Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

28/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Cynllun y Taliad Sylfaenol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar daliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr? OAQ(5)0083(FM)

Mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu.

Diolch. Mae’n rhaid i mi godi’r cwestiwn hwn, a dweud y gwir, yn sgil fy mhryderon dwys fy hun am y ffordd y mae taliadau sylfaenol sy'n dal heb eu talu i'n ffermwyr wedi eu trin, a phroses eich adran Llywodraeth eich hun. Cyflwynodd dwy fil ar bymtheg a chwe deg a thri o ffermwyr eu ceisiadau ym mis Mehefin 2015, ond 12 mis yn ddiweddarach, mae tua 171 yn dal i fod heb gael unrhyw daliad. Yn wir, yn Aberconwy, rwyf wedi cynrychioli ffermwyr sydd wedi aros sawl mis am daliad heb unrhyw gydnabyddiaeth o’u cais, a llawer yr addawyd iddynt eu bod wedi cael eu talu, pan, mewn gwirionedd, nad ydynt—roedd un am £60,000. Brif Weinidog, mae oedi mor hir yn rhoi bywoliaeth ffermwyr mewn perygl yn awr. Mae taliadau nad ydynt wedi eu gwneud yn achosi straen a rhwystredigaeth aruthrol. Brif Weinidog, a wnewch chi edrych i mewn i drefn eich adran Llywodraeth eich hun yn hyn o beth, er mwyn sicrhau nad yw ein ffermwyr gweithgar a cheidwaid ein cefn gwlad yn wynebu chwalfa ariannol posibl oherwydd oediadau eich adran Llywodraeth eich hun?

Ailadroddaf eto yr ateb a roddais i'r cwestiwn gwreiddiol: mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu—wedi cael taliad o’r cynllun taliadau sylfaenol. Os oes ffermydd unigol lle ceir anawsterau, y peth iawn i'w wneud yw codi’r anawsterau hynny gyda'r Gweinidog, fel y gellir eu hystyried ar ran yr unigolion hynny. Ond rydym ni’n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn pan ddaw i dalu ein ffermwyr.

Mae’n siŵr, Brif Weinidog, eich bod chithau, fel finnau, yn gresynu ac yn difaru bod siẁd gymaint o ffermwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes dim dwywaith eu bod nhw wedi gwneud hynny. Un o’r rhesymau y gwnaethon nhw ei ddweud wrtha i eu bod nhw’n ystyried hynny pan oeddwn i’n trafod gyda nhw oedd nid bod y taliadau’n hwyr, ond bod cosbau a dirwyon yn dilyn mân anghytuno neu gamgymeriadau fel oedd yn cael eu gweld gan y gweision sifil yn yr hawliadau ar gyfer y taliadau hyn. Nawr, rydych chi wedi colli lot o ffydd ymysg y ffermwyr drwy fynnu’r cosbau hynny, pan oedd Phil Hogan a’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud bod modd bod yn hyblyg. Er bod y dŵr o dan y bont bellach, a oes modd adfer enw da Llywodraeth Cymru ymysg rhai ffermwyr o leiaf, drwy ailedrych ar y sefyllfa lle mae cosbau yn dilyn beth sydd i fod yn drafodaeth rhyngoch chithau fel Llywodraeth a ffermwyr dros eu taliadau?

A gaf ofyn i’r Aelod i ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion? Ond, rydym wedi bod yn dilyn y rheolau sydd yna ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, fel ddywedais i’n gynharach, rydym wedi bod yn talu ffermwyr yn glou—lot yn gyflymach na beth sy’n iawn yn Lloegr a’r Alban. Ond ynglŷn â’r manylion am ffermydd unigol, byddwn i’n falch o gael llythyr er mwyn gallu ystyried beth yn gwmws sydd wedi digwydd.

Ffoaduriaid o Syria

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffoaduriaid o Syria sy'n cael eu hadsefydlu yng Nghymru? OAQ(5)0085(FM)

Cafodd saith deg wyth o ffoaduriaid o Syria eu hailsefydlu yng Nghymru ddiwedd mis Mai a byddem yn disgwyl i fwy gyrraedd Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae wedi bod yn annymunol iawn clywed am y sylwadau hiliol sydd wedi cynyddu ers canlyniad refferendwm yr UE ac rydym ni’n gobeithio na fydd hynny’n effeithio ar y croeso gwirioneddol dda a roddwyd yng Nghymru i’r ffoaduriaid o Syria. Ond beth arall y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu y gellir ei wneud i helpu plant sy'n ffoaduriaid yn benodol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, fel eu bod yn cael cymaint o gymorth â phosibl gan awdurdodau lleol a'r cymunedau lle y cânt eu lleoli?

Gallaf hysbysu'r Aelod y sefydlwyd y tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria, fel y bydd yn gwybod, ym mis Tachwedd 2015. Mae hwnnw wedi ei gefnogi gan fwrdd gweithrediadau. Ceir is-grŵp plant i'r bwrdd gweithrediadau, a bydd hwnnw’n sicrhau cydgysylltiad cynlluniau newydd i gymryd plant sy'n ffoaduriaid o'r dwyrain canol a gogledd Affrica, plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches o wersylloedd yn Ewrop, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches sydd wedi cyrraedd yng Nghaint. Mae cynhadledd yn cael ei chynnal ar 12 Gorffennaf gan y Swyddfa Gartref gyda'r awdurdodau lleol i lansio'r cynllun trosglwyddo cenedlaethol yng Nghymru.

Brif Weinidog, hoffwn adleisio’r pryderon a godwyd gan Julie Morgan o ran y sylwadau hiliol sydd wedi digwydd ers y bleidlais Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, a byddwn yn condemnio'r dull hwnnw o ymateb i'r refferendwm Ewropeaidd. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried sut, yn y dyfodol—gyda’r Gweinidog cymunedau, o bosibl—y gallwn ni geisio dod â chymunedau at ei gilydd. Oherwydd, pleidleisiodd llawer o bobl yn y refferendwm hwn, boed hynny am resymau o bleidleisio yn erbyn y sefydliad neu bleidleisio yn erbyn tlodi yn eu hardaloedd lleol. Sut y gallwn ni nawr, gan roi’r bleidlais o’r neilltu, geisio dod â phobl at ei gilydd, i symud ymlaen fel cenedl fel nad ydym yn gweld sefyllfaoedd yn y dyfodol lle mae pobl wedi eu rhannu ac yn troi yn erbyn ei gilydd yn eu cymunedau eu hunain?

Nid oes amheuaeth bod ein cenedl wedi ei rhannu, ac mae'n bwysig bod y cydlyniad hwnnw’n cael ei ailsefydlu. Nid wyf yn credu bod y rhaniad hwnnw wedi ymddangos yn sydyn. Nid wyf yn credu, yn sydyn, bod pobl wedi newid eu meddyliau o ran y ffordd y maen nhw’n gweld pobl eraill. Bydd lleiafrif bach bob amser sy'n teimlo felly—mae hynny'n wir am bron i bob gwlad yn y byd, yn anffodus. Ond, na, rwy’n meddwl bod rhaid i’r pwyslais nawr fod —a byddaf yn sôn amdano yn ddiweddarach, yn y ddadl—mai nawr yw'r amser i ailadeiladu ac uno Cymru, ein cenedl, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r hyn yr ydym ni wedi ei weld fel chwalfa mewn rhai cymunedau, o ran cydlyniant, yn rhywbeth y dylem ni ei weld yn y tymor hir.

Brif Weinidog, a gaf i ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu condemniad o'r ymosodiadau a’r beirniadaethau hiliol sydd wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill yn y diwrnodau diwethaf? Ond a allwch chi hefyd ymuno â mi i ganmol gwaith cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn y ffoaduriaid hynny o Syria a phobl sydd wedi dod i Gymru i ffoi erledigaeth yn eu gwledydd, ac, yn arbennig, Eglwys Uniongred Syria, sydd, wrth gwrs, â chynrychiolaeth gref yma yng Nghymru ac sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol iawn gyda’r fforwm cymunedau ffydd, yr ydych chi, wrth gwrs, yn ei gadeirio, a gwaith y Cynulliad, gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd?

Ydy, mae'r fforwm cymunedau ffydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol o ran nodi problemau wrth iddynt godi, a chynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd. Ac mae'n enghraifft wirioneddol o’r rhai hynny o lawer o wahanol grefyddau yn gweithio gyda'i gilydd er y budd cyffredin o hybu lles dynoliaeth, os caf ei roi felly. Mae'n fforwm sy'n gweithio'n dda iawn, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn parhau yn y dyfodol.

Nodaf fod Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe i gyd yn y 10 uchaf o ddinasoedd y DU o ran derbyn ffoaduriaid. A oes gennym ni unrhyw syniad beth yw cyfanswm y gost i awdurdodau lleol yng Nghymru o ddarparu tai i’r mewnlifiad diweddar o ffoaduriaid?

Mae 78 ohonyn nhw—nid yw’n gost sylweddol, ac rydym ni’n disgwyl i’r costau hynny gael eu talu’n llawn neu'n rhannol gan y Swyddfa Gartref.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rydym yn symud nawr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac mae’r cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog yr wythnos yma gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, hoffwn uniaethu’n gyntaf oll â'r teimladau a fynegwyd gan Aelodau eraill—nid oes lle ar gyfer unrhyw anoddefgarwch, ac, yn enwedig, hiliaeth, yn unrhyw ran o'n gwlad, boed hynny yma yng Nghymru neu yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ac rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag unrhyw Aelod ac unrhyw sefydliad sy'n sefyll i amddiffyn y rhyddid hwnnw, i wneud yn siŵr y gall pobl siarad yn rhydd ac yn agored mewn unrhyw ran o'r wlad hon. Ac ni allwn ganiatáu i unrhyw deimlad sy’n mudlosgi i halogi'r ddemocratiaeth sydd mor annwyl i ni, i ni ein hunain ac i'r wlad wych hon sydd gennym ni.

Brif Weinidog, hoffwn ofyn i chi—. Yr wythnos diwethaf, cawsom y refferendwm, rydym yn deall y canlyniad, mae'r canlyniadau’n datblygu o'n blaenau, a bydd trafodaethau’n cychwyn yn fuan. Dros y penwythnos, dywedasoch nad eich etholiad chi oedd hon, ar y rhaglen 'Sunday Supplement'. Mae'r refferendwm sydd newydd gael ei gynnal yn un hollbwysig, ac, mewn gwirionedd, er clod i chi, dywedasoch, yn ôl ar ddechrau ymgyrch y refferendwm, mai hon oedd y bleidlais bwysicaf ers cenhedlaeth ac yn bleidlais am byth. A allwch chi fy sicrhau i mai dim ond camgymeriad cyfryngol oedd hwnna ar 'Sunday Supplement', ac y gwnaethoch chi ymgysylltu'n llawn, ac na wnaethoch chi ystyried y refferendwm hwn fel refferendwm rhywun arall i’w ymladd?

Wel, nid dyma’r tir y byddwn i wedi ei ddewis, na’r amseriad—dywedais hynny wrth y Prif Weinidog. Ond mae'n bwysig ein bod ni wedi cael y refferendwm, ac mae'r canlyniad yn hysbys erbyn hyn.

Nid yw’n gymeradwyaeth frwd felly, yw hi, Brif Weinidog? Rwyf yn credu ei bod hi’n bwysig i ni ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer canlyniad y refferendwm. Yn amlwg, mae'r Canghellor wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU, waeth beth fo’i safbwynt yn y refferendwm hwnnw, wedi bod yn paratoi ar gyfer y ddwy sefyllfa. Ac, yn amlwg, ceir bobl sy'n derbyn arian a grantiau Ewropeaidd, a bydd hynny'n parhau, cyhyd ag ein bod yn rhan o’r gronfa Ewropeaidd ac yn talu i mewn iddi. Ond pa waith a gafodd ei wneud a’i gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog, o fewn Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod y ddau ganlyniad yn cael eu modelu a bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau posibl i gynorthwyo gyda gwybodaeth a chymorth, beth bynnag fyddai canlyniad y refferendwm hwnnw?

Wel, bydd hynny’n rhan o'r ddadl yn nes ymlaen. Ond, gallaf ddweud ei bod yn amhosibl modelu’r canlyniad. Nid oes gennym unrhyw syniad sut y bydd y cytundeb terfynol yn edrych. Tan y bydd gennym ni ddealltwriaeth o hwnnw, a ydym ni’n gwybod a fydd mynediad at y farchnad sengl? Rydym ni’n gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Y tu hwnt i hynny, nid ydym yn gwybod pa fath o fodel yr ydym ni'n mynd i’w gael ymhen dwy flynedd a tan i ni weld y model hwnnw bydd yn anodd iawn cynnig barn arno. Gwn ei fod o blaid pobl yn symud yn rhydd; dywedodd hynny heddiw. Mae hefyd o blaid arian Cymru’n cael ei gadw yn Llundain, yn y Trysorlys, sy’n rhywbeth arall a ddywedodd heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod llawer o bobl wedi dweud wrthyf ar garreg y drws, pan ofynnwyd iddynt am brosiectau cyllid arian Ewropeaidd yn eu cymunedau, dywedasant, ‘Ein harian ni oedd ef beth bynnag'. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dweud fy mod i’n disgwyl i bob un ceiniog—pob un geiniog—y byddwn yn ei cholli pan na fyddwn yn gymwys i dderbyn cyllid Ewropeaidd mwyach, i gael ei thalu gan Lywodraeth y DU a bod yr arian hwnnw’n dod i Gymru. Mae ef wedi dweud heddiw nad oes ots ganddo os yw'r arian hwnnw o dan glo yn y Trysorlys yn San Steffan. Yr arian hwn yw’r arian sydd yno ar gyfer pobl Cymru. Nid lle Trysorlys y DU na’i le yntau yw amharu ar eu hawliau.

Brif Weinidog, ni ddywedais 'o dan glo yn y Trysorlys'. Dywedais y bydd model newydd ar gyfer y ffordd y bydd Llywodraeth yn gweithredu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i chi heddiw. Y cwestiwn cyntaf oedd: a wnaethoch chi ymrwymo eich hun yn llawn i'r refferendwm? Ni wnaethoch ymateb i'r cwestiwn hwnnw. Gofynnais i chi pa waith modelu yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ymdrin â chanlyniad y refferendwm—nid y trafodaethau; canlyniad y refferendwm—oherwydd ceir rhyngweithio yn ddyddiol gyda sefydliadau ledled Cymru sydd wedi cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru ac sy’n derbyn arian Ewropeaidd? Ac mae hwnnw’n gwestiwn cwbl resymol i’w ofyn: pa waith paratoadol a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â dau ganlyniad posibl y refferendwm? Nid ydych chi wedi rhoi ateb i mi ar hynny.

O ran y trydydd cwestiwn felly, os nad wyf i'n mynd i gael unrhyw atebion gennych chi heddiw, a wnewch chi estyn allan at bob math o farn wleidyddol i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu cynrychioli yn y trafodaethau o Gymru yn y dyfodol, oherwydd yn amlwg, o’r pleidiau o fy mlaen, ni chafodd y safbwyntiau hynny eu cynrychioli yng nghanlyniad y refferendwm? Ac mae'n bwysig bod pob barn yn cael ei hystyried fel y gall llais Cymru gael ei glywed yn eglur, yn uchel ac, yn anad dim, gan wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau sydd eu hangen arnom yn cael eu dychwelyd i Gymru, ac mae hynny'n golygu bod pob ceiniog sy’n ddyledus i Gymru yn cael ei derbyn yma yng Nghymru a’i gwario yma yng Nghymru.

Wel, gallaf ddyfynnu ei union eiriau wrtho’n uniongyrchol. Dywedodd, 'Pam ddylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?' Dyna’n union a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, a dywedodd, 'Pam na ddylai'r arian ddod yn syth o San Steffan, gan osgoi deddfwrfa a Llywodraeth etholedig pobl Cymru?' Mae wedi sôn dro ar ôl tro am yr angen i Brydain, fel y dywedodd yn ei ddadl, fwynhau ei rhyddid a'i sofraniaeth, fel y dywedodd. Mae'n meddwl ei bod yn druenus na ddylai pobl Cymru gael mynediad at arian sydd ar gael iddyn nhw nawr. Mae angen iddo fe, fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddechrau meddwl fel pe byddai’n Gymro a dechrau edrych ar bethau o safbwynt Cymru oherwydd, rwy’n dweud wrthych chi nawr, mae mewn gwahanol sefyllfa i UKIP er tegwch iddyn nhw, gan fod UKIP wedi bod yn dweud, 'Dylai, dylai pob ceiniog o'r arian hwnnw ddod i Gymru a chael ei gwario yng Nghymru'. Nid yw e’n dweud hynny. Nid yw e’n dweud hynny, ac mae'n hen bryd i ni gael syniadau mwy eglur gan y Ceidwadwyr. Do, rwy’n gwybod bod pobl wedi pleidleisio i adael. Ni fydd dim yn newid hynny. Ni all unrhyw beth atal hynny. Nid oes ganddo fe unrhyw syniad beth fydd yn digwydd nesaf—dim syniad o gwbl. Byddwn yn esbonio’r ffordd ymlaen o’n safbwynt ni, gan gofio'r hyn y mae pobl wedi ei ddweud—nid oes modd dianc rhag yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud—ond, fel y dywedais, o'n safbwynt ni, mae hwn yn arian sydd wedi bod yn dod i Gymru, mae hwn yn arian a ddylai barhau i ddod i Gymru. Dyna hawl pobl Cymru. Mae'n hawl nad yw ef yn ei barchu.

Diolch, Lywydd. Rwyf i’n craffu arnoch chi heddiw â chalon drom, Brif Weinidog. Byddaf yn ymateb yn llawn i ddadl yr UE yn ddiweddarach. Ond, mae'n bwysig canolbwyntio ar yr hyn yr ydych chi’n gyfrifol amdano nawr ac, yn arbennig, y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, er gwaethaf y cythrwfl gwleidyddol ehangach. A gaf i ddweud a rhoi ar y cofnod yn gyntaf oll y dylai bob un ohonom gondemnio’r cynnydd a adroddwyd mewn digwyddiadau hiliol ers cynnal y refferendwm? Nid oes unrhyw le i hiliaeth yng nghymdeithas Cymru a gwn eich bod yn cytuno â mi ynglŷn â hynny.

Gan symud ymlaen nawr at y GIG, mae ein GIG yn elwa ar gymysgedd o staff cynhenid ​​a rhyngwladol. Mae tua 500 o feddygon o'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Dros yr wythnosau nesaf, byddant yn cyflawni llawdriniaethau, yn achub bywydau, yn iachau cleifion, fel pe na byddai’r refferendwm erioed wedi digwydd. A allwch chi’n gyntaf oll ddweud wrthym faint o arian ychwanegol yr ydych chi'n ei ddisgwyl i'r GIG yng Nghymru o ganlyniad i'r addewid a wnaed gan yr ymgyrch i adael? Yn ail, a fyddech chi’n barod i gyfathrebu â’n holl staff gwasanaethau cyhoeddus o wledydd eraill yr UE, a dweud wrthynt yn uchel ac yn eglur bod croeso iddyn nhw o hyd yma yng Nghymru?

O ran y cwestiwn cyntaf, mae hi’n gwybod yr ateb cyn iddi ofyn i mi, sef nad ydym yn disgwyl unrhyw arian o ganlyniad i'r addewid hwnnw; mae wedi ymddatod eisoes. Mae'r rhai â’i gwnaeth wedi cyfaddef nad dyna’n union yr oedden nhw’n ei olygu. Felly, dyna ni—byddwn yn aros i weld beth fyddan nhw’n ei wneud pan fyddant yn mynd i mewn i lywodraeth. Ond rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae hi'n ei ddweud: ni fyddai ein GIG yn gweithio heb staff meddygol a nyrsio o wledydd eraill, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn teimlo bod croeso o hyd iddyn nhw yng Nghymru. Gwn ei bod wedi dweud hynny’n gryf. Rwy’n ymuno â hi yn hynny, oherwydd ein bod ni’n gwybod bod cymaint o ddinasyddion gwledydd eraill wedi darparu cymaint o ofal a chymaint o iachâd a thriniaethau i gymaint o'n pobl, ac mae croeso iddyn nhw yn ein gwlad.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi rhoi economi'r DU mewn ansicrwydd dwfn. Ond, i Gymru, ceir risg ychwanegol i fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer rhai o ymrwymiadau eich maniffesto, ac i ddiwydiant hefyd. Bwriedir i fetro’r de-ddwyrain, er enghraifft, gael ei ariannu yn rhannol gan gronfeydd strwythurol Ewrop, a allai gael eu sicrhau tan 2020 yn unig, os gellir eu sicrhau o gwbl. A allwch chi ddweud wrthym, felly, beth fydd yn digwydd nawr i fetro de Cymru, ac i’r prosiectau trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu haddo ar gyfer y gogledd hefyd? Gan droi at ddiwydiant hefyd, a allwch chi ddweud beth sy’n debygol o ddigwydd i Tata Steel a dyfodol Port Talbot nawr, yn ogystal â gweithfeydd dur eraill yng Nghymru?

O ran y cwestiwn cyntaf, ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe. Gofynnais iddo sicrhau pob ceiniog y byddem ni’n ei cholli, i wneud yn siŵr bod hynny’n dod i Gymru. Os caiff yr addewid hwnnw ei gadw, yna gallwn fwrw ymlaen â'r metro a phrosiectau eraill. Os nad yw’r addewid hwnnw’n cael ei gadw, yna mae bylchau ariannol sylweddol mewn nifer o brosiectau a fyddai o fudd i bobl Cymru. Felly, rwy’n disgwyl i’r addewid hwnnw a wnaed mor gyhoeddus gael ei gadw. O ran Tata, mae wedi creu ansicrwydd—llawer mwy o ansicrwydd dros y diwrnodau diwethaf. Yr anhawster yw bod y diwydiant ceir yn dal yn ôl tan iddo weld sut gytundeb masnach fydd ar gael. Maen nhw wedi dweud hynny’n gyhoeddus. Gan fod Tata yn cyflenwi cymaint o weithgynhyrchwyr ceir yn y DU, yna mae'n amlwg bod y diwydiant dur hefyd mewn sefyllfa lle nad yw'n gwybod beth sy'n digwydd. Mae ansicrwydd yn beth gwael. Fy marn i yw y dylai erthygl 50 gael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod aros misoedd a misoedd amdano ddim ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd hwnnw. Gwell bod pobl yn gwybod lle maen nhw’n sefyll yn hytrach na pheidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd am fisoedd lawer a blynyddoedd lawer. Ond nid yw ansicrwydd byth yn mynd i fod o gymorth o ran buddsoddiad: dyna pam mae’n rhaid i’r broses ddechrau cyn gynted â phosibl, a chael ei chwblhau cyn gynted â phosibl.

Gan droi nawr felly at y darlun ehangach o fewn y DU a thu hwnt, hoffwn weld trefniadau’n cael eu gwneud i ddiogelu statws cyfansoddiadol Cymru, ein deddfwriaeth, ein cyllid, a'n perthynas fasnachu â gweddill Ewrop tra byddwn yn tynnu'n ôl dros y blynyddoedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu uned gwasanaeth sifil benodol i lywyddu dros Brexit, ac mae Prif Weinidog y DU wedi dweud y bydd pob Llywodraeth ddatganoledig yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau dros drafodaethau’r UE. Mae angen i ni fod yn eglur: nid pleidlais i ganolbwyntio unrhyw bwerau ychwanegol yn San Steffan oedd pleidlais yr wythnos diwethaf, a gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch honno i sicrhau ein cyllid. Sut gwnewch chi symud yn gyflym nawr i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i Gymru yn yr holl gythrwfl hwn, a sut gwnewch chi weithio gydag eraill i achub y sefyllfa dros y wlad hon hyd eithaf ein gallu, yn enwedig o ystyried yr anhrefn yn Llywodraeth y DU ac yn eich plaid eich hun yn San Steffan?

Wel, y peth cyntaf y mae’n rhaid i ni ei gyfleu yw sefydlogrwydd yng Nghymru a sicrwydd i fyd busnes. Rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd lunio nifer o bwyntiau y gallwn eu gwneud i fyd busnes i wneud yn siŵr ei fod yn deall ein bod yn sicr yn gweld Cymru fel man sydd ar agor i fusnes. Mae hynny'n hynod o bwysig. O ran yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol, rwy’n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog o ran cynnwys Cymru, ond gwn nad yw'n gallu siarad dros Brif Weinidog nesaf y DU, a allai fod â gwahanol farn. O ystyried hynny, byddwn yn sefydlu tîm arbenigol yn ein swyddfa ym Mrwsel a fydd yn gyfrifol am siarad a thrafod yn uniongyrchol â'r Comisiwn Ewropeaidd. Nid oes yn rhaid i hynny fod yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan Gymru lais, a llais cryf. Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod Cymru wedi pleidleisio i adael, felly nid oes cwestiwn o geisio mynd y tu ôl i ddyfarniad yr etholwyr, ond nid yw hynny'n golygu nad oes rhaid i ni weithio'n galed i wneud yn siŵr bod Cymru’n cael y cytundeb gorau posibl. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud hynny. Ni fyddwn yn ymddiried yn rhai o'r bobl yr wyf i wedi eu gweld, os byddant mewn Llywodraeth yn Llundain ym mis Medi, i gael y cytundeb gorau i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig, a dyna’r ydym ni’n bwriadu ei wneud.

Brif Weinidog, nid wyf yn disgwyl i chi groesawu canlyniad y refferendwm ddydd Iau diwethaf gyda chymaint o frwdfrydedd ag y gwnes i, ond pleidleisiodd Cymru yn bendant dros adael yr UE, ac yn wir pleidleisiodd fwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Rhondda i adael yr UE, ond roedd sefydliad gwleidyddol Cymru—Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol—yn unffurf o blaid aros, ac roedd holl ACau y pleidiau hynny yn y lle hwn o blaid aros. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud nawr yw edrych ymlaen at y dyfodol, ac ailadroddaf yr hyn a ddywedasoch funud yn ôl, bod UKIP yn credu y dylai pob un bunt y mae’r UE yn ei wario o arian trethdalwyr Prydain yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Lywodraeth Cymru i gael ei gwario yma. Felly, byddwn yn rhoi pob cefnogaeth posibl i chi yn yr ymdrech hon. Oni fyddai'n well, felly, yn yr ysbryd o gydweithredu y gwnaethoch gychwyn eich gweinyddiaeth yn y Cynulliad hwn, i gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr a minnau yn y broses o ddadlau’r achos dros Gymru gyda Llywodraeth y DU, gan y byddai’n cael ei gryfhau gyda lleisiau ychwanegol y rhai a oedd mewn gwirionedd o blaid y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto?

Wel, fy ymateb—. Hynny yw, mae’n iawn; dyna ni, gwelsom y canlyniad. Mae fy ymateb i yr un fath ag ymateb ei blaid ef yn 2011 i'n refferendwm yng Nghymru, pan gollwyd hwnnw gan eich plaid chi. Ond mae'n rhaid i ni ei dderbyn. Dyna ni. Symudwn ymlaen nawr gyda thirlun gwleidyddol newydd. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog. Rwy’n disgwyl cael ymateb. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r ymateb hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y pleidiau’n deall eu swyddogaethau wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, oherwydd yr hyn na allwn ni ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae cytundeb masnach ar y bwrdd heb unrhyw fewnbwn gan Gymru. Byddai hynny'n gwbl annemocrataidd a pheryglus, yn fy marn i, o ran y ffordd y mae pobl yn gweld y DU. Felly, rwy’n berffaith fodlon i weithio ar y ffordd ymlaen, a bydd y tîm y byddwn yn ei sefydlu ym Mrwsel yn ein helpu i wneud hynny.

Bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i Gymru nawr. Rwy’n sylweddoli ei fod wedi canolbwyntio ar y risgiau a'r ansicrwydd cyn ymgyrch y refferendwm, ond nawr bod gennym ni’r cyfleoedd gwych y mae rhyddid i weithredu yn eu rhoi i ni, mae’n rhaid i ni fanteisio arnynt a gwerthu Cymru yn y byd ehangach ar y sail honno. Mae hefyd yn cynnig i ni—ac rwy’n ategu'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed gan arweinydd Plaid Cymru yma—rhagor o gyfleoedd i ddatganoli pŵer. Yn arbennig, bydd y cyfle gennym nawr i gymryd rheolaeth dros ein polisi ar amaethyddiaeth, sy'n golygu y gallwn deilwra polisi wedyn i'n hanghenion ein hunain sy’n addas ar gyfer ffermwyr yng Nghymru, yn hytrach na gorfod cyfaddawdu eu buddiannau oherwydd buddiannau ffermwyr mewn 27 o wledydd eraill yn yr UE. Felly, unwaith eto, hoffwn ailadrodd fy nghais i’r Prif Weinidog gynnwys y pleidiau—ac eithrio’r rhai sy’n rhan o’r gwahanol gompactau y cytunwyd arnynt—yn y trafodaethau pwysig iawn hyn, a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y ddwy flynedd nesaf, i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y cytundeb gorau posibl i Gymru a phobl Cymru o'r broses hon.

Wel, nid oes amheuaeth y bydd cyfranogiad, wrth gwrs, gan yr holl bleidiau wrth i’r trafodaethau hynny barhau, ond mae'n arwydd o ailgyfochri rhyfedd gwleidyddiaeth fy mod i'n gwrando ar arweinydd UKIP yn bod yn fwy cefnogol i ddatganoli nac arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru. Dyna eironi’r sefyllfa. Mae'n gwbl gywir: nid yw amaethyddiaeth Prydain yn bodoli—ni fydd yn bodoli. Ceir amaethyddiaeth Cymru, a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes polisi amaethyddol ar gyfer Prydain. Mae’r un peth yn wir am bysgodfeydd. Er enghraifft, ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben, dim ond dyfroedd Cymru y bydd gan gychod Cymru fynediad atynt, ac felly bydd angen trafodaethau rhwng y gwahanol weinyddiaethau ar fynediad, yr wyf yn siŵr na fyddant yn peri problemau, beth bynnag. Mae'n bwysig, a dyna pam yr wyf i eisiau cyfarfod yn fuan â chynrychiolwyr y diwydiant pysgota yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant ffermio yng Nghymru fel y gallwn ddechrau gweithio ar sut y mae polisi amaethyddol Cymru yn edrych. Mae hynny'n golygu y bydd yn bolisi sydd wedi ei gynllunio i ofalu am y ffermwyr mynydd hynny sy’n cael trafferthion ar y mynyddoedd, gyda phridd anodd a thywydd garw, yn hytrach na'r rhai sy'n gwneud yn dda iawn diolch yn fawr iawn mewn ardaloedd o Gymru sy'n hawdd iawn eu ffermio. Felly, mae'n hynod o bwysig ein bod yn llunio polisi amaethyddol sydd wedi’i deilwra i anghenion Cymru, ac wedi’i deilwra i anghenion ffermwyr Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio arno gyda'r undebau ffermio yng Nghymru.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi heddiw hefyd i gondemnio ein Canghellor, George Osborne, y mae’n ymddangos nad yw wedi sylweddoli bod y refferendwm wedi dod i ben ac sy’n dal i barhau â phrosiect ofn, ac sydd wedi cyhoeddi heddiw y bydd toriadau i wariant a chynnydd i drethi yn yr hydref gan fod yn rhaid i ni fyw yn unol â’n modd, a bod y rhain yn eiriau gwael o geg Canghellor gwaethaf Prydain ers tro byd, sydd wedi dyblu’r ddyled genedlaethol mewn pum mlynedd ac sy’n dal i gynnal diffyg cyllideb o £60 biliwn neu £70 biliwn y flwyddyn? Nid oes unrhyw reswm o gwbl yn deillio o'r refferendwm i orfodi’r cynnydd i drethi na thoriadau mewn gwariant dim ond oherwydd yr anwadalrwydd yn y tymor byr yn y marchnadoedd ariannol, a fydd yn cael ei ddatrys yn fuan.

Mae arweinydd UKIP yn optimist. Mae'n dweud bod manteision yma: nid yw'n amlwg ar unwaith, mae’n rhaid i mi ddweud, beth yw'r manteision. Rydym ni mewn cyfnod o ansicrwydd, ac mae ansicrwydd yn wael. Mae pum deg y cant o'r hyn yr ydym ni’n ei allforio o Gymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd natur y cytundeb sydd gennym ni o ran y farchnad honno yn gwbl hanfodol i'n lles yn y dyfodol. A tan y byddwn yn gwybod sut y bydd y cytundeb hwnnw’n edrych, mae'n anodd iawn deall pa heriau, cyfleoedd o bosibl, fydd yna i fusnesau Cymru. Ond rwyf yn gwybod, oherwydd bod busnesau yn dweud wrthyf, eu bod yn dal yn ôl o ran buddsoddi nawr tan eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw. Un ffordd neu'r llall—a’i fod wedi ei benderfynu un ffordd neu'r llall—mae'n rhaid cael sicrwydd, ac nid wyf yn credu bod aros misoedd lawer i ddechrau’r broses drafod ffurfiol—am flynyddoedd cyn bod penderfyniad terfynol—o fudd i fyd busnes. Mae'r penderfyniad wedi ei wneud; mae’n rhaid bwrw ymlaen ag ef nawr cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac mae'n rhaid cael cytundeb ar y bwrdd a ddylai, yn fy marn i, gael ei gadarnhau gyda'r pedair Senedd genedlaethol o leiaf. Bydd honno’n broses gymhleth ac anodd, ond, yn blwmp ac yn blaen, mae’r angen am sicrwydd i’n busnesau yn gwbl hanfodol; ni fyddant yn buddsoddi tan fydd ganddynt syniad o’r sefyllfa yn y pen draw, ac rydym ni ymhell iawn o’r fan honno.

Triniaeth Canser

3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella triniaeth canser yng Nghymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(5)0076(FM)

Er enghraifft, byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r achos busnes rhaglen gwerth £200 miliwn i weddnewid gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, byddwn yn datblygu ein cynlluniau ar gyfer cronfa driniaeth newydd ac yn cyhoeddi cynllun cyflawni ar ganser wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cymru gyfan.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Brif Weinidog. Mae Cancer Research UK wedi dweud y bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl sy'n cael diagnosis â’r math mwyaf difrifol o ganser y croen yng Nghymru yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo pâr o gyffuriau canser, ipilimumab a nivolumab—dyma’r ddwy feddyginiaeth—i'w defnyddio yn Lloegr, a wnaeth, o’u defnyddio gyda’i gilydd, leihau’r math mwyaf ymosodol neu farwol o ganser y croen gan 69 y cant. A allai'r Prif Weinidog hysbysu’r Cynulliad a fydd y therapi hwn a’r cyffur hwn ar gael yng Nghymru cyn gynted â phosibl?

Mae'r Aelod yn sôn am felanoma malaen, clefyd yr wyf yn ei adnabod yn dda yn anffodus, a chymerodd fywyd fy mam. Mae’n ganser hynod ymledol yn wir; os bydd yn lledaenu, nid oes unrhyw ffordd—neu ni fu unrhyw ffordd hyd yma—o’i atal. Gyda'r gronfa triniaethau newydd, cyn gynted ag y bydd cyffur yn cael ei gymeradwyo, yna bydd yr arian ar gael i gyflwyno'r cyffur hwnnw ar draws Cymru gyfan.

Brif Weinidog, rydym ni’n ymwybodol o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach i leihau'r risg o ganser, felly mae'n dda gweld o ganlyniadau arolwg iechyd Cymru 2015 bod nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o’r boblogaeth, sydd hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mae'r Bil iechyd cyhoeddus a ailystyriwyd yn cynnig cyfle arall i hybu ffyrdd iach o fyw ac i godi ymwybyddiaeth o sgrinio wrth fynd i'r afael â chanser. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried hyn pan fydd yn cyflwyno ei deddfwriaeth newydd?

Yn wir. Hynny yw, mae’r Bil iechyd cyhoeddus wedi ei gynllunio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol afiechyd. Rydym ni’n gwybod bod ysmygu’n dal i fod yn un o’r prif achosion o farwolaeth ac afiechyd yng Nghymru, a dyna pam yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen cyn gynted â phosibl gyda’r Bil iechyd cyhoeddus, a byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am hynny yn y datganiad deddfwriaethol yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Brif Weinidog, y datblygiad mwyaf cyffrous yn y driniaeth o ganser yn ddiweddar fu datblygu meddyginiaethau haenedig, lle mae triniaeth yn cael ei theilwra’n benodol i'r claf yn seiliedig ar gyfansoddiad genetig ei ganser penodol. Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed, yng Nghymru, ein bod yn profi ar gyfer dim ond dau farciwr genetig. A wnaiff eich Llywodraeth ddatblygu strategaeth feddyginiaeth haenedig a sicrhau bod gwasanaeth genetig Cymru gyfan yn barod i brofi ar gyfer yr holl farcwyr genetig mewn cleifion canser?

Mae'n wir mai’r newid mawr i driniaeth canser dros y degawd nesaf fydd triniaeth benodol i’r rhai â DNA penodol. Rydym ni’n hynod ffodus yn yr ystyr bod gennym ni ganolfan genetig canser Cymru—gwybodaeth sydd wedi ennill gwobr Nobel. Rwyf i’n sicr wedi bod yno ac maen nhw’n datblygu mwy o brofion wrth iddynt ymddangos. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, ceir profion penodol sy'n cael eu defnyddio. Mae rhai eraill a fydd yn datblygu dros gyfnod o amser ac yn ei gwneud yn llawer haws i driniaeth gael ei theilwra i'r unigolyn. Er enghraifft, ceir rhai cyffuriau y mae’n hysbys eu bod yn niweidiol i rai pobl ar siawns o 300, 400 neu 500 i 1, ond, hyd yma, ni fu unrhyw brofion i wneud yn siŵr nad yw unigolyn penodol yn un o'r bobl hynny a allai gael ei effeithio’n arbennig o wael gan y cyffur. Wrth i’r profion hyn ddatblygu, bydd gan fwy a mwy o bobl y cyfle o gael canlyniad gwell.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

A gaf i ychwanegu fy nghytundeb â’r sylwadau hynny a wnaed gan Aelodau yn y Siambr heddiw ynghylch condemnio—

Yn wir. O ran condemnio hiliaeth. Mae'n ddrwg gennnyf, Lywydd. Ond a gaf i heb ystyried y bleidlais yr wythnos diwethaf—

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosibl Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ardal teithio i’r gwaith Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr? OAQ(5)0074(FM)

Gallaf ddweud, ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, bod cydweithio yn symud ein blaenoriaethau o ran trafnidiaeth yn eu blaenau, ac mae hynny'n golygu bwrw ymlaen â gwelliannau ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr hefyd. Gwn y bydd gan yr Aelod ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod y tri chwm y mae’n eu cynrychioli yn cael eu cysylltu’n rheolaidd â'r rhwydwaith rheilffyrdd a bysiau ymhellach i'r de.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fy ymddiheuriadau, Lywydd. Mae'n amlwg bod gen i lawer i’w ddysgu yn y Siambr hon. A gaf i ychwanegu’n gryno fy sylwadau at y rhai sydd wedi condemnio hiliaeth? Ac mae angen i ni fod o ddifrif. Mae’r hyn y mae gwleidyddion, fel ni, yn ei ddweud—o ba bynnag blaid, pa bynnag Siambr yr ydym ni’n eistedd ynddi—yn bwysig, ac felly hefyd y mae gweithredoedd y cyfryngau tabloid ar lefel y DU hefyd. Dylem groesawu'r rhai sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n sector preifat ar hyn o bryd hefyd sydd, heddiw, ychydig yn fwy ofnus.

A gaf i ofyn iddo, o ran priffddinas-ranbarth Caerdydd, ynghyd â metro de Cymru, gwelliannau posibl i reilffyrdd a phrif briffyrdd yn fy etholaeth i a ledled Cymru yn y dyfodol, ynghyd â phrentisiaethau a hyfforddiant yn fy Ngholeg Penybont lleol ac eraill—? Roedd pob un ohonynt yn dibynnu i ryw raddau, mawr neu fach, ar gyllid yr UE. Felly, a fyddai'n cytuno â mi ei bod yn ddyletswydd nawr ar yr arweinwyr gwleidyddol a phleidiau hynny, gan gynnwys arweinydd y Blaid Geidwadol yma heddiw, a wnaeth addewidion eglur y byddai'r arian hwn yn dychwelyd i bobl Cymru, i wneud iawn am y diffyg hwnnw y byddwn yn ei wynebu nawr? Ni ddylid cymryd yr un geiniog oddi wrth fy etholwyr nac oddi wrth bobl Cymru. Rydym ni’n disgwyl iddo fod yma. Ac a yw'n cytuno â mi ei bod braidd yn rhyfedd a syfrdanol nad oes gennym ni unfrydedd yn y Siambr hon ac ymhlith arweinwyr y pleidiau y dylai'r holl arian hwnnw ddod yn ôl i bobl Cymru i benderfynu beth sy'n digwydd iddo?

Clywais bobl ar garreg y drws, clywais Aelodau yn y Siambr hon yn dweud, pryd bynnag y buom yn siarad am brosiectau Ewropeaidd—dywedasant yn anochel, 'Ein harian ni yw e.' Dywedodd bobl hynny wrthyf ar garreg y drws. Ein harian ni yw e. Arian pobl Cymru yw e. Nid arian i benderfynu y dylid ei roi i Gymru ar fympwy’r Trysorlys, fel y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ei ddweud heddiw. Mae wedi dweud, 'Pam ddylai'—[Torri ar.] Mi ddyfynnaf yn union:

'Pam ddylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?'

Os oes unrhyw un eisiau gweld gwefan y BBC—dyna’r brif stori a bod yn deg—gallwch weld ei sylwadau ar wefan BBC Wales. Mae'n gwbl hanfodol bod yr arian hwnnw’n dod i bobl Cymru ac i’w Llywodraeth a’u deddfwrfa etholedig i benderfynu sut i'w wario. Nid mater i Drysorlys y DU yw gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran Senedd etholedig Cymru.

Bydd aelodau Gorllewin De Cymru, gan gynnwys yr Aelod dros Ogwr wrth gwrs, fod yn ymwybodol o'r angen am ffordd osgoi ddwyreiniol ar gyfer cymunedau Llanharan, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phrosiectau seilwaith, gadewch i ni ddweud. Ond ym mlaenau'r Cymoedd dwyreiniol yn fy rhanbarth i y mae’n fwy anodd i’r boblogaeth gael y cyfleoedd o ddarpar gynlluniau dinas-ranbarth. Mae’r mesuriadau o bellter ar fap yn weddol ddiystyr os nad yw’r seilwaith trafnidiaeth gennych chi i gyrraedd y cymunedau hynny. Beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod bwrdd y ddinas-ranbarth yn siarad â busnesau a'r awdurdod lleol am sicrhau bod yr ardal teithio i'r gwaith yn cynnwys blaenau’r cymoedd hynny yn nwyrain fy rhanbarth?

Yn sicr, mae'n hanfodol. Y pwynt am y metro yw, bydd, mi fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio i ddinasoedd fel Caerdydd i weithio, ond hefyd yn ei gwneud yn haws i fuddsoddiad deithio i fyny cymoedd hefyd. Un o'r problemau, yn amlwg, yr ydym ni’n ei hwynebu weithiau yw bod buddsoddwyr yn dweud wrthym, 'Wel, mae braidd yn bell i ffwrdd—y gymuned hon'. Nid wyf eisiau i hynny fod yn wir yn y dyfodol; dyna pam mae’r metro’n cael ei gynnig.

Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau wedi canolbwyntio ar y map rheilffyrdd, ond mae'r map bysiau yn hynod o bwysig hefyd. Os edrychwn ni ar y tri chwm ar ben dwyreiniol Gorllewin De Cymru, mae gan un rheilffordd, efallai y bydd gan un rheilffordd, o hyd, yn y dyfodol—rheilffordd gadw, Cwm Garw—a chollodd un ei reilffordd ym 1984 pan gaeodd Glofa Wyndham Western. Felly, i’r cymunedau hynny, yn amlwg, y dewis bws y byddwn ni’n ei ystyried, ond bydd yn ddewis bws sy'n cysylltu'n briodol nid yn unig â’r bysiau pellter hir yn McArthurGlen, ond hefyd, wrth gwrs, â gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn sicrhau bod pobl wedi’u cysylltu cymaint â phosibl â lle mae'r swyddi ac i fuddsoddiad ddilyn y llwybrau hynny i fyny i’r cymunedau hynny.

Recriwtio Meddygon Teulu

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0080(FM)

Mae recriwtio meddygon teulu yn flaenoriaeth i ni. Rydym ni’n siarad â chynrychiolwyr meddygon teulu ledled Cymru ac yn datblygu modelau gofal newydd a fydd yn ddeniadol i feddygon teulu weithio ynddynt.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym ein bod angen 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn erbyn 2020 os ydym ni’n mynd i gynnig mynediad da at yr holl ofal sylfaenol. Mae'n destun pryder, felly, ein bod yn hyfforddi ychydig dros 100 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru, a dim ond 13 y cant o feddygon dan hyfforddiant sy’n treulio unrhyw amser mewn ymarfer cyffredinol. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y pumed Cynulliad i hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru?

Wel, mae gennym ni 2,887 o feddygon teulu, sydd 8 y cant yn uwch nag yn 2005, ac mae hynny'n dangos ein bod wedi bod yn buddsoddi mewn meddygon teulu. Nid yw’n ymwneud â meddygon teulu yn unig; yr holl weithlu gofal sylfaenol sy'n bwysig. Ydym, rydym ni’n hyfforddi meddygon teulu, ond ni wnawn ni fyth hyfforddi digon o feddygon teulu dim ond i weithio yng Nghymru; mae degawdau lawer wedi mynd heibio ers i ni recriwtio meddygon teulu dim ond o Gymru. Rydym ni wedi recriwtio o wledydd eraill; bydd hynny’n parhau i fod yn wir gan fod meddygaeth yn gymhwyster cludadwy rhyngwladol. Felly, mae'n fater o hyfforddi meddygon teulu—ydy, mae hynny'n wir; rwy’n deall pwysigrwydd hynny—ond hefyd parhau i sicrhau bod staff meddygol cymwysedig yn gweld Cymru fel lle deniadol i fyw a gweithio ynddo.

A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod yna, ar hyn o bryd, ddiffyg bri, os liciwch chi, ar fod yn feddyg teulu, a bod hynny’n cynnwys y ddelwedd allanol o natur y swydd, a hefyd o fewn y proffesiwn? A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fi y gallem, fel rhan o’r cyfraniad at daclo recriwtio, edrych ar faterion fel sicrhau bod myfyrwyr 16 ac 17 oed yn cael eu hapelio i fynd i mewn i feddygaeth deulu yn benodol, yn hytrach na dim ond i feddygaeth, a hefyd bod yna bwyso i sicrhau bod yna statws uwch i hyfforddiant meddygaeth deulu o fewn hyfforddiant meddygol yn gyffredinol?

Wel, byddai gan lawfeddygon farn wahanol ynglŷn â hynny. Byddent yn dweud y dylai pethau fod yn fwy cyfartal. Ond, rwy’n deall y pwynt. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sylweddoli hefyd bod natur y gweithlu yn newid. Mae yna lai a llai o bobl sydd eisiau prynu i mewn i bractis. Maen nhw eisiau cael mwy o ryddid i symud ar draws Cymru. Nid ydyn nhw’n moyn ymrwymo arian i mewn i bractis—i rai, dyna beth fyddan nhw’n moyn ei wneud, ond i rai eraill, na. Felly, beth sy’n bwysig yw bod digon o fodelau ar gael yng Nghymru sy’n mynd i apelio at y garfan fwyaf o feddygon teulu, er mwyn sicrhau bod yna ffyrdd o weithio sy’n eu siwtio nhw, yn lle meddwl mai dim ond un ffordd o weithio sydd, sef yr un sydd wedi bod ers blynyddoedd mawr. Mae’n rhaid inni sicrhau bod yna strwythur sydd yn ehangach er mwyn recriwtio yn fwy.

Canlyniad y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0081(FM)[W]

Sawl un. Wrth gwrs, mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud, ac mae’r penderfyniad yn gorfod cael ei barchu. Ein blaenoriaeth ni nawr fel Llywodraeth bydd sicrhau dyfodol pobl Cymru er mwyn sicrhau bod y dyfodol hynny’n un disglair.

Diolch, Brif Weinidog. A ydych chi’n cytuno gyda fi mai’r unig ffordd ymlaen sy’n parchu penderfyniad pobl Cymru yn y refferendwm yr wythnos diwethaf, ac sydd hefyd yn rhoi siawns go lew i economi Cymru a’n busnesau a’n cymunedau ni, yw ein bod ni’n aros yn aelod o’r farchnad sengl, ein bod ni’n aros yn aelod o’r ardal Ewropeaidd economaidd, a’n bod ni’n bwrw ymlaen, felly, ar y llwybr yna, gan fod y bleidlais wythnos diwethaf ddim wedi amlinellu, neu ddim wedi rhoi unrhyw benderfyniad ynglŷn â pha fath o adael yr Undeb Ewropeaidd oedd dan sylw? Os ŷch chi’n cytuno, pa gamau ydych chi’n eu cymryd? Rŷch chi newydd amlinellu’r gwaith draw ym Mrwsel a rŷch chi newydd amlinellu beth fedrwch chi ei wneud ar y cyd â Llywodraeth San Steffan. A fyddwch chi yn ‘push-o’ am hynny ar ran Cymru? Byddech chi’n sicr yn cael fy nghefnogaeth i ac, rwy’n meddwl, Plaid Cymru, wrth wneud hynny.

Fel wnes i sôn amdano yn gynharach, mae yna dîm arbenigol yn mynd i gael ei ddodi yn y swyddfa ym Mrwsel er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu trafod gyda chyrff y Comisiwn a hefyd yr undeb er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei wrando arno. Byddwn ni’n rhan o’r system Brydeinig ond mae’n bwysig dros ben hefyd fod gennym ni ein ffordd ein hunain i mewn i sefydliadau Ewrop er mwyn sicrhau bod Cymru ddim yn colli allan, ac felly byddwn ni’n gwneud. Ni allaf ddweud gormod am faint mor bwysig yw e ein bod ni’n cael mynediad i’r farchnad sengl. Mae yna siwd gymaint o fusnesau yng Nghymru yn dibynnu ar hynny. Y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw petasem ni’n mynd nôl i system lle byddai rheolau’r WTO yn parhau: 10 y cant ar geir, 15 y cant o dariff ar fwyd—wel, dyna fyddai’r peth gwaethaf fyddai’n digwydd i Gymru. Rwy’n gobeithio, wrth gwrs, y bydd yna rywbeth gwell ar y ford, ond mae yna lot fawr o waith i’w wneud cyn hynny.

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gwerthfawrogi y bydd yr Aelodau’n awyddus i sicrhau'r canlyniadau gorau i’w hetholaethau. Dyna’r ydym ni wedi ein hethol i’w wneud, ac nid wyf innau’n ddim gwahanol i hynny, felly rwy’n mynd i fod yn achub ar y cyfle hwn i ymuno â'r alwad am sicrwydd ar gyfer fy etholaeth fy hun, sef, wrth gwrs, Merthyr Tudful a chwm Rhymni—etholaeth sydd wedi elwa’n fawr ar arian yr UE. Mae wedi helpu nifer o brosiectau sydd o fudd sylweddol i'r economi a chymunedau lleol. Fodd bynnag, nid dim ond yr arian ar gyfer y prosiectau presennol sy'n bwysig i’m hetholaeth i, Brif Weinidog, ond y datblygiadau arfaethedig, fel cam nesaf deuoli Blaenau'r Cymoedd rhwng Hirwaun a Dowlais, neu Ddowlais a Hirwaun, a fydd yn hollbwysig i economi'r etholaeth. Felly, er fy mod i wedi nodi eich bod wedi cadarnhau, ac rwy’n croesawu hynny, y byddwch chi’n ceisio sicrwydd pendant mewn unrhyw drafodaethau â negodwyr Brexit na fydd Cymru’n derbyn dim llai o gyllid o Brexit nag yr oeddem yn ei dderbyn cyn—a gaf i ofyn am ragor o sicrwydd gennych y byddwch yn gofyn am y cymorth ariannol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith deuoli’r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun ac y byddwch yn eu dwyn i gyfrif os na chaiff hyn ei gyflawni?

Yn sicr. Os nad yw'r arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, yna mae'n dilyn yn rhesymegol na fyddwn yn gallu ariannu llawer o'r prosiectau sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd i gael eu hariannu gan arian Ewropeaidd, gan nad yw’r arian hwnnw gennym ni. Felly, heb yr arian hwnnw, mae llawer o brosiectau, y tu hwnt i'r cyfnod pan fydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fydd modd eu hariannu oni bai bod y sicrwydd hwnnw’n cael ei roi. Mae hynny'n gwbl hanfodol ar gyfer ein dyfodol; dyna pam yr ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe er mwyn cael y sicrwydd ar roddwyd ar y bwrdd. Mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr nad yw Cymru’n colli’r un geiniog—yr un geiniog—o ganlyniad i’r refferendwm ddydd Iau diwethaf. Ni waeth sut y pleidleisiodd pobl, nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi pleidleisio i Gymru gael llai o arian.

Brif Weinidog, y ffaith amdani yw mai economi Cymru yw'r mwyaf agored yn y DU i unrhyw ddirywiad posibl mewn masnach â'r UE neu ddirywiad i fewnfuddsoddiad sy’n ceisio mynediad at y farchnad sengl, ac mae’n rhaid dweud hynny wrth y rhai sydd nawr yn gyfrifol am y trafodaethau Brexit.

Mae'n wir, oherwydd ein bod yn gwybod bod llawer iawn o gwmnïau yng Nghymru sydd yma dim ond oherwydd y mynediad y maen nhw’n ei gael at y farchnad sengl. Os byddant yn colli mynediad at y—mynediad am ddim; byddant yn dal i allu gwerthu yn y farchnad. Hynny yw, nid oes unrhyw un yn awgrymu na fydd unrhyw fasnach o gwbl, ond telerau’r fasnach sy'n bwysig. Er enghraifft, os ydych chi’n gwmni sydd â chanolfannau yn y DU a gwledydd eraill yn Ewrop, os gwelwch fod un ffatri weithgynhyrchu yn y DU yn ddarostyngedig i dariff o 5 y cant neu 10 y cant ac nad yw rhai eraill, yna nid oes angen athrylith i weithio allan ble bydd buddsoddiad yn mynd yn y dyfodol. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y farchnad sengl yn cael ei chadw ac nad oes unrhyw rwystrau tariff rhyngom ni a'n marchnad allforio fwyaf, sef yr UE.

Caethiwed i Gamblo

7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru? OAQ(5)0084(FM)

Rydym ni’n parhau i geisio pwerau i reoleiddio peiriannau betio ods sefydlog ac rydym ni’n cefnogi camau i gynyddu pwerau awdurdodau lleol o ran trwyddedu siopau betio newydd. Gall pobl sy'n dioddef dibyniaeth ar gamblo gael gafael ar gyngor a chymorth trwy eu meddygon teulu neu sefydliadau fel Gamblers Anonymous.

Diolch, Brif Weinidog. Gall dibyniaeth ar gamblo arwain at broblemau emosiynol, ariannol a seicolegol anodd na ellir eu gweld yn aml tan eu bod wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae ymyrraeth a chefnogaeth gynnar yn hanfodol. Mae'r cynllun arbrofol risg a niwed gamblo arloesol, a gynhaliwyd gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd, wedi amlygu bod addysgu pobl ifanc yn allweddol i leihau effaith niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gamblo’n cael yr un sylw addysgol â dibyniaethau eraill?

Wel, mae'n hynod o bwysig bod pobl yn gweld gamblo fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, yn yr un ffordd ag y mae pobl yn gweld alcohol fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, fel y mae cam-ddefnyddio cyffuriau penodol yn rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, mae'n hynod o bwysig gyda gamblo hefyd. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ni sicrhau, trwy gyfrwng ein system addysg, bod pobl yn deall peryglon gamblo. Byddai'n sicr yn ddefnyddiol, wrth gwrs, o'n safbwynt ni, pe byddem yn gweld datganoli pwerau dros rai mathau o gamblo hefyd, fel y gellid eu rheoleiddio’n well.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed eich bod eisiau defnyddio'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i atal gamblo sy’n achosi problem mewn cymdeithas. Byddwch yn gwybod yr ystyrir bod tua un o bob 50 o ddynion yn gaeth i gamblo erbyn hyn, ac mae hwnnw’n ffigur sy’n peri pryder mawr, a gall gael effeithiau niweidiol iawn ar gymdeithas. Ond a ydych chi’n rhannu gyda mi y pryder a fynegwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yng nghynhadledd Stafell Fyw Caerdydd, Beat the Odds, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, nad oes digon o waith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau caethiwed i gamblo yma yng Nghymru? Mae gennym ni un ardderchog yma yng Nghaerdydd, a gefnogir gan y Stafell Fyw a CAIS—elusen, wrth gwrs, sy’n gweithredu ar draws Cymru gyfan—ond nid yw’r rheini ar gael ym mhob rhan o Gymru eto, ac mae cyfle, rwy’n credu, i’w datblygu. Pa waith fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod mynediad cyfartal at wasanaethau o'r fath yn y dyfodol?

Bydd y strategaeth cynhwysiant ariannol sydd gennym ni yn ystyried sut y gallwn ddatblygu ffyrdd eraill o helpu pobl i ymdrin â gamblo, ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau cytbwys am gamblo. Ddim yn bell yn ôl, roedd siopau betio y tu ôl i ddrysau caeedig a ffenestri tywyll. Nawr, mae ym mhobman. I'r rhai ohonom ni sydd â diddordeb parhaus ym mhencampwriaeth Ewrop, rydym ni’n gweld, pob un hysbyseb, lle mae pobl hyd yn oed yn cael eu hannog i gymryd eu harian cyn i’r gêm orffen hyd yn oed. Mae'r oes ddigidol wedi cynnig cyfleoedd gwych i'r diwydiant gamblo, ond cyfleoedd gwych i bobl ddod yn fwy caeth nag y gallent fod cynt. Dyna pam mae’n hynod o bwysig i ni ymdrechu’n galetach.

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE

Rŷm ni’n symud ymlaen yn awr at yr eitem nesaf, sef dadl ar ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.

Cynnig NDM6045 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Wel, mae llais democrataidd y bobl wedi cael ei glywed, ac mae'n rhaid i ni barchu hynny, ond mae'n rhaid i ni ddweud bod y ddadl a ragflaenodd y bleidlais ddydd Iau diwethaf wedi profi i fod yn rhwygol iawn i’n cymunedau. Mae'n amser erbyn hyn i roi'r gorau i'r rhethreg ddi-fudd, cynhennus, a gweithio tuag at adfer cydlyniant cymunedol a gwneud yr hyn yr ydym wedi cael ein hethol i'w wneud, a hynny yw cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Beth fydd yn dilyn yn awr yw trafodaethau hir, o bosibl yn para blynyddoedd, dan y broses erthygl 50, a ddylai, fel y bydd Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud yn gynharach, ddechrau, yn fy marn i, heb ormod o oedi, gyda'r UE, wrth gwrs, er mwyn taro cytundeb ar y trefniadau ar gyfer tynnu'n ôl ac ailddiffinio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid oes gan unrhyw un syniad clir o sut y mae 'allan' yn edrych. Dyna'r mater y mae'n rhaid ymaflyd ag ef ar hyn o bryd a bydd honno’n broses gymhleth. Byddwn yn gweithio'n ddiflino yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hesgeuluso ac i frwydro am y fargen orau bosibl i Gymru.

Mae angen i ni wybod, yn gyntaf oll, beth yw gweledigaeth Llywodraeth y DU o’r byd y tu allan i'r UE. Mae angen i ni wybod hynny cyn gynted ag y bo modd er mwyn dod â sefydlogrwydd yn ôl i'r marchnadoedd ac i roi darlun clir o'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig i fuddsoddwyr posibl. Rwyf wedi bod yn glir bod y cwmnïau yr wyf wedi siarad â nhw bob amser yn awyddus i ddod i Gymru er mwyn cael mynediad i'r farchnad sengl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'n cael ei golli fel mantais gystadleuol.

Fel y dywedais ddoe, mae'n hanfodol bod telerau terfynol y cytuniad i adael yr UE yn dod i bob un o'r pedair senedd genedlaethol. Mae hynny'n gyson â datganiad y Prif Weinidog bod hon yn wlad sy'n cynnwys pedair cenedl a’i ymrwymiad i sicrhau y byddwn yn rhan lawn o'r broses drafod gyda Brwsel. Nid yw hynny wedi tanseilio canlyniad yr wythnos diwethaf; mae’n syml yn ychwanegu at yr angen i sicrhau bod unrhyw gytundeb yn cael ei gymeradwyo gan hon, sef senedd etholedig pobl Cymru.

Ddoe penderfynasom ffurfio tîm arbenigol o weision sifil wedi'u sefydlu yn ein swyddfa bresennol ym Mrwsel, yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, i archwilio lle y gall ein blaenoriaethau gael eu datblygu yn uniongyrchol gyda'r UE. Bydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr, ond ni fwriedir iddo ddisodli, ein cyfranogiad a addawyd yn null negodi Llywodraeth y DU. Mae angen i ni roi sicrwydd i fewnfuddsoddwyr, y rhai sydd wedi dangos ffydd yng Nghymru, ein bod yn dal ar agor ar gyfer busnes a bod gennym lawer i'w gynnig o hyd. Rydym yn benderfynol fel Llywodraeth i barhau i ymgysylltu yn rhyngwladol, i edrych tuag allan a bod o blaid busnes yn ein hymagwedd, a dyna'r hyn fydd yn cynnal hyder busnes. Bydd hefyd yn helpu, wrth gwrs, mewnfuddsoddwyr i gymryd y penderfyniadau cywir yn yr hyn sydd bellach yn amgylchedd ansicr.

Rydym wedi gweithio'n galed ar ddatrys yr argyfwng dur. Mae hynny'n anffodus yn parhau, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a chefnogi gweithwyr dur wrth i ni geisio wynebu’r heriau enfawr a ddaeth gyda chanlyniad y refferendwm.

Lywydd, rwyf eisoes wedi amlinellu fy mlaenoriaethau uniongyrchol i amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amgylchiadau gwahanol hyn. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn ein swyddi. Gwneud popeth y gallwn er mwyn cynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd yw'r brif dasg. Rydym wedi adeiladu perthynas ragweithiol ardderchog gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr, a bydd angen i’r rhain ddwysau yn dilyn pleidlais ddoe.

Yn ail, mae'n rhaid i ni chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ynglŷn ag amseru a thelerau tynnu'n ôl y DU o'r UE. Mae ein cyfranogiad yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer materion datganoledig uniongyrchol, ond ar gyfer yr ystod gyfan o faterion sy'n effeithio ar fuddiannau cenedlaethol hanfodol i Gymru. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud y dylai Cymru chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar delerau tynnu'n ôl y DU a’n perthynas yn y dyfodol ag Ewrop, a byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.

Yn drydydd, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma, mae'n hanfodol bod y DU yn trafod cadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y farchnad sengl.

Yn bedwerydd, dylem drafod cyfranogiad parhaus ar delerau cyfredol yn rhaglenni pwysig yr UE fel y polisi amaethyddol cyffredin a chronfeydd strwythurol hyd at ddiwedd 2020, os byddwn yn dal i fod yno yn 2020. Byddai hynny'n hwyluso dilyniant i ddinasyddion, cymunedau, busnesau a buddsoddwyr tra bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.

Yn bumed, mae Cymru, fel y gwyddom, yn fuddiolwr net gan yr UE, o rai cannoedd o filiynau o bunnoedd. Erbyn hyn, mae achos llethol am adolygiad mawr ac ar unwaith o fformiwla Barnett, gan gymryd i ystyriaeth yr anghenion sy'n codi o dynnu'n ôl o’r UE, a galwaf heddiw am i’r addewid a wnaed na fydd Cymru yn colli ceiniog i gael ei warantu, a hefyd mai pobl Cymru fydd yn penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.

Yn olaf, mae tynnu'n ôl o’r UE yn newid cyfansoddiadol enfawr ar gyfer y DU. Mae goblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol ar gyfer y setliad datganoli. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU gael eu rhoi ar sail gwbl wahanol bellach. Fel arall, mae perygl mai’r pris i'w dalu am adael yr UE fydd diwedd y DU, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn achos pryder i lawer iawn o bobl.

Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, bydd Llywodraeth Cymru yn brwydro dros bobl Cymru ym mhob un o'r meysydd allweddol hynny, ond hefyd yn ymdrechu i uno’r rhaniadau a amlygwyd drwy’r bleidlais hon, gan fynd â Chymru ymlaen gyda'n gilydd, sef yr hyn yr wyf yn ei gredu y mae'r genedl ei eisiau a’i angen nawr. Mae teimladau wedi eu cynhyrfu gan y ddadl hon, mi wn, ond mae'n amser nawr am bwyll, nid adweithio'n ddifeddwl. Bydd llawer yn poeni am y chwerwder a dreiddiodd i'r ymgyrch. Ni fydd hyn yn ein helpu gyda'r heriau sylweddol hyn sydd bellach yn wynebu pob un ohonom. Mae angen hefyd inni ganfod ffordd o siarad â’n gilydd unwaith eto. Efallai y byddwn wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd, ond rydym yn dal yn gymdogion, yn ffrindiau ac yn deuluoedd. Rydym yn dal i wynebu'r heriau heddiw yr oeddem yn eu hwynebu ddoe o ran y GIG, yr economi ac addysg, ac mae'n rhaid i ni oresgyn yr heriau hynny a chyflawni dros bobl Cymru. Mae llawer o waith i'w wneud, ond yn anad dim, fy nod fydd y fargen orau i bobl Cymru.

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, oherwydd y refferendwm ddydd Iau diwethaf, mae mandad clir wedi ei roi i'r Llywodraethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig nawr i ddeddfu’r dymuniadau hynny. Roedd ymrwymiad clir gan Gymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu bod yn dymuno ailgydbwyso eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y trafodaethau yn dechrau, ac yn dechrau yn ystod yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf, ac mae'n hanfodol bod llais Cymru yn cael ei glywed. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar risiau Rhif 10 Downing Street fore dydd Gwener—soniodd yn benodol am y rhan bwysig y bydd Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac, yn amlwg, San Steffan yn ei chwarae yn y trafodaethau hyn.

Byddai'n iawn i dalu teyrnged i’r rhan y mae’r Prif Weinidog wedi’i chwarae dros y chwe blynedd a hanner diwethaf fel y Prif Weinidog, ond hefyd, fel arweinydd fy mhlaid fy hun am 10 mlynedd, fel arweinydd yr wrthblaid hefyd. Gallwch edrych ar y— [Torri ar draws.] Gallwch edrych ar y newidiadau sydd wedi'u gwneud. Mae wir yn anffodus, pan ein bod wedi cael sylwadau heddiw am iaith—credaf fod y Prif Weinidog wedi defnyddio’r geiriau 'siarad â’n gilydd eto'—bod sylwadau yn dod i mewn am 'fradychu'. Nid oes bradychu os oes gennych chi egwyddor a chred, ac os ydych yn sefyll ar un ochr i’r egwyddor honno a'ch bod yn sefyll gerbron yr etholwyr; dyna yw dadl wleidyddol. Os yw’r math honno o rethreg yn dod oddi wrth y Blaid Lafur, does dim syndod bod 17 o'r 22 o adrannau etholiadol wedi troi eu cefnau yn amlwg ar y neges yr oeddech yn ceisio ei rhoi i bobl yn y refferendwm hwn.

Dyna'r peth pwysig, wrth symud ymlaen. Rydym wedi estyn allan ar ôl y refferendwm hwn i weithio'n adeiladol i wneud yn siŵr na fydd Cymru yn dioddef yn y trafodaethau hyn, bod llais Cymru yn cael ei glywed, wrth symud ymlaen, ac, yn anad dim, y pwysigrwydd o sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael, wrth symud ymlaen, ac yn parhau. Ond, pan wnaethom ddeffro fore Gwener gyda'r refferendwm, nid oedd y cynlluniau a oedd ar waith wedi dod i ben. Mae'r taliadau i mewn i'r Undeb Ewropeaidd ac allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau nes bod y trafodaethau wedi dod i ben. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hynny'n parhau, a bod sicrwydd yn cael ei roi.

Rwy’n sylweddoli y byddai pobl ar ochr 'aros' y ddadl yn dymuno i ewyllys y bobl beidio â chael ei chlywed ac mewn gwirionedd maent yn pwyntio bys ac yn parhau i ddweud, ‘Ddywedon ni wrthych chi’. Ond mae'n ffaith [Torri ar draws.] Mae'n ffaith [Torri ar draws.] Mae'n ffaith mai’r hyn y mae angen i ni ei wneud ar bob ochr i’r refferendwm yw dod at ein gilydd a gwneud i hyn weithio. [Torri ar draws.] Felly, byddwn yn arloesi, byddwn yn buddsoddi a byddwn yn adeiladu. Dyna'r hyn yr ydym yn ei wneud—rydym yn arloesi yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes, rydym yn arloesi â'r ffordd yr ydym yn cyflawni ar gyfer dyheadau pobl. Ni allwn ddweud y bydd busnes yn parhau fel arfer. Roedd y refferendwm hwn yn fandad clir. Byddwn yn buddsoddi yn y cyfleoedd a chreu Prydain fyd-eang, Cymru fyd-eang—sy'n edrych tuag allan.

Yn y pen draw, mae pobl yn y Siambr hon—ac rwy’n deall pam, am eich bod yn amlwg ar ochr arall y ddadl—. Mae'n hollbwysig—mae'n hollbwysig—i ni wir fanteisio a chyflawni ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni, ac rwy’n credu bod y cyfleoedd hynny yno ac y gellir eu sicrhau. [Torri ar draws.] Rwy’n sylweddoli efallai nad ydych yn dymuno gwrando ar yr hyn yr wyf wedi’i ddweud, ond rwyf wedi tynnu sylw yn glir — [Torri ar draws.] Rwyf wedi tynnu sylw yn glir at y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Yn anffodus, dangosodd y Prif Weinidog yn eglur, yn ei ymateb i mi yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nad oedd ganddo ddiddordeb mewn symud y trafodaethau hynny ymlaen.

Y Prif Weinidog a gododd—

Rwyf yn ddiolchgar. Rwyf eisiau rhoi cyfle iddo amlinellu'r cyfleoedd. Efallai y gallai enwi tri.

Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr—[Torri ar draws.]—buddsoddiad, arloesedd ac adeiladu dyfodol gwell, brafiach i Brydain fyd-eang, Cymru fyd-eang, a adeiladir ar ffyniant pob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig a gwledydd y Deyrnas Unedig. Dyna beth mae pobl ei eisiau, a dyna beth y byddwn yn ei sicrhau os byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydio yn y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Byddwn yn llwyddo, oherwydd bod y bobl wedi rhoi'r mandad i ni wneud hynny, a byddwn yn llwyddo i fodloni eu dyheadau. Ond, yn y pen draw, os byddwch yn dewis parhau â'r ymgyrch a gafodd ei hymladd yn y refferendwm, byddwn yn siomi pobl.

O'r hyn yr wyf newydd ei glywed, mae'n amlwg nad oes gan yr ymgyrchwyr 'gadael' unrhyw gynllun nac unrhyw syniad am yr hyn y dylem ei wneud nesaf. Ni roddodd y cyfraniad yna a wnaethoch i ni nawr unrhyw beth pendant o gwbl i ni. Ddydd Iau diwethaf, pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, a gwelodd ymgyrch y refferendwm naws o chwerwder ac anesmwythdra yn disgyn ar draws y wlad ac ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno afal gwenwyn Brexit i brif weinidog newydd ym mis Hydref. Mae telerau Brexit yn aros yn anhysbys, fel yr ydym newydd ei weld. Mae prif wrthblaid y DU, y Blaid Lafur, hefyd wedi llithro i anhrefn dwfn ac nid yw mewn unrhyw sefyllfa ar hyn o bryd i roi unrhyw arweiniad. Ac, i Blaid Cymru, mae bod ar ochr aflwyddiannus y ddadl hon hefyd yn gwneud i ninnau feddwl am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae pobl nad ydynt o reidrwydd yn anghytuno â Phlaid Cymru ar ein holl bolisïau wedi troi yn erbyn Brwsel fel ffynhonnell o ddicter a rhwystredigaeth, ac am lu o wahanol resymau. Eto i gyd, mae'n rhaid inni gofio bod 48 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru wedi pleidleisio i aros. Mae hynny'n cynrychioli dros 772,000 o bobl. Dylai'r pleidleiswyr 'aros' hynny gael eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu gan unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU a dylent gael cynnig dyfodol cadarnhaol yma yng Nghymru hefyd.

Lywydd, sicrhaodd yr ymgyrch ‘gadael’ fuddugoliaeth ar sail adduned i bobl yma yng Nghymru. Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yma y byddai hyd at £490 miliwn y flwyddyn ar gael i Gymru, y gallem ddewis ei wario ar ein GIG. Mae hyn yn cynrychioli swm o arian uwch na’r hyn a ragwelwyd fel arfer trwy ddiwygio fformiwla Barnett. Mae'r ymgyrch ‘gadael’ hefyd wedi addunedu y byddai pob un o gronfeydd strwythurol a chronfeydd amaethyddol Cymru yn cael eu diogelu, ac, yn eu hadduned, roeddent hefyd yn cynnwys y cronfeydd sydd o fudd i'n prifysgolion, a’n sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Dywedasant hefyd y gallai'r DU gymryd rheolaeth dros ei ffiniau ei hun ac y gallai hefyd barhau i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru mai'r unig bobl a fyddai'n colli eu swyddi fyddai Aelodau’r DU o Senedd Ewrop. Amser a ddengys a fydd yr adduned hon yn cael ei gwireddu, ond, mewn gwirionedd, mae’r addewid o £490 miliwn y flwyddyn yn edrych fel ei fod wedi diflannu yn barod. Mae'n rhaid inni dderbyn mai’r canlyniad oedd gadael, ond mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y bleidlais wedi’i sicrhau ar brosbectws ffug.

Rydym ni yng Nghymru hefyd erbyn hyn yn wynebu Teyrnas Unedig sy'n newid. Mae posibilrwydd cryf, ymhen ychydig flynyddoedd, na fydd Teyrnas Unedig dydd Mercher diwethaf yn bodoli bellach. Mae'r refferendwm, yn hytrach nag uno’r Deyrnas Unedig, wedi ei rhannu, o ran yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pan fydd y sefyllfa newydd honno’n dod i'r amlwg, fy marn i yw bod pobl yng Nghymru yn haeddu cael dweud eu dweud ar le Cymru yn y cyd-destun newydd. Mae'n rhaid i hynny gynnwys y dewis o fod yn bartner llawn yn yr ynysoedd hyn, fel gwladwriaeth annibynnol, ar yr amod ein bod yn cadw strwythur undeb rhwng Cymru, Lloegr a gwledydd perthnasol eraill.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn rhoi ei sylw i'r sefyllfa uniongyrchol sy'n wynebu'r wlad, wrth i bobl bryderu am eu swyddi, eu bywoliaeth a'u pensiynau. Byddwn yn dwyn yr ymgyrch ‘gadael’ i gyfrif ar ei hadduned i Gymru, gan gynnwys unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU. Byddwn yn cymryd camau i gryfhau sefyllfa Cymru yn gyfansoddiadol, heb gynrychioli mewn unrhyw ffordd y bleidlais ‘gadael’ fel pleidlais i grynhoi pwerau ychwanegol yn San Steffan. Rydym yn barod i gydweithredu ag eraill i sicrhau parhad Cymru fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun, ond rydym yn glir bod yn rhaid i'r drafodaeth genedlaethol gynnwys yr holl ddewisiadau ac na ddylai Cymru fod yn bartner segur yn nadl y DU.

Mae pleidlais ddydd Iau diwethaf yn rhoi rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru yn ei groesawu—fe'i gelwir yn annibyniaeth genedlaethol; maent yn ymddangos i fod braidd yn ofnus o hyn. Ond, erbyn hyn mae gennym y cyfle i wneud penderfyniadau drosom ein hunain. Gall cyllid yr UE y cyfeiriwyd ato gymaint o weithiau yn y Siambr hon heddiw bellach gael ei ddychwelyd i ni, boed hynny i Senedd San Steffan neu’r Cynulliad hwn yng Nghaerdydd. Ac, ein blaenoriaethau ni, nid blaenoriaethau’r Comisiwn Ewropeaidd, fydd yn bwysig. Ac rydym ni'n atebol, fel y mae Aelodau Seneddol, i etholaethau gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn atebol dros ein penderfyniadau yn y blwch pleidleisio, a dyna sut y dylai hi fod.

Rwyf wedi dweud erioed nad oedd y ddadl hon am yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â chenedlaetholdeb, ond â democratiaeth. Rwy’n cymeradwyo ac yn canmol yr ysbryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyflwyno ei ddatganiad funud yn ôl, a oedd yn canolbwyntio ar Gymru sy’n edrych tuag allan a blaengar, a heb ddefnyddio iaith fel yr ydym newydd ei chlywed gan arweinydd Plaid Cymru am sut y mae Brexit yn afal gwenwyn. Mae'n gyfle gwych i Gymru hysbysebu ei hun yn y byd, a chanmol ei galluoedd a’i hentrepreneuriaeth naturiol ei hun yn llawn.

Ydy, mae'n wir fod ansicrwydd yn sgil y bleidlais ddydd Iau diwethaf, yn yr un modd ag yr oedd ansicrwydd pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Farchnad Gyffredin, fel yr oedd bryd hynny, ar 1 Ionawr 1973. Bydd newidiadau canlyniadol, does dim amheuaeth am hynny. Ond dyma gyfle gwych sydd gennym. Pam y byddai’r Undeb Ewropeaidd am godi rhwystrau masnach yn erbyn y Deyrnas Unedig pan fod gennym £100 biliwn y flwyddyn o ddiffyg masnach gyda nhw, pan, o ystyried y fasnach ceir yn yr Almaen yn unig, fod gennym £11 biliwn o ddiffyg masnach y flwyddyn? Nid yw gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn mynd i fod eisiau gweld tariffau 10 y cant ar fasnach rhyngom ni oherwydd y byddant yn colli cryn dipyn o ganlyniad i hynny. Mae gennym ddiffyg o £10 biliwn ar fwyd, er enghraifft, yn y wlad hon, o'i gymharu â gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Felly ni ddylai fod gan ffermwyr Prydain, unwaith eto, unrhyw reswm i ofni canlyniadau pleidlais dydd Iau diwethaf.

Ond, mae'n rhoi cyfle i ni, fel y dywedais yn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, i ddyfeisio polisïau sy'n addas ar gyfer ein ffermwyr ein hunain yng Nghymru nawr, a diwydiannau eraill hefyd. O ran dur, er enghraifft, mae gennym nawr y cyfle i ailgymryd ein lle ar fwrdd Sefydliad Masnach y Byd, ac yna mae gennym y rhyddid i gyflwyno tariffau, yn yr un modd â’r Unol Daleithiau, ar ddur a rowliwyd yn oer.

Dwi ddim yn siŵr a yw'n bosibl i ildio—

A gaf i wneud ymyriad? Rydych newydd amlygu’r posibilrwydd o roi tariffau ar ddur a fewnforir i'r DU. Bydd hynny’n amlwg yn rhoi tariffau ar allforio dur o'r DU o ganlyniad. Gan fod dros 50 y cant o'r dur ym Mhort Talbot mewn gwirionedd yn mynd i'r UE, a ydych chi felly yn cau Port Talbot drwy gyflwyno tariffau o'r fath?

Na, na. Holl bwynt y ddeddfwriaeth gwrth-ddympio, y gallwch ei defnyddio o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, yw nad ydyw ond pan fo dur yn cael ei allforio i’ch gwlad yn is na'r gost ar y farchnad fyd-eang, nid yw hyn yn wir am ddur a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd , ond mae'n wir o ran dur a gynhyrchir yn Tsieina, sef achos yr holl broblemau-—[Torri ar draws]. Wnes i ddim pleidleisio yn ei erbyn, o gwbl. [Torri ar draws]. Ni wnaeth fy mhlaid bleidleisio yn ei erbyn, felly rydych wedi cael eich camarwain, ond nid yw hynny'n syndod, nac yw?

Felly, nid yw'r farchnad sengl yn hollbwysig yn hyn i gyd, oherwydd mai dim ond 4 y cant yw’r tariff cyfartalog y mae’r UE yn ei gymhwyso yn erbyn gwledydd eraill yn y byd, sy'n allforio i mewn i'r farchnad sengl,. Mae tariffau uwch ar ddiwydiannau penodol, wrth gwrs, ac mae ceir yn un ohonynt.

Dylem drafod cytundeb masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld yn bersonol ac y byddai fy mhlaid yn hoffi ei weld. Y drafferth yw, nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn dda iawn am drafod cytundebau masnach rydd, oherwydd dim ond dau ohonynt sydd—Mecsico a De Corea. Mae cytundebau undeb tollau eraill, ond, yn gyffredinol, mae'r cytundebau masnach gyda gwledydd fel India, neu'r Unol Daleithiau, yn cael eu boddi am flynyddoedd mewn trafodaeth ddiddiwedd, gan ein bod yn gorfod cael 27 aelod-wladwriaeth i gytuno. Dyna un o'r problemau gyda'r UE—ei natur anymatebol, oherwydd yr anhyblygrwydd a osodwyd arni gan ei strwythur cyfansoddiadol.

Mae Canghellor yr Almaen wedi dweud heddiw na all Prydain ddisgwyl dewis dim ond y gorau yn y trafodaethau sydd bellach yn mynd i ddechrau, ac rwy’n deall hynny. Nid wyf eisiau unrhyw ddewis; yr unig beth yr wyf ei eisiau yw masnach rydd gyffredinol â'r Undeb Ewropeaidd, ar sail deg a rhydd. Dyna’r cyfan y dylai Prydain ofyn amdano, a dyna’r cyfan y gofynnir i’r UE ei ildio, a fyddai o fudd i'r ddwy ochr. Mae masnach yn digwydd oherwydd ei fod o fudd i'r gwerthwr a'r prynwr—fel arall, ni fyddai'n digwydd.

Felly, does dim rheswm dros fod yn besimistaidd, ar wahân i afresymoldeb gwleidyddion sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau ar y naill ochr a'r llall. Nid oes unrhyw reswm i fod yn besimistaidd am ragolygon Cymru. Mae dweud bod canlyniad dydd Iau diwethaf wedi ei gael drwy gyfrwng cyflwyno prosbectws ffug ar ran yr ymgyrch ‘gadael’, wrth gwrs, yn lol. Nid un uned, gydlynol oedd yr ymgyrch ‘gadael’; clymblaid lac o wahanol rymoedd, gwahanol bleidiau, gwahanol grwpiau â budd ydoedd, ac mae gennym i gyd wahanol syniadau ynglŷn â sut y dylai'r dyfodol edrych.

Felly, y cyfan a ddywedaf yw, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, y bydd UKIP yn chwarae ei rhan yn llawn wrth ei gynorthwyo ef i gael y fargen orau bosibl yn rhan o'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gyda'r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n gobeithio y bydd yn awyddus i gynnwys mân bleidiau eraill yn y tŷ hwn yn y broses hon oherwydd credaf y gallwn helpu i roi mwy o hygrededd a mwy o rym i’w drafodaethau, oherwydd, drwy gael llais unfrydol, yn hyn o beth os nad mewn unrhyw beth arall, rydym yn sicr yn well, yn gryfach ac yn fwy diogel pan ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd.

Ddoe, ymunais â phobl ifanc ar risiau'r Senedd—pobl o Gaerdydd a'r Fro yn bennaf a rhai o ymhellach i ffwrdd—a ddaeth i'r Senedd yn galw am ail refferendwm ac am bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 mlwydd oed, ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig yn y ddadl hon ein bod yn cydnabod ac yn nodi sut y mae pobl wedi teimlo o ganlyniad i’r bleidlais hon. Roedd Jane Hutt, fel yr Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, hefyd yno, ac rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gan y bobl ifanc hyn deimladau angerddol, am y rhwystredigaeth yr oeddent yn ei deimlo am na chawsant unrhyw lais yn y bleidlais hon a'r ffaith fod y mwyafrif llethol y bobl iau a wnaeth bleidleisio wedi pleidleisio dros aros—pleidleisiodd 73 y cant o bobl 18 i 24 mlwydd dros aros. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni gofio—. Rydym wedi gwneud sylwadau, rwy’n meddwl, am y rhaniad mewn cymunedau, ond mae'n rhaid i ni hefyd nodi’r rhaniad hwn yn y gwahanol grwpiau oedran. Rwy'n credu bod y bobl ifanc yn teimlo mor rhwystredig am eu bod yn teimlo bod y cyfleoedd yn cael eu cau iddynt ac na fyddent yn cael y cyfle i wneud llawer o'r pethau y byddent wedi gallu eu gwneud hyd yma— [Torri ar draws. ] Yn sicr.

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad yn y fan yna, Julie. A oeddech chi mor siomedig â mi na wnaeth mwy o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio ac, felly, pan eu bod yn gwneud yr honiad, efallai, fod pobl hŷn wedi pleidleisio mewn ffordd sy'n eu rhoi dan anfantais, eu bod wedi colli eu cyfle eu hunain i gael eu clywed?

Yn sicr, byddwn wedi croesawu cofrestriad uwch o lawer o bobl ifanc a chanran pleidlais llawer uwch. Rwy’n sicr yn derbyn hynny, ond rwyf am dynnu sylw at deimlad y bobl ifanc nad oeddent yn cael pleidleisio, ac a wnaeth bleidleisio ac a oedd eisiau mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch canlyniad y refferendwm. Ac, fel y dywedais, roeddent yn galw am bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, a gwn fod hynny’n rhywbeth y gall y Cynulliad hwn fynd i'r afael ag ef yn y dyfodol pan fydd Bil Cymru yn mynd drwyddo. Ond, eu galwad arall oedd am ail refferendwm. Credaf fod yn rhaid i ni barchu’r farn sydd wedi ei dangos gan bobl Cymru, ond y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ganfod ffyrdd o alluogi Cymru i barhau i gael cymaint o fanteision o fod yn yr UE ag sy'n bosibl oherwydd mae Cymru wedi cael buddion enfawr o'r UE.

Mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, ei bod mewn gwirionedd yn bleidlais agos yng Nghymru. Pleidleisiodd Caerdydd, wrth gwrs, y brifddinas, 60-40 i aros, a chafodd y bleidlais hon ei hadlewyrchu ym mhob rhan o'r DU. Yn y bôn, pleidleisiodd llawer o'r dinasoedd mwy i aros, gan gynnwys Llundain, Bryste a Chaeredin. Y ffigyrau yng Nghymru oedd 52.5 y cant dros adael a 47.5 y cant dros aros, ac rwy’n ystyried bod hynny yn bleidlais agos. Ond, mae'n ddiddorol ac, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU lle y ceir demograffig debyg a hefyd dosbarth canol bychan, megis gogledd-ddwyrain Lloegr, pleidleisiodd 58 y cant dros adael, ac yng ngorllewin canolbarth Lloegr, roedd 59.3 y cant dros adael. Yng Nghymru, roedd yn ganlyniad agos, ac, wrth gwrs, dywedodd Nigel Farage ei hun pe byddai mwyafrif bychan dros ‘i mewn’ y byddai achos dros gynnal ail refferendwm. Felly, nid wyf yn credu bod y canlyniad yn ganlyniad pendant iawn. Rwy'n credu ei bod yn fuddugoliaeth o drwch blewyn dros ‘adael’ ac rwy’n credu mai'r peth iawn i'w wneud fyddai defnyddio unrhyw gyfle i wirio mai dyma mewn gwirionedd oedd yr hyn yr oedd pobl Cymru ei eisiau, pan eich bod yn ystyried y buddion y mae Cymru wedi’u cael o arian yr UE, yn enwedig pan welwyd bod llawer o'r pethau a ddywedwyd i berswadio pobl i bleidleisio wedi eu dangos i fod wedi eu gwneud o lwch. Hefyd, mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud am rwygo’r DU, sy'n debygol, gyda'r Alban yn paratoi ar gyfer deddfwriaeth i gael ail bleidlais ar annibyniaeth. Yn sicr, os bydd hynny'n digwydd, os yw'r cynnig hwnnw ar gael, mae angen i Gymru gael cyfle i roi ei barn ar hynny.

Rwy'n falch iawn bod y Prif Weinidog wedi dweud, ar ôl i’r telerau ymadael gael eu cytuno, y bydd yn ceisio cyfle i Gymru a gwledydd eraill y DU roi eu barn. Unwaith eto, rwy’n credu, ar yr adeg honno, y byddai cyfle i geisio barn y bobl yn ogystal â barn Aelodau y tŷ hwn.

Felly, yn olaf, rwy’n credu bod yn rhaid i ni barhau—i feddwl y gall Cymru barhau ei chysylltiadau â gweddill Ewrop, a bydd yn rhaid i ni wneud ymdrechion pendant iawn, cadarnhaol iawn i wneud hynny. Pethau fel Caerdydd yn aelod o rwydwaith EUROCITIES, er enghraifft; dyna’r ffordd y gallwn barhau i ymestyn allan a chael budd o gyllid ar gyfer y rhwydwaith penodol hwnnw. Diolch.

Mae’n drist iawn fod y ddadl hon heddiw ar Gymru a’r UE yn digwydd yng nghysgod penderfyniad mwyafrif ein cyd-ddinasyddion i dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dyna oedd eu hawl democrataidd, ac maent wedi ei arfer. Ond gwnaed adduned i bobl y wlad hon, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd yn adduned benodol, ac fe gafodd ei hailadrodd. Roedd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu gwariant ar y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd yn cynnwys ymrwymiad y byddai gwladwriaeth Prydain yn talu pob ceiniog o arian yr UE a gollwyd i ffermwyr ac mewn cymorth i gymunedau difreintiedig. Mae Plaid Cymru yn aros yn eiddgar am ymddangosiad, am y tro cyntaf mewn hanes, Prif Weinidog Prydain yn Stryd Downing, ym mis Medi, yn cyhoeddi’r cynnydd digynsail mwyaf erioed mewn buddsoddiad yng Nghymru. Bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog newydd hwnnw wneud hynny heb unrhyw arbedion o aelodaeth Ewropeaidd oherwydd, fel y canfuom dros y penwythnos, efallai y bydd y cynllun Brexit yn cynnwys aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy'n dod gyda ffi aelodaeth sylweddol. Gwnaed adduned i bobl y wlad hon, ac mae llawer ohonynt yn byw yng nghymunedau tlotaf y cyfandir hwn. Ni wnaiff Plaid Cymru ganiatáu i rywun ddweud celwydd wrth y bobl hynny. Mae ganddynt lawer gormod i’w golli.

Lywydd, yn yr wythnosau sy'n arwain at benodi Prif Weinidog newydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu, cystal ag y gall, budd cenedlaethol Cymru. A hoffwn wneud awgrym penodol i'r Prif Weinidog, yr wyf yn gobeithio y bydd yn ei ystyried yn ystod y dyddiau nesaf yn rhan o ymateb ei Lywodraeth. A wnaiff lunio a chyhoeddi, ar gyfer dadl yn y Cynulliad hwn, gynllun lliniaru cenedlaethol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar dair elfen gyffredinol? Yn gyntaf, y camau y gellir eu cymryd yn fewnol, yng Nghymru, i gefnogi’r cymunedau hynny sy'n wynebu'r ansicrwydd mwyaf, megis y gorllewin a'r Cymoedd, a fydd yn chwilio am ffynonellau eraill o gymorth, a chymunedau gwledig, a fydd angen lefelau uwch o gymorth ariannol. A wnaiff ef hefyd ystyried cyflwyno, yn rhan o'r elfen hon, Bil tegwch economaidd, fel bod gennym bolisi datblygu rhanbarthol i gefnogi pob cwr o’n cenedl, gan ddefnyddio'r pwerau cyfalaf cyfyngedig sydd gennym yn y modd gorau?

Yn ail, yn rhan o'r cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, rydym yn awgrymu ail elfen i edrych ar newidiadau sydd eu hangen ar lefel Ynysoedd Prydain sy’n hybu budd cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, a fydd y Prif Weinidog yn edrych ar hyrwyddo creu banc buddsoddi'r ynysoedd, tebyg i fodel Banc Buddsoddi Ewrop, i ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau a fyddai fel arall yn cael eu hariannu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a hefyd efallai fel mecanwaith ar gyfer cyflwyno rhaglen cronfeydd strwythurol newydd i ddisodli’r rhai a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i ni dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd?  A wnaiff ef hefyd ystyried cyhoeddi cynigion ar gyfer y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen ar unwaith i gryfhau sefyllfa Cymru fel nad ydym yn cael ein hymgorffori yn awr mewn endid gwrthun Cymru a Lloegr sy'n gweithio yn erbyn ein buddiannau cenedlaethol?

Ac, yn olaf, yn rhan o drydedd elfen y cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried rhoi sylw i sefyllfa Cymru yn y gymuned ryngwladol, gan gynnwys, wrth gwrs, y berthynas newydd y bydd yn rhaid i ni ei hadeiladu â gwledydd eraill yn Ewrop? Yn benodol, a fydd yn ceisio mynediad llawn a dilyffethair i Lywodraeth Cymru i rwydwaith diplomyddol y wladwriaeth Brydeinig, fel y gellir sefydlu llais Cymru ar wahân ar gyfer sicrhau masnach a datblygu cysylltiadau ar draws Ewrop a'r byd ehangach? Dylai'r Prif Weinidog hefyd ystyried adnewyddu ymdrechion i ddenu gwledydd eraill i agor cenadaethau diplomyddol yma yng Nghaerdydd yn rhan o'r broses hon.

Lywydd, pa bynnag ffordd y pleidleisiodd pobl yr wythnos diwethaf, bydd llawer ar bob ochr yn edrych tua'r dyfodol yn bryderus. Eironi trist ymgyrch y refferendwm oedd camddealltwriaeth sylfaenol, ac, yn fy marn i, bwriadol o’r egwyddor o undeb agosach fyth. Mae’r rhan honno o gytuniadau'r UE, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr undeb agosach fyth o bobloedd, nid Llywodraethau, Ewrop. Fy ngobaith, efallai yn erbyn pob tebygolrwydd, yw y gall pobl y genedl hon barhau i sefyll gyda phobloedd y cyfandir hwn, ac na fydd y freuddwyd o Gymru yn Ewrop fyth yn marw.

Gyda’r ganran a bleidleisiodd bron i 60 y cant yn uwch nag yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mae pleidleiswyr Cymru wedi datgan ac mae'n rhaid i ni i gyd barchu'r canlyniadau. Roedd hyn yn ymwneud â hawl democrataidd pobl y genedl hon i benderfynu ar eu tynged eu hunain. Mae arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan ei Aelodau Seneddol ei hun, er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif mawr wedi pleidleisio dros aros yn ei etholaeth ei hun. Yma yng Nghymru, ymgyrchodd y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid dros aros yn yr UE, ond mae pobl yn eu hetholaethau eu hunain wedi pleidleisio i adael.

Mae pobl wedi dweud wrthyf bod ganddynt yr hawl erbyn hyn i ddisgwyl gwahanol fath o wleidyddiaeth yn deillio o fae Caerdydd a'r Senedd. Mae angen i'r Prif Weinidog yn awr ddangos ei allu i ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn sy'n adlewyrchu barn yr holl bleidiau a holl bobl Cymru.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith ymddiswyddo, bydd angen cyd-drafod â'r Undeb Ewropeaidd i gynnwys ymgysylltiad llawn y Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod buddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cael eu diogelu a’u hybu. Mae'n rhaid i ni sicrhau yn gyntaf bod yr arian a oedd yn mynd i mewn i gronfeydd strwythurol a’r polisi amaethyddol cyffredin yn parhau. Mae'n rhaid i ni wedyn sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran o'r arian a ddychwelwyd sydd dros ben. Ac mae'n rhaid sefydlu pwyllgor newydd o Aelodau'r Cynulliad i sbarduno ymateb Cymru i refferendwm yr UE, gan adlewyrchu barn y cyhoedd yng Nghymru yn ei wneuthuriad.

Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi amser i ni benderfynu beth ddylai perthynas newydd Prydain ag Ewrop fod trwy oedi hysbysiad erthygl 50 o dan gytuniad Lisbon, a fydd yn cychwyn cyfnod o ddwy flynedd i drafod y trefniadau ar gyfer dod allan oni bai bod y Cyngor Ewropeaidd, mewn cytundeb â’r aelod-wladwriaeth dan sylw, yn unfrydol yn penderfynu ymestyn y cyfnod hwn. Yn y cyfamser, ni fydd unrhyw newid i hawliau pobl i deithio a gweithio ac i’r ffordd y mae ein nwyddau a’n gwasanaethau yn cael eu masnachu, nac i'r ffordd y mae ein heconomi a’n system ariannol yn cael eu rheoleiddio.

Fel y mae Boris Johnson wedi ei ddweud, ni allwn droi ein cefnau ar Ewrop—rydym yn rhan o Ewrop. Rydym yn condemnio yn llwyr y camdrinwyr hiliol sy’n ceisio manteisio ar ganlyniad y refferendwm. Mae'n rhaid i ni fod yn fodel o ddemocratiaeth amlhiliol, aml-ffydd, cyfle cyfartal.

Roedd yr ymateb difeddwl gan y marchnadoedd ariannol yn rhagweladwy, yn hapfuddsoddol ac yn ormodol, ac mae angen barn wrthrychol wrth i farchnadoedd ddechrau ymdawelu. Mae’r Trysorlys, Banc Lloegr a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi sefydlu cynlluniau wrth gefn cadarn ar gyfer y cyfnod ariannol yn union ar ôl pleidlais ‘gadael’. Bydd y DU yn dal i fod yn y G7, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Mae ein diogelwch bob amser wedi dibynnu ar Gytundeb Sefydliad Gogledd yr Iwerydd, a bydd Prydain hefyd yn parhau i drafod amddiffyn— [Torri ar draws.]—a rhannu cudd-wybodaeth gyda phartneriaid Ewropeaidd. Un ymyriad yn unig.

Diolch yn fawr iawn am ildio. Dim ond mewn ymateb i rai o'ch sylwadau ar oddefgarwch, a ydych chi'n cyfochri eich hun â'r poster ‘breaking point’?

Nac ydw.

Mae ein diogelwch, fel y dywedaf, wedi dibynnu ar NATO erioed. Y tu allan i'r UE, rydym yn adennill y rhyddid i greu cytundebau masnach gan barhau i fasnachu gyda'n partneriaid yn Ewrop. Mae'r DU yn gyfrifol am tua 5.5 miliwn o swyddi ar draws Ewrop. Ni fydd yr UE eisiau rhyfel masnach; bydd eisiau masnach rydd.  Mae Markus Kerber, pennaeth y BDI—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yr Almaen —wedi annog yr Almaen a'r UE i lunio cyfundrefn masnach rydd ôl-Brexit sy'n ei galluogi i gynnal a chadw’r lefelau masnach sydd ganddynt â'r DU. Mae'r Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud nad oes angen i’r Undeb Ewropeaidd

fod yn arbennig o gas mewn unrhyw ffordd

yn y trafodaethau â Phrydain ynglŷn â gadael yr UE. Mae’r Arlywydd Obama wedi dweud y bydd y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain yn parhau yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Prydain, wedi'r cyfan, yw mewnfuddsoddwr mwyaf America. Mae Arlywydd Ffrainc, François Hollande, wedi addo cynnal perthynas â Phrydain, yn arbennig yn ymwneud â mewnfudwyr yn croesi rhwng y ddwy wlad a chydweithrediad milwrol ac economaidd. Dywedodd Gweinidog Cyllid Canada:

Rydym yn parchu dewis pobl Prydain a byddwn yn parhau i fod yn bartner cryf i'r DU ac i'r UE. Mae ein hanes a rennir yn ein gwneud yn bartneriaid masnachu naturiol, ac rwy’n edrych ymlaen at gynnal y cysylltiadau economaidd agos hynny.

A gallwn fynd ymlaen, ond mae amser yn brin. Prydain yw un o economïau mwyaf y byd—gwlad fyd-eang sydd eisoes yn cynnal mwy o fasnach y tu allan i'r UE nag unrhyw aelod wladwriaeth arall ac eithrio Malta. Daw ein hunig fygythiad gwirioneddol o'r llais dinistr sy'n ceisio darnio'r Deyrnas Unedig, rhannu ei phobloedd, lleihau ei holl rannau a damnio’r hyn a elwir yn Alban annibynnol i aelodaeth ardal yr ewro a thwll du yn ei chyllideb. Mae hynny'n warthus. Wedi'r cyfan, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd ein Teyrnas Unedig.

Nid oes amheuaeth ein bod i gyd, gyda'n gilydd fel cenedl ac fel pobl, yn sefyll ar drothwy dyfodol cymdeithasol ac economaidd newydd a bod ein pobl wedi eu rhannu'n chwerw ac mae'n rhaid i ni yn awr ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â’n dyfodol. Er bod yn rhaid i ni dderbyn y mandad democrataidd ac ewyllys y bobl, mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod hefyd y trwch blewyn, fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, a'r effaith sylweddol eisoes ar Gymru. Mae'n hanfodol heddiw ein bod yn dwyn Llywodraeth y DU a'r Prif Weinidog, fel y dywedwyd eisoes, i gyfrif a'u bod yn rhoi ac yn cyflawni eu haddewidion ffug i Gymru ac yn rhoi ein harian yn ôl y gwnaethant ei addo i bobl Cymru yn ystod yr ymgyrch ‘gadael’, yr ydym yn ei anfon i'r UE ar hyn o bryd. Neu ai twyll yw hynny? Mae'n rhaid i bob ceiniog gael ei y mae Cymru’n ei cholli o adael Ewrop gael ei rhoi yn ôl i ni, neu fel arall, mae diffyg democrataidd ac mae'r bobl wedi eu twyllo ac mae'r bobl wedi eu camarwain a dywedwyd celwydd wrth y bobl.

Nid oes amheuaeth bod y refferendwm hwn wedi troi aelod o deulu yn erbyn aelod o deulu a ffrind yn erbyn ffrind. Nid oes unrhyw amheuaeth, heddiw, yn fwy nag erioed, ei bod yn bryd i’n gwlad ganfod undod a chryfder pwrpas wrth symud ymlaen. Yn yr un modd nid oes amheuaeth, fel y dywedwyd eisoes, fod hiliaeth yn cynyddu ac y dylai pob un ohonom fod yn condemnio’r gweithredoedd hyn o droseddau casineb hiliol. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig ac yn unedig wrth weithio i gael y canlyniadau gorau posibl i Gymru ôl-Brexit ac i gael y canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru; bydd pob gewyn ac anadl y weinyddiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i ennyn effeithiau cadarnhaol allan o'r cyd-destun cyfnod heddwch digyffelyb hwn, ac, yn hollbwysig, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i drafod y fargen orau i Gymru a busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio meithrin ac ymgysylltu’r farchnad a’r tariffau gorau posibl ar gyfer nwyddau Cymru a werthir yn yr UE, ac mae er budd gorau amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru bod hyn yn cael ei wneud. Fodd bynnag, ni fydd fawr o hyn yn dibynnu arnom ni a Llywodraeth Cymru, ac ni fydd o fewn ein gallu. Heddiw, mae'n ffaith bendant ac nid ffuglen fod effeithiau arwyddocaol a sylweddol eisoes yn taro glannau’r DU o ganlyniad uniongyrchol i'r refferendwm hwn.

Erbyn hyn mae gennym gyd-destun seismig, cyfnewidiol ac anodd i Gymru ar gyfer creu’r sicrwydd, yr eglurder a’r canlyniadau cadarnhaol sydd eu hangen, ac mae'n hollbwysig bod pawb yn deall y cyd-destun. Mae'n berthnasol ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i bleidlais ‘gadael’ y genedl y dydd Gwener hwn, er enghraifft, bod y DU eisoes wedi gweld dros y penwythnos ei bod wedi colli ei statws AAA, bod y bunt eisoes wedi cyrraedd ei lefel isaf er 1985, bod busnesau allweddol Cymru a mewnfuddsoddwyr wedi mynegi pryder mawr cyhoeddus dros ddyfodol ar sail tariff gyda marchnad sengl yr UE. Ac mae hyder mewn gweithgynhyrchu yn gostwng yn helaeth a thu hwnt oherwydd ansicrwydd dros weithredu amserlen erthygl 50. Mae hwn yn ansicrwydd a allai effeithio ar swyddi yng Nghymru. Mae'n realiti i'n pobl yng Nghymru fod effaith negyddol ar ddatrys yr ateb Tata ac ar swyddi yng Nghymru. Caiff hyn ei ategu, nid gan wleidyddion, ond gan Airbus, Ford ac eraill.

Er gwaethaf cyd-destun sy'n anodd a llawn gofid, mae pobl y DU wedi pleidleisio fel mwyafrif trwy broses ddemocrataidd ac wedi rhoi mandad democrataidd i adael, y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU yn awr ei anrhydeddu a’i barchu fel ewyllys y bobl, ond ochr yn ochr â'r arian a addawyd gan y DU yn yr ymgyrch ‘gadael’. Mae hyn yn sylfaenol, ac mae'n rhaid i ni gyfaddef na wnaeth y dadleuon dros aros gyrraedd y nod, ond mae'r un mor iawn a phriodol bod ffeithiau yn cael eu deall, bod y cyhoedd yn canfod y materion o bwys o'r malu awyr a bod heriau sylweddol, yr wyf i wedi’u hamlinellu ac sydd, yn ddiau, yn ein hwynebu, yn cael eu deall gan y bobl. Mae'n ffaith galed bod y cyfryngau wedi chwarae rhan ddifflach wrth gyflwyno'r ffeithiau a'r dadleuon, ac y dadleuir hefyd bod gwleidyddion yn ogystal wedi methu â gosod yr agenda honno. Byddwn yn wynebu’r heriau sylweddol i'r DU yn awr yn uniongyrchol, ac, yng Nghymru, yn gweithio i’w goresgyn yn strategol, nid oes amheuaeth gennyf, ond mae'n hanfodol bod heriau economaidd, a chymdeithasol sylweddol o'r fath yn cael eu deall yn llawn ac yn briodol. Mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru a'i phobl ar flaen y gad ac yn ganolog i’n strategaeth, a bod y gwactod hwn a grëwyd gan gythrwfl ac ansicrwydd gwleidyddol ar draws y DU sy’n wynebu pob un ohonom yn cael ei ail-bwytho cyn gynted ag y bo modd. Diolch.

Byddwn innau hefyd yn hoffi diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ddydd Gwener ac am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ddydd Iau, siaradodd pobl y Deyrnas Unedig a siarad yn uchel. Dywedasant: 'Mae Prydain yn well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd'. Mae'n anffodus iawn nad oedd y Prif Weinidog a roddodd y refferendwm hwn i ni yn ddigon dewr i ddilyn y mater hyd at ei derfyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod i gyd yn awr yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU. Ni ddylai ein trafodaethau ymadael gael eu bwrw i’r cysgod gan ymryson mewnol ac ymgyrchoedd arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur. Mae yna rai sy'n ceisio gwrthod barn y bron i 17.5 miliwn o bleidleiswyr Prydain a bleidleisiodd i adael yr UE. Efallai nad ydynt yn hoffi'r canlyniadau, ond rydym yn byw mewn democratiaeth, a dyna sut mae democratiaeth yn gweithio: y mwyafrif sy'n rheoli. Os edrychwn ni ar y refferendwm a arweiniodd at greu ein Cynulliad, roedd y canlyniad hwnnw’n llawer iawn agosach, ond ni chlywyd yr ochr 'na' yn gweiddi, i geisio osgoi dymuniadau'r etholwyr neu'n ceisio negyddu'r canlyniad yn greadigol. Mae pobl y DU wedi datgan yn glir: maent wedi cael digon ar fiwrocratiaid anetholedig yn dweud wrthynt beth i'w wneud. Maen nhw eisiau dod allan o'r UE, ac mae i fyny i ni, eu cynrychiolwyr etholedig, i sicrhau bod eu dymuniadau yn cael eu gwireddu— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ai eisiau ymyrryd ydych chi? [Torri ar draws.] Sefyll etholiad? Do, mi wnes.

Nid oes angen i chi wrando ar Weinidogion sy'n gwneud sylwadau o’u seddi. Ewch ymlaen â'ch cyfraniad.

Cefais fy ethol. Mae'n rhaid i ni anwybyddu deisebau amheus, hunan-les gwleidyddol—do, fe fu deisebau y profwyd bod gwallau ynddynt ar-lein—a hunan-les gwleidyddol a'r rhai sy'n honni na all y Deyrnas Unedig sefyll ar ei phen ei hun. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i gael llawer iawn i Gymru ac i Brydain Fawr, ac rwy’n annog pob ochr i weithio gyda'i gilydd i gael y telerau mynd allan yn iawn. Rydym yn ystyried bod unrhyw weithredoedd o gamwahaniaethu a malais tuag at unrhyw berson yn wrthun.

Onid ydych yn cytuno â mi bod rhywfaint o'r rhethreg yr ydym wedi’i chlywed gan gynrychiolwyr UKIP mewn gwirionedd wedi bwydo’r drwgdeimlad a’r hiliaeth yr ydym wedi’u gweld?

Gallaf eich sicrhau, nad ydych wedi’i chlywed gennyf i, ac nid ydych wedi ei chlywed gan y bobl hyn yma ychwaith. At bwy yr ydych yn cyfeirio?

Cawsom gwestiwn yn gynharach heddiw sy'n awgrymu bod rhai pobl sy'n gyfreithlon yn y wlad hon, yn ceisio lloches yma—a’r cwestiwn oedd am gost y bobl hynny. Dylai ystyriaethau dyngarol ddod yn gyntaf, does bosib’?

Yr oedd yn gwestiwn gwahanol, rwy’n cyfaddef, ond roedd yn gwestiwn a ofynnwyd gan etholwyr—na, nid gan UKIP, gan etholwyr y gŵr bonheddig.

Ni fyddwn yn cymryd ymyriad pellach, pe bawn i yn eich lle chi. Byddwn yn parhau.

Dim problem.

I'r rhai sydd am fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau a llesteirio ein cynnydd o ran sicrhau bargen wych, rwy’n eich annog i wrando ar bobl Prydain a gyflwynodd fandad clir ar gyfer Brexit. Wrth ein cefndryd yn yr Alban, rwy’n dweud: ni allwch fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau. Efallai bod pleidleiswyr yn yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE, ond maent hefyd wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i aros yn y DU, a does fawr iawn o amser ers hynny. Aelodau, mae'n rhaid i ni gyflawni dymuniadau democrataidd ein pleidleiswyr yn y DU. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw ein hetholwyr sy’n derbyn arian gan yr UE ar gyfer eu busnesau a’u cwmnïau yn cael eu siomi gan delerau ein hymadawiad. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cytundeb gadael yn cyflawni dros Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni drechu’r rhai sy'n ceisio rhannu ein cenedl— [Torri ar draws.] Yn union, nid yw cynnen yn talu—ond yn bennaf oll, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir i ni gan ein penderfyniad i adael yr UE.

Yn olaf, Lywydd, mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni bob un wedi ein hethol gan y cyhoedd—bob un ohonom. Rydym yn eu cynrychioli p’un a wnaethant bleidleisio drosom ni ai peidio, ac mae fy ysgrifbin yn ysgrifennu'r un fath ar gyfer bob etholwr, ni waeth sut y maent wedi pleidleisio a thros bwy. Diolch.

Diolch, Lywydd. Cefais siom anferth yng nghanlyniad refferendwm yr UE. Drwy gydol yr ymgyrch, ceisiais osod allan yn onest rai o beryglon gadael yr UE, fel yr oeddwn i yn eu gweld. Ymgyrchais o fy nghalon a fy mhen dros yr hyn yr oeddwn yn wirioneddol gredu oedd orau ar gyfer rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.

Yr hyn sy'n amlwg yw bod llawer o bobl wedi pleidleisio ar y pethau yr oeddent yn credu fyddai’n deillio o’n gweld yn ymadael â’r UE, yn benodol, diwedd ar fewnfudo. Cafodd hyn ei ysgogi gan yr ymgyrch adael a'r cyfryngau asgell dde adweithiol a gwarthus a gododd gywilydd ar y wlad hon. I lawer, roedd hefyd yn bleidlais daer am newid gan bobl sydd bellach wedi dioddef blynyddoedd o galedi oherwydd y cyni a osodwyd gan y Torïaid. Roedd llawer o bobl yn credu bod yn rhaid i unrhyw beth fod yn well na'r hyn sydd ganddynt yn awr. Rydym bellach yn gwybod yn ddiamheuaeth fod yr ymgyrchwyr gadael wedi camarwain a dweud celwydd wrth y cyhoedd ym Mhrydain, gydag addewidion o roi £350 miliwn yr wythnos i’r GIG a chael rheolaeth ar fewnfudo. Mae hynny nid yn unig wedi atgyfnerthu’r diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, mae hefyd wedi gwneud i lawer ddechrau difaru pleidleisio i adael.

Un o fy ofnau eraill ynghylch pleidlais i ‘adael’ bob amser oedd yr effaith y byddai'n ei chael ar hawliau gweithwyr. Rydym eisoes wedi gweld cefnogwyr Brexit blaenllaw yn argymell cael gwared ar hawliau gweithwyr fel rhan o unrhyw drafodaethau gadael.

Gyda llaw, Lywydd, mae'n werth nodi y byddai’r cyfyngiadau a osodwyd ar bleidleisiau streic undebau llafur yn Neddf Undebau Llafur 2016 y Torïaid, a gefnogwyd gan y rhan fwyaf o gefnogwyr Brexit, wedi annilysu canlyniad y refferendwm hwn, oherwydd, mae'n debyg, mae pleidleisiau streic yn rhy bwysig o lawer i ganiatáu i fwyafrif syml o'r rhai sy'n pleidleisio benderfynu canlyniad, yn wahanol i fwyafrif syml ar holl ddyfodol ein cenedl am genedlaethau i ddod.

Efallai mai goblygiad mwyaf trallodus y bleidlais i adael, fel y dywedwyd gan lawer o Aelodau yma heddiw, yw’r achosion niferus o hiliaeth amlwg a chyhoeddus yr ydym wedi bod yn dyst iddynt ers i’r canlyniad hwn gael ei gyhoeddi. Gobeithio bod pawb yn y Siambr hon wedi ei syfrdanu gan hyn, y byddant yn ei wrthod yn llwyr ac y byddant yn codi ar eu traed i amddiffyn a gwarchod unrhyw un sy’n dioddef y fath gasineb—casineb a gafodd ei ysgogi gan rethreg wrth-mewnfudo yr ymgyrch ‘gadael’.

Nawr, er ei bod yn wir fod pobl wedi pleidleisio i adael am nifer o resymau, roedd rhai o'r rheiny nad oeddent yn ymwneud â'r UE o gwbl—ac nid yw hynny'n golygu na ddylem wrando ar eu pryderon. Mae'n rhaid i ni dderbyn mae’r canlyniad oedd y canlyniad, a byddwn yn awr yn dadlau'n gryf bod angen i ni roi diwedd ar yr ansicrwydd sy’n treiddio’r wlad a galw erthygl 50 yn ddi-oed. Dylai'r rhai a oedd yn arwain yr ymgyrch ‘gadael’ fod wedi sefydlu strategaeth i’w galluogi i fod yn barod i drafod ymadawiad cyflym a strwythuredig, i dawelu’r dyfroedd yn y marchnadoedd arian, i ddiogelu swyddi, pensiynau, cartrefi a buddsoddiadau pobl ac yn bwysicach efallai, i ddiogelu dyfodol ein pobl ifanc. Ond fel y gwyddom, nid ydynt wedi gwneud hynny.

Lywydd, rwy’n sôn am ein pobl ifanc, gan mai un peth wnaeth argraff arnaf yn ystod yr ymgyrch oedd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r hyn sydd yn y fantol—llawer mwy, efallai, na nifer o bobl ddwy neu dair gwaith eu hoedran. Fel y soniodd Julie Morgan, roedd llawer ohonynt na chawsant bleidlais.

Na, ni wnaf. Ar y penwythnos, cyfarfûm ag Alex, merch 14 mlwydd oed o’r Gurnos, a ddywedodd wrthyf, 'Pam fod hen bobl wedi taflu ein dyfodol ni i ffwrdd?' Yn anffodus, doedd gen i ddim ateb iddi. Felly, ar gyfer Alex a'i ffrindiau ac ar gyfer y cymunedau difreintiedig ym Merthyr Tudful a Rhymni ac mewn mannau eraill, rwy’n annog y Prif Weinidog i fod yn ddi-ildio wrth ddwyn i gyfrif y rhai a blediodd dros adael am yr addewidion a wnaethant. Gwn y bydd yn gweithio i sicrhau nad yw Cymru'n colli ceiniog o ran adfywio, mewnfuddsoddi a chronfeydd datblygu, a gwn y bydd yn ceisio sicrhau cynnydd sylweddol yn y cyllid i Gymru dan fformiwla Barnett ddiwygiedig i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg.

Yn olaf, Lywydd, gan fod angen dwyn cefnogwyr Brexit i gyfrif ar gyfer unrhyw setliad arfaethedig o ran ymadael â’r UE, bydd yn ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth a mandad pellach gan y cyhoedd ym Mhrydain, ac edrychaf ymlaen at glywed sut y byddwn yn ymgynghori ar y setliad hwnnw, gan na all unrhyw setliad fod yn ddilys heb gytundeb penodol pobl Prydain.

Wel, mae’r hyn a ddigwyddodd ddydd Iau yn bwysig. Mae'n bwysig, gorff ac enaid, a bydd y goblygiadau yn ymestyn ar hyd y cenedlaethau. Mae'n bwysig yma, mae'n bwysig yn Ewrop, ac mae hefyd yn dweud llawer iawn am gyflwr democratiaethau’r Gorllewin. Roedd hefyd yn siarad am rywbeth penodol iawn, sef ein haelodaeth o'r UE, ond rwy’n meddwl bod yna wersi ehangach i bob un ohonom sydd yn y Cynulliad hwn eu cadw mewn cof wrth i ni wasanaethu ein mandad yn hwn, y pumed Cynulliad, ac mae'n wers, rwy'n credu, y bydd yn rhaid i wleidyddion ar draws y byd ei dysgu hefyd.

Ond yr hyn sy'n bwysig ar unwaith yw penderfynu pa fath o berthynas y dylem ei chael â’r UE yn awr, a hanfod hynny yw pa o fynediad neu aelodaeth o’r farchnad sengl y dylem fwynhau yn awr. Ni ellir osgoi hyn, mae'n rhaid ei wynebu a dyma’r peth mwyaf a fydd yn penderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol ac a fydd wrth wraidd sicrhau ein rhagolygon economaidd. Roeddwn i'n meddwl bod y Prif Weinidog yn llygad ei le ddoe wrth bwysleisio, mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod SNP, fod Prydain wedi’i hadeiladu ar undeb economaidd ac mae angen i ni weld yr undeb yn ffynnu yn awr, ond hefyd y farchnad sengl sydd wedi'i sefydlu, fel polisi Prydain, i raddau helaeth, o ganol y 1980au, yn Ewrop.

Ymddengys i mi mai economi Cymru yw'r un mwyaf agored i niwed yn y DU, a hon felly yw’r economi sydd fwyaf dibynnol ar gael perthynas effeithiol, adeiladol a chynhyrchiol â'r UE. Rwy’n gobeithio y bydd pob un sy’n cefnogi Brexit yn canolbwyntio ar hynny ac yn awr yn cyfiawnhau eu sicrwydd eu bod yn dal, yn y bôn, yn wir Ewropeaid—fersiwn wahanol o Ewrop; rwy'n barod i gredu hynny—wrth i ni weithio drwy'r manylion yn awr. Ond nid yw’n mynd i fod yn hawdd ei gyflawni, oherwydd pa fath o fynediad sydd gennym i’r farchnad sengl, a ydym yn aelod o EFTA neu beidio, neu'r AEE—mae pob math o oblygiadau i berthynas o’r fath. Mae'n rhaid i ni ddisgwyl trylwyredd gan y rhai a fydd yn awr yn trafod, ac efallai y byddant yn wynebu cryn ansefydlogrwydd economaidd, hefyd, ar union adeg y trafodaethau y mae arnom angen iddynt lwyddo fwyaf.

Bydd yn rhaid i nifer o faterion gael eu harchwilio hefyd am ein dyfodol fel gwladwriaeth Brydeinig—pa fath o DU fydd yn awr yn ymddangos yn sgil Brexit. Bydd yn rhaid i ni addasu mewn ffordd eithaf rhyfeddol er mwyn goroesi, a hynny yn nhermau cyfansoddiadol, ariannol ac economaidd. Mae'r siawns o ymwahaniad Albanaidd wedi cynyddu'n sylweddol. Nid wyf yn gwybod a ydynt yn debygol eto, ond rydym ni ar adeg dyngedfennol, ac mae p’un a ydym yn cadw’r undeb yn un yn dibynnu i raddau helaeth ar ba fath o weledigaeth sydd gennym yn awr ar gyfer y berthynas yr ydym yn dymuno ei chael â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'n glir iawn i mi fod buddiannau cryf Cymru'n yn dod i'r amlwg yn awr, a’u bod ymhell y tu hwnt i bleidgarwch. Mae'r DU yn undeb o genhedloedd, ac y mae angen i lunwyr polisi yn San Steffan bwysleisio a chofio hynny wrth iddynt drafod Brexit, ac mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei gofio. Rydym ni yma—ni yw fforwm gwleidyddiaeth Cymru ac mae’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofleidio yn llawn. I hybu buddiannau Cymru y cytunwyd arnynt, rwy’n credu, felly, y dylid annog gweithio trawsbleidiol grymus yn y Cynulliad—yn y Cynulliad ac, o bosibl, gyda’r Llywodraeth hefyd, wrth iddi gydweithio â holl bleidiau y fforwm hwn. Lywydd, bydd yn rhaid i’r pumed Cynulliad ddangos ei fod yn fforwm y gellir ymddiried ynddo ar gyfer hybu ac amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amseroedd hynod heriol a wynebwn yn awr. Os byddwn yn methu, bydd yr alarnad drist honno yn atseinio, 'Cry, the beloved country’.

Diolch, Lywydd, am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig hon.

The result of the referendum last week was a profound disappointment. The fact that Wales should choose to reject the relationship that has been so clearly in its interests is a challenge to all of us in this place, and we must respond tangibly, and not with easy rhetoric. The loss to Wales of hundreds of millions of pounds of income every year would be hugely detrimental. We have already seen, in many of our communities, the effect of the UK Government’s austerity cuts, taking money out of households and out of local economies, and this is a challenge on a much, much bigger scale. Coupled with economic uncertainty, both in Wales and across the UK, as companies now inevitably look at whether they are investing here or in the ongoing UK, we are facing a very traumatic period, despite the sunny optimism that very unlikely pair of Pollyannas, the leader of the Welsh Conservatives and the leader of UKIP.

I don’t want to be in a position where Wales qualifies for regional aid—none of us wants that. I want our economy to be robust enough not to need this and to flourish, and our overriding priority is, and must be, an economic policy that enables that.

Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, ac rwy’n cytuno â'ch geiriau na ddylem fod yn falch o'r ffaith y bu angen cyllid cydgyfeirio arnom yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ar yr un ochr ar hyn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi yn fy atgasedd tuag at dôn rhai o bapurau Llundain sy’n pwyso tua’r chwith sydd wedi galw ein hetholwyr a bleidleisiodd i ‘adael’ yn ddifeddwl ac, yn bwysicach fyth, yn ddiddiolch am yr arian sydd wedi dod o Ewrop i helpu i gefnogi'r cymunedau hynny. A ydych yn derbyn, fodd bynnag, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros beidio ag argyhoeddi’r cymunedau penodol hynny bod arian wedi dod o Ewrop ac wedi’u helpu, yn hytrach na dod yn uniongyrchol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, pob un ohonom, o hynny am sut yr ydym yn cyfleu sut y caiff arian ei ddefnyddio yn ein cymunedau a phwy sy'n gyfrifol am y penderfyniadau?

Diolch am yr ymyriad hwnnw. Rwy’n derbyn y pwynt y bu sylwadau di-fudd iawn mewn rhywfaint o'r wasg ar ymateb ein cymunedau. Nid wyf yn derbyn y pwynt arall a godwyd gennych, ond rwy’n derbyn pwynt hwnnw, yn sicr.

Mewn gwirionedd, gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch hon, ac maen nhw wedi cael eu crybwyll eto heddiw ar sawl achlysur, ac yn fy marn i, yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yr wythnos diwethaf oedd, ie, cael dod allan o'r UE, ond hefyd am i’r arian a gaiff Cymru ar hyn o bryd gan yr UE i gael ei ad-dalu gan Lywodraeth Prydain. Mae penderfyniad Brexit i ni yng Nghymru yn golygu'r ddau beth hyn gyda’i gilydd, ac mae sut yr ydym yn ymateb i'r penderfyniad hwnnw yn y lle hwn yn hanfodol. Nid wyf i fy hun, yn canfod yn y canlyniad unrhyw ddyhead cyhoeddus ar hyn o bryd i gael setliad datganoli llawer ehangach na'r hyn yr ydym eisoes yn ei drafod, ond bydd yn rhaid aros i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir wrth i ddyfodol y Deyrnas Unedig ddatblygu. Ond rwy’n credu bod pobl a bleidleisiodd i adael yr UE wedi gwneud hynny yn y gred gadarn y byddai’r prosiectau, y seilwaith, y rhaglenni sgiliau, ac yn y blaen, sy’n ffurfio rhan hanfodol o'u cymunedau yn parhau ar ryw ffurf. Ac felly, mae'n rhaid i ni ymateb i hynny mewn ffordd bendant. Rwy’n credu mai nawr yw'r amser i ddatrys y cwestiwn o sut y mae Cymru yn cael ei hariannu gan San Steffan, a’i roi ar sylfaen gadarn. Rhaid i ymrwymiad cyllido newydd adlewyrchu gwahanol anghenion pobl Cymru, a rhaid iddo adlewyrchu, yn llawn, y ffaith bod yr arian Ewropeaidd wedi’i golli. Rydym yn cael ein harwain i gredu y bydd Trysorlys ei Mawrhydi yn awr yn gwneud arbediad sylweddol bob blwyddyn, a rhaid i drysorlys Cymru dderbyn ei gyfran deg o hynny. Mae addewidion wedi eu gwneud, ac yn awr yw'r amser iddynt gael eu cadw.

Felly, rwy’n credu bod angen i ni gynnwys gwarant o ran y gyfraith cyllido o fewn pensaernïaeth statudol cyfansoddiad Cymru sy'n dod i'r amlwg. Rhaid iddo ddisgrifio'r egwyddorion lefel uchel sy'n sail i fformiwla ariannu deg. Mae’r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi dweud mai cydraddoldeb ac ailddosbarthu yw’r egwyddorion arweiniol yn hyn o beth, a rhaid iddo hefyd ddisgrifio sut y byddai anghydfod dros y cyllid hwnnw yn cael ei datrys.

Nid wyf yn credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn diolch i ni os ydym yn ymateb i'w dyfarniad—sydd, yn fy marn i, yn ymwneud yn rhannol â pherthnasedd bywyd gwleidyddol i'w bywydau—â thrafodaeth helaeth am ffurf a phwerau San Steffan a Bae Caerdydd. Os ydym wedi cael clywed unrhyw beth gan bobl ledled Cymru, yr angen i ni wneud mwy i ymdrin â'r materion bara menyn, y brwydrau dyddiol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, yw hynny. Ond, yn yr un modd, ni chawn faddeuant os byddwn yn methu â darparu, o ganlyniad i'r bleidlais hon, setliad ar gyfer Cymru sy'n mynd i'r afael, nid dim ond â chwestiwn ein perthynas ffurfiol â'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd sylfaen deg a diogel ar gyfer ariannu Cymru yn y dyfodol.

Yn gyntaf oll, ni allaf gredu bod y Blaid Lafur yn dal i fod yn gwadu gwir ddymuniadau a dyheadau pobl dosbarth gweithiol Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud eu bod yn siarad am ddim ond 2 neu 4 y cant o wahaniaeth yn y bleidlais ‘i mewn’ ac ‘allan’; wel, mewn lleoedd megis Torfaen, Blaenau Gwent a llawer o rannau eraill o gadarnleoedd Llafur yng Nghymru, roedd yn rhywbeth fel 60 y cant i 40 y cant—ac maent yn dal i wadu'r hyn y mae pobl ei eisiau. Wel, y gwir amdani yw, wrth gwrs, rydych wedi bod yn gwadu ar hyd yr amser, oherwydd dylai canlyniadau’r etholiad Ewropeaidd yng Nghymru yn 2014, pryd y bu bron i Blaid Annibyniaeth y DU ddod y blaid gyntaf ers dros 100 mlynedd i drechu'r Blaid Lafur mewn etholiad cenedlaethol, ac yna, wrth gwrs, ym mis Mai pryd y cafodd saith AC o blaid y mae gadael yr UE yn raison d'être iddi eu hethol i'r Senedd, fod wedi agor eich llygaid i’r gwirionedd, nid y blaid Lafur yn unig, ond pob plaid yng Nghymru sydd ag agenda sydd o blaid Ewrop. Yn anhygoel, nid oedd hyn yn wir. Dewisodd pob un o'r pleidiau hyn anwybyddu ewyllys y Cymry. Roedd y canlyniad ddydd Iau yn ganlyniad uniongyrchol i’r gwahaniad rhwng y pleidiau sefydledig ag etholwyr Cymru, ac nid, fel sydd wedi cael ei ledaenu dros y dyddiau diwethaf, yn ganlyniad i unrhyw wybodaeth anghywir bondigrybwyll ar ran yr ochr ‘gadael', neu hyd yn oed y tactegau ofn di-baid a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch ‘aros'.

Fodd bynnag, nid dyma’r amser i unrhyw un a oedd yn ymwneud â'r ymgyrch 'allan' orfoleddu am y canlyniad, yn enwedig y rhai ohonom yn y Cynulliad. Mae goblygiadau’r refferendwm hwn yn llawer rhy bwysig i unrhyw ymblesera o'r fath.

Diolch. Rwy’n derbyn eich pwynt bod y canlyniad wedi amlygu dadrithiad dwfn i lawer o bobl mewn cymunedau dosbarth gweithiol. Nid wyf yn derbyn ei bod yn ymwneud â’r UE yn unig. Mae'n cynrychioli datgysylltiad llawer dyfnach â’r ffordd y mae ein heconomi yn gweithio. Ond erbyn hyn mae her i'r rhai a wnaeth addewidion ar yr ymgyrch ‘gadael’, oherwydd fe wnaethoch addewidion, ac mae perygl, os nad yw’r addewidiion hynny yn cael eu cadw, y gallai dadrithiad â gwleidyddiaeth fod yn broses wenwynig iawn. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y rhai a wnaeth honiadau ac addewidion ar eich ochr chi yn anrhydeddu’r ymrwymiadau hynny?

Wel, yr wyf yn croesawu eich ymyriad ar y rhan honno, ond rydych yn dal yn ymddangos i fod yn gwadu'r rhesymau pam eu bod wedi pleidleisio i ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd. Ond rwy'n credu y bydd yr hyn yr af ymlaen i’w ddweud yn ateb y cwestiwn yr ydych wedi’i ofyn yn ôl pob tebyg, a hynny yw fy mod yn dweud, bod goblygiadau’r refferendwm hwn yn llawer rhy bwysig i unrhyw ymblesera o'r fath. Rwyf yn awgrymu i chi ei bod yn amser ar gyfer gweithredu trawsbleidiol a chonsensws fel erioed o'r blaen. Mae'n rhaid i ni ac fe fyddwn ni a oedd yn ymwneud â’r ymgyrch 'allan' yn cefnogi’n llwyr unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nid yn unig yr arian a addawyd eisoes i Gymru gan Lywodraeth San Steffan, ynghyd, wrth gwrs, â’i hymrwymiad i anrhydeddu cyllid yr holl brosiectau sydd yn awr yn cael eu cyfalafu gan yr UE, ond hefyd i sicrhau ein bod yn cael cyfran deg o'r cronfeydd hynny y bydd Brexit yn eu cynhyrchu. Cyfeiriaf, wrth gwrs, at y gwahaniaeth yn yr hyn y mae’r DU yn ei dalu i mewn i'r Undeb Ewropeaidd a’r hyn y mae'n ei roi yn ôl. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gen i.

Unwaith eto, nid dyma’r amser ar gyfer cecru pleidiol ynghylch canlyniad y refferendwm. Mae'r bobl wedi siarad, ac mae'n fater i ni fel Cynulliad unedig symud ymlaen i sicrhau dyfodol Cymru yn yr arena wleidyddol newydd. Mae rhai o’r doethinebwyr gwleidyddol a oedd mor anghywir ynghylch Ewrop yn awr yn rhagweld y bydd yr undeb yn chwalu. Byddant yn cael eu profi'n anghywir ar hynny eto. Bydd yr undeb yn parhau i fod yn gyfan ac ewyllys mwyafrif llethol pobl Cymru yw y byddwn yn rhan o'r undeb honno.

Gadewch i ni yn awr helpu ac ymddiried yn y 40 AS a anfonwyd i San Steffan, y rhan fwyaf ohonynt yn Aelodau Seneddol Llafur, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i sicrhau'r canlyniad gorau posibl o’r refferendwm hwn ar ran pobl Cymru. Mae'r Cymry wedi siarad. Gadewch i ni barchu eu barn. Dim ond un atodiad bach: yn 2010 roedd ffigurau'r Llywodraeth yn dangos mai dim ond 2.1 y cant o gwmnïau Cymru mewn gwirionedd oedd yn allforio i'r UE. Gadewch i ni gadw ymadawiad Cymru â’r UE mewn persbectif. Diolch.

Fel llawer o rai eraill yma heddiw, Lywydd, mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a'i chanlyniadau yn destun pryder mawr i mi. Rwy’n credu ein bod ni wir ar dir newydd yn awr, ac rwy’n teimlo'n bryderus iawn o ran diogelwch a heddwch ar y cyd yn Ewrop a thu hwnt; ein mynediad, wrth gwrs, at y farchnad sengl, sydd mor bwysig; mewnfuddsoddiad ac, yn wir, buddsoddi cyffredinol yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn ein heconomi; a hefyd, wrth gwrs, o ran colli cyllid Ewropeaidd.

Un prosiect sy’n dod yn amlwg i’r meddwl yw’r metro, prosiect yr wyf yn hynod gefnogol ohono, fel y gwn y mae llawer o rai eraill yma hefyd. Rwy'n credu ei fod yn syniad mawr, o ran ein heconomi yn y de-ddwyrain, ac o ran cysylltedd ar ffryntiau economaidd a chymdeithasol. Nawr, mae'n ansicr a fydd gennym yr arian i fynd â’r prosiect yn ei flaen fel y bwriadwyd ac mor gyflym ag y bwriadwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd unrhyw ansicrwydd yn cael ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.

Hefyd, fel y mae eraill wedi crybwyll, Lywydd, rwy'n bryderus iawn, iawn am gydlyniant cymunedol. Nid dim ond mater yr ymosodiadau uniongyrchol ac, yn wir, y bygwth y mae pobl wedi’i brofi yn sgil canlyniad refferendwm yr UE, ond hefyd y pryder sydd wedi'i gynhyrchu yn ein cymunedau. Rwy'n credu y gall pob un ohonom chwarae rhan yma, ar bob lefel o'r Llywodraeth a'r gymdeithas ddinesig, wrth ei gwneud yn glir y byddwn yn cefnogi pobl yn ein cymunedau ni waeth beth yw eu cefndir ac ni waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu hethnigrwydd. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb yn hynny o beth yn y cyfnod anodd hwn.

Y mater nesaf yr hoffwn sôn amdano, y mae eraill hefyd wedi’i grybwyll, Lywydd, yw tlodi, dieithrio ac allgáu. Rwy'n credu ei fod yn gwbl glir, pan edrychwn ar y pleidleisio a phatrwm y pleidleisio, fod llawer o bobl yn ein cymunedau â’r ymdeimlad hwnnw o anobaith ac nad ydynt yn gwneud yn dda yn economaidd ac o ran ansawdd eu bywyd ar hyn o bryd. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae'n ddealladwy, pan roddir cyfle iddynt, i gyflwyno neges gref i roi cic, fel petai, i’r hyn y maent yn ei weld fel y sefydliad, yr elît gwleidyddol—sut bynnag y maent yn ei ddisgrifio—byddant yn cymryd y cyfle hwnnw, weithiau bron heb ystyried y materion gwirioneddol sydd yn y fantol. Rwy'n credu bod elfen gref o hynny yn y bleidlais benodol hon ac mae angen i ni gydnabod y teimlad hwnnw, nid yn unig ar gyfer y bleidlais benodol honno ond yn gyffredinol. Mae angen i ni wneud mwy o ymdrech o lawer i fynd i'r afael â thlodi, i greu mwy o gynwysoldeb yn ein cymunedau ac i adeiladu ein heconomi er budd pawb.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn droi at ryngwladoldeb a Chymru, gan fy mod yn cofio, fel un o Aelodau gwreiddiol y Cynulliad—nid oes llawer ohonom ar ôl erbyn hyn—yn y cyfnod yn arwain at sefydlu’r Cynulliad, ac yn ei fisoedd a blynyddoedd cynnar, roedd llawer o bobl yn bryderus iawn ynghylch plwyfoldeb—y byddai'r Cynulliad yn fewnblyg ac y byddai Cymru yn dod yn fwy mewnblyg ac yn edrych llai tuag allan. Rwy'n falch o ddweud nad wyf yn credu mai dyna’r profiad o gwbl. Rwy'n meddwl bod y Cynulliad a Chymru wedi bod yn edrych tuag allan yn fawr iawn, ac mae Gweinidogion, Aelodau'r Cynulliad, cymdeithas ddinesig a sefydliadau yng Nghymru wedi bod yn rhan o hynny.

Bu amryw o sianeli a phrosesau sydd wedi hwyluso hynny. Rydym wedi dod yn aelodau o lawer o grwpiau rhyngwladol, ond mae llawer iawn ohono yn troi o amgylch ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, boed yn Weinidogion Cymru yn mynychu cyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion ac, yn wir, yn siarad dros Gymru yno, neu’r Pwyllgor Rhanbarthau neu ymweliadau gan Aelodau'r Cynulliad ac eraill i Frwsel a mannau eraill yn Ewrop. Mae sawl agwedd i’r ymgysylltu hwnnw, ond mae llawer iawn ohono, o reidrwydd, yn troi o gwmpas ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn rhan o Ewrop, byddwn yn parhau i fod yn rhan o Ewrop ac mae angen inni edrych, rwy’n credu, ar sut yr ydym sianelu'r ymgysylltu hynny â gwledydd Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd yn sgil y bleidlais hon.

Mae nifer o agweddau eraill, wrth gwrs, yr wyf yn frwdfrydig iawn yn eu cylch o ran ein rhyngwladoldeb, fel y rhaglen ar gyfer Affrica, y credaf sydd wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru a Llywodraeth Cymru ar sawl lefel. Ond, yn sicr, mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wrth wraidd llawer o'r ymgysylltu rhyngwladol hwnnw.

Felly, i gloi, Lywydd, yr wyf wir yn credu y byddai pob un ohonom yma—bron pob un ohonom beth bynnag—am weld Cymru yn agored i'r byd a'r byd ar agor i Gymru. Ac, yn sgil canlyniad y refferendwm, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio tuag at y rhyngwladoldeb hwnnw, ac yma yng Nghymru ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn oddefgar, ein bod yn gynhwysol, ein bod yn croesawu gwahaniaeth. Dyna'r math o Gymru yr wyf i am ei weld.

Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n gwybod, pan gafodd y ddadl hon ei chyflwyno, a phan ddechreuodd, y byddem yn treulio llawer o amser mae'n debyg yn ailredeg digwyddiadau a dadleuon yr wythnos diwethaf. Ond mae'r canlyniad yno. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn agos, ond yna roedd sefydlu'r sefydliad hwn yn ganlyniad refferendwm agos yn ogystal—wedi’i gryfhau lawer wedi hynny wrth gwrs, yn 2011. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Caroline Jones fod yna bobl oedd yn ceisio gwrthdroi'r canlyniad. Yn 2001, roedd gan faniffesto’r Ceidwadwyr ymrwymiad i gynnal refferendwm er mwyn galluogi pobl i wrthdroi’r canlyniad. Hen hanes yw hynny erbyn hyn, yn ffodus. Ond mae yno: mae’r canlyniad yno; nid oes mynd yn ôl arno. Yn fy marn i, nid oes galw am ail refferendwm. Rwy'n meddwl bod peryglon mawr yn hynny. Os oes galw am ail refferendwm, bydd y rhai a bleidleisiodd i adael yn digio fwy fyth a bydd y dicter yn cael ei drosi yn rhywbeth mwy annymunol. Byddant yn gweld bod ymgais i ddadwneud eu barn nhw, barn y mwyafrif, fel y maent yn ei weld, ac mae peryglon mawr yn hynny o beth. Felly, rwy’n gwybod bod eraill wedi sôn am hyn, ond dwi ddim yn meddwl y byddai cynnal ail refferendwm yn beth doeth ar hyn o bryd.

A gaf i droi at yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid? Mae ef wedi lleoli ei hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y ddadl—

Mae'n ddrwg gennyf, mae arweinydd yr wrthblaid yn fenyw a Phlaid Cymru yw’r wrthblaid.

Maddeuwch i mi; arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—hen arferion, yn anffodus. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr hyn a ddywedodd—ei fod wedi cyflwyno’i hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y weledigaeth ar gyfer y dyfodol i Gymru. Yr hyn a glywsom heddiw oedd malu awyr blodeuog. Gofynnwyd iddo—. [Torri ar draws.] Rwy’n ceisio mynd i mewn i ysbryd y ddadl a bod yn garedig. Gofynnais iddo roi rhyw syniad i ni o'r cyfleoedd sy'n bodoli ac fe fethodd ag enwi un. Nawr, nid wyf yn ymhyfrydu yn hynny, oherwydd y perygl yw bod y rhai sydd wedi gwneud addewidion ar yr ochr ‘gadael’ yn gweld yr addewidion hynny yn chwalu. Bydd y bobl hynny a bleidleisiodd ‘gadael’ wedyn yn cymryd eu dicter allan mewn ffyrdd gwahanol, a fydd yn golygu y byddwn yn gweld cefnogaeth i bleidiau eithafol, hiliol y dde eithaf. Dyna fy mhryder mawr, mawr, ac felly mae dyletswydd a chyfrifoldeb ar bob un ohonom, gan gynnwys yr ymgyrchwyr ‘gadael’, i egluro beth sy'n digwydd nesaf ac i wneud hynny yn gyflym, yn hytrach na dweud, 'Wel, bydd pob dim yn iawn; bydd yna arloesi yma' a beth bynnag a ddywedodd. Mae angen mwy na malu awyr arnom; mae angen manylion arnom ni.

Rwy’n dweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—rwyf wedi ei gael yn iawn y tro hwn—bod yn rhaid i’r bleidlais hon beidio â chael ei defnyddio fel rheswm i hidlo pwerau i ffwrdd oddi wrth bobl Cymru. Mae ei union eiriau gen i o fy mlaen, yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma. Dywedodd, ac rwy’n dyfynnu:

mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu—

Iawn.

—a bod cymunedau sydd wedi cael yr arian hwn wedi’i wario yn cael yr hyder y bydd yr arian yn parhau boed yn dod o'r Trysorlys yn Llundain neu Lywodraeth Cymru.

Ni all Llywodraeth Cymru wneud yr arian hwnnw i fyny; gallaf ddweud hynny wrthych yn nawr. Ac yna ychwanegodd:

Gallai’r arian hwnnw... ddod yn uniongyrchol o San Steffan .... Pam y dylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?

Dyna beth ddywedodd. Rwy'n dweud hyn wrtho yn awr: mae datblygu economaidd wedi'i ddatganoli.

Andrew R.T. Davies a gododd—

Siawns, mae hwnnw’n gwestiwn dilys i’w ofyn, a mater i ni yn y sefydliad hwn, fel gwleidyddion— [Torri ar draws.] Ac mae’n fater i ni yn y sefydliad hwn, a gwleidyddion o bob plaid, i wneud yn siŵr bod yr iaith yr ydym yn setlo arni mewn gwirionedd yn cynrychioli beth fydd yn sicrhau'r fargen orau i Gymru. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau anodd i gael yr atebion sy'n ofynnol gennym.

Mae wedi treulio misoedd a misoedd yn cwyno am arian yn cael ei reoli o Frwsel, gan ddweud y dylai ddod i Gymru, ac mae bellach yn dweud y dylai gael ei reoli gan y Trysorlys yn Llundain. Nid yw hynny yn cyd-fynd â datganoli. Nid dyna'r hyn a addawyd gan yr ymgyrch ‘gadael’. Ni fyddwn ni fyth yn cefnogi hynny, neu yn cytuno â hynny, yn y Cynulliad hwn, ar yr ochr hon ac eraill y tŷ. Mae'n rhaid iddo roi'r gorau i feddwl fel rhywun sy’n eistedd yn San Steffan a meddwl am rywun sy’n eistedd yng Nghymru, a dechrau meddwl am yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru. Nid oes achos, dim achos o gwbl, dros awgrymu na ddylai'r arian a gawsom gan Ewrop ddod i Gymru, ond mae'n debyg y dylai eistedd yn Llundain, yn ôl disgresiwn y Trysorlys o ran sut y caiff ei wario. Dyna beth a ddywedodd. Ac yn awr mae’n cael ei ddal gan ei eiriau ei hun, y gwnaeth eu gwadu yn gynharach yn y Siambr. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun—pe gallech weld eu hwynebau—. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun pam, yn sydyn, bod yr hyn a ddywedwyd, yr addewid a wnaed y byddai'r arian hwn yn dod i Gymru, yn awr yn mynd i beidio â dod i Gymru i’r Cynulliad etholedig hwn i benderfynu sut i’w wario. Ac mae hynny’n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Heb ei ailadrodd gan UKIP—heb ei ailadrodd gan UKIP. Mae'n dangos i ba gyfeiriad y mae’r Ceidwadwyr yn mynd.

Gwrandewais yn ofalus ar y pwyntiau eraill a wnaethpwyd gan Aelodau eraill, yn enwedig ar arweinydd yr wrthblaid, gwrandewais arni’n ofalus. Nid yw hi a minnau yn yr un sefyllfa pan ddaw at yr hyn y mae hi wedi’i awgrymu heddiw, sef annibyniaeth yn yr UE, gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Rwy'n meddwl bod anawsterau wrth awgrymu'r ffordd honno ymlaen, pan fod pobl eisoes wedi dweud eu bod eisiau gadael. Ond mae'n iawn dweud bod angen newid cyfansoddiadol. Ni all y DU fynd ymlaen fel y mae, neu ni fydd yn mynd ymlaen. Nid wyf yn rhannu optimistiaeth yr Aelod David Rowlands y bydd y DU yn parhau am byth a diwrnod. Dyma’r bygythiad mwyaf i'r DU sydd wedi ei beri erioed. Rydym yn gweld y polau piniwn eto yn yr Alban—nid bod unrhyw un yn gallu ymddiried mewn polau, o reidrwydd, ond rwy’n ofni fod yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn oedd yn digwydd yno yn 2014, ac fe fydd yna effaith ar Gymru. Rydym yn gwybod y bydd yna effaith ar Ogledd Iwerddon.

Rwyf yn y sefyllfa ryfedd hon yn awr, ble, o'r pedwar yn fy nghartref, fi yw'r unig un na fydd yn y dyfodol â hawl i fyw a gweithio yn unrhyw le yn yr UE. Bydd pawb arall, oherwydd bod ganddynt genedligrwydd deuol. Ac mae'n dangos bod hyd yn oed teuluoedd mewn sefyllfaoedd gwahanol oherwydd y bleidlais a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.

Rydym yn gwybod, yng Ngogledd Iwerddon, bod problemau gyda'r ffin, oherwydd ei fod yn ffin agored, a bydd y polisi mewnfudo ar y ddwy ochr yn wahanol. Ac felly mae materion mawr ynghylch sut y bydd y ffin honno yn cael ei monitro, a sut y bydd y ffin yn cael ei phatrolio. Nid ydynt yn faterion sy'n effeithio yn uniongyrchol arnom ni yng Nghymru, ond maent yn effeithio ar y DU a'i pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd trwy’r ffin honno ar y tir.

A gaf i ymdrin â'r mater o fasnach rydd? Mae mynediad at y farchnad sengl yn gwbl sylfaenol hanfodol i ffyniant Cymru. Os na chawn fynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl, bydd llawer o'n busnesau yn cael eu rhoi o dan anfantais na fydd yn berthnasol i’w cystadleuwyr mewn mannau eraill yn yr UE. Os ydych yn edrych ar y diwydiant modurol, mae tariff o 5 y cant ar rannau modurol, tariff o 10 y cant ar fewnforio ceir; rheolau Sefydliad Masnach y Byd yw’r rhain. Mae hynny'n effeithio ar gynifer o ffatrïoedd modurol Cymru, nid lleiaf fy un fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Oni bai fod cytundeb masnach ar y bwrdd sy'n cael gwared ar yr ofn a’r perygl o dariffau, ni fydd y ffatrïoedd hynny yn gallu cystadlu, oherwydd bydd yr hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu yn awtomatig yn fwy costus na ffatrïoedd mewn mannau eraill. Nawr, mae’r awgrym wedi ei wneud, wel, mae Ewrop yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei allforio yn ôl. Wel, mae’r Undeb Ewropeaidd wyth gwaith yn fwy na'r DU, felly, mewn termau ariannol, wrth gwrs mae mwy yn cael ei allforio o'r UE i Brydain na'r ffordd arall. Ond, os ydych yn edrych ar y canrannau, mae bron i 50 y cant o'r hyn y mae'r DU yn ei allforio yn mynd i'r UE. Mae'r symudiad yn ôl rhwng 7 y cant a 10 y cant. A dweud y gwir, rydym yn llawer mwy dibynnol ar allu allforio’n rhydd i mewn i'r UE nag y mae’r UE i ni.

Os byddwn yn edrych ar y farchnad ceir, mae pobl wedi dweud, 'Wel, bydd gweithgynhyrchwyr ceir Almaeneg yn awyddus i allforio'. Yr anhawster yw y gall brandiau fel BMW allforio gyda thariff o 10 y cant a bydd pobl yn dal i’w prynu nhw, oherwydd bod pobl yn ei weld fel car mawreddog i'w brynu. Nid yw'n berthnasol i bob brand o gar, a dyna’r perygl sy'n ein hwynebu. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau yn parhau rhwng y DU a'r UE.

Nawr, mae'n rhaid i ni gofio, yn y trafodaethau a fydd yn digwydd, y bydd Llywodraeth y DU, yn anochel, yn cymryd yr awenau. Bydd gennym ein dull ein hunain o drafod â’r UE. Ond bydd Llywodraeth y DU yn trafod yn bennaf fel Llywodraeth y DU, ond weithiau fel Llywodraeth Lloegr, pan ddaw at amaethyddiaeth a physgodfeydd. Ni fydd yn trafod fel y DU bob amser. Dyna pam, i mi, mae'n gwbl hanfodol, pan fydd bargen ar y bwrdd, ei bod yn cael ei chadarnhau ar wahân gan bob un o'r seneddau cenedlaethol. Yna byddwn yn cael ymrwymiad priodol i unrhyw gytundeb masnach. Nid yw'n ddigon da i’r Senedd yn San Steffan yn unig ei gadarnhau, pan fydd meysydd megis amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd wedi eu datganoli'n llwyr, yn cael eu heffeithio. Ac felly, mae'n rhaid i’r ddeddfwrfa etholedig hon gael llais cryf—yn wir, proses gadarnhau ar gyfer hynny.

Cododd yr Aelod Steffan Lewis rai pwyntiau pwysig. Trafododd yn gyntaf oll—siaradodd yn gyntaf oll—am yr angen am Fil tegwch economaidd. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth fyddai hynny'n ei olygu. Nid wyf yn golygu hynny mewn ffordd feirniadol, dydw i ddim yn hollol glir am y peth, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei weld yw, pan fo buddsoddwyr yn dod i Gymru, maent am fynd i safle penodol yng Nghymru. Ni allwch ddweud wrthynt, "Ni allwch fynd i’r fan yna; mae'n rhaid i chi fynd i’r fan yna’.  Felly, nid oedd Aston Martin erioed yn bwriadu mynd i unrhyw le heblaw Sain Tathan. Nid oedd yn mynd i fynd i unrhyw le arall. Felly, nid yw mor hawdd ag y mae'n swnio i ddweud, 'Wel, byddwn yn sicrhau bod buddsoddiad yn teithio ar hyd a lled Cymru’, gan nad yw cwmnïau preifat yn gweithio fel’na. Mae buddsoddiad cyhoeddus yn haws, yn amlwg; ond mae buddsoddiad preifat yn llawer mwy anodd.

Soniodd am fanc buddsoddi yr ynysoedd—diddorol a rhywbeth, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yn cael ei archwilio yn ystod y misoedd sydd i ddod, a siaradodd hefyd am Gymru yn torri ei chwys ei hun yn y byd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Masnach a Buddsoddi y DU wedi bod yn hynod gefnogol i ni wrth i ni deithio o amgylch y byd. Rydym wedi derbyn cefnogaeth ganddynt. Mae llysgenadaethau o gwmpas y byd wedi bod yn ddim ond cefnogol i ni o ran denu buddsoddiad i Gymru. Rydym wedi agor swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r byd lle’r ydym yn gwybod y gallwn ni fod yn effeithiol wrth ychwanegu rhywbeth mwy o ran llais Cymru. Ond nid wyf yn credu y bydd canlyniad yr wythnos diwethaf yn newid ein gallu i werthu ein hunain i'r byd o ran bod yn gallu cyflwyno Cymru i'r byd. Bydd yn effeithio, wrth gwrs, ar yr hyn yr ydym yn gallu ei gynnig o ran mynediad at farchnad os nad oes cytundeb ar y bwrdd. Un o'r materion yr ydym bob amser yn ymgodymu ag ef yw, os ydym yn ystyried ehangu ein presenoldeb mewn gwlad arbennig, a ydym yn ehangu presenoldeb mewn un wlad neu a ydym yn agor swyddfa mewn un arall? Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymgodymu â nhw yn gyson. Ond rydym yn gwybod bod y swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau ac India, yn arbennig, yn hynod, hynod o bwysig o ran cyflwyno Cymru fel lle i fuddsoddi, a bydd hynny'n parhau.

Gwrandewais yn ofalus ar Mark Isherwood. Flynyddoedd lawer yn ôl, bydd yr Aelodau'n cofio Steve Wright pan oedd ar Radio 1. Roedd ganddo gymeriad o'r enw Mr Angry o Purley, a oedd yn rhywun a oedd yn dechrau’n dawel ac yna'n cynddeiriogi, bron yn tagu ar ei gynddaredd ei hun. Wel, fe wnaeth ef hynny eto heddiw. Mae ef, wedi'r cyfan, yn rhywun yn y Siambr hon a’n disgrifiodd ni unwaith ar y meinciau hyn fel 'ffasgwyr adain chwith'. Felly, rwy’n cofio’r ymadrodd hwnnw. Ond rhaid i mi ddweud wrtho, mae'n sôn am gynhwysiant—am flynyddoedd roedd gan ei blaid ef Ysgrifenyddion Gwladol Cymru nad oedd hyd yn oed yn cynrychioli etholaethau Cymreig. Ni fyddwn yn cymryd gwersi gan y blaid Geidwadol am gynhwysiant pan oedd ganddynt bobl yn ein cynrychioli nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â phobl Cymru. Diolch byth, mae’r dyddiau hynny wedi newid.

Gwrandewais ar yr hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud ac rwy’n meddwl fy mod wedi delio â hynny o ran yr hyn a ddywedodd am agosrwydd canlyniad y refferendwm. Ond mae'n rhaid i ni ddeall y dywedir bod yna gyfleoedd. Dydyn nhw ddim yn amlwg eto—ddim yn amlwg eto. Nid wyf wedi clywed dim yn y Siambr hon sy'n cyflwyno eu hunain fel cyfleoedd. Rydym yn gwybod bod yna heriau. Iawn, dyna beth mae pobl Cymru wedi’i gyflwyno a dyna beth y mae pobl Prydain wedi’i gyflwyno; mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r gwaith. Ond mae'n hynod o bwysig, fel yr wyf wedi dweud, i’r ymgyrchwyr ‘gadael’ feddwl am syniad o sut y maent yn credu y bydd y DU yn edrych. Pa fath o berthynas sydd gennym â’r UE? Pa fath o berthynas sydd gennym ar lwyfan y byd? Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir— [Torri ar draws.] —mewn eiliad. Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir, yna bydd y bwlch hwnnw yn cael ei lenwi gan y rhai sydd yn fwy eithafol.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy’n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed gan David Rowlands yn gynharach. A ydych yn rhannu fy mhryder ein bod yn cael digon o drafferth cael yr arian sy’n ddyledus i ni allan o'r Trysorlys beth bynnag, ac yr ydym wedi gwneud ers 1999 oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett wedi gweithio dros y cyfnod hwnnw, felly, pan ddaw at gael arian ychwanegol o'r Trysorlys i gymryd lle'r arian yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd o Frwsel, bydd honno’n dasg wirionedd heriol a does dim sicrwydd ein bod yn mynd i gael hynny, a dyna pam mae angen y fframwaith cyllidol arnom i weithredu?

Mae croeso i'r Aelod ar y meinciau hyn fynegi’i farn bob amser. Ond mae'n iawn—mae’n iawn. Gan y bydd yr Aelodau'n gwybod bod cael arian allan o'r Trysorlys, tegwch, fformiwla Barnett, toll teithwyr awyr—yr ateb oedd 'na' bob amser, oherwydd nid yw pobl Cymru a’u barn yn bwysig yn ôl pob golwg. Wel, mae’n rhaid i hynny newid. Mae eraill wedi ei ddweud yn y Siambr hon a byddaf yn ailadrodd unwaith eto: ein harian ni yw e ac mae angen iddo ddod i Gymru er mwyn i’r ddeddfwrfa hon benderfynu sut y caiff yr arian ei ddosbarthu. Ni fydd unrhyw beth arall yn dderbyniol.

Felly, rydym yn wynebu byd gwahanol, math gwahanol o wleidyddiaeth, a byd ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas â’r UE. Nid ydym yn gwybod sut fydd y DU, os yw'n bodoli, yn edrych dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yr hyn sy'n hynod o bwysig, yn fy marn i, i bob un ohonom yn y Siambr hon, yw darparu atebion. Efallai na fyddant yn atebion y byddwn ni i gyd yn cytuno arnynt, ond, os byddwn yn methu â darparu gweledigaeth ar gyfer ffordd ymlaen, pa bynnag wahaniaethau sydd rhwng y gwahanol weledigaethau, yna bydd y bwlch yn cael ei lenwi gan y rhai y mae eu barn yn llawer mwy eithafol.  Rydym weithiau yn credu na allai’r 1930au a'r amodau hynny fyth ddychwelyd, ond dydw i ddim yn argyhoeddedig. Felly, mae'n bwysig i wleidyddion democrataidd wneud yn siŵr eu bod yn adennill hyder y cyhoedd, adennill ymddiriedaeth y cyhoedd, a gwneud yn siŵr bod gennym ffyniant, cyfiawnder a thegwch i'n cenedl.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rydym yn symud nawr i eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy’n galw ar Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud sawl newid i fusnes yr wythnos hon mewn ymateb i ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cafodd y datganiad ar gyfnod 1 gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig ddoe. Yn yr un modd, bydd y datganiadau llafar ar gyrff llywodraethu ysgolion, rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol, a'r strategaeth gwaith ffyrdd a gwaith stryd yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae’r ddadl ynglŷn ag ailenwi'r Cynulliad wedi ei gohirio tan yr wythnos nesaf. Bydd y Prif Weinidog, er hynny, yn nodi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn datganiad llafar y prynhawn yma. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi trefnu nifer o gynigion trefniadol yn ymwneud â phwyllgorau'r Cynulliad. Mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Rydym newydd gael dechrau trafodaeth bwysig iawn ar y penderfyniad tyngedfennol a brawychus a wnaed ddydd Iau diwethaf. Tybed a yw'n bosibl, cyn toriad yr haf, cynnwys tair dadl arall ynglŷn â meysydd penodol sy'n deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? Un ohonynt yw dyfodol ein pysgodfeydd, a sut y gallwn eu hamddiffyn yn wyneb y ffaith nad oes gennym ond un cwch ar hyn o bryd i amddiffyn ein harfordir cyfan.

Yn ail, y goblygiadau i bob un o’n prifysgolion o ganlyniad i’r posibilrwydd o golli cyllid Horizon 2020—er enghraifft yr ymchwil pwysig sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i’r hyn sy’n achosi dementia, salwch deubegynol a chlefydau pwysig eraill sy'n gysylltiedig â’r ffordd y mae’r ymennydd yn gweithio, a’r ffaith bod y rhain yn amlwg yn glefydau cyffredinol, ac mae angen rhannu’r canlyniadau rhwng yr holl genhedloedd. Felly, pwysigrwydd gallu, gobeithio, cynnal yr arweinyddiaeth honno ar draws Ewrop—yr arweinyddiaeth a’r cydweithio—a sut y gallwn wneud hynny wrth inni fwrw ymlaen â’r trafodaethau hyn.

Mae’r trydydd yn ymwneud â dyfodol ein diwydiant ffermio, yng ngoleuni'r ffaith ein bod yn dal i fewnforio 40 y cant o'n bwyd, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu yn sgil y gostyngiad aruthrol yng ngwerth y bunt yn erbyn arian gwledydd eraill, a pha gyfleoedd a all fod ar gael i ffermwyr yn sgil y bygythiad hwn er mwyn cynyddu cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth fel nad oes yn rhaid wrth gymaint o fwyd drud wedi’i fewnforio.

Diolch ichi, Jenny Rathbone. Wrth gwrs, rydym newydd gael dadl—dadl lawn iawn—yn sgil y refferendwm, a gwnaeth y Prif Weinidog ddau ddatganiad ddydd Gwener ac, yn wir, unwaith eto ddoe, yn dilyn cyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru, yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Fel yr ydych yn amlwg yn gwybod, ac fel y trafodwyd y prynhawn yma, bydd yn cymryd amser i brosesu goblygiadau canlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni gydnabod—mae hyn yn arbennig o bwysig i'ch cwestiynau—nad oes dim newid yn debygol o ddigwydd yn syth o safbwynt y gofynion rheoleiddio neu fuddsoddiadau a chyllid yr UE. Er enghraifft, mae materion fel y cynllun taliadau sylfaenol, buddsoddi, contractau cynllun Glastir—cânt eu hanrhydeddu—a rowndiau grant y Cynllun Datblygu Gwledig, sydd eisoes ar agor ac a fydd yn parhau. Felly, wrth gwrs, bydd gwybodaeth ar gael a bydd cyfleoedd i gael eglurhad pellach trwy ddatganiad a dadl, rwyf yn siŵr.

A gaf i ddiolch i’r rheolwr busnes am ei datganiad a diolch am newid busnes y Llywodraeth er mwyn caniatáu inni drafod heddiw ganlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf? Mae’n siŵr bod Aelodau yn parchu ac yn ddiolchgar am hynny. Oherwydd hynny, rydych chi wedi gohirio y ddadl roeddech chi am ei thrafod ynglŷn ag ailenwi’r Siambr—dim y Siambr; mae’r Siambr eisoes yn enw yn y Senedd—ailenwi’r sefydliad yn ‘Senedd Cymru’. A fedrwch chi gadarnhau, pan rydych chi’n dod nôl at y cynnig hwnnw, y byddwch wedi trafod ac wedi cymryd i ystyriaeth rai o’r gwelliannau a oedd eisoes yn cael eu trafod wrth i’r cynnig gael ei osod ar gyfer yr wythnos hon, ac felly y bydd hynny wedi symud ymlaen rhywfaint cyn trafod y cynnig yn enw’r Llywodraeth?

Ac yn ail, fe hoffwn i jest godi dau neu dri o bethau sydd yn deillio o’r drafodaeth rydym wedi ei chael heddiw ynglŷn â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. A oes modd, os gwelwch yn dda, felly, gael datganiad yn weddol o glou—yn sicr cyn yr haf—ar y ffordd mae’r Llywodraeth yn ei gweld ymlaen ar gyfer perthynas y farchnad sengl a’r farchnad rydd—y ddwy berthynas bosibl i Gymru—y tu fewn i’r sefyllfa yma. Rwyf wedi gofyn eisoes i’r Prif Weinidog ynglŷn â lle rwy’n dod ohono fel aelod o’r ardal economaidd Ewropeaidd, ond byddai’n dda iawn cael datganiad ffurfiol gan y Llywodraeth ynglŷn â pha safiad mae’r Llywodraeth yn ei gymryd wrth inni fynd mewn i’r broses o negodi i adael yr Undeb Ewropeaidd, achos nid oes yr un o’r cwestiynau yma wedi eu hateb yn ystod yr awr a hanner diwethaf, yn sicr gan y bobl a oedd am adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yr ail ran o hynny yw: a oes modd cael datganiad, efallai gennych chi fel y prif reolwr busnes, ynglŷn â’r ffordd y gall y Cynulliad cyfan fod yn rhan o’r trafodaethau hynny? Eto, dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau ei fod am weld pob plaid yn cymryd rhan yn y broses yna. Ond er bod gennym nes ymlaen heddiw ffordd o sefydlu pwyllgorau, efallai y dylem ni ofyn a oes angen rhyw ffordd fwy gwleidyddol, fwy pleidiol os liciwch chi, o ddod â phawb at ei gilydd er mwyn bod yn rhan o’r broses yna. A ydych chi wedi ffurfio barn eisoes, ac a oes modd cael datganiad yn gosod allan y ffordd rydych chi’n gweld hynny yn gweithio?

Y pwynt olaf hoffwn ei godi gyda chi yw’r un sy’n deillio’n uniongyrchol o’r profiad mae’n siŵr mae pob un ohonom yn ei gael ar hyn o bryd. Bûm mewn cyfarfod ddoe o’r fforwm camlesi yn y Drenewydd, lle mae yna gynllun i adfer yr hen gamlas drwy’r Drenewydd. Ac, wrth gwrs, dro ar ôl tro yn ystod y drafodaeth yma, roedd pobl yn trafod eu bod nhw yn mynd am arian Ewropeaidd i wneud hyn, ac roeddwn i eisiau camu’n ôl a dweud wrth bobl ‘Does dim arian Ewropeaidd yn mynd i fod ar gael mewn dwy flynedd, neu ddwy flynedd a hanner’—beth bynnag yw hi. Ond nid yw hynny wedi treiddio drwyddo eto—nid yw wedi suddo drwyddo. Ac mae’n siŵr fod pob un ohonom ni wedi cael sgyrsiau fel hyn gyda grwpiau sydd wedi dibynnu—fe allech chi ddweud wedi gorddibynnu efallai—ond maen nhw wedi dibynnu ar arian Ewropeaidd yn y gorffennol, ac nawr maen nhw eisiau bwrw ymlaen gyda chynlluniau sydd yn dal yn bwysig i’w cymunedau nhw ac sydd yn dal yn bwysig i dwristiaeth a thyfu yr economi. A gawn ni felly ddatganiad cyn yr haf, eto gan yr Ysgrifennydd dros yr economi—datganiad cynhwysfawr yn gosod allan yr holl gynlluniau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd tu fewn i Gymru o dan arian Ewropeaidd, eu cyfnod nhw, pryd maen nhw’n debyg o ddod i ben a phryd mae disgwyl, pe bai cynllun yn cario ymlaen, i ail ffrwd gynllunio neu beth bynnag i ddechrau?

Mae eisiau i ni edrych ar hyn, rwy’n meddwl. Nes ymlaen wedyn, gallai fynd i bwyllgor a chael ei drafod yn iawn. Ond mae wir eisiau edrych a ‘scope-io’ effaith y ffaith y bydd y cronfeydd strwythurol a’r arian ESF yn dod i ben. Mae eisiau ‘scope-io’ hynny yn ofalus iawn, a byddai datganiad cynhwysfawr jest yn gosod allan er mwyn i edrych arno fe yn ffordd i bobl sylwi ar y broses yma, ac yn ail, wrth gwrs, wrth i ni ddechrau edrych ar y ffordd rydym yn negodi hynny, a’r ffordd rydym ni wedyn yn rhoi pwysau ar y bobl wnaeth ein harwain ni i’r sefyllfa yma i ddiogelu fod pob ceiniog yn dod i Gymru.

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Credaf fod y chwe blaenoriaeth a nodwyd gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ddydd Gwener—y chwe blaenoriaeth hynny, unwaith eto, yw diogelu swyddi, chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ynghylch y DU yn gadael yr UE—yn bwysig iawn, fel y dywedasoch—sicrhau bod y DU yn dal i allu bod yn rhan o’r farchnad sengl, cyd-drafod parhau i fod yn rhan o raglenni'r UE tan ddiwedd 2020, ac, wrth gwrs, gorfod gwneud y gwaith hwnnw yn awr, mewn ymateb i'ch cwestiwn olaf, er mwyn asesu beth mae hynny'n ei olygu o ran prosiectau sy’n ystyried ffordd ymlaen, nid dim ond—. Soniais wrth ymateb i Jenny Rathbone, am y rhaglen datblygu gwledig, a'r ffaith bod y cylch ceisiadau, wrth gwrs, wedi agor, ac rwyf yn siŵr bod eich etholwyr yn gofyn yr un cwestiwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, sy’n amlwg yn gyfrifol o ran y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, yn asesu’r effeithiau hyn yn ofalus. Felly, yn amlwg, mae'r cyfrifoldebau sydd bellach yn cael eu rhannu gan Ysgrifenyddion y Cabinet ac yn cael eu harwain gan y Prif Weinidog, yn cael eu nodi’n glir o ran y ffordd ymlaen, ond mae'n rhaid inni, fel y dywedwch, sicrhau ein bod yn galluogi’r Cynulliad—y Cynulliad llawn, a chydnabod y pwyntiau pwysig hynny ynglŷn ag ymgysylltiad trawsbleidiol nawr—. Cyn bo hir, gobeithio, byddwn yn sefydlu ein pwyllgorau polisi a deddfwriaeth a bydd pwyllgor, yr wyf yn awr am ei alw’n seithfed pwyllgor polisi a deddfwriaeth—yr oeddem bob amser wedi rhagweld, beth bynnag fyddai canlyniad y refferendwm, y byddai angen iddo ystyried y sefyllfa ar ôl refferendwm yr UE ac ymgynghori ynghylch yr effeithiau—yn awr yn gallu nid yn unig ethol Cadeirydd a darparu aelodau trawsbleidiol, ond yn amlwg bydd angen iddo ddechrau arni a chwrdd cyn diwedd y sesiwn hon gyda rhaglen i mewn i’r hydref.

Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu, ac efallai y bydd y pwyllgor yn dymuno ymgysylltu nid yn unig o ran y Cynulliad a phryderon trawsbleidiol, ond y tu allan i'r Cynulliad hefyd ac wrth gwrs â’r rhanddeiliaid yn y cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â hwy, ond hefyd edrych ar swyddogaeth bwysig Tŷ Cymru. Wrth gwrs, mae gennym eisoes, fel y mae'r Prif Weinidog wedi’i ddweud—. Mae’n sicrhau bod y tîm cyd-drafod hwnnw yno ym Mrwsel, a bydd angen, wrth gwrs, ymgysylltu’n gryf i sicrhau bod y Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn deall pob cam ac yn cael gwybodaeth lawn ar bob cam, ond hefyd yn cyfrannu.

A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag ardrethi busnes? Yn sicr, rwyf wedi ymweld â nifer o fusnesau bach dros yr wythnos ddiwethaf ac mae llawer iawn o ansicrwydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd busnesau ryddhad ardrethi gwerth £1,500, ac yna y flwyddyn flaenorol roedd yn £1,000. Yn amlwg, mae angen i fusnesau wybod a ydynt am dderbyn y gyfradd honno yn y flwyddyn ariannol hon. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ar gyfer ardrethi busnes, felly byddwn yn awyddus iawn pe gallem gael datganiad yn amlinellu beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad, ond yn enwedig ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar fusnesau yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod.

Wel, wrth gwrs, Russell George, mae ansicrwydd mawr yn sgil y refferendwm a'r bleidlais i ‘adael’ yr wythnos diwethaf. Mae ansicrwydd aruthrol a fynegwyd, wrth gwrs, gan y canghellor heddiw, a fydd heb os yn effeithio ar Lywodraeth Cymru a chyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion lle rydym wedi gwneud ymrwymiadau clir ac wedi cyflawni’r ymrwymiadau clir hynny fel Llywodraeth Cymru, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Ond yr ansicrwydd sydd wedi’i greu ers dydd Iau diwethaf a’r canlyniad fore Gwener sydd bellach yn llywio ein hystyriaethau. Ond mae angen i fusnesau fod yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru’n eu cefnogi ac yn arbennig yn sicrhau ein bod yn gallu eu diogelu. Efallai fod angen inni roi sylw i rai o'r pwyntiau hynny a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn â lliniaru o ran effeithiau negyddol canlyniadau’r refferendwm.

Diolch i'r Gweinidog busnes am ei datganiad. Rwyf yn ailadrodd rhai o'r pethau yr ydym eisoes wedi sôn amdanynt yn y ddadl, ond credaf fod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd, er y gallai llawer ohonom, yn fy marn i, yn ôl pob tebyg fod wedi gallu rhagweld nifer o oblygiadau pleidlais 'gadael' yn refferendwm yr UE, gan gynnwys y cynnydd brawychus a ffiaidd mewn ymosodiadau hiliol yr ydym wedi eu gweld ledled y DU ers y bleidlais honno—. Credaf fod nifer y digwyddiadau a gofnodwyd wedi cynyddu tua 57 y cant ers dydd Iau ar draws y DU a hyd yn oed yma yng Nghymru. Croesewir y ffaith bod comisiynwyr yr heddlu a throseddu wedi cyhoeddi datganiadau’n condemnio’r ymosodiadau hyn ac yn annog pawb i roi gwybod ar unwaith am unrhyw achosion o gam-drin hiliol y maent wedi’u dioddef neu wedi bod yn dyst iddynt. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli eto, mae mynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i bob un o'n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog busnes ynglŷn ag unrhyw fesurau sy'n cael eu hystyried i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac i wrthwynebu unrhyw ddiwylliant o gasineb ac anoddefgarwch?

Wel, rwyf yn falch hefyd ein bod wedi cael cyfle arall, mewn ymateb i'ch cwestiwn ar y datganiad busnes y prynhawn yma, i’w gwneud yn glir iawn unwaith eto fod mynd i'r afael â throseddau casineb yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Ni fydd hiliaeth yn cael ei goddef yma yng Nghymru. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad cryf iawn ddoe a chafodd ei ailadrodd eto y prynhawn yma. Mae Gweinidogion wedi ei gwneud yn glir fod hiliaeth yn gwbl annerbyniol ac maent yn cydnabod, fel yr ydym i gyd, yr awyrgylch hyll sydd wedi’i greu yn dilyn refferendwm yr UE. Felly, mae'n rhaid inni, unwaith eto, sicrhau ein bod yn lledaenu’r neges fod yn rhaid i holl ddioddefwyr troseddau neu ddigwyddiadau casineb roi gwybod amdanynt. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at ein comisiynwyr heddlu a throseddu i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y gymuned. Ond hefyd, wrth gwrs, mae’r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn rhoi arweiniad clir ar hyn ac mae wedi cyhoeddi datganiad pwysig iawn hefyd ddoe ynglŷn ag Wythnos y Ffoaduriaid. A chydnabod hefyd ein bod yn ariannu'r Ganolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol ar gyfer Troseddau Casineb trwy Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a chydnabod bod gan y rhaglen cydlyniant cymunedol genedlaethol, yr ydym yn dal i’w chefnogi, gydlynwyr ar draws Cymru, yn monitro tensiynau ac yn gweithio'n lleol gyda phartneriaid i fynd i'r afael â throseddau casineb—mae cyfarfodydd yr wythnos hon.

Ond rwyf hefyd yn sylwi ar rywbeth yr oedd yn dda iawn ei gydnabod, sef bod Cymdeithas Pwyliaid Cymru, yn Llanelli, a dweud y gwir wedi cael llawer iawn o gefnogaeth a chydnabyddiaeth yno fod cefnogaeth gref iawn—'Diolch am fod yma bryd hynny...dal yn falch eich bod yma yn awr #PolesinUk '.

Tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynglŷn â lefelau diogelwch yn Tata Steel? Dywedaf hyn am fy mod wedi clywed rhai pryderon, yn y lle cyntaf gan etholwyr, o ran agweddau ar ddiogelwch gyda'r swyddi sy’n cael eu torri yno, ond mae wedi troi mewn gwirionedd yn ffrydlif gan etholwyr sy'n gweithio yn Tata Steel. Tybed a gawn ni ddatganiad i ddeall a yw'r Llywodraeth wedi bod yn siarad ag undebau llafur am y sefyllfa? Mae gennyf restr o gwynion, os yw'r Gweinidog neu un o'i chydweithwyr yn dymuno ei gweld, sy'n amlygu’r rheswm pam rwyf yn codi hyn yma heddiw yn y modd hwn.

Mae’r ail fater yr wyf am ei godi yn ymwneud â’r cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu imi gael ateb y naill ffordd na’r llall gennych o ran rhoi gwybod a gawn ni ddatganiad am awtistiaeth ac anghenion ôl-addysgol y rhai sydd wedi gadael yr ysgol. Mae'n sefyllfa frys. Roedd gan Leighton Andrews, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog addysg, dasglu yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol, ac mae llawer iawn, iawn o deuluoedd yn fy ardal i, ac ar draws Cymru rwyf yn siŵr, sy'n wynebu dyfodol ansicr pan fydd eu plant yn gadael yr ysgol—diffyg gwasanaethau, diffyg cyfeiriad a diffyg llwybr clir. Felly, byddwn yn pwyso, unwaith eto am ddatganiad neu ddadl am y mater penodol hwnnw cyn i'n tymor ddod i ben a chyn i dymor yr ysgol ddod i ben.

Diolch ichi, Bethan Jenkins. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Tata Steel wedi datgan mai ei brif flaenoriaeth yw diogelwch ac iechyd pawb sy'n gweithio yn y grŵp a chyda’r grŵp. Mae'n safle COMAH 1—rheoliadau rheoli peryglon damweiniau mawr; caiff ei reoleiddio’n drwm, wrth gwrs, fel y byddwch yn cydnabod, o ran iechyd a diogelwch. Ond fy nealltwriaeth i yw bod yr undebau wedi bod yn trafod y mater hwn gyda Tata Steel—mae’n rhwymedigaeth statudol arno i gydymffurfio â’r rheoliadau a'r safonau hynny a osodwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac maent yn trafod y materion hyn â’r undebau.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs clywais eich cwestiwn yr wythnos diwethaf. Holais ymhellach i weld beth yw’r ffordd fwyaf priodol y gallwn ymateb ac rwyf yn cydnabod hefyd, wrth gwrs, fod mater penodol o ran un agwedd ar yr ymatebion hollbwysig ar draws y Llywodraeth, nid dim ond o ran addysg, ond o ran iechyd a lles yn ogystal, wrth edrych ar ein hymateb i awtistiaeth.

Credaf fod Bethan wedi codi pwynt allweddol ynglŷn â phontio i bobl ag awtistiaeth ac mae'n broblem hirsefydlog —rhywbeth yr wyf wedi cael llawer o waith achos yn ei gylch, ond hefyd mae wedi codi dro ar ôl tro gyda grwpiau awtistiaeth trawsbleidiol dros sawl Cynulliad. Ar y thema honno, galwaf am ddatganiad ynglŷn â chynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth ar ei newydd wedd a'r cynigion ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol i Gymru. Cafodd y rhain eu lansio ar ddydd Gwener ychydig wythnosau cyn diddymu’r Cynulliad diwethaf, ac nid yw’r Cynulliad hwn wedi cael cyfle eto i drafod y drafft na'r ymgynghoriad a lansiwyd yn ei sgil, nac i graffu arnynt.

Er bod integreiddio iechyd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau cymdeithasol i’w groesawu, mae pryder o hyd yn y gymuned awtistiaeth fod y diffyg cefnogaeth statudol yn golygu efallai na fydd yn sicrhau’r newid yr ydym i gyd am ei weld ar gyfer plant, oedolion a'u teuluoedd ar y sbectrwm awtistiaeth; pryder ynghylch y £6 miliwn dros dair blynedd—mae hynny’n £2 filiwn bob blwyddyn; ai arian newydd ydyw ynteu arian sy'n bodoli eisoes ac sy’n cael ei ailgyfeirio: nid ydym yn gwybod; pryder y bydd yr amseru’n llithro heb gyllid digonol, ac na fydd yn cyflawni, heb gefnogaeth statudol, yr addewidion y mae'n eu gwneud; a phryder hefyd na fyddai pobl, er enghraifft yn y gogledd, yn gallu elwa ar y gwasanaethau y mae'n eu cynnig tan ddiwedd 2018. Nodir hefyd fod yr adroddiad y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n bwrw ymlaen ag ef gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r gwasanaeth cenedlaethol newydd yn llawn ‘dylai’ yn hytrach na ‘rhaid’ ac y gallai hyn barhau i gael ei ddehongli'n wahanol rhwng byrddau iechyd gwahanol a diffyg manylion ynglŷn â sut y byddai byrddau iechyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae angen rhoi cyfle i’r Cynulliad graffu ar y cynnig allweddol hwn a’i drafod.

Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar Iaith Arwyddion Prydain? Efallai y bydd y Gweinidog yn gwybod bod yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth ar hyn, a bod Gogledd Iwerddon hefyd yn edrych yn agos iawn ar y ddeddfwriaeth honno yn yr Alban. Bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a’r ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn gorfodi cydraddoldeb o ran darparu gwasanaethau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, bydd mwy o alw am Iaith Arwyddion Prydain er mwyn i ddarparwyr allu gohebu a chyfathrebu â defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ar draws pob gwasanaeth: iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac fel arall, a hefyd sicrhau bod offer cyfathrebu sy'n addas i bobl fyddar ar gael ym mhob lleoliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Felly, yn y cyd-destun hwnnw —yng nghyd-destun deddfwriaeth eich Llywodraeth chi eich hun ac yng nghyd-destun y datblygiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran Iaith Arwyddion Prydain—galwaf am ddatganiad.

Diolch ichi am eich cwestiynau. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y dywedwch, roedd ymgynghoriad ar gynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn y cyfnod cyn etholiadau'r Cynulliad. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi hefyd yn ddiweddarach eleni. Dyma £6 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog i ariannu cynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd, ac mae'n hollbwysig ein bod yn symud ymlaen yn hynny o beth i ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain ar gael ac mae llawer o hynny, hefyd, wedi bod yn sgil cyfraniad y cydweithio rhwng grwpiau trawsbleidiol yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae cyfleoedd yn awr i fwrw ymlaen â hyn yn sgil ein deddfwriaeth ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar ddyfodol gwaith glo brig Nant Helen ger Ystradgynlais? Yn dilyn y cyhoeddiad fod gorsaf bŵer Aberddawan am israddio ei gweithrediadau o fis Ebrill nesaf, cyhoeddodd Celtic Energy yr wythnos diwethaf y gallai Nant Helen gael ei rhoi o'r neilltu, gan arwain at 90 o ddiswyddiadau. Ym mis Hydref, penderfynodd y cwmni roi o’r neilltu safle Selar gerllaw, lle collodd 70 o bobl eu swyddi. Fel y gwyddoch, mae hwn yn gyfnod ansicr ac ansefydlog i weithwyr ac i’r gymuned honno, a fydd yn awyddus i gael eglurder a sicrwydd yn awr.

Rwyf yn falch bod hyn wedi ei godi y prynhawn yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth, wyddoch chi, lle y mae angen ymdrin â’r ansicrwydd hwnnw. Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori ag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, a bydd Joyce Watson yn gwybod am hynny. Gallai’r ymgynghoriad hwnnw weld y gweithlu’n lleihau, ond fel yr wyf yn deall, mae cyllid adfer wedi bod yn cronni ar safle Nant Helen, a bydd yr awdurdod cynllunio lleol a’r cwmni yn gallu cadarnhau’r sefyllfa ddiweddaraf, ond rwyf ar ddeall y dylai fod modd rheoli’r gwaith o adfer y safle.

Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf neu ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cytundeb y ddinas? Gwyddom y bu cryn bryder yn dilyn canlyniad y refferendwm diweddar ynghylch y cyllid, yn enwedig y cyllid Ewropeaidd, a fydd yn mynd tuag at gytundeb y ddinas. Mae hyn yn cynnwys nifer fawr o awdurdodau lleol, yn fy ardal i ac yn ne-ddwyrain Cymru. Mae pobl yn pryderu a gwn y bydd yn rhaid aros am eglurder ynghylch ein sefyllfa o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ond credaf ei bod yn bwysig bod yr awdurdodau lleol hynny a strwythur cytundeb y ddinas yn cael rhywfaint o arweiniad gan Lywodraeth Cymru o ran yr agweddau hynny ar gytundeb y ddinas y gellir eu gweithredu yn y tymor canolig.

Wel, credaf, Nick Ramsay, ein bod yn rhannu pryderon am ragolygon a dyfodol cytundeb y ddinas, sy’n hollbwysig, a gwn fod eich awdurdod lleol yn gefnogol iawn ohono ac wedi bod yn rhan o sicrhau ein bod yn ennill ac wedi sicrhau’r cais hwnnw sy’n cynnwys y 10 awdurdod lleol. Mae hyn, wrth gwrs, hefyd yn rhywbeth lle rydym yn disgwyl am ymateb gan y Canghellor yn ogystal â’r effaith ar ôl y penderfyniad i adael yr UE, ond credaf fod yr ymrwymiad clir yn eich cyfraniad heddiw yn bwysig iawn o ran cydnabod pwysigrwydd allweddol cytundeb y ddinas i’r rhanbarth hwn, y rhanbarth yr ydych yn rhan ohono, i'n heconomi ac i les y rhanbarth hwnnw.

4. 4. Cynigion i Sefydlu Pwyllgorau

Rŷm ni’n symud nawr i’r eitem nesaf, sef y cynigion i sefydlu pwyllgorau ar gyfer y pumed Cynulliad ac rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Simon Thomas.

Cynnig NDM6034 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

Cynnig NDM6035 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

Cynnig NDM6036 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.

Cynnig NDM6037 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

Cynnig NDM6038 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol.

Cynnig NDM6039 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Cynnig NDM6040 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Cynnig NDM6041 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Cynnig NDM6042 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Cynnig NDM6043 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Cynnig i Newid Enw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Dros Dro

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cynnig i newid enw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Dros Dro. Rwy’n galw eto ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6044 Elin Jones

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar Faterion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 17 mewn perthynas â Gweithrediad Pwyllgorau

Eitem 6 yw y cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17 mewn perthynas â gweithrediad pwyllgorau. Rwy’n galw eto ar Simon Thomas i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6047 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17—Gweithredu Pwyllgorau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig, felly, yw i ddiwygio Rheol Sefydlog 17. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. 7. Datganiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Mae hynny yn caniatáu inni symud ymlaen i eitem 7 ar yr agenda: datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rwy’n galw ar Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi blwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Yn y tymor Cynulliad hwn byddaf yn gwneud datganiad blynyddol, gan nodi'r ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth yn ei chyflwyno dros y 12 mis nesaf. Mae symud o raglen bum mlynedd i raglen a datganiad blynyddol yn un cam i ddatblygu ein harferion i sicrhau eu bod yn gweddu i gyfrifoldebau seneddol y lle hwn. Fel y dywedais yn fy natganiad ar 18 Mai, ni fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Cynulliad hwn, ac rydym yn cadw at yr ymrwymiad hwn. Bydd datganiad heddiw yn hysbysu Aelodau a'r cyhoedd am y meysydd polisi cyhoeddus lle y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifrif ar ôl toriad yr haf.

Y cyntaf o'r meysydd hyn yw trethiant. Mae hyn yn cynrychioli cyfnod newydd ac arwyddocaol i ddatganoli yng Nghymru. Fel y gŵyr Aelodau, roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli pŵer i'r Cynulliad hwn i wneud deddfwriaeth sylfaenol ynglŷn â rhai trethi datganoledig. Gwnaethom osod y sylfeini gweinyddol yn y Cynulliad diwethaf gyda Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a sefydlodd Awdurdod Refeniw Cymru, sydd nawr yn y broses o gael ei greu. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno dau Fil i sefydlu'r ddwy dreth a ddatganolir i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen: treth trafodiadau tir a threth gwaredu tirlenwi ar gyfer Cymru. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, byddwn hefyd yn ceisio sefydlu rheol gyffredinol gwrth-osgoi ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru. Bydd y biliau hyn yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng trethdalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gryfhau'r cyswllt rhwng trethi a godir yng Nghymru ac arian a warir ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. O'n rhan ni, Llywodraeth Cymru fydd yn gwbl gyfrifol ac yn gwbl atebol am godi rhai trethi yng Nghymru; ni fyddwn mwyach yn dibynnu’n unig ar grant bloc Cymru a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae hynny, wrth gwrs, yn gam sylweddol ymlaen i’r genedl. Bydd gennym ymagwedd agored a thryloyw at graffu ar y ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn gwrando'n ofalus ar farn yr Aelodau a rhanddeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar am ddatganoli treth yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

Lywydd, mae’r Bil ar y dreth trafodiadau tir yn ddarn hir, technegol a chymhleth o ddeddfwriaeth. I gynorthwyo Aelodau, y sector a'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â’r Bil hwn, byddwn yn cyhoeddi drafft sydd bron yn derfynol o’r Bil cyn toriad yr haf, cyn ei gyflwyno yn yr hydref.

Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu adrannau o Ddeddf Undebau Llafur ddinistriol Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Gwrthododd y pedwerydd Cynulliad ganiatâd i Lywodraeth y DU i ddeddfu yn y meysydd hynny, ond aeth y Llywodraeth yn ei blaen i’w gorfodi ar Gymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy bartneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi dweud erioed bod rhannau sylweddol o ddeddfwriaeth y DU yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sy’n amlwg wedi eu datganoli, ac, er bod Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o gonsesiynau i sicrhau’r Ddeddf, mae rhai darpariaethau allweddol yn parhau i fod yn sylfaenol niweidiol i Gymru. Bydd ein deddfwriaeth yn ceisio datgymhwyso’r rhannau hyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.

Lywydd, i sicrhau gwelliannau i iechyd pobl, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd cyhoeddus. Er nad oedd hi’n bosibl yn y Cynulliad diwethaf i ddod i gytundeb ar ddarpariaethau sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts, roedd y Bil yn cynnwys nifer fawr o gynigion y cafwyd consensws trawsbleidiol arnynt. Byddwn, felly, yn cyflwyno’r Bil iechyd cyhoeddus fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 yn y Cynulliad diwethaf, ond heb y cyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc, o'u genedigaeth hyd at 25 mlwydd oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Buom yn ymgynghori ynghylch Bil drafft anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg y llynedd. Rydym wedi gwrando ar yr adborth gan randdeiliaid, ac rydym wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus. Cyflwyno'r Bil fydd y cam nesaf yn y broses o ddiwygio'r system bresennol a chyflawni gwelliannau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael. Mae’n rhaid inni warchod ein stoc tai cymdeithasol yng Nghymru a sicrhau eu bod ar gael i bobl sydd eu hangen ac nad ydynt yn gallu cael llety drwy fod yn berchenogion tŷ neu drwy’r sector rhentu preifat. Mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond mae’n rhaid inni hefyd ymdrin â'r pwysau ar ein stoc tai cymdeithasol presennol. Bydd y Bil hwn yn ceisio diogelu’r stoc hwnnw rhag gostyngiadau pellach. Y gyfatebiaeth yr wyf wedi’i defnyddio o'r blaen yw bod hyn fel ceisio llenwi'r bath â’r plwg allan.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, byddwn yn cyflwyno chwe Bil. Mae ein cynigion deddfwriaethol yn cynnwys sefydlu trethi datganoledig i Gymru, gwella iechyd y cyhoedd, a diwygio cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau yn y Senedd hon a gyda chymunedau a rhanddeiliaid, wrth inni ddatblygu ein rhaglen ddeddfwriaethol eleni, i sicrhau bod y deddfau a wnawn yng Nghymru cystal ag y gallant fod ar gyfer y bobl ledled y wlad hon. Lywydd, cymeradwyaf, felly, y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.

Diolch i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Rwy’n croesawu, yn bersonol, taw datganiad blwyddyn yn unig sydd gyda ni; nid wyf yn gwybod a yw hwn yn gyfaddefiad bod y Llywodraeth flaenorol wedi gwneud gormod o ddeddfu ac efallai ddim digon o lywodraethu, ac, os gwelwn ni fwy o lywodraethu a llai o ddeddfu, efallai nad yw hynny’n beth drwg o gwbl. Ac, yn sgil y penderfyniad yr wythnos diwethaf hefyd, mae’n wir dweud y dylai’r Llywodraeth fod yn rhydd ei dwylo i ymateb i sefyllfa sy’n newid, yn hytrach na’u clymu gyda gormod o ddeddfu.

A gaf i jest troi, yn fras iawn, at y chwe Deddf y mae’r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu? Bydd Plaid Cymru yn croesawu’r Deddfau hyn o ran egwyddor. Wrth gwrs, nid ydym ni’n gwybod eto a fyddwn ni’n cefnogi pob un o ran y manylion—fe welsom ni hynny gyda’r Bil iechyd cyhoeddus y tro diwethaf, ac rwyf yn falch bod hwnnw’n dod yn ôl ar ffurf sydd yn edrych yn fwy derbyniol, yn sicr, i Blaid Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod yna ddau Fil yn ymwneud â threthi a datganoli trethi, ac, yn bwysig iawn yn y cyd-destun hwnnw, eich bod chi am sefydlu rheol i osgoi osgoi trethi, os liciwch chi, fel rhan o’r ffordd rŷm ni’n mynd o gwmpas deddfu ym maes trethi. Rwy’n meddwl bod honno’n egwyddor bwysig i’w sefydlu ar y cychwyn.

Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith, yn wyneb y ffaith bod y Bil trafodiadau tir yn debygol o fod yn hynod gymhleth, ei fod yn cael ei gyhoeddi ar ffurf drafft, a fydd yn caniatáu i bwy bynnag bwyllgor graffu arno ac ymgynghori ymhellach yn ei gylch yn ogystal.

Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi’r egwyddor o sicrhau nad yw’r Ddeddf Undebau Llafur yn amharu ar y ffordd rŷm ni’n trin y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn chwilio am gyfle i ddelio â’r broblem sydd yn llethu ein cymunedau o waith ‘zero hours’. Byddwn ni’n edrych eto am gyfle, os oes modd, i godi hynny.

A gaf i jest codi cwpl o bethau gyda’r Prif Weinidog nad yw wedi’u cynnwys yn y datganiad? Rwy’n deall mai datganiad blwyddyn yw hyn. Gan ein bod ni’n croesawu’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, mae yn gofyn y cwestiwn o beth mae’r Llywodraeth am ei wneud yn ehangach ym maes awtistiaeth, sydd yn mynd, wrth gwrs, i mewn i oedolion hefyd. Rŷm ni’n gwybod bod yna gynllun gweithredol newydd gan y Llywodraeth, ond rwy’n sicr y dylem ni weld deddfu yn y maes yma yn ystod y Cynulliad hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu cadarnhau mai dyna yw’r bwriad ganddo yntau. Yn yr un modd, er nad yw’r Ddeddf yma ar gyfer ymdrin â chosb gorfforol i blant yn yr un ffordd ag ymdrin â phlant ac oedolion yn deg ac yn gyfiawn o fewn y gyfraith—bod modd i’r Llywodraeth gadarnhau bod hynny hefyd yn fwriad ganddyn nhw yn ystod y tymor hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nid oes sôn yn y datganiad ynglŷn ag unrhyw ddeddfu bydd ei angen yn sgil adroddiad Diamond. A ydy hynny oherwydd bod y Prif Weinidog yn teimlo bod unrhyw beth sy’n deillio o Diamond yn debygol o ddigwydd yn yr ail flwyddyn ddeddfwriaethol, fel petai, neu a oes gyda fe ryw ffordd arall o ddelio â Diamond? Ac yn sgil y ffaith bod penderfyniad i symud allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae yna lwyth o ddeddfau Ewropeaidd—ni wnaf eu henwi nhw i gyd, Ddirprwy Lywydd, ond, ym maes amgylchedd yn unig, mae yna dros 200 o wahanol ddeddfau sydd yn rhan, bellach, o’r ffordd rŷm ni’n ymdrin â’r amgylchedd yng Nghymru, ac nid yw rhai o’r cyfarwyddiadau hynod bwysig ynglŷn â chynefinoedd, gwastraff a dŵr yn rhywbeth sydd wedi cael ei dodi arnom ni gan Frwsel, ond rhywbeth rŷm ni wedi’i groesawu a gweithio gyda fe fel ffordd o gryfhau deddfwriaeth amgylcheddol yma yng Nghymru. Ym mha ffordd ydych chi’n rhagweld y byddwn ni’n gallu ymdopi a delio â hynny wrth i ni symud i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond am gadw, does bosib, fel Cynulliad cyfan, rhai o’r pethau yma sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth amddiffyn ein hamgylchedd ni ac amddiffyn bioamrywiaeth yn ogystal?

Y cwestiwn olaf sy’n deillio yn sgil hynny yw: beth fydd y modd o ddelio â’r newidiadau yn CAP, y taliadau ffermwyr, sy’n deillio eto o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac a yw’r Llywodraeth—os nid yn y flwyddyn nesaf—yn teimlo bod angen deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i ddelio â’r mater yma?

A gaf i ddiolch i’r Aelod am y sylwadau hynny? I ddechrau gydag awtistiaeth, mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y pwyllgor cydweithio, sef ‘liaison’, ynglŷn â gweld ym mha ffordd y gallwn ni ddatblygu deddfwriaeth ar awtistiaeth, yn enwedig a oes yna fodd sicrhau bod y cynllun gweithredol yn cael ei gryfhau trwy ddod yn statudol yn y pen draw. Mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ddelio ag ef trwy’r broses honno.

Ynglŷn â chosb corfforol, mae hwn yn rhywbeth sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mi oedd yna rywbeth ym maniffesto Plaid Lafur, sef addewid i symud hwn ymlaen, a bydd hynny yn digwydd, ond nid wrth gwrs yn y flwyddyn hon, ond mae’r gwaith yn dechrau ynglŷn â pholisi a sicrhau pa fath o ddeddfwriaeth fyddai ei heisiau. Ynglŷn â Diamond, wel, mae Diamond wrth gwrs yn rhywbeth a fydd yn weddol newydd. Nid wyf yn meddwl y bydd yna ddeddfwriaeth yn y flwyddyn hon, ond efallai y bydd yna newidiadau yn sgil beth y mae Diamond wedi ei ddweud. Mae hwn yn rhywbeth i ni, wrth gwrs, ei ystyried dros y misoedd nesaf.

Ynglŷn â’r amgylchedd, wrth gwrs, un o’r pethau nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd i gyfraith Ewrop unwaith y byddwn ni’n gadael Ewrop. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, ynglŷn â model Gweriniaeth Iwerddon neu Wladwriaeth Rydd Iwerddon, fel yn y 1920au, beth ddwedon nhw bryd hynny oedd y byddai’r ddeddfwriaeth a’r gyfraith yn sefyll yn gwmws fel yr oedd nes ei bod yn newid. Beth mae’n rhaid i ni ei ystyried yn ystod y broses yw a fydd yn rhaid ailddeddfu ar bopeth unwaith eto, neu a fydd popeth yn sefyll yn ei le, sy’n rhoi mwy o gyfle inni, wedyn, ystyried a oes eisiau, mi ddwedwn i, cael rhyw fath o Ddeddf gynhwysfawr er mwyn sicrhau bod gyda ni Ddeddf sy’n tynnu popeth yn y byd amgylcheddol i mewn i un Ddeddf. Mae hynny’n waith mawr, wrth gwrs—rhywbeth, efallai, i Gomisiwn y Gyfraith ei ystyried yn y pen draw—ond beth nad yw’n glir ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd unwaith y byddwn ni’n gadael. A yw’n parhau, neu a yw popeth yn cwympo? Mae’n rhaid inni fod yn barod am hynny.

Ynglŷn â’r polisi cyffredinol ar amaeth—y CAP, wrth gwrs—mae yna gyfle inni siarad ac i drafod gyda’r undebau ffermio ynglŷn â pha fath o bolisi amaethyddol Cymreig y dylwn ni ei gael yn y pen draw. Sut fydd y taliadau’n edrych? Mae polisi yn un peth, mae arian yn rhywbeth arall, wrth gwrs, ac mae’n rhaid sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei roi i ffermwyr Cymru ar hyn o bryd ar gael yn y pen draw o’r crochan Prydeinig, os gallaf ei alw’n hynny.

Felly, nid yw’n amlwg a fydd eisiau deddfwriaeth sylfaenol ar y CAP—rydym yn ystyried hynny—ond mae’r broses o drafod hyn gyda’r undebau yn dechrau wythnos nesaf. Rwy’n gwybod bod yna gyfarfod ddydd Llun er mwyn dechrau’r broses hon o ddatblygu polisi amaethyddol Cymreig.

Brif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os caf hefyd ategu’r teimladau am y Bil awtistiaeth, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi eich holi amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i weld beth yn union yw’r ffordd fwyaf priodol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n credu bod hwn yn un maes lle mae gennym gonsensws trawsbleidiol, a byddwn yn croesawu diweddariadau rheolaidd gan y Llywodraeth ynghylch y cynnydd y maent yn ei wneud.

Byddwn hefyd yn gofyn i'r Prif Weinidog—. Rwy’n gwerthfawrogi, yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd ddydd Iau ac roedd y pwyntiau a wnaethoch yn y datganiad cynharach yn nodi’n glir y bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yn anodd ei siapio a’i llunio, wrth symud ymlaen, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch pa gwmpas yn union y gallai fod angen i'r rhaglen ddeddfwriaethol ei ystyried a sut y gallai fod angen iddi addasu deddfwriaeth, os o gwbl, yma yng Nghymru gan ddibynnu ar sut aiff y trafodaethau. Ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r Cynulliad diwethaf a sut, am gyfnod o 18 mis ar ei ddechrau, roedd deddfwriaeth yn araf iawn i ddod drwy'r Cynulliad hwn. Rydych wedi nodi bod chwe Bil, yn amlwg, yn mynd i ddod drwodd yn y sesiwn deddfwriaethol hwn, ond gwnaethom daro’r wal frics honno, fel pob deddfwrfa pan fo eu tymor ar ben, a chafodd y Bil iechyd y cyhoedd ei golli.

Rwy'n meddwl bod pawb wedi difaru colli’r Bil iechyd y cyhoedd, oherwydd roedd llawer o bethau da yn y Bil iechyd y cyhoedd hwnnw, a phe byddai’r Llywodraeth wedi gwrando ar y sylwadau a wnaethpwyd o sawl cwr—ac rwy’n cynnwys fy mhlaid i yn hynny—ynglŷn ag e-sigaréts, gallai’r ddeddfwriaeth honno fod ar y llyfr statud erbyn hyn ac ar gael i weithwyr proffesiynol ei defnyddio i wella iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn gobeithio bod y teimlad yr ydych wedi’i fynegi yn y datganiad hwn am wrando, ac am weithio gyda phleidiau yn y sefydliad hwn a hefyd gyda phobl sy'n ymateb i ymgynghoriadau, yn real iawn o fewn yr amserlen ddeddfwriaethol hon yr ydym yn sôn amdani, oherwydd dangosodd y Bil iechyd y cyhoedd yn y sesiwn diwethaf yn glir y niwed y gellir ei wneud pan, mewn gwirionedd, nad yw lobïo synhwyrol a chynigion synhwyrol yn cael eu hystyried, a chafodd y Bil hwnnw ei golli.

Byddwn yn gofyn: a ydych yn rhagweld y bydd y Bil iechyd y cyhoedd newydd sy'n dod yn union yr un fath â’r hyn oedd y Bil iechyd y cyhoedd ond heb yr e-sigaréts, ynteu a oes meysydd eraill na wnaeth y Llywodraeth eu hystyried drwy ei daith ddeddfwriaethol drwy'r cyfnod pwyllgor yn y sesiwn diwethaf, ond a oedd yn deilwng iawn ac a fyddai’n haeddu cael eu harchwilio ac efallai eu hymgorffori yn y Bil iechyd y cyhoedd yn y dyfodol? Rwy’n meddwl eich bod wedi nodi mai dim ond Bil replica a fydd, o'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog a'i Weinidog ystyried rhai o'r ymgynghoriadau ac, yn wir, rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd y tro diwethaf na wnaethant gyrraedd y Bil, oherwydd mae rhai meysydd i’w gwella yn y Bil hwnnw os gellir gwneud hynny.

Y Bil anghenion dysgu ychwanegol—roedd gennym ddarn o ddeddfwriaeth yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain yn ymgyrch etholiad y Cynulliad, ac rwy’n croesawu rhoi’r Bil hwnnw yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig fel un o’r Biliau cyntaf i ddod drwodd. Rydych chi’n sôn am sut y bydd yn creu amgylchedd newydd i wella'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol i bobl ifanc a phlant; sut yn union yr ydych chi’n gweld y ddeddfwriaeth honno’n gweithio i wneud y gwelliannau hynny, oherwydd gwir fudd deddfwriaeth yw y gellir ei deddfu ar lawr gwlad? Rydym i gyd o blaid yr egwyddor o wneud y gwelliannau hynny, ond a allech chi roi enghraifft i ni, o'r ymgynghoriadau yr ydych wedi cyfeirio atynt yma, o sut y bydd y Bil hwnnw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yma yng Nghymru? Rydym ni’n anghytuno am y ddarpariaeth undebau llafur yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Buom yn trafod hyn yn y pedwerydd Cynulliad ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei drafod yn y pumed Cynulliad, ond mae ganddo gefnogaeth ar eich meinciau, ac yn amlwg bydd ganddo gefnogaeth gan bleidiau eraill, ac felly bydd hynny'n rhan annatod o'r rhaglen ddeddfwriaethol.

Rwyf yn gresynu’r rhan ddeddfwriaethol o'r rhaglen hon am yr hawl i brynu. Rwy’n credu mai dyna un o sbardunau mwyaf cyrhaeddiad uchelgeisiol dros y 30 mlynedd diwethaf: y gallu i fod yn berchen ar eich cartref eich hun. Ac mae 138,000 o bobl wedi elwa yma yng Nghymru ar y gallu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Rydych chi’n dweud bod hyn fel llenwi'r bath â dŵr heb y plwg i mewn, ond mewn gwirionedd, os oes gennych raglen adeiladu tai sydd mewn gwirionedd yn bodloni’r galwadau sydd gan bobl i gael tai, yna'n amlwg rydych yn mynd rywfaint o’r ffordd at ddiwallu’r angen hwnnw ac ateb y galw hwnnw mewn gwirionedd. Nid yw Llywodraethau Cymru olynol wedi darparu rhaglen adeiladu tai i fodloni’r gofynion a'r angen ledled Cymru, ac mae hynny'n amlwg o'r niferoedd sydd wedi dod ymlaen. Ond, unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi bod hynny'n wahaniaeth ideolegol rhyngom ni, a byddwch yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno a byddwn yn craffu arni’n briodol.

Y pwynt arall yr hoffwn ei grybwyll hefyd yw'r dreth trafodiadau tir, a’r cymhlethdod yr ydych yn sôn amdano o ran cyflwyno’r darn hwn o ddeddfwriaeth. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd inni bod y cymhlethdod yn ymwneud â’r meysydd y mae'r Bil yn bwriadu ymdrin â hwy ac nid, efallai, bodloni rhai o'r sylwadau sydd wedi dod gan y gweithwyr proffesiynol a'r sectorau y bydd y Ddeddf hon y byddwch yn ei chyflwyno yn effeithio arnynt. Mae pryder yn y sector ynglŷn â chwmpas y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech efallai roi syniad inni ynghylch pam yn union yr ydych chi wedi nodi’r cymhlethdodau hynny. Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog.

A gaf i ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau? Oes, mae rhai meysydd lle na fyddwn yn cytuno. O ran yr hawl i brynu—ac rwy'n siŵr y cawn ni’r ddadl hon eto yn y dyfodol—mae rhannau o Gymru lle mae'r stoc tai yn hanner y lefel yr oedd 30 mlynedd yn ôl, ac mae ceisio gwneud iawn am hynny’n hynod o anodd. Ond, dyna fater efallai ar gyfer diwrnod arall.

Ie, ar y Bil iechyd y cyhoedd, fel y dywedais yn gynharach, bydd yn replica o'r hyn a oedd ar waith yng Nghyfnod 3. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried gwelliannau wrth iddynt ymddangos i weld beth y gellir ei wneud o ran gwelliannau a allai wella’r ddeddfwriaeth.

Mae e'n iawn i ddweud bod llawer o ddeddfwriaeth wedi mynd drwy'r Cynulliad yn y tymor diwethaf. Rwy’n rhagweld llai o Filiau’n dod gan y Llywodraeth y tro hwn. Rwy'n meddwl y bydd hynny’n ysgafnhau'r pwysau, yn sicr, yr oedd llawer yn ei deimlo ar bwyllgorau Biliau, yn enwedig yn nwy flynedd olaf y Cynulliad diwethaf, ond mae hefyd yn rhoi mwy o amser a chyfle, o bosibl, i ystyried Biliau Aelodau preifat hefyd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod llawer, wel, y cyfan o’n hadnoddau, mwy neu lai, wedi mynd i mewn i Filiau’r Llywodraeth yn y Cynulliad diwethaf, ac mae'n bwysig bod adnoddau ar gael, o fewn rheswm, ar gyfer Biliau Aelodau preifat da ac amser yn cael ei neilltuo iddynt. Bydd yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran swm y ddeddfwriaeth yn hwyluso hynny.

I ddod yn ôl at y pwynt am yr amgylchedd, yr anhawster sydd gennym â deddfwriaeth amgylcheddol yw bod llawer ohoni wedi’i thrawsgrifio o'r cyfarwyddiadau Ewropeaidd. Mae llawer ohoni’n ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, yn arbennig y meysydd mwy undonog, os caf ei roi felly. Yr unig reswm dros wneud hynny yn y ffordd honno oedd ei fod yn fwy cyfleus. Bydd angen i hynny newid. Beth sy'n digwydd i reoliadau Cymru a Lloegr yn y dyfodol? Ac mae nifer o faterion a godais yn gynharach o ran pryd y bydd y gyfraith yn cwympo—a fydd yn parhau, ynteu a fydd yn cwympo cyn gynted â’n bod yn gadael yr UE? Mae'r rhain yn faterion i'w hystyried. A oes cwmpas felly ar ryw adeg yn y dyfodol ar gyfer Bil yr amgylchedd cyfunol, y gallai Comisiwn y Gyfraith edrych arno? Mae hynny'n bosibl, ond nid, yn amlwg, rwy’n amau, am rai blynyddoedd, o ystyried cymhlethdod y broses honno.

Gyda'r Mesur ADY, bydd yn ymwybodol y bu ymgynghoriad am Fil drafft yn ail hanner y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi cael adborth am hynny, a chyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw yn fuan fel bod Aelodau'n gwybod sut y bydd y Bil arfaethedig yn edrych mewn gwirionedd a beth y bydd yn ei wneud, ac yna sicrheir bod yr ymatebion ar gael.

O ran y Bil treth trafodiadau tir, er ei fod yn Fil hynod gymhleth o ran ei gymhlethdod technegol, mae wedi'i ddylunio i fod mor hawdd ei ddefnyddio â phosibl. Yn aml iawn, wrth gwrs, mae’n rhaid ymdrin â’r cymhlethdod o fewn Bil er mwyn rhoi eglurhad yn nes ymlaen gan bobl sy’n ceisio gweld sut mae'r dreth yn gweithredu. Mae unrhyw ddeddfwriaeth dreth yn gymhleth o anghenraid, ond mae angen iddi fod mor ddealladwy â phosibl, yn enwedig i’r cyhoedd.

Fel arall, nodais y sylwadau a wnaeth am rai o'r Biliau y dywedodd y gallai mewn egwyddor fod mewn sefyllfa i’w cefnogi. Ni wnaf ei gadw at hynny; gwn fod rhaid gweithio drwy’r pethau hyn, a'r meysydd hynny, wrth gwrs, lle bydd gwahaniaeth rhyngom.

Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ac, yn wir, Simon Thomas, ynglŷn â’r Bil awtistiaeth, mae UKIP o blaid hynny, felly mae gennym gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol yn y Cynulliad hwn ar hynny o leiaf. Ni allaf ddweud yr un peth am bopeth arall yn y datganiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud y prynhawn yma.

O ran datganoli trethi, yn bersonol dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny; mae gwahaniaeth barn o fewn UKIP ar y pwnc hwn, ond serch hynny rwyf i’n bersonol o blaid cystadleuaeth treth rhwng awdurdodaethau. A gallwn weld yr effeithiau buddiol pwysig y mae hynny wedi’i gael yng Ngweriniaeth Iwerddon, lle'r oedd ganddynt gyfraddau treth gorfforaeth synhwyrol a arweiniodd at lawer o wasanaethau ariannol yn symud i Ddulyn. Ar y llaw arall, gallwn weld beth ddigwyddodd pan benderfynodd y Llywodraeth sosialaidd yn Ffrainc osod cyfradd treth incwm 75 y cant, ac mae hynny wedi gyrru nifer enfawr o weithwyr proffesiynol i Ddinas Llundain. Felly, beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw—ac rydym yn gresynu’r ffaith na fydd refferendwm ar y mater hwn, fel yr addawyd—ond beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw ynglŷn â ffurf datganoli trethiant yng Nghymru, mae'n bwysig iawn, rwy’n credu, ein bod yn gweld hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd busnes lle mae’n rhaid i’r bobl sydd wir yn creu swyddi yn y wlad hon weithio—yn y sector preifat. A byddai unrhyw beth sy'n helpu i wneud Cymru’n lleoliad llai deniadol ar gyfer buddsoddiad ac i bobl ddod i fyw a gweithio ynddo yn wrthgynhyrchiol iawn i fuddiannau Cymru.

Yn yr un modd, o ran y math o reoleiddio—ac rydym wedi siarad mewn termau cyffredinol am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad i Brydain adael yr UE—mae’r amgylchedd busnes fel y'i crëwyd gan y rheoliadau y mae'n rhaid i fusnesau eu dilyn yn rhoi cyfle arall inni, mewn gwirionedd, i wneud Cymru’n lle llawer mwy deniadol i fuddsoddi ac i weithio ynddo. Bydd yn dasg hynod o gymhleth i ddatrys, diwygio ac yn wir penderfynu beth i’w gadw o 43 mlynedd o reoliadau a chyfarwyddebau. Mae rhywfaint ohono’n ddeddfwriaeth ddirprwyedig ond mae llawer ohono nad ydyw—mae rheoliadau, wrth gwrs, yn gymhwysiad uniongyrchol, ac iaith yr UE yw iaith y rheini. Felly, bydd yn rhaid i lawer o hynny newid, ond mae'n rhoi cyfle inni i leihau'r baich rheoleiddiol. Ac yn y cyd-destun hwn, rwy'n siomedig o weld y datganiad yn disgrifio'r dreth trafodiadau tir fel un hir, dechnegol a chymhleth. Ac mae'n rhaid imi ofyn, o ystyried bod treth stamp yn y Deyrnas Unedig yn codi rhan gymharol fach o'r refeniw cyhoeddus—mae cyfaddawd rhwng cymhlethdod deddfwriaeth a'r budd i'r trysorlys. Mae maint y cod treth yn y Deyrnas Unedig wedi dyblu ers 1997, ac eto yn aml iawn does dim llawer o fudd iddo, os oes unrhyw fudd o gwbl, i'r cyhoedd yn gyffredinol. Y pwynt am osgoi yw y bydd cyfreithwyr clyfar bob amser yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi deddfwriaeth treth, a pho fwyaf cymhleth ydyw, y mwyaf o fylchau sy’n cael eu creu. Rwy’n siarad fel cyfreithiwr treth fy hun, felly rwy'n siŵr y bydd y proffesiwn cyfreithiol a chyfrifyddu’n rhwbio eu dwylo’n llawen wrth feddwl am fwy o'r math hwn o ddeddfwriaeth. Ond byddwn yn sicr yn cymryd agwedd adeiladol ond beirniadol tuag at bob deddfwriaeth o'r math hwnnw.

Mae i'w ddisgwyl, mae'n debyg, y dylai fod deddfwriaeth ym maes undebau llafur; wedi'r cyfan, yr undebau llafur sy’n ariannu'r Blaid Lafur i raddau helaeth ac mae’n rhaid i rywun gyflawni unrhyw fargeinion sydd wedi’u taro. Ond mae ei ddisgrifio fel 'niweidiol', rwy’n meddwl, yn rhoi'r cliw ynglŷn â’r gwir bwrpas y tu ôl i hyn. Roedd y diwygiadau undebau llafur yn yr 1980au, yr oeddwn yn meddwl bod y Blaid Lafur wedi’u derbyn, mewn gwirionedd yn rhan hynod bwysig o droi Prydain oddi wrth fethiant llwyr ein heconomi yn yr 1970au i'r economi fodern lwyddiannus a fu gennym yn y wlad hon ers 25 neu 30 mlynedd, er gwaethaf problemau yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil yr argyfwng ariannol. Nid wyf yn meddwl y cawn ni ryw lawer o gytundeb ynglŷn â’r ddeddfwriaeth undebau llafur.

Ond o ran y ddeddfwriaeth hawl i brynu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu gan nad yw cadw tai am genedlaethau mewn gwirionedd yn helpu pobl ag angen tai cymdeithasol—yn aml iawn, pobl heb unrhyw angen cymdeithasol sy’n byw yn y tai hyn. Wedi'r cyfan, clywsom fod Frank Dobson, a oedd yn aelod o'r Cabinet Llafur, yn byw mewn fflat cyngor yn St Pancras ar rent bychan iawn. Pe byddai hwnnw wedi’i ryddhau ar gyfer tai cymdeithasol gwirioneddol, yna, wrth gwrs, gallai fod wedi diwallu angen gwirioneddol i rywun. Roedd Bob Crow yn un arall a fu’n byw mewn tŷ cyngor ar hyd ei oes ac yn ymfalchïo yn y ffaith, ac eto roedd yn cael ei dalu, fel ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur, ymhell dros £100,000 y flwyddyn. Nid yw'r rhain, o dan unrhyw gyfrif, yn bobl ag angen tai cymdeithasol. Yn wir, maent yn cyfateb i bobl sy’n blocio gwelyau, ac maent yn atal pobl â gwir angen am dai cymdeithasol rhag cael cyfle i fod â tho uwch eu pennau. O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hawl i brynu, mae miliynau o bobl yn y wlad hon wedi cael yr un rhyddid ag a fu gan bawb arall ers cenedlaethau, ac fe wnaeth eu rhyddhau o diwtoriaeth awdurdodau dan reolaeth Llafur a oedd eisiau’r rheolaeth wleidyddol y byddai perchnogaeth stoc tai yn ei rhoi iddynt. Felly, mae hwn yn gam yn ôl mewn amser, a bydd UKIP yn sicr yn gwrthwynebu hynny.

Ond mae yna Filiau eraill, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn achos anghenion dysgu ychwanegol, yr wyf yn siŵr y byddant yn ennyn cymeradwyaeth a pharch cyffredinol o bob rhan o'r Cynulliad hwn. Gallaf roi croeso cynnes i rannau o'r rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig hon. Ni fyddwn mor garedig tuag at eraill. Ond fel y dechreuais drwy ddweud pan ddaethom i’r Cynulliad hwn yn gyntaf, byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y dadleuon a’r trafodaethau ac yn helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo yn sgil y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei rhoi drwodd.

Wel, gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad oes neb yn fy etholaeth i sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol ac yn ennill £100,000 y flwyddyn. Gallaf warantu cymaint â hynny. Yr ymateb a roddaf iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn—mae'n sôn am un rhan o Lundain—yw Wandsworth a'r hyn a wnaethpwyd yno, lle cafodd pobl eu gorfodi allan o dai a fflatiau a lle cafodd y tai a’r fflatiau hynny wedyn eu gwerthu am elw enfawr i'r cyngor, i geisio llunio ardal yn gymdeithasol er budd gwleidyddol. Dyna sut y digwyddodd yn Wandsworth. Edrychwch, os yw pobl yn dymuno prynu tŷ, mae ganddynt hawl i wneud hynny, ond ni ddylent brynu tŷ sydd yna’n cael ei dynnu’n ôl o ran bod ar gael i bobl ag angen tai cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael wedi arwain at ddiffyg enfawr yn nifer y tai sydd ar gael i bobl. Am flynyddoedd lawer iawn, roedd cynghorau mewn gwirionedd wedi’u gwahardd rhag adeiladu tai cyngor a rhag gwneud iawn am y diffyg a oedd yn cael ei greu drwy werthu’r tai. Dyna pam mae gennym sefyllfa lle’r ydym yn ceisio dal i fyny drwy’r amser. Ni allwn ddal i fyny a darparu digon o dai i’n pobl os ydym yn gyson yn gwerthu tai ar yr un pryd, ac yn gweld, fel y mae Lloegr yn ei weld, nad yw’r swm o arian yr ydym yn ei gael fel rhan o'r gwerthu hwnnw yn ddigon i gael tŷ arall yn ei le drwy adeiladu tŷ newydd. Dyna'r ddadl y byddwn yn ei chael, rwy'n siŵr, yn y dyfodol, wrth i’r ddeddfwriaeth hon ddatblygu.

O ran treth trafodiadau tir—y dreth stamp—mae'n amlwg yn dreth sy’n mynd i gael ei datganoli. Hoffem ddefnyddio hynny yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl cyn belled ag y mae’r sector adeiladu dan sylw. Maent wedi bod yn rhan bwysig o'r trafodaethau yr ydym wedi bod yn eu cael. O ran biwrocratiaeth, mae'n stori gyfarwydd pan fydd pobl yn dweud, 'Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw lleihau biwrocratiaeth’, ond ni fyddant byth yn nodi beth y maent yn ei olygu wrth 'fiwrocratiaeth'. Un o'r pethau y mae’n rhaid inni ei ddeall yw, oni bai am yr UE—down yn ôl at hyn mewn eiliad— byddai amgylchedd Prydain mor wenwynig ag yr oedd yn yr 1970au a'r 1980au. Yr Undeb Ewropeaidd a lusgodd Prydain allan o'r syrthni yr oedd ynddo bryd hynny, lle y byddai un o'r afonydd yn Swydd Efrog yn mynd ar dân pe byddech yn taflu matsien i mewn iddi. Y gwir yw bod llawer o'r ddeddfwriaeth amgylcheddol wedi bod yn rym er daioni, ac mae pobl yn ei gwerthfawrogi ac eisiau gweld amgylchedd o'u cwmpas nad yw wedi’i wenwyno’n ddiangen.

Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd yr afon yn arfer bod yn lliwiau gwahanol gan ddibynnu beth oedd wedi’i daflu iddi yn uwch i fyny: du os mai’r pyllau glo; os oedd Revlon wedi taflu minlliw i mewn, yn eithaf aml byddech yn gweld hynny; weithiau, byddai rhai o'r gweithfeydd i fyny yno’n taflu llifyn i mewn a byddai'n edrych yn goch, gwyrdd—unrhyw liw yr hoffech. Nid yw hynny’n digwydd bellach. Nid yw honno'n sefyllfa yr hoffem ddychwelyd ati. Rwy'n clywed yr hyn y mae’n ei ddweud, wrth gwrs, am ei awydd i chwarae rhan adeiladol ac rydym yn edrych i weld beth fydd canlyniad hynny yn ystod y flwyddyn nesaf.

Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad. Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethpwyd ynghylch y posibilrwydd o Ddeddf awtistiaeth? Rwy'n falch o ddweud, hyd yn oed dim ond yn y mis diwethaf hwn, eich bod wedi newid eich safbwynt ers yr adeg hon ym mis Mai o ddweud eich bod yn gobeithio osgoi'r angen am Fil ar wahân, gan y gallai hynny gymryd mwy o amser, i’r safbwynt mwy deniadol yn eich ateb i Andrew R.T. Davies yr wythnos diwethaf, gan ddweud eich bod yn ystyried Deddf awtistiaeth ac yn credu bod angen ei hystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall. Felly, rwy'n falch o hynny.

Fodd bynnag, soniasoch wrth ateb Simon Thomas yn gynharach fod hynny’n rhannol, neu i ryw raddau, oherwydd y pwyllgor cyswllt sydd gennych gyda Phlaid Cymru ar hyn o bryd, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi egluro a yw'r pwyllgor cyswllt hwnnw wedi eich helpu i ddod i'r casgliad bod angen Deddf neu a yw’n ddylanwadol, mewn unrhyw ffordd benodol, ynglŷn â chynnwys y Ddeddf honno. Oherwydd os mai’r olaf o’r rhain sy’n wir, rwy’n meddwl bod hynny’n ein harwain at un o'r anawsterau cychwynnol â’r pwyllgor hwn, y tu allan i glymblaid ffurfiol, sef bod gan un wrthblaid gyfle i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth cyn iddi gael ei drafftio, pan nad yw’r gweddill ohonom yn cael gwneud hynny. Os yw hynny'n wir, a allwch chi gadarnhau y byddwch yn fodlon i unrhyw Ddeddf sy'n dod allan i ddrafft cyntaf, drwy'r broses hon, gael ei chyflwyno i'r pwyllgor perthnasol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, fel bod yr holl wrthbleidiau’n cael y cyfle i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth cyn ei drafftio?

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r hawl i brynu. Nid wyf yn bwriadu sôn am rinweddau a chamweddau hynny, ond yn ddamcaniaethol, pe byddai Llywodraeth y DU yn nodi pot o arian i helpu system hawl i brynu Lloegr i weithio'n fwy effeithiol, neu i helpu cymdeithasau tai i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth—mae'n ddrwg gennyf, y prosesau y maent yn edrych arnynt ar hyn o bryd, a fyddech chi’n disgwyl rhyw fath o Farnetteiddio o'r pot hwnnw o arian i ddod i Gymru? Rwyf wir yn gobeithio y byddwch yn dweud ‘na’. Rwy’n sylweddoli mai dim ond cwestiwn damcaniaethol yw hwn, ond rwy’n meddwl ei fod yn un sy'n werth ei ateb, oherwydd pe byddech yn dweud ‘byddwn’ i hynny, byddai hynny’n codi cwestiwn, oni fyddai, am y rheswm pam na fyddai Cymru'n codi ei harian ei hun dan yr amgylchiadau hynny, tuag at gyfrannu at ei stoc dai? Diolch.

Mae'r pwyllgor cyswllt wedi ei sefydlu rhwng pleidiau'r Llywodraeth a Phlaid Cymru. Nid oedd eich plaid chi yn dymuno bod yn rhan o drefniant o'r fath; eich dewis chi yw hwnnw yn y pen draw, felly does dim pwynt cwyno am y peth. Wrth gwrs, bydd y pwyllgor cyswllt hwnnw yn edrych ar ffurf bosibl y ddeddfwriaeth, ond bydd Aelodau pob plaid yn y Siambr hon yn cael y cyfleoedd arferol i graffu, o bosibl, os mai dyma beth sy'n digwydd, ar Fil drafft ac, yn wir, i graffu ar y Bil hwnnw wrth iddo fynd ar ei daith drwy'r Cynulliad. Ni fydd hynny, wrth gwrs, yn newid.

Doeddwn i ddim yn glir ynghylch y pwynt yr oedd hi’n ei wneud am Loegr. Y ffordd y mae’r pethau hyn bob amser yn gweithio, wrth gwrs, yw os caiff arian ychwanegol ei ddyrannu gan y Trysorlys i adran o'r Llywodraeth yn Whitehall mewn maes sydd wedi'i ddatganoli, rydym yn cael swm canlyniadol Barnett. Nid oes gofyniad i ni, fel y gŵyr yr Aelodau, ei wario yn yr un ffordd. Os caiff arian ei symud o gwmpas un o adrannau'r Llywodraeth, nid ydym yn cael swm canlyniadol Barnett, felly rydym ym maes rhagdybiaeth yma. Yr hyn yr wyf yn ei wybod yw nad wyf yn meddwl ei bod yn ddoeth i ddatblygu ein stoc tai cymdeithasol ar y naill law a’i werthu ar y llall. Rwy'n meddwl bod hynny'n ddigon clir; bydd hynny’n dod i’r amlwg yn ystod hynt y ddeddfwriaeth pan gaiff ei chyflwyno.

Brif Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf un eich datganiad ynglŷn â threthi datganoledig. Fel y dywedwch, mae Llywodraeth Cymru yn y broses ar hyn o bryd o sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru. Fe wnes i geisio iddo gael ei newid i 'Cyllid Cymru' yn y Cynulliad diwethaf, ond roedd hynny’n aflwyddiannus. Felly, mae gennym Awdurdod Refeniw Cymru, ac, fel y soniasoch, treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir.

A gaf i ddweud fy mod yn falch ei fod wedi ei wneud yn y drefn hon? Pan oeddem ni’n edrych ar hyn yn y Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad diwethaf, daeth yn amlwg, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu’r trethi neu’r ddeddfwriaeth ar gyfer y trethi cyn sefydlu Revenue Scotland, bod hynny wedi achosi problemau, felly rwy’n falch bod eich Llywodraeth wedi ei wneud yn y drefn hon. A allwch chi ddweud wrthym pa wersi eraill a ddysgwyd o brofiad yr Alban, oherwydd rwy’n meddwl bod ganddynt nifer o fanteision ac anfanteision i'r ffordd y maent wedi ei wneud a gobeithio ein bod wedi dysgu’r gwersi fel y gallwn gael dechrau da?

Soniodd Neil Hamilton, yn gynharach, am beryglon posibl ac rwy'n meddwl bod Neil yn sôn am beryglon diffyg fframwaith cadarn, yn enwedig o’i gymharu â fframwaith Lloegr. Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar hynny y tro diwethaf hefyd, ac, yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi sôn am y rheol gwrth-osgoi. Brif Weinidog, sut y bydd y ddeddfwriaeth a gyflwynir yn ddigon cadarn o ran pob un o'r trethi hyn ac yn sicrhau bod mecanweithiau gwrth-osgoi digonol ar waith ac, yn wir, pan eu bod wedi gweithio yn y DU yn gyffredinol dros y degawdau lawer diwethaf, bod y mecanweithiau hynny'n cael eu cadw? Rwy'n meddwl bod arweinydd y tŷ, ar ei hen wedd fel y Gweinidog cyllid yn y Cynulliad diwethaf, wedi dweud mai un o’r egwyddorion y byddech yn ei ddefnyddio fyddai na fyddai dim gwyro oddi wrth norm y DU oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol ac o fudd i Gymru. Ond nawr bod y cyn Weinidog wedi symud ymlaen, a yw safbwynt Llywodraeth Cymru’n dal i fod yr un fath? Rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol cael eglurder am hynny.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, sut y caiff hyn i gyd ei gyfleu i randdeiliaid ac i'r cyhoedd? Rwy’n meddwl y byddai dweud bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o ddatganoli treth sydd ar ei ffordd i Gymru yn 2018 yn danddatganiad. Mae'n sefyllfa waeth na hynny. Gwn fod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn flaenorol ar ffyrdd y gallem godi ymwybyddiaeth o drosglwyddo neu ddatganoli trethi i'r lle hwn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn, gan fod gennym ddwy dreth ger ein bron yn awr a bydd trethi pellach yn dod yn nes ymlaen? Mae'r sefyllfa hon, fel y mae Aelodau wedi’i ddweud, yn mynd i fynd yn fwy a mwy cymhleth, ac mae'n bwysig ein bod yn mynd â nid dim ond Aelodau, ond y cyhoedd gyda ni hefyd.

Yn gyntaf oll, bydd y trethi y byddwn yn bwriadu eu cyflwyno yn briodol i Gymru, fel yr ydym yn gweld pethau. Yn amlwg, bydd angen mesurau gwrth-osgoi cadarn o fewn y ddeddfwriaeth, a bydd yr Aelodau'n gallu gweld y ddeddfwriaeth a'r hyn sydd wedi’i gynnwys ynddi pan gaiff y ddeddfwriaeth ei chyflwyno.

O ran dysgu gan yr Alban, ydy, mae'n amlwg i mi bod arnoch angen yr awdurdod codi refeniw ar waith i sicrhau y gellir codi’r dreth, neu'n sicr cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae’r Aelod eisoes wedi sôn am yr anawsterau a gafodd yr Alban yn hynny o beth.

O ran cyfathrebu â rhanddeiliaid, yr hyn a wyddom—dylai’r rhai sydd ag angen gwybod am y dreth trafodiadau tirlenwi pan gaiff ei chyflwyno gael eu hysbysu drwy eu cymdeithasau proffesiynol drwy eu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’n ddyletswydd arnynt beth bynnag i sicrhau eu hunain eu bod yn deall y system drethi newydd yn llwyr. Ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gadw ac adolygu’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu’r newidiadau. Cyn belled ag y mae’r cyhoedd dan sylw, maent wedi arfer â threth stamp, felly maent wedi arfer â’r syniad o dalu treth neu doll wrth i drafodiadau eiddo ddigwydd, ond mae'n amlwg yn bwysig gwneud yn siŵr bod y gweithwyr proffesiynol yn deall sut y bydd y dreth yn gweithio ac, yn arbennig, sut y caiff ei chasglu a'r rheolau sy'n berthnasol i’r dreth honno. Yn amlwg, byddwn yn gwneud yn siŵr bod popeth ar waith y gellir ei roi ar waith i sicrhau bod gwerthwyr tai, er enghraifft, a chyfrifwyr, i roi dwy enghraifft, yn ymwybodol o'r newidiadau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, ac rwy’n croesawu’r camau yr ydych wedi’u cyhoeddi heddiw. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith eich bod yn symud yn ddi-oed i ddiddymu agweddau ar y ddeddfwriaeth undebau llafur, sef, yn hytrach nag unrhyw ymgais i fodloni'r undebau llafur, ein hymgais ni, ar draws y Cynulliad hwn, i wireddu ein cred y dylem fod yn amddiffyn hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Roeddwn hefyd yn awyddus i roi croeso arbennig i'ch cadarnhad y byddwch yn cyflwyno Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n gwybod, o fy ngwaith achos fy hun, pa mor hanfodol yw ein bod yn cael y fframwaith deddfwriaethol hwnnw’n iawn. Rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw yma, o ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol ddigynsail i’r ddeddfwriaeth hon, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc. Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi craffu ar y Bil drafft ac wedi ymateb i'r ddeddfwriaeth, ac un o'r prif bryderon a oedd gennym oedd nad oedd y Bil drafft yn gwneud digon mewn gwirionedd i gynnwys y gwasanaeth iechyd. Rydym i gyd yn gwybod o'n gwaith achos ein hunain bod hynny'n gwbl sylfaenol—y cysylltiad rhwng iechyd ac addysg. Hoffwn ofyn pa sicrwydd y gallech chi ei roi y byddai hynny'n cael sylw yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod.

Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, wrth ddweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ac addysg o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwybod, er enghraifft, ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, i roi enghraifft, nad yw edrych ar eu cyflawniad addysg yn unig ar wahân i bopeth arall byth y ffordd iawn o weithio, a dyna pam yr ydym wedi defnyddio’r ymagwedd gyfannol hon. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd y ddeddfwriaeth yn ceisio bod mor realistig ac mor gynhwysfawr â phosibl.

O ran y Bil undebau llafur, wrth gwrs, ar y meinciau hyn mae gennym wrthwynebiad ideolegol i gynnwys y Bil hwnnw, ond mae gennym broblem gyfansoddiadol ehangach yma, sef bod elfennau’r Bil undebau llafur y byddwn yn ceisio eu diddymu, yn ein barn ni, yn bendant o fewn ein pwerau datganoledig—mae yma fater cyfansoddiadol hefyd. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cael cyngor gan gyfreithwyr bod hynny'n wir hefyd, oherwydd gwelsom fod y cyngor cyfreithiol wedi’i ddatgelu heb ganiatâd—nid gennym ni, wrth gwrs, ond gan eraill—ac y dywedwyd wrth Lywodraeth y DU bod eu hachos yn wan o ran dadlau nad oedd hyn o fewn cymhwysedd datganoledig. Felly, ar wahân i fater pwysig ein barn ni am y Bil ei hun, mae gennym broblem gyfansoddiadol, sef ein bod o’r farn mai mater i'r Cynulliad benderfynu arno yw hwn, ac nid y Senedd.

8. 8. & 9. Datganiad: Lansio'r Ymgynghoriad ar Weithredu Cyfnod 1 y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a Datganiad: Cyrff Llywodraethu Ysgolion
9. 10. Datganiad: Y Lluoedd Arfog

Felly, symudwn at eitem 10, sef y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y lluoedd arfog—Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hon yn adeg arbennig o briodol i nodi cyfraniad ein lluoedd arfog i amddiffyn ein gwlad a’n ffordd o fyw. Eleni mae’n ganmlwyddiant dau o frwydrau pwysicaf y rhyfel byd cyntaf. Roedd brwydr Jutland yn drobwynt yn y rhyfel ar y môr a enillwyd ar gost o 8,500 o fywydau. Yn Ffrainc, roedd brwydr y Somme yn allweddol i gwrs y rhyfel ac, yn arbennig yng Nghoedwig Mametz, rhoddodd nifer fawr o filwyr o Gymru eu bywydau. Bydd y Prif Weinidog yn cynrychioli pobl Cymru yn y gwasanaeth coffa cenedlaethol yng Nghoedwig Mametz ar 7 Gorffennaf i anrhydeddu'r rhai a roddodd eu bywydau. Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at y gofeb a godwyd i nodi dewrder ac aberth y 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoedwig Mametz. Byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau pwysig y rhyfel byd cyntaf trwy ein rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers: 1914-1918.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi a chyfrannu at ddigwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog a gynhelir yng ngogledd a de Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bobl Cymru i ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolchgarwch i'r rhai hynny sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i'n cyn-filwyr. Maent hefyd yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth iau i ddysgu am aberth ein milwyr wrth amddiffyn ein rhyddid a gwerthfawrogi’r aberth hwnnw. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cymorth a gwasanaethau parhaus i gymuned bresennol ein lluoedd arfog, ac rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid allweddol ac wedi gwrando arnynt ac rydym wrthi’n ailwampio ein pecyn cymorth. Bydd hefyd yn awr yn cynnwys dogfen ar wahân ar gyfer ein personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, o’r enw 'Croeso i Gymru'. Bydd y ddwy ddogfen allweddol hyn yn nodi’r cymorth sydd ar gael ar draws portffolios gweinidogol, a sefydliadau cymorth fel y Lleng Brydeinig Frenhinol a Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin. Byddaf yn lansio’r dogfennau hyn yn ffurfiol yn gynnar yn yr hydref.

Mae’r Aelodau eisoes yn gwybod am bwysigrwydd cerdyn braint y lluoedd arfog. Hyd yma, mae cynnydd o 89.14 y cant wedi bod yn nifer aelodau’r gwasanaeth o gymharu â 38 y cant yng ngweddill y DU—gwahaniaeth sylweddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda gwasanaeth braint y lluoedd arfog i hyrwyddo manteision y cerdyn ac yn ceisio annog corfforaethau i ymrwymo i’r cerdyn.

Mae iechyd a lles ein personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’n cyn-filwyr o'r pwys mwyaf inni. Byddwn yn darparu, ac rydym wedi darparu, £100,000 i ddatblygu cynllun nofio am ddim ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu £585,000 y flwyddyn i gynnal gwasanaeth unigryw GIG Cymru i Gyn-filwyr, a byddwn yn archwilio opsiynau i wella profiad cyn-filwyr sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl trwy weithio gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i sicrhau bod y llwybr gofal presennol yn parhau i fodloni anghenion amrywiol y bobl hynny y mae angen y gwasanaethau arnynt.

Cyhoeddodd y cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes y byddai diystyriad uwch o £25 yn gymwys, o fis Ebrill eleni, i bensiynau anabledd rhyfel a dderbynnir gan gyn-filwyr wrth asesu eu cyfraniad at unrhyw gostau gofal y mae’n rhaid iddynt eu talu. O 2017, byddwn yn llwyr ddiystyru’r taliadau hynny wrth asesu costau gofal.

Mae llawer iawn o waith da’n cael ei wneud ledled Cymru. Eisoes, mae gan yr holl awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau cyhoeddus eraill hyrwyddwyr cyfamod ar waith, sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y lluoedd arfog ledled Cymru. Un enghraifft dda o’r ffordd y mae gweithio gyda'n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yw Tŷ Dewr yn Wrecsam.  Cartref a adeiladwyd yn bwrpasol i gyn-filwyr yn Wrecsam sy'n cael anawsterau yn eu bywydau yw Tŷ Dewr. Mae awdurdod lleol Wrecsam, mewn partneriaeth â Tai Dewis Cyntaf a chyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wedi darparu llety diogel i gyn-filwyr i'w helpu i ailadeiladu eu hyder a'u bywydau. Gan adeiladu ar fentrau fel y rhain, rydym yn datblygu llwybr atgyfeirio tai. Bydd hyn yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis ar sail gwybodaeth ynglŷn â pha opsiwn sydd fwyaf priodol ar eu cyfer. Rwyf yn disgwyl y bydd y gwaith hwnnw hefyd wedi ei gwblhau erbyn dechrau'r hydref.

Rydych wedi clywed bod gweithio ar y cyd a rhannu arfer da wedi arwain at fentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn-filwyr. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sefydliadau sy’n bartneriaid inni drwy gynnal cynhadledd cyfamod yn yr hydref. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i bawb sy’n bresennol i adeiladu ar arfer da a rhannu profiadau er mwyn sicrhau bod cymuned y lluoedd arfog yn cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu.

Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod anodd, ac wrth i gyllidebau dynhau, mae angen inni fod yn fwy craff o ran y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau a mentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Wrth symud ymlaen, gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn gweithio ar y cyd ar draws y sectorau, byddwn yn parhau i gefnogi Gweinidogion, a bydd y grŵp hwn yn parhau i’m cefnogi i i bennu fy mlaenoriaethau a chanolbwyntio adnoddau lle y mae'n rhaid iddynt fod a lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf. Yng nghyfarfod nesaf y grŵp arbenigol, yn ystod mis Gorffennaf, byddwn yn nodi blaenoriaethau allweddol a sut y cânt eu cyflawni. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau a lles cymunedau’r lluoedd arfog, gan roi iddynt y gefnogaeth a'r gwasanaethau y maent yn eu haeddu.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a hoffwn groesawu'r sylwadau a wnaeth ynghylch nodi canmlwyddiant brwydr Jutland a brwydr y Somme. Collodd llawer o Gymry eu bywydau, ac mae'n ddyletswydd arnom i’w cofio ac i anrhydeddu eu haberth.

Mae'r bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn wynebu heriau penodol oherwydd iddynt wasanaethu, ond mae ganddynt hefyd botensial i wneud cyfraniad gwerthfawr i'w cymunedau, i fusnesau, ac i gyflogwyr. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw sicrhau bod cymorth priodol ar gael i'w galluogi i wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno targedau penodol ar gyfer amseroedd aros am ofal iechyd meddwl i gyn-filwyr, a pha wasanaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi ar waith i sicrhau bod cyn-filwr sydd wedi colli rhannau o’u cyrff yn cael y lefelau gorau o ofal yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru?

Rwyf yn croesawu datblygu cartrefi pwrpasol i gyn-filwyr, fel Tŷ Dewr yn Wrecsam, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn ofyn iddo pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac agor cynlluniau tebyg mewn mannau eraill ledled y wlad. Hefyd, pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd y bobl hynny sydd yn y lluoedd arfog, a chyn-filwyr? Yn benodol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd i gefnogi plant y bobl hynny sydd yn y lluoedd arfog? Yn olaf, eleni—ac ers blwyddyn neu ddwy bellach—rydym yn nodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i barhau ag addysg o ran cynnal yr ymwybyddiaeth o'r digwyddiadau 100 mlynedd yn ôl sydd y tu hwnt i gyfnod swyddogol y canmlwyddiant, gan ystyried addysg hefyd o safbwynt datrys gwrthdaro? Diolch yn fawr.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol iawn yn ei gyfraniad. Yn wir, rwyf yn rhannu sylwadau'r Aelod ynghylch nodi canmlwyddiant brwydr Jutland a Choedwig Mametz. Mae digwyddiadau fel y rhain nid yn unig yn cydnabod ac yn nodi ein dyled o ddiolchgarwch i gyn-filwyr a fu’n rhan o wrthdaro yn hanes ein cenedl, ond maent hefyd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cefnogi ac anrhydeddu ein milwyr cyfredol a’r milwyr wrth gefn. Yn wir, mae gennyf gefndir teuluol o bobl yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac rwyf yn deall pa mor bwysig yw hi i aelodau o'r lluoedd arfog gael eu cydnabod a chael cefnogaeth.

Mae rhai o'r mentrau sy'n digwydd yng Nghymru yn rhagorol tu hwnt. Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â sièd i ddynion yn Saltney yn fy etholaeth i, sydd yn egwyddor bwysig iawn o ran cefnogi mewn ffordd newydd iawn, lle y gall pobl ymuno â chymdeithas lle y gallant gael eu hailintegreiddio i gymdeithas a chael tipyn o hwyl yn ogystal, fel y’i disgrifiwyd imi yn y digwyddiad, sy'n eithriadol o bwysig. Soniodd yr Aelod am addysg, ac mae'r cwricwlwm newydd yn ymwneud â phroses sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod pobl yn cymryd rhan yn y broses hon. Mae'n bwysig iawn ein bod yn siarad â phobl ifanc am wrthdaro. Rhan o'r rheswm, ac nid wyf yn dymuno mynd yn ôl at y ddadl am Ewrop yn gynharach—. Mae'r ffaith ein bod yn gallu siarad am hyn gyda'n gilydd fel cenedl, ac fel cenedl Ewropeaidd, yn fy marn i, wedi atal gwrthdaro fel y ddau ryfel byd dros y 70 mlynedd diwethaf, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol iawn ohono.

Rwyf yn ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod y materion yn Wrecsam, yn enwedig ynghylch gwaith y cymdeithasau tai gyda phartneriaid o ran tai ac atebion tai. Mae enghreifftiau eraill ledled Cymru, ac rwyf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod i drafod yr union gynigion tai sydd gennym. Credaf fod buddsoddiad gwerth £2 filiwn wedi darparu tua 26 o gartrefi ledled Cymru, a gallaf rannu'r manylion â'r Aelod. Mae'n helpu i roi iddynt, wrth gwrs, gartref diogel a sicr mewn sefyllfa sydd, weithiau, yn sefyllfa fregus i’r aelodau.

Rwyf yn awyddus iawn i wneud ychydig mwy o waith ar aelodau'r teulu yn y lluoedd arfog. A dweud y gwir, pan oeddwn i’n cyflawni’r swyddogaeth hon o’r blaen, un o’m hymweliadau mwyaf siomedig oedd pan fûm yn ymweld ag uned lluoedd arfog— uned lluoedd arfog fyw—ac roedd personél y lluoedd arfog yn cael cefnogaeth dda iawn, ond roedd eu teuluoedd a’u plant, yn fy marn i, braidd yn ynysig. Roeddwn yn meddwl y gallem wneud mwy fel Llywodraeth i gefnogi'r lluoedd arfog yn arbennig o ran integreiddio i'w cymunedau lleol, y maent yn rhan gref ohoni.

O ran gwasanaethau’r GIG i gyn-filwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr a chymunedau ehangach y lluoedd arfog drwy sicrhau bod cyn-filwyr yn benodol yn cael gofal iechyd priodol ac amserol—proses heriol iawn, yn arbennig gyda dioddefwyr anhwylder straen wedi trawma. Ond rydym yn falch o waith GIG Cymru i Gyn-filwyr sy’n wasanaeth unigryw sy'n darparu therapyddion dynodedig i gyn-filwyr ym mhob un o'r byrddau iechyd i wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr yng Nghymru. Dyma'r unig wasanaeth cenedlaethol o'i fath i gyn-filwyr yn y DU. Credaf fod llawer mwy o waith i'w wneud o hyd, ond, mewn gwirionedd, mae'n ddechrau da, ac yn rhywbeth y dylai Cymru fod yn tynnu sylw ato fel rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn gadarnhaol iawn. Ond rwyf yn hapus i weithio gyda'r Aelod ac rwyf yn cydnabod ei ymrwymiad i'r achos penodol hwn.

Un o'r rhesymau pam y mae cynifer ohonom yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd ag anesmwythyd o'r fath yw bod cymaint o ryfela wedi bod yn Ewrop. Mae'n ganmlwyddiant y Somme, lle y bu farw miliwn o bobl, ac ni all neb bellach gofio pa fudd oedd i hynny. Felly, yn amlwg, rwyf yn cefnogi ein lluoedd arfog sy’n ein cadw'n ddiogel ac yn amddiffyn ein rhyddid, ond mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn osgoi rhyfel, lle y bo hynny'n bosibl.

Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae hwn yn gyfnod anodd a chyllidebau’n dynn. I lawer o bobl, mae'r gwasanaeth milwrol yn dod yn ail deulu, yn enwedig i bobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfleoedd gorau yn eu teulu cyntaf. Felly, pan gânt eu rhyddhau, gall fod yn debyg i brofedigaeth. Mae gennyf rai pryderon am rai o'r bobl sy'n cael eu rhyddhau i dai cymdeithasol ynysig yn fy etholaeth, ac yna, o ganlyniad i iselder, yn ei chael yn anodd iawn mynd ati i ofyn am help. Felly, meddwl oeddwn i tybed, yn eich grŵp lluoedd arfog, a ydych wedi trafod y ffyrdd y mae'r gwahanol grwpiau cyn-filwyr yn cydlynu ac yn cydgysylltu â’i gilydd er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgyn drwy'r bylchau yn y gwasanaethau, a bod yr holl gyn-filwyr diweddar yn cael eu cefnogi a’r cysylltiad â hwy’n cael ei gynnal er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan gânt eu rhyddhau ac wrth iddynt addasu i fywyd sifil.

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad ystyriol unwaith eto. Credaf ei bod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth fod atal gwrthdaro ar bob cyfrif yn rhywbeth y dylem ei ystyried, ac rwyf yn llwyr gefnogi barn yr Aelod ar hynny. Wrth gwrs, mae’r lluoedd arfog yn rhywbeth sydd gennym ac y dylem fod yn falch iawn ohono, a dylem eu cefnogi drwy eu cyfnod yn gwasanaethu ac ar ôl hynny. Rwyf yn awyddus iawn i weld beth y gallwn ei wneud yng Nghymru i wneud hynny.

Nid wyf wedi cwrdd â grŵp y lluoedd arfog eto ers dechrau yn y swydd, ond mae gennyf gyfarfod cynnar ym mis Gorffennaf, a byddaf yn ystyried pwyntiau’r Aelod ar gyfer eitem ar yr agenda. Mae opsiynau megis mecanweithiau cymorth fel siediau i ddynion, sydd yn un enghraifft, ond mae gwirfoddoli, sy’n fater o gynhwysiant cymdeithasol, yn rhywbeth sy'n wirioneddol allweddol pan fydd pobl yn gadael y lluoedd arfog. Teulu ydyw, a chaiff pobl eu cymell a'u cefnogi yn y mecanwaith hwnnw. Pan fyddwch yn gadael ac yn dechrau ar fywyd arferol, mae'n fyd gwahanol iawn, iawn ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eu cefnogi drwy'r Llywodraeth, ond hefyd mae rhai prosiectau cymorth da iawn gan gwmnïau yn y sector preifat, sy’n cydnabod gwerth y lluoedd arfog, pan oeddent yn gweithio fel milwyr neu yn awr, ar ôl iddynt ymadael.

Mae bylchau gwasanaeth yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w ddeall yn well, hefyd. Credaf fod y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi galw am gydnabyddiaeth o ble y mae cyn-filwyr yn byw nawr. Mae rhai materion o hyd ynghylch y rhaglen honno, ac rydym yn eu trafod â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ond rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau yn gwybod ble y mae pobl a allai fod yn agored i niwed, ble y gallwn ychwanegu gwerth at ble y maent yn byw a sut y gallwn eu cefnogi’n well. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei ystyried yn benodol. Mae’r Aelod yn iawn wrth ddweud, pan fydd pobl yn eu cael eu hunain mewn sefyllfa wahanol iawn i'r hyn y maent wedi arfer ag ef, eu bod weithiau’n ymgilio ac yn dechrau edrych tuag i mewn, ac nad ydynt yn manteisio ar wasanaethau y tu allan, a gall hynny arwain at lwybr anodd iawn iddynt. Ond mae gwybod bod oedolyn agored i niwed neu unigolyn sydd wedi ymdrin ag amgylchiadau eithafol, weithiau, trwy fod yn y gwasanaethau milwrol, yn rhywbeth lle y dylem ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, fynd ati i geisio cefnogi aelodau sy'n dymuno cael y cymorth hwnnw. Ond mae'n rhywbeth y mae’r Aelod yn ei godi’n dda heddiw, a byddaf yn ystyried hynny gyda'r grŵp lluoedd arfog.

Wrth gwrs, bu’r Gweinidog a minnau, gyda’r Dirprwy Lywydd a'r Aelod dros Orllewin Clwyd, yn Niwrnod Lluoedd Arfog y gogledd wythnos yn ôl i ddydd Sadwrn, lle clywsom gyfeiriadau teimladwy at frwydrau Jutland a'r Somme, ac mae'n arbennig o berthnasol—a gwn y bydd y Gweinidog wedi amseru’r datganiad hwn yn unol â hynny—mai dydd Gwener yr wythnos hon fydd canmlwyddiant dechrau brwydr y Somme, y diwrnod ofnadwy hwnnw a dechrau’r lladdfa, lle y lladdwyd cannoedd o filoedd o filwyr.

Soniasoch am gyllid; tybed a wnewch chi sôn am y prosiectau yng Nghymru a ariennir gan arian LIBOR, a ariannodd yn rhannol neu a helpodd i ariannu’r datblygiad Dewis Cyntaf yn Wrecsam y cyfeiriasoch ato, ac mae hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cael eu darparu trwy CAIS, sef y sefydliad arweiniol—Change Step, mentora cymheiriaid a gwasanaethau cynghori i gyn-filwyr, a'r gwasanaeth Listen In, sy’n cefnogi teuluoedd a ffrindiau cyn-filwyr, sydd wedi datblygu’n brosiect Cymru gyfan? Diolch i'r drefn, cadarnhawyd y cyllid yng nghyllideb y DU yn gynharach eleni.

Cyfeiriasoch at y £585,000 y flwyddyn i gynnal gwasanaeth unigryw GIG Cymru i gyn-filwyr. Tybed a allech helpu â’r ddealltwriaeth o hynny, lle’r ailgadarnhaodd Llywodraeth Cymru, ar ôl cyfnod o ansicrwydd, £100,000 o gyllid blynyddol rheolaidd ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw, yn hytrach na gwasanaethau cyn-filwyr yn gyffredinol o fewn y GIG, a sut y mae hynny'n cyfateb i'r ffigur o £585,000 yr ydych yn cyfeirio ato yma, yn enwedig yng nghyd-destun y datganiad a wnaed gan glinigwyr mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a milwyr wrth gefn yn gynharach eleni fod cyllid ar gyfer gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr yn benodol yn dal i fod yn is na'r cyllid cyfatebol yn yr Alban a Lloegr.

O ran Homes for Veterans yn Wrecsam, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cydnabod mai hwn yw’r trydydd llety yn y gogledd i gael ei reoli gan Alabaré Wales Homes for Veterans. Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â chartrefi Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno ac yn cwrdd yn breifat â’r preswylwyr ac yn gwrando ar yr hyn yr oedd ganddynt i'w ddweud. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn nodi eu pryderon yn eich cyfarfod â'r grŵp arbenigol ym mis Gorffennaf, os ydych yn bwriadu nodi blaenoriaethau allweddol a'r ffordd o gyflwyno'r rhain. Yn y cyd-destun hwnnw, mewn ateb ysgrifenedig heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wrthyf fod gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu therapyddion dynodedig yn ardaloedd pob un o’r byrddau iechyd, yn darparu gofal arbenigol i gyn-filwyr sy’n gleifion allanol ac sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis PTSD. Sut ydych chi, felly, yn cyfeirio at y sylwadau a glywais gan gyn-filwr, mewn cadair olwyn, bythefnos yn ôl, ar ôl i ymyriad gennyf i fynd ag ef o'r diwedd o flaen y tîm iechyd meddwl cymunedol i’w asesu, pan nad oedd y cydlynydd gofal a addawyd—a addawyd o fewn pedair wythnos—wedi cyrraedd ar ôl dau fis? Pan aethpwyd ar drywydd hynny, cawsant wybod bod y bwrdd iechyd wedi colli chwe aelod o staff a’i fod wrthi’n cael staff yn eu lle, a dywedwyd wrthyf ar yr un ymweliad fod rhywun arall a oedd yn cael cymorth gan Homes for Veterans Cymru wedi bod yn aros pedwar mis ers cael ei asesu, a bod therapydd seicolegol gwasanaethau GIG Cymru i Gyn-filwyr bellach i ffwrdd ar absenoldeb salwch ei hun.

Dywedwyd wrthyf hefyd yn ystod y cyfarfod hwnnw â chyn-filwyr, er bod gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cynnig ymateb cychwynnol da i atgyfeiriadau, mai dim ond cyfarfod asesu cyflym ydoedd a bod y claf wedyn yn ôl ar y rhestr aros os oes angen ymyrraeth seicolegol arno mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'r rhain yn ddifrifol, yn enwedig pan fyddant yn dod o enau defnyddwyr y gwasanaeth, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi a'ch cydweithwyr edrych ar hynny.

Dywedwyd wrthyf hefyd—. Mae'n ddrwg gennyf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf yn ei hymateb ysgrifenedig heddiw, o ran triniaeth a gofal iechyd blaenoriaethol i gyn-filwyr, ei bod wedi gofyn i feddygon teulu ystyried, wrth iddynt wneud atgyfeiriadau, a oedd triniaeth flaenoriaethol, yn eu barn glinigol hwy, yn briodol gan fod cyflwr y claf yn ymwneud â gwasanaeth milwrol. A wnewch chi hefyd felly ystyried y pryder a fynegwyd wrthyf yn bersonol gan gyn-filwyr bythefnos yn ôl? Dywedodd un yn benodol wrthyf na all ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd ‘am fod ei gyflwr iechyd meddwl yn ei atal rhag gallu lleisio ei eiriau wrth ei feddyg teulu, a bod angen i’w feddyg teulu ddarllen ei nodiadau a'i gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol hirdymor’. Unwaith eto, mae angen llawer mwy o waith, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cytuno, yn y maes hwn.

Yr wythnos diwethaf, codais gyda'r Gweinidog busnes yr adroddiad 'Dwyn i Gof: Cymru' a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, sy'n dangos bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr, a chadarnhaodd y Gweinidog y byddai datganiad yn dod. A allwch gadarnhau nad dyma’r datganiad hwnnw, a phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd?

Dim ond dau bwynt i orffen. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno comisiynydd i gyn-filwyr sydd wedi bod yn effeithiol iawn o ran nodi a mynegi eu hanghenion, ac mae galw cynyddol yng nghymuned y lluoedd arfog yng Nghymru am gomisiynydd yma sydd nid yn unig yn gwneud hynny, ond sydd yn cyrraedd cymuned ehangach y lluoedd arfog er mwyn gwella canlyniadau a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael. Beth yw safbwynt Llywodraeth newydd Cymru ar hynny ar hyn o bryd? A wnewch chi edrych eto ar y profiad yn yr Alban ac ymgysylltu â chynrychiolwyr uwch y lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi mynegi cefnogaeth i hyn?

Ac yn olaf, o ran popeth yr wyf wedi ei ddweud a phopeth yr ydych chi a phawb arall wedi ei ddweud, a ydych yn cytuno ai peidio fod angen asesiad o anghenion cyn-filwyr ledled Cymru yn sail i ddarparu gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru, os yw am gydnabod yn y pen draw pa waith cynllunio sydd ei angen i gyflawni'r ddarpariaeth y mae’r holl bobl hyn yn dweud wrthym y mae ei hangen arnynt?

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rwyf am wneud rhai sylwadau cychwynnol, os caf. Yn gyntaf oll, ynglŷn â CAIS, rwyf yn gyfarwydd iawn â'r sefydliad hwnnw ac rwyf wedi ymweld ag ef, ynghyd â llawer o Aelodau eraill yn y gogledd. Maent yn gwneud gwaith gwych gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ganddynt, ond maent yn gwneud hynny’n dda.

O ran y materion ehangach y mae’r Aelod yn eu codi ynglŷn â gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, a gaf i ddweud mai dyma’r unig wasanaeth cenedlaethol i gyn-filwyr yn y DU? Nid wyf yn cydnabod yr anghysondebau y mae’r Aelod yn eu codi o ran fersiwn Cymru a Lloegr, yn enwedig o ran y cyllid. Os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf ar y mater penodol hwnnw, byddaf yn mynd i'r afael â’r pwyntiau hynny, ond nid yw'n rhywbeth y byddwn yn ei gydnabod heddiw.

Bwriad y gwaith gyda gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yw sicrhau bod y llwybr presennol yn parhau i fodloni anghenion y bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly, carwn nodi bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid blynyddol o £585,000 i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac maent wedi derbyn 1,657 o atgyfeiriadau ers i'r gwasanaeth gael ei lansio ym mis Ebrill 2010. Ni allaf wneud sylwadau ar yr achosion unigol y mae'r Aelod yn eu codi yn y Siambr heddiw—nid wyf yn gyfarwydd â hwy—ond byddwn yn siomedig pe na byddem yn gallu cynnig gwasanaeth cyson ledled Cymru ac ym mhob un o’r byrddau iechyd lleol pan ydym yn delio ag unigolion bregus iawn. Ond unwaith eto, pe hoffai’r Aelod ysgrifennu at fy adran am y mater hwnnw, os fi yw’r Ysgrifennydd Cabinet priodol, yna edrychaf ar hynny’n benodol.

Mae’r Aelod yn cyfeirio at yr Alban ac mae'n cyfeirio at gomisiynydd yn yr Alban. Rwyf yn awyddus iawn i ddeall gan bobl sy'n profi hyn ar lawr gwlad, felly i mi y grŵp arbenigol yw’r arbenigwyr—yr hyrwyddwyr llywodraeth leol sydd ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau. Maent yn bwysig iawn o ran y ffordd yr wyf yn gwneud fy mhenderfyniadau ac yn blaenoriaethu fy ngwaith cyllidebu. Wrth gwrs, os oes enghreifftiau eraill o bob cwr o'r wlad neu y tu hwnt i'n ffiniau naturiol, rwyf yn fwy na pharod i ddeall sut mae darparu’r gwasanaeth gorau i’r bobl sydd wedi ein gwasanaethu'n dda. Felly, byddaf yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, ond yr wyf yn dibynnu ar y grŵp arbenigol sy'n cynnwys llawer o aelodau o’r lluoedd arfog—cyn-aelodau o’r lluoedd arfog—sy'n gwybod sut y mae'r system yn gweithio. Felly, byddaf yn cymryd fy safbwyntiau oddi wrthynt hwy.

O ran yr asesiad o anghenion y mae'r Aelod yn ei godi, yn olaf, cyfeiriaf yn ôl at fy ymateb diwethaf. Credaf mai’r hyn y mae angen inni ei wneud yw gwrando ar bobl sydd wedi profi’r gweithredoedd a’r digwyddiadau hyn yn y lluoedd arfog, a byddaf yn gwrando ar gyngor yr arbenigwyr wrth imi lunio polisi ar gyfer y Llywodraeth hon wrth inni symud ymlaen.

Diolch ichi, Weinidog, am eich datganiad. Byddwch yn gwybod am fy niddordeb hir yn y lluoedd arfog, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru’n codi llawer o'r materion yr wyf wedi eu nodi yn y gorffennol, ac yn arbennig y cymorth parhaus i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Byddwch yn gwybod, fodd bynnag, fod anghysondeb, fel y soniwyd eisoes, o ran amseroedd aros i gael y gwasanaeth hwnnw a'r gwasanaeth ei hun drwy’r clinigydd arweiniol, Dr Neil Kitchiner, sydd wedi awgrymu bod angen pecyn cymorth blynyddol o fwy na £700,000. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn gallu adolygu, ynghyd â'ch cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, y buddsoddiad sy'n digwydd yn y gwasanaeth hwnnw a chadw llygad ar gapasiti'r gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.

Fel Mark Isherwood, rwyf innau am ganu clodydd y rhaglen Change Step ledled Cymru hefyd. Mae'n rhywbeth yr wyf yn credu sy’n unigryw yn y Deyrnas Unedig. Mae'r cymorth gan gymheiriaid a ddarperir i gyn-filwyr a'u teuluoedd drwy Change Step wedi gweddnewid bywydau yn wirioneddol, ac rwyf wedi cwrdd â llawer o unigolion sydd wedi newid eu sefyllfa’n llwyr o ganlyniad i'r cymorth sydd ar gael. Ond mae dyfodol ansicr i’r gwasanaeth hwnnw ar ôl y 12 mis nesaf. Er ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hyd at fis Mawrth, mae rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol. Tybed, Weinidog, a allwch ddweud wrthym a fyddech yn ystyried a fyddai ariannu'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud?

Soniasoch am y rhwydwaith o siediau i ddynion. Mae sièd cyn-filwyr, yn wir, wedi’i sefydlu yn fy etholaeth i yn Llanddulas. A ydych yn meddwl y gallech gefnogi ehangu siediau cyn-filwyr yn y dyfodol? Yn olaf, un peth na soniasoch amdano yn eich datganiad oedd rôl lluoedd y cadetiaid mewn lifrai ledled Cymru o ran darparu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc a hefyd o ran cefnogi llawer o'n hysgolion lle na fyddai pobl ifanc fel arall mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant—NEETs, yn gyfan gwbl y tu allan i'r system addysg. Byddwch yn gwybod bod rhaglen ehangu cadetiaid wedi bod, wedi ei ariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Lloegr. Tybed, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ehangu'r rhaglen cadetiaid mewn ysgolion yng Nghymru pe byddai ceisiadau gan ysgolion yng Nghymru? Mae cyfleoedd i bobl, wrth gwrs, i ennill cymwysterau na fyddent wedi eu cael fel arall mewn gwasanaeth cyhoeddus a thrwy'r cynllun cymhwyster galwedigaethol i gadetiaid, pe byddent yn cymryd rhan yn lluoedd y cadetiaid. Tybed, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym a yw eich Llywodraeth yn cefnogi hynny?

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn gyntaf oll, o ran ariannu, fel y nodais yn gynharach, mae £585,000 ar gael ar gyfer rhaglen y GIG i gyn-filwyr. Gwrandewais ar yr Aelod yn ofalus iawn ynglŷn â’r cynnydd y mae'n ei awgrymu ac y mae eraill wedi ei awgrymu. Byddaf yn edrych ar hynny gyda chydweithwyr eraill ym mhob rhan o’r Cabinet i weld a oes ffordd well o ddarparu gwasanaethau neu gymhlethdod gwneud hyn. Nid wyf yn dweud bod hyn yn berffaith o bell ffordd, ond credaf ein bod, yng Nghymru, yn gallu cynnig gwell lefel o wasanaeth ledled Cymru, ac rwyf yn gobeithio y gallwn ddatrys rhai o'r mannau cyfyng a welwn gyda'n gilydd. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o’r grŵp arbenigol sy'n bodoli yng Nghymru a’i fod yn croesawu hynny, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn iddynt ei ystyried yn benodol o ran darpariaeth gwasanaethau.

Mae’r Aelod yn cyfeirio at y siediau cyn-filwyr. Roedd y sièd i ddynion y bûm i’n ymweld â hi, mewn gwirionedd, yn llawn o gyn-filwyr, felly nid oedd wedi ei henwi’n benodol yn sièd i gyn-filwyr, ond mewn gwirionedd, roedd y sièd i ddynion y bûm i’n ymweld â hi yn cael ei chefnogi’n bennaf gan gyn-filwyr, ac roedd ysbryd cymunedol gwych yn yr adeilad hwnnw er gwaethaf rhai o'r heriau yr oedd rhai unigolion yn brwydro yn eu herbyn. Yn wir, un o'r pwyntiau mwyaf diddorol oedd integreiddio cyn-filwyr â phobl eraill yn y gymuned â rhai problemau iechyd meddwl yn ogystal â defnyddio gwasanaethau hefyd. Mae’n ffordd wahanol o integreiddio’n gymdeithasol a magu hyder, sy’n fy arwain at fater lluoedd y cadetiaid ac rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r gwaith aruthrol y mae'r gwirfoddolwyr yn ein gwasanaethau cadetiaid a’n gwasanaethau tiriogaethol yn ei ddarparu ledled y DU, ac yn arbennig yng Nghymru. Nid yw bob amser yn ymwneud â’r egwyddor y mae gwasanaeth y cadetiaid yn sefyll drosti, ond a dweud y gwir mae'n creu unigolyn mwy cyfannol a chydnerthedd cymunedol nad ydym yn ei weld y tu allan i'r sefydliadau hyn. Maent yn rhoi gwerth i bobl a chyfle i rannu hynny â’r gymuned leol hefyd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gefnogol iawn iddo, ond byddwn yn annog pwyll o ran lluoedd y cadetiaid, yn arbennig mewn ysgolion, a gwneud yn siŵr bod mynediad, yn enwedig i werth addysgiadol gwasanaethau a chefnogaeth iddynt mewn ysgolion, yn cael ei gydbwyso’n ofalus â llwybrau cyflogaeth yn ddiweddarach yn y broses.

Mae rhai’n honni bod rhai o'r lluoedd arfog yn targedu ardaloedd penodol oherwydd ei bod yn haws denu pobl mewn trefi a phentrefi penodol, oherwydd y dystiolaeth academaidd ynghylch yr ardaloedd hynny. Credaf y dylai’r lluoedd arfog, os ydynt yn ystyried recriwtio, fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r holl gymunedau ledled y DU. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi cael sgyrsiau amdano yn y gorffennol â lluoedd milwrol, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn yn ei gylch, a pheidio â thargedu rhai grwpiau yn hytrach nag eraill.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ond rwyf yn croesawu cyfraniad yr Aelod. Roedd yn dda iawn ei weld ef a nifer o’r Aelodau eraill yn y digwyddiad yn y gogledd, yn etholaeth Ann Jones. Yn fwy diddorol, roedd Ann Jones mewn bysbi yn llawer mwy difyr yn ystod y dydd, ond rwyf yn siŵr bod rhai lluniau i gefnogi hynny, hefyd, Lywydd.

Diolch ichi, Lywydd. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr angen am wybodaeth ynghylch anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i lobïo Llywodraeth y DU i gynnwys cwestiynau yn y cyfrifiad nesaf i bennu anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a'u plant, fel y gellir targedu gwasanaethau ar eu cyfer yn fwy priodol, yn unol â chais y Lleng Brydeinig Frenhinol?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn—cwestiwn brathog iawn. Soniais am hyn yn gynharach ynglŷn â rhaglen y cyfrifiad. Rwyf wedi siarad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol am hyn hefyd, yn ogystal â Llywodraeth y DU. Mae rhai materion penodol ynghylch dod o hyd i gyn-filwyr a'u lleoliad a ble y maent yn byw. Byddwn yn annog pwyll. Cytunaf yn llwyr â’r Aelod—mae gwybod ble y mae pobl a’u cefnogi yn rhywbeth y byddwn yn ei gefnogi’n fawr, ond yr hyn nad wyf am ei wneud yw rhoi pobl mewn perygl o ran data diangen y cyfrifiad, a dyna’r hyn yr ydym yn ei drafod â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar hyn o bryd, ynghylch dod o hyd i bersonél mewn lleoedd penodol a ble y maent yn byw, ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus ein bod yn gwneud hynny'n iawn er lles yr unigolyn.

10. 11. Datganiad: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Nawr, rŷm ni’n symud ymlaen i eitem 11, sef datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar reoli perygl llifogydd, ac mae’r eitem yna wedi’i dynnu’n ôl.

11. 12. Datganiad: Strategaeth Ffyrdd a Gwaith Stryd

Eitem 12, felly, yw’r datganiad ar strategaeth ffyrdd a gwaith stryd, ac fe dynnwyd yr eitem yma’n ôl.

12. 13. Dadl: Ailenwi’r Cynulliad Cenedlaethol yn ‘Senedd’

Eitem 13: dadl ar ailenwi’r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r eitem yma wedi’i thynnu’n ôl ac wedi’i gohirio tan 5 Gorffennaf.

13. 14. Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i’r Grwpiau Plaid

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 14—y cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau gwleidyddol. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Simon Thomas.

Cynnig NDM6056 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

(i) Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Llafur;

(ii) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—UKIP;

(iii) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Llafur;

(iv) Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu—Plaid Cymru;;

(v) Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—Ceidwadwyr Cymreig;

(vi) Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—Llafur;

(vii) Y Pwyllgor Cyllid—Plaid Cymru;

(viii) Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon—Plaid Cymru;

(ix) Y Pwyllgor Deisebau—Llafur;

(x) Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—Ceidwadwyr Cymreig;

(xi) Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn—Llafur;

(xii) Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Llafur.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol, ond dim ond er mwyn ychwanegu at hynny a thynnu sylw'r Cynulliad at y ffaith ein bod wedi pasio Rheolau Sefydlog yn gynharach yn caniatáu i hyn fynd yn ei flaen. Yn y Rheolau Sefydlog hynny, nid oeddem yn ei gwneud yn glir—ac nid yw yn y Rheolau Sefydlog—bod yn rhaid i Aelod fod yn bresennol yma er mwyn cael ei enwebu. Felly, mae'n bosibl i rywun gael ei enwebu heddiw pan nad yw'n bresennol i dderbyn yr enwebiad hwnnw. Yn anffodus, ni wnaethom unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hynny yn ein Rheolau Sefydlog.

Wel, roeddech chi'n rhan o lunio'r Rheolau Sefydlog hynny, Simon Thomas. [Chwerthin.]

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiol? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14. 16. Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

Rŷm ni nawr, felly, yn symud ymlaen i ethol Cadeiryddion y pwyllgorau. Rwyf i nawr yn mynd i wahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol Cadeiryddion i’r pwyllgorau. Yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd yn gynharach heddiw, dim ond Aelod o’r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu fel Cadeirydd. Dim ond Aelod o'r un grŵp plaid sy’n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar ddyraniad swyddi’r Cadeiryddion i grwpiau gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae’n rhaid i’r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 Aelod, nid oes angen eilydd. Os bydd yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu ragor ar gyfer un pwyllgor, dilynir y drefn bleidleisio a nodir yn Rheol Sefydlog 17 i ethol Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Yna byddaf yn parhau i alw am enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau.

Rwy’n dechrau, felly, ac rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau?

A oes rhagor o enwebiadau? Os na, yna bydd y Cadeirydd yma nawr, gan fod dau enwebiad, yn cael ei ethol drwy bleidlais gudd, ac felly rwy’n symud ymlaen i’r pwyllgor nesaf.

Rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o blaid UKIP. A oes unrhyw enwebiad?

A oes unrhyw Aelod, felly—a oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad yna? Os felly, rwy’n datgan bod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Symud nawr, felly, i’r enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau i gadeirio’r pwyllgor yma—y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? A oes unrhyw enwebiadau?

A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau, a gaf i ofyn a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad yna? Os na, rwy’n datgan bod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Rwy’n gwahodd yn awr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o Blaid Cymru. A oes enwebiadau?

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes yna wrthwynebiad, rwy’n datgan bod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Rwy’n symud ymlaen nawr i agor enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o grŵp y Ceidwadwyr. A oes enwebiad ar gyfer y Gadair yma?

A oes rhagor o enwebiadau? Gan, felly, fod yna ddau enwebiad ar gyfer y pwyllgor yma, bydd y Cadeirydd yma’n cael ei ethol drwy bleidlais gudd.

Rwy’n symud nawr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y dyrannwyd y Cadeirydd yma o’r Blaid Lafur. A oes enwebiad ar gyfer y Gadair yma?

A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau, a chan fod mwy na dau enwebiad, bydd y Cadeirydd yma yn cael ei ethol neu ei hethol drwy bleidlais gudd.

Rwy’n symud ymlaen yn awr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid y dyrannwyd y gadeiryddiaeth yma i Blaid Cymru. A oes enwebiadau?

A oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes yna wrthwynebiad, rwy’n datgan bod Simon Thomas wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Rwy’n gwahodd enwebiadau nawr ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y dyrannwyd Cadeirydd iddo o Blaid Cymru. A oes enwebiadau?

Gan fod yna ddau enwebiad ar gyfer y pwyllgor yma, fe fydd yna bleidlais gudd ar gyfer ethol Cadeirydd y pwyllgor yma.

Rwy’n gwahodd yn awr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. Rwy’n galw am enwebiadau.

A oes rhagor o enwebiadau? Nid oes rhagor o enwebiadau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes gwrthwynebiad, rwy’n datgan bod Mike Hedges wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Symud nawr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dyrannwyd y Cadeirydd iddo o grŵp y Ceidwadwyr. A oes enwebiad?

Felly, mae yna fwy na dau enwebiad ar gyfer y gadeiryddiaeth yna. Fe fydd hynny’n symud at ethol drwy bleidlais gudd.

Rydw i’n nawr yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn y dyrannwyd y Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes enwebiad i’r pwyllgor yma?

A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau a taw un enwebiad yn unig sydd, rwy’n datgan bod David Rees wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.

Rwy’n gwahodd nawr, felly, enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. Rwy’n galw am enwebiadau.

A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes mwy o enwebiadau, a chan taw un yn unig sydd, ryw’n datgan bod Jayne Bryant wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Dyna derfyn ar y broses enwebu. Yn achos yr enwebiadau hynny a gyfeirir ar gyfer pleidlais gudd yn unol â’r Rheolau Sefydlog, rwy’n dweud wrth Aelodau y bydd y pleidleisiau cudd yn cael eu cynnal yn Ystafell Briffio 13 yn y Senedd yma rhwng 12 o’r gloch prynhawn yfory a 3 o’r gloch prynhawn yfory. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses bleidleisio a’r broses o gyfrif y pleidleisiau. Ar ôl y pleidleisiau cudd, byddaf yn cyhoeddi’r canlyniad cyn y ddadl fer yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yfory. Diolch i chi, felly. Daw hynny â’r trafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:40.