Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/10/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn imi alw ar y Prif Weinidog, hoffwn groesawu’r ddirprwyaeth seneddol o Botswana, a arweinir gan Ei Hardderchogrwydd Gladys Korkowe, llefarydd Cynulliad Cenedlaethol Botswana, sy’n bresennol yn yr oriel heddiw. Croeso.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0171(FM)

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0180(FM)

Gwnaf. Lywydd, rwy’n deall eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 1 a 4 gael eu grwpio. Gallaf ddweud bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran datblygu cydweithrediad a phartneriaeth ynghylch blaenoriaethau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.

Credaf fod dinas-ranbarth Bae Abertawe yn datblygu'n dda iawn fel cyfrwng ar gyfer datblygu economaidd. Fodd bynnag, rwy’n gweld swyddogaeth fwy strategol iddo mewn pethau fel cynllun strwythur. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff y Prif Weinidog geisio defnyddio ôl troed dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?

Mae gan y ddinas-ranbarth gyfle ardderchog. Byddwn yn annog pawb sy’n edrych ar gytundeb dinas ar gyfer bae Abertawe wneud y cais hwnnw cyn datganiad yr hydref gan y Canghellor. Mae'n bwysig bod llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn i hynny ddigwydd. Rydym wedi gweld hyn yn digwydd yn y brifddinas-ranbarth. Mae angen i'r un peth ddigwydd ym mae Abertawe hefyd. Ond, ydym, yn rhan o'r gwaith y mae'r Ysgrifennydd llywodraeth leol wedi bod yn ei wneud yn yr haf, rydym ni’n ystyried y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru ar sail ranbarthol pan mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny.

Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni’n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw’r mater o lywodraethu yn y tymor byr i’r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan awgrymu model dielw ar gyfer y dyfodol. O gofio bod y bwrdd hwn dim ond gyda’i gilydd am chwe mis arall, neu lai na hynny, pryd fyddwch chi’n ymateb iddyn nhw a beth fyddwch chi’n ei ddweud wrthynt?

Wel, nhw sydd wrth y llyw. Mater i lywodraeth leol yw’r cytundeb dinas, ac nid i Lywodraeth Cymru. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni yno i helpu, fel y gwnaethom ni gyda chais cytundeb dinas Caerdydd, ond mae'n bwysig nawr eu bod yn gweithio gyda'i gilydd i roi cais credadwy ar y bwrdd.

Rydym ni’n cael ein hysbysu gan dîm y cytundeb dinas bod y sefyllfa'n anwadal iawn, ac mai 50/50 yw’r rhagolygon presennol o lwyddiant ar hyn o bryd.

Felly, o ystyried hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a beth mae'n bwriadu ei wneud i gynorthwyo tîm y cais a chynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant o 50/50.

Wel, wrth gwrs, mater i lywodraeth leol yw gwneud cais y cytundeb dinas, nid i Lywodraeth Cymru, ond fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cynharach, rydym ni’n barod i helpu. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod, fel y gwnaethom gyda chais cytundeb dinas Caerdydd. Felly, bydd unrhyw gais am gymorth, wrth gwrs, yn cael ei ystyried a bydd cymorth yn cael ei ddarparu; ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda thîm y cytundeb dinas er mwyn iddo—gan mai ei gyfrifoldeb ef yw hynny—i wneud cais. Rydym ni eisiau gweld cais cytundeb dinas yn llwyddo ar gyfer rhanbarth bae Abertawe.

Brif Weinidog, mae’r cytundeb dinas yn gyffrous ac yn arloesol. Mae'n canolbwyntio ar TGCh a'r genhedlaeth nesaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, adeiladwyd y rhanbarth ar y diwydiannau traddodiadol a gweithgynhyrchu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y rhan honno yn parhau i fod yn ganolbwynt mewn cytundebau dinas fel y bydd y gweithgynhyrchu presennol, a gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig meysydd ymchwil, yn cael eu cynorthwyo yn y dyfodol?

Wel, i mi, mae’r ddau beth hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae'n hynod bwysig bod gweithgynhyrchu yng Nghymru ar flaen y gad. Mae hynny'n golygu gweithio, wrth gwrs, gyda'r prifysgolion. Rwy’n gwybod bod Prifysgol Abertawe, y gwn sydd yn ei etholaeth ef, wedi bod yn gweithio'n dda gyda byd diwydiant dros flynyddoedd maith. Yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw i weld sut orau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd a'r eiddo deallusol y maen nhw’n eu datblygu.

Brif Weinidog, os yw dinas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd i fod yn llwyddiant, bydd yn gofyn am weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng y pedwar awdurdod lleol ond cydweithio gyda dinas-ranbarth Caerdydd a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi’r cynlluniau uchelgeisiol a gyflwynwyd gan fwrdd y ddinas-ranbarth. Pa welliannau seilwaith y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio ar gyfer rhanbarth bae Abertawe dros y pum mlynedd nesaf; a sut ydych chi’n bwriadu cysylltu rhanbarth ehangach bae Abertawe â phrosiect metro de Cymru?

Rydym ni’n ystyried, wrth gwrs, ffyrdd o greu prosiect metro yn y rhanbarth hwnnw yn y blynyddoedd i ddod. Mae Abertawe, fel dinas, yn sbardun economaidd i’r ardaloedd o'i chwmpas, ac mae'n bwysig bod pobl yn gallu cyrraedd Abertawe yn rhwydd hefyd. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, yr hyn fyddai'n hynod ddefnyddiol yw pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei haddewid i drydaneiddio prif reilffordd de Cymru cyn belled ag Abertawe, rhywbeth y mae wedi gwrthod yn llwyr ei wneud hyd yn hyn.

Hyd yma, cyfochrwyd Cwm Cynon yn gadarn gyda dinas-ranbarth Caerdydd, ac, er fy mod i’n croesawu'r cysylltiad hwn a'r manteision lu y gallai eu cynnig, o safbwynt daearyddol ac economaidd, mae gan fy etholaeth lawer o gysylltiadau ag ardal bae Abertawe hefyd. Pa sicrwydd allech chi ei roi, Brif Weinidog, y bydd y model dinas-ranbarth yn ddigon hyblyg i ymgorffori budd pennaf etholaethau fel fy un i, y mae eu buddiannau yn gorwedd yn y ddau ddinas-ranbarth.

Oes, mae’n rhaid i’r model fod yn hyblyg i gydnabod realiti economaidd, nid ffiniau gwleidyddol. Rydym ni’n deall hynny. Mae'r ddinas-ranbarth, a'r rheswm pam mae Cwm Cynon yn y ddinas-ranbarth ynghyd â Chaerdydd, yw oherwydd tuedd y cysylltiadau ffyrdd, a’r cyswllt rheilffordd yn arbennig, i ddod i mewn i Gaerdydd. Ond, wrth gwrs, fel y gwyddom, o gylchfan Baverstock i gyfeiriad y gorllewin, ceir cysylltiadau i Abertawe hefyd. Nid oes unrhyw reswm pam na all y ddau ddinas-ranbarth weithio gyda'i gilydd, gan weld eu hunain fel cydweithwyr ar gyfer ffyniant cyfunol yn hytrach na chystadleuwyr.

Adeiladu Tai Cymdeithasol

2. Pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn ei gweld ar gyfer cynghorau o ran adeiladu tai cymdeithasol? OAQ(5)0187(FM)

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol tuag at gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn, ac rydym ni’n awyddus i gefnogi eu gwaith i adeiladu tai cymdeithasol newydd o ansawdd uchel yn yr ardaloedd y maen nhw’n gyfrifol amdanynt.

Mae cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i adeiladu 600 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf, wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau ynni uchaf, ac mae hynny wedi creu 250 o swyddi ychwanegol. Mae hyn yn newyddion gwych, gan mai dyma'r tro cyntaf y mae cyngor Caerdydd wedi adeiladu cartrefi am genhedlaeth, ond mae angen gwneud mwy. Mae hyd yn oed y Torïaid yn cydnabod bod argyfwng tai. Mae pa un a fyddan nhw’n gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny yn fater arall.

Sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol, gan eu bod nhw bellach wedi cael eu hunain allan o'r cyfrif refeniw tai, yn mynd i allu defnyddio eu dylanwad i fenthyg ar delerau ardderchog er mwyn adeiladu llawer mwy o dai cyngor?

Er bod yr Aelod yn iawn i nodi bod awdurdodau lleol Cymru yn rhydd o ran yr hen system cymhorthdal ​​cyfrif refeniw tai, ceir cap ar fenthyg y mae'n rhaid iddyn nhw gadw ato o hyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni’n gweithio gyda’r awdurdodau hynny sy'n dymuno adeiladu tai cyngor newydd i sicrhau y defnyddir eu cap benthyg hyd ei eithaf er mwyn cynyddu'r cyflenwad tai, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud hynny.

Rwy’n croesawu’r ffaith bod cynghorau yn dechrau adeiladau tai cyngor eto, ond y prif gyfrwng, wrth gwrs, i greu tai cymdeithasol yw cymdeithasau tai, ac rwy’n datagan diddordeb fel aelod o gymdeithas tai. Mae gan benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i newid statws cymdeithasau tai yng Nghymru, i fod yn y sector gyhoeddus, oblygiadau difrifol i Lywodraeth Cymru o safwbynt y £2.5 biliwn o ddyled a fydd gyda’r Llywodraeth erbyn hyn. Pa gamau, felly, mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i unioni’r sefyllfa yma, ac a ydych chi’n bwriadau deddfu yn glou i gywiro’r sefyllfa yma?

Mae hyn yn broblem. Rŷm ni yn ystyried ar hyn o bryd ffordd o ddatrys y broblem hyn drwy ddeddfwriaeth, a gallaf i ddweud y dylai cymdeithasau tai fod yn hyderus y bydd hyn yn cael ei ddatrys mor gynted ag sy’n bosib.

Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno efallai mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fod yn alluogwyr trwy ryddhau tir, neu, fodel sy'n cael ei ffafrio mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yw cynorthwyo grwpiau cymdogaeth a chymunedol sydd eisiau dod at ei gilydd i adeiladu eu cynlluniau eu hunain? Rwy'n gweld hon fel ffordd ymlaen i lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd wedi eu hallgau o dai teuluol ddod at ei gilydd a chytuno ar y modelau hyn, pan eu bod yn fach ac yn ddichonadwy ar gyfer y dyfodol.

Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai dim ond galluogwyr y gall awdurdodau lleol fod; maen nhw’n adeiladwyr tai pwysig hefyd. Ond nid dyma'r unig fodel, ac rydym ni’n deall hynny. Rydym ni’n gwybod y bydd cymdeithasau tai yn parhau i fod yn bwysig yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ac, wrth gwrs, atebion newydd arloesol. Rydym ni wedi sôn yn y gorffennol am ymddiriedolaethau tir cymunedol, cynlluniau rhannu ecwiti. Mae cynlluniau tai cydweithredol, rwy’n credu, yn sicr yn fodelau y gellir eu harchwilio'n llawn yn y dyfodol, a byddem yn ceisio darparu unrhyw gymorth y gallwn er mwyn bwrw ymlaen â’r modelau hynny.

Brif Weinidog, ceir tir llwyd sylweddol mewn ardaloedd ledled Cymru y gellid ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Fodd bynnag, mae safleoedd tir llwyd yn aml yn amwys, ac os byddwn yn ychwanegu at y gymysgedd y potensial ar rai safleoedd o halogiad gan asbestos, plwm a sylweddau eraill, mae'n hawdd gweld pam mae datblygwyr yn aml yn amharod i gymryd y risg o ddatblygu safle tir llwyd. Mae hyn yn rhoi mwy fyth o bwysau ar awdurdodau lleol i ganiatáu adeiladu ar fannau gwyrdd agored, neu nid yw tai y mae gwir angen amdanynt yn cael eu hadeiladu. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w cymryd i gymell datblygwyr i adeiladu ar safleoedd tir llwyd yn hytrach na safleoedd tir glas, a pha gymorth mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w roi i ddatblygwyr i'w cynorthwyo i ddadhalogi safleoedd tir llwyd?

Wel, ceir enghreifftiau o safleoedd tir llwyd yr adeiladir arnynt ledled Cymru. Nid nepell o’r fan hon, mae hen safle melin Trelái yn cael ei ailddatblygu. Mae’r Aelod yn iawn i nodi bod gennym etifeddiaeth lle, yn y dyddiau pan oedd rheoliadau amgylcheddol yn llawer llacach nag y maen nhw nawr, lle nad yw gweithredwyr safleoedd yn bodoli fel cwmnïau mwyach, ac felly mae'r cyfrifoldeb ar y trethdalwr. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn mynd i’r afael ag ef gyda rhai o'r safleoedd glo brig mwy, er enghraifft, o ran pwy ddylai fod yn atebol yn y pen draw, o ystyried y caniatâd a roddwyd iddynt ar ddechrau’r 1990au. Ein nod fydd gweithio gyda datblygwyr, wrth gwrs, er mwyn gwneud yn siŵr bod y tir hwnnw’n cael ei roi ar gael yn y dyfodol. Ond mae'n wir dweud bod rhai safleoedd o hyd lle byddai angen swm sylweddol o arian er mwyn adfer y safleoedd hynny i'r safon sydd ei hangen ar gyfer tai.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Tybed a all y Prif Weinidog ddweud wrthym pa un a yw’n gwybod pa mor hir mae'n ei gymryd i deithio o Aberdaron ym Mhen Llŷn i Ysbyty Glan Clwyd os ydym yn cymryd yn ganiataol nad oes traffig a dim tywydd garw.

Byddai honno'n daith, rwy’n tybio, o oddeutu dwy awr, yn dibynnu ar y traffig, wrth gwrs.

Ie, nid yw hynny’n bell o’i le, Brif Weinidog—mae'n cymryd tua dwy awr. [Torri ar draws.] Mae'r ymateb pan fydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiwn yn gywir yn ddiddorol iawn. [Chwerthin.] Brif Weinidog, byddai dwy awr mewn ambiwlans, rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi, yn llawer rhy hir. Nawr, mae’n bosibl y byddwch yn ymwybodol o gynigion i ganoli llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan roi’r gorau iddynt yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Wel, mae'n gweithredu ar ddau safle a dweud y gwir—mae'n gweithredu yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn un o'r goreuon yn y byd, ac nid dim ond fi sy’n dweud hynny—data cyhoeddedig sy'n dangos hynny. A allwch chi ddweud wrthym, felly, Brif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cael gwared ar wasanaeth o'r radd flaenaf o Ysbyty Gwynedd?

Dim o gwbl—rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ganolfan arbenigol. Mae wedi digwydd ar draws weddill Cymru, ac mae'n bwysig bod pobl sy'n byw yn ardal Betsi Cadwaladr yn gallu cael uned fasgwlaidd arbenigol gref iawn. Nid wyf yn credu mai pa un a ddylid cael uned arbenigol yw’r cwestiwn, ond ble y dylid ei lleoli. Ac rwy’n deall y pwyntiau sydd wedi eu gwneud, yn enwedig gan ei chyd-aelod, yr Aelod dros Arfon, y dylid rhoi rhagor o ystyriaeth i edrych ar safleoedd eraill ac nid Glan Clwyd yn unig. Ond, wedi dweud hynny, mae'r cyngor iechyd cymuned wedi cefnogi'r cynigion, fel yr wyf ar ddeall, hyd yn hyn. Bydd y bwrdd yn ystyried y mater ymhellach yn ei gyfarfod ym mis Hydref, a gallai hwnnw fod yn gyfle i'r rhai sy'n anhapus gyda'r penderfyniad hyd yn hyn i leisio eu barn.

Dim ond i fod yn eglur, Brif Weinidog, eich Llywodraeth chi fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol am hyn, ac mae gennym ni wasanaeth ardderchog eisoes, ac mae wedi’i leoli yn Ysbyty Gwynedd. Nawr, pan gollodd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei wasanaeth llawdriniaeth fasgwlaidd, y canlyniad oedd bod gwasanaethau eraill yno yn annichonadwy. Nawr, mae clinigwyr wedi codi pryderon difrifol gyda mi am ddiogelwch gorfodi modelau gofal iechyd trefol ar ardaloedd gwledig, ac mae eich Llywodraeth chi yn gorfodi un model addas i bawb ar draws y wlad gyfan. Os bydd Ysbyty Gwynedd yn colli ei llawdriniaeth fasgwlaidd, bydd yn gwneud yr ysgol feddygol ym Mangor, yr ydym ni ei heisiau, yn llawer llai dichonadwy. Bydd hefyd yn golygu bod pobl o Ynys Môn, Pen Llŷn a mannau eraill, yn teithio’n llawer rhy bell i gael llawdriniaeth hanfodol a allai achub aelod o’r corff neu fywyd. A wnewch chi, felly, ymrwymo heddiw, Brif Weinidog, i ddiogelu’r gwasanaeth fasgwlaidd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Gwynedd?

Rydym ni eisiau diogelu’r gwasanaeth fasgwlaidd o’r radd flaenaf i Betsi Cadwaladr i gyd. Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a wneir, a bydd y bwrdd iechyd yn ei ystyried nesaf. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae hi'n gwneud y pwynt am atebion trefol mewn ardaloedd gwledig, ac, mae'n ddrwg gen i, ond mae hynny weithiau’n cael ei ddefnyddio fel 'gwasanaeth ychydig yn waeth i ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol', ac rwy’n anghytuno. Rwy'n credu y dylai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gael mynediad at y gwasanaethau gorau sydd ar gael. Rwy'n cofio’r ddadl hon am lawdriniaeth y colon a'r rhefr ym Mronglais. Rwy’n ei chofio—ei bod yn mynd i adael, y byddai llawdriniaeth canser y colon a’r rhefr yn gadael Bronglais, ac, o ganlyniad, y byddai pethau'n llawer gwaeth. Doedden nhw ddim. Roedden nhw’n well o lawer. Fe wnaeth cyfraddau goroesi wella'n sylweddol, er bod yn rhaid i bobl deithio i Gaerdydd, mae cymaint â hynny’n wir. Felly, bydd yn rhaid i'r bwrdd ystyried y materion hyn yn ofalus iawn. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud, ac mae ei chyd-aelod wedi gwneud yn union yr un pwyntiau, wrth gwrs, fel yr Aelod dros Arfon, y byddwn yn disgwyl iddi eu gwneud. Mae’n rhaid i'r bwrdd ystyried y pwyntiau sy'n cael eu gwneud, a bydd Gweinidogion yn ystyried unrhyw sylwadau, ond ni fyddem yn dianc y ffaith fod angen canolfan arbenigol. Y cwestiwn wedyn yw ble y dylid ei lleoli.

Brif Weinidog, mae cael gweld meddyg teulu yn dod yn fwy a mwy o broblem i gymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl sy'n gweithio. A allwch chi ddweud wrthym beth yw canran y meddygfeydd teulu ledled Cymru sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd?

Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig apwyntiadau ar o leiaf un noson yr wythnos. Ond a gaf i ddweud wrth arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig fod ei blaid wedi gwneud cyhoeddiadau heddiw a fydd yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i recriwtio meddygon—nid yn unig i Loegr, lle y gwnaed y cyhoeddiad, ond ar draws y DU gyfan? Pa fath o neges mae ei blaid yn ei rhoi i feddygon sydd eisiau dod i'r DU i weithio pan fo’i Brif Weinidog ei hun yn dweud y bydd staff yma o dramor yn y cyfnod interim tan y bydd modd hyfforddi rhagor o feddygon o Brydain, a phan ddywedodd Damian Green bod croeso i feddygon tra bydd eu hangen—tra bydd eu hangen. Wel, mae gen i ofn na all ei chael hi bob ffordd. Ni all ar y naill law gwyno nad oes digon o feddygon pan fo’i blaid ei hun yn Llundain yn gwneud popeth yn ei gallu i wneud yn siŵr nad yw meddygon yn dod yma yn y lle cyntaf.

Wel, mae’n amlwg yn bryd i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru. Mae’n amlwg ei fod eisiau trafod Lloegr i dynnu’r sylw oddi wrth ei fethiannau ei hun. Felly, gadewch i mi roi'r ateb i fy nghwestiwn gwreiddiol iddo: dim ond 29 y cant o feddygfeydd teulu ledled Cymru sy’n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd, sy’n ystadegyn gwarthus o ystyried y flaenoriaeth a roddodd eich Llywodraeth i gael mynediad at feddygon teulu yn y Cynulliad diwethaf. Ym maniffesto 2011, dywedodd Llafur Cymru y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i feddygon teulu

‘wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio’.

Roedd y maniffesto hefyd yn dweud y byddai'n

‘annog rhaglen o archwiliadau iechyd blynyddol, o dan arweiniad meddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, i bawb dros 50 oed’.

Rydym ni wedi clywed eich Llywodraeth yn addo lawer gwaith y byddech yn diwygio'r ffordd y mae pobl ledled Cymru yn cael mynediad at wasanaethau iechyd o ddydd i ddydd, ac eto yn 2016 nid ydym wedi gweld unrhyw welliant pendant. Pam y gwnaethoch chi droi eich cefn ar yr ymrwymiad o archwiliadau iechyd blynyddol wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu i bawb dros 50 oed?

Wel, gadewch i ni gael ffigurau. Yn 2015, roedd 97 y cant—97 cant—neu 440 o feddygfeydd, yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 a 6.30 yr hwyr ar o leiaf dau ddiwrnod gwaith. Dyna'r realiti: yr un canran â 2014. Dyna realiti'r ffigurau. Nid wyf yn gwybod o ble mae ei ffigurau ef yn dod.

Wel, nid wyf yn gwybod o ble mae'r Prif Weinidog yn cael ei ffigurau, ac ni atebodd yr ail gwestiwn ynghylch pam y gwnaeth droi ei gefn ar yr archwiliadau iechyd ar gyfer pobl dros 50 oed.

Nawr, roedd eich rhaglen lywodraethu ddiweddar yn dweud y bydd yn gwella mynediad at feddygfeydd teulu unwaith eto, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad. Wel, mae pobl Cymru wedi clywed hyn i gyd o'r blaen, gennych chi a chan Lywodraethau Llafur blaenorol. Yn amlwg, rydych chi wedi methu â gwella'r sefyllfa yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Pam ar y ddaear y dylai pobl Cymru ymddiried ynoch chi y tro hwn? Felly, os yw eich Llywodraeth eisiau gwella hygyrchedd meddygfeydd teulu, pa feincnodau strategol wnewch chi eu rhoi ar waith nawr i wella hygyrchedd erbyn 2021, o ystyried nad ydych chi wedi cyhoeddi unrhyw dargedau o gwbl yn y rhaglen lywodraethu bresennol?

Rydym ni wedi cyflawni, a chydnabuwyd hynny gan bobl Cymru ym mis Mai. Nid yw’n ddim gwahanol i’w arweinydd. Mae fel gwylio pryfyn yn taro ei hun yn erbyn ffenestr dro ar ôl tro heb wneud unrhyw gynnydd o gwbl. Wel, gadewch i mi eich helpu gyda mwy o ffigurau. Yn 2015, roedd 82 y cant—373 o feddygfeydd—ar agor am oriau craidd dyddiol o 8 a.m. tan 6.30 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener—cynnydd o 80 y cant yn 2014, ar ben—ar ben—y mynediad y soniais amdano’n gynharach. Y gwir yw ei fod wedi cael ei ffigurau’n anghywir, a’n bod ni wedi cyflawni ein haddewidion.

Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd Diane Abbott, Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid yn San Steffan, bod y bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi gwneud hynny i raddau helaeth gan eu bod eisiau gweld llai o bobl o dramor ar y strydoedd. Onid yw'n credu bod hyn yn athrod ar y 62 y cant o bobl ym Mlaenau Gwent a bleidleisiodd dros Brexit, y 60 y cant yn Nhorfaen, ac, yn wir, y 55 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bleidleisiodd dros Brexit?

Wel, ni allaf fod yn atebol am sylwadau a wnaed gan bobl eraill. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw nad wyf yn credu bod pobl wedi pleidleisio i weld meddygon yn cael eu halltudio, sef yr hyn y mae’r Torïaid eisiau ei wneud heddiw.

Nid oes unrhyw feddyg yn mynd i gael ei alltudio. Mae hynny’n beth hurt i'w ddweud. Ond yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn—[Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn cael eu halltudio o dan Lywodraeth Lafur gan ei bod yn eglur o gynhadledd y Blaid Lafur nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn unrhyw reoliadau mewnfudo o ddifrif o gwbl. Yn wir, dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn bod ganddo agwedd ddigyffro at y posibilrwydd o fwy o fewnfudo ac nad yw'n credu mewn ei leihau. Mae’n debyg bod cynorthwywyr Mr Corbyn wedi dweud nad yw lleihau mewnfudo yn amcan a bod Jeremy Corbyn yn credu mai'r ffordd orau o ymdrin â mewnfudo ar draws Ewrop yw cysoni cyflogau ym mhob gwlad. O ystyried mai £100 yr wythnos yw’r cyflog cyfartalog yn Rwmania ac £80 yr wythnos ym Mwlgaria, a yw'r Prif Weinidog yn credu bod hwn yn bolisi call ar gyfer rheoli mewnfudo?

Wel, rwy’n gweld nawr bod arweinydd UKIP yn barod iawn i amddiffyn y Torïaid. Hynny yw, gofynnwyd i Damian Green sawl gwaith—fe’i gwelais—gan Andrew Neil, 'A ydych chi’n dweud y bydd meddygon yn cael eu halltudio?', ac nid oedd yn fodlon ateb y cwestiwn. Yr hyn a ddywedodd oedd, 'Mae croeso iddyn nhw tra bod eu hangen'. Yna, wrth gwrs, aeth yn ei flaen i ddweud, 'Wel, wrth gwrs, ni fyddai unrhyw alltudio o dan Lywodraeth Lafur’, fel pe byddai hynny’n rhywbeth drwg—rhywbeth drwg. Mae ef eisiau alltudio pobl, mae'n ymddangos i mi.

Y gwir amdani yw ein bod ni yng Nghymru yn rhoi croeso i feddygon. Rydym ni’n rhoi croeso i bobl sy'n dod ac yn byw yn ein gwlad yn flynyddol. Byddem ni hyd yn oed yn rhoi croeso iddo fe, pe byddai’n dewis byw yng Nghymru, hefyd. [Chwerthin.]

Nid oeddwn i’n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn eithafwr. [Aelodau'r Cynulliad: 'O'.] Nid oes unrhyw bosibilrwydd i unrhyw un gael ei alltudio o Gymru na'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit, oherwydd, fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn, mae hawliau'r rhai sydd yma eisoes wedi eu diogelu o dan rwymedigaethau cytundeb presennol Prydain nad ydynt yn berthnasol i'r UE. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn derbyn i’r wlad hon yn y dyfodol y rhai yr ydym ni eu hangen ac y gallwn ddewis pwy sy'n dod yma. A dyna yw hanfod pŵer unrhyw genedl sofran.

Os ystyriwyd bod rhoi croeso iddo, pe byddai’n dewis byw yng Nghymru, yn arwydd o fod yn eithafwr, yna ymddiheuraf yn hynny o beth, ond mae croeso iddo fyw yn ein gwlad os yw’n dewis gwneud hynny, serch hynny. Ond un peth y gallaf ei ddweud wrtho yw hyn: mae angen meddygon arnom ni. Nid oes gwasanaeth iechyd yn unrhyw le yn y byd datblygedig nad yw'n recriwtio meddygon o wledydd eraill. Y gwir amdani yw bod chwarter ein staff meddygol yn dod o dramor, a'r neges sydd wedi ei rhoi heddiw yw, 'Os nad ydych chi’n dod o'r DU, peidiwch â dod i'r DU, nid oes croeso i chi, oherwydd os cewch chi swydd byddwch yn colli’r swydd honno cyn gynted ag y bydd rhywun arall yn dod ymlaen, er y gallai gymryd 10 neu 15 mlynedd i wneud hynny'. Byddwn yn parhau i recriwtio meddygon da ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru tra bod eraill yn ceisio creu sefyllfa lle mae llai a llai o feddygon ar gael i drin ein pobl.

Taliadau PAC

3. A yw'r Prif Weinidog yn disgwyl i'r holl daliadau PAC presennol a wneir yng Nghymru gael eu hychwanegu'n barhaol ac yn ddiamod at grant bloc Trysorlys EM i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0175(FM)

Yr holl daliadau presennol, byddwn yn disgwyl, byddwn. Yr hyn na fyddwn yn ei gefnogi yw pe byddai’r taliadau hynny yn digwydd cael eu Barnetteiddio gan y byddai hynny'n golygu y byddem yn waeth ein byd.

Wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ac yn rhannu uchelgais y Prif Weinidog yn y maes hwn. Mae llawer o ffermwyr wedi dweud wrthyf y byddent yn hoffi gweld gwariant Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei neilltuo. A yw hwnnw’n ymrwymiad y byddai'r Prif Weinidog yn ystyried ei wneud, o bosibl yng nghyd-destun sicrwydd gan Lywodraeth y DU o gyllid yn y dyfodol ac ymreolaeth polisi i Gymru?

Rwy'n credu ei bod yn bosibl gwneud hynny tan 2020. Dyna’r hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. Y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw arian o gwbl i dalu cymorthdaliadau ffermio oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi trefn ar bethau ac yn dweud wrthym yn union beth mae'n bwriadu ei wneud. Felly, byddem, mi fyddem yn ceisio cefnogi ffermio fel pe byddem yn dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod y cyllid ar gael. Os nad oes unrhyw gyllid y tu hwnt i 2020, mae'n sefyll i reswm na fyddwn yn gallu gwneud hynny.

Roedd hi'n ddiddorol iawn y diwrnod o'r blaen, Brif Weinidog, gweld sylwadau a wnaed gan 35 o ASau Ceidwadol yn dweud y dylem ni achub ar y cyfle hwn i edrych o'r newydd, ar ôl 2020, ar sut yr ydym ni’n defnyddio'r hyn a elwir yn 'gyllid cyhoeddus' ar gyfer enillion cyhoeddus hefyd, fel enillion amgylcheddol, lliniaru llifogydd, ac yn y blaen.

Brexit yw’r mater uniongyrchol, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda ffermwyr i gael yr hyn sy'n iawn i Gymru a ffermwyr Cymru. Ar ôl 2020, a yw’n edrych ymlaen, a yw’n sganio beth allai’r cyfleoedd fod yno i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu manteision eang rheoli tirwedd yn dda yn ogystal â chynhyrchu bwyd, ac a yw’n gwneud hynny ar y cyd â Llywodraeth y DU? A ydyn nhw o’r un safbwynt?

'Nac ydym' yw'r ateb i hynny, ond gallaf ddweud bod y Gweinidog eisoes wedi bod yn cynnal cyfarfodydd, gyda’r nod o ddatblygu sut y gallai polisi cefn gwlad yn y dyfodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, wrth gwrs, edrych. Mae'n wir dweud y bydd gennym ni fwy o hyblygrwydd a mwy o bŵer; yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a fydd gennym ni unrhyw arian er mwyn gweithredu'r pethau hyn. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ddatgan, yn unol â'r addewid na fyddai ceiniog yn cael ei cholli i Gymru, y bydd taliadau amaethyddol yn cael eu cynnal mewn gwirionedd, nid yn unig i Gymru ond i’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr, oherwydd, ar hyn o bryd, ar ôl 2020, mae ffermio yn edrych ar ddyfodol heb unrhyw gymhorthdal ​​cyhoeddus. Nid yw'n barod ar gyfer hynny, os ydym yn bod yn onest. Rwyf i'n rhywun sy'n gwybod yn iawn gwerth taliadau ffermio, nid yn unig i ffermydd, ond i gymunedau gwledig ac i'r Gymraeg, er enghraifft. Y tu hwnt i 2020, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gwbl o ba un a fydd un geiniog ar gael i dalu am y pethau hyn, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni.

Beth yw’r cyfleoedd, bellach, felly, i unioni’r sefyllfa rhwng taliadau i ffermwyr a thaliadau sy’n cael eu gweld fel taliadau amgylcheddol i greu un cynllun cenedlaethol i Gymru sydd yn amaeth-amgylcheddol at ei gilydd? Yn y cyd-destun hwnnw, onid yw hefyd yn wir bod cynhyrchu bwyd sy’n faethlon, yn iachus, yn lleol ac amgylcheddol gynaliadwy hefyd yn fudd cyhoeddus?

Mae hi. Nid ydym ni’n meddwl y gallwn ni, wrth gwrs, fwydo ein hunain. Mae 54 y cant o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y Deyrnas Unedig yn dod o’r Deyrnas Unedig. Dyna yw natur lle rydym ni’n byw, achos lle rydym ni’n byw yn y byd. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn gallu bod yn gynaliadwy, eu bod nhw’n cynhyrchu bwyd sy’n fwyd maen nhw’n gallu ei werthu, ac yn fwyd y mae pobl yn moyn prynu. Mae hynny’n hollbwysig. Mae yna gyfle i ailystyried piler 1 a philer 2, wrth gwrs. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n dod o dan y CAP. Os nad yw’r CAP yna rhagor, felly mae yna gyfleon i weld a oes eisiau cael y ffin yna fanna yn y dyfodol. So, mae yna gyfleon, mae yna gyfle i ffermwyr i’n helpu ni i siapio’r polisïau at y dyfodol, ond mae’n rhaid cael yr arian er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.

Brif Weinidog, rwy’n cytuno’n llwyr â chi mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw i'r taliadau PAC presennol gael eu gwasgu drwy yr hyn y gellir ond ei alw’n 'fangl Barnett'. Mae hyn yn creu’r risg o danariannu Cymru yn y dyfodol, mwy nag yr ydym ni wedi ei weld eisoes. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch creu system o gymorth i ffermydd nad yw'n amodol ar fformiwla Barnett ac sy’n cynorthwyo ffermwyr ar sail angen, ac sydd efallai’n cymryd mwy o gynhyrchu i ystyriaeth hyd yn oed, y mae ffermwyr eu hunain wedi bod yn galw amdano?

Mae cymorthdaliadau cynhyrchu yn sicr yn gleddyf deufin. Rwy’n cofio pan roedd gennym ni gymorthdaliadau cynhyrchu ac mae’n debyg i ni gynhyrchu 25 y cant yn ormod o ran cig defaid yn arbennig, ac roedd y pris yn isel o ganlyniad. Mae’n rhaid i ni gynhyrchu’r hyn y bydd y farchnad yn ei oddef, ac nid yr hyn yr ydym ni’n meddwl y mae angen i bobl ei brynu, oherwydd y gwir amdani yw y byddwn yn gorgynhyrchu ac y byddwn yn gweld y pris yn gostwng. Felly, mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn.

Gwn fod Lesley Griffiths wedi cael cyfarfodydd ar yr union fater hwn. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad sut y dylai polisi ffermio edrych yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir dweud nad oes ganddi unrhyw syniad a dweud y gwir o natur datganoli, pan ddaw i bolisi ffermio. O'n safbwynt ni, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw ymreolaeth i Gymru o ran polisi amaethyddol, ymhlith eraill, ynghyd, wrth gwrs, â chyfran deg o'r arian y dywedir wrthym fydd ar gael o ganlyniad i Brexit.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfle i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol? OAQ(5)0183(FM)

Rydym ni’n gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar draws ystod o faterion, gan gynnwys y cyfrifiad, wrth gwrs, ystadegau economaidd, Arolwg Cenedlaethol Cymru ac, wrth gwrs, datblygu’r campws data newydd.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae campws gwyddoniaeth data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd. Nod y campws yw datblygu arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes gwyddoniaeth data ac elwa ar ddata economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyflymach a chyfoethocach. Bydd y campws hefyd yn gwneud gwaith ymchwil arloesol er lles y cyhoedd, gan fanteisio ar dwf a’r ffynonellau arloesol sydd ar gael. Bydd nifer o brentisiaethau gwyddoniaeth data o dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu llenwi, a bydd MSc mewn dadansoddi ar gyfer llywodraeth yn dechrau yn 2017, gan weithio gyda nifer o brifysgolion. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arbenigedd sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n cynnig cyfle i greu canolfan ddata o amgylch y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd trwy ddenu cwmnïau eraill. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ac annog y datblygiad hwn er budd economi Cymru?

Mae creu’r campws yn hwb mawr i’r rhanbarth; mae'n dangos bod y sector technoleg hwnnw’n ffynnu, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i’w helpu i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Mae'n cynnig cyfle i ni fel Llywodraeth archwilio'r defnydd o ffynonellau newydd o ddata, ac i annog defnydd mwy deallus o ddata a dadansoddi yn y sector cyhoeddus. Rydym ni eisoes yn ystyried pa brosiectau posibl y gallem ni fwrw ymlaen â nhw gyda chymorth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn dilyn ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnewch chi, Brif Weinidog, nodi a ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol tebyg i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr i gadw statws cymdeithasau tai o fod yn fusnesau cymdeithasol annibynnol, yn dilyn, wrth gwrs, newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008 Llywodraeth ddiwethaf y DU?

Cyfeiriaf yr Aelod at yr ateb a roddais i Simon Thomas yng nghwestiwn 1.

O ran canolfan ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r cysylltiad gydag economeg, roeddwn i’n gweithio fel economegydd gynt ac yn elwa’n sylweddol ar gysylltiadau gydag ystadegwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd adeg pan oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi pwyslais ar werthu data a'u defnyddio i ddod â refeniw i’r Llywodraeth, ond mae ganddi bolisi o ddata agored erbyn hyn. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi hynny yn ei dull ei hun, a hefyd y gallai fod cyfleoedd enfawr i gwmnïau ddod i Gasnewydd, elwa ar ei chysylltiadau sy’n gwella a’r cyflenwad crai hwnnw o ddata ac ystadegwyr arbenigol y bydd gennym ni yng Nghasnewydd?

Mae’n rhaid ystyried y pethau hyn; rwy’n deall hynny. Bydd y prif swyddog digidol yn ystyried materion fel hyn, ond gwyddom, er enghraifft, ein bod wedi gweld ym mis Mawrth eleni cyhoeddiad y cynllun data agored cyntaf ar gyfer Cymru, ac mae hwnnw'n cynnwys ein syniadau ar sut y gellir datblygu’r mater hwnnw yn y dyfodol.

Cam-drin Domestig yng Nghymru

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau mynychter cam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(5)0186(FM)

Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu pob math o gam-drin domestig. Rydym ni wrthi’n ymgynghori ar y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar hyn o bryd, a fydd, pan gaiff ei chwblhau ym mis Tachwedd, yn nodi ein hamcanion allweddol dros y pum mlynedd nesaf.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiadau gan NSPCC Cymru yr wythnos diwethaf eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr oedolion sy’n eu ffonio yn poeni am blant sy'n dioddef o gam-drin domestig corfforol ac emosiynol, neu’n dyst iddo. Mae nifer y galwadau i'r NSPCC, rwy’n credu, wedi cynyddu 63 y cant dros y chwe blynedd diwethaf. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o gam-drin domestig, yn enwedig yr effaith niweidiol a gaiff ar fywydau pobl ifanc?

Cynrychiolir NSPCC Cymru ar grŵp cynghori'r Gweinidog, felly rydym ni wedi sefydlu cysylltiadau â nhw i ystyried yr adroddiad hwn ac i fwrw ymlaen ag unrhyw waith. Ond gallaf ddweud ein bod wedi ymrwymo yn y strategaeth genedlaethol i weithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn lleihau niwed i iechyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu bywydau fel oedolion. Mae angen i ni ystyried y mater hwn yn y ffordd fwyaf cyfannol posibl, gyda’r nod o ddileu achosion trais yn y cartref yn hytrach na dim ond ymdrin â chanlyniadau, fel petai. Felly, adlewyrchir y dull hwnnw yn y gwaith y mae grŵp cynghori’r Gweinidog yn bwrw ymlaen ag ef.

Brif Weinidog, mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan mewn cynllun arbrofol tri heddlu, a fydd yn paratoi swyddogion rheng flaen i gadw llygad am ymddygiad cymhellol neu reoli wrth fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Mae hwn yn newid i ganfod patrymau o ymddygiad camdriniol, yn dilyn ymlaen o ddeddfau newydd a gyflwynwyd i fynd i'r afael â throseddwyr sy'n ymddwyn mewn ffordd gymhellol neu reoli at wŷr neu wragedd, partneriaid neu aelodau eraill o'r teulu, ac sydd â’r nod o fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau fel cyfryngau cymdeithasol, ysbïo arnyn nhw ar-lein a’u hatal rhag cymdeithasu—a gall troseddwyr gael hyd at bum mlynedd o garchar. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi’n cymryd hyn i ystyriaeth ar lefel Gwent ac a yw’n rhywbeth y gellir ei ystyried ar sail gyffredinol yma yng Nghymru.

Rwy'n credu bod hwnnw'n fodel da. Bûm yn gweithio am flynyddoedd lawer yn y llysoedd teulu ac ymdriniais â nifer o achosion trais yn y cartref. Wrth gwrs, y materion a oedd fwyaf anodd eu profi oedd y rhai a oedd yn ymwneud â niwed seicolegol. Pan fydd rhywun wedi dioddef ymosodiad a bod yr ymosodiad hwnnw yn gadael tystiolaeth gorfforol, yna mae yno i bawb ei gweld, ond gallai fod yn anodd, wrth gwrs, ymdrin â phobl sy’n rheoli pobl eraill ac sy’n peri trais seicolegol. Nid oedd unrhyw gyfryngau cymdeithasol yr adeg honno—mae yna erbyn hyn. Felly, rwy’n croesawu'n fawr iawn yr hyn y mae Heddlu Gwent yn ei wneud er mwyn cael at wraidd yr hyn sy’n ymddangos fel sefyllfa arferol ar yr wyneb, ac yn ymchwilio'n ddyfnach er mwyn gwneud yn siŵr nad oes trais seicolegol yn cael ei arddangos ac y gallant ei nodi’n gynnar.

Byddwch yn cofio, pan gawsom ddadl Cyfnod 3 a Chyfnod 4 y ddeddfwriaeth y llynedd—y Ddeddf trais yn erbyn menywod—ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni tramgwyddwyr, Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyn-carchar i droseddwyr. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny?

Wel, mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu trwy gyfrwng grŵp cynghori'r Gweinidog ac, wrth gwrs, drwy'r strategaeth. Nod y strategaeth fydd bod yn hollgynhwysol, gan ymdrin â'r materion y mae'r Aelod wedi eu codi er mwyn—fel y soniais yn gynharach—gwneud yn siŵr bod materion yn cael eu trin yn gynnar yn hytrach, wrth gwrs, nag ymdrin â’r canlyniadau a'r trawma y mae hynny’n ei achosi i'r dioddefwr.

Brif Weinidog, ers cyflwyno’r drosedd o ymddygiad rheoli neu gymhellol, dim ond llond dwrn o gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud. A yw'n croesawu felly y newyddion y bydd heddluoedd ar draws y wlad yn hyfforddi swyddogion i adnabod arwyddion ymddygiad reoli neu gymhellol? Mae'n debyg i un Bethan, mae’n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae angen i ni hysbysu’r cyhoedd nad yw trais yn y cartref wedi ei gyfyngu i gam-drin corfforol. Sut all Llywodraeth Cymru helpu i ledaenu'r neges bod cam-drin seicolegol ac emosiynol yn drosedd na fydd yn cael ei goddef, ac i wneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol? Diolch.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod y neges yn cael ei derbyn. Fel y dywedais, bydd y strategaeth yn ceisio bwrw ymlaen â hynny. Un peth yw creu’r drosedd; mae dod o hyd i ddigon o dystiolaeth i erlyn yn gallu bod yn anoddach. Mae hynny'n aml yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol fod trosedd wedi digwydd yn y lle cyntaf, a all fod yn hanner y frwydr weithiau, ac yn ail, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod rhywun sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn teimlo'n ddiogel er mwyn gwneud hynny ac yn teimlo y bydd canlyniad iddo ef ac y bydd yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol. Felly, nid yw'n gwestiwn o greu trosedd yn unig, fel y mae hi'n dweud; mae'n golygu gwneud yn siŵr bod yr heddlu yn gwneud gwaith dilynol ar y drosedd ac yn ymchwilio iddi’n briodol—mae hi wedi rhoi enghreifftiau o ble mae hynny'n digwydd—ac yna, wrth gwrs, yn y pen draw, erlyniadau llwyddiannus.

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fframwaith cymhwysedd digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0176(FM)

Gwnaf. Fe'i rhoddwyd ar gael i ysgolion ar 1 Medi.

Diolch i chi am yr ateb cyflym, Weinidog. Gall troseddwyr ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gysylltu â phlant nad ydynt yn ymwybodol o fwriadau sinistr a allai fod y tu ôl i sgwrs sy’n ymddangos yn ddiniwed. Mae'r NSPCC wedi galw am i wersi diogelwch ar-lein fod yn rhan o'r cwricwlwm fel y gall plant adnabod arwyddion yr ymddygiad hwn a'i beryglon. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gwersi diogelwch ar-lein yn rhan o'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru?

Mae hyn yn rhan o'r hyn y bydd y fframwaith yn ceisio ei gyflawni. A dweud y gwir, gwn fod ysgolion yn rhoi gwersi o ran diogelwch ar y rhyngrwyd—rwy’n sicr wedi bod yn ymwybodol o hynny gyda fy mhlant fy hun a bydd gan eraill yr un profiad. Mae'n wir i ddweud, gan adeiladu ar y gwaith da y mae ysgolion wedi ei ddangos hyd yn hyn, ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant mor llwyr ymwybodol ag y gallant fod o’r hyn sy'n cuddio allan yna ar-lein. Rydym ni’n gwybod, i lawer o droseddwyr, y byddant yn gwneud ymdrech fawr, weithiau, i geisio rhoi plant ifanc mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed, ac felly, mae eu diogelwch yn hollbwysig.

Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, yn un o nifer o fframweithiau sy’n mynd i gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Un gofid sydd wedi cael ei fynegi, wrth gwrs, yw diffyg amser o fewn y flwyddyn academaidd bresennol i hyfforddi ac arfogi athrawon ac addysgwyr i allu cymryd mantais lawn o’r fframweithiau newydd yma. Gan gofio mai dim ond rhyw bum diwrnod sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant, fel y cyfryw, i athrawon mewn blwyddyn, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau eu bod nhw’n cael eu harfogi er mwyn defnyddio’r fframweithiau newydd yma i’w llawn bwriad?

Wel, mae dau beth. Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod yna amser nid dim ond i ddysgu ond hefyd i hyfforddi. Yn ail, wrth gwrs, gyda datganoli telerau a chyflogaeth athrawon, bydd yna gyfle i ailystyried beth fydd natur hyfforddiant a pha fath o hyfforddiant a fyddai’n fwy o les i athrawon. Mae’r system bresennol wedi bod yna am flynyddoedd mawr. Nid yw hynny’n meddwl na allwn ni ddim ei ailystyried e er mwyn rhoi mwy o hyfforddiant i athrawon, ac i roi iddyn nhw beth sydd ei heisiau arnyn nhw.

Nyrsys Epilepsi Arbenigol

8. Pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn ei gweld ar gyfer nyrsys epilepsi arbenigol o ran darparu gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gydag epilepsi? OAQ(5)0181(FM)

Mae cynllun cyflawni ar gyflyrau niwrolegol Cymru ac adolygiad niwrowyddorau Cymru 2008 yn cydnabod y swyddogaeth bwysig y gall nyrsys niwroleg arbenigol, fel y rhai sy'n gofalu am bobl ag epilepsi, ei chyflawni o ran cynorthwyo pobl i reoli eu cyflwr yn effeithiol.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. A yw'n cytuno, yn ogystal â gwella ansawdd y gofal i gleifion sy'n byw gydag epilepsi, y gall nyrsys epilepsi arbenigol hefyd leihau costau i'r GIG, trwy leihau'r galw ar amser ymgynghorwyr, derbyniadau i’r ysbyty ac aildderbyniadau brys? Ac a fyddai'n annog byrddau iechyd lleol i fynd ati’n ymarferol i ddatblygu achosion buddsoddi i gyflogi mwy o nyrsys epilepsi arbenigol?

Byddwn, mi fyddwn. Rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae nyrsys epilepsi wedi bod yn hynod ddefnyddiol, nid yn unig i'r claf, ond wrth gwrs, i'r gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd o ran gallu ymdrin â chyflyrau yn gyflym ac mor agos â phosibl i'r claf. Cyn belled ag y mae’r byrddau iechyd yn y cwestiwn, rydym ni’n disgwyl iddyn nhw ystyried y gymysgedd staff sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaethau niwrolegol i'w poblogaeth leol a’i deilwra yn unol â hynny. Byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, ceisio cael nifer ddigonol o nyrsys epilepsi, er mwyn nid yn unig darparu'r gwasanaeth, ond i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth yn ddiweddarach.

Brif Weinidog, o ystyried bod adroddiadau diweddar wedi awgrymu y dylai fod gennym ni 88 o nyrsys epilepsi yng Nghymru ac mai dim ond naw sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac o ystyried yr anawsterau yr ydym ni’n eu cael wrth recriwtio pobl, nid wyf yn mynd i ofyn i chi ddod o hyd i 81 o nyrsys ychwanegol dros nos. Fodd bynnag, yr hyn y gallem ei wneud fyddai rhedeg clinigau epilepsi arbenigol yn amlach. Mae gan yr Alban bum clinig o'r fath ar gyfer ychydig dros 5 miliwn o bobl ac mae gan Ogledd Iwerddon ddau ar gyfer ychydig o dan 2 filiwn o bobl. Felly, mae hynny tua 1 miliwn o bobl fesul clinig ac mae eu poblogaethau yn cael eu gwasanaethu'n dda. Yma yng Nghymru, mae gennym ni un ganolfan wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ar gyfer ychydig dros 3 miliwn o bobl. Mae'n ffaith gwbl hysbys y gellid rheoli trawiadau 70 y cant o bobl ag epilepsi yn well pe byddai gwasanaethau o'r fath ar gael iddyn nhw. Ar hyn o bryd, dim ond ychydig dros y marc 50 y cant yr ydym ni yng Nghymru. Felly, er na allwn ni ddod o hyd i 81 o nyrsys epilepsi ychwanegol dros nos, efallai y gallai cael niwrolegwyr i gynnal ychydig mwy o glinigau mewn ffordd fwy teg a hygyrch ledled Cymru ein helpu i gyflawni yr un peth.

Gallaf ddweud ein bod wedi ymrwymo £1 filiwn bob blwyddyn i gefnogi’r grŵp gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun cyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau yng Nghymru. O ganlyniad i'r dyraniad hwnnw, gwn fod y grwpiau cyflyrau niwrolegol a strôc wedi ymrwymo £1.2 miliwn ar y cyd i gefnogi gwasanaethau niwro-adferiad cymunedol, ac y bydd buddsoddiad ledled Cymru yn dod â manteision sylweddol i gleifion ac yn cynnig mwy o degwch o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru.

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru? OAQ(5)0185(FM)

Gwnaf. Ym mis Awst, ymatebodd gwasanaeth ambiwlans Cymru i 78.1 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd, a elwir yn alwadau coch, ac mae hynny'n golygu ei fod wedi cyrraedd ei darged am yr unfed mis ar ddeg yn olynol, a dyma’r perfformiad ambiwlans gorau ers cyflwyno cynllun arbrofol y model ymateb clinigol fis Hydref diwethaf.

Diolch i chi am yr ateb yna. Yn amlwg, soniodd y Prif Weinidog am y ffaith fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi ymateb, unwaith eto, i bron i 81 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd mewn wyth munud neu lai ym mis Awst a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyrraedd y targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol. Mae hynny'n glod enfawr i'n staff ambiwlans yng Nghymru.

Felly, a wnaiff y Prif Weinidog nodi’r cyfraddau ymateb ar gyfer fy etholaeth i yn Islwyn ers cyflwyno cynllun arbrofol y model ymateb clinigol fis Hydref diwethaf, ac yn wir, beth mae hyn yn ei ddangos am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru i’m hetholwyr?

Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai 79.6 y cant oedd perfformiad coch yn ardal bwrdd Aneurin Bevan ym mis Awst—sy’n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol—ac mae perfformiad yn yr ardal hon wedi gwella gan fwy na 10 pwynt canran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cyfranogiad Pleidleiswyr

10. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfranogiad pleidleiswyr, yn arbennig pobl ifanc? OAQ(5)0184(FM)

Rydym ni’n parhau i weithio gyda'n partneriaid i annog pobl i gofrestru, yn gyntaf oll, ac i bleidleisio cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2017. Gan dybio bod Bil Cymru, wrth gwrs, yn foddhaol cyn belled ag y mae’r sefydliad hwn yn y cwestiwn, a’i fod yn cael cymeradwyaeth seneddol, byddwn mewn sefyllfa i ystyried y defnydd gorau o bwerau newydd mewn materion etholiadol.

Un defnydd allai fod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer ein hetholiadau. Credwyd bod hyn wedi gweddnewid cyfranogiad pleidleiswyr ymhlith pobl iau yn yr Alban pan newidiwyd y gyfraith ar gyfer refferendwm yr Alban. Byddai hefyd yn caniatáu i ni hyrwyddo mewn modd gwych iawn, yn y grŵp oedran 14 i 18 oed, y cysyniad hollol newydd o addysg dinasyddiaeth a chyfranogiad pleidleiswyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud; mae’n rhaid i ddinasyddion fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, hefyd, o ran parhau democratiaeth iach, ac mae addysg yn allweddol i hynny.

Mae'n gwbl allweddol i hynny. Pan fyddaf yn cyfarfod â phobl ar garreg y drws, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad ydynt yn pleidleisio, rwy’n gofyn iddyn nhw ailadrodd yr hyn y maen nhw newydd ei ddweud ond heb ddefnyddio eu llais. Ac rwy’n dweud, 'Wel, dyna chi, nid oes gennych lais os nad ydych chi’n pleidleisio. Pe byddech yn dweud wrthyf, "Rwy’n pleidleisio, ond pam y dylwn i bleidleisio drosoch chi?"—yna mae gwleidyddion yn cymryd sylw’. Mae'n drist ein bod ni wedi gweld gostyngiad, ers canol y 1990au byddwn i'n dweud, mewn cyfranogiad pleidleiswyr, ac os ydym ni’n onest fel gwleidyddion, mae'n anodd iawn deall y rheswm neu'r rhesymau am hynny. Rydym ni’n gwybod bod y nifer a bleidleisiodd yn uchel yn yr Alban yn y refferendwm annibyniaeth. Ond un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud, er enghraifft, yw ariannu gwefan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr a Chlwb Democratiaeth Cymru, 'Ble dylwn i bleidleisio?' Fe'i lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'n galluogi myfyrwyr ac eraill i ddod o hyd i'r orsaf bleidleisio y cawsant eu cofrestru ynddi ac roedd yn cynnwys 10 o'r 22 ardal awdurdod lleol, sy’n cynnwys tua 47 y cant o etholwyr Cymru.

3. Cwestiwn Brys: Amgueddfa Cymru a Cadw

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Suzy Davies i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

Diolch yn fawr, Lywydd. Jest rhowch eiliad i fi ffeindio fe.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI)

Member
Ken Skates 14:16:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Rwyf wedi ymrwymo i alluogi ein sefydliadau treftadaeth a diwylliannol i sicrhau bod eu perfformiad masnachol y gorau y gall fod. Rwy’n credu y gellir cyflawni hyn trwy archwilio strwythurau newydd posibl a chymryd y camau angenrheidiol i wireddu'r manteision y gellir eu cael drwy integreiddio gwell.

Diolch am yr ymateb yna, Weinidog y Cabinet, ac am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Diolch i chi, Lywydd, hefyd, am ganiatáu’r cwestiwn brys fel y gellid craffu ar y datganiad yn gynnar.

Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i gyrff a noddir neu gyrff o fewn y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd i wella’r holl weithgareddau gweithredol, gan gynnwys gweithgareddau masnachol. Rwy'n cofio codi’r union bwynt hwn gydag un o'ch rhagflaenwyr yn y Cynulliad diwethaf. Mae hefyd yn galonogol gweld bod un neu ddau o'r dewisiadau ger eich bron yn cydnabod nad y dewis gorau i Cadw yw ei fod wedi ei gladdu o fewn y Llywodraeth o reidrwydd, a bod yn rhaid iddo weithredu o leiaf yn rhannol ar hyd braich, er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol. Pe byddai’r Llywodraeth Cymru flaenorol wedi gwrando arnom ni yn y Cynulliad blaenorol, efallai y byddai Cadw, yr amgueddfa a'r comisiwn brenhinol eisoes wedi darganfod gwelliannau i'w harferion partneriaeth parhaus.

Am y dewisiadau i uno y mae fy nghwestiynau yn eu hanfod, ac rwy’n credu bod angen eu hateb yn gynnar yn y broses hon. A dyma nhw: pa wersi wnaeth Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r ymgais a fethodd i arfer ei dymuniad i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Sut byddech chi’n goresgyn statws siarter frenhinol yr amgueddfa? A fyddai angen i chi ddefnyddio deddfwriaeth i uno unrhyw weithgareddau'r cyrff y cyfeirir atynt yn adroddiad PwC? Os cewch chi arweiniad cynnar gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, y byddai uno swyddogaethau yn annerbyniol i ni, a fyddech chi’n gwneud datganiad cynnar y byddai'r dewis penodol hwnnw yn cael ei dynnu yn ôl? Ac yn olaf, gan edrych ar fodelau ar gyfer gwell gweithio mewn partneriaeth, a allwch chi ddweud wrthym pwy y byddwch chi’n ymgynghori â nhw i sicrhau nad oes unrhyw gorff neu bartner penodol yn gryfach na’r lleill? Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a hefyd croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i wella perfformiad masnachol llawer o'n sefydliadau treftadaeth ac amgylchedd hanesyddol. O ran Cadw, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw bod 2016, a dweud y gwir, ar y trywydd iawn i fod y flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn ei hanes. Mae'n rhan o Lywodraeth Cymru, ond penderfyniad a wnes i yn gynnar yn fy swyddogaeth flaenorol oedd sicrhau bod gweithgareddau masnachol Cadw yn cyd-fynd mwy â Croeso Cymru ac amcanion y Flwyddyn Antur a Blwyddyn y Chwedlau. O ganlyniad i'r gwaith hwn, Gorffennaf 2016 oedd y mis gorau yn hanes Cadw. Roedd incwm yn fwy na £160,000 yn uwch nag ym mis Gorffennaf 2015, a bron i £400,000 yn uwch o'i gymharu â phedwar mis cyntaf y llynedd. Rwy'n falch o allu dweud bod nifer yr ymwelwyr 14,000 yn fwy ym mis Gorffennaf eleni o’i gymharu â'r llynedd. Y rheswm yr wyf yn datgan y ffeithiau hyn yw oherwydd eu bod yn dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fydd sefydliadau’n cydweithio'n agosach o ran gweithgarwch hyrwyddo a marchnata. Mae'r grŵp llywio a ffurfiwyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr undebau llafur y gweithlu a gyflogir ar draws yr ystadau, a hefyd y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol. Bydd y grŵp llywio yn nodi sut y gellir cyfansoddi Cymru Hanesyddol orau fel y gall wireddu potensial masnachol ein gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, Cadw, ac, wrth gwrs, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn effeithiol. Bydd y grŵp llywio yn ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer Cymru Hanesyddol a gafodd eu gwerthuso yn yr adroddiad ‘Investing in the future to protect the past’, y mae'r Aelod yn ymwybodol a baratowyd gan PwC yn gynharach eleni. Hysbyswyd yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gan grŵp llywio a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson. Mae'r grŵp llywio yn cael ei gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Mae ganddo wybodaeth anhygoel am y sector a dealltwriaeth wych o ystâd treftadaeth Cymru, ond yn annibynnol ar y sefydliadau sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r ymarfer hwn.

O ran pa un a oes angen deddfwriaeth arnom ai peidio, wel, bydd hynny’n cael ei ystyried yn rhan o'r argymhellion y bydd y grŵp llywio yn eu gwneud yn y pen draw. O ran ymgysylltu ehangach, fy mwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, ar ôl i’r grŵp llywio adrodd yn ôl.

Mae hwn yn gyfle priodol i ni allu gwyntyllu rhai pryderon sydd wedi dod i law ynglŷn â’r cwestiwn yma o dreftadaeth Cymru. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Rwy’n siŵr ei fod o’n cael yr un un math o e-byst ag yr wyf i’n eu cael. A allaf i jest ddatgan yn y lle cyntaf fy mod i’n credu bod amgueddfa genedlaethol Cymru yn hanfodol i’n diffinio ni fel cenedl? Yn y dyddiau du yna cyn i ni gael y Cynulliad yma roeddem ni’n edrych ar amgueddfa genedlaethol Cymru fel ymgorfforiad o un o bileri ein cenedl ni, ac wedyn mae’n hanfodol bwysig. Rydym ni isio sicrwydd na fydd yna ddim byd yn digwydd sydd yn mynd i danseilio dyfodol ein hamgueddfa genedlaethol ni.

Felly, un o’r cwestiynau ydy: a allwch chi, yn y pen draw, sicrhau annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol wrth iddi fynd rhagddi dros y blynyddoedd nesaf? Mae hwnnw’n bwynt hanfodol bwysig. Rydym ni’n deall y materion ariannol, ond mae yna hefyd rai yn meddwl, fel finnau, y byddai’n haws, efallai, petaem ni’n rhoi mwy o ryddid i fudiadau fel yr amgueddfa genedlaethol i ddarparu eu rhaglenni busnes eu hunain—yn fwy cyfoethog, felly, nag y maen nhw wedi eu gwneud i fyny at rŵan—yn lle mynd yn syth at drio cael rhyw gynllun mawr sy’n mynd i ddod â phawb at ei gilydd ac efallai beryglu’r annibyniaeth yma rwy’n sôn amdani hi.

A allech chi hefyd olrhain yn union beth ydych chi’n gweld fel cyfrifoldeb treftadaeth Cymru? Achos, wrth gwrs, mae yna bryderon allan yn fanna, o bob rhan o Gymru, ynglŷn â’r diffyg trafodaeth sydd wedi bod hyd yn hyn. Fe wnes i ofyn wythnos diwethaf am ddadl yn fan hyn i ni allu gwyntyllu rhai o’r pryderon yma, efo mwy o amser a mwy o egni, efallai, nag ydym ni’n gallu eu rhoi mewn cwestiwn brys, ac rwyf dal i ddisgwyl am y ddadl yna. Mae yna bryderon am y perig gwirioneddol a allai ddatblygu i rai o’n mudiadau a’n sefydliadau mwyaf gwerthfawr ni fel cenedl.

Ac, yn y pen draw, a fyddech chi’n cytuno y buasai hi’n syniad da petaem ni’n gallu cael ymchwiliad i’r holl fater o dreftadaeth Cymru yn y pwyllgor diwylliant? A fyddech chi fel Gweinidog yn cefnogi’r syniad yna er mwyn i ni fynd i’r afael â’r pryderon sydd yn chwyrlïo o gwmpas? Diolch yn fawr.

Yn gryno, i'r cwestiwn olaf, byddwn. Nid oedd yr Aelod yn bresennol yn 2013, ac nid oedd Cadeirydd y pwyllgor newydd yn aelod o'r pwyllgor hwnnw yn 2013 ychwaith, pryd y bu ymchwiliad i amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Nid yw'r weledigaeth yr wyf i wedi ei hamlinellu ar gyfer Cymru Hanesyddol yn weledigaeth un person neu un blaid. Mae'n weledigaeth sy'n dod o bob plaid a oedd yn bresennol yn y Siambr hon yn y Cynulliad blaenorol. Argymhellodd yr ymchwiliad hwnnw nifer o newidiadau i'r system bresennol. Roedd yn cynnwys aelodau o'r tair plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, er nad UKIP. Ond daeth yn amlwg yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, ac rwy'n mynd i ddarllen ychydig o adrannau o'r dystiolaeth a roddwyd, bod angen gwneud mwy i sicrhau cynaliadwyedd y sector amgylchedd hanesyddol. Roedd hynny’n gwbl eglur o'r cychwyn cyntaf. Po fwyaf y dystiolaeth a oedd yn dod i mewn, y mwyaf yr oeddem yn cael ein hargyhoeddi bod angen newid.

Gwlad fach yw Cymru ac mae angen i’w sefydliadau treftadaeth arweiniol weithio ar y cyd os yw’n mynd i fod ar ei mwyaf effeithiol o ran gwasanaethu pobl Cymru.

Nid fy ngeiriau i, geiriau prif weithredwr yr amgueddfa genedlaethol. Aeth ymlaen i ddweud bod yr amgueddfa

o’r farn bod y gwerth ychwanegol a gyflawnir trwy brosiectau cyllid a rennir a phrosiectau cydweithredol gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector yn allweddol bwysig.

Ac rwy’n cytuno. Yn yr argymhellion, un o'r argymhellion oedd y dylai Llywodraeth Cymru roi mecanweithiau ar waith i sicrhau gwell cydweithio i hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol. Rwy'n cytuno. Argymhelliad arall: dylai Llywodraeth Cymru archwilio dewisiadau i drosglwyddo'r cyfrifoldeb am hyrwyddo asedau awdurdodau lleol i Cadw. Mae hynny'n mynd hyd yn oed ymhellach na'r hyn a awgrymwyd ar gyfer Cymru Hanesyddol. Argymhelliad arall: dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad treftadaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar aelodaeth i hyrwyddo safleoedd hanesyddol. Ac argymhelliad arall eto: dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu corff ambarél cynrychioliadol fel English Heritage i gynrychioli sefydliadau anllywodraethol yn y trydydd sector a'r sector preifat. Dyma’n union yr hyn yr ydym ni wedi bwrw ymlaen ag ef gyda rhaglen Cymru Hanesyddol.

Nawr, o ran y sylwadau a wnaed gan y pwyllgor ar y pryd, ac er nad yw’r Aelodau Plaid Cymru a oedd ar y pwyllgor hwnnw gyda ni mwyach—Lindsay Whittle, a hefyd Rhodri Glyn Thomas, ac ef, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol, yw llywydd y llyfrgell genedlaethol erbyn hyn—dywedasant,

Rydym yn teimlo bod yn rhaid cael mwy o synergedd mewn gweithgareddau hyrwyddo... Rydym yn cefnogi'r farn...bod potensial aruthrol ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o hyrwyddo. Rydym yn teimlo bod cyfle i fod yn feiddgar ac yn greadigol.

Rydym yn bod yn feiddgar. Rydym yn dymuno bod yn greadigol.

O ran y cyfrifoldebau, rwy’n credu bod hwn yn sicr yn fater i’r grŵp llywio ei ystyried. O ran hunaniaeth, gadewch i mi fod yn hollol eglur, yn rhan o'r weledigaeth, mai pwysigrwydd Cymru Hanesyddol yw cynnal annibyniaeth, hunaniaeth, cywirdeb a dibenion craidd y sefydliadau cenedlaethol. Cydnabyddir hynny’n llwyr. Amcan Cymru Hanesyddol yw eu galluogi i harneisio eu harbenigedd cyfunol, a’u hadnoddau, i sicrhau’r refeniw masnachol mwyaf posibl er budd ein treftadaeth yn ogystal â’r economi, a chymunedau hefyd. Mae gennym ni raglen. Mae llawer o Aelodau yn ymwybodol ohoni—rhaglen Cyfuno. Mae honno’n ceisio dod â rhai o'n sefydliadau diwylliannol mawr at ei gilydd â’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu i drechu tlodi. Dyna’n union sy'n cael ei gyflawni drwy'r amgueddfa genedlaethol, yn gweithio mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol. Dyna’n union fydd yn cael ei gyflawni gan Cymru Hanesyddol.

Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd eisiau mwy o gydweithio yn y sector treftadaeth. Rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n dda bawb ohonom, yn enwedig o ran mentrau marchnata. Ond, wyddoch chi, rydym ni’n wynebu rhai ffeithiau caled iawn yma. Mae'r amgueddfa genedlaethol wedi bod yn gorff annibynnol ers y 1920au, wedi’i sefydlu gan siarter frenhinol. Y rheswm y sefydlwyd y sefydliadau mawreddog hyn gennym fel cyrff annibynnol yw fel eu bod yn gallu sefyll i fyny i’r wladwriaeth a chael rheolaeth dros yr hyn sydd allan yno yn y dychymyg artistig, sy'n eithaf heriol. Fy nghwestiwn syml i chi yw, os bydd yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol yn colli rheolaeth dros ei weithgareddau masnachol, sut mae'n mynd i gynnal, yn annibynnol ar ddewisiadau’r Llywodraeth, arddangosfeydd bywiog a dewis o arddangosion arbennig y mae’n eu datblygu? Rydym ni eisoes wedi clywed gan Dai Lloyd am y rhan a chwaraewyd o ran datblygu’r dychymyg cenedlaethol. Mae'r holl gwestiynau hyn yn dod i lawr i faterion sylfaenol o sut yr ydym ni’n dychmygu ein hunain a sut yr ydym ni’n profi cydlyniad yr hyn sy'n dod allan, yn aml, o’r sefydliad. Sut bydd annibyniaeth yr ysbryd artistig yn cael ei gadw os, i bob pwrpas, bydd yr amgueddfa, drwy Cadw, yn dod yn rhan o'r Llywodraeth?

Nid wyf yn credu bod neb yn awgrymu y bydd yr amgueddfa genedlaethol yn dod yn rhan o'r Llywodraeth. Dim o gwbl. Mae hyn yn mynd i amddiffyn cynaliadwyedd, hunaniaeth ac annibyniaeth yr amgueddfa, ond sicrhau ein bod yn dod â’r arbenigedd sy'n angenrheidiol at ei gilydd i wireddu potensial llawer o'n sefydliadau. Rwyf wedi siarad am y cynnydd i nifer yr ymwelwyr â safleoedd Cadw. Nid wyf yn fodlon â nhw ar hyn o bryd. Mae wedi bod y flwyddyn orau erioed. Hon yw’r flwyddyn orau i ni ei gweld erioed i Cadw, yn rhannol oherwydd y newidiadau hynny a gafodd eu gwneud, a'r penderfyniad i ddenu pobl newydd i safleoedd Cadw. Ond hoffwn weld nifer yr ymwelwyr yn cynyddu ymhellach. Pam? Oherwydd ei fod yn dda i'r economi, mae'n dda i hyfforddi sgiliau, mae'n dda i wirfoddoli, mae'n dod â chymunedau at ei gilydd. Mae hefyd yn dda i’r sector treftadaeth ac i addysg. Nid wyf yn credu y dylai siarteri brenhinol weithredu fel mesur ataliol pan fo gennych chi bartneriaid parod yn y sefydliadau hynny sydd eisiau dod at ei gilydd i ddod ag arbenigedd ac adnoddau at ei gilydd er budd pawb, a dyna’n union fydd y grŵp llywio yn ei ystyried. Ac, fel yr wyf wedi dweud eisoes, mae’r grŵp llywio yn cynnwys ffigyrau uwch o’r sefydliadau cenedlaethol hynny sydd, hyd yma, wedi bod yn rhan o grwpiau eraill, o dan arweiniad y Farwnes Randerson, ac sydd wedi cefnogi, hyd yn hyn, dod at ei gilydd ar sail fwy cydweithredol.

Yn amlwg, Weinidog, ceir pryder yn y sector, ac mae’n ymddangos bod y pryder hwnnw wedi cyrraedd mewnflychau e-bost yr Aelodau. A wnaiff y Gweinidog yn siŵr, pan fydd yn myfyrio ar argymhellion annibynnol adroddiad gan gyn-Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn myfyrio ar adroddiad grŵp llywio annibynnol y mae wedi ei sefydlu, ei fod yn rhoi buddiannau defnyddwyr wrth galon hyn ac nid unrhyw ffiniau sefydliadol a buddiannau proffesiynol? Yn amlwg, mae angen sicrhau bod pobl yn cyd-fynd ag unrhyw newid a gwrando ar holl ddadleuon pobl ar y rheng flaen, ond rwy’n meddwl bod angen i bobl ymlacio ychydig a gwrando ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud, a gadael i'r prosesau yr ydych chi wedi eu cyflwyno fynd rhagddynt.

Mae'r Aelod yn llygad ei le: mae hyn yn ymwneud â defnyddwyr—hynny yw, pobl Cymru yr ydym ni’n eu gwasanaethu ac y mae’n rhaid i'r sefydliadau eu gwasanaethu hefyd. Mae hefyd yn ymwneud â’r bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sefydliadau. Y pryder mwyaf y gellir ei achosi yw ansicrwydd swyddi, a nod hyn yw sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sefydliadau hynny, fel bod y swyddi hynny sydd yno ar hyn o bryd yn cael eu diogelu, ond hefyd bod cyfleoedd i lawer mwy o bobl ymuno â sector sy'n gallu denu pobl ar draws yr ystod oedran, o bob demograffeg. Rwy'n falch ein bod wedi mynd â’r gwaith mor bell. Rwy’n gobeithio y bydd y grŵp llywio yn croesawu’r agenda hon ac yn cyflwyno ateb creadigol iawn a beiddgar iawn i'r hyn sy’n broblem yr wyf yn meddwl bod pawb yn y Siambr hon wedi ei chydnabod—bod yn rhaid cael mwy o gydweithredu ac integreiddio o ran yr hyn y maen nhw’n ei wneud.

4. Cwestiwn Brys: Y Bil Diddymu Cyfraith yr UE

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwy’n galw nawr ar Steffan Lewis i ofyn yr ail gwestiwn brys.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE? EAQ(5)0189(FM)

Am 6.10 p.m. nos Sadwrn, cefais alwad gan David Davis, Gweinidog Brexit Llywodraeth y DU. Ffoniodd i roi gwybod i mi y byddai Bil yn cael ei gyflwyno, yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae wedi cael ei or-hyrwyddo fel y Bil diddymu mawr, fel y’i disgrifir nawr. Yr hyn a ddywedodd wrthyf oedd, yn rhan o'r broses honno, ei fod yn dymuno sicrhau bod yr hyn sydd eisoes yn gyfraith yn awdurdodaethau'r DU ac sy’n dod o'r UE yn cael ei gadw er gwaethaf diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd. Mewn egwyddor, nid oes unrhyw anawsterau gyda hynny, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld y manylion, ac ni fyddwn yn mynegi ein safbwynt hyd nes y bo’r manylion hynny’n eglur.

Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, dyma’r gerddoriaeth gefndir ynghylch cyflwyno’r syniad o Fil diddymu Ewropeaidd sydd efallai’n rhan anochel o sefyllfa Brexit caled ac sydd â chanlyniadau dyfnach a phellgyrhaeddol. Rwy'n pryderu braidd am natur y ffordd y gwnaeth Prif Weinidog y DU ei chyhoeddiad ac, yn wir, y ffordd yr hysbyswyd Prif Weinidog y wlad hon am y penderfyniad hwnnw. Tybed a all ymhelaethu ymhellach am ba un a fydd yn ofynnol i'r sefydliad hwn fabwysiadu proses gyfochrog o ran Bil diddymu Ewropeaidd ar gyfer cyfraith Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion datganoledig, neu, yn hytrach, a fyddai gofyniad i’r sefydliad hwn a Seneddau datganoledig eraill gydsynio i ddeddfwriaeth y DU.

Hefyd, ceir pryder cynyddol, a hynny’n briodol, y gallai'r Bil diddymu mawr honedig fod yn fwy o ymarfer cydio pŵer mawr, gan alluogi San Steffan i ganoli grym ac atal pwerau a adferwyd rhag cael eu datganoli i'r lle hwn. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cynnig i atal y cydio pŵer hwnnw rhag digwydd? Mae'r cynnig Bil diddymu hwn yn codi cwestiynau ehangach nawr am ein dyfodol cenedlaethol a natur ein hundeb gwleidyddol â'r Deyrnas Unedig. A wnaiff ef achub ar y cyfle hwn i ddiffinio'n eglur yr hyn y mae'n ei olygu wrth ddweud 'undeb mwy ffederal' a sut y gall ei gynlluniau i ddarparu hynny weithio o fewn fframwaith y cyhoeddiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn gynharach yr wythnos hon?

Dywedir wrthym hefyd, ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn, na fydd gan Lywodraeth Cymru sedd wrth y bwrdd trafod gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ar y pwynt hwn, a all y Prif Weinidog gadarnhau neu wadu bod ei alwad am sedd wrth y bwrdd wir yn alwad am sedd wrth y bwrdd, neu a oes ganddo wahanol ddiffiniad? Yng ngoleuni’r cyhoeddiad gan Theresa May, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried ymhellach dro pedol arall ar feto i Gymru o'r cytundeb Brexit terfynol? Ac, yn olaf, nawr bod Llywodraeth y DU yn nodi ei bwriad ar gyfer y Brexit caletaf posibl, a wnaiff ef fyfyrio nawr ar yr hyn y gall ei Lywodraeth ei hun ei wneud i amddiffyn y budd cenedlaethol, ac, yn benodol, i amddiffyn ein lle yn y farchnad Ewropeaidd?

Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond tan i ni weld y manylion, mae'n anodd rhoi ateb pendant am hynny. Rydym ni’n cadw'r hawl, wrth gwrs, i benderfynu a ydym am gefnogi’r Cynnig Cysyniad Deddfwriaethol hwnnw ai peidio, yn dibynnu ar yr hyn a ddaw i’r amlwg. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai’r hyn sy'n digwydd yw bod Llywodraeth y DU eisiau sicrhau nad yw’r hyn sydd eisoes yn y gyfraith, yn sgil yr UE, yn cael ei golli o ganlyniad i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer hynny. Cyn belled ag y mae’r lle hwn yn y cwestiwn, rydym ni’n aros i weld beth yw manylion hynny.

O ran trafod, mae gennym ni weithdrefn sefydledig. Er enghraifft, ym maes amaethyddiaeth, lle mae wedi ei hen sefydlu, mae'r pedwar Gweinidog yn dod at ei gilydd gyda’r nod o gytuno ar safbwynt cyffredin, cyn belled ag y mae y DU yn y cwestiwn, yng Nghyngor y Gweinidogion. Dyna'r union fath o broses y byddwn yn disgwyl ei chael y tro hwn. Mae llawer o ryfyg wedi dod o gynhadledd y Ceidwadwyr am Lywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn ceisio dweud mai hi sydd â’r unig swyddogaeth o ran trafod. Hi sydd wrth y llyw, ond byddai'n hynod annoeth i Lywodraeth y DU geisio gorfodi ateb Brexit a wrthwynebwyd yng Nghymru, yn yr Alban ac, yn arbennig, yng Ngogledd Iwerddon, lle ceir peryglon y byddai ateb o'r fath yn cael ei weld fel bod yn cael ei orfodi ar y rhan honno o'r ynys.

Ac felly, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU ei hun syniad gwirioneddol o’r hyn y mae eisiau ei wneud. Rwy'n credu ei fod yn gywir yn ei ddadansoddiad bod tuedd tuag at Brexit caled, dim ond gan na allant feddwl am unrhyw ffordd arall o’i wneud. Mae’r holl sôn y byddai'r UE yn hyblyg, y byddai hyblygrwydd o ran rhyddid i symud, y byddai cytundeb masnach rydd ar waith ac na fyddai tariffau, mae hynny i gyd wedi mynd allan drwy’r ffenest. A fy ofn mawr i nawr yw y byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw, y mae’n ymddangos bod rhai gwleidyddion Ceidwadol yn hapus yn ei gylch, o Brexit caled gyda thariffau. Mae David Davis ei hun wedi dweud, 'Wel, wyddoch chi, os bydd tariffau’n digwydd, mae'n £2 biliwn i’r Trysorlys', gan anghofio, wrth gwrs, yr effaith ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu yn arbennig, ac wrth gwrs y ffaith mai defnyddwyr fyddai’n gorfod talu am y tariffau hynny.

Felly, o’m safbwynt i, mae ymgysylltiad â Llywodraeth y DU wedi bod yn dderbyniol hyd yn hyn. Nid ydym mewn gwahanol sefyllfa o gwbl i’r Alban; Mae'r Alban wedi gwneud llawer o sŵn, ond y gwir amdani yw nad yw mewn sefyllfa wahanol i ni o gwbl. Ond, yr hyn sy'n gwbl eglur yw bod yn rhaid i ni, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Gibraltar—sy'n ofni effeithiau Brexit yn fawr iawn—wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn cael eu clywed, ac rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr mai dyna'n union fydd yn digwydd.

Wel, yn amlwg, nid yw hyn yn ymwneud â chydio pŵer mawr. Fel yr ydych chi eich hun wedi ei ddweud, rydych chi eisiau cymryd rhan a chael eich cynnwys ochr yn ochr â'r Cynulliadau a Seneddau datganoledig eraill, a Llywodraeth y DU, ond heb, fel y cydnabuwyd gennych hefyd ym mis Medi, feto derfynol. Ond, o gofio y bydd y Bil diwygio mawr neu ddiddymu mawr, fel y’i cyhoeddwyd ac fel yr ydym yn ei ddeall, yn newid y corff cyfraith UE presennol yn gyfraith y DU ac y bydd seneddau’r DU yn rhydd wedyn i ddiwygio, diddymu a gwella unrhyw gyfraith a ddewisant, sut gwnewch chi, yn ystod tymor y Cynulliad hwn—o gofio bod yr ymadawiad yn debygol o ddigwydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn—ymgysylltu â chyrff fel Sefydliad Bevan, sy'n dweud bod angen i Gymru ar ôl Brexit ailystyried polisïau economaidd, neu Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n dweud bod yn rhaid i ni gydnabod y cyfle i lunio dyfodol sy'n addas ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a'r holl gyrff eraill sy’n mynegi safbwyntiau tebyg, fel eich bod yn barod, yn 2019 o bosibl, i ddechrau cyflwyno rhaglenni deddfwriaethol priodol sy'n bodloni’r dyheadau ac yn diwallu’r anghenion a nodwyd gan y sefydliadau hyn?

Wel, mae dewis geiriau yr Aelod yn anffodus, oherwydd cydio pŵer yw’r union beth a ddisgrifiodd ar y cychwyn. Yr hyn a ddywedodd oedd y byddai cyfraith y DU yn ymdrin â’r materion hyn nawr. Wel, nid yw cyfraith y DU yn bodoli mewn gwirionedd. Ond, yn ail, nid yw'n fater i Senedd y DU yn ei chyfanrwydd o ran yr hyn sy'n digwydd gyda chyfraith yr UE. Mae llawer o ddeddfau wedi'u datganoli, a bydd yn gwbl annerbyniol i Senedd y DU fod â swyddogaeth o ran ymdrin â gweinyddiaeth ddatganoledig mewn unrhyw un o'r cenhedloedd datganoledig. Mater i'r sefydliad hwn yn gyfan gwbl yw hynny, ac i’r rhai sydd wedi eu hethol i wasanaethu ynddo.

Mae'n sôn am ffermio. Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill. Mae'r Gweinidog wedi cyfarfod ag undebau ffermio ar sawl achlysur. Ond, unwaith eto, yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu yw nad ydym yn gwybod a fydd unrhyw arian ar gael ar gyfer cymorthdaliadau ffermio ar ôl 2020. Nid yw’r sicrwydd hwnnw wedi ei roi.

I mi, mae’r mater o dariffau yn flaenllaw dros ben. Mae llawer iawn o fusnesau wedi mynegi i mi eu pryder mawr am y posibilrwydd o dariffau, a’u pryder mawr am y posibilrwydd o wahanol drefniadau rheoleiddio, pe byddai hynny'n digwydd yn y dyfodol. Y gwir amdani yw, os ceir mynediad rhydd a dilyffethair at farchnad Ewrop heb dariffau, yna byddai hynny'n hynod ddefnyddiol. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae honno, i mi, yn llinell goch bendant cyn belled ag y mae Cymru a Phrydain yn y cwestiwn. Os, fodd bynnag, y bydd tariffau, yna bydd hynny'n golygu y bydd llawer o'r hyn yr ydym ni’n ei gynhyrchu yn dod yn anghystadleuol. Byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw marchnad sy'n fwy nag America a Rwsia gyda’i gilydd mor agored i ni ag yr oedd ar un adeg, ac nid wyf yn credu bod hynny’n gwneud unrhyw synnwyr economaidd o gwbl.

Yr hyn sydd yn fy mhoeni i yw bod rhai ar asgell dde y Blaid Geidwadol y mae’n ymddangos eu bod yn meddwl—ac nid wyf yn sôn amdano fe, oherwydd nid yw'n rhywbeth y mae wedi ei ddweud, ond rwyf wedi clywed Peter Lilley yn ei ddweud, John Redwood a Patrick Minford, sydd i gyd wedi dweud yn y bôn y dylem ni gael mynediad di-dariff ar gyfer yr holl nwyddau a weithgynhyrchir a phob math o fwyd. Byddai hynny’n dinistrio ffermio, mi ddywedaf i hynny wrthych chi nawr, a byddai'n dinistrio ein diwydiant gweithgynhyrchu. Y quid pro quo fyddai mynediad at farchnadoedd newydd ar gyfer gwasanaethau ariannol. Mewn geiriau eraill, cyn belled bod Dinas Llundain yn iawn, yna nid oes ots am neb arall. Ni all hynny byth fod yn sefyllfa dderbyniol i unrhyw un ohonom ni yng Nghymru. Nid yw'n farn a rennir, er tegwch, gan bawb yn ei blaid, ond, serch hynny, mae'n farn yr wyf i wedi ei chlywed yn cael ei mynegi gan lawer ar asgell dde ei blaid.

5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf o fusnes yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i’n galw ar Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w gwneud i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad ar yr M4 yn syth ar ôl y datganiad busnes, ac mae'r datganiad ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi ei ohirio tan 18 Hydref.

Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Rwyf i eisiau gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflogi Kris Wade, a ddedfrydwyd i garchar am oes am lofruddiaeth yr wythnos diwethaf—bu’n gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—ac yn arbennig, pa un a oes modd i Lywodraeth Cymru ystyried, yn wyneb datgeliadau dilynol am gyfnod Mr Wade yn y BILl, gynyddu ei statws cyfredol o ymyraethau wedi'u targedu i fesurau arbennig. Os nad oedd elfen o hunanfodlonrwydd ymhlith rheolwyr wrth ymdrin â’r honiadau a wnaed yn erbyn Mr Wade, yr oedd yn sicr elfen o ddiogi. Roedd Mr Wade wedi ei atal rhag gweithio o fis Hydref 2012 hyd ei ddiswyddo yn gynharach eleni, ac mae'n rhaid gofyn: pam oedd yn rhaid i ddigwyddiad difrifol iawn ddigwydd cyn i PABM weithredu o'r diwedd? Mae'r rhain yn faterion hynod ddifrifol sy'n fater i Lywodraeth Cymru, fel goruchwyliwr PABM, yn ogystal â'r BILl ei hun. Rwy’n gofyn, felly, am ddatganiad yn amser y Llywodraeth ar y mater penodol hwn.

Mae’r cwestiwn arall yr hoffwn ofyn am ddatganiad arno yn ymwneud â Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Byddwch wedi gweld ei fod yn ymgynghori ar ei gyllideb ar hyn o bryd, ond yr hyn sydd o’r diddordeb mwyaf i mi yw ei bod yn bosibl y bydd yn torri £50,000 oddi ar ei gyllideb anghenion addysgol arbennig, gan effeithio ar ddau gyfleuster addysg arbennig a hyd at 11 uned wedi’u lleoli mewn ysgolion yn y fwrdeistref sirol. Mae hyn, yn anffodus, yn amlwg wedi peri dicter ymhlith rhieni, ac mae rhai ohonynt wedi cymharu cystadlu am leoliadau â 'The Hunger Games', gan olygu bod ffrindiau a theuluoedd yn cael eu rhoi yn erbyn ei gilydd. Maent yn dweud y bydd pethau’n gwaethygu, a dywedodd rhiant arall mai buddsoddiad yw hyn ac y dylid ei gadw.

Roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad ar y ffaith y bydd Bil newydd yn dod gerbron y Cynulliad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig. Er bod hynny i'w ganmol, sut y gallwn ni ddwyn hynny ymlaen yn gadarnhaol pryd y gallai fod toriadau i anghenion addysgol arbennig, nid yng nghyngor Castell-nedd Port Talbot yn unig, ond ledled y wlad, pan ddaw’r cyllidebau hynny trwodd gan lywodraeth leol, i weld sut y byddant wedyn yn gallu ymdopi â'r toriadau gan San Steffan? Rwy'n gwybod ei fod yn gyfnod anodd iawn, ond rwy’n credu ei fod yn rhywbeth, pan fo toriadau i’r mathau hynny o gynlluniau addysgol, y mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono ac ymateb iddo yn briodol.

Wel, mae Bethan Jenkins yn codi dau fater, a mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol ABM yw’r cyntaf ohonynt, ac wrth gwrs, byddai'n amhriodol gwneud sylwadau ar y mater hwnnw, gan mai nhw ddylai ymdrin ag ef. Rydych chi wedi ei godi heddiw, felly mae wedi ei ddatgan, ond mater i'r bwrdd iechyd ymdrin ag ef a’i ddatrys yw hwn.

Mae eich ail fater, wrth gwrs, yn fater penodol i'r awdurdod lleol, ond credaf eich bod yn llygad eich lle o ran y cyfleoedd sydd gennym nawr gyda'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd ar y gweill. Bu llawer iawn o ymgynghori a thrafod yn y pedwerydd Cynulliad blaenorol, yn arwain at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol hwn, a gwn fod y Gweinidog, ac yn wir y pwyllgor, yn edrych ymlaen at gael y cyfle i graffu, i ddwyn ymlaen yr hyn a fydd yn ddarn arall o ddeddfwriaeth arloesol, sy’n canolbwyntio'n benodol ar yr anghenion hynny o ran addysg broffesiynol.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar welyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal nyrsio yng Nghymru? Mae problem benodol yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae cartref gofal nyrsio i henoed eiddil eu meddwl, Plas Isaf yn Llandrillo-yn-Rhos, yn y broses o gau, sydd wrth gwrs yn achosi cryn darfu ar yr 21 o breswylwyr yn y cartref, gan mai dyma gartref llawer ohonynt ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wrth gwrs mae’n achosi llawer iawn o darfu ar staff hefyd. Mae’r grŵp cartrefi gofal sydd yn berchen mewn gwirionedd ar yr eiddo hwn wedi cau cartrefi eraill yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae prinder eithaf dybryd o welyau yn datblygu i henoed eiddil eu meddwl, yn enwedig yn ardal gogledd Cymru. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y sector cartrefi nyrsio i fuddsoddi mewn rhagor o'r mathau hyn o welyau yn y dyfodol neu efallai i weithio gyda'r GIG i ddatblygu modelau eraill o ofal. Byddwn yn croesawu datganiad ar hynny.

A gaf i, yn ail, alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar yr adolygiad a gyhoeddodd i'r cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de yr wythnos diwethaf? Roeddwn i’n falch iawn o glywed am yr adolygiad hwnnw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol y bu gennyf rai pryderon ynglŷn ag agweddau ar werth am arian o ran y cyswllt awyr penodol hwnnw am sawl blwyddyn bellach, ac y gallai’r arian o bosib gael ei fuddsoddi yn well naill ai yn y seilwaith rhwydwaith ffyrdd neu reilffyrdd, neu, yn wir, mewn cyswllt awyr i leoliad arall sy'n gwasanaethu pobl y gogledd. Tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny er mwyn i ni allu archwilio rhai o'r materion hyn ac er mwyn i ACau gael dweud eu dweud. Diolch.

Diolch. Mae'r Aelod dros ogledd Cymru yn nodi mater pwysig iawn o ran cartrefi nyrsio yn y sector gofal ac, wrth gwrs, fel y dywed, mae'r cartrefi hyn yn y sector preifat annibynnol yn aml. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Fforwm Gofal Cymru a Mario Kreft, y byddwch yn ei adnabod yn dda, o ran pwysigrwydd y sector gofal, a chydnabod hefyd bod ein harolygwyr a'r bobl sy'n derbyn gofal yn dweud wrthym, o ran ansawdd y gofal a gaiff ei ddarparu, ei fod yn wych ac ein bod hefyd yn buddsoddi mwy mewn iechyd ac mewn gofal cymdeithasol. Mae gofal nyrsio, wrth gwrs, yn hollbwysig, fel y dywedwch, ond mae hynny'n fater hefyd o ran comisiynwyr a'r cyfleoedd i gydweithio rhwng adrannau iechyd a gofal cymdeithasol.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae'n iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi adolygiad o'r cwmni hedfan gogledd i’r de, a gomisiynwyd ar 14 Medi, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y canfyddiadau ac yn rhoi datganiad pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau.

Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad ar fater y cyfeiriwyd ato eisoes y prynhawn yma—penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn gyrff sector cyhoeddus. Gallai'r penderfyniad gael goblygiadau difrifol iawn ar adeiladu tai yng Nghymru, ond rwy'n pryderu hefyd y gall unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru hynny, arwain at ddadreoleiddio'r sector cymdeithasau tai, a fyddai'n peri cryn bryder i denantiaid.

Fe wnaeth y Prif Weinidog ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas, a chafwyd cwestiwn arall gan Russell George. Rwy’n credu mai'r peth pwysig i’w ailadrodd o’i ymateb yw ein bod yn chwilio am ateb deddfwriaethol i'r mater o ailddosbarthu. Gall cymdeithasau tai—unwaith eto, mae'n bwysig rhoi hyn ar y cofnod—fod yn hyderus y bydd yn cael ei ddatrys. Byddant yn gallu parhau i fenthyg oddi wrth y sector preifat er mwyn ein helpu i gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn y tymor Cynulliad hwn.

Rydym ni wedi cael nifer o awgrymiadau ar y pethau defnyddiol y gallai’r Cynulliad hwn eu trafod. Rwy’n meddwl pam y bydd y Cynulliad yn trafod heddiw, am y trydydd tro, raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Cawsom ddatganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 18 Mai, un arall ar 28 Mehefin ac un arall ar 28 Medi. Wyddoch chi, nid yw hen fwyd yn blasu’n well wrth ei gynhesu am y trydydd tro. Mae ein plaid ni o’r farn bod hyn, mewn gwirionedd, yn gamddefnydd o’r Cynulliad, pryd y gallem fod yn gwneud pethau llawer mwy defnyddiol. Felly, ni fydd fy mhlaid i heddiw yn cymryd rhan yn y ddadl mewn protest oherwydd na fydd ond yn ailadrodd popeth yr ydym wedi ei ddweud o'r blaen. Rwyf yn gresynu bod y Llywodraeth yn gwneud hyn ac yn gobeithio, yn y dyfodol, na fyddwn yn cael ein gwahodd i wastraffu ein hamser yn y modd hwn.

Wel, nid wyf i’n credu y byddwn ni yn y Siambr hon—rwy’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran llawer ohonom ni yma, yn ogystal â'r cyhoedd ar y stryd—yn poeni ryw lawer nad yw UKIP yn cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Chi sy’n colli o ganlyniad i hyn; rydych chi’n colli cyfle seneddol wirioneddol bwysig. Rwy'n credu y bydd y pleidiau mwy profiadol, neu fwy aeddfed, efallai, yn y Siambr hon yn manteisio ar hyn ac y byddant yn dymuno, ac yn disgwyl i ni hybu dadl ar ein rhaglen lywodraethu yn ogystal ag ar ein blaenoriaethau deddfwriaethol. Gwn eich bod yn frwd iawn ynglŷn â’r Rheolau Sefydlog, yn sicr mae eich aelodau, a hoffwn dynnu eich sylw at 11.21 (i) a (ii):

‘Rhaid trefnu bod amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar yr eitemau canlynol o fusnes: (i) rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (yn unol ag adran 33 o'r Ddeddf)’.

Nid wnaethoch wrthwynebu hynny; ac

‘(ii) amcanion polisi a rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth’.

Nawr mae hynny yn ein Rheolau Sefydlog, ac rwy'n falch iawn ein bod yn hyrwyddo dadl y prynhawn yma yn y Siambr hon.

Mae’r Gweinidog busnes yn llygad ei lle yn ei dehongliad o'r Rheolau Sefydlog, ac mae hyn yn ofyniad gan y Llywodraeth, i amserlennu dadl ar y rhaglen lywodraethu. Hwn fydd y cyfle cyntaf i’r Cynulliad hwn bleidleisio ar y rhaglen lywodraethu, ac yn sicr nid yw'n camddefnyddio amser y Cynulliad Cenedlaethol hwn i drafod hyn y prynhawn yma. Mark Isherwood.

Hoffwn godi dau bwynt. Yn gyntaf, i ategu galwad Bethan Jenkins ynglŷn ag achos Kris Wade, yn enwedig o gofio bod y llofruddiaeth a’r euogfarn wedi dilyn adroddiadau gan bobl ag anawsterau dysgu o gam-drin rhywiol pan oeddent yn derbyn gofal. Byddwn i’n dadlau, ac rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno, bod angen i unrhyw ymchwiliad fynd y tu hwnt i'r bwrdd iechyd, y tu hwnt i'r awdurdod lleol, a chodi cwestiynau yn uniongyrchol gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â faint o hygrededd a roddwyd i'r tystion pan gawsom eu cyfweld, faint o hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd oedd y rhai a oedd yn cyfweld wedi ei gael, ac i ba raddau yr oeddent hyd yn oed yn deall yr agweddau sylfaenol ar y model cymdeithasol o anabledd, lle mae rhwystrau yn peri anabledd i bobl. Nawr, ni allwn ddweud na rhoi sylw, yn amlwg, ar yr hyn y gallent fod wedi ei ddweud a sut y gallai fod wedi ei ddehongli, gan nad oes gennym y dystiolaeth honno, ond mae'n gofyn cwestiynau difrifol sy’n dod o fewn pryderon a chylch gwaith Llywodraeth Cymru, o leiaf fel hwylusydd, os nad cyfranogwr yn yr ymchwiliad a fydd yn cael ei gynnal.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad llafar ar y Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn? Cawsom ddatganiad ysgrifenedig ar y Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddydd Gwener diwethaf, a oedd yn llawn gwirioneddau hunanamlwg, sef bod llawer o bobl hŷn yn dymuno parhau i weithio a bod pobl hŷn yn dymuno bod yn ddiogel, ond ychydig iawn o gamau penodol gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud:

‘Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thraws-lywodraethol i roi sylw i unigrwydd ac arwahanrwydd... Gwyddom hefyd pa mor bwysig yw cynlluniau cyfeillio.’

Ond déjà vu yw hyn unwaith eto. Mae pob Llywodraeth Cymru ers i mi ddod yma 13 mlynedd yn ôl wedi dweud yn union yr un peth, ond yr hyn sydd ar goll yma, yn unrhyw le, yw cyfeiriad at bwysigrwydd byw yn annibynnol a chyd-greu â phobl hŷn er mwyn sicrhau bod cynlluniau ymyrraeth ac atal cynnar yn cefnogi eu lles. Hoffwn gloi drwy gyfeirio at y digwyddiad yr oeddwn yn bresennol ynddo ddydd Gwener diwethaf ar ddiwrnod pobl hŷn, a oedd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau sydd ar gael i'n pobl hŷn er mwyn hyrwyddo byw yn annibynnol. Felly, yn hytrach na chreu strategaeth Llywodraeth Cymru, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r rhwydwaith cyd-greu dros Gymru, darparwyr Cefnogi Pobl yng Nghymru, Cynghrair Ailalluogi Cymru, a’r holl sefydliadau gwych eraill sydd eisoes yn gweithio yn y maes ond sydd angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â hwy fel partneriaid cyfartal, er mwyn dwyn yr agenda hon ymlaen?

Credaf fod fy ymateb cynharach i Bethan Jenkins yn ddigonol ar gyfer y pwynt cyntaf o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM.

O ran eich ail bwynt, roeddwn innau hefyd yn bresennol mewn digwyddiad pwysig iawn yn fy etholaeth i ynglŷn â’r strategaeth ar gyfer pobl dros 50 oed, sydd wedi datblygu o'n strategaeth pobl hŷn hynod arloesol yma yn y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn bod parhad, Mark Isherwood, o ran safbwynt y Llywodraeth o ran ymyrraeth ac ymgysylltiad. Ond, wrth gwrs, rydym yn derbyn y pwynt, fel y dangoswyd yn bendant iawn yn y digwyddiad yr es i iddo, mai pobl hŷn—dros 50 oed—sy’n dod i'r amlwg erbyn hyn, o ran amcanion strategol, ac sydd mewn gwirionedd yn arwain y gwaith o ran polisi ar gyfer pobl hŷn. Hynny, wrth gwrs, yw hanfod cyd-greu.

Yn sgil y sylwadau ar y penwythnos gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth yn dweud bod pwyso am gyflawni'r addewidion a wnaed ynglŷn â thrydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe yn rhywbeth sy’n cychwyn cyn pryd, a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad sy'n nodi’r sylwadau a fydd yn cael eu gwneud i Lywodraeth y DU fel nad yw trigolion ardal bae Abertawe a gorllewin Caerdydd yn cael eu siomi gan Lywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto?

Yn sicr, rwy’n credu ein bod i gyd wedi ein siomi yn fawr na fydd y trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn cael ei gwblhau erbyn 2018 yn unol â’r addewid a’r bwriad gwreiddiol, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac mae'n ddefnyddiol iawn cael eich ymyriad heddiw ar y datganiad busnes, Jeremy Miles, gan fy mod i'n siŵr bod teimladau cryf yn y Siambr hon bod arnom angen cadarnhad o’r trydaneiddio i Abertawe, a bod angen iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn y cyfnod ariannu 2019-24.

Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid bod tua 10 mlynedd erbyn hyn ers i mi fynychu cyfarfodydd Dyfodol Clinigol Gwent am y tro cyntaf ynglŷn ag adeiladu canolfan gofal arbenigol a chritigol yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Dyma ni 10 mlynedd yn ddiweddarach a, heblaw am ychydig o waith paratoi, rydym yn dal i fod heb yr adeilad hwnnw mewn unrhyw ystyr gwirioneddol. Bu dryswch o'r newydd ynglŷn â hyn dros y dyddiau diwethaf, a phryderon bod oedi pellach i'r prosiect hwn. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y cyfle cyntaf i geisio egluro’r dryswch hwn er mwyn i ni gael amserlen briodol ar gyfer y gwaith o adeiladu'r cyfleuster hwn.

Rwy'n siŵr, Nick Ramsay, y byddech yn cydnabod pa mor agored y bu Ysgrifennydd y Cabinet o ran rhoi diweddariadau ac egluro’r cynnydd, o ran achos busnes SCCC. Mater o ddiweddaru ar gynnydd oedd hwn. Cadarnhaodd trafodaethau diweddar yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y disgwylir cyngor y mis hwn, ym mis Hydref 2016, ac, unwaith eto, gan addo diweddariad priodol i Aelodau'r Cynulliad bryd hynny. Felly, unwaith eto, bydd hynny yn dod.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar ddur, ac rwyf yn hynod ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith am fod yn bresennol ac am roi diweddariad. Yn ystod y misoedd diwethaf, bu gweithwyr dur yn gweithio'n galed i gynyddu lefelau cynhyrchu a chyrraedd eu targedau. I'r cyhoedd, ymddengys bod y materion dur wedi diflannu; nid yw hyn yn wir. Mae pryderon dwfn o hyd ynglŷn â dyfodol dur, ac ansicrwydd a heriau o'n blaenau. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r Cynulliad ar y sefyllfa bresennol o ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar ddur, ac efallai hefyd ar y trafodaethau y mae wedi eu cael â Llywodraeth y DU?

Yr ail bwynt, a gaf innau hefyd gefnogi'r materion a godwyd gan Bethan Jenkins ar faterion addysg arbennig? Deallaf yr ateb a roesoch iddi ac yr wyf yn gwerthfawrogi mai penderfyniad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw hwn ac y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod, ond mae'n bwysig deall safbwynt Llywodraeth Cymru o ran helpu'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sydd yn wynebu heriau yn awr, a pha un a fedr y Bil, mewn gwirionedd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau roi mwy o gymorth yn y meysydd hynny lle yr ydym yn gweld toriadau ar hyn o bryd.

David Rees, rydych chi bob amser wedi cyflwyno yn gyson yr wybodaeth ddiweddaraf o’ch safbwynt chi o ran dur yn eich etholaeth, Tata a'r bobl yr ydych yn eu cynrychioli, ac rwy'n ddiolchgar am hynny unwaith eto heddiw. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, mae grwpiau trawsbleidiol yn ddefnyddiol iawn, onid ydynt; maent yn fforwm lle y gall pawb gydgyfarfod a lle y mae Gweinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn sicrhau eu bod ar gael, a chredaf bod y diweddariad yn wedi cael derbyniad da iawn. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i roi hynny mewn datganiad ysgrifenedig neu efallai mewn llythyr at yr Aelodau, gan ei fod wedi ei rannu gyda grŵp trawsbleidiol.

Credaf fod eich pwyntiau, unwaith eto, ynglŷn ag anghenion addysg arbennig, a'r ffaith ein bod yn bwrw ymlaen â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, i gyd yn cryfhau'r ffaith y bydd hyn yn gyfle enfawr, a fydd, wrth gwrs, yn destun ymgynghori a chraffu pellach wrth iddo symud drwy'r Cynulliad hwn.

6. 3. Datganiad: Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar brosiect coridor yr M4. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:00:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Lywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr oedi yn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i goridor yr M4 o amgylch Casnewydd o ganlyniad uniongyrchol i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU.

Nid oes llawer o amser cyn dyddiad dechrau arfaethedig yr ymchwiliad, felly penderfynais ryddhau datganiad ysgrifenedig ddoe i roi gwybod i’r holl randdeiliaid cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais wrth Aelodau yma ar 21 Mehefin, mae'n hanfodol bod y broses hon yn gwbl dryloyw. Yn yr ysbryd hwn, mae'n iawn ac yn briodol bod y mater yn cael ei drafod gyda’r Aelodau cyn gynted ag y bo modd.

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno methodoleg ddiwygiedig o ran y dull newydd a ddefnyddir ganddynt i ragweld twf traffig, y cyfeirir ato fel TEMPro 7, a hynny heb ymgynghori. Gan fy mod i’n awyddus i sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir, cadarn a chyfoes, mae’n rhaid i mi yn awr ganiatáu digon o amser i gynnal adolygiad o’r modd y cyflwynir adroddiadau sy'n cefnogi’r cynigion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.

Gan ddibynnu ar ganlyniad fy adolygiad, bydd yr ymchwiliad, a oedd i fod i ddechrau ar 1 Tachwedd, yn dechrau heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth y flwyddyn nesaf. Er mwyn tegwch a thryloywder, caiff yr adroddiadau ar y mater hwn eu rhannu â'r holl randdeiliaid cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. Fel y nodais o’r blaen, byddai amserlen yr ymchwiliad yn para tua phum mis ac yn archwilio pob agwedd ar brosiect yr M4, yn ogystal â'r holl ddewisiadau amgen a awgrymwyd.

Rwy’n ymwybodol iawn o'r amrywiaeth o safbwyntiau ynglŷn â’r prosiect. Byddai ymchwiliad yn caniatáu i’r safbwyntiau hyn gael eu clywed, ac y tu allan i'r broses honno, rwy'n awyddus i barhau i archwilio pob cyfle i leihau effeithiau negyddol a gwneud y mwyaf o fanteision trawsbynciol y buddsoddiad sylweddol hwn.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi mynegi ei dymuniad i weld y gwaith ar brosiect yr M4 yn dechrau cyn gynted ag y bo modd. Felly mae'n hynod siomedig bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â ni ynglŷn â’r diwygiadau hyn cyn iddynt gael eu cyflwyno, gan orfodi’r oedi anffodus hwn. Er ein bod yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau metro ar gyfer y gogledd a'r de, mae angen ateb ar y problemau hirsefydlog a pharhaus sy'n gysylltiedig â'r M4 o amgylch Casnewydd, a hwnnw’n ateb sy'n cyflenwi systemau trafnidiaeth integredig a chynaliadwy ar gyfer y tymor hir.

Mae’r asesiadau hyd yn hyn yn dangos mai ein prosiect arfaethedig ar gyfer yr M4 yw'r unig ateb rhesymol. Ond mae’n iawn ac yn briodol bod y cynigion yn cael eu profi o ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r dewis cywir i bobl Cymru.

Nid yw'r broblem wedi diflannu. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddarparu ateb hirdymor a chynaliadwy i'r problemau traffig parhaus ar y rhan hon o'r M4. Yn amodol ar gymeradwyaeth fy adolygiad a’m hymchwiliad, gellir parhau i gyflwyno prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn 2021.

Diolch, Lywydd, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid yw hwn yn newyddion da. Fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, rŷch chi’n hynod siomedig—a allaf i jest ddatgan fy mod i’n hynod, hynod siomedig? Fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich ateb blaenorol nad oedd rhai ohonom ni yma yn y Cynulliad diwethaf—roeddwn i yma yn y Cynulliad cyn diwethaf, a gallaf eich sicrhau chi, roeddem ni’n trafod problemau’r M4 bryd hynny. Roeddem ni hefyd, gyda llaw, yn trafod yr angen i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe—nid oes yna ddim byd yn symud ymlaen yn y lle yma.

Rwy’n deall y cyhoeddiad, ond pam mae’n rhaid dilyn Llundain? Esboniwch i mi a phawb arall a oedd yn styc mewn ciw ar yr M4 rownd Casnewydd y bore yma: pam mae’n rhaid aros am benderfyniad o Lundain sydd wedi glanio ar eich desg yn ddisymwth a nawr mae’n rhaid i chi ymateb drwy oedi? Pam mae’n rhaid dilyn lein Llundain ar hyn? Ac, yn y bôn, sut y gwnaeth hyn ddigwydd? Yn y bôn, sut digwyddodd hyn? Mae pobl yn dweud wrthym ni—sydd eisiau Cymru annibynnol—ein bod ni’n gryfach am ein bod ni’n sownd i Loegr, achos mae yna gydweithio ac mae’r ddwy Lywodraeth—un pen i’r M4 a’r pen arall i’r M4—yn cydweithio, cydlynu, a phob math o ‘gyd-’ arall. Wel, yn amlwg, nid yw hynny’n digwydd. Mae’n rhaid i chi ofyn, felly: sut ydym ni’n elwa o fod yn sownd i Loegr? Dyna’r math o—.

Mae emosiynau yn rhedeg ychydig bach yn uchel pan fyddwch chi’n cael penderfyniad fel hyn. Mae pobl wedi bod yn disgwyl blynyddoedd am welliant, i rywbeth gael ei wneud i’r M4. Rwy’n gwybod, eich llwybr du chi—wrth gwrs, fuasai yna ddim pres ar ôl petasem ni’n mynd ar ôl hynny—y llwybr glas, ac, wrth gwrs, mae gennych chi adolygiad. Gallech chi feddwl y buasai’r adolygiad hwnnw’n edrych i mewn i’r holl bwysau a sut i fesur pethau ac na fyddai angen oedi rhagor. Mae pobl wedi bod yn aros ac aros am flynyddoedd.

Wrth basio, fel plaid, fe wnaethom ni gyhoeddi ein comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru ddoe. Rwy’n gwybod ein bod wedi cytuno ar NICW, ond mae’n rhaid imi ddweud rwy’n credu bod ein NICW ni’n gryn wahanol i’ch NICW chi, ac rydym ni eisiau gweld corff pwerus sy’n gallu cael buddsoddiad, denu ariannu, gweithredu a chynllunio, a gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth ac yn aros yn y sector gyhoeddus—buasai’n gallu trefnu a darparu isadeiledd fel M4 newydd ar ba bynnag lwybr y mae pawb yn cytuno arno yn y pen draw. Mae’n amser i weithredu.

Fel rydw i’n ei ddweud, mae yna oedi ac mae nifer o bethau sydd ddim wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd, megis mynd i’r afael â’r M4 rownd Casnewydd, megis trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe. Nawr, fedrwn ni drin a thrafod, mi allwn ni feio pwy bynnag arall ochr draw i’r M4, ond o’ch ochr chi, rydych chi’n credu ein bod ni’n gryfach gan fod yn rhaid gwrando ar Lundain. Buaswn i’n anghytuno efo chi ar hynny. Rwy’n credu y buasai’n well i ni afael yn y busnes ein hunain a mynd amdani, ond, wrth gwrs, rydych chi’n perthyn i wahanol weledigaeth i fi yn fanna. Ond esboniwch i fi sut mae’r trefniant presennol yma yn ein cryfhau ni, pan fo’n pobl ni yng Nghymru yn dal i aros i bethau digwydd. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau. Mae'n amlwg nad yw’r un ohonom ni’n hapus o gwbl â'r hyn yr ydym wedi’i ddysgu yr wythnos hon. Ond rwy’n dychmygu bod modurwyr sy'n defnyddio'r M4 yn rheolaidd yn gwbl gandryll oherwydd yr oedi pellach hwn—oedi diangen ac oedi y gellid ei osgoi. Pe baem ni heb ddewis gohirio cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ymwneud â’r M4 tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fan bellaf, yna, fwy na thebyg, byddai’r arolygydd wedi gohirio’r ymchwiliad ei hun.

O ran y broses—ac rwy’n credu bod yr Aelodau, ac, rwy’n credu, y cyhoedd, yn haeddu esboniad am hyn. Gadewch imi fod yn glir: nid wy’n credu bod unrhyw gynllwyn ar ran Llywodraeth y DU yn erbyn Cymru yn hyn o beth, ond rwyf i o’r farn bod yna flerwch. Yr hyn sy’n digwydd fel arfer, yr arfer cyffredin, yw y byddwn ni’n cael gwybod un flwyddyn cyn i’r data gael eu cyhoeddi—un flwyddyn. Mae hynny’n ein galluogi ni wedyn i graffu—gan fod hon yn broses ddwys, hynod gymhleth—ar y data newydd. Mae hefyd yn effeithio ar holl ranbarthau Lloegr, ac felly, ar Highways England. Maen nhw mewn sefyllfa debyg i ni; dim ond ychydig wythnosau a roddwyd iddynt cyn i’r data gael eu cyhoeddi. Rhoddwyd tri diwrnod o rybudd i ni—blwyddyn fel rheol—a hynny heb ymgynghori ar y newidiadau ychwaith. Do, rhoddwyd ryw syniad i ni yn y gwanwyn y byddai data TEMPro yn cael eu diweddaru, ond methodd yr Adran Drafnidiaeth ag ymgysylltu â ni o ran cwmpas y newidiadau.

Fel y dywedais, ar gyfer diwygiadau blaenorol i ddata traffig, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi ymgynghori â ni tua blwyddyn ymlaen llaw. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol rhoi tri diwrnod o rybudd i ni gan wybod yn iawn beth fyddai’r canlyniadau i ranbarth cyfan o’r DU. Fel rheol, mae'r berthynas yn un iach, ond, yn yr achos hwn, mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Hoffwn wybod beth aeth o'i le. Felly, byddaf yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol fis nesaf, fel y mae fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi sôn.

O ran y berthynas sydd gennym â Llywodraeth y DU, rwyf o’r farn ein bod yn gryfach gyda'n gilydd fel gwlad. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan yr Adran Drafnidiaeth, neu, o ran hynny, unrhyw adran arall yn Llywodraeth y DU, yn parchu’r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, a’r amserlen y mae disgwyl i brosiectau—prosiectau mawrion megis yr M4—weithredu oddi mewn iddi.

Roedd yr Aelod yn tynnu sylw at yr angen i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe—yn bendant; rwy’n cytuno yn llwyr. Ac eto, byddwn i’n datgan nad yw Cymru, yn y gorffennol, wedi cael ei chyfran deg o ran buddsoddiad drwy Network Rail. Mae’n rhaid i hynny newid hefyd. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau y cytunir ar y rhaglenni ariannu dethol hynny gan Network Rail o fewn cyfnod rheoli 6, fel bod gennym ni system gwbl integredig—system sydd yn wirioneddol addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, nid dim ond yn y de, ond yn y gogledd a phob man rhwng y de a’r gogledd hefyd.

Yn gyntaf oll, byddaf yn dweud fy mod yn croesawu'n fawr ddatganiad cynnar Ysgrifennydd y Cabinet i ni ddoe. Roedd yn hynod ddefnyddiol, rwy’n credu, er mwyn galluogi Aelodau i grynhoi’r datganiad ddiwrnod cyn eich bod chi’n gwneud y datganiad i'r Siambr. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n fodel, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi’n parhau i’w ddefnyddio, ac, mewn gwirionedd, y bydd cydweithwyr eraill yn y Cabinet yn dysgu o’r arfer da hwnnw.

O edrych ar eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n dweud eich bod yn siomedig bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â chi ynglŷn â’r diwygiadau hyn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Nawr, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud ei bod wedi egluro i’ch swyddogion ar ddechrau'r flwyddyn hon y byddent yn diweddaru rhagamcanion. Nawr, er gwaethaf yr atebion a roddoch i Dai Lloyd, y gwnes i eu clywed, byddwn yn gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw eich swyddogion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn hyn o beth? Ond, ni waeth pwy ddywedodd beth a phryd, gwnaed yr wybodaeth am y fethodoleg ddiwygiedig yn gyhoeddus, o’r hyn a ddeallaf, ym mis Gorffennaf, fisoedd yn ôl. Os nad yw hynny'n wir, byddwn i'n hoffi deall hynny, hoffwn wir. Ond byddwn i’n gofyn pryd y cawsoch chi wybod am y newid hwn—rwy’n credu ichi ddweud tri neu bedwar diwrnod yn ôl—dim ond er mwyn cael eglurhad. Ond byddwn i yn dweud, wyddoch chi—nid wy’n deall yn iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam na sylwodd eich swyddogion ar hyn ym mis Gorffennaf pan ddaeth yr wybodaeth hon yn gyhoeddus, a byddwn i wedi meddwl y byddai hynny wedi bod yn arfer cyffredin. I mi, mae hyn yn codi, rwy’n credu, y mater—y mater pwysig iawn—sef, pa mor dda mae swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn cydweithio â'i gilydd.

Mae'n ymddangos bod rhyw ddiffyg cyfathrebu yma. A byddwn i’n gofyn yr un cwestiwn i Lywodraeth y DU hefyd, ond nid yw'n ymddangos i mi ei bod y tu hwnt i allu swyddogion y ddwy Lywodraeth, sy’n gweithio ar brosiect, i siarad yn rheolaidd â’i gilydd. Rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi ar hynny ac rydych chi wedi dweud wrth y siaradwr blaenorol y byddech chi’n ymchwilio i hynny; rwy'n credu y byddai gan bawb ddiddordeb yn y canlyniad. Gallaf ofyn hefyd a fydd y diwygiadau yn effeithio ar unrhyw gynllun arall o gwbl ledled Cymru. A fydd y fethodoleg ddiwygiedig yn cael ei chymhwyso i gynlluniau arfaethedig eraill hefyd?

Rydych chi hefyd yn dweud yn eich datganiad heddiw eich bod am

'sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir, cadarn a chyfoes'

ac mae hynny’n ymddangos yn gwbl resymol a synhwyrol i mi. Rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud bod yn rhaid i chi yn awr ganiatáu digon o amser i adolygu, a'ch bod yn mynd ymlaen o'r fan honno. Felly, rwyf yn dymuno deall y 'rheidrwydd'. Nid yw'n bwynt gwleidyddol yma, ond yr hyn yr wyf eisiau ei ddeall yw—. I mi, mae'n rhesymegol, pan fydd prosiect yn cael ei ddatblygu, eich bod yn defnyddio'r model sy'n bresennol ar y pryd. Felly pam nad yw’r model ar y pryd yn cymryd blaenoriaeth o ran y mater hwn? Rwy'n siŵr bod cydweithwyr ar draws y Siambr hon, ac aelodau'r cyhoedd, fel yr ydych chi’n dweud, sy’n cael eu dal mewn tagfeydd ar yr M4, yn awyddus i ddeall hynny hefyd. Nawr, os oes gwahaniaeth o ran canlyniadau’r rhagolygon gwreiddiol a chanlyniadau’r rhagolygon diwygiedig, pa bryd fydd yr wybodaeth honno ar gael yn gyhoeddus? Sut y caiff ei hesbonio? Sut y bydd y gwahaniaethau yn cael eu hesbonio? A fyddwch chi’n rhoi gwybod i’r Siambr hon neu a fydd hyn yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus? A sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd hefyd? Yn olaf, pa wahaniaeth yn y rhagolwg fyddai’n newid eich cynllun ar gyfer y llwybr du? Neu efallai, os byddaf yn geirio’r cwestiwn hwnnw mewn ffordd wahanol hefyd, i ba raddau y bydd y gwahaniaethau rhwng y ddau fodel yn effeithio ar eich cynllun presennol ar gyfer newid?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud ar y cychwyn, yn hytrach na chael fy llongyfarch, roeddwn mewn gwirionedd yn ofni y byddai pobl yn fy nwrdio am gyhoeddi datganiad ysgrifenedig cyn rhoi datganiad llafar yn y Siambr. Felly, rwy'n falch bod yr Aelod mewn gwirionedd yn cydnabod gwerth o ran y ffaith fy mod wedi gwneud hynny, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn y dyfodol. Unwaith eto, rwy’n mynd yn ôl i sôn am drefn y digwyddiadau a arweiniodd at y penderfyniad i ohirio cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fan bellaf. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod swyddogion yr Adran Drafnidiaeth, yn gynharach eleni, yn y gwanwyn, wedi awgrymu wrth fy swyddogion i y byddai diweddariad yn digwydd i'r data TEMPro. Er gwaethaf ymdrechion fy swyddogion i, yn anffodus ni wnaeth swyddogion yr Adran Drafnidiaeth eu cynnwys nhw yn yr achos dros TEMPro 7, o ran y datblygiad neu o ran unrhyw ymgynghori. Dyna beth achosodd yr oedi, oherwydd bod y data a gynhyrchwyd bryd hynny—a byddaf yn ateb yr union gwestiynau maes o law, a oedd yn gofyn am y dulliau a'r ystadegau sy'n cael eu defnyddio—yn codi cwestiynau am yr achos busnes a gyflwynwyd gennym ar gyfer y llwybr du. Byddai TEMPro 7 yn effeithio ar yr holl gynlluniau ffyrdd mawr o ran gwerth am arian. Felly, bydd yn rhaid inni edrych ar yr achos dros lawer o'n cynlluniau seilwaith. Y rheswm dros hyn oedd—ac mae’r Aelod yn dweud y dylid defnyddio’r model sydd ar gael ar y pryd. Mae hynny'n hollol gywir. Ond, felly hefyd mae'n rhaid defnyddio'r data cyfredol, nid data sydd gyda ni ers blynyddoedd. Yn anffodus, ymddengys mai rhan o'r broblem â'r data sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y rhagolygon hyn, yn rhan o’r model hwn, yw nad ydynt yn cydnabod yr holl CDLlau sy'n cael eu cyflwyno. Felly, yn anffodus, mae'n ymddangos bod y model sydd wedi’i ddefnyddio—ac mae hyn er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi gallu dweud wrth yr Adran Drafnidiaeth, 'Dyma’r data, dyma’r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio a dyma yw ein model ni, dyma’r llif o bobl a ragwelir, dyma yw twf y boblogaeth'—yn anffodus, ni wnaethant ddefnyddio’r data hynny. Hoffwn i wybod pam na wnaethant ddefnyddio'r data hynny.

Yn bwysicach ar gyfer y prosiect hwn, mae angen i mi ddeall goblygiadau defnyddio data nad ydynt yn gyfredol nac yn gywir, oherwydd, o ran yr adolygiad y bydd yn rhaid ei gynnal, bydd angen i ni asesu a ydym ni’n diwygio ffigurau TEMPro 7 i ystyried mewn gwirionedd y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Bydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn gyflym, ac, wrth gwrs, yn dilyn yr adolygiad, byddaf yn gwneud y data a’n model yn gyhoeddus, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi. Rwy'n credu bod hynny ond yn deg i bawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn, yn gefnogwyr ac yn wrthwynebwyr. Nid yw ond yn deg y dylai pawb gael y dystiolaeth fwyaf cywir a diweddar â phosibl.

Rwy'n canmol Ysgrifennydd y Cabinet am gyhoeddi ei ddatganiad ar y cyfle cyntaf. Ond onid oes eironi penodol ein bod ni’n ei ganmol am gyflymu datganiad ynglŷn ag oedi pellach o ran y prosiect ei hun? Mae hyn yn hynod siomedig. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r ymchwiliad ystyried y rhagolygon gorau sydd ar gael, ond ni fydd holl dystiolaeth yr ymchwiliad yn ymwneud â rhagolygon traffig, ac nid wyf yn gweld pam mae angen gohirio’r ymchwiliad at y diben hwn. Efallai y bydd angen ei ohirio ar ryw adeg er mwyn ailddechrau nes ymlaen os nad yw'r rhagolygon ar gael ar yr adeg iawn. Beth bynnag, byddai'n bosibl cymryd tystiolaeth a chael rhagor o wrandawiadau os bydd angen unrhyw ddiwygiadau.

Yr hyn sy'n hollol angenrheidiol yw ein bod yn bwrw ymlaen â'r prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Mae'n ymddangos i mi, fel y nododd Dai Lloyd, ein bod wedi bod yn siarad am hyn ers cyn cof, a'r rhwystr mwyaf sydd wedi bod ar yr M4 yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf yw Llywodraeth Cymru ei hun, oherwydd gallai fod wedi bwrw ymlaen â hyn flynyddoedd yn ôl.

Yr hyn a wyddom ni yw bod gormod o draffig ar yr M4 erbyn hyn, a bydd hyn yn gwaethygu yn y dyfodol. Nid yw'r rhagolygon traffig yn debygol o ddod i’r casgliad bod y llifau traffig sydd gennym heddiw am leihau. Felly, mae'n ymddangos i mi fod hyn enghraifft arall o oedi a dewis peidio mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r her.

Ond gallem ni wneud defnydd o'r amser sydd bellach ar gael i wneud rhagor o waith ar y llwybr glas, a fyddai'n berthnasol i'r ymchwiliad. Rydym ni, o ran ein rhan yn UKIP, wedi estyn llaw cyfeillgarwch i’r Llywodraeth i ddweud y byddwn ni yn barod i sicrhau bod y llwybr du yn digwydd os mai’r llwybr du, ar ddiwedd y dydd, yw'r unig lwybr sydd ar gael, gan fod y llwybr du yn well na dim llwybr o gwbl. Ond mae’n well gennym y llwybr glas o hyd. Gellid gwneud astudiaeth ddichonoldeb briodol, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae’n ymddangos mai’r Athro Stuart Cole sydd wedi bod yn gwneud pob dim ei hun. Rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, felly, a fydd ef yn manteisio ar yr oedi er mwyn hwyluso hynny.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf ac yn bennaf, fod angen i ni allu argyhoeddi nid yn unig yr arolygydd annibynnol, ond hefyd bobl Cymru fod y prosiect hynod bwysig hwn yn angenrheidiol? Y ffordd yr ydym ni’n gwneud hynny yw ein bod yn creu dadl ar sail tystiolaeth. Os na allwn argyhoeddi'r arolygydd mai’r gwir amdani yw bod gormod o geir ar y ffordd bresennol, ac os na allwn argyhoeddi'r arolygydd fod y llwybr du yn angenrheidiol, yna byddwn ni’n colli'r ddadl. Byddwn yn colli'r achos, a bydd y cyfle unigryw unwaith mewn oes hwn yn diflannu. Felly, mae'n hollol gywir, o gofio bod newidiadau yn TEMPro 7 sy'n ymwneud â nifer y teithiau a wneir fesul unigolyn, a’i fod yn darparu rhagolygon o ran y boblogaeth, ein bod yn edrych yn fanwl iawn ar beth yw’r newidiadau hynny ac a ydynt yn gywir ai peidio—a ydynt yn ddigon cywir— mewn gwirionedd i gyfiawnhau bwrw ymlaen â nhw. Nid wyf o’r farn, yn seiliedig ar yr hyn yr wyf wedi’i ganfod hyd yn hyn, eu bod yn ddigon cyfredol, ond bydd angen i ni eu hadolygu ac yna fwrw ymlaen yn seiliedig ar y data mwyaf cyfredol. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y byddai’n deg o gwbl i unrhyw un sy’n gysylltiedig â hyn, o ystyried yr angerdd y mae’r mater hwn yn ei ennyn ac o ystyried y swm sylweddol o arian, ruthro i gynnal ymchwiliad yn seiliedig ar ddata amheus. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni ddod i benderfyniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n credu y byddai’r arolygydd yn cytuno mewn gwirionedd. Felly, byddai’r arolygydd, yn ôl pob tebyg, yn dymuno gohirio'r ymchwiliad cyhoeddus lleol os ydym ni’n bwrw ymlaen. Ond rwy’n cydnabod bod hyn yn hynod rwystredig i’r 100,000 o bobl a mwy sy'n teithio ar yr M4 bob dydd. Yn 2014, roedd y ffordd hyd at 95 y cant yn llawn. Yn syml, nid yw’n gallu ymdopi pan fydd damweiniau’n digwydd. Gwelsom hynny yr wythnos ddiwethaf, pan gafwyd tagfeydd enfawr o ganlyniad i ddamwain. Gwelsom hynny y bore yma, mewn gwirionedd, er nad oedd hynny ar yr M4. Ond dyna beth sy'n digwydd pan nad oes gennych rwydwaith ffyrdd sy'n ddigon cadarn.

Gwyddom fod y llwybr du yn cael ei ystyried fel y dewis gorau posibl, yn seiliedig ar ein hasesiad ni. O ran y llwybr glas, rwy’n credu efallai bod yr Aelod yn ymwybodol fy mod i’n cychwyn asesiad newydd o'r llwybr glas. Felly, rhoddir sylw i hynny eto yn yr ymchwiliad. O ran y llwybr glas, yn ôl yr hyn sydd wedi’i archwilio hyd yn hyn, a’r hyn sydd wedi’i gyflwyno hyd yn hyn, mae arnaf ofn mai dim ond ychydig bach o liniaru fyddai ar yr M4, a hefyd byddai’n gwaethygu’r problemau ar ffyrdd lleol. O ystyried y byddai'n costio rhwng £600 miliwn a £800 miliwn, ni fyddai'n cynnig gwerth da am arian, yn enwedig mewn cyfnod o gyllidebau cyfyngedig.

O ran y rhaglen newydd, hoffwn amlinellu'r amserlen y byddwn ni’n ei dilyn nawr wrth weithredu, oherwydd dywedais wrth gyfrannu’n gynharach ein bod yn dal i ddisgwyl gallu agor y ffordd liniaru yn hydref 2021. Yn ystod mis Mawrth eleni, cyhoeddwyd gorchmynion statudol drafft a datganiad amgylcheddol. Erbyn 31 Mawrth y flwyddyn nesaf, wrth aros am yr adolygiad presennol sy'n cael ei gynnal, bydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn dechrau. Yn ystod haf 2017, a hyd nes derbynnir adroddiad gan arolygydd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran a ddylid gwneud y gorchmynion a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Os felly, yn ystod gwanwyn 2018 bydd gwaith yn dechrau ar adeiladu'r draffordd. Rwy'n ymwybodol o'r broses statudol barhaus. Ond ceir nifer o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn cadw at y dyddiad hwnnw yn hydref 2021 ar gyfer gorffen y gwaith, megis gweithio cyfochrog a chynllunio ychwanegol gyda chwmnïau cyfleustodau i hwyluso’r gwaith cynllunio ac adeiladu manwl, ac i liniaru'r oedi a achoswyd gan yr adolygiad angenrheidiol o ddata newydd yr Adran Drafnidiaeth.

Rwy’n cydnabod yr anhawster i Lywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU ar brosiect yr M4, ac rwy’n sylweddoli ei fod yn anffodus, i ddweud y lleiaf, ond a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y sgil-effeithiau posibl? A yw hyn hefyd yn golygu gohirio’r gwaith sy’n gallu cael ei wneud ar yr A55 a'r A494 yn y gogledd? Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn, mae’r gwelliannau a’r buddsoddiad ar gyfer y ffyrdd hynny yn flaenoriaeth i’r Aelodau yn y rhanbarth, yn ogystal â’r cyhoedd hefyd. Mae gan fethodoleg ddiwygiedig yr Adran Drafnidiaeth y potensial i greu llawer o bryder, a byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i liniaru a mynd i'r afael â’r pryder hwnnw.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi pryderon ynglŷn â goblygiadau’r hawl hwn ledled Cymru. Fel rwyf wedi’i amlinellu eisoes, ceir goblygiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried. Wedi dweud hynny, rwy’n benderfynol o fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y gwaith sy'n angenrheidiol i liniaru’r pwysau ar yr A55 a'r A494 yn y gogledd. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r ymgynghori hynny ym mis Mawrth 2017, felly rwy'n falch ein bod o leiaf yn gallu ymrwymo i'r gwaith hwnnw. Bydd y gwaith hwnnw'n cydredeg â'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ar gyfer yr M4. Ac mae'n dal i fod yn weledigaeth gennym ni fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym rwydwaith ffyrdd modern sy'n ategu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

Rwy'n credu bod y dicter a fynegwyd gan Neil Hamilton a Dai Lloyd yn gwbl anghywir. Mae'n gwbl hanfodol, os ydym ni am fwrw ymlaen â buddsoddiad cyfalaf sylweddol iawn, ein bod ni’n gwneud hynny ar sail gwybodaeth gywir. Felly, rwy’n cymeradwyo penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ohirio pethau er mwyn ystyried y data diweddaraf, sicrhau eu bod yn gywir, a’n galluogi ni i wneud penderfyniadau rhesymegol. Gobeithio y bydd adleoli'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i Gasnewydd yn rhoi gwell gwybodaeth ystadegol i ni yn y dyfodol, oherwydd mae’n amlwg bod hynny’n fater sydd wedi’i godi gan lawer o randdeiliaid mewn cysylltiad â hyn ac mewn cysylltiad â materion eraill.

Mae’n debyg mai un o'r pethau yr wyf am wybod mewn gwirionedd ydyw a yw Llywodraeth y DU yn parhau i fynnu y dylem ni fod yn bwrw ymlaen â phrosiect yr M4 yn seiliedig ar ddata anghywir. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, mae’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan yr Adran Drafnidiaeth—y TEMPro 7 hwn—yn rhagweld llai o draffig ar yr M4 nag sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn deall a yw hynny'n gywir, ac os felly, pa effaith gaiff hynny ar ein dyfodol. Rwy’n gobeithio, wrth gwrs, nad yw'r rhagolygon hyn yn seiliedig ar y bleidlais drychinebus i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allai arwain at chwalu’r economi yn llwyr os caiff ei wneud yn anghywir. Yn hytrach, rwy’n gobeithio mai’r neges yn y rhagolygon hyn yw bod angen i bob un ohonom ni newid ein hymddygiad yng ngoleuni'r newid yn yr hinsawdd, a pheidio â defnyddio'r car ar gyfer teithiau byrion ond defnyddio dulliau eraill o gludiant. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi egluro: beth yw sefyllfa bresennol Llywodraeth y DU, ar wahân i'w hymddiheuriadau dwys na wnaethant eich hysbysu bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar ei ffordd?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn—pwynt hollbwysig ei bod yn gwbl hanfodol, wrth i ni sôn am y fath swm mawr o arian, ein bod yn buddsoddi ar sail tystiolaeth ac ar sail data cyfredol a chywir. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch a ddylem ni symud ymlaen ar sail gwybodaeth ddiweddaraf yr Adran Drafnidiaeth. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr i wybod ai hynny yw eu safbwynt neu a ydynt yn derbyn bod y data y maent wedi’u darparu yn peri anhawster mawr i’r prosiect hwn. Mae un peth yn sicr—y bydd goblygiadau i’r model presennol os na ymchwilir i achosion y data, fel y nododd yr Aelod, sy’n ymddangos yn amheus iawn, a chwestiynu’r achosion hynny hefyd. Y model a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yw’r model sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teithio byw hefyd. Felly mae angen i ni sicrhau bod pob penderfyniad a wneir yn cael ei wneud ar sail y rhaglen fodelu orau posibl. Efallai’n wir y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei model ei hun.

Bydd y datganiad hwn heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn peri siom a gofid i bawb sydd wedi profi oedi i amser eu taith oherwydd tagfeydd ar yr M4, gan gynnwys fi fy hun, sy'n teithio bron pedair gwaith yr wythnos. Os wyf yn gadael cyn 07:00, mae'n dal i gymryd mwy na 40 munud i mi deithio o Gasnewydd i'r lle hwn. Duw â helpo'r rhai hynny sy'n dod ar ôl hanner awr wedi saith ac yn treulio mwy nag awr ar yr M4 dim ond i gyrraedd Caerdydd, sydd ond 10 i 12 milltir. Mae hynny mewn gwirionedd yn golygu tagfeydd bob dydd.

Dim ond pythefnos ar ôl i raglen lywodraethu Llafur—[Torri ar draws.] Dim ond pythefnos ar ôl i raglen lywodraethu Llafur wneud ymrwymiad i adeiladu ffordd liniaru ar yr M4, maent wedi ei roi, unwaith eto, o’r neilltu. Mae hyn yn ffaith. Mae seilwaith trafnidiaeth gwael a diffyg capasiti yn golygu nad yw coridor de Cymru yn addas at y diben ac mae’n annog busnesau lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i beidio â buddsoddi yng Nghymru. Felly pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis anwybyddu'r dystiolaeth sy'n bodoli eisoes ynglŷn â’r angen am ffordd liniaru ac wedi dewis gohirio'r ymchwiliad cyhoeddus? Mae CBI Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol a Siambr Fasnach De Cymru i gyd wedi galw am benderfyniad cyflym i gael ei wneud yn hyn o beth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ceisio rhoi'r bai ar yr Adran Drafnidiaeth. Mae'n honni bod yr adran ond wedi rhoi gwybod iddo am y materion newydd o ran rhagamcanu maint y traffig, dridiau cyn eu cyflwyno. Mae'r adran yn gwadu hyn ac yn dweud ei bod wedi rhybuddio swyddogion Cymru o’r newid hwn yn gynharach eleni. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyhoeddi'r holl ohebiaeth rhwng ei swyddogion a'r Adran Drafnidiaeth i egluro'r mater hwn? Cyflwynwyd newidiadau i'r system rhagolygu traffig yn ystod yr haf. Felly pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd cymaint o amser i gyhoeddi'r oedi cyn dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus?

Dwyrain De Cymru, y Cynulliad hwn, digwyddiadau chwaraeon a busnesau: mae cannoedd o filoedd, nid degau o filoedd, o bobl yn teithio ar yr M4, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae angen cwblhau’r gwaith ar yr M4 cyn gynted â phosibl—nid yw 2021 yn ddigon da yma. Bydd annibynadwyedd y rhan hon o'r ffordd yn gynyddol yn cynhyrchu costau ychwanegol ac yn golygu ansicrwydd i fusnesau, yn niweidio twristiaeth ac yn achosi rhwystredigaeth i fodurwyr. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi siomi’r cyhoedd yng Nghymru. Diolch.

Wel, wir. Nid wyf yn siŵr ble i ddechrau, ar wahân i ddweud fy mod eisoes wedi amlinellu'r hyn a ddigwyddodd ddiwedd mis Gorffennaf. Mae’n ymddangos bod yr Aelod o’r farn y gallech chi yn ôl pob tebyg wneud cyfrifiadau gyda chyfrifiannell Casio ac abacus, a hynny mewn ychydig eiliadau, ar gyfer prosiect sy’n hynod feichus. Ni ellir gwneud hyn dros nos, ac fel rwyf eisoes wedi dweud, fel arfer—fel arfer—bydd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn ymgysylltu â ni flwyddyn ymlaen llaw. Ar yr achlysur hwn, rhoddwyd tridiau o rybudd i ni. Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd mis Gorffennaf a heddiw, roedd yn rhaid i’m i swyddogion graffu ar y data. Roedd yn rhaid iddynt wneud llwyth o gyfrifiadau, roedd yn rhaid iddynt asesu'r data, ac yna daeth yn amlwg nad oedd y data, fel yr amlygodd fy ffrind a’m cydweithiwr Jenny Rathbone, yn cefnogi'r achos ar gyfer ffordd liniaru fel y gwnaeth y data blaenorol—data mwy cywir yn fy marn i—gefnogi'r achos. O ystyried hynny, ceisiwyd cyngor cyfreithiol o ran y tebygolrwydd y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus ei ohirio neu, yn wir, y caiff yr achos ei dderbyn ar gyfer adeiladu ffordd liniaru. Yr ateb a gawsom oedd bod gohiriad yn debygol, ac yn syml nad oedd achos i’w gael. Nawr, dywedodd yr Aelod, 'Pam wnaethoch chi anwybyddu'r dystiolaeth, a pham na ddechreuwch chi adeiladu?' Wel, y gwir amdani yw bod yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi tystiolaeth i ni na ellir ei hanwybyddu, oherwydd os ydym ni’n ei hanwybyddu, ni chaiff ei adeiladu. Fy mhwynt i yw: mae angen i ni nawr sicrhau bod y data’n gywir, gan nad yw’r Adran Drafnidiaeth wedi gwneud hynny yn amlwg. Ac nid wyf yn meddwl—fel rwy’n dweud, nid cynllwyn ydyw, rwy’n credu, fwy na thebyg, mai anallu ydyw. Ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi gwneud cam nid yn unig â’r lle hwn, ond â phobl Cymru—â’r 100,000 o bobl a mwy sy'n defnyddio'r M4 o ddydd i ddydd. Nawr, gwn fod yr Aelod mewn tagfeydd am amser hir yn ddyddiol wrth ddefnyddio'r M4, ond felly hefyd y mae'r degau o filoedd o bobl sy'n gobeithio y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol hwn yn dechrau ar 1 Tachwedd ac a fydd yn awr, yn anffodus, yn gorfod aros tan fis Mawrth o bosibl cyn ei fod yn bwrw ymlaen. Ond mae hynny o ganlyniad i’r Adran Drafnidiaeth yn peidio ag ymgysylltu â ni fel y dylent fod wedi gwneud ac fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol. A dylai'r Adran Drafnidiaeth yn sicr—yn sicr—o ystyried maint y prosiect hwn, o ystyried y cyhoeddusrwydd a roddwyd i’r prosiect hwn, fod wedi cydnabod bod angen iddi roi mwy na thridiau o rybudd i Lywodraeth Cymru.

Ie, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig iawn, iawn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y penderfyniad pwysig iawn hwn mor gadarn â phosibl. Felly, a gaf i ofyn, wrth ystyried y fethodoleg ddiwygiedig y mae Llywodraeth y DU bellach wedi’i chyhoeddi ynghylch y twf traffig a ragwelir yn y dyfodol, efallai y gallai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried yn ehangach fethodolegau sy'n ymwneud â’r penderfyniad hwn? Er enghraifft, mae WelTAG, rwy’n credu, wedi bod yn destun llawer o feirniadaeth, wrth iddynt ragfynegi arbediad amser ar gyfer taith car unigol ar y ffordd, ac yna lluosi hynny er mwyn cael budd economaidd honedig. Roedd gennyf dipyn o ddiddordeb, felly, yn yr hyn yr oeddech chi’n ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag edrych efallai ar fformiwla y gellid ei defnyddio yng Nghymru, a allai, yn amlwg, gymryd i ystyriaeth amgylchiadau penodol yma yng Nghymru, ac rwy’n credu, efallai, rai o’r elfennau sy’n ysgogi strategaeth a pholisi yn Llywodraeth Cymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a datblygu cynaliadwy fel egwyddor ganolog.

Felly, o ystyried y darlun ehangach hwnnw, ac yn enwedig o ran beirniadu WelTAG, a fyddech chi’n ystyried y ffactorau hynny a newidiadau posibl o ran eich ystyriaeth, wrth symud ymlaen, â’r mater hwn?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt hollol hanfodol, ac mae'n bwynt a godwyd o'r blaen gan ein cyfaill a'r Aelod dros Lanelli, Lee Waters. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, mewn gwirionedd, bod WelTAG, yn y gorffennol, yn system a oedd yn ymwneud yn wreiddiol â modelu priffyrdd, ac felly yn aml yn tueddu i gefnogi datblygiadau ffyrdd. Bellach, cafodd newidiadau eu gwneud i sicrhau ei fod yn agnostig o ran modd. Ac mae’r newidiadau hynny bellach hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y ffaith bod modelau trafnidiaeth sy’n cael eu datblygu gan ddefnyddio’r dull hwn hefyd wedi ymgorffori cynlluniau cerdded a beicio. Ond rwy’n dal yn bryderus, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda diwygiadau’r Adran Drafnidiaeth, ynglŷn â defnyddio system sydd wedi ein siomi ar yr achlysur hwn, neu o leiaf o ran mabwysiadu perthynas nad yw wedi ein gwasanaethu ar yr achlysur hwn. Felly rwy’n ystyried dyfeisio model Cymru ar gyfer seilwaith yn y dyfodol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad ysgrifenedig ddoe, ac am heddiw. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn bwysig iawn i ni gael rhybudd ymlaen llaw. Ac rwy’n cytuno â’m cydweithiwr Jenny Rathbone ynglŷn â phwysigrwydd data, a data a thystiolaeth gyfredol. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, gwnaeth fy nghalon suddo wrth ddarllen hwn, a phan glywais am y peth ddoe, oherwydd mae hwn yn fater na fydd yn diflannu. Dywedais ym mis Mehefin y dylem ni fod wedi mynd i’r afael â’r mater hwn, flynyddoedd lawer yn ôl, ac rydym ni’n dal i geisio mynd i’r afael ag ef.

Mae'n rhwystredig iawn fod hyn wedi’i ddal yn ôl gan Lywodraeth y DU, heb ymgynghoriad, ac mae hynny'n resynus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu'r amserlen pan gafodd wybod am hyn, sydd, i mi, yn anfaddeuol. Ond a allwch chi roi sicrwydd na fydd hyn yn byrhau’r ymchwiliad, na fydd ar draul dyfnder yr ymgynghoriad, a sicrhau pobl bod ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yn flaenoriaeth ganddo? A allai ef bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn, a chyfleu barn y Cynulliad o ran cyn lleied y mae wedi ymgynghori â ni?

Gallaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dweud bod fy nghalon innau hefyd wedi suddo pan ddaeth y mater hwn—canlyniadau’r ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â ni yn gynharach, neu wedi methu ag ymgynghori â ni—i’r amlwg? Gallaf gadarnhau na fydd hyn yn byrhau’r ymchwiliad. Rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a theg bod pob unigolyn a phob sefydliad sydd â buddiant yn y pwnc hwn yn gallu cyflwyno eu hachos a chael eu clywed. A byddwn, wrth gwrs, yn cyhoeddi ein model diwygiedig cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl, fel yr wyf eisoes wedi eich sicrhau.

7. 4. Datganiad: Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y diweddaraf ar ddiwygio llywodraeth leol. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 15:39:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. A diolch am y cyfle i wneud datganiad heddiw ar y cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol.

Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Cynghorau sy’n darparu’r gwasanaethau sy’n addysgu ein plant, sy’n edrych ar ôl ein henoed, sy’n cael gwared ar ein gwastraff, ac sy’n goleuo ein strydoedd. Ac maen nhw’n parhau i wneud hynny yn ystod cyfnod y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei alw’n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant cyhoeddus dros 10 mlynedd neu fwy.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae cyni’n arwain at bwysau gwirioneddol, ac mae angen gwirioneddol hefyd i gryfhau awdurdodau lleol. Felly, mae diwygio llywodraeth leol yn rhywbeth sy’n rhaid ei wneud ac nid yn fater o ddewis. Ac o ran y diwygio, wrth gwrs, fe gafodd llawer o gynnwys y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft a gyhoeddwyd yn ystod y Cynulliad diwethaf ei groesawu gan awdurdodau lleol a’u partneriaid. Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod yn iawn, roedd agweddau pwysig o’r cynigion blaenorol lle na lwyddwyd i sicrhau cytundeb.

In seeking now, Dirprwy Lywydd, to create a new consensus, I want the Welsh Government’s relationship with local authorities to be based on trust and a willingness to work together and an appreciation of our respective but distinctive roles in improving outcomes for people in Wales. In pursuit of that new consensus and that new relationship, I have visited all 22 local authorities since taking up this responsibility. I’ve held meetings with the Welsh Local Government Association, trade unions and other stakeholders, as well as political parties represented in this Assembly. I’ve listened carefully to all these views on the challenges faced by local government and ways these might best be addressed.

As anticipated, my discussions with local authority leaders have shown that there is much we agree on, including many of the reform proposals set out in the previous Bill. I hope that we have now reached a level of agreement on a way forward on those matters where consensus was previously absent. In this oral statement, I intend to set out the broad elements of this emerging way forward.

In the first instance, this model would see retention of the 22 existing authorities as the democratic tier of local government to which councillors are elected in Wales. Some authorities may, nevertheless, wish to respond to local circumstances by bringing forward proposals for voluntary mergers. I intend to make that possibility available to them and, where such proposals come forward that improve the resilience of these authorities, we will offer positive support to them and work closely to help bring about change.

While authorities will be the front door through which citizens continue to access services locally, my proposals require more widespread and concerted collaboration between authorities in regional arrangements. I intend, therefore, to pursue options for a new enhanced level of mandatory and systematic regional working. This will provide resilience in staffing and finance and enable the design and delivery of services at the scale necessary for them to enhance effectiveness. This means mandating the services and governance arrangements on consistent geographical footprints and rationalising existing collaborative arrangements.

The approach most advocated to me in discussions over the summer was a two-footprint model. One based around city regions, covering strategic transport, land-use planning and economic development, and another aligned to health boards for services such as education improvement, social services and public protection. At this point, Dirprwy Lywydd, I have an open mind on the specifics of geography and function, but I am clear that these practicalities must be consistent with the principle of mandated and systematic arrangements. As a result, we will consider all services as part of our discussions, and in particular those that we jointly consider to be the most at risk in times of austerity.

Dirprwy Lywydd, experience in the NHS has shown that shared supporting services are able to offer savings and improvements in quality. I intend to explore with local government those functions that could best be taken forward in the same way. I want to be clear today that, as part of this reform package, we are setting out on this shared-service journey with a new determination. I’m prepared to see progress over a sensible and practical time frame, but progress must be made.

Finally, let me recognise the part played by town and community councils as part of the local government landscape. They play an important role in many communities, but in my visits across Wales I have been struck by the enormous variability in scale, scope, capability and ambitions within the sector. I intend to enact a set of immediate arrangements to help town and community councils as they exist today to become more effective. However, alongside this, I intend to establish an independent group to take a root-and-branch look at the future role of this tier of government and to develop a blueprint for getting the maximum potential out of the sector in future.

Dirprwy Lywydd, I am conscious that local government has been through a period of extended uncertainty about its future and the corrosive impact this has had on morale. It has been part of my aim in taking on responsibility for local government to resolve this uncertainty as soon as practicable. I announced in June that councillors elected to existing councils in 2017 will serve a full five-year term to 2022, providing clarity and certainty for those standing for election next year. Today, I am able to announce that there will also be elections to these councils—less any that merge voluntarily—in 2022. This confirms a permanent five-year election cycle and provides local government with a 10-year stable platform from which to take forward reform.

Dirprwy Lywydd, I’m under no illusion about the challenge that still lies ahead. We will work with local government and other stakeholders over the coming months to develop the detail of the approach I have outlined this afternoon. My own approach throughout will be to work with other political parties in what I believe to be the shared ambition to secure a successful future for local government in Wales. Quite certainly, this cannot be developed and delivered by Government alone; shared leadership, political and official, is essential.

By the turn of the year, I hope to have identified, with local government, their recognised trade unions and other partners, a viable way forward. We will have narrowed down what the footprint for regional working should look like, the functions to be delivered through regional working and the related governance and accountability arrangements. We will also consider how the local government funding system should be aligned to support the change programme. There is a great deal to be done. Today, I have set out a fresh approach and the building blocks for reform with the aim of securing a resilient and renewed local government in Wales.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Mae’n rhaid eich llongyfarch chi, yn wir, am yr holl waith sydd wedi digwydd efo’r rhanddeiliaid, yr undebau llafur, arweinwyr y cynghorau a chynghorwyr ledled Cymru er mwyn casglu eu barn nhw am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ond, yn bennaf, diolch yn fawr a llongyfarchiadau ar gyflwyno fersiwn—fersiwn gwan, efallai, ond fersiwn—o bolisi Plaid Cymru ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Rwyf am ddarllen ychydig o linellau allan o faniffesto Plaid Cymru, sy’n sôn am ein cynlluniau ni ar gyfer creu awdurdodau rhanbarthol. Yn y ddogfen yma, mae’n dweud

‘Ein cynnig ni yw esblygu graddol...i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel rhanbarthau a chymuned.... Yr awdurdodau hyn fydd yn cynllunio’n strategol mewn addysg...priffyrdd a thrafnidiaeth, a gwasanaethau statudol eraill, yn cynnwys dyletswydd newydd i hyrwyddo datblygu’r economi.’

A ydy hynny’n swnio’n gyfarwydd? Ydy. Wel, mae’n swnio’n gyfarwydd iawn i mi, ac mae’n ddrwg iawn gen i dynnu eich sylw chi at hynny, ond mae’n rhaid imi wneud. A ydych chi rŵan, felly, yn derbyn, ar ôl yr holl ymgynghori, mai gan Blaid Cymru yr oedd y polisi gorau ar gyfer llywodraeth leol ar y pryd, o’i gymharu â’r hyn a gafodd ei gynnig gan eich rhagflaenydd, Leighton Andrews?

Fy ail gwestiwn ydy hyn: beth ydy’r nod yn eich datganiad chi heddiw? Beth ydy pwrpas y strategaeth yma? Os mai ymarfer ydy o ar gyfer arbed arian yn unig, nid yw’n mynd i weithio, mae’n beryg, ac ni fydd yn cyflawni prif bwrpas llywodraeth leol, sef gwasanaethu ein cymunedau ni. Pa asesiadau a ydych chi wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod y cynnig yr ydych chi’n ei gyflwyno heddiw yn mynd i wasanaethu ein cymunedau ni’n well na’r system bresennol?

Un o brif gryfderau llywodraeth leol ydy atebolrwydd a democratiaeth o fewn ein cymunedau ni. Mae yna ddiffyg eglurdeb yn eich datganiad chi ynglŷn â sut y byddwch chi yn parhau â’r atebolrwydd ar lefel ranbarthol, ac mae hyn yn peri gofid. A wnewch chi felly amlinellu’n union sut yr ydych am sicrhau atebolrwydd o fewn y strwythur rhanbarthol newydd yma?

Mae camu tuag at gysylltu iechyd â gofal cymdeithasol yn bwysig ac, yn wir, yn greiddiol i bolisi Plaid Cymru. Yn ystod y Cynulliad yma, mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r broblem enbyd o’r cymhlethdod rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a sicrhau bod y mur ffug sy’n bodoli ac sydd wedi bodoli ers degawdau yn dod i ben er mwyn darparu gwasanaeth di-dor i gleifion. Nid yw’r cynlluniau fel rydym yn eu gweld nhw heddiw yn glir, o’m safbwynt i beth bynnag, o ran yr integreiddio yma sydd angen digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. A ydych chi’n derbyn, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddinasyddion Cymru, fod rhaid i ranbartholi gynnwys rhoi cychwyn ar y daith o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?

Ac, yn olaf, rydych chi’n cyfeirio at arbedion drwy ganoli swyddogaethau cefn swyddfa, er enghraifft, technoleg gwybodaeth ac adnoddau dynol, fel yr awgrymodd adroddiad Williams, ac mae hyn yn gwneud synnwyr, ond, wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig, cynghorau sir yn aml iawn ydy’r prif gyflogwyr yn yr ardal, felly pa asesiadau a ydych chi wedi eu gwneud er mwyn gweld beth fydd effaith eich cynlluniau chi ar swyddi, o gofio y cyni ariannol presennol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau, a diolch i’r Aelod am beth ddywedodd hi ar y dechrau am y trafodaethau sydd wedi bod dros yr haf gyda’r awdurdodau lleol a phobl eraill yn y maes.

Of course, I recognise what she says about what was in Plaid Cymru’s manifesto; I would have known it from the number of Plaid Cymru council leaders who told me how much they disagreed with that way of proceeding. [Interruption.] I think I met more than you by the sound of it. However, the point is that I have been very keen in the discussions I’ve had to look for ideas where there is a consensus that can be built around them, and this idea that Plaid Cymru had previously put forward has clearly, in the discussions that I’ve had, been one that people have been willing to see the merits of that way of doing things, and I’ve been keen to bring that forward here this afternoon.

The Member asked: what’s the purpose of all this; what are we trying to achieve through it? And the key word for me, Dirprwy Lywydd, has been resilience. There’s a lot of agreement amongst local authorities about the challenges that are there to be faced: the challenges of austerity; the challenges of shrinking budgets and growing demand; the challenges of recruiting staff to specialist positions, and so on. I think the model that I’ve outlined this afternoon allows us to grow a new resilience into the system in three distinct ways. I think it will help to build economic financial resilience, because I think this will be a way in which we will be able to move some money into front-line services and save money in other ways that we do things. I think it will provide resilience in terms of staffing. There are some very fragile services provided by very small local authorities, where working on a regional basis will allow staff to be deployed in a different way. And I think it will provide quality resilience as well, because I think that by acting on a regional footprint, it will be more possible in social services, for example, to grow certain sub-specialist expertise amongst our staff, which simply isn’t possible when you’re acting entirely on one local government boundary.

The Member asked me about answerability in the system. It’s an important question and it’s one that her party must have thought of when bringing forward proposals for regional arrangements. I have two things to say on that this afternoon, while wanting to be clear that it’s an important topic to keep talking about as we move into the detailed discussion of these proposals.

First of all, in my proposals, the role of the local councillor becomes even more important than it has been up until now. We retain all 22 local authorities, we retain locally elected members, and those individuals will have an important role in future in acting as a source of guidance and expertise to their electorate in making sure that anyone who wants to know where a decision is being taken, that they are able to influence that decision when they choose to do so.

The second thing to say is that this is not a new issue. It is not as though we have never had regional arrangements in the past. As a much younger person, I represented South Glamorgan County Council on the South Wales Police Authority. It was a combined authority of south, mid and west Glamorgan. Every month, members of south Glamorgan council were able to ask me questions about the way in which I had discharged my responsibilities on their behalf. So, we’ve found ways of creating answerability and accountability in shared systems in the past and I’m confident that we can do so in the future.

On the issue of integration, it is a very important question. My party has not shared her party’s view that the best way to secure integration is through a disruptive reorganisation of services, but by aligning the boundaries of health and social services directly, I think we will open up new and better possibilities for integrated services in the future. It’s only one tool in the armoury. We’ve already announced that we will mandate pooled budgets, for example, for residential care purposes between health and social services from 2018. I think these proposals assist in that.

Finally, she makes an important point in relation to back-office services and employment. It’s why what I’ve said this afternoon is not a direct replication of what the Williams commission said. I want to see greater use of back-office services because I think the experience of health service back offices is that you do get more efficient and better quality services as a result, but I want it to be done in a developmental and organic way in which we take careful account of the fact that many local authorities are very important sources of employment in some parts of Wales, where jobs of that sort are in relatively short supply.

Hoffwn ategu’r sylwadau cynharach a wnaed ynglŷn â faint o groeso sydd i’r datganiad hwn heddiw a'r ffaith eich bod yn cydnabod bellach bod angen i’ch Llywodraeth wneud tro pedol ar yr hyn a oedd yn draed moch yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Byddwn yn barchus yn anghytuno â chi o ran y Bil llywodraeth leol drafft, lle y dywedasoch eich bod wedi canfod llawer o gytundeb. Os cofiwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y pwyllgor, roedd fy nghydweithiwr yn y fan yma, Mark Isherwood, a minnau yn dystion i'r ffaith na chafodd fawr o groeso—roedd mwy nad oeddent yn cytuno ag ef nag oedd mewn gwirionedd yn cytuno ag ef. Oni bai am bleidlais fwrw'r Cadeirydd, ar Filiau blaenorol a oedd yn ymwneud â hyn, ni fyddent wedi gweld unrhyw olau dydd. Rwy’n credu, gadewch i ni fod yn onest: nid oedd unrhyw gonsensws gwleidyddol y tro diwethaf oherwydd ei fod yn llanast. Rwy’n credu ein bod i gyd yn awyddus i weithio mewn modd cadarnhaol gyda chi erbyn hyn, lle y gallwn gytuno, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod y model yr ydych chi’n ei gyflwyno yn achosi rhywfaint o bryder i mi, pan eich bod yn siarad am awdurdodau rhanbarthol, lle mae'r problemau yn y manylder, o ran faint o ddylanwad y mae Plaid Cymru ei hun wedi ei gael ar y cynlluniau hyn wrth symud ymlaen.

Dylech chi ymuno â ni, mewn gwirionedd. [Chwerthin.]

Bu llawer o ladd ysbryd dros y tair blynedd diwethaf ac mae hyn yn sicr yn dod â mwy o eglurder i'r drafodaeth. Rydych chi, o bawb, yn gwybod fy mod wir yn croesawu'r gydnabyddiaeth a'r gwaith sydd o'n blaenau o ran cynghorau cymuned, ond mae gennyf rai cwestiynau ar yr un yma.

Rydych yn sôn am ymgynghori pellach. Unwaith eto, nid dyna oedd y ffordd orau o fynd ati o ran y tri Gweinidog blaenorol, dros y pum mlynedd diwethaf, pan oedd llawer o awdurdodau lleol yn teimlo bod rhywun arall mewn gwirionedd yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Teimlai llawer o aelodau o'r cyhoedd a'r cynghorau cymuned nad oeddynt wedi eu cydnabod o gwbl mewn unrhyw un o'r ymatebion. Felly, rwyf wir yn gofyn i chi: pa mor agored, pa mor dryloyw a pha amserlenni sydd gennych mewn golwg ar gyfer ymgynghoriad pellach ar hyn?

Yn amlwg, rwy'n falch iawn o weld yr uno gwirfoddol yn ôl ar y bwrdd a, phan fo awdurdodau lleol yn penderfynu dod ymlaen, yn gallu profi i chi, yn gallu eu costio ar achosion busnes cryf iawn, sut bydd hynny'n cyd-fynd â'ch trefniadau chi wrth symud ymlaen gyda rhanbarthau? A fyddwch chi’n edrych mwy ar gael y broses honno ar waith yn gyntaf ac yna'n caniatáu uno gwirfoddol, neu a fydd uno gwirfoddol yn cael ei ganiatáu yn ystod y broses?

Sylwais eich bod wedi crybwyll ffiniau gofal iechyd neu ffiniau iechyd. Gan fod llawer ohonom yn awr yn gweld ein bwrdd iechyd lleol mewn mesurau arbennig, mae rhai o'r cwestiynau yn y fan yna wedi bod yn hytrach am ddaearyddiaeth, demograffeg, a sut byddwch chi’n mynd i'r afael â’r rheini?

Rydych chi wedi crybwyll y bydd yn systematig ac yn orfodol, ond mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o ba mor gyfarwyddol yw’r trefniadau a gyflwynir. Wrth gwrs, fe wnaeth Plaid Cymru ddatgan yn eu maniffesto y byddent yn deddfu i greu hyd at chwe awdurdod cyfunol rhanbarthol yn cynnwys cynghorau lleol presennol, gyda phwyslais ar integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn y bydd fy etholwyr yn Aberconwy yn ei ofyn i mi yw, ‘Janet, ai haen arall o fiwrocratiaeth yw hyn? A yw'n haen arall o weinyddu democrataidd?’ Oherwydd, yn fy marn i, ar hyn o bryd, y peth olaf y mae pobl ei eisiau yw rhagor o fiwrocratiaeth a mwy o gost o ran cael mwy o wleidyddion etholedig, ond rydych yn gwybod fy mod i wedi codi’r materion hynny gyda chi.

Hoffwn i chi ateb y Siambr yn uniongyrchol: a allwch chi gadarnhau sut y mae polisïau Plaid Cymru yn eu maniffesto wedi dylanwadu ar eich cyhoeddiad yn y fan yma heddiw? Wrth gwrs, maent hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried symud o ddull cyllid fesul disgybl i fodel a ariennir yn seiliedig ar y dalgylch, a allai weld awdurdodau lleol fel Trefynwy yn cael llawer llai na Rhondda Cynon Taf. O gofio bod eich plaid yn gweithio’n agos gyda Phlaid Cymru erbyn hyn, a fydd diwygiadau o'r fath yn rhan o agenda cydwasanaethau rhanbarthol o dan arweiniad Llywodraeth Lafur Cymru? Wrth gwrs, yn y DU, o dan y Llywodraeth a arweinir gan y Ceidwadwyr, maent wedi sefydlu’r grŵp effeithlonrwydd a diwygio i gyflwyno cydwasanaethau yn y sector cyhoeddus, gan arwain at £14.3 biliwn o arbedion. Ond mae'r grŵp hwn yn cyflawni drwy sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu fel un cwsmer, gan gyfuno grym prynu, prynu yn gyflymach, prynu yn lleol, a chynyddu'r gronfa o gyflenwyr a busnesau bach, a thrwy hynny gefnogi twf y DU. Nawr, rydym eisiau gweld y math hwnnw o dwf yma yng Nghymru.

Felly, rwyf yn gofyn i chi: a ydych chi wir yn teimlo bod awdurdodau lleol yn cyrraedd y safon pan ddaw at gaffael? Oherwydd rwyf wedi gweithio gyda'r Gweinidog cyllid blaenorol, Jane Hutt, ar hyn ac rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud, gydag awdurdodau lleol, o ran caffael lleol a chaffael cost-effeithiol, bod gennym ffordd bell i fynd o hyd.

A ydych chi’n dod i’r terfyn, os gwelwch yn dda? Rydych chi wedi cael, rwy’n credu, pedwar neu bum cwestiwn erbyn hyn.

Iawn. Fy nghwestiwn olaf felly: pa randdeiliaid ydych chi wedi ymgysylltu â nhw o gydwasanaethau TGCh llwyddiannus yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a sut ydych chi’n ystyried y gwledydd datganoledig eraill i weld sut y maen nhw yn gweithio mewn gwirionedd o ran diwygio llywodraeth leol? Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Diolch i chi am y cwestiynau. Ni fyddaf yn treulio llawer o amser yn mynd dros hanes blaenorol, ond mae cyfres o bethau yn y Bil drafft a gyhoeddwyd a gafodd eu croesawu yn fawr gan awdurdodau lleol—y pŵer cymhwysedd cyffredinol, y fframwaith perfformiad llywodraeth leol newydd, cryfhau swyddogaeth cynghorwyr lleol ac yn y blaen. Felly, mae cryn dipyn i ddatblygu arno.

Gan droi at y cwestiynau penodol, o ran ymgynghori, fy mwriad yw defnyddio gweddill y flwyddyn galendr hon i gynnal rownd arall o drafodaethau manwl gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid ar y datganiad yr wyf wedi ei wneud y prynhawn yma. Os gallwn ddod â hynny i ben yn llwyddiannus, yna fe fydd ymgynghoriad ffurfiol, fel y mae’n ofynnol i ni ei gynnal ar y materion hyn. Felly, mae cyfnod estynedig o drafod ar ddod.

Yn fy marn i mae’n bosibl cyflawni uno gwirfoddol ochr yn ochr â threfniadau rhanbarthol; Nid wyf yn credu bod yn rhaid i un ddilyn mewn cyfnod ar ôl y llall.

O ran natur systematig a gorfodol y diwygiadau yr ydym yn ceisio eu cyflwyno: mae’r ddwy egwyddor hyn yn bwysig i mi. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y trefniadau yr ydym yn cytuno arnynt yn digwydd yn yr un modd ledled Cymru ac nid wyf i, fy hun, yn barod i ddilyn y cyngor yr wyf wedi'i gael gan leiafrif cymharol fach o arweinwyr awdurdodau lleol y dylem yn syml ei adael iddyn nhw, dweud wrthynt beth yr hoffem iddynt ei wneud, ac rwy'n siŵr y byddent yn bwrw ymlaen a gwneud hynny. Rwy'n ofni ein bod wedi ar hyd y llwybr o dywys meirch at ddŵr, eu hannog, eu harwain o amgylch y pwll, gadael iddynt weld eu hadlewyrchiad yn y dŵr, gan obeithio y byddant yn yfed, dim ond i ganfod, ar y funud olaf, bod rhywun yn cymryd y goes, ac nad ydym yn y pen draw yn gallu cyflawni pethau y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu bod yn ddoeth.

Nid wyf yn credu bod hyn yn haen newydd o fiwrocratiaeth. Nid yw'n arwain at fwy o gynghorwyr etholedig, yn sicr. Ac, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae hanes mawr o drefniadau rhanbarthol a rennir yng Nghymru heb i’r cyhuddiad hwnnw gael ei wneud yn ei erbyn. Mae tarddiad y cynigion yn dod drwy drafodaethau gydag aelodau o bob plaid wleidyddol. Mae gennym, trwy ein cytundeb, berthynas benodol gyda Phlaid Cymru, a chefais drafodaeth gynnar iawn gyda'u llefarydd llywodraeth leol, fel y credaf y byddech yn ei ddisgwyl yn yr amgylchiadau hynny. Ac rwyf wedi trafod y cynigion yn uniongyrchol gydag arweinyddion Plaid Cymru o gynghorau yng Nghymru, fel yr wyf wedi ei wneud gydag arweinyddion y Blaid Geidwadol, arweinyddion Llafur, a phobl nad ydynt yn arwain unrhyw blaid wleidyddol o gwbl. Fy nod oedd ceisio dod o hyd i ffordd y gallwn greu consensws lle’r ydym yn tynnu elfennau o amrywiaeth o wahanol ffynonellau at ei gilydd.

Yn olaf, ynglŷn â chydwasanaethau, dywedais yn fy natganiad fy mod eisiau bod yn glir bod yn rhaid inni wneud cynnydd ar hynny. Bydd caffael yn rhan ohono, ond mae angen i ni wneud hynny mewn modd sensitif. Ni allaf ddychmygu pe byddwn wedi dweud heddiw ein bod yn mynd i dynnu cydwasanaethau oddi ar Gyngor Bwrdeistref Conwy a’u lleoli mewn un canolfan cydwasanaethau yn rhywle 200 milltir i ffwrdd y byddai aelodau ei hetholaeth yn dod ati i longyfarch Janet ar ymagwedd y blaid Geidwadol at y mater hwnnw. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen â hyn, ond byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion ac amgylchiadau lleol.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae’r datganiad mewn rhai ffyrdd i’w groesawu, gan ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog llywodraeth leol newydd o leiaf yn fwy ymgynghorol yn ei ymagwedd na'i ragflaenydd. Mae gennym hefyd fwy o eglurder ar yr etholiadau cyngor fis Mai nesaf, ac, yn bwysicach ar gyfer gweithwyr cyngor, ychydig mwy o eglurder ar ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru. Fodd bynnag, hyd yma nid ydym wedi cael llawer iawn o fanylder. Os yw uno adrannau cynghorau ledled Cymru am fod yn llwyddiannus, mae angen i ni, ar bob cam, gael goruchwyliaeth glir o'r broses hon. Os caniateir i fiwrocratiaid y cynghorau eu hunain fod yn gyfrifol am y trefniadau, bydd gennym fwy o fiwrocratiaeth yn y pen draw, ac nid llai. Felly bydd angen i'r Gweinidog fod yn ymwybodol o hyn. Gyda hyn mewn golwg, rwyf eisoes wedi annog y Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf yn aelod ohono, i graffu ar y gwaith ad-drefnu hwn wrth iddo ddatblygu. Wrth gwrs, nid mater i mi yw penderfynu beth yw blaenoriaethau’r pwyllgor, ond yr wyf yn credu y dylem yn sicr fod yn craffu ar y broses hon.

Yn ogystal â'r perygl o greu mwy o fiwrocratiaeth, sef yr union beth y mae'r Gweinidog yn ceisio ei osgoi, mae’n rhaid i ni hefyd fod yn wyliadwrus o gynghorau sy’n dyfarnu arian gormodol—yr hyn a elwir yn ‘golden handshake’—i uwch aelodau o staff sy’n gadael, a llawer ohonynt yn cerdded yn syth i mewn i swydd arall sy'n talu'n dda cyn gynted ag y maent wedi cael eu harian. A all y Gweinidog sicrhau rheolaeth lem o'r broses hon? Rydym wedi cael problem o gynghorau a reolir gan y Blaid Lafur yng Nghymru yn sgrechian cyni ar bob cyfle, dim ond i ganiatáu i'w staff uwch ariangar ddyfarnu taliadau afresymol i’w hunain. Rydym wedi gweld hyn yn ddiweddar, mewn gwirionedd, yng Nghaerffili. Felly pa ganllawiau y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno ynghylch diswyddo staff uwch ac a fydd yn sicrhau goruchwyliaeth gref o'r broses gyfan?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Rwyf yn cytuno â'i bwynt cyntaf fod y bobl sy'n gweithio yn ein hawdurdodau lleol yng Nghymru, ar y cyfan, yn bobl â theuluoedd, â phlant sy'n mynd i'r ysgol, a morgeisi i’w talu, ac nid yw’r ansicrwydd wedi bod yn dda iddynt, a dyna pam yr wyf yn awyddus iawn i geisio creu consensws ynghylch y ffordd ymlaen. Os yw'r pwyllgor yn dewis cymryd diddordeb yn y pwnc hwn, rwy’n meddwl y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, a byddwn yn edrych ymlaen at dderbyn eu diddordeb a'u cyngor, os ydynt yn gallu dod o hyd i'r amser i wneud hynny.

Dirprwy Lywydd, rwy’n credu mai un o gryfderau'r model yr wyf wedi’i amlinellu yw na ddylai arwain at newidiadau ar raddfa eang yn y ffordd y mae pobl yn cael eu cyflogi. Mae'n ymddangos i mi, ar y cyfan, y bydd staff rheng flaen yn parhau i gael eu cyflogi gan yr awdurdodau y maent yn cael eu cyflogi ganddyn nhw heddiw. Byddem ni’n disgwyl—byddwn i yn disgwyl—ar lefel rheolwyr, y byddai gennych drefniadau mwy rhanbarthol er mwyn gallu defnyddio adnoddau ar draws y trefniadau rhanbarthol yr ydym yn eu cynnig. Mae manylion hyn ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf, er mwyn trafod ag undebau llafur, cyflogwyr ac eraill sydd â diddordeb, ac, yn sicr, o fy safbwynt i, bydd yn bwnc lle y byddaf yn cadw diddordeb cryf iawn.

A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Cynghorau ym Mhrydain yw'r rhai mwyaf yn Ewrop, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod. Mae John Stewart wedi dweud

bod maint cyfartalog awdurdod lleol ym Mhrydain 10 gwaith maint cyfartalog awdurdodau lleol yng ngweddill Ewrop.

Mewn cyfarfod Gorwel yr wythnos diwethaf, o dan gadeiryddiaeth David Melding, dywedwyd bod gan Slofenia, gwlad sydd oddeutu yr un maint â Chymru, tua 10 gwaith y nifer o gynghorau.

A yw awdurdodau mawr yn perfformio'n well? Mae Birmingham, yr awdurdod mwyaf ym Mhrydain ac un o'r mwyaf, os nad y mwyaf yn Ewrop, wedi cael problemau difrifol gyda'i wasanaethau cymdeithasol. Yng Nghymru, mae tri awdurdod lleol—Abertawe, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf—yn cyfrif am tua chwarter poblogaeth Cymru. A yw’r awdurdodau hyn yn perfformio'n well nag awdurdodau o faint canolig a llai? Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy’n dweud hynny eto. Os gall y Gweinidog ddangos tystiolaeth y gallaf ei gweld i ddangos bod awdurdodau mwy yn perfformio'n well, byddwn i'n falch iawn o’i gweld. Os edrychwn ni ar iechyd, a oes unrhyw dystiolaeth bod y ddau fwrdd iechyd mwyaf, Betsi Cadawaladr a Chaerdydd a'r Fro, yn perfformio'n well na'r lleill?

Mae dau beth sy'n sicr o’m cythruddo pan fyddaf yn eu clywed ar y radio. Un yw, 'mae Cymru yr un maint â Birmingham,' er gwaethaf y ffaith ei bod tair gwaith ei faint, a’r llall yw bod sefydliadau mwy o faint yn well na rhai llai, er gwaethaf y ffaith na ellir darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny. Wrth gwrs, cyn y gwaith ad-drefnu yn y 1970au, roedd llawer o awdurdodau lleol bach yng Nghymru: Cyngor Dosbarth Trefol Llwchwr, Cyngor Dosbarth Gwledig Gŵyr, ac, efallai yr enwocaf ohonynt i gyd, Cyngor Dosbarth Trefol Tredegar, lle'r oedd Nye Bevan yn aelod.

Gall mawr hefyd olygu biwrocratiaeth, gall mawr olygu aneffeithlonrwydd a gall mawr olygu pellenigrwydd. O ran awdurdodau lleol, mae maint cywir ar gyfer gwahanol bethau. Os ydych chi’n edrych ar gynllunio, er enghraifft, nid yw’r maint cywir ar gyfer rheoli datblygu yn ddim byd tebyg i’r maint cywir ar gyfer cynllun strwythur.

A gaf i godi dau bwynt a chwestiynau ar yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno—

Iawn. A gaf i ofyn dau gwestiwn yn fyr iawn? [Chwerthin.] Pam ydym ni’n awyddus i gael dinas -ranbarth a rhanbarth arall ar gyfer gwasanaethau? Does bosib nad y ddinas-ranbarth yw’r ôl troed. Rwy’n credu y gallech fod eisiau isrannu o fewn yr ôl troed, ond mae ei gael ar draws—. Bydd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu galw’n Janus, oherwydd ein bod yn edrych i'r dwyrain ar gyfer rhai pethau ac i'r gorllewin ar gyfer y lleill. Nid yw’n gwneud llawer o synnwyr ac nid yw'n gweithio ar gyfer datblygu perthynas ag eraill, pan ein bod yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr ar gyfer rhai pethau, a Sir Gaerfyrddin ar gyfer pethau eraill.

A gaf i ddweud, wrth gwrs, o ran iechyd, sy’n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus, er nad o dan eich cylch gwaith, mae'r rhaglen ARCH, er enghraifft, wedi dechrau cael yr ardal i'r gorllewin o Abertawe i weithio gydag Abertawe. Y cwestiwn olaf sydd gennyf yw ein bod wedi gweld sefyllfa o ran iechyd lle mae iechyd sylfaenol ac eilaidd wedi’u rhoi at ei gilydd: a yw hynny wedi gweithio mewn gwirionedd o ran eu cael i weithio’n agosach? Rwy’n credu mai’r ateb y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei roi yw, ‘Na, nid yw wedi gweithio.’ Rwy’n credu mai'r hyn y mae wedi'i wneud yw symud arian o ofal sylfaenol i ofal eilaidd, ac nid wyf yn credu mai dyna yr oedd pobl ei eisiau yn arbennig. Nid oes ond rhaid i chi wrando ar ymarferwyr gofal sylfaenol, a fydd yn dweud wrthych yn union y cam y maent yn ei gael a bod yr arian i gyd yn mynd i ysbytai.

Felly, a gaf i orffen drwy ddweud: a wnaiff y Gweinidog edrych eto ar ddefnyddio’r model dwy ardal ac ystyried y ddinas-ranbarth fel ôl troed sylfaenol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

A gaf i ddiolch i Mike Hedges—rwyf bob amser yn gwrando yn ofalus iawn arno ar y materion hyn? Rwyf wedi dweud wrtho o'r blaen: nid wyf erioed wedi mynnu mai maint yw'r ffactor sy'n penderfynu llwyddiant gwasanaethau cyhoeddus; ond nid wyf, er hynny, yn credu bod maint yn ffactor amherthnasol yn y ffordd y mae pethau'n cael eu trefnu. Mae maint yn dod â rhai manteision mewn rhai agweddau. Felly, nid wyf yn ei ddiystyru, ond nid wyf yn credu ei fod yn ffactor sy'n drech na phob un arall.

Dywedais yn fy natganiad, pan ddywedais wrthych chi y gallech gael tri dinas-ranbarth yn cyflawni rhai swyddogaethau a chyfres arall o drefniadau rhanbarthol ar gyfer swyddogaethau eraill, dyna a ddywedwyd wrthyf yn ystod yr ymweliadau yr wyf wedi eu cynnal ers mis Mai a Mehefin y llynedd. Nid wyf yn gaeth i'r model deuol hwnnw, ac rwy'n hapus iawn i gael rhagor o drafodaethau manwl. Mae ef yn dweud wrthyf mai’r ddinas-ranbarth yw’r ôl troed. Wel, a yw'n ôl troed ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, lle y ceir 10 o awdurdodau lleol, gyda thri bwrdd iechyd gwahanol yn gwasanaethu poblogaethau amrywiol iawn? Nid wyf yn gwybod. Rwy’n gofyn y cwestiwn dim ond er mwyn i ni ei drafod.

Yn olaf, y pwynt rwy’n credu y mae yn ei wneud ynglŷn â gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd yn cael eu dwyn ynghyd mewn byrddau iechyd unigol yw nad yw ffiniau sefydliadol, ynddynt eu hunain, yn diddymu ffiniau proffesiynol. Yn yr ystyr hwnnw, yr wyf yn sicr yn cytuno ag ef.

A gaf i ddweud wrth y Gweinidog, bod chwarae yn aml yn troi’n chwerw? Ymddengys bod y Gweinidog wedi deffro yn nillad Plaid Cymru, ond yn seiliedig ar y datganiad y mae wedi ei wneud hyd yn hyn maent yn gweddu i’r dim iddo.

Mae un neu ddau o bethau yr hoffwn i ofyn iddo, yn dilyn ei ymateb i'r datganiad hyd yn hyn. Un yw: mae wedi sôn am atebolrwydd trwy gyfeirio yn ôl at yr hen awdurdodau heddlu ac yn y blaen, ond hoffwn i glywed ychydig mwy am sut y gall atebolrwydd gael ei gynnwys yn y system newydd hon. Yr ochr arall i hyn, yn ogystal, yw arweinyddiaeth. Bydd yn cofio bod cynigion Plaid Cymru yn sôn am y posibilrwydd o ethol meiri, er enghraifft. Nid oeddem ni’n gaeth i hynny o reidrwydd, ond roedd yn rhywbeth a gyflwynwyd gennym fel syniad. Os nad ydym yn mynd i gael rhywbeth felly, sut y bydd arweinyddiaeth yn cael ei datblygu yn yr awdurdodau cyfunol newydd hyn—gadewch i mi eu galw’n hynny am y tro—yn enwedig, efallai, wrth ystyried y dinas-ranbarthau, a fydd hefyd ag angen arweinyddiaeth yn ogystal?

Nid yw wedi crybwyll un o'r pynciau mawr ym maes diwygio llywodraeth leol, rwy’n dal i deimlo, sef cyflwyno gwell system bleidleisio. Rwy'n credu bod yn rhaid i’r bleidlais drosglwyddadwy sengl, does bosib, fod ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, gan fod hynny wedi ei gyflwyno yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, fel y ffordd o wirioneddol ailfywiogi a dod â gwaed newydd a phobl newydd i lywodraeth leol. Hoffwn i glywed a yw hynny'n dal i fod yn rhywbeth y mae’n barod i’w ystyried, wrth symud ymlaen.

Soniodd am gynghorau tref a chymuned. Nid wyf i’n siŵr bod angen adolygiad arall arnom. Cawsant eu hystyried yn y Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol’. Cawsant eu hystyried wrth fynd heibio, o leiaf, yn Williams. Beth y mae angen i ni ei ddeall am lywodraeth leol sy’n golygu bod angen tasglu neu adolygiad arall? Siawns bod gennym y wybodaeth a'r dystiolaeth erbyn hyn i symud ymlaen gyda’r lefel leol iawn hwnnw o lywodraeth leol a’u grymuso, i ryw raddau, i wneud mwy dros eu cymunedau lleol yn ogystal. Crybwyllodd etholiadau yn hynny o beth o ran prif awdurdodau—am dymhorau pum mlynedd hyd at 2022—ond roedd ei ragflaenydd yn sôn am oedi etholiadau’r cynghorau tref a chymuned am flwyddyn arall. A yw hynny'n dal yn wir, neu a yw’r rhain i gyd am gael eu cyfochri bellach?

Rwy’n croesawu’n fawr yr hyn a ddywedodd ef. Rwy'n credu bod hyn yn sail ar gyfer gwaith llawer mwy cydweithredol, nid yn unig ar lefel llywodraeth leol, ond efallai ar lefel llywodraeth genedlaethol hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at rai syniadau da yn cael eu cyflwyno ynglŷn â sut y gallwn adeiladu ar y 22 o flociau adeiladu ar gyfer darparu gwasanaethau lleol gwirioneddol a chydweithio rhanbarthol priodol.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am yr hyn a ddywedodd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef ac eraill sydd â syniadau i’w cyfrannu ynghylch sut y gallem gyflawni'r dibenion hynny. Byddaf yn ateb ei gwestiynau am yn ôl, os caf. Bwriadaf i gynghorau tref a chymuned gael eu hethol y flwyddyn nesaf, ar yr un diwrnod â’r prif awdurdodau. Nid wyf yn siŵr pa un a wyf yn cytuno ag ef bod gennym y glasbrint yn barod ar gyfer dyfodol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Rwyf am eu grymuso i wneud mwy yn y dyfodol pan fyddant yn gwneud pethau yn dda. Es i i gynhadledd flynyddol Un Llais Cymru yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Sadwrn. Nid wyf yn credu, pe byddech wedi gofyn i'r gynulleidfa oedd yno roi glasbrint i mi, y gallent fod wedi gwneud hynny eu hunain. Mae amrywiaeth enfawr o ran maint, graddfa ac uchelgais yn dal i fod. Rwyf wedi gweld rhai pethau da iawn. Roeddwn yn falch iawn o fod yn y Bala ddydd Iau yr wythnos diwethaf gyda Partneriaeth Penllyn, yn edrych ar y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud, ac mae model posibl i gynghorau cymuned wledig weithio gyda'i gilydd yn y fan yna. Ond fy argraff i o'r holl sgyrsiau yr wyf wedi eu cael yw nad ydym eto mewn sefyllfa lle mae gennym ddigon o gytundeb ynghylch sut y gallwn gryfhau'r haen bwysig hon o ddemocratiaeth leol. Dywedaf wrth y rhai sy'n rhan ohoni: rwy’n defnyddio’r gair 'democratiaeth' yn eithaf petrusgar, pan fo dwy ran o dair o seddi ar gynghorau cymuned yn ddiwrthwynebiad, a 1,000 o seddi ar ôl ar gyfer cyfetholiad yn yr etholiad diwethaf. Mae mwy i'w wneud, a mwy o ystyried i’w wneud i gael y gorau o hynny.

Roedd ei gwestiynau cyntaf yn ymwneud ag atebolrwydd yn y system. Mae cyfres o ffyrdd y mae gennym eisoes drefniadau rhanbarthol yng Nghymru—cydbwyllgorau, awdurdodau cyfunol, awdurdodau ar y cyd. Rwyf eisiau edrych ar fanylion y gwahanol bosibiliadau hyn. Mae pob un ohonynt yn codi cwestiynau ychydig yn wahanol o ran atebolrwydd democrataidd, ond rwy’n credu bod atebion iddynt i bob un ohonynt hefyd. A ddylai meiri etholedig fod yn rhan o hynny i gyd? Wel, fy agwedd i hyd yn hyn yw rhoi’r posibilrwydd o feiri etholedig i’r poblogaethau lleol i benderfynu arno a gadael iddynt hwy benderfynu, yn hytrach na chredu y dylem ni, o’r Cynulliad Cenedlaethol, gyfarwyddo’r poblogaethau lleol hynny ynghylch y dewisiadau y byddent yn dymuno eu gwneud.

O ran heddiw o bob diwrnod—i’r Torïaid sôn am dro pedol pan, yn sydyn, nad oes angen gwarged yn y gyllideb bellach ar gyfer cyni. Ond dyna ni. Rwy’n crwydro.

Iawn. Rwyf eisiau croesawu’n gryf y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ymagwedd gydadeiladol gadarnhaol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru heddiw, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o weithio, mwy o eglurder a sicrwydd pellach ar gyfer llywodraeth leol, ei gweithlu, ei chynrychiolwyr a'r cyhoedd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, er hynny, ei bod yn hollbwysig, wrth i Gymru barhau i gael ei tharo a’i hysgytio gan effeithiau deuol—cynyddol debygol—toriadau i grant bloc Cymru gan y Llywodraeth Dorïaidd gynyddol ddideimlad ac, yn ychwanegol at y 10 y cant o doriadau llym i Gymru, ynghyd â diwedd cyllid strwythurol Ewropeaidd a'r addewidion gwag ac, ie, celwydd gan y pleidiau gyferbyn, i gyfeirio at yr arian a addawyd ac sydd wedi’i warantu, sy’n dal ar goll, ar gyfer Cymru?

Esgusodwch fi. A wnewch chi ystyried yr hyn yr ydych newydd ei ddweud a'r gair—

Yr arian coll a addawyd ac a warantwyd o Gymru—. Efallai bod Paul Davies wedi mynd i brynu brecwast i rywun. Cafodd y mater hwn, yn ail—

Na, mae'n ddrwg gennyf. Rydych chi wedi gofyn cwestiwn. Rydym ni bron ar derfyn ein hamser, felly a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda, gyda’ch cwestiwn?

Cafodd y mater hwn ei waethygu ymhellach gan angen demograffig sy’n cynyddu’n barhaus ac sy’n tyfu am ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol rhagorol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr angen am fframwaith amserol, cydnerth a chryf yn hanfodol i Gymru, ac mai nawr yw’r amser i’r Siambr hon achub ar ei chyfle i gydsynio, rhoi'r gorau i din-droi dros bwyntiau gwleidyddol a dod i gonsensws cyfunol a gaiff ei groesawu ynglŷn â’r ffordd ymlaen? Diolch.

Wel, mae effaith cyni yn real, fel y mae adroddiad y Sefydliad Asiantaethau Cyllid yn dangos. Mae colli arian Ewropeaidd yn ychwanegu haen arall o ansicrwydd, sy'n cael effaith uniongyrchol ar awdurdodau lleol, y mae llawer o gynlluniau gorau Ewrop wedi eu gweithredu drwyddynt. Mae hynny i gyd yn golygu bod achos cymhellol i adeiladu cydnerthedd newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru, a dyna’r hyn yr wyf yn gobeithio y bydd y datganiad yr wyf wedi ei wneud y prynhawn yma yn ein helpu i’w gyflawni.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad ac ymddiheuro nad oeddwn i ddim yn bresennol i’w groesawu fo i Benllyn yn bersonol yr wythnos diwethaf? Rwyf hefyd yn datgan ei bod yn ddiwrnod llawen iawn i mi pan mae polisïau fy mhlaid i a’i blaid yntau yn dynesu at ei gilydd, yn enwedig ar faterion sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn fewnol, oherwydd y cwestiwn rydw i am ei ofyn iddo fo ydy: a ydy o yn sicr yn ei feddwl y bydd o’n gallu manteisio yn llawn ar y cyfle cyntaf yma o ddifrif, mewn modd democrataidd a chydweithredol, i greu patrwm o lywodraeth fewnol i Gymru fel gwlad a fydd yn ddigon i ni allu ymdopi â’r cyd-destun rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd?

Rwy’n siarad rŵan fel un sy’n cynrychioli’r gogledd, sy’n byw drws nesaf ac yn aml yn treulio amser ym Mhwerdy Gogledd Lloegr ac yn gweld bod yna aelod newydd ardderchog o’r Blaid Geidwadol, sy’n gyfaill agos i mi, Andy Street, yn mynd i fod yn ymgeisydd i fod yn faer Birmingham. Felly, fe fydd peiriant canolbarth Lloegr unwaith eto’n cystadlu gyda beth sy’n digwydd yn y gogledd. Felly, mae’n rhaid inni fod yn rhanbarth digon cryf yn y gogledd ac, yn wir, yng ngweddill Cymru i gystadlu o ddifrif â’r sefyllfa yna.

Ac yna un mater arall: rwy’n meddwl ei fod o’n gyfan gwbl iawn i gychwyn ar adolygiad difrifol o ddemocratiaeth gwir leol, fel un sy’n byw yn, rwy’n credu, beth oedd yr awdurdod trefol lleiaf yng Nghymru, Betws-y-Coed, ar un adeg. Rwy’n awyddus iawn i weld patrwm o ddemocratiaeth leol sy’n wirioneddol effeithlon, ond rwy’n credu bod ethol ar bob lefel yn hanfodol i hynny weithio, gan gynnwys ethol meiri neu gyrff llywodraethol ar gyfer y rhanbarthau.

A gaf i gytuno gyda’r pwynt olaf roedd yr Aelod yn ei wneud? Dyna beth roeddwn yn ei ddweud wrth Simon Thomas: pan rwy’n siarad gyda chynghorau cymuned lleol, un o’r pethau rwyf eisiau ei wneud yw cryfhau’r posibiliadau am ethol pobl sy’n cynrychioli pobl yn lleol. I wneud hynny, bydd rhaid inni gael cynllun ar gyfer lefel y cynghorau yna a pherswadio pobl i ddod ymlaen i wneud y gwaith pwysig mae’r cynghorau yna yn ei wneud.

Wrth gwrs, rwy’n cytuno hefyd â beth ddywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas am bwysigrwydd pethau rhanbarthol. Yng ngogledd Cymru, mae yna fwrdd maen nhw wedi tynnu at ei gilydd. Fe gefais i’r cyfle i siarad gyda’r bobl ar y bwrdd yna i gyd ddydd Iau diwethaf. Un o’r rhesymau pam maen nhw’n gwneud pethau fel yna, a gweithio’n galed gyda’i gilydd i’w wneud e, yw achos maen nhw’n ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen dros y ffin yn Lloegr. Maen nhw’n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i gryfhau’r posibiliadau am y dyfodol yna.

O ran y pwynt olaf, jest i ddweud, i fi, rydym wedi gwario lot o amser yn y Cynulliad yma, am resymau pwysig, ar y berthynas rhyngom ni a San Steffan. Nid ydym wedi gwario’r un amser a’r un egni yn edrych ar y berthynas rhyngom ni a’r awdurdodau lleol. Dyma gyfle i ni, nawr, wneud hynny. Mae hynny’n bwysig i ni fel Cynulliad, ond hefyd o ran y patrymau sydd gyda ni o ddemocratiaeth yma yng Nghymru.

8. 5. Datganiad: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru
9. 6. Datganiad: Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol

Felly, byddwn yn symud i eitem 6, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar wella gofal ar gyfer cyflyrau iechyd difrifol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, i gynnig y datganiad—Vaughan.

Member
Vaughan Gething 16:28:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, rhannais â'r Cynulliad blaenorol fy nghynlluniau i ymestyn y cynlluniau cyflawni ar gyfer iechyd difrifol tan fis Mawrth 2020. Mae’r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, clefyd y galon, diabetes, gofal diwedd bywyd, y rhai difrifol wael a strôc wedi cael eu hadolygu ac maent wrthi’n cael eu hadnewyddu. Bydd y cynlluniau ar gyfer cyflyrau anadlol a niwrolegol yn cael eu hadolygu yn 2017. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu/iau yn dod i ben yn 2020. Byddaf yn lansio’r ail gynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl ar 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi £10 miliwn yn flynyddol—sef £1 filiwn ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni—ac mae effaith y buddsoddiad hwn yn cael ei hadrodd mewn adroddiadau blynyddol ar bob cyflwr iechyd difrifol.

Mae gennym lawer i fod yn falch ohono. Ers eu cyflwyno, mae pob cynllun cyflawni wedi helpu i wella'r gofal a’r driniaeth i bobl sydd â chyflwr iechyd difrifol. Bu gwelliannau sylweddol yn y canlyniadau i gleifion, gan gynnwys, er enghraifft, ostyngiad cyson yng nghyfradd y bobl yng Nghymru sy’n marw o glefyd cardiofasgwlaidd a chlefydau sy'n gysylltiedig â diabetes. Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd difrifol fel strôc a chlefyd y galon yn gwella, fel y mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yng Nghymru.

Mae pob grŵp cyflawni wedi canolbwyntio ar atal a chymorth, gyda phwyslais ar gyd-gynhyrchu â'r trydydd sector yn benodol. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu adnoddau i gleifion sy’n addysgu a chefnogi pobl sy'n byw gyda diabetes. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys pynciau fel pwysigrwydd sgrinio'r retina, gofal traed a hypoglycemia. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc yn treialu dull o weithredu gyda gofal sylfaenol a chymunedol sy’n nodi’r rhai sydd mewn perygl o ffibriliad atrïaidd a sicrhau bod y driniaeth briodol yn ei lle. Dylai hyn leihau nifer y bobl sy'n cael strôc, yn ogystal â chefnogi pobl i ddeall a rheoli eu risg eu hunain. Dengys y canlyniadau o'r cynllun peilot y gallai'r dull hwn, o’i roi ar waith, arwain at ostyngiad o 10 y cant yn nifer y bobl sy’n cael strôc ledled Cymru.

Mae sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio'n dda ac yn effeithlon er budd y claf yn un o’r agweddau allweddol ar bob cynllun cyflawni. Gan weithio mewn partneriaeth, mae’r grwpiau gweithredu ar gyfer clefyd y galon, strôc a diabetes yn cyflwyno rhaglen genedlaethol i asesu risg cardiofasgwlaidd.  Mae hyn yn canolbwyntio ar gleifion sydd â’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Y nod yw dod o hyd i glefyd cardiofasgwlaidd sydd heb ei ganfod a chefnogi pobl i leihau eu ffactorau risg eu hunain o ddatblygu'r cyflwr.

Bu datblygu gwasanaethau adsefydlu effeithiol yn flaenoriaeth genedlaethol i grwpiau cyflyrau niwrolegol a gweithredu ar gyfer strôc. O ganlyniad, mae’r ddau grŵp ar y cyd wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi gwasanaethau adsefydlu niwro yn y gymuned. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth staff ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro gynnal gwasanaeth adsefydlu integredig peilot am saith diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar gleifion strôc. Mae'r canlyniadau wedi dangos bod yr amser aros i gleifion mewn ysbyty wedi gostwng ar gyfartaledd o 58 i 24 diwrnod. Mae'r gwasanaeth newydd wedi parhau ac wedi cael ei ehangu. Bydd yr hyn a ddysgir o'r gwasanaeth hwn yn cael ei rannu â byrddau iechyd eraill mewn digwyddiad cenedlaethol i ddysgu am strôc.

Mae sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis cyflym yn gwella’r cymorth a'r driniaeth y gall gwasanaethau eu darparu. Gwelwyd llawer o enghreifftiau ardderchog o gynnydd yn y mae hwn, gan gynnwys y gwasanaeth cardioleg cymunedol newydd a ariennir gan y grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y galon, sydd bellach yn weithredol ar draws yr holl fyrddau iechyd. Mae'r gwasanaeth yn cynnig clinig cardioleg cymunedol sydd â mynediad uniongyrchol un stop, a chafodd gwasanaethau cardioleg cymunedol eu cyflwyno i ddarparu diagnosteg ac asesiad yn nes at gartref y claf mewn gofal sylfaenol neu mewn ysbyty cymunedol.

Gyda chefnogaeth Cymorth Canser Macmillan a'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae rhaglen o fuddsoddi mewn oncoleg gofal sylfaenol wedi dechrau.  Nodwyd meddygon teulu a nyrsys arweiniol ym mhob ardal bwrdd iechyd i gefnogi clystyrau gofal sylfaenol i wella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth ôl-driniaeth.

Ym mis Medi y llynedd, cyflwynodd y bwrdd gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes gynllun gofal ymlaen llaw, sy'n rhoi manylion am ddymuniadau a dewisiadau’r claf ar gyfer ei ofal yn y dyfodol. Hyd yn hyn, er enghraifft, mae mwy na 900 o aelodau o staff wedi cael hyfforddiant ar benderfyniadau gofal ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unig.

Mewn ymateb i'w flaenoriaethau lleol y mae eu hangen i gyflawni'r cynllun cyflawni ar gyfer y rhai difrifol wael, agorodd bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro uned gofal ôl-anaesthetig ym mis Ionawr y llynedd. Mae’r uned newydd hon yn darparu capasiti ar gyfer gofal critigol wedi'i neilltuo i gleifion risg uchel dewisol, ar ôl llawdriniaeth. Mae eisoes wedi darparu gwell canlyniadau i gleifion a chwyldroi'r modd y mae gofal critigol yn cael ei ddarparu i gleifion llawdriniaeth ddewisol. Er enghraifft, mae llai o achosion o ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau argyfwng, mae’n golygu lleihad pellach yn yr amser y mae’n rhaid i’r claf aros yn yr ysbyty, ac mae llai o oedi wrth drosglwyddo gofal.

Er mwyn mynd ati i hunanreoli, mae angen hyder a sgiliau ar unigolion i reoli eu hiechyd yn ddyddiol ac mae grwpiau gweithredu wedi gweithio â’r byrddau iechyd i wella gwasanaethau a phrofiad y claf. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu rhaglen addysg strwythuredig Cymru gyfan ar gyfer rhai 11 i 16 mlwydd oed sydd â diabetes, a elwir yn SEREN. Ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni, mae profiad y cleifion a’u llais yn cael eu cynrychioli gan y grwpiau cymorth priodol.

Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau niwrolegol a strôc yn cydweithio i ddatblygu mesurau profiad a chanlyniad a adroddir gan gleifion cyflyrau niwrolegol a strôc. Mae hwn yn waith hynod bwysig nad yw unrhyw rannau eraill o'r DU wedi mynd i’r afael ag ef o'r blaen. Dylai'r ddau fesur fod yn barod i’w cyflwyno'n genedlaethol erbyn mis Mawrth 2018.

Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi sefydlu cylch safon a llywodraethu tair blynedd ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid. Adolygwyd pob un o'r prif wasanaethau canser, ac maent bellach yn cael eu hail-adolygu, gan ddechrau gyda chanser yr ysgyfaint yn ystod 2016. Mae’r canfyddiadau eisoes wedi dangos newid mesuradwy, gan gynnwys ariannu arbenigwyr nyrsio clinigol a staff clinigol eraill, a datblygu polisïau a phrotocolau clinigol i leihau amrywiad diangen mewn safonau gofal ar draws byrddau iechyd. Addaswyd y model hwn gan nifer o grwpiau gweithredu, fel y rhai ar gyfer pobl ddifrifol wael, clefyd y galon a diabetes.

Rwy’n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod pob cynllun cyflawni a grŵp gweithredu wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Rwy’n disgwyl i’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd barhau i gael yr effaith honno, a hoffwn ddiolch i'r grwpiau gweithredu am y cynnydd y maent wedi'i wneud yn erbyn y cynlluniau presennol. Edrychaf ymlaen at gyflawniadau pellach dros y blynyddoedd sydd i ddod ar draws Cymru gyfan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae rhyw ddau neu dri o bwyntiau gen i, a phump o gwestiynau, rwy’n meddwl. O ran pwyntiau agoriadol, rydym wrth gwrs yn croesawu'r gwelliannau a chyfraddau goroesi gwell a chanlyniadau gwell i gleifion pan mae hynny’n digwydd. Mae wrth gwrs yn digwydd ar draws Ewrop a’r byd yn gyffredinol oherwydd gwelliannau mewn triniaeth, mewn technoleg, mewn arloesedd, mewn rhannu arfer gorau, ac ati; y broblem sydd gennym ni yng Nghymru ydy bod y newidiadau hyn ddim yn digwydd a’r gwelliannau ddim yn digwydd mor gyflym ag y byddem ni’n dymuno.

Mae angen inni, wrth gwrs, yng nghanol hyn beidio â thynnu ein llygaid oddi ar y bêl ar y mater sylfaenol o wella amseroedd aros ar gyfer triniaethau a phrofion, achos yn aml iawn mae triniaeth gynharach yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn datblygu salwch cronig neu’n gwneud salwch cronig yn waeth wrth aros.

Y trydydd pwynt—y cyd-destun sydd angen ei grybwyll fan hyn—ydy’r methiant i fynd i’r afael â gordewdra yn benodol, sy’n golygu bod yna gynnydd yn yr angen am wasanaethau i bobl sydd â salwch cronig. Mae fy nghwestiwn cyntaf i yn ymwneud â hynny. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi neu wedi sôn am raglenni addysg strwythuredig i ddisgyblion 11 i 16 oed sydd â chlefyd siwgr, ond nid, wrth gwrs, plant ydy’r unig rai sydd angen hyn. Mae Diabetes UK wedi tynnu sylw at y diffyg presenoldeb mewn cyrsiau o’r fath. Dim ond 2 y cant o’r rhai sydd â chlefyd siwgr math 1, a 6 y cant o’r rhai sydd wedi cael diagnosis diweddar o fath 2 ar draws Cymru a Lloegr sydd wedi mynychu cwrs. Os edrychwn ni ar ffigurau Cymreig yn benodol, mae’r sefyllfa’n waeth byth. Dim ond 1 y cant o ddioddefwyr clefyd siwgr math 1 a 0.9 y cant o rai sy’n dioddef math 2 sy’n cael eu cofnodi fel rhai sydd wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. A dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru sydd â diabetes math 1 sydd wedi hyd yn oed cael cynnig mynd ar gwrs, ac mae hynny’n cymharu â thraean o’r cleifion yn Lloegr. Felly, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod angen darparu mwy o gyrsiau, eu hysbysebu’n nhw’n well, rhannu gwybodaeth amdanyn nhw a sicrhau eu bod nhw ar amseroedd cyfleus, ac ati?

Mi wnaf droi at y data, fel rwyf wedi ei wneud droeon. Mi gafodd ansawdd gwael casglu a chyhoeddi data ei amlygu mewn dim llai na 18 allan o’r 22 ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y pedwerydd Cynulliad. Mae’n rhyfeddol. Ac mae diffyg ac ansawdd gwael y data yn rhwystro cynllunio gwasanaethau. Mae o’n rhwystro’r gwerthusiad rydym ni ei angen o bolisïau a mentrau penodol. A fyddwch chi—rwy’n gofyn eto—yn sicrhau bod hyn yn gwella er mwyn ein sicrhau nad ydym ni yn gorfod dim ond cymryd eich gair chi ar bethau pan fyddwch chi’n hawlio gwelliannau?

Mae yna sôn yn y datganiad heddiw am fuddsoddiad mewn oncoleg, mewn gofal sylfaenol a datblygu safonau mwy cyson mewn gofal canser, ac y bydd hyn yn cynnwys casglu a chyhoeddi data gwell. Fe roddaf enghraifft yn y fan hyn: mae adroddiad diweddar yn awgrymu mai dim ond 32 y cant o gleifion sy’n cael mynediad at weithiwr allweddol. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd bod gan y rhan fwyaf o gleifion weithiwr allweddol mewn gwirionedd, ond mai cofnodi hyn ydy’r her. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn, pan ei fod yn hawlio bod y gwasanaeth yn cyflawni rhywbeth, fod rhaid cael y data i brofi hynny fel ein bod ni yn gallu gwneud ein gwaith ni o ran sgrwtini?

Amrywiaeth rhanbarthol ydy’r pedwerydd cwestiwn. Yn aml, mae’r gwelliannau yn digwydd a chyfraddau goroesi yn gwella oherwydd bod rhyw dechnoleg neu ddull newydd o weithio yn cael ei gyflwyno o’r newydd, a hynny o bosibl yn digwydd mewn un ardal yn well nag ardaloedd eraill. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod y prosesau yma—cyflwyno’r gwelliannau yma—yn digwydd yn gyflymach ac yn fwy cyson ar draws Cymru?

Ac yn olaf, mae’r datganiad heddiw, fel llawer o ddatganiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet, i fod i ddangos bod yr NHS yng Nghymru yn gallu cyflwyno gwelliannau yn effeithiol. Ond os cofiwn ni bod tri allan o naw bwrdd iechyd Cymru mewn ymyrraeth wedi’i thargedu, sydd un cam, wrth gwrs, o dan fesurau arbennig, ac, wrth gwrs, fod yna un bwrdd mewn mesurau arbennig—. Er bod yna ragoriaeth mewn rheoli yn yr NHS yng Nghymru, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus bod y sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth iawn ar draws yr NHS yng Nghymru yno er mwyn gallu gweithredu’r math o newidiadau y mae o am eu gweld?

Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau. Os gallaf fynd yn ôl at, rwy’n meddwl, rywfaint o'r mater agoriadol—rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus, weithiau, mai’r argraff a roddir, pan fyddwch yn siarad am y gwelliannau ehangach ym maes gofal iechyd, yw bod hyn i gyd yn anochel a bod rôl y cynlluniau cyflawni a'r grwpiau gweithredu heb gael unrhyw effaith o gwbl. Nid wyf yn credu bod hynny'n asesiad teg na rhesymol. Yn sicr, os nad ydych am gymryd fy ngair i am hynny, gallech fynd a gofyn i'r clinigwyr sy'n ymwneud â’r gwaith hwnnw, pob un o'r arweinwyr clinigol cenedlaethol, a gallech fynd a gofyn i aelodau o'r trydydd sector sy’n ymgysylltu ar y grwpiau gweithredu, er enghraifft, ynglŷn â gwerth y gwaith hwnnw a'r effaith y maent wedi’i chael ar osod blaenoriaethau gyda'r gwasanaeth iechyd. Felly mae'n ymgysylltu gwirioneddol ac nid yw’n ymwneud yn unig â’r gwasanaeth yn penderfynu drosto’i hun beth fydd yn ei wneud. Mae gennych chi’r gynrychiolaeth uniongyrchol o'r trydydd sector. Mae'n un o gryfderau'r dull o weithredu yr ydym yn ei gymryd, mewn gwirionedd, bod gennym y trydydd sector yno fel ffrindiau beirniadol, ond maent yn dal i fod yn gallu helpu i osod yr agenda, ac maent yn cydnabod yr effaith yr ydym wedi ei gwneud. Er enghraifft, yn ystod amser cinio, nid oeddwn yn gallu gweld Dr Lloyd yno—yn anffodus, roedd yn rhaid iddo ddiflannu cyn i mi ei weld—ond yn nigwyddiad Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yr oeddech chi ynddo ac Aelodau eraill hefyd, roedd cydnabyddiaeth go iawn o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda nhw, er enghraifft, yn y cynlluniau iechyd difrifol y maent yn ymwneud â nhw ac yn gysylltiedig â nhw. Maent yn cydnabod bod y cynllun cyflwyno hwnnw a’i weithredu yn rhan bwysig o wella gwasanaethau. Yn wir, mae’r arian y maent wedi’i gael wedi bod yn bwysig hefyd—i beidio, dyweder, â dylunio strategaeth, ond bod rhywfaint o'r arian hwnnw wedyn i gael ei ddefnyddio i gyflawni blaenoriaethau cydnabyddedig. Enghraifft dda yw’r un yr ydych chi wedi’i chrybwyll—y grŵp gweithredu ar gyfer diabetes. Maen nhw mewn gwirionedd wedi cael addysg strwythuredig ac addysg i gleifion yn un o'u pum blaenoriaeth allweddol eleni. Fel y nodwyd gennych, rydym yn cydnabod nad oes digon o bobl yn manteisio ar y cyfle i gael addysg strwythuredig, yn enwedig ar adeg diagnosis, pan mae cyfle gwirioneddol i geisio cael rhywun i feddwl am ei gyflwr a sut mae modd rheoli’r cyflwr hwnnw ei hunan. Felly, mae cydnabyddiaeth lwyr bod addysg strwythuredig, nid yn unig ar ddiabetes, yn rhan bwysig o wella gwasanaethau a gwella canlyniadau a gwella profiad y claf. Mae rhywbeth yno eto, ac mae'n thema barhaus yr ydych chi, mewn gwirionedd, wedi ei chodi eich hun mewn trafodaethau o fewn y Siambr hon a'r tu allan, ynghylch y rôl y gall y dinesydd ei chwarae ac y dylai ei chwarae wrth helpu i reoli a gwella ei iechyd ei hunan a sut yr ydym yn helpu'r person hwnnw i wneud gwahanol ddewisiadau am ofal iechyd. Boed hynny’n ymwneud ag osgoi diabetes, sydd, unwaith eto, yn rhan arall o'r pum blaenoriaeth y maent wedi’u gosod eleni, ond hefyd o ran diabetes math 1, lle nad oes modd ichi osgoi ei gael—mae naill ai gennych chi neu nid yw gennych chi—mae'n ymwneud â sut rydych yn helpu'r unigolyn hwnnw i reoli ei gyflwr hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wneir ac mae Diabetes UK, yn wir, yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu â’r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes. Mae ganddynt nifer o bethau da a chadarnhaol i'w dweud, yn ogystal â beirniadaeth onest ac adeiladol i’w gwneud hefyd. Rwy’n croesawu'r ddwy ffordd y mae'r trydydd sector yn ymgysylltu â ni.

Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt chi am arweinyddiaeth y saith bwrdd iechyd a'r tair ymddiriedolaeth. Gwneuthum y penderfyniad, a drafodwyd gennym yn y Siambr hon o'r blaen, y dylai ymyrraeth wedi'i thargedu ddigwydd mewn tri bwrdd iechyd. Ar yr un pryd, wrth gwrs, symudodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru i lawr yn y statws ymyrraeth gan eu bod wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol a sylweddol, a gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod hynny ar sail fwy cyson o bosib. Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu rhoi ystod o gefnogaeth ac atebolrwydd ar waith i weld gwelliant gwirioneddol yn cael ei wneud. Y sicrwydd y dylai'r Aelod ei gymryd yw bod hon yn broses real—pe na fyddai, yna gallem fod wedi osgoi ceisio uwchgyfeirio tri bwrdd iechyd at ddibenion gwleidyddol. Ni ddigwyddodd hynny, ac ni ddigwyddodd oherwydd bod y broses yn un real ac mae'n gadarn, ac mae swyddogaeth y rheoleiddiwr yn rhan go iawn a phwysig o wneud hynny’n real hefyd. Felly, os ydych yn gweld y sefydliadau hynny yn gwella, bydd hynny oherwydd bod gwelliant gwirioneddol wedi digwydd. Rydym bob amser yn chwilio am welliannau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, ac mae’r cynlluniau cyflawni eu hunain wedi helpu i ddarparu rhywfaint o'r arweinyddiaeth glinigol o fewn y gwasanaeth hefyd. Rwy’n credu’n wirioneddol bod pob un o'r arweinwyr clinigol cenedlaethol wedi cael effaith go iawn wrth wella rhannau o'u meysydd gwasanaeth hefyd. Mae'n gweithio ochr yn ochr, er enghraifft, â’r rhaglen gwella 1000 o Fywydau hefyd.

Cyn imi orffen, byddaf yn ymdrin â’r pwynt am ddata. Rydym yn sylweddoli bod meysydd lle mae data yn anniben ac nad ydynt mor lân ag yr ydym yn dymuno iddynt fod. Mae heriau’n bodoli wrth godio ystod o wahanol faterion, er enghraifft, ond mae'r data yn bwysig iawn i ni. Mae'r data a'r broses archwilio clinigol hefyd wedi bod yn ffactor bwysig iawn, er enghraifft, yn y cynllun cyflawni ar gyfer clefyd y galon a'r maes cardiaidd, ac edrych ar yr hyn y mae’r archwiliadau hynny’n ei ddweud wrthym. Mae'n ffynhonnell ddefnyddiol iawn, nid dim ond yr hyn y gallant ei ddweud wrthym am atebolrwydd, ond sut gallant wella gwasanaethau, ac nid dim ond trwy gymharu ein hunain ar sail archwiliad o fewn Cymru. Mewn gwirionedd mae'r rhain yn arolygon sylweddol a gynhelir ledled Cymru a Lloegr, ac yn sicr mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cymryd rhan yn rheolaidd yn yr un treialon hefyd. Nid ydym ond yn edrych arnom ni ein hunain yn unig o fewn y saith bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth yng Nghymru; rydym yn edrych ar yr hyn y gall data ei ddweud wrthym a sut y gallai’r daith tuag at welliant edrych.

Felly, mae heriau gwirioneddol i wella arnynt ac mae hynny’n cael ei gydnabod. Rydym wedi gwneud nifer o bethau i wella hynny hefyd; er enghraifft, pan edrychwch ar adolygiadau o farwolaethau, mae hynny wedi bod yn welliant pendant yn ystod y tymor diwethaf. Ond, mae hefyd ddigon o ddata o ansawdd uchel, ac un o'r pethau yr ydym wedi’i weld o'r cynlluniau cyflawni yw, lle y gallwch mewn gwirionedd edrych ar y data o ansawdd uchel ac edrych ar ymchwil sy'n digwydd yn y maes hwnnw, ei fod yn aml yn helpu i wella arfer clinigol ymhellach a’r potensial hwnnw ar gyfer arloesi hefyd. Felly, mae cwestiynau pellach i'w gofyn a phwyntiau i'w gwneud am barhau i wella ansawdd y data sydd gennym—heb fod yn hunanfodlon am y peth. Mae gennym hefyd stori dda i'w hadrodd mewn ystod eang o feysydd ac nid oes arnaf eisiau colli golwg ar hynny un ai yn y datganiad hwn neu yn y gwaith y byddwn yn ei wneud yn y blynyddoedd i ddod.

Weinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae gen i bedwar maes yr hoffwn ofyn cwestiynau amdanynt gyda chi. Y peth cyntaf yr hoffwn i siarad amdano yw cyd-gynhyrchu—mae hyn wedi dod yn arwyddair i lawer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r GIG. Hoffwn i ddeall yn well yr hyn yr ydych yn mynd i fod yn gallu ei wneud gyda phob un o’r cynlluniau gwahanol hyn er mwyn sicrhau bod cyd-gynhyrchu ac integreiddio go iawn yn digwydd, yn enwedig yn y meysydd sy'n eistedd yn fwy cyfforddus ochr yn ochr â’i gilydd, er enghraifft, gwasanaethau strôc gyda gwasanaethau niwrolegol.

Roeddech chi a minnau mewn digwyddiad dim ond yr wythnos diwethaf pan oedd y niwrolegwyr yn sôn am y ffaith bod ffordd bell iawn i fynd o hyd cyn y gallant sicrhau eu bod yn dylanwadu’n effeithiol ar rai o'r cynlluniau gweithredu hyn, a’u bod yn galw am integreiddio gwasanaethau’n well. Felly, nid dim ond yn y maes hwn y mae, ond mewn meysydd eraill hefyd. Pa fath o gysylltiad yr ydych chi'n ei chael? Sut yr ydych chi’n sicrhau bod gan y bobl sy'n cynnal y cynlluniau hyn gysylltiadau â’r holl gynlluniau eraill sy’n bodoli er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymaint o integreiddio a chymaint o gyd-gynhyrchu ag y bo modd?

Mae’r ail faes yn ymdrin ag arferion gorau. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen rhai o'r enghreifftiau hyn o arferion gorau yr ydych yn eu dyfynnu yma. Rydych yn sôn am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro â'u gwasanaeth adsefydlu integredig peilot saith diwrnod sy'n canolbwyntio ar gleifion strôc, ac rwy’n meddwl eich bod yn siarad am—mae un arall yn rhywle—Brifysgol Caerdydd gyda'i huned gofal ôl-anesthetig.  Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa mor hir y mae'n ei gymryd i’r cynlluniau peilot hyn (a) gael eu cynnal, (b) gael eu gwerthuso, ac (c) yna rhannu’r arferion gorau hwnnw ar draws byrddau iechyd eraill, fel y gallwn ni sicrhau’r enillion hyn drwy’r GIG cyfan ac nid mewn un neu ddau faes yn unig.

Mae’r trydydd maes yn ymwneud â recriwtio a hoffwn i ddweud, er fy mod yn derbyn eich optimistiaeth wrth gyflwyno’r datganiad hwn, mae’n rhaid i mi ddweud bod gennym ni o hyd ganlyniadau gwaeth mewn rhai meysydd—strôc, gofal y galon a chanser. Rydym yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond hoffwn i ddeall, yn yr uchelgais i gyrraedd y nodau llwyddiannus a dal i fyny â gwledydd eraill, pa ran sy’n cael ei chwarae gan y prinder ymgynghorwyr arbenigol, y nyrsys arbenigol a’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn y meysydd penodol hynny o'r cynlluniau hyn. Sut y mae hynny’n effeithio ar lwyddiant? Siaradais yn gynharach—rwy’n credu eich bod chi yma—â’r Prif Weinidog ynghylch prinder nyrsys epilepsi, er enghraifft. Gan nad oes gennym nyrsys epilepsi, beth am redeg clinigau epilepsi? Nid oes gennym y naill na’r llall. Byddai mentrau fel hyn mewn gwirionedd, yn yr achos hwnnw, yn hyrwyddo darpariaeth well o wasanaethau niwrolegol i gleifion, ac wrth gwrs, yn y pen draw, yn gwella bywyd y cleifion hynny ac yn arbed arian i'r GIG. Oherwydd os yw 70 y cant o bobl yn gallu rheoli eu ffitiau, mae hynny’n well o lawer na bod dim ond 50 y cant o bobl yn gallu gwneud hynny. O ran epilepsi, gallwch ddarllen amdano’n gyffredinol. Rydych chi a minnau’n gwybod bod y broses recriwtio yn broblem wirioneddol. Felly, hoffwn ddeall pa effaith y mae'n ei chael ar y cynlluniau hyn.

Fy maes olaf yw y byddwn i'n hoffi deall yr elfen ariannol ohono. Rwy’n credu eich bod wedi dweud ei fod yn £10 miliwn fesul cynllun. [Torri ar draws.] Deg miliwn o bunnoedd dros bob un o'r cynlluniau? Ie, diolch, oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod yn £10 miliwn ar gyfer pob un o’r cynlluniau ac roeddwn yn meddwl, ‘Diwedd annwyl, nid wyf wedi sylwi arnoch yn dyrannu £100 miliwn yn ddiweddar, y dyn hael iawn ag yr ydych chi.' Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf, o ran y £10 miliwn hwnnw, sut y caiff ei rannu ar draws yr holl wahanol gynlluniau gweithredu hynny? Pwy sy'n dweud pwy sy'n mynd i gael pa arian, faint o arian? A phwy mewn gwirionedd wedyn sy’n dilyn yr arian hwnnw drwy'r broses gyfan i sicrhau ein bod yn cael gwerth priodol am yr arian hwnnw, a'i fod yn cyflwyno’r canlyniad yr ydym yn ei ystyried yn foddhaol mewn cysylltiad â'r gwerth am yr arian hwnnw?

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Efallai y gallaf ddechrau gyda’r diwedd, dim ond i ddelio â hynny yn gyflym. Mae'n £1 miliwn ar gyfer pob un o'r prif gynlluniau cyflwr, ac mae sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio yn cael ei benderfynu gan y grŵp gweithredu. Felly, mae amrywiaeth o bobl o'r gwasanaeth iechyd yn ymwneud â hynny. Yn aml, cyfarwyddwr meddygol neu brif weithredwr bwrdd iechyd lleol neu ymddiriedolaeth sy'n cadeirio’r cyrff hynny, ond maent yn cynnwys amrywiaeth o wahanol bobl o wahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector, sydd, fel y dywedais yn gynharach, yn gryfder pwysig. Byddant wedyn yn penderfynu ar nifer penodol o flaenoriaethau a beth i'w roi i mewn i bob maes. Felly, nid yw'r Llywodraeth yn dweud wrthynt, 'Dyma beth sy'n rhaid i chi ei wneud gyda'r arian hwn.' Mae’n fater i’r grŵp hwnnw benderfynu, 'Beth allwn ni ei wneud gyda’r swm hwn o arian i wella'r maes gwasanaeth hwn, a beth yr ydym ni'n credu yw'r blaenoriaethau go iawn o fewn hynny?' Mae hynny wedi’i groesawu mewn gwirionedd gan bobl yn y gwasanaeth a'r tu allan —y lobi, y grwpiau diddordeb a thrydydd sector: cael swm o arian i wneud gwahaniaeth go iawn.

Fel y dywedais yn gynharach, yn fy natganiad, am y cynlluniau hynny, mae hyn yn mynd yn ôl at eich pwynt ynghylch faint sy'n cael ei rannu, oherwydd fy mod i mewn gwirionedd wedi fy nghalonogi gan faint o waith ar y cyd sydd wedi digwydd yn eithaf cyflym ers i’r arian fod yno—felly, mae'r pwyntiau a wneuthum ynghylch y meysydd o waith ar y cyd rhwng cyflyrau niwrolegol a strôc, a’r pwynt am asesu risg cardiofasgwlaidd, ar waith a rennir yno hefyd. Felly, rydym wir wedi gweld pobl yn dod at ei gilydd i siarad â'i gilydd am sut i ddefnyddio eu harian mewn ffordd gydgysylltiedig, ac mae hynny'n wirioneddol galonogol. Mae hefyd wedi dwyn ynghyd ystod o wahanol bobl yn y trydydd sector mewn cynghreiriau newydd hefyd. Er enghraifft, ceir cynghrair cardiofasgwlaidd newydd rhwng amrywiaeth o wahanol elusennau sy’n ymwneud ag ac yn cymryd rhan yn yr un math o faes gwaith, ac mae hynny'n wirioneddol galonogol i ni. Mae'n golygu, mwy na thebyg, bod ganddynt fwy o lais o ganlyniad, ond mae hefyd yn fwy defnyddiol i'r Llywodraeth ymgysylltu â hwy fel grŵp, sy’n dod at ei gilydd â blaenoriaethau unedig. Felly, rwy’n meddwl bod hynny wedi bod yn galonogol iawn hefyd.

Ond mae'r gwaith yn dal yn gymharol newydd, felly mae'r pwynt ynghylch deall yr hyn y maent am ei wneud, sut y maent yn hysbysu eu hunain am flaenoriaethau, bwrw ati a chyflawni, a bod yn gallu gwerthuso hynny, mewn gwirionedd yn dal i fod ar y gweill, felly ni fyddwn yn gallu gwerthuso pa effaith y mae wedi'i chael tan rywbryd yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn. Ond, wrth ddyrannu’r arian hwnnw, mae’n rhaid inni dderbyn, wrth wneud hynny, efallai na fydd yr arian bob amser yn esgor ar y canlyniadau dymunol yr ydym eisiau iddo eu cynhyrchu. Ond, rwy’n credu y byddwn yn gweld cynnydd go iawn yn cael ei wneud o ran amrywiaeth ohonynt, ac rwy’n meddwl efallai mai’r enghraifft orau o hynny yw'r gardioleg gymunedol, a gyflwynwyd i ddechrau yn Abertawe Bro Morgannwg, yn ardal Abertawe, ac sydd erbyn hyn yn cael ei chyflwyno ar draws y wlad. Oherwydd mae tystiolaeth wirioneddol bod budd gwirioneddol i’r claf o symud gwasanaethau i'r gymuned, ac i'r dinesydd hefyd, ac mae mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn gofal sylfaenol yn hynny o beth hefyd. Mae gofal eilaidd ar gyfer hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn yn ardal Abertawe, gan eu bod yn cydnabod ei fod wir wedi symud pobl yn eu hardal i fannau lle y gallant gael eu gweld, mae wedi rhyddhau pwysau arnynt, mae'r amseroedd aros bellach yn lleihau yn y maes gofal eilaidd o ganlyniad, ac mae meddygon ymgynghorol gweld pobl y maent yn cydnabod y mae gwir angen iddynt eu gweld. Felly, mae'n enghraifft dda iawn o'r cynnydd yr ydym yn awyddus i’w wneud.

Ac rwy’n meddwl y byddaf yn ceisio delio â'ch pwyntiau yn awr ynghylch cyd-gynhyrchu ac integreiddio, oherwydd mae’n ymwneud â mwy na dim ond y trydydd sector, mae'n ymwneud â'r dinesydd, sy'n rhan o'r uchelgais ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru, nid dim ond yn y cynlluniau cyflawni. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y berthynas rhwng y dinesydd a'r gweithiwr iechyd proffesiynol wedi newid, mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod y trafodaethau hefyd yn cael eu hategu gan integreiddio gwasanaethau yn ehangach hefyd—felly, y newid rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd yr ydym wedi siarad amdano ers sefydlu’r lle hwn—ac mae’n ymwneud â sicrhau bod mwy o dystiolaeth bod hynny'n digwydd, gyda chardioleg gymunedol yn un enghraifft o faes lle y mae wedi digwydd. Ond, yr un modd, integreiddio â meysydd eraill o wasanaeth hefyd, felly nid gofal sylfaenol ac eilaidd yn unig, nid gwasanaethau cymdeithasol yn unig, ond integreiddio â chydweithwyr mewn adrannau addysg a thai hefyd, a chydnabod y rhan sydd gan hyn i'w chwarae wrth wella ystod o wahanol feysydd. Ac rwy’n meddwl efallai, o ran adsefydlu, mae’n enghraifft dda iawn o’r swyddogaeth bwysig sydd gan tai hefyd, wrth gael pobl i mewn i’w cartrefi eu hunain yn gyflymach, a beth y mae hynny'n ei olygu wedyn ar gyfer uno gwahanol wasanaethau, ac mewn gwirionedd y gwahanol weithwyr proffesiynol y mae angen iddynt ymgysylltu â hynny. Mae hynny'n bwysig iawn, er enghraifft, gyda gofal strôc, wrth symud ymlaen, yn fersiwn nesaf y cynllun, a deall y cyngor a'r canllawiau wedi’u diweddaru a gynhyrchwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon, sy’n rhoi pwyslais trwm ar gael pobl i mewn i'w cartref eu hunain yn fwy cyflym er mwyn i’r broses adsefydlu gael dechrau. Felly, mae sbardunau pwysig iawn ar waith y mae angen i bob grŵp gweithredu eu hystyried.

Felly, rwyf yn dymuno gorffen drwy ddweud, o ran y pwyntiau a wnewch am ganlyniadau, recriwtio a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu, yn sicr rydym yn cydnabod bod pob un o'r cynlluniau cyflawni wedi bod yn ddefnyddiol yn y modd hwn, wrth amlygu meysydd lle y mae angen gwneud yn well, lle y mae diffyg go iawn, lle y mae tystiolaeth am yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac am sut y bydd y gwelliannau’n edrych hefyd. Felly, amser cinio, roeddwn yn gallu nodi bod cael tîm amlddisgyblaethol yn trin clefyd interstitaidd yr ysgyfaint yn gadarnhaol iawn o ran lleihau amseroedd aros i bobl, o rywbeth fel 18 wythnos i lawr at bythefnos. Mae hynny’n cael ei ysgogi gan y ffordd y mae'r grŵp gweithredu wedi gweithio gyda'i gilydd, felly ceir profiad gwell, ac erbyn hyn ceir canlyniadau gwell i bobl hefyd. Felly, mae rhesymau da dros fod yn gadarnhaol, yn ogystal â dros ddweud na ddylem fod yn hunanfodlon. Mewn gwirionedd, mae'r dull hwn yn golygu na ddylem fod yn hunanfodlon gan fod gennym ystod o wahanol bobl sy'n ymwneud ac yn cymryd rhan yn y gwaith sydd ar y gweill gennym.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n edrych ymlaen at adolygu’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd pan gânt eu cyhoeddi. Nodaf eich sylwadau bod cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd yn gwella ac, er bod hyn yn wir, mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud.

Rwy’n croesawu'r gwaith y bydd y grŵp gweithredu ar strôc yn ei wneud mewn cysylltiad â ffibriliad atrïaidd, ac yn gobeithio y gellir cyflawni’r gostyngiad a ragwelir yn nifer y bobl sy’n dioddef strôc, gyda'r pwyslais ar atal ac adsefydlu. Mae strôc yn lladd ddwywaith gymaint o fenywod â chanser y fron, a mwy o ddynion na chanser y brostad a’r ceilliau gyda’i gilydd. Diolch byth, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi strôc erbyn hyn, ond daw heriau eraill yn sgil hyn. Erbyn hyn mae bron i 65,000 o bobl yn byw gydag effeithiau hirdymor strôc yma yng Nghymru. Strôc yw’r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth, ac mae dros hanner y rhai sy’n goroesi strôc yn dioddef o anabledd yn ei sgil. Rydym yn croesawu'r flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi gan y grwpiau gweithredu i ddatblygu gwasanaethau adsefydlu a'r cyllid ar gyfer gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yn y gymuned hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, nodaf lwyddiant y peilot ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yng Nghaerdydd a'r Fro, a'r bwriad i rannu'r hyn a ddysgwyd gyda byrddau iechyd eraill. Ond, siawns, os oedd y peilot yn llwyddiannus, dylid ei gyflwyno ar draws Cymru, yn hytrach na dim ond rhannu'r hyn a ddysgwyd.

Rydym yn croesawu'r gwelliannau mewn gofal cardiaidd, ac yn edrych ymlaen at y cynlluniau cyflawni a manylion am sut y mae’r Bil iechyd y cyhoedd sydd ar ddod yn bwriadu mynd i'r afael â'r cyfranwyr mwyaf at glefyd y galon.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu’r adolygiad o wasanaethau canser. O ran gofal canser, mae gennym ffordd bell iawn i fynd. Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop ac, er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, nid ydym wedi gwneud digon. Er mwyn craffu’n effeithiol, mae casglu data o'r pwys mwyaf. Felly, mae angen data i gynhyrchu trywydd archwilio o’n llwyddiannau a'n methiannau fel ei gilydd. Dim ond trwy fanteisio ar brofiad y gorffennol, y gallwn ni wir wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Nid yw triniaethau gofal canser traddodiadol bob amser yn effeithiol ac, er mwyn gwella cyfraddau goroesi, mae'n rhaid i ni ystyried trefniadau trin amgen. A fydd y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cynnwys ymrwymiad i wella mynediad at feddyginiaethau haenedig yng Nghymru? Un o'r rhwystrau mwyaf i oroesi yw diffyg diagnosis cynnar. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu mynediad at ddiagnosteg, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith TG gwell er mwyn cyflymu'r broses o rannu data profion er mwyn lleihau’r llwybr diagnosis, cyn belled ag sy’n bosibl?

Unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau gwelliannau gofal iechyd yn ystod y Cynulliad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r gwahanol grwpiau gweithredu am y gwaith caled y maent yn ei wneud i wella cyfraddau goroesi o gyflyrau mawr yng Nghymru. Diolch.

Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy’n sicr yn cydnabod bod mwy i'w wneud ym maes atal salwch a gwella goroeswyr—yn y ddau faes hyn. Dyna pam y mae’r dull hwn gennym—sy’n dwyn ynghyd y bobl hyn sydd â diddordeb uniongyrchol yn hyn o’r Llywodraeth, y tu allan i'r Llywodraeth, a'r GIG hefyd. Mae eich enghraifft gyntaf chi, sef strôc, yn enghraifft dda o sut y mae'r grŵp gweithredu wedi helpu i fod yn rhan o gyflawni gwelliannau. Mae cwestiynau anodd i ni i gyd hefyd am y newid yn natur y ddarpariaeth, oherwydd bod y gwelliant, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, wedi dod yn sgil proses anodd o ailgynllunio gwasanaethau, ac nid yw hynny'n hawdd. Ond os ydych chi’n siarad â'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yn ysbyty Bronglais, bydd yn dweud bod angen nifer llai o unedau hyper-acíwt. Nawr, mae hynny'n golygu dewisiadau anodd i bobl ledled Cymru. Os ydym yn mynd i ganolbwyntio ar y ffurf honno wasanaeth ac arbenigo ynddi, yna mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail bod yna sylfaen dystiolaeth wirioneddol a chlir a fydd yn gwella canlyniadau, gan y bydd heriau anodd os disgwylir i bobl deithio ymhellach ar gyfer y driniaeth honno. Ond, yn y pen draw, os mai’r dystiolaeth yn dangos bod mwy o siawns iddynt oroesi, a gwell cyfle iddynt gael adferiad effeithiol o ganlyniad, mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i'r gwasanaeth ei gyflawni.

O ran eich pwyntiau ehangach—y pwyntiau ehangach a wnaethoch ynghylch canser—mewn gwirionedd, mae'n stori lwyddiant rhyfeddol ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol i gynnal y cynnydd yn y galw am y gwasanaethau canser, a dal i weld cymaint o bobl ag y maent yn ei wneud. Rydym yn gweld y nifer mwyaf erioed o bobl o fewn yr amserlenni a bennwyd, gan fod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, a mwy o bobl yn cael eu trin yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen. Nid wyf yn credu ei fod yn beth drwg i atgoffa ein hunain bod cyfraddau goroesi am flwyddyn dros 70 y cant erbyn hyn, a goroesi am fwy na phum mlynedd yn 50 y cant. Yr her i ni yw sut yr ydym yn gwneud cynnydd pellach. Bydd cam nesaf y cynllun cyflawni, rwy’n meddwl, yn helpu i bennu hynny ar ein cyfer: yn benodol, rhai o'r meysydd yr ydym wedi tynnu sylw atynt, er enghraifft, diagnosis a mynediad cynharach. Ond, wyddoch chi, mae hynny—. Nid ydym yn dysgu o’r hyn sy’n digwydd yn y DU yn unig. Felly, mae rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud wedi golygu mynd i Ddenmarc ac edrych ar yr hyn y maent wedi ei wneud yn llwyddiannus dros gyfnod o amser i wella eu cyfraddau goroesi nhw hefyd. Mae hyn yn dod yn ôl at sut yr ydym yn rhannu’r hyn a ddysgir, ond nid dim ond siarad am y dysgu a rennir, ond bwrw ymlaen a’i weithredu. Mae hon wedi bod neges gyson iawn gennyf i ac arweinwyr yma ar lefel y Llywodraeth—ein bod yn disgwyl gweld mwy o gysondeb o ran darparu ar welliannau a mwy o gyflymder wrth eu cyflawni ar draws y wlad hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dau faes yn unig yr wyf am eich holi amdanynt, os yw hynny'n iawn. Rwy'n synnu nad ydych wedi crybwyll dementia o gwbl yn eich datganiad y prynhawn yma. Mae dementia yn un o'r pedwar prif glefyd sy’n lladd, clefyd cyffredin dros ben, ac mae hefyd yn tyfu o ran nifer yr achosion yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ac eto nid oes un cyfeiriad o gwbl at ddementia yn eich datganiad cyfan, sydd i fod i sôn am gyflyrau iechyd difrifol. Rwy'n siomedig iawn yn hynny o beth, ac efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â dementia, ac yn wir i annog gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud diagnosis o ddementia.

Yn ail, dim ond un cyfeiriad at blant sydd yn eich datganiad i gyd, ac mae hynny mewn cysylltiad â’r gwaith sy'n cael ei wneud ar y rhaglen addysg strwythuredig, SEREN, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu yn fawr iawn. Ond does dim sôn arall am blant drwy gydol y ddogfen, ac, fel y gwyddoch, mae plant a phobl ifanc yn aml iawn yn wynebu cyflyrau cronig sy'n cyfyngu ar fywyd, ac yn aml mae angen llawer iawn o gefnogaeth arnynt o ganlyniad i hynny. Tybed a allech ddweud wrthym pa waith penodol sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflyrau iechyd yr ydych wedi cyfeirio atynt yn eich datganiad i gefnogi plant a phobl ifanc â’r cyflyrau hynny, ac, yn wir, pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru yn benodol i ehangu swyddogaeth nyrsys ysgol o ran cefnogi pobl ifanc a phlant yn ein hysgolion sy'n byw gyda’r mathau hyn o gyflyrau, ac yn wir eraill a allai effeithio ar blant a phobl ifanc. Diolch.

Efallai os dechreuaf gyda'r pwynt cyntaf, rwy’n meddwl efallai y gall fod rhywfaint o ddryswch ynghylch cynnwys y datganiad. Mae hyn yn ymwneud â'r cynlluniau gweithredu sydd gennym—y cynlluniau cyflawni yn cwmpasu cyflyrau iechyd difrifol, ac y mae 10 ohonynt. Ac, yn arbennig, rwyf wedi bod yn cyfeirio at y chwech sy'n cael eu hadnewyddu ac sydd i fod i gael eu hail-lansio o fewn y flwyddyn. Dyna pam nad yw dementia wedi’i grybwyll, oherwydd bydd cyfeiriad ato yn y cynllun cyflawni ar iechyd meddwl, a—. [Torri ar draws.] Gallwch naill ai wrando ar yr ateb, neu gallwn ni gael dadl rhyngom ni’n dau, os mynnwch. Rwy’n ceisio bod o gymorth, oherwydd nid wyf yn meddwl eich bod chi wedi bod yn gwrando yn gynharach, Darren.

Bydd y cynllun gweithredu dementia yn cael ei lunio eleni. Felly, bydd ar gael eleni, ac mae gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i wneud hynny. Bûm mewn digwyddiad bythefnos yn ôl ym Mhrifysgol De Cymru, a ddaeth ag ynghyd ag ystod o wahanol bobl ynghyd, yn ofalwyr ac yn unigolion sydd â dementia, a sefydliadau trydydd sector, yn rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i geisio sbarduno gwelliant yn y maes hwn er mwyn cyflawni ar yr uchelgeisiau—nid dim ond rhai’r Llywodraeth; rwy'n meddwl bod uchelgais ehangach yn y fan hyn sy'n ymestyn ar draws y pleidiau ynghylch sut yr ydym yn cael sgwrs fwy agored am ddementia a sut yr ydym wedyn yn gwella gwasanaethau ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl hefyd.

Felly, mae’r prif swyddog meddygol, er enghraifft, yn aelod o’r grŵp sy’n ceisio bwrw ymlaen â hynny. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun gweithredu hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon. Ac, er nad ydym wedi crybwyll plant yn benodol ym mhob un o'r cynlluniau cyflawni a luniwyd o ganlyniad, bydd yr amrywiaeth o wasanaethau hyn hefyd yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael wrth gwrs. Ac, mewn cysylltiad ag ystod o’r blaenoriaethau a bennwyd gan y grŵp gweithredu, maent yn edrych yn arbennig, er enghraifft, ar y gwasanaeth diabetig pediatrig, hefyd—ystod o wahanol feysydd a chyflyrau gwahanol. Maent yn mynd ati’n benodol i ystyried gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Felly, nid yw’r ffaith nad wyf wedi dweud yn benodol bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar blant a bod plant yn cael eu blaenoriaethu yn hyn o beth, nid yw hynny'n golygu bod plant a phobl ifanc yn cael eu hanghofio—ddim o bell ffordd.

Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol wedi’i wneud gyda'i bartneriaid a gyda'r trydydd sector wrth sicrhau enillion mawr i bobl yng Nghymru ym mhrofiad cleifion a chanlyniadau cleifion. Mae gennym ddull da o fynd ati. Rwy'n falch ein bod yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl y tu allan i'r Llywodraeth a'r tu allan i'r gwasanaeth iechyd, ac edrychaf ymlaen at glywed am fwy o lwyddiant yn cael ei adrodd yn sgil cam nesaf cynlluniau’r grwpiau gweithredu hyn yn y dyfodol.

10. 7. Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru) (Diwygio) 2016. Galwaf ar Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6106 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 17:06:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 yn diwygio paragraff 4 o’r Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy newid y disgrifiad o un o’r cyrff a rhestrir yn yr Atodlen. Mae Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn darparu rhestr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n amodol ar rai darpariaethau yn Neddf 1998 ynghylch cyfrifon ac archwilio. Mae paragraff 4 ar hyn o bryd yn darparu bod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn un o’r cyrff cyhoeddus Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 wedi diwygio’r fframwaith o reolau yr oedd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru amser hynny yn ei weithredu. Mae Deddf 2013 wedi gwella ei gyfrifoldebau a newidiodd ei enw i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Bydd y Gorchymyn drafft, os gaiff ei gymeradwyo, yn diwygio Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ddisodli’r cyfeiriad at y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gyda chyfeiriad at y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Pe bai’r Gorchymyn hwn yn cael ei gymeradwyo, bydd yn dod i rym ar 7 Hydref 2016. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl hon. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Diolch. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. 8. Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Symudwn ymlaen at eitem 8 ar y rhaglen, sef y ddadl am flaenoriaethau’r Llywodraeth a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Carwyn Jones.

Cynnig NDM6107 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Wel, rydym yn dychwelyd at y mater hwn gan fod y Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i ni, ac felly mae'n gyfle arall i Aelodau edrych o’r newydd ar flaenoriaethau’r Llywodraeth hon a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae heddiw yn gyfle i ni i drafod blaenoriaethau a rhaglen Llywodraeth Cymru. Am y tro cyntaf, rydym yn cyfuno’r ddadl ar y rhaglen ddeddfwriaethol â thrafodaeth ehangach am amcanion polisi, ac mae hyn yn arwydd o ba mor bell yr ydym wedi dod ers ennill pwerau deddfwriaethol, bod deddfwriaeth bellach yn rhan greiddiol o'r modd yr ydym yn cyflawni ein blaenoriaethau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Nawr, fel y dywedais, Lywydd, pan gyhoeddais y rhaglen lywodraethu, mae ein blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth hon yn glir. Rydym yn awyddus i gael economi gryfach, decach, gwasanaethau cyhoeddus wedi’u gwella a’u diwygio a Chymru unedig, sy'n gysylltiedig ac yn gynaliadwy. Rydym wedi dewis y pedwar maes lle y credwn y gall y Llywodraeth gael yr effaith fwyaf ac y gall chwarae'r rhan gryfaf wrth weithio tuag at y nodau cenedlaethol. Y meysydd blaenoriaeth hyn—ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac yn dysgu, ac unedig a chysylltiedig—yw'r meysydd ymbarél a fydd yn caniatáu i’r Llywodraeth a'i phartneriaid weithio ar draws ffiniau traddodiadol a sicrhau gwelliannau ar gyfer pobl yng Nghymru. A bydd popeth a wnawn fel Llywodraeth yn cael ei arwain gan y blaenoriaethau hynny.

Wrth i ni edrych tuag at Gymru ffyniannus a diogel, byddwn yn gweithio'n galed i gefnogi’r nod o greu swyddi ledled Cymru, arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, ond hefyd eu helpu i fyw eu bywydau yn ddiogel. Rydym wedi nodi ein prif gynlluniau ar gyfer cefnogi busnesau drwy doriadau treth ac ymrwymiad i ddiwydiant amaethyddol ffyniannus. Byddwn yn cefnogi pobl i gael swyddi drwy 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed a byddwn yn cael gwared ar y rhwystrau i weithio, drwy’r pecyn mwyaf hael o ofal plant i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw ran o’r DU—cymorth na fydd yn cael ei gyfyngu i amser tymor.

Lywydd, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i warchod y stoc tai cymdeithasol, stoc y byddwn yn ei chynyddu yn rhan o'n hymrwymiad i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Byddwn hefyd yn gweithio tuag at ffyniant cynaliadwy hirdymor sydd hefyd yn cynnig dyfodol diogel i ni, ac mae hynny'n golygu symud tuag at ein nod o leihau 80 y cant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

Lywydd, rydym yn falch o'n hanes o gynyddu buddsoddiad yn y GIG a byddwn yn parhau i weithio tuag at Gymru iach ac egnïol. Rydym yn gwybod na all y GIG gyflawni ein blaenoriaethau ar ei ben eu hunain ac yma, yn fwy na dim ac unrhyw le arall, rydym yn deall pwysigrwydd buddsoddi yn gynnar i atal problemau yn nes ymlaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod triniaethau ar gael, oes, ond ni fyddwn byth yn colli golwg ar ein nod tymor hir i leihau'r angen am driniaethau, gan alluogi pobl i fyw bywydau iach a llawn. Mae hynny, wrth gwrs, yn gydbwysedd anodd ei daro: gwario i drin heddiw wrth fuddsoddi i atal yn y dyfodol. Ond rwy'n hyderus bod ein blaenoriaethau yn adlewyrchu hynny.

Byddwn, ar sail hynny, yn cyflwyno Bil iechyd y cyhoedd i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru. Byddwn yn blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys cynllun presgripsiwn cymdeithasol peilot a mwy o fynediad at therapïau siarad. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig ochr yn ochr â thrawsnewid ein hystâd ysbyty, integreiddio gwasanaethau ac adeiladu model sy'n cyfateb yn well ag anghenion a gwasanaethau lleol.

Lywydd, byddwn yn gweithio tuag at Gymru uchelgeisiol sy’n dysgu, ac sy'n gallu cefnogi ein nod o ffyniant a diogelwch. Rydym yn dymuno gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol, ond rydym hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw llwyddiant neb yn cael ei bennu ymlaen llaw gan ble y maent yn byw, faint y mae eu rhieni yn ei ennill, neu a oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn golygu cefnogi ein pobl ifanc i gychwyn eu taith yn gynnar gyda'n rhaglen arloesol Dechrau'n Deg. Mae hefyd yn golygu buddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol i godi safonau ysgolion i bawb. Mae'n golygu ymestyn y grant amddifadedd disgyblion i ddarparu cefnogaeth ychwanegol wedi’i dargedu i ysgolion, a bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn sefydlu system lle mae dysgwyr yn ganolog i bopeth, lle mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, lle’r eir i'r afael â nhw yn gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

Lywydd, wrth gwrs, nid yw uchelgais na dysgu yn gorffen pan fyddwn yn gadael yr ysgol. Rydym wedi ymrwymo i wella llwybrau academaidd a galwedigaethol, gan gynnwys i mewn a thrwy addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion Syr Ian Diamond mewn egwyddor a bydd y rhain yn helpu i lunio pecyn cymorth i fyfyrwyr y byddwn yn ei gyflawni.

Yn olaf, ond nid lleiaf, unedig a chysylltiedig: mae’r flaenoriaeth hon yn cofnodi ein huchelgais i dyfu gyda'n gilydd fel gwlad, ac i’n rhwymo ni at ein gilydd fel cymdeithas lle mae pawb yn cael ei barchu a'i werthfawrogi—Cymru sydd â'r hyder i gymryd ei lle yn y byd. Mae'r DU yn tynnu allan o'r UE yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i wneud yn well nag y disgwylir i ni ac edrych y tu hwnt i'n ffiniau. Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae cymunedau yn ffynnu, yn cael eu cysylltu gan lwybrau trafnidiaeth ardderchog, a chyda pob eiddo yng Nghymru yn elwa o fand eang dibynadwy, cyflym.

Lywydd, yn gynharach heddiw gwnaethom amlinellu ein cynlluniau ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, a fydd yn parhau i’w gweld wrth galon eu cymunedau, ond yn gweithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. A byddwn yn parhau i hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth Cymru drwy weithio tuag at gael 1 filiwn o bobl sy'n siarad Cymraeg erbyn 2050.

Lywydd, rydym eisiau cael cymdeithas deg a byddwn yn deddfu i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Bydd eleni hefyd yn ein gweld yn cyflwyno dau Fil treth, gan baratoi'r ffordd i ni godi ein trethi ein hunain am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd. Lywydd, mae hon yn gyfres uchelgeisiol o flaenoriaethau ar gyfer Cymru, cyfres o flaenoriaethau sydd eisoes wedi llywio ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn hon ac a fydd yn ein tywys wrth i ni gyflawni ein rhaglen lywodraethu.

Ar y pwynt hwn, hoffwn droi at y gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno—heb eu cynnig eto, wrth gwrs—gwelliant 1 yn enw Paul Davies: ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw. Rydym yn gwybod bod hon yn rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a bod pobl Cymru yn ei chefnogi. O ran gwelliant 2, unwaith eto, nid ydym yn credu bod y rhaglen ar gyfer yr wrthblaid yn fwy uchelgeisiol—rwy'n siŵr bod hynny'n syndod mawr i feinciau Plaid Cymru. Ond, wrth gwrs, mae cyffredinedd â Phlaid Cymru mewn nifer o feysydd ac, wrth inni symud ymlaen, rydym yn edrych i wella’r cyffredinedd hwnnw. O ran gwelliant 3, mater i'r Cynulliad hwn yw mesur sut y mae'r Llywodraeth yn perfformio, a dyna beth y mae wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf. Mater i’r Cynulliad yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran ei chynnydd. Byddwn, felly, yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw.

O ran gwelliant 4, bwriedir i'r rhaglen lywodraethu gyflawni. Wrth gwrs, y peth amlwg nad oed modd ei drafod yw’r hyn sy'n digwydd gyda Brexit, ond y gwir amdani yw nad oes neb, ar y cam hwn, yn gallu rhagfynegi gydag unrhyw gywirdeb mawr beth fydd yn digwydd, ond byddwn yn gwybod mwy cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y cyfeiriad y mae’n dymuno mynd iddo. Ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw.

O ran gwelliant 5, ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw, oherwydd bydd y manylion yn ymddangos, wrth gwrs, yn ystod y rhaglen lywodraethu, ond rydym wedi tynnu sylw yn glir i’r cyfeiriad yr ydym yn dymuno mynd iddo.

Byddwn yn derbyn gwelliant 6. Mae'n hollol bwysig, wrth gwrs, bod digon o amser ar gyfer craffu, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn fodlon ei gefnogi. Lywydd, mae hon yn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru, rhaglen y maent wedi pleidleisio drosti ym mis Mai a byddant yn disgwyl i ni ei chyflawni, ac rwy’n ei chynnig gyda balchder, felly, o flaen y Cynulliad.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser sefyll ac ymateb i Brif Weinidog Cymru wrth gynnig y ddadl. Cynigiaf yn ffurfiol welliant 1 yn enw Paul Davies ar bapur y drefn heddiw. Dim ond chwe diwrnod yn ôl yr oeddem ni ein hunain yn cynnig y cynnig ynglŷn â’r rhaglen lywodraethu, ac yn amlwg rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn edrych ar hynny. Ni allai'r Llywodraeth ond rhoi un o blith y meinciau cefn i gefnogi eu rhaglen lywodraethu yn ystod y ddadl honno, felly rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud eu gwaith yn well y prynhawn yma, a bod yn onest gyda chi.

Mae rhai cwestiynau perthnasol rwy’n meddwl y mae angen eu cyflwyno i'r Prif Weinidog yn ystod y ddadl hon, a allai wedyn ddechrau meithrin rhywfaint o hyder efallai. Cafodd rhai o'r cwestiynau hynny eu harchwilio yn helaeth yn ein dadl yr wythnos diwethaf, yn syth ar ôl dadl TB buchol a gynigiwyd gan feincwyr cefn yn y Siambr hon. Mae'n werth nodi, yn y rhaglen lywodraethu, nad oes unrhyw arwydd o sut yn union y bydd y Llywodraeth yn datblygu ei strategaeth ar TB buchol. Rwy’n sylweddoli y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rhaglen lywodraethu ar gyfer aelodau'r cyhoedd, Aelodau’r sefydliad hwn, elusennau â buddiant breintiedig ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae Llywodraeth yn darparu gwasanaethau i allu meincnodi ei chynnydd, neu ddiffyg cynnydd, yn ôl y digwydd.

Nid wyf yn anghytuno â’r ​​hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, mae’n amlwg bod pobl Cymru wedi cymeradwyo ei blaid i fod y blaid fwyaf a ddychwelwyd yma ar ôl etholiad mis Mai, a dyna pam ei bod yn bwysig bod y rhaglen lywodraethu yn ddogfen sy’n ein galluogi i fesur yr ymrwymiadau yr ydych wedi'u gwneud ac, yn arbennig, i ddeall sut yr ydych yn mynd i gyflawni'r ymrwymiadau hynny. Mae fy nghydweithiwr, David Melding wedi sôn am nifer y tai sydd wedi’i nodi gennych yn y rhaglen lywodraethu, a sut yn union y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflwyno, o gofio’r 20,000 o dai fforddiadwy yr ydych wedi’u crybwyll yn hyn. Beth y mae hynny’n ei wneud, felly, er mwyn sicrhau’r 12,000 neu 12,500 o unedau y mae angen eu hadeiladu ar sail flynyddol er mwyn creu rhaglen adeiladu tai gynaliadwy i ateb galw ac angen pobl Cymru? Unwaith eto, os ydych yn edrych yn y rhaglen lywodraethu, nid oes unrhyw ffordd o ddeall sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ddatblygu’r mater polisi penodol hwnnw. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, yn ei ymateb i ni heddiw, yn rhoi rhywfaint o hyder i ni, oherwydd dyna beth mae ein gwelliant yn sôn amdano: mae'n sôn am roi hyder i ni i ddeall yn union sut y bydd y rhaglen lywodraethu yn cael ei datblygu.

Nid ydym, fel y dywedais, yn anghytuno â hawl y blaid fwyaf i ffurfio’r Llywodraeth; nid ydym yn anghytuno â ​​hawl y blaid i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu, ond rwyf eto i ganfod un sefydliad trydydd parti sydd wedi gwneud sylwadau mewn ffordd ffafriol ar y rhaglen lywodraethu hon yn y sector penodol y byddwch yn gweithio ynddo mewn gwirionedd. Dim ond heddiw, er enghraifft, roedd Nick Ramsay o Sir Fynwy yn gwneud y pwynt yn y datganiad busnes am y ganolfan gofal critigol yng Nghwmbrân. Gallaf gofio’n iawn pan soniwyd am y prosiect penodol hwn am y tro cyntaf pan ddes i i'r Cynulliad, yn ôl yn 2007, ond mae wedi bod yn yr arfaeth ers llawer hwy na hynny, ac mae amheuaeth am sut yn union y bydd y rhan benodol honno o'r seilwaith iechyd yn cael ei chyflwyno ar gyfer y de-ddwyrain. Esgusodwch y gair mwys, ond mae'n rhan gritigol o'r seilwaith iechyd ar gyfer y de-ddwyrain. Felly, unwaith eto, o ystyried ei bod mor amserol ac y dylai eistedd o fewn y rhaglen lywodraethu o ran sut y caiff hynny ei gyflawni ar gyfer y de-ddwyrain, efallai y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei amser wrth ymateb i'r ddadl heddiw i roi rhywfaint o sicrwydd i ni mewn gwirionedd y bydd y prosiect yn dwyn ffrwyth ac mewn gwirionedd, erbyn 2021, y gallai’r prosiect fod naill ai ar fin cael ei orffen, neu wedi’i orffen. A allwch roi dyddiad inni? Pum mlynedd?

Mae'n bwysig cofio, ar y targedau addysg sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen lywodraethu, bod myfyrwyr sy'n mynd i mewn i flwyddyn 7 heddiw, neu y tymor hwn, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, yn sefyll eu Lefel O, TGAU, pa bynnag enw yr ydych yn dymuno rhoi arnynt, yn 2021. Felly, bydd eu haddysg uwchradd gyfan yn cael ei llywodraethu gan y Llywodraeth sy'n eistedd ar y meinciau hyn, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni’n gallu bod yn hyderus y bydd dyheadau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—ac, yn wir, y Llywodraeth i gyd—i wneud y gwelliannau hynny mewn addysg yn cael eu darparu mewn gwirionedd yn y pumed Cynulliad, gan fod rhai Aelodau wedi bod yma o'r blaen yn y pedwerydd a'r trydydd Cynulliad. Ac nid yw’n fater bod unrhyw un ar feinciau'r gwrthbleidiau eisiau dymuno’n wael i chi ar addysg, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym yn dymuno'n dda i chi ar addysg, ond rydym yn awyddus i’r pethau hynny gael eu darparu, gan mai un cyfle y mae plant yn ei gael, a’u cyfleoedd hwy mewn bywyd sy'n cael eu tynnu oddi arnynt os na fyddwn yn cyflawni, neu, dylwn ddweud, os nad yw eich Llywodraeth chi yn cyflawni ar addysg.

Felly, y cyfan y mae’r gwelliant yn ceisio’i wneud yw rhoi'r hyder i bobl Cymru ac i ni fel gwleidyddion a fydd yn craffu arnoch chi. Nid yw'n cymryd ymaith y cyfreithlondeb sydd gennych i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu. Ond mae cyflwyno dogfen 15-tudalen am werth pum mlynedd o waith yn gyhuddiad eithaf damniol o ddiffyg syniadau. Dim ond yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, roeddech yn cadeirio eich pwyllgor eich hunain—pwyllgor ymgynghorol allanol ar gyfer eich cynghori ar faterion Ewrop—ac rwy’n tynnu sylw at dudalen 14 eich dogfen eich hun, lle mae'n dweud, 'Byddwn yn gweithio i sicrhau bod aelodaeth ein cyrff democrataidd yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan yn well a gwella cynrychiolaeth gyfartal ar gyrff etholedig a byrddau yn y sector cyhoeddus.‘ Nid oedd unrhyw ymgeisydd du neu o leiafrifoedd ethnig ar y pwyllgor hwnnw. Nid oedd ond 28 y cant o’r gynrychiolaeth yn fenywod, ac nid oedd fawr ddim cynrychiolwyr daearyddol o’r gogledd a rhannau eraill o Gymru yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw. Felly, ar y pwynt sylfaenol iawn hwnnw—ar y pwynt sylfaenol iawn hwnnw—y gallech fod wedi ei roi ar waith, ni allech gyflawni hynny. Sut ydych chi'n mynd i fod yn gallu cyflawni rhai o'r materion mwy dyrys sydd wedi bodoli ym maes iechyd, wedi bodoli mewn addysg ac wedi bodoli yn yr economi? Dyna pam y mae angen cael yr hyder y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn wahanol i raglenni llywodraethu blaenorol, ac y bydd yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Galwaf ar Leanne Wood i gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch, Lywydd.  Cynigiaf y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.

Yn y cyfnod allweddol hwn, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth Lafur yn cyflwyno rhaglen arloesol a blaengar sy'n dangos hyder i bobl yng Nghymru. Mae arna’ i ofn nad yw’r rhaglen lywodraethu a gynhyrchwyd y mis diwethaf yn bodloni’r meini prawf. Cyn amlinellu agenda gadarnhaol Plaid Cymru, hoffwn wneud un pwynt am raglen Llywodraeth Llafur.

Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno â'r Prif Weinidog y dylai ei raglen lywodraethu gael ei hoedi i ystyried goblygiadau pleidlais y refferendwm. Roedd yn syndod ac yn siom, felly, i weld nad oedd y rhaglen a gafodd ei hoedi, pan gafodd ei chyhoeddi, yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y DU’n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid oes yn rhaid i ni fod yn gallu rhagweld beth fydd yn digwydd i gael cynllun. Mae hon yn rhaglen ysgafn—mae'n fyr o ran hyd ac mae'n disgyn yn fyr o ran ein disgwyliadau. Mae angen syniadau mawr, dewr ar Gymru yn awr, nid minimaliaeth. Mewn rhaglenni Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, rydym wedi cael ein llethu gan ystadegau a dangosyddion. Mae’r dangosyddion hynny wedi diflannu yn hytrach na chael eu gwneud yn fwy craff, ac yn hynny o beth, mae Plaid Cymru yn ystyried bod y Llywodraeth yn mynd yn ei hôl.

Rydym yn teimlo bod gan Blaid Cymru, fel y blaid dros Gymru, ddyletswydd i geisio gwella'r sefyllfa hon a sicrhau ein blaenoriaethau ein hunain yn lle hynny. Fel y nodwyd gan welliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, mae Plaid Cymru wedi cynhyrchu'r rhaglen gyntaf erioed o wrthwynebiad. Felly, yn hytrach na chwyno o'r cyrion, byddwn yn ceisio defnyddio'r sefyllfa hon i gael cymaint o'n cynigion polisi ar waith ag y gallwn.

Uwchben ein rhaglen bolisi lawn, mae gennym dri nod allweddol. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn Cymru rhag unrhyw ganlyniadau negyddol yn sgil Brexit. Mae’n rhaid i hynny fod yn ganolog i waith y Llywodraeth. Yn ail, mae'n rhaid i ni barhau â'r agenda o adeiladu cenedl. Bydd Cymru fwy hyderus, Cymru wedi’i grymuso a Chymru mwy unigryw yn parhau i fod yn flaenllaw yn yr holl bolisïau y bydd Plaid Cymru yn eu cyflwyno yn y sefyllfa Llywodraeth leiafrifol hon. Yn drydydd, rydym yn argymell ymagwedd Cymru-gyfan at wariant y Llywodraeth. Mae’n rhaid i fuddsoddiad a chyfleoedd gael eu lledaenu mor gyfartal â phosibl ledled y wlad. Un Gymru yw hon, ac mae gormod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl. P'un a yw anghydbwysedd o fewn Cymru yn fater o ffaith neu’n fater o ganfyddiad, mae’n rhaid rhoi sylw iddo.

Mae’n rhaid i lywodraethau Cymru, waeth beth yw eu lliw gwleidyddol, fod yn fwy ymroddedig nag erioed, i sicrhau nad yw gwasanaethau'n cael eu canoli i ffwrdd o ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae'n rhaid i addewidion tebyg i'r system dull metro ar gyfer y gogledd a'r cynigion rheilffordd trydan ar gyfer y Cymoedd gael eu gwireddu ar ôl eu cyhoeddi.

Lywydd, mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn debygol o fod angen cefnogaeth Plaid Cymru i basio. Ymddengys bod pob un o'r mesurau yn gyson â pholisïau Plaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y ddeddfwriaeth trethu a'r Bil undebau llafur, sydd ill dau yn feysydd y mae Plaid Cymru eisiau gweld cynnydd arnynt. Er ein bod yn croesawu cynnydd ar y ddeddfwriaeth, rydym yn parhau i fod yn siomedig â rhaglen y Llywodraeth, nad yw, ar ei ffurf bresennol, yn cyflawni'r uchelgais sydd ei hangen ar y wlad hon.

Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu atebion arloesol i'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'r heriau a wynebwn yn niferus ac amrywiol, yn enwedig y rhai a achosir gan y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf hefyd yn falch bod y Llywodraeth yn agored i syniadau newydd ac y byddant yn hapus i wrando ar bobl o bob un o'n cymunedau. Mae'r rhaglen lywodraethu yn cyfeirio'n berthnasol at bwysigrwydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae cwpl o bwyntiau yr hoffwn i weld rhywfaint mwy o fanylion arnynt yn hynny o beth.

Mae un yn ymwneud â’n targedau carbon, oherwydd yr unig darged sy'n gwbl gadarn ac yn y ddeddfwriaeth yw'r gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050, nad wyf yn credu sy’n sefyllfa gynaliadwy. Bydd hyd yn oed Aelod ieuengaf y Cynulliad, sef Steffan Lewis rwy’n meddwl, yn ystyried ei opsiynau ymddeol erbyn 2050, tra bydd y rhan fwyaf ohonom wedi hen fynd, dan y dywarchen ac yn sicr ddim mewn sefyllfa i fod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ar y pwynt hwnnw, ar y mater gwirioneddol bwysig hwn. Felly, rwyf wir eisiau pwyso ar y Llywodraeth i bennu rhai targedau interim, ac mae'n ymddangos yn briodol y dylid eu pennu ar gyfer 2021, oherwydd dyna raddau llawn ein mandad. Felly, mae angen i ni allu mesur pa mor dda yr ydym yn ei wneud ar hyn.

Fy nealltwriaeth i, o'r targedau a osodwyd yn 2010, yw bod y 3 y cant o leihad mewn allyriadau blynyddol ers 2011 flwyddyn ar ôl blwyddyn yn cael ei fodloni mewn meysydd datganoledig, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys faint o drydan sy'n cael ei ddefnyddio ar draws Cymru gan ein cartrefi a’n busnesau. Byddai'n dda gwybod ein bod ni mewn gwirioneddol yn bodloni’r targed penodol hwnnw, ond pa mor hyderus ydym ni ein bod yn mynd i fodloni’r ail darged oedd yn nogfen 2010, sef gostyngiad o 40 y cant mewn nwyon tŷ gwydr ym mhob sector erbyn 2020 o lefelau 1990? Fy nealltwriaeth i yw ein bod yn disgyn yn fyr iawn o'r targed hwnnw a bod ein hallyriadau wedi codi mewn gwirionedd rhwng 2011 a 2013—ac mae hyn yn bennaf, fel y deallaf, oherwydd newid o nwy i lo mewn cynhyrchu trydan oherwydd newidiadau ym mhrisiau tanwydd y byd. Y cyfan y mae hynny’n ei wneud yw tanlinellu pa mor bwysig yw hi i ni achub ar y cyfleoedd i fanteisio ar ein hadnoddau ynni adnewyddadwy helaeth, i’n diogelu ni yn erbyn y newidiadau bydol hynny mewn prisiau.

Rwy’n meddwl bod pethau hynny yn bethau yr hoffwn i weld llawer mwy o fanylion yn eu cylch, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Credaf fod Brexit yn amlwg yn creu heriau enfawr i ni yn y ffordd yr ydym yn mynd i ddatblygu dyfodol ffyniannus i amaethyddiaeth yng Nghymru. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Senedd yn gynharach heddiw, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gwbl bod y taliadau fferm yr ydym yn elwa arnynt ar hyn o bryd yn mynd i gael eu trosglwyddo o'r Trysorlys ar ôl 2020. Gan fod busnesau fferm yn dibynnu ar y taliadau fferm sylfaenol hynny ar gyfer 80 y cant o'u hincwm, ar gyfartaledd, gallai'r dyfodol yn wir fod yn hynod llwm ar gyfer ein sector amaethyddol.

Nawr, mae'r Brexiteers digyfaddawd, dan arweiniad cyn arweinydd UKIP, yn dweud nad oes angen i ni boeni am hynny, oherwydd gallwn ni fewnforio bwyd o dramor. Fy marn i yw bod honno’n agwedd gwbl drahaus, ac mae ansicrwydd y byd yr ydym yn byw ynddo a chyflymder newid yn yr hinsawdd yn golygu y gall ffynonellau o fwyd yr ydym ar hyn o bryd yn eu mewnforio sychu i fyny, yn llythrennol.

Mae ffigurau diweddaraf DEFRA yn dangos bod y DU yn mewnforio tua 40 y cant o'r bwyd yr ydym yn ei ddefnyddio. Nid wyf yn credu bod honno’n sefyllfa gynaliadwy. Mae naw deg pump y cant o'n ffrwythau yn dod o dramor a hanner ein llysiau yn cael eu mewnforio. Gallem, yn lle hynny, fod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd carbon isel er mwyn hyrwyddo diogelwch bwyd gwell yng Nghymru, a helpu llawer o'n cynhyrchwyr cig ungnwd i arallgyfeirio, gan nad oes gennym sicrwydd y gall y cig eidion a’r cig oen rhagorol a allforir heddiw barhau os byddwn yn gweld tariffau wedi’u gosod o ganlyniad i Brexit llym.

Mae datblygiadau technolegol mewn hydroponeg yn ei gwneud yn gwbl bosibl i fod yn tyfu ffrwythau a llysiau ym mhob rhan o Gymru, gan ddefnyddio hanner y dŵr sy'n ofynnol gan arddwriaeth draddodiadol a haneru'r amser tyfu. Felly, byddwn yn wir yn hoffi gweld mwy o bwyslais ar hynny yn y rhaglen lywodraethu, oherwydd credaf ei fod yn beth arbennig o bwysig, nid yn unig ar gyfer allyriadau carbon ond hefyd o safbwynt iechyd y cyhoedd. Hoffwn i weld sgwrs genedlaethol ar fwyd, oherwydd yn sicr iawn mae’n agenda ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn agenda economaidd ac iechyd.

Wrth ymateb i’r rhaglen lywodraethol a’r rhaglen ddeddfwriaethol, rydw i’n meddwl bod rhaid ategu pa mor anhapus neu anfodlon rwy’n teimlo ar hyn o bryd, gydag ymateb y Llywodraeth i’r sefyllfa sydd wedi deillio o’r penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n meddwl ei bod yn her go iawn, nid yn unig i’r Blaid Lafur ond i’r Senedd gyfan, ac mae’n her go iawn i’r broses ddatganoli. Achos oni bai ein bod ni’n rheoli’r broses yma mewn ffordd sy’n ymddangos yn ddiogel i’r cyhoedd, sy’n dangos bod buddiannau Cymru yn cael eu gosod yn gyntaf, o flaen buddiannau unrhyw blaid sy’n cael ei chynrychioli yn y Senedd hon, rwy’n credu bod pobl yn mynd i golli ffydd yn yr hyn rŷm ni’n gallu ei gyflawni fel Senedd ac fel Llywodraeth.

Mae’r ffaith bod y Llywodraeth, fel dywedodd Leanne Wood, ar ôl oedi dros yr haf er mwyn cyhoeddi rhaglen lywodraethol er mwyn delio â’r ffaith ein bod yn tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, wedyn yn cynhyrchu dogfen mor dila ac mor denau yn siomedig. Mae’n amlwg bod y Llywodraeth am osgoi unrhyw ymgais, fel yn yr un flaenorol, mae’n rhaid bod yn onest, i osod targedau pendant iawn a allai gael eu defnyddio’n wleidyddol yn eu herbyn nhw. Mae’n bosib eu bod nhw’n gwneud hynny oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n ansicr, yn deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rydw i’n meddwl ei bod hi’n siomedig, serch hynny, nad yw effaith hynny yn llwyr wedi’i hadlewyrchu yn y ddogfen. Mae yna nifer o bethau, fel y dywedodd Leanne Wood, y byddwn i’n dymuno gweld y Llywodraeth yn ymateb yn llawer mwy positif iddyn nhw wrth fynd ymlaen.

I just want to ask a couple of key questions as well around the few facts and figures that are in this programme for government and what they actually mean. There’s a commitment to an investment of £100 million to drive up school standards, but it’s not clear whether this is an extra £100 million, or includes the already increasing pupil deprivation grant, and whether the cost of reducing infant class sizes, which is also a commitment, has been taken into account.

We are still to see more detail on the Government’s own proposals for a national infrastructure commission for Wales. Plaid Cymru launched our proposals yesterday. And I think the people of Wales—. If we’re not going to have a Welsh Development Agency for the twenty-first century—that doesn’t seem to find favour with this Government, but I think the people of Wales, nevertheless, do expect new and innovative ways of supporting business in order to meet the challenges of Brexit and the challenges that we face.

I think it’s a very thin programme for government on the environment. I would agree with what Jenny Rathbone has said, and I think losing sight of that 2020 target, even though we were going to miss it anyway, does mean that we’ve lost sight of aligning Government together with the environment Act and the future generations Act to really bear down on our greenhouse gas emissions, and really work to enhance biodiversity and local ecosystem services as well. There’s an opportunity, of course, with the decision to withdraw from the European Union, to align our agriculture and agri-environment schemes together, to get rid of some false distinctions that inevitably emerge when you’re dealing with a 28-country model, and to have something that’s more tailored for Wales. But in order to have that, we must be absolutely sure that we get two things from the Westminster Government. The first is that any environmental and fisheries legislation is transferred in the great repeal Act, which doesn’t seem to be repealing anything at the moment—but it is transferred to Wales, where appropriate, and we don’t see any land grabs from the Westminster Government on that. The second element, which I think we debated earlier today, is that we don’t see any fiscal grabs on the money that Wales has deserved and Wales should have as a result of the return of the contribution of the UK Government to the European Union. Because, as we know, our farming sector, which is the sector that protects our environment, and spends in our local economies, is responsible for something like nearly 10 per cent of the CAP expenditure of the United Kingdom. A Barnettised equivalent of that would be around 5 per cent, and we’d lose out enormously.

Having said that we support the legislative programme, I think there are two or three things that are missing here. Plaid Cymru’s very interested in using the new powers we get in the Wales Act to do a lot more as regards reducing waste: a ban on styrofoam, for example, which the French are doing; a ban on plastic forks; a tax on coffee cups. You name it, we can look at it now—we have innovative policies. I’m particularly interested that we should be at least piloting in this next Assembly a deposit-return scheme for Wales, and I really want us to get to a position where, instead of all the complaints, if you like, that we have sometimes with domestic waste, we turn to those who give us the waste in our system—those who sell us food and the products that we really need. It should not be the case in the long term, should it, that you can buy from a shop in Wales any item that is wrapped in something that cannot be recycled in Wales? That simply shouldn’t happen—with one or two rather extreme exceptions possibly. So, I think we really need to close that circle.

The other two Acts, if I can briefly mention them, that we’d be interested in bringing forward: one is an autism Act, and we’ll obviously support the additional learning needs Bill as it goes forward, but we’re looking at a wider autism Act over the period of this Assembly as well. And the final one, which of course has to be in a cross-party and parliamentary way, but is very much on the agenda for Plaid Cymru, is a Bill to deal with reasonable chastisement, as it’s termed—I prefer to say the equal treatment of children before the law, and we certainly will be holding the Government to account to ensure that the Assembly gets to vote on such a proposal in the next four years.

Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn agor drwy fynd i'r afael ag anghenion Cymru ffyniannus a diogel. Her ganolog y pum mlynedd nesaf ar gyfer y Llywodraeth hon yw'r dasg o greu polisi economaidd newydd sy'n gweithio i Gymru yn y byd newydd yr ydym yn canfod ein hunain ynddo. Rydym yn ceisio llywio ein ffordd ar hyn o bryd trwy ddyfroedd dieithr. Nid ydym yn gwybod eto, unrhyw un ohonom, beth fydd Brexit yn ei olygu i fasnach, i fewnfudo, i swyddi. Ac yn amlwg bydd set o drafodaethau cymhleth iawn yn dylanwadu ar y math o berthynas sydd gennym ni â'r UE, ac, afraid dweud, mae sicrhau’r canlyniad cywir i Gymru yn hanfodol.

Ond mae mwy yn y fantol hyd yn oed na'r union setliad y mae Cymru yn ei gyflawni o ganlyniad i'r trafodaethau hynny. Yr her sylfaenol i ni yn awr yw gwneud i globaleiddio weithio ar gyfer y cymunedau sydd wedi’u siomi cymaint gan effeithiau’r union beth hynny. Ac ni all yr ateb i hynny fod i gau ein drysau a gobeithio y bydd yr heriau a wynebwn, marchnadoedd byd-eang, effeithiau technoleg a symudiad pobl o gwmpas y byd rywsut yn pasio heibio i ni, oherwydd ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, rwy'n falch o weld, yn y rhaglen lywodraethu ac yn natganiadau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Prif Weinidog, ymrwymiad clir i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru, ac i agor marchnadoedd allforio i gwmnïau o Gymru. Mae angen hefyd adeiladu gwydnwch ein heconomi domestig, er mwyn rhoi ar waith, i'r graddau y gall unrhyw Lywodraeth, yr amodau sy'n galluogi i’n cwmnïau bach ddod yn gwmnïau cadarn, canolig eu maint, i'w helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol ac i gefnogi eu marchnad lafur leol.

Felly, unwaith eto, rwy’n croesawu'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ar gyfer y cynllun cyflymu busnes a banc datblygu Cymru. Rwy’n croesawu'r ymrwymiad i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi manteision cymunedol. Ond byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth hefyd i beidio â cholli golwg ar y twf mewn hunangyflogaeth a microfusnesau, a fydd yn nodwedd gynyddol o'n heconomi, hyd yn oed tu hwnt i'r hyn ydyw heddiw, ac i weithredu’r ymyriadau polisi sydd eu hangen arnom i gefnogi hynny hefyd.

Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’i chlywed gan y Llywodraeth, gan y Gweinidog sgiliau ac eraill, bod yn rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi'i gyflawni wrth gael swyddi i bobl, gan ganolbwyntio yn awr ar gefnogi pobl i ddatblygu o fewn y gweithle. Man cychwyn yw cael swydd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr y gall y rheiny sydd mewn cyflogaeth ddatblygu, meithrin mwy o sgiliau ac ennill mwy. Ac rwy’n falch o weld bod polisïau yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â’r rhai yn ein cymunedau sydd bellaf oddi wrth y gweithle i mewn i waith. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant gyda’n polisïau cymorth cyflogaeth, ond mae'n iawn ein bod ni’n dal i herio ein hunain i sicrhau bod y cymorth a ddarparwn yn diwallu anghenion newidiol ein heconomi a’n gweithlu.

Mae angen i ni feddwl yn eang am sut beth yw swydd dda. Mae swydd dda yn un sy'n cefnogi pobl i fyw a gweithio yn eu cymuned, os mai dyna beth y maent ei eisiau, i ofalu am eu teuluoedd ac i fod yn aelodau sy’n chwarae rhan lawn mewn cymuned wydn. Mae'r rhain hefyd yn agweddau hanfodol ar gymdeithas dda. Felly, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi prosiectau a gyflwynir ar lefel gymunedol, prosiectau i hyrwyddo datblygu sgiliau, creu swyddi, entrepreneuriaeth, ynni cymunedol, cludiant gwledig a mynediad at fand eang. A gadewch i ni beidio ag anghofio y gall ein partneriaid yn y sector gwirfoddol fod yn gynghreiriaid ar gyfer creu'r math o gymunedau yr ydym yn dymuno eu cael, sef cymunedau gwydn, wedi’u hadfywio. Felly, bydd hynny’n golygu her ac ymrwymiad ar y ddwy ochr.

Un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw yw sut i ailgynllunio'r gefnogaeth a roddwn i gymunedau difreintiedig pan na fyddwn mwyach yn cael mynediad at gronfeydd strwythurol. Mae'n ddyddiau cynnar iawn ar y ar hyn o bryd, wrth gwrs, ond bydd angen system o gymorth arnom ni sy'n hyblyg, nid yn anhyblyg, sy’n rhan o strategaeth ar gyfer Cymru gyfan gyda blaenoriaethau clir ond wedi’u teilwra’n ddeallus i anghenion lleol hefyd.

Felly, yn olaf, croesawaf gydnabyddiaeth y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu y bydd ein huchelgeisiau yn cael eu ffurfio gan yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n rhestru cyni parhaus, ymadawiad y DU o'r UE, globaleiddio, arloesi technolegol, newid yn yr hinsawdd a phoblogaeth sy'n heneiddio—i gyd yn wir, a byddwn yn ychwanegu at yr her honno, yr her o gynnwys y cyhoedd yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud. Mae honno’n her fawr, ond rydym yn genedl fach a dyna sut y dylem fod yn mynd o gwmpas ein holl waith. Felly, rwy'n falch bod mentrau megis tasglu’r Cymoedd wedi rhoi’r nod o ymgysylltu â chymunedau yn rhan greiddiol o’u gwaith mewn ffordd sylfaenol iawn. Gobeithiaf mai hwn fydd yr egwyddor ar gyfer sut yr ydym yn cyflwyno'r rhaglen lywodraethu hon yn gyffredinol.

I mi, mae’r rhan bwysicaf o'r ddogfen hon mewn gwirionedd ar y dudalen olaf, a’r paragraff 'Bwrw ati i Gyflawni’. Nawr, rwy’n gwybod bod Aelodau eraill, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wedi beirniadu hyd y ddogfen hon, ond, i fod yn onest, byddai'n well gen i weld ychydig o dargedau yn cael eu bodloni na llawer o dargedau yn cael eu colli. Felly, mae cyflwyno yn allweddol yma— [Torri ar draws.] Bendith. [Chwerthin.]

Rydym yn gwybod yn awr bod yr uned gyflenwi wedi mynd i ddifancoll, neu, o leiaf, wedi trawsffurfio i ffurf aneglur newydd nad ydym yn ymwybodol ohono eto. Nid wyf yn poeni’n arbennig am hynny—cafodd ei feirniadu ddigon gennym—ond wrth gwrs, mae angen i ni weld mecanweithiau newydd ar waith i sicrhau bod darpariaeth yn digwydd. Ac, wrth gwrs, mae angen canolbwynt di-baid ar ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. Byddech chi wedi gobeithio y byddai hynny wedi bod yno beth bynnag ac y byddai’n amlwg, ond yna nid yw pethau bob amser mor amlwg ag y byddai pobl yn ei feddwl. Ond rwy'n credu, yn sicr, bod y canolbwyntio ar ysgogi gwelliant yn allweddol.

Rwy'n meddwl mai’r pryder sydd gennym yn y fan hon yw ein bod yn amlwg wedi bod yn aros am amser hir i’r cyflawni ddechrau mewn nifer o feysydd. Nid ydym wedi bod yn dal ein hanadl, yn sicr nid ar yr ochr hon i'r Siambr. Gadewch imi fod yn glir, ceir cynigion yn hwn, Brif Weinidog, sydd â photensial gwirioneddol: banc datblygu, ar ba bynnag ffurf y byddwch yn penderfynu—yn sicr mae gan fanc datblygu lawer o botensial, hyd yn oed yn fwy pwysig gyda chanlyniadau'r refferendwm y mae Aelodau eraill wedi’u crybwyll, a'r angen i gefnogi seilwaith a'r economi; gwelliant mewn caffael yn y sector cyhoeddus —wel, nid yw hynny'n rhywbeth y byddech yn dadlau ag ef: rydym ni i gyd wedi cynnal dadleuon dros yr ychydig fisoedd diwethaf lle rydym wedi siarad am yr angen i wella caffael ar draws Cymru; ac, wrth gwrs, datblygiad y metro, ac, ydi, mae datblygiad metro’r gogledd yn sicr yn uchelgais. Ond rwy'n credu bod angen i ni ar hyn o bryd ganolbwyntio ein hadnoddau a’n meddyliau ar gael metro de Cymru i gychwyn yn dda a pheidio â chaniatáu i gymryd cam yn ôl.

Felly, mae nifer o elfennau a fydd yn denu cefnogaeth drawsbleidiol, ond y cwestiwn yw: a all y cyhoedd fod yn hyderus, dros y pum mlynedd nesaf, y byddant mewn gwirionedd yn gweld y pethau hyn yn cael eu cyflawni a, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud adroddiad ar hyn i gyd ar ddiwedd y pumed Cynulliad, y bydd uchelgeisiau’r ddogfen hon, os gall rhywun eu galw yn hynny, wedi eu gwireddu? Nid wyf yn credu bod pendantrwydd ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

Os caf i droi at ran arall o'r ddadl hon, y rhaglen ddeddfwriaethol, wedi’i chyfuno â’r rhaglen lywodraethu am y tro cyntaf—rydych wedi arbed UKIP rhag gwrthod cymryd rhan mewn o leiaf un drafodaeth. [Chwerthin.] Gwnaethoch nodi yn eich datganiad ar 27 Medi bod y mater o drethiant yn allweddol, ac rydych yn iawn i wneud hynny. Yn benodol, soniasoch yn eich datganiad am y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi ac mae hyn yn wir yn dir newydd iawn ar gyfer y sefydliad hwn. Mae'r rhain yn feysydd y mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn benodol arnynt ar hyn o bryd, a bydd pwyllgorau eraill yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn amlwg yn waith ar y gweill, ond mae'n amlwg i bob un ohonom ei bod yn hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Mae hyn yn dir newydd: y tro cyntaf y mae Cymru wedi codi ei threthi ei hun mewn 800 mlynedd—credaf mai dyna’r ffigur a grybwyllwyd gan y Prif Weinidog. Nid yw’r cyhoedd ond yn dechrau dod yn ymwybodol o'r datblygiad hwn ac mae'n rhywbeth y byddant yn awyddus i gael hyder ynddo wrth i'r broses fynd yn ei blaen.

Nid oedd y rhaglen lywodraethu yn dweud llawer am y ffordd y gellir defnyddio trethi newydd i ysgogi'r economi. Rwy'n siŵr mai dyna’r syniad y tu ôl iddynt. Soniodd Simon Thomas am hyn yn ei sylwadau cynharach. Felly, mae'n un peth i ddatganoli trethi, ond mae angen i ni gael ychydig mwy o gig ar yr esgyrn o ran sut y mae trethi yn mynd i gael eu defnyddio i ysgogi'r economi. Rwy’n credu bod ychydig bach yn y rhaglen am y defnydd o, o leiaf yr wyf yn tybio ei fod, ardrethi busnes a chael trefn drethu decach ar gyfer cwmnïau, ond nid yw'n glir. Felly, rydym yn edrych ymlaen at fwy o eglurder ar hynny.

Mae hon yn ddadl sy'n ymuno â'r rhaglen lywodraethu a’r datganiad deddfwriaethol, Brif Weinidog. Mae’n rhaid i mi ddweud, er bod honno’n nod aruchel, nid yw'n ymddangos i mi bod y ddau yn gweithio yn gyfan gwbl efo’i gilydd ar hyn o bryd. Rydym yn aml yn sôn am yr angen i gysylltu canlyniadau â'r egni yr ydym yn ei roi i mewn ar y dechrau, ac rwy'n credu bod rhai bylchau o hyd o ran sut y bydd rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn cyd-fynd â'r hyn y mae rhaglen y llywodraeth yn ei ddatgan a'r canlyniadau hynny yr ydych wedi’u datgan. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn waith ar y gweill, Brif Weinidog. I gloi, ceir rhai syniadau da, dim digon cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, ond gadewch i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd yno yn digwydd a'n bod yn gweld y gwelliannau i'r economi a’r gwasanaethau cyhoeddus erbyn diwedd 20 mlynedd—sef ymhen dwy flynedd—o ddatganoli y byddem i gyd yn dymuno eu gweld.

Brif Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi bod yn eithaf clir bod gweithrediad effeithiol y Deddfau a basiwyd yn y Cynulliad diwethaf, yn ogystal â datblygu deddfwriaeth newydd yn nhymor y Cynulliad hwn ymysg y blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn wir, blaenoriaethau deddfwriaethol. Rwy’n meddwl, ym marn llawer o bobl, mai un o prif ddarnau o ddeddfwriaeth y Cynulliad diwethaf oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae llawer iawn o ddisgwyliad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno—ac yn gwbl haeddiannol, rwy’n credu—oherwydd ein bod ni i gyd yn cytuno, neu bron bob un ohonom yn cytuno, y gallai ac y dylai fod yn drawsffurfiol o ran meddwl am ddatblygu cynaliadwy a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r egwyddorion hynny ac yn trawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yng Nghymru.

Felly, mae llawer iawn o ddiddordeb yn y Ddeddf a sut y bydd y Ddeddf yn cael ei datblygu. Rwy’n meddwl, yn amlwg, y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod ychydig yn amyneddgar i weld sut y mae hynny'n mynd rhagddo, ond nid yn rhy amyneddgar, efallai. Mae rhywfaint o'r diddordeb ymhlith cyrff allanol ar hyn o bryd ynghylch gofynion y Ddeddf o safbwynt Llywodraeth Cymru a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion o dan y ddeddfwriaeth, o ran cyhoeddi'r amcanion lles a’r datganiad yn esbonio sut y maent yn cysylltu â'r nodau, ac, yn wir, sut y mae'r rhaglen lywodraethu, y gyllideb, y pedair strategaeth i ddatblygu’r rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, Brif Weinidog, ynghyd â'r amcanion a datganiadau lles hynny, sut y bydd pob un o'r rheiny yn cysylltu â'i gilydd, fel y bydd pawb yng Nghymru a thu hwnt yn gallu bod yn gwbl glir ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth ohoni, a hynny mewn modd amserol. Felly, byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch hynny, Brif Weinidog.

Y ddeddfwriaeth arall yr hoffwn i sôn amdani yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oedd unwaith eto, rwy’n meddwl, â phroffil haeddiannol o uchel o ran y Deddfau a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn ar gyfer iechyd, ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer trafnidiaeth integredig, yr economi ac, yn wir, ansawdd bywyd yn gyffredinol. Felly, mae sut y bydd awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'u dyletswyddau o ran y mapiau llwybrau presennol a’r mapiau llwybrau integredig, hybu teithio llesol, gwelliant parhaus, a sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i greu'r seilwaith a’r llwybrau beicio llawer gwell a fydd yn wir yn gyrru newid moddol mewn ymddygiad pobl, rwy’n meddwl, yn gwbl hanfodol. Felly, pe gallech ddweud ychydig, Brif Weinidog, wrth ymateb, am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu'n effeithiol, rwy'n credu, unwaith eto, y byddai llawer iawn o ddiddordeb y tu hwnt i’r Siambr hon yn hynny.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am y ffordd y mae'r ddadl wedi symud ymlaen heddiw? Roedd llawer o gwestiynau, wrth gwrs, a bydd llawer ohonynt yn cael eu hateb yn ystod tymor y Llywodraeth hon yn y swydd.

A gaf i ddechrau gyda Brexit? Realiti'r sefyllfa yw nad oes neb yn gwybod sut y bydd y model yn edrych; mae'n anodd cynllunio heb wybod beth y gallai'r meini prawf fod. I mi, mae'n gwbl hanfodol nad oes unrhyw dariffau sy'n ymwneud â thelerau masnach rhwng y DU a'r UE. Os oes tariffau, yna bydd y sefyllfa yn anodd iawn; does dim dianc rhag hynny, ac nid yw er lles Cymru i hynny ddigwydd. Heb dariffau, rwy’n credu y gallwn barhau i gynnal ein sefyllfa a dweud bod Cymru yn lle i fuddsoddi ynddi oherwydd ei bod yn darparu porth i'r farchnad Ewropeaidd. Y realiti yw nad yw’r Alban mewn sefyllfa ddim gwahanol—nid yw wedi mynd ddim pellach nag yr ydym ni—ond mae teilyngdod, fodd bynnag, rwy’n credu, i ni, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gibraltar ac Ynys Manaw—am ei bod yn colli ei hundeb tollau â'r UE—chwilio am dir cyffredin a defnyddio'r tir cyffredin hwnnw i ddatblygu safbwynt i’w chymryd gyda Llywodraeth y DU, wrth i Lywodraeth y DU edrych ar Brexit. Ni welaf unrhyw anhawster o wneud hynny mewn egwyddor.

Gallaf ddweud fy mod yn croesawu rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud heddiw, sef darparu mwy o eglurder o ran cyllid Ewropeaidd. Cyhoeddodd y Canghellor ddoe bod prosiectau a ariennir gan Ewrop a lofnodwyd ar ôl datganiad yr hydref, ond cyn i'r DU adael yr UE, yn parhau i gael eu hariannu—cam ymhellach nag oedd yn wir o'r blaen. Ac rydym wedi cael cadarnhad heddiw nad oes unrhyw gwestiwn bod Llywodraeth y DU yn cael unrhyw reolaeth dros gyllid Ewropeaidd yng Nghymru, yn unol â'r setliad datganoli, ac rwy’n dyfynnu:

‘Mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu ar yr amodau a ddefnyddir i asesu prosiectau o fewn eich cymhwysedd datganoledig.’

Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi symud oddi wrth unrhyw awgrym y dylai reoli cyllid Ewropeaidd yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cymryd sylw o hynny, oherwydd gwn fod ei safbwynt wedi bod yn wahanol iawn i'r un yr wyf i newydd ei hamlinellu gan y Trysorlys. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn a ddywed yn y 24 awr nesaf ar hynny.

Mae'n sôn am TB buchol. Bydd hynny'n fater y byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag ef. Rydym yn gwybod bod hynny'n flaenoriaeth i ffermwyr yng Nghymru, a gwyddom fod nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu profi wedi cynyddu. O ganlyniad, mae mwy o TB yn cael ei ganfod, ond nid yw’r clefyd yn sicr, mor gyffredin ag yr oedd unwaith.

O ran tai fforddiadwy, byddwn yn mynd ati mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i gyflawni o ran tai fforddiadwy. Bydd rhai ohonynt yn dai cymdeithasol—mae hynny'n wir—ond fe fydd yna bobl sydd eisiau prynu tai ac mae amryw o wahanol fodelau y gellir eu defnyddio ar gyfer hynny. Gwyddom, mewn rhai rhannau o Gymru wledig, nad yw'r ffaith bod pob tŷ ar y farchnad agored o fudd i bobl leol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo.

Mae'r SCCC wedi ei godi. Bydd y Gweinidog yn edrych i fynd i'r afael â hynny yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, gan wneud penderfyniad o leiaf erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

O ran targedau addysg, rydym yn gweld—

Rwy'n ddiolchgar i chi am roi eglurder y bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud datganiad a gobeithio yn rhoi eglurder ar ganolfan gofal critigol erbyn diwedd y flwyddyn hon. Ond, ai eich gobaith chi fyddai y bydd y gwaith adeiladu, o leiaf, wedi dechrau ar y ganolfan gofal critigol erbyn 2021, diwedd eich mandad, neu a allwch chi weld problemau gwirioneddol wrth symud ymlaen ar y mater penodol hwnnw?

Mae'r achos busnes yn dal i gael ei asesu, ond rydym yn deall bod angen moderneiddio ac uwchraddio cyfleusterau yng Ngwent, yn ardal Aneurin Bevan. Mae hynny'n rhywbeth y mae’r Gweinidog yn gwbl ymwybodol ohono, ond mae angen gwneud yn siŵr bod y prosiect, wrth gwrs, yn gadarn o safbwynt ariannol, y gall symud ymlaen, a sicrhau bod yr amgylchiadau yn bodoli lle y gall hynny ddigwydd. Dyna'r amcan.

O ran addysg, rydym yn gweld mwy a mwy o welliannau mewn TGAU. Soniodd am Lefel O; dwi'n synnu ei fod yn gallu eu cofio nhw—rwyf innau’n eu cofio, rwy’n gwybod hynny. Rydym yn hapus â'r ffordd y mae canlyniadau TGAU yn gwella ledled Cymru; rydym yn disgwyl i hynny barhau. Mae'n sôn am fanylion; os ydych chi’n dymuno gweld manylion, edrychwch ar ein maniffesto. Yn hwnnw fe welwch yr awgrymiadau yr ydym wedi’u rhoi gerbron pobl Cymru, a byddwn yn cadw atynt.

O ran yr hyn a ddywedwyd gan ddau siaradwr Plaid Cymru—mae amser yn brin gallaf weld, Lywydd. Wel, rydym yn gwybod ei fod yn hynod o bwysig: mae hi a minnau ar union yr un dudalen ac nid ydym yn dymuno gweld pwerau yn cael eu dwyn ymaith o'r lle hwn a’u cymryd i San Steffan. Nid ydym yn gweld hynny yn awr gyda chyllid Ewropeaidd a chroesawaf hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinydd yr wrthblaid ar gynigion deddfwriaethol. Rydym yn gwbl ymwybodol, o ystyried rhifyddeg y lle hwn, bod yn rhaid i unrhyw gynigion gael cefnogaeth ar draws y Siambr, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar hynny.

O ran rhai o'r materion a gododd Simon Thomas, mae dau fater yno i fynd i'r afael â nhw yn gyflym iawn. O ran comisiwn seilwaith cenedlaethol, bydd yn gwybod fy mod yn gwrthwynebu cwangos. Mae'n arbennig o anodd, rwy’n meddwl, i wario degau o filiynau ar gwangos pan ellid defnyddio’r arian hwnnw yn well mewn mannau eraill. Mae angen archwilio hynny’n ofalus iawn, iawn. Hefyd, wrth gwrs, gwelais y cynigion heddiw a gyflwynwyd—fe’u darllenais gyda diddordeb—gan Adam Price, ond byddai'n golygu ymrwymiad refeniw o £700 miliwn y flwyddyn o gyllideb refeniw'r Cynulliad, sy'n swm nid ansylweddol pe byddai’r cynigion hynny yn cael eu dwyn ymlaen.

Ar wastraff, mae hyn yn broblem go iawn. Gellir ymdrin â sgil-gynhyrchion gwastraff gan eu bod yng Nghymru, ond o ran pecynnu, wrth gwrs, sut ydych chi'n monitro hynny? Gallwch ei wneud mewn siopau. Mae'n fwy anodd o lawer pan fod pobl yn prynu pethau o dramor. Felly, rwy’n cytuno ag ef bod lleihau gwastraff fel y mae’n cyrraedd Cymru yn fater eithriadol o bwysig, ond mae delio ag ef wedi bod yn fwy anodd. Wrth gwrs, unwaith y mae yma’n barod, rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rydym wedi gweld ein ffigyrau ailgylchu yn gwella. Clywais yr hyn a ddywedodd am y Ddeddf awtistiaeth a symud ymlaen o ran cosb resymol.

Os gallaf droi at yr hyn a ddywedodd fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone. Mae lleihau allyriadau yn bwysig i ni. Rwyf eisoes wedi crybwyll y targed erbyn 2050. Rwyf yn gobeithio bod yma. Ddim yn y swydd hon—fe glywsoch chi hynny yma gyntaf—ond yn sicr yn fyw yn 2050. Felly, mae'n debyg, ar y pwynt hwnnw, y gofynnir fy marn arno, yn ddiau, os ydw i'n gallu rhoi barn o'r fath. O ran bwyd, ni fydd Prydain byth yn hunangynhaliol o ran bwyd. Dysgodd y rhyfel hynny i ni. Mae pum deg pedwar y cant o'r bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael ei gynhyrchu yn y DU. Oherwydd ein topograffi a lle rydym yn byw ar y byd, nid yw'n bosibl cynhyrchu llawer o lysiau a ffrwythau heb ddefnyddio rhai dulliau eithaf dwys o ran ynni. Mae'n wir bod Gwlad yr Iâ yn cynhyrchu tomatos—mae ganddi ynni geothermol. Pe byddem ni’n mynd i lawr yr un llwybr, byddai llawer o ynni yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r ffrwythau a’r llysiau hynny. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar sut y mae hynny’n cyd-fynd â’r angen i leihau allyriadau yn fyd-eang.

Yn gyflym iawn, iawn, oherwydd gallaf weld bod yr amser yn rhedeg allan. Clywais yr hyn a oedd gan Nick Ramsay i'w ddweud. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth gwrs bod heriau wrth roi deddfwriaeth trethiant cadarn ar waith a honno hefyd yn ddeddfwriaeth deg. Rydym yn barod am y dasg honno. Mae'n drueni mawr nad yw’r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli. Nid wyf yn dal i ddeall pam y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei gweld yn dda i amddiffyn buddiannau meysydd awyr y tu allan i Gymru ac nid maes awyr yn ei etholaeth ei hun, dyna eironi mawr. Nid oes dim rheswm wedi ei roi ynghylch pam na ddylai’r doll teithwyr awyr gael ei datganoli, heblaw am y ffaith ei bod wedi cael ei rhoi i'r Alban, a oedd yn gamgymeriad ac felly ni ddylai Cymru ei chael. Dyna lefel y ddadl a gawsom yn y cyswllt hwnnw.

Yn olaf, fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths. Mae'n hollol wir; rydym yn symud ymlaen yr hydref hwn gan ddatblygu nodau ymhellach o ran rhoi mwy o gig ar yr esgyrn—rydym yn deall hynny. Mae'r Ddeddf teithio llesol yn hanfodol bwysig. Fel un a oedd ar ffordd genedlaethol 4 ddydd Sul, ar fy meic fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i wneud yn siŵr bod beicio yn cael ei weld fwyfwy fel dull o deithio yn ogystal ag fel ffurf o hamdden iach. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i’n hawdurdodau lleol, wrth fynd i'r afael â'r Ddeddf teithio llesol, sicrhau bod mwy o lwybrau beicio a llwybrau beicio mwy diogel ar gael fel y gall pobl deithio i'r gwaith. Rydym yn gwybod bod llawer iawn o feicwyr achlysurol nad ydynt am gymysgu â cheir ar y ffyrdd, ac mae angen iddynt gael y cyfleusterau i’w gwahanu oddi wrth geir er mwyn iddynt gael teithio i’r gwaith yn ddiogel.

Rwyf dros saith munud, Lywydd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r materion a godwyd. Wrth gwrs, rwy’n llwyr ddeall, gyda'r rhaglen wedi ei rhoi gerbron y Cynulliad, ei fod yn fater i ni fel Llywodraeth i’w chyflawni.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. [Torri ar draws.]

Oh, I didn’t hear. It was heard, was it? Yes. It was heard by others, not by me. So, consider it heard.

Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Rŷm ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwyf yn symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

12. 9. Cyfnod Pleidleisio

Rwy’n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant yn cael ei wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 22, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, yn ymatal neb, 39 yn erbyn, ac felly mae’r gwelliant yn cael ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 11, Yn erbyn 39, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw nawr ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, yn ymatal neb, yn erbyn 29, ac felly mae’r gwelliant yn cael ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 3: O blaid 22, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, yn ymatal neb, 29 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 yn cael ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 4: O blaid 22, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 22, yn ymatal neb, yn erbyn 29, ac felly mae gwelliant 5 yn cael ei wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 5: O blaid 22, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 6 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 6: O blaid 51, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6107.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6107 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae’r cynnig fel y’i diwygiwyd wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6107 fel y’i diwygiwyd: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6107 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.