Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/10/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Cyn symud at yr eitem gyntaf, mae'n fraint gennyf gyhoeddi canlyniad y balot cyntaf ar gyfer Bil Aelod yn y seithfed Senedd, a gynhaliwyd heddiw. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai'r tri Aelod a ddewiswyd yn y balot heddiw yw James Evans, Sam Rowlands a Llŷr Powell. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd. Edrychaf ymlaen at weld yr hyn y byddwch chi'n ei gynnig maes o law, a dyma ddymuno'n dda i chi wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

1. Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Felly, eitem 1 ar yr agenda heddiw yw cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Cwestiwn 1, Tom Montgomery.

Gwasanaethau Llyfrgell

1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o ehangu gwasanaethau llyfrgell yng Nghlwyd? OQ64690

Member
Heledd Fychan 13:30:50
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi llyfrgelloedd yng Nghlwyd drwy gyllid cyfalaf a refeniw. Yn 2026-27, mae hyn yn cynnwys dyfarnu £349,000 i ariannu gwelliannau cyfalaf yn llyfrgell Bae Colwyn a llyfrgell y Rhyl. Mae llyfrgelloedd ledled Clwyd hefyd wedi elwa eleni o dros £50,000 o gyllid ar gyfer prosiectau llai.

Diolch, Weinidog. Yn 2023, penderfynodd awdurdod lleol yng Nghlwyd leihau oriau agor siop un stop llyfrgelloedd 40 y cant. Roedd hyn er bod dros 4,500 o drigolion wedi ymateb i'r ymgynghoriad—y mwyaf roedd yr awdurdod lleol wedi'i weld ers blynyddoedd. Rhybuddiodd 90 y cant o'r ymatebion hynny y byddai cau llyfrgell neu leihau oriau yn cyfyngu ar eu gallu i ymweld â'u llyfrgell leol, a chyflwynodd 96 y cant o'r cyflwyniadau hyn sylwadau negyddol am y cynnig. Bwriodd yr awdurdod lleol ymlaen â'r cynlluniau gan fod eu dwylo ynghlwm yn ariannol, i ryw raddau, oherwydd y fformiwla gyllido. Mae'r newid sylweddol wedi arwain at arbed oddeutu £360,000 ond mae'n cyfyngu'n ddifrifol ar fynediad trigolion at y gwasanaeth pwysig hwn. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gefnogi gwasanaethau llyfrgell lleol, a pha drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog llywodraeth leol ynglŷn â chyflwyno fformiwla gyllido sy'n diogelu gwasanaethau llyfrgell yn benodol? Diolch.

Mae'r Aelod yn codi mater o bwys, dwi'n gwybod, i nifer o'n hetholwyr ni ledled Cymru. Dwi'n cydnabod yr heriau y mae awdurdodau lleol wedi eu hwynebu oherwydd setliad ariannol y blynyddoedd diwethaf yma a'r effaith y mae hynny wedi ei chael ar lyfrgelloedd lleol yn benodol. Un o'r pethau rydyn ni'n ei wneud fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd ydy edrych ar wasanaethau lleol. Dwi wedi cael trafodaethau eisoes gyda rhai o arweinyddion llywodraeth leol yng Nghymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn gwir ddeall pa mor fregus ydy rhai o'r gwasanaethau hyn.

Yn ganolog i'n strategaeth newydd ni mae sicrhau mynediad cyfartal i bawb. Felly, rydyn ni eisiau deall beth ydy'r heriau sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yma, beth mae hynny wedi ei olygu i wasanaethau o ran llyfrgelloedd ledled Cymru. Rhan fawr o'r gwaith nesaf wedyn fydd edrych ar y strategaeth hirdymor yna o ran beth ydy gwasanaeth llyfrgelloedd sy'n gweithio i'n cymunedau ni, gan gydnabod nad ydy'r gwasanaeth yn cyrraedd y nod ym mhob rhan o Gymru ar y funud.

Mae llyfrgelloedd yn wasanaethau hanfodol i bobl o bob oed, ac yn aml yn mynd ymhell y tu hwnt i roi benthyg llyfrau drwy ddarparu mannau cynnes a mynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn gosod dyletswydd statudol ar gynghorau yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon. Fodd bynnag, mae trafodaethau gyda phobl yn y sector yn awgrymu bod diffyg eglurder ynghylch beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd yn creu amwysedd ac y gall hynny arwain at drin darpariaeth llyfrgell fel rhywbeth disgresiynol yn hytrach na dyletswydd gyfreithiol. Rwy'n credu eich bod wedi ateb rhywfaint o'r cwestiwn ynglŷn â'r strategaeth hirdymor honno, ond a wnaiff y Llywodraeth ystyried rhoi mwy o eglurder ynghylch beth sy'n cyfrif fel gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon a rhoi mwy o sicrwydd i gynghorau ynghylch eu cyfrifoldebau statudol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Yng Nghymru, mae gennym ni fframwaith safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, sef y mesur a ddefnyddir i benderfynu a yw hyn yn cael ei fodloni ai peidio. Mae hwn yn fater byw iawn. Dwi'n ymwybodol o'r pryderon sydd ledled Cymru, ac un o'r pethau dwi'n edrych arnyn nhw ydy beth ydy'r cyfrifoldebau a'r grym sydd gen i o dan y Ddeddf honno os nad ydy'r gwasanaethau hynny yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig. Wrth i'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth newydd fynd rhagddo, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi cynlluniau penodol sy'n edrych ar bob sector, gan gynnwys llyfrgelloedd, er mwyn rhoi rhagor o eglurder, ie, i awdurdodau lleol, ond hefyd i bobl Cymru.

13:35
Henebion Cenedlaethol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn hyrwyddo henebion cenedlaethol Gwynedd Maldwyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? OQ64676

Mae Cadw yn gwarchod ac yn hyrwyddo henebion o bwysigrwydd cenedlaethol yng Ngwynedd Maldwyn drwy eu dynodi a thrwy ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad a chymorth i'w perchnogion ar gyfer eu cadwraeth. Mae Cadw hefyd yn hyrwyddo ein treftadaeth drwy reoli'r henebion cenedlaethol sydd yn ei ofal a sicrhau mynediad cyhoeddus atyn nhw, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth hon i hyrwyddo mynediad teg i'n safleoedd diwylliannol a threftadaeth.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llansilin yn etholaeth Gwynedd Maldwyn yn gartref i Sycharth, llys hynafol Owain Glyndŵr ac un o safleoedd mwyaf arwyddocaol ein treftadaeth genedlaethol. Yn anffodus, fodd bynnag, mae'n gywilyddus nad yw cyflwr presennol y safle yn adlewyrchu ei bwysigrwydd hanesyddol a chenedlaethol. Ceir problemau megis gordyfiant, diffyg mynediad hygyrch, a hyd yn oed diffyg crybwyll i'r safle ar wefan Cadw. Ar y llaw arall, mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi gwrthod ymdrechion am fwy o arwyddion pwrpasol ar y ffyrdd i hyrwyddo'r lle. A gaf i ofyn, felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gydweithio â Cadw a Chyngor Sir Powys i sicrhau bod Sycharth yn cael ei hyrwyddo fel safle o bwysigrwydd genedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch i'r Aelod am godi Sycharth. I fi fod yn glir, dwi yn ystyried bod Sycharth yn heneb o bwys cenedlaethol sydd â lle arwyddocaol yn hanes Cymru ac yn ein hunaniaeth ni fel cenedl. Mae'r heneb ar agor i'r cyhoedd. Mae yna arwyddion dehongli ar y safle. Yn sgil rhaglen o waith cadwraeth a gynhaliwyd gyda chyllid gan Cadw, mae yna waith wedi mynd rhagddo ers i bryderon gael eu codi rai blynyddoedd yn ôl. Ond, mi ydw i ar y record yn dweud y byddwn i'n hoffi gweld mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo Sycharth cyn i fi fod yn y rôl hon, a dwi'n dal o'r farn honno. Er bod lleoliad gwledig a natur y safle yn peri rhai heriau o ran mynediad ffisegol a'r ffordd y mae'n cael ei gyflwyno, mi ydw i wedi gofyn i Cadw ymchwilio i sut y gellir gwneud stori'r safle hwn yn fwy amlwg gan ei fod o mor, mor bwysig o ran ein hanes ni. Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol nad yw Sycharth ar werth ar hyn o bryd. Mae o'n destun tenantiaeth gydol oes. Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth efo'r ystâd sy'n berchen ar Sycharth i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da a bod mynediad i'r cyhoedd yn parhau.

Yn dilyn y cwestiwn hwnnw ynglŷn â diogelu ein treftadaeth hanesyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Tai Hanesyddol Cymru. Mae llawer iawn o'n treftadaeth mewn perchnogaeth breifat mewn gwirionedd. Gwn o brofiad personol o fyw mewn tŷ rhestredig gradd II pa mor ddrud y gall eiddo o'r fath fod i'w gynnal, yn enwedig pan fo cyfyngiadau ar wneud gwelliannau i leihau costau rhedeg. A gaf i ofyn i'r Gweinidog Cabinet pa gymorth ymarferol sydd ar gael drwy Cadw i berchnogion preifat sy'n helpu i ddiogelu ein treftadaeth hanesyddol, a sut y mae'n gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod yr adeiladau hyn yn parhau'n hyfyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mi wnes i a swyddogion o Cadw gyfarfod efo Historic Houses Wales yr wythnos diwethaf, ac mi fydd swyddogion yn trafod ymhellach efo nhw o ran sut mae mynd rhagddo efo unrhyw waith cefnogaeth ac i archwilio beth yw'r opsiynau posib. Yn amlwg, mae yna gyfle iddyn nhw hefyd gyfrannu fel rhan o ddatblygiad y strategaeth newydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Louise Emery.

Diolch. Weinidog, roedd gennyf gwestiwn i'r Prif Weinidog ar 29 Medi ynglŷn ag ardrethi busnes a lleoliadau cerddoriaeth—ac rwy'n croesawu'r gostyngiad o 30 y cant—a oedd yn ymwneud â'r ymyl clogwyn ar £51,000 mewn perthynas ag ardrethi busnes. Rwyf am ichi roi ystyriaeth i'r mater hwn pan fyddwch chi'n trafod gyda'r Gweinidog cyllid. Mae angen arian cyhoeddus ar lawer o weithgareddau diwylliannol i fodoli, ac nid ydym am i leoliadau cerddoriaeth ymuno â'r rhestr honno. Maent eisiau bod yn hunangynhaliol, nid ydynt eisiau dibynnu ar grantiau, ac mae hon yn un ffordd y gallwn eu helpu. Felly, a gaf i ofyn ichi drafod eithrio lleoliadau cerddoriaeth gyda'r Gweinidog cyllid, gan gynnwys ystyried dull tapro ar gyfer ardrethi busnes yn y dyfodol? Diolch.

Diolch. Fe fyddwch chi yn gwerthfawrogi mai cwestiynau i fi ydy'r rhain, ac mae'n bosib holi'r Gweinidog cyllid yn y set nesaf o gwestiynau o ran hynny. Ond, yn sicr, o ran dyfodol lleoliadau cerddoriaeth, mae o'n rheswm pam mae'r 30 y cant yna wedi'i gyhoeddi, i gefnogi lleoliadau llai. Mi fyddwn ni hefyd yn edrych ar hyn fel rhan o'r strategaeth diwylliant newydd. O ran dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, mae peth cyfrifoldeb am gerddoriaeth rŵan efo Cymru Greadigol ac mae peth cyfrifoldeb am gerddoriaeth yn dod o dan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae yna amwysedd weithiau o ran pwy sy'n gyfrifol am y sector hwn yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, mae'n bwysig o ran economi Cymru hefyd, ac i ganol ein trefi ni a chymaint o gymunedau ledled Cymru. Yr hyn rydyn ni'n benderfynol, fel Llywodraeth, o wneud yw gweithio yn draws-weinidogol, trawsbortffolio i sicrhau bod y strategaeth newydd yn cymryd i ystyriaeth fudd cerddoriaeth, ie, o ran iechyd a lles, o ran diwylliant Cymru, ond hefyd o ran yr economi. Felly, mae hwn yn fater byw.

13:40

Diolch. Nawr, hoffwn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd. Nawr, fe wyddom inni gael rhywfaint o arian ar gyfer atgyweirio'r to yn gynharach eleni, a daethoch at ein pwyllgor diwylliant a mynegi pryder am ddŵr yn mynd i mewn i orielau sy'n cynnwys ein casgliadau cenedlaethol. Mae'r gaeaf yn agosáu, ac mae'n hollbwysig fod y gwaith cynnal a chadw hanfodol yn parhau. Ond hoffwn wybod pa gynnydd a wnaed ar y cyllid a'r atgyweiriadau a pha amserlen a pha gyllid sydd ar waith i gwblhau'r gwaith brys, gan y gallem fod mewn sefyllfa lle nid yn unig y byddai ein casgliadau mewn perygl, ond byddai'n rhaid i’r amgueddfa gau.

Diolch am y cwestiwn hwn. Fel roeddwn i'n dweud wrth fod gerbron y pwyllgor ac fel rydych chi wedi sôn, dwi'n bryderus dros ben ynglŷn ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a dwi'n edrych ymlaen i dderbyn cynigion ar gyfer yr ailddatblygu posib gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dwi heb gael y manylion hynny hyd yma. Yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud ydy gweithio'n agos iawn gydag Amgueddfa Cymru i geisio deall beth ydy'r sefyllfa a beth ydy'r angen, ac mi ydyn ni wedi dyrannu hyd at £4.8 miliwn mewn arian cyfalaf yn y flwyddyn ariannol yma i gefnogi'r gwaith gwella mwyaf brys ac i helpu i ddiogelu'r casgliadau. Mae'r rhain yn gwestiynau dwi hefyd wedi bod yn eu holi i Amgueddfa Cymru, a dwi'n edrych ymlaen at gael diweddariad arnyn nhw ac i fedru rhannu'r wybodaeth yna'n fwy eang pan fydd y wybodaeth gen i.

Iawn. Yn olaf, hoffwn sôn am y Tour de France. Bydd yn dod i Gymru yn yr haf, gan ddechrau yn y Trallwng a gorffen yng Nghaerdydd. Rydym am iddo fod yn ddigwyddiad llwyddiannus i arddangos Cymru, i helpu’r economi leol a bod yn ddigwyddiad gwych i bob un ohonom ei fynychu. Ond mae digwyddiadau ar y raddfa hon yn costio arian i'w cynnal. Rydym yn derbyn hynny’n llwyr; dyna’r fargen. Ond rydym eisiau tryloywder ynghylch y costau hyn nawr, ac yn y cyfnod cyn y digwyddiad, ac yn y cyllid gwaddol wedi hynny. Nawr, gwn eich bod wedi cyhoeddi'r gronfa waddol £4.5 miliwn, ac mae gennyf gwestiwn am hynny ac yna cwestiwn am y ffioedd cynnal. Daw’r gronfa waddol o’r gronfa pethau pwysig, neu fe gaiff ei gweinyddu drwy’r gronfa pethau pwysig, sydd ar gyfer darparu prosiectau seilwaith twristiaeth bach. A yw'r arian ychwanegol hwn, y £4.5 miliwn, yn nodi ei fod yn mynd i gael ei glustnodi ar gyfer seilwaith beicio, neu a yw'n rhan o'r gronfa pethau pwysig, felly bydd yn dod o'r pot gwreiddiol hwnnw? Dyna fy nghwestiwn cyntaf. Ac yn ail, o ran y ffi cynnal, pa gorff cyhoeddus sydd wedi talu am hyn? Diolch.

Dwi'n hapus i ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Mae rhan gyntaf eich cwestiwn chi at Weinidog arall, sef Adam Price; nid yw'n rhan o fy mhortffolio i. Mae yna gydweithio agos ar y funud yn draws-weinidogol o ran y Tour de France. Fyddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi ein bod ni wedi etifeddu'r Tour de France, ac un o'r pethau dwi ar y record yn dweud ydy bod rhain yn bethau y dylai unrhyw lywodraeth edrych arnyn nhw cyn mynd am unrhyw ddigwyddiad mawr. Mi ddylai'r holl wybodaeth yma fod yn wybyddus cyn i ni hyd yn oed roi'r cais i mewn. Dydy'r eglurder yna ddim yna. Felly, ar y funud, yr hyn dŷn ni'n ei wneud ydy gweithio'n draws-weinidogol i ddeall yn well ba symiau gwahanol sydd mewn gwahanol bortffolios ar y funud, a hefyd, o ran edrych ar y gwaddol, sut ydyn ni'n cydlynu'r holl waith hwnnw i sicrhau bod yr impact mwyaf a'r gwaddol mwyaf yn dod o hyn. Ond, i fi fod yn glir, wrth i ni fel Llywodraeth fynd rhagddi, dyma'r math o newid fydd, sef edrych ar gynllunio manwl cyn i ni roi cais i mewn, ac nid, fel rydym ni wedi gweld o dan Lafur, yn meddwl wedyn ar ôl i rywbeth ddod i Gymru.

Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am godi cwestiwn ynglŷn ag e-chwaraeon, sydd, fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, rwy’n credu, yn golygu chwaraeon electronig, sy’n cyfeirio at ornestau gemau fideo cystadleuol wedi’u trefnu lle mae unigolion neu dimau’n cystadlu mewn gemau penodol am wobrau, safle neu fri. Mae e-chwaraeon wedi datblygu o hobi achlysurol i fod yn ddiwydiant byd-eang strwythuredig gyda chynghreiriau, cyrff llywodraethu, timau, noddwyr a lleoliadau pwrpasol. Yng Nghymru, mae’r diwydiant yn tyfu’n gyflym. O fy nyddiau fel darlithydd coleg, roedd yn boblogaidd iawn. Mae Esports Cymru yn cynnal nifer o dwrnameintiau swyddogol drwy gynghrair e-chwaraeon Cymru, a'r bencampwriaeth e-chwaraeon i fyfyrwyr. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys cynghreiriau tymhorol, pencampwriaethau agored a chystadlaethau ysgolion a cholegau gyda fformatau strwythuredig a gwobrau ariannol. A wnaiff y Gweinidog glustnodi rhywfaint o'r arian a roddir i gefnogi'r diwydiannau creadigol i e-chwaraeon fel rhan o strategaeth chwaraeon gynhwysfawr?

13:45

Diolch i'r Aelod am fod yn rhywun sydd yn codi esports, a dwi'n cytuno efo chi—mae angen gwneud mwy o ran e-chwaraeon. Does dim digon o strategaeth wedi bod na digon o werthfawrogiad o'i bwysigrwydd o yma yng Nghymru. Drwy Cymru Greadigol, rydyn ni wedi cefnogi nifer o brosiectau ar y cyd ag E-chwaraeon Cymru. Mae'r prosiectau hyn wedi datblygu sgiliau digidol, technegol a darlledu, wedi codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd creadigol a chryfhau llwybrau i gemau sgrin a chyfryngau digidol. Mi fydda i yn cwrdd ag Esports Wales cyn bo hir, a dwi'n edrych ymlaen at fynd â'r sgwrs yna'n bellach. Yn amlwg, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, rwy'n hapus iawn i ddiweddaru'r Aelod, a hefyd holl Aelodau'r Senedd, ar y gwaith hwnnw.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Fel y cofiwch, efallai, ym mis Tachwedd 2024, cymerodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Jack Sargeant, ran mewn digwyddiad nodedig yn y Senedd i hyrwyddo diwydiant e-chwaraeon ffyniannus Cymru ac ymrwymiad y Llywodraeth i ddarparu'r amgylchedd mwyaf diogel a mwyaf deniadol i chwaraewyr ifanc. Yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog fod e-chwaraeon

'yn sector â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rwy'n awyddus i wneud popeth yn fy ngallu i gefnogi ei dwf a sicrhau enw da rhyngwladol i Gymru fel canolfan ar gyfer y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym.'

Mae Esports Cymru wedi cael llwyddiant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chyflawniadau nodedig, fel ennill medal aur yn y gystadleuaeth agored Rocket League ym Mhencampwriaeth E-chwaraeon y Gymanwlad. Sicrhaodd y tîm fedal arian hefyd yn y gystadleuaeth eFootball i fenywod a medal efydd yn y gystadleuaeth eFootball agored. Roeddwn yn falch iawn, yn y digwyddiad a gawsom yma, o weld Peter Fox yn chwarae e-chwaraeon. A yw e-chwaraeon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac a oes ganddynt ddyddiad ar gyfer digwyddiad e-chwaraeon arall yn y Senedd?

Diolch i'r Aelod. Dwi'n gobeithio fy mod i wedi ateb rhan o'r cwestiwn yna yn fy ymateb cyntaf, sef ydw, dwi'n credu eu bod nhw'n bwysig a dwi'n credu y dylid gwneud mwy. Yn wahanol i Weinidogion yn y gorffennol, dwi ddim yn credu mewn geiriau cynnes yn unig—dwi'n credu mewn gweithredu a chael strategaeth yn ei lle. Felly, mae'r ffaith eich bod chi'n dal i holi'r cwestiwn hwnnw, er i'r ymrwymiad gael ei wneud gan Weinidog Llafur blaenorol yn 2024, yn dweud y cyfan, mae arnaf ofn, o ran y portffolio dwi wedi ei etifeddu.

Yn sicr, mae angen gwneud mwy. Dwi'n rhoi'r ymrwymiad hynny, ac mi fyddaf yn trafod yn bellach efo Esports Wales. Mi wnes i hefyd mynychu'r digwyddiad hwnnw a chymryd rhan mewn rhai o'r esports. Na, doeddwn i ddim yn dda iawn, ond roedd yn dda iawn gweld esports ar waith yma yn y Senedd.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd aelod o staff Amgueddfa Cymru fod yr amgueddfa genedlaethol wedi dod yn fwyfwy camweithredol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Disgrifiodd ddiwylliant o ddirywiad rheoledig, ystum unigol, a diffyg stiwardiaeth broffesiynol o'r casgliad cenedlaethol. Roedd hefyd wedi codi y gallai unrhyw gyllid cyhoeddus ychwanegol a ddarperir, fel rhan o gynlluniau canmlwyddiant yr amgueddfa, fethu â chyflawni ei amcanion bwriadedig, oni bai bod y materion a nodwyd yn cael eu harchwilio a'u mynd i'r afael â nhw yn iawn. Weinidog, beth yw eich ymateb chi i'r pryderon hyn? Ac yn dilyn ymlaen o'ch atebion cynharach, pa fath o drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag Amgueddfa Cymru i sicrhau hyder y cyhoedd o ran llywodraethu a rheoli ein casgliadau cenedlaethol?

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mi ydw i'n ymwybodol o'r erthygl a gyhoeddwyd ar y wefan Nation.Cymru yr ydych yn cyfeirio ati. Mi oedd o hefyd yn cynnwys ymateb gan Amgueddfa Cymru. Mi ydw i'n sicr yn fyw iawn i'r cwestiynau sy'n cael eu codi. Dwi eisiau sicrhau, fel pawb ohonoch chi, gwerth am arian. Dwi eisiau sicrhau diogelwch ein casgliadau cenedlaethol a dwi eisiau sicrhau dyfodol ein hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Mae yna gwestiynau o ran y sefyllfa dwi wedi'i hetifeddu yr ydw i'n mynd ar eu holau. Mae yna gwestiynau byw iawn o ran sicrhau ein bod ni'n deall sut mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen cymaint o wariant hefyd.

Dwi eisiau dysgu gwersi fel ein bod ni'n gallu osgoi'r rheini wrth fynd rhagddo, ond yr ymrwymiad dwi'n ei roi i chi ydy ein bod ni'n gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar ddatblygu cynigion i'r dyfodol. Ac yn ganolog i bopeth, fel roeddwn i'n ei ddweud, ydy sicrhau dyfodol ein hamgueddfeydd cenedlaethol ni a sicrhau diogelwch ein casgliadau cenedlaethol ni, oherwydd pobl Cymru sydd berchen arnyn nhw—nid y Llywodraeth, nid Amgueddfa Cymru, ond pobl Cymru, ac mae Amgueddfa Cymru yn atebol i bobl Cymru.

13:50

Mae sector diwylliant a chelfyddydau Cymru mewn cyfnod hollbwysig, ac mae’r dyfodol ar hyn o bryd yn edrych yn fregus iawn. Yn y cyfamser, mae amgueddfeydd cenedlaethol ledled y byd yn trawsnewid yn ofodau mwy rhyngweithiol, sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd. Er enghraifft, mae’r Smithsonian wedi defnyddio podlediadau yn llwyddiannus i ddod â hanes a diwylliant i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’w safleoedd ffisegol nhw. Mae’r Louvre wedi partneru â Snapchat i ddefnyddio offer dehongli arloesol ar gyfer chwech o’i hadrannau. Ac mae amgueddfa dwyrain V&A wedi cynnal rhaglen hwyrnos, sy’n dod â phreswylfeydd DJ, bariau dros dro, a mynediad i arddangosfeydd ar ôl oriau ynghyd.

Felly, Weinidog, pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i helpu amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol yng Nghymru i foderneiddio, fel eu bod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn gystadleuol mewn oes sy’n gynyddol ddigidol ac sy’n cael ei arwain gan brofiad? A beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu amgueddfeydd i ddenu cynulleidfaoedd newydd, a denu cynulleidfaoedd iau hefyd?

Dwi’n meddwl y byddwch chi yn debygol iawn rŵan o dderbyn gwahoddiad gan Amgueddfa Cymru i fynychu rhai o’u digwyddiadau hwyrnos nhw. Dwi heb fynychu fy hun, ond mae nhw eisoes wedi bod yn gwneud hyn, ac mae wedi bod yn wych gweld y croesdoriad o oedrannau wrth i’r gofodau hyn ddod yn fyw ar adeg o’r nos pan dwi fel arfer yn fy ngwely erbyn hyn, yn anffodus. Ond mae yna waith arloesol yn digwydd.

Dwi wedi gweld esiamplau gwych o hyn ledled Cymru. Mae yna esiamplau wedi bod o allu aros dros nos yn rhai o’n hamgueddfeydd ni ac ati, efo’ch plant, night at the museum—ddim cweit fel y ffilm, ond y math yna o awyrgylch. Felly, dwi ddim eisiau rhoi'r argraff nad ydyn ni'n arloesi yma yng Nghymru. Ydw i’n credu bod yna fwy o gyfleoedd? Ydw. Ydw i’n credu, drwy’r strategaeth diwylliant a chwaraeon, ei bod hi’n angenrheidiol bod digidol yn fwy amlwg? Ydw, yn sicr.

Felly, dwi’n meddwl bod angen adeiladu ar y gwaith arloesol sy’n digwydd, ac edrych ar y math o bethau y gallem ni fod yn eu gwneud yma yng Nghymru. Trwy ddod â’r diwydiannau creadigol yn rhan o’r strategaeth ddiwylliant, dwi’n meddwl bod yna gyfle hefyd i ddatblygu partneriaethau rhwng y diwydiannau creadigol a’n sefydliadau diwylliannol ni, a bod hwnna’n rhan o’r strategaeth o ran yr economi hefyd. Felly, mae yna gyfleoedd i wneud mwy, ond mae yna arloesi eisoes yn digwydd. Mae eisiau gweld mwy ohono fo, a mwy o fuddsoddi yn y strategaeth y tu ôl i hynny.

Cymryd Rhan mewn Chwaraeon

3. Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r gost a'r lleoliad yn atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon? OQ64703

Mae hyn yn ganolog i’n gweledigaeth ni ar gyfer y strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd. Yn ein 100 diwrnod cyntaf mewn Llywodraeth, fe wnaethom ni gomisiynu archwiliad i gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru, a thrwy Chwaraeon Cymru, mi rydyn ni’n buddsoddi mewn cyfleoedd lleol sydd yn fforddiadwy, yn cefnogi clybiau cymunedol i wella cyfleusterau, gyda gweithredu wedi’i dargedu i gyrraedd y rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf o ran cyfranogiad.

Diolch, Drefnydd. Ym Mlaenau Gwent, mae 49 y cant o blant yn dioddef yn sgil amddifadedd incwm—y gyfran uchaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Yn y cyfamser, ym mwrdeistref Caerffili, mae oriau canolfan hamdden Cefn Fforest wedi'u lleihau, gydag adroddiadau lleol yn nodi gostyngiad enfawr mewn ymweliadau o gymharu â chyn y newid. Y tu ôl i bob ymweliad a gollwyd, fel y gwyddom, mae plentyn yn ymddieithrio rhag chwaraeon, cyfle a gollwyd a photensial heb ei gyflawni.

Ni all teuluoedd mewn cymunedau difreintiedig deithio i'r ganolfan hamdden nesaf bob amser, yn enwedig mewn ardaloedd â chysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig rhwng cymoedd. Gwyddom fod chwaraeon yn gwella lles corfforol a meddyliol, yn meithrin hyder ac yn agor drysau i bobl ifanc. Felly, pa fuddsoddiad penodol y gall Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili ei ddisgwyl, ac a wnewch chi flaenoriaethu cynnal cyfleusterau hanfodol presennol yn y cymunedau difreintiedig, yn hytrach na chyfeirio buddsoddiad pellach tuag at ardaloedd sydd eisoes yn cael eu gwasanaethu'n well? Diolch.

Dwi wedi bod yn glir ers dod yn Weinidog ein bod ni eisiau sicrhau mynediad cydradd i bawb yng Nghymru, a’n bod ni yn cydnabod y rhwystrau sy’n bodoli ar y funud—rhwystrau y mae’n rhaid i fi weithio ar sail trawsbortffolio i'w goresgyn. Dwi’n falch bod Mark Hooper yma rŵan—rydyn ni wedi cael amryw o drafodaethau o ran y rôl mae trafnidiaeth yn ei chwarae o ran galluogi mynediad neu atal mynediad at gyfleusterau a chyfleoedd. Dwi'n gwybod drwy waith achos fy hun am amryw o deuluoedd sydd wedi cysylltu efo fi i ddweud os nad oes ganddyn nhw gar, pa mor heriol ydy o i'w plant nhw fod yn rhan o dîm pêl-droed neu rygbi, oherwydd eu bod nhw'n methu eu cael i gemau ar benwythnosau, gyda llai o glybiau'n gallu fforddio cael bws mini, lle oedd ganddyn nhw yn y gorffennol. Mae'r rhain yn heriau ac nid oes datrysiadau dros nos chwaith.

Mae yna fuddsoddiad yn digwydd drwy'r rhaglen cyfleusterau cymunedol ym Mlaenau Gwent a hefyd drwy Chwaraeon Cymru yng Nghaerffili. Dwi'n meddwl mai'r hyn rydyn ni angen edrych arno fo ydy os ydyn ni'n buddsoddi mewn cyfleusterau, sut wedyn ydyn ni'n cefnogi pobl i oresgyn y rhwystrau eraill sy'n eu hatal nhw rhag cyfranogi. Mae yna raglenni gwych yng Nghaerffili, megis Let's Go Girls, sy'n esiampl wych lle maen nhw'n gallu cefnogi hynny. Ond fel rhan o edrych ar strategaeth diwylliant a chwaraeon, dwi'n awyddus iawn i glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc a chan deuluoedd am yr heriau y maen nhw'n eu profi rŵan, a byddwn i'n annog pob Aelod o'r Senedd i gyfrannu syniadau at yr hyn a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'ch etholwyr chi.

13:55

Yng Nghaerdydd, mae darpariaeth chwaraeon dan do fforddiadwy yn hanfodol o ystyried ein henw fel dinas lawiog, ond fwy a mwy, mae cost gynyddol llogi cyrtiau a neuaddau yn rhy ddrud i glybiau llawr gwlad a theuluoedd dosbarth gweithiol. Ar yr un pryd, cymerodd 10 mlynedd o ymgyrchu a gweithio mewn partneriaeth rhwng Pêl-fasged Cymru a Chyngor Caerdydd i adnewyddu'r cyrtiau awyr agored yng Ngerddi Pleser y Rhath—prosiect a fydd yn gwbl drawsnewidiol i'r gymuned leol. Er bod buddsoddiad mewn cyfleusterau i'w groesawu, mae llawer o bobl ifanc yn dal i wynebu rhwystrau ariannol rhag cymryd rhan. Felly, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi clybiau llawr gwald a sicrhau bod cyfle unigolyn ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn cael ei bennu gan eu talent a'u huchelgais, nid eu cod post na gallu eu rhieni i dalu?

Diolch. Dyna'r union waith rydyn ni yn ei wneud rŵan drwy weithio'n drawsbortffolio. Mae'r ffaith ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau, drwy'r strategaeth tlodi plant newydd, fod diwylliant, chwaraeon a'r cyfranogiad at y rheini'n rhan ganolog o'r gwaith yn bwysig. Dwi'n meddwl bod y ffaith wedi bod yn y gorffennol efallai nad yw hynny wedi bod yn ddigon o ffactor. Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rhwystrau sydd yna. Rydyn ni'n gwybod bod y bwlch o ran cyfranogiad yn cynyddu yn ddibynnol ar incwm teuluol, ac nid dyna sut y dylai hi fod. Felly, dwi'n gofyn i chi, yr holl Aelodau sydd efo esiamplau o brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth, lle ydych chi'n meddwl y dylen ni fod yn canolbwyntio'r adnoddau, i rannu hynny efo ni wrth inni ddatblygu strategaeth sydd wirioneddol yn mynd i fynd i'r afael efo'r heriau hyn. 

Dwi'n cytuno bod yna bocedi gwych o waith yn digwydd yng Nghaerdydd ac mewn gwahanol lefydd o Gymru, ond, yn aml, mae rhai cynlluniau peilota yn dod i ben, er ein bod ni'n gwybod eu bod nhw'n gweithio. Dwi eisiau sicrhau, os oes yna beilot, ein bod ni'n edrych ar a oes yna gyllid ar gael i barhau efo'r gwaith hwnnw. Mae yna hefyd rai cynlluniau lle mae yna nawdd yn dod i mewn, lle mae rhai busnesau sydd efo incwm ac yn gallu rhoi mwy o fudd i mewn i'r gymuned, bod hwnnw wedyn yn cael ei dargedu a'i gefnogi er mwyn caniatáu cynlluniau o'r fath. Does gen i ddim o'r holl atebion o ran 'sut' ar y funud, ond mae hwn yn rhan o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn arwain at lawer o fanteision, fel y gŵyr pob un ohonom. Mae'n gwella iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles, ac yn darparu cyfleoedd hefyd i adeiladu cymunedau a dod â phobl ynghyd. Ond gall rhwystrau rhag cymryd rhan atal pobl rhag cael mynediad at y manteision hyn yn gyfan gwbl. Mae adroddiad 'Cyflwr y Genedl' Chwaraeon Cymru ar gyfer 2024-25 yn nodi mai dau o'r tri ffactor sydd fwyaf tebygol o annog cyfranogiad mewn chwaraeon yn y dyfodol yw pe byddai mwy o gyfleusterau, clybiau neu grwpiau yn eu hardal, a phe byddai'n costio llai.

Mae ardaloedd yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, ac yn fwy penodol yn nwyrain Caerdydd, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn anfynych ac yn ddrud. A chyda'r dirywiad mewn canolfannau ieuenctid a chyfleusterau cymunedol yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn toriadau, mae'n teimlo fel pe bai'r broblem hon ond yn gwaethygu. Rwy'n derbyn eich bod eisoes wedi ateb rhan o'r cwestiwn hwn, ond roeddwn eisiau gofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i fesur a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn benodol, a sut rydych chi'n gweithio gyda'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth i sicrhau bod teuluoedd incwm isel yn gallu cymryd rhan.

Diolch. Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae'r rhain yn sgyrsiau byw iawn. Mae'r ffaith bod gyda ni Ddirprwy Brif Weinidog sydd yn arwain ar dlodi plant, bod gyda ni Mark Hooper sydd yn arwain ar drafnidiaeth, bod gyda chi fi, bod gennym ni Nerys Evans, sydd yn edrych o ran yr ochr iechyd ataliol ac iechyd cyhoeddus, yn cydweithio ar hyn er mwyn sicrhau bod y cynlluniau rydyn ni'n eu rhoi yn mynd i'r afael â'r heriau yma, gobeithio yn rhoi'r sicrwydd i chi ein bod ni i gyd yn gweld y rôl sydd gennym ni i'w chwarae. Dwi ddim jest yma'n sefyll yn dweud, 'Mae hon yn broblem i drafnidiaeth', ond beth dŷn ni'n trio cydweithio arno fo ydy, 'Beth ydy'r datrysiadau hynny? Sut ydyn ni'n ei wneud o'n fwy fforddiadwy?' Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, os nad ydy pobl yn cael mynediad at chwaraeon a'n gallu cyfranogi, yna maen nhw'n mynd i gostio mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd yn y pen draw, boed hynny o ran iechyd meddwl neu iechyd corfforol. Mae'r ochr ataliol yn allweddol bwysig, ond dwi yn cydnabod bod yr heriau hyn yn real ar y funud. Dŷn ni ddim yn mynd i newid hyn dros nos, ond mae'n rhaid inni symud at agenda ataliol yma yng Nghymru, a dyna'r ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth hon.

14:00
Mynediad at Chwaraeon

4. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cyfranogiad mewn chwaraeon yn hygyrch i bawb yn Afan Ogwr Rhondda? OQ64712

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio drwy Chwaraeon Cymru a phartneriaid lleol i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb yn Afan Ogwr Rhondda. Rydw i eisoes wedi sôn bod yna heriau a rhwystrau'n bodoli, a drwy'r strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd, dŷn ni eisiau mynd i'r afael efo'r rhwystrau hynny.

Diolch, Weinidog. A dylwn i fod wedi dechrau trwy ddweud, 'Shwmae?'

Weinidog, mae’r rhaglen lywodraethu’n ymrwymo i flaenoriaethu mynediad cyfartal at chwaraeon i bobl o bob oed, cefndir a gallu, yn ogystal â chynyddu cyfranogiad a gwella cyfleusterau llawr gwlad. Ym mis Mehefin, cefais gyfle i ymweld â gŵyl bêl-droed gynhwysol Margam Stags, sy'n dod â phlant a phobl ifanc o wahanol oedrannau a galluoedd ynghyd. Mae Clwb Pêl-droed Margam Stags yn adnabyddus yn fy etholaeth am y cyfleoedd gwerthfawr y maent yn eu darparu i bobl a allai wynebu rhwystrau sylweddol fel arall i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â chyfleusterau newydd sbon Afan United yn Sandfields, lle mae buddsoddiad sylweddol wedi trawsnewid y safle’n hyb pêl-droed cymunedol o ansawdd uchel. Mae hyn wedi rhoi cyfleusterau chwaraeon modern ar garreg y drws mewn cymuned lle mae lefelau amddifadedd yn uchel. Dyma'r math o brosiectau a all wireddu mynediad cyfartal a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent efallai wedi'u cael fel arall. Weinidog, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod ei hymrwymiad i wella cyfleusterau llawr gwlad yn cael ei dargedu at y cymunedau a'r grwpiau lle mae'r rhwystrau mwyaf rhag gallu cymryd rhan?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol hwnnw. Mae'n wych clywed am y prosiectau pwysig yma sydd yn digwydd rŵan, ac un o'r pethau dwi'n gobeithio y byddwch chi ac Aelodau eraill yn ei wneud, drwy'r alwad am dystiolaeth, ydy gyrru esiamplau lle mae hyn yn digwydd. Dydy o ddim yn rhywbeth a all ddigwydd yn y dyfodol, mae o'n digwydd yn ein cymunedau ni rŵan. Ond mae yna risg, heb fuddsoddiad, na fydd y gwaith hwnnw'n ddigwydd, a hefyd, fel dŷch chi wedi sôn, fod yna anghyfartaledd, oherwydd os nad ydych chi efo'r grŵp hwnnw, yna does yna ddim cyfle i gyfranogi.

Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r esiamplau hynny sydd yn gweithio a'n bod ni'n edrych wedyn ar sut mae hynny'n dyblygu ac yn dyblygu mewn ffordd sydd yn gweithio i'r gymuned honno, oherwydd mi fydd pob cymuned yn wahanol o ran y datrysiadau. Ond yn sicr, dyna'r math o dystiolaeth dŷn ni'n ei chasglu ar y funud. Dwi wastad yn barod iawn i ymweld efo unrhyw esiamplau hefyd; dwi'n agor fy hun i fyny am wahoddiadau pellach.

Ond mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n uwcholeuo'r cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli, oherwydd nid yw rhai pobl yn gwybod beth sydd ar gael yn eu cymunedau nhw. Felly, mae yna rôl i ni i gyd hefyd fod yn defnyddio'r platfformau sydd gennym ni i rannu'r wybodaeth honno. Mae yna fwy y medrwn ni ei wneud hefyd drwy bethau fel social prescribing i fod yn annog y rheini sydd yn dal i'w chael hi'n anodd, hyd yn oed pan mae'r math yna o gyfleuster ar gael yn lleol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, mae chwaraeon hygyrch yn golygu cyfleusterau da yn agos at adref, gyda mynediad fforddiadwy a theg i bob clwb, ysgol a thîm merched. Rwy'n croesawu eich cefnogaeth i ehangu nifer y caeau artiffisial. Ym mis Mai 2024, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd wrth y Siambr hon fod cyfleuster 3G y Rhondda yn flaenoriaeth i Undeb Rygbi Cymru, gyda Choleg y Cymoedd wedi'i nodi fel ateb posibl. Anogodd bartneriaid i weithio tuag at gyflwyno cais yn y flwyddyn ariannol ganlynol. Dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae angen llwybr clir ymlaen ar ein cymuned. A wnewch chi gadarnhau p’un a oes cais wedi'i gyflwyno ar gyfer y cynnig hwnnw, ac a allai cyllid eleni gefnogi cae rygbi 4G modern sy'n addas ar gyfer pob tywydd ac yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer hyfforddiant a gemau cystadleuol tra bod archwiliad Chwaraeon Cymru yn parhau? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf yn gwybod, ond fe geisiaf gael gwybod beth yw'r sefyllfa. Fe fyddwch chi hefyd yn deall mai plaid wahanol a Gweinidog gwahanol a roddodd yr ymateb hwnnw ar y pryd, ond rwy'n hapus i ymchwilio ymhellach a sicrhau eich bod yn cael yr ymateb hwnnw.

14:05
E-chwaraeon

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twf e-chwaraeon yng Nghymru? OQ64683

Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi Esports Wales i ddatblygu sgiliau a llwybrau gyrfaol creadigol sy'n gysylltiedig ag e-chwaraeon. Rydyn ni'n ystyried cynigion ar gyfer buddsoddiad economaidd mewn e-chwaraeon wrth iddynt godi, a dŷn ni'n parhau i gefnogi diwydiant gemau fideo ehangach Cymru drwy gyllid datblygu a chynhyrchu, rhaglenni sgiliau a chyfleoedd masnach. Er enghraifft, ym mis Medi mi aethon ni â dirprwyaeth o wyth o ddatblygwyr gemau o Gymru i'r Tokyo Game Show. Ond fel clywsoch chi yn fy ymateb i Mike Hedges yn gynharach, mae yna fwy, dwi'n credu, y gallem ni fod yn ei wneud, a byddwn ni'n edrych ar hwn fel datblygiad strategaeth newydd.

Diolch. Mae gennyf ddiddordeb brwd iawn mewn e-chwaraeon, a chyn dod i'r Siambr heddiw, nid oeddwn yn disgwyl y byddai llefarydd y Blaid Lafur ar y mater hwn yn achub y blaen arnaf, ond rwy'n falch fod hynny wedi digwydd. Un maes yr hoffwn sôn amdano yw'r manteision y gallai digwyddiadau e-chwaraeon eu cynnig i Gymru. Disgrifiodd Prifysgol Stockton yn yr Unol Daleithiau bencampwriaethau a digwyddiadau e-chwaraeon fel cyfle twristiaeth nad aethpwyd ar ei drywydd hyd yma. Amcangyfrifodd Awdurdod Llundain Fwyaf yn ddiweddar fod un digwyddiad e-chwaraeon, sef BLAST Premier London Open 2025, wedi creu effaith economaidd o fwy na £30 miliwn i'r ddinas. Nawr, mae maer Llundain wedi amlinellu uchelgais yn ddiweddar i roi Llundain wrth wraidd y maes e-chwaraeon yn fyd-eang, ac ni welaf unrhyw reswm pam na ddylem ni hefyd gael uchelgais tebyg yma yng Nghymru er mwyn i ni allu mwynhau manteision y diwydiant hwn sy'n tyfu. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i roi camau cadarnhaol ar waith i helpu i ddenu mwy o ddigwyddiadau e-chwaraeon i Gymru? Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Dwi'n credu bod yna grŵp trawsbleidiol newydd yn mynd i gael ei ddechrau ar esports. Mae gennym ni ddwy blaid eisoes wedi ymrwymo i hynny, a gobeithio bod y sicrwydd dwi wedi ei roi fy mod i'n cydnabod y gallem ni fod yn gwneud mwy o ran esports yng Nghymru—. Dwi'n cytuno efo hynny, a dwi'n awyddus iawn i glywed syniadau gan unrhyw Aelodau o ran sut y byddem ni'n gallu ymgorffori hynny o fewn strategaeth newydd.

Nofio a Diogelwch Dŵr

6. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen genedlaethol newydd nofio a diogelwch dŵr i ysgolion? OQ64701

Diolch i'r Aelod. Mae Nofio Ysgol yn rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer nofio a diogelwch dŵr ysgolion, sy'n darparu cynnig cenedlaethol cyson o o leiaf 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion blynyddoedd 4 a 5. Mi ddechreuodd y gwaith hwn mewn naw awdurdod lleol yn barod ym mis Medi, gan nodi cam cyntaf y cyflwyniad fydd wedyn ledled Cymru.

Mae dysgu nofio yn un o'r rhoddion gorau y gallwch eu rhoi i blentyn. Cefais y fraint o nofio yn llynnoedd Hampstead Heath, y Serpentine, Llyn Bled, oddi ar Ynys Skye ac ar hyd rhan helaeth o'r arfordir gorllewinol, ac un diwrnod rwy'n bwriadu cymryd rhan mewn ‘nofiothon’ eto. Mae'n sgil y gallwch ei chadw am oes, mae'n mynd â chi i leoedd na fyddech chi byth yn breuddwydio amdanynt ac yn mynd â chi o amgylch y byd. Ond nid yw pob plentyn yn cael y budd o ddechrau o’r fath. Canfu Nofio Cymru mai dim ond 42 y cant o blant ym mlynyddoedd 3 i 6 oedd yn gallu nofio 25 metr heb gymorth, sy'n ffigur difrifol i wlad â'n harfordir ni, ac mae'n fater diogelwch hefyd. Felly, rwy'n croesawu'r rhaglen hon, ond a allai'r Gweinidog Cabinet amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael â dysgu plant mewn ardaloedd lle nad oes llawer o ddarpariaeth neu lle mae pyllau nofio wedi cau, gan nad yw gwersi am ddim o fawr werth os nad oes lle i'w cynnal.

Diolch. Dyna yn union pam dŷn ni'n edrych ar gyfleusterau ledled Cymru hefyd, a dyna pam dŷn ni'n dechrau efo naw awdurdod lleol sydd mewn gwahanol rannau o Gymru—rhai yn wledig, lle mae yna byllau nofio wedi cau—i ddeall yr heriau hynny a deall sut dŷn ni'n blaenoriaethu buddsoddiad. Dŷn ni yn gwybod ar y funud mai dim ond 13 y cant o blant dan 11 oed sy'n cymryd gwersi nofio allgyrsiol. Dŷn ni hefyd yn gwybod bod yna filoedd o blant yn gadael ysgol gynradd bob blwyddyn sy'n methu â nofio.

Mae hi yn sgìl sy'n gallu achub bywyd. Mae hi yn sgìl sy'n gallu eich cadw chi'n actif drwy gydol eich oes, oherwydd mae'n un o'r unig chwaraeon dŷch chi yn gallu eu gwneud dim ots pa oed ydych chi hefyd. Felly, dyna pam dŷn ni wedi ymrwymo i hyn, ac mi oedd o'n wych gweld, mewn ymweliad diweddar gyda'r Prif Weinidog, y gwersi hyn ar waith, a gweld hyd yn oed y plant hynny oedd yn gallu nofio yn datblygu eu sgiliau o ran achub bywyd a hefyd beth i wneud mewn sefyllfa os oedden nhw'n disgyn i'r dŵr heb rybudd neu mewn cyfleusterau lle mae'r dŵr yn oer iawn neu i ddeall y peryglon. Dydy o ddim jest yn fater o ddysgu pobl i nofio, ond dysgu'r sgiliau all arbed bywyd hefyd. 

14:10
Cyfleusterau Chwaraeon

7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar archwiliad Chwaraeon Cymru o gyfleusterau chwaraeon rhanbarthol a chymunedol? OQ64715

Diolch i'r Aelod. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn adolygu'r wybodaeth sy'n cael ei gadw gan gyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i greu darlun cenedlaethol o gyfleusterau chwaraeon cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol ledled Cymru. Mae'r gwaith cychwynnol hwn yn dechrau nodi bylchau yn y dystiolaeth ac yn datblygu opsiynau ar gyfer cyflwyno a chynnal y data, gan helpu i lywio buddsoddiad cyfalaf mwy strategol yn y dyfodol.

Mae Canolfan Hamdden Cefn Fforest yn parhau i fod ar agor, ond fe wnaeth Cyngor Caerffili leihau ei horiau agor yn sylweddol yn 2025 a chau'r ystafell ffitrwydd. A fydd y broses casglu data gan Chwaraeon Cymru yn cynnwys newidiadau i oriau agor, argaeledd y cyfleuster ym mhob safle, a'r pellter i ddarpariaeth amgen, fel bod buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn adlewyrchu lefel y ddarpariaeth sydd ar gael i gymunedau?

Mae'r cam cyntaf yn edrych ar y lleoliadau. Dŷn ni hefyd yn edrych ar ba ddata ychwanegol sydd ar gael, gan gynnwys oriau agor ac ati. Yr hyn sydd yn anodd ar y funud ydy bod gennym ni ddim darlun llawn er mwyn deall beth ydy'r rhwystrau a beth ydy'r pethau all newid a lle byddai buddsoddiad yn neud y gwahaniaeth. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ac mi fyddaf i'n sicrhau fy mod i wedi codi efo Chwaraeon Cymru yr hyn dŷch chi wedi ei godi heddiw, i sicrhau bod oriau agor yn rhan o hynny, er mwyn inni allu gweld y darlun mwyaf llawn posibl. Mae yna heriau, oherwydd mae rhai awdurdodau lleol efo'r data hwn, ond dŷn ni'n gwybod bod lot o awdurdodau lleol hefyd wedi 'outsource-io' rhai o'r gwasanaethau hyn, felly mae o yn anodd cael at y data, ond dŷn ni yn trio cael darlun mor llawn ag sy'n bosibl.

Diolch. A'r cwestiwn olaf, Weinidog, cwestiwn 8, Safa Elhassan.

Mynediad at Weithgareddau Diwylliannol, Chwaraeon a Hamdden

8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at weithgareddau diwylliannol, chwaraeon a hamdden yng Ngŵyr Abertawe? OQ64707

Mae Llywodraeth Cymru, a minnau fel Gweinidog, wedi ymrwymo i sicrhau bod diwylliant a chwaraeon yn hygyrch i bawb. Drwy'r gwaith ar ddatblygu strategaeth diwylliant a chwaraeon, rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni gefnogi'r nod hwnnw. Drwy'r alwad am dystiolaeth, dŷn ni eisiau clywed gan bobl ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngŵyr Abertawe, er mwyn sicrhau bod ystod eang o leisiau a phrofiadau yn llywio'r modd mae pobl yn cael mynediad at ddiwylliant, y celfyddydau a chwaraeon.

Diolch, Weinidog. Ar ymweliad diweddar â Chlwb Ieuenctid Sgeti yng nghwmni Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, gwelais drosof fy hun sut y gall canolfan gymunedol groesawgar ddod â phlant, rhieni a neiniau a theidiau at ei gilydd trwy weithgareddau awyr agored. Mae grwpiau fel clwb Lolfa De Sgeti i rai dros 50 oed hefyd yn dangos pa mor bwysig yw creu cyfleoedd i bobl hŷn aros yn egnïol, mewn cysylltiad ac yn rhan o bethau.

Ym mae Abertawe, mae prosiect HARBWR yn enghraifft ragorol arall, gan ddefnyddio gweithgareddau creadigol a diwylliannol i gefnogi pobl sy’n profi unigrwydd ac iechyd meddwl gwael. Fel clinigydd, gwn fod atal yn dechrau ymhell cyn i rywun gyrraedd ysbyty neu feddygfa.

Sut y bydd y strategaeth diwylliant a chwaraeon yn helpu i ddod â sefydliadau cymunedol a gwasanaethau iechyd at ei gilydd fel y gall mwy o bobl ar draws ardal Gŵyr Abertawe elwa o weithgareddau diwylliannol a hamdden fforddiadwy er mwyn gwella llesiant a helpu i atal salwch?

Diolch i'r Aelod. Mae'n wych clywed am y pethau rhagorol sydd yn digwydd yn eich etholaeth chi, a dwi wir yn mwynhau clywed am yr esiamplau hyn. Dyna pam y mae o yn bwysig bod pawb ohonon ni yn cyfrannu y syniadau hyn a'r enghreifftiau hyn i ddatblygiad y strategaeth, fel ein bod ni'n edrych ar sicrhau'r cysondeb hwnnw. Dwi'n gobeithio bod yr ymrwymiad dŷch chi wedi'i glywed gen i eto heddiw, ymrwymiadau dŷch chi wedi eu clywed gan y Gweinidog Cabinet dros iechyd a'r ddwy Ddirprwy Weinidogion o ran iechyd, hefyd yn dangos ein bod ni yn gweithio ar y cyd o ran y mater yma.

Dwi wedi cael llond bol, a dwi wedi dweud yn rheolaidd, o ddarllen adroddiadau sydd yn dweud bod angen i Gymru symud at agenda ataliol, fod yn rhaid i'r gwaith hwnnw ddechrau, ac mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau. Mae'n mynd i gymryd amser i newid y systemau, ond mae'n rhaid i ni ei wneud. Dŷn ni'n gwybod bod diwylliant a chwaraeon yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol ac iechyd meddyliol, felly y gwaith dŷn ni'n ei wneud rŵan ydy ar sut dŷn ni'n sicrhau bod yr holl systemau sydd wedi gweithredu ar wahân yn cyd-fynd, a'n bod ni'n gallu cael potensial diwylliant a chwaraeon wedi'i wireddu o ran iechyd, o ran yr economi ac o ran dyfodol ein cenedl.

14:15

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Ymlaen i gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Cwestiwn 1—Rebeca Phillips.

Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddarparu diweddariad ar adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol? OQ64711

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn bwrw ymlaen â'r adolygiad o fformiwla ariannu llywodraeth leol mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys gwaith technegol ar y cyd gyda llywodraeth leol ac ymchwil annibynnol drwy Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae disgwyl adroddiad yn ystod haf 2027 ar y gwaith yma.

Diolch yn fawr. Fel cyn-gynghorydd sir o 14 o flynyddoedd, croesawaf ymrwymiad y Llywodraeth hon i adnewyddu'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol drwy sicrhau eu bod nhw'n bartneriaid llawn yn nyluniad a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhagorol ar draws ein cymunedau, a byddwn yn dibynnu arnynt i gyflawni llawer o flaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Mae'n hanfodol felly fod y fformiwla ariannu yn adlewyrchu cost go iawn darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru. A allai'r Gweinidog felly ddarparu gwybodaeth am ba drafodaethau mae hi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â'r mater yma? Diolch.

Diolch am y cwestiwn pellach yna, ac a gaf i gytuno gyda'r Aelod fod cynghorau sir yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol o ran delifro gwasanaethau cyhoeddus ac yn chwarae rôl hanfodol o ran sut bydd y Llywodraeth yma'n gwireddu ein rhaglen lywodraethu ni, ac yn chwarae rhan allweddol, wrth gwrs, yn darparu a chynrychioli'r bobl yn lleol? Ac felly mae ariannu llywodraeth leol, i'w galluogi nhw i fedru cyflawni yn y modd yma, yn bwysig yn hynny o beth.

Cwestiwn ynglŷn â'r drafodaeth dwi wedi ei chael gyda'r Gweinidog llywodraeth leol o ran ariannu priodol ar gyfer awdurdodau lleol—ie, yn sicr, mae hynny'n digwydd fel rhan o'r drafodaeth ynglŷn â pharatoi ar gyfer cyllideb flynyddol Cymru. Ac, wythnos ddiwethaf dwi'n meddwl oedd hi, fe wnes i gwrdd, ar y cyd â'r Gweinidog llywodraeth leol, gydag awdurdodau lleol yn finance sub-group yr WLGA wrth i ni drafod y gyllideb flynyddol, ie, a newidiadau a'r drafodaeth ynglŷn â'r fformiwla cyllido hefyd. Felly, mae'r berthynas a'r drafodaeth barhaus yna gyda llywodraeth leol yn bwysig iawn i'r Llywodraeth yma er mwyn cyflawni'r holl waith mae'n cynghorau sir ni yn gyfrifol am ei wneud.

Weinidog Cabinet, tra bod eich cyd-Aelod yn America yn archwilio ystyr deallusrwydd artiffisial a'r Prif Weinidog yn rhedeg o gwmpas marchnad Caerdydd, mae yna heriau dybryd iawn yn sir Gaerfyrddin yn effeithio ar gymunedau gwledig. Mae cynghorau sy'n brin o arian yn cael eu gorfodi i droi at economïau ffug tymor byr, crintachlyd fel bygwth cau ein hysgolion bach gwledig. Fe gaewyd dwy ysgol heddiw a dweud y gwir. Rhaid i gynghorau reoli eu harian, rwy'n cytuno'n llwyr, ond pryd fydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ein harian ni? A fydd y fformiwla ariannu hon o'r diwedd yn cyfeirio arian trethdalwyr tuag at ddiogelu'r ysgolion bach gwledig hyn, calonnau ein cymunedau? Diolch.

Wel, mae hyrwyddo Cymru dramor yn agwedd bwysig ar y gwaith y mae'r Llywodraeth hon am ei gyflawni ar ran busnesau a chymunedau yng Nghymru. Roedd y Prif Weinidog yn yfed paned o goffi mewn coridor wrth imi fynd heibio iddo ar fy ffordd i lawr i'r Siambr yn gynharach, nid yn galifantio i unman ar y pryd, a choffi poeth yn ei law. A gaf i ddweud, fel y dywedais wrth Rebeca yn gynharach, fod awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn darparu gwasanaethau—addysg a gwasanaethau cymdeithasol—yn ein holl gymunedau yng Nghymru? Maent yn wynebu sefyllfaoedd cyllidebol anodd a heriol, yn union fel ninnau fel Llywodraeth genedlaethol. Mae gwneud y penderfyniadau hyn ar lefel leol yn bwysig. Credwn mewn datganoli'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, yn hytrach na gosod terfynau mympwyol ar awdurdodau lleol o ran faint o arian y gallant ei wario, fel y byddwch chi am ei gynnig yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd. Rwy'n cynrychioli etholaeth i'r gorllewin o'ch un chi, sydd hefyd yn un wledig ei natur. Rwyf wedi gweld ysgolion lleol yn gorfod cau ar adegau; rwyf wedi gweld ymgyrchoedd i achub ysgolion lleol, ac mae'r ysgolion hynny'n parhau ar agor heddiw. Mae cymunedau lleol a’u cynrychiolwyr yn gorfod gwneud y penderfyniadau cymhleth hyn, ac ni ddylid eu bychanu yn y lle hwn; mae angen iddynt ddilyn y prosesau, gwrando ar leisiau'r bobl, a gwneud y penderfyniadau cywir. Nid ein lle ni yw gwneud y penderfyniadau y dylid eu gwneud yn lleol.

14:20

Mae'r prif ffactorau sy'n sbarduno'r galw ar gyllidebau awdurdodau lleol yn cynnwys poblogaeth, niferoedd ysgolion, gofal cymdeithasol ac amddifadedd. Bydd unrhyw newidiadau i bwysoli'r dangosyddion hyn yn fformiwla ariannu llywodraeth leol yn cael effaith enfawr ar allu cynghorau sydd â'r dwysedd poblogaeth a'r amddifadedd mwyaf i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Yn dilyn gwyriad diweddar Llywodraeth Cymru o'r fformiwla ariannu sefydledig, mae angen eglurder ar y cynghorau sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd. Mae angen iddynt wybod a fydd unrhyw newidiadau parhaol i'r fformiwla yn dod ag unrhyw gyllid ychwanegol sylweddol neu a fydd y pot ariannu yn dal yr un fath.

Diolch. Rydych chi'n amlinellu'r heriau, wrth gwrs, wrth greu fformiwla ariannu sy'n gweithio i bob cymuned a phob awdurdod lleol ledled Cymru, yn eu holl amrywiaeth. Mae’r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, gyda rhan ohono mewn partneriaeth uniongyrchol ac mewn cydweithrediad â llywodraeth leol, yr adolygiad technegol, mae rhan o hwnnw’n cynnwys diweddaru ac ailraddnodi'r fformiwla tra'n cadw ei fethodoleg sefydledig sy'n seiliedig ar anghenion, ac mae'r gwaith cychwynnol sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar rai o'r meysydd rydych chi wedi'u nodi, prif feysydd darpariaeth llywodraeth leol, sef addysg a gwasanaethau cymdeithasol personol. 

Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae'r gwaith hwn yn parhau ac yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd yr adroddiad terfynol ar y gwaith hwn yn barod yr haf nesaf, a bydd hwnnw wedyn yn penderfynu sut rydym yn bwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n tybio y byddwn yn cael llawer o sgyrsiau am y materion hyn yma, ac yn bwysig, rhyngom ni fel Llywodraeth a llywodraeth leol, sef prif ddarparwyr cymaint o agweddau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen eu hariannu’n unol â'r anghenion y mae angen iddynt eu diwallu mewn amrywiaeth o amgylchiadau gwahanol.

Cynnal

2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Thrysorlys Ei Fawrhydi a Chyllid a Thollau ei Fawrhydi ynglŷn ag effaith bosibl taliadau arfaethedig Cynnal Llywodraeth Cymru ar statws treth a budd-daliadau y rhai sy'n ei gael? OQ64718

Dwi wedi ysgrifennu at y Canghellor ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i ofyn am esemptiad treth ar gyfer Cynnal. Dwi hefyd wedi codi'r mater mewn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mewn trafodaethau gyda'r Gweinidog Gwladol ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'r Dirprwy Brif Weinidog hefyd wedi gwneud cais i'r taliad gael ei ddiystyru at ddibenion cyfrifo budd-daliadau. Dwi'n croesawu hefyd, yn hyn o beth, sylwadau cadarnhaol Prif Weinidog newydd y Deyrnas Gyfunol o ran edrych ymhellach ar y materion yma.

Diolch. Ar gyfartaledd, ledled Cymru, mae tua un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi, gyda rhai o'r wardiau mwyaf difreintiedig i'w gweld yng Nghlwyd, lle rwy'n ei gynrychioli. Rydym yn aml yn siarad am dlodi bwyd a thlodi tanwydd, ond rwyf am dynnu sylw'r Siambr at un o ganlyniadau eraill llai gweladwy tlodi, sef tlodi gwelyau. Mae gormod o blant yn cysgu mewn gwelyau sydd wedi torri neu'n anaddas, yn gorfod rhannu gwelyau neu'n cysgu'n rheolaidd ar soffas, cadeiriau neu hyd yn oed ar loriau am nad ydynt yn gallu fforddio gwely addas. Gall colli cwsg effeithio ar bron pob system fawr yn y corff. Mae cyflwyno'r taliad Cynnal yn amlwg i'w groesawu'n fawr, ond rhaid inni sicrhau nad yw'n effeithio ar fudd-daliadau eraill sy'n amodol ar brawf modd. Ar ben hynny, os ydym o ddifrif am greu newid parhaol i blant sy'n byw mewn tlodi, mae angen pwerau arnom i fynd i'r afael â'r tlodi hwnnw ein hunain. Rwy'n deall o ffynonellau newyddion fod rhywfaint o drafod wedi bod ynglŷn â hyn, ond a wnaiff y Gweinidog ymrwymo nid yn unig i barhau â thrafodaethau gyda'r adrannau perthnasol i sicrhau nad yw taliadau Cynnal yn effeithio ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ond hefyd i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddatganoli pwerau lles yn llawn i Gymru?

14:25

Diolch. Rydych chi'n amlinellu yn eich cwestiwn effaith wirioneddol a gwanychol tlodi ar blant yn ein cymunedau, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio cyflwyno taliad tlodi plant, taliad uniongyrchol, ar ffurf ein cynllun Cynnal. Fe fydd yn anodd iawn i ni fel Llywodraeth gyflwyno'r cynllun peilot hwnnw os na roddir yr eithriadau hynny i fudd-daliadau gan Lywodraeth y DU, felly rydym yn gwasgu'n galed am benderfyniad gan Lywodraeth y DU i eithrio taliad Cynnal rhag unrhyw effaith ar fudd-daliadau neu drethi. Felly, byddwn yn mynd ar drywydd hynny. Ac rwy'n gobeithio, hyd yn oed yn fy llythyr at Lywodraeth y DU, y gallai hyn fod yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn darparu eglurder yn ei gylch yn y gyllideb ym mis Ebrill. Ac os caf ddweud, o ran datganoli lles llawn—neu gynnydd ar ddatganoli lles—mae hynny'n sicr yn rhywbeth y mae'r Prif Weinidog yn mynd ar ei drywydd yn rhan o'r angen i weld mwy o ddatganoli. Rydym wedi gweld sut y mae datganoli lles yn rhannol i'r Alban wedi ei gwneud hi'n bosibl gwneud taliad tlodi plant yn yr Alban, ac fe gawn ni ein hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd gan rai o'r cyfyngiadau yn ein setliad datganoli. Felly, mae angen inni newid hynny er mwyn ein helpu gyda'r gwaith yr hoffem fynd i'r afael ag ef ar dlodi plant.

Weinidog, gwrthododd Llafur eich cyllideb atodol ym mis Gorffennaf. Awgrymodd Mark Drakeford y dylent fod wedi derbyn y cytundeb. A nawr, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi dod i gytundeb. Mae'r hen fand yn ôl gyda'i gilydd, yn chwarae'n fyw ar lwyfan o addewidion gwag. [Torri ar draws.] Cynigiai eich cyllideb a drechwyd £2 filiwn ar gyfer taliadau Cynnal, ond gallai hyd at 15,000 o blant gael eu heffeithio, a byddai hynny'n costio £7.8 miliwn dros flwyddyn cyn costau gweinyddol.

Mor ddiweddar â 7 Hydref, roeddech chi'n dal i geisio amddiffyniadau gan Gyllid a Thollau EF a'r Adran Gwaith a Phensiynau i atal teuluoedd rhag bod ar eu colled drwy drethi neu lai o fudd-daliadau. Mae'n dda clywed eich datganiad, ond pam ar y ddaear cyhoeddi cymorth ariannol cyn sicrhau'r amddiffyniadau sydd eu hangen i sicrhau bod derbynwyr yn elwa mewn gwirionedd? Mae hynny'n edrych yn unllygeidiog ac yn ffordd o geisio cyhoeddusrwydd. A oes risg y bydd hyn yn dod yn addewid maniffesto Plaid Cymru anonest arall wedi'i chwalu yn sgil paratoi annigonol ac ansicrwydd ynghylch cyllid? Weinidog, a yw eich cytundeb â Llafur yn ariannu'r cymorth ariannol sydd ei angen i gyflawni Cynnal o'r taliad cyntaf a thu hwnt i'r gyllideb wreiddiol o £2 filiwn? Diolch.

Nid ymrwymiad maniffesto yn unig yw taliad Cynnal mwyach, mae'n addewid gan y Llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru ym mis Mai. Rydym wedi symud ymlaen o faniffesto, felly daliwch i fyny. Mae'r rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, eisiau gweithredu, ac ar draws ein gwaith fel Llywodraeth, mynd i'r afael â thlodi plant, am y rhesymau clir a amlinellwyd gan Becca yn ei chwestiwn cynharach. Felly, mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn. Credwn fod yna fesurau syml iawn y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd i'n galluogi i gyflwyno'r taliad hwn. Mae llunio cynllun peilot taliadau Cynnal, fel y bydd, yn parhau'n rhan o waith y Llywodraeth hon nawr, ac fel yr amlinellais eisoes, byddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU i'n galluogi i'w roi ar waith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, ar 15 Medi, cyhoeddodd eich Llywodraeth—gan y Prif Weinidog—y byddai'n codi'r dreth ar adeiladau busnes mwyaf Cymru i dalu am doriadau i ardrethi lleoliadau llai. Wyth diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd Admiral, unig gwmni FTSE 100 Cymru, fod 500 o swyddi'n cael eu torri, a chyhoeddodd Legal & General, sy'n cyflogi mwy na 2,000 o bobl yng Nghaerdydd, fod 1,000 o swyddi'n cael eu torri. Nawr, roedd Admiral eisoes wedi dweud wrth y marchnadoedd yn ôl ym mis Mawrth fod yn rhaid iddo ddod o hyd i £100 miliwn o gynilion. Felly, roeddech chi'n gwybod bod rhai o'n cyflogwyr mwyaf dan bwysau ac eto i gyd, fe wnaethoch chi benderfynu anfon bil treth mwy atynt. Mae eich asesiad effaith, a ryddhawyd yn ddiweddarach, ar 6 Hydref, yn dyfalu am swyddi a allai gael eu creu ym maes lletygarwch, ond yn hollbwysig, nid yw'n dweud dim am y posibilrwydd o golli swyddi i'r busnesau sy'n gorfod talu mwy. Felly, cwestiwn syml, Weinidog: a wnewch chi gyhoeddi asesiad llawn o effaith eich codiad treth ar swyddi cyn gofyn i'r Senedd hon bleidleisio arno—'gwnewch' neu 'na wnewch'?

14:30

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw beth sy'n dweud bod y cwmnïau hynny sydd, yn anffodus, wedi cyhoeddi toriadau i swyddi wedi gwneud hynny mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i'r gostyngiad o 30 y cant yn yr ardrethi busnes sydd ar gael i'r diwydiannau hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Maent yn gwmnïau mawr a byddant am weld gweithlu sy'n gweithio iddynt hwy yng Nghymru, sy'n byw mewn cymunedau bywiog, canol dinasoedd bywiog yma yng Nghaerdydd. Fel rhan o ddarparu ar gyfer sicrhau bod gennym allu i fusnesau llai barhau i fasnachu yng nghanol ein dinasoedd ac yn ein strydoedd mawr, penderfynodd y Llywodraeth hon leihau ardrethi busnes ar y sectorau lletygarwch a hamdden. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hynny, ac unrhyw wybodaeth y credwch fod angen i mi ei darparu er mwyn hwyluso eich cefnogaeth i ostwng ardrethi busnes ar gyfer ein tafarndai a'n clybiau, buaswn yn hapus i ddarparu hynny ichi.

Naddo. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wrthym fod gwaith ar drydedd bont y Fenai yn dechrau nawr, sy'n eiriau cynnes, ond roedd fy nghyd-Aelodau'n iawn i ofyn ble mae'r arian, oherwydd mae Cymru wedi bod yma o'r blaen. Gwario miliynau ar gynlluniau ffordd liniaru ar gyfer yr M4, a addawyd yn wreiddiol ym 1991, ac yna rhoi'r gorau i'r cynllun, yn rhannol oherwydd materion cyllid. A'r drydedd bont, a addawyd yn wreiddiol yn 2018, £3 miliwn wedi'i wario ar gynllunio cyn rhoi'r gorau i'r cynllun, yn rhannol oherwydd materion cyllid. Yr amcangyfrif cyfredol ar gyfer y prosiect hwn heddiw yw £670 miliwn, ond dim ond £20 miliwn i £25 miliwn sydd wedi'i gyllidebu dros y pum mlynedd nesaf ar ei chyfer, a hynny ar gyfer cynlluniau'n unig.

Gallwn weld i ble mae hyn yn mynd, Weinidog: fe fyddwch chi'n gohirio'r gwariant mawr tra byddwch yn y swydd, bydd Gweinidog cyllid yn y dyfodol yn cyhoeddi nad oes gennym ddigon o arian ac yna'n ei roi heibio'n dawel. Yr un hen stori drist i drafnidiaeth. Felly, Weinidog, a wnewch chi fy mhrofi'n anghywir ac addo o ble y daw'r arian i adeiladu'r bont yn ystod tymor y Senedd hon?

Yn sicr, nid yr un hen stori yw hon ar gyfer pont y Fenai. Buaswn i wedi dweud bod yr wythnos diwethaf yn ddiwrnod cyntaf cyhoeddiad mawr gan y Llywodraeth hon ar ddyfodol trydedd bont y Fenai. Yn y Llywodraeth, yn y Senedd hon, pan fyddwch wedi bod yma am fwy o amser, fe fyddwch chi'n gwybod bod prosiectau seilwaith mawr yn cymryd amser hir i'w cyflawni. Felly, os nad ydych chi'n dechrau heddiw ac yn dechrau'r gwaith cynllunio ac yn ariannu'r gwaith cynllunio, fel y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud ar gyfer pont y Fenai, ni fyddwch yn cyrraedd y diwrnod pan fydd yna drydedd bont dros y Fenai. Felly, mae'n rhaid ichi ddechrau ac yna rydych chi'n parhau â'r gwaith hwnnw. Mae'r Llywodraeth hon wedi dechrau'r broses o lunio'r gwaith sydd ei angen i wella gwydnwch y ddwy bont sydd yn eu lle heddiw a mynd i'r afael â'r angen am drydedd bont y Fenai. Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwnnw, i ariannu'r gwaith hwnnw yn ei gamau datblygu, a gobeithio y byddwch chi a minnau yma'n ddigon hir i weld trydedd bont yn cael ei hadeiladu dros y Fenai.

Weinidog, rydych chi wedi treulio pum mis yn y swydd hon. Gadewch inni edrych ar eich cyflawniad: chi sy'n gyfrifol am gyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru erioed i gael ei threchu yn hanes datganoli; rydych chi wedi llwyddo ddwywaith i bleidleisio yn erbyn eich Llywodraeth eich hun, drwy gamgymeriad; rydych chi wedi gorfod cywiro'r cofnod am gael ffigurau ariannol yn anghywir yn y Siambr; a nawr, rydych chi wedi methu esbonio o ble y daw'r arian ar gyfer trydedd bont y Fenai. Dyna pam nad oeddwn yn synnu, pan oedd angen i'ch Llywodraeth drafod gyda fy mhlaid i ar gyfer y gyllideb atodol nesaf, na wnaeth eich anfon chi, fe anfonodd y Gweinidog dros effeithiolrwydd llywodraeth. Mae gennyf ffynhonnell sy'n dweud bod yr un peth yn union wedi digwydd gyda'r trafodaethau â Llafur. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi dysgu gwersi dros yr haf. Y wers, mae'n ymddangos, yw pasio heibio i chi. Felly, Weinidog, pwy sy'n gweithredu cyllid Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd? Ac o ystyried ei bod hi'n amlwg nad chi sy'n gwneud, onid yw'n bryd trosglwyddo'r awenau'n swyddogol i rywun mwy cymwys?

Pan fyddwch wedi bod yma 27 mlynedd a dim ond wedi llwyddo i bleidleisio'n anghywir ddwywaith, efallai y caf ddod yn ôl atoch a gweld sut fyddwch chi wedi cyflawni mewn 27 mlynedd. Edrychwch, gallwch fychanu'r cwestiynau llefarwyr hyn os dymunwch. Mae yna gwestiynau pwysig iawn y gellid eu gofyn ar y pwynt hwn, ac rydych chi wedi gofyn ai Dafydd Trystan neu fi a ddaeth i gyfarfod gyda chi. Fi yw'r Gweinidog cyllid. Mae yna bobl eraill yn y Llywodraeth hon a fydd hefyd yn trafod gyda phobl ar draws y Senedd hon, ynghylch cyllid ac ynghylch deddfwriaeth. Nid ydym yn gweithio fel seilo yn y Llywodraeth hon; rydym yn gweithio fel tîm. Nid wyf yn gwybod sut rydych chi'n gweithio o fewn Reform—buaswn wrth fy modd yn cael cipolwg ar hynny. Ond fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chi a chyda'r holl bleidiau yma i sicrhau cefnogaeth y Senedd ar gyfer cyllideb sy'n ei gwneud hi'n bosibl darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'n hawdd eistedd ar fainc Reform, neu hyd yn oed ar fainc y Torïaid, a phleidleisio 'na' bob amser. Y rhan anodd o'r gwaith hwn, fe welwch, yw canfod—[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro am lusgo plaid wleidyddol arall i mewn i hyn. Ni ddylwn fod wedi gwneud hynny, ac roeddwn innau'n bychanu ar y pwynt hwnnw. Fe welwch, yn y gwaith o feithrin cydweithrediad a sicrhau bod angen pasio cyllidebau a phasio deddfwriaeth yn y lle hwn—oherwydd yn y pen draw dyna pam y cawn ein hethol i'r lle hwn gan bobl Cymru—fod angen ichi siarad ar draws pleidiau gwleidyddol ac o fewn pleidiau gwleidyddol, a dyna rwy'n mynd i barhau i'w wneud.

14:35

Llefarydd Llafur Cymru, Huw Thomas.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddymuno shwmae hapus i'r ddwy ohonoch chi? Weinidog, fel rydym ni wedi clywed, newyddion mawr yr wythnos yma oedd y cytundeb ar y gyllideb atodol. A gaf i ddiolch i chi yn bersonol am eich cyfarfodydd gyda fi a'r ffaith ein bod ni wedi gallu dod yn gadarnhaol at gytundeb sydd yn sicrhau £60 miliwn ychwanegol i ysgolion a cholegau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? Mae hyn yn fuddugoliaeth. Bues i'n ymweld ag ysgol ym Mhentrebane yng ngorllewin Caerdydd y bore yma. Mae'n amlwg yn mynd i wneud gwahaniaeth bod yr arian yn dod yn syth yn awr.

Rydym yn glir fod yr arian hwn yn flaendal pwysig, ond nid yw'n ddigon. Mae angen cyllid pellach. Rydych chi wedi siarad o'r blaen am eich pryderon am orwariant yn ystod y flwyddyn o fewn y GIG ac felly'r angen i ddal arian yn ôl, heb ei ddyrannu, i fynd i'r afael â'r pryder hwnnw. Rwy'n derbyn hynny fel dadl ddoeth ar hyn o bryd, ond beth rydych chi'n ei wneud i leihau'r gorwariant hwnnw? Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig imi—

Huw, a allwch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda?

Os caf fynegi hyn. Fis neu ddau yn ôl, y rhagolwg o ddiffyg blynyddol net ar gyfer byrddau iechyd oedd £333 miliwn. Beth yw'r ffigur hwnnw erbyn hyn? A ydych chi wedi llwyddo i ostwng y ffigur hwnnw, fel y gallwn ddatgloi cyllid ychwanegol i ysgolion a cholegau?

Shwmae. Shwmae i'r Siambr gyfan y prynhawn yma. Mi oedd yn bwysig ein bod ni'n dod i gytundeb a bod yna fwyafrif, gobeithio, yn mynd i fod yn y Siambr yma nawr i ganiatáu'r gwariant ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, sydd angen y £60 miliwn yna a fydd yn cael ei bleidleisio arno yn yr wythnosau nesaf yma, fel bod yr arian pwysig yna yn cyrraedd ein hysgolion ni a'n colegau ni er mwyn sicrhau bod y pwysau y mae ein hysgolion ni oddi tano nawr yn cael ei leddfu rhyw gymaint. Dwi'n gwybod eich bod chi'n credu bod angen mwy o arian yn hynny o beth, a dilyniant i'r arian hynny, ac mae hwnna'n rhywbeth bydd y Siambr yma yn ei chyfanrwydd angen ei drafod wrth inni gyflwyno'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Wrth gyfeirio at yr heriau penodol o fewn y GIG ac o ran rheolaeth ariannol o fewn y GIG, mae hwn yn fater rwy'n parhau i gael sgyrsiau yn ei gylch gyda'r adran iechyd a'r Gweinidog iechyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyrraedd sefyllfa lle rydym yn hyderus ar ddechrau blwyddyn ariannol fod y GIG yn gallu byw o fewn y gyllideb sydd wedi'i dyrannu ar gyfer y flwyddyn honno. Mae chwyddiant sylweddol o fewn y GIG—mewn gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, ond yn enwedig yn y GIG—ac mae hynny unwaith eto oherwydd ei fod yn yr economi ehangach ac mae hynny'n her i'n gwaith o reoli cyllideb y GIG. Mae'r rhain yn faterion y mae angen inni ymrafael â nhw ac mae ganddynt ganlyniadau bywyd go iawn i bobl allan yno sy'n cael gwasanaethau gan y GIG.

14:40

Diolch. Wnes i ddim clywed ffigur yn fanna o beth roedd y gorwariant wedi gostwng ganddo, felly efallai gallwn chi ysgrifennu drwy lythyr ar y mater. Un o'ch blaenoriaethau chi fel Llywodraeth ydy'r cynnig gofal plant. Un o'n blaenoriaethau ni ydy sicrhau tâl teg yn yr economi. 

Roedd maniffesto Llafur Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod busnesau sy'n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Rwyf wedi gofyn o'r blaen a fydd busnesau a ariennir drwy'r cynnig gofal plant yn cael eu gorfodi i dalu'r cyflog byw gwirioneddol. Nid wyf wedi cael ateb clir ar hynny eto, ond rwy'n nodi bod eich rhaglen lywodraethu yn eich rhwymo i fabwysiadu dull 'gwaith teg yn gyntaf' ar gyfer grantiau, benthyciadau a chontractau'r sector cyhoeddus. Tybed pa gynnydd a wnaethoch ar weithredu'r ymrwymiad hwnnw. Yn benodol, a fydd talu'r cyflog byw gwirioneddol yn dod yn amod yng nghontractau'r sector cyhoeddus a chymorth ariannol i fusnesau? A beth yw'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r gofynion hynny? Diolch yn fawr.

Ar y sefyllfa bresennol, a sefyllfa'r GIG o fewn y flwyddyn ariannol, rwy'n hapus i ysgrifennu atoch ymhellach ar yr union sefyllfa gan ein bod ym mis 6 neu 7 o'r flwyddyn ariannol.

Ein hymrwymiad fel Llywodraeth yw sicrhau bod cyflog teg am waith teg ac rydym yn ceisio ymgorffori hynny ar draws ein gwaith fel Llywodraeth, boed hynny yn y cyflogau sydd ar gael i bobl sy'n ymgymryd â chontractau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ond hefyd o ran y cwestiwn a ofynnwch yn benodol yno, y grantiau sydd ar gael i fusnesau. Felly, bydd angen imi ystyried y rhan benodol honno o'r cwestiwn ac ysgrifennu atoch i gadarnhau beth yw bwriad Gweinidog yr economi ar yr agwedd benodol honno ar y cwestiwn.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, ym mis Mai eleni, safodd Plaid Cymru ar blatfform o newid. Wrth gwrs, fe welsom yn 2007 y glymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur am gyfnod o bedair blynedd; yn 2021, roedd gan Blaid Cymru gytundeb cydweithio â Llafur trwy gydol y tymor hwnnw; yn 2025, y cytundeb ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ac wrth gwrs, ddoe, fe wnaethoch chi gyhoeddi cytundeb gyda Llafur Cymru ar gyfer y gyllideb atodol. Tybed sut y mae hyn yn arwydd o'r platfform o newid y safodd Plaid Cymru arno ym mis Mai.

Mae'n ddiddorol imi, y dadansoddiad hwn o bwy sy'n gweithio gyda phwy, oherwydd os ydym yn meddwl am y gyllideb atodol ac os ydym yn meddwl sut y bydd y gyllideb atodol honno'n symud ymlaen drwy'r Senedd, efallai y bydd yn cael ei chefnogi gan un neu ddwy blaid wleidyddol yma. Efallai ei bod yn cael ei chaniatáu i fynd drwodd gan blaid wleidyddol arall, ond efallai y pleidleisir yn ei herbyn gan gonsensws clyd arall rhwng Reform a'r Torïaid yma. Mae cynghreiriau'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd yn y lle hwn. Rwyf bob amser yn awyddus i edrych i weld sut rydym yn creu cynghreiriau newydd. Rwyf bob amser yn awyddus i weithio gyda phleidiau gwleidyddol ar draws y Siambr hon. Wyddoch chi, rwyf wrth fy modd pan fo'r Siambr gyfan yn gweithio gyda'i gilydd fel un, ond nid yw'n ymddangos mai dyna yw'r patrwm y dyddiau hyn.

Felly, mae gan y Llywodraeth hon raglen lywodraethu ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Mae'n rhaglen o newid. Bydd cyllideb yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn galluogi'r rhaglen honno i symud yn ei blaen. Rydym ni'n Llywodraeth o newid. Y rhaglen honno yw'r rhaglen lywodraethu gyntaf nad yw'n rhaglen lywodraethu gan y Blaid Lafur. Mae hynny'n newid ynddo'i hun ac fe fydd yn gwneud pethau gwahanol.

Diolch, Weinidog Cabinet. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall, pan fyddwch chi'n dweud ei bod yn Llywodraeth o newid, ond yn parhau â'r un cynghreiriau sydd wedi digwydd sawl gwaith yn ystod 27 mlynedd y Senedd hon, mae'n anodd i'r etholwyr ddeall sut y gall y ddau beth hynny fod yn wir ar yr un pryd. Ac wrth gwrs, yn ystod yr ymgyrch honno, fe wnaethoch chi honni y byddai'r cynllun economaidd yn datgloi potensial, yn cefnogi swyddi da ac yn tyfu busnesau, ac wrth ffurfio Llywodraeth newydd yng Nghymru, roedd llawer o bobl yn gobeithio am newid i ffwrdd o 27 mlynedd o weithio gyda Llafur mewn un ffordd neu'r llall. Yn lle hynny, gwelwn y cytundeb hwnnw'n cael ei wneud eto.

Yn fwyaf arbennig, o ran y mater ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, mae'n hollol iawn fod cyllid wedi'i ddyrannu i'r plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond nid yw asesiad un flwyddyn yn ddigon i roi'r sicrwydd sydd ei angen mor daer ar ysgolion, athrawon, rhieni a dysgwyr. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid wedi dweud wrthym fod y cytundeb hwn yn llawer llai na'r angen sydd wedi'i nodi ar gyfer ADY yng Nghymru. Dywedodd arweinydd Llafur Cymru ei hun ddoe fod angen cynaliadwyedd hirdymor ar y sector ADY. Mae'n drysu'r meddwl felly pam na chytunwyd ar gytundeb hirdymor. Felly, tybed a ydych chi'n credu, yng ngwaelod eich calon, y bydd cytundeb Plaid Cymru a Llafur ar y gyllideb atodol yn dod â'r newid sydd ei angen ar Gymru, yn gwneud digon i ehangu'r cymorth i ddysgwyr ADY, ac yn helpu i dyfu'r economi ledled Cymru gyfan.

14:45

Wel, mae'r gyllideb atodol honno, wrth gwrs, yn llawer mwy na'r £60 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny ynddo'i hun yn bwysig ac yn ychwanegiad i'r gyllideb a drafodwyd yma yn yr haf, ac mae hynny'n gyfraniad pwysig a fydd nawr yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion a cholegau yng Nghymru. Ni fydd yn mynd o ganlyniad i'r ffaith eich bod chi wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol, neu Reform o bosibl yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol. Fe fydd yn mynd am y bydd Plaid Cymru'n pleidleisio dros y gyllideb atodol honno, a bydd Llafur yn caniatáu i'r gyllideb atodol honno basio. Oherwydd ein gweithredoedd ni y bydd yn mynd, nid eich gweithredoedd chi. Felly, mae hynny'n gyfraniad a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac nid yw pleidleisio'n groes yn barhaus yn cyflawni dim.

Treth Trafodiadau Tir

3. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y dreth trafodiadau tir ers ei chyflwyno yn 2018? OQ64688

Mae'r dreth trafodiadau tir wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gyllideb Cymru ers ei chyflwyno yn 2018. Mae wedi sicrhau cyllid gwerth dros £2.5 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol yng Nghymru. 

Rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr buddiannau. Rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes pryder, Weinidog. Y cyntaf yw ein prynwyr tro cyntaf. Nid oes rhyddhad i brynwyr tro cyntaf yng Nghymru. Felly, er enghraifft, os yw prynwr tro cyntaf yn prynu tŷ gwerth £300,000, mae'n talu £4,500 yn fwy mewn treth nag yn Lloegr. Po ddrytaf yw'r tŷ, y gwaethaf yw hynny. Yn ail, mae gan Gymru dreth gosbol i'r rhai sy'n prynu cartrefi drutach. Er enghraifft, mae angen gwerth £62,000 o dreth ar gartref gwerth £1 filiwn yng Nghymru—tua hanner cymaint eto nag yn Lloegr. Nawr, efallai y bydd rhai pobl yn meddwl bod hynny'n dda. Ond gadewch imi eich atgoffa bod gan Gymru sylfaen dreth bryderus o fach: mae 1.1 y cant o drethdalwyr yng Nghymru yn talu treth ychwanegol, o'i gymharu ag 1.5 y cant yng ngorllewin canolbarth Lloegr ac 1.9 y cant yn ne-orllewin Lloegr. Dylem fod yn poeni am hynny. Weinidog, mae Cymru'n mynd yn dlotach ac mae'r penderfyniadau a wnaed yn y lle hwn dros 27 mlynedd, y gwnaethoch chi ein hatgoffa yn eu cylch nawr, wedi cyfrannu at hynny. Cyflwynwyd y polisi treth hwn gan Mr Mark Drakeford. Mae'n gweithredu fel cymhelliad i bobl ifanc brynu tai yn Lloegr, ac mae'n gweithredu fel datgymhelliad i'r rhai sy'n fwy cyfoethog i symud i Gymru. Mae eich Llywodraeth yn honni ei bod eisiau trawsnewid economi Cymru—

A fyddwch chi'n ystyried newid y strwythur hwn neu, hyd yn oed yn well, gosod targed i'w ddiddymu?

Y darn pwysig o'r jig-so hwn na wnaethoch chi sôn amdano yno oedd bod gan y dreth trafodiadau tir yng Nghymru drothwy cychwyn llawer uwch nag yn Lloegr. Felly, y trothwy cychwyn yng Nghymru yw £225,000. Mae tua 55 y cant a mwy o drafodiadau yn is na'r trothwy o £225,000 yng Nghymru, ac nid ydynt yn talu treth tir o gwbl—nid yw 55 y cant o'r holl drafodiadau yn talu unrhyw dreth trafodiadau tir ar brif breswylfa. Y trothwy cychwyn yn Lloegr yw £125,000. Mae pob tŷ sy'n werth mwy na £125,000, a rhwng £125,000 a £225,000, yn talu treth trafodiadau tir neu dreth stamp yn Lloegr. Nid ydynt yn gwneud hynny yng Nghymru. Yn yr Alban, £145,000 yw'r trothwy. Felly, wrth adrodd stori treth trafodiadau tir, dywedwch y cyfan ac yna bydd y darlun llawn yn darparu'r dull cytbwys y mae'r Llywodraeth hon yn credu y gall barhau. Er, rwy'n barod i ystyried a oes angen meddwl am ryddhad i brynwyr tro cyntaf. Mae'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb mewn edrych arno yn y cyd-destun hwn o bosibl, ond mae'r mwyafrif o brynwyr tro cyntaf yn y cyd-destun hwnnw o fod o dan y trothwy o £225,000. Mewn gwirionedd, mae'r trothwy o £225,000 yn uwch na'r pris tŷ cyfartalog yng Nghymru, sef £215,000.

14:50

Weinidog Cabinet, rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i adolygu'r dreth trafodiadau tir ac uchelgais ehangach i annog adeiladau gwag i gael eu defnyddio eto. Gyda Chymru prin yn adeiladu hanner y cartrefi sydd eu hangen arni, mae pob tŷ gwag yn cyfrif. Mae un o fy etholwyr yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, datblygwr eiddo lleol bach, wedi nodi i mi sut y mae'r rheolau treth yn trin eiddo annrhigiadwy fel eiddo preswyl oherwydd, yn ddamcaniaethol, fod modd eu hatgyweirio. Ond y tai adfeiliedig hyn, heb wasanaethau, sydd â thoeau wedi torri a lleithder yw'r union rai sydd eu hangen arnom i ddod yn gartrefi. Eto mae datblygwyr yn talu treth trafodiadau tir cyfradd uwch arnynt, gan ddatgymell buddsoddiad a gwaith adfywio. Er bod y grant cartrefi gwag yn helpu perchnogion cartrefi unigol, ni all datblygwyr ei ddefnyddio, ac nid yw'r ad-daliad ardrethi uwch sydd ar gael i landlordiaid sy'n lesio'n ôl i gynghorau yn berthnasol chwaith. Felly, wrth ichi archwilio diwygio, a fyddai'r Gweinidog Cabinet yn ystyried ad-daliad treth am gyfnod penodol ar gyfer datblygwyr lleol sy'n troi eiddo adfeiliedig yn gartrefi? Diolch.

Diolch am y pwynt hwnnw. Fel y gwyddoch, mae gan y Llywodraeth ddiddordeb mewn gallu dod â mwy o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gweithredol, yn enwedig i ddefnydd preswyl. Ac ar y pwynt a wnaethoch yno am yr anawsterau y gallai rhai datblygwyr eiddo fod yn eu cael wrth adnewyddu a dod ag eiddo preswyl gwag yn ôl i ddefnydd am eu bod yn cael eu dal gan fater y dreth trafodiadau tir, ac a oes ffordd o ddarparu rhyddhad neu ad-daliad trafodiadau tir i gymell datblygwyr eiddo i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, mae'n faes diddorol rwy'n berffaith barod i edrych arno wrth inni edrych ar sut y defnyddiwn y dreth trafodiadau tir i'w gwneud hi'n bosibl i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Yn sicr, ni fuaswn eisiau iddo fod yn ddatgymhelliad gweithredol, felly yn sicr fe edrychaf ar sut y gallwn weld a oes ffyrdd o wneud hynny mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Cyllid ar gyfer Addysg Bellach

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ynglŷn â chyllid ar gyfer addysg bellach? OQ64677

Fel rhan o broses y gyllideb, dwi’n cynnal trafodaethau rheolaidd â holl Weinidogion y Cabinet. Mae penderfyniadau ar gyllid addysg bellach, fel pob penderfyniad cyllidebol, yn cael eu hystyried yn ystod trafodaethau ehangach y Cabinet ar flaenoriaethau.

Diolch, Weinidog. Mae cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sector addysg bellach yn dod yn her fawr, gyda Choleg y Cymoedd yn dweud wrthyf eu bod wedi profi cynnydd o bron i 50 y cant yn nifer y dysgwyr sydd ag ADY a chynlluniau datblygu unigol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Yn yr un modd, mae Coleg Merthyr Tudful yn nodi nid yn unig nifer cynyddol o fyfyrwyr sydd â CDUau, ond twf sylweddol yn nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt ADY sy'n cael eu hasesu ar hyn o bryd i benderfynu a oes angen CDU neu drefniadau cymorth ychwanegol arnynt.

Nawr, rwy'n croesawu cytundeb y gyllideb atodol y mae Llafur Cymru wedi'i sicrhau gyda'ch Llywodraeth, gyda £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys £2.5 miliwn ar gyfer addysg bellach. Ond er mwyn cefnogi dysgwyr a staff yn effeithiol, mae angen i'r cyllid hwn fod yn gynaliadwy a hirdymor. Felly, pa drafodaethau fyddwch chi'n eu cael gyda chyd-Aelodau i sicrhau hynny?

Yn sicr, rwy'n cydnabod bod anghenion dysgu ychwanegol yn her o ran cyllid a darpariaeth i golegau, addysg ôl-16, yn ogystal â'n hysgolion. Mae'n ymddangos bod llawer o ffocws y drafodaeth ar ysgolion, ond mae'n her real iawn i addysg ôl-16 hefyd. Dyna pam fy mod yn falch, yn rhan o'r cytundeb hwnnw i sicrhau cynnydd ar y gyllideb atodol, a'r dyraniad o £60 miliwn ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fod £2.5 miliwn ohono'n mynd yn uniongyrchol i golegau. Ond agwedd bwysig arall ar y cytundeb hwnnw o'r pecyn £60 miliwn yw bod dyraniad cyllid hefyd ar gyfer cynllunio ar gyfer model cynaliadwy hirdymor o gyllid ar gyfer addysg ac anghenion ychwanegol, fel y gallwn, dros amser, gyrraedd pwynt lle gall ein hawdurdodau lleol, ysgolion a cholegau gynllunio darpariaeth i ddiwallu'r angen a'r gallu i ddarparu addysg yn gynhwysfawr i bawb. Mae angen inni gyrraedd lle gwell na lle rydym arni ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar draws y Siambr hon ar sut y gallwn ddatblygu a gosod hyn ar sail gynaliadwy i'r dyfodol.

14:55

Mae cwestiwn 5 [OQ64693] wedi'i dynnu nôl. Cwestiwn 6, Sarah Rees.

Cyllidebu ar Sail Rhywedd

6. Sut fydd y Gweinidog Cabinet yn sicrhau bod cyllidebu rhywedd yn dod yn rhan annatod o ddatblygu, gwneud penderfyniadau a chraffu ar y gyllideb yn ystod y Senedd hon? OQ64710

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran rhywedd a sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn drylwyr ym mhob cam o’r broses o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Ein prif ffocws fel Llywodraeth yw'r canlyniadau rŷn ni’n eu cyflawni, a rhaid inni ystyried yn ofalus ba adnoddau a mecanweithiau sy’n ein helpu ni i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth hon yn gweithio tuag at ei hymrwymiad maniffesto i ymgorffori cyllidebu ar sail rhywedd yng Nghymru. Mae arfer gorau rhyngwladol yn rhoi'r cyfrifoldeb am hyn yn nwylo'r Trysorlys—ac felly, chi, Weinidog—am fod penderfyniadau cyllidebol yn siapio bywydau bob dydd pobl. Gall cyllidebu ar sail rhywedd ymddangos yn gymhleth, felly fe geisiaf wneud cyfatebiaeth â bywyd bob dydd: nid yw cogydd da yn aros nes bod y gwesteion wedi bwyta i weld a yw ei rysáit yn gweithio. Mae blasu, neu brofi, yn digwydd ymlaen llaw, ac ni ddylai'r Llywodraeth fod yn wahanol. Mae cyllidebu ar sail rhywedd yn ymwneud ag asesu effaith penderfyniadau gwariant cyn iddynt gael eu gwneud, yn hytrach na dysgu'n rhy hwyr eu bod wedi dyfnhau anghydraddoldebau presennol. Mae'r achos yng Nghymru yn llwm. Mae menywod dair gwaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn gweithio'n rhan-amser, dair gwaith a hanner yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar, oherwydd cyfrifoldebau gofalu, ac yn wynebu bwlch cyflog ar sail rhywedd o 11.8 y cant. Felly, Weinidog, pa arweinyddiaeth fyddwch chi'n ei dangos i ymgorffori cyllidebu ar sail rhywedd ar draws y Llywodraeth?

Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn pasio'r prawf coginio, ond fe geisiaf basio'r prawf cyllidebol. Mae yna ystod o offer a dulliau a all ein helpu i ddeall effeithiau penderfyniadau gwariant cyn inni eu gwneud, ac mae cyllidebu ar sail rhywedd yn sicr yn offer o'r fath. Ond mae cyfyngiadau ar ein gallu i ymgorffori'r dull hwn, yn enwedig yng nghyd-destun y gyllideb gyntaf eleni.

Ymgymerodd y Llywodraeth flaenorol â chynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd y byddwch chi'n gwybod amdanynt, rwy'n siŵr, ac fe wnaethant ddarparu gwersi defnyddiol. Yn benodol, tynnwyd sylw at bwysigrwydd ystyried rhywedd yn gynnar yn natblygiad polisi, yn hytrach na'i ychwanegu yn hwyrach ymlaen. Felly, rwyf am ddysgu'r gwersi ac ystyried lle gall ein helpu i wneud penderfyniadau gwell a chyflawni canlyniadau gwell. Ac os ydym yn meddwl am hynny yn enwedig yng nghyd-destun lle rydym yn datblygu rhaglenni newydd—rydym wedi siarad am Cynnal, nofio ysgol am ddim a'n cynnig gofal plant—fel ein bod yn defnyddio cyllidebu ar sail rhywedd yng nghyd-destun mentrau polisi newydd, fel y gwnaeth y cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd ei nodi—. Ac yn amlwg, rydych chi wedi gwneud gwaith blaenorol ar gyllidebu ar sail rhywedd, a byddwn yn hapus i drafod hyn ymhellach gyda chi yn fanwl o ran sut y symudwn ymlaen i ymgorffori hynny ar draws y Llywodraeth wrth inni symud drwy ein prosesau cyllidebu.

Polisïau Treth

7. Sut y bydd polisïau treth Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yn Sir Gaerfyrddin? OQ64685 [R]

Mae trethi yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus sydd o fudd i bawb. Bydd polisïau treth teg a chymesur yn cefnogi pobl a busnesau yn sir Gaerfyrddin. Bydd ein newidiadau i ailgydbwyso trethi busnes o fudd i gymunedau drwy gefnogi'r stryd fawr a chanol trefi ffyniannus. Mae cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn cefnogi dros 15,000 o aelwydydd yn sir Gaerfyrddin yn uniongyrchol.

Diolch, Weinidog Cabinet. I lawer o aelwydydd yn sir Gaerfyrddin, y dreth sy'n brathu'n galetaf yw'r dreth gyngor. Canfu dadansoddiad diweddar fod cynghorau Cymru'n wynebu diffyg cyllidebol rhagamcanol cyfunol o fwy na £272 miliwn y flwyddyn nesaf, gyda bwlch o £34 miliwn yn sir Gaerfyrddin yr ail uchaf yng Nghymru. Nawr, mae trigolion eisoes yn talu'r pris. Ers 2022, mae tâl band D y cyngor sir sydd dan arweiniad Plaid Cymru, y meincnod sy'n cael ei ddefnyddio i gymharu'r dreth gyngor ledled Cymru ac y mae pob band arall wedi'i osod yn ei erbyn, wedi codi mwy na 31 y cant, gan gynnwys cynnydd 8.9 y cant yn 2025-26. Efallai y bydd y dreth gyngor yn cael ei gosod yn lleol, ond mae Gweinidogion Cymru eisoes yn meddu ar bwerau i ymyrryd lle ystyrir bod cynnydd yn ormodol. Mae Reform wedi cynnig gofyn am refferendwm lleol cyn y gall cynghorau gynyddu'r dreth gyngor fwy na 4.99 y cant, yn debyg i'r trothwy effeithiol a gymhwysir i lawer o gynghorau yn Lloegr. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r diogelwch hwnnw, fel bod trigolion sir Gaerfyrddin yn cael y gair olaf cyn iddynt gael eu taro unwaith eto gan gynnydd ar y raddfa a welsom dros y pedair blynedd diwethaf? Diolch.

15:00

Er gwybodaeth, byddwn yn pleidleisio yn erbyn eich cynnig yn nes ymlaen. Nid ydym yn cytuno bod rhoi cap ar dreth gyngor awdurdodau lleol yn ffordd o alluogi awdurdodau lleol i wneud y penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud yn lleol fel aelodau etholedig. Y prif benderfynydd o ran y dreth gyngor yw'r setliad ariannol y bydd y Llywodraeth hon a'r Senedd hon yn ei drosglwyddo ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf i awdurdodau lleol. Felly, bydd penderfynu ar draws y Senedd beth fydd cwmpas y setliad hwnnw i awdurdodau lleol yn rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Rwyf eisoes yn gwybod, ac rwyf eisoes yn cynllunio ar hyn o bryd at y ffaith y bydd ein setliad fel Llywodraeth Cymru 0.7 y cant yn is mewn termau real ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n setliad heriol iawn, oni bai y ceir newidiadau gan Ganghellor y DU yn ei gyllideb ar ddiwedd mis Hydref. Felly, dyna benderfynydd hollbwysig o ran y dreth gyngor: faint o gyllid sector cyhoeddus sydd ar gael i awdurdodau lleol.

Gan wrando ar yr hyn a ddywedwch, rwy'n gobeithio eich bod eisiau gweld setliadau lleol da i awdurdodau lleol, ac y byddwch yn gweithio'n adeiladol gyda ni i alluogi hynny i ddigwydd, yn union fel y gwnaeth Plaid Cymru alluogi i setliad da gael ei drosglwyddo drwy weithio gyda Llywodraeth flaenorol Cymru fel bod llywodraeth leol a'r GIG wedi cael y setliad gorau posibl yn rhan o'r cytundeb ar y gyllideb yn y Senedd ddiwethaf.

Y cwestiwn olaf i chi, Weinidog, yw cwestiwn 8. Anthony Slaughter. 

Gwydnwch Hinsawdd

8. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 yn sicrhau buddsoddiad digonol o ran gwydnwch hinsawdd? OQ64696

Mae gwydnwch rhag newid hinsawdd yn elfen bwysig o waith y Llywodraeth yma i amddiffyn cymunedau a gwella canlyniadau. Mi fydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28 yn cefnogi blaenoriaethau’r rhaglen lywodraethu sydd yn ymwneud â'r hinsawdd a natur. Mae hyn yn cynnwys Cymru Sero Net, ochr yn ochr â mesurau ehangach y Llywodraeth i helpu Cymru i addasu i hinsawdd sy'n newid. 

Diolch. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa newydd ar gyfer gwrthsefyll tywydd eithafol i fuddsoddi mewn ymyriadau sy'n seiliedig ar natur i helpu i liniaru'r risgiau a berir gan dywydd eithafol. Mae llifogydd, sychder a thanau gwyllt yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd, ac mae atebion ar sail natur ymhlith y dulliau gorau sydd ar gael i ddiogelu ein cymunedau. Os yw'r argyfwng hinsawdd yn flaenoriaeth drawslywodraethol go iawn, mae angen cyllid ym mhob cyllideb adrannol i sicrhau nad oes unrhyw faes yn llithro drwy'r craciau.

Mae tystiolaeth gan WWF Cymru ac eraill yn awgrymu, am symiau cymharol ychydig o arian ym mhob portffolio, y gallem weld manteision trawsbynciol sylweddol, ar yr amod fod holl Weinidogion Cymru yn barod i ddangos arweinyddiaeth. A all y Gweinidog gadarnhau faint o arian sydd yng nghyllideb y flwyddyn hon ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd, ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu cyllidebau adrannol presennol i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer atebion ar sail natur fel y gallwn fod yn barod ar gyfer y digwyddiad tywydd eithafol nesaf? Diolch.

Mae eich cwestiwn yn tynnu sylw at y pryderon gwirioneddol sydd gan bob un ohonom fel Aelodau etholedig yn y Senedd ynglŷn â sut rydym yn wynebu'r heriau tywydd eithafol a fydd yn ein hwynebu y gaeaf hwn, fel y gwnaethom eu hwynebu yn yr haf a aeth heibio. Fe wyddoch fod y Llywodraeth hon o ddifrif ynghylch ei hymateb a'i chynlluniau ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol. Mae'r Prif Weinidog wedi cynnull uwchgynhadledd ar wrthsefyll newid hinsawdd yr wythnos nesaf, rwy'n credu, i ddod â rhanddeiliaid ynghyd i barhau'r drafodaeth ynglŷn â sut rydym yn paratoi ac yn gwneud ein hunain yn fwy gwydn ar gyfer senarios tywydd eithafol, gan y byddant yn sicr o ddigwydd.

Ar sut rydym yn cyllidebu ar gyfer hynny, yn fy ateb cychwynnol, dywedais wrthych sut rydym yn ceisio ymgorffori mesurau lliniaru newid hinsawdd ar draws ein cyllideb. Rydych chi wedi gofyn am nodi cronfa wrthsefyll tywydd eithafol yn benodol, os wyf wedi eich deall yn iawn, ar draws ac ym mhob dyraniad cyllideb a phortffolio. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn sicr o feddwl ymhellach amdano a'i drafod gyda chi a chydag eraill yn y Siambr hon. Mae'r rhain yn faterion sy'n newid yn gyson ond hefyd yn faterion real iawn y mae angen inni fynd i'r afael â nhw fel Llywodraeth, ond hefyd fel Senedd, o ran sut rydym yn cynllunio ein cyllidebau ar gyfer y dyfodol a sut rydym yn cynllunio ein gwaith.

15:05

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.

4. Datganiadau 90 eiliad

Symudaf ymlaen yn syth i ddatganiadau 90 eiliad. Shwmae, Rebeca Phillips.

Diolch yn fawr. Shwmae. Mae yfory yn Ddiwrnod Shwmae Su'mae, sef diwrnod i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg, dim ots beth yw'ch lefel. Mae'n hyfryd gweld nifer ohonoch chi ar draws y Siambr yn gwisgo bathodynnau heddiw. Dathlwyd y diwrnod shwmae gyntaf yn ôl yn 2013, a Mentrau Iaith Cymru sy'n cydlynu'r ymgyrch bellach. Hoffwn ddiolch i'r mentrau iaith am eu gwaith parhaol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar draws Cymru.

Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac annog pawb i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg, a fyddai'n arwain at ddefnydd mwy o'r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Dathlu pobl amrywiol sy'n defnyddio'r Gymraeg yw prif thema'r diwrnod eleni, a bydd digwyddiadau ar draws ein cymunedau ar gael i gymdeithasu drwy'r Gymraeg. Felly, yfory, p'un ai yn y Senedd, yn y siop, yn yr ysgol neu efallai hyd yn oed yn siarad gyda'r Brenin, ewch ati i ddechrau pob sgwrs gan ddweud 'shwmae', ac annog eraill i wneud yr un peth.

Nid oes llawer o gampau anos na rygbi'r gynghrair, ond dychmygwch geisio ei chwarae mewn cadair olwyn. Dyna fydd carfan rygbi'r gynghrair cadair olwyn Cymru yn ei wneud yn nes ymlaen y mis hwn wrth iddynt fynd allan i Awstralia i gystadlu yng nghwpan y byd. Fel y gallwch ddychmygu, maent wedi gorfod goresgyn llawer o rwystrau i gyrraedd mor bell â hyn. Euthum i'w cefnogi yn ystod eu sesiwn ymarfer olaf a gynhaliwyd yn fy etholaeth yn gynharach eleni, ac roeddent newydd gael gwybod bod noddwr eu crysau wedi tynnu'n ôl, gan eu gadael £10,000 yn brin o gyllid hanfodol i gyrraedd yno.

Ond mae'r dynion a'r menywod hyn, gan ei bod yn garfan gymysg, yn hoffi her, maent yn ei chofleidio, ac ni wnaethant oedi rhag mynd ati i godi'r £10,000. Fe wnaethant ddechrau codi'r arian drwy ymgyrch gyllido torfol i roi'r gair Cymru ar eu crysau yn hytrach na noddwr. Rwy'n hoffi hynny, felly roeddwn i'n meddwl y buaswn yn cefnogi'r ymgyrch hefyd. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i'r Senedd hon eu bod wedi cyrraedd eu targed o £10,000 yr wythnos diwethaf, ac mae pawb yn cael mynd ar daith unwaith mewn oes. Mae'n fesur o'u penderfyniad i lwyddo beth bynnag y bo'r heriau y mae bywyd yn eu taflu atynt. Ac i wneud pethau'n fwy diddorol, mae eu gêm gyntaf yng nghwpan y byd yn erbyn Lloegr. Felly, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddymuno'r gorau iddynt yn y gêm honno. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, sef amser i gofio babanod sydd wedi eu colli'n rhy fuan ac i gydnabod yr effaith ddofn y gall colled yn ystod beichiogrwydd, ar adeg geni neu wedi geni ei chael ar deuluoedd. 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yn gyfle i ddod â ni at ein gilydd ac i sicrhau bod unrhyw un yr effeithir arnynt gan golli babi neu golli babi yn ystod beichiogrwydd yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.

Bydd rhai ohonom yn y Siambr hon, ein teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr ac etholwyr wedi cael ein cyffwrdd mewn rhyw ffordd gan golled beichiogrwydd neu golled babi.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yn gyfle nid yn unig i gofio babanod sydd wedi marw'n rhy fuan, ond hefyd i dorri'r distawrwydd, cynyddu dealltwriaeth a sicrhau nad oes unrhyw un yn teimlo bod yn rhaid iddynt wynebu eu galar ar eu pen eu hunain. Rhaid i deuluoedd hefyd fod wrth wraidd ymchwiliadau i golli babanod ac ymdrechion i ddarparu atebion.

Er bod pob stori yn wahanol, mae un peth yn gyffredin: ni ddylai neb deimlo eu bod yn wynebu'r galar hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam mae gwaith elusennau fel Sands Cymru a Tommy's, ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol fel bydwragedd profedigaeth a grwpiau cymorth ledled Cymru, mor werthfawr i deuluoedd. 

Wrth inni agosáu at y Don o Olau yfory, pan fydd pobl yn cynnau cannwyll er cof am fabanod rydym wedi'u colli, gadewch inni gofio pob babi a chynnig ein cefnogaeth a'n tosturi i bawb sy'n byw gyda cholled. Diolch yn fawr.

15:10

Ddoe, roedd tref Porthmadog yn fy etholaeth i yn nodi canmlwyddiant marw un o’i meibion mwyaf adnabyddus, gyda chyfres o ddigwyddiadau. Mae’n bosibl na fyddai’r enw Eliseus Williams yn golygu llawer i rai, ond dwi’n siŵr y byddwch chi'n ei adnabod o o'i enw barddol, sef Eifion Wyn.

Ganwyd Eifion Wyn yn 28 New Street, Porthmadog, ac er iddo dreulio cyfnod fel athro yn ysgol Snowdon Street yn y dref, mae’n cael ei adnabod yn bennaf fel un o feirdd mwyaf poblogaidd ei oes. Roedd o’n ysgrifennu yn dilyn cyfnod y Beirdd Newydd, sef ysgol o feirdd Cymraeg yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn pwysleisio y dylai barddoniaeth fod yn aruchel, yn ddifrifol, yn athronyddol ac yn ddwys.

O edrych yn ôl, mae nifer yn ystyried gwaith y beirdd hynny’n aneglur ac yn astrus. Ond bardd ei bobl oedd Eifion Wyn. Roedd yn bwysig ganddo fod ei farddoniaeth yn ddealladwy ac yn hygyrch, a dyna pam ei fod yn fardd mor boblogaidd. I ddyfynnu arbenigwr yn y maes, roedd o’n apelio at glust y werin bobl.

Mae ei waddol yn parhau heddiw, wrth gwrs, nid yn unig yn enw’r ysgol gynradd leol, ond yn ei eiriau. Mae un o emynau enwocaf y Cymry, o eiddo Eifion Wyn, ‘Efengyl tangnefedd’, yn alwad am heddwch rhyngwladol—pwnc sy’n boenus o berthnasol heddiw. Diolch i bawb a oedd yn trefnu'r digwyddiadau yma am eu gwaith.

Diolch. Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Ddu. Cofiwch y frwydr, cydnabyddwch y cyfraniad a dathlwch y cyflawniad.

Ym Mis Hanes Pobl Ddu, rydym yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi helpu i adeiladu Cymru, ond nad yw eu straeon wedi'u hadrodd. Rwy'n diolch i Race Council Cymru, Race Equality First, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Mae Bywydau Du o Bwys ac i ymgyrchwyr Hanes Pobl Ddu Cymru 365 a'u thema eleni, sef 'Balch o fod yn fi'. Rwy'n talu teyrnged i genhedlaeth Windrush hefyd. Rwy'n cydnabod yn arbennig yr Athro Uzo Iwobi, sylfaenydd Race Council Cymru; Momena Ali, sylfaenydd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig; a Shirley Au-Yeung o Gymdeithas Tsieineaidd Cymru. Mae eu gwaith yn Abertawe a thu hwnt wedi agor drysau i eraill.

I'r gweithwyr du yn y GIG, ysgolion, gwasanaethau cyhoeddus, ffatrïoedd, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector, diolch. I'r gyrwyr tacsi, perchnogion siopau cludfwyd, a siopau cornel, diolch. Mae eich cyfraniad at ein heconomi a'n cymunedau yn werthfawr tu hwnt. Rwy'n falch o'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae'n rhaid i'w uchelgais fyw mewn gweithredoedd ac nid mewn geiriau'n unig. Rwy'n cofio'r diweddar Mohammad Asghar, ein Haelod Cynulliad cyntaf o gefndir ethnig leiafrifol, a etholwyd dros Blaid Cymru, a'i wasanaeth i'r sefydliad hwn. A Betty Campbell, y pennaeth ysgol du cyntaf yng Nghymru, a helpodd blant i freuddwydio y tu hwnt i'r rhwystrau o'u blaenau.

Mae hanes pobl ddu yn hanes Cymreig. Mae cyflawniad pobl dduon yn gyflawniad Cymreig. A chyda balchder yn ein gorffennol, gadewch inni adeiladu newid a fydd yn para. Diolch.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

5. Dadl Llafur Cymru: Gofal lliniarol a diwedd oes

Dadl Llafur Cymru yn awr, gofal lliniarol ar ddiwedd oes. Galwaf ar Ken Skates i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9329 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn y gofal lliniarol a diwedd oes a ddarperir ar draws GIG a hosbisau Cymru.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol a chwaraeir gan hosbisau yng Nghymru wrth ddarparu gofal lliniarol arbenigol a gofal diwedd oes.

3. Yn nodi'r pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu hosbisau yng Nghymru a'r alwad gan Hospice UK a Hospices Cymru am gyllid ychwanegol i ddiogelu gwasanaethau hosbisau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu cynllun hirdymor i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd eu hangen;

b) nodi sut y bydd yn darparu cyllid teg a chynaliadwy ar gyfer hosbisau ledled Cymru; ac

c) sicrhau bod gan GIG Cymru a hosbisau yng Nghymru y gweithlu sydd ei angen arnynt i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes diogel, o ansawdd uchel a chynaliadwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Lynne Neagle, ac rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar ran Llafur Cymru.

Ein bwriad ar gyfer y ddadl heddiw yw dod i gonsensws ar fater sydd mor bwysig i gynifer o deuluoedd ledled Cymru. Beth bynnag y bo'r gwahaniaethau gwleidyddol ar draws y Siambr hon, mae pob un ohonom eisiau'r ansawdd bywyd gorau posibl i blant ac oedolion â salwch terfynol. Dyna pam y mae Llafur Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn: i hyrwyddo ymroddiad ac ymrwymiad gweithwyr y GIG a gweithwyr hosbis sy'n darparu urddas bob dydd; i nodi ein gwerthfawrogiad am y gofal tosturiol y maent yn ei ddarparu a'r gwahaniaeth a wnânt i fywydau pobl; ac i daflu goleuni ar yr anawsterau ariannol sylweddol y mae hosbisau'n eu hwynebu a'r angen ehangach am ateb cynaliadwy i ariannu gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru.

Rwy'n falch fod pleidiau eraill wedi dewis peidio â chynnig gwelliannau i'n cynnig heddiw. Byddai'r Senedd, drwy dderbyn y cynnig hwn yn unfrydol, yn anfon neges bwerus at staff gwych ein GIG a'n gweithwyr hosbis gwych, a byddai'n her adeiladol i Weinidogion ymgysylltu â'r mater hwn ac i gyflawni'r ymrwymiad a nodir yn y rhaglen lywodraethu i fynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu'r sector.

Lywydd, yr wythnos diwethaf, ymwelais â hosbis Tŷ Gobaith ger Conwy, a chlywais yn uniongyrchol am yr heriau hynny. Mae Tŷ Gobaith yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel, sensitif yn lleol, i blant a phobl ifanc. Mae'n un o ddim ond dwy hosbis sy'n darparu gofal arbenigol i blant yng Nghymru, a'r llall yw Tŷ Hafan ym Mhenarth. Mae'r staff yn y ddwy hosbis yn gwneud gwaith anhygoel. Maent yn helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr, maent yn rhoi profiadau ac amser i blant eu trysori, ac maent yn caniatáu i rieni gael amser a lle i fwynhau bod gyda'i gilydd fel teulu.

Y tu ôl i'r amser gwerthfawr hwnnw mae gofal nyrsio a chlinigol arbenigol, cefnogaeth i blant â chyflyrau cymhleth sy'n cyfyngu ar fywyd a chyflyrau sy'n bygwth bywyd ynghyd â gofal seibiant hanfodol i rieni. Mae hosbisau plant yn cefnogi'r teulu cyfan, yn aml dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal â darparu gofal ar ddiwedd oes a thrwy brofedigaeth. Ledled Cymru, mae staff ymroddedig hosbisau a'r GIG yn darparu'r gofal personol hwnnw bob dydd. Maent yn rheoli poen pobl, yn darparu cysur ac urddas, ac yn cefnogi teuluoedd drwy rai o'r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau.

Ond ochr yn ochr â'r gofal ardderchog a welais yn Tŷ Gobaith, clywais hefyd am y pwysau ariannol y maent yn ei wynebu ac y gwn fod hosbisau ledled Cymru yn ei wynebu. Dywed Hospice UK a Hospices Cymru fod 15 hosbis elusennol Cymru yn gofalu am dros 20,000 o blant ac oedolion yr effeithir arnynt gan salwch terfynol. Mae staff hosbis yng Nghymru yn gwneud oddeutu 77,000 o ymweliadau â phobl yn eu cartrefi eu hunain bob blwyddyn, gan helpu pobl i aros mewn amgylchedd cyfarwydd a lleihau'r pwysau ar ysbytai lleol. Ond mae'r heriau ariannol yn dod yn fwyfwy anodd eu rheoli ar draws y sector.

Mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld cyllideb ddiffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan orfodi llawer i wneud dewisiadau anodd ynglŷn â'u dyfodol, boed hynny'n oedi recriwtio, methu cyflwyno gwasanaethau newydd, neu hyd yn oed leihau gwasanaethau. Yn ychwanegol at y pwysau hwn, mae Marie Curie yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd angen gofal lliniarol yn codi 21 y cant erbyn 2050, ac mae eu hymchwil hefyd yn awgrymu bod gan bron i un o bob tri oedolyn yng Nghymru anghenion gofal lliniarol heb eu diwallu, sy'n golygu oddeutu 10,000 o bobl nad yw eu symptomau'n cael eu rheoli ac nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hynny'n gynnydd o dros 7,000 o bobl angen gofal bob blwyddyn ochr yn ochr â galw sylweddol heb ei ddiwallu.

Yn y Llywodraeth, fe wnaeth Llafur Cymru gydnabod y pryderon hyn, gan gynyddu cyllid blynyddol i hosbisau a darparu cymorth costau byw ychwanegol i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Fe wnaethom hefyd gyflawni ein hymrwymiad i adolygu cyllid hosbisau, a ddechreuodd gyda datblygu fframweithiau comisiynu newydd mewn partneriaeth â'r GIG a'r sector hosbis. Ond wrth i bwysau ariannol ddwysáu a’r galw barhau i gynyddu, mae angen mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd i ddiogelu gwasanaethau a helpu i ysgogi gwelliannau. Fel y mae Hospice UK a Hospices Cymru wedi'i ddadlau, mae angen sefydlogi cyllid hosbisau yn y tymor byr a’i roi ar sail gynaliadwy yn y tymor hir. Mae angen inni ystyried sut y gallwn weithio tuag at ddiwallu 30 y cant o gostau gofal y cytunwyd arnynt yn y sector hosbisau yn ystod tymor y Senedd hon.

Yn ogystal â chynllun i sefydlogi’r sector ehangach, mae angen ehangu’r cynnig i blant a’u teuluoedd, gyda mynediad cynharach at gymorth, gwell cydgysylltu rhwng gwasanaethau a gofal seibiant a gofal mewn profedigaeth dibynadwy ble bynnag y mae pobl yn byw. Ac mae angen inni sicrhau bod gan ein GIG a’n hosbisau y gweithlu sydd ei angen arnynt i ddiwallu’r galw cynyddol, gyda’r staff cywir yn y lle cywir.

Mae angen inni adeiladu ar ymrwymiad maniffesto’r Llywodraeth i ddatblygu model ariannu cynaliadwy newydd, ac i’r perwyl hwn, mae Llafur yn cynnig gweithio gyda’r Llywodraeth i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn unol â'r rhaglen lywodraethu. Dyna'r hyn y mae ein cynnig yn galw amdano. Mae'n gofyn i Weinidogion yn adeiladol i gyflwyno cynllun hirdymor sy'n sefydlogi ac yn diogelu gwasanaethau o ansawdd uchel ac i sicrhau bod gan ein GIG a'n hosbisau y gweithlu medrus sydd ei angen arnynt i ddiwallu'r galw cynyddol am ofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Mae'r heriau hyn yn galw am weithredu nawr, yn ogystal â chynllun clir ar gyfer y dyfodol. Lywydd, mae pob un ohonom yn cydnabod y cyfraniad rhyfeddol y mae staff ymroddedig y GIG a'r hosbisau yn ei wneud bob dydd, yn darparu gofal gydag urddas a gofal tosturiol i blant ac oedolion â salwch terfynol. Ein dyletswydd i'r aelodau staff hynny ac i'r degau o filoedd o deuluoedd sy'n dibynnu ar eu gofal yw sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'n hanfodol fod Gweinidogion yn cael hyn yn iawn a'n bod yn cefnogi Gweinidogion i gael hyn yn iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn yn unfrydol heddiw. Diolch.

15:20

Mae hosbisau yn darparu gofal a chefnogaeth arbennig i blant, pobl ifanc ac oedolion, ac rwyf am rannu profiad personol sy'n dangos pa mor bwysig yw'r gwasanaeth hwn. Cafodd ein merch ei geni a pharlys yr ymennydd yn dilyn cymhlethdodau yn ystod ei genedigaeth. Nid oedd yn gallu cerdded na defnyddio ei dwylo, ac am flynyddoedd, fy ngwraig a minnau oedd ei phrif ofalwyr. Yn ystod y cyfnod heriol hwnnw, roedd Tŷ Gobaith yn achubiaeth i'n teulu. Roedd yn cynnig seibiant hanfodol, ond llawer mwy na hynny hefyd. Roedd y staff yn darparu cymorth, cyngor a gofal proffesiynol i ni fel teulu.

Un o'r penderfyniadau anoddaf i unrhyw riant yw derbyn y gallai bywyd eu plentyn fod yn fyr. Yn anffodus, collwyd ein merch pan oedd yn saith oed. Ond ni ddaeth y gefnogaeth gan Tŷ Gobaith i ben bryd hynny. Parhaodd y cymorth trwy ein profedigaeth, ac roedd cwnsela ar gael i'n merched eraill hefyd. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am y gofal a'r tosturi a ddangoswyd i'n teulu gan staff Tŷ Gobaith.

Lywydd, dwi'n falch ein bod ni'n cael cyfle i drafod y pwnc sydd mor bwysig i gymaint o deuluoedd ar draws Cymru ar lawr y Siambr y prynhawn yma. Dwi hefyd yn falch o weld bod consensws trawsbleidiol i'w gael am y pwysau sy'n wynebu hosbisau yng Nghymru a'r gefnogaeth sydd ei angen i'w diwallu.

Yn eu cynnig, mae'r Blaid Lafur yn gywir i nodi'r pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu hosbisau yng Nghymru, yn gywir i alw am gynllun hirdymor i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes, yn gywir i wneud yr achos dros setliad ariannol teg i'r sector er mwyn cynnal gweithlu cynaliadwy. Ond gyda phob parch, Lywydd, mae'n bwysig nodi mai Llafur sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru ers chwarter canrif a mwy. Fel tad ac fel gofalwr sydd wedi gweld yn uniongyrchol yr heriau sy'n wynebu hosbisau, dwi yn cefnogi'r cynnig yma, ond mae'n rhaid imi gyfaddef fy siom nad oedd mwy o weithredu wedi bod gan Lafur yn eu hamser mewn grym.

Dwi'n croesawu'r cynnig, ond yn falch bod Plaid Cymru wrth y llyw erbyn hyn, a bod gennym ni Lywodraeth sydd o ddifri am fynd i'r afael â'r heriau dyrys a dwfn sy'n wynebu hosbisau, a dwi'n edrych ymlaen i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.

Cysyniad sylfaenol ein system gofal iechyd yng Nghymru yw ei bod yn darparu gofal am ddim yn y man y'i defnyddir o'r crud i'r bedd, ac yn anffodus, rhan olaf y datganiad hwnnw sydd mewn perygl ar hyn o bryd. Dyletswydd ein gwasanaethau iechyd yw sicrhau bod pobl sy'n wynebu salwch terfynol a'u teuluoedd yn derbyn gofal tosturiol gydag urddas ar ddiwedd eu hoes. Mae oddeutu 20,000 o blant ac oedolion yn dibynnu ar ein gwasanaethau hosbis bob blwyddyn, ac felly mae'n rhaid eu diogelu. Ond ni fydd geiriau yn unig yn eu diogelu. Dywedodd bron i 30 y cant o hosbisau gwirfoddol Cymru a arolygwyd eu bod eisoes wedi gorfod lleihau nifer y gwelyau neu wasanaethau cleifion mewnol oherwydd pwysau ariannol neu bwysau ar y gweithlu.

Mae sawl hosbis ledled Cymru eisoes wedi cau, naill ai'n barhaol neu dros dro, fel uned pedwar gwely yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi. Mae mwy na 70 y cant o hosbisau ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl y bydd pwysau ariannol yn arwain at leihau nifer y gwelyau ymhellach. Mae'r mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal hosbis yng Nghymru yn dal i ddibynnu ar roddion elusennol. Nawr, yn 2025-26, darparodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn ac ymrwymo i ddod o hyd i ateb ariannu cynaliadwy, ond mae Hospice UK yn amcangyfrif mai dim ond 10 y cant yw hynny o'r £30 miliwn fydd ei angen dros dymor y Senedd hon er mwyn diogelu gwasanaethau presennol yn unig.

Fel y soniodd Ken Skates, mae Marie Curie eisoes wedi awgrymu bod y system bresennol yn gwneud cam â phobl, fod gan bron i draean pobl Cymru anghenion gofal lliniarol heb eu diwallu. A'r hyn sy'n waeth yw bod disgwyl i'r galw godi mwy na 25 y cant dros y 25 mlynedd nesaf. Mae hynny'n gynnydd sylweddol yn y galw am system sydd eisoes yn gorfod lleihau ei gwasanaethau oherwydd pwysau costau. Ac er fy mod yn falch fod Llafur wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw, y gwir amdani yw eu bod wedi cael blynyddoedd mewn grym lle gallent fod wedi delio â'r problemau sy'n wynebu gofal hosbis yng Nghymru ar hyn o bryd. A nawr bod Plaid Cymru wrth y llyw, rhaid iddynt hwy esbonio sut y maent yn mynd i gefnogi'r sector, gan na ellir gofalu am gleifion drwy gyhoeddiad na fframwaith.

Rhaid diogelu gofal diwedd oes hanfodol, ac mae'n amlwg nad yw'r model presennol yn gynaliadwy. Mae gwasanaethau hosbis cymunedol a gofal lliniarol yn helpu pobl i leihau'r nifer o dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi ac maent yn lleddfu pwysau o fannau eraill yn ein system gofal iechyd. Yn Reform, byddwn yn cefnogi mesurau sy'n rhoi ein hosbisau ar sylfaen gynaliadwy, sy'n cryfhau capasiti cymunedol a thu allan i oriau, ac sy'n datblygu'r gweithlu sydd ei angen i ddiwallu galw cynyddol. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr.

15:25

Hoffwn ddiolch i Blaid Lafur Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn elfennau hynod bwysig o'n system gofal iechyd, a rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n golygu mwy na chefnogi pobl pan fyddant yn agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae gofal lliniarol yn golygu cefnogi cleifion drwy gydol y cyfnod, gwella ansawdd eu bywyd a rheoli eu poen. Mae'n golygu trin pobl a'u hanwyliaid ag urddas, tosturi a pharch mewn cyfnod emosiynol ac anodd tu hwnt. Mae ein hosbisau'n chwarae rhan hanfodol yn darparu'r gofal, boed ar y safle, neu'n wir yng nghartrefi pobl, a hoffwn roi eiliad i ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn y sector hwn. Mae hynny'n cynnwys y meddygon, y nyrsys, y gofalwyr, yr arbenigwyr, y gwirfoddolwyr, staff hosbisau, y gofalwyr, a phawb arall hefyd. Nhw sydd yno ddydd ar ôl dydd, yn cefnogi pobl drwy gyfnodau annirnadwy o ofidus, gan ddod â chysur, cynhesrwydd a chefnogaeth. Mae eu gwaith yn anhygoel, ac ni all fod yn swydd hawdd.

Cefais ymweliad gwirioneddol sobreiddiol â Gofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yn ddiweddar, a gwelais dosturi ac ymroddiad y staff i'w rolau â'm llygaid fy hun. Roedd y gwasanaethau a'r gefnogaeth a gynigir yn yr hosbisau yn helaeth, ond ni chodir ceiniog am y gofal a ddarperir ganddynt. Er gwaethaf hynny, mae'n costio £15,000 y dydd i ddarparu'r gofal hwnnw, ac er bod rhywfaint o gyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a'r GIG, maent yn dibynnu'n helaeth ar arian a godir drwy ymgyrchoedd codi arian a siopau elusen. Ni ddylai fod felly. Mae gormod o hosbisau'n wynebu pwysau sylweddol ac maent mewn sefyllfa debyg o ran cyllid. Mae codi arian yn aml yn enghraifft wych o ysbryd cymunedol, gan ddod â phobl ynghyd dros achos teilwng, ond ni ddylai fod rhaid i wasanaeth o'r fath ddibynnu cymaint ar hynny. Dylai fod yn ychwanegol at gyllid cyhoeddus, nid gorfod cymryd ei le. Yn ôl Hospice UK, mae oddeutu 70 y cant o gostau darparu gofal hosbis yn cael eu hariannu gan roddion elusennol, tra bo'r 30 y cant sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol. Mae hynny'n syfrdanol, ac nid yw'n gynaliadwy yn hirdymor.

Mae oddeutu 20,000 o oedolion a phlant y flwyddyn yn cael eu cefnogi gan hosbisau Cymru, ac mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn gwneud yr angen am welliannau brys hyd yn oed yn fwy dybryd. Lywydd, mae'r galw am ofal hosbis a gofal lliniarol yn parhau i gynyddu, ond mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector yn cael effaith fawr. Datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan Hospice UK fod mwy na 90 y cant o hosbisau yng Nghymru yn debygol o dorri rhai gwasanaethau o fewn y 12 mis i 24 mis nesaf oherwydd costau'n unig. Nid yn unig hynny, ond mae bron i un o bob dwy hosbis eisoes wedi torri gwasanaethau y llynedd, ac os na fydd pethau'n gwella, mae arnaf ofn y bydd rhai hosbisau'n cael eu gorfodi i gau am byth. Ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd.

Darganfu arolwg o 14 o hosbisau gwirfoddol yng Nghymru fod 30 y cant eisoes yn lleihau nifer y gwelyau neu'n torri gwasanaethau, a bod mwy na 70 y cant sydd ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau naill ai dros dro neu'n barhaol. Nid yn unig hynny, ond mae tri chwarter yn ofni y byddant yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i ddarparu'r gefnogaeth a ddarperir fel arfer gan ysbytai a chartrefi gofal. Mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol. Ond gadewch imi rannu ffaith hyd yn oed yn fwy syfrdanol a hollol ofnadwy gyda chi: nid yw un o bob pedwar o bobl yn cael y gofal a'r gefnogaeth ddiwedd oes sydd eu hangen arnynt, gyda rhywun yn marw heb ofal a chefnogaeth bob pum munud.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y pwysau presennol, a dyna pam y gwnaethom addo rhoi hwb cyllidol o £40 miliwn i'r sector a chlustnodi cymorth i dalu hanner costau gweithredu hosbisau plant. Ond yn hollbwysig, credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno model ariannu cynaliadwy ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Mae'n amlwg fod angen model newydd arnom, Lywydd, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud hynny. Felly, buaswn yn croesawu diweddariad ar y gwaith pwysig hwn pan fydd y Gweinidog Cabinet yn ymateb i'r ddadl hon.

Fodd bynnag, mae angen gweithredu yn y tymor byr tra bo'r model ariannu hirdymor yn cael ei lunio i sefydlogi'r sector, gan fod hosbisau'n dweud bod angen grant untro o £5.5 miliwn arnynt yn y flwyddyn ariannol hon a chyllid cylchol ychwanegol o £8.2 miliwn o gyllideb ddrafft 2027-28 ymlaen. Felly, a wnaiff y Gweinidog Cabinet ymrwymo i hyn? Hoffwn wybod pa drafodaethau y mae wedi'u cael, ar y cyllid hwn, mewn perthynas â hyn, gyda'i gyd-Aelodau.

Dim ond un rhan o'r her yw costau cynyddol; mae'r gweithlu'n parhau i fod yn rhwystr sylweddol arall. Mewn gwirionedd, mae rhai hosbisau'n gohirio recriwtio ac yn ôl-lenwi swyddi gwag oherwydd y sefyllfa ariannol ansicr. Mae recriwtio a chadw staff arbenigol yn anodd iawn—mae pob un ohonom yn gwybod hynny—ac mae angen i Lywodraeth Cymru nodi beth yn union y bydd yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Ond mae llesiant hefyd yn bryder mawr. Gall gofalu am bobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes fod yn heriol yn emosiynol. Gall llwyth gwaith trwm, salwch staff ac adnoddau cyfyngedig gyfrannu at straen, diffygiad ac anhawster i gadw staff profiadol. Felly, unwaith eto, mae angen inni glywed gan Lywodraeth Cymru sut y byddant yn mynd i'r afael â'r her hon hefyd. A fydd hon yn is-adran bwrpasol yn y cynllun gweithlu sydd ar y ffordd gan y Llywodraeth?

Fel y mae'r cynnig yn ei nodi, mae angen inni sicrhau bod gan GIG Cymru a hosbisau yng Nghymru y gweithlu sydd ei angen arnynt i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel. A minnau'n siarad am y cynnig, byddai'n esgeulus imi beidio â thynnu sylw at yr holl bethau y gallai'r Blaid Lafur fod wedi'u cyflawni yn ystod eu cyfnod o 27 mlynedd wrth y llyw—ac yn anffodus, ni chawsant eu gwneud. Mewn gwirionedd, pan oedd y gwrthbleidiau yn eu herio i wneud yr union bethau y maent yn galw amdanynt nawr, fe wnaethant esgusodion pam na allent eu gwneud.

Felly, er ein bod yn cefnogi'r cynnig heddiw, pe bai Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi gweithredu, efallai na fyddai angen inni fod yma heddiw yn trafod hyn. Ond nid oes pwynt oedi gyda'r gorffennol; mae angen inni edrych ymlaen a sicrhau bod y Llywodraeth bresennol yn gweithredu'n gadarn ac yn diogelu gwasanaethau hosbis.

15:30

Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.

Fe wnaf nawr. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Felly, Weinidog Cabinet, fe wnaethoch chi wneud yr holl synau cywir pan oeddech chi'n wrthblaid; a chithau'n Llywodraeth bellach, mae angen inni weld hynny'n troi'n weithredu. Diolch.

Rwyf wedi ymweld â Hosbis Tŷ Olwen fel perthynas a hefyd fel cynrychiolydd o'r Senedd yn yr ardal lle mae Tŷ Olwen wedi'i lleoli. Y mater a wnaeth i mi ystyried gofal lliniarol yn fanwl, a hosbisau, oedd y ddadl ynghylch marw â chymorth. Daeth diffyg gofal lliniarol a gofal diwedd oes digonol a bod angen ei wella yn amlwg ar unwaith. Mae gofal lliniarol yn cynnig cymorth corfforol, emosiynol ac ymarferol i bobl â salwch terfynol; gellir ei gynnig ar unrhyw adeg ar ôl diagnosis terfynol. Nid yn unig y rhai sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a chlefydau dirywiol eraill oedd yn dymuno opsiwn diwedd oes, ond eraill â chyflyrau a allai, gyda gofal lliniarol da, fod wedi cael bywyd boddhaus.

Roedd y datganiad ansawdd ar ofal lliniarol a gyhoeddwyd gyntaf yn 2022 o dan Lywodraeth Lafur, yn nodi bwriadau polisi lefel uchel Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'r datganiad yn disgrifio sut y dylai gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd da weithredu. Rhestrodd chwe nodwedd ansawdd: diogel, amserol, effeithiol, gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, effeithlon, tegwch.

Mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol. Pan gaiff ei wneud yn iawn, gall effeithio'n ddwfn ar bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt. Mae bylchau yn y ddarpariaeth a system dan bwysau difrifol yn golygu bod gormod o bobl yn cael eu gadael heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae'r galw am ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cynyddu. Mae Marie Curie yn amcangyfrif, erbyn 2040, y bydd angen gofal lliniarol a diwedd oes ar 37,000 o bobl bob blwyddyn. Gyda system na all ymdopi nawr, oni bai bod y Llywodraeth yn trin hyn fel mater o frys, ychydig iawn o obaith sydd yna o ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Mae angen arweinyddiaeth glir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r system gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Rwy'n cefnogi rhestr Marie Curie o gamau gweithredu ar gyfer y Llywodraeth: sicrhau bod gwasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes yn ymateb i anghenion pobl: rhaid i ofal o ansawdd uchel fod ar gael yn y lle iawn ar yr adeg iawn ym mhob rhan o Gymru; rhaid i'r Llywodraeth ariannu gwasanaethau lliniarol a diwedd oes yn gynaliadwy i ddiwallu anghenion pob unigolyn sy'n byw gyda salwch terfynol ledled Cymru; datblygu gweithlu lliniarol a diwedd oes sy'n diwallu'r angen cynyddol am ofal; sicrhau bod gan bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o leiaf wybodaeth sylfaenol am ofal lliniarol a gofal diwedd oes; dweud wrth bobl sy'n byw gyda salwch terfynol y gallai diagnosis arwain at farwolaeth, dweud wrthynt mewn iaith y gallant ei deall, a sicrhau bod gan bobl fyddar, er enghraifft, ddehonglwyr iaith arwyddion ar gael; mae angen cefnogi cleifion i gael sgwrs am eu dewisiadau gofal a chael blaengynlluniau gofal ar waith; mae angen mynediad 24 awr at ofal, cymorth a sicrwydd ar y rhai sydd â salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt, fel teulu, gofalwyr a ffrindiau; sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwch terfynol yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gyflym pan ystyrir y gallant ddychwelyd adref; rhaid bod cefnogaeth briodol ar waith ar adeg eu rhyddhau, gan gynnwys cefnogaeth i farw yn y lle a ddewisant. Yn ogystal â bod o fudd i gleifion sydd â salwch terfynol, bydd hyn yn rhyddhau gwelyau yn yr ysbyty ac yn rhoi diwedd ar symud rhai sy'n dioddef o salwch terfynol yn barhaus i mewn ac allan o'r ysbyty.

Ni allwn ganiatáu loteri cod post ar gyfer gofal diwedd oes. Lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, mae angen yr un lefel o ddarpariaeth arnoch. Gyda gofal lliniarol, mae rôl bwysig yn cael ei chyflawni gan ofalwyr di-dâl. Rhaid asesu ac adolygu anghenion gofalwyr di-dâl fel y gellir diwallu eu hanghenion a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Ni ellir gorbwysleisio'r gwahaniaeth y gall gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel ei wneud i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt.

Mae gormod o bobl yng Nghymru yn methu cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt. Mae angen i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd fynd ati o bryd i'w gilydd i asesu gofal lliniarol a gofal diwedd oes ar gyfer eu poblogaeth leol, a defnyddio hynny i lywio cynlluniau a'r ddarpariaeth o wasanaethau—a'r asesiadau hyn i fod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Rhaid i fyrddau iechyd gyhoeddi cynllun cyflawni lleol ar gyfer gofal lliniarol. Rhaid i hwn nodi sut y byddant yn diwallu anghenion y boblogaeth ac yn cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru. Rhaid i bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynnwys arweinwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar ddiwallu anghenion pobl â salwch terfynol a'r rhai sy'n agos atynt.

A gaf i godi tri mater o fy mhrofiad personol? Byddai claf â chanser yr oesoffagws nad oedd yn gallu llyncu yn llythrennol yn cael ei adael i farw o newyn tan i mi ymyrryd, a chawsant chwe mis o fywyd boddhaus trwy gael eu bwydo drwy PEG; claf â salwch terfynol heb ofal lliniarol a oedd yn mynd i mewn ac allan o'r ysbyty heb unrhyw gefnogaeth gofal lliniarol; claf â salwch terfynol a adawyd mewn cartref nyrsio heb unrhyw gefnogaeth liniarol. Mae angen cyllid ar gyfer hyn i gyd. Mae angen sefydlu ateb cyllido cynaliadwy i sefydlu system gofal lliniarol a gofal diwedd oes gynaliadwy a all ddiwallu'r angen cynyddol am ofal. Nid oes raid cael coeden arian wyrthiol—defnyddiwch adnoddau heb eu dyrannu, gwnewch yr hyn sy'n bwysig, yn lle pethau fel awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru. Mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn bwysig i mi—a ydynt yn bwysig i Lywodraeth Cymru?

15:35

Mae hosbisau’n darparu'r cyfleusterau meddygol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal cymhleth, ond maent hefyd yn darparu cysur mewn ffordd na all ysbytai ei wneud. Croeso cynnes a phersonol, teimlad cartrefol digynnwrf, yn hytrach na waliau clinigol oer, gwyn, synau brawychus, wardiau a rennir a dwndwr mannau prysur.

Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy lle cefais sgwrs annisgwyl gyda phreswylydd o'r enw Mel. Roedd Mel yn eistedd y tu allan yn mwynhau ei goffi boreol. Roedd yn foment gyffredin, bob dydd, ond mewn sawl ffordd roedd yn cynrychioli popeth y dylai gofal hosbis ei wneud: galluogi pobl i fwynhau pleserau syml bywyd, cadw eu hannibyniaeth a phrofi eiliadau o normalrwydd, hyd yn oed wrth wynebu'r amgylchiadau anoddaf. Siaradodd Mel yn angerddol am y tosturi a'r gofal a ddangoswyd iddo gan staff a gwirfoddolwyr yr hosbis. Disgrifiodd sut y cymerai’r bobl a oedd yn ei gefnogi amser i ddeall ei anghenion a theilwra eu gofal yn unol â hynny. Dyma sy'n gwneud gofal hosbis mor arbennig. Mae'n cydnabod bod pob claf yn unigolyn gyda'i anghenion, ei ddymuniadau, ei ofnau a'i obeithion ei hun. Pan fydd claf yn dod i mewn, cânt eu diffinio gan bwy ydynt ac nid pa gyflwr neu salwch sydd ganddynt. Dangosodd pob aelod o staff a phob gwirfoddolwr y cyfarfûm â nhw yn Sant Cyndeyrn ymrwymiad gwirioneddol i ddarparu cysur, tosturi ac urddas. Roedd yn amlwg nad swydd oedd hon iddynt, ond galwedigaeth. Yn anffodus, bu farw Mel yn fuan ar ôl ein cyfarfod, ond rwy'n falch o allu dweud bod ei farwolaeth yn ddigynnwrf ac yn urddasol a'i fod wedi'i amgylchynu gan gariad. Chwaraeodd y gefnogaeth a ddarparwyd gan yr hosbis i Mel a'i deulu ran bwysig yn gwneud hynny'n bosibl.

Rhwng 2024 a 2025, darparodd hosbisau yng Nghymru gefnogaeth uniongyrchol i 4,900 o aelodau teuluol, ffrindiau a gofalwyr. Gall gofalu am anwylyd fod yn flinedig yn gorfforol, yn straen emosiynol, ac yn heriol yn ariannol. Mae gofalwyr di-dâl yn rhoi cymaint ohonynt eu hunain, yn aml heb fawr o gyfle i orffwys ac ymadfer. Gall hosbisau roi seibiant mawr ei angen i'r gofalwyr hynny, gan eu helpu i ailgryfhau a pharhau yn eu rôl ofalu. Yn aml, mae hosbisau hefyd yn parhau i ddarparu cefnogaeth ymhell ar ôl i anwylyd farw. Mae gwasanaethau galar, cwnsela ac arweiniad ymarferol yn helpu teuluoedd i lywio'r daith anodd sy'n dilyn colli rhywun y maent yn ei garu. Felly, pan fyddwn ni'n siarad am hosbisau a gofal lliniarol, rhaid inni edrych y tu hwnt i'r gofal uniongyrchol a ddarperir i gleifion. Rhaid inni gydnabod y gefnogaeth a roddir i deuluoedd, gofalwyr di-dâl, cymunedau a'r GIG ehangach. Mae hosbisau yn sefydliadau gwerthfawr, ond ni allant barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn trwy ewyllys da ac ymroddiad yn unig. Maent angen yr adnoddau, y sefydlogrwydd a'r gefnogaeth i allu diwallu anghenion cynyddol ein cymunedau. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein hosbisau, cefnogi eu staff a'u gwirfoddolwyr ymroddedig, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau'n hygyrch i bawb, oherwydd mae pawb yn haeddu cyfle i fyw eu dyddiau olaf gydag urddas, ac ni ddylai unrhyw deulu orfod wynebu colli anwylyd heb y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

15:40

Mae yna rai meysydd polisi cyhoeddus lle gallwn siarad yn gyfforddus am gyllidebau, targedau, fframweithiau a threfniadau comisiynu. Ond yn y pen draw, mae gofal diwedd oes yn ymwneud â rhywbeth llawer mwy sylfaenol. Mae'n ymwneud â sut rydym yn trin bod dynol arall pan fyddant ar eu mwyaf agored i niwed a sut rydym yn caniatáu i deuluoedd dreulio'r eiliadau olaf hollbwysig hynny gyda'i gilydd.

I mi, mae hyn yn bersonol iawn, oherwydd ni chefais gyfle i ffarwelio â fy nhad. A bydd unrhyw un sydd wedi profi hynny yn deall bod rhai adegau mewn bywyd na ellir eu hail-greu yn ddiweddarach. Nid oes ail gyfle am sgwrs olaf, dim ail gyfle i ddal llaw rhywun, dim ail gyfle i ddweud yr hyn roeddech chi eisiau ei ddweud. Dyna pam y mae ansawdd y gofal yn y dyddiau a'r oriau olaf hynny yn bwysig nid yn unig i'r unigolyn sy'n marw, mae'n eithriadol o bwysig i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl. Mae gofal lliniarol da yn darparu urddas i'r rhai sy'n marw, ond mae hefyd yn rhoi rhywbeth hynod bwysig i deuluoedd: amser, cefnogaeth a chyfle i ddod â phethau i ben. Ni allwn newid marwolaeth, ond gallwn newid y profiad o farw, a dyna pam y dylai'r sefyllfa sy'n wynebu hosbisau ledled Cymru beri pryder i bob un ohonom yn y Siambr hon.

Mae hosbisau yng Nghymru yn cefnogi tua 20,000 o oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan salwch terfynol bob blwyddyn. Ac eto mae tua 70 y cant o gost gofal hosbis yn cael ei ariannu trwy roddion elusennol, ac mae Hospice UK wedi dweud wrthym fod gan oddeutu 10,000 o bobl yng Nghymru eisoes anghenion gofal lliniarol heb eu diwallu—eisoes. Ac eto, rhagwelir y bydd y galw yn cynyddu 21 y cant pellach erbyn 2050, tra bod hosbisau ar yr un pryd yn wynebu costau staffio, yswiriant gwladol a gweithredol cynyddol. Felly, nid argyfwng rywle y tu hwnt i'r gorwel yw hwn. Mae yna angen heb ei ddiwallu heddiw, ac rydym yn gofyn i'r un gwasanaethau baratoi ar gyfer galw llawer mwy yfory.

Rydym eisoes yn gweld y canlyniadau. Mae bron i 30 y cant o hosbisau gwirfoddol Cymru a arolygwyd yn lleihau gwelyau cleifion mewnol neu wasanaethau ehangach oherwydd pwysau ariannol a phwysau gweithlu. Ac nid ystadegau cenedlaethol haniaethol yw’r rhain i ni yng ngogledd Cymru. Yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi, mae uned cleifion mewnol pedwar gwely wedi'i chau dros dro. Efallai y bydd pedwar gwely yn swnio'n ddibwys ar daenlen Llywodraeth, ond nid rhif yn unig yw gwely hosbis. Efallai mai dyma lle mae rhywun yn treulio eu noson olaf, lle mae gŵr yn ffarwelio â'i wraig, lle mae merch yn dal llaw ei thad, lle mae teulu'n cael un sgwrs olaf gyda rhywun y maent yn ei garu. Felly, pan siaradwn am golli pedwar gwely, pedwar gwely hosbis, rydym yn sôn o bosibl am bedwar teulu'n colli rhywbeth na allant byth ei gael yn ôl. Ac mae pwynt pwysig arall yma. Nid yw caniatáu i ddarpariaeth hosbis ddirywio yn gwneud i'r angen ddiflannu. Gall gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau hosbis, gefnogi pobl yn nes at adref, atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a lleddfu pwysau ar y GIG sydd eisoes dan straen enfawr. Os methir ariannu gofal yn iawn mewn un rhan o'r system, bydd y gost ddynol ac ariannol yn ymddangos yn rhywle arall.

Darparodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn ar gyfer hosbisau yn 2025-2026, ac ymrwymodd i ddatblygu ateb ariannu cynaliadwy. Ond mae Hospice UK a Hospices Cymru yn amcangyfrif bod angen £30 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod gweddill tymor y Senedd hwn. Felly, mae fy nghwestiwn i'r Llywodraeth yn syml: ble mae'r setliad cynaliadwy? Ni all hosbisau recriwtio a chadw staff arbenigol ar sail geiriau cynnes. Ni allant gadw gwelyau cleifion mewnol ar agor gyda chyhoeddiad arall, ac ni ddylai teuluoedd sy'n wynebu dyddiau anoddaf eu bywydau orfod meddwl tybed a fydd y gofal sydd ei angen arnynt yn ddybryd yma mewn gwirionedd.

Rydym yn treulio llawer iawn o amser yn y Siambr hon yn dadlau am flaenoriaethau. Yn sicr, ni cheir mwy o brawf o'n gwerth na’r ffordd y gofalwn am bobl ar ddiwedd eu hoes. I'r sawl sy'n marw, mae'n ymwneud ag urddas. I'r teulu, mae'n ymwneud â thosturi, yr amser, y cyfle i ffarwelio. Ac i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl, gall yr adegau olaf hynny ddod yn atgofion a gofiant am weddill eu hoes.

Am y rhesymau hynny, Lywydd, byddaf yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw ac rwy'n annog Aelodau'r Siambr i wneud yr un peth. Rwy'n gwybod beth y mae'n ei olygu i beidio â chael y cyfle hwnnw, a dyna pam fy mod am i deuluoedd eraill gael y cyfle na chefais i, oherwydd mae yna lawer o bethau y gall y Llywodraeth eu gohirio, ond nid yw ffarwel olaf yn un ohonynt.

15:45

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i Lafur Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rydym eisoes wedi clywed pa mor bwerus yw effaith y mater hwn ar bobl ar draws y Siambr. Clywsom straeon anhygoel am alar personol pobl a'u cefnogaeth i'r sector hwn, felly rydym yn ddiolchgar fod y ddadl hon yma heddiw.

Rwy'n sefyll yma hefyd, Lywydd, yn un o'r nifer o hetiau rydym yn eu gwisgo fel Aelodau'r Senedd, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a gofal hosbis, ac rwyf eisiau rhoi clod i’r anhygoel Mark Isherwood a gyflawnodd y rôl honno am nifer o flynyddoedd yn y lle hwn, ymhlith llawer o rolau a oedd ganddo yma. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei gefnogaeth drwy gydol ei gyfnod yn y lle hwn.

Ac yn y rôl honno, rwyf innau hefyd wrth gwrs wedi cael y fraint o gyfarfod â llawer o sefydliadau anhygoel yn yr amser byr y bûm yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Mae'r sefydliadau hynny'n darparu gofal hosbis diwedd oes pwysig ledled Cymru, ac fel y mae eraill wedi'i wneud, rwyf am ddechrau trwy ddiolch iddynt am eu gwaith anhygoel, o'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio wrth ddesg y dderbynfa yn yr hosbisau, i’r staff clinigol arbenigol yn yr hosbisau hynny ddydd ar ôl dydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth Jane Bryant fel is-gadeirydd y grŵp, ac i Elfed Williams am ei waith cyson ar hyn, a diolch i chi, Elfed, am rannu eich stori gyda ni yma yn y lle hwn heddiw.

A chyda'r grŵp trawsbleidiol, cynhaliwyd digwyddiad ychydig wythnosau yn ôl yn y Neuadd, Lywydd, ac roeddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog Cabinet am allu ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Rwy'n gwybod bod y sector yn ddiolchgar hefyd. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â hosbisau o bob cwr o Gymru, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonoch wedi manteisio ar y cyfle i wneud hynny. Roeddwn yn falch o allu treulio ychydig funudau gyda'r hosbis yn fy etholaeth, Fflint Wrecsam, sef Hosbis Tŷ'r Eos. Mae wedi bod yn gwasanaethu pobl ledled Wrecsam, sir y Fflint, a dwyrain sir Ddinbych ers dros 30 mlynedd bellach, ac mae'n enghraifft ddisglair o'r gwaith gwych y mae hosbisau'n ei wneud yng Nghymru.

Ac rwyf am atgoffa Aelodau'r lle hwn yma eto heddiw y bydd y grŵp trawsbleidiol hwnnw'n cyfarfod yn rheolaidd. Rwyf wedi clywed y ddadl angerddol hyd yn hyn yn y lle hwn ac os ydych chi am ymgysylltu â'r grŵp trawsbleidiol, cadwch lygad am y gwahoddiadau hollbwysig hynny, ond rwy'n gwybod bod gennym ni ddyddiaduron prysur iawn i ymdopi â nhw. Ond gadewch imi rannu yma heddiw gyda chi, fel Aelodau, ein bod ni wedi cael cyfarfod grŵp trawsbleidiol yr wythnos hon ac fe wnaethom gyhoeddi ein bod ni'n mynd i gynnal ymchwiliad, fel grŵp trawsbleidiol, i ofal lliniarol cymunedol a sut y mae hynny'n cysylltu â gofal hosbis yn ogystal. Ac rwy'n gobeithio cael argymhellion y gall y grŵp trawsbleidiol eu cyflwyno i'r Senedd hon. A gwn y bydd gan y Gweinidog Cabinet ddiddordeb mewn gweld sut olwg fydd ar hynny a sut y gallai hynny siapio rhywfaint o'i syniadau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Rwyf am adleisio'r diolch a'r gefnogaeth a roddwyd eisoes i'r rhai sy'n gweithio yn y sector hwn a chydnabod, fel y gwnaeth eraill, y gefnogaeth a roddir i tua 20,000 o blant ac oedolion yng Nghymru bob blwyddyn, gyda'r galw hwnnw'n tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fe wyddom am y pwysau y mae'r gwaith da hwnnw'n ei dynnu oddi ar y GIG, gan ganiatáu i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty a chynnig 77,000 o ymweliadau i bobl yn eu cartrefi eu hunain yn flynyddol hefyd.

Y pwynt rwyf am ei grybwyll, serch hynny, Lywydd, yw mai'r un gair sy'n dod drwodd i mi dro ar ôl tro o hosbisau yw'r gair 'sicrwydd'. Rydym yn eu clywed yn awyddus iawn i gael sicrwydd ynghylch eu dyfodol, ac mae llawer o hynny'n dibynnu ar gyllid. Mae angen sicrwydd arnynt ynghylch eu cyllidebau, ynghylch eu cyllid; mae angen sicrwydd arnynt ynghylch pa wasanaethau y gallant eu cynnig; mae angen sicrwydd arnynt y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w galluogi i ddarparu gofal yn ein cymunedau. Oherwydd os na allwn sicrhau cynllun ariannu cynaliadwy ar gyfer hosbisau dros dymor y Senedd hon fan lleiaf, rydym mewn perygl gwirioneddol o golli gwasanaethau neu sefydliadau cyfan yn ein cymunedau, ac rydym eisoes wedi gweld tystiolaeth o rywfaint o hynny.

Rwy'n gwybod bydd y Gweinidog Cabinet yn cyfeirio at y model comisiynu cenedlaethol sy'n cael ei lunio ar hyn o bryd o bosibl. Fy nealltwriaeth i yw bod hwnnw'n debygol o gymryd rhwng pump a 10 mlynedd i ddwyn ffrwyth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cabinet wedi arwain dadl bwysig yn y lle hwn ym mis Ionawr 2024, rwy'n credu, bron i dair blynedd yn ôl, lle gwnaethom ni fel Siambr gefnogi'r safbwynt hwnnw hefyd. Ond fy mhryder i, Weinidog Cabinet, yw'r amserlen ar gyfer hyn. Mae bron i dair blynedd er pan y gwnaethoch chi arwain y ddadl honno yn y lle hwn. Os yw'r model hwnnw'n cymryd o leiaf bum mlynedd arall i'w ddatblygu, mae hwnnw'n gyfnod hir o ansicrwydd i'r sector hwn. A'r apêl yw ein bod yn creu'r sicrwydd hwnnw yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Wrth gwrs, maent yn ddiolchgar am y dyraniadau blwyddyn ar ôl blwyddyn sy'n cael eu darparu iddynt; ni fyddent yn gallu goroesi hebddynt. Ond yr hyn sydd ei angen arnynt yw cyllid hirdymor, cynaliadwy, a model comisiynu hirdymor i'w gyflwyno'n llawer cynt na'r pum i 10 mlynedd efallai a ragwelir eisoes. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Shwmae, Lywydd; shwmae, bawb. Fel fy nghyd-Aelodau, rwyf am ddechrau yn gyntaf trwy ddiolch i'r staff, y gwirfoddolwyr, y gofalwyr, a'r teuluoedd sy'n gwneud gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn bosibl ledled Cymru. Nawr, fel rhywun, fel llawer ohonoch chi, a fyddai wedi gofalu am rieni sy'n heneiddio, mae'r ddadl hon yn bwysig iawn i mi. Rwyf wedi bod yn aelod o'r teulu hwnnw sydd wedi gorfod eistedd gyda rhywun annwyl ac esbonio nad oedd unrhyw beth arall y gallai'r GIG ei wneud i wella eu salwch, a bod yn rhaid i'r ffocws nawr fod ar eu cadw'n gyfforddus, heb boen a chyda chefnogaeth.

A'r hyn a ddysgodd ein teulu ni yn gyflym iawn oedd pa mor gymhleth a llethol y gall y system gofal lliniarol fod i'w llywio, ac yn enwedig pan fydd rhywun yn byw gyda chyflyrau lluosog ac yn symud rhwng ysbyty, cymuned a chartref, ac weithiau yn ôl ac ymlaen. Ac yn ein hachos ni, roeddem yn delio â phethau fel strôc, canser, Parkinson's, clefyd niwronau motor, a llawer mwy, a derbyniadau i'r ysbyty dro ar ôl tro. Ac ar bob cam, roedd gwahanol weithwyr proffesiynol ynghlwm wrth bethau, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau gwahanol, ac roedd yn rhaid amsugno gwybodaeth newydd, ac roeddem yn mynd ar drywydd papur yn barhaol, yn ceisio gwneud yn siŵr bod gennym y llythyr cywir ac yn ceisio dal i fyny drwy'r amser.

Felly, i deuluoedd sydd eisoes yn ymdopi â galar, ansicrwydd a blinder, gall llywio'r systemau hynny fod yn wirioneddol frawychus. Ac mae'r profiad hwnnw wedi dysgu i mi fod gofal lliniarol yn llawer mwy na dim ond triniaeth feddygol. Mae'n ymwneud â chyfathrebu. Mae'n ymwneud â chydlynu. Ac mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod cleifion a theuluoedd yn deall pa gymorth sydd ar gael iddynt mewn gwirionedd—at bwy y gallant droi, a pha ddewisiadau sy'n wirioneddol agored iddynt ar yr adeg honno o angen. Ond yn bennaf oll, mae hyn yn ymwneud ag urddas.

Rydym i gyd yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae hosbisau'n ei wneud. Maent yn darparu gofal arbenigol, cefnogaeth emosiynol, a chymorth ymarferol wrth gwrs, i gleifion a theuluoedd ledled Cymru. O'm safbwynt i, fodd bynnag, rhaid i hon hefyd fod yn sgwrs am y gweithlu lawn cymaint â sgwrs am ariannu. Mae pob gwely hosbis, pob ymweliad cymunedol, a phob pecyn gofal diwedd oes yn dibynnu ar bobl—nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr, a gofalwyr di-dâl wrth gwrs. Felly, os ydym eisiau gofal lliniarol cynaliadwy, rydym angen gweithlu cynaliadwy. Ac fel rhywun sydd â gwreiddiau yn y mudiad undebau llafur, rwyf eisiau bod yn glir am rywbeth arall: rhaid inni weld gwerth gofalu. Rhaid gweld ei werth. Mae'r rhai sy'n cefnogi cleifion a theuluoedd ar ddiwedd eu hoes yn gwneud peth o'r gwaith mwyaf emosiynol heriol yn ein cymdeithas. Maent yn haeddu cyflogaeth ddiogel; maent yn haeddu triniaeth deg, gwaith teg, cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, a chefnogaeth briodol i'w llesiant eu hunain hefyd wrth gwrs.

Ond nid yw cynaliadwyedd yn ddigon ar ei ben ei hun. Rhaid inni siarad hefyd am gydraddoldeb a mynediad. Gwyddom nad yw pawb yn profi gofal iechyd yn yr un modd. Gall pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig wynebu rhwystrau i fynediad at wasanaethau weithiau. Efallai y bydd gan bobl anabl anghenion cyfathrebu, hygyrchedd neu gymorth ychwanegol. Dylai pobl LHDTC+ fod yn hyderus y bydd eu hunaniaeth a'u perthnasoedd yn cael eu parchu. A dylai siaradwyr Cymraeg allu derbyn gofal yn yr iaith sy'n teimlo'n fwyaf naturiol ac yn fwyaf cysurus iddynt hwy.

Ac ni ddylem byth anghofio gofalwyr di-dâl sy'n cydbwyso cyfrifoldebau gwaith a theulu, a'u hiechyd eu hunain yn aml wrth ofalu am rywun arall y maent yn ei garu. I mi, felly, nid dim ond a yw gwasanaethau'n bodoli yw'r prawf i ddynodi llwyddiant system gofal lliniarol, ond a all yr unigolyn sydd angen y gofal hwnnw gael mynediad ato, a chael ei ddeall a'i dderbyn gydag urddas, beth bynnag y bo'i gefndir, anabledd, iaith, cod post neu amgylchiadau personol.

A daw hynny â mi'n ôl i ble y dechreuais. Y tu ôl i bob trafodaeth am gyllid, cynlluniau gweithlu neu ddarpariaeth gwasanaethau mae unigolyn sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes, a theulu sy'n ceisio eu cefnogi drwy'r peth. Ni ddylent orfod treulio'r amser gwerthfawr hwnnw'n brwydro i ddeall system gymhleth neu'n poeni a fydd yr help sydd ei angen arnynt yno ar eu cyfer. Beth bynnag yw ein gwahaniaethau ar draws y Siambr hon, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno ar un egwyddor sylfaenol: mae pawb yng Nghymru yn haeddu urddas, maent yn haeddu tosturi, ac maent yn haeddu parch ar ddiwedd eu hoes. Mae'r holl bobl sy'n darparu'r gofal hwnnw hefyd yn haeddu ein cefnogaeth wrth gwrs. Diolch yn fawr.

15:55

Neithiwr—neu yr wythnos diwethaf, yn hytrach—roeddwn yn falch iawn o ymweld â Hosbis y Ddinas yn fy etholaeth. Maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl â salwch terfynol a'u teuluoedd. Maent yn darparu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain, gan helpu i'w cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau lleol a'u rhwydweithiau cymorth cyhyd â phosibl, ond mae ganddynt hefyd ganolfan galw heibio anhygoel yn yr Eglwys Newydd, gyda gerddi hardd a lle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, gan ganiatáu i bobl barhau i fyw'n dda hyd at ddiwedd eu hoes.

Fe wnaethant ddweud wrthyf am ddyn roeddent yn ei gefnogi a oedd, yn ddealladwy, yn teimlo'n isel iawn a dywedodd mai un o'r pethau roedd yn ei golli'n fawr oedd cyfle i sgwrsio am bêl-droed, felly fe wnaethant greu bar chwaraeon lle gallai pobl yfed cwrw di-alcohol, gwylio gemau pêl-droed a siarad amdanynt, yn aml gydag arwr chwaraeon fel gwestai arbennig. Rwy'n cyfaddef nad yw hynny'n rhywbeth sy'n apelio ataf i'n bersonol, ond mae'r bar chwaraeon bellach wedi dod yn un o'u gweithgareddau mwyaf poblogaidd. Dyma'r gwahaniaeth gwirioneddol y mae hosbisau'n ei wneud ym mywydau pobl, ond mae'r gwaith hanfodol hwn yn y fantol heb gyllid cynaliadwy a chydweithio cryf gyda byrddau iechyd lleol.

Rhoddodd y Llywodraeth flaenorol gamau ar waith tuag at ddatblygu fframwaith comisiynu hosbisau i sicrhau ymarfer da cyson ledled Cymru. Fodd bynnag, rwy'n deall bod amrywiadau sylweddol o hyd ar draws gwahanol ardaloedd. Mae angen £5.5 miliwn ychwanegol o gyllid ar sector hosbisau Cymru eleni a £8.2 miliwn ychwanegol o gyllid ym mhob blwyddyn ddilynol o dymor y Senedd. Fel y mae pobl wedi dweud, mae hyn yn golygu tua £30 miliwn i gyd ar gyfer tymor cyfan y Senedd, nad yw'n llawer iawn o arian o ystyried yr effeithiau hynod fuddiol i'n cymunedau.

Ar gyfartaledd, dim ond tua thraean o'u hincwm y mae hosbisau Cymru'n ei gael o ffynonellau statudol a rhaid iddynt godi arian ar gyfer y gweddill gan roddwyr preifat, sy'n hynod o anodd yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw. Byddai croeso i unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer hosbisau wrth gwrs, ond sicrwydd hirdymor hefyd, o ran contractau a chyllid grant, fel y gall staff a defnyddwyr gwasanaeth fod yn hyderus y bydd eu gwasanaethau hanfodol yno pryd bynnag y bydd eu hangen. Mae cyllid aml-flwyddyn rhagweladwy yn caniatáu i hosbisau gynllunio ymlaen llaw yn well ac yn cefnogi eu staff medrus iawn gyda nifer enfawr o wahanol arbenigeddau meddygol wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau lleol eu hunain.

Rwy'n falch ein bod ni i gyd yn cytuno bod gwaith anhygoel ein hosbisau a'n gweithwyr gofal lliniarol nid yn unig yn werth ei ddathlu yn y ddadl hon y prynhawn yma, ond hefyd yn deilwng o gyllid teg a chynaliadwy i gydnabod eu gwaith sy'n goleuo bywydau. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae gennym un neu ddau o siaradwyr eraill. Mae nifer o siaradwyr i lawr ar gyfer y ddadl hon. Gallaf fynd ychydig dros yr amser, os caniatewch i mi wneud hynny, ond os caf ofyn i'r un neu ddau siaradwr nesaf i fod yn ymwybodol y byddwn wedi mynd dros yr amser. Rebeca Phillips.

Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb am rannu eu straeon personol heddiw. Y ffordd y gofalwn am bobl y nyddiau olaf eu bywydau yw'r mesur eithaf o'n tosturi, ein gwerthoedd a'n cymdeithas. Nid cangen eilaidd o feddygaeth yw gofal lliniarol a diwedd oes; mae'n biler sylfaenol mewn system iechyd a gofal cymdeithasol wirioneddol integredig.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Marie Curie yn amcangyfrif y byddai 1,550 o bobl wedi elwa o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn 2023. Ymhen 10 mlynedd, maent yn amcangyfrif y bydd y galw am ofal lliniarol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynyddu i 1,705 o bobl y flwyddyn, a'r hyn y mae'n rhaid inni gofio yw bod unigolyn, teulu, y tu ôl i bob ffigur.

Mae adnabod anghenion yn gynnar trwy fyrddau iechyd yn hanfodol i lywio'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau. Roeddwn i'n falch o weld ymrwymiadau ym maniffesto Plaid Cymru i sicrhau bod pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys angen gofal lliniarol a diwedd oes, oherwydd ni ddylai urddas mewn marwolaeth byth ddibynnu ar eich cod post.

A thrown at staff ein hosbisau ledled Cymru. Nid oes modd mesur y gefnogaeth y mae'r unigolion hyn yn ei ddarparu i deuluoedd—y gofal, y profiad a'r tosturi sy'n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi a'u cymunedau lle bynnag y bo modd. Ond mae poblogaeth sy'n heneiddio gyda chyflyrau cynyddol gymhleth yn golygu y bydd pwysau ar ein staff rheng flaen yn dwysáu. Os nad adeiladwn rwydwaith o ofal cymunedol gwydn, ein gwasanaethau argyfwng fydd yn ysgwyddo'r pwysau. Bydd pobl sy'n dymuno treulio eu dyddiau olaf yng nghysur eu cartrefi eu hunain wedi'u hamgylchynu gan eu hanwyliaid yn parhau i fod yn gaeth mewn gwelyau ysbyty am nad yw'r gefnogaeth gymunedol yno. Rwy'n falch o weld consensws ar draws y Siambr heddiw i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob unigolyn yng Nghymru yn gallu wynebu diwedd eu hoes gydag urddas, ac mewn cysur a heddwch.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp Llafur am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a'r ddadl bwysig hon. Oherwydd mae hwn yn fater a ddylai uno pob un ohonom yn y Siambr hon, beth bynnag yw ein gwahaniaethau gwleidyddol. Fel Sam Rowlands, hoffwn ddiolch i Mark Isherwood, nad yw yn y Siambr hon mwyach, am yr holl waith a wnaeth yn y cyswllt hwn. Roedd yn arweinydd i ni yn y maes hwn. Rydym yn gweld ei golli, ond edrychwn ymlaen at weld beth y gall Sam ei wneud yn ei le.

Dros y blynyddoedd, cefais y fraint o ymweld â nifer o elusennau a sefydliadau ledled Cymru sy'n darparu gofal a chymorth i bobl sy'n wynebu rhai o adegau anoddaf eu bywydau. Rwyf wedi ymweld â Hosbis Dewi Sant, fel y soniodd Natasha Asghar. Ond un ymweliad penodol sydd wedi aros gyda mi oedd ymweliad â chanolfan gofal lliniarol i blant Tŷ Hafan, ger Caerdydd. Mae gweld y tosturi, yr ymroddiad a'r gofal anhygoel a ddarperir i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a'r gefnogaeth a gynigir nid yn unig i'r plant, ond i'r rhieni a'r teuluoedd, yn rhywbeth sy'n rhoi bywyd mewn persbectif go iawn. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl sy'n gweithio yn Tŷ Hafan am y gwaith anhygoel a wnânt.

Ond mae gofal lliniarol yn ymwneud â mwy na helpu rhywun ar ddiwedd eu hoes yn unig, mae'n ymwneud â helpu pobl i fyw cystal ag y gallant cyhyd ag y gallant. Mae'n ymwneud ag urddas, cysur, tosturi a rhoi cyfle i deuluoedd greu atgofion gwerthfawr gyda'i gilydd. Hoffwn dalu teyrnged i bob nyrs, meddyg, cynorthwyydd gofal iechyd, gwirfoddolwr a gweithiwr elusennol sy'n gwneud hynny'n bosibl ledled ein gwlad.

Ond Lywydd, y tu ôl i'r gwaith anhygoel hwnnw, mae realiti ariannol sy'n peri cryn bryder. Ledled Cymru, mae hosbisau'n cefnogi mwy nag 20,000 o oedolion a phlant bob blwyddyn, ond mae oddeutu dwy ran o dair o'u hincwm yn dal i ddibynnu ar godi arian elusennol. Y mis diwethaf, rhybuddiodd Hospice UK a Hospices Cymru fod angen £30 miliwn ychwanegol dros weddill tymor y Senedd hon i ddim ond diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Dylai'r ffigurau hynny beri pryder i bawb. Nid pwysau ariannol ar fantolen yn unig mohonynt; mae iddynt ganlyniadau gwirioneddol i gleifion a theuluoedd sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn. Croesawais y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu, gan gynnwys y pecyn £4.3 miliwn a gyhoeddwyd yn gynharach eleni a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i wella'r ffordd y caiff hosbisau eu comisiynu, ond mae’n rhaid inni gydnabod na all cefnogaeth ariannol tymor byr gymryd lle'r diogelwch hirdymor y mae'r gwasanaeth a'r sector wedi gofyn amdano. Ni allwn ddisgwyl i'n hosbisau barhau i roi sicrwydd i deuluoedd yn yr amgylchiadau anoddaf hynny.

Rwy'n credu bod mater tegwch ehangach yma hefyd. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod nad oes gan oddeutu un o bob pedwar o bobl yng Nghymru fynediad at ofal hosbis neu gymorth gofal lliniarol arbenigol cyfatebol ar hyn o bryd, ac ni all hynny fod yn dderbyniol. P'un a yw rhywun yn byw yng Nghaerdydd, y Cymoedd, cefn gwlad Powys neu ogledd Cymru, dylent allu cael yr un urddas a thosturi a gofal o'r un ansawdd. Rhaid inni gofio bod gofal lliniarol da hefyd yn golygu cefnogi teuluoedd, darparu seibiant, helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau pwysau diangen ar ein hysbytai. Nid yw pobl ar ddiwedd eu hoes eisiau eistedd ar gadeiriau caled mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu gweld. Nid dyna lle maent eisiau mynd.

Ond hoffwn ddweud wrth y Gweinidog Cabinet newydd: fe wnaethoch chi lawer o addewidion i'r sector hwn pan oeddech chi'n Weinidog yr wrthblaid ar gyfer hyn. Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethoch chi arwain dadl yn y Senedd hon, yn galw am gyllid hirdymor. Ar 16 Gorffennaf y flwyddyn honno, fe ddywedoch chi hefyd eich bod yn anhapus ynghylch yr oedi i'r sector. Ym mis Medi, fe sonioch chi am gynnydd aneffeithlon, ac ym mis Ionawr a mis Mawrth eleni, fe ddywedoch chi fod y lefelau cyllido yn anghynaliadwy. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, Weinidog Cabinet, rwy'n gobeithio nad yw swyddogion wedi siarad yn eich clust ac wedi newid eich meddwl, gan y credaf y bydd rhywfaint o'r sicrwydd rydych chi wedi'i roi i'r sector dros y blynyddoedd yn cael ei ddwyn i gyfrif. Hoffwn weld eich bod chi wedi gwrando ac yn mynd i weithredu nawr eich bod yn y Llywodraeth i gyflawni ar ran y sector allweddol hwn, a chyflawni ar ran y teuluoedd a'r bobl hynny ledled Cymru sy'n dibynnu arnoch i gadw eich addewidion. Diolch.

16:05

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon. Dwi hefyd yn ddiolchgar i Ken Skates am ddod â hi gerbron y Senedd yma heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau dirdynnol yn ystod y ddadl. Mae hwn yn faes lle mae cryn dipyn o dir cyffredin ar draws y Siambr. Mae llawer yn y cynnig heddiw y gallwn ni gytuno ag o.

Mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes o safon uchel yn hynod bwysig. Mae'n golygu bod pobl yn cael eu trin efo urddas, tosturi a gofal. Mae hynny'n bwysig i'r unigolyn. Mae'n bwysig i deuluoedd ac i ofalwyr hefyd, ac mae yr un mor bwysig i'r bobl sy'n eu cefnogi drwy rai o'r adegau mwyaf anodd y byddan nhw byth yn eu hwynebu. Mae hosbisau yn rhan hanfodol o'r gofal hwnnw. Maen nhw'n darparu arbenigedd clinigol gwerthfawr. Maen nhw'n helpu pobl i fyw cystal ag y gallan nhw. Maen nhw'n gweithio law yn llaw efo'r NHS a gwasanaethau cymunedol i ddarparu gofal sy'n dosturiol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dwi wedi ymweld â nifer o hosbisau fy hun, yn gyntaf fel gwleidydd yr wrthblaid, ac erbyn hyn fel Gweinidog yn y Llywodraeth, a bob tro dwi'n cael fy nharo gan ymroddiad y staff, y gwirfoddolwyr a phawb sy'n rhan o'r gwaith. Dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Siambr gyfan wrth ddweud bod arnom ni ddyled enfawr o ddiolch iddyn nhw.

Dwi'n deall yn iawn y pryderon sydd wedi codi heddiw am y pwysau sy'n wynebu'r sector, a dwi'n cydymdeimlo'n llwyr gyda nhw. Yn wir, mi oedd llawer o'r materion sydd wedi cael eu hamlygu heddiw yn faterion y gwnes i eu codi fy hun pan oeddwn i ar feinciau'r gwrthbleidiau, fel yr ydyn ni wedi clywed. Mi oedden nhw'n bwysig bryd hynny, ac maen nhw'n parhau yn bwysig heddiw. Mae'r sefyllfa ariannol yn un heriol, a dydw i ddim am esgus fel arall. Mae hosbisau wedi bod yn glir ynglŷn â'r pwysau sy'n wynebu'r sector: costau ynni uwch, cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, galw cynyddol am wasanaethau ac ansicrwydd ynghylch trefniadau comisiynu.

Mi wnes i glywed y pryderon hynny'n uniongyrchol pan wnes i gyfarfod gyda Hosbisau Cymru yn ddiweddar. Mi wnaethom ni drafod y pwysau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mi wnaethom ni hefyd drafod y tymor hwy a'r hyn sydd angen ei wneud i roi gwasanaethau hosbis ar sail fwy cynaliadwy.

Fodd bynnag, nid yw cydnabod y cyfyngiadau yn golygu derbyn na ellir gwneud unrhyw beth. Mae camau ymarferol y gallwn ac y mae'n rhaid i ni eu cymryd i wella gwasanaethau a chryfhau cynllunio. Mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad clir i fynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, partneriaethau rhanbarthol a'r agenda gofalwyr di-dâl i droi'r ymrwymiad hwnnw'n gamau ymarferol.

Mae'r fanyleb gwasanaeth cenedlaethol yn cefnogi cynlluniau a darpariaeth fwy cyson. Mae'r fframwaith cymhwysedd cenedlaethol yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu, tra bo'r dull comisiynu hosbisau'n sefydlu egwyddorion ar gyfer trefniadau mwy cyson a chynaliadwy. Mae'r pwynt ynglŷn â'r gweithlu yn y cynnig yn arbennig o bwysig. Mae'r fframwaith cymhwysedd cenedlaethol yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer sicrhau bod gan staff ar draws iechyd a gofal y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel. Rhaid cydnabod gofal lliniarol yn gynharach hefyd a'i ymgorffori ar draws y llwybrau y mae pobl yn derbyn gofal drwyddynt. Drwy ddatblygu ein strategaeth canser genedlaethol a'n fframwaith gofal argyfwng ac acíwt, rydym yn edrych ar sut y gellir integreiddio cymorth lliniarol arbenigol yn well ar draws gwasanaethau, gan gefnogi mynediad cynharach at ofal, cynlluniau gofal uwch cryfach, a chymorth mwy cydgysylltiedig i gleifion a theuluoedd.

Lywydd, hoffwn roi sylw hefyd i'r alwad am gyllid teg a chynaliadwy i hosbisau. Mae'r trefniadau presennol wedi datblygu'n wahanol ledled Cymru. Mae hosbisau wedi dweud wrthym fod anghysondeb ac ansicrwydd yn ei gwneud yn anos iddynt gynllunio gwasanaethau, cadw eu gweithlu a buddsoddi ar gyfer y dyfodol. Yn rhy aml, gall mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes ddal i gael ei ddylanwadu gan ble mae pobl yn byw neu'r ffordd y mae gwasanaethau wedi datblygu yn y gorffennol. Nid yw'r amrywiad hwnnw o fudd i gleifion, teuluoedd na'r system ehangach. Mae'r canllawiau comisiynu hosbisau yn rhoi cyfeiriad cyffredin i ni, ond nid eu cyhoeddi oedd diwedd y broses.

Rhaid i'r cam nesaf ymwneud â gweithredu. Mae hyn yn cynnwys asesiad cenedlaethol o anghenion y boblogaeth, a gwaith ar fodelau comisiynu ac ariannu yn y dyfodol. Mae'r rhaglen genedlaethol gofal lliniarol a diwedd oes yn gweithio i feithrin dealltwriaeth gliriach o angen ledled Cymru, fel bod penderfyniadau'n adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar bobl yn hytrach nag adlewyrchu patrymau darpariaeth yn y gorffennol yn unig. Rydym am wneud cynnydd ystyrlon tuag at drefniadau mwy cyson a chynaliadwy yn nhymor y Senedd hon. Rwy'n cydnabod bod y sector eisiau mwy o sicrwydd ac rwy'n rhannu'r nod hwnnw. Ein ffocws nawr yw gweithredu'r dull comisiynu a sicrhau bod penderfyniadau ariannu'n cael eu llywio gan dystiolaeth, disgwyliadau y cytunwyd arnynt gan y gwasanaeth ac atebolrwydd cliriach.

Ond nid yw ein sylw wedi'i gyfyngu i'r tymor hwy. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd ymarferol i gefnogi hosbisau sy'n wynebu pwysau uniongyrchol, gan barhau â'r rhaglen ddiwygio ehangach hon. Enghraifft ddiweddar yw'r cytundeb o £800,000 drwy'r rhaglen gyfalaf i Gymru gyfan i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Hosbis y Ddinas. Er na all buddsoddi mewn un prosiect ddatrys y pwysau sy'n wynebu'r sector cyfan, mae'n dangos ein bod yn cefnogi gwasanaethau nawr gan ddatblygu trefniadau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gosod cyfeiriad polisi clir ar y cyd, gan ddod â gwasanaethau, y gweithlu, comisiynu, cyllid a chefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr at ei gilydd.

Ac nid ydym yn dechrau o dudalen wag, er ein bod yn cydnabod bod lle i wella bob amser. Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, sy'n gosod y disgwyliadau strategol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd, ac ochr yn ochr â'r gyfres bresennol o ddogfennau ategol, fe fydd yn helpu i ddarparu'r fframwaith strategol ar gyfer y cyfnod nesaf o wella.

Ond yn y pen draw, rhaid i fframweithiau cenedlaethol droi'n weithredu ymarferol ar lawr gwlad. Drwy fy sgyrsiau diweddar gyda'r sector, gan gynnwys mewn digwyddiad gan Marie Curie a Hospice UK, dwi wedi clywed y neges yn glir. Mae awydd gwirioneddol i gydweithio, awydd i wella'r gofal a'r cymorth sydd ar gael i bobl wrth iddyn nhw nesáu at ddiwedd eu hoes. Dyna pam dwi wedi gofyn i swyddogion ddechrau'r gwaith o baratoi ar gyfer uwchgynhadledd genedlaethol ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rŷn ni'n bwriadu ei chynnal mis Mawrth nesaf.

Dwi am i'r uwchgynhadledd honno ddod â'r NHS, hosbisau a rhanddeiliad eraill ynghyd. Dwi am iddi helpu i siapio blaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru. Nid y bwriad ydy comisiynu adroddiad arall nac ailadrodd heriau rŷn ni eisoes yn eu deall. Y bwriad ydy dod â phobl at ei gilydd o amgylch rhaglen glir o weithredu a chyflawni yn ystod tymor y Senedd hon.

Lywydd, dydw i ddim yn tanamcangyfrif maint yr heriau sy'n wynebu'r sector. Dwi hefyd yn deall yn iawn y pryder sy'n deillio o'r ansicrwydd ynghylch cyllid a'r gweithlu. Ond, ar yr un pryd, mae'n bwysig cydnabod y cynnydd sydd eisoes wedi bod. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n manteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ni.

Y tu ôl i bob trafodaeth am gyllid, comisiynu a'r gweithlu, mae pobl go iawn a theuluoedd go iawn—pobl sy'n wynebu rhai o'r amgylchiadau mwyaf anodd y gall unrhyw un ohonon ni ddychmygu. Maen nhw'n haeddu gofal sy'n dosturiol, gofal sydd yn deg, a gofal sydd ar gael pan fo'i angen fwyaf. Mae gennym ni gyfle yn ystod tymor y Senedd yma i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy gydweithio ar draws yr NHS, hosbisau, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Trwy wneud hynny, mi allwn ni greu system sy'n fwy cynaliadwy ac yn fwy cyson—system sy'n rhoi pobl wrth ganol y gofal sy'n cael ei ddarparu.

Dyna'r gwaith rŷn ni wedi ymrwymo iddo fel Llywodraeth, a dyna'r gwaith y byddwn ni'n bwrw ymlaen ag o mewn partneriaeth efo pawb sy'n chwarae rhan mor bwysig wrth ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes ledled Cymru. Diolch, Lywydd.

16:10

Diolch, Lywydd. Heddiw, mae gennym gonsensws clir. Mae'n un sy'n croesi pob plaid, ac mae a wnelo â maes gofal mor hanfodol sydd ei angen pan fo rhywun ar ddiwedd eu hoes ac yn wynebu salwch terfynol. Cawsom lawer o gyfraniadau hynod werthfawr, ac mae arnaf ofn nad oes digon o amser gennyf i wneud cyfiawnder â nhw. Fe wnaethom ddechrau gydag Elfed Williams, a rannodd ei brofiad personol iawn o'r gofal a ddarperir gan hosbisau a'u staff rhyfeddol. Rwy'n credu ei fod wedi adlewyrchu'r hyn y siaradodd sawl un amdano wedi hynny: pa mor bwysig yw hi i ddiolch i'r bobl sy'n gwneud profiadau diwedd oes a salwch terfynol yn haws.

Ailadroddodd Benjamin Hodge Mckenna y pwysau y mae hosbisau'n ei wynebu, gan amlinellu anghenion pobl â gofynion gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y dyfodol. Nododd Natasha Asghar, yn gywir ddigon, y tosturi a'r urddas sydd eu hangen ac a ddarperir i blant ac oedolion sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yn lle anhygoel yn wir, a thynnodd Natasha sylw at faterion yn ymwneud â'r gweithlu, gan gynnwys llesiant staff. Mae Mike Hedges wedi bod yn hyrwyddo gwaith hosbisau a staff y GIG, sy'n gofalu am bobl â salwch terfynol, ers amser maith, ac amlinellodd pam y mae'n rhaid i ofal o ansawdd uchel fod ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru. Mae Tŷ Gobaith yn gwasanaethu ardal eang, a dywedwyd wrthyf ar fy ymweliad am yr heriau penodol sy'n wynebu pobl mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Galwodd Mike, ynghyd â Rebeca Phillips, yn briodol am i ofal beidio â bod yn ddarostyngedig i loteri cod post ac i sicrhau mynediad cyfartal i bawb.

Rhannodd Becca Martin yr hyn a ddywedwyd wrthi gan Mel, a dadleuodd yn bwerus iawn yn fy marn i, gyda dyfnder emosiynol go iawn, dros fwy o gefnogaeth i ofalwyr allu derbyn gofal seibiant hanfodol. Mae cymorth mewn profedigaeth, fel yr amlinellodd Becca, yn parhau drwy gydol profedigaeth a thu hwnt, yn aml am fisoedd lawer, neu flynyddoedd hyd yn oed. Rhannodd Cristiana Emsley brofiad personol iawn hefyd, gan ein hatgoffa o'r angen a'r angen heb ei ddiwallu ar draws ein cymdeithas. Yr adeg hon y llynedd, darparodd nyrsys Marie Curie ofal diwedd oes ardderchog i fy mam fy hun, a bu modd iddi ddod adref i farw mewn urddas ac amgylchedd cyfarwydd. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom yn ymwybodol o ofal yr angylion hyn, neu ei angen ein hunain yn y pen draw, ar ddiwedd ein hoes.

Fe wnaeth Sam Rowlands ganmol Mark Isherwood yn gywir ddigon am ei waith yn y maes hwn, a Jayne Bryant hefyd am ei gwaith hithau. A Sam, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, rwy'n siŵr nad oes unrhyw beth y gallaf ei ddweud ynglŷn â'r pwnc hwn nad ydych chi'n ei wybod yn barod, ond roeddech yn llygad eich lle'n dweud mai sicrwydd cyllid yw prif gais yr hosbisau. A heddiw, rwy'n credu ein bod wedi clywed cefnogaeth drawsbleidiol i gyflawni hyn.

Nododd Shav Taj pa mor bwysig yw cyfathrebu wrth ddod o hyd i ofal priodol, ac roedd Shav yn llygad ei lle yn galw am waith teg, parch, gofal a chefnogaeth i'r gweithlu. Rhoddodd Paul Rock gipolwg i ni ar weithrediad bariau chwaraeon mewn hosbisau a'r ffordd y gall arloesedd a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wella profiadau lliniarol a diwedd oes. A rhannodd James Evans ei brofiad o ymweld â hosbis ryfeddol Tŷ Hafan. Ailadroddodd yntau hefyd yr angen am sicrwydd cyllid a thegwch mynediad.

Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi rhoi sicrwydd i ni, y sicrwydd roeddem yn chwilio amdano yn y cynnig hwn, y bydd gwaith yn parhau ac yn dwysáu mewn maes gofal mor bwysig ar draws ffiniau gwleidyddol ac ar draws y cymunedau y mae pob un ohonom yn eu gwasanaethu. Rwy'n siŵr bod yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn awyddus i helpu yn y gwaith hwnnw ac y byddant yn craffu ar ei gynnydd.

Nawr, yn y Llywodraeth, rydym wedi cynyddu cyllid blynyddol i hosbisau ac wedi darparu cymorth costau byw ychwanegol i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Ond mae angen ymdrech ar y cyd gyda chefnogaeth pob plaid ar gyfer angen heb ei ddiwallu ac angen sy'n cynyddu. Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o gyfleoedd fel hyn a geir dros y tair blynedd a hanner nesaf i sicrhau consensws ac i gefnogi maes cyflawni sydd mor bwysig i bawb. Ond mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar y cyd ac yn barchus ar faterion mor bwysig. Mae gofal adeg marwolaeth yr un mor bwysig â gofal adeg genedigaeth. Diolch i'r Gweinidog a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n gobeithio y cawn gonsensws llwyr yn y bleidlais.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Reform UK: Refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Yr eitem nesaf yw dadl Reform UK ar refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor. Galwaf ar Cai Parry-Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9330 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Helen Jenner, Jason O'Connell, John Clark, Steve Bayliss

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno refferenda lleol ar gyfer codiadau treth gyngor uwchlaw 4.99 y cant.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Pleser yw cael agor y cynnig hwn ar ran Reform UK Cymru heddiw fel y Gweinidog cyllid cysgodol. 

Mae Reform yn galw am roi mwy o bwerau democrataidd yn nwylo trethdalwyr lleol. Lle mae cynghorau Cymru'n cynnig cynnydd uwch na 4.99 y cant yn y dreth gyngor, bydd gan drigolion hawl i’w cymeradwyo neu eu gwrthod drwy refferendwm lleol. Byddai’r polisi hwn yn rhoi trethdalwyr Cymru ar sail gyfartal â threthdalwyr Lloegr o’r diwedd. Os yw arweinwyr cynghorau eisiau cyflwyno cynnydd yn y dreth gyngor sy’n uwch na chwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae hi ond yn deg eu bod yn cyfiawnhau hynny’n uniongyrchol i’r bobl sy’n talu—y bobl y maent i fod yn gweithio ar eu rhan.

I ormod o bobl ledled Cymru, mae bil blynyddol y dreth gyngor yn rhywbeth y maent yn arswydo rhagddo. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw. Maent yn gweithio'n galed i dalu eu morgeisi gan ymgodymu â biliau ynni a siopa wythnosol, ond mae disgwyl iddynt ddod o hyd i fwy a mwy o arian bob blwyddyn i dalu'r dreth gyngor hefyd. Yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf, mae bil safonol band D yng Nghaerdydd wedi codi o oddeutu £1,637 yn 2022-23 i dros £2,000 eleni—cynnydd o bron i 23 y cant. Ac nid yn fy etholaeth i yn unig y mae hyn yn digwydd. Gadewch inni edrych ar y ffigurau mewn mannau eraill. Yn 2025-26, cynyddodd Wrecsam a sir y Fflint y dreth gyngor 9.5 y cant, sir Benfro 9.35 y cant a Cheredigion 9.3 y cant. Yng Nghonwy, mae trigolion wedi wynebu codiadau olynol o 9.67 y cant, 8.95 y cant a 6.5 y cant pellach eleni. Ac ar Ynys Môn, mae bil band D y cyngor wedi codi fwy na 31 y cant ers 2022. Ar gyfartaledd, mae hynny dros £425 yn fwy bob blwyddyn wedi'i ychwanegu at fil y dreth gyngor. Syfrdanol. Ac eto, adroddodd y cyngor a arweinir gan Blaid Cymru ar Ynys Môn danwariant yn eu cyllideb, cyfanswm o dros £8 miliwn dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf, ac mae ganddynt £19 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Mae'n rhesymol gofyn a godwyd mwy nag oedd angen ar drigolion.

Mae a wnelo hyn â mwy na'r arian nad ydynt wedi'i wario yn unig. Mae a wnelo hefyd â'r penderfyniadau gwirion y maent wedi ymrwymo i wario arnynt. Ychydig wythnosau yn ôl, derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn gynnig i wario £1.1 miliwn ar gyfnewid biniau duon cartrefi am rai llai. Dim ond un cynghorydd a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig hwnnw, ac rwy'n falch o ddweud mai cynghorydd o Reform Cymru oedd hwnnw—[Torri ar draws.] Bydd mwy nag un cyn bo hir. Un llais dros synnwyr cyffredin mewn ystafell yn orlawn o nonsens. Gadewch imi fod yn glir, wrth gwrs bod cynghorau'n wynebu pwysau gwirioneddol, o ofal cymdeithasol i ysgolion, ffyrdd a chasglu gwastraff—mae angen cyllid ar y rhain i gyd. Rydym yn deall hynny ac rydym am eu gweld yn cael eu hariannu'n deg, ond nid yw hynny'n golygu y dylid derbyn biliau treth gyngor sy'n cynyddu'n dragywydd fel y norm. Mae gan Gymru 22 o brif awdurdodau lleol, felly gadewch imi ofyn cwestiwn syml: a oes angen 22 o swyddfeydd cefn gwahanol arnom pan allai cynghorau gydweithio i arbed arian? A oes angen dyblygu systemau cyflogres, contractau TG gwahanol a threfniadau caffael annibynnol arnom pan allai rhannu gwasanaethau ddarparu gwerth gwell? A allai cynghorau gyfuno eu pŵer prynu i sicrhau prisiau gwell, lleihau dyblygu a rhyddhau arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, fel gofal cymdeithasol? Nid ymosodiad ar weithwyr llywodraeth leol mo hwn. Maent yn gwestiynau synnwyr cyffredin ynglŷn ag arweinyddiaeth wleidyddol cynghorau Cymru.

Mae mwy o arbedion effeithlonrwydd yn un rheswm pam y mae Reform eisiau cyflwyno clo democrataidd ar godiadau blynyddol uwchlaw 4.99 y cant i'r dreth gyngor. Rydym yn gweld y polisi hwn yn gweithio i atal gwariant gwastraffus a diangen. Os yw cynghorau Cymru eisiau codi treth uwchlaw'r trothwy hwn, rhaid iddynt wneud achos argyhoeddiadol drwy refferendwm lleol. Mater i bobl leol yw penderfynu a yw eu harian yn cael ei wario'n effeithlon. Ystyriwch aelwyd sy'n talu £2,000 y flwyddyn drwy'r dreth gyngor. Byddai cynnydd o 4.99 y cant yn ychwanegu £100 at eu bil, a byddai cynnydd o 8 y cant yn ychwanegu £160. Mewn argyfwng costau byw, mae pob punt yn bwysig. Yn Lloegr, yn gyffredinol mae'n ofynnol i gynghorau geisio cymeradwyaeth drwy refferendwm lleol os ydynt eisiau cynyddu'r dreth gyngor y tu hwnt i'r trothwy perthnasol. Felly, pam na ddylai trethdalwyr Cymru gael yr un mesur diogelwch democrataidd? Nid ein hamcan yw gorfodi cynghorau i wneud toriadau diwahân neu danseilio gwasanaethau hanfodol, ond yn hytrach, herio dyblygu diangen, gwella caffael, adolygu costau gweinyddol ac annog cynghorau i gydweithio, lle bynnag y bydd hynny'n cyflawni arbedion.

Byddem hefyd yn disgwyl mwy o dryloywder fel y gall trigolion weld sut y mae eu harian yn cael ei wario, pa arbedion a gyflawnwyd a pham y bydd unrhyw gynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor uwchlaw'r trothwy yn angenrheidiol. Mae pobl Cymru’n gweithio'n galed am eu harian. Maent yn haeddu gwariant cyfrifol, gwasanaethau effeithiol a bargen deg gan lywodraeth leol. Ni all yr ateb i unrhyw bwysau cyllidebol fod yn gynnydd arall uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor. Mae Plaid Cymru yn sôn am fargen newydd i Gymru, ond yr hyn sydd ei angen ar bobl Cymru mewn gwirionedd yw bargen deg gan bob haen o Lywodraeth yng Nghymru. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru osod y safon.

Ond rwy'n gwybod beth fydd yn digwydd. Fel pob mater pwysig arall yng Nghymru, bydd Plaid Cymru yn dweud mai gwaith rhywun arall yw mynd i'r afael ag ef, cyfrifoldeb rhywun arall. 'Mae'r dreth gyngor yn fater lleol i gynghorau.' Rydym wedi'i glywed o'r blaen. Dyma ble mae Reform yn wahanol. Byddwn yn sefyll dros Gymru ac yn ymladd dros bobl leol. Byddwn yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn glir ac yn uchel. Byddwn yn gosod y safon, ac yn yr achos hwn, mae hynny'n golygu rhoi'r gair olaf i drethdalwyr ar godiadau mawr yn y dreth gyngor. Os yw'r Aelodau yma heddiw eisiau helpu pobl gyda chostau byw, rhowch eich arian ar eich gair a chefnogwch y clo democrataidd hwn. Eu harian nhw, eu penderfyniad nhw.

Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

16:25

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth osod cyllidebau a threth cyngor, yn seiliedig ar anghenion gwasanaethau lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynnig yn ffurfiol. 

Diolch yn fawr iawn. Galwaf nawr ar Sarah Cooper-Lesadd.

Hoffwn fynd i'r afael â pham y byddai refferenda ar godiadau uwch na 4.99 y cant yn y dreth gyngor yn gwbl anymarferol. Nawr, nid wyf am ddechrau dadlau a ddylem ostwng y dreth gyngor ai peidio. Rwy'n mynd i edrych ar yr agweddau ymarferol o ran gweld a fyddai refferendwm yn gweithio ai peidio. Felly, cyn imi ddechrau, gadewch inni fod yn onest, Reform UK Wales yw'r hyn rydych chi'n galw eich hunain, nid Reform Cymru. Nid yw Reform Cymru yn bodoli.

Beth bynnag, mewn 13 mlynedd, ar draws dros 300 o awdurdodau Lloegr, un refferendwm a gynhaliwyd: comisiynydd heddlu a throseddu swydd Bedford yn 2015. Fe fethodd. Yn Lloegr, gellir cynyddu'r dreth gyngor heb gynnal refferendwm, ac mae'r pŵer hwnnw wedi cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Os nad yw mecanwaith a gynlluniwyd i sbarduno refferenda lleol yn cynhyrchu unrhyw bleidleisiau lleol, nid yw'n hwyluso dewis democrataidd lleol.

Mae refferendwm yn gwneud dau beth. Y cyntaf yw bod terfyn uchaf yn dod yn derfyn isaf. Mae cyngor a allai fod wedi codi'r dreth gyngor 2 y cant neu 3 y cant mewn blwyddyn haws yn ei chodi'n unol â'r uchafswm bob blwyddyn gan fod y cap yn compowndio. Ni ellir adennill refeniw a gollwyd yn nes ymlaen, felly'r ymateb rhesymegol yw gadael i'r cronfeydd wrth gefn sydd gennych gronni, codi'r uchafswm bob blwyddyn ac adeiladu clustog. Yr ail yw lle mae'r cap hwnnw'n brathu: mae gwasanaethau'n cael eu torri yn hytrach na bod refferenda'n cael eu cynnal. Mae Birmingham, Nottingham, Croydon, Thurrock a Woking oll wedi cyhoeddi hysbysiadau adran 114 yn y blynyddoedd diwethaf, methdaliad lleol i bob pwrpas mewn system gyda refferenda, ac eto, dim refferenda. Er bod y mecanwaith hwn yn bodoli yn ymarferol yn Lloegr, mae'n amlwg na wneir fawr o ddefnydd ohono o gwbl neu ei fod yn amherthnasol am fod yr amgylchiadau mor wael.

Felly, gadewch imi droi at pam y byddai hyn yn gweithredu'n wahanol ac yn waeth yng Nghymru. Mae'n costio rhwng £150,000 a £600,000 i awdurdod lleol gynnal refferendwm. Nid yw hynny'n swm mawr yn erbyn y gyllideb gyfan, ond nid y gyllideb gyfan yw'r enwadur cywir. Mae rhwng 80 y cant ac 85 y cant o wariant cyngor wedi'i glustnodi ar gyfer dyletswyddau statudol, cyflogau athrawon, gofal cymdeithasol statudol, casglu gwastraff, anghenion dysgu ychwanegol. Gŵyr pob un ohonom fod angen cyfrif am y rhain a'u cyllidebu. Ni ellir ariannu refferendwm o'r arian hwnnw. Mae'n dod o wasanaethau dewisol neu o gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu.

Yng Nghaerdydd, rwy'n cyfaddef y gellid talu am hynny drwy gronfeydd wrth gefn canolog, ond i Ferthyr Tudful, mae cost o £300,000 yn cynrychioli cyfran gwbl wahanol o gronfeydd wrth gefn cyffredinol heb eu dyrannu. Mewn rhai awdurdodau yng Nghymru, mae hynny'n cyfateb i rhwng 5 y cant a 7 y cant o'r rhwyd ddiogelwch gyfan mewn un ergyd. Yn nhermau gwasanaethau, mae hynny'n golygu llyfrgell, darpariaeth ieuenctid neu flwyddyn o drafnidiaeth gymunedol. Mae'r cynnig yn ei anfon i Ferthyr Tudful, nid yw'n ei anfon i Gaerdydd.

Wedyn, mae gennych fregusrwydd o ran y dreth ei hun nad yw'r cynnig hwn wedi'i ystyried o gwbl yn ôl pob golwg. Mewn siroedd cyfoethog yn Lloegr, mae cynnydd o 4.99 y cant yn cynhyrchu refeniw sylweddol, gan fod cyfran uchel o eiddo ym mandiau E i I. Yng Nghymoedd y De a llawer o gefn gwlad Cymru, mae dros 70 y cant o eiddo ym mandiau A i C. Mae'r un cynnydd canrannol yn cynhyrchu llawer llai o refeniw. Golyga hyn fod yn rhaid i awdurdod incwm is godi'r dreth ar ganran uwch i gynhyrchu'r un faint o arian. Felly, fe gaiff ei wthio tuag at drothwy refferendwm am fod y sylfaen dreth mor wan, a gwyddom hynny am Gymru. Felly, yr awdurdodau sydd fwyaf tebygol o gael eu gorfodi i gynnal refferendwm yw'r rhai sydd â'r lleiaf o allu i fforddio gwneud hynny. Nid Caerdydd, nid siroedd cyfoethog Lloegr, ond Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, a byddent yn gwario cyfran sylweddol o'r incwm ychwanegol ar y bleidlais ei hun. Ac mae risg o golli, nad yw'n risg fach, a byddai hynny'n golygu y byddai llyfrgelloedd yn cau, y byddai darpariaethau ieuenctid yn diflannu ac y byddai trafnidiaeth gymunedol yn cael ei thorri. Canran o rhwng 15 y cant a 25 y cant sydd fel arfer yn pleidleisio mewn refferenda annibynnol y tu allan i gylch etholiad cyffredinol. Byddai refferendwm ar un ffigur canrannol ar gyfer y dreth gyngor yn sicr yn llai na hynny: rydych chi'n edrych ar 5 y cant i 10 y cant. Nid oes ymgeisydd, dim ymgyrch, dim gweledigaeth sy'n cystadlu, dim ond ffigur a roddir i'r cyhoedd ar ddydd Iau ym mis Chwefror. Ac mae'r anghymesuredd cymhellol yn ddifrifol: bydd preswylydd sy'n flin am gynnydd yn y dreth yn pleidleisio 'na'; anaml y bydd preswylydd sy'n derbyn bod angen cyllid ar ofal cymdeithasol a llyfrgelloedd yn teimlo'n ddigon cryf i bleidleisio o blaid. O ganlyniad, nid refferendwm ar y gyllideb a geir, ond refferendwm ymhlith y bobl sy'n ei gwrthwynebu fwyaf.

Mae dadl ddifrifol i'w chael ynglŷn â'r dreth gyngor a'r setliad cyllido ac ynglŷn â'r baich ar aelwydydd. Nid dyna yw'r ddadl hon. Yng Nghymru, mae'r polisi hwn wedi cynhyrchu un refferendwm mewn 13 mlynedd, ciw o gynghorau'n mynd yn fethdalwyr—mae Reform wedi edrych ar hynny a phenderfynu bod angen mwy o hyn ar Gymru.

16:30

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Llŷr Powell, ond rwyf am fynd i'r afael ag ef o ongl ychydig yn wahanol, oherwydd rwyf wedi bod yn gynghorydd tref fy hun, ac yn gwybod rhywbeth am osod cyllidebau a praeseptau treth gyngor.

Rwy'n gwybod nad yw bob amser yn hawdd; mae'r etholaeth rwy'n ei chynrychioli yn cwmpasu rhannau o bedair ardal cyngor—Gwynedd, Wrecsam, Powys a sir Ddinbych—ac mae pob un yn wynebu ei heriau ei hun. Ond mae un peth ganddynt i gyd yn gyffredin: bob blwyddyn, mae pobl yn cael eu bil treth gyngor a bron bob tro mae wedi codi eto. I rywun ar incwm da, efallai na fydd £100 neu £150 arall yn ymddangos yn arbennig o arwyddocaol, ond i bensiynwr neu rywun sy'n byw ar incwm sefydlog, mae'n arian y mae'n rhaid iddynt ddod o hyd iddo o rywle, a'r broblem yw nad unwaith y mae'r codiadau hyn yn digwydd; maent yn cronni flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae cynnydd o 5 y cant eleni yn cael ei ychwanegu at yr holl godiadau sydd wedi mynd o'r blaen, ac mae cynnydd y flwyddyn nesaf yn cael ei gyfrifo ar ben hynny. Dyna pam y credaf fod angen inni edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei dalu heddiw o'i gymharu â phum neu 10 mlynedd yn ôl, yn hytrach na dim ond edrych ar y ganran ddiweddaraf, oherwydd yn sicr, nid yw incwm cartrefi wedi codi ar yr un cyflymder.

Nawr, ar ôl bod yn gynghorydd tref, mae yna rywbeth arall y credaf ei fod yn werth ei esbonio. Pan fydd eich bil treth gyngor yn cyrraedd, efallai y byddwch chi'n cymryd yn ganiataol yn ddigon rhesymol fod yr holl arian hwnnw'n mynd i'ch cyngor sir, ond nid yw hynny'n wir. Mae rhan ohono'n mynd tuag at blismona, ac yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, mae yna gyfraniad i'ch cyngor tref neu gymuned hefyd. Mae gwasanaethau tân ac achub yn cael eu hariannu trwy gyllidebau'r cyngor hefyd. Mewn gwirionedd, mae'r elfen heddlu'n unig yn £1 ym mhob £6 ar gyfartaledd ym mil y dreth gyngor yng Nghymru, ac nid swm y mae eich cyngor sir yn ei benderfynu yw hwnnw. Rwy'n sôn am hyn am fy mod yn credu bod pobl yn haeddu gwybod yn union pwy sy'n gyfrifol am y gwahanol rannau o'u bil, ac os ydym yn mynd i gyflwyno trothwy refferendwm, mae angen inni fod yn glir pa gynnydd y mae'n berthnasol iddo.

Nawr, nid wyf eisiau i unrhyw un feddwl fy mod i'n awgrymu bod gan gynghorau waith hawdd; nid yw hynny'n wir. Mae costau gofal cymdeithasol yn codi, mae ysgolion dan bwysau, a gofynnir i gynghorau ddarparu gwasanaethau gyda chyllidebau dan bwysau cynyddol. Ond daw hynny â mi at rywbeth arall sy'n bwysig. A yw'r ffordd yr ariannwn lywodraeth leol yng Nghymru yn addas i'r diben mewn gwirionedd? Oherwydd mae darparu gwasanaethau mewn siroedd gwledig mawr fel Powys, Gwynedd a sir Ddinbych yn wahanol iawn i'w darparu mewn dinas. Mae gennych gymunedau llai wedi'u gwasgaru dros bellteroedd llawer mwy. Mae cludiant ysgol yn costio mwy, mae darparu gwasanaethau'n costio mwy, ac mewn llawer o achosion, ni cheir yr arbedion maint y gall ardaloedd trefol mwy eu cyflawni. Felly, mae angen system ariannu sy'n cydnabod y gwahaniaethau hynny, nid dull un maint i bawb sy'n cymryd yn ganiataol fod pob cyngor yn wynebu'r un amgylchiadau.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i wneud hynny'n iawn, oherwydd, os ydym yn mynd i ddwyn cynghorau i gyfrif am yr arian y maent yn gofyn i drigolion ei dalu, rhaid inni hefyd ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y penderfyniadau cyllido sy'n effeithio arnynt. Nid oes dim o hyn yn newid sefyllfa'r unigolyn sy'n gorfod talu'r bil—ni chânt ddewis a yw eu hincwm yn codi digon i dalu cynnydd arall yn y dreth gyngor, dim ond dod o hyd i'r arian, a dyna pam rwy'n cefnogi rhoi mwy o lais iddynt pan argymhellir cynnydd arbennig o fawr. Nid yw'n golygu na all cynghorau byth godi treth gyngor fwy na 4.99 y cant; mae'n golygu, os credant fod angen iddynt wneud hynny, y dylent fod yn barod i esbonio pam a rhoi'r penderfyniad hwnnw i'r bobl sy'n mynd i dalu amdano. Nid wyf yn credu bod hynny'n afresymol, oherwydd, yn y pen draw, nid mater o ffigurau ar daenlen neu ddadleuon rhwng gwleidyddion yw hyn, ond mater o'r hyn sydd gan bobl ar ôl yn eu pocedi ar ddiwedd y mis, ac rwy'n credu bod y bobl hynny'n haeddu cael lleisio barn. Felly, fe fyddaf yn cefnogi'r cynnig hwn ac yn annog yr Aelodau eraill i wneud yr un peth. Diolch, Lywydd.

16:35

Nid wyf erioed wedi clywed pobl yn siarad mewn dadl gyda chymaint o anwybodaeth. Fe ymatebaf i un peth. Mae yna gonsortiwm prynu Cymru, lle daw awdurdodau lleol at ei gilydd i brynu pethau'n rhad rhyngddynt.

Mae llywodraeth leol yn darparu llawer o'r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru—nid yn unig casglu sbwriel, ond cannoedd o wasanaethau, o gynnal a chadw ffyrdd i safonau masnach. Nid oes unrhyw awdurdod lleol yn codi'r dreth gyngor oherwydd eu bod eisiau cosbi eu hetholwyr—byddai hynny'n wrthnysig ac yn hunan-drechol. Mae codiadau treth gyngor yn cael eu gyrru gan yr angen i ateb y galw, bodloni eu rhwymedigaethau statudol a dymuniadau talwyr y dreth gyngor. Rhaid inni ystyried nad ymarfer mathemategol syml yw pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol. Pam 4.99 y cant? Rwy'n gwybod ei fod yn gwneud pennawd da. A all Reform gyhoeddi'r cyfrifiadau sy'n sail iddo? Pa wasanaethau y byddent yn ystyried eu diddymu? A ydynt yn ceisio gwneud gwasanaethau statudol yn anstatudol er mwyn i gynghorau roi'r gorau i wasanaethau'n gyfreithlon? Yng Nghaint dan arweiniad Reform, mae cofrestr risg ariannol y gyllideb yn datgelu aramlygiad uniongyrchol o £411 miliwn—dyna ni, £411 miliwn—sy'n dangos maint yr ansicrwydd sy'n wynebu cyllid Caint. Mae'r risgiau'n cynnwys gorwariant posibl, gwasanaethau wedi'u tanariannu, pwysau galw cynyddol mewn gofal cymdeithasol, a gwaith cynnal seilwaith. Mae'r lefel hon o risg yn codi cwestiwn am allu'r cyngor i reoli ei gronfeydd wrth gefn ac osgoi toriadau mwy llym yn y blynyddoedd i ddod, gan gamblo gyda gwasanaethau i bobl agored i niwed a chyllid y cyngor.

Derbyniodd Pwyllgor Cyllid y Senedd flaenorol dystiolaeth gan dystion am y cyfraddau gwahaniaethol y mae chwyddiant yn effeithio ar eu cyllidebau. Mae gan lywodraeth leol yng Nghymru lawer o bwysau ariannol y tu allan i'w rheolaeth. Mae addysg yn faes gwariant mawr ac mae angen talu cyflogau athrawon a chodiadau pensiwn yn llawn. Addysg yw'r allwedd i symud plant allan o dlodi.

Rwyf am drafod tri math o bwysau ariannol mawr ar lywodraeth leol yn fanwl. Y pwysau amcangyfrifedig am wasanaethau llywodraeth leol eleni oedd £599 miliwn. Mae gwasanaethau cymdeithasol yn unig yn costio bron i hanner hynny, sy'n cyfateb i dros £200 miliwn i gyd. Mae darparu gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn i'r system iechyd a gofal weithredu'n effeithiol, ac mae'n chwarae rhan allweddol yn cyflawni canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain yn uniongyrchol at leihau'r pwysau ar y GIG, o ran cadw pobl allan o'r ysbyty a helpu pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg briodol, gan leihau oedi wrth drosglwyddo gofal.

Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio ac mae pobl yn byw'n hwy gydag anghenion gofal cymhleth a dementia. Bydd hyn yn parhau i gynyddu'r pwysau ar wasanaethau gofal. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn pwysleisio bod gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu heriau ariannol acíwt sy'n ehangu, gyda mwy na 81,000 o bobl yn dibynnu ar ofal a chymorth. Mae Fforwm Gofal Cymru yn dweud bod y sector o dan straen enfawr, yn ymdopi â phwysau gweithlu parhaus, cyfraddau ffioedd anghynaliadwy a chostau cynyddol cyflogwyr. Dangoswyd i bwyllgor y gall ffioedd am ofal nyrsio amrywio cymaint â £9,000 y flwyddyn rhwng awdurdodau cyfagos. I'r rhai sy'n ariannu eu gofal eu hunain yn llawn, mae costau wythnosol cyfartalog oddeutu £1,156 ar gyfer gofal preswyl a £1,394 ar gyfer gofal nyrsio. Mae'r comisiynydd pobl hŷn yn nodi sut y mae pwysau ariannu'n disgyn yn annheg ar ddefnyddwyr gwasanaeth, gyda strwythurau ffioedd annheg a ffioedd ychwanegol yn gadael llawer o'r rhai sy'n ariannu eu gofal eu hunain yn rhoi cymhorthdal i leoliadau cartrefi gofal a ariennir yn gyhoeddus i bob pwrpas.

Pwysau'r gweithlu: mae pwysau staffio'n parhau i fod yn bryder mawr, gyda swyddi gwag cronig ac anawsterau recriwtio a chadw staff parhaus, er gwaethaf cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae mwy na chwarter y gweithwyr gofal cartref ar gontractau dim oriau. Canfu arolwg Gofal Cymdeithasol Cymru o'r gweithlu yn 2025 fod un o bob pump o weithwyr gofal cymdeithasol yn anelu at adael y sector o fewn y 14 mis nesaf, gan nodi cyflog isel, amodau gwael a chyfleoedd cyfyngedig i gamu ymlaen fel rhesymau.

Nid yw Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi data ar amseroedd aros am wasanaethau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond mae rhanddeiliaid yn adrodd am oedi hir a chynyddol, gan gynnwys aros am asesiad i gael pecynnau gofal, offer a therapi galwedigaethol. Canfu ymchwil Age Cymru fod bron i un o bob pedwar o bobl hŷn yn aros mwy na 30 diwrnod am asesiad gofal ac un o bob chwech yn aros mwy na 30 diwrnod i ofal gael ei roi ar waith ar ôl yr asesiad.

Maes arall lle ceir pwysau mawr yw anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi siarad llawer amdano yma, ac roedd pawb yn dweud sut y mae angen mwy o arian arnom ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. O ble rydych chi'n meddwl y daw? Mae ysgolion ledled Cymru ar ymyl y dibyn. Mae nifer sylweddol o gyllidebau ysgolion mewn diffyg ar hyn o bryd, ac i lawer, mae'r argyfwng hwnnw'n cael ei yrru bron yn uniongyrchol—[Torri ar draws.]—gan ddarpariaeth wedi'i thanariannu'n ddifrifol. Mae ysgolion sydd ag arian sylweddol dros ben wedi gweld yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y ddarpariaeth ADY. [Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau ymyrryd, gwnewch hynny os gwelwch yn dda, ac fe geisiaf eich addysgu chi. Fe fethodd y system ysgolion. [Torri ar draws.]

16:40
Aelod o'r Senedd / Member of the Senedd 16:40:40

Esgusodwch fi. A oes gennych chi Mark Drakeford yn eistedd yno neu rywbeth?

A ydych chi'n meddwl y dylai'r trethdalwr, trethdalwyr lleol, dalu am bopeth, Mike? Pa mor uchel ydych chi'n meddwl y dylai'r dreth gyngor godi bob blwyddyn, oherwydd, o dan Lafur, mae'n codi'n uwch o hyd?

Gallaf ddeall—. Rwy'n deall eich safbwynt: rydych chi eisiau preifateiddio popeth. Rydych chi eisiau i'r rhieni dalu am bopeth. Rydych chi eisiau iddynt dalu am bopeth ac nid ydych chi eisiau i'r trethdalwr dalu amdano. [Torri ar draws.]

Gorffennwch, os gallwch chi, Mike, os gwelwch yn dda.

Wel, fe welwn ni fis Mai nesaf faint ohonoch chi fydd yn goroesi mewn llywodraeth leol, ac fe welwn ymhen tair blynedd gyn lleied ohonoch chi fydd yma. A gaf i awgrymu eich bod chi'n dechrau edrych ar isetholiadau cynghorau ac os ewch chi'n ôl, pa mor hir yw hi ers i chi ennill un ddiwethaf?

Janet—[Torri ar draws.] Os gwelwch chi'n dda. Rydym yn ceisio gwrando ar y cyfraniadau o'r llawr. Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Mawredd, rwy'n canu fy hoff gân nawr, mae arnaf ofn. Nawr, efallai y bydd hyn yn sioc i rai, ond rhaid imi ddechrau trwy longyfarch Reform. [Torri ar draws.] Nid oherwydd eich bod wedi dod o hyd i syniad gwych am bolisi newydd, ond oherwydd eich bod chi unwaith eto wedi dangos talent drawiadol i gymryd syniadau Ceidwadol da a gosod logo Reform arnynt. Nawr, fel maent yn dweud, dynwared yw'r ffurf fwyaf diffuant ar ganmoliaeth. Ond gadewch inni atgoffa pobl yn y Siambr hon nad oedd yma flynyddoedd yn ôl—. Fe wnaf eich atgoffa eich bod wedi gwneud hynny wrth lansio eich maniffesto cyn yr etholiad, a chopïo a gludo polisïau Ceidwadol da yn uniongyrchol.

Nawr, roedd yn addewid maniffesto gan y Ceidwadwyr Cymreig i drwsio treth gyngor, ac mae bob amser wedi bod yn addewid maniffesto cadarn nid yn unig i drwsio treth gyngor, ond i leihau'r dreth gyngor. Yn wir, y Ceidwadwyr sydd ers amser maith wedi nodi pwysigrwydd treth gyngor isel, ac yn 2011, roeddwn yn falch o gael fy ethol yma pan wnaeth y Gwir Anrhydeddus David Cameron, y Prif Weinidog Ceidwadol, rewi'r dreth gyngor am dair blynedd—£50 miliwn—i Lywodraeth Cymru, sef Llafur wedi'i chynnal gan Blaid Cymru. Ond dyfalwch beth? Ni wnaethant drosglwyddo'r arian hwnnw yn ei flaen i sicrhau gostyngiadau yn y dreth gyngor, gan ei wario yn lle hynny ar eu hoff brosiectau eu hunain.

Rydym ni fel plaid yn ymladd i gadw'r holl drethi'n isel. Sylfaen gadarn i'r Blaid Geidwadol yw caniatáu i'r rhai sy'n gweithio'n galed, a'n pensiynwyr sy'n brin o arian parod, gael mwy o arian yn eu pocedi, nid ar ddiwedd yr wythnos neu ddiwedd y mis yn unig, ond o un diwrnod i'r llall. Nawr, ers amser maith rydym wedi cefnogi—. A gallaf enwi'r Ysgrifenyddion, Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion sydd wedi bod yn eu swyddi yma—nid oes un nad ydym ni ar y meinciau hyn wedi codi'r syniad gyda nhw o gap o 5 y cant ar godiadau i'r dreth gyngor. Os edrychwch ar ein hawdurdod lleol ni yng Nghonwy, dros y tair blynedd diwethaf bron i 10 y cant—9.8 y cant; 9.6 y cant—ac mae pobl yn cael llai. Mae gennym fwy o chwyn nag erioed o'r blaen, toiledau'n cau, mae gennym sbwriel ar ein strydoedd, ac mae pobl yn meddwl o ddifrif beth ar y ddaear y maent yn talu amdano drwy eu treth gyngor.

Nawr, mae'r system hon eisoes yn bodoli yn Lloegr, lle mae angen refferenda ar gyfer yr hyn y mae'r Llywodraeth yn penderfynu ei fod yn gynnydd gormodol yn y dreth gyngor. Mae'r egwyddor wedi'i sefydlu ers dros ddegawd ac mae'n darparu mesur diogelwch democrataidd pwysig. Yr hyn sydd efallai'n fwyaf rhyfeddol yw clywed y cynnig hwn gan Reform, plaid y mae ei chynghorau eu hunain yn Lloegr wedi darganfod bod ymgyrchu yn erbyn codiadau treth yn haws na llywodraethu yn y cynghorau hynny. Felly, rydych chi'n dweud un peth cyn etholiad—. A siarad sbin cyn etholiadau llywodraeth leol yw hyn. [Torri ar draws.] Na, rydym ni'n ei olygu, bob dydd. Nid ydym yn chwit-chwat. Rydym ni'n credu y dylai fod refferendwm ar y dreth gyngor. Ac wrth gwrs, rydym wedi gwneud y dadleuon hyn ers blynyddoedd; ymhell cyn i chi fod yn belydryn yn llygad Nigel Farage. [Chwerthin.]

Ledled Cymru, mae trigolion yn wynebu codiadau cyfartalog yn y dreth gyngor—cyfartaledd—o 7.2 y cant. Ond fel y dywedais, mae yna eraill sydd â'r hyfdra i geisio cael 10 y cant. Nawr, ar ôl 26—mae'n 27 bellach—o Lywodraeth Lafur Cymru, wedi'i chynnal gan Blaid Cymru, mae'r system dreth gyngor yng Nghymru wedi torri. [Torri ar draws.] Iawn. Gennych chi, Sarah, unrhyw bryd; iawn.

16:45

A ydych chi'n derbyn bod yna achosion lle mae cynghorau wedi cael caniatâd i gynyddu'r dreth gyngor heb refferendwm ac mewn gwirionedd, mae rhai o'r enghreifftiau gwaethaf mewn cynghorau dan arweiniad Reform, gan gynnwys swydd Gaerwrangon, ar 9 y cant?

Sarah, rydych chi'n iawn i nodi bod Reform yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Nawr—[Torri ar draws.] Y ffigurau, nid wyf am hailadrodd eto, ond—. Cynnydd o £600 a mwy yn y bil treth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Bil blynyddol y dreth gyngor band D yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd £2,472 ac yn Kensington a Chelsea, £1,643. Sut y gall hynny fod yn iawn?

Ar ôl mwy na dau ddegawd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, mae trigolion yn talu mwy, ond nid ydynt o reidrwydd yn gweld gwelliannau yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Hoffwn ofyn i chi edrych, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sicrhau bod refferenda'n cael eu cyflwyno yng Nghymru ar gyfer codiadau yn y dreth gyngor o 5 y cant neu fwy. Rwy'n credu y byddai hynny'n deg iawn i'n trigolion, ein teuluoedd gweithgar, a'n pensiynwyr sy'n brin o arian parod. Diolch.

Cyn i mi ddechrau—. Mike, rhaid imi fachu'r abwyd. Rydych chi'n sôn am anwybodaeth; rydym ni'n sefyll dros drethdalwyr. Anwybodaeth yw eich plaid chi'n eistedd ar ei dwylo am 27 mlynedd ac yn gwneud dim ond parlysu ein llywodraeth leol. Felly, gadewch inni ddechrau—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

A ydych chi eisiau mynd o gwmpas yn dweud wrth bobl oedrannus na allant gael cymorth gofal cartref am eich bod chi eisiau arbed arian?

Saith mlynedd ar hugain o fethiant. Rydym ni'n rhoi trethdalwyr yn gyntaf, Mike, dyna beth rydym ni'n ei wneud. Ac mae hwn yn offeryn hynod effeithiol. Rydym eisoes wedi ei weld yn gweithio yn Lloegr. [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw awdurdod lleol yn meiddio troi at yr etholwyr eleni yn Lloegr am eu bod yn cydnabod bod pobl o dan ddigon o bwysau ariannol. Nid yw'n syndod, mae'r rheolau hyn eisoes wedi gwneud rheolaeth ariannol ofalus mewn awdurdodau lleol yn opsiwn a ffafrir, o'i gymharu â gofyn i drigolion dalu mwyfwy o drethi. Nid yw codiadau treth sy'n uwch na chwyddiant bellach yn opsiwn diofyn yn Lloegr. Ar hyn o bryd, nid yw'r mesurau diogelwch a gynigir i drethdalwyr Lloegr yn cael eu rhoi i drethdalwyr Cymru.

Mae ein trigolion yng Nghymru yn talu mwy na'r cyfartaledd. Dros y degawd diwethaf, mae trigolion sir Ddinbych wedi gweld eu treth gyngor yn codi 61.9 y cant; yn sir y Fflint, 75 y cant; Wrecsam, 76 y cant; ac yng Nghonwy, 84 y cant, mewn degawd. Y gyfradd chwyddiant dros yr un cyfnod oedd 34 y cant. Er gwaethaf y codiadau gormodol hynny, y flwyddyn ariannol hon, cynyddodd pob un o'r awdurdodau lleol hynny eu treth gyngor uwchlaw chwyddiant eto. Ac mae'r patrwm hwn ar fin parhau am fod ein hawdurdodau lleol yn ymladd gyda'u dwylo wedi'u clymu y tu ôl i'w cefnau.

Fel y mae fy nghyd-Aelod Cai Parry-Jones wedi nodi, mae angen uno cynghorau. Roedd Llafur Cymru yn anghywir i wrthod y cynnig a wnaed gan Gonwy a sir Ddinbych i uno; rhwystrodd gynnig a allai fod wedi gweld arbedion o dros £1 filiwn ar wasanaethau rheng ganol a rheng flaen, dros £2 filiwn ar swyddogaethau swyddfa gefn a chreu un tîm rheoli a allai fod wedi arbed miloedd.

Yna down at y fformiwla ariannu. Dywedir wrthym fod data'n hanfodol i yrru dyraniadau cyllideb drwy'r grant cymorth refeniw. Ond unwaith eto, mae awdurdodau lleol yn cael cam yng Nghymru. Mae'r fformiwla'n defnyddio data, Aelodau, sy'n hŷn na fi. Daw o gyfrifiad 1991. Nid yw'n syndod fod CLlLC wedi esbonio bod galwadau gan awdurdodau lleol wedi tyfu am gynnal adolygiad allanol annibynnol trylwyr. Rwy'n cytuno, ac mae angen inni weld y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i wneud hyn, a chyflwyno'r cynigion ar gyfer newid y fformiwla ar frys.

Ond pam gwneud y newid hwn nawr? Aelodau, mae angen i'r Siambr hon fod yn ymwybodol o lefel y ddyled y mae awdurdodau lleol yn ei chario. Mae gan gyngor Conwy tua £230 miliwn o ddyled; sir y Fflint, £360 miliwn; a Wrecsam dros £0.5 biliwn o ddyled. Mae'r sefyllfa hon yn mynd i waethygu. O fy amser fel cynghorydd sir, rwy'n gwybod pan gymerir y benthyciadau hyn, y rhagdybir eu bod—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ail ymyriad.

16:50

A allwch chi esbonio i mi, felly, o ystyried y lefelau hynny o ddyled, beth y mae cap yn ei wneud i leihau'r lefelau hynny o ddyled rydych chi'n cwyno amdanynt?

Diolch, Alun. Os gadewch chi i mi fynd drwyddo, fe esboniaf pam y mae angen y cap arnom nawr, cyn i faich y ddyled barlysu trethdalwyr.

Beth am wasanaethau cyhoeddus? Sut ydych chi'n talu am y rheini?

Mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae cynghorau'n benthyca'r ddyled ar delerau ad-dalu y disgwylir iddynt fod yn 10, 15 neu 20 mlynedd neu fwy, ond dim ond pum mlynedd yw'r cyfnodau ad-dalu yn aml. Felly, mae hyn yn golygu, pan fydd y benthyciadau'n aeddfedu, mae angen gwneud cytundebau newydd a chyda chyfraddau llog cyfredol, maent yn aml yn llawer uwch na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, sy'n golygu bod cyllido'n aml yn golygu bod angen i awdurdodau lleol ddod o hyd i arian ychwanegol i barhau i ariannu'r dyledion hyn. Bomiau amser ariannol yw'r dyledion hyn.

Nid rhagor o godiadau treth gyngor gormodol yw'r ateb, er mai dyna'r opsiwn y bydd llawer o awdurdodau lleol yn troi ato, nid mwy o ddibyniaeth ar fenthyca, nid y gostyngiad yn nifer y cynigion ar gyfer uno. Nid parhau â system fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar ddata sy'n hŷn na fi. Yr ateb yw diwygio llywodraeth leol yng Nghymru yn sylfaenol. Rhaid i hynny ddechrau gyda mwy o ddiogelwch i'n trethdalwyr. Bydd refferenda treth gyngor yn gwneud hynny. Byddant yn codi ymwybyddiaeth o gyflwr difrifol ein cyllid llywodraeth leol, byddant yn herio'r cabinet a'r swyddogion i weithio mewn ffordd fwy effeithiol, ac yn rhoi'r gair olaf i bleidleiswyr ar gyfeiriad ariannol eu hardal leol. Aelodau, rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig hwn.

Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod cymunedau'n cael trafferth yng nghanol argyfwng costau byw, ac wrth gwrs, nid oes neb eisiau talu mwy o dreth gyngor, yn enwedig yn yr amgylchiadau hyn, ac mae'r pwysau sydd ar bobl ar hyn o bryd yn real iawn. Rydym yn cydnabod hynny, a dyna pam y mae Llywodraeth Plaid Cymru wedi blaenoriaethu cefnogi ein cymunedau drwy ehangu prydau ysgol am ddim, ehangu gofal plant am ddim a lleihau ardrethi busnes 30 y cant i filoedd o fusnesau ledled y wlad.

Ond rhaid inni hefyd gydnabod, fel y mae eraill wedi dweud, fod cynghorau sir yn darparu gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd, o ofal cymdeithasol a gwasanaethau plant i ysgolion, priffyrdd a chasgliadau gwastraff, ac mae'r gwasanaethau hynny'n costio arian i'w rhedeg. Roeddwn i'n gynghorydd sir yn Wrecsam am bron i 20 mlynedd, felly fe welais drosof fy hun pa mor anodd y gall penderfyniadau cyllidebol fod, ac rwy'n gwybod bod llawer ohonom yma yn deall y gwirionedd hwnnw.

Gallaf sicrhau Reform nad oes unrhyw gynghorydd sir eisiau cynyddu'r dreth gyngor, ond mae gan gynghorau gyfrifoldebau statudol. Rhaid iddynt ddiogelu plant agored i niwed, gofalu am bobl hŷn, a chynnal gwasanaethau hanfodol. A gadewch inni gofio bod cynghorau wedi gorfod delio â chanlyniadau cyni am y 16 mlynedd diwethaf, yn ogystal â galw a chostau cynyddol. A pham 4.99 y cant? Beth sy'n digwydd os bydd cost darparu gwasanaethau statudol yn codi mwy na hynny? Beth sy'n digwydd os yw refferendwm yn gwrthod y cynnydd sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau hynny? Pa wasanaethau fyddai Reform yn eu torri? Ai gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant, cymorth i bobl ag anableddau? Oherwydd dyna'r cwestiynau anodd y mae'n rhaid i Reform eu hateb.

A gadewch inni edrych ar hanes Reform ei hun dros y ffin hefyd. Mae pob cyngor mawr a reolir gan Reform yn Lloegr gyda chyfrifoldeb am wasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol wedi cynyddu'r dreth gyngor eleni. Pan oedd Reform yn rhedeg Cyngor Swydd Gaerwrangon, fe wnaethoch chi gynyddu'r dreth gyngor bron i 9 y cant. Ni chafwyd refferendwm. Felly, pam y mae'n dderbyniol i gynghorwyr Reform yn Lloegr godi'r dreth gyngor 9 y cant heb refferendwm, tra eich bod chi'n mynnu bod cynghorau yma yng Nghymru yn wynebu refferendwm ar gyfer unrhyw beth uwchlaw 4.99 y cant?

Mae pwynt ehangach am ddemocratiaeth leol yma hefyd. Rydym eisoes yn ethol cynghorwyr i wneud y penderfyniadau hyn ar ran ein cymunedau. Ac ymhen ychydig fisoedd, bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddwyn y cynghorwyr hynny i gyfrif yn y blwch pleidleisio. Nawr, wrth gwrs y dylid herio cynghorau, dylent fod yn dryloyw ynglŷn â'u cyllidebau, dylent esbonio pam y mae angen cynnydd, a dylent ymgynghori'n ystyrlon â thrigolion ynglŷn â'u blaenoriaethau. Ond dylem hefyd gydnabod bod pob cyngor yn wynebu gwahanol fathau o bwysau, gwahanol lefelau o angen, ac amgylchiadau ariannol gwahanol.

Felly, efallai fod tynnu llinell ar 4.99 y cant yn swnio'n syml, ond nid yw rhedeg cyngor mor syml â hynny, fel y mae cynghorwyr Reform eu hunain yn Lloegr wedi darganfod. Er addo cael gwared ar wastraff, y gwir amdani yw nad oes yna fyddin enfawr o swyddogion amrywiaeth y gall eu cyflogau ariannu ein hysgolion a'n gofal cymdeithasol. A phan fyddwch chi'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ni allwch anwybyddu'r realiti ariannol. Ac rwy'n credu bod pobl Cymru yn haeddu gwybod beth fyddai cynigion Reform yn ei olygu yn ymarferol, pa wasanaethau—.

16:55

Diolch. Rydych chi wedi symud ymlaen at yr hyn roeddwn i eisiau eich herio yn ei gylch mewn gwirionedd. A fyddech chi'n cydnabod ac yn cytuno â mi, pe bai awdurdodau lleol wedi cael eu hariannu'n briodol dros y 27 mlynedd diwethaf ac yn parhau i gael eu hariannu'n briodol, na fyddai angen iddynt godi'r dreth gyngor fwy na 4.99 y cant?

Rwyf newydd esbonio bod cynghorau wedi wynebu cyni dros y 16 mlynedd diwethaf. Fel cynghorydd sir, fe welais hynny drosof fy hun. Ond edrychwch, y cwestiwn y mae'n rhaid i chi ei ateb yw: os yw refferendwm yn gwrthod y cynnydd sydd ei angen i gynnal gwasanaethau, beth ydych chi'n mynd i'w dorri? Swyddi pwy fydd yn mynd? Ai athrawon? Ai gweithwyr cymdeithasol? Pwy? Pwy fydd yn mynd? Oherwydd dyna realiti yr hyn rydych chi'n ei gynnig. Mae'n hawdd iawn addo trethi is, ond mae'n llawer anos esbonio i bobl sut y byddwch chi'n diogelu'r gwasanaethau y mae'r trethi hynny'n talu amdanynt mewn gwirionedd. [Torri ar draws.]

Nid trafodaeth mohoni. Mae'n ddrwg gennyf, mae'r ymyriad wedi'i wneud. Parhewch.

Fe dderbyniais eich ymyriad.

Rhaid i gynghorwyr wneud penderfyniadau anodd, ond dyna sut y mae democratiaeth leol yn gweithio. Dyna beth y mae atebolrwydd yn ei olygu. Mae arweinyddiaeth wleidyddol yn ymwneud â mwy na'r addewidion a wnewch. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol am ganlyniadau eich penderfyniadau. A gallai canlyniadau'r hyn y mae Reform yn ei gynnig yma heddiw fod yn ddifrifol iawn i'n cynghorau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol, ac yn bwysig, i'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt.

Wel, rydym i gyd yn cael yr amlen frown honno drwy'r post, onid ydym, neu weithiau mae ar ffurf e-bost y dyddiau hyn? Nid yw'r dreth gyngor yn wirfoddol. Mae'n cyrraedd bob blwyddyn ac mae'n rhaid i aelwydydd ddod o hyd i'r arian i'w thalu. Pan fydd cyngor eisiau codi'r bil fwy na 4.99 y cant, mae Reform UK yn credu y dylai'r bobl sy'n ei thalu gael y gair olaf. Nid yw'r cynnig hwn yn gwahardd cynnydd uwch, mae'n dweud yn syml: cyflwynwch yr achos, cyhoeddwch y canlyniadau a gofynnwch am ganiatâd.

Cododd treth gyngor band D yng Nghymru Cymru 7.7 y cant ar gyfartaledd yn 2024-25, a 7.2 y cant arall yn 2025-26. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cynnydd yn y dreth gyngor ledled Cymru wedi cyflymu'n sylweddol, gyda chyfartaledd Cymru yn cynyddu 7.2 y cant yn 2025-26. Ac nid oes unrhyw le'n dangos hynny fwy nag yng ngogledd-ddwyrain Cymru lle rwy'n byw. Yn sir y Fflint, y cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer 2025-26 oedd 9.5 y cant, ac yn Wrecsam, roedd trigolion yn wynebu cynnydd o oddeutu 8.9 y cant. Daeth y codiadau hyn ar ben cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd blaenorol. Ble mae'n dod i ben? Ond mae'r ddau gyngor yn parhau i wynebu heriau ariannol difrifol eu hunain.

O safbwynt sir y Fflint a Wrecsam, mae'r sefyllfa wedi dod yn fwyfwy anodd i'w rheoli. Mae'r ddau awdurdod yn rhagweld diffygion cyllidebol o dros £25 miliwn, fel y nododd Cai. Mae materion yn codi gyda gofal cymdeithasol i oedolion, a'r galw am wasanaethau, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau digartrefedd a lleoliadau drud y tu allan i'r sir yn parhau i dyfu'n gyflymach na'r cyllid sydd ar gael i gefnogi'r galw hwnnw.

Mae cynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ers dros ddegawd bellach—rwy'n ymwybodol o hynny. Mae sir y Fflint a Wrecsam wedi cyflawni miliynau o bunnoedd o ostyngiadau mewn gwariant ers tua 2010, ond daw pwynt lle mae arbedion effeithlonrwydd wedi eu dihysbyddu a gofynnir i drigolion dalu mwy i lenwi bwlch cyllido cynyddol.

Cyn i sir y Fflint gymeradwyo ei chyllideb ddiweddar, ymgynghorwyd â thrigolion. Mynegodd nifer bryder am y codiadau cynyddol yn y dreth gyngor i bontio diffygion cyllidebol yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. Er gwaethaf y pryderon hyn, nid oedd gan bobl leol unrhyw bleidlais rwymol ar y canlyniad—dim pleidlais rwymol, ac mae hynny'n bwysig. Pan siaradwch chi â thrigolion ar draws sir y Fflint a Wrecsam, rydych chi'n clywed neges gyffredin: mae'r dreth gyngor yn parhau i godi, ond mae llawer o bobl yn credu bod gwasanaethau'n cael eu lleihau.

Fe'i gwelais fy hun. Eich biniau—ni chânt eu gwagio bob wythnos nawr. Mae yna bob math o lefydd lle gwelwn bethau'n cael eu torri. Tyllau yn y ffordd, seilwaith ffyrdd lleol—mae yna lwyth o broblemau. P'un a yw pob beirniadaeth yn gyfiawn ai peidio, mae'r canfyddiad yn glir: mae pobl yn talu mwy ac yn teimlo eu bod yn cael llai yn gyfnewid. Dyna pam y mae democratiaeth leol yn bwysig. Wrth gwrs, mae cefnogwyr y status quo yn dadlau bod etholiadau lleol yn ddigon atebol. Rwy'n anghytuno â hynny. Mae etholiad lleol yn darparu mandad cyffredinol. Mae refferendwm yn darparu mandad penodol ar gyfer cynnydd eithriadol i'r dreth.

Ac wrth gwrs, rhaid inni fod yn onest ynglŷn â chyllid y cyngor. Nid yw cronfeydd wrth gefn yn bot o arian gwyrthiol sy'n gallu datrys pob problem. Mae rhai cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. Mae rhai wedi'u rhwymo'n gyfreithiol. A dim ond at ddibenion penodol y gellir defnyddio rhai. Mae sir y Fflint, er enghraifft, yn nodi lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ond mae llawer o'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu ar gyfer risgiau a nodwyd ac ymrwymiadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae tryloywder yn gwbl hanfodol. Os yw cynghorau—

17:00

Byddai sicrhau cyllid teg i Gymru yn ein galluogi i gefnogi llywodraeth leol ymhellach gyda chyllid gwell. A wnaiff Reform ymuno â ni nawr yn ein galwadau am gyllid teg i Gymru?

Ni wnaf dderbyn—. O ran hyn—. Pan ddaw gan Blaid Cymru, sydd wedi gweithredu ochr yn ochr â Llafur yn y mater hwn, rydym yn y sefyllfa anodd hon oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, oherwydd y bobl yno a'r bobl yma. Felly ni wnaf dderbyn dim o hynny.

Nid pot o arian gwyrthiol sy'n gallu datrys pob problem yw cronfeydd wrth gefn. Mae rhai cronfeydd—[Torri ar draws.] Na. Mae rhai cronfeydd wedi'u clustnodi, mae rhai wedi'u rhwymo'n gyfreithiol ac ni ellir defnyddio rhai ond at ddibenion penodol. [Torri ar draws.] Fe wnes.

Un peth yr hoffwn ei grybwyll, gyda llaw, a daeth i fy meddwl wrth i Sarah Cooper-Lesadd siarad, ac roeddwn i eisiau gorffen ar hynny, mewn gwirionedd. Ar 2 Hydref 2014, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972, cynhaliwyd refferendwm yn nhref y Fflint ar gwestiwn adfer gwelyau cleifion mewnol. Denodd y refferendwm 3,500 o drigolion i bleidleisio, gyda 99 y cant yn pleidleisio dros wneud hynny. Felly, mae refferenda’n gweithio'n iawn mewn trefi.

Rwyf wedi hepgor rhan o'r araith am fy mod yn sylweddoli fy mod i'n bwrw ymlaen. Dyma ddemocratiaeth leol ar waith, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Lywydd, dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma ar y cynnig i gyflwyno trefniadau refferenda treth gyngor fel sydd i'w gweld yn Lloegr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y dylid gosod targedau cenedlaethol penodedig a mympwyol ar godiadau yn y dreth gyngor, sy'n anwybyddu amgylchiadau lleol a chyd-destunau economaidd amrywiol. Dylai penderfyniadau blynyddol am drethi lleol gael eu gwneud gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol sy'n atebol i'r cymunedau y maen nhw yn eu gwasanaethu.

Wrth gwrs, dylai'r penderfyniadau lleol hynny ystyried y pwysau costau byw sy'n wynebu aelwydydd, yn union fel y bydd ein penderfyniadau ni ar lefel genedlaethol yn blaenoriaethu camau i leihau'r pwysau ariannol sy'n wynebu teuluoedd. Ond mae'r dreth gyngor yn helpu i ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, plismona a'r holl wasanaethau lleol y mae ein cymunedau'n dibynnu arnyn nhw bob dydd.

Mae yna lot o gymariaethau wedi'u gwneud yn ystod y ddadl yma, a lot ohonyn nhw gyda Lloegr, ond mae yna un gymhariaeth sydd heb ei gwneud. Er y polisi refferendwm yn Lloegr, mae treth gyngor band D cyfartalog cynghorau Cymru £109 yn is na Lloegr. Felly, mae trethdalwyr Cymru ar gyfartaledd yn talu llai o dreth gyngor na threthdalwyr treth gyngor yn Lloegr o hyd, hyd yn oed gyda'r polisi sydd yn weithredol yn Lloegr.

Fe fyddai refferenda lleol o dan y cynnig yma yn golygu costau a biwrocratiaeth sylweddol, a hynny'n hollol ddiangen ar adeg pan fyddai'n well cyfeirio adnoddau tuag at ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Dim ond un refferendwm lleol sydd wedi'i gynnal o dan y polisi yma yn Lloegr, yn Bedfordshire, gyda'r comisiynydd heddlu, ac amcangyfrifwyd i hwnnw gostio tua £600,000 i'r trethdalwr.

Wrth gwrs, dros y blynyddoedd diwethaf, mae sawl awdurdod lleol yn Lloegr wedi cael caniatâd gan Whitehall i godi trethi ar lefel sydd y tu hwnt i'r terfynau refferendwm o 5 y cant. Mae yna sawl cyfeiriad at hyn wedi bod eisoes. Er enghraifft, un o'r eithriadau i'r caniatâd hynny gafodd ei roi oedd ym mis Chwefror eleni i Gyngor Sir Caerwrangon, cyngor o dan arweiniad Reform, lle cawson nhw'r caniatâd i godi'r dreth gyngor 9 y cant, sydd yn uwch nag unrhyw gynnydd a welwyd yng Nghymru eleni. Y cynnydd cyfartalog yng Nghymru eleni ar lefel cynghorau oedd 4.8 y cant, sef y cynnydd cyfartalog isaf ers 2022. Roedd y cynnydd a ddewiswyd gan y gwahanol gynghorau mor isel â 3.6 y cant yn ambell un, sy'n dangos atebolrwydd am eu penderfyniadau ar lefel leol.

Gan weithio gyda'r Llywodraeth flaenorol, wrth basio'r gyllideb derfynol eleni, fe helpodd Plaid Cymru sicrhau setliad cryfach ar gyfer y gyllideb llywodraeth leol, gan ddarparu cynnydd o £282 miliwn yn y setliad terfynol, a sicrhau bod pob cyngor yn derbyn cynnydd o fwy na 4 y cant, drwy gefnogi'r funding floor. Fe helpodd y buddsoddiad ychwanegol hwnnw i leddfu pwysau uniongyrchol ar gynghorau a chyfraniad gynnig llai yn y dreth gyngor ar hyd Cymru.

Lywydd, fel yr ydw i wedi sôn nifer o weithiau yn y Siambr yma, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu sefyllfa gyllidebol anhygoel o anodd yn y flwyddyn ariannol nesaf, lle bydd gostyngiad mewn termau real yn ein cyllidebau adnoddau a chyfalaf. Ac mae'r awdurdodau lleol hefyd yn wynebu pwysau cynyddol ar wariant ar draws y gwasanaethau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Dyna pam y bydd ein cyllideb ddrafft ni fis nesaf eisiau gweld blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweithio ar draws pleidiau yn y Siambr yma i sicrhau setliad digonol ar gyfer llywodraeth leol.

Oherwydd nid cap mympwyol sydd angen, wedi ei orfodi ar awdurdodau lleol gan Weinidog cyllid yn eistedd ym Mharc Cathays, nid hynny fydd yn diogelu trethdalwyr lleol a'r gwasanaethau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw. Cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sydd ei angen, i setliad Llywodraeth Cymru gan Drysorlys y Deyrnas Gyfunol yn y lle cyntaf, ac yna yn y setliad i awdurdodau lleol wedi'i basio gan y Senedd yma. Y ddau setliad ariannol yma fydd y dylanwad mwyaf ar lefel y dreth gyngor y flwyddyn nesaf yn ein cynghorau sir ni.

Lywydd, mae'r ddadl yma hefyd wedi tynnu sylw at egwyddor ehangach. Rydyn ni yn y Llywodraeth yma'n credu mewn ymreolaeth ac atebolrwydd, boed hynny i awdurdodau lleol neu i'r Senedd yma a Llywodraeth Cymru. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro bod angen mwy o bwerau cyllidol ar Gymru, gan gynnwys mewn perthynas â threthiant. Gyda setliadau cyllideb cryfach a phwerau hyblyg i godi refeniw, fe fyddwn ni mewn sefyllfa well i lunio ein cyllidebau, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus a darparu cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol dros y tymor hir.

Yn union fel rydyn ni'n gwrthwynebu'r terfynau cyllidol mympwyol a orfodwyd arnon ni gan San Steffan, rydyn ni hefyd yn gwrthwynebu gosod cyfyngiadau mympwyol ar awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n gosod eu cyllidebau eu hunain a'u lefelau treth gyngor eu hunain. Dylai Aelodau wrthod y cynnig hwn er mwyn diogelu atebolrwydd democrataidd awdurdodau lleol, a gweithio gyda ni i ddarparu'r gwasanaethau ansawdd uchel y mae pobl ledled Cymru yn eu haeddu.

Mae unrhyw un sy'n credu mewn datganoli grym o'r canol i'r lleol yn mynd i wrthwynebu rhwymo dwylo'r rhai sy'n penderfynu ar lefel leol, y rheini sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd yn lleol. Rwy'n annog Canghellor y Deyrnas Unedig unwaith eto i ddefnyddio cyllideb yr hydref hwn i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag chwyddiant uwch i'n galluogi ni i ddarparu'r cyllid ychwanegol sydd ei angen ar wasanaethau lleol. Yna, ein cyfrifoldeb ni oll yn y Siambr hon fydd gweithio gyda'n gilydd i sicrhau cytundeb ar setliad sy'n rhoi'r adnoddau a'r sicrwydd sydd eu hangen ar awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hynny y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw.

17:10

Galwaf ar Francesca O'Brien i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan y prynhawn yma am yr holl gyfraniadau, ac am yr ymyriadau doniol, os caf ddweud? Yn sicr, fe wnaethant ein diddanu y prynhawn yma. Mae ein cynnig yn seiliedig ar egwyddor syml: os yw cyngor eisiau codi treth gyngor fwy na 4.99 y cant, dylai ofyn i’r bobl sy’n ei thalu. Mae’r rheol honno wedi bodoli yn Lloegr ers blynyddoedd, nid oes unrhyw derfynau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Os caf droi at Cai, sy’n eistedd y tu ôl i mi ac a agorodd y ddadl, fe dynnodd sylw at y bil treth gyngor y mae pob un ohonom, a’r rhai a gynrychiolwn yn ein hetholaethau, yn arswydo rhagddo bob blwyddyn, oherwydd, fel y dywedais, nid oes terfyn. Nid ydym yn gwybod beth fydd yn ein hwynebu ar garreg y drws. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod ei etholaeth ef wedi gweld codiadau o dros 23 y cant, sy’n gwbl warthus. Rydym yn sôn am gostau byw. Sut y gall teuluoedd fforddio’r cynnydd hwnnw?

Tynnodd sylw hefyd at achosion o gamwario, os caf ei roi felly—£1.1 miliwn ar newid maint bagiau duon. Os mai dyna flaenoriaeth llywodraeth, rwy’n ei chwestiynu’n ddifrifol. Janet, rwy’n falch ichi nodi mai cynghorydd Reform ydoedd. Diolch byth am yr un cynghorydd Reform a wrthwynebodd y syniad gwirion hwnnw.

Cawsom Andrew hefyd, a rannodd ei brofiad o fod yn aelod o gyngor tref a thynnodd sylw at y gwasanaethau hanfodol y mae'r gwasanaeth tân yn eu darparu yn ein cymunedau. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Cabinet yn cytuno bod y gwasanaeth tân wedi bod yn brysur iawn eleni oherwydd y tanau gwyllt, a’u bod yn gwneud gwaith rhagorol. Cyfarfûm â nhw yn ddiweddar ac maent yn wynebu pwysau ariannol enfawr. Yn ein hetholaeth ni, Gŵyr Abertawe, gwn eu bod yn ysgwyddo mwy o faich ariannol gan wasanaeth ambiwlans Cymru drwy'r uned cyd-ymatebwyr yn Reynoldston. Felly, unwaith eto, maent wedi ysgwyddo mwy o bwysau a mwy o ddyletswyddau statudol heb yr adnoddau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig sôn am y gwasanaeth tân a'r heddlu hefyd, sy’n cyfrannu at y bil treth gyngor, ffaith nad wyf yn credu bod llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol eu bod wedi eu cynnwys.

Tom, gwn eich bod chithau hefyd wedi bod yn gynghorydd yng ngogledd Cymru. Mae'r symiau y mae'n rhaid i gynghorau eu benthyca yn syfrdanol. Unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at y dyletswyddau statudol hynny. Rydym yn rhoi'r cynghorau hynny mewn sefyllfa amhosib. O gofio'r cyfnod pan oeddwn i'n gynghorydd yn Abertawe, rwy’n gwybod ein bod yn ffodus i gael swyddog cyllid cyfrifol gwych a fenthycodd arian ar yr adeg iawn. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol nad oedd pob cyngor, nid pob un o'r 22, wedi benthyca ar yr un cyfraddau â ni yn Abertawe.

Nigel, rwy'n credu eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen ynghylch tryloywder i'r cyhoedd. Mae refferenda’n gweithio. Rwy'n credu bod angen inni gael ein dwyn i gyfrif. Os cawn ein hethol i wasanaethu'r cyhoedd, rydym yn weision cyhoeddus. Rydym yno i wasanaethu. Dylem fod yn atebol a sicrhau tryloywder ar bob cyfle—[Torri ar draws.] Wel, ydym. Rydym yno i wasanaethu'r cyhoedd, felly p’un a ydych chi’n ei hoffi ai peidio, nid yma i ganmol ein gilydd mewn siambr adlais ydym ni. Rydym yma i wasanaethu'r bobl.

I'r siaradwyr ar yr ochr arall, Sarah, rwy'n gofyn i'r Aelod: fe wnaethoch chi sefyll ar sail maniffesto Reform ym mis Mai. A wnaethoch chi gamarwain y cyhoedd bryd hynny, neu a ydych chi'n eu camarwain nawr ynghylch eich safiad newydd ar ddiwygio'r dreth gyngor? Ac o ran beth y mae refferendwm yn ei wneud mewn gwirionedd—rwy'n gwybod eich bod chi wedi dadlau yn ei erbyn ac nad ydych chi’n credu ei fod yn gweithio. Unwaith eto, i ddychwelyd at bwynt Nigel, fe allant weithio mewn gwirionedd. Rwy'n credu mewn democratiaeth. Mae'n rhoi hawl ddemocrataidd i'r bobl, mae ein gwlad wedi'i seilio ar hawl ddemocrataidd. Hefyd, gyda chynghorau, os oes ganddynt gyllideb gyfyngedig, mae angen iddynt roi min ar y bensel a sicrhau bod blaenoriaethau'n gweithio hefyd. Felly, mae'n rhoi'r pŵer hwnnw i bobl.

Mike, rwyf bob amser yn mwynhau eich ymyriadau. Gwn ein bod yn cynrychioli'r un etholaeth, ond rwy'n falch eich bod wedi sôn am gaffael, oherwydd pan oeddwn i ar Gyngor Abertawe ddiwethaf, roedd y broses gaffael braidd yn rhyfedd, oherwydd mewn un etholaeth, ym Merthyr, roeddem yn mewnforio 99 y cant o'n cyw iâr o Tsieina a Gwlad Thai. Dyna enghraifft wych o sut nad yw caffael yn gweithio, felly rwy'n anghytuno â chi ynghylch caffael yn y cyswllt hwnnw.

Carrie, rwy'n gwybod i chi hefyd sôn am—. Mae angen imi edrych ar fy nodiadau. Soniodd Mike a Carrie ill dau am gynghorau Reform. Maent yn gweithio mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ei gyfaddef, ond yn swydd Durham, cododd cyllideb gyntaf Reform y dreth gyngor lai na 2 y cant, heb unrhyw godiad o gwbl mewn taliadau craidd. Felly, ar draws y naw cyngor lle mae gan Reform fwyafrif, roedd y cynnydd cyfartalog yn llai na 4 y cant, o'i gymharu â bron i 5 y cant mewn rhannau o Gymru a rhannau o Loegr. Mae ein cynghorau hefyd yn wynebu'r un pwysau o ran gwasanaethau cymdeithasol. Ond rydym ni yn Reform yn barod i fynd drwy'r gyllideb linell wrth linell.

Janet, roeddech chi'n gwneud mor dda. Ac ydw, rwyf mor falch eich bod chi'n cydnabod ein bod ni'n belydrau yn llygad Nigel. Yn hollol. [Chwerthin.] Mae'n disgleirio'n llachar oddi yno, yn bendant. Ond fe wnaethoch chi dynnu sylw at rai pwyntiau da iawn, Janet—y ffaith bod llawer o arian yn dod i Gymru, ond gyda dyletswyddau statudol, nid yw'r arian hwnnw bob amser yn mynd i lawr i gynghorau lleol, ac mae hynny'n bryder y mae llawer o'r cynghorau yn ei wynebu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn fy swydd fel Gweinidog yr wrthblaid, cyfarfûm â llawer o gynghorau ers mis Mai, ac maent i gyd yn poeni am y gyllideb. Mae gennych gost gynyddol gwasanaethau cymdeithasol, sy'n codi allan o reolaeth, yr anghenion dysgu ychwanegol—maent i gyd yn poeni sut y gallant wneud iddo weithio. Felly, mae hynny'n rhywbeth rwy'n poeni amdano braidd, oherwydd dyna oedd pwnc y ddadl y ddau ddiwrnod diwethaf ar y gyllideb atodol—nid oes digon yn mynd i ADY—ond mae honno'n ddadl wahanol ar gyfer diwrnod arall. Ond gadewch imi droi at—[Torri ar draws.] Wel, mae'n £60 miliwn allan o, beth, £233 miliwn a oedd yn dod o San Steffan? Felly, ie, ac rwy'n siŵr bod y penaethiaid yn falch o hynny.

Fe wnaf orffen y ddadl. Mae angen inni adfer ymddiriedaeth mewn llywodraeth leol, Lywydd, a dylai cynghorau allu cyfathrebu â'r cyhoedd a chyfiawnhau'r rhesymau dros y codiadau yn y dreth gyngor. Dylai fod yn gontract cymdeithasol rhwng y cyhoedd a gwleidyddion. Os yw cyngor eisiau codi mwy, mae ein cynnig yn dweud y dylent wneud yr achos ac ennill y bleidlais leol. Dywedodd Plaid Cymru wrth bleidleiswyr y byddai ei chytundeb ar y gyllideb yn atal codiadau anfforddiadwy. Os ydynt yn credu hynny mewn gwirionedd, nid oes ganddynt unrhyw beth i'w ofni drwy adael i drigolion benderfynu. Rhowch eich arian ar eich gair. Nid yw pobl ledled Cymru yn gofyn am wyrthiau. Maent eisiau i'w trethi cyngor gael eu gwario'n ofalus, a chyn iddynt godi'n sydyn y flwyddyn nesaf, dylem ofyn: a oes angen refferendwm arnom? Mae'r cynnig hwn yn rhoi'r hawl honno iddynt, ac rwy'n annog Aelodau ar draws y llawr i'w gefnogi. Diolch, Lywydd.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Cyfnod Pleidleisio

Rydyn ni'n cyrraedd eitem 7, y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod pump Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 35, neb yn ymatal, yn erbyn 51. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

17:20

Eitem 6. Dadl Reform UK - refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 51, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 nawr, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 51, neb yn ymatal, yn erbyn 35. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Reform UK - refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 51, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM9330 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth osod cyllidebau a threth cyngor, yn seiliedig ar anghenion gwasanaethau lleol. 

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 51, neb yn ymatal, yn erbyn 35. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. Diolch yn fawr.

Eitem 6. Dadl Reform UK - refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 51, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A gaf i ofyn i'r Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda.

8. Dadl Fer: Gwyrdd i bawb: Gwneud stiwardiaeth amgylcheddol yn achos cyffredin

Symudwn nawr at eitem 8, y ddadl fer. Galwaf ar David Mills i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle i agor y ddadl heddiw. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i John Clark, Paul Rock, Anna Nicholl a James Evans. Hoffwn ddechrau drwy amlinellu pam y mae gennyf ddiddordeb personol yn y mater hwn. Rwyf wedi bod yn ymgyrchydd amgylcheddol drwy gydol fy oes. Rwy'n rhedeg fferm lle rwyf wedi neilltuo cyfran sylweddol o fy nhir i adfer cynefinoedd a phlannu coed. Cyn ffermio, roedd gennyf gefndir ym maes cadwraeth a rheoli cefn gwlad. Rwyf hefyd wedi rhedeg fferm organig ac ystyriol o'r amgylchedd yn Ffrainc, lle gwelais yn uniongyrchol werth rheoli tir yn dda, gwarchod bioamrywiaeth a gweithio gyda natur yn hytrach nag yn ei herbyn.

Mae rhwyddineb gweithredu yn Ffrainc wedi fy helpu i nodi ble rydym wedi mynd ar gyfeiliorn yng Nghymru. I mi, nid cysyniad gwleidyddol haniaethol yw stiwardiaeth amgylcheddol; mae'n rhywbeth rwy'n ei fyw ac yn ei ymarfer bob dydd. Mae'n ymwneud â chyflwr y tir rydych chi'n ei drosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf, mae'n ymwneud â'r bywyd gwyllt sy'n byw yn eich caeau a'ch gwrychoedd, ac mae'n ymwneud ag iechyd ein hafonydd, ansawdd ein pridd, a'r cyfrifoldeb sydd gennym oll i adael ein cefn gwlad mewn cyflwr gwell na phan ddaeth i'n gofal. Ac oherwydd yr union ymrwymiad hwnnw y deuthum yn fwyfwy rhwystredig gyda'r fiwrocratiaeth a wynebais yng Nghymru. Yn rhy aml, gwelais system a oedd â mwy o ddiddordeb mewn cosbi cadwraethwyr am dorri rheol bitw a oedd wedi'i chuddio'n ddwfn mewn dogfen ganllawiau gymhleth, yn hytrach nag annog tirfeddianwyr i wneud y peth iawn dros yr amgylchedd. Dylai ysbryd y canllawiau fod yn bwysicach na dehongliad llym a chyfreithyddol lle gellir dirwyo cadwraethwyr am resymau pitw. Dylid trin pobl sydd eisiau adfer cynefinoedd, plannu coed a gwella bioamrywiaeth fel partneriaid, nid fel rhai a allai fod yn torri rheolau. Helpodd y profiad hwnnw i fy annog i sefyll am swydd etholedig, a daw hynny â mi at bwrpas y ddadl heddiw.

Ni ddylai stiwardiaeth amgylcheddol berthyn i un blaid wleidyddol, un ideoleg, nac un ochr i'r Siambr. Dylai fod yn achos cyffredin. I geidwadwyr c fach, mae cadwraeth amgylcheddol yn ganolog i'n hathroniaeth wleidyddol. Ydy, yn rhy aml mae'r traddodiad yn cael ei anwybyddu oherwydd bod y ddadl am yr amgylchedd wedi dod i gael ei dominyddu bron yn gyfan gwbl gan leihau carbon, ac er ei fod yn bwysig, ni ddylai ddominyddu gweithredoedd y Llywodraeth ar draul pryderon eraill. Mae llawer i'r dde, gan fy nghynnwys i fy hun, yn gwrthwynebu cyfeiriad y polisi amgylcheddol cyfredol, ond ni ddylem ganiatáu i'r anghytundeb hwnnw gael ei gamgymryd am ddifaterwch tuag at yr amgylchedd ei hun. Rwy'n credu bod newid hinsawdd yn her ddifrifol, a dirfodol o bosibl, y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi, ac ni allwn anwybyddu'r dystiolaeth i esgus nad yw hinsawdd sy'n newid yn creu unrhyw risgiau, ond rhaid inni wahaniaethu rhwng yr her a wynebwn a'r polisïau y mae Llywodraethau'n dewis mynd ar eu trywydd mewn ymateb iddi.

Mae gennyf bryderon dwfn ynghylch y dull o weithredu ar sero net. Gall y DU osod targedau mwyfwy uchelgeisiol arni ei hun a chyflwyno rheoliadau costus, ond mae newid hinsawdd yn broblem fyd-eang sy'n cael ei gyrru gan allyriadau byd-eang. Felly rhaid barnu effeithiolrwydd ein hymateb mewn cyd-destun byd-eang. Fy mhryder i yw na fydd polisïau yr eir ar eu trywydd yn enw sero net yn gwneud fawr o wahaniaeth i daflwybr hinsawdd byd-eang os na cheir gweithredu rhyngwladol ystyrlon i gyd-fynd â nhw, gan beidio â gosod costau enfawr ar bobl gyffredin yma gartref, gan nad yw'r costau hynny'n cael eu hysgwyddo’n gyfartal. Ni ddylem ofyn i bobl ar yr incwm isaf ysgwyddo costau anghymesur am bolisïau y mae eu heffaith fyd-eang yn dibynnu ar yr hyn y mae gweddill y byd yn ei wneud, pan fo effaith y DU mor hynod o fach.

Pe bai'r Deyrnas Unedig yn cyrraedd sero net erbyn yr wythnos nesaf, a fyddai'r hinsawdd yn rhoi'r gorau i newid? Wrth gwrs na fyddai. Nid yw hynny'n golygu y dylem roi'r gorau i ymdrechion i leihau allyriadau, mae'n golygu y dylem fynd ar eu trywydd yn synhwyrol, ar y cyd â gwledydd eraill, ac mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn ennyn cefnogaeth y cyhoedd.

Dylem fod yn onest hefyd ynghylch yr angen i addasu i'r newidiadau a wynebwn yn yr hinsawdd. Mae angen seilwaith gwydn, mesurau atal llifogydd effeithiol, priddoedd iach, adfer mawndiroedd, a thirweddau sydd â mwy o allu i wrthsefyll sychder, tanau gwyllt a glaw eithafol. Hefyd, rhaid inni ystyried safoni systemau aerdymheru mewn cartrefi ac ysgolion, a chyllido gwyddoniaeth amaethyddol sy'n edrych ar sut y gallai fod rhaid i gnydau addasu i hinsawdd sy'n newid.

Rhaid i liniaru ac addasu fynd law yn llaw, ond fy mhryder i yw bod y ffocws unllygeidiog ar dargedau carbon wedi tynnu ein sylw oddi ar broblemau amgylcheddol dybryd eraill—problemau lle gallem wneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl a'r byd naturiol o'n cwmpas.

Tra buom yn rhuthro tuag at dargedau carbon mwyfwy uchelgeisiol, mae ein hafonydd a'n moroedd wedi bod yn llenwi â charthion. Adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod Dŵr Cymru’n gyfrifol am 155 o ddigwyddiadau llygredd yn 2024. Dyna'r nifer uchaf o ddigwyddiadau llygredd carthion a gofnodwyd gan y cwmni mewn degawd. Dylem fod yr un mor benderfynol o atal carthion rhag mynd i mewn i'n hafonydd ag ydym o gyrraedd targedau carbon.

Maes arall lle dylem allu dod o hyd i dir cyffredin yw diogelu ein cynefinoedd a’n tirweddau hardd. Mae rhywogaethau’n diflannu, cynefinoedd dan bwysau a gormod o dirweddau’n methu cyflawni eu potensial ecolegol. Gall plannu coed, adfer cynefinoedd, priddoedd iachach a diogelu rhywogaethau brodorol oll wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond rhaid gwneud hyn mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr, nid trwy orchmynion a osodir o’r brig i lawr. Dylem wobrwyo stiwardiaeth hirdymor yn hytrach na dim ond mesur cydymffurfiaeth â gofynion gweinyddol. Mae angen cosbau llymach hefyd am droseddau amgylcheddol a gwell plismona. Tra bod dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith yn wynebu costau cynyddol am waredu gwastraff, mae troseddwyr yn gwaredu gwastraff gwenwynig yn anghyfreithlon ac yn difetha ein cefn gwlad heb ddangos fawr o ofn cael eu cosbi.

Fe wnaeth rhaglen ddogfen ddiweddar Michael Sheen, Buried, dynnu sylw at waredu cemegau am byth a llaid asidig yn anghyfreithlon ar draws Cymru a Lloegr. Ym mis Mawrth, adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod bron i 50,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi’u cofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol—cynnydd o bron i 15 y cant. Mae hynny’n gyfystyr ag oddeutu 133 o achosion bob dydd. Mae angen archwiliadau effeithiol a chosbau ystyrlon. Nid yw'n golygu cosbi tirfeddianwyr â bwriadau da am fethu cymal mewn rheoliad, mae'n golygu sicrhau bod y rhai sy’n dinistrio ein hamgylchedd naturiol yn fwriadol a di-hid yn wynebu carchar.

Lywydd, daw hyn â mi yn ôl at brif bwynt y ddadl hon: ni ddylid barnu polisi amgylcheddol yn ôl targedau carbon yn unig, ond yn ôl p'un a yw ein hafonydd yn lanach, ein cynefinoedd yn gwella, ein bywyd gwyllt yn ffynnu a'n cefn gwlad yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae cyflawni hyn yn golygu gweithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr, cadwraethwyr, gwirfoddolwyr, cymunedau a busnesau. Nid oes angen i bolisi amgylcheddol da fod yn rhy ddrud. Yn aml, yr atebion gorau yw'r rhai ymarferol, dan arweiniad lleol ac sydd wedi'u gwreiddio mewn dealltwriaeth o'r tirweddau. Gallwn anghytuno ynghylch sero net a chyflymder datgarboneiddio, ond yn sicr gallwn gytuno na ddylai carthffosiaeth lygru ein hafonydd, y dylid diogelu rhywogaethau mewn perygl, y dylid cosbi gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ac y dylid annog y rhai sy'n adfer cynefinoedd yn hytrach na'u rhwystro. Nid amcanion asgell chwith nac asgell dde yw'r rhain; maent yn amcanion synnwyr cyffredin.

Rwy'n hyderus fod y Gweinidog newydd dros newid hinsawdd a gwydnwch gwledig yn rhannu fy awydd i roi lle canolog yn y polisi amaethyddol i reoli tir yn gadarn a diogelu ein hetifeddiaeth naturiol, ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae'n bwriadu cyflawni hynny. Ein cyfrifoldeb ni fel ceidwaid yw sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn etifeddu amgylchedd naturiol sy'n gyfoethocach, yn iachach ac wedi ei ddiogelu’n well na'r un a etifeddwyd gennym ni. Dyna beth y mae stiwardiaeth amgylcheddol yn ei olygu i mi. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfranwyr eraill yn y ddadl. Diolch.

17:30

Er mai dim ond 1 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd y mae Prydain yn eu hallyrru, tra bo Tsieina ac India yn allyrru 40 y cant, dywedir wrthym y dylem geisio cyflawni sero net fel esiampl. Yn eironig, mae ein prif doriadau i allyriadau wedi'u gwneud ym maes allforio dur a diwydiannau trwm eraill i'r union wledydd hynny. Ond ni allant ddilyn ein hesiampl; ni allant allforio eu hallyriadau iddynt hwy eu hunain, ac mae'r nwyddau a fewnforiwn nawr yn aml yn cael eu cynhyrchu o dan reolau amgylcheddol gwannach.

Mae sero net ar ei ffurf bresennol wedi'i lywio gan ideoleg, mae'n niweidio ein heconomi ac ni fydd yn cyflawni ei amcanion. Mae angen inni ofalu am yr amgylchedd heb barlysu ein diwydiant nac aberthu ein diogeledd ynni. Mae ynni niwclear yn cynnig y llwybr ymarferol hwnnw. Mae'n garbon niwtral, mae'n ddibynadwy iawn, ac yn ystadegol, dyma'r ffurf fwyaf diogel ar gynhyrchu ynni ar raddfa fawr. Mae'r costau a delir ymlaen llaw a'r amseroedd adeiladu yn sylweddol, ond mae'r manteision hirdymor yn fwy. Mae'n bryd rhoi'r gorau i oedi. Gadewch inni ailddiwydiannu, buddsoddi mewn ynni niwclear a diogelu ein dyfodol economaidd ac amgylcheddol. Diolch.

Mae fy etholwyr yn gweld ac yn arogli'r tanau gwyllt; mae'r bygythiad cynyddol o lifogydd wrth eu drws yn gyson. Mae ein ffermwyr yn poeni am hyfywedd eu busnesau a'u cymunedau; mae pobl yn poeni sut y gallant fforddio gwresogi eu cartrefi, talu eu biliau a bwydo eu teuluoedd. Gallwn leddfu'r pwysau ar gostau aelwydydd drwy helpu pobl i newid i ynni cynaliadwy a gwresogi heb ddefnyddio tanwydd ffosil. Felly, mae'n siomedig iawn gweld cefnogaeth Llywodraeth y DU i bympiau gwres yn anweddu o flaen ein llygaid. Mae pympiau gwres yn lleihau biliau gwresogi, ond mae angen cefnogi pobl i wneud y newid. Hefyd, mae Cymru wedi'i bendithio ag adnoddau naturiol rhyfeddol. Mae gennym botensial i gynhyrchu'r holl ynni adnewyddadwy sydd ei angen ar ein cenedl, fel y gallwn leihau biliau ynni, gwneud teuluoedd yn llai agored i niwed costau tanwydd cynyddol a thorri allyriadau carbon ar yr un pryd. Mae a wnelo â darparu mwy o ddiogeledd ynni, cartrefi cynhesach a dyfodol mwy cynaliadwy i'n plant. Felly, pan fyddwn yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd gweithredu ar newid hinsawdd, ac yn rhoi gweithredu ar newid hinsawdd wrth wraidd cyfiawnder cymdeithasol, nid oes rhaid inni ddewis rhwng helpu pobl a helpu'r blaned; rhaid inni wneud y ddau beth, ac fe allwn wneud y ddau beth.

17:35

Hoffwn ddiolch i David Mills am gyflwyno'r ddadl hon a rhoi cyfle imi siarad.

Dylai stiwardiaeth amgylcheddol fod yn dir cyffredin ar draws y Siambr hon, nid am fod yr heriau'n hawdd, ond am eu bod yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Fel aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd, rwy'n ymwybodol iawn o faint yr heriau hynny. Mae bron i un o bob pump o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru bellach mewn perygl o ddiflannu, ac mae toreithrwydd rhywogaethau wedi gostwng oddeutu 20 y cant mewn cenhedlaeth. Yng Ngheredigion Penfro, teimlir y pwysau hynny yn yr afonydd, y mawndiroedd a'r cynefinoedd arfordirol sy'n diffinio ein cymunedau. Rydym yn ffodus i fod yn gartref i fiosffer UNESCO Dyfi, Bae Ceredigion a rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt morol a thirol pwysicaf Cymru. Nid asedau amgylcheddol yn unig mohonynt, maent yn asedau economaidd hefyd.

Ni ddylai'r ddadl hon ymwneud yn syml â'r hyn y gallem ei golli; dylai ymwneud â'r hyn y gallem ei ennill. Mae'r newid i economi carbon isel yn cynnig cyfleoedd mawr i Gymru—cyfleoedd i greu swyddi, denu buddsoddiad, cryfhau diogeledd ynni a chefnogi economïau gwledig ffyniannus. Mae'r un peth yn wir am adfer natur. Boed yn fynd i'r afael â llygredd amaethyddol, adfer mawndiroedd, gwella ansawdd afonydd neu gefnogi'r gwaith o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, mae atebion i'w cael a all weithio dros natur a thros bobl. Mae angen inni symud y tu hwnt i wadu, y tu hwnt i feio a thu hwnt i'r ymdeimlad o anobaith sy'n rhy aml yn llithro i mewn i'r trafodaethau hyn. Yn hytrach, mae angen arweinyddiaeth arnom, mae angen cydweithredu—ac rwy'n cytuno y dylai hynny ymestyn i gydweithredu rhyngwladol—ac mae angen hyder arnom i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n dod o ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur gyda'n gilydd. Oherwydd, os bydd Cymru'n gwneud hyn yn iawn, nid yn unig y bydd stiwardiaeth amgylcheddol yn diogelu'r hyn sy'n werthfawr i ni, bydd yn helpu i adeiladu dyfodol mwy gwydn, llewyrchus a chynaliadwy i'n holl gymunedau. Diolch.

Fe fyddaf yn gryno, gan y gwn ein bod yn brin o amser. Fel yr Aelod sydd wedi gwasanaethu hiraf ond dau ymhlith yr Aelodau sy'n dal ar ôl yn y Siambr y prynhawn yma, mae'n debyg, rydym wedi bod drwy lawer o newidiadau gwahanol, o 'Brexit a'n tir' i 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', ac rydym bob amser wedi siarad am gynaliadwyedd drwy hynny. Gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog Cabinet y diwrnod o'r blaen am yr haenau opsiynol a chydweithredol, am gyllid wedi'i glustnodi, ac fe osgôdd y cwestiwn yn hynod o dda, rhaid dweud. Ond byddai'n eithaf diddorol gwybod ganddo, drwy'r haenau opsiynol a chydweithredol hynny, faint rydych chi'n mynd i'w glustnodi ar gyfer pethau fel bioamrywiaeth, ar gyfer cynyddu bywyd gwyllt, ar gyfer sicrhau bod tanau gwyllt yn cael sylw, a llifogydd. Felly, drwy eich ateb, Weinidog Cabinet, byddai'n braf pe na baech yn osgoi'r cwestiwn eto.

Weinidog, her.

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i ymateb i'r ddadl—Llyr Gruffydd.

Member
Llyr Gruffydd 17:38:52
Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl yma a rhoi'r cyfle inni wyntyllu'r pwnc yma unwaith eto, a hefyd i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Dŷn ni ddim bob amser yn cytuno yn y Siambr yma, ond dwi yn cytuno â'r cynnig canolog sy'n sail i'r ddadl yma heddiw, sef, wrth gwrs, nad cyfrifoldeb un blaid yw hyn, yw stiwardiaeth amgylcheddol. Dyw e ddim yn gyfrifoldeb un sector, nag ychwaith yn gyfrifoldeb un genhedlaeth. Mae e'n gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu am fod y manteision posib a ddaw o hynny yn cyrraedd pob cymuned yng Nghymru, boed hynny'n afonydd glân, yn briddoedd iach, yn ffermydd cynhyrchiol, adfer natur, ynni glân, economïau lleol cryfach. Nid blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd yw'r rhain. Maen nhw i gyd yn gysylltiedig, yn fy marn i, ac mae'r ddealltwriaeth honno, wrth gwrs, wrth wraidd rhaglen llywodraethu y Llywodraeth yma. Mae'n siapio ein dull ni o ymdrin â ffermio, o ymdrin â dŵr, ynni glân, gwydnwch gwledig. Mae e hefyd yn siapio'r ffordd rŷn ni'n creu amodau ar gyfer twf cynaliadwy, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n canolbwyntio ar gyflawni ymarferol—nid stiwardiaeth ddamcaniaethol, ond stiwardiaeth ar waith ar lawr gwlad. 

Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym yn datblygu cynllun gweithredu hinsawdd a natur cyntaf Cymru. Bydd yn dwyn camau gweithredu ynghyd ar draws y llywodraeth ac ar draws cymdeithas i adfer natur, i gryfhau'r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, i gefnogi datblygu cynaliadwy, gan osod llwybr tuag at ein huchelgais mewn perthynas â sero net, ond hefyd adferiad natur sylweddol hefyd. A bydd pontio teg yn rhan annatod o'n dull gweithredu, fel ein bod yn osgoi rhai o'r camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol lle mae rhai cymunedau wedi cael eu niweidio a'u gadael ar ôl gan lawer o hyn.

A hoffwn gyfeirio at enghraifft a ddefnyddiais o'r blaen wrth sôn am hyn. Mae ôl-osod cartrefi yn un polisi sy'n cael ei gynnig fel ffordd o leihau allyriadau carbon. Ond wrth gwrs, nid yw'n bolisi deuaidd, gan fod ôl-osod cartrefi yn rhoi cymorth i bobl gyda'r argyfwng costau byw gan y bydd yn gostwng biliau. Bydd cartrefi mwy effeithlon o ran ynni yn golygu biliau ynni is. Mae ôl-osod cartrefi yn golygu swyddi. Bydd angen cyflogi pobl i ôl-osod y cartrefi hynny, gan ddarparu manteision economaidd pellach. Bydd yn darparu cartrefi cynhesach i bobl fyw ynddynt. A chredaf fod hynny, ynddo'i hun, yn rhywbeth y dylem anelu ato. Ond mae manteision iechyd yn sgil hynny hefyd, oherwydd, o ganlyniad i lai o bobl yn byw mewn cartrefi oer a llaith, byddwn yn gweld llai o blant yn cael eu magu yn y cartrefi hynny ac yn dioddef heriau anadlol o ganlyniad. Byddwn yn gweld llai o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf ymhlith ein poblogaeth hŷn. Felly, nid yw sero net yn rhywbeth deuaidd. Mae'n gyfle i ddarparu nifer o fanteision ychwanegol yn ogystal.

Ac ni all stiwardiaeth amgylcheddol fod yn gyfyngedig i un portffolio chwaith. Mae penderfyniadau ynglŷn â thai, trafnidiaeth, cynhyrchiant bwyd, sgiliau, datblygu economaidd a buddsoddiad cyhoeddus oll yn bwysig. Mae gan bob rhan o'r Llywodraeth rôl yma. Ac mae'n rhaid i'r uchelgais hwnnw, wrth gwrs, gael ei ategu gan lywodraethiant ac atebolrwydd cryf. Ac mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 yn creu, onid yw, Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, corff annibynnol i fonitro cyfraith amgylcheddol, a dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif? Bydd targedau bioamrywiaeth statudol yn darparu'r ffocws hirdymor a'r tryloywder sydd eu hangen i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. A byddwn yn datblygu'r rheini, gyda llaw, gan ddefnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth. Gyda'i gilydd, mae'r ddeddfwriaeth, y trosolwg annibynnol a'r targedau yn rhoi sylfaen gref i ni ar gyfer adfer natur yn hirdymor.

Nawr, mae ffermwyr wrth wraidd llawer o'r dull gweithredu hwn, ond nid ffermwyr yn unig. Mae agwedd gymdeithasol ehangach i hyn hefyd. Ond ffermwyr sy'n rheoli'r rhan fwyaf o'r tir yng Nghymru wrth gwrs, ac maent yn chwarae rhan hanfodol fel stiwardiaid ein cefn gwlad. Mae llawer o'r cynefinoedd a'r tirweddau sy'n werthfawr i ni yn dibynnu ar y rheolaeth weithredol honno. Maent yn cynhyrchu ein bwyd, maent yn cynnal busnesau a chymunedau gwledig, ac yn helpu i siapio'r dirwedd sy'n aml iawn yn diffinio Cymru.

Yn rhy aml, mae'r dadleuon hyn yn cynrychioli dewis, onid ydynt, rhwng cynhyrchu bwyd ac adfer natur. Wel, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i adeiladu ar egwyddor syml: fe all ac fe ddylai ecosystemau gwydn a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy fynd law yn llaw. Ac eleni, fel y gwyddom, mae mwy nag 8,000 o fusnesau fferm, oddeutu hanner yr holl ffermydd cymwys yng Nghymru, wedi ymuno â haen gyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy. Nawr, mae honno'n sylfaen gref ar gyfer mireinio'r cynllun a datblygu camau gweithredu opsiynol a chydweithredol yn y dyfodol. A'r rheswm pam nad atebais y pwyntiau a godwyd yn uniongyrchol yw am nad ydym wedi gwneud y penderfyniadau hynny eto. Mae'r trafodaethau hynny'n dal i fynd rhagddynt, gan fy mod eisiau clywed lleisiau'r rhai o amgylch y bwrdd mewn grwpiau rhanddeiliaid, ac rwyf eisiau deall beth yw'r opsiynau. Ond pan fyddwn wedi gwneud y penderfyniad, fe fyddwch chi ymhlith y cyntaf i wybod.

Felly, fel y dywedais, esblygiad yw'r broses gyfan hon, onid e? Esblygiad, nid chwyldro. Mae angen sicrwydd ar ffermwyr am eu bod yn cynllunio dros nifer o flynyddoedd—fe wyddom hynny—a dyna pam fy mod wedi ymrwymo i ddarparu dros £1 biliwn dros dair blynedd, i gylch cyllido amlflwyddyn ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, gan roi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar y sector i allu ei helpu i gynllunio a buddsoddi gyda hyder. Ond rhaid i gymorth fod yn ymarferol hefyd. Ni ddylai stiwardiaeth dda olygu biwrocratiaeth ddiangen, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol i nodi ble mae cymhlethdod diangen ac i argymell gwelliannau ymarferol, oherwydd drwy leihau dyblygu a symleiddio prosesau, gallwn helpu ffermwyr wedyn i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf mewn gwirionedd, sef y pwynt y credaf eich bod yn ei wneud: rhedeg busnesau llwyddiannus, cynhyrchu bwyd a gofalu am y tirweddau y maent yn eu rheoli.

Ond dim ond rhan o'r ateb yw gweithredu gan unigolion, wrth gwrs. Nid yw llifogydd, ansawdd dŵr, tanau gwyllt ac adfer natur yn parchu ffiniau caeau, a dyna pam y mae cydweithredu'n bwysig yma hefyd. Drwy haen gydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy, rydym yn gobeithio creu cyfleoedd i ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau gydweithio ar draws tirweddau ac ar draws dalgylchoedd. Mae'r cynllun adnoddau naturiol integredig yn dangos gwerth cydweithio hefyd ar draws y dalgylchoedd a'r tirweddau mwy hynny, i wella ansawdd dŵr, i adfer cynefinoedd, i leihau'r risg o lifogydd, sy'n bwysig yma hefyd, ac i gryfhau'r gallu y mae angen i ni ei adeiladu i wrthsefyll newid hinsawdd. Rydym yn edrych nawr ar sut y gallwn adeiladu ar y dull hwnnw o weithredu a chryfhau'r cymorth ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Mae Ffermio Bro yn cefnogi gweithredu cydgysylltiedig o fewn ein tirweddau dynodedig, gan helpu ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni blaenoriaethau lleol ar gyfer adfer natur, ar gyfer gwydnwch ecosystemau a gweithredu ar yr hinsawdd. Mae ei gyllid wedi cynyddu o £1.9 miliwn yn 2025-26 i £7.5 miliwn o 2026-28. Gyda'i gilydd, rwy'n gobeithio y bydd y cynlluniau hyn yn siapio cyflawniad cydweithredol yn y dyfodol drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy a dulliau eraill, gan alluogi gweithredu ar raddfa na all unrhyw ddaliad unigol ei chyflawni ar ei ben ei hun.

Rydym hefyd yn gobeithio adfer asedau naturiol Cymru. Mae mawndiroedd ymhlith ein storfeydd carbon pwysicaf, a chynefinoedd bywyd gwyllt hefyd. Mae'r rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd wedi adfer dros 4,000 hectar ac wedi gwella'r cynefin ar draws 9,000 hectar arall yma yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cefnogi bioamrywiaeth, ydy, mae'n storio carbon, p'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, ond mae hefyd yn gwella rheoli dŵr ac yn cryfhau gwydnwch rhag sychder, llifogydd a thanau gwyllt—eto, manteision amlhaenog rhai o'r camau hyn rydym yn eu cymryd. Mae'n gyflawniad ymarferol ar gyfer hinsawdd a natur gyda'i gilydd.

Ond ni ellir cyfyngu adferiad i safleoedd gwarchodedig na chynefinoedd unigol. Mae angen adfer natur ar draws tir fferm cynhyrchiol, oes, ond yn ein trefi a'n cymunedau hefyd. Ac wrth gwrs, ni all y Llywodraeth gyflawni hyn oll ar ei phen ei hun. Drwy Rhwydweithiau Natur, rydym wedi cyhoeddi mwy na £10 miliwn ar gyfer y rownd ariannu nesaf. Mae'r gronfa eisoes wedi cefnogi mwy na 125 o brosiectau, gan wella safleoedd gwarchodedig a chysylltiadau ecolegol ledled Cymru.

17:45

Gwnaf, yn gryno iawn, gan fod gennyf araith hir iawn.

Fe sonioch chi am danau gwyllt a mawndiroedd. Gwn fod Aelodau eraill yn y Siambr yn cynrychioli Blaenau Gwent, er enghraifft. Os edrychwch ar Langynidr, er enghraifft, maent wedi colli eu holl fawndir bron â bod. Byddai'n ddiddorol clywed gan y Llywodraeth beth yn union rydych chi'n mynd i'w wneud o ran adfer a'r partneriaid rydych chi'n mynd i weithio gyda nhw yno i sicrhau bod y mawn yn cael ei adfer. Oherwydd os ydych chi eisiau dal dŵr yn ôl, dyna un ffordd o'i wneud.

Ie, rydych chi'n llygad eich lle. Byddaf yn sôn am danau gwyllt yn benodol mewn munud, ond rhaid i honno fod yn ymdrech ar y cyd. Fe fyddwch yn gwybod bod uwchgynhadledd yn cael ei chynnal, ac fe fyddaf yn dweud ychydig am hynny mewn munud ac yna efallai y gallwn ddatblygu hynny ychydig. Rwyf wedi colli fy lle nawr, sef y risg bob amser pan fyddwch chi'n derbyn ymyriadau.

Plannu coetiroedd a choed—dyna ni. Mae gan hynny rôl bwysig i'w chwarae hefyd. Drwy raglen y goedwig genedlaethol, wrth gwrs, rydym yn ehangu ac yn cysylltu coetiroedd ledled Cymru, yn adfer cynefinoedd, yn gwella mynediad at natur hefyd, ac yn cryfhau’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd gan gefnogi cymunedau a'r sector pren yng Nghymru ar yr un pryd, sy'n hanfodol yn y cyd-destun hwn. Rydym hefyd yn cefnogi tirfeddianwyr a chymunedau drwy nifer o grantiau creu ac adfer coetiroedd, gan helpu i ddarparu'r goeden gywir yn y lle cywir fel ei bod o fudd i fioamrywiaeth, ansawdd dŵr, storio carbon a gwydnwch tirweddau.

Mae grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr hefyd yn adfer natur yn ein trefi a'n pentrefi, sy'n faes pwysig yr hoffwn weld mwy o waith yn cael ei wneud ynddo. Rydym am i bawb brofi a chael budd o natur yn agos at adref ac mae hynny'n bwysig, unwaith eto, i iechyd a llesiant, i blant a theuluoedd ac i gymunedau nad ydynt bob amser o bosibl wedi mwynhau mynediad cyfartal at fannau gwyrdd o ansawdd da.

Lywydd, mae yna fwy o frys yn dod i gyflawni'r gwaith yma, wrth gwrs, wrth i Gymru brofi effeithiau hinsawdd sy'n newid. Eleni, rŷn ni wedi gweld y sychder, y gwres a'r tanau gwyllt dinistriol yna y cyfeiriwyd atyn nhw'n gynharach, wrth i lawer o gymunedau barhau i wynebu perygl llifogydd nawr wrth fod y gaeaf yn cau i mewn amdanom ni. Nid her ar gyfer y dyfodol yw newid hinsawdd; mae e'n realiti sy'n ein hwynebu ni'r eiliad hon ac mae'n rhaid inni feithrin gwydnwch lle y gallwn ni cyn i'r argyfyngau yma ddigwydd. Mae hynny'n golygu rheoli llifogydd yn naturiol, mae'n golygu adfer mawndiroedd, priddoedd a chynefinoedd iachach; gwell cynlluniau i reoli dalgylchoedd, y catchments; a chymunedau, wrth gwrs, sy'n fwy parod ar gyfer risgiau yn y dyfodol.

Mi fydd y Prif Weinidog yn cynnull uwchgynhadledd ar 22 Hydref, uwchgynhadledd newid hinsawdd a gwydnwch Cymru. Mi fydd honno'n dod â phartneriaid at ei gilydd i ddysgu o ddigwyddiadau diweddar ac i gryfhau prosesau sydd yn helpu atal, sydd yn helpu bod yn barod ar gyfer digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol, ac yn helpu'r ymateb pan fyddwn ni'n wynebu'r heriau yma wrth symud ymlaen. Dwi'n gweld y digwyddiad yna fel sbardun ar gyfer dechrau rhoi'r darnau at ei gilydd o safbwynt mynd i'r afael â chanlyniadau'r hyn sydd wedi digwydd, ond hefyd ein bod ni'n fwy parod wrth symud ymlaen ar gyfer digwyddiadau eraill a fydd yn digwydd—gwnaf i ddweud hynny yn hytrach nag 'a all ddigwydd', oherwydd rŷn ni'n gwybod beth yw'r trajectory.

Felly, rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn rheoli risg llifogydd gyda dros £85 miliwn wedi'i ddarparu i awdurdodau rheoli risg yng Nghymru eleni, ac mae a wnelo hynny â mwy na chyflawni ymyriadau unigol yn unig. Mae a wnelo â chryfhau cydweithredu, gwella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio, rhannu gwersi i gefnogi gweithgaredd gwydnwch a mesurau rheoli llifogydd naturiol yn y dyfodol hefyd, ledled Cymru. Ac ni all unrhyw sefydliad reoli risg llifogydd ar ei ben ei hun—rwyf am ailadrodd y pwynt hwnnw eto—a dyna pam, wrth gwrs, ein bod yn adnewyddu aelodaeth ein pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, fel y gall ddefnyddio ei arbenigedd a chefnogi'r Llywodraeth i gynghori ar strategaeth bolisi a gwydnwch hirdymor. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu gweithio'n agos gydag awdurdodau rheoli risg, yn amlwg, ond hefyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy, tirfeddianwyr, busnesau a chymunedau lleol. Ac mae ymgysylltu cymunedol yn hollbwysig i'r dull hwn o weithredu, gan sicrhau bod gwybodaeth leol a phrofiad bywyd yn helpu i siapio'r broses o wneud penderfyniadau a chynllunio gwydnwch ar gyfer y dyfodol.

Ac mae'r un egwyddor yn berthnasol i ansawdd dŵr wrth gwrs. Mae pobl yn disgwyl afonydd glanach ac amgylcheddau dŵr iachach, ac mae gan y Llywodraeth, rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, rheolwyr tir a chymunedau rôl fawr yn hynny o beth hefyd. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddiwygio'r sector dŵr, fel y gŵyr yr Aelodau, gan gynnwys cynigion ar gyfer rheoleiddiwr dŵr economaidd i Gymru, gyda phwerau cryfach i hybu buddsoddiad, lleihau llygredd a sicrhau gwelliannau hirdymor. Mae stiwardiaeth yn llwyddo pan rennir cyfrifoldeb a phan fydd camau gweithredu'n cael eu cydgysylltu. Ac nid agenda wledig yn unig yw hon, gyda llaw; fel y dywedais yn gynharach, mae mynediad at natur yn cefnogi iechyd a llesiant, mae mannau gwyrdd yn cryfhau cymunedau, a gall buddsoddiad amgylcheddol gefnogi swyddi ac economïau lleol. Dyna pam y mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys gweithredu ar sgiliau, gan sicrhau bod gan Gymru weithlu i gyflawni ein huchelgeisiau, gan gefnogi swyddi da a thwf ar yr un pryd wrth gwrs.

Felly, Lywydd, mae'r ddadl heddiw wedi dangos, dwi'n meddwl, y gall Aelodau anghytuno ynglŷn â pholisïau unigol, ac mae'n berffaith deg ein bod ni'n gwneud hynny, ond bod yna dir cyffredin rhyngom ni fan hyn. Rŷn ni i gyd eisiau afonydd iach. Rŷn ni eisiau adfer natur, ffermydd cynhyrchiol, cymunedau gwydn, Cymru sy'n fwy parod ar gyfer llifogydd, sychder a thanau gwyllt, a gweithredu amgylcheddol sy'n cefnogi swyddi a ffyniant. Ond yr her, wrth gwrs, yw troi'r tir cyffredin hwnnw yn gamau gweithredu ymarferol. Mae hynny'n gofyn am fwy na phrosiectau unigol neu fentrau tymor byr. Mae'n gofyn am ymrwymiad hirdymor, am atebolrwydd clir a pholisïau sy'n gweithio gyda'i gilydd. Mae hefyd yn gofyn inni gydnabod yr wybodaeth a'r profiad sydd gan ffermwyr a rheolwyr tir, sydd gan gymunedau a sefydliadau amgylcheddol ledled Cymru. Mae'n rhaid i stiwardiaeth dda siapio'r ffordd rŷn ni'n cefnogi'r diwydiant amaeth, y ffordd rŷn ni'n rheoli dŵr, yn adfer natur, yn datblygu ynni glân ac yn cryfhau cymunedau.

Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn golygu cefnogi'r rhai sy'n rheoli'n tir ni a'n adnoddau naturiol ni, gwrando ar y bobl sy'n adnabod eu hardaloedd orau a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau gwydnwch hirdymor. Mae'n golygu cydnabod nad yw stiwardiaeth yn cyfyngu ar ffyniant, ond yn rhan sylfaenol ohono fe. Mae ecosystemau iach yn cefnogi ffermydd cynhyrchiol, cadwyni cyflenwi gwydn, cymunedau mwy diogel ac economi gryfach yng Nghymru. Dyna'r daith sydd o'n blaenau ni: stiwardiaeth rŷn ni'n ei rhannu; cyflawni ymarferol; a Chymru fwy gwydn, iachach a ffyniannus.

Felly, dwi'n gobeithio y bydd yr Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yma yn gallu gweithio gyda'n gilydd er mwyn helpu'r Llywodraeth yma i gyflawni hynny. Diolch.

17:55

Diolch i'r Gweinidog Cabinet, a diolch i'r Aelodau hefyd. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.