Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/07/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ac mae’r cwestiwn cyntaf yn enw Jeremy Miles.

Cymru Greadigol

1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Cymru Greadigol? OAQ(5)0035(EI)

Member
Ken Skates 13:30:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Diolch. Mae gwaith ar y gweill i sefydlu Cymru Greadigol, corff a fydd yn cefnogi talent cartref yn y diwydiannau creadigol. Mae stori lwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn un yr ydym am ei datblygu, ac rydym yn sefydlu’r corff newydd hwn i hyrwyddo twf pellach yn y sector.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r diwydiannau creadigol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn economi Cymru ac mae wedi gweld cynnydd aruthrol mewn cyflogaeth. A wnaiff nodi a yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o effeithio ar ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’w chronfa fuddsoddi yn y cyfryngau a chymhellion cynhyrchu eraill, ac os felly, sut? Ac a wnaiff ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i asesu effaith gadael yr UE ar gytundebau cydgynhyrchu ffilm a theledu sy’n caniatáu i gynhyrchydd o wlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd gael mynediad at gymhellion cynhyrchu yng ngwledydd eraill yr UE, a rhoi trefniadau ar waith i osgoi colli’r cyfle hwnnw i economi Cymru?

Gwnaf, byddaf yn sicr yn gwneud hynny. Ac ni fydd ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i’r gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau, ac i Pinewood, rwy’n falch o ddweud, yn cael eu heffeithio gan ganlyniad refferendwm yr UE. Nawr, mae fy nhîm Ewrop Greadigol eisoes mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r cwmnïau cynhyrchu mawr i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a lleihau’r heriau y mae gadael yr UE yn eu creu. Mae Cymru wedi targedu cwmnïau cynhyrchu Americanaidd, ac mae angen i ni leihau effaith gadael yr UE ar lif doniau rhyngwladol. Ond hefyd, mae angen i ni fanteisio ar werth cryf y ddoler yn erbyn y bunt.

Ysgrifennydd y Cabinet, gall y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol weithredu fel ysgogiad pwysig i feddwl yn wahanol ynglŷn â datrys problemau yn ein cymunedau, ac mae’r rhaglen Celf Ar Draws y Ddinas LOCWS yn Abertawe yn enghraifft berffaith o adfywio. Sut y mae Cymru Greadigol yn helpu i fodloni’r amcanion a ddiffinnir yn adroddiad Kay Andrews, yn enwedig o ran dod â phobl greadigol, cyrff cyhoeddus, a chymunedau, yn agosach at ei gilydd i fynd i’r afael ag ystod o broblemau economaidd-gymdeithasol? Ac a ellid ei ddefnyddio i dreialu Celf ar Bresgripsiwn, er enghraifft?

Gellid, yn hollol, ac roedd maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys addewid i wneud yn union hynny, drwy gyfrwng presgripsiwn cymdeithasol, ochr yn ochr â sefydlu bond lles Cymru sy’n ceisio sicrhau cyllid i’r gweithgareddau sy’n atal afiechyd ac yn helpu i drin pobl sy’n dioddef o fathau arbennig o ysgafn o afiechyd meddwl. Nawr, o ran y prosiectau arloesi a’r gwaith y mae’r Aelod yn cyfeirio ato sy’n cael ei argymell gan y Farwnes Kay Andrews, ar ffurf yr ardaloedd arloesi a’r prosiect Cyfuno, rwy’n credu bod cysylltiad naturiol rhwng y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau, nid yn unig yma yng Nghymru, ond mae gennym enghreifftiau da ar hyd a lled Ewrop o sut y maent yn cysylltu ac yn plethu i’w gilydd. Ac rwy’n credu eu bod yn elwa’n llawn, ar y cyd, o’r dull o’u datblygu ac o greu Cymru Greadigol.

Nawr, mae fy llythyr cylch gwaith presennol i Gyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod perthynas symbiotig y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn llawn, ac mae’n ymrwymo Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu’r maes hwn gyda’i gilydd. Rwyf hefyd yn falch o allu rhoi gwybod i’r Aelod fod gan Dr Phil George, Cadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, gefndir yn y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau, ac mae mewn sefyllfa dda, rwy’n credu, i hyrwyddo’r agenda hon ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r corff newydd, Cymru Greadigol.

Prosiectau Twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cymorth ariannol sydd ar gael i brosiectau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0027(EI)

Gwnaf. Rydym yn gweithredu tri phrif gynllun i gefnogi prosiectau twristiaeth: y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, a elwir hefyd yn TISS; y gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol; a chronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Mae’r rhain yn gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu ceisio cael mynediad at wahanol ffrydiau cyllid sydd ar gael gan yr UE i gefnogi twristiaeth yng Nghymru.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r prosiect canolfan dreftadaeth ar gyfer canolbarth Cymru yn brosiect cyffrous newydd yn y Drenewydd, sy’n anelu i greu hunaniaeth brand ar gyfer canolbarth Cymru, drwy fanteisio ar dechnoleg ddigidol a hyrwyddo ein diwylliant, gan gynnwys rhoi teyrnged i’r diwygiwr cymdeithasol eiconig enwog, Robert Owen, o’r Drenewydd. Nawr, maent hefyd wedi hyrwyddo’r prosiect gyda Croeso Cymru, fel rhan o ymgyrch farchnata 2017, Blwyddyn y Chwedlau. A wnewch chi ymuno â mi a dangos eich cefnogaeth i’r prosiect hwn, ac amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn benodol i gael cyllid i’r prosiect hwn yn y Drenewydd?

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at brosiect ardderchog ac mae’n cyd-fynd yn dda gyda’r prosiect y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni drwy Croeso Cymru i hyrwyddo ein treftadaeth. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r safleoedd Cadw a gafodd eu goleuo’n goch yn ystod y bencampwriaeth Ewropeaidd yn ddiweddar, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod treftadaeth wrth wraidd ein cynnig i ymwelwyr â Chymru. O ran y cyllid a allai fod ar gael, mae’n gwbl bosibl, o ystyried y cysylltiad cryf â Blwyddyn y Chwedlau—ac ni fyddwn am ragfarnu unrhyw gais—y byddent yn dymuno gwneud cais yn ystod cylch ariannu’r flwyddyn nesaf, yn ystod 2017, am grant drwy’r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Rwyf wedi dweud yn eithaf clir wrth ymgeiswyr y byddwn yn hoffi gweld llawer mwy o arloesedd a chreadigrwydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf ceisiadau am y math hwnnw o gyllid, a byddwn yn croesawu un gan y sefydliad y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn fawr iawn.

Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn hefyd mewn gwirionedd, ond gadewch i mi ddweud fy mhwt beth bynnag. Byddwch yn cofio fy mod wedi crybwyll mater y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn y Siambr hon o’r blaen, ynghyd â’n treftadaeth gymdeithasol a hanesyddol—yn enwedig y dreftadaeth ddiwydiannol mewn etholaethau fel fy un i. Ac felly, roeddwn yn falch o glywed am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y llynedd a oedd yn datgan y byddai ymgyrch farchnata twristiaeth 2017 yn dathlu Blwyddyn y Chwedlau. Fel rhan o’r ymgyrch honno, annogir darparwyr twristiaeth i greu neu ddilyn thema ar gyfer cynnyrch neu brofiadau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan ddefnyddio chwedlau Cymraeg fel ysbrydoliaeth, gan gynnwys ein harwyr hanesyddol. Yn fy marn i, un arwr o’r fath yw Dic Penderyn, un o arweinwyr Gwrthryfel Merthyr ym 1831, ac mae’n bosibl y gallai’r cyllid sydd ar gael i gefnogi menter Blwyddyn y Chwedlau gefnogi ymgyrch yn fy etholaeth i godi rhywbeth fel cerflun i goffáu Dic Penderyn.

Nawr, roedd datganiad Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill yn cyfeirio at ryddhau cyllid drwy’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol a’r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth, ond mae’r gwefannau yn awr yn dangos fod y cronfeydd ar gyfer ceisiadau bellach wedi cau ar gyfer 2016-17. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd cyllid yn dal i fod ar gael i gefnogi mentrau o dan ymgyrch farchnata Blwyddyn y Chwedlau a dweud o ba ffynhonnell y daw’r cyllid hwnnw?

Gallaf. Fel y soniais wrth Suzy Davies, bydd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny yn ystod 2017. Mae’r prosiect y mae’r Aelod yn ei grybwyll heddiw yn swnio’n un arloesol iawn; mae’n rhywbeth rwy’n siŵr y bydd y rheolwr cyrchfannau—. Byddwn yn cynghori’r sefydliad y tu ôl i’r fenter i gysylltu â’u rheolwr cyrchfannau mewn gwirionedd, oherwydd byddant yn gallu rhoi cyngor ar sut i hyrwyddo’r prosiect ar draws y rhanbarth.

Yn ychwanegol at y gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth, tynnodd yr Aelod sylw at adnoddau sydd ar gael drwy’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol, ac unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y bydd y rheolwr cyrchfannau yn y rhanbarth yn gallu rhoi cyngor arno. Yn ogystal, mae yna bosibilrwydd hefyd o gydgysylltu gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i weld a allai’r prosiect penodol hwnnw ddenu cyllid ar gyfer celfyddyd gyhoeddus gan gyngor y celfyddydau.

Yn olaf, wrth symud ymlaen, roedd gennym addewid yn ein maniffesto i greu cronfa her ar gyfer celfyddydau cymunedol a chwaraeon cymunedol, ac rwy’n dychmygu y byddai’r math hwn o brosiect, lle y gallwch ennyn diddordeb a chynhyrchu adnoddau a ariennir yn dorfol, yn addas ar gyfer arian cyfatebol drwy’r gronfa her.

I ddychwelyd i’r Drenewydd, rhan arall o dreftadaeth y Drenewydd ym Mhowys yw’r gamlas—camlas Maldwyn. Fe ddywedodd y Prif Weinidog ddoe fod y camlesi yn cael eu gweld gan Lywodraeth Cymru fel rhan o beth rydym yn ei gynnig i dwristiaeth, ac, felly, gan fod cynllun gan bobl y Drenewydd i adfer hen gamlas sy’n mynd drwy’r dref, sy’n rhan o hanes a threftadaeth ddiwydiannol Cymru, wrth gwrs, pa gymorth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gynnig yn y cylch, gan fod y cynllun yma’n wreiddiol yn mynd i fynd at gronfeydd Ewropeaidd?

Mae’r Aelod yn hollol gywir; mae camlesi yn hanfodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Gwn hynny oherwydd bod y prysuraf o’r holl gamlesi ym Mhrydain yn llifo drwy fy etholaeth fy hun—camlas Llangollen. Ac maent yn arbennig o ddeniadol i ymwelwyr tramor, a bellach mae gennym y nifer uchaf erioed o ymwelwyr tramor yn dod i Gymru, gan wario’r swm mwyaf o arian erioed yma. Hoffwn i hynny barhau. Mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei nodi yn un pwysig ar gyfer canolbarth Cymru, ac mae’n un y mae Russell George wedi ei nodi yn y gorffennol. Cyfarfûm â’r sefydliad sy’n bwriadu adfer y gamlas. Rydym wedi derbyn manylion y prosiect yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drefnu cyfarfod gyda’r cyngor tref lleol i weld beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â hyrwyddo ac adfer camlesi yng nghanolbarth Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rŷm ni’n symud yn awr at lefarwyr y pleidiau ac rwy’n gofyn yn gyntaf yr wythnos yma i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn ei gwestiwn—Russell George.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a thrwy wneud hynny, rwyf hefyd yn datgan fy mod yn berchennog ar fusnes bach fy hun. Bydd busnesau bach yn Lloegr yn elwa o nifer o newidiadau blaenoriaethol allweddol a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ar gyfer 2016 er mwyn cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint. Mae hyn yn cynnwys rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,000 a £15,000. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi dros yr wythnosau diwethaf yn pryderu am nad oedd y cynlluniau a oedd ar gael dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. A gaf fi ofyn i chi, felly, a fyddwch yn ymrwymo i ddyblygu polisi Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi busnesau bach yng Nghymru ac amlinellu’r amserlen ar gyfer diwygio rhyddhad ardrethi busnes?

Mae hwn yn fater rwy’n gweithio arno yn bennaf gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, sy’n gyfrifol am drethi lleol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi busnesau cynhenid ​​ym mhob ffordd bosibl, gan gynnwys drwy doriadau treth. Roedd gan fy mhlaid addewid i sicrhau toriadau treth i fusnesau bach yng Nghymru; rydym yn bwriadu gwireddu’r addewid hwnnw.

Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi amlinellu’n gywir ymrwymiad eich maniffesto i dorri trethi busnesau bach. A gaf fi ofyn i chi sut y byddech yn gwneud hynny ar gyfer busnesau bach nad ydynt ar hyn o bryd yn talu ardrethi busnes? Sut rydych chi’n mynd i dorri trethi i’r busnesau bach hynny?

Os nad ydynt yn talu trethi ar hyn o bryd, ni fyddent yn elwa o gael toriad treth, felly ar gyfer y busnesau hynny sy’n talu treth ar hyn o bryd yn unig y mae—hwy fydd yn cael y cael toriad treth. Bydd y rhai nad ydynt yn talu treth ar hyn o bryd yn parhau i beidio â thalu treth.

Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â’r ffaith fod yna nifer o drethi y byddai busnesau bach yn eu talu ac yn amlwg, gan ei fod yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, os nad ydynt yn talu ardrethi busnes, yna yn amlwg bydd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn torri trethi mewn meysydd eraill.

Mae Banc Datblygu i Gymru hefyd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r bwlch cynyddol yng nghyllid banciau ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd â’u bryd ar ehangu. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â’r camau nesaf ar gyfer y banc datblygu. Mae rhywfaint o bryder y bydd cyfraddau llog yn gosbol os yw’r banc yn mynd i fod yn hunangyllidol. Felly, efallai y gallech amlinellu sut y bydd y banc yn gweithio’n ymarferol a sut y bydd yn wahanol i Cyllid Cymru—pa un a fydd yn darparu cymorth busnes wedi’i deilwra, yn ogystal â ffynhonnell gyllid.

Bydd, bydd yn darparu’r cymorth busnes wedi’i deilwra y mae’r Aelod yn sôn amdano yn ogystal â chyllid. Ein dewis gorau yw model hybrid sy’n ceisio denu buddsoddiad ychwanegol ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill. Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fod Cyllid Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun busnes wedi’i gostio’n llawn ar gyfer y banc datblygu i’w ystyried cyn y toriad. Rwy’n disgwyl y bydd y cynllun hwnnw gennyf erbyn diwedd yr wythnos hon.

Diolch, Lywydd. A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet braidd yn hwyr yn y dydd ar ei benodiad i bortffolio cynhwysfawr iawn? Rwy’n siŵr y bydd yr un mor gymwys yn ymdrin â’r gwaith ag y bu yn ei swyddogaethau blaenorol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef mewn ffordd adeiladol fel aelod UKIP ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Mae’r mater sy’n arwain at fy nghwestiwn yn un a ofynnwyd nifer o weithiau rwy’n siŵr, ond nid wyf yn ymddiheuro am ei ofyn eto a byddaf yn parhau i wneud hynny nes y ceir rhyw fath o ddatrysiad i’r mater. Cyfeiriaf at y rheilffordd o Lyn Ebwy i Gaerdydd, sy’n dal i fod heb gysylltiad i mewn i Gasnewydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r rhan bwysig hon o seilwaith de-ddwyrain Cymru?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig, didwyll a diffuant iawn a dweud llongyfarchiadau wrtho am gael ei ethol a’i benodi’n llefarydd? Nid oes gennyf fanylion wrth law heddiw ar y rhan benodol honno o’r seilwaith, ond byddai’n bleser gennyf allu cyflwyno gwybodaeth i’r holl Aelodau ar ffurf datganiad ysgrifenedig.

O’r gorau. Gan nad ydych wedi gallu rhoi ateb i mi ynglŷn â hynny, a gaf fi ddweud ei fod yn newid rhywfaint ar yr hyn rwyf am ei ddweud yn awr? Ond mae dewis arall wedi’i awgrymu yn wyneb yr anhawster o adeiladu cyfleuster troi’n ôl yng Nghasnewydd, sydd i’w weld yn faen tramgwydd mawr, ac a fydd yn gofyn am newidiadau strwythurol helaeth o dan yr amgylchiadau presennol. Y cyfaddawd arall yw y byddai’r trên yn parhau i’r Fenni, lle byddai adeiladu’r cyfleuster troi’n ôl yn llawer mwy fforddiadwy. Ni fyddai hyn ond yn galw am addasu rhai signalau ac wrth gwrs, newidiadau i’r amserlen. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’r strategaeth hon wedi cael ei harchwilio’n llawn?

Wel, rwy’n bragmataidd o ran sut rydym yn datrys problemau trafnidiaeth yn ein cymunedau. Efallai y byddai o fudd pe bawn yn ymweld â’r safle gyda’r Aelod i drafod ac archwilio’r dewisiadau y mae’n eu cyflwyno heddiw. Os daw’n amlwg fod hwnnw’n ateb mwy costeffeithiol ac yn un y gellir ei gyflawni’n gyflym, yna byddwn yn hapus i’w ystyried.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud y bydd sicrhau mewnfuddsoddiad a lefel uwch o allforion i Gymru yn fwy heriol, yn y tymor byr o leiaf, yn sgil canlyniad y refferendwm. Mae wedi cyfeirio at yr angen am fesurau ennyn hyder ac wedi cyhoeddi menter allforio newydd. Nawr, bydd y fenter allforio honno, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cael ei chyflawni i bob pwrpas gan y gwasanaeth sifil, ac mae’n rhaid i mi ddweud nad yw hynny’n ennyn fy hyder. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n gallu enwi un wlad Ewropeaidd, ar wahân i Gymru, nad yw’n meddu ar ei gorff masnach a buddsoddi penodedig ei hun?

Wel, byddwn wedi meddwl y byddai’r Aelod yn derbyn bod cael atebion Cymreig i broblemau Cymreig yn rhywbeth y byddai pobl Cymru weithiau’n falch ohono. Y ffaith amdani yw bod allforion o Gymru, cyn gadael yr UE, yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohonynt. Rydym wedi gallu cynorthwyo nifer o gwmnïau i fynd i mewn i farchnadoedd newydd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod hynny’n parhau. Byddwn yn buddsoddi’n drymach i sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd ac yn cyflwyno busnesau Cymru i’r posibilrwydd o allforio ar draws y byd. Byddwn yn targedu meysydd penodol lle mae gennym gysylltiadau tramor hefyd, ac rwy’n hyderus y byddwn yn gallu manteisio, yn y tymor byr o leiaf, ar amrywiadau yng ngwerth arian er mwyn gallu creu twf economaidd yn y meysydd lle y gellir sicrhau allforion mewn ffordd gref a chadarn iawn.

Efallai y gallaf fod o gymorth i Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oes ond un wlad Ewropeaidd arall nad oes ganddi asiantaeth fasnach a buddsoddi benodedig, ac Ukrain yw honno. I fod yn deg â hwy, maent yn wlad sydd o dan oresgyniad milwrol ar hyn o bryd. Y rheswm pam fod gan wledydd asiantaethau penodedig yw eu bod yn gweithio. Mae Banc y Byd yn dweud hynny. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud hynny. Mae’r holl dystiolaeth gyhoeddedig yn dweud hynny. Nawr, mae rhai pobl yn dweud, wrth gwrs, na ddylem wrando ar arbenigwyr, ac na ddylem ganolbwyntio ar ffeithiau. Rwy’n siŵr nad yw’n cytuno â hynny. Mae gwledydd sydd ag asiantaethau buddsoddi penodedig yn denu dwywaith a hanner y lefel o fewnfuddsoddiad o’u cymharu â’r rhai nad oes ganddynt asiantaethau buddsoddi penodedig, ac mae ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos hynny mewn gwirionedd. Mae ein cyfran o swyddi mewnfuddsoddi 50 y cant yn is yn awr na’r hyn a oedd o dan Awdurdod Datblygu Cymru. Felly, fel rhan o’i strategaeth economaidd newydd, a yw’n gallu dweud bod ei feddwl yn agored, y bydd yn edrych ar y dystiolaeth, a’i fod yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid allweddol ynglŷn ag a ddylai Cymru greu corff masnach a buddsoddi penodedig yn awr?

Rwy’n egwyddorol, ond rwy’n bragmataidd hefyd. Rwy’n dal i fod â meddwl agored, ac fel y dywedais ar nifer o achlysuron, nid oes gennyf fonopoli ar ddoethineb. Rwy’n gwrando ar arbenigwyr, ac mae gennyf feddwl agored ar y mater hwn.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gofnodi hynny. I ddilyn y cwestiwn gan Russell George, dywedodd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i’r astudiaeth ddichonoldeb ar y banc datblygu yn 2015, mai ei hoff ddull o weithredu oedd un sy’n pennu’n benodol strwythur trefniadol a rheolaethol gwahanol i’r un sy’n cael ei reoli gan Cyllid Cymru ar hyn o bryd, h.y. nid Cyllid Cymru. Ac eto, wrth siarad yng Nghlwb Brecwast Caerdydd yr wythnos diwethaf, dywedodd Giles Thorley, Prif Swyddog Gweithredol Cyllid Cymru, Gadewch i mi rannu cyfrinach â chi; yn ôl pob diffiniad bron, mae Cyllid Cymru eisoes yn fanc datblygu.

Gan fod hynny’n gwrthddweud adroddiad ei Lywodraeth ei hun a pholisi ei Lywodraeth ei hun yn uniongyrchol, pa hyder y gallwn ei gael, wrth ofyn i Cyllid Cymru lunio cynllun busnes ar gyfer banc datblygu y bwriadwyd iddo ei ddisodli, nad ymarfer ailfrandio drud a thrafferthus iawn yn unig yw hwn?

Na, bydd gan y banc datblygu i Gymru fynediad at lawer mwy o adnoddau y gall eu trosglwyddo a’u benthyca i fusnesau ledled Cymru. Mae gennyf bob ffydd y gall Giles Thorley, a Gareth Bullock hefyd, ddarparu banc sy’n cynnig mwy o fenthyca yn ogystal â chyngor wedi’i deilwra’n bwrpasol ar gyfer y gymuned fusnes, sef yr hyn y maent wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer.

Busnesau Bach a Chanolig eu Maint

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnesau bach a chanolig brodorol? OAQ(5)0034(EI)

Gwnaf. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau cynhenid ​​ac mae gennym y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol sydd â’u pencadlysoedd yng Nghymru. Yn 2015-16, cefnogwyd dros 40,000 o swyddi mewn busnesau o bob maint yma yng Nghymru, a oedd yn cynnwys 5,000 o swyddi a gafodd eu creu a’u diogelu drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru.

Iawn, diolch. O ran ymgysylltu, yr hyn rwy’n sôn amdano mewn gwirionedd yw cyfathrebu. Cafwyd cynhadledd ar fargeinion dinesig yr wythnos ddiwethaf, gyda dwsinau o swyddogion y Cynulliad a thros 200 o gynadleddwyr, ond un person yn unig oedd yno o fusnes bach. Felly, credaf fod angen mynd i’r afael â hynny. Felly, beth y byddwch yn ei wneud i sicrhau, yn enwedig mewn perthynas â’r fargen ddinesig, y bydd busnesau bach a chanolig yn cael eu cynnwys ac yn cael eu clywed?

Wel, mae busnesau bach a chanolig bob amser yn cael eu clywed a bob amser yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau. Mae gennym berthynas waith dda iawn gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach. Nodaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y digwyddiad a fynychodd yr wythnos diwethaf. Rwy’n siŵr ei fod bellach wedi cael llythyr sy’n amlinellu ei fod wedi gwneud datganiad celwyddog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ddiwethaf i Brif Weinidog Cymru—

Esgusodwch fi; ni allwch honni bod Aelod wedi gwneud datganiad celwyddog yn y Cyfarfod Llawn hwn.

Yn hytrach rwyf am gyfeirio at y llythyr a gafodd yr Aelod a oedd yn amlygu faint o gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau bach ledled Cymru a bod y Llywodraeth hon yn fusnes-gyfeillgar.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi diweddariad i ni ar allu busnesau bach a chanolig Cymru i gymryd rhan mewn prosiectau wedi’u caffael gan Lywodraeth Cymru? Cefais drafodaeth mewn perthynas â hyn gydag ymgynghorwyr peirianneg y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, cwmni peirianneg sy’n seiliedig yng Nghas-gwent yn fy etholaeth i, ychydig cyn yr etholiad. Roedd yn destun pryder fod y cwmni hwnnw wedi rhoi’r gorau i geisio caffael contractau Llywodraeth Cymru, oherwydd, er gwaethaf eglurder y broses—ac roeddent yn canmol Llywodraeth Cymru ar hynny mewn gwirionedd—nid oedd digon o bwysoli tuag at gwmnïau lleol yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r cwmnïau mawr yn cynnig prisiau is ac yn cael contractau, er bod y cwmnïau llai yn credu y bydd y contractau hynny’n fwy drud yn y tymor hwy. Nid yw’r cwmni lleol dan sylw yn cael unrhyw broblem yn caffael contractau ar draws y ffin, gan gynghorau Henffordd a Swydd Gaerwrangon, er enghraifft. Ni all hyn fod yn iawn. A oes unrhyw ffordd y gallwch chi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am gaffael yn Llywodraeth Cymru, edrych ar ffyrdd y gallwn greu sefyllfa decach fel bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru a busnesau cynhenid yn ei chael yn haws cystadlu?

Oes, yn bendant, ac efallai fod y cwmni lleol y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn gwmni y gallwn ein dau ymweld ag ef gyda’n gilydd i drafod y problemau y maent wedi dod ar eu traws a’r atebion y gallem eu cyflwyno. O ran porth caffael Llywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru, cafodd ei sefydlu i helpu busnesau i ennill contractau yn y sector cyhoeddus. Ers mis Mehefin 2013, mae bron i 14,000 o hysbysiadau wedi cael eu cyhoeddi ar GwerthwchiGymru, ac mae tua 61 y cant o gontractau wedi cael eu dyfarnu i fusnesau Cymru. Serch hynny, rwy’n credu bod gwaith i’w wneud i sicrhau bod caffael o fudd i bob busnes ledled Cymru, a byddwn yn fwy na pharod i ymweld â’r cwmni a ddaeth i gysylltiad â’r Aelod.

A gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at gwmni yn fy etholaeth, ffatri Sony Pencoed sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, ac nid yn unig at honno, ond at 30 a mwy o fusnesau cynhenid ​​sydd wedi deillio yn sgil rhagoriaeth Sony mewn dylunio i weithgynhyrchu ar y safle hwnnw a chanolfan dechnoleg Sony Pencoed UK? Mae’n sicr yn enghraifft o ddatblygu ein talentau cynhenid ​​yma yng Nghymru—cwmnïau fel Mesuro Cyf, y bûm yn ymweld ag ef ychydig o fisoedd yn ôl, sy’n deillio o ganolfan peirianneg amledd uchel fyd-enwog Prifysgol Caerdydd, neu Wales Interactive Ltd, datblygwr a chyhoeddwr cynhyrchion adloniant rhyngweithiol ar gyfer marchnad fyd-eang, ledled y byd, a llawer iawn o rai eraill. Felly, byddwn yn croesawu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet, ar ryw adeg yn ystod ei amserlen brysur yn y dyfodol agos, yn gweld y gwaith ardderchog gan Sony, a’r holl gwmnïau hynny sydd wedi deillio o’r sylfaen honno ar y safle, a gweld hefyd y ffordd y mae cwmnïau sefydledig sydd wedi ennill gwobrau ac sydd â hanes mewn dylunio i weithgynhyrchu yn gallu sbarduno twf mewn cwmnïau cynhenid ​mewn ystod o sectorau. Mae’n achos clasurol o orau chwarae cyd chwarae. Felly efallai y gallwn ei wahodd i ddod i drafod y model llwyddiannus iawn hwn ar gyfer deori busnesau.

Buaswn wrth fy modd yn gwneud hynny. Mae’n swnio fel pe bai hwn yn glwstwr eithriadol o weithgarwch economaidd yn eich etholaeth. Rwy’n credu y byddai hefyd yn ddefnyddiol pe baem yn gwahodd y cwmnïau hynny i gyfrannu at ddatblygiad y strategaeth economaidd newydd.

Datblygu Economaidd yng Ngogledd Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0023(EI)

Rydym yn rhoi nifer o gamau gweithredu pellgyrhaeddol ar waith i annog datblygiad economaidd ar draws pob rhan o Gymru. Yng ngogledd Cymru, rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sylweddol a fydd yn deillio o brosiectau buddsoddi megis Wylfa Newydd, gan ddarparu cefnogaeth drwy ein gwasanaeth cymorth busnes penodedig a buddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth amrywiol.

Diolch. Wel, fel y gwyddoch, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y bore yma cyfeiriasoch at drydaneiddio’r brif linell, argymhellion ar gyfer metro gogledd Cymru, a buddsoddi yn yr A55. Dywedasoch hefyd fod angen cyflwyno cais cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru erbyn diwedd y mis. O’r hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn cynnig cyllid ychwanegol, ac mae gwella rheilffyrdd a signalau yn cael eu gweld fel cerrig sylfaen i drydaneiddio, a fydd yn cael ei gyflymu gan y cytundeb twf. A allwch ddweud wrthym felly pa ddeialog rydych wedi’i chael hyd yma gyda Llywodraeth y DU? Rwy’n gwybod, neu rwy’n credu, eich bod wedi bod yn trafod gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol i’r perwyl hwn o leiaf—i ba raddau y gallai hynny gynnwys datganoli liferi economaidd a thwf? Yn ôl yr hyn a ddeallais, roedd hynny’n rhywbeth roedd Llywodraeth y DU yn galw amdano.

Do, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol, ond bûm yn ei drafod hefyd gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ei hun ddydd Sul mewn gwirionedd. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y cais cytundeb twf yn cael ei gyflwyno’n llawn fel cynnig i Ganghellor y Trysorlys erbyn diwedd y mis. Byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr achos busnes dros drydaneiddio’r brif linell yn ystod y cyfnod rheoli nesaf yn cael ei gymeradwyo. Mae’n hanfodol yn natblygiad y cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru ein bod yn gallu gweithio’n lleol gydag awdurdodau lleol, gyda Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac edrych hefyd—ac rwy’n dweud hyn ar gyfer y cofnod—ar botensial strategaeth economaidd drawsffiniol, gydag uned economaidd drawsffiniol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r twf mwyaf posibl yn yr ardal honno o Gymru.

Mae twristiaeth yn sector hanfodol yn natblygiad economaidd gogledd Cymru, a chyda hynny rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i greu coridor diwylliant yr A55 sy’n cysylltu atyniadau ar draws y rhanbarth. Roedd castell y Fflint yn sicr yn atyniad mawr dros y penwythnos diwethaf, wrth i ddraig ddisgyn ar feili allanol y castell gan ddenu ymwelwyr yn eu miloedd. Roedd yn wych gweld yn union faint o bobl a aeth yno i weld y ddraig, i dynnu ambell hunlun ac ar gyfer y rhai mwy dewr yn ein plith sy’n dymuno bod yn ddofwyr dreigiau, i ddringo cefn y ddraig. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y brwdfrydedd hwnnw yn awr gyda’r buddsoddiad pellach yng ‘nghastell Shakespeare’, ond Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi ynglŷn â gwerth yr economi ymwelwyr i Ddelyn ac ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a fyddwch yn gweithio i barhau i fuddsoddi mewn syniadau arloesol mewn atyniadau i ymwelwyr sy’n rhoi hwb i’n cymunedau a hefyd yn denu twristiaid i ogledd-ddwyrain Cymru?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf wrth fy modd fod y ddraig, draig Caerffili, wedi cael cymaint o groeso yn Nelyn ac yng nghastell y Fflint. Mae’r lluniau a welais yn dangos bod llawer iawn o ymwelwyr, yn enwedig ymwelwyr ifanc, wedi mwynhau gweld y ddraig goch yno. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a ninnau’n dathlu perfformiad anhygoel ein carfan bêl-droed cenedlaethol, roedd hi’n adeg arbennig o briodol i’r ddraig ymweld â’r Fflint y penwythnos diwethaf.

Rwy’n falch o allu dweud y byddwn yn buddsoddi mewn canolfan ymwelwyr newydd yng nghastell y Fflint, a bydd castell y Fflint yn elwa o safle o’r radd flaenaf, sy’n rhan o gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau.

A ydych chi’n cydnabod, Ysgrifennydd, yr angen i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rinwedd ei hun? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod ni’n ennill pob budd economaidd posibl o ddatblygiadau cyfagos fel pwerdy’r gogledd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond wrth gwrs mae yna ofid gyda’r datblygiadau dinas-ranbarthau yn y de, a phwerdy’r gogledd yn Lloegr, y gallai gogledd Cymru ddisgyn rhwng dwy stôl. Felly, fy nghwestiwn i yn hanfod yw: sut ydym ni’n sicrhau twf pwerdy cynhenid economaidd y gogledd yn hytrach nag ein bod ni jest yn dibynnu ar ardaloedd eraill?

Wel, yn fy marn i mae gennym yng ngogledd Cymru—ac rwy’n siarad fel rhywun a gafodd ei eni yno, ei fagu yno ac sy’n byw yno—gymaint i’w gynnig i Bwerdy Gogledd Lloegr ag sydd gan Bwerdy Gogledd Lloegr i’w gynnig i ogledd Cymru. Mae gennym gryn dipyn i’w gyfrannu. Rhagwelir y gellir creu hyd at 70,000 o swyddi dros y ddau ddegawd nesaf yng ngogledd Cymru. Rwy’n hyderus y gellir cyflawni hynny drwy sicrhau mwy o gydweithredu trawsffiniol. Nid wyf yn gweld bod cydweithredu trawsffiniol yn fygythiad i ddiwylliant neu iaith Cymru mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn enwedig yng ngogledd Cymru, credaf y gallwn greu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd, drwy weithio’n agosach gyda’n gilydd.

Ar hyn o bryd, mae’r rhanbarth yn cyfrannu o gwmpas £35 biliwn i economi’r DU. Mae’r potensial i dyfu yn enfawr, ond dylem hefyd gydnabod, os nad ydym yn rhan o gynghrair drawsffiniol, ein bod mewn perygl, gyda’r bargeinion dinesig, gyda’r momentwm sydd y tu ôl i ddinas-ranbarth Lerpwl, dinas-ranbarth Manceinion a phartneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, o orfod cystadlu gyda’r dinasoedd a’r siroedd hynny yn y pen draw. Ni fyddem yn dymuno i hynny ddigwydd os gallwn, yn lle hynny, gydweithio a chynnig economi ranbarthol lle rydym i gyd yn cynnig pethau sy’n ategu ei gilydd.

Mae ugain mil o bobl yn croesi’r ffin o Gymru i Loegr bob dydd. Mae ugain mil o bobl yn croesi’r ffin o Loegr i Gymru. O ran y bobl sy’n mynd i’w gwaith, nid yw’r ffin yn bodoli. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod twf ar y ddwy ochr i’r ffin sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr o ran y bobl sy’n byw yno.

Mae gan Gymru gyfle ar hyn o bryd i ddenu buddsoddiad o Loegr drwy ddarparu lle mwy ffafriol i sefydlu busnes, a fyddai’n dod â swyddi mawr eu hangen i Gymru. Rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno pan ddywedaf mai gorau po fwyaf o fusnesau y gallwn eu denu yma a gorau po fwyaf o swyddi sy’n cael eu creu. Mae’r gyfundrefn ardrethi busnes presennol yn rhwystro busnesau newydd rhag cael eu creu gan ei fod yn llyffetheirio busnes â thaliad mawr ar y cychwyn, cyn i’r busnes hwnnw gael un cwsmer hyd yn oed. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i gefnogi busnesau newydd a bach drwy ailstrwythuro’r drefn ardrethi busnes efallai, fel bod busnesau yn talu ar sail elw neu drosiant yn hytrach na gwerth nominal yr eiddo y maent yn ei feddiannu?

Mae hwn yn bwynt sy’n cael ei ystyried yn gyson gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond mae’r Aelod yn iawn, dylem ddefnyddio pob dull sydd gennym o ddenu buddsoddwyr i Gymru. Y llynedd, cofnodwyd y lefel uchaf ond un o fewnfuddsoddi yma. Mae hynny’n rhywbeth, unwaith eto, rydym am sicrhau ein bod yn ei gynnal. O ran cymorth ariannol i fusnesau, mae gennym y gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru, sy’n werth £6 miliwn. Mae gennym gronfa fuddsoddi mewn mentrau technoleg yng Nghymru ac mae gennym hefyd £21 miliwn o gyllid newydd i helpu mentrau bach a chanolig i dyfu yng Nghymru, y gellir cael mynediad ato drwy ddwy gronfa Cyllid Cymru. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, gronfa ad-daladwy o £5 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig. Rydym yn awyddus i ddenu mewnfuddsoddiad yn ogystal â sicrhau bod ein cwmnïau sy’n bodoli’n barod yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru, a sicrhau bod gennym entrepreneuriaid sydd â mynediad at yr adnoddau, y cyngor a’r cyfleoedd i sefydlu busnes yma yng Nghymru yn y cymunedau lle y’u magwyd fel nad oes angen iddynt adael Cymru.

Cefnogi Gweithgynhyrchu

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithgynhyrchu? OAQ(5)0029(EI)

Gwnaf. Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru yn hanfodol bwysig i economi Cymru. Rydym yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i’r diwydiant, gan gynnwys cymorth a chyngor ar feysydd megis masnach ryngwladol, ymchwil, datblygu ac arloesi, gwella sgiliau’r gweithlu, dod o hyd i safleoedd busnes newydd, cymorth e-fusnes a thendro am gontractau sector cyhoeddus.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y nodwyd gennych, mae gweithgynhyrchu yn parhau i fod yn sector hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, mae’r sector yn parhau i grebachu o ran ei bwysigrwydd o’i gymharu â sectorau eraill yn yr economi. O ystyried yr heriau newydd difrifol iawn a fydd yn wynebu gweithgynhyrchu o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai’n amserol i Lywodraeth Cymru adolygu perfformiad a rhagolygon gweithgynhyrchu yng Nghymru a datblygu strategaeth weithgynhyrchu i Gymru er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn?

Rwy’n credu bod yr amser yn iawn, o ystyried y bleidlais a gafwyd, ar gyfer datblygu strategaeth economaidd newydd sy’n ystyried y ffaith y byddwn yn gadael Ewrop, ond sydd hefyd yn sicrhau bod gweithgynhyrchu yn tyfu ac yn ffynnu yn y dyfodol. Mae’r Aelod yn gywir yn ei dadansoddiad fod gweithgynhyrchu yn sector sy’n crebachu ar draws y DU. Ond yma yng Nghymru, swyddi gweithgynhyrchu yw 11.3 y cant o holl swyddi’r gweithlu yn y wlad o hyd, o’i gymharu â 7.8 y cant yn y DU gyfan. Felly, mae’n faes gwaith allweddol bwysig, a rhan hollbwysig o economi Cymru. Rydym hefyd yn gwybod—ac mae hyn yn arwyddocaol iawn—bod cynnydd o 6.3 y cant wedi bod y llynedd mewn swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r math hwn o gynnydd yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono ac yn rhywbeth y dylem geisio adeiladu arno. Mae tua 165,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn gweithgynhyrchu yn gyffredinol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno drwy ddenu cwmnïau fel Aston Martin a TVR i’n gwlad.

Yn ôl gwefan Busnes Cymru, mae gan ardal fenter Glyn Ebwy uchelgais i fod yn ardal uwch-dechnoleg fywiog ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint. Fodd bynnag, rhwng 2011 a 2014, 172 o swyddi yn unig a gafodd eu creu yn yr ardal fenter hon. Y llynedd, wyth o swyddi yn unig a grewyd yno. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac i gefnogi ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn annog cwmnïau i ymsefydlu a chreu swyddi gweithgynhyrchu yno?

Mae yna amryw o ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ardaloedd menter. Mae ganddynt gyllidebau, yn anad dim ar gyfer hyrwyddo eu hunain, ar gyfer marchnata eu hunain a’r gwasanaethau a’r manteision i fuddsoddwyr sy’n lleoli ynddynt. Mae’n bosibl y bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn cyhoeddi data ar berfformiad ardaloedd menter yn fuan iawn, ac efallai y bydd yr Aelod yn dymuno nodi’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf.

Mae’n ddrwg gennyf, Lywydd; cwestiwn ategol yn unig sydd gennyf.

PCS ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniad yr anghydfod diwydiannol rhwng PCS ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0030(EI)

Gwnaf. Rwy’n falch fod yr anghydfod cyflog hirhoedlog hwn bellach wedi ei ddatrys a bod holl safleoedd yr amgueddfa genedlaethol wedi ailagor i’r cyhoedd.

Diolch yn fawr, ac rwy’n siŵr fod Aelodau eraill yn y Siambr hon, fel finnau, yn falch iawn o groesawu datrysiad yr anghydfod hirhoedlog, ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymdrechion i ddod â’r anghydfod hwn i ben. Hoffwn hefyd roi teyrnged i holl weithwyr yr amgueddfa a fu’n dal eu tir ar fater tegwch i’r rhai ar y cyflogau isaf, yn enwedig y staff yn fy etholaeth yn Big Pit, am eu hymrwymiad, ac rwyf wrth fy modd yn gweld Big Pit ar waith eto. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi a chydnabod ymroddiad yr holl staff yn yr amgueddfa, ac a wnewch chi barhau i bwysleisio pa mor angenrheidiol yw gweithio mewn partneriaeth â staff wrth gyflwyno newidiadau yn y dyfodol yn eich trafodaethau gyda rheolwyr yr amgueddfa?

Gwnaf, yn bendant, ac a gaf fi yn gyntaf oll gofnodi fy niolch i’r Aelod lleol am ei chefnogaeth ddygn a chadarn i’r gweithwyr ffyddlon ac ymroddedig y mae’n cyfeirio atynt? Cafodd canlyniad pleidlais PCS a datrysiad yr anghydfod cyflog ei gadarnhau yn gyhoeddus ar 24 Mehefin. Rwy’n falch fod 78 y cant o aelodau PCS wedi pleidleisio dros dderbyn y cynnig gwell a wnaed gan yr amgueddfa genedlaethol. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo i ddod â’r mater i ben yn foddhaol.

Nawr, rwy’n siŵr bod gwersi i’w dysgu o’r profiad hwn, a chyfarfûm â llywydd a chyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa genedlaethol yn ddiweddar. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd unrhyw faterion a nodwyd yn cael sylw gan reolwyr yr amgueddfa a chan PCS yn awr, ac rwy’n ymwybodol fod yr amgueddfa bellach yn gweithio i weithredu’r dyfarniad cyflog a’r taliad iawndal i unigolion cymwys yng nghyflogres y mis hwn. Rwy’n annog yr amgueddfa genedlaethol a’r undebau yn awr i weithio i ailadeiladu’r pontydd a ddifrodwyd ac i ddatblygu perthynas fwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol—un lle bydd pob gweithiwr yn teimlo’n hyderus fod y pryderon sydd ganddynt yn cael eu clywed.

Bûm yn ymwneud â’r anghydfod hwn o’r dechrau, a’r cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi, Weinidog, yw a ydych yn credu y gallai hyn fod wedi cael ei ddatrys yn gynt pe baech chi, fel Gweinidog, wedi ymyrryd yn gynt er mwyn sicrhau na fyddai hwn yn anghydfod a fyddai’n para dwy flynedd? Hefyd, hoffwn glywed eich ateb mewn perthynas â’r hyn y mae’r rheolwyr wedi ei ddweud wrthyf: nad oedd toriadau canol blwyddyn parhaus wedi eu cynorthwyo yn y sefyllfa gyda’r staff yn yr amgueddfa. A wnewch chi ymrwymo, felly, i beidio â chyflwyno mwy o doriadau canol blwyddyn i wasanaethau sydd bellach yn crafu gwaelod y gasgen ac sy’n hanfodol ar gyfer hyrwyddo Cymru i’r byd y tu allan? Rwy’n credu ei bod yn allweddol yn awr eich bod yn dysgu, fel Llywodraeth, ac yn dysgu gyda’r rheolwyr sut i drin pobl â pharch, gan fod undeb y PCS wedi mynd y tu hwnt i’r hyn y dylent fod wedi’i wneud yn hyn o beth.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a’i hatgoffa bod y Llywodraeth hon ei hun wedi wynebu’r toriadau dyfnaf posibl i’w chyllidebau dros y blynyddoedd diwethaf? Nid oes unrhyw ran o fy mhortffolio, mae arnaf ofn, y llwyddwyd i osgoi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn ei chylch a gweithredu toriadau yn y gyllideb, gydag un eithriad—Cyngor Llyfrau Cymru, lle’r oedd teimlad llethol y byddai gostyngiad yn eu cyllideb yn arwain at golli nifer sylweddol o swyddi. Mae’n bosibl y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod hefyd fod yr anghydfod yn yr Alban wedi para am fwy na phedair blynedd. Yma yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog mai blaenoriaeth y Gweinidog nesaf fyddai datrys yr anghydfod hwn o fewn tair wythnos. Llwyddais i’w ddatrys. Mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn ddiolch i aelodau’r undeb am weithio tuag ato. Hoffwn ddiolch i Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon am gyfrannu tuag at hynny. Mae’n rhywbeth rwy’n credu y gallwn symud ymlaen oddi wrtho yn awr, ac rwy’n siŵr fod gan yr amgueddfa ddyfodol disglair iawn. Byddaf yn ystyried adroddiad Randerson, sy’n cynnig ffordd tuag at sector treftadaeth diogel a chynaliadwy iawn, un sy’n cyd-fynd yn agosach â’r cynnig twristiaeth ar draws Cymru ac un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau allweddol hynny o’n treftadaeth yng Nghymru.

Yn ystod yr anghydfod diweddar, dywedodd undeb y PCS nad oedd ganddynt hyder yn rheolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Honnwyd hefyd fod arolwg a gynhaliwyd y llynedd yn dangos bod 22 y cant o weithwyr wedi cael eu bwlio neu’n destun aflonyddu yn y gwaith. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet hyder yn y modd y rheolir Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i gymodi’r ddwy ochr o gwmpas amcanion craidd y sefydliad hwn? Ni ddylai’r math yma o beth byth ddigwydd eto mewn unrhyw sefydliad yn eich adran. Diolch.

Hoffwn ddweud fod yr Aelod yn hollol gywir ar y mater hwn. Rwyf wedi bod yn glir gyda chyfarwyddwr cyffredinol a llywydd yr amgueddfa fod yn rhaid mynd i’r afael â chanlyniadau’r arolwg hwnnw, a fy mod yn disgwyl gweld adroddiad ar sut y maent yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y gweithlu. Rwyf hefyd wedi bod yn glir fod gweithwyr yr amgueddfa—y bobl sy’n sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl—yn cael eu cynrychioli’n well ar y lefel uchaf. Mae hynny’n cynnwys cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd byrddau ymddiriedolwyr. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod gweithwyr yn cael eu cynrychioli a’u clywed a’u cydnabod.

Bil Cymru a Systemau Trafnidiaeth Gyhoeddus

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd y gallai Bil Cymru eu cynnig ar gyfer integreiddio systemau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0033(EI)

Gwnaf. Bydd Bil Cymru, sydd ar ei daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd, yn cyflwyno pwerau newydd ym maes trafnidiaeth, a fydd yn ategu’r pwerau presennol sydd gennym eisoes, i ddarparu system drafnidiaeth integredig ar draws Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym i gyd yn ymwybodol iawn, yn amlwg, o’r manteision i ardaloedd y Cymoedd a fyddai’n dod yn sgil y fargen ddinesig a metro de-ddwyrain Cymru. Rydym wedi trafod y peryglon i’r datblygiad hwnnw yn dilyn gadael yr UE dro ar ôl tro yn y Siambr, felly nid wyf am fynd ar ôl hynny. Fodd bynnag, rydym wedi croesawu cyhoeddiad ar ffurfio tasglu gweinidogol y Cymoedd yn y Siambr hon, ac elfen allweddol ohono fydd adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth cryfach. Er gwaethaf bodolaeth cynlluniau trafnidiaeth lleol, sydd weithiau’n ymddangos yn gyfyngedig o ran eu gweledigaeth i ardaloedd awdurdodau lleol unigol, mae trafnidiaeth bws ar draws y Cymoedd yn parhau i fod yn broblem. Clywais enghraifft y diwrnod o’r blaen lle’r oedd y daith fws o Dredegar Newydd i Aberdâr yn para mwy na dwy awr ac yn teithio drwy Bontypridd. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y byddai unrhyw gyfle i ailreoleiddio gwasanaethau bysiau yng Nghymru a fyddai’n deillio o Fil Cymru yn rhoi cyfle euraidd i sicrhau, wrth i gyfleoedd cyflogaeth newydd gael eu creu yng Nghymoedd de-ddwyrain Cymru, nad yw’r rhai sydd ond yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu heithrio rhag manteisio ar gyfleoedd o’r fath oherwydd gwasanaethau bws gwael, araf ac anfynych?

Byddwn, a hoffwn ddiolch i’r Aelod am grybwyll y mater pwysig hwn, ac efallai y caf ei gwahodd i ysgrifennu ataf yn ffurfiol ynglŷn â’r gwasanaeth bws o Dredegar i Aberdâr, gan y byddwn yn hoffi edrych yn fanylach arno, os caf, a chyflwyno sylwadau efallai ar ran ei hetholwyr. Bydd datganoli pellach mewn perthynas â swyddogaethau’r comisiynydd traffig dros gofrestru bysiau yn rhoi cyfle i ni ystyried newid y modd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu ar draws y wlad ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio i ateb anghenion teithwyr o ran mynediad at gyfleoedd cyflogaeth yn y gwasanaethau allweddol. Rydym hefyd yn hwyluso partneriaethau bysiau o ansawdd. Rydym yn ehangu ein gwasanaeth TrawsCymru, ac rydym yn sicrhau bod ein cyllid yn gysylltiedig yn uniongyrchol â gwella ansawdd drwy gyflwyno safonau ansawdd y flwyddyn nesaf.

Denu Ymwelwyr i Gymru

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu ymwelwyr i Gymru? OAQ(5)0028(EI)

Gwnaf. Mae tair blynedd wedi bod bellach ers lansio ‘Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru 2013-2020’. Mae hwn yn gosod twf o 10 y cant mewn termau real mewn perthynas â gwariant ymwelwyr dros nos yng Nghymru erbyn 2020, ac rydym ar y trywydd iawn i ragori ar y twf hwnnw.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Canfu astudiaeth ‘Wish You Were Here’ fod twristiaeth cerddoriaeth gwyliau a chyngherddau yn cynhyrchu hyd at £113 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Bydd ein gallu i ddenu mwy o ddigwyddiadau, cynadleddau a gwyliau yn cael hwb gan y ganolfan gynadledda ryngwladol, a adeiladwyd fel prosiect ar y cyd rhwng y Celtic Manor a Llywodraeth Cymru, pan fydd yn agor yng Nghasnewydd. Bydd y ganolfan gystal ag unrhyw ganolfan gynadledda arall yn Ewrop ac fe’i cynlluniwyd i ddenu digwyddiadau mawr o bob cwr o’r byd. Mae gwyliau llai, sy’n gymysgedd o gerddoriaeth, celf, llenyddiaeth a chomedi, fel yr un yn fy etholaeth fy hun yng Nghaerllion, hefyd yn chwarae rhan bwysig. Pa gefnogaeth ac anogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddenu digwyddiadau mawr i Gymru gan gefnogi gwyliau llawr gwlad hefyd sy’n ychwanegu at amrywiaeth gyfoethog ein bywyd diwylliannol?

Ie, mae hwn yn faes gwaith diddorol iawn. Mewn gwirionedd, gofynnais i fy swyddogion wneud rhywfaint o ymchwil ar y mathau mwyaf cynhwysol o weithgareddau celfyddydol a chanfuwyd mai’r gwyliau llai a’r cyngherddau cerddorol mewn gwirionedd yw’r gweithgareddau, y digwyddiadau, y mae pobl yn fwyaf tebygol o fynd iddynt o bob rhan o’r sbectrwm economaidd-gymdeithasol. Felly, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i alluogi gwyliau cymunedol lleol a chyngherddau i ehangu. Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr a digwyddiadau diwylliannol i Gymru, yn enwedig y rhai sy’n helpu i wneud y mwyaf o elw ar fuddsoddiad mewn cyfleusterau sy’n bodoli eisoes ac wedi’u cynllunio. Rydym yn arbennig o awyddus i ddenu’r digwyddiadau sy’n cynnig cyfle i wirfoddolwyr ddod yn gyfranogwyr. Yn y blynyddoedd i ddod, gyda’n cymorth, bydd Cymru’n cynnal rhai o ddigwyddiadau mwyaf a mwyaf mawreddog y byd, megis rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a Ras Volvo Ocean. Ochr yn ochr â’r brandiau byd-eang hyn, rydym hefyd yn cefnogi portffolio ffyniannus o ddigwyddiadau a gwyliau diwylliannol lleol a rhanbarthol, fel Gŵyl Gomedi Machynlleth, y Good Life Experience, Gwobr Iris a Ffocws Cymru a hefyd, wrth gwrs, GwylGrai.

Prosiectau Isadeiledd yn Ardal Bae Abertawe

9. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar brosiectau isadeiledd yn ardal Bae Abertawe? OAQ(5)0026(EI)[W]

Diolch yn fawr iawn. Mae Syr Terry Matthews a’i gydweithwyr ar fwrdd y ddinas-ranbarth yn parhau i nodi blaenoriaethau sy’n cyflwyno dyheadau a rennir ar gyfer twf a swyddi, gan gynnwys cydweithio rhanbarthol i ddatblygu seilwaith digidol a thrafnidiaeth y rhanbarth ymhellach.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Wedi pleidlais Brexit, a ydy trydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Abertawe yn dal yn saff o ddigwydd?

Wel, mae Llywodraeth y DU wedi ein sicrhau—neu, cawsom sicrwydd cyn y refferendwm—y byddai pob buddsoddiad a oedd i fod i ddod gan yr UE yn dod gan Lywodraeth y DU. Rydym yn disgwyl pob ceiniog. Rydym yn disgwyl y cedwir at bob contract a lofnodwyd neu a gytunwyd cyn y bleidlais i adael yr UE, ac rwy’n gobeithio gweld—ac rwy’n disgwyl gweld—trydaneiddio’r rheilffordd honno sy’n bwydo economi ranbarthol de Cymru ac ardal bae Abertawe.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rŷm ni nawr yn symud i eitem 2 ar yr agenda, sef y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru? OAQ(5)0027(HWS)

Member
Vaughan Gething 14:19:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o’r cynnydd sylweddol a wnaed gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar weithredu’r newidiadau trefniadol i’r gwasanaeth a argymhellwyd gan adolygiad McClelland. Ym mis Mai, cyrhaeddwyd neu rhagorwyd ar y targed ar gyfer ymateb i gategori coch yr argyfyngau sy’n bygwth bywyd fwyaf am yr wythfed mis yn olynol gyda 75.5 y cant yn cael eu hateb o fewn yr amser targed.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mater sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, yn sicr yn fy etholaeth fy hun, yw natur y cwestiynau a oedd y cael eu gofyn gan y bobl sy’n ateb y galwadau ar ôl deialu 999 am y tro cyntaf, pan fo rhywun yn galw am ambiwlans ar ran rhywun nad ydynt yn eu hadnabod yn bersonol. Mae wedi digwydd ddwywaith i mi yn yr wythnosau diwethaf lle nad oeddwn yn adnabod y person ond eu bod wedi syrthio y tu allan i fy swyddfa. Mae’r gyfres o gwestiynau sy’n arwain at oedi difrifol yn broblematig, yn syml oherwydd nad ydych, yn aml, yn gallu ateb y math o gwestiynau a ofynnir i chi os nad ydych yn adnabod y person. Yn ddiweddar, brawychwyd siopwr lleol ar ôl methu ag ateb cwestiynau o’r fath, ac roedd yr unigolyn dan sylw yn dirywio’n gyflym o flaen ei lygaid. Roedd yn teimlo’n hollol ddiymadferth ac yn poeni ynglŷn â’r oedi, ac yn anffodus mae’r unigolyn wedi marw ers hynny.

Roedd adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru yn tynnu sylw at bryderon ynglŷn â thrin a dosbarthu galwadau, a dangosodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar a gyflwynwyd gennym fod cyfathrebu ac agwedd yn broblem i lawer sydd wedi cwyno wrth yr ymddiriedolaeth ambiwlans. Rwy’n eithaf ansicr sut y mae’r system ateb galwadau brys yn gweithio ym mhob gwasanaeth brys gwahanol. Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod wedi mynegi fy mhryderon difrifol iawn mewn perthynas â hyn yma wrthych chi heddiw, a wnewch chi fy sicrhau y byddwch yn gweithio gyda’r ymddiriedolaeth i sicrhau bod y rhai sy’n ateb galwadau brys yn rhoi ystyriaeth fwy sensitif i’r unigolyn sy’n ffonio am ambiwlans yn y lle cyntaf? Dylid ystyried hyn yn flaenoriaeth frys.

Diolch am y cwestiwn. Credaf ei bod yn bwysig ceisio deall y ffordd orau o ymdrin â’r pryderon sydd gan bobl wrth ffonio pobl sy’n ateb galwadau brys. Ni allaf siarad dros y gwasanaethau brys eraill a’r ffordd y maent yn ymdrin â materion—wrth gwrs, mae un ohonynt heb ei ddatganoli ar hyn o bryd—ond wrth archwilio holl wybodaeth y dangosyddion ansawdd ambiwlans ac edrych ar yr adolygiad o’r model newydd sydd gennym a fydd yn cael sylw yn ystod yr hydref, rwy’n disgwyl y bydd cyfle priodol i edrych eto ac adolygu i weld a oes gennym gwestiynau priodol yn cael eu gofyn i wneud yn siŵr hefyd fod pobl yn cael eu trin mewn modd sensitif. Os yw pobl yn teimlo bod ganddynt etholwyr nad ydynt wedi cael eu trin mewn modd sensitif, byddwn yn hapus i dderbyn y sylwadau a’r cwestiynau hynny os nad ydych eisoes wedi eu dwyn i sylw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’r datblygiadau yn yr ymgyrch Dewis Doeth, a hyrwyddwyd ar y cyd gan nifer o fyrddau iechyd, yr ymddiriedolaeth ambiwlans, Llywodraeth Cymru, undebau llafur a sefydliadau eraill, fel y gwyddoch. Mae’r ymgyrch yn annog y cyhoedd i feddwl cyn ffonio am ambiwlans ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn rhai brys neu gyflyrau nad ydynt yn bygwth bywyd, neu i feddwl cyn mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys gyda chwynion ac anhwylderau cymharol fach. Yn lle hynny, anogir y cyhoedd i geisio cymorth fferyllwyr, meddygon teulu, Galw Iechyd Cymru a dilyn llwybrau gofal eraill amgen, gan ryddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau coch 1 a lleihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr ymgyrch hon wedi bod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at liniaru rhywfaint o’r pwysau, ond bod y cynnydd ymylol yn nifer cyffredinol y galwadau brys sy’n cael eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans yn amlygu’r angen am gefnogaeth a chyhoeddusrwydd eang parhaus yn yr ymgyrch i addysgu’r cyhoedd ar y defnydd priodol o’r gwasanaethau brys?

Ydw. Diolch am y cwestiwn. Rydych yn gwneud pwynt cwbl deg ynglŷn â’r ffordd rydym yn annog ac yn arfogi’r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy gwybodus, i wneud defnydd priodol o ofal iechyd, fel bod dewisiadau eraill ar gael i chi os nad ydych angen adnodd gwerthfawr ymateb ambiwlans brys, ac mae gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’r rheini yn hawdd i’w ddeall ac ar gael yn hawdd. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael, yn ogystal â bod eisiau i’r cyhoedd wneud defnydd o’r wybodaeth honno. Rwy’n ddiolchgar i’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys eich cyn-gyflogwr, am geisio tynnu sylw’n gadarnhaol at y gwasanaeth Dewis Doeth a’r wybodaeth sydd ar gael, er mwyn i bobl wneud y dewis gwybodus a phriodol hwnnw.

Sawl gwaith yn ystod yr wyth mis roeddech chi’n sôn amdanynt, Ysgrifennydd Cabinet, a ydy’r targedau wedi’u cyfarfod yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? A phwy sy’n gyfrifol am y methiant hwnnw?

Rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach yn yr amseroedd ymateb ym mhob ardal bwrdd iechyd unigol—

Ac rwy’n disgwyl, pan welwn y gyfres nesaf o ddangosyddion ansawdd yn yr adroddiad chwarterol nesaf ar ddiwedd mis Gorffennaf, y byddwch yn gweld fy mod yn obeithiol y bydd Hywel Dda wedi cyrraedd ei dargedau amseroedd ymateb, gan nad yw wedi gwneud hynny bob tro ar ddechrau’r cynllun peilot.

Roedd hyn yn rhan o’r gydnabyddiaeth o’r hyn yw ein sefyllfa. Ledled Cymru gyfan, rydym yn cyrraedd y targed. Yn yr ardaloedd lle nad ydym yn gwneud hynny, yr her yw beth y gallem ac y dylem ei wneud am y peth? A ‘ni’ yn yr ystyr ehangach yw hynny. Mae’n ymwneud â’r hyn y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud; mae’n ymwneud â’r hyn y mae comisiynwyr y gwasanaeth yn ei wneud, ac mae hefyd yn ymwneud â deall yr hyn y mae ymatebwyr cyntaf cymunedol yn ei wneud, yn ogystal, oherwydd nid mater i gefn gwlad Cymru yn unig yw hyn ac yn aml, ymatebwyr cyntaf cymunedol yw’r man galw cyntaf i gael yr help sydd ei angen ar rywun yn y lle cyntaf, yn y fan a’r lle. Mae hynny’n arbennig o berthnasol yng nghefn gwlad Cymru, felly rwy’n wirioneddol falch o weld bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio gydag Ambiwlans Sant Ioan i ddatblygu llwybr newydd a model newydd ar gyfer ymatebwyr cyntaf cymunedol a’r gwasanaeth y gallant ei ddarparu.

Os byddwch yn amyneddgar â ni, rwy’n meddwl o ddifrif y gwelwch welliannau pellach yn Hywel Dda a rhannau eraill o Gymru a fydd yn eich gwasanaethu chi a’ch etholwyr yn well rwy’n siŵr.

Unedau Brys a Damweiniau yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd ddatganiad am unedau Brys a Damweiniau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0022(HWS)[W]

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Caf fy nghalonogi wrth weld gwelliannau pellach yn y perfformiad yn erbyn y targed pedair awr a gostyngiad mewn amseroedd aros hir yn ystod mis Mai. Er bod derbyniadau dyddiol wedi codi 8 y cant o’i gymharu â’r mis blaenorol, treuliodd 8 o bob 10 claf lai nag wyth awr mewn adrannau achosion brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Rwyf wedi dweud yn glir, fel y mae prif weithredwr GIG Cymru, fod disgwyl gwelliannau pellach.

Mi fyddwch chi wedi derbyn, fel yr ydw i, lythyr gan gyn-nyrs sydd â phrofiad clinigol eang. Mae hefyd yn gyn-gyfarwyddwr anweithredol o fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Yn y llythyr, mae hi’n disgrifio’r hyn a welodd hi yn uned ddamweiniau Wrecsam Maelor fis diwethaf. Mae hi’n cyfeirio yn ei llythyr at ddiffyg staff, at ddiffyg gwelyau ac effaith hynny ar allu cleifion i gael y driniaeth yr oeddent ei hangen yn amserol ac, wrth gwrs, i symud ymlaen yn y system a gadael yr ysbyty yn y pen draw. Yn ei barn broffesiynol hi, mae hi’n dweud ei bod hi’n anochel y byddai parhad o’r sefyllfa honno yn y pen draw yn arwain at farwolaethau. Mae hynny, wrth gwrs, yn honiad difrifol iawn, ond a ydych chi’n cytuno, nes inni weld lefelau mwy addas o staffio a nes inni weld mwy o welyau o fewn y system, yna mae’r tebygrwydd o weld diwedd ar rai o’r golygfeydd y mae hi’n eu disgrifio yn ei llythyr yn fach iawn?

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod angen ateb ar sail system gyfan i’r heriau sy’n ein hwynebu. Felly, mae’n ymwneud â: sut y caiff pobl eu cyfeirio at adran achosion brys, gan fynd yn ôl at gwestiwn Dawn Bowden yn gynharach, er mwyn sicrhau bod pobl yn gwneud dewis gwybodus ynglŷn â beth i’w wneud? Mae hefyd yn ymwneud â sut y mae gofal sylfaenol wedi ei gyfarparu i ymdrin â gofal heb ei drefnu, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl sy’n gallu cael eu gweld a’u trin yn eu cymuned ac nad oes angen iddynt fynd i adran achosion brys yn y lle cyntaf—. Yna, wrth gwrs, mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd wrth drosglwyddo rhwng ambiwlansys ac ysbytai, lle mae pobl yno ac angen bod yno. Yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau wedyn yw bod llif yn digwydd drwy system gyfan yr ysbyty ac allan drwy’r drws cefn; dyna’r pwynt wedyn ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal o fewn y GIG a gyda gofal cymdeithasol hefyd.

Felly, rwy’n cydnabod bod pob un o’r pethau hynny’n cael effaith. Rhan o’r her yn unig yw lefelau staffio a nifer y gwelyau, ac mae angen i ni edrych arno yn ei ystyr lawn. Dyna pam fod y bwrdd gofal heb ei drefnu yn edrych ar hyn drwy’r dull system gyfan. Roeddwn yn falch iawn o fynychu’r digwyddiad fforwm cynllunio tymhorol yr wythnos diwethaf lle roedd y dull system gyfan i’w weld mewn gwirionedd, ac roedd yr holl bartneriaid yno hefyd i drafod yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i wella’r system gyfan er lles y claf a’r staff sy’n gweithio yn y system.

Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr, ac na ddylai unrhyw un aros am 12 awr neu fwy, ond yn ffigurau mis Mai y cyfeiriwch atynt, 82.5 y cant yn unig a welwyd o fewn pedair awr, ac mewn unedau damweiniau ac achosion brys yng ngogledd Cymru, 79.9 y cant yn unig—y gwaethaf yng Nghymru. Arhosodd 856 o bobl yng ngogledd Cymru fwy na 12 awr, sef y lefel uchaf yng Nghymru, a Glan Clwyd, rwy’n meddwl, oedd yr ysbyty a oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru ar y targedau 12 awr. Rydych yn sôn am ffigurau’n newid, wel, nid oedd hynny wedi newid ers mis Tachwedd ac roedd yn waeth na Rhagfyr 2015. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r pryderon niferus ymysg staff a chleifion yng ngogledd Cymru fod cael gwared ar unedau mân anafiadau a gwelyau cymunedol y GIG wedi ychwanegu at y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a bod rhaid i ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynnwys adfer y gwasanaethau hynny?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Dechreuaf drwy ddweud yn glir, er y bu gostyngiad i’w groesawu yn nifer y bobl sy’n aros 12 awr dros y mis diwethaf, ni cheir unrhyw gamargraff ein bod mewn sefyllfa dderbyniol. Nid wyf yn credu bod y nifer sy’n aros 12 awr yn dderbyniol ac yn fy ateb cynharach, dywedais yn glir fod y neges wedi ei rhoi i’r gwasanaeth a’n bod yn disgwyl gweld gwelliant. Nid wyf wedi fy mherswadio, ar hyn o bryd, fod unedau mân anafiadau yn rhan o’r ateb oni bai fod tystiolaeth y gallwn staffio’r rheini’n briodol. Mae angen gallu darparu gwasanaeth yn briodol wrth fynd drwyddynt mewn gwirionedd. Mae gennyf ddiddordeb, fel y dywedais yn rhan gyntaf y cwestiwn hwn, mewn dull system gyfan priodol a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu cyfeirio at wasanaethau sy’n briodol, eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, a bod yr opsiynau sydd eu hangen arnynt ar gael. Ond wrth i’r dystiolaeth ddod ar gael ar yr hyn rydym yn ei wneud a’r hyn y gallwn ei wneud, rwy’n hapus i edrych eto ar y ffordd y trefnir y system, felly os oes ateb go iawn i wella canlyniadau i gleifion drwy brofiad y claf, yna byddwn yn gwneud hynny, ond ar hyn o bryd, nid wyf yn credu bod yna sylfaen dystiolaeth dros ailgyflwyno’r unedau mân anafiadau ar y sail a awgrymwyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy’n symud yn awr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, Caroline Jones.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae recriwtio a chadw meddygon mewn gofal sylfaenol ac eilaidd wedi’i ddisgrifio gan lawer, gan gynnwys llawer o’r colegau brenhinol, fel bom yn tician. Mewn gofal sylfaenol, mae gennym y broblem ddeuol o fethu â recriwtio digon o feddygon teulu ac oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio, nifer cynyddol o feddygon teulu yn ymddeol. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wrthyf fod angen i ni recriwtio 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn, ac eto, y llynedd, recriwtiwyd llai na 140 gennym. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau ein bod yn hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dechreuaf gyda’r un pwynt rwy’n anghytuno yn ei gylch, sef nad wyf yn credu bod yna unrhyw dystiolaeth go iawn fod poblogaeth sy’n heneiddio yn arwain at ymddeoliadau cynnar yn ein gweithlu meddygon teulu. Ceir pwysau o fathau amrywiol ar ofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac maent i’w teimlo ledled y DU. Mae hynny’n cynnwys recriwtio meddygon teulu ac ystod o arbenigeddau mewn gofal eilaidd, hefyd. Rwy’n cydnabod yn bendant fod hynny’n wir.

Ar hyn o bryd, rydym yn llenwi 75 y cant o’n lleoliadau hyfforddi. Mae honno’n gyfradd well nag yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr. Felly, ein her yw peidio â gosod targed na allwn ei gyrraedd. Os byddaf yn gosod targed o 400 o feddygon teulu ychwanegol, nid oes sail wirioneddol i feddwl y gallem lenwi’r nifer hwnnw o feddygon teulu. Rwy’n meddwl mai’r peth cyntaf yw gwneud yn siŵr ein bod yn cwblhau’r holl leoliadau sydd ar gael gennym, ein bod yn llenwi’r rheini, ac yna ein bod yn ailosod ein huchelgeisiau ac yn deall yn union pwy a beth rydym ei eisiau gan ein gweithlu. Dyna pam mai’r ymrwymiad rydym wedi ei roi yw edrych ar y gweithlu meddygon teulu a chyflwyno argymhellion ar gyfer gwella hyfforddiant meddygon teulu ac ar yr un pryd, y tîm gofal sylfaenol ehangach. Oherwydd gallai, dylai, a bydd y model gofal yn newid yn y dyfodol. Felly, mae’n ymwneud â bod yn synhwyrol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud. Ond rwy’n falch iawn o ddweud bod gennym gefnogaeth rhanddeiliaid i symud ymlaen ar y sail hon.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallwn symud ymlaen at gadw meddygon. Mae cynnydd aruthrol mewn llwyth gwaith a’r straen o reoli mewn system ofal sylfaenol wedi’i gorlwytho wedi cael y bai gan lawer o feddygon teulu fel y rheswm dros eu penderfyniad i symud dramor neu i ymddeol o ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau llwyth gwaith ein meddygon teulu er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorweithio ac i sicrhau y gallwn gadw ein meddygon teulu?

Diolch i’r Aelod am ei hail gwestiwn. Mae hon yn un o’n heriau: sut rydym yn cadw gweithwyr proffesiynol yn y gweithlu? Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â’i gwneud yn haws i aros ar delerau gwahanol, mae peth ohono’n ymwneud â’i gwneud yn haws i ddychwelyd i’r gweithlu hefyd. Felly, mae hynny’n rhan o’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo gyda rhanddeiliaid, yn arbennig pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, a hefyd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Ond mae hefyd yn rhan o ddeall bod angen i ni gael tîm gofal sylfaenol ehangach oherwydd, er mwyn lleihau llwyth gwaith meddygon teulu, mae angen i ni eu cyfeirio at le ychwanegol priodol. Dyna pam fod uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr—fferyllwyr clinigol a fferylliaeth gymunedol—yn ogystal â’r therapyddion, fel ffisiotherapyddion, yn rhan o’r ateb. Felly, mae meddygon teulu yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud, ac rydym yn trosglwyddo pobl eraill nad oes angen iddynt weld meddyg teulu ond sydd ag angen gofal iechyd i’w drin mewn gofal sylfaenol, a chael gweithwyr proffesiynol priodol i fynd atynt am y cyngor, y gefnogaeth a’r driniaeth honno.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gyfeirio at hyfforddiant ein meddygon. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, mae’n costio dros £0.75 miliwn i hyfforddi cofrestrydd, a thros £500,000 i hyfforddi meddyg teulu—buddsoddiad sylweddol gan y GIG yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i ofyn am leiafswm cyfnod gwasanaeth yn y GIG cyn bod y meddygon hynny’n gallu mynd i bractis preifat neu symud dramor?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, sy’n amserol. Mae’n rhan o’n sgwrs barhaus ynghylch y mathau o gymhellion a ddarparwn i bobl: felly, y gefnogaeth ychwanegol rydym yn ei ddarparu i bobl mewn hyfforddiant, a’r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn ôl wedyn. Felly, mae hynny’n rhan o’r gwaith rydym yn ei ddatblygu gyda’r rhanddeiliaid hynny i ddeall a fyddai’r math hwnnw o drefniant bondio yn llwyddo i gadw meddygon yma yng Nghymru. Ond rhan o’r ateb yn unig sy’n rhaid iddo fod, oherwydd rydym am wneud Cymru yn lle gwirioneddol atyniadol i fyw a gweithio a hyfforddi ynddo. Felly, mae hyn yn rhan o’r sgwrs rydym yn ei chael ynglŷn â phroffil hyfforddiant i wneud yn siŵr fod cyfleoedd hyfforddi meddygon teulu yn rhan lawer mwy o’r hyn y mae meddygon yn ei gael cyn iddynt ddewis eu harbenigedd. Felly, mae yna ystod eang o fesurau gwahanol rydym wrthi’n eu hystyried gyda’n partneriaid, ac rwy’n disgwyl y bydd gennyf fwy i’w ddweud am hyn yn y misoedd nesaf.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n siŵr nad yw rhethreg o’r math a geir gan UKIP ar ymfudo yn helpu i recriwtio a chadw staff yn y GIG.

We are in agreement, I hope, Cabinet Secretary, that there is a need to ensure the right of European Union citizens to stay in the United Kingdom in the future. The First Minister has spoken already about the importance of doctors, nurses and others from overseas to the NHS. Can the Cabinet Secretary tell us whether he and his department have taken any specific steps in the last month to comfort those key members of staff, to provide them with assurances that there is a welcome to them in Wales and that we want them to stay here?

Diolch. Rwy’n cefnogi’r pwynt sy’n cael ei wneud yn llwyr. Rwy’n falch o weld bod y Senedd mewn gwirionedd wedi pasio cynnig yn cadarnhau eu bod am i statws dinasyddion yr UE yma gael ei gadw a’i ddiogelu. Yma yn y GIG yng Nghymru, ac ar draws pob un o adrannau’r Llywodraeth, rydym wedi bod yn awyddus, dros yr wythnosau diwethaf ers i’r DU bleidleisio dros adael yr UE, i ddweud yn glir iawn yn ein datganiadau cyhoeddus, wrth weld staff, ac wrth sefyll ar lwyfannau—ein bod yn ei gwneud yn glir iawn fod y Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi cyfraniad dinasyddion yr UE, ac o bob rhan o weddill y byd, sy’n teimlo’n ansicr ynglŷn â’u lle yn ein gwlad. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a wnânt i’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, ond hefyd i’r cymunedau y maent yn rhan ohonynt, ac edrychaf ymlaen at eu cael yn rhan o Gymru, nid yn unig yn awr, ond hefyd fel rhan allweddol o’n dyfodol fel gwlad sy’n edrych tuag allan.

Nid yw’n swnio bod yna asesiad penodol wedi’i wneud; rwy’n synnu rywfaint ynglŷn â hynny. Mae’r ansicrwydd rydym ni’n ei wynebu mewn perig o danseilio’r NHS a allwn ni ddim fforddio aros i’r Llywodraeth weithredu. Rŵan, wnawn ni ddim mynd dros y problemau mae Cymru yn ei wynebu rŵan o ran denu a chadw meddygon, ond mi wnaf droi, os caf, at amodau a thelerau gwaith staff yr NHS. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi addo peidio ag efelychu Jeremy Hunt o ran mabwysiadu y cytundeb newydd i feddygon. Felly, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gweld hi’n debygol y gwelwn ni ddiwedd ar drafodaethau cyflog Prydain gyfan yn y blynyddoedd nesaf i holl staff yr NHS, a pha baratoadau mae’r Ysgrifennydd yn eu gwneud i sicrhau bod gennym ni agwedd neilltuol Gymreig tuag at gyflogau a thelerau sy’n adlewyrchu gwerth staff yr NHS, yr angen i gadw staff profiadol, ac, wrth gwrs, sy’n dangos i bobl ifanc y gallan nhw, ac y dylen nhw, fod yn anelu am yrfaoedd o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd â’n rhanddeiliaid yn yr undebau llafur am eu safbwynt ar ystod o wahanol rannau o’r telerau ac amodau, gan gynnwys y trafodaethau a gawsom yn y gorffennol gyda hwy ynglŷn â chyflogau. Ac felly mae angen i ni sicrhau y cwblheir y sgwrs rhwng yr hyn y mae cynrychiolwyr y gweithlu am ei gyflawni a’r hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth hefyd.

O ran meddygon iau, o ystyried y sylw a wnaethoch ynglŷn â gorfodaeth gan Lywodraeth y DU, rwyf am ei wneud yn glir iawn eto: ni fydd y Llywodraeth hon yn gorfodi contract meddygon iau. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i delerau ac amodau contractau meddygon iau yn cael ei wneud drwy gytundeb, ar sail parch, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain, yn dilyn fy ngwahoddiad i’w cyfarfod yma yng Nghymru, i drafod y sefyllfa yma yng Nghymru a sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny ar y sail gytûn a pharchus honno.

A byddwn yn annog yr Ysgrifennydd i edrych ar y cyfleoedd go iawn a fyddai ar gael i ni o ddilyn llwybr Cymreig. Yn bendant, gall gwneud pethau’n wahanol, fel rydym wedi’i weld gyda meddygon iau, olygu gwneud pethau’n well. Rwy’n credu ei bod yn eithaf amlwg fod Cymru yn mynd i fod angen mwy o feddygon a mwy o nyrsys, mwy o therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion—gallwch enwi unrhyw beth—dros yr ychydig ddegawdau nesaf. Yn wir, rwy’n amau ​​a oes yna broffesiwn yn y GIG na fydd angen mwy o staff. Rydym wedi clywed am feddygon teulu, ac os nad yw’n 400, beth ydyw? 300, 200, 100—dywedwch chi: rydych yn rhoi targed rydych am anelu ato. Ond rydym wedi bod yn galw am gynllunio’r gweithlu’n briodol ers nifer o flynyddoedd ac nid oes gennym gynllun gweithlu cenedlaethol o hyd. A fydd yna gynllun sy’n ystyried y materion rwyf wedi’u crybwyll yma, a pha bryd y gallwn ddisgwyl ei weld?

Rydym wedi ymrwymo i strategaeth 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu; rydym yn gweithio drwyddi gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid. Cawsom adolygiad Jenkins ac rwy’n disgwyl gweld cyngor ar hwnnw yn y dyfodol agos. Hefyd, cawsom yr adolygiad a gynhaliwyd gan Robin Williams, cyn is-ganghellor Prifysgol Abertawe, ar addysg a hyfforddiant. Felly, rydym yn ystyried ein sefyllfa yn briodol, a’r hyn rydym am ei wneud yn y dyfodol. Mae’n rhaid ystyried y gwasanaeth iechyd sydd gennym a’r gwasanaeth iechyd rydym yn awyddus i’w gael hefyd. Ac mae hon yn her fawr iawn i ni, beth bynnag yw ein lliwiau gwleidyddol, oherwydd fe wnaethoch y pwynt eich bod yn disgwyl y bydd yna fwy o staff y GIG ym mhob gradd a phroffesiwn bron iawn. Dyna’r galw, a dyna’r disgwyl, ar adeg o galedi. Felly, mae’n golygu bod dewisiadau gwirioneddol anodd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd, heb sôn am bob rhan arall o wasanaeth cyhoeddus, o ran y modd y gwariwn arian y Llywodraeth. Felly, mae’n rhaid i ni gael trafodaeth onest ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud a’r dewisiadau cyllidebol a wnawn, ac yn y trafodaethau bydd pob plaid â rhan yn y gyllideb, ac yna yr hyn y gallwn ei wneud mewn gwirionedd gyda’r adnoddau sydd gennym. Ond rwy’n hyderus, yn y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd, y byddwn yn gallu darparu strategaeth ar gyfer y gweithlu y bydd ein partneriaid yn ei chefnogi. Nid oes ond angen i chi edrych dros y ffin eto i weld beth sy’n digwydd pan nad oes gennych y lefel honno o gytundeb. Ond nid wyf am esgus wrthych chi na neb arall yn y Siambr hon y bydd cynhyrchu strategaeth ar gyfer y gweithlu yn golygu y bydd popeth yn hawdd, oherwydd ni fydd yn hawdd. Mae gennym heriau go iawn; mae rhai ohonynt ar draws pob system iechyd yn y DU, ond rwy’n sicr y gallwn gyrraedd ein huchelgais i recriwtio staff ar y raddfa gywir ac ar y pwynt cywir i ddarparu’r gofal o ansawdd y mae gan bawb hawl i’w ddisgwyl yma yng Nghymru.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn ei chwestiynau i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Rwy’n credu mai dyma fy nghyfle cyntaf i’ch llongyfarch ar eich swydd; rwy’n gwybod ei bod yn ddiwrnod olaf y tymor, bron iawn.

Chwe blynedd yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y gronfa seibiant byr i ddarparu seibiant i ofalwyr a gofal amgen i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Addawodd y Blaid Lafur yn ei maniffesto ‘Iach ac Egnïol’ y byddai yn:

‘Ymchwilio i fuddion sefydlu cynllun seibiant cenedlaethol i ofalwyr yng Nghymru’.

Y buddion fyddai 60,000 awr o ofal amgen am ychydig dros £1 filiwn, gyda’r holl arbedion cysylltiedig i bwrs y wlad o ran derbyniadau i’r ysbyty, cyffuriau, ymyriadau iechyd meddwl a hyd yn oed diweithdra. A allwch ddweud wrthym pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun o’r fath yma?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw ac rwy’n ymwybodol iawn o’r rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi’r bobl—yr anwyliaid—y maent yn gofalu amdanynt, ond hefyd y fantais economaidd y maent yn ei chynnig i’n gwlad, yn ogystal, fel rydych newydd ei ddisgrifio. I adlewyrchu hynny, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, am y tro cyntaf, yn rhoi’r un hawliau i ofalwyr â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt, a chredaf fod hwn yn gam mawr ymlaen o ran ein cefnogaeth a’n hymrwymiad i ofalwyr. Ond rydych yn hollol gywir fod ein maniffesto Llafur Cymru yn nodi gofal seibiant fel gwasanaeth pwysig i ofalwyr. Yn wir, pan fyddaf yn cyfarfod â gofalwyr a sefydliadau gofalwyr, a phan fydd fy swyddogion yn gwneud hynny, mae seibiant yn bendant ar frig y rhestr o ran yr hyn y mae gofalwyr yn gofyn amdano, boed yn ychydig oriau’r wythnos neu wythnos neu ddwy y flwyddyn. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fod yn hyblyg ynglŷn â hynny. Felly, byddaf yn sicrhau bod gofal seibiant a gofal amgen yn bendant yn flaenoriaethau allweddol wrth i ni gyflawni un arall o’n hymrwymiadau, sef adnewyddu ein strategaeth gofalwyr. Bydd hynny’n digwydd yn ddiweddarach eleni. Gwn fod ein rhanddeiliaid yn cefnogi’r dull penodol hwn o fynd ati hefyd. Byddwn yn cael trafodaethau pellach gydag iechyd, gydag awdurdodau lleol, a’r trydydd sector o ran sut beth fydd ein cynnig seibiant i ofalwyr yn y dyfodol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn hollol siŵr a ddywedwyd y byddai cronfa’n cael ei chyflwyno o ganlyniad i’r strategaeth gofalwyr, ond byddaf yn cadw llygad ac yn gobeithio’r gorau ynglŷn â hynny am y tro.

Gan symud ymlaen, ychydig o newyddion da o Ysbyty Tywysoges Cymru yn fy rhanbarth ac yn wir, o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd: fel mater o drefn, maent yn awr yn mabwysiadu ymagwedd o synnwyr cyffredin tuag at rôl gofalwyr wrth ymgynghori, trin a rhannu gwybodaeth am gleifion â dementia. Nid wyf yn credu ei bod hi’n iawn fod gofyn fel mater o drefn i ofalwyr ddarparu copïau o ddogfennau atwrneiaeth cyn y gellir rhoi gwybodaeth hanfodol i ofalwr pan fo’n amlwg nad oes gan y claf ei hun alluedd meddyliol i ddeall yr hyn a ddywedir wrthynt. A allwch roi syniad o’r dadleuon y byddwch yn eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau gofalwyr y bydd angen eu cynnwys yn y strategaeth dementia newydd?

Diolch i chi unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, ac rydych yn hollol gywir yn nodi bod gofalwyr yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi pobl â dementia. Mae ein gweledigaeth dementia yng Nghymru yn ymwneud yn helaeth â chynorthwyo pobl â dementia i aros gartref gyn hired ag y bo modd ac i chwarae rhan lawn yn y gymuned. Yn amlwg, mae gan ofalwyr ran gwbl allweddol i’w chwarae yn hynny. Fel y gwyddoch, byddwn yn adnewyddu ein gweledigaeth dementia. Unwaith eto, bydd hyn yn digwydd eleni, a bydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru yn rhan o’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer hynny, felly byddant yn chwarae rhan allweddol yn cynghori’r Llywodraeth ar ein darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer pobl â dementia a’r rhan y gall gofalwyr ei chwarae.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig dros ben fod iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu rhannu data fel nad oes rhaid i bobl ddweud eu stori dair gwaith wrth dri o weithwyr proffesiynol gwahanol a mynd dros yr un data drosodd a throsodd. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ceisio gwneud rhywfaint o gynnydd go iawn arno hefyd.

Mae llawer o ofalwyr yn hyrwyddwyr dementia—mae ganddynt ran bwysig yng nghefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy’r Gymdeithas Alzheimer i greu cymunedau dementia-gyfeillgar gyda’r nod o greu Cymru dementia-gyfeillgar. Mae gennym 2,000 o’r hyrwyddwyr hynny ar hyn o bryd. Maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar lefel leol iawn, ac mae’n werth ystyried y drafodaeth arbennig a gawsom pan fynychais y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddiweddar, trafodaeth ar rôl gofalwyr yn arbennig. Nododd ein gweinyddiaethau fod gofalwyr hŷn a gofalwyr sy’n cynorthwyo pobl hŷn yn faes penodol yr hoffem ganolbwyntio arno ar draws ein gweinyddiaethau o ran rhannu arferion gorau a gweithio gyda’n gilydd i wella pethau i’r gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud ar hynny, yn ogystal.

Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw hefyd. Os wyf yn eich clywed yn gywir, bydd rhyw fath o groesi drosodd rhwng y strategaeth dementia a’r strategaeth gofalwyr, o ran y mewnbwn i’r ddwy gan y Gynghrair Cynhalwyr, er enghraifft. Gwn fod yr hyn rwy’n mynd i’w ofyn i chi nesaf yn rhywbeth sydd o bwys mawr i bawb yma yn y Cynulliad, sef y ffaith ein bod, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld y swm y mae awdurdodau lleol yn barod i’w dalu neu’n gallu ei dalu am gost gwasanaethau gofal a darparwyr gofal. Rwy’n gobeithio y byddem i gyd yn cytuno mai’r lleiaf y gallai gweithiwr gofal ei ddisgwyl yw cyflog byw; cael eu talu am deithio rhwng ymweliadau os ydynt yn gweithio yng nghartrefi pobl; oriau gwaith rhesymol; ac amser i ofalu’n iawn am y bobl y maent yn gofalu amdanynt. Gwn fod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn rhagweld gwahanol fodelau ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, ond mae’r costau’n mynd i ddal i godi, er gwaetha’r model, wrth i anghenion y boblogaeth dyfu, nid yn lleiaf, wrth gwrs, oherwydd ein bod ni i gyd yn byw’n hirach. Pa waith rydych yn ei wneud yn awr i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd ariannol tymor canolig a hirdymor talu am ofal cymdeithasol, pa fodel bynnag a fabwysiedir mewn unrhyw ran benodol o Gymru?

Diolch. Rydych yn iawn i nodi bod talu am ofal cymdeithasol a sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy a diogel i ofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, o ystyried y pwysau a nodwyd gennych ar wasanaethau cyhoeddus a’r boblogaeth sy’n heneiddio, a’r disgwyliadau cynyddol sydd gan bobl yn gwbl briodol o’r math o ofal cymdeithasol y byddant yn gallu ei gael. Felly, rwy’n effro iawn i’r mater hwn, yn enwedig y mater rydych yn ei grybwyll ynglŷn â gwahaniaethau cyflog. Mae staff awdurdodau lleol yn tueddu i gael eu talu’n llawer gwell na’r isafswm statudol, ond maent yn tueddu i gael eu talu yn well na’r rhai yn y sector gwirfoddol, sydd yn eu tro yn tueddu i gael eu talu’n well na’r rhai yn y sector preifat, sy’n tueddu i gael yr isafswm hefyd. Felly, mae yna wahaniaeth, ac mae gwaith pwysig i’w wneud gennym ar godi statws pobl sy’n gweithio yn y sector gofal yng Nghymru, a’i wneud yn faes deniadol i bobl weithio ynddo hefyd. Mae angen dilyniant gyrfa arnom, ac yn y blaen. Mae angen gwerthfawrogi gwaith gofal, gan nad oes swydd bwysicach na gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas mewn gwirionedd.

Y darparwyr eu hunain sydd â’r cyfrifoldeb am bennu lefelau cyflog, ond mae gennym rai dulliau yn Llywodraeth Cymru y gallwn eu defnyddio i geisio ymdrin â hyn. Maent yn cynnwys cod dwy haen, ac rwy’n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o wybodaeth yn ei gylch. Mae’r cod yn sicrhau nad yw awdurdodau lleol, pan fyddant yn rhoi gwasanaethau ar gontract allanol i sector annibynnol, yn gallu lleihau’r math o delerau ac amodau y gall y bobl sy’n cael eu cyflogi eu disgwyl. Rydym hefyd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion, gan ddefnyddio pwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 newydd, i gynyddu tryloywder mewn perthynas â chyflogau ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth â gofynion statudol. Mae hynny’n cynnwys talu i aelodau o staff deithio rhwng cleientiaid hefyd.

Gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0020(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael mynediad at y GIG drwy ofal sylfaenol. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal sylfaenol, gan weithio gyda chlystyrau. Bydd hyn yn cynnwys mentrau newydd megis gwella gwasanaethau fferyllfeydd a gwasanaethau sy’n seiliedig ar ffisiotherapi a therapïau eraill hefyd. Wrth gwrs, byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn ein hysbytai hefyd.

Nid yw’n syndod i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych yn crybwyll y targedau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, sydd wrth gwrs wedi eu methu’n rheolaidd a hynny ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae gan yr ysbyty sy’n gwasanaethu fy etholwyr, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, rai amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ofnadwy y mae ar hyn o bryd yn gweithio o’u mewn: apwyntiadau clust, trwyn a gwddf, 36 wythnos, ar gyfer yr apwyntiad claf allanol cyntaf yn unig; deintyddiaeth adferol, 35 wythnos; orthodonteg, 76 wythnos rhwng atgyfeirio a’r apwyntiad cyntaf; rheoli poen, 42 wythnos. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Pa bryd rydych chi’n mynd i dynnu eich bys allan a chael trefn ar y sefyllfa hon, er mwyn i fy etholwyr gael mynediad at wasanaethau pan fydd eu hangen arnynt?

Diolch am y cwestiwn, wedi’i ofyn yn eich dull tawel ac urddasol arferol. Hoffwn nodi, wrth gwrs, wrth gwyno na chyfeiriwyd at amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, nad oedd unrhyw gyfeiriad at amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn eich cwestiwn. Os ydych eisiau cwestiwn am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi’i ateb, yna gofynnwch y cwestiwn. O ran amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar draws y GIG, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y chwe mis diwethaf mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Atebaf eich cwestiwn os ydych am fod yn dawel a gadael i mi siarad. Yn y chwe mis diwethaf, gwelsom gynnydd sylweddol o ran amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng Nghymru—gwelliant gwirioneddol drawiadol ar draws y GIG. Ond rydym yn cydnabod bod gennym heriau go iawn o ran cynnal a gwella prif berfformiad, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, yn ogystal â datrys a diwygio’r gwasanaethau sy’n cyflawni hynny. Yr hyn na allwn ei wneud yw disgwyl gweld gwelliant parhaus mewn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth os na fyddwn yn newid y modelau gofal rydym yn eu gweithredu. Ni fydd rhoi mwy o adnoddau tuag at hynny ar ei ben ei hun yn darparu’r math o wasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

Felly, mae angen i ni reoli dau beth: mae angen i ni wneud yn siŵr, ar adeg anodd gyda llai o adnoddau ariannol, ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant yn y prif berfformiad, ac ar yr un pryd, fod y ffordd y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn newid hefyd. Dyna pam fod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio, gyda chynlluniau ar gyfer orthopedeg, clust, trwyn a gwddf, ac offthalmoleg, i enwi dim ond tri maes, yn bwysig iawn, gan mai newid y ffordd rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn yw’r ateb go iawn i gael y gofal o ansawdd uchel a ddisgwylir gan y niferoedd enfawr o bobl sy’n dod i gael y triniaethau hyn bellach. Felly, rwy’n optimistaidd ynglŷn â’r hyn y byddwn yn gallu ei gyflawni yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y bydd eich etholwyr, ac eraill, yn gweld gwahaniaeth go iawn yn ansawdd y gofal a ddarperir, canlyniadau’r gofal hwnnw, a’r profiad o’r gofal y maent yn ei dderbyn gan ein gwasanaeth iechyd gwladol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod rhoi mynediad cyflymach i gleifion at y gwasanaeth neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl? Felly, pa gamau sy’n cael eu rhoi ar waith yng ngogledd Cymru i sicrhau bod gan gleifion y dewis i gael eu trin gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cywir, gan gefnogi ein meddygon teulu ar yr un pryd?

Wel, rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt a wneir, ac mae hyn yn rhan o’r her o ymdrin â’r prif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth mewn gwirionedd, oherwydd nid oes angen llawdriniaeth ar lawer o’r bobl sydd ar restrau ar hyn o bryd, ac felly, mae’n ymwneud yn rhannol â gwneud yn siŵr eu bod yn mynd i’r lle iawn ar yr adeg iawn ar ddechrau eu taith ofal. Felly, er enghraifft—rwyf wedi siarad am hyn o’r blaen a byddaf yn parhau i’w ddweud, oherwydd ei fod yn enghraifft dda ac amlwg iawn—gwasanaethau ffisiotherapi a gofal sylfaenol. Mae gan oddeutu 30 y cant o’r bobl sy’n mynychu apwyntiadau meddygon teulu broblemau cyhyrysgerbydol. Gallai bron bob un o’r bobl hynny weld y ffisiotherapydd yn gyntaf, a bydd problemau’r mwyafrif o’r bobl hynny yn cael eu datrys gan y ffisiotherapydd. Os oes angen eu hatgyfeirio wedyn, naill ai at feddyg teulu neu arbenigwr, gall hynny ddigwydd. Bydd hynny’n rhyddhau pwysau oddi ar y meddyg teulu—a hefyd yr hyn rydym yn ei wneud mewn fferylliaeth. Mae’r cynllun Dewis Fferyllfa yn bwysig iawn, nid yn unig oherwydd gwerth y cynllun mân anhwylderau, sy’n werthfawr ynddo’i hun—ac rydym wedi gweld enghreifftiau o ganrannau sylweddol o bobl yn cael eu cyfeirio’n briodol oddi wrth y meddyg teulu at fferyllfa—ond hefyd y cyfle i ddarparu mwy o wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol, gan ryddhau amser a phwysau er mwyn i feddygon teulu allu gweld pobl sydd eu hangen go iawn a’r arbenigedd y maent yn ei ddarparu. Felly, bydd honno’n thema gyson gan y Llywodraeth hon, a chredaf y bydd cleifion yn gweld gwahaniaeth a gwelliant pendant o ganlyniad i hynny.

Yn dilyn penderfyniad gan benaethiaid iechyd Caer i gau uned gofal arbennig i blant sydd wedi’u geni dan 32 wythnos oed yn ysbyty’r Countess of Chester, oherwydd cynnydd yn y marwolaethau yno, a’i symud nawr i Arrowe Park, a allwch chi ddweud wrthym ni ba effaith y bydd hyn yn ei chael ar fabanod o Gymru a gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn—rwy’n ymwybodol o’r mater, sy’n amlwg yn un difrifol. Mae gennym drefniadau comisiynu priodol ar gyfer gofal lle mae angen i fabanod deithio, ond mae’r teithio ychwanegol posibl yn fater sydd angen i ni ei ystyried, a sut rydym yn cefnogi teuluoedd. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr fod gennym sicrwydd ynghylch safon y gofal a ddarperir o ran y gofal y mae angen i ni ei gomisiynu, lle bydd angen i bobl ddefnyddio gwasanaethau dros y ffin, yn naturiol, mewn gwahanol rannau o Gymru, ond hefyd fod ein teuluoedd yn cael cefnogaeth pan fydd angen iddynt fynd dros y ffin i gael y gofal arbenigol hwn, a hefyd, o ran y gofal arbennig a ddarparwn yng Nghymru, ein bod yn sicrhau ein hunain ynglŷn ag ansawdd a chynaliadwyedd y gofal hwnnw hefyd. Felly, mae hynny’n golygu bod gennym ddewisiadau anodd o ran canolbwyntio’r gofal arbenigol hwn yn briodol, a sicrhau bod pobl yn cael mynediad o safon uchel at y gofal gorau, yn hytrach na dim ond sicrhau ein bod yn darparu llawer o wasanaethau gwahanol nad ydynt yn gynaliadwy ac nad ydynt yn darparu gofal o’r ansawdd iawn y credaf fod teuluoedd a babanod yn ei haeddu.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0019(HWS)

Fy mlaenoriaethau yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Byddaf yn cael fy arwain, wrth gwrs, gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf er mwyn darparu’r gofal iechyd o’r safon uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn synnu fy nghlywed yn dweud mai blaenoriaethau fy etholwyr yw ailgyflwyno’r uned gofal arbennig babanod a’r gwasanaethau pediatrig amser llawn yn ysbyty Llwynhelyg. Fodd bynnag, rydych wedi ei gwneud yn gwbl glir fod newidiadau Llywodraeth Cymru i wasanaethau Ysbyty Llwynhelyg wedi digwydd o ganlyniad i adolygiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, a ddaeth i’r casgliad nad oedd cleifion yn Sir Benfro yn wynebu unrhyw niwed. Ond er mwyn iddo fod yn ystyrlon, awgrymaf y dylai’r adolygiad fod wedi coladu a chasglu llawer iawn o ddata dros gyfnod sylweddol o amser cyn dod i’r casgliad nad yw’r cleifion yn wynebu unrhyw niwed. Felly, dan yr amgylchiadau, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio rhagor i’r mater hwn er mwyn i’r dystiolaeth ystadegol fod yn gwbl ddibynadwy, gan nad wyf yn credu bod y newidiadau a wnaed yn ddiogel ar gyfer y bobl rwy’n eu cynrychioli?

Nid oes unrhyw dystiolaeth sy’n dweud nad yw’r newidiadau’n ddiogel, ac rwy’n gresynu’n fawr at y modd y mae’r ddadl hon yn cael ei chynnal, gan fod pobl yn poeni ac yn pryderu’n ddiangen pan fo cynrychiolwyr etholedig yn dweud nad yw gwasanaethau’n ddiogel neu eu bod yn beryglus. Nid yw hynny’n gwneud unrhyw les. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi’r honiad a wnaed gan yr Aelod yn y Siambr hon ac mewn sylwadau i’r wasg leol. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym fel sylfaen dystiolaeth yw’r ffaith nad oes unrhyw faban neu fam sydd wedi rhoi genedigaeth o dan y trefniadau newydd wedi dioddef unrhyw niwed clinigol. Yn wir, mae 210 o fenywod wedi cael eu derbyn i uned dan arweiniad bydwragedd Llwynhelyg ers agor yr uned. Mae tri chwarter y menywod wedi rhoi genedigaeth yn ddiogel yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Trosglwyddwyd chwarter y menywod i Langwili i allu rhoi genedigaeth yn ddiogel, ac mewn gwirionedd, mae’r un gyfran wedi rhoi genedigaeth yn y cartref hefyd.

Mae hon yn system lwyddiannus sy’n darparu gofal o ansawdd i fenywod a’u plant, a dyna rydym ei eisiau. Mae angen i ni fuddsoddi mewn bydwragedd a pharchu eu proffesiynoldeb a’r swydd y maent yn ei gwneud. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau arbenigol penodol yn cael eu darparu yn rhan o fodel sy’n gynaliadwy ac yn darparu’r ansawdd gofal sydd ei angen ar bobl. Nawr, dyna fy ymrwymiad i bobl Sir Benfro, ac i Gymru gyfan. Os yw’r dystiolaeth yn newid, yna byddwn yn edrych unwaith eto ar y system a ddarparwn ac ar ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu, ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o niwed clinigol yn sgil y newidiadau a wnaed gennym, ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth a bod pobl yn cael gwell gwasanaeth o ganlyniad i hynny.

Hoffwn ddilyn y cwestiwn a ofynnwyd gan Rhun yn gynharach: yng ngoleuni penderfyniad meddygon iau Lloegr i wrthod y contract, gallai hynny effeithio’n wirioneddol ar forâl yn y GIG yn Lloegr. Tybed a allwch ddweud wrthym beth arall y gallech ei wneud, o bosibl, i ddenu rhai o’r bobl sydd wedi eu dadrithio â’r ffordd y mae’r system yn cael ei rhedeg yn Lloegr.

Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais yn gynharach, nid ydym yn bwriadu dilyn yr un trywydd â Lloegr drwy osod contract. Un rheswm pwysig pam y gwrthodwyd y contract hwnnw oedd am nad yw meddygon yn ymddiried yn Llywodraeth y DU, ac mae honno’n sefyllfa andwyol tu hwnt. Rwy’n falch fod gennym berthynas iach gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yma yng Nghymru, ac maent yn cydnabod hynny ar ôl y bleidlais i wrthod contract y meddygon iau. Felly, byddaf yn cyfarfod â hwy, a byddwn yn ei gwneud yn glir i feddygon iau yn Lloegr ac unrhyw ran arall o’r DU y byddant yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi os ydynt yn dymuno byw a gweithio yma yng Nghymru. Mae’n ymwneud nid yn unig â rhoi’r cynnig i bobl yn Lloegr, ond â dweud yn gadarnhaol fod yna resymau da dros ddod yma i Gymru i fyw ac i weithio mewn system a fydd yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu. Rydym yn mynd ati i wrando ac i ymgysylltu â meddygon i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael. Mewn gwirionedd, rwy’n optimistaidd iawn ynglŷn â hyn gan fod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain eu hunain yn rhan weithredol o’r gwaith a wnawn. Credant ein bod ar y trywydd cywir a’n bod yn gwneud y pethau cywir. Yr her i ni yw gwneud hynny’n llawn ac yn gyflym, a darparu’r math o ofal iechyd a ddymunwn yma yng Nghymru, a’r nifer o feddygon rydym yn cydnabod sydd eu hangen arnom hefyd.

Yn wyneb y ffaith bod diffyg meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yn ne sir Benfro, byddwn i’n hoffi cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e’n hyderus bod y gwasanaeth yna yn saff ar gyfer etholwyr yn sir Benfro. Yn ail, a hoffai e esbonio pam nad yw e wedi cefnogi troi’r arbrawf i wneud yr uned mân ddamweiniau a oedd wedi’i agor dros y Pasg yn Ninbych-y-pysgod yn rhywbeth sydd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn dwristaidd o leiaf?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n cyfathrebu’n rheolaidd â phobl yn ne Sir Benfro ynglŷn ag ansawdd a natur y gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’n bendant yn croesi fy nesg yn rheolaidd ac mae diddordeb gennyf yn y mater. Nid yw pobl wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â diogelwch y gwasanaeth; mae’r prif bryderon sy’n cael eu dwyn i fy sylw yn ymwneud ag ansawdd y gofal a sut y caiff bobl fynediad at y gofal hwnnw. Mae’r bwrdd iechyd wedi darparu ystod o ymyriadau, gan gynnwys darparu rhagor o ymarferwyr nyrsio, rhagor o therapyddion, a rhagor o barafeddygon yn wir er mwyn helpu i gefnogi gofal sylfaenol yn y rhan honno o Gymru. Felly, mae’r bwrdd iechyd yn mynd ati’n wirioneddol ragweithiol i fynd i’r afael â’r mater.

Mewn perthynas â mân anafiadau, ac yn benodol, natur dymhorol y gwaith mân anafiadau ychwanegol, cafwyd gwerthusiad yn dilyn y cynllun peilot dros y Pasg ac mae’r bwrdd iechyd wrthi’n gweithio ar wasanaeth mwy rheolaidd a chynaliadwy ar gyfer cyflawni hynny, a deall beth sydd angen iddynt ei gomisiynu ar gyfer y lefel dymhorol ychwanegol o gysylltiad a gwasanaeth y bydd angen iddynt ei ddarparu. Mewn gwirionedd, maent eisoes wedi cytuno i sicrhau gwasanaeth ychwanegol dros fisoedd yr haf drwy gomisiynu gwasanaeth gan Ambiwlans Sant Ioan hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater lle mae pobl yn cael eu hanwybyddu, nac yn fater lle mae argymhellion a gwerthusiadau yn cael eu gwrthod; yn syml, mae’n ymwneud â datrys sut y caiff hynny ei gyflawni mewn modd synhwyrol er mwyn i bobl gael y gofal o ansawdd sydd ei angen arnynt ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fo pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn y rhan honno o Gymru.

Gwasanaethau Pediatrig yng Ngorllewin Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau pediatrig yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0034(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Nododd adolygiad annibynnol diweddar gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod y newidiadau i wasanaethau pediatrig yng ngorllewin Cymru yn 2014 wedi arwain at ganlyniadau gwell a gwell cydymffurfiaeth â safonau clinigol cenedlaethol. Rydym yn buddsoddi yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau gwelliannau pellach i deuluoedd yng ngorllewin Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y byddwch yn gwybod, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio gyda chlinigwyr a grwpiau cleifion i ddatblygu gwell llwybr gofal i gleifion mewn gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin erbyn diwedd y flwyddyn. Ar ymweliad diweddar â Llwynhelyg a Glangwili, cefais wybod am y ddibyniaeth ar feddygon o’r tu allan i’r DU er mwyn sicrhau ein bod yn gallu llenwi’r rotas mewn pediatreg yn arbennig. Rwy’n sicr y byddwch yn cytuno nad yw’r awgrym nad yw’r gofal a ddarperir yn ddiogel yn helpu i ddenu meddygon. Ers y bleidlais i adael yr UE, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ysgrifennu at staff meddygol o’r tu allan i’r DU yn sgil y cynnydd mewn achosion o gasineb hiliol ar draws y DU. Rwyf wedi helpu i lansio ymgyrch i annog cleifion i wneud ymdrech ychwanegol i ddiolch i’r meddygon hynny sydd wedi dod i Gymru i’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. A wnewch chi ymuno â mi i estyn croeso a sicrhau na fydd gwasanaethau’r GIG yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y bleidlais i adael yr UE, ac y bydd y meddygon hynny sydd yma i’n helpu yn teimlo bod croeso go iawn iddynt yma?

Diolch am eich cwestiwn. Cytunaf â’r pwyntiau a wnaed. Mae lefel yr anoddefgarwch y mae pob un ohonom wedi ei weld yn ein cymunedau, rwy’n siŵr, tuag at weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a phobl yn eu bywyd preifat hefyd, yn rhywbeth rwy’n teimlo cywilydd a dicter mawr yn ei gylch, oherwydd rwyf am i’n gwlad fod yn lle croesawgar sy’n edrych tuag allan go iawn, lle’r ydym yn gwerthfawrogi’r hyn y mae pobl yn ei wneud a’r hyn y mae pobl yn ei roi i ni ac i’n gwlad. Yn benodol, yn y gwasanaeth iechyd, rydym yn dibynnu ar amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol o bob cwr o’r byd i wneud i’r gwasanaeth weithio, i ddarparu’r gofal o ansawdd rydym yn ei werthfawrogi. Rwy’n credu’n gryf fod y neges y mae’r GIG ac Aelodau’r Cabinet yn ei rhoi i bob rhan o’r gwasanaeth, gan ei gwneud yn glir ein bod yn croesawu’r ffaith fod pobl yma, ein bod am iddynt aros a bod croeso iddynt aros ac i barhau i ddarparu’r gwerth gwirioneddol hwnnw i’n gwasanaethau, yn neges wirioneddol bwysig. Ni allwn ei ddweud yn ddigon aml.

O ran recriwtio, dylwn ddweud fy mod wedi cyfarfod â nifer o feddygon a recriwtiwyd o’r UE a thu hwnt i’r UE ac mae’n enghraifft dda o fwrdd iechyd sydd wedi newid ei agwedd yn y ffordd y mae’n sôn am ei wasanaethau ac mae wedi gwerthu’r syniad o fyw yng ngorllewin Cymru, yn ogystal â gweithio yno, mewn ffordd wirioneddol lwyddiannus. Mae gwers yno i fyrddau iechyd eraill ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud os oes ganddynt uchelgais, ac yn yr un modd os yw’r gymuned glinigol yn barod i ddweud, ‘Rydym am i’r gwasanaethau hyn weithio ac rydym am fod yn rhan o wneud iddynt weithio a denu mwy pobl i ddod i weithio gyda ni fel rhan o’r tîm gofal iechyd’.

Weinidog, mae yna brinder pediatregwyr cymunedol ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Un o’r meysydd yr effeithir arno’n ddifrifol gan hyn yw darpariaeth cymorth a diagnosis i bobl ifanc a phlant ag awtistiaeth. Er bod amseroedd aros wedi lleihau, rydym yn dal i weld rhai pobl yn aros am ddwy i bedair blynedd i gael diagnosis o awtistiaeth. Nid oes angen i mi ddweud wrthych mai gorau po gyntaf y caiff y bobl ifanc hyn y diagnosis er mwyn i’w cyfleoedd bywyd fod cystal ag y gallant fod. Yn sicr, dyna yw ein nod ar eu cyfer. Nawr, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwneud eu gorau, fel y maent yn fy sicrhau’n gyson; hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud i fonitro bwrdd iechyd Hywel Dda, a’r holl fyrddau iechyd mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ac i weld beth y gallwn ei wneud i ddenu rhai o’r clinigwyr gwerthfawr hyn i’n gwlad.

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i diddordeb gwirioneddol yn y maes hwn. Rydym wedi cael hanner trafodaeth ynglŷn â hyn ac rwy’n sicr y byddwn yn cael rhagor o drafodaethau dros y tymor Cynulliad hwn. Fe fyddwch yn gwybod bod yna strategaeth awtistiaeth yn yr arfaeth. Cawsom ymgynghoriad a ddaeth i ben yn fuan ar ôl yr etholiad. Rydym yn dadansoddi’r ymatebion ac rydym am sicrhau bod y camau a roddir ar waith gennym yn ymwneud â gwella sefyllfaoedd unigolion a’u teuluoedd, felly ar gyfer grŵp gofalwyr yr unigolion sydd â’r cyflwr datblygiadol hwn—mae’n hynod o bwysig hefyd. Ac rydym yn buddsoddi arian newydd yn y gwasanaeth. Ar ddiwedd y flwyddyn hon, rwy’n disgwyl y byddwn yn gallu cyhoeddi ein strategaeth a’n cynllun gweithredu newydd gyda’r buddsoddiad i gyd-fynd â hynny. Credaf y byddwn yn gweld canlyniadau gwell ar gyfer teuluoedd a’r bobl o’u mewn, gan fod y rhain yn ystod o gyflyrau y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn eu deall, naill ai o brofiad uniongyrchol neu gan etholwyr—yn sicr mae gennyf aelodau o fy nheulu estynedig—. Ac felly mae gennyf rywfaint o ddealltwriaeth o’r effaith y gall hyn ei chael ar newid bywydau grwpiau cyfan o bobl o’u cwmpas. Rydym am sicrhau bod ein gwasanaeth yn darparu’r cymorth y byddai’n iawn iddynt ei ddisgwyl.

Hyfforddi Meddygon yng Ngogledd Cymru

6. Beth yw strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0026(HWS)W

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru, y GIG, y colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a chyrff proffesiynol i sicrhau ein bod yn gwneud Cymru yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ar gyfer unrhyw feddyg dan hyfforddiant, gan ganolbwyntio’n arbennig ar rai o’r problemau yn y gogledd. Fel y dywedais yn gynharach, bydd gennyf fwy i’w ddweud yn y misoedd nesaf, wrth i ni weithio ar hyn gyda’n rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu strategaeth hirdymor newydd.

Diolch yn fawr iawn. Mae bron i hanner holl ddoctoriaid Pen Llŷn dros 55 mlwydd oed, ac mae disgwyl i nifer helaeth ohonyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, fydd yn arwain at argyfwng gwirioneddol. Mae yna dystiolaeth fod doctoriaid yn aros lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Felly, er mwyn mynd i’r afael â diffyg doctoriaid, mae yna ddadl gref, fel yr ydych wedi cyfeirio ato fo, dros gael cynllun Cymru-gyfan a hirdymor i gynyddu llefydd hyfforddi meddygon. Ond, yn ogystal â hynny, mae yna ddadl gref dros greu ysgol feddygol newydd ym Mangor fel ein bod ni’n ehangu’r ddarpariaeth ar draws Cymru, ac yn y gogledd yn benodol. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno yn y Siambr yma yn ddiweddar bod angen ystyried creu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ac yn wir, mae llawer o gefnogaeth gan randdeiliaid o fewn y sector iechyd ac addysg uwch er mwyn i hyn ddigwydd, ac mae yna gyfle penodol i greu ysgol a allai arbenigo mewn darparu gwasanaethau meddygol i ardaloedd gwledig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet iechyd, a wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi’n cymryd rhan lawn a chanolog yn y broses o greu ysgol feddygol ym Mangor?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am broffil meddygon teulu mewn nifer o wahanol gymunedau, gan gynnwys ar draws gogledd Cymru. Dyna pam ei bod yn bwysig fod gennym fodelau gofal newydd sy’n darparu’r math o ofal y bydd pobl ei eisiau mewn gwirionedd, ac y bydd meddygon teulu newydd yn dymuno dilyn gyrfa yn ei ddarparu, gan fod newid yn y ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaeth a sut y mae pobl yn disgwyl gweithio. Dyna pam mai rhan o’r hyn rwy’n edrych arno yw profiad meddygon dan hyfforddiant o ofal sylfaenol ar gam cynharach, gan fod digon o dystiolaeth a rhesymeg dros ddweud bod pobl, os yw hynny’n digwydd, yn fwy tebygol o fod eisiau dilyn gyrfa mewn gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae ein rhanddeiliaid allweddol yn cefnogi hynny fel rhywbeth i ni ei ystyried.

O ran eich pwynt ynglŷn ag ysgol feddygol newydd, rwy’n sylweddoli pam y byddai’r Aelod yn dymuno gwneud cais am ysgol feddygol newydd yn ei hetholaeth, ac rwy’n cydnabod y gwir ddiddordeb yn y maes penodol hwn. Yr hyn y dywedais y byddwn yn ei wneud, a’r hyn y byddaf yn ei wneud yw ystyried yr achos dros ysgol feddygol newydd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud rhywfaint o waith ar sut beth fyddai honno, neu’r hyn na fyddai, oherwydd os yw’r dystiolaeth yno fod ysgol feddygol yn rhywbeth y gallem ei wneud ac y byddai’n cyflawni’r hyn rydym am iddi ei gyflawni—y byddai’n recriwtio pobl, ac y byddai o gymorth i ni—yna rwy’n awyddus i weld beth y mae hynny’n ei olygu a sut y gallem gyflawni hynny. Rwyf hefyd am weld beth sy’n bodoli ar hyn o bryd gyda’r ysgol glinigol a’r trefniadau ar gyfer hyfforddiant yn y gogledd, hyd yn oed os na cheir ysgol feddygol newydd. Felly, byddaf yn cael arweiniad ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol a’r hyn y dylem ei wneud i sicrhau bod gennym fwy o feddygon mewn hyfforddiant a mwy o feddygon sy’n awyddus i weithio mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys y sefyllfa a ddisgrifiwyd gennych yng ngogledd Cymru.

Ymgysylltu â Chleifion yng Ngogledd Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chleifion yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0021(HWS)

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ledled gogledd Cymru. Fel rhan o’r mesurau arbennig, mae’n ofynnol i’r bwrdd iechyd wella’r modd y mae’n ymgysylltu â staff, y boblogaeth leol, partneriaid a rhanddeiliaid, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu model mwy effeithiol o ymgysylltu.

Diolch. Wel, fel y gwyddoch, mae cynghrair iechyd gogledd Cymru wedi ysgrifennu atoch—cynghrair eang o ymgyrchwyr a grwpiau ledled rhanbarth gogledd Cymru—i’ch llongyfarch ar eich penodiad, gan ddweud eu bod yn gobeithio na welwn rai o gamgymeriadau’r gorffennol yn cael eu hailadrodd, ac yn gofyn a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon gyda chleifion cyn rhoi unrhyw newid mawr ar waith, ac ymateb yn gadarnhaol i bryderon cleifion. Maent yn tynnu sylw at sylwadau am Gymru yn adolygiadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ansawdd gofal iechyd y DU ar gyfer 2016, yn galw am arweiniad canolog cryfach gan y Gweinidog.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae dau bwynt gwahanol yma. Mae’r cyntaf yn ymwneud â gwasanaethau canolog a’r canllawiau canolog y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cyfeirio atynt, ac nid ydynt yn siarad mewn gwirionedd ynglŷn â’r Llywodraeth yn cymryd rôl byrddau iechyd lleol yn ymgysylltu â’r boblogaeth leol er mwyn esbonio eu cynigion ar gyfer gwella’r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, yn rhan o fesurau arbennig, rydym yn cydnabod bod y bwrdd iechyd penodol hwn yng ngogledd Cymru wedi ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’i boblogaeth leol, ac ymgynghori go iawn ar gynigion i newid gwasanaethau. Mae hynny’n rhan o’r hyn rydym yn disgwyl iddynt ei wella. Maent wedi gwneud cynnydd. Nid yw wedi ei gwblhau, ac ni fyddwn yn dweud bod y gwaith wedi ei orffen. Felly, mae’r gwaith yn mynd rhagddo, ond rwy’n glir iawn fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd lleol allu ymgysylltu’n briodol â phobl cyn y gwneir newidiadau i wasanaethau, ac ymgynghori’n iawn â hwy. Ond mae hyn yn bwysig hefyd—ynghylch ymgysylltiad y gymuned glinigol a staff y GIG yn ehangach hefyd, oherwydd mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o’r broses o ymgysylltu â’u poblogaeth leol. Maent yn bobl y bydd pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn gwerthfawrogi eu barn hefyd, a bu cryn hollt yn y berthynas yn y gorffennol. Rwy’n falch fod cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud. Rwy’n disgwyl i hynny barhau, a byddaf hefyd yn edrych ar asesiad gwrthrychol y rheoleiddwyr yn y cyfarfod tairochrog nesaf i ddeall a oes cynnydd digonol yn cael ei wneud yn y maes hwn, fel yn y meysydd eraill sy’n destunau mesurau arbennig yng ngogledd Cymru.

Recriwtio Meddygon

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio meddygon? OAQ(5)0029(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i’r arbenigeddau hynny sy’n anodd eu llenwi lle mae heriau recriwtio yn parhau ledled y DU.

Weinidog, mae bwrdd iechyd lleol Cwm Taf yn dweud wrthyf eu bod yn cau Meddygfa Horeb yn Nhreorci gan na allant ddod o hyd i feddyg teulu arall i weithio yno; mae’r meddyg teulu sydd yno ar hyn o bryd yn mynd i weithio yn rhywle arall ar ôl ymbil ar y bwrdd iechyd am gymorth. Mae un o’r gweithwyr yn gweithio yn y feddygfa am ddim ar hyn o bryd er mwyn helpu ei chydweithiwr. Mae enw da’r bwrdd iechyd wedi dioddef ymhlith meddygon teulu yn sgil y ffordd y maent wedi ymdrin â sefyllfa Meddygfa Horeb, a bydd hynny heb os yn effeithio ar eu gallu i ddenu meddygon teulu i’r ardal yn y dyfodol. Nawr, yn gynharach, roeddech yn cwestiynu’r angen am 400 o feddygon teulu newydd; dyna’r ffigur sydd wedi ei nodi. Os nad 400 o feddygon teulu, faint rydych chi’n credu sydd eu hangen arnom i oresgyn y problemau hyn? Pa gyfrifoldeb rydych chi’n ei gymryd fel Gweinidog iechyd am y diffyg cynllunio gweithlu, ac am y prinder meddygon teulu, sydd wedi arwain at y penderfyniad hwn? A ydych yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gau’r feddygfa hon yn Nhreorci?

Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ffaith fod gennym fwy o feddygon teulu nag erioed o’r blaen yn y gwasanaeth iechyd; yr her bob amser yw faint o staff sydd eu hangen arnom ar ba raddau i ddarparu gofal o’r ansawdd y bydd pobl yn iawn i’w ddisgwyl, a bydd yn fodel gofal sy’n newid. Mae Horeb yn enghraifft o fodel gofal sy’n newid lle na allent recriwtio a lle na allent ddenu meddygon teulu eraill i weithio yn y model penodol hwnnw. Mae angen i mi gywiro rhan o’r datganiad; nid yw’r bwrdd iechyd wedi cau’r feddygfa hon. Mae’r feddygfa hon wedi dychwelyd ei chontract. Mae wedi dweud na fydd yn darparu gwasanaethau meddyg teulu. Nid yw hynny yr un peth â dweud bod y bwrdd iechyd wedi cau’r feddygfa. Yn wir, mae cleifion yn cael gofal priodol; darperir practisau meddygon teulu eraill ar eu cyfer yn yr ardal leol—yn lleol iawn, mewn gwirionedd; mae yna amryw o bractisau meddygon teulu yn y dref. Rwy’n bryderus ynglŷn â sut rydym yn ailfodelu gofal sylfaenol i sicrhau bod gofal o ansawdd uchel ar gael i bobl yn eu cymunedau lleol. Dyna pam rydym yn edrych ar y gwaith y mae clystyrau yn ei wneud, ac mae’n galonogol gweld y gwaith y mae clystyrau’n ei wneud ledled Cymru, oherwydd, yn y dyfodol, rwy’n disgwyl gweld llai o bractisau gofal sylfaenol yn y dyfodol ond eu bod yn fwy o faint. Tybiaf y bydd hynny’n digwydd drwy uno a thrwy greu ffederasiynau, a chredaf y bydd hynny mewn gwirionedd yn darparu gwasanaeth gwell a mwy sefydlog gydag ystod ehangach o wasanaethau i bobl. Dyna pam fod angen i ni siarad am weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill hefyd, oherwydd os oeddech yn gwrando ar yr atebion cynharach am yr angen i sicrhau bod gwasanaethau therapyddion ar gael a’r angen i sicrhau bod uwch-ymarferwyr nyrsio ar gael a rôl fferyllwyr, mae hynny mewn gwirionedd yn haws i’w gyflawni gyda model gofal gwahanol. Gwelwn hynny yng ngogledd Cymru, ym Mhrestatyn, lle rydym wedi ailfodelu’r gwasanaeth gyda nifer o feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am yr un lefel o incwm, ond mae’n wasanaeth ehangach a gwell ac mae pobl yn wirioneddol frwdfrydig ynglŷn â gweithio ynddo, a’r cleifion eu hunain yn cydnabod nad ydynt wedi gweld unrhyw ostyngiad yn ansawdd y gofal a ddarperir iddynt, ac mewn gwirionedd mae pobl yn wirioneddol frwdfrydig ynglŷn â’r model hwnnw. Mae yna amser a lle ar gyfer cael trafodaeth synhwyrol ynglŷn ag ailfodelu gofal sylfaenol, ac rwy’n gobeithio o ddifrif y bydd pobl yn cyfrannu ati’n aeddfed mewn modd sy’n cydnabod bod pawb ohonom yn wynebu heriau, ond rwy’n obeithiol y gallwn fynd i’r afael â hwy’n briodol yma yng Nghymru, a gallwn fod yn wirioneddol falch o’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu ar gyfer pob un o’n cymunedau.

3. 3. Datganiad: Cylchffordd Cymru

Rydym yn symud ymlaen nawr at eitem 3, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar Gylchffordd Cymru—Ken Skates.

Member
Ken Skates 15:14:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch cynnydd prosiect Cylchffordd Cymru yn dilyn cyfarfod a gefais yn gynharach heddiw gyda Michael Carrick, prif swyddog gweithredol Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd a Martin Whitaker, prif swyddog gweithredol Cylchffordd Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cylchffordd Cymru ac yn darparu cymorth ariannol i ddatblygu’r prosiect hwn dros gyfnod sylweddol o amser. Rydym yn cydnabod yr effaith economaidd gadarnhaol y gallai ei chael ar Gymru, a Glynebwy yn benodol. Mae’n fenter fawr ac rydym bob amser wedi bod yn glir y dylai unrhyw gefnogaeth a ddarperir gan y trethdalwr fod yn gymesur ac yn deg.

Sefydlwyd Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn 2009 ac ers hynny mae wedi datblygu cynlluniau i greu clwstwr modurol o amgylch cylchffordd rasio a gynlluniwyd ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon modur rhyngwladol. Mae cynlluniau i leoli’r trac rasio ychydig i’r gogledd o ystad ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy, gyda’r nod o ddenu amrywiaeth o ddigwyddiadau rasio dwy a phedair olwyn, gan gynnwys Moto GP, gyda tharged i ddenu tri chwarter miliwn o ymwelwyr y flwyddyn o fewn tair i bum mlynedd. Mae’r datblygwr yn rhagweld y bydd y prosiect yn creu 300 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys 49 o swyddi amser llawn a 3,500 o staff rhan-amser dros dro ar gyfer digwyddiadau. Hefyd, byddai cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu yn ystod y ddwy flynedd y byddai’n ei gymryd i adeiladu’r trac.

Mae’r honiad o 6,000 o swyddi, a ddyfynnwyd yn aml yn gyhoeddus, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai swyddi ychwanegol yn cael eu creu o ganlyniad i fusnesau, yn enwedig yn y sectorau peirianyddol a modurol, yn clystyru wrth ochr y gylchffordd, a hefyd o ganlyniad i luosyddion cyflogaeth eraill megis gwestai ac arlwyo. Byddai’r prif fudd i economi Cymru yn deillio o’r buddsoddiadau y gellid disgwyl iddynt gael eu creu yn y dyfodol yn sgil bodolaeth y gylchffordd, ond yn annochel, mae rhywfaint o ansicrwydd ynghlwm wrth hynny ac ni ellir ond ei ystyried yn uchelgais hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ers 2011, ac ers hynny mae’r cwmni wedi galw am gymorth ariannol gennym ar bob cam allweddol o ddatblygiad y prosiect. Mae’n bwysig cofio, pan gyflwynwyd y prosiect hwn i ni am y tro cyntaf, ein bod wedi cael gwybod y byddai’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan gyfalaf risg y sector preifat heb fod angen gwarant gan y Llywodraeth. Bryd hynny gwnaethom ymrwymiad i ran-ariannu datblygiad y prosiect a chytuno i roi cymorth grant o oddeutu £16 miliwn tuag at rai agweddau ar brosiect y gylchffordd, yn bennaf i gefnogi creu swyddi. Roedd y cymorth grant hwn yn amodol ar fod Cylchffordd Cymru yn codi’r cyllid preifat angenrheidiol. Yn anffodus, er gwaethaf holl ymdrechion y cwmni, ni lwyddasant i godi’r buddsoddiad preifat a nodwyd, ac oherwydd hynny, nid ydynt wedi gallu manteisio ar y grant hwn.

Yn gynharach eleni, gofynnodd Cylchffordd Cymru i ni ystyried cynnig newydd gyda strwythur ariannu gwahanol. Roedd eu cynllun yn gofyn am warant gan Lywodraeth Cymru i danysgrifennu 100 y cant o gyfleuster cyllid prosiect o £357.4 miliwn a ddarparwyd gan Aviva Investors. Byddai’r lefel honno o warant wedi cynyddu’r risg i Lywodraeth Cymru oddeutu 15 gwaith.

Ym mis Ebrill, penderfynodd fy rhagflaenydd, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, y byddai tanysgrifennu’r buddsoddiad cyfan o £357.4 miliwn ar gyfer y prosiect yn risg annerbyniol, ond pwysleisiodd y byddai’n drws yn parhau i fod yn agored pe gellid sicrhau digon o fuddsoddiad preifat a olygai y byddai’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn rhannu’r risg yn deg.

Cyflwynodd y datblygwr gynnig diwygiedig i’w ystyried yng nghanol mis Ebrill, a mireiniwyd hwnnw ymhellach a’i ailgyflwyno ar ddiwedd mis Mai yn dilyn sylwadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhai sylwebyddion wedi cyflwyno’r cynnig diweddaraf fel ateb gyda’r rhan fwyaf o’r arian yn dod o gyllid preifat. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r arian hwn yn dal i ddibynnu ar warant gan Lywodraeth Cymru, ac o’i ystyried ar y cyd â benthyciadau a ddarperir gan awdurdodau lleol, pwrs y wlad fyddai’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r risg o hyd.

Gan gynnwys gwarantau uniongyrchol Llywodraeth Cymru a benthyciadau gan awdurdodau lleol, mae’r cynnig diweddaraf a gyflwynwyd gan Cylchffordd Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru danysgrifennu tua 75 y cant o gyfanswm cost y prosiect o £370 miliwn, gydag awdurdodau lleol yn tanysgrifennu 8 y cant pellach. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cefnogwyr y prosiect, mae hyn golygu nad yw’r sector preifat ond yn ysgwyddo oddeutu 17 y cant o’r risg.

Fel y mae ar hyn o bryd, mae’n annerbyniol fod trethdalwyr Cymru, drwy gymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn ysgwyddo cymaint â hynny o’r risg, yn enwedig ar adeg pan ydym yn wynebu ansicrwydd economaidd sylweddol o ganlyniad i’r DU yn gadael Ewrop. Yn ein barn ni, nid yw’r prosiect hwn yn darparu’r lefel o werth am arian sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd o ystyried y risg i gymaint o arian cyhoeddus. Ar sail hynny, rwyf wedi dweud wrth Michael Carrick a Martin Whitaker heddiw fy mod yn credu bod angen gwneud rhagor o waith ar y cynnig hwn. Mae fy nrws yn parhau i fod yn gwbl agored ac rwyf wedi eu hannog i ddiwygio eu cais yn y fath fodd fel bod y sector preifat yn ysgwyddo mwy o’r risg er mwyn i’r prosiect hwn allu mynd rhagddo.

Mae angen i ni weld o leiaf 50 y cant o’r prosiect hwn yn cael ei ariannu a 50 y cant o’r risg yn cael ei thanysgrifennu gan y sector preifat i gyfiawnhau gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a phwrs y wlad ac maent wedi derbyn yr egwyddor hon. Bydd fy swyddogion yn awr yn gweithio’n adeiladol gyda thîm Cylchffordd Cymru er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus er budd economi leol Glynebwy a Chymru yn gyffredinol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw, er ei bod yn siom y bydd rhagor o oedi ar y prosiect hwn—ergyd, o bosibl, i obeithion cymuned sydd wedi cael ei siomi cynifer o weithiau ers i’w hardal gael ei dad-ddiwydiannu rai degawdau yn ôl.

Fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus eisoes wedi cael ei ddarparu ar gyfer datblygu prosiect Cylchffordd Cymru. A yw’n rhesymol casglu, felly, fod hynny wedi digwydd heb i Lywodraeth Cymru fod yn hollol glir ynglŷn ag union natur ei fwriad ar gyfer y prosiect yn ei gyfanrwydd? Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod ei Lywodraeth wedi bod yn ymwneud â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ers 2011; pam ein bod ni yma yn 2016, a’i bod wedi cymryd hyd nawr i’r Llywodraeth osod ei llinellau coch, ei chynnig busnes? A all Ysgrifennydd y Cabinet ddatgelu pa bryd y daeth y gyfran atebolrwydd o 50:50 rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus yn bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r prosiect hwn? Ac a all ymhelaethu ynglŷn â pham yr ystyrir rhaniad o’r fath yn addas ar gyfer y prosiect hwn?

Er ein bod yn derbyn yr angen am ofal mawr pan fo’r Llywodraeth yn tanysgrifennu cynlluniau preifat, mae’r Llywodraeth fel arfer yn gwneud hynny, wrth gwrs, pan fo’r marchnadoedd yn methu. Yn yr achos hwn, methiant i fuddsoddi mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent dan amodau arferol y farchnad. Mae ymyrraeth y Llywodraeth yn hanfodol, felly, er mwyn sicrhau cyflogaeth mewn ardaloedd o’r fath. Pam na fu cyfathrebu eglur rhwng Llywodraeth Cymru, cymunedau lleol a buddsoddwyr ar y sail honno? Fel rhywun a dreuliodd ran o fy magwraeth yn Nhredegar, rwyf i, yn fy mywyd cymharol fyr hyd yn hyn—hyd yn hyn—wedi gweld gobeithion yn cael eu codi a’u chwalu mewn llefydd fel Blaenau Gwent; addewidion ynglŷn â chyfleoedd newydd yn cael eu gwneud a’u torri. Ac unwaith eto, gwelwn yma flynyddoedd a blynyddoedd o godi a chwalu gobeithion pobl a chymunedau sydd wedi dioddef tlodi annioddefol a lefelau annerbyniol o amddifadedd. A yw’n syndod fod cynifer o bobl, am gymaint o amser, wedi colli pob gobaith y bydd pethau byth yn newid? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud yn onest a yw’n credu bod dyfodol i’r prosiect hwn ai peidio? A pha effaith y mae’n credu y bydd y saga druenus hon sydd wedi para blynyddoedd maith yn ei chael ar y rhagolygon economaidd hirdymor i’n cymunedau yn y Cymoedd?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau? Mae’n drueni nad yw’r Aelod yn cydnabod y ffaith fy mod wedi gallu cychwyn yn y rôl hon gyda phâr o lygaid newydd ac wedi gallu gosod bar clir iawn ar gyfer Cylchffordd Cymru—50 y cant o’r costau prosiect a 50 y cant o’r risgiau yn cael eu hysgwyddo gan y sector preifat. Prosiect sector preifat yw hwn ac er bod y farchnad yn methu mewn rhannau o Gymru, a’i bod yn gyfrifoldeb ar y Llywodraeth i wneud yn siŵr fod yna fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny lle mae’r farchnad yn methu, lle mae prosiect sector preifat ar y gweill, mae’n hanfodol fod y risg i’r trethdalwr mor fach ag y bo modd, a bod gwerth am arian i’r trethdalwr ac i’r pwrs cyhoeddus yn cael ei hyrwyddo i’r lefel uchaf bosibl. Dyna pam rwyf wedi gosod y bar ar 50 y cant ac efallai y bydd yr Aelod yn dymuno meddwl am yr hyn a ddywedais ar ddiwedd fy natganiad, sef bod Cylchffordd Cymru wedi derbyn yr egwyddor honno. ‘Does bosibl nad yw hynny’n dangos ein bod wedi gallu sicrhau’r fargen orau bosibl i’r trethdalwr wrth sicrhau y gall y prosiect hwn fynd ymlaen i’r cam nesaf.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae adeiladu Cylchffordd Cymru yn gyfle gwych nid yn unig i Gymoedd De Cymru, ond hefyd i Gymru yn fwy cyffredinol. Felly, mae’n newyddion siomedig heddiw; rwy’n meddwl nad oes dianc rhag hynny. Ond rwy’n gobeithio y bydd prosiect Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn brosiect cyffrous a all gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer denu buddsoddiad a chreu swyddi yn yr ardal.

Amcangyfrifwyd y byddai’r prosiect yn creu 6,000 o swyddi amser llawn yn amrywio o waith ymchwil a datblygu i letygarwch, yn ogystal â 3,000 o swyddi adeiladu pellach. Nodaf eich sylwadau yn eich datganiad heddiw yn hynny o beth, ond addawyd y byddai’r swyddi hyn yn cael eu darparu ar gyfer y bobl leol. Mae’r prosiect hefyd wedi addo lleoliadau hyfforddi a darparu cryn dipyn o uwchsgilio yn y rhanbarth hefyd, ac wrth gwrs, mwy o gyfleoedd i dwristiaid yn ogystal—gan ddarparu £15 miliwn amcangyfrifedig i hybu’r economi leol a rhanbarthol. Felly, mae penderfyniad heddiw yn destun gofid, yn enwedig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu newydd i reoli’r broses o adfywio Cymoedd De Cymru a phan fo cynghorau lleol wedi mynegi parodrwydd i gyfrannu at y cynllun hefyd. Deallaf fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gorfod bod yn ofalus wrth wario arian cyhoeddus. Cytunaf yn llwyr â’r cysyniad hwnnw, ond ar yr un pryd, rhaid cydnabod y bydd rhoi’r prosiect hwn o’r neilltu, o bosibl, o’r haf ymlaen yn ergyd enfawr i’r rhanbarth. Ni ellir dianc rhag hynny.

Nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhellion cychwynnol, oherwydd y risg annerbyniol, a gaf fi ofyn y cwestiwn—nid wyf yn meddwl eich bod wedi ateb hwn yn llawn—y gofynnodd llefarydd Plaid Cymru ynglŷn â pha bryd y cyflwynwyd y risg 50:50 i’w danysgrifennu i’r datblygwr? Rwy’n meddwl bod cwestiynau yma ynglŷn â pha bryd y cyflwynwyd hynny i’r datblygwr, pam na roddwyd gwybod i’r datblygwyr am hyn ar gam llawer cynharach, pam mai yn awr y mae’n ymddangos bod hyn wedi’i gyflwyno. Efallai y gallwch ddarparu rhywfaint o eglurder ar hynny.

Fe sonioch yn eich datganiad hefyd fod ansicrwydd yn y wlad o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n derbyn hynny hefyd. Ond a ydych yn awgrymu efallai y gallai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol pe bai canlyniad y refferendwm yn wahanol? Mae yna awgrym bach o hynny ac efallai y gallech egluro hynny hefyd.

Fe ddywedoch yn eich datganiad heddiw eich bod wedi cyfarfod â’r datblygwyr y bore yma neu heddiw, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech sôn wrthym o bosibl ynglŷn â’r hyn a drafodwyd gennych yn y cyfarfod hwnnw gyda golwg ar amserlen ar gyfer pryd y disgwyliwch i’r datblygwyr ddarparu cynlluniau ac argymhellion diwygiedig i chi. Mae’n rhaid i ni dderbyn y posibilrwydd hefyd wrth gwrs, ac rwy’n siŵr y byddwch chithau’n derbyn hynny hefyd, efallai na fydd y prosiect yn digwydd o ran hynny, oherwydd, yn amlwg, gyda’r cyhoeddiad heddiw, efallai fod rhywfaint o ansicrwydd ymhlith cefnogwyr posibl nad yw’r prosiect hwn mor gynaliadwy ag yr oedd yn wreiddiol. Felly, gyda hynny mewn golwg, efallai y gallech amlinellu pa gynlluniau adfywio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i hybu adfywio ym Mlaenau Gwent a Chymoedd Cymru.

A gaf fi ofyn hefyd beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o’r effaith ehangach ar yr economi leol i fusnesau eraill a fyddai efallai wedi ymrwymo’n flaenorol i sefydlu busnesau newydd o gwmpas safle Cylchffordd Cymru? Yn olaf, a ydych o’r farn—ac rwy’n gobeithio y gallwch roi ateb cadarnhaol i hyn—fod datblygwyr yn debygol o ddod yn ôl gyda chynllun diwygiedig y credwch y byddwch yn gallu ei gefnogi a rhoi cymorth tuag ato, ac y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a phwysleisio, unwaith eto, nad yw hwn yn gyhoeddiad siomedig o ystyried bod Cylchffordd Cymru wedi cytuno i warantu’r rhan fwyaf o’r risg o’r sector preifat er mwyn symud hyn yn ei flaen? Os awn yn ôl i darddiad y cynnig, pan gyflwynwyd gweledigaeth Cylchffordd Cymru i ni gyntaf, gwnaed hynny ar y sail na fyddai unrhyw risg i bwrs y trethdalwr. Yn dilyn hynny symudodd i bwynt lle y gofynnwyd i fy rhagflaenydd danysgrifennu 100 y cant o’r risg. Roedd hynny’n annerbyniol. Rydym bellach wedi gallu edrych ar y cynigion gyda phâr newydd o lygaid, sef fy rhai i. Fodd bynnag, roedd fy rhagflaenydd wedi dweud bod yn rhaid i lefel y risg ostwng yn sylweddol. Mae cynlluniau codi arian Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn waith ar y gweill, a Cylchffordd Cymru sydd i benderfynu ar yr amserlen ar gyfer gwneud cais ffurfiol. Rwyf bellach wedi rhoi arweiniad ar werth am arian iddynt, fel y gofynnwyd amdano. Felly, penderfynais fod angen i ni ostwng y lefel o risg yn is na 50 y cant a sicrhau ei fod yn brosiect sector preifat.

O ran gwaith a fydd yn digwydd i sicrhau bod adfywio yn y Cymoedd, mae fy nghyd-Aelod Alun Davies yn arwain tasglu gweinidogol i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i adfywio’r Cymoedd, i sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bob person yn y Cymoedd gael gwaith o safon mor agos â phosibl i ble y maent yn byw, fel bod pobl yn falch o’u cymunedau, a’u bod yn gweld eu cymunedau yn ffynnu nid yn dirywio.

O ran y swyddi y gellid eu creu, fel y nodais eisoes, ceir achos busnes sy’n cynnig nifer penodol o swyddi i’w creu yn ystod y cyfnod adeiladu, cyfres arall o swyddi a fydd yn cael eu gwarantu yn sgil gweithredu’r gylchffordd, yna 6,000 amcangyfrifedig o swyddi ychwanegol a fyddai’n cael eu creu drwy ddenu chwaraewyr allweddol o’r sector modurol, a lletygarwch wrth gwrs, i’r trac rasio. Nid yw hwn yn benderfyniad siomedig heddiw. Yr hyn rwyf wedi ei wneud yw amlinellu sut y llwyddais i leihau’r risg sydd ynghlwm wrth warant y trethdalwr ar gyfer y prosiect pwysig hwn. Ond fel y dywedais, mae Cylchffordd Cymru wedi datgan eu bod yn gallu gweithio yn ôl yr egwyddor a amlinellais o 50 cant—dim mwy—o risg i’r pwrs cyhoeddus.

Rwy’n siomedig yn Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl buddsoddi cymaint o obaith rai wythnosau yn ôl—[Torri ar draws.]—pan groesewais ef i’w swydd ddyrchafedig. Mynegais y gobaith y byddai economi Cymru yn gwisgo’i hesgidiau sglefrio o dan ei arweinyddiaeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Bwm, bwm. Yn anffodus, ymddengys ei fod wedi prysuro ei gwymp yn lle hynny, o ganlyniad i’r ymagwedd negyddol a diddychymyg a amlygwyd gan y datganiad hwn heddiw.

Nid wyf yn meddwl y bydd yn rhoi teimlad braf i lawer o bobl ym Merthyr Tudful, Glynebwy, a threfi o’r fath wybod y byddant yn cael Alun Davies a thasglu gweinidogol yn hytrach na Cylchffordd Cymru. Faint o swyddi y mae hynny’n mynd i’w creu? Byddai’r cynnig hwn yn creu 1,500 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a hyd at 6,000 o swyddi yn y dyfodol, pe bai’r safle’n cael ei ddatblygu’n llawn. Mae’n bwysig yn fy marn i—ac rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau hyn—na ofynnwyd i Lywodraeth Cymru gyfrannu ceiniog o fuddsoddiad pellach yn y prosiect hwn, a bod y cyfan yn cael ei ariannu gan y sector preifat, gyda budd gwarantau sector cyhoeddus.

Mae hwn yn brosiect gwerth £380 miliwn, felly dyna gynnig datblygu anferth; mae £240 miliwn ohono’n cael ei roi gan Aviva, ac mae’n debyg ein bod i gyd, ar ryw ystyr, yn dechnegol yn fuddsoddwyr ynddo, gan eu bod yn buddsoddi cyfraniadau’r gronfa bensiwn y cyfrannwn iddi yn y Siambr hon. Ac o hwnnw, £190 miliwn yn unig y gofynnwyd amdano fel gwarant gan Lywodraeth Cymru. Felly, dyna 50 y cant o gyllid y prosiect. Ac yn gyfnewid am hynny, talwyd ffi fasnachol—neu argymhellir ei thalu—o £3 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru. Bydd y warant honno’n cael ei sicrhau ar asedau’r prosiect, wedi iddynt gael eu creu. Ni fydd unrhyw warant o gwbl yn y cyfnod adeiladu. Felly, bydd y warant hon o 50 y cant yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o’r asedau, a’r unig beth y gofynnir amdano felly yw rhwymedigaeth amodol eilaidd a ddaw i rym yn unig ar sail flynyddol os yw enillion y prosiect, ar ôl ei gwblhau, yn annigonol i dalu elfen warantedig cyllid Aviva ar gyfer y flwyddyn benodol. Felly, nid oes unrhyw risg y cyflwynir bil annisgwyl o £190 miliwn i Lywodraeth Cymru mewn unrhyw un flwyddyn yn y dyfodol.

Disgwylir i effaith economaidd y cynllun hwn fod yn werth rhwng £35 miliwn a £50 miliwn y flwyddyn, mewn ardal sydd ar hyn o bryd dan anfantais fawr yn economaidd. Canlyneb hynny, o safbwynt y risg y gofynnir i Lywodraeth Cymru ei hysgwyddo, yw gwarant a fyddai, yn yr enghraifft fwyaf eithafol, rywle oddeutu £8.5 miliwn y flwyddyn yn unig. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod honno’n fargen eithaf da i bobl Cymru, yn gyffredinol, i economi Cymru? Ac rwy’n gobeithio y bydd yn dangos ychydig mwy o ddychymyg yn y dyfodol, gan fod y Llywodraeth yn dda iawn am greu strategaethau datblygu economaidd, ond o ran creu datblygu economaidd, maent yn fethiant llwyr.

Wel, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond dweud fy mod yn gobeithio y bydd yn dangos mwy o synnwyr cyffredin yn y dyfodol. Rwy’n siomedig braidd fod yr Aelod yn dweud—neu’n awgrymu—y byddai’n fodlon i’r trethdalwr fod yn agored i 75 y cant, neu 100 y cant yn wir, o risg y prosiect ac eto nid yw’n credu mai i 50 y cant o’r risg yn unig y dylai’r trethdalwr fod yn agored iddo. Nid wyf yn deall yn iawn pam y byddai’n well gan yr Aelod wneud y trethdalwr yn agored i’r holl risg yn hytrach na hanner y risg, gan iddo ddweud yn benodol mai dyna y mae’n siomedig yn ei gylch. Rwy’n ofni bod yna gwestiwn yno, ond mae’n un nad oedd yn gwneud synnwyr.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ddwywaith fod Cylchffordd Cymru bellach yn derbyn ei raniad 50/50 o ran y warant. A gaf fi ei wahodd i ddweud ychydig yn fwy penodol pa un a ydynt wedi cytuno i raniad o 50/50 ar unwaith, neu a ydynt wedi cytuno i weithio tuag at leihau’r risg y mae’r sector cyhoeddus yn ei wynebu i’r lefel honno o 50 y cant dros gyfnod o amser? A gaf fi ofyn hyn iddo hefyd? Mae wedi dweud, wrth gwrs, fod Cymru a Llywodraeth Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac eto mae’r cynnig hwn wedi bod ar ei ddesg ers nifer o wythnosau. Dro ar ôl tro, mae’r cwmni wedi ceisio ymgysylltu ag ef, ac eto y bore yma yn unig, gyda munudau i fynd tan y datganiad hwn, a datganiad, mewn gwirionedd, a newidiodd o’r datganiad ysgrifenedig am fod y geiriau hynny eu bod wedi cytuno i’r rhaniad 50/50 wedi eu hychwanegu oherwydd, wrth gwrs, cynhaliwyd y drafodaeth gyda’r cloc yn tician. Nawr, yn sicr nid dyma’r ffordd i gynnal trafodaeth briodol ar brosiect mor fawr a chymhleth â hwn.

A wnaiff ddweud hefyd, fel y crybwyllwyd eisoes, pa sail sydd i’r polisi newydd hwn o’r rhaniad 50/50, sydd wedi glanio fel llechi carreg o unman? Pa sail sydd i hynny? A yw’n seiliedig ar ryw bolisi llyfr gwyrdd gan Lywodraeth y DU, ac ati? Mae gennym y defnydd o atebolrwydd amodol, sy’n weithdrefn safonol a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU, felly o ble y daw’r rhaniad hwn o 50/50? A pham atal awdurdodau lleol? Os yw Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn gwarant o 50 y cant a bod yr awdurdodau lleol, oherwydd yr effaith economaidd, yn enwedig yn rhai o’r cymunedau difreintiedig, wedi dweud, ‘Rydym yn hapus, ar ran ein trigolion, i ysgwyddo ychydig bach o’r risg hefyd mewn gwirionedd’, pam eu hatal rhag gwneud hynny? Pam bod mor ddogmatig yn yr achos hwn?

Mae’n cyfeirio at risg. Mae dwy elfen i risg yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs: maint y warant, ond hefyd y tebygolrwydd y bydd y warant yn codi byth; h.y. a fydd y prosiect yn methu? Ac rwy’n awgrymu wrth Ysgrifennydd y Cabinet, os yw’n credu—

A gaf fi ddweud, mae yna Weinidog yn gwneud sylwadau, ac efallai y byddai’r Gweinidog yn hoffi bod ychydig yn dawelach er mwyn i Ysgrifennydd y Cabinet allu clywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ofyn?

Rhaid i mi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: os yw’n credu bod yna debygolrwydd cryf y bydd y prosiect yn methu, pam y mae hyd yn oed wedi bod yn cael y drafodaeth hon ers pum mlynedd beth bynnag? Ac onid yw’n wir fod diwydrwydd dyladwy ei Lywodraeth ei hun yn dangos bod galw’r warant yn senario mor annhebygol fel y gellid ei diystyru bron iawn? Oherwydd ei fod yn brosiect cryf; dyna pam. Ceir achos busnes cryf. Ac oherwydd hynny, mae hyn oll yn academaidd, a dylai fwrw ymlaen â’r gwaith a chefnogi’r cynnig hwn mewn ardal o Gymru sy’n crefu am swyddi ac arweinyddiaeth.

Nodaf nad oes llawer o gyd-Aelodau’r Aelod yn rhannu ei farn o gwbl. Y ffaith amdani yw bod llawer o gyd-Aelodau’r Aelod yn gwrthwynebu’r prosiect hwn yn llwyr, felly mae arnaf ofn nad yw rhoi’r argraff ei fod ef a’i gyd-Aelodau o blaid adfywio’r ardal drwy Cylchffordd Cymru, yn cyfleu realiti’r sefyllfa o gwbl. Yn wir, mae’r Aelod braidd yn ddistaw ar hyn o bryd.

Yn wir, rwy’n eithriadol o siomedig fod yr Aelod—[Torri ar draws.]—unwaith eto’n awgrymu bod ysgwyddo mwy o risg y prosiect hwn o fudd i’r trethdalwr. Mae’r datblygwyr eisoes wedi dweud y gallant weithio yn ôl yr egwyddorion a nodwyd, er mwyn sicrhau nad oes gennym y prosiect ar y fantolen, i weithio yn ôl yr egwyddor honno. Maent wedi ei dderbyn; maent wedi dweud y gallant ei wneud. Felly, nid wyf yn sicr beth sy’n ysgogi’r farn hon ei bod yn well gwneud y trethdalwr yn agored i 100 y cant o risg prosiect yn hytrach na 50 y cant a dim mwy. Nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl.

Rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth edrych ar hyn, nad ydych wedi dod i’r Siambr a dweud, ‘Gwych; mae gennym gytundeb ac ar y sail hon, gallwn ddiogelu’r prosiect’. Felly, rwy’n meddwl bod eich sail yn amheus braidd. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn eich atebion i Mr Price ac i Mr Hamilton, nad ydych wedi bod ar eich gorau. Cafwyd craffu go iawn, yn enwedig gan Mr Hamilton, yn ei gwestiynau ac rwy’n meddwl bod angen i chi eu hateb.

Rhaid i mi ddweud mai arfer y gorffennol yw hyn. Fel y clywsom, mae gan Lywodraeth Prydain hanes hir fel sydd gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig cyn hynny yn ôl pob tebyg, o orfod tanysgrifennu risg. Rydym wedi cael prosiectau mawr o’r blaen. Yn enwedig pan fydd y prosiectau mawr eu bri hyn yn cael eu haddo i ardaloedd difreintiedig iawn, mae’n debyg ein bod yn edrych arnynt a gweld y byddai eu darparu, darparu’r warant honno, yn fuddiol i’r cyhoedd. Rwy’n meddwl bod angen i chi gael rhai manylion penodol ynglŷn â hyn yn gyflym iawn. Mae wedi bod yn amser hir ac a dweud y gwir, mae dod i’r Siambr hon yn awr a dweud, ‘Rydym newydd benderfynu yn yr hanner awr ddiwethaf mai ar y sail hon y gallwn fynd ymlaen’—. Pam ar y ddaear nad yw wedi ei wneud cyn hyn? Os yw’r prosiect hwn yn hyfyw, pam nad ydych wedi dod a chanmol y prosiect a dweud ei fod yn awr mewn cyflwr lle y byddai’n cael ei gyflwyno?

Deuthum i’r Siambr a chyflwynais ein hachos. Dywedais fod gan hyn botensial i adfywio ardal gyfan, rydym yn ei groesawu a bydd ein swyddogion yn gweithio gyda Cylchffordd Cymru er mwyn ei symud yn ei flaen. Ond rydym wedi gallu lleihau lefel—rwy’n cadw ailadrodd fy hun ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cydnabod hyn—y risg y mae’r trethdalwr yn agored iddi. Mae’n rhaid bod hynny’n rhywbeth y byddai’r Aelodau’n ei groesawu.

Lywydd, rwy’n bwriadu cyhoeddi, mor llawn ag y gallaf, asesiadau risg yn ymwneud â’r prosiect yn ogystal â chynnal adolygiad o’r broses, er mwyn i ni allu bod yn hyderus ei fod wedi cael ei wneud yn briodol ac yn llawn.

Rwyf am ymdrin â rhan fach o’r prosiect hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac er gwaethaf y sefyllfa rydych wedi ei hamlinellu, ac o ystyried eich bod wedi dangos bod y drws bob amser ar agor, rwy’n dal i ystyried ei bod yn siomedig iawn felly nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnig eu cefnogaeth i’r prosiect mawreddog hwn, yn enwedig gan ei fod yn bendant yn eu dalgylch ar gyfer swyddi, ac yn y blaen. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw wybodaeth ynglŷn â pham nad ydynt wedi cymryd rhan?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond mater i awdurdodau lleol yw hyn yn bendant. Mater iddynt hwy yw pa un a ydynt yn dewis buddsoddi mewn rhaglen datblygu economaidd. Ni allaf ateb ar ran yr awdurdod lleol hwnnw, ond wrth gwrs mae cyfle iddynt fuddsoddi ynddo o hyd os dymunant wneud hynny.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad diweddaru ar y mater pwysig hwn? Rwy’n falch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, fod eich drws yn dal ar agor i’r prosiect hwn. Fe fyddwch yn gwybod bod Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â photensial y prosiect. Rwy’n clywed rhai o’ch amheuon. Mae Aelodau eraill wedi gofyn am eglurhad ar nifer o’r pwyntiau roeddwn yn mynd i roi sylw iddynt.

A gaf fi ofyn i chi, yn gyntaf, a ydych yn derbyn ei bod yn bwysig i ni wahaniaethu rhwng tanysgrifennu a gwarantu risg, o’i gymharu â chyllido prosiect? Credaf yn sicr fod llawer o bobl y siaradais â hwy yn ystod y dyddiau diwethaf yn aneglur ynglŷn â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn dweud na all ei wneud. Nid ydych yn sôn am ariannu’r prosiect hwn; rydych yn sôn am wrthod gwarantu lefel benodol o risg. Rydych wedi bod yn bendant am hynny yn wyneb peth gwrthwynebiad yn y Siambr hon. A allwch fod yn gwbl glir pam rydych wedi gosod y lefel honno o risg? Pa asesiad annibynnol a wnaed gan arbenigwyr a benodwyd a beth oedd eu casgliadau? Rydych wedi dweud y byddech yn cyhoeddi gwybodaeth, rwy’n credu, ynglŷn â pham y gwnaethoch y penderfyniad a wnaethoch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i Aelodau’r Siambr hon weld pa gyngor annibynnol a gawsoch.

O ran cymorth gwladwriaethol, mynegwyd pryderon ynglŷn â hynny gan eich rhagflaenydd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw’r trothwy a fyddai’n peryglu her ar sail cymorth gwladwriaethol yn rhwystr mwyach. A allwch gadarnhau bod hynny’n wir? Os felly, mae’n dda o leiaf fod mater cymorth gwladwriaethol wedi ei dynnu allan o hyn. Yn olaf, beth yw eich asesiad o lefel y cyllid allanol sydd ar gael? A yw’n cynnwys cyllid datblygu, cyllid partner datblygu, a chyllid contractwr? Os felly, a ydym yn sôn am oddeutu £20 miliwn o gyllid allanol, neu a ydych yn cwestiynu’r asesiad hwnnw?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’n hollol gywir: rwy’n meddwl bod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn y gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu adnoddau ar ei gyfer. Tanysgrifennu yw hyn, nid ariannu’r prosiect. Rwy’n credu bod llawer o bobl yn ein cymunedau yn credu y byddai tanysgrifennu neu warantu cefnogaeth o 50 y cant yn gyfystyr â chyllido uniongyrchol gwirioneddol o oddeutu £185 miliwn. Nid yw hynny’n wir. Mae’n ymwneud â gwarantu cyllid o gyfalaf preifat. Nid yw cymorth gwladwriaethol yn broblem mwyach o ganlyniad i osod y bar yn is na 80 y cant. O ran y cyngor a gawsom, comisiynwyd yr ymarfer diwydrwydd dyladwy gan Grant Thornton a Fourth Street. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i gyhoeddi’r hyn a allaf—gwybodaeth nad yw’n fasnachol sensitif—a byddaf yn gwneud hynny.

4. 4. Cynnig i Newid Enw’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

Symudwn ymlaen i eitem 4, sef y cynnig i newid enw’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Mark Reckless.

Cynnig NDM6076 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

Yn cytuno y caiff y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn, a sefydlwyd ar 28 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar ran y Pwyllgor Busnes.

Diolch. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau

Yr eitem nesaf yw’r cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion—Mark Reckless.

Cynnig NDM6078 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David J. Rowlands (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).

Cynnig NDM6079 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).

Cynnig NDM6081 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nathan Gill (UKIP Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth wrth Gefn yn lle Michelle Brown (UKIP Cymru).

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes gwrthwynebiad, fe dderbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y BBC yng Nghymru

Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, y BBC yng Nghymru, ac rydw i’n galw ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6027 Bethan Jenkins, Lee Waters, Russell George, Jeremy Miles, Jenny Rathbone, Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.

2. Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.

3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos a'r dyfodol pellach.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw. Cychwynasom y ddadl hon ochr yn ochr ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ar sail drawsbleidiol yng nghyd-destun proses adnewyddu siarter y BBC, i geisio rhoi pwysigrwydd ein perthynas gyda’r BBC ar yr agenda yn nhymor gwleidyddol newydd y Cynulliad, a dangos iddynt nad ydym yn mynd i ddiflannu ac y byddwn yn craffu nid yn unig arnynt hwy ond ar bob darpariaeth ddarlledu a’r cyfryngau yma yng Nghymru yn y dyfodol agos.

Wrth ymchwilio ar gyfer y ddadl hon, roedd yn ddiddorol mynd yn ôl dros beth o’r allbwn y mae BBC Cymru wedi ei ddarparu i’r wlad hon ar hyd y blynyddoedd. Bydd rhai ohonoch yn gwybod, er bod BBC Cymru wedi ei sefydlu yn gyntaf yn 1964, mewn gwirionedd, roedd y darllediad cyntaf yng Nghymru yn llawer cynharach, yn 1923, gan orsaf radio o’r enw 5WA, a aeth ymlaen i fod yn rhan o drefn raglennu BBC. Byddai rhai o’r rhaglenni a welsom yn sicr yn dân ar y croen heddiw gyda’n gwerthoedd modern. Pan fyddwn yn dweud bod rhywbeth yn ‘perthyn i gyfnod’, gall hefyd olygu bod gennym gofnod byw o sut yr oedd pobl yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu mewn ffordd arbennig mewn cyfnod penodol yng Nghymru yn y gorffennol. Ond dyna sydd wrth wraidd y ddadl heddiw—fod gan BBC Cymru rôl hanfodol i’w chwarae yn adlewyrchu bywydau, dyheadau a heriau pobl Cymru heddiw. Yn ein barn ni, mae gan BBC Cymru ran allweddol i’w chwarae yn sicrhau bod hynny’n parhau, a rhaid iddo chwarae’r rhan honno.

Nid oes fawr o amheuaeth fod BBC Cymru wedi encilio o’r rôl hon, nid yn unig yn y cyfnod diweddar, ond dros flynyddoedd lawer. Cyaddefodd Tony Hall gymaint â hynny mewn araith a roddodd tua dwy flynedd yn ôl bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y rheswm pennaf y daeth y cynnig hwn i olau dydd oedd er mwyn i ni fel Aelodau’r Cynulliad fynegi ein rhwystredigaeth ynghylch y diffyg gweithredu yn y cyfamser i fynd i’r afael â sylwadau’r cyfarwyddwr cyffredinol. Yn wir, daeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad diwethaf a dywedodd bron yr un peth ag y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl—oes, mae yna ddiffyg portreadu ac rydym yn mynd i ddatrys y broblem. Wel, fy neges heddiw yw bod angen i chi ddangos eich bod yn mynd i wneud hynny yn awr. Nid oes dim o hyn yn bychanu beth y mae BBC Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni ddweud hynny. Mae peth o’i waith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—’Sherlock’,’Life on Mars’,’Ashes to Ashes’,’Being Human’—wedi bod yn llwyddiannus. Ond nid ydynt yn ymwneud â Chymru, yn y bôn, ac nid ydynt wedi eu gosod yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod hyn o wylio ‘Doctor Who’. Wrth gwrs, ni ellid disgwyl i raglen sy’n cynnwys estron sy’n gallu teithio drwy amser fel ei chymeriad canolog gael ei chyfyngu i’r ochr hon i Glawdd Offa. Ond sawl gwaith rydym wedi eistedd o’i blaen gan fwmian, ‘Nid Llundain yw’r fan honno ond y Rhath’?

Rwy’n meddwl bod uwch-reolwyr BBC Cymru yn gwneud yr hyn a allant, ond mae’r broblem ar ben arall yr M4 mewn gwirionedd. Gwelsom hynny yr wythnos diwethaf, rwy’n meddwl, pan gyhoeddodd y BBC na fyddai Cymru yn cael llais ar fwrdd y BBC heblaw drwy gyfarwyddwr y gwledydd a’r rhanbarthau. Dyna oedd eu trefn o’r blaen, ac maent wedi ei newid yn ôl i’r drefn honno. Byddwn yn cwestiynu a yw hyn yn gam i lastwreiddio ein dylanwad ar y BBC ac a ddylem gael gyfarwyddwr anweithredol o Gymru, gan fod penodiad cyhoeddus yn rhywbeth y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi ei grybwyll yn ddiweddar iawn yn yr adroddiad a gawsom fel Aelodau’r Cynulliad heddiw. Fel Cadeirydd pwyllgor newydd y pwyllgor cyfathrebu—pwyllgor ag iddo ddannedd, gobeithio—rydym eisoes wedi ysgrifennu at y BBC i ofyn iddynt am fanylion ynglŷn â’r penodiad a pham eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw heb unrhyw ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad neu Aelodau Seneddol neu’r Llywodraethau, naill ai ar lefel y DU, yn ôl yr hyn a ddeallaf, neu ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd.

Felly, ai gwahanolrwydd BBC Cymru sydd dan sylw fan hyn? A’r cwestiwn, yn dilyn ymlaen o hynny, yw: beth y gallwn ei wneud am hyn yma yng Nghymru? Rhaid i atebolrwydd fod yn allwedd i hyn oll. Fel gyda’n sefydliad ni, fel gyda sefydliadau ac elusennau anllywodraethol eraill, maent yn derbyn arian cyhoeddus, ac felly dylid eu gorfodi i esbonio eu penderfyniadau gan fapio eu canlyniadau posibl. Ddoe, wrth i adolygiad blynyddol diwethaf Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC gael ei gyhoeddi, dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr cenedlaethol y BBC dros Gymru, a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, a dyfynnaf, 'Mae yna heriau sylweddol o’n blaenau, ac un o’r rhain yw sicrhau bod nifer lawer uwch o’n straeon yn cael eu clywed a’u gweld ar ein sgriniau yng Nghymru, ar draws y DU a thu hwnt. Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol, rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ar gyfer cyfnod nesaf y siarter.'

Mae rôl y BBC ym mywyd y genedl yn hollbwysig, ac felly nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn ystyried ei waith yn feirniadol wrth ei amddiffyn yn frwd. Nawr, mae’n rhaid i ni fod yn benderfynol ac yn feiddgar yn ein gweledigaeth ar gyfer ei rôl yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, wrth gwrs, fel Aelodau Cynulliad, dylem groesawu’r sylwadau hyn fel datganiad o fwriad gan BBC Cymru, ond nid yw geiriau’n ddigon; mae angen i ni weld gweithredu ganddynt yn awr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd, edrychaf ymlaen at wahodd yr ymddiriedolwr cenedlaethol a chyfarwyddwr Cymru y BBC i gyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad a rhoi rhywfaint o gig ar esgyrn yr hyn y maent wedi’i ddweud. Pan ddaethant i’n gweld yn flaenorol, fe ddywedasant y byddent yn hoffi monitro canlyniadau a sut y gellir dadansoddi ac asesu’r portread, ac edrychaf ymlaen at eu holi ynglŷn â hynny yn y dyfodol.

Felly, mae angen i ni ofyn: sut y bydd y BBC yn mynd i’r afael â’r dasg newydd? A yw’n mynd i wneud ei hun yn fwy atebol i’w gynulleidfaoedd ac i’r Cynulliad hwn? Beth fyddant yn ei wneud drwy’r siarter newydd? Sut y bydd yn sefydlu ei drefniadau llywodraethu newydd? Sut y bydd yn mesur eu canlyniadau? A yw’n nod ganddo i ymateb i farn a phryderon ei gynulleidfaoedd mewn ffordd real a sylfaenol? A sut y bydd BBC Cymru yn sicrhau bod ei gynulleidfa yn cael eu diogelu rhag unrhyw benderfyniadau anffafriol posibl yn Llundain?

Yr wythnos hon mae Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC yn dweud, ac rwy’n dyfynnu:

‘dylai fod yn ofynnol i’r BBC adrodd i’r cyhoedd yng Nghymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn flynyddol ar y ffordd y mae ei holl wasanaethau, o ran y Rhwydwaith a BBC Cymru wedi bodloni Dibenion Cyhoeddus y BBC yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol.’

Mae hyn yn rhywbeth rwyf i ac ACau eraill wedi galw amdano dro ar ôl tro ers amser mawr, ac rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny yn y dyfodol. Felly, rwy’n gobeithio gweld ffocws newydd gan reolwyr BBC Cymru ac y bydd hyn yn arwain at arloesi newydd.

Awgrymwyd wrthyf y dylai fod rhywbeth fel ‘The One Show’ ar gyfer Cymru, o bosibl, neu efallai y gallai gyfateb yn Saesneg i ‘Golwg 360’, gan fod ‘Golwg 360’ wedi rhoi newyddion arbennig ac unigryw am Gymru i ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai’r ddau awgrym gynyddu cyfranogiad y gynulleidfa ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i BBC Cymru wella’i berfformiad. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod ffafrio papurau newydd Llundain yng Nghymru yn hytrach na chyfryngau cynhenid ​​o gryfder amheus wedi chwarae rhan yng nghanlyniad refferendwm. Canlyniad hynny, fel y gallwn weld, yw bod pawb a’n harweiniodd i’r llanast hwn wedi gadael y llong sy’n suddo i’r gweddill ohonom lenwi’r tyllau, cael gwared ar y dŵr a dal ati i hwylio.

Ar y pwynt y mae hi’n ei wneud am y berthynas rhwng y wasg a’r BBC, mae’n gwybod bod y BBC wedi dweud, fel rhan o broses y siarter, fod ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi’r wasg ar lefel leol drwy rannu newyddiaduraeth, rhannu straeon ac yn y blaen. A yw hynny’n rhywbeth y mae hi wedi edrych arno gyda—? Mae’n ddyddiau cynnar ar y pwyllgor newydd, rwy’n gwybod, ond a yw hynny’n rhywbeth sydd o ddiddordeb i’r pwyllgor neu o ddiddordeb yn ehangach, ac a oes ganddi unrhyw sylwadau ar sut y gellid symud hynny yn ei flaen yn awr, yn enwedig o ystyried y ffaith ein bod yn colli newyddiadurwyr o’r lle hwn, er enghraifft, sy’n rhoi sylw i wleidyddiaeth yng Nghymru?

Yn amlwg, nid wyf am siarad fel rhyw fath o unben ar hyn o bryd; rydym yn mynd i fod yn siarad fel pwyllgor. Rwy’n siŵr na fyddai pobl eisiau meddwl y byddwn yn dweud wrth bawb yn awr beth y byddwn yn ei wneud fel pwyllgor, ond mae’n rhywbeth sy’n—wel, wyddoch chi, gallai’r pŵer fynd i fy mhen—. Mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel pwyllgor gyda’n gilydd. Oherwydd, wrth gwrs, roedd hyn yn rhywbeth a ddarllenais yn ymgynghoriad y BBC cyn y tymor Cynulliad hwn. Yr hyn rwy’n bryderus yn ei gylch, fodd bynnag, yw y byddai adnoddau’r BBC yn cael eu rhannu’n rhy denau wedyn, ac a allai’r BBC ymdopi â hynny, ac a fyddai’n esgus wedyn i rai sefydliadau cyfryngau nad wyf am eu henwi gael gwared ar wasanaethau am eu bod yn dweud, ‘Wel, mae’r BBC yn llenwi’r bwlch yno, felly nid oes angen i ni fod yno rhagor’. [Torri ar draws.] Iawn.

Ar y pwynt hwnnw, er gwybodaeth, pan grybwyllais y mater hwn, mater newyddiadurwr y ‘Daily Post’ yma, yr ymateb gan y ‘Daily Post’ oedd, ‘O, rydym yn ystyried rhannu gyda’r BBC.’

Wel, rydych wedi profi’r pwynt hwnnw ar ei ben felly.

I didn’t want to finish without mentioning S4C in the minute that I have left. We should also mention the fact that they want to be part of the BBC charter and that they believe that there should be a clause in the new charter talking about their independence and what they do. From what I hear from S4C the Westminster Government may not be 100 per cent in favour of this, but if S4C, for the short term at least, is to be funded through the licence fee, then why shouldn’t they be included as part of that new charter? I think it’s important to establish what their status will be for the future and what the work programme for S4C is to be. Perhaps the Minister can tell us what the response is to this, or perhaps he could speak to S4C and the DCMS on the strategic position of S4C in the future to ensure that they are given the support that they deserve. Thank you.

Diolch, Lywydd. A gaf fi roi teyrnged i Bethan Jenkins am y diddordeb y mae wedi ei ddangos yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf? Rwy’n falch iawn fod y Cynulliad hwn yn awr wedi sefydlu pwyllgor gyda chyfathrebu yn benodol yn ei gylch gwaith, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod ohono, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi.

Fel y noda’r cynnig, yn y 10 mlynedd diwethaf torrwyd chwarter yr arian a fuddsoddwyd mewn gwneud rhaglenni ar gyfer Cymru yn y Saesneg, ac mae nifer yr oriau a ddarlledir chwarter yn llai hefyd. Ar adeg pan fo Cymru fel cenedl wedi ei diffinio’n gliriach nag erioed, mae’r ffynonellau gwybodaeth ar gyfer trafod a chraffu ar ein gwlad yn diflannu. Mae hyn yn ddifrifol.

Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi cydnabod bod hon yn sefyllfa anghynaliadwy. Ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ebrill 2014, mynychais ei araith yn y Pierhead pan gyfaddefodd fod rhai agweddau ar fywyd cenedlaethol yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cyfleu’n ddigonol gan y BBC, gan gynnwys comedi, adloniant a diwylliant. Mae hyn, meddai, yn llyffetheirio ein potensial creadigol a’n gallu i harneisio ein doniau amrywiol.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw Tony Hall wedi gwneud dim i gywiro’r diffygion hynny a nododd. Ar 12 Mai eleni ysgrifennodd at y Prif Weinidog i adael iddo wybod sut roedd yn bwrw ymlaen, ac unwaith eto nododd ddiffygion, yn ei eiriau ef, nad oedd yr amrywiaeth llawn o ddiwylliannau a chymunedau’r DU yn cael eu hadlewyrchu’n briodol ar y BBC—mae’r rhain yn ddatganiadau mawr i gyfarwyddwr cyffredinol eu gwneud—a bod cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a wnaed yng Nghymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy. Ond ni chafwyd unrhyw fanylion ynglŷn â sut y caiff hyn ei unioni. Nawr, gadewch i ni roi hyn mewn cyd-destun. Mae gan uwch-swyddogion gweithredol BBC hanes o hyn. Chwe blynedd yn ôl, dywedodd Joanna Bennett, cyfarwyddwr gweledigaeth—teitl yn syth allan o ‘W1A’—y byddai pentref drama Porth y Rhath yn sicrhau

budd creadigol o ran y lleisiau rydym yn eu clywed, y straeon rydym yn eu hadrodd, y lluniau rydym yn eu paentio.

Geiriau cain—empathi deniadol. Ond fel y mae’r adroddiad ymadawol yr wythnos hon gan Gyngor Cynulleidfa Cymru yn dangos, chwe blynedd yn ddiweddarach, geiriau gwag yw’r rhain. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae’r cyngor cynulleidfa yn dweud, yr wythnos hon, fod:

‘Prinder portread o Gymru yng nghynnyrch teledu a Radio rhwydwaith’,

ac yn arbennig felly mewn drama a chomedi. Yn wir, mae’n dweud mai prin y cynhyrchwyd unrhyw raglenni drama a chomedi rhanbarthol yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Y mis diwethaf, ysgrifennodd dwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol hwn at yr Arglwydd Hall i alw arno weithredu ar sail ei eiriau. Ei ymateb? Yr wythnos diwethaf, cafodd wared ar gyfarwyddwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dîm gweithredol y gorfforaeth. Mae hyn yn gwrthdroi’r penderfyniad i roi sedd iddynt ar y prif fwrdd mor ddiweddar â 2008, gyda’r bwriad ar y pryd i

ddwyn cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ynghyd.

A yw’n credu ein bod yn wirion? Nid yw’r BBC byth yn blino dweud wrthym mai cynulleidfaoedd Cymreig yw eu cynulleidfaoedd mwyaf ffyddlon. Mae’r Bîb yn bwysig i ni, ond nid yw swyddogion gweithredol y BBC yn mynd ati gydag unrhyw argyhoeddiad i ddangos bod Cymru’n bwysig iddynt hwy. Maent yn ein cymryd yn ganiataol. Hyd yn hyn, mae rheolwyr y BBC i’w gweld yn fyddar i siâp newidiol y DU. Mae angen llais cryf i Gymru ar fwrdd newydd y BBC; llais annibynnol heb ei benodi gan Lywodraeth y DU—fel y mae eu Papur Gwyn yn awgrymu ac fel y cymeradwyodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn anffodus ac yn annoeth—ond yn hytrach fel y mae grŵp polisi cyfryngau mawr ei barch y Sefydliad Materion Cymreig yn ei argymell heddiw, drwy’r broses benodiadau cyhoeddus arferol, gyda’r enwau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo, a byddwn yn ychwanegu, yn amodol ar graffu cyn penodi gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd y Cynulliad.

Mae hon, fel y maent wedi dweud, yn sefyllfa anghynaliadwy. Fel y maent wedi dweud, mae’r BBC yn anghymesur o bwysig i Gymru. Maent yn cydnabod hynny, ond nid yw geiriau’n ddigon mwyach. Diolch.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl a noddwyd ar y cyd heddiw ar rôl y BBC yng Nghymru fel darlledwr, sydd â rôl unigryw yn adlewyrchu bywydau pobl Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg ar y teledu, y radio ac ar-lein. Rwy’n swnio ychydig fel jingl radio yn dweud hynny. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â geiriau Bethan Jenkins a Lee Waters heddiw. Rwy’n falch iawn fod gennym bwyllgor wedi ei sefydlu yn arbennig ar gyfer darlledu ac rwyf wrth fy modd o fod wedi gweld hynny’n cael ei gytuno. Er nad wyf ar y pwyllgor, bydd gennyf ddiddordeb mawr yn ei waith.

Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y ffordd y mae gan y BBC, fel unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymru, rôl nid yn unig yn dod â chynulleidfaoedd ledled y DU at ei gilydd, ond yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru iddi ei hun ac i weddill y wlad. Ddoe, cyhoeddodd Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC ei adolygiad blynyddol, a oedd yn crynhoi’r heriau sy’n wynebu’r darlledwr. Ar y naill law, mae’r BBC yn gwneud cyfraniad sylweddol i gynhyrchiant rhwydwaith Cymru drwy raglenni fel ‘Doctor Who’, ‘Casualty’, ‘War and Peace’ a ‘Sherlock’ fel y crybwyllodd Bethan; pob un ohonynt yn rhaglenni sydd wedi ennill gwobrau a chredaf y dylem fod yn hynod falch ohonynt. Ond mae’n glir na ddylai cynyrchiadau rhwydwaith gymryd lle rhaglenni a wneir yn benodol ar gyfer gwylwyr yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun datganoli cynyddol, gwasg bapur newydd wan, sector radio masnachol gwan a llai o luosogrwydd barn yn gyffredinol.

O ystyried uchafiaeth y BBC yng Nghymru a’r toriad anghynaliadwy—rwy’n cytuno â Lee Waters—y toriad o 25 y cant yn y cyllid i raglenni Saesneg ar gyfer Cymru dros y degawd diwethaf y cyfeiriodd yr Arglwydd Hall ato o’r blaen fel y soniwyd, mae ganddo botensial i effeithio’n anghymesur, neu mae eisoes yn effeithio’n anghymesur ar Gymru o ystyried y diffyg lluosogrwydd o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU fel Llundain, sydd â nifer fawr o ffynonellau cyfryngau a rhaglenni newyddion a rhaglenni heb fod yn newyddion.

Roedd y cyngor cynulleidfa hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu’r Gymru fodern a bywydau ei phobl yng nghyfnod nesaf y siarter. Rhaid iddo wneud mwy i fynd i’r afael â’r diffyg portread o’r Gymru gyfoes ar deledu rhwydwaith ac allbwn radio ac mewn rhaglenni teledu heb fod yn newyddion megis drama, a chomedi yn arbennig hefyd.

Rhaid cydnabod bod newyddiaduraeth y BBC wedi gwella’n sylweddol ers cyhoeddi adroddiad King, gan gydnabod bod gwahanol wledydd y DU a’r ffordd y mae rhaglenni heb fod yn newyddion wedi adlewyrchu pob rhan o’r DU wedi bod yn ddiffygiol weithiau yn fy marn i. Ond wrth wrando ar newyddion Radio 2 yr wythnos diwethaf, pan oeddwn yn y car, gallwn glywed adroddiadau ar lwyddiant pêl-droed Cymru, ac roedd y cyfan yn stori newyddion gadarnhaol iawn, ond câi ei wneud fel pe bai Cymru yn drydydd parti—roedd wedi ei eirio yn y ffordd honno. Roedd y gohebydd newyddion yn ei eirio yn y ffordd honno. Pe bai wedi bod fel arall, byddai wedi cael ei eirio’n wahanol iawn. Yn wir, mae ymrwymiad i olygydd comisiynu sy’n gyfrifol am ddrama deledu ym mhob gwlad, gydag amcanion o ran portreadu, yn gam cadarnhaol yn fy marn i tuag at sicrhau bod yr holl raglenni rhwydwaith yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol holl genhedloedd y DU yn gywir.

Mae’n galonogol fod y BBC wedi gwneud ymrwymiad clir i fabwysiadu’r argymhellion, gan gynnwys llais cryfach i Gymru ar y bwrdd unedol newydd, a thrwydded genedlaethol i Gymru, a fyddai’n ategu’r atebolrwydd dros y gwasanaethau a ddarperir ym mhob gwlad. Mae cynigion diweddar y gorfforaeth i wario cyfran fwy ar wasanaethau penodol i bob gwlad ac i wario mwy ar raglenni Saesneg yng Nghymru, i’w croesawu wrth gwrs, ond rwy’n cytuno’n llwyr â barn Lee Waters a Bethan Jenkins nad yw geiriau’n ddigon. Mae angen gweithredu, ac mae angen ymrwymiad ariannol pendant.

Nid yw’r ffi’r drwydded yn berffaith, ond mae’n well na dim arall a gynigiodd unrhyw un erioed, oherwydd mae’n gwbl hanfodol fod y BBC yn parhau i fod yn annibynnol oddi ar lywodraethau o bob math, gan mai un o’i swyddogaethau allweddol yw dwyn gwleidyddion a Llywodraeth i gyfrif, ac ni ellir ei lyffetheirio gan y syniad y gallai ffi’r drwydded gael ei thorri am fod y BBC yn mynd ati’n drylwyr i ddatgelu pethau sy’n anffafriol. Yn ddiweddar, gwelwyd risg sylweddol y gallai hynny ddigwydd.

Nid yw pwysigrwydd y BBC fel sefydliad yn ein bywyd cyhoeddus wedi ei bwysleisio’n ddigonol. Mae’r Athro Brian Cox, sydd wedi gwneud mwy i ddealltwriaeth boblogaidd o wyddoniaeth nag unrhyw un arall yn ddiweddar o bosibl, wedi disgrifio’r BBC fel sefydliad cyhoeddus yn gyntaf, a chwmni cyfryngau yn ail, a chytunaf yn llwyr â hynny. Mae’n rhaid i ni ddeall mai’r tair llythyren—BBC—yn ôl pob tebyg yw’r logo a adwaenir orau yn unrhyw le yn y byd, ac ni ddylem geisio dadwneud hynny. Efallai nad ydynt mor effeithiol am werthu brand Cymru ag yr oedd cyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth chwaraeon fawr, ond nid oes amheuaeth fod y ffordd y mae’r BBC yn cyflwyno Cymru i’r byd ehangach ac yn adlewyrchu’n ôl ar ein dealltwriaeth ein hunain o’n Cymreictod ein hunain yn eithriadol o bwysig.

Rwy’n anghytuno gyda Bethan Jenkins ar un mater, sef na allwn esbonio pleidlais i adael yr UE ar sail y ffaith fod yr holl bapurau newydd yn cael eu cyhoeddi yn Llundain, am fod Llundain, ar y cyfan, wedi pleidleisio dros aros, wrth gwrs. Rwy’n credu ei fod yn llawer mwy cymhleth na hynny, ond mae’n sicr yn wir fod y sylw a roddir i Gymru yn fach iawn ac yn eithriadol o wan am fod y rhan fwyaf o bapurau newydd—ac mae llai a llai o bobl yn darllen papurau newydd—yn cael eu cynhyrchu yn Llundain. Felly, dyna pam ei bod ddwywaith mor bwysig i ni gael elfen ddarlledu gref iawn yng Nghymru er mwyn galluogi pobl i ddeall y byd rydym yn byw ynddo a’r wleidyddiaeth y gweithredwn o’i mewn.

Yn y dyddiau cyn Deddf Darlledu 1990, rhaid i ni gofio bod gofyn i gwmnïau ITV hefyd sicrhau cynnwys rhanbarthol, ac roedd hynny’n helpu i gynnal y modd egnïol a thrylwyr yr âi’r BBC i’r afael â’i rwymedigaethau. Ers diflaniad y cwmnïau ITV rhanbarthol dan doriadau Mrs Thatcher, mae gennym ITV hollol wan yn rhanbarthol, ac mae wedi caniatáu i gynnwys radio a theledu’r BBC wywo yn ei sgil. Mae bron yn syndod eu bod yn llwyddo i wneud cymaint ag y maent yn ei wneud gyda’r ychydig sydd ganddynt, ond mae cael teledu a radio yn gwbl hanfodol i’r drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â’r hyn sy’n creu ein byd cyhoeddus, oherwydd gyda 25 y cant o’n poblogaeth yn anllythrennog yn ymarferol, dyna’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwybodaeth am y byd a’u dealltwriaeth ohono. Ac mae’n beryglus iawn pan fyddwn yn ymgyrchu ac yn gwrando ar bobl yn dweud wrthym, ‘Nid ydym yn pleidleisio Llafur rhagor oherwydd y toriadau rydych wedi eu gwneud i’r anabl.’ Mae’n mynd â’ch gwynt, ond dyna lefel y gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y byd, a phwy sy’n gwneud penderfyniadau ar ran pobl, a aeth â ni i ble’r oeddem gyda’r refferendwm.

Darparodd y BBC wefan ardderchog i geisio dadelfennu honiadau a gwrth-honiadau timau’r ymgyrch dros adael yr UE a’r ymgyrch dros aros, ond rwy’n amau’n fawr a lwyddodd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ei chael yn anodd deall yr hyn roedd y refferendwm cymhleth hwn yn ymwneud ag ef i gyrraedd yno byth, a byddai wedi bod yn well o lawer pe baem wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ysgogiadau croes i reswm a wnaeth i bobl bleidleisio dros adael, yn bennaf y bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd heb lawer iawn o fewnfudwyr, ac eto ysgogwyd pobl i bleidleisio dros adael ar y sail ei fod yn mynd i roi diwedd ar fewnfudo. Byddai yna ddigon o raglenni wedi gallu archwilio’r gwrthddywediad hwnnw, ac efallai y byddai wedi galluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a oedd yn y fantol.

Ond rwy’n credu bod rhaid i ni fynd yn ôl at y ffaith fod yn rhaid cadw rôl Reithaidd y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu yn unedig, ac ni allwn adael i’r BBC gael ei ddarnio i wneud rhaglenni difrifol a pheidio â gwneud rhai poblogaidd. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol y dylai’r bwrdd newydd hwn, at ei gilydd, gael ei wneud drwy broses benodiadau cyhoeddus. Rwy’n deall y bydd angen i Lywodraeth benodi cadeirydd, ond mae angen i weddill y bwrdd, gan gynnwys cynrychiolydd Cymru, gael eu penodi drwy’r broses benodiadau cyhoeddus.

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu i’r drafodaeth yma. Rwy’n codi fel cyn aelod o staff y BBC; mae gen i brofiad uniongyrchol helaeth o weithio i’r gorfforaeth yng Nghymru, ac rwy’n gwybod fod BBC Cymru ei hun, wrth gwrs, yn frwd iawn dros wneud rhaglenni i ac am Gymru, ond bach iawn ydy BBC Cymru o fewn cyfundrefn ehangach y BBC drwy Brydain. Mi glywn ni yn aml iawn y geiriau cywir yn cael eu siarad gan benaethiaid y BBC yn Llundain, ac mae’r un yn wir y tro yma efo’r addewid o arian ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Ond un peth ydy geiriau, wrth gwrs—peth arall ydy gweithredu, a pheth arall wedyn ydy gweld effaith wirioneddol y gweithredu yna.

Nid wyf yn amau y bydd y BBC yn cadw at yr addewid o roi rhagor o arian ar gyfer rhaglenni Saesneg yng Nghymru; nid ydym yn gwybod faint o arian sydd yna, wrth gwrs, ac mae’n rhaid cofio hefyd y bydd yr arian ychwanegol yna yn dod ar adeg pan fydd disgwyl i’r BBC drwyddo draw wneud arbedion sylweddol iawn, iawn. Felly, ni allwn ganiatáu i’r arian yma fod yn ddim mwy nag arian lliniarol pan, fel rydym wedi glywed yn barod, mae’r gyllideb rhaglenni Saesneg wedi disgyn o bron i chwarter yn barod dros y degawd diwethaf.

I wneud rhaglenni go iawn mae angen cyllidebau go iawn. Wrth gwrs bod yna arbedion y mae’n bosibl eu gwneud, ac mae’n werth llongyfarch S4C yn y fan hyn am lwyddo i wneud arbedion mor rhyfeddol mewn cyfnod anodd yn y blynyddoedd diwethaf; maen nhw wedi llwyddo i wneud rhaglenni rhagorol ar gyllidebau bach iawn. Rwy’n gwybod achos fy mod i wedi cyflwyno llawer ohonynt nhw, ac mae’n dda iawn gweld cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn ffigurau cynulleidfaoedd S4C yn ddiweddar ar draws platfformau gwahanol darlledu ym Mhrydain yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae llawer o’r llwyddiant yna o ran gwneud rhaglenni da yn rhatach wedi digwydd oherwydd ymrwymiad staff rhagorol i ddarlledu Cymraeg, ond hefyd i’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Ond allwn ni ddim parhau i ddisgwyl i’r ymrwymiad yna wneud i fyny am golledion mewn arian. Ni all y gwasgu fod yn ddiddiwedd, ac os ydym am gael rhaglenni efo cynnwys da, sy’n edrych yn dda, sydd â’r gallu i ddenu cynulleidfaoedd, mewn unrhyw iaith, mae angen buddsoddiad.

Mater arall ydy’r rhwystrau ymarferol hefyd, wrth gwrs. Wrth i gyllidebau ddirywio gostwng hefyd mae nifer y slots darlledu sydd wedi bod yng Nghymru ar gyfer rhaglenni neilltuol Cymreig. Felly, yn ogystal â’r arian i gynhyrchu’r rhaglenni mae angen y llwyfan i ddarlledu y rhaglenni hynny. Rwyf wedi sôn yma yn y Siambr yn y gorffennol am 2W a’r ffaith bod yna, bryd hynny, oriau brig helaeth iawn ar gael yn Saesneg yng Nghymru. Mae’r dyddiau yna wedi mynd ond mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o allu llwyfannu rhaglenni Cymraeg yma.

Mater arall ydy’r pryder ynglŷn â newidiadau i brif fwrdd rheoli y BBC, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod lle, fel y clywsom ni gan Lee Waters, mi oedd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli ar y brif haen o reolaeth. Mae o’n gam yn ôl bellach mai un cynrychiolydd sydd yna i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau. Mae o’n gwanhau llais Cymru ac rwy’n bryderus iawn am y goblygiadau. Mae o’n gwthio Cymru i’r ymylon, nid oes yna ddim amheuaeth am hynny.

Mae gan y BBC enw, yn anffodus, am fod yn gorff lle mae’r canol yn tra-arglwyddiaethu. Oes, mae yna lawer o ddrama yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd. Oes, mae yna dwf wedi bod ym mhresenoldeb y BBC ym Manceinion, ond nid dyna’r cyfan sydd yn bwysig. Mae angen i’r BBC ddatblygu agwedd llawer mwy datganoledig, yn parchu gwahaniaeth o fewn yr ynysoedd yma, yn parchu a grymuso y cenhedloedd. Y canol yn rhannu drama i Gaerdydd ddigwyddodd—hynny ydy rhywbeth economaidd sydd i’w groesawu, wrth reswm, ond mae angen rhywbeth mwy na hynny. Rwy’n chwilio am rywbeth mwy na hynny lle mae’r BBC yn ganolog yn grymuso BBC Cymru er mwyn ei alluogi i wasanaethu ei gynulleidfaoedd.

Rwyf yn dymuno’n dda i’r pwyllgor newydd sydd gennym ni â chyfathrebu rŵan yn ei deitl o. Mae ganddo waith pwysig iawn i’w wneud, ac anodd, mewn sefyllfa lle nad ydy darlledu wedi ei ddatganoli. Mae angen i ni yma—i gloi—drwy adlewyrchu barn y bobl sy’n ein hethol ni, fynnu bod y BBC yng Nghymru wir yn gallu cyrraedd ei botensial o fod yn wir ddarlledwr cenedlaethol Cymreig, achos ar hyn o bryd, er gwaethaf talent ac ymroddiad staff rhagorol, mae o’n disgyn yn fyr iawn o hynny.

Hoffwn gyfrannu’n fyr iawn at y ddadl gan Aelodau unigol heddiw, dadl sy’n cyflwyno nifer o faterion allweddol sy’n ymwneud â darlledu yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar un agwedd ar y cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

‘Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i’w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.’

Pan fyddwn yn sôn am adlewyrchu bywydau, dyheadau a heriau pobl Cymru, rhaid i hyn olygu holl bobl Cymru waeth ble rydym yn byw neu’n gweithio. Yn anffodus, dro ar ôl tro ar garreg y drws ac yn y gymuned yn Nelyn, mae pobl Delyn wedi mynegi pryderon fod allbwn newyddion ein darlledwr gwasanaeth cyhoeddus i’w weld yn canolbwyntio’n rhy aml ar ddigwyddiadau a phobl o fewn radiws cyfyngol ein prifddinas. Er fy mod yn cydnabod y gallai fod cyfyngiadau ar adnoddau, mae llawer o fy etholwyr yn gwbl briodol yn credu bod gan y BBC ddyletswydd ddemocrataidd nid yn unig i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol yn eu cynnyrch, ond gwell cydbwysedd daearyddol yn ogystal.

Ar nodyn cadarnhaol, fel y mae cyd-Aelodau wedi dweud, gallwn fod yn falch fod brand BBC Cymru yn allforio rhagoriaeth ledled y byd. O safbwynt gogledd Cymru, gwn ein bod wedi symud ymlaen ers y dyddiau pan allech gael BBC Cymru i fyny’r grisiau yn y tŷ lle y cefais fy magu a ‘BBC North West Tonight’ i lawr y grisiau. Y cyfleoedd a gafwyd gyda dyfodiad teledu digidol sydd gennym i’w ddiolch am hynny i raddau helaeth. Ond yn amlwg, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod ein BBC yn cyrraedd ar draws ein gwlad, a’i fod yn adlewyrchu ein cenedl amrywiol ac yn berthnasol iddi hefyd.

Nid oes amheuaeth nad yw’r BBC yn destun parch mawr ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Yn ei adolygiad blynyddol olaf o allbwn BBC Cymru, dywedodd Cyngor Cynulleidfa Cymru fod tri o bob pump o bobl, sef 62 y cant, yng Nghymru,

yn teimlo bod ffi’r drwydded deledu yn cynnig gwerth am arian, a byddai mwy na phedwar o bob pump o bobl yng Nghymru yn gweld eisiau’r BBC pe na bai yno.

Mae hynny’n 83 y cant. Felly, heddiw rwy’n codi i siarad yn y ddadl hon, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, o awydd a rennir i weld y BBC yn cyflawni ei botensial llawn yng Nghymru ddatganoledig, ôl-ddiwydiannol yr unfed ganrif ar hugain.

Heddiw, os ydych yn sefyll ar falconi Aelodau’r Cynulliad, fel y gwneuthum yn gynharach, bydd eich llygaid yn nodi ehangder stiwdios gwych BBC Cymru ym Mhorth Teigr. Mae’n ffatri creu breuddwydion Gymreig go iawn sy’n gartref i raglenni teledu hynod o boblogaidd ‘Casualty’, ‘Doctor Who’ a ‘Pobol y Cwm’, rhaglenni sy’n eiconig ac yn cael eu darlledu ar draws y DU, a’r byd yn wir.

Yng nghanol Caerdydd, yng nghysgod gorsaf Caerdydd Canolog a Stadiwm Principality, mae pencadlys newydd BBC Cymru yn araf godi. Mae’r rhain yn asedau gwirioneddol wych yr ydym ni yng Nghymru a’r BBC yn haeddiannol falch ohonynt. Ond ni allwn adael i hynny ein dallu at y diffygion amlwg sy’n peri gofid ac sy’n drawiadol ac yn amlwg, fel y disgrifiwyd.

Wrth i’r setliad datganoli yng Nghymru aeddfedu a datblygu gyda Bil Cymru—y cam diweddaraf yn y daith hir honno—gwelwn yma yn y sefydliad hwn effeithiau toriadau’r DU i gyllid y BBC yng Nghymru. Rhaid ffilmio cyflwyniad y rhaglen ‘am.pm’ er enghraifft, sy’n cynnwys trafodion yma yn y Siambr hon, yn stiwdios Llandaf, lle roeddent ar un adeg yn ffilmio ar bedwerydd llawr Tŷ Hywel. I mi, dyma dystiolaeth symbolaidd, er bod Aelodau’r Cynulliad wedi galw ar y BBC i gynrychioli Cymru’n well, fod ystyriaethau ariannol wedi arwain at grebachu mewn gwirionedd.

Ar un adeg roeddwn yn aelod o Gyngor Darlledu Prydeinig Cymru, felly gallaf ddweud yn ddiedifar fod y BBC yn fy ngwaed innau hefyd. Mae BBC Cymru gyda digon o adnoddau ac wedi’i gyfarparu’n dda yn allweddol ac yn hanfodol ar gyfer ein cenedl yn y blynyddoedd i ddod. Byddaf yn un o’i gefnogwyr mwyaf hefyd, ond yn yr un modd, nid yw hynny’n golygu y byddaf yn ofni bod yn ffrind beirniadol.

Yn ei rhagair i’r adroddiad dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru a chadeirydd Cyngor Cynulleidfa Cymru, fod y neges gan gynulleidfaoedd Cymru yn glir iawn o ran eu bod am i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu’r Gymru fodern a bywydau ei phobl. Dywedodd:

‘Wrth i ni gyrraedd diwedd Siarter bresennol y BBC, ac edrych ymlaen at y BBC dros y ddegawd nesaf, mae hon yn her y mae’n rhaid i’r BBC fynd i’r afael â hi.’

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod—ac ailadroddaf ymadrodd y mae fy nghyd-Aelod Lee Waters eisoes wedi ei ddefnyddio—

‘Prinder portread o Gymru yng nghynnyrch teledu a Radio rhwydwaith’.

Soniaf hefyd am ffrind arbennig i mi, Max Boyce, un o bobl ddoniau creadigol mwyaf ein gwlad, ac roedd yn dda gweld mai ‘Max’s World Cup Warm-Up’, yng nghwmni’r diddanwr Cymreig ei hun, oedd y gyfres deledu Saesneg fwyaf poblogaidd ar BBC Cymru, gan ddenu 322,000 o wylwyr. Ond profiad cyntaf Max Boyce o enwogrwydd oedd ar ‘Opportunity Knocks’ y BBC yn y 1970au cynnar. Bedwar deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach, pa gyfleoedd sy’n curo ar y drws i’n dynion a’n menywod yng Nghymru? Pa lwyfan y mae’r BBC yn ei gynnig iddynt hwy i ddarlunio’r Gymru gyfoes fodern?

Un o fy hoff ganeuon eiconig gan Max Boyce yw’r un â’r teitl ‘Rhondda Grey’ ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn gwybod ei bod yn sôn am orffennol diwydiannol; cartref yn y cwm llwyd a arferai fod yn gymuned lofaol; bachgen a ddaeth adref i chwarae gyda phaent a phensiliau lliw a’i waith cartref ar gyfer y diwrnod, ‘We’ve got to paint the valley, mam, for Mrs Davies Art. What colour is the valley, mam, and will you help me start?’ Felly, heddiw, nid yw Cymru’n cael ei phortreadu’n ddigonol. Pa gynfas y mae’r BBC yn ei roi i’n holl gymunedau ar gyfer paentio lliw datganoli ôl-ddiwydiannol modern yng Nghymru?

Roedd fy rhagflaenydd a fy nghyfaill, Gwyn Price, y cyn-Aelod Cynulliad dros Islwyn, yn falch o wasanaethu ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac rwyf wrth fy modd fy mod bellach ar y pwyllgor hwnnw hefyd. Bydd ein Cadeirydd, John Griffiths yn falch o wybod fy mod i hefyd wedi bod yn gwneud gwaith darllen. Mae ymchwiliad y pwyllgor i’r adolygiad o siarter y BBC yn waith darllen angenrheidiol a chwblhaodd ei waith ym mis Mawrth eleni a gwneud cyfres o argymhellion y cyfeiriwyd atynt eisoes, felly cyfeiriaf yn uniongyrchol at argymhelliad 6, lle roedd y pwyllgor yn cefnogi’r alwad gyson gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod yn rhaid i’r BBC fynd i’r afael â bwlch cyllid yng Nghymru. Dywedodd:

‘Rydym yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru y dylai’r BBC fuddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer Cymru. Rydym yn credu bod y buddsoddiad hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cynnwys o safon i Gymru yn dal i gael ei wneud’.

Dywedodd hefyd yn ei lythyr at gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, y llynedd:

Byddai hyn yn caniatáu i gynulleidfaoedd yng Nghymru gael gorsaf deledu genedlaethol gredadwy a allai ddarparu cynnwys o safon yn Saesneg, gan gynnwys drama, comedi a rhwydweithio cyfraniadau hefyd o bosibl.

Felly, i etholaeth drefol yn y cymoedd, fel fy un i yn Islwyn, mae’n hanfodol fod y gymuned Gymreig sy’n siarad Saesneg yn cael eu bywydau wedi eu hadlewyrchu ar y sgrin ar eu cyfer hwy eu hunain ac o bosibl, ar gyfer cynulleidfa yn y DU gyfan. Mae gennym y sgiliau i wneud hyn. Rydym yn ymfalchïo yn y lle hwn ein bod yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru, felly mae’n ddyletswydd arnom hefyd i sicrhau bod ein cynnyrch teledu a radio hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfartal y ddwy brif famiaith yng Nghymru. Fel y dywedwyd, mae’r amser ar gyfer geiriau caredig wedi pasio ers amser hir. Fel y mae’r pwyllgor hwn wedi argymell hefyd, mae’n bryd i’r BBC ddatblygu targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Nawr yw’r amser i ddatganoli comisiynu, fel y dywedwyd, er mwyn sicrhau bod comisiynwyr rhwydwaith ar gyfer y gwledydd wedi eu lleoli yn y gwledydd hynny. A nawr yw’r amser i’r BBC adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad hwn ar ei gynnyrch a’i weithrediadau sy’n berthnasol i Gymru.

Yn olaf, mae gwefan BBC Cymru yn cyhoeddi’n falch fod y BBC wedi darparu drych ar gymdeithas yng Nghymru ar radio, teledu ac ar amrywiaeth o lwyfannau digidol. Felly, gadewch i ni sicrhau gyda’n gilydd fod y drych hwn yn darparu adlewyrchiad cywir, ei fod yn disgleirio ac ar gael i bob un o’n cymunedau sy’n ffurfio tapestri hyfryd bywyd yng Nghymru. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig hwn. Diolch.

Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynnig hwn ac i siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd credaf fod y BBC yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein gwlad, ac mae’n gwbl hanfodol fod y BBC yn cyfathrebu â’r cyhoedd ac yn rhoi’r holl wybodaeth a’r materion sy’n codi ynglŷn â pholisïau a datblygiadau yma yn y Cynulliad. Mae gan deledu a radio rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hynny. Gyda’r Cynulliad bellach yn ei bumed tymor, rwy’n dal i gael cwestiynau ar garreg y drws—’O, a ydych chi’n delio ag iechyd, ac onid yw’n ofnadwy ynglŷn â streic y meddygon iau? Beth ydych chi’n ei wneud am y peth?’—gan ddangos yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud: nad oes gwybodaeth ymysg y cyhoedd am yr hyn sy’n digwydd go iawn yng Nghymru a’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl bod gan y BBC, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ddyletswydd i ehangu ei gyrhaeddiad i’r 40 y cant o bobl, rwy’n credu, sy’n gwylio rhaglenni lle na cheir newyddion Cymreig neu gyd-destun Cymreig. Gwelaf hynny fel un o’r prif amcanion y dylai’r BBC eu cael, ac yn sicr, rydym wedi cael ymrwymiad i hynny, ond rydym am ei weld yn digwydd.

Rwyf hefyd yn credu bod hyn wedi cael effaith yn refferendwm yr UE: fod y bobl hynny, y 40 y cant o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n gwylio rhaglenni heb unrhyw gyd-destun Cymreig, heb gael gwybodaeth ynglŷn â sut y mae’r UE wedi bod o fudd arbennig i Gymru. Rwy’n credu bod hynny yn cael effaith.

Y pwyntiau eraill roeddwn eisiau eu gwneud—rwy’n credu mai Bethan Jenkins a wnaeth y pwynt pwysig am y bartneriaeth rhwng S4C a’r BBC, ac a ddylai S4C fod â rhan yn y siarter, ac rwy’n meddwl ei bod hi wedi gofyn i’r Gweinidog ymateb i hynny. Rwyf am ddefnyddio’r cyfle yn y ddadl hon i roi teyrnged, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth, i ymrwymiad staff S4C i ddarlledu Cymraeg, ond hefyd i fynegi fy siom fod S4C yn mynd i fod yn gadael ei safle yn Llanisien cyn hir, lle rwyf wedi cael cysylltiad â hwy ers blynyddoedd lawer, a symud allan o Gaerdydd. Rwy’n gresynu’n fawr iawn at hynny, ond wrth gwrs, bydd rhai o staff S4C yn symud i adeilad newydd y BBC lle bydd darlledu ar y cyd. Felly, bydd hynny, mewn gwirionedd, yn arbed llawer o arian, ond rwy’n gresynu eu bod yn symud.

Y pwynt arall roeddwn am ei wneud oedd—rwy’n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am y broses benodiadau cyhoeddus. Wel, hoffwn ddweud hyn: pam na ddylai’r cadeirydd gael ei benodi drwy broses benodiadau cyhoeddus? Oherwydd os yw cadeirydd yn cael ei benodi gan y Llywodraeth—a oes modd i’r cadeirydd hwnnw fod yn gwbl annibynnol byth? Rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y dylem edrych arno.

Yn olaf, roeddwn yn awyddus i siarad am gyd-destun cyfryngau gwan Cymru yn gyffredinol, y soniodd y rhan fwyaf o’r siaradwyr amdanynt, a phwysigrwydd y ffaith nad yw’r BBC, darlledwyr eraill a’r cyfryngau print, fel y mae pethau, yn darparu lluosogrwydd yn eu sylw i Gymru. Os edrychwch ar y cyfryngau print, wedi eu dominyddu gan Trinity Mirror, maent wedi cael eu hanrheithio yn sgil colli swyddi sy’n mynd yn ôl dros fwy na degawd. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod mae’n debyg fod Media Wales wedi symud i mewn i’w adeilad newydd, bron i 10 mlynedd yn ôl rwy’n credu—rwy’n siŵr fod llawer ohonom wedi bod i mewn yno—ac roedd yn defnyddio pum llawr o’r adeilad chwe llawr hwnnw, ac mae bellach ar un llawr yn unig, sy’n dangos y gostyngiad yn nifer y newyddiadurwyr sy’n gweithio ar bapur newydd cenedlaethol Cymru ac ar y ‘South Wales Echo’. Wrth gwrs, mae swyddfeydd lleol yr ‘Echo’ a’r ‘Western Mail’ yng Nghastell-nedd, Glyn Ebwy, Merthyr Tudful a Phontypridd hefyd wedi cau, felly nid yw’r papurau newydd yn agos at eu cymunedau fel y maent wedi bod yn y gorffennol.

Felly, credaf fod hynny’n destun gofid mawr, a gwyddom gyn lleied o newyddiadurwyr sydd yma mewn gwirionedd i adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yma yn y Senedd a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws Cymru. Ceir cyn lleied ohonynt ar gyfer gwneud gwaith go iawn o graffu ar yr hyn a wnawn yma. A ydym wir yn teimlo fod newyddiadurwyr yn ein dwyn i gyfrif mewn gwirionedd? Nid wyf yn credu bod y cryfder yno yn yr holl gyfryngau. Wrth gwrs, rydym wedi nodi yma yn y Siambr y ffaith fod y ‘Daily Post’ yng ngogledd Cymru yn colli ei ohebydd yn y Senedd. Rwy’n tybio mai mater o amser yw hi cyn i ‘Wales Online’ a’r ‘Western Mail’ wneud yr un peth. Felly, wyddoch chi, rwy’n credu ei fod yn ddarlun eithaf difrifol o ran y cyfryngau yng Nghymru. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y BBC yn gwneud yr hyn y mae’n ei ddweud a’r hyn yw ei fwriad, ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn cynyddu’r swm o arian a’r ymdrech y mae’n ei wneud mewn perthynas â Chymru.

Rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Member
Alun Davies 16:31:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau dadl gyfoethog iawn y prynhawn yma, gan drafod nid yn unig y BBC ei hun, ond hefyd y cyfraniad y mae’n ei wneud i fywyd cyhoeddus a’i gyfraniad at ddiwylliant Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dylwn ddechrau fy sylwadau drwy groesawu Bethan i’w rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych yn sicr yn llwyddo lle y methais i. Rwy’n cefnogi’n fawr iawn—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Rwyf am orffen y frawddeg. Rwy’n croesawu’n fawr y newyddion fod y Cynulliad yn mynd i greu pwyllgor—pwyllgor parhaol ar yr achlysur hwn—a fydd yn edrych ar y materion hyn. Rwy’n credu ei fod yn beth amserol iawn i’w wneud, ac rwy’n credu y daw’n bwysig iawn yn fuan, ac yn bwyllgor a fydd yn siarad ag awdurdod, nid yn unig ar ran y lle hwn ond ar ran pobl Cymru yn ogystal. Rwy’n meddwl bod y llais a glywsom y prynhawn yma o bob ochr i’r Siambr—ac mae’n dda gweld cefnogaeth unfrydol i’r materion hyn ar bob ochr i’r Siambr—yn cael ei glywed yn gryfach o ganlyniad i’r Cynulliad ei hun yn cael y gallu i wneud y penderfyniadau hyn. Felly, mae’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn ei groesawu’n fawr iawn, a hefyd y ffordd feddylgar y mae’r Aelodau wedi strwythuro eu cyfraniadau.

A gaf fi dweud, yn anad dim, ei bod hi’n bwysig fod y BBC yn cydnabod, os yw am gyflawni addewidion y mae’n eu gwneud—ac rwy’n meddwl bod Lee Waters wedi egluro nifer o addewidion a glywais i ac eraill dros nifer o flynyddoedd—mae’n rhaid iddo gael strwythur a fydd yn cyflawni’r addewidion hynny? Mae hynny’n golygu strwythurau rheoli, llywodraethu ac atebolrwydd sy’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed. Rwy’n rhannu pryderon yr Aelodau am y newidiadau strwythurol diweddar i fwrdd rheoli’r BBC—y bwrdd gweithredol—ac rwy’n edrych ymlaen at weld y BBC yn egluro sut y bydd yn cryfhau llais Cymru, sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed pan fydd yr holl benderfyniadau yn cael eu gwneud, a sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod Cymru yn rhan o’r holl benderfyniadau a wneir gan fwrdd gweithredol y BBC. Byddaf yn disgwyl i’r BBC, wrth roi’r esboniad hwn i ni, sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed bob amser lle bynnag y gwneir y penderfyniadau hyn.

Mae’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud gan wahanol Aelodau ar adegau gwahanol i gyd yn ymwneud â diwylliant o fewn y BBC—a chredaf fod Rhun ap Iorwerth wedi esbonio hyn yn dda—lle y ceir rhagfarn fetropolitanaidd o ran penderfyniadau rheoli ac o ran y meddwl a’r diwylliant sy’n sail i’r penderfyniadau hynny, sydd wedi gwreiddio, nid yn anghenion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ond ym meddyliau cyfforddus a rhagfarnau, weithiau, y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny. Mae hynny’n rhywbeth sydd angen ei herio. Gallaf sicrhau’r holl Aelodau nad proses adnewyddu’r siarter yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ynddi; mae hefyd yn ceisio sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny.

Rwyf am ymateb i’r ddadl y prynhawn yma drwy edrych ar rai o’r materion y mae Aelodau wedi’u crybwyll. Gadewch i mi yn gyntaf oll ddechrau gyda’r cyllid a’r adnoddau. Mae’n hollol gywir ein bod wedi gweld buddsoddiad y BBC yng Nghymru yn lleihau ar adeg pan fo’i fuddsoddiad yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr allweddol wedi cynyddu. Mae hyn yn annerbyniol, ac mae’n annerbyniol, nid yn unig fod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud, mae’n annerbyniol fod y strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd wedi galluogi a chaniatáu i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud, a’r hyn rydym ei angen yn y dyfodol yw strwythurau atebolrwydd na fydd yn caniatáu i’r sefyllfa hon ddigwydd eto. Mae’n glir iawn fod angen i’r BBC fuddsoddi cyllid ychwanegol yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer Cymru, a chytunaf yn llwyr â’r pwyntiau a wnaeth Lee Waters. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn derbyn llythyrau pellach neu glywed areithiau pellach heb ymrwymiad i adnoddau ychwanegol i ddarparu’r gwasanaethau y mae’r BBC eu hunain wedi dweud bod Cymru eu hangen ac yn eu haeddu, ac edrychaf ymlaen at glywed cynigion y BBC ar hynny.

A phan siaradwn am adnoddau a chyllid, rydym yn sôn am adnoddau net a chyllid net. Nid oes gennym ddiddordeb mewn rhoi adnoddau ag un llaw, a chael gwybod ein bod yn mynd i gael yr arian ychwanegol hwn i wneud rhaglenni ychwanegol, i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, a chael gwybod wedyn ar y llaw arall fod arbedion effeithlonrwydd yn golygu na fydd hanner yr adnoddau hynny’n cyrraedd y BBC yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, rydym yn chwilio am ymrwymiad go iawn, ac nid ymrwymiad sy’n gwneud y tro mewn datganiad i’r wasg, a byddwn yn sicrhau bod hynny’n digwydd. Ac ar yr un pryd, rydym wedi clywed droeon fod yr Arglwydd Hall wedi gwneud ymrwymiadau i wella’r modd y mae BBC Cymru yn portreadu Cymru ar deledu rhwydwaith ac i sicrhau bod gennym raglenni’n cael eu gwneud yma yng Nghymru fel y byddem yn ei ragweld ac yn ei ddisgwyl.

Gadewch i mi ddweud hyn hefyd: gwyddom fod newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r BBC yn strwythuro stiwdios ac is-adrannau gwneud rhaglenni. Materion y mae’n gywir ac yn briodol i’r BBC ymdrin â hwy yw’r rheini. Fodd bynnag, mae’n iawn ac yn briodol ein bod hefyd yn dwyn y BBC i gyfrif wrth sicrhau nad yw hynny’n arwain at wneud llai o raglenni ar gyfer y rhwydwaith o Gymru ac nad yw’n arwain at leihau cyfleusterau stiwdio yng Nghymru. Mater i reolwyr y BBC yw sut y maent yn strwythuro a sut y maent yn rheoli’r sefydliad, ac mae’n iawn ac yn briodol i’r rheolwyr gael yr awdurdod i wneud hynny, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod strwythurau’r BBC yn sicrhau bod ei ymrwymiadau yn cael eu cyflawni ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Ac wrth wneud hynny, cyfeiriaf eto at sylwadau Rhun ap Iorwerth am lefelau’r awdurdod a ddarperir i gyfarwyddwr BBC Cymru. Mae’n gwbl hanfodol fod gan gyfarwyddwr BBC Cymru y lefelau o bŵer a chyfrifoldeb ar gyfer darparu gwasanaeth cydlynol ar draws yr holl wahanol wasanaethau sydd ar gael gan y BBC yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu lefelau awdurdod dros holl amserlennu a chynhyrchu a chomisiynu rhaglenni. Mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddaf i a llawer o bobl eraill rwy’n credu, yn chwilio amdano.

O ran atebolrwydd, cytunaf â’r hyn sydd wedi’i ddweud gan yr Aelodau y prynhawn yma, y ​​dylai atebolrwydd y BBC orffwys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ac nid yn y Llywodraeth yn unig. Rwy’n hen ffasiwn, weithiau, ac rwy’n credu bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn wahanol i ddarlledwr y wladwriaeth ac y dylai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fod yn atebol i’r lle hwn, i’r corff seneddol, ac nid yn syml i’r Llywodraeth ac i Weinidog. Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd Julie Morgan ynglŷn â phenodi aelodau bwrdd unedol y BBC, a byddwn yn sicr am weld hynny’n cael ei gymeradwyo mewn rhyw ffordd neu ei wneud drwy broses gyhoeddus drwy’r lle hwn, ac nid yn syml drwy’r Llywodraeth a phenderfyniadau a wneir gan Weinidogion.

Mewn perthynas ag i ble yr awn o’r fan hon—ac rwy’n ymwybodol fod amser yn symud ymlaen, Lywydd—cyfarfûm â Rhodri Talfan Davies ddoe i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran ailstrwythuro’r BBC ac adnewyddu’r siarter. Hefyd cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr S4C yr wythnos diwethaf i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r siarter a’r adolygiad sydd ar y gweill o S4C, sydd i ddod yn 2017. Gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i ymgysylltu’n llawn â phob un o’r prosesau hyn.

Mae fy swyddogion wedi parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a gweinyddiaethau datganoledig eraill i drafod adolygiad y siarter, a bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau dros yr haf. Gallaf ddweud bod yna gynnydd cadarnhaol wedi bod ar nifer o faterion, ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol fod yna bwyntiau i’w datrys. Rwy’n gobeithio cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yr wythnos nesaf i drafod darlledu. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach gyda thrawsgrifiad o’r datganiad llafar a wneuthum yma rai wythnosau yn ôl a chyfraniadau dilynol yr Aelodau. Rwyf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y cytundeb trawsbleidiol yn y Cynulliad ar y rhan fwyaf o faterion darlledu, a gallaf sicrhau’r Aelodau, yn fy nghyfarfod yr wythnos nesaf, byddaf hefyd yn ystyried y pwyntiau a nododd yr Aelodau yma heddiw.

O ystyried digwyddiadau yn San Steffan ar hyn o bryd, rydym yn ansicr a fydd Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chyhoeddi siarter ddrafft cyn toriad yr haf, ond hyd yn oed os nad yw, byddem yn disgwyl bod siarter ddrafft yn cael ei chyhoeddi’n gyflym iawn ar ôl i’r Senedd ddychwelyd yn yr hydref. Byddaf yn ceisio trefnu dadl yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Medi i roi cyfle i’r holl Aelodau gael trafodaeth fanylach ar gynnwys y siarter ddrafft. Rwy’n gobeithio y gallaf dawelu meddyliau’r Aelodau y byddaf yn parhau i ymwneud yn llawn â’r materion hyn, a hynny o ran y dadleuon a’r trafodaethau gyda’r BBC ei hun, a hefyd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon er mwyn sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed ar bob adeg.

Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor sy’n cael ei sefydlu yma. Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor yn siarad ar ran y Cynulliad Cenedlaethol ac yn siarad dros Gymru. Gobeithiaf y bydd y consensws sydd gennym yn y Siambr heddiw ar yr holl faterion hyn yn un a fydd yn aros gyda ni wrth i ni fynd drwy’r cyfnod hwn o adnewyddu’r siarter. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gloi’r ddadl gyfoethog a phwysig hon, fel y dywedodd y Gweinidog. Rhan o’r rheswm pam y mae mor bwysig, fel yr amlinellodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol, yw’r gwerth a roddwn ar y BBC fel ased, ased cenedlaethol, i ni yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn gyffredinol. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at gryfder brand y BBC, a chredaf fod hynny’n dod gyda set o werthoedd y byddem i gyd yn dymuno eu cymeradwyo yma yn y Siambr hon rwy’n siŵr.

Rwy’n falch o fod yn aelod o’r pwyllgor a gallaf gadarnhau fod Bethan Jenkins wedi ei gadeirio mewn ffordd anunbeniaethol iawn, fel y dywedoch, hyd yn hyn. Felly, edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn rhan o’r pwyllgor hwnnw.

Mae’r ddadl yn mynd i galon ein hymdeimlad ohonom ein hunain fel cenedl a sut y gwelwn ein hunain wedi ei adlewyrchu yn ôl arnom yn y cyfryngau. Dyna reswm arall pam y mae mor bwysig. Hefyd, ceir mater effaith economaidd y BBC yng Nghymru. Siaradodd Rhianon Passmore am y buddsoddiadau eiddo yng Nghymru, sy’n sylweddol, a siaradodd Russell George am raddfa cynhyrchu ar gyfer y rhwydwaith yng Nghymru, ond nid yw’r un o’r rhain yn ateb yr her rydym yn ceisio mynd i’r afael â hi yn y ddadl hon heddiw. Yr her honno yw’r cwestiwn o fuddsoddi mewn rhaglenni sy’n adlewyrchu Cymru yn ôl arnom.

Siaradodd Rhianon am y diffyg o £30 miliwn y flwyddyn y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, ac o ran maint, mae’n werth cofio bod bwrdd gweithredol y BBC yn 2013 wedi diystyru costau prosiect yr oedd yn cydnabod ei fod wedi gwastraffu £98 miliwn dros gyfnod o dair blynedd, sydd, yn daclus iawn, yn cyfateb yn fras i’r hyn y gallai rhaglenni Saesneg yng Nghymru wneud defnydd ohono a dweud y gwir. Fel y nododd Lee Waters, mae hynny o ganlyniad i dorri chwarter y gyllideb yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Siaradodd Lee, Bethan a llawer o siaradwyr am yr hyn sy’n fwlch gwirioneddol ddiflas rhwng yr iaith y mae’r BBC yn barod i’w addef ar hyn a realiti’r bwlch yn y cyllid. Ac rwy’n ategu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pheidio â bod eisiau derbyn rhagor o lythyrau sy’n cydnabod maint y bwlch heb awgrymu ateb iddo.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen cyllidebau go iawn arnoch i wneud rhaglenni go iawn, sy’n mynd â ni o ddifrif at gwestiwn y cymysgedd genres, sy’n dioddef o ganlyniad i’r diffyg buddsoddiad hwn. Mae newyddion yn dda ac yn boblogaidd, ond hefyd rydym angen rhaglenni drama, comedi, adloniant a diwylliant, nad yw’r setliad presennol yn caniatáu digon ohonynt fel y dywedodd Lee. Siaradodd Jenny Rathbone am werthoedd Reithaidd rhaglenni dogfen sy’n benodol i Gymru, a fy ffefryn o’r holl sylwadau yn y maes hwn oedd cyfeiriad Rhianon Passmore at un o fy etholwyr, Max Boyce. Rwy’n siŵr y bydd wedi ei blesio’n fawr wrth glywed y sylwadau hynny.

Daw hyn â ni yn ôl at gwestiwn, nid yn unig amrywiaeth a gwerth am arian, ond cynrychiolaeth a phwyntiau cyfeirio at ddiwylliant Cymru a sut y caiff ein persbectif ei gynrychioli, rwy’n tybio, ar y teledu. Siaradodd Russell George am bwysigrwydd sicrhau bod teledu’n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru fodern. Soniodd nifer o’r siaradwyr am y pryder fod y BBC yn encilio rhag y rôl i’n cynrychioli, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r byd, y tu hwnt i’r DU, sy’n agwedd bwysig iawn o’r ddadl hon.

Rhoddodd Julie Morgan ac eraill hyn yng nghyd-destun y cyfryngau print cyfyngedig sydd gennym yng Nghymru, ac mae hynny’n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaeth rhaglennu Saesneg ffyniannus wedi ei ariannu’n dda. Cwestiwn daearyddiaeth a chynrychiolaeth ddaearyddol: siaradodd Hannah Blythyn am y profiad ar garreg y drws yn Nelyn a phryderon pobl fod y sylw wedi gogwyddo’n ormodol tuag at Gaerdydd. I’r rhai ohonom sy’n byw y tu allan i Gaerdydd, mae hwnnw’n sylw cyfarwydd. Fe gyfeirioch at y ddyletswydd ddemocrataidd i sicrhau cydbwysedd daearyddol yn ogystal â chydbwysedd gwleidyddol. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn y Siambr hon yn anghytuno â hynny.

Canolbwyntiodd llawer o siaradwyr ar gwestiwn atebolrwydd a llywodraethu, sydd wrth wraidd y ddadl hon. Ychydig iawn sydd gan Bapur Gwyn y Llywodraeth i’w ddweud mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, am atebolrwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Soniodd llawer o siaradwyr am gyfraniad y Sefydliad Materion Cymreig heddiw gan fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw’n benodol.

Mae mwy nag un siaradwr wedi gresynu at y ffaith nad yw’r tîm gweithredol bellach yn cynnwys cyfarwyddwyr y cenhedloedd unigol, a galwodd Bethan Jenkins a Lee Waters yn arbennig am lais cryf i Gymru ar fwrdd y BBC, wedi ei benodi’n annibynnol ar y Llywodraeth.

Mae’r cwestiwn ynglŷn â’n rôl yma fel Cynulliad wedi cael ei amlygu gan lawer o siaradwyr a siaradodd Bethan Jenkins am y gobaith ac yn wir, rwy’n meddwl, y disgwyliad y byddai’r pwyllgor yn cael cyfle i graffu a holi swyddogion gweithredol BBC, mae’n siŵr, mewn perthynas â rhai o’r ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud. Rwy'n croesawu hefyd eich cyfeiriad at gwestiwn annibynniaeth S4C a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y siarter hefyd.

Rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder â’r ystod o gyfraniadau a wnaed heddiw. I orffen, mae’r nifer sy’n gwylio BBC One yn arbennig yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU, ac mae cyfran uwch o bobl yn gwylio’r bwletin newyddion min nos yn arbennig yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Felly, ‘mae Cymru wrth ei bodd gyda’r BBC’ yw’r neges rwy’n ei chael o hynny. Nid yw’n ymddangos yn iawn felly mai’r hyn a geir yn ymateb i’r hoffter hwnnw yw gwasanaeth sydd, fel y mae’r BBC ei hun yn cyfaddef, wedi ei danariannu yn anghynaladwy ac yng ngeiriau Cyngor Cynulleidfa Cymru, wedi dod â BBC Cymru i ymyl y dibyn. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Y DU yn Tynnu Allan o'r Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru, ac rydw i’n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6077 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr addewidion hynny yn cael eu cyflawni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

a) bod £490 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i GIG Cymru;

b) y caiff lefel y cyllid a gaiff Cymru o raglenni'r UE ar hyn o bryd ei chynnal;

c) y bydd y cymorth taliadau uniongyrchol a gaiff ffermwyr Cymru yn gyfartal, os nad yn uwch na'r hyn a ddaw drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin; a

d) bod hawl dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DU heb ofn na rhwystr, yn cael ei warantu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Simon Thomas ac rwy’n hapus i gefnogi’r gwelliant, gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.

Daw ein cynnig heddiw wrth i Theresa May ddod yn Brif Weinidog newydd y DU. Mae wedi dweud ei bod yn bwriadu gweithredu’r bwriad i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd gadael yr UE yn digwydd ar ôl cyfnod hir o drafodaethau, gyda materion megis mynediad i’r farchnad sengl, mewnfudo a statws dinasyddion yr UE a’r DU i gyd yn galw am eu trafod. Dywedodd y Prif Weinidog ymadawol y gallai Cymru chwarae rhan yn y trafodaethau hyn. Mae’n hanfodol, felly, ein bod ni, fel Cymru—Cymru gyfan—yn cyflwyno’r achos dros gadw cymaint â phosibl o’r manteision rydym yn eu hennill ar hyd o bryd o fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Plaid Cymru yn gwneud beth bynnag a allwn i ddylanwadu ar safbwynt negodi Cymru, i ymladd yn ddiedifar dros Gymru, ac i sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru bob amser.

Yn rhannol, roedd canlyniad y refferendwm yn gynnyrch yr anghydraddoldebau sydd wedi cronni dros sawl degawd. Y DU sydd â’r anghydraddoldeb rhanbarthol mwyaf o holl aelod-wladwriaethau presennol yr UE. Mae Brwsel wedi dod yn fwch dihangol i ddicter a rhwystredigaeth, lle mae rhannau cyfan o gymdeithas yn teimlo fel pe baent wedi colli rheolaeth ar eu bywydau. Ymddengys nad yw pleidleisio yn cyflawni dim mewn system y cyntaf i’r felin a phan gaiff pobl eu hethol i’r sefydliad hwn, er enghraifft, nid oes ganddo’r pwerau sydd eu hangen arnom i ddatrys yr holl broblemau y mae ein pobl yn eu hwynebu.

Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â’r canfyddiad fod llawer yn ein cymunedau yn teimlo’n ddi-rym ac wedi eu hanwybyddu. Dywedodd y Prif Weinidog ymadawol, David Cameron, heddiw ei fod yn gobeithio y byddai pobl yn gweld ei fod wedi gadael ar ei ôl, yn ei eiriau ef,

gwlad gryfach... a mwy o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn bywyd.

Ond mae hynny’n ffug, onid yw? Nid gwlad yw’r Deyrnas Unedig ond gwladwriaeth, ac mae cyfanrwydd y wladwriaeth honno wedi cael ei wanhau gan ganlyniad y refferendwm. Nawr, gallai’r DU golli rhan sylweddol o’i thiriogaeth a gallai beidio â bodoli. O ran cael mwy o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn bywyd, mae yna ardaloedd yn y wlad hon, yng Nghymru, lle mae cyfleoedd gwaith gwell ar gael, ond mae yna hefyd ardaloedd lle y ceir ymdeimlad o ddirywiad hir ac esgeulustod er bod yr ardaloedd hynny, mewn llawer o achosion, wedi bod yn gymwys sawl gwaith ar gyfer cymorth datblygu economaidd yr UE.

A ydych yn derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb o safbwynt eich plaid, o ystyried na wnaeth eich Dirprwy Brif Weinidog, a oedd yn y swydd am bum mlynedd, unrhyw beth i wella ffyniant y rhannau hynny o Gymru y cyfeiriwch atynt?

Roedd fy rhagflaenydd yn y swydd am un tymor, a heb fawr o liferi economaidd, mewn gwirionedd, i effeithio ar ddirwasgiad a pholisïau caledi a gâi eu rhoi ar waith gan eich plaid chi yn San Steffan.

Yr ardaloedd gyda’r niferoedd mwyaf o bobl a bleidleisiodd dros adael yw’r ardaloedd lle y ceir fwyaf o siopau neu fanciau â’u ffenestri wedi eu bordio, lle y collwyd llwybrau bysiau a chyfleusterau cymunedol, a lle y ceir cyflogau is na chyfartaledd Cymru, ac mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr gymryd llawer iawn o’r cyfrifoldeb am y sefyllfa honno. Mae’r ardaloedd sydd wedi bod â hawl i gael arian UE sylweddol, oherwydd eu tlodi cymharol a’u hanfantais, hefyd yn ardaloedd gyda lefelau isel o fewnfudwyr; ychydig iawn o gyfleoedd a geir i ddenu mewnfudwyr at waith, ac eto y canfyddiad yw bod yna broblem fewnfudo fawr.

Gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl wedi cael clywed y byddai gadael yr UE yn arbed arian. Cofiwch yr addewid ar y bws—byddai £350 miliwn yr wythnos ar gael, dyna a ddywedasant wrthym. Byddai Cymru’n cael £490 miliwn y flwyddyn, dyna a ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wrthym. Wel, rydym yn disgwyl iddo yn awr wneud yn siŵr fod yr addewid yn cael ei gadw, i ddefnyddio pa ddylanwad bynnag y gallai fod ganddo yn ei blaid i wneud yn siŵr fod yr arian hwnnw ar gael, a byddwn yn parhau i wneud y pwynt hwn—nid oherwydd ein bod yn daer eisiau cardod, ond am fod pobl wedi pleidleisio ar y cynsail y byddai’r arian hwnnw ar gael ar gyfer eu GIG ac i adfer y cyfleusterau y maent wedi eu gweld yn diflannu o ganlyniad i galedi’r Torïaid.

Rydym hefyd yn disgwyl gweld trefniant i warantu cymorth taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru. Mae’r diwydiant hwnnw mewn perygl os na fydd y gwarantau hynny yno. Ac rydym am i hawliau dinasyddion yr UE i aros yng Nghymru gael eu gwarantu hefyd. Mae gennym 500 o feddygon o wledydd eraill yr UE yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac mae hynny cyn i ni hyd yn oed ystyried dinasyddion yr UE sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill ac yn ein sector preifat hefyd.

I fynd â chi’n ôl at y pwynt a wnaethoch funud yn ôl ar gymhorthdal ​​ffermio, a fyddai’n cytuno â mi nad pwynt dadl yn syml yw hyn, mae’n rheidrwydd cystadleuol yn y cyfnod pontio hwn wrth symud ymlaen, nid yn unig yn y trafodaethau gadael ond ar ôl hynny, ac ni allwn gael ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig o dan anfantais gystadleuol mewn perthynas â’r hyn sy’n digwydd dros Glawdd Offa yn Lloegr? Felly, rhaid i ni gael yr arian hwnnw wedi’i warantu, ac mae’n rhaid i ni ei gael yma i wneud y dewisiadau ynglŷn â sut i’w ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru.

Byddwn yn cytuno â hynny 100 y cant. Wrth gwrs, mae ein diwydiant ffermio yn y fantol fel y mae pethau, ac mae angen i’r gwarantau hynny fod yno er mwyn darparu gwarantau ar gyfer y diwydiant yn y tymor hir.

Mae dinasyddion yr UE yn fudd net i’n gwlad yn ariannol, diwylliannol a chymdeithasol, ac ni ddylai neb ohonom flino ar wneud y pwynt hwnnw, a byddwch yn ein clywed yn gwneud yr un pwynt dro ar ôl tro.

Lywydd, mae ein galwadau i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i amddiffyn budd cenedlaethol Cymru eisoes yn cael effaith. Pam arall y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ceisio tynnu sylw oddi ar yr angen i gael arian yn lle ein cyllid o’r UE, drwy ddweud bod angen i ni gael dadl ehangach am achosion sylfaenol tlodi ac anfantais? Wel, wrth gwrs bod angen i ni wneud hynny. A dechrau’r drafodaeth honno’n unig yw cael arian yn lle ein cronfeydd UE; y cronfeydd hynny yw’r man cychwyn.

Rydym angen liferi economaidd go iawn hefyd i fod ar gael i’r Llywodraeth hon ac i’r Cynulliad hwn, ac mae’n rhaid i ni bwyso yn awr am bolisi rhanbarthol llawn yn y DU cyhyd â bod Cymru yn parhau i fod yn rhan o’r undeb hwnnw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gadewch i mi orffen drwy ddweud bod 23 Mehefin wedi newid popeth. Erbyn hyn mae ar Gymru angen arweinyddiaeth a gweledigaeth gref i ymdrin â’r hyn a wnaed iddi, ac mae Plaid Cymru yn barod i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny’n cael ei ddarparu.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

bod yr holl drefniadau cyllido yn y cyfnod wedi Brexit yn cael eu seilio ar fframwaith cyllido teg ac ar ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Mark Drakeford 16:56:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf eisiau jest ategu’r hyn roedd Leanne Wood wedi ei ddweud wrth osod y ddadl yma drwy sôn yn benodol am yr effaith ar, a’r angen i amddiffyn, amaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd yn gyffredinol.

Rydym ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle mae Cymru, amaethwyr Cymru a chefn gwlad Cymru yn derbyn rhywbeth fel £250 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr, ac, ar ben hynny, mae yna ryw €655 miliwn—mae gwerth yr ewro, wrth gwrs, yn golygu bod y punnoedd yn llai ar hyn o bryd—ar gyfer y cynllun datblygu gwledig o fewn y polisi amaethyddol cyffredin ar gyfer y cyfnod hyd at 2020. Wrth gwrs, os yw’r Prif Weinidog newydd am weithredu Brexit yn y modd mae hi wedi ei argymell, fe fydd Cymru, gyda gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael y system cymorthdaliadau cyn diwedd y cyfnod hwnnw. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gweithredu’n ddiymdroi i ddeall effaith y dylanwad hwn ar ein sector amaeth ac ar yr amgylchedd, ac yn paratoi ar ei gyfer.

Tu fewn i’r Undeb Ewropeaidd, gan ein bod wedi bod yn aelodau cyhyd, mae’r fframwaith ar gyfer lles anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a fframwaith hefyd ar gyfer polisi a deddfwriaeth amgylcheddol i gyd wedi cael ei osod tu fewn i’r Undeb Ewropeaidd. Er ein bod bron bob tro, rwy’n meddwl—yn sicr yn y Cynulliad—wedi bod yn gefnogol i’r ddeddfwriaeth honno, mae’n wir dweud mai ar sail cydsyniad ar lefel Ewropeaidd ein bod wedi deddfu. Felly, mae’n hynod bwysig bod yr addewidion ar gyfer cynnal cymorthdaliadau uniongyrchol ar y lefel bresennol yn cael eu cadw. Mae’n bwysig bod hynny yn digwydd yn y cyd-destun bod tipyn o amrywiaeth a mynd a dod yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae ansicrwydd, wrth gwrs, yn tanseilio’r farchnad.

Mae rhywbeth tebyg i 80 y cant i 90 per cent o incwm ffermwyr Cymru yn dod o daliadau cymorth uniongyrchol. Efallai nad yw honno yn sefyllfa y byddai pawb yn dymuno ei gweld yn y tymor hir beth bynnag, ond y ffaith amdani yw bod yn rhaid i ni symud o’r sefyllfa yna mewn dwy flynedd cwta erbyn hyn, ac mae hynny yn broses llawer cynt nag yr oeddem ni yn ei rhagweld. Mae prisiau cynnyrch Cymru yn isel iawn, er bod peth gwelliant ym maes llaeth ar hyn o bryd.

Felly, mae’n wir i ddweud bod tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod modd i ni lunio polisïau cefnogaeth ar gyfer amaeth, cynhyrchu bwyd, pysgodfeydd a pholisïau amgylcheddol o’r newydd. Mae hynny’n wir. Ond mae Plaid Cymru o’r farn na ddylem ildio o gwbl ar y cynnydd sydd wedi ei wneud, yn enwedig ym maes amaeth a’r maes amgylchedd dros y 40 mlynedd diwethaf. Felly, rydym ni am weld bod y trosglwyddiad yn digwydd ac yn sicrhau bod deddfwriaeth bresennol amaeth a’r gefnogaeth bresennol i amaethwyr yn cario ymlaen heb unrhyw doriad.

I think it is important as well to underline that the support, and the continued support, for Welsh agriculture was underlined so many times during this previous referendum. For example, David Davies MP told BBC Radio Wales that we first of all have to

‘make sure the money that was going into structural funds and CAP continues’.

George Eustice, who is the UK’s farming Minister but a ‘leaver’ said that Wales would enjoy ‘as much support’ as we currently received, and he said that if we left—and we did, of course—this could mean more money and better support for Welsh farmers:

‘If we vote to leave…the UK Government will continue to give Welsh farmers and the environment at least as much…as they get now’.

That was the promise of the current continuing Government. The leader of the Conservatives—the Welsh Conservatives—in response to that particular quote said:

‘We now have a solid guarantee that Welsh farmers would continue to receive at least as much in terms of support’.

So, a promise from the UK Government, a ‘solid guarantee’ by the Welsh Conservatives, and we must ensure that there is no chipping away, at the time of Brexit, at the support that farmers get and our environment gets and the support that our rural communities get. That’s why it’s so sad to see that the Labour colleague of the Minister who’s responsible for the environment in this place, Ian Lucas, asked today in the House of Commons to the Minister of State in the Wales Office, Guto Bebb—he asked:

‘Does the Minister agree that leaving the EU offers a golden opportunity to assess the level of subsidy paid to farming in Wales to see whether that money can be more effectively and efficiently spent in other areas?’

So, the Labour Party in Westminster—which Labour Party, I don’t know because there are so many of them these days—the Labour Party in Westminster are deliberately, already, questioning and using Brexit as an opportunity to cut support for Welsh farmers. I think that’s a disgrace and I hope that the Minister, in answering to this debate, will disassociate himself from those remarks.

Yn ystod y ddadl yn y Senedd ar yr Undeb Ewropeaidd ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, pe bai Cymru yn pleidleisio i adael, y byddai’n ganlyniad methiant y dosbarth gwleidyddol yn ei gyfanrwydd, a nodais wrth y Siambr hon yn ystod y ddadl honno y pellter y mae pobl Caerffili yn ei deimlo, yn llythrennol ac yn ffigurol, oddi wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond heddiw, rwy’n teimlo bod ehangder y pellter canfyddedig hwn yn fwy gyda San Steffan ac weithiau mae’r Senedd hon yng Nghymru a phob Aelod yma hefyd yn cael trafferth i weithredu fel pont rhwng pobl ein hetholaethau a’r penderfyniadau a wneir yn eu henwau. Eto i gyd, mae pob un ohonom yn awyddus i gynrychioli ein hetholwyr a’n cymunedau ac mae bron bob un ohonom yn hannu o’n cymunedau. Os ydym am wneud ein gwaith, yna mae’n rhaid i ni allu siarad yn onest heb ormod o bryder am wleidyddiaeth plaid yn sgil hynny. Byddaf yn meddwl weithiau fod angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng beio ein gilydd am y canlyniadau a gafwyd yn sgil polisïau a phwyntiau dadlau perthnasol a chraffu, ac rwy’n meddwl weithiau nad ydym yn cael y cydbwysedd cywir.

Dywedais sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol y Cynulliad ac yn ystod ymgyrch y refferendwm y byddwn yn ymgysylltu â fy mhrif gystadleuwyr, Plaid Cymru, heb betruso pe bai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl rwy’n eu cynrychioli, ac rwy’n meddwl y gall Steffan Lewis dystio i hynny. Yn wir, rwyf wedi cynnal trafodaethau adeiladol gydag aelodau o’r blaid honno ac rwy’n bwriadu parhau i wneud hynny.

Gallai un o ganlyniadau refferendwm yr UE roi cyfle i ni bontio ymhellach y rhaniad gwleidyddol a amlygwyd i’r fath raddau gan yr ymgyrch. Mae Grŵp Diwygio Cyfansoddiad trawsbleidiol y DU, y mae ein David Melding yn aelod ohono, rwy’n credu, yn cynnig Deddf uno newydd sy’n rhoi sofraniaeth lawn i bob cenedl a rhanbarth dros eu materion eu hunain—Teyrnas Unedig ffederal ar ei newydd wedd ac wedi ei hailrymuso. Dylem edrych ar y syniadau hyn gyda diddordeb.

Yn y cyfamser, ac yn yr un modd ag y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithio gyda’n Llywodraeth etholedig yma i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i gynllun ymadael Cymreig unigryw a’n strategaeth economaidd fod yn rhan annatod o’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynnig heddiw yn gosod llinellau coch hanfodol yn y trafodaethau hyn ac mae gwelliannau fy nghyfaill, arweinydd y tŷ, yn cryfhau hynny gyda galwad glir am gyllid tecach.

Ond rhaid i mi ddweud, yng nghyfrif pleidlais y refferendwm yng Nghaerffili cefais fy nharo gan ddathliadau gwyllt aelodau UKIP, nad oeddwn yn meddwl eu bod yn briodol o ystyried y ffaith amlwg nad oedd gan UKIP unrhyw gynllun ynglŷn â beth fyddai’n digwydd nesaf. Dywedodd Nigel Farage fod yr addewid i warantu £350 miliwn yr wythnos i’r GIG yn un o’r camgymeriadau a wnaed gan yr ymgyrch dros adael, ac eto roedd ef a gweddill aelodau’r UKIP yn dawel am yr addewid hurt hwn yn ystod yr ymgyrch. Rwy’n amau mai’r rheswm am hynny, mewn gwirionedd, oedd oherwydd nad oeddent wedi meddwl mor bell ymlaen â hynny ac nad oeddent yn disgwyl ennill y refferendwm mewn gwirionedd.

Ond mae pobl ledled Cymru yn malio’n angerddol am ein GIG a’r hyn rydym ei angen yn awr yw eglurder ynghylch y trefniadau ariannu, fel yr amlinellir yn y cynnig ac fel yr addawyd gan aelodau o Lywodraeth y DU.

Gall ymgyrchoedd etholiadol gyfoethogi bywyd, drwy ymgysylltu â phrofiadau a rhoi cyfle i gyflwyno’r achos i’r wlad, ond mae’n ymddangos i mi nad oedd ymgyrch y refferendwm yn gwneud yr un o’r pethau hynny. Heddiw, rydym yn teimlo’r effeithiau ymrannol ar ein cenedl. Ac rwy’n meddwl am yr hyn a ddywedodd Leanne Wood am gynrychiolaeth gyfrannol; mae gennyf feddwl agored, yr unig beth sy’n fy mhoeni yw hyn: o bosibl, pe bai gennym system wirioneddol gyfrannol yn 2011 ar gyfer ethol i’r lle hwn, efallai y byddem wedi gweld aelodau o BNP yn cael eu hethol bryd hynny, fel y cawsant eu hethol i Gynulliad Llundain. Nid wyf yn awgrymu bod hynny’n rhywbeth y dylem ei ddiystyru—cynrychiolaeth gyfrannol—ond mae’n ganlyniad y dylem ei gadw mewn cof.

Dylem i gyd, felly, gofio am y pryderon ynglŷn â throseddau casineb sy’n cael eu cyflawni ar draws y wlad yn sgil y bleidlais. Yng Ngwent, cafwyd cynnydd o 46 y cant mewn troseddau casineb yn y cyfnod cyn y refferendwm, ac roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, fy rhagflaenydd rhagorol fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili, Jeff Cuthbert, yn gywir i ddweud na fydd cam-drin hiliol yn cael ei oddef gan yr heddlu. Rwy’n falch fod fy awdurdod lleol yng Nghaerffili yn parhau i ymgysylltu â thrigolion er mwyn trechu troseddau casineb a bwriadaf gefnogi cynnig i’r perwyl hwnnw gan gynghorwyr Caerffili yn enw’r cynghorydd Roy Saralis yn y cyngor llawn yr wythnos nesaf, cynnig a gefnogir gan Blaid Cymru hefyd. Weithiau, rwy’n credu y byddai’n well pe baem yn meddwl mwy am y pethau hyn na’r pethau gwirion y ceisiwn ddod o hyd iddynt i’n rhannu yn ystod ymgyrchoedd etholiadol lleol.

Rydym yn byw mewn cyfnod cyfnewidiol yn wleidyddol, ond beth bynnag a ddaw yn sgil canlyniad y refferendwm, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gydweithio ar faterion sy’n gyffredin rhyngom. Rhaid i ni allu gweithredu yn ôl egwyddorion craidd ein plaid a’n pobl heb greu rhaniadau diangen a rhaid i ni gael cynllun clir ar gyfer gadael yr UE a fydd o fudd i Gymru. Mae hynny’n glir yn y cynnig hwn a’r gwelliant. Ond rhaid i ni hefyd sicrhau bod yr amser i ddod yn fuddiol i bobl ein cenedl, hyd yn oed os yw hynny’n golygu dealltwriaeth newydd o genedligrwydd. Dyna destun ar gyfer trafodaeth ehangach o bosibl.

Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar ddiwydiant dur Cymru oherwydd, fel y gwyddom, gwnaethpwyd honiadau amrywiol am ddyfodol llewyrchus i’r diwydiant gan y rheini oedd o blaid Brexit yn y cyfnod cyn y refferendwm—honiadau a oedd wedi cael effaith ar rai gweithwyr dur, rhaid dweud, a sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm hwnnw.

Felly, nawr mae'n gyfrifoldeb ar y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd—y rhai sydd yn dal yn meddu ar swyddi pwerus, er mai ychydig ohonynt sydd ar ôl erbyn hyn—i weithredu ar eu honiadau. Felly, gadewch inni ddechrau drwy edrych ar yr honiadau hynny: (1) bydd cyflwyno tariffau ystyrlon tebyg i rai'r Unol Daleithiau ar ddur o Tsieina a dur arall sydd wedi'i ddympio yn digwydd; (2) heb faich rheolau cymorth gwladwriaethol amhoblogaidd, gellir cynnig arian i Bort Talbot a gweithfeydd eraill i'w helpu i ddod yn fwy cystadleuol; a (3) gall mynediad rhydd at farchnadoedd Ewropeaidd barhau'n ddirwystr. Mae'n bwysig nodi fan hyn bod y diwydiant dur yn gweld cyfleoedd yn ogystal â heriau yn dilyn Brexit.

Mae rhai yn y diwydiant wedi dweud wrthyf y byddai punt wannach yn cynorthwyo cystadleuaeth yn y byrdymor a'r tymor canolig, a chysylltiadau masnach newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor canolig a hir, ynghyd â rheolau diwygiedig o ran cymorth gan Lywodraeth y DU ar ôl 2020. Mae'r heriau—ac mae'n rhaid i gefnogwyr Brexit ateb y rhain—yn cynnwys ansicrwydd i gwsmeriaid, llai o ddylanwad gan y Deyrnas Unedig ar lunio polisi yn yr Undeb Ewropeaidd, perthynas fasnach newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, a allai o bosibl fod yn beth da neu yn beth drwg, yn ôl pob tebyg, a llai o fynediad at ymchwil a datblygu. Mae'r ffactor olaf yn rhoi cynigion ar gyfer canolfan ymchwil dur yng Ngorllewin De Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Port Talbot a champws arloesi Prifysgol Abertawe, mewn perygl.

Mae cefnogwyr Brexit wedi nodi'n obeithiol tariffau o 500 y cant a mwy a osodir gan yr Unol Daleithiau ar ‘rebar’ o Tsieina, ymhlith pethau eraill. Yr hyn yr hoffwn i ei glywed yma heddiw yw sut y caiff y rheini eu hailadrodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, pan wnaeth eu haelodau o Senedd Ewrop nid yn unig bleidleisio yn erbyn cynigion llawer mwy cymedrol yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwnaeth UKIP, ond yn wir y gwnaeth eu gweinidogion nhw ddifetha'r cynllun yng Nghyngor y Gweinidogion.

Pan mae gennych Weinidog dros ddiwydiant nad yw’n credu mewn strategaeth ar gyfer diwydiant oherwydd ei ddelfrydau masnach rydd, yna mae’n rhaid i hyd yn oed yr ymgyrchydd mwyaf brwd dros adael yr Undeb Ewropeaidd gyfaddef bod mwy o waith perswadio i’w wneud.

Rydym yn gwybod y byddai mantais gystadleuol Port Talbot yn well o lawer pe byddai modd adeiladu gorsaf bŵer newydd fyddai’n torri ei gostau ynni enfawr yn sylweddol, tra’n lleihau lefelau allyriadau—nid bod angen inni boeni am y fath reolau trafferthus gan yr Undeb Ewropeaidd mwyach, wrth gwrs. Gallai’r gost fod mor uchel â £250 miliwn. A yw hyn yn lot o arian? Wel, na, nid pan fyddwch yn ei gymharu â chost colli Port Talbot. Mae’r Athro Gerry Holtham wedi amcangyfrif ei fod yn cynrychioli tua 6 y cant o werth ychwanegol crynswth Cymru. Mae’r cyfrifiadau a wnes i ar gefn napcyn yn amcan bod hynny’n tua £3.5 biliwn, gan ganiatáu ar gyfer ychydig filiynau un ffordd neu’r llall. Mae oddeutu 16,000 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar y safle, neu’n ei gyflenwi, neu’n contractio iddo. A dyna i chi tua £435 miliwn arall.

Rhwng popeth, gallai hynny olygu cymaint â £4 biliwn i economi Cymru. Felly, edrychwn ymlaen at weld yr arian ar gyfer gorsaf bŵer newydd yn eithaf buan, o gofio bod symud yn gyflym yn hollol hanfodol. Byddai unrhyw beth arall yn ddim llai nag esgeulustod o ran ein cyfrifoldeb ni at y bobl hynny sydd yn byw yno ac sydd yn gweithio ym Mhort Talbot.

Byddai hefyd yn braf clywed sut byddwn yn gwneud yn iawn am y diffyg cyllido enfawr mewn ymchwil a datblygu, er mwyn peidio â cholli’r math o gyfle a nodais i yn gynharach yn fy araith i—yr unig ganolfan ddur yn Ewrop o fewn tafliad carreg i ffwrneisiau Port Talbot. Mae’n swnio’n gyfle rhy dda i’w golli.

Dywedais yr wythnos diwethaf sut mae Cymru yn anghymesur o ddibynnol ar allforio haearn a dur o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Y llynedd, fe wnaethom ni fewnforio 40 miliwn o dunelli o haearn a dur ond fe allforiom ni £1 biliwn—dwy waith a hanner yn fwy. O'r swm hwnnw, mae tua 69 y cant, dros ddwy ran o dair, yn mynd i’r farchnad Ewropeaidd. Mae un rhan o dair o werthiannau Tata Port Talbot o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweithwyr dur ym Mhort Talbot a phob rhan o Gymru wedi pleidleisio, a nawr maen nhw’n disgwyl canlyniadau. Mae’n bryd i Brexit gyflawni ar gyfer y diwydiant dur er mwyn iddo fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Er bod llawer wedi cefnogi pleidlais dros aros, mae Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE a rhaid i bob barn gael ei pharchu a’i chlywed. Wrth i drafodaethau ynglŷn â’r DU yn gadael yr UE fynd rhagddynt, bydd angen arweiniad cryf ar Gymru sy’n adlewyrchu dymuniadau ei phobl ac yn sicrhau’r fargen orau i’n cenedl yn yr oes newydd hon. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi gwerth mawr ar fynediad i’r farchnad sengl, gan gydnabod bod mynediad i farchnadoedd hefyd yn broses ddwy ffordd, ac mae llawer o genhedloedd yr UE yn dibynnu’n helaeth ar y farchnad yng Nghymru a’r DU. Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn benderfynol o sicrhau’r fargen orau i Gymru yn y DU ar ôl gadael yr UE, gan gynnwys mewn perthynas â ffrydiau ariannu. Rydym yn credu bod yn rhaid i Gymru elwa o’r un faint o arian fan lleiaf wrth i ni symud ymlaen, a byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru.

Yn y pen draw, fodd bynnag, rhaid i ni wneud cau’r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gwledydd eraill yn Ewrop yn brif flaenoraeth, bwlch sydd wedi galluogi Cymru i gael mynediad at lawer o ffrydiau cyllid yr UE dros nifer o flynyddoedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod amaeth yng Nghymru yn ffynnu. Rhaid i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru fod yng nghanol y gwaith o ddatblygu system gymorth newydd yn awr sy’n cydnabod yr heriau penodol sy’n wynebu ffermwyr yng Nghymru ac sy’n darparu cymorth ariannol angenrheidiol i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor y diwydiant.

Rhaid i gynrychiolwyr o Gymru gael mewnbwn canolog yn rhan o broses drafod y DU yn gadael yr UE, lle bydd holl wledydd y DU yn wynebu heriau unigryw a gwahanol. Rhaid diogelu hawliau holl ddinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yn gyfreithlon yn y DU ac mae achosion o ymosodiadau hiliol neu senoffobaidd yn dilyn canlyniad y refferendwm yn haeddu eu condemnio yn y modd cryfaf.

Prydain yw un o economïau mwyaf y byd, mae’n wlad fyd-eang—neu wladwriaeth, yn dibynnu ar eich dehongliad—sydd eisoes yn masnachu mwy y tu allan i’r UE nag unrhyw aelod-wladwriaeth arall. Y tu allan i’r UE, rydym yn adennill y rhyddid i greu cytundebau masnach gan barhau i fasnachu gyda phartneriaid Ewropeaidd. Mae egin gwyrdd yn dechrau dod i’r golwg, wrth i wledydd a gwladwriaethau eraill ddechrau sylweddoli’r posibilrwydd o gytundebau masnach rydd gyda’r DU a’i gwledydd cyfansoddol. Dywedodd yr Arlywydd Obama y bydd y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn parhau, ac mae aelodau o Gyngres yr Unol Daleithiau eisoes yn trafod yn agored ac yn ddifrifol y posibiliadau o gytundeb masnach rhwng yr UDA a’r DU.

Mae India yn edrych ymlaen at gytundeb. Dechreuodd ymgais olaf yr UE i ymdrin ag India naw mlynedd yn ôl ac mae wedi dod i stop, heb unrhyw obaith amlwg y bydd yn ailddechrau. Ond fel y dywedodd Dirprwy Weinidog Cyllid India, mae’r DU yn mynd i geisio adeiladu ei pherthynas â gweddill y byd. Mae Gweinyddiaeth Cyllid Ffederal yr Almaen wedi cynghori’r UE i gychwyn trafodaethau gyda’r nod o wneud y DU yn wlad bartner cysylltiol yn y bloc masnach, ar ôl i gewri diwydiant yr Almaen wasgu ar eu Llywodraeth i daro bargen fasnach rydd pe bai’r DU yn gadael yr UE. Dywedodd arweinydd plaid New Zealand First, Winston Peters, fod cytundeb masnach gyda’r DU yn flaenoriaeth bendant. Awgrymodd arweinydd y Blaid Lafur, Andrew Little, y dylai Seland Newydd bwyso ar ei pherthynas hir a hanesyddol â’r DU er mwyn sicrhau masnach yn y dyfodol, ac awgrymodd Prif Weinidog Awstralia Malcolm Turnbull y gallai Seland Newydd ac Awstralia gydweithio i drafod cytundeb sengl gyda’r DU.

Ymatebodd Ghana yn gyflym i gynnig cytundeb masnach. Dywedodd Gweinidog Materion Tramor Ghana, Hanna Tetteh, ei bod yn gweithio ar ddirprwyaeth yn barod. Yng Nghanada, dywedodd gweinyddiaeth Justin Trudeau:

Mae’r DU a’r UE yn bartneriaid strategol pwysig i Ganada ac rydym yn rhannu cysylltiadau hanesyddol dwfn a gwerthoedd cyffredin â hwy. Byddwn yn parhau i adeiladu cysylltiadau gyda’r ddau wrth iddynt ffurfio perthynas newydd.

Er mai Gwlad yr Iâ oedd y wlad gyntaf i gynnig cytundeb masnach i Brydain, mae Mecsico wedi ei churo drwy fod wedi drafftio cytundeb masnach rhwng y gwledydd yn barod. Mae Arlywydd y Swistir wedi estyn allan at y DU a dweud, ‘Mae gennym ddiddordeb ac rydym yn agored.’ Datgelodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid fod De Corea wedi cysylltu â Llywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau masnach dwyochrog cyn gynted ag y bo modd.

Fel y dywedodd Henry Ford:

Pa un a ydych yn credu y gallwch wneud rhywbeth neu beidio, rydych chi’n llygad eich lle.

Os ydym yn credu, fe fydd cyfle. Os nad ydym yn credu, daw methiant yn broffwydoliaeth hunangyflawnol. Fel y dywedodd y cwmni yr ymwelais ag ef yn Sir y Fflint ddydd Llun wrthyf: nid oes angen i chi fod yn yr UE i gael dyfodol. Maent yn symud eu gwaith cynhyrchu yn Ffrainc i ogledd Cymru. Wrth siarad heddiw, cyfeiriodd y Prif Weinidog Theresa May at yr angen i drafod y fargen orau i Brydain wrth iddi adael yr UE, ac i greu rôl newydd i ni ein hunain yn y byd, gan ychwanegu:

Mae gadael yr UE yn golygu hynny, ac rydym yn mynd i wneud iddo lwyddo.

Gadewch i ni wneud hynny.

Diolch i chi, madam ddirprwy lefarydd. Wrth i’r platiau tectonig symud o’n cwmpas, tybed a yw hwn yn gyfle i newid patrwm ein ffordd o feddwl hefyd. Mae’n hollol gywir—a cheir consensws eang, yn amlwg—na ddylai Cymru gael ei gwneud yn dlotach eto gan y penderfyniad a wnaed drwy’r refferendwm. Ond rwy’n credu ei bod hefyd yn wir, er bod sicrhau ein bod yn derbyn yr arian a addawyd i ni yn angenrheidiol, nid yw’n ddigon, yw e? Hynny yw, roeddem yn cyflawni statws Amcan Un yn 1999. Enillasom loteri’r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Ac eto, dros y cyfnod ers hynny, beth a welsom? Disgynnodd incwm y pen yng Nghymru mewn gwirionedd, o gymharu â’r DU a’r UE. Felly, rwy’n credu bod hwn yn gyfle i ni ailystyried ein dull o weithredu. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni weithredu yn yr ysbryd fod yr hyn y chwiliwn amdano—ac rydym yn edrych bellach ar Lundain nid ar Frwsel—. Nid ydym yn chwilio am elusen. Rydym yn chwilio am gymorth i’n helpu ein hunain. Rhan o hynny yw buddsoddiad ariannol, ond rhan ohono yw rhoi’r pŵer i ni, mewn gwirionedd, i adfywio ein heconomi ein hunain. Yn yr amgylchedd newydd—. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod beth fydd telerau terfynol y cytundeb i adael yr UE, a bydd hynny’n dylanwadu ar y pwerau sydd ar gael i ni. Ond hyd yn oed os ydym yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Chymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd, mae gennych y gallu i amrywio TAW. Oni fyddai hwnnw’n bŵer defnyddiol—nid i’w adael yn San Steffan, ond i’w ddwyn yma, fel y gallem gael cyfradd TAW is ar gyfer ein diwydiant twristiaeth mewn gwirionedd? Gallem edrych ar hybu ein diwydiant adeiladu mewn gwirionedd drwy gael cyfradd TAW is ar gyfer ailwampio cartrefi. Gallem edrych ar dreth gorfforaeth. Gwelsom Iwerddon yn nodi cynnydd o 26.4 y cant mewn cynnyrch domestig gros, sy’n uwch nag unman arall yn Ewrop, rwy’n meddwl, yn bennaf drwy wrthdroadau, fel y cânt eu galw—yn y bôn, cwmnïau yn symud eu pencadlysoedd i Iwerddon oherwydd cyfraddau deniadol y dreth gorfforaeth. Oni fyddai’n ysgogiad dilys i bolisi rhanbarthol i ni allu denu rhai o’r cwmnïau gwasanaethau ariannol sy’n clystyru ar hyn o bryd yn y Filltir Sgwâr ac yn Canary Wharf ychydig ymhellach i’r gorllewin a dweud, ‘Wel, dewch i Gymru; gallwn ddarparu amgylchedd busnes deniadol ar eich cyfer.’?

Meddyliwch beth y gallem ei wneud o ran trethi busnes eraill. Credydau treth i ymchwil a datblygu—rydym am adeiladu busnesau arloesol. Mewn gwirionedd, yn hytrach na chwarae dal i fyny, rydym yn awyddus i chwarae naid llyffant; rydym eisiau bod ar y blaen. Gallem ddefnyddio peth o’r rhyddid newydd a fyddai ar gael i ni, beth bynnag fyddai telerau’r cytundeb terfynol, i greu mantais gystadleuol o’r fath. Cyflwynwyd y blwch patentau gan y Canghellor i roi manteision treth, o incwm yn y dyfodol yn y bôn, o arloesedd patent. Yn yr Iseldiroedd, maent yn ei ddefnyddio ar gyfer meddalwedd. Nawr, pe gallem wneud hynny yng Nghymru, meddyliwch beth y gallai hynny ei wneud i sector dynamig tu hwnt sy’n dod i’r amlwg eisoes mewn perthynas â dechrau busnesau meddalwedd newydd yng Nghymru. Felly, rwy’n credu mai dyma’r math o feddwl—mewn anhrefn ac mewn argyfwng, wyddoch chi, nid yw’n un y buaswn wedi ei ddewis, ond mewn gwirionedd, mae newid hefyd yn creu cyfleoedd, ac efallai bod angen i ni, yn ogystal ag amddiffyn yn llwyr a dwyn pobl i gyfrif mewn perthynas â’r addewidion a wnaethant a gwneud yn siŵr nad yw Cymru dan anfantais yn ariannol, efallai fod angen i ni fod ychydig yn fwy creadigol hefyd a meddwl am yr hyn y gallem ei wneud yn wahanol a fyddai’n rhoi mantais i ni, a fyddai’n golygu mai Cymru fydd y lle i fod i fusnesau yn y dyfodol. Gyda’r math hwnnw o feddylfryd cadarnhaol, credaf y gallwn ysbrydoli ein pobl ein hunain a’n busnesau ein hunain, a denu darpar entrepreneuriaid ac arloeswyr i Gymru hefyd.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru hefyd am y cyfle i drafod y cyfleoedd ar gyfer ariannu Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ymuno â’r pleidiau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n elwa o’r penderfyniad i roi’r gorau i atal y gwaedlif o biliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r UE. Fodd bynnag, yn wahanol i rai o’r Aelodau yn y Siambr, mae UKIP yn credu’n gryf y bydd gadael yr UE yn cynnig cyfleoedd enfawr i Gymru. Nid yw’r UE yn rhoi biliynau o bunnoedd i ni drwy haelioni; maent yn dychwelyd cyfran fechan o’n harian ein hunain, dyna i gyd. Bob blwyddyn, mae’r DU yn rhoi £13 biliwn i’r UE, ac rydym yn cael tua £4 biliwn yn ôl mewn cymorthdaliadau i ffermydd a chynlluniau’r UE. Rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod Cymru nid yn unig yn cael ei chyfran o’r arian a neilltuwyd ar gyfer rhaglenni ariannu’r UE, ond hefyd ei bod yn cael cyfran deg o’r £9 biliwn y mae’n ei gostio i ni fod yn aelodau o glwb yr UE.

Nid wyf yn siŵr o ble y cafodd Plaid Cymru ei ffigurau. Nid wyf yn fathemategydd, ond rwy’n cyfrifo bod ein cyfran o’r £9 biliwn yn £432 miliwn, o gofio bod poblogaeth Cymru yn 4.8 y cant o gyfanswm y DU, ac nid y £490 miliwn a ddyfynnwyd. Er y byddwn wrth fy modd yn gweld yr holl arian hwnnw’n cael ei neilltuo ar gyfer y GIG, gan mai fi yw llefarydd UKIP ar y GIG, rwy’n sylweddoli bod yna flaenoriaethau eraill sy’n cystadlu hefyd. Rydym yn wynebu argyfwng mewn gofal cymdeithasol, o ystyried y toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn y cyfnod diweddar. Mae gennym ddiffyg yn y gwariant ar addysg yng Nghymru. Mae angen gwaith uwchraddio mawr ar seilwaith a buddsoddi. Ac mae angen i ni wario mwy ar wella canlyniadau iechyd meddwl. Bydd £432 miliwn ychwanegol yn mynd yn bell tuag at ddatrys y problemau hyn.

Mae gennym Brif Weinidog newydd sydd eisoes wedi datgan bod yn rhaid i ni wneud y gorau o’r manteision o adael yr UE. Mae hi wedi nodi y gallai ei Llywodraeth lacio agenda galedi ei rhagflaenydd. Mae UKIP yn dymuno’n dda iddi ac edrychwn ymlaen at dderbyn ei sicrwydd y bydd Cymru’n elwa o’r penderfyniad i droi cefn ar bwll arian yr UE. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 17:25:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae’n amlwg o’r ddadl y prynhawn yma fod effaith y penderfyniad a wnaed ar 23 Mehefin yn parhau i gael ei deimlo’n fawr, a bod maint yr heriau economaidd, gwleidyddol, cyfansoddiadol a chymdeithasol yn dod yn gynyddol amlwg. Nid yw ymgodymu â chanlyniadau pleidlais y refferendwm yn golygu herio ei ganlyniad, ond nid yw ychwaith yn golygu troi ein cefnau ar y dadleuon cryf hynny a gyflwynai’r achos dros safle Cymru yn Ewrop.

Fel Llywodraeth, rydym yn awr yn canolbwyntio ar wneud popeth yn ein gallu i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ac i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, gwnaed addewidion sylweddol gan aelodau o’r ymgyrch dros adael yr UE, fel y darluniodd Simon Thomas mor dda yn ei gyfraniad. Bydd llawer o bleidleiswyr Cymru wedi gwneud eu penderfyniadau ar sail yr addewidion hynny, ac mae’n ddiddorol gweld ei fod yn uchelgais a rennir ar draws y Siambr hon y dylid glynu at yr addewidion hynny, a glynu atynt yn llawn.

Dadl allweddol a ddefnyddiwyd i hyrwyddo’r ymgyrch dros adael oedd honiadau ynghylch maint cyfraniad y DU i gyllideb yr UE, gyda’r addewidion hynny a gafodd gyhoeddusrwydd helaeth y byddai’r arian hwn yn cael ei wario ar y GIG, yn ogystal â rhestr hir arall o achosion y byddai’n cael ei ddefnyddio ar eu cyfer. Nawr, byddai cyfran Cymru o’r hyn yr honnid ei fod yn £350 miliwn yn cael effaith enfawr yn wir, a byddai croeso mawr i hynny. Roedd pa mor sydyn y mae’r rhai a safodd o flaen bysus gyda’r honiad hwn wedi’i blastro drostynt wedi ymbellhau oddi wrtho ers hynny yn un o ffenomenau’r cyfnod ar ôl y refferendwm.

Nawr, o safbwynt arian yr UE, bydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ergyd galed i Gymru. Ar hyn o bryd mae Cymru’n elwa ar dros £600 miliwn y flwyddyn o arian yr UE sy’n cefnogi datblygiadau economaidd, cymdeithasol a gwledig. Nawr, unwaith eto, gwnaed addewidion clir gan yr ymgyrch dros adael na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ar y pryd yn gofyn am sicrwydd y byddai’r warant honno—y warant gadarn a gynigiwyd i ni gan arweinydd y Ceidwadwyr yma yng Nghymru—yn cael ei chadw, ac y digolledir pob ceiniog o arian yr UE fel na fydd Cymru ar ei cholled. Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y cronfeydd ar gyfer y cyfnod hyd at 2020 yn cael eu parhau yn ogystal, boed drwy’r Undeb Ewropeaidd ei hun neu drwy ddigolledu o gyllid y Trysorlys. Byddai methu â digolledu cyllid yn anfantais anghymesur i Gymru, ac mae’n amlwg fod y cronfeydd hyn wedi creu effeithiau cadarnhaol enfawr, o ran creu swyddi, cynorthwyo miloedd o fusnesau a helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant.

Nawr, ddirprwy Lywydd, dyna’n bendant oedd y neges gan y partneriaid o gwmpas y bwrdd yn y cyfarfod anarferol o’r pwyllgor monitro rhaglen a gadeiriais ddydd Gwener diwethaf. Roedd y sector preifat, awdurdodau cyhoeddus, prifysgolion, y trydydd sector, buddiannau ffermio—fel y nodwyd y prynhawn yma gan Huw Irranca-Davies a Simon Thomas—i gyd yn unedig yn galw am barhau’r gwaith rhagorol y maent wedi ei wneud tan ddiwedd naturiol y cylch hwn o gronfeydd strwythurol. Cafodd hynny ei adleisio yng ngalwad Leanne Wood am safbwynt unedig wrth ddadlau dros Gymru yn yr amgylchiadau a wynebwn yn awr. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Ar y pwynt hwnnw, rydym wedi gweld Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol, er enghraifft, yn dadlau heddiw nad yw hyn bellach yn ymwneud ag arian, ac y dylem gael y ddadl fawr hon ynglŷn â beth a ddylai gymryd lle’r cronfeydd strwythurol, ac er fy mod yn agored i ddysgu o’r ffaith nad aeth y cronfeydd strwythurol â ni o’r sefyllfa roeddem ynddi yn 1999 i’r sefyllfa rydym am fod ynddi heddiw, a gaf fi gefnogi’r hyn y mae newydd ei ddweud? Rydym am gadw’r ffydd honno hyd at ddiwedd y rhan naturiol o’r rhaglenni hyn, tan 2020, ac rwy’n gobeithio y bydd y Blaid Geidwadol yn gwneud hynny’n glir iawn mewn dadleuon sydd i ddod.

Wel, rwy’n cytuno’n llwyr, ac rwy’n gobeithio y byddant hefyd, oherwydd nid yw’r partneriaid a oedd o amgylch y bwrdd yn y pwyllgor monitro rhaglenni sy’n darparu’r prosiectau hyn mewn gwirionedd, ac sy’n cyflogi pobl go iawn, yn darparu gwasanaethau go iawn i bobl sydd cymaint o’u hangen—nid oes ganddynt hwy ddiddordeb mewn dadl fawr. Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwybod y bydd yr arian y maent yn dibynnu arno yn cael ei warantu yn y ffordd a addawyd iddynt. Mae Simon Thomas yn llygad ei le i wneud y pwynt hwnnw.

Pan fo’r Prif Weinidog, wrth gyhoeddi ei benderfyniad ei hun i adael, yn gwneud ymrwymiad y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn llawn mewn trafodaethau yn y dyfodol, yna mae gennym hawl i ddisgwyl hynny. Ni fydd cynnig rhoi gwybodaeth lawn am y datblygiadau yn ddigon da. Rydym yn disgwyl sedd wrth y bwrdd ar amseriad a thelerau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y ffordd y mae Hefin David wedi disgrifio. Byddwn yn defnyddio’r cyfle i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu, bod yr addewidion a wnaed i’n dinasyddion yn cael eu cadw a bod Cymru’n cael y fargen orau sy’n bosibl.

Lywydd, yn y cyd-destun hwnnw y cyflwynodd y Llywodraeth welliant, y credwn ei fod yn cryfhau’r cynnig gwreiddiol ymhellach eto, ac rwy’n ddiolchgar am yr arwyddion o gefnogaeth i’r gwelliant y prynhawn yma, gan fod yn rhaid i sicrhau bargen briodol i Gymru ar gyllid Ewropeaidd fod yn seiliedig ar fframwaith ariannu teg a llif cyllid teg i’r cyfrifoldebau a ysgwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Gwrandewais yn astud iawn ar ddadansoddiad meddylgar Leanne Wood o’r ffactorau a ddylanwadodd ar y ffordd y pleidleisiodd pobl ar 23 Mehefin. Mae rhai o’r pethau a lifodd o’r ddadl honno wedi cael eu hadlewyrchu mewn modd sy’n peri pryder mawr o ran y ffyrdd y mae eraill o’n cyd-ddinasyddion wedi cael eu trin yn dilyn y refferendwm hwnnw, ac mae’r cynnig hwn yn tynnu sylw yn briodol iawn at hynny.

Mae’n rhaid i wladolion yr UE yng Nghymru fod yn sicr y gallant barhau i fyw yma ac nad ydynt yn mynd i gael eu defnyddio fel gwystlon mewn unrhyw drafodaeth. Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at Lywodraeth y DU yn gofyn am y sicrwydd hwnnw. Clywsom yn gynharach y prynhawn yma am ymgyrch y mae Eluned Morgan wedi ei datblygu i arddangos yn bendant ac yn glir nad cael eu trin gyda goddefgarwch yn unig y mae dinasyddion yr UE ac eraill yma yng Nghymru, ond bod croeso iddynt fod yma a bod y penderfyniad a wnaed ganddynt i wneud eu dyfodol yn rhan o’n dyfodol ni yn benderfyniad sy’n cael ei werthfawrogi a’i gydnabod yn fawr. Dylai’r dyfodol gael ei siapio, fel y mae’r cynnig yn dweud, heb ofn na rhwystr, yn union fel y byddem yn dymuno iddo fod oherwydd, ym mywydau’r unigolion hynny a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, rydym yn gweld y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar waith ym mywydau bob dydd y bobl rydym yn byw ochr yn ochr â hwy, ac mae angen parchu eu hawliau a’u dyfodol.

Diolch. Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau ond yn benodol, rwyf am ddiolch i aelodau tîm Plaid Cymru: Simon Thomas, a ganolbwyntiodd ar effaith gadael yr UE ar yr amgylchedd a’r sector amaethyddol; Bethan Jenkins, a ganolbwyntiodd ar ein diwydiant dur; ac Adam Price, a fu’n trafod y cwestiynau economaidd ehangach sy’n codi o adael yr UE. Ac ydy, mae’n bryd newid patrwm ein ffordd o feddwl a chael dull economaidd newydd o weithredu.

Mae’n bwysig deall yr hyn a ddigwyddodd gyda’r bleidlais hon. Mae’r rhan fwyaf o’r rhai a bleidleisiodd dros adael y siaradais â hwy yn ystod yr ymgyrch ac ers y canlyniad yn dweud wrthyf eu bod wedi gwneud hynny’n bennaf am eu bod eisiau newid, oherwydd eu bod yn teimlo nad oes ganddynt lais ac oherwydd eu bod wedi cael llond bol ar gael eu cymryd yn ganiataol gan sefydliad gwleidyddol heb gysylltiad â’r bobl. Rwy’n deall hynny. Rwy’n parchu hynny.

Wrth gloi, hoffwn fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn o hiliaeth. Hoffwn ddiolch i’r Aelod dros Gaerffili a Mark Isherwood, ac yn wir y Gweinidog, am gyfeirio at hyn hefyd. Ni allwn ac yn bendant iawn ni ddylem wadu bod tôn y ddadl a’r canlyniad wedi rhoi llais i ragfarnau. Mae wedi grymuso rhai a oedd o bosibl yn tueddu eisoes i gropian allan o dan wahanol gerrig i gam-drin lleiafrifoedd. Mae wedi arwain at gynnydd yn nifer y digwyddiadau hiliol yr adroddwyd amdanynt, a gwae ni os anwybyddwn hynny. Ac nid codi bwganod yw dweud hynny pan fo’r ffeithiau’n cefnogi hynny.

Roedd materion yn ymwneud â dosbarth ac anghydraddoldeb yn ganolog i ganlyniad y refferendwm. Ni ellir dehongli’r ffaith fod y niferoedd mwyaf o bobl wedi pleidleisio dros adael yn yr ardaloedd sy’n elwa fwyaf o gronfeydd strwythurol yr UE mewn gwirionedd fel unrhyw beth heblaw protest uchel yn erbyn cael eu gwasgu—gwaedd uchel yn erbyn tlodi ac yn erbyn parhau ar waelod y gynghrair gyfoeth, er eu bod wedi manteisio ar y cronfeydd hynny ers nifer o flynyddoedd. Nid yw’r cynnydd yng nghost gwyliau tramor neu daliadau crwydro ffonau symudol yn golygu fawr ddim os nad oes gennych arian i fforddio gwyliau neu ffôn symudol. Roedd llawer o bobl wedi colli gobaith y gallai gwleidyddiaeth newid pethau, a rhoddodd y refferendwm bŵer iddynt daro ergyd yn erbyn yr elît gwleidyddol, ac maent wedi manteisio ar y cyfle hwnnw. Felly, ni ddylai pobl gael eu diystyru fel pobl annysgedig a thwp, neu hyd yn oed fel rhai sy’n gweithredu yn erbyn eu buddiannau eu hunain am bleidleisio dros adael am y rhesymau hynny. Nid yw’n ymateb afresymol i’r sefyllfa wleidyddol bresennol, ar ôl chwalfa’r byd bancio, pan fo cyn lleied o gyfleoedd i gael eich llais wedi ei glywed. Rhaid i’r lleisiau hynny gael eu clywed.

Cafodd yr addewid y byddai’r DU yn arbed arian drwy adael yr UE dderbyniad da mewn trefi a phentrefi lle mae pobl wedi cael eu gadael ar ôl. Addawyd mwy o arian a rheolaeth i bobl yn y lleoedd hynny. Cawsom y ffigur hwn o £490 miliwn a ddyfynnais yn gynharach gan arweinydd y Ceidwadwyr—un o arweinwyr yr ymgyrch dros adael yr UE.

Nawr, ar ôl heddiw, rwy’n gobeithio y gallwn gael y ddadl ehangach honno ac y gallwn gytuno, ni waeth pa ochr roeddem arni yn y refferendwm, fod angen i ni yng Nghymru gymryd mwy o reolaeth ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros ein materion ein hunain. Bydd Plaid Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn gwneud yn siŵr ein bod yn diogelu dyfodol Cymru. Dylai pob un ohonom yma ymrwymo i hynny a dim llai na hynny.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a Chefnogi'r Lluoedd Arfog

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Symudwn ymlaen, felly, at eitem 8 ar ein hagenda heddiw, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ganmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf a chefnogi’r lluoedd arfog, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6075 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi can mlynedd ers Brwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland.

2. Yn rhoi teyrnged i'r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

3. Yn anrhydeddu'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwrthdrawiadau arfog eraill.

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy:

a) sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, i flaenoriaethu eu hanghenion penodol hwy;

b) cyflwyno Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i ymestyn breintiau i gyn-aelodau'r lluoedd;

c) rhoi rhagor o gyllid i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, i wella ei gapasiti a gwella ei allu i gynorthwyo cyn-filwyr sydd mewn angen; a

d) gwella prosesau casglu data er mwyn: sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a'u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i'r lluoedd arfog.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rydym yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi can mlynedd ers brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland, yn rhoi teyrnged i’r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ers hynny, ac yn anrhydeddu’r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a’r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwrthdrawiadau arfog eraill.

Ar 7 Gorffennaf 1916, gorchmynnwyd troedfilwyr o’r 38ain Adran (Gymreig), a gynhwysai lowyr o’r Rhondda, ffermwyr o Gaernarfon ac Ynys Môn, storwyr glo o’r dociau yn y Barri a Chaerdydd, gweithwyr banc o Abertawe, a dynion o lu o gefndiroedd a galwedigaethau eraill o siroedd Cymru, i ymosod ar reng flaen yr Almaenwyr o flaen coedwig, tua milltir o hyd yn fras, ger pentref bach Mametz, tua 20 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Amiens, gwta wythnos wedi diwrnod cyntaf trychinebus brwydr y Somme, pan laddwyd dros 19,000 o ddynion. Cerddodd y milwyr Cymreig yn syth at ynnau peiriant y milwyr proffesiynol Almaenig ymgloddedig ar ymyl y goedwig. ‘Agorwyd gatiau uffern wrth i’r gynnau peiriant saethu atom o’r tu blaen ac o’r ystlys. Nid oedd gennym obaith ac roedd y bechgyn yn cwympo ym mhob man, ond fe ddaliom ati i symud yn ein blaenau,’ ysgrifennodd Preifat Albert Evans o 16eg (Dinas Caerdydd) Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Yng ngeiriau milwr arall o Gymru: ‘Ni all uffern fod yn llawer gwaeth.’ Lladdwyd 400 ar ddiwrnod cyntaf y frwydr a barodd am bum diwrnod. Erbyn ei diwedd, yn dilyn ymladd wyneb yn wyneb ffyrnig a dryslyd yn y goedwig, cafodd 4,000 o ddynion eu lladd neu eu hanafu. Byddwn yn eu cofio, fel y mae’n rhaid i ni gofio eu cymheiriaid heddiw.

Mae gan y DU ddyletswydd i ofalu am ei lluoedd arfog. Dechreuodd hyn fel cytundeb nas llefarwyd rhwng y gymdeithas a’r lluoedd arfog, yn tarddu yn ôl cyn belled â theyrnasiad Harri VIII o bosibl. Cafodd y cytundeb ei godeiddio’n ffurfiol fel cyfamod yn 2000. Nid oedd yn gyfraith, ond cafodd ei atgyfnerthu gan arfer a chonfensiwn. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall rhwng y gwledydd a’u lluoedd arfog. Mae’n nodi pa fesurau diogelu, gwobrau ac iawndal y gall personél milwrol ei ddisgwyl yn gyfnewid am wasanaeth milwrol a’r risgiau a’r caledi a all fod ynghlwm wrth hynny. Mae egwyddorion y cyfamod wedi eu hymgorffori yn y gyfraith gan Ddeddf Lluoedd Arfog 2011. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu cyfamod cymunedol y lluoedd arfog, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ethol aelod i fod yn hyrwyddwr lluoedd arfog. Ond mae angen mwy.

Rydym yn gresynu at welliant Llywodraeth Cymru yn datgan na fydd ond yn ystyried y gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru a gynigir gennyf pan ddylai Llywodraeth Cymru, fel y mae ein cynnig yn ei ddatgan, ddarparu hyn yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar gymuned lluoedd arfog Cymru a chefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Gomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban yn 2014. Mae sefydlu comisiynydd lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn hanfodol er mwyn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr a chyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru, ac i graffu’n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Drwy ymrwymo i gyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, byddai’r comisiynydd hefyd yn ymgysylltu â’r gymuned a hyrwyddo’r prosiectau trydydd sector allweddol niferus sy’n cefnogi cyn-filwyr, er mwyn gallu eu cyflwyno’n genedlaethol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Yn y cyd-destun hwn, rhaid i ni gydnabod cyllid Libor cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth y DU i wasanaethau cyn-filwyr Newid Cam CAIS Cymru, sy’n gweithio ledled Cymru gan roi cefnogaeth gan gymheiriaid wedi’i deilwra i gyn-filwyr ac ymyrraeth arbenigol. Ar ôl siarad yn 2013 wrth lansio Newid Cam, rwy’n cymeradwyo ei ddatblygiad ers hynny a’i chwaer brosiect, Listen In, sy’n cefnogi’r rôl a chwaraeir gan deuluoedd a chyfeillion cyn-filwyr yn hyrwyddo adferiad o broblemau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Mae’n rhaid i ni hefyd groesawu cyllid Libor i Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf i gefnogi Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr—Alabaré.

Er bod croeso i wasanaeth disgownt a cherdyn lluoedd arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n darparu gostyngiad ar eitemau yn amrywio o deganau plant i ffonau symudol, mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi ymgyrchu ers amser maith dros gael cynllun cerdyn cyn-filwyr yng Nghymru. Byddai hyn yn darparu teithiau bws am ddim, mynediad â blaenoriaeth at driniaethau GIG ac addasiadau sydd eu hangen yn y cartref yn sgil anaf neu salwch a gafwyd wrth wasanaethu, yn ogystal â mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd Cadw. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r mater hwn o’r neilltu ers 2014, pan sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen ar gerdyn adnabod i gyn-filwyr. Galwn felly ar Lywodraeth newydd Cymru i ddechrau gweithio ar unwaith ar y cerdyn cyn-filwyr.

Mae’n rhaid i ni gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn gwella ei gapasiti a’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen ac arbed arian yn y pen draw hefyd mewn gwirionedd. Ym mis Ebrill, ymwelais ag etholwr sy’n byw mewn eiddo Cartrefi Cymru i Gyn-filwyr a oedd wedi cael diagnosis ar ôl cael ei ryddhau o’r fyddin o anhwylder straen wedi trawma cronig a chymhleth yn ymwneud â’i wasanaeth. Roedd wedi ceisio cyflawni hunanladdiad ym mis Mawrth ar ôl i sawl ymdrech i sicrhau ymyrraeth briodol ar ran GIG Cymru fethu dro ar ôl tro. Yn dilyn fy ymyriad, addawodd ei dîm iechyd meddwl cymunedol y byddai’n gweld cydgysylltydd gofal o fewn pedair wythnos. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i mi ymweld ag ef eto ddau fis yn ddiweddarach, nid oedd wedi clywed dim. Pan aeth Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr ar drywydd y mater, dywedwyd wrthynt fod y bwrdd iechyd wedi colli chwe aelod o staff a’u bod yn y broses o gael staff yn eu lle.

Dywedodd y staff yn Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr hefyd fod person arall a oedd yn cael cymorth ganddynt wedi bod yn aros ers pedwar mis ers cael ei asesu gan therapydd seicolegol GIG Cymru i Gyn-filwyr, a oedd erbyn hynny’n absennol oherwydd salwch. Roeddent hefyd yn dweud wrthyf fod GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu ymateb cychwynnol da i atgyfeiriadau, ond mewn gwirionedd roeddent yn dweud mai cyfarfod asesu cyflym yw hwn, a bod y claf wedyn yn ôl ar y rhestr aros os oes angen ymyrraeth seicolegol.

Er bod 10,000 amcangyfrifiedig o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma cymhleth yn sgil gwasanaeth milwrol—4 y cant i 5 y cant o boblogaeth cyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru—sefydlodd cais rhyddid gwybodaeth, o 158 o gyn-filwyr a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth yn 2012-13, dim ond 100 a gafodd eu trin dros gyfnod o 12 mis, dim ond 24 o ffurflenni adborth defnyddwyr gwasanaeth a gwblhawyd, a dim ond 39 o gyn-filwyr a gafodd eu rhyddhau wedi triniaeth. Mewn cyferbyniad, dywedodd ateb ysgrifenedig diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd fod yna 329 o atgyfeiriadau yn yr un cyfnod a 529 yn 2015-16, ond ychwanegodd fod hyn yn cynnwys data wedi’i allosod. Cadarnhaodd ateb ysgrifenedig arall gan Ysgrifennydd y Cabinet bythefnos yn ôl nad yw Llywodraeth Cymru yn cadw ffigur ar gyfer cyn-filwyr sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma yng Nghymru.

Fel y dywedodd Dr Neil Kitchiner, prif glinigydd GIG Cymru i Gyn-filwyr, wrth y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid, a gadeirir gan Darren Millar, y llynedd—ar ôl i ni ymgyrchu’n llwyddiannus yn erbyn toriad arfaethedig Llywodraeth Cymru o £100,000 yn flynyddol—dywedodd wrthym, neu wrth y grŵp, na fu unrhyw gynnydd yn y cyllid ers 2010 er gwaethaf llwyth gwaith cynyddol y gwasanaeth bob blwyddyn, fod cyllid Cymru yn is na gwasanaethau GIG eraill y DU, er mai dyma’r unig wasanaeth cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn y DU, ac yn hytrach nag ychwanegiad o £100,000, byddai cynyddu eu cyllideb flynyddol o £485,000 i £1 filiwn yn eu helpu i gyrraedd canllawiau targed Llywodraeth Cymru ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Dywedodd wrthym hefyd fod yr arian cyfatebol yn yr Alban yn £2.5 miliwn.

Mae’n glir o fy sylwadau hyd yn hyn a’r dystiolaeth sydd ar gael ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwella prosesau casglu data er mwyn sefydlu anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a’u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, dyma’n union yr oedd Adroddiad ‘Call to Mind: Wales’, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind ac yn seiliedig ar gyfweliadau gyda chyn-filwyr a’u teuluoedd a phobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol, yn galw amdano y mis diwethaf. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am gynyddu capasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan nodi bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Pwysleisir yr angen am wella prosesau casglu data ymhellach gan ymgyrch ‘Count them in’ y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n galw am gynnwys cwestiynau ar gymuned y lluoedd arfog yng nghyfrifiad nesaf y DU. Fel y maent yn dweud:

Amcangyfrifir bod rhwng 6.5 a 6.7 miliwn o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn byw yn y DU ar hyn o bryd,

sef oddeutu un rhan o ddeg o’r boblogaeth, ond ychydig a wyddys am union nifer, lleoliad ac anghenion y grŵp sylweddol hwn. Yn wir, gallai fod hyd at 0.25 miliwn o gyn-filwyr yng Nghymru ond heb y data hwn, ni allwn gynllunio ar gyfer y capasiti sydd ei angen ar GIG Cymru, comisiynu’r gwasanaethau ehangach sy’n angenrheidiol, na darparu’r cymorth y mae teuluoedd a gofalwyr yn dibynnu arno, ac ni allwn gyflawni’r addewid a wnaed gan gyfamod y lluoedd arfog y bydd y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Cymeradwyaf y cynnig hwn yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Ym mhwynt 4 dileu ‘bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy’ ac yn ei le rhoi ‘y dylai Llywodraeth Cymru ystyried’.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i fy mhlaid am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac am beidio â bod ofn cyflwyno tri phwynt cyntaf y cynnig hwn? Oherwydd nid pethau y mae pawb yn gytûn yn eu cylch neu wasgu dwylo sentimental yw’r pwyntiau hyn. Mae colli bywyd ar y raddfa hon yn annirnadwy ac yn afresymol, gyda chanlyniadau i bob cymuned. Maent yn ein hatgoffa, fel pe baem angen ein hatgoffa yr wythnos hon pan gyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad Chilcott, fod yn rhaid i benderfyniad unrhyw wladwriaeth i fynd i ryfel fod yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol gadarn. Maent yn ein hatgoffa bod rhannau eraill o’r byd yn dal i ddioddef hil-laddiad. Ac maent yn ein hatgoffa i gael ychydig o bersbectif ar ddigwyddiadau’r mis diwethaf.

Mae persbectif, wrth gwrs, yn un o roddion mawr archifo a dehongli a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ffafriol ar gynigion y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer amgueddfa filwrol aml-safle ar gyfer Cymru lle y gallwn fyfyrio ar ryfel a heddwch a lle pobl Cymru yn y ddau.

Hoffwn grybwyll un neu ddau o faterion ymarferol ynglŷn â phwynt 4 y cynnig hefyd, gan nad oes gennyf amheuaeth y bydd pob Aelod o’r Cynulliad hwn yn ddiffuant yn eu hawydd i gydnabod eu gwasanaeth i’r wlad hon a gwledydd eraill, a’n dymuniad i gydnabod hynny drwy flaenoriaethu a diwallu anghenion pob aelod o’r lluoedd arfog.

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd yn llawer pellach nag y maent wedi mynd i ddiwallu’r anghenion hynny, rydym yn cydnabod y gefnogaeth a ddarparwyd hyd yn hyn ac rwy’n eithaf siŵr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet, ac Aelodau eraill efallai, pe bai mwy ohonynt yma, dynnu rhywfaint o sylw at hynny. Ond gobeithiaf y bydd y rheini hefyd yn cydnabod bod yna ffordd bell i fynd hefyd, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am gomisiynydd y lluoedd arfog a chyn-filwyr tan i ni gael un. Waeth pa mor ardderchog yw’r gwasanaethau sydd ar gael, ym mha sector bynnag, nid ydynt wedi eu hintegreiddio’n dda o reidrwydd nac yn hawdd dod o hyd iddynt chwaith. Yn achos Llywodraeth Cymru, rwy’n meddwl unwaith eto mai mater o fonitro a gwerthuso gwael yw hynny’n rhannol.

Nawr, rwy’n disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet ddadlau yn erbyn yr angen am gomisiynydd gan fod gan awdurdodau lleol—pob un o ohonynt—hyrwyddwyr y lluoedd arfog. Wel, efallai bod—ond pa mor hygyrch ydynt? Mae wedi bod fel un o raglenni ‘Sherlock’ yn fy swyddfa y bore yma. Er i ni ganfod yn y diwedd pwy sydd â’r cyfrifoldeb am hyn yng nghyngor Abertawe drwy fynd drwy gyfres o gysylltiadau yn ymwneud â chynghorwyr, rydym yn dal yn y niwl o ran pwy sydd â’r cyfrifoldeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er ein bod wedi dod ar draws pdf o adroddiad i’r aelodau ar yr hyrwyddwr yn 2013.

Nid oes unrhyw beth am hyn sy’n reddfol neu’n canolbwyntio ar y cleient, nid oes dim yn rhagweithiol amdano, ac nid oes unrhyw un yn cael ei ddwyn i gyfrif am hyn. Byddai comisiynydd yn helpu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith caled yn y maes yn sicrhau canlyniadau. A dyna’r cyfan rydym ei eisiau. Rwyf ei eisiau nid yn unig ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, ond i’w teuluoedd hefyd, gan na fydd pob cyn-filwr yn mynd drwy’r profiadau eithafol y byddwn yn clywed ychydig rhagor amdanynt heddiw, ond nid yw’r rhai sy’n mynd drwyddynt bob amser yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain; effeithir ar aelodau o’u teuluoedd hefyd. Yn fy marn i, mae yna ddyletswydd i wneud yn siŵr fod aelodau o’r teulu agos, sy’n aml yn dod yn ofalwyr, yn cael eu cefnogi’n briodol hefyd. Oherwydd yn aml yr aelodau teuluol hynny sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am geisio dod o hyd i help, sy’n edrych ar wefannau cynghorau ac sydd heb dreulio digon o amser ar eu X-Box i gael y sgiliau i allu dilyn y llwybr dyrys i gael y wybodaeth honno. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnewch hi’n haws iddynt. Helpwch hwy a helpwch y sawl sy’n gadael y lluoedd arfog i ymdopi â throsglwyddo yn ôl i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Rwy’n gwybod bod gennych yr ewyllys i wneud hynny, ond mae’r ystadegau ar gyfer cyn-filwyr sy’n ddi-waith, sydd wedi dioddef cam-drin sylweddau, sy’n dueddol i gael problemau iechyd meddwl—nid anhwylder straen wedi trawma yn unig—ac sy’n mynd yn ddigartref yn peri pryder mawr.

Ar gyfer bron bob un o’r unigolion hynny, bydd yna deuluoedd mewn trafferthion ac aelodau o’r teulu nad ydynt yn galw eu hunain yn ofalwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe baech yn cadarnhau heddiw y byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth i edrych ar y strategaeth ofalwyr ac yn gwerthuso, yn gyntaf, pa mor dda y mae’n ateb ac yn blaenoriaethu anghenion y rheini sy’n gofalu am gyn-filwyr, ac yn ail, cyn-filwyr sydd eu hunain yn ofalwyr.

Peth o’r data mwyaf digalon sydd gennym ynglŷn â chyn-filwyr—ac mae’n ymwneud â chyn-filwyr yn arbennig—yw’r niferoedd sy’n mynd i garchar a’r effaith y mae’n ei chael arnynt hwy a’u teuluoedd. Dychwelyd i deulu sefydlog yw’r prif ffactor o ran gobaith cyn-droseddwr o osgoi atgwympo a’r gwendidau a grybwyllais. Felly, a gaf fi argymell adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar blant yr effeithir arnynt gan garchariad rhiant i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan y bydd llawer o’i ganfyddiadau yn helpu Llywodraeth Cymru i gynorthwyo cyn-droseddwyr sy’n gyn-filwyr a’u teuluoedd i gadw’r sefydlogrwydd hwnnw? Diolch.

Rwy’n falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac rwyf am ddechrau drwy groesawu rhaglen goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer Cymru a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog eu hunain.

Rydym eisoes wedi gweld ac yn parhau i weld amrywiaeth o ddigwyddiadau coffa i nodi dechrau’r rhyfel a’r brwydrau arwyddocaol a ddigwyddodd. Ym mis Ebrill y llynedd, cefais y fraint o fynychu digwyddiad coffa yn Whitehall i nodi 100 mlynedd ers brwydr Gallipoli, wedi i fy mam ymateb i hysbysiad ar y cyfryngau yn rhoi gwybod y gallai perthnasau sy’n dal yn fyw fynychu er mwyn rhoi eu teyrngedau. Gwnaethom gais ac aethom i Whitehall i gofio James Brockley, fy hen hen ewythr a laddwyd ar faes y gad ar 9 Awst 1915. Roedd ei frawd Jac yn yr un fataliwn; cafodd ei anafu pan glywodd am dynged ei frawd.

Mae yna nifer fawr o fentrau a digwyddiadau cymunedol yn digwydd ar draws y wlad i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac rwy’n—[Torri ar draws.] Rwy’n bwriadu manteisio ar y cyfle hwn i sôn wrth yr Aelodau am fenter wych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn fy etholaeth i, sef Delyn, mae Viv ac Eifion Williams wedi sefydlu Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, neu ‘Names on Stone’ fel y mae’n fwy adnabyddus ar Twitter. Gwefan gymunedol wedi’i staffio gan wirfoddolwyr yw Flintshirewarmemorials.com—tua 24 i gyd ar hyn o bryd—ac mae pob gwirfoddolwr yn ymchwilio i gofeb wahanol yn Sir y Fflint; ‘Sir y Fflint’, hynny yw, fel y câi ei diffinio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ymchwilwyr yn darganfod yr hyn a allant drwy ddefnyddio ffynonellau amrywiol—yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol—a rhaid i aelodau o deuluoedd yr aelodau o’r lluoedd arfog sy’n destun yr ymchwil gysylltu â’r sefydliad er mwyn rhannu mwy o wybodaeth, lluniau, llythyrau ac yn y blaen, sydd wedyn yn cael eu hychwanegu at stori’r milwr.

Mae Cofebion Rhyfel Sir y Fflint wedi mynd o nerth i nerth ar ôl derbyn grant loteri o £10,000 yn 2015 i ddatblygu’r prosiect ac ers hynny mae wedi trefnu teithiau astudio i Ffrainc a Fflandrys ym mis Ebrill yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n estyn allan i’r gymuned i roi sgyrsiau ac adrodd straeon y milwyr wrth grwpiau lleol, yn amrywio o Sefydliad y Merched i glybiau rotari, ac yn bwysig, i ysgolion.

Wrth i ni roi amser i gofio am y rhai a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ystod y digwyddiadau canmlwyddiant, gadewch i ni hefyd gydnabod gwirfoddolwyr a sefydliadau fel Cofebion Rhyfel Sir y Fflint sy’n gwneud gwaith rhagorol yn ein hatgoffa am y rhai a wasanaethodd ac a syrthiodd yn ein cymunedau ar draws Cymru. Diolch.

Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac yn wir, rwy’n llongyfarch fy ngrŵp Ceidwadwyr fy hun am mai dyma’r grŵp sydd wedi cyflwyno cynigion yn gyson gerbron y Cynulliad er mwyn myfyrio ar rai o’r mentrau pwysig y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith a dangos undod go iawn gyda’n cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog, lle bynnag y gallent fod yn gwasanaethu. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, a bod yn deg, wedi dangos ymrwymiad ei hun gan ei fod wedi bod yn gyfrifol am y briff lluoedd arfog ar sawl achlysur ar ei daith drwy Gabinet Cymru.

Ond rwy’n gresynu, heddiw, fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliant sydd ond yn galw am ‘ystyried’. Mae llawer o’r pwyntiau yno—yn arbennig y pedwar pwynt am gomisiynydd gwasanaethau, cyflwyno cerdyn cyn-filwyr, cymorth i gyn-filwyr drwy wasanaeth GIG Cymru, a gwella prosesau casglu data—yn faterion hirsefydlog nad wyf yn credu bod angen eu hystyried ymhellach mewn gwirionedd. Dylai’r Llywodraeth allu bod mewn sefyllfa dda bellach i weithredu gwelliannau allweddol yn ystod oes y Cynulliad hwn, dros bum mlynedd. Fe gymeraf yr ymyriad.

Gadewch i mi dynnu eich sylw at un enghraifft o’r problemau sy’n ymwneud â hyn—mater prosesau casglu data a grybwyllodd yr Aelod a Mark Isherwood am y Lleng Brydeinig Frenhinol ynglŷn â rhannu data’r arolwg. Rydym yn gefnogol i egwyddor hynny, ond rydym wedi cael cyngor gan y gwasanaethau diogelwch yn dweud y gallai hyn roi personél y lluoedd arfog mewn perygl. Nid wyf yn barod i wneud hynny nes i ni gael mwy o eglurder ar y pwynt hwnnw. Felly, nid ydym yn barod i weithredu hyn oherwydd cyngor diogelwch ar hynny. Ni allwn roi oedolion agored i niwed yn y cymunedau mewn perygl oherwydd rhannu data am eich bod chi’n credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Bydd angen, ac mae angen i ni weithredu yn ôl y ffeithiau.

Rwy’n cytuno bod angen i ni weithredu ar gyngor a’r cyngor sy’n cael ei roi, ond cyfeiriaf Ysgrifennydd y Cabinet at adroddiad y pwyllgor iechyd ar yr ymarfer casglu data penodol hwn a gynhaliwyd gan y pwyllgor iechyd yn y trydydd Cynulliad, a chasglodd dystiolaeth helaeth gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan gyn-filwyr a chan deuluoedd. Mewn gwirionedd, fe gynigiodd y pwyllgor iechyd ffordd ymlaen i’r Llywodraeth ar y pryd, ac rwy’n credu—rwy’n meddwl mai Edwina Hart oedd y Gweinidog a ymatebodd i’r adroddiad—ei fod wedi nodi parodrwydd clir i symud ymlaen â’r agenda honno. Felly, rwy’n gobeithio wrth gwrs na fyddwn, ym mhumed flwyddyn y Cynulliad hwn, yn parhau i ddadlau rhai o’r pwyntiau hyn sy’n ennyn consensws go iawn o amgylch y Siambr, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei ymateb yn fwy parod i gydnabod y gefnogaeth y gellir ei roi drwy’r pedair menter sydd wedi’u cynnwys yn y cynnig.

Rwyf hefyd yn awyddus i dreulio peth o fy nghyfraniad y prynhawn yma yn myfyrio ar y digwyddiadau coffa sydd wedi eu cynnal i gofio am ddigwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mynychodd Neil Hamilton, arweinydd UKIP, ac arweinydd Plaid Cymru, ac yn wir, y Prif Weinidog a’r Llywydd, wasanaeth teimladwy iawn yr wythnos diwethaf ym Mametz. Roedd eistedd yno gyda’r 800 a mwy, buaswn yn dweud, o bobl a fynychodd y gwasanaeth hwnnw yn fraint enfawr iawn. Roedd eistedd mewn digwyddiad a oedd yn coffáu, buaswn yn awgrymu, erchylltra a ddigwyddodd, lle y cafodd dynion ifanc eu taflu ymlaen dro ar ôl tro mewn tonnau ofer yn erbyn gynnau peiriant i gyflawni cyn lleied, yn pwysleisio dewrder yr unigolion a gymerodd ran ym mrwydr y Somme, a hefyd mewn gwirionedd oferedd rhai o’r gorchmynion a’r cyfarwyddiadau a oedd yn dod i lawr. Mwy na thebyg na ddylem, mewn rhai ffyrdd, wrth i ni eistedd yma heddiw, geisio mesur ein hunain yn erbyn y camau a gymerwyd 100 mlynedd yn ôl, ond yn amlwg, dioddefodd llawer iawn o deuluoedd a llawer o unigolion a chymunedau golledion erchyll, ac mae’n gwbl briodol ac yn iawn ein bod yn coffáu digwyddiadau megis Mametz, ac ni fyddwn byth yn anghofio’r aberth a wnaed, nid yn unig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn yr Ail Ryfel Byd, ac yn wir, aberth ein gwasanaethau arfog. Mae Cymru bob amser wedi meddu ar draddodiad bonheddig iawn o ddarparu recriwtiaid i dair rhan ein lluoedd arfog.

Rhaid i ni roi teyrnged i’r rôl—mewn rhyfeloedd modern, yn aml iawn y rolau dyngarol a chadw’r heddwch a wneir gan ein lluoedd arfog mewn llawer o fannau ledled y byd—. Nid yn Ewrop yn unig wrth gwrs, ond ar draws y byd, mae galw am eu harbenigedd a gwneir defnydd mawr ohono mewn ymgyrchoedd dyngarol a chadw’r heddwch. Rwy’n gobeithio y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ein goleuo ynglŷn â rhai o’r mentrau, drwy addysg a hyrwyddo, y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno i ysgolion a sefydliadau ieuenctid, fel bod modd i’r digwyddiadau coffa hyn ddod yn fyw mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn ddim mwy na digwyddiad ar galendr, a gall y genhedlaeth nesaf deimlo cysylltiad i gynnal y cof hwnnw a’r etifeddiaeth a adawyd ar ôl gan gynifer o bobl.

Ond yn anad dim, rwy’n awyddus i glywed, yn bwysig, gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yr hyn y bydd yn ei wneud, gan weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, mewn perthynas â chymorth gyda phroblemau iechyd meddwl a fydd ar gael i gyn-filwyr yn ein cymunedau, lle bynnag y maent yn byw. Ni allwn fforddio cael loteri cod post. Rwy’n falch iawn mai Cyngor Bro Morgannwg oedd y cyntaf i ddechrau’r broses o fabwysiadau’r cyfamod milwrol gan awdurdodau lleol. Y Cynghorydd Janet Charles, ar y pryd, oedd yr aelod arweiniol ar hynny. Cyngor dan arweiniad y Ceidwadwyr a wnaeth hynny. Rwy’n credu bod y cyfamod wedi bod yn ddeniadol iawn i lawer o awdurdodau lleol o ran y ffordd y maent yn cyflwyno’r cymorth a’r gefnogaeth a gynigir ganddynt yn eu hardaloedd lleol. Ond rhaid i chi gysylltu’r hyn y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud â’r hyn y mae’r bwrdd iechyd lleol yn ei wneud, a mentrau Llywodraeth Cymru yn wir. Rwy’n rhoi teyrnged i Darren Millar, wrth fy ymyl yma, sydd wedi cadeirio’r grŵp hollbleidiol ar y lluoedd arfog yma yn y Cynulliad. Mae’r gwaith hwnnw, gobeithio, yn rhoi llawer o wybodaeth i’r Aelodau am yr hyn sy’n cael ei wneud yn ein henw gan bersonél y lluoedd arfog, ble bynnag y gallent fod yn gwasanaethu.

Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y gwelliant a nodwyd yn enw’r Llywodraeth heddiw, ac rwy’n gobeithio y gallai ystyried tynnu’r gwelliant hwnnw yn ôl a chefnogi’r cynnig heb ei ddiwygio, gan fy mod yn meddwl y gallwn, drwy wneud hynny, fynd ati o ddifrif i fesur cyd-destun y gefnogaeth y mae’r Llywodraeth yn ei rhoi i ran werthfawr o’n cymuned.

Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw i ni gael cyfle i ddadlau a thrafod y mater pwysig hwn.

Pan fyddwn yn nodi canmlwyddiant brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland, cofiwn sut y collodd miloedd o ddynion eu bywydau. Mae’n hawdd anghofio, o ystyried y niferoedd enfawr, fod pob rhif yn y cyfrif o’r meirw yn unigolyn a adawodd ei deulu a’i gymuned ar ôl i fynd i ymladd a marw mewn amgylchiadau annirnadwy.

I’r rhai a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r rhai sydd wedi ymladd ym mhob rhyfel ers hynny, rydym wedi cyfamodi â hwy y byddai cymdeithas yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt os a phan fyddant yn dychwelyd. Mae hynny’n golygu sicrhau bod gofal iechyd meddwl digonol ar gael a bod cymorth iddynt allu dod o hyd i dai a chyflogaeth. Mae’n golygu sicrhau bod eu teuluoedd a’u plant yn cael eu cefnogi, fod y rhai sydd wedi cael eu hanafu—yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef anafiadau sy’n newid eu bywydau—yn cael gofal iechyd o’r safon uchaf sy’n bosibl.

Hefyd, dylai ein cofio gynnwys etifeddiaeth falch Cymru o ymdrechu i ddatrys gwrthdaro a cheisio dewisiadau eraill yn lle rhyfel. Ffigurau fel yr Arglwydd Llandinam, Aelod Seneddol Rhyddfrydol ac yn ddiweddarach, Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, y mae ei waith ar y defnydd o rym a chyfraith a threfn ryngwladol yn sylfaen i siarter y Cenhedloedd Unedig. Roedd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu Teml Heddwch ac Iechyd Caerdydd y dymunai iddi fod yn gofeb i’r dynion dewr o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i fod i roi terfyn ar bob rhyfel. Dylem gadw’r traddodiad Cymreig hwnnw mewn cof wrth i ni nodi digwyddiadau’r canmlwyddiant eleni. Mae’n fwy perthnasol ac yn bwysicach fyth pan ystyriwn natur rhyfeloedd modern. Rydym yn cael y ddadl hon heddiw yn sgil cyhoeddi adroddiad Chilcot yr wythnos diwethaf. Un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad hwnnw oedd bod y lluoedd arfog wedi cael eu hanfon i Irac heb gynllunio priodol a heb i’r offer angenrheidiol fod ar gael iddynt. Mae nifer yn y lluoedd arfog a theuluoedd y rhai a fu farw yn gweld hyn fel brad, ac yn gywir felly. Canfu’r adroddiad hefyd nad oedd pob llwybr wedi cael ei ddihysbyddu i geisio osgoi rhyfel yn y lle cyntaf.

Mae natur rhyfel wedi newid, wrth gwrs, ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi honni bod gwrthdaro arfog modern yn lladd ac yn anafu mwy o blant na milwyr. Er bod dadlau ynghylch yr union ystadegau, mae’n wir fod marwolaethau sifil yn ystod rhyfeloedd wedi codi’n fras o 5 y cant ar droad yr ugeinfed ganrif i 15 y cant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i 65 y cant erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac i fwy na 90 y cant mewn rhyfeloedd yn y 1990au. Pan fyddwn yn dewis ymladd, rydym yn dewis cymryd rhan mewn rhyfel a fydd yn brifo’r rhai nad ydynt yn rhan ohoni, ac rydym yn gwneud llawer iawn mwy yn ddigartref.

Wrth gwrs, ni ddylai cofio fod yn ddathliad ond yn hytrach, yn fyfyrdod ar y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac ar sut y gallwn weithio i atal gwrthdaro a cholli bywyd yn y dyfodol. I’r rhai sy’n dychwelyd o ryfeloedd, y peth lleiaf un y dylai’r gymdeithas ei wneud yw sicrhau eu bod yn cael gofal priodol. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn longyfarch y grŵp Ceidwadol ar ddewis y pwnc hwn ar gyfer y ddadl heddiw a chymeradwyaf Mark Isherwood ar y ffordd ragorol y’i cyflwynodd. Mae Andrew Davies eisoes wedi cyfeirio at y fraint fawr a gawsom fel arweinwyr y pleidiau, ynghyd â’r Llywydd, o allu mynychu’r digwyddiad i goffáu canmlwyddiant brwydr Coed Mametz yr wythnos diwethaf. Bûm yn mynychu dathliadau diwrnodau coffa o wahanol fathau ers llawer iawn o flynyddoedd ac rwyf bob amser yn eu cael yn deimladwy tu hwnt, ond nid wyf erioed wedi bod ar un o feysydd y gad y Rhyfel Byd Cyntaf o’r blaen mewn gwirionedd, ac mae’n amhosibl ar ddiwrnod heulog, gyda’r ŷd yn chwifio yn y caeau, dychmygu, 100 mlynedd yn ôl, y lladdfa, y sŵn a’r marwolaethau a’r dinistr a ddigwyddodd bryd hynny.

Un o’r pethau mwyaf teimladwy a gariais yn ôl o faes y gad yw hanesion rhai o’r milwyr Cymreig a fu farw ar y diwrnod hwnnw. Yn benodol, y Corporal Frederick Hugh Roberts, a oedd wedi osgoi marwolaeth yn nhrychineb pwll Senghennydd ar 17 Hydref yn 1913 am ei fod wedi betio’n llwyddiannus ar geffyl gan arwain at noson o yfed trwm a phen mawr yn y bore a’i cadwodd i ffwrdd o’r pwll ar y diwrnod y lladdwyd 439 o’i gydweithwyr. Yn anffodus, fe farw mewn cawod o fwledi ar 10 Gorffennaf 1916. A dau frawd, Arthur a Leonard Tregaskis, a oedd wedi ymfudo i Ganada gyda’i gilydd ac a ddychwelodd i ymuno fel gwirfoddolwyr i ymladd yn y rhyfel; bu farw’r ddau ar yr un diwrnod—7 Gorffennaf, 1916. Ni all rhywun ddychmygu, mewn gwirionedd, o ystyried beth a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw, sut y gallai milwyr barhau i wthio ymlaen drwy’r weiren bigog i dir neb gan wybod, rwy’n tybio, ei bod hi’n gwbl sicr y buasent yn syrthio. Felly, mae’n iawn i ni eu cofio a’u cofio bob amser. Un o’r pethau rwyf wedi eu gwerthfawrogi fwyaf dros amser hir yn y byd gwleidyddol yw sut rydym yn rhoi mwy o barch mewn gwirionedd i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd nag a wnaethom yn nyddiau fy ieuenctid o bosibl, ac rwy’n falch fod cymaint o bobl iau hefyd yn mynychu’r dathliadau hyn heddiw.

Fel pawb arall, rwy’n synnu braidd fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig hwn. Rwy’n siŵr nad oes yr un ohonynt, mewn gwirionedd, yn anghytuno ag egwyddor yr hyn sy’n cael ei gynnig yma ac rwy’n synnu nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu cytuno bod yn rhaid i ni roi’r cymorth ychwanegol y mae’r cynnig yn galw amdano, ac mai ei ystyried ymhellach yn unig y dylid ei wneud. Nid wyf am ychwanegu at y dadleuon a roddodd Andrew Davies, heblaw dweud fy mod yn cytuno â’r hyn a ddywedodd yn llwyr. Mae cymaint o ffyrdd y gallwn wella’r ddarpariaeth o wasanaethau cymdeithasol, tai, ac ati i’n cyn-filwyr. Nid yw pobl yn y lluoedd arfog, yn gyffredinol, yn cael eu talu lawer iawn mewn gwirionedd am yr hyn y maent yn ei wneud ac yn aml rhaid iddynt ddioddef pwysau a straen enfawr mewn bywyd. Mae nifer yr achosion o dor-priodas yn fawr iawn ac mae hynny’n creu problemau enfawr i’r ddwy ochr mewn bywyd ar ôl gadael y lluoedd arfog, ac mae pob math o broblemau meddyliol a phwysau sy’n rhaid iddynt ymdopi â hwy hefyd. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, wrth gwrs, cafodd llawer iawn o filwyr eu saethu am lwfrdra pan oeddent, mewn gwirionedd, yn dioddef o straen a chyflyrau eraill nad oeddent yn cael eu cydnabod yn y dyddiau hynny. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd—mae’n sicr yn ddyletswydd ar Lywodraeth—i roi cymaint o gymorth â phosibl i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr wrth iddynt drosglwyddo i fywyd preifat ar ôl gadael y lluoedd arfog.

Nid oes gennym amser i fanylu gormod, ond rwy’n gefnogol iawn i gynnwys cwestiwn safonol i gyrff cyhoeddus ei ofyn yn brawf adnabod ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog wrth iddynt ddarparu eu gwasanaethau. Yn anffodus, ofnaf nad wyf yn derbyn yr esgus a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros beidio â gwneud hyn, oherwydd gwyddom am gymaint o achosion yn ein gwaith etholaeth lle byddai pobl yn elwa pe gwyddys eu bod wedi—[Torri ar draws.] Rwy’n ofni bod Alun Davies unwaith eto, wrth gwrs, wedi dwyn gwarth arno’i hun a’r Siambr hon efallai, drwy drin mater difrifol iawn gydag ysgafnder, a byddai’n rheitiach iddo wrando, efallai, yn hytrach na baldorddi yn y lle hwn, fel y mae yn ei wneud mor aml. [Torri ar draws.]

Ond ceir cymaint o achosion pan fo pobl sy’n teimlo nad ydynt wedi cael yr hyn yr oeddent ei angen o’r gwasanaeth iechyd yn honni wedyn mai’r rheswm am y ddarpariaeth honno oedd, neu’n hytrach, mai’r rheswm nad oedd y rhai yn y gwasanaeth iechyd yn deall eu hanghenion, oedd nad oeddent wedi nodi eu bod yn gyn-filwyr y lluoedd arfog ac yn syml, nad oedd eu statws wedi ei gydnabod neu ei gofnodi gan y staff a oedd yn ymdrin â hwy.

Felly, mae fy amser ar ben. Hoffwn gymeradwyo’r cynnig hwn i’r tŷ ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heb ei ddiwygio.

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fy mod, yn fy natganiad llafar diweddar, wedi nodi’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Gwnaed cynnydd da ar draws Cymru gyfan o ran cefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac os parhawn i weithio ar y cyd â’n partneriaid, gan rannu adnoddau ac arferion gorau, credaf y gallwn adeiladu ar y llwyddiant. A gaf fi hefyd roi teyrnged—nid ydynt yn nheitl y ddadl—i deuluoedd, partneriaid a phlant personél y lluoedd arfog sy’n aml yn cael eu hanghofio o ran y cymorth sydd ei angen arnynt? Mae hyn yn rhywbeth rwy’n awyddus iawn i wneud yn siŵr fod y Llywodraeth hon yn edrych arno—y cymorth cyfannol i deuluoedd y lluoedd arfog.

Rwy’n cytuno ac rwy’n falch fod pwynt 1 y cynnig yn nodi canmlwyddiant tair brwydr dyngedfennol y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyda’i gilydd, arweiniodd brwydrau’r Somme, Coed Mametz a Jutland at aberth nifer enfawr o filwyr Cymreig er mwyn gwarchod y rhyddid sydd gennym heddiw, ac ni ddylid eu hanghofio.

Yn fy sylwadau, anghofiais sôn—dylwn fod wedi sôn, ac rwy’n gobeithio y gwnewch eu cymeradwyo hefyd—am Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, a oedd mor ganolog i ddigwyddiadau coffáu Coed Mametz. Rwy’n gwybod eu bod yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau arfog, ac mae llawer o’r aelodau hynny ym Mro Morgannwg.

Diolch am ymyrraeth yr Aelod, ac wrth gwrs, mae llawer na fyddwn yn sôn amdanynt heddiw, ond na ddylid eu hanghofio o ran yr hyn a wnaethant, a achubodd lawer o fywydau i ni er mwyn i ni allu byw yn yr heddwch rydym yn goroesi ynddo. Rydym yn parhau i goffáu’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at y gofeb a godwyd i nodi dewrder ac aberth y 38ain Adran yng Nghoed Mametz. Mynychodd y Prif Weinidog y gwasanaeth coffa cenedlaethol yno ar 7 Gorffennaf i anrhydeddu eu dewrder.

Rwyf hefyd yn cefnogi ail a thrydydd pwynt y cynnig. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei rhaglen Cymru’n Cofio 14-18, yn rhoi teyrnged i’r rhai a fu’n ymladd dros eu gwlad, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sefydliadau partner i nodi cyfraniad ein lluoedd arfog i amddiffyn y wlad a’r ffordd o fyw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau ei chefnogaeth i ddiwrnodau’r lluoedd arfog a gynhelir yng ngogledd a de Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn caniatáu cyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a’u diolch i’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i’n cyn-filwyr. Mynychais yr un gyda Darren Millar a nifer o’r Aelodau eraill yng ngogledd Cymru yn ddiweddar. Maent hefyd yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth iau ddysgu a gwerthfawrogi aberth a wnaed gan filwyr a amddiffynai ein rhyddid.

Wrth fwrw ymlaen â’n hymrwymiadau datganoledig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cyfamod y lluoedd arfog. Mae’r pecyn cymorth yn adlewyrchu ein rhwymedigaeth foesol i sicrhau nad yw teuluoedd ac aelodau o’r lluoedd arfog o dan anfantais oherwydd eu bywyd yn y lluoedd. Byddwn yn gweithio ar y cyd, unwaith eto, gyda’n partneriaid i adnewyddu ein pecyn cymorth yn ddiweddarach eleni, gan wrando ar yr adborth gwerthfawr. Byddwn yn cyhoeddi dogfen newydd o’r enw ‘Croeso i Gymru’, wedi ei theilwra’n benodol ar gyfer personél y lluoedd arfog a’u teuluoedd. I gydio mewn pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn â’r cyfamod a gwneud yn siŵr fod gwybodaeth yn cael ei rhannu ac ar gael i unigolion, boed yn gwasanaethu ar hyn o bryd, neu’n gofalu neu deuluoedd aelodau o’r lluoedd arfog, credaf ei fod yn bwynt pwysig iawn. Cyfarfûm â’r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog y bore yma—unwaith eto, fy nghyfarfod cyntaf â hwy yn y portffolio hwn. Ond mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar gasglu’r dystiolaeth orau a’r arferion gorau, ac mewn gwirionedd, roedd yna raglen sy’n cael ei hystyried yn Swydd Warwick—rwy’n meddwl mai dyna’r awdurdod lleol—lle maent yn edrych ar raglen seiliedig ar ap i ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau, ble y gallant gael adolygiad cyflym iawn o ba wasanaethau a chyfeiriadau sydd ar gael. Felly, rydym yn mynd i fod yn edrych ar hynny, i weld os gallwn gyflwyno hynny ledled Cymru yn ogystal. Felly, rwy’n cytuno â’r Aelod—gallwn wneud llawer mwy i helpu a chyfeirio unigolion wrth i ni fynd yn ein blaenau. Ond mae’n bwysig iawn fy mod yn gwrando ar y grŵp arbenigol, oherwydd eu bod ar y pen blaen yn y mater hwn, o ran teuluoedd a phersonél sy’n gwasanaethu.

Rydym wedi cynnig gwelliant i bwynt 4 i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â syniadau o bob rhan o’r Cynulliad. Mae gennym bryderon am rai o gynigion y Ceidwadwyr, ond nid ydym am eu gwrthod yn llwyr. Mae hwn yn fater pwysig i ni hefyd, a byddaf yn parhau i weithio ac i ymdrechu i weld pa gefnogaeth y gallwn ei chael—cefnogaeth amhleidiol—lle y gallwn sicrhau llwyddiant mewn perthynas â’r awgrymiadau hyn.

O ran y cynnig ar gomisiynydd y lluoedd arfog a chyn-filwyr, rydym wedi gwneud rhywfaint o waith ar y mater hwn ac yn 2015, ym mis Mehefin, cyfarfu aelodau o’r grŵp arbenigol â Chomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban i ystyried gwersi a ddysgwyd a gwerth posibl swydd debyg yn y fan hon. Byddwn yn parhau i ystyried gwaith y comisiynydd cyn-filwyr yn yr Alban, ynghyd ag arfer gorau mewn mannau eraill. Mae angen i ni fod yn argyhoeddedig y byddai penodi comisiynydd—ac rwy’n nodi gyda diddordeb fod y Ceidwadwyr eisiau comisiynydd ar gyfer hyn, ond o ran unrhyw gomisiynwyr eraill rydym wedi eu cael, yn gyffredinol maent wedi pleidleisio yn erbyn, mewn egwyddor, ar sawl achlysur—yn darparu, ar y wedd hon, manteision ymarferol i’n holl gyn-filwyr. Mae’n werth nodi fy mod yn edrych ar hynny a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Dylid nodi mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn yw aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud a’u gwaith yn ein cymuned. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y gwaith a wnaeth Bro Morgannwg ar y cyfamod cymunedol, ac rwy’n rhoi teyrnged hefyd i’r Cynghorydd Anthony Powell, sy’n parhau â’r gwaith da yn awr wrth gwrs. Rwy’n meddwl bod yna lawer o bethau y gall awdurdodau eraill eu dysgu gan y Fro, ac rwy’n parhau i wthio hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yr wythnos hon ar sail y grŵp panel o arbenigwyr y bore yma a fy safbwyntiau ar hynny.

O ran y cerdyn adnabod i gyn-filwyr y soniodd yr Aelodau amdano, ystyriwyd opsiynau ar gyfer datblygu cerdyn adnabod i gyn-filwyr gan y grŵp gorchwyl a gorffen—sydd eto’n cynnwys grŵp cyfeirio yn y tîm arbenigol. Daethant i’r casgliad mai gwerth cyfyngedig a fyddai i gyflwyno cerdyn adnabod i gyn-filwyr. Rhoddaf ystyriaeth bellach i hynny gan fy mod yn credu os mai dyna’r peth iawn i’w wneud, yna dylem wneud hynny, ond yr hyn rwy’n ei gredu yw na ddylid ei seilio ar reolau pleidiol; dylai fod yn seiliedig ar ffeithiau, ac os gallwn ddangos tystiolaeth mai dyna’r peth iawn i’w wneud rwy’n hapus iawn i wneud hynny.

A gaf fi roi teyrnged i lawer o’r Aelodau a’r cyfraniadau y maent wedi eu gwneud yn y Siambr heddiw? Clywais sarhad i fy nghyd-Aelod, Alun Davies. Mae’n rhaid i mi ddweud bod Alun Davies yn Aelod gwych dros Flaenau Gwent o ran cynrychioli ei etholaeth, a gwn ei fod yn cynrychioli’r lluoedd arfog ac aelodau o’r gymuned honno’n dda iawn. Yn anffodus rwy’n meddwl bod cyfraniad Neil Hamilton ynglŷn â chyflawni’r ddyletswydd o ran anwybyddu cyngor diogelwch lle mae pobl yn agored i niwed yn ein cymuned yn beryglus iawn, ac yn ffôl iawn i’w awgrymu hyd yn oed. A gaf fi awgrymu bod yr Aelod yn ailystyried ei sylwadau yn hynny o beth?

O ran pwynt 4, byddwn yn ystyried y cyllid presennol a ddarperir i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Byddwn yn parhau i ddarparu £585,000 y flwyddyn er mwyn cynnal gwasanaeth unigryw GIG Cymru i Gyn-filwyr. Mae gennym berthynas dda gyda gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Gyda’n gilydd, byddwn yn ystyried yr opsiynau i wella ei gapasiti fel bod cyn-filwyr sydd mewn angen yn cael y gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddo. Hefyd—anaml iawn y byddwch yn fy nghlywed yn dweud hyn, Lywydd—ond roedd cyflwyniad Mark Isherwood yn ddefnyddiol iawn o ran gosod yr olygfa. Fodd bynnag, rwy’n meddwl bod rhaid i ni gydnabod bod yna lawer mwy i’w wneud i gynorthwyo ein cyn-filwyr a chymunedau’r lluoedd arfog yng Nghymru, ond yn sicr nid ydym yn llusgo ar ôl unrhyw ran arall o’r DU. Mae yna gyfleoedd gwych o hyd. Mae’r grŵp arbenigol ar y cyn-filwyr yn awgrymu ein bod yn arwain y ffordd, a byddwn yn gobeithio y byddai’r Aelod sy’n ymateb i’r ddadl hon yn cydnabod hynny ac yn rhoi clod lle y mae’n ddyledus.

Yn olaf, rydym yn barod iawn i ystyried ffyrdd o wella prosesau casglu data. Rwy’n ymwybodol o brinder data, ac mae i hynny oblygiadau ar gyfer polisi a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r gallu i ddeall anghenion cymuned ein lluoedd arfog yn rhywbeth rydym yn edrych arno ar draws y Llywodraeth—sut y gallwn gefnogi hynny’n well, ond gyda chafeat y mater diogelwch a grybwyllais yn gynharach. Rwy’n cefnogi’r angen i gael ysbrydoliaeth bellach ond hoffwn asesu’r rhaglen honno’n llawn. Bydd y grŵp arbenigol sydd gennym yn archwilio hyn ymhellach, ond rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau gyferbyn am gyflwyno’r ddadl heddiw i ddathlu’r ffaith fod gennym wasanaeth lluoedd arfog gwych yma yng Nghymru. Maent yn gwneud gwaith aruthrol yn ein cymuned a boed i ni barhau i’w cefnogi.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb yn y Siambr sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Mae’r rhan fwyaf o’r ddadl wedi bod mewn ysbryd da iawn ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni symud pethau yn eu blaenau i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr sydd gennym yng Nghymru ar sail drawsbleidiol lle bynnag y bo’n bosibl. Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cofnodi ei gefnogaeth i lawer o’r hyn rydym yn ei gynnig heddiw yn ein cynnig, er y bydd yn dal i gefnogi gwelliant y Llywodraeth, ac na fydd hwnnw’n cael ei dynnu’n ôl. Hoffwn roi teyrnged i’r Llywodraeth, i fod yn deg, am y rhaglen ardderchog o weithgareddau a drefnwyd mewn perthynas â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac am y ffordd y bu urddas yn y digwyddiadau coffaol, a’r ffaith nad ydynt ond yn digwydd yma yng Nghymru, ond lle y ceir lle pwysig, fel Mametz, rydym hefyd wedi cael ein cynrychioli yno ac wedi cynnal digwyddiadau tramor. Credaf fod yr effaith a gafodd y gwasanaeth arbennig hwnnw ar y rhai a’i gwelodd ar y teledu neu a oedd yn bresennol, yn wir, fel y nododd Andrew R.T. Davies, Neil Hamilton ac eraill—cafodd effaith emosiynol fawr ar y rhai a oedd yno, yn enwedig clywed rhai o’r straeon hynny a gyflwynwyd yn ystod y ddadl hefyd.

Rwyf hefyd am ddiolch i Lywodraeth Cymru am barhau i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog, yng ngogledd a de Cymru, pan fydd yn digwydd, ac yn wir, am y buddsoddiad rydych yn parhau i’w roi i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ceir problem gapasiti, fodd bynnag, yn y gwasanaeth hwnnw, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi myfyrio ar hynny ac wedi dweud y bydd yn edrych i weld a oes cyfle i ddarparu rhagor o fuddsoddiad. Mae’n amlwg yn annerbyniol fod pobl yn dal i aros yn rhy hir am asesiad weithiau. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, ac fel y bydd eraill yn y Siambr hon yn gwybod, yn enwedig yng nghyd-destun materion iechyd meddwl, mae’n aml yn bwysig taro tra bo’r haearn yn boeth a phan fydd rhywun yn awyddus i ymgysylltu â gwasanaeth, i gynnig mynediad cyflym iddynt.

Rwyf ychydig yn bryderus ynglŷn â’r cyngor a roddwyd i’r Gweinidog ynglŷn â diogelwch mewn perthynas â’r cyfrifiad. Rwy’n gefnogwr mawr yn ogystal o ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol ‘Count them in’, oherwydd mae’n bwysig ein bod yn gwybod lle mae cymuned ein cyn-filwyr er mwyn i ni allu canolbwyntio ein gwasanaethau arnynt. Gallaf ryw lun o ddeall hynny mewn perthynas ag aelodau presennol o’r lluoedd arfog, o ran pryderon am ddiogelwch, ond yn bendant i gyn-filwyr, rhai nad ydynt wedi bod gwasanaethu’n weithredol ers blynyddoedd lawer, rwy’n meddwl bod rhaid bod rhyw ffordd o oresgyn y pryderon er mwyn cael pethau’n iawn. Hoffwn roi teyrnged i’r Lleng Brydeinig Frenhinol, i Gymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA) ac i’r nifer o sefydliadau eraill sy’n cefnogi cyn-filwyr mewn cymunedau ledled Cymru.

Rhoddodd Mark Isherwood araith agoriadol ardderchog, gan osod yr olygfa. Nododd fanylion graffig am oferedd y brwydrau hynny ar y Somme, ac yn arbennig yng Nghoed Mametz, lle y collodd llawer o bobl eu bywydau. Roedd gorymdaith yn Rhuthun dros y penwythnos, lle cariwyd 4,000 o babïau mewn gorymdaith ar hyd y strydoedd i goffáu bywydau’r milwyr Cymreig a gollwyd yn ystod y frwydr honno. Pan feddyliwch am y bywydau a gollwyd ym mrwydr y Somme ar y diwrnod cyntaf—30,000 o bobl, sef poblogaeth tref Bae Colwyn, y ganolfan boblogaeth fwyaf ar arfordir gogledd Cymru, wedi mynd mewn cyfnod o 24 awr yn unig—mae’n go erchyll. Dyna pam y mae’n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn, nid yn unig i gofio’r digwyddiadau hynny, ond i fyfyrio yn eu cylch er mwyn i ni allu osgoi digwyddiadau erchyll tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Rwy’n falch iawn fod CAIS a’u rhaglen Newid Cam a’i bencadlys wedi ei leoli yn fy etholaeth i, ym Mae Colwyn. Wrth gwrs, mae’n sefydliad sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, ond mae mewn cyflwr ansicr. Mae wedi cael arian i ddal i fynd tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ond y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw sicrwydd. Rwy’n erfyn arnoch, Weinidog, i edrych i weld a oes cyfle i ariannu’r gwasanaeth hwnnw, i’w wneud yn gynaliadwy yn y dyfodol, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth, pan fyddwch yn siarad â phobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen benodol honno, rhaglen Newid Cam, mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau—gan eu bachu yn aml iawn pan fyddant ar droell o ddirywiad, ar ôl cael problemau gydag anhwylder straen wedi trawma, ac mae wedi eu codi’n ôl ar eu traed a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn. Ac wrth gwrs, mae’n estyn cefnogaeth i’r rhwydwaith teuluol a grybwyllwyd gennych hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet—rhan bwysig iawn o’r jig-so, sy’n aml yn cael ei esgeuluso a’i anwybyddu.

Atgoffodd Suzy Davies ni, wrth gwrs, na ddylem ganolbwyntio’n unig ar y digwyddiad canmlwyddiant, a bod arnom angen gweithgareddau coffa parhaol hefyd a phethau y gallwn eu gwneud bob amser ac ar hyd y flwyddyn. Mae gennym syniad am amgueddfa filwrol genedlaethol mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru y gall pobl ymweld â hi. Credaf fod hwnnw’n syniad ardderchog y dylai Llywodraeth Cymru ei ddatblygu.

Ar ein cynnig ar gomisiynydd y lluoedd arfog, unwaith eto, rwy’n falch nad ydych wedi cau’r drws yn gyfan gwbl ar hynny, Weinidog, a’ch bod yn edrych ar y dystiolaeth o’r Alban, ond cofiwch, mae comisiynydd yr Alban ar gyfer cyn-filwyr yn unig, nid ar gyfer teulu cyfan y lluoedd arfog. Mae’r hyn rydym yn ei gynnig yma ychydig yn wahanol i’r hyn sydd ar gael ac yn cael ei gynnig yn yr Alban. O ran fforddiadwyedd a’r ffordd y gallant ysgogi gwasanaethau i wella, mae’n bwysig nad ydych yn ei ddiystyru’n llwyr a’ch bod yn ystyried comisiynydd sy’n gallu dwyn yr hyrwyddwyr lluoedd arfog yn ein hawdurdodau lleol ac yn y GIG i gyfrif am gyflawni’r amcanion sydd gan bawb ohonom, yn wir.

Cyfeiriodd Hannah Blythyn, wrth gwrs, at rai o weithgareddau a gwaith Cofebion Rhyfel Sir y Fflint yn ei hetholaeth ei hun, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig myfyrio ar bob un o’r rheini.

Steffan Lewis—yn fyr iawn, fe gyfeirioch chi at Chilcot ac wrth gwrs, daw’r ddadl hon yn fuan iawn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwnnw ac yn gwbl gywir, fe ystyrioch chi’r penderfyniadau anodd iawn y mae Llywodraethau yn aml yn eu gwneud, a allai fod wedi bod yn wahanol, weithiau, wrth i bobl edrych yn ôl ar hanes. Ond mae’n bwysig ein bod yn ystyried yr ymgyrchoedd cadw’r heddwch y mae llawer o’n milwyr yn rhan ohonynt o amgylch y byd, a’n bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu’n weithredol ac sydd wedi gwasanaethu’n weithredol yn y gorffennol ar draws y wlad.

Felly, cymeradwyaf y cynnig i chi. Rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu ei gefnogi heb ei ddiwygio.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Gohiriwn yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. A chytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y dadleuon byr. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. 9. Cyfnod Pleidleisio

Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 14 o blaid. Roedd 10 yn ymatal a 26 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yn methu.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 14, Yn erbyn 26, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6077.

Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 47, nid oes neb yn ymatal, yn erbyn 3. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 47, Yn erbyn 3, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6077.

Cynnig NDM6077 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr addewidion hynny yn cael eu cyflawni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

a) bod £490 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i GIG Cymru;

b) y caiff lefel y cyllid a gaiff Cymru o raglenni'r UE ar hyn o bryd ei chynnal;

c) y bydd y cymorth taliadau uniongyrchol a gaiff ffermwyr Cymru yn gyfartal, os nad yn uwch na'r hyn a ddaw drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin;

d) bod hawl dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DU heb ofn na rhwystr, yn cael ei warantu; ac

e) bod yr holl drefniadau cyllido yn y cyfnod wedi Brexit yn cael eu seilio ar fframwaith cyllido teg ac ar ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37. Roedd 12 yn ymatal a phleidleisiodd 1 Aelod yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6077 fel y’i diwygiwyd: O blaid 37, Yn erbyn 1, Ymatal 12.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6077 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 16, roedd 1 yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig yn methu.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 33, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6075.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 34 o blaid, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6075.

Cynnig NDM6075 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi can mlynedd ers Brwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland.

2. Yn rhoi teyrnged i'r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

3. Yn anrhydeddu'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwrthdrawiadau arfog eraill.

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried:

a) sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, i flaenoriaethu eu hanghenion penodol hwy;

b) cyflwyno Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i ymestyn breintiau i gyn-aelodau'r lluoedd;

c) rhoi rhagor o gyllid i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, i wella ei gapasiti a gwella ei allu i gynorthwyo cyn-filwyr sydd mewn angen; a

d) gwella prosesau casglu data er mwyn: sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a'u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy'n gwasanaethu a/neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i'r lluoedd arfog.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 50 o bleidleisiau o blaid, nid oedd neb yn ymatal, ac ni phleidleisiodd neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6075 fel y’i diwygiwyd: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6075 fel y’i diwygiwyd.

A gaf fi ofyn i chi, os ydych yn gadael y Siambr, i wneud hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?

10. 10. Dadl Fer: Diwallu Anghenion Tai Cymru—Angen Rhagor o Gamau i Gynyddu'r Cyflenwad Tai

Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis ‘Diwallu anghenion tai Cymru: Angen rhagor o gamau i gynyddu’r cyflenwad tai’. Mike Hedges.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon—[Torri ar draws.]

Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon i Jeremy Miles. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i sôn am bwnc y credaf ei fod yn hanfodol i ddyfodol pobl Cymru. Tai, neu ddiffyg tai efallai, yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r Cynulliad hwn, ac rwy’n croesawu’r cyfle i’w drafod mor gynnar yn y tymor hwn. Mae’n sicr yn fater pwysig yn fy etholaeth, nid o ran y bobl nad ydynt yn gallu cael tai yn unig, ond o ran ansawdd gwael ychydig o’r eiddo rhentu preifat y mae pobl yn byw ynddynt.

Gellir rhannu’r cyfnod ar ôl y rhyfel mewn perthynas â thai yn ddau gyfnod. O 1945 i 1980, gwelsom dwf enfawr yn nifer y tai cyngor—ac roedd rhai ohonom yn ddigon ffodus i gael ein magu mewn un—ac adeiladu nifer fawr o ystadau newydd, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol mwy o faint. Hefyd gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, unwaith eto yn bennaf yn yr ardaloedd trefol mwy o faint. Ers 1980, bu cynnydd mawr mewn eiddo gwag. Ar hyn o bryd ceir 22,000 ohonynt yng Nghymru. Gwelwyd newid mewn patrymau daliadaeth tai, cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person, cynnydd yn nifer aelwydydd pensiynwyr a chynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn tai amlfeddiannaeth, a arferai gynnwys myfyrwyr yn unig. Rwy’n cofio pan oedd tai amlfeddiannaeth yn golygu tai myfyrwyr. Yn llawer amlach yn awr, mae’n golygu llawer o bobl ifanc eraill, a phobl hŷn sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth, nid o ddewis, ond o reidrwydd. Rydym wedi gweld twf cymdeithasau tai, a dychwelyd at sector rhentu preifat mawr.

Fy nod yw dangos, ymysg pethau eraill, y dylai trydydd model tai hefyd, y model tai cydweithredol, chwarae rhan yn y ddarpariaeth dai yn y dyfodol yng Nghymru. Hoffwn dynnu sylw at effaith gadarnhaol Deddf Tai (Cymru) 2014 a’r cynnydd a wnaed eisoes ym maes tai gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Roedd y Ddeddf tai yn ddeddfwriaeth gymdeithasol bwysig, ond rwy’n sicr o ddau beth: nad yw’r Ddeddf wedi bodloni gobeithion a dyheadau pawb ac y bydd mwy o Filiau tai. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith ar gyfer rheoleiddio landlordiaid, lle y gall tenantiaid gael sicrwydd y bydd y gyfraith yn mynnu bod eu landlord yn darparu tai o ansawdd da ac yn ymateb i’w hanghenion atgyweirio. Mae hefyd yn darparu dulliau unioni os nad yw’r safonau hyn yn cael eu bodloni. Ac rwy’n siŵr fod y rhan fwyaf o’r bobl yn yr ystafell hon wedi cael etholwyr yn dod atynt sy’n byw mewn tai y maent yn methu â’u cael wedi eu hatgyweirio. Nid yw’r ffaith fod dŵr yn dod i mewn ac nad yw’n atal gwynt yn rheswm i’w hatgyweirio yn ôl fel y mae rhai landlordiaid yn meddwl—’Rhowch y rhent i mi ac os nad ydych yn ei hoffi, mewn chwe mis, pan ddaw eich contract i ben, byddaf yn eich symud allan, a chaiff rhywun arall, mwy diobaith na chi mewn gwirionedd, symud i mewn.’ Ac rwyf wedi bod mewn tai—a phobl eraill yma hefyd rwy’n siŵr—lle y gallaf roi fy mys rhwng y silff ffenestr a chwarel y ffenestr—roedd yno fylchau. Ac mae gwres canolog yn rhywbeth y mae llawer o bobl mewn llety rhent preifat wedi clywed amdano, ond yn methu â’i gael mewn gwirionedd.

Mae’r Ddeddf hefyd yn amlinellu rôl allweddol awdurdodau lleol, lle bynnag y bo’n bosibl, yn y gwaith o atal digartrefedd, a thrwy hynny wneud Cymru y gyntaf o blith gwledydd y DU i droi’r egwyddor hon yn ofyniad cyfreithiol. Mae’n symudiad aruthrol oherwydd, yn llawer rhy aml, byddai gan awdurdodau lleol rywun yn dod draw ac yn dweud, ‘Rwyf wedi cael rhybudd o dri mis a byddaf yn cael fy nhroi allan ar y stryd gan fy landlord’, neu ‘Rwyf wedi cael mis o rybudd.’ A’r hyn a ddigwyddai mewn gwirionedd oedd y byddai’r cyngor yn dweud, ‘Dewch yn ôl pan fydd y rhybudd yn dod i ben’ yn hytrach na cheisio’u rhoi mewn rhyw fath o lety. Mae angen i awdurdodau lleol ddarparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd lle y nodwyd bod angen. Felly, mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud, ac rwy’n meddwl y byddai’n anghywir, wrth siarad am dai, i beidio â sôn am y cynnydd a wnaed yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad.

Os symudaf ymlaen at gydweithrediaethau tai, syniad rwy’n frwd iawn yn ei gylch, y ddeddfwriaeth a fwriedir i hwyluso datblygu tai cydweithredol ymhellach drwy ganiatáu cydweithrediaethau tai cwbl gydfuddiannol er mwyn rhoi tenantiaethau sicr, gan ddiogelu buddiannau benthycwyr. Mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, cydweithrediaethau yw 20 y cant o’r holl dai, ond 0.1 y cant yw’r ffigur ym Mhrydain. Er, mewn rhai mannau, megis Lerpwl, maent wedi arfer â chydweithrediadau tai. Gyda’r fath brinder o dai yng Nghymru, nid wyf yn credu y gallwn adael i’r posibilrwydd o ddarparu llety drwy’r model cydweithredol fynd heb ei ddefnyddio bron iawn. Rydym wedi cael ein dominyddu gan y ddau fath, onid ydym? Tai rhent neu dai a brynwyd ar forgais yn dod yn dai sy’n eiddo i berchen-feddianwyr. Ac mae’r tai rhent naill ai’n breifat neu’n dai cyngor neu’n eiddo i landlord cymdeithasol. A gaf fi ddweud pa mor siomedig rwyf i, pan gyflwynodd y Torïaid yr hawl i brynu, fod hynny wedi rhoi diwedd ar adeiladu tai cyngor? Achosodd hynny broblem wirioneddol enfawr i nifer fawr o bobl. Rwy’n credu mewn tai cyngor. Er pan oeddwn yn chwech oed hyd nes fy mod yn 25 oed, roeddwn yn byw mewn tŷ cyngor. Roeddent yn darparu tai o ansawdd da i lawer ohonom a oedd yn byw yn wreiddiol mewn llety rhent preifat gyda chegin groes. Gallaf ddweud fy mod yn ôl pob tebyg yn un o’r ychydig bobl sy’n byw mewn tŷ heb fath ac roeddem yn defnyddio bath tun mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, roedd Leanne Wood a minnau’n byw mewn tai felly—a John Griffiths. [Torri ar draws.] [Chwerthin.]

Mae pethau wedi newid o ran ansawdd llety cyngor. Rwy’n cofio’r gwaith clirio slymiau mawr a arweiniodd at adeiladu ystadau cyngor mawr a thai o ansawdd da. Roedd y term ‘Parker Morris’ yn golygu rhywbeth i lawer ohonom. Roedd yn golygu ansawdd. Roedd yn golygu bod cynghorau’n adeiladu tai o’r safon uchaf ac rwy’n wirioneddol falch o weld cynghorau fel Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn ystyried adeiladu tai eto. Ond ni all weithio oni bai bod yr hawl i brynu yn cael ei hatal a’i dirwyn i ben, oherwydd yr hyn sy’n digwydd yw y byddwch yn adeiladu tŷ a rhywun yn symud i mewn sydd wedi byw mewn tŷ cyngor ers nifer o flynyddoedd ac yna maent yn arfer yr hawl i brynu ac yn sydyn byddwch yn colli hanner gwerth, neu 40 y cant o werth y tŷ. Nid yw’n bosibl—yn llawer mwy na’r ddeddfwriaeth yn eich atal rhag adeiladu tai cyngor, gall cynghorau bob amser adeiladu tai cyngor hyd yn oed os mai dim ond drwy ddefnyddio gwerth y tir a werthwyd ganddynt er mwyn eu hadeiladu. Ond os ydych yn adeiladu 10 o dai am £100,000, pe baech yn tynnu £40,000 oddi ar bob tŷ fel disgownt, yna rydych yn colli £400,000 pan fydd y 10 yn cael eu gwerthu. Nid oes unrhyw resymeg, yn economaidd, i’w hadeiladu. Drwy atal yr hawl i brynu, gall cynghorau ddefnyddio gwerthoedd tir er mwyn dechrau adeiladu eto, ac mae galw mawr am dai cyngor. Mae’r rhan fwyaf ohonom sy’n cynrychioli ardaloedd sy’n llai cyfoethog nag eraill yn ymwybodol iawn o anghenion pobl rydym yn eu cyfarfod sy’n ysu am gael symud allan o lety rhent preifat o ansawdd gwael i mewn i dai cyngor.

Gan ddychwelyd at gydweithrediaethau tai, mae’r rhain yn gweithio go iawn. Maent yn gweithio ar draws y byd, neu dylwn ddweud mewn gwirionedd eu bod yn gweithio ar draws y byd ar wahân i Brydain. Os yw gwledydd megis Sweden, Norwy, Canada, Awstria, Turkey—. Mae gan Sweden ddau sefydliad cydweithredol mawr sy’n darparu dros 750,000 o gartrefi. Mae tua 18 y cant o boblogaeth y wlad honno yn byw mewn tai cydweithredol. Ar gyfer y bobl sy’n gwylio teledu Americanaidd, fe fyddwch yn clywed y term ‘co-op’ yn cael ei grybwyll wrth sôn am bobl sy’n byw yn Efrog Newydd. Mae rhai o’r rhain i fod yn rhai o’r bobl gyfoethocaf ac maent yn byw mewn tai cydweithredol. Ond mae mwy o gartrefi tai cydweithredol yn Vancouver nag yn y DU gyfan. Credir bod llai nag 1 y cant o bobl yn y DU yn byw mewn tai cydweithredol a byddwn yn tybio ei fod yn agosach at 0.1 y cant nag 1 y cant yn ôl pob tebyg.

Nid yw’r syniad o gyflwyno a datblygu cydweithrediaethau tai yn y DU yn un newydd, ac mae’n drawsbleidiol yn ogystal. Edrychodd y Ceidwadwyr o dan John Major arno. Cynhyrchodd y Ceidwadwyr adroddiad yn 1995, ‘Tenants in Control: An Evaluation of Tenant-Led Housing Management Organisations’, a ddaeth i’r casgliad, er syndod i lawer, fod modelau tai cydweithredol, nid yn unig yn gosteffeithiol, ond hefyd yn darparu nifer o fanteision sylweddol i’w haelodau. Cafwyd adroddiadau ac ymchwiliadau dilynol i fodelau tai cydweithredol. Cynhaliodd PwC ymchwiliad iddo. Mewn gwirionedd, dyma Brydain ar ei gorau, onid e? Cawn lawer o ymchwiliadau, llawer o adroddiadau; nid ydynt wedi cael grŵp o arbenigwyr yn edrych arno eto, ond mae’n siŵr o ddigwydd yn rhywle. Y gweithredu ar ei ddiwedd yw’r hyn sy’n peri problem i ni, mae’n ymddangos. Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ceisio datblygu hwn fel model. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yna angen enfawr am dai. Rydym yn gwybod bod yna angen am dai ym Mhrydain. Rydym yn gwybod bod yna angen am dai yng Nghymru. Ac a gaf fi ddweud, ar nodyn plwyfol, rwy’n gwybod bod yna angen am dai yn Nwyrain Abertawe?

Er enghraifft, mae bod yn rhan o gydweithrediaeth dai yn rhoi cyfle i’w haelodau ddefnyddio sgiliau presennol neu ddatblygu sgiliau newydd. Maent yn rhoi buddiant i’r aelodau a diddordeb personol yn y lle y maent yn byw ynddo a gallant leihau unrhyw ddibyniaeth sydd gan denantiaid ar landlordiaid neu’r wladwriaeth. O ran budd cymdeithasol, gall cydweithrediaeth dai helpu i hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac integreiddio a chwarae rôl yn lleihau fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r gyfraith i sefydlu a hyrwyddo deiliadaeth tai cydweithredol gyfreithiol ar wahân yn bosibl bellach. Bydd angen gwneud tri pheth er mwyn iddi fod yn llwyddiant. Yn gyntaf, mae angen newid yn y gyfraith i wneud creu cydweithrediaethau tai yn haws. Yn ail, mae angen i rai sy’n rhoi benthyg gael eu hargyhoeddi ynglŷn â diogelwch eu benthyciadau a allai alw am eu tanysgrifennu gan Lywodraeth Cymru. Yn drydydd, mae angen rhoi cyhoeddusrwydd ac mae angen meithrin brwdfrydedd er mwyn i bobl eu creu ac ymuno â hwy. Nid yw’r un o’r rhain yn anorchfygol gyda’r ewyllys wleidyddol i’w gyflawni. Gan mai 15 munud yn unig sydd gennyf, a gaf fi fynd yn gyflym drwy beth yw’r datblygiadau pellach rwyf am eu gweld ym maes tai yng Nghymru?

Deg pwynt ar gyfer gwella Tai yng Nghymru: yn gyntaf, rwy’n credu, yn bwysicaf oll, yw atal yr hawl i brynu ac adeiladu tai a fflatiau newydd gan gynghorau. Darparu tai cymdeithasol wedi eu hadeiladu a’u rhedeg gan gynghorau yw’r ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol a buddiol o ddarparu tai mawr eu hangen yn fy marn i. Yr ail ddatblygiad yr hoffwn ei weld yw twf sylweddol tai cydweithredol. Rydym yn gwybod ei fod yn gweithio ar draws rhannau helaeth o’r byd. Mae arnom angen y ddeddfwriaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio yng Nghymru hefyd.

Yn drydydd, er bod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud mewn perthynas ag eiddo rhent preifat mae yna angen taer, yn enwedig yn y prif gytrefi, i gyflwyno cap ar rent. Nid wyf yn gweld unrhyw un o Gaerdydd yma oherwydd rwy’n siŵr y byddent yn neidio i fyny ac i lawr i gytuno â hynny oherwydd bod Caerdydd yn dioddef mwy nag unman arall yng Nghymru. Mae’r rhenti uchel iawn yn y sector preifat yn un o brif achosion y cynnydd yn y bil lles. Yn hytrach na thorri budd-daliadau, rwy’n credu bod angen cyfyngu ar y rhenti sy’n cael eu codi.

Yn bedwerydd, mae’r Ddeddf tai yn mynd ati’n rhannol i fynd i’r afael â hyn—dylai tai rhent preifat fod o safon resymol ac yn ddiogel i fyw ynddynt. Ers amser hir, rwyf i a chydweithwyr eraill wedi bod yn gwthio am gyflwyno diogelwch trydanol er mwyn ymdrin â hyn.

Yn bumed, dylai awdurdodau lleol adeiladu tai i’w gwerthu a defnyddio’r elw o’r gwerthiant i gefnogi’r cyfrif refeniw tai. Yn chweched, dylai tenantiaethau diogel fod yn opsiwn rhentu diofyn yn hytrach na’r tenantiaethau chwe mis hyn. Mae nifer y bobl sy’n symud o amgylch lle o’r enw Plasmarl, lle y cefais fy ngeni, ac maent yn treulio chwe mis mewn un stryd ac maent yn symud, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, i fyw am chwe mis yn y stryd y tu ôl iddi, ac maent yn symud o gwmpas y terasau hyn.

Yn seithfed, codiadau rhent rhagweladwy yn unol â chwyddiant oni bai bod gwelliant sylweddol wedi ei wneud yn yr adeilad. Yn wythfed, mae angen gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod gan fod ffioedd yn gost fusnes a dylent gael eu talu gan y busnes nid gan y bobl sy’n chwilio am dai.

Yn nawfed, sicrhau bod eiddo rhent preifat yn cael eu harolygu’n rheolaidd gan swyddogion iechyd yr amgylchedd er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. A’r degfed, ni ddylai tenantiaid fod yn ddarostyngedig i reolau afresymol, a rhai ohonynt yno i’w gwneud yn haws eu troi allan.

Yn olaf, a gaf fi ganmol Llywodraeth Lafur Cymru yn y tymor diwethaf, a wnaeth gynnydd sylweddol ar ddeddfwriaeth tai? Mae llawer wedi cael ei wneud, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Diolch.

Rwyf am ddefnyddio’r funud sydd gennyf, rwy’n meddwl, i dynnu sylw’r Siambr at werthusiad o ddatblygiadau tai cydweithredol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth. Edrychai’n benodol ar y cyfnodau datblygu cynnar ym maes tai cydweithredol, gan adleisio beth y mae Mike wedi’i ddweud, a byddaf yn defnyddio fy amser i barhau i ddadlau dros dai cydweithredol. Mae hefyd yn edrych ar gwestiwn yr effaith benodol a gafodd cyllid Llywodraeth Cymru. Edrychodd ar brosiectau dan arweiniad y dinesydd a than arweiniad Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’n edrych ar rai o’r anfanteision, ac mae brwydro i gaffael tir ar gyfer datblygu yn un ohonynt a mynediad at gyllid yn un arall, ond mae’n nodi, yn gyffredinol y nifer o fanteision sylweddol sydd i gynlluniau tai cydweithredol, yn enwedig ansawdd adeiladu da o ran cynllun, ond hefyd o ran arbed ynni ac mae nifer ohonynt wedi cael eu datblygu gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ganolog iddynt.

Mae llawer o’r tenantiaid sy’n cychwyn y trefniadau hyn wedi teimlo eu bod yn debygol o gael tenantiaethau mwy hirdymor yn y pen draw o ganlyniad, ac yn aml y cymhelliad oedd osgoi gorfod ymdrin â landlordiaid gwael ac roedd y rheolaeth fwy y teimlai llawer o denantiaid a fyddai ganddynt o ganlyniad i fod yn rhan o ddatblygiadau cydweithredol o’r fath, yn gymhelliad allweddol arall. Felly, mae rhywfaint o ddeunydd diddorol yno, yn enwedig mewn perthynas â thai cydweithredol yng Nghymru yn benodol.

Yn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, yr argymhelliad allweddol cyntaf yw cais i Lywodraeth Cymru nodi ei chefnogaeth barhaus i ddatblygu, yn enwedig cynlluniau dan arweiniad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y credant y bydd ganddynt botensial i dyfu yn y sector yn y dyfodol, a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r opsiwn cydweithredol ar gyfer tai yn gyffredinol. Un o’r argymhellion penodol yw ystyried cynllun paru rhwng dinasyddion a allai fod eisiau cymryd rhan mewn cynlluniau tai cydweithredol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a fyddai’n gallu hwyluso hynny. Felly, roedd hynny ar gyfer tynnu sylw at yr adroddiad hwnnw’n unig. Mae’n gyfraniad pwysig i’r ddadl ar dai cydweithredol yn fwy eang, ac rwy’n meddwl y gall tai cydweithredol yn arbennig ein helpu i fynd i’r afael â’n strategaeth dai a chyfrannu at wneud ein cymunedau mor gadarn ag y gallant fod. Diolch.

Diolch i chi, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl. Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl fer hon ar ddiwallu anghenion tai Cymru i’r Siambr heddiw.

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer tai yn eithaf syml: rwyf am i bobl gael mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy sy’n gwella eu bywydau. I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio dull cynhwysfawr, wedi’i seilio ar ffyrdd newydd ac arloesol o helpu pobl Cymru i ddiwallu eu hanghenion tai. Mae gan Mike lawer i’w gynnig yn ei gynllun 10 pwynt a byddaf yn gofyn i fy nhîm wneud yn siŵr ein bod yn nodi ei gyfraniad heddiw.

Rydym yn darparu lefelau sylweddol o fuddsoddiad drwy ein rhaglenni grant a benthyciadau newydd i gynyddu’r cyflenwad tai a safonau ar draws pob math o ddeiliadaeth. Mae angen i ni gadw ein stoc bresennol o dai fforddiadwy a rhoi’r hyder i landlordiaid cymdeithasol fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd. Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Bil i roi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn cael ei gynnwys ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon.

Gyda’r galw’n fwy na’r cyflenwad, bydd ein hargymhellion yn diogelu’r stoc tai cymdeithasol rhag erydu ymhellach ac yn caniatáu iddi dyfu. Mae’n rhwyd ​​ddiogelwch bwysig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cael cartref drwy’r farchnad dai ac sy’n dibynnu ar dai cymdeithasol. Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg fod llawer o eiddo hawl i brynu blaenorol yn dod i’r sector rhentu preifat yn y pen draw, ac yn costio llawer mwy mewn budd-dal tai. Mae hwn yn straen ychwanegol ar arian cyhoeddus, pan fo cyllidebau dan bwysau sylweddol.

A gaf fi roi teyrnged i gynghorau yn barod? Mae ein cynghorau yn awr yn gallu adeiladu eto, yn dilyn gadael system y cymhorthdal ​cyfrif refeniw tai yn llwyddiannus. Mae hyn eisoes yn cael effaith yng Nghaerdydd, yn Abertawe ac yn Sir y Fflint—fy awdurdod fy hun—gan ragweld y byddant, gyda’i gilydd, yn adeiladu dros 800 o dai cyngor newydd.

Ar hyn o bryd mae’r awdurdodau hyn yn talu am ddatblygu tai cyngor newydd o’u hadnoddau eu hunain. Fodd bynnag, rydym bellach yn datblygu ail gam ein grant cyllid tai, a gynlluniwyd er mwyn i gynghorau yn ogystal â chymdeithasau tai wneud defnydd ohono. Mae gwaith paratoi ar gyfer yr ail gam hwn yn mynd rhagddo’n dda. Ein bwriad yw y bydd yn weithredol o 2017.

Ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, a bydd gan dai cymdeithasol rôl allweddol i’w chwarae yn diwallu hyn. Er mwyn atgyfnerthu’r agenda hon ac i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU, rydym wedi rhyddhau £68 miliwn ar gyfer grantiau tai cymdeithasol yn 2016-17.

Rydym wedi ymrwymo i arloesi mwy ym maes tai ac mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fentrau tai cydweithredol newydd, dan arweiniad cymdeithasau tai ledled Cymru. Gwrandewais ar gyfraniad Jeremy a Mike a nodais eu hangerdd i ni fynd ar drywydd cynlluniau mwy cydweithredol ar draws Cymru. Erbyn hyn ceir 10 o gynlluniau cydweithredol arloesol sydd yn y broses o ddarparu tai cydweithredol yng Nghymru—nid ar y raddfa a nododd yr Aelod o gwmpas Vancouver a rhannau eraill o’r byd, ond rydym yn dechrau ar y daith ac mae gan y rhain botensial i greu cymunedau wedi’u grymuso’n well, o gymharu â’r cytundeb landlord-tenant traddodiadol.

Bydd tai’r farchnad agored, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol yn diwallu anghenion amrywiol am gartrefi ac yn darparu atebion fforddiadwy. Felly, rydym wedi gwneud cynnydd calonogol yn adeiladu mwy o gartrefi dros y pum mlynedd diwethaf. Ond nid wyf yn bychanu’r her o barhau’r duedd honno dros y pum mlynedd nesaf. I ddarparu cymorth pellach i’r rhai sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, rydym wedi cyflwyno ail gam Cymorth i Brynu—Cymru a bydd hwn yn buddsoddi £290 miliwn ychwanegol hyd at 2021, gan gefnogi’r gwaith o adeiladu hyd at 6,000 o gartrefi newydd a gwneud perchentyaeth yn gyraeddadwy i’r miloedd o deuluoedd sy’n dymuno i hynny ddigwydd. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn darparu sylfeini cadarn, ond bydd angen i ni wneud mwy.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar yr angen i leihau nifer yr eiddo gwag. Mae angen i ni adeiladu ar lwyddiant gwirioneddol dod â thros 7,500 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, ac mae hyn i raddau helaeth yn deillio o gyflwyno cynllun benthyciadau arloesol Troi Tai’n Gartrefi. Ond rwyf hefyd yn hapus i gydnabod effaith symbylol y rhaglen yn cefnogi gweithredu lleol mewn ardaloedd lleol. Mae’r cydweithio a welsom ar eiddo gwag yn enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, a dylai hynny fod yn uchelgais i ni wrth symud ymlaen.

Ddirprwy Lywydd, rydym wedi cael llwyddiant mawr, a chafodd hynny ei gydnabod gan Mike Hedges a chyd-Aelodau heddiw yn yr hyn rydym wedi ei gyflawni yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth, ond bydd yr heriau sy’n ein hwynebu yn dilyn yr ymgyrch i adael yr UE yn creu heriau ariannol mwy sylweddol i’r Llywodraeth a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r sectorau ar lawr gwlad. Ond mae’n rhaid i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd o annog mwy o dai ar gyfer y bobl y mae Mike Hedges a llawer yn y Siambr hon yn eu cynrychioli, er mwyn dod o hyd i gartrefi fforddiadwy, diogel a chynnes ar gyfer y bobl yn ein cymunedau. Gobeithio ein bod wedi darparu rhywfaint o gyfle yn ystod y ddadl hon i esbonio’r hyn y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud, ond eto rwy’n cydnabod y cyfleoedd gwych y mae Mike Hedges wedi eu cyflwyno i ni y prynhawn yma. Byddwn yn parhau i ystyried y rhai a wnaed yn ystod ei gyfraniad. Diolch yn fawr i chi. Diolch.

11. 11. Dadl Fer: Mae Angen ein Hundebau arnom Fwy nag Erioed—Gohiriwyd o 6 Gorffennaf

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a ohiriwyd ers 6 Gorffennaf, a galwaf ar Bethan Jenkins i siarad ar y pwnc y mae hi wedi ei ddewis, ‘Mae angen ein hundebau arnom yn fwy nag erioed’. Bethan.

Diolch, ac rwyf wedi rhoi munud i Dawn Bowden.

Rydym yn ddyledus i undebaeth lafur am y Gymru sydd ohoni heddiw. Nid fy marn i’n unig yw hon. Bydd unrhyw un sydd wedi darllen gwaith Gwyn Alf Williams yn gwybod ei fod wedi clustnodi un adeg benodol mewn amser, sef y gwrthryfel yn y dref lle mae fy nghartref, Merthyr Tudful, yn 1831, fel y foment pan symudodd y dosbarth gweithiol Cymreig o’r hyn a alwai’n gam cyntefig i drefnu ei hun. Er i undebaeth lafur ddod i Gymru yn gyntaf yn 1830, pan ymunodd glowyr Sir y Fflint â chymdeithas cyfeillion y glowyr, fflachbwynt Gwrthryfel Merthyr, gyda’i eiliadau totemaidd fel codi’r faner goch gyntaf a chrogi Dic Penderyn na chafodd bardwn byth, oedd i roi’r ysgogiad a’r ysbrydoliaeth i ddosbarth gweithiol trefnus a gweithgar yn y Gymru ddiwydiannol.

Mae’r rhan fwyaf o’r Gymru ddiwydiannol bellach wedi mynd. Efallai mai Port Talbot yn fy rhanbarth yw un o gadarnleoedd olaf yr hyn y byddem yn ei ystyried yn ddiwydiant trwm ac yn gymuned ddiwydiannol, a hir y parhaed. Ond er bod undebau llafur yn chwarae rôl allweddol yn ystod y cyfnod hwnnw—a gallwch weld eu pwysigrwydd diwylliannol a’u gwreiddiau cymunedol hefyd yng ngwaith Alexander Cordell, Jack Jones, Lewis Jones a Raymond Williams—nid yw’n dilyn mai perthyn i un cyfnod yn unig y maent. Nid o bell ffordd.

Mae undebau llafur wedi bod yn rym hanfodol ar gyfer newid cymdeithasol, a hebddynt mae unrhyw lun ar gymdeithas weddus a gwaraidd yn amhosibl o dan gyfalafiaeth.

Y Pab Ffransis sydd â’r dyfyniad hwnnw.

Tra bo gennym gyfalafiaeth a phroblemau cyfalafiaeth, rwyf hefyd yn credu ein bod yn mynd i fod angen undebau llafur. Dywedodd Barnwr Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau Louis Brandeis unwaith—nid wyf yn siŵr fy mod wedi dweud ei enw’n iawn—a alwyd yn groesgadwr milwriaethus dros gyfiawnder cymdeithasol gan ei elynion:

Mae undebau cryf, cyfrifol yn hanfodol er mwyn sicrhau chwarae teg diwydiannol. Hebddynt mae’r fargen lafur yn gwbl unochrog. Rhaid i’r partïon i’r contract llafur fod bron yn gyfartal o ran cryfder os yw cyfiawnder yn mynd i weithio, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r gweithwyr gael eu trefnu a rhaid i’w sefydliadau gael eu cydnabod gan gyflogwyr fel amod cynseiliol i heddwch diwydiannol.

Mae stori undebaeth lafur yn y DU dros y 35 mlynedd diwethaf—ers i mi gael fy ngeni, mewn gwirionedd—yn un o ymosodiad digynsail a pharhaus ar eu hawl i fodoli, gan y Llywodraeth, y cyfryngau a gweddill y sefydliad. Rydym yn gwybod pam. Oni bai am gredoau Thatcheriaeth, a fyddai gennym gontractau dim oriau, cosbrestru sefydliadol a ‘thai cyfreithwyr’ fel y’u gelwir, lle mae pobl broffesiynol yn byw fesul wyth i bob eiddo, gan rannu ystafelloedd gwely am na allant gael troed ar yr ysgol dai? A heb undebau llafur a’u traddodiad o wrthsefyll athrawiaeth neoryddfrydol, yn sicr byddai’n llawer gwaeth arnom.

Rydym wedi gweld crynhoi mwy o gyfoeth yn nwylo’r bobl sydd eisoes yn gyfoethog, ac rydym wedi gweld ein gwasanaethau cyhoeddus yn talu am fyrbwylltra ein bancwyr. Dynion a menywod yn talu gyda’u swyddi a’u telerau ac amodau—athrawon, nyrsys, diffoddwyr tân—i gyd oherwydd ynfydrwydd y Ddinas. A thrwy ryfel propaganda ddegawdau o hyd yn yr un modd wedi ei ymladd gan y wasg asgell dde, mae pobl wedi cael eu cyflyru i feddwl bod rhywbeth yn wastraffus a diangen am wasanaethau cyhoeddus; y dylem anrheithio ein gwasanaethau brys, peryglu diogelwch ein gwlad drwy doriadau i’r heddlu a’r Llu’r Ffiniau; lleihau cyfleoedd ein plant drwy addysg; a pheryglu bywydau ein hanwyliaid mewn ysbytai oherwydd cyllidebau a dorrwyd—a’r cyfan yn enw caledi.

Dyma’r amgylchedd y mae’n rhaid i undebau llafur weithredu ynddo yn awr: gelyniaeth lwyr gan y rhai sy’n eu gwrthwynebu, ac yn anffodus, difaterwch eang ymhlith y rhai y gallent fod yn eu helpu. Ni fu tirwedd fwy llwm i weithwyr ers cenedlaethau. Ac eto, mae gwaeth i ddod. Nid wyf yn amau ​​am funud y bydd cael gwared ar y gyfarwyddeb oriau gwaith ymhlith blaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Dorïaidd ar ôl gadael yr UE. Lluniwyd undebau llafur yn benodol ar gyfer gwrthsefyll y crebachu hwn ar hawliau gweithwyr.

Ceir eironi chwerw o sylweddoli bod caledi wedi rhoi undebau llafur a gweinyddiaethau dan arweiniad Llafur yma yng Nghymru ar ddwy ochr wahanol i’r bwrdd trafod. Rydym wedi gweld rhai enghreifftiau digon erchyll o hynny, yn anffodus. Bygythiodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddiswyddo ei weithlu cyfan a’u hailgyflogi ar delerau ac amodau gwaeth. Roedd llawer o’r gweithwyr hynny yn rhieni sengl a oedd yn gweithio’n rhan-amser, ac yn ceisio cynnal eu cartrefi ar un incwm.

Cymerodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwy o amser na bron bob awdurdod lleol arall yng Nghymru i gyflawni ei werthusiad swyddi. Rwy’n gwybod ei bod yn her, ond er hynny, erbyn iddynt lwyddo i’w wneud, roeddem eisoes at ein pennau a’n clustiau mewn caledi. Yr hyn a olygai hynny oedd bod y bobl a oedd i fod i gael toriad yn fuan yn gweld eu cyflogau’n cael eu lleihau, ac ni roddwyd codiad cyflog i’r rhai a ddylai fod wedi ei gael. Wrth eu cwestiynu amdano, codi ei ysgwyddau a wnaeth y cyngor a dweud nad oedd ganddo arian.

Cafwyd aflonyddwch diwydiannol hefyd mewn asiantaethau fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn arbennig, Amgueddfa Cymru. Yma, ymladdodd PCS, fel y crybwyllwyd yn ystod y cwestiynau heddiw, yn frwd yn erbyn cynlluniau gan y rheolwyr i gwtogi oriau gwaith a thaliadau premiwm ymysg ei staff ar y cyflogau isaf, ac aethant ati i osod undeb yn erbyn undeb mewn gwirionedd, sy’n rhywbeth rwy’n gobeithio na fyddaf byth yn ei weld eto. Llusgodd yr anghydfod yn ei flaen am y rhan orau o ddwy flynedd gan orffen gyda streic am ddau fis na chafodd ei datrys tan yn ddiweddar. Roedd y staff yn beio’r rheolwyr a’r rheolwyr yn beio Llywodraeth Cymru am dorri eu cyllideb. Am ba reswm bynnag, cafodd ei ddatrys, ond nid oes amheuaeth yn fy meddwl mai penderfyniad yr undeb i ofalu am fuddiannau ei aelodau a lwyddodd yn y pen draw. Pe na baent wedi bod yno, byddai wedi bod yn stori wahanol iawn, ac un anhapus ar hynny.

Rydym yn aros i weld beth fydd yn digwydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Yma, mae gennym ddau adroddiad arolwg staff olynol sy’n sgrechian anhapusrwydd ymhlith y staff ynglŷn â’r ffordd y caiff y sefydliad ei redeg. A fydd yn arwain at weithredu diwydiannol? Cawn weld am hynny, ac rwy’n mawr obeithio na fydd. Rwyf wedi cyfarfod ag Unsain, sy’n cynrychioli mwyafrif y staff yno, ac unwaith eto, maent yn cynnal eu harolwg eu hunain ac yn dweud wrthyf y byddant yn ymgynghori ar y ffordd ymlaen ar ôl iddynt wneud hynny.

Byddai’r wasg adain dde yn gwneud i ni gredu bod yr undebau yn dal i fod yn llawn o wrthryfelwyr sy’n gweiddi, ‘Pawb allan, frodyr!’ ar yr esgus lleiaf. Y gwir amdani yw nad yw’r rhan fwyaf o anghydfodau diwydiannol byth yn mynd y tu hwnt i anghytundeb, a chânt eu datrys wrth i bobl yn eistedd a siarad am y broblem mewn gwirionedd. Yn fy mhrofiad i—a gallwch ddewis penderfynu a yw’n anecdotaidd neu beidio—yn aml y rheolwyr pengaled sy’n dwysáu anghytundebau yn anghydfodau o’r mathau hyn.

Fel y crybwyllais, mae llawer o’r anghydfodau hyn yn gosod cynghreiriaid gwleidyddol yn erbyn ei gilydd. Fel y cyfryw, bydd undebau llafur yn aml yn dod ataf, neu gynrychiolwyr eraill nad ydynt yn y Blaid Lafur i ofyn am ein cymorth—ac rwy’n amlwg yn hapus i roi cymorth o’r fath iddynt. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth unrhyw undeb llafur a all fod yn gwylio hyn neu a fyddai eisiau ymateb wedyn efallai yw: peidiwch â theimlo na allwn weithio gyda’n gilydd am ein bod yn dod o gefndir gwleidyddol gwahanol. Yn wir, ymunais â Phlaid Cymru yn rhannol, er nad yn amhenodol, oherwydd—ac efallai y bydd gan Dawn rywbeth i’w ddweud am hyn—fy mod yn gweld y Blaid Lafur yn fy nhref enedigol fy hun fel plaid a oedd yn methu â fy nghynrychioli i. Nid oeddent yn debyg i mi; nid oeddent yn fy nghynrychioli; nid oeddent eisiau ymgysylltu â phobl fel fi. Credaf fod hynny’n rhywbeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru ei ystyried o ran sut y gallant ymgysylltu â’r bobl yn eu cymunedau eu hunain yn y Cymoedd.

Gyda Llywodraeth Cymru bellach ar waith ar gyfer y pum mlynedd nesaf, meddyliwch yn ôl at yr hyn a ddywedodd y Barnwr Goruchaf Lys Louis Brandeis am gydbwysedd bargen. Beth am ystyried arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth gyda phlaid fel Plaid Cymru—pleidiau sy’n gwyro i’r chwith yn naturiol ac sy’n gefnogol i anghenion gweithwyr a nodau undebau? Byddwn yn gofyn i unrhyw undeb llafur sy’n gwrando ar y ddadl hon i ystyried y syniad mewn gwirionedd. Ewch a gofynnwch i chi eich hunain beth sydd i’w ennill, a’r hyn y gallech ei golli. Rwy’n credu bod gennych fwy i’w ennill drwy ymgysylltu â ni.

I bawb arall, ac yn enwedig i’r bobl ifanc hynny y siaradais â rhai ohonynt, a oedd wedi’u diflasu gan ganlyniad y refferendwm, nawr yw’r amser i chi drefnu fel y gwnaethant ym Merthyr yn 1831. Yn ogystal ag ymuno â phlaid wleidyddol, o bosibl, byddwn hefyd yn eich annog i ymuno ag undeb. Fel y dywedodd Frances O’Grady, y ferch gyntaf i ddod yn ysgrifennydd cyffredinol y TUC, yn ddiweddar:

Mae’r holl dystiolaeth yn dangos yn glir iawn, os ydych yn aelod o undeb llafur rydych yn debygol o gael gwell cyflog, tâl mwy cyfartal, gwell iechyd a diogelwch, mwy o gyfle i gael hyfforddiant, mwy o gyfle i gael amodau gwaith sy’n helpu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu... mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Os nad ydych am adael tynged eich gwlad yn nwylo pobl rydych yn anghytuno’n sylfaenol â hwy, yna cofiwch beth y mae undebau wedi ei wneud yn y gorffennol a’r hyn y maent yn parhau i wneud hyd heddiw.Gadawaf y geiriau olaf i ymgyrchydd Americanaidd arall dros hawliau sifil, y cyfreithiwr Clarence Darrow:

Gyda’u holl feiau, mae undebau llafur wedi gwneud mwy dros y ddynoliaeth nag unrhyw sefydliad arall... sydd wedi bodoli erioed. Maent wedi gwneud mwy dros barch, dros onestrwydd, dros addysg, dros wella’r hil ddynol, dros ddatblygu cymeriad dyn, nag unrhyw gymdeithas arall.

Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Bethan Jenkins, am adael i mi gael fy munud. A gaf fi hefyd ddiolch i Bethan am ein hatgoffa am Wrthryfel Merthyr a’r rhan y chwaraeodd yn natblygiad mudiad yr undebau llafur? Cefais y fraint o siarad yn agoriad gŵyl Merthyr Rising eleni, sef y digwyddiad—blynyddol bellach—sy’n coffau’r digwyddiad hwnnw. Rwyf wrth fy modd eich bod yn falch eich bod yn hannu o Ferthyr, Bethan, ac rwy’n falch iawn o fod yn Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Yr unig le rwy’n meddwl y byddwn yn ôl pob tebyg yn anghytuno â chi yw mai fy rhan yn y mudiad undebau llafur a ddaeth â fi i’r Blaid Lafur mewn gwirionedd, oherwydd fy mod yn teimlo bod y Blaid Lafur yn sefyll dros y gwerthoedd a oedd gennyf yn yr undeb llafur.

Felly, bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â fy nghefndir yn amlwg yn ymwybodol o pam rwy’n cefnogi’r cynnig hwn. Rwy’n arbennig o falch o gael y cyfle i siarad gan mai un peth amlwg rwyf wedi ei ddysgu yn ystod fy amser—neu a ddysgais yn ystod fy amser—fel swyddog amser llawn gydag Unsain yw pa mor ffodus rydym ni mewn gwirionedd i fyw yng Nghymru ac i gael perthynas mor adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur, un y gwn ei bod yn destun eiddigedd fy nghydweithwyr sy’n gweithio ar yr ochr arall i Glawdd Offa. Wrth gyfeirio at Glawdd Offa, mae’n debyg mai dyma’r adeg i sôn am y gwaith partneriaeth rhwng yr undebau llafur a Llywodraeth Cymru yn GIG Cymru, a welodd gyferbyniad yn 2014 rhwng anghydfod cyflogau a gweithredu diwydiannol yn Lloegr, a setliad cyflog wedi’i negodi yn darparu’r cyflog byw go iawn i holl weithwyr y GIG yng Nghymru. Nodaf y pwynt hwnnw gan fy mod yn credu ei bod yn briodol dweud y gall llywodraeth dda, yn ogystal â chyflogwyr da, greu cysylltiadau diwydiannol da. Wrth gwrs, mae gennym gyngor partneriaeth y gweithlu yma yng Nghymru hefyd, yn delio â materion y gweithlu yn ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, corff a arweiniodd at greu’r comisiwn staff, a fydd yn chwarae rhan arwyddocaol yn diwygio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Ond gall ethos gweithio mewn partneriaeth ymestyn y tu hwnt i wasanaethau cyhoeddus hefyd. Yr wythnos diwethaf, efallai y bydd rhai ohonoch wedi mynychu dathliadau Glas Cymru i nodi 15 mlynedd o berchnogaeth ar Dŵr Cymru fel cwmni di-elw. Dywedodd prif weithredwr Glas Cymru, Chris Jones, wrth y gwesteion a ddaeth ynghyd na ellid bod wedi goresgyn yr heriau effeithlonrwydd sylweddol a osodwyd ar y cwmni gan Ofwat mewn modd mor adeiladol heb ymgysylltiad llawn yr undebau llafur o dan eu cytundeb ‘cydweithio’. Felly, gyda’r heriau sy’n ein hwynebu ar ôl gadael yr UE, mae’n hollol wir fod undebau llafur yn fwy perthnasol nag erioed ar draws y DU ac fel Cynulliad Cymru, dylem wneud popeth yn ein gallu i feithrin a chefnogi undebau llafur yma yng Nghymru.

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl—Mark Drakeford.

Member
Mark Drakeford 19:04:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl fer hon ac mae’n beth gwych, rwy’n credu, fod y geiriau olaf y byddwn yn eu siarad ar lawr y Cynulliad cyn i ni fynd i ffwrdd ar ein gwyliau haf ym mlwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad am undebaeth lafur a’i phwysigrwydd yma yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i gystadlu gyda Bethan na’r Aelod dros Ferthyr wrth edrych ar hanes undebaeth lafur, ond nid wyf yn meddwl ein bod yn deall teitl y ddadl fer hon, fod ein hangen am undebau llafur bellach yn fwy nag erioed, oni bai ein bod yn edrych ar rai o’r pethau sydd wedi dod â ni i ble’r ydym. Digwyddodd y cyfarfod cyntaf un o’r TUC, Cyngres yr Undebau Llafur, yn 1868. Ar ei agenda: anghydraddoldebau cyflog, oriau gweithwyr, addysg dechnegol a bygythiadau i swyddi a hawliau gweithwyr. Felly, mae’n daith hir o 1868 i heddiw, ond mae’r agendâu mewn nifer o ffyrdd yn aros yn hynod o debyg, a’r heriau i undebaeth lafur drwy gydol y cyfnod hwnnw. Nid oes gennyf amheuaeth, ar bob un o’r pwyntiau hynny, fod pobl wedi dweud wrthynt eu hunain, a hynny’n briodol, eu bod angen undebau llafur yn fwy nag erioed. Pwy heddiw sy’n cofio Dydd Llun Mabon, pan wrthododd undebwyr llafur yn y diwydiant glo fynd i weithio ar y dydd Llun cyntaf o’r mis am chwe blynedd hir er mwyn cyfyngu ar gynhyrchiant a diogelu cyflogau drwy wneud hynny? Rydym yn sicr yn cofio dyfarniad Cwm Taf 1901, gyda’i ymosodiadau ar yr hawl i streicio, a dyfarniad Osborne 1909, a farnodd ei bod yn anghyfreithlon i undebau llafur gyfrannu at gronfeydd gwleidyddol. Mae hanes undebaeth lafur a hanes Cymru yn gwbl gysylltiedig, onid ydynt? Cafodd y ddau ddyfarniad eu gwrthdroi drwy gydweithredu rhwng yr undebau llafur.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf i mi gymryd rhan ynddo, yng Nghaerdydd, yn 1983. Roeddwn yn hynod o ifanc a chefais fy rhoi yng ngofal pleidleisiau post. [Torri ar draws.] Nid oeddwn mor ifanc â hynny. Ond dyma ble’r oeddwn, newydd gyrraedd Caerdydd, a chefais fy rhoi yng ngofal pleidleisiau post ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd, yn ddiau am ei fod yn cael ei ystyried yn rhywbeth mor ddiniwed fel nad oeddwn yn debygol o wneud llanast llwyr ohono. Yn y dyddiau hynny, fel y mae rhai ohonom yma yn cofio, roedd cael pleidlais drwy’r post yn llawer iawn anos nag y mae heddiw. Roedd rhaid i chi fynd at berson penodol iawn i gael y cais am bleidlais bost wedi’i lofnodi, ac yn y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd, dim ond un person roeddwn i’n cael mynd ato, a’i enw oedd Stan Czekaj, ac roedd yn ei 80au, ac roeddwn yn fy 20au, a’r rheswm roedd Stan yn enwog oedd ei fod wedi marchogaeth y beic modur o dde Cymru i Lundain yn ystod streic gyffredinol 1926, gan fynd â negeseuon gan y pwyllgor yma i bwyllgor Cyngres yr Undebau Llafur yno. Mewn rhai ffyrdd, wyddoch chi, oni fu erioed cymaint o angen yr undebau llafur nag yn 1926? Mae’r edefyn hwnnw o’n hanes yn ddi-dor mewn gwirionedd. Yn ne Cymru, yn 1926, câi’r streic gyffredinol ei harwain yn bennaf gan A.J. Cook—’cynhyrfwr o’r math gwaethaf’, meddai dirprwy brif gwnstabl Morgannwg wrth ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ar y pryd—ac mae plac glas iddo ym Mharc Treftadaeth y Rhondda y gwn fod arweinydd yr wrthblaid wedi siarad yn y digwyddiad i’w ddadorchuddio ychydig wythnosau yn ôl yn unig. Mae gennym draddodiad hir hefyd o droi ein cynhyrfwyr yn arwyr flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.

Felly, roedd A.J. Cook, y dywedodd Arthur Horner, un arall o arweinwyr mawr y glowyr yn ne Cymru, amdano gan feddwl sut y llwyddai i gynhyrfu cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod ymgyrch 1926—byddai Arthur Horner yn dweud sut y byddai’n dod i mewn ac yn siarad yn gyntaf, a byddai’n rhoi araith hir a didwyll y byddai pobl yn gwrando’n ddigon tawel arni, ac yna byddai A.J. Cook yn ei ddilyn ac yn rhoi araith danbaid ffantastig a fyddai wedi ysbrydoli pawb erbyn ei diwedd. A dywedodd Horner, wrth edrych yn ôl, ei fod wedi sylweddoli mai’r gwahaniaeth rhwng y ddau ohonynt oedd ei fod ef, Arthur Horner, yn siarad â’r cyfarfod, tra roedd Arthur Cook bob amser yn siarad ar ran y cyfarfod, a thrwy grisialu barn pobl ar y pryd, gallai eu hadlewyrchu’n ôl atynt mewn ffordd a oedd yn eu hysbrydoli i weithredu fel y gwnaethant. Felly, dyna Arthur Cook, a arweiniodd yr orymdaith streic newyn gyntaf o dde Cymru i Lundain yn y 1920au, ac yno i’w cyfarfod roedd talent mawr du yr ugeinfed ganrif, Paul Robeson, a oedd yn actio Othello yn y West End; daeth allan i gyfarfod â glowyr de Cymru wrth iddynt gerdded i mewn i Lundain—dechrau ei gysylltiad a barodd ddegawdau â de Cymru, gan siarad yn 1938 â 7,000 o bobl yn Aberpennar wrth iddo ddadorchuddio cofeb i’r 33 o ddynion o dde Cymru a fu farw yn y brigadau rhyngwladol yn rhyfel cartref Sbaen. Ac ar ddydd Sadwrn yr wythnos hon, byddwn yn nodi pedwar ugain o flynyddoedd ers cyfraniad y bobl hynny pan fyddwn yn cyfarfod wrth gofeb y brigadau rhyngwladol ym Mharc Cathays yma yng Nghaerdydd. Roedd angen undebau llafur arnynt hwy, onid oedd? Ac roedd eu hangen arnynt, rwy’n siŵr, yng ngeiriau’r cynnig hwn, fe fyddent yn meddwl, yn fwy nag erioed o’r blaen.

Nawr, ddirprwy Lywydd, mae yna hanes hir, ac nid oes gennym amser i fynd drwy’r cyfan. Ni fyddem am ei adael heb sôn am streic y glowyr, y profiad ffurfiannol i lawer o bobl yn y Siambr hon. Roedd yr undeb llafur roeddwn yn perthyn iddi ar y pryd, fel arweinydd yr wrthblaid, sef Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, wedi gadael i ni fod yn arsylwyr swyddogol, beth bynnag roedd hynny’n ei olygu, yn y streic. Felly, byddwn yn codi am 4.30 yn y bore ac yn mynd gydag eraill i wylio’r ymdrech y tu allan i byllau yn ne Cymru, ac roedd angen cannoedd ar gannoedd o swyddogion yr heddlu i ganiatáu i lorïau wneud eu ffordd i mewn ac allan o lofeydd de Cymru. Ac yn sicr yn yr eiliadau ffurfiannol hynny rwy’n credu, fel roeddem yn sefyll yno, fe wyddem fod angen undebau llafur yn fwy nag erioed.

Dechrau’r stori honno, y stori drist a amlinellodd Bethan wrth iddi dynnu sylw at hanes undebaeth lafur—yr ymosodiadau arni a ddigwyddodd dros y 30 mlynedd hynny. Felly, pam rydym eu hangen yn fwy nag erioed heddiw? Wel, dyma dri rheswm, rwy’n meddwl: yn gyntaf oll, mae sefyllfa wrthrychol pobl sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig heddiw yn wahanol hyd yn oed i’r hyn ydoedd yn rhai o’r brwydrau cynharach hynny. Mae gweithwyr y DU yn dioddef y dirywiad hiraf a mwyaf difrifol mewn enillion go iawn ers dechrau cadw cofnodion yn oes Fictoria. Mae’r gyfran o’n hincwm cenedlaethol sy’n mynd ar lafur yn is nag y bu ers 50 mlynedd, tra bo cyfran cyfalaf yn uwch nag y bu ers 50 mlynedd. Ac mae effaith hynny yn gwbl real. Dyma Andrew Haldane, prif economegydd Banc Lloegr, yn siarad yng nghynhadledd flynyddol y TUC y llynedd, lle y dywedodd:

Pe bai cyflogau real yr Unol Daleithiau wedi dilyn trywydd cynhyrchiant ers 1970, byddai’r gweithiwr cyfartalog heddiw 40% yn well ei fyd. Pe bai cyflogau’r DU wedi dilyn trywydd cynhyrchiant ers 1990, byddai’r gweithiwr cyfartalog heddiw 20% yn well ei fyd. Yn wahanol i gyfnodau cynharach o newid technolegol cyflym, nid yw llafur wedi cael rhan gyfartal o fuddion datblygiadau mawr diweddar.

Rhan o’r rheswm pam nad yw llafur wedi cael rhan gyfartal o fuddion y datblygiadau technolegol hynny yw oherwydd bod undebau llafur wedi bod yn wannach ac yn llai abl i gynrychioli eu haelodau yma, yn yr Unol Daleithiau, ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Mewn ystyr hollol wrthrychol, mae angen undebau llafur yn fwy nag erioed.

Mae eu hangen yn fwy nag erioed—a fy ail reswm, ddirprwy Lywydd—yw oherwydd yr ymosodiadau uniongyrchol sy’n dal i ddigwydd ar undebau llafur ar lefel y DU. Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i ddiddymu Deddf Undebau Llafur 2016, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod y Gweinidog a fydd yn dod â’r ddeddfwriaeth ddiddymu honno gerbron y Cynulliad hwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, oherwydd mae gwanhau undebau llafur nid yn unig yn weithred o fandaliaeth ynddi ei hun, ond mewn gwirionedd mae’n tanseilio gallu’r bartneriaeth gymdeithasol i ddarparu’r pethau sy’n dda i ni i gyd.

Fy nhrydydd rheswm yw canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin, oherwydd, yn anffodus iawn, rwy’n credu y gwêl y bobl—ac rydym wedi cael trafodaeth ddefnyddiol heddiw ynglŷn â pham y gwnaeth pobl y dewisiadau a wnaethant—a wrthododd yr Undeb Ewropeaidd ac sydd wedi bod fwyaf o angen ei diogelwch, nad dewis rhwng Ewrop nad oeddent yn ei hoffi a gwell dyfodol oedd hwn, ond agenda Americaneiddio, agenda’r Iwerydd, lle bydd Partneriaeth Buddsoddi a Masnach Drawsiwerydd yn rhywbeth y bydd y bobl a berswadiodd bobl i bleidleisio yn y ffordd y gwnaethant yn ei chroesawu cyn gynted ag y gallant. Yn sgil gadael y diogelwch cymdeithasol a gynigir gan yr Undeb Ewropeaidd, mae angen undebau llafur yn fwy nag erioed. Felly, yfory byddaf yn mynychu cyngor partneriaeth y gweithlu yma yng Nghaerdydd, gan ein bod ni yma yng Nghymru yn ceisio—ac nid yw’n hawdd ac nid ydych bob amser yn cytuno ac rwy’n eithaf sicr fod awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan bleidiau o lawer o wahanol dueddiadau gwleidyddol wedi wynebu anawsterau gyda’u cydweithwyr yn yr undebau llafur a’r bobl sy’n gweithio iddynt—ond rydym yn ceisio gwneud y gwaith caled o eistedd o gwmpas y bwrdd gyda’n gilydd—y Llywodraeth, yr undebau llafur, y cyflogwyr—yn y model partneriaeth gymdeithasol y gwyddom ei fod yn cynnig ein cyfle gorau i wrthsefyll y storm sy’n ein hwynebu, a lle y gall undebau llafur ddal ati i ddarparu gwasanaeth cwbl hanfodol ar gyfer eu haelodau mewn cyfnod pan fo’u hangen, yn wir, yn fwy nag erioed. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:16.