Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Neil Hamilton.

Canolfannau Hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canolfannau hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0246(FM)

Gwnaf. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ganolfannau hamdden cyhoeddus. Maen nhw’n darparu cyllid ar gyfer canolfannau hamdden drwy'r setliad refeniw ac, wrth gwrs, mater iddyn nhw yw penderfynu ar batrwm gwasanaethau ar draws ardaloedd eu siroedd.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae'n ddyn gwybodus, ac rwy’n siŵr ei fod yn gwybod bod cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo heno i ystyried y cynnig gan Gyngor Sir Powys i gau'r ganolfan hamdden yn Nhrefyclo. Bydd hyn yn newyddion drwg iawn i'r dref, wrth gwrs. Mae Mary Strong, y pennaeth yn yr ysgol gynradd, yn dweud bod yr ysgol yn ei defnyddio bob dydd; ei bod yn cadw’r gymuned gyda’i gilydd, sy’n bwysig, gan fod cymunedau fel Trefyclo wedi colli cymaint dros y blynyddoedd; a hefyd ei bod yn anodd iawn teithio ar gludiant cyhoeddus yn y rhan hon o'r wlad, felly mae cael hyn ar garreg y drws, wrth gwrs, yn adnodd lleol hanfodol. A wnaiff ef annog Cyngor Sir Powys i gadw canolfan hamdden Trefyclo ar agor?

Byddwn yn wir. Hynny yw, maen nhw wedi cael setliad gwell nag y byddent wedi ei ddisgwyl. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu parhau i ariannu'r ganolfan hamdden, ceir enghreifftiau ledled Cymru lle mae'r gymuned leol wedi llwyddo i gymryd y ganolfan hamdden drosodd. Serch hynny, o ystyried y ffaith bod eu sefyllfa ariannol yn well nag y byddent wedi ei ddisgwyl, yna byddwn yn eu hannog i archwilio pob ffordd o ddarparu gwasanaeth i'r gymuned leol.

Wrth gwrs, Brif Weinidog, mae canolfannau hamdden yn chwarae rhan bwysig mewn adsefydlu. Mae pobl sydd wedi cael trawiad ar y galon neu strôc, sy’n dioddef o ddiabetes, neu sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bobl sydd, yn aml iawn, yn mynd i ganolfan hamdden ar ôl iddyn nhw gyflawni eu chwe wythnos o ffisiotherapi gorfodol. Sut ydych chi’n cysoni’r angen iechyd y cyhoedd hwnnw â'r ffaith bod cynifer o ganolfannau hamdden dan fygythiad gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd? A beth ydych chi'n ei feddwl y gallai eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sylweddoli bod hon yn rhan bwysig iawn o rywun yn gwella a byw bywyd mwy diogel, hapus ac integredig, yn y dyfodol?

Wel, yn wir, rydym ni’n gwybod bod presgripsiynau cymdeithasol yn hynod bwysig ac nad ymyrraeth fferyllol yw popeth i bawb. Dyna pam mae'n bwysig bod rhwydwaith o ganolfannau hamdden yn cael ei gynnal ar draws Cymru gyfan. Er nad yw hamdden yn ddyletswydd statudol i awdurdodau lleol, mae hamdden, serch hynny, yn fater eithriadol o bwysig, yn lleol ac yn bwysig er mwyn galluogi pobl i barhau i fyw bywydau iach.

Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi ein bod ni’n aml yn gweld llawer iawn o hawliadau y mae ymgynghorwyr ar gyflogau uchel yn anghytuno â nhw wedyn o ran trosglwyddo’r ddarpariaeth o wasanaeth. Rwy’n sôn yn benodol yma am adroddiad Unsain yn erbyn trosglwyddo'r gwasanaethau cyfleusterau hamdden yn Sir Benfro, nad yw, yn eu geiriau nhw, er budd pennaf y bobl a fyddai eisiau cael mynediad at y gwasanaethau hynny. Ni fyddai chwaith, o reidrwydd, er budd pennaf y bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny ar hyn o bryd. A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, i geisio rhywfaint o sicrwydd gan Gyngor Sir Penfro, pan eu bod yn ceisio trafod eu ffordd drwy drosglwyddo’r hyn, yn fy marn i, na ddylai gael ei drosglwyddo yn y lle cyntaf?

Wel, mater i’r cyngor yw hwn, yn y pen draw, wrth gwrs. Ond, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ni fyddem byth eisiau gweld sefyllfa yn codi lle mae staff yn canfod bod ganddyn nhw delerau ac amodau israddol o ganlyniad i newidiadau i'r ffordd y darperir y gwasanaeth. Ein dymuniad ni fyddai i wasanaethau gael eu darparu’n fewnol.

Mae’n anodd gweld sut y gallwn gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 heb fod gan bobl ifanc, a phobl yn gyffredinol yn y gymuned, fynediad at ganolfannau hamdden, ac yn benodol at gyfleusterau nofio, sy’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Felly, fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae cyngor disgyblion ysgol Trefyclo wedi ysgrifennu ataf i a nifer o Aelodau eraill yn mynegi eu siom, mewn tref ar y ffin sydd ar wahân i drefi eraill, eu bod yn colli adnodd mor bwysig. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi wedi dweud y dylai’r adnodd hwn gael ei gadw ar agor. Maent wedi cael setliad ariannol gwell, yn rhannol oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru â’r Llywodraeth Lafur. Beth allwch chi ei wneud fel Llywodraeth i roi cyngor penodol i Gyngor Sir Powys ynglŷn â’r posibiliad o symud yr adnodd hwn i ddwylo’r gymuned, achos mae’n amlwg bod y gymuned yn trysori’r adnodd hwn ac y bydden nhw’n cadw’r pwll hwnnw ar agor?

Wel, rydym ni wedi ei gwneud yn glir y dylai’r cyngor ystyried yn fanwl y posibilrwydd o gadw’r ganolfan ar agor, ond, os na, felly, ystyried sicrhau bod yna gyfle i’r gymuned i redeg y ganolfan ei hunan. Mae yna enghreifftiau o hynny dros Gymru yn gyfan gwbl. Wrth gwrs, beth fyddai neb yn moyn gweld yw gweld canolfan yn cael ei chau heb fod yr opsiynau hynny wedi cael eu hystyried.

Mae cwestiwn 2 [OAQ(5)0247(FM)] wedi’i dynnu yn ôl. Cwestiwn 3, Hannah Blythyn.

Cymru a’r Unol Daleithiau

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau? OAQ(5)0248(FM)

Mae'r amgylchedd gwleidyddol presennol o gwmpas y byd yn golygu bod cysylltiadau â'r Unol Daleithiau yn bwysicach nag erioed—yn economaidd, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol. Rydym ni’n cynnal presenoldeb cryf yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys agor ein swyddfa ddiweddaraf yn Atlanta, ac ymwelais â’r Unol Daleithiau ym mis Medi ac rwy’n bwriadu ymweld eto y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gan Gymru lawer o gysylltiadau hanesyddol â'r Unol Daleithiau, ac roedd nifer o lofnodwyr y datganiad o annibyniaeth yn Gymry. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod llawer i'w wneud o’r cysylltiadau hanesyddol hyn i hybu masnach a thwristiaeth, y cyntaf yn bwysicach fyth yng ngoleuni Brexit. Yn wir, mae heddiw o bosibl yn ddiwrnod hanesyddol yn yr Unol Daleithiau, wrth i ddinasyddion fwrw pleidlais mewn etholiad y byddaf i wedi chwarae dim ond rhan fach iawn ynddi, yn Philadelphia, pryd y gallem weld, am y tro cyntaf, menyw yn cyrraedd y Tŷ Gwyn fel Arlywydd. Mae pwy sy'n ennill y Tŷ Gwyn yn cael effaith y tu hwnt i ffiniau'r Unol Daleithiau. Gyda hynny mewn golwg, rwy'n siŵr y bydd llawer yma yn ymuno â mi i obeithio y bydd America yn dewis Hillary Clinton yn hytrach na’r dewis arall ac y bydd gobaith yn maeddu casineb. A yw'r Prif Weinidog yn credu, yn 2016, ei bod hi’n bryd i ni weld Arlywydd benywaidd yn yr Unol Daleithiau?

Materion i boblogaeth yr Unol Daleithiau yw’r rhain, wrth gwrs. Ond, gallaf weld y pwynt cryf y mae hi’n ei wneud. I mi, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod y berthynas gyda'r Unol Daleithiau yn parhau, nad yw'r Unol Daleithiau yn troi’n wlad ymynysol, genedlaetholaidd, ac na fydd dim yn digwydd ar ôl yr etholiad sy'n peryglu ymrwymiad yr Unol Daleithiau i NATO. Rwy’n meddwl bod y rhain i gyd yn faterion sy'n peri pryder i ni, a gallaf yn sicr ddeall yn iawn y teimlad cryf, ar ôl torri tir newydd y tro diwethaf yn 2008, bod angen torri tir newydd arall y tro hwn.

Brif Weinidog, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â fi fod sir Benfro yn cynhyrchu llawer iawn o gynnyrch gwych sydd yn rhoi sir Benfro, ac yn wir, Cymru, ar y map, ac mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i hyrwyddo ein cynnyrch ymhellach i ffwrdd i wledydd fel yr Unol Daleithiau. Rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chefnogaeth allforio ar gyfer busnesau bwyd a diod, ond a allwch chi ddweud wrthym ni ba gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gynhyrchwyr bach sydd yn edrych i allforio eu cynnyrch i wledydd fel America?

Mae yna gyngor ar gael drwy’r tîm sydd yma yng Nghaerdydd, ond hefyd cyngor ar gael o’r swyddfeydd yn America. Bydd yna grŵp yn mynd i America yn hwyrach y mis hwn, sef ‘trade mission’, er mwyn gweld pa fath o ddiddordeb sydd ar gael o fuddsoddwyr mewn i Gymru, ond hefyd, wrth gwrs, i sicrhau marchnadoedd newydd i gynhyrchwyr o Gymru.

Awgrymodd yr Arlywydd sy’n gadael y gallai’r DU ganfod ein hunain yng nghefn y ciw pe byddem ni’n pleidleisio dros Brexit. O gofio’r hyn sydd wedi digwydd gyda chanlyniad y refferendwm, ethol Arlywydd newydd heddiw, ond hefyd yr arafu yn nhrafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsiwerydd a'r heriau aruthrol y maen nhw’n eu hwynebu, a yw hi'n bosibl mewn gwirionedd y gallai Cymru o fewn y Deyrnas Unedig ein gweld ni’n cymryd lle’r Undeb Ewropeaidd a mynd i flaen y ciw?

Rwy’n amau ​​hynny. Mae ei blaid ef wedi bod yn gryf iawn yn erbyn TTIP am resymau nad ydynt yn Ewropeaidd. Nawr, os yw TTIP yn gytundeb a fydd yn cael ei gyflwyno i’r DU, yna byddai ei wrthwynebiadau yn parhau. Rwyf wedi clywed gwrthwynebiadau gan lawer sydd wedi cwestiynu gallu llywodraethau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda TTIP fel y mae ar hyn o bryd, felly rwy’n tybio y bydd yr un mor chwyrn yn ei wrthwynebiad i TTIP pe byddai'n gytundeb rhwng y DU a’r Unol Daleithiau ag y byddai wedi bod pe byddai wedi bod yn gytundeb rhwng yr UE a’r Unol Daleithiau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel plaid a dorrodd dir newydd bron i 40 mlynedd yn ôl, Brif Weinidog, byddwn yn falch iawn o roi’r llawlyfr i’r Blaid Lafur ar sut i ethol menyw i fod yn arweinydd, pe hoffech chi ddarllen y llawlyfr hwnnw. Ond, hoffwn ofyn cwestiwn o ddifrif i chi am ardrethi busnes, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, Brif Weinidog. Yn dilyn ailbrisio diweddar busnesau ar hyd a lled Cymru, mae llawer o fusnesau yn wynebu cynnydd erchyll i’w hardrethi busnes. Beth yw eich barn chi ar yr ailbrisio sydd wedi digwydd a'r sefyllfa y mae llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yn canfod eu hunain ynddi?

Tri pheth—byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o fusnesau weld lleihad i’w gwerth ardrethol, dim ond oherwydd y ffaith fod y prisiad diwethaf wedi digwydd yn 2008, cyn, wrth gwrs, argyfwng economaidd y byd a gafwyd wedi hynny. Yn ail, fodd bynnag, wrth gwrs, bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn parhau i gyrraedd mwy o fusnesau—canran fwy o fusnesau—na’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Ac, yn drydydd, rydym ni’n rhoi cynllun rhyddhad trosiannol ar waith—£10 miliwn o arian newydd—a fydd yn helpu’r busnesau hynny sy'n wynebu cynnydd sylweddol i’w hardrethi, yn dilyn y prisiad. Un peth y dylwn ei ychwanegu, wrth gwrs, yw y dylai busnesau, os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu gorbrisio, gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn gynted â phosibl er mwyn codi eu pryderon.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Aeth arweinydd y tŷ a minnau i brotest yn y Bont-faen, ond, rwyf wedi bod i lawer o drefi yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae'n ymddangos y bu enghreifftiau dro ar ôl tro o, yn sicr, safleoedd manwerthu eilaidd a mannau lletygarwch hefyd y mae’n ymddangos eu bod wedi gwneud yn eithaf gwael o dan yr ailbrisiad hwn, ac mae llawer yn wynebu cynnydd enfawr i’w gwerthoedd ardrethol, ymhell dros 100 y cant mewn nifer o achosion.

Clywaf yr hyn a ddywedwch am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar y bwrdd, ac maent i’w croesawu. Ond mae'n ymddangos, yn sicr yn y cyfnod pontio, pe byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan y Gweinidog i’r drefn newydd ym mis Ebrill 2018 oni bai bod mwy’n cael ei wneud yn y rownd gyllideb bresennol i gynnig mwy o gymorth i rai o'r busnesau hynny sy'n eu canfod eu hunain ar ochr anghywir y prisiadau hyn, nid ydynt yn mynd i fod o gwmpas ym mis Ebrill 2018. A allwch chi gynnig unrhyw gysur i'r busnesau sy’n canfod eu hunain yn ymdopi â’r cynnydd enfawr hwn i’w gwerthoedd ardrethol, y bydd proses y gyllideb yn ceisio rhyddhau cyllid ychwanegol i liniaru’r ergyd i lawer o'r busnesau hyn yn y cyfnod newydd o ardrethi busnes?

Unwaith eto, cyfeiriaf at y ffaith bod £10 miliwn yn cael ei neilltuo mewn arian newydd ar gyfer cynllun trosiannol i helpu busnesau sy'n wynebu'r anawsterau hyn.

Rwy’n gresynu na allwch chi gynnig mwy o gysur na hynny, oherwydd, yn sicr y busnesau yr wyf i wedi siarad â nhw, pan eu bod wedi edrych ar yr arian trosiannol o £10 miliwn sydd ar gael, nid ydynt yn credu y bydd hynny'n mynd yn ddigon pell i’w helpu i aros mewn busnes. Ac nid wyf yn bychanu'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ond ceir rhai pryderon dilys iawn, iawn allan yna na fydd busnesau, gyda'r drefn newydd sydd ar waith ar y prisiad, o fis Ebrill 2017 yn gallu parhau. Ac felly rwy’n credu ei bod yn anffodus nad ydych chi wedi gallu cynnig rhywfaint o gysur, gyda'r rownd gyllideb yn parhau ar hyn o bryd, ac na allwch chi edrych efallai ar y llinellau cyllideb ac efallai ceisio dod o hyd i adnoddau ychwanegol i helpu rhai o'r busnesau hyn yn y cyfnod pontio.

Ond soniasoch hefyd am y swyddfa brisio, a’r strwythur apêl, y mae gan lawer o’r busnesau hyn ddealltwriaeth dda ohono. Dywedwyd wrthyf fod llawer o fusnesau wedi cael amser erchyll yn cael gafael ar y swyddfa brisio ac, yn arbennig, ddim ond yn gallu cael y broses ar y gweill er mwyn iddyn nhw allu herio rhai o'r prisiadau hyn. A wnewch chi weithio gyda'r swyddfa brisio, i wneud yn siŵr, pan fydd busnesau yn cysylltu â nhw, eu bod nhw’n cael ymateb prydlon? Oherwydd, rwyf wir yn ofni am les ariannol llawer o’r busnesau bach hyn sydd wedi cysylltu â mi, ac â nifer o Aelodau eraill ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, ac na fyddan nhw gyda ni ar ôl 1 Ebrill oni bai eu bod nhw’n cael rhywfaint o gymorth.

Nid wyf eisiau bychanu eu sefyllfa mewn unrhyw ffordd. A gaf i ofyn i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ysgrifennu ataf gyda’r enghreifftiau hynny? Mae wedi sôn am un dref benodol ac mae wedi sôn am fusnesau sydd wedi cael anhawster drwy'r broses apelio ac wedi gweld cynnydd a allai fod yn fawr i’w hardrethi busnes. Pe gallech chi rannu ei enghreifftiau â mi, byddaf, wrth gwrs, yn eu hystyried er mwyn llunio ein safbwynt o ran y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Diolch, Lywydd. Cyhoeddodd y Llywodraeth, ychydig ddiwrnodau yn ôl, y byddai toriad i’r gyllideb ar gyfer prosiectau newid yn yr hinsawdd o 36 y cant. Gan fod UKIP wedi sefyll yn yr etholiad diwethaf ar bolisi o dorri’r gyllideb hon, rwy’n falch o weld bod y Prif Weinidog yn dod i’n ffordd ni, yn yr un modd ag ymfudo a reolir. Ond, rwy'n credu ei bod braidd yn gwicsotig bod y toriadau mawr yn dod mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, sy'n angenrheidiol, yn hollol ar wahân i'r damcaniaethau ar gynhesu byd-eang a grëwyd gan bobl.

A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod hyd yn oed y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn credu na fu unrhyw gynhesu byd-eang ers 1998, ac mai dim ond cynnydd o 0.4 y cant i dymereddau byd-eang a gafwyd rhwng 1975 a 1998, sy'n debyg i'r cyfnod rhwng 1860 a 1880, ac unwaith eto rhwng 1910 a 1940? Felly, onid yw’n gwneud synnwyr, felly, i beidio â gwario symiau enfawr o arian ar ganlyniadau damcaniaeth sy'n ddychmygol yn bennaf?

Rwy'n hoffi edrych ar bwysau'r dystiolaeth pan fyddwn ni’n ymdrin â sefyllfa benodol, a phwysau llethol y dystiolaeth gan y rheini sy’n gymwysedig yw bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a bod gweithgarwch dynol yn cael effaith ar newid yn yr hinsawdd. Os nad yw newid yn yr hinsawdd yn digwydd, yna yn amlwg mae angen i ni ailystyried ein polisi amddiffyn rhag llifogydd oherwydd ein bod ni’n gwario arian ar amddiffynfeydd rhag llifogydd nad oes eu hangen yn ôl pob golwg, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni’n gosod amddiffynfeydd rhag llifogydd i ymdrin â digwyddiadau llifogydd a welwyd mewn rhai rhannau o Gymru lle na chawsant eu gweld o'r blaen. Bydd trigolion Tal-y-bont yng Ngheredigion yn cynnig tystiolaeth o hynny. Rydym ni hefyd yn bwriadu darparu amddiffynfeydd i bobl yn seiliedig ar yr hyn y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud wrthym fydd yn gynnydd i dymereddau byd-eang ac aflonyddwch dilynol patrymau tywydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth nad yw'n digwydd dros bump neu 10 mlynedd: mae'n digwydd dros ddegawdau lawer, ac nid yw’n cael ei fesur yn ystod oes ddynol o reidrwydd ychwaith.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n credu mai osgiliadau yn unig yw’r rhain—ac mae'r holl dystiolaeth hanesyddol yn profi hynny. Ond mae gen i ddiddordeb yn effaith polisi'r llywodraeth ar fywyd a bywoliaeth ein hetholwyr. Bydd yn gwybod bod 23 y cant o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn ôl diffiniad y Llywodraeth ei hun—mae hynny’n 291,000 o aelwydydd—ac mai trethi gwyrdd yw 20 y cant o'r bil tanwydd cyfartalog mewn tŷ erbyn hyn. O fil cyfartalog cartrefi o £1,500 y flwyddyn, mae hynny’n £300 y flwyddyn. Mae hynny’n lleihad sylweddol iawn i safon byw gwirioneddol rhywun sydd ar incwm isel iawn. Onid oes rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud i fod o fudd i fywydau pobl gyffredin trwy wrthwynebu’r trethi gwyrdd hyn ac adfer rhyw awgrym o gallineb yn ein polisi ar newid yn yr hinsawdd?

Os yw'n fater o gallineb, yna mae’r gwallgofrwydd a ddangoswyd ganddo ef ynghyd â'i blaid yn y 1980au pan gaewyd ein diwydiant glo yn brawf o hynny. Rwy’n croesawu ei dröedigaeth, ond un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud wrtho yw nad yw glo fel ffynhonnell tanwydd yn mynd i ddychwelyd yn y DU. Mae'r pyllau dwfn wedi mynd: adeiladwyd drostynt, mae adeiladau a chartrefi drostynt. Yr unig ddewis yw glo brig. Os yw'n dymuno hyrwyddo hynny, mae croeso iddo ymuno â mi a thrigolion Mynydd Cynffig yn fy etholaeth i sydd â safbwyntiau penodol ar gloddio brig ac y mae’n rhaid iddyn nhw fyw drws nesaf i'r hyn sydd, ar hyn o bryd, yn safle glo brig segur a diffaith. Y gwir yw bod gennym ni ddewis fel cenedl: naill ai rydym ni’n ceisio mewnforio mwy o ynni—boed hynny’n nwy naturiol o, er enghraifft, Rwsia—neu rydym ni’n ceisio mewnforio mwy fyth o nwy naturiol hylif neu rydym ni’n ceisio mewnforio glo o wledydd eraill yn y byd. Dyna un dewis, neu rydym ni’n dewis diogelwch ynni ac yn datblygu system ynni sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy ond sydd hefyd yn ddiogel i ni yn y dyfodol. Hwnnw, rwy’n meddwl, yw'r dewis cwbl synhwyrol.

Wel, bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod canran y trydan a gynhyrchir gan ynni’r gwynt neu ynni solar yn fach iawn: rhwng 3 y cant a 5 y cant fel rheol. Felly, mae’r syniad y gellir cael diogelwch ynni trwy fwy a mwy o felinau gwynt yn ffwlbri a byddai'n arwain at halogi ein cefn gwlad yn llwyr hefyd. Ond mae gennyf ddiddordeb yn yr effaith a gaiff trethi gwyrdd ar bobl dlawd. Daeth ei blaid ef i fodolaeth er mwyn ymladd dros fuddiannau pobl sy'n gweithio, ond ei blaid ef, mwy na neb oherwydd y Ddeddf newid yn yr hinsawdd, a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn 2008—. Yn asesiad ei Lywodraeth ei hun o'i chostau, byddai'n £18 biliwn y flwyddyn, £720 biliwn dros 40 mlynedd. Mae hon yn goron o ddrain sy'n cael ei gosod ar bennau pobl gyffredin.

Ni allaf sefyll yma yn gwbl o ddifrif a gwrando ar ddyn â'i hanes ef yn pregethu wrthyf i am sefyll dros bobl sy'n gweithio. Dyma rywun a eistedded yno yn y Senedd yn y 1980au gan chwifio drwyddo’r weithred fwyaf o fandaliaeth ddiwydiannol a welodd y DU erioed: dinistriad swyddi yn y diwydiant dur, erydiad y diwydiant glo, dinistrio bywoliaethau cymunedau gan Lywodraeth nad oedd ots ganddi. Y gelyn y tu mewn—y gelyn y tu mewn—yw'r hyn a alwodd y blaid gyferbyn yr union bobl sy'n gweithio yn ne Cymru a'r Deyrnas Unedig. Rydym ni’n sefyll dros bobl sy'n gweithio. Rydym ni’n sefyll dros ffynonellau ynni sy'n ddiogel a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr, yn gyntaf oll, nad yw pobl yn anghofio’r hyn a wnaeth y pleidiau gyferbyn iddyn nhw yn y 1980au, a byddwn yn parhau i sicrhau bod gan bobl swyddi, bod ganddyn nhw ynni diogel a thegwch, gan ddisodli'r hyn a gymerwyd oddi wrthynt gan y pleidiau gyferbyn.

Diolch, Lywydd. A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol o faint y broblem o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn dioddef o broblemau iechyd meddwl? A yw’n derbyn beth ddywedodd y cyn bwyllgor iechyd wrth ddisgrifio cefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru fel bod yn annigonol ac amhriodol?

Na, nid wyf yn derbyn hynny. Wrth gwrs, bob blwyddyn rydym ni wedi datgan pecyn newydd i’r rheini sydd wedi bod yn y lluoedd arfog, a dyna yn gwmws beth y byddwn ni’n ei wneud y flwyddyn hon hefyd, er mwyn sicrhau bod gyda nhw ffyrdd o gael mynediad i ofal iechyd meddwl a hefyd, wrth gwrs, iddyn nhw gael help gyda phopeth sydd ei eisiau arnyn nhw unwaith y byddan nhw’n gadael.

Nid ydym yn gwybod yn union faint o gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl achos nid yw’r ffigyrau union yn cael eu cyhoeddi. Rydym ni yn meddwl bod rhyw 4 y cant yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, neu ‘post-traumatic stress disorder’. Rydym ni’n meddwl bod rhyw un o bob pump yn dioddef o ryw fath o afiechyd meddwl. Lleiafrif o gyn-filwyr ydy hyn, wrth gwrs, ond wrth i ni nesáu at Sul y Cofio, mae angen i bob cyn-filwr wybod bod y rhai a fu’n gwasanaethu ochr yn ochr â nhw yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael eu gweld am yr hyn ydyn nhw, sef asedau i’n cymdeithas ni ac i’r gweithle, ac ati.

O ystyried beth ddywedodd y pwyllgor iechyd diwethaf, ac o ystyried beth ddywedodd y BMA wrth ddisgrifio cefnogaeth fel bod yn anghyson, pa gamau y mae’r Llywodraeth yn cynllunio i’w cymryd rŵan i wneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn trin cyn-filwyr Cymru sydd angen cymorth mewn ffordd y maen nhw’n ei llawn haeddu?

Wel, yn fy marn i, mae hynny’n digwydd nawr, ond wrth ddweud hynny, nid oes un system lle nad yw’r system yn gallu cael ei wella. Y ffordd o wneud hynny yw’r ffordd yr ydym yn ei defnyddio, sef gweithio gyda’r cyrff sy’n cynrychioli’r rheini sydd wedi bod yn y lluoedd arfog er mwyn i ni gryfhau pecynnau iddyn nhw. Mae yna berthynas dda rhwng y cyrff hynny a’r Llywodraeth.

Y cwestiwn yw faint yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, ac mae wythnos y coffa yn amser da i atgoffa ein hunain bod gennym ddyletswydd gofal i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth gwrs, y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi am hynny. Ond dim ond £585,000 yw’r gyllideb ar gyfer gwasanaeth iechyd a lles cyn-filwyr Cymru gyfan. Mae hynny’n llai na chanfed ran o 1 y cant o'r gyllideb iechyd gyfan.

Nawr, mae Plaid Cymru yn credu bod angen Deddf lles milwrol i sicrhau bod y cymorth hwnnw i gyn-filwyr yn gyson ac o ansawdd uchel ar draws y wlad, fel bod yr holl gyn-filwyr yn gwybod y bydd gan wasanaethau cyhoeddus ymrwymiad cyfreithiol i fod yno i’w cyn-gymrodyr. Felly, os, fel y byddai'r mwyafrif yn cytuno, nad yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyn-filwyr yn ddigon ar hyn o bryd, a wnaiff y Prif Weinidog addo deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i sicrhau, pan ddaw i dai neu ofal meddygol, nad oes unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael ar ôl?

Byddai angen i ni archwilio beth fyddai effaith y ddeddfwriaeth, ond serch hynny, mae'r teimladau y mae’r Aelod yn eu mynegi yn rhai yr wyf i’n eu rhannu. Rydym ni eisiau sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y pecyn gorau posibl, a’r fargen orau bosibl, ar ôl iddyn nhw adael y lluoedd arfog. Gwneir hynny trwy weithio gyda sefydliadau cyn-filwyr fel y Lleng Brydeinig Frenhinol; gwneir hynny trwy sicrhau bod digon o arian ar gael yn benodol i helpu cyn-filwyr yn ogystal â chyllid ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd fel iechyd, a byddwn yn parhau i archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.

Plant a Addysgir Gartref

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am blant yng Nghymru a addysgir gartref? OAQ(5)0250(FM)[W]

Rydym ni’n cydnabod hawliau rhieni i addysgu eu plant gartref. Rydym ni hefyd yn cydnabod hawliau plant i gael addysg effeithlon ac addas, i gael gwrandawiad ac i fod yn ddiogel. Mae ein canllawiau diwygiedig, a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, yn adlewyrchu hyn.

Diolch am eich ateb. Byddwch chi, rwy’n siŵr, yn ymwybodol bod y comisiynydd plant wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno canllawiau statudol i’w gwneud hi’n ofynnol i rieni gofrestru’r ffaith eu bod nhw’n addysgu eu plant gartref. Mae hi wedi gwneud yn glir yn ddiweddar yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd y byddai hi yn barod i ddefnyddio ei phwerau statudol er mwyn annog y Llywodraeth i symud i’r cyfeiriad yna. A fyddech chi felly yn cytuno â’r comisiynydd a finnau, a nifer o bobl, rwy’n siŵr, bod pob diwrnod o oedi yn rhedeg y risg bod unigolyn arall—ac mae’n rhaid dweud ‘arall’, yn anffodus—yn cael ei adael i lawr gan y Llywodraeth yma, a'u bod nhw’n rhedeg y risg o fynd o dan y radar?

Awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd â’r prif gyfrifoldeb, ond nid wyf yn dweud, wrth gwrs, nad oes cyfrifoldeb o gwbl gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y canllawiau sy’n dod allan yn ganllawiau sy’n cryfhau sefyllfa awdurdodau lleol ac yn egluro beth yw dyletswyddau a hefyd hawliau rhieni, plant ac awdurdodau lleol. Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n dal i ystyried faint mor effeithiol fydd y canllawiau hynny, i sicrhau eu bod nhw yn effeithiol ac i weld a oes eisiau newid y system yn y pen draw. Rydym yn hyderus, ar hyn o bryd, y bydd y canllawiau hynny yn mynd llawer ymhellach er mwyn sicrhau diogelwch plant.

Brif Weinidog, mae'n ddiddorol ac yn braf clywed y bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn oherwydd, yn fy awdurdod fy hun, ceir 114 o blant hysbys sy'n cael eu haddysgu gartref, ond dim ond un swyddog rhan-amser sy’n gweithio gyda’r rheini. A allwch chi hefyd sicrhau bod y canllawiau’n mynd i orfodi a rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i gael perthynas rhwng nifer y plant y maen nhw’n eu gweld a’r swyddog, gan nad yw 114 ar gyfer un yn ddigonol? Mae angen i ni sicrhau bod mwy o swyddogion yn gweithio gyda’r plant hynny a addysgir gartref fel eu bod yn cael y cymorth gorau posibl.

Yn amlwg, mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol ddigon o bobl i weithio gyda rhieni sy’n addysgu gartref a phlant a addysgir gartref. Byddwn yn ystyried yn ofalus a oes unrhyw gamau pellach y bydd angen eu cymryd. Efallai y bydd rheoleiddio yn briodol yn y dyfodol, os bydd angen, i gefnogi dysgwyr sy’n cael eu haddysgu gartref, ond ein dull ni yw defnyddio'r canllawiau hyn i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cael yr eglurder sydd ei angen arnynt i weithredu'n gyflym pan fyddant yn teimlo bod yn rhaid iddynt. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gyda'r gweithwyr proffesiynol fel y gallant weithio'n effeithiol gyda’r teuluoedd hynny sy’n addysgu gartref.

Mae rhai teuluoedd yn dewis addysgu gartref o’u gwirfodd tra bod eraill yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall gan fod y dewisiadau eraill yn hytrach nag addysg ysgol i blentyn cythryblus yn brin. Er bod nifer yr olaf wedi gostwng, mae nifer y cyntaf wedi cynyddu o fwy na 1,000 bum mlynedd yn ôl i dros 1,500 y llynedd. Beth mae hynny'n ei ddweud am y ffydd yn ein system addysg ysgol gan eu bod nhw’n dewis addysg gartref? I’r teuluoedd hynny sy'n cofrestru ond yna’n tynnu eu plentyn yn ôl, pa mor siŵr ydych chi nad yw toriadau i’r gyllideb, fel sydd wedi digwydd yn Abertawe, wedi lleihau hawl y plentyn i lefel briodol o addysg?

Ceir llawer o wahanol resymau pam mae rhieni'n dewis addysgu gartref. Nid wyf yn credu bod y system yn ei chyfanrwydd yn rheswm am hynny. Rydym ni’n gweld canlyniadau addysg yng Nghymru sy’n gwella drwy’r amser ac, wrth gwrs, rydym ni’n gweld cyllidebau wedi eu diogelu a buddsoddiad mewn ysgolion—yn wahanol, wrth gwrs, i’r sefyllfa ar draws y ffin.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn cael safon dda o addysg?

Bydd y canllawiau, wrth gwrs, yn helpu i barhau i sicrhau hynny, gan roi’r eglurder i awdurdodau lleol sydd ei angen arnynt i sicrhau bod yr addysg a ddarperir o safon ddigonol.

Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru? OAQ(5)0245(FM)

Rydym ni’n gwybod bod ardaloedd dim galw diwahoddiad yn helpu i wneud pobl deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau. Rydym ni’n gwybod bod nifer y cartrefi sydd wedi’u cwmpasu gan ardaloedd o’r fath yn parhau i gynyddu. Yr hyn nad ydym byth yn siŵr ohono yw a yw ardaloedd dim galw diwahoddiad yn cynnwys canfaswyr gwleidyddol.

Mae hynny'n hollol wir. Mae ardaloedd dim galw diwahoddiad yn boblogaidd gyda thrigolion. Wrth ddanfon taflenni yn ystod hanner tymor mewn ardaloedd heb ardaloedd dim galw diwahoddiad, sylwais ar nifer fawr o dai â sticeri 'dim masnachwyr diwahoddiad' ar eu drysau. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi cynghorau i ehangu’r mannau sy’n rhan o ardaloedd dim galw diwahoddiad?

Ym mis Mawrth 2013, canfu adolygiad sylfaenol bod 38,000 o gartrefi wedi’u cwmpasu yn yr ardaloedd. Ym mis Tachwedd 2013, gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o greu ardaloedd yn eu dalgylchoedd. Mae’n rhaid i mi ddweud, dim ond 12 awdurdod wnaeth ofyn am gyllid a darparwyd ychydig yn llai na £35,000. Wedi dweud hynny, mae nifer y cartrefi sy’n rhan o’r ardaloedd wedi cynyddu i 53,000 erbyn hyn.

Brif Weinidog, rwy’n sicr yn credu bod angen gwneud mwy i ddiogelu defnyddwyr rhag post na ofynnwyd amdano a galwadau niwsans. Yn ôl y Swyddfa Masnachu Teg, amcangyfrifir bod y mathau hyn o sgamiau yn costio tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r dioddefwyr. A gaf i ofyn, a yw’r Llywodraeth wedi ystyried cyflwyno ardoll ar anfonwyr post, yn debyg i'r tâl am fagiau siopa, gan ganiatáu i'r arian hwnnw, wrth gwrs, gael ei ailfuddsoddi mewn gwahanol feysydd fel y diwydiant coedwigaeth, diogelu swyddfeydd post gwledig neu helpu awdurdodau lleol i ailgylchu gwastraff?

Yr anhawster gyda hynny yw nad yw'r rhan fwyaf o'r post yn tarddu o Gymru. O ran bagiau siopa, mae'n ddigon hawdd; mae’r bagiau siopa yn y siop yng Nghymru i ddechrau. Mae'n fater, os edrychwn ni’n ehangach, sy’n berthnasol i wastraff. Nid yw'r rhan fwyaf o'r gwastraff sy'n dod i mewn i Gymru ac sy’n cael ei gynhyrchu fel gwastraff yn dod o Gymru i ddechrau mewn gwirionedd. I mi, dull y DU ac Ewrop o ymdrin â hyn yw’r ateb, gan ein bod ni’n gwybod, yn sicr o fewn y DU, bod post na ofynnwyd amdano yn dal i fod yn broblem. Nid yw fel yr oedd, wrth gwrs, gan fod e-bost yn llawer haws nawr ac, fel rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod yn y Siambr hon, ceir y pla o alwadau ffôn gan sefydliadau sydd y tu allan i'r gwasanaeth dewis ffôn. Byddwn yn gefnogol iawn i unrhyw ddeddfwriaeth ar lefel y DU a fyddai'n cryfhau hawliau pobl i osgoi’r galwadau hyn yn y dyfodol, trwy gosbau priodol os oes angen.

Enwau Lleoedd Hanesyddol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am enwau lleoedd hanesyddol Cymru? OAQ(5)0249(FM)

Mae enwau lleoedd hanesyddol yn rhoi tystiolaeth werthfawr inni o ddatblygiad ein cenedl. Mae’n un o ofynion Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 fod Gweinidogion Cymru’n llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol a fydd yn cofnodi’r dreftadaeth gyfoethog hon ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae wedi ei ddweud, fel rŷch chi wedi ei nodi, dros y blynyddoedd diwethaf bod yna nifer o esiamplau o enwau hanesyddol Cymraeg ar hen dai, ar hen blastai ac ar hen ffermydd. Mae’r enwau hanesyddol Cymraeg yma i gyd wedi dod o dan fygythiad ac yn aml, yn wir, rhai yn cael eu newid i’r Saesneg. A ydych chi fel Llywodraeth yn cytuno bod yna botensial i ddatblygu deddfwriaeth lle bydd angen derbyn caniatâd gan awdurdod cynllunio cyn ymyrryd ag enwau hanesyddol Cymraeg?

Mae hyn yn rhywbeth rŷm ni wedi ei ystyried, ond pan edrychom ni ar hyn—mae yna fwy o enwau yn cael eu newid o’r Saesneg i’r Gymraeg nag o’r Gymraeg i’r Saesneg. O achos hynny, ym mha ffordd, felly, y byddai’n bosibl i blismona hyn drwy’r system gynllunio? Nid wyf yn un sydd o blaid newid enwau Cymraeg i enwau Saesneg o ran enwau llefydd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi sefydlu panel er mwyn rhoi cyngor ac argymhellion iddi hi ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod ein treftadaeth yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gwarchod.

Brif Weinidog, mae yn bwysig bod enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg yn cael eu diogelu er mwyn i bobl ddeall ein hanes lleol yn well, a hefyd mae’n helpu i gadw’r hanes yna yn fyw. Er mwyn helpu i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol, yn ogystal â chyhoeddi rhestr, pa ganllawiau mae eich Llywodraeth chi wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn?

Mae Paul Davies yn sôn, wrth gwrs, am beth ddywedais i yn gynharach ynglŷn â beth mae’r comisiynydd wedi ei wneud, sydd yn rhywbeth rwy’n ei groesawu. Fel rhywun sydd yn byw mewn tref lle mae yna broblemau enfawr ynglŷn â rhai strydoedd o achos y ffaith bod enwau’r strydoedd wedi bod yn Gymraeg ers degawdau, wedi cael eu cyfieithu yn amlwg yn wael i mewn i’r Saesneg, ac nid oes neb nawr yn gwybod lle maen nhw’n byw. Mae yna sawl enghraifft ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae’r enwau Cymraeg i hewlydd wedi cael eu camsillafu, wedi cael eu camddehongli wedi hynny a’u cam-gyfieithu hefyd. Felly, nid oes neb yn gwybod lle maen nhw nawr. Mae e’n beth pwysig achos mae yna bobl sy’n ffaelu cael credyd o achos hynny, ac nid yw’r ‘sat navs’ yn gweithio chwaith. Mae’n dangos ei fod yn rhywbeth sydd yn bwysig dros ben er mwyn sicrhau bod gennym un enw yn y Gymraeg sydd yn cael ei ystyried fel yr enw swyddogol, lle mae’r enw yna wedi bod yn enw hanesyddol dros y degawdau a’r canrifoedd.

Bil Cymru

7. Pryd y cyfarfu'r Prif Weinidog ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod Bil Cymru? OAQ(5)0240(FM)[W]

Rwyf wedi trafod Bil Cymru â’r Ysgrifennydd Gwladol ar sawl achlysur—y tro diwethaf dros y ffôn ddydd Gwener diwethaf. Mae’n bwysig dros ben bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb yn gadarnhaol ac yn bositif i’r adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar.

A oeddech chi rywfaint callach, Brif Weinidog, ar ôl y trafodaethau? Oherwydd rwyf i a’r Arglwyddes sydd yn eistedd yr ochr arall wedi bod yn bresennol mewn tri eisteddiad yn barod o Fil Cymru, wedi derbyn rhyw gymaint o ymateb positif oddi wrth y Gweinidog, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, ond mae’n amlwg i mi nad yw Swyddfa Cymru yn ddim byd ond atodiad i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn y modd mwyaf anneallus, unwaith eto yn ceisio ysgrifennu cyfansoddiad Cymru. Pryd y daw’r dydd y cawn ni ysgrifennu ein cyfansoddiad fan hyn yn ein gwlad ein hunain?

Rwy’n cydymdeimlo â beth sydd gan yr Aelod i’w ddweud, wrth gwrs. Mae’n anffodus na fydd y Bil hwn yn Fil cynhwysfawr i setlo cyfansoddiad Cymru am ddegawdau; nid felly fydd y Bil. Mae yna rai pethau positif yn y Bil, ac rŷm ni’n moyn gweld mwy o bethau positif ar ben hynny. Rwyf wedi trafod hyn â’r Arglwydd Bourne hefyd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac fel cyn-Aelod o’r lle hyn mae yna ddealltwriaeth ddofn gydag e o’r materion sydd yn hollbwysig. I fi, beth sy’n bwysig yw bod gyda ni Fil sydd yn ein symud ni ymlaen—nid yw’n ein symud ni ymlaen yn ddigon pell, o ystyried barn y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y lle hyn, ond mae yna waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y Bil yn rhywbeth y gallwn ni ei ystyried a’i gefnogi yn y pen draw. Rŷm ni’n edrych ymlaen at weld beth yw ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â rhai o’r materion sydd heb gael eu datrys eto.

Brif Weinidog, fel y dywedwch, gwnaed rhywfaint o gynnydd, ac ar wahân i rai o'r materion cyfansoddiadol y cyfeiriodd Dafydd Elis-Thomas atynt, bydd y Bil hwn yn rhoi pŵer i'r Cynulliad dros bethau fel yr enw a threfniadau etholiadol. Felly, mae cynnydd wedi ei wneud yn y fan honno.

A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, mae datganoli treth yn rhan o Fil Cymru, ac yn rhedeg ochr yn ochr ag ef yn wir—pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygiad y fframwaith cyllidol, sydd mor bwysig i sicrhau bod Cymru'n derbyn ei chyfran deg o arian pan fydd y grant bloc yn lleihau i wneud lle ar gyfer refeniw treth Cymru?

Mae cynnydd da yn cael ei wneud mewn trafodaethau rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Rydym ni’n obeithiol y bydd setliad a fydd yn dderbyniol i bawb ac sy’n dda i Gymru. Ceir meysydd eraill, wrth gwrs, nad ydynt wedi eu datrys eto, ac rydym ni’n gobeithio gweld ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU yn y meysydd hynny.

Diolch, Lywydd, rwy’n meddwl. [Chwerthin.] Mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn codi amheuon ynghylch gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd yng nghyd-destun Brexit, ond pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ymgorfforiad presennol Bil Cymru o ran gallu'r Cynulliad i amddiffyn ei feysydd cymhwysedd? Ac a wnaiff y Prif Weinidog, yng ngoleuni ymgorfforiad presennol Bil Cymru, roi ystyriaeth ddifrifol i gyflwyno Bil parhad mawr yn y Cynulliad hwn i gadarnhau cymhwysedd y Cynulliad ar faterion a allai gael eu trosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru a'r Deyrnas Unedig?

Dau bwynt: yn gyntaf oll, ni fydd Bil Cymru ei hun yn ateb cynhwysfawr i gyfansoddiad Cymru. Bydd gennym anomaleddau o hyd pan fydd y Cynulliad hwn yn gwneud y gyfraith o ran y rhan fwyaf o drefn gyhoeddus, ond ni fydd yr asiantaethau sy'n gorfodi cyfraith trefn gyhoeddus yn atebol i'r Cynulliad na'r Llywodraeth. Byddai'n bosibl, o dan y trefniadau presennol, i rywun gael ei arestio yn y ddinas hon am drosedd nad yw'n drosedd yng Nghymru ond sydd yn Lloegr. Byddai'n bosibl i rywun fwrw tymor mewn carchar yn Lloegr am drosedd sydd yn drosedd yng Nghymru ond nid yn Lloegr. Mae'r rhain yn anomaleddau sy’n codi gyda'r setliad. Felly, mae llawer i'w wneud o ran gwneud hynny’n fwy cydlynol, er na fydd mor gydlynol ag y byddwn i wedi gobeithio.

Mae'r Bil y mae’n sôn amdano—a dweud y gwir, mae'n rhaid i ni weld beth sydd yn y Bil diddymu mawr fel y'i gelwir. Os mai’r cwbl y mae’n ei wneud—dyma'r ffordd y mae'n cael ei gyflwyno—os mai’r cwbl y mae’n ei wneud yw ymgorffori cyfraith bresennol yr UE yn holl awdurdodaethau a gwledydd y DU, yna gallaf ddeall y synnwyr yn hynny, a byddwn yn edrych ar y sefyllfa o'r newydd i weld a oes unrhyw angen i fwrw ymlaen ar y llwybr a awgrymodd ef ar ôl i fanylion y Bil hwnnw ddod yn eglur. Ond yr egwyddor, wrth gwrs, fydd na ddylai unrhyw bŵer gael ei golli i bobl Cymru a bod unrhyw bwerau sy'n trosglwyddo o Frwsel mewn meysydd sydd wedi'u datganoli yn dod yn syth yma—maen nhw’n pasio 'go', ond ddim yn casglu arian ar y ffordd yn anffodus.

Ardrethi Busnes

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes? OAQ(5)0251(FM)

Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach trwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a rhyddhad trosiannol.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae busnesau bach yn dweud wrthyf eu bod yn dal gafael gerfydd eu hewinedd. Ceir rhai enillwyr yn sgil yr ailbrisio diweddar, ond mae llawer iawn mwy ar eu colled. Cefais e-bost neithiwr, am hanner nos, gan berchennog busnes bach y tu allan i’m hetholaeth a oedd wedi gweld fy mod i’n mynd i fod yn gofyn y cwestiwn hwn heddiw—roedd hi’n teimlo mor gryf am y peth fel ei bod wedi cysylltu â mi i ddweud bod ei ailbrisiad wedi arwain at gynnydd o 48 y cant i’w gwerth ardrethol. Gwn fod llawer o berchnogion busnesau a'u gweithwyr yn torri eu boliau i'r Llywodraeth hon ystyried cyflwyno’r un telerau o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi ymateb i'r ymgynghoriad yr ydych chi wedi gofyn amdano a dyna beth maen nhw wedi ei ddweud. Felly, y cwestiwn, mewn gwirionedd, sydd gen i chi yw: a ydych chi’n mynd i wrando arnyn nhw?

Byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar waith yn fwy hael nawr nag sy'n wir yn Lloegr. Pam? Oherwydd ei fod yn cyrraedd mwy o fusnesau. Bydd saith deg y cant o fusnesau yn derbyn rhyw fath o gymorth drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, ni fydd dros hanner y busnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl—mae hynny’n llawer mwy fel canran na’r hyn sy'n wir o dan y system yn Lloegr, er ei bod yn ymddangos ar yr wyneb ei bod yn fwy hael. Ond, mewn gwirionedd, mae cyrhaeddiad cynllun Cymru yn ddyfnach. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod efallai y bydd rhai busnesau a fydd yn dioddef o ganlyniad i ailbrisio, fel y bydd bob amser pryd bynnag y bydd ailbrisio, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno’r cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol.

Brif Weinidog, cyfarfu ymgeiswyr Llafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni gyda busnesau bach ledled Powys yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedasant wrthynt, 'Pleidleisiwch Lafur i gael gostyngiad treth'. Rwy’n dyfynnu un ymgeisydd a ddywedodd:

Mae ardrethi busnes yn tueddu i fod yn gyfran uwch o gyfanswm y costau gweithredu ar gyfer busnesau bach ac...mae llawer o fusnesau Powys o dan bwysau ariannol difrifol, ac felly byddant yn anadlu ochenaid o ryddhad os caiff Llafur ei ddychwelyd ar 5 Mai.

Mae llawer o'r busnesau hyn y cyfeiriwyd atynt bellach yn wynebu cynnydd i ardrethi busnes, felly beth ydych chi'n ei ddweud wrth y busnesau hyn a hysbyswyd gan ymgeiswyr Llafur y byddent yn cael gostyngiad treth yn eu hardrethi busnes, ond a fydd yn talu mwy mewn ardrethi busnes nawr?

Mae'n amlwg eu bod nhw, oherwydd, fel y dywedais, mae 70 y cant yn cael gostyngiad treth o ganlyniad i gynllun sydd wedi bod dros dro, ond a adnewyddwyd bob blwyddyn ers rhai blynyddoedd. Nid oes unrhyw sefydlogrwydd i'r cynllun presennol. Rydym ni’n cyflwyno cynllun parhaol y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod gennym ni gynllun sy’n gydnerth, oherwydd ni all busnesau fodoli ar sail system lle mae’r cynllun rhyddhad ardrethi yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn, heb iddyn nhw wybod a fydd hynny’n digwydd ai peidio. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod mwyafrif llethol busnesau Cymru yn cael y rhyddhad sydd ei angen arnynt.

Y Cap Budd-daliadau (Torfaen)

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau'r cap budd-daliadau yn Nhorfaen? OAQ(5)0252(FM)

Yr amcangyfrif yw y bydd tua 200 o aelwydydd yn Nhorfaen yn cael eu heffeithio gan Lywodraeth y DU yn gostwng y cap budd-daliadau yn 2016-17, gyda cholled gyfartalog o £60 yr wythnos os na fyddant yn ymateb trwy symud i mewn i waith neu gynyddu eu horiau.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn anffodus, bydd estyniad ddoe i’r cap budd-daliadau yn sicrhau, rwy’n credu, bod mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi trwy ddiwygiadau lles y Torïaid. Mae'r ffigurau a roddwyd gennych yn hollol gywir—mae £58 yr wythnos yn swm sylweddol o arian ac mae tua 516 o blant sydd ar aelwydydd sy'n cael eu heffeithio. Mae gan nifer o’r teuluoedd hynny ôl-ddyledion rhent eisoes ac, wrth gwrs, yr ofn nawr yw y bydd yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng prynu bwyd i’w teuluoedd a thalu eu rhent.

Bu dull partneriaeth cryf iawn yn Nhorfaen o dan arweiniad y cyngor i liniaru effaith diwygio lles, a gwnaed llawer o'r gwaith hwnnw o dan nawdd Cymunedau yn Gyntaf. O ystyried ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar Gymunedau yn Gyntaf, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru beth bynnag a ddaw o’r ymgynghoriad hwnnw?

Yn amlwg, rydym ni eisiau cadw'r arferion gorau a sefydlwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi dweud ei fod o blaid dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ond hefyd, wrth gwrs, o blaid datblygu dull newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, a dyna pam mae'r broses ymgysylltu mor bwysig i ni, i glywed enghreifftiau y mae’r Aelod wedi cyfeirio atynt, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arferion gorau hynny yn parhau yn y dyfodol gyda'r trefniadau newydd.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yn rhaid cael lefel uchaf o gymorth ariannol y gall hawliwr ddisgwyl i'r wladwriaeth ei ddarparu, ac na ddylai pobl ar fudd-daliadau allu gael mwy nag y mae teulu cyffredin sy'n gweithio yn ei ennill mewn cyflogaeth yng Nghymru?

Mae gennym ni’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cymryd budd-daliadau oddi wrth y rhai sydd mewn gwaith. Bu adeg pan roeddem yn dweud wrth bobl, os oeddent yn gweithio, y byddai eu hamgylchiadau yn gwella ac y byddai eu hincwm yn gwella, ac maen nhw wedi eu taro’n enbyd o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'r dreth ystafell wely yn enghraifft arall o hynny. Rwy’n sicr yn gresynu am y camau a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf, pryd y gwelwyd mai’r rhai sydd fwyaf agored i niwed oedd y rhai sydd wedi dioddef fwyaf, tra bod y rhai, wrth gwrs, ar ben uchaf y ffrwd incwm wedi cael gostyngiad treth. Os oedd unrhyw beth mwy atchweliadol fel polisi treth, hwnnw ydyw.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed yn Nhorfaen a fyddai wrth eu boddau gyda chyflog mynd adref o £400, ac efallai mai dyna’r rheswm pam mae 21 y cant o bobl ddi-waith yn Nhorfaen wedi datgan nad ydyn nhw eisiau swydd?

Nid wyf yn gwybod o ble mae'n cael y ffigur yna. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod y gyfradd ddiweithdra yn—[Torri ar draws.]

4.1 y cant yw ein cyfradd diweithdra. Rydym ni’n parhau i ddarparu swyddi i’n pobl. Rwy’n gresynu tôn yr Aelod gan nad wyf yn credu mai dyna ei farn wirioneddol. Ei farn ef, rwy’n credu, yw bod adeg yn y wlad hon pan oedd contract rhwng pobl a'r wladwriaeth, lle byddai'r wladwriaeth yn gwneud yr hyn a allai i ddarparu tai, addysg, i ddarparu gofal iechyd da a hefyd i ddarparu rhwyd ddiogelwch i bobl pe byddent yn dod yn ddi-waith, ond mae hynny wedi ei erydu’n raddol dros y blynyddoedd. Pan fydd yn ceisio rhoi pobl sy'n ddi-waith yn erbyn y rhai sydd mewn gwaith, rwy’n meddwl mai dyna'r ffordd anghywir ymlaen. Y gwir i lawer o bobl yw eu bod yn ei chael hi’n anodd cael gwaith oherwydd, weithiau, anableddau; maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwaith a dyna pam mae angen cymorth a chymwysterau ychwanegol arnynt, yr ydym ni’n eu darparu; ond, yn y pen draw, nid wyf yn cytuno bod rhoi enw drwg i bobl sydd ar fudd-daliadau mewn gwirionedd yn ffordd dda o ddatblygu cydlyniad mewn cymdeithas.

2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rydw i wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Eluned Morgan i ofyn y cwestiwn brys.

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwriadu cau nifer o safleoedd yng Nghymru? EAQ(5)0059(CC)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni chefais fy hysbysu gan Lywodraeth y DU cyn cyhoeddiad ddoe, ond, o ystyried ei natur, byddaf yn gofyn am drafodaeth frys, yn fuan gyda Gweinidogion y DU.

Diolch i chi, ac mae clywed na chawsoch hyd yn oed eich hysbysu am y cyhoeddiad hwn yn achosi cryn bryder i mi. Bydd y cyhoeddiad, wrth gwrs, ynghylch cau a gwerthu barics Aberhonddu, clos storio Pont Senni a barics Cawdor yn achosi ansicrwydd sylweddol yn y canolbarth a’r gorllewin a thu hwnt. Mae'r rhain yn ardaloedd sydd â thraddodiad milwrol hir a balch. Bu barics yn Aberhonddu er 1805, ac mae milwyr o’r barics wedi gwasanaethu ym mhob brwydr arfog ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cau’r canolfannau milwrol hyn yn achos tristwch enfawr ac mae'n siom aruthrol i'r teuluoedd sydd wedi byw yno dros y degawdau diwethaf bod y cyfleusterau poblogaidd iawn hyn yn mynd i gael eu gwerthu. Bydd y cyhoeddiad hwn yn achosi ansicrwydd enfawr i'n teuluoedd yn y fyddin a bydd cau’r canolfannau yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd ehangach yn Sir Benfro a Phowys.

Dywedodd yr Ysgrifennydd amddiffyn ddoe y bydd ei adran yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i roi hwb i economïau lleol yng ngoleuni’r cyhoeddiad hwn, a hoffwn ofyn pa ddarpariaethau fydd yn cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo gweithwyr sifil a milwrol na ellir eu hadleoli o’r canolfannau hyn mewn ardaloedd gwledig, sydd eisoes yn dioddef gyda rhagolygon cyflogaeth isel. Tybed a allai ef ddweud wrthym pa un a fydd yn ysgrifennu at y Gweinidog cyfrifol i ofyn sut y mae’n bwriadu cyflwyno’r cydweithrediad hwn y cyhoeddwyd ddoe ei fod yn mynd i’w gyflwyno.

Dywedodd yr Ysgrifennydd amddiffyn hefyd ddoe y bydd yr holl arian a gynhyrchir o werthu tir y safleoedd hyn yn cael ei fuddsoddi yn ôl mewn diwallu anghenion y lluoedd arfog. Er bod hyn, wrth gwrs, yn newyddion da i’r lluoedd arfog, a yw'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw gyfrifiad o ran faint o arian fydd yn cael ei golli i Gymru wledig o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn? Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gwneud llawer o ryddhau tir sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer adeiladu cartrefi newydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ai’r bwriad yng Nghymru, hefyd, yw adeiladu cartrefi ar y safleoedd hyn?

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae’r ardal y mae'n sôn amdani wedi ei thrwytho yn hanes y lluoedd arfog a'r gefnogaeth i gymunedau lleol hefyd. Yn wir, rwyf eisoes wedi cyfarfod â Joyce Watson, chi eich hun a Kirsty Williams, yr Aelod lleol, y bore yma, i siarad am yr union faterion hyn yr ydych chi’n eu codi. Byddaf yn gwneud hynny’n rhan o’m llythyr i’r Weinyddiaeth ynglŷn â hyn. Mae penderfyniadau ynghylch ystadau amddiffyn yn fater a gadwyd, ond ceir canlyniadau eraill, canlyniadau anuniongyrchol, o adael cymunedau. Rwyf yn credu bod gan y lluoedd arfog gysylltiad cryf a bod yn rhaid iddynt gynnal hwnnw am flynyddoedd lawer i ddod o ran unrhyw helbul a allai fod wedi ei achosi drwy adael cymuned fel eich un chi.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fy mod i’n siarad dros lawer o bobl yn Sir Benfro pan ddywedaf fod milwyr barics Cawdor a'u teuluoedd yn rhan bwysig o'n cymuned leol ac yn gymorth mawr i'n heconomi leol. Felly, rwy'n hynod o siomedig a rhwystredig bod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad hwn. Rwyf hefyd yn drist bod y penderfyniad cynharach i gau’r 14eg Catrawd Signalau ar agenda’r Weinyddiaeth Amddiffyn erbyn hyn, o ystyried ein bod wedi ein hysbysu y llynedd y byddai'r barics yn aros ar agor. Rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth y mae Sir Benfro wedi ei chynnig i’n personél lluoedd arfog a'u teuluoedd ym marics Cawdor dros y blynyddoedd. Mae’r teuluoedd hynny wedi cael eu hintegreiddio'n llawn i’n cymuned leol, ac mae'n bechod y bydd y cydlyniad cymunedol gwych hwnnw’n cael ei golli pan fydd y barics yn cau yn 2024.

Felly, yng ngoleuni bwriad Llywodraeth y DU i gau’r barics hyn ym Mreudeth, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y bydd yn eu cael gyda'i gydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynglŷn ag effaith y penderfyniad hwn ar ddatblygu economaidd ac adfywio yn Sir Benfro yn y dyfodol? O gofio na fydd y cam arfaethedig o gau’r barics yn digwydd tan 2024, pa drafodaethau fydd Ysgrifennydd y Cabinet—a’i gydweithwyr yn y Cabinet yn wir—yn eu cael gyda Chyngor Sir Penfro a rhanddeiliaid lleol i gynllunio ymlaen llaw, ac yn wir i liniaru yn erbyn unrhyw effeithiau economaidd negyddol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn,? Yn olaf, Lywydd, yn ychwanegol i gwestiynau Eluned Morgan, pa gymorth a chefnogaeth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi nawr i staff sy’n sifiliad a gyflogir yn y barics drwy'r cyfnod trosiannol hwn er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at ystod lawn o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwy’n rhannu ei rwystredigaeth a’i bryder ynghylch camau Llywodraeth y DU i gael gwared ar ganolfannau’r lluoedd arfog o Gymru. Mae'r lluoedd arfog yn cael eu gwerthfawrogi yng Nghymru, ac maen nhw’n dod â llawer o fanteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau ar draws ein cymunedau—mae’r Aelod yn cyfeirio at nifer ohonynt.

Byddaf yn cychwyn deialog gyda Gweinidog Llywodraeth y DU ynghylch y lluoedd arfog o ran y camau gweithredu y credaf y dylen nhw eu cymryd. Nid wyf yn credu y dylen nhw gerdded i ffwrdd oddi wrth ymrwymiadau mewn cymunedau. Mae’r lluoedd arfog wedi bod gyda ni ers blynyddoedd lawer, ac mae croeso mawr iddyn nhw yma. Hoffwn gael sicrwydd nad yw'r ymadawiad ar gyfer y lluoedd arfog yn unig ond yn y gefnogaeth i'r gymuned leol hefyd mewn gwirionedd. Mae'r breswylfa ym mywyd sifiliad yn un pwysig. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith ynghylch gweithio ar y cyd, o ran adfywio economaidd. Gwn ei fod yn cyfarfod â'r arweinydd yn Sir Benfro yn fuan iawn, a byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny. Ond i gychwyn, mae’n rhaid i ni ddechrau’r deialog gyda Gweinidogion y DU, er mwyn cael ein hysbysu’n llawn am yr effaith o ran llinell amser a’r cynlluniau ymadael y maen nhw wedi eu cynnig.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon, o bob wythnos, rydym ni’n myfyrio, a dweud y gwir, ar y cysylltiad rhwng y lluoedd arfog a'r cyhoedd, yn enwedig yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw. Mae'r cynlluniau hyn, trwy ganolbwyntio personél mewn llai o ganolfannau, yn arwain at berygl o erydu’r berthynas arbennig honno, a dyna un o’m hofnau. Fel y gwyddoch, cefais fy magu mewn barics yn y gorllewin ac roedd barics Cawdor bob amser yn rhan o'r gymuned honno, a gall yr un peth fod yn wir yn Aberhonddu.

Un o'r pethau efallai nad ydych yn ei wybod yw i mi ddechrau fy mywyd fel plentyn rhywun a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn Nhywyn yn gyntaf oll ac yna ym Maenorbŷr yn ail. Pan gaewyd y gwersylloedd hynny, fe wnaeth wadu cyfleoedd gwaith ac arian i'r cymunedau hynny a oedd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Does dim ond rhaid i chi fynd yn ôl i'r cymunedau hynny, fel yr wyf i’n ei wneud, i weld yr effaith negyddol y mae cael gwared ar y gwasanaethau a’r swyddi hyn o'r cymunedau hynny wedi ei chael. Oherwydd, y peth arall sy'n digwydd pan fydd gennych chi luoedd arfog yn byw mewn etholaeth yw eu bod hefyd yn cyflenwi plant i'r ysgol leol ac yn helpu i gadw'r ysgolion hynny ar agor. Maen nhw hefyd, mewn rhai achosion, yn darparu staff er mwyn helpu i gadw eich ysbytai ar agor. Felly, mae'r effaith yn llawer mwy nag y gellid efallai ei gweld yn wreiddiol. Fel y dywedais, ar ôl cael fy magu yn y gymuned honno, rwy’n deall yn iawn yr effaith a fydd yn cael ei theimlo yn eithaf eglur, gan y bydd llawer iawn o’r personél yno yn gwirfoddoli yn y cymunedau hynny ac yn helpu i redeg clybiau a chymdeithasau eraill. Oherwydd yr un peth y gallan nhw ei wneud yw trefnu. Felly, mae’r effaith yn mynd i fod yn sylweddol. Gobeithio, pan fyddwch chi’n cael y sgyrsiau hyn, y bydd yr effaith gyffredinol yn cael ei thrafod, nid dim ond yr holl bethau eraill sydd wedi eu trafod—ac na wnaf eu hailadrodd—eisoes y prynhawn yma.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eiriau’r Aelod lleol, yn disgrifio'r materion a fydd yn effeithio ar Sir Benfro a'r gymuned leol. Rwyf hefyd yn cydnabod nad yw hyn yn ymwneud â’r lluoedd arfog, ynddynt eu hunain, yn unig. Mae'n fater cydnerthedd cymuned gyfan. Credaf yn gryf fod gan bob Llywodraeth, o ba bynnag liw gwleidyddol, ddyletswydd i gefnogi cymunedau lle mae'r lluoedd arfog wedi eu lleoli a lle’r oeddent wedi eu lleoli. Ceir mater o etifeddiaeth yma y byddaf yn ei drafod gyda'r Gweinidog, a bydd y materion y mae'r Aelodau yn eu codi yn y Siambr gyda mi heddiw yn rhan o'r drafodaeth honno.

Nid wyf yn or-sentimental am leoliad y lluoedd arfog, ac rwy’n cofio i farics Aberhonddu gael eu defnyddio i drechu gwrthryfel y dosbarth gweithiol ym Merthyr Tudful ym 1831 hefyd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n gweld llawer o ganolfannau’r fyddin yn cael eu lleoli mewn cymunedau yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod llawer o'n pobl ifanc sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn gallu cynnal eu cysylltiadau gyda'u cymunedau eu hunain a chyda'u teuluoedd. Ac rwy’n meddwl ei bod yn dda i les y milwyr a phersonél arall y fyddin bod y cysylltiad lleol hwnnw ganddynt gyda chymunedau. Felly, mae'n siomedig iawn ein bod ni’n gweld penderfyniad unochrog yn cael ei wneud i ddadwreiddio cyfleusterau hirsefydlog sydd â chefnogaeth y gymuned leol a lle gall pobl integreiddio yn y ffordd honno.

Rwy’n siomedig iawn hefyd o glywed na hysbyswyd y Llywodraeth am hyn. Mae’n debyg nad oeddwn i’n disgwyl cael fy hysbysu fel Aelod o'r Cynulliad am yr hyn y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud, ond rwy’n meddwl ei bod yn anffodus iawn ein bod ni i gyd yn clywed gan y wasg pan fydd y pethau hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar y cymunedau yr ydym ni’n eu cynrychioli. Pa drafodaeth all y Gweinidog ei chael nawr gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r ffaith fod Cymru, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar y rhestr—pa un a yw’n recriwtio, neu’n gaffael—yn gorddarparu i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, rydym ni’n gorddarparu i’r lluoedd arfog, ac rydym ni’n cael tan-ddarpariaeth o ran buddsoddiad yng Nghymru, o ran gwariant yng Nghymru, o ran dim ond lleoliad ffisegol ein dynion a menywod yn y lluoedd arfog yng Nghymru? Yn syml, nid oes lleoliad ar eu cyfer. Gan fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud nad yw hyn yn golygu cau’r cyfleusterau hyn yn gyfan gwbl—er enghraifft, mae'n debyg fod barics Aberhonddu i fod i symud i rywle arall—pa drafodaeth mae e’n ei chael nawr, neu'n gallu ei chael, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â lle y gallai’r lleoliad hwnnw fod? A, beth yw'r gynhaliaeth, felly, ar bencadlys—pencadlys cysyniadol, beth bynnag—y fyddin yng Nghymru, fel petai, sef yr hyn y mae barics Aberhonddu, i bob pwrpas, yn ei ddarparu i lawer, yn fy marn i?

Fel cwestiwn olaf, ceir cymuned benodol sydd wedi gwasanaethu pobl Aberhonddu ers amser maith, wedi gwasanaethu ein lluoedd arfog ers amser maith ac yn frwd, ac sy’n amlwg iawn yn y gymuned yn Aberhonddu ac, yn wir, ym Mlaenau'r Cymoedd nawr, sef y gymuned Nepalaidd, sydd wedi bod mor ffyddlon i luoedd arfog y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd. Pa drafodaeth y mae’n gallu ei chael gyda’r gymuned honno nawr? Mewn un ystyr, mae dadwreiddio’r bobl o Aberhonddu yn eu dadwreiddio hwythau o’r cyd-destun a ddaeth â nhw yno ac yn eu galluogi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, nid ydynt yn y barics. Rwy’n gwybod hynny. Mae'n dadwreiddio, er hynny, lleoliad y gefnogaeth y maen nhw wedi ei chael gan gyd-filwyr yn y gorffennol, ac mae'n dadwreiddio’r cyd-destun sydd wedi dod â nhw i ganolbarth Cymru. Mae angen eu sicrhau bod croeso iddyn nhw yma o hyd ac y byddwn yn cyflwyno gwasanaethau cymorth i’w caniatáu i fyw eu bywydau yn y canolbarth yn y dyfodol.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae e'n iawn i ddweud bod cymunedau wedi eu ffurfio o gwmpas llawer o’r canolfannau hyn, a cheir cysylltiadau hirsefydlog rhwng y lluoedd arfog a chymunedau lleol. Mewn llawer o achosion, maen nhw’n gysylltiadau da iawn ac maen nhw’n gweithio yn y cymunedau—fel y dywedodd Joyce Watson, mae'n ymwneud â gwirfoddoli a rhannu sgiliau a chyfleoedd. Mae gennym ni berthynas dda iawn gyda'r lluoedd arfog—y fyddin, y llynges a'r Awyrlu Brenhinol— a gwasanaethau brys eraill yma yng Nghymru. Gwnaed y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni’n siomedig hefyd na chawsom rybudd am hyn. Ceir canlyniadau anuniongyrchol o ymadael; nid wyf yn ymwybodol eto o'r darlun cyfan. Nid ydym wedi cael amser i ganfod beth yw’r pryderon hynny, ond wrth gwrs mae pobl mewn cymunedau fel y Gyrcas, y Nepalwyr a phobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn rhan o'r gymuned leol. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried beth fydd yr effaith ar y gymuned honno ac ar gymunedau ehangach yn Aberhonddu, a hefyd yn Sir Benfro. Ond rwy’n dychwelyd at yr hyn a ddywedais yn gynharach: Rwy’n credu bod gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i gefnogi strategaethau ymadael ar gyfer unrhyw gymunedau y maen nhw’n tynnu canolfannau oddi arnynt yma yng Nghymru.

Rwy’n rhannu'r siom a’r rhwystredigaeth a fynegwyd yn huawdl gan Ysgrifennydd y Cabinet ac Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma. Ond onid yw’r penderfyniad hwn yn un o lawer sy'n cael eu gwneud o ganlyniad i'r penderfyniad gan Lywodraeth y DU, wedi’i chefnogi’n frwd gan yr holl bleidiau eraill yn y Cynulliad hwn, i dorri'r gyllideb amddiffyn a lleihau’r fyddin i ddim ond 82,000 o ddynion a menywod sy’n gwasanaethu? Ac mae'n amlwg mai’r canlyniad fydd penderfyniadau o'r math hwn. Er bod y gyllideb cymorth tramor wedi ei glustnodi, mae'r gyllideb amddiffyn wedi ei thorri at yr asgwrn, felly rwy’n meddwl y dylai’r holl Aelodau, ym mhob plaid arall, dderbyn eu rhan yn y cyfrifoldeb am y penderfyniad sydd wedi ei wneud.

Penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn. Rwy'n siomedig bod yr Aelod yn meddwl ei bod yn briodol ymosod ar y gyllideb cymorth tramor—rwy'n credu bod honno'n angenrheidiol hefyd. Ond bydd yn rhaid ystyried effaith y penderfyniad hwn yn llawn. Byddaf yn sgwrsio ymhellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran yr effaith y mae wedi ei chael yng Nghymru.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiadau llafar y prynhawn yma ar ‘Ymyrraeth Erthygl 50’ a ‘Band Eang Cyflym Iawn—Y Camau Nesaf’. Mae’r amseroedd a neilltuwyd i eitemau eraill ar yr agenda wedi eu newid o’r herwydd, ac, yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio, os gwelwch yn dda, ynglŷn â hawliau datblygu a ganiateir? Rhai blynyddoedd yn ôl, pan mai’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am gynllunio, gwnaethpwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud bod y Llywodraeth ar y pryd yn mynd i geisio gwneud yr hawliau yn fwy hyblyg ac yn haws eu defnyddio i ddatblygwyr a phobl sy'n ceisio caniatâd cynllunio a datblygu, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig. Fel y gwelsom yn y ddadl yr wythnos diwethaf, ymddengys nad oes gan y Llywodraeth bresennol unrhyw gynigion i wireddu geiriau’r Gweinidog cynllunio hwnnw, a chreu system fwy hyblyg ar gyfer hawliau datblygu y caniateir eu defnyddio yng Nghymru i helpu i greu cyfleoedd economaidd ym maes adeiladu ac adfywio. Felly, byddwn i’n ddiolchgar am eglurhad ynghylch beth yn union yw meddylfryd y Llywodraeth bresennol o ran gwneud defnydd llawer gwell o hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer datblygwyr, a fyddai'n gwella'r system gynllunio yn helaeth yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae Andrew RT Davies yn gwybod, ac wedi cymryd rhan mewn, datblygu deddfwriaeth flaengar iawn o ran cynllunio, ond, wrth gwrs, nodaf ei bwynt, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb os gofynnir cwestiwn ar yr adeg briodol.

Roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad yn amser y Llywodraeth ar ymateb eich Llywodraeth i’r ffaith na fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr Tata yn India pan fydd yn ymweld yno. Dywedodd nad oedd yn bosibl iddi drefnu cyfarfod, ac rwy’n bryderus iawn am hyn, o ystyried y ffaith bod y gweithrediadau yn y DU yn hynod bwysig i'n heconomi, fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon. Oherwydd y newid mewn arweinyddiaeth yn Tata, mae angen i ni sicrhau mai hyn yw prif bwyslais y drafodaeth ynglŷn â'n datblygiad economaidd ag India yn y dyfodol. Felly, yn rhan o'r datganiad hwnnw, a gaf i hefyd ofyn a allwch chi ddweud wrthyf a yw'r Prif Weinidog, neu Weinidog arall o Lywodraeth Cymru, yn fodlon mynd yn lle Theresa May? Os nad yw hi'n ystyried bod hyn yn ddigon pwysig iddi hi ei wneud, a wnewch chi fel Llywodraeth anfon rhywun yn ei lle?

Mae Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig. Cafodd ei godi, mi wn, ddoe yn y pwyllgor materion allanol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb i'r pwynt a wnaed am y ffaith bod Theresa May wedi methu â chyflawni’r cyfarfod cyswllt hollbwysig hwn â Tata Steel yn ystod ei hymweliad ag India. Mae David Rees yn sicr wedi ei godi hefyd. Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn anffodus—byddwn yn dweud ei fod yn anffodus i Brif Weinidog y DU, yn methu â chyflawni ei chyfrifoldeb, ond mae'n sicr yn anffodus ac yn achos pryder o ran y gweithlu ym Mhort Talbot. Ond credaf y gallwch chi fod yn sicr, fel y gwn y byddwch chi, o’r camau yr ydym yn eu cymryd, nid yn unig o ran ymgysylltu yn gyson â Tata—ac, yn wir, mae’r Prif Weinidog, yn ogystal â Gweinidogion eraill, wedi ymweld—ond wrth sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i’r diwydiant dur. Wrth gwrs, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at bob AC ar 20 Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am weithgareddau sy'n ymwneud â Tata Steel, ac mae ystod o gymorth posibl sy'n cael ei hystyried i sicrhau bod y busnes yn cael ei roi ar sail fwy cadarn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno eich diweddaru am hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Yn gyntaf, bu lansiad ardderchog o Peas Please yng nghanol dinas Caerdydd ddoe, a lansiwyd gan y Food Foundation, i geisio cael mwy o bobl I fwyta mwy o lysiau, ac i dynnu sylw at y ffaith nad yw pobl, er gwaethaf yr ymgyrch pump y dydd, yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, a bod hyd at 20,000 o bobl yn y DU yn marw o ganlyniad i hynny. Cymerodd oddeutu 30 o sefydliadau ran, gan gynnwys ffermwyr, garddwyr cymunedol, archfarchnadoedd, ac arbenigwyr TG, gan gynrychioli pawb o’r tyfwr lleol i arbenigwr y gadwyn gyflenwi. Felly, byddai'n wych pe byddem yn cael dadl ar hyn ac ymateb Llywodraeth Cymru i sut y gallwn dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru, o gofio bod pris llysiau yn debygol o gynyddu o ganlyniad i'r ffaith bod y rhan fwyaf o'n llysiau yn cael eu mewnforio ar hyn o bryd, ac, yn sgil y gostyngiad yng ngwerth y bunt, yn amlwg, bydd pris llysiau yn cynyddu. Dyna un peth.

Y peth arall yw, yn ychwanegol at fater Bashir Naderi, a godais gyda chi yr wythnos diwethaf, rwy'n gobeithio trefnu ymgyrch rhuban glas yfory, ar risiau'r Senedd am un o'r gloch fel y gall pob un ohonom ddangos ein cefnogaeth, yn ogystal â llofnodi'r datganiad barn yn mynnu nad yw Bashir Naderi yn cael ei hel o Gymru, lle y mae'n gwneud cyfraniad gwerthfawr, ac nid oes unrhyw reswm pam y dylai gael ei anfon yn ôl i Affganistan.

Mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi dau bwynt pwysig iawn. Mae'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni annog cynnydd mewn cyflenwi a bwyta llysiau a ffrwythau. Mae hyn i gyd yn rhan o'r ymagwedd cadwyn gyflenwi integredig sydd gan Lywodraeth Cymru gyda chynhyrchwyr, gan weithio gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, a'r sector gwasanaethau bwyd. Ond mae hyn hefyd yn cysylltu â'n rhaglen datblygu gwledig, ac yn cysylltu â’n hagenda rheoli tir cynaliadwy. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol i’n plant a'n pobl ifanc, a'r maeth y maent ei angen ac sy’n ofynnol iddynt ac y gallant ei gael. Ac mae Peas Please, wrth gwrs, yn un ffordd o gyflawni hynny.

Credaf fod eich ail bwynt, wrth gwrs, wedi ei wneud yn dda iawn, o ran y gefnogaeth a fynegwyd ar draws y Siambr hon dros Bashir, a'r gwaith yr ydych chi, ac, yn wir, Jo Stevens AS, wedi’i wneud. Fe wnaeth ffoi o Afghanistan pan oedd yn 10 oed, fel y dywedwch, ar ôl i’w dad gael ei ladd. Mae’n fater sy’n golygu ei bod yn bwysig ein bod yn mynegi ein barn yn y Cynulliad hwn, a gwn fod pobl eisiau gwybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynegi’r gefnogaeth honno yn fwy ystyrlon. Gobeithiaf yn fawr, fel yr wyf yn sicr yr ydym i gyd yn ei wneud, y bydd y sefyllfa yn cael ei datrys yn foddhaol maes o law.

A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr ymrwymiad i gynlluniau prentisiaeth y sector cyhoeddus? Mae cyngor Caerffili wedi tynnu arian yn ôl o gynllun a oedd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl ifanc, i'w helpu i mewn i waith. Roedd y cynllun wedi llwyddo i greu 18 o swyddi parhaol, ond tynnodd y cyngor y cyllid yn ôl yn 2015-16, ac nid yw wedi ariannu unrhyw brentisiaethau eleni. Rwy’n pryderu y gallai hyn fod yn rhan o batrwm ehangach o golli cynlluniau prentisiaeth awdurdodau lleol, ac efallai ei fod yn groes hyd yn oed i’r uchelgeisiau polisi yr ydych chi wedi eu mynegi o ran prentisiaethau fel Llywodraeth. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater pwysig iawn hwn?

Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn wir, rydych chi wedi dangos pa mor llwyddiannus y bu o ran y prentisiaethau sector cyhoeddus hynny mewn un awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, gellir adlewyrchu hyn ledled Cymru. Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw sut y maen nhw’n rheoli yr hyn sy’n gyfnod anodd iawn o ran cyni, ond, wrth gwrs, wrth i ni symud ymlaen â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, rydym yn gweld setliad gwell nag a ragwelwyd gan lywodraeth leol, yn sgil rheolaeth ariannol ofalus. Felly, byddwn i’n gobeithio y byddai hynny'n galluogi'r awdurdod i edrych ar hyn o ran canlyniadau cadarnhaol y cynllun prentisiaeth hwnnw.

A gaf i fynegi fy nghefnogaeth i sylwadau Jenny Rathbone ynglŷn â Bashir Naderi? Gwn ei bod wedi codi hyn yn y Siambr yr wythnos diwethaf hefyd. Ac mae nifer o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd sy'n ffrindiau i Bashir, wedi cysylltu â mi, yn gofyn i minnau hefyd siarad yn y Cynulliad, yn ei gefnogi, ac mae ei fam faeth, a roddodd iddo gartref yma yng Nghaerdydd pan oedd yn 10 oed wedi cysylltu hefyd ac mae hi’n daer eisiau helpu ei bachgen rhag cael ei alltudio. Credaf ei bod yn sefyllfa hynod drist bod rhywun sydd â chymaint i'w gyfrannu ac sydd wedi elwa ar y gwasanaethau yr ydym wedi gallu eu cynnig yng Nghymru, bellach yn cael ei drin yn y modd cwbl annynol hwn, ac wedi ei gludo i ganolfan gadw yn ddisymwth ac yn greulon lle nad oes ganddo ond pythefnos i wneud achos dros gael aros yn y lle a fu’n gartref iddo. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n cefnogi Jenny Rathbone ac yn gofyn a oes unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud.

Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn yna, gan ychwanegu ei chefnogaeth i Bashir Nadir a hefyd am gydnabod y codwyd hyn yr wythnos diwethaf yn y Siambr. Roeddwn i’n gallu mynegi ein pryderon. Mae hwn yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond rydym yn gyfrifol am y bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac yn pryderu amdanynt ac rydym yn barod iawn i groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, ac yn defnyddio'r pwerau sydd gennym i gefnogi'r rhai sy’n agored i niwed a'r rhai y gwyddom eisoes, fel y disgrifiwyd mor glir, eu bod wedi byw yn ein cymunedau ac wedi eu cefnogi gan gynifer o bobl. Credaf eto ei bod yn galonogol iawn clywed yr Aelodau yn mynegi eu cefnogaeth i Bashir yn y Cyfarfod Llawn heddiw eto.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf i adleisio sylwadau Bethan Jenkins. 15 mlynedd yn ôl i heddiw digwyddodd y ddamwain erchyll yn ffwrnais chwyth Rhif 5 pryd y collodd tri gweithiwr eu bywydau, dau o fy etholaeth i ac un o Faesteg, a chafodd llawer eu hanafu? Roedd y sylwadau ddoe gan Brif Weinidog y DU, neu'r adlewyrchiad ar y Prif Weinidog oherwydd na wnaeth hi, mewn gwirionedd, lwyddo i ddod o hyd i amser yn ei hamserlen i wneud yr ymdrech i fynd i weld Tata—rwy'n credu bod hynny’n warthus a chredaf ei bod yn bwysig bod Gweinidogion Cymru yn mynegi’r safbwyntiau yn glir i Lywodraeth y DU o ran ein teimladau ynglŷn â hyn a sut, yn y bôn, y mae hi’n siomi cymunedau a gweithlu y diwydiannau hynny. Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn goroesi. Mae'n hollbwysig, felly, bod Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan bwysig, oherwydd ei bod yn rheoli llawer o brosesau y dylai eu rhoi ar waith yn hytrach nag eistedd yn ôl, ac mae'n bwysig felly bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y sylwadau hynny ar ein rhan.

O ran ail bwynt, a gaf i hefyd ofyn cwestiwn ynglŷn â’r berthynas rhwng y GIG a phartneriaethau preifat a’r canllawiau a roddir iddynt? Ar hyn o bryd, rwyf ar ddeall bod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ysbyty HMT Sancta Maria ynglŷn â'r posibilrwydd o brynu tir ar gyfer gwaith datblygu, ac mae’n bwysig cael arweiniad clir ar safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â’r bartneriaeth rhwng darparwyr preifat a darparwyr y GIG, a’r berthynas waith sy'n bodoli rhyngddyn nhw, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal diogel i’n cymunedau, ond gofal hefyd, i’r graddau sy’n bosibl, yn sector y GIG ei hun.

Credaf fod David Rees unwaith eto yn codi pwynt pwysig iawn i’w gofio heddiw, a'r ffaith mai ar 8 Tachwedd 2001 y ffrwydrodd ffwrnais chwyth Rhif 5 Corus UK Limited ym Mhort Talbot, gyda chanlyniadau trasig a bu farw tri o weithwyr Corus. Credaf mai effaith y digwyddiadau trasig hynny y dymuna pob un ohonom eu cofio heddiw. Unwaith eto, ni wnaeth Prif Weinidog y DU—ni wnaeth unrhyw gysylltiad. Yn ystod yr wythnos hon, o bob wythnos, gallai fod wedi gwneud y cysylltiad hwnnw. Felly, rydych wedi dweud, ac rwy'n siŵr, unwaith eto, y rhennir y farn hon ar draws y Siambr hon, fod hyn yn warthus, y diffyg ymateb hwnnw—y diffyg parch yn ogystal, oherwydd, hefyd, yr ansicrwydd, fel y dywedwch, yn eich etholaeth ynglŷn â dyfodol y gweithlu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yma gyda mi yn y Siambr heddiw. Mae wedi clywed y pwyntiau yna. Mae wedi gwneud y cysylltiad hwnnw eto ac, wrth gwrs, wedi clywed gan Bethan Jenkins yn gynharach. Felly, credaf fod hyn yn bwynt y byddwn yn dymuno gwneud ein safbwynt arno yn glir iawn.

4. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ynghyd â’i femorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau o ran iechyd y cyhoedd a gwneud popeth yn ein gallu i wella a diogelu mwy ar iechyd pobl yng Nghymru.

Rydym yn gwybod bod yr heriau iechyd y cyhoedd yr ydym yn eu hwynebu yn esblygu’n gyson ac yn dod yn fwyfwy cymhleth. Mae angen ymateb cynhwysfawr ac amlochrog i fynd i’r afael â nhw. Er bod gan ddeddfwriaeth swyddogaeth bwysig a phendant, ni all gyflawni yr holl welliannau ac amddiffyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld ar ei phen ei hun. Yn hytrach, mae'n un rhan annatod o agenda ehangach—agenda sy'n cynnwys ein gwaith ni ar draws ehangder y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi afiechyd, yn ogystal â'n gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ein rhaglenni, ein polisïau a’n hymgyrchoedd pwrpasol. Gyda'i gilydd, maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol cronnus, ac yn ein helpu i atal niwed y gellir ei osgoi a gwireddu ein dyheadau ar gyfer Cymru iach ac egnïol, ac mae pob un ohonynt yn cysylltu'n agos ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Er na all un darn o ddeddfwriaeth ateb pob problem a datrys holl heriau iechyd y cyhoedd, gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ymarferol iawn. Dyna'r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni. Mae'n cymryd camau mewn nifer o feysydd penodol er lles grwpiau penodol yn y gymdeithas, yn ogystal ag ar gyfer cymunedau yn eu cyfanrwydd.

Ar wahân i nifer fechan o fân newidiadau technegol, mae'r Bil yn cynnwys y darpariaethau a ystyriwyd yn wreiddiol gan y Cynulliad blaenorol, gan gynnwys y rhai a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod diwygio. Yr unig eithriad yw cael gwared ar y darpariaethau a fyddai wedi cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae'r cam wedi ei gymryd i gydnabod yr angen i greu consensws ar draws y Cynulliad hwn ac i sicrhau y gellir gwireddu’r amryfal fanteision y mae’r Bil hwn yn ceisio’u cyflawni dros Gymru.

Mae'r Bil yn ymdrin â nifer o faterion iechyd y cyhoedd pwysig. Mae'n creu trefn ddi-fwg amlwg ar gyfer Cymru, ac mae’r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd wedi’u hymestyn i gynnwys tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus—newid y bwriedir iddo gynnig budd i blant, cleifion ac ymwelwyr. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer gwneud lleoliadau pellach yn rhai di-fwg yn y dyfodol os caiff amodau penodol eu bodloni ac os cânt eu cefnogi gan y Cynulliad hwn.

Mae'r Bil yn cefnogi'r amddiffyniadau presennol ar gyfer plant a phobl ifanc, gan eu hatal rhag cael gafael ar gynhyrchion tybaco a nicotin trwy greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr y cynhyrchion hyn, a thrwy greu trosedd newydd, sef rhoi cynhyrchion tybaco neu nicotin yn fwriadol i bobl dan 18 oed. Bydd y mesurau pwysig hyn yn helpu awdurdodau gorfodi i gyflawni eu cyfrifoldebau yn fwy effeithiol a gwneud mwy i ddiogelu plant rhag niwed. Mae'r Bil yn creu system drwyddedu orfodol ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal triniaethau arbennig—aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio—gan helpu i amddiffyn pobl sy'n dewis cael y triniaethau hyn rhag y posibilrwydd o niwed a all ddigwydd os cânt eu cynnal mewn ffordd wael. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 16 oed, gan ddarparu amddiffyniad pwysig arall ar gyfer ein pobl ifanc.

Er y bwriedir i rai camau gweithredu yn y Bil gynnig budd i grwpiau penodol, bydd eraill o fudd i gymunedau cyfan. Yn gyntaf, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn helpu i sicrhau, cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud, eu bod wedi’u hysbysu gan ystyriaeth lawn o'u heffeithiau posibl ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Yn ail, bydd cymunedau yn elwa ar y newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yng Nghymru, er mwyn diwallu anghenion cymunedau lleol yn well. Ac yn drydydd, bydd cymunedau yn elwa ar wella’r gwaith o gynllunio darpariaeth a mynediad i doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd—mater sy'n effeithio ar bawb, ond sydd ag arwyddocâd arbennig o ran iechyd y cyhoedd ar gyfer grwpiau penodol.

Wrth gwrs, mae'r Bil eisoes wedi elwa ar broses ymgynghori helaeth dros nifer o flynyddoedd ac ar graffu manwl yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r broses o graffu eisoes wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol mewn nifer o ffyrdd. Arweiniodd at ymestyn y drefn ddi-fwg i'r lleoliadau newydd, sef tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Cryfhaodd hyn y Bil drwy amddiffyn plant rhag y niwed iechyd penodol y gall tyllu’r tafod ei achosi, ac arweiniodd yn uniongyrchol at gynnwys darpariaethau pwysig am asesiadau effaith ar iechyd. Serch hynny, rwyf yn siŵr y bydd y Bil yn elwa ar graffu trwyadl pellach ar amrywiaeth o faterion ac ar drafodaeth am fanylion penodol. Felly, edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr, ac at yr ymgysylltiad adeiladol â’r amryw sefydliadau a fydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) hwn yn llwyddiant, ac at sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y ddeddfwriaeth hon ar gyfer pobl Cymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o weld Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ailymddangos ar ôl y llanastr chwerthinllyd a welsom yn gynharach eleni, a hoffwn ailddatgan ymrwymiad y blaid hon i’w gwneud yn bosibl i e-sigaréts fod ymysg yr amryw offer yn y blwch offer ar gyfer helpu i roi'r gorau i ysmygu.

Weinidog, ychydig iawn sydd yn y Bil hwn y dymunaf anghytuno ag ef. Yn wir, o ystyried amcan datganedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sef defnyddio deddfwriaeth briodol i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru, rwy’n credu bod nifer o feysydd yr hoffwn eu harchwilio i weld a allwn ni gyflwyno deddfwriaeth fwy cadarn er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Byddwn hefyd yn dymuno edrych yn fanylach ar rai o oblygiadau cyllidol y Bil arfaethedig.

Nodaf yr awydd i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, ac mae hwn yn gam yr wyf yn ei gefnogi. Fodd bynnag, Weinidog, o ystyried y costau a fyddai’n gysylltiedig â hyn, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i awdurdodau lleol yn cyflawni’r ddyletswydd honno? Wedi'r cyfan, maent eisoes yn rhoi trwyddedau i safleoedd werthu alcohol, a byddwn yn awgrymu i chi bod y rhan fwyaf o safleoedd sy'n gwerthu alcohol, boed hynny’n archfarchnad, yn dafarn, yn siop gornel, hefyd yn dymuno gwerthu cynhyrchion tybaco a nicotin. Rwy’n derbyn wrth gwrs y bydd yna rai lleoliadau a fydd yn arbenigo mewn gwerthu dim ond cynhyrchion tybaco a nicotin, ond gellir eu hychwanegu hwy, ac am gost is y byddwn i’n tybio, at y gyfundrefn drwyddedu bresennol.

Nodaf y bwriad i wahardd rhoi cynhyrchion tybaco neu gynnyrch nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Weinidog, a ydych chi wedi ystyried pa gosbau y byddech yn eu gorfodi ac ar bwy? Byddai'n bryder mawr pe ystyrid bod y manwerthwr yn gyfrifol am bobl dros 18 oed yn prynu sigaréts ac yn y blaen, ac yna’n eu rhoi i blant dan 18 oed rownd y gornel. Sut y byddwch chi’n dal, yn profi’r achos ac yn cosbi unrhyw droseddwr?

Nodaf yr amddiffyniad yr ydych wedi’i gynnig i bobl ifanc dan oed drwy wahardd rhoi tyllau mewn man personol o’u cyrff. O dan yr un bwriad i amddiffyn plentyn dan oed, a wnewch chi gryfhau cyfreithiau sy’n ymwneud â thatŵio ac addasu’r corff, o ystyried bod llawer o datŵs a rhai addasiadau i’r corff hefyd yn cael eu rhoi ar neu mewn rhannau o’r corff yr ystyrir eu bod yn bersonol? Rwy’n deall eich pryderon bod cyhoeddi gwaharddiad yn gwneud rhywbeth yn fwy deniadol, ond mae a wnelo hyn ag amddiffyn plant ac o’r hyn yr wyf i’n ei ddeall, byddai'r diwydiant hefyd yn hoffi gweld mwy o reoleiddio er mwyn eu hamddiffyn hwythau hefyd.

Nodaf y gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynlluniau strategaeth leol i adlewyrchu'r angen am doiledau cyhoeddus. Y gwir amdani yw, Weinidog, bod yr elfen hon o’r Bil yn wan a dweud y lleiaf. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut yr ydych yn credu y gallai hyn fynd i’r afael â phrif lwybrau, ardaloedd twristaidd sydd â nifer uchel o ymwelwyr twristiaeth ond angen cymunedol isel, ac ardaloedd mwy gwledig. Onid ydych chi’n credu bod angen cynllun cenedlaethol cyffredinol hefyd i ddwyn y cynlluniau lleol at ei gilydd a llenwi'r bylchau?

Weinidog, mae Cymru yn gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU. Ffordd yr A472 ger Crymlyn sydd â'r gyfradd uchaf o lygredd mewn unrhyw ardal y tu allan i Lundain, wedi’i achosi’n bennaf gan dagfeydd oherwydd cerbydau trwm. Mae pobl sy'n byw yn yr ardal yn dod i gysylltiad â mwy a mwy o lygryddion niweidiol, sy'n niweidio’u hiechyd. Mae ymchwil yn ein galluogi ni i gael dealltwriaeth lawer gwell o ba mor niweidiol yw cysylltiad hirdymor â’r llygryddion aer hyn ar gyfer ein hiechyd. Gall niwed gan lygryddion aer fod yn gysylltiedig â chanser, asthma, clefyd y galon, strôc, diabetes, gordewdra a dementia. Yn 2010, cyfrannodd niwed gan lygryddion aer at 1,320 o farwolaethau yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n heriau iechyd.

Weinidog, mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae gofyniad ar lywodraeth leol i fonitro ansawdd yr aer lleol yn effeithiol a rhoi gwybod i'r cyhoedd pan fydd lefelau yn uwch na’r hyn a nodir yn y canllawiau. Yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb i gyflawni strategaethau rheoli aer lleol. Felly, mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu cyflwyno ar y cyd â'r amcanion strategol cenedlaethol.

Mae’n ddrwg iawn gennyf, fe wnes i gymryd cyngor yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, a dywedwyd wrthyf fod amser ar gael i mi.

Wel, rydych mewn perygl o gymryd bron cymaint o amser a gymerodd y Gweinidog i gyflwyno’r datganiad.

Ymddiheuraf.

Onid allai Bil iechyd y cyhoedd ddeddfu i fonitro llygredd aer y tu allan i ysgolion Cymru? Mae fy ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai’r gwaith o fonitro lefelau llygredd y tu allan i ysgolion gael ei gynnwys yn y Bil ac y byddai modd deddfu hynny, cyhyd â’n bod ni’n ystyried cyfraith yr UE ac na fydd yn torri ar draws Bil Cymru.

Yn olaf, Weinidog, rwyf am godi’r ffaith nad yw Bil iechyd y cyhoedd yn cynnwys unrhyw fesurau i wella ffitrwydd corfforol y genedl. Gan fod canolfannau hamdden o dan gymaint o bwysau, Weinidog, oni allai’r Bil iechyd y cyhoedd hwn edrych ar y posibilrwydd o agor adeiladau ein hysgolion i gynnig lleoedd mewn cymunedau lleol i alluogi pobl, yn enwedig y rhai sy'n cael cymorth meddygol parhaus ac sydd angen y rhaglenni ymarfer corff y soniais amdanynt yn fy nghwestiwn yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn gynharach—. Gallai fod yn ganolfan iddynt fynd iddi heb orfod teithio’n bell. Rwy’n credu, Weinidog, bod ffitrwydd yn gwbl allweddol oherwydd, os edrychwch chi ar unrhyw un o'r rhagfynegiadau o ran y boblogaeth, yna mae taith anodd iawn o’n blaenau yn y blynyddoedd i ddod oherwydd gordewdra a salwch cyffredinol. Ac os byddwch chi’n ddewr, a defnyddio’r Bil hwn i fynd i’r afael ag iechyd y cyhoedd drwy ffitrwydd corfforol, ac edrych ar blant, pobl ifanc ac oedolion, yna fe fydd y blaid hon yn eich cefnogi yn y cam dewr hwnnw, oherwydd drwy fod yn ddewr heddiw gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol syfrdanol i iechyd ein cenedl yfory. Diolch.

Diolch i'r llefarydd am estyn croeso mor gynnes i’r Bil wrth iddo ddychwelyd i’r Cynulliad, ac am ei sylwadau adeiladol y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid wrth i ni ddatblygu'r Bil yn ystod y misoedd sydd i ddod.

Mae eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â goblygiadau ariannol y Bil, ac, ar y pwynt hwnnw, byddwn i'n eich cyfeirio at y memorandwm esboniadol, sydd hefyd yn cynnwys asesiad o effaith rheoleiddiol. Mae'n cynnwys rhai manylion am yr hyn y byddem yn disgwyl ei weld o ran cost y Bil i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac i eraill hefyd. Rydym ni wedi bod yn awyddus iawn drwy gydol datblygiad y Bil i leihau'r gost i lywodraeth leol, gan ein bod ni’n deall y pwysau sydd arnynt ar hyn o bryd. Er enghraifft, wrth edrych ar y rhan o'r Bil sy'n ymdrin â'r system hylendid bwyd, mae'r Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol gadw derbynebau a gânt pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig, er enghraifft, er mwyn iddynt allu ailfuddsoddi’r arian hwnnw wrth gyflawni eu dyletswyddau i archwilio safleoedd, ac yn y blaen.

Gofynasoch am y gofrestr o fanwerthwyr. Bydd yn ofynnol i bob manwerthwr cynhyrchion tybaco a nicotin fod ar y gofrestr genedlaethol. Bydd ffi arfaethedig o £30 ar gyfer y safle cyntaf a £10 ar gyfer pob safle ychwanegol sy'n eiddo i'r busnes. Bydd y gofrestr honno yn rhoi rhestr ddiffiniol i'r awdurdodau lleol o'r manwerthwyr yn eu hardaloedd sy'n gwerthu tybaco neu bapurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin neu gyfuniad o'r eitemau hyn, gyda'r nod o leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc dan 18 oed yn cael gafael ar y cynhyrchion hyn. Byddwn yn enwi naill ai awdurdod lleol neu sefydliad arall yr awdurdod a fydd yn rheoli'r gofrestr genedlaethol honno.

Ein nod yw cadw’r cyfan mor syml â phosibl i leihau'r baich ar fusnesau, felly y cyfan y bydd angen i fanwerthwyr ei wneud fydd rhoi gwybod i’r awdurdod cofrestru am unrhyw newidiadau i'w manylion ar ôl iddynt gofrestru, yn hytrach nag ailgofrestru’n ffurfiol bob tair blynedd, a dyna pam y byddai system drwyddedu ffurfiol wedi rhoi mwy o faich ar fusnesau mewn gwirionedd. Dyna pam yr ydym wedi dewis y dull hwn. Bydd hefyd yn adnodd defnyddiol o ran y bydd awdurdodau lleol yn gallu lledaenu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth i fusnesau ar eu cofrestr, oherwydd, ar hyn o bryd, maent yn dibynnu i raddau helaeth ar wybodaeth leol, sy'n eithaf tameidiog. Felly, bydd modd eu cynorthwyo mewn ffordd fwy cadarn o lawer bellach wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau gorfodi. Rwy'n falch eich bod chi wedi croesawu y rhan honno o'r Bil hefyd.

O ran trosglwyddo tybaco, yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol yw y bydd yn drosedd i unigolyn roi tybaco i rywun o dan 18 oed. Y nod yw atal pobl ifanc rhag cael cynhyrchion tybaco a nicotin drwy'r rhyngrwyd neu drwy archebu dros y ffôn, ac mae’r Bil hwn yn ymwneud i raddau helaeth â chadw’n gyfredol o ran y newidiadau sy'n digwydd yn y gymdeithas ac yn y ffordd yr ydym yn cael gafael ar wahanol bethau. Mae'r drosedd yn berthnasol i, er enghraifft, bagiau a blychau cludo a ddefnyddir gan archfarchnadoedd, ond nid yw'n cynnwys amlenni sydd wedi’u hamgáu yn llwyr, gan na allwn ddisgwyl yn rhesymol i bobl wybod beth sydd y tu mewn i amlen gaeedig pan gaiff ei throsglwyddo. Felly, bydd disgwyl i yrwyr dosbarthu sy’n trosglwyddo cynhyrchion tybaco neu nicotin i rywun sy'n ymddangos ei fod o dan 18 oed gynnal y gwiriad dilysu oedran, yn debyg i'r rhai sy'n cael eu cynnal gan gynorthwywyr siop mewn sefyllfaoedd o'r fath hefyd. Bydd hyn yn cael ei orfodi gan awdurdodau lleol.

O ran tyllu rhannau personol o’r corff, rydym yn ceisio drwy'r Bil gwahardd tyllu rhannau personol o gorff rhywun sydd o dan 16 oed yng Nghymru mewn unrhyw leoliad, ac mae hefyd yn ymestyn i’w gwneud yn drosedd i wneud trefniadau i berfformio gweithdrefn o'r fath. Felly, at ddibenion y Bil, mae tyllu rhannau personol o’r corff yn cynnwys tyllu y tethau, bronnau, organau cenhedlu, bochau pen-ôl a'r tafod, a chyflwynwyd hynny yn y cyfnodau diwygio pan aeth y Bil drwy’r Cynulliad yn flaenorol. Unwaith eto, y nod yn y fan yma yw diogelu pobl ifanc rhag y niwed posibl y gellid ei achosi gan dyllu rhannau personol o’r corff, ond hefyd osgoi amgylchiadau lle y cânt eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai eu gwneud yn agored i niwed. Mae llawer o ymarferwyr, yr ydych chi'n iawn, eisoes yn dewis peidio ag ymgymryd â thyllu’r rhannau personol hyn o’r corff ar blant a phobl ifanc beth bynnag, ond bydd hyn yn cysoni pethau ledled Cymru. Gallwn yn sicr drafod ymhellach yn ystod cyfnodau nesaf hynt y Bil drwy'r Cynulliad o ran ymestyn y rhannau personol i datŵs, er enghraifft. Nid wyf yn siŵr pa un a drafodwyd hyn yn drylwyr yn y cyfnodau blaenorol yn y Cynulliad, ond edrychaf ymlaen at gael y trafodaethau hynny gyda chi hefyd.

I sôn, yn gyflym iawn, am eich pryderon ynghylch toiledau, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i bob awdurdod lleol i’w cynorthwyo i ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol. O fewn hynny, byddwn yn gofyn iddyn nhw edrych hefyd ar ddefnyddwyr priffyrdd, llwybrau teithio egnïol ac ymwelwyr â safleoedd ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, hanesyddol, poblogaidd neu o bwys cenedlaethol. Felly, bwriedir iddo fod yn ddarn eang a chadarn o waith. Unwaith eto, nid yw llygredd wedi ei gynnwys yn y Bil, ond rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn fanwl yn y cyfnodau nesaf.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad yma? Er nad ydy’r Bil yma yn berffaith, fel y gwnaf i egluro, rwyf yn croesawu y Bil fel ag y mae o. Mae’n drueni na chafodd cynnwys yr hyn sydd o’n blaenau ni rŵan ei roi ar y llyfrau statud yn barod. Mi oeddwn i’n un o’r rhai a oedd yn methu â derbyn y Bil diwethaf oherwydd yr elfen o gyfyngu ar ddefnydd o e-sigarennau. Er na allwn i ddweud, wrth gwrs, eu bod nhw’n gwneud dim niwed, rwyf yn grediniol bod lle i’w hannog nhw fel rhywbeth llai niweidiol nag ysmygu tybaco. Rwy’n falch, felly, bod yr elfennau yna wedi cael eu tynnu allan o’r Bil newydd yma.

Mi weithiwn ni yn adeiladol efo’r Bil yma rŵan, felly, fel Aelodau Cynulliad, bob un ohonom ni, a’r rheini ohonom ni sy’n aelodau o’r pwyllgor iechyd. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r broses o sgrwtineiddio ac i chwilio am elfennau y mae modd eu gwella a’u cryfhau o hyd, er gwaethaf y ffaith bod y Bil yma, i raddau, wedi bod drwy broses sgrwtini a gwella yn barod.

With plenty of scrutiny opportunities to come, I won’t fire off a long list of questions today. I will say, though, that it is a concern to me that there is nothing here to tackle obesity or alcohol abuse or to promote physical activity, as we heard a minute ago, and in that respect, it could be seen as a missed opportunity. But, this is a useful Bill. It does contain some useful measures and we will be engaging constructively with it and will continue to seek opportunities to take action in some of those other areas.

I will also use this opportunity, finally, to ask the Minister this: will she agree with me that this Bill should indeed be much stronger and could be much stronger and that it is being held back by a lack of powers? Does she agree with me that we should have powers to, for example, ban or restrict the advertising of junk food or to introduce taxation over unhealthy food and drink and sugar and so on, and that if we were able to do so, this could indeed be a much more far-reaching Bill?

Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac yn amlwg rwyf yn rhannu eich siom amlwg na chafodd y Bil ei basio yn y cyfnod blaenorol yn y Cynulliad, ond edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi wrth i ni symud ymlaen arno.

Soniasoch am sawl eitem yr ydych yn siomedig nad ydyn nhw’n cael sylw yn y Bil, ond wrth gwrs, dim ond yn un rhan o'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â'r heriau a amlinellwyd gennych yw deddfwriaeth. Er enghraifft, nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer popeth—rydym yn gwneud llawer o bethau i fynd i'r afael â gordewdra, ar lefel Cymru ac wrth weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar lefel yr UE hefyd. Mae llawer o'r dulliau sy'n effeithio ar y diwydiant bwyd, er enghraifft, yn cael eu cynnal ar lefel Llywodraeth y DU ac ar lefel Ewropeaidd, a dyna pam yr ydym wedi cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU o ran yr ardoll ar y diwydiant diodydd llawn siwgr. Rydym yn awyddus i weld cynnydd gwirioneddol yn hynny o beth, a hynny yn eithaf cyflym hefyd.

Hefyd, yng Nghymru, mae gennym ni’r rhaglen Plant Iach Cymru, yr oeddwn yn falch o’i lansio ym mis Ebrill eleni. Bydd hwn yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ac ymwelwyr iechyd gael ymgysylltiad gwirioneddol, ystyrlon â theuluoedd ledled Cymru. Yn y cyfarfodydd hynny, gellir trafod pethau fel byw yn iach, deiet, ymarfer corff, ysmygu, camddefnyddio sylweddau—yr holl elfennau gwahanol hyn er mwyn cefnogi'r teulu i wneud dewisiadau iach, ar gyfer y fam a'r plant, ond ar gyfer y teulu cyfan, hefyd.

Mae gennym y rhaglen 10 Cam i Bwysau Iach, hefyd, ac mae hynny, unwaith eto, yn ceisio rhoi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant o ran eu hiechyd corfforol. Mae gennym eisoes ddeddfwriaeth arall, megis y Ddeddf teithio egnïol, yr ydym ni'n ei gweithredu, i geisio gwneud y dewisiadau egnïol ac iach o gerdded a beicio yn haws o lawer i bobl.

Mewn ysgolion, mae gennym rwydwaith Cymru o ysgolion iach ac mae gennym amrywiaeth eang o raglenni gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn yr ysgol, a gaiff eu cyflwyno mewn ysgolion a hefyd drwy Chwaraeon Cymru.

Cyfeiriasoch at gamddefnyddio sylweddau. Unwaith eto, nid oes unrhyw beth penodol ar hyn yn y Bil o ran defnyddio alcohol a chyffuriau, er enghraifft, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i atal a lleihau niwed drwy ein cynllun gweithredu. Byddwch yn cofio y cytunodd y Cynulliad, fis neu ddau yn ôl, ar ein cynllun cyflawni ar gyfer y ddwy flynedd nesaf o ran camddefnyddio sylweddau, atal niwed, er enghraifft, trwy addysgu plant a sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth a roddwn yn gyfoes ac yn unol â thueddiadau cyfoes, gan gynnwys y sylweddau seicoweithredol newydd ac ati, yn ogystal â lleihau niwed i'r rhai sydd eisoes â phroblemau camddefnyddio sylweddau—er enghraifft, trwy gyflwyno ein rhaglen mynd â naloxone adref, sy'n atal gorddosio. Rwy’n clywed straeon gwych am sut mae hyn mewn gwirionedd yn achub bywydau yn ein cymunedau. Crybwyllodd Mohammad Asghar yr wythnos diwethaf yr ystafelloedd rhoi cyffuriau, ac rydym yn mynd ati yn ymarferol i edrych ar ba un a fyddem ni’n dymuno cyflwyno’r rhain a chael cyngor gan grŵp arbenigol hefyd.

Gwnaethoch chi ac Angela Burns sôn hefyd am gyfleusterau hamdden a'r ffaith nad ydyn nhw yn y Bil, ond unwaith eto, mae pethau y gallwn eu gwneud y tu allan i ddeddfwriaeth—er enghraifft, y glasbrint cyfleusterau, sy’n cael ei lunio yn ddiweddar, i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio dull mwy strategol o sicrhau bod safleoedd chwaraeon a chyfleusterau hamdden ar gael yn ein cymunedau. Ceir hefyd y grant cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael gennym i awdurdodau lleol gael grant o hyd at £1 miliwn i fuddsoddi mewn gwella neu ddatblygu cyfleusterau newydd yn lleol. Felly, mae llawer iawn yn digwydd ym maes iechyd y cyhoedd y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth ei hun, er y gwn y bydd awydd i fynd i’r afael â llawer o'r materion hyn wrth i ni symud drwy'r cyfnodau craffu.

Rwyf innau hefyd yn falch iawn ein bod yn ailgyflwyno'r Bil hwn, sy’n cynnwys rhai cyflyrau pwysig iawn. Rwyf wrth fy modd o glywed bod Plaid Cymru yn eich annog i weithredu ar ordewdra. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw bosibilrwydd o gynnwys unrhyw beth rheoleiddiol ei natur yn y Bil hwn, oherwydd er bod llawer o bethau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i geisio mynd i'r afael â gordewdra, gwyddom fod pwysau llawn y diwydiant hysbysebu yn annog pobl i fwyta'r holl bethau anghywir, yn hytrach na llysiau. Defnyddiwyd y Gemau Olympaidd fel gwledd fawr o hysbysebu sothach—ac eithrio, mewn un achos, roedd Aldi yn eu defnyddio i hyrwyddo llysiau a ffrwythau, a dylid eu canmol am wneud hynny. Ond mae'r rhan fwyaf o hysbysebion ar gyfer pethau fel diodydd llawn siwgr, nid llysiau.

Felly, a fyddai'n bosibl cynnwys yn y Bil, dyweder, gwahardd hysbysebu bwyd sothach cyn y trothwy 9 o’r gloch? A oes gennym ni’r pwerau i wneud hynny? Hefyd, er fy mod i’n croesawu'r ardoll ar ddiodydd llawn siwgr, nid yw’n mynd yn ddigon pell o lawer, oherwydd, yn anffodus, mae siwgr yn bresennol yn yr holl fwydydd wedi’u prosesu, bron a bod, sy'n cael eu gwerthu ar hyn o bryd. A oes unrhyw bosibilrwydd o allu cyflwyno ardoll ehangach ar eitemau siwgr, a allai hefyd ystyried faint o halen a braster a ddefnyddir i werthu nwyddau a gaiff eu cyflwyno fel bwyd? Rwyf yn sylweddoli bod y rhain yn faterion anodd oherwydd bod y rhan fwyaf o fwyd yn cael ei gynhyrchu ledled y DU, ond byddwn wir yn croesawu eich barn ar y mater hwn.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn. O ran y diwydiant hysbysebu a'r hyn y gallwn ei wneud yn y fan honno, roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn siomedig iawn na wnaeth strategaeth gordewdra Llywodraeth y DU gymryd unrhyw gamau i fynd i'r afael â hysbysebion wedi'u targedu at blant a phobl ifanc yn arbennig. Ni fyddai gennym y pwerau yma ar gyfer deddfu yn y maes hwnnw, felly mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ein siom a'n gobaith y byddan nhw’n rhoi sylw i hyn maes o law. Credaf fod cyfleoedd i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru drwy ein cynllun gweithredu ar fwyd a diod, a arweiniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Yn yr adran honno, mae gennym ddwy ganolfan, un yn y gogledd ac un yn y de, a all gefnogi busnesau i ddod yn fwy arloesol. Gall rhan o hynny fod yn ailffurfio eu cynnyrch i leihau'r halen a ddefnyddir, i leihau'r braster a ddefnyddir a'r siwgr a ddefnyddir, ond gan ddal i gynnal y math o flas y mae’r cynnyrch yn adnabyddus amdano. Felly, mae ffyrdd y gallwn gefnogi ein busnesau bwyd a diod cartref i wneud cynhyrchion iachach, a fydd yn eu gwneud yn fwy deniadol i ddefnyddwyr hefyd.

Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am fod mor garedig â darparu briff i lefarwyr y gwrthbleidiau cyn cyflwyno'r Bil. Mae gan Gymru un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd, ond mae gennym hefyd ran o’r iechyd gwaelaf yn Ewrop, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i ymdrin â hyn. Mae UKIP yn croesawu cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob plaid yn y Siambr i graffu a gwella'r Bil.

Croesawaf gyflwyno cofrestr genedlaethol o gynhyrchion tybaco a nicotin, a’r bwriad i gynnal cyfyngiadau ar werthu cynhyrchion o'r fath i blant a phobl ifanc. Rydym yn gobeithio y bydd y gofrestr hefyd yn helpu i reoleiddio'r farchnad e-sigarét. Ar hyn o bryd, nid oes dim i rwystro unrhyw un rhag coginio sypiau o hylif e-sigarét mewn baddon a’u gwerthu mewn marchnad leol, arwerthiant cist car neu o droli ar y stryd fawr. Er fy mod i’n credu bod e-sigaréts yn ddewis llawer mwy diogel na chynhyrchion tybaco traddodiadol a bod y mwyafrif helaeth o fanwerthwyr yn gyfrifol, nid oes gan ddefnyddwyr unrhyw sicrwydd bod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu yn ddiogel. Nid ydyn nhw’n gwybod beth y mae’r hylif maen nhw’n ei brynu yn ei gynnwys nac amodau ei wneud. Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio Bil iechyd y cyhoedd i reoleiddio cynhyrchu hylifau e-sigarét?

Wrth eu prynu o ffynhonnell ag enw da, mae e-sigaréts yn fwy diogel o lawer nag ysmygu sigaréts traddodiadol, ac, er y byddai’n well i ysmygwyr roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl, y gwirionedd yw na fydd llawer yn gwneud hyn, hyd yn oed ar ôl bod ar gynlluniau rhoi’r gorau i smygu safon aur Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n llawer gwell i’r ysmygwyr hynny newid i’r e-sigaréts llawer mwy diogel. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i ysmygu ac yn cyflwyno canllawiau i gyflogwyr yn dweud ei bod yn bosibl y bydd yn ystyried caniatáu i weithwyr ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer. Gan fod 19 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu ar hyn o bryd, dylem ystyried pob dull posibl i leihau'r nifer. Weinidog, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Choleg Brenhinol y Meddygon yn nodi bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel nag ysmygu tybaco. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd i ddefnyddio'r Bil hwn i wrthdroi rhai o'r gwaharddiadau yr ydym wedi eu gweld yn cael eu cyflwyno ar e-sigaréts?

O ran agweddau eraill ar y Bil, rydym yn croesawu camau i reoleiddio gweithdrefnau arbennig a thyllu rhannau personol o’r corff. Rydym yn croesawu cynnwys asesiadau o effaith ar iechyd yn fawr. Edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am yr effaith y bydd asesiadau o anghenion fferyllol yn ei chael mewn ardaloedd gwledig yn ystod cyfnod craffu Cyfnod 1 yn y pwyllgor.

Yn olaf, Weinidog, rydym yn cwestiynu cyflwyno strategaethau toiledau lleol. Heb fynediad digonol i doiledau cyhoeddus, mae llawer o bobl anabl, pobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd yn methu â gadael eu cartref. Mae Cymdeithas Toiledau Prydain yn amcangyfrif bod 40 y cant yn llai o doiledau cyhoeddus yn y DU nag oedd ar gael 10 mlynedd yn ôl. Dylem ni osod dyletswydd ar awdurdodau lleol naill ai i ddarparu toiledau cyhoeddus neu sicrhau mynediad cyhoeddus digonol i doiledau, ac nid dim ond llunio strategaeth. Weinidog, a wnewch chi ystyried cryfhau’r rhan hon o'r Bil? Diolch i chi unwaith eto, Weinidog, am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn darparu Bil sy'n cyflwyno manteision iechyd cyhoeddus gwirioneddol i Gymru. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac, unwaith eto, am y modd adeiladol iawn y mae'r blaid wedi ceisio ymgysylltu â’r Bil ar y cyfnod cynnar hwn. O ran y gofrestr e-sigaréts, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd e-sigaréts yn cael eu cynnwys ar y gofrestr manwerthwyr. Dyma'r unig ran o'r Bil lle y gwelwch chi sôn am e-sigaréts, oherwydd byddwch yn gyfarwydd â'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gwneud ymrwymiad i beidio â chynnwys gwahardd y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn y Bil hwn. Fodd bynnag, rydym yn eu cynnwys yn y gofrestr arfaethedig oherwydd bod nifer o ohebwyr, yn y Papur Gwyn, o'r sector llywodraeth leol yn arbennig, yn dweud y byddai'n briodol ymestyn gofynion cofrestru i gynnwys manwerthwyr cynhyrchion nicotin, gan gynnwys sigaréts electronig. Cynhaliodd y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig adolygiad cyflym o Reoliadau Cynhyrchion Anadlu Nicotin (Oed Gwerthu a Phrynu ar Ran) 2015, a ddaeth i rym fis Hydref y llynedd. Felly, mae hwn yn ddarn newydd o waith ymchwil, a ganfu bod cyfanswm o 634 o brofion prynu cynhyrchion e-sigarét wedi eu gwneud gan wirfoddolwyr ifanc o dan 18 oed, a dangosodd y canlyniadau fod lefelau cydymffurfio â'r rheoliadau newydd sy'n gwahardd gwerthu cynhyrchion anadlu nicotin i bobl dan 18 oed yn dal i fod yn isel iawn, wrth i 39 y cant o bobl ifanc allu eu prynu. Felly, credaf ei fod, fel y dywedwch, yn iawn y dylai e-sigaréts gael eu cynnwys ar y gofrestr arfaethedig. Bydd y ffaith eu bod nhw arni yn helpu awdurdodau gorfodi â'u dyletswyddau gorfodi hefyd.

Rwyf yn rhannu’r pryderon a oedd gan y Gweinidog blaenorol o ran effaith e-sigaréts ar bobl ifanc a normaleiddio ysmygu, a normaleiddio ysmygu, pa un a yw hynny drwy sigaréts traddodiadol neu e-sigaréts, gan fod ymchwil diweddar wedi dangos i ni fod plant o oed ysgol gynradd yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio e-sigaréts na thybaco. Mae chwech y cant o blant 10 i 11 oed a 12 y cant o blant 11 i 16 oed wedi defnyddio e-sigarét o leiaf unwaith. Felly, mae hi'n broblem. Rwy'n credu ei bod hi’n deg i ddweud nad oes gennym wybodaeth bendant yn ôl pob tebyg am fanteision neu gostau e-sigaréts o ran iechyd. Rwy'n teimlo bod y pwysau yn symud yn erbyn e-sigaréts o ran y cyngor y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei roi dim ond yr wythnos hon. Fodd bynnag, dim ond i fod yn glir, ni fydd e-sigaréts y tu hwnt i'r gofrestr yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn.

Fe wnaethoch symud ymlaen wedyn i siarad am weithdrefnau arbennig. Mae'r Bil yn ceisio creu system drwyddedu genedlaethol orfodol i ymarferwyr gweithdrefnau arbennig, a ddiffinnir yn y Bil fel aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio. Bydd y system hon yn golygu bod yn rhaid i unigolyn gael ei drwyddedu i gyflawni unrhyw un o'r gweithdrefnau hynny, a hefyd bod yn rhaid i’r safle neu'r cerbyd maen nhw’n gweithredu ohonyn nhw gael eu cymeradwyo. Felly, y nod yw codi safonau o ran perfformio gweithdrefnau arbennig a lleihau'r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig, fel heintio a throsglwyddo firysau a gludir yn y gwaed hefyd. Rwy'n gwybod y bu llawer o ddiddordeb yn y mater hwn o ran craffu yn y Cynulliad blaenorol.

Bydd ein hasesiadau o’r effaith ar iechyd yn cynnig dull systematig o ystyried iechyd yn rhan o wneud penderfyniadau a phrosesau cynllunio. Felly, mae hyn wir yn rhoi bywyd i'n dyhead o gynnwys iechyd ym mhob polisi. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch yr amgylchiadau sy’n golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal asesiadau o effaith ar iechyd. Felly, y nod yw y dylai’r asesiadau hynny gael eu cyfyngu i bolisïau, cynlluniau a rhaglenni sy’n arwain at arwyddocâd cenedlaethol neu bwysig, neu a fydd yn cael effaith sylweddol ar y lefel leol yn ogystal. Bydd yr amgylchiadau penodol pryd y bydd yn ofynnol iddyn nhw gael eu nodi mewn rheoliadau yn dilyn proses ymgynghori.

Dim ond yn fyr yn y fan yna cyfeiriasoch at fferyllfeydd a'r asesiad o anghenion fferyllol a phwysigrwydd cefnogi fferyllfeydd gwledig. Credaf fod hyn yn rhan o gymryd yr agwedd strategol a gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig yn gallu defnyddio fferyllfeydd cymunedol. Rwy'n teimlo, fel rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn ei deimlo, eu bod yn adnoddau na ddefnyddir digon arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae fferyllwyr yn cael llawer iawn o hyfforddiant. Mae ganddyn nhw lawer iawn o arbenigedd, ac rwy’n teimlo, mewn ysbryd o ofal iechyd doeth, eu bod yn gallu gweithredu ar lefel uwch er mwyn cynnig mwy o wasanaethau nag y mae llawer ohonyn nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Felly, gobeithir y bydd yr asesiad o anghenion fferyllol, ac yna’r penderfyniadau a fydd yn dilyn hynny, yn gwneud mynediad i fferyllfeydd a chyngor gan fferyllydd yn fwy dibynadwy mewn cymunedau gwledig.

Yn olaf, o ran mynediad i doiledau, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi’r strategaeth leol honno y cyfeiriwch ati. Ond wedyn, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu manylion am sut y maen nhw’n bwriadu bodloni’r asesiad o anghenion y boblogaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â thoiledau yn unig. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a chyfleusterau lleoedd newid i bobl anabl hefyd.

Fel y mae eraill wedi ei ddweud yn gynharach, Weinidog, rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yng Nghymru. Rwyf yn credu bod ysgolion bro, fel y crybwyllodd Angela Burns, yn ffordd bwysig iawn ymlaen. Rwyf hefyd yn credu nad yw llygredd aer wedi cael digon o sylw. Cyfarfûm â grŵp yn ddiweddar, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf y byddai costau trosi cyfalaf ar gyfer eu tanwydd penodol hwy ar gyfer fflydoedd tacsi, er enghraifft, yn ad-dalu eu hunain dros gyfnod o ddwy flynedd ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd aer gwell yn ardaloedd mewnol ein trefi. Rwyf yn sicr bod llawer o enghreifftiau eraill o sut y gallwn gael ansawdd aer llawer gwell yng Nghymru lle y gallem wneud cynnydd ymarferol yn eithaf cyflym.

Ond yr hyn yr wyf yn awyddus iawn i ofyn amdano yw dau beth, mewn gwirionedd. Ysmygu yw un. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwneud ysmygu yn llai derbyniol yn gymdeithasol. Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng, ac mae hynny wedi bod o fudd mawr i iechyd yng Nghymru. Rydych yn caniatáu yn eich datganiad am y posibilrwydd o ddatblygu mangreoedd cyfyngu eraill. Un y gwn fod cryn dipyn o gefnogaeth boblogaidd iddo yn fy mhrofiad i, yw cyfyngu ar ysmygu fel nad yw'n bosibl mewn mannau awyr agored bwytai a chaffis lle y ceir seddi a byrddau. Rwy'n credu bod pobl yn meddwl bod hynny'n arbennig o bwysig yn yr haf, pan fo rhai pobl yn ei weld yn ddewis rhwng naill ai peidio â mwynhau'r tywydd braf neu anadlu mwg ail-law, sydd yn codi problem arbennig i rai pobl, o ystyried eu cyflyrau iechyd. Ac o ran isafswm pris alcohol, Weinidog: Tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â’ch syniadau ar sut y gellir bwrw ymlaen â hynny yng Nghymru, unwaith eto o ystyried effaith camddefnyddio alcohol ac yfed gormod o alcohol ar iechyd yng Nghymru.

Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac ni wnes i roi sylw i bwynt Angela ar y mater ysgolion bro, felly ymddiheuriadau am hynny. Mae'n un o'n hymrwymiadau maniffesto i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym mewn cymunedau, yn enwedig o ran ysgolion a'r buddsoddiad cyfalaf yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod y cyfleusterau hynny ar gael er budd y gymuned ehangach. Unwaith eto, roeddech yn sôn am y mater o lygredd ac ansawdd aer, nad yw yn y Bil, ond rwy'n siŵr y byddwn yn cael trafodaeth fanylach ar y mater hwnnw wrth i'r Bil symud ymlaen drwy'r gwahanol gyfnodau.

Roeddech chi yn llygad eich lle i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol yr ydym wedi ei weld ar y mater o ysmygu: 19 y cant o bobl yng Nghymru sy’n ysmygu erbyn hyn, ac mae gennym darged uchelgeisiol i gyrraedd 16 y cant erbyn 2020. Rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r mesurau yn y Bil hwn yn sicr yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, bod plant a phobl ifanc yn aml yn cael enw drwg, ond o ran ysmygu ac yfed alcohol, mewn gwirionedd, mae lefelau ar eu hisaf ers i gofnodion ddechrau ymhlith ein pobl ifanc. Felly, rwyf yn credu y dylem ni a hwythau fod yn falch iawn o hynny hefyd. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru i ymestyn y rhestr o safleoedd lle na cheir ysmygu. Dim ond drwy weithdrefn gadarnhaol ar lawr y Cynulliad gydag ymgynghoriad y gellir gwneud hynny. Felly, gallai fod cyfle yn y cyfnodau yn y dyfodol i Weinidogion ehangu’r rhestr, efallai, i gynnwys bwytai neu fannau caffeteria awyr agored, er enghraifft, y cyfeiriasoch atynt, er unwaith eto, gallai hynny fod yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod wrth i'r Bil wneud ei ffordd trwy'r cyfnodau.

Cyfeiriasoch at y mater o isafbris uned. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar y mater hwn ac wedi cael ymateb ffafriol o ran ei fod yn rhywbeth a allai gael effaith o ran mynd i'r afael â’r defnydd niweidiol o alcohol yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r cadarnhad bod Llys y Sesiwn yn yr Alban wedi rhoi ei gymeradwyaeth i gynllun Llywodraeth yr Alban i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol. Dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ar 21 Hydref, y daeth y penderfyniad hwnnw, felly rydym yn dal i ystyried beth mae hynny'n ei olygu i Gymru. Ond rydym yn cydnabod hefyd, nad hyn efallai fydd diwedd y stori, wrth gwrs. Gallai’n rhwydd fynd i’r Goruchaf Lys yn y pen draw. Felly, rydym yn cadw llygad agos iawn ar hynny ac mae gennym gryn ddiddordeb ynddo, gan ystyried y ffordd ymlaen a'r hyn a allai fod yn bosibl yng Nghymru. Rydym yn sicr o'r farn y byddai cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn un o'r camau allweddol y gallem eu cymryd i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rydym yn awyddus iawn i gael deddfwriaeth debyg yma yng Nghymru, ac rydym yn ei ystyried yn rhan hanfodol o'r camau gweithredu ehangach y mae angen i ni eu cymryd yng nghyd-destun ein cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, y cyfeiriais ato'n gynharach. Ond, fel y dywedais, rydym yn gwylio'r sefyllfa yn yr Alban ac yn ystyried beth y gallem ei wneud.

Mae eich datganiad yn cyfeirio at greu system drwyddedu orfodol yn y Bil ar gyfer ymarferwyr sy’n cynnal gweithdrefnau arbennig-aciwbigo tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio-gan helpu i amddiffyn pobl ac yn y blaen. Ond pan ysgrifennais atoch ynghylch y diwydiant gwallt, fe wnaethoch ateb, ar 27 Hydref, na fydd rheoleiddio trin gwallt yn cael ei gynnwys yn y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) pan fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 7 Tachwedd. O gofio bod yn rhaid i'r diwydiant gwallt yn yr Almaen gael ei gofrestru a bod â chrefftwr feistr cyflogedig, ond gall unrhyw un sefydlu ei hun yn y DU, ac nid oes yn rhaid bod yn gymwysedig, wedi’i hyfforddi na bod wedi cofrestru, er gwaethaf y ffaith eu bod yn darparu gweithdrefnau peryglus, gan gynnwys y defnydd o gemegau ar groen a gwallt, ac o gofio bod y Bil, fel y mae ar hyn o bryd, yn cynnwys harddwch a gweithdrefnau fel Botox ac, rwyf yn credu, llenwyr dermal, a wnewch chi roi ystyriaeth yn awr, ar ôl cyflwyno'r Bil, i'r pryderon a godwyd gan y diwydiant yn hyn o beth?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a gwn fod hyn yn rhywbeth y bu ganddo ddiddordeb arbennig ynddo, ac mae’r corff sy'n cynrychioli trinwyr gwallt hefyd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad ar y mater penodol hwn yn ogystal.

Yn ein barn ni, nid yw rheoleiddio diwydiant ac iechyd a diogelwch wedi'u datganoli, felly nid yw'n rhywbeth yr ydym yn credu y byddai gennym y pwerau i’w reoleiddio o fewn y Bil hwn beth bynnag. Y rheswm yr ydym wedi dewis y pedair gweithdrefn arbennig benodol hynny o ran cyflwyno'r Bil i'r Cynulliad oedd mai’r rhain sy'n cynnwys niwed arbennig, neu niwed posibl, dylwn ddweud, oherwydd eu bod yn tyllu’r croen a gallai hynny arwain at heintio, firysau a gludir yn y gwaed ac yn y blaen. Felly, dyna'r pethau sy'n clymu’r pedair gweithdrefn benodol hynny â'i gilydd. Hefyd, maen nhw'n rhai y mae awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd â nhw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig pan fyddwn yn cyflwyno Bil, yn sicr yn ystod y cyfnod cyntaf, bod awdurdodau lleol yn cael cyfres o gyfrifoldebau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw ac yn gallu eu rheoleiddio o fewn eu dealltwriaeth bresennol, er fy mod yn gwybod bod llawer o hyfforddiant eisoes yn digwydd gan ragweld taith lwyddiannus i’r Bil.

Yn union fel yr oedd yr achos dros fangreoedd dim ysmygu yn yr awyr agored, mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion yn y dyfodol ymestyn y rhestr o weithdrefnau arbennig os byddan nhw’n dewis gwneud hynny. Unwaith eto, byddai hynny'n digwydd ar ôl ymgynghori a thrwy'r broses gadarnhaol o fewn y Cynulliad.

Mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yr oeddwn yn dymuno eu gwneud eisoes wedi'u crybwyll, ond rwyf yn awyddus i ddweud ychydig am y strategaeth toiledau cyhoeddus. Rwyf yn pryderu am ba mor bell y byddwn yn gallu symud ymlaen o ran y cyflenwad gwirioneddol o doiledau cyhoeddus gan y Bil ac rwyf yn credu bod hwn yn fater iechyd cyhoeddus pwysig dros ben. Cefais ymweliad yn fy etholaeth yr wythnos diwethaf gan etholwr 92 mlwydd oed sydd eisiau dechrau ymgyrch i gael toiledau cyhoeddus, gan fod y toiledau cyhoeddus olaf yn yr Eglwys Newydd bellach wedi eu cau, yn dilyn cau y toiled cyhoeddus yn Rhiwbeina. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl oedrannus ac anabl nad ydyn nhw’n mynd allan, oherwydd nad ydyn nhw’n gallu defnyddio'r toiled. O ran y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno, fel mynd i mewn a defnyddio'r toiledau yn y dafarn neu'r caffi—dywedodd eu bod wir yn anfodlon gwneud rhywbeth o’r fath oherwydd eu bod yn teimlo’n annifyr yn mynd i mewn i dafarn neu gaffi, hyd yn oed os oes hysbysiad ar y ffenestr yn dweud eu bod yn fodlon i bobl ei ddefnyddio.

Felly, roeddwn i’n meddwl tybed sut y byddai bod â strategaeth yn symud pethau ymlaen, a'r pwynt arall yr oeddwn eisiau ei wneud, mewn gwirionedd, oedd am bobl gyda phlant ifanc hefyd—mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu cael mynediad i doiledau cyhoeddus. Felly, rwyf yn credu ei fod yn fater iechyd cyhoeddus hanfodol, ac rwyf yn meddwl tybed sut y gallwn symud hyn ymlaen mewn gwirionedd drwy fod â strategaeth.

Diolch i chi am godi'r mater penodol hynny, ac rwy'n gwybod bod arolwg gan Help the Aged, fel yr oedden nhw pan gynhaliwyd yr arolwg—Age UK erbyn hyn—wedi canfod bod mwy na hanner y bobl hŷn yn teimlo bod diffyg toiledau cyhoeddus yn eu hatal rhag mynd allan mor aml ag y bydden nhw’n dymuno, ac mae hynny’n adlewyrchu i raddau helaeth y math o stori a ddywedasoch chi wrthym gynnau am un o'ch etholwyr chithau hefyd. Rwyf wedi cwrdd â Crohn’s and Colitis UK ac maen nhw wedi dweud rhywbeth tebyg iawn, bod ofn mynd allan heb wybod a fydden nhw’n gallu mynd i'r toiled yn llesteirio lles pobl o ran gallu cael gafael ar bopeth y gall y gymuned ei gynnig iddynt. Rwyf yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn golygu y bydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â strategaeth toiledau leol ar waith yn golygu gwell cynllunio ar lefel leol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau yn diwallu anghenion cymunedau. Bydd toiledau hygyrch, glân sydd wedi eu lleoli yn dda mewn mannau fel parciau, promenadau, llwybrau beicio, a llwybrau cerdded yn helpu i annog pobl i deithio yn fwy egnïol, a defnyddio llwybrau mwy egnïol hefyd, ac rwy'n credu bod hyn i gyd yn rhan o’r darlun iechyd cyhoeddus ehangach.

Wrth ddatblygu eu strategaethau, ceir y nod y bydd awdurdodau lleol yn ystyried yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael, yn y sector cyhoeddus-llyfrgelloedd cyhoeddus, neuaddau cymuned a thref, canolfannau chwaraeon, theatrau ac amgueddfeydd felly, na fyddai pobl efallai yn teimlo mor bryderus o fynd i mewn iddyn nhw-ond hefyd adeiladau y sector preifat-y busnesau preifat hynny sydd wedi eu cynnwys ar hyn o bryd o dan y cynllun grant cyfleusterau cyhoeddus, er enghraifft-wrth ddatblygu eu strategaeth. Oherwydd, er yr ystyrir toiledau cyhoeddus yn aml o fewn cyd-destun y toiledau cyhoeddus ar wahân hynny a gynhelir gan awdurdodau lleol, mae’r adnoddau sydd ar gael yn llawer ehangach. Ond, rwyf yn deall amharodrwydd pobl efallai i ddefnyddio toiledau cyhoeddus y maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw hawl i'w defnyddio. Felly, yn rhan o gyflwyno'r Bil, byddem yn bwriadu cynnal ymgyrch hysbysebu codi ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel bod pobl yn fwy ymwybodol o'r toiledau y cânt eu defnyddio yn yr ardal, ac efallai a allai leihau amharodrwydd rhai pobl i ddefnyddio'r toiledau sydd ar gael yn y gymuned yn ogystal.

Weinidog, mae llawer o gwestiynau eisoes wedi eu gofyn, ac rwyf yn llwyr gefnogi pwyntiau Julie Morgan ynglŷn â thoiledau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith mewn gwirionedd, a bod pobl yn cael mynediad at yr holl gyfleusterau. Ac os nad oes rhai yno, nad ydyn nhw’n gallu dweud yn syml, ‘Ni allwn ei fforddio’, ond eu bod yn gwneud rhywbeth am y peth oherwydd ei bod yn hollbwysig bod y cyfleusterau hynny ar gael. Ac mae arwyddion cyfeirio at y cyfleusterau hynny yn y trefi hefyd yn hollbwysig. Fy sylw syml, fel rhywun a eisteddodd drwy ymgnawdoliad blaenorol y Bil, yw fy mod i'n falch iawn o weld yr agwedd nicotin ar gofrestri, gan fod nicotin yn gemegyn caethiwus ac mae'n amlwg yn bwysig i gofrestru y rhai hynny yn ogystal â thybaco. Mae'n bwysig felly oherwydd na fyddem yn dymuno i unrhyw un werthu’r math hwnnw o gynnyrch, o ystyried y goblygiadau y gallai bod yn gaeth eu hachosi.

Dim ond un pwynt. Un o'r pethau sydd wedi achosi oedi yw'r mater o weithdrefnau cosmetig. Dywedwyd wrthym yn ofalus iawn bod adroddiad Syr Bruce Keogh yn 2013 yn allweddol o ran edrych ar hyn, ac mae wedi ei wneud, ac mae wedi ei adrodd. Beth ydych chi'n ei wneud i edrych mewn gwirionedd ar ba un a oes modd i argymhellion o'r adroddiad hwnnw i Lywodraeth y DU gael eu gweithredu yn y Bil hwn, fel ein bod yn cynnwys gweithdrefnau cosmetig? Gwn fod pryder dwfn iawn am rai o'r gweithdrefnau a oedd yn torri’r croen, ond nad oedd wedi eu cynnwys yma, ac felly gall fod o dan yr ymbarél hwnnw, ond a oedd hefyd efallai â rhai goblygiadau difrifol i bobl, oherwydd bod awydd yn bodoli ymhlith llawer o bobl ifanc heddiw i edrych yn wahanol a chael gweithdrefnau cosmetig. Felly, mae angen i ni sicrhau bod yr holl weithdrefnau cosmetig yn cael eu rheoleiddio yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn mynd i sefyllfa lle maen nhw’n wynebu bywyd ofnadwy o'u blaenau oherwydd eu bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir ac nad oedd unrhyw reoleiddio wedi ei sefydlu.

Diolch am y cwestiwn yna, ac am eich croeso i'r gofrestr nicotin yn arbennig. Ond o ran y gweithdrefnau arbennig, gwn, yn ystod yr ymgynghoriad Papur Gwyn ar iechyd y cyhoedd, a thrwy graffu yn y Cynulliad blaenorol, fod llawer o Aelodau ac Aelodau Cynulliad wedi awgrymu rhestr o weithdrefnau arbennig y dylid ei hymestyn i gynnwys pethau fel y rhai yr ydych yn eu hawgrymu, fel llenwyr dermal, dyfrhau colonig a chael gwared ar datŵ, a'r holl weithdrefnau addasu corff, fel hollti tafod, cignoethi a brandio. Rwy'n gwybod bod y rhain i gyd yn bethau a gafodd eu harchwilio gan y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf. Nid yw'r rhain wedi eu cynnwys o fewn y diffiniad o fesurau arbennig yn y Bil, ond fel y dywedais, mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion ddiwygio y rhestr o weithdrefnau arbennig trwy reoliadau yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn ailedrych ar rai o'r trafodaethau diddiwedd a gawsoch yn y pwyllgor yn ystod y cyfnod diwethaf.

Er mwyn cael eu hychwanegu at y rhestr, serch hynny, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried bod y weithdrefn yn cael ei pherfformio at ddibenion esthetig neu therapiwtig, a bod perfformio’r weithdrefn yn gallu achosi niwed i iechyd dynol. Dyna fyddai’r ffiniau y gallem gymryd y penderfyniadau hyn oddi mewn iddynt o dan y Bil. Ac efallai y bydd y diwygiad yn ychwanegu disgrifiad o weithdrefn at y rhestr neu’n tynnu math o weithdrefn oddi ar y rhestr, neu gallai amrywio disgrifiad sydd eisoes wedi'i gynnwys ar y rhestr hefyd. Y rheswm am hynny yw er mwyn ein galluogi i barhau i fod yn hyblyg a gallu ymateb i'r arferion hynny sy’n newid, y cyfeiriasoch atyn nhw, gan fod y maes arbennig hwn yn un sy'n symud yn gyflym iawn, ac mae tueddiadau yn digwydd yn gyflym iawn ac yn newid yn gyflym hefyd.

5. 4. Datganiad: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar ymyriad Erthygl 50. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno ei ddatganiad.

Diolch. Fel y gŵyr yr Aelodau, dyfarnodd yr Uchel Lys ar fater Miller yr wythnos diwethaf. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion hollbwysig, nid yn unig ynglŷn â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd am drefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli. Am y rhesymau hynny bwriadaf wneud cais i ymyrryd mewn unrhyw apêl gerbron y Goruchaf Lys.

Lywydd, rwy’n credu ei bod yn hollbwysig pwysleisio ar yr adeg hon, er gwaethaf yr helynt wleidyddol sy’n ei amgylchynu ac, yn wir, naws frawychus llawer o'r sylw yn y wasg, fel y dywedodd yr Uchel Lys ei hun, bod yr achos hwn yn ymwneud â’r gyfraith yn llwyr. Nid yw'n ymwneud â manteision ac anfanteision gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r cefndir gwleidyddol i hynny.

Naill ai trwy ddiffyg dealltwriaeth o gyfansoddiad y DU, neu am resymau eraill, cafodd dyfarniad yr Uchel Lys ei gamgynrychioli gan rai pobl. Yn ogystal â hyn, mae rhai pobl wedi dewis camgynrychioli’r ffeithiau yn fwriadol i herio annibyniaeth y farnwriaeth—un o gonglfeini ein system seneddol ddemocrataidd. Roedd yr adroddiadau am y dyfarniad yn rhai o’r papurau newydd, a dweud y gwir, yn warthus ac yn sarhad ar enw da newyddiaduraeth.

Mae strwythur democrataidd y DU ac, yn wir, y Cynulliad hwn, wedi ei adeiladu ar sylfaen rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth ein system farnwrol. Mae hanes diweddar trasig Ewrop yn llawn enghreifftiau o wledydd a wnaeth ddisodli rheolaeth y gyfraith a thanseilio annibyniaeth y llysoedd. Nid yw’r ffordd honno yn un ddemocrataidd ac mae'n arwain i un cyfeiriad yn unig, a byddwn yn gobeithio y bydd y rheini a allai fod wedi nodi sylwadau a datganiadau ar frys yn dymuno ystyried hynny.

Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw p'un a all Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau uchelfraint i roi hysbysiad i dynnu yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Wrth geisio ymyrryd mewn unrhyw apêl, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio atgyfnerthu pwysigrwydd sofraniaeth seneddol a rheolaeth y gyfraith—egwyddorion sefydledig craidd o gyfraith gyfansoddiadol Prydain. Ar sofraniaeth seneddol, mae'r dyfarniad yn dyfynnu y diweddar Arglwydd Bingham o Cornhill mai,

Sylfaen cyfansoddiad Prydain yw... goruchafiaeth y Goron yn y Senedd.

Ar reolaeth y gyfraith, mae’r llys yn cadarnhau mai sicrhau bod y Goron, hynny yw, y Llywodraeth Weithredol, yn ddarostyngedig i’r gyfraith yw sylfaen rheolaeth y gyfraith yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn syml, mae’r achos hwn, wrth ganfod na cheir defnyddio’r uchelfraint yn absenoldeb awdurdod clir i newid y gyfraith a ddeddfwyd gan y Senedd, yn ymwneud â hanfod ein democratiaeth gynrychioliadol. Fel y dywedodd y llys,

mae'r Deyrnas Unedig yn ddemocratiaeth gyfansoddiadol wedi’i fframio gan reolau cyfreithiol ac yn ddarostyngedig i reolaeth y gyfraith. Mae gan y llysoedd ddyletswydd gyfansoddiadol sylfaenol i reolaeth y gyfraith mewn gwladwriaeth ddemocrataidd i orfodi rheolau cyfraith gyfansoddiadol yn yr un modd ag y mae'r llysoedd yn gorfodi cyfreithiau eraill.

Ar ôl amlinellu'r hyn y mae’r achos yn ymwneud ag ef, dylwn hefyd nodi yr hyn nad yw'n ymwneud ag ef. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl glir, ac rwy’n ailadrodd y farn honno yn awr, bod Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm, ac yn sicr nid yw hyn yn ymwneud â gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw.

Er bod yr achos, hyd yma, wedi canolbwyntio ar effaith sbarduno erthygl 50 ar hawliau unigol, mae bwriad arfaethedig Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint yn y modd hwn yn berthnasol i berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol y Cynulliad hwn â'r Senedd. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn cyfeirio at Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel statud o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr, ac o ganlyniad canfu y dylai fod wedi’i

heithrio rhag diddymiad tybiedig didaro gan y Senedd,

neu dylid diddymu ei heffeithiau cyfreithiol trwy ddefnyddio pwerau uchelfraint. Mae y tu hwnt i bob amheuaeth bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn statud cyfansoddiadol. Ni ddylid defnyddio Pwerau Gweithredol i ddiystyru ei darpariaethau oni bai bod sail statudol glir ac amlwg dros wneud hynny. Nid yw'r defnydd o'r uchelfraint, yn fy marn i, yn sail gyfreithlon naill ai, yn gyntaf, i greu newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad hwn pan fo cydweddiad â chytundebau Ewropeaidd a'r gyfraith a grëwyd ganddynt yn brawf o gymhwysedd deddfwriaethol ar hyn o bryd, neu, yn ail, i sicrhau newidiadau i bwerau Gweinidogion Cymru na ellir eu harfer mewn modd anghydnaws â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hysbysiad o dynnu'n ôl o gytundebau ar sail yr achos a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anochel, felly, yn achosi newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru.

Lywydd, mae’r cysylltiad rhwng yr egwyddor hanesyddol o sofraniaeth seneddol a'r Cynulliad fel deddfwrfa fodern, ddatganoledig yr un mor glir. Gan mai’r Senedd sydd wedi deddfu y cynllun datganoli yng Nghymru, y Senedd ac nid y Weithrediaeth ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, a dylai wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn. Ni ddylid osgoi’r berthynas gyfansoddiadol ehangach sydd wedi'i sefydlu ac sy’n parhau i ddatblygu. Yn wir, un o'r heriau a ddaw yn sgil y DU yn gadael yr UE fydd datblygu perthynas fwy effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, yn seiliedig ar gyd-barch at hawliau a chyfrifoldebau ei gilydd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn olaf, mae camau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn berthnasol i berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU. Dylai unrhyw broses barchu a datblygu cysylltiadau rhynglywodraethol. Dyna pam yr wyf i wedi gwneud y penderfyniad fel Cwnsler Cyffredinol i geisio ymyrryd mewn unrhyw apêl arfaethedig.

Gwnsler Cyffredinol, rydych chi wedi amlinellu yn eich datganiad yr hyn y mae’r achos llys yn ymwneud ag ef ac yn amlwg mae barnwriaeth annibynnol yn hanfodol i'n cyfansoddiad a’n rhyddid. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth y DU hefyd yr hawl i anghytuno â phenderfyniad y llys a dyna pam ei bod yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys pan fo'n rhaid dilyn proses y gyfraith. Fel y mae’n dweud, pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb

Ewropeaidd mewn refferendwm a gymeradwywyd gan Ddeddf Seneddol, ac mae'r llywodraeth yn benderfynol o barchu canlyniad y refferendwm hwnnw.

Yn amlwg, y Goruchaf Lys yn awr fydd yn penderfynu pa un o'r ddwy ddadl y mae ef o’r farn y dylid rhoi blaenoriaeth iddi. Nid fy lle i nawr yw awgrymu fel arall. Ond rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno, yn gyfansoddiadol, mai dyletswydd gyntaf Prif Weinidog ar Lywodraeth bob amser yw diogelu sofraniaeth ac uniondeb y DU pan fo’r bobl yn ymddiried sofraniaeth—sef awdurdod y wladwriaeth i lywodraethu ei hun heb unrhyw ymyrraeth o ffynonellau neu gyrff y tu allan iddi—i Brif Weinidog a Llywodraeth ac yn disgwyl iddynt ei throsglwyddo yn gyfan i'w holynwyr oni bai bod y bobl yn cydsynio fel arall. Dylid cofio ac ystyried, fel y clywsom yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan dystion ddoe, nad yw sofraniaeth seneddol, yn dechnegol, wedi bod yn gymwys ers y Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd yn 1972 a’r unig ffordd o’i hadfer fyddai tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, onid yw Llywodraeth y DU yn gywir i ddatgan ei bod yn ddyletswydd arni i beidio â chwestiynu neu ddadlau neu gymryd camau yn ôl ar yr hyn y maen nhw wedi cael cyfarwyddyd i’w wneud, ond mae'n rhaid iddynt fwrw ymlaen â'r gwaith o adael yr UE? Fel y dywedant, maen nhw’n awyddus i roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau yn y DU fasnachu a gweithredu yn y farchnad sengl a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth yma. Nid ydynt yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dim ond i roi'r gorau i reoli ffiniau neu ddychwelyd i awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop.

Mae’r Bil diddymu mawr, yr wyf i o’r farn ei fod yn hanfodol i’r camau gweithredu yr ydych yn awr yn eu cynnig, yn ceisio rhoi diwedd ar oruchafiaeth gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn y DU trwy drosi holl ofynion yr UE i gyfraith Prydain cyn gynted ag y bydd Prydain, neu, ddylwn i ddweud, y Deyrnas Unedig, yn gadael y bloc. Bydd yn pasio drwy'r Senedd ar yr un pryd â’r trafodaethau â Brwsel a bydd yn gweithredu diwedd awdurdod Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn y DU ar y diwrnod cyntaf y byddwn yn gadael yr UE. Yn allweddol, bydd y broses hon yn digwydd ar wahân i drafodaethau erthygl 50, a fydd yn gweithredu’r mecanwaith ffurfiol i adael yr UE.

O ystyried bod eich datganiad ysgrifenedig i’r Aelodau ddydd Gwener diwethaf, pan wnaethoch gyhoeddi am y tro cyntaf eich bwriad i wneud cais i gael caniatâd i ymyrryd yn yr apêl arfaethedig gerbron y Goruchaf Lys, yn rhestru’r rhesymau a roddoch am hynny, yn seiliedig ar y dyfarniad gan yr Uchel Lys a'r Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, ac y bydd y materion a godir gennych yn destun trafod dwyochrog neu bedrochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU neu bedair gwlad y DU, ac nid trafodaethau erthygl 50, onid yw hynny'n annilysu eich cyfraniad mewn achos cyfreithiol o ran a gaiff Llywodraeth y DU ddechrau trafodaethau erthygl 50 ai peidio, sy’n fater ar wahân, heb gael cymeradwyaeth seneddol?

Ceir manylion y confensiwn presennol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ‘Devolution Guidance Note 9: Parliamentary and Assembly Primary Legislation Affecting Wales’. Mae'n dweud hyn:

Ni fyddai Llywodraeth y DU fel arfer yn cyflwyno nac yn cefnogi cynigion i ddeddfu yn gysylltiedig â Chymru ar bynciau lle mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol heb ganiatâd y Cynulliad. Os bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i gynnwys darpariaethau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn Bil seneddol, yna bydd angen i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Cynulliad trwy gyfrwng Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Felly, sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad i'r pwyllgor materion allanol ddoe gan yr Athro Michael Keating, mewn tystiolaeth i bwyllgor yn yr Alban, bod Ysgrifennydd Gwladol yr Alban wedi dweud na fyddai'r Bil diddymu mawr yn gyfle i dynnu’n ôl y pwerau datganoledig?  Mynegodd yr Athro Keating ei farn ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud hyn.

Ddoe, yn yr un pwyllgor, mynegodd y Prif Weinidog ei farn bod pobl yn cael symud yn rhydd, yn gorfod gwneud cyfraniadau ariannol i'r UE, a bod yn ddarostyngedig i ddyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, yn eilradd i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl.

Felly, sut ydych chi’n ymateb i'r dystiolaeth a roddwyd ddoe gan yr Athro Roger Scully i'r pwyllgor mai blaenoriaeth llawer o’r bobl a bleidleisiodd dros ‘adael’ yng Nghymru yw atal pobl rhag symud yn rhydd neu reoli mudo yn yr UE, ac, ychwanegodd, bod hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i wleidyddion fod yn ymwybodol ohono?

Yn olaf, o ran tystiolaeth y Prif Weinidog i'r pwyllgor ddoe, dywedodd, pe byddai’r Bil diddymu mawr yn tresmasu ar bwerau Cynulliad datganoledig, y byddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol. A fyddech chi’n cytuno bod hynny'n golygu, os na fydd y Bil diddymu mawr yn tresmasu ar bwerau'r Cynulliad datganoledig, na fyddai angen cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gallai hynny, felly, gwestiynu'r cyfiawnhad am eich ymyriad ar y mater hwn?

Diolch ichi am y nifer fawr o gwestiynau cymhleth iawn a manwl iawn hynny. Rwy’n gobeithio eich bod wedi eu hysgrifennu nhw i gyd eich hun. Maent yn codi cyfres gyfan o bwyntiau pwysig, er hynny.

Y pwynt cyntaf, o ran sofraniaeth y Senedd—dyna’r union beth y mae’r achos hwn yn ymwneud ag ef. Mae sofraniaeth y Senedd a rheolaeth y gyfraith yn bwysig nid yn unig i Senedd y Deyrnas Unedig, ond hefyd i’r Cynulliadau datganoledig. Dyna pam y mae Gogledd Iwerddon mewn gwirionedd yn mynd i gymryd rhan yn yr achos hwn a dyna pam y mae’r Alban wedi cyhoeddi y bydd yn ymyrryd yn yr achos hwn, ac rwy'n falch y bydd gennym gefnogaeth yr Alban i'r penderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud yng Nghymru i ymyrryd yn yr achos penodol hwn, oherwydd mae’n hanfodol bod gan y Llywodraethau datganoledig lais, llais clir, mewn proses enfawr sy'n mynd i achosi newid cyfansoddiadol sylweddol.

Gadewch i ni ymdrin â mater y Bil diddymu mawr i ddechrau. Byddwn yn amlwg yn adolygu hynny pan fyddwn yn gwybod mewn gwirionedd beth sydd yn y Bil diddymu; nid oes gennyf unrhyw wybodaeth o gwbl. Ond, gan ystyried y pwynt a wnaethoch am gynigion cydsyniad deddfwriaethol, wrth gwrs, os bydd y Bil diddymu mawr yn tresmasu ar feysydd sy'n ymwneud â'r setliad datganoledig ar gyfer Cymru, yna, yn amlwg, bydd angen cydsyniad y Cynulliad ac, yn amlwg, gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Os na fydd yn ymyrryd ar unrhyw beth sy'n ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig, efallai y bydd cysylltiadau ac effeithiau cyfansoddiadol eraill sy'n peri pryder. Mae’n amhosibl dweud, nes fy mod yn gwybod mewn gwirionedd beth sydd yng nghynnwys unrhyw Fil diddymu mawr, beth yw ei strwythur, beth yw ei amcanion, a beth yw'r amserlen. Felly, yn sicr nid yw’n annilysu cymryd rhan, ac, yn wir, rwyf o’r farn y byddwn yn methu yn fy nyletswydd, fel swyddog y gyfraith ar gyfer Cymru, gydag un o'r prif gyfrifoldebau am reolaeth y gyfraith—os na fyddai llais clir o Gymru yn y Goruchaf Lys pan fydd yr holl faterion hyn sydd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr yn cael eu hystyried. A dewch i ni fod yn onest am hyn—mae'n debyg mai dyma'r achos cyfansoddiadol pwysicaf ers achos llys a dienyddiad Siarl y Cyntaf.

O ran safbwyntiau Michael Keating a'r Athro Scully ynglŷn â gallu pobl i symud yn rhydd, nid oedd y problemau ynghylch natur unrhyw Brexit neu ganlyniad sbarduno erthygl 50 yn fater gerbron y llys, ac ni fydd yn fater yn y Llys Goruchaf ei hun. Mae hyn yn ymwneud â'r broses yn unig a phwy mewn gwirionedd sydd a’r awdurdod. Byddwn hefyd yn tynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod cwtogi’r uchelfraint frenhinol dros y 300 mlynedd diwethaf wedi bod yn un o'r datblygiadau cyfansoddiadol pwysicaf yn natblygiad sefyllfa gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, gan sefydlu sofraniaeth y Senedd a sicrhau bod Gweithrediaeth yn atebol i'r Senedd etholedig gynrychioliadol.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am ei ymyriad yn y mater pwysig hwn. Hoffwn hefyd gysylltu Plaid Cymru â'r teimladau a fynegwyd ganddo ynghylch rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth y farnwriaeth.

Yn sicr, mae canlyniadau pellgyrhaeddol i’r dyfarniad hwn, a byddant yn parhau, ac mae penderfyniad terfynol y Goruchaf Lys y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Mae'n amlwg y bydd sbarduno erthygl 50, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd, yn arwain at newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru. Mae darpariaethau Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad Cymru, ac ni cheir ymyrryd â nhw na’u diwygio heb i’r wlad hon, a'i deddfwrfa ddemocrataidd, fynegi ei bod yn cydsynio. Byddwn yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol pe gallai ymhelaethu ymhellach ar union natur yr ymyriad arfaethedig hwn yn yr apêl i'r Goruchaf Lys, yn benodol ynghylch pa swyddogaeth ffurfiol y mae’n dymuno ei chael ar gyfer Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o sbarduno erthygl 50. O ystyried ei ymyriad arfaethedig, ai ei farn ef yw, os caiff ei gadarnhau, y bydd dyfarniad yr Uchel Lys yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU ar sbarduno erthygl 50, neu, fel yr awgrymwyd gan rai, y byddai penderfyniad y Senedd yn bodloni gofynion dyfarniad yr Uchel Lys?

Yn ail, a fyddai'n cytuno bod peryglon posibl wrth gynnal egwyddor sofraniaeth seneddol y DU uwchlaw pob ystyriaeth arall, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn? Er enghraifft, os caiff erthygl 50 ei sbarduno trwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn Senedd y DU, yna bydd Llywodraeth y DU yn gallu disodli deddfwriaeth o'r fath ag is-ddeddfwriaeth a allai dresmasu ar faterion datganoledig, ond ni fydd yn gyfarwydd â chynigion cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad hwn neu Seneddau datganoledig eraill, ac ni fydd hynny’n ofynnol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn pryderu y gellid cefnu ar yr egwyddor na fyddai Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb ganiatâd y Cynulliad, wrth i Lywodraeth y DU guddio y tu ôl i egwyddor sofraniaeth seneddol ac y gallai ddadlau nad yw'r rhain yn amgylchiadau arferol?

Yn olaf, Lywydd, mae erthygl 9 o Ddeddf Hawliau 1689 yn sefydlu bod yn rhaid i Ddeddfau Seneddol gael eu derbyn yn gyfan gwbl gan y llysoedd. Byddai hyn yn ei gwneud yn amhosibl i Lywodraeth Cymru herio yn ôl-weithredol unrhyw ymyrryd ar ddatganoli o ganlyniad i ddeddfwriaeth seneddol y DU. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i Filiau’r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwelwyd yn nhymor blaenorol y Cynulliad, pan heriwyd Bil gan Lywodraeth y DU yn y Goruchaf Lys. Pa lwybrau, felly, y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn eu hystyried yn gyfansoddiadol ac yn wleidyddol er mwyn cynnal yr egwyddor a elwir yn sofraniaeth seneddol, ond hefyd sofraniaeth pobl Cymru?

Unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau ystyriol hynny. Byddaf yn gallu rhoi sylwadau i ryw raddau ar rai ohonynt, ond ni fyddaf yn gallu rhoi ateb llawn i chi, oherwydd bod llawer o ffactorau anhysbys. Mae natur yr ymyriad yn union fel yr wyf wedi’i nodi. O ran fy ymyriad, bwriadaf gyflwyno sylwadau ynghylch swyddogaeth y Senedd wrth benderfynu ar unrhyw newidiadau i'r setliad datganoli, y goblygiadau penodol i fwriad Llywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau uchelfraint i sicrhau newidiadau i drefniadau cyfansoddiadol, a chamau yn gysylltiedig ag ymrwymiad y sefydliadau datganoledig i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn llawn. Dyna egwyddorion sylfaenol yr ymyriad.

Nawr, gan fod hwn yn fater o ymgyfreitha sy’n parhau, mae fy nadleuon manwl arfaethedig yn cael eu datblygu ar werthusiad cynhwysfawr o'r dyfarniad llys. Rwyf wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud ynghylch manylion llawn y cyfraniad arfaethedig, ac, os bydd fy nghais i ymyrryd yn cael ei gytuno, bydd rhagor o fanylion am yr achos ar gael maes o law. Fel rhan o'r broses, bydd angen ffeilio ein manylion ein hunain am yr achos, o'r materion yr ydym yn pryderu yn eu cylch y bwriadwn eu codi yn y Goruchaf Lys sy’n ymwneud â'r dyfarniad neu ag unrhyw faterion eraill y gallai'r Goruchaf Lys eu codi yn ystod y gwrandawiad. Felly, bydd yn broses barhaus, ond rydym yn nodi’r egwyddorion, sef, yn y bôn, bod setliad cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig, bod effaith sbarduno erthygl 50 yn cael effaith sylweddol ar hynny, ac mai swyddogaeth y Senedd yw sbarduno trwy arfer ei phwerau deddfwriaethol. Yn wir, mae yna fater, fel y codwyd gennych, o ran a ellid gwneud hyn drwy bleidlais Seneddol ffurfiol neu a fyddai mewn gwirionedd yn rhaid iddo fod drwy ddeddfwriaeth. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn un o'r materion a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Goruchaf Lys er mwyn cael cyfarwyddyd arno, yn dibynnu ar beth yw canlyniad ei ddyfarniad mewn gwirionedd. Mae arbenigwyr cyfansoddiadol wedi mynegi amrywiaeth o safbwyntiau ar hynny. Ac, wrth gwrs, mae posibilrwydd bob amser y bydd y Goruchaf Lys yn gwrthdroi dyfarniad yr Uchel Lys. Wedi dweud hynny, fel yr wyf wedi amlinellu'r safbwynt cyfreithiol cyfansoddiadol, rwy’n hyderus bod honno'n safbwynt cadarn sy’n sicr yn rhoi sail gadarn iawn i ni fod yn bresennol ac i ymyrryd.

O ran materion Sewel—wel, wrth gwrs, mae Sewel yn gonfensiwn nad oes modd penderfynu arni gan Lys. Ond, fel yn achos pob cyfraith gyfansoddiadol, mewn amgylchedd lle nad oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, mae'n fwy na dim ond arfer neu gytundeb—mae ganddi statws cyfansoddiadol. Mae'r sefyllfa a amlinellwyd gan y Prif Weinidog yn un sy’n nodi, os bydd unrhyw effaith ar y setliad datganoli, yna mae'n fater a ddylai ddod gerbron y Cynulliad hwn. Rwy’n credu bod y Prif Weinidog hefyd wedi ei gwneud yn glir iawn y bydd sefyllfa’r Prif Weinidog yn cael ei chryfhau yn sylweddol trwy gael cydsyniad a chefnogaeth y Llywodraethau datganoledig.

O ran—rwy’n credu mai’r pwynt am erthygl 9 oedd hyn; mewn gwirionedd, mae’n gysylltiedig â swyddogaeth y llys ac yn gysylltiedig â deddfwriaeth fel y cyfryw. Fel yr eglurwyd yn y dyfarniad ei hun, swyddogaeth y llys yw dehongli’r gyfraith. Mae'r gyfraith, os caiff ei phasio gan y Senedd, yn sofran. Ni all y llysoedd wrthdroi y gyfraith honno—nid oes ganddyn nhw unrhyw swyddogaeth yn hynny o gwbl—ond yr hyn sydd gan y llysoedd yw’r cyfrifoldeb, y ddyletswydd, a’r swyddogaeth o ddehongli'r gyfraith, a dyna'n union sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y camau tuag at y Goruchaf Lys.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ei bod yn gwbl gyfreithlon i herio annibyniaeth barnwyr? Yn wir, mae Deddf Hawliau 1688 yn darparu'n benodol ar gyfer hyn oherwydd gall barnwr gael ei ddiswyddo yn dilyn penderfyniad gan ddau Dŷ'r Senedd. Yn yr achos yn y Goruchaf Lys yn ymwneud â’r Cadfridog Pinochet, o ran a oedd ganddo imiwnedd rhag erlyniad fel cyn bennaeth y wladwriaeth yn Chile, canfuwyd bod yr Arglwydd Hoffmann wedi ei analluogi ei hun rhag clywed yr achos a phenderfynwyd gwrthdroi’r penderfyniad ar sail ei bleidgarwch posibl. Felly, nid oes unrhyw beth o'i le mewn gwleidyddion yn mynegi barn naill ai ar y dyfarniadau y mae’r barnwyr wedi dod iddynt, neu yn wir, eu cymhwysedd neu fuddiant arall i wneud hynny. Wedi dweud hynny—

Ceir yn y lle hwn y Rheol Sefydlog, ac rydym yn cael ein llywodraethu ganddo, fel y nodais y bore yma.

Rwyf ond yn sôn yn nhermau egwyddor gyfansoddiadol ac nid wyf yn mynegi barn ar unrhyw farnwr unigol. I mi fy hun, os caf ddweud, nid oes gen i yn bersonol unrhyw broblem gyda’r dyfarniad hwn yn yr Uchel Lys. Mae'n ymddangos i mi na ddylai bod unrhyw anhawster o ran y Senedd yn darparu modd o bleidleisio ar y mater os mai dyna sy’n ofynnol, a bydd yn ddiddorol gwybod a fydd Llafur, Plaid Cymru a'r pleidiau eraill yn rhoi grym i ewyllys y bobl, fel y mynegwyd mewn refferendwm, mewn pleidlais o'r fath. Oherwydd er bod yr achos hwn yn seiliedig ar y cwestiwn o uchelfraint frenhinol ac i ba raddau y ceir ei defnyddio i ddechrau'r broses o weithredu ein proses o dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, yr hyn yr ydym mewn gwirionedd yn sôn amdano yma yw uchelfraint y bobl, fel y mynegwyd mewn pleidlais yn y refferendwm, ar y cwestiwn syml: a ddylai'r DU barhau i fod yn aelod o'r UE neu adael yr UE—heb y petai a’r petasai nac unrhyw amodau ynghylch a oes gennym gytundeb olynol gyda'r UE neu’n aros yn y farchnad sengl, neu beth bynnag. Mae'r bobl wedi penderfynu ar y mater hwn ac mae dyletswydd foesol ar y Senedd i barchu eu dymuniadau. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn hynny.

Rwy’n nodi o'r dyfarniad, er i’r Cwnsler Cyffredinol gael ei gynrychioli yn yr achos yn yr Uchel Lys, na wnaeth y cwnsleriaeth, ar ei ran, gymryd unrhyw ran, mewn gwirionedd, yn y trafodion. A yw'n fwriad ganddo, yn y Goruchaf Lys, ei fod yn cael ei gynrychioli, nid gan unigolyn mud, ond gan rywun a fydd yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau? Felly, a fydd e’n cefnogi barn y Llywodraeth mai uchelfraint y bobl y bydd y Llywodraeth yn ei weithredu, wrth sbarduno erthygl 50?

Mae’r dyfarniad yn fy synnu braidd mewn rhai ffyrdd. Er ei bod yn gyfraith sefydledig na chaiff y Goron, trwy ddefnyddio ei huchelfraint, newid cyfraith y tir a'r hawliau a'r rhwymedigaethau a orfodir neu a roddir i unigolion preifat—ac mae hynny’n mynd yn ôl cyn belled â'r Achos o Ddatganiadau ym 1610, a daeth yn gwbl gyfredol mewn achos yn 1916 o’r enw Zamora, y cyfeiriwyd ato hefyd yn y dyfarniad—nid yw’r ffaith o roi rhybudd o dynnu'n ôl o gytundeb, ynddo'i hun, yn golygu diddymu unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, er mwyn gweithredu’r broses o dynnu'n ôl, bydd yn rhaid diddymu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd ei hun ac felly bydd hynny’n mynd trwy'r prosesau seneddol arferol. Ac mae’n rhaid deddfu ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth sy'n ddibynnol arni yr ydym am ei chadw, hyd yn oed am gyfnod dros dro yn unig, trwy gyfrwng Bil cadarnhaol arall. Felly, mae deddfwriaeth sylfaenol yn sgil-gynnyrch anochel i sbarduno erthygl 50, ac felly mae’n rhaid parchu priodoldeb seneddol a bydd yn cael ei barchu trwy gydol y broses gyfan.

Felly, byddai gennyf ddiddordeb i wybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, ac felly, bydd goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, fel y cyfeiriodd ato, yng ngeiriau yr Arglwydd Bingham, nid yn unig yn cael ei pharchu, ond yn cael ei hwyluso, oherwydd, fel y mae ar y funud—dyma'r pwynt olaf yr wyf am ei wneud—o ganlyniad i’n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi creu trefn gyfreithiol newydd yn Ewrop, sydd mewn gwirionedd yn uwchraddol i'r Goron yn y Senedd. Felly, diben y broses gyfan hon, yr ydym yn awr yn dechrau cymryd rhan ynddi, yw adfer goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, ac yn y pen draw, rym pobl Prydain i benderfynu pwy fydd yn eu llywodraethu.

Diolch i chi am y cwestiynau a’r awgrymiadau hynny, ac mae’n rhaid i mi ddweud, bod rhai ohonynt yn gwrth-ddweud ei gilydd—a rhai ohonynt yn ddryslyd. Ond, dim ond i ymdrin i ddechrau â mater annibyniaeth y farnwriaeth—yr oedd yr Aelod, rwy'n falch o hynny, yn dweud ei fod yn ei gefnogi—mae'n syniad da, gan fod Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, er enghraifft, yn datgan yn glir iawn ei bod yn ofynnol i’r Arglwydd Ganghellor, Gweinidogion

eraill y Goron a phawb sy'n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â'r farnwriaeth, neu fel arall i weinyddu cyfiawnder, gynnal annibyniaeth barhaus y farnwriaeth.

Dyna'r sefyllfa statudol. Felly, ni fyddwch yn synnu—ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelod wedyn yn datgysylltu ei hun oddi wrth y sylwadau a wnaed gan ei arweinydd dros dro, Nigel Farage, a ddywedodd y byddent yn arwain gorymdaith o 100,000 o bobl i'r Goruchaf Lys a bod pobl mor ddig y gallai trais godi yn hawdd o ganlyniad i hynny. Mae hynny, hyd y gallaf i ei weld, yn ymgais i fygwth barnwriaeth annibynnol. Rwy’n gobeithio y bydd yn datgysylltu ei hun oddi wrth unrhyw awgrym o'r fath, a hefyd yn datgysylltu ei hun oddi wrth y datganiad a wnaed gan Suzanne Evans sy’n cystadlu i fod yn arweinydd UKIP, a awgrymodd y dylai barnwyr wynebu'r posibilrwydd o gael eu diswyddo gan ASau yn sgil achos erthygl 50. Rhybuddiodd am farnwyr yn ymyrryd a'r gwrthdaro buddiannau ac, yn y bôn, nododd yn glir iawn, oni bai bod barnwyr yn cytuno ag UKIP, y byddent mewn gwirionedd yn dymuno gweld ffyrdd o’u diswyddo.

Mae'n ymddangos i mi yn wrthddywediad llwyr bod yr hyn a ddigwyddodd, mewn gwirionedd, yn ystod y refferendwm, a oedd yn rhannol ynglŷn â’r cysyniad o sofraniaeth y Senedd—ond mae'n ymddangos ei fod ynglŷn â sofraniaeth y Senedd ac annibyniaeth y farnwriaeth, cyn belled â’ch bod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, fel arall, gellir ei osgoi mewn gwirionedd. Rwy’n gobeithio y byddwch yn nodi’n glir iawn yn eich datganiadau ar ôl hyn eich bod mewn gwirionedd yn datgysylltu eich hun oddi wrth y sylwadau ymfflamychol hynny sydd wedi cael eu gwneud.

Ni fydd gan y dyfarniad—beth bynnag fydd penderfyniad y Goruchaf Lys—unrhyw beth i'w wneud â dadl y refferendwm Ewropeaidd, y manteision neu’r anfanteision fel arall. Rwyf wedi dweud hynny yn glir iawn yn y datganiad llafar a wneuthum. Fe'i gwnaed yn glir iawn yn y dyfarniad. Mae hyn yn ymwneud â beth yw'r dull cyfreithiol, democrataidd, cyfansoddiadol ar gyfer sbarduno erthygl 50 mewn gwirionedd, o ganlyniad i’r datganiad gan Lywodraeth y DU bod sbarduno erthygl 50 yn broses nad oes modd ei gwrthdroi—sy’n golygu, ar ddiwedd y broses honno, y byddai deddfwriaeth statudol mewn gwirionedd wedi’i dirymu. Roedd yn ymwneud â’r mater o beth fyddai’r dull o ddisodli deddfwriaeth sylfaenol yr oedd y Senedd wedi’i chreu mewn gwirionedd a sut y gellid gwneud hynny—a ellid ei wneud gan weithrediaeth neu a ellid ei wneud gan y Senedd ei hun? Mae'r Goruchaf Lys wedi derbyn y dadleuon a gyflwynwyd mai dim ond y Senedd ei hun all wneud hyn, oherwydd yr egwyddorion cyfansoddiadol sydd wedi'u sefydlu dros 300 mlynedd sydd mewn gwirionedd yn ymwneud ag amddiffyn ewyllys y bobl ac atal ein sefydliadau democrataidd rhag cael eu camfeddiannu.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Os caf ddweud, mae’n ddatganiad o ffaith sydd i'w groesawu ac yn ddyfarniad da yn y ddadl, dros y dyddiau diwethaf, y tu allan i'r Siambr hon, sydd, yn rhy aml o lawer, heb gynnwys llawer iawn o’r naill na’r llall. Heddiw o bob diwrnod, efallai y byddwch yn cofio bod ail Arlywydd yr Unol Daleithiau, John Adams, wedi disgrifio Prydain Fawr fel cenedl o ddeddfau y mae'r Goron yn ddarostyngedig iddynt. Dan unrhyw amgylchiadau eraill, mae’r syniad y gallai hawliau a roddwyd gan y Senedd ddiflannu yn dilyn penderfyniad gan y Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn warthus, ac nid yw hyn yn ddim gwahanol.

Rwyf wedi deall o’i sylwadau heddiw, yn y datganiad a’r ymatebion, ei fod yn awgrymu bod yna amgylchiadau, yn ei farn ef, lle y gallai'r sbardun seneddol o erthygl 50 arwain at gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad hwn. Tybed a wnaiff gadarnhau hynny. Yn ail, a wnaiff ef ddweud wrthym, yn ei farn ef, a yw’r Arglwydd Ganghellor wedi cydymffurfio â'i rhwymedigaethau statudol, y mae ef wedi eu darllen yn y Siambr, sydd mor sylfaenol er mwyn gweinyddu cyfiawnder yn briodol—i amddiffyn annibyniaeth y farnwriaeth? Oherwydd, yn fy marn i, mae hi wedi methu’n gywilyddus â gwneud hynny.

Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Natur y deddfau y mae'r Goron yn ddarostyngedig iddynt, yn fy marn i, yw union hanfod yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg o fy natganiad i ac a ddaeth i’r amlwg o ddyfarniad yr Uchel Lys, a hwn fydd y prif fater a gaiff ei ystyried gan y Goruchaf Lys. Os ydym ni eisiau rhoi hyn mewn persbectif hanesyddol o ddifrif, mae'n egwyddor sydd wedi arwain at gael gwared ar ddau frenin; mae'n egwyddor a arweiniodd at ryfel cartref, chwyldro gogoneddus, deddf hawliau a ymgorfforwyd mewn deddfwriaeth yn ystod cyfnod y rhyfel byd cyntaf, ond roedd hefyd yn fater sylfaenol lle safodd y wlad hon yn erbyn camddefnyddio rheolaeth y gyfraith a chamddefnyddio annibyniaeth y farnwriaeth yn ystod yr ail ryfel byd. Felly, mae strwythur cyfansoddiadol—a diben democrataidd—i hyn i gyd. Byddwn yn dweud bod y rheini sy'n ymosod ar yr egwyddorion cyfansoddiadol ystyriol hynny yn gwneud hynny gan beryglu democratiaeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig.

Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn rhestru'r cynsail hanesyddol, gadewch i ni fynd yn ôl at y Magna Carta, a oedd yn dweud y dylai cyfreithiau Cymru gael eu cymhwyso yn nhiroedd Cymru. Gadewch i ni gofio, felly, y bydd sbarduno erthygl 50 yn cael effaith wirioneddol ar gyfraith ddomestig Cymru. Felly, rwyf yn llwyr gefnogi ei benderfyniad i wneud cais i fod yn rhan o'r achos yn y Goruchaf Lys. Rwy'n credu ei fod wedi cymryd y cam cywir ar ran pobl Cymru, ac ar ran y Cynulliad hwn hefyd, fel Senedd yng Nghymru. Ac a gaf i ddweud pa mor wych yw hi ei fod wedi gwneud hyn cyn yr Alban?  Oherwydd, fel arfer, rydym yn gwneud pethau ar ôl yr Alban, ond y tro hwn roedd yn arwain y ffordd. A wnaiff ef gadarnhau ei ddealltwriaeth, yr wyf yn meddwl ei fod yn ei ddatganiad, a’m dehongliad i o'r hyn yr oedd gan yr Uchel Lys i’w ddweud yn glir iawn—mai oherwydd bod hyn yn cael effaith ar gyfraith ddomestig y dylai fod yn benderfyniad a gymerir gan y Senedd? Byddwn wedi meddwl y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn Aelod Seneddol am amddiffyn hynny i'r carn, p'un a ydynt yn Aelod o’r Senedd hon neu Senedd San Steffan nawr. Mae'n benderfyniad sydd wedi ei eirio'n glir iawn, a gallai gael ei wneud o bosibl gan gynnig gerbron y Senedd yn hytrach na Bil. Rydw i'n synnu braidd at frys San Steffan i ddweud bod yn rhaid i hwn fod yn Fil. A wnaiff ef gadarnhau mai cynnig, yn ei farn ef, oherwydd bod angen iddo gyflwyno dadl fanwl yn rhan o'r achos hwn nawr—a fydd e’n dadlau y gallai hyn gael ei wneud gan gynnig hefyd? Oherwydd rwyf i’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr ASau a alwodd y refferendwm yn refferendwm ymgynghorol nad oedd yn rhwym yn cymryd sylw o hynny ac yn dehongli’r refferendwm yn y modd gwleidyddol gorau, ond nid wyf i’n ystyried refferendwm gan San Steffan yn un sy’n fy rhwymo i fel Aelod o'r Cynulliad. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni amddiffyn yr hyn sydd orau i Gymru yn y broses hon. Yn sicr, yr hyn sydd orau i Gymru, cyn sbarduno erthygl 50, yw bod craffu seneddol priodol ar waith o’r hyn fydd canlyniad tebygol y sbarduno, a beth fydd ei effaith ar ein deddfwriaeth ddomestig.

A wnaiff ef ddweud ychydig mwy am amddiffyniad y farnwriaeth? Darllenodd yn fyr o Ddeddf 2005, a oedd yn dweud bod yr Arglwydd Brif Ustus a’r swyddogion ac yn y blaen yn amddiffynwyr. Roedd ychydig yn anodd i'r Arglwydd Brif Ustus amddiffyn y farnwriaeth ar yr achlysur hwn, gan fod yr Arglwydd Brif Ustus yn un o'r tri barnwr a wnaeth y penderfyniad, mewn gwirionedd—ac yn benderfyniad da iawn gan Gymro da hefyd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn clywed mwy o San Steffan. Yw e'n cynnal trafodaethau gyda phobl fel Liz Truss, a ddylai fod yn dweud llawer mwy am annibyniaeth y farnwriaeth? Dylai hi fod yn egluro i bobl. Efallai bod elfen addysgiadol yma. Mae angen i bobl ddeall pam mae gennym wahaniad o ran pwerau a pham mae’r farnwriaeth yn gweithredu yn y modd hwn i gynnal rheolaeth y gyfraith, oherwydd hebddo bydd gennym y sefyllfa sydd gennym nawr heddiw yn America gyda phobl fel Donald Trump yn dweud y dylai barnwyr Mecsico gael eu diswyddo oherwydd eu bod yn gwneud dyfarniadau sydd yn mynd yn erbyn ei fuddiannau gwleidyddol a masnachol ef ei hun. Dyna'r math o beth yr ydym eisiau amddiffyn yn ei erbyn, a dyna pam mae mor bwysig i ni gael cadarnhad o annibyniaeth y farnwriaeth.

Yn olaf, a wnaiff ef ddweud ychydig—rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gofyn y cwestiwn hwn iddo—beth fyddai cost debygol bod yn rhan o’r penderfyniad hwn, yr wyf yn ei gefnogi? Rwy'n credu bod angen i ni wybod beth yw'r gost, a beth fydd goblygiadau tebygol hynny. Pwy y mae’n debygol o’i ddefnyddio o ran ymgysylltu â CF amlwg er mwyn symud yr achos hwn yn ei flaen?

Iawn. Byddaf yn ymdrin yn gyntaf â’r pwynt am gynnig cydsyniad deddfwriaethol, eto, ac rwy’n credu bod yr Aelod Jeremy Miles wedi codi’r pwynt hwn hefyd. Rwy’n cofio nawr na wnes i, mewn gwirionedd, ateb hwnnw yn benodol. Rwy'n credu ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar yr hyn sydd yn y Bil diddymu mawr. Ni fyddwn yn gwybod hynny hyd nes y ceir llawer mwy o sylwedd i hynny. Mae amrywiaeth eang o faterion ychwanegol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud a'r cyfnod ar ôl i erthygl 50 gael ei sbarduno, sef y mater o ddychwelyd pwerau a sut y gall hynny gael effaith hefyd. Felly, ni fydd y Goruchaf Lys yn ymdrin â’r pwyntiau penodol hynny. Bydd yn ymdrin â'r pwynt o egwyddor, sef: beth yw'r dull cyfansoddiadol priodol ar gyfer sbarduno erthygl 50. Rydych chi’n gwneud y pwynt, hefyd, o ran swyddogaeth yr Arglwydd Brif Ustus wrth amddiffyn annibyniaeth y farnwriaeth. Wrth gwrs, fel yr ydych yn ei ddweud, roedd yn un o'r tri barnwr. Ond wrth gwrs, mae adran 3 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, yn ei gwneud yn glir iawn, iawn bod yr Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion y Goron, ac ystod gyfan o bobl eraill sy'n gysylltiedig â’r farnwriaeth a gweinyddu cyfiawnder, ac sy’n ymwneud â hynny, yn gyfrifol am hynny. Yr hyn y mae'r Ddeddf yn ei wneud yw sefydlu goruchafiaeth gyfreithiol annibyniaeth y farnwriaeth. Rwy'n credu y bydd yn fater i’r Senedd yn bennaf, rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, i godi materion o ran y pwyntiau a godwyd yn gysylltiedig â swyddogaeth yr Arglwydd Ganghellor. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol i mi wneud sylwadau pellach, ond rwyf wedi darllen yr adran, ac rwyf wedi nodi sylwadau ychwanegol am yr hyn yr wyf yn meddwl sy'n bwysig am annibyniaeth y farnwriaeth.

O ran beth fydd y gost, byddwn ni’n gallu darparu'r wybodaeth honno maes o law. Nid oes gennyf yr wybodaeth honno ac, wrth gwrs, mae'n dibynnu ar nifer o ffactorau o ran faint o waith, nifer y cynadleddau rhwng nawr a'r pumed, hyd yr achos, ac a oes unrhyw orchmynion cost ar ddiwedd y broses benodol honno.

O ran cynrychiolaeth, byddaf yn darparu manylion hynny mewn datganiad arall. Yn amlwg, byddwn yn trefnu cynrychiolaeth arbenigol yn y llys, a bydd hynny'n ymyriad uniongyrchol a chyflwyno papurau sy'n amlinellu beth yw ein meysydd diddordeb penodol yn yr ymyriad. Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad hwn. Rwy’n credu bod hynny, yn ôl pob tebyg, yn cwmpasu’r holl gwestiynau sydd wedi'u codi hyd yn hyn.

Rwyf yn croesawu’r datganiad hwn gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd ei fwriad datganedig i ymyrryd yn y Llys Goruchaf. Ond, cyn i mi droi at rai materion manwl, mae wedi bod yn wythnos ddiddorol, ac yn ddi-os mae rhai ymdrechion wedi bod i fwrw amheuon ar uniondeb penderfyniad yr Uchel Lys ac annibyniaeth y farnwriaeth. Rwyf i’n hoff o’r cyfryngau cymdeithasol, ac nid wyf yn credu y gallai unrhyw un fod wedi ei grynhoi yn well i mi na chyn gapten Catrawd Corfflu 29 y Magnelwyr Brenhinol, a wasanaethodd yn Affganistan ac sydd hefyd yn digwydd bod yn Aelod Seneddol Ceidwadol sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a ddywedodd mewn neges drydar:

Treuliais hanner fy mywyd mewn gwledydd lle mae'r farnwriaeth yn gwneud yr hyn y mae gwleidyddion yn dweud wrthynt ei wneud. Ni fyddech eisiau byw yno. Tyfwch i fyny.

Ond os gallaf droi at y materion sydd o bwys yma. Mae croeso mawr, a ran amseroldeb ac eglurder y datganiad, i weld ei esboniad bod y defnydd o'r uchelfraint, ym marn y Cwnsler Cyffredinol, yn gwbl gyfyngedig o ran yr hyn y gall ei wneud o ran newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad hwn, a hefyd ar newidiadau i bwerau Gweinidogion Cymru. Mae’n dda iawn gweld yr eglurhad hwnnw. Un maes y byddwn yn gwerthfawrogi cael rhywfaint rhagor o eglurhad arno yw’r broses a'r modd y ceisir cydsyniad y Cynulliad hwn. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn eithaf clir mai’r Senedd, ac nid y Weithrediaeth, ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, ac i wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn. A all ef, ar y cam hwn—ac rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhaid i ni aros am benderfyniad y Goruchaf Lys—fwrw unrhyw oleuni pellach ar y broses honno o gael cydsyniad, a'r modd y byddwn ni yn y Cynulliad hwn yn rhoi’r cydsyniad hwnnw hefyd?

Gwnaf fy ngorau i nodi rhai paramedrau, o leiaf, mewn amgylchedd lle nad ydym yn gwybod yn iawn beth yw holl rannau'r jig-so, ac felly ni fyddwn yn gweld y darlun cyflawn am beth amser eto. Ond rydych chi’n codi materion ynglŷn â beth fydd canlyniadau cyfreithiol tynnu'n ôl a swyddogaeth cydsyniad deddfwriaethol. Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn uniongyrchol gysylltiedig â pharhau i gymhwyso cytundebau Ewropeaidd. Pan fydd y Deyrnas Unedig yn tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bosibl y bydd angen diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ein fframwaith ar gyfer datganoli. Bydd y trefniadau cyfansoddiadol sydd wedi’u sefydlu ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ddeddfwriaeth gan y Senedd i ddiwygio'r Ddeddf. Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod yn rhan o’r broses ymgynghori ynglŷn ag unrhyw ddiwygiad o'r fath, a bydd swyddogaeth y Cynulliad yn cael ei hystyried yn ofalus. Nid yw'r trefniadau cyfansoddiadol sy'n ymwneud â chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn cyfeirio at yr uchelfraint oherwydd ei fod yn rhywbeth na ellid bod wedi ei ragweld—y byddai'n cael ei defnyddio yn y modd hwn. Gan mai’r Senedd sydd wedi deddfu’r cynllun datganoli yng Nghymru, y Senedd, ac nid y weithrediaeth, ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, a dylai wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn.

Mewn ffordd annisgwyl i bawb ohonom ni, buaswn i’n meddwl, mae’r Cynulliad yma wedi dod i oed, yn gyfansoddiadol, yn gyfreithiol, ac ym mhob ffordd, gyda’r cwestiwn sydd ger ein bron ni heddiw. Rwyf yn meddwl ei bod yn arwyddocaol iawn bod Cwnsler Cyffredinol Cymru yma heddiw wedi llefaru’n gliriach nag y clywais i unrhyw swyddog o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn llefaru ar y mater yma yn San Steffan ddoe. Rwyf yn falch o hynny, oherwydd mae’n dangos bod gyda ni nid yn unig yr ymennydd unigol, ond hefyd y cryfder cyfansoddiadol i sefyll drosom ni ein hunain. Rwyf yn meddwl bod y cwestiynau y mae’r Cwnsler wedi’u gosod ger ein bron ni yn ei ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener yn dderbyniol iawn, a hefyd heddiw, yn rhai y bydd yn rhaid inni eu dilyn i’w gefnogi fo drwy’r broses. Felly, rwyf yn croesawu ei fod o’n cymryd rhan yn y broses ac yn cytuno yn llwyr â’i ddadansoddiad o’r cwestiynau sydd ger ein bron ni.

Ond beth garwn i ofyn yn benodol iddo fo yw un cwestiwn arall: beth fyddai’r posibilrwydd i’r Cynulliad hwn gymryd pwerau yn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a fyddai’n parhau mewn grym yma, pe byddai Senedd y Deyrnas Unedig yn ceisio eu dileu nhw? Hynny yw, beth fyddai’r posibiliadau i’r Alban a Chymru a Gogledd Iwerddon greu parhad o’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn ei heffaith ar ddinasyddion, o fewn y meysydd datganoledig, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd? Nid ydw i’n disgwyl iddo fo ateb y cwestiwn yna heddiw, ond rwyf yn gofyn iddo fo fyfyrio drosto fo.

A gaf i ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei sylwadau ystyriol, oherwydd mae’r rhain yn faterion dwys a sylfaenol bwysig i’n setliad cyfansoddiadol ac i’n trefniadau cyfansoddiadol yn y DU ar gyfer y dyfodol? Mae e'n gywir na allaf roi ateb llawn i hynny. Mae cyhoeddiad diddorol iawn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Brexit and Beyond’, lle gwelais y sylw hwn:

Bydd Brexit yn cael effaith fawr ar ddatganoli. Gall arwain at ail-ganoli wrth i'r DU ailffurfio'r ei hun fel ffurflywodraeth sofran; neu ddatganoli pellach wrth ddatganoli cymwyseddau yr UE. Yn y naill achos neu’r llall, bydd y broses yn anodd ac yn ddadleuol.

Wrth gwrs, mae’r materion hynny, pan fyddwn yn dilyn y broses hon, ac rwy’n credu ei bod yn anochel y byddwn yn gwneud hynny, yna mae’r materion hynny a fydd yn digwydd, ac yn fy marn i dyna’n union yr holl bwynt ynghylch pam mae hwn yn fater i’r Senedd o ran y ddeddfwriaeth, ond wedyn y craffu ar y ddeddfwriaeth honno a’r prosesau cyfansoddiadol hynny.

6. 5. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn—Y Camau Nesaf

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar fand eang cyflym iawn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe rwyf eisiau ailddatgan y cynlluniau hynny ar gyfer buddsoddiad pellach mewn band eang cyflym iawn yn dilyn gorffen rhaglen Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’n huchelgeisiau o ran y rhaglen 'Symud Cymru Ymlaen’ i gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Ni ddylid diystyru ein cyflawniadau hyd yn hyn. Mae Cyflymu Cymru yn brosiect anferth sydd bellach wedi cyflwyno band eang cyflym iawn i bron i 614,000 o gartrefi a busnesau, ac wedi buddsoddi dros £162 miliwn o gyllid yr UE a chyllid cyhoeddus. I fod yn glir, mae hyn yn golygu bod 614,000 o safleoedd na fyddent wedi gallu cael band eang ffeibr cyflym heb ein hymyrraeth ni.

Nid ydym wedi gorffen eto. Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd 100,000 o safleoedd ychwanegol yn cael band eang ffeibr cyflym. Bydd hyn yn golygu buddsoddi hyd at £62 miliwn arall. Ond nid dyna fydd ei diwedd hi. Rydym yn asesu’r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar gyda'r diwydiant telathrebu ar hyn o bryd ynglŷn â £12.9 miliwn ychwanegol i ehangu cwmpas y prosiect Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Dyma'r swm a ragwelwyd gan BT a fydd yn dychwelyd i’r pwrs cyhoeddus drwy’r cymal rhannu enillion yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru cyfredol. Mae angen o hyd i ni gynnal dadansoddiad a deialog manwl â BT ac rydym ni’n disgwyl y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i gyrraedd safleoedd ychwanegol yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru erbyn mis Rhagfyr 2017.

O gofio y bydd y contract Cyflymu Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith paratoi angenrheidiol er mwyn sefydlu'r prosiect olynol ar gyfer buddsoddi mewn band eang. I ailadrodd, mae'r cymal rhannu enillion yn caniatáu i Lywodraeth Cymru elwa ar lwyddiant ein buddsoddiad yn rhwydwaith BT drwy’r prosiect Cyflymu Cymru. Caiff ein cyfran ni ei buddsoddi mewn cronfa, naill ai i’w hailfuddsoddi yn y prosiect neu ei dychwelyd, gan gynnwys llog, i Lywodraeth Cymru yn 2023.

Rydym yn rhagweld, yn seiliedig ar fodelu manwl, y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn y pen draw yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023 wrth i ddefnydd o’r gwasanaethau ffeibr a ariannir gan ein buddsoddiad gyrraedd rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw. Byddwn yn cefnogi’r gweithgarwch hwn drwy ein hymrwymiad i ddarparu £20 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i gefnogi'r gweithgarwch hwn ac i ysgogi buddsoddiad ychwanegol sylweddol.

Rydym yn y cyfnod cynnar o drafodaethau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i sicrhau £20 miliwn ychwanegol o gronfeydd strwythurol er mwyn parhau â'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn. Rydym yn parhau i fod yn ffyddiog y bydd y cyllid ar gael, yn amodol ar gymeradwyaeth gan WEFO, o ganlyniad i warant Trysorlys y DU i anrhydeddu ceisiadau yr UE a gymeradwywyd cyn i’r DU adael yr UE. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mwy yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru a chyfrannu at nodau polisi Llywodraeth y DU. Mae gennym ymrwymiad o £2 filiwn heb ei dalu gan Lywodraeth y DU hefyd tuag at brosiect newydd ar gyfer band eang cyflym iawn.

O gynnwys hyn i gyd, caiff rhaglen Cyflymu Cymru ei thanategu gan gyllideb sector cyhoeddus o hyd at £80 miliwn, a bydd hyn yn ei dro yn ysgogi cyllid cyfatebol gan y sector preifat i ehangu cwmpas band eang ymhellach i'r safleoedd anoddaf i’w cyrraedd ledled Cymru erbyn 2020. Bydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i chwarae rhan, gan gyfrannu £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn gweithredu ochr yn ochr â phrosiect Cyflymu Cymru a phrosiectau olynol, a bod cyllid cyfatebol wedi’i sefydlu i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall y tu hwnt i 2018.

Byddwn yn lansio adolygiad marchnad agored y mis hwn i sefydlu, ar lefel safle fesul safle, lle mae darpariaeth band eang cyflym iawn wedi ei gyflenwi hyd yn hyn a ble y mae’r farchnad yn bwriadu buddsoddi yn ystod y tair blynedd nesaf. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'r farchnad delathrebu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn helpu i lunio a llywio ein hardal ymyrraeth a’n strategaeth gaffael. Wrth ddatblygu'r ymyrraeth nesaf, bydd gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae angen i mi atgoffa’r Aelodau na allwn ddarparu cysylltedd ffeibr heb ystyried y gost.

Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio lansio'r broses gaffael ym mis Chwefror 2017 er mwyn gallu dyfarnu contract ym mis Ionawr 2018. Bydd cyrraedd yr ychydig y cant olaf yn heriol a bydd yn cymryd amser, ond o ddechrau yn awr, byddwn yn y sefyllfa orau bosibl pan ddaw'r prosiect Cyflymu Cymru i ben y flwyddyn nesaf. Diolch. 

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am y datganiad ysgrifenedig ddoe, sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol cyn y datganiad heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Hoffwn feddwl fod canlyniad y cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad y cyfraniadau a wnaed yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf.

Rwy’n gobeithio y caiff llawer o'r trigolion rhwystredig iawn hynny sydd eto i weld budd prosiect Cyflymu Cymru, eu calonogi gan y ffaith fod y cyllid ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael yn gyffredinol ac er mwyn ymestyn cwmpas band eang i'r safleoedd anoddaf eu cyrraedd, erbyn 2020. Bydd pobl yn amheus gan na chyflawnwyd ymrwymiadau blaenorol—nid wyf am ailadrodd dadl yr wythnos diwethaf—ond rwy’n croesawu'r buddsoddiad newydd heddiw.

Wrth i'r prosiect Cyflymu Cymru fynd yn ei flaen, mae’r ddadl, yn fy marn i, yn pellhau oddi wrth sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i bobl, ac yn nes at y defnydd ohono. Ei flaenoriaeth, yn fy marn i, o ran gwerth am arian o'r pwrs cyhoeddus ac o ran darparu band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru, yw rhoi llawer mwy o sylw i annog defnydd ehangach ohono. Rwy’n credu, yn anffodus, nad ydym wedi cael gwybod ryw lawer heddiw am y mesurau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w cymryd i ysgogi galw. Yn fy marn i, un peth yw cael seilwaith o'r radd flaenaf, ond os nad oes neb yn ei ddefnyddio, mae'r cyfle wedi’i wastraffu.

Un o'r beirniadaethau a gefais ynglŷn â’r contract gwreiddiol oedd mai dim ond 0.6 y cant o ddyraniad y gyllideb wreiddiol ar gyfer y prosiect Cyflymu Cymru a neilltuwyd i annog pobl i ddefnyddio band eang cyflym iawn. Gwnaeth y gwerthusiad o raglen band eang nesaf Cymru dynnu sylw hefyd at y diffyg cydgysylltedd a dull strategol o farchnata a chyfathrebu. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog defnydd cyffredinol.

Yn eich datganiad, Weinidog, rydych chi’n cyfeirio at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar y cymal rhannu enillion yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru, sy'n golygu y bydd rhwng £30 miliwn a £50 miliwn ar gael erbyn 2023 i’w ailfuddsoddi. O ystyried y ffaith bod pa un a yw’r cyllid hwn ar gael yn ddibynnol ar gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun, pa gyfran o'r £80 miliwn o gyllid cyhoeddus a gaiff ei neilltuo yn benodol ar gyfer annog datblygu band eang cyflym iawn yn yr ardal ymyrraeth?

Rydych chi hefyd wedi cadarnhau mai 29 y cant o'r ardal ymyrraeth sy’n manteisio ledled Cymru ar fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, a gaf i ofyn i chi ddarparu dadansoddiad o'r ffigurau fesul awdurdod lleol? Roedd y ffigurau diweddaraf a welais mewn cysylltiad â manteisio yn dangos, er gwaethaf y 96 y cant ym Mlaenau Gwent a’r 93 y cant ym Merthyr yn y drefn honno, dim ond 17 y cant a wnaeth fanteisio. Prin bod honno’n gyfradd wych o drosi.

Ac yn olaf, rwyf hefyd yn credu nad yw’r 35 y cant a’r 50 y cant y rhagwelir fydd yn manteisio, yn ganrannau digon uchelgeisiol. Awgryma adroddiad diweddar gan BT y gallai 80 y cant o'r holl eiddo yn y DU fod yn defnyddio band eang cyflym iawn erbyn 2020. Felly, a gaf i ofyn i chi pa fwriad sydd gennych o gynyddu eich targed 2015?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ni soniodd Russell George am y ffaith iddo fynnu cael gwybod yn y pwyllgor fore dydd Iau diwethaf, pa bryd y byddai fy natganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi, ac addewais iddo y byddai'n cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. Felly, roeddwn i’n rhyw obeithio y byddech chi’n rhoi clod i mi am ei gyhoeddi’n eithaf cyflym, dim ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach.

O ran defnydd, mae gennym ymchwil annibynnol i ddangos i ni beth sy'n bosibl a beth sy’n uchelgeisiol. Fel sy’n wir gyda phob technoleg newydd, ceir cromlin safonol y mae’r pethau hyn yn ei dilyn, felly mae tua 29 y cant ar hyn o bryd oddeutu’r hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl, ac mae hynny wedyn yn cyflymu wrth i dechnoleg ymwreiddio. Mae ein gwaith ymchwil annibynnol yn dangos i ni fod rhywle rhwng 35 a 50 y cant yn amcangyfrif realistig o'r hyn y gallem ni ei ddisgwyl. Yn amlwg, mae gennym ni ymgyrch farchnata ac mae gennym ni ymgyrch yn ymwneud â manteisio. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn ategu’r holl ymgyrchoedd preifat a gynhaliwyd gan y darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd i gyd—rydym i gyd yn cael lluoedd ohonyn nhw bob dydd. Maen nhw yn ychwanegol at hynny. Felly, nid wyf yn credu bod modd i chi ddweud nad yw pobl yn ymwybodol o fand eang. A bydd Russell George hefyd yn ymwybodol ein bod yn gweithredu mewn modd ychydig yn sensitif mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, oherwydd nad ydym ni eisiau codi gobeithion pobl nad oes ganddynt fand eang hyd yn hyn yn ormodol.

Felly, yr hyn y byddwn yn annog yr Aelodau i’w wneud yw chwarae eu rhan ledled Cymru, fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, i annog eu hetholwyr i fanteisio ar y band eang sydd ar gael iddyn nhw, ac annog etholwyr sydd, yn ddealladwy iawn, yn teimlo'n rhwystredig am nad oes band eang ar gael iddynt, i annog eu cymdogion y mae band eang ar gael iddynt i fanteisio arno, oherwydd, yn amlwg, mae'r arian a gawn ni drwy rannu enillion yn cynyddu ar gyfer pob un o'r canrannau hynny a gawn. Ac felly, mae'n neges gadarnhaol iawn, os gallwch chi berswadio eich cymdogion i ddefnyddio’r band eang sydd ar gael iddynt, yna bydd gan Lywodraeth Cymru ragor o arian i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ei ddarparu i bobl eraill.

Wrth i’r ymgyrch ledaenu ar draws Cymru, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, byddwn ni’n rhannu ag Aelodau ble y mae yn eu hardal benodol nhw, yn eu hetholaeth neu eu rhanbarth nhw, ac rydym ni wir yn gobeithio y bydd Aelodau yn ein cefnogi â’r marchnata hwnnw, oherwydd, yn amlwg, po fwyaf yr arian a gawn, y gorau. Pe byddem yn cyrraedd 80 y cant, byddai hynny'n wych, oherwydd byddai gennym gymaint yn fwy o arian i ddarparu band eang cyflym iawn neu unrhyw dechnoleg arall i bobl.

Ac ar y nodyn hwnnw, y pwynt yw, wrth gwrs, ar gyfer rhai o'r safleoedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru, nid band eang ffeibr ar ffurf cebl i'ch tŷ fydd hynny. Ond mae'r dechnoleg yn symud yn gyflym, ac felly byddwn yn darparu band eang cyflym iawn i bobl; efallai mai microdon neu dechnoleg lloeren fydd hynny. Ar y sail honno, nid wyf yn dweud y byddwn ni’n gosod un contract monolithig i’w weithredu hyd at ddiwedd y prosiect Cyflymu Cymru; efallai y byddwn ni’n gosod contractau unigol mewn gwahanol ardaloedd, fel y gall BBaChau a darparwyr technoleg eraill gymryd rhan yn y broses gaffael honno, a byddem ni’n awyddus iawn i sicrhau bod hynny’n gallu digwydd.

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am y datganiad yma ar fand eang cyflym. Rydych yn sôn yn y datganiad bod gwaith modelu a rhagolygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn awgrymu y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023, wrth i rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw ddewis defnyddio’r gwasanaethau. So, beth sy’n deillio o hynny? Yn ôl gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, mae disgwyl i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. A allaf i ofyn felly pa asesiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud o unrhyw arian ychwanegol a gaiff ei gynhyrchu os yw’r asesiad hwn yn gywir? Ac yn dilyn y cwestiwn ar pam nad yw pawb sydd yn gallu cael band eang yn cael band eang a’r angen weithiau i godi ymwybyddiaeth, a allaf i ofyn a fydd unrhyw ran o’r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddyrannu er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ddefnyddio’r ddarpariaeth, os ydy hi ar gael? Diolch yn fawr.

Wrth ailadrodd fy atebion i Russell George felly, mae gennym ymgyrch band eang lleol gwerth £1.15 miliwn a phrosiect busnes band eang cyflym iawn gwerth £12.5 miliwn, sy'n marchnata’r cynllun i fusnesau ac er mwyn annog defnydd. Rydym ni’n cydweithio'n agos â Busnes Cymru hefyd er mwyn sicrhau bod busnesau bach yn arbennig yn ymwybodol o'r hyn y gall band eang cyflym iawn ei gyflawni mewn gwirionedd ar gyfer eu busnes. Felly, nid yw’n ymwneud â defnydd yn unig i ni, mae'n ymwneud ag ysgogi twf economaidd Cymru, oherwydd hyd nes y bydd gennych chi fand eang cyflym, weithiau mae'n anodd iawn dychmygu’r hyn y gellir ei wneud ag ef mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni brosiect lle y mae cynghorwyr busnes yn helpu pobl i ddeall pa bethau eraill y gallent ei wneud yn eu busnes pe byddai ganddyn nhw fand eang cyflym iawn.

Ddoe, cefais y fraint o ymweld â chwmni bwyd Puffin draw yn Sir Benfro, cwmni da iawn, a gweld eu technoleg anhygoel y maen nhw’n ei defnyddio wrth gynhyrchu bwyd sylfaenol, wrth gwrs. Maen nhw wedi newid mewn gwirionedd o ddefnyddio band eang cyflym iawn— sef y rheswm pam yr oeddwn i yno i wneud y cyhoeddiad—i fuddsoddi yn ein cynllun taleb gwibgyswllt, oherwydd, gan eu bod yn deall yr hyn y gall y peth ei wneud ar eu cyfer nhw, maen nhw wedi sylweddoli bod buddsoddi mewn gwibgyswllt ar gyfer eu busnes yn fuddsoddiad busnes synhwyrol iawn. Felly, dyna beth yw ein nod mewn gwirionedd. Rydym ni’n bwriadu rhoi gwybod i bobl sut y gall buddsoddi ynddo fod o fudd iddyn nhw ac, felly, y gallai fod yn werth iddyn nhw fuddsoddi mewn adnoddau ychwanegol.

O ran yr hyn yr ydym ni wedi’i amcangyfrif o ran rhannu enillion, mae’r enillion a rennir yn cynyddu’n gyflymach o hyd, felly os cawn ni ganran uwch o ran defnydd cawn yr un lefel o rannu enillion. Rydym ni’n ei seilio ar 35 i 50 y cant gan fod hynny'n amcangyfrif rhesymol. Cofiwch nad targed yw hyn—nid wyf yn pennu targed isel i mi fy hun—amcangyfrif darbodus da o'r arian y gallai ei godi yw hwn. Os yw'n codi mwy o arian, yna byddwn ni’n sicrhau bod gennym ni’r darpariaethau cytundebol ar waith i wario'r arian ychwanegol, ac mae hynny i gyd er lles. Yn amlwg, wrth osod y contract, eto, nid ydym ni’n dymuno bod rhy uchelgeisiol, felly rydym ni’n ei osod gan ddilyn yr hyn y mae gwaith ymchwil annibynnol wedi ei ddweud wrthym sy’n lefel rhesymol o ddefnydd i'w ddisgwyl yn ystod y pedair blynedd nesaf, o ystyried y gromlin safonol ar gyfer defnyddio technoleg newydd y soniais amdani wrth Russell George wrth ateb ei gwestiwn cynharach.

Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Rwy’n croesawu nod Llywodraeth Cymru i ddarparu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer cyflenwi band eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru. Mae'n newyddion da fod 614,000 o gartrefi a busnesau bellach yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. Fodd bynnag, nid yw eich datganiad yn nodi beth yw eich blaenoriaethau ynglŷn â pha eiddo fydd yn cael band eang cyflym iawn yn gyntaf yn ystod y cyfnod cyflwyno nesaf. Mae unigrwydd yn fater pwysig i lawer o bobl oedrannus a byddai cael gafael ar fand eang cyflym iawn yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. A wnaiff y Gweinidog egluro pa eiddo a gaiff ei flaenoriaethu ar gyfer gweithredu cam nesaf y cynllun band eang cyflym iawn ac yn arbennig pa un a gaiff cyflenwad y band eang hwnnw ei flaenoriaethu ar gyfer yr henoed a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi?

Yr hyn yr ydym ni am ei wneud yn y cam nesaf yw ein bod yn gweithio ar y manylebau ar hyn o bryd, o ran pa un a ydym ni am gael meysydd blaenoriaeth, pa un a fydd blaenoriaethau daearyddol ac yn y blaen. Fel y dywedais, rwy’n rhagweld yn ôl pob tebyg y byddwn ni’n gosod cyfres o gontractau fesul swp mewn gwirionedd—er bod yn rhaid i chi dderbyn nad wyf mewn sefyllfa i ddweud hynny’n bendant ar hyn o bryd—ond gyda’r bwriad o ysgogi marchnadoedd busnesau bach a chanolig, ysgogi cwmnïau lleol, er enghraifft, ac yn y blaen. Yn y modd hwnnw hefyd, gallwn dargedu nifer o grwpiau blaenoriaeth ar yr un pryd yn hytrach na chyflwyno i un grŵp ar y tro. Cofiwch y gwneir hyn ar sail safle fesul safle. Byddwn mewn gwirionedd yn gwybod pa dŷ, yn hytrach na pha ardal cod post, yr ydym ni’n sôn amdano. Felly, byddwn ni’n gallu gwneud rhai pethau yn unigol nad ydym yn gallu eu gwneud gyda’r contract presennol. Wrth i ni wneud y darn hwnnw o waith ac wrth i ni ddod yn ymwybodol ohono, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael y newyddion diweddaraf yn unol â hynny.

Rwy’n croesawu diweddariad ychwanegol y Gweinidog i’r Aelodau ar y mater hwn. Dylwn i, ac rwyf wedi codi hyn o'r blaen, fod yn gyfarwydd â chael gafael ar fand eang cyflym iawn ac mae’n rhywbeth o bwys i etholaethau a busnesau yn Nelyn. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod arweiniad Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael arno, er gwaethaf yr heriau ymarferol yr wyf yn ymwybodol iawn ohonyn nhw o edrych ar fy mewnflwch a’m sach post, ac mae’r Llywodraeth ar y trywydd iawn i alluogi 96 y cant o’r eiddo yng Nghymru i gysylltu â band eang cyflym iawn erbyn 2017—rhywbeth na fydd y gwledydd eraill yn gallu ei gyflawni. Byddwch chi’n ymwybodol fod hyn o bosibl yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd enfawr i fusnesau a dinasyddion yn ein byd cynyddol ddigidol. A gaf i ofyn, Weinidog, o ran adolygiad ac ymgynghoriad y farchnad agored a amlinellwyd yn eich datganiad, byddwn i’n annog lledaeniad hyn ledled y wlad a chymunedau er mwyn bodloni anghenion a disgwyliadau cynyddol y dyfodol.

Yn union. Un o'r pethau y byddwn ni’n ystyried ei wneud yng ngham nesaf y prosiect yw sicrhau ei lwyddiant ar gyfer y dyfodol, ac, fel y dywedais, sicrhau ein bod ni’n gallu gwario unrhyw arian a gawn ni drwy rannu enillion ar sicrhau bod y prosiect yn llwyddo yn y dyfodol. Felly, un o'r pethau yr ydym ni’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau ein bod ni’n defnyddio'r holl dechnolegau newydd sydd ar gael a'n bod ni’n sefydlu'r trefniadau caffael newydd gan roi pwyslais ar fanteisio i’r eithaf ar rai o'r technolegau newydd. Un enghraifft y gallwn ei rhoi yw, pe byddai gennych chi fand eang lloeren dair blynedd yn ôl, nid oedd eich cyflymder uchaf yn debygol iawn o fod yn fwy nag oddeutu 30 Mbps, ond erbyn hyn rwy'n ymwybodol o systemau microdon a lloeren sy'n cynhyrchu cyflymderau o 100 Mbps wrth lanlwytho a lawrlwytho. Felly, mae'r dechnoleg wedi datblygu’n hynod o gyflym yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Hefyd yng Nghymru, mae gennym nifer fawr o fusnesau bach a chanolig arloesol iawn ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y trefniadau caffael, fel y dywedais. Yn amlwg, caiff y trefniadau caffael eu gwneud yn iawn a bydd y broses ceisiadau yn anweledig, ac yn y blaen, ond yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau ein bod ni’n ei gyflwyno mewn modd sy'n golygu bod y nifer fwyaf o fusnesau bach a chanolig arloesol o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i wneud cais am y contract hwnnw, ac felly gallwn ni sicrhau'r gwerth gorau am arian yn y ffordd honno. Hefyd, ein bod ni’n defnyddio cyllid arloesedd y Llywodraeth er mwyn datblygu rhai o'r technolegau hynny y gwyddom y byddent yn gallu helpu ardaloedd mwy anghysbell. Yn arbennig, un o'r pethau yr ydym ni’n ei wneud yn rhan o’n prosiect datblygu busnesau, fel y dywedais yn gynharach, yw gwneud yn siŵr bod busnesau bach a chanolig wir yn deall yr hyn y gallant, mewn gwirionedd, ei wneud pan fydd ganddyn nhw fand eang cyflym iawn.

Yn etholaeth yr Aelod ei hun, er enghraifft, mae nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yr wyf yn gwybod eu bod yn defnyddio band eang ar hyn o bryd, ond nad ydyn nhw efallai’n ymwybodol o rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud gyda lawrlwythiadau awtomatig dros nos, er enghraifft, ac anfonebu a bilio awtomatig ac yn y blaen. Felly, yr hyn yr wyf yn ei ofyn i’r holl Aelodau ei wneud yw cydweithio â Busnes Cymru, ac wrth i ni ei gyflwyno ar draws yr ardaloedd, gall yr Aelodau gymryd rhan. Gallant annog eu hetholwyr i weithredu yn yr ardal honno ac rwy’n gobeithio y bydd eich sach post yn newid i gynnwys llythyrau cadarnhaol, hapus, braf, yn hytrach na chynnwys llythyrau gan bobl sydd, yn ddealladwy, yn awyddus i fod yn rhan o’r rhaglen cyn gynted ag sy’n bosibl.

Rydych chi’n nodi, o ystyried y bydd y contract Cyflymu Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf, eich bod chi eisoes wedi cychwyn ar y gwaith paratoi angenrheidiol i sefydlu prosiect olynol ar gyfer buddsoddi mewn band eang. Yn amlwg, mae Cyflymu Cymru ar 96 y cant. Cyfeiriais yr wythnos diwethaf yn y Siambr, ac rwy’n credu yn y pwyllgor, at gynllun arbrofol cronfa arloesedd gwerth £10 miliwn Llywodraeth y DU, a weithredwyd drwy gydol 2015, gan ystyried eu proses nhw o weithredu ar gyfer y 5 y cant olaf yno. Adroddodd hwnnw ei ganfyddiadau ym mis Chwefror. A gafodd Cymru ei chynnwys yn hwnnw neu beidio, ac os na chafodd, a fyddwch chi’n seilio eich trefniadau cyflwyno ar hynny, neu os na fyddwch, pam ydym ni ddwy flynedd y tu ôl i Loegr?

Yn olaf, yr wythnos diwethaf, gofynnais gwestiynau i chi yn y ddadl yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ati ynghylch FibreSpeed yn y gogledd. Tybed a allech chi ateb faint o filiynau o arian cyhoeddus a gafodd ei wario ar brosiect Llywodraeth Cymru, sy'n deillio o dendr Llywodraeth Cymru, a aeth o chwith yn ofnadwy, nad aeth i unman, a pham y rhoddwyd FibreSpeed ​​yn y sefyllfa honno.

O ran FibreSpeed, rwy’n credu y byddai'n well os bydd yr Aelod a minnau’n gohebu drwy e-bost. Os hoffech ysgrifennu ataf a nodi'r union gwestiynau yr hoffech iddyn nhw gael eu hateb—rydym wedi cael y sgwrs hon yn y pedwerydd Cynulliad hefyd—rwy’n fwy na pharod i’w nodi eto i’r Aelod.

O ran a ydym ni’n ystyried yr ymchwil arloesedd, yr ateb yw 'Ydym', ond nid yw'n benodol i Gymru. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yn gynharach, caiff y camau olaf newydd, os mynnwch chi, o ran cyflwyno band eang cyflym iawn, eu gweithredu ar sail safle fesul safle, gan mai dim ond nifer fechan sydd ar ôl gennym ni bellach, felly gallwn ymdrin â phroblemau unigol. Rwy'n ofni mai dyna fydd y sefyllfa mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Mae gennym ni eiddo sydd â phroblem unigol ac ni ellir eu datrys wrth gyflwyno'r cabinet neu’r rhwydwaith ffeibr yn y modd hwnnw. Felly, ydym, rydym ni wedi ystyried hynny, ond mae angen gwaith ymchwil penodol arnom ar gyfer rhai o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru a chymunedau penodol o ddiddordeb. Felly, er enghraifft, mae gennym ni nifer o ffermwyr nad ydyn nhw wedi'u cysylltu eto, a bydd ganddyn nhw broblemau penodol iawn yn gysylltiedig â'u busnesau fferm. Mae gennym ni rai busnesau mewn ardaloedd anghysbell nad ydyn nhw wedi’u cysylltu, a bydd ganddyn nhw broblemau penodol iawn yn ymwneud â'u hanghenion busnes. Felly, byddwn ni’n ceisio gweithredu dull unigol iawn yn y contract newydd, ac, fel yr wyf hefyd wedi ei ddweud, ei gyflwyno mewn modd sy’n golygu y cawn fudd o'r holl dechnolegau newydd ar yr un pryd.

Mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd Cyflymu Cymru bob amser yn rhai canmoliaethus iawn ac, wrth gwrs, ni allwch wadu canran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r rhaglen Cyflymu Cymru ac, wrth gwrs, drwy Lywodraeth Cymru'n Un y lansiwyd y rhaglen band eang cyflym iawn. Felly, yn amlwg, o ran egwyddor, mae'n wych bod rhaglen Cyflymu Cymru ar waith. Yn anffodus, rydym ni i gyd yn gwybod o edrych drwy ein sachau post fel Aelodau'r Cynulliad, nad yw Cyflymu Cymru wedi cyflwyno band eang cyflym i ormod o lawer o'n hetholwyr nac ychwaith wedi cyflwyno unrhyw beth yn agos at fand eang cyflym iawn.

Soniasoch am yr ychydig ffermwyr nad oes ganddyn nhw gysylltiad band eang cyflym o hyd. Mae'n llawer mwy na dim ond rhai ffermwyr; ceir cymunedau gwledig cyfan nad ydyn nhw wedi'u cysylltu o hyd. Hyd yn oed pan fo’r cabinet gwyrdd chwedlonol hwnnw yn eich pentref, efallai na fydd gennych chi gysylltiad at fand eang cyflym iawn o hyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr, ac mae hwn yn bwynt yr wyf wedi’i godi nifer o weithiau yma yn y Siambr, fod cyfathrebu llawer gwell yn digwydd rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru a’r cwsmeriaid hynny a chwsmeriaid posibl y dyfodol y dywedir wrthynt dro ar ôl tro, 'Na, nid yw ar gael i chi eto, ond mi fydd yn fuan.' Ond pa bryd? A gaf i apelio i’r Llywodraeth sicrhau bod unrhyw gontractau yn ymwneud â’r rhaglen a fydd yn olynu rhaglen Cyflymu Cymru, yn cynnwys yr angen i sicrhau bod cyfathrebu yn gwbl glir â’r bobl hynny, sy’n teimlo’n hynod rwystredig?

Rydym ni i gyd yma fel Aelodau yn gwybod—rwy’n siarad o safbwynt personol; rwy’n awyddus iawn i gael band eang cyflym iawn. Ond mae’r broblem sydd gennyf i wrth weld y pibellau’n hongian oddi ar y ceblau telegraff yn llawer llai na’r cymunedau hynny nad ydyn nhw wedi gweld yr arwyddion gweledol hynny o fand eang cyflym iawn a’r ffaith eu bod yn gwybod nad ydyn nhw am gael eu cysylltu yn rhan o’r rhaglen hon. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi gyfathrebu. Gwnewch yn siŵr bod y cymunedau hynny sy’n dymuno cael band eang cyflym iawn yn gwybod pam nad ydyn nhw’n ei gael, yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn ei ddarparu iddyn nhw, a gwneud yn siŵr y caiff y problemau hynny yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, eu goresgyn pan fyddwn ni’n symud ymlaen at gamau nesaf y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn.

Crybwyllodd yr Aelod bwynt da iawn yn y pen draw, yn fy marn i, sef ein bod ni’n cael ein llesteirio’n helaeth gan yr wybodaeth sydd wedi bod ar gael. Rwy’n gobeithio bod yr Aelod o'r farn bod y wefan wedi gwella'n ddiweddar iawn. Os nad ydyw, yna rwy’n hapus i edrych ar faterion unigol ac yn y blaen. Rwy’n gwneud yr un cynnig i Rhun ap Iorwerth ag yr wyf wedi’i wneud i lawer o Aelodau eraill: rwy'n ddigon bodlon i ddod i'ch etholaeth i gael golwg, yn unigol, ar rai o'r materion yno. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda BT ac rydym ni’n eu goruchwylio nhw’n agos iawn ynglŷn â chodi gobeithion ffug a newid y dyddiadau cyflwyno, ac rwyf yr un mor rhwystredig ynglŷn â hyn ag y mae ef.

Yn hollol, fe wnaf ddweud wrthych fod sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu'n briodol â'r safleoedd hynny sydd yng nghamau olaf ein huchelgais i gyrraedd 100 y cant—y cyfathrebir â nhw yn briodol a’u bod yn deall y materion yr ydym ni’n mynd i’r afael â nhw wrth gyflwyno band eang cyflym iawn iddyn nhw. Fel rwy’n dweud, erbyn hynny bydd ar sail safle fesul safle, unigol. Felly, byddwn ni’n gwybod yn union beth yw'r problemau.

Y broblem, fel y gwyddoch chi, ac rwyf am ei hailadrodd, yw y caiff band eang cyflym iawn ei gyflwyno i eiddo niferus er mwyn cyrraedd rhai penodol, ac mae hynny wedi ei wneud yn llawer rhatach ac mae'r arian wedi mynd yn llawer pellach, ond mae hynny wedi arwain at rwystredigaethau i’r rhai yr ymddengys eu bod yn rhan o’r rhaglen ac yna’n cael eu siomi o ganlyniad i broblem â phibell oherwydd daearyddiaeth neu bibell wedi’i blocio neu ryw anhawster arall wrth geisio eu cyrraedd. Felly, rwy’n deall ac yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod o ran yr wybodaeth a fu ar gael.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio ag ystyried rhaglen sydd wir yn un dda iawn fel rhywbeth nad yw’n gweithio. Mae wedi cyrraedd nifer fawr iawn o bobl. Mae ganddi 100,000 o eiddo arall i’w cyrraedd eleni. Mae yna bobl a fydd yn derbyn band eang cyflym iawn yng ngham olaf y rhaglen ac, yn amlwg, mae'n rhwystredig bod yng ngham olaf y rhaglen, ond byddwn ni yn cyrraedd pob un ohonyn nhw a byddwn ni’n sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu 100 y cant fel gwlad.

7. 6. Datganiad: Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y cynnig gofal plant, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad, Carl Sargeant.

Diolch, Lywydd. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd sy'n gweithio. Mae llawer wedi cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd a rheoli canlyniadau’r llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi eu codi gyda ni dro ar ôl tro yw cost gofal plant a'r effaith y mae hynny’n ei chael arnyn nhw, eu harian ac ansawdd eu bywyd. Ers dechrau'r haf, rydym wedi bod yn siarad â rhieni. Ym mis Medi, lansiais ein hymgyrch Trafod Gofal Plant, ac rydym wedi cael adborth gan dros 1,500 o rieni hyd yn hyn. Rydym hefyd wedi cynnal grwpiau ffocws, a bydd yr ymgysylltiad hwn yn parhau hyd at y gwanwyn. O'r gwaith ymgysylltu hyd yn hyn, mae'n amlwg bod rhieni eisiau i ofal plant fod: yn llai o straen ar incwm y teulu, fel y gallant wneud i’w cyllidebau weithio; ar gael ar adegau ac mewn mannau sy'n ei gwneud yn haws iddynt weithio; ac yn fwy hygyrch, yn nes at y cartref a'r gwaith, gyda chefnogaeth ar gyfer anghenion eu plant.

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio ar draws Cymru, ac, fel ymateb uniongyrchol i'r materion a’r pryderon y mae teuluoedd wedi eu codi gyda ni, byddwn yn rhoi 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni plant tair oed a phedair oed sy'n gweithio ar draws Cymru am 48 wythnos y flwyddyn—y cynnig gofal plant mwyaf hael ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn unrhyw le yn y DU. Bydd hyn yn lleihau'r straen ar incwm y teulu ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i rieni gael swydd neu barhau i weithio. Rwyf eisiau rhoi rhagor o fanylion am ein cynllun ar gyfer cyflwyno'r cynnig gofal plant newydd i Aelodau'r Cynulliad heddiw.

Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn cynnwys ein darpariaeth cyfnod sylfaen lwyddiannus yn ystod y tymor, ynghyd â gofal plant ategol. Yn ystod yr wythnosau o'r flwyddyn pan nad yw'r cyfnod sylfaen yn cael ei ddarparu, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant, a fydd yn cynorthwyo teuluoedd sy'n gweithio â chostau gofal yn ystod y gwyliau. Dim ond rhan o’r darlun yw helpu rhieni i dalu costau gofal plant. Mae angen inni hefyd fynd i'r afael ag argaeledd a hygyrchedd, ac edrych yn benodol ar y gefnogaeth sydd ei hangen i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i fanteisio ar eu hawl o dan y cynnig hwn. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr gofal plant er mwyn sicrhau cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd wrth gyflwyno'r cynnig hwn. Er mwyn sicrhau bod hyn yn bosibl, rydym yn ystyried gallu'r sector a sut y mae'n mynd i gyflawni hyn.

Rydym yn gwybod bod prinder gofal plant eisoes mewn rhannau o Gymru, a byddwn yn gweithio gyda'r sector i'w helpu i dyfu ac i ffynnu. Rwyf wedi comisiynu gwaith ymchwil yn ddiweddar mewn partneriaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a’r seilwaith, sy’n edrych yn fanwl ar y sector gofal plant, y gefnogaeth sydd ei hangen arno, a'r costau sy'n gysylltiedig â darparu gofal o ansawdd. Rydym ni hefyd yn edrych ar ganlyniad yr adolygiad diweddar o'r sector gan Cymwysterau Cymru. Mae gofal plant da yn gofyn am weithlu cryf, medrus ac effeithiol, ac rydym eisiau sicrhau bod gennym lwybr clir a chynllun hyfforddi. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn lansio cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu y flwyddyn nesaf, a fydd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y sector yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Mae gofal plant hygyrch hefyd yn golygu edrych ar ddewisiadau o ran gofal plant.

Ein cynllun yw gweithio gyda'r sector i sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gyfer rhieni sydd eisiau cael mynediad at ofal trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i'w wneud yn ddewis mwy deniadol ar gyfer y rhai nad ydynt wedi ystyried hyn o'r blaen. Mae hyn yn bwysig yng nghyd-destun ein hymrwymiad i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu a datblygu, gan eu helpu i ddatblygu a ffynnu. Ond, yn hyn oll, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y plant eu hunain yn y cydbwysedd rhwng addysg, gofal, chwarae ac amser gyda'u teuluoedd. Bydd angen i ni weithio ar hyn gyda rhieni, darparwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn cael y cydbwysedd cywir, ond rwyf hefyd yn awyddus i gael y gwaith ar waith ar lawr gwlad. Felly, rwyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw y byddwn yn dechrau profi’r cynnig hwn gyda chwe awdurdod lleol o fis Medi 2017 ymlaen.

Bydd profi’r cynnig yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn alinio’r oriau gofal plant â chyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar mewn ffordd sy'n gweithio i rieni ac i blant, yn cael y nifer cywir o leoedd gofal plant yn y rhannau cywir o Gymru, yn datblygu ac yn ehangu'r gweithlu, gyda gwell hyfforddiant, yn cynorthwyo’r sector i dyfu, gan ddarparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar rieni, ac yn dysgu beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio, gan adeiladu ar brofiadau a thystiolaeth i ddarparu ar gyfer yr holl rieni sy'n gweithio yma yng Nghymru.

Bydd Ynys Môn a Gwynedd, Sir y Fflint, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe yn ymuno â ni ar y daith hon o fis Medi 2017 ymlaen. Mae hyn yn rhoi cymysgedd o ardaloedd daearyddol ledled Cymru lle gallwn brofi’r cynnig hwn.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r awdurdodau hynny a fynegodd eu diddordeb mewn gweithio gyda ni, ond nad ydynt wedi'u cynnwys ar hyn o bryd. Rwyf eisiau ehangu cyrhaeddiad mabwysiadwyr cynnar yn y dyfodol a byddaf yn dod â rhagor ohonoch a'r rhai â diddordeb gyda ni wrth i ni fynd. Bydd cyflawni’r ymrwymiad hwn yn heriol, ac nid wyf yn tanbrisio’r hyn sydd angen ei wneud. Mae angen i ni roi'r seilwaith cywir yn ei le, a bydd gwneud hynny yn cymryd amser.

Lywydd, byddwn yn gweithio gyda rhieni a darparwyr i sicrhau bod y system yn cefnogi ein plant, yn ogystal â helpu rhieni sy'n gweithio. Mae’n rhaid mynd i'r afael yn uniongyrchol â’r rhwystrau o ran gofal plant i rieni, sy’n eu hatal rhag cefnogi eu teuluoedd fel y maent yn dymuno. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rieni fod yn ennill llai na'u costau gofal plant. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr gorfod gwrthod dyrchafiad, neu swydd well, gan golli cyfleoedd i wella amgylchiadau eich teulu, dim ond oherwydd nad ydych yn gallu cael gofal plant pryd a ble y byddwch ei angen. Rydym eisiau i rieni gael dewisiadau o ran cyflogaeth. Drwy weithio gyda phartneriaid allweddol, a gwrando ar ein dinasyddion, byddwn yn gallu cyflawni newid gwirioneddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae hwn yn faes a ystyriwyd gennym, yn amlwg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, pan roeddech yn dioddef o annwyd trwm, felly mae'n dda eich gweld chi'n edrych yn well heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a roesoch heddiw. Yn amlwg, roedd gofal plant yn ystyriaeth bwysig yn yr etholiad diweddar. Roedd gan yr holl bleidiau wahanol gynigion a gafodd eu cynnwys yn y maniffestos, ac, yn amlwg, chi’r blaid lywodraethol yn awr sy’n gyfrifol am weithredu'r cynnig penodol a gyflwynodd y Blaid Lafur i’r etholwyr. Nodaf eich bod wedi dweud yn eich cyflwyniad yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, Weinidog, eich bod yn teimlo mai hon, yn ôl pob tebyg, yw un o'r heriau mwyaf—os nad yr her fwyaf—yn eich portffolio o ran ei chyflawni, a hynny am reswm da iawn, i fod yn deg. Bydd y goblygiadau ariannol, yn ogystal â logisteg cyflawni hyn ar draws Cymru gyfan, yn mynd â chryn dipyn o'ch amser ac, yn wir, cryn dipyn o'ch adnoddau, fel yr wyf yn credu eich bod wedi’i gydnabod, er tegwch i chi.

Hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau i chi ynglŷn â'r datganiad yr ydych wedi’i wneud heddiw, gan ddechrau, yn amlwg, â’r ystyriaethau ariannol o ran cyflawni’r maes polisi hwn. Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch y posibilrwydd, os bydd uchafswm yr unigolion—teuluoedd y dylwn ei ddweud—a allai elwa ar hyn, yn manteisio arno’n gyffredinol ledled Cymru, y gallai’r ystyriaeth ariannol wirioneddol fod yn fwy na £200 miliwn. Rwy'n credu, yn eich tystiolaeth, eich bod yn cydnabod bod rhywle rhwng £100 miliwn a £125 miliwn yn ffigur mwy realistig. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cynigion ar gyfer cyllidebau o ran yr ymrwymiad hwn. Oherwydd, pa bynnag ffordd yr ydych yn edrych arno, o’r incwm gwario, dyweder, sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, mae hynny'n swm sylweddol o arian i ddod o hyd iddo yn flynyddol. Byddai gennyf ddiddordeb—yn enwedig gan eich bod wedi cysylltu’r cyfnod sylfaen â hyn, sydd yn amlwg yn rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—i wybod sut y bydd yr adnoddau yn cael eu dyrannu i gyflawni'r ymrwymiad hwn. A yw'n benodol i'ch cyllideb chi, neu a fydd llinellau gwariant yn y ddau bortffolio i gyflawni hyn, a sut yn union y darperir ar gyfer y llinellau gwariant hynny, wrth symud ymlaen?

Hefyd, hoffwn gael eich sylwadau ar farn y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru am rinweddau'r polisi a'r manteision net, o gofio bod y Llywodraeth yn awyddus i roi’r polisi hwn ar waith—ac mae hynny’n ddealladwy, oherwydd, yn amlwg, yr oedd yn ymrwymiad yn y maniffesto—a’i bod yn mynd i neilltuo cryn dipyn o adnoddau ar ei gyfer. Mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru wedi nodi'n glir yr hyn yr oeddent yn credu eu bod yn fanteision bach iawn o ran cyfleoedd gwaith a manteision eraill am yr arian y byddech yn ei fuddsoddi. A ydych yn cydnabod y sylwadau y maent wedi'u gwneud, a sut y byddech yn gwrthbrofi terfyn posibl y manteision y maent yn eu gweld yn y polisi ac wrth gyflwyno'r fenter hon?

Hoffwn wybod hefyd sut y dewiswyd y cynghorau llwyddiannus ar gyfer yr ardaloedd peilot—chwech, yr wyf yn credu bod y datganiad hwn yn cyfeirio atynt. Saith, sori. Na, chwech, sori—chwech y mae’r datganiad yn cyfeirio atynt. Faint o awdurdodau mewn gwirionedd oedd wedi tendro neu fynegi diddordeb ac sydd wedi bod yn aflwyddiannus? Oherwydd eich bod yn cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau eraill nad oeddent yn llwyddiannus o ran cael eu derbyn ar gyfer y cynllun peilot. Ac am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal? Rydych yn nodi y bydd yn dechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf. Rwy'n tybio ei fod yn gynllun peilot 12 mis, neu a yw'n hirach? Unwaith eto, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall am ba mor hir y bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal. Oherwydd, unwaith eto, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roeddech yn awgrymu y bydd yr ymrwymiad hwn wedi’i weithredu a’i gyflawni’n llawn erbyn etholiad nesaf y Cynulliad, sef, yn amlwg, fel y gwyddom oll, Mai 2021. Felly, bydd y math hwnnw o amseru, byddwn yn awgrymu, yn her wirioneddol i'r Gweinidog o ran sicrhau bod y cynllun peilot wedi’i wneud, ei gynnal a’i weithredu.

Hefyd, hoffwn wybod yn union pa waith y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ac yntau wedi’i wneud wrth asesu'r sefyllfa bresennol o ran y gallu i gyflawni hyn, oherwydd bod eich datganiad yn sôn am y gwaith yr ydych wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yr wyf yn tybio eich bod, fel plaid, ac fel Llywodraeth, cyn gwneud yr ymrwymiad hwn, wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi er mwyn i chi weld beth yw’r capasiti. Beth yw eich dealltwriaeth o'r gallu presennol sydd ar gael i gyflawni’r ymrwymiad hwn, a faint o allu ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn credu bod angen iddi ei gynnwys yn y system i ddarparu’r 48 wythnos o 30 awr o ofal plant yma yng Nghymru ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 3 i 4 oed? Felly, gyda’r cwestiynau hynny, rwyf yn edrych ymlaen at glywed yr atebion, yn enwedig ynghylch yr adnoddau a gallu'r sector gofal i gyflawni’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau ynghylch y mater penodol hwn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod yn bwriadu lansio'r cynlluniau peilot ym mis Medi y flwyddyn nesaf, yn rhannol oherwydd y cwestiynau a gododd ynghylch gallu a chyfle o fewn y sector. Rydym yn gwneud gwaith ymgysylltu ar hyn o bryd, ac wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser, gan weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant. Cyfarfûm â darparwyr gofal plant yr wythnos diwethaf ac mae fy nhîm wedi bod yn cwrdd â nhw yn rheolaidd.

Er bod gan y cynnig egwyddorion eang iawn o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni, roedd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn glir iawn. Mae llawer iawn o gymhlethdodau ynghylch hynny, a’r elfennau anhysbys y mae’r Aelod yn eu cydnabod—nifer y teuluoedd a fydd yn manteisio ar hyn, nifer y cyfleoedd i gael pontio di-dor rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant—mae'r rhain i gyd yn gymhlethdodau y mae fy nhîm yn gweithio arnynt gyda'r sector a’r rhai â diddordeb i’w cyflawni. Dyna pam y mae'r cynlluniau peilot yn bwysig iawn.

Mae gennym raglen gwerth £10 miliwn yn dechrau ym mis Medi gyda chwe awdurdod. Roedd y chwe awdurdod eto yn rhan o gylch ceisiadau. Gwahoddwyd pob awdurdod i gystadlu a dangos diddordeb. Nid oedd pob awdurdod wedi ymateb. Nid yw’r rhestr gennyf; ysgrifennaf at yr Aelod i roi’r manylion. Mae gennym gymysgedd o leoliadau trefol a gwledig. Mae rhai yn darparu mewn ysgolion yn unig, ac mae rhai yn defnyddio darpariaeth y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

O ran y lleoliad gwledig, mae cais ar y cyd gan Ynys Môn a Gwynedd, a gafodd ei groesawu. Roedd cais arall ar y cyd gan Sir Benfro, Ceredigion a Chaerfyrddin—roedd yn fater o un neu'r llall, i bob pwrpas. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym broses ddysgu y tu ôl i hyn hefyd. Mae'n gweithio allan—gyda’r ceisiadau a ddaeth i law, a chyfuno dau o'r ceisiadau hynny, gan gynnwys pum awdurdod mewn dau gais, i bob pwrpas—o ran yr awdurdodau yr ydym wedi eu dewis, ein bod wedi dechrau’r cynlluniau peilot mewn tua chwarter o'r awdurdodau. Ni fydd hyn yn cael ei ddarparu ym mhob rhan o’r awdurdodau; byddwn yn profi’r system mewn ardaloedd penodol iawn i weld a yw'n gweithio.

O ran y llinellau gwariant, mae'r cynllun yn cynnwys y cyfnod sylfaen a gofal plant, felly mae'r cyfnod sylfaen yn dal i fod yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i sicrhau ei fod yn parhau. Ond wrth i ni ddysgu wrth ddarparu hyn, yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn hyn yw ei fod yn ymwreiddio egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol—mae'n ymwneud â gofyn i bobl. Yn hytrach na bod llywodraethau yn cyhoeddi prosesau i bobl geisio gweithio’n oddi mewn iddynt, rydym mewn gwirionedd yn siarad â rhieni er mwyn gweld beth sy'n gweithio iddyn nhw a'u plant.

Roedd rhaglen y Sefydliad Polisi Cyhoeddus yn seiliedig ar dybiaethau ynghylch rhaglen 40 wythnos. Mae hon yn rhaglen 48 wythnos sy'n cynnwys y cyfnod gwyliau. Roedd hynny'n rhwystr mawr i bobl a'r gallu i fynd yn ôl i'r gweithle, gan fod y cyfnod o saith wythnos yn ystod yr haf yn wirioneddol anodd ei reoli. Rydym yn credu y bydd hyn, ynghyd â'r ymrwymiad poblogaidd—ac rwy'n siŵr bod yr Aelod hefyd wedi canfod ei fod yn hynod o boblogaidd, hynny yw, ymrwymiad ei blaid yn y maniffesto, yn ogystal, wrth siarad â phobl ar garreg y drws—rydym yn credu y bydd hyn yn creu llawer o fanteision, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol ac addysgol yr uned deuluol. Felly, mae pethau yn adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus yr ydym yn eu cydnabod, ond mewn gwirionedd rydym yn credu bod llawer mwy o bethau cadarnhaol ar y sail ei bod yn rhaglen hirach, ac yn fwy na’r hyn a aseswyd yn wreiddiol.

O ran egwyddor gyffredinol darpariaeth gofal plant, mae'r awdurdodau lleol yn ymdrin yn dda iawn â’r hyn sydd ganddynt o ran gofal plant yn lleol. Rydym yn ceisio siarad â'r sector ynghylch darparu. Mae lleoliadau gwledig yn fwy anodd. Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym gyfleusterau yno, ond hefyd y Gymraeg, a sut yr ydym yn cynnwys y Gymraeg ac yn dod â hynny i'r amlwg. Rwy'n ffyddiog, o ystyried y trafodaethau yr wyf wedi eu cael gyda'r Gweinidog cyllid, erbyn mis Mai 2021, y byddwn wedi cyflawni’r rhaglen hon yn llawn. Er bod yr Aelod yn iawn i gydnabod yr heriau sy'n ein hwynebu, rwy'n ffyddiog y gallwn wneud hyn.

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei ddatganiad a chroesawu’r datganiad? Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnig gofal plant llawn-amser i bawb. Ond, rwy’n derbyn bod hwn yn gam positif i’r cyfeiriad hwnnw ac yn un rydym ni’n amlwg yn ei gefnogi. Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn dechrau ar y gwaith ar lawr gwlad, fel petai.

Un nodyn y byddwn i’n licio ei godi ynglŷn â chywair y datganiad, a dweud y gwir, yw ei fod yn awgrymu bod dynesiad a ffocws Llywodraeth Cymru yn un economaidd yn flaenaf. Rydych yn sôn yn y datganiad am straen gofal plant ar incwm teulu, angen rhyddhau rhieni i fynd yn ôl i’r gwaith, comisiynu ymchwil wedyn ar impact economaidd y sector gofal plant ac yn y blaen. Maen nhw i gyd, wrth gwrs, yn ystyriaethau dilys, ond mi fyddwn i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau mai cymhelliant creiddiol y polisi yma yw sicrhau’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant ac i sicrhau’r dylanwad dysgu a datblygiad cynnar gorau posibl iddyn nhw. Oes, mae yna fanteision eraill ond dyna, does bosib, sydd yn gyrru'r polisi yma. Efallai nad yw hynny’n cael cyfiawnder wedi’i wneud ag ef yn y datganiad fel ag y mae.

Mae yna ddwy agwedd ganolog bwysig i lwyddiant y polisi yma yn fy marn i, sef ansawdd—ac nid wyf yn meddwl fy mod yn codi ar fy nhraed heb sôn am hynny pan rwy’n siarad â’r Ysgrifennydd y dyddiau yma—ond hefyd hygyrchedd i’r ddarpariaeth. Mi fydd, byddai rhywun yn tybio, y cynlluniau peilot yma yn gyfrwng, beth bynnag, i brofi hygyrchedd y ddarpariaeth, fel rydym wedi clywed, mewn gwahanol gyd-destunau—gwledig, trefol, ieithyddol ac yn y blaen.

Ond, o ran yr ansawdd, mae hynny efallai’n fwy anodd. Rwy’n cydnabod yr hyn ddywedodd yr Ysgrifennydd yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf bod yna lawer o feddwl a llawer o ddeall dal angen ei wneud ynglŷn â beth mae darpariaeth dda yn edrych fel a beth yw ansawdd mewn gwirionedd.

Yn amlwg, mi fydd y cynllun gweithlu, pan ddaw, yn gwneud cyfraniad pwysig. Ond, fe fyddwn i’n licio clywed, Ysgrifennydd, a ydych chi’n rhagweld y bydd y peilotau yma hefyd yn gallu cynnig rhyw fath o arweiniad i ni pan mae’n dod i ddeall yn well beth yw darpariaeth o ansawdd a sut, efallai, y gallwn ni fod yn creu mwy o hynny ac adeiladu ar y cryfderau sy’n cael eu hadnabod.

Mi ddylai unrhyw bolisi gofal plant, wrth gwrs, fel mae’r Ysgrifennydd wedi cydnabod yn ei ddatganiad, fod yn cyfrannu ac yn creu sail gadarn i nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n gyfle i gychwyn plant ar y daith yna i fod yn ddwyieithog. Rwy’n deall bod tua 86 y cant o’r rhai sy’n mynychu cylchoedd meithrin yn mynd ymlaen i ysgol Gymraeg ac nad yw’r mwyafrif o’r gweddill ddim yn gwneud oherwydd nad oes yna ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal dan sylw. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol nawr. Mae’n rhaid inni symud o fod yn adweithiol ac ymateb i alw i fod yn llawer mwy rhagweithiol a sicrhau bod y twf yna’n digwydd mewn modd mwy deinamig.

Felly, mae angen creu'r galw hefyd, mewn sawl ffordd. Mi fyddwn i’n licio gwybod—. Maen nhw’n dweud, petai pob un a fydd â hawl i gymryd mantais o hyn pan fydd yn cael ei weithredu’n llawn yn gwneud hynny, mai rhyw 20,000 o blant rydym ni’n sôn amdanynt. Felly, mi fyddwn i’n licio clywed, nid o reidrwydd y niferoedd heddiw, ond pryd fydd y Llywodraeth yn dechrau amlinellu faint o’r 20,000 o blant yna maen nhw am weld yn mynd ymlaen i gymryd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a faint o’r rheini wedyn y maen nhw am eu gweld yn mynd ymlaen i gael addysg Gymraeg.

Mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig oherwydd mae wedyn yn mynd i bennu faint o weithlu ychwanegol sydd ei angen er mwyn darparu ar eu cyfer nhw ac yn y blaen. Heb atebion i hynny—ac nid wyf yn disgwyl atebion heddiw—ond yn sicr, heb fod hynny’n cael ei wyntyllu, sut allwn ni fod yn hyderus ei fod yn rhan cydlynus o ymdrech fwriadol gan y Llywodraeth i symud tuag at filiwn o siaradwyr?

Yn olaf, wrth gwrs, wrth ddatblygu darpariaeth newydd, mae’n rhaid inni gydnabod bod yna gonsérn am rywbeth yn datblygu a allai danseilio’r ddarpariaeth bresennol. Rwy’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd yn ymwybodol fod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am fynnu bod yn rhaid i bob darparwr gofal plant—pob cylch meithrin, pob ‘playgroup’, ac yn y blaen—gael cyfeirnod talu wrth ennill ei hunain. Heb gyfeirnod o’r fath, mae’n debyg, ni fydd rhieni sydd am ddefnyddio’r cylchoedd hynny yn cael talebau gofal plant, sy’n gyfystyr â £2,000 o ostyngiad y flwyddyn ar gostau gofal plant. Mae gan hynny oblygiadau pellgyrhaeddol, yn enwedig i lawer o’r darparwyr llai sydd gennym ni yma yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo’r darparwyr yma yng ngoleuni’r bygythiad hynny, er nad yw wedi ei ddatganoli? Mae goblygiadau difrifol, byddwn yn tybio, i’r hyn rydym yn trio ei gyflawni fan hyn. Oherwydd mi fyddai yn resyn wrth drio creu darpariaeth newydd ar un llaw bod y sector sy’n sylfaen ar gyfer adeiladu y ddarpariaeth newydd yna yn mynd i gael ei thanseilio gan rywbeth arall.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol yn gyffredinol a gyflwynodd yn y Siambr heddiw. Cwestiwn cyntaf yr Aelod oedd a oedd pwyslais cryf ar gyfleoedd economaidd yn y datganiad. Mae hynny'n anfwriadol os oedd, oherwydd ein bod yn credu bod themâu trawsbynciol o ran yr hyn y mae'r datganiad yn ei wneud ac y mae cyflwyno’r rhaglen hon yn ei wneud. Yn sicr, mae’n fantais fawr o ran adfywiad economaidd cymunedau; mae caniatáu i rieni fynd i'r gwaith yn beth da. Ond hefyd mae canlyniadau cymdeithasol, addysgol ac o ran ansawdd, ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yr ydym wedi’u hymwreiddio yn yr egwyddor hon ynghylch sut yr ydym yn symud ymlaen â’r polisi cymhleth hwn.

O ran rhai o'r gwir fanylion ynghylch y gweithlu, rydym wedi dechrau dau ddarn o waith mwy manwl; yn gyntaf oll, cynllun y gweithlu. Mae’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein helpu o ran ceisio edrych ar hyn yn ddeallus trwy gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ac mae’r elfen arall yn dilyn hynny, unwaith y byddwn yn deall rhaglen y gweithlu, yn ymwneud â threiddio i ofal plant a'r blynyddoedd cynnar, gan edrych ar yr hyn sy’n gweithio'n well mewn gwirionedd a sut yr ydym yn gallu addasu’r rhaglen i wneud y gorau o'r materion. Felly, nid yw'n canolbwyntio ar elfennau economaidd hyn yn unig, ond hefyd mewn gwirionedd ar y canlyniad gorau ar gyfer y dysgwr, a sut yr ydym yn gwneud y gorau o'r broses gyfan. Felly, bydd y cynlluniau peilot yn ein galluogi i gael rhywfaint o hyblygrwydd wrth inni symud ymlaen hefyd. Felly, mae’n bosibl na fydd y cynlluniau peilot yn y diwedd yr un peth ag yr oeddent ar y dechrau, a dyna’r holl egwyddor o ran pam rydym yn dysgu drwy gyflwyno’r rhaglen hon.

Rwyf wedi siarad â'r sector, cyngor gofal y gweithlu a'r Gweinidog sgiliau. Rydym eisoes yn cynnal trafodaeth am yr hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Mae’r Aelod yn iawn; mae bob amser yn codi mater ansawdd. Mae'n ddyhead i mi, ac rwy’n rhannu ei farn ynghylch sut y gallwn broffesiynoli ansawdd y gweithlu i sicrhau bod hwn yn gyfle i’r gweithlu symud ymlaen o ran eu gyrfa yn y tymor hir hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig i'n pobl ifanc, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried wrth inni symud ymlaen.

Mae'r mater ynghylch Cyllid a Thollau EM yn un yr wyf yn gyfarwydd ag ef. Dim ond un rhan fach o'r broblem yr ydym yn edrych arni yw hyn—am y datganiad ynghylch yr 16 awr i unigolyn fod yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn. Felly, rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau EM, y darparwyr ac awdurdodau lleol i weld beth yw’r llwybr gorau—ai ateb i Gymru, neu sefyllfa fwy cyffredinol Cyllid a Thollau EM a rhai o'r cofnodion y maent yn eu cadw.

Rwy'n falch iawn y gallai’r darn hwn o waith cymhleth iawn a drud iawn mewn gwirionedd gael manteision enfawr hirdymor ar gyfer cymunedau ledled Cymru, a bod hynny’n rhywbeth yr oedd modd imi ei gyflwyno. Ac mae’r Gymraeg yn rhan o hynny, hefyd. Rwyf wedi cwrdd ag Alun Davies i drafod sut yr ydym yn cyflawni’r mater penodol hwnnw o fewn y sector. Mae datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn waith pwysig, a’r asesiadau o ddigonolrwydd gofal plant—i rai rhieni, mae’r bylchau hynny yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn bryder gwirioneddol. Maent yn bryder i ni, hefyd. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol rhoi rhif ar hyn, gan fy mod yn credu ei fod yn rhywbeth y mae rhieni a theuluoedd eisiau cael mynediad iddo yn y lle cyntaf. Os ydym yn dweud bod 20,000 o unedau pe bai rhieni eisiau darpariaeth Gymraeg, yna efallai mai hynny yw’r nifer y dylem fod yn anelu ato, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddysgu drwy’r cynlluniau peilot hyn yr ydym wedi’u lansio yn ymwneud â hygyrchedd yn y lle cyntaf: a allwn mewn gwirionedd gyflawni'r hyn yr ydym yn dweud ein bod yn gobeithio ei gyflawni yn y tymor hir, neu a oes rhai pethau a fydd yn gosod rhwystrau yn y ffordd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hyn ar gyfer ei etholaeth ef, a llawer ar draws Cymru.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac mae gennyf bedwar cwestiwn. Yn gyntaf, rwy’n cydnabod, pan mae'n dweud mai 30 awr o ddarpariaeth yr wythnos, 48 awr y flwyddyn fydd y cynnig mwyaf hael sydd ar gael yn y DU, ei fod yn gywir. Mae’r gwaith o gyflawni hyn i ddod, ond byddwn yn rhoi clod iddo ef a'i blaid, a Llywodraeth Cymru, am yr uchelgais a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni yn y maes hwn. Soniodd am y llymder a osodwyd gan Lywodraeth y DU; a fyddai ef yn ei dro yn cydnabod bod y diffyg haelioni cymharol o ran y ddarpariaeth gofal plant hyd yma hefyd wedi bod yn rhywbeth sydd wedi dal o leiaf rhai teuluoedd yng Nghymru yn ôl ac wedi gwneud pethau'n fwy anodd iddynt?

Yn ail, ystyriwyd bod ansawdd y ddarpariaeth bresennol yn dda yn gyffredinol, gan gynnwys dwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos mewn amgylchedd ysgol. Rwyf yn meddwl tybed, pan ddywed yn ei ddatganiad,

Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn cynnwys ein darpariaeth cyfnod sylfaen lwyddiannus yn ystod y tymor, ynghyd â gofal plant ategol,

a yw hynny'n golygu y bydd unrhyw ehangu'r ddarpariaeth mewn lleoliadau ysgol yn fath gwahanol o ofal plant wedi’i ychwanegu at y ddwy awr a hanner hynny? Roeddwn wedi gobeithio efallai, mewn rhai ardaloedd, y byddai’r ddwy awr a hanner o ddarpariaeth o ansawdd da yn aml mewn ysgolion yn cael eu hymestyn i chwe awr y dydd. A fydd hynny’n digwydd mewn o leiaf rhai o'r ardaloedd peilot, neu a ragwelir y byddai'n bwyslais llai addysgol ac efallai’n ddarpariaeth gofal plant cofleidiol rhatach yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol?

Yn drydydd, mae'n sôn am allu a phrinder gallu mewn rhai ardaloedd o Gymru. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am ble y mae’r ardaloedd hynny o brinder? Gan siarad yn bersonol, mae’r ystod o ddewisiadau a’r gallu sydd ar gael wedi creu argraff arnaf. Pan mae'n sôn am y cynlluniau peilot, a chwech ohonynt o’r hydref y flwyddyn nesaf—ai ei asesiad o ddiffyg gallu sy’n cyfyngu ar ba mor gyflym ac eang y gall gyflwyno’r treialon hyn neu a yw’n gyfyngiad o ran y cyllid o fewn y gyllideb sydd ar gael iddo?

Yn olaf, a chan gyfeirio, mewn gwirionedd, at y siaradwr blaenorol, rwy’n credu bod y mater ynghylch ansawdd yn bwysig iawn yma. Yn sicr, fy argraff i hefyd, wrth ddarllen a gwrando ar y datganiad, oedd bod pwyslais cryf iawn ar elfennau economaidd manteision gofal plant a chymaint y bydd rhieni sy'n gweithio yn gwerthfawrogi’r cynnig hwn, fel y byddwn yn wir. Ond yn sicr roedd llai yn ei ddatganiad am effaith y ddarpariaeth gofal plant estynedig ar y plant, ac un o'r dadleuon a gyflwynodd rhai o blaid gofal plant a gefnogir gan y wladwriaeth yw bod ansawdd y ddarpariaeth, yn enwedig o ran plant o deuluoedd llai cefnog efallai, yn gallu bod yn rhywbeth sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd. Rwy’n credu, yn sgil y prosiectau peilot y mae'n eu cynnig, fod cyfle gwirioneddol i ganolbwyntio ar hynny, a phrofi hynny hefyd. Yn ogystal ag ystyried sut y mae rhieni yn teimlo am y ddarpariaeth, sut y mae cynghorau yn ymdopi â'r logisteg, beth yw'r cysylltiad â Llywodraeth Cymru, beth sy'n gweithio orau o safbwynt logisteg—a allai hefyd wneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer astudiaeth academaidd o’r rhaglen beilot, fel y gallwn weld mewn gwirionedd a yw argaeledd y rhaglenni peilot mewn rhai cynghorau, neu mewn ardaloedd rhai cynghorau, o gymharu ag eraill, yn arwain yn y pen draw at well canlyniadau ac, yn arbennig, efallai, sgoriau profion cynnar ar gyfer y plant sydd wedi elwa ar y cynlluniau peilot hynny? Diolch i chi, rwy’n ddiolchgar.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol. Mae'n gywir i godi'r mater mai hon yw'r rhaglen fwyaf hael sy’n cael ei chyflawni yn y DU gan y Llywodraeth hon. Mae'r DU yn wir yn cael anhawster mawr wrth gyflwyno eu rhaglen gyffredinol ar draws Lloegr. Rwy'n credu mai Efrog a gafodd broblemau sylweddol ynghylch y fargen o ran cytuno ar yr hyn y byddai gofal plant â'r sector preifat, ac mewn gwirionedd gwrthododd y sector preifat ddarparu rhai o'r gwasanaethau yn y diwedd. Felly, roedd yn broblem fawr yno—rydym yn dysgu o'r profiad hwnnw. Rwyf yn credu eich bod yn gwybod bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall y cymhlethdodau gyda’r sector sy'n darparu hyn a chyda’r rhieni. Dyna pam y mae’n haws i ni gyflwyno rhaglen lawer arafach i'r system honno.

Mae hynny'n cyd-fynd yn dda â’r trydydd pwynt a gododd yr Aelod ynghylch gallu a'r rhesymau pam yr ydym yn cyflwyno hyn yn raddol yn y chwe awdurdod. Un rheswm yn rhannol yw gallu a deall yr hyn y gallwn ei gyflawni ar lawr gwlad. Mae'r sector yn dweud wrthym, peidiwch â rhuthro hyn oherwydd ni allwn gyflawni hyn ar hyn o bryd—mae’r profiad yn Lloegr wedi bod yn un da ond mae hefyd yn gywir i godi'r mater ynghylch elfennau cyllidol hyn hefyd. Mae’r Gweinidog cyllid yn garedig wedi cyflwyno rhaglen gwerth £10 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, ond mae hefyd yn ffactor sy’n rheoli ein gallu i symud y rhaglen yn ei blaen. Rydym yn credu y bydd hynny’n cyfateb i tua 10 y cant o'r rhaglen, felly mae'n gyfle dysgu arbrofol da i ni o fewn ffiniau cyfleoedd cyllidol ac o ran gallu sy'n cael eu cyflwyno yno.

Cododd yr Aelod y mater ynghylch y rhaniad rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant; nid yw hynny'n newid. Rydym yn cynnal trafodaethau â'r Gweinidog ynghylch rhywfaint o gysondeb ar draws awdurdodau, gan fod rhai awdurdodau yn darparu’r cyfnod sylfaen gan ddefnyddio amserlenni gwahanol, a dulliau gwahanol, ac yn ychwanegu oriau. Ond ceir tystiolaeth hefyd i awgrymu—. Mae wedi ei gyflwyno yn y ddwy ffordd i mi. Mae rhai pobl yn dweud, pam nad oes gennym raglen cyfnod sylfaen 30 awr, yn hytrach na rhaglen 10 neu 20 awr neu raniad 15/15? Mae llawer o ddarnau o dystiolaeth sy'n awgrymu nad yw addysg amser llawn, yn null y cyfnod sylfaen, yn fuddiol i'r plentyn. Mae'r mater ynghylch chwarae amgen hefyd yn bwysig. Ond byddwn yn dysgu trwy’r rhaglen honno a'r hyn y gallaf ei ddweud yw na fydd rhai o'r lleoliadau yn newid ar gyfer y plentyn, felly gall fod yn lleoliad cyfnod sylfaen yn rhannol ac wedyn symud i leoliad gofal plant, ond byddai yn yr un adeilad, efallai, â rhai o'r unedau. Rwy'n gwybod bod Rhondda Cynon Taf yn gyfarwydd â chyflwyno cynllun ar gyfer plant dwy a thair oed, yn llawn amser, dan weinyddiaeth flaenorol, cyn y weinyddiaeth bresennol, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut y mae hynny'n gweithio, beth yw’r cyfleoedd o ran hynny, ac, yn bwysicach, yn Rhondda Cynon Taf, sut y gallant ddarparu hynny drwy gyfnod yr haf hefyd, pan nad yw’r cyfnod sylfaen yno, ac ym mha ffordd y byddant yn gallu rheoli hynny.

Mae’r Aelod yn iawn—ac mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn rhannu hyn—ynghylch beth yw ansawdd a beth yw'r cyfle ar gyfer y person ifanc. Mae manteision economaidd enfawr i gymunedau dim ond yn sgil y gallu i rieni fynd yn ôl i'r ffrwd waith, a chredaf fod hynny hefyd yn ychwanegu at y mater ynghylch trechu tlodi pan fydd gennych chi gyflog yn dod i gartref iach—mae hynny’n ymwreiddio cyfle i'r teulu. Ond yr hyn na fyddwn yn ei wneud yw gosod plant mewn warysau. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw ichi. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod darpariaeth dda o ran y cyfnod sylfaen a gofal plant o ansawdd da, ac rydym yn disgwyl i hynny gael ei gyflawni.

Gofynnwyd imi hefyd a ddylai ein teuluoedd fod yn darparu gofal plant—neiniau a theidiau neu aelodau'r teulu—o ran sut y gallant gael mynediad at y system, oherwydd dyna’r hyn y maent yn ei wneud. Bydd canllawiau clir iawn ynghylch yr hyn a ddisgwylir. Mae’r arolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn rhan o'r broses honno o ran darparu gofal plant da. Mae gennym weithgor mawr sy’n edrych ar hyn. Mae'r rhain yn bobl allanol a rhai o fy nhîm i, yn gweithio ar sut y gallwn gyflawni hyn. Bydd canlyniad y dysgu yn un pwysig o ran sut yr ydym yn llunio'r rhaglen lawn, wrth symud ymlaen.

Mae’r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn rhan o’r gweithgor ac er eu bod yn—dylwn fod yn ofalus ynghylch sut yr wyf yn dweud hyn—heddlu comisiynwyr, maent yn gyfeillion beirniadol sy'n ein helpu i lunio'r ffordd y mae lleisiau plant yn sicr a lleisiau rhieni yn cael eu cynnwys yn agenda’r polisi hwn. Felly, rydym yn dysgu llawer o'r cyfle a ddarperir gan y cynllun peilot, hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad. Yn amlwg, mae hon yn rhan bwysig iawn o'n hymrwymiadau yn y maniffesto. Mae gennyf dros 20 o ysgolion yn fy etholaeth—ysgolion cynradd, hynny yw—sydd i gyd yn darparu dysgu cynnar y cyfnod sylfaen o dair oed. Ond mae pob un ohonynt yn darparu hynny’n rhan amser. Felly, dyna'r rheswm, Mark Reckless, pam na allwch ddarparu’n llawn amser yn syml, oherwydd bod un garfan yn dod i mewn yn y bore a charfan arall yn dod i mewn yn y prynhawn. Dyma’r mater ynghylch gallu a wynebwn mewn ardal drefol fel Caerdydd, gan fod dinas Caerdydd wedi bod yn tyfu ac mae tua 36,000 o bobl yno, ac mae ein holl ysgolion yn gwbl lawn.

Mae gennym gryn dipyn o ddarparwyr gofal plant preifat a gwirfoddol, yn ogystal, ac mae hynny'n iawn, ond rwyf eisiau ymchwilio i sut y gallwn gael mwy o'r math o drefniadau sydd gennym yn Ysgol y Berllan Deg, lle mae meithrinfa ddwyieithog breifat ar waelod yr ardd, fel y mae’n digwydd, sy'n eu galluogi i ddarparu'r gofal cofleidiol hwnnw. Yn yr un modd, yn ysgol Parc y Rhath, mae ganddynt feithrinfa breifat—Ninian Nurseries—sy’n mynd â’r plant i’r ysgol ac oddi yno, er mwyn darparu’r gofal cofleidiol a'r addysg ar eu cyfer. Ym mha ffordd arall y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y byddwn yn gallu symud ymlaen mewn ardal adeiledig iawn fel Caerdydd, lle mae pris uchel ar dir, yn amlwg?

Yn fy hen fywyd, roeddwn yn ymwneud yn fawr â’r gwaith o greu canolfannau blynyddoedd cynnar integredig, a oedd yn darparu gwahanol lefelau o addysg a gofal plant, gan godi tâl ar bobl yn ôl graddfeydd gwahanol, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Mae hynny, yn amlwg, yn fodel yr ydym, efallai, yn awyddus i’w ailystyried, oherwydd am ein bod yn mynd i roi gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed—ni fyddai'n gwneud unrhyw niwed ehangu'r gwasanaeth gofal y telir amdano i rieni eraill sy’n teimlo y byddent yn gallu gwneud hynny ac yn dal yn gallu cadw eu swydd.

Felly, credaf, o ran ein gallu i ehangu, pa newid y mae'n rhagweld y bydd yn digwydd gyda'n sectorau gwirfoddol a phreifat? Oherwydd, yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, y rheol yw na allwch roi eich plentyn mewn darpariaeth feithrin yn y sectorau gwirfoddol neu breifat, oni bai nad oes unrhyw ddarpariaeth yn sector y wladwriaeth. Mae’n ymddangos i mi nad yw hynny, yn ôl pob tebyg, yn mynd i’n galluogi i greu mwy o feithrinfeydd yn y sector gwirfoddol. Oni bai eu bod yn gwybod bod ganddynt nifer penodol o blant, yn syml, ni fyddant yn gallu gweithredu. Felly, tybed pa drafodaethau yr ydych wedi bod yn eu cael, yn benodol, â fy awdurdod lleol i ynghylch hynny, er mwyn newid y ffordd yr ydym yn edrych ar y sectorau gwirfoddol a phreifat o bosibl, o ystyried y bydd yn rhaid i ni gydweithio â nhw.

Fel arall, pan fyddwn ni'n adeiladu ysgolion newydd, pa ymrwymiad y gallaf ei gael oddi wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet, na fyddwn mwyach yn adeiladu ysgolion nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer gofal cofleidiol yn yr ysgolion? Oherwydd mai hynny, yn amlwg, fydd y ffordd ymlaen. Mae'n llawer gwell i'r plentyn allu aros yn yr un ystafell lle cafodd ei addysg feithrin i ddechrau a chael gofal plant hefyd. Rwyf yn cydnabod yn llwyr nad yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd o’r man lle rydym yn dechrau yng Nghaerdydd. Ond pe byddem yn wir wedi cael ysgolion bro 10 neu 20 mlynedd yn ôl, ni fyddem yn y man lle rydym heddiw, am ei fod yn hollol amlwg y byddai pawb yn y gymuned eisiau gofal plant am ddim sydd ar gael yn eu hysgol leol.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad—mae'n gofyn rhai cwestiynau diddorol iawn: beth pe byddem, 20 mlynedd yn ôl, yn gallu newid ffordd ein dyfodol? Byddem yn edrych yn wahanol iawn, efallai, heddiw. Ond mae hi wedi codi rhai pwyntiau pwysig yn ystod ei chyfraniad.

Mae'r mater ynghylch gofal cofleidiol yn un pwysig ac rydym yn gweithio gyda'r sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu drwy ein rhaglen Trafod Gofal Plant. Rydym yn deall nad y gofal naw tan bump, bob amser, sy'n helpu rhieni. Mewn gwirionedd, maent eisiau cael rhywfaint o hyblygrwydd bob ochr i hynny. Mae hynny ynddo'i hun yn peri problem, oherwydd bod y rhan fwyaf o'r modelau â dibyniaeth drom, ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn dda, yn gyffredinol, yn gweithio yn y gofod hwnnw, a lle mae dibyniaeth drom ar y rhaglen benodol honno, nid oes llawer o gapasiti yn y sector preifat, gan nad oes llawer o blant yn y gofod hwnnw. Felly, rydym yn ceisio addasu hynny, ac rwy’n deall yn llwyr y cwestiynau a gododd yr Aelod ynghylch sut y mae hynny’n edrych o ran gweithio y tu allan i'r arfer. Dyna pam rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac amrywiaeth o awdurdodau lleol a fydd yn profi’r system hon i ni mewn lleoliadau gwledig a lleoliad trefol. Abertawe, yr wyf yn credu, yw’r lleoliad trefol, sef dinas, a fydd yn defnyddio'r cyfle i weithio gyda'r sector gwirfoddol yn ogystal.

Mae'r mater ynghylch cyfalaf yn un yr wyf eisoes wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog cyllid a’r Gweinidog addysg amdano. Rydym yn ystyried pa lefelau o gyfalaf sydd eu hangen. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn garedig, wedi cyflwyno £20 miliwn y flwyddyn o 2018-19 ymlaen i brif grŵp gwariant addysg ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn lleoliadau gofal plant, ochr yn ochr â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, mae hyn yn ymwneud â chynllunio ar gyfer y dyfodol, yr union beth a gododd yr Aelod, o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy ynglŷn â hynny—cael lleoliad hyblyg sydd wedi’i adeiladu ar gyfer cyflawni’r ddarpariaeth gofal plant hynod uchelgeisiol hon.

Mae hyn yn uchelgeisiol iawn, ond fe allwn gyflawni hyn. Rwy'n ffyddiog y gallwn, ond ni allwn ei gyflawni yn Llywodraeth ar ein pen ein hunain; mae’n rhaid i ni weithio gyda sectorau eraill hefyd. Mae maint y diddordeb o’r tu allan, gan edrych i mewn, yn galonogol iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, o’r 1,500 o ymatebion, a hynny’n un o'r ymatebion mwyaf yr ydym wedi eu cael yn ein rhaglen ymgysylltu, gan siarad â rhieni, fod y rhan fwyaf o'r cwestiynau yn gofyn, pryd ydych chi'n mynd i ddechrau ei ddarparu? Felly, mae brwdfrydedd, o’n hochr ni o ran ein bod eisiau cyflawni hyn, ond hefyd gan rieni sydd eisiau derbyn—a phlant sydd eisiau derbyn—y buddsoddiad mawr hwn gan y Llywodraeth hon.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud pa mor falch yr wyf o glywed y bydd Rhondda Cynon Taf yn un o'r awdurdodau peilot yn y cynllun hwn. Rwy'n siŵr y bydd yn dod â manteision enfawr i fy ardal. Mae gennyf dri chwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i fodelau hyblyg ac amgen o ddarparu gofal plant sy'n rhoi ystyriaeth lawn i’r gwahanol fodelau o addysg feithrin a darpariaeth gofal plant sydd ar gael ar hyn o bryd yn y gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yn eu hategu. Yn ogystal, er fy mod yn croesawu'n fawr gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet at y ddarpariaeth gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgolion, tybed pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i bwysigrwydd mynd i graidd logisteg y ddarpariaeth hon yn ystod gwyliau’r ysgolion, sydd mor bwysig. Oherwydd bod y cynnig o ran gofal cofleidiol gwell sy'n cael ei gyflwyno yn wir yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran mynd i'r afael, er enghraifft, â’r sgandal bod plant yn mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau’r ysgolion, ond er mwyn gwneud hynny mae gwir angen i ni sicrhau ein bod yn cael y cynnig yn iawn.

Yn olaf, byddwn i'n croesawu diweddariad manylach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y strategaeth Trafod Gofal Plant. Rwy'n credu bod hon yn ffordd dda iawn o ymgysylltu â rhieni ac â darparwyr, ond byddwn i'n awyddus i wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r grwpiau anoddaf eu cyrraedd y gallai fod arnynt angen ymyrraeth fwy brys o bosibl.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad cadarnhaol. Mae’r Aelod yn iawn ynghylch y ffaith, mewn llawer o awdurdodau lleol, fod llu o wasanaethau yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol ar draws y 22 awdurdod lleol. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni edrych ar yr hyn sy'n gweithio orau, ble, a sut, efallai, y gallwn ehangu hynny. Nid wyf yn rhagweld y bydd gennym un cynllun wrth i ni symud ymlaen at ddiwedd y rhaglen. Rwy'n credu y bydd yn rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut yr ydym yn gallu cyflawni rhai o'r pethau hynny. Ond bydd prawf y cysyniad yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Mae'r mater ynghylch logisteg, ac yn enwedig yr un ynghylch cyfnod yr haf, yn un yr ydym wedi herio Rhondda Cynon Taf yn ei gylch, oherwydd ein bod yn gwybod eu bod yn gallu cyflawni hyn yn ystod y cyfnod ysgol, ond a allant a sut y byddant yn gwneud hynny drwy gyfnod yr haf, neu gyfnod y gwyliau? Mae hynny'n fater iddyn nhw, ac maent wedi ymrwymo i hyn ac yn frwdfrydig dros fynd ymlaen. Siaradais â’r arweinydd heddiw am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu creu. Mae'n frwdfrydig iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi’n cynyddu'r pwysau o ran cyfle o fewn yr awdurdod yn ogystal.

Mae Trafod Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae gennym #TalkChildcare ar Twitter a Facebook. Rydym ni hefyd yn defnyddio dulliau eraill o ymgysylltu, drwy Mumsnet a rhaglenni eraill. Mae fy nhîm wedi bod allan yn siarad â chwmnïau yn y sector preifat. Felly, roeddent mewn cwmni mawr yng Nghaerffili ychydig wythnosau yn ôl, yn siarad â rhieni yn y cwmni hwnnw ynghylch sut a beth y gallai eu hanghenion fod neu beidio yn y dyfodol. I fod yn deg, mae fy nhîm yn gweithio'n eithriadol o galed gyda phobl allanol i gyflawni’r rhaglen hon, ond maent wedi hen flino arnaf yn dweud, ewch i siarad â phobl go iawn, yn hytrach na, mae’r Llywodraeth yn gwneud hyn i bobl; gadewch i ni gael rhywfaint o adborth am yr hyn sy'n gweithio iddyn nhw hefyd.

8. 7. Datganiad: Cymru Hanesyddol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Gymru Hanesyddol. Rwy’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud ei ddatganiad. Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:33:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch i chi, Lywydd. Mae gennym bedwar sefydliad cenedlaethol mawr, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n geidwaid ar gyfer ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog. Gyda'i gilydd, maent yn cynnal tystiolaeth o rychwant cyfan gweithgarwch dynol yng Nghymru, o'r darnau bach o asgwrn sy'n tystio i bresenoldeb pobl yng Nghymru fwy na 200,000 o flynyddoedd yn ôl, drwy henebion gwych o bensaernïaeth, llenyddiaeth a chelf, i lyfrau a gwrthrychau cyffredin heddiw a fydd yn dod yn drysorau’r dyfodol.

Fel cenedl, dylem fod yn falch iawn o'r sefydliadau hyn. Yn ogystal â gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol, maent yn ei gwneud yn hygyrch ac yn bleserus i’n dinasyddion ein hunain ac i ymwelwyr o bedwar ban y byd. Mae'r sefydliadau hyn yn hanfodol i hunaniaeth ein cenedl, felly mae'n rhaid i ni ymateb i'r heriau y maent eisoes yn eu hwynebu a'u helpu i fod yn fwy llwyddiannus, yn fwy cydnerth ac, yn y pen draw, yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae cyni Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau mawr ar gyllidebau’r sector treftadaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhybuddio bod pwysau cynyddol i ddod. Rydym wedi gwneud popeth posibl i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol rhag y gwaethaf o'r toriadau hyn, ond erys cwestiwn sylfaenol: sut allwn ni, gan weithio mewn partneriaeth wirioneddol, wella gwasanaethau, darparu digon o fuddsoddiad cyfalaf a sicrhau bod gan Gymru sefydliadau diwylliannol a threftadaeth fywiog o hyd pan fydd y gystadleuaeth am adnoddau canolog yn fwy heriol nag erioed o'r blaen?

Mae pedwar mater brys y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw os ydym yn mynd i sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer y sector treftadaeth cyfan. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau diwylliant a threftadaeth arloesi a bod yn uchelgeisiol am y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol. Mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd i greu gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw. Ni ddylai ffiniau sefydliadol fod yn rhwystr i ansawdd y gwasanaethau a gynigir, p'un a yw'r gwasanaethau hynny ar gyfer ymwelwyr, ein cymunedau ein hunain neu yn wir, yn asedau treftadaeth eu hunain.

Yn ail, mae'n rhaid i ni gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth. Bydd hyn yn golygu gosod targedau ymestynnol ar gyfer nifer yr ymwelwyr a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mae'n rhaid i ni gyflymu ein gwaith i ehangu mynediad i'r celfyddydau a diwylliant ar gyfer grwpiau sydd wedi’u heithrio yn draddodiadol. Mae gennym hanes balch o ehangu mynediad a chynnwys mwy o bobl mewn gweithgareddau diwylliannol trwy gefnogi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Hoffwn i’n sefydliadau treftadaeth cenedlaethol arwain y ffordd o ran twristiaeth gymdeithasol er enghraifft, a chwarae mwy o ran wrth fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Rydym yn gwybod y gallwn gyflawni canlyniadau anhygoel pan fyddwn yn pennu targedau uchelgeisiol. Mae Cadw, er enghraifft, wedi cael ei blwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed o ran nifer yr ymwelwyr ac, o ganlyniad, o ran cynhyrchu incwm masnachol. Gwnaed hyn drwy ailstrwythuro i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir wrth reoli rhai o atyniadau ymwelwyr mwyaf eiconig Cymru. Mae wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd marchnata arobryn, wedi buddsoddi mewn gwelliannau mawr i’r profiad ymwelwyr, wedi dyblu ei rhaglen o ddigwyddiadau ac, wrth wneud hynny, wedi helpu i agor yr henebion i deuluoedd a phobl ifanc mewn ffordd nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen.

Yn drydydd, mae angen i ni farchnata a hyrwyddo ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth yn fwy egnïol ac effeithiol. Bydd angen i frandiau a chynigion ein sefydliadau cenedlaethol fod yn gliriach, yn fwy grymus ac yn fwy deniadol os ydynt i ddenu sylw mewn byd lle mae cystadleuaeth am amser a sylw pobl yn tyfu yn fwy ffyrnig.

Mae’r her olaf yn ymwneud â phobl. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd pobl sy'n gweithio yn rhoi anadl eisoes i’n sefydliadau lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ganddynt. Mae angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth i’r bobl hyn a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Mae'r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein treftadaeth yn werthfawr ac mae angen i ni gadw ein harbenigwyr er mwyn gwarchod a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nid yw’r atebion i gyd gennyf, ond o un peth, rwy’n gwbl sicr: bydd ein sefydliadau treftadaeth cenedlaethol yn gryfach drwy weithio gyda'i gilydd, yn rhannu eu profiadau a'u harbenigedd i ddod o hyd i lwybrau arloesol tuag at ddyfodol mwy cadarn a chynaliadwy. Bydd hyn yn gofyn i sefydliadau gydweithio a chydweithredu mewn ffyrdd newydd ac efallai, lle bo angen, rannu adnoddau. Rwy'n gwybod bod hyn yn ddadleuol, ond mae yn bosibl ei wneud heb gyfaddawdu hunaniaeth unigryw ac annibyniaeth ein sefydliadau.

Credaf mai rhan o'r ateb yw creu corff newydd, yr ydym wedi ei alw am y tro yn Cymru Hanesyddol. Rwy’n argyhoeddedig bod gennym gyfle go iawn yma i ddod â phwyslais pendant a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol. Ni fydd dod â’u swyddogaethau masnachol at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol, ond yn hytrach, bydd yn eu galluogi i farchnata eu hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol i bobl Cymru, Prydain a'r byd. Bydd dull masnachol gwirioneddol gydgysylltiedig ymysg ein sefydliadau cenedlaethol yn galluogi iddynt i ddod yn gryf yn ariannol ac ymgysylltu mwy â'r cyhoedd. Dyna pam, ym mis Medi, y cyhoeddais yr adroddiad 'Buddsoddi yn y dyfodol i warchod y gorffennol'. Mae'r adroddiad, a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson, yn nodi'r dewisiadau ar gyfer rhoi hunaniaeth unedig gryfach i sefydliadau treftadaeth cenedlaethol Cymru. Mae'r dewisiadau a ystyriwyd yn yr adroddiad yn amrywio o wella’r dulliau o weithio mewn partneriaeth i atebion mwy eithafol, megis creu elusen newydd neu uno sefydliadau.

Nid dechrau'r broses oedd yr adroddiad. Fel rhan o ddatblygiad Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ystyriwyd cyflwyno gwasanaethau amgylchedd hanesyddol cyhoeddus yn y dyfodol, gan gynnwys uno Cadw a'r comisiwn brenhinol. Rydym wedi adolygu'r safbwyntiau a fynegwyd ar y pryd, ac yr oedd llawer ohonynt yn dod i'r casgliad bod newid strwythurol yn amserol ac yn angenrheidiol.

Y cam nesaf yw paratoi’r achosion busnes a’r dadansoddiad manwl sydd ei angen i brofi hyfywedd y dewisiadau yn adroddiad y Farwnes Randerson. Dyna pam, ar ddechrau mis Medi, y sefydlais grŵp llywio sy'n cynnwys uwch reolwyr o'r amgueddfa genedlaethol, y llyfrgell genedlaethol, Cadw a'r comisiwn brenhinol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr undebau llafur. Mae wedi’i gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp llywio edrych yn feirniadol ar y dewisiadau ac i benderfynu ar y ffordd orau i gyfansoddi Cymru Hanesyddol fel y gall ein treftadaeth genedlaethol a sefydliadau diwylliannol harneisio eu harbenigedd a’u hadnoddau cyfunol yn y ffordd orau. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp roi ei gyngor cychwynnol i mi ym mis Ionawr. Bydd y cyngor hwn yn fy rhoi mewn sefyllfa well i ddatblygu cynllun manwl ar gyfer Cymru Hanesyddol, a fydd, fel y dywedais droeon, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.

Nid wyf yn tanbrisio’r her sydd o'n blaenau ac rwyf am weithio gyda'r sector treftadaeth i wneud Cymru Hanesyddol, ar ba ffurf bynnag y caiff ei gyfansoddi, yn endid deinamig ac arloesol a all helpu Cymru i werthu ei hun i'r byd. Yr wyf i, felly, yn barod i wrando ac ymgysylltu ag unrhyw un sydd am gyfrannu'n adeiladol at y weledigaeth sy'n datblygu ar gyfer Cymru Hanesyddol. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid yw’r status quo bellach yn bosibilrwydd. Nid dyma’r amser ar gyfer diogelu ymerodraethau yn y tymor byr: mae gormod yn y fantol. Mae’n rhaid i ni beidio â syrthio i'r fagl o wybod gwerth yr hyn sydd gennym, ond anwybyddu'n fwriadol y penderfyniadau anodd y mae angen eu gwneud i’w ddiogelu.

A gaf i ddiolch i chi, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n well gennym ddatganiadau yn y Siambr hon, yn hytrach na datganiadau ysgrifenedig, yn enwedig pan fydd gennym faterion sydd, fel yr ydych yn cyfeirio atynt, braidd yn ddadleuol. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn falch o'r sefydliadau—nid ydych yn unigryw yn hynny o beth—ac rwy’n credu ein bod yn eithaf balch, hefyd, o’r bobl sy'n gweithio i’r sefydliadau hynny ac yn eu gwneud y sefydliadau unigryw yr ydynt. Does gen i ddim problem enfawr hyd yn oed â'ch dadansoddiad o'r pedwar mater sy’n pwyso a godwyd gennych yn y datganiad. Fy mhroblem, yn hytrach, yw eich ymagwedd at ddod o hyd i ymateb priodol i'r rheini.

Rydych yn dweud nad yw’r atebion i gyd gennych, ond mae wedi dod yn amlwg bod gennych ateb yr ydych yn ei ffafrio, sef yr olaf o'r pedwar dewis a gyflwynwyd yn yr adroddiad PricewaterhouseCoopers y cyfeirir ato yn eich datganiad. Cadarnhawyd hynny yn eich llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, i gyfarwyddwr yr amgueddfa genedlaethol, ac, rwy’n deall, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru, er y gallaf fod yn anghywir ar hynny. Os yw hyn yn wir yn ymrwymiad maniffesto, fel y dywedasoch yn natganiad mis Medi, hoffwn i chi nodi ymhle y gallaf ddod o hyd iddo. Os yw'n cuddio y tu ôl i wal dal negeseuon e-bost y Blaid Lafur, nid wyf yn siŵr eich bod yn gallu honni bod pobl Cymru wedi pleidleisio mewn gwirionedd dros hyn, yn enwedig gan yr ymddengys y bu’r adroddiad gan PwC, sy'n cynnig dewisiadau amgen, yn gyfrinachol tan y mis Medi hwn.

Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: sut ydych chi yn bersonol wedi dod i'r casgliad mai dewis o ran 4 Cymru Hanesyddol yw’r canlyniad a ffefrir gennych? Efallai y byddwch yn nodi’r gwelliant yn yr incwm a gynhyrchir gan Cadw o ganlyniad i'r cydweithio rhwng Cadw a Chroeso Cymru, ond, cyn belled ag y gallaf i weld, nid ydych wedi uno swyddogaethau Cadw a Chroeso Cymru. Mae unrhyw ailstrwythuro, rydych newydd ddweud, wedi bod o fewn Cadw.

Fy ail gwestiwn yw hwn: gan fod y grŵp llywio yn gwybod pa ddewis yr ydych chi’n ei ffafrio, sut y gallwn fod yn hyderus y gall ystyried y dystiolaeth yn adroddiad PwC gyda meddwl hollol agored? Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn dweud unrhyw beth am uniondeb aelodau'r grŵp hwn—dydw i ddim yn bendant—ond rydych wedi anfon arwydd cryf y byddai, yn eich barn chi, ac er gwaethaf cynnwys adroddiad PwC, fersiwn o Gymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4, sy’n cynrychioli uno sylweddol, drwy oblygiad, yn well na'r dewisiadau eraill a gynigir yn yr adroddiad hwnnw.

Fy nhrydydd cwestiwn yw hwn: mae eich datganiad a'r dystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant yn ei gwneud yn glir bod eich bod chi’n credu’n gryf yn yr angen i gydweithio. Nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod unrhyw un ohonom yn anghytuno â chi am hyn. Yn sicr rydym yn hapus, fel Ceidwadwyr, i weld cydweithio cryfach ar weithgareddau masnachol. Ond, ychydig dros flwyddyn yn ôl—mae hyn yn ôl cyfarwyddwr yr amgueddfa—daeth Cadw, yr amgueddfa, y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol at ei gilydd a ffurfio partneriaeth fwy llac, sef partneriaeth yn arddull dewis 1, i gydweithio ar nifer o faterion, gan gynnwys gweithgarwch masnachol. Yn eich barn chi, pam yr oedd y model hwn yn ddiffygiol i’r graddau eich bod yn ystyried bod uno ffurfiol bellach yn angenrheidiol?

Yn olaf, gan fy mod i’n gwerthfawrogi bod llawer o bobl sy’n awyddus i ofyn cwestiynau am hyn—mae llawer o bryderon am hyn—rwyf am ailadrodd dau gwestiwn a ofynnais ichi rai wythnosau'n ôl na wnaethoch eu hateb. Y cyntaf oedd hwn: beth wnaethoch chi ddysgu o ymgais aflwyddiannus Llywodraeth Cymru i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Rydych yn dweud fod cefnogaeth ar gyfer newid strwythurol. Yr hyn yr wyf i’n ei gofio yw llawer iawn o wrthwynebiad i'r newid strwythurol ac, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru yn ildio ar hynny. Yn ail, os ydych yn cael awgrym gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, nad yw model dewis 4 Cymru Hanesyddol yn dderbyniol, a fyddwch yn ei dynnu oddi ar y bwrdd? Oherwydd mae’r Prif Weinidog yn hoff o ailadrodd, pan ddaw at Brexit, ei fod yn disgwyl i sefyllfa drafod a threfniadau’r DU ar ôl gadael gael eu cytuno gan yr holl genhedloedd ac nid cael ei orfodi gan Lywodraeth y DU, ac ni welaf unrhyw wahaniaeth yn yr egwyddor yn y fan yma. Os yw'r grŵp llywio o blaid trosglwyddo ystod eang o swyddogaethau i gorff newydd, yn hytrach na dirprwyo, er gwaethaf lefel y gweithgarwch ymgyrchu yr ydym eisoes wedi’i gweld, yna mae hyn yn awgrymu y bydd Cymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4 yn fater o orfodi yn hytrach na chytundeb. Diolch.

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau ac am gydnabod, o ran gweithgarwch masnachol, ei bod yn bwysig bod yr holl sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus yn edrych ar yr hyn y gallant ei wneud yn fwy eu hunain i fod yn fwy cydnerth. Mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig i lawer o bobl a allai fod yn gwylio heddiw nad ydynt yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd, sy'n edrych i sefydliadau cenedlaethol i’w helpu i ddod yn fwy cydnerth, i roi mwy yn ôl i'r wlad. Rwy'n gwybod bod etholiad yr arlywydd heddiw; wel, dylai sefydliadau cenedlaethol ofyn beth y gallan nhw ei wneud dros eu gwlad, drwy’r adnoddau a ddyrennir iddynt gan y Llywodraeth, yn hytrach na dim yn ceisio cael mwy o adnoddau i wneud yr un peth.

O ran prosesau—ac i raddau helaeth mae eich cwestiynau yn ymwneud â phrosesau—mae’r llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, yn ymwneud â sylwadau a wnaethpwyd, rwy’n credu, mewn pwyllgor gan Brif Swyddog Gweithredol yr amgueddfa genedlaethol, pan ddywedodd ei fod yn synnu bod dewis 4 wedi ei ddethol. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar y llythyr hwnnw o 27 Gorffennaf, ac rwy'n siŵr ei fod gan yr Aelod—os nad ydyw, rwy’n hapus iawn i gyhoeddi’r llythyr, ond hefyd, Lywydd, rwy'n hapus iawn i gyhoeddi'r llythyr, gyda chytundeb y Prif Swyddog Gweithredol, a ddaeth i law cyn fy llythyr ar 27 Gorffennaf. Roedd fy llythyr i mewn ymateb i'w lythyr ef a byddwn yn hapus i gyhoeddi'r llythyr hwnnw hefyd. Mae fy llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, yn datgan bod

yr adroddiad yn nodi nifer o wahanol ddewisiadau ar gyfer tyfu'r sector ac yn ei gwneud yn gwbl glir bod llawer o achos i ni fod yn optimistaidd os byddwn yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ac yn gwireddu’r synergeddau sy'n bodoli’n amlwg. O ystyried hyn—

a dyma’r llinell hollbwysig

gall dewis 4 gynnig ateb i rai o'r materion, ac yn wir, y cyfleoedd yr ydych yn eu codi yn eich llythyr.

Pam ei fod mor ddrwg i edrych ar y cyfleoedd a godwyd yn y llythyr hwnnw? Byddwn yn hapus i gyhoeddi’r llythyr hwnnw, fel y dywedais—dim llythyr 27 Gorffennaf ond y llythyr gan y Prif Swyddog Gweithredol ar 29 Mehefin. Felly, mae gennyf feddwl agored o hyd, ond yr hyn y byddwn yn ei awgrymu i Aelodau yw ei bod yn bwysig edrych ar y dewisiadau hynny, fel y mae’r grŵp llywio yn mynd i'w wneud, â meddwl agored, ac i’w hasesu yn bwyllog o ran sut y gallent fod o fudd i'r sector cyfan.

Rydych yn gofyn am Gymru Hanesyddol a'i lle ym maniffesto Llafur Cymru. Yr oedd ym maniffesto Llafur Cymru. Rydym yn byw yn yr oes ddigidol, felly roedd y maniffesto ar-lein. Os ewch chi i gael golwg arno, lawrlwythwch ef ar-lein, y mae yno. Mae yno, lle’r ydym yn sôn am ba mor bwysig yw hi i Cymru Hanesyddol ddod â gweithgareddau masnachol at ei gilydd. Rwy’n gwybod ein bod yn enwi’r amgueddfa genedlaethol a Cadw yn benodol yn hynny o beth, ond wrth gwrs mae’r comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol ar y grŵp llywio hefyd. Efallai y bydd synergeddau yno yn hefyd. Ond mater i’r grŵp llywio yw hyn. Mater i’r grŵp llywio yw hyn. Hoffwn ei roi ar gofnod unwaith eto fy mod yn eich sicrhau bod gennyf feddwl agored. Ond yr hyn na fyddaf yn ei dderbyn yw status quo neu ryw fân chwarae o amgylch yr ymylon. Nawr, mewn cwestiwn arall roedd yr Aelod yn holi am drefniant rhydd a oedd ar waith. Wel, byddwn i'n gofyn yn fy nhro: os oedd hynny'n llwyddiannus, beth am ei wneud ychydig yn fwy cadarn—ei gryfhau? Os oedd hynny'n llwyddiannus. Ond nid wyf yn credu ei fod, oherwydd, dros y blynyddoedd, rydym wedi clywed llawer iawn, iawn o sefydliadau yn siarad yn gynnes iawn am yr angen i gydweithio mwy. Ond, yn aml, nid ydynt yn cydweithio digon; dydyn nhw ddim yn gwireddu eu haddewidion.

O ran tystiolaeth, gadewch i ni edrych arni. O ran tystiolaeth, gallwn edrych ar y ffigurau presenoldeb gwirioneddol, oherwydd effeithiolrwydd unrhyw weithrediad marchnata—unrhyw weithrediad masnachol—yw faint o bobl yr ydych yn ymgysylltu â nhw, faint o bobl yr ydych chi’n eu denu. Rwy'n siŵr y byddem yn cytuno ar hynny. Felly, os ydym yn edrych ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae wedi gwneud gwaith da wrth ddenu pobl i'r safleoedd ac wrth addysgu pobl, ond nid da lle gellir gwell. Rwyf eisiau mwy. Rwyf eisiau i bobl Cymru fod yn fwy egnïol, a hynny’n ddiwylliannol ac yn gorfforol. Rwyf eisiau i fwy o bobl fod yn fwy gweithgar yn y celfyddydau, ac, ar hyn o bryd, er ei fod yn dda, nid da lle gellir gwell.

Os edrychwn ni ar y ffigurau, yn gyntaf oll—a’r ffigurau diweddaraf yw’r rhain—y safle sy’n denu’r niferoedd mwyaf yw Sain Ffagan, gyda 531,000; yr ail, amgueddfa genedlaethol Parc Cathays, Caerdydd gyda 491,000; yn drydydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda 261,000; Big Pit, 144,000; Amgueddfa Lechi Cymru, gyda 142,000; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, gyda 71,000; ac Amgueddfa Wlân Cymru, gyda 31,000. Yna, edrychwn ar yr atyniadau hanesyddol sydd wedi denu’r niferoedd mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn gweld bod y ffigyrau cymharol ar gyfer y safle amgueddfa genedlaethol a ddenodd y nifer mwyaf o ymwelwyr ychydig y tu ôl i'r nifer sy’n mynd ar deithiau bws o gwmpas Caeredin, sydd yn atyniad y mae’n rhaid talu amdano; hanner nifer y bobl sy'n ymweld ag Amgueddfa Riverside. Mae'r Baddonau Rhufeinig yn safle tebyg yng nghyd-destun y dinasoedd—Caerfaddon a Chaerdydd—ac mae’n rhaid talu i fynd yno. Maent yn denu 1,044,000. Fe âf ymlaen ychydig i gymharu yn nhermau meintiau tebyg. Yn Sheffield, mae Amgueddfeydd Oriel y Mileniwm Sheffield, sydd am ddim, yn denu 764,000 o bobl. Mae Brighton yn fwy, rwy’n cydnabod, ond mae Pier Brighton yn denu 4,600,000 o bobl; Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, 1,567,000; Oriel Genedlaethol yr Alban, 1,377,000.

Edrychwch, mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn hanfodol bwysig o ran niferoedd ymwelwyr, o ran ei allu i addysgu ac i ymgysylltu pobl mewn hyfforddiant sgiliau. Mae'n gwneud yn dda, fel y dywedais, ond nid yw'n gwneud yn ddigon da. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr yn y blynyddoedd i ddod, y gallwn edrych yn ôl a dweud, ‘Gwnaethom bopeth o fewn ein gallu i ddod â’r sector ynghyd i hyrwyddo ei hun ar y cyd er lles pawb' a bod y chwaraewyr allweddol yn y sector wedi gweithredu fel tîm er budd ei gilydd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod y raddfa honno o gydweithio yn ddigonol.

O ran yr ail gwestiwn, eto mae hyn yn ymwneud â ph'un a yw pobl ar y grŵp llywio yn mynd o gwmpas eu gwaith â meddwl digon agored, yn seiliedig ar yr honiad anghywir, fy mod i’n ffafrio un dewis dros un arall. Wel, mewn gwirionedd, heddiw gallaf sicrhau'r Aelod bod aelodau'r grŵp llywio yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn unrhyw ffordd bosibl er mwyn cyflawni canlyniad a fydd o fudd i'r sector cyfan. Gallaf ddweud hynny oherwydd llythyr sy'n ymddangos heddiw yn y 'Western Mail'. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r llythyr, ond byddaf yn ei ddarllen. Mae’r llythyr oddi wrth lywydd yr amgueddfa genedlaethol. Mae hefyd oddi wrth lywydd y llyfrgell genedlaethol. Mae hefyd oddi wrth gadeirydd y comisiwn brenhinol. Dyma a ddywed:

rydym yn gwybod ei fod yn amserol ac yn hanfodol ein bod yn edrych am gyfleoedd newydd i sicrhau bod treftadaeth mor berthnasol, mor hygyrch, ac mor gydnerth â phosibl, a'i bod yn seiliedig ar weithio ar y cyd... yn yr ysbryd hwn yr ydym yn gweithio yn rhagweithiol, fel aelodau o Grŵp Llywio, gyda Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Gadewch i ni i gyd chwarae i ennill, a gadewch i ni beidio â gweld y gêm yn cael ei thanseilio.

A allaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Ond, wedi dweud hynny, buasai’n lawer well gennyf i petaem ni yn cael dadl yn amser y Llywodraeth, fel rydw i wedi gofyn am ddwywaith yn y Siambr hon o’r blaen, achos mae’r materion gerbron yn allweddol bwysig, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei awgrymu eisoes, yn allweddol bwysig i ni fel cenedl—ac maen nhw; rwy’n cytuno efo fo yn fanna.

Yn y dyddiau du yna—yr anialwch gwleidyddol cyn datganoli—roeddem ni’n edrych i sefydliadau fel Amgueddfa Cymru a’r llyfrgell genedlaethol fel pileri cof ein cenedl ni, fel diffiniad o Gymru, fel ymgorfforiad annibynnol a llais annibynnol a oedd yn siarad fyny dros Gymru i ddweud bod Cymru’n dal i fod, er yr amgylchiadau du eraill. Roedd pobl yn gofyn cwestiynau yn yr 1980au fel ‘When was Wales?’ ac roeddech chi’n gallu cerdded i mewn i’r amgueddfa genedlaethol neu i Sain Ffagan ac yn gallu dweud, ‘Dyma le mae Cymru: dyma le mae Cymru yng nghanol pob peth arall’.

Sefydlwyd yr amgueddfa genedlaethol gan siarter frenhinol yn 1907, sy’n ymgorffori ac yn addo ei hannibyniaeth. Byddwch chi’n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, o’r holl lythyrau ac e-byst rydym ni wedi eu derbyn fel aelodau o’r pwyllgor diwylliant ac unigolion, pob un ohonyn nhw yn beirniadu’ch pwrpas chi i greu Historic Wales. Rwy’n falch eich bod wedi gallu clustnodi un llythyr sydd, o leiaf, ddim yn eich beirniadu chi, sydd wedi ymddangos yn y ‘Western Mail’ heddiw. Mae pob llythyr arall rwyf i wedi ei weld yn eich beirniadu chi’n hallt iawn. Felly, mae eisiau mynd i’r afael efo hyn.

Yn ôl i siarter brenhinol yr amgueddfa genedlaethol, y bwriad oedd—ac yn yr iaith fain—

‘To tell the world about Wales and to tell Wales about the world.’

Dyna ydy pwrpas ein hamgueddfa genedlaethol ni o hyd—o hyd. Ac, ie, rydych chi fel petaech wedi creu’r syniad, dros yr wythnosau diwethaf, bod y penderfyniad hwn i sefydlu Cymru Hanesyddol yn fait accompli, heb ddigon o wrando. Dyna beth mae pobl yn ei ddweud wrthym ni: mae’r bwriad wedi cael ei ruthro; nid oes neb yn gwrando ac nid oes yna neb yn cyfathrebu.

Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig, achos rydw i yn credu bod cynlluniau’r Llywodraeth yn effeithio’n anffafriol ar annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol, sydd yn golygu bod uno’r amgueddfa genedlaethol efo Cadw, ac mae Cadw yn rhan o’r Llywodraeth, yn sicr o beryglu annibyniaeth Amgueddfa Cymru. Rydym ni i gyd wedi bod rownd Sain Ffagan yn ddiweddar. Mae £25 miliwn yn y broses o gael ei wario ac mae Sain Ffagan wedi arloesi ers blynyddoedd lawer ac yn arweinydd byd yn ei faes. Mae’r holl bethau hyn yn mynd i gael eu peryglu os ydym yn mynnu uno’r amgueddfa genedlaethol efo Cadw.

Mae nifer o unigolion blaenllaw’r sector, yn cynnwys yr hanesydd Llafur, Dai Smith, yn feirniadol iawn. Fe wnaf i ddyfynnu yn yr iaith wreiddiol beth mae Dai Smith yn ei ddweud:

‘Income generation, commercial exploitation and partnership working are not dirty words or false concepts, but they should be entirely secondary to the rooted role we have given to our cultural bodies for more than a century.’

And he goes on to say that this is

‘precipitate implementation without the due diligence of informed discussion and evidential investigation.’

Ac rydw i’n tueddi i gredu ac i gytuno efo Dai Smith. Yn amlwg, nid ydw i’n cytuno efo Dai Smith ar bob peth, ond, yn y fan hon, rydw i’n cytuno efo fo.

Wrth edrych ar dudalen 4 o adroddiad PricewaterhouseCoopers, yn yr adran cwmpas ac amcanion, mae yna gyfeirnod i greu sefydliad masnachol ar wahân, sy’n awgrymu bod casgliadau wedi’u gwneud yn barod, hyd yn oed ar y pryd hynny, nôl ar ddechrau’r flwyddyn, a gofynnir i PwC ddod o hyd i dystiolaeth gefnogol i’r bwriad yna i greu sefydliad masnachol ar wahân. Nid yw hyn yn broses wrthrychol.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth a wnes i’n ddiweddar, mae wedi dod yn amlwg nad oes cofnodion wedi eu cadw o grŵp adolygu’r Farwnes Randerson. Pam hynny? Pam nad oes cofnodion? Mae hyn yn syfrdanol wrth feddwl am oblygiadau a phwysigrwydd yr argymhellion yma i’r sector.

Fel rydw i wedi crybwyll eisoes, mae yna bryderon hefyd ynglŷn â diffyg ymgynghori gyda’r sector a’r cyhoedd. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi clywed bod y syniad bod hwn ym maniffesto’r Blaid Lafur hefyd braidd yn od. Rydym i gyd yn cynhyrchu maniffestos printiedig; nid oedd ym maniffesto printiedig y Blaid Lafur, y bwriad yma i greu Historic Wales. Pam cadw’r ymrwymiad mor dawel os oedd yn rhaid mynd i mewn i atodiad ar-lein yn unig? Nid yw’r broses wedi bod yn agored nac yn dryloyw.

Nawr, ni fuasai neb yn anghytuno efo chyd-weithio, rhagor o gydweithio, na’r angen i ddatblygu’r ochr farchnata a’r ochr fusnes. Mae pob un yn cytuno efo hynny, ac mae yna’n wastad waith i’w wneud. Ond rydych chi’n mynd cam yn rhy bell wrth beryglu holl fodolaeth ein hamgueddfa genedlaethol ni.

So, to counter that feeling, Cabinet Secretary, will you today rule out the full merger of these organisations—

[Yn parhau.] —uno llawn Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda Cadw? A wnewch chi ddiystyru gweithredu dewis 4 adroddiad PwC yn ystod y tymor Cynulliad hwn? Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyd-destun arall, pan fuom yn trafod y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, NICW, rydych wedi dangos hyblygrwydd rhagorol ac awydd i wrando ar bryderon, a dod i gytundeb. Rydych chi wedi dangos yr hyblygrwydd hwnnw, clodwiw ag yr ydyw, yn ein trafodaethau yr ydym wedi eu cael, eich bod yn barod i symud, a byddwn yn cymeradwyo'r ymagwedd honno unwaith eto, yma. Oherwydd fel yr oedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ysbrydoli llawer ohonom unwaith, flynyddoedd yn ôl, mewn tir diffaith heb Gynulliad, rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd yn awr bod y Cynulliad hwn yn sefyll gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar awr gyfyng. Gofynnaf yn daer, peidiwch â gwneud hyn; gofynnaf yn daer, ailystyriwch.

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am rai sylwadau caredig a phwyntiau y mae wedi eu gwneud. Rydych chi wedi cydnabod fy mod yn gwrando, y gallaf wynebu her, a dyna'n union beth yr wyf yn ei wneud, a dyna'n union pam y byddaf yn gwrando ar y grŵp llywio a’r arbenigwyr hynny sy’n eistedd ar y grŵp llywio sy'n cynrychioli ein sefydliadau cenedlaethol—nid dim ond yr amgueddfa. Ac rwy’n gwybod eich bod wedi siarad llawer am yr amgueddfa, ond mae a wnelo hyn â mwy na’r amgueddfa genedlaethol; mae a wnelo â'r sefydliadau mawr sydd gennym sy'n cynrychioli cyfanrwydd y sector treftadaeth yr wyf yn teimlo'n angerddol amdano. Ac felly byddaf yn gwrando ar yr arbenigwyr hynny. Gallaf, gallaf ddiystyru y bydd uno llawn o'r sefydliadau, fel yr ydych yn gofyn i mi ei wneud, ond, o ran y dewisiadau hynny, rwy'n mynd i’w adael i'r grŵp llywio lunio cyfres argymhellion ar sil gwybodaeth dda.

Mae'r Aelod wedi codi llawer o bwyntiau, ond gadewch i ni sefydlu man cychwyn: ein bod ni i gyd yn angerddol am ddyfodol ein sector treftadaeth. Rydym ni i gyd yn awyddus i'n sefydliadau diwylliannol fod yn gryfach, nid dim ond sefydliadau cenedlaethol, ond y sefydliadau lleol hefyd. Dyna pam y comisiynwyd adolygiad panel arbenigol ar amgueddfeydd, dyna pam yr wyf wedi sefydlu’r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol fel cronfa drawsnewid, nid yn unig ar gyfer llyfrgelloedd, ond ar gyfer amgueddfeydd hefyd. Mae'n drueni na wnaeth y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli amgueddfeydd cymunedol sylweddoli’n iawn fy mod i wedi gwneud hynny pan amlinellais ym mis Ebrill, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, mai dyna oedd ein bwriad gyda'r gronfa llyfrgelloedd dysgu cymunedol. Rydym wedi sefydlu’r gronfa honno ar ffurf cronfa drawsnewid, oherwydd dywedais ar y pryd na allwn aros i greu cronfa gwbl newydd os yw amgueddfeydd cymuned a lleol yn mynd i fynd i’r wal yn y cyfamser. Felly, fe wnes i chwyddo’r gronfa o £1 miliwn i £1.4 miliwn. Mae hynny wedi ei wneud.

Rydym wedi comisiynu’r adolygiad panel arbenigol ar lyfrgelloedd. Nawr, gadewch i ni edrych ar lyfrgelloedd. Gadewch i ni edrych yn ôl i 2008, pan awgrymodd cyn Ysgrifennydd Gwladol, bod yn rhaid i lyfrgelloedd lleol arallgyfeirio yn wyneb y problemau cyllid cyhoeddus a oedd ar y gorwel, bod yn rhaid cael rhywfaint o gyd-leoli adnoddau a gwasanaethau. Cafodd ei gyhuddo o fod yn farbariad diwylliannol, oedd am roi siopau pysgod a sglodion—ac mae hwnnw’n ddyfyniad union, siopau pysgod a sglodion—gan bobl oedd, ie, yn llawn bwriadau da, a oedd yn gofalu am lyfrgelloedd, ond yn y pen draw, roedd y gofal hwnnw wedi arwain at fygu cannoedd ar gannoedd o lyfrgelloedd yn Lloegr, oherwydd eu bod yn draddodiadwyr, yn rymoedd gwrthwynebiad, a wrthododd dderbyn bod yn rhaid newid, bod y gymdeithas wedi symud ymlaen, bod yn rhaid inni apelio at bobl mewn ffordd newydd ac arloesol. Ac os ydym yn edrych ar y don—y tswnami—o negeseuon masnachol sy’n taro pobl bob dydd, yn sicr mae'n rhaid i chi gydnabod yn awr, yn fwy nag erioed, bod yn rhaid i chi gael brand cryf i fod yn berthnasol, bod yn rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich gwaith hysbysebu, eich gwaith marchnata, mor effeithiol ag y gall fod i dorri drwy’r hyn yr wyf wedi’i alw yn 'fwyd cyflym ar gyfer yr enaid’—y diwylliant pop sy'n taro pobl bob eiliad o'r dydd drwy gyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen.

Felly, mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud mwy er mwyn i’r sector treftadaeth farchnata ei hun, ond mae angen iddyn nhw wneud yn siwr eu bod yn cydweithio'n agos hefyd. Rydych yn dweud bod pawb yn cytuno ar gydweithio—ydyn, maen nhw, ond nid yw rhai mewn gwirionedd yn gwireddu eu geiriau cynnes, ac rwy’n rhoi pwyslais ar ddarparu ymdrechion cydweithredol, nid dim ond siarad am gydweithio. O ran y maniffesto, fel y dywedais, rydym yn byw mewn oes newydd erbyn hyn a phenderfynodd Llafur Cymru fynd yn ddigidol yn gyntaf i gydnabod y ffaith bod y rhan fwyaf o bobl bellach yn gweithredu yn ddigidol yn gyntaf. Felly, gosodwyd ein maniffesto cyfan ar y rhyngrwyd a byddaf yn hapus i argraffu adrannau sy'n ymdrin â diwylliant ac sy'n cyfeirio at Gymru Hanesyddol. Rwy’n cydnabod bod rhai pobl wedi ei chael hi’n anodd cael mynediad at y tudalennau hynny, ond byddwn yn gallu siarad ac esbonio’r broses o lawrlwytho ac argraffu’r maniffesto. Rwy'n ymwybodol o'r nifer o lythyrau sydd wedi eu cyflwyno, ond rwy’n gobeithio y bydd fy sylwadau heddiw yn tawelu meddwl llawer o bobl sy'n poeni, ac sydd â phryderon gwirioneddol. Rwy'n credu bod rhai o'r llythyrau, ac yr wyf wedi darllen llawer, yn seiliedig ar wybodaeth anghywir neu ofn na ellir ei esbonio.

Ni all annibyniaeth fod yn rhwystr i weithio'n agosach gyda'n gilydd, a, lle bo angen, cyfuno adnoddau. Roedd yr Aelod yn briodol wrth nodi un o ddibenion craidd yr amgueddfa: sef gwerthu yr hyn yw Cymru i'r byd. A dyna fy mwriad yn llwyr. Mae'n ymwneud â gwerthu'r hyn sy'n wych am Gymru, gyda’i gilydd. Ddoe, roeddwn i yn Llundain—roeddwn yn ffair deithio’r byd—ac yr oedd neuaddau di-ri yn llawn nifer enfawr o stondinau yn cynrychioli rhanbarthau a sefydliadau a chwmnïau o bobl mathau o wledydd, rhai ohonynt wedi gwario miliynau ar eu stondinau. Rhai y dwyrain canol yn benodol, roeddent yn anhygoel—roedd rhai yn rhoi pennau ysgrifennu, beiros Bic; rwy'n siŵr eu bod nhw’n rhoi Montblancs. Roedd yn anhygoel faint o arian yr oeddent yn ei wario arno. Felly, roeddent yn gallu cyflwyno brand cryf iawn ar gyfer eu hardaloedd, yr hyn y maent yn sefyll ar ei gyfer, ansawdd uchaf yr hyn y maent yn ei gynrychioli. Roeddwn yn falch, ar ein stondin ni—nid oes gennym gymaint o ran adnoddau ag sydd gan rai gwledydd, ond, ar ein stondin ni, roedd ein sefydliadau treftadaeth wedi’u cynrychioli; roedd gennym Cadw a'r amgueddfa genedlaethol gyda'i gilydd. Doedden nhw ddim yn hyrwyddo beth oedden nhw yn unigol; roeddent yn hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru, un o'r prif bethau sy’n denu pobl i Gymru fel ymwelwyr. Rwy’n awyddus i weld mwy o'r math hwnnw o weithgaredd.

Rydw i wedi clywed rhai pobl yn dweud, 'Yn hytrach na chanolbwyntio ar newid, neu yn hytrach na gorfodi cydweithio, pam na wnewch chi roi mwy o arian, pam na wnewch chi ganolbwyntio mwy ar adnoddau?' Ni fydd rhoi mwy o arian o reidrwydd yn cael mwy o bobl drwy'r drysau, a dyna, ar ddiwedd y dydd, yw'r prif nod ar gyfer y sefydliadau cenedlaethol sy'n gwasanaethu pobl Cymru: i fod yn hygyrch ac yn berthnasol ac yn groesawgar. Ac, o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i sicrhau bod lleoedd yn groesawgar, yn cael eu cynnal yn dda, rydym wedi cynyddu refeniw a chyfalaf yn y flwyddyn ariannol nesaf o 33 y cant. Byddaf yn dweud hynny eto: mae'n 33 y cant i'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol gyda'i gilydd. Mae'n gynnydd enfawr mewn adnoddau. Ac os ydych chi’n edrych ar—oherwydd bod rhai yn hoffi cymharu Cymru a Lloegr—newidiadau refeniw o 2010-11, byddwch yn gweld, ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol, ei fod yn 7.1 y cant. Ar gyfer y llyfrgell genedlaethol, nid yw cystal; mae'n 9.69. Byddwn wrth fy modd pe bawn i mewn sefyllfa yn y dyfodol i roi setliadau gwell, ond bydd unrhyw un sydd wedi clywed sylwebaeth am y ffordd y mae cyllid cyhoeddus yn mynd i fynd yn cydnabod ein bod yn mynd i wynebu penderfyniadau hyd yn oed mwy anodd yn y dyfodol. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom sydd pryderu o ddifrif—rydym ni gyd yn pryderu am y sector diwylliant—i'w helpu i fod yn fwy cydnerth yn y cyfnodau ariannol mwyaf anodd.

O’i gymharu â Lloegr, gyda llaw, roedd y toriadau cyfatebol yn Lloegr yn 15 y cant. Gadewch i mi ddod o hyd i ychydig o enghreifftiau penodol, fel y gwneuthum gyda’r ffigurau ymwelwyr. Os edrychwn ar ostyngiad refeniw, ac roedd hyn hyd at 2015, cafwyd gostyngiad o 13.8 y cant i’r Imperial War Museums, er enghraifft, o'i gymharu â, fel y dywedais, y gostyngiad o 7.1 y cant ar gyfer yr amgueddfa genedlaethol. Os ydych chi eisiau unrhyw arwydd, dyna fe—o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n sefydliadau cenedlaethol, ond, i mi, yr wyf am weld mwy yn cael ei wneud ar y cyd.

Ni allai unrhyw un oedd yn gwrando arno heno wadu awydd a brwdfrydedd Ysgrifennydd y Cabinet i gael y sefydliadau hyn i weithio hyd eithaf eu gallu. Ond rhaid i mi leisio rhai o'r un pryderon a leisiwyd gan Suzy Davies a Dai Lloyd heno. Tra bod UKIP yn cytuno yn fras ein bod yn defnyddio pob ffordd bosibl o gynhyrchu incwm o’r asedau cenedlaethol unigryw hyn, mae'n destun pryder i weld ein bod yn siarad am gorff arall eto, a allai gael ei ystyried o bosibl yn gwango arall, hyd yn oed os yw’r corff hwn yn gorff mewnol. Felly, yn gyntaf, a fydd y corff hwn yn ychwanegol at y pedwar corff sy'n bodoli yn awr? Yn ail, fel yr ydych wedi crybwyll, mae paragraff 3 ar dudalen 2 eich datganiad yn nodi bod Cadw wedi cael ei blwyddyn refeniw orau erioed y llynedd. Felly, o ystyried eich bod yn cyfaddef y gall sefydlu corff newydd fod yn gostus iawn, oni fyddai'n well i osod targedau ar gyfer y sefydliadau sy'n bodoli eisoes neu uno rhai o'r sefydliadau hyn er mwyn cyflawni'r canlyniadau gofynnol? A wnewch chi gamu yn ôl dim ond un cam o hyn sy'n ymddangos i fod y trywydd yr ydych yn ei ddilyn—sef y pedwerydd dewis sydd ar gael—fel eich bod yn adolygu eto yr holl ddewisiadau eraill? Diolch.

Diolch. Hoffwn ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau a dim ond eisiau myfyrio, mewn gwirionedd, gan fy mod yn gwybod bod hyn wedi bod yn ddadleuol, ac roedd Dai Lloyd yn dyfynnu Dai Smith yn ei gyfraniad, ac efallai y gwnaf i fyfyrio ar ddyfyniad arall gan Dai Smith, pan ddywedodd y dylai diwylliant fod yn aflonyddgar. Efallai bod y cynigion hyn yn aflonyddgar, ond maent yn aflonyddgar yn y ffordd iawn oherwydd eu bod yn hoelio sylw yn glir ar sut y gall y sector gydweithio mwy er lles pawb ar draws llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac o bosibl archifau, hefyd, gan dynnu mwy o sylw at y sector treftadaeth gwych y dylem allu ei frolio yng Nghymru. Yn wir, roedd Dai Smith, yn union fel y dywedodd Dai Lloyd, yn nodi bod swyddogaethau masnachol yn bethau eilaidd. Wrth gwrs maent yn llai pwysig, ond nid yw'n golygu nad ydynt yn gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod cyfnod o galedi ariannol difrifol i lawer o bobl, i lawer o sefydliadau, i’r wlad gyfan.

O ran y dewisiadau a ph'un a fyddai hwn yn gwango arall, rwyf wedi bod yn glir iawn mai’r grŵp llywio ddylai fod yn gwneud argymhellion i ni eu hasesu ac yna i ymgynghori arnynt yn gyhoeddus. Rwy’n ymwybodol o'r angen i osgoi unrhyw weinyddiaeth neu fiwrocratiaeth ychwanegol. Holl bwynt y gwaith hwn yw gwneud yn siŵr bod pob sefydliad mor rhydd, mor hyblyg, mor ystwyth, ond hefyd mor greadigol a phenderfynol â phosibl i gael budd o gynnydd mewn incwm masnachol, ac i fod yn fwy rhagweithiol ac ymgysylltu â mwy o gymunedau a mwy o bobl sydd, yn draddodiadol, wedi teimlo eu bod wedi’u hymddieithrio neu’n bell o sefydliadau diwylliannol, a hynny am bob math o resymau, boed yn rhwystrau corfforol neu seicolegol—mae’n rhaid i oresgyn y rhwystrau hynny fod yn amcan sylfaenol y sefydliadau. Dyna pam y sefydlwyd y rhaglen Fusion, oedd â'r nod o asio sefydliadau—sefydliadau diwylliannol—â grwpiau cymunedol i harneisio grym diwylliant i drechu tlodi. Hoffwn weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw yn cael ei gynnal gyda mwy o bartneriaid hefyd. Dyna pam yr wyf yn dal i ddweud, 'mae angen mwy o gydweithio'. Ar hyn o bryd, nid yw’n ddigon da. Mae gennym enghreifftiau o ble mae cydweithio wedi gweithio, ond nid yw’n ddigon, rwy'n ofni. Felly, rydym yn dymuno gweld mwy o gydweithio, ond mater i’r grŵp llywio fydd gwneud argymhellion. Ac rydych yn hollol gywir—cafodd Cadw ei blwyddyn orau erioed. Ac oherwydd llwyddiant Cadw yr ydym wedyn wedi gallu dyrannu adnoddau ychwanegol i'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Gadewch i ni i gyd chwarae i ennill gyda'n gilydd, yn hytrach na chystadlu o fewn yr un tîm. Mae hyn yn ymwneud ag un sector yn awyddus i fod y gorau yn y byd, felly gadewch i ni wneud hynny fel un tîm unedig.

Rydym allan o amser ar y datganiad hwn, ond mae gen i ychydig mwy o Aelodau sy'n dymuno holi Ysgrifennydd y Cabinet. Os gallwn gael cwestiynau cryno ac atebion cryno, byddai hynny’n ein helpu yn fawr. Vikki Howells.

Diolch, Lywydd a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig a amlinellwch heddiw. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw twristiaeth fel sector i economi Cymru, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei marchnata yn gryf wrth symud ymlaen, os yw am gynnal a gwella'r presenoldeb sydd ganddi ar hyn o bryd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â phwysigrwydd twristiaeth treftadaeth i economïau lleol. Mae ffigur o £19 miliwn y flwyddyn wedi ei awgrymu o'r blaen. Yn amlwg, mae angen i ni sicrhau bod hyn o fudd i Gymru gyfan, felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mai un o flaenoriaethau Cymru Hanesyddol yw ceisio hyrwyddo cyfleoedd hanesyddol ledled ardaloedd o Gymru nad ydynt yn gysylltiedig yn draddodiadol â thwristiaeth? Yn ail, yn gysylltiedig â hyn y mae hyrwyddo hanes nad yw wedi bod yn hysbys o’r blaen, er enghraifft, hanes go iawn y dosbarth gweithiol, hanes gwerin gwlad, sy'n perthyn i gynifer o bobl yng Nghymru. Sut fydd Cymru Hanesyddol yn hyrwyddo'r naratif hwn, megis hanes glofa Tŵr yn fy etholaeth i, er enghraifft, a fyddai wedyn â’r potensial i weithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd pellach?

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â sgiliau a hyfforddiant, ac rwy’n cofio, Ysgrifennydd y Cabinet, eich uchelgais, fel y clywodd y pwyllgor economi yr wythnos diwethaf, i Gymru fod ag enw da am wasanaeth anhygoel i gwsmeriaid. Ond pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r bwlch sgiliau er mwyn gwneud hyn yn realiti? Yn benodol, pan fydd grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno profiadau treftadaeth, fel Amgueddfa Cwm Cynon yn fy etholaeth i, sut fyddech chi’n sicrhau bod Cymru Hanesyddol yn mynd ati fel blaenoriaeth i roi i wirfoddolwyr yr hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt?

Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau pwysig iawn, yn arbennig arwyddocâd y sector treftadaeth i'r graddau y mae cyflawni sgiliau yn y cwestiwn, oherwydd fy mod yn falch yn ddiweddar—dwi ddim yn siŵr a yw hyn i gael ei ddatgelu eto, ond rwy’n mynd i’w ddweud beth bynnag—i gefnogi cais gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyfer hyfforddiant sgiliau o fewn y sector treftadaeth, a gwn fod fy nghydweithwyr yn yr Adran Addysg a sgiliau hefyd yn falch iawn â hwn. Bydd cyfleoedd yn cael eu creu i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig i gymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfaoedd o fewn y sector treftadaeth, ac rwy’n awyddus iawn i wneud yn siŵr, wrth inni symud tuag at y dyfodol, ein bod yn symud y tu hwnt i siarad yn unig am oroesiad y sector treftadaeth a'r sefydliadau o fewn y sector, a’n bod mewn gwirionedd yn dechrau siarad am ffyniant y sector a’r sefydliadau hynny. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ddatblygu mwy o arian, mwy o sgiliau a mwy o arbenigedd o fewn y sector, a gallwn wneud hynny drwy ddod â nhw at ei gilydd.

Dydw i ddim yn gweld pam—ac nid oes angen uno sefydliadau mewn unrhyw fodd, ond o ran y gweithgareddau sy'n wynebu tuag allan, byddai'n fuddiol cael cydweithredu llawer agosach, mwy ystyrlon—na allem gael pobl, er enghraifft, â sgiliau gwych o'r llyfrgell yn gweithio ym Mharc Cathays yn yr amgueddfa, neu i'r gwrthwyneb, yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo’r sgiliau unigryw sydd gan lawer o bobl a gyflogir yn y sefydliadau, ac nad ydynt yn amlwg yn rhannau eraill o orllewin Ewrop. Ac rwy’n meddwl y byddai'n wych i allu hyrwyddo’r sgiliau hynny a’r cyfleoedd gyrfa hynny ledled Cymru, oherwydd mae’r Aelod yn iawn—mae rhai rhannau o Gymru, mae rhai cymunedau yng Nghymru, lle nad yw'r sefydliadau cenedlaethol yn bresennol, ond lle y gall Cadw fod yn bresennol. Mae rhai rhannau o Gymru lle nad yw Cadw, yr amgueddfa genedlaethol na'r llyfrgell genedlaethol yn bresennol yn gorfforol. Ac yn yr amgylchiadau hynny, a'r cymunedau hynny, mae'n hanfodol bod amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd lleol ac archifdai lleol yn cael cefnogaeth ac yn cael arweiniad cenedlaethol cryf, a bod yna sgiliau i’w cefnogi, ac i wneud treftadaeth yn real, yn ddiriaethol ac yn hygyrch ar gyfer pawb ym mhob cymuned, waeth ble maent yn byw.

O ran rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar sail genedlaethol, rwy'n meddwl bod y prosiect dehongli treftadaeth Cymru gyfan yn llwyddiant mawr, ond nid oes amheuaeth bod angen i ni wneud mwy i hyrwyddo ein treftadaeth ddiwydiannol. Mae hwn yn un maes—rwy’n gwybod bod Jeremy Miles wedi siarad am 89.9 eiliad wythnos diwethaf am werth treftadaeth ddiwydiannol mewn llawer o gymunedau. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i y gallwn ac y gallem wneud mwy os ydym yn mynd i ddenu mwy o adnoddau, datblygu sgiliau o fewn y sector a chynyddu’r nifer o gyfleoedd gwaith sydd yna.

Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y cyfle yn ystod amser cinio i ymweld â'r llu o gymdeithasau ac ymddiriedolaethau yn yr Oriel i fyny'r grisiau sy'n ymroddedig i warchod ein hamgylchedd hanesyddol; i enwi ond ychydig, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, y Gymdeithas er Diogelu Adeiladau Hynafol, a hefyd wrth gwrs y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, a grybwyllir yn aml yn y Siambr hon. Mae ganddynt bryderon am y broses hon. Maent yn optimistaidd hefyd am rai agweddau ohoni, ond mae ganddynt bryderon. Sut ydych chi’n gweithio gyda’r sefydliadau llai hyn i wneud yn siŵr bod y broses hon mor llyfn â phosibl, ac y rhoddir sicrwydd i’r sefydliadau hyn?

Yn ail, byddaf yn onest, nid yw fy mherthynas i a Cadw wedi bod yn berffaith bob amser. Rwy’n credu bod Cadw yn gwneud rhai pethau'n dda iawn. Rwy'n meddwl bod pethau eraill, yn sicr yn y maes archaeolegol, nad ydynt yn eu gwneud cystal. Rwy’n cofio yn y Siambr hon yn y Cynulliad diwethaf holi'r Gweinidog diwylliant blaenorol ar ddarganfyddiad y llyn cynhanesyddol ym Mynwy. Roedd archeolegydd lleol yn dweud wrthyf fod tystiolaeth o adeiladu cychod cynhanesyddol ar lannau'r llyn. Cafodd hynny ei wadu gan Cadw am fisoedd a misoedd hyd nes eu bod o'r diwedd yn ei dderbyn. Nid oeddent yn gwrando ar yr arbenigedd lleol.

Felly, pan ddaw at eich cynigion newydd, a fyddwch chi’n sicrhau, pa un a ydych yn mynd ar drywydd corff mwy o faint newydd neu gadw cyrff llai, fod y corff mwy o faint yn cyd-fynd â'r gymuned leol, yn cyd-fynd â sefydliadau lleol, ac yn gwrando ar eu harbenigedd, sydd yn aml yn eang iawn ac yn bwysig iawn i'r gymuned leol? Nid wyf yn credu bod y strwythurau presennol wedi gwneud hynny bob amser. Fel yr wyf yn dweud, mewn rhai achosion, maent yn arbennig o dda am gadw'r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod, ond yn nhermau gwerthfawrogi beth yr ydym wrthi yn ei ddarganfod, dydyn nhw ddim mor dda o ran hynny. Felly, os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau bod y strwythurau newydd yn ystyried yr agweddau hynny?

Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau. Rwy'n falch iawn ei fod wedi mwynhau'r digwyddiad yma heddiw. Cynhaliais y digwyddiad a chymerais yr amser fy hun i siarad â nifer o grwpiau a ddaeth ynghyd â gwybodaeth ddiddorol am Gymru Hanesyddol. Codwyd rhai pryderon. Roeddwn yn gallu sicrhau pobl yn eu cylch, a chredaf fod honno’n dasg i mi yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod—i sicrhau ein bod yn gwneud hyn i dyfu'r sector a’i wneud yn fwy cynaliadwy. Nid yw hyn yn fygythiad i unrhyw sefydliad neu gorff. Mae hwn yn gyfle. Bydd gweithio gyda'n gilydd o fudd enfawr i'r sefydliadau llai, ac o’r sefydliadau hynny yma heddiw, rydym yn ariannu llawer ohonynt, ac rwy’n meddwl y byddent hefyd yn cydnabod, er bod ein cymorth yn gwbl hanfodol, mai’r hyn sy'n bwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod yw eu bod nhw eu hunain yn dod o hyd i ffyrdd eraill o ddenu adnoddau hefyd.

Yn ddiweddar, es i a fy nghydweithiwr Lynne Neagle, i ymweld ag amgueddfa yn ei hetholaeth lle clywais y bu gostyngiad yn nifer y staff cyflogedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod y swyddi hyn wedi’u llenwi gan wirfoddolwyr, mae'r sefyllfa bellach wedi codi lle maent dan bwysau aruthrol, pwysau ariannol, i gynnal y gwasanaeth sy'n hanfodol i'r gymuned honno. Mewn gwirionedd, dywedasant y gwrthwyneb i'r hyn yr wyf wedi’i glywed mewn rhai mannau, sef bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod gennym arweiniad cryf, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym sefydliadau cenedlaethol cryf, ond yn bennaf oll mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod modd denu adnoddau ychwanegol i wneud y sector cyfan yn gryfach. Mae'n anodd iawn i mi ddweud wrth amgueddfeydd bach cymunedol a llyfrgelloedd cymunedol, 'Ni allwn fforddio eich ariannu’, ac eto maent wedyn yn dweud wrthyf i, 'Ond rydych yn cynyddu'r adnoddau ar gyfer sefydliadau cenedlaethol'. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yn dod i'r amlwg yw diwylliant lle mae pawb gyda'i gilydd yn y gymdeithas yn cyfrannu mwy trwy fod yn fwy gweithgar yn y sector diwylliant, fel bod sefydliadau bach yn denu mwy o adnoddau a sefydliadau mawr yn gwneud yr un peth. Dyna’r weledigaeth, a byddwn yn annog unrhyw Aelod sy'n gwrthwynebu’r hyn yr ydym wedi'i amlinellu, a’n sefyllfa ni, i awgrymu gweledigaeth amgen. Oherwydd ni fydd y problemau sy’n wynebau’r sector yn diflannu drwy anwybyddu'r angen i newid yn unig.

O ran ymgysylltiad Cadw â chymunedau, y peth cyntaf a wnes mewn perthynas â Cadw pan gefais fy mhenodi i fy swydd flaenorol oedd ysgrifennu at bob grŵp cymunedol o fewn radiws penodol i safleoedd Cadw, a gofyn iddynt pa un a oedd unrhyw weithgarwch y byddent yn hoffi defnyddio’r safleoedd hynny ar eu cyfer. Darparwyd enwau'r ceidwaid ym mhob safle, ac, o ganlyniad i hynny, rwyf bellach yn ymwybodol o wyliau newydd sydd wedi digwydd ar safleoedd Cadw, a gweithgareddau cymunedol newydd. Hoffwn i weld mwy o'r gweithgarwch hwnnw ledled Cymru.

Ond mae Cadw yn gwasanaethu dwy swyddogaeth, ac rwy’n meddwl, weithiau, bod y ddwy swyddogaeth, cyn belled ag y mae’r bobl—y cwsmer, y boblogaeth—yn y cwestiwn, yn cael eu cyfuno. Y ddwy swyddogaeth, wrth gwrs, yw’r swyddogaeth statudol a'r swyddogaeth fasnachol. Ac, weithiau, gellir llyffetheirio’r swyddogaeth fasnachol, neu gellir llyffetheirio llwyddiant masnachol Cadw, yn rhinwedd bod yn y Llywodraeth. Ni all fod mor hyblyg â phosibl yn y ffordd y mae’n gweithredu weithiau.

Felly, nid ceisio gafael mewn pŵer ar fy rhan i yw hyn. Nid wyf am gymryd yr amgueddfa genedlaethol i mewn i’r Llywodraeth. Mae fy mhortffolio yn ddigon eang fel y mae. Ac, mewn gwirionedd, rwyf am ryddhau—os rhywbeth, rwy’n awyddus i roi grym i bobl, fel bod pobl yn gallu cofleidio eu hasedau yn lleol. Oherwydd rwy’n gwybod mai asedau hanesyddol yn aml yw’r hyn sy'n diffinio ein cymunedau yng Nghymru. Dyma sy’n gwneud pobl yn falch o’r lle y maent yn byw, ac rwyf am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio'n well, a bod mwy o bobl yn ymweld â nhw.

Roeddwn i eisiau cyfrannu’n fyr, er mwyn ceisio dadansoddi rhywfaint o'r hyn sydd wedi’i ddweud heddiw. Byddwch yn gwybod, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, fy mod i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl. Codwyd cwestiwn gennych am gynnwys rhai o'r llythyrau hynny. Hoffwn i ddweud, efallai, eu bod wedi eu hysgrifennu fel y maent oherwydd bod yna, yn fy marn i, ryw lefel o ddryswch ynghylch eich bwriadau. Dywedaf hyn oherwydd, yn eich datganiad blaenorol, roeddech yn sôn am uno swyddogaethau masnachol yr amgueddfa genedlaethol â Cadw, a dyna yr oedd yn ymddangos eich bod yn canolbwyntio arno, ac yna, heddiw, mae gennym ddatganiad sy'n cynnwys mwy o sefydliadau.

Felly, os nad ydych o blaid uno llawn, a allwch chi ddweud wrthyf sut y byddai uno rhannol wedyn yn gallu bodloni'r hyn yr ydych yn awyddus i’w weld yn digwydd, o ran pobl yn gweithio yn agosach gyda'i gilydd, ond yna hefyd sicrhau bod annibyniaeth y sefydliadau hynny yn cael ei barchu, yng nghyd-destun y ffaith na fydd ganddynt bŵer wedyn dros y swyddogaethau masnachol, fel yr amlinellir mewn datganiadau blaenorol a gawsom yma heddiw?

Y broblem arall oedd gennyf oedd eich bod yn cyfeirio at yr adroddiad—mae’n ddrwg gen i fod yn anodd fy mhlesio ynghylch hyn—fel adroddiad y Farwnes Randerson. Ond fy nealltwriaeth i yw mai adroddiad PricewaterhouseCoopers ydi o, ond yna mae gan Jenny Randerson banel ymgynghorol. Felly, hoffwn ddeall a yw Jenny Randerson wedi cymeradwyo popeth y mae adroddiad PricewaterhouseCoopers yn ei ddweud, ac a oes gennych ei chefnogaeth lawn yn hyn, gan mai fy nealltwriaeth i oedd mai hwn oedd adroddiad Randerson, ac rwy’n credu bod angen i ni glirio’r dryswch hwnnw.

Rwyf hefyd yn awyddus i ddeall, oherwydd eich bod yn awr wedi dweud mai mater i’r grŵp llywio fydd penderfynu, p’un a fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewis a ffefrir ganddynt neu a fydd ar y gwahanol ddewisiadau y maent yn eu trafod. Oherwydd, wrth gwrs, dyna’r adeg pryd y bydd y sefydliadau, pryd y bydd y bobl sydd wedi ysgrifennu at fy mhwyllgor, yn gallu ymgysylltu â'r broses. Felly, credaf fod hynny’n rhan o'u hofn—eu bod yn mynd i gael cymryd rhan ar ôl hyn, yn hytrach na chael cymryd rhan cyn rhai o'r cyhoeddiadau a wnaethoch.

Hoffwn hefyd gytuno â'r hyn a ddywedodd Suzy Davies mewn cysylltiad â'r drafodaeth yr ydym wedi ei chael o'r blaen ynghylch y comisiwn brenhinol a Cadw. Nid fy fersiwn i o hanes yw dweud y bu cefnogaeth eang, amserol ac angenrheidiol i hynny. Yn wir, pan siaradais â'ch rhagflaenydd, John Griffiths, fe wnaeth roi mater yr uno i’r neilltu ar ôl i lawer ohonom—a'r sector—ymgyrchu yn erbyn hynny. Felly ai dyma eich ffordd o ddod yn ôl ato, ond gydag awch gwahanol?

Soniasoch hefyd am Cadw a marchnata. Hoffwn i ddeall beth oedd y gyllideb. A wnaethoch chi roi hyn allan i asiantaeth? Rwy'n credu mai Equinox oedd ei henw. Faint wnaethoch chi dalu i’r asiantaeth honno i wneud y gwaith marchnata hwnnw? Oherwydd efallai fod ganddynt fanteision ychwanegol o bosibl nad oedd gan yr amgueddfa genedlaethol. Oni fyddech yn cytuno â mi bod y niferoedd yn llai yn yr amgueddfa genedlaethol yn sgil ailddatblygu Sain Ffagan, ac y gallai’r niferoedd hynny godi pan fydd y gwaith ailddatblygu wedi’i gwblhau?

Fy nghwestiwn olaf yw hwn: cafwyd cryn dipyn o ddadlau yn ddiweddar yn y pwyllgor amgylchedd ynghylch y materion sy'n ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru. Byddwn yn eich annog i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno ac i roi sicrwydd i chi eich hun y bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol a wnewch am sut y mae sefydliadau cenedlaethol yn cael eu huno o bosibl neu eu hannog i weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol yn gallu gwneud hynny mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus gyda hi, fel nad oes yr un problemau sydd yn y trefniadau staffio yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd. Dyna'r peth olaf sydd ei angen arnom—mae angen i ni gael gweithlu hapus a chynhyrchiol, ar wahân i unrhyw beth arall, i wneud yn siŵr eu bod wedyn yn gallu darparu yn effeithiol i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn hollol hanfodol bod unrhyw un sy'n teimlo dryswch ynghylch y cynigion yn darllen beth yw'r dewisiadau ac yn asesu yn ofalus beth yw'r dewisiadau hynny, oherwydd ar ôl asesu’r pedwar dewis, rwy’n meddwl y bydd yn hollol glir i unrhyw un nad yw uno ar raddfa eang yn agored i gael ei drafod. Gofynnodd yr Aelod—ac mae'n ddrwg gen i nad oeddwn wedi sylwi ar y cwestiwn a ofynnwyd gan Suzy Davies am ba wersi sydd wedi eu dysgu am y cynnig sawl blwyddyn yn ôl i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol yn llawn—wel, y brif wers a ddysgwyd o hynny yw nad ydych yn uno sefydliadau yn llawn. Beth allwch chi ei wneud yw annog y sefydliadau hynny i weithio gyda'i gilydd er budd pawb. Felly, byddwn i'n gwahodd unrhyw un sy'n teimlo’n ddryslyd am y dyfodol i ddarllen am y pedwar opsiwn ac i fod yn sicr y bydd y grŵp llywio yn cynnig argymhellion, ac yr ymgynghorir arnynt fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus, pan fydd cyfle i bobl a sefydliadau wneud arsylwadau, nid yn unig o ran yr argymhellion ond hefyd y pedwar dewis. Dymunaf i’r broses hon fod yn dryloyw ac rwy'n dymuno gweld cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan ynddi. Ond pan wyf yn dweud y dylai cymaint o bobl â phosibl gymryd rhan ynddi, dylem fod yn gwneud mwy i gynnwys yr unigolion hynny, y teuluoedd hynny, y cymunedau hynny sydd, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, yn y gorffennol, ac yn dal hyd y dydd hwn, yn teimlo eu bod wedi eu heithrio o weithgareddau diwylliannol am un neu nifer o resymau—boed yn seicolegol neu'n gorfforol, nid oes gwahaniaeth, mae gormod o bobl yn dal i beidio â theimlo eu bod yn rhan o ddiwylliant Cymru. Mae angen mynd i’r afael â hynny. Mae'n rhaid mynd i’r afael â pherthnasedd ein sefydliadau— [Torri ar draws.]

Roeddwn i'n meddwl eich bod wedi gorffen, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'n ddrwg gennyf, dim ond dau bwynt arall cyflym. Dwi yn ymddiheuro am fynd dros amser.

Cyllideb Cadw—os edrychwch ar rowndiau cyllideb y llynedd, byddwch yn gweld bod cyllideb Cadw, rwy’n credu, wedi ei lleihau gan fwy na’r amgueddfa genedlaethol, felly o ran marchnata, mewn gwirionedd mae wedi gwneud mwy gyda llai wrth wella incwm a ffigurau. Yn nhermau Sain Ffagan—o, ac rwyf hefyd yn credu bod llawer o gontractau sydd gan yr amgueddfa genedlaethol â phartneriaid allanol sy'n cyflawni swyddogaethau marchnata a swyddogaethau arlwyo. Felly, nid yw fel pe bai popeth yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan yr amgueddfa ei hun. Felly, os oes cwmnïau yn y sector preifat sydd eisoes yn gwneud rhywfaint o waith ar ran yr amgueddfa, beth fyddai'n atal y cwmnïau hynny neu gwmnïau sy'n gweithredu ar ran Cadw mewn gwirionedd rhag ei wneud gyda'i gilydd—unwaith eto, dim ond cydgysylltu, gan wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau arbedion maint? O ran Sain Ffagan, rwy’n clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelod—rwy’n meddwl mai Dai Lloyd a awgrymodd y gallai’r gweithrediad hwn niweidio prosiect Sain Ffagan. Gan fod yr Aelod wedi awgrymu hynny, rwy’n gwbl hapus i gynnal ymchwiliad—ymchwiliad i'r gwaith sydd wedi ei gynnal hyd yn hyn yn Sain Ffagan ac asesiad o b'un a fyddai unrhyw symudiad i greu Cymru Hanesyddol yn effeithio ar gwblhau'r prosiect hwnnw. Rwy’n gwbl sicr y bydd y prosiect yn cynyddu niferoedd, fel y dywedodd Bethan Jenkins.

Ond o ran niferoedd ymwelwyr, rwy’n credu ei fod hefyd yn bwysig peidio â gosod targedau sy'n is—targedau blynyddoedd i ddod—sy’n is na'r hyn yr ydych yn ei gyflawni ar hyn o bryd, ac yn anffodus, yn y gorffennol, rydym wedi gweld yr amgueddfa yn gwneud hynny. Mae’n rhaid i hynny ddod i ben. Rwy’n meddwl bod David Rowlands yn iawn, mae'n rhaid i ni osod targedau sy’n ymestyn—nid dim ond i gael yr un bobl dro ar ôl tro yn ymweld â'n sefydliadau cenedlaethol, ond i ddenu pobl newydd i ymweld â sefydliadau cenedlaethol hefyd.

Cadwaf i ddim mohonoch chi’n hir, Lywydd. Dim ond gofyn i’r Gweinidog a ydy o’n cytuno efo fi nad ydy treftadaeth ac etifeddiaeth ddim yn perthyn i’r gorffennol, ond eu bod yn perthyn i’r dyfodol? Rŷm ni’n sôn fan hyn am sefydliadau, yn bennaf, a ddaeth i fod—. Dyna pam bod ganddyn nhw siarter frenhinol—dyna oedd yr unig ffordd i greu sefydliadau cenedlaethol yn y cyfnod yna cyn datganoli. Rŷm ni’n sôn am sefydliadau a sefydlwyd yn rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf, ac felly rwyf i’n gyfan gwbl gefnogol i weledigaeth y Gweinidog, ac rwy’n diolch iddo fo am beth y mae wedi’i wneud yn Harlech, ac y mae Owain Glyndŵr yn cytuno efo fi.

Alla i ddim â diolch digon i'r Aelod, a fyddwn i byth, byth yn cwestiynu ei ddoethineb neu ei syniadau. Mae ef, i mi, yn dipyn o Obi-Wan Kenobi i fy Skywalker ychydig yn naïf i. Ond o ddifrif, rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwarchod ein treftadaeth a gwarchod y sefydliadau ar gyfer y dyfodol, ond sicrhau bod y sefydliadau yn gwasanaethu pobl Cymru yn gyntaf ac yn bennaf, ac nad ydym yn tynnu ein llygaid oddi ar y gorwel.

9. 8. Datganiad: Nodi Dydd y Cofio a Chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned y lluoedd arfog. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Carl Sargeant.

Diolch i chi, Lywydd. Mae’r adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig yn ein hatgoffa o bawb sydd wedi ymladd mewn brwydrau i warchod y ffordd o fyw sydd gennym heddiw. Eleni rydym wedi coffáu rhai o frwydrau mwyaf y rhyfel byd cyntaf. Cofiwn y rhai a gollodd eu bywydau yn Jutland ac yn ystod brwydr y Somme, yn enwedig ym Mametz Wood. Gwnaeth miloedd o filwyr Cymreig yr aberth eithaf. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi canmlwyddiant brwydr Passchendaele, un o frwydrau allweddol y rhyfel byd cyntaf, pan gollodd 70,000 o filwyr Prydeinig eu bywydau, llawer ohonynt o Gymru, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn.

Mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio'r rheiny a gollodd eu bywydau yn wrol i amddiffyn y rhyddid sydd gennym heddiw, a byddwn yn parhau i’w coffáu. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn ymwybodol o'r Ffenestr Wylofus drawiadol o babïau yn Nhwr Llundain. Bydd y gwaith celf hynod hwn yn cael ei arddangos yng nghastell Nghaernarfon—y lleoliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa—tan 20 Tachwedd. Rwy’n eich annog i gyd i ymweld ag ef. Drwy'r rhaglen Cymru'n Cofio—Wales Remembers, byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau arwyddocaol y rhyfel byd cyntaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Diwrnodau Lluoedd Arfog yng Nghymru. Maent yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolch i'r rhai hynny sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i gyn-filwyr.  Drwy ein rhaglen lywodraethu, rydym yn parhau'n ymroddedig i ddarparu cymorth a gwasanaethau parhaus i'n cymuned lluoedd arfog bresennol. Ers fy natganiad diwethaf, ym mis Mehefin, rydym wedi bwrw ymlaen â'r agenda lluoedd arfog. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar nifer o fentrau yr ydym wedi’u creu.

Rydym wedi adnewyddu ein pecyn cymorth ac wedi cynhyrchu canllaw ar wahân ar gyfer personél sy’n gwasanaethu a'u teuluoedd, a elwir yn 'Croeso i Gymru'. Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn nodi'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer personél sy’n gwasanaethu a chyn-bersonél y gwasanaeth a'u teuluoedd. Cawsant eu lansio yn ein cynhadledd cyfamod ym mis Medi, ac maent wedi croeso da gan ein partneriaid.

Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi oedolion ifanc sy'n agored i niwed hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 i Frigâd Troedfilwyr 160 a Phencadlys Cymru tuag at gyflawni llwybr cyflogadwyedd eu lluoedd arfog. Nod hyn yw rhoi cipolwg i ddynion a menywod ifanc ar y fyddin, ynghyd â'r hyfforddiant galwedigaethol yn y gweithle er mwyn eu galluogi i adeiladu eu sgiliau a’u hyder ac ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth a phrentisiaethau. Lywydd, enghraifft dda o lwyddiant y llwybr yw stori’r dyn ifanc digartref o Ferthyr, a oedd yn aml yn gorfod chwilio am fwyd a chysgu allan. Mae'r rhaglen hon wedi ei helpu i newid ei fywyd ac mae bellach ar ei ffordd i greu gyrfa gyda'r Corfflu Logisteg Brenhinol.

Mae'r prosiect Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae storïau digidol a ffilmiau wedi eu datblygu i ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan blant y mae eu rhieni yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae'r straeon digidol yn cynnig cipolwg unigryw ar fywyd y plant hynny yma yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod tai yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym wedi ymgynghori â'n partneriaid allweddol i ddarparu a datblygu llwybr atgyfeirio tai. Bydd hyn yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau cytbwys am y dewis mwyaf priodol ar eu cyfer. Byddaf yn lansio'r llwybr ar 10 Tachwedd.

Mae Cadw'n Ddiogel Cymru i gyn-filwyr yn enghraifft dda o sut y mae gweithio gyda'n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gall cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol, ac sydd angen cefnogaeth ychwanegol gan y gwasanaethau brys ar adegau o argyfwng, gofrestru eu manylion gyda'r heddlu, a bydd eu hymateb yn cael ei addasu yn unol â hynny. Byddaf yn lansio'r cynllun hwn ar 23 Tachwedd.

Lywydd, rydym yn aml yn clywed am y cymorth gwerthfawr a ddarperir gan deuluoedd a gwŷr a gwragedd y rhai sy’n gwasanaethu. Mae llawer ohonynt wedi aberthu eu dewisiadau a'u cyfleoedd eu hunain er mwyn cefnogi eu hanwyliaid. Mae adegau pan fyddan nhw, hefyd, angen cymorth a'r cyfle i gael eu gyrfa eu hunain a datblygu eu sgiliau.

Fel y dywedais yn gynharach, bydd ein cynnig gofal plant yn helpu rhieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio drwy ddarparu dysgu cynnar a gofal plant am ddim. Gall y cynnig roi dewisiadau i rieni am eu cyflogaeth, faint o oriau y maent yn dymuno gweithio a’r lleoliad. Rwyf wrth fy modd i ddweud wrthych fod Gwasanaethau Addurno D. J. Rees o Ferthyr wedi ennill gwobr aur yng nghynllun cydnabyddiaeth cyflogwr eleni—y cyntaf yng Nghymru am gefnogi a helpu aelodau o'r gymuned lluoedd arfog i ddod o hyd i gyflogaeth yma yng Nghymru.

Lywydd, byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio creu dull mwy di-dor gyda'n partneriaid allweddol megis CAIS a'r Lleng Brydeinig Frenhinol i roi’r cymorth sydd ei angen i gyn-filwyr. Rydym wedi dod yn bell iawn, Lywydd, ond mae mwy i'w wneud. Mewn cyfnod heriol fel hwn, mae'n bwysig i ni symud ymlaen gyda'n gilydd, a chyda’n partneriaid allweddol, gallwn wneud gwahaniaeth i’r gymuned hon.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad mewn wythnos bwysig ac i lawer, wythnos hynod emosiynol ac wythnos pryd y dylem ni i gyd gymryd amser i oedi, meddwl ac ystyried, gan gadw mewn cof, yn aml, y pellaf yn ôl yr ydym yn edrych, y pellaf ymlaen y gallwn weld.

Yn eich datganiad, cyfeiriasoch at y llwybr cyflogadwyedd, yr wyf, unwaith eto, yn ei groesawu, a gall hwn fod yn fater hollbwysig. Mae data Cyn-filwyr gan GIG Cymru yn dangos mai dim ond un rhan o dair o'r cyn-filwyr a aseswyd yn 2014-15 sy’n disgrifio eu hunain fel rhai sydd wedi’u cyflogi naill ai'n llawn amser neu'n rhanamser. Canfuwyd hefyd mai dim ond 52 y cant o’r rhai sy’n ymadael â gwasanaeth yn gynnar oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant chwe mis ar ôl gadael y lluoedd arfog.

Yn 2012, cafodd CTP Future Horizons ei lansio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i helpu pobl sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar, ac ar ôl chwe mis, roedd 63 y cant mewn cyflogaeth neu hyfforddiant. Sut, felly, ydych chi’n mynd i'r afael â'r pryder, er bod canolfannau ailsefydlu yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a'r Almaen, nad oes rhai yng Nghymru ar hyn o bryd?

Cyfeiriasoch at y prosiect Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru, fodd bynnag, mewn mater cysylltiedig yng Nghymru, does dim premiwm disgyblion ar wahân ar gyfer plant i rieni sy’n bersonél y gwasanaethau. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant amddifadedd disgyblion, ond mae’r grant hwnnw ar gael i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn unig, a dim ond ychydig o blant y mae eu rhieni yn y lluoedd arfog sydd â hawl i hynny. Mewn cyferbyniad, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog yn Lloegr yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog. Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor amddiffyn yn 2013, teimlai teuluoedd lluoedd arfog eu bod wedi bod dan anfantais oherwydd diffyg premiwm disgyblion tan hynny, a nodwyd fel arf pwysig wrth helpu ysgolion i nodi a chefnogi teuluoedd lluoedd arfog. Sut, felly, ydych chi’n cyfeirio at hyn? Roedd yn fater a godwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn eu maniffesto Cymru 2016, a’u galwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu premiwm disgyblion lluoedd arfog Cymru.

Cyfeiriasoch at y ffaith bod tai yn un o'r heriau mwyaf a datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'r llwybr, rwy’n gwybod, wedi cael croeso yn y sector, ond mae pryderon—er nad yw wedi ei gyhoeddi, gwn y bydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan—mai’r cyfan a wna yw rhoi manylion mewn un lle o’r hyn y mae gan rywun eisoes hawl iddo neu ddim hawl iddo, heb gynnig rhywbeth ychwanegol, ac yn pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod staff tai rheng flaen yn derbyn hyfforddiant ynglŷn â hynny. Tybed pe gallech, unwaith eto, ymateb i'r pryder hwnnw.

Cyfeiriasoch at Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer cyn-filwyr a chroesawaf y ffaith y gall cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol gofrestru eu manylion gyda'r heddlu, ac y bydd eu hymateb yn cael ei addasu yn unol â hynny. Rydych yn gwybod mae’n siŵr, a chefais ddiweddariad ar hyn ar y penwythnos mewn cyfarfodydd, bod CAIS, yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, wedi cyflwyno ffurflen ddalfa, sydd yn gofyn, 'A ydych chi yn gyn-filwr?' pan fydd pobl yn mynd i mewn i'r ddalfa. Mae'n cael ei chyflwyno erbyn hyn, rwy’n deall, i Went. Tybed a ydych yn cymryd rhan mewn trafodaethau er mwyn trefnu bod y ffurflen honno yn cyrraedd pob un o heddluoedd Cymru. Neu a oes gennych chi rywfaint o newyddion da i'w rannu gyda ni i'r perwyl hwnnw?

Ar ddiwedd eich datganiad, cyfeiriasoch at wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac rwy'n siŵr eich bod chi, ar ôl i mi godi materion gyda chi ym mis Gorffennaf, y cefais lythyr gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst. Roedd hwn yn cyfeirio at yr apwyntiad cyntaf ar gyfer y rhai sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma gyda chyfartaledd o 42 diwrnod, ond mewn gwirionedd yr amser aros y gwnaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrchu drosto ym maniffesto etholiadol Llywodraeth y DU oedd 126 diwrnod—18 wythnos—ac mae'r ffigurau y tu allan i darged 28 diwrnod Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer gwasanaeth gofal cynradd, lle mae’r targed 28 diwrnod ar gyfer atgyfeirio i asesu yn unig. Y realiti, rwy’n deall, yw bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer y mis diwethaf yn dangos bod amseroedd aros ym myrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr ac Aneurin Bevan hyd at 38 wythnos ar gyfer atgyfeirio ar gyfer triniaeth, sef yr hyn yr oedd y pryder yn ymwneud ag o.

Rydych yn cyfeirio ar y diwedd at CAIS ac, wrth gwrs, maent yn gwneud rhai prosiectau gwych, Change Step, yn arbennig. Maent hefyd yn rhedeg cymorth Listen In i deuluoedd. Mae'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod i ben. Maent yn darparu cefnogaeth haen is o fewn Change Step, ond, unwaith eto, o ystyried eich cyfeiriad ar y diwedd at ddarparu cyn-filwyr a'u teuluoedd gyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, sut, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â CAIS i drafod sut y gellir darparu ar gyfer y bwlch hwnnw mewn cymorth ehangach ar gyfer teuluoedd?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ymrwymiad i'r lluoedd arfog. Yn amlwg, mae datganoli'n creu heriau, ond hefyd gyfleoedd a byddai'n anghywir i Mark Isherwood beidio â chodi’r pethau da sy'n digwydd yng Nghymru nad ydynt yn digwydd yn Lloegr. Cododd y mater grant disgyblion. Dydw i ddim yn mynd i osgoi ymdrin â’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru; mae'n ychwanegiad gwych at gyrhaeddiad addysgol ein disgyblion mwyaf agored i niwed a dylem barhau i ariannu hynny. Wrth gwrs, gwrandewais yn astud ar ei bryderon ynghylch yr agweddau ar blant lluoedd arfog yma yng Nghymru a'r cyfleoedd yr ydym yn eu cyflwyno yno. Mae Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn rhaglen a sefydlwyd yn 2014 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda chyllid o gronfa cymorth addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn. Rydym yn dysgu oddi wrth y rhaglen honno. Yn wir, yn Aberhonddu, yn etholaeth Kirsty Williams, mae'r fenter Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg wedi helpu teuluoedd Nepal, fel rhan o'r gatrawd Gyrca, i ymgartrefu yn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Felly, mae gennym rywfaint o arfer da yma yng Nghymru.

O ran gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, rydym yn falch o'r gwaith yr ydym yn rhan ohono. Mae gwasanaeth y GIG i gyn-filwyr yn darparu therapydd cyn-filwyr penodedig ym mhob un o'r byrddau iechyd a dyma'r unig wasanaeth cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr o'r math hwn yn y DU. Methodd yr Aelod â sôn am hynny. Rydym yn darparu £585,000 y flwyddyn o arian i gefnogi Gig Cymru i Gyn-filwyr ac mae dros 1,670 o gyn-filwyr wedi eu hatgyfeirio at y gwasanaeth hwn hyd yn hyn. Rwy’n cydnabod hefyd y pwysau yn y system: nid wyf yn gwadu hynny ac mae mwy o waith i'w wneud, a dywedais hynny yn y datganiad. Ond byddai'n anghywir i ni beidio â dathlu'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, yn cefnogi unigolion wrth inni symud ymlaen. Yn wir, mae'r berthynas gyda CAIS a'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn un yr wyf yn ei chroesawu ac y byddwn yn parhau i ymgysylltu â hi.

Cyfeiriodd yr Aelod ar sawl achlysur at y Lleng Brydeinig Frenhinol a’u barn nhw ar hyn. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhan o fy ngrŵp arbenigol lluoedd arfog, ac rwy'n synnu nad yw rhai o'r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi wedi eu codi yn uniongyrchol gyda mi gan y Lleng Brydeinig Frenhinol neu sefydliadau eraill yn hynny o beth. Roedd yr Aelod yn dweud eu bod wedi gwneud hynny, ond gallaf eich sicrhau yn y cyfarfod a gefais y tro diwethaf, nid oedd yr un o'r pwyntiau a godwyd yma gyda mi heddiw ar y rhestr a godwyd gyda mi.

Cyfarfûm â'r grŵp arbenigol ym mis Gorffennaf i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y dyfodol a sut, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ddarparu hyn. Rwy'n meddwl bod y grŵp arbenigol yn gyfle gwych i ni ddysgu, i ledaenu gwybodaeth ac i ddeall aelodaeth amlasiantaethol y grŵp hwn, lle y gallwn fod yn wybodus. Yn hytrach na'r dystiolaeth anecdotaidd y mae’r Aelodau'n ei chynhyrchu weithiau, mewn gwirionedd, mae gen i wir ddiddordeb mewn deall y ffeithiau a’r ffigurau o'r cyflwyniadau sy'n cael eu gwneud i mi gan y lluoedd arfog a'r asiantaethau cymorth o'u cwmpas.

Rwy'n meddwl bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn un cadarnhaol ac fel y byddaf yn dweud yfory yn ystod dadl y Ceidwadwyr, mae Plaid Cymru yn gefnogol i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyn-filwyr, ar yr amod eu bod yn cael eu mesur yn gywir a bod y canlyniadau yn dryloyw i bawb eu gweld. Ond mae problem gynyddol o gwmpas Sul y Cofio, ac mae fy nghwestiynau heddiw yn mynd i ganolbwyntio ar y materion hyn a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.

Rydym wedi gweld yr holl helynt dros FIFA yn gwrthod caniatáu i'r gwledydd cartref wisgo bandiau braich pabi ar gyfer gemau rhyngwladol. Does dim o hyn yn cael ei helpu gan y ffaith bod FIFA wedi dangos ei hun i fod yn llygredig i'r craidd yn y cyfnod diweddar. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, er gwaethaf y ffaith bod y rheol hon yn bodoli, y dylai'r tîm nodi dathliadau mewn ffordd wahanol, o bosibl trwy gael munud o dawelwch, neu, fel yr ydym wedi ei wneud mewn gemau pêl-droed eraill—rydym wedi dal cardiau i fyny i gefnogi'r tîm—drwy ddal llun o babi, yn hytrach na chael gwneud pwynt o bosibl gan FIFA mewn perthynas â'n hymdrechion i gyrraedd Rwsia yn y twrnamaint pêl-droed? Rebel wyf i yn y bôn, ond rwy’n meddwl weithiau bod angen i ni yn amlwg feddwl am sut y mae ein cenedl yn gwneud yn yr amgylchiadau hyn, yn hytrach na chymryd rhan o bosibl yn y gêm bêl-droed wleidyddol hon y mae FIFA yn ddiamau yn dymuno i ni gymryd rhan ynddi.

Mae'n ymddangos na allwn ddod yn agos at y dyddiad hwn heb straeon ffug o ddadleuon gyda Mwslimiaid dychmygol neu leiafrifoedd eraill y troseddwyd yn eu herbyn, yr honnir iddynt atal pobl sy'n gwisgo pabi yn y stryd a mynnu eu bod yn eu tynnu. Mae diben hyn yn glir: mae’r stori wedi ei chynllunio fel rhyw fath o sylwebaeth ar sut y mae'r wlad yn cael ei chymryd drosodd, sut y mae gwerthoedd Prydain dan fygythiad. Dylai unrhyw un sy'n byw gyda Mwslimiaid yn gymdogion wybod nad yw hyn yn wir, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hyn yn fawr mwy na hiliaeth sy'n cael ei chaniatáu i lifo allan i'r arena gyhoeddus ar y sail ei fod rhywsut yn dderbyniol, ac nad yw'n gwneud dim heblaw lledaenu stereoteipiau negyddol, a hynny yn gwbl ddi-sail?

A fyddai hefyd yn cytuno â mi y bydd y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar Ddydd y Cofio drwy ffenestr eu profiadau a’u gwerthoedd personol eu hunain? Ni ddylem ddweud wrth neb beth i'w wneud yn hyn o beth. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn rhoi oherwydd eu bod yn cefnogi'r syniad o gyfrannu at ofal cyn-filwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau eraill yn y sector. Rhoddais i fy hun fy nghodiad cyflog i elusen yn fy ardal, ym Mhort Talbot, Step Change, sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn cydnabod, yn anffodus, bod amseroedd aros yn dal i fod yn broblem ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl, a bod teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio pan fydd eu hanwyliaid yn gadael y fyddin. Mae llawer ohonom yn dewis peidio â gwisgo pabi coch ac yn gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl. Ni ddylai unrhyw un farnu rhywun arall os byddwn yn penderfynu coffáu a meddwl am ein hanes yn ein ffyrdd unigol ein hunain. Rwy'n defnyddio, unwaith eto, y gyfatebiaeth pêl-droed. Dydw i ddim yn aml yn gwisgo top Cymru i gêm bêl-droed, ond nid yw hynny'n golygu nad wyf ddim yn ffan pêl-droed brwd, ac rwy'n sicr yn genedlaetholwr brwd. Rwy’n meddwl mai dyna sut y mae'n rhaid i ni weld y pethau hyn weithiau.

Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn annerbyniol bod gennym bellach hinsawdd wleidyddol lle mae’r rhai sy'n gwneud rhywbeth mor fach â gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl, yn cael eu difrïo ar y rhyngrwyd ac yna mewn cyfryngau sydd wedi colli pob rheswm ar yr hyn yr ydym yno i’w nodi—y colli bywyd sy’n dal yn syfrdanol—o blaid rhywbeth sy’n llawer mwy gwleidyddol? Oherwydd rwy’n credu, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni ddeall, er ein bod yn coffáu'r rheini sydd wedi colli eu bywydau, dylem fod yn coffáu pawb sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i ryfel, dan ba bynnag amgylchiadau, ac ym mha bynnag ffordd y digwyddodd. Dylem hefyd fod yn cofio gwrthwynebwyr cydwybodol a gymerodd y safiad i beidio â chymryd rhan mewn rhyfel, ac sydd hefyd wedi eu beirniadu drwy hanes. Mewn gwirionedd, dylem ddeall pam eu bod wedi gwneud y penderfyniadau hynny a sut y daethant i wneud y penderfyniadau hynny, a pheidio â gadael i hynny fynd ar goll yn y ddadl o amgylch Dydd y Cadoediad a dyfodol sut y bydd rhyfeloedd yn cael eu cynnal efallai yn ein henw. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad pwysig heddiw ac am ddangos ei pharch tuag at y lluoedd arfog a chyn-filwyr, ac am y ffordd y mae’n cofio'r bobl sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu, a hefyd y teuluoedd yn y ffordd honno, hefyd.

Cwpl o bwyntiau y byddaf yn ymateb iddynt: ar yr egwyddor FIFA, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gefnogwr brwd o Gymru. Rwyf wedi ei gweld hi â'm llygaid fy hun mewn top Cymru, ynghyd â llawer o bobl eraill yn y Cynulliad hwn, a hir y parhaed hynny. Ond rwy'n credu mai’r mater i mi yw llwyddiant mawr yn y DU o ran pŵer y rhyddid i lefaru, ac rwy’n meddwl os bydd pobl yn dymuno gwneud hyn, dylent gael yr hawl i wneud hynny. Ac yn sicr fydda i ddim yn condemnio unigolion os ydynt yn dymuno gwisgo pabi neu os nad ydynt yn gwisgo pabi. Mae parch yn dod o galon yr unigolyn, a boed hynny trwy barchu rhywun a choffáu Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio, boed hynny yn eu cartref eu hunain neu ennyd wrth y Senotaff, mater i’r unigolyn yw hynny ac rwy’n ofni, yn aml, ein bod yn rhy feirniadol o'n gilydd am y ffordd yr ydym yn dewis dangos parch.

Rwy'n rhannu barn yr Aelod o ran y ffordd agored y mae pobl yn beirniadu crefyddau eraill. Rwy'n gwybod am lawer o gymunedau Mwslimaidd fy hun sydd â llawer o barch tuag at y lluoedd arfog a'r ffordd y maent yn mynd o gwmpas hyn, ond mae pobl yn defnyddio hyn fel esgus ffug ar gyfer hiliaeth, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal hynny. Roedd gan yr Aelod rai safbwyntiau cryf iawn ar lawer o'r materion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am dynnu sylw'r Cynulliad i’r rhain heddiw, ond yn y pen draw, bydd pobl yn parchu ei gilydd yn y ffordd y maent yn teimlo sy’n addas, a hir y parhaed hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ond mewn gwirionedd mae Bethan Jenkins eisoes wedi gofyn y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i ofyn ynghylch mater FIFA, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i hynny. Ond, tra fy mod ar fy nhraed, hoffwn hefyd longyfarch Gwasanaethau Addurno D. J. Rees o Ferthyr, a enillodd y wobr aur am gefnogi cyflogadwyedd ein lluoedd arfog.

Cyfraniad cyflym iawn, ond llinell y wasg wych i'r Aelod. Byddaf yn trosglwyddo fy llongyfarchiadau eto i Wasanaethau Addurno D. J. Rees. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol, mewn gwirionedd. Nid yw hyn yn hawdd, a dylid eu llongyfarch. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymweld â nhw ac yn rhoi fy nghofion gorau iddyn nhw, hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ein rhan ni i gyd pan ddywedodd na ddylem fyth anghofio'r rheiny a gollodd eu bywydau yn wrol i amddiffyn y rhyddid sydd gennym heddiw. Ac nid yw hwn yn achlysur ar gyfer gwneud pwyntiau gwleidyddol, yn fy marn i, ar noswyl Dydd y Cofio, ac os ydym, o bryd i'w gilydd, yn adeiladol feirniadol o Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hynny ond oherwydd ein bod ni’n ceisio ei helpu i wneud ei waith hyd yn oed yn well nag y mae'n ei wneud yn barod. Ac rydym yn gwybod fod ei galon yn y lle iawn.

Un o’r breintiau mawr yr wyf wedi eu cael yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn y lle hwn oedd mynd ar ran y Cynulliad i’r digwyddiad coffáu ym Mametz Wood ychydig fisoedd yn ôl, a oedd yn achlysur emosiynol iawn. Hoffwn ganmol y Llywodraeth am yr amryfal fentrau y maent wedi'u gweithredu, ac sydd wedi’u rhestru yn y datganiad: y pecyn o gymorth a'r amryw bethau eraill, fel y llwybr lluoedd arfog i gyflogadwyedd a Chefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn benodol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu teuluoedd y lluoedd arfog a'r rhai sy'n gyn-filwyr, yn arbennig, i ailintegreiddio i gymdeithas sifil. Mae ganddynt yn aml anawsterau penodol iawn i ymdopi â nhw ac mae angen llawer o gymorth swyddogol arnynt. Felly, nid wyf yn bwriadu gwneud pwyntiau cecrus o feirniadaeth ynghylch i ba raddau y gellir gwella unrhyw un o'r pecynnau hyn ar yr achlysur hwn; rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd eraill i ni wneud hynny.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y mater tai. Unwaith eto, mae 25 y cant o'r holl achosion unigol y mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn delio â nhw yn gysylltiedig â phroblemau tai, ac mae'n warth cenedlaethol, rwy’n meddwl, nid yn unig yng Nghymru ond yn y Deyrnas Unedig, fod 8,000 o gyn-filwyr yn ddigartref ar hyn o bryd ac na ddarperir yn briodol ar eu cyfer. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed manylion y llwybr atgyfeirio iechyd ar 10 Tachwedd. Rwy’n cymryd y bydd datganiad arall lle y gallwn edrych ar y manylion hynny, oherwydd un o'r problemau sydd gan filwyr yw bod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch eu hawliau dan y polisïau dyrannu tai lleol yn aml iawn ac, efallai, bydd ei ddatganiad ar y llwybr yn taflu rhywfaint o oleuni ar hynny.

Dim ond un mater yr hoffwn ei godi, am nad yw wedi cael ei godi hyd yn hyn, ac mae’n ymwneud â chostau gofal cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr a anafwyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaethu yn erbyn y rhai ag anafiadau cyn 2005, yn hytrach na'r rhai a anafwyd wedi hynny, o ran diystyru costau gofal cymdeithasol. Gwn fod y Llywodraeth wedi cymryd camau breision i wella'r sefyllfa drwy godi’r diystyriad o £10 i £25. Ond mae anghyfiawnder penodol, rwy’n meddwl, yn y ffaith bod y personél hyn, o’u cymharu â phensiynwyr sifil, dan anfantais, oherwydd gall pensiynwyr sifil fuddsoddi eu dyfarniadau iawndal mewn cronfa ymddiriedolaeth, sy'n cael ei diystyru yn llawn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio rywfaint ar hynny i ni, ond, fel arall, dyna’r cyfan yr wyf yn cynnig ei ddweud y prynhawn yma.

Rwy'n ddiolchgar i’r Aelod am ei sylwadau, ac, wrth gwrs, rwy’n meddwl y gallwn ni ddod at ein gilydd ar lawer o'r materion hyn, fel y coffa, fel sydd gennym ger ein bron heddiw. O ran rhai o fanylion ei gwestiwn, mae'n iawn i ddweud y byddaf yn lansio'r llwybr tai ar 10 Tachwedd, a bydd mwy o fanylion yn dilyn. Rydym yn gorffen y gwaith o ddatblygu ymgynghoriad llwybr â'n partneriaid allweddol, yn bennaf o’r grŵp arbenigol, y panel sy’n deall yr hyn sydd eu hangen ar gyn-filwyr a theuluoedd, a byddaf yn gwneud datganiad neu ddatganiad ysgrifenedig i'r Siambr yn briodol.

Rhaid iddo gael ei dderbyn yn ganiataol, fodd bynnag, fy mod yn credu am lawer rhy hir bod y lluoedd arfog—y Llywodraeth, y lluoedd arfog. Unwaith y bydd personél y lluoedd arfog yn gadael y lluoedd, mae'n fy mhoeni i mewn gwirionedd, ein bod yn eu gosod ar ben taith o fethiant yn aml. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, ar ôl i chi ymrestru â’r lluoedd arfog, dylai’r berthynas â’r lluoedd barhau am amser hir iawn ar ôl hynny, ar ôl y gwasanaeth. Oherwydd rydym ni’n gorfod camu i’r adwy; mae cymunedau yn camu i’r adwy wrth ddelio ag effeithiau trawma drwy ryfel neu drwy faterion eraill a brofir. Mae fy nheulu i gyd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac, am y ddau etholiad cyn hwn, roedd fy mrawd yn gwasanaethu yn Irac—gadawodd yn yr wythnos olaf o baratoi ar gyfer yr etholiad—a oedd yn drawmatig iawn i’w deulu, ond i’r holl deulu. Yn ffodus, roedd yn ddigon lwcus i ddod yn ei ôl, ond mae'n cael effaith yn y tymor hirach, ac rwy’n meddwl y dylem gael perthynas tymor hirach â’r lluoedd arfog, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w drafod â Gweinidogion y DU.

O ran y mater o gostau gofal cymdeithasol, rwy’n meddwl fy mod yn gywir wrth ddweud—os nad ydwyf, bydd y Gweinidog yn fy nghywiro trwy lythyr, ond rwy’n deall, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, y byddwn yn cyflwyno diystyriad llawn ar gyfer y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio, unwaith eto, y bydd yr Aelod yn ei groesawu. Mae llawer o anghysondebau; yn wir, fel Aelod, mae gen i broblem gyda phensiwn gweddwon rhyfel. Pan fydd gweddw yn ail briodi, byddant yn colli eu pensiwn rhyfel. Rwy'n credu bod mater cydraddoldeb yma, ac rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth, yn y tymor hir, y dylai Llywodraeth y DU roi sylw iddo hefyd.

Rwy’n meddwl y bu heddiw yn gyfle defnyddiol iawn i fynegi, ar draws y Siambr, ein hymrwymiad i'r lluoedd arfog a’u teuluoedd yma yng Nghymru. Mae heriau yn y system ac mae'n rhaid i ni barhau i ymdrechu i’w gwella, ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ymsefydlu gwasanaethau o ansawdd gwell i bobl sydd wedi peryglu eu hunain a'u teuluoedd er ein mwyn ni a llawer o bobl eraill yn y gorffennol, a hynny yn y ffordd amhleidiol yr ydym wedi trafod y prynhawn yma. Diolch.

10. Cynnig Gweithdrefnol

Rwyf wedi cael gwybod gan arweinydd y tŷ ei bod yn dymuno cynnig rhybudd gweithdrefnol dan Reol Sefydlog 12.32 i ohirio'r datganiad nesaf tan ddiwrnod arall. Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig y cynnig gweithdrefnol—Jane Hutt.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 12.32, yn gohirio’r datganiad ar Gymru o Blaid Affrica i ddiwrnod arall.

Cynigiwyd y cynnig

Cynnig yn ffurfiol.

Diolch. A oes unrhyw Aelod yn dymuno siarad ar y cynnig gweithdrefnol? Y cynnig yw gohirio'r eitem nesaf o fusnes. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, mae’r eitem o fusnes wedi’i ohirio tan ddiwrnod arall.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:03.