynt ddioddef tlodi tanwydd. Felly, mae angen inni wybod beth yw rhesymeg Llywodraeth Cymru ar gyfer cymaint o gartrefi tanwydd, o bosibl, yn peidio â bod yn gymwys mwyach, a pha gefnogaeth fydd ar gael i’r aelwydydd hynny i leihau costau ynni a chael cartref cynnes?
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu hepgor y sector rhentu preifat o’r gofynion cymhwysedd, gan ddadlau y gall cynllun benthyciadau gwella cartrefi Llywodraeth Cymru lenwi'r bwlch. Ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu na fydd landlordiaid yn cael eu hannog i gymryd y benthyciadau hyn, gan olygu na fydd gan denantiaid sy’n rhentu’n breifat ffynhonnell o gymorth os ydynt yn dioddef o dlodi tanwydd. Felly, mae angen inni wybod pa ddata sydd gan Lywodraeth Cymru ar y nifer o landlordiaid preifat sydd wedi manteisio ar fenthyciadau gwella cartrefi ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni hyd yn hyn, ac esboniad o sut y bydd yn annog landlordiaid i gymryd benthyciadau o'r fath yn y dyfodol.
Yn y pen draw ac yn olaf, mae angen inni wybod pa ran sydd gan yr agenda ymyrraeth ac atal yn hyn, nid dim ond o ran gwella bywydau, ond o ran arbed arian ar gyfer gwasanaethau statudol. A lle mae’r dangosyddion llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n cynnwys effeithlonrwydd ynni?
Mae Mark Isherwood yn codi cwestiwn sydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried drwy ymgynghoriad. Dyna'r ffordd yr ydym ni’n bendant yn awyddus i ddatblygu’r broses o lunio polisïau’r Llywodraeth: o ganlyniad i ymgynghori. Yn enwedig drwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r rhai hynny sy'n arbenigwyr yn y maes, ac wrth gwrs dyna’r hyn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar fwriad Dŵr Severn Trent i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy? Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna gonsyrn ynglŷn â’r 190 o swyddi—rhai o bosib yn mynd i gael eu colli, eraill yn mynd i gael eu trosglwyddo i Loegr. Rŷm ni eisoes hefyd wedi clywed am yr 80 o gwmnïau lleol sydd yn rhan o gadwyn gyflenwi Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, a’r gofid efallai ynglŷn â’u dyfodol nhw. Mae hwn hefyd yn codi cwestiwn ehangach ynglŷn â phwy, mewn gwirionedd, sydd yn biau un o’n hadnoddau naturiol pwysicaf ni fel cenedl. Mae Severn Trent, wrth gwrs, yn prynu’r hawl i fonopoli yn fan hyn o safbwynt gwasanaethau dŵr, ac mae’n rhaid gofyn lle mae llais y cwsmer yn hyn i gyd. Onid oes gan y cwsmeriaid yr hawl i ddweud pa fath o gwmni neu fenter sy’n edrych ar ôl eu gwasanaethau dŵr nhw? Felly, nid mater yn unig i gyfranddalwyr yw hyn, ond mater i holl gwsmeriaid y cwmni.
Mae’n rhaid imi ddweud, roedd ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, pan awgrymodd e fod y Llywodraeth yn mynd i ohebu â’r cwmnïau, yn destun braw a dweud y lleiaf, oherwydd mae hwn y gyhoeddus, wrth gwrs, ers wythnos diwethaf. Mae angen datganiad buan, oherwydd os mai dyma yw cyflymder y Llywodraeth yn ymateb i’r sefyllfa yma, yna mae hynny yn gwbl annerbyniol.
Mae’n mynd yn ôl i—fel y dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru—pa ymyrraeth, pa ddulliau a pha bwerau sydd gennym ni. Wrth gwrs, fe wnaeth sôn am y posibilrwydd o ddatganoli’r pwerau hynny. Mae arwyddocâd a phwysigrwydd enfawr i hyn yn amlwg, ac fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud hynny wrth ymateb i'r cwestiwn y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd yn dymuno rhannu â'r Aelodau y modd y gall ef, ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, wneud ein barn yn hysbys, a dyna’r cyfan, mewn gwirionedd, y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.
Arweinydd y tŷ, fel yr amlygodd Huw Irranca-Davies yn ei sylwadau i chi yn gynharach, mae’r dyddiau diwethaf o law trwm wedi arwain at lifogydd ledled y wlad. Mae hefyd wedi arwain at y llifogydd tymhorol arferol a rhagweladwy ar yr A4042 wrth bont Llanelen yn fy etholaeth i. Mae hwn yn llwybr cefnffordd pwysig. Mae'r llifogydd blynyddol yn achosi llawer o anghyfleustra i gymudwyr a thrigolion lleol, a gellid ei osgoi pe gwnaed newidiadau i ddraenio caeau cyfagos ac, yn wir, i strwythur y ffordd ei hun. Mae'n broblem barhaus. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar gadernid ein rhwydwaith cefnffyrdd yn y gaeaf ac, efallai, adolygiad o fannau sy’n achosi problemau, fel hwnnw yr wyf wedi’i amlinellu ar yr A4042 ym mhont Llanelen, er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y gwelliannau angenrheidiol fel bod ein rhwydwaith cefnffyrdd yn gallu ateb heriau’r gaeaf cystal ag y gall wneud hynny?
Diolch i chi, Nick Ramsay, ac rwyf eisoes, wrth ateb Huw Irranca-Davies, wedi dweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad. Rwy'n credu ei bod yn briodol iddi wneud datganiad yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig pan fydd rhai o'r ymchwiliadau hynny wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol a chan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn i ni allu ymateb i’r hyn a allai fod yn cael ei gynllunio o ran y gwaith o liniaru llifogydd. Gwyddom, ddoe, bod llawer o ffosydd wedi cau. Hefyd, cafodd natur y digwyddiad, ac rwy’n meddwl bod Huw Irranca wedi cyfeirio at hyn, effaith arbennig o ddinistriol, nid yn unig ar gartrefi ac aelwydydd, ond ar ein seilwaith. Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod yn ôl â datganiad yn dilyn yr adolygiad hwnnw o'r digwyddiadau dros y penwythnos.
Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, neu o bosibl gan Weinidog iechyd y cyhoedd, ar ddarparu diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn wybod am ymateb Cymru i’r fenter Ewropeaidd Diwrnod Restart a Heart a pha gymorth a chyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i gynghorau cymuned ar y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw allu darparu diffibrilwyr. Bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd yn gyfarwydd â'r esiampl wych a osodwyd gan gynghorau cymuned a chyrff eraill ym Mro Gwyr yn fy rhanbarth i, sydd, wrth gwrs, yn ei hetholaeth hithau hefyd. A allai’r datganiad hefyd amlinellu faint o sicrwydd hyfforddiant sydd ar gael ledled Cymru? Yn amlwg, mae hyn ar gael gan nifer o sefydliadau, weithiau heb gost, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod ble y mae'r bylchau daearyddol, os mynnwch chi. A allai’r datganiad hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fapio yr ymddiriedolaeth ambiwlans o ble y mae diffibrilwyr ar gael ar hyn o bryd?
Mewn cysylltiad â hyn, a gaf i ofyn am ail ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg am y ganran a gafodd addysg wirfoddol o sgiliau achub bywyd brys mewn ysgolion? Roedd aelodau o bob plaid yn gefnogol iawn i fy ngalwad yn y Cynulliad diwethaf i wneud yr addysg briodol i oedran o'r sgiliau hyn yn orfodol mewn ysgolion a gobeithiaf y bydd yr Aelodau newydd, yn ogystal â'r Ysgrifennydd dros addysg, yr un mor frwdfrydig ag yr wyf i’n dal i fod. Diolch.
Mae Suzy Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Mae llawer iawn o weithgarwch gwirfoddol yn digwydd ledled Cymru. Ceir dull strategol ac, mewn gwirionedd, mae’r dull strategol hwnnw yn cynnwys y trydydd sector, yn ogystal â'r sector statudol o ran ymateb brys. Mae'n atal, mae'n ymwneud â hyfforddiant ac, yn arbennig, o ran technegau achub bywyd yn cael eu lledaenu drwy addysg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes yn nodi yr hoffai ymateb, felly credaf ei fod yn edrych fel pe gallem symud ymlaen ar ddatganiad ar y cyd gan Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion ar y mater hwn.
Diolch i’r Gweinidog.
Rydym ni’n symud nawr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn. Lywydd, heddiw rwyf wedi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru. Rwy’n awyddus i ailadrodd fy ngwerthfawrogiad am yr amser a'r ymdrech y mae'r Athro Diamond ac aelodau ei banel, o’r holl bleidiau gwleidyddol, y sector a diwydiant, wedi ei roi i’r adolygiad rhwng mis Ebrill 2014, a’r haf hwn.
Ers cyhoeddi'r adroddiad ym mis Medi, bu llawer o ddiddordeb gan bwyllgorau'r Cynulliad, rhieni, myfyrwyr, a'r sector addysg uwch ehangach, gan gynnwys arbenigwyr polisi a chyllid.
Rwy’n croesawu’r diddordeb, y gwaith craffu a’r ymgysylltiad adeiladol hwnnw. Yn wir, mae arsylwyr o fannau eraill yn y DU yn awgrymu ein bod ni yng Nghymru yn arwain y ffordd wrth symud cyllid addysg uwch yn sylfaenol tuag at system flaengar, sefydlog a chynaliadwy. Felly, rwyf wedi rhoi llawer iawn o ystyriaeth i oblygiadau ymarferol gweithredu argymhellion y panel adolygu, gan geisio sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd. Rwy'n glir bod angen setliad ariannu addysg uwch gynaliadwy a blaengar ar Gymru sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol.
Fel yr eglurais ar 27 Medi, cymeradwyodd y Cabinet yr egwyddorion a geir yn yr adroddiad, ond mae ein hymateb yn adeiladu ar ein hegwyddorion allweddol sefydledig: sef ein bod yn cynnal yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar, bod gennym ymagwedd system gyfan, bod y buddsoddiad hwnnw yn cael ei rannu rhwng y Llywodraeth a'r rhai sy'n elwa'n uniongyrchol, ein bod yn gwella hygyrchedd, yn mynd i'r afael â rhwystrau megis costau byw, a bod modd defnyddio’r cymorth i fyfyrwyr ledled y DU. Gallaf gadarnhau, yn amodol ar gymeradwyaeth lawn y Trysorlys, y byddwn yn gweithredu newidiadau i gyllid cymorth i fyfyrwyr, sy'n cwmpasu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser o 2018-19.
Yng nghyd-destun cyni yn y Deyrnas Unedig, yr unig ffordd o gyflawni newid sylfaenol i gymorth cynhaliaeth gwell a blaengar ar draws dulliau a lefelau astudio yw trwy ryddhau arian a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion amser llawn. Gwnaeth adroddiad Diamond fodelu amrywiaeth o drothwyon incwm aelwydydd ar gyfer y rhai hynny sy'n gymwys i gael cymorth ar sail prawf modd. Rydym wedi penderfynu dewis y cynnig i osod y trothwy uchaf ar £59,200. Mae hyn yn gynnydd o tua £8,000 ar y trefniadau presennol ar gyfer profi modd. Rwyf o’r farn bod hwn yn drefniant teg a chynaliadwy. O dan y system arfaethedig hon, rydym yn disgwyl y bydd mwy na thraean o’r myfyrwyr o Gymru yn gymwys ar gyfer y grant uchaf a bydd y myfyriwr cyfartalog yn derbyn £7,000 y flwyddyn mewn cymorth grant. Bydd y system ddiwygiedig o gymorth yn golygu y bydd myfyrwyr yn derbyn yr hyn sy'n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio, a’r lefel uchaf o gymorth yn fwy na £9,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr amser llawn, a bydd fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser.
Rwy’n falch o gadarnhau bwriad y Llywodraeth i ddarparu'r system gyntaf yn y DU a bod yn fodel rhyngwladol o arfer gorau sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei gymorth i israddedigion amser llawn a rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig.
Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog a’n rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg bellach ac addysg uwch a thrwyddynt, gan gynnwys cyfleoedd amser llawn a rhan-amser a fydd o fudd i ddysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau. Mae ein hymateb yn cydnabod y consensws mai’r ofn o fethu â thalu eich costau byw o ddydd i ddydd, yn hytrach na'r posibilrwydd o dalu benthyciadau yn ôl ar ôl i chi gael gwaith, dyna'r broblem fawr ar gyfer cael mynediad a symud ymlaen trwy addysg uwch. Mae sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ein trefniadau addysg uwch a chyllid myfyrwyr yn hanfodol. Gallaf gadarnhau felly ein bod yn gweithredu, gyda dim ond mân newidiadau, y pecyn Diamond llawn, gan hefyd ddarparu difidend yn y dyfodol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Bydd hyn, wrth gwrs, yn amodol ar drafodaethau a phrosesau arferol y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb.
Mae'n bwysig nad ydym yn gweithredu polisi a fyddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol. Felly, ceir rhai meysydd lle’r wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i'r Llywodraeth oedi ac ystyried y camau nesaf. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys argymhellion ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â'r grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gweithrediad taliadau cynhaliaeth misol, cymhellion i raddedigion, Gwasg Prifysgol Cymru, a rhannu risg rhwng y Llywodraeth, y sefydliad a’r myfyriwr. Rydym yn gwahodd y bobl hynny sydd â diddordeb penodol i ymgysylltu ar y materion hyn drwy'r ymarfer ymgynghori.
Yn yr un modd, o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae nifer o argymhellion sydd â goblygiadau ariannol y bydd angen eu hystyried yn rhan o rowndiau cyllidebu yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion ar gyllid ar gyfer ymchwil o ansawdd, trosglwyddo gwybodaeth, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'r swm sydd heb ei neilltuo a ddyrannwyd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y gyllideb reolaidd. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i fy swyddogion weithio gyda CCAUC er mwyn iddynt gael dealltwriaeth o'r goblygiadau ariannol rhagamcanol ar gyfer eu cyllideb.
Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd, rwyf wedi penderfynu cynnal y trothwy dwyster cyfredol ar gymorth ar gyfer astudio rhan-amser. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector ar ffyrdd o gefnogi a hyrwyddo astudio ar ddwyster is. Byddwn hefyd yn cynnal dulliau rheoli cymwysterau cyfredol cyfwerth neu is, ond yn ymrwymo i archwilio ymestyn y pynciau hynny a’r meysydd blaenoriaeth a fydd yn cael eu heithrio. Ochr yn ochr â chyhoeddi ein hymateb llawn, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gyllid cymorth myfyrwyr. Rwy’n croesawu'r consensws a gafwyd wrth gefnogi egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond, ac, yn yr ysbryd hwnnw, Lywydd, yr wyf yn awr yn ceisio barn ar y modd ymarferol o weithredu ein cynigion.
Lywydd, ceiniogau’r tlodion a helpodd i sefydlu ac adeiladu ein prifysgolion dinesig mawr. Unigolion, cymunedau a Llywodraethau blaengar yn ymgymryd â diwygio mawr a helpodd i agor addysg uwch drwy sefydliadau fel y Brifysgol Agored. Gwaith UCM Cymru, trwy eu hymchwil ‘Y Bunt yn Eich Poced’, a oedd yn ddigon dewr i ymdrin â blaenoriaethau ariannu myfyrwyr yn uniongyrchol. A’r Llywodraeth hon yn awr—gan weithio, gobeithio, gyda phartïon ar draws y Siambr—fydd yn sicrhau pecyn ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sefydlog a chynaliadwy sy'n gallu helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion a'n cenedl.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod yn anhygoel eich bod wedi llwyddo i lunio ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad mor drwm ag adroddiad adolygiad Diamond mewn cyfnod mor fyr o amser. Rwy’n croesawu hefyd yr ymgynghoriad a fydd yn awr yn llifo o’ch ymateb; rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol bod yna gyfle ehangach ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar y cynigion yr ydych wedi’u hamlinellu.
Rwy’n synnu braidd eich bod wedi honni bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu, gyda dim ond mân addasiadau, y pecyn Diamond llawn. Yn sicr, rydych chi’n camu i gyfeiriad gweithredu pecyn Diamond, ond nid oes amheuaeth yn fy meddwl i bod y newid sylweddol yr ydych yn ei wneud i’r trothwy incwm uchaf ar gyfer cymorth trwy ei leihau gan £20,000 yn mynd i gael effaith ar y rhai hynny yn y canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol, yr oedd yr Athro Diamond yn benderfynol o’u diogelu, ac, yn wir, yr oedd y panelwyr eraill yn benderfynol o’u diogelu hefyd. Ac, yn ychwanegol at hynny, rydych wrth gwrs yn gwrthod nifer o’r argymhellion ar gyfer prentisiaethau a chymorthdaliadau ar gyfer cyrsiau addysgu ôl-radd cost uwch. Felly, gadewch i ni fod yn onest am hyn: nid yw'n gymeradwyaeth lwyr o adroddiad Diamond; mae rhai pethau mewn gwirionedd nad ydych chi’n mynd i’w gweithredu ar unwaith, ac mae rhai pethau yr ydych yn eu gwrthod yn llwyr.
Nawr, nid yw hynny'n dweud nad wyf yn croesawu llawer o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud a llawer o'r hyn sydd yn ymateb Llywodraeth Cymru. Croesawaf y ffaith eich bod yn edrych ar weithredu hyn yn y flwyddyn academaidd sy'n dechrau yn 2018. Credaf fod hwnnw'n ddyddiad pwysig y mae angen i ni weithio tuag ato. Croesawaf y ffaith eich bod yn ceisio cael y system ar sylfaen fwy cynaliadwy, ac, wrth gwrs, mae’r gostyngiad hwnnw yn y trothwy enillion uchaf yn ffordd bwysig o gyflawni hynny. Rwy’n deall, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd y newid yn y trothwy hwnnw yn arbed tua £40 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru pan fydd y cynnig yn cael ei weithredu'n llawn, ac, wrth gwrs, mae’r arbediad hwnnw yn ychwanegol at y £48.25 miliwn yn flynyddol yr oedd argymhellion gwreiddiol yr Athro Diamond yn dweud eu bod yn mynd i’w arbed. Ac rwy’n meddwl tybed ble y bydd yr £88,25 miliwn hwnnw yn cael ei ail-fuddsoddi. Gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad clir iawn na fyddai dim o'r arian hwnnw yn cael ei golli o’r gyllideb Addysg Uwch. Rwy’n amau y bydd yn ceisio osgoi rhai o'r ymrwymiadau hynny y mae wedi’u gwneud, oherwydd rydych chi a fi yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, bod angen i ni weld mwy o fuddsoddiad yn ein sefydliadau addysg bellach hefyd, ac i ehangu mynediad i addysg bellach a rhoi rhywfaint o gefnogaeth i fyfyrwyr yn ein system addysg bellach hefyd, yn enwedig os yw'r weledigaeth yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yn y Siambr hon, sef gwneud addysg bellach yn gydradd ag addysg uwch, i’w gwireddu yn llwyr. Rwy'n falch iawn hefyd, wrth gwrs, i glywed bod y trefniadau cymorth ar gyfer astudio rhan-amser wedi’u cadarnhau ac, yn wir, y cymorth i ôl-raddedigion hefyd. Rwy’n meddwl eu bod yn ymrwymiadau pwysig iawn.
Soniasoch y bydd gweithgor yn edrych ar y mater hwn o gynaliadwyedd a pha un a ddylid cynnal y cysylltiad â’r cyflog byw cenedlaethol yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n bwysig iawn—bod y cysylltiadau hynny yn cael eu cynnal—oherwydd yr hyn nad ydym yn dymuno ei weld yw chwyddiant yn erydu’r cyfleoedd y gall myfyrwyr eu cael i dderbyn y cymorth hwn yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid cael rhyw ffordd o gysylltu’r cymorth hwn â’r mynegai i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i fod yno yn llawn yn y dyfodol.
Ond rwyf ychydig yn bryderus i ddarllen yn eich ymateb eich bod chi eisiau rheoli niferoedd myfyrwyr. Mae hynny'n awgrymu y bydd capiau ar fyfyrwyr sy'n mynd i fod yn gymwys i gael cymorth yn y dyfodol, a fydd yn cyfyngu ar fynediad at addysg uwch, ac yn wir yn cyfyngu ar ddewis y dysgwyr, a chredaf fod hynny’n anffodus iawn yn wir. A gaf i ofyn i chi hefyd, Weinidog, ai dyna yr ydych yn gobeithio ei gyflawni—rhyw fath o gap? Pwy sy'n mynd i fod yn rhan o’r gweithgorau hyn sy’n gwneud y penderfyniadau hynny? A fyddant yn drawsbleidiol? Dyna fu dull Diamond hyd yn hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cynnal peth gwaith trawsbleidiol ar y materion hyn, a byddwn yn hapus iawn i enwebu cynrychiolydd Ceidwadol pe byddech yn rhoi cyfle i ni wneud hynny.
Rwy'n siomedig i weld nad oes unrhyw warant ar gyfer isafswm o £5.8 miliwn o gyllid i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Gwn fod yna adolygiad, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond mae hynny'n argymhelliad y dywedasoch eich bod eisiau ymgynghori arno, ac ni allech warantu y byddai'r arian yno yn y dyfodol. Clywais yr hyn a ddywedasoch yn eich datganiad. Efallai y gallwch egluro beth fydd y sefyllfa yn y flwyddyn ariannol nesaf a hefyd yn y dyfodol. Byddwn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn yn wir.
Rydw i hefyd ychydig yn bryderus ynghylch y sylwadau ynglŷn â'r trothwy dwyster, oherwydd rwy’n gwybod eich bod chi a mi yn angerddol am wneud yn siŵr bod yr holl bobl o Gymru sydd am gael mynediad at gyfleoedd addysg uwch, gan gynnwys y rhai hynny y gallai fod angen iddynt ddilyn cyrsiau dwyster is, oherwydd eu sefyllfaoedd neu oherwydd anableddau, er enghraifft. Tybed a fydd canlyniad eich penderfyniad i beidio â symud ymlaen i ostwng y trothwy hwnnw, fel yr oedd yr Athro Diamond yn ei argymell, yn cael effaith anghymesur ar yr unigolion hynny a allai fod yn anabl neu fod â rhywfaint o anghenion dysgu neu anableddau.
Felly, rwy’n croesawu’r cyfeiriad hwn. Rwy'n credu bod llawer iawn sy'n dda yn yr ymateb yr ydych chi wedi’i gyhoeddi heddiw, ond rwy’n credu bod angen rhywfaint o eglurder ar y materion pwysig hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych chi.
Diolch yn fawr iawn, Darren. A gaf i ddechrau trwy gydnabod y pwynt a wnaethoch ynghylch pa mor gyflym yr ydym wedi gallu llunio’r ymateb? Mae hyn o ganlyniad i waith caled anhygoel gan swyddogion yn yr adran. Maent wedi gweithio ar y cyflymder hwn oherwydd bod angen inni symud i sefyllfa fwy cynaliadwy ar gyfer ariannu myfyrwyr a'n sefydliadau cyn gynted â phosibl. Rwyf yn dymuno canmol y gwaith caled y maent wedi'i wneud ar hyn.
Dywed yr Aelod, Lywydd, ein bod yn arbed arian drwy beidio â gweithredu’r trothwy uwch o £80,000. Wrth gwrs, mae hynny'n arbediad tybiannol. Nid yw’r arian hwnnw’n bodoli. Awgrym oedd hwnnw o ble y dylai'r trothwy fod, felly nid yw'n gywir i’r Aelod ddweud bod hyn yn arbediad sydd wedi’i gronni.
Gadewch i mi fod yn gwbl glir: pan gyhoeddais adroddiad Diamond ym mis Medi, roeddwn i eisiau sicrhau cymorth sefydlog a chynaliadwy i fyfyrwyr a system gyllido addysg uwch ar gyfer ein gwlad. Rwyf wedi dadansoddi'r rhagamcanion diweddaraf ac rwyf wedi gorfod ystyried diogelu carfannau, y twf a ddisgwylir yn y cyflog cenedlaethol a rhagolygon chwyddiant, a hynny wrth gyflawni dros fyfyrwyr rhan-amser, amser llawn a myfyrwyr ôl-raddedig, ac rwyf wedi gorfod gwneud hynny yn ei holl agweddau. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol cael peth hyblygrwydd yn y system, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: bydd traean o’r myfyrwyr yng Nghymru yn cael y pecyn llawn o gymorth o dros £9,000. Bydd saith deg y cant o fyfyrwyr yng Nghymru yn derbyn rhywfaint o grant ar sail prawf modd o dan y system hon, a bydd y myfyriwr cyffredin yn derbyn oddeutu £7,000. Mae’n rhaid i mi ddweud, Darren, o ystyried yr hyn y mae eich plaid wedi ei wneud i grantiau cynhaliaeth dros y ffin, nad ydynt bellach ar gael, bod hyn yn cynrychioli bargen dda i fyfyrwyr Cymru yn yr hinsawdd bresennol yr ydym ynddi.
A gaf i droi at fater y ddau argymhelliad sydd wedi’u gwrthod? Y cyntaf yw prentisiaethau. Mae'r ardoll prentisiaethau a’r polisi prentisiaethau yn cael eu datblygu gan fy nghydweithiwr yn y Cabinet ac mae gennym ffordd ymlaen glir iawn o ran sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i brentisiaethau ychwanegol yng Nghymru. Mae hynny’n cael ei ddatblygu ar wahân i'r cynigion hyn. O ran cost uwch, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoleiddio darpariaeth ôl-raddedig. Felly, ynghyd â'r egwyddor honno a'r diffyg data sydd ar gael am gost wirioneddol yr addysgu, nid ydym yn credu ei bod yn gynaliadwy i ddarparu cyllid ychwanegol yn y ffordd honno ar hyn o bryd, ond mae’r ymarfer ymgynghori yno i ymgysylltu â phobl ar rai o'r materion hyn.
Nid wyf yn bwriadu cyflwyno capiau ond, ar yr un pryd, ni allaf dynnu unrhyw beth o’r ystyriaeth yng ngwaith y grŵp hwnnw yn y dyfodol. Bydd y grŵp yn cynnwys swyddogion o’r tu fewn i’r Llywodraeth, ond bydd hefyd yn cael cyngor allanol gan y sector a chan y bobl hynny sydd â buddiant uniongyrchol yn hyn. Byddaf yn ystyried ymhellach a fyddaf yn estyn y gwahoddiad hwnnw i bleidiau gwleidyddol, ond bydd angen iddynt feddu ar wybodaeth fanwl o waith y sector addysg uwch cyn i mi ystyried hynny ymhellach.
A gaf i fod yn gwbl glir am ddyfodol y Coleg? Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud y penderfyniad i symud cyllid y Coleg oddi wrth CCAUC, ac ariannu'r Coleg mewn gwirionedd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gwneud hynny â swm o oddeutu £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae'n fater a gafodd ei groesawu yn ddiweddar yn y pwyllgor—rwy’n sylweddoli nad oeddech chi yno. Croesawyd y mater hwn yn ddiweddar yn y pwyllgor ac mae wedi cael ei groesawu gan y Coleg ei hun.
Lefelau dwyster—rydym wedi cytuno i edrych ar lefelau dwyster yn dechrau ar 25 y cant, ond mae’r ymarfer ymgynghori yn gofyn yn benodol am sut y gallem reoli lefelau dwyster is yn y dyfodol. Ond rydym yn dechrau—am y tro cyntaf, bydd gennym barch cydradd ar gyfer ein myfyrwyr rhan-amser. Nid yw hynny wedi ei gyflawni o'r blaen. Nid yw ar gael yn unman arall yn y DU. Yn wir, nid wyf wedi gallu dod o hyd i wlad yn Ewrop sy'n darparu’r pecyn hwn ar draws yr holl ddulliau o astudio eto. Rydym ar flaen y gad. Gallaf ddweud wrthych fod swyddogion o Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon eisoes wedi bod ar y ffôn yn gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r pecyn arloesol hwn o gefnogaeth.
O ran anabledd, rwyf am ei gwneud yn gwbl glir: byddwn yn parhau i ariannu taliadau arbenigol ar gyfer anabledd sydd ar gael o dan y system bresennol. Byddant yn parhau o dan y system newydd.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ac ategu'r diolch eto, wrth gwrs, i’r Athro Diamond a’r grŵp fuodd wrthi yn paratoi'r adroddiad a’r argymhellion?
Rwy’n croesawu eich datganiad chi. Mae’n dda gweld y broses nawr yn symud at weithredu'r argymhellion. Mae hynny yn rhywbeth rwy’n siŵr y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Rwyf hefyd yn croesawu’r pwynt canolog yr oeddech chi’n ei danlinellu nawr, sef bod astudio llawn-amser, rhan-amser ac ôl radd yn mynd i gael eu hystyried yn gydradd ac yn mynd i gael mynediad at gefnogaeth debyg i’w gilydd a bod hynny yn mynd i greu tirlun tipyn yn haws i’w ddeall hefyd i nifer o bobl lle, yn aml iawn, mae amrywiaeth wedi bod sy’n arwain at ddryswch a chymhlethdodau.
Rwy’n croesawu nifer o agweddau, yn arbennig y peilot rydych chi’n sôn amdano i edrych ar ymarferoldeb ymestyn y gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sicr, mae hynny yn gydnaws ag un o alwadau polisi Plaid Cymru yn yr etholiad rai misoedd yn ôl. Efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n bwriadu ceisio cyflwyno’r peilot yna.
Rwy’n croesawu hefyd yr ymrwymiad rydych chi wedi’i roi yn yr adroddiad i addysg alwedigaethol a thechnegol uwch. Mae yna deimlad yn y Cynulliad y tro yma fod angen inni godi statws addysg alwedigaethol ar draws y sbectrwm. Rwy’n cymryd mai’r cam cyntaf mewn nifer o gamau yw hynny, ac mae hynny i’w groesawu.
Rwyf hefyd yn croesawu eich bod chi’n edrych ar fodel Cymreig o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, oherwydd mae’r sefyllfa bresennol, rwy’n teimlo, yn llesteirio symud ar y cyflymdra y byddem ni’n licio ei weld. Mae’n gwneud hi’n anodd i ni, yma yng Nghymru, i ymateb i amgylchfyd sydd yn gallu newid oherwydd dylanwadau allanol, ac mae’n creu sefyllfa anodd.
Mae’n gyhoeddiad arwyddocaol, wrth gwrs, mewn sawl ffordd, ac efallai, gan mai sôn am sgopio opsiynau amgen rydych chi ar hyn o bryd, efallai y byddwch chi’n gallu ymhelaethu ynglŷn ag unrhyw amserlenni mwy manwl sydd gyda chi mewn golwg. Mae symud i daliadau misol a chefnogaeth i rhai ag anghenion penodol i gyd hefyd yn agweddau i’w croesawu.
Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, ac rydych chi wedi dweud cyn hyn, eich bod chi am barhau i edrych ar lefel y ffioedd y mae sefydliadau addysg uwch yn cael eu codi yma yng Nghymru—wedi’i phennu ar £9,000 ar hyn o bryd, neu £9,250, wrth gwrs, yn Lloegr. Yn wyneb heriau ariannol difrifol—rŷm ni’n ymwybodol o hynny—ac yn wyneb y ffaith bod y sefydliadau yma yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol iawn, a allwch chi, efallai, rannu gyda ni pa ffactorau fydd yn dylanwadu ar eich ystyriaethau chi pan fyddwch chi’n edrych ar lefel y ffioedd yr ydych yn eu pennu? Oherwydd mae yna berygl—rydym ni’n ymwybodol ohono—fod y bwlch cyllido rhwng y sefydliadau yng Nghymru ac yn Lloegr yn agor. Mae yna bosibiliad y bydd yna ganfyddiad, efallai, fod ansawdd y cyrsiau yng Nghymru, oherwydd eu bod nhw’n rhatach, ddim cystal. Byddai ambell un, efallai, yn dweud y byddai mantais gystadleuol o gael ffioedd gwahanol—pwy a ŵyr? Yn ei hanfod, a ydych chi’n credu ei bod hi’n anochel, oherwydd yr hinsawdd yr ydym ni ynddi, os ydyn nhw yn codi ffioedd yn Lloegr, ar ryw bwynt bod yn rhaid iddyn nhw godi yng Nghymru, neu a ydych chi’n ystyried modelau amgen? Oherwydd mae’n anodd gweld, i bob pwrpas, sut mae modd gwrthsefyll hynny, mewn sawl ffordd.
Wrth gwrs, ni fyddai’n ddatganiad ar adroddiad gan yr Athro Diamond oni bai fy mod i’n codi’r angen i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, ac i gadw'r myfyrwyr sydd yn astudio yng Nghymru yma, a’r angen i greu cymhelliad. Rydych chi’n dweud, wrth gwrs, yn eich ymateb i’r argymhellion eich bod chi’n parhau i edrych ar yr opsiynau, yn annog syniadau ac yn annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad. Ond, wrth edrych ar y ddogfen ymgynghorol, nid oes cyfeiriad penodol at greu cymhelliad i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru, hyd y gwelaf i. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n gamgymeriad, neu a ydych chi’n bwriadu, efallai, creu rhyw fath o broses ymgynghorol ar wahân—mae’n bosibl y gallwch chi ddweud wrthym ni.
Yn olaf, mae’r drafodaeth, neu ffocws y drafodaeth, ar gynaliadwyedd wedi bod yn un ariannol—yn bennaf, beth bynnag. A gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi’i roi i’r tariff pwyntiau mynediad i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru? A yw’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad ar hyn ac unrhyw arwyddocâd ehangach hynny i’r sector? Mae’r rhan fwyaf wedi gweld dirywiad yn y metrig yma, gyda tri o’n sefydliadau ni nawr â chyfartaledd o dan 300, a hynny, wrth gwrs, yn erbyn cefndir lle mae canlyniadau lefel A yn mynd i’r cyfeiriad arall. Byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa ddylanwad y mae hynny’n ei gael ar gynaliadwyedd y sector.
Llyr, a gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau y prynhawn yma ac am eich parodrwydd i rannu syniadau ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â’r maes polisi hwn?
O ran y cynllun peilot, dydw i ddim eisiau rhoi terfyn ar ddyheadau unrhyw fyfyriwr o Gymru. Bydd eich cydweithiwr sy’n eistedd nesaf i chi wedi elwa’n aruthrol, rwy'n siŵr, o’i amser yn Harvard, ac rwy’n credu bod rhoi cyfleoedd i fwy o bobl yng Nghymru astudio mewn sefydliadau ar draws y byd er mwyn creu cenedl sy’n edrych tuag allan, ac rwy’n credu mai dyna ydym ni—rwyf eisiau hwyluso hynny os gallaf. Felly, byddwn ni’n gweithio ar gynllun peilot i ganiatáu i’r pecyn hwn o gymorth gael ei ddefnyddio ledled y DU gyfan, ond byddwn ni hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i ariannu myfyrwyr sydd eisiau mynd i Harvard, neu Sefydliad Technoleg Massachusetts, neu Sefydliad Technoleg Califfornia neu'r Sorbonne—yr holl sefydliadau rhagorol sy'n bodoli ar draws y byd. Mae'n rhan o Gymru yn bod yn genedl sy'n edrych tuag allan, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
O ran addysg bellach, mae ymateb y Llywodraeth heddiw yn cadarnhau y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i wella'r cydweithio strategol rhwng addysg bellach ac addysg uwch, ac mae hynny'n cynnwys ein blaenoriaethau a rennir sy'n cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf—cyllid i ddatblygu buddsoddiad mewn prentisiaethau lefel uwch, er enghraifft, yr wyf yn credu eu bod yn bwysig, a hefyd arian i gynyddu gallu colegau addysg bellach i gyflawni ar lefel 4 a lefel 5. Rwyf, yn fy llythyr cylch gorchwyl i CCAUC, wedi dweud pa mor bwysig yw hi i mi i allu sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio ar draws y ddau sector i annog y lefel honno o gydweithredu.
A, Lywydd, os wnewch chi faddau i mi a fy ngoddef am eiliad yn unig, hoffwn gymryd y cyfle hwn, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd yn y Siambr heddiw, i longyfarch colegau, myfyrwyr a chyflogwyr yng Nghymru am eu perfformiad rhagorol yn y sioe WorldSkills UK dros y penwythnos. Gwnaethom ni—ni ddylwn i ddweud ‘rhoi crasfa iddyn nhw’, nid yw hynny'n seneddol iawn—ond roeddem ni yn rhagorol. Roedd myfyrwyr Cymru yn gwbl ragorol yn eu cyflawniadau. Ac rwy’n dymuno’n dda iawn iddynt wrth iddynt fynd ymlaen i'r cam nesaf yng nghystadleuaeth y byd. Mae hynny'n dangos bod gennym y potensial yma yng Nghymru i fod yn rhagorol yn y meysydd penodol hyn.
O ran cymhellion, hoffwn i ei gwneud yn glir bod yr ymateb yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn golygu y bydd pob myfyriwr sy'n cymryd benthyciad cynhaliaeth gan Weinidogion Cymru yn gymwys i gael hyd at £1,500, wedi’i ddileu oddi ar falans eu benthyciadau, pan fyddant yn dechrau eu had-dalu. Felly, unwaith eto, mae hwnnw yn fuddiant i fyfyrwyr o Gymru nad yw ar gael i fyfyrwyr yn unman arall. Felly, mae hwnnw’n gymhelliant, ac yn fuddiant ychwanegol i fyfyrwyr Cymru.
Fe wyddoch chi gystal â minnau, mae ychydig yn fwy anodd i ddatblygu cynllun ar gyfer sut y gallem gymell myfyrwyr, ond rwy'n ddiolchgar am eich ymgysylltiad â hyn, a’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i mi, y mae fy swyddogion yn ei hystyried ar hyn o bryd. Ond rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ar sut y gallwn gyflwyno hyn. Felly, er enghraifft, mae fy nghydweithiwr Cabinet dros iechyd wedi sôn am gymhellion i feddygon, i allu recriwtio meddygon ychwanegol, ac rydym yn parhau i gael sgyrsiau am sut y gallwn wneud hyn o ran nyrsys. Felly, mae’r sgyrsiau hynny yn digwydd yn y Llywodraeth ar hyn o bryd a byddaf yn parhau i weithio gyda chi i ystyried beth arall y gallem ei wneud yn hynny o beth.
Gwnaethoch ofyn am lefelau ffioedd, sydd, wrth gwrs, yn anodd ac yn ddadleuol. Byddaf yn parhau i adolygu uchafswm lefel y ffi ar gyfer ffioedd dysgu yng Nghymru, gan ystyried sefydlogrwydd ariannol ein sefydliadau, sut yr ydym yn cynnal y cystadleurwydd hwnnw, sydd, fel yr ydych yn dweud, yn gwbl hanfodol mewn cyd-destun rhyngwladol, a'r effaith ar y myfyrwyr eu hunain. Gwnaethoch ofyn pa ffactorau eraill yr wyf yn eu hystyried—dyna’r tri ffactor a fydd yn parhau i fy llywio wrth i mi ystyried y maes penodol hwn.
O ran tariff, rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen i ni symud i system wahanol o sut yr ydym yn cefnogi'r sector yn ei gyfanrwydd, oherwydd ni allwn fforddio i brifysgolion Cymru syrthio ar ei hôl hi—mae arnom angen iddynt fod y gorau y gallant fod, ac mae hynny’n waith i ni yn y Llywodraeth, ond mae hefyd yn waith i’r sector ei hun. Ac edrychaf ymlaen at weld ei strategaeth addysg bellach sy'n cael ei ddatblygu gan CCAUC ar hyn o bryd.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. Mae hi'n dweud ei bod hi'n gobeithio gweithio gyda phartïon ar draws y Siambr, o leiaf y rhai y mae hi yn barnu bod ganddynt wybodaeth fanwl o'r sector. Dywedodd hefyd ei bod yn croesawu'r consensws i egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond.
Hoffwn i ddechrau gyda dau faes yr oeddwn i’n falch iawn o’i chlywed yn sôn amdanynt gynnau. Rwy’n meddwl, gyda myfyrwyr rhan-amser, mae'r parch a’r gefnogaeth gydradd, yn wir, fel y dywedodd hi, heb ei ail, ac, mewn egwyddor, ni allaf weld y dadleuon y ffordd arall. Ac mae'r ffaith na fydd hyn yn digwydd yn unman heblaw am Gymru, yn rhywbeth yr wyf yn meddwl y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono.
Yn ail, yn fy mhlaid i, roedd gennym rywbeth yn ein maniffesto lle’r oeddem yn cynnig cronfa fwrsariaeth gwerth £6 miliwn ar gyfer y myfyrwyr gorau a mwyaf galluog yng Nghymru i gymhwyso a chael cymorth yn y sefydliadau gorau ar draws y byd, nid dim ond yn y DU. Felly, roedd ei chlywed hi’n sôn, o leiaf o bosibl, am gefnogaeth a fyddai ar gael i bobl a allai fynd i Sefydliad Technoleg Massachusetts neu Sefydliad Technoleg Califfornia, er enghraifft, yn fy marn i, yn galonogol iawn, iawn, ac rwy’n ei chanmol am hynny.
Rwy'n credu mai’r hyn y mae gennym anhawster ag ef o bosibl, o leiaf, o ran yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad Diamond—neu, o leiaf, sut y gellir eu gweithredu—oedd pan fuom yn trafod cyffredinoliaeth o fewn system flaengar. Rydym yn bryderus, o bosibl, fod hynny'n golygu symiau mawr o arian yn cael eu rhoi i fyfyrwyr o deuluoedd cefnog, pan, ledled Cymru, mae mwy o angen ar bobl lai cefnog ac nad ydynt yn mynd i'r brifysgol. Ond o'i gymharu â'r datganiad blaenorol a wnaeth hi, pan oedd Diamond wedi dweud y gallai bobl gael arian pe byddai’r incwm yn swm o hyd at £80,000 neu £81,000—roeddem ni o’r farn bod hynny’n arbennig o uchel, ac roeddwn yn synhwyro ychydig o anesmwythder ar feinciau Llafur mewn mannau hefyd. A phan fyddwch chi’n rhoi yr hyn yr ydych yn ei ddisgrifio yn grant prawf modd, yr holl ffordd i fyny'r raddfa incwm i £80,000 neu £81,000, credaf fod hynny’n mynd yn anodd iawn i'w gyfiawnhau, felly rwy’n croesawu’r ffaith ei bod hi wedi gostwng y trothwy uchaf i £59,200.
Roeddwn i'n meddwl bod sylwadau Darren Millar yn eithaf dadlennol ar hyn. Roedd yn ymddangos ei fod yn anhapus â’r gostyngiad hwnnw, a disgrifiodd y band hwn o deuluoedd sy'n ennill rhwng £60,000 a £80,000 fel y canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol. Rwy'n credu y bydd diffiniad y pleidiau eraill yn y Cynulliad o’r canol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol ychydig yn wahanol. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, roedd nifer o ymyriadau yno, ac nid wyf wedi dal—
Os hoffech chi barhau, os gwelwch yn dda.
Fe wnaf i barhau. Tybed a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod—y £1,000 a ddywedwyd yn flaenorol a fyddai’n cael ei roi i bob teulu sy'n ennill hyd yn oed mwy na £59,200 yn awr, neu £80,000 neu £81,000 fel ag yr oedd o'r blaen, a yw hwnnw’n dal i fod wedi’i gynnwys yn y system arfaethedig? Ni chafodd ei grybwyll yn ei datganiad yma. Ac yn ail, a gaf i ofyn iddi egluro’r hyn y soniodd hi amdano o ran dileu £1,500 o’r benthyciad—ydy hynny, unwaith eto, yn rhywbeth sy'n berthnasol i bawb, ni waeth pa mor uchel i fyny’r sbectrwm enillion y bydd teuluoedd?
A gaf i hefyd godi’r mater o dalu myfyrwyr, neu roi grant cynhaliaeth iddynt sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol? Wrth gwrs, nid yw’r cyflog byw cenedlaethol yn berthnasol ac eithrio i bobl sydd dros 25 oed, ac ar gyfer pobl 18 i 20 mlwydd oed, sef y garfan fwyaf o fyfyrwyr, yr isafswm cyflog yw £5.55. Pam felly y mae hi'n credu bod myfyrwyr cymaint yn fwy gwerthfawr a haeddiannol y dylent gael £7.20, rwy’n credu, tra dylai pobl 18 i 20 mlwydd oed, yn gyffredinol, gael £5.55, ac y dylai pobl yn y flwyddyn gyntaf o brentisiaeth gael dim ond £3.40? Ai parch cydradd yw hynny mewn gwirionedd?
Yn olaf, mae'n sôn am system sefydlog a chynaliadwy, ac, wrth gwrs, mae hynny'n uchelgais teilwng, ac yna mae'n dweud ‘yn amodol ar gymeradwyaeth lawn y Trysorlys’. Ond fe fydd hi mor ymwybodol â minnau bod rhai materion yno, ac, yn benodol, beth yw’r cyfrifo a chyllidebu adnoddau a fydd yn cael ei gytuno? Faint o'r benthyciadau, sydd erbyn hyn yn llawer uwch, y bydd y Trysorlys yn penderfynu ei bod yn debygol na chânt eu talu’n ôl, ac a fydd felly’n cael eu dileu o safbwynt y trethdalwr, ac felly, wrth i addysg gael ei datganoli, Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am ei dalu? Ar hyn o bryd, mae gennym RAB sylweddol is na Lloegr, gan fod ein benthyciadau yn is, ond awgrymodd yr Athro Diamond ei fod efallai’n rhy isel ac efallai y bydd angen ei godi. Tybed pan fydd y Trysorlys yn edrych ar y ffigurau hyn, ac rwy’n amau y bydd hynny gyda llygad llawer mwy amheugar na’r Athro Diamond ac eraill o'r sector a allai fod wedi edrych arno yn ystod eu hadolygiad, a fydd yn cwestiynu faint fydd yn cael ei ddileu, ac a fydd y RAB y mae hi’n ei ragdybio yn ddigon uchel mewn gwirionedd. Efallai y byddant yn gofyn, os oes gennych chi ardal lle mae cyflogau yn gymharol isel, ac rydych chi’n cynnig grantiau cynhaliaeth sy'n gyflog byw cenedlaethol nad ydynt ar gael mewn mannau eraill i bobl dan 25 oed, a lle efallai nad yw pobl, o ystyried y cyflogau yn yr ardaloedd lleol, yn disgwyl gallu talu llawer neu ddim o’r ddyled yn ôl pan fyddant yn hŷn, a fydd nifer y rhai sy’n manteisio mewn gwirionedd yn sylweddol uwch oherwydd y bydd pobl o’r farn bod cael cyfle i gael grant cynhaliaeth yn arbennig o ddeniadol, ac a fyddai hynny'n arwain, o bosibl, i'r Trysorlys ffurfio’r farn o leiaf y bydd angen i’r swm a ddiddymir, ac felly'r RAB, fod yn sylweddol uwch nag y mae hi’n ei ganiatáu? Ac a yw hi'n cydnabod y perygl, o leiaf, os yw hi’n sefydlu’r system hon, y gallai’r cyfan fod dipyn yn fwy drud nag y mae hi’n tybio?
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i Mr Reckless am ei sylwadau. Rwy’n meddwl efallai ei fod yn cynnig ei hun fel arbenigwr posibl i'n grŵp sydd yn mynd i adolygu hyn. Wel, o leiaf y byddaf i’n cael ei gyngor ef am ddim, yn annhebyg i'r AS dros Clacton. [Torri ar draws.]
Ar fater y £1,000, fy mwriad i yw cyflwyno’r taliad £1,000 hwnnw i bob myfyriwr yng Nghymru. Mae’n unol â'r egwyddorion a amlinellir yn adroddiad yr Athro Diamond, ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddeall bod addysg uwch yn ymdrech ar y cyd. Does dim amheuaeth bod y myfyriwr yn elwa ar astudio ar lefel uwch, ond felly hefyd y mae ein cenedl, ac rwy’n credu nad yw hi ond yn iawn felly ein bod yn cyfrannu at rai o'r costau. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi dweud bod y £1,000 hwn, sy’n daladwy ar ddechrau bob blwyddyn academaidd, yn amhrisiadwy i helpu myfyrwyr fynd i’r afael â rhai o'r costau annisgwyl—nid annisgwyl ond y costau cudd o sefydlu eich hun mewn prifysgol. Ac felly, mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn croesawu’n fawr y ffaith bod y ddarpariaeth hon yn parhau i fod wedi’i chynnwys yn y pecyn.
O ran y dileu rhannol, nid oes a wnelo hynny ddim ag incwm y teulu, mae’n ymwneud â'r ffaith nad yw'r myfyriwr, ar yr adeg honno, yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ad-dalu ei fenthyciad. Felly, nid yw’n berthnasol i incwm y teulu o gwbl, mae’n ymwneud â'r ffaith nad yw'r myfyriwr wedi cyrraedd y trothwy o £21,000 sy'n sbarduno’r ad-daliadau ar gyfer benthyciadau.
O ran y gwahaniaeth rhwng myfyrwyr a'r cyflog byw, ni allaf i newid y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU barch cydradd ar gyfer gweithwyr sy'n 16, 17, 18 neu 19. Byddwn yn hoffi gallu gwneud rhywbeth am hynny, ond nid yw o fewn fy nghymhwysedd. Fel yr wyf wedi dweud, roedd Diamond yn glir iawn, mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw, yn annibynnol ar eu rhieni. Ar draws y ffin yn Lloegr, disgwylir i rieni drosglwyddo a chyfrannu’n helaeth at y costau. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr Cymru yn annibynnol, oherwydd y byddant yn gallu cael y swm llawn o gymorth y gallant fyw arno, naill ai'n gyfan gwbl drwy gyfrwng grant cynhaliaeth ar gyfer ein myfyrwyr tlotaf; yn rhannol ar gyfer y rhan fwyaf, dros 70 y cant o'n myfyrwyr; neu gyfuniad o'r cyfraniad o £1,000 a benthyciad. Ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol, wirioneddol bwysig.
O ran y Trysorlys, mae fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi ysgrifennu’n ffurfiol i'r Trysorlys. Nid ydym wedi cael ymateb ffurfiol eto, ond mae'r Trysorlys wedi bod yn barod iawn i helpu hyd yma ac wedi dangos eu cefnogaeth lawn i'r cynigion sy'n mynd yn eu blaenau, ac rwy’n disgwyl i hynny gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig cyn bo hir.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a rhoi croeso cynnes iawn i gynnwys y datganiad hwnnw heddiw? Yn benodol, rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth hon yn mynd i fod yn cyflwyno system sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg yn ei chefnogaeth i israddedigion amser llawn a rhan-amser ac i fyfyrwyr ôl-raddedig. Rwyf i hefyd yn croesawu cyflymder Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb i'r argymhellion, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Athro Diamond a'i dîm, nid yn unig am ei waith, ond hefyd am ddod i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i roi tystiolaeth yn ddiweddar.
Mae gen i ychydig o gwestiynau. Rydych chi wedi dweud y byddech yn cynnal ymgynghoriad. A wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hynny'n gweithio, ac yn benodol a fyddwch chi’n ymgynghori â phobl ifanc? Un o nodweddion adolygiad Diamond oedd ei fod yn teimlo y dylai myfyrwyr â heriau ac anghenion arbennig gael cydnabyddiaeth arbennig, a nodwyd tri grŵp yn arbennig. Y cyntaf yw myfyrwyr sydd â phrofiad o'r system gofal, a chroesawaf yr hyn yr ydych wedi'i ddweud o'r blaen am bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael hawl i'r grant cynhaliaeth llawn, ond a wnewch chi hefyd ddweud wrthym sut y byddwch yn ymateb i'r pethau eraill yr argymhellodd ynglŷn â phobl ifanc sy'n gadael gofal, yn enwedig o ran rhoi'r hyblygrwydd iddynt drosglwyddo credydau, gan roi cyfle iddynt gael dechreuadau lluosog ac ati? Y maes arall oedd myfyrwyr ag anableddau, lle mae'n argymell gwneud rhagor o waith gyda'r Trysorlys. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn bwrw ymlaen â hynny? Y maes arall, wedyn, oedd myfyrwyr sydd hefyd yn rhieni, sydd yn amlwg yn bwysig iawn yn y cyfnod economaidd anodd hwn. A wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y byddwch yn ymateb i’r argymhellion penodol hynny? Diolch.
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor addysg, pobl ifanc a phlant am ei hymateb i'r adroddiad? Yr wyf i, hefyd, yn ddiolchgar am arbenigedd parhaus yr Athro Diamond yn y maes hwn. Gallai fod wedi trosglwyddo'r adroddiad a dychwelyd at y gwaith pwysig iawn y mae'n ei wneud, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am ddod yn ôl i bwyllgorau i roi esboniadau llawn, ac rwy’n deall y bydd yn y grŵp trawsbleidiol ar addysg uwch heno, a byddwn yn annog yr Aelodau i fynd draw i glywed gan yr Athro Diamond.
A gaf i gymryd y cyfle hwn i gadarnhau ei bod yn fwriad gennyf i ddeddfu i sicrhau y bydd y plant hynny sydd â phrofiad o'r sector gofal ac sydd wedi derbyn gofal yn cael mynediad at y grant cynhaliaeth llawn? Mae'r Llywodraeth hon yn gweithio'n galed iawn, iawn i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau addysgol sy'n bodoli i blant sydd wedi bod yn y system ofal. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno grant amddifadedd disgyblion i gefnogi addysg y plant hynny. Rydym yn gwybod nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o gwbl wrth astudio ar lefel uwch. Rydym eisiau gwneud yn siŵr, yr holl ffordd drwy'r system addysg, ein bod yn rhoi cefnogaeth benodol i alluogi’r plant hynny i gyrraedd eu llawn botensial, yn yr ysgol ac wrth fynd ymlaen i astudio ar lefel uwch.
Bydd cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, er enghraifft, i fyfyrwyr ag anableddau a myfyrwyr â chostau gofal plant yn parhau o dan y system newydd. Yr hyn yr wyf hefyd yn awyddus i’w ystyried yw beth y gallwn ni ei wneud yn well i gefnogi gofalwyr a'r rhai sydd wedi ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu yn ystod eu bywydau, a sut y gallai hynny fod wedi effeithio ar eu gallu i gael mynediad at addysg uwch neu i aros mewn addysg uwch ar ôl iddynt gyrraedd yno. Mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn am rai syniadau penodol am y ffordd orau y gallwn adnabod yr unigolion hynny a sut orau y gallwn eu cefnogi wrth symud ymlaen.
Mae'r ymgynghoriad yn amlwg yn agor heddiw. Hoffwn gael ymatebion yn ôl erbyn 14 Chwefror, Dydd Sant Ffolant, felly rwy’n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn swynol ac yn ddeniadol ac y byddant i gyd wedi syrthio mewn cariad â'r cynigion yr ydym yn eu hamlinellu yma gan y Llywodraeth heddiw.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma a hefyd am y gwaith a wnaed gan Syr Ian Diamond a'i dîm, a rhoi hynny ar y cofnod? Mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn rhoi sylw i'r materion i addysg uwch a’r gefnogaeth i’r myfyrwyr hynny. A gaf i hefyd gofnodi unwaith eto fy niolch i'w rhagflaenydd, Huw Lewis, a gychwynnodd hyn i gyd ac a welodd, yn y bôn, hyn yn dechrau dod i’r amlwg, ac y mae Ysgrifennydd y Cabinet bellach wedi ei ddwyn i ffrwyth?
Ysgrifennydd y Cabinet, un neu ddau o bwyntiau: rwy’n croesawu cysyniad y cydweithio rhwng addysg uwch ac addysg bellach ac mae'n bwysig inni gael y cydweithredu hynny, yn enwedig o ran sicrhau parch a statws cyfartal i gyrsiau prentisiaeth uwch. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig, ond rydych hefyd yn sôn am lefelau 4 a 5, ac o bosibl lefel 6, mewn sefydliadau addysg bellach, felly gallaf weld hynny’n cael croeso hefyd. Ond a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am drafodaethau Llywodraeth Cymru, efallai, â sefydliadau addysg bellach ynglŷn â materion staffio? Mae'n bwysig ar lefel 6 bod staff yn cael ymgymryd ag ymchwil sy'n hysbysu'r lefel 6. Felly, trafodaethau ar y materion staffio a allai godi o ganlyniad i’r agwedd honno.
O ran myfyrwyr rhan-amser, a wnewch chi egluro a fydd yn cael ei gymhwyso yn 2018-19 i bob myfyriwr rhan-amser, ni waeth pa lefel y maent yn astudio arni ar hyn o bryd, nid dim ond newydd-ddyfodiaid i’r rhaglen, oherwydd nid yw myfyrwyr rhan-amser erioed wedi cael y cymorth hwn? Felly, nid yw unigolyn sydd wedi ymgymryd efallai â dechrau'r ail flwyddyn ar sail ran-amser byth wedi elwa ar unrhyw gymorth. A ydym ni’n mynd i'w trin nhw’n gyfartal ag unrhyw un sy'n cychwyn ar gwrs o’r newydd, oherwydd gydag astudio rhan-amser, fel y gwyddoch, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cymryd nifer o flynyddoedd, mewn gwirionedd, i gwblhau'r cwrs oherwydd eu hymrwymiadau eraill? Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall pwy fydd yn gallu cael budd o hyn yn 2018-19.
Rydym ni hefyd yn gobeithio ehangu i gyrsiau ôl-raddedig rhan-amser oherwydd mae’r elfen ôl-raddedig a addysgir ar gyfer myfyrwyr amser llawn, fel yr wyf i’n ei ddeall o'r hyn yr ydych yn ei ddweud, ond cynigir rhai cyrsiau ôl-raddedig rhan-amser hefyd. Unwaith eto, gall rhai o'r rheini fod yn unigolion sy'n ceisio ennill cymwysterau pellach o adeg pan yr oeddynt wedi astudio o'r blaen ac yn awyddus i fynd yn ôl i'w gwaith, ond eu bod yn awr yn gobeithio cael cymhwyster lefel uwch oherwydd dyna’r agenda nesaf ar eu cyfer nhw.
Yn bersonol, rwy'n siomedig yn yr egwyddor ‘dim ond cysyniad o ymchwil o ansawdd’. Rwy’n cydnabod yr heriau, fodd bynnag, y bydd Brexit yn eu gosod ar arian ymchwil, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig eich bod yn cadarnhau eich ymrwymiad i'r rhaglen Sêr Cymru ac eraill, ac unrhyw raglenni olynol, fel bod prifysgolion yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymchwil, ac ymchwil o safon, oherwydd mae’n mynd i fod yn gyfnod anodd i brifysgolion yn y blynyddoedd sydd i ddod, wrth i ni weld problemau Brexit a cholli rhywfaint o’r cyllid efallai—nid o reidrwydd, ond efallai y bydd yna rywfaint o golli cyllid—i feysydd ymchwil, oherwydd nid ydym yn gwybod o hyd sut y bydd y cynghorau ymchwil yn gweithredu yn y blynyddoedd sydd i ddod ychwaith.
Yn olaf, ar y cymhellion i ddychwelyd i Gymru, rwy’n cymryd o’ch sylwadau chi heddiw mai myfyrwyr sy'n dychwelyd i Gymru, mewn gwirionedd, fydd yn cael y £1,500 wedi’i ddileu o’u benthyciad. A wnewch chi ystyried efallai yr heriau sy'n wynebu amrywiaeth o feysydd pwnc oherwydd mae rhai meysydd pwnc y mae myfyrwyr yn eu dilyn yn golygu nad ydynt yn gallu cael gwaith yng Nghymru? Hyd yn oed os ydynt yn dymuno dod yn ôl i Gymru, maent yn cael eu cyfyngu gan nad oes unrhyw gyfleoedd perthnasol yng Nghymru o bosibl. A wnewch chi ystyried y cyfleoedd efallai i helpu i annog myfyrwyr o ystod ehangach o bynciau i elwa ar y cynllun, nid dim ond am y rheswm syml eu bod yn dod yn ôl i Gymru i weithio? Gallent fod o fudd i ni mewn gwirionedd, yn datblygu sgiliau ac yn awyddus i ddod yn ôl yn y dyfodol. Mae angen i ni ymchwilio i hynny.
Hoffwn ddiolch i David am ei gwestiynau. A gaf i ei gwneud yn hollol glir bod yr holl fyfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn cael benthyciad trwy Weinidogion Cymru, ni waeth a ydynt yn dod yn ôl i Gymru ai peidio, yn gallu gwneud cais i ddileu hynny’n rhannol? Nid yw hynny'n dibynnu ar ddod yn ôl i Gymru. Mae hynny’n fantais ychwanegol sydd gan fyfyrwyr o Gymru: pan fyddant yn cyrraedd y trothwy i ddechrau ad-dalu eu benthyciadau, gallant wneud cais am ddileu rhannol, a hynny lle bynnag y maent yn astudio.
Rwyf i, Alun Davies a Julie James yn gweithio gyda'n gilydd ar y cyd i sicrhau bod gan aelodau o staff mewn colegau addysg bellach sgiliau a chyfleoedd. Mae rhan o'r arian sy'n cael ei roi ar gael yn y gyllideb sydd ar ddod i ystyried cydweithio agosach rhwng addysg uwch ac addysg bellach wedi ei gynllunio i wneud yr union beth hynny, ac i ystyried cefnogi ymchwil mewn sefydliadau addysg bellach hefyd, lle bo hynny'n briodol. Byddwn yn ystyried, fel Llywodraeth, amlinellu gwaith pellach yn y maes hwn pan fyddwn yn lansio ymateb y Llywodraeth i adroddiad Hazelkorn, ac rydym yn gobeithio gwneud hyn yn y flwyddyn newydd.
O ran i bwy y bydd hyn ar gael, mae gen i ofn, David, y bydd ar gael i newydd-ddyfodiaid ar y dyddiad penodol hwnnw. Os ydym yn sydyn yn dweud wrth ran o'r garfan hanner ffordd drwy'r cwrs, ‘Gallwch chi gael trefn wahanol’, byddai hynny’n gwbl amhosibl i'w reoli. Rydym yn ceisio dangos yn awr, yn amlwg iawn, gamau i ddiogelu carfannau ar gyfer y rhai sydd eisoes yn y system, gan gynnwys y bobl hynny sy'n gwneud cais i brifysgol y flwyddyn hon, a chynnig eglurder gwirioneddol fel bod pobl yn gwybod, wrth iddynt wneud cais am gyrsiau, o dan ba system y byddant yn cael eu trin. Mae'n ddigon o her i greu system o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i gyflwyno'r drefn newydd hon. Os byddwn ni’n dechrau gofyn iddynt gael systemau gwahanol yn ôl-weithredol, gan alluogi unigolion i ddewis opsiynau gwahanol, byddem yn y pen draw mewn anhawster mawr. Ac nid ydym yn dymuno achosi unrhyw anhawster pellach nag sydd ei angen i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sydd weithiau, fel yr ydym wedi gweld yn ddiweddar, yn ei chael yn anodd i ymdopi â gwahanol systemau mewn gwahanol rannau o'r wlad.
A gaf i ddweud bod ansawdd yr ymchwil yn ein sefydliadau addysg uwch yn gwbl allweddol? Bydd yn dod yn llawer mwy heriol o ganlyniad i Brexit, ond rhan o waith y grŵp addysg uwch yr wyf wedi’i sefydlu i ystyried effaith Brexit yw mynd ati i ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ymchwil o safon yn ein sefydliadau wrth symud ymlaen.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. A gaf i groesawu’r datganiad yn ei gyfanrwydd? Mae'n fater o farn a rhywfaint o ragweld o ran lefel ffioedd, ond rwy’n derbyn yr egwyddorion uchel a’r rhan fwyaf o sylwedd argymhellion yr Athro Syr Ian Diamond fel rhywbeth sydd i’w groesawu’n aruthrol, ac roedd y sylw a wnaed gan fy nghydweithiwr yma ar fy chwith am gyflwyno hyn mewn ffordd amserol hefyd yn bwynt da. Rwyf yn ei llongyfarch ar yr amseru arbennig o ffodus hefyd, a’r modd digywilydd y gwnaeth hybu’r grŵp trawsbleidiol ar addysg uwch sydd, yn wir, yn cyfarfod heno gyda'r Athro Syr Ian Diamond, a gallwn drafod hyn ymhellach.
Mae hwn yn fater o sicrhau bod tegwch a chynaliadwyedd wrth wraidd ein system addysg uwch i fyfyrwyr, i’r trethdalwr a hefyd tegwch a chydnerthedd ein sector addysg uwch. Ond ar y mater hwnnw o degwch, efallai y caf ofyn iddi am ei barn ynglŷn â sut y mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ei hun yn eistedd ochr yn ochr â hynny, ac a yw hi’n rhannu unrhyw un o fy mhryderon ynghylch y cyfeiriad yr eir iddi gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr? Dim ond yr wythnos hon, cyflwynwyd diwygiad i’r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil i geisio atal y mireinio a wnaethpwyd yn y gyllideb y llynedd gan y Canghellor George Osborne, a fydd yn achosi i ad-daliadau gan fyfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r wlad fod yn £360 y person, ar gyfartaledd, yn ddrutach pan fyddant yn dechrau ad-dalu eu benthyciad. Nid dyna yr hyn a addawyd iddynt, ac mae ofn o ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a’r Canghellor, oni bai bod y materion hyn yn cael eu datrys, ac oni bai bod yr addewidion hyn yn cael eu cyflawni i'n myfyrwyr, a’u bod yn gallu ymddiried yn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, bod hynny’n tanseilio’r canfyddiad o ffydd, tegwch a gonestrwydd.
Felly, mae’r gyfres hon o gynigion heddiw yn dda, yn gadarn ac wedi eu llunio’n dda, a byddaf yn edrych ymlaen, ar Ddydd Sant Ffolant, i roi fy nghyflwyniad i hefyd. Bydd yn gwneud yn iawn am y Dydd Sant Ffolant y treuliais gyda fy ngwraig y tro cyntaf y cefais fy ethol dros Ogwr yn 2002. Ond a yw hi’n rhannu’r pryderon hynny am y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ac a yw hi’n gobeithio heddiw, yn y datganiad y gyllideb hwn, y bydd y bydd y penderfyniad cyfredol—[Torri ar draws.] Na, roedd hi'n gyda mi. [Chwerthin.] Roedd fy ngwraig gyda mi. A yw hi'n gobeithio y bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei wyrdroi a thegwch yn cael ei ddarparu i’r myfyrwyr hynny yng nghyhoeddiad y gyllideb heddiw?
Rwy’n meddwl weithiau, Lywydd, ein bod ni i gyd yn rhoi ychydig gormod o wybodaeth i'r Siambr. [Chwerthin.] Neu, fel y byddai fy merch sydd yn ei harddegau yn dweud: ‘TMI, mam, TMI’.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a dweud pa mor falch ydw i fod y grŵp hollbleidiol yn bodoli? Rwy’n meddwl bod angen i ni gael y cyfleoedd hynny i Aelodau, ein sefydliadau a'r rhai sydd â diddordeb yn y maes pwysig iawn hwn ar gyfer fforwm lle y gallwn ddod at ei gilydd a thrafod y materion pwysig hyn. Felly, rwy'n ddiolchgar am ei fentergarwch wrth sefydlu'r grŵp, ac rwy'n siŵr y bydd gan yr Athro Diamond ddigon i'w ddweud wrth bawb heno.
Rwy’n ymwybodol o'r dadlau yn Lloegr am benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi ad-daliadau am gyfnod o bum mlynedd. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad ar gyfer y dyfodol ynglŷn â lefel ei throthwyon ad-dalu ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael benthyciadau ers 2012. Er bod Llywodraeth Cymru yn gallu pennu ei throthwyon ad-dalu ei hunan, byddai'n rhaid i ni weithio drwy'r goblygiadau ymarferol ac ariannol o ddatgysylltu y system gasglu ad-daliadau gyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr. Byddai hynny'n hynod o gymhleth ac yn anodd ei gyflawni mewn cyfnod byr o amser. Fodd bynnag, byddwn yn falch pe bai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi penderfynu y byddai'n hoffi cynyddu'r trothwy ad-dalu i gyflawni ei hymrwymiadau blaenorol a byddem yn hapus i ddiwygio ein trothwyon ni yn unol â hynny.
O ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, mae hyn wedi bod yn fater o bwys enfawr i mi ers i mi gymryd y swydd. Bu problemau eisoes yn y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sydd wedi cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i symud i’r cyfeiriad polisi y byddai'n dymuno mynd iddo. Mae hynny'n gyfystyr â gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr Cymru, ac nid yw hynny’n dderbyniol i mi. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cyfarfod â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, siarad â nhw, ac ysgrifennu atynt ar sawl achlysur. Yn wir, mae gennyf uwch swyddog yn yr SLC heddiw, yn gweithio ar gynlluniau i weithredu’r cynllun penodol hwn, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu ei gyflawni. Ond mae'r rhain yn bethau yr wyf yn cadw llygad agos iawn arnynt, a byddaf yn parhau i’w hystyried i sicrhau bod myfyrwyr Cymru yn cael y fargen orau bosibl.
Diolch yn fawr iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Rhentu Doeth Cymru. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet. Carl Sargeant.
Diolch i chi, Lywydd. Ar y diwrnod cyn cychwyn y pwerau gorfodi, mae'n bwysig atgoffa ein hunain o ddiben Rhentu Doeth Cymru. Roedd ein Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys deddfwriaeth arloesol a luniwyd i wella'r sector rhentu preifat drwy gofrestru gorfodol a thrwyddedu pob landlord ac asiantau preifat.
Mae'r sector yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein system dai. Mae'n darparu cartrefi i lawer o bobl, gan gynnwys rhai pobl sy'n agored i niwed. Mae llawer o landlordiaid ac asiantau gosod da, ond mae’r sector yn dioddef o enw drwg a achosir gan arferion pobl eraill. Bydd cofrestru yn nodi, am y tro cyntaf, y landlordiaid sy'n gosod eiddo a lle mae’r eiddo hwnnw. Mae trwyddedu yn cynnwys prawf person addas a phriodol ac, yn bwysig, hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn uniongyrchol. Mae sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn rhoi mwy o ddiogelwch ar gyfer tenantiaid ac yn helpu i godi safonau, gan wneud y sector yn gynnig mwy deniadol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae'r flwyddyn gyntaf wedi bod yn gyffyrddiad ysgafn yn fwriadol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a galluogi landlordiaid ac asiantau i gymryd y camau angenrheidiol i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Er bod rhagor i'w wneud, mae'r cyflawniad yn y 12 mis cyntaf yn sylweddol. Erbyn 9.00 p.m. ddoe, roedd dros 55,000 o landlordiaid preifat wedi cofrestru a 12,700 arall wedi cychwyn ar y broses gofrestru. Cymharwch hyn â'r cynllun achredu gwirfoddol blaenorol—ar ôl nifer o flynyddoedd, dim ond tua 3,000 o landlordiaid preifat oedd wedi eu hachredu.
Nid yw pob landlord yn cytuno â'r ddeddfwriaeth neu yn gweld yr angen amdani. Fodd bynnag, mae 96 y cant o'r rheini sy'n mynychu'r sesiynau hyfforddi wedi dweud y byddai'n eu gwneud yn well landlordiaid, sef yr union beth yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Mae manteision i landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd. Yfory, mae elfennau terfynol y ddeddfwriaeth yn dod i rym, sy’n cynnwys y pwerau gorfodi. Byddant yn lleihau'r cyfle i landlordiaid gwael esgeuluso eu cyfrifoldebau, ac i landlordiaid diegwyddor gamfanteisio ar eu sefyllfa heb ofni canlyniadau. Yn ddelfrydol, ni fyddai angen gorfodaeth arnom. Fodd bynnag, gwyddom y bydd rhai landlordiaid preifat yn fwriadol yn anwybyddu'r gyfraith. Bydd y grŵp hwn yn cael ei dargedu ac os ydynt yn methu â chydymffurfio, byddant yn wynebu'r canlyniadau, gan gynnwys dirwyon, cosbau penodedig, cyfyngiadau ar droi tenantiaid allan, a stopio rhent a gorchmynion ad-dalu. Yn y pen draw, gellid eu hatal rhag rheoli eiddo yn uniongyrchol.
Yn y misoedd diwethaf, gwelwyd rhuthr enfawr i gofrestru, Ddirprwy Lywydd, ar hyn o bryd ar gyfartaledd o tua 1,100 o landlordiaid y dydd. O ganlyniad, mae Rhentu Doeth Cymru wedi cymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i rai o'r galwadau a’r negeseuon e-bost hynny. Rwy’n sylweddoli bod hyn wedi achosi pryder i rai landlordiaid nad ydynt wedi gallu cwblhau'r broses gofrestru a thrwyddedu. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi dweud na fydd y rhai sydd wedi dechrau ar y broses i gydymffurfio yn wynebu camau gorfodi os ydynt wedi gwneud popeth y gallant yn rhesymol i gydymffurfio. Ond ni ddylai hyn gael ei weld fel esgus i anwybyddu'r gyfraith. Mae fy neges i landlordiaid preifat yn glir: mae'n rhaid i chi gymryd camau i gydymffurfio â gofynion y gyfraith. Bydd camau gorfodi yn cael eu defnyddio'n briodol ac yn gymesur, ond mae methiant i weithredu yn eich rhoi mewn perygl o gael camau gweithredu yn eich erbyn.
Mae rhai wedi awgrymu y dylai'r dyddiad ar gyfer gorfodaeth gael ei oedi. Ni fyddai hyn yn datrys unrhyw beth. Byddai rhai landlordiaid yn syml yn oedi gweithredu tan y dyddiad cau nesaf, a po gyntaf y bydd gennym orfodi ar waith, y cyntaf y gallwn ganfod a mynd i'r afael â'r landlordiaid drwg yr ydym yn chwilio amdanynt. Cafodd ei awgrymu hefyd y bydd y drefn orfodi yn methu oherwydd nad oes gan Rentu Doeth Cymru ond naw swyddog gorfodi. Dylai pawb sylweddoli bod gan Rentu Doeth Cymru gefnogaeth swyddogion yn ein holl awdurdodau lleol, a fydd yn rhagweithiol yn lleol o ran annog cydymffurfio â'r gofynion. Mae'r dull hwn yn seiliedig ar y cynsail, ar gyfer landlordiaid preifat, bod 'cydymffurfiaeth yn well nag euogfarn'.
Felly, bydd yfory yn nodi carreg filltir arwyddocaol. O fewn cyfnod cymharol fyr, mae llawer iawn wedi'i gyflawni. Mae niferoedd cofrestru hyd yma ymhell y tu hwnt i'r amcangyfrif o 20 y cant yr oedd disgwyl iddynt fod wedi cofrestru ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, a gyflwynwyd ym memorandwm esboniadol y Bil tai. Rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yn Rhentu Doeth Cymru, i gyngor dinas Caerdydd ac i bob awdurdod lleol am eu holl waith. Mae llawer mwy i'w wneud, Ddirprwy Lywydd, ond mae llawer eisoes wedi ei gyflawni.
Rydym wedi trefnu i'r cynllun gael ei werthuso'n annibynnol dros dair blynedd. Mae'r adroddiad interim cyntaf wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Er bod y ffigurau yn yr adroddiad yn hen erbyn hyn, mae'n nodi gofynion a materion posibl wrth fynd ymlaen, gan gynnwys camau sy'n berthnasol i orfodi, ac mae'r rhain ar y gweill. Mae Llywodraeth y DU a nifer o wledydd eraill, gan gynnwys Awstralia, â diddordeb yn yr arweiniad yr ydym wedi’i roi ac yn gwylio datblygiadau gyda diddordeb. I mi, y peth mwyaf pwysig yw beth yr ydym yn ei wneud gyda'r system hon fel ei bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartref gan landlord neu asiant preifat. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ganmol arfer Llywodraeth Cymru o gynnal adroddiad interim? Mae hwn yn newid pwysig mewn polisi cyhoeddus, ac mae'n ymddangos i mi yn arfer da iawn yn wir i adolygu'r sefyllfa yn drylwyr ac yna i ofyn am ffyrdd y gellid gwella gorfodi cyflwyno’r polisi. Felly, rwyf wir yn credu bod hynny i'w groesawu, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifenyddion Cabinet eraill a fydd yn ymwybodol o'r arfer hwn yn ei ddilyn.
Hoffwn ganolbwyntio ar yr adroddiad interim, ac mae'n eithaf cytbwys. Mae pethau sydd yn amlwg wedi gweithio'n dda ac mae rhai meysydd sydd angen rhywfaint o sylw. Mae'r adroddiad interim yn dweud y bu cynllunio cymharol wael. Efallai mai rhan o'r broblem yw bod eich rhagflaenydd wedi nodi nad oedd y Llywodraeth ond yn disgwyl cofrestriad o tua 20 y cant erbyn y cam hwn. Wel, rydych chi wedi gwneud llawer yn well na hynny, ond nid wyf yn credu bod hynny wedi bod o gymorth mawr. Rwy’n meddwl bod hynny wedi anfon y signal anghywir, a byddai wedi bod yn well i chi ddweud eich bod yn disgwyl i bobl, o fewn y flwyddyn honno, fodloni eu rhwymedigaethau.
Rwyf hefyd yn credu bod canfyddiad yr adroddiad bod awdurdodau lleol braidd yn ddryslyd ynghylch sut y bydd gorfodaeth yn cael ei symud ymlaen, sut maent yn berthnasol i Rentu Doeth Cymru—ac fe wnaethoch gyfeirio at y swyddogion gorfodi sydd yn Rhentu Doeth Cymru ac wedyn y rhai a fydd yn yr awdurdodau lleol. Mae sut y bydd y rhain yn cyfuno, sut y bydd y timau hyn yn gweithredu ac yn sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar gyfer gorfodi, rwy’n meddwl yn fater allweddol, ac mae hynny wedi cael ei nodi yn yr adroddiad.
Mae ymwybyddiaeth o gofrestru gorfodol fel gofyniad yn eithaf isel ymhlith landlordiaid, ac rwy'n credu mai’r sefyllfa yr ydym ynddi yw—chi’n gwybod, mae rhywbeth dros 50 y cant yn awr wedi cofrestru, ond rwy’n amau mai’r rhai nad ydynt wedi cofrestru yw’r grŵp anoddach i’w gyrraedd, yn ôl pob tebyg y landlordiaid hynny sydd â llai o eiddo, a gall rhai ohonynt hefyd fod yn ddi-hid iawn am eu rhwymedigaethau. Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf ohonynt yn ôl pob tebyg yn anymwybodol ohono yn unig. Yn awr, wrth gwrs, maent yn gyfrifol am y diffyg ymwybyddiaeth, ond rhan o'r broblem, rwy’n meddwl, yw bod y strategaeth hyrwyddo wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau ond efallai nid yn llwyddiannus iawn wrth gyrraedd y rheini. Felly, rwy’n meddwl bod angen i chi ailwampio'r strategaeth hyrwyddo. Mae hyn hefyd yn arwain at fy mhwynt, os ydych yn awr yn symud at orfodi yn hytrach nag ymestyn y terfyn amser, rwy’n gobeithio y byddwch yn sicrhau ein bod ni'n gymesur yn ein hymateb, oherwydd, ar hyn o bryd, gallai gorfodaeth olygu dim ond sicrhau eu bod yn cofrestru, ac nid wyf yn meddwl o reidrwydd bod angen i ni symud yn gyflym i sancsiynau lle gall pobl fod wedi bod yn anymwybodol ac, unwaith y bydd wedi cael ei ddwyn i'w sylw yn fwy gweithredol, yna maent yn cofrestru yn gyflym. Dylai hynny fod yn nod er mwyn i ni sicrhau y gall y newid polisi hwn weithio'n effeithiol.
Calonogwyd fi hefyd i ddarllen bod yr hyfforddiant a ddarparwyd yn ymddangos i fod wedi bod yn effeithiol iawn. Sylwaf fod tua hanner y rheiny a gymerodd ran wedi dweud ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at welliant yn eu harfer eu hunain. Yn awr, mae hynny'n ganlyniad da ond mae'r adroddiad interim yn dweud bod angen cynyddu’r hyfforddiant. Mae arnom angen mwy ohono, ac rwy’n meddwl y gall hynny hefyd fod yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei wella ychydig a’i adolygu wrth i chi ddod at y landlordiaid hynny sy'n llai profiadol neu’n llai cyfarwydd â—gyda phortffolio eiddo llai, ac nad ydynt yn neilltuo cymaint o amser efallai i’r rhwymedigaethau sydd ganddynt. Felly, rwy’n meddwl bod rhai arwyddion clir yn yr adroddiad hwn am sut y gallwch ddatblygu’r polisi hwn, ond rwy’n derbyn ei fod wedi bod yn ddatblygiad pwysig mewn polisi cyhoeddus, ac mae'n rhywbeth yn awr lle’r ydym yn hollol barod i edrych ar y dystiolaeth. Os ydyw’n cynhyrchu safonau uwch ar gyfer y sector, mae hynny’n mynd i fod yn dda ar gyfer y sector, mae hynny'n mynd i fod yn dda ar gyfer landlordiaid a bydd yn dda ar gyfer tenantiaid. Felly, byddwn yn cadw golwg ar hyn, ond rwy’n meddwl y gallaf roi dwy hwrê ar y cam hwn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau pwyllog gan David Melding. Rwy’n hapus iawn gyda dwy hwrê. Mae'r ffaith ein bod yn cael dwy yn well na dim, yn wir.
Mae’r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn rhai pwysig. Mae'n ymwneud â dysgu gwersi o'r rhaglen newydd hon yr ydym yn ei chyflwyno, gyda phobl yn aml yn canolbwyntio ar broses Rhentu Doeth Cymru, yn hytrach na'r rheswm pam y cafodd ei chyflwyno gennym yn y lle cyntaf a’r holl broses o geisio mynd i'r afael â landlordiaid drwg. Drwy'r Bil tai, pan gyflwynwyd hwnnw, ymwelais â sawl eiddo lle'r oedd pobl yn byw mewn amodau peryglus iawn, ac amodau eithaf anaddas, dan fygythiad gan landlord, 'Os byddwch yn dweud rhywbeth, byddwch chi allan beth bynnag'. Rwy'n credu ei fod yn hollol amhriodol, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno’r gyfraith hon.
O ran y niferoedd—mae’n ddiddorol, pan oeddech yn dweud 'y Gweinidog blaenorol'; rwy’n credu, mewn gwirionedd, mai’r broses memorandwm esboniadol, 20 y cant, oedd fi. [Chwerthin.] Roedd Gweinidog yn y cyfamser hefyd. Ond nid wyf yn meddwl y dylem fod yn swil am y ffaith. Iawn, roedd 20 y cant yn amcangyfrif rhy isel, ond rwy’n falch iawn ein bod wedi cael dros hanner wedi cofrestru yn gynnar yn y broses gofrestru mewn gwirionedd. Mae mynd o wirfoddoli i fod yn rhan o'r rhaglen gyda 3,000, bellach yn 55,000 eiddo cofrestredig yn wahaniaeth enfawr.
Swyddogion gorfodi: mae’r Aelod yn iawn i godi'r mater. Mae honno bellach yn broses lle, unwaith eto, bydd yn rhaid i ni gael ymateb pwyllog i sut yr ydym yn datblygu gorfodi. Rwy'n awyddus i wneud y gwaith hwnnw gyda phobl a landlordiaid nad ydynt efallai wedi cael eu hysbysu. Rwy'n ei chael hi'n eithaf anodd credu, ond rwyf hefyd yn deall bod landlordiaid achlysurol nad ydynt yn broffesiynol ac nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod mewn gwirionedd yn landlordiaid. Mae angen fy mherswadio, ond, mewn gwirionedd, rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i ddeall y lefel o orfodaeth a sut y byddem yn gwneud hynny.
Dydw i ddim yn argyhoeddedig am y materion codi ymwybyddiaeth a gododd yr Aelod, nad ydym wedi bod yn broffesiynol neu fod proses nad ydym wedi ei dilyn heb gael ei chyflwyno. Rydym wedi gweld 55,000 o gofrestriadau newydd. Yn wir, gwelodd fy nghydweithiwr Jenny Rathbone un o’r hysbysebion ar gefn bws yng Nghaerdydd, y mae hi'n gyson yn fy atgoffa ohono, sy'n beth da. Rwy'n credu mai fy mhryder yw bod y broses codi ymwybyddiaeth wedi cael ei hanwybyddu gan rai, a dyna beth mae'n rhaid i ni geisio ei ddeall, ynghylch y ffordd yr ydym yn mynd i mewn i feddylfryd yr unigolion sy'n dewis anwybyddu, ac yna gallai gorfodi ddilyn. Ond rwy’n ddiolchgar am sylwadau cadarnhaol yr Aelod, ac rwy’n gobeithio y bydd y broses yr ydym wedi’i dilyn, gan gynnwys yr adroddiad interim a dilyn hynny gydag adroddiad llawer mwy sylweddol yn nes ymlaen, yn rhoi’r dystiolaeth i ni y mae’r Aelod yn ei dymuno er mwyn cael eglurder a hyder yn ei chylch, a hefyd i mi fel Gweinidog sy'n arwain ar hyn.
Duw, mae'r Llywodraeth hon yn hoff o’i broliant, yn tydi? Gan gynnwys 'deddfwriaeth arloesol': wel, rwy’n meddwl mai'r unig beth yr wyf yn ei weld yn arloesol yn hyn yw'r anallu llwyr i roi hwn ar waith. Mae'n sôn am brawf addas a phriodol ac, yn bwysig, hyfforddiant. Wel, mae'n drueni nad yw hynny’n cael ei ymestyn i Weinidogion. Amcangyfrifwyd bod 130,000 o landlordiaid yng Nghymru. Felly, os mai dim ond 55,000 sydd gennym wedi cofrestru, mae hynny'n llai na hanner. [Torri ar draws.] Yn awr, Weinidog, rydych yn siarad â mi pan rwyf yn ceisio gwneud yr ateb hwn i’ch datganiad, felly, pe byddech chi ond yn rhoi cwpl o eiliadau i mi, yna gallwch ddod yn ôl ataf i, iawn? Yn awr, pan oeddwn yn athro, os oeddech yn cael llai na 50 y cant, roeddech yn methu. Felly, chi'n gwybod, rwy’n credu bod yr holl weithredu hwn yn sicr yn fethiant.
Rydych yn sôn am 96 y cant yn dweud y byddai'n eu gwneud yn well landlordiaid. Nid yw'n dweud hynny mewn gwirionedd, oherwydd bod 51 y cant yn dweud nad oeddent yn ei ystyried yn llawer o fudd, os ydych yn darllen yr adroddiad. Beth mae hyn yn gyffredinol yn ei wneud yw gosod, byddwn i'n dweud, costau ar landlordiaid bach, pobl sydd ag eiddo ar gyfer eu pensiwn yn unig, mewn gwirionedd, ac mae pobl yn cael eu gyrru allan o'r sector—ac rwyf wedi codi gwaith achos fy hun o bobl yn cael eu gwneud yn ddigartref gan landlordiaid yn gwerthu eiddo. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i’w gofio.
Os edrychwn ar yr hyfforddiant, byddwn yn gofyn i chi: ydych chi wedi darllen yr hyfforddiant? Chi’n gwybod, ydych chi wedi darllen eich dogfennau eich hun ar-lein, er enghraifft?
Mae'n rhy hwyr i’w ddarllen yn awr. [Chwerthin.]
Rwy’n ceisio dod o hyd iddo. Oherwydd, os ydych yn edrych—o, mae ar y ddalen nesaf. Os ydych yn edrych ar yr hyn sydd ar-lein, mae'n gyfystyr â 60 tudalen o destun A4 yn cael eu dilyn gan arholiad amlddewis. Nid oes unrhyw fideos, nid oes ond ychydig o enghreifftiau, mae ychydig o astudiaethau achos, nid oes unrhyw ddiagramau, nid oes unrhyw gynnwys rhyngweithiol. Yn awr, mae hyn yn wir yn bwysig, Weinidog, oherwydd, mewn geiriau eraill, mae’n torri canllawiau Llywodraeth Cymru ei hun ynghylch addysg i oedolion, sy'n disgwyl i ddarparwyr cynnwys deilwra cyrsiau i anghenion y dysgwyr, a byddwn i’n gwybod hynny fel athro. Rydych chi wedi methu â gwneud hynny. Mae'n fethiant arall ar eich rhan chi.
Nid oes adran ar hawliau tenantiaid. Pam ddim? O ran y diffyg ymgysylltu, cwestiwn syml iawn: pam nad ydych wedi cwrdd â Chymdeithas Landlordiaid Preswyl ers i chi ddod yn Weinidog ym mis Mai? Methiant syfrdanol arall, mewn gwirionedd.
Nawr, dydw i ddim yn un i feirniadu heb roi atebion. Felly, byddaf yn cynnig rhai atebion i chi yn awr. Rwy'n credu y dylai’r ffi i gofrestru fod yn £10 yn unig. Gallai'r holl wybodaeth gael ei hanfon allan ar PDF, yn rhad ac am ddim. Dyw hynny ddim yn gymhleth. Gallech efallai gael hyfforddiant mwy manwl ar gyfer y rhai sydd ei angen, fel opsiwn. Nid yw hyn yno ar y funud. A gallech weithio gydag yswirwyr i greu cymhellion i bobl ymuno. Yn bennaf, gallech oedi gorfodi, oherwydd yr hyn yr ydym yn edrych arno yma yw dros 50 y cant o bobl a allai fod yn wynebu sancsiynau, llawer ohonynt nad ydynt hyd yn oed yn gwybod am y cynllun hwn. Felly, rwy’n meddwl fy mod i wedi codi sawl cwestiwn yno. Rwy’n meddwl bod eich perfformiad ar hyn yn eithaf gwarthus. Rwy’n meddwl pe bai gennym Brif Weinidog rhagweithiol, byddech yn casglu eich P45. [Torri ar draws.] Rwy'n meddwl bod ymateb yr Aelodau Llafur yno yn ddiddorol. Felly, mae nifer o gwestiynau yno, Weinidog. Allech chi roi sylw iddyn nhw os gwelwch yn dda? Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y cwrs ar-lein, oherwydd eich bod wedi methu ar eich canllawiau eich hunain.
Nodaf dôn ymosodol yr Aelod unwaith eto yn ei gyfraniad i'r Siambr. Wrth gwrs, drwy broses y Bil tai, byddai'n esgeulus ohonof i beidio â dweud bod grŵp Plaid Cymru yn gefnogol iawn i’r broses ac, yn wir, y ffordd y cafodd ei strwythuro. Yn anffodus, nid ydym yn gwneud deddfwriaeth ar ffordd Neil McEvoy o feddwl o ran sut y dylem wneud pethau—oherwydd ei fod yn credu ei fod yn iawn. Rydym ni’n gweithio ar atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Aelod yn anghywir pan ddywed nad wyf wedi cwrdd â Chymdeithas Landlordiaid Preswyl drwy'r broses. Rwyf wedi, ar sawl achlysur, cwrdd â nhw drwy'r broses hon. [Torri ar draws.] Rwyf wedi nodi sylwadau'r Aelod a'i dôn ymosodol tuag ataf, Lywydd. [Torri ar draws.]
Gadewch i’r Gweinidog ymateb, os gwelwch yn dda.
Rwyf wedi nodi sylwadau'r Aelod, a byddaf yn amlwg yn rhoi ystyriaeth bellach i’w cynnwys—ond nid heddiw.
Gan nodi’r sylwadau defnyddiol gan David Melding, rwy’n meddwl yn amlwg fod rhai pobl sydd wedi methu â chofrestru, oherwydd eich bod wedi dweud bod mwy na 55,000 wedi cofrestru erbyn 9 o’r gloch neithiwr, yn ogystal â 12,700 sydd wedi dechrau ar y broses. Felly, dyna ryw 68,000. Roeddwn yn meddwl tybed a oes gennych unrhyw syniad o'r niferoedd a allai fod yn gysylltiedig sydd yn syml wedi anwybyddu'r alwad. Cofiaf, pan aethom â’r Bil tai drwy’r pwyllgor, y syniad oedd bod rhywbeth rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid—felly, rhyw syniad o'r hyn yr ydych yn credu yw’r diffyg.
Gan nodi pwynt David Melding, rwy’n credu ei bod yn briodol cael agwedd wahanol tuag at yr hen wraig fach ddiarhebol sydd ag un eiddo, nad yw efallai wedi sylweddoli am y Ddeddf tai newydd, ond mae angen i ni gymryd agwedd hollol wahanol tuag at landlordiaid proffesiynol sydd wedi anwybyddu hyn yn syml. Rwy’n ymdrin ag un ar hyn o bryd sydd yn ymdrechu i addasu eiddo mewn ffordd sy'n gwbl y tu allan i'r rheoliadau adeiladu, ac mae'n rhaid i mi ganmol y swyddogion rheoliadau adeiladu a swyddogion iechyd yr amgylchedd am y gwaith y maent wedi ei wneud ar yr eiddo hwn, am wrthod rhoi tystysgrif gwblhau rheoliadau adeiladu nes bydd y gwaith i gyd wedi cael ei wneud i safon foddhaol. Dyma'r union fath o landlord sydd—mae angen i ni sicrhau bod gennym berson priodol sydd wedi ei gofrestru fel y gall y tenantiaid fynd ar ôl y landlord i wneud y gwaith diffygiol. Felly, rwy’n eich cymeradwyo’n llwyr am y Ddeddf hon, ac fel rhywun sydd yn ôl pob tebyg ag un o’r niferoedd mwyaf o gartrefi yn y sector rhentu preifat o unrhyw etholaeth, rwy’n sylweddoli bod hon yn Ddeddf wirioneddol, wirioneddol bwysig.
Mae manylyn pellach yr oeddwn am ofyn i chi amdano—y cymhellion ariannol posibl y gallem fod yn dymuno eu rhoi ar ddiwedd tymor pum mlynedd y drwydded i unrhyw un sy'n barod i gynnal y drwydded honno. Gallai'r rhai cynharaf gael rhyw fath o fân gymhelliant ariannol i'w cael i gymryd rhan. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn eithaf anhygoel, y gwaith y mae Rhentu Doeth Cymru wedi ei wneud i gael y nifer hwn o bobl wedi cofrestru mewn amser mor fyr, oherwydd bod cymaint o landlordiaid wedi ei gadael tan y funud olaf. Erbyn 13 Tachwedd, dim ond 46,300 oedd wedi cofrestru, felly mae'r ffaith eu bod wedi cyrraedd 55,000 erbyn neithiwr yn wir yn glod i’r gwaith sydd wedi ei wneud gan Rentu Doeth Cymru. Rwy'n siŵr y byddant yn gallu dibynnu ar gydweithrediad cyngor Caerdydd i sicrhau ein bod yn mynd ar drywydd y rhai nad ydynt yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.
Diolch i'r Aelod am ei chefnogaeth barhaus. Unwaith eto, ymdriniodd yr Aelod â manylion o ran y Bil tai pan aeth drwy'r Cynulliad, gan siarad ag amrywiaeth o randdeiliaid o blaid ac yn erbyn y ddeddfwriaeth arfaethedig, ac roedd siâp y ddeddfwriaeth yn broses garreg filltir bwysig i’r sefydliad hwn. Rwy'n falch ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hynny.
O ran y niferoedd, eto, erbyn neithiwr, roedd yn 55,000. Rydym yn disgwyl gweld yn ystod y deuddydd nesaf—ddoe a heddiw—cynnydd sylweddol ar hynny, yn sgil yr ymdrech munud olaf gan unigolion i fod ar y gofrestr. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau efallai drwy lythyr yn yr wythnos nesaf yn fras o safbwynt y niferoedd sydd wedi dod o'r diwedd ar y dyddiad cau, fel y byddwch chi a fi yn gwbl ymwybodol o hynny. Rwy'n credu mai’r hyn y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono yw mai dyma’r gyfraith, ond rwyf hefyd yn cydnabod ei fod yn ymwneud â chymesuredd yn nhermau gorfodaeth. Byddwn yn disgwyl i'r timau gorfodi edrych ar hyn yn gymesur wrth iddynt ystyried y broses orfodi.
Ymwelais â chynllun, mewn gwirionedd y tu allan i Gymru, lle'r oedd cynllun gorfodaeth tebyg a'r eironi oedd ei fod mewn gwirionedd yn bwysau gan gymheiriaid o'r tu mewn i'r sector. Roedd pobl oedd wedi'u cofrestru yn dweud am Rif 12 a oedd yn landlord ac nad oedd wedi cofrestru. Cafodd ei reoleiddio o fewn y farchnad, a oedd yn ddefnyddiol iawn gan nad ydynt hwythau chwaith eisiau landlordiaid drwg yn dod ag enw drwg i'r system. Nid yw ond yn iawn i wneud hynny hefyd.
Yn wahanol i rai o feirniaid anwybodus y ddeddfwriaeth hon, neu'r gweithredu ar hwn—mae un neu ddau, fel y gallech fod wedi clywed y prynhawn yma—rwyf wedi ymweld â'r ganolfan weithredu yng Nghaerdydd. Rwyf wedi cwrdd a siarad â'r timau ym mhen blaen y broses anodd iawn hon o gael pobl i fod yn gofrestredig. Rwy’n rhoi teyrnged i'r bobl sydd yno yn y pen blaen, yn siarad â phobl ac yn arwain pobl drwy'r broses o wneud cais. Dyw hi ddim yn un syml ond mae'n anghenraid. Dyma’r gyfraith. Hoffwn pe byddai Aelodau'n cydnabod hynny. Mae cyngor dinas Caerdydd wedi gwneud gwaith gwych o ran yr hyn y maent wedi ei wneud ar gyfer Cymru gyfan drwy fynd â’r gweithredu hwn yn ei flaen. Rwy'n dymuno'n dda iddynt yn y dyfodol.
O ran y cymhelliant, mae’n syniad diddorol. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny, oherwydd credaf fod cymell pobl i wneud hyn a dod i mewn yn gynnar mewn gwirionedd yn ein helpu ninnau hefyd. Pe na byddem wedi cael y rhuthr ar y diwedd, ni fyddem wedi cael yr oedi yn y ceisiadau. Felly, byddaf yn rhoi mwy o ystyriaeth i hynny. Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Nid wyf am wneud gormod o sylwadau ar natur y cynllun cofrestru landlordiaid oherwydd ei fod wedi ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth gafodd ei thrafod a'i phasio gan y Cynulliad diwethaf. Fodd bynnag, mae un pwynt sydd yn fy nrysu braidd, sy’n ymwneud â’r tâl cofrestru o £144, sef ffi unffurf. Mae llawer o landlordiaid amharod sy'n cael eu hunain yn rhentu eiddo oherwydd profedigaeth deuluol neu amgylchiadau tebyg. Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi fod yn rhaid i’r landlordiaid hynny dalu'r un faint â'r rhai sy'n rhentu eiddo lluosog ar sail broffesiynol. Felly, rwy’n meddwl tybed ai dyma’r dull cywir, sef cael un ffi unffurf.
O ran gweithrediad y cynllun, mae croeso i’r ffaith fod bron pob un o'r landlordiaid a fynychodd y cwrs hyfforddi yn teimlo ei fod yn eu paratoi’n well i fod yn landlordiaid, ond mae rhai materion y mae angen mynd i'r afael â nhw. Un broblem fawr yw nad ydym yn gwybod faint o landlordiaid sydd yng Nghymru, y mae’r cynllun cofrestru hwn wrth gwrs wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â hi. Felly, oherwydd nad ydym yn gwybod hynny, ni wyddom faint sydd heb gofrestru eto, ond mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gall fod tua 40,000 o bobl y mae angen iddynt gofrestru nad ydynt wedi gwneud hynny eto. Er mai dyfalu bras yw hyn yn ei hanfod, mae'n ymddangos bod niferoedd mawr dan sylw, felly byddwn yn gofyn a oes achos synhwyrol dros ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru neu dros ryw fath o gyfnod amnest lle na fyddai gorfodi neu sancsiynau yn dod i rym, sydd hefyd wedi cael ei awgrymu gan un neu ddau o siaradwyr eraill yn y ddadl hon. Felly, byddwn yn ychwanegu fy llais at hynny.
Y mater arall yw'r baich ar gynghorau lleol. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith y cynllun cofrestru ar awdurdodau lleol a pha adnoddau sydd wedi eu dyrannu iddynt. Dyna'r cyfan o'r pwyntiau yr wyf am eu codi. Mae angen i mi hefyd ddatgan buddiant ariannol gan fod gennyf un morgais prynu i osod. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i godi'r mater bod y ddeddfwriaeth hon wedi cael ei phasio yn nhymor olaf y Cynulliad hwn gyda’r Llywodraeth flaenorol. Nawr, mae'n gyfnod gweithredu. Wrth gwrs, rwy'n gwybod hefyd nad yw’r Aelod eto wedi profi’r broses honno o ddeddfwriaeth. Mae un o'i gwestiynau yn ymwneud â'r mater ynghylch—defnyddiodd yr Aelod y gair 'baich', ond byddwn i’n defnyddio'r gair 'cost'—sydd ynghlwm wrth hyn i awdurdodau lleol. Mae hynny yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth i ni gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn, bydd yr Aelod wrth gwrs yn dod yn gyfarwydd â hynny wrth inni ddatblygu deddfwriaeth bellach.
Rwyf wedi bod yn glir iawn am y cynnig o ymestyn y dyddiad cau. Ni fyddaf yn ceisio ymestyn y dyddiad cau, am y rheswm y cyfeiriais ato yn fy natganiad—ni fyddai hynny ond yn symud y broses ymhellach i lawr. Mae pobl sy’n ceisio defnyddio'r dyddiad olaf ar gyfer cofrestru fel eu cais terfynol—yfory fydd hynny, a phe byddwn yn ei ymestyn am fis neu ddau arall, byddent ond yn defnyddio’r dyddiad hwnnw am ddau fis, yn hytrach nag yfory, ac nid yw hynny’n dderbyniol.
Mae’r Aelod yn iawn am y cofrestriad ffi unffurf. Roedd hwn, unwaith eto, yn gynnig y dadleuwyd yn gryf iawn yn ei gylch yn ystod y broses o gyflwyno'r Ddeddf. Wrth gwrs, mae llawer o amgylchiadau lle mae teuluoedd yn berchen ar eiddo ac yn eu trosglwyddo i aelodau o'u teulu, ac ati. Mae'n anodd iawn dadgyfuno hynny. Mewn gwirionedd, rydym yn credu mai’r ffi unffurf ar lefel gymharol fach yw’r ffi resymol er mwyn i’r holl gofrestriadau talu ffi ddigwydd; felly, fe'i trafodwyd yn helaeth, ond cafodd ei phasio gan y Cynulliad hwn drwy fwyafrif yn y Llywodraeth ddiwethaf.
Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a rhoddaf dair hwrê iddo, yn hytrach na dwy David Melding. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd y cynllun Rhentu Doeth. Mae angen i ni wella ansawdd a rheolaeth gyffredinol tai rhent preifat. Rwyf am bwysleisio ei bod yn bwysig bod landlordiaid—gan gynnwys landlordiaid damweiniol—yn ymwybodol o'u holl gyfrifoldebau. Mae’r rhuthr i gofrestru ar y diwedd yn fy atgoffa o'r rhuthr i gyflwyno ffurflenni treth incwm hunanasesiad wrth i’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno agosáu. Gan fod y cynllun yn cael ei werthuso'n annibynnol dros dair blynedd, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i wneud datganiad llafar ar ôl i bob adroddiad gael ei gynhyrchu?
Rwy'n ddiolchgar am dair hwrê a chefnogaeth yr Aelod—unwaith eto, Aelod sy’n gyson yn ei ymagwedd at gyflwyno’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, fel y dywedais yn gynharach, yn enwedig ynghylch y niferoedd ar gyfer cofrestru terfynol, ond hefyd o ran y broses a gorfodi. Byddaf yn dod â datganiad i'r Siambr yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydw i'n mynd i symud ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y ffocws ar allforion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Trwy'r datganiad hwn, byddaf yn dangos i'r Siambr bod y Llywodraeth hon mewn sefyllfa hynod o dda i ymateb i'r heriau digynsail a wynebwn yn awr yn yr amgylchedd busnes byd-eang. Mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru wedi bod yn bileri canolog ein strategaeth economaidd ers peth amser. Mae hyn yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yn yr agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol i greu Cymru lewyrchus.
Mae gennym ystod gynhwysfawr o gymorth ar gyfer allforwyr presennol a darpar allforwyr sy'n canolbwyntio ar eu hysbrydoli i ddechrau neu dyfu eu hallforion, gan drosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau i gynyddu eu gallu i allforio, eu helpu i gysylltu â darpar gwsmeriaid tramor a chefnogi ymweliadau â marchnadoedd tramor. Rydym yn cynorthwyo cwmnïau ym mhob cam o'u taith allforio ac rydym wedi helpu cwmnïau o Gymru i ennill archebion allforio newydd. Gyda'n cymorth, enillodd cwmnïau Cymru fwy na £72 miliwn mewn busnes allforio newydd yn 2015-16.
Rwyf wedi dychwelyd yn ddiweddar o arwain taith fasnach i un o'r marchnadoedd mwyaf pwysig sydd gennym—Japan—a gallaf gadarnhau i chi heddiw ei bod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rydym ni, fel Llywodraeth, yn gallu darparu cefnogaeth gynhwysfawr i gwmnïau cyn iddynt fynd i farchnad newydd, yn ystod eu hymweliad ac ar ôl iddynt ddychwelyd. Gwelais yn uniongyrchol sut y cafodd y gefnogaeth hon ei theilwra i weddu i bob cwmni a sut y cafodd ei rhoi ar waith.
Cyn y daith, helpodd swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli yma ac yn Tokyo gwmnïau i fireinio eu cynnig, nodi cyfleoedd a sefydlu cyfarfodydd gyda chwsmeriaid a dosbarthwyr posibl. Roedd hyn yn sicrhau bod gan bob cwmni raglen gwerth chweil ac roeddent yn gallu manteisio'n llawn ar yr amser oedd ganddynt yn y farchnad. Roedd cwmnïau hefyd yn elwa ar gymorth ariannol i deithio i'r farchnad ar y daith fasnach, ond rwy’n credu mai’r gefnogaeth feddalach nag y gall arian ei phrynu sy'n darparu'r manteision mwyaf.
Yn ystod y daith, trefnwyd cinio gyda chynrychiolwyr allweddol siambr fasnach Osaka a derbyniad nos gyda busnesau lleol a gyda chysylltiadau allweddol. O ystyried aelodaeth helaeth y sefydliad—rhyw 28,000 o aelodau—roedd hwn yn gyfle gwych i godi proffil Cymru. Yn ychwanegol at hyn, roedd derbyniad cyn agor ar gyfer cwmnïau oedd yn cymryd rhan yn ffair Prydain yn siop adrannol fawreddog Hankyu. Roedd Cymru yn cael sylw yn un o'r prif bwyntiau ffocws ac, unwaith eto, roedd hwn yn gyfle gwych i gwmnïau o Gymru rwydweithio a siarad â darpar gwsmeriaid wyneb yn wyneb. Siaradodd ein tîm Tokyo yn y digwyddiad hefyd i hyrwyddo Cymru yn gyrchfan twristiaeth.
Cefais y cyfle i siarad mewn tri digwyddiad, felly roeddwn yn gallu atgyfnerthu'r neges bod Cymru yn parhau yn gadarn ar agor ar gyfer busnes yn dilyn canlyniad y refferendwm diweddar. Roedd y ffaith bod gennym 19 o gwmnïau gyda ni ar y daith fasnach, yn ogystal â chwe chwmni ychwanegol o Gymru yn arddangos yn sioe arddangos Hankyu, hefyd yn dangos egni ein cwmnïau a'n bod yn poeni dim am fod yn rhagweithiol wrth edrych tuag allan ar gyfer busnes er gwaetha'r heriau. Fel Llywodraeth, ni allwn wneud y busnes ar eu rhan, ond gallwn ychwanegu gwerth trwy godi proffil ac agor drysau a allai fel arall fod yn anhygyrch. Yn ddi-os, roedd presenoldeb Gweinidog Cabinet yn hanfodol wrth gael mynediad yn gyntaf at gydweithwyr gweinidogol yn Japan ac yn ail at y sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ar fyrddau rhai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, megis Sony a Hitachi. Roeddwn yn falch iawn o allu gwneud hyn. Mewn cyd-destun ehangach, o ystyried y pryderon a fynegwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Japan am Brexit, ni allai amseriad y daith fasnach hon fod wedi bod yn well. Roeddwn yn gallu tawelu rhai o'r pryderon hyn, ond hefyd gadarnhau’r parch mawr sydd gan gwmnïau Japan yng Nghymru.
Ochr yn ochr â'r rhaglen lawn o gyfarfodydd a digwyddiadau, gwnaeth fy swyddogion sicrhau bod yr holl waith caled hwn yn cael cyhoeddusrwydd ac fe gynhaliodd yr ymweliad broffil uchel yng Nghymru a Japan. Roedd hyn yn cynnwys y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau print traddodiadol. Er enghraifft, cefais fy nghyfweld gan 'The Nikkei' uchel ei barch, perchennog y 'Financial Times', a wnaeth fy ngalluogi i gyflwyno ein neges hyd yn oed ymhellach i’w gylchrediad eang o tua 3 miliwn o ddarllenwyr. Gwnaethom hefyd ddarparu llwyfan hysbysebu ar ffurf pamffled, wedi’i frandio dan faner Cymru, ar gyfer ein busnesau.
Mae'n gynnar iawn i gwmnïau gael darlun cyflawn o’r holl fargeinion fydd yn cael eu taro o ganlyniad i'r genhadaeth; mae bargeinion o'r fath yn aml yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth. Hyd yn hyn, mae gwerth archebion a dderbyniwyd gan gwmnïau Cymru tua £680,000. Cafodd pob cwmni nifer o drafodaethau cadarnhaol iawn yn ystod y genhadaeth y maent yn rhagweld y byddant yn arwain at hyd yn oed fwy o allforion i Japan. Byddwn yn cymryd camau dilynol gyda chwmnïau o ran yr holl gyfleoedd a nodwyd i sicrhau bod eu taith allforio mor gyflawn ag y bo modd a'u bod i gyd yn gweld canlyniadau pendant.
I gloi, roedd y daith yn llwyddiant mawr i bawb oedd ynghlwm â hi. Dangosodd nifer fawr o fusnesau a ddaeth gyda ni ymrwymiad cryf i'r farchnad ac mae pob un wedi dweud wrthym eu bod wedi ei chael yn hynod fuddiol. Gyda chymysgedd iach o allforwyr profiadol a llai profiadol, gwelsom, fel bonws ychwanegol, fod cyfeillgarwch rhwng cenhadon hefyd a arweiniodd at gefnogaeth cymheiriaid heb ei hail drwy rannu gwybodaeth, profiadau a chysylltiadau. Rydym yn benderfynol o gefnogi allforwyr Cymru gymaint ag y gallwn mewn Cymru ôl-Brexit.
Diolch yn fawr iawn. Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae i’w groesawu'n fawr, ac rwy'n sicr yn awyddus i gael datganiadau pellach o'r math hwn. Rwyf yn sicr yn gwerthfawrogi ein bod mewn cyfnod ansicr, yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE ac etholiad yr Unol Daleithiau, ond rwyf hefyd yn meddwl bod cyfleoedd cyffrous ar gyfer bargeinion rhyngwladol newydd a phresennol â’r DU, y mae'n rhaid i Gymru gydio ynddynt. Nawr, rwy'n falch, yn dilyn eich taith fasnach, eich bod wedi nodi y bydd newid sylweddol yn y dull, a fydd yn sicrhau bod Cymru yn elwa ar y manteision o fod yn rhan o UK plc, sydd bellach yr economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G8, yr wyf yn credu ei bod yn bwysig ei nodi.
Rhwng 2015 a 2016, bu gostyngiad yng ngwerth allforion Cymru o dros £0.5 biliwn, a gostyngiad yn yr allforion i wledydd yr UE o bron i 11 y cant. Mewn cyferbyniad, mae ystadegau masnach y DU wedi adrodd, rhwng chwarter 2 a chwarter 3 2016, fod allforion cyffredinol y DU o nwyddau i wledydd yr UE wedi cynyddu gan £2.3 biliwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu eich barn ar hyn: os yw allforion cyffredinol o'r DU i'r UE wedi codi, a yw allforion Cymru wedi syrthio?
Roeddwn yn bryderus o glywed bod y ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod gwerthoedd allforio i UDA wedi gostwng gan £203 miliwn yn ystod y cyfnod hwn hefyd. O ystyried y ffaith bod marchnad yr Unol Daleithiau yn cynrychioli partner masnachu mwyaf Cymru, gyda’r Almaen yn dod nesaf, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa fesurau penodol yr ydych yn eu rhoi ar waith i wrthdroi’r duedd bryderus hon, byddwn i'n dweud, gyda'n prif bartneriaid masnachu?
Ac yn olaf, soniais wrth y Prif Weinidog ddydd Gwener, yn ystod craffu ar y Prif Weinidog, fod Nicola Sturgeon, wrth siarad yng nghynhadledd yr SNP fis diwethaf, wedi dweud ei bod yn dyblu’r staff yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth yr Alban ac yn agor swyddfeydd newydd mewn rhannau eraill o'r byd. Pan ofynnais i'r Prif Weinidog a oedd gan Lywodraeth Cymru fwriadau tebyg, fe wnaeth awgrymu y byddai hynny'n digwydd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech efallai amlinellu ychydig yn fwy pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer cynyddu staff mewn swyddfeydd rhyngwladol a hefyd roi mwy o fanylion i ni yn gyffredinol am yr hyn y mae swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd?
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac, yn wir, am groesawu’r datganiad hwn, sydd yn amserol? Bydd datganiadau pellach o'r math hwn yn dod ymlaen wrth i deithiau masnach ychwanegol gael eu cynnal ac y mae rhagor o wybodaeth ynghylch cyflwr allforion y DU a Chymru. Rwy’n credu bod cyfleoedd cyffrous, ond mae her ar unwaith i ni ymdrin â rhai canfyddiadau negyddol o'r DU ar ôl y refferendwm. Un mater y cefais wybod amdano yn Japan yr oedd yn rhaid ymdrin ag ef ar sawl achlysur oedd cred, o ganlyniad i'r refferendwm, bod Prydain rywsut yn llai goddefgar ac yn llai allblyg. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef, nid dim ond ni ond cydweithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
O ran yr Unol Daleithiau, mae’r Unol Daleithiau yn farchnad allweddol iawn, ac rwy’n pryderu, yn amlwg, am rywfaint o rethreg yr Arlywydd newydd. Wedi dweud hynny, rydym yn dwysáu gweithgarwch yn yr Unol Daleithiau, ac yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf bydd dwy daith fasnach yn mynd i Efrog Newydd a San Francisco. Nid oes amheuaeth bod cyfle enfawr yn yr Unol Daleithiau, lle mae gennym hefyd alltudiaeth gref iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd ein swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau yn gallu gweithio'n fwy agos gyda Masnach a Buddsoddi y DU a llysgenadaethau a chonsyliaethau Prydain. Canfûm yn Japan fod ein mynediad at y llysgenhadaeth wedi rhoi cyfleoedd enfawr i ni na fyddem fel arall wedi eu cael. Mae cael perthynas dda gyda'n llysgenhadon tramor yn hanfodol bwysig o ran denu’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn y farchnad, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gydweithrediad Llywodraeth y DU yn hyn o beth a’n swyddogion tramor.
O ran y ffigurau, gellir cyfrif am bron yr holl ostyngiad yng ngwerth allforion y mae’r Aelod yn tynnu sylw ato gan y gostyngiad yng ngwerth allforion ynni, gan gynnwys mwynau, tanwydd, ireidiau a phetrolewm. Ac ers 2011, mae allforion ynni—gwerth yr allforion hynny—yn amlwg wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan gau purfa Murco, cau er mwyn cynnal a chadw yn Valero a hefyd gan ostyngiad sylweddol yng ngwerth y bunt yn erbyn doler yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, mae ffigurau ar gyfer chwarter 1 a chwarter 2 y flwyddyn galendr hon ar gyfer allforion nad ydynt yn rhai ynni mewn gwirionedd yn dangos cynnydd bychan ar y cyfnod cyfatebol yn 2015. Fy awydd yw gweld y duedd hon yn gwella a thwf mewn allforion yn cyflymu. Yn wir, gellir priodoli llawer o'r gostyngiad yng ngwerth allforion rwy’n meddwl i faterion sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn benodol y gostyngiad mewn prisiau nwyddau ac amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid. Ond dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ar feysydd lle gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol. Ac, unwaith eto, o ran Japan, mae’r gyfradd elw ar fuddsoddiad hyd yma yn 20:1. Byddwn yn disgwyl, yn ystod y chwe mis nesaf, wrth i fwy o archebion gael eu sicrhau, y byddai'r elw ar fuddsoddiad y daith fasnach yn fwy na 40: 1, sydd yn arferol o ran y gymhareb gwerth am arian ar gyfer teithiau masnach.
Rydym yn gweithio—cyfeiriodd yr Aelod at UK plc—yn agosach â Masnach a Buddsoddi y DU a chwrddais yn ddiweddar â'r Arglwydd Price i drafod sut y gallwn sicrhau ein bod yn cydweithio lle bo hynny'n bosibl a’n bod hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan deithiau masnach rhanbarthol penodol hefyd. Er enghraifft, buom yn trafod y cyfleoedd y gellid eu cyflwyno ar gyfer busnesau o fewn ardal Pwerdy’r Gogledd i gymryd rhan mewn taith fasnach neu deithiau masnach penodol Pwerdy’r Gogledd.
Rwy’n cymeradwyo'r Gweinidog am gymryd diddordeb personol manwl mewn gwerthu Cymru dramor. Rwy'n credu bod honno’n swyddogaeth bwysig iawn, iawn ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn meddwl, fodd bynnag, ochr yn ochr â gweithgarwch, wrth gwrs, mae angen strategaeth, ac roedd gennyf ddiddordeb mewn clywed ei sylwadau yn awr yn ymchwilio ychydig i'r dirywiad gweddol ddifrifol yn ein sefyllfa allforio yn gyffredinol yr ydym wedi ei weld yn gyson ers 2013—gostyngiad o tua £2.6 biliwn yn holl gyfanswm yr allforion. Byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe byddai'n barod i rannu gyda'r Cynulliad y dadansoddiad y mae wedi cyfeirio ato yno. Rwy'n meddwl bod yr ochr ynni ohono yn sicr yn cael ei chadarnhau yn llwyr gan y ffigurau, ond mae meysydd eraill—nwyddau a weithgynhyrchir sy’n cael eu dosbarthu’n bennaf yn ôl deunydd ac eitemau amrywiol a weithgynhyrchir—yn ogystal, sy'n dangos tuedd debyg o ddirywiad dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mewn rhai gwledydd—Gweriniaeth Iwerddon, er enghraifft, roedd gostyngiad o 30 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac rwy’n meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bai gennym ddadansoddiad mwy manwl o'r hyn sydd wedi gyrru’r gostyngiad hwn yn ein sefyllfa allforio.
Byddwn yn dweud wrtho—eto, ni fydd yn cael ei synnu gan hyn—fod gan bron pob gwlad yn y byd gorff hyrwyddo masnach arbenigol, ac, yn wir, pan gafodd ei grybwyll yn ddiweddar fod Masnach a Buddsoddi y DU—y mae ef wedi bod yn ganmoliaethus iawn amdani, yr wyf yn meddwl, ac sy’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru—o bosibl yn mynd i gael ei diddymu, ei huno, ei hisraddio ac ati, yna nid wyf yn meddwl y byddai Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hynny, gan fod y dystiolaeth o bob rhan o'r byd yn dangos bod cael corff hybu masnach yn rhan bwysig yn arfogaeth unrhyw genedl. Yn anffodus, ac nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn bychanu ei ymdrechion gorau ef ei hun neu, yn wir, y gweision sifil, mae’r holl dystiolaeth sy'n dangos pam y mae Llywodraethau yn eu cael yn nodi bod cael corff hybu masnach arbenigol sydd â swyddfeydd ar draws y byd yn arf pwysig wrth fwrw ymlaen â'r llwyddiant o ran allforion y byddem i gyd yn hoffi ei weld.
Yn olaf, a gaf i ofyn iddo, o ystyried ei fod yn Osaka: a gafodd gyfle i weld lleoliad expo byd 1970 a oedd yn rhan mor bwysig o lwyddiant datblygiad economaidd y rhanbarth penodol hwnnw o Japan, cymaint felly, wrth gwrs, fel eu bod yn gwneud cais amdano eto yn 2025, gan eu bod yn gweld expo fel y ffenestr siop orau posibl ar gyfer allforion, gan ddweud wrth y byd, fel yr ydym yn fynych fel gwleidyddion yn ei ddweud, 'Rydym ar agor ar gyfer busnes'? A fyddai o leiaf yn ystyried edrych ar fanteision a chostau cais gan Gymru, fel ein bod mewn gwirionedd yn cystadlu yno gydag Osaka a’r holl ddinasoedd a rhanbarthau a chenhedloedd eraill yn y byd?
Gaf i ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau a dweud, ie, byddwn yn agored iawn i’r posibilrwydd o weld Cymru'n cynnal expo byd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y potensial o wneud hyn yn y dyfodol? Yn anffodus, ni welais safle expo byd Osaka. Yn bennaf, roedd fy nhaith yn cynnwys teithio o un swyddfa i'r llall, ond fe wnes i gael golwg ar yr hyn oedd yn gastell anhygoel yn Osaka, ac am yr un eiliad honno roeddwn yn teimlo'n gartrefol iawn.
O ran y gwaith yr ydym yn ei wneud, rwyf mewn gwirionedd yn gwneud rhywfaint o waith o ran mapio nwyddau a meysydd gwasanaeth twf yn erbyn y marchnadoedd cynyddol ar gyfer economi Cymru, fel y gallwn nodi pa gynhyrchion a pha wasanaethau sydd fwyaf tebygol o dyfu ar ôl Brexit ym mhob un o'n marchnadoedd allweddol perthnasol. Mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud gan Lywodraeth y DU y maent wedi ei rannu gyda ni, wrth adnabod bygythiadau a chyfleoedd o ran masnach ryngwladol. Rydym bellach yn gweithio ochr yn ochr â hynny i adnabod y marchnadoedd a'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n fwyaf tebygol o elwa ar y manteision mwyaf o ran twf.
Gwn fod yr Aelod wedi codi yn y gorffennol y cwestiwn a ddylid cael corff penodol i hybu allforion. Fy mhryder ar hyn o bryd yw bod yn rhaid inni sicrhau bod aliniad agos rhwng brand Cymru, cymorth allforio, a hefyd y gweithrediadau ar draws swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor. Ar hyn o bryd, rwy’n meddwl bod gennym stori dda iawn i'w hadrodd am y ffordd y mae Cymru'n cael ei hyrwyddo fel lle, fel cyrchfan, nid dim ond ar gyfer twristiaid, ond ar gyfer buddsoddi a sut mae'n cael ei hyrwyddo i'r byd y tu allan fel lle o ansawdd ar gyfer cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau.
Byddwn yn betrusgar am wyro oddi wrth yr hyn yr ydym wedi ei greu ar hyn o bryd—strwythur wedi’i alinio lle mae gennym Busnes Cymru sy'n cynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau, yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru o ran y cyfleoedd sydd yna ar gyfer allforio a nodi marchnadoedd newydd, ac yna, yn drydydd, gweithio gyda Croeso Cymru i hyrwyddo brand Cymru. Rwy’n ymwybodol o'r angen i wneud yn siŵr ein bod yn cael aliniad a chysondeb. Ar hyn o bryd, byddwn i'n betrus iawn, iawn am symud i ffwrdd oddi wrth yr hyn sy’n weithrediad sy'n gweithio'n dda i un, efallai, na fyddai â brand clir, cryf yn ei flynyddoedd cyntaf.
A gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ymweliad llwyddiannus â Japan? Mae'n amlwg yn bwysig cadw'r marchnadoedd hyn ar agor ar gyfer allforion o Gymru. A gaf i ofyn iddo fynd i'r afael â'r heriau penodol a wynebir gan fusnesau bach a chanolig wrth allforio, y mae hanner ohonynt yn dibynnu'n helaeth ar y rhyngrwyd i yrru gwerthiant allforio? Soniodd ei fod wedi cael rhywfaint o bryderon yn Japan ynghylch Brexit. Wrth i'r UE symud, er yn araf, tuag at farchnad sengl ddigidol, rwy’n gobeithio y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o fanteisio ar y cysoni a ddaw yn sgil hynny a'r costau is a ddaw yn sgil hynny ar gyfer y rhai sy'n parhau i fod yn aelodau. Ond ar wahân i hynny, pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i annog e-allforio, i egluro maint y cyfle a sut i fynd o'i chwmpas hi?
Wel, mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau sy'n cymryd rhan mewn teithiau masnach yn fusnesau bach a chanolig a, dim ond er mwyn dangos sut yr ydym yn dwysáu ein gweithgareddau tramor, yn y ddau fis diwethaf, rydym wedi mynd â mwy na 110 o fusnesau gwahanol ar deithiau masnach ac i arddangosfeydd tramor. Yn ogystal â Japan, rydym wedi bod i India, Iwerddon, yr Almaen a Gwlad Belg, i enwi ond ychydig.
O ran gwasanaethau e-allforio, wel, rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau mawr a bach, ond yn bennaf i ficrofusnesau a mentrau bach eu maint. Rydym hefyd yn cysylltu busnesau gyda'r gwasanaeth e-allforio a gynigir gan yr Adran Masnach Ryngwladol, ac mae'r gwasanaeth hwn, sydd wedi cael ei wella'n ddiweddar, yn rhoi mynediad i gwmnïau at gyfraddau ffafriol ar rai o’r marchnadoedd ar-lein mwyaf yn y byd, megis Amazon Tsieina a Harper’s Bazaar. Rwy'n credu ei fod yn werth ei ddweud, i'r graddau y mae BBaCh yn y cwestiwn, lle bernir bod cynnyrch neu wasanaeth yn addas ar gyfer ei werthu ar-lein, y byddwn yn helpu cwmnïau mewn nifer o ffyrdd, o gynghori ar optimeiddio eu gwefannau i helpu i ddeall materion fel trethi a TAW. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar sail bwrpasol un i un gan Busnes Cymru, ac mae’n llwyddo i gynyddu nifer y mentrau bach a chanolig sy'n allforio. Ond mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i’w weld yn tyfu ac yn awyddus i’w wella. Mae'n gwbl hanfodol, mewn Cymru ôl-Brexit, ein bod yn annog mwy a mwy o fusnesau i allforio. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn cynnal nifer o uwchgynadleddau yn y flwyddyn newydd, gan ddod ag allforwyr profiadol ynghyd â mentrau bach a chanolig sydd eto i allforio.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a oedd yn cynnwys nifer o sylwadau calonogol o ran ei ymweliad â Japan. Fodd bynnag, gan droi at allforion yn gyffredinol, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau i’r Aelodau fod allforion Cymru i'r UE wedi dirywio’n sylweddol dros y degawd diwethaf, gan ostwng, fel y nododd fy nghydweithiwr yn gynharach, o 60 y cant i lai na 40 y cant yn ystod y cyfnod hwnnw, ac efallai bod Brexit nid yn unig yn alwad amserol i ddihuno, ond byddai'n ymddangos i fod yn ymyrraeth angenrheidiol os oedd Cymru i beidio â llithro’n ddyfnach i mewn i'r dyfroedd meirwon economaidd o ran ei chyflawniadau allforio?
Rwy'n credu mai un peth y gallwn fod yn sicr ohono gyda Brexit yw, os bydd busnesau yng Nghymru yn gorfod talu tariffau, neu os bydd yn rhaid talu tariffau, yn hytrach, ar eu nwyddau a'u gwasanaethau, y bydd yn llesteirio eu gallu i allforio. Ni fydd yn fantais. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r rhesymau dros y gostyngiad yng ngwerth allforion, yn bennaf caiff hyn ei briodoli i gynhyrchion ynni, ond mewn meysydd eraill, bu cynnydd sylweddol yng ngwerth allforion, yn enwedig mewn bwyd a diod. Fel yr amlinellais i Adam Price, rwy’n edrych yn ofalus ar y marchnadoedd twf posibl a'r cynhyrchion a’r gwasanaethau twf posibl er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r gwariant yr ydym wedi’i fuddsoddi i agor marchnadoedd newydd a chyflwyno busnesau i ddarpar brynwyr, ond hefyd o ran gwneud yn siŵr nad ydym yn gwerthu neu'n ceisio gwerthu mewn ardaloedd lle na ragwelir twf neu lle na ragwelir twf yng ngwerth y nwyddau a allforir.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y diwydiant bwyd a diod. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ddiwydiant llwyddiannus a llewyrchus, sy’n tyfu, ac yn symud Cymru yn ei blaen. Mae'n cyfrannu at greu economi ffyniannus a chymdeithas ddiogel. Roedd fy natganiad llafar ym mis Mehefin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', yr ydym yn gwneud cynnydd ardderchog arno. Mae gwerthiant y diwydiant eisoes wedi tyfu i fod yn werth £6.1 biliwn. Mae’r cynnydd yn sicr ar y trywydd iawn i gyflawni twf o 30 y cant i £7 biliwn erbyn 2020, gan ein bod eisoes dros hanner ffordd i gyrraedd y targed.
Mae'r llwyddiant hwn yn ganlyniad ymdrech ac ymroddiad gan lawer o bobl, ac rwy’n llongyfarch y diwydiant. Fodd bynnag, rwy’n arbennig o awyddus i gydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan fwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, sydd bellach wedi'i hen sefydlu ac sy’n gweithio'n agos gyda mi. Mae'r bwrdd yn gwthio ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y diwydiant dan gadeiryddiaeth egnïol Andy Richardson, a hoffwn gofnodi fy niolch iddo ef a phob aelod o'r bwrdd.
Ers fy natganiad ym mis Mehefin, mae’r bwrdd a Llywodraeth Cymru wedi parhau i fynd ar drywydd y cynllun gweithredu. Rydym wedi hyrwyddo bwyd a diod o Gymru gartref a thramor. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar anghenion sgiliau a hyfforddiant y diwydiant a'r angen i wneud y diwydiant yn ddeniadol fel dewis gyrfa. Rydym yn parhau i gefnogi arloesedd a buddsoddiad. Mae cynnydd yn y meysydd hyn yn hanfodol i gyflawni ein nod o dyfu'r diwydiant a datblygu marchnadoedd. Rydym hefyd yn sicrhau bod ein cyflenwad bwyd yn ddiogel a'i fod yn cynhyrchu cynnyrch o'r safon uchaf i’r cyhoedd.
Ers i mi fod yn y swydd, rwyf wedi ymweld â llawer o fusnesau bwyd a diod ledled Cymru. Mae egni ac ymrwymiad y bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwn wedi gwneud argraff arnaf. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o groesawu enillwyr Cymru yng ngwobrau Great Taste 2016. Cawsom 125 o gynhyrchion buddugol, gan ychwanegu at enw da haeddiannol Cymru am ansawdd a blas. Rwy'n edrych ymlaen at 2017 pan fydd ceisiadau Cymru yn cael eu beirniadu yn y gogledd, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf.
Mae ein henw da yn mynd y tu hwnt i Gymru. Rydym wedi arwain busnesau ar ymweliadau masnach â Gogledd America, Ewrop, y dwyrain canol ac Asia. Gwelais drosof fy hun y gwaith i hyrwyddo ein diwydiant yn rhyngwladol pan arweiniais ymweliad masnach ym mis Hydref â SIAL, un o’r sioeau masnach diwydiant mwyaf yn Ewrop. Roedd dirprwyaeth gref o fusnesau Cymru yn arddangos cynnyrch ein sectorau llaeth, diodydd a phobi, ochr yn ochr â Hybu Cig Cymru yn hyrwyddo cig oen a chig eidion Cymru. Yr wythnos ddiwethaf, cefnogodd fy swyddogion ymweliad masnach â Sbaen, un o'n marchnadoedd allforio mwyaf. Heddiw, mae fy nhîm i a busnesau Cymru yn Bwyd o Bwys yn Fyw yn Llundain—arddangosfa sy’n canolbwyntio'n gryf ar arloesedd.
Mae ymdrech ac enw da sy’n tyfu yn dod â chanlyniadau. Mae ein rhaglenni allforio a digwyddiadau masnach yn parhau i helpu busnesau i sicrhau gwerthiannau. Yn ddiweddar adroddodd Nimbus Foods and Dairy Partners (Cymru Wales) eu bod wedi sicrhau tua £2 filiwn o fusnes ychwanegol yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd dramor. Mae allforion bwyd a diod wedi cynyddu bron 13 y cant yn ystod chwe mis cyntaf 2016—cynnydd o £15.2 miliwn o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Yn gynharach y mis hwn, rhoddais gychwyn ar rownd ddiweddaraf y cynllun buddsoddi mewn busnes bwyd, a ariennir gan y cymunedau gwledig—rhaglen datblygu gwledig: mae £2.8 miliwn ar gael ar gyfer buddsoddi cyfalaf, gan ychwanegu at bron £13 miliwn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth a busnes a addawyd eisoes. Mae'r rownd newydd yn targedu busnesau micro a busnesau bach a chanolig, sef y rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.
Mae'r bwrdd a Llywodraeth Cymru yn gweithio i annog buddsoddiad gan fanciau a buddsoddiad preifat arall yn y diwydiant. Ar 2 Tachwedd cynhaliodd y bwrdd y gynhadledd Arloesi Bwyd a Buddsoddi ar gyfer Twf yng Nghaerdydd, gan ddenu buddsoddwyr o bob cwr o'r DU a chwmnïau bwyd o bob rhan o Gymru, lle lansiais ganllaw buddsoddiad busnes newydd. Ychwanegodd y gynhadledd at waith i annog clystyru rhwng busnesau. Bydd y rhaglen clwstwr bwyd yn sicrhau twf economaidd drwy alluogi busnesau i wireddu manteision i'r ddwy ochr trwy drosglwyddo gwybodaeth, arbedion costau a chreu cyfleoedd ar y cyd. Mae tri chant a phedwar ugain o fusnesau eisoes yn cymryd rhan.
Rwy’n parhau i gefnogi bwyta'n iach yn ein hysgolion ac yn croesawu cyflwyno’r TGAU ar fwyd a maeth yn ddiweddar. Mae arloesedd yn un o’r prif ystyriaethau wrth arfarnu ceisiadau am grant diwydiant bwyd, ac mae ceisiadau i ailffurfio cynnyrch i gynhyrchu cynnyrch iachach yn sgorio'n dda. Trwy'r gynghrair tlodi bwyd rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, gan gynnwys archfarchnadoedd, i leihau tlodi bwyd yn ein cymunedau. Rydym hefyd yn parhau i ennyn diddordeb mewn bwyd a diod ar hyd a lled Cymru drwy ein cymorth uniongyrchol i wyliau bwyd. Mae'r digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth ymysg defnyddwyr, ymwelwyr â Chymru, ac yn cynnig cyfleoedd i’n busnesau ddatblygu a thyfu.
Swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth. Ni fu erioed angen y rhinweddau hyn gymaint ag y mae eu hangen yn awr, yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE. Mae Brexit yn peri heriau a risgiau sylweddol. Mae ein busnesau yn allforio; maent yn mewnforio deunyddiau crai, gyda chwarter y gweithlu yn dod o'r tu allan i'r DU. Mae ein diwydiant yn fyd-eang, felly bydd yr UE bob amser yn bwysig iawn, a bydd penderfyniadau a wneir yn fuan yn cael effaith am ddegawdau. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na ddylai Cymru gael ei niweidio gan Brexit. Mae ein grŵp cynghori Ewropeaidd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall y goblygiadau. Mae'r diwydiant bwyd wedi cymryd rhan lawn mewn digwyddiadau i randdeiliaid, ar draws y sectorau, yr wyf i wedi eu cynnal dros y misoedd diwethaf. Mae'r digwyddiadau hyn wedi hyrwyddo ansawdd ein brand a’n cynnyrch, ac mae cyfranogwyr wedi pwysleisio pa mor bwysig yw ansawdd a chynaliadwyedd drwy gydol ein cadwyn gyflenwi, yr holl ffordd o'r adnoddau naturiol i'r plât.
Mae'r ymgynghori a’r ymgysylltu yn llywio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol ôl-Brexit a'r trafodaethau sydd ar fin cael eu cynnal wrth i'r DU baratoi i adael yr UE. Rhaid i ni sicrhau nad yw ein marchnadoedd domestig yn cael eu tanbrisio gan fewnforion a gynhyrchir yn ddiegwyddor. Mae'n rhaid i ni ymladd dros chwarae teg i’n hallforion, heb dariffau newydd neu rwystrau masnach. Mae'n rhaid i ni gynnal ein cyflenwad llafur a pharhau i ddenu buddsoddiad. Ac mae angen i ni barhau i gynnal ac ychwanegu at ein cynhyrchion cynyddol o enwau bwyd gwarchodedig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Felly, er ein bod yn sylweddoli beth yw’r heriau, mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd a pharhau i gyflawni, wynebu'r byd, a chynyddu ein hymdrechion i ddangos bod Cymru, wrth gwrs, ar agor ar gyfer busnes. Dros y misoedd nesaf byddwn yn helpu busnesau i fynd i ddigwyddiadau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Gulfood, Dubai, ym mis Chwefror ac Arddangosfa Ryngwladol Bwyd a Diod, Llundain, ym mis Mawrth. Am y tro cyntaf, byddwn yn cynnal digwyddiad masnach a chynhadledd ryngwladol—Blas Cymru—ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, pan fyddwn yn gwahodd y byd i Gymru. Gyda phartneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru, y bwrdd diwydiant, buddsoddwyr a'r diwydiant, rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i lwyddo. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ac yn parhau i fod yn uchelgeisiol, gan gynllunio a sicrhau dyfodol llewyrchus i'r diwydiant bwyd a diod—dyfodol sy'n symud Cymru ymlaen. Diolch.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw? Mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu bwyd a diod o safon uchel, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu'r cymorth cywir i alluogi'r sector i ffynnu yn lleol, yn genedlaethol ac, yn wir, yn rhyngwladol. Wrth gwrs, mae’r maes polisi hwn yn un sy'n cwmpasu nifer o adrannau Llywodraeth Cymru—yn wir, popeth o iechyd i addysg i'r economi. Felly, mae'n hanfodol bod unrhyw strategaeth yn y maes hwn yn cael ei gydlynu'n effeithiol. Ac rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym pa ddulliau penodol y mae hi wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw strategaeth fwyd yn cael ei rheoli’n briodol ac y darperir adnoddau priodol iddi ar draws pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.
Cytunaf yn llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet ei bod, yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn ymddwyn yn strategol ac yn ymgysylltu. Rwy’n deall bod swyddogion wedi cynnal gweithdai ynghylch effaith bosibl tariffau yn y dyfodol ar fasnachu gyda gwledydd yr UE ar y diwydiant bwyd a ffermio, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i yn ei groesawu. Mae datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau a'r cyfleoedd y mae'r bleidlais Brexit bellach wedi ei chyflwyno i’r diwydiannau bwyd a ffermio. Ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o fanylion inni am agenda Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn y tymor byr a'r tymor hwy.
Er bod trafodaethau yn cael eu cynnal yn genedlaethol, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod ein marchnadoedd domestig yn parhau yn gryf a bod cyrchu cynnyrch bwyd a diod lleol ar gyfer contractau yn cael ei annog i helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â chwmnïau bach a chanolig. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gryfhau'r farchnad ddomestig yng Nghymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr lleol wrth dendro am gontractau sector cyhoeddus ac annog y cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol i brynu’n lleol.
Nawr, rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno mai ffordd wych o hyrwyddo cynnyrch lleol yw drwy gynnal gwyliau bwyd a marchnadoedd ffermwyr ac, yn wir, farchnadoedd ffermwyr symudol, a gwn fod Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar hynny. Yn wir, mae ymchwil a wnaed gan isadran fwyd Llywodraeth Cymru yn dangos mai hyrwyddo a hysbysebu’r farchnad oedd yr anghenion cymorth a nodwyd yn fwyaf cyffredin. Ac felly, mae cyfle i Lywodraeth Cymru fod yn arloesol wrth werthu’r marchnadoedd hyn i ddefnyddwyr. Yn wyneb y gwaith ymchwil hwnnw, a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa ddulliau newydd sy’n cael eu hystyried i hyrwyddo digwyddiadau bwyd a marchnadoedd ffermwyr yn well, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ag awdurdodau lleol am sut y gallent helpu i hyrwyddo’r gweithgaredd hwn ar lefel leol?
Wrth gwrs, mae strategaeth fwyd gref yn hanfodol i amcanion Llywodraeth Cymru o ran iechyd y cyhoedd, ac mae'n bwysig ein bod yn anfon y negeseuon cywir o ran bwyta'n iach er mwyn mynd i'r afael â materion fel gordewdra yn ein poblogaeth. Rwy'n ymwybodol o rywfaint o'r gwaith gwych y mae'r trydydd sector eisoes yn ei wneud yn y maes hwn, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a hyd yn oed awdurdodau lleol. Fodd bynnag, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae hi'n sicrhau bod unrhyw bolisi diwydiant bwyd a diod yn gweithio ar y cyd ochr yn ochr ag agenda iechyd ac addysg Llywodraeth Cymru.
Sylwaf o'r datganiad hwn heddiw bod TGAU bwyd a maeth wedi cael ei gyflwyno. Ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud o hyd i edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cynnyrch Cymru i addysgu pawb, o’r bobl hynaf yn y gymdeithas i’n plant a'n pobl ifanc. Felly, mae'n hanfodol bod ymrwymiad wrth wraidd y strategaeth hon i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu haddysgu am fwyd a diod, maeth, ac o ble y daw’r bwyd hwnnw, ond eu bod yn cael mynediad at yrfa yn y diwydiant hwnnw hefyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn rhannu'r un uchelgais o annog mwy o bobl ifanc i ystyried y diwydiant bwyd a diod fel dewis gyrfa hyfyw, ac rwy’n croesawu ei hymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith a wnaed ganddi hi a'i swyddogion i wneud y sectorau ffermio a bwyd yn fwy deniadol i genedlaethau'r dyfodol.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo hefyd i gyhoeddi ystadegau creu swyddi a ffigurau cyfleoedd cyflogaeth gyda phob diweddariad blynyddol fel y gall Aelodau graffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy’n falch fod y diwydiant ar y trywydd iawn i gyflawni twf o 30 y cant i £7 biliwn erbyn 2020.
Diolch i Paul Davies am ei restr o sylwadau a chwestiynau. Credaf ei bod yn bwysig iawn, bod targed uchelgeisiol iawn o dyfu’r sector bwyd a diod 30 y cant erbyn 2020, h.y. £7 biliwn. Rydym yn barod ar £6.1 biliwn, a dim ond bron cyrraedd diwedd 2016 yr ydym ni. Felly, dyna pam yr wyf yn dweud fy mod yn credu bod gennym stori newyddion dda iawn i'w hadrodd yma. Rwy’n ei chael yn hawdd iawn gwerthu bwyd a diod Cymru, gan fod pobl mor ymwybodol o’r enw da iawn sydd iddynt.
Gan droi at eich pwynt penodol chi, rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir; mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y cymorth iawn. Felly, roedd y cyllid olaf a gyhoeddais ar gyfer cynllun yn gyllid penodol ar gyfer busnesau bach a chanolig, oherwydd credaf fwy na thebyg fod nifer sylweddol o fusnesau bwyd a diod yn fusnesau bach a chanolig. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael pethau'n iawn o ran ein cefnogaeth.
Soniasoch am yr heriau a'r risgiau a'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu rhoi i ni. Rydych yn iawn: cynhaliodd fy swyddogion gyfres o weithdai dros yr haf. Arweiniodd hyn at ddau ddigwyddiad cychwynnol i randdeiliaid a gynhaliwyd gennym. Rydym bellach wedi cynnal trydydd digwyddiad i randdeiliaid, a daeth yn amlwg—byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen nad oeddwn i’n awyddus i weld pobl yn gweithio mewn seilos, felly, ar draws fy mhortffolio i, credais ei bod yn bwysig iawn dod â phawb at ei gilydd, ond wedyn cynhaliwyd y gweithdai yn benodol ar wahanol rannau o'r portffolio. Felly, mae bwyd a diod, yn amlwg, yn un, ac mae'n bwysig iawn. Mae wedi bod yn beth da cael syniadau pobl am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn y dyfodol. Soniasoch am farchnadoedd newydd, a gwn fod llawer iawn o waith am nifer o flynyddoedd wedi bod yn mynd rhagddo, ac rwyf nawr wedi cydio yn hyn—i gael ein cig oen yn ôl i America, er enghraifft. Mae'r pethau hyn yn gymhleth iawn, felly os ydym yn chwilio am farchnadoedd newydd, ac wrth gwrs mae’n rhaid i ni wneud hynny, rydym yn gwybod y gall gymryd blynyddoedd lawer. Felly dyna pam mae’n bwysig iawn sicrhau ein bod yn parhau gyda'r marchnadoedd sydd gennym. Mae'r farchnad ddomestig, rwy’n meddwl, y soniasoch amdani, yn farchnad bwysig iawn. Felly wrth inni edrych allan yno, peidiwch ag edrych yn rhy bell—mae Lloegr dros y ffin, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio'n agos i weld a allwn ni ddod o hyd i farchnadoedd newydd yno hefyd.
Un peth arall sydd wedi dod i’r amlwg o'r gweithdy yw pwysigrwydd enwau bwyd sydd wedi'u gwarchod. Bellach mae gennym wyth yng Nghymru. Roedd gennym saith. Rydym newydd gael yr wythfed, sef Ham Caerfyrddin. Rwy'n credu ei fod yn dda iawn gweld bod hynny newydd ddigwydd. Er inni bleidleisio i adael Ewrop, mae'n dangos, er bod rhai ar y gweill yn aros i ddod drwodd, rydym yn dal i lwyddo i gael y rhain. Felly, mae gennym ychydig ar y gweill o hyd, a bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y rheini’n dod drwodd hefyd. Mae cadw’r enwau bwyd hynny sydd wedi’u gwarchod a’r dynodiadau daearyddol sydd wedi’u gwarchod yn bwysig iawn i'r sector, a dyna un arall y bydd yn rhaid i ni ei gael ar ôl—wel, cyn—Brexit i weld a allwn gadw'r rheini, neu a fydd angen i ni gael ein cynllun ein hunain.
Soniasoch am wyliau bwyd a marchnadoedd y ffermwyr, ac rydych yn hollol gywir—maent yn bwysig iawn, iawn. Rwy'n credu eu bod yn bwysig i ymwelwyr; rwy'n credu eu bod yn rhan bwysig iawn o dwristiaeth bwyd. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld—. Nid oes gennym lawer iawn o arian i gefnogi gwyliau bwyd, ond mae wedi bod yn galonogol iawn gweld bod y rhai a ddechreuodd gydag efallai ychydig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi parhau. Ers 2013, mae nifer y gwyliau sydd wedi gwneud cais am gymorth wedi gostwng o 30 a mwy i 19, ac eto mae'r gwyliau bwyd eraill yn parhau i weithredu> Felly rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn.
Soniasoch am draws-Lywodraethol—mae hwn yn fater traws-Lywodraethol pwysig iawn, ac rydych yn hollol gywir. Yn sicr, yn ystod yr haf, pan ymwelais â nifer o ffermydd, soniodd llawer o ffermwyr am bwysigrwydd sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn dysgu o ble y daw eu bwyd. Roeddent yn dweud, os gofynnwch i blentyn o ble mae ŵy yn dod, bydd yn dweud yr archfarchnad. Mae'n bwysig iawn bod ein plant yn cael eu haddysgu, a dyna drafodaeth yr wyf yn dal i’w chael. Mae gen i gyfarfod cyn hir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i fynd â'r mater hwn yn ei flaen.
Mae sgiliau yn fater pwysig iawn, ac roeddwn yn bresennol yn Sgiliau Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae'n sector hynod bwysig: mae bron 0.25 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector bwyd a diod, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen yno i fusnesau pan fyddant yn cyflogi eu staff. Dywedais yn y datganiad agoriadol fod chwarter y gweithlu yn dod o'r tu allan i'r DU, felly, unwaith eto, mae Brexit yn peri llawer o broblemau, ac rwy’n gwybod bod sawl rhan o'r sector yn bryderus iawn ynghylch o ble y daw y staff yn y dyfodol.
Hoffwn i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a dweud o’r cychwyn hoffwn i ddatgan budd, gan fod fy mab newydd ddechrau swydd yn y sector yma, ers rhyw bythefnos. Felly, rydw i’n edrych ymlaen at flasu mwy o’r sector wrth i’r peth ddatblygu fy hunan.
Hoffwn i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ychydig mwy na mae wedi’i ddatgelu yn y datganiad o’r ffordd y mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu yn gorfod newid yn sgil y penderfyniad ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi gosod allan taw dyma’r her, ond nid oes yna ddim byd yn y datganiad eto sydd yn dweud sut mae hi am ymateb i’r her hynny, sut mae pethau’n newid. Fel mae’r datganiad yn ei ddweud, mae 90 y cant o allforion bwyd a diod o Gymru yn mynd i weddill yr Undeb Ewropeaidd, ac nid oes modd newid hyn yn sylfaenol mewn dwy flynedd. Felly, byddwn ni’n dal am yr allforion yna barhau ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Felly, am wn i, mae yna gwestiynau sy’n gorfod cael eu codi. Maen nhw wedi cael eu crybwyll yma—cwestiynau ynglŷn â chaffael lleol, cwestiynau ynglŷn â hyrwyddo bwyd o Gymru yn fwy penodol fel bwyd o Gymru. Ond hoffwn i wybod bod yna fwy o feddwl na sydd wedi’i ddatgelu hyd yma yn mynd i mewn i hyn.
Hefyd, a fedr yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio ychydig mwy am y £7 biliwn, sydd yn amcan? Mae’n dda gennyf glywed ein bod ni ar darged i gyrraedd, neu hyd yn oed mynd heibio, hwnnw, ond beth yn union mae hwn yn ei gynnwys? Rwy’n sylweddoli ei fod yn cael ei ddisgrifio fel ‘bwyd a ffermio’. Felly, byddwn i’n licio gwybod beth yw rhychwant y £7 biliwn yna ac mae gennyf ddiddordeb arbennig i ddeall a ydym ni am ymestyn bwyd o Gymru, yn enwedig yn y sector twristiaeth yng Nghymru, gan ei fod yn sector sydd ddim yn perfformio cystal ag y dylai wrth gynnig bwyd o Gymru mewn llefydd ymweld, ac ati.
Yn y datganiad ym mis Mehefin, y tro diwethaf i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad ar y mater yma, roedd sôn am glystyrau. Byddwn i’n licio gwybod beth sydd wedi digwydd neu beth sy’n datblygu o ran clystyru datblygiadau bwyd. Jest i roi enghraifft, bues i mewn cyfarfod ddoe gydag ychydig o ffermwyr o sir Gâr sydd â diddordeb i wybod sut mae modd prosesu llaeth yn y gorllewin a phrosesu llaeth, efallai, yn sir Gâr, achos ar hyn o bryd mae tua 0.5 miliwn litr o laeth yn mynd allan o sir Gâr heb gael ei brosesu a heb felly gael y gwerth ychwanegol i’r llaeth yna yng Nghymru. Byddai’n ddiddorol gwybod a oes modd manteisio ar y cyfle sydd gyda ni i wneud mwy o hyn yng Nghymru a mwy yn rhanbarthol hefyd.
A oes modd i’r Ysgrifennydd Cabinet ddiweddaru’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y lefi cig coch? Mae tipyn o sôn wedi bod am y lefi hwn ac mae yna ddigwyddiad gan Hybu Cig Cymru, rydw i’n meddwl, yfory yn y Cynulliad inni ddeall lle mae’r trafodaethau’n digwydd ynglŷn â’r lefi. Wrth gwrs, rydym ni’n moyn i’r lefi yna gael ei ddefnyddio i hyrwyddo bwyd o Gymru, cig coch o Gymru, cymaint ag sy’n bosib.
Yn y cyd-destun hwnnw, er ei bod hi eisoes wedi ymateb i’r cwestiwn ynglŷn â PGI, i fi, nid wyf yn siŵr o hyd a ydy’n bosibl inni barhau gyda dynodiad PGI neu ddynodiad tebyg ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn arbennig pe byddem ni’n ymadael â’r farchnad sengl. Rwyf jest eisiau eglurder ynglŷn â hynny fel ein bod yn deall beth rydym ni’n ei drafod.
Un peth y byddwn i’n licio clywed y Gweinidog yn ei ddweud, ac nid yw hi wedi ei ddweud eto, yw ei bod hi’n mynd i ddod â’r gwobrau bwyd i Gymru yn ôl. Mae gyda ni, wrth gwrs, ‘Great Taste’, sydd yn wobrau Prydeinig. Fe ddiddymwyd y gwobrau bwyd penodol Cymreig tua thair blynedd yn ôl. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bryd ailedrych ar hyn nawr bod yn rhaid inni hybu ein bwyd ein hunain a nawr bod yn rhaid inni hybu ym maes twristiaeth ac ym maes caffael lleol, a nawr ein bod yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd angen ‘identity’ cryf. Bydd angen ‘identity’, rwy’n cytuno, y Deyrnas Gyfunol, wrth gwrs; mae yna farchnad sengl yno o hyd, fel petai. Ond mae angen ‘identity’ cryf i’r gorau o Gymru. Byddwn i’n licio i’r Gweinidog ailedrych ar yr angen am wobrau bwyd penodol i Gymru achos roedden nhw’n boblogaidd, roedden nhw’n ffordd dda o hyrwyddo bwyd o Gymru, ac roedden nhw’n ffordd dda o newid diwylliant bwyd ac agwedd pobl tuag at fwyd hefyd.
On that final point of food culture, I’d like to conclude by asking the Minister what she’s doing to improve and close the circle on food waste. She did mention this in her statement, but we have an awful lot of food waste in Wales and in the United Kingdom. We waste something like £16 billion-worth of food a year, which could be usefully employed—much of it could be usefully employed. Scotland is likely to have targets for reducing food waste. France is talking about legislation for reducing food waste. Is it her intention to introduce either legislation or targets about food waste over the period of this action plan up to 2020? I think that would send a very strong signal.
Again, if I can give an example of what’s been happening in my region, Transition Bro Gwaun, which is a community project in Abergwaun, Fishguard, over the last three and a half years have been using surplus waste from local supermarkets to produce food in a community café. They’ve saved 25,000 tonnes from going to waste over those three and a half years and have attracted an additional £145,000 of match funding into Fishguard that way. Unfortunately, their future is threatened by new road developments in Fishguard, so I certainly hope the local authority will assist in it continuing. I don’t expect the Cabinet Secretary necessarily to intervene directly in Fishguard, but I hope that she accepts that that’s a very good example of how we can reduce food waste and it’s an example of how we should be making further progress, hopefully with strong leadership from the Welsh Government.
Diolch, Simon Thomas. Rydych wedi gofyn nifer sylweddol o gwestiynau, a byddaf yn ceisio eu hateb, ond byddaf yn dechrau trwy ddymuno’n dda i’ch mab yn ei ddewis gyrfa. Rydych chi'n iawn am ôl-Brexit, a cheisiais ddweud hyn yn fy atebion i Paul Davies, er ein bod, wrth gwrs, yn chwilio am farchnadoedd newydd, mae'r rhain yn cymryd amser hir i gael eu sefydlu. Fel y dywedais, rwyf wedi gweld hyn yn digwydd wrth geisio cael ein cig oen yn ôl i America—mae wedi cymryd saith mlynedd. Felly, mae'n bwysig iawn, wrth inni geisio dod o hyd i’r marchnadoedd newydd hynny, ein bod hefyd yn gweld beth y gallwn ni ei wneud i barhau i allforio i Ewrop. Yn sicr, unwaith eto, y neges yr wyf yn ei chael yw bod yn rhaid inni gael y mynediad dilyffethair hwnnw heb dariff i Ewrop yn y dyfodol.
Felly, mae nifer fawr o sgyrsiau yn digwydd. Byddaf yn mynd allan i Frwsel eto at y cyngor pysgodfeydd—bydd y sgyrsiau hynny yn parhau ar gyrion hynny. Pan es i SIAL, unwaith eto, cawsom drafodaethau—roedd Hybu Cig Cymru yno yn hybu ein cig coch ni ac, unwaith eto, cefais drafodaethau gyda dirprwyaeth o Taiwan a dirprwyaeth o Japan. Byddwch wedi clywed fy nghydweithiwr, Ken Skates, yn siarad am y trafodaethau a gafodd allan yn Japan—eto, bydd bwyd a diod wedi cael sylw yno. Felly, mae’n ymwneud â sicrhau ein bod allan yno.
Un o'r rhesymau dros gael, am y tro cyntaf erioed, ddigwyddiad rhyngwladol ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf yng Nghasnewydd yw annog mwy o bobl i ddod i Gymru. Felly, dim ond ychydig o ddyddiau cyn—mae’r amseru wedi bod yn benodol iawn—i ni gynnal y digwyddiad yn y Celtic Manor, mae digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yn Llundain, felly rydym yn gobeithio y bydd pobl yn aros ac yna yn dod i Gymru i’r digwyddiad yma. Dyna beth arall yr ydym yn ei wneud am y tro cyntaf. Soniasoch am wobrau bwyd, ac rwy'n sicr yn edrych ar hynny i weld a allwn ni, o bosib, glymu i mewn â'r digwyddiad hwnnw, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn. Mae gennym stori dda iawn i'w hadrodd am fwyd a diod. Fel y dywedais, nid yw'n anodd gwerthu cynnyrch Cymreig, gan fod y brand mor gryf, felly mae angen inni gynaeafu tra bod y tywydd yn deg, os mynnwch—mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny.
Soniasoch am y £7 biliwn. Yr uchelgais oedd cael cynnydd mewn trosiant o 30 y cant erbyn 2020. Yn wir, ni yw un o'r gwledydd sy'n perfformio orau o fewn y farchnad adwerthu bwyd yn Ewrop, ac mae amaethyddiaeth, pysgota a gweithgynhyrchu bwyd wedi’u cynnwys yn y targed hwnnw.
Gofynasoch am yr ardoll ar gig coch. Rwy’n ymwybodol fod digwyddiad yfory gyda HCC. Yn wir, rwy’n cwrdd ag Andrea Leadsom ddydd Iau yn Llundain, ac mae'r ardoll ar gig coch ar yr agenda. Ers i mi fod yn y swydd, rwyf wedi cael llawer o wybodaeth gymysg am yr ardoll hon, a gwn fod rhai pobl—. Mae angen i ni roi trefn ar hyn, rwy’n meddwl—mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd yma. Felly, mae ar yr agenda, ac efallai y gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, Ddirprwy Lywydd, yn dilyn y cyfarfod ddydd Iau.
Ni allaf roi’r eglurder yr ydych yn ei geisio o ran enwau bwyd sydd wedi’u gwarchod a dynodiadau daearyddol sydd wedi’u gwarchod, oherwydd nid oes gennym yr wybodaeth ar hyn o bryd. Ond mae cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru yn awyddus iawn ei fod yn parhau—maent yn credu ei fod yn bwysig iawn. Yn sicr, yn y trafodaethau yr wyf wedi’u cael gydag Alison o Halen Môn yn Ynys Môn, mae hi'n dweud wrthyf pa mor bwysig ydyw i’w busnes. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny a byddwn yn gwneud ein gorau glas—pa un a fydd hynny yn golygu parhau â'r cynllun hwnnw neu gael ein cynllun ein hunain, rwy'n credu y bydd hynny’n dod yn gliriach yn nes ymlaen.
Rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir am wastraff bwyd. Cwpl o wythnosau yn ôl, roeddwn yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac roedd yn canolbwyntio ar wastraff, yn Guernsey. Daeth Tesco i roi cyflwyniad i ni. Mae uchelgais eu targed yn mynd i fod yn 100 y cant—nad oes dim o'u bwyd yn mynd i wastraff bwyd. Gallai hynny achosi heriau os oes gennych Tesco gwledig iawn—os nad oes rhywun sy'n gallu dod i gasglu'r bwyd ar ddiwedd y dydd—ond rwy’n credu bod honno’n uchelgais wych i’w chael. Mae angen i ni fod yn gwneud rhagor gyda'n harchfarchnadoedd yng nghyswllt hynny. Ond, yn sicr, rwy’n credu bod angen ystyried cael targed ar gyfer gwastraff bwyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae llawer iawn o fwyd yn cael ei wastraffu, a chredaf y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ei fod yn hollol annerbyniol.
Diolch. Mae’r amser yn brin, ond nid ydym wedi cael unrhyw aelodau o'r meinciau cefn i siarad. Felly, os caf i ofyn i'r siaradwyr nesaf ofyn eu cwestiwn yn unig i’r Gweinidog, ac efallai os gall y Gweinidog ymateb yn eithaf cryno, byddaf yn gweld faint y gallwn ei gynnwys. Jenny Rathbone.
Yng nghyd-destun yr ystadegau syfrdanol ar ordewdra a’r cyhoeddiad heddiw gan Cancer Research UK fod pobl ifanc yn yfed llond baddon o ddiodydd llawn siwgr bob blwyddyn—hanner baddon i rai pedair i ddeng mlwydd oed—mae’r defnydd eithafol hwn o siwgr mewn diodydd yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni frwydro yn ei erbyn. Felly, er bod croeso i’r cynnydd mewn allforion o fwyd a diod o Gymru, rwy’n teimlo bod angen i ni dreulio llawer mwy o amser yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ar sail systematig i frwydro yn erbyn y broblem gordewdra sydd gennym, yn enwedig ymysg pobl ifanc. Felly, fy nghwestiwn i yw, mewn gwirionedd: beth arall all y Llywodraeth ei wneud i hyrwyddo nod siarter Bwyd am Oes? Mae Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu'r siarter yn llwyddiannus, ac yn ei ddisgrifio fel rhywbeth sy’n rhoi hyder i rieni yn y gwasanaeth prydau ysgol ac yn dangos eu hymrwymiad i'r profiad amser cinio ysgol, gan ddefnyddio bwyd a gynhyrchir yn lleol yn bennaf fel bod pobl yn gwybod o ble y daw’r bwyd a’i fod o safon benodol. Felly, rwy’n cymeradwyo Sir y Fflint am ei gwaith caled, ond rwy’n tybio beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yn mabwysiadu'r nod siarter ar gyfer arlwyo ar gyfer bwyd.
Mae Jenny Rathbone yn codi mater pwysig iawn, y byddwch yn gwerthfawrogi nad yw'n dod yn gyfan gwbl o fewn fy mhortffolio i. Soniais mewn ateb blaenorol fy mod i fod cael cyfarfod gyda fy nghydweithiwr Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i drafod materion yn ymwneud â gwybodaeth am fwyd ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc—o ble y daw, ac ati. Bydd hyn hefyd yn dod o fewn cyfrifoldebau Gweinidog iechyd y Cyhoedd, Ond rwy’n credu, ar draws y Llywodraeth, fod mwy y gallwn ei wneud ac rwyf yn sicr yn ymuno â chi i ganmol Cyngor Sir y Fflint ar eu menter.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwnnw, yn enwedig am ddisgrifio ei phryderon yn ymwneud â'r bleidlais Brexit. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, os ydym yn gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, na fydd yn derfyn ar y gwaith papur, fel y gobeithiwyd gan lawer o ffermwyr a gefnogodd Brexit ac y dywedwyd celwyddau wrthynt, efallai, gan rai o'r bobl a oedd yn cefnogi Brexit. Oherwydd mewn gwirionedd, fe fydd cynnydd yn y gwaith papur oherwydd yr angen i wneud cais am drwydded fewnforio berthnasol, yr angen i lenwi tystysgrifau iechyd costus, a'r angen i lenwi ffurflenni gwlad tarddiad, yn ogystal â’r ffurflenni y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen os bydd unrhyw gymorthdaliadau.
Nawr, mae pob un ohonom yn gwario tua £42 yr wythnos ar fwyd neu ddiod. Pe na bai gennym unrhyw gytundeb ar waith a dim trefniadau trosiannol, byddem yn gweld tariff 14 cant ar win Chile, a thariff 59 y cant ar gig eidion, a—ac mae hyn yn wirioneddol ddifrifol—tariff 38 y cant ar siocled. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw’r cynnydd ym mhris bwyd a diod ond newydd ddechrau, a bod hynny yn ganlyniad uniongyrchol i'r bleidlais Brexit. Beth sy'n debygol yw y bydd y cynnydd yn y pris yn debygol o barhau wrth i ni deimlo pwysau llawn y bunt wannach yn ein trolïau archfarchnad. Ar hyn o bryd, mae mewnforwyr yn cael eu gwarchod yn erbyn y newidiadau hynny mewn arian cyfredol.
Yn olaf, gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno bod Cymru yn cynhyrchu rhywfaint o'r cynnyrch gorau yn y byd? Mae hyn yn cynnwys tatws cynnar Sir Benfro, selsig arobryn o Coity Bach Aberhonddu ac asennau byr ‘wagyu’ o Drefaldwyn, a enillodd y seren aur driphlyg yn ddiweddar yng ngwobrau Great Taste y DU. Rwyf wrth fy modd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll Ham Caerfyrddin, a gafodd, fel y dywedodd hi, gydnabyddiaeth yn ddiweddar gan gynllun bwyd wedi’i warchod yr UE.
A ydych yn dod i ben?
Rwy’n mynd i ddweud un peth arall.
Brysiwch, os gwelwch yn dda.
A fyddech yn ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad yr wythnos hon fod Hacer Developments yn bwriadu datblygu parc bwyd mawr yn Hwlffordd, a allai o bosibl ddod â 1,000 o swyddi i'r ardal?
Diolch i Eluned Morgan am y sylwadau a’r cwestiynau hynny. Rwy’n credu eich bod yn iawn am fwy o fiwrocratiaeth, ac rwy'n credu bod y geiniog yn dechrau disgyn yn awr gyda llawer o'r cynhyrchwyr bwyd a ffermwyr yr wyf wedi cael trafodaethau gyda nhw. Unwaith eto, bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud, dros yr haf, fy mod wedi holi pobl pam eu bod wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn aml rhoddir biwrocratiaeth i mi fel esgus dros wneud hynny. Ond yn anffodus, ydw, rwyf o’r farn, efallai, bod pobl wedi cael eu camarwain ac maent nawr yn dechrau sylweddoli hynny.
Rydym yn bryderus iawn am y cynnydd a fydd yn digwydd i brisiau bwyd a diod, ac yn amlwg dyma pam mae'r Prif Weinidog, yn ei holl drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yn dweud ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y mynediad hwnnw i'r farchnad sengl, a’i fod yn rhydd o dariff, oherwydd gwyddom y byddai hynny ond yn gwthio’r pris i fyny hyd yn oed yn fwy.
Rydych yn hollol gywir, ac rwyf wedi dweud dro ar ôl tro: mae gan gynnyrch Cymreig hunaniaeth gref iawn, enw da iawn am fod o ansawdd uchel iawn, ac mae pobl yn dweud wrthyf nad ydynt am weld rhuthr i'r gwaelod o ran safonau bwyd, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnal y safonau uchel iawn sydd gennym. Felly, mae'n dda iawn clywed am y fenter a ddisgrifiwyd gennych. Mae unrhyw swyddi, wrth gwrs, i’w croesawu bob amser, ond byddai cynifer o swyddi o’r maint hwnnw yn sicr yn dderbyniol iawn.
A gaf i ddweud bod Eluned Morgan yn gwneud peth peryg iawn yn dechrau rhestru cwmnïau yn ei rhan hi o Gymru cyn i Aelod Ynys Môn godi ar ei draed? Achos fe allwn i fod yn siarad yn helaeth iawn am Melyn Môn, y Cwt Mwg, y Cwt Caws a Halen Môn—ond gwnaf i ddim. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod yna llawer gormod o gynhyrchwyr bwyd cymharol fach—rhai ohonyn nhw yn fwy—yn Ynys Môn, a beth mae gennyf i ddiddordeb yn ei wneud, nid yn unig yn fy etholaeth i ond ledled Cymru hefyd, ydy datblygu y diwydiant cyfan tra rydym ni, wrth gwrs, yn hybu y busnesau unigol i dyfu. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r ffaith bod yna bot o arian o £2.8 miliwn ar gael i gwmnïau allu gwneud cais am gyfalaf ohono fo er mwyn datblygu, ond â ninnau yn cyfarfod, rwy’n gwybod, yn fuan iawn i drafod y syniadau sydd gen i ar gyfer datblygu rhyw fath o barc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi bod angen, ochr yn ochr â helpu busnesau unigol i dyfu, datblygu isadeiledd cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn a ledled Cymru? Nid oes yna eiddo, er enghraifft, lle gall cwmni fynd i’w rentu sydd o safon cynhyrchu bwyd yn fy etholaeth i, sy’n fam i Gymru oherwydd ei hanes yn cynhyrchu bwyd ac sydd am barhau i fod yn fam am flynyddoedd i ddod, o gael y cymorth iawn yn y lle iawn gan y Llywodraeth ac eraill.
Rydych chi'n hollol iawn; fyddwn i ddim hyd yn oed am ddechrau rhestru'r holl fusnesau bwyd sydd gennym yng Nghymru. Fel y soniais, y rheswm dros gael y pot £2.8 miliwn o arian sy’n targedu busnesau bach a chanolig yn bennaf oedd oherwydd bod cymaint o fusnesau bach a chanolig yn rhan o'r sector bwyd a diod.
Rwy'n credu bod y mater a godwch am seilwaith—. Wnes i ddim ateb cwestiwn Simon Thomas nawr ynghylch y ffaith bod gweithfeydd prosesu, a’r diffyg cyfleusterau prosesu sydd gennym mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn bethau y mae angen inni edrych arnynt. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o ymweld—. Ymwelais â dim ond dau allan o'r tri—ar Ynys Môn y mae’r un nad wyf wedi ymweld ag ef—o'n canolfannau arloesi bwyd, ac rwy'n gobeithio ymweld ag un Llangefni yn sicr cyn y Nadolig neu yn union ar ôl hynny, oherwydd mae’r gwaith y mae’r tair canolfan hynny yn ei wneud gyda busnesau bach a chanolig i allu arloesi wedyn a chyflwyno gwahanol fathau o fwyd—. Ymwelais â'r un yng Ngheredigion lle’r oedd dyn oedd wedi dechrau gwneud ei basta ei hun ond nid oedd yn gwybod lle i fynd i’w brofi, ac roedd wedi gallu mynd i'r ganolfan arloesi. Yna roedd wedi cael cymorth i ddod o hyd i adeilad ac ati. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i ariannu'r rheini hefyd.
Ac yn olaf, Lee Waters.
Diolch. Diolch yn fawr iawn. Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â Bwydydd Castell Howell yn fy etholaeth i, yn Cross Hands, un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol. Maen nhw wedi tyfu'n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf ac yn meddwl bod ganddynt gyfle gwych i dyfu ymhellach, ond maent yn rhwystredig â'r prosesau caffael ar gyfer gwneud cais i werthu eu nwyddau i'r sector cyhoeddus. Beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod y strategaeth hon yn llwyddo i sicrhau gwell gwerth i economïau lleol, i wneud yn siŵr ei bod yn haws gwerthu i'r sector cyhoeddus, a’n bod ni’n prynu mwy o gynhyrchion Cymreig?
Ydw, rydw i wedi ymweld â Bwydydd Castell Howell a chael yr union sgwrs honno gyda'r perchnogion. Rwy’n meddwl eich bod yn gywir; mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r sector caffael yma yng Nghymru. Mae angen i ni edrych ar ein hysbytai a'n hysgolion. Pan oeddwn yn Weinidog Iechyd rwy’n cofio gwneud rhywfaint o waith a oedd yn gysylltiedig â chig oen, ac ni allem gaffael cig oen Cymru gan fod yn rhaid i ni gael y rhataf, ac edrych ar sut y gallem fynd o gwmpas hynny. Felly, mae angen inni edrych ar y rheolau caffael, ac yn sicr, ôl-Brexit, dyna faes arall y mae angen i ni edrych arno hefyd. Ond mae'n drafodaeth yr ydym yn ei chael ar hyn o bryd, a soniais fod angen i ni edrych dros y ffin i Loegr i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y mwyaf o’n marchnad yno hefyd. Ond mewn gwirionedd, mae angen inni ddechrau yng Nghymru yn gyntaf.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hon yn enghraifft dda o sut i ofyn cwestiwn ar ddatganiad, felly rydych wedi ennill y brif wobr heddiw.
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod—galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y dydd Gwener yma yw Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod. Pan aeth Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru â’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) drwy'r Cynulliad yn 2015, roeddem yn glir ynghylch ein nodau i wella mesurau atal, diogelu a chefnogi i ddioddefwyr a goroeswyr. Ers hynny rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies; wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar y fframwaith hyfforddiant cenedlaethol; wedi sefydlu’r fframwaith hyfforddi cenedlaethol a ‘gofyn a gweithredu’; wedi adnewyddu dulliau llywodraethu a grwpiau cynghori cenedlaethol; wedi ymgynghori â goroeswyr drwy gyfrwng Gymorth i Fenywod Cymru ac wedi cyhoeddi’r adroddiad a ddeilliodd o’r ymgynghoriad hwnnw, ‘Ydych chi'n gwrando ac ydw i'n cael fy nghlywed?’—adroddiad ar argymhellion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru; ac wedi cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol gyntaf.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ond, Lywydd, mae llawer mwy i'w wneud. Yn y 18 mis nesaf, mae gennym gynlluniau i weithio gyda'r sector a dioddefwyr a goroeswyr i ddatblygu cynllun cyflawni manwl; cefnogi ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd sy’n datblygu eu strategaethau lleol; cyhoeddi canllawiau cenedlaethol pellach ar gomisiynu, cydweithredu amlasiantaethol a'r ymagwedd addysg-gyfan; gweithio gyda'r sector a fy ngrŵp cynghori gweinidogol i sicrhau bod y cyllid i wasanaethau yn fwy cynaliadwy; a datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswyr.
Lywydd, yng Nghymru, fel gweddill y byd, mae pob math o drais yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod menywod yn fwy tebygol o brofi trais ar sail rhyw, ac, fel y cyfryw, rydym yn cydnabod mai trais yn erbyn menywod yw'r ffurf fwyaf cyffredin o drais ar sail rhyw. Felly, mae'r polisi a’r cynigion deddfwriaethol a nodir yn y Ddeddf yn effeithio’n bennaf ar fenywod a merched. Mae rhai Aelodau yn y Siambr sy'n hyrwyddo dynion sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn dweud bod yn rhaid i wasanaethau gefnogi dioddefwyr gwrywaidd hefyd. Mae'r Aelodau hyn yn llygad eu lle ac rwy’n eu canmol. Ond mae rhai Aelodau yn y Siambr hon sy'n hyrwyddo dioddefwyr gwrywaidd ar draul dioddefwyr benywaidd, ac yn troi mater trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhyw fath o gystadleuaeth sinistr. Mae'r Aelodau hyn, ar y gorau, naill ai’n ffuantus neu'n anwybodus.
I’n helpu o ddifrif i atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hysbysu plant, i wneud yn siŵr eu bod yn deall beth yw perthynas iach a sut i adnabod symptomau perthynas nad yw’n iach. Hyd yn hyn, rydym wedi cyhoeddi ‘Canllaw Arfer Da: Ymagwedd Addysg Gyfan at Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru’, a gynhyrchwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, a chanllawiau codi ymwybyddiaeth i lywodraethwyr ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016. Rydym hefyd wedi cynnal cynhadledd addysg genedlaethol.
Bydd canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i hyrwyddo materion sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i addysgu plant am berthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau a ble i geisio cymorth. Rydym hefyd yn ariannu prosiect Plant yn Cyfrif Cymorth i Fenywod Cymru i gynorthwyo elfen ataliol y Ddeddf. Mae'r prosiect yn cefnogi gwasanaethau lleol ledled Cymru i herio anghydraddoldeb rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ac i wella diogelwch. Lywydd, rydym wedi cynhyrchu nifer o ymgyrchoedd uchel eu proffil i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch sydd wedi ennill gwobrau Croesi’r Llinell, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol.
Ar hyn o bryd, rydym yn annog pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae parhau â'n hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn yn rhan allweddol o'n camau gweithredu i newid agweddau a herio ymddygiad.
Er bod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi gwneud cryn dipyn o waith yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer yn dal i ddioddef trais neu gam-drin, neu mewn perygl o hynny. Ac mae 1.4 miliwn o fenywod a 700,000 o ddynion rhwng 16 a 59 oed yn dweud eu bod wedi profi achosion o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae un o bob 5 o ferched 16 i 59 oed wedi dioddef rhyw fath o drais rhywiol ers iddynt fod yn 16 oed. Yn 2009-10, roedd 54 y cant o ddioddefwyr benywaidd 16 oed neu hŷn a gafodd eu lladd wedi’u lladd gan eu partner, eu cynbartner neu eu cariad, o gymharu â 5 y cant o ddynion sy'n dioddef. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod 137,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod yn y DU. Amcangyfrifir bod 140 o ddioddefwyr anffurfio organau cenhedlu benywod y flwyddyn yng Nghymru.
Mae pwrpas i siarad am ddeddfwriaeth, ystadegau a strategaethau. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn rhannu dealltwriaeth o raddfa'r problemau sy'n ein hwynebu a sut yr ydym yn mynd i ymdrin â nhw gyda’n gilydd. Ond ni all hyn ddweud y stori gyfan wrthym. Lywydd, yr hyn sydd wir yn fy nghymell i ddal i ganolbwyntio ar y dasg anodd o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yw’r weledigaeth o’n gwlad os na wnawn hynny, a'r straeon ofnadwy ac annifyr y mae dioddefwyr a goroeswyr yn eu dweud wrthyf am eu profiadau. Rwyf am ddarllen yn sydyn rhai geiriau gan oroeswr cam-drin domestig:
‘Rwyf wedi symud o fy nghartref teuluol ar ôl llawer o gam-drin rhywiol ac ariannol. Doeddwn i ddim yn gwybod y gallai gŵr eich treisio chi. Dywedodd wrthyf nad oes gennyf hawl i ddweud na, mai ef yw fy ngŵr a’i fod yn cael gwneud fel a fynno. Dim ond ar ôl imi siarad â Cymorth i Fenywod y cefais wybod beth oedd fy hawliau ac rwyf nawr yn gwybod beth yw ystyr trais.’
Rwyf fi, fel llawer, yn llysgennad Rhuban Gwyn, ac wedi bod ers blynyddoedd lawer. Rwyf wastad wedi bod yn angerddol am ymdrin â thrais yn erbyn menywod. Gan fod y materion hyn mor gyffredin, mae'n debygol ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi teimlo effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Lywydd, mae'n eithaf posibl bod y materion hynny wedi effeithio'n uniongyrchol ar 10 i 15 o Aelodau'r Cynulliad yn yr ystafell hon. Mae’n rhaid i unrhyw fater sy'n effeithio ar chwarter ein poblogaeth fod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth i weithredu. A dyna pam mae'n rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd i ymdrin â'r problemau hyn sy'n parhau i fod yn bla ar ein cymdeithas.
Diolch am eich datganiad, cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ddydd Gwener, a hefyd am eich sylwadau yn nigwyddiad Diwrnod Rhuban Gwyn heddiw, i hyrwyddo’r ymgyrch Ddim yn fy Enw I gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, lle gorffennodd goroeswr cam-drin domestig ei chyfraniad dewr a theimladwy drwy ofyn i bob un ohonom beidio byth ag anghofio beth yw cariad, a beth nad yw.
Ar ôl i Bethan Jenkins a mi ysgrifennu atoch fel cyd-gadeiryddion y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant am bryderon y grŵp ynghylch y strategaeth genedlaethol ddrafft ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—fframwaith ar gyfer cyflawni 2016- 21, a’ch llythyr chi’n ymateb iddo, mae Cymorth i Fenywod Cymru, ar y cyfan, wedi croesawu'r strategaeth derfynol, ac yn enwedig y ffaith ei bod nawr yn cynnwys diffiniad y Cenhedloedd Unedig o drais yn erbyn menywod. Ond maent yn awr yn gobeithio gweld yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a amlinellir yn y strategaeth yn cael eu hymgorffori mewn cynllun cyflawni effeithiol sydd wedi’i gynhyrchu ar y cyd ac yn cynnwys adnoddau digonol i sicrhau y gellir ei gyflawni. Maent yn gobeithio yr ymgynghorir â’r sector trais yn erbyn menywod ynglŷn â datblygiad y cynllun, ond nid ydynt eto wedi cael amserlen a chynllun ar gyfer sut a phryd y gwneir hyn.
Er bod eich datganiad, i raddau helaeth, yn ateb hynny, rydych yn datgan bod gennych gynlluniau ‘yn y 18 mis nesaf’ i
‘Weithio gyda'r sector...i ddatblygu cynllun cyflawni manwl’.
Felly, tybed a allwch fod yn fwy manwl. Beth yw'r amserlen ar gyfer y cynllun cyflawni, nid dim ond ymgynghoriad, ond ar gyfer ei gyflwyno a’i roi ar waith? Sut y byddwch yn sicrhau ei fod wedi’i gynhyrchu ar y cyd—yn yr achos hwn, rwy’n cyfeirio at eu geiriau nhw; nid fi sy’n rhygnu ymlaen am derm er ei fwyn ei hun—gyda'r sector trais yn erbyn menywod a gyda dioddefwyr a goroeswyr eu hunain?
Arweiniodd y Ddeddf, pan nad oedd yn ddim ond Bil—y Bil trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—pan gafodd ei drafod yma, fel y gwyddoch, at chwarae—wel, nid chwarae, chwarae’n ddifrifol, yn y pen draw, ar y dibyn, er mwyn i’r Llywodraeth gryfhau ei hymrwymiadau ymarferol i addysg am berthynas iach. Cyfeiriais yn y Siambr at y ffaith fy mod wedi bod allan gyda phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru, i addysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, cam-drin a'i ganlyniadau, a ble i geisio cymorth. Rwy’n croesawu eich cydnabyddiaeth i’r prosiect penodol hwnnw a’r ffaith eich bod wedi cyfeirio ato, ochr yn ochr â phrosiect Plant yn Cyfrif Cymorth i Fenywod Cymru, yn eich datganiad.
Rydych yn dweud:
‘Bydd y canllawiau statudol ar addysg yn gwneud i Awdurdodau Lleol ddynodi aelod o staff i hyrwyddo materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill.’
Fodd bynnag, pan ymgyrchodd Peter Black, Jocelyn Davies a minnau gyda’n gilydd i gryfhau’r mater hwn, cyn i'r Ddeddf gael ei phasio, roedd gohebiaeth y Gweinidog ar y pryd yn dweud y byddai canllawiau statudol yn darparu neu’n cynnwys darpariaethau ar gyfer dulliau fel sut y gallai ysgolion ysgogi ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi aelod o staff, disgybl a llywodraethwr i wneud y gwaith penodol hwn. Dywedodd hefyd y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod wrth ddatblygu cynigion Donaldson i sicrhau bod addysg perthynas iach yn cael ei datblygu o fewn y cwricwlwm. Felly, tybed a allech roi sylwadau, yng nghyd-destun penodi disgyblion a llywodraethwyr yn ehangach, ond hefyd yng nghyd-destun sut, yn fwy na dim ond dynodi aelod o staff, y mae hyn yn mynd i gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm, yn seiliedig ar argymhellion a chynigion Donaldson.
Mae adroddiad yr NSPCC ‘Pa mor ddiogel yw ein plant? 2016’ yn nodi cynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan 16 yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wrth gwrs, gallai rhywfaint o hynny fod oherwydd mwy o hysbysu am achosion. Roedd eu cyflwyniad Stop it Now! yn ddiweddar i'r grŵp trawsbleidiol ar gam-drin plant yn rhywiol yn datgan y dylem fod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd, cyn i bobl sydd mewn perygl o gam-drin droi’n droseddwyr, a chyn i ddioddefwyr posibl droi’n ddioddefwyr go iawn, lle, hyd yn hyn, mae'r ymateb wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddod â throseddwyr o flaen eu gwell a darparu therapi a chymorth yn unig i rai plant. Felly, sut yr ydych yn ymateb i'w galwad am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer atal cam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru?
Mae gan Gymru gyfle mawr nawr, o ystyried y sail ddeddfwriaethol sydd gennym nawr yn ddomestig, i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o hyn i helpu i ddiddymu trais yn erbyn menywod o gwmpas y byd, yn arbennig, drwy gyfrwng y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Yn wir, wrth basio Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Cymru wedi ymrwymo i fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang. Sut yr ydych yn ymateb, felly, i'r alwad am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i weithio i ymdrin â'r her hon ledled y byd, er mwyn dangos bod Cymru o ddifrif ynglŷn â bod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang?
Mae fy mhwynt a’m cwestiwn olaf yn ymwneud â'r prosiect Teuluoedd Gyda'i Gilydd gan Atal y Fro, a ariennir gan grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y trydydd sector. Mae hwn yn darparu cefnogaeth i bob agwedd ar anghenion teulu, gan gynnwys profiadau o gam-drin domestig, ac mae'n cynnwys eu rhaglen eu hunain sydd yn bennaf ar gyfer dynion sy’n cyflawni trais domestig nad ydynt wedi bod yn y carchar. Maent hefyd yn datblygu prosiectau peilot ar gyfer menywod a phobl ifanc sy’n cyflawni trais domestig. Felly, sut yr ydych yn ymateb i'r datganiad yr wyf yn credu a wnaethpwyd iddynt gan uned trais yn erbyn menywod Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru nawr yn datblygu canllawiau ar dramgwyddwyr, ac yn y bôn eich cynnydd ar hynny er mwyn cynnwys nid dim ond prosiectau rhagorol fel hwn, ond yr unig raglen achrededig yng Nghymru—y rhaglen y maen nhw’n ei defnyddio—sef y rhaglen Relate Choose 2 Change, a gafodd ei hyrwyddo’n helaeth gennyf fi wrth i’r ddeddfwriaeth fynd drwodd, ond yn anffodus na chafodd ei hymgorffori yn y ddeddfwriaeth bryd hynny? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth eang a’i gwestiynau y prynhawn yma. Rwy'n meddwl bod y newid mewn Llywodraethau, neu ethol y Llywodraeth, wedi bod yn ddefnyddiol o ran rhoi amser i oedi a meddwl am weithredu'r Ddeddf a sut y gallem greu ymagwedd fwy cyfannol at y model cyflenwi hwn. Pan ddes i i’m swydd, gwnes ymrwymiad i siarad â'r sector, ac yn bwysicach, i siarad â buddugwyr neu oroeswyr sefyllfaoedd trais domestig. Rwyf bellach wedi adnewyddu’r grŵp cynghori, sydd bron wedi dyblu o ran ei faint, a dweud y gwir, ond gydag arbenigedd o'r sector cyfan, o raglenni ymyrraethau tramgwyddwyr i bobl ifanc, yr NSPCC, i ddioddefwyr gwrywaidd a llawer o arbenigwyr eraill yn y maes. Felly, mae fy mhroses ymgysylltu’n gadarn iawn ac rwy'n obeithiol bod—. Rwyf wedi gosod dwy dasg iddynt i ddechrau. Mae un yn ymwneud â model ariannu cynaliadwy. Felly, byddwn yn edrych ar y tymor hir ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen. Ac mae un yn ymwneud â pha wasanaethau sydd eu hangen. Felly, rwy’n edrych ar lwybr cyfan am y ffordd yr ydym yn ariannu hynny ac yn edrych ar bwy sy’n cyflawni beth a ble. Rwy'n obeithiol y bydd hynny'n dod yn ôl, gan ganolbwyntio'n bennaf ar brofiadau pobl, pa un ai a fydd hynny'n drwy'r system cyfiawnder troseddol neu drwy'r system llysoedd neu awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol, gan wneud yn siŵr ein bod yn deall yn llawn sut y mae’r dull yn cael ei ddatblygu.
O ran perthynas iach, rwy’n cytuno â'r Aelod; rwy’n meddwl, a dweud y gwir, bod yn rhaid inni ddechrau siarad â phobl iau am dderbyn yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw’n dderbyniol o ran perthynas iach a chydsynio. Ac rwyf wedi siarad â Kirsty Williams am y mater hwn, yn wir, am les pobl ifanc yn gyffredinol, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn dychwelyd ato o ran y cwricwlwm ac agweddau eraill ar hyn.
Rwy'n cydymdeimlo â'r dulliau y soniodd y Gweinidog blaenorol amdanynt, ynglŷn â chynnwys yr hyfforddiant i lywodraethwyr a phobl ifanc yn y broses honno hefyd. Os dyna'r peth iawn i'w wneud, efallai mai dyna beth y dylem ei wneud, ac nid wyf yn meddwl y gwelwch lawer o dynnu’n groes gennym ni o ran gwneud yn siŵr y gallwn greu’r canlyniad cywir o'r Ddeddf gyda bwriadau da.
Yn wir, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y mater y mae’r Aelod yn ei godi ynglŷn â chamfanteisio'n rhywiol ar blant a'r gwaith y gwnaethom ei ddechrau o amgylch profiadau plentyndod anffafriol a gwybod yn iawn bod un ACE sy’n ymwneud â thrais domestig yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yn fwy hirdymor. A dweud y gwir, mae gennyf rai pryderon, wir, pan fyddwn yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd trais domestig, weithiau bydd unigolyn iau o fewn y lleoliad teulu’n eilradd, ac, mewn gwirionedd, dylem fod yn meddwl am hynny o ran dulliau cyflawni seiliedig ar y teulu.
Rwy'n gyfarwydd â'r prosiect Atal y Fro yn y Barri. Rwyf wedi bod yno gyda'r Aelod lleol, Jane Hutt— flynyddoedd lawer yn ôl—ac rwy’n deall y gwaith gwych y maent yn ei wneud, yn enwedig o ran rhaglenni tramgwyddwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r dull partneriaeth gadarnhaol sydd gennym ar waith gyda sefydliadau eraill, ac mae gan Heddlu De Cymru fodel y maent yn ei ddefnyddio o Essex, a dweud y gwir. Maent yn ei ddefnyddio fel rhaglen tramgwyddwyr yn ardal Abertawe, rwy’n meddwl, ac rydym yn dysgu o hynny, hefyd. Felly, mae'n fater o sicrhau ein bod yn uno dulliau pob asiantaeth ac, fel y dywedais yn gynharach, yn gwneud yn siŵr y gallwn ddod â’n harbenigedd at ei gilydd, dod â’n cyllid at ei gilydd, os dyna'r peth iawn i'w wneud, hefyd, i sicrhau ein bod yn llwyddo i weithredu'r Ddeddf gyda’r gefnogaeth wych sydd gennym yn y rhan fwyaf o'i Siambr.
Mae’r gwasanaeth llinell gymorth cenedlaethol, Byw Heb Ofn—Live Fear Free, wedi’i leoli yn fy etholaeth i, digwydd bod, a ddoe ces i gyfle i ymweld â’r adnodd hollbwysig yma. A gyda llaw, dyma i chi enghraifft o wasanaeth hollol ddwyieithog sy’n gwasanaethu Cymru gyfan o’r tu draw i Gaerdydd, a hynny mewn ffordd lwyddiannus iawn, ac mae’r gwasanaeth wedi ennill nifer o wobrau nodedig.
Mae 96 y cant o’r rhai sy’n ffonio’r llinell gymorth yn ferched. Nid ydy hynny ddim i ddweud nad ydy dynion hefyd yn dioddef trais rhywiol, wrth gwrs, na chamdriniaeth, a bod angen rhoi sylw i hynny, ond mi rydym ni yn gweld diraddio merched yn cael ei normaleiddio yn ddiweddar. Mi ddisgrifiodd Nigel Farage sylwadau darpar Arlywydd America, pan oedd yn brolio ei fod o yn cymryd mantais rywiol ar ferched, fel ‘alpha male boasting’. Sylwadau gwarthus, rwy’n meddwl, a dylai UKIP yng Nghymru fod â chywilydd bod y ffasiwn beth wedi cael ei ddweud a chondemnio’r math yna o ieithwedd. A ydych chi’n cytuno bod yr awyrgylch wrth-fenywaidd, ‘misogynist-aidd’ bresennol yn milwrio yn erbyn lleihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod angen felly i’r Llywodraeth a phawb arall ddyblu’r ymdrechion yn yr hinsawdd bresennol?
Rwy’n troi at y strategaeth genedlaethol sydd newydd ei chyhoeddi ac, fel Mark Isherwood, mae gennyf i nifer o gwestiynau yn ei chylch hi. A ydych chi’n argyhoeddedig bod yr angen i addysgu ein plant a’n pobl ifanc am berthnasoedd iach yn gwreiddio a’i fod o’n cael sylw dyladwy wrth i’r cwricwlwm ysgolion newydd ddod i fodolaeth? Mae yna gyfle gwych efo’r cwricwlwm newydd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn, neu fydd y newid ddim yn digwydd yn y pen draw, heblaw ein bod ni’n addysgu ynglŷn â pherthnasoedd iach yn ein hysgolion ni.
O ran y strategaethau lleol sy’n cael eu datblygu, a ydych chi’n hyderus bod y rhain yn cael eu datblygu mewn ffordd gadarn a chyson ar draws yr awdurdodau lleol? Rydych chi wedi sôn am gyhoeddi’r fframwaith cyflawni, ond pryd yn union? Beth ydy’r ‘deadline’ ar gyfer cyhoeddi’r fframwaith cyflawni a fydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at amcanion y strategaeth, a beth fydd statws cyfreithiol y fframwaith cyflawni hwnnw? A phryd y bydd y dangosyddion cenedlaethol yn dod i rym? Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o’r strategaeth, ond rydw i yn falch o weld ei bod hi wedi symud ymlaen gryn dipyn ers y strategaeth ddrafft a welsom ni yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ddiweddar. Ond mae yna’n dal lot fawr o waith sydd angen ei wneud a hynny ar frys.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu polisïau yn y Cynulliad yn y maes yma ac wedi llwyddo hefyd i newid y gyfraith ar stelcian dan arweiniad Elfyn Llwyd yn San Steffan. Mae ein hymrwymiad ni fel plaid yn gwbl gadarn yn y maes yma, a pheidied neb ag amau hynny. Rydw i hefyd, a nifer o’m cyd-Aelodau fan hyn, yn bencampwr y Rhuban Gwyn.
Diolch i'r Aelod am ei hymrwymiad parhaus. Ymwelais â'r llinell gymorth Byw Heb Ofn hefyd ym Mangor—rwy’n meddwl mai dyna’r ardal—yn y gogledd, ac mae ganddynt staff gwych yno sy’n ymroddedig iawn i gynorthwyo unigolion agored iawn i niwed wrth iddynt ffonio’r llinell gymorth. Rwy’n rhoi teyrnged i'w gwaith. Yn wir, rwy’n meddwl bod yr Aelod ac Aelodau eraill yn ail-lansiad y cynllun rai wythnosau’n ôl.
Mae hi'n hollol gywir: mae cynyddu ymdrechion yr holl Aelodau yn rhywbeth y dylem ei wneud. Ni ddylem byth anghofio bod hwn yn ddiwrnod ddydd Gwener sydd gennym yn y dyddiadur i gydnabod y materion hyn, ond dylai fod yn norm. Dylai fod yn broses lle mae'n rhan o’r system yn hytrach nag yn ychwanegiad untro. Hwn yw’r peth iawn i'w wneud am y rhesymau iawn.
O ran manylion penodol y strategaeth, rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau am y strategaeth. Cafodd y drafft ei ddatblygu o’r dechrau i’r fersiwn derfynol wrth weithio gyda fy ymgynghorydd a hefyd gyda'r sector i geisio creu dogfen yr oedd pawb yn weddol fodlon arni. I mi, roedd hynny'n broses ddeddfwriaethol, ac roedd gennym derfyn amser i gynhyrchu hynny. Rwy’n meddwl fy mod wedi sôn yn y pwyllgor, a dweud y gwir, y bu’n eithaf heriol cyflawni'r strategaeth honno, ond y peth pwysicaf yw’r fframwaith cyflawni. Rwy'n ymddiheuro i Mark Isherwood na wnes i roi’r amserlen fframwaith iddo. Rwyf wir yn gallu ymlacio am hyn, oherwydd rwy’n meddwl bod angen ei wneud, ond ei wneud yn iawn. Rwyf wedi gofyn i ran o'r tîm yn y grŵp cynghori i roi cyngor imi am hyn.
Felly, dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes hwn, ac mae gan fy swyddogion sgiliau da yn hyn o beth, ond a dweud y gwir, pobl go iawn sy’n profi hyn sy’n meddu ar yr arbenigedd go iawn. Mae'n rhaid inni brynu’r arbenigedd hwnnw i ddeall pam y mae angen y gwasanaethau hyn, a dyna sut y byddwn yn datblygu'r fframwaith gyda nhw, gan gynhyrchu ar y cyd fel y mae’r Aelod sôn amdano yn y Siambr yn rheolaidd. Ond rhof ymrwymiad i'r Siambr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y broses honno wrth inni fwrw ymlaen. Nid wyf am iddi fod yn broses hir, ond hoffwn wneud yn siŵr ei bod yn gywir.
Rwy'n ddiolchgar i Elfyn Llwyd am faterion y ddeddfwriaeth o amgylch stelcio. Yn sicr, roedd ef yn iawn i wneud hynny, ac rwy'n gefnogol iawn i’r egwyddor honno. Dylem anghofio am wleidyddiaeth plaid yn y maes hwn, a gwneud y peth iawn am y rhesymau iawn. Yn wir, mae mater rheolaeth gymhellol yn rhywbeth y dylem hefyd fod yn ymwybodol iawn ohono, a gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd, gyda'n gilydd, os oes gennym broblem gyda hynny, yn onest am y broses honno ac yn sicrhau ein bod yn rhoi gwybod os ydym yn credu mai dyna beth sy'n digwydd. Ond rwy’n ddiolchgar unwaith eto am ymrwymiad yr Aelod yn ystod y ddadl hon heddiw.
Mae diddymu trais yn erbyn menywod a phlant yn fusnes i bawb. Mae'n deg dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi ei wneud yn fusnes i chi. Efallai na fydd Aelodau newydd yn ymwybodol o’ch holl waith fel Gweinidog mewn Cynulliadau blaenorol, ac rydych wedi datblygu polisïau a strategaethau a deddfwriaeth. Felly, roeddwn yn awyddus i’ch cydnabod chi yma unwaith eto a’ch ymroddiad llwyr.
Mae chwe amcan o'r strategaeth sydd â chanolbwynt penodol i'w cyflawni erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Ond y pwysicaf i mi yw newid agweddau, a dyna pam yr wyf yn dweud ei fod yn fusnes i bawb. Roeddwn yn falch, am y bumed flwyddyn yn olynol, i ymuno â Sefydliad y Merched ar ddigwyddiad y prynhawn yma a wnaeth yn union beth hynny, a lle'r oedd nifer fawr o unigolion ifanc yn bresennol sydd am newid meddyliau ac agweddau eu cenhedlaeth, ac rwy’n obeithiol ar gyfer y genhedlaeth ar ôl hynny.
Ar ôl i’r Cynulliad godi heddiw, rwy'n gwahodd pawb yma i ymuno â mi mewn gwylnos golau cannwyll a gaiff ei chynnal y tu allan i adeilad y Senedd. Bydd yr wylnos yno i goffáu a chofio bywydau bobl a gafodd eu colli. Nid wyf yn gwybod faint o bobl sy’n gwybod, ond yn y tri mis cyntaf—12 wythnos—yn 2015, cafodd 26 o fenywod eu llofruddio naill ai gan eu gwŷr neu eu partneriaid neu gan eu cyn-wŷr neu eu cyn-bartneriaid. Mae hynny'n fwy na dwy fenyw bob wythnos. Roeddent yn wragedd, yn ferched, yn fodrybedd, yn neiniau, ond yn fwyaf oll, roeddent yn famau—mamau i blant sydd wedi cael eu gadael ar ôl, sydd mewn trallod mawr a heb wybod sut i ymdopi, a theuluoedd nad ydynt yn gwybod sut y maent yn mynd i barhau.
Felly, rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a lles, sy'n cynnwys darpariaeth i helpu plant ac oedolion ag angen gofal a chymorth, yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hynny sydd wedi’u gadael i godi darnau eu bywydau sydd wedi chwalu.
Joyce Watson, diolch i chi am eich sylwadau caredig, ond a gaf i ddweud mai dim ond y Gweinidog, yr Ysgrifennydd Cabinet nawr, wyf fi, sydd wedi cael caniatâd i alluogi'r cyfle i newid y ddeddfwriaeth a newid y negeseuon? Rwy’n cymryd hynny o ddifrif, ond pobl fel chi a llawer o rai eraill yn y Siambr hon hefyd, ac yn allanol, llawer o sefydliadau, sydd wedi hyrwyddo ac sy’n parhau i hyrwyddo, yma a ledled y byd, yn wir, eich ymrwymiad i hynny. Roedd Mark Isherwood yn iawn yn ei gyfraniad am fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae Joyce Watson wedi gwneud llawer i fynd â’r neges y tu hwnt i'n ffiniau am y gwaith yr ydym yn ei wneud yma a mynd â’r darn ardderchog hwnnw o ddeddfwriaeth a’i rannu ag eraill.
Mae'r Aelod yn codi rhai ffeithiau perthnasol iawn sy’n ofnadwy o niweidiol i gymunedau. Yn wir, o fis Ionawr i fis Hydref 2016, cafodd o leiaf 102 o ferched eu lladd gan bartner gwrywaidd neu brif unigolyn dan amheuaeth sy’n wryw. Mae hynny’n un fenyw bob tri diwrnod. Mae’n ystadegyn trasig. Mae hynny'n fy mrifo wrth imi ei ddweud a dylai frifo a gwneud i bawb feddwl am hynny.
Ar nodyn personol, rwy'n meddwl mai menywod, a mamau yn arbennig, yw'r bobl bwysicaf yn y byd. Mae pobl yn cael llawer o brofiadau bywyd teuluol, ond heb ein mamau, ni fyddai neb ohonom yma. Dylem ni i gyd gofio hynny a dyna pam y dylem fod yn gwneud yn siŵr ein bod yn herio bob tro y bydd unrhyw wahaniaethu yn erbyn menywod, ac yn enwedig mamau, neu eich modrybedd neu eich chwiorydd. Gallai hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom. Rwy'n ddiolchgar, Joyce, am eich cefnogaeth barhaus ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd ar y mater pwysig iawn hwn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgelu rhai ystadegau cwbl syfrdanol yn ei ddatganiad. Mae'n gywilyddus bod cynifer o fenywod a merched yn dioddef trais domestig yn yr oes sydd ohoni. Er bod tuedd gynyddol o fenywod yn cyflawni trais yn erbyn dynion ac er bod trais domestig yn digwydd hefyd mewn perthnasoedd o'r un rhyw, mae trais domestig yn dal i fod yn drosedd a gyflawnir yn bennaf gan ddynion yn erbyn menywod.
Ni allwn oramcangyfrif effaith gorfforol, seicolegol ac emosiynol trais domestig a rhywiol ar ddioddefwyr. Bydd angen cymorth ar holl ddioddefwyr trais domestig. Mae croeso i ymdrechion yr Ysgrifennydd Cabinet i ddatblygu fframwaith i ymgysylltu â goroeswyr, yn ogystal â’i addewid i weithio i sicrhau bod cyllid yn fwy cynaliadwy. Rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn atal trais yn erbyn menywod yn y dyfodol, bod yn rhaid canolbwyntio ar blant a'u dealltwriaeth o berthyna iach.
Ond, ni ddylid diystyru’r ffordd y gall dynion sy’n oedolion gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Gall dynion chwarae rhan hanfodol o ran rhoi terfyn ar drais seiliedig ar ryw. Mae'n hanfodol bod gan fechgyn ifanc rhywun sy’n gosod esiampl gadarnhaol yn eu teuluoedd, ar y teledu, mewn ysgolion ac mewn mannau eraill—dynion a fydd yn eu dysgu nad yw unrhyw ddyn go iawn yn taro menyw nac yn ei cham-drin. Os nad oes gan fechgyn y modelau rôl hyn yn eu teuluoedd, mae’n rhaid i'r wladwriaeth eu darparu. Mae gan athrawon gwrywaidd a dynion eraill mewn bywyd cyhoeddus, er enghraifft sêr pop neu sêr chwaraeon, i gyd ran bwysig i'w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Maent yn gallu dylanwadu ar fechgyn a’u haddysgu i ddeall beth yw perthynas iach.
Fodd bynnag, mae’n rhaid inni sicrhau nad ydym yn troi at achosi teimlad o euogrwydd neu drin dynion fel eu bod yn gynhenid broblematig. Yn lle hynny, mae angen inni annog dynion i gymryd rhan a’u helpu i ddeall y gallant chwarae rhan allweddol i sicrhau diwylliant hapusach a mwy diogel ar gyfer cenedlaethau o fenywod a dynion yn y dyfodol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gael gwared ar drais yn erbyn menywod a merched unwaith ac am byth. Galwaf felly ar ddynion a menywod ledled Cymru i wneud pob dydd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn. Diolch.
Cyfraniad pwysig iawn gan yr Aelod, ac rwy’n diolch iddi am hynny. Nid mater i ferched yw hwn—mae’n fater i ni. Mae’n ymwneud â phethau y dylem ni i gyd fod yn eu gweiddi’n uchel—ei fod yn annerbyniol. Am rhy hir o lawer, mae pobl wedi ofni dweud unrhyw beth a allai fod yn sarhaus. Mae hynny wedi bod yn drosedd cudd, ond nid yw mwyach. Bymtheg mlynedd yn ôl, ni fyddem byth wedi cael dadl fel hyn yn y Siambr. Ni fyddem byth wedi cael digwyddiad Sefydliad y Merched yn y Senedd yn siarad am yr union faterion hyn sy'n cyffwrdd â phob un o'n cymunedau. Nid yw’n gysylltiedig â dosbarth—gallai hyn ddigwydd yn unrhyw le i unrhyw un. Mae'n hen bryd inni, gyda'n gilydd, wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, rwy’n diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rydych yn llygad eich lle: mae angen rhai hyrwyddwyr gwrywaidd yn y maes hwn. Peidiwch â bod ofn sefyll i fyny a chael eich cyfrif. Rwyf, unwaith eto, yn cydnabod bod llawer o bobl yn y Siambr hon—llawer o’m cydweithwyr gwrywaidd yn y Siambr hon—yn hyrwyddo’r achos hefyd.
Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwn, ond rwy’n mynd i ganiatáu tri chwestiwn cryno gan dri Aelod. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Nid wyf yn credu bod amheuaeth o ran bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae llawer o bobl wedi sôn am addysgu plant yn ifanc. A yw'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol gwneud hyn mor ifanc â phosibl, yn ystod camau cynnar yr ysgol gynradd, fel eu bod yn tyfu â gwybodaeth o'r hyn y dylai perthynas iach fod?
Hoffwn hefyd wneud pwynt am y trais a’r rhywiaeth y gall plant eu gweld ar y rhyngrwyd, sy'n effeithio ar eu hagwedd tuag at berthnasoedd. Yn benodol, roeddwn yn awyddus i sôn am y gêm ‘Grand Theft Auto’, a gafodd ei gwahardd o rai cadwyni adwerthu ar ôl i ddeiseb a lansiwyd gan dair o oroeswyr benywaidd sicrhau dros 40,000 o lofnodion. Ond, mewn gwirionedd, rwy’n gwybod bod rhai plant o oed ysgol gynradd yn dal i gael chwarae'r gêm hon yma yng Nghymru. Felly, hoffwn ganmol Ysgol Gynradd Gabalfa yn fy etholaeth i am fenter a fynychais y llynedd i addysgu rhieni am gemau cyfrifiadurol sy'n annog trais yn erbyn menywod, yn enwedig ‘Grand Theft Auto’, a wnaethant yn rhan o ddiwrnod cyffredinol ymwybyddiaeth o’r rhyngrwyd yr oeddent yn ei gynnal. Rwyf wir yn meddwl bod addysgu rhieni am gynnwys gemau o’r fath yr un mor bwysig ag addysgu'r plant. A yw'n cytuno bod hyn yn rhan hanfodol o'r strategaeth hon, fel nad yw plant yn gweld y delweddau hyn a fydd yn ystumio eu barn am beth yw perthnasoedd iach?
Yn wir, mae’r Aelod yn iawn ac, unwaith eto, yn hyrwyddwr arall i'r achos. Mae perthnasoedd iach yn allweddol i sicrhau ein bod yn torri cylch y drosedd erchyll hon. Ymwelais ag ysgol ddoe, mewn ardal â lefel cymharol uchel o achosion o drais domestig. Pam mae pobl yn ystyried ei bod yn rhesymol bod hyn yn normal? Pam maen nhw’n ystyried bod taro unigolyn arall—partner—yn arfer arferol? Mae plant yn credu hynny—dyna sut y maent yn tyfu—ac mai dyna fydd yn digwydd iddyn nhw. Mae'n rhaid inni dorri'r cylch, ac rwy'n credu bod y model perthnasoedd iach—a mynd i mewn yn gynnar iawn—yn allweddol i gyflawni yn y maes hwn.
Fel rhywun sydd wedi gweithio gyda dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig a’u cefnogi, rwy’n croesawu’r rhan fwyaf o'r datganiad. Rwy’n pryderu am ddiffyg rheoleiddio yn y sector, sy'n golygu bod rhai pobl yn syrthio drwy'r bylchau, ac mae rhai o'r bobl hynny wedi cyrraedd fy swyddfa. Ar adegau, mae wedi bod yn anodd iawn sicrhau bod gwasanaethau plant yn gwrando ar ddioddefwyr, ac mae'r ffordd y maent wedi cael eu trin wedi gwaethygu’r cam-drin gwreiddiol.
Un maes sydd ar goll o'r datganiad hwn yw maes gwleidyddiaeth, oherwydd, mewn rhai cylchoedd, mae rhywiaeth yn cael ei derbyn. Mae rhai o’m cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd o bob plaid—gwahanol bleidiau; dewch inni fod yn glir ynghylch hynny—wedi dioddef yn ormodol dros y pedair blynedd a hanner diwethaf. Mae tri chynghorydd benywaidd wedi gadael yr awdurdod, ac un ohonynt yn sôn yn uchel iawn am wahaniaethu rhywiaethol. Cafodd un cynghorydd benywaidd arall ei bwlio nes iddi orfod newid grŵp gwleidyddol.
Mae un cynghorydd arall wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n dod ato yn awr. Mae'n bwysig iawn; os gwelwch yn dda gwrandewch. Mae un cynghorydd arall wedi cwyno wrthyf i yn breifat am y cam-drin y mae hi wedi’i ddioddef. Mae aelod o fy ngrŵp fy hun, oherwydd yr hyn y mae hi wedi ei wynebu, gan ei bod yn fenyw, yn ansicr a yw hi eisiau sefyll y flwyddyn nesaf yn etholiadau’r cyngor. Felly, fy nghwestiwn i chi, Weinidog, ac, fel cennad y Rhuban Gwyn, rwy'n siŵr y caf ymateb cadarnhaol, oherwydd rwyf wedi cael ymateb negyddol gan Gyngor Caerdydd ar hyn: a wnewch chi gefnogi a chychwyn arolwg o'r holl wleidyddion benywaidd a etholwyd yng Nghymru i fesur yr hyn y maent wedi’i wynebu a chael eu barn am sut y maent wedi cael eu trin? Mae'n faes hanfodol, ac rydym yn anwybyddu llawer o rywiaeth sy'n digwydd mewn gwirionedd i'n cydweithwyr ein hunain.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Gwrandewais yn ofalus ar ei gyfraniad ac mae'n iawn nad yw'n briodol i unrhyw aelod o unrhyw blaid wleidyddol mewn unrhyw faes neu arena ddioddef unrhyw gam-drin ar unrhyw ffurf. Cododd sylw diddorol iawn ynghylch pa un a ddylem gynnal arolwg o Aelodau, pleidiau gwleidyddol, yn enwedig menywod, sydd wedi profi trais domestig. Gallai fod yn rhywbeth y byddaf yn gofyn i'r Llywydd roi barn arno o ran y sefydliad hwn, i ddechrau—i arwain drwy esiampl cyn inni droi at bwnc ehangach. Wrth gwrs, byddwn yn gobeithio bod pob Aelod yn myfyrio ar ei gyfraniad personol i roi sylw i'r materion sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a cham-drin rhywiol, ac rydym yn cymryd hynny o ddifrif. Wrth gwrs, os oes pobl ag angen cefnogaeth yn y broses honno, boed hynny drwy ddioddefwr neu dramgwyddwr, yn sicr mae yna sianeli y gallwn eu cynghori amdanynt.
Yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, fel Joyce Watson, hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymroddiad dros lawer o flynyddoedd i ddiddymu trais yn erbyn menywod. Rwy'n falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y bydd yn gweithio gyda goroeswyr i ddatblygu cynllun cyflenwi. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar y lleisiau pwerus hynny. Un o'r lleisiau hynny yw Rachel Williams, sy'n un o fy etholwyr. Mae Rachel yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o bobl eraill. Mae ei dewrder a’i dycnwch wrth godi ei llais a’i hegni a’i hymroddiad i ddiddymu trais yn erbyn menywod yn anhygoel. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut arall y gallwn sicrhau bod lleisiau’r goroeswyr wrth wraidd y strategaeth?
Diolch i Jayne am ei chyfraniad. Rwy'n adnabod Rachel Williams yn dda iawn ac, yn wir, mae hi'n ysbrydoliaeth. Er gwaethaf yr hyn y mae Rachel wedi ei wynebu, mae hi'n dal yn gwneud imi chwerthin ac yn dal i chwerthin gyda ni, ac rwy’n credu bod hwnnw’n sgìl anhygoel sydd ganddi, ac yn arwydd o barch i Rachel a llawer o fuddugwyr eraill, fel y maent yn hoff o gael eu galw— goroeswyr achosion o drais domestig. Aeth hi drwy broses ddifrifol iawn.
Mae'n rhan bwysig o'r broses i mi ein bod yn gwrando ar bobl go iawn, profiadau go iawn, ac mae’n rhaid i Rachel a phobl eraill fel Rachel fwydo i mewn i'r system. Ac mae Rachel, mewn gwirionedd, ar fy ngrŵp cynghori; rwyf wedi ei chyflwyno i hwnnw, ac mae hi eisoes wedi dechrau rhoi cipolwg inni ar wasanaethau a darpariaeth gwasanaethau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ond gallwn adeiladu y tu hwnt i hynny, oherwydd mae croeso i arbenigwyr yn y maes hwn ac mewn agweddau eraill ar ddatblygu polisi, ond mae’n rhaid inni hefyd ddefnyddio arbenigwyr ochr yn ochr â phrofiadau, a dyna pam y bydd pobl fel Rachel a phobl eraill yn rhan o'r ffordd yr wyf yn datblygu polisi a’r ffordd y bydd y Llywodraeth hon yn datblygu polisi yn y dyfodol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar Gymru o blaid Affrica, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Ymwelais â Mbale yn Uganda yn ystod y toriad hanner tymor yn rhan o ddathliadau degfed pen-blwydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru o Blaid Affrica. Mae'r rhaglen wedi cefnogi ac annog pobl yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn Affrica Is-Sahara. Er bod gan bobl o Gymru bartneriaethau gweithredol mewn sawl rhan o Affrica Is-Sahara, mae’n debyg mai yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda y mae’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd, tua phum awr mewn car o'r brifddinas, Kampala.
Yn ystod fy amser yn Uganda, ymwelais â chanolfannau iechyd, ysbyty rhanbarthol, ysgolion a llawer o feithrinfeydd coed. Cefais fy nhywys o amgylch y brif slym yn Mbale, lansiais gydweithfa fêl i ferched, ac arwyddais femorandwm o gyd-ddealltwriaeth â’n partneriaid allweddol yn yr ardal. Bûm yn dosbarthu eginblanhigion coed, yn plannu coeden fango—profiad a hanner—ac yn cynnau goleuadau LED newydd sydd wedi’u pweru gan uned trydan dŵr fach mewn ysgol wledig. A chefais gwrdd â llawer o wirfoddolwyr o Gymru a oedd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, ynghyd â chwech o bobl o Gymru ar leoliadau wyth wythnos gyda'n rhaglen cyfleoedd dysgu rhyngwladol.
Gwelais rai pethau ofnadwy hefyd: matresi sbwng moel wedi’u staenio mewn canolfan iechyd brin iawn o adnoddau lle mae merched yn rhoi genedigaeth dan olau fflachlamp, ystafell esgor chwe gwely yn y prif ysbyty sy'n gwasanaethu poblogaeth fwy na Chymru yn ymdrechu i ymdopi â menywod yn esgor—weithiau cynifer â 50 mewn un diwrnod—pentwr enfawr o wastraff clinigol yn mudlosgi wedi’i adael yng nghefn yr un ysbyty oherwydd bod y llosgydd wedi torri, a phlant yn yfed dŵr budr wedi’i dynnu o afon lygredig yng nghanol slym. Mae'r plant hynny’n agored i gam-drin o bob math.
Ond, ble bynnag yr es i, gwelais hefyd dystiolaeth o bobl o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â phobl leol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol: roedd tri dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda Pheirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor i adeiladu uned famolaeth y mae wir ei hangen yng nghefn gwlad Kachumbala—trydanwr, plymwr a saer, yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr o Uganda; roedd gwirfoddolwyr o'r Teams4u o Wrecsam, y gwn fod fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymwybodol iawn ohonynt, yn addysgu ysgol gyfan am iechyd rhywiol ac atgenhedlu ac yn profi pawb am HIV, gan gynnwys rhieni, ac yn hyfforddi cyfanswm o 1,500 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r rhanbarth mewn hybu iechyd a hylendid cymunedol—maent yn gwneud gwaith gwych i helpu i atal a rheoli achosion o ddolur rhydd a hyd yn oed colera; pwmp dŵr pŵer solar, wedi’i gynllunio a'i osod gan dîm o Beirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor, i ddarparu dŵr glân i dros 1,000 o bobl a 4,000 o wartheg; a gwell gofal newyddenedigol o ganlyniad i hyfforddiant o Gymru—sydd wedi golygu bod marwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig yn ysbyty atgyfeirio ranbarthol Mbale wedi gostwng o ffigur syfrdanol o 52 y cant i 17 y cant, sy’n dal yn annerbyniol o uchel, mewn dwy flynedd, ond gostyngiad enfawr yn nifer y marwolaethau—a’r gwasanaeth ambiwlans beic modur enwog iawn ar gyfer y rhanbarth cyfan a ddyfeisiwyd gan wirfoddolwyr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gefnogir gan yr elusen yn ne Cymru PONT a chynghorau dosbarth rhanbarth Mbale gydag arian gan Gymorth y DU a Llywodraeth Cymru.
Roedd llawer o'r gweithgarwch a welais yn cael ei ddarparu gan sefydliadau anllywodraethol fel PONT, a ddechreuodd ym Mhontypridd, Peirianwyr ar gyfer Datblygiad Tramor yng Nghaerfyrddin, a Teams4u o Wrecsam. Mae llawer o'r prosiectau wedi elwa ar grantiau bach a chanolig eu maint gan raglen Cymru o Blaid Affrica, ac mae mwy o arian wedi’i ysgogi gan roddwyr eraill neu wedi’i godi gan wirfoddolwyr.
Un o uchafbwyntiau'r daith oedd ymweld â llawer o'r 45 o feithrinfeydd coed cymunedol sy’n cael eu cynnal gan y prosiect 10 Miliwn o Goed drwy Maint Cymru. Cyfarfûm â llawer o'r staff ymroddedig sydd eleni wedi magu a dosbarthu 1.2 miliwn o eginblanhigion i ffermwyr bach. Gwelais ddau wahanol gyflwyniad drama sy'n cael eu defnyddio i annog a hysbysu cymunedau gwledig am yr angen i blannu mwy o goed ac am sut i ofalu amdanynt. Gwelais hefyd sut mae Plannu!, menter Llywodraeth Cymru i blannu coeden yn Uganda a Chymru ar gyfer pob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru, yn gweithio. Trwy Plannu! mae teulu’n gallu cael coeden ffrwythau—coeden fango, afocado neu jacffrwyth yn aml—i’w phlannu ger eu tŷ. Yn ogystal â darparu cysgod, mae’n darparu maeth ychwanegol sydd ei angen yn fawr ar gyfer eu deiet. A dweud y gwir, mae hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd carbohydradau yw llawer o'r deiet yn y rhan honno o Uganda, heb lawer arall i ychwanegu at eu deiet. Felly, mae ffrwythau yn eu deiet yn arbennig o bwysig.
Cefais gyfarfod hefyd ag Ei Hardderchogrwydd Alison Blackburne, Uchel Gomisiynydd Prydain i Uganda, a swyddogion allweddol o Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol. Mae llawer mwy i'w ennill o’r ymgysylltiad penodol hwnnw hefyd. Gwnaethant gytuno i weithio'n agosach gyda'n swyddogion yn y dyfodol, yn enwedig ym maes pwysig ariannu carbon, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n ein galluogi i blannu llawer mwy o goed dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ystod fy ymweliad byr, cefais weld rhai o'r llawer o brosiectau sy'n cael eu cefnogi gan Gymru yn Mbale, ond rwy'n ymwybodol iawn, dros y 10 mlynedd diwethaf, bod dros 500 o brosiectau ar draws Affrica Is-Sahara, sy'n tarddu o bob etholaeth yng Nghymru, wedi cael cymorth. Mewn ychydig ddyddiau byr, gwelais drosof fy hun sut y mae Cymru o Blaid Affrica yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn Mbale ac yng Nghymru. Rwyf wedi gweld rhai golygfeydd anodd iawn a fydd yn aros gyda mi am amser hir iawn, ond rwy’n talu teyrnged i'r miloedd lawer o bobl o Gymru sy'n gwirfoddoli i helpu i wneud y byd yn lle llawer gwell drwy'r rhaglen hon.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o allu ymateb ar ran ein grŵp, ac ymestyn ein cefnogaeth barhaus i raglen Cymru o Blaid Affrica a'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud i greu cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl Affrica Is-Sahara.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi ymweld â De Affrica flwyddyn neu ddwy yn ôl—mewn gwirionedd, ar ddau achlysur yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf—ac rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud o ganlyniad i gefnogaeth pobl Cymru yn y wlad benodol honno, ac yn wir, wedi clywed llawer mwy am y gwaith mwy helaeth sy'n digwydd yn rhanbarth de Affrica. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch gwaith grwpiau ffydd yn arbennig sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiectau penodol hynny. Mae gan esgobaeth Llanelwy, wrth gwrs, gysylltiad â de-orllewin Tanganyika lle mae wedi datblygu cysylltiadau dinesig i gefnogi prosiectau cynhaliaeth, gwella’r cyflenwadau dŵr ac, yn wir, helpu i hyfforddi athrawon yn yr ardal benodol honno. Ac yn wir, mae sefydliad o'r enw Dyfodol a Ffefrir, sy'n codi arian yma yng Nghymru ymysg gwahanol eglwysi unigol, yn helpu i gyflawni prosiectau ledled De Affrica a thu hwnt mewn lleoedd fel Lesotho, Zambia, Mozambique, Malawi a llawer o wledydd eraill, gan weithio’n aml iawn gyda phlant difreintiedig, a helpu i roi addysg iddynt ac, yn wir, helpu i’w haddysgu am y risgiau iechyd sy’n bodoli mewn rhai o'r cymunedau anghenus iawn hynny, yn enwedig y rhai lle mae HIV yn gyffredin iawn yn wir. Oni bai am gefnogaeth y gwahanol grwpiau ffydd a grwpiau eglwysi yn enwedig yng Nghymru i’r prosiectau hynny, yn syml, ni fyddai llawer ohonynt yn digwydd.
Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf pa waith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i geisio sefydlu cysylltiadau â'r Cymry ar wasgar yn rhai o'r cenhedloedd hyn i harneisio'r cyfleoedd a allai fod ganddynt i ddod â rhywbeth ychwanegol, os mynnwch chi, o ran defnyddio eu sgiliau i helpu i gefnogi rhywfaint o'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Un o uchafbwyntiau, mae'n debyg, yr ymweliad diwethaf imi ei wneud â De Affrica oedd cyfarfod â Chymdeithas Gymraeg Cape ym mhreswylfa’r Uchel Gomisiynydd, lle y ceir pobl sydd â llawer o dalentau. Yn aml iawn, maent wedi ymddeol i Dde Affrica ac eisiau dal i wirfoddoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rwy’n gwybod bod gennym lawer o bobl yn teithio o Gymru i Affrica Is-Sahara i gefnogi rhai o'r prosiectau yr ydych chi wedi cyfeirio atynt yn Uganda ac rwyf innau wedi cyfeirio atynt mewn mannau eraill, ond mae gan yr unigolion sy'n barhaol ar lawr gwlad yno, ond sy’n dod o Gymru, hefyd rywbeth i'w gynnig. Tybed a allwch chi wneud sylw ynglŷn ag a yw hwnnw’n grŵp o bobl yr ydych yn ceisio ymgysylltu ag ef yn benodol.
Yn ail, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r cysylltiad gwych sydd wedi ei sefydlu drwy fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ar faterion iechyd mamolaeth yn ardal Lesotho, lle maent wedi llwyddo i ostwng cyfradd marwolaethau plant—soniasoch am rai o ffigurau marwolaethau mamolaeth yn Uganda yn gynharach. Byddwch hefyd yn ymwybodol bod llwyddiannau tebyg—yn wir, llwyddiannau mwy trawiadol—wedi eu gwireddu yn Lesotho yn sgil gwaith clinigwyr o Gymru a staff nyrsio o Gymru sydd wedi bod yn teithio yno dros nifer o flynyddoedd bellach, i mewn i Lesotho, gan helpu i ysgogi gwell canlyniadau iechyd i bobl yn y wlad benodol honno.
Diolch i Darren Millar am ei sylwadau cadarnhaol ac adeiladol am y rhaglen hon. Wrth gwrs, rwy’n cofio canlyniad un o'i ymweliadau i Dde Affrica, pan ddychwelodd ag anaf sylweddol. Rwy’n meddwl bod llawer ohonom wedi mwynhau ei weld â’i goes yn yr awyr mewn cadair olwyn yn dipyn mwy nag y gwnaeth ef. Ond rydych chi’n iawn, yn enwedig—i gymryd eich pwynt cyffredinol cyntaf am swyddogaeth ffydd a chymunedau ffydd—roedd llawer o’r bobl y gwnaethom gwrdd â hwy a’u gweld yn cael eu sbarduno gan eu ffydd i wneud y peth iawn. Mae hynny'n cynnwys pobl sy'n mynd allan fel gwirfoddolwyr, yn ogystal â phobl sy'n arweinwyr lleol ar lawr gwlad. Yn wir, mae ein cyswllt allweddol yng Nghynghrair Mbale yn Erbyn Tlodi, y gweinidog Apollo Mwenyi—mae llawer o'i statws ef yn deillio o'r ffaith ei fod yn weinidog a bod llawer o bobl yn ei adnabod. Mewn llawer o'r ardaloedd yr aethom iddynt, roedd y gweinidog lleol yn berson allweddol o ran cadw pobl yn onest a chadw pobl i fynd, a dod â gwahanol bobl at ei gilydd. Felly, rwy'n hapus i gydnabod swyddogaeth bwysig cymunedau ffydd. Yn benodol, yn slym Namatala—y brif slym y cyfeiriais ati—mae’r ysgol Child of Hope yn cael ei chynnal gan gynghrair a chyfuniad o gymunedau ffydd yn y wlad hon sy’n gweithio ochr yn ochr â chymunedau ffydd yn Uganda i ddarparu rhywbeth go iawn mewn rhan ofnadwy o'r byd lle mae plant wir yn wynebu risgiau difrifol iawn a gwirioneddol ofnadwy.
O ran eich pwynt am Gymry ar wasgar, a dweud y gwir cefais gyfarfod â'r Cymry ar wasgar yn y digwyddiad gadael a gynhaliodd yr Uchel Gomisiynydd. Cawsom gyfarfod â Chymry ar wasgar yn Uganda, rhai ohonynt wedi cyrraedd yn fwy diweddar nag eraill, ond cawsom sgyrsiau gwirioneddol ddefnyddiol am yr hyn y gallwn ei wneud i wella'r rhaglen ymhellach. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym wir yn meddwl amdano gyda phob un o'n gwahanol ymrwymiadau. Nid wyf yn siŵr a oedd cwrdd â mi o fwy o ddiddordeb na'r ffaith bod yr Uchel Gomisiynydd wedi eu gwahodd am ddiod am ddim, ond pwy a ŵyr. Ond, ydy, mae'n bendant yn rhywbeth yr hoffem fanteisio arno yn y dyfodol.
Rwy’n hapus i gydnabod y pwynt olaf a wnewch, am y cysylltiad rhwng byrddau iechyd, oherwydd mae gan bob bwrdd iechyd gyswllt â rhan o Affrica sy'n cael cymorth gan y rhaglen benodol hon. Felly, mae llawer ohonynt mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar ofal mamolaeth yn ogystal, oherwydd mae peryglon gwirioneddol yn y cyfraddau marwolaethau ar gyfer mamau a babanod, a gallwn wneud gwaith gwirioneddol bwysig i'w helpu i wneud hynny, ac i weithio ochr yn ochr â phobl pan fyddwn wedi cyrraedd yno. Ond mae heriau ynghylch sut y mae’r rhaglen honno a chyfnewid gwybodaeth yn gweithio, oherwydd, yn anffodus, rydym wedi wynebu rhai problemau fisa gydag ymwelwyr o wahanol rannau o Affrica i ddod i weithio yn ein system gofal iechyd ni. Rwy’n nodi bod Betsi wedi wynebu problem fawr yn ddiweddar. Rydym yn cyfathrebu â'r Adran Iechyd a'r Swyddfa Gartref i geisio deall sut y gallwn weithio drwy hynny, oherwydd rwy’n credu bod yn rhaid i’r cyfnewid gwybodaeth fynd y ddwy ffordd—am bobl o GIG Cymru, sy’n hynod o gadarnhaol a brwdfrydig am eu profiad, yn ogystal â darparu rhywfaint o'r cyfnewid proffesiynol a’r wybodaeth broffesiynol i'w rhoi’n ôl i staff a fydd wedyn yn dychwelyd i'w gwlad eu hunain yn ogystal.
Rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad e heddiw, a hefyd yn ymestyn ein llongyfarchiadau ni fel grŵp i raglen Cymru dros Affrica. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi’r cydweithio rhwng Cymru a gwledydd datblygol, ac mae’r rhaglen yma yn esiampl arbennig o hynny.
Mae perthnasau o’r fath o fudd, wrth gwrs, i ni ac i’r gwledydd hynny yn arbennig, ond, o safbwynt Cymru, mae o fudd i ni wrth inni wneud gwahaniaeth iddyn nhw, rhannu arbenigedd a rhoi profiadau bythgofiadwy i bobl o’r wlad yma. Rwy’n meddwl y gallai’r rhaglen ac, yn wir, y polisi yn ehangach fuddio pe gallai’ch Llywodraeth efallai ystyried cyhoeddi canlyniadau mesurol er mwyn adeiladu ar y gwaith arbennig sydd wedi cael ei wneud, gyda rhyw fath o fwriad i ehangu’r polisi yn y dyfodol. Byddem ni’n gwerthfawrogi sylwadau’r Ysgrifennydd ar y pwynt yma o sut y gallwn ni danlinellu’r canlyniadau mewn ffordd mwy mesurol.
Yn y cyd-destun gwleidyddol presennol, a fyddai’r Ysgrifennydd yn derbyn bod angen, yn fwy nag erioed, adeiladu Cymru ryngwladol? Os yw e, a fyddai fe’n cytuno i argymell i’r Prif Weinidog i gyflwyno i’r Cynulliad yma strategaeth ar gyfer polisi rhyngwladol i Gymru a fyddai’n cynnwys ymrwymiad i bolisi dyngarol mwy eang wedi’i adeiladu ar y sail gadarn iawn sydd wedi’i gosod gan raglen Cymru dros Affrica? Wrth i rai yn y wladwriaeth yma geisio ein hynysu, rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu gwneud y gwrthwyneb, a thrwy adeiladu brand unigryw, cenedlaethol i Gymru drwy bolisïau fel hyn, gallwn ni hyrwyddo Cymru fel lle agored, lle da i fuddsoddi ynddo, a lle da i feithrin perthnasau ynddo hefyd. Byddem ni’n gwerthfawrogi, felly, sylwadau—efallai sylwadau personol yr Ysgrifennydd, ac efallai y gwnaiff e gymryd y cyfle, gan nad yw’r Prif Weinidog yn Siambr, i fod yn fwy agored. A yw e o blaid adeiladu polisi paraddiplomyddol i Gymru a fydd yn eang, a fydd yn cynnwys polisi dyngarol hefyd, gydag ystyriaeth o’r cyd-destun gwleidyddol presennol?
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, ac am wahoddiad i fanteisio ar y ffaith nad yw’r Prif Weinidog yn y Siambr. Gwrthodaf y cyfle i geisio pennu polisi yn fyrfyfyr. Mae hyn, fel y gwyddoch, yn briodol iawn o fewn cylch gwaith y Prif Weinidog o ran ymgysylltu allanol o Gymru. Ond, edrychwch, o ran lle yr ydym fel Llywodraeth, rwy’n meddwl ein bod wedi bod yn hynod glir, drwy holl anawsterau eleni—ac rydym i gyd wedi gweld yr ymateb o fewn ein gwlad ni ynglŷn â phobl sy'n edrych neu'n swnio'n wahanol a'r ffordd y maent yn cael eu trin, yn yr ymgyrch refferendwm ac wedi hynny—ni waeth ar ba ochr yr oeddech yn yr ymgyrch honno, ni ddylai unrhyw un ohonom geisio seboni neu osgoi'r gwirionedd bod pobl wedi gwneud i’n hetholwyr deimlo'n ddigroeso, ac nid yw hynny'n rhywbeth y dylai unrhyw un ohonom geisio osgoi sôn amdano. Ac mae wedi bod yn bwysig iawn i'r Llywodraeth hon ailddatgan y ffaith yr hoffem fod yn wlad sy'n edrych tuag allan ac sy’n gadarnhaol ac yn hyderus am ein lle ym Mhrydain, Ewrop a'r byd ehangach. Ac mae hynny’n fwy na masnach, er bod masnach, wrth gwrs, yn ffordd bwysig o ymgysylltu â gwledydd eraill. Mae llawer o'r hyn a welais nad yw’n ymwneud â masnach; mae'n ymwneud ag ymgysylltu â gwella gwasanaethau cyhoeddus a chydnabod mewn gwirionedd bod gennym ran i’w chwarae i gefnogi datblygiad cynaliadwy mewn gwahanol rannau o'r byd a bod gennym fudd a diddordeb uniongyrchol mewn gwneud hynny hefyd. Mae hynny'n golygu gweithio gyda phobl ac ochr yn ochr â hwy, yn hytrach na dweud wrthynt beth i'w wneud. Felly, dyna natur ein hymgysylltu a'n perthynas, ein lle yn y byd, ond hefyd pa fath o wlad yr hoffem fod hefyd. A dweud y gwir, rwy’n meddwl bod y Llywodraeth hon wedi bod yn gyson iawn am hynny hefyd. Rydych yn ei weld mewn ystod o wahanol feysydd yr ydym yn sôn amdanynt ac yn y ffordd yr ydym yn sôn am bobl sy'n byw yma: bod gennym grŵp o wasanaethau cyhoeddus sy'n edrych tuag allan a bod arnynt angen i bobl o wahanol rannau o'r byd ddod yma, a’u bod yn dibynnu ar hynny. Dylem eu croesawu, nid dim ond am y swyddi y maent yn eu gwneud ond am y cyfraniadau y maent yn eu gwneud i'n cymuned a'n gwlad. Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am y ffordd yr ydym yn asesu effaith y broses benodol hon a bod pobl yn ystyried nid dim ond y 10 mlynedd o’r hyn sydd wedi ei wneud, ond mynd y tu hwnt i'r hanesion a dweud, 'Beth yw swm, cyfanswm yr effaith?' Rwy'n meddwl bod mwy o waith i'w wneud ar hynny.
Hoffwn orffen gyda phwynt am y budd cilyddol i bobl. Soniais am staff y GIG a'r tri dyn ifanc hynny o orllewin Cymru y cefais gyfarfod â nhw. Mae eu pythefnos yn gweithio yn Uganda wedi cael effaith sylweddol arnynt. Roedd yr hyn a welsant a’i brofi o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf yn wirioneddol anhygoel, ac nid dim ond eu pwyntiau am y gweithle a'r gofynion diogelwch nad ydynt yn bodoli. Dim ond enghraifft syml: roedd un gweithiwr nad oedd wedi cael esgidiau erioed a phrynodd un o'r bechgyn esgidiau i’r dyn hwn. Y diwrnod wedyn, ar ôl iddo fynd â nhw adref, daeth yn ôl heb fod yn eu gwisgo a dywedodd mai’r rheini oedd yr esgidiau gorau oedd ganddo a’i fod yn eu cadw gartref fel ei bâr gorau. Felly, dyna rywun sy'n gweithio’n droednoeth ar safle adeiladu. Mae'n dweud rhywbeth am y gwahaniaeth gwirioneddol rhwng y wlad hon—a phopeth y dylem fod yn hynod o ddiolchgar amdano a beth sy’n normal mewn rhan wahanol o'r byd. Mae gennym lawer i'w ennill a llawer i’w roi a dylem fod yn edrych ar y peth yn y ddau fodd hynny.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch o weld bod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn parhau i lwyddo, yn enwedig cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica. Roeddwn yn falch iawn o glywed ein bod, y llynedd, wedi gweld 38 o ymweliadau cyfnewid sgiliau o Gymru i Affrica. Fel y gwelsom gyda’r achosion Ebola, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd ymagwedd ryngwladol at lawer o'r heriau iechyd byd-eang. Drwy gynnal y cysylltiadau hyn, mae ein meddygon nid yn unig yn cael profiad hanfodol, ond hefyd yn helpu’r cymunedau hynny yn Affrica Is-Sahara. Mae staff o ysbytai Cymru yn gallu dysgu gan eu cydweithwyr yn Affrica a rhannu eu profiadau wrth ddychwelyd adref, gan ddod â manteision iechyd gwirioneddol i gymunedau yn Affrica ar yr un pryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond un neu ddau o gwestiynau sydd gennyf i'w gofyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sut yr ydych yn bwriadu ehangu ar raglen cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica yn y dyfodol? A fydd GIG Cymru yn ehangu'r rhaglen gyfnewid, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny â niferoedd uchel o achosion o HIV/AIDS? Yn olaf, pa wersi iechyd cyhoeddus sydd wedi eu dysgu o ganlyniad i gysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica?
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn edrych ymlaen at 10 mlynedd lwyddiannus arall o raglen Cymru o Blaid Affrica ac yn gobeithio y bydd cymunedau ledled Cymru ac Affrica yn parhau i elwa ar gysylltiadau agosach rhwng ein gwasanaethau iechyd perthnasol. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei phwyntiau a’i chwestiynau. O safbwynt iechyd, mae'n fater o gynnal y cysylltiadau sydd gennym a'r hyn yr hoffem adeiladu arno wedyn, oherwydd nid yw hon yn rhaglen â chyllideb enfawr ynghlwm wrthi. Mae llawer o'r hyn sy'n cael ei gyflawni mewn gwirionedd yn cael ei gyflawni gydag ychydig iawn o arian. Trosglwyddo gwybodaeth ac arfogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain yw llawer ohono mewn gwirionedd. Roedd honno’n thema gylchol yn yr ymweliad. Nid oedd yn fater o Gymru’n dweud, 'Mae gennym yr atebion i chi, nawr gwnewch fel yr ydym ni’n ei ddweud', ond, 'Sut yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol? Sut yr ydym yn arfogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain?' Roedd yn ymwneud â sut y maent am fyw eu bywydau eu hunain gan gydnabod yr wybodaeth y gallwn ei rhoi i bobl i allu gwneud hynny.
Y peth mwyaf llwyddiannus am y feithrinfa goed yw'r ffaith bod ffermwyr lleol wedi dod a’u bod wir eisiau cael—. Roeddent wedi cydnabod ei bod yn werth cael hynny oherwydd un o'r pethau ofnadwy a welsom yn ddiweddar oedd eu bod wedi cael tirlithriadau ac wedi gweld ailadrodd digwyddiadau erchyll sydd wedi digwydd yng Nghymru, fel yr un yr oeddem yn ei goffáu’n ddiweddar yn Aberfan. Bu trychineb debyg iawn yno; daeth llithriad i lawr bryn a mynd dros ysgol. Collwyd mwy na dwbl y bywydau o gymharu â’r hyn a ddigwyddodd yn Aberfan. Felly, mae rhywbeth yn y fan yna o ran sut yr ydym yn helpu pobl i ddeall y gwahanol newidiadau a'r ffordd y mae angen iddynt fyw eu bywydau eu hunain mewn gwirionedd i allu cael digon o fwyd i fyw arno ac i allu cael gwahanol ddiwydiannau i wneud y gwahanol ddewisiadau hynny. Nawr, mae hynny’n anodd; mae'n haws siarad amdano na’i gyflawni mewn gwirionedd, ond mae natur hirdymor ein hymrwymiad a’n gwaith gyda phobl yn ein galluogi i wneud rhywfaint o'r cynnydd hwnnw.
O ran y gwersi iechyd y cyhoedd yr ydym wedi’u dysgu, mae'n atgyfnerthu'r ymyraethau iechyd cyhoeddus syml iawn yr ydym eisoes yn eu harfer—brechu ac imiwneiddio yw un o'r materion allweddol ac a dweud y gwir, pan nad oes ganddynt raglen sylweddol, mae llawer o bobl yn colli eu bywydau oherwydd materion y bydden ni’n ystyried i fod yn rhai syml. Felly, mae'n wir yn atgyfnerthu gwerth yr hyn yr ydym yn freintiedig iawn i’w fwynhau yn y wlad hon o gael gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae'n atgyfnerthu'r perygl o beidio â’i gael, lle byddwch yn gweld anghydraddoldebau iechyd, nid dim ond yn fyd-eang, ond o fewn y wlad honno at lefelau na allai, ac na ddylai, neb ohonom eu hystyried yn dderbyniol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad i nodi 10 mlynedd o Cymru o Blaid Affrica a'r profiadau diddorol iawn a gawsoch yn Uganda. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddiddorol iawn gwrando arno. Rwy’n datgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Life for African Mothers, sy'n gwneud popeth o fewn ei allu i wneud bywyd yn fwy diogel i fenywod sy'n rhoi genedigaeth yn Affrica Is-Sahara drwy helpu gyda meddyginiaeth a hyfforddiant, ac mae'r elusen hefyd yn 10 mlwydd oed. Nodais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am y golygfeydd y bu'n dyst iddynt yn yr ysbytai yn Uganda, ac rwyf wedi bod yn Affrica ar sawl achlysur a hefyd wedi gweld golygfeydd tebyg, ac mae'n siŵr bod yn rhaid ichi ddweud bod gweld sefyllfaoedd o'r fath yn rhywbeth sy’n newid eich bywyd mewn gwirionedd.
Angela Gorman yw sefydlydd yr elusen Life for African Mothers, a chafodd lawer iawn o gymorth gan y rhaglen Cymru o Blaid Affrica, am ei bod wedi cefnogi ei secondiad o'r uned gofal dwys newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, ac wedi rhoi arian grant i’w gweithgareddau i hyfforddi bydwragedd a darparu meddyginiaethau. A diolch i'r grant cychwynnol gan Gymru o Blaid Affrica, llwyddodd yr elusen i ffynnu ac erbyn hyn nid yw'n dibynnu ar unrhyw grantiau gan y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Onid yw ef yn meddwl bod hyn yn ddilyniant delfrydol: dechrau â grantiau bach i helpu mudiadau i dyfu, ac yna maent yn dod o hyd i ffynonellau cyllid eraill ac yn datblygu?
Yn ogystal â chymorth gan raglen Cymru o Blaid Affrica, mae Angela yn sôn yn benodol am bolisi absenoldeb arbennig y GIG yng Nghymru fel bod yn gwbl hanfodol i ddefnyddio gweithwyr proffesiynol Cymru i gefnogi systemau hyfforddiant ac iechyd yn Affrica. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw'r rhaglen absenoldeb honno’n cael ei defnyddio’n gyson ledled Cymru ac a yw'n teimlo bod hyn yn bendant yn rhywbeth yr hoffem ei annog.
Yn olaf, rwy’n meddwl bod marwolaeth drasig menywod ar ôl rhoi genedigaeth yn ôl pob tebyg yn un o'r trasiedïau mwyaf ofnadwy y gellir bod yn dyst iddynt, a hoffwn wir fynegi fy nghefnogaeth a’m diolch i'r holl fudiadau hynny, gan gynnwys Life for African Mothers, sydd wedi gwneud eu gorau glas i geisio gwella'r sefyllfa yn Affrica Is-Sahara.
Diolch i'r Aelod am roi sylw arbennig i hynny. Rwyf am ddechrau â’ch pwynt am absenoldeb arbennig. Mae'r rhain, gan fwyaf, yn weision cyhoeddus sy'n mynd allan ac yn ymgymryd â'r cyfleoedd dysgu rhyngwladol hyn—nid gweision cyhoeddus ydynt i gyd, serch hynny. Fel yr oeddwn yn gadael, daeth grŵp newydd i mewn, ac roedd un yn gynghorwr a oedd wedi cymryd amser allan o'i ddyletswyddau cyhoeddus i fynd, ac roedd un arall o’r Groes Goch Ryngwladol. Felly, roedd gennych wahanol grwpiau o bobl, ond mae'r polisi absenoldeb arbennig yn bwysig iawn i ganiatáu i bobl gymryd y cyfleoedd hynny a dod yn ôl gyda, mewn gwirionedd, sgiliau newydd weithiau ond yn sicr ymroddiad newydd a ffres i wasanaeth cyhoeddus a'r bobl y maent yn gweithio drostynt ac yn eu gwasanaethu.
Rydych yn iawn i dynnu sylw at waith Angela Gorman. Cwrddais â hi cyn dod i'r lle hwn. Bydd Dawn Bowden yn gwybod bod Angela Gorman yn aelod o Unsain, a chefais gyfarfod â hi fel cynrychiolydd o fewn yr undeb llafur penodol hwnnw rai blynyddoedd yn ôl, pan oedd hi newydd ddechrau ymgymryd â’r rhaglen benodol hon. A gallech weld y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud iddi hi am wneud gwahaniaeth mwy fyth mewn rhan arall o'r byd. Rhan o'r rheswm pam yr oeddem yn cefnogi'r rhaglen ambiwlans beic modur oedd ei fod yn caniatáu ac yn galluogi menywod i symud o ble yr oeddent i fynd i uned esgor go iawn yn rhywle. Ac a dweud y gwir, mae hynny wedi gwella canlyniadau'n sylweddol i fenywod a babanod yn y rhan honno o'r byd, ac mae rhai o'r awdurdodau dosbarth lleol wedi ei fabwysiadu a’i ariannu ar ôl iddynt gydnabod y budd sylweddol yr oedd wedi’i greu. Mae rhywbeth yn y fan yna, nid dim ond o ran annog grwpiau yma â rhywfaint o arian i'w helpu i ddatblygu, ond hefyd, mae effaith ein rhaglen yn golygu, weithiau, dechrau ac yna annog partneriaid lleol â’u cyfrifoldebau eu hunain i gynnal y gwasanaeth hwnnw eu hunain. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr oeddwn yn cyfeirio ato o ran gwneud dewisiadau, ynghylch yr angen i’r bobl hynny wneud eu dewis eu hunain am eu hadnoddau a'u cyfrifoldebau eu hunain hefyd, ond mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth wirioneddol er mwyn iddi fod yn ystyrlon. Felly, rwy'n fwy na pharod i gydnabod ac atgyfnerthu'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynd i Mbale i weld drosoch eich hun, yn uniongyrchol, gwaith da iawn y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yno, ac, yn wir, i helpu i gryfhau'r cysylltiadau. Roeddwn yn ffodus i fynd yno fy hun ychydig flynyddoedd yn ôl fel Gweinidog yr amgylchedd, ac rwy'n gyfarwydd â gwaith gwych PONT a’r holl wirfoddolwyr hynny o Bontypridd sydd wedi helpu gydag iechyd, addysg, yr economi a datblygu cymunedol yno, gan gydweithio'n agos â’r bobl leol a’r asiantaethau ar lawr gwlad. Gwelais hefyd raglen Maint Cymru, a'i holl waith gwych o blannu coed, a rhai prosiectau masnach deg da iawn. Felly, hoffwn ofyn, mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet: o ystyried bod gan Gymru stori dda iawn i'w hadrodd am fasnach deg—y genedl fasnach deg gyntaf yn y byd yn ôl yn 2008, gyda'r holl grwpiau cymdeithas sifil hynny'n cyflawni’r statws hwnnw gyda chymorth Llywodraeth Cymru, 90 o gymunedau, trefi, eglwysi a phrifysgolion masnach deg ledled Cymru bellach, a'r gyfran uchaf o ysgolion masnach deg o unrhyw wlad yn y DU—o ystyried y cryfder hwnnw, ac ar ôl mynd i Mbale a gweld cydweithfa goffi yno, cydweithfa goffi Gumutindo, yn gwneud pethau gwych gyda'r premiwm masnach deg—. Roeddwn yn aros gydag un o'r ffermwyr a chefais glywed eu bod wedi gallu anfon eu mab i brifysgol, y tro cyntaf i aelod o'u teulu fynd i brifysgol, a’u bod wedi gallu gwneud hynny gyda'r premiwm masnach deg. O ystyried y pwysigrwydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn cytuno â mi, gyda Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gobeithio, y gallwn weld mwy o gyrff cyhoeddus yng Nghymru’n sbarduno’r cynnydd hwnnw gyda masnach deg. Rydym yn gweld marchnata’r coffi o Mbale yng Nghaerdydd yn y siop Fair Do’s, er enghraifft. Rydym yn gweld bod gan Ysgol Uwchradd Cathays wisg masnach deg erbyn hyn, ac, yn wir, mae bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf yn defnyddio mwy o gynnyrch masnach deg yn eu caffis eu hunain. Felly, mae'r enghreifftiau i’w gweld. A ydych chi’n cytuno y dylem sbarduno'r cynnydd hwnnw bellach drwy'r Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol yn y dyfodol?
Ydw, rwy'n hapus i gydnabod a chefnogi'r sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud, nid yn unig oherwydd fy mod yn Aelod Cynulliad Llafur a’r Blaid Gydweithredol, ond mae llawer o bobl ar draws y Siambr o wahanol bleidiau yn gefnogwyr gweithgar masnach deg, ac nid dim ond yn ystod Pythefnos Masnach Deg, ond yn y dewisiadau unigol yr ydym yn eu gwneud am y nwyddau yr ydym yn eu prynu a’u defnyddio, ac rydych yn iawn i dynnu sylw at goffi fel enghraifft benodol. Ymwelais â grŵp o bobl a oedd wedi cael achrediad masnach deg—cydweithfa wahanol, ond rydych yn iawn i dynnu sylw at gydweithfa Gumutindo, sy’n un o'r rhai mwyaf, ac mae'r premiwm masnach deg wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i deuluoedd a chymunedau ehangach y ffermwyr hynny. Felly, mae'n atgyfnerthu'r pwynt bod y dewisiadau a wnawn yn y wlad hon, am y ffordd yr ydym yn caffael ac yn defnyddio gwahanol nwyddau, yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn ar draws gweddill y byd. Ac mae'n rhan o'r gwaith a wnawn wrth annog pobl i fod eisiau sicrhau achrediad masnach deg, i gael gwir fudd o’r premiwm wedyn.
Felly, gallwn fod yn falch o'r hyn yr ydym wedi ei wneud. Gallwn hefyd ddweud bod mwy y gallem ei wneud ac y dylem ei wneud, nawr yma yng Nghymru, ynghyd â'n partneriaid o amgylch gweddill y byd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6168 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2016.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy’n cynnig yn ffurfiol.
Nid oes siaradwyr yn y ddadl yma. Felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac felly, daw hynny â thrafodion y dydd i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:39.