Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

12/07/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Trefn, ac rwy’n galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn cyntaf.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0111(FM)

Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill yng Nghymru i gymryd amrywiaeth o gamau i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl.

Diolch. Rwy’n croesawu’r ateb yna felly, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol na all cleifion strôc yn y canolbarth gael mynediad at driniaeth arbennig yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mwyach, ar ôl ad-drefnu gwasanaethau, sydd wedi arwain at wasanaethau yn symud ymhellach i ffwrdd i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford. A gaf i ofyn i chi pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU, a chydag Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford, i bwyso’r achos dros gadw gwasanaethau arbenigol yn Sir Amwythig? Ac, a gaf i hefyd ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan gleifion strôc yn y canolbarth fynediad digonol at y gwasanaeth arbenigol hwn?

Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o’r cynigion. Rydym ni’n disgwyl, fel Llywodraeth, y bydd y rhanddeiliaid perthnasol ar ein hochr ni i'r ffin yn rhan o unrhyw newidiadau posibl. Gwn fod Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys wedi bod yn weithgar iawn o ran cynrychioli pryderon trigolion, ac rwy’n deall y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud fel y bydd dewisiadau terfynol yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar â fforwm iechyd y Drenewydd, a ddywedodd wrthyf nad oes unrhyw wasanaeth meddyg teulu na gofal sylfaenol o gwbl yn y Drenewydd rhwng chwech o’r gloch a 12 o'r gloch y nos. Mae'r feddygfa deulu’n cau am chwech o'r gloch, ac mae'n ddigon anodd cael apwyntiad yno, ac mae'r meddyg teulu Shropdoc, sy'n cael ei redeg o Ysbyty'r Drenewydd, yn dechrau am hanner nos. Rhwng chwech a 12, mae’n rhaid i bobl yn y Drenewydd deithio i'r Trallwng er mwyn cael gafael ar wasanaethau meddyg teulu. A ydych chi’n credu bod hwnnw'n wasanaeth digonol o ran gwasanaethau meddyg teulu yn y Drenewydd?

Gwn fod y bwrdd iechyd yn edrych ar y sefyllfa, a gwn fod llenwi'r bwlch hwnnw yn bwysig iddyn nhw. Er enghraifft, os edrychwn ni ar yr uned mân anafiadau yn y Drenewydd, bydd y bwrdd iechyd yn cychwyn proses i ddatblygu strategaeth iechyd a gofal hirdymor ar gyfer Powys yn ystod 2016, a bydd y bwrdd iechyd yn adolygu gwasanaethau UMA ar draws Powys yn rhan o'i waith ar wasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw fwlch sy'n bodoli yn cael ei gau.

Mynediad at Weinidogion Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad at Weinidogion Cymru? OAQ(5)0118(FM)

Mae mynediad at weinidogion ar gael mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mae eich Llywodraeth wedi gwneud yn siŵr mai Cymru sydd â’r amddiffyniad gwannaf yn y DU rhag lobïo masnachol. Nid oes cofrestr. Dywedodd y Llywydd diwethaf nad yw’r un problemau â San Steffan gennym ni. Ond, o'r hyn y gallaf ei weld, mae’n ymddangos bod cwmnïau fel Deryn, sy’n gwerthu mynediad a gwybodaeth i'r cynigydd uchaf, ym mhobman yn y Cynulliad hwn. Nid oeddwn i hyd yn oed yn cael cyflwyno cwestiwn am arian am fynediad at Weinidogion Cymru. Nid ydym ni’n credu mewn Llywodraeth agored yn amlwg. Felly, beth ydych chi’n ei guddio, Brif Weinidog?

Mae'n ddrwg gen i, mae angen i mi egluro bod yr holl gwestiynau sy'n cael eu cyflwyno yn eu trefn yn cael eu derbyn i'w gofyn yn y Cynulliad hwn, ac mae eich cwestiwn chi wedi ei dderbyn gan ei fod mewn trefn.

Cyflwynais gwestiwn am arian am fynediad at Weinidogion Cymru—

Felly, mae un ar y cofnod, ond fy nghwestiwn gwreiddiol i’r Prif Weinidog yw: mae’n amlwg nad ydych chi’n credu mewn Llywodraeth agored, neu fel arall byddai gennych chi gofrestr a byddai gennym ni reoliadau. Beth ydych chi'n ei guddio? Beth ydych chi'n ei guddio?

Dim byd. Nid oes gan lobïwyr masnachol fynediad at Weinidogion Cymru.

Brif Weinidog, efallai y gallaf i droi materion ychydig yn fwy adeiladol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwleidyddion, a Gweinidogion yn arbennig, yn gwrando, ac rwy’n gobeithio y gwnewch chi nodi ffyrdd y gall eich Gweinidogion, naill ai'n unigol neu ar y cyd, wrando ar fuddiannau hanfodol rhanddeiliaid allan yna, ac unigolion yn wir. Roedd eich rhagflaenydd yn arfer cynnal sesiynau Cabinet meicroffon agored; nid wyf yn credu bod y rheini yn digwydd mwyach. Efallai fod dulliau eraill ond, mewn gwirionedd, mae gwrando ar safbwyntiau pobl yn allweddol ar gyfer penderfyniadau llywodraethol da.

Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac mae gallu ymgysylltu â sefydliadau yn hynod o bwysig. Mae'n iawn i ddweud nad oes sesiynau meicroffon agored wedi eu cynnal ers rhai blynyddoedd. Fodd bynnag, fe wnes i deithio o gwmpas Cymru yn cynnig fy hun yn rhan o strategaeth fasocistiaeth, gan dderbyn cwestiynau gan y cyhoedd, ac, fel pob Aelod—wel, rwy’n gobeithio pob Aelod—rwy’n cynnal cymorthfeydd yn fy etholaeth er mwyn gwrando ar safbwyntiau fy etholwyr.

Credaf fod y materion a godwyd gan aelod Plaid Cymru o bosibl yn rhai pwysig. Mae tryloywder yn hollbwysig. Nawr, rydym ni’n gwybod bod lobïo yn bodoli mewn gwirionedd, mewn cylchoedd gwleidyddol, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn gyfreithlon, ac mae angen i ni wybod pwy sy'n lobïo pwy ar adegau. A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu cofrestr o lobïwyr yma ym Mae Caerdydd?

Wel, mae'r rhain yn faterion a ystyriwyd gan y pwyllgor safonau yn 2013—nid pwyllgor sy'n cael ei redeg gan y Llywodraeth—a daeth i'r casgliadau y daeth iddynt. Dim ond i ail-bwysleisio, nid yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol; mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn cyfarfod â sefydliadau, fel elusennau ac yn y blaen, er mwyn gwrando ar eu safbwyntiau. Ond, yn sicr, nid yw'n wir y gall cwmnïau lobïo masnachol ddod â chleientiaid i gyfarfod â Gweinidogion. Nid yw hynny'n digwydd, yn sicr, ac ni fydd yn digwydd ychwaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rydym yn symud yn awr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac rwy’n galw yn gyntaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, gyda'r holl wleidyddiaeth sy'n digwydd yn y wlad ar hyn o bryd, wrth i arweinyddiaethau newid mewn deddfwrfeydd eraill, a sgil-effeithiau’r refferendwm Brexit, mae rhai o'r materion bara 'menyn yn tueddu i gael eu hesgeuluso. A hoffwn dynnu eich sylw at adroddiad Bliss a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, gan yr elusen, yr wyf yn credu sy’n ddogfen hollbwysig yr wyf yn gobeithio y bydd eich Llywodraeth yn ei hastudio gyda gofal, oherwydd mae’n cynnig map ffordd gwirioneddol i ddatblygu gwasanaethau newyddenedigol yma yng Nghymru. Roedd un o'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw yn dangos mai dim ond 20 y cant o unedau newyddenedigol sydd â digon o nyrsys i staffio’r cotiau yn unol â safonau cenedlaethol. Nawr, bu gwelliannau dros amser i unedau newyddenedigol yng Nghymru, ond maen nhw’n sylweddol—mae’r adroddiad yn cyfeirio at 2008, 2010 a 2011. A allwch chi ymrwymo, yn y sesiwn Cynulliad hwn, i fynd i'r afael â'r problemau staffio y mae’r adroddiad hwn yn eu nodi'n eglur: mai dim ond 20 y cant o unedau sydd â digon o staff i staffio’r cotiau yn unol â safonau cenedlaethol?

Wel, mae’r rhwydwaith newyddenedigol yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu staffio hyblyg, ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol arbenigol ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion o ran lefelau staffio. Er mwyn cefnogi datblygiad ein gweithlu, rydym wedi cyhoeddi pecyn buddsoddi gwerth £85 miliwn mewn addysg a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys staff newyddenedigol. Ac, wrth gwrs, bydd canfyddiadau adroddiad Bliss yn cael eu defnyddio gan y rhwydwaith newyddenedigol i helpu pob uned i fyfyrio ar unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol, a chynllunio ar eu cyfer.

Rwy’n gwerthfawrogi’r ateb manwl yna, ac mae'n fap ffordd o ryw fath. Ond rwy’n credu mai un peth a fyddai wir yn cael ei werthfawrogi fyddai gwybod sut, yn y Cynulliad hwn, y byddwn yn mesur eich llwyddiant—gan fynd o 20 y cant i 50 y cant o unedau â digon o staff, neu, yn wir 100 y cant o unedau â digon o staff. Oherwydd yr hyn sy'n allweddol yma yw nodi’r ffordd i lwyddiant, o ran cynyddu’r niferoedd yn yr unedau newyddenedigol. Felly, a allwch chi roi amserlen i ni pan fydd y sgript yr ydych chi’n ei ddarllen yn y fan yna yn cael ei weithredu mewn gwirionedd a pha bryd y byddwn ni’n gweld mwy o staff yn yr unedau newyddenedigol yn darparu’r gwasanaeth hanfodol hwnnw?

Wel, rwy’n disgwyl i’r niferoedd hynny gynyddu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy’n disgwyl i bob uned newyddenedigol gael ei staffio’n briodol yn y cyfnod hwnnw. Mae'n wir i ddweud bod recriwtio wedi bod yn her; bydd yn parhau i fod yn her yng ngoleuni'r bleidlais bythefnos yn ôl. Ond byddwn yn parhau i ddweud wrth y rhai sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru bod croeso iddyn nhw, yn ogystal, wrth gwrs, â cheisio hyfforddi arbenigwyr newydd ein hunain.

Un o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yw cadw staff. Hynny yw, yn aml iawn, rydym ni’n canolbwyntio ar ddenu staff newydd i'r gwasanaeth iechyd, ond, yn enwedig ar unedau newyddenedigol, y gallu i gadw staff ar ôl i chi eu denu nhw i’r uned sy’n bwysig. Yn arbennig, bydd 40 y cant o famau yn dioddef iselder ôl-enedigol ac yn cael pwl yn yr unedau hyn. Yn y pen draw, dim ond pump o'r unedau sy’n gallu cynnig cymorth ar gyfer iselder ôl-enedigol mewn gwirionedd. Nawr, pan edrychwch chi ar y niferoedd hynny—bydd 40 y cant o famau beichiog yn dioddef pwl o iselder ôl-enedigol a dim ond pum uned sy’n gallu cynnig y cymorth hwnnw—mae hwnnw'n faes eglur sydd wir angen gwaith manwl ar ran eich Llywodraeth a’r byrddau iechyd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Cynulliad heddiw, a Bliss yn enwedig fel elusen sydd â diddordeb arbennig yn y maes hwn, y bydd y maes hwn yn cael y sylw y mae’n ei haeddu ac y byddwn yn gweld cynnydd fel y gellir cynnig cymorth ym mhob uned , ble bynnag y mae’r unedau hynny’n bodoli yng Nghymru?

Wel, gallaf ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau lleol er mwyn ceisio darparu'r gwasanaethau y byddai pobl yn eu disgwyl. Fe wnaethom gyhoeddi y llynedd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Maen nhw’n datblygu'n dda, ac mae 30 o staff arbenigol newydd wedi eu recriwtio, gyda chymorth £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd.

Diolch yn fawr, Lywydd. Has the First Minister seen that Europe’s largest conglomerate, Siemens, is meeting today, or this weekend, in the Cotswolds to work out their post-Brexit strategy, and that Joe Kaesar, the chief executive of Siemens will be there? He has said that Siemens is fully committed to the UK, whatever happens. He says,

‘We’re here for the long-term…because the UK is a good place to do business’.

He also says that he’s called for common sense to prevail on tariffs. That’s a refrain that we hear every day from the German industry federation. Will he join me in welcoming the fact that project fear seems now to have changed into project optimism?

Gwelais yr adroddiad, ond, fel nifer o fusnesau yr wyf i wedi eu cyfarfod yn ystod yr wythnos ddiwethaf a thu hwnt, mae mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol iddyn nhw nawr. Maen nhw wedi eu calonogi bod y sefyllfa yn sefydlogi yn y DU, fel y maen nhw’n ei gweld hi, ond y cwestiwn mawr nesaf iddyn nhw fydd: a fydd mynediad am ddim at y farchnad sengl heb dariffau ar gael iddyn nhw?

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r Prif Weinidog am hynny. Mae masnach rydd yn amlwg yn synhwyrol iawn i’r ddwy ochr, gan fod gennym ni ddiffyg masnach enfawr gyda'r Almaen ac mae'n sicr y byddai masnach rydd o fewn yr UE yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae masnach o fudd i'r ddwy ochr, pa un a oes gennych chi warged neu ddiffyg. Ond mewn ysbryd o gydweithredu adeiladol, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod angen i ni, yng Nghymru, gryfhau ein perthynas â'r Almaen a neilltuo mwy o adnoddau i’n cysylltiadau trwy ffederasiwn diwydiant yr Almaen, Länder yr Almaen a chyda’r Llywodraeth ffederal i annog masnach bellach gyda'r Almaen a hefyd i fanteisio ar y grym gwleidyddol y mae’n amlwg y bydd gan yr Almaen yn yr UE yn y blynyddoedd i ddod? Ymrwymiad gan yr Almaen i fasnach rydd yn yr UE yw'r ffordd orau y gallwn ni gael yr hyn yr ydym ni ill dau ei eisiau.

Mae’n ymddangos bod arweinydd UKIP yn dweud, gyda'r DU allan o'r UE, bod angen i ni gael yr Almaen i wneud y gwaith i ni yn yr UE, sy’n sefyllfa ryfedd, os caf i ddweud? Yr unig fodel sy'n bodoli sy'n cynnig mynediad am ddim at y farchnad sengl yw model ardal economaidd Ewrop. Nid oes unrhyw fodel arall. Ynghlwm â hwnnw, wrth gwrs, ceir goblygiadau o ran pobl yn cael symud yn rhydd, ond nid oes unrhyw beth arall ar y bwrdd ar hyn o bryd. I mi, mae mynediad at y farchnad sengl yn llinell goch absoliwt cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Gofynnodd gwestiwn am ein perthynas â'r Almaen. Mae’r Almaen yn brif fuddsoddwr yn economi Cymru, mae gennym ni berthynas dda â sefydliadau masnachol o’r Almaen, ac un o'r materion yr wyf i’n eu hystyried nawr yw sut yr ydym ni’n mynd i gryfhau ein swyddfeydd tramor, pa un a ddylem ni gynyddu'r staffio yn y swyddfeydd presennol, neu a ddylem ni agor swyddfeydd newydd. Mae'n gydbwysedd anodd ei daro. Rydym ni wedi cael gwaith a wnaed gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar hynny ac rydym ni wedi gwrando ar Iwerddon. Mae ganddyn nhw benbleth debyg i ni oherwydd eu hadnoddau cyfyngedig a'u maint hefyd. Ond byddwn yn ceisio cynyddu presenoldeb Cymru nawr, fel yr ydym ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mewn marchnadoedd sy'n bwysig i ni.

Wel, rwy’n croesawu’r ymateb yna. Ond i droi at fater gwahanol, ar ôl heddiw, bydd y Prif Weinidog yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, oherwydd bydd gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn y DU, ac mae gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn yr Alban a Phrif Weinidog benywaidd yng Ngogledd Iwerddon. A yw ef yn edrych ymlaen at y diwrnod pan y gall ef symud o’r neilltu i fenyw gymryd ei le yn y Cynulliad hwn?

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth arweinydd UKIP yw bod 'The Guardian'—nid wyf yn siŵr a yw hwnnw’n bapur newydd y mae’n ei ddarllen yn aml—wedi dweud ychydig ddiwrnodau yn ôl y byddai'n wir y byddai menywod yn benaethiaid Llywodraethau ar draws y DU nawr. Mae’n rhaid i mi ddweud bod hynny wedi cael ei gywiro gan 'The Guardian', gan fy achub i, gobeithio, rhag cael llawdriniaeth sylweddol. [Chwerthin.]

Diolch, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fydd Cymru yn cael ei harwain gan Brif Weinidog benywaidd. Brif Weinidog, bydd Prif Weinidog y DU newydd yfory, sy'n dweud ei bod yn bwriadu gweithredu tynnu'n ôl y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, barn Plaid Cymru yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog nesaf gyflawni'r addewidion a wnaed i bobl yng Nghymru gan yr ymgyrch i adael, hyd yn oed os yw hi'n dod o ochr arall y ddadl. Rydym ni eisiau gweld safbwynt negodi swyddogol i Gymru i'w gytuno gan y Cynulliad hwn ac ar ei desg hi cyn gynted â phosibl. Brif Weinidog, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi fethu ag ymrwymo i gyhoeddi safbwynt ffurfiol nac iddo gael ei drafod a'i gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cynulliad hwn. Er y byddwn yn derbyn bod y Prif Weinidog newydd yn dod i mewn i’w swydd yn gynharach o lawer na'r disgwyl, a allwch chi gadarnhau mai eich nod fydd ffurfio safbwynt negodi swyddogol wedi ei gytuno ac y byddwch yn pwyso ar Brif Weinidog newydd y DU am i Gymru gael rhan uniongyrchol mewn trafodaethau fel y cynigiwyd gan David Cameron?

Gallaf, mi allaf. Rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei anrhydeddu. Bydd gennym, wrth gwrs, ddull deublyg. Bydd gennym ni ein tîm negodi ein hunain wedi’i leoli ym Mrwsel i weld beth allwn ni ei gyflawni drwy'r llwybr hwnnw hefyd. Mae'n cyd-fynd â llwybr y DU. Ceir dau fater sy'n llinellau coch i ni: yn gyntaf, mynediad am ddim at y farchnad sengl—ni ellir cyfaddawdu ar hynny—ac, yn ail, y dylai pob ceiniog sydd wedi cael ei cholli trwy gyllid Ewropeaidd gael ei thalu gan Lywodraeth y DU yn unol â’r addewid hwnnw a wnaed, nid, mae'n iawn i ddweud, gan y darpar Brif Weinidog, ond gan lawer yn ei phlaid.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn cofio yr wythnos diwethaf, pan fuom yn trafod hyn, fy mod i wedi awgrymu bod angen i chi gael gair gyda'ch Aelodau Seneddol yn San Steffan, a bod angen i chi ddweud wrthyn nhw am gallio a bwrw ymlaen â'u swyddi. Trafodwyd y gwelliannau i Fil Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin eto neithiwr, ac ymatalodd eich ASau eto—y rhai a oedd yno, o leiaf—ar bolisi Llywodraeth Cymru, o ran datganoli plismona y tro hwn. Fe wnaethant yn union yr un fath yr wythnos diwethaf, gan ymatal ar bolisi Llywodraeth Lafur Cymru i greu awdurdodaeth gyfreithiol. Pam nad oes gan eich ASau Llafur unrhyw broblem yn cefnogi pwerau plismona Manceinion Fwyaf ond nad ydynt yn gallu perswadio eu hunain i gefnogi datganoli plismona i Gymru? Pam mae eich ASau yn gadael i’r Torïaid fynd yn groeniach fel hyn, a sut y gallwch chi amddiffyn eu hymddygiad, Brif Weinidog?

Wel, mae'n fater o amseru yn hytrach nag egwyddor, ond mae ein safbwynt yn eglur iawn, iawn. Y sefyllfa y byddwn yn ei hwynebu yn y blynyddoedd i ddod yw y gallai fod cyfresi gwahanol iawn o gyfraith droseddol yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Bydd yn bosibl, er enghraifft, i rywun gael ei arestio yng Nghymru am drosedd nad yw’n drosedd yng Nghymru ond sy’n drosedd yn Lloegr. Bydd yn bosibl i rywun fynd i’r carchar am drosedd a gyflawnwyd yng Nghymru nad yw’n drosedd yn Lloegr, o bosibl. Mae hynny'n hurt cyn belled ag y mae’r awdurdodaeth yn y cwestiwn. Nid yw’n gynaliadwy ychwaith i fod mewn sefyllfa lle y byddai'n fater i bobl Cymru benderfynu pa droseddau y maen nhw’n dymuno eu creu, ond heb gael unrhyw lais o gwbl ynghylch sut y mae’r troseddau hynny’n cael eu plismona a'u gorfodi, a dyna yw safbwynt y Llywodraeth hon o hyd.

Nid mater o amseru yw hynny, Brif Weinidog. Ceir mater o egwyddor yma.

Iawn, felly, mae Bil Cymru yn fater efallai nad yw’n brif flaenoriaeth i’ch ASau, ond mae dyfodol y diwydiant dur yn hollbwysig. Nid yw Cymru heb ddiwydiant dur yn Gymru yr wyf yn fodlon meddwl amdani. Mae gohirio’r broses o werthu Tata Steel yn peri pryder sylweddol. Nawr, gallai'r fenter ar y cyd arfaethedig hon arwain at fesurau torri costau a lleihau capasiti dur y DU. Mae hynny yn ôl y dadansoddiad gan y banc buddsoddi, Jefferies. Os bydd yr uno hwnnw’n digwydd, mae angen sicrwydd pendant arnom fod dyfodol i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru. Sut byddwch chi’n cael sicrwydd o’r fath? Ac a allwch chi egluro pam nad oes datganiad ar agenda yr wythnos hon ar ohirio’r broses werthu? A wnewch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi’n parhau i ddarparu cymorth i’r cais i brynu’r cwmni gan y gweithwyr a’r rheolwyr, ac y byddwch chi’n pwysleisio i Tata pwysigrwydd cadw'r trefniant secondiad i uwch reolwyr weithio ar y cais hwnnw?

Wel, dau beth: mae’r Ysgrifennydd yn cyfarfod â thîm prynu'r rheolwyr heddiw ac, wrth gwrs, mae ganddo gwestiwn brys yr oeddem ni’n fodlon ei dderbyn, wrth gwrs, yn ymwneud â digwyddiadau’r penwythnos. Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener—[Torri ar draws.] Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener wedi’i leoli ym Mumbai sydd wedi adrodd yn ôl i mi. Y cwestiwn i Tata nawr yw hyn: rydym ni wedi rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. Rydym ni’n disgwyl y bydd quid pro quo, ac nid yw hynny’n golygu bod angen i ni weld amodau o ran sicrwydd am swyddi yn y dyfodol a sicrwydd o ran ymrwymiad am gyfnod penodol o amser, am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae angen i ni weld rhagor o gynnydd ar y mater pensiynau, nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto, a’r mater o brisiau ynni mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni becyn ar y bwrdd y credwn y byddai Tata yn fodlon ag ef. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu dangos i bobl Cymru y bydd y pecyn hwnnw’n cyflawni'r hyn y byddent yn ei ddisgwyl, ond mae angen i ni weld cynnydd nawr, yn enwedig ar fater y pensiynau.

Datblygu Pêl-droed yng Nghymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygu pêl-droed yng Nghymru? OAQ(5)0102(FM)

Mae'r perfformiad rhagorol gan ein tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 wedi cynnig cyfle gwych i ni i gynrychioli Cymru dramor. Gwn fod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn bwriadu defnyddio’r llwyddiant hwnnw fel catalydd i dyfu’r gamp ymhellach ar draws y wlad.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o sut y gwnaeth tîm Cymru yn y pencampwriaethau Ewropeaidd, ac rwy’n siŵr nad fi yw'r unig un a dreuliodd nos Sul yn meddwl, 'Gallai fod wedi bod yn ni', yn enwedig pan enillodd gyn-chwaraewr Abertawe y gystadleuaeth dros Bortiwgal. Er mwyn parhau i ddatblygu pêl-droed, mae angen gwell caeau. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog sut y bwriedir cynyddu nifer y caeau 3G a 4G yng Nghymru, gan leihau nifer y gemau a gollir i dywydd garw drwy’r gaeaf.

Gwn fod Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu gwahanol gampau, fel Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a'r Gymdeithas Bêl-droed, i ddatblygu rhaglen fuddsoddi ar gyfer caeau 3G. Gwn hefyd eu bod yn datblygu glasbrint ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghymru i gefnogi ein hymgyrch i hwyluso cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ac ymarfer corff, ac i wneud yn siŵr y bydd gennym ni gyfleusterau sy'n briodol ac yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Onid ydych chi’n credu bod gwrthdaro rhwng ceisio cynyddu nifer y caeau 4G, ac eto, dim ond milltir i lawr y ffordd, ceir cae pob tywydd sydd o dan glo? Ni all plant chwarae yno gan ei fod yn rhy ddrud. Hefyd yn y ddinas hon, yn ne'r ddinas hon, mewn ward â phroblemau mawr fel Sblot, mae canolfan hamdden STAR yn cael ei chau gan eich cyngor Llafur chi yma yn y ddinas. Felly, ceir neuadd y mae plant yn ei defnyddio, lle maen nhw’n dysgu chwarae pêl-droed. Onid ydych chi’n gweld y gwrthdaro rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud yma am gynyddu cyfleusterau, ac eto y gwirionedd ar lawr gwlad yw bod eich cynghorau Llafur yn eu torri?

Wel, rwy’n meddwl bod yr un peth yn wir—. Mae fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli, yn fy hysbysu bod Sir Gaerfyrddin yn yr un sefyllfa—sy’n cael ei rhedeg gan ei blaid ef, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cynghorau mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn gwneud cyfleusterau yn rhy ddrud i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, mewn gwirionedd, sef bod angen i ni wneud yn siŵr, lle mae cyfleusterau’n cael eu datblygu, nad ydynt yn mynd mor ddrud fel na all pobl eu defnyddio. Pan fo perygl o wneud hynny, byddem yn annog pawb dan sylw i feddwl eto er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl.

Brif Weinidog, hoffwn ymuno â chi i ddweud pa mor wych oedd newyddion yr wythnos diwethaf. Nid yn unig y gwnaeth ein tîm Cymru cystal ag y gwnaethant, ond llwyddasant i droi rhywun fel fi, y gallaf ddweud yn onest nad oedd pêl-droed o unrhyw ddiddordeb o gwbl i mi, yn gefnogwr brwd. Mae’n debyg y gallwn i hyd yn oed drafod y rheol camsefyll pe bawn i’n trio’n ddigon caled. Ond roeddwn i’n falch iawn ohonyn nhw, ac roeddwn i hefyd yn hynod falch o'n cefnogwyr a'r ffordd y gwnaeth ein cefnogwyr ymddwyn. Hefyd, gwnaeth ein pêl-droedwyr argraff dda fel pobl gyffredin, nobl â’u traed ar y ddaear, ac yn esiampl wirioneddol i'n pobl ifanc. Felly, rwy’n dod at wraidd fy nghwestiwn, sef: a fyddwch chi’n cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod sut y gallwn ni gynyddu’r oriau a’r munudau y mae pobl ifanc yn yr ysgol gynradd yn eu treulio yn gwneud chwaraeon? Mae wedi cael ei dorri’n gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dweud y gwir. Os ydym ni eisiau darganfod nid yn unig ein sêr pêl-droed ar gyfer y dyfodol, ond hefyd ein sêr chwaraeon ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni ddechrau’n gynnar, eu cael nhw’n gynnar, eu gwneud nhw’n iach a’u cael nhw i arfer â’r holl agenda chwaraeon. Yn hytrach, mae’r amser hwnnw’n prinhau ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd, ac mae’n anodd iawn i blant cefn gwlad, yn enwedig y rhai heb fynediad at gludiant cyhoeddus, gymryd rhan ar ôl yr ysgol hefyd.

Dyma'r materion yr hoffem eu hystyried gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae'r Aelod yn anarferol o onest pan ddywed nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed tan nawr. [Torri ar draws.] Wel, mae croeso i gefnogwyr newydd bob amser, wrth gwrs. Mae'n anodd tanbwysleisio’r cyhoeddusrwydd y mae hyn wedi ei roi i’n cenedl. Roeddwn i ym Mharis ar noson y rownd gynderfynol. Roeddwn i yn Mametz y diwrnod canlynol. O’m cwmpas, y cwbl y gallwn ei glywed oedd pobl yn dweud 'Pays de Galles'. Mae’r math hwnnw o gyhoeddusrwydd yn anodd iawn i ni ei ailadrodd. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny, ac rydym ni’n gweithio gyda Croeso Cymru er mwyn i hynny ddigwydd.

Mae hi'n gwbl gywir i ddweud hefyd bod y tîm wedi bod yn esiampl dda cyn belled ag y mae pobl ifanc yn y cwestiwn. Byddant yn gweld ei bod yn bosibl bod yn hynod lwyddiannus ym myd pêl-droed—ac, yn wir, mewn unrhyw gamp broffesiynol arall—heb fod â baich emosiynol, os caf ei roi felly, fel yr ydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd a fu. Rydym ni’n ffodus yng Nghymru nad ydym ni wedi colli llawer o gaeau chwarae ysgolion, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Chwaraeon Cymru a’r cyrff llywodraethu nawr er mwyn darparu cymaint o gyfleusterau hygyrch o'r safon uchaf ag y galllwn ar draws Cymru.

Addysg Oedolion

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg oedolion yng Nghymru? OAQ(5)0113(FM)

Mae gennym ni amrywiaeth o raglenni sydd â’r nod o gynyddu cyflogadwyedd, gwella sgiliau, a chefnogi pobl o bob oed a gallu i fynd i mewn i gyflogaeth a symud ymlaen ynddi, ac, wrth gwrs, maen nhw’n chwarae rhan sylfaenol o ran lleihau anghydraddoldebau a threchu tlodi.

Gall addysg i oedolion gyflawni swyddogaeth hanfodol i dorri'r cylch tlodi. Dyna oedd y neges o wobrau addysg oedolion Ysbrydoli!  y mis diwethaf, pryd y cyflwynais y wobr newid gyrfa oes. Bydd adeilad £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn cynnig lleoliad dyheadol ar gyfer addysg oedolion, ond yr her hefyd yw sicrhau darpariaeth addas o gyrsiau o ansawdd da i ddysgwyr. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr i gyflawni hyn?

Wel, mae’r Aelod yn iawn i ddweud y bydd y campws newydd yn gyfleuster gwych i bobl Aberdâr a'r cyffiniau. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd â'r sector ôl-16 o ran cynllunio darpariaeth; mae hynny’n cynnwys cynllunio darpariaeth ran-amser a chymunedol i oedolion gan y sector Addysg Bellach. Caiff cynlluniau cyflawni hefyd eu casglu a'u harchwilio gan swyddogion er mwyn sicrhau y cynigir amrywiaeth briodol o ddarpariaeth o fewn y gyllideb sydd ar gael, ac, wrth gwrs, mae sefydliadau Addysg Bellach yn destun arolygiadau Estyn.

Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy’n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i’r Llywodraeth fethu ag ymrwymo i ariannu cwrs Cymraeg i oedolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac, fel rydych chi’n gwybod, mae cyllideb cyrsiau Cymraeg i oedolion eisoes wedi cael ei thorri bron £3 miliwn. Os ydy toriadau ar y raddfa yma yn mynd i barhau, onid ydych chi’n teimlo bod hynny’n mynd i weithio yn erbyn uchelgais eich Llywodraeth chi i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 filiwn?

Mae wedi bod yn anodd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf; mae hynny’n iawn. Ond hefyd rydym ni wedi sicrhau bod yna lefydd newydd wedi cael eu hagor ar draws Cymru—o Bontardawe, er enghraifft, a Llanelli i’r brifddinas—er mwyn sicrhau bod yna lefydd lle mae pobl yn gallu mynd a defnyddio’r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg rhagor yn iaith yr heol neu iaith gymdeithasol gyffredinol. Rwy’n gwybod bod llefydd fel Y Lle yn Llanelli, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth sicrhau bod pobl yn gallu dysgu Cymraeg a hefyd defnyddio Cymraeg fel nad ydyn nhw’n colli’r iaith ar ôl ei dysgu.

Brif Weinidog, mae yna lawer o oedolion dros Gymru sydd eisiau dysgu Cymraeg,

as Siân Gwenllian has said, including lots of people in my own constituency, and financial support in order to enable them to learn the language is extremely important. I just wonder what specific financial support you’re going to make available over the next few years in order to support and nurture the language, particularly in communities like mine, where there is a living language, but it needs fresh life brought into it, particularly for people who move into the area from outside of those traditional Welsh-speaking communities.

Mae hynny'n wir. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth, wrth gwrs, mewn sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n eang mewn ysgolion. Rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau da fel Gwynedd, fel Ceredigion, lle ceir canolfannau sy'n galluogi plant i —‘trochi’ yw’r gair yn y Gymraeg; nid yw'n gweithio yr un fath yn Saesneg, gan ei fod yn golygu dwyno yn Saesneg, os byddwch yn ei gyfieithu’n llythrennol. [Torri ar draws.] 'Ymdrwytho'; dyna air gwell—iddyn nhw gael eu hymdrwytho yn yr iaith. Ac maen nhw’n gweithio'n dda iawn, iawn. Rydym ni’n canfod wedyn, wrth gwrs, bod plant yn gallu dylanwadu ar eu rhieni a helpu eu rhieni i ddysgu Cymraeg, gan eu bod nhw eu hunain yn dysgu Cymraeg mor hawdd.

Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0107(FM)

Gwnaf, â phleser. Bydd ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn arwain at fuddsoddiad o £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2019. Bydd pob un o'r 22 awdurdod yn elwa ar y buddsoddiad hwn, a fydd yn arwain at ailadeiladu ac ailwampio dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Hyd yma, cymeradwywyd 105 o brosiectau drwy'r rhaglen.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, i rai, pan gaiff ysgol newydd ei chrybwyll, y gall fod pryderon, yn enwedig pan fo plant a rhieni yn hapus iawn â'r ysgol y maen nhw’n ei mynychu. Nawr, o dan adran 5.4 cod trefniadaeth ysgolion statudol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr holl wrthwynebiadau a gyflwynir yn gydwybodol, a pheidio â gwneud penderfyniadau ar gynigion uno gyda meddwl caeedig i'r rhanddeiliaid dan sylw. Fodd bynnag, yng Nghonwy yn ddiweddar, mae’r cyngor yn bwrw ymlaen â dau gynnig uno diweddar sy’n effeithio ar bump o'n hysgolion cynradd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiadau. Mae llawer o rieni, athrawon, llywodraethwyr a hyd yn oed yr undebau athrawon yn flin, yn rhwystredig ac yn siomedig ac o’r farn bod yr ymgynghoriad statudol yn ddiystyr, yn enwedig pan gyhoeddwyd cofnodion penderfyniad cabinet perthnasol yn ddiweddar cyn i’r cyfarfod gael ei gynnal hyd yn oed—fait accompli. Er mwyn rhoi sylw i'r pryderon a godwyd, a wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg newydd, yn y tymor ysgol newydd yn amlwg, i ystyried eto sut y mae pryderon a safbwyntiau’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn cael eu hystyried o fewn y penderfyniadau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed ac yn cael sylw priodol?

Mae'r Aelod yn beirniadu Cyngor Conwy a'r ffordd y maen nhw wedi ymddwyn. Gwn y bu pryderon yng Nghonwy, yn enwedig o ran nifer o ysgolion—yn ardal Caerhun rwy’n meddwl, ac yng Nghyffordd Llandudno hefyd rwy’n credu. O ran Cyffordd Llandudno, deallaf y bu ailymgynghoriad, sydd ar agor ar hyn o bryd ac a fydd ar agor tan 27 Gorffennaf. O ran Caerhun, rwy’n deall bodd hynny wedi ei gymeradwyo eisoes. Ond mae'n gywir i ddweud, pan ein bod yn rhoi safonau ar waith rydym yn disgwyl cydymffurfiad â nhw wrth gynnig cau ac uno ysgolion, rydym ni’n disgwyl cydymffurfiad â'r broses. Ceir maglau cyfreithiol i awdurdodau lleol oni bai eu bod yn gallu dangos, wrth gwrs, eu bod wedi dilyn y weithdrefn gywir, a byddem yn disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud hynny.

Brif Weinidog, yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd, mae hefyd yn bwysig ein bod yn parhau i adeiladu colegau newydd ar gyfer addysg bellach. Mae gan Goleg Gwent gynlluniau uchelgeisiol a phwysig i adleoli eu campws yng Nghasnewydd i lan yr afon ochr yn ochr â champws Prifysgol De Cymru ac, yn wir, rhagor o adeiladau yn y cyffiniau. A ydych chi’n cytuno â mi bod yn rhaid i ni barhau i wella ein colegau addysg bellach yn y modd hwnnw a chefnogi egni a syniadau i sicrhau gwelliannau i addysg bellach, ac yn enwedig, efallai, cysylltiadau cryf ag addysg uwch?

Ydw, mi ydwyf. Gwn y gallai fod llawer o gynigion yn cael eu gwneud o ran campws Casnewydd, ond mae'n gwbl gywir i ddweud y dylem ni wneud yn siŵr nad oes unrhyw ffin bendant rhwng AB ac AU i’r myfyriwr. Gwn fod llawer iawn o fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i gwblhau cyrsiau gradd yn dechrau mewn lleoliad AB oherwydd mai dyna sy'n briodol iddyn nhw. Nid yw’r hyder ganddyn nhw efallai i fynd yn syth i mewn i AU ac mae angen eu hannog i wneud hynny, ac yna wrth gwrs maen nhw’n dod yn llwyddiannus dros amser. Felly, mae mwy o weithio rhwng AU ac AB yn hynod bwysig er mwyn creu’r llwybr di-dor hwnnw i’r myfyriwr.

Yng ngoleuni’r dyletswyddau sydd nawr, wrth gwrs, ar y sector cyhoeddus yn dilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oni ddylai fod gorfodaeth ar bob adeilad sy’n cael ei godi gydag arian cyhoeddus, ac, yn y cyd-destun yma, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i fod yn defnyddio pob cyfle posib o safbwynt ynni adnewyddadwy?

Rwy’n credu bod hynny’n iawn. Rwyf wedi gweld sawl enghraifft o hynny, lle mae adeiladau yn ‘rhagorol’ ynglŷn â BREEAM. Rwyf wedi gweld enghreifftiau lle mae dŵr yn cael ei gasglu o’r to ac yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol ei hun. Felly, byddwn yn erfyn ar awdurdodau lleol i ystyried yr enghreifftiau da rwyf wedi’u gweld ar draws Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr un peth.

Recrwitio Meddygon Teulu ym Mhowys

6. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ar recriwtio meddygon teulu ym Mhowys? OAQ(5)0114(FM)

Gwnawn. Byddwn yn cyflwyno cynigion yn fuan ar gyfer ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i weithio ynddo. Bydd hynny'n cynnwys gwaith i recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol ac i fynd i'r afael â'r problemau a wynebir ym Mhowys a ledled Cymru.

Diolchaf i chi am y datganiad yna, Brif Weinidog, ond roeddwn i mewn cyfarfod iechyd cyhoeddus yn Ystradgynlais ddydd Gwener ac un o'r heriau mawr yr oeddent yn eu hwynebu oedd recriwtio meddygon teulu, yn enwedig ym meddygfa Coelbren. Rwy’n croesawu’r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud o ran eich cynlluniau i hyfforddi a recriwtio mwy o feddygon teulu. Edrychaf ymlaen, Brif Weinidog, at dderbyn diweddariad ar sut y mae’r cynlluniau hynny’n mynd i greu mwy o feddygon teulu i mewn i'r ardaloedd, yn enwedig yng Nghymru wledig, lle mae hyn yn her enfawr iddyn nhw ar hyn o bryd.

Do, gwnaethom fuddsoddiad ychwanegol o dros £40 miliwn y llynedd mewn gofal sylfaenol ac roedd £4.5 miliwn o'r cyllid hwnnw wedi ei dargedu at arallgyfeirio’r gweithlu, gan gynnwys creu 300 o swyddi mewn amrywiaeth o swyddi gofal sylfaenol. Mae’r Aelod yn sôn am Goelbren yn benodol; mae'n rhan o feddygfa deulu Cwm Dulais ym Mlaendulais. Bu problemau recriwtio, a chanlyniad hynny fu lleihau nifer y sesiynau meddygon teulu yng Nghoelbren. Gwn fod y feddygfa yn mynd trwy broses cefnogi cynaliadwyedd gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd, er ei fod yn rhan o Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn ffisegol, PABM yw ei hardal weithredu, ac mae'r ddau fwrdd iechyd yn gweithio'n agos i gytuno ar ateb tymor hwy i sicrhau’r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau o ansawdd uchel.

Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi’r cwestiwn hwn; mae'n fater penodol yn fy etholaeth i, wrth i lawer o feddygon teulu gyrraedd oedran ymddeol a bod trafferth recriwtio. Mae llawer o feddygfeydd, yn yr achos hwnnw, yn gorfod ad-drefnu sut y maen nhw’n gweithredu. Yr hyn y mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthyf yw bod potensial i’w safleoedd ostwng mewn gwerth os bydd eu meddygfeydd yn rhoi'r gorau i weithredu, sy’n rhwystr i recriwtio meddygon teulu, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. A gaf i ofyn a ydych chi’n ymwybodol o’r mater hwnnw? Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i feddygon teulu i’w cymell, ac yn enwedig i’w recriwtio i gefn gwlad Cymru?

Wel, os yw meddygon teulu yn dymuno cael eu hystyried fel contractwyr a busnesau annibynnol, mae risg yn gysylltiedig o ran y gostyngiad posibl i werth adeiladau. Ond, nid wyf yn gweld pam y dylai hynny fod yn wir o reidrwydd. Mae'n gynyddol wir bod llawer o'r rhai sy'n dymuno mynd i faes ymarfer cyffredinol nad ydynt eisiau prynu i mewn i feddygfa—maen nhw eisiau bod yn feddygon teulu cyflogedig. Mae'n duedd yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom wedi ei gweld ledled Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ac, yn wir, y proffesiwn, ddarparu ar ei gyfer.

O ran Powys yn ei chyfanrwydd, gallaf ddweud y bu chwech o feddygon teulu partner newydd ym Mhowys ac 11 o feddygon teulu cyflogedig a ddechreuodd ar eu gwaith yn ystod 2015-16.

Y Cynllun Datblygu Gwledig

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y Cynllun Datblygu Gwledig? OAQ(5)0117(FM)[W]

Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod hwn yn cefnogi cymunedau gwledig a’r economi trwy gyfuniad o gyllid gan Lywodraeth Cymru a gan yr Undeb Ewropeaidd. Yn wyneb y diffyg sicrhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma ynglŷn â chyllid yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd a pharhad rhaglenni, ni allaf darogan dyfodol tymor hir y rhaglen.

Wel, diolch ichi am eich ateb—ateb diddorol iawn, os caf i ddweud, oherwydd mi wnaeth eich Gweinidog sgiliau chi, mewn ymateb i gwestiwn gen i ar ôl ei datganiad yr wythnos diwethaf, ei gwneud yn glir ei bod hi yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar y sail bod yr arian yn dod i Gymru. O na ddaw o’r Undeb Ewropeaidd, mae hi’n disgwyl i’r arian ddod, yn ôl yr addewidion, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond, y diwrnod wedyn, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet materion gwledig gyhoeddi bod rhaglenni megis Glastir, ar ôl 2018, yn cael eu gohirio oherwydd yr ansicrwydd. Mae hynny’n awgrymu i mi bod fawr o strategaeth gennych chi fel Llywodraeth ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n ymateb i’r penderfyniad yn dilyn y refferendwm. A allwch chi ddweud wrthyf os ydy’r llaw dde yn gwybod beth y mae’r llaw chwith yn ei wneud?

Rydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud. Rydym yn mynd i barhau gyda phrosiectau cyfalaf, er enghraifft, er mwyn symud ymlaen â’r rheini. Gyda’r prosiectau sy’n defnyddio refeniw, mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth. Ond, mae’n hollol amlwg; os gwelwn ni doriad o £600 miliwn yng nghyllideb y Cynulliad, bob blwyddyn, dros y blynyddoedd nesaf, bydd effaith negatif iawn ar rai o’r prosiectau sydd gyda ni.

Brif Weinidog, rwy’n gwerthfawrogi eich bod chi wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol yr wythnos diwethaf i drafod pryderon yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n cefnogi eich galwadau ar gyfer cymorthdaliadau ffermio a chyllid ar gyfer cymunedau gwledig i gael eu diogelu yn y dyfodol. O gofio y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn bartner masnachu mawr i’n ffermwyr ar gyfer y dyfodol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi hyd yn hyn wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hefyd gyda Chomisiynydd yr Undeb Ewropeaidd, i sicrhau bod cynlluniau fel y rhaglen datblygu gwledig yn mynd i barhau?

Wel, nid oes sicrwydd o gwbl. Rydym yn gwybod nad yw’r Comisiwn, er enghraifft, yn chwarae rhan ynglŷn â phwyllgorau sydd yn delio â chyllido Ewropeaidd ar hyn o bryd. Nid oes sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, felly nid oes sicrwydd i bobl Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig dros ben fod y sicrwydd yna’n dod cyn gynted ag sy’n bosib er mwyn rhoi sicrwydd i’n ffermwyr ni. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod £260 miliwn yn dod i mewn i Gymru ar gyfer taliadau i ffermwyr; ar hyn o bryd, nid oes arian ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd i dalu am hynny. Felly, mae sicrwydd i ffermwyr yn hollbwysig.

Ar yr un thema â'r ddau gwestiwn diwethaf, rwy’n nodi, yn fy etholaeth fy hun ac yn etholaeth y Prif Weinidog ein bod ni newydd gael hyd at £100,000 o grantiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer cynlluniau adfywio unigol yn rhan o ddatblygiad gwledig. Mae'n aml yn synnu pobl, mewn etholaeth fel fy un i yn Ogwr, cyn-etholaeth fwyngloddio a diwydiant trwm, fod pob un ond dwy o'r wardiau yn fy etholaeth yn wledig. Mae gennym ni 40 y cant o ffermio mynydd yr ucheldir, felly mae gennym ni gyllid colofn 1 a cholofn 2 hefyd. Ond mae’r cyllid colofn 2 hwnnw wedi bod yn hanfodol ar gyfer adfywio gwledig, er ei fod yn ddadleuol—y dyraniadau. Felly, a gaf i ofyn iddo, yn ei drafodaethau â Llywodraeth y DU, a yw’n pwysleisio iddyn nhw bwysigrwydd gwneud iawn am unrhyw ddiffyg yn uniongyrchedd rhaglenni yr ymrwymwyd iddynt eisoes, ond hefyd yn y tymor hwy? Oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn llenwi’r diffyg ôl-lenwi hwnnw fel y gallwn gadw’r cynlluniau hynny yn symud ymlaen am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n hanfodol ar gyfer adfywio fy nghymunedau i a’i rai yntau.

Rydym ni wedi gwneud y pwynt hwnnw. Y broblem i ni yw hon: yn y dyfodol, bydd polisi amaethyddol yn gwbl ymreolaethol ac wedi’i ddatganoli'n llwyr. Nid ydym ni’n mynd i dderbyn ymyrraeth gan San Steffan yn hynny o beth. Mae'n fater sydd yn gyfan gwbl i bobl Cymru, pobl yr Alban ac yn wir Lloegr benderfynu pa fath o bolisi amaethyddol y dylid ei ddilyn. Yr anhawster, wrth gwrs, yw’r arian. Sut bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu? Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwarant gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn derbyn o leiaf ei chyfran bresennol o gyllid. Fy ofn mawr yw y bydd ymgais i Farnetteiddio cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, sy'n golygu gostyngiad sylweddol i gyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Gorau po gyntaf y bydd ffermwyr Cymru yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt gan Lywodraeth y DU.

Gwella Seilwaith yn Ne-ddwyrain Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(FM)

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws Cymru gyfan.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ateb i dagfeydd twneli Brynglas yr M4 yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac yn wir i’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy'n siŵr y bydd yr Athro Stuart Cole yn cysgu ychydig yn dawelach o wybod bod ei lwybr glas M4 yn rhan o'r gymysgedd erbyn hyn i gael ei ystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Byddwch yn ymwybodol bod gan Roadchef yng ngwasanaethau Magwyr bryderon am effaith y llwybr du ar eu busnesau, ac felly hefyd porthladd Casnewydd, a allai gael ei rannu'n ddwy gan o leiaf un o'r llwybrau sy'n cael eu hystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus. Sut y mae pryderon busnesau lleol pwysig fel y rhain yr wyf i wedi eu crybwyll wedi cael eu cymryd i ystyriaeth, a sut maen nhw’n cael eu cymryd i ystyriaeth gan yr ymchwiliad cyhoeddus?

Wel, byddwn yn disgwyl i'r ymchwiliad roi ystyriaeth lawn i safbwyntiau pawb sy'n mynegi barn i'r ymchwiliad. Gwnaethom benderfyniad ymwybodol i wneud yn siŵr bod yr holl bosibiliadau yn cael eu harchwilio gan yr ymchwiliad fel y gallai'r cyhoedd weld yr holl dystiolaeth ac fel y byddai pobl yn deall ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl ddewisiadau yn cael eu harchwilio’n briodol. Mae’r Aelod yn gwybod fy mod i wedi sefyll yn y fan yma a dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran ei effaith ar gymaint o bobl, ond gadewch i ni weld beth fydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ei ddweud a gweld pa argymhellion a wneir yn dilyn hynny.

Yr allwedd i sicrhau llwyddiant yn y brifddinas-ranbarth yw dilyn dull aml-ganolfan ar gyfer seilwaith a datblygu economaidd. Er mai nod y cytundeb dinas a'r model dinas-ranbarth yw adeiladu ar frand rhyngwladol Caerdydd, mae’n rhaid i ni gydnabod swyddogaeth y canolfannau poblogaeth eraill hefyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, wrth symud ymlaen, y dylid cadarnhau statws amlwg Casnewydd fel prifddinas ranbarthol yn ei rhinwedd ei hun, prifddinas hen sir Gwent, ac a yw'n cytuno y dylai’r statws amlwg hwn gael ei ymgorffori wrth gynllunio’r prifddinas-ranbarth ac y dylid ei hyrwyddo ar bob cyfle?

Nid wyf yn cytuno ag ef ar hynny. Rwy’n meddwl bod gan yr holl awdurdodau lleol lais cyfartal o ran datblygiad y ddinas-ranbarth. Mae hunaniaeth yn bwysig, rwy’n deall hynny, ond y gwir amdani yw nad yw’r rhanbarth economaidd yn rhoi unrhyw sylw o gwbl i ffiniau gwleidyddol. Mae Casnewydd yn amlwg yn ddinas bwysig. Dyma ein trydedd ddinas fwyaf. Ynghyd â Chaerdydd ac yn wir ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, byddant i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu’r brifddinas-ranbarth gyfan er lles pawb sy'n byw ynddi.

Rwy'n croesawu'r dyraniad newydd o arian yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru i gamlas Mynwy ac Aberhonddu a hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a yw hyn yn cyd-fynd ag unrhyw strategaeth datblygu economaidd ehangach ar gyfer integreiddio ein dyfrffyrdd i seilwaith y de-ddwyrain.

O ran dyfrffyrdd, rwy'n credu ei fod yn fwy o achos o’u potensial ar gyfer twristiaeth. Rhannwyd y dyfrffyrdd ddegawdau lawer iawn yn ôl. Mae camlas Morgannwg—mae’n mynd o dan y brif reilffordd i’r dwyrain o Gaerdydd ond nid yw wedi ei chysylltu â gweddill ei rhwydwaith blaenorol. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y potensial gennym ni ar gyfer twristiaeth trwy ein camlesi, ac yn y modd hwnnw, wrth gwrs, gallant weithredu fel sbardunwyr economaidd, a byddwn yn parhau i weithio â'r rhanddeiliaid dan sylw i sicrhau bod y potensial hwnnw’n cael ei wireddu.

Cyfraddau Casglu’r Dreth Gyngor

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyfraddau casglu'r dreth gyngor yng Nghymru? OAQ(5)0110(FM)

Gwnaf. Casglodd awdurdodau bilio 97.2 y cant o dreth gyngor a filiwyd yn 2015-16.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth yn datgelu mai cynghorau Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Thorfaen sydd â'r cyfraddau gwaethaf yng Nghymru o ran casglu'r dreth gyngor. Mae'r ganolfan cyngor ar bopeth wedi labelu treth gyngor fel problem ddyled fwyaf Cymru—mae 6,000 o bobl yn cael trafferth i dalu eu biliau erbyn hyn. A wnaiff y Prif Weinidog esbonio i'r teuluoedd hynny yn ardaloedd tlotaf Cymru pam y penderfynodd beidio â defnyddio'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i rewi'r dreth gyngor yng Nghymru at y diben y’i bwriadwyd mewn gwirionedd?

Wel, mae datganoli'n golygu nad yw at ddiben a fwriadwyd, i ddechrau; mater i'r Cynulliad yw penderfynu sut y mae'n gwario ei arian. Serch hynny, gwrthodwyd y grant rhewi'r dreth gyngor gan fwyafrif yr awdurdodau yn Lloegr eleni, gan ddewis codi’r dreth gyngor yn hytrach. Er gwaethaf y ffaith honno, mae'r dreth gyngor yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yw hi yn Lloegr, ac, yn wir, bydd ef yn cofio, gan ei fod yn y Siambr pan ddatganolwyd budd-daliadau treth gyngor, mai dim ond 90 y cant o'r gyllideb a ddilynodd. Welais i mohono yn annog yn gryf ar y pryd y dylai Cymru dderbyn ei chyfran lawn o arian er mwyn ymdrin â budd-daliadau'r dreth gyngor.

Mae’n rhaid bod y ffaith bod y ganran fwyaf o bobl sydd ddim yn talu’r dreth ymhlith rhai o’n hardaloedd tlotaf yn adlewyrchu’r ffaith bod y dreth yma’n sylfaenol annheg, yntefe? Mae’r baich yn pwyso’n drymach ar y bobl sy’n lleiaf abl i dalu. Felly, onid yw hi’n bryd, nawr, inni fwrw ati i ddiwygio’r dreth yma i’w gwneud yn decach, fel yr oedd Plaid Cymru wedi dadlau, wrth gwrs, yn yr etholiad yn ôl ym mis Mai?

Rŷm ni’n wastad yn agored i ystyried ffyrdd newydd o gyllido awdurdodau lleol. Mae rhai yn sôn, wrth gwrs, am dreth incwm lleol; bydd yn rhaid casglu hynny’n lleol yn lle bod yr arian i gyd yn mynd i’r llefydd y mae pobl yn gweithio, nid lle maen nhw’n byw. Mae’n wir i ddweud—wel, nid yw’n wir i bawb, wrth gwrs—y mwyaf yw pris y tŷ, y mwyaf yw incwm y person sydd yn byw yno. Nid yw hynny’n wastad yn wir, rwy’n deall hynny, ond mae’r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn system sydd yn gweithio achos y ffaith ei bod yn dreth sydd wedi cael ei rhoi ar ben tŷ sydd ffaelu symud. Ond, wrth gwrs, yn y blynyddoedd i ddod, mae yna’n wastad ddadl ynglŷn ag a oes yna ffordd fwy effeithiol i sicrhau cyllid awdurdodau lleol.

2. Cwestiwn Brys: Tata Steel

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar David Rees i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Tata Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad Tata i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU? EAQ(5)0036(EI)

Member
Ken Skates 14:18:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydym ni’n parhau â'n trafodaethau helaeth â Tata ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU o ran nifer o bwyntiau gan gynnwys rhyddhad priodol o gostau ynni uchel, sy'n fwy hanfodol nag erioed i sicrhau bod ein diwydiannau yn gystadleuol, yn ogystal â'r angen am ddatrysiad ar bensiynau.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb yna ac am ei sicrwydd bod Llywodraeth Cymru wir yn parhau i ddilyn y gwahanol agweddau? Fodd bynnag, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae’r diwydiant dur wedi bod mewn sefyllfa anodd ers nifer o flynyddoedd. Yn wir, eleni, ym mis Ionawr, cyhoeddodd Tata Steel y byddai 1,000 o swyddi yn cael eu colli; ym mis Mawrth, cyhoeddodd werthiant posibl ei weithrediadau yn y DU. Mae fy etholwyr i—fy ngweithwyr dur i, eu teuluoedd—i gyd wedi gorfod dioddef cyfnod uffernol o amser, tra ein bod ni’n dal i aros am rywfaint o sicrwydd gan Tata Steel. Taflwyd y sicrwydd hwnnw i ffwrdd ddydd Gwener diwethaf, oherwydd y cyhoeddiad hwnnw ddydd Gwener diwethaf y byddant yn gohirio’r broses o werthu ac yn mynd i fenter ar y cyd bellach gyda chwmni y maen nhw, mae'n debyg, yn ôl dadansoddwyr, wedi bod yn cynnal trafodaethau ag ef ers dros flwyddyn ar ei weithrediadau yn yr Iseldiroedd, ac maen nhw'n dweud, eu hunain—mae Thyssenkrupp mewn gwirionedd yn dweud—bod angen i ni atgyfnerthu cynhyrchiant dur yn Ewrop, rhoi ofn—esgusodwch y term—Duw ym mywydau pobl ac maen nhw’n poeni am eu dyfodol; maen nhw’n poeni am ddyfodol y dref. Rydym ni wedi cael ansicrwydd yn hongian dros ein pennau; rydym ni eisiau sicrwydd—nid yw gennym ni.

A wnaiff Llywodraeth Cymru ymgysylltu’n eglur ar unwaith nawr gyda Phrif Weinidog newydd y DU i gael y Prif Weinidog honno i gytuno (a) bod yn rhaid ailgyflwyno’r cynllun pensiwn oherwydd mae’n ymddangos iddo gael ei ohirio ar ôl Brexit—mae wedi diflannu; mae angen y prisiau ynni arnom, fel y nodwyd gennych eisoes; mae angen i ni ddechrau ystyried, efallai, ffyrdd arloesol—gwn fod y blaid gyferbyn wedi sôn y gallem ni gael mentrau ar y cyd â Llywodraeth y DU a phartneriaid preifat o bosibl, oherwydd os nad yw Tata yn mynd i wneud rhywbeth, mae angen i ni ei wneud. Rwy'n pryderu gan fod Koushik Chatterjee, sef cyfarwyddwr gweithredol y grŵp a chyfarwyddwr rhanbarthol Tata Steel ar gyfer Ewrop, wedi dweud bod y diwydiant dur byd-eang dan fygythiad ac na all warantu sicrwydd swyddi ym Mhort Talbot. Ni all hyd yn oed sicrhau y bydd swyddi ym Mhort Talbot yn parhau yno o gwbl. Mae hynny, unwaith eto, yn fy marn i, yn creu sefyllfa lle efallai y mae Tata yn chwilio am ffordd i adael. Rydym eisiau gwybod eu rhwymedigaethau amgylcheddol gwirioneddol a'u cyfrifoldebau yn unol â’r rheini. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn y cynllun amgylchedd a diogelu. Beth yw goblygiadau Brexit ar hynny? Mae angen eglurhad.

Y ffwrneisi chwyth. Mae’r cwbl yn ymwneud â’r ffwrneisi chwyth. Rydym ni angen y ffwrneisi chwyth hynny. Un peth yr wyf i eisiau i Lywodraeth Cymru ei wneud yw ystyried pob dewis posibl i gadw’r ffwrneisi chwyth hynny wedi'u cynnau ac yn weithredol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i wneud dur yng Nghymru ac nid dim ond ailgylchu dur drwy ein ffwrneisi.

Efallai yr hoffech chi ystyried arloesedd hefyd, gan annog busnesau sy'n dod i mewn drwy arloesi. Fe’i crybwyllwyd sawl gwaith, y ganolfan arloesedd yn Abertawe. Gadewch i ni fwrw ymlaen â hi, a gadewch i ni, efallai, roi hynny ar y bwrdd.

Oes, rwy’n gwybod. Rydych chi wedi gofyn sawl un yn barod. Os gallwch chi ddod at eich un olaf.

Rwy’n sylweddoli hynny, Lywydd, ond rwy'n siŵr y byddwch chi’n gwerthfawrogi bod yr etholaeth yn llawn—

Mi gymeraf eich cwestiwn olaf. Ac rwy’n deall pwysigrwydd y cwestiwn.

Y cwestiwn olaf, felly. Mae'r undebau llafur wedi mynegi eu barn i mi. Fe wnaethant fy ffonio i heddiw. Nid ydyn nhw eisiau i’r broses werthu gael ei hatal. A wnewch chi drafod â Tata a Llywodraeth y DU i gael y broses werthu yn ôl ar y trywydd cywir, os dim byd arall, ochr yn ochr â'r ystyriaethau eraill sydd ganddyn nhw?

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei amddiffyniad angerddol parhaus o’r diwydiant dur yng Nghymru? Rwy’n llwyr gydnabod y pryder a’r ansicrwydd y mae llawer iawn o deuluoedd yn eu dioddef. Cefais i, fy hun, fy magu mewn teulu a oedd yn dibynnu ar ddur am gyflogaeth yn ôl yn y 1980au. Rwy’n gwybod yn iawn faint o bryder ac ansicrwydd a gofid y gellir eu hachosi pan nad ydych chi’n gwybod a fydd gennych chi swydd yr wythnos nesaf, y mis nesaf neu'r flwyddyn nesaf.

Yn gyntaf oll, rydym ni’n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod dyfodol cynaliadwy i ddur yng Nghymru, ond gallaf gynnig y sicrwydd hwn: ni chafwyd unrhyw gyhoeddiad gan Tata ar ohirio’r broses gwerthu dur. Mae hynny’n parhau ochr yn ochr eisoes â'r ystyriaethau menter ar y cyd. Dyna un o'r rhesymau pam (a) y byddaf yn cwrdd ag un o'r partïon y prynhawn yma a (b) pam mae angen i ni sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi gwerthiant posibl gan barti arall.

Nawr, rwy’n credu’n bendant, yfory, y bydd gennym ni Brif Weinidog newydd ym Mhrydain. Yn syml, fy neges i, neu neges ein Llywodraeth, i Theresa May fyddai yn syml: dangoswch eich cryfder ddydd Sadwrn mewn ffordd na wnaeth Margaret Thatcher erioed trwy gefnogi dur Prydain. Gallwch wneud hynny ar unwaith, Brif Weinidog y DU. Gallwch wneud hynny ar unwaith trwy ddatrys yr argyfwng yn ymwneud â chostau ynni sy'n effeithio ar y diwydiant dur yn ogystal â llawer o sectorau gweithgynhyrchu eraill hefyd.

Nid wyf yn amau didwylledd Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae gen i ofn na wnaeth yr ateb yna roi’r eglurder yr oedd yr Aelod dros Aberafan yn chwilio amdano ac, yn bwysicach fyth, fel y byddai hefyd yn cytuno, yr eglurder y mae’r gweithwyr dur a’u teuluoedd yn chwilio amdano. Rydym ni wedi cael sefyllfa nawr lle gwrthododd prif swyddog ariannol Tata Steel neithiwr roi sicrwydd ynghylch dyfodol Port Talbot. Dywedwyd bod prif swyddog gweithredol eu darpar bartner, Thyssenkrupp, wedi dweud bod hwn yn gyfle gwych i gymryd capasiti allan o'r diwydiant dur. Beth sy'n sbarduno hyn? Beth yw'r cymhelliad yma? Cymryd capasiti allan: mae hynny’n golygu colli swyddi. Ble mae’r fwyell yn mynd i ddisgyn? Nid yw’n mynd i ddisgyn yn Duisburg yn yr Almaen. Nid yw’n mynd i ddisgyn yn IJmuiden yn yr Iseldiroedd. Mae'n mynd i ddisgyn ym Mhort Talbot ac ar draws y safleoedd eraill yng Nghymru a Phrydain.

Felly, rwyf eisiau datganiad diamwys gan y Gweinidog y gallai’r uno hwn, ymhell o fod yn achubiaeth i ddiwydiant dur Cymru, arwain at ei ddirywiad. Fel y mae hi ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni wrthwynebu’r uno hwn. Siaradodd y Prif Weinidog am amodau yn gynharach. Yr unig sicrwydd sydd werth unrhyw beth yw os oes rhaid i’r gyfran ecwiti y mae Llywodraethu y DU a Chymru wedi sôn am ei chymryd ym Mhort Talbot fod yn gyfran euraid, lle ceir feto ar unrhyw benderfyniad yn y dyfodol am golli swyddi yn niwydiannau dur Cymru a’r DU. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno?

Yn olaf, mae newydd gyhoeddi i ni, mewn gwirionedd—mae hyn yn sicr yn newyddion newydd—nad yw’r broses werthu wedi ei gohirio. Wel, os yw hynny'n wir, a yw'r gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru—ac a gefnogwyd gennym ni ar y meinciau hyn—wedi ei rhoi i'r pryniant gan y gweithwyr a’r rheolwyr, sydd, rwy’n credu, yn gais cryf a chredadwy iawn, ac efallai mai dyma’r gwir reswm pam mae Tata yn cerdded oddi wrth y broses werthu, gan nad ydyn nhw eisiau cystadleuaeth—? Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth ariannol i'r tîm hwnnw hyd yn hyn. A fydd y cymorth hwnnw’n parhau nawr ynghyd â'r broses werthu?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy’n derbyn llawer o'r hyn a ddywed, ond rwy'n synnu nad yw wedi gweld o ddatganiad newyddion Tata Steel o’r wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, eu bod yn datgan yno, yn bendant, eu bod hwythau’n ystyried menter ar y cyd hefyd, nid eu bod yn ei ystyried yn hytrach na gwerthiant posibl. Nawr, rydym ni wedi dweud y byddwn ni’n gweithio gydag unrhyw un sy'n cynnig dyfodol cynaliadwy i ddur yng Nghymru. Felly, byddai'n esgeulus i ni wneud fel y mae’r Aelod yn dymuno, sef dweud, 'Peidiwch â chael trafodaethau â Tata a TK ar fenter ar y cyd; gwrthwynebwch hynny a siaradwch ag un neu ddau o'r prynwyr posibl yn unig.' Byddai hynny'n esgeulus. Mae angen i ni siarad, o'r cychwyn cyntaf, gydag unrhyw un sydd â diddordeb ac yn fodlon rhoi dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yng Nghymru. Byddai gwneud fel arall yn esgeulus.

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd y pecyn cymorth yr oedd y Llywodraeth Cymru wedi ei gynnig, gan gynnwys caffael cyfranddaliad o bosibl—lluniwyd y pecyn hwnnw, wrth gwrs, i annog prynwyr credadwy ar gyfer gwaith Port Talbot—yn dal i fod ar gael i Tata pe na byddai’n gwerthu. Felly, hoffwn i chi roi ymrwymiad eglur heddiw o ran beth yw eich safbwynt ar hynny nawr.

A yw Tata wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am unrhyw beth newydd o ran cymorth ers neu'n union cyn yr awgrym y gallai newid ei feddwl am werthiant yn y dyfodol agos? Yn benodol, a ofynnwyd am unrhyw beth i chi neu a gawsoch eich annog i gynnig cymorth pe byddai dyfodol Tata yn dibynnu ar ryw fath o fenter ar y cyd gyda Thyssenkrupp? Pa ymrwymiad ydych chi wedi ei gael gan Tata ynghylch pa mor hir y gallai’r newid meddwl hwn bara? Ai dim ond tipyn o amser i Tata gael cyfle i wella ei waelodlin gyda golwg ar wella ei siawns o fenter ar y cyd yw hyn, neu a yw'n rhywbeth mwy sefydlog ac, o leiaf, ar gyfer y tymor canolig? Oherwydd byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, bod, gadewch i ni ddweud, bryder difrifol ynghylch annidwylledd Tata a'i ymddygiad yn ystod y misoedd diwethaf, a phryder dyfnach fyth am swyddogaeth Thyssenkrupp, o bosibl yn hyn, o gofio eu datganiad o fewn y chwe mis diwethaf y byddent yn ceisio cau yn sicr pen Port Talbot o unrhyw weithrediadau y byddent yn ymwneud â nhw pe byddent yn cymryd cyfrifoldeb am fuddiannau Tata.

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud ein bod wedi bod yn eglur o’r cychwyn gyda Tata y byddai unrhyw gymorth a gynigir yn amodol ar ddiogelu swyddi a chynhyrchu dur cynaliadwy yma yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer y byrdymor, ond ar gyfer y tymor hwy hefyd? Mae’r cymorth hwnnw ar y bwrdd, fel yr wyf eisoes wedi'i ddweud. Rydym ni’n barod i weithio gydag unrhyw un sy'n fodlon ac yn benderfynol i sicrhau bod dyfodol hirdymor, cynaliadwy i ddur yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Tata ac mae hynny wedi ei dderbyn. Rwy’n disgwyl cael cyfarfod â nhw yn fuan iawn. Cyn belled ag y mae unrhyw bryniant arall posibl yn y cwestiwn, byddem, unwaith eto, yn gweithio gydag unrhyw un a all sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant dur Cymru.

Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch yr Aelod dros Aberafan ar ei amddiffyniad huawdl, angerddol ac, yn wir, emosiynol o fuddiannau ei etholwyr heddiw. Cefais i yn sicr fy effeithio gan yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud, ond rwy'n ofni nad yw’r sicrwydd y mae ei eisiau ar gael. Mae Mr Chatterjee, sef cyfarwyddwr gweithredol Tata Steel ar gyfer Ewrop, wedi ei gwneud yn gwbl eglur mai'r broblem sylfaenol yma yw anwadalrwydd yn y farchnad, a achoswyd yn bennaf o ganlyniad i or-gapasiti yn Tsieina. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi ei pharlysu gan ddiffyg ewyllys gwleidyddol ar y naill law, a chyfyngiadau cyfreithiol, tra ein bod yn parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, rhag gwneud unrhyw beth ymarferol i ddatrys yr ansicrwydd sy'n bodoli. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud—rwy’n gobeithio y bydd yn cytuno â mi yn hyn o beth—yw adennill ein gallu i negodi cytundebau masnach ar ran y wlad hon ei hun a hefyd i ddefnyddio'r pwerau y mae Sefydliad Masnach y Byd yn eu rhoi i’w haelodau i orfodi dyletswyddau gwrth-ddympio digon llym i atal codi prisiau is am ddur sy'n cael ei wneud ym Mhrydain. Mae gennym ni rywfaint o hyblygrwydd o ran prisiau ynni, ond, wrth gwrs, mae’r drefn prisiau ynni gwallgof a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, yn ei gwneud yn anodd iawn i ni i wneud hynny. Felly, pam na wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet fod yn onest yn y fan yma a dweud wrthym nad oes unrhyw beth y mae’n barod i’w wneud sydd o unrhyw ddefnydd ymarferol i etholwyr Mr Rees yn Aberafan?

Rwy’n credu bod cyfraniad yr Aelod yn eithaf echrydus. Ar adeg pryd y dylem ni fod yn rhoi’r oportiwnistiaeth wleidyddol o’r neilltu, a sicrhau bod ateb hirdymor i ddur Cymru, mae’r Aelod bob amser yn mynd yn ôl at y sefyllfa ddiofyn o naill ai beio popeth ar Ewrop neu groesawu’r syniad y gall y farchnad rydd ddatrys pryderon pawb. Y ffaith amdani yw, o ran dyletswyddau, yn 2016, y gorfodwyd dyletswyddau dympio dros dro ar fewnforion i'r UE—mae hyn cyn y bleidlais—o ddur dalen a choil wedi’i rolio’n oer o Tsieina a Rwsia a bariau atgyfnerthu o Tsieina, ac mae’r ymchwiliadau hyn yn parhau. Byddwn y tu allan i Ewrop cyn bo hir ac mae hynny'n mynd i'w gwneud yn anoddach i osod tariffau o'r math yr ydym ni’n dymuno eu gosod, gan Ewrop gyfan, ar Tsieina.

A chyn belled ag y mae cynnig y sicrwydd a’r gobaith hwnnw i etholwyr David Rees yn y cwestiwn, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud popeth yn ei gallu, a bydd yn parhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod dyfodol diogel, cynaliadwy i’w etholwyr, ac i’r diwydiant dur ar draws y wlad hon—yn y gogledd, y de a ledled Cymru. Mae'n gwbl annerbyniol i'r Aelod ddiystyru rhagolygon y diwydiant dur yn y ffordd y mae'n ei wneud, er y gall y broblem gyda phrisiau ynni gael ei datrys gan Lywodraeth y DU.

Weinidog, rwy’n rhannu'r amheuon ynghylch buddiannau tymor canolig Tata. Maen nhw wedi bod yn chwarae gêm o hoci coci â ni. Maen nhw wedi bod i mewn ac maen nhw allan, ac maen nhw i mewn eto. O gofio bod Gerry Holtham wedi amcangyfrif bod cyfraniad Port Talbot i economi Cymru yn gyfwerth â 6 y cant o werth ychwanegol crynswth, mae'n bwysig bod Tata yn deall nad yw hwn yn ddewis rhydd o gostau i economi Cymru nac iddynt hwythau. Ac a wnaiff ef roi sicrwydd i ni y bydd unrhyw becynnau ariannol y byddant yn ceisio eu sicrhau yn y dyfodol ynghlwm â sicrwydd o fuddsoddiad yn y dyfodol, ac y sicrhawyd eu bod yn gwbl ymwybodol o'r costau amgylcheddol a chymdeithasol y bydd yn rhaid iddynt eu derbyn os bydd mwy o chwarae gemau? Rwy'n credu ei bod yn bryd i ninnau fod mor galed â dur.

Ie, byddwn yn cytuno â'r Aelod. Mae'r cymorth sydd ar y bwrdd yn amodol ar nifer o ffactorau. Mae'r cymorth yn cynnwys rhaglenni gwella amgylcheddol, ac rydym ni’n gwbl, gwbl ymroddedig i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei wella. O ran y cymorth yr ydym ni’n ei gynnig, byddem yn disgwyl i hynny ddigwydd, a bydd hynny’n wir yn y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais yr hyn a ddywedasoch wrth ymateb i Adam Price am y sefyllfa lle mae’r cwmnïau yn dal i fod yn agored i drafod â Tata ar hyn o bryd o ran prynu'r cwmni. Mewn erthygl arall ar-lein, mae'n dweud bod Tata yn chwilio am atebion gwahanol a mwy cynaliadwy. Onid yw hyn yn golygu felly eu bod wedi penderfynu nad ydynt wedi eu perswadio gan y dadleuon sy'n cael eu cynnig gan y cwmnïau hyn eu bod yn gallu symud gwaith Port Talbot, a gweithfeydd eraill yng Nghymru, yn eu blaenau? Mae angen i ni ddeall, os ydyn nhw’n mynd i fynd yn ôl at y bwrdd at y dewisiadau amgen hyn, os na chânt lwyddiant gyda Thyssenkrupp ar lefel yr Almaen. Os nad ydym yn cael y sicrwydd hwnnw, yna mae angen i ni gael dealltwriaeth ynghylch ble mae Tata yn mynd yn y dyfodol. Maen nhw wedi dweud wrthyf i bod bwriad i wneud yn siŵr bod swyddi Port Talbot yn cael eu cadw, ond nid yw hynny'n rhoi digon o sicrwydd i mi mai dyna eu bwriad terfynol. Felly, hoffwn ymuno â’r Aelodau i wneud yn siŵr bod cytundeb ffurfiol ar waith i sicrhau bod y gweithfeydd hynny yng Nghymru yn cael eu cadw a'u cynnal ar gyfer y dyfodol cyn i unrhyw gymorth ariannol gael ei roi i Tata gan eich Llywodraeth yn y dyfodol.

A 'm cwestiwn arall oedd: yn yr hinsawdd hon lle mae sgyrsiau yn parhau mewn ffordd wahanol, sut gallwch chi ein sicrhau nad yw cwmnïau lleol sy'n ymwneud â Tata Steel yn mynd i ddioddef yn yr amgylchedd cymhleth hwn? Rwyf i wedi clywed, dim ond yn yr wythnos ddiwethaf, bod dau gwmni wedi sy'n gweithio gyda Tata Steel wedi eu diddymu. Rwyf wedi gofyn i Tata am fwy o wybodaeth am hyn, gan nad wyf yn gallu cael gafael ar y cwmnïau dan sylw ar hyn o bryd, yn ôl pob tebyg oherwydd y ffaith eu bod wedi eu diddymu. Ond, ni allwn golli mwy o swyddi yn yr ardal ar hyn o bryd, pan fo swyddi o gwmpas Tata mor werthfawr i bobl leol. Felly, hoffwn glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud am hynny, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod unrhyw drafodaethau gyda'r fenter ar y cyd newydd hon wedi ffurfioli cytundeb oddi wrthych chi a Llywodraeth y DU.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dweud, gyda'r dewis arall yn dal ar y bwrdd ac yn cael ei ystyried, fy mod i’n dymuno parhau i siarad gyda rhai o'r darpar brynwyr hynny? A dyna pam y byddaf yn siarad ag un heddiw, a pham yr wyf yn dymuno siarad ar frys gyda Tata Steel eu hunain hefyd.

Bydd cymorth, unrhyw gymorth, yn amodol ar sicrhau swyddi yn yr hirdymor, a, chyn belled ag y mae’r gadwyn gyflenwi yn y cwestiwn, mae’r Aelod yn iawn i nodi anesmwythyd ac ansicrwydd yn y gadwyn gyflenwi, a dyna pam mae’r gadwyn busnes a chyflenwi wedi sefydlu tîm gweithredol busnes a chyflenwi, yn cynnwys Diwydiant Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, sydd i gyd yn cysylltu a, phan fo'n briodol, yn edrych ar ddarparu cymorth i gwmnïau'r gadwyn gyflenwi. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi. Mae'r tîm yn parhau i gysylltu â chwmnïau a chynnig cymorth, ac mae'r tîm yn canolbwyntio ar y cwmnïau hynny â'r archebion gwerth uchaf â Tata, gan gynnwys hefyd gwaith tasglu Tata Steel, sydd wedi bod yn trafod effaith gynyddol y sefyllfa ar y gadwyn gyflenwi yn gyffredinol.

Ysgrifennydd, yn ogystal â Phort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru, mae gweithwyr yng ngweithfeydd Llanwern ac Orb yn bryderus iawn ynghylch eu bywoliaeth yn y dyfodol, a dyfodol eu teuluoedd, o ystyried y pryder a’r bygythiad parhaus. Byddwch yn ymwybodol bod cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynhyrchu yng Nghasnewydd, fel y dur ar gyfer y diwydiant ceir yng ngwaith Zodiac yn Llanwern, a'r dur trydanol yng ngwaith yr Orb. A wnewch chi gytuno â mi, wrth ystyried dyfodol gweithrediadau Tata yng Nghymru, bod angen i’r gweithrediadau hynny gael eu lle priodol yn y trafodaethau, ac y byddwch yn ystyried holl safleoedd Tata Steel yng Nghymru yn rhan o ddull integredig, wrth gymryd rhan mewn trafodaethau, ac, yn wir, wrth gymryd camau gweithredu?

Gwnaf. Ac a gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau? Mae tynged unrhyw un gwaith yng Nghymru yn amodol, os mynnwch chi, ar dynged teulu dur cyfan Cymru. Ac rwy'n credu bod dur Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd; mae ganddo ddyfodol disglair, cyn belled â’i fod yn parhau i gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'r buddsoddiad y mae’r Aelod yn sôn amdano, rwy’n credu, yn berthnasol nid yn unig i un safle, ond i lawer o safleoedd, a phob un ohonynt yn cyflogi gweithlu hynod fedrus a phobl sy'n hynod ffyddlon i Tata, ac, yn gyfnewid, dylai Tata fod yn ffyddlon iddynt hwythau.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi a chynorthwyo’r cwmni, wrth iddo gymryd saib i ystyried gwerthu’r busnes, yw trwy ryddhad ardrethi busnes. Ym mis Ebrill, rwy’n credu y dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny na allai wneud cais am ryddhad ardrethi dros dro gan ei bod, i bob pwrpas, wedi ei llyffetheirio gan reolau'r Undeb Ewropeaidd ar y pryd. Nawr, yn dilyn Brexit, rydym ni’n amlwg mewn gwahanol sefyllfa. A gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael—neu mae eich swyddogion wedi eu cael—gyda Llywodraeth y DU, cyrff perthnasol ar lefel yr UE, a chyda Tata, i ailystyried y potensial ar gyfer rhyddhad ardrethi?

Mae’r Aelod, Russell George, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, a gallaf ddweud ein bod yn mynd ati i werthuso nifer o fesurau i gynorthwyo’r sector dur gydag ardrethi busnes, ac rydym ni’n profi’r rhain yn erbyn cyfraith cymorth gwladwriaethol bresennol. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n cymryd sylw o'r hyn a ddigwyddodd yn refferendwm yr UE ac rydym ni hefyd yn trafod, gyda Llywodraeth y DU yn arbennig, sut y gellir defnyddio ardrethi busnes i sicrhau bod dyfodol i ddur.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

A’r eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Diolch yn fawr. Rwyf wedi gwneud sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad, cyn hir, ar ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Yna ceir datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedyn yn gwneud datganiad am y gronfa triniaethau newydd. Ac, er mwyn caniatáu amser i wneud y datganiadau hyn, bydd y datganiad ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

Yfory, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad ar Gylchffordd Cymru, yn syth ar ôl cwestiynau llafar y Cynulliad. Mae'r busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref fel y’i dangosir yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Diolch i'r rheolwr busnes am ei datganiad busnes. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar am y newidiadau i fusnes heddiw er mwyn caniatáu datganiad llafar ar farwolaeth Dylan Seabridge, un o fy etholaeth, a mater y codais gwestiwn brys yn ei gylch beth amser yn ôl, yn gofyn am ddatganiad o'r fath. Rwyf yn falch fod gennym yr adolygiad a’n bod yn gallu edrych ar hyn yn nes ymlaen.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog edrych ar ddau ddigwyddiad diweddar yr wyf yn credu eu bod yn haeddu ymateb gan Lywodraeth Cymru? Y cyntaf yw’r cyhoeddiad heddiw gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd—adroddiad tystiolaeth asesu risg ar ymaddasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Mae'n dangos yn glir iawn fod perygl i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ond i Gymru yn benodol, wynebu niwed economaidd sylweddol oherwydd ansawdd gwael ein seilwaith. Mae’r Athro Krebs, sef cadeirydd yr Is-bwyllgor Ymaddasu, sy’n adnabyddus, wrth gwrs, i ni yng Nghymru, yn datgan bod Cymru yn un rhan o'r wlad sydd â llawer o stoc tai gwael, ac mae angen inni edrych ar sut mae gwneud y cartrefi hynny'n fwy cydnerth. Ar y llaw arall, mae hefyd yn dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi fframwaith da inni allu gweithio ar hyn. Ond, ac ystyried popeth, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd gan fod Llywodraeth San Steffan yn gorfod ymateb yn ffurfiol a’i ystyried? Credaf y byddai'n briodol pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb mewn modd cyffelyb ac yn ei ystyried, os mynnwch, yn adroddiad statudol ac yn ymateb yn y ffyrdd hynny, ac i hynny fod, efallai, yn rhan o’r gwaith a wneir gan y Llywodraeth drwy gyfrwng datganiad, ond wedyn trwy waith pwyllgor, wrth i bwyllgorau ddatblygu eu gwaith a'u hymateb yn y Cynulliad hwn.

Yr ail fater yr hoffwn ddatganiad pellach gan y Llywodraeth arno yw mater gorwariant gan ddau o'n byrddau iechyd—Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr: tua £50 miliwn bellach yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym wedi cael datganiad o ffaith gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae hynny'n ddigon teg, ond hoffwn ddatganiad ynglŷn â’r hyn a fydd yn cael ei wneud. Os caf i atgoffa'r Llywodraeth am yr hyn a ddywedwyd yn y Pwyllgor Cyllid adeg adolygu Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, y cofiaf iddo ddod drwy’r Cynulliad hwn, pan ddywedodd y Gweinidog ar y pryd, Mark Drakeford, mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor Cyllid:

'Rwyf yn gyndyn o agor y blwch Pandora o wargedion a diffygion heb eu cynllunio. Mae’r drefn hon yn ymwneud â gwargedion a diffygion sydd wedi’u cynllunio. Mae'n ymwneud â chytuno â’r byrddau iechyd pan fydd angen iddynt orwario ym mlwyddyn 1 er mwyn gwneud penderfyniadau buddsoddi synhwyrol sydd wedyn yn rhyddhau refeniw ym mlynyddoedd 2 a 3 neu, weithiau, danwario ym mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiect mawr y maent am fwrw ymlaen ag ef ym mlwyddyn 2. Mae diffygion wedi’u cynllunio, yn fy marn i, yn rhan gadarn o gynlluniau tair blynedd. Ni hoffwn i’r syniad ledaenu drwy’r gwasanaeth iechyd eich bod yn gallu cronni gwargedion a diffygion heb eu cynllunio—'.

Wel, mae’r syniad hwnnw yn sicr yn gyfredol o amgylch y gwasanaeth iechyd, yn enwedig mewn dau o'r byrddau iechyd, nad ydynt yn dal, fel yr wyf yn deall, yn ddigon cymwys i gael eu hystyried ar gyfer y fframwaith cyllid tair blynedd, a ragwelwyd yn Neddf Cyllid y GIG. Yn awr, ac ystyried bod y Ddeddf honno wedi mynd ar drywydd cyflym drwy’r Cynulliad, heb graffu Cyfnod 1, mae'n esgeulus iawn ar ran y Llywodraeth os nad yw wedi gallu cyflawni uchelgeisiau'r Ddeddf honno i sicrhau bod ein holl fyrddau iechyd yn awr yn dilyn cynllun tair blynedd, ac yn cyflawni’r cynllunio tair blynedd hwnnw, ac nad ydynt yn gorwario yn y ffordd y maent yn ei wneud.

Felly, yn ogystal â’r datganiad o ffaith hwnnw a gawsom eisoes, a gawn ni ddatganiad mwy trylwyr ac efallai ddadl gan y Llywodraeth ar faterion y ddau fwrdd iechyd hyn, a pham nad yw Deddf Cyllid y GIG yn gweithio i roi sylfaen fwy cynaliadwy i gyllid y GIG yng Nghymru?

Wel, diolch i Simon Thomas am ei ddau gwestiwn am y datganiad busnes. Rwyf yn edrych ar y cwestiwn cyntaf. Bydd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn awyddus iawn i ymateb i'r adroddiad hollbwysig hwn a gyhoeddwyd heddiw ynglŷn â newid hinsawdd. Croesewir y ffaith eu bod yn cydnabod safle Cymru yn yr adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, bydd hi’n ymateb i hynny. Wrth gwrs, o ran yr ymaddasu a’r ffordd yr ydym wedi ymateb, er enghraifft, i lifogydd, a oedd yn neges allweddol yn yr adroddiad hwnnw, bydd hi’n gallu rhoi ymateb llawn ynghylch y ffyrdd yr ydym eisoes yn cyflawni rhai o'r argymhellion hynny. Croesewir y ffaith fod deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cael ei chydnabod yn yr adroddiad hwnnw. Felly, bydd hi’n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn awr, wrth inni agosáu at y toriad, ac rwyf yn siŵr y bydd yn fater i'w ystyried ymhellach yn y pwyllgor ac, yn y dyfodol, yn y Cynulliad yn nhymor yr hydref.

Ynglŷn â’ch pwynt am y ddau fwrdd iechyd y cyfeiriasoch atynt o ran eu sefyllfa ariannol, unwaith eto, a wnaf i ymhelaethu ar y pwyntiau ffeithiol a wnaed gan y Gweinidog dros iechyd, llesiant a chwaraeon—. Ond, unwaith eto, er mwyn egluro: darparwyd cymorth ariannol o £23.9 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2015-16 er mwyn iddo allu bodloni ymrwymiadau arian parod parhaus megis y gyflogres a thaliadau i Gyllid a Thollau EM. Nid yw'n gyllid ychwanegol. Bydd yn ad-daladwy yn y dyfodol. Ni ddarparwyd cymorth ariannol ychwanegol i Betsi Cadwaladr yn 2015-16. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod y rheolwyd y gorwariant yn y ddau fwrdd iechyd drwy ddal yn ôl ar wariant canolog gan Lywodraeth Cymru fel bod cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gallu cael ei fantoli yn 2015-16.

Arweinydd y tŷ, roeddwn am ofyn ichi a fyddai modd cael diweddariad ar safonau’r Gymraeg, ond gwelaf fod y Gweinidog perthnasol wedi datblygu gallu telepathig ac wedi achub y blaen arnaf. Fodd bynnag, rwyf wedi darllen ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd amser cinio heddiw, ac nid yw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Credaf fod angen i ni, yr Aelodau, gael rhybudd teg ynglŷn â hyn. Rwyf yn siŵr fod Llywodraeth Cymru’n sylweddoli bod angen amser arnom i graffu ar y rheoliadau hanfodol hyn er mwyn osgoi'r sefyllfa yr oeddem ynddi, rwyf yn credu, ychydig cyn toriad y Pasg yn ystod y Cynulliad diwethaf. Nodaf, yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog, ei fod yn gobeithio dod â’r rheoliadau penodol hynny yn ôl i'r Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn hon. A dweud y gwir, credaf ein bod yn eu disgwyl cyn diwedd y tymor hwn. Felly, pe byddai’n bosibl cael datganiad diwygiedig, byddai hynny’n dda o beth. A phe gwneid datganiad diwygiedig o'r fath, efallai y gallai gynnwys eglurhad ynglŷn â pham nad oedd y rheoliadau hynny ger ein bron cyn y toriad.

Wel, wrth gwrs, cewch gyfle y prynhawn yma, Suzy Davies, i holi Alun Davies am ei ddatganiad ar flaenoriaethau polisi’r Gymraeg.

Rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch yr Athro Maria Hinfelaar ar gael ei phenodi’n is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ddydd Iau diwethaf, a’r ffaith fod nifer y myfyrwyr gradd gyntaf llawn amser yno a lwyddodd i gael gwaith ar lefel graddedigion ar ôl gadael yn uwch na chyfartaledd y DU. Galwaf am ddau ddatganiad—y cyntaf ynglŷn â darpariaeth addysgol ar gyfer oedolion ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig ac anawsterau dysgu. Dysgais dros y penwythnos fod colegau sy’n darparu ar gyfer llwybrau galwedigaethol mewn addysg i’r myfyrwyr ifanc hyn wedi cael llythyr gan Lywodraeth Cymru yn datgan y bydd cyllid ar gyfer cyrsiau yn cael ei leihau o dair blynedd i ddwy flynedd, yn wahanol i'r atgyfeiriadau a gânt o Loegr, sy'n dal i fod yn dair blynedd, ac er gwaethaf pryder ymysg colegau y bydd hyn yn effeithio’n ddifrifol ar ddeilliannau’r myfyrwyr dan sylw.

Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ynglŷn ag epilepsi. Yn ystod amser cinio, cynhaliais ddigwyddiad Ymwybodol o Epilepsi, yn dathlu'r ffaith fod yr elusen wedi bod yn darparu gwasanaethau i deuluoedd a gofalwyr am 30 o flynyddoedd. Ond clywsom, er y gellid o bosibl reoli trawiadau 70 y cant o bobl ag epilepsi â thriniaeth, cyngor a chefnogaeth dda iawn, dim ond 52 y cant ar hyn o bryd sydd â rheolaeth o'r fath, gyda chostau mawr, yn rhai dynol ac ariannol; y gellid osgoi dros 40 y cant o farwolaethau a 59 y cant o farwolaethau plant gyda rheolaeth well; bod cyfleoedd anghyfartal mewn iechyd, addysg, hamdden a chyflogaeth; bod anghydraddoldeb o ran y ddarpariaeth ledled Cymru; a bod angen ymgyrch gyhoeddus yn egluro beth i'w wneud os bydd rhywun yn cael trawiad epileptig, ac addysgu pobl ynglŷn â sut y gall camau syml arbed bywydau. Gwn fod—neu y bu mewn Cynulliadau blaenorol—strategaeth epilepsi gan Lywodraeth Cymru. Ond mae’r problemau hyn wedi eu hamlygu yn 2016, ac mae’r gymuned hon, yn fy marn i, yn haeddu datganiad gan Lywodraeth Cymru, yn unol â hynny.

Wel, Mark Isherwood, rydych yn codi dau bwynt pwysig. Bydd y pwynt cyntaf, wrth gwrs, yn—. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol ac, wrth gwrs, mae wedi ymgorffori hefyd sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn ac yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â mater hollbwysig addysg ac oedolion ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a hefyd yn arbennig ynglŷn ag awtistiaeth.

Yn awr, ynglŷn â’ch ail bwynt, ynghylch epilepsi, wrth gwrs, mae'n bwysig, pan fo gennym ddigwyddiadau y mae aelodau yn bresennol ynddynt, ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y materion, ond mae gennym strategaeth epilepsi gadarn, sy’n cael ei monitro'n dda, y bydd y Gweinidog dros iechyd, llesiant a chwaraeon wrth gwrs yn ei diweddaru.

Weinidog Busnes, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermwyr o dan gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir. Yn awr, dros y mis diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am nifer fawr o fusnesau sydd wedi cael llythyrau gan Lywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn ad-dalu miloedd o bunnoedd yn seiliedig ar gyhuddiadau nad ydynt wedi cyflawni gwaith yn rhan o delerau eu contractau Glastir. Yn awr, byddwn i’n dweud na all hyd yn oed y busnesau hynny sy'n cael eu rhedeg orau—a dylwn ddweud fy mod o’r farn fod ffermwyr yn bobl fusnes ardderchog—weithredu i’w llawn botensial pan ymddengys fod adran y Llywodraeth sy'n gyfrifol am y maes am ymosod ar fusnesau, eu gwawdio a rhoi dirwyon iddynt am y swm uchaf posibl o arian ar bob cyfle posibl am wneud mân gamgymeriadau ar ffurflenni cymhleth iawn. Mae camgymeriadau’n cael eu gwneud wrth ymdrin â ffurflenni cymhleth, fel y dangoswyd yn berffaith gan Lywodraeth Cymru eleni. Mae bron i 90 y cant o apeliadau yn erbyn camgymeriadau mapio Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus neu'n rhannol lwyddiannus. Felly, mewn geiriau eraill, yn yr achosion hyn, roedd cyfradd camgymeriadau Llywodraeth Cymru yn 90 y cant. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad ynglŷn â chynllun Glastir cyn gynted â phosibl. Gwn fod Sioe Frenhinol Cymru gennym yr wythnos nesaf, felly byddai hynny’n gyfle i ddarparu’r datganiad hwnnw, a fydd yn ymrwymo i gefnogi busnesau fferm yng Nghymru trwy fabwysiadu dull cymesur sy’n dangos trugaredd pan wneir mân gamgymeriadau, yn anghywir.

Rwyf yn siŵr y bydd Russell George yn cytuno bod angen monitro’n drylwyr yr holl gynlluniau sy’n cael arian cyhoeddus, fel Glastir, cyn y gellir gwneud taliadau.

4. 3. Datganiad: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth

Rŷm ni nawr yn symud at yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd. Roeddwn i wedi gobeithio bod yma heddiw â chopi ffres o'r rhaglen lywodraethu yn fy llaw. Fodd bynnag, nid yw’n amser gwneud hynny eto gan fod canlyniad y refferendwm Brexit wedi newid pethau’n sylfaenol. Rydym yn wynebu llawer o gwestiynau am y dyfodol ac, yn syml, nid oes gennym yr atebion iddynt. Bydd Brexit yn cael effaith sylweddol iawn ar ein cyllidebau a'n rhaglenni ni. Bydd hyn yn effeithio’n fawr ar ein partneriaid yn y sector addysg uwch, y sector preifat a'r trydydd sector wrth iddynt fapio eu dyfodol. Rydym ni i gyd yn disgwyl am arwydd difrifol o safbwynt negodi Llywodraeth y DU tuag at Brexit ac, yn hollbwysig, am gadarnhad gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr UE.

Ni fyddai dim byd yn gwneud mwy i ddwysáu’r ymdeimlad hwnnw o bellter rhwng pobl a'r Llywodraethau sydd yma i'w gwasanaethu na fi’n gwneud addewidion heddiw yr wyf yn gwybod y gallai fod yn anodd i’r Llywodraeth eu cadw. Felly, rwy’n gohirio cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu tan fis Medi; erbyn hynny, rydym yn gobeithio y bydd gennym syniad mwy pendant i seilio unrhyw asesiad realistig o'n sefyllfa ariannol arno.

Lywydd, mae cymaint wedi newid ers etholiadau’r Cynulliad hwn ym mis Mai. I lawer ohonom, mae wedi teimlo ar adegau fel pe baem yn byw mewn bydysawd cyfochrog. Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn enfawr ac, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae goblygiadau’r bleidlais i’r byd go iawn yn dal i fod yn bell iawn o fod yn glir—yn ariannol, yn gymdeithasol, ac o ran lle Cymru yn y byd. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl benderfynol i gael y fargen orau bosibl i Gymru o'r broses o'n blaen. Mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill i osod sylfeini cadarn ar gyfer cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Rwy'n falch o'r ffordd yr ydym wedi dod drwy lymder dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gwneud cymaint ag y gallem i ddiogelu’r gwasanaethau y mae pobl wir yn dibynnu arnynt rhag y gwaethaf o’r storm ariannol sydd wedi ein hamgylchynu. Ond mae dyfroedd garw o’n blaenau o hyd o ran ein cyllid.

Eisoes mae rhai arwyddion economaidd sy’n peri pryder yn deillio o bleidlais yr UE a allai gael sgil effaith ddifrifol ar gyllid cyhoeddus, ac er gwaethaf addewidion cadarn ymgyrchwyr 'gadael', nid oes gennym ddim sicrwydd o hyd gan Lywodraeth y DU y bydd y £600 miliwn y flwyddyn a gawn mewn cyllid yr UE yn parhau i lifo i Gymru ar ôl i’r DU ymadael—a rhaid imi ddweud wrthych yn onest iawn, heb y sicrwydd hwn, rydym yn wynebu twll mawr iawn yn ein cyllidebau yn y dyfodol. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto heddiw i roi'r sicrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer pob ceiniog o’r cyllid hwnnw, a fyddai'n rhoi darlun llawer cliriach inni o'r hyn y bydd rhaid inni ei gyflawni o ran yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ym mis Mai. Mae'n amser gwireddu’r addewidion hynny.

Lywydd, ers y bleidlais y mis diwethaf, mae Ysgrifennydd yr economi a mi wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr i roi cymaint o sicrwydd iddynt ag y gallwn. Rydym wedi bod yn gwrando'n astud ar eu pryderon. Mae’r hyn yr ydym yn ei ofyn iddynt yn glir: peidiwch â digalonni, daliwch i fuddsoddi, cofiwch yr holl bethau sy'n gwneud Cymru’n lle gwych i gynnal busnes a daliwch i siarad â ni. Er gwaethaf yr amgylchiadau, rydym yn clywed llawer o negeseuon cadarnhaol, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud rhai cyhoeddiadau newydd sylweddol yn fuan iawn. Hoffwn anfon neges gadarnhaol debyg yn ôl heddiw yn seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan fusnesau yn yr wythnosau diwethaf.

Rydym yn gwybod bod seilwaith yn hanfodol o ran penderfyniadau buddsoddi, ac felly, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch yr elfen sylweddol o arian yr UE, rwy'n cadarnhau heddiw y byddwn yn bwrw ymlaen â datblygiad y prosiect metro, sydd â chymaint o botensial trawsnewidiol. Efallai na fydd ar yr un ffurf yn union ag o'r blaen. Bydd yn rhaid inni edrych ar fodelau cyllido amgen ac efallai y gwnaiff gymryd mwy o amser i gyrraedd y man lle hoffem ni fod, ond rwy'n credu bod hwn yn arwydd pwysig i gyflogwyr bod Cymru’n dal ar agor i fusnes, yn awyddus i symud ymlaen ac mai dim ond gwella a wnaiff ein cynnig i fuddsoddwyr. Bydd fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd yr economi, yn dweud mwy am hyn yn nes ymlaen.

Felly, oes, mae ansicrwydd, ond byddwn yn parhau i arwain ac yn gwrthod digalonni. Roedd Chris Coleman yn enghraifft wych i ni i gyd pan soniodd am feiddio breuddwydio a pheidio ag ofni’r dyfodol. Byddaf i a’r Llywodraeth hon—a phawb yn y Siambr hon, rwy’n yn amau—yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wireddu ein huchelgais o gyflawni dros Gymru.

Rwy’n dymuno edrych ymlaen at weddill y Cynulliad hwn a nodi'r mesurau cadarnhaol yr ydym yn benderfynol o’u rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf. Mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau gwirioneddol i’w bywydau ac rydym yn mynd i gyflawni hynny. Cawsom ein hethol ar raglen uchelgeisiol â blaenoriaethau clir iawn: darparu mwy o swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach; gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Mae Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn lle amrywiol a chymhleth, ond mae disgwyliadau pobl yn syml: bywydau iach, addysg dda, swyddi da, cymunedau cryf a seilwaith sy'n diwallu ein hanghenion. Fel gwlad fechan, mae gennym gryfderau a chyfleoedd nad oes gan lawer o rai eraill. Mae gennym y cyfle i adeiladu ymagwedd tîm cryf ac uno ein rhaglenni i atgyfnerthu’r hyn y mae pobl a chymunedau’n ei wneud drostynt eu hunain, ac adeiladu ar hynny.

Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn alwad i'r gad. Ni all wneud ein penderfyniadau drosom ni, ond gall ein helpu ni i gydweithio i adeiladu’r Gymru a garem. Rwy’n sicr nad ydym yn ysgogi gwelliant drwy gyhoeddi strategaethau. Rydym yn ysgogi gwelliant trwy weithredu a thrwy arweinyddiaeth gref. Byddaf yn gweithio gyda fy Ngweinidogion dros yr hydref i ddatblygu pedwar polisi trawsbynciol a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer sut yr ydym yn cyflawni ein blaenoriaethau: Cymru ddiogel a llewyrchus; Cymru iach a gweithgar; Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu; a Chymru unedig a chysylltiedig. Ni all unrhyw un Gweinidog gyflawni’r blaenoriaethau hynny, ac rwy’n gosod her i ni a'n partneriaid o gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o sicrhau newid ym mhob un o'r meysydd hyn ar gyfer pobl Cymru. Byddwn yn gweithio drwy gydol yr hydref i ystyried sut y gallwn gael yr effaith fwyaf a sut y gallwn lapio gwasanaethau o gwmpas pobl ar yr adegau, ac yn y mannau, lle mae eu hangen arnynt.

Lywydd, fel rhan o'n cytundeb i symud Cymru ymlaen gyda Phlaid Cymru, rydym eisoes wedi nodi ein blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y tymor. Er bod y canfed diwrnod yn dod ar ddiwedd mis Awst, rydym wedi bwrw ati ar unwaith ac mae llawer o waith wedi’i wneud. Rydym yn datblygu cynlluniau ym mhob un o'r meysydd hynny y soniais amdanynt ym mis Mai a hefyd ar gyfer y meysydd hynny lle ceir tir cyffredin gyda Phlaid Cymru. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth eisoes wedi gwneud datganiad am y newidiadau ar unwaith i brentisiaethau er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau i brentisiaid o bob oed. Bydd y rhain yn sicrhau nad yw oedran yn cyfyngu ar gyfleoedd a’u bod ar gael yn eang.

Rydym wedi gwneud datganiad am ein blaenoriaethau deddfwriaethol, gan ganolbwyntio eto ar y meysydd hynny sy'n cael cefnogaeth eang ar draws y Siambr hon, a pheidio â defnyddio deddfwriaeth oni bai ei bod yn glir mai dyna’r ffordd orau o sicrhau newid. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ynglŷn â sefydlu adolygiad i ddyfodol tymor hir y GIG yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu tri phwyllgor cyswllt ar gyfer cyfansoddiad, cyllid a deddfwriaeth. Mae pob un o'r pwyllgorau hyn wedi cyfarfod ac eisoes maent yn dangos gwirionedd fy ymrwymiad i weithio’n agored gyda phobl eraill, gan gydnabod dymuniadau pobl Cymru.

Lywydd, y prynhawn yma, bydd yr Ysgrifennydd iechyd yn gwneud datganiadau pellach am y cynlluniau ar gyfer cronfa driniaeth newydd a fydd yn cael gwared ar amrywiaeth o ran mynediad at gyffuriau arloesol, newydd, drud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer gwasanaeth addysg sy’n hunan-wella y prynhawn yma, a fydd yn cynnwys ein hymrwymiad i gynyddu buddsoddiad mewn ysgolion. Mae'r cynlluniau hyn yn dangos sut y byddwn yn sicrhau bod iechyd, swyddi ac ysgolion yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y Llywodraeth, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau am yr ymrwymiadau eraill maes o law. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â’r rhaglen y cytunwyd arni gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd yn cynnwys gwneud Kirsty Williams yn Ysgrifenydd addysg. Bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaethau y byddwn yn eu datblygu dros yr hydref. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn arwydd clir fel crisial bod hon yn Llywodraeth sy’n agored i'r syniadau gorau yng Nghymru, o ble bynnag y dônt, os gallant wneud cyfraniad go iawn at ein nodau.

Lywydd, rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod yn dymuno i'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad hwn, fod yn wahanol. Roedd ethol cadeiryddion pwyllgorau’n symudiad cyflym a chalonogol at fod yn agored, a hoffwn inni barhau yn yr ysbryd hwn. Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i weithio ar y cyd a gweithio’n arloesol fel yr unig ffordd o fodloni dyheadau pobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cydnerth. Fel gwlad, rydym wedi anelu’n uchel ac yn awr rydym yn barod i wneud mwy. Hoffwn weld Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Dyma’r Gymru yr ydym yn benderfynol o’i chreu dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r angen am arweinyddiaeth gadarn i Gymru’n hollbwysig. Yn ogystal â goruchwylio'r ymateb cenedlaethol i Brexit, mae hyn yn cynnwys llywodraethu mewnol ein gwlad ei hun. Mae'n cynnwys yr angen i lunio rhaglen lywodraethu a hefyd yr angen i ailasesu blaenoriaethau gwario yng ngoleuni’r posibilrwydd y bydd rhaglenni ariannu'r UE yn dod i ben ymhen ychydig dros ddwy flynedd. Mae Plaid Cymru’n derbyn y rhesymeg y tu ôl i ohirio’r rhaglen lywodraethu hon.

Brif Weinidog, rydym eisoes wedi gweld neithiwr a’r wythnos diwethaf nad oes llinell na chadwyn glir o gyfathrebu, heb sôn am gadwyn awdurdod, rhwng Llywodraeth Cymru Llafur ac Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: beth yw blaenoriaethau eich Llywodraeth chi ar gyfer y cyfansoddiad? Mae cydweithredu wedi bod yn bosibl erioed yma yn y Cynulliad, ac mae gennym dir cyffredin amlwg ar bwerau uniongyrchol y gellid eu trosglwyddo o San Steffan i Gymru, ond man gwan Cymru fel cenedl yw agwedd ac ymddygiad ASau y Blaid Lafur o Gymru yn San Steffan. Maent yn rhwystro rhaglen a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi, felly, gynnwys fel blaenoriaeth i’r Llywodraeth yr angen i sefydlu rhyw fath o arweinyddiaeth dros ASau Llafur yn San Steffan? A wnewch chi o leiaf eu cynghori i fod yn bresennol mewn pleidleisiau ar Fil Cymru a phleidleisio yn unol â budd cenedlaethol Cymru bob amser? Os na allwch chi arwain yr ASau hynny, neu os ydynt yn rhy brysur yn ymladd ymysg ei gilydd ac yn erbyn arweinydd eu plaid eu hunain, pa gynllun arall sydd gennych i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU a'r broses ddeddfu yn San Steffan?

Rwy’n fwy cadarnhaol o ran blaenoriaethau uniongyrchol y Llywodraeth yn deillio o'r trafodaethau a ddilynodd fy enwebu ar gyfer swydd y Prif Weinidog, a'r bleidlais ddilynol. Roedd y cytundeb a gawsom ar adolygu'r broses ceisiadau am gyllid i gleifion unigol i’w groesawu a gallai wir wella bywydau pobl. Roedd yn dilyn, wrth gwrs, gwadiad ar eich rhan chi yn ystod yr etholiad mai dyma oedd y ffordd orau o symud ymlaen. Rwy’n gwybod y bydd datganiad y prynhawn yma am y mater hwn, ac rwy’n croesawu’r ffaith y bydd y gronfa triniaethau newydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yn awr, felly a yw’r Prif Weinidog nawr yn derbyn bod pryderon cleifion wrth geisio cael mynediad at gyffuriau a thriniaethau prin yn bryderon dilys ac y gellir ymdrin â hwy yn awr?

Afraid dweud y dylai’r economi hefyd fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Ar yr adeg hon o ansicrwydd economaidd, mae'n hanfodol bod y Prif Weinidog yn symud i amlinellu’r hinsawdd ar gyfer busnes yn y tymor byr ac yn fwy hirdymor ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod seilwaith yn flaenoriaeth i fy mhlaid a bod arnom eisiau ymagwedd newydd at sut y gwneir penderfyniadau ynglŷn â seilwaith ac ar ba sail. A wnaiff y Prif Weinidog ymhelaethu ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol y mae wedi ymrwymo i’w sefydlu fel rhan o'r fargen gyda fy mhlaid? Ac a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd yn ymrwymo i wrando ar y sector preifat wrth iddo ef a'i Weinidogion ddatblygu cynlluniau i sefydlu'r comisiwn seilwaith cenedlaethol?

Yn ôl y disgwyl, rydych chi wedi nodi y caiff Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol ei defnyddio fel fframwaith i gyflawni eich polisïau, a byddwn yn gobeithio y bydd y Ddeddf, os yw i olygu unrhyw beth o gwbl, yn dylanwadu ar y polisïau eu hunain ac yn sail iddynt ac, yn benodol, a gaiff ffyrdd a thraffyrdd eu hadeiladu a sut. Rhaid iddi ein galluogi i atal newid yn yr hinsawdd afreolus yn ogystal â lliniaru ei effeithiau gwaethaf.

Nawr, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd pedair strategaeth drawsbynciol yn cael eu datblygu i roi’r Ddeddf ar waith, yn syth ar ôl dweud nad yw cyhoeddi strategaethau’n ysgogi gwelliant. A all ddatgan pa un o'r pedair strategaeth fydd yn cynnwys newid yn yr hinsawdd?

Yn olaf, ac ystyried ein bod mewn cyfnod o ymddieithrio â gwleidyddiaeth, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gynnwys pobl Cymru yn rhaglen ei Lywodraeth?

Dydw i ddim yn hollol siŵr beth oedd ystyr y sylw olaf, oherwydd rydym newydd ddod drwy etholiad. Rydym wedi rhoi ein rhaglen gerbron pobl Cymru, fel y gwnaeth pob plaid. Ond gofynnodd arweinydd yr wrthblaid gwestiynau eraill. O ran cadwyn awdurdod, nid fi yw arweinydd Llafur y DU—nid yw’n rhywbeth, am wn i, y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn ar hyn o bryd, os wy’n gwbl onest am y peth. Arweinydd Llafur Cymru ydw i ac mae ein safbwynt ni’n glir iawn, iawn. Hynny yw, nad oes ateb cynaliadwy i Gymru heb roi sylw i’r awdurdodaeth. Nid oes ateb cynaliadwy i Gymru heb roi sylw i blismona. Nid ASau Llafur yw eich problem chi; Llywodraeth Dorïaidd y DU yw’r broblem, oherwydd nhw yw’r rhai sydd yn erbyn ystyried yr awdurdodaeth a phlismona o gwbl, a nhw yw’r rhai sydd mewn grym, nid ASau Llafur Cymru yn San Steffan. Mae angen iddynt newid y ffordd y maent yn meddwl o ran y ddau fater hynny. Fel arall, fel y dywedais, bydd gennym system lle bydd deddfau troseddol Cymru’n cael eu plismona heb ddim llais gan bobl Cymru dros sut y caiff y cyfreithiau hynny eu plismona mewn gwirionedd. Mae’n amlwg nad yw hynny’n gwneud synnwyr yn y dyfodol. Bydd hi'n gwybod, oherwydd rwyf wedi dweud, yn ôl pob tebyg ad nauseam—lawer, lawer gwaith yn y Siambr hon a thu allan—na allai Bil Cymru ynddo'i hun byth fod, beth bynnag, yn ateb cynaliadwy, ac ystyried y ffaith bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ei hun yn y pair, ac ymhen dwy flynedd nid ydym yn gwybod o reidrwydd sut y bydd y DU yn edrych. Felly, bydd angen dull sy'n fwy ffederal, a bydd angen dull sy'n fwy hyblyg nag y bu hyd yn hyn. Bydd hi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Siambr hon bod mater cyfuno sofraniaeth yn rhywbeth y dylid ei ystyried fel sail ar gyfer y DU yn y dyfodol, fel y mae yng Nghanada. Mae'n gweithio yno; nid oes dim rheswm pam na all weithio yma.

O ran yr IPFR, nid oedd ei phlaid hi o blaid y gronfa cyffuriau canser, yna roedd yn ymddangos eu bod mewn rhyw ffordd o blaid y gronfa cyffuriau canser. Rydym ill dau mewn sefyllfa lle hoffem wneud yn siŵr bod y broses IPFR yn cael ei hadolygu, a bydd hynny’n digwydd, a byddwn yn amlwg yn cyflwyno ein cronfa driniaeth newydd a fydd yn sicrhau bod y triniaethau hynny—ar gyfer pob cyflwr sy'n bygwth bywyd, nid dim ond canser—sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio’n cael eu cyflwyno mewn gwirionedd ledled Cymru cyn gynted â phosibl.

O ran yr economi, mae seilwaith yn wir yn bwysig ac rwy’n gwybod ein bod wedi bod yn gweithio gyda'i phlaid ar sut y gallai comisiwn seilwaith cenedlaethol edrych—mae’n bwysig iawn, wrth gwrs, bod atebolrwydd democrataidd yn rhan o hynny. O ran adeiladu ffyrdd a thraffyrdd, wel, mae'n wir dweud na allwch adeiladu eich ffordd allan o drafferth drwy adeiladu ffyrdd yn unig; mae cymaint â hynny’n wir. Nid yw'r M4 yn mynd i fynd i ffwrdd fel problem, mae angen ei datrys—yn yr un ffordd ag yr oedd ei phlaid hi’n gadarn o blaid ffordd osgoi Porthmadog, yn gadarn o blaid gwella’r ffordd rhwng Llandysul a Synod Inn; rwy’n deall y rhesymau pam. Roedd ffordd osgoi Llandysul yn enghraifft arall o pan fu ei phlaid o blaid rhywbeth o’r fath—ac yn wir, arweinydd ei phlaid hi oedd yn gyfrifol am y ffyrdd hynny. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig nodi bod ei phlaid hi wedi cefnogi cynlluniau ffyrdd yn y gorffennol.

Ond nid yw'n fater o ddewis y naill neu’r llall, oherwydd mae’r metro’n hynod bwysig. Nid oes dim ffordd, er enghraifft, o ganfod ateb i dagfeydd ar yr A470 drwy ledu'r ffordd. Mae'n amhosibl, oherwydd y ffordd y mae’r ffordd yn culhau tuag at Gaerdydd. Felly, bydd yn hynod bwysig gweld y metro n cael ei sefydlu ar draws y de, ac, yn wir, edrych ar gysyniad Metro’r Gogledd, i wneud yn siŵr bod hwnnw'n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd rydym yn gwybod bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan bwysig o ddatrys problemau â thraffig ar y ffordd.

Gofynnodd, 'Beth am newid yn yr hinsawdd?' Mae newid hinsawdd yn drawsbynciol. Mae'n fater sy'n effeithio ar bob un ohonom. Mae gan bob adran o fewn y Llywodraeth y gallu i gyfrannu at leihau newid yn yr hinsawdd ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn disgwyl i bob Gweinidog gadw ato.

Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n rhaid imi ddatgan fy siom ynghylch datganiad mor ysgafn, sy'n defnyddio iaith flodeuog iawn, ond nad yw'n cynnig llawer o sylwedd, i fod yn onest gyda chi. Yr wyf yn credu bod llen fwg—[Torri ar draws.] Yr wyf yn credu bod llen fwg canlyniad y refferendwm yn ôl pob tebyg yn adlewyrchu anallu'r Llywodraeth i ddod i gytundeb gyda'i phartneriaid yn y glymblaid ar raglen lywodraethu ac rwy’n meddwl bod angen i bobl fyfyrio ar hynny, oherwydd gallai’r datganiad hwn fod wedi cyflwyno llawer o faterion, ac yna gallem fod wedi cael y ddogfen fwy. Rwy’n cofio rhaglen lywodraethu olaf y pedwerydd Cynulliad—666 o dudalennau a blodyn haul ar ei flaen, ac roedd fy nghydweithiwr Nick Ramsay yn bryderus iawn am ddyfodol y blodyn haul hwnnw. Ni chafodd fyw tan ddiwedd y Cynulliad; gwywodd y blodyn haul a bu farw, ac rwy’n meddwl bod y Llywodraeth hon yn gwywo, a hynny o fewn dim ond cwpl o gannoedd o ddiwrnodau’r tymor.

Ond mae llawer o bethau pwysig y gallai'r Prif Weinidog fod wedi’u cynnwys yn ei ddatganiad y prynhawn yma, gan mai 'Blaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth' ydyw. Nid oes dim sôn am yr argyfwng dur yn y datganiad hwn o gwbl. Ni fyddech wedi gwybod bod y cwestiwn argyfwng na’r cwestiwn brys yn mynd i gael eu gofyn pan gafodd y datganiad ei ddrafftio, felly rwy’n synnu nad oes dim sôn am yr argyfwng dur, oherwydd yn sicr mae hwnnw'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Rwy’n synnu nad oes dim sôn am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymdrin â diffyg ariannol y GIG mewn dau o fyrddau iechyd lleol y GIG, sy'n werth £50 miliwn, ac, unwaith eto, y gallai’r datganiad hwn fod wedi cyfeirio ato, gan dderbyn y byddai'r ddogfen fwy yn dod yn yr hydref.

Gallai'r Prif Weinidog fod wedi ymhelaethu ar yr ymrwymiad o gwmpas ardrethi busnes, rhywbeth yr ydym wedi bod yn ceisio ei ddeall am yr wyth wythnos diwethaf ers yr etholiad, ond nid oes yr un Gweinidog wedi dod ymlaen i esbonio beth yn union fyddai’r ymrwymiad hwnnw’n ei olygu i fusnesau. Unwaith eto, gallai hynny fod wedi cael ei ymgorffori yn y datganiad hwn. Gallem fod wedi cael dealltwriaeth o'r gost y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i thynnu o'r Llywodraeth, oherwydd, fel y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i nodi, mae yna gost ariannol sylweddol i'r ymrwymiadau y mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud, a gallai'r Prif Weinidog fod wedi bod mewn sefyllfa i roi gwybod inni, drwy gyfrwng y datganiad hwn, beth yn union oedd y costau hynny—eto, rhywbeth y gallech fod wedi’i wneud ac y gallech fod wedi’i gyflwyno.

Felly, byddwn yn gobeithio, wrth fy ateb i, y byddwch yn rhoi rhai atebion i'r cwestiynau hynny. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â diffyg ariannol y GIG yma yng Nghymru? Beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am ardrethi busnes—yn benodol, pa gynllun newydd y byddant yn ei gyflwyno? A beth fyddant yn ei wneud i ymgysylltu â'r diwydiant dur yn y dyfodol, oherwydd mae'n ymddangos bod y cyhoeddiadau a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf wedi eu synnu’n llwyr? Ac mae'n rhaid imi ddweud, Brif Weinidog, nad oeddech yma pan gafodd y cwestiwn brys ei ofyn, ac nid oedd rhai o'r atebion hynny’n darparu rhyw lawer o gysur i'r Aelodau, os o gwbl, beth bynnag fo'u lliw gwleidyddol yn y Siambr hon, rhaid imi ddweud. Hoffem weithio ar sail drawsbleidiol ar hyn ac rwy’n meddwl bod y trefniadau hyd yn hyn wedi bod yn adeiladol iawn, ond rhaid imi ddweud nad yw’r ymateb a gawsom i’r cwestiwn brys heddiw’n rhoi llawer o gysur i Aelodau o unrhyw blaid wleidyddol yn y Siambr hon. Felly, byddwn yn gobeithio efallai y gwnewch ymateb mewn ffordd lawnach, oherwydd gallech fod wedi ymgorffori hynny yn eich datganiad.

Gwnaethoch sôn yn gryno am y prosiect metro a sut y bydd hwnnw'n cael ei ddatblygu. Rwy’n sylwi nad oes dim byd am fargen twf y gogledd yma o gwbl a sut y byddwch yn gweithio i hyrwyddo’r gogledd yn benodol, oherwydd, yn eich maniffesto, roedd gennych gynigion am fetro i’r gogledd, ond rydych wedi dewis peidio â sôn am ddim byd yn y gogledd—[Torri ar draws.] Rwyf wedi darllen y datganiad yn glir iawn; rydych yn cyfeirio at y prosiect metro yma yn y de, rydych wedi.

Felly, Brif Weinidog, mewn gwirionedd, yn hytrach na defnyddio’r cyfle hwn i fapio beth fydd blaenoriaethau'r Llywodraeth yn y dyfodol, rydych wedi dewis ei lenwi â iaith flodeuog heb ryw lawer o sylwedd na fydd yn gwneud dim gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru. Felly, ar y cwestiynau yr wyf wedi’u gofyn ichi, a allwch chi roi rhai atebion o sylwedd inni, ynteu a fydd yn rhaid inni aros naw wythnos arall i ddod yn ôl yma a chael dogfen flodeuog arall o 666 o dudalennau gyda, beth, cennin Pedr arni yn lle blodyn haul y tro hwn, Brif Weinidog?

Onid oes ymdeimlad o eironi bod arweinydd y Ceidwadwyr yn sefyll ac yn sôn am iaith flodeuog wrth sôn am flodau haul heb sylweddoli hynny? Ni wnaeth wrando ar yr hyn a ddywedais wrth ateb arweinydd yr wrthblaid am Fetro’r Gogledd, fel yr wyf wedi ei alw; yn amlwg, methodd yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mewn amser, rydym yn gweithio ar ein hymrwymiad maniffesto dros ardrethi busnes a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau ar hynny.

O ran yr argyfwng dur, dyma’r sefyllfa: rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson â Tata. Roedd gennyf swyddog—[Torri ar draws.] Wel, mae cwestiwn brys wedi bod ar hyn; rhoddais ateb, yn wir, yn ystod cwestiynau i’r prif weinidog i egluro'r sefyllfa. Mae gennym becyn ar y bwrdd—pecyn ariannol—a byddwn yn disgwyl gweld amodau ynghlwm wrth y pecyn hwnnw o ran ymrwymiadau i niferoedd swyddi a’r cyfnod pan fydd buddsoddiad pellach yn digwydd, ond mae angen inni hefyd weld gweithredu ar bensiynau. Nid yw'n fater y gallwn mewn gwirionedd ymdrin ag ef fel mater datganoledig ac mae angen inni weld Llywodraeth y DU yn datrys mater pensiynau a mater prisiau ynni, sy’n rhywbeth y mae pob un diwydiant ynni-ddwys yng Nghymru’n dweud wrthym ei fod yn broblem. Cyfarfûm â Celsa yr wythnos diwethaf ac eto roeddent yn dweud bod prisiau ynni yn y DU yn broblem. Gallwn anwybyddu hynny gymaint ag yr hoffai ef wneud, ond dyna beth mae busnesau’n ei ddweud wrthyf i a byddai'n beth da iddo ef wrando.

Rhaid imi ddweud, rwyf wedi sefyll yn y Siambr hon am wythnosau’n gwrando arno’n traethu am fanteision Brexit. Nid yw unwaith wedi sylweddoli bod problem wrth i ni golli £600 miliwn y flwyddyn fel rhan o'n cyllideb—nid yw unwaith wedi cydnabod bod hynny'n broblem. Dim ond heddiw, pan gafodd ei holi am y peth, dywedodd fod terfyn i faint o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario ar ystafelloedd cyfrifiaduron a chanolfannau cymunedol. Dyna beth yr oedd ef yn meddwl bod yr arian yn cael ei wario arno—nid ProAct, nid ReAct, nid Twf Swyddi Cymru, nid y metro, nid y metro yn y gogledd a'r holl bethau hyn, nid cymorthdaliadau ffermio—nid cymorthdaliadau ffermio—oherwydd, heb yr ymrwymiad hwnnw, allwn ni ddim talu cymorthdaliadau ffermio i'n ffermwyr. Eto i gyd, er gwaethaf yr hyn y mae pleidiau eraill wedi'i wneud—Plaid Cymru, ac UKIP o ran hynny, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i dalu pob ceiniog—mae wedi methu â gwneud hynny wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr hon. Felly, ni allaf gymryd gwersi ganddo ef ynglŷn â sut y dylem lywodraethu, ac yntau’n methu â sefyll dros Gymru. A gaf ei gynghori, os hoffai gael ei gymryd o ddifrif fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylai ymuno â phleidiau eraill yn y Siambr hon a gwneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled? Yna byddai ganddo siawns o ennill mwy o barch gan bobl Cymru.

Brif Weinidog, rwy’n cytuno â chi bod rhaid inni ystyried effaith Brexit yn ofalus iawn, iawn, a bydd hynny’n cymryd llawer o amser a llawer o ymroddiad. Rwy’n arbennig o bryderus ynghylch polisi amgylcheddol. Rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar, ond mae rhai materion gwirioneddol enfawr i'w hystyried. Er enghraifft, ar ddyfodol cyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni'r UE, sut yr ydym yn mynd i weld honno’n bod yn berthnasol i Gymru? A ydym yn mynd i’w chynnwys yn ein datblygiadau polisi ni ein hunain? Gwastraff a’r economi gylchol: mae'r rhain yn feysydd canolog i'n strategaeth bresennol ac yn feysydd lle’r ydym wedi gwneud cynnydd rhagorol, a dweud y gwir, ac wedi arwain y ffordd o leiaf yn y DU neu hyd yn oed yn bellach i ffwrdd. Unwaith eto, mae hyn yn mynd i gymryd llawer o waith, oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn rhan o’r rhwydwaith Ewropeaidd ac yn cael llawer o gymorth gan hwnnw.

Mae targedau newid yn yr hinsawdd yn faes arall lle bydd llawer iawn o gyfrifoldeb yn dod yn ôl o ble y mae ar hyn o bryd wrth osod targedau traws-genedlaethol cynhwysfawr—a fydd yn dod yn ôl yma ynteu a ydym ni’n mynd i'w gweld yn cael eu cydlynu ar lefel ehangach ar draws y DU? Mae'r rhain yn bwyntiau cymhleth iawn.

Rwy’n gwybod, o ran y flaenoriaeth a oedd gan y materion hyn yn y Cynulliad diwethaf, nad ydym am golli unrhyw ddatblygiadau yr ydym wedi'u gwneud. Mae’n rhaid inni eu cadw ar flaen y gad ar lefel y DU a sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu mabwysiadu, a bod gennym economi wirioneddol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar uchelgais cydlynol, helaeth yn ein polisi amgylcheddol.

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Mae'n cydnabod heriau Brexit. Rydym yn gwybod ei bod yn amhosibl gweithredu'n effeithiol ar raddfa amgylcheddol, yn enwedig ym maes llygredd aer, dim ond drwy edrych ar Gymru neu ddim ond drwy edrych ar y DU o ran hynny, neu ddim ond drwy edrych ar Ewrop. Mae'n un peth lleihau llygredd aer yn Ewrop, ond os yw diwydiant penodol yn adleoli i ran o'r byd lle mae’r rheolau’n fwy llac, mae hynny’n golygu bod y llygredd yn cael ei allforio i ran arall o'r byd ac, mewn gwirionedd, yn fyd-eang, mae pethau'n mynd yn waeth. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn dylanwadu ar y meysydd hynny lle y gallwn ac, wrth gwrs, yn ceisio cadw diwydiant ynni-ddwys yng Nghymru, gan, ar yr un pryd, sicrhau eu bod yn dilyn rheoliadau amgylcheddol priodol.

Mewn cyfarfod a gefais yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y sector, fe’i gwnes yn glir iddynt y bydd yr hyn sydd eisoes wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru’n parhau. Yna, mater i Lywodraeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fydd penderfynu beth maent yn dymuno ei gadw a beth maent y dymuno cael gwared arno. Nid ydym yn agos at ddechrau'r broses honno, ond rhaid inni ddeall nad yw'n wir, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod popeth sydd erioed wedi dod o Ewrop yn disgyn. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae’r un fath â phan adawodd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon y DU. Nid yw fel pe bai’r holl gyfreithiau wedi disgyn ac nad oedd cyfraith. Roedd y cyfreithiau a oedd yno’n aros hyd nes iddynt gael eu diwygio yn y dyfodol gan y Dáil ar y pryd. Ond, mae'n wir dweud na ddylem golli golwg ar y cynnydd da yr ydym wedi’i wneud o ran ein hamgylchedd a'r cynnydd rhagorol, yn arbennig, yr ydym wedi’i wneud o ran ailgylchu.

Rwy’n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch yn eich datganiad, ac rwy’n diolch ichi amdano, Brif Weinidog. Er nad oedd gennych lawer iawn o gynnwys i allu ei roi inni heddiw, roedd yno gyfle, na chafodd ei gymryd, i dynnu sylw at y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n prif ffrydio hawliau drwy’r rhaglen lywodraethu gyfan pan fyddwn yn ei gweld. Rwy'n meddwl y byddai ailddatgan yr egwyddor honno wedi nodi i’r rheini sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus eich bod yn disgwyl i gydraddoldeb a hawliau siaradwyr Cymraeg, plant, pobl hŷn, gofalwyr ac ystod eang o grwpiau eraill, fod ar flaen y gad o ran sut y darperir y gwasanaethau hynny yn awr ac yn sgil eich rhaglen lywodraethu yn y pen draw. Felly, a allech fanteisio ar y cyfle hwn i ailymrwymo, os hoffwch chi, i’r egwyddor 'sylw dyledus' o ran polisi a deddfwriaeth, ond yn llawn mor bwysig, o ran y prosesau monitro a gwerthuso o fewn y Llywodraeth? Er enghraifft, go brin bod unrhyw bwynt rhoi’r hawl i ofalwyr gael asesiad o anghenion ar wahân i un yr unigolyn y maent yn gofalu amdano o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol os nad yw hynny'n cael ei gynnig yn ymarferol. Dim ond un enghraifft yw honno. Rwy'n meddwl bod y datgysylltiad hwn rhwng swyddogaeth hawliau mewn polisi a deddfwriaeth, a’r hyn sy’n digwydd yn y ddarpariaeth leol, yn mynd i fod yn fater y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i’w wynebu dros y pum mlynedd nesaf, ac yn un y gellid ei ddatrys mewn ffordd syml iawn, rwy’n meddwl. Diolch.

Wel, rydym yn disgwyl i’r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith gael ei ddarparu, ac os nad yw'n cael ei ddarparu, gellir cymryd camau cyfreithiol, wrth gwrs, i unioni hynny. O ran prif ffrydio hawliau, bydd yr ymarferion yr ydym wedi parhau â nhw hyd yn hyn yn parhau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yna nifer o feysydd lle mae’n rhaid rhoi sylw dyledus i hawliau pobl eraill ac, yn wir, i effaith polisïau penodol ar grwpiau penodol. Bydd y broses honno'n parhau yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw polisïau’n cael unrhyw ganlyniadau annisgwyl sy’n creu anfantais i rai grwpiau mewn cymdeithas.

Diolch, Lywydd. O'r nifer o flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth yn y fan hyn nad wyf yn gallu gweld cyfeiriad penodol atynt, rydych wedi gwneud rhai cyfeiriadau at gostau uchel ynni i’r diwydiant dur. Wrth gwrs, dim ond yn ddiweddar y mae trafodaethau gyda'r UE a ddechreuwyd gan Lywodraeth glymblaid y DU wedi eu cwblhau, ac mae cytundeb i helpu gyda'r costau hynny wedi dod i rym. A allwch ymhelaethu ar beth yw’r cytundeb hwnnw a sut y bydd hwnnw o gymorth, neu, os na allwch, sefydlu’r wybodaeth honno ac yna efallai briffio’r Cynulliad hwn ar ôl toriad yr haf?

Rydych yn dweud eich bod yn sicr nad ydym yn gyrru gwelliannau drwy gyhoeddi strategaethau. Amser cinio, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Epilepsi Cymru. Pan godais hyn yn y datganiad busnes, roedd yr ateb a gefais yn cyfeirio at strategaeth epilepsi Llywodraeth Cymru a datganiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud yn y dyfodol. A wnewch chi sicrhau bod y pryderon a godwyd gan Epilepsi Cymru ac, yn bwysicach fyth, gan ddefnyddwyr gwasanaethau yn cael eu hystyried?

Rydych hefyd, ar sawl achlysur, wedi ymateb i gwestiynau yn ystod y pumed Cynulliad ynglŷn â chynigion am Ddeddf awtistiaeth, rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano, ac y cefais ddadl amdano ym mis Ionawr 2015. I ddechrau, roedd yn ymddangos bod ymatebion yn awgrymu y gellid ymgorffori hyn o fewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Wedi hynny, rydych wedi ymateb yn fwy cyffredinol bod Llywodraeth Cymru’n ystyried hyn ymhellach. A wnewch chi gydnabod bod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda hwy ac yn eu cefnogi’n galw am sail statudol i osod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg, fel bod y problemau sydd wedi’u cofnodi yn y sector ac, yn arbennig, gan bobl ar y sbectrwm a'u gofalwyr a'u teuluoedd, yn cael sylw ac yn cael statws statudol?

Yn olaf, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Andrew R.T. Davies, at y gogledd. Rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi a’r seilwaith wedi cynnal uwchgynhadledd ddydd Gwener diwethaf yn y gogledd i drafod datblygiad economaidd yn y gogledd yng nghyd-destun Pwerdy’r Gogledd, ond nid ydym wedi clywed cyfeirio at y fargen twf gwirioneddol a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Mawrth yn y datganiad cyllideb, pan ddywedodd y bydd Llywodraeth y DU yn agor y drws i fargen twf ar gyfer gogledd Cymru i gryfhau economi'r rhanbarth a gwneud y gorau o'i gysylltiad â phwerdy’r gogledd—mewn geiriau eraill, partneriaeth, a oedd yn cynnwys, o bosibl, fel y deallais i, mwy o arian gan y DU, uwchben Barnett, ar gael, pe bai Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu’n gynnar â hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yr Is-ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bresennol ddydd Gwener, ond a allech ymateb yn benodol yng nghyd-destun y fargen twf—'b' a 't' yn briflythrennau—a gyhoeddwyd yn y gyllideb?

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y fargen twf. Yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw a oes elfen ar y fargen honno a fyddai wedi'i hariannu gan Ewrop, ac mae hyn wrth wraidd y broblem sy’n ein hwynebu. Os oes bwlch yn y cyllid hwnnw, er enghraifft, mae'n rhaid i rywun dalu amdano, ac, yn sicr, mae'n rhaid darparu ar gyfer hynny.

O ran y strategaeth epilepsi, wrth gwrs ein bod ni am wrando ar bryderon defnyddwyr gwasanaethau, a byddwn yn eu hystyried yn llawn wrth inni ymwneud â’r strategaeth honno dros y blynyddoedd sydd i ddod. O ran awtistiaeth, mae'n deg dweud nad oedd yn gweithio fel rhan o'r Bil ADY. Rydym yn edrych ar ba ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen yn y dyfodol er mwyn cryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaethau, ac mae’r broses honno’n parhau.

O ran ynni, nid yw'n ymwneud â'r UE; mae'n ymwneud â marchnad ynni'r DU a'r ffordd annelwig y mae'n gweithredu. Nawr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Celsa ac, unwaith eto, maent wedi dweud wrthyf yr wythnos diwethaf eu bod yn gweithredu ar y sail lle mae costau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is; yn Sbaen maent 37 y cant yn is. Nawr, does dim rheol na rheswm am hynny, ond mae'n rhywbeth i’w wneud, rwy’n amau, â'r ffaith nad yw’r farchnad ynni, yn y DU, mor dryloyw ag y mae mewn mannau eraill yn Ewrop. Nawr, rwyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith; yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod llais busnesau yng Nghymru’n cael ei glywed yn y Trysorlys, oherwydd maent i gyd yn dweud yr un peth. Maent yn ei chael hi’n hynod anodd cystadlu oherwydd prisiau ynni. Mae Tata wedi dweud yr un peth, ac mae hwn yn fater na all Llywodraeth y DU a'r DU ei hun ddianc oddi wrtho. A oes arnom eisiau diwydiannau ynni-ddwys yma? Os oes, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pecyn cystadleuol ar gael o ran prisiau ynni; ac nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.

5. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Ymarfer Plant i Farwolaeth Dylan Seabridge

Rydym yn symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant, i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Lywydd. Cyhoeddwyd yr adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011 yr wythnos diwethaf, gan dynnu ein sylw unwaith eto at yr amgylchiadau lle cafodd bywyd bachgen ifanc ei dorri’n fyr yn ddiangen. Dim ond wyth mlwydd oed oedd Dylan a bu farw o ddiffyg fitamin y gellir ei osgoi ac y gellir ei drin. Bu farw’n anweledig i'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol a allai o bosibl fod wedi ei achub. Mae'n annerbyniol, mewn cymdeithas fodern, y dylai plentyn fod yn anweledig fel hyn. Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir pan fydd pobl yn unigol, neu’n rhan o deuluoedd, yn tynnu'n ôl o batrymau bywyd teuluol traddodiadol neu gyffredin, ac o’r diogelwch a’r amddiffyniad a ddarperir gan a thrwy ein gwasanaethau cyffredinol.

Diben yr adolygiad ymarfer plant yw gwella ein gwasanaethau a’n helpu i ddysgu beth sydd angen newid. Dyma’n union yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yng ngoleuni'r adroddiad hwn: dysgu gwersi a gwella gwasanaethau.

Mae'r dirwedd wedi newid ers 2011. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn arbennig, yn cryfhau'r fframwaith statudol ac ymarfer ar gyfer diogelu plant ac oedolion. Mae'n cyflwyno dyletswydd newydd ar bartneriaid statudol i hysbysu eu hawdurdod lleol am bryderon bod plentyn neu oedolyn yn dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed, neu mewn perygl o ddioddef un o’r rhain. Ategir y Ddeddf gan y canllawiau statudol diwygiedig sydd wedi bod yn destun ymgysylltu sylweddol ar draws sectorau. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol, drwy hyfforddiant pwrpasol, i gynorthwyo ymarferwyr i gyflwyno'r fframwaith cryfach ac wedi cyhoeddi’r adnoddau hyfforddi hynny ar wefan y cyngor gofal.

Wrth gwrs, er bod y Ddeddf yn darparu sylfaen gryfach i fwy o hyder na allai achos fel achos Dylan ddigwydd eto, nid yw rhoi’r holl atebion, ac ni all wneud hynny. Mae’r adroddiad yn sôn llawer am faterion addysg ddewisol yn y cartref, ac nid oes amheuaeth bod hyn yn rhan o'r darlun yma, ond mae'n bell o fod y darlun cyfan. Bu farw Dylan gan ei fod yn anweledig i'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol a allai fod wedi gallu ei helpu a’i amddiffyn.

Bu ymchwiliad troseddol i farwolaeth Dylan, a gwnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron y penderfyniad nad oedd erlyn y rhieni er pennaf fudd y cyhoedd. Yr hyn sy'n eglur i mi o'r adolygiad ymarfer plant yw nad oedd un gwasanaeth neu weithiwr proffesiynol ar fai am yr hyn ddigwyddodd i Dylan ond bod cymdeithas, a’r system, wedi methu trwy adael iddo aros yn anweledig ac yn anghyraeddadwy.

Rwy’n gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon a'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i ystyried y gwersi o'r achos hwn. Bydd ein hymateb yn gynhwysol ac yn ceisio ymdrin â materion allweddol sut y mae gwasanaethau’n gweithio gyda'i gilydd, sut y maent yn cyfuno eu gwybodaeth ac yn meddwl am deuluoedd yn hytrach nag unigolion, ac ynghylch sut y gallwn atal unrhyw blentyn neu berson ifanc rhag bod mor gudd nes na allwn weld unrhyw risg o niwed ac ymdrin ag ef. Mae 'meddwl am y teulu' yn fwy cyffredin nawr ar draws gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau yn rhan o ddulliau fel tîm o amgylch y teulu.

Byddwn yn ystyried nawr sut y gallwn annog a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i weithredu ar eu chwilfrydedd proffesiynol a bod â mwy o hyder i weithio'n effeithiol gyda theuluoedd a bod yn hyderus i uwchgyfeirio problemau pan fo angen, er enghraifft, os mai’r dystiolaeth o destun pryder yw, mewn gwirionedd, diffyg tystiolaeth o les. A byddwn yn ystyried y canllawiau a'r rheoliadau sydd ar waith ar gyfer ein holl wasanaethau i oedolion a phlant. Bydd ystyriaeth o'r fath, wrth gwrs, yn cynnwys ystyried addysg ddewisol yn y cartref, ond hefyd y cerrig milltir allweddol lle byddem yn rhagweld y byddai rhieni a phlant yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyffredinol eraill, er enghraifft ar gyfer brechiadau, swyddogaeth yr ymwelydd iechyd, timau gofal sylfaenol, nyrsys ysgol, meddygon teulu, ac ati.

Ni chafodd Dylan ei weld gan unrhyw weithiwr proffesiynol gwasanaethau iechyd, addysg, cymdeithasol na phlant rhwng yr adeg yr oedd yn 13 mis oed a’i farwolaeth yn wyth oed. Yn 18 mis olaf bywyd Dylan, gwnaethpwyd ymdrechion i ymgysylltu â'r teulu, a chyda Dylan, ond heb fawr o lwyddiant. Ni fyddwn byth yn gwybod beth allai fod wedi digwydd pe bai’r ymdrechion hynny wedi arwain at gyswllt uniongyrchol gyda Dylan. Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw bod gweithwyr proffesiynol wedi methu â chael mynediad at blentyn ifanc ac agored i niwed a fu farw o gyflwr y gellir ei drin, er gwaethaf rhywfaint o bryder.

Mae hwn yn achos hynod gymhleth, ac ni fyddech yn disgwyl i mi, na’m cydweithwyr yn y Cabinet, ymateb mewn unrhyw fodd nad yw’n ystyriol. Wedi dweud hynny, gallaf ddweud, er nad yw adrodd i adolygiadau ymarfer plant yn fater o drefn, fy mod i a’m cydweithwyr yn y Cabinet yn teimlo bod y materion unigryw a godwyd gan yr achos hwn yn cyfiawnhau i ni ysgrifennu ar unwaith at bob bwrdd diogelu yng Nghymru, a'r bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol, i dynnu eu sylw at y materion a godwyd a chanfyddiadau'r adroddiad hwn. Byddaf yn gweithio'n agos gyda’m cydweithwyr i gael at wraidd y materion a godwyd gan yr achos hwn, a’r adolygiad ymarfer plant, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr maes o law am y camau yr ydym ni’n bwriadu eu cymryd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad chi y prynhawn yma. Mae marwolaeth Dylan Seabridge, wrth gwrs, wedi’n brawychu ni i gyd, ac mae’n ddyletswydd arnom ni fel Cynulliad, ac arnoch chithau fel Llywodraeth, i wneud pob peth posib i osgoi unrhyw bosibilrwydd o achosion tebyg eto. Ni allwn ddweud nad oes achosion eraill tebyg allan yna. Rydych yn sôn yn eich datganiad bod angen ystyried y gwersi. Rydych yn sôn am yr angen i ystyried a phwyso a mesur llawer iawn o elfennau. Ac rwy’n cytuno nad oes angen ymateb byrbwyll i’r hyn sydd wedi digwydd, ond, wrth gwrs, mae’n rhaid inni symud y broses yma ar fyrder, ac nid oes awgrym o amserlen o fewn eich datganiad chi. Felly, liciwn i ofyn i chi roi syniad inni erbyn pryd rydych chi am i’r broses yma gael ei chwblhau, ac felly erbyn pryd y gallwn ni fod yn hyderus na fydd y diffygion a ganiataodd i’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Dylan ddigwydd eto.

Rydych yn dweud ymhlith y pethau rydych am eu hystyried y byddwch yn annog ac yn cefnogi’r gweithwyr proffesiynol yn y meysydd perthnasol yma i weithredu ar yr hyn rydych chi’n galw’n ‘chwilfrydedd proffesiynol’ ac iddyn nhw gael fwy o hyder i allu gweithio’n effeithiol gyda theuluoedd, ond, wrth gwrs, i deimlo’n fwy hyderus wedyn i weithredu, fel rydych chi’n dweud, nid o reidrwydd pan fo tystiolaeth o achos i ofidio, ond pan fo diffyg tystiolaeth o lesiant. Nawr, mae hynny’n newid reit sylweddol, yn fy marn i, i’r modd y bydd gweithwyr yn y maes yma yn dynesu at sefyllfaoedd o’r fath. Mae’n newid y byrdwn o safbwynt y dystiolaeth sydd ei hangen yn ei lle, a byddwn yn rhagweld bod goblygiadau eang iawn i wasanaethau yn sgil newid o’r fath. Byddwn yn gwerthfawrogi, efallai, petaech chi’n gallu ymhelaethu ychydig wrth ymateb i’m sylwadau i nawr ar hynny, oherwydd rwy’n meddwl bod newid i’r graddau yna yn haeddu mwy na dim ond efallai brawddeg mewn datganiad llafar fel hyn. Beth mae’n golygu mewn gwirionedd? Sut y bydd e’n gwneud gwahaniaeth ymarferol i’r gwasanaethau, a pha oblygiadau all fod i adnoddau yn hyn o beth, ac efallai nifer yr achosion a fydd yn gorfod cael eu hystyried? Nid yw hyn i ddweud fy mod yn gwrthwynebu, yn sicr, ond rwy’n meddwl bod angen pwyso a mesur newid pwyslais o’r fath yn ofalus iawn.

Rydych hefyd yn dweud y byddwch yn ystyried yr arweiniad a’r rheoliadau sydd yn eu lle ar gyfer darparwyr gwasanaethau ym maes oedolion a phlant. Wel, mae hynny yn ei hunan yn dipyn o waith i ymgymryd ag e. Ond, mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys, fel rydych yn dweud, y rhai sydd yn dewis addysgu eu plant gartref. Nawr, liciwn i wybod beth arall sydd ei angen arnoch chi i ganiatáu i chi wneud penderfyniad ar hyn, oherwydd, wrth gwrs, rydym wedi cael dau ymgynghoriad yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf—un yn ôl yn 2012 ar gofrestru a monitro gorfodol, ac un wedyn y llynedd ynglŷn ag arweiniad anstatudol yn y maes yma. Liciwn i wybod beth yw’ch barn chi fel Ysgrifennydd Cabinet, ac os ydych chi’n teimlo bod dim digon o dystiolaeth gyda chi i ddod i benderfyniad, dywedwch wrthon ni pa dystiolaeth ychwanegol sydd ei angen arnoch chi, oherwydd mae’r mater yma wedi bod yn cael ei drafod ers blynyddoedd lawer, ac rwy’n meddwl nawr bod angen i’r Llywodraeth ddod i benderfyniad ynglŷn â chyfeiriad penodol yn hyn o beth.

The final aspect I’d like to touch upon is that concerning the fact that parents here, of course, didn’t seek medical attention, as they felt it wasn’t required. And whilst we don’t know the reasons for this in this specific case, we are aware, of course, of other cases where hostility to medicine motivated parents to seek inappropriate treatment from alternative medicine practitioners, and children have died, of course, in other cases, as a result. And would you agree that, in general terms, it is important for parents to engage with health professionals, and there can be dangers in seeking treatment from unregulated, alternative medicine practitioners, particularly those hostile to evidence-based medicine? And I’d like to hear from you, Cabinet Secretary, what steps the Government will now be taking to ensure that those dangers are also understood?

Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma. Byddai'n deg dweud, er bod yr adolygwyr wedi cymryd cryn dipyn o amser i sicrhau ein bod wedi ymdrin â phopeth, a'r adolygiad ymarfer plant yw'r elfen olaf o’r adeiledd adrodd hwnnw, byddai hefyd yn deg dweud bod fy nhîm, a'r Llywodraeth yn flaenorol, eisoes yn gweithio ar gyfleoedd i wella'r system. Mae'r rhaglen gofal cymdeithasol a lles eisoes wedi gwella’r weithdrefn honno, ers y digwyddiad ofnadwy hwn, felly mae'r ddyletswydd i hysbysu, yr hyfforddiant a'r canllawiau i awdurdodau ac unigolion yn cael eu cyflwyno. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad, mae pwysigrwydd edrych ar yr uned deuluol, yn hytrach nag unigolyn a all fod yn destun rhyw fath o graffu neu adroddiad, yn newid pwysig i’r ffordd yr ydym ni’n gweithredu.

Bydd hyn bob amser yn anodd, o ran baich y profi, a gwrandewais yn astud iawn ar yr Aelod. Rwy’n meddwl, fodd bynnag, ar y sail y byddai'n well gennyf amddiffyn unigolyn, y dylid cymryd rhywfaint o risg yn y broses honno, yn hytrach na dibynnu ar y lobïau cryf iawn, ar y ddwy ochr, ynghylch hawliau'r plentyn neu hawliau'r rhiant. Ond, i mi, mae’n rhaid i’r unigolyn agored i niwed fod bennaf yma, ac efallai, fel Llywodraeth, bod rhaid i ni fod yn llawer mwy cadarn yn ein hymagwedd at hynny—rhoi pwerau i unigolion sy'n ofni bod rhywfaint o risg, heb dystiolaeth bob amser, ond efallai y bydd eu greddf yn dweud bod rhywbeth o’i le. Mae angen i ni allu cefnogi unigolion yn y broses honno.

Mae’r Aelod yn iawn am adnoddau ar gyfer hynny, a dyna pam mae’n bwysig iawn, o’r adolygiad ymarfer plant hwn, fy mod i’n gweithio gyda’m cydweithwyr ar draws y Cabinet, er mwyn deall yn llawn—dim ond un rhan o’r achos penodol hon yw’r elfen addysg gartref, ond ceir llawer o bobl ifanc eraill, byddwn yn awgrymu, nad ydynt yn cael mynediad at system o amgylch gofal iechyd neu addysg, felly pobl sy'n optio allan o addysg hyd at dair oed, ac a allai fod mewn sefyllfa debyg, lle nad oes gennym ni broses gyswllt. Ond rwy’n meddwl mai’r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud fel Llywodraeth yw edrych ar y cyd o gwmpas unigolyn, meddwl am sut yr ydym ni’n mynd i weithredu pwyntiau sbardun, pa gyfleoedd sydd yno i ni i ddeall bod rhywun yn ddiogel. A dyna yw diben y cwestiwn hwn. Ceir llawer o bobl, mewn llawer o amgylchiadau, mewn teuluoedd da iawn, iawn. Ond, yn yr achos hwn, mae'n rhaid i ni gwestiynu ein methiant fel system i beidio â chael y cyswllt, a'r gallu i gysylltu, ag unigolion yn yr union broses hon.

O ran addysg gartref, rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y penderfyniad hwnnw, ac rydym ni, unwaith eto, yn edrych ar holl egwyddor o les, o ran sut y bydd hynny’n edrych, a byddaf yn parhau â’r trafodaethau hynny. Cefais gyfarfod tîm heddiw, ar draws yr adrannau, i ddechrau ystyried yr hyn yr ydym ni’n mynd i'w wneud ynghylch yr achos penodol hwn, a pha wersi y byddwn yn eu dysgu, a sut y byddwn yn eu dehongli, o ran deddfwriaeth neu fel arall, os bydd angen i ni wneud hynny.

Mae'r Aelod yn hollol iawn i gydnabod hefyd y materion heb eu rheoleiddio sy'n ymwneud ag iechyd a cheisio meddyginiaethau nad ydynt wedi’u rheoleiddio. Mae hynny'n peri pryder i mi. Ond rwy'n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei wneud yw dod yn ôl i'r Siambr ar ôl i ni gael mwy o gyd-drafodaeth ar ein cyfleoedd o sicrhau llwyddiant o ran diogelu. Ac, fel y dywedais, rydym ni wedi rhoi llawer o bethau ar waith. Ceir pethau cyson y gallwn eu dysgu o hyd, a dylem ddysgu o'r adolygiadau achos hyn drwy'r amser, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i'w wneud.

Weinidog, diolch am eich datganiad. Roedd hwn yn achos hollol erchyll, sydd wedi peri sioc i bawb, rwy’n meddwl, yn y Siambr hon, ac, yn wir, ledled Cymru. Pan fydd pobl yn clywed, yng Nghymru gyfoes, bod bachgen ifanc, wyth oed, wedi marw o ganlyniad i’r sgyrfi—cyflwr yr oedd pawb yma’n gobeithio ei fod wedi’i daflu i fin sbwriel hanes—rwy’n meddwl y dylem ni i gyd deimlo cywilydd bod y bachgen hwn wedi gallu mynd i gyflwr mor frawychus. Pan fyddwch chi’n meddwl am sut y mae rhywun yn marw o’r sgyrfi—y boen, y gwaedu, y niwed i feinweoedd meddal, yr anghysur ofnadwy y mae’n rhaid bod y bachgen hwn wedi ei wynebu tua diwedd ei oes—mae wir yn gwbl warthus. Rwyf wedi darllen yr adroddiad. Mae'n adroddiad brawychus sy’n cyfeirio at y ffaith na chafodd gwahanol asiantaethau gyfle i weld Dylan gartref oherwydd diffyg cydweithrediad ei rieni, a’r tad yn arbennig. Rwy'n meddwl ei bod yn werth ystyried hyn yn ehangach, a dweud y gwir, o ran ymateb Llywodraeth gyfan, ac ymateb awdurdodau lleol Cymru a’n gwasanaethau addysg ac iechyd hefyd. Felly, rwy’n falch, Weinidog, eich bod yn cymryd amser i wneud hynny'n iawn yn hytrach na rhuthro i mewn i benderfyniadau, ac nad ydych chi’n gwneud hynny’n annibynnol ar eich cydweithwyr eraill yn y Cabinet, ond ar y cyd â nhw.

Rwy’n meddwl ei bod yn deg rhoi cyfle i’r canllawiau a’r fframwaith statudol newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar setlo, oherwydd rwy’n meddwl eu bod yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr angen am ddull amlasiantaeth yn y mathau hyn o sefyllfaoedd yn y dyfodol. Gobeithio y bydd hynny'n cau rhai o'r tyllau yn y rhwyd ​​y bu Dylan ifanc yn ddigon anffodus i syrthio drwyddynt. Roeddwn yn falch, Weinidog, o’ch clywed yn cyfeirio at ymateb 'meddwl am y teulu' fel os oes anghenion yn ymddangos o ganlyniad i iechyd y fam yn yr achos penodol hwn, bod yr effaith ehangach ar y teulu—ar y gŵr, ar Dylan ac, wrth gwrs, ar ei frawd neu chwaer, nad yw wedi cael ei grybwyll yn y Siambr heddiw—yn cael ei hystyried yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, pe bai’r pethau hynny wedi cael eu hystyried yn ehangach, mae'n berffaith bosibl, nid yn unig y byddai chwilfrydedd wedi’i ennyn ymhlith y gweithwyr gofal proffesiynol hynny, ond y gallent fod wedi cymryd camau a allai fod wedi arwain at achub Dylan rhag y sefyllfa fregus hon yr aeth iddi.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag eisiau erlyn yn yr achos penodol hwn yn warthus. Rwyf wedi edrych ar y rhesymau a roddwyd ganddynt, a oedd i gyd yn ymwneud ag iechyd a lles y rhieni, mae'n ymddangos i mi-nid â’r diffyg tystiolaeth o esgeulustod troseddol, ond i gyd â lles y rhieni. A dweud y gwir, o ystyried bod yr un unigolion hynny wedi mynd ymlaen i gychwyn achos llys yn erbyn cyn-gyflogwr mam Dylan ac wedi gallu herio hwnnw, byddwn wedi awgrymu bod eu hiechyd mewn cyflwr perffaith resymol i allu mynd â nhw drwy’r llysoedd. Rwy'n meddwl bod angen i ni wneud esiampl o’r achos hwn. Dyma’r union fathau o achosion y dylid eu dilyn er budd y cyhoedd, nid eu gollwng na’u gwthio o'r neilltu. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech chi ddweud wrthym ba drafodaethau yr ydych chi fel Gweinidog, a’r Llywodraeth yn ehangach, yn eu cael gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn gweld a allant ailagor yr achos hwn, o ystyried y dystiolaeth ychwanegol sydd, wrth gwrs, wedi cael ei dwyn at sylw pawb erbyn hyn yn sgil adroddiad yr adolygiad ymarfer plant.

Tybed hefyd, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym a allech chi ystyried caniatáu rhyw fath o fynediad statudol at blant i gael y brechiadau hynny ac ar gyfer ymweliadau iechyd, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar hynny a blynyddoedd ysgol gynradd. Mae pawb yn gwybod bod ymweliadau gan nyrs yr ysgol neu nyrs gymuned yn nodwedd reolaidd o fywyd ysgol y dyddiau yma. Ond, yn ddigon amlwg, pe bai Dylan wedi cael gweld ymarferydd iechyd, mae'n gwbl bosibl y gallai ei gyflwr fod wedi cael ei ganfod, ac mae'n ddigon posibl y byddai wedi cael ei nodi fel unigolyn agored i niwed. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi ein bod ni wir angen cofrestr ar gyfer y plant hynny sy'n cael addysg gartref. Mae'n ddigon eglur o'r adroddiad nad yw addysg gartref ynddi ei hun yn ffactor risg i unigolion. Ond rwy’n meddwl, pe bai mynediad ychwanegol at y plant hynny yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd eraill, drwy’r system iechyd efallai, y byddai hwnnw'n llwybr llawer gwell, rwy’n meddwl, sy'n diogelu hawliau'r plentyn yr ydym ni i gyd wedi deddfu arnynt yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, gan gynnwys yr hawl i iechyd, ffordd iach o fyw a gwasanaethau iechyd.

Hefyd, Weinidog, tybed pa gymorth y gallai’r Llywodraeth fod yn ei chynnig i rieni nad ydynt, efallai, yn gallu magu eu plant mewn ffordd y mae cymdeithas yn teimlo sy’n addas. Gwn fod y Llywodraeth wedi cefnogi rhaglenni magu plant cadarnhaol, ond sut allwn ni sicrhau eu bod yn cynnwys y bobl sydd, efallai, ar gyrion cymdeithas a chymunedau nad ydynt yn dymuno cymryd rhan? A oes unrhyw orfodaeth, efallai, y gellir ei defnyddio lle gallai fod unigolion fel hyn yn y mathau hyn o sefyllfaoedd?

I gloi, o ran hawliau’r plentyn y Cenhedloedd Unedig, rydym ni oll wedi dweud yn y Siambr hon yr hoffem ni sicrhau bod yr hawliau hynny’n ganolog i'r ymagwedd a fabwysiadir at wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac fel y gwyddoch, fel Ysgrifennydd Cabinet, rhoddir y dyletswyddau hynny arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i ystyried yr hawliau hynny ym mhob cam yr ydych chi’n ei gymryd. Ond, nid yw'r egwyddor sylw dyledus yn cael ei chymhwyso i awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy’n meddwl tybed, Weinidog, a fyddwch chi’n barod i ystyried, ar y cyd â'ch cydweithwyr yn y Cabinet, adolygiad o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a basiwyd gennym yn ystod y trydydd Cynulliad i weld a oes lle i ymestyn y rhwymedigaethau sylw dyledus hynny i awdurdodau lleol ac, yn wir, i’r holl wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Oherwydd rwy’n meddwl, pe bai’r hawliau hynny wedi cael eu hystyried yn eglur iawn, ac mae hyn yn dod allan o'r adroddiad—yr hawl i wasanaeth iechyd, yr hawl i addysg briodol—mae'n berffaith bosibl unwaith eto byddai unigolion wedi cael mynediad at Dylan mewn ffordd wahanol, a dull arall o gael mynediad at Dylan mewn ffordd wahanol, a allai fod wedi canfod ei sefyllfa’n gynt ac efallai achub bywyd ifanc iawn a gafodd ei diffodd yn gwbl ddiangen o ganlyniad i glefyd sy’n ddigon hawdd ei atal.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy'n meddwl mai’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y Siambr hon o ran yr achos penodol hwn yw, nid yw'n bleidiol, mae'n fater o ddysgu o gyfleoedd ac o bob awgrym. Bydd fy nhîm yn nodi ei safbwyntiau a byddwn yn symud ymlaen â’r safbwyntiau hynny. Mae hwn yn achos trist iawn, ac mae'n hanfodol bod pawb sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion yn dysgu gwersi o'r adolygiad. Byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad ymarfer plant yn ofalus, ynghyd â'r meysydd i’w gwella a amlygwyd.

Mae’r ffaith nad oedd Dylan yn weledig i wasanaethau a’r angen i gydnabod awgrymiadau posibl a chymryd camau dilynol yn un pwysig, a chododd yr Aelod hynny’n benodol. Mae methu brechiadau’n fater arwyddocaol y mae angen ei archwilio trwy ddull rhyngasiantaeth, a dyna pam mae’n bwysig nid yn unig i-. Fi sy’n arwain y rhaglen hon, ond mae'n bwysig bod fy nghydweithwyr yn y tîm yn deall eu gweithredoedd a’u hymyriadau gyda phobl ifanc yn ifanc iawn, a sut y mae gennym ni’r dull amlasiantaeth hwnnw, a’i fod yn gweithio. Roedd gwasanaethau meddygol ar gael i Dylan; ond gwnaethpwyd dewis i beidio â manteisio ar wasanaethau meddygol, ac mae'n rhaid i mi gwestiynu hynny ar allu fy swyddogaeth fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros hawliau plant. Felly, mae bob amser yn drafodaeth anodd ei chael am gymesuredd ac ymyrraeth, ond mae'n rhywbeth na ddylem ni ei osgoi, mewn achos lle mae bywyd person ifanc mewn perygl. Ni wnaf gynnig unrhyw farn am Wasanaeth Erlyn y Goron, ond gwnaeth yr Aelod ei farn yn eglur iawn. Byddaf yn gofyn i fy nhîm roi briff pellach i mi ar hynny’n benodol.

Gofynnodd yr Aelod hefyd am ymyriadau o ran rhieni sy’n llai abl, o ran eu gallu neu sydd angen mwy o gefnogaeth. Mae gennym ni lawer o raglenni ar waith: Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf, Rhianta Cadarnhaol, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf hefyd wedi gofyn i fy nhîm edrych arno, unwaith eto, ar draws adrannau, o ran ymyriadau-p'un a ydynt yn dod gan y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, addysg neu'r isadran gymunedau. Beth ydym ni’n ei wneud i gynorthwyo teuluoedd agored i niwed mewn cymunedau? Mae'n rhywbeth y mae gennym ni rai llwyddiannau mawr ohono, ond gall fod yn anodd iawn yn y broses ymgysylltu. Mae'n rhaid i ni gael pobl i mewn drwy’r drws er mwyn i hyn ddigwydd.

Ond mae camau nesaf. Soniais am faterion yn ymwneud â’r hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yn fewnol, a dywedais am ysgrifennu at y byrddau diogelu rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn hefyd yn ystyried canllawiau ac argaeledd gwasanaethau oedolion a phlant sy'n berthnasol. Wrth wneud newidiadau yn rhan o hyn, byddwn yn ystyried y cerrig milltir allweddol lle rhagwelir y byddai rhieni a phlant yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cyffredinol eraill—nid dim ond y rhain, ond pethau’n ymwneud â gwasanaethau beichiogrwydd a bydwreigiaeth, brechiadau i blant yn 2, 3, 4 a 12 mis, a brechiadau cyn-ysgol yn 40 mis. Mae'r rhain i gyd yn sbardunau allweddol, a phan fo pobl allan o'r system, dylai fod gennym ni rai pryderon ynglŷn â hynny. Gallai fod yn fater o golli apwyntiad, ond gallai fod yn rhywbeth pwysicach y dylem ni ymateb iddo gan ddefnyddio dull amlasiantaeth, amlddisgyblaeth.

Diolch. A gaf i atgoffa’r Aelodau mai datganiad yw hwn, ac felly cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet yw'r rhain? Rwy’n mynd i fod yn dynn iawn nawr. Mae gen i nifer o siaradwyr sydd eisiau siarad, ac mae llefarwyr wedi cael eu cyfle. Cymerodd rhai ohonyn nhw ychydig bach yn rhy hir a byddaf yn siarad â nhw ychydig yn nes ymlaen, ond a gawn ni ofyn cwestiynau yn unig i'r Gweinidog nawr? Jenny Rathbone, os gwelwch yn dda.

Rwy’n meddwl, dim ond i ddweud, bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i’n holl blant. P’un a oes gennym ni blant ai peidio, nhw yw ein dyfodol. A'r ffordd orau y mae cymdeithas yn gofalu am blant, cyn gynted â’u bod o oedran ysgol, yw yn yr ysgol. Felly, mae'n ymddangos i mi, er nad yw'n golygu dweud bod plentyn sy’n cael ei addysgu gartref o reidrwydd mewn perygl, mae’r ffaith nad yw yn yr ysgol yn golygu bod angen rhoi sylw arbennig ychwanegol i sicrhau bod rhywun yn gweld y plentyn hwnnw. Yn amlwg, ni ddigwyddodd hyn yn yr achos hwn.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn am y cyfleoedd a gollwyd pan roedd brechiadau i fod i gael eu rhoi. Nid wyf yn dadlau ac yn dweud bod gan y wladwriaeth hawl i fynnu bod brechiad yn digwydd, ond os nad yw'r brechiad yn mynd i ddigwydd, mae angen gweld y plentyn beth bynnag, dim ond i wneud yn siŵr nad yw lles y plentyn yn cael ei beryglu.

Mae gan y plentyn hawl i addysg feithrin yn dair oed. Felly, yr awdurdod lleol—tybed pam nad oedden nhw’n meddwl pam nad oedd enw’r plentyn hwn i lawr i gael lle meithrin am ddim. Os nad oeddent, pam ddim? Oherwydd mae angen i bob awdurdod lleol fod yn cynllunio ar gyfer hynny ac, os nad yw'r rhiant yn dymuno ei gymryd, gellir cofnodi hynny. Ond, mae angen gofyn y cwestiwn o leiaf, i'r rhai nad ydynt efallai’n gwybod am yr hawl hwnnw. Pan nad yw plentyn yn bresennol mewn dosbarth derbyn pan mae’n codi’n bum mlwydd oed, mae hwnnw, does bosib, yn gyfle arall i'r awdurdod lleol wirio bod y plentyn naill ai wedi ei gofrestru yn yr ysgol neu wedi ei gofrestru fel rhywun sy’n cael addysg gartref. Felly, rwy'n poeni nad oes gofyniad penodol yn Neddf Addysg 1996 i AALlau ymchwilio i weld a yw rhieni’n cydymffurfio â'r rhwymedigaeth i roi addysg i bob plentyn. Rwy’n gobeithio bod hwnnw’n un o'r—

Fy nghwestiwn olaf yw: pan gydnabuwyd, ym mis Mehefin 2010, bod plant dan sylw ac yr ymwelodd dau swyddog â'r tŷ a chael gwrthod mynediad, pam na chafodd pwerau statudol eu defnyddio bryd hynny i sicrhau bod y plentyn yn cael ei weld?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau cryno. Mae'r Aelod yn gofyn rhai cwestiynau pwysig iawn, ac mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn eu hystyried yn eu dull o ddatrys rhywfaint o'r dystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r adolygiad ymarfer plant hwn. Mae addysg gartref ddewisol yn fater y mae angen i ni ymdrin ag ef yn rhan o hynny hefyd, o ran y posibilrwydd bod hynny’n cynyddu risg. Mae'r Aelod yn cyflwyno ymagwedd resymegol iawn at yr atebion i'r broblem hon o'r hyn a ddigwyddodd yma. Ond mae’n sicr na wnaeth lifo fel hynny yn y broses honno. Bydd yr Aelod yn wybodus am y gofynion penodol yn y Ddeddf. Mae'n fater o gofrestru pobl ifanc pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn deall pwyntiau sbardun a phryd neu ble y dylai unigolion weithredu ar y rhain.

Roedd methiant eglur yn y system a chollodd y bachgen ifanc hwn ei fywyd ac mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o hynny. Mae'n rhywbeth, fel y dywedais yn gynharach, y mae’r pedwar cydweithiwr yn y Cabinet yn gweithio arno gyda mi, i ddatrys rhai o'r bylchau hyn yn y system. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc o dan yr amgylchiadau hyn yn iawn, ond bydd un neu ddau fel yr ydym ni wedi gweld yma. Ni allaf sefyll yma heddiw a dweud nad oes mwy o blant fel Dylan yn ein cymuned, ac mae hynny'n fy mhoeni. Mae hynny'n rhywbeth lle mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda'n gilydd, ên bod yn ceisio cau'r bylchau hynny.

Yn y bôn, mae achos Dylan Seabridge yn gwbl dorcalonnus. Mae'r rheini ohonom sydd â phlant yn teimlo felly am hyn, yn enwedig y ffaith ei fod wedi cael ei adael i lawr gan y bobl a oedd yn gyfrifol am ofalu amdano. Rwy'n adnabod llawer o deuluoedd sy’n byw i mewn sydd wedi addysgu eu plant gartref gyda llwyddiant mawr ac mae’r plant hynny wedi tyfu’n bobl dda a chyflawn ac wedi mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd da ac wedi mynd i’r brifysgol.

Ar y llaw arall, gallwn edrych ar achos Daniel Pelka, a fu farw wrth law ei rieni yn 2012, a oedd yn mynd drwy'r system draddodiadol ac a gafodd ei ganfod yn chwilota mewn biniau am fwyd yn yr ysgol gan ei fod yn cael ei gam-drin yn ofnadwy gartref. Nawr, er gwaethaf hyn, a'r ffaith ei fod wedi colli 28 diwrnod o ysgol, ni chanfuwyd y cam-drin gan yr athrawon na chan unrhyw un o’r bobl a oedd yn gyfrifol am ofalu amdano.

Fy mhle i, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, yw nad ydych chi’n ymateb yn ddifeddwl i achos Dylan ac nad yw addysgu gartref yn anoddach neu’n fwy heriol i’r bobl hynny sy'n dewis y llwybr hwn. Sut y gallwch sicrhau bod plant agored i niwed yn cael eu gweld yn rheolaidd gan y rhai sy'n gyfrifol am eu diogelwch ac nad oes mwy o blant yn llithro drwy'r rhwyd ​​ddiogelwch, ac nad yw rhieni sy’n addysgu gartref yn mynd i gael eu difrïo? A hefyd, a wnewch chi sicrhau bod yna gydbwysedd rhwng hawl rhieni i fagu eu plant yn y ffordd y maent yn ei gweld orau a hawl y plentyn i gael addysg ac iechyd?

Dim ond un pwynt olaf: rydych wedi sôn sawl gwaith, nawr, am frechu; a ydych yn dweud bod pobl nad ydynt yn brechu eu plant-? A yw hyn yn sbardun sy’n gwneud i chi feddwl y gallai fod cam-drin yn digwydd yn y cartref? Beth oedd y berthynas yr oeddech yn sôn amdani â brechu? A allech wneud hynny’n glir?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Mae hwn yn achos trist dros ben, fel y dywedais—plentyn yn anweledig i wasanaethau cyffredinol. Rwy'n meddwl mai’r hyn sy'n bwysig, ac rwyf wedi dweud hyn ers dechrau'r drafodaeth hon, yw nad wyf yn meddwl mai addysg ddewisol yn y cartref yw'r unig fater yma. Rwy'n meddwl bod gennym gasgliad o broblemau sydd wedi dod at ei gilydd i roi canlyniad gwael iawn, gyda pherson ifanc yn colli ei fywyd, ac mae'n rhaid inni fynd at wraidd hynny. Bydd trafodaethau anodd â phob sector am yr hyn yr ydym yn ei wneud ynglŷn â hyn. Nid yw'n fater o ladd ar hwn neu'r llall; mae’n fater o wneud y penderfyniad cywir. Mae'r Aelod yn sôn am gydbwysedd rhwng hawl y plentyn a hawl y rhiant, ac rwy’n deall hynny, ond rhaid imi ochri bob amser â hawliau pobl agored i niwed. Os mai’r person ifanc yw'r un sy'n agored i niwed yma, byddaf, ar bob cyfrif, yn amddiffyn y broses honno.

Rwy'n eithaf hapus i egluro’r mater brechu. Nid oedd hyn yn fater o orfodi pob rhiant i frechu eu plant; mae'n dal i fod yn ddewis y rhieni, ac rwy’n gwbl fodlon ar y broses honno. Yr hyn yr oeddwn yn ei awgrymu, ar adeg pan mae’n bryd brechu rhywun, y dylai'r gwasanaeth iechyd ddeall bod hwnnw’n bwynt sbardun-p’un a yw'r rhiant yn gwneud dewis naill ai o blaid neu yn erbyn brechu, ac mae hynny'n gwbl resymoli sicrhau bod y plentyn dan sylw mewn cyflwr diogel. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n afresymol, i sicrhau ein bod yn cadw llygad ar ein pobl ifanc, sydd weithiau’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus iawn.

Soniodd yr Aelod am achos arall, ofnadwy, lle’r oedd bachgen ifanc dan amgylchiadau traddodiadol, ond y cafodd ei hun mewn sefyllfa o esgeulustod, ac rwy’n derbyn ac yn cydnabod hynny, hefyd. Y problemau sydd gennym yma yw bod rhai unigolion yn disgyn drwy'r system, ac mae'n rhaid inni ddeall yn well sut y mae hynny'n digwydd. Yr ymagwedd amlasiantaethol sydd ei hangen arnom, lle mewn gwirionedd, hyd yn oed yn achos Dylan, pe baech yn pentyrru rhai agweddau unigol ohono, efallai—. Wel, yn amlwg ni sylwyd ar y peth, ond pan ydych yn eu pentyrru gyda'i gilydd, mae hyn yn gwneud achos go iawn lle, mewn gwirionedd, y dylem fod yn gwneud ymyriadau cryf. Dyna beth mae angen inni sicrhau ei fod yn digwydd yn y dyfodol, ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi’i ddysgu o'r adolygiad ymarfer plant, a rhywbeth yr ydym yn parhau i’w ddysgu.

Rhaid imi ddweud, rwy'n eithaf siomedig â'r datganiad hwn heddiw, Weinidog. Pan ofynnais gwestiwn brys ôl ym mis Ionawr, dywedwyd wrthyf am aros am yr adolygiad ymarfer plant; nawr bod yr adolygiad ymarfer plant wedi cael ei gyhoeddi, dywedir wrthyf am aros am lawer gormod o amser eto, heb ddim amserlen na syniad o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud.

Nid wyf yn rhannu eich hyder, Weinidog, ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A allwch gadarnhau wrthyf, er bod y Ddeddf hon yn cyflwyno dyletswyddau newydd a mwy o hyfforddiant, nad yw'n cyflwyno pwerau newydd, ac felly y gallai'r sefyllfa yn wir godi eto? Gyda Dylan Seabridge, ceisiodd swyddogion addysg ei weld yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd; nid oedd hynny'n hawl statudol, i weld plentyn sy’n cael addysg gartref, a dyna beth sydd wedi cael sylw yn yr adolygiad ymarfer plant mewn argymhelliad clir i gofrestru plant sy’n cael addysg gartref—nid ymyrryd ag addysg gartref, ond cofrestr a hawl i sicrhau bod y plant hynny’n cael addysg a gofal. Mae hwn yn ddarn coll o'ch datganiad nad ydych wedi ymdrin ag ef. A ydych yn ei fwrw, unwaith eto, o’r neilltu, ynteu a ydych wir yn mynd i wynebu’r angen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ym mha bynnag sefyllfa y mae’n cael ei addysgu—gan gynnwys ysgolion preifat yng Nghymru—yn cael ei gofnodi’n briodol o ran ei addysg a’i les?

A'r pwynt olaf yw bod yr adolygiad ymarfer plant yn dweud yn glir iawn nad oedd y ffordd y cafodd Dylan Seabridge ei drin gan yr awdurdodau’n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ai cerydd i Lywodraeth Cymru yw hynny, ynteu ai cerydd i’r awdurdodau dan sylw, a pha gamau yr ydych wedi'u cymryd?

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Bydd yn cydnabod fy mod wedi bod yn y swydd ers ychydig dros chwe wythnos ac fy mod wedi codi’r ffeil ofnadwy hon y mae ef yn gyfarwydd iawn â hi. Rwy’n hyderus bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddarn cadarnhaol iawn o waith sy'n cynnwys yr hawl i gyrff statudol ac unigolion adrodd. Bydd yr Aelod hefyd yn cydnabod bod y mater ynglŷn â’r argymhellion sydd wedi’u gwneud yn yr adolygiad ymarfer plant-ni ddylai hwn fod yn fater o feio rhywun, dylai fod yn gyfle i ni i gyd ddysgu a gwneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto.

Doeddwn i ddim yn amharod i ddod ymlaen yn gynharach i ddweud na allaf warantu nad oes Dylan arall yn y system. Yr hyn y gallaf ei warantu yw y bydd fy nhîm, sy'n gweithio ar draws y Cabinet, yn ceisio cau’r bylchau hynny, boed hynny ar gofrestrau neu beidio. A dweud y gwir, fy marn bersonol yw nad wyf yn meddwl y bydd cofrestr yn datrys y broblem hon. Gallai fod yn rhan o ateb, ond nid dyna'r unig ffordd o drwsio hyn a dyna beth mae’n rhaid inni ei ddeall yn well i wneud yn siŵr nad yw senario Dylan yn digwydd i unrhyw blentyn eto.

Weinidog, rwy’n mynd i wneud fy natganiad yn fyr, yn finiog ac yn bwrpasol. Fel y gwyddoch, rwy’n byw yn Sir Benfro ac rwyf wedi darllen llawer o adolygiadau achos, ac mae rhai ohonynt yn eithaf trasig, o’r awdurdod hwnnw. Fy nghwestiwn i chi yw-mae'n un miniog a phwrpasol-a ydych chi wedi edrych ar sut y gwnaethant ymdrin â'r achos hwn, a ydych chi wedi edrych ar unrhyw beth y maent wedi’i ddysgu ohono? Oherwydd rwy’n gallu meddwl mai dyma'r trydydd achos trasig sydd wedi dod o Sir Benfro, a gallaf hefyd feddwl ein bod bob tro’n clywed bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd a rhywbeth yn mynd i gael ei ddysgu, ac rwy'n siŵr bod hynny’n wir. Ond yr hyn yr wyf wir eisiau ei wybod yma, a dyma beth sydd wir yn brifo, rwy'n meddwl, yn yr achos hwn yn ei gyfanrwydd, yw bod rhywun wedi riportio’r peth flwyddyn lawn cyn i’r plentyn farw, ac na chafodd dim camau eu cymryd. Dyna i mi beth sydd wir yn brifo. Oherwydd, pe bai’r camau hynny wedi'u cymryd ar y pryd, gallai’r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol. Y mater arall oedd bod yr unigolyn a dynnodd sylw at hyn yn byw yng Ngheredigion a’r plentyn yn byw yn Sir Benfro. Ffin artiffisial awdurdodau yw honno. Rwy'n siŵr nad oes un enaid yma a fyddai'n cytuno bod ffin artiffisial yn galluogi pobl i godi llaw a dweud, 'Nid fy mhroblem i; rydw i wedi gwneud fy rhan. Rydw i wedi riportio’r peth ond awdurdod arall ddylai ymdrin ag ef'. Dydw i ddim yn meddwl yr hoffai neb ohonom byth fod yn ôl yma eto mewn sefyllfa lle gallwch ddweud, 'Rydw i wedi ei riportio’, ond nad ydych yn dilyn y mater, a'i fod yn cael ei riportio ac nad ydych yn cymryd camau oherwydd bod ychydig o ddeddfwriaeth yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau ac eto rwy’n cydnabod y gwaith y mae hi wedi'i wneud yn lleol ar y mater penodol hwn, ac eraill, yn wir. Byddaf yn gofyn i'r bwrdd cenedlaethol ddilyn y mater a rhannu'r gwelliannau pellach y mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi’u nodi ar eu cyfer eu hunain i wneud mwy i ddatblygu trefniadau diogelu amlasiantaethol, sy'n myfyrio ar yr achos penodol hwn. Yn wir, ni ddylai’r mater trawsffiniol fod yn fater o gwbl, ond yn amlwg mi roedd yn y broses hon. Mae methiant cofnodi’r system yn amlwg yn yr adolygiad ymarfer plant hwn. Mae'n feirniadaeth drist iawn, a dweud y gwir, bod yn rhaid inni ddysgu gwersi o achos mor drist, ond mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny. Roedd Sir Benfro, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mewn mesurau arbennig. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei dderbyn, yn y bôn, y bu methiannau a nodwyd. Rydym wedi cefnogi'r awdurdod i symud i sefyllfa well, ond mae’r bwrdd diogelu—mae’n gyfrifoldeb i bawb, ac, fel y dywedodd Jenny yn gynharach, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr, ar y cyd, ein bod yn gofalu am ddyfodol ein plant. Dyma un enghraifft lle methodd y system yn llwyr ac mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn iawn yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rwyf wrth fy modd o weld yr adroddiad hwn heddiw. Gelwais am adolygiad annibynnol o'r achos hwn a chefais fy nghystwyo—nid gan y Gweinidog, a adawodd fi i lawr yn ysgafn yn y Siambr hon, ond gan aelodau cynghorau sir Ceredigion a Sir Benfro—am alw am adolygiad annibynnol. Fy rheswm dros alw am adolygiad annibynnol oedd yr union bwynt a godwyd yma: cyfathrebu amlasiantaethol a chydweithio. Mae Joyce Watson wedi sôn am ran ohono, ond dewch inni fod yn wirioneddol glir, Weinidog; roedd grŵp cynghori gweinidogol ar waith, roedd Cyngor Sir Benfro mewn mesurau arbennig, roedd Estyn wedi mynd drwyddo â chrib fân, roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi mynd drwyddo â chrib fân, ac ni wnaeth dim un o'r sefydliadau hynny feddwl, 'O diar, dyma farwolaeth plentyn ac nid oes neb yn cynnal adolygiad arno'. Ni wnaeth neb feddwl bod hynny’n anghyffredin; ni wnaeth neb feddwl bod hynny’n anhygoel.

Yn olaf, Dylan Seabridge yw'r dioddefwr tristaf yn yr achos hwn, ond mae yna ddioddefwr arall, sef y sawl a chwythodd y chwiban, a ddylai fod wedi’i warchod gan yr holl bolisïau a phrotocolau chwythu'r chwiban sydd gennym ar waith. Chwythwr chwiban sydd, unwaith eto, wedi cael ei gystwyo ei hun—gan un yn bennaf, ond mae ail—sydd wedi cael amser ofnadwy yn ei swydd. Ni allaf enwi’r unigolyn. Cafodd yr unigolyn ei drin yn eithaf drwg hefyd gan yr union gorff adolygu hwn, a roddodd ychydig iawn o amser i’r unigolyn—cynnig cyfarfod, tynnu’r cynnig hwnnw’n ôl, a phob math o nonsens felly. Rydym yma i warchod ein chwythwyr chwiban; mae arnom angen chwythwyr chwiban ym mhob sefydliad mawr, cyhoeddus a phreifat, i ddweud wrthym pan fyddwn yn gwneud drwg. Ceisiodd rhywun ddweud wrthym ein bod yn gwneud drwg; wnaethom ni ddim gwrando.

Gwrandewais ar gyfraniad yr Aelod; ni allaf gynnig unrhyw bwyntiau pellach i hynny. Ond fy mhwynt olaf, Ddirprwy Lywydd: ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd i Dylan a'r cynigion a aeth a ni at y pwynt hwn, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yn sgil Dylan yw dysgu beth i beidio â'i wneud neu’r pethau iawn i'w gwneud ar gyfer y dyfodol. Gall yr Aelod gynnig llawer o arweiniad i’r Llywodraeth o ran yr hyn y mae hi'n meddwl y gallai wella ein systemau a byddwn yn croesawu cael y drafodaeth honno, fel gyda phob Aelod o'r Siambr. Rhaid inni ddysgu gwneud yn siŵr bod gennym systemau ar waith sy'n amddiffyn unigolion agored i niwed—plant neu oedolion—ym mhob sefyllfa ledled Cymru, ac mae'n rhywbeth y mae fy nhîm a fy nghydweithwyr gweinidogol yn ei gymryd yn ddifrifol iawn.

6. 5. Datganiad: Cronfa Triniaethau Newydd

We move on to the next item, which is a statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport on the new treatment fund, and I call Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:07:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ein maniffesto, gwnaethom ymrwymiad i wella’r gwaith o gyflwyno triniaethau arloesol drwy sefydlu cronfa triniaethau newydd yng Nghymru. Roeddem hefyd yn cytuno â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen, y dylid cynnal adolygiad annibynnol o'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, a adwaenir hefyd fel IPFR.

Yng Nghymru, rydym yn falch o weithredu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gyflwyno meddyginiaethau newydd yn y GIG. Mae triniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu trwyddedu a’u cymeradwyo i'w defnyddio yn y GIG yn fisol bron, gan ddod â’r posibilrwydd o wellhad neu ansawdd bywyd gwell i bobl â chyflyrau gydol oes neu gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae rhai o'r meddyginiaethau newydd hyn yn gostus iawn i’r GIG, gan roi cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu buddsoddi lle mae prawf o’r manteision i gleifion yn cydbwyso â’r gost. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa driniaethau ddylai fod ar gael fel mater o drefn yn GIG Cymru.

Rydym yn dibynnu ar y cyngor arbenigol ac awdurdodol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a adwaenir hefyd fel NICE, a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a adwaenir hefyd fel AWMSG. Mae'r ddau gorff hyn yn cynnal gwerthusiadau cadarn o feddyginiaethau trwyddedig newydd trwy asesu’r dystiolaeth o’r effeithiolrwydd clinigol i gleifion yn erbyn y gost a godir ar y GIG gan y gwneuthurwr.

Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi yn ein rhaglen ein hunain o werthuso meddyginiaethau er mwyn sicrhau y gall Cymru benderfynu pa feddyginiaethau newydd ddylai fod ar gael yn y GIG cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn sicrhau bod y cleifion yn cael y meddyginiaethau newydd mwyaf effeithiol yn glinigol a’r mwyaf cost effeithiol.

Ers i'r AWMSG gael ei sefydlu yn 2002, mae wedi darparu cyngor ar 286 o feddyginiaethau newydd, gan argymell 84 y cant ar gyfer eu defnyddio yn GIG Cymru. Yn 2015-16, cafodd 45 o'r 47 meddyginiaeth a arfarnwyd eu cymeradwyo i'w defnyddio yng Nghymru. Er mwyn gwella’r tebygolrwydd o arfarniad cadarnhaol, cyflwynwyd cynllun mynediad cleifion Cymru yn 2012 i annog y diwydiant fferyllol i gynnig prisiau ar gyfer meddyginiaethau newydd sy’n cydbwyso’n well â'u manteision clinigol. Mae hyn wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer meddyginiaethau newydd i fod ar gael fel mater o drefn yng Nghymru. Hyd yma, sicrhawyd bod 21 o feddyginiaethau newydd ar gael gan ddefnyddio’r cynllun hwn.

Bydd y gronfa triniaethau newydd yn cefnogi cyflwyniad cynnar y meddyginiaethau cost uchel mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd wedi eu hargymell gan NICE neu AWMSG. Bydd £80 miliwn ar gael yn ystod oes y Llywodraeth hon i sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael sy'n mynd i'r afael ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu, ac sy’n gam sylweddol ymlaen ar gyfer trin clefydau sy'n bygwth bywyd a chlefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Bydd hyn yn cael ei ddarparu yn gyson ar draws Cymru cyn gynted ag y bo modd yn dilyn argymhelliad cadarnhaol gan naill ai NICE neu AWMSG. Bydd y gronfa triniaethau newydd yn talu cost y meddyginiaethau newydd hyn am uchafswm o 12 mis, gan roi amser i fyrddau iechyd gynllunio a blaenoriaethu cyllid o’u cyllidebau.

Mae'r gronfa wedi datblygu o'n profiad ni o sicrhau bod triniaethau cost uchel newydd ar gael i bobl Cymru ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau sy'n newid bywyd. Yr haf diwethaf, er enghraifft, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid sylweddol o'i chronfeydd canolog i alluogi'r GIG i ariannu pedair triniaeth newydd ar gyfer hepatitis C a thriniaeth newydd ar gyfer clefyd genetig a phrin sy’n gwaethygu’n raddol o'r enw aHUS. Mae'r meddyginiaethau hyn yn gam mawr ymlaen o ran trin cleifion ac wedi sicrhau manteision iechyd a chymdeithasol sylweddol i gleifion.

Mae'n hanfodol bod y gronfa triniaethau newydd yn cael ei gweithredu yn dryloyw ac yn cael ei deall yn eang. Yn ystod yr haf, byddwn yn mireinio'r meini prawf a'r mecanweithiau sydd eu hangen i reoli'r gronfa yn effeithiol, ac rwy’n rhagweld y bydd y gronfa yn weithredol erbyn mis Rhagfyr. Yn bwysicaf oll, bydd yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cyflymach at driniaethau sy’n newid ac yn achub bywyd lle bynnag y maent yn byw.

Lle nad yw meddyginiaeth neu driniaeth wedi cael ei gwerthuso neu ei chymeradwyo i'w defnyddio yn GIG Cymru, gall clinigydd wneud cais, ar ran ei gleifion, iddi fod ar gael drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, a adwaenir yn gyffredin fel IPFR.

Mae'n iawn bod gennym broses yng Nghymru i alluogi mynediad at driniaethau a dyfeisiau nad ydynt ar gael fel arfer drwy'r GIG. Mae gan bob gwasanaeth iechyd yn y DU broses o'r fath, gyda meini prawf clinigol i bennu pa una fyddant ar gael ai peidio. Mae proses IPFR GIG Cymru wedi ei gwella yn dilyn adolygiad yn 2013-14. Cynhelir adolygiad pellach yn awr i sicrhau gwell cysondeb o ran penderfyniadau ledled Cymru ac i wneud argymhellion ynghylch pa feini prawf clinigol y dylid eu cymhwyso wrth benderfynu pwy sy'n gymwys.

Rwyf wedi trafod y cwmpas ar gyfer adolygiad annibynnol o'r broses IPFR gyda llefarwyr iechyd o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hoffwn ddiolch iddynt am y ffordd adeiladol ac aeddfed y cynhaliwyd y trafodaethau hynny. Ceir cytundeb cyffredinol bod y panel adolygu i dynnu ar arbenigedd a phrofiad y system yng Nghymru ac i ddod â safbwynt newydd o'r tu allan i Gymru. Bydd safbwynt y claf hefyd yn elfen hanfodol o'r adolygiad. Bydd yr adolygiad yn ystyried yn benodol y meini prawf eithriadoldeb clinigol a'r posibilrwydd o un panel IPFR cenedlaethol.

Rwyf yn dymuno gweld adolygiad byr sy’n canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r materion hyn, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ym mis Medi. Byddwn yn parhau i wneud y broses werthuso yn rhan ganolog o’r dull ni o ymdrin â meddyginiaethau yng Nghymru, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad at driniaeth effeithiol ar gyfer eu salwch neu glefyd.

Bydd y gronfa triniaethau newydd yn cefnogi'r dull hwn trwy ddarparu mynediad cynnar i feddyginiaethau cost uchel, arloesol, sy'n cynnig dewisiadau triniaeth newydd i bobl sydd â chyflyrau gydol oes a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r broses IPFR er mwyn sicrhau ei bod yn deg ac yn gyson ledled Cymru. Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at driniaeth gyfartal lle bynnag y maent yn byw.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Gan ei rannu yn ddwy ran, o ran IPFR, yn syml iawn, rydym yn croesawu'r adolygiad annibynnol o IPFR ac, yn benodol, yr archwiliad o eithriadoldeb. Rydym ni, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn meddwl fod hyn yn greiddiol i'r mater hwn. Mae hwn, wrth gwrs, yn adolygiad sydd wedi ei ennill gan Blaid Cymru i bobl Cymru o ganlyniad i'r compact ar ôl yr etholiad, ac rydym yn sicr yn edrych ymlaen at weld yr adolygiad yn mynd rhagddo.

Byddem yn annog pawb y mae materion IPFR wedi effeithio arnynt i gyfrannu at yr adolygiad hwn, a byddai'n ddiddorol gwybod pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i roi cyhoeddusrwydd i'r adolygiad pan fydd yn mynd rhagddo.

O ran annibyniaeth yr adolygiad, ydy, mae'n bwysig bod GIG Cymru yn rhoi mewnbwn i'r adolygiad, ond byddwn yn croesawu sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y cadeirydd yn annibynnol ar GIG Cymru.

O ran y gronfa triniaethau newydd, rwy'n sicr—ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn sicr yn falch bod y Llywodraeth bellach yn cydnabod bod hon yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod yma fod BILlau wedi bod dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod triniaethau NICE neu driniaethau a gymeradwywyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru ar gael i gleifion sy'n gymwys am nifer o flynyddoedd, gyda chyfarwyddiadau gweinidogol i fyrddau yn nodi hyn yn benodol. A yw'r Gweinidog, felly, yn derbyn bod methiant y BILlau, mewn llawer o achosion, i gadw at y canllawiau hyn yn fethiant o ran llywodraethu iechyd ac yn fethiant o ran cyflawni?

Yn gysylltiedig â hyn, rwy’n ymwybodol o achosion lle mae cleifion wedi cael gwybod, yn anghywir, nad yw triniaeth wedi ei chymeradwyo at ddefnydd cyffredinol pan, mewn gwirionedd, mae wedi cael ei chymeradwyo, gan gynnwys un achos yn arbennig pan fu’n rhaid i glaf gyflwyno barn y NICE a'r cyfarwyddyd gweinidogol ar fynediad at driniaethau a gymeradwywyd i’w meddyg ymgynghorol er mwyn cael newid meddwl. Felly, pa gamau yr ydych chi’n mynd i'w cymryd i sicrhau bod clinigwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau NICE oherwydd, yn eithaf amlwg, nid yw pob claf yn mynd i fod yn gallu bod yn bendant ac yn ddigon gwybodus am y system, a bydd pobl, efallai, ddim yn cael triniaethau o ganlyniad i hyn?

Yn olaf, rwy’n symud at arian. Rydych yn dweud y bydd £80 miliwn ar gael yn ystod oes y Llywodraeth hon i sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael. I’w rannu i gyfnod o bum mlynedd, dyna £16 miliwn y flwyddyn. Rydym wedi bod yn awgrymu y dylai arian gael ei glustnodi o’r cynllun gostwng prisiau fferyllol—£55 miliwn y flwyddyn—ac, oedd, roedd hynny efallai yn fwy nag oedd yn angenrheidiol, ond mae £16 miliwn yn ymddangos yn fach. Pa mor hyderus y mae’r Gweinidog y bydd y gyllideb a ddyrannwyd yn caniatáu i'r Llywodraeth gyflawni ei deilliannau dymunol? Dywedasoch hefyd y bydd cronfa triniaethau newydd yn talu costau’r meddyginiaethau newydd hyn am uchafswm o 12 mis, gan roi amser i fyrddau iechyd gynllunio a blaenoriaethu cyllid o fewn eu cyllidebau wedi hynny. Sut allwn ni fod yn sicr y bydd costau’r meddyginiaethau newydd hyn yn cael eu dwyn o fewn y cyllidebau o fewn 12 mis, a beth yw'r mecanwaith gorfodi y byddwch yn ei gynnig os nad ydynt? Rydym yn croesawu’r cyhoeddiadau hyn, ond nid ydynt ond cystal â’r cyllidebau a ddyrannwyd a'r broses a'r prosesau a ddefnyddir i gyflwyno'r egwyddor.

A gaf i ddiolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau? Byddaf yn dechrau gyda'r gronfa triniaethau newydd. Rydym yn disgwyl i'r amlen ariannol yr ydym wedi'i chyhoeddi ac wedi ei gosod i fod yn ddigonol i ymdrin â'r meddyginiaethau y byddem yn eu disgwyl. Mae hynny’n seiliedig ar ein profiad blaenorol a rhywfaint o sganio’r gorwel o ran y triniaethau tebygol a all ddod i’r amlwg a'r meddyginiaethau cost uchel yr ydym wedi ymdrin â hwy yn y gorffennol. Yn hyn i gyd, mae elfen o ragolwg ac mae bob amser elfen o edrych ar yr hyn sy'n digwydd os yw'r ffeithiau yn newid. Felly, os yw’r ffeithiau yn newid, mae angen i ni ddod yn ôl i'r Siambr, a byddwn yn dod yn ôl o ran y trafodaethau cyllidebol hynny. Pwynt o fod yn onest yw hynny, ond rwy’n meddwl ei fod yn ddigon i ymdrin â'r disgwyliadau a roddwn ar y gronfa.

O ran y pwynt a wnewch am glinigwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd ar gael, wel, ni all clinigwyr gontractio allan o'u cyfrifoldeb proffesiynol unigol, ac nid wyf yn credu ei fod yn fater i’r Llywodraeth ddweud wrth glinigwyr yn barhaus, 'Dyma beth y mae NICE yn ei argymell ar hyn o bryd neu’n sicrhau sydd ar gael ar gyfer triniaeth'. Rwy'n gwybod o fy mywyd blaenorol, o fod yn weithiwr proffesiynol, mai fy nghyfrifoldeb unigol i oedd gwneud yn siŵr fod gen i’r wybodaeth ddiweddaraf a fy mod yn gyfarwydd â'r hyn yr oedd y gyfraith yn gofyn imi ei wneud, yn flaenorol. Ond rwyf yn meddwl bod y cyhoeddusrwydd cychwynnol y mae’r gronfa triniaethau newydd yn debygol o’i gael—.Ond gwaith parhaus y gronfa triniaethau newydd, byddwn yn disgwyl na fyddai clinigwyr yn edrych am esgusodion dros beidio â deall pa driniaeth sydd ar gael, neu'r cymorth sydd ar gael o fewn eu bwrdd iechyd ac ar lefel genedlaethol i sicrhau bod triniaethau newydd ac arloesol sydd wedi'u rhoi ar gael yno, ac ar gael ar gyfer y cleifion y mae ganddynt gyfrifoldebau amdanynt yn uniongyrchol. Rwy’n meddwl bod ein clinigwyr yn griw eithaf cydwybodol wrth wneud hynny, ond os yw e’n dymuno i mi ymdrin â’r mater unigol y cyfeiriodd ato, yna byddwn yn hapus i wneud hynny a deall sut y mae hynny wedi digwydd, oherwydd yn sicr nid yw’n rhywbeth y byddwn am ei weld yn cael ei ailadrodd.

O ran y cyllid ar gyfer hyn, soniasoch am y PPRS—y cynllun gostwng prisiau fferyllol. Mae incwm mewn gwirionedd yn gostwng ar y PPRS oherwydd newid yn y rheolau. Felly, mae'n her sylweddol ar gyfer yr holl weinyddiaethau datganoledig ac, yn wir, ar gyfer GIG Lloegr. Maent yn rhagweld twll sylweddol yn eu cyllideb o ganlyniad i'r cynllun yn gostwng, ac mae'n fater lle mae GIG Lloegr a swyddogion yr Adran Iechyd yn edrych eto ar y rheolau ar gyfer y cynllun i geisio edrych eto i wneud yn siŵr nad yw pobl yn osgoi eu cyfrifoldeb i dalu i mewn i'r cynllun. Felly, nid yw hynny ynddo'i hun yn swm sefydlog o incwm i geisio ei ddefnyddio mewn gwirionedd i ariannu unrhyw ymrwymiadau penodol. Felly, mae hynny'n dod â phwysau ychwanegol i ni ar draws y gyllideb iechyd. Felly, mae'n her i ni i’w reoli, a dim ond bod yn onest yw hynny. Mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt am ddisgyblaeth y gyllideb hefyd, oherwydd ein disgwyliad yw y dylai byrddau iechyd, ar ôl 12 mis, allu cynllunio yn iawn yr hyn y dylent ei wneud ar gyfer eu poblogaeth. Mae llawer o’r meddyginiaethau hyn ar gyfer grŵp cymharol fach o gleifion, ac rydym yn disgwyl gweld y pris ar gyfer y triniaethau hyn yn cael ei gynllunio’n iawn, ac yna eu cyflwyno ar ôl 12 mis o le ychwanegol i ganiatáu iddynt wneud hynny. Unwaith eto, mae hynny’n mynd â ni at ein profiad blaenorol o sut y mae'r system wedi ei rhedeg a'i rheoli. Os oes unrhyw fwrdd iechyd nad yw’n gallu byw o fewn ei fodd, wel mae gennym gynllun ar gyfer atebolrwydd unigol; mae gennym y broses uwchgyfeirio ac, wrth gwrs, y potensial i gymhwyso cyfrifon byrddau iechyd os nad ydynt yn gallu byw o fewn eu modd. Maen nhw'n gwneud yr holl wahanol bethau yr ydym wedi gofyn iddynt eu gwneud, yr ydym yn disgwyl iddynt ei wneud, ac yr ydym yn eu grymuso i’w gwneud hefyd. Felly, mae cryn dipyn o waith gan bob bwrdd iechyd i’w wneud. Ar y cyfan, rwy’n meddwl bod ein byrddau iechyd yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw mewn modd difrifol a synhwyrol.

O ran y pwyntiau a wnaethoch am groesawu'r adolygiad IPFR, rwy'n ddiolchgar i chi am y sylwadau a wnaed heddiw ond hefyd y drafodaeth a gawsom cyn yr amser hwn. Bydd yr adolygiad yn wirioneddol annibynnol. Bydd yr adolygiad yn cael ei hysbysebu drwy'r haf. Bydd yn agored i bobl gyflwyno tystiolaeth iddo, a byddwn hefyd yn disgwyl ceisio rheoli a grymuso rhywfaint o ymgysylltiad gan randdeiliaid o amgylch hynny hefyd, yn enwedig er mwyn sicrhau bod llais y claf yn cael ei wneud yn real, fel bod y panel adolygu ei hunan yn gallu deall llais a phrofiad y claf yn briodol, ar ôl mynd drwy'r broses fel claf. Felly, rwy’n ymwybodol o'r pwyntiau hynny wrth inni fynd ymlaen â'r mater hwn. Ond rwy’n disgwyl, pan fyddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ym mis Medi, y byddwch yn gallu cael rhywfaint o hyder yng ngwaith y panel, ond hefyd yn gweld bod y math o bryderon yr oeddech chi eisiau eu codi a rhoi sylw iddynt yn gyffredinol wedi cael eu trin yn y ffordd honno. Hefyd, bydd yr adroddiad, wrth gwrs, ar gael heb unrhyw ddiwygio arno gan unrhyw un yn y Llywodraeth.

Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn. Rwy'n ymwybodol iawn, iawn bod fy nghyd-Aelod, Darren Millar wedi galw o'r blaen am adolygiad ar y gronfa cleifion annibynnol ac, wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am ryw fath o gronfa triniaethau ers llawer o flynyddoedd.

Wrth fynd drwy eich datganiad, mae gen i un neu ddau o gwestiynau. Y cyntaf yw eich bod wedi cyfeirio at rai o'r meddyginiaethau newydd sy'n gostus iawn, a chredaf ein bod ni i gyd yn hollol ymwybodol ohonynt, ac rydych yn siarad am yr adnoddau a fuddsoddwyd lle mae prawf o’r manteision i gleifion yn cydbwyso â’r gost. Roeddwn i’n meddwl tybed efallai y gallech chi roi syniad i ni os byddai’r prawf hwnnw o’r manteision yn perthyn i gyflwr neu, mewn ystyr fwy cyfannol, lle gall y cyffur mewn gwirionedd atal sgîl-effaith neu gontinwwm—chi’n gwybod, rhywbeth a fyddai'n datblygu mewn amser fel olynydd, os mynnwch chi, i beth bynnag yw’r anhwylder sydd gan y person. Gofynnaf hynny oherwydd yn ddiweddar yn Lloegr roedd achos llys lle’r oedd barnwr yn siarad am sut mae'r eithriadoldeb, y ffordd y gallai cyffur ymddwyn ar berson, yn ei wneud yn ddilys p’un a yw'n ymddwyn ar y person oherwydd ei fod yn unigryw, neu fod ei gyflwr yn unigryw, neu a oedd yn syml oherwydd nad oedd y—ni allaf feddwl am y gair amdano—problemau parhaus a allai fod yn gysylltiedig â'r cyflwr yn unigryw ac yn dod yn nes ymlaen, ond gallech gyflwyno’r cyffur o hyd i atal hynny rhag digwydd—rhyw fath o sefyllfa nad oes modd ei hennill. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn mynd i ystyried hynny wrth benderfynu ar yr hyn sy’n driniaeth frys. Felly, mae hynny’n dod at fy nghwestiwn nesaf, sy’n ymwneud â’r rhanddeiliaid. Pa randdeiliaid ydych chi wedi ymgynghori â nhw i benderfynu beth a fydd? Ai dim ond NICE; ai dim ond grŵp meddyginiaethau Cymru gyfan; ydych chi'n siarad â meddygon ymgynghorol; ydych chi'n siarad â chwmnïau cyffuriau i benderfynu pa fath o gyffuriau fyddai'r rhai gorau i fynd i mewn i'ch cronfa triniaethau?

Gwn fod llefarydd Plaid Cymru wedi trafod gyda chi yr adnoddau sydd ar gael—yr £80 miliwn yr ydych yn mynd i’w gyflwyno. Ond nid dyna’r unig beth. Roeddwn yn meddwl tybed a allech amlinellu pa gynllunio strategol a modelu sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru. Fe wnes i wrando ar eich atebion i Rhun ap Iorwerth am yr hyn sy'n digwydd pan fydd byrddau iechyd yn ystyried y cyffuriau, a beth sy'n digwydd ar ddiwedd y 12 mis, ond pe gallwn ddyfynnu enghraifft o hyn, oherwydd rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at driniaeth ar gyfer hepatitis C. Yn anhygoel o lwyddiannus; cyfradd gwellhad o 90 y cant unwaith y bydd rhywun yn ei gael, ac eto mae'n dal i fod yn loteri cod post ledled Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r broses o’i chyflwyno, a bod hynny wedyn wedi mynd allan at y byrddau iechyd, nid yw pob bwrdd iechyd wedi manteisio arni oherwydd ei fod yn eithriadol o ddrud. Nid ydynt wedi ei chynnwys yn eu hamcangyfrif, ac nid yw pobl yn ei chael pan fydd ei hangen arnynt. Mae gennym dystiolaeth y gallwn ei gynnig i chi i brofi hyn. Byddai'n gas gennyf weld ymhen 12 mis, gyda phob un o'r triniaethau gwych eraill hyn yr ydych yn mynd i edrych arnynt, yr un math o bethau yn digwydd oherwydd bydd rhai ohonynt yn ddrud iawn, iawn. Felly, hoffwn i ddeall pa gynllunio strategol a modelu yr ydych chi wedi eu cymhwyso i hyn. Hoffwn gael mwy o eglurder ynghylch sut y mae rhai o'r penderfyniadau amodoldeb wedi cael eu gwneud, ar hyn o bryd. Hoffwn ddeall o ble mae'r arian ar gyfer hyn yn dod. Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi llwyddo i ddeall hynny o’ch datganiad nac o’ch ateb i lefarydd Plaid Cymru. O ran y cais am gyllid i gleifion annibynnol, does dim gwybodaeth am y cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol gan y bwrdd iechyd. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ichi, a daethoch yn ôl a dweud nad oedd unrhyw ddata canolog. Mae’r math hwnnw o beth yn fy ngwneud yn bryderus iawn, iawn os nad oes gennym y dystiolaeth, sut y gallwn ddangos llwyddiant IPFR? Sut allwn ni ddangos y fethodoleg? Sut allwn ni roi'r gorau i ariannu cod post? Sut allwn ni sicrhau'r tegwch a’r cydraddoldeb a drafodwyd yn gynharach?

Byddaf yn wir yn gweithio’n galed gyda chi i geisio cefnogi adolygiad o'r IPFR. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cael y tegwch hwn ar draws y bwrdd. Ond rwyf wedi canfod bod ceisio cael rhywfaint o'r dystiolaeth sydd ei hangen wedi bod yn eithriadol o anodd, a hoffwn i gael dealltwriaeth wirioneddol glir o sut yr ydych yn gweld y grŵp yn symud ymlaen ac yn gallu cael y data y bydd ei angen arno o’r byrddau iechyd er mwyn sicrhau bod yr adroddiad hwn nid yn unig yn amserol, ond ei fod yn gryno ac, mewn gwirionedd, ei fod hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth dda iawn. Fel y trafodais gyda chi pan oeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â chi ddoe—ac rwy’n ddiolchgar ichi am y cyfarfod hwnnw—byddwn hefyd yn hoffi sicrhau, neu ofyn, y byddech yn gofyn i'r panel adolygu sy’n mynd i edrych ar y cais cyllido cleifion annibynnol i edrych, nid yn unig ar eu casgliadau strategol cyffredinol, ond hefyd sut y maent yn meddwl y gellid ei gyflwyno mewn ffordd effeithiol. Mae casgliadau yn un peth; mae eu cyflwyno yn rhywbeth hollol wahanol. Rwy'n credu y byddai'n wir yn werth yr ymdrech pe gallent roi rhywfaint o arwydd o lefel yr adnoddau—lefel yr adnoddau ariannol a’r adnoddau dynol ffisegol—y bydd yn rhaid i chi ei hymrwymo i wneud hwn yn arfer unffurf, cyson a theg ar draws y wlad gyfan. Yn olaf, Weinidog, hoffwn ofyn eto i chi ystyried y ffordd orau i ni gael eiriolwr dros y claf sy'n gallu eistedd ar y panel hwn ac sy’n gallu sicrhau mewn gwirionedd bod llais y claf yn cael ei glywed drwy hyn i gyd. Mae symiau yn un peth, ond pan fydd rhywun yn daer i gael y mymryn ychwanegol hwnnw o fywyd oherwydd bod ganddynt rywbeth pwysig iawn y maent am ei gyflawni—gweld priodas, gweld ŵyr neu wyres, neu beth bynnag y bo—neu dim ond oherwydd nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn dymuno marw, yna mae'n rhaid i ni geisio cyfuno’r awydd hwnnw am fywyd a'r arian sydd gennych yn eich poced. Drwy wrando ar y cleifion, efallai y gallan nhw helpu i ddangos y ffordd i ni.

Diolch am y cwestiynau a’r sylwadau. Unwaith eto, rwy'n falch o weld y modd adeiladol yr ydych wedi cymryd rhan yn y sgwrs, a’ch croeso i’r adolygiad. Dyna’n union beth yw adolygiad IPFR: adolygiad. Dydw i ddim yn gofyn i bobl ymrwymo i’r hyn sy'n dod ohono. Bydd yr adroddiad yn gwneud argymhellion. Yn gyntaf, rwy’n mynd i ymdrin â'ch pwynt chi am gyflenwi ymarferol. Byddwn yn disgwyl i’r adroddiad ddod o hyd i opsiynau ac argymhellion, ac yna rhaid i ni benderfynu beth i'w wneud. Felly, bydd y cyflenwi ymarferol yn fater i'r Llywodraeth wneud dewisiadau yn ei gylch, ond hefyd mae’n rhaid i’r byrddau iechyd wedyn weithredu yn ymarferol. Bydd angen i ni fod yn agored am sut y mae hynny'n digwydd a'r canlyniadau a gaiff hynny. Yn yr un modd, o ran eich pwynt olaf, mae'n ymwneud â’r gydnabyddiaeth, pan fyddwch wedi gorffen, o'r holl ddewisiadau anodd sy'n cael eu gwneud a’r hyn y mae gwahanol gleifion yn ei ddisgwyl o'u triniaeth. Mae pobl wahanol yn gwneud dewisiadau gwahanol, ac mae problemau moesegol ym mhob un o'r dewisiadau y byddai claf yn dymuno eu gwneud, ynghyd â'r penderfyniadau ymarferol ond anodd iawn yn egwyddorol sydd gan y bobl hyn â’r cyfrifoldebau i’w gwneud o ran sut i ddyrannu adnoddau a blaenoriaethau. Ni fydd yr adolygiad hwn yn ateb perffaith a fydd yn gwneud popeth yn hawdd i ni. Ond dylai fod yn ffordd wrthrychol briodol o dawelu ein meddyliau ein hunain am y modd y mae’r system yn cael ei rhedeg—ei bod yn deg, ei bod yn rhesymol, ac y gall pobl ddeall y rheswm dros wneud y penderfyniadau blaenoriaethu hyn.

Os caf i ymdrin â'r pwynt ynglŷn â’r cyllid—na, mae'n flin gennyf, yr adroddiad blynyddol ar IPFR. Gofynasoch am hynny, ac rwyf am fod yn glir bod yr adroddiad hwnnw wedi ei gyhoeddi yn flaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd adroddiad blynyddol yn awr yn cael ei gyhoeddi gan yr AWMSG. Dylai gael ei gyhoeddi erbyn tymor yr hydref fan bellaf—erbyn mis Medi fan bellaf—felly dylai fod gennych yr holl ddata sydd ar gael. Bydd y rheini ar gael i'r panel adolygu eu gweld hefyd, a fydd yn ddefnyddiol rwy’n gobeithio. Unwaith eto, i fod yn deg, rydych wedi crybwyll y pwynt am eiriolwr cleifion i sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed, ac mae hynny’n syml yn ffordd o gael ystyriaeth weithredol i sicrhau bod llais y claf yno, ac yn real, ac yn cael ystyriaeth briodol, p’un a yw hynny gan grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, a sut y caiff y farn honno ei bwydo i mewn—ac, yn wir, sicrhau bod aelodau'r panel yn ystyried hynny’n briodol. Gallwch weld hynny yn amlwg yn y ffordd y mae'r adroddiad yn cael ei wneud. Felly, mae hwnnw’n bwynt teg sydd wedi cael ei ystyried.

O ran eich pwyntiau ehangach am y gronfa triniaethau newydd, gallaf gadarnhau bod yr £80 miliwn yn ychwanegol i'r gyllideb iechyd. Dyna £80 miliwn dros gyfnod y Llywodraeth. Gallaf hefyd gadarnhau, o ran sut y bydd y gronfa triniaethau newydd mewn gwirionedd yn cyflwyno triniaethau newydd, y bydd y rhain yn driniaethau a gymeradwyir, felly triniaethau a gymeradwyir gan NICE ac AWMSG yw’r hyn y bydd y gronfa triniaethau newydd yn eu cyflawni, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni yn ymarferol ac yn gyflym.  Felly, roeddwn yn bryderus o glywed yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am y feddyginiaeth hepatitis C a ariannwyd gennym yn ganolog. Os oes gennych enghreifftiau ymarferol o ble nad yw hynny wedi ei gyflwyno i etholwyr, yna byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gennych, a byddwn yn eich annog i ysgrifennu ataf gyda’r enghreifftiau hynny fel y gallaf eu hystyried.

Ond o ran y pwynt ehangach a wnewch am y cyflwr, a'r gwahaniaeth rhwng trin cyflwr ac atal cyflwr yn y dyfodol, wel, mae hyn yn rhan o'r anhawster yn y broses gymeradwyo ar gyfer meddyginiaethau a thriniaethau a gymeradwyir. Dyna pam mae gennym broses werthuso briodol, wrthrychol nad yw'n cynnwys gwleidyddion. Felly mae'n ymwneud â’r dewis anodd rhwng y fantais i’r claf a chost y driniaeth, ac mae llawer o ystyriaethau moesegol ynddo, a llawer o anawsterau ymarferol o ran sut yr ydym yn gwerthfawrogi’r driniaeth hefyd. Dyna pam mae gennym y ddau gorff yr ydym yn dibynnu arnynt i roi'r cyngor awdurdodol hwnnw inni sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyd yn oed hwnnw’n dal i gyflwyno dewisiadau anodd ar gyfer rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel bwrdd iechyd, ar lefel clinigwyr ac wrth gwrs i wleidyddion hefyd. Felly, fel y dywedaf, ni fydd yr adolygiadau yr ydym yn ymgymryd â nhw ar gyfer yr IPFR a'r gronfa triniaethau newydd yr ydym yn mynd i’w chyflwyno yn datrys yr holl broblemau anodd hyn, ond rwy’n meddwl y bydd yn helpu i sicrhau bod mynediad gwell a mwy cyfartal at driniaethau yn gyffredinol, a hefyd bod gennym rywfaint o sicrwydd ynghylch sail resymegol briodol i ni wneud y penderfyniadau hynny yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch am y ffordd yr ydych yn ymdrin â'r adolygiad o broses yr IPFR.  Ar faterion fel y rhain, mae'n bwysig ein bod yn codi uwchlaw gwleidyddiaeth plaid ac yn gweithio’n adeiladol gyda'n gilydd i gyflenwi triniaethau achub bywyd i gleifion yng Nghymru. Er y bu llawer o feirniadaeth o'r gronfa triniaeth canser yn Lloegr, mae'n rhaid i ni dderbyn hefyd, ei bod mewn gwirionedd wedi achub bywydau rhai pobl. Rydym i gyd yn gwybod am bobl a symudodd i Loegr yn unig er mwyn iddynt gael mynediad at driniaeth nad oedd ar gael iddyn nhw gan ein GIG Cymru oherwydd anhyblygrwydd y broses IPFR. Rydym felly yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i adolygu'r broses IPFR a byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod gennym system symlach sy'n fwy ymatebol i anghenion y cleifion.

Roedd y gronfa driniaeth canser yn rhy gul. Ni ddylai pobl sydd â salwch sy'n bygwth bywyd ar wahân i ganser gael gwrthod mynediad at driniaethau newydd, ac rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cronfa triniaethau newydd. Fel gyda holl fentrau’r Llywodraeth, yn y manylion y ceir y problemau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio'n ymarferol.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd y gronfa triniaethau newydd yn un o'ch addewidion allweddol i bobl Cymru. Felly mae'n bwysig eich bod yn cyflawni ar eich addewid y bydd y cyffuriau mwyaf datblygedig ar gyfer canser ac afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd ar gael yng Nghymru yn gyntaf. Sut bydd y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn cael ei gryfhau er mwyn cynnal gwerthusiadau cyflymach ar feddyginiaethau newydd?  Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n gweithio gyda grwpiau megis Diwydiant Fferyllol Prydain a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol er mwyn gwella sganio’r gorwel fel ein bod mewn sefyllfa well i ymdrin â thriniaethau newydd sy’n dod i’r amlwg? Mae darganfod triniaethau newydd yn gofyn am waith ymchwil a datblygu enfawr. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Cymru'n arwain y ffordd mewn ymchwil a datblygu meddygol? A pha ran fydd y ganolfan gwyddorau bywyd ardderchog ym Mhrifysgol Abertawe, sydd yn fy rhanbarth i, yn ei chwarae mewn darganfod a chyflwyno triniaethau newydd?

Nodaf y bydd y gronfa feddyginiaethau newydd ond yn ariannu 12 mis cyntaf y driniaeth. A fydd gofyn i fyrddau iechyd lleol barhau â thriniaethau? Gyda'r symudiad at ariannu tair blynedd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, a fydd ganddynt yr hyblygrwydd i barhau i ariannu’r triniaethau hyn?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni yn UKIP yn edrych ymlaen at weld eich cynlluniau manwl ar gyfer y gronfa newydd a gweithio gyda chi i sicrhau gwelliannau i'r broses IPFR a mynediad cleifion at driniaethau newydd. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod GIG Cymru yn darparu triniaethau sy'n achub bywyd i holl bobl Cymru. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

Diolch, unwaith eto, am y cyfraniad adeiladol yna, a hefyd am y sgyrsiau yr ydym wedi’u cael gyda llefarwyr eraill yn arwain tuag at heddiw. Unwaith eto, rwy’n croesawu'r gydnabyddiaeth am yr adolygiad IPFR, a’i fod y peth iawn i ni ei wneud. Mae’r un pwynt o anghytundeb sydd gennyf yn ymwneud â'r gronfa cyffuriau canser yn achub bywydau. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod y gronfa cyffuriau canser wedi achub bywydau. Roedd rhywfaint o amodau ymestyn bywyd posibl. Mae llawer o dystiolaeth yr ydym yn ei thrafod yn y Siambr hon yn rheolaidd am amrywiaeth o wahanol bobl yn beirniadu'r gronfa cyffuriau canser, gan gynnwys Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin a chyfarwyddwr meddygol GIG Lloegr. Ond rydym bellach mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod y gronfa yn rhy gul ac nad oedd sylfaen dystiolaeth briodol ar gyfer y meddyginiaethau ynddi. Bellach mae ganddynt broses NICE, mae'n debyg—mecanwaith cymeradwyo sy'n mynd i mewn iddo—ond rwy’n cytuno â chi bod y gronfa cyffuriau canser yn rhy gul. Dyna fu safbwynt Llywodraeth Cymru erioed, oherwydd nid ydym yn credu ei bod yn dderbyniol yn foesegol nac yn amddiffynadwy i werthfawrogi bywyd un claf ag un cyflwr dros glaf arall â chyflwr gwahanol a oedd yn cyfyngu ar fywyd. Dyna pam na wnaethom erioed gymryd yr agwedd honno. Dyna hefyd pam mae gennym bellach gronfa triniaethau newydd sy'n edrych ar yr holl gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywydau. Felly, rydym yn cael tegwch a chyfiawnder gwirioneddol i bob claf yn gyffredinol. Rwy’n credu mai dyna’r agwedd gywir i'w chymryd.

Nid wyf yn ymwybodol fod problem gyda'r cyflymder y mae’r AWMSG wedi cyflawni ei werthusiadau. Yn aml mae problem ynghylch cael y math iawn o wybodaeth ac mewn gwirionedd mewn cael cwmnïau fferyllol i gytuno i gynllun mynediad i gleifion ar gyfer y cyflyrau a allai fod yn effeithiol, ond yn aml sy’n ofnadwy o ddrud. Felly, mae angen sgwrs onest ac aeddfed gyda'r cwmnïau hynny o hyd. Rwyf yn disgwyl y bydd Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) am siarad â ni am eu safbwynt ar hyn, ac rwy'n siŵr y byddant am roi tystiolaeth i'r adolygiad IPFR ac yn dymuno ymgysylltu â’r Llywodraeth hon ynghylch ystod eang o faterion am ymchwil, datblygu a gwyddorau bywyd. Mae angen inni gadw ein llygaid ar agor ac ymgysylltu â'r diwydiant. Ni allwn ddisgwyl y bydd gwaith ymchwil a datblygu newydd yn digwydd drwy feirniadu yn gyson y diwydiant sy'n ei gyflawni. Ond, ar yr un pryd, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwerth cyhoeddus gwirioneddol a bod gwerth cyhoeddus yn cael ei sbarduno drwy'r penderfyniadau a wnawn ar yr hyn yr ydym yn ei gaffael a pham.

Rwyf am orffen â phwynt am wyddorau bywyd a gwaith ymchwil. Rwy'n hynod falch o weld y bu symud ymlaen yn y sector gwyddorau bywyd yma yng Nghymru a bod y dull a gymerwyd dros nifer o flynyddoedd yn dwyn mwy o ffrwyth. Rydym yn gweld diddordeb gwirioneddol gan ystod o gyrff yn y sector preifat sydd am fod yn rhan o'r gymuned ymchwil yma yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o drafodaethau am hyn â'm cydweithiwr, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ond mae gennym stori dda i'w hadrodd ar ymchwil iechyd a gofal. Os byddwch yn siarad â'r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, maent yn wirioneddol gadarnhaol am ein dull ni o weithredu ac mae hynny oherwydd ein bod yn gwrando arnynt. Gofynnwyd iddynt am yr hyn y gallem ei wneud yn well gyda'r adnoddau sydd gennym a gwnaethom wrando arnynt. Felly, mae ein dull yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi'i ddweud wrthym y gallem ei wneud yn fwy effeithiol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Aelodau yn ymgysylltu fwyfwy gydag ymchwil iechyd a gofal yma yng Nghymru. Mae gennym stori dda i'w hadrodd ar ystod o feysydd, ond rwy'n bendant yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y bydd Aelodau eraill yn cymryd rhan ac ymwneud â'r gymuned ymchwil.

7. 6. Datganiad: Hunanwella'r System Addysg

Symudwn ymlaen at y datganiad nesaf, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hunanwella’r system addysg. Galwaf ar Kirsty Williams.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gydweithwyr, rydym yn cychwyn ar agenda ddiwygio fawr, y diwygio mwyaf ar addysg yr ydym wedi'i weld yng Nghymru ers y 1940au. Rydym wedi dechrau datblygu'r cwricwlwm newydd mewn cydweithrediad â'r sector, rydym yn gwneud gwelliannau mawr i hyfforddiant cychwynnol athrawon ac yn gweithio i gefnogi datblygiad y gweithlu addysg drwy'r fargen newydd ar hyn o bryd.

Mae'r rhaglenni diwygio hyn yn seiliedig ar ein dull o weithio mewn system hunanwella. Mae hynny'n cael ei ddiffinio yn aml fel model lle mae'r chwaraewyr allweddol yn y system addysg yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am wella eu hunain ac am wella pobl eraill. Fy her i yw adeiladu ar y momentwm o welliant a welwyd trwy barhau i weithio'n gyflym gyda'r sector mewn ffordd gydweithredol, gyda phwyslais clir ar ansawdd yr addysgu.

Yr effaith fwyaf ar ddeilliannau dysgwyr yw addysgu ac arweinyddiaeth, ac mae angen i hyn gael ei leoli yn erbyn cefndir ein system hunanwella. Felly, rwy’n bwriadu datblygu strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth i nodi'n bendant darlun clir a chydlynol o'r ffordd ymlaen ar gyfer y gweithlu a sut y bydd hynny'n cael ei ddatblygu a'i gefnogi drwy'r broses o newid. Bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar y cynlluniau presennol a gafodd eu datblygu yn rhan o'r fargen newydd ar gyfer y gweithlu addysg, megis y defnydd o ysgolion arloesol i gefnogi dysgu proffesiynol cymheiriaid i gyymheiriaid, cyflwyno pasbort dysgu proffesiynol gwell a chryfhau cynlluniau datblygu ysgolion i gefnogi cynllunio a dewis mwy effeithiol o ddysgu proffesiynol. Bydd yn parhau i weithredu'r diwygiadau addysg gychwynnol i athrawon a gynigiwyd gan yr Athro John Furlong. Bydd y strategaeth hefyd yn cryfhau'r pwyslais mewn meysydd fel datblygu ar safonau addysgu proffesiynol newydd, datblygu arweinyddiaeth, datblygu staff cymorth dysgu a dechrau ar y cyfnod pontio i broffesiwn addysgu holl-Feistr. Rwyf hefyd yn bwriadu sefydlu academi arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chonsortia, awdurdodau lleol, darparwyr addysg uwch, ac arweinwyr addysg o Gymru a mannau eraill.

Nawr, mae maint dosbarthiadau yn parhau i fod yn bryder mawr i rieni ac athrawon. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pryderon hynny, a dyna pam yr wyf wedi gofyn i swyddogion bennu cwmpas yr opsiynau i leihau maint dosbarthiadau, gan ddechrau gyda'r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf. Fodd bynnag, nid yw lleihau maint dosbarthiadau yn ymwneud â brics a morter yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chreu'r lle i athrawon addysgu, gan leihau biwrocratiaeth ddiangen a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi gan gynorthwywyr addysgu lefel uwch ardderchog. Felly, bydd y strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth yr wyf eisoes wedi’i chrybwyll hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu staff cymorth dysgu. Bydd hyn yn darparu ystod o lwybrau datblygu gyrfa ac yn mynd i'r afael â'r angen am set fwy cydlynol o safonau proffesiynol, cymwysterau a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Rwyf hefyd yn awyddus i feithrin gallu'r staff cymorth dysgu i gael statws cynorthwy-ydd addysgu lefel uwch a byddaf yn buddsoddi arian mewn cyfres gydlynol o raglenni datblygu sy'n arwain at statws cynorthwy-ydd addysgu lefel uwch.

Er mwyn i addysg wella, mae hefyd angen i ni ddyfnhau ac ymestyn gweithio ysgol i ysgol ymhellach. Caiff hyn ei wneud drwy annog gwaith cydweithredol drwy gyfeirio a chefnogi ysgolion i ddatblygu modelau partneriaeth o lywodraethu, modelau newydd o arweinyddiaeth ysgolion a llwybrau newydd i mewn i arweinyddiaeth a fydd yn cefnogi'r agenda hon ac yn mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol gyda recriwtio arweinyddiaeth. Nawr, y mwyaf ffurfiol o’r cydweithio hwnnw fydd ffederasiynau, gan ddwyn ynghyd nifer o ysgolion dan un corff llywodraethu.

Gall gwahanol bartneriaid gynnig atebion gwahanol. Fodd bynnag, gall ffederasiynau ddod â chryfderau i feysydd lle ceir gwendidau, sicrhau atebolrwydd effeithiol ar gyfer perfformiad, lledaenu arweinyddiaeth effeithiol a helpu i feithrin gallu athrawon. Mae ffederasiwn yn yrrwr strwythurol effeithiol y gellir ei ddefnyddio i gryfhau gwella ysgolion. Lle mae addysgu a / neu arweinyddiaeth o fewn ysgol yn wan, gall ffederasiwn gydag ysgol sy’n perfformio'n dda a all fewnblannu ei harweinyddiaeth, ei systemau, ei harferion a’i harbenigedd sicrhau'r newid sydd ei angen i wella perfformiad yr ysgol. Gall hefyd gynorthwyo gyda recriwtio a chadw penaethiaid da trwy ddefnyddio ymarferwyr profiadol mewn swyddogaethau gweithredol gyda phenaethiaid ysgolion sy'n gweithio iddynt. Mae angen datblygu rhaglen arweinyddiaeth effeithiol i gefnogi'r symudiad hwn at ffederasiynau, a bydd hynny’n ffurfio rhan o fy strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth newydd. Nawr, ar gyfer ysgolion llai, gall ffederasiynau recriwtio yn fwy effeithiol na phan fydd pob ysgol annibynnol yn recriwtio ei phennaeth ei hun. Yn ogystal â hyn, ar draws nifer o ysgolion llai, gall ffederasiwn sicrhau bod arbenigedd perthnasol ar gyfer pob maes o'r cwricwlwm. Mae hyn yn hanfodol, gan fod yn rhaid i bob disgybl yng Nghymru elwa'n llawn ar 'Dyfodol Llwyddiannus'. Felly, byddai’r dull Cymru gyfan hwn o weithredu ffederasiwn hefyd yn cynnwys strategaeth genedlaethol benodol ar gyfer ysgolion bach a gwledig.

Er fy mod yn falch bod canlyniadau TGAU yr haf diwethaf yn dangos cynnydd o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad styfnig rhwng y disgyblion hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae'r grant amddifadedd disgyblion, a gyflwynwyd yn 2012 yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth yn ein hysgolion. Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn parhau i fod yn egwyddor allweddol ar gyfer gwella safonau i’n disgyblion tlotaf.

Yn olaf, rwyf hefyd yn bwriadu targedu adnoddau mewn nifer o feysydd penodol sy'n ymwneud ag â'r Gymraeg ac anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae sicrhau bod y sector cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried wrth wraidd yr holl ddatblygiadau, yn flaenoriaeth allweddol i mi. Rwy’n bwriadu datblygu cynigion i sicrhau ein bod yn cryfhau’r gwaith o addysgu’r Gymraeg trwy gynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg o safon uchel.

Bydd deddfwriaeth ADY arfaethedig yn ein galluogi i wella'r broses o gynllunio a chyflwyno darpariaeth dysgu ychwanegol, gan roi llawer mwy o bwyslais ar anghenion unigol a sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi yn gynnar, a bod ymyraethau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith, yn cael eu monitro ac yn cael eu haddasu er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r deilliannau a ddymunir. Ond dim ond un rhan o'r diwygiad sydd ei angen yw deddfwriaeth; mae ymarferwyr wedi nodi eu bod angen datblygiad sgiliau sylweddol a mynediad haws at gefnogaeth arbenigol os ydynt am roi cymorth effeithiol i ddysgwyr ag ADY yn y dosbarth. Rwy'n cynnig ymateb ar dair lefel.

Dylai pob ymarferydd gael y datblygiad sgiliau craidd i gefnogi ystod eang o gymhlethdod isel, ond nifer uchel o ADY o fewn lleoliadau, a mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus. Dylai pob lleoliad ysgol gael mynediad ar unwaith at un unigolyn â sgiliau uwch. Rwyf eisiau datblygu'r swydd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn disodli'r SENCOs cyfredol. A dylai pob lleoliad addysg gael mynediad at unigolion â sgiliau arbenigol, er enghraifft, seicolegwyr addysgol, athrawon sy’n arbenigo ar y rhai â nam ar eu golwg neu eu clyw, a therapi lleferydd. Byddaf yn dweud rhagor am bob un o'r datblygiadau hyn yn y misoedd nesaf ac rwy'n ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr. Diolch.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant fel llywodraethwr ysgol ar y dechrau fel hyn. Mae'n ddatganiad eang iawn a byddaf yn ceisio bod yn fanwl, ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf os nad wyf.

Rydych yn gwneud cyfeiriad cynnar at ysgolion arloesi yn eich datganiad. Mae nifer o athrawon ac ysgolion sy'n rhan o'r prosiectau ysgolion arloesi yn dweud, mewn gwirionedd, nad oedd rhai ohonynt yn ymwybodol o'u cyfraniad eu hunain. Nawr, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa waith y mae hi'n ei wneud i sicrhau bod pawb sydd â’r dasg o ddatblygu trefniadau newydd yn cael eu hymgysylltu a'u cefnogi drwy'r broses hon. Ni fydd y ffrâm amser, wrth gwrs, o'r pryd y mae ysgolion arloesi yn adrodd yn ôl ar eu gwaith datblygu i'r pwynt lle bydd y cwricwlwm newydd yn statudol yng Nghymru, yn gadael llawer o le ar gyfer trafodaeth. Felly, pa ymrwymiad fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i sicrhau bod ymgynghoriad llawn â'r proffesiwn addysgu ehangach er mwyn sicrhau nad yw'r broses hon yn cael ei rhuthro drwodd, oherwydd fy mod yn credu bod rhai pobl yn teimlo'r pwysau yn hynny o beth?

Ar hyfforddiant athrawon, roedd traean o leoedd hyfforddi athrawon uwchradd heb eu llenwi yn 2015-16. Mewn gwirionedd, nid yw'r targed recriwtio wedi cael ei fodloni ar gyfer unrhyw un o'r chwe blynedd diwethaf, gyda’r diffyg yn cynyddu dros y cyfnod hwnnw. Er na fydd hyn yn cael effaith ar unwaith nac yn broblem ar gyfer swyddi gwag, mae’r duedd yn awgrymu'n glir ei fod yn rhywbeth sy'n haeddu sylw. Felly, pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o pam mae’r methiant hwn i recriwtio yn digwydd, a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol?  Oherwydd, yn fy marn i, un o'r meysydd sy’n rhan o'r broblem yw llwyth gwaith, a'r effaith y mae hynny’n ei chael o bosibl ar ganfyddiad pobl o apêl addysgu fel proffesiwn. Rhoddodd maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ymrwymiad, wrth gwrs, i sefydlu arolwg o lwyth gwaith blynyddol athrawon. Does dim cyfeiriad at hynny yma, ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar a ydych yn bwriadu cyflwyno hyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Mae rôl y Cyngor Gweithlu Addysg yn allweddol. Byddwn i'n dychmygu bod llawer o agweddau ar y datganiad hwn lle mae eu rôl yn berthnasol, er nad oes dim cyfeiriad atynt yn benodol yn y datganiad hwn. Cynigiodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, i raddau amrywiol, ymestyn ac ehangu eu cylch gwaith. Roeddwn i'n meddwl tybed ai dyna yw eich bwriad chi, a pha rôl yr ydych chi’n eu gweld nhw’n chwarae yn rhai o'r mentrau yr ydych wedi'u crybwyll.

Mae perygl wrth gwrs— cyfrais, rwy’n meddwl, ddwy strategaeth ac o leiaf un academi newydd yn eich datganiad—y gellid ystyried hyn fel mwy o fentrau, yn yr hyn rwy'n siwr y byddwch yn gwybod sy’n sector gorlawn o fentrau eisoes, o bosibl. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i’r sector na fydd hyn mewn gwirionedd yn ychwanegu at y baich, a’i fod i gyd yn rhan o ymdrech i leihau'r baich sydd, i rai pobl, ar y proffesiwn addysgu ar hyn o bryd?

I warmly welcome the fact that the Government is to seek to develop a national strategy on small and rural schools, and I do agree with the Minister that federation does offer a model and an alternative option in many contexts in order to tackle some of the challenges facing many of our schools. But, may I ask in the context of that strategy on small and rural schools whether the strategy will change the emphasis, which was excessive to the minds of some, that has been given to surplus school places? Or, will surplus school places still be a central tenet of the new strategy? That will be of interest to many, I’m sure.

Finally, you mention targeting resources at Welsh-medium education—again, something that I would warmly welcome—but will you also expect progress in terms of the targets set in your Government’s Welsh language education strategy? Will you actually strengthen and amend that in light of your intention to target resources at Welsh-medium education? Indeed, what intention does the Government have to work with local authorities to move to a more proactive approach in terms of developing Welsh-medium education, and perhaps learning lessons from the work happening in Gwynedd, and more recently in places such as Carmarthenshire?

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Llyr am ei gwestiynau? Siomedig yw clywed nad yw ysgolion sydd i fod yn rhan o'r rhaglen arloesi yn cydnabod hynny.  Mae ysgolion arloesi yn rhan bwysig o ddatblygu nifer o feysydd polisi addysg, o ran datblygu'r gweithlu yn ogystal â datblygu'r cwricwlwm, ac mae angen inni ailddyblu ein hymdrechion.

Rwy’n rhannu pryderon yr Aelod ynglŷn â sut y gallwn ymgysylltu pob ysgol yn y cynnydd hwn a'r broses hon o newid. Rwyf wedi canfod ers imi ddechrau yn y swydd hon fod perygl bod rhai ysgolion sy'n ymgysylltu’n llawn yn y broses hon, ac yna mae ysgolion eraill sydd yn eistedd yn ôl ac, i bob golwg efallai, fydd yn cael sioc gas yn 2021 pan fydd y cwricwlwm newydd yn disgyn arnynt. Felly, rwy’n edrych am ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hynny er mwyn sicrhau bod pawb yn rhan o'r broses hon o newid, yn enwedig o ran y cwricwlwm.

Ond rhaid i mi ddweud nad yw pethau'n ddu i gyd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod cymhwysedd digidol yn un o'r tri llinyn allweddol sy'n rhedeg ar draws y cwricwlwm ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd—. Bydd y fframwaith cymhwysedd digidol ar gael ar gyfer ysgolion ym mis Medi eleni. Felly, er nad ydym yn disgwyl iddo gael ei addysgu'n ffurfiol tan 2021, bydd y rhan honno o'n cwricwlwm newydd ni ar gael i’r ysgolion i ddechrau ei defnyddio a'i hymgorffori yn eu haddysgu o’r mis Medi hwn. A byddwn yn gwneud hynny gyda phob rhan o'r cwricwlwm—adeiladu i fyny. Dydw i ddim eisiau gweld y newid yn digwydd yn sydyn, bron fel gwasgu’r botwm yn 2021, pan fyddwn yn symud yn sydyn o un system i system newydd; mae'n rhaid i ni fod yn gallu gwneud hynny yn rhan o'r broses.

Gofynnodd yr Aelod a fyddwn i'n gwneud—. Roedd maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddai arolwg o’r gweithlu, a gofynnodd yr Aelod a fyddwn i’n gwneud hynny erbyn diwedd y tymor hwn. Gallaf ei sicrhau y byddaf yn gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn hon, mewn gwirionedd, a bwriadaf gael yr arolwg cyntaf erioed o'r gweithlu addysgu, ac yn bwysig iawn, y gweithlu staff cymorth hefyd. Rwyf am glywed barn yr holl bobl hynny sy’n gysylltiedig â’n system addysg a bydd yr arolwg hwnnw’n digwydd yn ddiweddarach eleni; nid oes rhaid iddo aros tan ddiwedd tymor y Cynulliad amdano.

O ran y gweithlu, ni fyddwn yn anghytuno â'i ddadansoddiad efallai, ar gyfer pobl ifanc sy’n edrych am yrfaoedd yn y dyfodol, bod y mater sy’n ymwneud â biwrocratiaeth a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a fydd mewn gwirionedd yn rhan o'n harolwg, efallai yn bethau sy'n digalonni pobl. Rydym yn ymwneud yn weithredol â'r sector i edrych ar fiwrocratiaeth a phrofi mewn gwirionedd a yw'r hyn yr ydym yn gofyn iddynt ei wneud yn ychwanegu gwerth at y system. Byddaf yn edrych i wneud yr hyn a allaf o ganlyniad i'r gwaith hwnnw sy’n dechrau yn awr, i dynnu allan cymaint ag y gallaf, os oes modd. Ac, fel y dywedais, mae swyddogion eisoes mewn cysylltiad er mwyn sefydlu’r darn hwnnw o waith. Nid oes amheuaeth fod hwn yn gyfnod heriol i'r system addysg yng Nghymru ac mae cydbwysedd i'w daro rhwng symud ymlaen gyda chynlluniau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, a hefyd, ar yr un pryd, fy mod yn dymuno rhoi fy stamp fy hun ar bethau a myfyrio ar rai blaenoriaethau nad ydynt o bosibl wedi cael eu hystyried yn y gorffennol. Rwyf am gefnogi ymarferwyr addysg yn eu gwaith a gwella’r parch tuag atynt. Credaf fod hynny yn aml yn rhan o'r broblem a dyna pam efallai nad yw pobl yn dymuno addysgu, neu efallai eu bod yn gadael y proffesiwn. Bu amser pan oedd athrawon yn cael parch mawr iawn o fewn y gymuned, a chredaf fod hynny wedi newid. Rwyf am ein gweld yn mynd i fan lle, unwaith eto, mae athrawon ac arweinwyr ysgolion yn cael y parch mwyaf yn ein gwlad. Felly, rydym yn edrych ar welliant ym mhob agwedd ar y system addysg, ond nid yw'n ymwneud â chreu mwy o fiwrocratiaeth. Yn wir, rydym yn ceisio cael gwared ar fiwrocratiaeth.

O ran ysgolion gwledig, dyma fydd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael polisi ysgolion gwledig. Mae un yn bodoli yn yr Alban, mae un yn bodoli yn Lloegr, a dyna pam yr wyf yn awyddus i wneud cynnydd yn y maes hwn. Dwi'n falch ei fod yn croesawu hynny. Bydd, fe fydd yn edrych ar fater y lleoedd gwag mewn ysgolion gwledig. Bydd yn ymwybodol o'r ddogfen y cytunwyd arni rhyngof i a'r Prif Weinidog sy'n dweud y byddwn yn adolygu polisi presennol sy’n ymwneud â lleoedd gwag, ac yn enwedig sut mae hynny'n effeithio ar ardaloedd gwledig. Felly, byddwn yn edrych ar hynny i weld a yw'n briodol.

Gadewch i mi hefyd ddweud nad yw’r mater o leoedd gwag yn un ar gyfer awdurdodau gwledig yn unig. Mae'r awydd i dynnu lleoedd gwag ben allan wedi cael canlyniadau anfwriadol mewn rhai o'n hardaloedd mwyaf trefol. Felly, nid yw ar ei ben ei hun yn fater gwledig. Ond, y broblem o ran yr ysgolion gwledig yw edrych i weld beth y gallwn ei wneud i gryfhau addysg mewn ardaloedd gwledig. Gall fod yn lle hynod o heriol i addysgu ynddo. Os ydych yn bennaeth mewn ysgol fach iawn gyda llwyth gwaith uchel, yn ogystal â'ch holl gyfrifoldebau sy’n mynd law yn llaw â phrifathrawiaeth, gwneud yn siŵr bod y cwricwlwm yn eang, gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cefnogi staff, mae'n rôl heriol iawn, iawn ar gyfer athrawon unigol, ar gyfer arweinwyr ac ar gyfer awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig. Felly, byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i'w cefnogi ac i gefnogi’r darpariaethau addysgol hynny. Rwy’n credu bod ffederasiwn yn un ffordd y gallwn gadw plant o fewn eu cymunedau, ond hefyd sicrhau bod ansawdd yr addysg y maent yn ei derbyn ac arweinyddiaeth yr ysgol gystal ag y gallant fod. Felly, rwy’n bwriadu datblygu hynny ymhellach.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gwbl hanfodol, a byddaf yn trafod â’r Cyngor y ffyrdd y gallwn ei gefnogi a'r rôl y bydd yn ei chwarae. Bydd ganddo rôl hanfodol wrth fy helpu i sefydlu'r academi arweinyddiaeth. Bu diffyg cefnogaeth a diffyg ffocws ar arweinyddiaeth, ac rwyf am iddo fy helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny.

O ran yr iaith Gymraeg, mae dau fater yma. Mae mater darparu addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion, ac nid yw lle y dylai fod ac nid yw cystal ag y dylai fod. Os ydym am gyrraedd targed y Llywodraeth o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg ychwanegol, rwy’n credu bod hynny erbyn 2050, yna mae’n rhaid i addysg fod yn rhan o hynny. Ond, i wneud hynny, nid yn unig y mae angen i ni gael y rhieni i wneud y dewis cadarnhaol, mae angen i ni gael y gweithlu yn eu lle i wneud hynny. Dyna pam y soniais yn fy natganiad y bydd angen i ni ddarparu adnoddau i athrawon ychwanegol sy’n mynd i raglenni fel bod ganddynt y sgiliau i gyflawni hynny. Byddaf yn adolygu yn gyson a yw'r pwerau sydd gennyf yn ddigonol i gyflawni'r newid yr wyf am ei gyflawni. Diolch.

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy’n cael fy nghalonogi, mewn gwirionedd, gan lawer o'r hyn yr wyf wedi’i glywed, yn enwedig o ran eich gweledigaeth ar gyfer mwy o ffederasiynau ysgolion ac, yn ôl pob tebyg, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig, ond mewn ardaloedd trefol hefyd. Rwy’n credu bod hynny yn gyfle i athrawon ddatblygu arbenigeddau sy'n fwy cyffrous iddynt wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd proffesiynol, ac yn rhoi cyfleoedd ychwanegol iddynt ymestyn a datblygu’r arbenigeddau hynny. Gallai hynny, wrth gwrs, gynnwys arbenigedd yn yr iaith Gymraeg, y gellir wedyn ei rannu ar draws ysgolion, ac enghreifftiau eraill o arfer da hefyd.

Wrth gwrs, mae'n rhoi cyfle i sicrhau rhai arbedion maint ar draws nifer o safleoedd gyda chostau gweinyddol o bosibl yn cael eu rhannu, a hefyd mae’n cynyddu capasiti’r ysgolion unigol hynny, pan fyddant yn gweithio ar y cyd, i allu darparu gwasanaethau drostynt eu hunain, yn hytrach nag o bosibl cael eu gorfodi i gael mynediad atynt drwy'r awdurdodau lleol, sydd, wrth gwrs, yn wir yn achos gormod o ysgolion ar hyn o bryd.

Un peth na wnaethoch chi sôn amdano, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd y cyfleoedd a allai fod yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i ysgolion ar gyfer pob oedran, sydd, wrth gwrs, yn nodwedd sy'n tyfu yn y maes addysg yng Nghymru a hefyd yn rhoi cyfleoedd i leihau'r pellteroedd sy’n cael eu teithio, yn enwedig i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd gwledig. Tybed a fydd eich polisïau gwledig, wrth iddynt barhau i ddatblygu a dod i'r amlwg, yn ystyried yr angen i gefnogi datblygiad mwy o ysgolion ar gyfer pob oedran.

Rwy'n falch iawn hefyd o’ch clywed yn cyfeirio at adolygiad o'r polisi lleoedd gwag, yr ydym wedi’i gael yng Nghymru ers peth amser. Mae hynny wedi arwain at gau nifer o ysgolion yn fy etholaeth i. Gellid bod wedi osgoi rhai ohonynt, rwy’n credu, pe byddai polisi gwell ar hynny—felly, rwy’n meddwl, unwaith eto, bod hwn yn rhywbeth i’w groesawu yn fawr iawn.

Gwrandewais â diddordeb ar eich cyfeiriadau at sefydlu academi arweinyddiaeth Cymru ac, yn hollol, mae'r cyfan yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn ein hysgolion, ac mae'n rhaid i ni gael yr arweinwyr o’r ansawdd gorau posibl fel penaethiaid yn gyffredinol. Ond rwy’n meddwl tybed beth fydd yr amserlen ar gyfer sefydlu’r academi a hefyd a fydd yn cael ei glymu i leoliad penodol yng Nghymru neu a yw'n rhywbeth y bydd pobl yn gallu cymryd rhan ynddo ym mhob rhanbarth o Gymru. Yn amlwg, fe wyddoch, mae heriau, dyweder, o ran cael mynediad at rai o'r rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd, ac rwy’n meddwl fod gwneud yn siŵr bod cyfle i gael mynediad—p’un a ydych chi'n dod o’r gogledd, o’r de, o’r gorllewin neu o’r canolbarth—yn bwysig iawn, iawn yn wir.

Rydych hefyd braidd yn amwys yn eich disgrifiad o sut yr ydych yn mynd i gyrraedd eich polisi o leihau maint dosbarthiadau i 25. Mae’n ymddangos eich bod yn cyfeirio yn fwy at gymarebau disgybl i athro, neu gymarebau disgyblion i staff, yn hytrach na phenolau ar seddi yn y stafelloedd dosbarth, ac rwy’n meddwl tybed a allwch chi ddweud wrthym yn glir iawn beth yw eich nod o ran hynny. Ai ymwneud â chymarebau staff y mae - nid yr argraff, rwy’n credu, a gafodd llawer ohonom pan gyhoeddwyd y polisi hwn yn rhan o'ch cytundeb clymblaid gyda'r Blaid Lafur, neu a yw'n mynd i fod am y penolau hynny ar seddau, sef yr argraff a gafodd bob un ohonom? Hefyd, o ran maint y dosbarthiadau, os yw'n ymwneud â phenolau ar seddau, beth mae hynny'n ei wneud i hyfywedd rhai o'n hysgolion llai, yn benodol, y mae angen capasiti ychwanegol arnynt, fel petai, er mwyn sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol o fewn yr ysgolion hynny er mwyn gallu eu cadw ar agor?

Roeddwn yn falch, hefyd, o glywed y cyfeiriad at y grant amddifadedd disgyblion yn parhau. Nid ydych wedi dweud yn union ar ba lefel y bydd yn parhau, p’un a fydd ar y lefel gyllido bresennol, p’un a fydd hynny’n cynyddu, neu a allai fod yn cael ei ymestyn ymhellach—efallai y gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am hynny. A yw'n mynd i fod yr un fath â'r llynedd? A ydych yn disgwyl mwy o arian? Does gen i ddim syniad ac rwyf am roi'r cyfle i chi i ymateb.

Rwy'n falch o weld y cyfeiriadau at fwy o ffocws ar yr iaith Gymraeg ac, wrth gwrs, anghenion addysgol arbennig. Ond rwyf wedi dychryn braidd eich bod am weld cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd lle’r cydlynwyr anghenion addysgol arbennig. Gallai hynny, wrth gwrs, olygu bod y disgyblion mwy galluog a thalentog yn ein hysgolion ar eu colled, oherwydd, wrth gwrs, mae rôl y cydlynwyr anghenion addysgol arbennig ar hyn o bryd yn cynnwys darparu ar gyfer y plant mwy galluog a thalentog yn ogystal â’r plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Tybed, Weinidog, a allech chi ddweud wrthym sut y gallai’r cyfleoedd hynny i blant mwy galluog a thalentog fod yn rhan o'ch agenda chi.

Ac yn olaf, nid oedd unrhyw gyfeiriad at blant sy'n derbyn gofal yn eich datganiad. Mae pawb yn y Siambr hon, rwy’n gwybod, yn rhannu ymrwymiad i fod eisiau gwella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a gwella eu cyrhaeddiad mewn ysgolion yng Nghymru. Tybed, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym eto sut yr ydych yn disgwyl i blant sy'n derbyn gofal fod yn rhan o hyn, ac a oes mwy o le o bosibl i ragor o drafodaethau rhwng ein pleidiau ac eraill yn y Siambr hon i ddatblygu agenda sy'n arwain at well deilliannau ar eu cyfer nhw.

A gaf i ddiolch i Darren Miller am ei gwestiynau a'i groeso i lawer o'r mentrau o fewn y datganiad? Mae'n hollol gywir pan ddywed nad yw ffederasiwn yn berthnasol i ysgolion gwledig yn unig. A dweud y gwir, mae'n ffynhonnell o siom i mi, er bod y rheoliadau sy'n caniatáu ffederasiwn wedi bod o gwmpas ers nifer o flynyddoedd, nid ydym wedi gweld llawer o ddatblygu ar hyn. Os yw rhywun yn edrych ar ddatblygiadau mewn gwledydd eraill ar agweddau allweddol ar hunanwella system addysg —oherwydd gadewch i ni ei wynebu, nid eistedd ar y brig, ar bumed llawr yr adeilad hwn yw'r ffordd yr ydym yn mynd i wella ein system addysg; mae'n rhaid iddo fod yn fater i'r rhai sy'n gweithio ar y cyd: rhieni, cymunedau, athrawon unigol, arweinwyr ysgolion, consortia, awdurdodau addysg lleol a Llywodraeth Cymru. Mae gennym i gyd rôl i'w chwarae. Mae ffederasiwn a mwy o weithio o ysgol i ysgol mewn gwirionedd yn berthnasol yn gyffredinol, a hoffwn weld mwy o ddefnydd o ffederasiwn, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig ond mewn gwirionedd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Rwy’n falch ei fod wedi fy atgoffa i o'r cyfleoedd a gynigir gan ysgolion pob oedran. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn edrych ar sut y mae’r modelau hynny yn datblygu. Mae rhywfaint o brofiad o hyn yng Ngheredigion, lle mae rhai ysgolion pob oedran wedi bodoli ers ychydig o amser bellach. Rwy'n clywed pethau da am y system, manteision y system honno. Unwaith eto, y gallu: rydym yn gwybod o edrych ar ymchwil bod, i lawer o blant, y pontio hwnnw o'r ysgol gynradd i'r uwchradd yn adeg pan mae perfformiad yn disgyn, yn enwedig yn achos bechgyn. Os gallwn hwyluso'r pontio hwnnw drwy gael ysgolion pob oedran rwy’n meddwl bod llawer o rinwedd mewn edrych i weld a allwn ni ddatblygu hynny mewn gwahanol rannau o Gymru.

Yr academi arweinyddiaeth: rwy’n gobeithio cael yr awdurdod cysgodol ar waith erbyn tymor yr hydref eleni, a byddwn yn gobeithio cael newydd-ddyfodiaid i'r system erbyn haf y flwyddyn nesaf. Nid y coleg ei hun fydd y darparwr gwasanaethau, oherwydd ni allwn ddisgwyl i athrawon unigol deithio i un lle penodol i dderbyn y math hwnnw o gefnogaeth. Felly, er y bydd yn cydlynu ac yn trefnu, cyflenwi lleol fydd yn digwydd mewn gwirionedd, oherwydd rydym yn dymuno gweld arweinwyr, lle bynnag y maent yng Nghymru, yn cael y cyfle i gael budd ohono. Ond, fel y dywedais, rwy’n gobeithio cael awdurdod cysgodol yn weithredol erbyn yr hydref, a newydd-ddyfodiaid erbyn haf 2017.

Y grant amddifadedd disgyblion: a gaf i ddweud, mae’r grant amddifadedd disgyblion, yn ôl nifer o gyrff annibynnol sydd wedi edrych arno, yn gwneud gwahaniaeth i'n plant tlotaf. Y llynedd gwelsom, am y tro cyntaf erioed, ganlyniadau TGAU y plant hynny yn dechrau dal i fyny â'u cyfoedion. Mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd ei ddathlu. Y broblem yw bod angen i ni gynyddu’r cyflymder hwnnw. Mae angen i’r plant hynny i ddal i fyny hyd yn oed yn gynt. Felly, mae’r grant amddifadedd disgyblion, fel y dywedais, yn rhan bwysig, wrth symud ymlaen. Rwyf i a'r Gweinidog cyllid, sy'n cydnabod llwyddiannau’r grant amddifadedd disgyblion hyd yn hyn, yn parhau i gael y trafodaethau hynny. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn fy ngohebiaeth gyda'r Prif Weinidog, y byddaf yn edrych i ehangu’r grant amddifadedd disgyblion lle rwy'n meddwl y gallwn gael yr effaith fwyaf. Ar ôl ymweld â'r anhygoel Ysgol Feithrin Tremorfa y bore yma, rwy’n meddwl o bosibl bod lle i edrych ar addysg blynyddoedd cynnar a chynyddu’r grant amddifadedd disgyblion sy'n mynd i’r blynyddoedd cynnar. Felly, byddwn yn edrych ar opsiynau yno.

Anghenion dysgu ychwanegol: a gaf i ddatgan yn hollol mai diben y ddeddfwriaeth a diben y diwygiadau yw bod pob plentyn yn cael ei drin fel unigolyn a bod eu hanghenion unigol yn cael sylw, yn hytrach nag o bosibl system yn y gorffennol nad yw wedi ceisio unigoli pecynnau cymorth ar gyfer yr unigolion hynny? Felly, nid yw hyn yn ymwneud â chael llai o gyfleoedd ar gyfer plant mwy galluog. Mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â gallu cael system a all fod yn ymatebol i anghenion unigol pob plentyn unigol mewn ffordd, rwy’n meddwl, sydd ddim ar gael ar hyn o bryd.

Gan droi yn ôl at y mater ynghylch plant sy'n derbyn gofal, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod Estyn wedi adrodd yn ddiweddar ar hyn, ac nid yr adroddiad hwnnw yn y lle y byddwn i am i ni fod—ddim lle y byddwn i am i ni fod. Mae rhai arferion da, ond, fel bob amser gyda'r system addysg yng Nghymru, nid yw’r arfer da hwnnw yn cael ei gymhwyso yn gyffredinol. Dyna fy mhwrpas wrth wneud y swydd hon: mae angen cael gwared ar yr anghysondebau o fewn ysgolion a'r anghysondebau rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol unigol, a'r anghysondebau ar gyfer deilliannau i'n holl blant, pa un a oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, pa un a oes ganddynt hawl i brydau ysgol am ddim, pa un a ydynt yn derbyn gofal. Sefydlodd y weinyddiaeth flaenorol strategaeth. Byddwn yn edrych i weld a yw deilliannau adroddiad Estyn yn cyd-fynd â deilliannau a chamau'r strategaeth a gyhoeddwyd gan y Gweinidog blaenorol. Byddaf eisiau gweld a fydd y strategaeth yn mynd i'r afael â'r gwendidau a nodwyd yn Estyn ac, os nad ydynt yn gwneud hynny, ac nid wyf yn fodlon eu bod, yna bydd yn rhaid i mi edrych eto ar y strategaeth honno. Ond rwy'n benderfynol o gael system addysg sy'n gweithio ar gyfer ein holl blant.

Hoffwn, Ysgrifennydd y Cabinet, siarad am yr adroddiad hwnnw gan Estyn a gofyn cwestiwn penodol. Fel y dywedasoch, mae’r ymarfer yn anghyson ac mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod plant sy'n derbyn gofal yn dal i wynebu gormod o rwystrau i wneud yn dda yn yr ysgol, ac yn amlwg mae'n rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hynny. Ond roedd yn dangos bod plant sy'n derbyn gofal yn gwneud orau mewn ysgolion sydd â chefnogaeth fugeiliol gref, gyda mwy o olrhain ar ddisgyblion, a’r uwch staff yn gwrando’n dda. Nawr, rwy’n meddwl bod y sylwadau hynny’n rhagorol. Mae'n gynllun da, mewn gwirionedd, i’w weithredu’n gyffredinol. Mae cynnydd yn bosibl. Mae'n aml yn wir ein bod, yn briodol iawn, yn gresynu at safonau cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal ac yn meddwl, 'Sut y gallwn wella arnynt?' Wel, gellir gwneud hynny, ac mae hyn wedi cael ei weld yn arbennig yn y grŵp 11 i 14 oed lle mae 48 y cant yn cyrraedd y dangosydd pwnc craidd erbyn hyn, o'i gymharu â dim ond 25 y cant yn 2011. Nawr, nid yw hynny’n golygu y dylem orffen fan hyn. Dylem yrru’r safonau hyd at lefel TGAU, lle maent yn cyd-fynd—fwy neu lai—â’r boblogaeth yn gyffredinol. Rwy'n hoffi’r syniad hwn o wytnwch mewn ysgol, o raglenni gwella ysgolion ac, yn ei hanfod, y syniad o alluogi ysgolion i archwilio'n feirniadol eu perfformiad eu hunain. Dyna lle mae'r rhan fwyaf o welliannau mewn ysgolion yn methu, oherwydd na allant mewn gwirionedd asesu gwir werth y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar hyn o bryd. Felly, credaf fod hwn yn gysyniad da, a gallai yn wir gyflawni gwelliannau mawr i gyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal, os mai dyna yw un o'r meysydd craidd ar gyfer gwella ysgolion.

Ac i orffen, a ydych yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o'r arfer da yn ysgol gyfun Brynteg, yn etholaeth y Prif Weinidog, lle maent wedi gwneud rhai datblygiadau rhagorol o ran lefel y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i blant sy'n derbyn gofal? Rydym yn awr yn gweld yn yr ysgol bod rhai canlyniadau gwych yn digwydd. Mae'n beth da dangos yr ysgolion hyn sydd angen eu gwella, a lle mae pethau mewn gwirionedd yn gweithio'n dda iawn.

Hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad a'i ymgyrchu parhaus yn y maes hwn? David, rydych chi a minnau yn ddau o ddim ond naw o ddosbarth gwreiddiol '99, ac rydych yn gyson, drwy gydol yr 17 mlynedd diwethaf, wedi hyrwyddo hawliau plant sy'n derbyn gofal, ac rwy’n eich canmol. Mae llawer o'r newid a welsom wedi bod o ganlyniad i bobl fel chi yn parhau i wthio’r materion hyn—a’m cydweithiwr Cabinet Ken Skates, gyda’i ddiddordeb yn hawliau plant sy'n derbyn gofal. Y sylw a roddwyd i'r mater hwn o fewn y Siambr hon sydd wedi caniatáu'r gofod i ni allu gwthio pethau ymlaen. Rwy’n eich cymeradwyo unwaith eto am eich gwaith cryf yn y maes hwn.

Nawr, mae adroddiad diweddar Estyn ar arfer da mewn gwasanaethau addysg i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn dderbyniol iawn i mi. Byddaf yn cyhoeddi ymateb yn ffurfiol cyn bo hir. Fel y dywedais wrth Darren Millar, mae gan bob plentyn unigol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal, yr hawl i ddisgwyl addysg ardderchog. Mae angen i ni ddysgu oddi wrth y gorau, fel Brynteg. Dyna pam mae system hunanwella mor bwysig, nid yn unig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ond ar gyfer gwelliant yn gyffredinol. Mae’n caniatáu i athrawon unigol, arweinwyr ysgolion ac ysgolion allu gweld rhagoriaeth drostynt eu hunain, yn uniongyrchol, a defnyddio hynny i ysbrydoli eu haddysgu eu hunain a myfyrio ar eu harferion eu hunain a'u sefydliadau eu hunain. Gan ganolbwyntio’n gryf ar system hunanwella—safonau proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus—byddwn yn gallu gyrru pethau ymlaen.

Lywydd, roedd yn esgeulus ar fy rhan i, ac nid wyf am gael fy nghyhuddo o geisio osgoi'r pwnc—holodd Darren Millar gwestiynau am faint dosbarthiadau, ac rwy'n siŵr ei fod yn credu fy mod yn fwriadol wedi peidio ag ymateb iddynt. A gaf i ddweud nad oes un dull penodol, Darren, i fynd i'r afael â'r mater hwn? Rwyf wedi gofyn i swyddogion bennu cwmpas yr hyn y gallwn ei wneud, gan ddechrau gyda'n dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf; ceir dosbarthiadau â mwy na 30 o blant. Beth sydd ei angen arnom i sicrhau bod niferoedd y dosbarthiadau hynny yn gostwng? Rwyf hefyd yn cydnabod, mewn rhai ysgolion, y gall fod cyfyngiadau corfforol neu gall fod cyfyngiadau cynaliadwyedd, felly, gan hynny, bydd angen i ni fynd i'r afael â'r broblem o gyfeiriad gwahanol. Yr hyn yr wyf yn benderfynol o’i wneud yw mynd i'r afael â'r broblem, a byddaf yn edrych ar ystod luosog o ymyraethau a fydd yn ein galluogi i wneud yr hyn yr ydym i gyd ei eisiau—hynny yw, rhoi’r amser sydd ei angen arnynt i athrawon allu rhoi sylw i'r plant hynny. Bydd yn rhaid inni wneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd a bod yn greadigol yn y ffordd yr ydym yn ei wneud.

Diolch. Diolch i chi am eich datganiad. Wrth gwrs, mae’r pethau y mae David Melding yn eu dyfynnu fel pethau da iawn ar gyfer plant sy’n derbyn gofal—gofal bugeiliol, olrhain da ar gynnydd disgyblion, ac ysgolion sy’n gwrando —yn bethau sydd eu hangen arnom ni ar gyfer ein holl ddisgyblion. Yn amlwg, un o'r materion yw sut yr ydym yn mynd i’r afael ag ysgolion sy’n hwylio mynd yn eu blaenau, nad ydynt yn wynebu'r heriau y mae addysgu mewn ardaloedd anodd yn eu hwynebu. Felly, rwy’n meddwl tybed pa bwyslais sy’n mynd i gael ei roi ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion wrth i ni olrhain pa mor dda y mae disgybl yn ei wneud o adeg cael ei dderbyn hyd nes iddo adael yr ysgol.

Un o'r pwyntiau yr wyf yn meddwl eich bod wedi’i godi ynghylch y strategaeth arweinyddiaeth sydd ei hangen i sicrhau bod system addysg Cymru yn barod ar gyfer diwygiadau cwricwlwm Donaldson yw sicrhau bod pawb yn gytûn. Bûm yn cadeirio fforwm polisi ar Donaldson ychydig fisoedd yn ôl ac roeddwn yn synnu braidd fod diffyg cwestiynau a brwdfrydedd dros ddysgu o arfer gorau ar draws yr OECD neu gan ysgolion neu ardaloedd penodol o'r wlad. Ymddengys i mi mai’r her fwyaf yw sut mae cael athrawon i ailystyried beth yw eu swyddogaeth, drwy ddefnyddio eu haddysgeg eu hunain yn ogystal â’u dychymyg, i ddysgu rhifedd a llythrennedd digidol ar draws y cwricwlwm cyfan. Fel arall, nid yw’n mynd i weithio, oni bai eu bod yn teimlo'n frwdfrydig am y peth. Felly, edrychaf ymlaen at glywed ychydig mwy am hynny. Roeddwn yn meddwl tybed pa ran y mae clystyrau o ysgolion yn ei chwarae wrth alluogi ysgolion o faint tebyg a’r nifer tebyg o brydau ysgol am ddim i archwilio eu harferion eu hunain, a’u bod yn edrych ar arfer da mewn ysgolion eraill yn y clwstwr, ac yn edrych ar yr ysgol yn y clwstwr sy'n cael y canlyniadau mathemateg gorau er mwyn deall hynny, ac yna mabwysiadu rhai o'r arferion hynny yn eu hysgol eu hunain. Ymddengys bod hynny'n un o'r ffyrdd ychydig llai bygythiol o ymdrin ag ysgolion sy'n cael anhawster i fynd i'r afael â'u cynlluniau gwella eu hunain.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau manwl yna? O ran olrhain disgyblion, mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn gyson ar draws ein gwlad. Ceir gwir lwyddiant yn y system addysg trwy sicrhau bod ein holl blant yn cyrraedd eu potensial, ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod potensial pob plentyn yn wahanol. Nid yw rhai o'r ffyrdd yr ydym, o bosibl, wedi barnu perfformiad o'r blaen wedi ystyried olrhain disgyblion unigol mewn gwirionedd. Felly byddwn yn dymuno gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn gyson. Rydym am sicrhau bod gwerthuso gwaith disgyblion gan athrawon yn digwydd yn fwy cyson ac yn adlewyrchu safon y gwaith hwnnw. Byddwn yn ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y system brofi, er enghraifft, yn fwy cadarn ac yn fwy cyfrifol drwy gyflwyno, os gallaf, brofion addasol ar-lein sydd mewn gwirionedd wedyn yn caniatáu i blant sy'n fwy galluog a thalentog gael eu gwthio ymhellach, eu gwthio nhw i weld yn union ble y maent yn y system, er mwyn gallu rhoi profion mwy heriol iddynt yn hytrach na'r profion safonol y mae pob plentyn yn eu sefyll. Felly, mae ffyrdd y gallwn ni wneud hynny. Yn achos ysgolion sy’n hwylio mynd yn eu blaenau, mae hynny’n rhan o'r perygl, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr ysgolion hynny sydd eisoes yn cyflawni'r hyn y byddem yn dymuno iddynt ei gyflawni yn cael eu gwthio i ddatblygu’n gryfach. Ond rwy'n edrych ar sut y gallwn greu system o asesu a system o atebolrwydd ar gyfer ein hysgolion, ac mae'r rheini'n ddau gysyniad gwahanol, asesu ac atebolrwydd. Sut gallwn ni wneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi addysg i ni y gwyddom sy’n gwneud daioni, yn hytrach na dim ond edrych yn dda? Dyna pam mae angen ffordd gall arnom i edrych ar asesiad ac atebolrwydd.

Mae clystyrau yn hanfodol i'r syniad o gydweithio rhwng ysgolion mewn system hunanwella. Buom yn siarad yn gynharach am ffederasiwn; mae’r rheini yn gydweithrediadau ac yn bartneriaethau pendant iawn, ond mewn rhai ardaloedd mae clystyru, a dull mwy anffurfiol o rannu arferion da, o bosibl yn fwy priodol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd honno. Fel y dywedais yn fy atebion i David Melding, drwy weld rhagoriaeth, myfyrio ar hynny yn eich arferion eich hun, a mynd ag ef yn ôl at eich sefydliadau eich hun, y byddwn yn cael gwared ar yr anghysondebau o’n systemau. Mae addysg ragorol yn digwydd yng Nghymru, ond nid yw'n rhagorol drwy'r amser ym mhob man.  Gall amrywio o fewn ysgol, gall amrywio o fewn dalgylch, gall amrywio o fewn dinas, ac yn sicr gall amrywio o fewn awdurdod addysg lleol. Yr anghysondeb hwnnw yn gyffredinol sydd angen i ni ganolbwyntio arno a’i yrru allan o'r system.

8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro

Rŷm ni’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar foderneiddio trafnidiaeth—y wybodaeth ddiweddaraf ar fasnachfraint Cymru a’r Gororau a rhaglenni metro. Rwy’n galw ar Ken Skates i wneud ei ddatganiad.

Member
Ken Skates 17:19:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch yn fawr iawn. Fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, mae gan wasanaethau rheilffordd ran bwysig i’w chwarae er mwyn gweddnewid rhagolygon economaidd-gymdeithasol ein cymunedau, ac mae'n hanfodol eu bod o safon uchel a’u bod yn effeithiol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Rhaid i wasanaethau gael eu cynllunio i fodloni anghenion teithwyr yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym am sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol fel bod ein rheilffyrdd yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. Bydd yr Aelodau'n gwybod, er bod y pwerau i osod blaenoriaethau a chyllid Network Rail o ran llwybr Cymru wedi eu cadw ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU, y cafwyd cytundeb mewn egwyddor â Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2014 i drosglwyddo'r pwerau i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau i Weinidogion Cymru.

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau manwl ynghylch telerau cytundeb terfynol y trosglwyddo hwnnw. Unwaith y bydd hynny wedi ei gytuno, gellir gweithredu’r prosesau seneddol angenrheidiol er mwyn cwblhau’r gwaith o drosglwyddo swyddogaethau, fel y cytunwyd â Llywodraeth y DU, erbyn dechrau 2017. Mae masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau, y bwriedir iddi ddechrau ym mis Hydref 2018, yn dynodi newid sylweddol a fydd yn ein galluogi i wneud gwasanaethau rheilffyrdd yn rhan ganolog o’n system drafnidiaeth. Rhoddir sylw mawr i wasanaethau trawsffiniol ac, yn arbennig, pa rai o'r gwasanaethau hynny y dylid eu gweithredu o dan ein masnachfraint nesaf. Rwyf yn gobeithio dod i gytundeb boddhaol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y mater hwn yn y dyfodol agos.

Er mwyn paratoi ar gyfer y trosglwyddo, ym mis Ionawr eleni, agorwyd y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn llywio ein dull o weithredu o ran dyfodol masnachfraint Cymru a'r gororau. Roedd yr ymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio’n briodol ar sefydlu'r safonau ansawdd y mae'r cyhoedd yn dymuno eu gweld ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â'r cyhoedd er mwyn datblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Cawsom 190 o ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled yr ardal y mae’r fasnachfraint yn ei gwasanaethu. Pwysleisiodd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yr angen i wella'r profiad i deithwyr gan roi eu barn am ystod eang o feysydd gan gynnwys lleihau amseroedd teithio’n gyffredinol, cynyddu nifer y teithwyr, costau is, gwelliannau o ran capasiti, gwella hygyrchedd, gwella cysylltedd a gwella prydlondeb, dibynadwyedd ac ansawdd.

O ran y trenau, rhoddwyd pwyslais ar gyfleusterau sy'n galluogi pobl i weithio a chyfathrebu'n fwy effeithiol, sicrhau mwy o gysur, gwella’r ddarpariaeth i deithwyr anabl, gwasanaethau arlwyo sydd ar gael yn gyson, awyru ac aerdymheru dibynadwy a digon o le i storio bagiau a beiciau. Mewn gorsafoedd, dywedodd pobl eu bod am weld gwelliannau i nifer y mannau eistedd dan gysgod sydd ar gael, gwell cyfleusterau prynu tocynnau, teledu cylch cyfyng gwell, mwy o adnoddau storio beiciau’n ddiogel, gwella glendid a datblygiadau mewn mannau arlwyo a manwerthu.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymatebion ar ein gwefan ac i randdeiliaid. Bydd gwaith caffael y fasnachfraint nesaf yn dechrau cyn hir a bydd yn cael ei lywio gan yr hyn y mae'r cyhoedd wedi’i ddweud. Mae'r broses gaffael yn cael ei chynllunio fel y gallwn ddarparu systemau metro trawsnewidiol fel rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth. Y cam cyntaf yw caffael gweithredwr a phartner datblygu a fydd yn cyflawni’r canlyniadau yr ydym am eu gweld yn deillio o'r fasnachfraint nesaf a’r systemau metro. Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall. Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.

Ar gyfer de Cymru, lle y mae cynlluniau wedi’u datblygu fel rhan o'r fargen ddinesig, rydym wedi sicrhau cytundeb a chyllid gan Lywodraeth y DU i symud ymlaen â metro de Cymru. Gan weithio gyda'r gweithredwr a’r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018.

Byddwn am weld y rhai sy’n cynnig ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn cynnig atebion arloesol i ddarparu gwelliannau y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau’r seilwaith ac sy’n cynnig gwerth am arian i’r trethdalwyr ac i’r rhai sy’n talu i ddefnyddio’r gwasanaeth. Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o 2019 ymlaen a’r gwasanaethau’n gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnig sy’n cael ei ddarparu.

Mae'r cynlluniau ar gyfer metro de Cymru’n cynnwys arian cyfatebol sylweddol o gronfeydd strwythurol yr UE. Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau â'r diwydiant rheilffyrdd ers y refferendwm, ac mae diddordeb sylweddol o hyd mewn cyflenwi'r fasnachfraint nesaf a metro de Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg y bydd yn anodd sicrhau trawsnewidiad ar yr un raddfa heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd arian ar gael. Rwyf hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen i ddatblygu'r rhaglen metro ar gyfer gogledd Cymru yn rhan o'r rhaglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais uwchgynhadledd lwyddiannus yng ngogledd Cymru gyda rhanddeiliaid allweddol o'r ddwy ochr i’r ffin i drafod sut y gellir manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economaidd ledled y rhanbarth. Mae'r cyfleoedd i foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth ledled y rhanbarth yn rhan allweddol o’r drafodaeth honno. Mae trydaneiddio prif linell gogledd Cymru yn asgwrn cefn i’r rhaglen foderneiddio. Bydd canolbwynt metro’r gogledd yng ngogledd-ddwyrain Cymru o gwmpas Shotton a Glannau Dyfrdwy, ond rwyf am sicrhau bod hyn yn rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth ranbarthol, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd cysylltedd trawsffiniol, a lledaenu i'r gogledd ac i’r dwyrain i Loegr, i'r gorllewin i Gaergybi ac Iwerddon ac i’r de i ganolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr.

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar nifer o astudiaethau i'n helpu i gyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i foderneiddio'r ddarpariaeth cludiant ym mhob rhan o’r rhanbarth. Mae’r seilwaith yn allweddol er mwyn moderneiddio'r rhwydwaith, ond mae’n rhaid wrth gydweithredu a chydlynu rhwng y cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ym mhob rhan o’r rhanbarth er mwyn sicrhau bod y gwaith cynllunio, ariannu a chyflwyno gwelliannau, a chynnydd mewn meysydd fel tocynnau integredig a chydweithio ar ddarparu gwybodaeth, yn digwydd yn gyflym a’i fod yn effeithiol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â’r rhaglen hon. Credaf y gallwn helpu i sbarduno ystod o ffyniant â’i ganolbwynt yng Nghymru sy'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd o Gaergybi i Wrecsam ac ymlaen i Lerpwl, Manceinion, Leeds a thu hwnt.

A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd croesawu’r diweddariad yma—yn gyntaf ar fasnachfraint Cymru a’r gororau, a hefyd y sefyllfa ar y metro? Wrth gwrs, wrth sôn am y fasnachfraint yn y lle cyntaf, mae’r sefyllfa wrth inni sôn am drenau yn gallu bod yn anodd achos nad yw pob rheilffordd wedi ei ddatganoli yma i Gymru, ac yn benodol efo’r fasnachfraint benodol yma, mae rhan o’r trac yn Lloegr a rhan o’r trac yng Nghymru hefyd, wrth gwrs.

Nawr, bwriad blaenorol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rydym yn gwybod o’r geiriad yn y papur gorchymyn, oedd pennu bod rhai gwasanaethau yn gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr a’u tynnu oddi ar fap y fasnachfraint sydd gennym ni yma, a’u hailaseinio i fasnachfreintiau rheilffyrdd yn Lloegr, gan ddiystyru’r ffaith, wrth gwrs, y byddai’r masnachfreintiau Seisnig hyn mewn gwirionedd yn rhedeg gwasanaethau i mewn i Gymru, ond byddai ein masnachfraint Gymreig fach ni yn cael ei gwahardd rhag gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein sicrhau na fydd Cymru yn colli allan yn ariannol—rydym wedi clywed y gosodiad yna sawl tro dros yr wythnosau diwethaf yma. Fodd bynnag, yn dilyn y ffordd y mae Mesur Cymru wedi cael ei drin, nid ydym ni ar y meinciau yma yn barod i ymddiried yn eu gair yn hollol. Felly, buaswn yn gofyn i’r Gweinidog: pa sylwadau ydych chi wedi eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau’r fargen orau i Gymru yn nhermau masnachfraint Cymru a’r gororau?

Wrth droi at gyllido’r metro, bydd y bleidlais Brexit, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, yn amlwg yn achosi rhywfaint o ansicrwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, o ran cyllid ar gyfer metro Caerdydd. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn gweithredu ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud i fyny’r holl arian a addawyd i Gymru gan y ‘Brexiteers’, a rhai ohonynt yn rhan o’r Llywodraeth—pa bynnag Lywodraeth sy’n dod nawr, yn y dyddiau nesaf. Fodd bynnag, os nad yw hwn yn dwyn ffrwyth, pa ffyrdd eraill o ariannu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod y metro yn gwasanaethu pobl y rhanbarth yn effeithiol? O gofio ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd, ynglŷn â chomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru—NICW—a ydych chi’n barod i sicrhau bod gan y comisiwn isadeiledd y pwerau a’r cyfrifoldeb, yn annibynnol o’r Llywodraeth, er mwyn ymchwilio i ffyrdd arloesol o sicrhau cyllid cyfalaf er mwyn gallu ariannu’r metro, os bydd angen?

Gan droi at fetro gogledd Cymru, rydych yn sôn am fetro gogledd Cymru, ond rydym i gyd yn gwybod mai metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ydy o mewn gwirionedd, yn amlwg, oherwydd mae yna dal rhan helaeth o ogledd Cymru i’r gorllewin o’r Rhyl—gyda phob parch i’r Rhyl—sef lle mae’ch cynigion yn gorffen. Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad am waith sydd yn mynd rhagddo i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a dwyrain Lloegr, a nifer o lefydd eraill, gan gynnwys gorllewin canolbarth Lloegr. Fodd bynnag, nid oes sôn am unrhyw gynlluniau i gysylltu gogledd a de ein cenedl ni yma yng Nghymru. Rydych yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi ailadrodd y pwynt yma ers degawdau nawr, sef ei fod yn dod yn fwyfwy anodd i adeiladu ac i uno ein cenedl heb y seilwaith sydd ei angen er mwyn cysylltu ein gilydd, de a’r gogledd. Pan fod gan y Llywodraeth Lafur hon lawer mwy o ddiddordeb mewn crybwyll cysylltiadau presennol gyda chenhedloedd eraill, ond ddim yn fodlon ystyried cysylltu cymunedau ein cenedl ein hunain gyda’n gilydd, a oes yna fodd i adrodd y golled yna yn y cynllun yn fan hyn? Hynny yw, yr angen dybryd i gael gwell cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau heddiw, a hefyd am y ffaith ei fod yn croesawu'r datganiad hwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y fasnachfraint? Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rydym yn gobeithio datrys cwestiynau ynglŷn â gwasanaethau trawsffiniol a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. O ran cyllid gan yr UE, mae’r swm cyfalaf yn cyfrif am tua 20 y cant o'r prosiect metro cyfan, felly mae'n swm sylweddol o arian, ac nid wyf yn credu y gellid gwneud iawn am hynny trwy fenthyca trwy sefydlu comisiwn seilwaith a fyddai’n ceisio benthyca at ddibenion cyfalaf—i raddau helaeth oherwydd y byddai goblygiadau o ran costau refeniw parhaus ar gyfer benthyca. Ein safbwynt ni, yn glir iawn, yw ein bod yn disgwyl i bob ceiniog yr oeddem wedi tybio y byddai’n dod o'r UE ddod yn awr oddi wrth Lywodraeth y DU, fel yr addawyd dro ar ôl tro gan y rhai a ymgyrchodd dros Brexit. Os na fydd hynny'n digwydd, yna gallai hyn olygu, yn anffodus, ffrwyno'r cynlluniau ar gyfer y metro, a allai olygu, er enghraifft, fod llai o wasanaethau ar gael neu lai o orsafoedd a chyfleusterau parcio a theithio mewn gorsafoedd a gynlluniwyd. Byddai'n anffodus iawn, ond, fel y dywedais, ein safbwynt ni yw ein bod yn credu y dylai pob ceiniog ar gyfer y cynnig hwn ddod i Gymru o hyd, a hynny oddi wrth Lywodraeth y DU yn hytrach nag yn uniongyrchol o Ewrop.

O ran rhaglen metro’r gogledd, mae tua 20,000 o bobl yn teithio o ogledd Cymru i ogledd-orllewin Lloegr bob dydd. Mae tua 20,000 o bobl yn teithio o ogledd-orllewin Lloegr i ogledd Cymru bob dydd. Mae'r teithio trawsffiniol yn aruthrol. Mae'n rhoi pwysau mawr ar seilwaith y ffyrdd ac ar seilwaith y rheilffyrdd. Mae problemau sylweddol hefyd o ran diffyg uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru—diffyg hanesyddol o ran uwchraddio a chynnal a chadw seilwaith rheilffyrdd gogledd Cymru, ac mae angen rhoi sylw i hynny.

Mae ardal fynediad Mersi-Dyfrdwy yn economi ynddi'i hun sy'n cyfrannu tua £35 biliwn y flwyddyn i economi'r DU. Nid wyf yn credu bod canolbwyntio ar ateb sy'n dwyn ynghyd ogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru mewn unrhyw ffordd yn tynnu ein sylw oddi wrth sicrhau ateb Cymru gyfan i'n problemau trafnidiaeth, ac yn wir ateb sy'n cysylltu gogledd-orllewin Cymru â gogledd-ddwyrain Cymru yn well. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno gwaith, yn cyflymu'r gwaith sydd wedi digwydd ar gynllun busnes ar gyfer trydedd pont dros Afon Menai.

O ran y cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, wel mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n helaeth ac mae’n buddsoddi'n helaeth i ddatrys problemau traffig rhwng y gogledd a’r de. Mae amserau teithiau trenau wedi eu torri. Rydym yn adeiladu, fel y gŵyr yr Aelod, ffordd osgoi y Drenewydd. Mae gwelliannau i'r A44 a'r A487 yn Aberystwyth, mae gwelliannau seilwaith yn digwydd ar linell y Cambrian. Rydym yn ariannu gwelliannau ychwanegol i'r gwasanaeth ar brif linell y Cambrian i ddarparu gwasanaeth rhannol bob awr. Rydym yn ariannu gwasanaethau ychwanegol i reilffordd Calon Cymru i ddarparu pum gwasanaeth y dydd am gyfnod prawf o dair blynedd hyd at fis Mai 2018. Rydym yn ariannu ein gwasanaeth TrawsCymru yn y canolbarth yn ogystal, gan gynnwys y T4 i'r Drenewydd ac yn ystyried sut y gellid gwella’r rhwydwaith. Byddwn yn annog yr Aelodau i beidio ag ystyried bod elfennau unigol o’r cynllun trafnidiaeth yn fwy pwysig na'r darlun cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n rhan o gynllun cenedlaethol ar gyfer gwella rhwydwaith trafnidiaeth Cymru gyfan.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Caerdydd a'r cyffiniau, wrth gwrs, yw’r rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'r twf yn golygu bod mwy o ddefnydd a phwysau cynyddol ar y seilwaith trafnidiaeth sydd eisoes yn bodoli. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig bod gwaith moderneiddio diwydiant trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol nid yn unig yn ymdopi â’r galw cynyddol hwn ond yn darparu ar gyfer anghenion pobl Cymru ac yn annog llwyddiant a thwf yn y dyfodol yng Nghymru. Yn awr, yn sicr, mae fy mhlaid i’n credu ers tro fod metro de Cymru yn brosiect hanfodol ar gyfer cysylltu pobl de Cymru a sicrhau twf economaidd yn y rhanbarth. Honnodd y Prif Weinidog y mis diwethaf na all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd; rwyf yn falch nad oeddech mor llym yn eich datganiad, ond yn dal yn amlinellu'r anawsterau, wrth gwrs, sydd yn gywir.

Ac ystyried canlyniad y refferendwm, rwyf yn awyddus i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phrosiect metro de Cymru. Mae'r UE—. Rwyf yn meddwl, wrth ateb cwestiynau gan Dai Lloyd, ichi sôn bod 20 y cant o gyfanswm y gost yn dod o gyllid yr UE, ac mae'n rhaid imi gyfaddef, fel y dywedais, mai dim ond newydd edrych ar y ffigurau hyn yr ydw i fy hun, ond mae'n ymddangos i mi fod yr UE wedi cyfrannu £106 miliwn i’r prosiect mewn cyllid datblygu rhanbarthol, a gafodd ei glustnodi ar gyfer metro de Cymru.  Cyfanswm y fargen ddinesig oedd £1.2 biliwn, felly mae fy nghyfrifiad bras yn dangos bod hynny’n 8.8 y cant o gyfanswm y gost, ond rwyf yn derbyn y gallai hynny fod yn anghywir gennyf; rwyf yn disgwyl rhywfaint o eglurhad ar hynny.

Gyda hyn mewn golwg yn ogystal, tybed a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa gynlluniau wrth gefn, os oes rhai, y rhoddodd Llywodraeth Cymru ar waith ar gyfer y prosiect cyn i’r refferendwm gael ei gynnal? A gafodd Llywodraeth Cymru drafodaethau gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ynghylch cyllid posibl cyn y refferendwm pe byddai pobl Prydain yn pleidleisio i adael yr UE? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU hyd yma o ran sicrhau’r cyllid hwn? Yn ogystal, pa rannau o brosiect y metro oedd i’w hariannu'n uniongyrchol gan arian yr UE?

O ran ariannu'r prosiect hwn yn y dyfodol, beth fydd cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru os na fydd cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol agos? A ydych hefyd yn chwilio am ffyrdd eraill o ariannu'r prosiect? Efallai y gallech roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â hynny.

Rwyf yn falch eich bod wedi rhyddhau mwy o wybodaeth a manylion ynglŷn â rhaglen metro gogledd Cymru ac rwyf yn croesawu'r galwadau am drydaneiddio a sicrhau’r cysylltedd gorau posibl â Lloegr ac Iwerddon. Mae manylion am sylwedd y prosiect braidd yn brin o hyd, felly edrychaf ymlaen at gael mwy o fanylion am hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl roi rhai manylion am y prosiect hwn, gan gynnwys amserlen ar gyfer ei gyflwyno, gwybodaeth am ble y bydd metro gogledd Cymru yn gweithredu a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y prosiect?

Rwyf yn falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhagor o fanylion am fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, a tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi rhai manylion am ei ddealltwriaeth o'r newidiadau i’r gwasanaethau trawsffiniol. Soniasoch am hynny yn eich datganiad ac rwyf yn awyddus i ddeall hynny’n well.

Yn olaf, fel y dywedais, roeddwn yn siomedig na soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am unrhyw fanylion ynghylch sut y mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithredu a sut y caiff ei ariannu. Cafodd ei greu ddwy flynedd yn ôl, a honnwyd ei fod yn gorff strategol trosfwaol ar gyfer trafnidiaeth, ond mae cyn lleied o fanylion amdano. Ar hyn o bryd, mae £3.7 miliwn wedi ei wario ar Trafnidiaeth Cymru ac eto nid oes gwefan i’r cyhoedd ac ychydig iawn o wybodaeth sydd ar wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd, dylwn ddweud fy mod wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar. Fy nghwestiwn oedd hyn: a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni cyflenwi ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? A’r ateb a gefais yn ôl yr wythnos diwethaf oedd, 'Byddaf yn gwneud datganiad i'r Siambr ar 12 Gorffennaf.' Wel, mae hynny'n wir, wrth gwrs, ond nid oes unrhyw fanylion am Trafnidiaeth Cymru, felly a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o fanylion am sut y mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithredu? Beth yw ei swyddogaeth? Sut y mae'n cael ei lywodraethu? Ar beth y cafodd y £3.7 miliwn ei wario hyd yma? A sut y mae'n cysylltu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd? Byddwn yn gwerthfawrogi ateb i’r cwestiynau hynny. Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a diolch iddo, unwaith eto, am groesawu'r datganiad heddiw? Mae yn llygad ei le fod metro de Cymru yn hanfodol o ran lliniaru rhai o'r tagfeydd—llawer o'r tagfeydd a welwn yn y rhanbarth. Yn fy marn i hefyd, bydd menter y metro yn sbardun mawr i symudedd cymdeithasol.

O ran cynllunio wrth gefn yn ystod y refferendwm, cawsom ein sicrhau yn ystod y refferendwm na fyddai angen cynllun B oherwydd bod y rhai a oedd yn dadlau dros ymadael yn addo inni y byddai pob ceiniog o gost y rhaglen hon yn cael ei darparu. Amlinellais yn fy ateb i Dai Lloyd beth fydd yn digwydd os na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu’r addewid hwnnw.

O ran y gost, a chododd yr Aelod y gyfran o'r gost y gellir ei dyrannu i’r arian Ewropeaidd, mae'n rhyw 20 y cant o ran cyfalaf ar gyfer seilwaith o gyfanswm cost metro de Cymru, sef £734 miliwn ar gyfer cyfalaf gwirioneddol ar gyfer y seilwaith. Felly, mae'n tua 20 y cant.

O ran swyddogaethau a darpariaeth Trafnidiaeth Cymru, gallaf ymdrin, yn gryno, mor gryno ag y gallaf, â rhai o'r cwestiynau hynny y cododd yr Aelod. Mae Trafnidiaeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, wedi ei sefydlu fel is-gwmni diddifidend sy'n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyngor arbenigol y bydd angen inni ei baratoi ar gyfer proses gaffael masnachfraint Cymru a'r gororau a’r metro. Mae'r cwmni yn aml yn cael ei gymharu â Transport for London, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol benodol ac sydd â chymhwysedd gweithredol ehangach na Trafnidiaeth Cymru.

Ar ran Gweinidogion Cymru’n unig y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni swyddogaethau ac ni all gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol na gweithredu'n fasnachol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cyfyngu ar ei allu i ddarparu gwasanaethau megis tramiau neu fysiau afon. Nid oes pwerau eilaidd ar hyn o bryd a allai greu corff o'r fath yng Nghymru, a byddai angen deddfwriaeth sylfaenol, a allai fod yn Fil y DU neu’n Fil y Cynulliad Cenedlaethol, yn dibynnu a yw’r eitemau sydd i'w cynnwys a'u cylch gwaith o fewn ei gymhwysedd.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n cynghori ar gyflawni cam 1 metro de Cymru ac yn darparu cymorth yn hynny o beth, a bydd yn caffael ac yn cyflenwi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a cham 2 metro de Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â chyflenwyr yn y farchnad i egluro'r dull gweithredu cyn dechrau'r broses gaffael ffurfiol ar gyfer cam 2 metro de Cymru a masnachfraint Cymru a'r gororau. Sefydliad dielw yw Trafnidiaeth Cymru, a bydd unrhyw arian dros ben, felly, yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, neu’n cael ei ailfuddsoddi.

Mae’r gwaith o ddatblygu a chaffael cam 2 y metro yn cael ei gysylltu â gwaith caffael masnachfraint Cymru a'r gororau, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â'r farchnad i archwilio opsiynau posibl ar gyfer darparu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau a gwaith ar seilwaith y rheilffyrdd i gynorthwyo i gyflwyno metro de-ddwyrain Cymru.

Mae ei drafodaethau â'r farchnad wedi eu llywio yn erbyn cyfres o ganlyniadau lefel uchel, sy'n cynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, lleihau amserau teithio cyffredinol drwy ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach a rhyng-gyfnewid gwell rhwng dulliau teithio, cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddarparu gwasanaethau newydd a gwell i deithwyr a’r gallu i ateb y galw yn ystod cyfnodau brig a digwyddiadau arbennig. Mae'r bobl sy’n rhan o Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y cyngor technegol arbenigol hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni’r canlyniadau lefel uchel hyn.

O ran metro gogledd Cymru, amlinellais i Dai Lloyd y weledigaeth ar gyfer y metro, y weledigaeth eang, sef cysylltu gogledd-ddwyrain Cymru â gogledd-orllewin Lloegr ond hefyd i sicrhau bod modd teithio’n integredig ac yn ddi-dor ar draws gogledd Cymru ac ymhellach i'r de, yng nghanolbarth Cymru ac i orllewin canolbarth Lloegr.

Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd, a fydd yn nodi'r atebion gorau ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ledled y rhanbarth gyda chefnogaeth rhanddeiliaid, yn flaenoriaeth gynnar imi. Bydd costau'n cael eu casglu o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith gan gynnwys o bosibl gyllid o unrhyw fargeinion twf ar y naill ochr i'r ffin a’r llall.

Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac yn cefnogi datganoli’r fasnachfraint hon yn synhwyrol i'r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru. Nodaf, fodd bynnag, y bu 18 mis o drafodaethau, a tybed a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pam y mae’r trafodaethau hynny eto i ddwyn ffrwyth? Cymharodd Trafnidiaeth Cymru â Transport for London a chrybwyllodd rai o'r gwahaniaethau. Cofiaf, mewn cyd-destun arall, er gwaethaf gwelliannau trawsnewidiol Transport for London i'r llwybr ar yr wyneb yn Llundain, iddo ei chael yn anodd iawn trafod estyniadau hyd yn oed ychydig iawn y tu allan i ffiniau Llundain fwyaf i Swydd Hertford ac i Gaint, a tybed beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran y gwasanaethau hynny sy'n teithio ar hyd y ffin, o ran argyhoeddi cynrychiolwyr a phobl a fyddai’n elwa ar y gwasanaethau hynny fod Llywodraeth Cymru sy’n rhoi pwyslais ar edrych ar y fasnachfraint honno yn fwy tebygol o gyflawni gwelliannau, efallai, na Llywodraeth y DU sydd â nifer fawr iawn o fasnachfreintiau ym mhob rhan o’r DU i’w hystyried.

Yr hyn a oedd ar goll yn ei ddatganiad, yn fy marn i, oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar am yr amserlen ar gyfer trydaneiddio. Soniodd fod trydanu gogledd Cymru yn asgwrn cefn i’r gwaith moderneiddio ac i gynigion metro’r gogledd, ond onid yw’r trydaneiddio hwnnw’n dal i fod ymhell yn y dyfodol, oni bai ei fod yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw beth nad ydym yn gwybod amdano? Ac ystyried yr oedi sydd wedi bod mewn mannau eraill, mae'n anodd iawn gweld y bydd yr amserlen ar gyfer trydaneiddio gogledd Cymru yn un gyflym, a tybed sut y gall ei ddefnyddio fel asgwrn cefn i bopeth arall, ac ystyried yr heriau sydd ynghlwm wrth gyflawni hynny?

O ran trydaneiddio yn ne Cymru, gofynnaf hyn: a all roi unrhyw newyddion diweddar o gwbl o ran yr amseru tebygol? Gwelsom dros y penwythnos bont Stryd y Bont yng Nghasnewydd yn cael ei symud a'i gosod wrth y cledrau y tu allan i'r orsaf, ac mae hynny'n galonogol ac yn amlygiad diriaethol o gynnydd, ond pryd y mae'n disgwyl y bydd y trydaneiddio wedi ei gwblhau hyd at Abertawe, a beth y gall ei ddweud am ba welliannau a welwn o ran amser teithio ac, o bosibl, amlder, a sut y mae hynny'n bwydo i mewn i'r trafodaethau ynghylch masnachfraint newydd?

A gaf i hefyd ddweud, yn ogystal ag amlder a dibynadwyedd a chapasiti'r gwasanaethau, fod llawer o fy etholwyr yng Nghymoedd de-ddwyrain Cymru yn bryderus iawn am y gost hefyd? Mae potensial, yn aml, i bobl a allai fod yn gallu mynd i Gaerdydd, neu a allai efallai gael gwaith yng Nghaerdydd, pe byddai’r drafnidiaeth yn caniatáu iddynt gyrraedd yno’n gost-effeithiol, ac mae cost yn ystyriaeth sylweddol iawn, yn enwedig pan fo credydau treth yn cael eu tynnu’n ôl a lle ceir cyfraddau treth ymylol. Unrhyw beth y gellir ei wneud i wella’r gost, yn sicr i is-gyfran o bobl—dyna efallai yw'r mater pwysicaf, hyd yn oed os ceir gwelliannau sydd i’w croesawu o ran amlder a dibynadwyedd.

Yn olaf, o ran metro de Cymru, rwyf yn deall yn llwyr pam y mae'r Llywodraeth yn dymuno contractio a chael tendrau ar sail niwtral rhwng rheilffyrdd trwm, rheilffyrdd ysgafn, a gwasanaethau bysiau, ond rwyf yn dal i bryderu rhywfaint y byddai symud o reilffyrdd trwm i reilffyrdd ysgafn yn cael ei weld, o leiaf mewn rhai mannau, yn israddio posibl ar y gwasanaeth hwnnw. Beth y gall ei wneud i dawelu meddyliau pobl nad dyna’r sefyllfa, ac y gall rheilffyrdd ysgafn fod yn welliant mwy na digonol? Ac a yw hefyd yn deall y goblygiadau gwahanol iawn o ran costau cyfalaf sydd i ddarparu bws o’i gymharu â rheilffyrdd ysgafn o’i gymharu â rheilffyrdd trwm? Efallai y bydd y rheilffordd ysgafn yn rhatach i’w gweithredu yn y tymor hir, ond byddai'n rhaid wrth fuddsoddiad cyfalaf sylweddol lle byddai'n disodli gwasanaeth rheilffordd trwm, a gallai gwahanol gynigwyr fod â gwahanol fynediad i gyfalaf. A phan fo elw gilt yn 0.8 y cant dros 10 mlynedd, ac yntau o bosibl yn rhoi risg y gwariant cyfalaf hwnnw ar y sector preifat, oni fyddai efallai’n lleihau’n ddiangen nifer y ceisiadau a nifer y darparwyr a all eu cyflwyno eu hunain yn gost-effeithiol, os oes yn rhaid i bob un ohonynt ariannu'r cyfalaf hwnnw, a bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, mewn gwell sefyllfa i wneud hynny nag eraill? Diolch.

Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau. Yn gyntaf oll, un o'r rhesymau—neu ddau o'r rhesymau—y mae hi wedi cymryd 18 mis yw oherwydd ein bod wedi cael dau etholiad cyffredinol, un ledled y DU, ac un yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn ymwneud â gweithrediad sy'n croesi ffin sylweddol. Felly, ac ystyried y ddau ffactor hynny, nid yw’n syndod fod trafodaethau wedi eu cynnal dros gyfnod o 18 mis.

Croesawaf yn fawr iawn sylwadau’r Aelod ynghylch yr angen i sicrhau bod prisiau’n fforddiadwy. Byddwn yn sicrhau, fel rhan o'r allbynnau lefel uchel gan y gweithredwr a’r partner datblygu, fod unrhyw gynlluniau yn annog rhagor o ddefnydd ar adegau llai prysur ar wasanaethau lle mae’r defnydd yn isel ar hyn o bryd, a hefyd yn cynnig gostyngiadau ar gostau teithio i bobl sy'n gweithio patrymau gwaith afreolaidd neu oriau rhan-amser. Mae'n hanfodol fod datblygiad y metro yn sbarduno symudedd cymdeithasol ac yn galluogi pobl i gael swyddi o safon yn agosach at eu cartrefi. Pan nad yw’r swyddi hyn yn agos at eu cartrefi, yna dylent allu eu cyrraedd ar drafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy.

Bydd y gweithredwr a’r partner datblygu, wrth gwrs, wrth weithio trwy'r allbynnau lefel uchel —sut i gyflawni’r allbynnau hynny—yn gallu cyflwyno amryw o atebion sy'n cyfateb orau i'r problemau sy'n wynebu pob cymuned yn ei thro. Nid wyf o’r farn, o anghenraid, mai rheilffyrdd trwm yw’r ateb i bob problem, ac nid wyf ychwaith o’r farn mai rheilffyrdd ysgafn yw’r unig ateb. Yn hytrach, bydd arlwy cymysg o atebion trafnidiaeth a fydd hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cludiant bws cyflym a theithio egnïol.

O ran amlder y gwasanaethau—ac nid yr Aelod yw’r unig un i godi pryderon am yr amlderau presennol—bydd y metro yn gweithredu o leiaf bedwar gwasanaeth yr awr ledled y rhwydwaith cyfan pan fo angen hynny a hyd yn oed fwy wrth graidd y rhwydwaith. Bydd teithwyr yn gallu symud yn rhwydd ledled rhanbarth de-ddwyrain Cymru gyda chapasiti gwell, ansawdd gwell a gwybodaeth well i deithwyr. Bydd y metro hefyd yn darparu rhwydwaith lle y mae’n hawdd rhyngnewid gan ddefnyddio cerbydau a gynlluniwyd ar gyfer cyflymder a chapasiti.

Mae’r amser ar gyfer y datganiad hwn yn awr wedi dirwyn i ben, ond mae gennyf nifer o Aelodau eraill sy'n dymuno cyfrannu, felly o hyn allan, os gallant fod yn gwestiynau byr, sydyn heb ragymadroddi, byddwn yn ddiolchgar iawn. Julie Morgan.

Diolch ichi, Lywydd. Roeddwn am godi dau fater. Un oedd pobl ag anableddau a’r anawsterau y maent yn eu cael wrth deithio ar unrhyw fath o drafnidiaeth. Rydym yn gwybod, er enghraifft, gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, fod 54 y cant o bobl sy'n ddall neu’n rhannol ddall yn cael anawsterau ar y trenau, a gall hyn fod oherwydd goleuo gwael, arwyddion gwael neu ddiffyg hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ymhlith y staff. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa sylwadau y mae wedi'u cael gan bobl neu grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl ynghylch sicrhau bod materion anabledd yn cael eu hymgorffori yn y fasnachfraint?

Roedd yr ail gwestiwn ynghylch metro de Cymru. Rwyf yn croesawu'n fawr ei ddatganiad y bydd yn symud ymlaen; bod cytundeb gyda Llywodraeth y DU; a’i fod yn dweud yn ei ddatganiad,

‘Gan weithio gyda'r gweithredwr a’r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018’.

A all ddweud yn union pa seilwaith a fydd yn cael ei gyflwyno yno a beth yw'r contractau cyflenwi cyntaf a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2018?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nodaf yr amserlen yn gyflym. Byddwn yn dechrau’r broses gaffael yn yr haf; byddwn yn dyfarnu'r gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a'r metro erbyn diwedd y flwyddyn hon; byddwn yn dyfarnu'r contractau seilwaith yn ystod gwanwyn 2018; bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau ym mis Hydref 2018 a'r metro’n cael ei gynllunio yn ystod 2018-19; cyflwyno isadeiledd ar y safle o 2019; a, gwasanaethau’n weithredol o 2023. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod y metro newydd yn gwasanaethu’n bennaf y cymunedau hynny sydd yn aml wedi teimlo'n ynysig neu'n bell o ganol Gymru drefol, felly fy nod a fy ngobaith, yn enwedig ar gyfer y cymunedau anghysbell hynny yn y Cymoedd, yw y bydd y prosiect trawsnewidiol hwn ar gael iddynt yn gynnar.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau am yr angen i wella gwasanaethau a mynediad i deithwyr anabl, pobl ddall a rhannol ddall. Roedd hyn yn rhywbeth a godwyd yn llawer o'r 190 o ymatebion ac mae’n cael ei ymgorffori yn yr allbynnau lefel uchel hynny y byddwn yn eu mynnu gan y gweithredwr a’r partner datblygu.

Diolch ichi am eich datganiad. Yn amlwg, mae metro de Cymru yn gwbl hanfodol i holl ddatblygiad de-ddwyrain Cymru, felly rwyf ychydig yn bryderus ynghylch y posibiliadau o ran llithriant ar y rhaglen hon, i raddau helaeth oherwydd bod contract Arriva ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn dod i ben ym mis Hydref 2017, ond eto, yn ôl eich datganiad, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i ddyfarnu contract newydd tan ddiwedd 2017. Felly, mae hynny, ynddo'i hun, yn peri pryder.

Rydych yn sôn am raglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid. A yw hyn yr un peth â'r ddeialog gystadleuol y soniwyd amdani, gyda chynigwyr posibl? Sut ydych chi'n meddwl bod hynny’n well na chyhoeddi eich strategaeth, y canlyniadau yr ydych am eu gweld ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a rheilffyrdd trwm, a sicrhau bod pobl wedyn yn cynnig ar sail y canlyniadau hynny?

Un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf yw’r cynnydd yr ydym yn ei wneud, neu beidio, o ran nodi sut y mae'r partneriaid yn y fargen ddinesig yn mynd i ddatblygu'r pwerau statudol i gomisiynu cynlluniau defnydd tir a phrynu’r tir sydd ei angen ar gyfer y rheilffyrdd ysgafn newydd hyn ac ar gyfer y gorsafoedd hyn y gallai fod eu hangen. Fel yr ydych eisoes wedi dweud yn eich datganiad, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru bwerau i ysgwyddo swyddogaeth awdurdodau lleol statudol. Felly, os nad oes ganddo’r pwerau hynny, pam nad ydym yn awr eisoes yn gwthio ymlaen i ddatblygu’r pwerau statudol hyn? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd gan bennaeth cynllun datblygu Stuttgart ac, felly, mae'n ymddangos i mi yn gwestiwn hollol berthnasol.

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rydym yn dal i fod yn hyderus na fydd llithriant ac y bydd pontio di-dor o’r fasnachfraint bresennol i'r un newydd. Mae'r ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal wedi bod yn un cyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dilyn hynny ag ymgynghoriad arall ar ôl inni allu dyfarnu statws gweithredwr a phartner datblygu. A byddaf yn cwrdd â nifer o arweinwyr awdurdodau lleol i drafod yr union faterion hynny y cododd yr Aelod ynghylch y tir a hefyd y gwaith o reoli llwybrau a gwasanaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol.

Cyfeiriasoch at well darpariaeth ar gyfer teithwyr anabl, ac mae sylwadau wedi eu gwneud ynghylch hynny eisoes. A wnewch chi sicrhau bod eich ystyriaeth yn cynnwys namau ar y synhwyrau—pobl sydd wedi colli eu clyw a’u golwg? A wnewch chi roi sicrwydd, pan fydd y tendr yn mynd allan, yn unol â’r gofynion caffael, y bydd yn deg a heb unrhyw ragdybiaeth bod model penodol yn fwy addas ar gyfer anghenion neu ofynion Llywodraeth Cymru?

Wrth ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig,

‘Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'w gwneud yn ofynnol i drenau fod â dull awtomatig o gyfrif nifer y teithwyr?'

eich ateb oedd,

'Bydd... masnachfraint Cymru a'r Gororau yn pennu cerbydau o ansawdd uchel a all gynnwys gosod offer i gyfrif teithwyr yn awtomatig.'

A wnewch chi, felly, os gwelwch yn dda, ymdrin â'r pryder y dylai trefniadau cadarn ar gyfer cyfrif teithwyr fod yn ofyniad allweddol yn y fasnachfraint newydd, ac y bydd angen codi hynny pan ymgynghorir ar gynigion manylach?

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar alwadau gan grwpiau defnyddwyr y rheilffyrdd am ddau drên yr awr ar y llinell o Wrecsam i Bidston, gan ddechrau yn gynt ac yn parhau gyda’r nos, ym manyleb y fasnachfraint ar gyfer 2018?

O ran y cyfeiriad yr ydym wedi ei glywed yn eich datganiad at raglen metro gogledd Cymru a'r uwchgynhadledd yn y gogledd ddydd Gwener diwethaf, yn eich datganiad rydych yn dweud eich bod am wneud y mwyaf o gyfleoedd i sicrhau cysylltedd ar draws y ffin ac rydych yn cyfeirio at fargeinion twf y naill ochr i’r ffin a’r llall. Onid yw'n wir fod angen un fargen twf gyda’r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd, sef cynnig Llywodraeth y DU? Rwyf yn falch fod yr Is-ysgrifennydd yn bresennol, fel y deallaf, yn y cyfarfod ddydd Gwener, ond a wnewch chi roi sylwadau yng nghyd-destun y fargen twf gydgysylltiedig honno a gwaith cyngor busnes gogledd Cymru, y bwrdd uchelgais economaidd, Cynghrair Mersi Dyfrdwy, ac eraill ar gynnig sy'n ymgorffori pob rhan o ogledd Cymru, o Gaergybi i ogledd-orllewin Lloegr, nid dim ond yn benodol yr hyn yr ydych yn cyfeirio ato fel y rhanbarth metro?

Yn olaf, ac ystyried tystiolaeth sy'n awgrymu bod 20 y cant o gynigion am gyfweliadau neu swyddi ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael eu gwrthod oherwydd anawsterau cludiant, a bod cyfrifiad 2011 yn dangos mai dim ond 1 y cant sy’n defnyddio’r rheilffyrdd i deithio i'r gwaith yn Sir y Fflint—llai na hanner y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, mewn rhanbarth lle mae economi gryfach a phoblogaeth sylweddol yn byw o fewn 5 km i orsafoedd sydd eisoes yn bodoli—sut y bydd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth rheilffyrdd yn y rhanbarth yn galluogi pobl i deithio’n ddibynadwy o le y maent i’r lle y maent yn dymuno mynd iddo, ar yr adeg y maent yn dymuno teithio, gan alluogi'r rhai hynny na allant yrru i gyrraedd swyddi ac i hyrwyddo newid yn y modd o deithio tuag at y rheilffyrdd yn ein rhanbarth?

Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a gallaf ei sicrhau, fel y dywedais wrth ymateb i gwestiynau Julie Morgan, y bydd gwell mynediad a gwasanaethau yn rhan o’r gofynion ar y gweithredwr a’r partner datblygu, ac wedi’u nodi yn yr allbynnau lefel uchel sy'n cynnwys gwasanaethau a hefyd welliannau o ran hygyrchedd i bobl ddall a rhannol ddall, a phobl ag anghenion synhwyraidd ychwanegol. Gallaf ei sicrhau y bydd chwarae teg. Rydym yn pennu’r allbynnau hynny y mae angen eu cyflawni. Bydd y darpar gynigwyr yn cynnig atebion heb i Lywodraeth Cymru fod ag unrhyw ragfarn ynglŷn â pha atebion sydd fwyaf addas ar gyfer y problemau yr ydym yn eu cyflwyno i’r cynigwyr hynny.

O ran y fargen twf, dywedais 'bargeinion twf ar y naill ochr i'r ffin a’r llall' oherwydd, eisoes, mae Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington wedi llunio cais bargen twf. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ochr yn ochr â chyngor busnes gogledd Cymru, hefyd wedi datblygu cynnig twf. Mae dau ar hyn o bryd. Fy newis i fyddai cael un sy'n integreiddio datblygu economaidd yn llwyr ar draws yr ystod honno, os mynnwch chi, o weithgaredd. Fodd bynnag, os oes dwy fargen twf yn mynd i fod, rhaid i’r bargeinion twf hynny gydweddu’n berffaith a rhaid iddynt ystyried, yn allweddol, seilwaith trafnidiaeth a rhwydweithiau integredig rheilffyrdd a ffyrdd.

Rwyf yn cytuno â'r Aelod hefyd; mae’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn llinell hollbwysig yn y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, ac rwyf yn awyddus ac yn benderfynol y dylid buddsoddi’n ddigonol yn y llwybr hwnnw i fodloni anghenion y teithwyr y mae’n eu cludo a'r bobl hynny a fyddai'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i nodi bod Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn ardal y mae angen sylw arni. Rydym wedi gallu nodi, er enghraifft, y bydd angen gorsaf newydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer y rhanbarth penodol hwnnw. Mae gweithgaredd economaidd aruthrol o amgylch Glannau Dyfrdwy. Mae angen inni sicrhau bod yr holl rwystrau i bobl rhag cael cyfleoedd cyflogaeth nid yn unig yn yr ardal honno, ond hefyd ymhellach i ffwrdd, yn cael eu chwalu er mwyn i bobl allu cyrraedd y swyddi hynny o safon ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Diolch, Lywydd—byddaf mor gryno ag y bo modd. Gan edrych ymlaen at fasnachfraint Cymru a'r gororau yn y dyfodol, mae angen i ni yn y gogledd fod wedi ein cysylltu’n well â’n prifddinas. Rwyf yn cydnabod ein bod wedi ein cyfyngu gan seilwaith a rhwydwaith a etifeddwyd, ond ni all fod yn iawn ei bod, o'r brif orsaf yn y Fflint yn fy etholaeth i, yn gynt mynd i Lundain nag ydyw i Gaerdydd. Mae angen inni hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni gofynion yr unfed ganrif ar hugain a’r iwtopia gyfoes honno. Byddai hynny'n cynnwys Wi-Fi, ond rwyf yn siŵr y byddai llawer o'r cymudwyr rheolaidd yn meddwl, a dweud y gwir, fod y Nadolig wedi dod yn gynnar pe byddai socedi plygiau sy'n gweithio ar bob gwasanaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch o glywed y cynlluniau i fwrw ymlaen â'r rhaglen metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac a chithau hefyd yn Ogleddwr, byddwch yn gwybod, fel finnau, fod ein rhanbarth yn ddiwylliannol ac yn economaidd yn rhyng-gysylltiedig â’n cymdogion agos dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, a wnewch chi sicrhau bod yr anghenion seilwaith er mwyn i’r gogledd ffynnu a’r cynlluniau ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru yn aros yn uchel ar yr agenda wrth symud ymlaen?

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn ac, yn arbennig, y diddordeb y mae wedi ei ddangos mewn cysylltedd trawsffiniol, ynghyd ag Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynd i’w man gweithio neu i allu ymweld â ffrindiau a theulu ar drafnidiaeth gyhoeddus, p'un a ydynt yn byw yng ngogledd Cymru ac yn manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y gogledd-orllewin neu i'r gwrthwyneb. Mae'n un gymuned economaidd fawr ond arwyddocaol, ac mae trafnidiaeth yn mynd i fod yn allweddol o ran sicrhau bod yr economi’n tyfu yn y dyfodol.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle hefyd wrth sôn am yr angen am dechnoleg well ar wasanaethau, gan gynnwys Wi-Fi. Rydym am i gontract y fasnachfraint sicrhau bod technoleg newydd yn cael ei chofleidio, ac annog defnyddio technolegau newydd lle y maent yn debygol o gynnig gwelliannau i deithwyr, ond—ac mae'n rhaid imi sicrhau'r Aelodau am hyn—na fydd hyn yn achosi gostyngiad yn lefelau cyffredinol y staff o ganlyniad. Mae'r dechnoleg y byddwn yn disgwyl i'r fasnachfraint newydd ei chyflwyno yn dechnoleg sy'n gwella profiad y teithwyr ac yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth.

O ran teithio o’r gogledd i’r de, credaf fy mod wedi ymdrin â rhai o'r cwestiynau ynghylch trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de. Mae'r Llywodraeth hon yn dal i fod yn ymroddedig hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau’r amserau teithio hynny ar y rheilffordd rhwng gogledd Cymru a de Cymru. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn y gwasanaethau hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Diolch, Lywydd. Tri chwestiwn cyflym ichi, Ysgrifennydd y Cabinet: yn gyntaf, ac ystyried arwyddocâd y fasnachfraint rheilffyrdd a’r prosiect metro ar gyfer Cymoedd y de, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi ei rhoi i leoli tîm Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd?

Yn ail, mae'r prosiect metro yn cynnig y cyfle i ailgysylltu cymunedau sydd wedi colli eu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. A ydych yn meddwl y byddai'n bosibl ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd i ardaloedd sydd wedi dioddef dan fwyell Beeching? Rwyf yn meddwl yn benodol am bentref Hirwaun yn fy etholaeth i.

Yn olaf, fel y rhan fwyaf o’m cydweithwyr sy'n cynrychioli etholaethau’r Cymoedd, rwyf yn cael cwynion yn aml ynghylch annigonolrwydd gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cynnwys mewn unrhyw fasnachfraint yn y dyfodol fel bod anghenion cymudwyr yn cael eu rhoi yn gyntaf ac yn flaenaf wrth ddarparu unrhyw wasanaethau rheilffordd?

Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau. Rwyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelod a’r Siambr heddiw mai fy mwriad yw sefydlu pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd, yn anad dim i amlygu ein cred y dylai'r metro yn ne Cymru wasanaethu’r cymunedau hynny sy’n aml yn teimlo'n ynysig.

O ran Beeching, defnyddiwyd bwyell Beeching yn eang, ond fy ngobaith i yw y gallem weld, yn rhan o'r broses hirdymor o ddarparu gwell gwasanaethau a gwasanaethau newydd, ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd yr effeithiodd cynlluniau Beeching arnynt. Rwyf yn cytuno hefyd fod angen gwella'r profiad o’r gwasanaeth—nid oes amheuaeth am hyn. Rwyf yn derbyn llawer o lythyrau, fel Ysgrifennydd y Cabinet, gan Aelodau sy'n pryderu am brofiad eu hetholwyr ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Byddwn yn cynnwys yng nghontract y fasnachfraint nifer o ofynion, gan gynnwys, fel yr wyf wedi ei amlinellu, yr angen am wasanaethau amlach, gwell capasiti, defnydd o dechnolegau newydd, gorsafoedd a chyfleusterau gwell a cherbydau glanach sydd o ansawdd gwell.

9. 8. Datganiad: Y Gymraeg

Rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y Gymraeg. Rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies, i wneud ei ddatganiad.

Member
Alun Davies 18:07:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Mae’n bleser gen i gael y cyfle yma heddiw i wneud datganiad am fy nghynlluniau a fy mlaenoriaethau ar gyfer maes polisi’r Gymraeg dros y flwyddyn i ddod.

Fel rhywun sydd yn wastad wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd am ddyfodol llewyrchus i’r Gymraeg, mae’n anrhydedd cael arwain ar y portffolio iaith ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n ffodus hefyd i gael cymryd yr awenau ar adeg gyffrous yn hanes yr iaith. Mae yna heriau o’n blaenau ni, ond gallwn ni hefyd wynebu’r heriau hynny gan wybod bod gennym ni gonglfeini cadarn yn eu lle.

Felly, wrth inni ystyried beth yw'r camau nesaf i’r Llywodraeth, mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu'r hyn sydd wedi cael ei wneud hyd yma. Mae’n amserol hefyd nodi ein diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r tîm cenedlaethol am roi Cymru a’r Gymraeg ar y map gyda’u llwyddiant ysgubol ym mhencampwriaeth Ewro 2016. Mae gweld cwmnïau mawr rhyngwladol a’r cyfryngau Prydeinig yn defnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd cyfathrebu yn hwb mawr i hyder pob un ohonom ni, fel cenedl ddwyieithog. Byddwn yn edrych ar ffyrdd i fanteisio ar y diddordeb newydd yma yn y Gymraeg dros y misoedd nesaf.

Ein tasg yn awr yw gosod uchelgais o’r newydd sy’n adeiladau ar y seiliau sydd gennym ni ac yn cymryd camau mawr ymlaen. Mae ein maniffesto ni’n gosod uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ni fydd hynny’n dasg hawdd, ond credaf ei bod yn bwysig i ni hoelio ein meddyliau ar yr hyn rydym ni’n ceisio ei wneud. Mae’n gyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth i osod cyfeiriad ond mae hefyd yn hanfodol i ni i gyd fel cenedl gyfan berchnogi’r her.

Felly, un o’r pethau cyntaf rwy’n bwriadu ei wneud eleni fel Gweinidog yw cynnal sgwrs neu drafodaeth genedlaethol ar ein gweledigaeth hirdymor ni. Daw strategaeth bum-mlynedd bresennol y Llywodraeth i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf, felly rwy’n edrych ymlaen at gynnal trafodaeth eang dros y misoedd nesaf ym mhob un rhan o’n gwlad. Fy mwriad i yw cyhoeddi dogfen ymgynghori yn yr Eisteddfod yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wrth edrych tuag at y dyfodol, rhaid inni hefyd ganolbwyntio ar y presennol. Rwy’n ymrwymo i barhau i gyflwyno rheoliadau safonau pellach i sectorau eraill sy’n dod o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 dros y flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn rhoi diweddariad ar safonau’r Gymraeg.

Yn ei ddatganiad ar ddechrau’r Cynulliad hwn, dywedodd y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn ceisio diwygio Mesur y Gymraeg. Cafodd y Mesur ei basio ar adeg pan oedd y setliad datganoli yn wahanol, felly mae’n amserol i ni adolygu’r Mesur a bydd y gwaith yn cychwyn yn ystod y flwyddyn yma. Mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i nodi manylion beth fydd yn y Bil newydd, ond rwy’n awyddus i edrych eto ar y Mesur er mwyn sicrhau fod y sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol yn addas, yn gyfredol a hefyd yn sicrhau bod y broses o wneud a gosod safonau yn llai biwrocrataidd.

Rwyf hefyd yn awyddus i ailedrych ar y broses o gynllunio addysg Gymraeg. Mae fy swyddogion i eisoes wedi bod yn trafod gydag awdurdodau lleol er mwyn datblygu canllawiau ar baratoi cynlluniau strategol newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Y nod fydd sicrhau bod y cynlluniau yn arwain at weithredu pendant a chyflym mewn modd sy’n arwain at dwf mawr mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rwyf hefyd yn ymrwymo i weithredu’r blaenoriaethau ar gyfer addysg Gymraeg a gyhoeddwyd mewn datganiad ym mis Mawrth eleni. Mae gwaith hefyd wedi cychwyn ar ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru a fydd yn cynnwys un continwwm o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Mae gan rieni rôl allweddol i’w chwarae yn natblygiadau ieithyddol y genhedlaeth nesaf o Gymry. Cychwynnodd rhaglen Cymraeg i Blant ym mis Ebrill eleni er mwyn annog a chefnogi rhieni a darpar rieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant. Byddwn yn sicrhau bod rhieni yn derbyn gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg ar adegau allweddol drwy’r daith o fagu plentyn.

Rwy’n edrych ymlaen at weld y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cychwyn yn swyddogol ym mis Awst. Yr wythnos diwethaf, bues i yng nghynhadledd tiwtoriaid Cymraeg i oedolion, ac mae’n amlwg i mi fod yna ymroddiad gan y sector i symud ymlaen a bod yn rhan o gynllun eang o greu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus.

Yn ogystal â sicrhau bod strwythurau addas yn eu lle ar gyfer cynllunio addysg, mae’n hanfodol hefyd ein bod ni’n cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl ni—y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Mae angen i ni barhau i gefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd ymarferol, creadigol a hwyliog. Roedd yn fraint gen i agor canolfan Gymraeg newydd Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yr wythnos diwethaf. Bydd Tŷ’r Gwrhyd yn ofod gwych i ddod â siaradwyr Cymraeg o bob oed at ei gilydd i’w defnyddio yn gymdeithasol.

Lywydd, mae prosiectau sy’n targedu defnydd iaith plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu rhaglen siarter iaith ar draws Cymru sydd â’r nod o gefnogi ac annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc a busnesau i danlinellu pwysigrwydd y Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle. Ond, yn fwy na dim, rydym am i’r Gymraeg fod yn rhywbeth sy’n gyfredol ac yn berthnasol i’r genhedlaeth ifanc—mae defnyddio cyd-destun fel cerddoriaeth, technoleg neu chwaraeon i godi proffil a balchder yn yr iaith yn rhywbeth a fydd yn parhau yn ganolog i’r gwaith hybu.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni hefyd yn cydweithio â’n partneriaid i helpu’r sector breifat i ymgorffori mwy o ddwyieithrwydd yn eu gwasanaethau a busnesau. Fel rydw i eisoes wedi sôn, mae cyffro’r pêl-droed wedi agor drws o ran profi gwerth y Gymraeg wrth farchnata, felly mae hwn yn gyfle euraidd i ni fanteisio arno fe.

Lywydd, dyna fy mlaenoriaethau i ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy’n hyderus bod yna gefnogaeth ar draws y Siambr i sicrhau dyfodol cadarn i’r Gymraeg ac i sicrhau ein bod ni i gyd yn ymrwymo i gymryd penderfyniadau yn y lle hwn a fydd yn gyson â chyrraedd yr ymrwymiad hwnnw. Diolch yn fawr.

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn nod i’w groesawu ac rwy’n falch eich gweld chi’n cadarnhau hyn eto heddiw. Er hynny, nid yw’r Llywodraeth eto wedi egluro sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o ychydig dros 0.5 miliwn yn 2011 i 1 filiwn erbyn 2050. Rwy’n gweld y byddwch chi’n cyhoeddi fod yna ymgynghoriad i fod, eto fyth, ar strategaeth newydd ac yn cymryd y bydd hwnnw yn cynnwys sut i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae angen strategaeth, ond, yn bwysicach, mae angen cynllun gweithredu i fynd efo hwnnw. Rydym ni angen rŵan gweld ewyllys wleidyddol gryf a chadarn gan y Llywodraeth cyn iddi fynd yn rhy hwyr ar yr iaith Gymraeg.

Ni chyflawnwyd nodau blaenorol Llywodraeth Cymru o 5 y cant o gynnydd mewn siaradwyr Cymraeg rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011 ac ni lwyddwyd i amddiffyn y nifer o gymunedau lle y mae dros 70 y cant yn siarad Cymraeg. Yn wir, gwelwyd cwymp o 2 y cant yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 a chwymp yn nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant yn siarad Cymraeg. Mae angen eglurder ar sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod uchelgeisiol y tro yma. Yn bersonol, rwy’n meddwl ein bod ni wedi cael hen ddigon o ymgynghori. Rydym ni wedi cael un ymgynghoriad ar ôl y llall—sgwrs a gafwyd gan y Prif Weinidog, a beth sydd wedi dod yn sgil y sgwrs honno? Bydd pawb yn cofio’r Gynhadledd Fawr. Wel, nid ydw i ond yn gobeithio y bydd eich sgwrs chi yn arwain at weithredu y tro yma.

Rwy’n troi at nifer o’r materion eraill. Y safonau: diolch am y datganiad ysgrifenedig. Nid oes sôn am osod safonau ar gwmnïau telegyfathrebu—ffonau symudol ac yn y blaen. A ydych chi’n bwriadu gwneud hyn? Dyna ydy un o fy nghwestiynau cyntaf i. Yn y Cynulliad diwethaf, gwelwyd nifer o doriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg a byddai rhagor o doriadau yn ei gwneud hi’n anodd iawn i’r comisiynydd gyflawni ei chyfrifoldebau ynghylch y safonau. A ydych chi’n cytuno fod hyn yn bryder?

Addysg yw un o’r meysydd pwysicaf o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar gyfer y dyfodol ac rydw i’n falch o’ch gweld chi yn cydnabod yr angen am un continwwm o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’n ymddangos felly eich bod chi, o’r diwedd, am weithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies, a gafodd eu gwneud yn wreiddiol dair blynedd yn ôl bellach, ac mae’n biti ein bod ni wedi colli gymaint o amser efo hyn. A ydych chi felly’n cytuno fod yr ymgynghoriad presennol gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â chadw TGAU Cymraeg ail iaith yn ddibwrpas, ac y dylid ystyried dod â’r ymgynghoriad yna i ben ac yn hytrach symud i ddatblygu un cymhwyster cyn 2018?

Rydych chi’n sôn yn eich datganiad am weithredu’r blaenoriaethau ar gyfer addysg Gymraeg a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni ac mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud yn y datganiad hwnnw fod

‘Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod ei bod yn siomedig nad ydym wedi cyrraedd holl dargedau 2015 yn y Strategaeth.’

Ac wedyn mae o’n mynd ymlaen i ddweud:

‘mae’n bwysig cofio bod modelau gwahanol o ddarpariaeth yn bodoli yng Nghymru a bod cyrraedd targedau “cenedlaethol” yn dibynnu ar berfformiad awdurdodau lleol a darparwyr.’

Felly, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn mesur ac yn mynd i’r afael â’r galw am addysg Gymraeg ac yn cyfrannu at y targedau cenedlaethol?

A ydych chi’n cytuno fod angen datblygu marchnad llafur Cymraeg i ddarparu gwasanaethau, er enghraifft gwasanaethau addysg, iechyd a gofal yn y Gymraeg? Nid ydw i’n gweld cyfeiriad at hyn ond, yn fy marn i, mae hyn yn gam gweithredu hollbwysig ac mae angen eglurder ar bwy sy’n mynd i arwain ar y gwaith yma.

Rydych chi’n sôn hefyd am sicrhau bod rhieni yn derbyn gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg ar adegau allweddol drwy’r daith o fagu plentyn. A ydych chi’n cytuno fod angen sicrhau bod rhagor o blant ifanc yn cael y cyfle i dderbyn gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau bod targedau cenedlaethol addysg Gymraeg yn cael eu cyrraedd? A, gan eich bod chi yn sôn heddiw am bwysigrwydd Cymraeg i oedolion, a fedrwch chi ymrwymo i beidio â thorri cyllideb ar ei gyfer?

Rydych chi’n sôn yn eich datganiad am gydweithio efo partneriaid i helpu’r sector breifat i ymgorffori mwy o ddwyieithrwydd yn eu gwasanaethau. A fyddwch chi’n gweithredu, felly, eich addewidion maniffesto i sefydlu cronfa defnydd o’r Gymraeg, a gwadd busnesau i fuddsoddi yn y Gymraeg?

Ac, yn olaf, rwy’n gweld nad ydych yn sôn am y cysylltiad hollbwysig rhwng yr iaith a’r economi. Mae cydnabod pwysigrwydd cynnal economi gref yn y cymunedau a’r ardaloedd Cymraeg yn hanfodol, rwy’n credu, ond rwyf yn gobeithio y byddwch chi’n medru ymhelaethu ar hyn maes o law. Felly, diolch am y datganiad. Rydw i’n edrych ymlaen i weithio efo chi ar gynllun gweithredu cadarn ac effeithiol, ac amserlen glir er mwyn diogelu a chryfhau’r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhaid cyflymu: yn wir, mae’n rhaid i ni garlamu ymlaen yn ddiymdroi cyn ei bod hi’n rhy hwyr i’r iaith Gymraeg.

Ni fuaswn i’n derbyn ambell bwynt rydych wedi ei wneud, ond rwy’n eich croesawu chi i’r swydd, fel llefarydd ar faterion iaith. Wrth wneud hynny, a gaf i ddweud hyn? Mi fydd y Llywodraeth yma yn gweithredu pob un rhan o’r maniffesto heb eithriad, ac mi fyddem ni yn gwneud hynny. Mae sut rydym yn gwneud hynny yn rhywbeth mi fydd—wel, y mae’r Prif Weinidog wedi dechrau’r job o esbonio hynny y prynhawn yma, gyda datganiad a blaenoriaethau’r Llywodraeth, ac mi fydd y Gweinidog Cyllid yn trafod y polisi cyllido ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac mi fydd sawl Gweinidog yn gwneud datganiadau fydd yn ymwneud â sut rydym yn datblygu gwasanaethau i gefnogi’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Roedd yr Ysgrifennydd Addysg wedi gwneud hynny y prynhawn yma hefyd. Felly, mi fydd y Llywodraeth yn cydweithio ac yn gweithio, ac fydd pob un Gweinidog yn gweithio yn eu maes i sicrhau dyfodol a sicrhau cefnogaeth i’r Gymraeg. Nid yw’n fater i un Gweinidog, ac un Gweinidog yn unig, wneud hynny. Mae hwn yn rhan o Lywodraeth yn ei chyfanrwydd. Mi fyddwch chi’n gweld, fel rhan o’r gwaith hwnnw, na fydd dim ond datganiadau pellach ar iaith a’r economi, iaith yn y gweithlu a chynllunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol. Mi fydd hynny yn dod o Weinidogion gwahanol yn ystod y cyfnod nesaf.

Ond a gaf ateb cwpwl o’ch pwyntiau penodol? Pan fo’n dod at y safonau, mi fyddem ni yn cadw at yr amserlen i sicrhau bod y safonau yn dod gerbron y Cynulliad yma, ac mi fyddem ni yn cadw at yr amserlen sydd gyda ni i sicrhau bod hynny yn digwydd yn y ffordd rydym ni wedi’i datgan yn barod. Mi fyddaf i’n sicrhau bod y safonau sy’n dod gerbron y Cynulliad yma yn safonau rwy’n meddwl gall y Cynulliad eu cefnogi.

Mae yna ewyllys glir a chadarn, fel rydych wedi’i ddweud, yn y Llywodraeth yma, ac mae’r Llywodraeth yma yn mynd i arwain ar y gwaith yma. Ond a gaf i ddweud hyn yn hollol glir? Gall Llywodraeth ddim mynnu bod rhiant yn defnyddio unrhyw iaith benodol gyda phlentyn gyda’r nos, neu pan fo’r plentyn yn chwarae. Gall Llywodraeth ddim mynnu bod rhywun yn defnyddio’r Gymraeg yn y swyddfa bost. Gall Llywodraeth ddim mynnu bod rhywun yn defnyddio pa bynnag iaith lle bynnag y maen nhw. Mae hwn yn rhan o gynllun ar ein cyfer ni fel cenedl ac fel cymdeithas. Mae’n fater i bob un ohonom ni. Y peth rhwyddach yn y byd yw dod i fan hyn, i’r Siambr, a gwneud araith, a meddwl bod y job wedi’i wneud. Nid ydw i—[Torri ar draws.] Nid ydw i—[Torri ar draws.] Nid ydw i’n mynd i ddod i fan hyn a dim ond gwneud araith, ac nid ydw i chwaith yn mynd i ymddiheuro am gael sgwrs a chynnal trafodaeth gyda’n cenedl ni amboutu ddyfodol y Gymraeg. Rydw i’n credu dyna beth mae’r genedl eisiau ei weld, a dyna beth rydw i’n mynd i’w wneud. Ac rydw i’n mynd i arwain ar y drafodaeth yna; nid ydw i’n mynd i eistedd yn ôl ac aros i rywun arall wneud hynny, ac nid ydw i chwaith yn mynd i feddwl fod gen i yr hawl i gyhoeddi dogfen ymgynghori heb fynd trwy unrhyw fath o drafodaeth gyda’r wlad yma o gwbl. Nid ydw i’n mynd i wneud hynny. Fy steil i yw i fynd mas o’r Bae, i deithio o gwmpas Cymru, siarad gyda phobl yn ein cymunedau ar draws y wlad, ac wedyn dod yn ôl i fan hyn gyda rhywbeth rwy’n meddwl fydd â chefnogaeth pob rhan o Gymru. Ac nid ydw i’n mynd i ymddiheuro am hynny, ac rydw i’n meddwl, os ydym ni o ddifrif—a dyna’r gwahaniaeth, onid yw? Os ydym ni o ddifrif amboutu dyfodol y Gymraeg, mi fuasai pob un fan hyn yn cefnogi hynny.

Mae cymaint i fynd trwyddo yma, felly, jest i arbed tipyn bach o amser yma, rwy’n cytuno â beth a ddywedodd Sian Gwenllian ynglŷn â’r strategaeth a’r angen am gynllun. Rydym ni wedi cael strategaethau a chynlluniau o’r blaen, ac nid ydyn nhw wedi bod yn gweithio. Rydym ni wedi gweld cwymp yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yn yr ‘heartlands’, a nid oes digon o lefydd lleol yn ein hysgolion i’r bobl ifanc sydd eisiau cymryd eu haddysg drwy’r iaith Gymraeg.

Ond jest gair o gysur yma i chi, am unwaith: rwy’n deall pa mor galed fyddai hyn, achos mae cael strategaeth am rywbeth mor bersonol â dewis iaith yn beth anodd iawn. A phan ddywedoch chi am gael cefnogaeth gan bawb yng Nghymru dros unrhyw fath o beth da y mae’r Llywodraeth a’r Cynulliad yn trïo ei wneud, mae’n beth pwysig, ond nid esgus yw hynny, Weinidog, i beidio â gwneud dim byd neu ddim byd sydd yn gweithio.

A allaf i ddweud, jest cyn i fi ddechrau ar gwestiynau—? Fe ddywedoch chi rywbeth yn y datganiad Saesneg a golloch chi yn eich araith Gymraeg heddiw, sef, ‘to hear the language every day’. Dyna’r her sylfaenol am unrhyw lwyddiant i strategaeth dros y Gymraeg yma, rwy’n credu. Ac, yn anffodus, colloch chi hyn rywsut yn eich araith Gymraeg heddiw.

I fwrw ymlaen â’r safonau, rydych chi wedi sôn am amserlen, ond nid ydych chi wedi esbonio pam na ddaeth y safonau a gollom ni yn ystod y Cynulliad diwethaf—y trydydd ‘tranche’, rwy’n credu, yr un ynglŷn ag addysg—pam mae hynny wedi cymryd cymaint o amser i ddod yn ôl i’r Cynulliad i’w ailystyried. Ynglŷn â diwygio’r Mesur, rwy’n ddod yn ôl at hynny fel y peth olaf i’w ddweud. Ynglŷn â chynllunio addysg, rwy’n gweld eich bod chi wedi sôn am sut i greu twf mewn addysg Gymraeg, ond nid ydych wedi dweud lot am sut i godi safon Cymraeg yn ein hysgolion di-Gymraeg. Nawr, rwy’n gwybod eich bod chi wedi sôn am continwwm, a gwaith Sioned Davies, ac, wrth gwrs, mae Donaldson ar y gorwel hefyd, ond mae yna gyfnod hir yna, a hoffwn i wybod yn glou beth i’w wneud â’r safon ac agwedd rhai athrawon yn ein hysgolion di-Gymraeg.

Gan gadw llygad ar, ac ewyllys da dros, y cynlluniau Cymraeg i blant a Chymraeg i oedolion, achos cynlluniau eithaf newydd yw’r rhain—ond, ynglŷn â hybu’r iaith, ie, mae’n wir dweud mai ein hadnoddau pwysig yw siaradwyr, ond adnoddau mwy pwysig, yn fy marn i, yw ein dysgwyr, dysgwyr sy’n gallu bod yn fodelau rôl, a dangos i bobl—pobl fel ni, mewn ffordd—ei bod hi’n ffein i wneud camgymeriadau, ac i fwrw ymlaen a gwella, yn lle bod yn gywir y tro cyntaf. Achos, fel y dywedais ar y dechrau, peth personol yw iaith, ac mae pobl sy’n adnabod neu sy’n gallu’r iaith yn well na phobl eraill yn gallu bod yn broblem, yn lle yn gefnogaeth weithiau.

Ynglŷn â phobl ifanc, ie, rwy’n cytuno am annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg, a’r lle cyntaf i ddechrau hynny yw yn ein hysgolion, achos beth nid ydym yn ei glywed ar y coridorau yn ein hysgolion di-Gymraeg yw’r iaith o gwbl. Os ydym ni’n mynd i drïo perswadio, yn arbennig, bobl ifanc fod y Gymraeg yn beth go iawn, achos nid ydyn nhw yn clywed yr iaith yn un man arall, pam nad ydym ni yn ei chlywed yn anffurfiol mewn llefydd eraill? Ac, yn ogystal â’n hysgolion di-Gymraeg, hoffwn glywed rhywbeth oddi wrthych chi ynglŷn â’r stryd fawr, achos dyna lle mae plant a phobl ifanc yn clywed yr iaith yn anffurfiol.

Ynglŷn â busnesau, rydych chi wedi sôn am bartneriaid i helpu’r sector preifat i ymgorffori mwy o ddwyieithrwydd. Beth nad ydych chi wedi ei ddweud yw ble mae’r fantais. Rhaid i chi ddangos i’r busnesau bychain bod yna fantais fod yn ddwyieithog—neu’n dairieithog. Achos nid ydw strwythurau, a chynlluniau, a strategaethau yn helpu garej â dau ddyn yn gweithio yna. Mae’n rhaid i ni gael rhywbeth lot mwy ‘grass roots’ na beth ydym ni wedi ei gael ar hynny hyd yn hyn.

And, just to finish, I just want to talk about revising the Welsh language Measure. It’s an issue I’ve raised already, and it is probably controversial with some of the people in this Chamber. And I say this because I want our Welsh language standards to work. The Welsh Language Commissioner has great power to make sure that the Welsh language standards are imposed and that Welsh language rights are observed. What we don’t have is an equivalent where, perhaps, let’s just say a local authority—it could be any public body that’s affected by standards in the long run—are overzealous, not in the way that they introduce the standards, but in the way that they administer standards. There are always chances that they might overdo it.

The Welsh Language Commissioner does not have any powers, as far as I can see—[Interruption.] I don’t mean the introduction of standards, I mean you might have an individual in a particular department in a public service who might be overzealous in the way they insist that the standards are administered, if that’s the way to put it. Because I want these standards to work, I do not want them undermined by them being introduced inadvertently overzealously somewhere. I want them to work. I would like to see the Minister at some point at least talk about what kind of route that someone who feels that they have been disadvantaged by a standard being misapplied would have.

Because, if you have the right to enjoy the standards, you can go to the Welsh commissioner if they haven’t had that right enforced, but where perhaps someone has an obligation being placed upon them and they’ve got an issue with that, they’ve got nowhere to go under the current Measure. If you’re talking about English and Welsh being treated with equality in this place, we have to be wary of any accidents, and I mean accidents, happening that will undermine the value of Welsh language standards. I don’t know if I’m coming across clearly with what I’m hoping to get across there. It’s certainly not, ‘let’s make this English before Welsh’ in any way at all. But there will be people who accidently fall through the cracks on this and the Welsh Language Commissioner doesn’t have powers to deal with that at the moment, and that’s what I’m asking you to consider. Thank you. Diolch.

Diolch i chi a diolch am eich sylwadau. Rwy’n amlwg yn fodlon ystyried y materion y mae’r Aelod wedi’u codi. Rwyf i, fel Aelod, hefyd yn deall bod yna broses apelio yn erbyn penderfyniadau’r comisiynydd ac mae tribiwnlys y Gymraeg wedi’i sefydlu er mwyn gwrando ar unrhyw apêl yn erbyn y safonau. Os nad yw’r broses sydd gennym ni yn glir, mi fydd gan Aelodau—pob un Aelod—y cyfle i gynnig newidiadau pan fyddwn yn dod i drafod diwygio’r Mesur. Rwy’n hollol sicr yn fy meddwl i fy mod i eisiau gweld unrhyw fath o Fil newydd yn adlewyrchu’r strategaeth a’r weledigaeth sydd gyda ni.

Rwyf eisiau i’r weledigaeth ar gyfer y Gymraeg ddod yn gyntaf. Dyna pam rwy’n mynnu siarad â phobl ar draws y wlad yn gyntaf; siarad â phobl, rhannu profiadau, rhannu syniadau, rhannu gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith—iaith pob un ohonom ni—ac ar sail hynny gosod y strategaeth, ac ar sail y strategaeth dod i ddeddfu. Nid wyf eisiau dod i ddeddfu yn syth achos rwyf eisiau i’r profiad o’r drafodaeth rydym yn mynd i’w chael ar draws Cymru gyfoethogi’r fath o drafodaeth rydym yn ei chael fan hyn, ac wedyn ein bod yn deddfu pan fyddwn yn gwybod yn union sut rydym eisiau diwygio’r Mesur a ble rydym eisiau cyrraedd trwy ddeddfwriaeth yn y pen draw. Yn amlwg, byddaf yn hapus iawn i gael y drafodaeth ar y pryd.

A gaf i ddod yn ôl at un o’r prif bynciau roedd Suzy Davies wedi codi, sef y sefyllfa yn y byd addysg? Mae fy swyddogion i yn siarad ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru ynglŷn â’r cynlluniau addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n glir yn fy meddwl i fy mod eisiau gweld cynlluniau sy’n mynd i arwain at dwf mawr yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac rwyf eisiau gweld sut y mae awdurdodau lleol yn mynd i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf. Pan fyddaf yn dod i edrych ar y cynlluniau, mi fyddaf yn edrych arnyn nhw ac yn edrych ar sut maent yn cynyddu nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna sut byddaf yn edrych arnynt, a gobeithio yn cytuno ar y cynlluniau gydag awdurdodau lleol, achos trwy roi cyfle i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mi fyddwn ni yn helpu creu mwy o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol, a thrwy wneud hynny rwy’n meddwl ein bod ni eisiau hybu’r iaith, a hybu’r iaith nid jest gyda’r busnesau bach y mae’r Aelod wedi’u trafod, ond hefyd pob un rhan o’r gymdeithas a’r gymuned. Rwyf ein heisiau ni fel cymuned a chymdeithas genedlaethol benderfynu ein bod ni eisiau gweld ein gwlad ni yn ddwyieithog, ac nid yw hynny yn fater i wleidyddion yn unig.

Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn goroesi a ffynnu.

I’m learning Welsh.

Mae dweud na fydd hi'n dasg hawdd cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn danddatganiad. Mae amcangyfrifon yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth yn dangos, yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, bod canran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn gwirionedd wedi gostwng, felly mae gennym dalcen caled o'n blaenau. Edrychaf ymlaen at eich strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf, pan fyddwch yn ei chyhoeddi yn ystod yr haf. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld eich newidiadau arfaethedig i Fesur y Gymraeg. Fodd bynnag, os ydym am gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, nid strategaethau na hyd yn oed deddfwriaeth sydd eu hangen arnom weithiau, er bod y ddau beth yn bwysig iawn, ond gwelliannau i addysg Gymraeg a mynediad at ddysgu, ac mae angen i ni roi'r hyder i bobl i ddysgu ein hiaith.

Nodaf y byddwch yn mireinio'r canllawiau ar y ddarpariaeth o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae hyn i'w groesawu hefyd, Weinidog, ond byddai llawer ohonom yn hoffi gweld cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn cael eu cryfhau. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ddeddfu i roi sail fwy cadarn i gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg? Weinidog, soniasoch am y cwricwlwm newydd a sut y bydd yn cynnwys un continwwm dysgu ar gyfer y Gymraeg ond dim byd am y ffordd yr addysgir yr iaith mewn gwirionedd. Mae llawer o bobl ifanc yn digalonni rhag dysgu Cymraeg oherwydd arferion addysgu gwael. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella'r ffordd y mae addysg Gymraeg yn cael ei chyflwyno?

O ran dysgu oedolion, er ein bod yn croesawu creu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cyrsiau iaith ar gael ym mhob ardal yng Nghymru o gofio'r pwysau ar ein sector addysg bellach a thoriadau i'r rhaglen Cymraeg i oedolion?

Yn olaf, Weinidog, rydych chi'n sôn am weithio gyda'ch partneriaid i helpu'r sector preifat i gynnig mwy o wasanaethau dwyieithog. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd â'r sector preifat gyda ni. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w gwneud yn haws i'r sector preifat gynnig gwasanaethau yn Gymraeg? Diolch yn fawr iawn—diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei sylwadau. A gaf i ddweud—? O ran datblygu'r strategaeth, fy mwriad eglur yw sicrhau bod gennym strategaeth hirdymor ar gyfer dyfodol y Gymraeg, nid un sydd ond yn ystyried y flwyddyn nesaf, y ddwy flynedd, y tair blynedd neu hyd yn oed y pum mlynedd nesaf. Rwyf eisiau edrych ar strategaeth a fydd yn mynd â ni drwy'r 20 mlynedd nesaf. Mae'r uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 yn golygu bod gennym ddatganiad a gweledigaeth uchelgeisiol iawn, iawn, ond rwy'n credu bod angen inni gael gweledigaeth o newid yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Yr hyn y gallem ei wneud—a phe byddem yn dilyn cyngor rhai pobl dyna'r hyn y byddem yn ei wneud—fyddai dim ond rheoli dirywiad yr iaith, a gwneud hynny mewn modd a fyddai'n ein gwneud ni deimlo'n gynnes ac yn gyfforddus yma yn y Siambr hon. Nid dyna fy mwriad. Fy mwriad i yw cyfrannu at, ac arwain, sgwrs genedlaethol am sut y gallwn adfer y Gymraeg mewn cymunedau ar draws y wlad, sut y gallwn sicrhau bod Cymru yn genedl ddwyieithog mewn gwirionedd ac nid yn unig ar bapur neu mewn areithiau, a bod pobl yn cael y cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwch, ac y bydd hynny'n cael ei weld fel rhan o'n darpariaeth gyffredinol, ac nid rhywbeth sydd ar wahân iddi.

O ran y pwynt a wnaed ynglŷn ag addysgu, siaradodd yr Ysgrifennydd addysg yn gynharach am system addysg hunan-wella sy'n sicrhau y bydd yr holl addysgu yn cyrraedd y math o safon ac ansawdd yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld, boed hynny yn y Gymraeg neu mewn unrhyw bwnc arall.

Ond, gadewch i mi ddweud hyn: mae angen i ni sicrhau—ac mae hyn yn bwynt sylfaenol yr wyf eisiau ei wneud mewn ymateb i gwestiynau y prynhawn yma—os ydym ni'n mynd i greu cenedl ddwyieithog, mae'n rhywbeth y mae angen i'r genedl gyfan ei wneud gyda'n gilydd. Ni all gwleidydd fynnu hynny, ond gall gwleidyddion arwain hynny, a'r hyn yr wyf yn awyddus i ni ei wneud yw ein bod yn sicrhau yn bendant bod pobl yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg ac i gael addysg Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad, ond wedyn bod gan bobl yr hyder a'r dymuniad i ddefnyddio'r iaith honno ar bob adeg, hefyd.

Diolch, Lywydd. A gaf i longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad i’r portffolio pwysig yma? Rwyf eisiau canolbwyntio ar un mater yn arbennig, a’r mater yna yw’r wybodaeth am Gymraeg i oedolion.

Yn 2014-15, roedd £10 miliwn wedi cael ei wario ar ddysgu Cymraeg i oedolion. Roedd tua 14,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y rhaglen yna, sy’n gweithio mas fel tua £700 y pen i’r bobl hynny a oedd yn cymryd rhan yn y cyrsiau. Ond, dim ond 10 y cant o’r rheini a oedd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau a oedd wedi cael unrhyw fath o gymhwyster ar ddiwedd y cwrs. Ac rwy’n deall pam fod hynny’n bodoli; mae yna lot o oedolion sydd ddim eisiau’r ‘stress’ ychwanegol yn eu bywydau ac nid ydyn nhw eisiau cymryd yr arholiadau. Ond, fe fyddwn i’n licio gwybod sut mae’r Llywodraeth yn gallu bod yn hyderus am safon y dysgu a’r gwerth i drethdalwyr os nad yw pobl yn cymryd yr arholiadau hynny. Sut allwn ni fod yn glir bod y safonau hyn o ddysgu yn mynd i fod yn gyson trwy Gymru i gyd, a sut mae’r Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn mynd i sicrhau bod y system mewn lle fel ein bod ni’n gallu bod yn siŵr bod yna werth i drethdalwyr? Rwy’n meddwl bod angen inni sicrhau—ac rwy’n gobeithio bod y Gweinidog yn cytuno—bod angen inni gael safonau uchel a chyson ar draws Cymru yn yr ymdrech yma i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Diolch yn fawr.

Diolch i chi. Rwy’n gwerthfawrogi beth sydd y tu ôl i’r cwestiwn yma. Mae’n hynod o bwysig bod pobl yn cyrraedd lefel lle maen nhw’n gallu trafod, siarad a defnyddio’r Gymraeg. Rwy’n gweld pa mor bwysig ydy hynny—i gyfathrebu a theimlo’n hyderus i fod yn rhugl a gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Un o’r pethau rydym wedi ei wneud trwy sefydlu’r Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw hefyd creu pwyllgor craffu, sy’n cael ei arwain gan Steve Morris ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn sicrhau bod y safonau sy’n cael eu darparu yn cyrraedd y fath o darged a’r nod y mae’r Aelod wedi disgrifio. Mae’n bwysig ein bod ni’n darparu cyrsiau sy’n addas ym mhob rhan o’r wlad; cyrsiau sy’n cyrraedd anghenion pobl ac yn y ffordd y mae pobl eisiau ei gweld, ac wedyn, cyrsiau sydd hefyd yn creu’r gallu i siarad a defnyddio a theimlo’n gyfforddus yn y Gymraeg. Dyna beth rwy’n hyderus bod y ganolfan genedlaethol eisiau ei weld.

Rwyf wedi cyfarfod prif swyddogion y ganolfan; rwyf i wedi siarad yn eu cynhadledd nhw yr wythnos diwethaf ac rwy’n hyderus iawn y bydd hyn yn arwain at fwy o bobl nid jest yn mynd ar gyrsiau Cymraeg, ond mwy o bobl yn siarad Cymraeg, a dyna nod pob un ohonom, rwy’n meddwl.

10. 9. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymru

Mae’r eitem nesaf, datganiad ar ddiweddariad ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, wedi cael ei drosglwyddo yn ddatganiad ysgrifenedig.

11. 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

Felly, yr eitem nesaf yw’r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2016-17. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM60646 Jane Hutt

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Mark Drakeford 18:44:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd. Y gyllideb atodol hon yw’r cyfle cyntaf i ddiwygio’r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi a’u cymeradwyo gan y Cynulliad blaenorol ym mis Mawrth. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid newydd am ei waith craffu ar y gyllideb hon. Cyn hir, byddaf yn ymateb i’r Cadeirydd gyda’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani ar ôl fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor.

Prif bwrpas y gyllideb hon yw ailstrwythuro cyllideb derfynol 2016-17 i gyfateb i bortffolios y Llywodraeth newydd. Mae hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau atebolrwydd y Cabinet ac i reoli bloc Cymru yn effeithiol. Nid yw’r newidiadau hyn yn cael unrhyw effaith net ar y gyllideb gyfan. Mae’r gyllideb hefyd yn caniatáu inni ddangos nifer bach o newidiadau i’r gyllideb sy’n codi o’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud yng nghyfnod y weinyddiaeth flaenorol.

Llywydd, these adjustments include revenue allocations announced earlier in the year of £10 million supplementary funding to the Higher Education Funding Council for Wales, £2.3 million funding for flood management, £1.3 million of business rate relief support for businesses in the Port Talbot enterprise zone, and £7.7 million budget cover for Welsh Assembly election costs. The budget includes allocations for capital funding announcements of £1 million for the flood alleviation scheme at Talybont, £5 million for our flood and coastal risk management scheme, £2.5 million for repairs to the Brecon and Monmouthshire canal, and £0.5 million for drainage improvements on the A55.

Commitments were also made by the previous Government in respect of funding received by the UK Government for the Cardiff capital region city deal and Action for Children Swansea’s SAIL project. These projects are not reflected in this budget, because plans were not well-enough advanced for an allocation to be made. Any allocations made during the rest of this financial year will be reflected in the planned second supplementary budget later in the year.

This supplementary budget also reflects adjustments to the Wales departmental expenditure limit made by the UK Government, such as Barnett consequentials. Since the approval of the final budget in March, we have received consequential funding adjustments totalling £73.8 million in revenue funding and £12.6 million in capital. These adjustments have been added to our reserves, given the turbulent and uncertain times we face. The level of reserves, as a result, are higher than usual at this stage in the year, but it is prudent, I believe, to hold reserves at a level that allows us to respond to possible further pressures on the budget. Any allocations from reserves will be reflected in the second supplementary budget, which I will bring forward in the usual way, towards the end of this financial year.

Llywydd, the revised plans outlined in this budget are, on the whole, administrative in nature, but are a necessary budgetary starting point for a new Government and to provide clarity for Assembly Members. The financial challenges we face in future years will be addressed in our draft budget for 20017-18, which I will bring forward in the normal way after the recess. Could I thank the Finance Committee once again for their scrutiny of this supplementary budget, and I ask Members to support it?

Rwy’n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.

Diolch, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am amlinellu’r gyllideb atodol. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei nodi ac yn cytuno mai prif bwrpas y gyllideb atodol hon oedd ailstrwythuro yn sgil y newid ym mhortffolios Gweinidogion y Llywodraeth yn sgil yr etholiad. Hoffwn, serch hynny, dynnu sylw’r Cynulliad at yr adroddiad rydym wedi ei baratoi ac at dri pheth sy’n deillio o benderfyniadau mwy gwleidyddol, os liciwch chi, gan y Llywodraeth.

Yn gyntaf oll, mae rhai ohonoch chi a fuodd yn y Cynulliad diwethaf yn cofio’r anghytuno a fu dros doriad sylweddol yn yr arian ar gyfer cyngor cyllido addysg uwch. Fe wnaed addewid bryd hynny i ddarparu £10 miliwn yn ychwanegol o gyllid i gyllideb y cyngor cyllido. Mae’r gyllideb atodol yn adlewyrchu hynny, gyda £5 miliwn yn mynd ar gyfer darpariaeth astudiaethau rhan amser a £5 miliwn ar gyfer ymchwil. Yn ogystal, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei nodi, mae yna ddyraniad o £7.7 miliwn ar gyfer costau etholiad y Cynulliad. Wrth graffu ar y gyllideb, fe sicrhaodd y Pwyllgor Cyllid fod pob ymdrech wedi cael ei wneud i arbed costau gan, wrth gwrs, gynnal etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throsedd ar yr un pryd. Cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw’r etholiadau hynny. Os cawn ni etholiad cyffredinol yn sydyn, cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan fydd y costau hynny hefyd. Ond o fwrw golwg at y dyfodol, rydym am gadw’r costau mor isel â phosibl ac yn edrych ymlaen at fwy o waith gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig o safbwynt cyflogau rhai o’r swyddogion sydd yn gyfrifol am etholiadau yng Nghymru.

A’r pwynt olaf sydd wedi cael ei grybwyll, wrth gwrs, yw bod y pwyllgor wedi nodi bod £1.5 miliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb i gynllun rhyddhad ardrethi busnes yn ardal fenter glannau Port Talbot. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r rheswm dros y penderfyniad yma—y bygythiad, wrth gwrs, i waith Tata yn y dref honno—ond roeddem o’r farn ein bod yn chwilio am fwy o dystiolaeth yn y pen draw i nodi’r rhesymeg tu ôl i ddyraniadau o’r fath, ac yn gobeithio’n fawr iawn y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd iddo amdani yn y pwyllgor maes o law. Rwy’n credu y bydd hynny yn y pen draw yn helpu Aelodau Cynulliad a phobl Cymru i graffu ar raglenni o’r fath o ran eu llwyddiant a’u gwerth am arian.

Felly, er bod y pwyllgor wedi ei gasglu ynghyd ar fyr rybudd braidd i ystyried y gyllideb atodol, roeddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod hynny ac yn teimlo bod y gyllideb yn dilyn protocol y cytunwyd arno yn flaenorol gan y Gweinidog Cyllid a’r Pwyllgor Cyllid blaenorol. Felly, rydym yn nodi y gyllideb ac yn nodi, yn wir, mai cyllideb dechnegol yn dilyn symud portffolios yw hi yn y bôn.

Mae pwrpas a natur dechnegol y gyllideb atodol hon eisoes wedi eu nodi—diolch yn fawr i chi; dyna beth yw cydweithio—a chyllideb, fel y clywsom ni, sy’n adlewyrchu newidiadau gweinidogol y Llywodraeth newydd yn bennaf, a chymhwyso’r dyraniadau felly. Felly, byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi’r cynnig. Rwy’n credu ein bod ni wedi cael digon o ddrama wleidyddol dros y dyddiau diwethaf, felly nid wyf eisiau ychwanegu ato drwy flocio’r gyllideb atodol yma.

Fe wnaf jest nodi wrth basio—ac fe gododd hyn yn y pwyllgor y bues i yn aelod byrhoedlog ohono—mai rhywbeth cymharol ryfedd, efallai, yw bod yna bolisi wedi cael ei etifeddu o’r Cynulliad blaenorol. Yn dechnegol, wrth gwrs, nid yw’n bosibl i glymu dwylo o un Cynulliad i’r llall, ac ni fyddwn yn cymryd yn ganiataol—os caf ei roi yn dawel fach fel yna—y bydd y chweched Cynulliad o’r un lliw gwleidyddol o ran y Llywodraeth. Felly, er fy mod yn deall y rhesymeg yr oedd y Gweinidog yn sôn amdani—oherwydd bod diffyg amser i weithredu dymuniad y Cynulliad diwethaf—rwy’n credu y dylem ni osgoi sefyllfa yn codi eto lle mae disgwyl i’r Cynulliad nesaf weithredu ar benderfyniadau gwleidyddol y Cynulliad blaenorol. Nid fel yna mae democratiaeth yn gweithio, neu byddai dim pwynt cael etholiadau o gwbl.

Rwy’n credu bod argymhellion y pwyllgor yn synhwyrol iawn. Buaswn yn ategu’r alwad am dryloywder. Mae hefyd y cwestiwn ynglŷn â sail dystiolaethol polisïau. Mae hynny’n rhan, rwy’n credu, o graffu, ac mae’n mynd â ni i gyfeiriad cyllidebau rhagleniadol—neu ‘programme budgeting’—lle rydych chi yn gweld mwy o fanylder na jest y dyraniadau cyffredinol. Rydych yn gweld wedyn, reit lawr i lefel y rhaglenni a’r projectau unigol, lle mae’r adnoddau yn mynd a beth yw nod y gwariant hynny, achos ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, dyna le mae’r ffocws yn mynd. Felly, byddai symud mwy i’r cyfeiriad hynny, rwy’n credu, yn y dyfodol yn ein helpu ni i gyd fel Aelodau Cynulliad i graffu ar benderfyniadau cyllidol y Llywodraeth.

Byddwn hefyd yn croesawu yr un tryloywder ynglŷn â chronfeydd wrth gefn. Roedd rhyw drafodaeth ar hynny yn y pwyllgor hefyd—y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ynglŷn â chronfeydd wrth gefn; mae hynny yr un mor bwysig â’r penderfyniadau ar wariant yn ogystal.

Hoffwn godi un peth bach olaf gyda’r Ysgrifennydd cyllid. Rwy’n deall mai cynnig ac nid datganiad oedd hwn, ond bu cryn dipyn o drafodaeth gan y Cynulliad diwethaf am wendidau’r mecanwaith cyfnewid cyllidebau, yn bennaf fod y dyddiad cau ar gyfer datgan tanwariant i’r Trysorlys ac i benderfynu os bydd angen trosglwyddo unrhyw symiau o un flwyddyn i’r llall yn cwympo mor gynnar yn y flwyddyn ariannol. Mae’n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd yn hyn o beth, felly hoffwn wybod a ydy Llywodraeth Cymru wedi trafod gyda’r Trysorlys y posibilrwydd o symud y dyddiad cau yma i gyfnod yn hwyrach yn y flwyddyn ariannol.

Nid oeddwn yn disgwyl clywed 'cyllideb atodol' a 'drama wleidyddol' yn yr un frawddeg yn y fan yna, Adam Price, ond fe wnaethoch chi lwyddo i wneud hynny. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid am ei gyfraniad agoriadol yn gynharach? Rydym yn cytuno â chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, mai cyllideb dechnegol a gweinyddol yw'r gyllideb atodol hon i raddau helaeth o ganlyniad i newidiadau yn ystod cyfnod pontio o’r Cynulliad diwethaf.

Os caf sôn yn fyr am un neu ddau o'r argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Cyllid y mae Aelodau wedi cyfeirio atynt yn flaenorol. Mae Argymhelliad 1 yn ymwneud â chost etholiad diweddar y Cynulliad ac mae hon yn amlwg yn gost y mae'n rhaid i’r lle hwn ei thalu pa un a ydym ni'n hoffi hynny ai peidio—mae cost i ddemocratiaeth a gwyddom o etholiadau blaenorol beth yn fras fydd y gost honno. Mae'n amlwg yn bwysig fod y gost cyn lleied â phosibl a bod etholiadau y mae’r lle hwn yn ymwneud â nhw yn cael eu cynnal yn effeithlon. Felly, credaf ei fod yn rhesymol i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut yr ydym ni am sicrhau hyn yn awr ac yn y dyfodol. Deallaf mai amcangyfrif yw rhan helaeth o'r gost hon yn seiliedig ar gostau a ffigurau etholiad Cynulliad 2011—oddeutu £4 miliwn, rwy’n credu, o gostau dosbarthu y Post Brenhinol. A allwch chi ddweud wrthym, wrth grynhoi, pa bryd y byddwn yn cael penderfyniad terfynol ynglŷn â faint yn union oedd y gost mewn gwirionedd fel y gallwn fesur hynny a'i gymharu ag etholiadau blaenorol?

Mae Argymhelliad 2 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn galw am fwy o dystiolaeth o ran nodi'r rhesymeg y tu ôl i ddyraniadau cyllideb atodol a grybwyllwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach, gan gynnwys manylion am yr effaith economaidd a ragwelir. Credaf, fel yr ydym wedi ei wneud yn glir yn y Pwyllgor Cyllid ac mewn trafodaethau yn y Cynulliad diwethaf, ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni symud tuag at ddatganoli pellach o ran treth yn 2018, ein bod yn cael yr agwedd hon ar y broses o bennu cyllideb Llywodraeth Cymru yn gywir a sicrhau ein bod yn cael yr elfen graffu yn iawn. Felly, Weinidog, sut ydych chi'n bwriadu gwella—? Rwy'n eich galw’n 'Weinidog' o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r elfen o ragweld ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol? Yn wir, fe wnaethoch chi sôn am y gyllideb ddrafft sydd ar y ffordd, yn y dyfodol agos—y prif gyllideb ddrafft—felly, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r elfen o ragweld yr hyn y bydd y Cynulliad yn ei wneud â'r Trysorlys Cymru newydd ac yn wir i ddatblygu gallu’r Llywodraeth i fesur effaith economaidd y penderfyniadau a gymerir gennym yn y fan yma? Mae hynny'n mynd i fod yn gynyddol bwysig dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Yn olaf, ynglŷn ag argymhelliad 3 adroddiad y gyllideb atodol gan y Pwyllgor Cyllid, rydym yn dychwelyd at y mater hwn ym mhob Cynulliad a bron pob dadl ar gyllid—mae angen i ni olrhain y dyraniadau o adran i adran dros dymor y Cynulliad yn well. Rydym ni, fel y nodwyd yn awr, ar ddechrau'r pumed Cynulliad—mae cryn amser tan y chweched Cynulliad, Adam Price, ond gwnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich sylwadau. Ar ddiwedd y pumed Cynulliad, rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn edrych yn ôl a dweud bod y broses o bennu’r gyllideb a'r broses graffu a gynhaliwyd gennym, pob un ohonom ni yma—yn Aelodau newydd ac yn hen Aelodau fel ei gilydd—wedi’u gwneud yn well ym mhumed tymor y Cynulliad nag mewn tymhorau blaenorol. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn hoffi cyflawni hynny. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu ein rhoi ar y llwybr cywir yn hyn o beth a sicrhau bod y cymariaethau hollbwysig yn bosibl, nid yn unig yn y gyllideb ddrafft sydd ar ddod, ond mewn cyllidebau drafft a chyllidebau terfynol yn y dyfodol yn ystod y pum mlynedd nesaf?

Nid ydym yn bwriadu gwrthwynebu'r gyllideb hon ac rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y dull cyfranogol a gymerwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid, a thu hwnt, ar y gyllideb hon.

Hoffwn godi dim ond ychydig o bwyntiau ynglŷn â’r dyraniadau cyfalaf: y £2.5 miliwn ar gyfer camlas Aberhonddu a Sir Fynwy, y croesewais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach. Tybed a oes bwriad o hyd i gynnwys yn hyn y cynnig ynglŷn â marina Crindau a fydd yn cysylltu pen deheuol y gamlas i'r afon Wysg. Gwn y bu cynigion ar gyfer datblygiad manwerthu yn ymwneud â hynny. Roedd £75,000 o gyllid blaenorol gan y Cynulliad ar gyfer hynny—a yw hynny’n dal i fod yn gynnig gweithredol yr ydym yn disgwyl iddo ddigwydd?

O ran y cynlluniau rheoli risg arfordirol a llifogydd gwerth £5 miliwn, a'r £985,000 ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd Tal-y-bont, ai prosiectau newid hinsawdd sy’n ymateb i newidiadau gwirioneddol neu arfaethedig yn lefel y môr yw’r rhain yn ôl Llywodraeth Cymru, neu ai buddsoddiad hwyr mewn cynlluniau angenrheidiol sydd eu hangen beth bynnag ydynt? A hefyd a wnewch chi egluro'r £500,000 ar gyfer y gwelliannau draenio ar yr A55; nodaf ei fod yn rhan o gyllideb yr economi a seilwaith ydyw yn hytrach na chyllideb yr amgylchedd a materion gwledig. Felly, a yw hynny'n cadarnhau nad ydyw mewn gwirionedd yn brosiect newid yn yr hinsawdd, fel yr awgrymwyd, rwy’n credu, gan y Prif Weinidog yn ystod etholiad y Cynulliad, ond yn hytrach yn waith adferol ar gyfer ffordd a gynlluniwyd yn wael neu ffordd a all gael ei hadeiladu yn rhad iawn?

Ynglŷn â chyllid myfyrwyr, cefais fy synnu'n fawr y tu allan i'r lle hwn gan y ffaith fod y Llywodraeth yn mynd i dorri £41.1 miliwn oddi ar addysg uwch. Dywedwyd wrthym wedyn mai dim ond ailddosbarthu technegol oedd £21.1 miliwn o’r arian hwnnw. Credaf ein bod i gyd yn croesawu'r £10 miliwn sydd bellach wedi ei roi yn ôl i mewn, hanner ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a hanner ar gyfer ymchwil, a'r £8.2 miliwn yr ydym yn ei weld yn y cynnydd mewn refeniw yn rhan o gost y Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) y benthyciadau i fyfyrwyr. Adroddiad Diamond ar sail dros dro, yr hyn a ddeallais o hwnnw oedd bod bwlch o £11.9 miliwn rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer arian nad oedd yn debygol o gael ei dalu'n ôl ar fenthyciad i fyfyrwyr a'r hyn yr oedd Diamond yn teimlo efallai y bydd ei angen. A yw'r £8.2 miliwn yn gyfraniad tuag at gau'r bwlch hwnnw neu a yw ar wahân? Ond, rwy’n croesawu'r gyllideb atodol a'r broses a ddilynwyd i’w symud ymlaen.

Mae hon yn gyllideb atodol syml iawn sy'n cynnwys dau newid ariannol pwysig. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, prif bwrpas y gyllideb atodol hon yw ailstrwythuro er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i bortffolio gweinidogol y Llywodraeth Cymru newydd. Mae hefyd yn nodi manylion y dyraniadau ychwanegol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u hymrwymo yn flaenorol mewn datganiadau polisi yn y lle hwn.

Fel mater o egwyddor gyffredinol, pa mor fân bynnag yw'r newidiadau i gyllideb atodol, mae'n bwysig bod y Pwyllgor Cyllid, o leiaf, yn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac yn llunio adroddiad i'w ystyried mewn cyfarfod yn y Cynulliad. Er mwyn sicrhau tryloywder, mae'r pwyllgor wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwybodaeth i sicrhau ei bod yn bosibl olrhain dyraniadau i adrannau a phrif brosiectau yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Dylai hyn gynnwys galluogi cymariaethau i gael eu gwneud pan fydd portffolios Ysgrifenyddion y Cabinet yn newid. Rydym yn cael gwybodaeth am y gwariant ar lefel weinidogol, ond byddai darparu cyllidebau fesul maes swyddogaethol yn galluogi craffu manylach ar y gyllideb a'r gallu i ddilyn yr arian. Er y byddai'r Cynulliad yn cymeradwyo'r gyllideb a'r cyllidebau atodol ar y lefel weinidogol, byddai wedyn ddealltwriaeth o fanylion hyn a phan fo portffolios yn newid—a dim ond dyfalu’n gyflym, credaf yn ystod y tymor hwn y bydd portffolios yn newid o leiaf unwaith— [Torri ar draws.] Dim ond darogan cyflym yw hynny; wn i ddim os oes unrhyw un yn barod i anghytuno â hynny. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd o leiaf un newid. Byddwn yn gallu dilyn yr arian a nodi’r symud rhwng y meysydd swyddogaethol. Hefyd, byddai manylion am brosiectau cyfalaf mawr a’r newidiadau o ran eu costau yn ystod oes y prosiect yn cynorthwyo craffu ar brosiectau cyfalaf er mwyn gweld a ydynt mewn gwirionedd yn cael eu cyflawni am y swm o arian yr ydym yn ei ddisgwyl.

Ar 28 Mehefin, mynegodd Canghellor y Trysorlys y farn bod angen i'r Prif Weinidog newydd weithredu codiadau mewn trethi a thoriadau pellach mewn gwariant. O ganlyniad, argymhellodd y pwyllgor fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i’r pwyllgor am drafodaethau â Thrysorlys y DU ynglŷn ag unrhyw benderfyniadau a allai arwain at newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf. Gobeithiaf o'r ddadl hon ac o graffu ar y gyllideb atodol gan y Pwyllgor Cyllid y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ystyried y Pwyllgor Cyllid yn ffrind beirniadol ac yn gymorth wrth bennu’r gyllideb.

A gaf i drafod un pwynt gydag Adam Price? Nid wyf yn credu yn y mecanwaith cyfnewid cyllidebau. Rwy’n cefnogi polisi’r Pwyllgor Cyllid blaenorol y dylai Llywodraeth Cymru gael trosglwyddo unrhyw danwariant o gwbl o flwyddyn i flwyddyn heb orfod gofyn i’r Trysorlys beth y cânt ei drosglwyddo neu na chânt ei drosglwyddo. Rwy'n credu mai’r dyddiad erbyn pryd y caiff ei wneud—. Ond, os caiff awdurdod lleol drosglwyddo arian o flwyddyn i flwyddyn, credaf ei fod yn sylfaenol anghywir na chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud hynny hefyd.

Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl.

Member
Mark Drakeford 19:05:00
The Cabinet Secretary for Finance and Local Government

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl. A gaf i ddechrau drwy ddweud diolch unwaith eto i Gadeirydd y pwyllgor am yr adroddiad ac am yr argymhellion? Y mae wedi tynnu sylw at nifer o bethau yn yr adroddiad ac rwy’n edrych ymlaen at ateb yn ffurfiol i’r argymhellion. Diolch hefyd i Adam Price am ddweud y bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r gyllideb y prynhawn yma. Mae yn anodd, rwy’n gallu gweld, pan fyddwn yn trio symud o un Cynulliad i’r un nesaf—mae rhai penderfyniadau wedi cael eu craffu yn y Cynulliad diwethaf, ond y mae lan i’r Cynulliad yma i benderfynu a ydyw’n fodlon i fwrw ymlaen â’r syniadau y mae’r Cynulliad diwethaf wedi’u hystyried. Dyna pam rwyf wedi dod â’r gyllideb atodol yma ymlaen heddiw.

I took Adam Price’s point not to be one that necessarily supported the current system of budget exchange, but simply a matter of suggesting that, as we are stuck with it and it’s the system we operate within, then we want it to work as effectively as possible for Wales. We have begun a much earlier set of discussions with the Treasury this year, partly because, in the circumstances of uncertainty we find ourselves in, we want to maximise the possibility of carrying forward money that we may be able to into next year, using the flawed mechanism, as Mike Hedges pointed out, that we currently operate within.

Nick Ramsay raised a series of points that were in the Finance Committee’s report. We certainly do want to make sure that we are as efficient as possible in bearing down on the cost of elections. We expect the £7.7 million we’ve set aside to be adequate to the task. The majority of that—the £4 million bill from the Post Office—is a fixed cost. We know that. If there is a departure from the £7.7 million that we anticipate in this supplementary budget, we will certainly report it in the second supplementary budget.

We will have a new process for budget scrutiny that I hope that we will be able to agree with the Finance Committee. We will update the protocol that we have with that committee to reflect the new responsibilities that this Assembly will discharge once we become a tax-raising, as well as a spending, body from 1 April 2018. If we’re able to agree that new process, it will begin in the autumn of next year and it will answer some of the points that Nick Ramsay raised.

In terms of better tracking allocations across the fifth Assembly, well, the principle is the one that Mike Hedges outlined. We’ve set along that path by bringing forward this first supplementary budget. I was just anxious that all Assembly Members, and those outside the Assembly who have an interest in these matters, would see as early as possible the new alignment of budgets with portfolio responsibilities. Should responsibilities alter at all over the five years of this Assembly, then we will do our best to set out those new alignments in a way that is as easy as possible for Members and others to see the way that spending is tracked across the Assembly term.

Turning to Mark Reckless’s questions, the £2.5 million for the Brecon and Monmouthshire canal is a recognition that there is a need for re-lining repairs and improvement to the canal. The navigable section at the north of the canal is already the most popular attraction within the Brecon Beacons national park. The southern section is not navigable at the moment, but that’s what this money is partly expected to address. I don’t recognise the binary way in which the Member suggested that money for flooding is either because of climate change or because of faults in current provision. We will make sure that the £1.9 million that has come our way to deal with the severe flooding that happened in December 2015 is put to good use, as we will the rest of the capital expenditure outlined in this supplementary budget for flood prevention work.

As far as Diamond is concerned, that’s not a matter that has influenced this supplementary budget, but we will be working hard over the summer to think about how that very important piece of work will be taken forward, and the Cabinet Secretary for Education will, of course, be leading that.

Finally, just to end by agreeing with Mike Hedges that while this is, in many ways, a housekeeping piece of supplementary budget, its importance lies in getting the mechanics of the Assembly up and running properly this side of the summer break, and making sure that the Finance Committee has had the opportunity it’s had to scrutinise the Government’s proposals in this area, and I look forward to working with him and other members of the Finance Committee in a similar spirit during the rest of this financial year.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 ac fe ddaw trafodion y prynhawn i ben.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.